|
|
(delwedd B0922)
|
Yr Haul. 1868.
Cyfres Caerfyrddin.
Cyfrol III.
“Yng ngwyneb haul a
llygad goleuni.”
“A gair Duw yn uchaf.”
Caerfyrddin. William
Spurrell.
MDCCCLXVIII.
|
|
|
(delwedd B0924a)
|
Yr Haul. Cyfres Caerfyrddin.
“Yng ngwyneb haul a llygad goleuni.” “A gair Duw yn uchaf.”
Rhif. 133. Ionawr, 1868. Cyf. 12.
CYFANSODDIAD ATHRONYDDOL. ENWAU LLEOEDD
CYMREIG YNG NGHYMRU. Gwynionydd. Yr Haul. 1868.
(Rhan 1 / 10)
Tudalennau 7-11.
|
|
|
(delwedd B0925a) (Yr Haul. Ionawr 1868. Tudalen 7a.)
|
CYFANSODDIAD ATHRONYDDOL. ENWAU LLEOEDD
CYMREIG YNG NGHYMRU.
Y RHAGDRAITH.
Y mae Cymru fechan, ac i raddau anfanteisiol, wedi cynnyrchu llawer o
lenyddiaeth oddi ar y chwechfed ganrif hyd yn bresennol, ac ym mhlith y
cyfansoddiadau, y mae llawer llenor wedi dwyn allan lawer o drysorau ar
gyfansoddiad athronyddol iaith mewn ffordd o ieithadur, neu ramadeg a
geiriadur. Ond nid rhyw lawer sydd wedi ei ysgrifenu ar gyfansoddiad
athronyddol enwau lleoedd yng Nghymru: y mae yn wir fod yr enwogion Richards
a Puw, yn cyffwrdd â hyny mewn ambell fan; ond nid yw hyny yn llawer. Talodd
yr enwog Lewis Morris lawer o sylw i’r gangen hon o lenyddiaeth, ac nid oedd
modd cael neb yn fwy cyfaddas, ac y mae yn drueni ac yn golled fawr i’r byd
fod ei Celtic Remains heb eu dwyn allan. Y mae gohebiaethau dyddorol Edward
Llwyd, William Wynn, Ieuan Brydydd Hir, James Phillips, Thomas Fegge, Edward
Richard, ac ereill, yn y Cambrian Register, yn dra dyddorol. Y mae y Parch.
Isaac Taylor, wedi talu llawer o sylw i enwau lleoedd ym Mhrydain, ac wedi
dwyn allan gyfrol werthfawr ar y gangen bwysig hon o lenyddiaeth. Y mae Mr.
Taylor, ar y cyfan, wedi trin ei bwnc yn lled dda, ac wedi treiddio yn yn
[sic] lled bell i'r elfen Geltaidd o enwau ym Mhrydain, ac ar y Cyfandir; ond
mae efe dan gryn anfantais i drin y gangen hòno, gan mai Sais, heb wybod y
Gymraeg a'r cangen ieithoedd Celtaidd, ydyw. Gwelsom adolygiad manwl ar ei
waith yn y Quarterly Review,
ac ar ryw olwg yn ddysgedig; ond yr oedd yr adolygydd yn rhy anwybodus o'r
Gymraeg i allu gwneyd cyfiawnder â’r testyn. Nid oes modd traethu y nifer o
enwau lleoedd sydd yn Lloegr yn Gymraeg bur, ond eu bod wedi cael eu newid
gan y Seison. Clywsom y diweddar John Fenton, Ysw., Glanamel, yn darllen
papyr cynnwysfawr ar y pwys o iawn sillebu enwau lleoedd yng Nghymru, a
dymunol fyddai i hyny gael ystyriaeth gyffredinol.
Y mae yr ysgrifenydd wedi talu llawer iawn o sylw i’r gangen hon o
lenyddiaeth; ond gyda pha faint o lwyddiant, barned y darllenydd. Nid ydym
wedi croesi afon na nant, heb holi eu henw, ac nid oes er ys blynyddau, un ty
neillduol mewn ardal ddyeìthr nad yw wedi cael ein sylw. Y mae y naill enw yn
egluro y llall. Gwyddom, er ys blynyddau lawer, am afon yng Nghethiniog, o’r
enw Tyweli, yr hon a
eglurem yn Tawel wy; ac yr ydym yn ddiweddar wedi cael enw afon arall ym
mhlwyf Llanbadarn Odwyn, ac un arall ger Caerfyrddin, o’r enw Tawelan, yr hon sydd yn
profi yr ystyr tn hwnt i ddadl. Y mae Clydach yn enw amryw afonydd; ac yr ydym yn
ddiweddar wedi cael fod afon yn Llanrhystyd o’r enw Cledan, Y mae an (afonig) yn fenywaidd, ac yna y mae Clyd felly yn troi yn Cled. Mor athronyddol yw
hyn! Y mae plasdy ger Aberteifi o’r enw Trefigyn,
yr hyn a allesid gymmeryd yn Tre
Feigen; ond wrth gael enwau lleoedd ger Corsydd y Fanod a'r Aeddwen, o’r
enw Gwarfigyn,
|
|
|
(delwedd B0925a) (Yr Haul. Ionawr 1868. Tudalen 7b.)
|
sef oddi wrth y Figyn,
Bigni (bog) mawr ger y fan, y mae yn amlwg mai dyma ystyr Trefigyn. Y mae
lleoedd çenym nefyd o'r enw Trewaen.
a Tregors. Y mae hefyd
le ym mhlwyf y Mwnt, o’r enw Bigni,
oddi wrth gors ger y fan. Y mae sylwi ar enwau lleoedd mewn gwahanol fanau
o’r wlad, a'u cymharu â’u gilydd yn llawer o rwyddineb i ddarllen ei hystyr.
Y mae enwau lleoedd yn yr oes hon, wedi myned yn ddirmygus a ffol i'r eithaf.
Y mae yn gywilydd genym fod y fath enwau a Sodom,
Gomorah, Moloch, Soar, Tophet a'u
cyffelyb yng Nghymru. Nis gallwn chwaith edrych ryw lawer yn well ar Salamanca, New York, Hungary
Hall, Sebaatopol, California, a rhes o'u cyffelyb. Nis gallwn chwaith
gymmodi ag enwau llawer o'n lleoedd addoliad; megys Jerusalem, Engedi, Saron,
Jezreel, Horeb, Jericho, St. Barnabas, St. Ethelreda, a degau tebyg.
Yr ydym yn y gwaith hwn wedi gwneyd defnydd aml o Eiriadur y Dr. Puw, yn
gystal ag o'i waith yn y gyfrol gyntaf o'r Cambrian
Register, lle y mae enwau holl leoedd swydd Feirionydd yng nghyd â'i
gwerth yn argraffedig. Teg yw cydnabod pob awdwr. Mewn llyfryn a gyhoeddasom
er ys blynyddan yn ol, lle y mae llawer o enwau wedi eu hegluro, yr ydym yn
gweled golygydd rhyw bapyr yn Seisonig, a gyhoeddir
yn fisol, yn gwneyd defnydd llythyrenol o'n heiddo heb eu cydnabod. Yr ydym
ni yn y traethawd hwn wedi cydnabod pob peth a gawsom gan ereill.
PENNOD I.
SYLWADAU ARWEINIOL A CHYFFREDINOL.
Y Celtiaid ydyw yr ach henaf o bobl y byd. Y maent yn hanu o Gomer ab
Iapheth. Y Celtiaid a ddaeth gyntaf i orllewin Ewrop; ac ymddengys mai y
llinach henaf o honynt ydyw y Cymry. Y mae y Cymry wedi gadael eu hol mewn
gwahanol fanau o Ewrop. Buont yn aros yn hir ar lanau y Môr Du; a dywed
hynafiaethwyr fod yr enw Crimea yn perthyn i'r enw Cymru a bod Balaclava yn debyg o’r un ystyr a Bala yng Ngogledd Cymru. Ystyr bal ydyw yr hyn sydd yn ymwthio allan,
neu yn amlwg o draw. Ystyrir taw gair Cymraeg ydyw Don*
* The Tanais of the ancients.
(Ton), enw afon fawr, yr hon sydd yn aberu i Fôr Asoff; a dywedir hefyd mai ystyr Dniester, ydyw y Don Isaf, a'r Dnieper y Don
Uchaf. Y mae yn debyg hefyd mai gair Celtaidd ydyw Danube, sef y Donwy (dwfr tònog). Y mae afon fawr
arall yn yr Almaen, yr hon sydd yn
|
|
|
(delwedd B0925b) (Yr Haul. Ionawr 1868. Tudalen 8ab)
|
aberu i'r cefnfor Almaenaidd, tua
thrigain milltir is law Hamburg, o'r enw Elb,
neu Elbe, yr hon wrth
bob tebyg, sydd yn dangos perthynas Gymreig, sef el, bywiog, buan, fel y
gwelir yn y perwyddiad el.
Y mae enwau yr afonydd Elan, Elwy, ac ef allai Alun ac Alen yn berthynasau i'r gair Elbe.*
*Dywed rhai ysgrifenwyr Seisonig fod y gair Seisonig elf, ysbryd, neu ellyll, yn berthynas i'r
enw Elbe, sef,
cymmudol; wel gall hyny fod, trwy fod perthynas cyffredinol ieithoedd yn
llawer mwy eang na hyn; ond y mae yr hawl flaenaf gan y Gymraeg, gan mai y
Gymry ddaeth gyntaf i Ewrop.
Y mae hanesiaeth yn cadarnhau y dybiaeth hon, gan fod y Celtiaid, neu y
Cymry, wedi ymwthio ym mlaen mor bell a Phenryn Denmarc, ac a elwid yn Cimmerii, a'r wlad yn Chersonesus Cimbriea. Cymry oedd trigolion
cynhenid Ffrainc, a galwent y wlad yn Gelli.
Ystyr Gelli ydyw lle coedog, anhawdd ei deithio.
Y mae llawer o leoedd yng Nghymru o'r enw Gelli; ac y mae hefyd amryw leoedd
yn ein gwlad o’r enw Cotrel,
hyny yw Coed-draul, lle wedi ei adeiladu yn y coed, lle yr oedd traul wedi ei
wneyd o'r blaen.
Pan ddaeth yr hen Gymry i'r ynys hon, hwy a'i galwent yn Albion,*
*Y mae rhai yn ymdrechu dangos mai o'r gair Lladin Albus, gwyn, y mae Albion
wedi ddeulio.
ac y mae yr enw Cymraeg a Galig am yr Alban,
sef Scotland, yn arwyddo yr un peth. Tebyg fod Alban yn gymhwysedig at y wlad
hono, o blegid ei bod yn dra llawn o fynyddau, neu banau. Y mae al yn flaenddawd cadarnhaol, fel y
gwelwn yn y gair alaeth.
Ystyr aeth yw braw
galarus, ac y mae alaeth yn arwyddo yr un peth, ond fod yr
olaf yn gryfach gair. Wel ynte, ystyr Alban ydyw gwlad lawn o fanau, neu
fynyddau. Fel y dywed Dr. Puw yn ei eiriadur, y mae rhai o brif ysgolheigion
Ewrop, yn mynegu mai gair Cymreig, neu Gelitig ydyw Alp, lluosog Alpau, prif
fynyddoedd Switserland ac Ewrop; ac wrth grybwyll am yr Alpau, ni a welwn y Gymraeg
ym mhellach yn y Penines
Alps. Y mae Penine yn Gymraeg digon eglur, megys yn yr
enwau Penmaenmawr, Pendinas, Pengerwyn, &c. Y mae y
Trioedd yn mynegu fel y canlyn am enwau Tnys Prydain: —
“Tri enw a ddoded ar Ynys Prydain o’r dechreuad. Cyn ei chyfanneddu y doded
arni Clas Merddin, a
gwedi ei chyfanneddu y doded arni Y
Fêl Ynys, a gyrru gwledigaeth arni y gan Prydain ab Aedd Mawr y doded arni Ynys Prydain.” — Tri. 1.
Y mae y gair clas yn bresennol yn arwyddo
gwlad, neu ardal gauedig;
ond ymddengys fod yr ystyr gyntefig yn wahanol, ac os ydyw Dr. Puw yn gywir
yn ystyr wreiddiol y gair, sef llas,
what
|
|
|
(delwedd B0926a) (Yr Haul. Ionawr 1868. Tudalen 9a.)
|
spreads out or over, y mae yr ystyr yn hollol briodol am gymmeriad
yr ynys yn yr amser hwnw, sef gwlad yn ymdaena allan oll gan goedwigoedd
helaeth, glas, neu
wyrddlas yr olwg. Y mae Y
Fêl Ynys yn lled
amlwg, sef ynys doreithiog o fêl.
Am ystyr Prydain neu Prydyn, dadleuir mai cael
ei galw felly a gafodd oddi wrth Prydain
ab Aedd Mawr; ond rhoddir ystyr y gair Prydain yn y modd hyn, gwyneb agored hardd; llawn o degwch, ac y mae y
gwreiddyn pryd yn dra ffafriol i hyn. Tebyg mai
dyna ydoedd ystyr yr enw a gafodd y pencenedl hwnw, am ei fod yn brydferth, ac i'r ynys
felly gael ei galw oddi wrtho. Y dyb a goleddir yn gyffredin am ystyr y gair Cymry yw, fod y genedl yn cael eu galw
felly oddi wrth Gomer,
cynfab Iapheth; ond y mae Dr. Puw yn rhoddi ystyr Cymro o cym a bro,
sef yw hyny, yr hyn sydd yn
gynenid, neu yn wreiddiol â’r wlad; Cymmrodor, genedigol o’r wlad;
Cymro.
Yr oedd ein hynafiaid yn rhyfeddol o gall ac athronyddol mewn rhoddi enwau
cymhwys ar bob peth yn yr holl wlad. Nid y dosbarth iselaf o'r gymdeithas
oedd yn cael y swydd bwysig hon ganddynt, ond y dysgedigion, y beirdd, a'r
offeiriaid. Yn bresennol y mae y ffolaf yn y wlad mor rhyfygus a rhoddi enw
ar dy neu bentref, pan nad oes ynddo yr un gronyn o gymhwysder; ïe, dim mwy
na phe buasid yn galw dwfr ar dân,
neu oleuni ar dywyllwch,
ac y mae'r bodach dirmygus hyn yn cael penderfynu y pynciau hyn ar unwaith, a
dynion gwybodus ac o chwaeth dda a choeth yn gorfod eu dilyn. Yn wir, y mae y
Seison a Chymry Seisonig ac ysnochlyd yn ymdrechu haeru yn ddibaid mai
barbariaid anwybodus oedd ein hynafiaid pan ddaethant i'r ynys hon, ac ar ol
dyfod yma am gannoedd o flynyddau; ond pe byddai dim ond Athroniaeth enwau lleoedd, afonydd, &c.,
i wrthbrofi hyny, byddai genym brofion tra athronyddol a boddhaol i unrhyw
ymofynydd rhesymol. Gwelsom res o eiriau mewn newyddiadur yn ddiweddar, trwy y
rhai yr ymdrechai yr ysgrifenydd brofi fod y Gymraeg wedi benthyca oddi ar y
Lladin. Yr oedd yn ymdrechu profi fod y terfyniad is yn y Lladin yn cael ei droi yn
ddeusain wy yn y Gymraeg, ac yn eu plith dygai
yr afon Tamesis, yr
hon a elwir yn y Gymraeg Tafwys.
Ond y mae y fath resymiad a hwn i bob ieithydd craffus yn gwrthbrofi yr hyn a
ymdrechai yr ysgrifenydd brofi. Nid oes un ammheuaeth gan yr ieithydd a'r
hanesydd Cymreig ag sydd wedi astudio ein llenyddiaeth a’n hanes yn dda a phwyllog,
nad oedd yr enwau hyn wedi cael eu rhoddi ar ein hafonydd yn gystal ag enwau
ar ein prifleoedd cyn i'r Rhufeiniaid roddi troed ar yr ynys erioed.
|
|
|
(delwedd B0926b) (Yr Haul. Ionawr 1868. Tudalen 9b.)
|
Nid oedd y dynion hyny yn gwneyd nemawr ddim i enwau priod, ond eu troi i
sain eu hiaith eu hunain; ac er anghraifft o hyny, dyma ddigon o brofion yn
yr enwau Cymreig canlynol:— Mon, Mona;
Aberconwy, Aberconovium;
Aberafan, Aberavonium;
Abergafeni, Abergavennium;
yr afon Afon yng ngwlad yr Haf, Abona; Afallon, neu Ynys
Afallen, Avalonia;
Celyddon, Caledonia;
Ceredigion, Ceretica;
Caer Corun, Corinium;
Conwy, Conovium; Dwy,
neu Dyfrdwy, Deva;
Dyfed, Demetia;
Dyfnaint, Dammnonia;
Wysg, Asca, neu Isca; Mynyw, Menevia; Nedd, Nidum; ac amryw afonydd o'r
enwau Tain a Taf yn Tava.
Y mae y rhes hon o enwau mor eglur a'r haul ganol dydd mai Cymraeg ydynt, ac
nad yw yr enwau Lladin o honynt ond Lladineiddiad eglur a diamwys o'r enwau
Cymreig cynenid. Gellir ar y tir hwn gredu yn eithaf boddhaol fod y Lladinaeg
wedi benthyca ar ryw gyfnod oddi ar y Geltaeg. Ond ef allai mai y dull mwyaf
boddhaol i roddi rheswm dros hyn yw, y berthynas gyffredinol ag sydd yn
bodoli rhwng ieithoedd a'u gilydd, fel y profa Max Müller yn ei waith
dysgedig a gyhoeddwyd yn ddiweddar dan yr enw The Science of Language.
Y mae rhes faith o eiriau Hebraeg, Groeg, a Lladin, ag sydd yn niwedd yr all
agriäad o eiriadur Dr. Puw, yn dangos ac yn profi yn eglur yr hyn a
ailadrodda y dysgedig Max Mûller. Y mae afon yn sir Gaerfyrddin o'r enw Cothi, ystyr yr hyn yw
bwriad allan, ac y mae y perwyddiad ysgothi a arferir yn bresennol mewn
rhanau helaeth o Gymru, yn dangos yr ystyr yn eithaf boddhaol. Y mae y gair
Groeg hathairo yn debyg iawn iddo; ond byddai yn
rhywbeth tu hwnt i ynfydrwydd i geisio ymdrechu profi mai y Groegiaid fu yma
yn rhoddi enw ar yr afon hon. Yn y modd hyn, y mae yn rhaid i ni ymfodloni
mai perthynas gyffredinol ieithoedd sydd yn rhoddi y tebygolrwydd hwn, ac mai
Lladineiddiad o'r Gymraeg Taf, neu Tafwys,
yw Tamesis.
Gwnaeth y Seison hefyd yr un peth ag enwau lleoedd ym Mhrydain, neu o'r hyn
leiaf i raddau tra helaeth. Pan ddaeth y Normaniaid i Forganwg, ni a welwn yr
un dull yn cael ei ddwyn ym mlaen. Tröwyd Aberogwr yn Ogmore; Castell Nedd yn Neath; y Coetty yn Coyty; Tal y Fan yn Talavan; Abersili yn Sully, &c. Y mae yr egwyddor
hon yn cael ei chario ym mlaen yn feunyddiol yng Nghymru gan y Seison, ond yn
fwy arbenig gan Gymry Seisonig. Y mae yr arferiad falch, goegaidd fursenaidd,
ffugddysgedig, anwladgar, ac afreidiol o newid enwau lleoedd yng Nghymru yn
beth dirmygus i'r eithaf; ac hefyd yn beth colledus, gan fod llenyddiaeth
werthfawr yn gorwedd ynddynt. Y
|
|
|
(delwedd B0927a) (Yr Haul. Ionawr
1868. Tudalen 10a.)
|
mae yn y deyrnas hon ryw chwech neu saith o leoedd o’r enw Newport, ac y mae hyny yn
achosi llawer o drafferth i'r llythyrdai. Pa achos oedd yn galw am Tredraeth yn Newport?
Dim un gronyn, ond mursendod trwyadl o eiddo Cymry bychain a dirmygus. Y mae
son wedi bod er ys bynyddau [sic; = blynyddau] yn ol, am newid Newport Gwent yn Uskport,
gan fod y fath nifer o leoedd yn y deyrnas o'r enw hwnw. Yr ydym yn meddwl
fod rhai pobl yn galw Tredraeth,
Mon, dan yr enw Newport,
yr hyn sydd yn fwy na dyblygiad o'r ffolineb hwn. Y mae gosod dau enw ar
lawer lle bychan yn ffolineb dirmygus, ac yn drafferth afreidiol i'r wlad,
megys galw Trewyddel yn Moylgrove;
Eglwys Wythyr yn Monington;
Mwnt yn Mount;
Rhydcolomenod yn Pigeonsford;
Trawsgoed yn Crosswood;
Gelli Aur yn Golden Grove;
Rhydodyn yn Edwinsford;
Trefhedyn yn Adpar,
yng nghyd â llawer iawn yn rhagor yn y cyffelyb fodd. Mor urddasol y mae
enwau yr hen balasau Cymreig yn seinio; megys Gogerddan, Manhoron, Glyn
Llifon, Penmynydd (ym Mon), Nanteos, Bronwydd, Gelli Dywyll, Coedmawr,
Llysnewydd, Gallt yr Odyn, Bwlchbychan, Llanllyr,*
*Gresyn fod yr hen balas hwn yn cael ei silleba yn Llanllear, a’i gynhanu yn Lanliar.
Aberglasne, Taliaris, Llanofer, Tredegar, a'u cyffelyb.
Y mae yn hollol hanfodol i wybod hanes llawer o leoedd yn ein gwlad cyn deall
eu hystyr, gan fod treigliad amser wedi talfyru a newid yr iawn ddull o'n
sillebu. Y mae dau le yn ardal Llanybydder o'r enwau Gwrdy Bach a Gwrdy Mawr, ac y mae lle ym
mhlwyf Llanddewi Brefi o’r enw Gwrdy,
yn gystal ag mewn amryw fanau o'n gwlad heb law hyny. Y mae hanesiaeth yn
mynegu mai Gwyryfdy oedd yn ei ffurf gyntefig. Ymddengys
mai perthyn i wyryfdai oedd y lleoedd hyn, ac nid yn wyryfdai eu hunain. Y
mae lle yn agos i Glynog Fawr, Arfon, o’r enw Bryn y Gwrdy, yr hwn sydd
yn cyd-gadarnhau y gosodiad hwn.*
*Gwel nodiadau ar Gyff
Beuno gan Eben
Fardd, tud. 68. Dywed y nodiad mai Gwyryfdy yw yr ystyr.
Y mae llawer lle yn ein gwlad o'r enw Mynachdy, Maes y Mynach, Dôl Mynach, Bryn Mynach, a rhaid
olrhain eu dechreuad yn yr un modd. Y mae lle yn ardal Talsarn, ar lan Aeron,
o'r enw College, a gallai llawer un anghyfarwydd ag hanesyddiaeth feddwl fod
rhyw fath o goleg wedi bod yno rywbryd. Ond dim o'r fath beth. Y mae y lle
hwnw yn eiddo Jesus College,
Rhydychain, trwy ewyllys Dr. Gruffydd Llwyd, mab Llanllyr, yr hwn fu yn
benaeth y coleg hwnw. Gan fod y lle yn y modd hwn yn eiddo y College, cafodd yntau ei
alw yn College,
|
|
|
(delwedd B0927b) (Yr Haul. Ionawr 1868. Tudalen 10b.)
|
a dim ond hyny. Y mae Eglwys yng
Ngheredigion o’r enw Troed
yr Aur, ac oni bai fod genym weithiau Lewis Glyn Cothi ac hen feirdd
ereill, buasai yn anhawdd iawn dirnad yr ystyr. Dull cyntefig yr enw oedd, Tredeyrn, hyny yw, Tref y Brenin, neu Tref
Edeyrn. Y mae tref fechan ym Meirion o'r enw Abermaw, ond a elwir yn Bermo, ac yn Seisonig Barmouth. Y mae y talfyriad
a wnawd nr yr enw hwn yn ei osod yn lled dywyll, yn neillduol y dull Sebonig
o hono; ond gan ei fod yn gorwedd wrth aber yr afon Maw, y mae yn hawdd canfod
yr ystyr. Dywed y dysgedig Ddr. Puw mai ystyr Mawddach a Mawddwy yw, the overflowing water.
Ond i ddychwelyd at ddechreuad ystyr enwau yn ein gwlad, ac felly i gael
gweled mor athronyddol yr oedd ein hynafiaid yn y rhan hon o lenyddiaeth. Ym
mhell yn ol, pan ddaeth ein hynafiaid i Ynys Prydain, hwy a barthasant y wlad
i gantrefi, cymmydau, a maenorau. Pan fyddid blaenor, neu arglwydd, yn
dechreu preswylio mewn man anhygyrch o’r wlad, byddai yn adeiladu preswylfod,
a byddai yr annedd yn cael yr enw bod, ac enw yr adeiladydd yn gyssylltedig
ag ef; megys Bod Owain, Bod Edeyrn, Bod Forgan.*
*Y mae bod yn ei ystyr gyntefig yn cael ei arfer mewn rhanau o’n gwlad hyd
heddyw, megys “etifedd y Bod” (mewn gwawd), etifedd Bodheble, &c. Yr ydym
yn ddyledus i'r Brython, 1859, tud. 166, am rai o'r sylwadau yn y tudalen
hwn.
Ar ol adeiladu bod,
byddai y penaeth yn adeiladu tai i’w anifeiliaid a'i bobl; ac ar ol gorphen hyn,
a chael pethau i ryw raddau yn gyflëus at fywoliaeth, byddai y cyfan o'r tai
yn cael yr enw tref;
megys Tref Gaswallon, Tref Hedyn, Tref Gadwgan, a Thref Gawn. Ar ol adeiladu cant o drefi yn y modd hyn, byddid yn
cauad y ffiniau, ac yn galw y rhaniad yn gantref;
megys Cantref y Tyno Coch, a Chantref Emlyn: ac er mwyn cyfleusdra
cymdeithas, byddid yn rhanu y cantref yn dri chwmmwd, mwy neu lai. Er mwyn
dangos 'athroniaeth yr enwau sylfaenol hyn, y mae yn deg dyfynu yr hyn a
ganlyn o’r Myvyrian
Archaeolgy [sic; = Archaeology].
“A'r mesur hwnw y mesurws Dyfnwal Moelmud wrth y gronyn haidd; tri hyd gronyn
haidd yn y fodfedd; tair modfedd yn lled palf; tri lled palf yn y droedfedd;
tair troedfedd yn y cam; tri cham yn y naid; tri naid yn y tir; sef yw y tir,
o Gymraeg neu ydd, grwn; a mil o'r tir yw milltir.
“Ac o'r mesur hwnw ydys yn arfer etwa, ac y gwnaethant fesur erw gyfreithiawl
o ronyn haidd: tri hyd gronyn haidd yn y fodfedd; tair modfedd yw lled palf;
tri lled palf yn y droedfedd; pedwar
|
|
|
(delwedd B0928a) (Yr Haul. Ionawr 1868. Tudalen 11a.)
|
troedfedd yn yr iau; ac wyth yn y
meiiau; a deuddeg yn y geseiliau; un ar bymtheg yn yr hiriau; a gwialen gyhŷd
a hono yn llaw y geilwad, ac ysgwr perfedd yr iau hono yn llaw arall i'r
geilwad; a deg ar hugain o hono yw hyd yr erw; a phedair erw o hono ym mhob
tyddyn a ddyly fod; pedwar tyddyn ym mhob rhandir; pedair rhandir ym mhob
gafael; pedair gafael ym mhob tref; pedair tref ym mhob maenol; a deuddeg
maenawl a dwy dref ym mhob cwmmwd. Y ddwy dref a ddyly fod yn raid brenin; nn
o naddynt a ddyly fod yn dir maerdref, a'r lleill yn ddiffaith brenin, ac yn
hafottir iddo. A chymmaint ag a ddywedasom ni uchod oll a fydd yn y cwmmwd arall;
sef yw hwnw o eirif, pum ugain tref; a hyny yw cantref yn iawn. Deg dengwaith
a ddyly fod ym mhob cant; ac nid a rif bellach deg.”
Y mae y dyfyniad uchod yn dangos pa mor fanwl ac athronyddol oedd ein
hynafiaid yn eu dull syml cyntefig o fyw. Yr oeddynt yn myned ym mlaen wrth
reolau mesuroniaeth. “Ac nid ä rif bellach deg” medd y dyfyniad uchod. “Na,” ys dydwed [sic; =
dywed] y Proffeswr De Morgan, un o rifyddwyr penaf yr oes hon, “deg yw sylfaen yr holl rifedi
mewn rhifyddiaeth,” Tir oedd yr hen air am grwn, ac y yr oedd mil tir, yr hyn sydd yn
dangos yn eglur beth ydyw ystyr milltir,
Modd y cyfreithau Cymreig saith tref yn y faenor; tair tref ar ddeg
ym maenor wythdir. Tref yw gwreiddyn cantref; ac y mae tref yn cael ei arfer byth ym Morganwg am cartref. Ystyr y gair Maenor yw rhaniad o dir wedi ei nodi allan
â meini. Ystyr cwmmwd yw cym a mwd,
sef dosbarth mydawg (crwn, neu round), ac o hwn y mae y
geiriau cymmydawg a cymmydogaeth yn deillio. Ystyr cantref fel ag yr ydym wedi crybwyll, yw cant tref.
Ar ol sefydlu yn y modd hon yn y gantref, yr oedd cwmmwd yn rhandir llys barn. Byddent
yn preswylio yn y gauaf mewn tai yn y dyffrynoedd, y rhai a elwid Hendref, am fod y dref hono yn drigfa barhaus; ac yn yr haf
byddent yn symud i’r mynyddau â’r gwartheg, defaid a geifr ganddynt, i gael
gweithio caws ac ymenyn, yn debyg fel y mae pobl Switserland yn awr; a
galwent y breswylfa hòno yn Hafod,
am mai bod, neu dref am yr haf oedd. Ni a welwn yma fod tref yn lle mwy pwysig na bod — bod oedd enw y lle y preswylient cyn
adeiladu tref a bod wedyn yn beth tymmorol ar y mynydd. Dyma ystyr yr aml le
sydd yn ein gwlad o'r enw Hendref.
Yr oedd gan y tywysogion a'r pendefigion Cymreig faerdrefi heb fod ym mhell o'u cestyll, neu eu
llysoedd. Yn y faerdref yr oedd blith y gwartheg yn cael ei drin.
Gelwid y goruchwyliwr ar y faerdref yn faeron,
ac weithiau byddai
|
|
|
(delwedd B0928b) (Yr Haul. Ionawr 1868. Tudalen 11b.)
|
maer
y biswail yn
cymmeryd yr oruchwyliaeth hon. Y mae ym mhlwyf Llandyssul, Ceredigion, hen
gastell o’r enw Castell
Gwynionydd, ac ar un tu iddo y mae tyddyu o’r enw y Faerdref Fawr, ac ar y tu
arall y mae tyddyn a elwir y Faerdref
Fach. Yr oedd y lleoedd hyn dan lywodraeth y maeronydd i drin blith
arglwydd y castell. Y mae y gair maer perthynol i dref yn awr yn deillio o’r
uo cyffelyb ystyr. Wel, dyma ystyr Maerdref;
ac y mae llawer lle yn ein gwlad o'r enw Maerdy,
yr hwn a arwydda yr un peth. Y mae hefyd lawer o enwau lleoedd wedi eu cymmerwyd
oddi wrth enwau dynion; megys y rhai canlynol oddi wrth blant ac wyron
Cunedda Wledig: — Ceredigion oddi wrth Ceredig; Meiriawn, neu Meirionydd, oddi wrth
Meiriawn; Arwystli oddi wrth Arwystl; Dunodig oddi wrth Dunod; Edeyrnion oddi wrth Edeyrn; Dinmael oddi wrth Mael; Coeleion oddi wrth Coel; Dogfeilir oddi wrth Dogfael; Rhufeiniog oddi wrth Rhufon; Caer Einion oddi wrth Einion Yrth; ac Osweilin (Croesoswallt) oddi wrth
Oswal. Y mae Morganwg wedi ei galw ar ol Morgan Mwynwawr; Brycheiniog ar ol Brychan; ac Essyllwg ar
ol Essyllt. Ac y mae yn deg sylwi yma, fod yr enwau hyn ar ddynion wedi eu
ffurfio o wreiddiau cynnwysfawr y Gymraeg. Ystyr Ceredig yw Caredig, ac enw tlws yw; Edeyrn, teyrn, neu teyrnol (brennwl); Dunod, undeb, hedd, heddychiad; Gwystl, (Arwystl), ernes;
Einion,*
*Einion Yrth. Ystyr Yrth yw cyffyrddiad,
rhwystr. Y mae efe
yn siarad yn yrth, he is speaking lispingly.
Ymddengys fod yr Einion hwn yn siarad yn yrth, fel y mae llawer yn yr oes
hon.
meddiant ein hunain; Mael, elw, rhodd, cyfoeth.
Y mae amryw enwau dynion heb law Mael yn cael eu gwneyd i fyny o’r
gwreiddyn hwn; megys Maelderw,
Maeldef, Maelgad, Maelgwn, Cynfael, Maelawg, Maelwg, Maelyrus. Y mae Elfael hefyd yn enw rhandir yn swydd
Faesyfed. Teg yw traethu taw yr un peth yw ystyr Maelderw a Derfel, Maelgwn, a Cynfael. Ymddengys mai
ystyr Rhufon yw cochwawr. Wel, mor athronyddol yw
y cyfan o'r enwau a ddyfynwyd ar ddynion, yn gystal ag ar leoedd, ac yng
nghymhwysiad enwau dynion at leoedd — y maent i gyd yn athronyddol, ac yn
gynnwysfawr dros ben. Yn awr ni a frysiwn i gymmeryd rhes o enwau lleoedd yn
eu trefn lythyrenol.
(I’w barhau.)
|
|
|
(delwedd B0929)
|
Yr Haul. Cyfres Caerfyrddin.
“Yng ngwyneb haul a llygad goleuni.” “A gair Duw yn uchaf.”
Rhif. 134. Chwefror, 1868. Cyf. 12.
CYFANSODDIAD ATHRONYDDOL. ENWAU LLEOEDD
CYMREIG YNG NGHYMRU. Gwynionydd. Yr Haul. 1868.
(Rhan 2 / 10) Tudalennau 36-39.
|
|
|
(delwedd B0930) (Yr Haul. Chwefror 1868. Tudalen 35b.)
|
CYFANSODDIAD ATHRONYDDOL. ENWAU LLEOEDD CYMREIG YNG NGHYMRU..
(Parhâd o dudalen 11.)
PENNOD II.
Aberaeron, enw tref yng Ngheredigion, yr hon sydd yn gorwedd ar lan
y môr, lle mae yr Aeron yn ymarllwys i Forgilfach Aberteifi. Ystyr y gair aber yw arllwysiad un afon i afon arall,
neu arllwysiad afon i’r môr. Y mae yn ddilys ei fod o'r teulu henaf o eiriau
yn y Gymraeg, gan ei fod yn gwneyd i fyny gynnifer o enwau lleoedd. Rhydd Dr.
Puw ab yn wreiddyn iddo, a dywed mai ystyr
hyny yw bywiogrwydd, neu yn hytrach gyflymder, yr hyn sydd yn dyfod yn agos
yr un ystyr a pistyll.
Y mae y gair yn perthyn i wahanol gangenau o’r Geltaeg. Y mae rhai manau yn
Ffrainc wedi ei gadw ar glawr, yr hwn a elwir yno yn havre, megys Havre de Grace a i gyffelyb. Y mae yn ei
ffurf Gymreig yn Iseldiroedd yr Alban, megys Aberdeen, Abernethy; ond yn yr
Ucheldiroedd ei ffurf yw inver,
megys Inverary,
Inverkeithing, lnverleithen, ac Inverness. Y mae inver yn debycach i’r ffurf Ffrengig havre, nag i’r dull Cymreig aber; ond eto i gyd yr un
gair ydyw;
|
|
|
(delwedd B0931a) (Yr Haul. Chwefror 1868. Tudalen 36a.)
|
ac ef allai fod y gair Gwyddelig bel*
*Bel, the mouth of a ford, or the entrance of a river. — Sullivan’s Celtic Roots.
yn berthynas iddo. Y mae y gair i'w gael yn Llyfr C. Hergest. Y mae aber yn ei gysylltiad ag enwau afonydd yn
gwneyd enwau perseiniol ac athronyddol i lawer iawn o leoedd yn ein gwlad. Y
mae weithiau yn cael ei dalfyru megys yn 'Berffraw, 'Bermo, a 'Berryw. Am
ystyr y gair Aeron,
nid yw pawb o'r un farn. Y mae Dr. Puw yn rhoddi y gair mewn dwy ffordd, sef Aeron ac Airon,
a rhydd yr an ystyr iddynt, sef, “the splendid one; queen of brightness.
Several rivers are called Aeron — Aeron
galon galed, Myrddin.” Nid ydym yn gwybod am un afon yn hollol yr un
fath ei sain ag Aeron;
ond gall yr afon Ayr yn Alban fod yn berthynas iddi, ac
hefyd Eirw, neu Eirwy. Dywedir mai ystyr
Eirwy yw rhaiadr ewynol, a foaming
cataract. Y mae afon
fechan ym mhlwyf Blaenporth, Ceredigion, o'r enw Eirw, a rhydd enw i le a
elwir Nanteirw, ac i
balasdy a elwir Eirw Castle.
Dywed ereill mai Aeron,
sef ffrwythau, a olygir fel ystyr yr enw, am fod, meddir, llawer o aeron yn naturiol ar ei glenydd. Wel, ef
allai fod pob un o'r ystyrion hyn ar un olwg yn gywir; ond y mae y ddau yn
cael eu hammheu. Dywed gwrthwynebwyr y cyntaf nad yw yr Aeron yn neiliduol am ei gloewder, ond i raddau fel
arall, am ei bod yn tarddu mewn lle mawnog. Dywed gwrthwynebwyr yr olaf nad
yw ei dyffryn i'r mesur lleiaf yn hynod am ei aeron, ond i raddau fel
arall, gan fod yma lawer iawn o darth gwyn yn codi yn Ebrill a Mai, yr hwn
sydd yn difa y blodau. Yr ydym yn lled gyfarwydd ag Aeron, a gwyddom fod ei
dwfr ar ryw brydiau, hyny yw, ar ol llifogydd, yn dywyll ei wawr, gan fod
llawer o ddyfroedd mawn ynddi; ond pan fyddo effeithiau y llifogydd wedi
darfod, y mae yr Aeron yn hynod loew, i fyny â'r hyn a ddywed Dr. Puw. Y mae
Aneurin fwy nag unwaith yn son am Aeron yn y Gododin, megys,—
“Deu gathi aeron a cheuon dayrawt” — Pennill 21.
“Kynri a Chenon
Kynrein o Aeron,” —
Pennill 18.
“Kyndilic aeron wyn enouant.” — 66.
“A gwedy dyrreith dy lenwi aeron,”
— 65
Nid yw yn benderfynol mai yr Aeron hon sydd yn cael ei chrybwyll gan Aneurin.
Y mae Lewis Glyn Cothi wrth anerch Hopcyn ab Sion o'r Llysnewydd, ar Lan
Tawy, yn son am Aberaeron fel hyn:-
“St. Cler dan ei faner fo,
A swyddau Cemmaes iddo;
|
|
|
(delwedd B0931b) (Yr Haul. Chwefror 1868. Tudalen 36b.)
|
Bro Went, Morganwg o’r bron,
Bro Wyr, ac Aberaeron. — Dos. I., xxxvi. 35.
Aberarth, enw pentref yn agos i Aberaeron. Y mae yn cael ei enw oddi
wrth yr afon Arth, yr
hwn sydd yn abera i’r môr yn y fan hòno. Afon fechan yw yr Arth; ond eto i gyd, y mae
yn wyllt ac ewynog ei thaith, ac y mae yr enw hwn yn briodol iawn iddi. Y mae
y gair arth yn unsill, ac felly nid oes modd ei
ranu; eto i gyd y mae rhywbeth arbenig yn ei gydseiniaid, sef yr r a'r th yn dangos aruthredd; ac y mae yr enw
Cymreig ar yr arth (bear) yn dra phriodol i'r creadur hwnw, fel un
rheibus, trystfawr, ac aruthr. Y mae yn eithaf amlwg fod yr afon hon wedi
cael ei henw oddi wrth ei haruthredd trystfawr ac ewynog; ac yn wir, y
mae yn enw tra athronyddol. Y mae delw a swn yr afon yn eu cyflawnder yn yr
enw Arth. Y mae nant arall yng Ngheredigion o'r enw Arthog, yr hon sydd yn
perthyn i'r un gwreiddyn ieithyddol, yn gystal a dwy afonig o'r enw Arthen, y rhai a roddant
enwau i ddau le o'r enw Aberarthen.
Y mae un o'r nentydd yn dwyn y nodwedd briodol o arth, sef yr hon sydd ym
mhlwyf Troed yr Aur. Y mae y rhan gyntaf o'i thaith dros allt serth, ac y mae
ei swn yn arthawg a phriodol i'r enw. Bu Arthen yn enw dyn, a bu un o'r enw hwn yn
frenin yng Ngheredigion. Ystyr Arthen fel y dengys Dr. Puw yw arth ieuanc.*
*Arthen, a bear's cub.
“Rhuthr aruthr eithiaw arthen unben.” Cynddelw.
Y mae yr enw priodol Arthur yn deillio o'r un haniad. Yr oedd yr
hen bobl yn rhoddi enwau fel hyn ar eu plant i ddangos dewrder, fel y gwelwn
ym mhellach yn yr enw Llewelyn,
sef dyn gwrol fel y llew — llew elyn. Hefyd Bleddyn, tebygol i flaidd,
yn ddiofn. Y mae hefyd y gair Arthan,
sef Alban Arthan (Winter Solstice) yn cyd-eglurhau yr ystyr hwn, o
blegid Alban Arthan yw yr amser garwaf yn y
flwyddyn. Y mae arthal,
sef gwneyd swn anhyfryd, a cyfarth,
yn perthyn i'r teulu hwn o eiriau. Y mae yr afon Arth yn rhoddi hefyd enw i hen gastell,
yr hwn sydd yn sefyll ar gnipell o graig ar ei glan, a elwir Dinarth, hyny yw, din, amddiffynfa, caer; ac arth, am fod yr amddiffynfa
uwch yr afon hono. Y mae y rhan fwyaf o ysgrifenwyr yn camsillebu yr enw hwn,
ac felly yn taflu ei ystyr yn hollol o'r golwg, trwy ei ysgrifenu yn Dinerth, yn lle Dinarth. Din ac arth yw gwreiddiau y gair.
Aberbrân sydd
enw amryw dai ym mhlwyf Penboir, swydd Gaerfyrddin. Y
|
|
|
(delwedd B0932a) (Yr Haul. Chwefror 1868. Tudalen 37a.)
|
mae yr afon Brân yn tardda o fynydd Moelfre,
ac y mae y ddau enw yn perthyn i'w gllydd. Ystyr bre yw mynvdd, ac ystyr moel fre, yw mynydd moel
heb dwf arno; ac y mae y gair bryn (bre yn) sef mynydd bychan, yn
berthynas iddo. Bychanigyn (diminutive) yw yn yn nherfyniad geiriau. Bre (mynydd)yw ystyr y rhan gyntaf o’r
gair Brëan; ac ystyr an, ain, neu en, yw nant; felly ystyr Brëan yw mynydd-wy,
neu nant y mynydd; ac yn nhreigliad amser talfyrwyd y gair o Brëan i Brân.
Nis gallwn gael ym Mhrydain well eglurhâd tarawiadol o Brân, nag yn y fan hon, ger
Emlyn. Y mynydd yn Moelfre,
a'r afon a dardda o hono yn Brëan — mountain stream. Y mae amryw afonydd
ym Mhrydain o'r enw Brân,
ac y mae un ger Llanymddyfri, yr hon sydd yn rhoddi enw i hen balas Glanbrân, hen gartref y
Gwyniaid. Y mae llawer o fynyddoedd hefyd o'r enw Moelfre yng Nghymru a'r
Alban. Y mae y gwreiddair bre i'w weled hefyd yn Brenni, y Frenni Fawr, yn
Nyfed; ac hefyd yn y geiriau brenin a brëyr.
Mor gynnwysfawr ac athronyddol yw y gwreiddiau bychain bre ac ain.
Y mae brenin a brëyr yn y gymdeithas ddynol, yr
hyn yw bre, neu mynydd
ar arwyneb y wlad — y maent yn uwch na phawb ereill. Dywed rhai fod y gair
Seisonig baron yn berthynas i'r gair brenin, neu brëyr, ac mai y Normaniaid
a'i cymmerodd oddi wrth y Cymry pan wladychasant ym Morganwg; ond y mae hyn
yn ammhëus, gan fod tebygolrwydd y gall fod yn perthyn i'r Lladin baro, a'r Ffrancaeg a'r
Almaeneg baron: ond
gall fod wedi hanu o'r un gwreiddyn, ond nid mor ddiweddar.
Aberbudrell. Mae y ty o'r enw hwn yn agos i Aberbrân. Enw y nant yw Budrell, ac y mae yn enw
hollol gywir a phriodol. Nant fudr a lleidiog yw, yn rhedeg trwy
waendir gwastad; ac y mae yr olwg arni yn ddioglyd ac anhyfryd, fel y byddai
yn rhaid fod syched mawr ar ddyn cyn y gallai yfed dafn o'i dwfr. Y mae y
terfyniad ell yn arwyddo peth symmudol; felly y
mae athroniaeth yr enw yn fwy eglur fyth, sef sylwedd budr, symmudol. Y mae lle yn
swydd Benfro o'r enw Solfach.
Ystyr swl (benywaidd sol) yw lleidiog, ac ach (dwfr) yw y rhan olaf o'r gair. Nid
oes modd cyfrif am yr f yng nghanol y gair, gan mai llithro
i mewn y mae wedi wneyd, fel y mae llythyrenau yn gweuyd yn aml yn nechreu,
yng nghanol, ac yn nherfyniad geiriau. Yn y modd hwn, y mae Budrell a Solfach agos yr un ystyr. Y mae swl yn cael ei gymhwyso at y
llais, sef undonedd:
“Salw i'th gais swliaith
gysson,
Saf uwch y dylath a son.”
D. ab Gwilym i'r
wennol.
|
|
|
(delwedd B0932b) (Yr Haul. Chwefror 1868. Tudalen 37b.)
|
Y mae pentref yn Lleyn o'r enw Abersoch. Ystyr soch yw ffos, gwehynffos, ac y mae yr
afon Soch yn rhyfeddol am ei harafwch a'i
llaid — braidd y mae yn symmud. Yn y modd hyn, yr oedd ein hynafiaid yn
rhoddi enwau cymhwys ar afonydd, ac enwau lleoedd yn cael eu cymmeryd oddi
wrthynt. Y mae y gair Seisonig anarferedig sough wedi deillio o’r gair Cymraeg soch.
Abercarn, yng Ngwent. Mae yr afon Carn yn gam, ar lun carn ceffyl, ac felly y mae yr enw yn dra
chymhwys.
Abercerddinen. Mae lle o’r enw hwn yn agos i Lanwnen, Ceredigion. Y
mae nant o r enw Cerddinen ger llaw, yr hon sydd yn rhoddi yr enw i'r ty. Y
dyb gyffredin yw, fod yr afon yn cael ei henw oddi wrth y pren cerddinen, pa
un a dybid ydoedd gynt yn llawn ar ei glenydd. Y mae y perwyddiad cerdded a arferwn ni mor aml yn dangos
meddwl y gair yn eithaf eglur. Dywed Dr. Puw fod y gair cerdd, am gân a thôn, wedi cael ei arfer o
herwydd fod y clerwyr yn cerdded o amgylch y wlad i ddadgan eu caniadau. Gan
fod y gair cerdd yn arwyddo symmudiad dibaid, gallai
hefyd fod wedi ei gymhwyso at yr afon, gan fod dwfr yn elfen felly; ond y mae
yn fwy tebyg mai oddi wrth y pren cerddinen y cafodd ei galw felly.
Aberceri. Y mae palas ar lan Tefi [sic; = teifi] o'r enw hwn, yr hwn
sydd yn sefyll ger aber yr afon Ceri. Y mae yr afon hon, medd rhai, wedi cael
yr enw oddi wrth y pren ceri,
yr hwn llefyd a elwir yn meryswydd,
y dindoll, a tinagored. Y mae'r pren hwn
ar hyn o bryd yn brin iawn yn ein gwlad, ac felly y mae yn dra ammhëus a fu
digon o amledd o hono yn tyfu ar lan yr afon hon i roddi yr enw hwnw iddi.
“Ceri cywrenin Gwrthddrychiad gwrthdrin.”
Taliesin.
Y mae ffrwythau y ceri (medlar) yn gelyd
iawn nes y byddont wedi goraddfedu. Arferai trigolion sir Faesyfed alw pob
hadau celyd yn ceri.
Ond dywed ereill ystyr y gair yw cêr (ffrwd), a bod afon yn tarddu o
Fwlch Oerddrws, Meirion, yr hon sydd yn ymarllwys i'r Dyfi, yn Ninas Mawddwy,
o'r enw Cerist, yng
nghyd â nant o'r enw Cerynt yn Nanhwynan, wrth droed y Wyddfa, a Cerris, ger Bangor, Arfon,
yn perthyn i'r un teulu; a gellir ychwanegu at hyn, cerwyn, sef llestr fyddo yn
derbyn ffrwd iddo. Pengerwyn,
enw mynydd yn Nyfed. Diammheu fod y mynydd wedi cael yr enw oddi wrth ffrwd,
neu ffrydiau a ddisgynant o hono i'r cwm o dano. Yn y modd hyn, yr ydym yn
tueddu i goleddu y syniad olaf o flaen y blaenaf. Os yr
|
|
|
(delwedd B0933a) (Yr Haul. Chwefror 1868. Tudalen 38a.)
|
olaf sy gywir, y mae y rhan olaf o'r
gair, sef i, yn
deillio o gwy (dwfr) fel yn Dyfi, Teifi, &c. Y mae Ceri o enwogrwydd llenyddol. Un o'i glan
oedd y bardd “Hywel Ceri;” ac ar ei glan, yn y Ddolgoch, y bu un o'n
heisteddfodan “Dadeni,” lle yr oedd Dafydd ab Gwilym, Dr. Sion Cent, Rhys
Goch Eryri, a llawer ereill yn bresennol.
Aberconwy, tref hynafol yn Arfon. Mae yn fynych yn cael ei galw yn Conwy yn unig. Yr ystyr a rydd Dr.
Puw i'r afon yw, the dart
river, am ei bod yn gywir ei rhediad. Y mae amryw bethau yn
ffafriol i’r golygiad, gan fod afonydd yn cael eu galw oddi wrth eu dull o
redeg. Y mae afon fechan yng Ngheredigion o'r enw Saeth, yr hon sydd yn aberu
yn Nhraeth Saeth. Y mae lle neu ddau ger llaw ei blaen o’r enw Blaensaeth, a lle arall o'r
enw Dyffryn Saeth.
Diammheu ei bod wedi cael ei henw oddi wrth ei dull cywir tebyg i saeth, Y mae afon arall yng
Ngheredigion o'r enw Ystwyth,
o herwydd ei bod yn llawn troion. Ond y mae ereill o'r farn mai Cynwy yw ei dull cyntefig; cyn (prif), a gwy (dwfr); hyny yw, the chief water. Y
mae afon ym Morganwg o'r enw Cynon.
Wrth roddi yr un ystyr i cyn yn y fan hon, ni welwn mai ystyr on yw awon,
neu ain, neu awn, yr hyn a arwydda dwfr, neu nant redegog, ac
yma y mae ystyr Cynon a Cynwy yr un peth. Wrth gymhwyso cyn at afon, y mae yn rhaid i ni roddi
yr un ystyr i'r gair a prif,
neu flaenaf; hyny yw,
yr afon benaf yn y rhandir; ac felly y mae yr afon Cynwy, hi yw yr afon bwysicaf yng Ngwynedd. Un o afonydd
Powys yw y Dyfrdwy. Rhenid Gwynedd yn ddwy ran, sef Gwynedd Uwch Conwy a
Gwynedd Is Conwy, yr hyn sydd yn profi fod yr afon Conwy, neu Cynwy, yn un
bwysig. Yn Aberconwy y cynnaliodd Maelgwyn Gwynedd eisteddfod enwog, yr henaf
sy genym mewn hanes.
Abercorus, pentref bychan yn Nhal y
Llyn, Meirion. Dywed Dr. Puw fod yr afon hon yn cael ei henw oddi wrth y
ceuadau crwn y mae yn wneyd yn nhroadau ei glenydd.*
*Corus, a rivulet, so called from its making round excavations in
the angles of its banks. — Cambrian
Register, Vol i.,
p. 296.
Y mae afon fechan ym mhlwyf Llanfihangei ar Arth o'r enw Bwlchog, yr hon, meddir,
sydd yn cael yr enw am fod ei rhediad yn tori llawer o fylchau yn ei glenydd.
Yn awr, ni a welwn fod syniad Dr. Puw am yr afon Corus yn cadarnhau eglurhâd trigolion
Llanfihangel ar Arth ar yr afonig hòno. Y mae y Bwlchog yn rhoddi enw i ddau dyddyndy o'r
enw Bwlchog, fel y mae
Conwy yn roddi i dref Aberconwy.
|
|
|
(delwedd B0933b) (Yr Haul. Chwefror 1868. Tudalen 38b-39a.)
|
Abercothi, enw plasdy ym mhlwyf Llanegwad, ger
aberiad y Cothi i'r Tywi. Ystyr Coth yw bwriad
allan, sef tarddiad a rhediad gwyllt Fel hyn, ystyr Cothi, neu Coth-wy, yw afon wyllt ei
rhediad. Y mae yr afon Cothi yn ateb yn berfaith i'r ystyr
hwn. Nid oes afon yn y Deheudir yn wylltach ei rhediad. Y mae yn chwyddo yn
aruthrol gydag ychydig o wlaw, a phob amser yn rhuo ar ei thaith, gan fwrw allan yn fynych lawer o raian a
cheryg. Y mae y gair ysgothi,
a arferir yn fynych genym am ddolur ar anifeiliaid, yn egluro ystyr Cothi. Y mae y Cothi yn rhoddi hefyd enw i balas
o'r enw Dolau Cothi,
ac i le arall o'r enw Glyn
Cothi, lle y
preswyliai y bardd Llywelyn
Glyn Cothi; ac yn y modd hwn y yn mae Cothi yn afon gyssegredig gan
Awen. Y mae hefyd afon fechan ym mhlwyf Llandygwydd, Ceredigion, o'r enw Cothi, yr hon sydd yn aberu
i'r Hirwen, is law Neuadd Trefawr.
Abercowarch, pentref bychan yn Llan ym Mawddwy, Meirion. Nid yw yn
benderfynol sut y mae yr afon Cowarch yn cael yr enw hwn. Tybia
rhai ei bod yn cael yr enw oddi wrth fod llawer o'r planigyn cywarch wedi bod yn cael ei godi ar
ei glenydd; ond y mae hyny yn dra amhëus. Y mae afonig hefyd ym mhlwyf
Llangynllo, Ceredigion, o'r enw Cywerchydd, yr hon sydd wrth bob tebyg yn
berthynas i Cowarch mewn ystyr. Y mae afon yn sir
Gaernarfon o'r enw Erch,
yr hon sydd yn cael yr enw oddi wrth ei lliw tywyll, brochus.
“Bwriais gyrch hyd Abererch
(Llan yw hon wrth Afon Erch).”
Goronwy Owen.
Gall Cowarch a Cywerchydd fod yn gyfansoddedig o caw (deilliedig o aw) yr hyn a olyga symmudol, buan, brochus; ac erch, sef tywyll, bygythiol, yr hyn sydd yn dra
phriodol i nodwedd llawer afon. Yn y modd hwn, hwyrach mai Cawerch all fod yr
iawn ystyr am y ddwy afon Cowarch a Cywerchydd. Y mae afon
arall yn sir Gaerfyrddin o'r enw Cowyn,
yr hon sydd yn rhoddi enw i bentref o'r enw Abercowyn,
neu Llanfihangel Abercowyn. Tebyg mai ystyr yr enw hwn eto yw cawyn, cawen, neu cawain, hyny yw, caw (aw) ac ain, en, neu ain (nant). Y mae y gair Hawen, sef enw dwÿ afon yng
Ngheredigion, yn perthyn yn agos i'r teulu, sef aw ac en.
Y mae y fath air a cywyn, a rising, or swelling up, yn ein
geiriaduron; ond nid yw yn debyg mai dyna ystyr yr afon Cywyn.
“Cad Caswallon ar Gywyn,”
Llywarch Hen.
Y mae yn anhawdd iawn ateb dros ddyfodiad llawer llythyren i ddechreu, canol
neu ddiwedd llawer gair. Y mae gair ar lafar gwlad yn Ystrad Tywi, sef ffrest, am rych; ffrest o bytatw = rhych o bytatw. Y mae yn
eithaf eglur mai rhes neu rhestr yw ffurf gyntefig y gair hwn;
ond y mae yn anhawdd dirnad o ba le y daeth y llythyren ff i mewn? Y mae Dr. Puw yn olrhain
ugeiniau a channoedd yn y ffordd hon; megys clwt o llwt, clwyd o llwyd, clep o llep, &c. Gellir traethu ym
mhellach, fod y gair cawod yn perthyn i'r teulu cawarch, cowyn, &c.
(I’w barhau.)
|
|
|
(delwedd B0935a)
|
Yr Haul. Cyfres
Caerfyrddin.
“Yng ngwyneb haul a llygad goleuni.”
“A gair Duw yn
uchaf.”
Rhif. 135. Mawrth, 1868. Cyf. 12. Tudalennau
77-81.
CYFANSODDIAD
ATHRONYDDOL. ENWAU LLEOEDD CYMREIG YNG NGHYMRU. Gwynionydd. Yr Haul. 1868.
(Rhan 3 / 10)
Tudalennau 77-81.
|
|
|
(delwedd B0936a) (Yr Haul. Mawrth 1868. Tudalen 77a.)
|
CYFANSODDIAD ATHRONYDDOL. ENWAU LLEOEDD
CYMREIG YNG NGHYMRU.
(Parhâd o dudalen 39.)
Aberdar, enw tref ym Morganwg, ac enw lle ger Aberteifi. Tybia rhai
fod yf afonydd hyn a elwir Dâr yn cael eu henwau oddi wrth fod llawer
o’r pren derw neu dâr ar eu glenydd. Y mae genym hefyd amryw afonydd o'r enw Dyar;
y mae un yn ymarllwys i'r Nefern, neu Nanhyfer, yn Swydd Benfro, ac y mae un
arall yn swydd Caerfyrddin, ac yn rhoddi enw i dai a elwir Aberdyar.
Ystyr dyar yw trwst, neu swn; ac y mae gorddyar
yn deillio hono, sef tra dyar.
“Ef mud a llafar,
Ef yn orddyar.”
Taliesin i’r Gwynt.
“Hirnos gorddyar mynydd.”
Llywarch Hen.
“Gorddyar adar gwlyb gro,
Dail cwyddid, difryd difro.
Ni wadaf, wyf glaf heno.”
Llywarch Hen.
Hawdd iawn y gallasai dyar gael ei dalfyra i dâr, fel brean i
brân; ac felly y mae yn dra thebyg mai Aberdyar oedd Aberdar
yn ddechreuol. Y mae yn debyg hefyd fod Aberdaron yn Lleyn yn perthyn
i'r teulu hwn o eiriau. Gall Daron fod yn cael ei wneyd i fyny yr un
modd ag awon, o aw ac on. Y mae Daren wedi bod yn
cael ei
|
|
|
(delwedd B0936b) (Yr Haul. Mawrth 1868. Tudalen 77b.)
|
arfer yn gyfenw ar y Duwdod, yr hyn A arwyddai taranwr.
Aberdaw, enw lle yn Nyfed. Ystyr daw, neu taw, yw tawel,
dystaw; hyny yw, afon ddystaw ei rhediad, croes i'r hyn ydym wedi draethu
am Dar a Dyar.
Aberdeugleddau yw yr enw Cymreig a roddir ar Milford. Hen enw
Cymreig Milford oedd Mylfor, sef wrth bob tebye, Ymylfor,
am ei fod yn ymyl y môr; ac o’r gair hwn y mae y Seisoneg wedi cael yr enw Milford.
Gan fod ford yn air mor gyffredin yn y Seisoneg, yr oedd yn hawdd ac
yn naturiol i'r tafod Seisonig droi Mylfor yn Milford. Y mae genym lawer o
enwau yn debyg i'r enw hwn, megys Arfor, hyny yw, lle ar bwys y môr, a
Minfor, lle ar fin y môr. Dywedir fod yr hen Aberdeugleddeu yn llawer
nes i'r lan, sef yn agos i Picton Castle, ychydig yn uwch nag uniad y
ddwy Gleddau. Dywedir yn y wlad fod y ddwy Gleddau, neu yn
hytrach Cleddeu, yn cael eu galw wrth yr enw hwn, am eu bod yn debyg i
gleddeuf a dywedir hefyd fod Gwain, neu Gwaen, yn cael ei henw
o blegid fod gwain yn perthyn i gleddeu; ac ym mhellach fod afon rhwng
y Cleddeu a’r Gwain o’r enw Cyllell. Y mae y fath enwau
yn gwbl gysson ag athroniaeth enwau lleoedd yn yr oes hon; ond mae yn anhawdd
credu fod yr hen bobl mor anathronyddol a hyn. Beth bynag, gallasai yr
afonydd Cleddeu fod wedi cael yr enw oddi wrth eu tebygolrwydd i’r arf
hwnw. Y mae afon fechan, ger Emlyn, o'r enw Arad, yr hon meddir, sydd
yr un ffurf yn gymhwys ag aradr. Rhydd yr afon hon yr enw i bentref Aberarad.
Y mae afon fechan arall yn aberu yn ymyl Llandyfrïog, o'r enw Trosol,
yr hon a rydd yr enw Abertrosol i bersondy Llandyfrïog. Y mae yr un
fath ei ffurf a throsol yn hollol. Y mae afon arall yng Ngheredigion
o'r enw Saeth, a elwir felly o herwydd ei thebygolrwydd i saeth.
Yn y modd hyn, gall y Cleddeu fod wedi cael yr un athroniaeth i'w
henw. Fe buasem yn ymofyn gwreiddiau gwahanol i Cleddau, buasem yn
cynnyg mai lledd a gwy yw yr ystyr, ac wedi derbyn yr C
i mewn yn yr un modd a Cawyn, &c. Ystyr lledd yw dystaw,
neu wastad, ac felly gallasai fod yn eithaf priodol i nodwedd yr afon.
Y mae yn llawer tebycach fod y Cleddeu yn cael ei henw oddi wrth yr
arf hwnw, na bod y Gwaen yn cael ei henw oddi wrth wisg yr arf. Ystyr gwaen
yw gwastad, llyfn, neu gywir, a gallesid rhoddi y tri ystyr hyn
yn eithaf priodol i'r afon Gwaen, gan eu bod agos yr un meddwl, ac
hefyd yn briodol iddi hithau.
Aberdyfi, tref fechan ym Meirîon, yn sefyll ger geneu y Dyfi.
Ystyria llawer mai ystyr Dyfi yw dofwy, sef afon ddof,
hyny yw, araf ei rhediad; ond y mae
|
|
|
(delwedd B0937a) (Yr Haul. Mawrth 1868. Tudalen 78a.)
|
ereill yn traethu mai ei hystyr yw Dyfnwy, sef afon ddofn ei phyllau.
Hwyrach mai yr olaf sy fwyaf cywir. Y mae llawer o lenorion wedi bod ar ei
glenydd, megys Sion Mawddwy, Dafydd ab Llywelyn Llwyd, &c.
Aberdysyni, enw tref ym Meirionydd. Yr enw Seisonig a rydd Dr. Puw i'r
afon yw Sonorosity*
*Cambrian Register, cyf. I., tud. 297.
hyny yw, afon drystfawr, glochog, uchelseiniol. yn llawn dadwrf a
thrybestawd, ac enw rhagorol ydyw.
”Tystion ydyw'r afonydd
Teifi a Dysyni sydd.”
D. Ionawr.
Aberedwy, enw Eglwys a phentref ym Maesyfed. Ymddengys mai dull
cyntefig o sillebu enw yr afon Edwy oedd Aidwy. Ystyr aid
yw buandra, bywiogrwydd, yr hyn sydd yn eithaf priodol i
nodwedd yr afon. Y mae y pentref hwn yn enwog am ei fradwyr. Gwŷr y lle
hwn fradychodd "Llywelyn ein llyw olaf;" ac y mae “Bradwyr
Aberedwy" byth yn adgas yng ngolwg Cymry a Seison.
Abereinon, enw tyddyn ac hen gastell ym mhlwyf Llandyssul, Ceredîgion.
Ymadengys mai ain awn yw ystyr enw yr afon hon. Ystyr ain
yw ymestyniad neu fwriad allan, ac ystyr awn yw cyd-rediad.
