Gwefan
Cymru-Catalonia:
La Web de Gal·les i Catalunya
Y Cymry yn yr Unol Daleithau: sefydliad Gwalia Deg
http://www.kimkat.org/amryw/1_alltudiaeth/america_nebraska-gwalia-deg_2781k.htm
0001 Yr Hafan kimkat0001
→ 1343k Y Cymry yn
América kimkat1050e
→ y tudalen hwn
(delwedd 7375)
Aquesta pàgina en
català: no disponible encara
2781k Y tudalen
hwn yn Gymraeg kimkat2781k
Pe buasai dolen gyswllt ar gyfer tudalen arall yn y wefan
hon yn methu am ryw reswm, gellir dod o hyd i’r tudalen trwy gyfrwng. Teipiwch
kimkat ac wedyn rif y tudalen – er enghraifft, i ddilyn y ddolen gyswllt
1276k, chwiliwch am kimkat1276k
-------------------------------------------------------------------------------------------------------------
Yr oedd Gwalia Deg yn sefydliad
Cymreig yn Nebraska a ddaeth i fodolaeth yn y flwyddyn 1871 pan ddaeth y Cymry cyntaf (gweler eitem 10
isod); ac fe’i bedyddiwyd yn “Gwalia Deg”gan ddau weinidog o Gymry o Ohio yn
1876, R. R.
WILLIAMS o Cincinnati, a DAVID JONES o Gomer.
.....
Y mae sôn am sefydliad Gwalia Deg yn “Y
Cenhadwr Americanaidd” ym mis Ionawr
(delwedd 7622)
(delwedd 7623)
....
(delwedd 7710)
(delwedd 7711)
(delwedd 7706)
(delwedd 7712b)
Dyma erthygl Ionawr 1878, ynglŷn â’r cyfeiriad ati
yn y mynegai, a’r banernod (wedi eu rhoi at ei gilydd yn y delwedd isod)
(delwedd 7619)
1
(delwedd 7617b)
GWALIA DEG,
SEFYDLIAD CYMREIG YN NEBRASKA.
O'r Tyst a'r Dydd Rhag. 6ed y cymerwyd yr Erthygl isod — meddyliasom y bydd ei
darlleniad yn ddyddorol hefyd i lawer yn y CENHADWR. - GOL.
Yn gymaint a bod y pwnc o ymfudiaeth dan sylw ein cenedl yn ngwlad ein
genedigaeth, crefwn gyfleustra i osod ger eu bron hawliau am y gymydogaeth a
alwn yn "WALIA DEG.” Dywedwn air ar
2
(delwedd 7617c)
LEOLDEB Y
DALAETH.
Gorwedda Nebraska rhwng y 40° a'r 43° o gyhydedd gogleddol y ddaear, a rhwng y
95° a'r 104° o hydred gorllewinol o Greenwich. Terfynir hi ar y gogledd gan
Dakota, ar y gorllewin gan Wyoming a Colorado, ar y deheu gan Colorado a
Kansas, ac ar y dwyrain gan yr afon Missouri; a chynwysa 60,000,000 o erwi o
dir da at amaethyddiaeth.
3
(delwedd 7617d)
LLEOLDEB
GWALIA DEG.
Gorwedda ein sefydliad yn un o ranau deheuol y dalaeth; o ganlyniad yr ydym yn
nghymydogaeth y 40°. Yr ydym agos a bod yn yr un llinell a Rhufain. y ddinas
dragywyddol, ar lan y Tiber, yn yr Eidal, enwog am ei pher-awelon a'i hwybren
oleu; y llinell hefyd y mae Philadelphia ynddi — y ddinas dlysaf ac iachusaf ar
gyfandir mawr y gorllewin — y llinell a gymer i fewn y rhan hyfrydaf yn y Gwregys
Cymhedrol. Rhed y llinell hon trwy ardaloedd y gwinllanoedd — y pêr lanoedd a'r
gerddi dymunol.
4
(delwedd 7617e)
ARWYNEB Y
WLAD.
Cawn yma gorff o ddaear, am fwy nag 20 milltir yn mhob ffordd, o'r aruchedd
mwyaf cyfleus i'r amaethwr. Dywedir am dir aml i ardal, mai tonawg (undulating)
ydyw, ond tonau toredig y môr mewn ystorm ofnadwy fyddant; ond wrth edrych ar
diroedd GWALIA DEG, tra y dywedwn yn briodol ei fod yn donawg, ymchwyddiad
graddol rhanau helaeth o'r cefnfor a ganfyddwn. Fel peth cyffredin, medr yr
amaethwr aredig pob modfodd o'i ffarm, ac yn adeg y cynauaf gall ddefnyddio y reaper
a'r mower, a'r holl beirianau amaethyddol dros y cwbl oll, heb
deimlo un anhawsder.
5
(delwedd
FFRWYTHLONRWYDD Y TIR.
Mae y pridd o liw tywyll — nid y pygddu, ond y gwineuddu (brown black),
y cwbl yn hollol rydd oddiwrth geryg a dyrysni, ac yn addas i gynhyrchu yd a
gwair. Pan aredir y tir y waith gyntaf, plenir y corn ar y sod a
chyfrifir 30 bushel yr erw yn gnwd da — bydd rhai yn cael cymaint a 40 bushel.
Rhydd y State Agricultural Society y cyfrif a ganlyn o fushels ar
yr erw o dir diwylledig, yn ei hadroddiad am 1870: - Gwenith 25, corn 75,
ceirch 60, haidd 50, cloron 300. Dywed y State Board of Commissioners of
Immigration yn eu hadroddiad diweddaf, fod cywarch a llin (hemp and flax)
yn talu yn odidog; fod y llin yn gnwd buan; y bydd i’r amaethwr dderbyn y budd oddiwrtho
yn mhen tri mis ar ol gosod yr hâd yn y ddaear, ac y cynhyrcha o 15 i 22 bushel
o hâd llin ar yr erw.
6
(delwedd 7617g)
TREES
They are to be found by the streams; but on the prairie it will be necessary to
plant them, and they grow remarkably quickly, where this has been tried (“where
the test has been done”). An experienced farmer said to us that if we planted osage,
which is similar to white hawthorn in the old country, and if we looked after
it, we would have a hedge in three years which will turn away any animal (“will
turn any animal”). And as for wood for building houses, we get plenty of it
from the town of Harvard next to us, for almost the same price which is paid in
Chicago. As for fuel, coal is obtainable from the station in Harvard, and when
the St. Joe and Denver Railroad is completed, coal will come to us from
Colorado at a much lower price than what is obtainable at present.
7
(delwedd 7617h)
DWFR
Ceir digonedd o hono yn mhob lle wrth dyllu. Daw tri dyn atom ar ben boreu, a
gosodant yr ebill ar waith, ac ar ol myned i'r dyfnder o 40 i 80 troedfedd,
tarawant yn gyffredin ddigonedd o ddwir meddal, na ddihysbyddir mo hono.
Gorphenant yr holl waith mewn un diwrnod, am bris o 75 i 80 cent y droedfedd.
8
(delwedd 7617i)
MARCHNADFA.
Gorwedda Gwalia Deg ar un o brif ffyrdd y genedl o fôr y Werydd hyd y môr
Tawelog. Os awn i San Francisco deuwn i gyffyrddiad âg ynysoedd y môr, yn nghyd
â'r dwyreinfyd mawr. Os awn tua dwyrain yr Unol Dalaethau, gallwn groesi y
llynoedd a tharo y Werydd ar dueddau America Brydeinig, a dyfod i gyffyrddiad â
hen wledydd cyfoethog Ewrop. Yn Plattesmouth a St. Joe, gallwn gymeryd yr afon
fawr Missouri, yr hon sydd yn llongwrol am 4000 o filltiroedd, a chael marchnad
yn y trefi a'r dinasoedd mawrion yr awn heibio iddynt, a chawn trwy Lynclyn
Mexico fynediad i America Ddeheuol, a chyffwrdd â Brazil, a'r Argentine
Republic, a chludo hefyd ddefnydd cynaliaeth i'r Patagoniaid, os deuant rhyw
bryd i gyfyngder. Amlwg yw y bydd marchnad y byd yn agored i ni, a gallwn hefyd
fabwysiadu geiriau Zachary Taylor, "Ein bod mewn heddwch â'r byd, ac â’r
lleill o ddynolryw." Ond os dywed y darllenydd fod y farchnad uchod yn rhy
eang a chyffredinol, dywedwn fod y Reilffyrdd yn creu marchnad wrth ein drysau.
9
(delwedd 7617j)
Y DRAUL I
DDYFOD ATOM
Gall ein cenedl yn yr hen wlad gael allan y draul o Lerpwl i New York. Bydd y
draul o New York i Lincoln, prif ddinas Nebraska, yn $28,60, a chyda’r express
yn $44,45, ac ar ol cyrhaedd Harvard, taith 3 neu 4 awr o Lincoln, byddwch yn
NGWALIA DEG, ac os bydd yma gan y llywodraeth dir heb ei gymeryd, gall pob dyn
21 mlwydd oed, a phob merch yn gystal a’r mab fyddo yn yr oed uchod, ond datgan
eu bwriad i fod yn ddinasyddion, gymeryd 80 erw yn rhad, ond tebyg yw, na symud
y Cymry yn ddigon buan i gael y fraint hon; yna yr unig gyfleusdra fydd tiroedd
y Rheilffordd. Gwerthir ganddynt o 15 o ddoleri i 5 yr erw, a 10 mlynedd i dalu
ar lôg o 6 y cant; ac os telir y cwbl ar unwaith, gostyngir y pris 20 y cant,
sef un rhan o bump. Mae yr amodau hyn yn hynod o esmwyth. Os bydd rhai yn
ngwlad ein tadau yn cael ar eu meddwl i ddyfod yma, gallant alw yn Swyddfa y
Burlington Route, yn 16 South Castle-street, Lerpwl, a gwneyd yr holiadau a
farnant yn briodol yno. Deuwch ar unwaith, gallwch yn awr gael dewisol diroedd.
Cewch yr efengyl yma ar unwaith yn yr hen iaith, a chewch ysgolion o radd uchel
i’ch plant. Cewch wlad iach, a gwlad a ddaw yn gyfoethog, fel y gallwn wrth
ddiweddu ddefnyddio geiriau Montgomery –
“The wandering mariner, whose eyes explore
The wealthiest isles, the most enchanting shore,
Views not a realm so bountiful and fair,
Nor breathes the spirit of a purer air.”
R. R. WILLIAMS, Cincinnati, O.
DAVID JONES, Gomer.
Dyma erthyglEbrill 1878, ynglŷn â’r cyfeiriad ati yn y mynegai, a’r
banernod (wedi eu rhoi at ei gilydd yn y delwedd isod)
(delwedd 7620)
10
(delwedd 7618b)
GWALIA DEG.
Parch. R. Everett, D. D., — Hynaws Olygydd, — Mae cynydd mawr wedi bod yn swydd
Clay, Neb., er pan aethum yno gyntaf; lle gwyllt ac anial ydoedd y pryd hwnw,
heb na R. R., na chwrdd, nac ysgol ddyddiol na Sabbothol. Yn awr mae yno bedair
o eglwysi wedi eu sefydlu, pedair o ysgolion Sabbothol ac amryw ysgoldai. Pan
aethum yno gyntaf yn Gorphenaf 1871, nid oeddwn yn gweled yr un ty am 24
milltir, wrth deithlo i fy nghyhoeddiadau o Sutton i'r Little Blue. Barnai
eraill a fy hunan ein bod yn gallu cyfrif 32 o dai newyddion ar un olwg ar y
Prairie yr Hydref diweddaf. J. Llewelyn a fy hunan ydoedd unig frenhinoedd
Cymreig y wlad yr amser hwnw. Yn awr mae yno amryw deuluoedd Cymreig pur,
diledryw.
11
(delwedd 7618c)
Oddeutu
blwyddyn yn ol daeth y ddau frawd anwyl o Cincinnati a Gomer yno. Pregethasant
yr hen efengyl gyda nerth a dylanwad mawr yn Gymraeg a Saesoneg. Enwasant y
wlad yn "Gwalia Deg," ac aethant adref at eu teuluoedd a'u heglwysi.
Dychwelasant drachefn gan draddodi gair y bywyd fel pe byddent o dan yr
eneiniad sanctaidd. Mae rhagor o le i amaethwyr a chrefftwyr yn Gwalia Deg, gyda
manteision crefyddol yn yr iaith Gymraeg.
12
(delwedd 7618d)
Dyfynaf gyfarchiad gan y Parch. D. Knowles i mi pan yn llafurio yno fel
cenhadwr yr haf diweddaf: —
“Boed llwyddiant a noddiant y nefoedd
Yn aros ar Gwalia Deg mwy;
Doed dynion a'u da lon deuluoedd
I’w gwaenoedd, a Duw gyda hwy.
Hir iechyd a bywyd i'w bugail,
Fy mrawd hoff ac araul, a'i dŷ,
Boed iddynt drwy hoff Geidwad Israel,
Y fraint o wel'd llwyddiant y llu.”
Eich ewyllysiwr da hyd byth,
Florenceville, Iowa. J. A. JONES.
....................................
Yn y llyfr "The History of the Welsh in Minnesota, Foreston and Lime
Springs, Iowa" (1895) mae sôn am y Parchedig John A. Jones a gwladychfa
'Gwalia Deg' yn nhalaith Nebraska.
Dyma a ddywedwyd amdano:
"Rev. John A. Jones Born at Rheidiol (sic), near
Aberystwyth, Cardiganshire, Wales, in the spring of 1828. His parents, John and
Catherine Jones, removed when he was a child, to a farm called Nantyrhydd near
Nanteos. This was also the home of Rev. Thomas Edwards, Dr. Lewis Edwards and
the eminent Welsh musician Ieuan Gwyllt..."
Ac ar ôl iddo fynd i fyw i
America:
"He preached in English to the Foreston church every Sunday morning and in
Welsh to the few Welsh families at Bristol Minnesota, in the afternoons. The
only Welsh families then in that now populous Welsh settlement were: David J.
Davies, William Davies, J. Jones, John R. Williams, Owen Jones, and Richard W.
Jones. His next move was to Floranceville, nine miles south of Foreston, where
he organized a church of nine members. Before he left the membership increased
to fifty and a church edifice was built at a cost of $4,000. He was sent in
1871 by the Home Missionary Society to Nebraska and there organized an English
church and helped to found the Welsh settlement of "Gwalia Deg". In
1874 he removed to Salem, Neb., where he labored with great success for six
years. In 1880 the Home Missionary Society sent him to California and he
ministered two years in Calaveras county, then at South Vallejo and Crockett.
.......................
Ym mis Awst 2008 buom ar daith o Iowa i Colorado, gan alw heibio i Ganolfan
Treftadaeth Gymreig y Gwastadeddau Mawr yn Wymore, Swydd Gage, , Nebraska. .
Buom yn awyddus i ymweld â Gwalia Deg, heb wybod yn union ym mha swydd yr oedd.
Erbyn hyn y gwyddom taw yn Swydd Clay y mae.
Y pryd hwnnw cawsom ar ddeall ei bod o bosibl yn Swydd Hitchcock, ar
bwys tref Trenton. Dyma ddau fideo o’n hymgais i ddod o hyd i’r pentref – – yn ofer, ond cawsom hyd i gerrig beddau
arloeswyr o Gymry yng ngorllewin y dalaith.
http://www.youtube.com/watch?v=DVfUk1qbLFc
15-09-2008 RHAN
1
http://www.youtube.com/watch?v=bCgbzVOCPFg
15-09-2008 RHAN 2
Nid oes gennym ragor o wybodaeth am Gwalia Deg ar hyn o bryd (12 Ionawr 2011).
Gobeithiwn gael y cyfle i ymweld â Nebraska rywbryd eto cyn hir o dro i gael
teithio o gwmpas Swydd Clay.
.....
NODYN AR YR
ENW GWALIA DEG
Yr oedd y gair Gwalia [GWAL-ya] yn ffefryn gan Gymry’r ddeunawfed ganrif am eun
gwlad.
Mewn dogfennau Lladin a ysgrifennwyd gan y
Ffrancwyr Normanaidd a’r Saeson defnyddiwyd y ffurf Wallia, Lladineiddiad o’r
gair Saesneg Wales.
Anglia oedd yr enw ar Loegr mewn Lladin canoloesol (fe’i ceir yn yr enw am
ranbarth o Loegr sef East Anglia). Fe ddefnyddiwyd yn wreiddiol yr enwau Anglii
(yr Angliaid) ac Anglia (tiriogaeth yr Angliaid) gan ysgrifenwyr Lladin i
gyfeirio at lwythau Germanaidd Gorllewinol yn gyffredinol. Wdyn daeth yn
arallair am y gair Saesneg Angelcynn (Angle-kin, ceraint yr Angliaid, ac yr
oedd iddo ddau ystyr: (i) yr Angliaid fel pobl, a (ii) gwlad yr Anliaid, sef
Lloegr.
Lladineiddiwyd yr enw Saesneg Cornwall gan
ysgrifenwyr Lladin Canoloesol fel Cornwallia (dan ddefnyddio y terfyniad Lladin
i ddynodi gwlad -–ia ).
O bosibl cafwyd Wallia o ddynwared y ffurf
Cornwallia.
Ceir yn yr enw Wallia y sillaf gyntaf o’r enw
Saesneg Wales, sef wal- [wal].
(Sillaf hir a fyddai’r ‘a’ wedi bod mewn gwirionedd - [waal-] – a ddaeth
wedyn yn ddeusain yn yr iaith gyfoes,
[weil-]).
(Nid at le yr oedd yr enw Wales yn cyfieirio ar y cychwyn; enw pobl yw, ffurf
luosog ar air Hen Saesneg ac iddo’r ystyr “rhai sydd heb fod yn debyg i ni,
estroniaid”. Wedyn daeth yn enw ar wlad y bobl hyn – “[gwlad yr] estroniaid”)
Addaswyd yr enw Wallia gan feirdd canoloesol o Gymry Welsh â dodwyd arno wisg
Gymraeg. Fel y gwyddom, mae ‘w’ gynchwynnol yn y Gymraeg yn anad dim canlyniad
i’r treiglad meddal, lle mae’r “g” gychwynnol wedi diflannu. Felly “gwynt”, ond
“melin wynt” (treiglad meddal ar ansoddair neu enw cyfyngol ar ôl enw unigol
benywaidd).
Felly yr arfer oedd rhoi ‘g’ gychwynol
i’r fath eiriau i’w Cymreigio.
Enghreifftiau o eiriau a fenthyciwyd o’r Saesneg a’u haddaswyd:
Hen Saesneg [wal] a ddaeth yn “gwal”,
Saesneg Canol [wast] (= rhan ganol y corff) a
[wast] (= ysbwriel): y ddau wedi mynd yn “gwast”.
Yn yr un modd felly aeth Lladin Wallia yn Gwalia
yn Gymraeg.
(Ni wiethredir y rheol hon heddiw, wrth gwrs, gyda’r eiriau sydd yn dod i mewn
i’r iaith o du’r iaith Saesneg – wel (y gair llanw o’r Saesneg well,
= yn dda) a wal (Saesneg
wall), sydd wedi cymeryd lle yr hen ffurf Gymraeg gwal..
Yn oes Victoria yr oedd Gwalia yn enw poblogaidd barddonol am Gymru. Heddiw mae
sawr yr hen oes arno a thinc go-romantaidd iddo.
END / DIWEDD
Latest update / Adolygiad diweddaraf: 22.30 12-01-2011
Sumbolau arbennig: ŷ
ŵ
Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag
un o dudalennau'r Gwefan "CYMRU-CATALONIA" (Cymráeg)
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web
"CYMRU-CATALONIA" (=
Gal·les-Catalunya) (català)
Where am I? You
are visiting a page from the "CYMRU-CATALONIA" (= Wales-Catalonia) Website
(English)
Weə-r àm ai? Yùu àa-r víziting ə peij fròm dhə
"CYMRU-CATALONIA" (=
Weilz-Katəlóuniə) Wébsait (Íngglish)
Search this website Archwiliwch y wefan hon
---
Structure of teh website Adeiladwaith y wefan
---
Maintenance of the website Gwaith cynnal a chadw
Cysylltwch â ni trwy’r llyfr ymwelwyr: YMWELFA
CYMRU-CATALONIA