kimkat0215k Y Lleoliadur. Rhymni. Tref rhwng Merthyrtudful a
Thredegar.
21-05-2017
●
kimkat0001 Yr Hafan www.kimkat.org
● ●
kimkat2001k Y Fynedfa Gymraeg www.kimkat.org/amryw/1_gwefan/gwefan_arweinlen_2001k.htm
● ● ● kimkat1956k Y Lleoliadur – Mynegai www.kimkat.org/amryw/1_lleoliadur/lleoliadur_cyfeirddalen_1956k.htm
● ● ● ● kimkat0215k Y tudalen hwn
(delwedd 0003) |
La Web de Gal·les i Catalunya Y Lleoliadur Rhymni Beth sy’n newydd yn y wefan hon? Y Llyfr Ymwelwyr / El Llibre de Visitants / The
Guestbook: http://pub5.bravenet.com/guestbook/391211408/ |
(delwedd
7375) |
.....
xxxx
Aquesta pàgina en català
xxxx This page in English
(delwedd 5635)
|
|
|
Y Gwladgarwr. 16 Gorffennaf 1859. EISTEDDFOD RYMNI, Yr hon a gynaliwyd ar dyddiau Mawrth a
Mercher, y 5ed a’r 6ed o Orphenaf, dan
nawdd y Gwir Iforiaid. Llywydd, y Parch T. Price, Aberdar; Beirniaid
– y farddoniaeth, y Parch. R. Ellis, 'Cynddelw,' Sirhowy; y Treithodau, y Parch. W. Roberts,
'Nefydd,' Blaenau Gwent; y Gerddoriaeth, Mr. J. Roberts, ‘Ieuan Gwyllt,'
Aberdar; Telynor, T. Llywelyn, 'Llywelyn Alaw,' Aberdar. Cafwyd lle cyfleus
ac eang i gynal yr Eisteddfod, ac mae canmoliaeth yn ddyledus i'r Pwyllgor
Llywodraetbol am eu hymdrech yn gwneyd pob peth yn ddymunol i’r gwyddfodolion. Miss Harries, Tredegar, a daflodd y
difyrwch gyntaf i’r bwrdd, trwy ganu ton gyda'r delyn. Yna cawsom araith gan
R. Ellis, Sirhowy; dywedodd ei fod yn
gobeithio na fyddai grwgnachwyr ar ol yr Eisteddfod hon, onide fod
ganddo Englyn i'w gyru i'r Andras – Dyma fe; GEFFAIL gwir a gafael gas, - i yru Llenorion i'r Andras, I newydd le, o'r neuadd las, Foel weis eiddig fel Suddas. Tôn yn nesaf ar y delyn. Beirniadaeth y Ddau Englyn i E. Evans,
Pensrau, [??] Gwent. Deuddeg o gystadleuwyr. Buddugol, R. Williams, Llanrwst.
Adroddiadol ‘Pan oedd fy Mam yn fyw,' i
ferched dan 12 oed. Dwyn cystadlu. Cydfuddogol, Mary Ann Baker, Rymni, a Mary
Robert, Llechryd. "Can yn darlunio teimladau gwr sobr
o herwydd fod ei wraig yn defnyddio trwynlwch ac yn meddwi, - 3 yn cystadlu.
Buddugol, Mr. John Evans, Blaenau. Cerddoraieth. - Cynhaneddiad ‘Pant corlan
yr yddyn,' [sic; ?y tyddyn] - 12 o
gyfansoddiadau. Buddugol, Mr. E. Evans. 'Y penillion goreu o glod i Bwyllgor yr
Ysgoldy Brytanaidd.’ Buddugol, Abram
John. Ton gyda'r Delyn. 'Penillion i Ysgoldy Cenedlaethol Rymni,’
- un cyfansoddiad, a chafodd y wobr, sef Mr. John Evans. Canu gyda'r Delyn, - 3 yn cystadlu.