Aberffraw, enw pentref ym Mon, lle gynt y bu llys tywysogion Gwynedd.
Ystyr Ffraw yw afon fywiog, yn llawn ysgogiad. Y mae y
geiriau effraw a deffraw yn perthyn i ffraw, ac yn
cydegluro yr ystyr.
"Terfysg yn rhagffysg yn rhagder a wnaeth
Twrf ton ffraeth Ffraw Aber."
Cynddelw.
Abergeleu, tref yng Ngogledd Cymru. Ystyr geleu yw yr hyn sydd
yn tarddu a rhedeg yn araf ac aneglur, yn ymsoddi o'r golwg mewn cors neu
laid. Hwyrach mai’r gair Seisonig goreu am dano yw ooze.
”Edwis terwyn teyrn feibion,
A edeu geleu yn ei galon."
Cynddelw.
Abergwaen. (Gwel Aberdeugleddau).
Abergwesyn, enw plwyf ym Mrycheiniog. Y mae gwesyn yn enw am fugail, a
hyny, medd y Trioedd, o blegid hyn: —
“Tri Defeidydd cosgordd Ynys Prydain; Collwyn, Defeidydd Gosgordd Brân
ab Llyr Llediaith ym Morganwg: Pybydd Moel, defeidydd gosgordd Tegerin Llwyth
Llwydwarth ym Mon: a Gwesyn, Defeidydd gosgordd Goronwy ab Ednywain,
brenin Tegeingl yn Rhyfoniawg; ac o'i enw ef y gelwir Gwesyn ar fugail
defaid. Sef oedd y rhif a gadwai pob un o'r triwyr
|
|
|
(delwedd B0937b) (Yr Haul. Mawrth 1868. Tudalen 78b.)
|
hyny chweugain mil ac o danynt bob un drichant o feibion eillion yn nawdd
genedl y Cymry." — Tr. 99.
Y mae y dyfyniad uchod yn dra phenderfynol ar ystyr gwesyn fel bugail; ond
sut y daeth Gwesyn i fod yn enw afon, nid hawdd penderfynu. Gan fod yr
ardal lle rhed y Gwesyn yn dir gwyllt, dim da i ddim ond cadw defaid,
yn neillduol yn y cynamser, gallwn dybied fod yr afon hefyd wedi cael yr enw
oddi wrth fugail. Ef allai mai Nant y Gwesyn (Nant y Bugail) y gelwid
hi gyntaf, ac ym mhen tro, gadawyd Nant ar ol, a chafodd ei galw yn Gwesyn
yn unig. Y mae hefyd dyddyndy ym mhlwyf Llandyssul, Ceredigion, o'r enw Gwesyn,
yr hyn sydd yn taflu ychydig ammheuaeth ar yr eglurhâd uchod; ond gall mai Lluest
y Gwesyn ydoedd ar y cyntaf, a bod y rhan gyntaf lluest wedi ei adael ar
ol, fel y mae Esgair wedi ei adael ar ol oddi wrth Tanglwst,
mewn lle yn nyffryn Troed yr Aur. Y mae llawer o enwau heb law hyn wedi cael
eu cwtogi yn y cyfryw fodd, megys Llanfihangel Trefdeyrn yn Troed yr Aur,
Llanfihangel Bugeildy yn Bugeildy yn unig, a Llanfihangel Penbryn yn Penbryn
yn unig.
Abergorlech, enw treflan ar lan Cothi, Swydd Gaerfyrddin. Y mae yr
afon Gorlech wedi ei throi o Garwlech yn Gorlech. Y mae
un peth neillduol yn rhediad yr afon hon, sef fod ynddi lawer o geryg yn
cynnwys dwy natur — un yn feddal a'r llall yn galed, ac y mae yr afon yn ei
threigliad yn treulio y rhan feddal yn y ceryg, nes eu gwneyd yn byllau
cywrain; ac y maent yn cael eu cyrchu o bell i addurno gerddi, drysau, a
ffenestri â hwynt; ac o herwydd yr hynodrwydd hwn, y mae yr afon wedi cael ei
galw yn Garwlech, ac o Garwlech yn Gorlech. Y mae yr afon
Gorlech wedi rhoddi enw i'r bardd D. Llwyd, Gorlech. Yn y modd hwn, y
mae yr enw yn dra chymhwys a pherseiniol.
Abergwili, enw pentref ger Caerfyrddin. Ystyr Gwili ydyw troad
gwyllt, neu llawn o droion. Y mae afon yn swydd Wilts, o'r
enw Willy, ac y mae yn fwy na thebyg mai yr un peth yw yr ystyr a Gwili.
Abergwrog. Mae lle o'r enw hwn ym mhlwyf y Brongwyn, Ceredigion. Y mae
y Gwrog yn ffin rhwng rhan o blwyfi y Brongwyn a Llandygwydd. Diammheu
mai ystyr Gwrog yw Gwyrog, o gŵyr, cam. Y mae afon
arall yng Ngheredigion o'r un ystyr, sef Gwyre (y Wyre). Y mae Warre
ar gyfandir Ewrop, a gall fod o'r un ystyr.
Aberhafhesp, enw pentref yn swydd Drefaldwyn. Y mae ystyr Hafhesp ym
dra eglur, sef haf hesp, hesp yn yr haf, sef sych yn yr haf. Y
mae Eglwys yn
|
|
|
(delwedd B0938a) (Yr Haul. Mawrth 1868. Tudalen 79a.)
|
Ystrad Tywi o'r enw
Llanfihangel Aberbythych. Ystyr Bythych yw bythach, sef byth
(parhäus) ac ach (dwfr), o herwydd fod y nant yn rhedeg
o ffynnon dra ragorol, yr hon nid yw yn treio nemawr ddim yn yr haf.
Aberrhosan, enw pentref ym Maldwyn. Ystyr Rhosan yw rhos
ac an. Y mae ystyr rhos yn eithaf eglur, sef gwaendir uchel, ac
y mae on, ain, neu en yn eithaf cyffredin, sef ffrwd neu
nant, fel yr ym wedi sylwi ar yr enw Aberbrân, ac amryw ereill.
Aberhonddu, enw tref ym Mrycheiniog. Ymddengys mai ystyr Honddu
yw hawn a dwy. Ystyr hawn yw heini, buan, gwyllt.
Y mae afon fechan ger Aberporth, o’r enw Howni, yr hon sydd yn rhoddi
enw i le o'r enw Cwmhowni. Gellid meddwl mai du yw rhan olaf yr
enw Honddu, ond y mae yn fwy tebyg mai dwy ydyw. Ystyr dwy yw
achos dechreuol, ac wedi cael ei gymhwyso gan y Derwyddon at amryw
afonydd, megys Dwy fawr a Dwy fach yn Arfon, ac hefyd Dyfrdwy.
Y mae genym amryw afonydd yn dwyn ol y Derwyddon yn eu cyfansoddiad. Y mae Perydd
a Peryddon yn arwyddo achosydd, yn yr un modd a dwy. Y mae
hefyd afon fechan rhwng Aberaeron a Llanrhystyd, o'r enw Peris, yr
hon, wrth bob tebyg, sydd yn arwyddo yr un peth. Y mae afon yn Nyfnaint o’r
enw Perrot,*
*Y mae teuluoedd
Seisonig o’r enw Perrot, y rhai a gymmerasant yr enw oddi wrth gastell a
safai ar lan yr afon hòno.
yr hon nid yw ond Seisonigeiddiad o Perydd, ac felly yn perthyn
i'r un teulu Derwyddol o afonydd.
Abermachnog. Y mae lle o’r enw hwn ym mhlwyf Llanfairorllwyn,
Ceredigion. Ymddengys mai iawn ystyr y nant Machnog yw mochnog,
hyny yw, nant fuan, wyllt. Cymharer yr enw â Mochnant ym Mhowys.
“Moch
(buan) barn pob ehud.” — Diareb.
Abermaid, enw lle yng Ngheredigion. Ystyr maid yw ffin neu derfyn. Y
mae yr enw yn eithaf athronyddol, gan ei bod yn derfyn rhwng dau gwmmwd.
Abermarch. Ceir amryw leoedd o'r enw hwn. Y mae un afon o’r enw March ym mhlwyf
Llanddewi Brefi. Y mae yr anifail a adwaenwn wrth yr enw hwn yn eithaf
adnabyddus; ond sut y mae afonydd o’r enw hwn, nid yw mor eglur. Wel, yr oedd
ein hynafiaid yn arfer y gair March yn ansoddair, yn arwyddo peth gwrol,
cryf, neu buan. Marchwreinyn, a ringworm, marchredyn, oakfern,
marchysgau, &c. Y mae yn amlwg fod march wedi ei gymhwyso at afon,
o blegid ei dull buan a ffromwyllt yn ei rhediad. Y mae yr afon sydd yn
Nyffryn Aeron yn rhyfeddol am ei gwylltineb, gan ei bod yn neidio dros
greigydd.
|
|
|
(delwedd B0938b) (Yr Haul. Mawrth 1868. Tudalen 79b.)
|
Abermaw, enw porthladd ym Meirion. Ystyr Maw,
a Mawddwy, a Mawddach yw afon orlifol, “the overflowing
stream.” Dr. Puw.
Abermarlais, sydd enw llys hynafol yn Ystrad Tywi, yn gystal ag enw
llawer o leoedd ereill yng Nghymru. Dywed Dr. Puw mai ystyr mar yw bywiog,
a bod marw yn cynnwys y gwreiddyn mar, ond fod y llythyren w yn
croesnewid yr ystyr, fel y gwelir yn gwelw; gwel, amlwg, golygus; gwelw,
llwfr, anolygus. Del, prydferth, symmudol; delw, peth llonydd,
difywyd. Ul, peth llaith, iraidd; ond y mae ulw yn golygu peth
hollol wahanol i ul, sef peth wedi sychu a llosgi i fyny yn llwyr. Hwn,
peth yn ein ymyl; hwnw, peth draw ym mhell. Y mae tebygolrwydd fod y
llythyren w yn newid llawer o eiriau yn yr un modd; ac os felly, y mae
yr ystyr a rydd y Dr. i mar yn dra phriodol. Am ran olaf y gair, sef lais,
mae yn debyg mai clais yw ei ystyr. Dywed Carnhuanawc fod clais yn air
am nant, neu afon. Ymddengys mai dyna ystyr Douglas, yn Ynys
Manaw, a Douglas yn yr Alban. Y mae genym amryw afonydd yng Nghymru
o’r enw Dulas neu Dulais, y rhai sydd yn rhoddi enwau i amryw
leoedd, megys Aberdulais, Glandulais, Pontarddulais, &c. Dywed
rhai mai du a glas yw ystyr Dulas, neu Dulais, ac mai glas
yw ystyr lais, ym Marlais; ond yr ydym yn credu mai clais yw
ystyr y rhan hon o'r enwau Marlais, Dulais, etc. Y mae genym clais yn
cael ei arfer yn awr am ffos, sef clais y clawdd, am ffos y
clawdd; ac y mae dwfr fynychaf mewn ffos. Y mae plasdy ym mhlwyf Llangathen
o’r enw Glandwylais, ond a elwir yn awr Glandulais; ac yng
ngwaith Lewis Glyn Cothi mae nodiad, naill ai gan Tegid neu Gwallter Mechain,
yn cynnyg mai llais yw yr ystyr; sef, dwy lais, am fod nant
fechan yn ymarllwys yn y fan hòno i'r Dulais. Y mae y nodiad yn traethu y
gallasai y ddwy gael yr enw hyny oddi wrth eu murmur yn debyg i lais
dynol. Beth bynag am gywirdeb y syniad yna, nis gallwn ryfygo traethu dim yn
ei erbyn, gan fod y llenorion fu uwch ben y gwaith yn rhy uchel i ni ryfygu
dyweyd gair yn eu herbyn. Tebyg mai yr un peth yw Morlais ym Morganwg,
a Morlais yn Ystrad Tywi a manau erell; ond gall mai môr ydyw,
am fod ei dwfr yn ymdaenu, ac yn ymchwyddo yn fawr gan wlaw.
Abermeirig. Y mae palas o'r enw hwn yn Nyffryn Aeron. Y mae dwy afon
o’r enw hwn yng Ngheredigion, ac y mae yr un uchaf yn rhoddi enw i Ystradmeirig.
Gan fod Meirig yn enw dyn, tybia llawer mai oddi wrth ryw ddyn o’r enw
hwnw y cafodd yr afonydd hyn yr enw; ond nid yw hyny yn debyg. Y mae yn y Gymraeg
|
|
|
(delwedd B0939a) (Yr Haul. Mawrth 1868. Tudalen 80a.)
|
deulu lluosog iawn o eiriau yn hanu o'r
gwreiddair mer — sef dyferiol, merawl, (dropping or
distilling); gofer (go a mer); cymmer, sef uniad dau ddwfr, yr
hwn air sydd yn enw amryw leoedd; merhelyg, sef helyg dyfrawl; a
thebyg mai hyn yw ystyr Mersey, afon Llynlleifiad. Tywydd meiriol,
meddir mewn rhai manau am dywydd dadleithiol; ond mewn manau ereill dywedir
tywydd meiriol am dywydd brith teg, fyddo yn dangos haul ac yn bwrw
ambell gawod o wlaw; ond y mae meirioli yn cael ei arfer yn gyffredin
am ddadlaith. Yn y modd hwn, y mae digon o berthynasau gan Meirig i
fod yn enw afon; ond y mae mer yn arwyddo dwfr lled lonydd, neu
araf, ac y mae hyn i'w weled yn amlwg yn dyferu, a gofer. Gofer
ydyw cors, lle byddo ffynnonau grisialaidd yn tarddu allan o hono. Y mae yr
ystyr o ddwfr lled araf yn eithaf cymhwys i’r Meirig yng Ngheredigion.
Mae tua deg milltir rhwng y ddwy Meirig yng Ngheredigion. Teg yw mynegu yma
fod Rhydcymmerau yn perthyn i’r teulu hwn o eiriau.
Abermenai. Ymddengys mai main ac wy yw ystyr Menai, hyny
yw, dwfr main, mewn gradd o fôr. Dwfr yn rhedeg yn fain sy ddywediad cyffredin.*
*Water running
in a small current. Dr. Puw.
Mae'n debyg fod yr eglurhâd hwn yn well na Monwy. Y mae wy yn troi yn
niwedd geiriau yn i, megys yn Ceri, yn e, megys yn Barre,
ac felly y mae yn troi yn ai yn Menai.
Abernodwydd, lle adnabyddus ym Mon, lle y dywedir i Hywel ab Owain
Gwynedd neidio, ac felly ennill merch Einion ab Gwehelith o Dindaethwy yn
wraig.
Dwy droedfedd hylwedd hylwydd — a deugain,
A digon wrantrwydd,
Yr hyn a wel pawb yn rhwydd,
Ar naid yn Abernodwydd.
Y mae ystyr y lle hwn yn cytuno ag ystyr Menai, hyny yw, main, gan y
golygir nydwydd (nodwydd) yn fain, ac felly gelwid y nant hon, er fod
safn yr agoriad i'r môr yn weddol lydan.
Aberogwr, enw lle ym Morganwg. Ymddengys mai ogwy yw ffurf
gywir yr afon hon. Ystyr og yw bywiog, yr hyn a welwn yn amlwg yn y
gair diog, sef peth llonydd, musgrell, difywyd. Y mae y blaenddawd ai yn newid
ystyr y gair gwreiddiol. Ystyr wy yw dwfr, fel yr ym wedi sylwi
o’r blaen.
Aberpeithyll, enw plasdy yng Ngheredigion, lle gynt y bu castell.
Ystyr paith yw claer, eglur, gloew. Y mae paith i’w
weled yn y gair gobaith, yr hyn a olyga fod perchenog y gras hwnw yn
canfod yn lled glaer neu ddigwmwl o’i flaen. Ystyr ragorol yw. Y mae edrych
ar afon
|
|
|
(delwedd B0939b) (Yr Haul. Mawrth 1868. Tudalen 80b-81a.)
|
loew ddysglair yn rhedeg ar ro
grisialaidd yn hyfryd a dymunol. Ymddengys mai ystyr yll yw yr hyn
fyddo yn ymdaenu, neu yn ymwahanu, fel y gwelwn yn teryll,
dryll, &c. Y mae lle yne Ngheredigion o’r enw Aberpeithnant,
yr hyn sydd o’r un ystyr, yn gystal a Dyffryn Paith.
Aberpergwm, enw Eglwys a phalas ym Morganwg. Ymddengys fod yr afon
fechan hon yn cael yr enw oddi wrth ei swn trydarol a pherseiniol wrth
dreiglo drwy y cwm; a meddylia rhai ei bod hefyd yn cael hyn oddi wrth fod y
côr asgellog yn hynod hoff o’r cwm, ac felly yn perseinio y lle â’u
meluswawd. Y mae Aberpergwm yn seinio yn beraidd yng nghlyw pob Cymro
gwladgarol, fel trigle y diweddar ysgolhaig a gwladgarwr W. Williams, Ysw.
”Pa argoel o Aberpergwm? — ein Williams
Anwylaf sy'n offrwm;
Oriau traul, ïe, ac aur trwm,
I’n coledd yn un cwlwm."
E. Parry.
Abersanan, enw lle yn Ystrad Tywi. Ystyr Sanan yw nant frochus.
Golyga san aruthredd a syndod, ac an neu ain, fel yr ŷm
wedi sylwi, nant neu ffrwd.
Abersoch, enw pentref yn Lleyn. Ystyr Soch yw dwfr llonydd, ac
y mae wedi bod yn cael ei gymhwyso at ffos o ddwfr. Y mae yr afon Soch
yn rhyfeddol o lonydd — braidd y mae yn symmud; ac y mae felly yn llawn o
lili y dwfr. Y mae y gair Seisonig sough yn deillio o’r
gair Cymreig hwn. Mor briodol yr oedd ein teidiau yn enwi pob peth!
Abersychan, enw lle yng Ngwent Uwchgoed. Y mae yn ymddangos fod y nant
hon yn sychu yn yr haf, ac felly cafodd yr enw Sychan, yn debyg i Hafhesp.
Ni a welwn y gair bychan gwreiddiol an neu ain yn yr enw hwn
eto. Enw rhagorol o
briodol.
Abertawe, neu Abertawy. Ymddengys mai iawn ystyr yr afon hon yw
taw ac wy (gwy); hyny yw, afon dawel. Y mae genym amryw
afonydd o'r enw Taw yn unig. Dyna ystyr yr afon a elwir yn Seisonig Daw (dô).
Y mae yn debyg mai ffordd arall o’r un enw yw Tywi neu Tywy; ac
y mae gwy (tawel), yn eithaf priodol am yr afon hòno.
Aberteifi. Y mae rhai yn traethu mai gwreiddyn cyntaf yr enw
hwn yw taf (ymdaenawl), a bod y gair ystafell yn perthyn iddo,
sef y man a byddai ein hynafaid yn taenu pethau at fywoliaeth a
chysuron. Y mae tafod, tafell, &c., yn cael eu cyfrif yn perthyn
i’r teulu hwn o eiriau; dyna farn Dr. Fuw. Y mae ereill yn barnu mai taw
yw y gwreiddyn, sef yr hyn sydd yn gyfystyr â Tawe, Tawy, &c., fel
yr ŷm wedi sylwi yn barod. Y mae yn wir fod w yn troi yn f,
ac y gall taw a gwy fod yn wreiddiau yr enwau Taf a
Teifi. Y mae Dr. Puw yn rhoddi taen yn un ystyr i taw,
sef, the state of being spread or extended, ac felly gellir cyfuno y
ddau ystyr hwn. Afon weddol araf ac ymdaenawl yw y Teifi o ran ei rhediad, ac
felly mae yr ystyr yn eithaf priodol iddi.
“Dy lif, y loewaf afon."
Ieuan Brydydd Hir.
“Gwyrdd heli Teifi tewychai.”
Cynddelw, ym Marwnad O. Gwynedd.
Y mae genym amryw afonydd o'r enw Taf, y rhai, yn ol pob tebygolrwydd, sydd
yr un ystyr a Teifi. Y mae yn dra thebyg mai taen yw ystyr yr
afon Tyne, yn Lloegr.
Aberystwyth. Y mae ystyr yr afon Ystwyth yn eithaf eglur.
Gelwid hi wrth yr enw hwn am ei bod yn cynnwys llawer o droion.
(I’w barhau).
|
|
|
(delwedd B0941)
|
Yr Haul.
Cyfres Caerfyrddin.
“Yng ngwyneb haul a llygad goleuni.”
“A gair Duw yn uchaf.”
Rhif. 136. Ebrill, 1868. Cyf. 12.
Tudalennau 108-112.
CYFANSODDIAD
ATHRONYDDOL. ENWAU LLEOEDD CYMREIG YNG NGHYMRU. Gwynionydd. Yr Haul. 1868.
(Rhan 4 / 10)
Tudalennau 108-112..
|
|
|
(delwedd B0942a) (Yr Haul. Ebrill 1868. Tudalen 108a.)
|
CYFANSODDIAD ATHRONYDDOL. ENWAU LLEOEDD
CYMREIG YNG NGHYMRU.
(Parhâd o dudalen 81.)
Acheth. Y mae afon fechan yn ardal Abergorlech o’r enw hwn, yr hon
sydd yn rhoddi enw i ddau neu dri o dyddyndai ar ei glenydd. Gelwir hwynt Acheth
Uchaf, &c. Y mae lleoedd weithiau yn cael eu galw wrth enwau afonydd
yn unig, heb aber neu glan yn un â hwynt. Yn y modd hyny mae
Aberconwy fynychaf — sef Conwy yn unig. Ystyr ach yw dwfr, a
hwyrach ei fod yn rhyw berthynas bell i aqua y Lladin, ac ystyr eth
yw symmudol, neu dreiddgar. Felly, dyma ystyr Acheth
yn eithaf eglur. Y mae yn wir fod y gair yn cael ei wneyd i fyny yn groes i’r
rheol gyffredin, drwy fod yn Acheth, ac nid Ethach; ond y mae
llawer o eiriau genym yn yr un modd, megys mammaeth yn lle maethfam,
a llawer ereill. Y mae amryw afonydd o'r enw Achddu, y rhai sydd yn
rhoddi enwau i amryw leoedd, megys Blaenachddu, Melinachddu, ym
mhlwyf Cilrhedyn. Y mae yr enw Achddu yn cael ei wneyd i fyny yr un
fath yn hollol ag Acheth, sef ach yn nechreu y gair. Y mae y
cyd-darawiad hwn yn eglurdeb gwerthfawr.
Adwy. Y mae rhai lleoedd yn cael eu gwneyd i fyny mewn rhan o’r enw hwn,
megys Adwy’r Clawdd, &c. Yr ystyr a roddir i adwy yng Ngogledd
Cymru yw bwlch, a dyna ei ystyr ysgrythyrol; ond y mae yr ystyr a
roddir iddo yn y Deheudir yn wahanol, sef coed wedi eu plethu mewn bwlch.
Gelwir y gwaith hwn yn adwydd, am ei fod yn blethiad coed un ar y
llall, yr un modd ag adail (ad ac ail), sef gosod un ar
y llall. Y ffurf lluosog o hono yw adwyddi, yr hyn sydd yn profi mai adwydd
yw, ac nid adwy. Y mae y gwreiddiau ad a gwydd yn
wreiddiau digon eglur iddo yn ol ystyr y Deheudir; ond am ystyr y Gogledd,
nid yw yn hawdd cael gafael arno. Tebyg mai ffurf a meddwl y Deheudir yw y
rhai gwreiddiol, a bod yr ystyr Ogleddol wedi dyfod i mewn drwy ffugyr o
drawsenw (metonymy).
|
|
|
(delwedd B0942b) (Yr Haul. Ebrill 1868. Tudalen 108b.)
|
Aeddwen, enw llyn yng Ngheredigion, yr hwn sydd yn un o lygaid yr Aeron.
Ystyr aedd yw trystfawr, yr hyn nis gellir briodoli i’r llyn
hwn. Tebyg mai ffurf gyntefig yr enw oedd aidd, sef taer, bywiog,
neu ffyddlawn, ac wedi ei gyssylltu â Gwen, yr hwn oedd yn enw
benyw tra ragorol, megys Ceinwen, Olwen, &c. Mae Aeddwen,
neu yn hytrach Aiddwen, wedi bod yn enw benyw, a gwyddom am ferch
fechan yn Llandeilo o’r enw Aiddwen Richards. Y mae llawer iawn o
lynoedd wedi cael eu henwau oddi wrth enwau dynion, yn wrywod a benywod. Enw
llyn arall o’r hon y mae yr Aeron yn tarddu, yw Manod — Llyn
y Fanod. Diammheu fod Manod wedi bod yn enw benyw yn yr un modd ag
Aiddwen. Ystyr manod yw gwyn, neu deg iawn, sef lliw y mân
od (eira mân). “Lliw manod, the hue of the driven snow, an epithet
for a fair woman.” — Dr. Puw.
"Fal Manod ar fol mynydd."
D. Ddu i’r Seintiau.
Nis gwyddom ar faes hanesyddiaeth am Manod yn enw benyw; ond y mae
llawer iawn o enwau, yn gystal a geiriau, wedi myned ar goll. Oddi wrth Lyn
y Fanod y cymmerodd y diweddar Manod Wyllt ei ffug enw.
Aerfach. Y mae rhai lleoedd o'r enw hwn yng Nghymru. Ystyr aer
yw brwydr, neu
laddfa, ac ystyr fach (bach, neu mach) yw llecyn rhwng bryniau.
Machludd, lle gorphwys yr haul. Y mae mach i’w weled hefyd ym Machwen,
&c.
Aman. Y mae rhai afonydd yng Nghymru o’r enw hwn. Y mae Aman yn
cael ei wneyd i fyny o ddau air, sef aml ac an, neu yn fwy
syml, am ac an. Y mae yr afonydd hyn, yn neillduol yr un sydd
yn swydd Gaerfyrddin, yn cael eu gwneyd i fyny yn y dechreu, yn y man lle y
mae yn tarddu, o wahanol ffynnonau a ffrydiau, nes yw yr olwg arni yr un fath
ag asgwrn cefn pysgodyn; a chan fod ei dechreuad yn y modd hyn, cafodd ei
galw yn Aman, sef afon o aml darddiadau. Y mae y geiriau canlynol yn
cadarnhau yr ystyr:- Amddyfrwys, llaith, neu gorsog o bob tu.
”Annoethach Powys, a'i thir amddyfrwys,
A’i thorfoedd diffwys, nyw differi."
Ll. P. Moch.
Amfrwys, llawn cangenau o bob tu. Amlaeth, llaeth wedi ei
gymmysgu. Ammod, sef peth yn bod rhwng rhagor nag un. Amyd,
yd cymmysgedig.
Amgoed, Henllan Amgoed. Ystyr amgoed yw lle yn cael ei amgau
gan goed, ac enw athronyddol a thlws iawn ydyw ar le fyddo mewn coed.
Ammwlch, y bwlch, neu agoriad o bob tu. Cefnammwlch yn Arfon.
Amlwch, môr-ebach yn cael ei gau gan
|
|
|
(delwedd B0943a) (Yr Haul. Ebrill 1868. Tudalen 109a.)
|
dir mewn dwy neu dair ffordd. Yr ydym wedi rhoddi ystyr am, ac
y mae yn cael ei egluro yn rhagorol yn yr enw hwn eto; ac ystyr llwch
yw llyn, neu unrhyw gasgliad helaeth o ddwfr, ac y mae weithiau yn
cymmeryd i mewn ddwfr rhedegog. Y mae yn gyfystyr, neu o’r hyn leiaf yn
go-gyfystyr, a llyn, ond bod yr olaf yn fwy cyffredin. Adar y llwch
gwyn, adar y llyn wen, sef cyfenw ar y fwlturod. Y mae llwch
yn perthyn i lawer o enwau yng Nghymru, megys, Llwch Tawe, Llwch Sawdde,
Llwch Cyhirych, Llanllwch, a Thal y Llychau. Y mae lle o’r enw Lochtyn,
neu Llochtyn, ym mhlwyf Llangaranog, yr hwn sydd yn perthyn i’r un
teulu, ac y mae yn debyg mai dyma ystyr Llacharn. Y mae y gair hwn yn
perthyn mewn gwahanol ffyrdd yng nghangenau ereill y Geltaeg, sef Loch yr
Alban a'r lwerddon.
Amwythig. Yr oedd y dref hon yn y cynamser o fewn terfynau Cymru.
Ymddengys mai ystyr Amwythig yw am a gwyth. Yr ydym wedi
egluro am yn barod, sef peth aml, neu ymgau am beth.
Tatyr gwyth yw meinfor, ffos, a gwythïen. Gwyth
melin, >yth mâin, sef pynfarch melin (millpond). Y mae y gair
yn cael ei arfer yn Ystrad Tywi am hen wely afon. Gan fod yr Hafren yn
tröellu o gylch y fan hon, yr oedd yn naturiol i'r hen bobi alw y lle yn Amwyth.
Ymddengys fod y lle hwn gynt yn cael ei alw yn Pengwern, lle yr oedd
tywysogion Powys yn cartrefi. Y mae yn ammhëus a oedd y llys yn y dref: ond y
mae yn amlwg fod y gair Seisoneg Shrewsbury wedi cael ei ffurfio o'r
Gymraeg Pengwern. Shrewebury = Shrubberry. Yr ydym yn ddyledus i
Garnhuanawc am ystyr Shrewsbury.
Aran, enw mynydd ym Meirion. Y mae yn ffurfiedig o ar ac an.
Y mae ar, sef uchel, yn eithaf eglur, ac y mae y terfyniad am
yn dra chyffredin yn yr ieithoedd Celtig.
Arberth, enw tref yn Nyfed. Ymddengys fod yr enw yn gyfansoddedig o ar
a perth, sef prysgoed o eithin, drain, &c. Nid yw yn debyg mai berth
(hardd) yw y gwreiddyn, gan y buasai felly yn myned yn Arferth. Y mae
afon hefyd yn rhan isaf o Geredigion o’r enw hwn, yr hon sydd yn rhoddi enw i
Bontrhydarberth, ac i balas o'r enw Glanarberth. Sut y gall fod
Arberth yn enw afon, nid yw yn hawdd penderfynu. Hwyrach taw hyn yw yr iawn
ystyr, sef eb (bwriad allan), megys y gwelwn yn y gair Ebrill,
yr hwn a elwir felly am fod natur, pryd hyny, yn bwrw allan o’r ddaiar. Y mae
eb hefyd i'w weled yn y gair ebe, sef dywediad (bwriad allan y
meddwl); ac hefyd yn y gair Ebw, sef afon yng Ngwent Uwchgoed. Y mae
genym hefyd y fath air ag
|
|
|
(delwedd B0943b) (Yr Haul. Ebrill 1868. Tudalen 109b.)
|
arab, neu areb, sef dywediad coethedig (a wit).
Y mae Arth yn enw rhai afonydd, a elwir felly o herwydd eu swn
trystfawr. Wel ynte, peth hawdd fyddai meddwl mai Ebarth oedd y ffurf
gyntefig, ac i Ebarth dderbyn y blaenddawd ar, ac yn nhreigliad
amser, talfyrwyd ef gan y wlad o Arebarth i Arberth, yr hyn
sydd yn beth naturiol iawn i’w gredu. Meddyliwn y gall hyn fod yn gynnyg lled
naturiol i egluro ystyr yr enw hwn ar yr afon.
Alwen, sef afon wen. Un o
afonydd Meirion.
Ardudwy, enw cwmmwd ym Meirion. Ystyr Tudwy (tud a gwy) yw tir
arforol, ac ystyr rhagorol yw.
Arfon, sef Ar a Mon. Yr ystyr a rydd Dr. Puw ac ereill i
Mon yw corff didoledig o unrhyw beth — peth ynysol, canolfan; ac y mae
yn cael ei gymhwyso weithiau at fuwch. Yn y modd hyn y mae yr enw wedi
ei gymhwyso at ynys Mon, ac er mwyn ei gwahaniaethu oddi wrth Mon-Aw
(the Mon of the Water), gelwid hi yn Mon Fynydd.
"Cerddorion hyd Fon Fynydd,
Dros hon yn pryderu sydd."
Lewis Glyn Cothi.
Gan i Ynys Mon gael yr enw hwn, gelwid y wlad yr ochr hon iddi yn Arfon,
sef Ar a Mon. Y mae hyn yn eithaf athronyddol. Caer yn
Arfon yw ystyr Caemarfon.
Argoed. Y mae llawer o leoedd o’r enw hwn yng Nghymru. Y mae yr ystyr yn dra amlwg, sef Ar
y Coed, hyny yw, ar dir uwch y coed.
Arllechwedd. Y mae llawer iawn o leoedd o’r enw Llechwedd, a rhai o’r
enw Arllechwedd, yng Nghymru. Ystyr Llechwedd yw llethr, sef cyfodiad
tir, ac Arllechwedd yw lle ar gopa llechwedd.
Artro, enw afon ym Meirion, ystyr yr hon yw afon gam.
Asgell, aden, holltiad. Trefasgell.
BALA. Ystyr bala yw ymestyniad allan. Y mae yn cael ei gymhwyso at
fynyddoedd cribog. Bal can, a white peak. Bala coed yw
blagur, neu flodau coed; Bala llyn yw arllwysiad, neu eneu llyn, ac o
herwydd fod y dref yn sefyll yng ngeneu Llyn Tegid, cafodd ei galw Bala, neu
Bala y Llyn. Y mae y
gair balch yn perthyn i’r teulu hwn. Y mae y balch yn amlwg, ac
felly mae y gair yn dra chynnwysfawr. Ceffyl â bal yn ei dalcen, sef
ceffyl â nod wen yn ei dalcen. Dyma athroniaeth odidog mewn geirdarddaeth. Gellir
traethu ym mhellach fod y gair blwyddyn, sef bal a gwydd, yn
perthyn i’r teulu hwn.
Ban a Banau. Y mae ban yn arwyddo uchel, neu fan
uchel; y mae yn cael ei arfer yn enw a sylweddair. Banau Brycheiniog,
Tal y Fan, Ban uwch Deni, &c.
|
|
|
(delwedd B0944a) (Yr Haul. Ebrill 1868. Tudalen 110a.)
|
Bangor. Y mae llawer o leoedd yng Nghymru, lwerddon, a Llydaw o'r enw
hwn. Y mae yn cael ei wneyd o ban (uchel) a côr. Lle yr oedd
ein teidiau yn sefydlu athrofëydd, byddent yn eu galw yn Corau, megys Côr
Dewi, Côr Beuno, &c.; ond gyda threigliad amser, cawsant eu galw yn Ban-gorau.
Ymddengys fod athrofëydd wedi bod yn y lleoedd a adwaenwn wrth yr enw Bangor;
ac y mae hanes Bangor Isgoed yng Nghallestr, Bangor Fawr yn Arfon, yn gystal
a llawer o fanau ereill yn profi hyny.
Barlwm, neu Bryn Barlwm, enw bryn ym Morganwg. Ystyr bar yw uchel,
ac ystyr barlwm yw, the baretopt. - Dr. Puw. Y mae mynydd Berwyn,
ym Mhowys, yn arwyddo copa gwyn, am ei fod yn fynych yn wyn gan eira.
Y mae hefyd fynydd a llyn yng Ngheredigion o'r enw hwn.
Bargod. Y mae amryw afonydd yng Nghymru o'r enw Bargod, ac yn
rhoddi enwau i leoedd, megys Blaenbargod, Aberbargod, &c. Diammheu
mai ystyr bargod yw ymyl, neu derfyn. Bargod y to = ymyl
y to. Y mae yr afonydd Bargod yn ymylau, neu finiau cantrefi,
cymmydau, neu blwyfi. Y mae yr arfon Bargod, sydd yn ardal Emlyn, yn ffin
rhwng plwyfi Penboir a Llangeler, ac y mae yn debyg mai hi oedd y terfyn, neu
y ffin rhwng cymmydau Uwch Cuch ac Elfed. Gelwid rhyfel Owain Glyndwr yn
"Rhyfel y Bargodion," a hyny, y mae yn debyg, o herwydd ei fod yn
cael ei ddwyn ym mlaen ar y Bargodion rhwng Cymru a Lloegr.
Barre. Y mae afon o’r enw hwn yn Nyffryn Troed yr Aur. Ymddengys fod Barre o’r un ystyr, neu o
leiaf yn agos yr un ystyr, a Bargod. Y mae bar yn arwyddo terfyn, neu wahaniaeth.
Y mae yr afon hon yn ffin rhwng rhanau o blwyfi Troed yr Aur a Phenbryn.
Dilys mai gwy yw rhan olaf y gair, ond ei fod yn cael ei newid i e,
a hyny ychydig ym mhellach nag yn yr enw Tawe. Y mae Blaenbarre ac Aberbarre i'w
cael.
Bedw. Y mae afon o'r enw hwn yn yr un ardal a Barre. Tebyg ei bod yn
cael ei galw oddi wrth y prenau Bedw ar ei glenydd; ond gall fod yn
gyfansoddedig o bed (araf), a gwy, dwfr.
Bedwas. Y mae plwyf o’r enw hwn ym Morganwg. Ystyr yr enw yw maes y
bedw. Ystyr as yw gwastadedd llyfn:
"Osid uch y'nghawdd, neud Urien ai blawd?
Uch hynt uch as uch ym mhob camas."
Taliesin.
Berwig, neu Y Ferwig. Y mae plwyf o'r enw hwn yng Ngheredigion,
ac y mae maenor, neu dref ddegwm ger Llanelli o’r enw hwn; ac y mae lle ger y
Ceinewydd o’r enw Rhyd y Ferwig. Ystyr gwig yw cornel, cwr,
bachell, cilan. Gan mai gair
|
|
|
(delwedd B0944b) (Yr Haul. Ebrill 1868. Tudalen 110b.)
|
benywaidd yw gwig,
y mae y rhan gyntaf o hono, sef Ber (byr) yn fenywaidd hefyd. Y mae coedwig
yn berthynas agos i'r gair hwn, ac y mae llawer lle o'r enw y Wig yn
unig. Hwyrach fod Berwick Upon Tweed o'r un ystyr a hyn.
"Troi i frig y Ferwig a fyn."
Lewis Glyn Cothi, i Rys o’r Tywyn.
Dywedir fod yr hen Gymry yn arfer byw ar hela a phorthi eu hanifeiliaid, ac
felly yn arfer gwneyd eu preswylfëydd yn y coedwigoedd, a bod gwig yn
y diwedd wedi dyfod i olygu caerfa. Gelliwig Newydd, a elwid
felly gan Caradog.
Berws. Y mae lle o’r enw hwn ym mhlwyf Llanddewi Brefi. Cyfnewidiad o mer, yw ber.
Y mae y ddwy lythyren m a b yn gwneyd hyny yn aml, fel y mae yn
anhawdd gwybod weithiau pa un o honynt yw yr un wreiddiol, fel y swelwn yn y
geiriau benyw a menyw, baban a maban, bath a
math, &c., &c. Yr ydym wedi traethu dan yr enw
Abermeirig beth yw ystyr mer, sef llaith, neu yn cynnwys llawer
o ddwfr llonydd. Ymddengys mai rhos yw ystyr y rhan olaf o’r
gair. Y mae gwaendir ym mhlwyf Llangeler o’r enw Waen Meirws, ag sydd
yn egluro yr enw hwn mewn modd rhagorol. Ni welwn fel hyn, mai yr un peth yw
ystyr Berws a Meirws, sef gwaendir llaith. Y mae ty ger llaw
Berws o’r enw Brwsdir, yr hyn sydd grebychiad o Berwsdir; ac y
mae gwaendir llaith yn cael ei alw yn Brwsdir yn rhan uchaf
Ceredigion. Ystyriwn y cyd-darawiad hwn rhwng Meirws, Berws, a
Brwsdir yn oleuni gwerthfawr i ddeall ystyr enwau lleoedd yn ein gwlad. Y
mae yr arferiad o’r gair Brwsdir am waendir yn rhoddi clo ar y cyfan.
Y mae Wstrws, ger Capel Cynon, yn perthyn i'r teulu hwn.
Beri, a kite, aderyn digon adnabyddus. Ynys y Beri,
perthynol i sir Benfro, a elwid felly am fod yr aderyn hwnw yn aml arni. Y
mae Beri (Berry Farm) yn enw plasdy, ger Trefdraeth, a gafodd ei alw
oddi wrth yr un rheswm. Dyma hefyd yw'r ystyr goreu i Brynberian.
Bettws. Y mae llawer o leoedd yn ein gwlad o'r enw Bettws, ac
yn cael ei gyssylltu ag enwau dynion, megys Bettws Ieuan, Bettws Bledrws,
Bettws Geraint, Bettws Ysgellog, &c. Y mae dysgedigion wedi ysgrifenu
llawer iawn ar yr enw hwn, ac yn y diwedd yn methu penderfynu. Tybia rhai,
gan fod yn dra phenderfynol mai Bead house, sef ty gweddi, yw
yr ystyr; ond nid oes modd credu y syniad. Yn un peth, nid oes nemawr ddim o hono
yn Lloegr, os oes un lle o gwbl. Peth arall, gan fod yr enw, beth bynag, mor
hen a'r ddeuddegfed ganrif
|
|
|
(delwedd B0945a) (Yr Haul. Ebrill 1868. Tudalen 111a.)
|
nis gall fod yn Seisoneg, gan nad oedd
yr iaith hono yn cael ei harfer y pryd hyny yng Nghymru. Dywed ereill ei fod
yn droad o'r gair Lladin, Beatus (dedwydd), a meddylia ereill mai ei
ystyr yw Abatis, lle y perthynai i Abatty, neu Briordy, a dywed ereill
ei fod yn Gymraeg bur, sef Bod wys (gwys, lle trigiannol). Gall yr enw fod
wedi ei wneyd o Bod a gwys; ond eto i gyd, yr ydym yn ammheu
hyny. I gadarnhau hyn, dywedir fod diareb i gael, “o fryn i Fettws," yr
hyn a olyga le rhwng pant a bryn. Gan fod dysgedigion yn methu cytuno am yr
ystyr, ni a’i gadäwn yn ammhenderfynol, gan ochri o du Abatis a Bod-gwys.
Blaen. Y mae Blaen yn cael ei osod yn flaenddawd o flaen llawer
o afonydd, ac felly yn gwneyd i fyny enwau llawer o leoedd. Y mae rhai
lleoedd yn cael eu galw yn y ffurf luosog o’r gair, megys Blaenau, ym
Meirionydd, a Blaenau Gwent. Y mae teulu wedi cymmeryd eu cyfenw oddi
wrth Blaenau, yng Ngogledd Cymru, adwaenir wrth yr enw Blainey,
neu Blayney — Dr. Blainey, &c.
Blaenglowon. Ceir lle o'r enw hwn yng Ngherediglon. Y mae Gloyw-on
yn enw rhagorol ar afon, ac yn dangos mor ddoeth a manwl oedd ein hynafiaid
wrth roddi enwau ar bob peth.
Blaengwrach. Y mae lle ym Morganwg o'r enw hwn. Ymddengys mai Gwyr-ach
yw dull cyntefig yr enw. Gwyr (cam) ac ach (dwfr), felly
mae Gwyrach yn gyfystyr a Camddwr.
Blaengwrog. Y mae lle o'r enw hwn yng Ngheredigion. Ystyr gwrog
yw gwyrog (cam).
Blaenhownant. Y mae lle o'r enw hwn yng Ngheredigion. Tebyg mai Hoew-nant
yw enw yr afon fechan hon. Y mae y cymmeriad o hoew yn dra
phriodol i afonig yn rhedeg yn dra gwisgi. Y mae w yn arfer troi i f
yn dra mynych, ac y mae rhai wedi bod yn ysgrifenu yr enw hwn yn
Blaenhofnant, ac y mae Cymry Seisonig yn ei gynanu yn Blaenhoffnant. Hynod
fel y mae Cymry Seisonig yn gallu darganfod modd i lurgunio enwau, ac yn
llwyddo i gael eu hefelychu gan ereiil.
Blaenmedeni. Y mae plasdy o'r enw hwn yng Ngheredigion. Ymddengys mai
ystyr medeni yw mudanwy, sef afon fudan, neu ddystaw ei
rhediad, ac y mae hyny yn dra phriodol i'w chymmeriad ar ei thaith. Y mae
afon yn yr Ynys Wyth o'r enw Medina, yr hon, wrth bob tebyg, sydd yr
un ystyr a'r afon Medeni, yng Ngheredigion. Mae yr enw hwn eto yn
dangos flylw manwl ein hynafiaid.
Blotweth. Y mae lle o'r enw hwn ym mhlwyf Llanfihangel Rhos y Corn. Y
mae blotweth, neu blodwedd, yn cael ei arfer
|
|
|
(delwedd B0945b) (Yr Haul. Ebrill 1868. Tudalen 111b-112a.)
|
am blawdach,
neu blawd. Blotweth y melinydd, sef y blawd fyddo ar gefn ac ar
ddillad y melinydd. Nid yw sefyllfa y lle hwn yn fanteisiol iawn am flawd,
ond mewn cymhariaeth i'r mynydd sydd uwch law iddo, y mae yn deilwng o'r enw.
Y mae hefyd ger llaw iddo le o'r enw Nant y Caws, yr hyn sydd yn egluro Blotweth.
Ystyriai yr hen bobl fod lle cymhwys am gaws yng nghwm y nant hwnw; a bod lle
cymhwys, neu yn hytrach dichonadwy, at godi yd a blotweth yn y fan y
saif Blotweth. Y mae blotty yn air am dy blawd, hyny yw, lle
cedwir blawd. Y mae yng Nghymru leoedd o'r enw Pant y Bara a Phant y Blawd,
Bryn Blawd, &c. Y mae Dol Haidd, Pant yr Haidd, Bryn Gwenith, Bryn
Ceirch, a lluaws o enwau tebyg yn perthyn i'r un cymmeriad o enwau.
Bolhaul. Y mae lle yng Ngwynedd o'r enw hwn, yr hwn a gafodd yr enw am
ei fod yng ngwyneb haul. Y mae lle yn Ystrad Tywi o'r enw llygad yr Haul, a elwid felly o
herwydd ei fod yng ngwyneb yr haul fore a hwyr. Y mae hefyd amryw leoedd o’r enw Bol y
Fron.
Boncath. Y mae lle o'r enw hwn yn swydd Benfro. Enw aderyn yw boncath,
a elwir yn Seisoneg, buzzard. Ymddengys fod rhyw enw arall yng nglŷn
a Boncath ar y lle hwn yn y cynamser. Y mae lle ym mhlwyf Llanllawddog o'r
enw Nant y Boncath, ac ymddengys fod nant, neu rhywbeth, wedi
bod yng nglŷn a'r lle hwn yn swydd Benfro. Y mae llawer o nentydd wedi
cael enwau adar, megys Nant Gwylan, Nant Eos, Nant y Barcud, Nant y Gog;
tebyg fod y lleoedd hyn wedi derbyn eu henwau oddi wrth fod yr adar hyny yn
arfer eu mynychu. Ymddengys fod yr aderyn bwncath yn cael yr enw oddi
wrth ei swn trymaidd a brawychus, fel y gwelwn yn y geiriau bw, bwgan,
bygwth, yn gystal ag yn y gair bo. Nid yw yn debyg bod nant
wedi bod yng nglŷn â Boncath, ger Llanfihangel Penbedw. Hwyrach mai Llwyn
y Boncath, neu Ffos y Boncath ydoedd. Y mae Boncath arall
ger Solfach.
Bonwm. Y mae lle o'r enw hwn yn agos i Gorwen, ac y mae amryw leoedd
ereill o'r enw Bonyn, &c. Ystyr y gair yw sail, neu odreu,
neu waelod.
Braich y Pwll. Dyma yr enw sydd ar bentir Lleyn. Gelwir ef yn braich
o herwydd ei fod yn ymestyn allan i'r môr yn debyg i fraich dyn.
Branas, enw lle yn Llandrillo. Ystyr yr enw yw cyrchfa brain. — Dr. Fuw. Yr
ydym wedi dangos ystyr as yn Bedwas.
Brechfa. Y mae Eglwys yn swydd Gaerfyrddin o'r enw hwn, ac y mae lle
yn swydd Frycheiniog, a thri o honynt yng Ngheredigion, a elwir Brechfa Isaf,
Brechfa Ganol, Brechfa Uchaf. Brechfa Cothi y gelwid y lle sydd yn
swydd Gaerfyrddin a hyny o herwydd ei fod yn sefyll ar lan Gothi, lle y mae
yr afon yn troi yn fyr rhwng y mynyddau, yr un fath a braich dyn, pan
yn ei dal yn gam. Gan fod y fath gemi yn yr afon yn y lle, galwyd ef yn Brechfa,
sef Braichfan Cothi. Y mae y lleoedd sydd yng Ngheredigion yn sefyll
ger llaw yr afon Gwenffrwd, yr hon sydd yn gam ger llaw y lle. Y mae lle
hefyd is law Brechfa Cothi o’r enw Brechfäu, o herwydd fod amryw droion yn y
Cothi ger llaw y lle. Dywed rhai fod Brechfa yn arwyddd daiar frechlyd; ond y
mae yn fwy tebyg mai yr eglurhâd cyntaf yw yr un mwyaf naturiol. Y mae
Brechfa Cothi yn gorwedd mewn man rhamantus o brydferth ar lan y Cothi, yr
hon yw yr afon fwyaf barddonol yn y Deheudir. Y mae y lle hwn hefyd yn enwog
am ei lenyddion uchelglodus, sef Ieuan Brechfa a Thomas Evans, y rhai oeddynt
hynafiaethwyr enwog iawn. Y mae Brut Ieuan Brechfa wedi ei argraffu yn y Myfyrian
Archaeology of Wales. Gwŷr Eglwysig oeddynt.
(I’w barhau.)
|
|
|
(delwedd B0947)
|
Yr Haul. Cyfres Caerfyrddin.
“Yng ngwyneb haul a llygad goleuni.” “A gair Duw yn uchaf.”
Rhif. 137. Mai, 1868. Cyf. 12. Tudalennau 140-144.
CYFANSODDIAD
ATHRONYDDOL. ENWAU LLEOEDD CYMREIG YNG NGHYMRU. Gwynionydd. Yr Haul. 1868.
(Rhan 5 / 10)
Tudalennau 140-144.
|
|
|
(delwedd B0948a) (Yr Haul. Mai 1868. Tudalen 140a.)
|
CYFANSODDIAD
ATHRONYDDOL. ENWAU LLEOEDD CYMREIG YNG NGHYMRU.
(Parhâd o dudalen 112.)
Brefi, Llanddewi. Y mae Llanddewi Brefi yn dra adnabyddus yng Nghymru,
lle yr enwogodd Dewi Sant ei hun gymmaint wrth wrthwynebu Morganiaeth. Dywed
traddodiad, neu chwedl, mai yr ychain banog ddarfu frefu yno neu
hollti Craig y Foelallt; ond y mae eisieu cael eglurhâd heb hyn ar ystyr yr
enw. Y mae yn ddilys mai Brefi yw enw yr afon hon, hyny yw, bre
(mynydd), a gwy (dwfr); ac ar ol gwneyd gair cyfansawdd hono, yr oedd
yr g yn myned i golli, ac yna yr oedd yn cael ei alw yn Brewy,
neu Brewi, a chan fod y llythyren w yn arfer troi yn f,
felly y gwnaeth yn y fan hon; ac ar ol newid yn y modd hyny, dyna yr enw yn Brefi,
a hyny mor naturiol ag y mae dwfr yr afon risialaidd yn treiglo heibio yr hen
fan cyssegredig. Dywed rhai mai Brenig yw enw yr afon hon; ond y mae
yn annhebyg o fod yn gywir, gan mai Brenig yw enw afon Tregaron. Ystyr brenig eto yw nant y
mynydd.
Breinog. Y mae palas ar lan Aeron o’r enw hwn. Ystyr yr enw yw breiniog,
neu breintiog, am ei fod ym mraint Castell Trefilan, yr hwn a
adeiladwyd gan Maelgwyn ab Rhys.
Brenni, Y Frenni Fawr, enw mynydd yn Nyfed. Gwreiddyn yr enw yw bre
(mynydd), ac eni (uchel). Y mae brenin yn perthyn i'r teulu
hwn. Y mae brenin yn y wladwriaeth, yr hyn yw brenni, neu
fynydd, yn y wlad — yn uwch na phawb o'i ddeutu.
Breseli. Dyma enw y llinell fwyaf pwysig o fynyddau yn Nyfed, ac a
elwir gan y Seison yn Precelly. Ymddengys, yn ol y deongliad mwyaf
cyffredin, mai bre sylwi, sef bre, neu fynydd i sylwi ym
|
|
|
(delwedd B0948b) (Yr Haul. Mai 1868. Tudalen 140b.)
|
mhell, yw yr ystyr. Y mae yn eithaf eglur mai bre yw yr ystyr yn y
rhan gyntaf, ac y mae tebygolrwydd mai selu yw ystyr y rhan olaf. Y mae selu
yn hen air am edrych, neu syllu mewn modd neillduol.
“Cael dirgelu dwyf annelu, Cair dy selu croew des haelion."* W.
Lleyn.
*Selu, to
behold. — Dr. Puw.
Ond y mae rhai yn ammheu hyn, gan draethu fod afon fechan yn tarddu o'r
mynydd o'r enw Selu, yr hon a gyfieithai yr enwog Edward Llwyd yn
gruutio [sic]. Ond hwyrach mai'r eglurhad cyntaf yw yr un cywiraf. Y mae Breseli
yn hen enw yn cael ei goffa ym Mabinogi Pwyll Pendefig Dyfed. —
"Ac yn y drydedd flwyddyn y dechreuais gwŷr y wlad ddala trymfryd
ynddynt, o weled gwr cymmaint a gerynt a'i harglwydd, ac eu brawdfaeth yn
ddietifedd, a'i ddynu atynt a wnaethant. Sef y lle y daethant yng nghyd i Breseli,
yn Nyfed."
Bribwll. Y mae llawer o dai o'r enw hwn. Cyfnewidiad yw o Priddbwll.
Bridell, enw Eglwys yn Nyfed. Cyfnewidiad yw o Priddell. Gan
mai enw benywaidd yw, y mae P wedi newid i B, gan gymmeryd y
fannod y o flaen yr enw, fel Cilfach, yn Y Gilfach. Y
mae dd a d yn arfer newid un yn lle y llall, fel y gwelwn yn cerddinen
mewn rhan o'r wlad yn cerdinen. Y mae priddell yn arferedig am delpyn
o ddaiar, ac hefyd am ddaiar gladdu; ac ef allai taw yn yr ystyr olaf y
cafodd yr enw ei gymhwyso at yr Eglwys hon.
Brithdir. Y mae lleoedd o'r enw hwn, sef Brith-dir, ac y mae yr
ystyr yn eithaf eglur, er fod rhai yn meddwl mai blithdir wedi ei
gyfnewid yw.
Bron. Ystyr bron yw llethr, neu ochr, yr hyn sydd
gyfystyr á'r Seisoneg breast. Y mae Bron yn gwneyd i fyny lawer
iawn o enwau. Weithiau y mae yn cael ei gyssylltu â sylweddeiriau ereill, a
phryd arall ag ansoddeiriau, ac ambell waith ag enwau dynion, megys Bron y
Clydwr, Bron y Foel, Bronnant, Bron Wen, Bron Goch, Bron Las, Bron Lwyd; Bron
Iwan, Bron Wion, Bron Wilym. Gair benywaidd yw bron; ond mae yn debyg
ei fod yn cael ei arfer weithiau yn wrywaidd, megys yn Bron Gwyn. Mae
Eglwys o'r enw hwn yng Ngheredigion; ac y mae dau le ym mhlwyf Llangoedmor
o’r enw Brongwyn Bach a Brongwyn Mawr. Y mae rhai geiriau yn cael eu harfer
yn bob un o'r ddau ryw: un felly yw man. Y mae palas hynafol yng
Ngheredigion o'r enw Bronwydd, yr hyn a dybia rhai sydd yn golygu Broncoed;
ond clywsom ysgolhaig craffus
|
|
|
(delwedd B0949a) (Yr Haul. Mai 1868. Tudalen 141a.)
|
yn dywedyd mai Bronydd yw. Pe Bron y Coed yw, y mae yn rhaid
fod y gair wedi cael ei wneyd i fyny yn groes i'r rheol gyffredin, o blegid y
mae yn debyg mai oddi wrth y fron y cafodd yr enw, ac nid oddi wrth y gwŷdd
(coed); gan hyny, er mwyn dangos y fron ar ba un y mae yn sefyll, dylasai fod
yn Coedfron, neu Gwyddfron. Y mae rhai lleoedd wedi cael enwau
yn y rhif lluosog; dyna Llidiardau (gates), a Nannau (brooks);
a gallwn feddwl fod Bronwydd wedi cael ei alw felly. Yr unig
wrthwynebiad a ellir ddwyn ym mlaen yw, o ba le y daeth yr w? Y mae yn rhy
anhawdd ateb dros bob llythyren ag sydd yn ymwthio i mewn i air.
Brwg. Gwreiddyn y gair hwn yw bar (gorchudd); ond y mae yn
eithaf bychan i fod yn wreiddair ei hun. Y mae yn enw i lawer o leoedd yn
Neheudir Cymru; megys Brwg Sant Iorys, Brwg Llansant Ffred, a Brwg
y Dyffryn.
Bryn. Y mae y gair bychan a thlws hwn yn gwneyd i fyny ran o lawer
iawn o leoedd yn ein gwlad. Y mae y gair bryn yn cael ei wneyd i fyny
o bre a'r bychanigyn yn, sef brëyn, hyny yw, bre,
neu fynydd bychan, ac yn nhreigliad amser wedi ei grebachu i bryn. Y
mae llawer iawn o elfenau a ffurf iaith i'w gweled ynddo. Y mae ei wreiddiau yn
hollol eglur, ac y mae y dull y mae wedi cael ei wasgu yn dangos y modd y mae
llawer o eiriau wedi eu gwneyd yn yr un modd.
Y mae mor athronyddol yn ei elfenau dechreuol, fel nad oes modd cael ei well,
ac y mae ei gymhwysiad at fynydd bychan yn ardderchog. Y mae lle o'r enw Bryn
Banon yn Llanfor, Meirion, yr hwn a gyfieitha Dr. Puw yn Queen's Hill.
Y mae lle yn sir Benfro o'r enw Bryn Berian, yr hwn a dybia rhai sydd
yn golygu Bryn Beran — beran, afon fer; ond hwyrach mai beri
(barcud), neu berian, yr hyn a olyga yr un peth. Y mae Bryn Dyoddef
ger Emlyn, lle gynt y byddai Arglwyddi Emlyn yn cospi drwgweithredwyr. Y mae
hefyd ym mhlwyf Llandygwydd fryn o'r enw Bryn Bwa. Hwyrach ei fod yn
cael ei alw felly oddi wrth ei lun crwn; ond y mae bw, mewn un ystyr o
hono, yn golygu edrychydd dros rywbeth, ac ef allai mai dyma ystyr y
bryn hwn. Y mae yng Ngogledd Cymru le o’r enw Brynbo, yr hwn, ef
allai, sydd o'r un ystyr a Brynbwa. Y mae lle ym Meirion o'r enw Bryn
Ellyllon, sef Bryn y Bwganod. Y mae hefyd le yn Llandecwyn o'r enw
Bryn y
Bwbach, sef Hill of the Sprite.*
*Cam. Reg., vol. I., p. 291.
Y mae fod y lleoedd hyn yn dwyn enwau bwganod ac ellyllon yn
rhoddi lle i gredu mai dyna ystyr Brynbo, gan fod
|
|
|
(delwedd B0949b) (Yr Haul. Mai 1868. Tudalen 141b.)
|
bw, neu bo,
yn golygu brawychu. Bryneich (Bemicia), teyrnas Gymreig yng
Ngogledd Lloegr, a elwid felly am ei bod yn fryniog.
Buallt, gallt, neu goedwig, lle gynt yr oedd bualod, neu ychain
gwylltion.
Buddygre, enw lle ger llaw Abermaw, a elwid felly o herwydd cael
buddugoliaeth arno. — The race of victory. — Dr. Puw.
Bwlch. Y mae ystyr y gair bychan hwn yn eithaf eglur. Y mae yn cael ei
gymhwyso yn fynych at agoriad mewn llinell o fryniau a mynyddoedd, megys Bwlchgwynt,
yn Nyfed, Bwlch Cefn y Sarff, ger Llanymddyfri, Bwlch Oerddrws,
Meirion, &c. Y mae Bwlchgwynt yn enw tra chyfaddas ar y lle hwnw
yn Nyfed, gan fod nerth y gwynt yn fawr yn yr agoriad hwnw. Y mae Bwlch
Oerddrws yn golygu yn agos yr un peth, am fod y bwlch yn debyg i ddrws
oer yn sugno gwynt yn erwin ofnadwy. Y mae Bwlch yn Llandrillo, Meirion, o'r
enw Bwlch Maen Gwynedd, “the pass of the Moorstone of Gwynedd."
Gelwid ef felly am fod yno faen yn dangos terfyn Gwynedd, ac yn wir y mae y
fath enw yn dra gwerthfawr, yn gystal a chymhwys, i ddangos hyd heddyw ffordd
oedd terfyn talaeth Gwynedd.
Bwlch y Groes, rhwng Mawddwy a Phenllyn, a elwid felly am fod teithwyr
yn ymostwng wrth ei droed i ofyn nawdd y Groes cyn ei groesi. Bwlch y
Forwyn, yn yr un swydd, a ddengys fod teithwyr wrth ei groesi yn gofyn
nawdd y Forwyn Fendigaid. Bwlch y Pawl, yn Llandrillo, ydoedd y lle
oedd Rhodri Mawr wedi nodi i dywysogion Gwynedd a Phowys gyfarfod, er mwyn
penderfynu yn heddychol unrhyw ymryson a hanfodai rhyngddynt.
Bwrdd Arthur, enw cromlech a lle uchel ar ben mynydd Berwyn, Meirion.
Y mae y gair bwrdd yn cael ei gymhwyso yn fynych at feini derwyddol.
CADER. Y mae cader yn arwyddo amddiffynfa, neu gaerfa, a hefyd
lle i eistedd, fel yr arferir ef genym ni yn bresennol. Y mae amryw fanau uchel yn dwyn yr enw
hwn, megys Cader Dinmael, Cader Idris, a Chader Fyrddin. Y mae y gair cadar
yn deillio o'r gair cadw, neu yn hytrach yn perthyn iddo. Cader =
cadwrfa.
Cadwyn. Mae afon o'r enw hwn yng Ngheredigion, am fod ei glenydd yn
dwyn tebygolrwydd i dorchau, fel y dywedwyd am Bwlchog a Chorus.
Caer. Y mae y gair bychan hwn yn perthyn i'r perwyddiad cau,
neu cauad, ac i’r sylweddair cae. Y mae y perwyddiad cau
yn golygu diogelu unrhyw beth rhag perygl, ac y mae cae yn arwyddo tir
wedi ei gau â chloddiau. Yn y modd hwn, ni a welwn yn amlwg ystyr y gair caer,
sef lle wedi ei ddiogelu a’i sicrhau gan wèlydd,
|
|
|
(delwedd B0950a) (Yr Haul. Mai 1868. Tudalen 142a.)
|
fel y gallai ei feddiannwyr eu diogelu
eu hunain. Y mae y lleoedd a adwaenir gan y Cymry wrth caer yn cael eu
galw gan y Seison yn caester, cister, a chester; a chan y
Rhufeiniaid yn castrum. Y mae yn wir fod y gair yn tebygoli rhywbeth
i’r gair Lladin; ond nid oes eisieu pryderu dim gyda golwg ar ei darddiad
Cymreig, gan fod y perthynasau a ddyfynasom yn barod yn ddigon i dori y ddadl
ar unwaith. Ymddengys mai Caer Daf yw ystyr Caerdydd, ond bod y
werin wedi ei droi i dydd, am fod y sain hwnw yn dra chyfarwydd i’r
glust. Gelwid hi felly am ei bod ar lan yr afon Taf yn
debyg fel y gelwid Dinarth, am ei bod yn sefyll ar graig uwch law yr afon
Arth. Caerfyrddin: ymddengys fod y lle hwn wedi cael ei enw oddi wrth
ryw ddyn o'r enw Merddin, a hyny mor bell yn ol ag nad oes hanes am
dano. Y mae y Parch.
D. Peter, yn ei Hanes Crefydd yng Nghymru, yn mynegu fod yr enw Caerfyrddin
yn cael ei wneyd i fyny o dri gair, sef caer, mur, a din; ond
nis gallwn weled cyssondeb yn eglurhâd yr awdwr dysgedig a pharchus, gan fod caer
a din yn eiriau cyfystyr, ac y mae mur hefyd yn perthyn yn agos
i’r un peth.
