2480k Tafodiaith Treforis,
Abertawe. Cymru Fydd, 1890.
04-01-2018
● kimkat0001 Yr Hafan www.kimkat.org
●
● kimkat2001k Y Fynedfa Gymraeg www.kimkat.org/amryw/1_gwefan/gwefan_arweinlen_2001k.htm
● ● ● kimkat0081k
Tafodieithoedd y Gymraeg www.kimkat.org/amryw/1_cymraeg/cymraeg_tafodiaith_mynegai_0081k.htm
● ● ● ● kimkat0041k De-orllewin Cymru www.kimkat.org/amryw/1_cymraeg/cymraeg_tafodiaith_de-orllewin_0041k.htm
● ● ● ●
● kimkat2480k Y tudalen hwn
|
(delwedd 0003)
|
Gwefan
Cymru-Catalonia
La Web de Gal·les i Catalunya
Tafodiaith
Treforus
CYMRU FYDD, 1890.
Y
Llyfr Ymwelwyr / El Llibre de
Visitants
http://pub5.bravenet.com/guestbook/391211408/
Beth sy’n newydd yn y wefan hon?
|
(delwedd 7375)
|
…..
(delwedd 8127)
.....
Erthygl o’r cylchgrawn Cymru Fydd (Blwyddyn
1890) (tudalennau 46-49):
xx
|
xx
|
(delw 2322b) (tudalen 46)
|
(x46) Llafar
Gwlad
TREFORIS, ABERTAWE
GAN
A. E. THOMAS, COLEG MERTON, RHYDYCHEN.
Ifan. — Eh ! Shwd ma dy gefen di?
Twm. — Weddol thencyw. Weles di
Ianto wech bis ne Dai bedd y mochyn allt abythi’r lle yma?
Ifan. — Naddo i. Shw’ mae’n troi
mâs gyda chi nawr ’ychan?
Twm. — O ’na rali geson ni nithwr.
Ifan. — Ffordd?
Twm. — Yn ty Marged Ann. Yt yn wel’d, ethon y tri i byrnu wyrth cinog o
loshins pump. Odd yr hen fenyw mâs, a gyda fod Marged yn dwad a’r stwff,
nidodd Ianto ar i wddwg i a dychriws cyssanu fel ta fe heb wel’d ferch ariod o’r blan. Ond
fe nath camsynied i rhyfeddu. Fe gitshodd yn y papir odd yn meddwl buse’n
dala’r loshins — lan a fe iddi ben a miwn a twshged. Ti ddylet wel’d e’n
rhegu weti’nu. Odd e wedi llyncu wyrth dime o biper odd Marged yn nol i ferch
ifanc yn aros ar bwys y drws.
Ifan. — Dyna dderyn yw Ianto, —
withe tymed bach o’r bwpach twp, ond dicon o galon gyta fe wastod. Weles i e’riod
heb joien yn i ben. Fentra i ta fe yw’r gorgi penna yn y dre.
Twm. — Synnot ti ’napod Ianto eto.
Fe sefws yn y siop i beswch — shw beswch! Alla i weyd wrtho ti own i’n meddwl
bod e’n twlu i ened colledig lan bob myned.
Ifan. — Pid a bod mor fawr. Ryt ti
rhi stanje lwer. Well i ti ddwad gyda fi i’r Ysgol Sul tro nesa’.
|
xx
|
xx
|
(delw 2323) (tudalen 47)
|
(x47) Twm.
— Gyda sti, y crychydd anghysyrus, y ci hela! Naf ar drot slabben Jermi.
Ifan. — Ië, gyda fi,
a phaid a galw sti arno i, — stia rwyn arall. Ond, serch hynny, os licit ti
fyn’d i’r seiet ‘eno, bydda i’n barod mwn ‘anner awr ar ol cwpla’n fusnes.
Twm. — Ol reit te, cewn cwrdd â’n
ngilydd eto nawr jest.
Ifan. — Ble ych chi
myn’d ’nawr?
Twm. — I sharad a’n ffrynd, Mr.
Shamse (Anglicè James).
___________________________________
Twm. — Shwd ych chi, Mrs. Shanme?
Shamse. — Biwr diolch i chi. Shwd
ych chithe? Shw ma’ch mam? Dir! dyna dyfu ych chi. Beth yw’ch oedran chi
nawr? ’Steddwch lawr nes bo Twmos dwad nol.
Twm. —Shwd ych chi’n tymlo, Mr.
Shamse, heddi?
Shamse. — Da iawn, diolch.
Nawr, mwstra Mari Ann, ma’n wyth ar gloch, a ma raid ti fynd i’r ysgol cofia.
Twm. — Beth am y gwithe tin nawr?
Shamse. — Wâl iawn. Ceson
gyfarfod nos Lun dwetha yng ngapel Horeb. Dychrison gyta gweddio ag emyn.
Twm. — Ie, gweddio a canu! Yn nw
mor dduwiol ag hyn pryd ôs dim shawns streic?
Shamse. — Wn i ddim wir. Estyn y bibl yma, Ali.
Twm. — Dalwch nw. Ond
os bydd rhwy danjer i ofnu, gweddio a canu yn union. Nid yn unig gweithwyr,
ond eto rhai gwynidogion. Ma’n rhi wir fel dywedodd Loko Sing-Sing, y bardd
enwog o Japan, “In the dark all men are equal."
Shamse. — Gwynidogion! ych chi’n
ala i i synnu.
Twm. — Felly fel wetes i. Dyn sydd
ddyniol, a na all yr holl fyd o phrygethu a gweddio ei nither e’n Dduw.
Shamse. — Na ma ynna’n wir iawn.
Ych chi’n dwad i’r capel heno ?
Twm. — Nadw. Wi ffili a diall
pwy fantes yn ni’n ngâl wrth fynd i’r cwrdd ne i’r ysgol Sul. Rhwy’ i am un
yn ngwpod pob peth ma’r gwynidog yn dweyd ys blynydde lwer, a fcntra fy mywyd
alla roi ei bregeth y gyd, na ta pin i
|
xx
|
xx
|
(delw 2324) (tudalen 48)
|
(x48) amcan el bregeth, dim ond i fi gâl y
testyn. Yr un hen gwirionodde sydd gento Sul ar ol Sul i fforso i’n olwg ni. Shw licech chi
gal bara i frecwast, bara i gino, bara i de, a bara i swper dydd ar ol dydd?
Yn yr un fata rwy’i wedi blino ar pregethe yma.
Shamse. — Falle wir, ond ma’n raid
i chi gofio os nad ych chi’n câl bara pob pryd, ych chi’n câl bara i frecwast
yn fenyddiol, a hefyd tatto a reis i gino, a wy’n barnu y byddwch yn falch i
glywed ta’r un yw y tri hyn yng ngwilod, sef starch. Peth smala yw hynna, ond te
fe?
Twm. — Ie. Wel ar fechos i, mae’n bwrw!! Chlywch chi?
Shamse. — Glaw mân?
Twm. — Na, ma’n bwrw’n domen.
Shamse. — Ha, own yn feddwl buse
rhwbeth yn diwygio ar ol y twydd twym.
Twm. — Twym! Twym!! Clywsoch am y
milwr anfarwol o’r Galiffornia, un o’r llefydd twyma yn y byd. Hwn ar ol iddo
farw a chyrraedd y lle nid ôdd i Lazarus cyrraedd, ’alodd daligram ’nol i’w
ei ’wiorydd i ymofyn ei flanceti o herwydd fod e’n ôr arswyddus, a bron a
sythu gyda’r orfel. Nid os dim dadl abythi gwirionedd yr ’anes hyn, achos
weles i y lle ble odd y milwr hyn arfedd lodjo, a bues yn sharad gyda’r
stwrden o wraig odd genno sawl waith.
Shamse. — Shiarad am filwyr, daeth
ing ngof hanesyn rhwy lello cynftachlyd weles yn bychan ifanc.
Oeddynt doi, German a Sais, yn ufed yn y tafarn. Ag yng ngyntaf nw ufson
heddwch i’r ymerawdwr. Wedi hyn ystynnodd y Sais i law i mas, a chynigws yfed
i’r Frenhines. Pallodd y German. "Felly," wetodd y Sais, "rhwy
holpyn o cnoc hyrt half-soke, os na ufyd di i’r Frenhines mi twlaf lan dy
ymerawdwr cythrel, a lan a ddaeth wir.’
Twm. — Ma rhwy stwr wrth y drws.
Shamse. — Clwes i neb yn cnoco.
Dewch mewn, ta pwy sy ’na. O steddwch lawr Mr. Jones, ychchi’n roeso. Pidwch
a mynd, Mr. Harries, mae i’n ngynnar yto.
Twm. — Na, w’i’n bownd o fynd. Nos
da chi.
|
xx
|
xx
|
(delw 2325) (tudalen 49)
|
(x49) Shamse. — Wel, Mr. Jones, buo ni’n doi yn menjoio
’nunen wrth ochor y tan. Shw cerws i yn y clwb nithwr?
Jones. — Ydym wedi colli pob dime
ond ucen punt, a rhai’u ma’r cyfrithwr wedi twcyd. Felly y^n ni yn yr un lle
a’r dyn a phiodd ddim yn y byd, medde fe, ond twlle ysgwydde hen wasgot.
Shamse. — Ie, clwsoch am y bachgen, sponer slamp ma’n debyg, odd ffrynd
yng ngofyn os odd byth yn ysgrifennu at i wejen nawr. "Ydw,"
ynte fe, "tair waith yr wthnos. Rwy i ddim ond weld i acha dydd Llun,
Mercher, Iau a dydd Sadwrn." Helo, Mari Ann, ble ti wedi bod?
Mari Ann. — Yn olchi nilo.
Shamse. — Olchi dy ddilo o wyth ar
gloch nes bo’i ddeg, y gwcw. Nawr cera helpa dy fam cwero sane, yt
ti’n brwa ddicon yn yr wthnos.
Jones. — Deg ar gloch!
Wn i yn y byd pwy yscus naf fi i Beti heno. Bydd yn ishte lan i fi ddala
bliw. Bydd yma furder iwb-iwb cyn
y bore. Nos da chi.
|
Sumbolau:
a A / æ Æ / e E / ɛ Ɛ / i I / o O / u U / w W
/ y Y /
MACRON: ā
Ā / ǣ Ǣ /
ē Ē /
ɛ̄ Ɛ̄ / ī
Ī /
ō Ō /
ū Ū /
w̄ W̄ / ȳ Ȳ /
BREF: ă
Ă / ĕ Ĕ / ĭ Ĭ / ŏ Ŏ / ŭ Ŭ / B5236: B5237:
BREF GWRTHDRO ISOD: i̯,
u̯
CROMFACHAU:
⟨ ⟩ deiamwnt
MACRON + ACEN DDYRCHAFEDIG: Ā̀ ā̀ , Ḗ ḗ,
Ī́ ī́ , Ṓ ṓ , Ū́ ū́, (w), Ȳ́
ȳ́
MACRON + ACEN DDISGYNEDIG: Ǟ ǟ , Ḕ ḕ,
Ī̀ ī̀, Ṑ ṑ, Ū̀ ū̀, (w), Ȳ̀
ȳ̀
MACRON ISOD: A̱ a̱ , E̱ e̱ , I̱ i̱ ,
O̱ o̱, U̱ u̱, (w), Y̱ y̱
ˡ ɑ ɑˑ aˑ a: / æ æ: / e eˑe: / ɛ ɛ: / ɪ
iˑ i: / ɔ oˑ o: / ʊ uˑ u: / ə / ʌ /
ẅ Ẅ / ẃ Ẃ / ẁ Ẁ / ŵ Ŵ /
ŷ Ŷ / ỳ Ỳ / ý Ý / ɥ
ˡ ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ
əɪ uɪ ɪʊ aʊ ɛʊ əʊ / £
ә ʌ ẃ ă ĕ ĭ ŏ
ŭ ẅ ẃ ẁ Ẁ ŵ ŷ ỳ
Ỳ
Hungarumlaut: A̋ a̋
wikipedia, scriptsource. org
https://en.wiktionary.org/wiki/ǣ
---------------------------------------
Y TUDALEN HWN: www.kimkat.org/amryw/1_cymraeg/cymraeg_tafodieitheg_treforus_1890_2480k.htm
---------------------------------------
Creuwyd: 03-03-2000
Ffynhonell:
Adolygiad diweddaraf : 04-01-2018
25-05-2017
Delweddau:
Ble'r wyf i? Yr ych
chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web CYMRU-CATALONIA (=
Gal·les-Catalunya)
Where am I? You are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (=
Wales-Catalonia) Website
Weə-r äm ai? Yüu äa-r víziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA
(= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait