kimkat3811k
Nant Bawddwr. Llanymddyfri. Sir Gaerfyrddin.
05-04-2023
|
Gwefan
Cymru-Catalonia |
|
.....
CYNNWYS
1/ BAWDDWR – ENW NANT YN
LLANYMDDYFRI
2/ MAP
3/ RHIGWM
4/ DYFRI
5/ BAWDDWR ERS RHYW 1300
6/ JOHN LELAND...
7/ DYFRI = BAWDDWR
8/ EGERTON PHILLIMORE
9/ Siarter Llanymddyfri –
“Llanymthev'ye”
10/ Llanymthevrye
11/ BAWDDWR ARALL
12/ YNGANIAD
13/ SHIT BROOK
Yr ydym yn
dyfynnu rhan o’r erthygl “The Story Of The Ancient Churches Of Llandovery”. Y
Parchedig Gruffydd Evans, B.D. Ficer Cydweli, Sir Gaerfyrddin. Trafodion Cymdeithas
Anrhydeddus y Cymmrodorion. Sesiwn 1911-1912. Cyhoeddwyd yn 1913. Tudalennau 42-237) Yr ydym wedi
cyfieithu’r darnau yr ydym yn eu dyfynnu i’r Gymraeg. Yn y blwch
llwyd y mae’r testun Cymraeg. |
.....
Yn y blwch
llwyd y mae’r darnau yn y Saesneg gwreiddiol o’r erthygl |
...
1/ BAWDDWR – ENW NANT YN LLANYMDDYFRI
Mae sylwadau
diddorol am y nant hon mewn erthygl gan Gruffydd Evans ganrif a mwy yn ôl yn
trin hanes eglwysi tre Llanymddyfri. |
.....
2/ MAP
…..
3/ RHIGWM
Dywed yr awdur
"Brân a Gwydderig |
.....
(Testun gwreiddiol):
The names of the rivers which water the lowland of Llandovery are strung
together in the jingling rhyme "Brân a Gwydderig |
...
4/ DYFRI
Mae’r awdur
yn awgrymu taw “Dyfri” fu’r enw ar Nant Bawddwr yng nghanol y dre, nant sydd
wedi ei gorchuddio erbyn hyn. Ai gwir hyn? Dywedir ymhellach mai “Bawddwr”
oedd yr enw ar y rhan o’r nant hon a lifa o’r dre hyd at yr aber lle yr
ymarllwysa i Afon Gwydderig. (Erbyn heddiw, Nant Bawddwr yw’r enw o lygad y
nant yn ymyl Pen-y-gaer i lawr i’r dre, trwy ganol y dre, a hyd at ei haber). Ymddengys
mai “carthffos” yw’r ystyr. |
.....
5/ BAWDDWR ERS RHYW 1300
(O’r Saesneg)
Mewn Ystent am 12 Ionawr (Blwyddiaduron Edward II. Cyfrol 20. 10 Edward II.
A.D. 1316-1317), dywedir wrthym bod bwrdeisiaid Llanymddyfri, ymhlith eu
gwasanaethau eraill, yn gyfrifol am gludo "gwair dôl Baudour",
llafur fu’n werth 12 ceiniog y flwyddyn. Mae'r Ystent yn dynodi yr adnabyddid
y nant (neu ran ohoni) ar ei enw presennol mor gynnar â dechrau'r bedwaredd
ganrif ar ddeg. Nid yw hyn, fodd bynnag, yn brawf na fu ddau enw arni, sef
Dyfri a Bawddwr, y cyntaf yn enw gwreiddiol y nant ac yn cael ei ddefnyddio
yn y dogfennau mwy ffurfiol fel y Siarter, a'r olaf yn enw gwerinol o’r
ffaith bod y nant yn cael ei defnyddio fel carthffos gan drigolion y dre. Yr
oedd y dre y pryd hynny'n cynyddu'n gyflym o ran ei maint... Yn y cyfnod hwn
“Bawddwr” oedd Dyfri islaw'r dref yn unig. |
.....
(Testun gwreiddiol)
In an Extent of January 12 (Year Books of Edward II. Volume 20. 10 Edward
II. A.D. 1316-1317), we are told that amongst their other services, the
burgesses of Llandovery were responsible for carrying the "hay of the
meadow of the Baudour", labours valued at 12d. per annum. The Extent
indicates that the brook (or part of it) was known by its present name as
early as the beginning of the fourteenth century. It does not, however, prove
that the brook was not called by both names Devery and Bawddwr (Baw = dirt,
filth), the former the original name of the stream and employed in the more
formal documents like the Charter, and the latter a popular descriptive
appelation derived from the stream being used as a sewer by the inhabitants
of the town, which at that very period was increasing rapidly in size... At
this period the Dyfri was Bawddwr only below the town. |
.....
(O’r Saesneg)
Dargyfeiriwyd rhan o nant Bawddwr i nant fach uwchben y Ton o’r enw Nant Oer,
a gelwid yr hen ffordd a welir i'r gogledd o'r Ton a Llwynhywel yn Heol Oer. |
.....
(Testun gwreiddiol)
Part of Bawddwr's stream was diverted into a brooklet above the
Tonn called Nant Oer, and the old road seen to the north of the Tonn and
Llwynhowell was known as Heol Oer. |
...
6/ JOHN LELAND
Y mae Gruffydd
Evans yn dyfynnu geiriau “Hynafiaethydd y Brenin”, John Leland, yn ei “Daith
yng Nghymru” (Itinerary in Wales) (1536-39) |
.....
(Testun gwreiddiol) Now the "King's Antiquary",
John Leland, in his Itinerary in Wales (1536-39) tells his tale as follows: "A
litle or I cam to Llanameueri I passid over a Brooke caullid Guitherik whos
course was not long or it cam into Towe [Gruffydd Evans: evidently a slip
for Bran] not far from the Toune of Llanameuery. Not far of this Brooke I
cam over Brane River that riseth a xii miles of and cummith hard by the Foote
of Llanameueri Castel. And even almost by hit passid over the litle Brooke of
Eueri renning thoroug the middes of the Toune of Llanameueri. So that the
Castel hath on one side Brane River and on the other Euery Brooke. Brane a
litle beneth Castel and also Euery goith into the great river of Towe". |
...
7/ DYFRI = BAWDDWR
|
.....
(Testun gwreiddiol):
All who know the locality will at once recognize that Leland's Every Brook
is the much abused Bawddwr, part of whose waters are now artificially
diverted into the Tywi above the Tonn, and part are still "renning
thorough the middes of the Toune" mercifully hid from sight from Heol
Dwr to Cae Mawr tan Eglwys Dingat, where the brook pours its evil odours into
the air, and its filthy stream into the river Bran. |
.....
(Trosiad o’r
Saesneg) Mae “Everi” yn “Lanameueri” Leland [enw tre Llanymddyfri yn ôl Leland]
yn cynrychioli “Deverye” neu “Dyfri”; rhaid felly fod ei “Every Brook” yn
cynrychioli nant a elwir hefyd “Deverye” neu “Dyfri”; ac os yw tystiolaeth yr
hynafiaethwyr o unrhyw werth, nid yw yr enw “Deverye” ar nant yn y siarter
bellach yn mysg y problemau sydd heb eu datrys. |
.....
(Testun gwreiddiol): The Everi of Leland's
Llanameueri represents Deverye or Dyfri; his Every Brook must, therefore,
represent a stream also called Deverye or Dyfri; and if the antiquary's
testimony counts for anything at all, the water-name Deverye of the charter
is no longer amongst the problems unsolved. |
.....
8/ EGERTON PHILLIMORE
(Trosiad o’r
Saesneg) Dywedwyd gan Mr Egerton Phillimore, mewn llythyr at yr ysgrifennwr
presenol, "Y mae Aqua de Deverye yn hollol newydd i mi, ac yn taflu
goleuni hollol wahanol ar bethau. Ni all, pan y gwyddir amdano, fod yr un
amheuaeth bod Leland, pan mae'n rhoi’r enw “Every” ar Fawddwr, fel y mae yn
ei wneud, yn bwriadu rhoi enw o’r iawn ryw iddo". |
.....
|
.....
9/ Siarter Llanymddyfri – “Llanymthev'ye”
(Trosiad o’r
Saesneg): Siarter Llanymddyfri. Mae'r siarter bresennol yn dyddio o deyrnasiad
Elisabeth (1590). Y mae, fodd bynnag, yn Siarter Inspeximus [inspèximus
= "yr ydym wedi archwilio" - gair cyntaf siarter yn cadarnháu grant
a wnaethpwyd gan frenin gynt], ac y mae’n
diffinio, ymhlith pethau eraill, ffiniau'r dref fel ag yr oeddent yn nyddiau
Rhisiart III. Yn y copi yn y Rholiau Conffyrmasiwn (31-4 Eliz., rhif 5)
ysgrifennir enw'r lle yn ddieithriad yn “Llanymthev'ye”.
Mae'r ddogfen yn rhoi cadarnhâd i'r Beili ac i’r bwrdeisiaid ynglŷn â’r
bwrdeisi a'r tiroedd yn gorwedd ar ei hyd "ab
aqua voc' [vocat] Tewye usque ad aquam de Dev'ye" [ = o'r dŵr
a elwir Tewye hyd at ddŵr Dev'ye] ac ar draws "de aqua de Ffulbroke usque fossat' [fossatum] de Krenchey
[Cringae?] cum p'tin' [pertinentiis] ad dict' [dictam] filam ab antiquo
p'tinen [pertinentibus] [ = ... o ddŵr Ffulbroke hyd at glawdd Krenchey
(Cringae?) gyda'i hawliau perthynol i'r dref honno o’r cyfnod hynaf gyda'i
hawliau perthynol.”] |
.....
(Testun gwreiddiol):
The Charter of Llandovery. The present charter dates from the reign of
Elizabeth (1590). It is, however, an Inspeximus Charter, and defines, amongst
other things, the boundaries of the town as they stood in the days of Richard
III. In the copy amongst the Confirmation Rolls (31-4 Eliz., No. 5) the
place-name is invariably written Llanymthev'ye. The document confirms to the
Bailiff and burgesses the burgages and lands lying in length "ab aqua voc' [vocat] Tewye usque ad aquam de Dev'ye" and in breadth "de aqua de Ffulbroke usque fossat' [fossatum] de Krenchey
[??] cum p'tin' [pertinentiis] ad dict' [dictam ] villam ab antiquo p'tinen
[pertinentibus]". |
...
10/ Llanymthevrye
|
.....
|
.....
(Trosiad o’r
Saesneg): Ac eithrio “Tewye”, nid yw terfynau’r siarter wedi'u nodi hyd yn
hyn, er y dywedwyd mai “Deverye” neu “Ddyfri” yw’r nant fach sydd yn tarddu
ger yr heol i Ben-y-gaer ac yn llifo tua'r dwyrain i ymuno â Brân ar derfyn
dwyreiniol y fwrdeistref bresennol. |
.....
|
...
11/ BAWDDWR ARALL
..... (Trosiad o’r
Saesneg): Ardystiadau baudur LLch. 74. Tudalen 74 c.860 - c.930 baudur LLch.
171b. Tudalen 172 c.860 - c.930 Mae'r enw nant hwn yn digwydd fel man ar
ffiniau Llanfocha... Nid oes digon o'r mannau eraill wedi eu darganfod er mwyn
lleoli’n union y ffrwd hon. Elfennau: BAW + DŴR Mae cyfansoddiad o’r
gair “baw” (= budreddi, dom) a “dŵr” i bob golwg yn enw posibl ar nant
fach fel hon. ..... |
.....
|
...
12/ YNGANIAD:
Dywed Gruffydd Evans |
.....
|
.....
13/ SHIT BROOK
Y mae yn Lloegr ambell enghraifft o’r enw “*Shit
Brook” neu “Shitbrook” (ac enwau tebyg eraill) am garthffos dre neu nant
fudr. Maent yn cyfateb i Fawddwr. Mae nant o’r
enw Shit Brook yn Llanfaelien, sef Much Wenlock, yn Swydd Amwythig. Yn Nghaer-wysg
(Dyfnaint) Shitbrook Street (Sytebrokstrete 1250) oedd hen enw Paris Street,
ac y mae Chute Street yn cynnwys enw’r nant hefyd, ar ffurf lai aflednais. "Schitebroc"
(shit brook) oedd enw pentref Skidbrooke ger Louth yn Sywdd Caer-lŷr, yn
Llyfr Dydd y Farn y Normaniaid (1086). Y mae’r “sk-” bresennol yn dangos
dylanwad iaith yr ymsedfedlwyr o Ddaniaid. Ydy honiadau
Gruffydd Evans yn iawn – mai “Dyfri” oedd hen enw Nant Bawddwr? Ôl-nodyn:
Gwelir yr
enw Saesneg o’r cyfnod canoloesol “Ffulbroke” uchod.
Hynny yw, Fulbrook. Mae’n enw cyffredin yn Lloegr, ond nid “full” = llawn mo
hwn, ond Hen Saesneg “fûl”, Saesneg Cyfoes “foul” yw; hynny yw, nant front,
nant gachlyd, nant gorslyd. Ai enw’r Saeom ar nant Bawddwr yw hwn? Neu nant
arall? |
.....
(Facebook 05-04-2024 wedi tynnu’r postiad bob tro i mi ei bostio
ar Fforwm Enwau Lleoedd https://www.facebook.com/groups/263839124470 am eu bod yn honni taw sbam yw. Felly dyma fe ar y wefan hon.) |
DIWEDD
Sumbolau:
a A / æ Æ / e E / ɛ Ɛ / i I / o O / u U / w W / y Y /
MACRONː ā Ā / ǣ Ǣ / ē Ē / ɛ̄ Ɛ̄ / ī Ī / ō Ō / ū Ū / w̄ W̄ / ȳ Ȳ /
MACRON + ACEN
DDYRCHAFEDIGː Ā̀ ā̀ , Ḗ ḗ, Ī́ ī́ , Ṓ ṓ , Ū́ ū́, (w), Ȳ́ ȳ́
MACRON + ACEN DDISGYNEDIGː Ǟ ǟ , Ḕ ḕ, Ī̀ ī̀, Ṑ ṑ, Ū̀ ū̀, (w), Ȳ̀ ȳ̀
MACRON ISODː A̱ a̱ , E̱ e̱ , I̱ i̱ , O̱ o̱, U̱ u̱, (w), Y̱ y̱
BREFː ă Ă / ĕ Ĕ / ĭ Ĭ / ŏ Ŏ / ŭ Ŭ / B5236ː B5237ː
BREF GWRTHDRO ISODː i̯, u̯
CROMFACHAUː ⟨ ⟩ deiamwnt
A’I PHEN I LAWRː ∀, ә, ɐ (u+0250) httpsː //text-symbols.com/upside-down/
Y WENHWYSWEG: ɛ̄ ǣ æ
ˈ ɑ ɑˑ aˑ aː / æ æː / e eˑeː / ɛ ɛː / ɪ iˑ iː ɪ / ɔ oˑ oː / ʊ uˑ uː ʊ / ə / ʌ /
ẅ Ẅ / ẃ Ẃ / ẁ Ẁ / ŵ Ŵ /
ŷ Ŷ / ỳ Ỳ / ý Ý / ɥ
ˈ ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ əɪ uɪ ɪʊ aʊ ɛʊ əʊ / £
ә ʌ ẃ ă ĕ ĭ ŏ ŭŵ ẃ ẁ Ẁ ŵ ŷ ỳ Ỳ Hungarumlautː A̋
a̋
U+1EA0 Ạ U+1EA1 ạ
U+1EB8 Ẹ U+1EB9 ẹ
U+1ECA Ị U+1ECB ị
U+1ECC Ọ U+1ECD ọ
U+1EE4 Ụ U+1EE5 ụ
U+1E88 Ẉ U+1E89 ẉ
U+1EF4 Ỵ U+1EF5 ỵ
gyn aith δ δ £ gyn aith δ δ £ U+2020 †
« »
DAGGER
wikipedia, scriptsource. org
httpsː []//en.wiktionary.org/wiki/ǣ
Hwngarwmlawtː A̋
a̋
gyn aith
δ δ
…..
…..
ʌ ag acen ddyrchafedig / ʌ
with acute accentː ʌ́
Shwa ag acen ddyrchafedig / Schwa
with acute |
…..
…..
wikipedia,
scriptsource.[]org
httpsː//[
]en.wiktionary.org/wiki/ǣ
---------------------------------------
Y TUDALEN HWN: www.kimkat.org/amryw/1_enwau/enwau_lleoedd_cymru_bawddwr_3811k.htm
---------------------------------------
Creuwyd: 05-04-2024
Adolygiad diweddaraf:
Delweddau:
Ffynhonnell:
---------------------------------------
Freefind. Archwiliwch y
wefan hon Beth sydd yn
newydd? |
Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o
dudalennau'r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sóc? Esteu
visitant una pàgina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Gal·les-Catalunya)
Where am I? You are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia)
Website
Weə-r äm ai? Yüu äa-r víziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA
(= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait
Adran
Enwau Cymraeg / Secció de noms en llengua gal·lesa / Welsh-language Names
Edrychiadau ar y tudalennau / Vistes de
les pàgines / Page Views
Edrychwch
ar yr Ystadegau / Mireu les estadístiques / See Our Stats