Gwefan Cymru-Catalonia:
La Web de Gal·les i Catalunya
Wales-Catalonia Website
Dawn, Missouri
http://www.kimkat.org/amryw/1_alltudiaeth/america_missouri-dawn_2830k.htm
0001 Yr
Hafan kimkat0001
→ 1793k Y Cymry Alltud (Mynegai) kimkat1793k
→ 1343k Y Cymry yn
América kimkat1343k
→ 2792k
Talaith Missouri kimkat2792k
→
y tudalen hwn
(delwedd 7375)
Aquesta pàgina en català: no disponible
encara
xxxx This page in English kimkatxxxx
(delwedd 7794)
(delwedd 7796)
Y Cenhadwr Americanaidd 1867 tudalennau 21-22
(x21)
ARDAL DAWN,
Swydd Livingstone, Missouri.
Rhagfyr 8, 1866.
Dichon y byddai yn foddhaol gan rai o ddarllenwyr parchus y Cenhadwr gael
ychydig o hanes ardal Dawn, Mo., gan fod yma ychydig o Gymry wedi ymsefydlu o
wahanol barthau o’r Talaethau er’s blwyddyn yn ol, ac yn ddiweddarach na hyny;
ac y mae y Sefydliad hwn ar gynydd yn barhaus. Y mae amryw o Gymry yn rhagor yn
bwriadu dyfod i sefydlu yma o hyn i’r Gwanwyn, ac yr wyf yn credu y byddwn yn
ddigon lluosog yma i gynal moddion crefyddol yn yr iaith Gymraeg cyn bo hir.
Byddai yn dda genym weled i lawer o’n cenedl yn dyfod i ymsefydlu i’n plith,
fel y caffom gymdeithasu gyda ein gilydd, er lles y naill a’r llall mewn modd
crefyddol ac ymarferiadol.
Y mae deg o Gymry wedi prynu tiroedd yma yn barod, ac y mae Gôf Cymreig o
grefftwr da yn dyfod yma i fyw yn mhen pythefnos, ac y mae yma saer Cymreig
hefyd yn grefftwr da wedi sefydlu yma yn ddiweddar, ond y mae yma eisiau
ychwaneg o grefftwyr a masnachwyr. A’m barn ydyw y gallai y cyfryw rai wneud yn
dda yma, gan fod y wlad hon yn dir mor ffrwythlon a bras, ac yn wlad sydd yn
cynyddu mewn poblogrwydd a gwelliantau yn gyflym iawn, trwy fod cymaint o
ymfudiaeth yn dylifo yma o dalaethau eraill yn ddiweddar, er pan ddiddymwyd y
fasnach felldigedig ac anghyfiawn o gaethwasiaeth.
Os oes rhywrai eisiau dyfod yn mlaen yma i brynu tir, cynghorwn hwynt i wneud
brys, gan y gellir cael tir yma yn rhad iawn yn bresenol, ac o angenrheidrwydid
y mae yn rhwym o godi yn ei bris, gan fod cymaint yn dyfod yma i brynu tir o
fanau eraill — ac y mae wedi codi yn ei bris gryn dipyn er y gwanwyn diweddaf.
Gellir prynu tir yma heb ei ddiwyllio am o bedair i wyth dolar yr erw, sef tir
Cwmpeini y Rheilffordd yn fwyaf neillduol. Y mae y tir wyth dolar yr erw yn dir
rhagorol dda, ac y mae tir wedi ei ddiwyllio yn costio o ddeg i ugain dolar yr
erw yn ol yr ansawdd a’r cyfleusderau a phethau eraill.
Y mae gwaith glô yn y gymydogaeth hon, ac y mae yn troi allan yn llwyddianus
hyd yn hyn. Mae y glô hwn o’r math goreu, ac y mae cryn dipyn o hono wedi ei
gloddio allan o’r ddaear yn ddiweddar.
Y mae y cnydau gwenith a’r corn a chnydau
(x22) HANESIAETH GARTREFOL.
eraill wedi troi allan yn doreithiog yma yr haf diweddaf, ac y mae y gwenith
gauaf yn ymddangos yn rhagorol o dda yma yn bresenol; gellir codi cystal cnydau
yma ag a ellir yn un man arall.
Mae yr ardal hon yn lle iach iawn yn ol dim wyf yn wybod, ac y mae y Cymry sydd
yma yn cael iechyd da iawn. Nid wyf yn meddwl fod angenrheidrwydd i mi ddweyd
rhagor am yr ardal yn bresenol, gan fod Mr. Thomas Lewis wedi rhoddi hanes
ardal Dawn yn y CENHADWR am fis Ebrill diweddaf, ac felly yr wyf yn cyfeirio y
darllenydd at ysgrif Mr. Lewis i gael hanes ychwanegol am y lle hwn; ac os
dygwydd rhywbeth yn yr ardal yn y dyfodol yn deilwng o’i wneud yn hysbys,
ymdrechaf fi neu eraill anfon hyny i’w gyhoeddi yn y CENHADWR.
THOS. J. OWEN, Dawn, Mo., gynt o Newark, Ohio.
(delwedd 7800)
...
...
(delwedd
7801)
...
(delwedd
7803)
...
(delwedd
7805)
...
(delwedd
7807)
...
DIWEDD
Adolygiad diweddaraf:
05-03-2011
Sumbolau arbennig: ŷ ŵ
Ble’r wyf i? Yr ych
chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan "CYMRU-CATALONIA" (Cymráeg)
On sóc? Esteu visitant una
pàgina de la Web "CYMRU-CATALONIA" (= Gal·les-Catalunya) (català)
Where am I? You
are visiting a page from the "CYMRU-CATALONIA" (= Wales-Catalonia) Website
(English)
Weə-r àm ai? Yùu àa-r víziting ə peij fròm dhə
"CYMRU-CATALONIA" (=
Weilz-Katəlóuniə) Wébsait (Íngglish)
Archwiliwch y wefan hon
---
Adeiladwaith y wefan
---
Gwaith cynnal a chadw
Cysylltwch
â ni trwy’r llyfr ymwelwyr: YMWELFA
CYMRU-CATALONIA