Muriau y ddinas = gwèlydd amddiffynol y ddinas. Am y bardd Merddin
Emrys, y mae yn amlwg mai person mwy diweddar oedd efe, ac ei fod yn perthyn
i Gaerfyrddin, megys pe byddai rhyw Lywelyn yn byw ym Mryn Llywelyn. Y
mae Caer Einion, Caer Gwrle, Caer Gybi, Caer Alun, &c., wedi cael
eu henwau oddi wrth ddynion o'r enwau hyny. Caerlleon, medd rhai, a
gafodd yr enw oddi wrth fod llengoedd y Rhufeiniaid yn sefydlog yno; ond y
mae yn ammhëus iawn am hyny, gan fod Lleon Gawr yn dangos enw dyn. Caerynarfon,
a elwid felly o herwydd fod yr amddiffynfa yn Arfon. Gelwid y lle gynt yn Caerseiont.
Y mae caer hyd y dydd heddyw yn enwau llawer o dyddyndai, lle cynt y
bu amddiffynfëydd. Y mae lle o’r enw hwn ger Aberhonddu, lle gynt yr oedd
gorsaf fawr gan y Rhufeiniaid. Caerwedros = Caer-gwaed-ros. Caerew = Caerau.
Carn. Ystyr y gair bychan hwn yw pentwr o geryg; ac y mae yn fynych yn
arwyddo pentwr beddrodol. Carn Wyllon, enw cwmmwd yn swydd
Gaerfyrddin. Ystyr gwyllon yw bwganod, neu ysbrydion drwg yn
ymddangos yn y nos. Y mae yr enw hwn yn dangos fod tybiaeth wedi bod am
ymweiiad gwyllon â’r man, lle yr oedd rhyw feddrod hynafol. Carn Ingli,
yn Nyfed, a arwydda, medd traddodiad, Carn Engyl, o herwydd fod engyl
yn ymweled â Sant Brynach ar ei gopa. Yr ydym yn gadael y chwedl yn ddisylw;
ond eto i gyd, hwyrach y gallasai y chwedl fod yn achos o’r enw.
Carog. Ystyr y gair hwn yw llif neu
|
|
|
(delwedd B0950b) (Yr Haul. Mai 1868. Tudalen 142b.)
|
nant. Hwyrach ei
fod yn perthyn i Cerhynt. Y mae y gair yn Nhestament W. Salisbury.
"O garog (afon) ydd yf ddiawd,
Wrth hyny y dyrchaif ei ben ar ffawd."
D. Ddu Hiraddug.
Salm cx.7.
Y mae nant o’r enw hwn yng Ngheredigion, yr hon sydd yn rhoddi enw i blasdy
ym mhlwyf Llanddeiniol. Y mae
hefyd le ym Mhowys o'r enw Abercarog. Tebyg mai yr un
peth yw carog a ceiriog.
Castell. Dywed Dr. Puw fod y gair hwn yn Gymraeg, ond y mae ereill yn
boeth mai o'r Lladin y daw. Y mae yn arwyddo amddiffynfa gadarn; ac y mae
llawer iawn o enwau lleoedd yn cael eu gwneyd i fyny o hono, trwy gael ei
gyssylltu ag enwau ereill, Castell Carndochan, Castell Gwallter, yng
Ngheredigion, Castell Newydd Emlyn, Castell Nedd, ar lan yr afon Nedd, yr un
modd a Caer ar Daf. Y mae llawer, fel yr ŷm wedi dangos, wedi cael eu
henwau oddi wrth enwau y dynion a'u hadeiladasant; ac ereill oddi wrth
sefyllfa y manau maent yn sefyll, megys Castell y Waen, Castell y Foel,
&c. Y mae plwyf yn Nyfed o’r enw Castellan, yr hyn a olyga Castell Llan.
Y mae yn cael ei grebychu weithiau, megys Cas Newydd am Gastell
Newydd.
Cedris. Y mae lle o’r enw hwn ym mhlwyf Tal y Llyn, Meirion. Dywed Dr.
Puw mai ystyr yr enw yw trysor cuddiedig. Y mae ced yn arwyddo trysor,
elw, neu log.
Cefn. Y mae y gair bychan hwn yn eithaf adnabyddus. Y mae yn arwyddo y
rhan groes i'r wyneb o'r corff, ac y mae yn arwyddo y rhan uchaf o dir fyddo
yn rhedeg am ryw gymmaint o ffordd, nes tebygoli i gefn dyn neu anifail.
Dywed Lewis Morris mai Seisonigeiddiad o'r enw cefn yw Chevin yn
Lloegr, ac y mae hyny yn dra thebyg. Y mae genym lawer iawn o leoedd â chefn
yng nglyn â hwy; megys Cefn Cethin (cethin, dyrys); Cefn y Ceirw,
ym mhlwyf Penbryn, o blegid fod y fan hòno yn gadwfa ceirw i hen balas
Abernant Fychan; Cefn Rug (Cefn y Grug, heath) ym Meirion; Cefn
Camberth (Camberth = perth gam), ym Meirion; Cefn Banadl, yng
Ngheredigion, a llawer ereill.
Ceilwart, enw lle yn Llanaber, Meirion. Ystyr y gair yw diadellfa, sef
lle yn meddu ar hawl o gorlanu, llocio, neu ffaldio anifeiliaid. Y mae y gair bychan cail yn un
tra rhagorol, a gwerthfawr yw ei gael ar glawr mewn enw lle yn y modd hwn.
"Gwae ni cheidw ei gail, ac ef yn fugail,
Ac nis areilia."
Taliesin.
|
|
|
(delwedd B0951a) (Yr Haul. Mai 1868. Tudalen 143a.)
|
Ceinog, enw lle ym
Mettws, Meirion. Ystyr cain yw hardd, neu wastadedd teg,
blodeuog, heb fod yn cynnwys diffaethwch. Y mae y gwreiddair bychan hwn yn
dlws a chynnwysfawr iawn. Y mae afon yng Ngwynedd o’r enw hwn, a elwid felly
am fod ei dyfroedd yn loew, a’i rhediad trwy dir gwastad. Y mae lle hefyd o'r
enw Caint Bach. Dyma ystyr yr enw Caint (Kent) yn Lloegr.
Ceiswyn, enw lle yn Nhal y Llyn, Meirion. Ystyr ceiswyn yw
dymuniad da.
Celyn, enw pren bythddeiliog. Y
mae llawer lle o'r enw hwn, a llawer ereill yn cyfranogi o hono. Y mae plwyf
yng Ngwynedd o’r enw Celynin. Y mae llawer lle o’r enwau Pant y
Celyn, Llwyn Celyn, Twr Celyn, a Dol Gelynen. Y mae y pren yn cael
ei alw yn Seisonig holly, a hyny, mae’n debyg, o herwydd ei fod yn fythddeiliog,
ac felly, yn ol tyb yr hen bobl, yn gyssegredig ac yn holy yn eu
golwg; ac y mae yn debyg fod celyn wedi cael eu hystyried gan ein
hynafiaid ninnau felly; ac yna priodolid iddo ryw briodoledd gyssegredig, gan
fod cel yn perthyn i Celi (y Duw dirgeledig).
Cellan, enw plwyf yng
Ngheredigion. Ystyr yr enw yw cell a llan, hyny yw, Llan,
neu Eglwys mewn cell. Ystyr cell yw lle cysgodol, yn y
fan hon; y mae hefyd yn golygu gwigfa; ac ym mhellach yn golygu ystafell.
Enw rhagorol ar Eglwys mewn llanerch dlos gysgodawl gan fryniau, yw Cell-llan.
Yn ail ystyr y gair cell, y mae celli yn dyfod i mewn. Y mae Celli
yn hen enw Cymreig ar Ffrainc, a hyny oherwydd ei bod yn wlad goedog, ac yn
cael ei phreswylio gan y Celtiaid. Mae llawer o enwau lleoedd yng
Nghymru o'r enw Celli (y Gelli). Y maent bob amser yn golygu lleoedd
mewn manau cysgodol a choediog. Gelli’r Yn, Gelli Werdd, Gelli Galed,
&c. Y mae y teulu hyn o eiriau yn enwau rhagorol. O, ïe, y mae tref ar
lan yr Wy o’r enw Gelli, ac y mae yn ateb i’r ystyr hwn yn
hollol. Yr enw Seisonig arni yw The Hay, yr hwn sy gyfieithad
llythyrenol o’r Gymraeg i’r Ffrancaeg. Pan drawsfeddiannodd Bernard Newmarch
Frycheiniog, daeth teulu o’r enw De Breos i'r lle hwn, a chyfieithodd ryw
Gymro enw y lle iddynt i’r Ffrancaeg, yn La Haye (The Grove); ac yni
rhwysg amser, gadwyd y la ar ol, a rhoddwyd y fannod Seisonig the
o flaen yr enw, ac y mae yn parhau i gael ei alw hyd y dydd hwn gan drigolion
y wlad yn The Hay.
Cemmaes. Y mae
pedwar, os nid rhagor, o leoedd yng Nghymru o’r enw hwn. Cemmaes, sef
enw cantref pwysig yn Nyfed, yr hwn yw y rhan uchaf o swydd Benfro, hyny yw,
y rhan uchaf o’r parth gogleddol o honi. Y mae cwmmwd o'r
|
|
|
(delwedd B0951b) (Yr Haul. Mai 1868. Tudalen 143b-144a.)
|
enw hwn ym Mon,
plwyf ym Maldwyn ar lan y Dyfi, a lle yng Ngwent Isgoed. Ystyr yr enw yw camp
a maes; hyny yw, maes lle yr oedd ein teidiau yn ymryson am lawer o gampau
corfforol. Yr oedd ganddynt 24 o gampau, ac y mae hanesydd yn amser
Elisabeth yn rhoddi darluniad dyddorol iawn o gamp a welodd efe yn
cael ei chwareu yn e Nghemmaes, Dyfed.
Y gamp hòno oedd chwareu cnapan; ac yr oeddynt yn dechreu arni gyda
chodiad haul, gan ei dilyn hyd y nos. Nid oedd dim ond llodrau am
danynt; ac yr oeddynt yn ymdrechu â’u holl egni, fel pe buasent yn ennill eu
bywoliaeth, neu gadw eu gwlad trwy hyny. Cnepyn crwn o bren derw wedi
ei ferwi mewn gwer oedd y cnapan, ac yr ydym yn dyweyd hyd heddyw am
ddyn tyn am y byd, mai “un tyn am ei gnapan yw.” Fe welwn fel y mae
hanesyddiaeth yn profi athroniaeth enwau ein lleoedd.
Cenarth, enw Eglwys ger Castell Newydd Emlyn. Y mae ffugchwedl yn
traethu mai cael asgwrn gen arth wnawd yn y graig hon, a bod y lle
wedi cael yr enw oddi wrth hyny. Y mae y chwedl fod ei chlun wedi ei chael yn
Llanarth, a’i phen wedi ei gael ym Mhenarth. Yr ydym mor hoff a
neb o lên y werin, ac mae cofnodi llawer o honi; ond ni chymmerem
lawer am gymmeryd chwedl fel gwirionedd, ac y mae yn syn genym weled dynion
yn cefnogi yr eglurhâd hwn ar Genarth.
Y mae yr enw yn cael ei wneyd i fyny o ddau wreiddair Cymraeg, sef cefn a
garth. Yr ydym wedi traethu yn barod am cefn, ac y mae yn
ofynol yma fynegu fod yr f yn myned i golli, fel y mae yn Cenfaes
(Cefnmaes), ym mhlwyf Llanddewi Brefi, a llawer ereill; yn y gair cenlloer,
sef cefnlloer, am fod y lloer pryd hyny ar ei chefn, yn gystal
a llawer o enwau a geiriau ereill. Ystyr garth yw gwersyllfa; caer;
ceilwart (a fold); pentir; codiad tir. Y mae y gair yn
gwneyd i fyny lawer o enwau lleoedd; Garth Anarawd, Garth Beibio, Penarth,
Gogarth (Garth y Gog), Garth Au, Llwydiarth, Llanfihangel ar Arth, Talgarth,
&c. Wel, yn awr, dyma ystyr Cenarth mor amlwg a’r haul ganol dydd,
sef cefn garth. Y mae yr g yn cadw ei lle mewn ambell enw;
megys yn Talgarth, ac yn ei golll mewn manau ereill; megys yn Peniarth
a Llwydiarth. Y mae hefyd yn amlwg fod y lleoedd hyn yn sefyll ar
ychydig godiad tir. Y mae Eglwys Llanarth, Ceredigion, ar godiad
serth, ac felly Llanfihangel ar Arth a Chenarth. Y mae Cenarth
yn sefyll ar gefn codiad o graig, ger yr afon Teifi; ac felly, y mae
yr ystyr cefn a garth yn berfaith gywir o'r lle hwn. Rhyfeddol
i ddoethineb yr hen bobl! Enw tlws iawn yw Gogarth, sef garth
lle y bydd y gog yn
arfer fynycha yn ei harosiad byr yn ein gwlad. Y mae palas yn sir Faesyfed
o’r enw Cenarth, lle gynt y preswyllai merch i Owain Glyndwr.
(I’w barhau.)
|
|
|
(delwedd B0953)
|
Yr Haul. Cyfres Caerfyrddin.
“Yng ngwyneb haul a llygad goleuni.” “A gair Duw yn uchaf.”
Rhif. 138. Mehefin, 1868. Cyf. 12. Tudalennau 172-176.
CYFANSODDIAD ATHRONYDDOL. ENWAU LLEOEDD
CYMREIG YNG NGHYMRU. Gwynionydd. Yr Haul. 1868.
(Rhan 6 / 10)
Tudalennau 172-176.
|
|
|
(delwedd B0954a) (Yr Haul. Mehefin 1868. Tudalen 172a.)
|
CYFANSODDIAD ATHRONYDDOL. ENWAU LLEOEDD CYMREIG YNG NGHYMRU.
(Parhâd o dudalen 144).
Cenen. Y mae afon o'r enw hwn ger Llandeilo Fawr, yr hon sydd yn
rhoddi enwau i ddau le, sef Castell Careg Cenen ac Abercenen.
Yr ydym wedi traethu fod afon o'r enw Cain, ac y mae yn eithaf amlwg
mai Cainen, neu Cainain, yw ystyr yr afon hon, ac wedi ei newid
gan lafar gwlad i Cenen. Y mae llawer iawn o drafferth wedi bod am
gael allan ystyr Careg Cenen, gan ymdrechu tybied y gallasai y Castell
gael ei adaeladu gan Cynan ab Rhys, ac felly gael ei alw oddi wrtho;
ond y mae yn gwbl anghysson ag hanesiaeth i feddwl hyny, o blegid y mae Is
Cenen yn enw y cwmmwd sydd is law yr afon, ac yn ddiammheu wedi cael yr
enw hwnw gannoedd o flynyddoedd cyn geni Cynan ab Rhys, ïe, ef allai, mor
bell yn ol a dechreu y cyfnod Cristionogol, ïe, a phellach o lawer. Yr ydym
yn cael fod Gwiberi Hen, o Is Cenen, a Gwrnerth Llwyd, ei fab, yn
Senedd Hywel Dda, yn y Ty Gwyn ar Daf, yn ffurfio cyfreithiau y teyrn enwog
hwnw; ac felly, ni a welwn ar unwaith fod Cenen ac Is Cenen yn
bodoli pryd hyny, tua thri chant o flynyddau cyn geni Cynan. Y mae Castell
Careg Cenen yn sefyll ar dwmpath uchel aruthrol o gareg galch, ar ochr
dde i'r afon. Nid oes dim careg galch yr ochr hono i’r afon, ond y twmpath aruthrol,
lle saif y castell. Gelwid y twmpath creigiog yn Gareg Cenen, am ei
fod yn sefyll uwch ben yr afon Cenen.
Cerdin. Ceir afon o’r enw hwn yng Ngheredigion, a alwyd felly o
herwydd fod y pren cerdinen, lawer o hono, yn tyfu ar ei glenydd.
Cerniw. Ymddengys taw ystyr y gair neu'r enw hwn yw cern ac iw.
Y mae cern yn arwyddo ochr y wyneb, sef y rhan a welwn o beth heb
weled y cyfan o hono. Ystyr iw yw eithaf, sef peth ym mhell
allan, neu ar wyneb; ac felly ni welwn ystyr yr enw hwn yn eithaf priodol. Y mae Llangerniw yng Ngogledd
Cymru.
Cernos, neu Y Gernos. Y mae llawer iawn o leoedd yn ein gwlad
o'r enw Gernos. Yr ystyr a rydd Dr. Puw*
*Cam. Reg., vol. I., p. 313.
i’r gair hwn yw declivity, ac ni a gredwn ei fod yn dra phriodol. Cernos, sef cern, neu ochr codiad
tir. Y mae eto yn cyfegluro Cerniw, o blegid y mae codiad tir i’w
weled o'r môr pan yn edrych ar Gerniw.
Cilcenin. Y mae cil yn dechreu llawer iawn o enwau yng Nghymru,
ac yn diweddu rhai. Y mae cil yn arwyddo lle enciliedig, cyflëus
i ymguddio neu orphwys allan o swn a thrafferth y byd. Y mae yn
|
|
|
(delwedd B0954a) (Yr Haul. Mehefin 1868. Tudalen 172b.)
|
dechreu amryw leoedd yn yr Iwerddon, megys Cilcenni, &c. Yn
yr Iwerddon, y mae yn golygu Eglwys, fel y mae Llan genym ni yng Nghymru;
ac ef allai fod yr ystyr hyny wedi cael ei roddi yn yr Ynys Werdd o herwydd
fod rhyw hen sant yn arfer ymneillduo i gilfach, felly i lwyr ymroddi
i weddi a duwioldeb, a bod Eglwys yn cael ei hadailadu wedi
hyny ar y fan. Ystyr Cilcenin yw Cilcyrnan, lle y ciliodd
penaeth o’r enw hwnw. Y mae Cil Owain yng Ngwynedd,*
*Ymddengys mai ym Mhowys mae y lle hwn.
lle y ciliodd Owain Gwynedd a’i wŷr yn amser Harri II. Cilrhedyn
a gafodd ei galw felly, o blegid i’w aant noddawl, Teilo, gilio i'r
fan hono i ympryd a gweddi cyn ei sylfaenu. Yr oedd hyny yn arferiad yn y
cynoesoedd, ac yn wir, arferiad rhagorol oedd. Cilmaenllwyd: y mae
llawer o enwau lleoedd yn ein gwlad o’r enw hwn. Ymddengys fod hen feini
derwyddol ger llaw y manau hyn. Yr oedd llawer iawn o honynt yn y lle o'r enw
hwn yn swydd Gaerfyrddin; ac yr oedd hefyd hen feini o'r fath yn ochr lle o’r
enw ym mhlwyf Troed yr Aur. Nid oes ond tua 45 mlynedd er pan wasgarwyd
hwynt, ac y mae un o honynt yn ymyl lle o'r enw Pen y Banc yn awr. Yr oedd
olion godidog Penllech yr Ast ger llaw ty o'r enw hwnw ym mhlwyf Llangoedmor.
Cil y Fai: ystyr mai yw lle teg a phrydferth. Cilgeron =
Cilgeraint: Geraint, enw dyn. Cilpebyll: pebyll a osodid i fyny gan
fyddinoedd, er mwyn gwersyllu am ryw gymmaint amser yn y lle. Y mae Llan y
Cil, Meirion, yn arwyddo yr hyn a ddywedasom am Gilrhedyn. Y mae hefyd
lawer o enwau genym yn cynnwys y gair Cilfach, ac y mae enwau dynion
wedi eu cyssylltu â hwynt, megys Gilfach Rhodri, Gilfach Iestyn,
&c.
Clettwr. Y mae amryw afonydd o'r enw hwn. Y mae dwy yng Ngheredigion,
un ym Meirion, ac un ym Mrycheiniog. Ystyr yr enw yw caled-ddwr, neu ddwfr
caled. Y maent yn rhoddi enwau i amryw leoedd; megys Blaenclettwr,
Glanclettwr, ac Aberclettwr.
Clwt. Ystyr y gair yw darn o unrhyw beth; clwt o dir (a
piece of land). Y mae
lle yn y Gogledd o'r enw Clwt y Bont.
Clwyd. Y mae afon yng Ngogledd Cymru o'r enw hwn, ac y mae un arall
o'r un enw yng ngorllewin yr Alban. Ystyr yr enw yw cyssegredig. Duw Lwyd =
Duw sanctaidd — enw wedi ei roddi gan y Derwyddon.
Clydach. Y mae amryw o afonydd o'r enw hwn. Ystyr Clydach yw clyd
ac ach, sef dwfr yn rhedeg trwy le cysgodol ac isel. Clydlyn,
afon yng Ngheredigion.
Clyn. Ystyr clyn yw lle llawn o
|
|
|
(delwedd B0955a) (Yr Haul. Mehefin 1868. Tudalen 173a.)
|
dewgoed, neu fanwydd. Clyn o eithin (a furze
brake). Y mae llawer iawn o enwau wedi cael eu gwneyd i fyny o'r gair
hwn, trwy ei gyssylltu ag ansoddeiriau, ac â sylweddeiriau; megys Clyncoch,
a elwid felly am fod rhedynach a phethau yn rhoddi y cymmeriad hwnw i'r fan; Clynmelyn
a Glyngwyn. Y mae hefyd yn cael ei gyssylltu â sylweddeiriau; megys Clyn
Adda, hyny yw, Clyn Eiddw (iorwg). Y mae amryw leoedd yn Neheudir
a Gogledd Cymru o’r enw hwn. Y mae capel ger Llechryd o'r enw Capel Llwyn
Adda, sef Capel Llwyn Eiddw.
Clynog. Y mae hen Eglwys athrofaol o’r enw hwn yn Arfon. Dywedir mai
crebychiad o Celynog yw yr enw, sef llawn o'r pren byth-ddeiliog hwnw.
Y mae Ysgeifiog yn sir Fflint, wedi cael ei alw felly oddi wrth y pren ysgaw,
am ei fod yn llawn o’r pren crach.
Coetty, ty mewn coed. Y mae
llawer o dai o'r enw hwn.
Col. Ystyr col yw peth yn ymestyn allan, neu i'r lan; megys
garth, neu big; pentir; hefyd pig, neu golyn. Y mae lle o'r enw hwn ym
mhlwyf Myddfai, ac enw bychan, tlws, a chynnwysfawr yw. Y mae y ty yn sefyll ar godiad tir. Y
mae amryw leoedd i gael o’r enw Drysgol Goch, yr hyn a arwydda godiad
tir serth; hyny yw, Dyrys Gol, ty yn sefyll uwch gallt serth, a hono
yn dwyn y cymmeriad coch, trwy fod ei phridd felly, ac yn cynnwys
llwybrau a ffyrdd, a'i daiar goch yn dyfod i’r golwg. Y mae genym yn y
Deheudir y gair ysgrongol am hen dyddyn diffaeth a serth, ac ar ambell
i fan serth, fel y Dryslwyn, Craig Gwrtheyrn, a’u cyffelyb. Y
gwreiddiau yw col a cron (crwn), a'r blaenddawd cadarnhaol ys.
Gwelwn ystyr y gair mor eglur a sy le. y mae y gair colfen yn perthyn
i’r tadair col. Y mae lle o’r enw Llwyncolfa ym mhlwyf
Llanbadarn Odwyn; hyny yw, llwyn llawn colfa, neu gangenau. Y
mae Ysgolion Duon yn swydd Gaerfyrddin; a Nant yr Ysgolion yn
swydd Drefaldwyn.
"Troch heol ysgol esgar boethfan."
Casnodyn.
"A broken path of the precipice of the fiery place of
separation." (Cyf. Dr. Puw.) Y mae col yn dad rhagorol i'r gair ysgol
(a ladder); ac yn wir, meddylddrych gwych ac ysblenydd yw col,
fel tad i ysgol (a school), yr hon sydd yn dyrchafu dynion i’r
lan yn y byd meddyliol, yr un modd ag y mae ysgol yn codi i ben adeiladau a
phethau uchel ereill. Nid llawer o eiriau yr un fath yn gywir mewn
llythyrenau sydd yn y Gymraeg, ac yn golygu pethau gwahanol, ac nid yw hyny
yn dda; ond y mae y ddau ystyr hwn i ysgol yn rhywbeth gogoneddus.
|
|
|
(delwedd B0955b) (Yr Haul. Mehefin 1868. Tudalen 173b.)
|
Cors y Gedol, Dywed y dysgedig Ddr. Puw mai cors y trysor
yw ystyr yr enw; ac oni bai fod awdurdod mor uchel yn traethu hyny, buasem yn
meddwl fod cedol yvk perthyn i ceden, gan fod ceden o borfa wen
yn arferol o dyfu mewn lleoedd corsog.
Corwen, enw tref ym Meirion. Dywed Dr. Puw mai white choir yw.
Ymddengys fod yno gôr, neu fangor wedi bod yn y cynamser.
Criciaeth. Ymddengys mai ystyr yr enw hwn yw crug ac aith,
sef moel, bryn, neu gnipell eithinog. Y mae cyttir ym
mhlwyf Penboir, ger Emlyn, o'r enw Hiraith, neu Cefn Hiraith.
Gelwir ef yn Hiraith o herwydd ei fod yn ochr hir o fynydd yn
llawn eithin. Y mae hyn eto yn cytuno â Hiraithog, yn swydd Dinbych,
yr hwn a gafodd ei alw felly am ei fod yn fynydd hir eithinog. Yr oedd
ein hynafiaid yn arfer geiriau byrion cynnwysfawr, ac aith fyddent hwy
yn arfer yn lle eithin. Y mae Dr. Puw yn mynegu mai ffordd arall o aeth
(pigad, poen) yw aith, ac y mae athroniaeth y Gymraeg i'w gweled yn
rhyfeddol o ardderchog yn y gair hwn yn gystal ag mewn geiriau ereill. Aeth
yw gwreiddyn y gair saeth, hyny yw, ys aeth. Aith, neu aeth
(eithin), yw yr hyn sydd yn pigo, gan roddi poen, fel y mae pigau eithin yn
gwneyd; saeth (ys aeth) yw yr arf pigfain a arferid gynt mewn rhyfel,
yr hon oedd yn trywanu y fron, ueu ran arall o'r corff, ac yn lladd y
dyoddefydd. Aeth yw rhyw newydd, neu olygfa boenus ag sydd yn rhoddi
brathiad i'r fron. "Y mae y peth yn rhoddi aeth i mi," sef
yn rhoddi poen lem i'r teimlad, fel y bydd aeth a saeth i'r
corff. Yr hen Gymraeg wen, mor ardderchog yw dy gyfansoddiad!
Crwys. Y mae lle ym Morganwg o'r enw hwn; ac y mae Bwlchcrwys
yng Ngheredigion. Nid yw crwys ond ffordd arall o croes: croeshynt
(a crossway). Arferir dyweyd yn awr am ddyn yn ystod ei farwolaeth a'i
gladdedigaeth, ei fod "dan ei grwys," sef yr amser y byddid gynt yn
rhoddi crwys ar ei fron.
Cuch, enw afon yn Nyfed, yr hon a rydd enwau i leoedd — Blancuch,
Lancuch (Glancuch), ac Abercuch. Yr ydym yn credu mai cuch, ac nid cych
yw y ffordd o sillebu yr enw hwn, gan nad oes yn y Gymraeg y fath air a cych.
Ystyr cuch yw peth garw, anwastad, a gallwn feddwl fod hyn yn
ystyr digon priodol i'r afon hon. Yr ydym yn cael crybwyll am yr afon hon ym
Mabinogi Pwyll Pendefig Dyfed.
Cwm, sef lle isel rhwng bryniau a mynyddau. Y mae yn helaethach na glyn.
Y mae llawer iawn o enwau yn cael eu gwneyd i fyny o'r gair hwn, trwy ei
|
|
|
(delwedd B0956b) (Yr Haul. Mehefin 1868. Tudalen 174a.)
|
fod yn fynych yn flaenddawd, a phryd arall yn olddawd. Y mae rhai
lleoedd o'r enw Cwmarch, yr hyn a olyga gwm cul. Y mae yn cael
ei wneyd i ifyny o cwm ac arch. Y mae arch yn y fan hon yn
golygu agos yr un peth ag arch (coffin), sef peth yn cael ei gau — Cwm-arch,
o herwydd ei fod yn cael ei gauad yn gyfyng gan fryniau. Y mae lle o'r enw hwn ger Aberteifi.
Camgymmeriad yw meddwl taw Cwm-march (Cwm-ceffyl) yw. Cwmgafaelau, yng
Ngheredigion: ystyr gafaelau yw gafael, neu gafl, am fod amryw
esgeiriau a phentydd ger y fan. Y mae yr olwg arnynt yn debyg i fysedd llaw
dyn wedi ei hagor, ac i gyd yn gafaelyd yn y llaw. Y mae mynydd yn swydd
Gaernarfon o'r enw yr Eifl, hyny yw, geifl (lluosog o gafl), a
elwid felly o herwydd fod agoriadau culion yn ochr y mynydd ag esgeiriau
rhyngddynt.*
*"Gafl, a fork or angle; the share, or inside of the thighs.”
Dr. Puw.
Cwm Cawydd, ym Meirion: ystyr cawydd yw gwŷdd, neu
goed cauedig. Cwm Eiddan eto yn yr un sir: ystyr eiddan yw trystfawr.
Cwm Ffernal eto, sef cwm y nant gul. Cwm Nancoll eto,
sef cwm y nant soddedig.*
*Yr un.
Cwm Gerwyn, yn Nyfed, a elwid felly am fod dwfr yn disgyn iddo yn
ffrydiau o'r mynydd. Cwm Llyfnell, ystyr llyfnell yw afon lefn,
Cymharer yr enw â Llyfni (sef llyfn-wy). Y mae enwau afonydd braidd yn
aneirif yn cael eu cymhwyso at yr enw cwm, neu yn hytrach cwm
yn cael ei gymhwyso atynt hwy. Y mae un lle nodedig ger Pencader, o'r enw Cwmhwblyn,
ac y mae un arall ym mhlwyf Penbryn. Tebyg mai cwm chwiblyn yw yr iawn
ystyr. Ystyr chwibl yw peth surllyd anredegog, ac y mae hyny yn
eithaf priodol i'r ddau. Y mae hefyd le yng Ngheredigion o'r enw Cwm Ul:
ystyr ul yw llaith. Y mae yn ul iawn heddyw, it is
very muggy to-day.
Cydweli, a elwid felly o herwydd uniad dau ddwfr — myned i'r un gwely.
Cyfartha, neu Cyfarthfa, sef uniad dwy arth (garth), neu
bentir.
Cymer, uniad dau ddwfr (gwel Abermeirig).
Cynhawdref, enw lle genedigol Ieuan Brydydd Hir, o Geredigion. Ystyr cynhawdref
neu ceneudref yw tref yr etifedd, sef lle ag oedd wedi ei roddi, neu
ei adeiladu i'r mab henaf yn rhyw oes.
"Madog wyf mwyedig o wedd,
Iawn genau Owain Gwynedd."
Y mae cynhaw hefyd yn air am tawel; ond lle uchel agored i
wyntoedd yw Cynhawdref, ac felly, rhy brin y gellir barnu mai hyny yw
ei ystyr.
DAROWEN = Derwen Owen, enw plwyf
|
|
|
(delwedd B0956b) (Yr Haul. Mehefin 1868. Tudalen 174b.)
|
ym Mhowys, ac enw tyddyndy ger
Dolgellau. Derllys, llys yn y derw.
Derwydd, enw ar athraw derwyddol. Y mae y lle hwn yn agos i Landeilo
Fawr. Y mae ger llaw y fan hòno le arall o'r enw Twyn Beddau'r Derwyddon;
a lle ger llaw hwnw o'r enw Cwrt Bryn y Beirdd. Byddai y Derwyddon yn
arfer cyfarfod ar fanau uchel, y rhai a elwid Gwyddfäu, a lle felly yn
hollol yw Cwrt Bryn y Beirdd. Hwyrach fod y lle a elwir Derwydd yn artref y
Prif Dderwydd yn y cylch. Y mae hefyd le yn agos i Abergwaen o'r enw Llan
y Derwydd. Y mae y lleoedd hyn yn fanau pwysig, fel enwau yn dwyn cof am
y Derwyddon. Y mae llawer yn ymdrechu ammheu tarddiad y gair Derwydd;
ond y mae yn eithaf amlwg mai o dâr, neu darw, y mae y gair yn deillio.
Dinas. Ystyr dinas yw caer, amddiffynfa, a hefyd tref freiniol.
Y mae llawer o leoedd yng Nghymru â'r gair dinas yn eu dechreu, ac yr
ydym i ddeall yr ystyr o gaer, neu amddiffynfa bob amser i'r lleoedd
hyny. Ystyr Dinas Corddyn, ym Meirion, yw dinas gylchynog. Dinas
Emlyn (Castell Newydd Emlyn); Dinas Brân, ar yr afon Brân, ger
Emlyn; Dinas Cerdin, ar yr afon Cerdin, yng Ngheredigion; Dinas
Emrys, yn Eryri; Dinas Mawddwy, a llawer iawn heb law hyny.
Dinbych. Y mae genym ddwy dref o'r enw hwn. Y mae ystyr din (caer)
wedi ei egluro yn barod; ac ystyr bach, neu mach, yw lle o
ddiogelwch, Cyfnewidiad o mach (diogelwch, neu sicrwydd) yw bach,
yr un modd ag ydym wedi traethu am b ac m o'r blaen ym Merws
yn troi yn Berws. (Gwel y gair Berws.)
Dyfed. Cawn yr eglurhâd a ganlyn gan awdwr y Ffydd Diffuant:-
“The kingdom of Dyfed, or Dyfet, called Demetia by the Romans, once
comprehended most of S. Wales. At the conquest, it was confined to the
counties of Pembroke, Cardigan, and Carmarthen; but is now generally applied
to Pembrokeshire alone. Dyfed implies a religion [sic; = region]
abounding with water or streams; tho' Baxter derives it from Defaid (sheep)."*
•Ffydd Ddiffuant, tud. 277.
Y mae yn debyg
mai dwf yw y gwreiddyn, am fod y rhan hon, sef gorllewin yr ynys, yn
ymestyn i lawr i'r dyfnder, neu y dwfr, sef môr y Gorllewin.
Tebyg fod Annwfyn, oeu Annwn, a gawn ym Mabinogi Pwyll
Pendefig, wedi ei gymmeryd oddi wrth wlad y Dyfnder, yn y gorllewin.
Mae “Plant Rhys Ddwfn" hefyd yn cadarnhau yr un golygiad. Gwlad y dyfnder,
ac nid gwlad y trueni, ydym i ddeall wrth Annwfyn, neu Annwn,
yn y Mabinogi. Y mae yr un dychymmyg
|
|
|
(delwedd B0957a) (Yr Haul. Mehefin 1868. Tudalen 175a.)
|
am orllewin yr Yspaen yn bodoli ar y
cyfandir.
Dyfynog. Ymddengys fod y lle hwn wedi cael ei enw am fod ei sefyllfa
mewn pant dwfn; er nad yw yn ddwfn iawn, eto y mae priodoledd yn yr enw.
Dyfrdwy. Y mae gan yr afon hon ryw dri neu bedwar o enwau; sef, Peryddon,
sef afon dra rhinweddol, afon ddwyfol; Dyfrdonwy, sef afon neu ddwfr
cyssegredig; ac Aerfen, afon ddysglaer.
Dyffryn. Y mae y gair hwn yn dra chyffredin yn ein gwlad; megys,
Dyffryn Ardudwy, Dyffryn Aeron, Dyffryn Clwyd, &c. Ystyr y gair yw
Dyfrhynt; hyny yw, lle, trwy yr hwn y mae dwfr ar ei hynt — afon yn treiglo i
afon arall, neu i'r môr; ac yn wir, y mae yr ystyr yn un tra godidog.
Dyhewyd, myfyrdod, addolîant, dyfoesiwn. Eglwys yng Ngheredigion.
Dysoch; afon yn Arfon, ystyr yr hon yw afon leidiog, ddioglyd.
EBWY, o eb (bwriad allan) a gwy (dwfr). Afon yng Ngwent.
Eden, afon yn Llanelltyd, Meirion, ystyr yr hon yw yr afon fuan —
ad ac ain. Eglwys Erw. Ymddengys fod eglwys yn
dyfod o’r Groeg ecclesia; ond y mae Dr. Puw yn traethu mai Cymraeg yw,
sef eg a glwys; ac yn wir y mae glwys yn ystyr rhagorol,
sef pur, neu sanctaidd. Y mae erw yn golyga llain, neu ddernyn pedryal
o dir; ac weithiau y mae cae o ddeg neu ddeuddeg erw (4840 o latheni) yn cael
ei alw yn erw. Y mae felly ar dir y Wern, Bettws Ifan; ac yn ei ymyl
gae arall o'r enw Cae’r Bettws, lle y mae traddodiad yn traethu y
dechreuwyd adeiladu’r Eglwys, ac nid ar y man lle y mae yn bresennol. Yn y
modd hyn, hwyrach fod rhywbeth yn y gair erw yn y Gymraeg yn debyg i'r
hyn a olyga y Seisoneg yn God’s Acre. Eglwys Wythyr, a elwid
felly, medd y werin, am mai wyth teulu oedd yn y plwyf; ond y mae Gwythyr,
neu Gwyther, yn enw dyn, ac y mae yn debyg mai felly y cafodd yr enw.
Esgair yw yr hyn fyddo yn ymestyn allan, ac y mae yn air am glun.
Y mae y gair hwn i'w weled mewn llawer iawn o enwau lleoedd; megys, Esgair
Graig, Esgair Eithin, Esgair Wilym, Esgair Dawe, Esgair yr Eira, Esgair
Geiliog, Esgair Galed, &c.
Ewenni. Gwreiddyn y gair hwn yw gwen, teg, hardd, gwastad. Y
mae yr E wedi dyfod i mewn fel blaenddawd cadarnhaol. Y mae yr enw
Gwent yn perthyn i'r enw hwn.
FFESTINIOG. Ystyr y gair hwn, medd Puw, yw lle y brys. Hwyrach mai brys
byddin pan yn gorfod ffoi, yw yr achos o hono.
Ffrêd. Y mae afon o'r enw hwn yng
|
|
|
(delwedd B0957b) (Yr Haul. Mehefin 1868. Tudalen 175b.)
|
Ngheredigion. Ystyr y gair yw buan.
Y mae y rhan fwyaf o'r geiriau ag sydd yn dechreu ag ffr yn arwyddo
hyny, megys, Ffraw, ffrwd, ffrwst, ffraeth, ffriw, &c.
Ffridd, coedwig; planigfa; dernyn o dir cauedîg ar ochr mynydd i droi
anifeiliaid iddo ar unrhyw amser. Mewn un rhan o Fon, y mae yn golygu
tyddyndy heb ddeiliad. Y mae y gair yn gwneyd i fyny, gydag enwau ereill,
lawer iawn o enwau lleoedd yng Ngogledd Cymru. Moelffridd, mynydd ym
Meirion.
Ffynnon, tarddiant dwfr. Y mae y gair hwn yn cael ei gymhwyso at lawer
iawn o enwau ein seintiau; megys Ffynnon Ddewi, lawer iawn o honynt; Ffynnon
Llawddog; Ffynnon Deilo; Ffynnon Elian, &c. Y mae lle ym mhlwyf
Penbryn, Ceredigion, o'r enw Ffynnon Fadog; ond y mae rhai mor
fympwyol a meddwl mai Ffynnon Waedog yw; ond y mae hyny dipyn yn rhy
bell, gan fod Madog yn enw dyn; y mae yn eithaf eglur mai dyna iawn
ystyr yr enw. Y mae enwau cyssegredig weithiau wedi eu rhoddi i’n ffynnonau;
megys Ffynnon Fendigaid, Ffynnon Wen: gwyn = bendigedig. Y mae rhai
ffynnonau genym o'r enw Ffynnon Las; ond enwau diweddar yw y rhai
hyny. Yr ydym ym mhell o feddwl fod yr hen seintiau wedi gadael rhinwedd yn y
ffynnonau sydd ar eu henwau; ond er hyny, yr ydym yn dra hoff o yfed tracht o
ddwfr o'r hen ffynnonau ag sydd yn dwyn enwau ein seintiau.
GALLT, esgynfa, clogwyn, llethr coediog. Y mae yn ffurfio enwau llawer iawn o
leoedd yng Nghymru — Gallt Fadog (hen artref Lewis Morris), Gallt y
Gribyn, y Gamallt, yr Allt Goch, yr Allt Wen, y Wenallt.
"Nid oes bren yn y Wenallt
Na bo'n wyrdd ei ben a’i wallt."
D. ab Gwilym.
Y mae lle yn agos i Lanidloes o'r enw Gallt y Cordde, ac y mae un
arall ym mhlwyf Penbryn. Ystyr cordde yw troellog. Y mae Gallt
y Cordde, Penbryn, ar droad gallt yn hollol, ac ymddengys fod yr ystyr yn
dra amlwg felly.
Glan. Y mae y gair hwn yn cymmeryd rhan yn enwau cannoedd o leoedd yn
ein gwlad. Nid oes nemawr afon, na chwaith uant, nad yw glan yn cael
ei gyssylltu fel blaenddawd; megys, Glan Taf, Glan Hafren, Glan Conwy, Glan
Ogwen, Glan Wysg, Glan Ceri, Glan Dwr, Glan y Môr, &c.; ac enw bychan,
twt, a chynnwysfawr yw, nad yw y Seisoneg side, neu bank, ddim
i'w gymharu iddo; ond y mae rhai o'n Cymry dysgedig (?) yn ymdrechu
dwyn i mewn side yn ei le, megys Teifi Side, &c.
Glas. Y gair Seisonig cyferbyniol i
|
|
|
(delwedd B09 ) (Yr Haul. Mehefin 1868. Tudalen 176a.)
|
glas yw blue; ac y mae y Gymraeg yn
ei gymmeryd weithiau yn gyfystyr â gwyrdd. Y mae genym amryw leoedd
a'r enw Glasgoed. Y mae genym chwedl “Rhian o’r Glasgoed." Y mae
genym hefyd Glaslyn yn y Gogledd, a Glasgwm,*
*Y mae yr enw hen wedi cael y fraint o’i Seisnigeiidio yn Glascomb! Y
mae gorsaf rhwng Caerloew a Chasnewydd o’r enw Catcomb, sef Coedcwm,
y Gymraeg.
yn swydd Faesyfed.
Glyn. Y mae y gair bychan a
thlws hwn eto yn cael ei gymhwyso at enwau llawer o afonydd ac enwau ereill,
ac yn ffurfio enwau llawer o leoedd yng Nghymru; megys Glyn Dyfrdwy, Glyn
Corwg, Glyn Llifon, Glyn Aeron, &c. Y mae glyn yn golygu ile
cul rhwng gelltydd, a hyny lawer yn gulach na dyffryn. Mor fanwl oedd yr hen
bobl yn hyn. Edrychwn ar Glyn Aeron; y mae y lle ym mhen uchaf Dyffryn
Aeron, ac yn sefyll yng ngwaelod glyn cul, lle mae yr Aeron rhwng
dwy allt, y rhai ydynt mor serth a chul, fel y mae yn anhawdd teithio gyda eu
glenydd.
Enw da yw Glyn Arthen, ond nid yw golygfa y fan yn ateb i glyn.
Enw diweddar yw Glyn Arthen, Glyn Llebyng, yn Nhroed yr Aur:
ystyr llebyng yw lleb (melyn), ac ain (dwfr).
(I’w barhau.)
|
|
|
(delwedd B0959)
|
Yr Haul. Cyfres Caerfyrddin.
“Yng ngwyneb haul a llygad goleuni.” “A gair Duw yn uchaf.”
Rhif. 139. Gorphenaf, 1868. Cyf. 12. Tudalennau 206-210.
ENWAU LLEOEDD CYMREIG YNG NGHYMRU.
Gwynionydd. Yr Haul. 1868.
(Rhan 7 / 10)
Tudalennau 206-210.
|
|
|
(delwedd B0960a) (Yr Haul. Gorffennaf 1868. Tudalen 206a.)
|
CYFANSODDIAD ATHRONYDDOL. ENWAU LLEOEDD CYMREIG YNG NGHYMRU.
(Parhâd o dudalen 144.)
Gogerddan, Gogo Urddain, sef yr ogof gyssegredig. Y mae
Llandyssylio Gogo wedi cael yr enw oddi wrth ogofau ger llaw, ac y mae
ffug-chwedl flodeuog am un o honynt.
Gorllwyn. Ystyr cyntaf gorllwyn yw nawddosgordd; ac y
mae hefyd yn golygu unrhyw nawdd, neu amddiffyn. Y mae Dafydd Ddu Hiraddug yn
arfer Gorllwyn y Fair Fendigaid, sef nawdd y Fair Fendigaid. Y mae Gorllwyn
wrth droed mynydd ym Mhenboir, ac ef allai fod yr hen grefyddolion yr oesoedd
gynt yn arfer plygu yn y fan hòno i gael gorllwyn y Forwyn Fendigaid. Y mae
Eglwys Llanfair Orllwyn wedi ei chyflwyno i'r Fair Fendigaid, fel y
mae yr enw yn dangos, ac y mae yn debyg mai nawdd Mair a olygid wrth Gorllwyn.
Y gwreiddiau yw gor
a llwyn. "Goreu llwyn un a'm cysgodo." - Diareb.
Gwaen, gwastadedd, doldir. Y mae gwaen yn golygu tir lleithach
a garwach na dol yn yr ystyr gyffredin o honi. Y mae y gair hwn yn gwneyd i
fyny nifer fawr o enwau lleoedd. Y mae braidd ym mhob ardal lle byddo tir
gwndwn llaith; megys, Gwaen y Gelod, Gwaen Meirws, Gwaen Goch, Gwaen Maendy, Gwaen Trodau,
sef gwaen y mynedfëydd, neu llwybrau, Gwaen yr Ysgor, sef Gwaen yr
amddiffynfëydd, Gwaen Llyfeni (Llyfni), Gwaen.y Meirch, &c.
|
|
|
(delwedd B0960b) (Yr Haul. Gorffennaf 1868. Tudalen 206b.)
|
Gwar, sef yr hyn fyddo ar ran uchaf o unrhyw beth; ac y mae yn golygu
y rhan o ddyn nesaf i'r gwddf. Y mae yn gwneyd i fyny enwau twysged o leoedd;
megys Gwarllwyn, hyny yw, lle uwch law llwyn, yr hyn a olyga weithiau
lawer o lwyni, megys prysg; Gwarffynnon, sef ty uwch law ffynnon; Gwarallt,
yv hyn sydd yn agos yn gyfystyr a Phenallt; Gwar y Clawdd; Gwar
Esgair; Gwar y Cwm, &c.
Gwastad. Ystyr y gair hwn yw lle agos heb rediad. Y mae llawer o
leoedd yn cael eu galw wrth yr enw hwn; Gwastad, ar lan Aeron; Gwastad
Meirionydd, ym mhlwyf Celynin; Gwastadgoed; Gwastadryn,
rhyn, neu bentir gwastad.*
*Cam. Reg., vol. I., p. 299.
Gwempa, man tlws, neu brydferth. Y mae rhai manau
o'r enw hwn, ac enw tlws yw ar dy fyddo yn sefyll ar fan brydferth. Tyrus wemp
- Gwenffrwd.
Gwern, dol ddyfrllyd, sef lle llaith, lle mae llawer o'r Gwern
yn tyfu. Ceir llawer iawn o leoedd o'r enw hwn, a hyny weithiau heb un gair
arall wrtho; ond y mae hefyd yn gyssylltedig wrth lawer o eiriau; megys Gwern
y Clepa (hen lys Ifor Hael), sef Gwern y Swn; Gwern Macwy,
hyny yw, Gwern y dyn ieuanc (Macwy, a page). "Myned a wnai
i'r maes, a dau facwy gydag ef." - H. O. ab Urien - Mabingion.
Gwern Ddafydd', Gwern Ddofn; Gwern Medd, ger Aberteifi, sef Gwern
Siglenog; Gwern y Cynyddion, ym Meirionydd, &c. Y mae y gair gwern yn
gymhwysiad tra phriodol at leoedd fyddont yn sefyll yn y fath fanau a nodwyd.
Gwyddel, hyny yw, lle yn llawn gwydd, neu goed. Y mae yn gyfystyr ar un olwg a Celt,
o herwydd golyga un yn trigo mewn gwydd, neu gelli. Y mae plwyf
yng Ngogledd Cymru o'r enw Gwyddelwern, yr hyn a arwydda le llaith, yn
dir gwyllt gan goed gwern yn benafl. Un o'r teulu hwn yw Dolwyddelen.
Gwyddfa, lle uchel amlwg, sef lle ger gwydd. Ar
lleoedd fel hyn yr oedd )' beirdd yn y cynoesoedd yn cynnal eu cyfarfodydd.
Daeth lleoedd amlwg erelll i gael eu galw wrth yr enw hwn. Y Wyddfa yw y
mynydd uchaf yng Nghymru, a elwid felly o herwydd fod ei siol mor amlwg.
"Y radd a gefais ar rod
Onest wyddfa'n eisteddfod."
W. Cynwal.
Gwyddgrug. Y mae pentref ym mhlwyf Llanfihangel ar Arth o'r enw hwn. Y
mae gwyddgrug yn gyfystyr a tumulus; a galwyd y lle hwnw felly o
herwydd tod gwyddfa (gwyddyrug) ger y fan. Dyma ystyr tref y Wyddgrug.
|
|
|
(delwedd B0961a) (Yr Haul. Gorffennaf 1868. Tudalen 207a.)
|
Gwynedd, enw talaith, a gynt yn dywysogaeth bwysig yng
Ngogledd Cymru. Y gwreiddyn yw gwyn, ac y mae yn berthynas i gwyneb
(face). Gelwid y Parth hwn o'r wlad felly am mai hi oedd y rhan uchaf
o Gymru. Yr ydys yn arfer darlun Gwynedd, neu Modryb Gwen (Venedocia),
yn debyg i hen wraig wledig iawn; Ynys Mon yn ben, Braich y pwll yn
fraich dde, yn rhoddi ymborth i bysgod â Morgilfach Aberteifi, y fraich
chwith yn cydio yn Lloegr, ac Aberystwyth (yn y De) ar flaen ei bacas.*
*Y mae Gwenedd yn Llydaw, sef a elwir yn Ffrancaeg, Vannes. - Dr.Puw
Gwynionydd, hen enw cwmmwd yng Ngheredigion. Deillia o Gwynion,
enw dyn, yr un fath a Meirionydd o Meirion.
HAWEN, enw dwy afon yng Ngheredigion, ac hefyd pentref, yr hwn a gymmer enw
yr afon. Yr ystyr yw aw-on; aw, peth symmudol, dwfr.
Harlech, ar y llech, neu y graig. Tref ym Meirion.
Hen Fynyw. Ystyr mynyw yw yr hyn sydd wrtho ei hun, neu yn sefyll draw
wrtho ei hun.
Is. Y mae y gair bychan hwn yn cynnorthwyo gwneyd i fyny amryw leoedd;
megys Is Aled, Is Cenen, Is Goed, Islwyn (cymharer Islwyn â Gwarllwyn).
Is Meloch (Meloch, afon, a elwid felly am fod llawer o
ddefnyddiau mel ar ei glenydd), Is Tryweryn (Tryweryn,
nant dryloew). Y mae yn fynych yn gyferbyniol i Uwch, megys Uwch
Aeron, Is Aeron, ac y mae yn air cymhwys a thra phriodol yn ei
ddefnyddiad.
LLAN. Hwyrach fod y gair bychan cynnefin ac adnabyddus hwn yn un o'r rhai
mwyaf mewn enwau lleoedd o bob gair a feddwn; hyny yw, gan ei fod yn gwneyd i
fyny y fath nifer o Eglwysi, y mae yn rhyfeddol o gyfarwydd. Clywsom foneddwr
o Sais (Deon Ripon, ydym yn meddwl) yn traethu yn Eisteddfod Aberystwyth, fod
dros bum cant o leoedd ym Mhrydain yn dechreu â Llan. Ystyr llan yw ysmotyn
teg, hardd, a glân, o dir heb fod yn cynnwys anialwch, ac yn cael ei amgylchu
fynychaf gan goed, caerau, neu rywbeth tebyg. Perthynas iddo yw glan; ac
y mae amryw eiriau ereill yn anll o hono - Llanerch, ydlan, perllan,
gwinllan, corlan, a treflan. Y mae y gair bychan hwn wedi cael ei
gymmeryd trwy ffugyr am Eglwys; ac yn wir, gair tlws rhagorol yw. Byddai ein
hynafiaid yn edrych allan am ddernyn tlws a chyflëus o’r fath a ddysgrinwyd i
adeiladu Eglwys, a byddent yn cyssegru y Llan à gweddi; ac ar ol ei
hadeiladu, celai ei galw ar ol enw rhyw hen Sant, yr hwn fynychaf a fu
|
|
|
(delwedd B0961b) (Yr Haul. Gorffennaf 1868. Tudalen 207b.)
|
yn ei chyssegru; megys Llan Ddewi, neu Llan Deilo, &c.
Y mae rhai Eglwysi wedi eu galw oddi wrth enwau afonydd, a manau lle byddent
yn sefyll; megys Llan Daf, Llan Ddulas, Llan Ystumdwy, Llan Penal, &c.
Y mae Llan yn enw tra godidog ar Eglwys yn yr ystyr o ddernyn
cyssegredig. Yr unig beth sy genym i gwyno o'i herwydd yw, fod y fath nifer o
Eglwysi, neu Lanau, wedi eu cyssegru i'r un Sant. Y mae genym dair neu bedair
o Llangynllo; tua'r un nifer o Langybi; ac y mae y fath nifer o
Landdewi, fel y maent wedi eu cyssylltu wrth enwau, a rhai o honynt yn
hirion iawn; megys Llanddewi Aberarth, Llanddewi Brefi, &c; Llanfihangel
Nant Brân, Lianfihangel Bugeildy, Llanfihangel Glyn Myfyr, &c. Y mae
rhai o'r lleoedd hyn wedi eu talfyru yn dra dedwydd; megys Penbryn, yn
lle Llanfihangel Penbryn; Troed yr Aur, yn lle Llanfihangel Tredeyrn; Bugeildy,
yn lle Llanfihangel Bugeildy, &c. Y mae llawer iawn o'r lleoedd hyn yn
cael eu camsillebu. Chwithig
yw gweled Llanwinio yn lle Llanwynio, a Llangunllo yn
lle Llangynllo. Gocheler dilyn dynion anwybodus o'r Gymraeg yn hyn.
Lletty. Ystyr y gair hwn yw arosiad am fyr amser - lodging. Ond
y mae wedi cael ei osod yn enw amryw leoedd; megys Lletty Angharad.
Llethr. Ystyr y gair hwn yw ochr gallt, neu fryn. Y mae agos
bod yn gyfystyr â gallt. Y mae hefyd agos bod yn gyfystyr â llechwedd.
Y mae llawer o leoedd yn ein gwlad yn dwyn yr enw hwn; megys Llethr
Neuadd, Llethr Llestri; a bob amser y mae codiad tir yn y manau hyny.
Dyma yw ystyr Lledrod, sef Llethrdroed, medd y bobl; ond
hwyrach mai y ffurf luosog o'r gair, sef llethrod, yw yr ystyr oreu. Y mae y perwyddiad llethu yn
perthyn yn agos i llethr, ac y mae hwn yn egluro yr ystyr. Y mae dyn
yn cael ei lethu o blegid anhawsder, gan fod dyn rhywbeth yn cael y
trechaf arno; hyny yw, yn cael y tir uchaf, yn cael mantais llethr.
Llidiardau, pyrth, clwydi, gates. Y mae palas yng
Ngheredigion o'r enw hwn; a cheir llidiard yn gwneyd i fyny enwau
amryw leoedd heb law hyny; megys Llidiard Mangwyn, &c. Gelwid Llidiardau
felly oddi wrth fod amryw lidiardau, sef amryw fylchau yn dygwydd bod ger y
fan lle y cafodd y palas ei adeiladu. Tybia rhai mai llyd yw gwreiddyn
y gair hwn, sef llediad, neu agoriad.
Lluest. Ystyr lluest yw gwersyllfa llu, sef byddin; ond
y mae wedi dyfod yn enw ar lawer o leoedd, yn neillduol yn y rhan uchaf o
Geredigion; megys, Lluest y Gors, Lluest y Broga, Lluest Newydd, Lluest Each,
Lluest Fawr, a llawer ereill.
|
|
|
(delwedd B0962a) (Yr Haul. Gorffennaf 1868. Tudalen 208a.)
|
Llug, a Llugwy. Y mae afonydd o'r enwau hyn. Ymddengys rhai
ystyr llug yw gloew, dysglaer, sef peth yn tori allan yn
amlwg. Ymddengys fod yr afonydd wedi cael yr enwau hyn oddi wrth eu
dysgleirdeb wrth darddu. Y mae genym y fath air a Llugwys, ystyr yr
hyn yw ychydig o chwys. Y mae yn rhaid ystyried fod rhagor nag un meddwl i
lawer gair.
Llwyn. Ystyr llwyn yw twf o un neu ragor o
unrhyw goeden. Y mae yn gyffredin yn golygu mangoed brigog; ond y mae hefyd
yn golygu weithiau gallt o goed. Y mae genym lawer iawn o enwau lleoedd â Llwyn
ynddynt; megys, Llwyn Wermwd, Llwyn Ysgaw, Llwyn Celyn, Llwyn On (Llwyn
Onen), Llwyn Derw, Llwyn y Prysg, Llwyn Einion, Llwyn Dafydd, Llwyn Pyr,
Llwyn Madog, Llwyn Gwair, &c. Ystyr Llwyn Gwair yw Llwyn Gwiwer (gwiwer,
squirrel). Hynod fel y cafodd yr enw hwn ei wasgu, fel ag i
daflu sain a thebygolrwydd ystyr arall.
Llyfni. Y mae amryw afonydd o'r enw hwn. Ystyr yr enw yw llyfn
a gwy, sef dwfr llyfn - Cwmllynfell, Llanllyfni, &c.
Llys. Ystyr y gair bychan hwn yw ty breninol; ty lle byddo cyfraith y
wlad yn cael ei gweinyddu; ty tywysog, neu bendefig. Y mae genym amryw leoedd
yn cynnwys yr enw hwn; megys, Llys Arthur, Llys Dulas, Llys Faen, Llys
Newydd, Tre Llys, &c. Gair bychan godidog yw llys, a thrueni
ei fod yn myned allan o arferiad yn y wlad – “Llan a Llys." Y mae
genym amryw leoedd o'r enw Llystyn, ei ystyr yw enciliad, neu lettyad;
a recess, or lodgement.
"A'r llys fraith yn arlloes fry,
Ã'r Llystyn yn arlloesdy."
D. ab Gwilym.
Llywel, y terfyn pellaf i olwg. Y mae plwyf ym Mrycheiniog o'r enw Llywel;
ac y mae hen wersyllfa ym mhlwyf Llanybydder o'r enw Llywelau.
Ymddengys fod y lleoedd hyn wedi eu galw felly am eu bod yn lle cyflëus i
gael golygfa bell, yn neillduol i'r gorllewin. "A well di rhywbeth yn y Llywel?"
- "Seest thou something in the horizon."- Dr. Puw.
MABWYNION, enw cantref yng Ngheredigion. Ystyr yr enw yw Mab Gwynion, sef mab
Gwynion, oddi wrth yr hwn y cafodd cwmmwd Gwynionydd yr enw.
Machynlleth. Ystyr mach, neu bach, yw lle o ddiogelwch;
ond y mae hefyd yn golygu lle cysgodol, megys dol rhwng bryniau. Yr
ydym wedi dangos dan yr enw Berws sut y mae m a b yn
cymmeryd lle un y llall; gan hyny, y mae bach a mach yn
gyfystyr. Y mae genym Bach y Rhew, sef man isel lle yr erys rhew a
llwydrew. Anfynych yr iawn ddeallir mach; ond diau ei fod yn gyfystyr
agos a
|
|
|
(delwedd B0962b) (Yr Haul. Gorffennaf 1868. Tudalen 208b.)
|
dol (meadow).
Cawn ef yn elfen cyfansawdd sawdd yn Glanmachlas, ger dolydd eang
Penarth; Mach(ein)llaeth, prif laethfa yr hen Ardofwysiaid (Ordovices).
Cilmach(Cilfach); Penmachnaw; Mach yr Ynys (Machynys Vulg.),
ger Abermaw; Machludd, lle gorphwys yr haul fel teithiwr lluddiedig;
ac yma Machwen (Elysium), neu gyssegr ddol neillduedig Derwyddon
a Myneich Clynnog Fawr, yr hon a gylchynid gynt gan wern isel goediog ar lan
pedol; ei deuben yn gydiedig gan y môr a'i feisdon caboledig, a'r Fachwen yn
ymddyrchafu yn fron brydferth o'r wern, nes ymgrynhoi o dan wadnau yr hen
gromlech lwyd ar uchaf y maes." Ab Hu.*
*Ab Hu Feddyg
yn ei nodiadau ar Beuno Eben Fardd, tud. 57.
Y mae athroniaeth mach a bach wedi ei gwneyd yn eithaf eglur.
Ystyr machen yw dol, neu gilfach fechan. Y mae mach
(a bail), lluosog, meichiau, i'w ganfod yn golygu yr un peth.
Maen. Y mae maen, llech, a chareg yn eiriau cyfystyr,
neu o'r hyn leiaf yn agos felly. Y
mae maen a llech yn cael eu harfer am geryg. Y mae maen
yn golygu careg o faintioll mawr; ac yr oedd weithiau yn yr oesoedd gynt yn
golygu y grefydd Dderwyddol. "Da'r maen gyda’r Efengyl;" hyny yw,
Da pob dysg rinweddol ag oedd yn perthyn i'r Derwyddon gydar Efengyl. Maenclochog,
sef maen â swn clochog yn perthyn iddo, tebyg fel y dywedid am Llech-lafar,
yn Nhy Ddewi, Mallwyd = Maen llwyd. Tref Main (ger
Aberteifi) = Tref y meini. Maen Twrog, Maen Tyrawg, medd rhai, a Maen
Twrog, sef oddi wrth ddyn o'r enw Twrog, medd ereill. Maenor
(gwel y sylwadau dechreuol).
Maes. Ystyr y gair hwn yw tir agored - Cad ar Faes, sef brwydr
ar dir agored. Y mae y gair hwn yn gwneyd i fyny lawer o enwau lleoedd. Maes
Afallen, Maes Glas (neu gwyrdd), Maes Neuadd, Maes y Bedw, Maes y
Gadfa (cadfa, brwydr), Maes Gwen Llian (lle lladdwyd Gwen Llian,
Tywysoges Gruffydd a Rhys, ger Cydweli), Maes Esyllt (ym Morganwg), Maes
y Crugiau, Maes Derw, Maes On (onen). Y mae lle yn Lloegr o'r enw Masson,
a dywedai yr enwog Lewis Morris mai Maes On, y Gymraeg, oedd yn
ddechreuol. Y mae y gorair maes yn deillio o'r sylweddair. ''Y mae efe wedi
myned maes (allan)." Maes Teg, Maes Coch, &c.
Mai. Y mae y gair bychan a pherseiniol hwn yn benteulu lluosog a pharc
ym mhlith rhieni geiriol y Gymraeg. Y mae Mai yn enw ar fis cyntaf yr
haf o herwydd mai pryd hyny y mae y blodau
|
|
|
(delwedd B0963a) (Yr Haul. Gorffennaf 1868. Tudalen 209a.)
|
yn eu gogoniant. Golyga hefyd dir fyddo
yn ymestyn allan, hyny yw, tir prydferth, blodeuog. Y mae Eglwys yng
Ngogledd Cymru o'r enw Meifod, sef bod, neu drigfa hardd
a blodeuog, a lle felly yw Meifod i'r llythyren. Y mae Eglwys yn
agos i Gaerfyrddin o'r enw Meidrum, sef mai a trum.
Ystyr trum yw cribyn, neu gefn; ac ystyr Meidrum
yw copa cribyn, neu gefn y Fai. Y
mae y lle uchod yn ateb i'r dysgrifiad hwn yn hollol. Y mae yn ymyl
Llangeitho ffermdy o'r enw Meidrum, ac y mae y dysgrifiad uchod yn
hollol briodol; y mae ym mhen uchaf Dyffryn Aeron, ac felly yn sefyll ar drum
y Fai; glyn sydd oddi yno i fyny. Ger llaw iddo y mae lle o'r enw
Llygad y Dyffryn, yr hyn sydd yn dangos fod pen uchaf y dyffryn yn y fan
hòno. Y mae hefyd le ger llaw Cenarth o'r enw Penfai, yr hyn sydd yn
dangos fod pen llanerch flodeuog yn y fan. Myddfai, mwdd a mai,
sef mai gron, neu Mynydd Fai. Y mae Cilfai a Mai Sili yn
perthyn i'r un teulu. Y mae yn debyg mai Mailawn yw dull cyntefig Moilon,
gan nad yw moi yn ateb un ystyr. Ystyr moi yw bwrw, bwrio
ebol. Maes Moi, ger Oaio, a berthyna i'r un teulu. Y mae Gallt
y Fai, ger Llanilar. Ein gair Cymreig am Militia, yw Meiwyr,
hyny yw, gwŷr y mai, sef gwŷr cad ar fai, neu faes.
