03-05-2017 1793k Gwefan Cymru-Catalonia / la Web de Gal·les i Catalunya
– Tudalen Mynegeiol yn cyfeirio at dudalennau sydd yn sôn am y Cymry alltud, a
gwladféydd a sefydliadau Cymreig yng ngweddill y byd
● kimkat0001 Yr Hafan www.kimkat.org
● ● kimkat2001k Y Fynedfa Gymraeg www.kimkat.org/amryw/1_gwefan/gwefan_arweinlen_2001k.htm
● ● ● kimkat2854k Cyfeirddalen y Cymry Alltud www.kimkat.org/amryw/1_alltudiaeth/alltudiaeth_cyfeirddalen_2854k.htm
● ● ● ● kimkat1793k
Cyfeirddalen y Cymry yn América www.kimkat.org/amryw/1_alltudiaeth/america_y_cymry_yn_america_mynegai_1793k
● ● ● ● ● Y tudalen hwn: Pennsylvania
|
Gwefan Cymru-Catalonia |
|
xxxx
xxxx
SWYDDI BRADFORD A TIOGA
)
(delwedd 4824)
SEFYDLFA
CYMREIG BRADFORD.
Y
Sefydlfa hon sydd a rhan o honi yn swydd Bradford a rhan yn swydd Suaquehanna,
Pa., - 20 milltir i’r De o Owego, cymaint a hyny o Montrose, a chymaint a hyny
hefyd o'r Towanda; mae ynddi tua deugain o deuluoedd o Gymry. Nid hawdd hysbysu
ei hyd a’i lled; ond y mae y Cymry, y rhan amlaf o honynt, yn lled gryno gyda
eu gilydd. Yn nghylch y tir, afreidiol yw dyweyd wrth y rhai sydd arferol a
theithio y dalaith yma - ei fod yn amrywio, gwastad ac anwastad. Nid yw y tir
coed yn helaeth iawn yma; mae yr ardal yn lled iachus, y dwfr yn dda. Pris y
tir coed yw o dair a haner i bedair dolar yr erw. coed yw maple, hemlock, beech, &c. Mae 4 neu 5 o felinau llifio yn
perthynu i’r Sefydlfa - dwy o honynt tua chwe' milltir oddi yma. Codir llafur
lled dda yma fynychaf; ond mwy naturiol yw y tir at wair a phorfa. Mewn gair
mae y Cymry yn gwneud yn lled dda yma - eu rhifedi yn fawrion ac yn fychain
sydd tua dall cant a haner.
Mewn
perthynas i bethau crefyddol gallwn ddyweyd ei bod yn lled gysurol yn bresenol,
trwy drugaredd. Mae yma ddwy eglwys - un yn perthyn i'r Henaduriaethwyr ac un
i'r Annibynwyr. Ychydig o hanes y ddiweddaf wyf yn fwriadu ei roi, gyda dywcyd
un gair - y mae yn perthyn i’r un Henaduriaethol o bymtheg i ugain o aelodau,
ac y mae yn perthyn i'r un Annibynol oddeutu deugain o aelodau. Y mae y
cydweithrediad goreu yn bresenol a welais un amser o’r blaen; y mae gyda ni rai
o’r hen Fethodistiaid a rhai o'r Bedyddwyr, arwydd o berffaith undeb rhyngom
oll, a phob enaid n gwaeddi, “Parhaed brawdgarwch.” Nid oes un ychwanegiad wedi
bod yn ddiweddar iawn; eto tua blwyddyn yn ol, fe chwanegwyd at ein heggwys ni
rai personau; ac un peth, ein Hybarch Olygydd a’n Brawd anwyl, sydd o gryfder
neillduol i'r achos yma, fod tafodau rhai ag oedd fel wedi glynu wrth daflod eu
genau wedi cael eu gollwng yn rhydd i alw ar enw yr Arglwydd, a chanmol
goludoedd gras, sef y chwiorydd; pan y bernir gan rai nad yw ddim yn
gyfreithlon iddynt wneud hyny yn gyhoeddus, eto ymdrechant. ymaflant yn ngrym
yr addewidion, a chan nas gall yr Arglwydd ddim gwadu ei hun, y mae arwyddion
neillduol o bresenoldeb Duw yn eu cyfarfodydd.
Trefniadau
ein cyfarfodydd sydd fel y canlyn: y mae cwrdd pregethg bob bore Sabboth, ysgol
am ddau; cwrdd gweddi a society bob
yn ail wythnos; cwrdd gweddi y chwiorydd bob yn ail nos Fawrth. Mae yn rhaid
tynu tua therfynu, gan ddymuno llwyddiant i chwi a'r Cenhadwr. Wyf yn dychwelyd
fy niolchgarwch i chwi am fy anrhegu â'r Dyngarwr.
DANIEL
JONES. Bradford. Mehefin 23, 1843.
(delwedd 4906)
...
Sumbolau:
ā ǣ ē ī ō ū / ˡ
ɑ æ ɛ ɪ ɔ ʊ ə ɑˑ eˑ iˑ oˑ
uˑ ɑː æː eː iː oː uː / ɥ / ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ əɪ ɪʊ aʊ
ɛʊ əʊ / ә ʌ ŵ ŷ ẃ ŵŷ
ẃỳ ă ĕ ĭ ŏ ŭ ẁ ẃ
ẅ Ẁ £
---------------------------------------
Y TUDALEN HWN: www.kimkat.org/amryw/1_alltudiaeth/america_pennsylvania_0096k.htm
---------------------------------------
Creuwyd: 11-04-2017
Adolygiad diweddaraf : 11-04-2017
Delweddau:
---------------------------------------
Ble'r
wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web CYMRU-CATALONIA (=
Gal·les-Catalunya)
Where am I? You are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (=
Wales-Catalonia) Website
Weə-r äm ai? Yüu äa-r víziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA
(= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait
____________________________________
Adolygiad Diweddaraf /
Latest Update: 2004-03-04,
2007-04-16
kimkat.org/amryw//america_y_cymry_yn_america_pennsylvania_0096k.htm
Ble'r wÿf i? Yr ÿch chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Gwefan
"CYMRU-CATALONIA"
On sóc? Esteu visitant una pàgina of the Web "CYMRU-CATALONIA" (=
Galles-Catalunya)
Where am I? You are visiting a page from the "CYMRU-CATALONIA" (=
Wales-Catalonia) Website
Weø(r) àm ai? Yùu àa(r) víziting ø peij fròm dhø "CYMRU-CATALONIA" (=
Weilz-Katølóuniø) Wébsait
DIWEDD