Goreu, Mr. Silas Evans, Aberdar. Y CWRDD HWYROL. - Anerchiad difyfyr gan H. James
(Gwerfyl), Aberdar. Yna awd yn mlaen. Beirniadaeth – ‘Traethawd ar y fantais ddeilliedig
i Gymdeithasau Dyngarol Rymni o gynal y cyfrinfaoedd yn yr ysgoldy
Brytanaidd,’ - 3 yn cystadlu. Rhanwyd y wobr rhwng Mri. David Lloyd, Bryn,
Caernarfon, a David Griffiths, Printer, Holywell. Ton gyda'r Delyn. Adrodd, 'Pa beth yw Dyn' gan fechgyn dan 12 oed, - un ymgeisiwr, a chafodd ei wobrwyo, sef Mr.
W. Jones, Pontlotyn. 'Canu unrhyw ddeuawd Cymraeg,’ - 3
dosbarth yn cystadlu. Rhanwyd y wobr rhyngddynt, sef Miss Forey, Merthyr, Miss Price, Rymni, a Mrs. Kruger,
Merthyr. 'Traethawd ar ddyledswydd y Meistri i
ofalu am bethau angenrheidiol i'r gweithwyr at eu gwaith,’ - un ymgeisydd.
sef Mr. Thos. Jones, a chafodd y wobr. Ton gyda'r Delyn gan G. ab Ioan, Dowlais.
'Traethawd yn rhoi yr hanes goreu o gwm
Rymni, - 2 gyfansoddiad. Rhanwyd y wobr rhwng Gwilym Craig y Tyle a Dewi Glan Taf. 'Mawlgerdd i Foneddigesau Rymni, - 2 yn
cystadlu. Goreu, Mr. Thos. Henry, Tonmawr, Castellnedd. ‘Can o glod i Mr. John Kinsey, o Forthwylfa Rymni, - un ymgeisydd, a chafodd ei wobrwyo, sef D.
Glan Taf. Yna cawsom ein difyru gan gyfeillion yn
canu ‘The Village Choristers.' ‘Marwnad i'r brawd Iforaidd W. James,'
- un ymgeisydd, a chafodd y wobr, sef
G. ab Ioan, Dowlais. Ton ar y Delyn. Pedwar yn canu cylchdon (catch), - dwy blaid yn cystadlu, S. Evans a'i
gyfeillion, a D. H. Thomas a'i gyfeillion. Rhanwyd y wobr rhyngddynt. Ton ar y Delyn gan Isaac Benjamin. Terfynwyd y cyfarfod hwyrol trwy i Mr. S.
Evans ganu ‘Hob y dery Daudo [sic; = Dando]. Dechreuwyd bore dydd Mercher trwy
orymdaith. Yna deuwyd yn un fyddin gref i'r lle rhagbarotoedig. Dechreuoedd am 10. – Ton ar y Delyn.
Anerchiad gan y llywydd. Can gan G. ab Ioan gyda’r Delyn. Yna gan Ifor
Cwmgwys. Beirniadaeth "Traethawd yn desgrifio
y dull o fyw,' - 2 yn cystadlu.
Buddugol, Mr. T. R Watkins, Blaenau. ‘Englynion ar Lenyddiaeth y Bibl,' – 4
cyfansoddiad. Cydfuddugol, Ifor Cymgwys, a Gwerfyl, Aberdar. Canu – ‘Unrhyw gan Gymraeg’, - 3 yn
cystadlu. Buddugol, Miss Forey, Merthyr. ‘Can ar y fraint o fod Iforiaeth o fewn
ein gafael, - 3 yn cystadlu. Buddugol,
Mr. J. R. Perkins, Rymni. Cerddoriaeth. - Canig (glee) Dirwestol, -
4 yn cystadlu. Buddugol, ‘Elyrchion.' (I'w gorphen yn y nesaf.) |
|
|
|
Y Gwladgawr. 23 Gorfennaf 1859. EISTEDDFOD RYMNI. Yr hon a gynaliwyd ar dyddiaa [sic] Mawrth a Mercher, y 5ed
a'r 6ed o Orphenaf, dan nawdd y Gwir Iforiaid. (Parhad.) Cystadlu. - Adrodd ‘Cwyn Caradoc o flaen
Cesar.' Goreu, Mri. W. Jones a T. Thomas, Pontlotyn, Rymni. ‘Y Dadganor goreu o unrhyw gan Cymreig
(heb y Delyn), - 16 yn cystadlu. Rhanwyd y wobr rhwng Mri. S. Evans a D. H.
