kimkat3809k Gwefan Cymru-Catalonia. CERNYWEG / KERNEWEK. HENWYN HYNZYOW. ENWAU HEOLYDD. NOMS DE CARRERS. STREET NAMES

 

25-03-2024



 




0003g_delw_baneri_cymru_catalonia_050111
..
 
 
 
 
 
 
 

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Gal·les i Catalunya


NÊBEZ NÔTENNOW WÀR-DRÔ’N KERNEWEK – HENWYN HYNZYOW
Ambell Nodyn ar y Gernyweg – ENWAU AR HEOLYDD
APUNTS SOBRE EL CÒRNIC – NOMS DE CARRERS
Some notes on Cornish – STREET NAMES

 



Map

Description automatically generated
(delwedd 0617b)

Map

Description automatically generated
(delwedd 4702d)

.....
 

 

ENWAU HEOLYDD YN GERNYWEG

Dyma arwydd wrth y fynedfa i ystâd o dai yn Eglos Heyl (Phillack), Cernyw.

Erbyn hyn, ers 2009, y mae orgraff safonol (nad yw wrth fodd pawb, rhaid dweud) a’r ffurfiau ar yr arwydd yn wahanol i’r hyn a geir heddiw yn swyddogol.

.....

(Wicipedia: Ffordd o sillafu'r iaith Gernyweg yw'r Ffurf Ysgrifenedig Safonol (Cernyweg: Furv Skrifys Savonek), a grëwyd er mwyn "darparu orgraff dderbyniol, gynhwysol a niwtral i gyrff cyhoeddus a'r system addysg". Roedd hyn yn ganlyniad i broses a gychwynnwyd drwy greu corff cyhoeddus o'r enw “The Cornish Language Partnership” (Keskowethyans an Taves Kernewek / Partneriaeth yr Iaith Gernyweg), a welai angen cytuno ar un dull sillafu safonol er mwyn rhoi terfyn ar anghytundeb y gorffennol ynglŷn â'r orgraff, sicrhau cyllid oddi wrth y llywodraeth a chynyddu defnydd y Gernyweg yng Nghernyw. Daeth y cytundeb i fodolaeth wedi degawdau o drafod ar ba orgraff ddylid defnyddio ar gyfer yr iaith yn sgîl adfywiad yr iaith yn yr 20g.

 
Cytunwyd ar y ffurf newydd fis Mai 2008 ar ôl dwy flynedd o drafod ac roedd wedi'i dylanwadu gan y systemau sillafau blaenorol. Roedd y bwrdd trafod yn cynnwys aelodau o bob prif gymdeithas iaith Gernyweg: Kesva an Taves Kernewek (Bwrdd yr Iaith Ger
nyweg), Kowethas an Yeth Kernewek (Cymdeithas yr Iaith Gernyweg), Agan Tavas (Ein Tafod) a Cussel an Tavas Kernuak (Cyngor y Tafod Cernyweg), ac fe dderbyniodd fewnbwn gan arbenigwyr ac academyddion o Ewrop a'r Unol Daleithiau. Golygai'r cytundeb i'r Gernyweg gael ei derbyn a'i hariannu'n swyddogol, gyda chefnogaeth oddi wrth llywodraeth y DU a'r Undeb Ewropeaidd.


Ym Mehefin 2009, pleidleisiodd Gorsedd Cernyw â mwyafrif mawr dros dderbyn y Ffurf Ysgrifenedig Safonol.)


Dyma’r enwau ar yr arwydd a’u hystyron hyd y gwelaf innau: (Ffurfiau gwneud yw’r mwyaf, mae’n debyg. Efallai fod un neu ddau yn rhai traddodiadol).
.....
Amal an Avon [ˡa·mal ən ˡa·vɔn]. Cymraeg: Ymyl yr Afon (sef “Penpol Creek”)
.....
Forth an Ula (Safonol: Fordh an Oula) [fɔrð ən ˡu·la]. Cymraeg: Ffordd y Dylluan
.....
Forth an Streth (Safonol: Fordh an Stredh [fɔrð ən ˡstre:ð].). Cymraeg: Ffordd y Nant. (O bosibl yr un gair ag “ystrad” yn Gymraeg yn ôl Ken George, An Gerlyver Meur, sef Y Geiriadur Mawr, 2020). Enw yn cyfeirio eto at “Penpol Creek”, debyg iawn

......


Forth an Tewennow (Safonol: Fordh an Tewennow [fɔrð ən teˡwɛn:ɔw]). Cymraeg: Ffordd y Twyni Tywod / Tywodfryniau]. Cyfateb i'r Gymraeg *tywynau y mae "tewennow". Gwelir y ffurf unigol “tywyn” mewn enwau lleoedd yng Nghymru, megis Tywyn, Meirionnydd.  (Mae lle yma o’r enw The Towans neu Phillack Towans gerllaw, a dyna’r esboniad ar enw’r heol, yn debyg iawn).
.....
Forth an Tre (Y mae yma gamgymeriad – y treiglad meddal yn eisiau) (Safonol: Fordh an Dre [fɔrð ən ˡdre:]). Cymraeg: Ffordd y Dre.
.....
Gwel Tek [gwe:l ˡte:k]). Cymraeg: Maes Teg / Llain Deg. Yn ôl Oliver Padell (Cymrawd Ymchwil Anrhydeddus yn Adran Eingl-Sacsonaidd, Norseg a Cheltaidd Prifysgol Caergrawnt ac Athro Gwadd Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr; awdur “Cornish Place Names” 1988) mae “gwel” yn cyfateb o bosibl i’r Gymraeg “gwäell” (hynny yw”gwäell, gwaell; (De Cymru) gwâll). = sgiwer; llafn hirfain o fetel a ddefnyddir wrth rostio cig). “Llain cul o dir” fyddai’r ystyr mewn enwau lleoedd ar y cychwyn.
.....
Chy an Dowr (Safonol: Chi an Dowr neu Chi’n Dowr [ʧi: ən ˡdɔʊr, ʧi:n ˡdɔʊr]). Cymraeg: Tŷ’r dŵr (hynny yw, wrth “Penpol Creek”).
.....
Gwarth an Dre. Ni wn yn union beth yw’r enw hwn ond yr wyf yn amau bod yma gamraniad a “Gwartha’n Dre” sydd yma < Gwartha an Dre < Gwarthav an Dre. Felly: (Safonol: Gwartha’n Dre [gwarθan ˡdre:],  Cymraeg: Pen y Dre. Yn nhref Hellys / Helston y ceir yr un enw ar heol yno hefyd, mewn ffurf rannol Seisnigedig - Gwarth-an-Drea. “Lle uchaf, pen, top” yw gwartha / gwarthav; yr un gair yn Gymraeg (gwartha / gwarthaf) a’r un ystyr. Yn ôl GPC (Geiriadur Prifysgol Cymru) y mae yn Sir Fynwy, yn Llan-gwm Isaf, le o’r enw Gwartha-cwm (Gwartha’r-cwm, a’r fannod wedi ei gollwng?)
.....
Gweal Gollas (Safonol: Gwel an Gollas / Gwel Gollas [gwe:l ən ˡgɔl:as, gwe:l ˡgɔl:as]). Cymraeg: Maes y Llwyn Cyll / Llain y Llwyn Cyll. Y gair “gwel” mewn gwisg Saesneg yw “gweal”.

A picture containing map

Description automatically generated

Map o'r ystâd o dai yn Eglos Heyl / Phillack:

Shape, arrow

Description automatically generated

 

 

 

.....

 

ENWAU HEOLYDD YN GERNYWEG


Dyma arwydd wrth y fynedfa i ystâd o dai yn Eglos Heyl (Phillack), Cernyw.


Erbyn hyn, ers 2009, y mae orgraff safonol (nad yw wrth fodd pawb, rhaid dweud) a’r ffurfiau ar yr arwydd yn wahanol i’r hyn a geir heddiw yn swyddogol.
.....

(Wicipedia: Ffordd o sillafu'r iaith Gernyweg yw'r Ffurf Ysgrifenedig Safonol (Cernyweg: Furv Skrifys Savonek), a grëwyd er mwyn "darparu orgraff dderbyniol, gynhwysol a niwtral i gyrff cyhoeddus a'r system addysg". Roedd hyn yn ganlyniad i broses a gychwynnwyd drwy greu corff cyhoeddus o'r enw “The Cornish Language Partnership” (Keskowethyans an Taves Kernewek / Partneriaeth yr Iaith Gernyweg), a welai angen cytuno ar un dull sillafu safonol er mwyn rhoi terfyn ar anghytundeb y gorffennol ynglŷn â'r orgraff, sicrhau cyllid oddi wrth y llywodraeth a chynyddu defnydd y Gernyweg yng Nghernyw... Daeth y cytundeb i fodolaeth wedi degawdau o drafod ar ba orgraff ddylid defnyddio ar gyfer yr iaith yn sgîl adfywiad yr iaith yn yr 20g.


Cytunwyd ar y ffurf newydd fis Mai 2008 ar ôl dwy flynedd o drafod ac roedd wedi'i dylanwadu gan y systemau sillafau blaenorol. Roedd y bwrdd trafod yn cynnwys aelodau o bob prif gymdeithas iaith Gernyweg: Kesva an Taves Kernewek (Bwrdd yr Iaith Gernyweg), Kowethas an Yeth Kernewek (Cymdeithas yr Iaith Gernyweg), Agan Tavas (Ein Tafod) a Cussel an Tavas Kernuak (Cyngor y Tafod Cernyweg), ac fe dderbyniodd fewnbwn gan arbenigwyr ac academyddion o Ewrop a'r Unol Daleithiau. Golygai'r cytundeb i'r Gernyweg gael ei derbyn a'i hariannu'n swyddogol, gyda chefnogaeth oddi wrth llywodraeth y DU a'r Undeb Ewropeaidd.


Ym Mehefin 2009, pleidleisiodd Gorsedd Cernyw â mwyafrif mawr dros dderbyn y Ffurf Ysgrifenedig Safonol.)


Dyma’r enwau ar yr arwydd a’u hystyron hyd y gwelaf innau: (Ffurfiau gwneud yw’r mwyaf, mae’n debyg. Efallai fod un neu ddau yn rhai traddodiadol).
.....
Amal an Avon [ˡa·mal ən ˡa·vɔn]. Cymraeg: Ymyl yr Afon (sef “Penpol Creek”)
.....
Forth an Ula (Safonol: Fordh an Oula) [fɔrð ən ˡu·la]. Cymraeg: Ffordd y Dylluan
.....
Forth an Streth (Safonol: Fordh an Stredh [fɔrð ən ˡstre:ð].). Cymraeg: Ffordd y Nant. (O bosibl yr un gair ag “ystrad” yn Gymraeg yn ôl Ken George, An Gerlyver Meur, sef Y Geiriadur Mawr, 2020). Enw yn cyfeirio eto at “Penpol Creek”, debyg iawn

......


