http://www.racocatala.com/catalunyacymru/amryw/canu_segadors_0286k.htm
Yr Hafan /
Portada
..........Y Gwegynllun / Mapa de la Web
....................Mynegai i’r Adran Ganeuon
/ Índex Secció de Cançons
|
Gwefan Cymru-Catalonia ELS SEGADORS – anthem genedlaethol Catalonia - "Y Medelwÿr" |
Adolygiad
diweddaraf - darrera acutalització 2001-03-23. |
Els Segadors, Y Medelwÿr (Anthem Genedlaethol
Catalonia)
1) Geiriau'r
anthem gyda'r ynganiad
2) Trosiad
Cymráeg
3) Geirfa
4)
Anfodlonrwÿdd ar eiriau'r anthem / Crítica de la lletra de l'himne
Yn yr ynganiad wrth ochr y
llinell, llafariad 'dywÿll' neu 'niwtral' ÿw'r 'ø' (fel y llythyren 'y' yn y
gair 'Cymru'). Mae'r 'ø' yn sain gyffredin yn y Gataloneg. Yn wahanol i'r Gymráeg,
lle y'i ceir mewn sillafau acennog, yn Gataloneg (fel yn Saesneg) fe'i ceir
mewn sillafau diacen.
Yngenir y llafariaid eraill
yn ôl y wÿddor Ladinaidd - 'u' fel yn y Gymráeg 'w', a.y.y.b. Gall yr 'o' a'r
'e' fod yn agored neu yn gaeëdig. Nid oes yn y Gataloneg lafariaid bÿr a hir
fel yn y Gymráeg. Maent i gÿd o'r un hÿd. Serch hynnÿ, rÿn ni wedi marcio rhai
llafariaid yn hir am fod y sain hir yn Gymráeg weithiau yn nes at y nod.
Y ddeusain 'au' fel yn
Gymráeg 'aw' (llawn, mawr, a.y.y.b.)
Sylwch ar y cytseiniaid -
'zh' fel y 'g' yn y gair
Ffrangeg / Saesneg 'camouflage'
'dh' fel yn Gymráeg 'dd'
_______________________________________________________________
Ffeiliau MIDI
Gellir clywed y dôn y y
gwefannau isod:
(1) Tudalen "LA CLAU DE
PALAU" (Allwedd y Palas) Esquerra Republicana de Catalunya (Plaid Chwith
Werinlywodraethol Catalonia) - SANTA MARIA DE PALAUTORDERA (Pentre Llanfair
Palas Tordera) : http://campus.uab.es/~2045259/erc.htm
(2) Catalanoweb - música
Catalunya: http://www.redestb.es/personal/0503/catalanoweb/musica
_______________________________________________________________
1) Geiriau'r anthem gyda'r
ynganiad
Catalunya, triomfant,
|
KØ tø LÛN yø TRÎ ûm
FAN |
Tornarà a ser rica i
plena! |
TÛR nø RÂ sê RÎ kî PLE
nø |
Endarrera aquesta gent
|
ØN dø RÊ rø KE stø
ZHÊN |
Tan ufana i tan
superba! |
TA nû FA nî TAN sû PER
bø |
CYTGAN:
Bon cop de falç!
|
bon KOP dø FALS |
Bon cop de falç,
|
bon KOP dø FALS, |
defensors de la terra!
|
dø føn SÔZ dø lø TE rø |
Bon cop de falç!
|
bon KOP dø FALS |
Ara és hora, segadors!
|
A rê ZO rø SØ gø DHÔZ |
Ara és hora d'estar
alerta! |
A rê ZO rø dø STÂ ø
LER tø |
Per quan vingui un
altre juny |
PØR kwan VÎN gyûn AL
trø ZHÛNY |
Esmolem ben bé les
eines! |
ØZ mu LÊM ben BÊ lø
ZØI nøz |
CYTGAN:
Bon cop de falç!
|
bon KOP dø FALS |
Bon cop de falç,
|
bon KOP dø FALS, |
defensors de la terra!
|
dø føn SÔZ dø lø TE rø |
Bon cop de falç!
|
bon KOP dø FALS |
Que tremoli l'enemic
|
KØ trø MO lî LØ nø MÎK |
en veient la nostra
ensenya: |
ØN vøi ÊN la NO strøn
SEN yø |
Com fem caure espigues d'or, |
KOM fem KAU rø SPÎ gøz DOR (fel yn y gair 'doli') |
quan convé seguem
cadenes! |
KWAN kûm BÊ sø GÊM kø DÊ nøs |
CYTGAN:
Bon cop de falç!
|
bon KOP dø FALS |
Bon cop de falç,
|
bon KOP dø FALS, |
defensors de la terra!
|
dø føn SÔZ dø lø TE rø |
Bon cop de falç!
|
bon KOP dø FALS |
2) CYFIEITHIAD
Catalunya, triomfant, |
Bÿdd
|
Tornarà a ser rica i plena! |
unwaith eto yn gyfoethog ac yn
gyflawn
|
Endarrere aquesta gent |
(Anfonwn) yn ôl y bobl honno (= y
gormeswÿr) |
Tan ufana i tan superba! |
Mor draháus a mor rodresgar (= ar
ôl gorchfygu Catalonia) |
.....
Bon cop de falç! |
(Rhown)
ergÿd dda â'r cryman
|
Bon cop de falç, |
(Rhown) ergÿd dda â'r cryman
|
defensors de la terra! |
Amddiffynwÿr y wlad
|
Bon cop de falç! |
(Rhown) ergÿd dda â'r cryman
|
.....
Ara és hora, segadors! |
Mae'n brÿd, fedelwÿr
|
Ara és hora d'estar alerta! |
Mae'n brÿd i ni fod yn wÿliadwrus
|
Per quan vingui un altre juny |
Erbÿn
i fis Mehefin arall ddod
|
Esmolem ben bé les eines! |
Gadwch
i ni roi min / ddodi awch ar ein hoffer
|
.....
Que tremoli l'enemic |
Bydded
i'r gelÿn grynu
|
En veient la nostra ensenya: |
wrth
weld ein baner
|
Com fem caure espigues d'or, |
(=
fel y medwn y gwenith gwÿn)
|
Quan convé seguem cadenes! |
Pan
fo raid fe dorrwn gadwÿni
|
3) Geirfa
Catalunya,
triomfant,
Tornarà a
ser rica i plena!
Endarrere
aquesta gent
Tan ufana i
tan superba!
Catalunya [kø
tø LUN yø] = Catalonia
triomfant [tri
um FAN], o'r ferf triomfar [tri um FA] = ennill buddugoliaeth
tornar [tur NA]
= troi; defnyddir hefÿd wrth sön am wneud rhÿwbeth am yr eildro (bod, gwneud,
dweud, a.y.y.b. unwaith eto)
tornarà [tur nø
RA] (ffurf y dyfodol) = bÿdd yn troi
ser [SE]
= bod
ric /
rica [RIK, RI kø] = cyfoethog
i [i] = a
ple / plena
[PLE, PLE nø] = llawn, cyflawn
endarrere [øn
dø RE rø] = tuag yn ôl
aquest /
aquesta [ø KET, ø KE stø] = hwn / hon
gent [ZHEN] =
pobl
tan [TAN] = mor
ufà / ufana [u
FA, u FA nø] = rhodresgar, brolgar, ymffrostgar
superb /
superba [su PERB, su PER bø] = traháus
Bon cop de
falç!
Bon cop de
falç, defensors de la terra!
Bon cop de
falç!
bon [BON],
forma de bon [BO, BO nø] = da
cop [KOP]
= ergÿd
falç
[FALS] = cryman
defensor [dø
føn SO] = amddiffynnwr
terra [TE rø] =
gwlad, tir
Ara és hora,
segadors!
Ara és hora
d'estar alerta!