Math. Ystyr y gair hwn yw gwastadedd sathredig,
neu fathredig. Ystyr Mathafarn yw gwastadedd gofid, neu alar.
Ystyr Mathrafel yw math rhyfel, yr hyn sydd yn dyfod yn agos yr
un ystyr a Mathafarn. Dywedir mai cyfnewidiad o Merthyr yw Mathri
yn Nyfed; ond y mae yn fwy tebyg taw perthynas yw i Matlrafel, &c.
Dywed rhai fod ma yn nechreu gair yn golygu yr un peth a ma, sef man,
yn niwedd gair; megys, noddfa, man o nawdd; Morfa, &c.
Moel. Y mae y gair hwn yn cael ei gymhwyso at lawer o fryniau a
mynyddau; megys, Moel Hafodig, Moel Gynyn, Moelfre, Moel y Gest (cest,
tor), &c. Y mae wedi ei gymmeryd oddi wrth yr ansoddair moel;
megys pen, sef pen heb wallt. Yr oedd Moel yn y cynoesoedd yn
cael ei arfer yn gyfenw, megys Hywel Foel, Rhys Foel. Gelwid hwy felly
o herwydd eu bod wedi colll eu gwallt. Y mae rhai tylwythau o'r enw Voyle yn
bresennol, y rhai sydd yn hanu o un Dafydd Gwilym Foel, yn swydd Benfro.
Gelwid y mynyddau felly am eu bod yn llyfn a didwf.
Morfa. Y mae genym lawer iawn o leoedd â'r gair morfa yn cael ei
gymhwyso atynt; megys, Morfa Rhuddlan, Morfa Mawr, &c. Ystyr y
gair yw lle, neu fan ar lan y môr, ac yn gyffredin, lle
byddo llanw y môr yn arfer dyfod.
Mydyreilin. Y mae pentref o'r enw hwn yig Ngheredigion. Y mae yn golygu
|
|
|
(delwedd B0963b) (Yr Haul. Gorffennaf 1868. Tudalen 209b.)
|
Eilin (braich)
Mudyr, sef elin, neu ongl yr afon Mudyr. Y mae yr afon Mudyr yn gam yn y fan
hòno, yr un fath ag elin dyn pan wedi ei phlygu. Y mae hyn yn golygu agos yr
un ystyr a Brechfa Cothi. Ystyr Mudyr yw afon ddistaw, tebyg
fel ydym wedi traethu am Medeni (Mudanwy).
Myeli. Y mae afon o'r enw hwn yn sir Drefaldwyn, ystyr yr hon yw el
ac wy, yn debyg i Elwy, Elan, &c., a'r blaenddawd my
yn gadarnhaol. Y mae afon arall yn yr un plwyf (Ceri) o'r enw Mywl,
ond a sillebir yn Mule.*
*Ystyr Mywl yw Myel.
"Niwl Miwl a Myeli.”
- Taliesin ab Iolo.
Y mae afon ym mhlwyf Llangathen o'r enw Myddyfi; ystyr yr hon yw My-ddwfn-wy.
Dyfnwy wedi derbyn y blaenddawd my. Y mae yr enw hwn yn
cyfegluro Dyfi - My-Dyf-gwy.
Mynydd. Y mae y gair hwn yn deillio o mwn, yr hwn a olyga beth
yn ymestyn allan yn bigfain. Y mae y gwreiddair hwn i'w weled yn yr
enw Mwnt, ger Aberteifi, sef codiad uchel o graig gron. Y mae llawer o
leoedd yn cael eu galw yn Mynydd Brith, Mynydd Mawr, Mynydd Islwyn,
&c. Y mae Mynyw (Ty Ddewi) yn perthyn i'r dosbarth hwn o eiriau,
sef peth wrtho ei hun, neu yn sefyll mewn unigedd.
Mynwy, Mawn-wy, sef afon fawnog.
NANT. Ystyr y gair hwn yw hollt, neu gwm cul; ond yr ystyr
fwyaf gyffredin yw afonig. Y mae llawer lle yn dwyn yr enw hwn; megys, Nant
Llidiog, sef brochus; Nant Coll, suddedig; Nant Mawr; Nant
Ffrener, nant ewynog; Nant Mynedd, nant yr unigrwydd; Nant yr
Arian, nant loew, &c. Y mae palas ym Meirionydd o'r enw Nannau,
ystyr yr hwn yw lluosog o nant. Y mae palas arall yn Lleyn o'r enw Nanhoron,
sef Nant Eiron, nant loew. Y mae lle hefyd o'r enw Nanmor (Nant
Mawr), oddi wrth yr hwn y cymmerodd y bardd Dafydd Nanmor ei enw. Y
mae y t wedi myned ar goll yn yr enwau diweddaf a godwyd. Y mae teulu
yng Ngogledd Cymru o'r enw Nanney, y rhai a gymmerasant yr enw oddi
wrth y palas Nannau. Ar ol ysgrifenu ar yr enw Aeron (Aberaeron), yr
ydym wedi cael fod nant yn Llanddewi Brefi o'r enw Eirwysg, neu Aerwysg,
yr hwn sydd yn cyfegluro Aeron. Y mae amryw leoedd o'r enw Nawmor,
yr hyn nid yw ond crebychiad o Nantmawr. Nanhyfer (Nefern), sef nant
wyllt fer. Nannerch, Nant Erch (erch, tywyll, bygythiol).
Neuadd. Ystafell fawr (a hall). Y mae amryw leoedd yn dwyn yr
enw hwn; megys, Neuadd Trefawr, Neuadd Fawr, Neuadd Fechan. Y mae Neuadd fel enw ar dy yn
arwyddo palas yn llai na Llys. Ystyr neu yw dymuniad; a Neuadd, lle
dymunol.
|
|
|
(delwedd B0964a) (Yr Haul. Gorffennaf 1868. Tudalen 210a.)
|
PAL. Ystyr pal yw dernyn gwastad
ar fan uchel. Y mae yn cael ei arfer mewn rhai parthau o Ddyfed yn gyfystyr â
ffald. Y mae lle ym mhlwyf Llanbadarn Odwyn o'r enw Pal Ameuddyn,
ac y mae lle ym Meirionydd o'r enw Palau, ac y mae lle yn Nhroed yr
Aur o'r enw Penrhiw Pal. Hwyrach fod y gair hwn yn gefnder, os nid yn
frawd, ac hefyd yn frawd gefeilliog i Bal. Ond a'i ddilyn ym mhellach,
gwelwn palis yn berthynas iddo, a pale, y Seisoneg; ac nid yw palf
a paw ym mhell yn y teulu hwn.
(I'w barhau.)
|
|
|
(delwedd B0965)
|
(Rhan 8 / 10)
Yr Haul. Cyfres Caerfyrddin.
“Yng ngwyneb haul a llygad goleuni.” “A gair Duw yn uchaf.”
Rhif. 140. Awst, 1868. Cyf. 12. Tudalennau 238-242.
ENWAU LLEOEDD CYMREIG YNG NGHYMRU.
Gwynionydd. Yr Haul. 1868.
(Rhan 8 / 10)
Tudalennau 238-242.
|
|
|
(delwedd B0966a) (Yr Haul. Awst 1868. Tudalen 238a.)
|
CYFANSODDIAD ATHRONYDDOL. ENWAU LLEOEDD
CYMREIG YNG NGHYMRU. 238.
(Parhâd o dudalen 210.)
Pant. Ystyr y gair hwn yw lle isel yn cael el gau gan fronydd neu
elltydd. Y mae rhif fawr iawn o enwau lleoedd yn ein gwlad yn cynnwys y gair
hwn yn eu dechreu, ac ambell un yn y diwedd. Y mae weithiau yn cael ei
gymhwyso at enwau dynion; megys Pant Einion, Pant Daniel, Pant Dafydd,
Pant Rhydderch; pryd arall y mae yn cael ei gymhwyso at enwau cyffredin;
megys Pant yr Onen, Pant Deri, Pant y Barcud, Pant y Curyll, Pant y Bara,
&c. Y mae yn deg sylwi yma, fod gwahaniaeth rhwng pant a chwm;
y mae cwm yn eangach na phant. Y mae llawer cae yn cyonwys pant
ond nis gellir yn hawdd weled cwm mewn cae. Bu hen balas yn yr amser
gynt yng Ngheredigion o'r enw Pantterlys, sef Pant y Derw-lys =
llys Derw.
Parc. Ystyr y gair hwn yw darn o dir caaedig; neu mewn modd arall, parthiad
o dyddyn. Y roedd yn cael ei arfer mewn rhanau helaeth o Ddyfed yn gyfystyr â
cae, hyny yw, efe a arferir yn lle cae, Y mae yn wir ei fod yn
cael ei arfer yn Seisoneg am gae eang o flaen llys boneddwr; ond y mae yn dra
thebyg mai ei gymmeryd o'r Gymraeg a wnaeth y Seison. Y mae o’r un teulu â parth,
sef rhaniad; ac felly, nid oes ammheuaeth nad Cymraeg pur yw. Y mae yn cael
ei ddefnyddio mewn enwau llawer o leoedd; megys Pen y Parc, Parc Neuadd,
Parc Rhydderch, Pärc Ymryson, &c.
Pen. Y mae y gair hwn yn golygu y rhan uchaf, neu bellaf o unrhyw
beth. Y mae yn cael ei gymhwyso at lawer o enwau ereill i ffurfio enwau
lleoedd yn ein gwlad; megys Pen Beili,*
*Beili Bedw. Ystyr beili yw yr hyn fyddo yn ymestyn allan.
Y mae yn cael ei arfer am dalwrn (court yard), ac hefyd gwyddgrug;
deillia o Bal, ac felly mae’n berthynas i Balog.
Pen Derw, Pen Deulwyn,*
*Y mae teulu ym Morganwg a elwir Dillwyn, wedi cymmeryd yr enw oddi
wrth Deulwyn. Ieuan Deulwyn, &c.
Pen Fforest, Pen Buarth, Pen Gelli, Pen Gaer, Penlan, Pensarn, Penrhyn..
Y mae plwyf o'r enw Penrydd yn Nyfed, a thref yng Ngogledd Lloegr o'r
enw Penrith, yr hwn sydd o'r un ystyr yn
|
|
|
(delwedd B0966b) (Yr Haul. Awst 1868. Tudalen 238b.)
|
ddiau a’r un yng Nghymru. Y mae y Parch. Isaac Taylor yn traethu mai Penrhyd
yw ystyr yr enw; ond nis gallwn yn hawdd ei dderbyn. Y mae rhydd yn
golygn maes agored; ac y mae yn ddiammheu mai hyny a olygir yma. Y mae Penrydd
yn Nyfed, yn gystal a Penrydd yn Cumberland, ar fan gweddol nchel; a
phan adeiladwyd yr Eglwysi, yr oedd pen y maes Rhydd yn y manau hyny.
Y mae Penrhydd ym Morganwg, a dywedir fod tebygolrwydd i ben hydd yn
y mynydd sydd yn rhoddi yr enw i'r lle; ond hwyrach mai rhydd yw ystyr
hwnw hefyd.
Penryn. Y mae genym amryw fanau a lleoedd o’r enw hwn. Ystyr rhyn
yw tir fyddo yn ymestyn allan yn bigfain (a cape). Y mae î’r gair hwn
amryw ystyrion: y mae yn golgua hefyd llif; a dywed Dr. Puw fod rhen
yn ffordd fenywaidd o hono, megys Aeddren (llif trystfawr), ac Onren
(llif orlawn). Y mae yr enw hwn yn cael ei gymhwyso yn dra phriodol at
leoedd; er enghraifft, Penryn, ym mhlwyf Cenarth, ger Emlyn. lle y mae
cornel gorllewinol swydd Caerfyrddin; Penryn Blathaon,
Cathness; Penryn Rhionydd, ger Galloway, yr Alban; Penryn Penwyth,
yng Nghernyw. Penial, neu Penal: y mae genym amryw leoedd o'r
enw hwn, ac yn ol Dr. Puw, eu hystyr yw prif ddwfr. Ystyr al yw
dwfr; ac y mae afon o'r enw Alaw ym Mon; ac y mae Elan ac
Elwy yn berthynasau iddi. Pensarn: y mae llawer iawn o'r enw
hwn yn ein gwlad. Ystyr sam yw peth wedi ei daenu i lawr mewn dull
annhrefnus: ond y mae iddo hefyd ystyrion ereill. Gelwir sarn
yn fynych ar ddernyn o dir agored, heb ei gau â chloddiau. Y mae yn fynych
iawn mewn manau lle y bu y Rhufeimaid yn aros; megys Pensarn, ger
Caerfyrddin, a Pensarn Elen, ym mhÌwyf Llanllwni. Y mae bwlch ar y
mynydd, ger llaw y lle olaf, a elwir Blaenpant y Pinswrn, yr hwn sydd
enw trwstan a diystyr, fel ag y mae yn cael ei seinio yn awr; ond y mae yn
eithaf amlwg mai Blaen Pant y Pensarn yw ei iawn sillebiad, o blegid y
mae yn lled agos i Bensarn Elen, Penlle’r Gaer, prifle byddin, head
quarters.
Pil. Ystyr y gair hwn yw ffrydle, neu adwy, lle y byddo y
môr yn rhedeg i mewn ar y llanw; ac y mae hefyd yn golygu ffos ddofn o ddwfr,
yr hwn sydd yn gwneyd terfyn rhwng gwahanol diroedd llaith, lle nas gellir yn
hawdd godi clawdd. Y mae yn cael ei arfer yn yr ystyr hwn yn swydd
Caerfyrddin. Y mae lle ym Morganwg o'r enw Pil, a llurgunir gan y
Seison yn Pyle. Y mae lleoedd ym mhlwyfi Llandysilio-gogo, Bettws
Ifan, a’r Ferwig, o'r enwau Pil Bach, Pil Mawr, a Pilau. Y mae
y lleoedd hyn ar leoedd gwlybion, lle gynt yr oedd ffosydd o'r fath
|
|
|
(delwedd B0967a) (Yr Haul. Awst 1868. Tudalen 239a.)
|
yn y tir. Y mae palas yn Ystrad Tywi o'r enw Pilroth. Ystyr rhoth
(g. rhwth) yw peth rhydd, masw, siglenog; ac felly, gwelwn ystyr Pilroth
mor naturiol ag sydd yn ddichonadwy, sef ffos, neu adwy dwfr
mewn lle siglenog neu laith; ac y mae sefyllfa y lle yn hollol gymhwys i hynv
yn awr. Y mae lle ym Morganwg o’r enw Rhoth (Roath), yr hwn a
olyga yr hyn ag ydym wedi draethu. Y mae lle ger Aberteifi o'r enw Pil,
ac y mae yn sefyll ym mharth dwyreiniol y morfa rhwng hyny a Llechryd.
Pistyll. Ystyr y esir hwn yw ffrwd, ac y mae y perwyddiad pisaw
yn perthyn iddo. Ceir amryw leoedd yn dechreu a diweddu â'r gair hwn; megys,
Pistyll Dewi, Pistyll Meigan, Pistyll Ceitho; a Blaenpistyll, Penpistyll,
&c.
Porth. Ystyr blaenaf y gair hwn yw help, ac y mae y gair
cyfansawdd cymhorth yn ei egluro yn dda. Y mae hefyd yn golygu agoriad,
mynedfa, sef lle y mae llidiard a phethau yn cael eu gosod. Y mae y gair
hwn yn cyfranu at wneyd amryw enwau lleoedd yn ein gwlad. Y mae agoriad o
ddyffryn yng Ngheredigion yn cael yr enw Porth, a gelwir Eglwys oddi
wrtho yn Blaenporth, ac un arall yn Aberporth. Nid Porth
yw enw yr afon, ond Howni (Hawni). Y mae y gair porthladd yn
perthyn i hwn. Y mae amryw o enwau ereill yn cynnwys y gair; megys Porth y
Fynwent, yn y Brongwyn; Porth Aethwy, ar y Fenai; ac yn wir, enw
rhagorol yw hwn, sef porth, ac aeth, a gwy, hyny yw, porth
y gwy, neu y dwfr peryglus.
Prys a Prysg. Ystyr prys yw lle neillduedig; trigfa;
coedach, mangoed. Y mae amryw enwau yn cael eu gwneyd i fyny o'r gair
hwn, trwy ei gyssylltu â geiriau ereill; megys Bron y Prys; Prys Addfed, Prys
Iorwestl, Prys Goga (Prys Gogan), Prys Talyn, a Prys Dolffin (Dol y Ffin). Y
mae Prysg wedi hyny yn agos iawn o'r un meddwl. Y mae lle ar lan Teifi
o'r enw Prysg; a lle arall ger llaw o'r enw Pen Prysg; ac un
arall heb fod ym mhell o’r enw Gwar Prysgynwydd, Y mae hefyd le ym
Morganwg o'r enw Y Prysg, ac un ym Maesyted o'r enw Prysg. Y
mae y gair prys yn eithaf bychan i beidio ymofyn un tarddiad nag ystyr
arall iddo; ond dyry y Dr. Puw ystyr dra phriodol i’r gair Pry, sef yr
hyn sydd yn helaethu, ymdaenu, cynnyrchu, &c.; ac felly y
mae yr ystyr o Pry ac ys yn dra rhagorol i Prysg, fan
fod mamwydd yn bethau cynnyddol. Mae Prestatyn (Prys Tydain) yn un o’r
teulu.
Pumlumon, Y mae mynydd yng Ngheredigion o’r enw hwn. Ystyr llum
yw yr hyn fyddo yn ymestyn i'r lan yn bigfain. Perthyn lluman, neu
faner, i’r gair llumon; ac y mae llumon yn hen air am simnai.
|
|
|
(delwedd B0967b) (Yr Haul. Awst 1868. Tudalen 239b.)
|
“Fy newis ar fy meibion,
pan gyrchai pawb ei alon,
Pyll wyn, pwyll tân trwy lumon."
Llywarch Hen.
Y mae i Bumlumon bum copa, ac o herwydd hyny, galwyd ef wrth yr
enw hwn, ac enw athronyddol a thra rhagorol yw. Y mae mynydd ym mhlwyf
Llandyssul, yn yr un sir, o'r enw Moel Lumon, ac enw rhagorol yw. Y
mae Trichrug wedi cael ei alw oddi wrth fod tri chrug ar ei
ben.
Pwll. Y mae y gair hwn yn golygu llyn, ac hefyd ffos
gron. Pwllheli a olyga bwll, neu lyn o ddwfr y môr. Pwll
Tinbyd, hen artref Lewis Glyn Gothi, a olyga bwll mewn man neilldnedig
allan o wlad agored. Pwll Gwepra, hen etifeddiaeth Dafydd ab Edmwnt,
bardd cadeiriol Eisteddfod Caerfyrddin yn 1451, a olyga bwll y gwyneb garw,
hyny yw, pwll troellog, gwyllt. Pwll y Crochan, yn Nyfed, a
olyga bwll, lle y bu gweithfêydd pridd. Y mae yn wir fod pyllau mewn
afonydd yn cael eu galw Pwll Crochan, oddi wrth eu dyfnder.
RHAIADR. Ystyr y gair hwn yw cwymp o ddwfr dros graig, a gair mawreddog iawn
yw. Rhaiadr Gwy, Maesyfed, Rhaiadr Mochnant, ym Mhowys, Rhaiadr
y Wennol, &c. Dywed Dr. Puw fod y gair yn dyfod o rhaiad (a
radiation), a rhaiad o rhoi; ond er fod awdurdod mor uchel
drosto, y mae lle i ammheuaeth gyfodi am yr haniad yna. Y mae Rhaiadr
ar yr afon Ceri, yn agos i Emlyn, a elwir Craig y Rhuad, hyny yw, am
fod yr afon yn rhuo yn groch wrth ddisgyn i r pwll. Peth hawdd oedd
troi rhuad yn rhaiad, a rhaiadr. Ond bamed y darllenydd
pa un o'r cynnygion sy gywiraf.
Rhagad, enw hen le enwog ym Meirionydd. Yr ystyr a rydd Dr. Puw iddo
yw gorsaf i wrthwynebu.
Rhipyn. Y mai y gair hwn yn cael ei arfer yn ein gwlad am riw;,
codiad tir. Ymddengys taw Epynt yw ei ffurf ddechreuol, trwy fod r
(y fanod) wedi llusgo i mewn, a chan fod h yn dilyn r bob
amser, daeth hithau i mewn yn naturiol, ac aeth y t yn y diwedd i
golli. Y mae llinell o fynyddau yn Neheudir Cymru o’r enw Epynt. Y mae
amryw leoedd yn ein gwlad o'r enw Rhipyn, Rhipyn Llwyd, &c., ac y
maent yn sefyll ar ryw gymmaint o godiad tir bob un o honynt.
Rhiw. Y mae y gair hwn yn dra chyffredin genym am ffordd yn myned dros
godiad tir. Y mae nifer fawr iawn o enwau lleoedd yn ein gwlad â rhiw
ynddynt; megys Rhiw Felen, Rhiw Las, Rhiw Fedw, Rhiw Fabon,*
*Rhiwabon, oddi wrth Mabon, enw dyn.
Rhos, gwastadedd llaith; mawndir isel ac
|
|
|
(delwedd B0968a) (Yr Haul. Awst 1868. Tudalen 240a.)
|
uchel. Rhos Llanerch Rugog (Llanerch y grug), Rhos Tryfan (Tryfan,
man uchel), Rhosdie (Rhos y Teiau), Rhos y Gadair, Rhosfarch, a
llawer ereill.
Rhuddlan, rhudd (coch), a glan. Y mae tref yng Ngogledd
Cymru o'r enw hwn, ac y mae pentref ym mhlwyf Llanwenog, Ceredigion, o'r enw.
Rhug, enw hen balas yng Ngogledd Cymru. Tybia rhai mai Crug yw
y ffurf wreiddiol; ond dywed ereill mai lle yn llawn toriadau yw ei ystyr.
Rhuthin, neu Rhuthyn. Ystyr yr enw hwn yw rhudd-ddin, sef
caer mewn lle coch.
Rhws. Dyma enw y parth isaf o swydd Benfro yn y cynamser. Ystyr yr enw
yw tir brasdyfol.
Rhyd. Ystyr y gair hwn yw lle bas mewn afon; ac y mae cannoedd o enwau
lleoedd yn ein gwlad yn cynnwys Rhyd; megys Rhyd Lydan, Rhyd y
Pandy, &c. Y mae y Seison wedi troi hwn mewn ambell fan yn Red;
megvs Redbert, yn lle Rhyd y Berth.
SARN. Ystyr cyffredin y gair hwn yw gwasgariad, neu sathrfa anhhrefnus
o unrhyw beth. Y mae yn cael ei arfer am ddernyn o dir heb ei gymmeryd i mewn
yn gae. Y mae hefyd yn golygu ffordd wedi ei phalmantu yn uwch na’r tir fyddo
yn ochri â hi. Y mae yn gyfystyr â’r Seisoneg causeway, ac y mae genym
rai tai o'r enw Y Gawse, yr hyn nid yw ond llygriad o'r Seisoneg. Y
mae Sarn Badrig, ym Morgilfach Aberteifi, yn gystal ag amryw leoedd
ereill, yn dwyn yr enw Sarn.
Sawdde, enw afon yn Ystrad Tywi. Ystyr sawdd
yw dyfnder, soddiad, ac o hono daw y perwyddiad soddi. Felly
ystyr Sawdde (Sawdd-wy) yw afon, neu ddwfr dwfn, llonydd.
“Cai urddas ffordd y cerddych,
Hyd dwr sawdd, a daiar sych."
Ed. Dafydd.
“Yn Sawdde bûm bron soddi, — oer ofid
A wnai'r afon imi,
O waith i'r Bont front, ddi fri,
Uwch y dwr, och! i dori"
W. Williams.
Siedi, enw afon ym mhlwyf Llangeler. Si, swn dystaw, treiddiol
(a tingling noise); siad (a hissing); Siadwy,
dwfr, neu afon sisialog, a dalfyrwyd yn Siedi, ac a seinir yn Shedi.
Mae ty ar ei glan o'r enw Siadog, am ei fod yn swn sïad yr
afon.
Sierfel, enw nant ym Mawddwy. Si-arw-el, sef el (afon), arw
(sisialog). Try yr w yn f, a gwneir yr enw yn ddwy sill;
neu, ef allai, siar-el, a bod yr f wedi dyfod i mewn i gryfhan
y sain, o blegid
|
|
|
(delwedd B0968b) (Yr Haul. Awst 1868. Tudalen 240b.)
|
mae y llythyren hon yn hoff o roddi ei
gwasanaeth felly. Pa un o'r ddau yw y cywiraf, ni phenderfynwn; ond y mae yn
amlwg fod si ac el yn hanfodion dechreuol yr enw. Siar,
swn hyglyw.
Sirowy, neu Siarwy, yng Ngwent, sydd o'r un teulu a Sierfel
a Siedi.
Sylfan. Y mae lle o'r enw hwn ym Meirionydd, a dywed Dr. Puw mai ei
ystyr yw man i sylwi, yr hyn, feddyliwn, sydd yn cyfegluro Bres
Seli, yn Nyfed.
TAL. Ystyr y gair bychan hwn, fel mewn enwau dynion, yw talcen, megys Taliesin,
Talhaiarn, &c.; ac mewn enwau lleoedd y mae yn gyfartal a pen;
megys Talbont, Talsarn, Tal yr Yn, Tal Gareg, &c. Ystyr Talog
yw lle noeth. Talardd, pentir arddedig.
Tan. Y mae yr arddodiad hwn yn cael ei arfer o flaen llawer o enwau;
megys Tan y Coed, Tan yr allt, Tan y Bwlch, Tan y Foel, &c.
Taren, estyniad allan, twmpath, cnipell, tir creigog, tir gwyllt Tredaren,
ger Caerfyrddin; Pendaren, ym Morganwg; Y Daren Wyddon.
Tilen, enw nant ym mhlwyf Llangeler. Y mae til yn sylweddair ac
ansoddair. Fel sylweddair, golyga beth bychan cymhen; ac fel ansoddair, tlws,
cymhen, twt. “O! 'r un fach dil," medd y fam am y ferch
fechan pan yn dechreu cerdded. “Y mae y bachgen bach yn myned yn dil;"
hyny yw, yn myned yn gryno ac ysgafn. Y mae yr enw hwn yn rhyfeddol gymhwys
ar yr afonig hon. Treigla mewn gwely cul, dwfn, gan sisial a bwrlymu, gan
wneyd swn cau rhwng ei glenydd cyfyng; ac ar ei gwaelod gwibia y brithyllod
yn dil a dedwydd! Y mae ganddi ei pherthynas yng Ngwent, sef Tileri,
hyny yw, Til-aer-wy, sef afonig dil a dysglaer;
athronyddol a phriodiä iawn! Y mae ty ar lan Tilen o'r enw Glantilen.
Yn agos iddi y mae hen balas Llwynderw, lle y preswyllai yr hen lenor enwog,
William Lewes, Ysw. Gwych iawn, yr afonig dlos; y mae dy enw yn llawn o'r
tlysni athronyddol a barddonol mwyaf swynol ag y gall y llenor, y bardd, a'r
hynafieithydd gyfarfod ag ef; ac hefyd, yr wyt yn gallu ymffrostio yn dy
lenorion, y boneddigion dysgedig a gwladgarol, William Lewes ac S. Pryse,
Ysweiniaid.
Tileny o bawb o’r teulu — afonig,
Yw'r fwynaf yng Nghymru;
Ei henw cain, afonig gu,
Urddas hen, wna fyrdd synu.
Nid hawdd fuasai cael ystyr Tileri ac Abertileri, oni buasai i Tilen
agor y drws.
Towyn. Ceir llawer iawn o leoedd o'r enw hwn, ac y maent fynychaf, ac
fe ddylent fod bob amser, ar lan y môr.
|
|
|
(delwedd B0969a) (Yr Haul. Awst 1868. Tudalen 241a.)
|
Dylid
sillebu yr enw yn Tywyn. Ei wreiddyn yw tyw, sef ymdaeniad; ac
y mae yn perthyn i tywod.
Trach Dindyrn. Ceir gallt, neu fynydd, o'r enw hwn uwch law Mynachlog
Tintern; a cheir bryn ger Dinbych or enw Trach, a thyddyndy o'i flaen
o'r enw Taldrach. Ystyr trach yw bryn megys yn ymestyn i
dir isel. Ystyr trach dindyrn yw trach-gaerdeyrn, teyrn =
brenin.
Traeth. Ystyr yr hen air hwn yw lle agored ar lan y môr, lle y mae
gwyneb y tir yn gydwastad â'r don. Y mae genym lawer iawn o enwau yn cynnwys
y gair hwn ynddynt; megys, Traethmawr, Traethsaeth, Traeth Artro, a
Trefdraeth.
Y mae Pentraeth yng Nghymru. Doli Pentraeth oedd enw yr hen
wraig a siaradodd y Gerniwaeg yn olaf o bawb yn y wlad hono. "Pwy bynag
a bieffo dir yng nglan traeth, efe bieufydd gyfled ac y tir o’r traeth; a
gwnaed gored arno os myn." — Cyfreithiau Cymreig.
Trafle. Mae nant yn Nhroed yr Aur, ac un arall rhwng Llangeitho a
Llanbadarn Odwyn, o'r enw hwn; ac y mae hefyd le o'r un enw. Traf,
cyffroad, gwylltineb, rhediad buan, a llif, sef dwfr gwyllt. Cymharer
y gair hwn â Cothi ac Ysgothi.
Traws. Ystyr y gair hwn yw croes. Traws Fynydd = Croes Fynydd.
Tref. Yr ydym wedi dangos yn y sylwadau arweiniol sut yr oedd ein
hynafiaid yn arfer bod a threfi. Y mae llawer iawn o leoedd yn
ein gwlad o'r enw Tref, hyny yw, yn cael ei gyssylltu ag enwau ac
ansoddeiriau i wneyd enwau lleoedd; ac yn ddilys, y mae llawer o honynt yn
enwau tlysion. Ef allai nad oes un rhan o Gymru mor aml o'r enw hwn a swydd
Benfro. Y mae rhwng Abergwaen a Thy Ddewi le o'r enw Tref Asser, lle
yr ymddengys y trigai yr enwog ddysgawdwr Asser Mevensis. Y mae Tre
Hywel, Tre Fadog, Tre Rhys. Tre Forgan, Tre Wilym, a lleoedd ereill o
enwau dynion wedi eu cyssylltu â Tref. Y mae hefyd ansoddeiriau wedi
eu cyssylltu â Thref; megys Trewen, Trelwyd, &c. Y mae Trellyffaint,
Tregifft (Tregrifft), Trebared, Tregaer, a llawer o'r fath i'w
cael. Trefa oedd ein teidiau yn galw Hamburg. Y mae Tred yn
golygu agos yr un peth a Tref; Coed Andred, Caer Andred; ac y
mae rhandir yng Ngwent o'r enw Tred Eleirch (Swanton).
Troed, sef y rhan isaf o'r dyn. Y mae llawer iawn o enwau llysiau yn
dwyn y gair hwn yn eu henwau, ac y mae llawer o enwau lleoedd yn ei gynnwys;
megys Troed y Bryn (neu waelod y bryn), Troed yr Allt, Troed
y Rhiw, Troed y Feidir*
*Meidir, heolan, neu ffodd gul. 31 — XII.
|
|
|
(delwedd B0968b) (Yr Haul. Awst 1868. Tudalen 241b.)
|
a Troed y Bwlch. Y mae enwau ar y Cyfandir wedi eu gwneyd yn debyg i
hyn; megys Piedmont, &c. Y mae yn ymddangos fod rhai enwau wedi
cael eu troi o tref i troed. Y mae Eglwys yng Ngheredigion a
elwir Troed yr Aur, yr hon a elwir gynt yn Tre Deyrn, sef Tref
y Brenin. Y mae olion hen lys tua chwarter milltir oddi wrth yr Eglwys,
o'r enw Llys Owain, yr hwn, y mae lle i gredu, oedd lys Owain ab
Hywel Dda, brenin Ceredigion; ac felly, y mae tebygolrwydd i gredu mai
oddi wrth y brenin Owain y cafodd y lle yr enw.
Tryal. Y mae amryw leoedd o'r enw hwn yn y Deheudir. Cawn ef yng
ngeiriadur Dr. Puw yn gyfystyr â'r Seisoneg homestead; ond nid ydym yn
gwybod am darddiad ac awdurdod y Dr. Nid ydym yn gallu gweled dim yn try
yn yr ystyr hyny. Y mae y lleoedd hyn bob amser, mor bell ag ydym wedi sylwi,
yn sefyll ar leoedd uchel; megys Tryalau, ym mhlwyf Penboir; Tryal
y Pwll, ym mhlwyf Cynwyl; Tryal Brith, ym mhlwyf Llangeler; Tryal,
Llanpenal, &c. Y mae genym y fath eiriau a tryblith, trylen, tryloew;
Trygarn sydd enw lle; Tryweryn (tra gloew), &c. Dywed y
Doethor Puw fod try yn droad o trw, yr hyn a olyga berffeithrwydd,
peth yn y radd bellaf, neu berffaith; ac ymddengys i ni mai ystyr tryal,
neu tryael, yw man uchaf ael bryn, neu allt. Y mae amryw
ystyrion i ael ac al, ac y mae al ac ael am gynnyrch
yn gyfystyr; felly hawdd y gallasai ael am brow gael ei
droi yn al. Yn y modd hyn, credwn mai pen, neu gopa ael,
yw ystyr Tryal, neu Tryael.
Twrch. Y mae llawer iawn o afonydd yng Nghymru o'r enw hwn, Y mae yr
enw yn cael ei roddi iddynt am eu bod yn suddo mewn manau i'r ddaiar, ac yna
yn codi drachefn. Barna llawer mai Maeayfed a elwir felly am fod y tir yn y
parth hwnw yn llyncu y dwfr, ac yn ei fwrw i fyny drachefn, neu yn fwy
priodol, fod y dwfr yn twrio y tir, ac yn ymgodi drachefn. Y mae genym
lawer lle o'r enw Cwmtwrch, Blaentwrch, &c.
Ty. Y mae ystyr y gair hwn, sef annedd, yn eithaf eglur. Y mae
llawer lle yn cynnwys y gair hwn, naill ai yn y dechreu neu yn y diwedd;
megys Ty’n y Gwndwn, Ty'n y Coed, Ty'n yr Allt, Ty'n y Fro. Y
mae pentref ym mhlwyf Lledrod o'r enw Ty^n y Swydd. Nid yw ym mhell
iawn o Swydd Ffynnon Oer; ac y mae y lle hwnw yn cael ei alw felly am
mai yno yr oedd llys barn cwmmwd Mefenydd; ac y mae Ty’n y Swydd yn
cael ei alw felly am ei fod ar derfyn y swydd, swyddogaeth, neu raglawiaeth
swydd barn Mefenydd.
Tyddyn. Ystyr y gair hwn yw tir o driniaeth yr aradr, yr oged, a phob
trafodiaeth amaethyddol. Y mae llawer o’r
|
|
|
(delwedd B0970b) (Yr Haul. Awst 1868. Tudalen 242a.)
|
enwau Tyddyn Du, Tyddyn Mawr,
Tyddyn y Berllan,*
*Tyddyn y Briddell, “the tenement of the clod.” Cam. Reg.,
vol. I., p. 312.
Tyddyn Sieffre, &c.
Tyno. Gwreiddyn y gair hwn yw twn, yr hyn a arwydda toredig,
sef tir yn cael ei gymmeryd i mewn, a'i dori gan yr aradr. Cantref
y Tyno Coch oedd hen enw Ceredigion. Mae Ton, ym Morganwg, yn
golygu yr un peth; megys Ton yr Efail, Tonglas, &c.
”Nid oes dwyn, na dwys dyno
Yn neutu glyn Nant y Glo —
Na wyddost." — D. ab Gwilym.
Tyweli, afon ym mhlwyf Llanfihangel ar Arth.
Ystyr yr hon yw Taw-el-wy, sef dwfr neu afon dawel.
WY, WYSG, neu Gwy a Gwysg. Y mae Wy, neu Wysg, yn
air am ddwfr; ac fel yr ydym wedi sylwi, y mae yn cyfansoddi nifer fawr o
enwau ein hafonydd. Y mae yn rhyfedd fod rhai ysgolheigion Cymreig wedi
rhyfygu traethu nad yw gwy yn perthyn i'r Gymraeg, ac mai i'r
Wyddelaeg yn unig y perthyna; ac felly dychymmygu mai y Gwyddelod fu yn
preswylio yma gyntaf, ac mai hwy fu yn rhoddi enwau ar ein hafonydd; ond y
mae gwy i'w weled mor eglur a’r haul yn Gwydd (Gwy-ydd) Hwyad
(gwyad), Gwylan, Gwydir,*
*Gwy-dir, sef tir dyfrllyd, enw palas yng Ngwynedd.
Gwyach (enw aderyn), a llawer ereill. Y mae genym afonydd o'r enwau Wy,
neu Gwy, ac Wysg, neu Gwysg.
(I’w barhau.)
|
|
.
|
(delwedd B0971)
|
Yr Haul. Cyfres Caerfyrddin.
“Yng ngwyneb haul a llygad goleuni.” “A gair Duw yn uchaf.”
Rhif. 141. Medi, 1868. Cyf. 12. Tudalennau 267-270.
ENWAU LLEOEDD CYMREIG YNG NGHYMRU.
Gwynionydd. Yr Haul. 1868.
(Rhan 9 / 10)
Tudalennau 267-270
|
|
|
(delwedd B0972a) (Yr Haul. Medi 1868. Tudalen 267a.)
|
CYFANSODDIAD ATHRONYDDOL. ENWAU LLEOEDD
CYMREIG YNG NGHYMRU.
(Parhâd o dudalen 242.)
Y FYRNWY, afon doreithiog o bysgod, ym Mhowys. Tebyg taw Maranwy yw y ffurf gyntefig o'r enw, ond ei
fod wedi ei wasgu i ddwy sill; a thrwy fod y fannod y o’i flaen, cafodd M ei throi i F. Maran sy gyfystyr ag eog (salmon); hefyd, golyga
iseldir ar lan afon.
”Llyfn mor, llawen maranedd.”
Aneurin.
Tebyg fod y Dr. Powel, pan yn galw Y
Fyrnwy yn Marnovia yn ei sylwadau ar Giraldus
Cambrensis, yn cadw golwg ar yr ystyr hwn. Dywedai Mr. Pennant fod yr afon
hon yn teilyngu yr enw “piscosus amnis” gymmaint ag un afon a wyddai efe.
Cymharer Maranwy â Pysgotwr (Pysgod-ddwr), yng Ngheredigion.
Y Ro Fawr. Ceir lle ym mhlwyf Llangathen o’r enw hwn. Y mae lleoedd
hefyd o’r enw hwn ger Aberystwyth ac Abermaw. Yr ystyr yw gro, sef lle llawn gro ar lan afon neu fôr. Ystyrir ef yn
enw benywaidd, fel man llawn gro; ac felly daeth y fannod y i mewn, i daflu ffwrdd yr g.
|
|
|
(delwedd B0972b) (Yr Haul. Medi 1868. Tudalen 267b.)
|
“Ni thaw fy mhen am Weno,
Mwy na’r aig ym min y ro.”
L.G. Cothi.
Ynys. Dywed Dr. Puw, fod y gair hwn yn cael ei wneyd i fyny o wn, yr hyn a arwydda peth uchaf, ac ys, yr hyn sydd yn codi neu
yn bwrw allan. Yr ydym yn deall wrth y gair, tir amgylchedig gan ddwfr, neu
o'r hyn leiaf yn agos a bod felly. Ynys
Prydain, Ynys Werdd, Ynys Wyth, &c. Y mae genym leoedd o’r enw hwn,
ac enwau dynion, yng nghyd ag enwau ereill, yng nglyn ag ef. Ynys Pyr (Pyr y Dwyrain), enw ynys ger
Dinbych y Pysgod; Ynys Wair (Lundy); Ynys Afallon (Glastonbury); Y Lasynys, hen dreftadaeth
Elis Wyn; ac Ynys Hir.
Y mae y gair ynys ar gael yn yr Iwerddon; megys Ennis
Killen, Ennis Corthy, &c.
Ysgwd, ffrwd, Ysgwd yr Hen Ryd, Brycheiniog; Ysgwd, yn Henllan,
Ceredigion.
Ystrad. Ystyr y gair hwn yw gwastadedd gweddol eang. Y mae genym
lawer o leoedd yn dwyn yr enw hwn; megys Ystrad
Tywi, Ystrad Yw, Ystrad Aeron, Ystrad Fellte, Ystrad Gynlais, Ystrad Ffin,
Ystrad Dwrallt (dwr
hallt, meddir), &c.
Ystum. Ystyr y gair hwn, yn ei gymhwysiad at enwau lleoedd, yw
troad, megys Ystumdwy,
Ystum Cegid, &c.
PENNOD III.
Rhes Wreiddeiriau y Gymraeg mewn enwau lleoedd.
Yr ydym bellach wedi traethu yn gyffrednol ar ffurfiad enwau; ac hefyd
wedi dangos sut y mae enwau wedi cael eu newid, lleoedd wedi cael eu henwau
oddi wrth ddynion, ac wedi rhoddi llechres o enwau yn ol y wyddor: a bellach
ni a derfynwn gyda dangos ychydig o athroniaeth gwreiddeiriau y Gymraeg yn
enwau lleoedd. Gwasanaethed y bennod hon hefyd fel attodiad i amryw enwau a
ddiangasant o’n cof.
AB, mab, Mabwynion, Tab Wiliam (Ty ab Wiliam), yn Aberporth; Mabwys, tir y mab. Ceir llawer lle o’r
enw hwn. Ffolineb mawr, tybied, mai may
bush y Seisoneg yw.
Ab, bwriad allan, aber, bwriad allan afon i afon arall, neu i’r môr; Aberteifi, Aberystwyth,
Aberffraw.
Ach, dwfr; Acheth,
ger Abergorlech, Ach Ddul, &c.
Ad = at, adwydd,
bwlch, neu adwydd mewn bwlch; Pen yr Adwy.
Add, yn grynhoawl addon, ffrwythau; Cwm Addon.
Aidd, bywiogrwydd, cariad, gwres; Aedden,
Llyn Aeddwen.
Aer, rhyfel; Aerfach.
Aeth, pig, eithin;
Hiraeth, neu Hiraith, Hireithog.
Air, dysgleirdeb; Aeron,
neu Airon, Aerwysg, Nanhoron.
|
|
|
(delwedd B0973a) (Yr Haul. Medi 1868. Tudalen 268a.)
|
x42x. CYFANSODDIAD ATHRONYDDOL. ENWAU
LLEOEDD CYMREIG YNG NGHYMRU. 268.
Al, elfen,
bywyd; Alaw, Aled, Alwen,
Alclwyd.
Am, amgylch, o ddeutu; Amlwch.
Aml, amyd, amryw; Aman, Cwmamman.
An, neu Ain,
elfen ddansawdd, nant; Brean, Brân, Tawelan.
Ar, uchaf; Argoed, Aran Fowddu.
Ar (hir), tir
gwrteithiedig, talar; Maes y Brynar, Arad (ermig i drin tir), Arad,
Aberarad.
Arth, peth aruthr, trystfawr; yr afon Arth, Dinarth, Arthen,
Aberarthen, Arthog, Bronarthen (trigle BRUTUS).
As, tir gwastad; llecyn wedi ei dynu i mewn o fynydd, asol: Pen yr Asol, Bedwas.
At, cyfnewidiad o ad,
dychweliad, neu ail dro; Bwlch yr Attal.
Aw, dwfr; Awon; Hawen: afon; Blaenafon.
BAD, cwch; Porth y Bad, Ty'r Bad.
Bal, ymestyniad allan, balch;
Bala, Beili, Penbeili.
Ban, uchel; Banau Brycheiniog, Bangor.
Bar, noeth-uchel; Barlwm, Berwyn.
Bar, terfyn; Bargod, Barre.
Bed, sefyllfa ddigyffro, bedw;
Bedw, Blaenbedw, Bedwas.
Bledd, gwastadedd agored; Bleddfa.
Bod, trigfa; Bodedeyrn, Hafod.
Bre, mynydd; Brean, Brân, Moelfre.
Braich, estyniad allan; Braich y Pwll, Brechfa.
Brith, amryw liwiog; Brithdir.
Bu, boech; bual,
ych gwyllt; Buallt. Bu,
buwch; Rhyd y Fuwch.
Budd, ennill, buddugoliaeth; Buddugre, ym Meirion.
Bur, gwylltineb, angerdd, ffroch, broch. Burym a ddeillia o'r gwreiddair hwn, am ei
fod yn ewynu a gweithio yn wyllt. Mae afon o’r enw Buri (Burwy) yn swydd
Gaerfyrddin, a elwid felly am ei bod yn llidus a gwyllt ei rhediad, ac felly
fel Burym yn ewynu; yna Pont y Berem, a Bury Port.
Bw, bygythiad, bwgan, bwn. Aderyn y Bwn, a elwid felly am ei swn
trymaidd; yna Boncath, Nant y Boncath, &c.
Bwlch, toriad; Bwlch y Groes, Bwlch y Fadfa, Bwlch Gwynt, Bwlch
Bychan.
Bwrdd, astell neu faen gwastad; Bwrdd Arthur.
Bwth, annedd; Bwthyn, Bw'sant, ger Clynnog.
CAD, brwydr, cadw, cadair; Rhos y Gadair, Pencader, Cader Idris, Cadlys.
Cae, darn o dir cauedig, coed cae; Pen y Cae.*
*Yr ydym yn meddwl mai Isaac Taylor sydd yn traethu fod Quebec yn perthyn i quai, y Ffrancaeg (Quay,
Seisonig), yn perthyn i cae a caer, y Gymraeg; hyny yw, yn berthynas
Geltaidd trwy y Ffrancaeg.
Caer, Caerfyrddin
|
|
|
(delwedd B0973b) (Yr Haul. Medi 1868. Tudalen 268b.)
|
Cail, praidd; Ceilwart, ym Meirion.
Cain, hardd; Caint, Caint Bach, Ceiniog, Cenen, Careg Cenen.
Cal, caled; Rhyd Galed, Clettwr.
Cam, gwyrog; Camddwr, Pont ar Gamddwr, Ty Cam, Camnant.
Camp, gorchest; Cemmaes.
Car, cariad; Angharad, neu Engharad, Lletty Angharad.
Ced, elw; Cedris, Pant
y Cedris.
Cefn, y tu ol; Cefn Mawr, Cefn y Ceirw, Cefn Bralau.
Cel, anghyoedd, cyssegredig; Celynog, neu Clynnog, Pant y Celyn.
Cell, lle cil o'r neilldu; Cellan.
Cer, bywiog; Ceri, Cerist.
Cerdd, symmudol, cerddin, cerdin; Pant y Cerdin, Abercerdin.
Cern, ochr, ochr llethr; y Gernos.
Cest, tor, codiad crwn a serth; Bron Gest, Cwm y Gest, Moel y Gest,
Bryn y Gest, a Seisonigeiddwyd yn Prendergast.
Ceth, dyrys, anhydrin, tywyll, cethin; Cefncethin.
Cil, encil; Cilrhedyn, Cilcenin.
Clas, gwyrddfaes; Clas (Clasbury), Clasmerddin.
Cloch, ermig i wneyd swn; Maenclochog.
Clog, clogwyn, pen; y Glog, Clogau.
Clyd, cysgodol; Cwmclyd, Clydach, Cledan (afon ger Llanrhystyd).
Clyn, lle llawn o fangoed; Clyn Coch, Clyn Melyn, Clyn Eiddw.
Cnol, cnipell gron; y Gnol, ger Castell Nedd.
Cnwc, twmpath, codiad tir; Cnwc Glas, Pen Cnwc.
Cnwch, neu Cnuwch, llwyn, perth o lwyni; Cnwch Eithinog, yn agos i
Ystrad Ffin. Ceir y gair hwn mewn llawer o leoedd mynyddig heb law hwnw.
Coed, gwydd, coedlan; Coetty, Coed y Parc, Terracoed (Tir y Coed).
Coeg, gwag; Ffynnon Goeg.
Col, peth yn ymestyn allan, colyn; Col, Ysgolion Duon, Drysgol,
Drysgolgoch.
Côr, cylch, côr mewn Eglwys; Bangor, Corwen.
Coth, bwriad allan, ysgothiad: Cothi, Glyn Cothi.
Crib, copa; Crib y Wern, Gallt y Gribyn.
Croes, traws; Bwlch y Groes.
Crug, twmpath; Crug Bach, Crug Hywel, y Wyddgrug.
Cuch, garw; Cuch, Abercuch, Glyncuch.
Cwm, tir isel; Cwm Bychan.
Cyd, uniad; Cydweli.
Cyf, uniad; Cyfartha.
DÂR, derw, Bryn Derwen, Llwyn Derw, Derlwyn.
Din, amddiffynfa; Dinas, Dinas Mawddwy, Dinas Cerdin.
Dol, plygiad, camiad, tir cam rhwng troion afon; Dolgellau, Dolgoch.
Dwfn; Pant Dwfn, Defynog (?) Dyfed.
|
|
|
(delwedd B0974b) (Yr Haul. Medi 1868. Tudalen 269a.)
|
x43x. CYFANSODDIAD ATHRONYDDOL. ENWAU
LLEOEDD CYMREIG YNG NGHYMRU. 269.
Dwfr, gwy: Dyfrdwy, Glandwr, Dyffryn, Blaen Dyffryn.
Dy, blaenddawd cadarnhaol; Dyserth.
Eb, bwriad allan; ebol, ebai: Ebwy, Glyn Ebwy.
El, symmudol, bywiog, elfenol; Elan, Elwy, Sierfel.
Esg, bwriad allan, esgoriad, esgair; Esgairgraig, Esgair Wylym.
FFAL, troelliad. Y mae ffal yn air Celtig, yn neillduol
yn y Galaeg am lif; a
hyny, ef allai, am fod llif yn troi mewn pyllau is law rheieidr. Y mae afon
yn Lloegr o’r enw Ffal,
ac oddi wrthi y derbyn Falmouth ei henw.
Ffald, ceufa; Ffald y Brenin.
Ffest, enciliad buan; Ffestiniog.
Ffraw, buan; Ffraw, Aberffraw.
Ffridd, coedwig, dernyn o dir cauedig; Bwlch y Ffridd, Ffridd Fawr.
Ffrwd, pistyll; Glan y Ffrwd.
Ffwnt, ffynnon; Blaen Ffynnon, Tre Ffynnon.
GALLT, esgyniad, serthfan; Gallt y Cadno,y Wenallt.
Garth, codiad tir; Cenarth, Llanfihangel ar Arth, Penarth.
Glan, ymyl; Glanaman, Glan y Môr, Glandyweli.
Gloew, glân, dysglaer; Gloewon, Blaen Gloewon.
Glyn, lle cul rhwng dau fryn ar lan afon; Glyndyfrdwy.
Glŷn, glynu, ymlyn, ymlyniad; Emlyn, Castell Newydd Emlyn.
Galwyd y lle felly o herwydd ymlyn yr afon yn y lle. Try y yn e,
fel mewn amryw eiriau ereill.
Gog, gogo; Gogerddan, Llandysylio Gogo.
Golch, suddiad, peth a olchir gan ddwfr; yr Olchon ar lan yr Wy.
Gor, gwych, tra uchel, nawdd; Gorllwyn, Llanfair Orllwyn.
Gwaen, tir gwastad llaith; Gwaen yr Esgor, Gwaen Helygen.
Gwar, yr ochr uchaf; Gwarallt, Gwarffynnon, Gwarfigyn.
Gwas, gwasanaethwr; Gilfach y Gweision.
Gwel, gwelediad; Llywel, Llywelan.
Gwern, coed o'r enw; Gwern y Clepa, Gwernmedd, Gwern Ddafydd.
Gwy, dwfr; Gwy, Glangwy, Conwy, Elwy, Teifi (Tafwy).
Gwydd, coed, gwyddel; Gwyddelwern, Trewyddel.
Gwyn, gwyneb, agored, y rhan uchaf; Gwynedd.
Gwymp, tlws; Gwempfa, Gwempa.
Gwyth, hen wely afon, dwfr araf ei rediad; yr Wythfawr, Glan yr
Wyth, yn Ystrad Tywi.
Gwystl, ammod; Arwystli.
HAF, yr hyn sydd yn ymdaenu, llawndid; Hafren, Maes yr Haf, Hafod.
|
|
|
(delwedd B0974b) (Yr Haul. Medi 1868. Tudalen 269b.)
|
Haidd, math o yd; Dolhaidd, a Bronheidden, ger llaw eu gilydd ym
Mhenboir.
Hen, oedranus; Hen Feddau, Hendref, Hendy, Ty Hen.
Hob, mochyn; Brynhob, ger Pont Rhydfendigaid, a elwir yn awr
Brynhope.
IAL, tir agored; Ial, ym Mbowys, Bronial, Penforial, yng Ngheredigion.
Is, isel; Is Cenen, Is Meloch, Iscuch.
Ion, Duw; Ty'r Ion, Pant Ty'r Ion, ger Llandudoch.
LLAIN, dernyn main fel cleddau; Llain y Mwnt, Llain y Weddfa.
Llan, dernyn tlws o dir amgauedig; Llanerch, Llandeilo.
Lleb, melyn; Glyn Llebin (Llebain).
Llech, corff gwastad, careg; Blaencil-llech, Penllech yr Ast.
Lled, yr hyn sy groes i hyd,
llydan; Rhydlydan, Cwmllydan.
Llethr, bron, codiad tir; Llethr Llestri, Llethr Neuadd, Llethr
Deri.
Llif, gorlawnder o ddwfr; Llifon, Glynllifon.
Lloc, diogelfa, cadwrfa anifeiliaid, &c.; Clynllocau.
Llum, peth amlwg yn ymestyn i'r lan; Pumlumon, Moelumon.
Llwnc, llwng;
Trallwng Coch, ym Mhowys, Trallwng, ym Mrycheiniog.
Llwybr, tramwyfa; Penllwybr.
Llwch, llyn; dylifiad dwfr: Llychwr, Talyllychau.
Llwyd, enw ar liw; Ty Llwyd, Castell Llwyd.
Llwyn, coedfa, &c.; Llwyn Gwiwer (Llwyn Gwair), Llwyn Dafydd,
Llwyn Einion.
Llyfn, teg; Llyfni, Cwmllynfell, Cwmllyfni.
MA, sefyllfa, &c.; y Fadfa.
Mach, lle cysgodol, diogelfa; Machynlleth, Bach y Rhew, y Fachwen.
Maen, careg; Maenclochog, Maentwrog, Tremain (main, lluosog o maen).
Maer, yr hyn sy sefydlog, golygwr; Maerdref, Maerdy.
Maes, tir, tir agored; Maes Cynffych, Maes y Crugiau, Maes y Pandy.
Mac, maethiad, macwy; Gwern Macwy.
Mai, gwastadedd teg, mis Mai; Meifod, Pen y Fai, Cilfai, Myddfai.
Main, gwan, cul; Meinddwr.
Mâl, maniad gan felin; Rhyd y Felin, Melinddwr.
March, brasdyfol; Marchwiail, ym Mhowys.
Math, gwastadfa; Mathafarn, Mathrafael.
Mawr, peth croes i bach; Maes Mawr, Traws Mawr.
Mau, hunan, meudwy, un fydd wrtho ei hun; Cwmmeudwy.
Medd, tyner, symmudol; Gwern y Medd.
|
|
|
(delwedd B0975a) (Yr Haul. Medi 1868. Tudalen 270a.)
|
x44x. CYFANSODDIAD ATHRONYDDOL. ENWAU
LLEOEDD CYMREIG YNG NGHYMRU. 270.
Mêl, yr hyn sy felus; Nant y Mêl.
Men, ennig at glodo; Pant y Fen.
Mer, dyferiad, tarddiant; Cymmer, Rhyd Cymmerau (gwel Berws).
Mig, mignen; Bigni. Cymharer mig â big;
a mer â ber.
Min, ymyl; Minffordd, Min y Don.
Moc, efelychiad, gwawd; Moc, yn Llandyssul.
Mòch, buan, gwyllt; Mochnant, Mochno; eto
Mwch, Mwchan, ger Llanstephan.
Moedd, uchel; Moeddyn, Moeddawg.
Moel, llwm, lle uchel didyfiant, crug, pentwr uchel; Moel y Mwnt,
Moelfamau, Moel Wynion.
Môr, y weilgi; Morfa, Penmorfa.
Mud, dystaw; Medain, Mudyr, Mudyreilin.
Mwch, ehud, buan; Mwchan.
(I'w barhau.)
|
|
|
(delwedd B0976)
|
Yr Haul. Cyfres Caerfyrddin.
“Yng ngwyneb haul a llygad goleuni.” “A gair Duw yn uchaf.”
Rhif. 142. Hydref, 1868. Cyf. 12. Tudalennau 309-310.
ENWAU LLEOEDD CYMREIG YNG NGHYMRU.
Gwynionydd. Yr Haul. 1868.
(Rhan 10 / 10)
Tudalennau 309-310.
|
|
|
(delwedd B0977a) (Yr Haul. Hydref 1868. Tudalen 309a.)
|
CYFANSODDIAD ATHRONYDDOL. ENWAU LLEOEDD
CYMREIG YNG NGHYMRU.
(Parhâd o dudalen 270.)
NANT, afonig; Nanhoron, Nant Ystalwen, Nantbreni.
Neu, dymuniad, dymunfa, neuadd; Neuadd Trefawr.
Od, eira, odwyn, gwyn iawn, snow-white;
Llanbadarn Odwyn, Manod. Dyna ein hen syniad am Odwyn, sef gwyn fel yr od neu'r eira, gan ei gymharu â pygddu, sef du o liw y pyg; ond teg mynegu fod hanesyddiaeth
yn taflu ychydig ammheuaeth ar yr ystyr hwn. Yr oedd gar Teithwalch, Arglwydd
Ceredigion, fab o'r enw Odwyn, yr hwn a breswyliai yng Nghastell Odwyn; ac y
mae yn debyg taw efe a'i hadeiladodd, ac felly y mae yn debyg taw oddi wrtho
ef y cafodd y castell yr enw. Ond yr oedd yr Eglwys i gael cyn hyny, wedi ei
sylfaenu gan yr hen Sant Padarn, digon tebyg. I amddiffyn y syniad olaf,
gellir tybied taw Odwyn a’i hailadeiladodd, ac iddi gael yr enw Llanbadarn Odwyn o hyny allan, fel y
|
|
|
(delwedd B0977b) (Yr Haul. Hydref 1868. Tudalen 309b.)
|
mae genym Llanddewi Rhydderch, &c.
Gellir dywedyd hefyd o du od wyn, fod yr Eglwys yn rhyfeddol o amlwg
agos i holl Ddyffryn Aeron; ac os oedd yn wen, gallasai gael y dynodiad hwnw
fel Eglwys wen ac Eglwys lwyd. Barned y darllenydd drosto ei hun, pa un o'r
ddau ystyr sy fwyaf cymhwys.
Ol, nod ar ol; Olwen,*
*Olwen, duwies y blodau ym mhlith yr hen Gymry. Dywedid fod blodau yn
tyfu yn ol ei thraed. Bu hefyd yn enw benyw.
Pant Olwen, Olmarch,*
*Cafodd y lle hwn ei alw oddi wrth lun pedol march mewn careg fawr, medd y
werin. Y mae ol felly yn agos i’r Tryfil, ym Mrycheiniog. Diammheu mai olion
rhyw bryfed, ag y perthyn i ddaiareg eu holrhain, ydynt, ac nid ol pedol
march.
ger Llanbedr.
PAITH, eglur; Dyffryn Paith, Peithyll.
Pal, dernyn gwastad ar fan uchel, amgeufa; Pal, Palau, Penrhiwpal.
Pant, man isel; Pant y Rhew, Pant yr Haidd. Mae Pannau weithiau yn ffurf luosog o hono;
megys Pannau, yn Llandysilio Gogo.
Parc, parthiad, parc; Penparc, Parcau, Parc Rhydderch, oddi wrth
Rhydderch Llwyd.
Pig, peth main; Typica, Castell Pigyn.
Pil, ffos o ddwfr; Pilroth, Pilau, Pil Bach.
Pis, ffrwd, pistyll; Penpistyll, Blaenpistyll.
Porth, agoriad; Porth y Fynwent, Aberporth, Porth Aethwy, Porth
Dinorwig.
Pow, ymdaeniad, ymafaeliad; Powys.
Prys, mangoed, prysg; Prysg, Pen y Prysg, Dolprysgoed, Prysaddfed.
Pump, pedwar ac un; Pumlumon, Pumsaint.
Pwll, lle dwfn; Pwll Heli, Pwll Tinbyd.
RHAG, blaen; Rhagad.
Rhai, bwriad allan,
dysgleirdeb; Rhaiadr Gwy, Rhaiadr Mochnant.
Rhan, parth, rhan o beth; Rhandir.
Rhed, ennill; Cilrhedyn, Gilfach Redyn. Gelwid y twf rhedyn felly, am eu bod yn rhedeg, neu yn
ennill y tir lle byddont yn tyfu.
Rhew, caledrwydd, ia, &c.; Pant y Rhew, Bach y Rhew.
Rhos, tir gwaenog uchel; Rhos y Medre (Mydrau, cylchoedd).
Rhudd, coch tywyll; Rhuddlan, Rhuthin (Rhudd-ddin).
Rhwth, agored, siglenog; Rhoth, Pilroth (ger Llanstephan).
Rhyd, basle mewn afon; Rhyd y Ceir, Rhyd y Fuwch, Rhyd Lewis.
SARN, peth wedi ei daenu, peth agored, tir agored; Pensarn, Sarnau.
Sân, rhwyd, dull troellog; Cilsân, Sanan, Abersanan.
Soch, dwfr llonydd, neu ddwfr araf ei rediad; Soch, Abersoch.
|
|
|
(delwedd B0978a) (Yr Haul. Hydref 1868.
Tudalen 310a.)
|
x46x. CYFANSODDIAD ATHRONYDDOL. ENWAU LLEOEDD CYMREIG YNG NGHYMRU. 310.
Swl (b. Sol), gwastad, araf;
Solfach.
TAL, pen; Talsarn, Tal y Bont.
Tan; Tan y Rhiw, Tan yr Allt.
Til, main, bychan, ysgafn, sionc, bywiog; Tilen, Glantilen,
Abertileri.
Trach, bryn isel rhwng bryniau o uwch;
Traeth, lle gwastad ar lan y môr; Traeth Mawr, Pentraeth (Mon).
Traf, gwyllt, rhwydd; Trafle, yn Llanbadarn (Mwyn.
Traws, croes; Trawsfynydd.
Tref, haddef; Tref Asser.
Troed, y rhan isaf o ddyn, ac hefyd i bethau difwyd; Troed y Rhiw.
Try, eithaf; Tryal.
Twn, ton; Gwndwn, Ton yr Efail, Ton, ger Llanymddyfri, Tyno Coch.
Ty, annedd; Ty DdewL
UL, lleithder; Cwmul.
WN, peth uchaf; ynys: Ynys Dawy.
Yr ydym, yn rhes y gwreiddiau hyn, wedi dangos fod enwau lleoedd yn ein gwlad
wedi cael eu cymmeryd gan mwyaf yn athronyddol o’r Gymraeg, a gwaith hawdd
fyddai ychwanegu y rhif. Rhydd y Dr. Puw wreiddiau y Gymraeg yn 223; Gwrgant
yn 210; ac Arfonwyson yn 292: ac y mae yn debyg y gellid, gyda manylrwydd,
gael holl elfenau yr iaith mewn enwau lleoedd yn ein gwlad; ac ar yr un pryd
gael trysorau o lenyddiaeth athronyddol yn guddiedig yn nyffrynoedd ac ar
fryniau ein gwlad, na feddyliodd nemawr am danynt erioed. Dyweded beilchion yr
oes hon am iselder cymdeithasol ein hynafiaid, y pethau a fynont, yr oeddynt
yn uwch mewn gwreiddiad nag mae neb o honynt hwy wedi amgyffred, ac mewn rhyw
bethau yn uwch nag yn yr oes ffrostfawr bresennol — yn neillduol mewn gosod
enwau athronyddol ar leoedd.
Cymmerasom at gasglu yr enwau, a gwneyd sylwadau arnynt, mewn rhan, er mwyn
ymdrechu dyeithrio ychydig o'r meddwl oddi wrth dymmestloedd geirwon iawn ag
oeddym wedi cyfarfod mewn bywyd; ac oni bai hyny, buasai y rhes enwau yn
llawer llawnach. Afraid mynegu fod hon yn efrydiaeth anwyl genym. Ys dywedodd
yr hen Siencyn Tomos, o'r Cwmdu, —
“Deued gwŷr llên yn dawel,
A'u dyfyr gynghyr heb gei,
A rhoddent, llunient yn llawn,
Fry yn enwog farn uniawn;
A'r anghall na ddeallo,
Dystawed, na feied fo."
GWYNIONYDD.
Gwelliant Gwallau.
Yn agos i ddechreu y bennod gyntaf, yn lle "Tre Gawn," darllener Tregaron.
Eto, yn lle "o Gymraeg neu ydd," darllener, o Gymraeg newydd.
|