Tudalen mynegeiol i’r deunydd sydd gennym ar y
Wenhwyseg, tafodiaith de-ddwyrain Cymru. ‘Iaith y Gwennwys’ yw ei hystyr, wrth
gwrs, sef gwyr Gwent. Gan mlynedd yn ôl tafodiaith bennaf Cymru oedd hon - ond
erbyn heddiw y mae wedi diflannu i bob pwrpas, fel canlyniad i’r ‘hunanladdiad
ieithyddol’ a fu yn negawdau cyntaf yr ugeinfed ganrif, wrth i bobol y cwr hwn
o’r wlad gefnu ar y Gymraeg. 0934k Gwefan
Cymru-Catalonia.
http://www.kimkat.org/amryw/1_gwenhwyseg/gwenhwyseg_cyfeirddalen_0934k.htm
0001z Yr Hafan
..........2657k Y Fynedfa yn Gymraeg
....................0009k Y
Barthlen
............................1796k Y Gymraeg
.................................................y tudalen hwn
|
|
Gwefan Cymru-Catalonia |
Adolygiad diweddaraf 08 12 2000 |
...
2184c Aquesta pàgina en català
1004e This page in English
(1)
CYFLWYNIAD
Mae i’r Gymraeg
ddwy brif dafodiaith, sef iaith y Gogledd a iaith y De. O fewn y ddwy
dafodiaith hon, y mae yn draddodiadol ffurf orllewinol ac un ddwyreiniol. Felly
os dychmygwn mai gwlad ar siâp sgwâr yw Cymru, ceir yn y cornelyn uchaf ar y
chwith y Wyndodeg, iaith Gwynedd; cyferbyn â hon y mae’r Bowyseg, iaith Powys;
yn y cornelyn isaf, ar y chwith, y mae’r Ddyfedeg, iaith Dyfed; ac ar y
gwaelod, i’r dde, y Wynhwyseg. Gellir dadlau nad yw’r rhaniad hwn yn hollol
gywir, a bod mwy na phedair tafodiaith, ac nad yw’r ffinau mor eglur â hyn. Bid
a fo am hynny, nid yw’r cynllun syml yn bell ohoni, ac wrth sôn am y
tafodieithoedd yn fras mae’n ddadansoddiad defnyddiol o’r sefyllfa

(delw 0082)
Yn ôl Geiriadur Prifysgol Cymru bu sôn am y Wenhwyseg am y tro cyntaf yn y
ganrif ar ôl 1300 - "mor didlawt ynggwawt yggwennhwyssec" (mor
ddi-dlawd yng ngwawd yng Ngwenhwyseg). (di-dlawd - gair hynafol am gyfoethog;
gwawd = gwatwar yn yr iaith gyfoes wrth gwrs, ond yn y Canol Oesedd =
canmoliaeth, canu mawl)
Yn 1632 fe ddywedwyd mai ‘iaith went, Dialectus Ventae prouincie’ oedd; ac yn
1688 ‘Iaith-gwent; the Dialect of Chepstow formerly, and now of all South
Wales’.
Diffiniad Geiriadur Prifysgol Cymru yw -Tafodiaith Gwent, iaith y Gwennwys
yn wreiddiol, ond bellach y mae’n cynnwys iaith Morgannwg hefyd .
Can
mlynedd yn ôl, dyma oedd tafodiaith bennaf Cymru - iaith y ‘Gwiitha’. Daeth
Cymry o’r Gorllewin, o Geredigion a Shir Gâr; daeth rhai o’r Gogledd hefyd i
geisio gwaith yn y ‘Mynyddoedd’. A’r Wenhwyseg siaradai plant y mewnfudwyr. Ac
er gwaethaf y mewnlifiad mawr o du Lloegr, Iwerddon, a pharthau eraill, ar y
dechrau fe ddaeth y rhan fwyaf o’r newydd-ddyfodiaid yn Gymry glân, neu o leiaf
eu plant. A’r Wenhwyseg oedd ar eu gwefusau.
Ar ôl 1900, am wahanol resymau fe dehreuodd gwyr Gwent a Morgannwg gefnu ar y
Gymraeg - ond yn anad dim am nad oedd grym gwleidyddol gan genedl y Cymry i
amddiffyn eu hiaith, yn wahanol i rai cenhedloedd ar dir mawr Ewrop fel y
Tsheciaid a’r Slofeniaid, er enghraifft, a lwyddodd i ennill annibyniaeth a
chodi eu hieithoedd yn eu hôl. O fewn canrif mae’r iaith Gymraeg yn y broydd
hyn wedi cilio, ac er bod yr iaith yn gyfrwng llawer o ysgolion yn y
de-ddwyrain ar ôl blynyddoedd maith o ymgyrchu a brwydro, nid iaith y fro sydd
yn cael ei harfer yno.
Yn nhref Rhymni, tua 1983, fe welais rwyg rhyfedd rhwng y cenedlaethau - y
tad-cu a’r fam-gu yn Gymry dwyieithog, eu meibion a’u merched yn Saeson
uniaith, a’r wyrion a’r wyresau yn siarad rhyfaint o Gymraeg am iddynt fynychu
ysgol gynradd Gymraeg. Yn aml iawn, nid oedd y tad-cu na’r fam-gu yn fodlon
siarad a’r plant hyn yn Gymraeg - nid oeddynt am ‘ddifetha’ iaith ‘gywir’ neu
iaith ‘lyfr’ y plant â’u ‘mwngral Welsh’. Nid oedd cyn-ddisgyblion yr ysgolion
Cymraeg yn gyfarwydd â’r iaith leol o gwbl. (Ffynhonell - gwaith maes wrth
wneud doethuriaeth na orffennais)
Pwrpas yr adran hon yn ein gwefan yw darparu gwybodaeth a deunydd ar gyfer
Cymry Cymraeg a dysgwyr yn y de-ddwyrain. Ar hyn o bryd mae diddordeb mawr yn y
Gymraeg, nid yn unig yng Nghymru ond hefyd y tu draw i Glawdd Offa a dros y
môr. Ond gobeithio bydd dysgwyr y de-ddwyrain, neu ddisgynyddion y Cymry o Went
a Morgannwg aeth i wledydd eraill i ennill eu tamaid, yn dod i adnabod eu
hiaith nhwthau yn well, tafodiaith sydd wedi ei dibrisio ers canrif, ac efallai
byddant yn mabwysiadu rhai o’i nodweddion.
Peth chwithig imi yw clywed dysgwyr yn y de-ddwyrain sydd yn mynnu siarad iaith
y Gogledd am ei bod, yn eu tyb nhw, yn ‘burach’, yn ‘ddilysach’ neu yn ‘fwy
ceinwych’. Ond nid yw hyn yn wir o gwbl - mae iaith y Gogledd yn fwy gogleddol
na iaith y de, a dyna’r cwbl!
Dewch i napod iaith y Gwiitha!
Bro’r Wenhwyseg yn fras:
(delw 6977)
(2) MYNEGAI I’N HADRANNAU AR Y
WENHWYSEG
|
|
Testunau yn y gwefan hwn wedi eu
hysgrifennu yn y Wenhwyseg; neu lyfrau ac erthyglau yn Gymraeg ac yn Saesneg
ar y Wenhwyseg |
|
|
|
Llyfryddiaeth - cyfeiriadau at lyfrau ac
erthyglau wedi eu hysgrifennu yn y Wenhwyseg; neu lyfrau ac erthyglau yn
Gymraeg ac yn Saesneg ar y Wenhwyseg |
|
|
|
Geiriadur
ymledol y Wenhwyseg (yn Saesneg) |
|
|
|
Nodweddion
tafodiaith y De-ddwyrain - dengys y gwahaniaethau rhwng Cymraeg llenyddol a’r
Wenhwyseg |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
DOLENNAU
ALLANOL
http://www.bbc.co.uk/cymru/eisteddfod2004/cefndir/geiriau.shtml
Tudalen y BBC ar y Wenhwyseg
----------------------------------------------------------
http://www.cyfieithwyrcymru.org.uk/cymraeg/adnodd/word/cymraegllafargwent.doc
(dogfen word)
http://www.cyfieithwyrcymru.org.uk/cymraeg/adnodd/pdf/cymraegllafargwent.pdf (dogfen pdf)
Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru
Cymraeg Llafar Gwent / Mary Wiliam, Darlith Goffa
Hedley Gibbard 3/08/04
----------------------------------------------------------
http://ead.llgc.org.uk/arddangos.php?math=manylion&iaith=eng&xmlfile=297664.xml&proto=&sec=intro
Ffurflen gais ar gyfer gweld Llawysgrif Llyfrgell Gendlaethol Cymru NLW MS 1148E (Fe welir fod yn well
gan ein Llyfrgell Genedlaethol ddefnyddio talfyriadau o’r Saesneg ar gyfer eu
cyfeirnodau - NLW MS. Rhag cywilydd).
“The Gwentian Dialect” -
Awdur: Isaac Craigfryn Hughes
Diwedd y ddeunawfed ganrif
Geirfa o’r Wenhwyseg a siaredid ym Morgannwg. Mae iddo gyflwyniad yn Saesneg.
·····
Adolygiad diweddaraf 08 12 2000
Sumbolau
arbennig: ŷ ŵ
Ble’r wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan
“CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (=
Gal·les-Catalunya)
Weø(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ø peij fròm dhø “CYMRU-CATALONIA” (=
Weilz-Katølóuniø) Wéb-sait
Where am I? You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia)
Website
CYMRU-CATALONIA