Per quan
vingui un altre juny
Esmolem ben
bé les eines!
ara [A rø] = yn
awr, nawr, rwan
és [ES] = ÿw
hora [O rø] =
(1) awr (60 minuts) (2) prÿd addas i wneud rhÿwbeth
segador [sø gø
DO] = medelwr, un sÿ'n lladd ÿd â chryman neu bladur
estar alert /
alerta [ø STA 'LER tø] = bod ar ei wyliadwriaeth / ei gwÿliadwriaeth
per [PØR]
= ar gyfer
quan
[KWAN] = pan
vingui [VING
gi] = (ffurf amodol); delo, daw, de venir [vø NI] = dod, dyfod
un [UN] = un
altre [AL trø]
= arall
juny [ZHUNY] =
Mehefin
esmolar [øz mu
LA] = hogi, rhoi min, dodi awch
bé [BE] =
yn dda
ben bé
[ben BE] = yn drwÿadl
eina [ØI nø]
= offerÿn, twlsÿn, arf
les eines
[løz ØI nøs] = yr offer, y twls, yr arfau
Que tremoli
l'enemic
en veient la
nostra ensenya:
Com
fem caure espigues d'or,
quan
convé seguem cadenes!
que [kø]
= geirÿn perthynnol sÿ'n cyflwÿno dymuniad
tremolar [trø
mu LA] = cryn
enemic [ø nø
MIK] = gelÿn
veure = gweld,
en veient [øn vøi EN] = yn gweld
el nostre / la
nostra [øl NO strø, lø NO strø] = ein
ensenya
[øn SEN yø] = baner
com [KOM]
= fel
fer [FE]
= gwneud, fem [FEM] = gwnawn
caure
[KAU rø] = syrthio / cwÿmpo
espiga [ø
SPI gø] = tywysen, espigues = tywysennau
or [OR] =
aur
quan
[KWAN] = pan
convenir [kum
bø NI] = bod yn addas
segar [sø GA] =
medi, lladd (gwair), torri (gwair); seguem = medwn / lladdwn / torrwn
cadena [kø DE
nø] = cadwÿn, cadenes = cadwÿni
_______________________________________________________________
4)
Anfodlonrwÿdd ar eiriau'r anthem / Crítica de la lletra de l'himne
Nid ÿw pawb yn
hoff o eiriau'r anthem / No li agrada a tothom la lletra de l'himne...
Llythÿr a
ymddangosodd ym mhapur newÿdd 'Avui', 12 Medi 1998 / Carta publicada a
l'AVUI, 12 setembre 1998
'Els
Segadors'
Molt
honorables presidents Jordi Pujol i Joan Reventós: Considero que ja seria hora
de modificar el nostre himne nacional (Els Segadors) per posar-lo a to
amb els temps actuals.
Y Gwir
Anrhydeddus Jordi Pujol (1) a Joan Reventós (2), Yr wÿf yn meddwl ei bod yn hen
brÿd erbÿn hÿn i newid ein hanthem genedlaethol (Y Medelwÿr) i'w gwneud yn
gydnaws â'r oes hon.
La música
està molt bé: té la solemnitat, la majestat que un himne reclama i és molt apta
per ser cantada a cor per una multitud.
Mae'r
gerddoriaeth yn hyfrÿd; mae iddo'r difrifwch a'r urddas y mae eu heisiau ar
anthem ac mae'n gymwÿs iawn fel darn corawl i'w chanu gan nifer o bersonau
ynghÿd.
Però la
lletra em sembla inacceptable. "Que tremoli l'enemic...". El que ens
convé ara és no tenir enemics, i no deixar-nos ÿr per odis imÿnts i eixorcs.
Tots els odis són eixorcs.
Ond nid ÿw'r
geiriau yn dderbyniol yn fy marn i. "Bydded i'r gelÿn
grynu...". Fe fyddai'n well i ni yn awr fod heb elynion, ac i beidio
â gadael i gasineb disynnwÿr fÿnd yn drech na ni. Mae pob math o gasineb yn
ddisynnwÿr.
I per segar
cadenes va més bé una llima que una falç. És clar que la llima exigeix temps,
paciència i molta feina. Bé, cal esmerçar-n'hi tant com cal calgui.
Ac i dorri
cadwÿni mae'n well defnyddio ffeil na chryman. O ddefnyddio ffeil mae eisiau
amser wrth gwrs, amynedd a llawer o amser. O'r gorau, rhaid hala cymaint ag
sÿdd ei angen o amser.
La lletra d'Els
Segadors nous hauria de ser per l'estil del Cant de la senyera. Entusiasme, alegria i
amor, sense combats, sense sang, sense odis ni ressentiments.
Dylai
geiriau'r 'Medelwÿr' fod o'r un ffurf â 'Chân y Faner'. Brwdfrydedd, llawenÿdd
a chariad, heb frwÿdrau, heb waed, heb gasineb ac heb drwgdeimlad.
Respectats
lectors, oi que tinc raó? Si us plau, feu arribar la vostra veu recolzant
aquesta petició.
Annwÿl
darllenwÿr, onid wÿf yn iawn? Anfonwch lythÿr i fynegi'ch barn a chefnogi'r
apêl hon, os gwelwch yn dda,
BALDOMER
PORTA GOU / La Noguera (el Principat)
(1) Arlywÿdd
Catalonia
(2) Cadeirÿdd
Senedd Catalonia
_______________________________________________________________
Ateb a
ymddangosodd yn 'Avui', 15 Medi 1998 / Una carta rèplica publicada a l'AVUI,
15 setembre 1998
'Els
Segadors'
El Sr.
Porta, el dia passat 12, manifestà l'opinió de substituir el nostre himne per
una altra lletra més 'rosa' o més romàntica, idea que ja he sentit altres
vegades, fins i tot d'algun anomenat intel·lectual
Ar y
ddeuddegfed o'r mis hwn lleisiodd y Bonwr Porta ei farn y dylid newid ein
hanthem a chael un yn ei lle â geiriau 'harddach' neu fwÿ rhamantus. Yr wÿf
wedi clywed y syniad hwn ambell dro, hÿd yn oed o wefusau rhai sÿdd yn
'ddeallusion' yn ôl y sôn.
Senyors,
l'única cosa de força que ens fa vibrar als catalans és el cant del nostre
himne. Fins això ens voleu prendre? Digueu-li a un francès que canvï 'La
marsellesa' i veureu la resposta..
Foneddigion,
canu ein hanthem ÿw'r unig beth sÿ'n ein cynhyrfu. A ydÿch am fÿnd mor bell â chymrÿd
hon oddi arnom? Dywedwch wrth Ffrancwr am newid 'La Marseillaise' a fe gewch
weld yr ymateb.
En
l'època d'en Macià també es va parlar del 'Cant del poble', lletra de
Josep M. de Segarra, però l'Avi va ratificar 'Els Segadors.' Si algun dia em
traguessin aquest himne, m'avergonyeria de pertànyer a un poble caduc i mesell.
Yng nghyfnod
(Francesc) Macià (1) yr oedd sôn am 'Cant del poble' (Cân y werin'), â geiriau
Josep M. de Segarra, ond rhoes y Tad-cu (2) statws swÿddogol i 'Els Segadors'.
Pe buasant yn cymerÿd yr anthem hon oddi arnaf rÿw ddÿdd, fe deimlwn
y fath gywilÿdd o berthÿn i bobl tan fusgrell a dideimlad
FERRAN
MACHADO I BARBARÀ / Barcelona
(1) arlywÿdd
Catalonia cÿn goresgyniad y wlad (1939) gan filwÿr Ffasgaidd gwladwriaeth
Castilia ('Sbaen').
(2) llysenw
Macià
_______________________________________________________________
0286k Cymru-Catalonia: Els Segadors -
anthem genedlaethol Catalonia / Els Segadors - himne nacional Catalunya / As
yet there is no English version of this page [Title: Els Segadors - Catalonian
national anthem] / Øz yet dheø.r iz nou Ínnglish vøø.rshøn øv dhis peij
[Táitøl: Els Segadors - Katølóuniøn náshønøl ánthøm]
Ble’r wÿf i? Yr ÿch chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan
"CYMRU-CATALONIA"
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web "CYMRU-CATALONIA" (=
Gal·les-Catalunya)
Where am I? You are visiting a
page from the "CYMRU-CATALONIA" (= Wales-Catalonia) Website
Weø(r) àm ai? Yuu àa(r) vízïting ø peij fròm dhø "CYMRU-CATALONIA" (=
Weilz-Katølóuniø) Wébsait
CYMRU-CATALONIA
diwedd / fi