Thomas. Beirniadaeth 'Ar y fantais o wrteithio
gwyneb y ddaear,' - un cyfansoddiad. Dim teilyngdod. Canu ‘Gorphenwyd,' i gor unrhyw
gynulleidfa, dim dros 25, - 2 gor yn cystadlu. Cwrdd 2 o'r gloeh, anerchiad gan y
Llywydd. Beirniadaeth 'Traethawd ar sefyllfa
wladol, lenyddol, ac eglwysig cenedl y Cymry, o ymadawiad y Rhufeiniaid o'r
ynys hon, yn B.A., 409, hyd wneyd clawdd Offa yn B.A. 477, a chyfyngiad y
genedl i'w therfynau presenol yn Nghymru,' - 3 yn cystadlu. Buddugol, Mr. J.
Morgan, Llundain. Ton ar y Delyn. Araeth ar Fuddioldeb Iforiaeth,' 10 mynyd
i'w thraddodi, - 3 yn cystadlu. Buddugol, Mr. J, Williams, Nantyglo. 'Canu unrhyw don roddedig ar y pryd,’ - 2
ddosbarth yn cystadlu. Buddugol, Mr. D. Jones, & Co., Aberystwyth,
Ceredigion. Beirniadaeth ‘Marwnad Mr. B. Davies,' - 2 yn cystadlu. Rhanwyd y wobr rhyngddynt,
sef D. Glan Taf, a G. ab Ioan. Beirniadaeth ‘Marwnad i Mrs. Martha
Edwards, Rymni - 3 yn cystadlu. Goreu, G. ab Ioan. Beirniadaeth yr ‘Awdl ar fywyd a
gorchestion y Brenin Arthur,' - 2 gyfansoddiad. Rhanwyd y wobr rhyngddynt,
sef Mr. Aneurin Jones, Gelligroes, Mynwy, a Ellis Roberts, Gogleddwr. Cystadleuaeth adrodd 'Bywyd yr Unig,' -2
yn cystadlu. Rhanwyd y wobr rhwng Miss Elizabeth Evans, Rymni, a Mary
Roberts, Llechryd. Cystadleuaeth gerddorol (cor perthynol i
unrhyw gynulleidfa), i ganu Carol Nadolig, allan o'r Ceinion, gan O. Alaw; -
2 gor yn cystadlu. Buddugol, Cor Penuel. Cwrdd 6, ton ar y Delyn. Anerchiad
Cynddelw. Yna dernyn difyrus gan Mr. S. Evans (Cynon). A phan y terfynodd,
gwnaeth Gwerfyl englyn difyfyr iddo. A dyma fe – CYNON sydd wedi canu- 'n rhagorol, A swynol i'n synu; Erfyniaf fe'i galwaf yn gu - a mad O hawl dda fwriad, i'n hail ddifyru. Beirniadaeth Cerddorawl. 'Canig (glee) ar
y ddau benill cyntaf o ‘Mis Mai,’’ - 2 yn cystadlu. Buddugol, Mr. W.
Williams. Anrhegwyd ni a'r Deuawd 'O Lovely Peace,'
gan Mrs. Kruger a Miss Forey, Merthyr. Beirniadaeth 'Marwnad yn Gymraeg a
Saesonaeg i Mrs. Andrew Buchan, Rymni,' - 3 chyfansoddiad. Buddugol, D. Glan
Taf. Cystadleuaeth 'Canu unrhyw Ddeuawd
Cymraeg.' Goreu, Mr. D. H. Thomas, a'i gyfaill. Cystadleuaeth adrodd 'Diwedd y Byd.'
Goreu, Mri. R. Davies a J. Thomas. Cystadleuaeth i ferched ganu gyda'r
Delyn, yn ol dull Gwent a Morganwg.' Goreu, Miss Forey, Merthyr. Beirniadaeth ‘Marwnad Mrs. Jemimah
Morgan, Rymni, - 2 yn cystadlu, Goreu, G. ab Ioan. Beirniadaeth 'Traethawd ar y posiblrwydd
i Fasnachwyr Rymni gau eu Masnachdai am 7 o'r gloch y prydnawn,' - 3 chyfansoddiad - anheilwng o wobr. Cystadleuaeth canu, 'Ardderchogrwydd pob
Gogoniant,' - cor cymysg, cynwysedig o ddim llai na 30ain o rifedi. Rhanwyd y
wobr rhwng Cor Dirwestol Dowlais a Cor Dirwestol Rymni. Beirniadaeth ‘Traethawd ar y Sabbath,' -
8 yn cystadlu. Buddugol, S. G. Phillips, cenadwr cartrefol y Bedyddwyr yn
Morganwg, a H. James, Aberdar. Beirniadaeth ‘Englynion difyfyr i'r
Llywydd,' - 6 yn cystadlu. Goreu, Mr. Aneirin Jones. Canu gyda'r Delyn yn ol dull y Deheudir.
Goreu, Mr D. H. Thomas. Terfynwyd trwy ganu ‘Duw gadwo'r
Frenines.' GOHEBYDD. |
|
|
|
Y Gwladgawr. 23 Gorfennaf 1859. EISTEDDFOD RYMNI. Llawenydd ar gynydd a gawn - o godi Dysgeidiaeth yn ffyddlawn: Daeth i'n mysg blant dysg a dawn, A helaeth feibion trylawn. Siaradwn a noddwn ein iaith - y mae hawl I’w moli uwch uniaith; Da a gwiw ydyw y gwaith O gynal yr hen geiniaith. Aberdar. GWERFYL. Ar amnaid yn y Rymni - yr awen Fo'n rhywiog delori; Yn ei hanian a'i hyni Heddyw er nerth boddhaer ni. Wele frawd o uchel fri - gwir deilwng Ag aur Dalent. gwedi I'r gadair ga'dd ei godi, A llen hardd yn Llyw i ni. Y iaith ar olwyn athrylith - arllwysa Er llesiant a bendith, I gwnu egin gwenith Doniau ein plant yn ein plith. Aed rhago eto heb atal - yn llon I weini lles i'r ardal: Dofydd a rydd i'r dyfa1, Dyno hyd oes ei iawn dâl. IFOR CWMGWYS. |
Sumbolau: ā ǣ ē ī ō ū ȳ w̄ W̄
/ ˡ ɑ æ ɛ ɪ ɔ ʊ ə
ɑˑ eˑ iˑ oˑ uˑ ɑː æː eː iː
oː uː /
ɥ / ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ əɪ ɪʊ
aʊ ɛʊ əʊ /
ә ʌ ŵ
ŷ ẃ ŵŷ ẃỳ ă ĕ ĭ
ŏ ŭ ẁ Ẁ ẃ ẅ Ẁ £
---------------------------------------
Y TUDALEN HWN
/THIS PAGE / AQUESTA PÀGINA:
Ffynhonnell:
Creuwyd / Created / Creada: 21-06-2017
Adolygiadau diweddaraf / Latest updates / Darreres
actualitzacions: 21-06-2017
Delweddau / Imatges / Images:
Freefind. |
Ble'r wyf i? Yr ych
chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web CYMRU-CATALONIA (=
Gal·les-Catalunya)
Where am I? You are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (=
Wales-Catalonia) Website
Weə-r äm ai? Yüu äa-r víziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA
(= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait