(Blwyddyn 1840) Bum yn ymddyddan ag un yn ddiweddar, yr hwn a fu yn teithio drwy yr ardaloedd lle y mae y Welsh Indians yn cyfaneddu. Darfu iddo addaw anfon ychydig o’u hanes, ond yr wyf heb ei dderbyn eto. Dywedodd wrthyf eu bod yn trigfanu rhwng dau a thri chant o filltiroedd o Santa Fe i’r gorllewin, a’u bod yn byw mewn tyau cerrig, ac yn codi amryw ffrwythau, a chanddynt anifeiliaid lawer. 2706k

http://www.kimkat.org/amryw/1_alltudiaeth/america_yr_indiaid_cymreig_1_2706k.htm


0001z Yr Hafan / Pàgina inicial

..........
1861c Y Fynedfa yn  Gatalaneg / Entrada en català

....................
0008c Y Barthlen / Mapa de la web

 

......................... 1793k Cyfeirddalen y Cymry Alltud

......................................y tudalen hwn



baneri
.. 


Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Gal·les i Catalunya
Wales-Catalonia Website

 

Yr Indiaid Cymreig – testunau o hen gylchgronau
 
 


 


(delw 7311)

 

 

CYNNWYS:
(1)
Yr Indiaid Cymreig
1840
(2) Taith Americanaidd 1843

____________________________________________________

 

(1) Yr Indiaid Cymreig
Y Cyfaill Cyfrol 3, Rhif 35, Tachwedd 1840, tudalen 331

 

BARCH OLYGYDD, - Gwelais ar glawr y Cyfaill, am fis Mai diweddaf, ymofyniad am ychydig o hanes llwyth o Indiaid a elwir Nabihoes. Ychydig o hanes a allaf fi ei roddi am danynt yn bresennol. Yr ydwyf wedi bod yn ymddyddan a llawer o’r rhai ag sydd wedi eu gweled yn Santa Fe; ond y mae yn debygol nad y rhai hyn yw yr Indiaid Cymreig.

 

Bum yn ymddyddan ag un yn ddiweddar, yr hwn a fu yn teithio drwy yr ardaloedd lle y mae y Welsh Indians yn cyfaneddu. Darfu iddo addaw anfon ychydig o’u hanes, ond yr wyf heb ei dderbyn eto. Dywedodd wrthyf eu bod yn trigfanu rhwng dau a thri chant o filltiroedd o Santa Fe i’r gorllewin, a’u bod yn byw mewn tyau cerrig, ac yn codi amryw ffrwythau, a chanddynt anifeiliaid lawer.

 

Y mae yn debyg fod ymddadlau yn eu cylch. Tòrir y ddal yn fuan. Y rhesymau a allaf fi eu rhoddi i brofi hyny ydyw mudoliaeth y trigolion i gyfaneddu y wlad lle y mae ein cenedl yn byw. Pan y byddo gwlad newydd i’w meddiannu, y mae llawer o siarad am dani.

 

Pan oeddych chwi a minau yn yr Hen Wlad, a chlywed siarad am America, yr oeddem yn meddwl, dim ond cael mediannu y wlad, y buasai agos yn nefoedd y ddaear.

 

Felly y mae gyda llawer am Califfornia a Thiriogaeth Oregon. Y mae yn debygol oddiwrth hanes y wlad hono, ei bod yn rhagori ar unrhyw barth o’r Unol Daleithiau, o ran ei thymhorau, cyfoethogrwydd y ddaear, &c., fel y gwelais yn yr iaith arall, ‘It is the garden spot of the earth: it is the Paradise of North America.’

 

Eto llawer o siarad ac ysgrifenu sydd wedi bod yn nghylch yr Indiaid Cymreig, heb wneyd dim. Dau beth ydyw siarad a gwneyd. Siarad ydyw bwriadau – gwneyd ydyw cyflawni. Eto, i’r dyben o wneyd, byddai yn dda i’r Cymry gymeryd hyn at eu hystyriaethau, sef dyfod i wybodaeth gyflawn o’r Madogiaid.

 

Gwrionedd yw – anfonwyd Cymry o Steuben bymtheg neu un-ar-bymtheg mlynedd yn ol: Daethant i St. Louis, ac yno troisant yn eu holau. Pe buasai y gwyr hyny yn dyfod i fyny afon Missouri i dref Independence, ac oddiyno i Santa Fe, ac oddiyno i California, i blith amryw lwythau Indiaidd sydd yn cyfaneddu yno: a dyfod newyddion oddiyno, yn cadarnhaol (sic – didreiglad) neu yn nacaol, buasai hyny yn tòri y ddadl.

 

Oddeutu tair blynedd yn ol yr oedd yma yn agos i gant o deuluoedd wedi ymgyfammodi a’u gilydd i fyned i ymsefydlu yn rhyw ran o Califfornia Newydd; ond tòrodd gwrthryfel yn adaloedd Santa Fe, a hyny a defynodd eu hymdrech.

 

Y mae yn debyg fod ymddadlau yn eu cylch.

 

Y gwanwyn nesaf, (1841), y mae rhai teuluoedd yma eto yn siarad am fyned yno.

 

Gofynaf gwestiwn, a therfynaf – h.y., A oes rhyw beth yn perthyn i genedl y Cymry yn gofyn eu sylw yn fwy na hyn yma, sef dyfod i wybodaeth o’r Welsh Indians? Atebwch.

 

Byddai yn dda penderfynu rhyw amser i chwilio am danynt, a mynegi hyny trwy gyfrwng y Cyfaill.

 

Ydwyf yr eiddoch,

Lone Jack.   E. W. ROBERTS.

 

 

____________________________________________________

 

(2) Taith Americanaidd
Y Diwygiwr 1843, Cyfrol 8, tudalennau 370-371
 
Rhan o lythÿr John Griffiths, mab y Parch. S Griffiths, Horeb
Cincinnati, Gorff. 26, 1843

Rhoddaf ychydig o hanes fy nhaith i Missouri, Iowa ac Illinois
Ymadewais â’r dref hon
ar y 7fed o Fawrth
gan fod y ‘mate’ yn Gymro
cefais fÿnd yn llaw ar y llong
i lwÿtho a dad-lwÿtho
nid oeddwn yn meddwl myned ymhellach na St Lewis
ond gan fod yr hin mor oer
cychwynais ar y cyntaf o Ebrill tua Missouri
600 milldir o daith
Gwelais lawer o Indiaid yn y coed
daeth amrÿw o honÿnt i’r ‘steam-boat’
Pan oeddwn yn Llandyssil
clywais ddywedÿd fod Indiaid Cymreig
oddeutu afon Missouri
Pan oeddent yn ymddyddan â’u gilÿdd
yr oeddwn yn gwneud clust
i wrando pa iaith oeddent yn siarad
ond er fy siomedigaeth
nid Cymraeg na Seisneg oedd ganddÿnt
eu dillad oedd o grwÿn da gwylltion
yn ‘lws’ fel mantell

 

0961k (Ewch at y tudalen hwn i weld testun llawn y llythÿr hwn)

____________________________________________________

 

 

12 09 2002 - adolygiad diweddaraf - latest update

Ble’r wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (= Gal·les-Catalunya)
Weø(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ø peij fròm dhø “CYMRU-CATALONIA” (= Weilz-Katølóuniø) Wéb-sait
Where am I?
You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website

CYMRU-CATALONIA