Forth an Tewennow (Safonol: Fordh an Tewennow [fɔrð ən teˡwɛn:ɔw]). Cymraeg: Ffordd y Twyni Tywod / Tywodfryniau]. Cyfateb i'r Gymraeg *tywynau y mae "tewennow". Gwelir y ffurf unigol “tywyn” mewn enwau lleoedd yng Nghymru, megis Tywyn, Meirionnydd. (Mae lle yma o’r enw The Towans neu Phillack Towans gerllaw, a dyna’r esboniad ar enw’r heol, yn debyg iawn).
.....
Forth an Tre (Y mae yma gamgymeriad – y treiglad meddal yn eisiau) (Safonol: Fordh an Dre [fɔrð ən ˡdre:]). Cymraeg: Ffordd y Dre.
.....
Gwel Tek [gwe:l ˡte:k]). Cymraeg: Maes Teg / Llain Deg. Yn ôl Oliver Padell (Cymrawd Ymchwil Anrhydeddus yn Adran Eingl-Sacsonaidd, Norseg a Cheltaidd Prifysgol Caergrawnt ac Athro Gwadd Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr; awdur “Cornish Place Names” 1988) mae “gwel” yn cyfateb o bosibl i’r Gymraeg “gwäell” (hynny yw ”gwäell, gwaell; (De Cymru) gwâll). = sgiwer; llafn hirfain o fetel a ddefnyddir wrth rostio cig). “Llain cul o dir” fyddai’r ystyr mewn enwau lleoedd ar y cychwyn.
.....
Chy an Dowr (Safonol: Chi an Dowr neu Chi’n Dowr [ʧi: ən ˡdɔʊr, ʧi:n ˡdɔʊr]). Cymraeg: Tŷ’r dŵr (hynny yw, wrth “Penpol Creek”).
.....
Gwarth an Dre. Ni wn yn union beth yw’r enw hwn ond yr wyf yn amau bod yma gamraniad a “Gwartha’n Dre” sydd yma < Gwartha an Dre < Gwarthav an Dre. Felly: (Safonol: Gwartha’n Dre [gwarθan ˡdre:],  Cymraeg: Pen y Dre. Yn nhref Hellys / Helston y ceir yr un enw ar heol yno hefyd, mewn ffurf rannol Seisnigedig - Gwarth-an-Drea. “Lle uchaf, pen, top” yw gwartha / gwarthav; yr un gair yn Gymraeg (gwartha / gwarthaf) a’r un ystyr. Yn ôl GPC (Geiriadur Prifysgol Cymru) y mae yn Sir Fynwy, yn Llan-gwm Isaf, le o’r enw Gwartha-cwm (Gwartha’r-cwm, a’r fannod wedi ei gollwng?)
.....
Gweal Gollas (Safonol: Gwel an Gollas / Gwel Gollas [gwe:l ən ˡgɔl:as, gwe:l ˡgɔl:as]). Cymraeg: Maes y Llwyn Cyll / Llain y Llwyn Cyll. Y gair “gwel” mewn gwisg Saesneg yw “gweal”.

STREET NAMES IN CORNISH 

This is a sign at the entrance to a housing estate in Eglos Heyl (Phillack), Cornwall.

Since 2009, there has been a standard orthography (not to everyone's
liking) and the spellings of the sign are different from what is the official spelling today.
.....
(Wikipedia: The Standard Written Form (Cornish: Furv Skrifys Savonek) is a way of spelling the Cornish language, created to "provide an acceptable, inclusive and neutral orthography for public bodies and the education system".
T

 

 

 

The Standard Written Form or SWF (Cornish: Furv Skrifys Savonek) of the Cornish language is an orthography standard that is designed to "provide public bodies and the educational system with a universally acceptable, inclusive, and neutral orthography". It was the outcome of a process initiated by the creation of the public body Cornish Language Partnership, which identified a need to agree on a single standard orthography in order to end previous orthographical disagreements, secure government funding, and increase the use of Cornish in Cornwall... The agreement came into being after decades of debate on what orthography should be used for the language in the wake of the revival of the language in the 20th century.

The new format was agreed in May 2008 after two years of debate and was influenced by the previous syllabus systems. The discussion board consisted of members from all major Cornish language societies: Kesva an Taves Kernewek (Cornish Language Board), Kowethas an Yeth Kernewek (Cornish Language Society), Agan Tavas (Our Tongue) and Cussel an Tavas Kernuak (Council of the Cornish tongue), and received input from experts and academics from Europe and the United States. The agreement meant that Cornish was officially accepted and funded, with support from the UK government and the European Union.

In June 2009, the Gorsedd of Cornwall voted with a large majority to accept the Standard Written Form.)

The
se are the names on the sign and their meanings are as far as I can see: (Most are invented names. One or two may be traditional).
.....
Amal the Avon [ˡa · mal ən ˡa · vɔn]. English: Riverside (
the river is "Penpol Creek")
.....
Forth an Ula (Standard: Fordh an Oula) [fɔrð ən ˡu · la]. English: Owl Road
.....
Forth an Streth (Standard: Fordh an Stredh [fɔrð ən ˡstre: ð].). English:
Stream Road, Brook Road. (Possibly the same word as "Ystrad" in Welsh according to Ken George, An Gerlyver Meur, Y Geiriadur Mawr, 2020). This name too refers to "Penpol Creek", very probably.
......

Forth an Tewennow (Standard: Fordh an Tewennow [fɔrð ən teˡwɛn: ɔw]). English: Sand Dunes Road]. "Tewennow"
corresponds to Welsh *tywynau. The singular form “tywyn” is found in Welsh place names e.g. Tywyn, Meirionnydd. the name of  a English equivalent * toes. (There's a place here called The Towans or Phillack Towans nearby, and this most likely accounts for the road name.
.....
Forth an Tre (There is a mistake here - the soft mutation is missing) (Standard: Fordh an Dre [fɔrð ən ˡdre:]). English: Town Road.
.....
Gwel Tek [gwe:l ˡte: k]). English: Fair Field. According to Oliver Padell (Honorary Research Fellow in the Anglo-Saxon, Norse and Celtic Department of Cambridge University and Visiting Professor of Celtic Studies at the University of the West of England; author of "Cornish Place Names" 1988) "gwel" probably corresponds to Welsh "gwäell / gwaell / (South Wales) gwâll” = skewer; a long pin of metal used in roasting meat; a knitting needle). In the first instance, in place names it probably menat "a narrow strip of land".
.....
Chy an Dowr (Standard: Chi an Dowr or
Chi an Dowr [ʧi: ən ˡdɔʊr, ʧi: n ˡdɔʊr]). English: Waterhouse, House by the Water or the Brook (that is, by "Penpol Creek").
.....
Gwarth an Dre. I don't know exactly what this name is but I suspect there is
false division here and it should be "Gwartha’n Dre" < Gwartha an Dre < Gwarthav an Dre. Thus: (Standard: Gwartha'n Dre  [gwarθan ˡdre:], English: Top of the Town. In the town of Hellys / Helston a road there also bears this same name, in a partly Anglicised form – Gwarth-an-Drea.” Gwartha / gwarthav means “top, summit”. There is the same word in Welsh (“gwartha / gwarthaf) with the same meaning. According to Geiriadur Prifysgol Cymru / the University of Wales Dictionary in Llan-gwm Isaf in Sir Fynwy / Monmouthshire there is a place callewd Gwartha-cwm (would this be Gwartha'r-cwm with the linking definiie article dropped?) (= (the) top (of) the valley).
.....
Gweal Gollas (Standard: Gwel an Gollas / Gwel Gollas [gwe:l ən ˡgɔl:as, gwe:l ˡgɔl:as]). English: Hazel Grove Firld. The word "gweal" is “gwel” with an English spelling.

 

 

 

 

 

 

 

Mackerel Close
(St Austell)

Kew Vrithyli

Akademi Kernewek yw omgemeryansek  rag towlennans an korpus a Gernewek, yn y vysk desedha savonow rag an yeth, displegya an gerlyver ha gwruthyl hwithrans. Akademi Kernewek a'n jeves Bord ha peswar panel, gans kettep panel lown arbennek.

(O’i drosi) Mae Akademi Kernewek yn gyfrifol am gynllunio corpws ar gyfer y Gernyweg, gan gynnwys gosod safonau ar gyfer yr iaith, datblygu’r geiriadur a chynnal ymchwil. Mae gan Akademi Kernewek Fwrdd ac iddo bedwar panel, a phob panel yn gyfrifol am faes gwaith allweddol.


https://www.akademikernewek.org.uk/place-names/glossary/A

 

Sumbolau:

a A / æ Æ / e E /
ɛ Ɛ / i I / o O / u U / w W / y Y /
ā Ā /
ǣ Ǣ / ē Ē / ɛ̄ Ɛ̄ / ī Ī / ō Ō / ū Ū / w̄ W̄ / ȳ Ȳ /
ă Ă / ĕ Ĕ / ĭ Ĭ / ŏ Ŏ / ŭ Ŭ /
ˡ ɑ ɑˑ aˑ a: / æ æ: / e eˑe: / ɛ ɛ: / ɪ iˑ i: / ɔ oˑ o: / ʊ uˑ u: / ə / ʌ /
/ / / ŵ Ŵ /
ŷ Ŷ / / ý Ý / ɥ
ˡ ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ əɪ uɪ ɪʊ aʊ ɛʊ əʊ / £

ә ʌ ă ĕ ĭ ŏ ŭ ŵ ŷ

http://www.kimkat.org/amryw/1_kernewek/kernewek_nodiadau_cernyweg_06_SAESNEG_enwau-heolydd_3809k.htm