ADRAN 10 Y Cymry Alltud

ADRAN 10b. Y Cymry yn yr Unol Daleithau: Iorthryn Gwynedd

 

baneri 

Gwefan Cymru-Catalonia:
La Web de Gal·les i Catalunya

Wales-Catalonia Website

 

Wisconsin: Iorthryn Gwynedd ‘Hanes Cymry America’ (1872)
 
http://www.kimkat.org/amryw/1_alltudiaeth/america_iorthryn_gwynedd_taleithau_iowa_2792k.htm

 

      0001 kimkat0001 Yr Hafan

2003e kimkat2003e Yr Arweinlen yn Saesneg

1804e kimkat1804e Cyfeirddalen y Cymry Alltud

1050e kimkat1050e Cyfeirddalen y Cymry yn América

2854e kimkat2854e Iorthryn Gwynedd - taleithau
→ y tudalen hwn
 

0285_map_cymru_trefynwy_061117
(delw 0825)

cylch_baner_uda English xxxx


cylch_baner_catalonia_00-77 Català xxxx

 

Gwelwch y fideo Y Cymry yn Wisconsin yn y flwyddyn 1872

http://www.youtube.com/watch?v=4RM0a9oQZIA

 

7877_iowa_swyddi_iorthryn_01a

(delwedd 7877)

 

 

Y Cymry yn Nhalaith Iowa 1872 www.youtube.com/watch?v=4RM0a9oQZIA

 

02-08-2007 Spencer (Clay County) www.youtube.com/watch?v=HQR-8Zww14A

 

11-08-2007 Old Man’s Creek http://www.youtube.com/watch?v=wcTQ4D0mxwc

 

14-07-2007 Dickens (Clay County) www.youtube.com/watch?v=B8bIl3ok0-o

 

17-08-2007 Williamsburg http://www.youtube.com/watch?v=VG0olP3s99M

 

28-07-2007 Wales (Montgomery County) http://www.youtube.com/watch?v=YHFGUTDspio

 

 

Hanes Cymry America:

 

vvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvv
(_249_) (y055·)

PENNOD V.
TALAETH IOWA.

Darluniad o’r Dalaeth ardderchog, a’i Thiroedd Rhad a Ffrwythlon, Y Sefydliadau Cymreig: - 1. Old Man’s Creek. 2. Williamsburgh. 3. Welsh Prairie. 4. Marengo. 5. Long Creek. 6. Flint Creek. 7. Oskaloosa. 8. Oskaloosa Junction. 9. Given. 10. Monroe. 11. Burlington. 12. Davenport. 13. Dubuque. 14. Lime Spring. 15. Clay Co. 16. Red Oak. T.d. 55-83

Talaeth ardderchog yw hon o ran ei thiroedd, ei mwnau, ei hafonydd, ei hinsawdd, ei choedydd, ei reilffyrdd, ei llywodraeth, ei hysgolion, ei moesoldeb, a’i chrefydd. Dywedir mai ystyr yr enw Iowa yw, “y tir prydferth,” (the beautiful land,) a roddwyd arno gan yr Indiaid pan welsant ef gyntaf wrth deithio tua’r gorllefwin. Poblogwyd y tir gan lwythau o Indiaid Iowas, a Sioux. Bu yn meddiant Ffrainc, ac wedi hyny, Spaen. Ffrancwr o’r enw Julian Dubuque a brynodd dir gyntaf yno gan yr Indiaid, Medi 22, 1788, yn y fan lle mae tref Dubuque yn sefyll yn awr. Yn 1803 trosglwyddwyd y tir gan Ffrainc i’r Unol Dalaethau. Yn 1832 gosododd y Llywodraeth filwyr yn “Fort Des Moines.” Wedi hyny ymfudodd llawer o dalaethau New England iddi, a dechreuasant sefydlu tua’r manau y mae Burlington a Keokuk yn sefyll yn awr. Parhaodd yn diriogaeth am lawer o flynyddoedd. Derbyniwyd hi fel talaeth i’r Undeb, Mawrth 3, 1845. Nid oedd ei phoblogaeth yn 1838 ond 22,859. Cynyddodd yn gyflym. Yn 1870, yr oedd yn 1,181,359. Mae yn y dalaeth yn awr oddeutu cant o siroedd, a llawer o honynt yn cynnwys o ddeg mil i ddeg-mil-ar-hugain o drigolion, a rhai fwy na hyny. Siroedd Scott, (lle mae dinas Davenport,) a Dubuque, a Lee, a Clinton, a Linn, a Des Moines, a Marion, a Mahaska, a Clayton, a Polk, a Wapello, a Muscatine, &c., yw y rhai mwyaf poblogaidd; ac y mae ynddi lawer o siroedd ereill, nad oes ynddynt eto ond ychydig o ganoedd neu filoedd o breswylwyr, megys Lyon, Ida, O’Brien, Sioux, Audubon,

vvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvv
(_250_) (y056 ·) Y GORLLEWIN PELL

Buena Vista, Calhoun, Carroll, Cherokee, Clay, Dickinson, Emmett, Hancock, Palo Alto, Plymouth, Pocahontas, Sac, Shelby, Tama, Warren, Worth, Wright Wrth edrych ar y map, gwelir fod y rhan fwyaf o’r siroedd anmhoglogaidd yn gorwedd yn ei gogledd-orllewin, ar derfynau talaethau Minnesota a Nebraska; a gwir yw fod y tiroedd yn y rhandir hwnw yn fwy gwael a thoredig, a digoed, nag mewn siroedd ereill o’r dalaeth; ond gall miloedd o dyddynwyr, a llafurwyr, a chrefftwyr, a mwnwyr, trwy lafur a diwydrwydd, gael cartrefi rhad a dedwydd ynddynt; ac mewn llawer o siroedd ereill yn nghanoldir a deheudir y dalaeth.

Mae talaeth Iowa yn 300 milldir o hyd, o’r dwyrain i’r gorllewin, neu o lanau y Mississippi, ger dinas Dayenport, hyd Council Bluffs, ar lan y Missouri; a thros 200 milldir o led o derfyn deheuol Minnesota hyd derfyn gogleddol talaeth Missouri. Cynnwysa 55,045 o filldiroedd petryal, a 35,228,800 o erwau o arwynebedd Mae bron gymaint a Lloegr, ac yn fwy ddwywaith na Scotland. Nid oes yn un man o honi fynyddau mawrion uchel; ond ceir ynddi lawer o fân fryniau, fel tonau y mor, yn ffurfio ei doldiroedd (prairies) eangfaith; a llawer o fryniau creigiog a serth, a digon o goedydd, oddeutu glanau ei hafonydd. Nid oes ynddi ond ychydig diroedd corsiog; ond mae yn codi yn raddol o lanau y Mississippi a’r Missouri, tua chanoldir y dalaeth, ac mewn manau yno mae ei derchafedd dros 900 troedfedd uwchlaw afon y Mississippi, ac felly yn peri digon o ddisgyniad i’w hafonydd mewnol, sef y Des Moines, Skunk, Iowa, Wapsipinicon, Maquoketa, a’r Red Cedar, y rhai a redant o’r gogledd-orllewin, ac a ymdywalltant i’r Mississippi mewn gwahanol fanau; ac y mae amrai o fân aberoedd yn ymdywallt i’r prif afonydd mewnol. Mae y Des Moines River yn codi yn

vvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvv
(_251_) (y057·) TALAETH IOWA.

Minnesota, ac yn dylifo trwy dalaeth Iowa am dros 300 filldiroedd.

Yr afonydd canlynol a redant drwy’r dalaeth o’r gogledd-ddwyrain i’r de-orllewin: - Big Sioux, Floyd, Little Sioux, Boyer, Nishnabotna, ac a ymdywalltant i’r Missouri. Dyfrheir y rhandir deheuol o’r dalaeth gan yr afonydd canlynol (y rhai, a godant ynddo, ac a redant i dalaeth Missouri), sef, y Chariton, Grand, Platte, Nodaways. Mae llawer o lynoedd tryloywon yn ngogledd-dir y dalaeth - rhai o honynt dros ddeng milldir o hyd wrth ddwy o led. Mae naw rhan o ddeg dalaeth Iowa yn dir porfa (prairies); ac yn gyffredin ceir coedydd oddeutu glanau yr afonydd, ac weithiau yn llwyni (groves) o goed ar y doldiroedd. Ceir llawer mwy goedydd yn y dwyreinbarth nag yn y gorllewinbarth. Mae ynddi bob amrywiaeth o goedydd - “ White, black, and burr oak, black walnut, butternut, hickory, hard and soft maple, cherry, red and white elm, ash, linn, hackberry, birch, honey locust, cottonwood, sycamore, red cedar, pine.” Gellir eu codi a’u hadblanu ar y prairies; ac y mae y cottonwood, a’r maplle, a’r walnut yn tyfu yn fuan.

Mae y dalaeth yn gyfoethog o fwnau gwerthfawr. Ceir glo da, a’r gwythienau o dair i saith droedfedd o drwch, yn awr, mewn deg-ar-hugain o’r siroedd; a’r rhan fwyaf o’r rhai hyny oddeutu y Des Moines River, ac afonydd ereill. Glo rhwym (bituminous) ydyw; nid ydyw yn ddwfn, a gellir ei weithio heb draul fawr. Codwyd dros chwe’ miliwn o fwsieli o hono yn y fl. 1868. Yn ei siroedd gogleddol ceir digonedd o fawndir, er cael digon o dânborth mewn manau nad oes coedydd na glo. Ceir llawer o’r mwn plwm a haiarn ger Dubuque, a manau ereill gyda glanau y Mississippi. Ceir ceryg calch yn y rhan fwyaf o’r siroedd, a digon o

vvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvv
(_252_) (y058 ·) Y GORLLEWIN PELL

geryg adeiladu mewn llawer o honynt. Y mae y tir, hyd yn nod ar y prairies uwchaf, yn dir da a chynyrchiol, ac yn y dyffrynoedd yn dra ffrwythlon, cyfaddas i godi pob math o ydau. Gellir cael dyfroedd iachus yn mhob lle trwy gloddio pydewau o 30 i 40 troedfedd o ddyfnder. Grwlad dda ydyw hefyd am wair, a phorfa, a ffrwythau. Mewn manau ceir ynddi berllanau a gerddi rhagorol. Mae yn enwog am ei darpariadau at addysg, Ceir ynddi unversity, colegau, a thros chwe’ mil o ysgoldai, gyda yn agos i ddeuddeng mil o athrawon ac athrawesau; a cheir ynddi hefyd sefydliadau gwerthfawr i’r gorphwyllion, a’r cleifion, a’r deillion, a’r mud a’r byddar, a’r amddifaid.

Mae ei reilffyrdd yn awr yn lluosog a chyfleus, a llawer o honynt yn cysylltu â’r prif reilffyrdd sydd yn rhedeg ar draws talaeth Illinois i Chicago; a phedair neu bump o honynt yn rhedeg o lanau y Mississippi ar draws Iowa, hyd lanau y Missouri, ac yn cysylltu â’r Pacific Railway yn Omaha; ac ereill yn rhedeg o’r de i’r gogledd, ac yn fuan a gysylltant â’r prif reilffyrdd yn Minnesota, ac yn Missouri, Kansas, a Nebraska (Gwel Hanes y Eeilffyrdd.) Gellir cael tiroedd rhagorol gan gwmpeini y reilffyrdd am o $5 i $15 yr erw, ac amser maith i dalu am danynt. Mae ganddynt ganoedd o filoedd o erwau o dir da ar werth eto, ond y mae yn cael ei brynu yn brysur. Ni cheir tiroedd rhad y Llywodraeth yn awr ond yn unig yn ei gogledd-orllewin; dichon fod yno eto yn agos i chwarter miliwn (250,000) erwau o diroedd felly; mae y rhan fwyaf o honynt yn siroedd Osceola, Lyon, Sioux, a Plymouth; ac yn fuan bydd y St. Paul & Sioux Railway yn rhedeg trwyddynt. Nis gall speculators brynu y tiroedd hyn; gwerthir hwynt yn unig i’r rhai a sefydlant arnynt. Yn awr yw yr adeg i ymfudwyr Cymreig i sefydlu ar

vvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvv
(_253_) (y059·) TALAETH IOWA.

diroedd rhad yn nhalaeth Iowa; credwyf na bydd dim tiroedd felly i’w cael ynddi yn mhen pump neu ddeng mlynedd eto. Cynghorwyf fy nghenedl i sefydlu ar diroedd rhad y reilffyrdd yn nghanoldir, ac yn enwedig yn ne-orllewin y dalaeth. (See ”Iowa; The Home for Immigrants; being a Treatise on the Resources of Iowa. Published by order of the Board of Immigration. A. R, Fullon, Esq., Secretary, Des Moines Iowa.) Rhoddaf yn awr ychydig o hanes y sefydliadau Cymreig yn nhalaeth Iowa: -

1. OLD MAN’S CREEK, Johnson Co., Iowa. - Saif yr ardal amaethyddol hon tua phedair neu bum’ milldir i’r de-orllewin o Iowa City, lle mae eu prif farchnad a’u llythyrdy. Tref hardd, gynyddol, ar lan afon Iowa, gerllaw coedwig, yn nghanol gwlad amaethyddol ffrwythlon, yw Iowa City. Ugain mlynedd yn ol, nid oedd ond lle bychan - ynddi y bu eisteddle llywodraeth y dalaeth am flyneddau, hyd nes y symudwyd hi i ddinas Desmoines; ond y mae University y dalaeth ynddi eto, a llawer o adeiladau a masnachdai gwerthfawr. Mae yno rai masnachwyr Cymreig, megys Mr. Charles Lewis, a’i frawd George Lewis, gynt o Remsen, N.Y.; Mr. D. Griffiths, gynt o ddinas New York, ac ereill. Yno hefyd y mae y Parch. Evan Griffiths yn byw. Mae y “Chicago, Rock Island & Pacific Railroad” yn rhedeg drwy y ddinas hon; a dyma y lle nesaf ar y railroad hono i sefydliad y Cymry yn Old Man’s Creek. Mae amrai o.felinau blawd oddeutu Iowa City.

Dechreuodd y Cymry boblogi y lle tua’r flwyddyn 1840. Y sefydlwyr cyntaf oeddynt Edward Williams ac Oliver Thomas, gynt o Sir Drefaldwyn, G.C. Yn mhen blwyddyn neu ddwy ar ol hyny daeth Joseph Hughes, Glyn Ceiriog, Dinbych, G.C., a Thos. Jones, D.C., a Henry Clement, yno i fyw. Wedi hyny Peter Hughes, mab Joseph Hughes, a William Evans. Daeth yr hen frawd anwyl Mr. Richard Tudor, a’i deulu, gynt o Penegoes, Maldwyn, G.C., yno oddeutu y fl. 1843. Wedi hyny daeth David H. Jones, o Lanbrynmair; David Davies, ac ereill, yno. Daethant oll yno o Ebensburgh,

(_254_) (y060·) Y GORLLEWIN PELL.

Pa., trwy Pittsburgh, ar hyd afon Ohio, heibio i Cairo, ac ar y Mississippi, heibio i St. Louis, a thiriodd rhai o honynt yn Keokuk, ereill yn Bloomington (Muscatine yn awr) - a theithiasant gyda’u hanifeiliaid ar draws y wlad i’w sefydliad newydd; a chodasant dai logs yn ymyl y llwyni coed, ac yn agos at eu gilydd, o fewn milldir i afon fechan yr Old Man’s Creek, ar ei hochr ogleddol. Oddeutu yr afon hon yr oedd miloedd o erwau o dir rhagorol y Llywodraeth i’w cael am $1.25 yr erw, a digon o goed, a helaethrwydd o rolling praires i’w cael yno. Gwnaethant ddewisiad doeth; tiroedd nodedig o ffrwythlon ac iachus ydynt. Ond buont yn llafurio yno am lawer o flyneddau dan lawer anfanteision gwladol a chrefyddol. Pan ddaethant yno gyntaf, yr oedd ychydig o deuluoedd o genhedloedd ereill yn byw yn yr ardal, Saeson, a Scotiaid, sef James Seahorn, Ellison Davies, a’i frodyr a’i chwiorydd, ac ereill; ac nid oedd yn Iowa City ond tair store, ac ychydig o dai, na phont i groesi yr afon Iowa, dim ond ferry hoat; a gwerthent eu heiddo yno am y prisiau isel canlynol: - Corn, am 10 cent y bwsiel; gwenith, am o 18 i 23 cents y bwsiel; pork, am $1.50 y can’ pwys; ymenyn, am o 6 i 7 cents y pwys! Ac anaml y caent arian am danynt - dim ond newidwriaeth. Nid oedd y reilffyrdd yn rhedeg y pryd hyny ar draws Illinois, nac ar draws Iowa; ac yr oedd dros haner can’ milldir o’r sefydliad, ar draws y tir, i Davenport, a Muscatine, ar lan afon Mississippi. Ond wedi gorpheniad reilffyrdd Illinois, o Chicago i Rock Island; ac wedi agor y Chicago, Rock Island & Pacific R. R. i Iowa City, tua’r fl. 1855, a’i gorphen wedi hyny ar draws y dalaeth i dref Council Bluffs, ar lan afon Missouri, dechreuodd ymfudwyr sefydlu wrth y miloedd yn Iowa, a rhoddwyd adfywiad i’w hamaethyddiaeth, ei chelfyddydau, a’i masnach. Yr oedd yr hen sefydlwyr wedi dewis y gwastad-dir, a’r bryniau isel coediog, gan wrthod y rhan fwyaf o’r prairies di-goed, a chan gredu nad oeddynt yn ffrwythlon; ond o’r flwyddyn 1865 hyd yn awr, y mae lluoedd o ymfudwyr Cymreig, gan mwyaf o Ebensburgh, Pa., wedi prynu y rolling prairies hyny, ac wedi sefydlu arnynt, ac yn cael flfrwythau toreithiog o

vvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvv
(_255_) (y061·) TALAETH IOWA.

wenith, &c, allan o honynt. Nid oes ond ycliydig o diroedd felly i’w cael yno yn awr, ac nis gellir eu prynu dan $10 neu $15 yr erw; ac ni cheir tyddynau diwylliedig yn y sefydliad yn awr heb dalu am danynt o 120 i $50 yr erw.

Mae sefydliad Cymreig Old Man’s Creek yn awr wedi ymledu am filldiroedd o bob tu afon fechan yr Hen Ddyn; ac y mae yno lawer o bobl gyfoethog iawn, a llawer o dai drudfawr, a thyddynau mawrion, yn awr; dichon mai meibion y diweddar Richard Tudor, Ysw., sef Edward Tudor, Ysw., a Hugh Tudor, Ysw.; a David David H. Jones, Ysw., gynt o Lanbrynmair; ac Oliver Thomas, Ysw., ac ereill, yw y rhai cyfoethocaf yno; ond y maent oll mewn amgylchiadau da a chysurus. Mae y penau teuluoedd canlynol yn byw yn Sharon Township, yr ochr ddeheuol i’r Creek, sef, Daniel Prichard, John Baxter, David E. Jones, Peter Hughes, Parch. C. D. Jones, Parch. Evan Roberts (W.,) David Williams, John E. Roberts, John Roberts, David O. Jones, David Hughes, William Edwards, Robert Thomas, David H. Jones, David T. Davies, William J. Davies, Daniel Watts, Widow Williams, Thomas D. Davies. A’r rhai canlynol yn byw yn Union Township, yr ochr ogleddol i’r afon: - John Pryce, Thomas Thomas, John Breese, David Thomas, Robert Thomas, Humphrey Griffiths, D. R. Lewis, Robert E. Davies, William Morris, Robert Davies, David Roberts, John Davies, Thos. E. Davies, John Rees, Rowland Rees, William Morris, Thomas Humphreys, William J. Rowlands, Richard Williams, Richard Hughes, David D. Jones, David A. Jones, John E. Hughes, David Goodwin, Edward Tudor, Hugh Tudor, David E. Price, David H. Price, Daniel John, Edward Edwards, Oliver Thomas, Widow Edwards, Henry Edwards, Thomas Jones, a William T. Roberts. A’r rhai canlynol yn Iowa City Township: - Parch. Morris M. Jones, Samuel Jones, David M. Jones, Morris Pate, a George Lewis. Yn nechreu Tachwedd, 1870, yr oedd oddeutu triugain o deuluoedd, a thri chant o wyr, gwragedd, plant, gweision, a morwynion, yn y sefydliad Cymreig yno, Mae yn lluosogi yn gyflym.

vvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvv
(_256_) (y062·) Y GORLLEWIN PELL.

Yr Eglwys ANNIBYNOL Gymreig yn Old Man’s Creek. - Yr oedd y rhan fwyaf o’r hen sefydlwyr yn bobl grefyddol, ac yn Annibynwyr egwyddorol. Cynaliasant gyfarfodydd gweddio, ac Ysgol Sabbothol mewn anedd-dai am lawer o flyneddau, cyn bod dim pregethu yno. Sefydlwyd yr eglwys Annibynol yno Chwefror 20, 1846, gan y Parch. David Knowles (A.,) gynt o Faldwyn, G. C, gydd 15 o aelodau. Llafuriodd ef yno am dair blynedd mewn cysylltiad ag eglwys Annibynol Long Creek. Yn 1849, daeth y Parch. George Lewis, o Putnam, Ohio, yno, a bu yn gweinidogaethu yno am yn agos i chwe’ blynedd. O ddeutu y fl. 1855, daeth y Parch. Morris M. Jones (A.,) o Radnor, Ohio, yno, a bu yn gweinidogaethu yno am rai blyneddau; ac y mae yn byw ar ei dyddyn ffrwythlon yno eto, gyda’i deulu parchus. Ar ei ol ef y daeth y Parch. Evan Griffiths, gynt o Lanegryn, Meirion, G. C, yno, a bu yn gweinidogaethu yn llwyddianus yno am bum’ mlynedd. Wedi hyny bu y Parch. Cadr. D. Jones yn weinidog poblogaidd yno am bedair blynedd, a rhoddodd ofal yr eglwys i fyny yn nechreu y flwyddyn 1870. Adeiladwyd y capel cyntaf yno ar fryn amlwg, ger y coedwigoedd, o fewn milldir i’r afon, yr ochr ogleddol, ger tyddyn Hugh Tudor, Ysw., yn y fl. 1855.

O’r flwyddyn 1859 hyd y fl. 1869, bu llawer o gynydd ar y sefydliad, ac ar yr eglwys hefyd; ac yn y fl. 1870 adeiladasant addoldy newydd hardd, a llawer mwy na’r cyntaf, yn yr un man, a thalasant ei ddyled. Y mae yn addurn i’r sefydliad, ac yn anrhydedd i’r eglwys a’r gynulleidfa. Mae ynddo yn awr Ì40 o aelodau; ysgol Sabbothol luosog, a chynulleidfa gref. Credwyf mai Oliver Thomas, Edward Tudor, David H. Jones, ac ereill, yw y diaconiaid. Mae ynddi lawer o ddynion doeth, duwiol, a flyddlon, a llawer o bobl ieuainc gweithgar a thalentog. Mae angen yno am weinidog galluog i siarad, ysgrifenu, a phregethu yn rhwydd a chywir yn Gymraeg a Saesonaeg. Gobeithio y cant weinidog cymhwys felly yn fuan, ac y cynaliant ef yn anrhydeddus; gallent yn hawdd wneyd $1,000 iddo yn flyneddol. Mae amrai o aelodau perthynol i’r T. C, a’r B., a’r W., yn cyd-addoli a’r Annibynwyr yno; ond nid oes yr un o’r enwadau crefyddol hyny wedi ffurfio eglwys yno eto; dichon y gwna y T. C. hyny yn fuan. Mae y brawd anwyl a ffyddlon, y Parch. Evan Roberts (W.,) yn byw yn yr ardal, ac yn aelod ffyddlon, ac yn bregethwr cymeradwy yn yr eglwys hon. Credwyf mai Edward Tudor. Ysw., yw Ysgrifenydd yr eglwys. Cyfeirier llythyrau iddo fel hyn: - Ed. Tudor, Esq., Farmer, Old Man’s Creek, Iowa City P. O., Johnson Co., Iowa.

2. WILLIAMSBURGH, Stellapolis P. O., near Marengo, Iowa Co., Iowa. - Saif y sefydliad amaethyddol Cymreig hwn oddeutu 26 milldir i’r gorllewin o Old Man’s Creek, a thua 10 milldir i’r de-ddwyrain o Marengo, sef prif dref sir Iowa, yr hon a saif ar y reilffordd, tua 84

vvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvv
(_257_) (y063·) TALAETH lOWA.

milldir o Davenport, a 30 milldir o Iowa City. Mae yno wlad dda odiaeth am filldiroedd o amgylch pentref bychan Williamsburgh, yr hwn a saif ar fryn isel, bron ar lan yr Old Man’s Creek, yr hon nid yw ond aber fechan yno; ac y mae ei tharddiad ychydig o filldiroedd i’r gogledd-orllewin oddiyno. Mae oddeutu y lle hwn filoedd erwau o dir da eto, yn nwylaw y speculators, y gellir eu prynu am o $5 i $12 yr erw, gydag arian parod. Ond y mae y rhan fwyaf o’r tiroedd coediog wedi eu cymeryd. Tebygol yw y bydd canoedd o deuluoedd Cymreig yn sefydlu oddeutu yno yn yspaid y deng mlynedd nesaf. Mae yno yn sicr wlad fawr iachus a ffrwythlon; a phan y ceir reilffordd yn rhedeg o’r de i’r gogledd, drwy Williamsburgh, daw y pentref hwnw yn dref fasnachol a phwysig, a dyblir gwerth y tiroedd. Yn awr yw yr adeg i ymfudo a sefydlu yno. Tir rhagorol am gynyrchu gwair, gwenith, Indrawn, &c., sydd yno. Mae y llwyni coed, a’r rolling prairies yn ei gwneyd yn wlad nodedig o brydferth; ac wedi planu ychwaneg o goedydd ynddi, a’i diwyllio, bydd yn llawer prydferthach eto.

Y sefydlwyr Cymreig cyntaf yn y lle oeddynt: Evan D. Evans a’i briod, o Carno, Llanbrynmair; Richard Pugh, Lanbrynmair, a’i briod, o Carno; William Evans, Felin y Forge, Meifod, a’i briod, o Pontrobert, Maldwyn, G. C. Ymfudasant o Gymru yn 1840 a 1841, a buont am beth amser yn Cincinnati, Ohio; ac yn Hydref 1844 ymfudasant oddiyno i Iowa, a sefydlasant yn agos i’w gilydd, o dan y llwyni coed ( groves) ger “Beddau yr Indiaid,” o fewn tua milldir a haner i’r man lle saif pentref Williamsburgh yn awr. Codasant dai logiau yrio, a buont byw ynddynt am lawer o flyneddau, a gwelsant lawer o galedfyd yno. Wedi hyny codasant dai da ar ochr y ffordd sydd yn arwain i bentref Williamsburgh. Bu Richard Pugh farw yn 1850, a Mr. Williams, (ail wr i Mrs. Pugh,) Gorphenaf 9, 1860; a Wm. Evans, yn Mawrth 1, 1870; ond yr oedd Evan D. Evans, a’r gweddwon Mrs. Wm. Evans, a Mrs. Richard Williams, (gynt Mrs. Pugh,) yn fyw, yn iach, a chysurus, ar eu tyddynau braf, yn Tachwedd, 1870. Pan ddaethant yno gyntaf, yr oeddynt yn bobl wir grefyddol

vvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvv
(_258_) (y064·) Y GORLLEWIN PELL.

gyda’r Annibynwyr; bu rhai o honynt feirw mewn tangnefedd; ac y mae y rhieni sydd yn fyw, gyda’u plant, eto yn aelodau ffyddlon o’r Eglwys Annibynol yn y lle. Yn 1846, daeth David a Jane Evans, o Carno, yno, (rhieni y ddau Evans, a Mrs. Pugh, wedi hyny Mrs. Ẅilliams); daethant yno yn y gwanwyn, a buont feirw yn y fall, yr un diwrnod, o fewn haner awr i’w gilydd; a chladdwyd hwynt ar dir Evan D. Evans, ger y coed. Yr oedd ef yn 60 ml. oed, a hithau yn 63 ml. Yn 1849, daeth John Watkins, o Carno, G. C, yno; brawd-yn-nghyfraith yw ef i Evan D. Evans; ac y mae yn byw gerllaw iddo yno eto. Yn Hydref y flwyddyn 1854, daeth Lewis Ẅilliams, mab hynaf yr hen frawd ffyddlon Henry Williams, o Rome, N.Y., gynt o ardal Machynlleth, G. C, i fyw yno; a bron yr un amser y daeth y meddyg William Rowlands yno - symudodd ef i Oskaloosa, ac wedi hyny aeth i Bartholomew, Drew Co., Arkansas. Daeth Hugh Evans, a’i briod, gynt o Penegoes, G. C, yno yn 1855; a John Hughes, (mab y Parch. Hugh Hughes, ( A.,) o Palmyra, Ohio, gynt o Penllys, Maldwyn, G. C.), a’i deulu, a ddaeth yno yn Hydref, 1856. Efe yw postmaster y lle yn awr. Dyma y sefydlwyr cyntaf. Ar eu dyfodiad cyntaf yno, nid oedd na ffyrdd na phontydd wedi eu gwneyd yno; teithient ar draws y prairies am o 25 i 30 milldir, heibio i Old Man’s Creek, i farchnata yn Iowa City, ac yn Muscatine, ar lan j Mississippi. Cymerai iddynt wyth diwrnod weithiau i fyned a dychwelyd! Yr oedd y tiroedd i’w cael am $1.25 yr erw; ond yr oedd prisiau pobpeth a werthent yn isel iawn.

Yn niwedd y fl. 1870, yr oedd yn y sefydliad Cymreig hwn oddeutu 70 o deuluoedd Cymreig; yn cynnwys tua 350 o Gymry oll. Rhoddaf yma restr o’u henwau, o ba le, a’r amser y aethant yno: -

ENWAU. / O BA LE O GYMRU? &C. / PA BRYD?

Evan D.Evans / Carno, Maldwyn, G.C. / 1844
Mrs. E. Williams / Carno, Maldwyn, G.C. / 1844
Mrs. William Evans / Carno, Maldwyn, G.C. / 1844
John Watkins / Carno, Maldwyn, G.C. / 1849
Lewis H. Williams / Machynlleth, Maldwyn / 1854
John D.Evans / Machynlleth, Maldwyn / 1855
Hugh C. Evans / Maldwyn, G.C / 1855

(_259_) (y065·) TALAETH IOWA

ENWAU. / O BA LE O GYMRU? &C. / PA BRYD?

John Hughes / Maldwyn, G.C. / 1855
Rowland Davies / Meirion, G.C. / 1856
John W. Jones / Meirion, G.C. / 1856
Lewis Jones / Maldwyn, G.C. / 1856
Thomas Ellis / Maldwyn, G.C. / 1856
Benjamin Harris / Mynwy, D.C. / 1857
Edward Edwards / Mynwy, D.C. / 1857
William R. Jones, / Sir Gaer, D.C. / 1858
William Jones / Sir Gaer, D.C. / 1858
David Jenkins / Aberdar, G.C. / 1858
Parch. Evan J. Evans / Llanegryn, Meirion / 1858
William E. Evans, / Sir Fflint, G.C. / 1859
John L. Hughes / Mon, G.C. / 1860
Robert L. Hughes / Mon, G.C. / 1860
Mrs. William D. Jones / Mon, G.C. / 1860
John J. Jones / Ffestiniog, Meirion / 1862
Thomas Evans / Merthyr, D.C. / 1863
Thomas Perkins / Llangyfelach, Morganwg / 1863
Roger Jones / Ruthin, G.C. / 1863
David T. Jones / Dowlais, D.C. / 1864
Richard Richards / Merthyr, D.C. / 1864
Thomas Rogers / Sir Gaer, D.C. / 1864
John Jones / Brycheiniog, D.C. / 1864
Thomas A. Jones / Maldwyn, G.C. / 1864
John J. Jones / Brycheiniog, D.C. / 1864
David J. Jones / Brycheiniog, D.C. / 1864
John Davies / Penfro, D.C. / 1864
Mrs. Henry Davies / Sir Gaer, D.C. / 1865
Robert W. Roberts / Ffestiniog, G.C. / 1866
Thomas Hughes / Treffynon, Fflint / 1865
Thomas M. Davies / Sir Gaer, D.C. / 1865
Morgan Thomas / Sir Gaer, D.C. / 1867
Lewis D. Jones / Sir Gaer, D.C. / 1867
William M. Davies / Maldwyn, G.C. / 1867
Nicholas Lewis / Pontypridd, Morganwg / 1868
David R. Evans / Aberdar, D.C. / 1868
John James / Morganwg, D.C. / 1868
Thomas J. Jones / Brycheiniog, D.C. / 1868
Job S. Williams / Aberteifi, D.C. / 1868
Robert Powell / Arfon, G.C. / 1868
Edward H. Jones / Oneida Co., N.Y. / 1868
Edward Roberts / Meirion, G.C. / 1868
John Roberts / Meirion, G.C. / 1868
Edward Blythyn / Fflint, G.C. / 1868
James Thomas / Mynwy, D.C. / 1868
Richard Thomas / Llanidloes, G.C. / 1868
Mr. Richard J. Jones (T.C.,) / Meirion,G.C. / 1868
Owen R. Jones / Steuben, N.Y. / 1868
David Roberts / Ffestiniog, Meirion / 1869

(_260_) (y066·) Y GORLLEWIN PELL

ENWAU. / O BA LE O GYMRU? &C. / PA BRYD?

William Williams / Ffestiniog, Meirion / 1869
Richard Gittins / Llanfihangel, Maldwyn / 1869
Parch. David Price (A.). / Dinbych, G.C. / 1869
John O. Hughes / Mon, G.C. / 1869
Thomas J. Davies / Morganwg, D.C. / 1869
David Morgan / Aberdar, D.C. / 1869
Robert Thomas / Aberdar, D.C. / 1869
Robert C. Jones / Arfon, G.C. / 1869
Henry Jones / Arfon, G.C. / 1870
Moses Edwards / Dinbych, G.C. / 1870
Richard W. Thomas / Oneida Co., N.Y. / 1870
David H. Jones / Maldwyn, G.C. / 1870
John D. Evans Dinbych, G.C. / 1870

Yr Eglwys ANNIBYNOL Gymreig yn Williamsburgh, Iowa. - Yr oedd y sefydlwyr cyntaf yn bobl grefyddol gyda’r Annibynwyr. Cadwasant gyfarfodydd gweddio ac Ysgol Sabbothol o dy i dy am flyneddau. Buont dros bedair blynedd yno cyn cael pregethwr. Y Parch. David Knowles, o Long Creek, a bregethodd gyntaf yn y lle. Wedi hyny daeth y Parch. George Lewis, gweinidog eglwys Old Man’s Creek, i bregethu iddynt bob tair wythnos. Hydref 18, 1856, daeth y Parch. Jonathan Thomas, o Ohio, ar ymweliad yno. Efe a sefydlodd yr eglwys Annibynol yno, yn nhy William Evans. (Gwel yr hanes yn y Cenhadwr am Ionawr, 1857.) Bu y Parch. Evan J. Evans yn gweinidogaethu yn ffyddlon yno o Hydref, 1858, hyd Mai, 1859; ac y mae efe a’i deulu lluosog yn byw yn gysurus iawn yno eto. Yn haf y fl. 1869 y dechreuodd y Parch. David Price (Dewi Dinorwig) weinidogaethu yno; ac y mae efe yno eto yn barchus a defnyddiol. Yn amser y Parch. Evan J. Evans y codwyd y capel, ac y talwyd ei ddyled. Capel bychan, hardd, a chyfleus ydyw. Saif yn nghanol y pentref . Mae ynddo eglwys gref, Ysgol Sabbothol dda, a chynulleidfa luosog. Diaconiaid, John Hughes, Lewis H. Williams, ac ereill. Mae yr eglwys a’r gynulleidfa yn wasgaredig. Nid oes ond ychydig o boblogaeth yn y pentref. Ynddo y mae public schoolroom da; a dwy egíwys Saesonaeg, sef yr Annibynwyr a’r Wesleyaid; dwy store, post office; ac yno y mae William Evans, gof; a John Hughes. plasterer; a William M. Davies, crydd; a Roger Jones, Joiner yn byw. Nid oedd yno un teillwr, na meddyg, yn niwedd 1870.

Eglwys y TREFNYDDION CALFINAIDD yn Williamsburgh, Iowa. - Dechreuwyd cynal cyfarfodydd gweddio gan nifer fechan o honynt yn nhy Mr. Roger Jones, yn niwedd Chwefror, 1868, pan y sefydlodd pregethwr perthynol i’r enwad, o’r enw Richard J. Jones, yn eu plith. Pregethwyd yn achlysurol yn nhy Roger Jones, ac wedi hyny yn yr ysgoldy. Corfforwyd yr eglwys gan y Parch. E. Salisbury a Mr. Richard J. Jones; ac yn

vvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvv
(_261_) (y067·) TALAETH IOWA

ngwanwyn y fl. 1869, derbyniwyd yr eglwys i undeb a Chymanfa Wisconsin; a ffurfiwyd yr eglwys hon a’r eglwysi yn Welsh Prairie, a Long Creek, yn ddosbarth ar eu penau eu hunain, perthynol i’r Gymanfa hono.

Tua’r un amser, daeth pregethwr arall, sef Mr. James Thomas, i fyw i’r ardal; ac o hyny hyd yn awr, pregethant yno yn gyson bob Sabboth; a gweinyddir yr ordinhadau gan y Parch. Ebenezer Salisbury. Ysg. Sab., 30; aelodau, 31; cynulleidfa fechan. Nid ydynt wedi dewis eu swyddogion eto; llenwir eu lle gan y ddau bregethwr. John O. Hughes, gynt o Remsen, N.Y., yw y Trysorydd; a Roger Jones, gynt o Racine, Wis., yw yr Ysgrifenydd. Maent wedi adeiladu capel bychan da, 30 wrth 80 tr., yn y pentref, gwerth $1,200.

3. Ardal WELSH PRAIRIE, Homestead P.O., . Iowa Co., Iowa. - Saif yr ardal amaethyddol hon ar y rolling prairies ffrwythlon, tua 6 milldir i’r de o Homestead Station; 8 m. i’r dwyrain o Williamsburgh; a 17 m. i’r gorllewin o Iowa City. Gellir prynu tiroedd da o ddeutu yno eto, gan y speculators, trwy alw yn mhrif swyddfa y sir yn Marengo, am o $7 i $12 yr erw. Y mae miloedd o erwau o diroedd gwerthfawr felly heb eu diwyllio eto, oddiyno i Windham, ac i Oxford Station. Dyma restr o’i sefydlwyr, a’r amser y daethant yno:

ENWAU. / O BA LE O GYMRU? &C. / PA BRYD?

Howell Rees / Dolgellau, Meirion, G.C. / 1860
Evan Pugh / Aberllyfeni, Meirion, G.C. / 1860
Owen Edwards / Mon, G.C. / 1861
Edward Pugh / Aberllyfeni, Meirion / 1863
John Jones / Dyffryn, Meirion / 1863
John Roherts / Mon, G.C. / 1863
Arthur Williams / Aberllyfeni, Meirion / 1863
Evan Lewis / Maldwyn / 1865
Ishmael Parry / Mon / 1865
Evan Jones / Big Rock, Illinois / 1865
John Edwards / Aberteifi, D.C. / 1866
Thomas Evans / Dinbych, G.C. / 1866
Mrs. Edwards / Dinbych, G.C. / 1867
Robert Owen / Mon, G.C. / 1867
Parch. E. Salishury / Oneida Co., N.Y. / 1867
Samuel Jones / Oneida Co., N.Y. / 1867
Richard Jones / Cemaes, Maldwyn / 1867
Griffith Rees / Dolgellau, Meirion / 1867
Mrs. Owen / Mon, G.C. / 1868
Parch. Robt. Evans, (A.) / Dinbych, G.C. / 1869
Robert Jones / Dyffryn, Meirion / 1868
William Edwards / Mon, G.C. / 1869

vvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvv
(_262_) (y068·) Y GORLLEWIN PELL

Yn niwedd y fl. 1870 yr oedd yno 22 o deuluoedd - poblogaeth Gymreig, 110. Yn eu plith yr oedd amrai o fechgyn ieuainc yn gwasanaethu y tyddynwyr. Bu Mr. Griffith Rees, yn Ddruggist yn Cincinnati, Ohio.

Eglwys y T.C. yn Welsh Prairie, Iowa.
- Dechreuwyrd pregethu yno gan yr Annibynwyr a’r T.C. yn 1866, mewn gwahanol drigfanau ac ysgoldai. Ffurfiwyd eglwys y T.C. yno yn 1807. Yn haf y fl. 1868 codwyd capel bychan o goed, 22 wrth 32 tr. ar dyddyn Mr. Owen Edwards, yr hwn a roddodd y tir am ddim. Mae ynddo eglwys fechan ffyddlon yn awr; aelodau, 20; Ysg. Sab., 80; cynulleidfa, 80. Dan ofal y Parch. Ebenezer Salisbury, yr hwn sydd yn byw ar ei dyddyn, tua milldir i’r gorllewin o’r capel. Mae ychydig o Annibynẃyr parchus yn cyd-addoli a hwy.

4. MARENGO, Iowa Co., Iowa. - Tref fechan gynyddol yw hon. Saif ar wastadedd ffrwythlon, rhwng y coedydd a’r prairies, yn agos i’r afon Iowa, 10 neu 12 milldir i’r gogledd-orllewin o Williamsburgh; 30 milldir i’r gorllewin o Iowa City; a 90 milldir i’r dwyrain o Des Moines. Marengo yw y lle nesaf i Williamsburgh, ar y Chicago, Rock Island & Pacific E. E. Pan sefydlodd y Cymry gyntaf yn Williamsburgh, yr oedd Court House, ac ychydig o dai a stores yn Marengo. Hon yw prif dref sir Iowa, ac y mae ynddi lawer o dai a stores; a rhai Cymry parchus yn byw, ac yn masnachu. Ond nid oes ynddi eto eglwys na chapel Cymreig. Gallai y Cymry gael llawer o diroedd coediog, ac o ddoldiroedd da, am filldiroedd oddeutu yno, am brisiau lled isel, gan y speculators. Credwyf y bydd ugeiniau o dyddynwyr Cymreig wedi sefydlu ar y tiroedd hyny cyn hir. Gall fod yn Marengo o 25 i 30 o Gymry.

5. LONG CREEK, Louisa Co., Iowa. - Gorwedda Louisa Co. ar lan y Mississippi, yn rhandir de-ddwyrain talaeth Iowa; ac y mae ynddi lawer o diroedd gwastad a dyfrllyd, yn nghyda llawer o dir toredig coediog, a doldiroedd (prairies), Ynddi y mae y ddwy afon, Iowa River, a Cedar River, yn ymuno, ac wedi hyny yn ymdywallt i’r Mississippi. Mae y sefydliad Cymreig, yn agos i dref fechan Columbus, bron ar ganol y sir; ac y mae digon o gyfleusderau i fyned iddo yn awr gyda’r reilffordd o Davenport, a Wilton, a West Liberty, a Muscatine, a Burlington. Saif oddeutu yr aber fechan

vvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvv
(_263_) (y069·) TALAETH IOWA

a elwir Long Creek. Tir lled doredig a choediog sydd yn y sefydliad; ond y mae yn dir da a ffrwythlon. Wrth fyned yno gofalwch am ddisgyn yn Columbus Junction, ac nid yn Long Creek Station.

Dechreuodd y Cymry sefydlu yno yn haf y fl. 1843. Y sefydlwyr cyntaf oeddynt William Lewis, ac Evan Thomas, o sir Aberteifi; John Griffiths, o Penal, Meirion; William Tudor, a David Tudor, o Darowen, Maldwyn. Prynasant diroedd rhad y Llywodraeth yn agos at eu gilydd, o bobtu i’r Aber Hir. Daeth Arthur Griffiths, (brawd J. G., o Penal,) yno yn Hydref 1842; ac yn ngwanwyn y fl. 1843, daeth David ac Elizabeth Griffiths, ei dad a i fam, a hogyn o’r enw John A. Rees, yno. Yn 1845 daeth y Parch. David Knowles, a’i briod, yno. Yn 1846 daeth William Arthur, o Penal, Meirion; a Thomas Evans, a’i wraig, o Darowen, Maldwyn, gydd mam ei wraig, sef Mrs. Ann Tudor, yno. Wedi hyny, John Morgan a’i deulu, o Penal, Meirion; a Wm. Jones, o Waunfawr, Arfon, a ddaethant yno yn 1847. Dyna yr hen sefydlwyr; gwelsant lawer o gyfyngderau yno tua 30 ml. yn ol; bu rhai o honynt feirw yno; ond y mae amrai o honynt eto yn fyw, ac yn dra chysurus eu hamgylchiadau; ac yn bobl dda a chrefyddol.

Mae yno yn awr sefydliad da o dyddynwyr cyfoethog; oddeutu 60 o deuluoedd, a 300 o boblogaeth Gymreig. Dyma restr o’u henwau, &c.:

ENWAU. / O BA LE O GYMRU? &C. / PA BRYD?

John Griffiths / Penal, Meirion, G.C. / 1843
Arthur Griffiths / Penal, Meirion, G.C. / 1843
Mrs. Mary Tudor / Penal, Meirion, G.C. / 1843
John A. Rees / Penal, Meirion, G.C. / 1843
Hugh Arthur / Penal, Meirion, G.C. / 1844
Evan Morgan / Meirion, G.C. / 1845
John Morgan / Meirion, G.C. / 1845
William Jones / Arfon, G.C. / 1844
John S. Davies / Meirion, G.C. / 1853
Evan E. Davies / Meirion, G.C. / 1850
Evan H. Davies / Meirion, G.C. / 1852
Hugh E. Davies / Meirion, G.C. / 1850
Evan Davies / Maldwyn / 1852
Edward E. Davies / Meirion / 1852
William Anwyl / Maldwyn / 1853

vvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvv
(_264_) (y070·) Y GORLLEWIN PELL

ENWAU. O BA LE O GYMRY? &C. PA BRYD?

Mrs. Evan Anwyl / Maldwyn / 1853
Thomas Anwyl / Maldwyn / 1853
Evan Evans / Maldwyn / 1853
John L. Thomas / Sir Gaer, D.C. / 1854
Benjamin Morgan / Brycheiniog, D.C. / 1854
David N. Jones / Sir Gaer, D.C. / 1855
Robert T. Jones / Meirion, G.C. / 1855
Mrs. Elizabeth Jones / Meirion, G.C. / 1855
Parch. Thomas W. Evans / Aberteifi, D.C. / 1856
David H. Gnffiths / Ganwyd yno yn / 1846
Hugh Jones / Arfon, G.C. / 1856
John A. Owen / Maldwyn, G.C. / 1857
Hugh O. Jones / Maldwyn, G.C. / 1857
Jenkin D. Jenkins / Aberteifi, D.C. / 1857
Lewis Jones / Maldwyn, D.C. / 1857
Hugh M. Jones / Maldwyn, D.C. / 1857
Thomas E. Jones / Maldwyn, D.C. / 1858
David J. Evans / Maldwyn, D.C. / 1858
John Jacobs / Aberteifi, D.C. / 1858
John R. Owen / Meirion, G.C. / 1860
William V. Davies / Maldwyn, G.C. / 1861
John H. Davies / Maldwyn, G.C. / 1861
Vaughan Davies / Meirion, G.C. / 1862
John Richards / Maldwyn, G.C. / 1863
Edward J. Davies / Meirion, G.C. / 1864
Robert Evans / Meirion, G.C. / 1865
Edward Williams / Meirion, G.C. / 1866
Elias Roberts / Arfon, G.C. / 1867
Humphrey Jones / Meirion, G.C. / -
Richard Richards / Meirion, G.C. / -
John Jones / Aberteifi, D.C. / 1867
Jenkin Davies / Aberteifi, D.C. / 1867
David Davies / Aberteifi, D.C. / 1867
Thomas R. Jones / Aberteifi, D.C. / 1867
Lot Hughes / Arfon, G.C. / 1867
Richard Thomas / Arfon, G.C. / 1868
Parch. Owen Owens / Arfon, G.C. / 1868
Richard J. Williams / Arfon, G.C. / 1868
Richard Edwards / Maldwyn, G.C. / 1869
David Edwards / Maldwyn, G.C. / 1869
John J. Williams / Arfon / -
Mrs. Elizabeth Norton / Meirion / -
Edward E. Jones / Maldwyn / 1869
Richard Williams / Arfon / 1869
Parch. G. Roberts (T. C). / Penmachno, Arfon / 1870

Mae tua 11 o’r teuluoedd Cymreig yn byw yr ochr ogleddol i aber fechan Long Creek; dros 40 o deuluoedd

vvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvv
(_265_) (y071·) TALAETH IOWA

Cymreig yn byw yr ochr ddeheuol iddi, ac amrai deuluoedd yn Washington Co.

Yr Eglwys
ANNIBYNOL yn Long Creek, Iowa. - Ffurfiwyd yr eglwys yn Hydref y fl. 1845, gan y Parch. David Knowles. Adeiladwyd y capel cyntaf yno yn 1846, a’r addoldy presenol yn 1864, - 34 wrth 26 tr. Traul, $1,000. Dim dyled. Lot fawr, a mynwent ehelaeth gerllaw y capel yn y coed. Diaconiaid - George Lewis, David N. Jones, John L. Thomas. Aelodau, 80; Ysg. Sab., 60; cynulleidfa, 150. Bu y brodyr parchus D. Knowles a Thomas W,. Evans yn gweinidogaethu yn llwyddianus yno am flyneddau. Eu gweinidog presenol yw y Parch. Owen Owens, gynt o Bryn-menyn, Morganwg, D.C.

Eglwys y TREFNYDDION CALFINAIDD yn Long Creek, Iowa, - Ffurfiwyd yr eglwys hon yno yn y fl. 1861. Adeiladwyd y capel bychan hardd yno yn 1862. Traul, $400. Dim dyled. Aelodau, 50; Ysg. Sab., 40; cynulleidfa, 70. Swyddogion - Arthur Griffiths, Evan Davies, William Jones, Columbus City P. O., Louisa Co., Iowa.

6. FLINT CREEK, Des Moines Co., Iowa, (Pleasant Grove P.O.) - Saif y sefydliad Cymreig bychan hwn tua 25 milldir i’r de o sefydliad Long Creek. Gellir myned o Columbus Junction, neu o Burlington yno yn awr gyda y “Burlington, Cedar Rapids, and Minnesota R.R,” trwy ddisgyn yn Kossuth Depot. Pedair milldir sydd oddiyno at y capel. Nid yn Sperry Depot, a’r Morning Sun Station, lle mae Hugh Edwards, Ysw., a’i deulu yn byw, gynt o Geryg-y-Druidion, Sir Ddinbych, G.C. Mae efe a’i deulu yn aelodau yn yr eglwys Annibynol yn Flint Creek. Gwlad ardderchog a ffrwythlon sydd oddiyno am filldiroedd hyd Flint Creek; ac oddiyno trwy Pleasant Grove, ar draws y wlad hyd New London, neu Danville, ar y “Burlington & Missouri R.R.”

Y sefydlwyr cyntaf yn Long [sic] Creek oeddynt John Jones a’i wraig, o Sir Fon, G.C., aelodau crefyddol gyda y T.C. Daethant yno yn ngwanwyn y fl. 1842. Buont feirw tua’r fl. 1855, a chladdwyd hwynt yn y fynwent wrth y capel. Mae eu meibion, Edward Jones a John J. Jones, a’u teuluoedd, yn dyddynwyr parchus yn yr ardal eto. Wedi hyny daeth Jonah Morris, o Sir Gaer, D.C., yno gyda’i wraig a’i blant yn 1843. Claddwyd Mr. Morris yn Long [sic] Creek, a symudodd ei weddw

vvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvv
(_266_) (y072·) Y GORLLEWIN PELL

i Newark, Ohio. Daeth James Thomas, o Sir Gaer, D.C., yno yn 1843. Claddwyd ef yn mynwent y capel Mai, 1868. Mae ei weddw a’i fab yn byw yn yr ardal eto. Daeth John Jacobs, Sir Gaer, D.C., yno yn 1843. Bu ef yn California. Joshua Jones a’i wraig a ddaeth yno o New York yn 1845. Claddwyd ef wrth gapel y Bedyddwyr Saesonig yno tua’r fl. 1856. Mae ei weddw yn byw yn yr ardal eto. Yr un fl., 1845, daeth Benjamin Jones a’i wraig yno o Lundain, Lloegr. Pobl grefyddol oeddynt gyda y T.C. Claddwyd ef mewn mynwent yn agos i Pleasant Grove yn y fl. 1846. Ei weddw ef yw Mrs. Jacobs; ei fab ef yw Benjamin Jones, a’i ferch ef yw gwraig Thomas Thomas (B.,) sydd yn byw yno eto. Thomas Evans, o Sir Aberteifi, a’i wraig a’i blant, a ddaethant yno yn 1845. Pobl grefyddol gyda yr Annibynwyr oeddynt. Bu ef a’i wraig a dwy o’i ferched farw o’r cholera, a chladdwyd hwynt yn mynwent y capel. Mae Mr. Henry Evans, eu mab, yn byw yn yr ardal eto. Eu merched hwy yw Mrs. Gowdy, o Flint Creek, a Mrs. Gartley yn Burlington. Daeth Robert Jones a’i wraig a’u plant, o Sir Fon, yno yn 1845. Yr oedd ef y pryd hyny yn aelod gyda’r Eglwyswyr, a’i wraig gyda’r Bedyddwyr. Yr oedd y ddau yn fyw yno yn niwedd y fl. 1870. Claddwyd dau o’u plant yn mynwent y capel; ond y mae y rhai canlynol yn fyw ac yn gysurus: - John E. Jones (A.,) David E. Jones (B.,) Isaac N. Jones (A.,) Sarah, gwraig y Parch. Thomas W. Evans, William W. Jones, Clay City, Clay Co., Illinois. Daeth Erasmus Evans a’i wraig, a’i feibion a’i ferched yno yn 1845, o rywle yn agos i dref Caernarfon, G.C. Prynasant 40 erw o dir tua milldir i’r gorllewin o’r capel. Dychwelasant i’r gweithiau glo, i’r dwyrain o St. Louis, Missouri. Pobl anghrefyddol oeddynt. Dichon eu bod wedi eu claddu. Os oes rhai o’u perthynasau yn fyw, dymunwyf eu hysbysu fod y tir heb ei gau i mewn eto, ac y gallant ei adfeddianu trwy dalu yr holl drethi.

Tua’r fl. 1850, ymfudodd amrai oddiyno i California, ac ni ddaeth llawer o honynt byth yn ol. Ymadawodd Thomas Lewis, John Davies, a David Williams, i leoedd ereill; ac ymadawodd Thomas Lewis (B.,) a’i

vvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvv
(_267_) (y073·) TALAETH IOWA

deulu, gynt o Sir Benfro, D.C., i Dawn, Missouri, yn 1848. Lleihawyd y boblogaeth Gymreig.

Prynodd llawer o’r sefydlwyr cyntaf Land Warrants am $30 i $150, a sefydlasant ar diroedd da o goed a doldiroedd (prairies.) Mae aber fechan y Flint Creek yn rhedeg drwy yr ardal, ac oddeutu hono mae digon o goed ac o geryg. Mae rhai tai da wedi eu hadeiladu yn yr ardal gan y Cymry; ac y mae rhai o honynt yn bobl gyfoethog, a haelionus at bob achos da. Dyma restr o enwau y preswylwyr Cymreig yn Tachwedd, 1870: -

ENWAU. O BA LE O GYMRU? &C. PA BRYD?

Robert Jones / Mon, G.C. / 1843
John R. Jones / Mon, G.C. / 1843
David R. Jones / Mon, G.C. / 1843
Mrs. Joshua Jones / New York, N.Y. / 1843
Isaac N. Jones / Ganwyd yno yn / 1844
Mrs. Ann Thomas / Sir Gaer, D.C. / 1845
Henry Evans / Aberteifi, D.C. / 1845
Benjamin Jones / Llundain / 1845
Mrs. Jacobs / Llundain / 1845
Thomas Jones / Iowa / 1847
Edward P. Hughes / Liverpool / 1850
William E. Jones / Fflint, G.C. / 1853
Edward Jones / Mon, G.C. / 1855
John J. Jones / Mon, G.C. / 1846
William W. Williams / Mon, G.C. / 1853
William Lloyd / Ohio / 1858
William James / Sir Gaer, D.C. / 1858
William W. Jones / Arfon, G.C. / 1858
Thomas H. Evans / Ohio / 1865
William L. Roberts / Meirion / 1868
Hugh Jones / Mon / 1867
Richard Jones / Mon / 1868
William D. Roberts / Meirion / 1869

Mae yn yr ardal tua 24 o deuluoedd, a thua 120 o boblogaeth Gymreig. Yn eu plith mae amrai o bobl ieuainc yn gwasanaethu.

Ffurfiwyd yr Eglwys Gristionogol Undebol (The Christian Society) yn nhy Jonah Morris, gan y Parch. David Knowles (A.,) yn Mehefin, 1848, gydag ychydig o aelodau. Adeiladwyd y capel cyntaf yno gan yr hen Gristion ffyddlon John Jones (T.C.,) bron oll ar ei draul ei hunan. Gwnaed y capel newydd hardd presenol yn 1868. Traul, $11,100. Talwyd yr oll gan yr ardalwyr. Da iawn. Aelodau, 40; Ysg. Sab., 50; cynulleidfa, 80. Diaconiaid - Thomas Edwards, Richard Jones, trysorydd; a Benjamin Jones, Ysgrifenydd, Bu y gweinidogion canlynol

vvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvv
(_268_) (y074·) Y GORLLEWIN PELL

yn llafurio yno: - Parchn. David Knowles, George Lewis, John Pryce Jones, John Price, Thomas W. Evans (14 o flyneddau); Evan Griffiths, am ychydig amser. Eu gweinidog presenol yw y Parch. Robert Evans, gynt o Waukesha Co., Wis.


7. OSKALOOSA, Mahasha Co, Iowa. - Hon yw prif dref y sir, ac y mae yn dref boblog; a cheir ynddi lawer adeiladau da, ac o fasnachdai mawrion; deg o eglwysi Saesnig, gan wahanol enwadau, ac un college; dwy factory wlan, dwy felin flawd, dwy foundries and machine shops, un bank, post office, &c. Ynddi y mae Joseph Jones (gof),gynt o Dowyn, Meirionydd, G.C., yn byw. Bu yn dra llwyddianus yno. Efe yw meddianydd y prif carriage shop sydd yno. Bu ef yn Milwaukee, Wis. Mae yn Oskaloosa er y fl. 1855. Mae ganddo wraig, a thri neu bedwar o blant. Mae yr Iowa Central R.R. wedi ei gweithio oddiyno i Albia, a gorphenir hi cyn hir oddiyno ar draws Missouri i St. Louis; ac o Oskaloosa heibio i Grinnell, a thrwy Cedar Falls i St. Paul, Minnesota. Gwna les dirfawr. Gerllaw tref Oscaloosa y mae teulu parchus y Dr. Wm. Rowlands, gynt Williamsburgh, Iowa, yn byw.

8. OSKALOOSA JUNCTION, Beacon P.O., Mahaska Co., Iowa. - Hen enw y lle hwn oedd Enterprise. Saif yn y Des Moines Valley, o fewn 2J milldir i dref Oskaloosa. Mae dwy reilffordd yn rhedeg heibio iddo, sef yr Iowa Central R. R, a’r Des Moines Valley R.R. Gellir myned yno gyda y reilfforddo Ottumwa (25 milldir), neu o Des Moines City (61 milldir.) Nid oes llawer o ffordd ar draws y wlad o Williamsburgh, Iowa Co., yno. Mae tiroedd amaethyddol, a gwythienau glo rhagorol, oddeutu y lle hwn am filldiroedd, a gellir eu prynu am brisiau rhesymol. Gwlad doredig a choediog yw.

Daeth John S. Morgan a Watkin Williams, o Sir Aberteifi, D.C., o sefydliad Cymreig Monroe Co. i weithio yn y gwaith glo yno yn 1856. Americaniaid a agorasant y gweithiau glo yno; gwythienau o 5 tr. i 7 tr. o drwch. Ond ni symudodd y personau uchod a’u teuluoedd i fyw yno hyd y fl. 1865. Cyn, ac ar ol hyny, daeth llawer o fwnwyr i weithio, ac i setydlu yno. Enillant

vvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvv
(_269_) (y075·) TALAETH IOWA

$2 i $2.50 y dydd. Mae John G. Jones, Ysw., yn cadw store fawr yno er y fl. 1857, ac yn hono y mae y post office. Mae yno amrai o Gymry parchus a chyfoethog yn byw ar eu tyddynau, ac yn arolygwyr ar y gweithiau glo, a rhai o honynt yn meddianu rhan ehelaeth ynddynt, megys Watkin Price, Ysw., a’i frodyr, Joshua Price, John Price, Jenkin Price, a Watkin Price, gynt o Hirwaun, Glynedd, ac Aberdar, Morganwg, D.C. feu farw y Parch. Peter Lloyd (B.,) yno Medi, 1868, a chladdwyd ef yn Forest Cemetery, yn 67 ml. oed. Mae ei weddw, Mrs. Lloyd, a’i phlant, yn byw ar eu tyddyn gerllaw yno eto. Yr oedd David S. Davies, Pont-y-pridd, D.C., yn foss ar un o’r gweithiau glo yno yn 1870. Yr un amser yr oedd David Evans, o Pomeroy, Ohio; Thomas Parry, Morgan Howells, a William Bowen, o Sir Fynwy, D.C.; a Daniel Jones, Isaac Jones, Henry Jones, Wm. Phillips, Morgan Phillips, Wm. Davies, Moses Thomas, o Aberdar; a John Williams, a John T. Williams, o Brynmenyn, D.C.; ac Ebenezer Jones, Joseph Sanders, a Shadrach Morgan, Ferthyr Tydfil; a Thomas T. Davies, Evan Evans, Christmas Evans, Tredegar; Lewis Lewis, Mountain Ash, D.C.; Daniel W.Davies (boss),o Lanelli, Sir Gaer; Owen Thomas a John Thomas, o Sir Aberteifi; a William Lewis, o Hirwaun, ac ereill, yn byw yno. Oddeutu 43 o deuluoedd, a 215 o boblogaeth Gymreig.

Yr Eglwys
ANNIBYNOL Gymreig yno. - Dechreuwyd pregethu yno yn nhy Mr. John G. Jones, ac mewn tai ereill, er y fl. 1860. a Mr. John M. Williams (A.,) yn awr o Crab Creek, Ohio, yn pregethu ar hyd y tai yno cyn ffurfio yr eglwys; wedi hyny y Parch. Tudor Jones. Ffurfiwyd yr eglwys yn Mai, 1864. Daeth Mr. David L. Davies, gynt o Hyde Park, Pa., yno yn ngwanwyn 1865, ac urddwyrd ef yn weinidog ar yr eglwys, Hydref 15, 1865. Bu ef yn gweinidogaethu yno am ddwy flynedd; pregethai yn Gymraeg a Saesonaeg; ac ymadawodd i Murphysboro, Illinois. Ar ei ol ef, yn Mai, 1869, cymerodd y Parch. David Lewis, o Illinois, ofal yr eglwys; a therfynodd ei weinidogaeth yno yn Mai, 1870. Eu gweinidog presenol yw y Parch. David Thomas, gynt o Lanfair Caereinion, Maldwyn, G.C. Adeiladwyd eu capel newydd hardd, 30 wrth 86 tr., yn haf y fl. 1870; traul, $1,600. Talant yr holl ddyled yn fuan, os nad ydynt wedi gwneyd cyn hyn. Aelodau, 42; Ysg. Sab., 50; cynulleidfa, 100. Diaconiaid, John S, Morgan; Isaac Jones, Ysgrifenydd.

vvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvv
(_270_) (y076·) Y GORLLEWIN PELL

9. GIVEN, Given P.O., Mahaska Co., Iowa. - Saif y lle yma tua 4 milldir i’r de o Oskaloosa Junction, ar y Des Moines Valley, R.R. Lle newydd ydyw yn nghanol coedwig. Gweithiau glo sydd yno hefyd. Mae yr Iowa Central R.R. yn croesi y reilffordd arall yno. Mae y gwaith glo tua chwarter milldir o’r crossing, Ffurfiwyd eglwys Annibynol yno yn 1867, gan y Parch. David L. Davies. Ond eu gweinidog presenol yw y Parch. David Lewis (Dewi Mynwy), gynt o Dredegar. Mae ganddo wraig a phump o blant. Pregetha mewn ysgoldy yno, ac yno yr oedd yn byw yn niwedd y fl. 1870. Diacon, Mr. Watkin Williams, gynt o Sir Aberteifi, D.C. Aelodau, 16; Ysg. Sab., 25; cynulleidfa, 30. Yn Tachwedd, 1870, yr oedd y penau-teuluoedd canlynol yn byw yno: - Ébenezer Williams a John Davies, o Ogledd Cymru; Watkin Williams, Aberteifi; David Morris, Rymney; Joseph Shelton, Nantyglo; William Jenkins, Morganwg; a David Evans, Cwmtwrch, Mynwy. Aed y fechan yn fil, a’r wael yn genedl gref. Cymry oll, 50.

10. MONROE, Georgetown P.O., Monroe Co., Iowa. - Gorwedda sir Monroe ychydig i’r de-orllewin o Mahaska Co. Nid oes ond tua 25 milldir o Oskaloosa, ac o Ottumwa, ar y reilffyrdd i Albia, prif dref y sir, lle mae pedwar neu bump o deuluoedd Cymreig yn byw; sef, John A. Edwards, miller; Stephan Lloyd, plasterer; Moses Edwards, miller; Morgan Edwards, miller; ac y mae Morris Baines, gynt o Lanerfil, Maldwyn, G.C., yn byw o fewn dwy filldir yno. Ond mae y sefydliad Cymreig tua thair milldir i’r gogledd o Tyrone Station, yr hwn sydd tuag wyth milldir i’r gorllewin o Albia, ar y “Burlington & Missouri R.R. ” Gwell yw disgyn yn Tyrone, a holi am Benjamin F. Jones, a Samuel Williams, y rhai sydd yn byw ar eu tyddynau o fewn dwy filldir i’r gogledd oddiyno. Pentref bychan yw Tyrone, ac nid oes Cymry yn byw yno; yn Albia y mae y Cymry yn masnachu fwyaf.

Sefydlwyr Cymreig cyntaf Monroe Co. oeddynt, Benjamin F. Jones, o Landysil, Sir Aberteifi, D.C., (ewythr i’r Dr. Pan Jones, frawd ei dad); Lewis Jones a David

vvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvv
(_271_) (y077·) TALAETH IOWA

Jones, o’r Gogledd; a Thomas Evans a William Griffiths, Sir Gaerfyrddin, D.C.; a David Thomas, o Pittsburgh, Pa.; daethant yno bron yr un amser - tua’r fl. 1854. Daeth Owen Thomas, o Langranog, a Watkin Williams, Sir Aberteifi, yno yn 1856; a John Williams, pregethwr gyda’r Annibynwyr, o Sir Gaer; a Wm. Phillips, o Ddeheudir Cymru, yn 1857; a Stephan. Lloyd, plasterer, o Sir Benfro, yn 1858, (claddwyd ef yno.) Daeth Morris Baines, o Lanerfil, G.C., a David James (hen lanc), o Sir Benfro, yr hwn sydd yn awr yn New Cambria Mo., yno yr un flwyddyn. Yn 1859 y daeth y personau canlynol yno: Thomas John, o Sir Gaer; Thos. Davies, ac Isaac Davies, ei frawd, a Wm. Davies, eu tad; a Richard Jones, Meirion, G.C. Prynasant diroedd y Llywodraeth am $1.25 yr erw, a thiroedd y speculators am o $5 i $8 yr erw. Tir da am borfa, ac at godi gwenith ac Indrawn, a digon o goed mewn manau cyfagos. Gwerthir y tyddynau diwylliedig yno yn awr am o $25 i $40 yr erw. Mae yno wlad dda ac iachus; ond blinder mwyaf y Cymry crefyddol sydd yn byw yno ydyw, fod gormod o lawer o Wyddelod Pabyddol yn eu hamgylchu; hyny a achosodd i lawer o honynt werthu eu tyddynau, ac ymfudo oddiyno i leoedd ereill mwy Cymreig a chrefyddol. Mae tua phymtheg o deuluoedd Cymreig yn byw yno eto, sef, 1. Thomas Beynon. 2. Thomas Watkins. 3. Thos. Evans. 4 Samuel Williams. 5. William Griffiths. 6. Benjamin F. Jones. 7. William Lewis. 8. Thomas Stephens. 9. Isaac Davies. 10. Thos. Davies, 11. William Davies. 12. Thomas Morgan. 13. William Williams. 14. Richard Jones. Dichon fod yno ac yn Albia tua chant (100) o boblogaeth Gymreig.

Yr Eglwys
ANNIBYNOL yn Monroe County, Iowa. - Ffurfiwyd yr eglwys yno yn haf y fl. 1856. Cyn hyny, pregethid Cymraeg a Saesonaeg mewn ysgoldai yno gan y Parch. John L. Richards. Bu ef yno am dri mis. Adeiladwyd y capel yn 1859 - 25 wrth 30 tr. - coed; traul, $750; dim dyled. Bu y bobl yn ffyddlon i weithio ac i gyfranu at y capel newydd, a chawsant lawer o fendithion ysbrydol ynddo . Bu y brodyr canlynol yn gweinidogaethu yno: - Thomas Mathews, Tudor Jones, David Knowles, a David Thomas. Nid wyf yn gwybod fod ganddynt weinidog yn awr. Diaconiaid - Richard Jones, a Thomas Evans. Aelodau, 20; Ysg. Sab., 25; cynulleidfa, 50.

vvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvv
(_272_) (y078·) Y GORLLEWIN PELL

11. BURLINGTON, Des Moines Co., Iowa. - Tref boblog a hardd yw hon, ar lan afon fawr y Mississippi, lle mae pont ardderchog a chadarn yn ei chroesi, ac yn cysylltu Iowa âg Illinois, dros yr hon y mae cerbydau y ddwy reillfordd nodedig, sef y “Chicago, Burlington & Quincy R.R.,” a’r “Burlington & Missouri R.R.” yn cludo teithwyr a nwyddau yn oestadol. Dyma lle mae prif swyddfa dirol y “Burlington & Missouri R.R.;” ac y maent wedi gwneyd darpariadau rhagorol at letya a diogelu ymfudwyr a fyddo yn bwriadu prynu a sefydlu ar eu tiroedd gwerthfawr yn Iowa a Nebraska. Diau fod yno rai Cymry yn byw ac yn masnachu; ond nid oes yno eglwys na chapel Cymreig.

12. Davenport, Scott Co., Iowa. - Dinas brydferth yw hon, yn cynnwys dros ugain mil (20,045), o wahanol genhedloedd, yn 1870. Saif ar lan orllewinol y Mississippi, gyferbyn a thref fywiog Rock Island, yn Illinois. mae ferry boats yn croesi o’r naill i’r llall yn wastadol; ac y mae pont fawr gadarn wedi ei gwneuthur dros yr afon, dros yr hon y mae cerbydau y “Chicago, Rock Island & Pacific Railroad” yn croesi o’r naill dalaeth i’r llall, sef Illinois ac Iowa. Lle iachus a bywiog ydyw. Mae ei heolydd a’i phalasdai yn codi i’r bluffs, ac yn edrych yn hardd yn y llwyni coed ar y bryniau. Mae yn Davenport rai Cymry parchus a chyfoethog yn byw er ys blyneddau, sef John L. Davies, Ysw., (Ex-Mayor) y ddinas. Lumber merchant yw ef; mae ei office ar corner of Replier & 4th streets. Yno hefyd y mae Mr. David M. Williams, carpenter, yn byw. Brawd yw ef i’r Dr. Williams, yn awr o Wilkesbarre, Pa. Ond nid oes yno nac yn Rock Island eglwys na chapel Cymreig.

13. DUBUQUE, Dubuque Co., Iowa. - Yr oedd yn y dref hon dros ddeunaw mil o bobl yn 1870. Saif ar lan y Mississippi, gyferbyn a Duleith yn Illinois; ac y mae y Chicago & Illinois Central R.R. yn rhedeg drwyddi i Fort Dodge, &c. Gellir myned iddi hefyd gyda yr agerddfadau o wahanol fanau ar yr afon. Mae llawer o weithiau plwm gerllaw y dref. Yno y mae y Parch. Tudor Jones a’i deulu, gynt o Utica, N.Y., yn byw;

vvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvv
(_273_) (y079·) TALAETH IOWA

a dichon fod yno amrai o Gymry ereill wedi sefydlu; ond ni chlywais fod yno eglwys na chapel Cymreig.

14. LIME SPRING, Howard Co., Iowa. - Dyma lle mae sefydliad Cymreig newydd a chynyddol. Terfyna sir Howard ar gyffiniau deheuol Minnesota; ac y mae Cymry y sefydliad hwn yn wasgaredig oddeutu terfynau y ddwy dalaeth, sef Iowa a Minnesota. Yr oedd amrai o Hollanders a Norwegians wedi sefydlu oddeutu yr Upper Iowa River, yn sir Howard, yn Iowa, ac yn sir Fillmore, yn Minnesota, er ys llawer o flyneddau; ond trigent mewn tai gwaelion, ac nid oeddynt wedi diwyllio llawer ar y tiroedd, ac yr oedd amrai o honynt yn hoff iawn o ddiodydd meddwol. Mae llawer o honynt yn bobl dda a chrefyddol gyda y Lutheriaid. Dechreuodd y Cymry sefydlu yno yn y fl. 1859. R. Jones a T. Evans, a’u teuluoedd, oedd y sefydlwyr Cymreig cyntaf yno. Yn 1860, daeth llanc o’r enw R. Thomas, a J. Williams, a J. Jones, a’u teuluoedd, i fyw yno; ac yn 1861, daeth D. Davies, a W. Davies, a’u teuluoedd yno. Ymfudodd yr oll yno o wahanol fanau yn Wisconsin. Bu y Parch. John D. Williams (T. C.,).o Proscairon, Wis., yn ymweled a’r ardal yn Mehefin, 1862, a phregethodd yn nhy John Jones. Dyma y bregeth Gymraeg gyntaf a draddodwyd erioed yn yr ardal am ddim a wyddom yn wahanol. Prynodd Mr. Williams dir yno y pryd hyny; ond yn Hydref, 1867, y prynodd y tyddyn, ac y symudodd ef a’i deulu o Wisconsin iddo i fyw. Saif ar derfyn y ddwy dalaeth, ac y mae wedi adeiladu ty da ger y goedwig yno. Yn yr adeg hono, prynodd y Parch. Daniel T. Rowlands (T. C.,) dyddyn yno, a symudodd ef a’i deulu yn y gwanwyn canlynol o dalaeth New York yno i fyw. Ganwyd ef yn Bethesda, Arfon, G, C. Yn y fl. 1868, daeth y Parch. Owen H. Morris a’i deulu o Blue Mounds, Wis., i fyw i’r ardal. Ganwyd ef yn Ffestiniog, Meirion, G.C. Yn y fl. 1869, daeth y Parch. John J. Evans a’i deulu o Welsh Prairie, Wis., yno i breswylio. Genedigol o Landdeiniolen, Arfon, G.C., yw efe. Mae y pedwar gweinidog parchus a enwyd yn byw ar eu tyddynau yno, ac yn cyd-ymdrechu er llwyddiant efengyl Crist yn yr ardaloedd

vvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvv
(_274_) (y080·) Y GORLLEWIN PELL

Bernir fod y boblogaeth Gymreig yno yn awr yn 500.

Eglwysi y
TREFNYDDION CALFINAIDD. - Sefydlasant dair o eglwysi, a chadwant Ysgolion Sabbothol, a phregethant mewn gwahanol ysgoldai cyfleus yn y gwahanol ardaloedd.: - 1. Foreston. - Aelodau, 99. Diaconiaid - H. Edwards, O. Williams, W. T. Lewis, a H. G. Jones. 2. Proscairon - Aelodau, 22. Diaconiaid - D. Davies ac R. Hughes. 3. Yorktown. - Aelodau, 44. Diaconiaid - W. Williams ac O. Humphreys. Pan oeddwn yno yn niwedd y fl. 1870, nid oeddynt wedi dechreu adeiladu yr un capel, ond addolent mewn gwahanol ysgoldai yno . Barnwyf fod hyny yn llwybr doeth, am fod yn anhawdd iddynt y pryd hyny wybod pa fanau a fyddai fwyaf cyfleus iddynt i godi addoldai i’r boblogaeth ddyfodol .

FORESTOWN oedd yr enw cyntaf a roddwyd ar y sefydliad Cymreig hwn. Pentref bychan oedd hwnw ar ochr orllewinol yr Upper Iowa River; a chodwyd melin flawd gyferbyn ag ef yr ochr arall i’r afon, a thri Cymro parchus ydynt ei meddianwyr, sef y Parch. John D. Williams, John ab Jones, Ysw., o Cambria, Wisconsin, a Mr. David Thomas, gynt o Cwmydail, ger Llanfair-caereinion, Maldwyn, G.C. Oddeutu y fl. 1867 yr agorwyd y reilffordd o McGregory i St. Paul; wedi hyny y dechreuwyd adeiladu tref newydd Lime Spring, yn yr hon y mae rhai masnachwyr a chrefftwyr Cymreig yn byw, ac y mae Cymry yr holl ardaloedd yn masnachu. Yno y mae y Station nesaf at y Cymry; ond nid oes yno eto nac eglwys na chapel Cymreig. Saif y dref fechan newydd hon ar yr reilffordd, o fewn tua milldir i’r gorllewin o hen bentref Lime Spring, a thua thair milldir i hen bentref Forestown. Symudwyd llawer o dai o’r hen bentref i’r dref newydd.

Yr
ANNIBYNWYR yn y sefydliad hwn. Mae amrai o deuluoedd cyfoethog a chrefyddol perthynol i’r Annibynwyr yn yr ardaloedd hyn; sef William Evans, a’i briod a’i deulu, gynt o Dyddyn y Plas, Soar, Machynlleth, Maldwyn, G.C.; John Howells, mab y Parch. Samuel Howells, (A.) Bark River, Wis.; David G. Thomas, miller; ac amryw o deuluoedd ereill sydd yn byw ar eu tyddynau i’r de o Forestown; ac y mae amrai ereill yn byw oddeutu Florence yn Minnesota, tua thair milldir i’r gogledd o Forestown.

Yn Gor. 1803, y Parch. John A. Jones, gynt o Glanrheidiol, ger Aberystwyth, D.C, a diweddar o Berlin, Wis., a dalodd

vvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvv
(_275_) (y081·) TALAETH IOWA

ymweliad a’r sefydlîad; pregethodd yn y boreu i’r Saeson yn Forestown, ac yn y prydnawn i’r Cymry yn Minnesota. Yn Meh. 1864, symudodd ef a’i deulu o Wis. i’r ardal hon i fyw, ac i gymeryd gofal gweinidogaethol yr eglwys Saesonig Bresbyteraidd, yn Forestown. Pregethodd yn y prydnawn i’r Cymry yn Minnesota, dan goeden, wrth dy John R. Williams; cwrdd anwyl a nefolaidd ydoedd hwnw. Saith o deuluoedd Cymreig oedd yno - sef y Parch. David Davies a’i deulu, gynt cenhadwr gyda’r Omaha Indiaid, yn Nebraska; diacon W. P. Davies, a’i deulu; John J. Jones, a’i deulu; John R. Williams, a’i deulu; Owen Jones a’i deulu; Richard W. Jones, a’i deulu; a’r Parch. J. A. Jones, a’i deulu. Yr oedd rhai o honynt yn Annibynwyr. Yn mis Tachwedd, 1864, daeth yr eglwys Seisnig Bresbyteraidd yn Forestown yn eglwys Annibynol, ac urddwyd y Parch. John A. Jones yn weinidog arni, Rhagfyr 14, y fl. hono. Pregethodd i’r Cymry a’r Saeson am dair blynedd, hyd ddiwedd 1867, pan y rhoddodd ofal yr eglwys Annibynol Gymreig yn Minnesota i fyny, ac y sefydlodd eglwys Gynulleidiaol Saesonig yn Florence, Cresco P.O., Howard Co., Iowa, gyda saith o aelodau; ond y mae ynddi yn awr 50 o aelodau, a chapel a chlochdy gwerth $4,000. Bu, ac y mae Mr. Jones yn gysurus a llwyddianus iawn yno. Mae amrai o Gymry parchus yn aelodau yn yr eglwys hono; ac yr oedd tebygolrwydd y buasai eglwys Annibynol yn cael ei sefydlu, a chapel yn cael ei godi, i’r deau rhwng Forestown a Lime Spring; gwell fuasai iddynt gael capel da yn Lime Spring ar unwaith, canys yno, ac oddeutu yno, y sefydla llawer o Gymry yn y dyfodol. Mae y brawd Jones yn pregethu yn aml i’r Cymry, ac yn gymeradwy iawn ganddynt fel Cristion da, a gweinidog ffyddlon; ac y mae efe yn gerddor da hefyd.

A ganlyn yw tystiolaeth y Parch. John D. Williams, (T.C.) am y tiroedd yn sefydliad Lime Spring: - “Mae y tiroedd yn dda a gwastad yn mhob man, hyd nes y deuir yn agos i’r afonydd; dim llawer o brinder coed, a gellir cael glô yn rhâd os bydd angen am dano; y dwfr yn dda iawn, ond braidd yn brin mewn rhai manau, ond cyflawnder o hono mewn manau ereill. Mae’n debyg ei bod yn wlad mor iachus ag un yn y byd; a gellir prynu y tir yn rhad, sef o $10 i $35 yr erw, yn ol gwerth y llafur a gymerwyd gydag ef.”

Mae digon o water power yn yr Upper Iowa River, a choed gwerthfawr oddeutu ei glanau, ac mewn manau ereill; a llawer o rolling prairies tra ffrwythlon oddeutu yno am filldiroedd; a sonir am gael reilffordd arall o Davenport, Iowa, heibio i Greuger, &c., i St. Paul, Minnesota. Bydd hono hefyd yn fanteisiol i’r sefydliadau

vvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvv
(_276_) (y082·) Y GORLLEWIN PELL

Cymreig yma. Mae tebygrwydd y bydd ugeiniau, os nad canoedd, o deuluoedd Cymreig yn ymfudo i fyw yno yn y dyfodol. Gallant gael cartrefi da iddynt hwy a’u plant yn Howard Co., ac yn y siroedd ereill oddeutu iddi. Mae y gauaf yn lled hir ac oer yno, am fod y sefydlydliad yn ngogledd-dir Iowa.

15. PETERSON, Clay County, Iowa. - Gorwedda y sir hon rhwng siroedd O’Brien a Palo Alto, yn ngogledd-orllewin talaeth Iowa, tu draw i’r Des Moines River, ac mae y Little Sioux River yn rhedeg o Minnesota drwyddi, heibio i Spencer, un o’i threfydd. Sefydlodd rhai Cymry yno yn niwedd y fl. 1864, ac ymfudodd llawer o Gymry o Wisconsin a Lime Spring, a manau ereill, yno ar ol hyny, ac y maent yn parhau i ymfudo yno. Gellir cael tiroedd rhad y Llywodraeth yno; ond tir lled doredig a digoed ydyw, er hyny y mae llawer o hono yn dir da a ffrwythlon. Diau y bydd y reilffordd o St. Paul, trwy Mankato, Minnesota, wedi ei chwbl orphen i Sioux City, Iowa, yn fuan; a bydd hono yn dyfod trwy Clay County, neu yn agos iddi. Gorphenir reilffoirdd arall o Dubuque, trwy Cedar Rapids a Fort Dodge, i Sioux City, hefyd cyn hir; a bydd hono hefyd yn dyfod yn agos iddi. Mae gan y Bedyddwyr Cymreig achos crefyddol bychan yn y lle hwn, a golwg obeithiol arno. Mae Thomas Evans, a T. Bevan, ac R. Roberts, ac ereill, yn byw yno. Nid yw yn mhell o Sioux Rapids.

16. RED OAK, Montgomery Co., Iowa. - Gorwedda y sir hon yn nghornel de-orllewin y dalaeth; y mae y “Burlington & Missouri R.R.,” yn rhedeg drwyddi, heibio i Glenwood yn Mills Co., a thros afon Missouri, i Lincoln, prif ddinas talaeth Nebraska. Pan fum yno yn Awst 1869, nid oedd Red Oak ond pentref bychan, yn cael ei amgylchu gan y tiroedd mwyaf hyfryd a ffrwythlon; gwair-diroedd bryniog a gwastad, a pheth coed gyda’r afonydd. Clywais fod rhai Cymry o Old Man’s Creek, a manau ereill yn Iowa, wedi sefydlu gerllaw yno yn ddiweddar; a bod y Parch. Cadwaladr D. Jones yn meddwl sefydlu yno. Mae yn y sir hon, ac yn siroedd Mills, Adams, Cass, Fremont, Page, Taylor

vvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvv
(_277_) (y083·) TALAETH IOWA

cyfagos iddi, filoedd o erwau o dir da a ffrwythlon gan gwmpeini y reilffordd a enwyd uchod, a chan y speculators, a gellir ei brynu am o $5 i $15 yr erw. Coed, $25 yr erw. Mae Cymro ieuanc, sef Wm. T. Davies, Ysw., yn gyfreithiwr enwog yn Glenwood, Mills Co., Iowa.


Ein llyfr ymwelwyr (kimkat0860k)
 
Archwiliwch y wefan hon
 
Adeiladwaith y wefan
 
Beth sydd yn newydd?

 

Dyddiad creu’r tudalen:  2012-02-19

Adolygiadau:2012-02-19

 

Sumbolau arbennig: əŷ

Ffeil gwreiddiol:



Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Gwefan "CYMRU-CATALONIA" (Cymráeg)
On sóc?
Esteu visitant una pàgina de la Web "CYMRU-CATALONIA" (= Gal·les-Catalunya) (català)
Where am I?
You are visiting a page from the "CYMRU-CATALONIA" (= Wales-Catalonia) Website (English)
Weər àm ai? Yùu àar víziting ə peij fròm dhə "CYMRU-CATALONIA" (= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait (Íngglish)
 

CYMRU-CATALONIA