kimkat3537k Ymgom William a Dafydd. Y Tyst Cymreig. 2 Hydref 1868.
Tafodiaith Morgannwg.
27-01-2021
● kimkat0001 Yr
Hafan www.kimkat.org
● ● kimkat2001k Y Fynedfa Gymraeg www.kimkat.org/amryw/1_gwefan/gwefan_arweinlen_2001k.htm
● ● ● kimkat0960k Mynegai
i’r testunau Cymraeg yn y wefan hon www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_mynegai_0960k.htm
● ● ● ● kimkat3537k Y tudalen hwn
Gwefan
Cymru-Catalonia |
....
|
|
(delwedd J4212) |
Y Tyst
Cymreig. 02 Hydref 1868. YMGOM
WILLIAM A DAFYDD. William
a Dafydd yn siarad a'u gilydd am gyfarfodydd cynhyrfus yr wythnos ddiweddaf.
William wedi myned i dy Dafydd y drws nesaf i gael whiff, a siarad am helynt
y frwydr fawr etholiadol. DAFYDD:
Wel, William, shwd i chi eno. Dewch y mlan i'r cornal ma. Cwn, Mari fach, gad
i William ishta fana. WILLIAM:
Hi ni wedi cal wthnos bôth gydar lecshwn ma rwthnos yn. Buoch chi yn un o'r
cwrddi? DAFYDD:
Do fi fuo yn y Temperance All nos Lun, yn nghwrdd gwir Mr Bruce. Buo chi,
William? WILLIAM:
Naddo, wir; ror arno i isha mind i dy'r cridd i gwirom esgid waith; ond fi
fuo yn nghwrdd Mr Fothergill yn Dowlas nos Fercher. Fi glywas shew o son yn y gwaith am y cwrdd nos Lun. DAFYDD:
Wel, fi glywas hina son anghomon am gwrdd Dowlas. Fi weta hi shwd gwrdd odd
nos Lun, a chi wetwch chitha shwd gwrdd odd nos Fercher, ac wetyn mi gewn
wpod y cwbl. WILLIAM:
O'r gora; gewch chi ddechra, Dafydd, achos taw nos Lun odd y cwrdd cynta, a
chwetyn fi weta ina am nos Fercher. DAFYDD
Wel, o ni wedi clywad shew o son am y cwrdd odd i fod nos Lun dros Mr Bruce,
ac rodd whant arno hi i fod yndo. Wel, bothdu anar hawr wedi saith fi etho,
ond erbyn mod i wrth yr All yr oedd y lle jest yn llawn. Fi sbectas fod
rwpath i fod y noswaith ono ta beth. O ni yn ishta mlan jest wrth y platffor,
a medda un odd yn ishta wrth 'mochor i — Dishgwilwch ar y crots a'r dynon
ifanc yco yn llanw y galari, a gwelwch y. dyn yco sydd o'u blan nhw; hwnco yw
i gaffar nhw yn Pentra-back [sic; = bach], ac ma nhw wedi gorffod dod yma eno
i neid mwstwr i drio stopo y cwrdd, achos ta enw Mr Bruce yw o. Wel, ta beth,
dyma y cwrdd yn dechra. Mr Stephens, y druggistar, yn y gatar, ac yn wir fe
wetws pwpwl [sic; = gwpwl] o eire yn net anghomon, yn hol y meddwl i, a dyma
fa yn galw ar Mr Tomos, gwnitog y Saison. Bron y gair cynta wetws a dyma nhw
yn dechra gweuddi, Ie, ie, nace, nace, a chico a chlapo. Weitha, 'rodd an cal
tipyn o lonidd, ond wedin dyma y mwstwr mawr. Pan odd an gweud enw Mr
Richard, wrthi 'rodd pawb yn gweuddi wre ond pan y bysa fan yn gweud enw Mr
Bruce, dyna rai yn gweuddi wre, erill yn gweuddi, Mas ag e, mas ag e. Yn
diwadd fe ishteddws Mr Tomos lawr, a'r dynon yn gweuddi, yn hissan, ac yn
cico trad; welso chi shwd beth 'riod. Or pawb yn gweld yn haws taw y crots yn
y galari a gwithwrs Mr Fothergill odd yn gwneid y mwstwr, ac fe wetodd y
cydeirydd wrthi nhw bod nhw yn chwara game y gallsa doi i chwara hi Wel,
wetyn dyma |
|
|
(delwedd J4213) |
Mr
JAMES, y cyfreithwr, ar i drad. Chi wyddoch taw dyn Bruce trwyddo yw James.
Os dodd hi yn ddrwg gita Mr Tomos, rodd i yn saith gwath gita Mr James. Wedi
iddo weud cwpwl o eire yn awr ac yn y man, gorffod iddo ynte gwpla. Ond
chliwso chi shwd beth bron 'riod ag ambell stroke or an
rhoi. Ar hol
yny fe ddarllenws y cydeirydd lithyr oddiwrth Mr Howalls, Hynysgoi, yn gweud
na allsa fe fod yno fel odda wedi haddo. Ar ol hyny fe ddath Mr GEORGE
MORGAN, stone-cutter, a dyna sport geso ni gita fe.
Rodd a fel mwntibank ar y platffor, ac yn diwadd fe retws o un pen i'r platffor, ac fe gwmpws ar ei gefan yn fflat,
a'i drad o dan y ford, a gweuddi, ‘Dyna fi miwn yn gynta, myn d---.' Trio
dangos Mr Bruce a Mr Fothergill yn retag ras i'r Parlament ora wrth yny. Yr
nesaf oedd Mr
SAMUEL JONES, o'r Cefan. Odd yn ddrwg geni weld Mr Jones yn cal i wrthnebi,
wath dyn bach neis a thawal angyffretin yw Mr Jones: ond fe fu yn ddicon call
i bido bod yn ir. Yn awr
dyma un o wyr Fothergill yn mynd i'r platffor; ond achos i fod a wedi trio
stopo y sharadwrs o'r blan, chas ynta ddim sharad yn awr, a lawr cas a find.
Wel, ta beth, yn diwadd fe ddotws y cydeirydd y penderfyniad i'r cwrdd, ac fe
gunws lot angyffretin i dwylo, ac fe gunws lot efyd yn herbyn; yny yw, ichin
gweld, lot o ddynon Fothergill. A thyna fel y cwplws y cwrdd od-da welas i
riod. WILLIAM:
Wel, beth odd dynon Fothergill yn moin yn ngwrdd Bruce? DAFYDD
Oh, i chin gweld, i gal sturbo ac i drio stopo y penderfyniad i basso, achos
ma nhw yn hawr yn gweld ta rwng Bruce a Fothergill y ma y frwydir. |
|
|
(delwedd J4214) |
WILLIAM:
Dyna fi nawr yn cal sponiad ar y cwrdd nos Fercher yn Dowlas. DAFYDD:
Wel, ia. Nawr, William, dewch i ni gal tipin o anes hwnw; chi allwch chi
hadrodd anes yn well na fi, ond fi wetas i gora gallswn i. WILLIAM:
Hwn ni ddim, Dafydd, am yny efyd, ond fi weta ina gora galla i. DAFYDD:
Betti, ro weld y box bacco na i fi; fi gymra i whiff nawr tra bo William yn
gweid y stori. WILLIAM:
Wel, fi etho lan i Dowlas, i chin gweld, bothtu saith o'r gloch. Dodd y cwrdd
ddim i ddechra nes dodd hi wyth. Wrth find i'r lan drw'r hewl fawr, own ni'n
gweld peth anghomon o ddynon diarth yn cered ar yd yr hewl. Mi ofynas i Dai
Wil Shon Tomos — 'Beth yw'r oll ddynon ma, Dai ?'
'Widdoch chi ddim,' medda fa. 'Na hwn i,' meddwn ina. 'Oh, fi weta i chi,'
medda fa. 'Ma cwrdd lecshwn gynta Fothergill yn School-room eno, ac ma fa
wedi dod a bothtu wech cant o'i withwrs a'i gaffars
gita fa, a ma fa wedi gageo specsal tain i find a gwir Byrnant ta thre eno ar
hol y cwrdd. Wel, fi etho at y School-room. Odd y lle
bron wedi llanw, ond fi sewetas i miwn i'r pen pella, i gael lle cyfleis i
glywad. Bothtu cwarter wedi wyth dyma Mr Fothergill ar y stage, a aner cant ne drigen o'i bleidwyrs gyta ge, a reini gid o
Byrdar a Merthyr, wath ma nhw yn gweid nag os dim CATH yn voto gita ge yn
Dowlas. Ond ta beth, i gal dod at y pwnc, on te, Dafydd. DAFYDD Ia,
ia, William; cerwch chi mlan (pwff, pwff.) Dere a llymad o ddwr ma, Mari fach
(pwff' pwff.) WILLIAM:
Wel, dyma Mr Overton yn cymryd y gatar. Fe wetws gwpwl o eire i acor y cwrdd,
ond rodd yn awdd gweld bod row i fod cyn diwadd. Fe alws ar Mr
FOTHERGILL. Dyma fa ar i drad ac yn dechra seboni gwyr Dowlas, ond dim go.
Achos i bod hi mor dwym, medda fe, fe dynws i got lawr, ac yn llewish i gris
y bu o wetin yn siarad. Yn wir, fe gas lonydd yn lled dda efyd. Tipyn bach
weithe o hissan, &c. Fe gwplws ta beth. Dyma y cydeirydd yn galw. |
|
|
(delwedd J4215) |
Mr W.
GOULD. Pan ath Gould i'r lan, dyma hi off, gweuddi, sgrechan, whislo, ochain,
a wchan fel hwch a haid o foch bach - clapo, cico, &c. Chliwso chi shwd beth riod.
Mr Gould, hun o brif ddynon y Chartis yn Merthyr, yn cuni ddwylo isha iddi
nhw stopo. Na, dim; mlan a nhw, nes o'r diwadd i Mr Gould orffod ishta lawr
eb weud un gair. Wedi iddo fe ffeili gal siarad, dyma Mr C.
GRIFFITH, gwnitog y Bedyddwyr yn Mer- thyr, ar i drad. Fe gunws fel tasa fa emprwr;
daeth yn mlan at y ford mor stiff a phocar, ac fel sa fa yn gweud, ‘Nawr,
fechgyn, y fi iwch dyn chi.' Ond fe gamsynws. Os odd hi yn ddrwg o'r blaen,
rodd hi yn gant gwath nawr, sa le. Oh, ni chlywas i shwd fwstwr a row riod.
Dyma y parchedig yn cymeryd glased o ddwr oddar y ford, ac yn i yfad o, gan
feddwl y basa yny yn diffodd y tan mawr. Ond, dim yn llwyddo. Gorffod iddo
ynte ishta lawr, a chas a weud dim gair. DAFYDD:
Bravo, bechgyn Dowlas (pwff, pwff.) Dynai thalu hi iddi nhw am nos Lun. WILLIAM
Wel, ia. Stopweh, Dafydd, dw i ddim wedi cwpla yto; mar gora nol. DAFYDD
Began pardwn, William; allswn i ddim pido, wir. Bechgyn ffamws yw bechgyn
Dowlais na efyd. Cerwch mlan, William (pwff, pwff.) WILLIAM;
Wel, nhw welson nawr nad odd dim hiws yn byd i drio passo penderfyniad, na
chisho gan neb i sharad dros Fothergill, a thyma Mr Fothergill a'i ddynon mas
o'r room yn nganol y mwstwr rhyfedda a'r spree fwya welso chi riod. Wel, ta
peth. Wedi i wyr Dowlas gal y room iddi nhw inan, dodwd cydeirydd arall, wath
odd yr en hun wedi mind. A dyma gwrdd ffamws wetyn. Y bechgyn yn sharad fel
dynon efyd dros i hegwyddorion, ac yn diwadd dyma benderfyniad yn cal ei
gynig a'i basso, taw Mr Richard a Bruce odd i dynon nhw i find i'r Parlament.
Cariwyd y penderfyniad eb un llaw yn i erbyn a. Dyma wre dair gwaith i
Richard a Bruce; a dyna ddiwadd y cwrdd doniol yn Dowlas. DAFYDD:
Wel, wir, ma petha fel hyn rhi ddrwg efyd. Pam na naiff Mr Fothergill stopoi
ddynon i ddod gyta ge fel hyn i bob man, a'i stopo nhw i sturbo cwrdda dynon
erill; wath fe all fentro fod o yn gwneid mwy o ddrwg iddoi inan nac o les. WILLIAM:
Gadewch iddi nhw, Dafydd, i ymladd a'i giddyl — Bruce a Fothergill — ma Mr
Richard yn saff gita ni. Ag own ni yn licoi clywad nhw yn curo dwylo yn
Dowlas pan y basai henw a yn cael i ddweud. DAFYDD:
O nhw run fath nos Lun yn y Temperance All. Ond dodd y crots ar y galari ddim
yn gwpod i gwers yn dda, wath o nhw yn dechra catw mwstwr witha pan y bysa
henw Mr Richard yn cal i weud; a sa chi ddim ond yn clywad i lidar nhw yn
cymeni pryd hyny; ac yn gweud, ‘Stopwch, stopwch, enw Mr Richard yw hwna.' WILLIAM:
Wel, wir, raid i fi find i'r ty efyd. Noswaith dda chi gyd. Noswaith dda chi,
William dewch miwn riw noswath yto. O'r
gora. |
|
|
Cyfeiriad y tudalen hwn: www. []kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_312_ymgom-william-a-dafydd_1868_3537k.htm
Creuwyd: 27-01-2021
Adolygiadau Diweddaraf: 27-01-2021
_______________________________________________________________
DIWEDD
_______________________________________________________________
Ble’r wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o
dudalennau’r Gwefan "CYMRU-CATALONIA"
On sóc? Esteu
visitant una pàgina of the Web "CYMRU-CATALONIA" (=
Galles-Catalunya)
Where am I? You are visiting a page from the "CYMRU-CATALONIA" (=
Wales-Catalonia) Website
Weə-r
äm ai? Yüü ää-r víziting ə peij fröm dhə "CYMRU-CATALONIA"
(= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait (Rii-spélt Íngglish)
Llyfrau ac
Erthyglau yn y Wefan Hon / Llibres i articles en aquest web
Edrychwch ar fy
Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats