kimkat3596k Y Caniedydd Cymreig. The Cambrian Minstrel; Being A Collection Of The
Melodies Of Cambria, With Original Words In English And Welsh; Together With Several
Original Airs. John Thomas (Ieuan Ddu). Merthyr Tydvil. 1845
01-03-2021
● kimkat0001 Yr Hafan www.kimkat.org
● ● kimkat2001k Y Fynedfa Gymraeg www.kimkat.org/amryw/1_gwefan/gwefan_arweinlen_2001k.htm
● ● ● kimkat0960k Mynegai i’r testunau Cymraeg yn y wefan
hon www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_mynegai_0960k.htm
● ● ● ● kimkat3596k Y tudalen hwn....
|
|
Gwefan Cymru-Catalonia Y Saisaddolwyr yn
hanes Cymru |
|
.....
(O'r wikipedia Gymraeg 12 Mawrth 2021) Dic Siôn Dafydd Cymro sy'n gwadu iaith ei fam yw Dic Sion Dafydd (neu
Dic Siôn Dafydd) ac fe ddefnyddiwyd yr idiom yn wreiddiol mewn cerdd
ddychanol a gyhoeddwyd yn 1803 gan y bardd a phamffledwr gwleidyddol John
Jones (Jac Glan-y-gors) (1766-1821). (Gweler gwaelod y tudalen am fanylion am
Jac Glan-y-gors). Yng ngherdd Jac Glan-y-gors mae Dic yn Gymro
anllythrennog anwybodus, "mab Hafoty'r Mynydd Mawr", sy'n ymfudo o
gefn gwlad Cymru i ddinas Llundain er mwyn "ymddyrchafu" yn y byd.
Mae'n dod yn farsiandwr dillad llewyrchus yn Llundain, ond mae'n cuddio ei
wreiddiau ac yn cymryd arno ei fod wedi anghofio'r Gymraeg yn llwyr er mwyn
plesio ei gyfeillion Seisnig cyfoethog. Ond yn y diwedd mae ffawd yn troi yn
ei erbyn: mae'n colli ei fusnes ac yn gorfod dychwelyd i Gymru yn dlawd i
ddioddef gwaradwydd ei gydwladwyr, yn cynnwys ei fam ei hun. Ac wedi gwneud ei hun i fyny, I wlâd Cymru fe aeth bob cam, Yn ei gadair yn ergydio, Yn gweiddi, 'Helo' wrth fotty ei fam. A Lowri Dafydd dd'wedai ar fyrder, "Ai machgen anwyl i ydwyt ti?" "Bachgen Tim Cymraeg; hold your bother, Mother you can't speak with me." A Lowri a ddanfonai'n union, Am y person megys Pâb, A fedrai grap ar iaith y Saeson, I siarad rhwng y fam a'r mab! Yna'r person nôl ymbledio, A'i tarawodd ar ei ffon, Nes oedd Dic yn dechrau bloeddio, O iaith fy mam, mi fedra hon. Byth ers cyhoeddi'r gerdd am y tro cyntaf mae pobl wedi
defnyddio'r ymadrodd i gyfeirio at unrhyw Gymro sy'n cefnu ar ei iaith a'i
ddiwylliant er mwyn llwyddo yn y byd Seisnig. Gellir ei gymharu gyda'r
"Ewyrth Twm" Americanaidd, caethwas du sy'n chwerthin ar ben ei
wreiddiau ei hun er mwyn ennill ffafr y bobl wynion. Mewn ail gerdd, mae balchder a drygioni Dic yn ei
ddifetha yn Llundain, ac mae'n gorfod dod yn ôl i Gymru mewn tlodi. Defnyddir
yr ymadrodd Dic Siôn Dafydd yn aml heddiw ar gyfer Cymro sydd yn cymryd arno
golli ei iaith a'i hunaniaeth Gymraeg. Cafwyd sawl cerdd arall am Ddic Sion Dafydd, yn enwedig
yn y 19g, e.e. y faled boblogaidd gan Abel Jones (Y Bardd Crwst). Ym
marddoniaeth yr 20g ceir epigram ar yr un testun gan Sarnicol: Er gwadio'i dir, a gwadu ei iaith, 'Doedd o na Sais, na Chymro chwaith, Ond bastard mul,—'roedd yn y dyn Wendidau'r mul i gyd ond un; Fe fedrodd Dic, ŵr ffiaidd ffôl, Adael llond gwlad o'i had ar ôl.[1] Cyfeiriadau Sarnicol, Blodau Drain Duon (Gwasg Gomer, 1935) |
Y Drych. 5 Ebrill 1900. Dic Shon Dafydd Gam.
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion-prys_315_y-drych_05-04_1900_dic-shon-dafydd-gam_3599k.htm
O Bob Parth. Gan Parthsyllydd. Aberdare Leader. 22
Tachwedd 1919. Yn y rhifyn diweddaf o'r Welsh Outlook darfu i'r golygydd
labyddio golygydd y Darian a meini - meini lled drymion a geirw hefyd. Trosedd
gwr y DARIAN ydoedd melldithio Saeson trahaus, a Saisaddolwyr oeddynt, yn ei
dyb ef, yn cael gormod o'u ffordd o dipyn yn "hen wlad fy nhadau."
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion-prys_314_parthsyllydd_saisaddolwr_aberdare-leader-22-11-1919_3597k.htm
Prawf Dic Siôn Dafydd. Celt Llundain. 1902.
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion-prys_316_prawf-dic-sion-dafydd_celt-llundain_1902_3600k.htm
(O'r wikipedia Gymraeg 12 Mawrth 2021) John Jones (Jac Glan-y-gors) Awdur pamffledau gwleidyddol a bardd dychanol oedd John
Jones (Jac Glan-y-gors) (10 Tachwedd 1766 – 21 Mai 1821), a
anwyd yng Ngherrigydrudion, Ei fywyd Ganwyd a magwyd Jac Glan-y-gors yn ffermdy
Glan-y-gors ym mhlwyf Cerrigydrudion, yn fab i Margaret a Laurence Jones.
Treuliodd ei lencyndod yn gweithio ar y fferm deuluol, hyd yn 23 oed. Fe'i
addysgwyd yn Ysgol Ramadeg Llanrwst (Ysgol Rad Llanrwst) am gyfnod. Symudodd i Lundain yn 1789 i weithio mewn siop yn y
dref honno. Yn ôl un ffynhonnell, ffodd yno oddi wrth gwŷr y gyfraith, wedi iddo wrthod ymuno â'r milisia lleol, un o ugeiniau a godwyd yng Nghymru
yr adeg honno am fod yr awdurdodau'n ofni goresgyniad y Ffrancod, a bygwth
torri tŷ'r person lleol, un o'r enw Rowlands, ar ei ben. Yn
1793 roedd yn rhedeg tafarn y Canterbury Arms, Southwark. Ar 23 Gorffennaf
1816 priododd â Jane Jones (née Mondel; merch o Whitehaven) yn eglwys y
plwyf, Bermondsey. Yn 1818 cymerodd denantiaeth y King's Head yn Stryd
Ludgate yn 1818, a fu'n gyrchfan i Gymry Llundain a bu farw yno yn 1821. Cymdeithasau llenyddol Llundain Yn Llundain daeth yn aelod blaengar o Gymdeithas y
Gwyneddigion yn 1790, yn yr un flwyddyn â Twm o'r Nant ac Edward Charles.
Roedd yn un o sylfaenwyr Cymdeithas y Cymreigyddion er hyrwyddo'r Gymraeg. Ef
hefyd oedd un o gychwynwyr Y Greal, ar ran y Gymdeithas honno. Ei waith llenyddol Yn ôl traddodiad lleol arferai Glan-y-gors eistedd
ar garreg fawr ar lan ffrwd ger y fferm i brydyddu. Perthyn i draddodiad y
bardd gwlad mae ei gerddi cyntaf, yn gerddi mawl neu ddiolch i ffrindiau a
chymdogion; "cerddi achlysurol". Cyflwynodd syniadau radicalaidd Thomas Paine i'r
Cymry drwy'i ddau lyfryn enwog Seren Tan Gwmmwl (1795) a Toriad y Dydd
(1797). Bu rhaid iddo ffoi o Lundain a llechu yng nghymdogaeth Cerrigydrudion
am gyfnod mewn canlyniad; roedd yr awdurdodau'n llawdrwm ar unrhyw un a
gefnogai syniadau'r Chwyldro Ffrengig. Ysgrifennodd nifer helaeth o faledi hefyd, gan
gynnwys Hanes offeiriad wedi meddwi (Person Sir Aberteifi), Yr hen amser gynt
(addasiad o Auld Lang Syne) a Cherdd Dic Siôn Dafydd, sy'n dychanu Cymry
Llundain am droi eu cefn ar yr iaith Gymraeg. Llyfryddiaeth Seren Tan Gwmmwl a Toriad y Dydd, (Lerpwl, 1923). Adargraffiad
o'r testunau gwreiddiol gyda rhagymadrodd gan Hugh Evans. Richard Griffith (gol.), Gwaith Glan y Gors
(Llanuwchllyn, 1905). Detholiad o'i gerddi yng Nghyfres y Fil gyda
rhagymadrodd gan Carneddog. |
(Cymraeg, català, English, euskara, Gàidhlig,
Gaeilge, Frysk, Deutsch, Nederlands, français, galego, etc)
...
llythrennau duon = testun wedi ei gywiro
llythrennau gwyrddion = testun heb ei gywirov
Sumbolau:
a A / æ
Æ / e E / ɛ Ɛ / i I / o O / u U / w W / y Y /
ā Ā / ǣ Ǣ / ē Ē / ɛ̄ Ɛ̄ / ī Ī / ō Ō / ū Ū / w̄ W̄ / ȳ Ȳ /
ă Ă / ĕ Ĕ / ĭ Ĭ / ŏ Ŏ / ŭ Ŭ /
ˡ ɑ ɑˑ aˑ a: / æ æ: / e eˑe: / ɛ ɛ: / ɪ
iˑ i: / ɔ oˑ o: / ʊ uˑ u: / ə / ʌ /
ẅ Ẅ / ẃ Ẃ / ẁ Ẁ / ŵ Ŵ /
ŷ Ŷ / ỳ Ỳ / ý Ý / ɥ
ˡ ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ
əɪ uɪ ɪʊ aʊ ɛʊ əʊ /
ә ʌ ẃ ă ĕ ĭ ŏ ŭ ẅ ẃ ẁ Ẁ ŵ ŷ ỳ Ỳ
wikipedia, scriptsource. org
Y
TUDALEN HWN /THIS PAGE / AQUESTA PÀGINA:
www.[] kimkat.org/amryw/1_dic-sion-dafydd/dic-sion-dafydd_mynegai_2093k.htm
Ffynhonnell / Font / Source: archive.org
Creuwyd / Creada / Created: 12-03-2021
Adolygiadau diweddaraf / Darreres actualitzacions / Latest updates: 12-03-2021
Delweddau / Imatges / Images:
Freefind: |
Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Wefan
CYMRU-CATALONIA
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web CYMRU-CATALONIA (=
Gal·les-Catalunya)
Where am I? You are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia)
Website
Weə-r äm ai? Yüu äa-r víziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA
(= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait
Statistics for Welsh Texts Section / Ystadegau’r Adran
Destunau Cymraeg
Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu
les estadístiques / View My Stats
DIWEDD