http://www.theuniversityofjoandeserrallonga.com/kimro/amryw/1_hiwmor/ffraethebion_01_2213k.htm
Cysylltwch â ni trwy’r llyfr ymwelwy: YMWELFA

0001z Y Tudalen Blaen

..........1863c Y Porth Cymraeg

....................0009k Y Gwegynllun

.............................2199k Y Gyfeirddalen Hiwmor

........................................y tudalen hwn / aquesta pŕgina


..  (delwedd 0003)
..







  

 

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les
 
Ffraethebion heb Saeson ynddynt
10 o jôcs anfarwol ddigrif heb (bron) neb o blant Alis
 
 


 (delwedd 0358j)
 

Adolygiadau diweddaraf:  2009-04-08 2005-09-02 2005-10-30


12 – WRTH Y DRWS
-Cnoc cnoc!

-Pw˙ s˙ ’na?

-Ceri.

-Ceri pw˙?

-Cer i wiban!


11 - NAWDDSANT CYMRU (m. 589)
Ifan bach: Gwelish i Dewi Sant yn yr archfarchnad bora dydd Sadwrn. Mae gan Dewi Sant sbectol drwchus a minlliw sgarled ar ei wefusa.
Athrawes: Sbectol a minlliw? Be wyt ti’n feddwl, Ifan bach?
Ifan bach: Fel deudis i, Měs. Daeth rhyw hen Sysnas at ’y Mam, a dechra siarad yn Sysnag efo hi, a deudodd, “Isn’t that Dewi’s mother over there?” a deudodd ’Mam, “O no, that’s Dewi’s aunt.”



10 - GOFAL

Gwraig yn atal tacsi i fynd yn ôl â hi adre ar ôl bod yn y dre. Ond mae’r gyrrwr yn gyrru’n wyllt ar hyd heolydd y dre, yn gwau’r trwy’r traffig, yn brecio’n sydyn, ac yn canu’i gorn ar bawb a phopeth.

Mae’r wraig yn dechrau ofni am ei heinieos, a meddai hi,

“Ylwch, oni fedrech chi fod yn fwy gofalus? Mae gin i chwech o blant yn y ty^ ’cw.”

“Chwech o blant?” meddai’r gyrrwr. “A rych CHI’n gofyn i FI fod yn fwy ofalus?”

9 - YSBRYD Y LAMP
Dyn busnes o Gymro yn colli’r cwbl wrth i’w bartner busnes redeg i ffwrdd gydag arian y cwmni. Wrth iddo ymadfer o’r drychineb, mae ei ffrindiau yn trefnu taith i’r Aifft iddo, iddo gael gwireddu hen freuddwyd, sef ymweld â’r puramidau.

Mewn un o’r puramidau mae e’n sylwi ar lamp olew pres ar lawr. Wrth ei godi dyma ysbryd yn dod allan ohoni.

“Mae gennych chi dri dymuniad,” meddai’r ysbryd. “Pa beth bynnag yr ych chi’n ei ymofyn ddaw i’ch rhan. Ond...”

“Beth yw’r ond?” meddai’r dyn.

“Ond bydd eich cyn-bartner busnes yn cael dwywaith cymaint.”

Er nad yw e’n gweld bod hyn yn amod ryw ddeg iawn, ni wiw cyfri dannedd march fo rhodd, fel y dywed yr hen air, ac mae’n mynd ati i fynegi ei ddymuniadau.

“Yn y lle cyntaf, hoffwn i gael miliwn o bunnau i gael sefydlu cwmni newydd.”

“Gorchymyn imi yw’ch dymuniad!” meddai’r ysbryd, “ond cofiwch, bydd eich cyn-bartner yn derbyn dwy filiwn o bunnau.”

“Popeth yn iawn. Maddau ac anghofio yw f’arwyddair.”

“Beth yw’ch ail ddymuniad?”

“Hoffwn i gael plas enfawr ar lan Llyn Tegid.”

“Gorchymyn imi yw’ch dymuniad!” meddai’r ysbryd, “ond cofiwch, bydd dau blas enfawr ar lan Llyn Tegid gan eich cyn-bartner.”

“Popeth yn iawn. Maddau ac anghofio yw f’arwyddair.”

“A beth am y trydydd dymuniad?” meddai’r ysbryd.

Yn sydyn dyma’r dyn busnes fel petái’n colli ei radlonrwydd, ac yn dweud yn bigog,

“I’r diawl â’r hen “faddau ac anghofio” ’na. Rw i am gael fy hanner boddi gennych!”


8 - GOCHELWCH Y FUWCH
Pam roedd cloch am wddwg y fuwch?
Am nad oedd ei chorn yn gweithio!


7 - YR HEN, HEN WRAIG A’R DDEWINES
Hen, hen wraig ar gadair siglo ar feili’r ffermdy yn llygad haul yr haf.

Yn sydyn dyma ddewines wrth ei hochr.

“Mae gennych chi dri dymuniad”, meddai.

“O, na lyfli!” meddai’r hen, hen wraig. “Yn gyntaf oll, hoffwn i fod yn gyfoethog.”

Mae’r ddewines yn codi’i hudlath, a mae’r gadair yn mynd yn aur trwyddi.

“A’r ail ddymuniad?·

“Hoffwn i fod yn ugain oed unwaith eto!”

Mae’r ddewines yn codi’i hudlath, a dyma’r hen, hen wraig yn mynd yn feinwen hardd ugain oed.

Ar y foment hon, dyma gwrcath yr hen, hen wraig yn cerdded allan o’r ysgubor ac yn dod linc-di-lonc atyn nhw.

“A’r trydydd dymuniad?”

“Hoffwn i fod y cwrcath ’na’n dywysog golygus ifanc!”

Mae’r ddewines yn codi’i hudlath, a dyma dywysog o’u blaen, y dyn harddaf i’r hen, hen wraig weld erioed. Mae hi’n codi o’r gadair ac yn mynd ato fe, gan ebychu “Fy nhywysog perffaith!”

“Wel,” meddai’r tywysog, “ddim mor berffaith â hynny. Mae rhywbeth yr wyt ti wedi anghofio, mae’n amlwg.”

 

Beth wyt ti’n feddwl, cariad?”

 

Ryw flwyddyn yn ôl…. pan ęst ti â mi at y milfeddyg i mi gael f’ysbaddu”.


6 - DEWIS GYRFA
Roedd pawb yn chwerthin pan ddywedais taw digifriwr proffesiynol fydda i. Wel, dŷn nhw ddim yn chwerthin nawr!


5 - OBALDET’! ’RARGIAN!
Ysbďwr Rwsaidd yn ystod y pumdegau yn chwarae pocer â swyddogion llynges Lloegr mewn clwb bonheddwyr yn Llundain. Mae’n siarad Saesneg yn berffaith, ac yn ffugio bod yn arglwydd. Mae’n gwrando’n astud am ryw fân siarad fydd yn rhoi cliw iddo am symudiadau llongau NATO. Dyma fe’n codi ei gardiau ac yn gweld, er ei fawr syndod, bod rhesaid syth (straight flush) ganddo.

Обалдеть!
meddai .

Mae’r stafell yn mynd mor ddistaw â’r bedd - pawb wedi cael ysgytiad. Dyma fe’n edrych o gwmpas at wynebau pawb; ac yna mae’n gwenu, ac yn dweud - Beth bynnag mae hynny’n feddwl!


4 - DOSBARTH BIOLEG
Athro bioleg o flaen dosbarth o blant deuddeg oed yn gofyn -

“Pa ran o’r corff, o’i stimiwleiddio, sydd yn mynd yn fwy nes cyrraedd deg gwaith ei faint arferol?”

Mae distawrwydd ar ôl iddo ofyn y cwestiwn. Does neb yn gwybod yr ateb.

“Neb yn gwybod?” mae’n gofyn.
Neb o gwbl?”

Yna mae merch o’r enw Sioned yn codi i’w thraed ac yn dweud,

“Does dim hawl i chi ofyn cwestiynau fel hwnna i’r dosbarth. Rwy’n mynd i ddweud wrth fy mam, a bydd hi’n dweud wrth y prifathro, ac fe fyddwch chi’n colli’ch swydd yn y fan a’r lle.”

Hm,” meddai’r athro, “ond nid dyna’r ateb. Does na NEB sydd am roi cynnig ar yr ateb?”

Dyma Dafydd yn codi’i law, ac yn dweud, “Rwy’n gwybod beth sydd yn mynd yn fwy nes cyrraedd deg gwaith ei faint arferol os ych chi’n ei stimwleiddio.”

“Ie, Dafydd bach?”

Cannwyll y llygad.”

Yn union!” meddai’r Athro. Da iawn, Dafydd.”

Ac mae e’n troi at Sioned ac yn dweud:

“Mae tri pheth mae rhaid imi’u dweud wrthyt ti, ’merch i. Yn y lle cyntaf, dyna feddwl brwnt sydd gyda ti. Yn yr ail le, petaset ti wedi gwneud y gwaith cartre roddais i iti, fe fyddet ti wedi gwybod yr ateb. Ac yn y trydydd lle - yn y dyfodol rwyt ti’n mynd i gael dy siomi’n enfawr.”

3 - DAWN TAFODAU
Dau gi yn croesi cae. Mae buwch yn dod atyn nhw ling-di-long ac yn dweud, “Mw!”

Mae’r ci cyntaf yn dweud, “Bow-wow!”

Mae’r fuwch yn dweud “Mw!” eto.

A dyma’r ail gi yn ateb “Mw!”

Dyma’r ci cyntaf yn edrych arno yn llawn cenfigen, ac yn dweud, “O na bai gen inne hefyd y ddawn honno!”

”Pa ddawn?” meddai’r ci cyntaf.

“Y ddawn dysgu ieithoedd sy gen ti!”


2 - CWM-SGWT
-Ble gest di dy eni?

-Yng Nghwm-sgwt.

-Cwm-sgwt? Ble ar glawr daear yw hwnnw?

-O, yng Nghwm Rhondda Fawr.

-Rhaid ei fod yn lle bach iawn - dwi erioed wedi clywed amdano.

-Wel wrth gwrs dyw e ddim yr un faint â Threherbert, ond dyw e ddim mor ddi-nod â hynny chwaith.

-Wi wedi mynd lan a lawr y Fawr sawl tro a dw i ddim yn cofio gweld arwydd am Gwm-sgwt erioed.

-Wrth gwrs ych bod chi!  Chi’n mynd i gyfeiriad pen y cwm, ac wrth i chi adael pentre’r Bondo, mae arwydd dwbl ar y chwith ar ochr yr hewl - “Croeso i Gwm-sgwt. Gyrrwch yn ofalus.”

 

-Beth wyt ti’n feddwl, ‘arw˙dd dwbl’?

 

-O, mae arwydd arall o dano. “Yr ˙ch chi’n ymadael â Chwm-sgwt. Gobeithio dewch chi eto.”

1 - NOFEL LAFOERIOG
-Pa awdur Cymraeg yn y ddeunawfed ganrif sgrifennodd lyfr poblogaidd iawn am lafoerio?


-Wn i ddim


-Daniel Owen!


-Dw i ddim yn meddwl dy fod di’n iawn yn fanna. Llyfr am lafoerio?


-Wel dywed wrtho i beth sgrifennodd e.


-“Rhys Lewis”


-Ie. A...?


-“Gwen Tomos”


-Ie. A...?


-“Enoc Huws”.


Ie. A...?


-“Y Siswrn”.


-Ie. A...?


-“Y Dreflan”.


-Na ti, achan
.
________________________________________________
Sumbolau arbennig: ŵ ŷ

Ble’r wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pŕgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (= Gal·les-Catalunya)
Weř(r) ŕm ai? Yůu ŕa(r) vízďting ř peij frňm dhř “CYMRU-CATALONIA” (= Weilz-Katřlóuniř) Wéb-sait
Where am I? You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website


CYMRU-CATALONIA