http://www.racocatala.com/catalunyacymru/amryw/1_enwau/enwau_lleoedd_cymru_rhigymau_1100k.htm

1100 Gwefan Cymru-Catalonia. Mae ambell rigwm sÿdd yn cyfeirio at bentref neu ardal i’w cael ar lafar gwlad neu mewn hen gylchgronau Cymraeg, ac o dro i dro yr wÿf yn dod ar draws ambell un. Goetre glawd / Heb na bara na blawd.

..

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les
The Wales and Catalonia Website

http://www.estelnet.com/catalunyacymru/catala/enwau_lleoedd_cymru_rhigymau_1k.htm

Adolygiad diweddaraf – Diweddariad Diwethaf - Dÿdd Gwener 15 12 2000

····· 

Rhigymau enwau lleoedd

0997 – This page in English – Place Name Rhymes

Mae ambell rigwm sÿdd yn cyfeirio at bentref neu ardal i’w cael ar lafar gwlad neu mewn hen gylchgronau Cymraeg, ac o dro i dro yr wÿf yn dod ar draws ambell un. Dyma rai wedi eu gosod ar lein (a wedi eu rhoi ar gof a chadw hefÿd).
{Rhwng cromfachau, mewn llythrennau porffor, yr wÿf wedi ychwanegu sÿlwadau; o ran yr orgraff, yr wÿf wedi arfer “ÿ” ar gyfer yr 'y eglur' }

________________________________________________________________

Y Bala

Dowcars y Bala
Heb ddim 'fala;
Dowcars y dre
Bara gwÿn a the.


Byddai pobl yr Abermaw {sic} yn gwawdio pobl Penllÿn a phobl Dolgellau yr un modd, -
Dowcars y Bala
Heb ddim 'fala;
Dowcars y dre (= Dolgellau)
Bara gwÿn a the.
"Llysenwau" (nicknames) Cymru, Cyfrol (volume) 3. 1892. Tudalen (page) 138

________________________________________________________________

Y Goetre Fawr, Sir Fynwÿ

Goetre glawd
Heb na bara na blawd.

An old saying of the parish of Goitre {= Y Goetre}, which has a poor, hungry soil, is
Goitre glawd
Heb na bara na blawd.

The Gwentian Dialect. JOSEPH A. BRADNEY, Tal-y-coed. Archaeologia Cambrensis
Seventh Series. Volume 1. Year: ?? (?1895) tudalennau 145-146

{Cymraeg safonol: "Y Goetref dlawd, heb na bara na blawd". Yn y de-ddwÿrain fe ddywedir “clawd” am “tlawd” }

________________________________________________________________

Castell-nedd
Gweler Mynachlog-nedd.

________________________________________________________________

Dolgellau, Gwÿnedd
Gweler Y Bala.

________________________________________________________________

Llanfachreth

Llanfachreth yr uwd tew,
A'i lond o flew cyffyle.

Byddai pobl y ddwÿ ochr i'r Garneddwen yn gwawdio bwÿdÿdd ei gilÿdd. Ebe pobl Penllÿn,
Llanfachreth yr uwd tew,
A'i lond o flew cyffyle.
Ac ebai pobl Llanfachreth yn ôl, -
Penllÿn llymru tena
A'i lond o drochion sana.
"Llysenwau" (nicknames) Cymru, Cyfrol (volume) 3. 1892. Tudalen (page) 137

________________________________________________________________

Mynachlog-nedd, Castell-nedd ac Aberafan
Yr Abi Jacs a'r Mera brid
Do's dim o'u bäth nhw yn y bÿd.

I'r gorllewin o'r ffin yma y mae gwÿr Castell Nedd, neu fel yr adwaenid hwÿ ar lafar gwlad "Gwÿr y Mera." Ni fynnai gwÿr y Fro gael un cyfathrach â hwÿnt, oblegid
"Yr Abbey Jacs a'r Mera breed
'Dos dim o'u bäth nhw yn y bÿd."
Tafodieithoedd Morgannwg. T. Jones, Ysgol y Cyngor, Dunraven, Treherbert. The Grail, Cyfrol 4, No. 13 (1911)

________________________________________________________________

Penllÿn

Penllÿn llymru tena
A'i lond o drochion
sana.

Gweler Llanfachreth.

 ________________________________________________________________

Tre-lew, Patagonia

Trelew tre lwÿd, digon o faw a dim bwÿd (Y Cymro 28 10 2000)

________________________________________________________________

Welsh Newton, Swÿdd Henffordd

Erfin, cawl erfin.

The bells of Welsh Newton Church {5km i’r gogledd o Drefynwÿ, yn Ergÿn; rhan o Sir Henffordd yn Lloegr oddi ar Gyfeddianaeth ein gwlad gan y Sais } are said to sing,
Erfin, cawl erfin,
the people being so poor that they had only turnips to eat.
The Gwentian Dialect.
JOSEPH A. BRADNEY, Tal-y-coed. Archaeologia Cambrensis
Seventh Series. Volume 1. Year: ?? (?1895) tudalennau 145-146

DOLENNAU AR GYFER RHANNAU ERAILL O'N GWEFAN

0442
Enwau lleodd Cymru - tudalen mynegeiol
Topònims gal·lesos – pàgina índex 
·····
0439
mynegai ar gyfer y tudalennau ar enwau
Noms – pàgina índex 
·····
0043
Yr iaith Gymraeg
La llengua gal·lesa
·····
0821
Chwiliwch amdano yn y gwefan hwn neu ar y rhyngwe o'n tudalen archwilwÿr
Cerqueu-lo en aquesta web – pàgina del cercador intern
·····
0015
Cynllun y gwefan
Mapa de la web
····
0005
Mynegai yn nhrefn y wÿddor i'r hÿn a geir yn y gwefan
L'índex alfabètic dels temes de la web
····
0008
Y cyntedd croeso
La recepció
·····
0001
Tudalen blaen y gwefan 'Cymru-Catalonia'
Portada de la web "Gal·les-Catalunya" 
·····
0821
Chwiliwch amdano yn y gwefan hwn o'n tudalen archwilwÿr
Cerqueu-lo en aqesta web des d’aquesta pàgina


·····

·····

Ble'r wÿf i? Yr ÿch chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Gwefan "CYMRU-CATALONIA"
On sóc?
Esteu visitant una pàgina de la Web "CYMRU-CATALONIA" (= Gal·les-Catalunya)
Weør àm ai? Yuu àarr vízïting ø peij fròm dhø "CYMRU-CATALONIA" (= Weilz-Katølóuniø) Wébsait
Where am I?
You are visiting a page from the "CYMRU-CATALONIA" (= Wales-Catalonia) Website

CYMRU-CATALONIA

 

1100+(enwau_lleoedd_cymru_rhigymau_1k)

 


Edrychwch ar yr Ystadegau / Mireu les estadístiques / See Our Stats