kimkat0339k Priodi’r Plant. Beriah Gwynfe Evans. 1898. "Mrs Griffiths," myntwn i fel na, "rown i’n dod hibo i gael sharad gair bach a chi am danyn nhw yn Ty’nywern."

04-11-2017


● kimkat0001 Yr Hafan www.kimkat.org
● ● kimkat2001k Y Fynedfa Gymraeg www.kimkat.org/amryw/1_gwefan/gwefan_arweinlen_2001k.htm
● ● ● kimkat0960k Mynegai i’r testunau Cymraeg yn y wefan hon www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_mynegai_0960k.htm
● ● ● ● kimkat0331k
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion-prys_priodi-r-plant_1898_cyfeirddalen_0331k.htm
● ● ● ● ● kimkat0339k Y tudalen hwn
....

 

0003g_delw_baneri_cymru_catalonia_050111
 (delw 0003j)

 

 

 

 

 

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Gal
·les i Catalunya
The Wales-Catalonia Website

Cywaith Siôn Prys - Testunau Cymraeg ar y We
 

Priodi’r Plant

Beriah Gwynfe Evans
(Papur Pawb. 1898)


Y Llyfr Ymwelwyr / El Llibre de Visitants / The Guestbook:
http://pub5.bravenet.com/guestbook/391211408/



a-7000_kimkat1356k
Beth sy’n newydd yn y wefan hon?

 
---

6665_map_cymru_catalonia_llanffynhonwen_chirbury_070404

(delw 6665)

 

PENNOD IX. - TE YN TANYBRYN.

PENNOD X. - SLYNESS MRS GRIFFITHS, TANYBRYN.

PENNOD XI. - SELFISHNESS MRS GRIFFITHS, TANYBRYN.

PENNOD XII. - IMPIDENS MRS GRIFFIS, TANYBRYN.

PENNOD XIII. - JEST DISHTRIWA’R FONET!

PENNOD XIV.  - DALA SALLY’N CARU.

PENNOD XV. - HALA OFAN AR DIC Y CASTELL.

PENNOD XVI. - FFYSTO MRS GRIFFITHS, TANYBRYN.

 

 

 


None
(delwedd B0905a)

(Papur Pawb. 26 Mawrth 1898). Pennod 9.

PRIODI ’R PLANT:
sef FFWDAN MAM-YN-NGHYFRAITH

(Hawlysgrif yr Awdwr.)

 

PENNOD IX. - TE YN TANYBRYN.

 

"Shwd i chi, Mrs Jones bach?” mynte llaish tu ol ifi, nes ifi jest neido maes o’n nillad.

 

Ro’wn i yn Tanybryn, welwch chi, fel y gwedes a wrtho chi yn y bennod o’r blaen, a’r lodes y forwn wedi credu mai rhyw ladi ddierth o’wn i wedi dod i roi tro am ’i mishtres, ac wedi nhroi i mewn i’r parlwr goreu tra byse hi’n myn’d i weyd wrth ’i mishtres. Ro’wn innau, yn ddigon naturiol, welwch chi, wedi cym’ryd montais o’i bod hi wedi troi ei chefen, i godi i’r glass uwchben y mamplish, er mwyn cael gwel’d os oedd ’y monet i’n gwmws ar ’y mhen, waeth ro’wn i wedi nodo ar hwn a’r llall o’r rhai oedd wedi bowo neu neyd cyrtshi i fi ar y ffordd, a wyddwn i ddim na all’se hyny fod wedi hala’r fonet fach o’i lle.

 

Felny, fe godes i i’r glass gyda bod y forwn wedi troi ei chefen, er mwyn cael gwel’d shwd oedd y fonet ar ’y mhen i, waeth licswn i ddim, wrth gwtrs, i Mrs Griffis neyd sport am ’y mhen i fel gnaeth hi’r tro hyny etho i i’r cwrdd a’r hen diced hyny yn sownd ar gefen yn shaced i.

 

Ond all’swn i yn ’y myw wel’d yn blaen yn yr hen lass. Doedd e’ ddim yn hen lass chwaeth, o ran hyny, ond mewn dull o sharad, glass newydd oedd e’, doedd dim rhyw lawer iawn ’ddar pan brynws Mrs Griffis e’. Ac un o’r hen lasses ffashwn newydd yna oedd e’, un o’r rheiny chi wyddoch, sy’ a shelffi bach ar ’i ochre fe i gyd, overmantels mae nhw’n ’u galw nhw. Does gen i gynnyg iddyn’ nhw’n hunan; well gen i o lawer y pierglasses mawr yna, fel sy’ gyda ni yn Nghwmllydan, a lle gallwch chi wel’d y’ch hunan yn blaen, na’r hen rhai hyn, lle mae’n rhaid i chi hwilo spel cyn gallwch chi wbod p’un yw’r glass i chi a p’un yw glass yr ornaments. Tipyn o hen ffrwmp i gyd oedd gwaith Mrs Griffis yn mynu un felny.

 

Wel, gan ta p’un, rhwng fod yr hen lass yn un mor anhwylus i fi wel’d, a bod y veil gen inne o hyd lawr dros ’y ngwyneb, a finnau, fel gwyddoch chi yn anghyfarwdd pryd hyny a gwishgo veil - dyna’r tro cynta rioed i fi i wishgo un - all’swn i yn ’y myw a gwel’d y’n hunan yn blaen. A dyma fi yn codi’r veil lan i fi gael gwell golwg ar ’y fonet cyn dese Mrs Griffis miwn, myntwn i, ond fel rwy’n gweyd wrtho chi, y peth cynta glywes i oedd llaish tu ol ifi yn gweyd:

 

"Shwd i chi, Mrs Jones bach?”

 

A phan neidiais i rownd, jest a sgrechen gan ofan, dyna lle ’roedd Mrs Griffis yn sefyll jest tufewn i’r drws.

 

Hware teg iddi, wedws i ddim byd am mod i’n dryched yn y glass; ond fe gymres i’r blaen arni trwy weyd:

 

"Ro’wn i’n dryched ar y’ch ornaments chi, Mrs Griffis," myntwn i. "Mae ornaments bach neis ymbeidus gyda chi, yn y ngwir i."

 

"Na, does dim byd neillduol yndy nhw felny; hen rhai bach digon comon ’y nhw," mynte hi,

 

 

 

 

None

(delwedd B0905b)

(Papur Pawb. 26 Mawrth 1898). Pennod 9.

Ond wedws hi ddim gair yto, os gwelwch yn dda, am ’y monet na’n mantle i!

 

Jealous oedd hi, wrth gwrs, ro’wn i’n gallu gwel’d hyny’n nobl, ag un llygad yn nghau. Rwy’n ffaelu a deall y’n hunan beth yw’r hen jealousy dwl yna sy’ mewn rhai pobol. Fydda i byth yn teimlo felny’n hunan, a rw i bob amser yn gweyd mai arwydd o feddwl bach iawn yw rhyw hen jealousy dwl felny. A rwy’n siwr os byse bonet a mantl newydd felny gyda Mrs Griffis, yn enwedig os bysen nhw y fath rhai hanswm a’n rhai i, y gwedswn i rywbeth wrthi am danyn nhw, a hyny’n go glou fach ’hefyd, credwch chi fi; ond wedws madam ddim gair o’i phen am denyn nhw tra bues i yn y ty. Mor od mai rhai pobol, ontefe, nawr?

 

Do’wn i ddim wedi hala i weyd mod i’n dod na dim byd, waeth rfiyngto chi a fi, ro’wn i am ddala Mrs Griffis heb yn wbod, a chael gwel’d shwd le oedd yn Tanybryn pan nag oe nhw’n dishgwl neb dierth. Ond fe ffeiles y tro hyny, hefyd, gan ta beth oedd y rheswm. Falle, dyn a wyr, ei bod hi yn dishgwl rhyw un y pyrnawn hyny, a rheiny heb ddod, Waeth pan ishteddson ni lawr i de, ’roedd pobpeth mor deddi a, phe bae yno bartoians mawr yn mlaenllaw.

 

’Roedd hi’n cym’ryd arni, hefyd, nag oedd dim partoiians o gwbwl - ond fe wn i well.

 

"Pa’m na fyse chi’n hala gair bach i weyd y’ch bod chi’n dod, Mrs Jones?" mynte hi, pan yn arllwys y te. "Fe fyse ni wedi trio partoi rhywbeth i chi wed’yn. Ond fel mae hi, rhaid i chi gym’ryd beth ddaw, yn blaen fel mae e’ gyda ni, welwch chi."

 

"Pidwch gweyd dim gair, Mrs Griffis," myntwn i. "Mae pobpeth yn ddigon da gyda chi i fi, rwy’n shiwr o hyny."

 

A ro’wn i’n gweyd beth o’wn i’n feddwl, hefyd; nid fel Mrs Griffis. Ei hen ffordd wrdrwg hi oedd gweyd dyl’swn i fod wedi hala gair i weyd, er mwyn iddi hi gael amser i wneyd partoians.  ’Roedd gyda hi dishen, a tharten, a chramoethau, a phics, a bara menyn plank, a dou neu dri short o jam, a wn i ddim beth i gyd. A mae’n rhaid i fi gyfaddef fod pobpeth yn ’i flas gyda hi; all’swn i ddim fod wedi gneyd y pethau lawer gwell y’n hunan - a does dim ishe gweyd rhagor na hyny.

 

Dw i ddim yn gwadu na fyse cystal gen i pe bae pethau ddim quite mor daclus gyda hi y diwrnod hyny. Nid fod gen i un hiten at y fenyw chwaith, waeth does dim gen i; ond fyse dim yn ddrwg i gyd gen i chwaeth i allu ei dala hi y tro yma fel dalws hi fi rhyw dro. Fe ddaeth, welwch chi, yn sly bach i Gwmllydan, heb hala i weyd un gair, a hyny ar amser digon stresol. Ro’wn i wedi gadael i Lisa’r ail-forwn fyn’d i’r cae i wasgaru tail, waeth ’roedd y gwrywod yn meusa, a finnau yn gorfod towlu ati. A gan fod y golchi ar ol gan Madden, y forwyn, fe etho i i roi llaw o help iddi yn y twba golchi. Ac os ’y chi yn y fan yna, pwy ddese hibo, a chnoco wrth y drws pan o’wn i yn y gegin fach yn golchi gyda Madlen, ond gwraig Tanybryn. Wyddwn i, wrth gwrs, ddim mai hi oedd hi, neu fyswn i ddim Wedi rhedeg i’r drws fel gnetho i. Ond pan glywes i’r cnoco wrth y drws, dyma fi’n myn’d y’n hunan i wel’d pwy oedd yno. Do’wn i ddim am adel i Madlen fyn’d, waeth

 

 

 

 

 

None

(delwedd B0905c)

(Papur Pawb. 26 Mawrth 1898). Pennod 9.

 

mae merched, fel gwyddoch chi, mor od; falle, byse hi wedi sefyll fan ’ny yn clebran dyn a wyr faint, a ngadel innau i slafo yn ei lle hi gyda’r golchi. Felny, bant a fi sha’r drws, a’n ffroc wedi ’i chodi am ’y nghanol, a’m llewys wedi torchi fyny heibo mhenelin, a’r suds golchi ar ’y mreichie i gyd. A dyna’r fath ddrych oedd arna i, os gwelwch yn dda, pan agores i’r drws, a phwy welswn i fan ’ny mor binc a phei bae hi newydd ddod maes o’r bambocs ond Mrs Griffis, Tanybryn. Wel, wyddwn ddim beth y wedswn i, i wel’d yr hen bishyn wedi nala i felny am unwaith, a shwd ddrych arna i. Ond gwaeth na’r cwbwl, fe wyddwn nag oedd gen i ddim byd yn y ty yn ffit i roi o flaen dyn dierth. Doedd dim cwiddyl arna i, meindwch i, ei bod hi wedi nala i uwchben y twba golchi. Doedd dim ods gen i ei bod hi’n cael gwel’d ’y mod i’n gwbod y ffordd i witho cystal a neb, a fues i ddim nol o weyd hyny chwaeth, meindwch i.

 

Ond ’roedd yn gas gen i nag oedd gen [i] ddim byd yn y ty yn ffit i roi ar y ford, waeth all’swn i ddim pido cisho gyda hi ddod mewn, ac wedi dod mewn i bido cisho gyda hi aros i de - a fe wyddai hi hyny’n brion, rwy’n shiwr o hyny, er ei bod hi’n cym’ryd arni nag oedd hi ddim wedi meddwl aros i de, a mai dim ond jest galw wrth fyn’d hibo oedd hi.

 

Ond fe netho i dipyn bach o dost, mor neised a dostws hi erioed, rwy’n shiwr o hyny, - a ’roedd hi ei hunan yn gorffod cydnabod hyny. Ond doedd dim o’r pethau fel licswn i gwel’d nhw i visitors, ac yn enwedig i Mrs Griffis, Tanybryn. Ond dyna shwd y buodd hi.

 

Ry’ chi’n deall nawr pa’m licswn i fod wedi ei dala hithau rhywbeth yn debyg - ac nid dim un hiten sy’ gyda fi tuagati hi.

 

Ond fe ffeiles. Waeth, fel rwy’n gweyd wrtho chi, ’roedd pobpeth gyda hi i’r tipyn fel pe bae hi’n gwbod mod i’n dod. Ac onibae fod y forwn wedi nghamsyned i am ryw lady fawr pan gnoces i’r drws, fe fyswn i’n credu ei bod hi wedi dod i wbod rywffordd neu giddyl mod i’n meddwl dod yno’r diwarnod hyny.

 

Ond fe rhois i hwsfa fach neis iddi cyn i fi fyn’d oddiyno’r nosweth hyny, fel cewch chi wel’d.


(I’w barhau.)

 

 


None
(delwedd B0906a)

(Papur Pawb. 2 Ebrill 1898). Pennod 10.

PRIODI ’R PLANT:
sef FFWDAN MAM-YN-NGHYFRAITH

(Hawlysgrif yr Awdwr.)

 

PENNOD X. - SLYNESS MRS GRIFFITHS, TANYBRYN.

 

Fe fyse’n well gen i i beidio adrodd beth gymrws le rhyngto i a Mrs Griffiths, Tanybryn, ar ol te y dwarnod hyny, wath fydda i byth yn lico gweyd yn ddrwg nac yn fach am neb. Ond rwy’n cofio’r hen hweddel "Y gwir a saif," a chan y mod i wedi dechreu ysgrifenu hanes y pethau gymrws le’r pryd hyny, run man i ti ddibenu, hyd yn nod os bydd rhaid i gymeriad Mrs Griffiths ddioddef o achos hyny. Chi welwch mai nid y mai i yw e fod Mrs Griffiths wedi dangos beth oedd hi - a beth yw hi yto o ran hyny - ond ei bai hi ei hunan, a does gyda hi neb ond hi ei hunan i ddiolch am fod pawb nawr o hyn mas yn gwbod ei hanes hi drwy "Bapur Pawb" gystal ag y gwn i e’n hunan.

 

Wedi gweyd cyment a hyna i chi gael deall shwd mae pethau’n bod, rwy’n teimlo’n fwy rhydd yn awr i fyn’d mlaen i weyd wrtho chi yn onest beth gymrws le y prydnawn hyny yn Tanybryn.

 

Wedi clirio’r ford, ac i’r forwn fyn’d a’r llestri te mas, fe feddyles mai goreu po gyntaf byswn i’n gweyd y neges. Waeth down i ddim wedi myn’d i Danybryn heb neges, credwch chi fi; fydda i byth yn myn’d i unman heb neges o ran hyny, a chymerswn i ddim llawer am roi lle ac achos i Mrs Griffiths i weyd fod gwraig Cwmllydan yn gallu hala’i hamser i hewcan ar hyd tai cymdogion heb im math o neges.

 

Felny dyma fi’n dechreu arni gyda bod y forwn wedi troi ei chefen.

 

"Mrs Griffiths," myntwn i fel na, "rown i’n dod hibo i gael sharad gair bach a chi am danyn nhw yn Ty’nywern."

 

"Os dim byd mas o le yco os e?" mynte hithau.

 

"O’r anwl nagos! Dim trwy wybod i fi, hyny yw, dim byd newydd, ta beth. Ond chi wyddoch y drafferth mae nhw ynddo fe yco."

 

"Gwn, gwn, wrth gwrs," mynte hithau. "Ond ro’wn i’n meddwl fod hyny wedi cael ei setlo erbyn hyn."

 

"Setlo, wir! Na setlir ddim ohono tra byddan nhw yn Tanybryn rwy’n ofni."

 

"Wel! wel!" mynte hithau, gan godi ei dwylo ar ei harffed. "Ro’wn i’n gobitho fod yr hen fusnes hyny drosodd erbyn hyn. Fe wedws Tomos wrtho i pan rois i’r hanner can’ punt iddo fe dydd Sadwrn diwetha byse hyny’n setlo Davies, yr ocshwner."

 

Wel, gwyddoch chi beth! Wyddwn i ddim beth y wedswn i!

 

Dyna lle ro’wn i wedi dod i Danybryn i sharad am drio gael gyda Mrs Griffiths, i roi’r lle i fyny i Tomos a Siwsan, a dyma fi nawr yn cael clywed am y tro cynta fod rhyw drafferth yn nghylch arian arni nhw, yn Ty’nywern!

 

Ond gwelwch chi mor sly oedd Mrs Griffiths. Fel gwedes i, wyddwn i ddim byd am fod dim trafferth felny ar Tomos; fe

 

 

 


None
(delwedd B0906b)

(Papur Pawb. 2 Ebrill 1898). Pennod 10.

wyddwn, wrth gwrs, ei fod e wedi cael tipyn bach o waith i gael y rhent diwetha at eu giddyl, wrth fel gwyddoch chi mae prisiau anifeiliaid a phobpeth wedi bod mor afresymol o isel fel mai eitha job yw i ffarmwr druan gasglu’r rhent; yn wir, o ran hyny, onibai fod Cwmllydan gyda ni am y talse fe, fe gesen ninnau fwy na digon o waith i gwrdd a’r rhent a’r talau a phob galw sy’n dod ar ffarmwr o bryd i bryd, er mod i yn gneud y goreu o bob cinog, ac wrthi’n hunan yn hwyr ac yn foreu, y cynta lawr yn y boreu a’r diwetha i fyn’d i’r gwely’r nos. Yn wir, onibai mod i’n rowso tipyn bad). arni nhw yn y boreuau, fe fyse rhai ohonyn nhw yn aros yn y gwely yn dil i gwala hyd hanner dydd am wn i.

 

Felny fe wyddwn i fod yn rhaid ei bod hi’n ddigon tyn ar Tomos a Siwsan yn Ty’nywern, ond feddylws y nghalon i ddim i bod hi cynddrwg a hyny arni nhw fod yn rhaid iddi nhw fenthyca arian i dalu dyled ocshwn.

 

A beth oedd yn gwneud y peth yn waeth o’r hanner i fi oedd mod i’n gwbod mai fi, mewn ffordd, oedd yn gyfrifol am fod Tomos wedi prynu yn yr ocshwn hyny. Doedd dim o Tomos am fyn’d yno i hunan, ond gan taw hen ffrynd i fi oedd gwraig y ffarm - Cefnbrith, chi wyddoch, lan sha ardal Llanfynydd fforco - fe’i perswades i e i fyn’d.

 

"Ac os gweli di rywbeth yn myn’d am y talai fe, fyddi di ddim gwaeth o brynu tipyn bach, a ti nei les i’r oeshwn hefyd," myntwn i wrtho fe.

 

Roedd Siwsan yn clywed y sharad.

 

"Wir, mam-yn-nghyfraith, mynte hi. "Mae Tomos yn stresol ymbeidus, ac os nag i chi’n gwasgu’n embed, fe fyse’n well gen i iddo aros gatre."

 

"Oh, arosed e a’i greso," myntwn innau, gan godi i hwilo am y monett – yn nghegin Ty’nywern cymrws y sharad le, welwch chi. - "Arosed e a’i greso," myntwn i fel na, "ond mae’n embed o beth, Siwsan fach, fod dyn yn goffod bod wrthi o ddechre’r flwyddyn i’w diwedd hi na all e byth ffurdo myn’d am ddwarnod mewn shawns, a phan bydd e’n gwbod y licse ’i fam iddo fyn’d er mwyn gwneud cymwynes a hen ffrynd iddi. Ond dyna beth w i’n sharad! Beth yw ffrynd i fam i Tomos? Mae gydag e ffrynds erill erbyn hyn."

 

A fe gitshes yn y monet i gael ei rhoi hi am y mhen.

 

"Be chi i’n neud, mam-yn-nghyfraith?" mynte Siwsan, gan gitsho yn string y fonet. "Ewch chi ddim oddyma cyn te yn y ngwir i, neu fydda i ddim bolon i chi, dyna chi. Ishteddwch lawr, fe dacla i de mewn wincad."

 

"Na newch, Siwsan fach, ddim ar y nghownt i," myntwn i. "Os yw hi mor stresol arnoch chi fel na all Tomos fyn’d i ocshwn Cefnbrith ar y nghaish i, rwy’n siwr fod gyda chithe reitach gwaith, y merch i, na myn’d i bartoi te i bob rhyw un ddaw hibo’r ty."

 

Roedd Tomos wedi codi ar ei draed erbyn hyn, ac wedi myn’d i ddrychad maes trwy’r ffenest, a’i gefen arno i.

 

Rhyw hen dric bach yw hyny mae e wedi ddysgu gyda’i dad, welwch chi. Dyna shwd bydd Dafydd yn gneud yn amal iawn. Os bydda i’n diclaro am rywbeth neu giddyl, yn lle’n ateb i yn wyneb-agored, fe godith a

 

 

 

 

 

 



 

 

 


None
(delwedd B0906c)

(Papur Pawb. 2 Ebrill 1898). Pennod 10.

 

fe eith i ddryched mas drwy’r ffenest, heb weyd falle "bw" na "ba," ond sefyll fan ny fel delff. A fel bydd natur y cyw yn y cawl, welwch chi, mae Tomos wedi dysgu’r un tric gan ei dad.

 

Ond rwy’n nabod y ddau yn eitha da, a rwy’n deall mor blaen a phe bai nhw’n sharad beth sydd yn eu meddwl nhw. Mas natur penwan mae nhw pryd hyny’ch dou, ond eu bod nhw’n trio pidio dangos i fi, welwch chi.

 

Mas natur gyda Siwsan mynta oedd Tomos, welwch chi, am ei bod hi wedi’n nghroesi i, a fe welws Siwsan hyny hefyd yn brion, wath dyma hi’n newid ei chan, ac yn gweyd: -

 

"Dewch, mam-yn-nghyfraith, wir, ishteddwch lawr, a fe drefnwn i’n rhyngto ni a’n giddyl i Tomos gael myn’d i ocshwn Cefnbrith."

 

Mae hen ffordd fach neis ymbeidus, welwch chi, gan Siwsan, a rw innau’n un go rwydd i’n nhroi, fel gwddoch chi, ac fel gwydde Siwsan yn nobl, a felny fe ishteddes yno, neno’r anwl, i gael te gyda nhw, a wir, hware teg iddi, roedd pobpeth yn ddigon neis gyda hi hefyd, dim ishe gwell.

 

Ond fel rwy’n gweyd wrtho chi, fe a’th Tomos i’r ocshwn i Cefnbrith, a fe na’th ffwl o hono’i hunan yno.

 

Chi wyddoch shwd mae gwrywod mewn ocshynau, lle ca nhw lymed bach am ddim. A ’roedd gwraig Cefnbrith wedi dodi licer yn helaeth yn y faril gwrw i’r ocshwn, ac un o wendidau Tomos ni yw ei fod e’n ffond o ddropyn bach. Wel, ta beth, dyna shwd buodd hi, ’roedd y cwrw a’r licer yn rhydeg yn yr ocshwn fel dwr, a fe fynws Tomos ni ei shar o’r ffrwd, a’r diwedd fu, ta beth, iddo fe brynu lot o hen drangwns nag oe nhw ddim gwerth braidd i hala i mhoyn nhw oddyno - neu o leia fy wedws yr ocshwner fod Tomos wedi eu prynu nhw. Falle taw do fe, falle na ddo fe, waith cetyn blagard a mwy na hanner rog yw yr ocshwner hyny, ac os dim dowt gen i na chymrws e fantais ar Tomos i ddodi i enw fe lawr fel prynwr am y pethau oedd e’n ffeilu cael pas arni nhw i neb arall. Ond gan ta pun am hyny fe ddaeth bill bach neis i Twm druan, am yn agos i drigen punt, ac am bethau nag oe nhw ddim yn werth cwarter hyny.

 

’Nawr dyma’r arian ocshwn oedd Mrs Griffiths, Tanybryn, wedi dalu dros Tomos, yn sly fach, heb weyd gair wrtha i nes own i yno gyda hi ar de y dwarnod hyny, fel rwy’n gweyd wrtho chi.

 

Welsoch chi beth mwy sly erioed yn eich bywyd? Pan na fyse’r fenyw, pan glyws hi fod Davies, yr ocshwner, yn bwgwth dodi Tomos yn y cwrt, pa’m na fyse hi yn dod ata i ac yn gweyd wrtha i, ac os oedd hi’n moyn rhoi, neu roi menthyg hanner can’ punt, pam na fyse hi’n gweyd wrtha i ei bod hi’n myn’d i neud hyny? Dyna, fyse’n reit fyse hyny. Ond na!  ’Roedd yn rhaid iddi hi fod yn sly yn hyny, fel yn mhobpeth arall, welwch chi, a gwneud y peth yn ddishtaw bach, a’i gadw e orwtha i cyd a galse hi, a cheswn i ddim gwbod am dano fe yto am wn i onibai iddi hi ddigwydd ei brathu hi pan ddechreues i sharad am Ty’nywern. Gwedwch chi os nag oedd peth felny yn ddigon i hala un sant mas natur.


(I’w barhau.)

 

 

 


None
(delwedd B0907a)

(Papur Pawb. 9 Ebrill 1898). Pennod 11.

PRIODI ’R PLANT:
sef FFWDAN MAM-YN-NGHYFRAITH

(Hawlysgrif yr Awdwr.)

 

PENNOD XI. - SELFISHNESS MRS GRIFFITHS, TANYBRYN.

 

Wel rw i wedi dangos i chi slyness Mrs Griffiths, Tanybryn; gadewch i fi weyd gair yto am i selfishness hi. Rhaid i chi fyn’d yn agos iawn at rai pobol cyn u nhabod nhw. Ac un o’r rheiny yw gwraig Tanybryn – neu run oedd yn wraig yn Tanybryn yr amser w i’n ysgrifenu yn ei gylch e; mae’r fenyw fach sydd yno nawr yn un fach brion - trwy mod i wedi bod yn dryched tipyn bach ar ei hol hi. Ond am Mrs Griffiths, Tanybryn, tipyn o job oedd i chi i nhabod hi. Nid pob un oedd yn ei nhabod hi - a nid pob un allse chwaith. Chi allsech feddwl na thoddsai ddim o’r ’menyn yn ei phen hi gan mor ddiniwed oedd hi’n dryched. Ond shengwch chi ar i throed hi, dyna i gyd - a chi gewch wel’d!

 

Ond twlled hi pwy dwyllo hi, rown i’n nabod yr hen ladi yn bur dda cyn i fi fyn’d i Tanybryn y dwarnod hyny; ond er cystled own i’n ei nhabod hi o’r blaen fe ddetho i’w nhabod hi’n well y dwarnod hyny nag erioed o’r blaen - a thipyn o job oedd hyny.

 

Rw i wedi towlu unwaith neu ddwy ei bod hi’n ddigon hardup ar Tomos ni a Siwsan, Tanybryn, yn Ty’nywern. Hen le digon gweithgar yw Ty’nywern, fel y gwyddoch chi, llawer o dir gwlyb a gwrthwyneb haul yndo fe, ac yn gofyn fod dyn wrthi yn gyson o foreu tan nos o ddechreu’r flwyddyn i’w diwedd hi, er mwyn cael dou pen y llinyn yn nghyd yn oilyn bach. Dw i ddim yn gweyd nag oedd peth bai ar Tomos. Fe’ withiff Tomos ni fel ceffyl pan bo fe’n lico, - ond rhaid gweyd y gwir does dim cymaint o stic yndo fe ag sy yn i fam, mae e’n tynu mwy ar ol ochor ei dad, welwch chi. Ond wir mae’r hen le yn Ty’nywern yn ddigon i dori calon dyn - os na fydd e yn ods na’r cyffredin; ac er nag w i ddim am geseilo dim ar Tomos, fues i eriod yn un i godi llawes y plant, eto i gyd rhaid i fi gydnabod nag own i ddim yn synu rhyw lawer fod Tomos yn gwneud ambell i fws ohoni yn awr ag eilwaith, fel y gwnaeth e yn yr ocshwn hyny, chi wyddoch. Roedd bai arno fe os dim dowt, a rw i yn cydnabod fod e, a dw i ddim yn trio gweyd mai ar Siwsan, y ferch-yn-nghyfraith, yr oedd y bai, er, falle, gallse hi wneud yn well mewn rhai pethau.

 

Rown i wedi dechreu hinto o bell i Mrs Griffiths beth own i’n feddwl yn nghylch pethau yn Ty’nywern, pan oe ni ar de, a chyda’n bod ni wedi dibenu, a dyna shwd daeth yr hanes mas, welwch chi, am ei thric sly hi gyda’r hanner can’ punt hyny rhows hi fentyg i Tomos ni, heb weyd gair wrtha i yn nghylch y peth. Ond nawr fe feddyles fod yr amser wedi dod i fi i dynu pen ar y peth.

 

Felny dyma fi’n troi ati, a mynte fi: -

 

“Oh, ie, yn nghylch Ty’nywern, Mrs Griffiths."

 

"Ie," mynta hithau, gan esgus tynu briwsionyn bach oddar ei ffedog shidan ddu.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 


None
(delwedd B0907b)

(Papur Pawb. 9 Ebrill 1898). Pennod 11.

Rown i wedi bod yn meddwl yndw i’n hunan fod Rhagluniaeth yn rhoi llawer gwell byd i ambell un na’i giddyl. Meddylwch nawr am wraig fferm yn gwishgo ffedog shidan ar brydnawn dwarnod o waith fel ny nawr. Ond fe gnoies i’n nhafod i bido gweyd dim y pryd hyny, gan fod gen i fusnes arath mewn llaw - a rown i’n cofio hefyd am y fantl a’r fonet a’r veil oedd gen innau, a down i ddim am roi lle iddi hi droi arna i fel gnelsai hi mewn mynyd tai hi’n cael y tipyn lleia o gyfle.

 

Ond gwelwch chi shwd atebws hi fi.

 

"Ie," mynte hi yn dawel fach fel na, heb gymryd arni ddim byd, a fel ny yn y ngorfodi innau i ddod maes a’r hyn oedd gen i.

 

Ond os oedd hi’n meddwl y gallse hi’n nhroi i orwth y mwriad fe gamsynws i chwstwmer o gryn dipyn bach hefyd. "Ie," myntwn i, "sharad oe ni amboutu nJnhw yn Tyn’ywern. Hen le digon trafferthus i’w witho yw Tyn’ywern, fel gwyddoch chi."

 

“Ie," mynte hithau wed’yn, yn esgus tynu blewyn oddar lewys i blows, lle nag oedd dim blewyn i gael ne fe fyswn i wedi sylwi arno fwy na thebyg. Dw i ddim yn dyall y’n hunan beth sydd gan fenywod o oedran Mrs Griffiths i wishgo blowsus o gwbl. Mae nhw’n brion i hen grotesi bach os licwch chi, ac i wragedd ifenc - mae un gyda Jane ni yn Llety’r Ywen, ac mae yn ei gweddu hi’n nobl hefyd. Ond am fenyw o oedran Mrs Griffiths mae’n beth arall. Ac i feddwl am dani hi yn gwishgo blows shidan fel ny, doedd dim synwyr yndo fe.

 

Rwy’n shiwr mai er mwyn tynu’n sylw i at y flows yr oedd hi’n esgus tynu’r blewyn hyny bant oddar y lawes, a dyma hi’n gweyd: -

 

"Mae gyda chi flows bach neis, Mrs Griffiths," wath gan fod gen i rywbeth ishe i weyd wrthi fyse’n debyg o godi i gwrych hi, fe feddyles byswn i’n tynu llaw dros ben ci drwg yn nghynta, welwch chi.

 

"Os," mynte hi. "Mae gen i olwg fawr ar hon. Presant orwth Siwsan yw hi, geso i ganti ar y nydd ben plwydd, yr wthnos ddiwetha."

 

Ond meddylwch nawr am Siwsan! Myn’d i hala i harian fel ny ar amser pan oedd hi’n ddigon caled ar Tomos, i gwr, mor galed nes oedd e’n gorffod benthyca hanner can’ punt oddar i fam-yn-nghyfraith, heb weyd gair wrth i fam! A Siwsan yn y cyflwr hyny yn myn’d i roi blows shidan yn bresant i fenyw fel gwraig Tanybryn oedd a digon o fodd gyda hi ishws! Gwedwch chi os nag oedd gyda hi ffitach gwaith i wneyd a’i harian na shwd beth hyny.

 

Wyddwn i ddim beth y wedswn i, ond fe wedes gyment a hyn: -

 

"Oh," myntwn i, "mae’n dda gen i ddeall fod gan Siwsan ddigon o arian yn i phoced i hala ar ryw gwafers fel na mae’n ddigon tyn ar Tomos gan ta pun, a dyna beth own i’n dod yma yn ei gylch e heddy fwya."

 

"Ody Tomos wedi bod yn achwyn wrtho chi, Mrs Jones?" mynte hi gan edrych yn y ngwyneb i.

 

"Oh, nag yw," myntwn innau’n sych fach. "Mae gan Tomos le arall i fyn’d i arllwys i gwdyn heblaw dod at i fam i hunan fel gellsid dishgwyl i ddyn wneud."

 

 

 


None
(delwedd B0907c)

(Papur Pawb. 9 Ebrill 1898). Pennod 11.

 

"Pidwch ag achwyn dim am hyny, Mrs Jones," mynte hithau’n nol. "Fe gesoch chi’ch arbed rhag talu drosto, gadewch iddo."

 

A dyna beth geso i fel baw i’n nannedd, welwch chi, am y mod i wedi hinto’n ffein y dylse Tomos agor i feddwl wrth i fam yn lle wrth ryw un dierth fel Mrs Griffiths, Tanybryn. Ond fel y gwedes i wrth Dafydd ni’r nosweth hyny wrth adrodd y stori, ac yntau’n trio amddiffyn Mrs, Griffiths. "Beth allwch chi ddisgwl gan ddonci ond cic?” - a fe gas Dafydd lon’d i ben. Wn i ddim pwy oedd e’n feddwl oedd y donci, p’un ai fe ai Mrs Griffiths, a does dim llawer o ods gen i chwaith; ond fe gas e lon’d i ben ta beth, a fe drows ar yr ochor arall yn y gwely, ac fe ath i gysgu fel dormws.

 

Ond doedd hi ddim lawn mor rhwydd dodi stop ar Mrs Griffiths, Tanybryn, ag yw e ar Dafydd ni. Ond fe’i hatebes i’n ddigon parod.

 

"Oh," myntwn i, "falle fod y rhai sy ddim yn gorffod advanso’r arian yn teimlo llawn cyment falle a’r rhai sydd. Ond mae gen i beth pwysicach i sharad yn i gylch e’n nawr na ryw hanner can’ punt bach o gownt ocshiwn."

 

Wel dyma hi’n gwynu i chi, a fe welais y mod i wedi rhoi ergyd iddi, a doedd dim o hyny’n ddrwg i gyd gen i chwaith.

 

"Beth sy’n bod ynte?" mynte hi.

 

"Hyn sy’n bod," myntwn innau. "Mae’n rhaid iddyn nhw madel o Ty’nywern."

 

"Sonson nhw ddim gair wrtha i bod nhw wedi cael notis," mynte hi.

 

"Sonies innau’r un gair am notis, am wn i," myntwn innau, waeth rown i am boeni tipyn bach arni, waeth roedd yr hanner can’ punt hyny, a’r dull sly oedd hi wedi gymryd yn eu cylch nhw yn aros ar bilen y mola i o hyd, welwch chi.

 

"Os dim o chi’n gweyd fod Tomos am fyn’d bant i’r Merica!” mynte hi gan godi ar i thraed.

 

"Y mowredd anwl, nag w i yn shiwr!" myntwn innau, waeth roedd cyment o ofan arna i ag a allse fod arni hi i wel’d Tomos yn myn’d bant i ’Merica, a roedd e wedi son unwaith neu ddwy byse fe’n gallu i gneud hi’n well yn y ’Merica nag yn y wlad hyn. Ond rhois i ddim cefnogaeth eriod iddo feddwl am hyny.

 

"Beth wyt ti’n lapan, fachgen," fyswn i’n weyd wrtho fe pan fyse fe’n son am fyn’d i ’Merica. "Bachan neis wyt ti i fyn’d i ’Merica, ond te fe? Fentra i byddi di dipyn bach yn barotach i ddod nol unwaith yr ei di yno nag wyt ti yn awr i fyn’d yno. Wyt ti wedi anghofio Wil Cwmdows gwlei?  ’Roedd golwg net arno fe’n dod nol o’r ’Merica, ond doedd e? Heb ddim cerpyn ar i gefen e just iawn! A fe licset ti fod fel ny, licset ti? ’Merica, wir! Gofyn iti son am ’Ferica!”

 

Dyna shwd gefnogaeth gas Tomos gen i bob amser byse fe’n son am fyn’d i’r ’Merica yn y nghlyw i. Ond wrth glywed Mrs Griffiths yn gweyd fel na, fe ddechreues i feddwl falle fod rhywbeth yn bod na wyddwn i ddim byd am dano fe, a fe benderfynes i fynu cael y cwbwl maes ar unwaith.
(I’w barhau.)


 

 

 

 


None
(delwedd B0908a)

(Papur Pawb. 16 Ebrill 1898).

 

PRIODI ’R PLANT; sef FFWDAN MAM-YN-NGHYFRAITH

 

(Hawlysgrif yr Awdwr.)

 

PENNOD XII. - IMPIDENS MRS GRIFFIS, TANYBRYN.

 

’Doedd dim ohono i’n myn’d i adael i Tomos ni fyn’d i’r ’Merica os gallswn i stopo fe, a fues i ddim nol o weyd hyny wrth Mrs Griffiths chwaith.

 

"Wel, wn i ddim wir," mynte hi, gan smwtho ’i ffedog shidan wed’yn. "Wn i ddim wir. Fe fyse’n ddigon annodd gen innau wel’d Siwsan yn myn’d i’r ’Merica, ond falle gnelsen nhw hi’n well yno nag yn y wlad yma, a dyna beth ddylse bod gyda ni mewn golwg, wrth gwrs."

 

Wyddwn i ddim beth y wedswn i, i glywed y fenyw yn sharad fel’ny mewn gwaed oer am hala’i merch i hunan, heb son am y machgen i, i’r ’Merica.

 

“Na," myntwn i. "Mae’n rhaid i ni hwilo am ryw ffordd arall u cadw nhw yma."

 

“Ie, ie," mynte hi. "Ond shwd mae gneud hyny, dyna’r cwestiwn."

 

Ac os dy chi yn y fan yna, fe dynws hancitsher poced mas o’i phoced, a fe sychws gornel i llygad - os nad esgus llefen oedd hi, alla i ddim gweyd am hyny.

 

Ond fe weles i nawr shawns i ddod a’r peth oedd gen i yn mlaen yn llwybrus.

 

“Y ffordd u cadw nhw yma," myntwn i, gan esgus droi cydyn o’n ngwallt nol tu ol i’ nghlust. "Y ffordd u cadw nhw yma Mrs Griffis yw cael gwell lle iddyn nhw."

 

Digon rhwydd sharad am gael gwell lle," mynte hi, "ond ffindo’r lle, dyna’r pwnc. Fe wyddoch yn nobl fod yna ddwsen yn cisho am bob un aiff yn rhydd."

 

“Os, os, maen eitha gwir. Ond y peth ag e yw hyn - ellid dim perswado rhywun i wneud lle rhydd ar gownt peth fel hyn."

 

Fe edrychws yn y ngwyneb i, ond wedws hi ddim. Wed’yn dyma fi’n myn’d yn mlaen.

 

“Hen le trafferthus ymbeidus yw Ty’nywern, fel gwddoch chi, yn ddigon i dori calon par ifanc fel Siwsan chi a Tomos" - own i’n enwi Siwsan yn nghynta yn bwrpasol. "A mae’n embed o beth tori calon par ifanc fel na pan yn jest starto ’u bywoliaeth." 

 

Stroc dda oedd hona hefyd, neu felly own i’n deimlo ta beth, a dyna pam gwedes i hi, wath fydda i nemor byth yn sharad heb ystyried beth w i’n weyd.

 

Ond wedws hi ddim byd wed’yn, ond ’roedd hi’n llyncu’r cwbwl fel ny hefyd, cofiwch chi.

 

Fe ddylse par ifanc fel na cael mwy o le i sweio nag sy yn Tyn’ywern," myntwn i’n ymhellach. "Mae digon o fyn’d yn Siwsan tae hi’n cael hanner hware teg; ac er taw fi sy’n i weyd e mae Tomos yn gystal bachgen a garnodd eriod rwy’n siwr o hyny. Ond pwy shawns sy i’r naill na’r llall yn Tynywern gwedwch chi."

 

“Dyna beth oedd Siwsan yn weyd pan yn gweyd fod Tomos yn son am fyn’d i’r ’Merica,” medde hi o’r diwedd.

 

“’Merica wir! Fe roia i ’Ferica iddo fe pan gwela ie! [sic; = i e] Na! Diolch i’r mowredd!

 

 

 

 

 


None
(delwedd B0908b)

(Papur Pawb. 16 Ebrill 1898). Pennod 12.

does dim ishe iddyn nhw fyn’d i’r ’Merica tra bo tiroedd i gael yn y wlad yma! Ishe fferm well, a fwy o size, tir da, tir llafur a thir blith, sy arnyn nhw - a rw i’n camsyned yn fawr os na allwn ni rhynti ni a’n giddyl ffindo lle felny iddyn nhw, a hyny Wylhengel nesa ed!”

 

Fe edrychws yn syn yn y ngwyneb i am funed, a dyma hi’n gwenu’n fwy serchog nag y gweles i hi er’s llawer dydd.

 

"Ond beth neiff y rhai sy yn y ffarm fawr hyny nawr, Mrs Jones?" mynte hi.

 

"Oh!” meddwn innau, "waeth rown i wedi stydio’r peth mas, welwch chi. Dyna Ty’nylon, welwch chi, yn hen le bach twt i wala, yn lle bach prion i rywun ffurdo pido slafo rhyw lawer. A wir, fel gwddoch chi, Mrs Griffis, dyw dyn ddim yn dod i lico slafo’n fwy fel bo fe’n myn’d yn henach."

 

"Mrs Jones," mynte hi, gan godi oddar y stol, a dod i ishte ar stol arath ar bwys y’n ochor i, a tharo ’i llaw os gwelwch yn dda ar y’n ysgwydd i." "Mrs Jones," mynte hi, "rwy’n ofni mod i wedi arfer meddwl yn rhy galed am dano chi."

 

"Synwn i ddim," meddwn innau, ond yn ffaelu deall beth oedd genty chwaith. "Ond os dy chi, nid chi yw’r unig un sy wedi gwneud cam a fi, mynta."

 

"Ond wir, Mrs Jones, rhaid i fi weyd y gwir wrtho chi, chredes i eriod o’r blaen y’ch bod chi’n meddwl cyment am gysur Tomos a Siwsan.”

 

"Fe allsech feddwl yn brion," myntwn i’n sych fach.

 

"Ond rwy’n gwel’d nawr mai’r gair garwa’n mlaena sy gyda chi, Mrs Jones, a bod y’ch calon chi yn i lle."

 

"Odi wy’n gobitho!” myntwn innau, ond yn ffaelu deall o hyd beth allse fod gyda hi yn ei phen.

 

"Fyswn i byth yn meddwl am dano chi, Mrs Jones," mynte hi’n mhellach, "y bysech chi’n towlu cyment a hyna arno chi’ch hunan yn nghylch y plant."

 

"Oh," myntwn innau. "Tae gyda chi gyment o blant a sy gen i, ac wedi arfer meddwl a threfnu a ffwdanu cyment yn u cylch nhw ag w i, fysech chi’n synu dim llawer mod i wedi trio trefnu rhywbeth fel hyn er lles Siwsan a Tomos."

 

"Ie," mynta hi wed’yn, "ond meddyliwch am roi eich lle i fyny a myn’d i fyw i le bach fel Ty’nlon wedi arfer mewn lle mawr."

 

"Oh, dyw hyny ddim gormod o beth lle bo cariad at y plant," meddwn innau.

 

"Ond beth wnaiff y plant erill?" mynte hi.

 

"Pwy blant erill?" gofynais innau. "Wyddwn i ddim fod dim plant gyda chi ond Siwsan."

 

"Nage, nage, nid y mhlant i, ond eich plant chi, Mrs Jones, Sally a Florrie, rwy i’n feddwl."

 

"Sally a Florrie!" myntwn i. "Beth yn neno’r anwl sy a wnelon nhw a’r cwestiwn?”

 

"Ond fe fydd yn hwith iawn iddyn nhw," mynte hithau wed’yn.

 

"Na fydd yn hwith yn y byd iddyn nhw, am wn i," atebais innau. "Rwy’n ffeulu gwel’d pwy gonsern yw e iddyn nhw o gwbl."

 

"Goreu i gyd os na fydd e," medde hithau. "Ond ofni own i a gweyd y gwir, byse’r

 

 

 


None
(delwedd B0908c)

(Papur Pawb. 16 Ebrill 1898). Pennod 12.

 

merched yn ei gwel’d hi’n fwy hwith na chi i fyn’d o Gwmllydan i Dy’nlon."

 

"Beth y wedsoch chi!" myntwn i, bron ffeilu credu nghluste.

 

"Gweyd mod i’n ofni byse Sally a Florrie yn ei theimlo’n fwy hwith na chi i fadel o Gwmllydan i le bach fel Ty’nlon."

 

A nawr y deallais i slyness yr hen greadur.  ’Roedd hi wedi bod yn esgus meddwl mod i’n gweyd yr ese Dafydd a finnau o Gwmllydan er mwyn gneud lle i Siwsan a Tomos! A finnau, wrth gwrs, yn meddwl am iddi hi fyn’d o Danybryn!

 

"Y mowredd anwl!" myntwn i gan neido ar y’n nhraed. "Chlywais i ddim shwd impidens eriod! Odd chi’n meddwl towlu y dylse Dafydd a finnau fyn’d o Gwmllydan fenyw!”

 

"Ai nid hyny oe chi’n ei feddwl i" mynte hi, yn cochi fel y gwaed.

 

"Wel, nage e, wrth gwrs! Awgrymais i ddim byd fath beth! Gweyd ow’n i y gallsech chi’n nobl fyn’d o Danybryn i Ty’nlon - fyse fe ddim yn llawer o dowlad i chi dim ond y’ch hunan."

 

Wel, fe gilws y gwrid coch o’i gwyneb hi, a fe ddaeth fel y galchen - eitha arwydd ei bod hi wedi cael ei chynhyrfu drwyddi.

 

"Oh," mynte hi. "Rwy’n ddiolchgar anghyffredin i chi, Mrs Jones, am fod mor garedig a threfnu musnes i drosto i. Ond os nag yw e’n wahaniaeth mawr geno chi mae’n well gen i drefnu mywoliaeth y’n hunan, diolch i chi."

 

A dyma hi’n canu’r gloch, a’r forwm yn dod mewn.

 

"Mas Mrs Jones yn moyn ei bonet a’i mantl," mynte hi wrth y forwm, er nag own i wedi gweyd dim gair am danyn nhw - ond mae rhai dynon mor od, welwch chi.

 

Wrth gwrs, etho i ddim i weyd wrth y lodes am bido dod a nhw - ro’wn i mor barod i fyn’d odd yno, credwch chi fi, ag oedd Mrs Griffiths i gael y ngwared i. Rw i’n gwbod y ffordd i fod cuwch cwd a ffetan a Mrs Griffis pryd myn hi, hi all fentro hyny, druan a hi!

 

Ond meddyliwch am impidens y fenyw!

 

Yn dishgwl i Dafydd a finnau roi Cwmllydan fyny iddi merch hi, os gwelwch yn dda! Hy!

 

A wyddoch chi beth, rown i gyment mas natur yn myn’d odd yno, nes yr anghofies wishgo’r veil nol dros y ngwyneb, a dyna lle ’roedd hi yn hofran yn y monet i a golwg neis arna i’n myn’d nol drwy’r pentre.

 

A hyny i gyd o achos impidens Mrs Griffis, Tanybryn.

 

Danco hi!

 


(I’w barhau.)

 

 


None
(delwedd B0909a)

(Papur Pawb. 23 Ebrill 1898). Pennod 13.

PRIODI ’R PLANT:
sef FFWDAN MAM-YN-NGHYFRAITH

(Hawlysgrif yr Awdwr.)

 

PENNOD XIII. - JEST DISHTRIWA’R FONET!

 

Dyna chi’n gwe’ld rhywbeth nawr y’ch hunan o slyness, a selfishness, ac impidens Mrs Griffiths, Tanybryn. Ambell waith iawn fydda i’n myn’d ma’s natur, ond rwy’n cyfadde i fyn’d ma’s natur penwan y pynawn hyny. Meddylwch am y fenyw ofnadwy, gystal a’n nhroi i ma’s o’r ty am ddim ond mod i’n meddwl am les ’i phlentyn hi ei hunan. Waeth, wedi’r cwbwl, plentyn Mrs Griffiths, Tanybryn, yw Susan, ’y merch-yn-nghyfraith - fel mae gwaetha’r modd iddi hi, druan bach! Rwy’n meddwl beth pe bai gan Tomos fam fel sy’ gen Siwsan. Dyna lle byse amser!

 

Wedi i fi gyrhaedd gatre, fues i fawr o dro cyn newid y’n nillad, ond ro’wn i wedi cynhyrfu cyment, welwch chi, nes i fi anghofio brwsho’r mantl a’r fonet a’u dodi nhw gadw o’n llaw. Rwy’n arfer gneyd hyny stil hefyd; ond netho i ddim o hyny’r prydnawn hyny, a dyna’r gwir, a dyna ddigon i brofi mod i wedi cynhyrfu hyd waelod ’y nghalon - ac nid heb achos chwaith, fel ry chi’n gallu gwel’d yn nobl y’ch hunan erbyn hyn. Ond os do fe, fe geso i dalu’n ddigon prid am hyny. Roedd Madlen wedi cym’ryd montes, welwch chi, ar ’y mod i maes y prydnawn hyny i fyn’d i lanhau’r parlwr  gore, a phan detho i nol o Danybryn, ’roedd hi newydd ddybenu sgubo’r llawr. Doedd e’ ddim wedi cael eitha sgubad felny o’r blaen os tipyn bach, a felny, wrth gwrs, ’roedd llawer o luwch yn yr hen garpet a phobman, a hwnw i gyd wedi codi i’r awyr wrth ’i sgubo fe. Ond ystyries i ddim byd o hyny, welwch chi, ond miwn a fi fel bollt i’r parlwr gore pan ddois i gatre, a bant a’r fantl a’r fonet fan ’ny, a’u towlu nhw ar y ford, a ma’s a fi, gan geued y drws ar y’n ol, ac i’r parlwr bach i gae1 newid ’y ngwn, waeth ar yr hol wrth gefen drws y parlwr bach rwy’n cadw’r gwn fydd gen i yn y prydnawne, - mae yn fwy cyfleus, welwch chi, na’i ddodi e’ yn y dreiars nol ag yn mlaen o hyd. Fues i ddim wincad wrth hyn, a nol a fi i’r gegin.

 

"Madlen," myntwn i; "b’le mae’ch mishtir?"

 

"Maes ar y ceie, am wn i," mynte Madlen "Fe aeth ma’s odd’yma ar ol te, gan ta p’un, a weles i byth mohono fe."

 

"Odi chi wedi tynu’r hufen?"

 

"Odw, fe netho i hyny’n gwmws ar ol te."

 

"Wel, mae ishe i chi fyn’d i droi’r caws ar  y garet ynte, dw i ddim yn hido am fyn’d i ddringad y steire yna heno."

 

"Meddwl myn’d i ddybenu yn y parlwr o’wn i, mishtres," mynte hithe.

 

"Fe all y parlwr aros, all y caws ddim," myntwn innau; a bant a hi heb un gair yn rhagor.

 

Mae merched mor od, welwch chi! Tyse fawr gen i iddi weyd wrtha i ’i bod hi ar hanner glanhau’r parlwr, ac yn aros i’r lluwch gael setlo cyn myn’d i dynu’r lluwch

 

 

 


None
(delwedd B0909b)

(Papur Pawb. 23 Ebrill 1898). Pennod 13.

 

yno. Tae hi wedi gneyd hyny, fe fyswn innau, fase ddigwydd, wedi cofio am ’y monet a’n mantl i yno, ac wedi myn’d i’w cael nhw ma’s cyn byse nhw rhyw lawer gwaeth. Ond na, wedws hi ddim gair o’i phen, ond bant a hi i’r rwm caws, a bant a finnau amboutu rhyw fusnes arall.

 

Ond bore tranoeth, pan etho i i mewn i’r parlwr gore i moyn rhywbeth, dw i ddim yn cofio yn awr beth, y mawredd anwl! Fe gredes fod y mantl a’r fonet wedi dishtriwo am byth! Fyse fe ddim syndod yn y byd tyswn i wedi ffainto yn y fan gan y fath olwg oedd arnyn’ nhw!

 

’Roedd y fantl yn gyfer o luwch gwyn bob tamed, a’r fonet yn ymddangos ar y cynta ddim llawer gwell. Ry’ chi’n gwel’d, ’roedd y lluwch wedi dishgyn heb hido dim byd p’un ai ar y fantl, ai y fonet, neu ar y ford a’r llawr y byse fe’n dishgyn.

 

Fe gredes bod nhw wedi dishtriwo am byth.

 

Nawr, rwy’n gadel arno chi’ch hunan i weyd os byse gan rywun rywbeth i weyd wrtha i tawn i wedi myn’d ma’s yn streit, a rhoi i Madlen ddwl y rowsad gore a’r pryd pena o dafod gas hi eriod yn ei bywyd. Dyna oedd hi’n haeddu gael, a dyna falle ddyl’se hi gael; a dos  dim dowt gen i nad dyna gese hi pe bae hi gyda Mrs Griffiths, Tanybryn, yn lle gyda fi.

 

Ond dw i ddim yn un wyllt y’n nhymher felny. Er mod i’n gwel’d ac yn gwbod yn eitha da mai Madlen oedd wedi dishtriwo’n monet a’n mantl i, etho i ddim i gadw dim row a hi; wedes i ddim gair o’n mhen wrthi.

 

Fe glois y drws arna i, a fe gym’res y brwsh dillad o’r dror, a fe beinses a fe beinses wrth y fantl am yn agos i awr o amser, nes i fi ei chael hi yn anghyffredin o dda, ac ystyried a wed’yn, fe’i plyges hi, a’i dodes hi gadw yn y dror lle rwy’n cadw’n nillad parch gore. Wedi cael y fantl yn oilyn bach, fe ddechreues ar y fonet, gan ofni yn ’y nghalon fod hono’n shwr o fod wedi dishtriwo’n lan. Ond falle na chredech chi ddim, doedd hi ddim!

 

Dyma shwd oedd hi wedi digwydd, i chi gael gwe1’d nawr fel mae peth bach weithe yn dylanwadu ar beth mawr. Ro’wn i, pan rois i’r fonet ar y ford, wedi dod nol o Danybryn, wedi towlu’r veil, neu’r fall, o’n llaw ar ei hol hi ar y ford. A fel ’roedd gore’r lwc, fe ddigwyddws i’r hen fall gwmpo dros flowers y fonet, a gan taw fall go dew oedd hi, ’roedd y lluwch ran fwya wedi sefyll ar hono yn lle ar y fonet; ac wrth godi’r fall yn ofalus, fe weles deni nag oedd dim llawer ar y fonet; ac wrth gym’ryd brwsh soft, a’n hancitsher poced, a sychu a brwsho’n ofalus, os y chi yn y fan yna, fe geso’r fonet hefyd ddim llawer gwaeth.

 

Ond does dim diolch i Mrs Griffiths, Tanybryn, am hyny! O’i rhan hi, ac o ran Madlen hefyd, fe fyse’n mantl a’n monet oreu i wedi dishtriwo am byth. Fe ddishtriwodd y veil fel nag oedd hi ddim ffit i wishgo, a’r un peth yn gwmws gall’se’r fonet a’r mantl fod wedi dishtriwo, ar ol i Polly, merch-yn-nghyfraith, roi un i fi, a Hughes, mab-yn-nghyfraith, y llall - a hyny i gyd, welwch chi, dim ond am mod i wedi treio gwneyd cymwynas a Siwsan, merch-yn-nghyfraith,

 

 

 


None
(delwedd B0909c)

(Papur Pawb. 23 Ebrill 1898). Pennod 13.

 

trwy dreio gael Tanybryn iddi hi a Tomos, ’y mab.

 

Ond chredith neb ond y rhai sydd wedi bod trwy’r drafferith eu hunain gyment o bethau sydd raid i fam-yn-nghyfraith ddiodde, hyny yw, os bydd hi fel fi, yn gydwybodol, ac am wneyd y goreu dros ei phlant-yn-nghyfraith.

 

Meddylwch chi mawr shwd beth neis fyse hi pe bai Mrs Griffiths, Tanybryn, yn meddwl cyment am Tomos ni ag o’wn i am Siwsan, ’i merch hi! Fe fyse wedi’n nghwrdd i rhagor na hanner y ffordd pan ddechreues i son am iddi hi roi Tanybryn fyny i deulu Ty’nywern. Dyna fyse’n reit iddi hi neyd fyse hyny, a dyna fyse hithau’n neyd tai hi fel fi yn meddwl am y plant yn lle am dani ’i hunan.

 

Ond yn lle hyny, gwelwch chi beth wnaeth hi.

 

Cynta i gyd, cym’ryd arni nghamsyned i, ac esgus meddwl mod i’n meddwl rhoi Cwmllydan fyny i Tomos a Siwsan

 

Peth neis iawn, ontefe, fyse i fi wneyd hyny! Towlu mywoliaeth i’n hunan o’n llaw er mwyn gwneyd lles i’w merch hi! Na, madam! Er cyment o olwg sy’ gen i ar Siwsan, merch-yn-nghyfraith, all’se neb ddishgwl i fi roi Cwmllydan fyny er mwyn gwneyd lle iddi hi; a tipyn o impidens gwr drwg oedd i Mrs Griffiths awgrymu dim shwd beth o gwbwl!

 

Wrth gwrs, ’roedd e’n beth gwahanol hollol y peth o’wn i’n awgrymu iddi hi.

 

Dyw hi ddim fel fi, yn fenyw streifus, wrthi yn hwyr a boreu. Mae hi’n lico cym’ryd ’i phleser yn y prydnawnau - ond shwd mae hi’n gallu gwneyd hyny mewn hen scrongol o le fel Tanybryn, rwy i’n ffaelu deall.

 

Ond fe all’se gym’ryd ’i phleser yn nobl yn Ty’nlon, fel ro’wn i wedi meddwl gweyd wrthi tawn i wedi cael dybenu’n stori wrthi. A gwelwch chi mor neis fyse hi arni fan ’ny. Dim gofal ffarm fawr arni, na dim yn y byd; lle bach twt, jest digon at ’i hishe, a digon o amser ar ’i llaw hi i fyn’d a dod pryd mynai hi, a gall’se fod yn hala hanner ’i hamser yn yr hen gatre gyda Siwsan a Tomos, os licse hi.

 

Ond na! Yn lle hyny, towlu a thascu wnaeth my lady yn Tanybryn, a chael yr impidens i awgrymu gall’swn i roi Cwmllydan fyny; ac am na neswn i hyny, dangos y drws i fi, os gwelwch yn dda! Dyna shwd un yw gwraig Tanybryn (gynt), mam Siwsan, ’y merch-yn-nghyfraith.

 

Ond fe ddois i fyny a hi, pidwch a becso! Oh, do! Nid un i gym’ryd hwampen felny heb dalu’r pwyth yn ol w i, peided hi a chamsyned! Ac fel cewch chi wel’d, fe ddes i fyny a’r hen ladi wed’yn! O’r anwl, do!

 


(I’w barhau.)



 

 

 


None
(delwedd B0910a)

(Papur Pawb. 30 Ebrill 1898). Pennod 14.

PRIODI ’R PLANT:
sef FFWDAN MAM-YN-NGHYFRAITH

(Hawlysgrif yr Awdwr.)


PENNOD XIV. - DALA SALLY’N CARU.

 

Ry chi’n gwbod erbyn hyn mai dyn od iawn yw Dafydd ni. Dos dim dal yn y byd arno fe. Wyddoch chi yn y byd mawr b’le cewch chi e. A dyna shwd ceso i e’r nosweth hyny pan detho i nol o Tanybryn.

 

Doedd dim son am dano fe amboutu’r ty. Fyse fawr gen i i fod e wedi aros yn ty tra roedd Madlen yn glanhau’r parlwr gore mas, ta beth. Ond weles i rioed shwd beth a’n gwrwod ni. Os bydd tipyn bach o lanhau’n myn’d yn mlaen yn y ty, fe fyddan nhw’n siwr o gadw’n ddigon pell. Mae gwel’d bwced a dwr llawr yn ddigon i neyd i Dafydd ni hwilo am i hat; a mae e’n ffoi am i fywyd os gweliff e frwsh gwyngalchu.

 

Fe allse dyn feddwl byse hi’n ffitach i fod e wedi aros yn y ty y pyrnawn hyny, fel y gwedes i. Ond na; dim danjer! Roedd gwbod fod Madlen yn myn’d yn nghyda glanhau’r parlwr yn ddigon iddo fe, a bant ag e a’i hat ar i ben.

 

Ond wyddai neb b’le roedd e wedi myn’d chwaith.

 

"Own i’n meddwl mai dod i gwrdd a chi, mishtres, roedd e," mynte Madlen, pan ofynes i b’le roedd e.

 

"Shwd gwydde fe b’le roun i?" myntwn innau, gan feddwl ei dala hi.

 

"Oh, roun i’n meddwl y’ch bod chi wedi gweyd wrtho fe, fel arfer, cyn myn’d," mynte hithau yn ol. Hen un sly yw Madlen, a fe fyswn i’n i newid hi Clangeua nesa onibai ei bod hi’n un fach dda good gyda’r blith.

 

Ond ta beth, dyna shwd y buodd hi, a wyddai neb ddim byd b’le roedd Dafydd, welwch chi. Fe etho innau mas, gan dawlu hen hat fach mynych wisgo ar y mhen, a shawl fach ar y ngwar, rhog cael anwyd, a mas a fi i daro mhwys am fyned ar fwlch y clos, waeth roedd hi’n brydnawn biwtiffwl.

 

Ond fe flinais i cyn bod yn hir i sefyllan fan ny, a fe etho am wac fach ar hyd y lon, gan feddwl mor od oedd Mrs Griffiths, Tanybryn, na fyse hi’n rhoi’r lle fyny i Siwsan a Tomos. Yn syden fe welwn ryw ddou fach yn dod i’r golwg mewn tro yn yr hewl, ac yn dod shag ata i. Roe nhw’ch dou a’u gwynebau tua’r llawr, a fel’ny welson nhw ddim ohona i. Ond fe nabyddes nhw, neu o leia un ohonyn nhw, ar y wincad. A pwy debygech chi oedd hi?

 

Sally ni, os gwelwch yn dda!

 

Ie! byth nad elw i o’r fan yma, Sally ni oedd hi!

 

A dyna lle roedd rhyw hen grwt, debygswn i, gyda hi, a’i law am i chanol hi, ac yn closo’n ymbeidus.

 

Nawr rwy’n ystyried mai dyledswydd rhieni yw cadw llygad ar ol y plant. o ddiffyg hyny, mae llawer o’r potsh sy’ yn y hyd [sic; = byd] yma wedi cymeryd lle. Rw i wedi trio ngore i ddryched ar ol y’n plant ni hyd yn hyn, mae’r Mawredd yn i wbod e, a diolch i’r Mowredd does dim un ohonyn nhw wedi rhoi gofid i ni eriod - a nid pob mam a all weyd hyny. Ond rwy i’n lico gweyd y gwir

 

 

 

 

 

 


None
(delwedd B0910b)

(Papur Pawb. 30 Ebrill 1898). Pennod 14.

 

welwch chi, a rw i’n teimlo nawr wrth dryched nol ar ein hanes ni, Dafydd a finnau, oddar ethon ni gynta at ein giddyl, mod i wedi gneyd yn shar yn ddigon difai shag at y plant, gan ta pun. Pun a ody Dafydd ni’n gallu gweyd yr un peth, dw i’n gweyd dim; fe all e aped drosto’i hunan. Rw i’n aped drostw i’n hunan wrth weyd fan hyn nawr na ddaw e byth yn y’n erbyn i na netho i ddim o’ rhan fel mam i’r saith plentyn sy’ gyda ni. Fe fentra i weyd onibai hyny na fyse nhw ddim cystal off heddy ag y mae nhw - pump ohonyn nhw wedi priodi, ac wedi priodi’n dda hefyd, ac yn ei gneyd hi’n nobl i gyd ond Tomos; a fe nese Tomos hi’n nobl hefyd onibai am selfishness Mrs Griffiths, Tanybryn, yn mynu cadw lle mawr fel’ny yn i llaw i hunan, yn lle ei roi e, fel dylse hi, i Siwsan a Tomos Falle mai nid fi ddylse weyd hyny, ond mae pawb yn gwbod hyny, dos ddim un plant un ffarm yn yr holl gylchoedd yma wedi cael eu magu’n fwy gofalus nac wedi gneyd yn well gyda’u giddyl na’n plant ni.

 

Ac nid wrth u cadw nhw’n segur a’u tolach nhw byth a hefyd chwaith, cofiwch chi. O’r anwl nag e! Dw i ddim yn cydfyn’d o gwbwl a’r rhai hyny sy’n mynu slafo eu hunain i’r bedd cyn eu hamser er mwyn arbed y plant. Na! Nid dyna shwd ddysg mae mhlant i wedi gael. Mae pob un ohonyn nhw wedi cael gwbod beth yw gwitho mor gynted byth ag roedd digon o hyd yn eu coesau nhw i wneyd rhywbeth. Gan ta beth ellir weyd am danyn nhw, mae pob un ohonyn nhw yn gwbod y ffordd i weitho, gystal a’i mam - a dos dim ishe dim gwell na hyny, rwy’n shiwr o hyny! Rwy’n gweyd bob amser fod yn well i ffarmwr i gael cant yn i wraig na chael cant gyda hi. A mesur pethau fel’ny, fe gas Dafydd ni lawer o gannoedd pan gas e fi, a fe gas pob un o’m mhlant-yn-nghyfraith i fargen dda wrth briodi un o’n mhlant i.

 

Wel, pan weles i Sally ni, a’r hen grwt hyny ar yr hewl fan’ny o mlaen i yn dod i gwrdd a fi, roedd yn rhaid i fi neyd y meddwl i fyny ar unwaith beth i wneyd. Fe fyse llawer un, Mrs Griffiths, Tanybryn, er enghraifft, mynta wedi myn’d yn mlaen dwp yn eu cyfer, ac wedi tarfu’r boy falle cyn cael gwel’d pwy oedd e; a fe fyse ambell un arall, falle, Dafydd ni er engraipht, wedi troi i gefen a bant ag e ffordd arall, fe pe taw fe fyse wedi gwneyd rhywbeth i fod a chwilydd am dano.

 

Ond un i fyn’d yn mlaen dwp yn ei chyfer w i, ac nid un i droi nghefen ar neb wn i am danyn nhw, w i chwaith. Na. Rwy’n trio cadw’n meddwl yn y mhen goreu galla i.

 

Felly fe netho i’n meddwl fyny mewn hanner wincad. Jest gyferbyn a fan’ny, roedd yno fwlch yn myn’d i’r cae ar y llaw dde, ac er taw hen un digon cas oedd e i’w ddringo, yn enwedig i fenyw, fues i ddim fawr o dro cyn mod i dros i ben e, ac yn cwato tu ol i lwyn oedd yn digwydd tyfu mas wrth fon y clawdd jest yn y fan’ny. Fe rapes dipyn bach o odre nress wrth neyd hyny hefyd, er na welais i ddim o hyny ar y pryd. Fe geso le bach nobl gallswn i gael golwg ar yr hewl, a fe allswn gydgerdded a nhw o’r tu fewn i’r cae heb iddyn nhw’n ngwel’d i.

 

 

 

 



 

 

 

None

(delwedd B0910c)

(Papur Pawb. 30 Ebrill 1898). Pennod 14.

 

Fe glywn y sharad yn dod yn nes, a roedd y ddou yn nghanol ple mawr am rywbeth neu giddyl, a fues i ddim yn hir cyn dod i wbod am beth chwaith.

 

Pan ddetho nhw at y bwlch, dyma nhw’n aros, ac yn troi ato, a fe gredes ar y cynta eu bod nhw’n myn’d i ddod mewn. Ond ddetho nhw ddim, trwy drugaredd.

 

"A ry chi wedi prynu’r lle ynte?” mynte Sally, gan bwyso’i braich ar yr halsen ucha.

 

"Odw," mynte fe, "neu o leia mae nhad wedi ’i brynu e, a mae hyny jest yr un peth."

 

Fe bipes round i gael golwg ar ei wyneb e, a phwy oedd e ond mab Y Castell, mab gwr oedd yn berchen gwaelod ei ffarm ei hunan, a hono’n un o’r ffermydd goreu yn yr holl ddyffryn - ac yn berchen lle bach neu ddou arall gyda hyny. Roun i wedi bod yn meddwl lawer gwaith leicswn i wel’d un o’n merched i yn briod a mab y Castell, er mai chydig oun i’n feddwl dese hyny byth i ben chwaith, wath mae nhw’n well off na neb yn y cwmpasodd yma.

 

Ond roedd Sally ni, welwch chi, wedi ei fachu e’n reit i wala!

 

Fe ddealles i hyny cyn pen fawr amser wrth glywed eu sharad nhw. A dw i’n synu dim at hyny chwaith, wath mae Sally jest yr un spit ag own i yn ei hoedran i, y lodes smarta, lana, oreu, fwya dengar i dull, o neb welsoch chi erioed.

 

"Ond y drwg yw," mynte fe, "shwd edrychiff eich mam ar y peth. Rwy’n credu gallswn i gytuno a Tomos yn go rwydd, a dw i ddim yn credu ceswn i lawer o drafferth gyda’ch tad. Ond peth arall yw taclo’ch mam."

 

"Ie," mynte Sally. "Job cynil ymbeidus fydd son am y peth wrth mam, wath mae gyda hi olwg ifnadw ar Tomos. Ond y Mowredd anwl, Dic, dyco nhad yn dwad. Neidia i’r cae am dy fywyd. Dyma fi off."

 

A chyda’r gair dyma Dic y Castell yn neidio dros ben y bwlch i’r cae, ac yn cwato lawr yn mon y clawdd yr ochor arall orwtha i i’r llwyn draen, a finnau na wyddwn i ddim beth y nelswn i!

 

(I’w barhau)



 

 

 

 


None
(delwedd B0911a)

(Papur Pawb. 7 Mai 1898).

PRIODI ’R PLANT:
sef FFWDAN MAM-YN-NGHYFRAITH

(Hawlysgrif yr Awdwr.)

 

PENNOD XV. - HALA OFAN AR DIC Y CASTELL.

 

Dyna chi le neis i fenyw rispectabl i gael ei hunan, ontefe nawr?

 

Dyna lle’r own i yn cwtsho lawr yn nghysgod y llwyn bach hyny wrth fon y berth, er mwyn i Dic y Castell a Sally ni beido ngwel’d i, a dyma Dic, fel y gwedes i, yn neido dros ben yr halsus ac yn cwato lawr yr ochor arall i’r llwyn iddo fynte gael cuddio o ffordd Dafydd ni oedd yn dod ar hyd yr hewl shag adre.

 

Beth nelse chi nawr ta chi yn y’n lle i? Dyna chi bos, os mynwch chi, a phos sy’n gofyn dyn call i ateb e, credwch chi fi!

 

Rwy’n dychmygu pe byse Mrs Griffiths, Tanybryn, fan’ny yn y’n lle i, byse hi, fasa digwydd, wedi sgrechen dros yr holl le pan neidws Dic fel milgi dros ben y bwlch ac at y llwyn lle’r own i’n cwato.

 

A nawr ystyriwch chi shwd byse hi wed’yn.

 

Fe fyse Dic, wrth gwrs, wedi choeso hi am i fywyd i rywle o’r golwg - a alle byse hyny’n goodbye i Sally ni feddwl dim pellach am fab y Castell.

 

Ond nid un fel ny w i, os gwelwch yn dda. Oh nage!

 

Ac heblaw hyny, fe fyse Dafydd ni wedi clywed y stwr, a wedi troi at y bwlch, a ngwel’d i fan ny, a dyna lle byse rhaid gneud stori i hwnw wed’yn.

 

Dyna shwd botsh nelse Mrs Griffiths, Tanybryn, o’r peth, fasa digwydd. Ond fel y gwedes i, nid un i golli mhen ar bob rhyw blit w i. Na, rw i wedi dysgu dipyn bach yn od i hyny rwy’n gobitho!

 

Wel, peth arall allswn i fod wedi gwneyd fyse cwato’n dawel fan ny heb weyd gair, na phrin tynu’n anadl, a falle byse Dic ddim wedi ngwel’d i. Fe fyse hyny, mae’n wir, yn well dipyn bach, na neido lan fel ffwl fel gnelse Mrs Griffiths, Tanybryn.

 

Ond ry chi’n gwel’d taw ni wedi gwneud hyny fe fyswn wedi colli peth arall digon pwysig. Rown i am gael gwel’d pwy mor bell oedd pethau wedi myn’d rhwng Dic a Sally.

 

Dw i ddim wedi byw i’r oedran hyn - er nag w i ddim yn hen, chwaith - ac wedi priodi pump o blant yn llwyddiannus a hapus yn y byd yma, heb ddod i wbod gwerth gair yn ei bryd. Mae un hwp fach yn yr amser right yn fwy o werth na llawer o hwpo a phwno bryd arall, a ’roedd rhywbeth fel pe bai e’n gweyd wrtho i mai’r amser i roi hwp fach i fusnes Sally oedd hi’n awr.

 

Wel, mae gwel’d eisieu gneud peth yn golygu i fi ei wneud e. Dw i ddim yn un o’r rheini sy’n gweyd "Fe licswn wneud y peth hyn, neu "Fe ddylswn wneud y peth arall." O na; os bydd ishe’i wneud e, i wneud e am dani! Dyna’n egwyddor i. A dyna shwd gnes i’r nosweth hyny!

 

Hen job gynil ymfbeidus oedd hi hefyd.  ’Roedd ishe peido tarfu Dic i ddechreu

 

 

 

 


None
(delwedd B0911b)

(Papur Pawb. 7 Mai 1898). Pennod 15.

 

’roedd ishe gadel i Dafydd ni fyn’d hibo heb specto dim, yn beth arall; a ’roedd ishe citsho yn ngholer Dic, a dod i ddeall shwd ’roedd pethau’n sefyll rhyngto fe a Sally ni yn beth arall.

 

Ry chi’n gallu gwel’d nawr fod job o mlaen i na allse ddim pob un gitsho yndo fe.

 

Ond fe gitshes i, credwch chi fi!

 

A phan bydda i yn citsho, dw i ddim yn gollwng y ngafel nes bo i wedi cael yr hyn w i’n moyn!

 

A nawr i fi gael gweyd wrtho chi shwd y gnetho i.

 

Fe gwates i fan ny am y mywyd nes i fi glywed swn traed Dafydd ni’n myn’d hibo, a trwy lwc rodd cysgod y llwyn yn ddigon tywyll, a’n nress inna’n digwydd bod yn dywyll hefyd, fel na welws Dic ddim tipyn ohono i.  ’Roedd e’n rhy fishi yn watsho Dafydd ni’n myn’d hibo i feddwl dim am bwy oedd yr ochor arall i’r llwyn orwtho fe. Ond rown i a’n llygad arno fe o hyd, ac yn gofalu bod yn barod i symud pan ddese’r amser. A fe ddaeth yr amser, cyn bo hir.

 

Gyda bod Dafydd ni wedi myn’d hibo, dyma Dic yn codi i ga’l myn’d at y bwlch, a’i ddwylo yn i boced, ac yn dechre hwiban yn ddistaw bach wrtho’i hunan.

 

Ond down i ddim yn bwriadu iddo fe gael dianc fel ny, dim danger os gallswn i. Fel ny beth netho i gyda’i fod e’n troi ei gefen, ond codi yn ddistaw bach ac ar flaen y nhraed ar ei ol e nes own i wrth i ochor e.

 

"Felly wir!" myntwn i’n uchel. "Dyma beth neis i fam i wel’d, ontawe nawr!"

 

"Diwc anwl!" mynte Dic - ond taw nid diwc wedws e chwaith, a fe rows sponc yn i fraw, nes i fi gredu byse fe’n myn’d fel bollt drwy’r berth.

 

Ond nelse hyny ddim mo’r tro i fi wed’yn, welwch chi. Rown i am gael tori ple a’r boy, a down i ddim am golli’r siawns oedd e wedi roi yn y’n llaw i.

 

"Rwy’n synu’ch clywed chi’n iwso geire fel ’na, Richard Davies," myntwn i. "Beth wedse’ch tad tae e’n y’ch clywed chi’n iwso geire fel ’na!"

 

Ond trio dangos own i, wrth gwrs, wath fe wyddwn i’n brion mai tyngwr a rhegwr ofnadw oedd hen wr y QCastell wedi bod, ac yn para hefyd, o ran hyny, os byse rhywbeth yn ei gynhyrfu e yn ods na’r cyffredin. Ond rown i am ddysgu Dic shwd i fehafio pan byswn i yn y golwg ac o fewn clyw ta pun.

 

"Mrs Jones, bach!" mynte fe wedyn, pan gas e amser i wel’d pwy oedd yno. "Chi sydd yna! Dir! Dyna start geso i! Rown i’n myn’d am wac fach yn groes i’r caeau, welwch chi, a welais i un tipyn ohono chi. Shwd mae nhw gatre, a shwd mae’r ddwy Fiss Jones."

 

"Dos di i ddysgu dy famgu i odro hwyaid, machen i, os lici di," myntwn i. "Ond paid ti a meddwl y gallu di nhwyllo i, was i?”

 

"Dir anwyl, Mrs Jones fach!" mynte fe. "Dos dim ohono i am ych twyllo chi, na dim shwd boeth. Ond nawr rwy’n cofio mod i heb ddibenu a’r anifeiled gatre yco, a rhaid

 

 

 

 


None
(delwedd B0911c)

(Papur Pawb. 7 Mai 1898). Pennod 15.

 

i fi fyn’d. Nosweth dda i chi, Mrs Jones."

 

"Gan bwyll, was i," myntwn innau, gan roi’n llaw ar fwtwn i got e pan oedd e am droi bant. "Gan bwyll, was i. Rw i am gael gair bach neu ddou gyda chi, was i, cyn ewch chi oddiyma.  ’Rwy’n gofyn i chi yto, Richard Davies, ody chi’n meddwl fod hyn yn beth neis i fam i wel’d yr amser hyn o’r nos.”

 

Ond fe driws y boy drac arall nawr.

 

"Odi mami yma, Mrs Jones?" mynte fe. "Wyddwn i ddim i bod hi."

 

"Gad ti dy lap, Dic, os wyt ti’n gall, a der di i nghwrdd i yn blaen pan w i’n rhoi cynnyg teg i ti, machgen i," myntwn i, waeth rown i am ddangos iddo fe mod i’n ffit i gwrdd ag e, ac ar yr un pryd down i ddim am i darfu e bant.

 

Mae nhw’n gweyd wrtha i fod y rhai sy’n pysgota samwn yn Nhowy gyda gialen a bach pysgota, yn gorffod bod yn ofalus ymbeidus ar ol bachu’r samwn na thorith e ddim o’r lein, a diengyd wedi’r cwbwl.

 

Wel, rwy’n credu gwelswn i bysgotraig ffamws, wath rown i ar y ngwyliadwriaeth o hyd gyda Dic rhag ofon iddo ynte dori’r lein a dianc wedi i fi fachu e fel hyn.

 

Fe welws Dic i fod e yndi’n saff i wala, a dyma fe’n gneud y goreu o’r gwaetha.

 

"Oh danco shwd beth!” mynte fe, gan fwrw ’i hat i’r clawdd.

 

Ond fe gitshes man [??yn y man] yndi hi oddar y llawr, a fe syches hi’n ofalus a’n ffedog, a fe’i rhois hi’n ol iddo fe gan weyd: -

 

"Rhaid i chi ofalu am y’ch dillad yn well na hyna, machgen i, neu fyn’d i gerdded rhyw lwybr heblaw’r un sy’n arwain i Gwmllydan, credwch chi fi."

 

Wel dyma fe’n hwerthin.

 

"Too bad, Mrs Jones, yn y ngwir i, too bad!" mynte fe, a, ffeilu pido hwerthin hefyd. "Ry chi wedi nala i’n deg y’ch gwala. Ond paswch hibo i fi, Mrs Jones. Ry chi’n gwbod beth yw dynon ifenc, a ry chi’n cofio shwd oe chi’ch hunan yn y’ch amser. Fe glywes nhad yn gweyd lawer gwaith mai’r foyess bena oedd e’n nabod oe chi pan yn ferch ifanc."

 

"Dyna ddigon o dy snecs di, Dic," myntwn inau - er mod i’n siwr i fod e’n gweyd eitha gwir hefyd. "Nid dod yma i wrindo ar dy spengs di w i’n, machgen i, ond moyn cael gwbod gen ti beth wyt ti’n neud gyda’n merch i mas fel hyn ar hyd yr hewlydd yr amser hyn o’r nos?"

 

’Roedd hyn yn dod a phethau i glos cwarters, fel mae nhw’n gweyd, ond rown i’n benderfynol o’i chael hi mas gydag e ar ol dechre.
(I’w barhau.)


 

 

 

None

(delwedd B0912a)

(Papur Pawb. 14 Mai 1898). Pennod 16.

PRIODI ’R PLANT:
sef FFWDAN MAM-YN-NGHYFRAITH

(Hawlysgrif yr Awdwr.)

PENNOD XV. - FFYSTO MRS GRIFFITHS, TANYBRYN.

 

[sic; = PENNOD XVI]

 

Rown i wedi specto wrth glywed y siarad rhwng Dic y Castell a Sali ni gallse fod yn y fusnes yma rywle ffordd i fi mas o’r helynt gyda, Mrs Griffiths, Tanybryn, a ffordd falle i fi i ffysto hi wedi’r cwbl i gyd. Ond rown i’n gwel’d gyda llaw byse rhaid i fi feindo’n hits gyda Dic, wath mai tipyn o natur llyswen yn y teulu - neu roedd yn i dad slawer dydd, ta beth. Wedes i ddim wrtho chi am dad Dic yn dod i gnoco’r ffenest yn Plasbach, pan own i’n ferch ifanc, a mor daer buodd e am gael ty y nosweth hyny, a mor ddwl bues innau i wrando arno fe, a myn’d lawr i agor y drws iddo fe.

 

Roedd Davies y Castell yn fwy o fatch o dipyn bach na Dafydd Jones, Cwmllydan; ac er mod i’n caru’n dyn a Dafydd, pryd hyny, fe fues i’n ddigon dwl i agor y drws i Davies y nosweth hyny, a gadel iddo gael ty, a fe fuodd hyny jest iawn a thori’r llinyn rhwng Dafydd a fi. Os dim dowt gen i, pe bawn i dipyn bach yn llai llygad agored nag own i pryd hyny, byse Dafydd wedi ngadel i a phriodi merch Glynmawr - Mrs Griffiths, Tanybryn, wedi hyny. Roedd hi fel gwyddoch chi yn dwli’n lan ar Dafydd -a dyna un rheswm pam mai cyment o hiten genty hi arna i byth wed’yn. Ond dyn a’i helpo hi; Hi gwrddws a’i matsh pan gwrddws hi a fi!

 

Wel, pe bai Dafydd wedi ngadel i pryd hyny a myn’d i Glynmawr, fe fyswn i, welwch chi, rhwng dwy stol heb un, waeth, fel gwyddoch chi, priodi rhywun arall wnaeth Davies y Castell wedi cwbl; a dyna pam w i’n gweyd fod pwer o natur llysywen yn y teulu neu fyse fe byth wedi slipo o ngafel i.

 

Ond dyna ddigon ar hyna. Nid hanes Davies y Castell a fi, ond hanes Dic, mab Davies, a Sali’n merch innau sy’ gen i ishe ’i adrodd wrtho chi nawr. Ond dyna pam rown i’n son am y peth oedd am fod Dic yn gweyd fod i dad yn gweyd mai "boyess ofnadw" own i’n ferch ifanc, ac am mod innau wedi gwneud y meddwl i fyny na chese Dic ddim whare’r un tric a Sali a wharodd tad Dic a mam Sali. Rown i wedi tyngu pan ddealles i fod Davies y Castell yn myned i briodi rhyw un heblaw fi wedi’r cwbwl, y byswn i fyny ag e rywbryd neu giddyl; ond cheso i ddim cyfle i neud hyny hyd nawr, a rol cae1 y cyfle down i ddim yn debyg o adael iddo slipo o’n ngafel i wedi’r cwbwl.

 

Wet, nawr, fe fyse llawer un yn "talu’r hen hwech" i Davies y Castell drwy neud i Sali dwyllo Dic fel gnaeth Davies a finnau. Falle mai hyny fyse’n reit i neud ag e. Ond dos dim dial yn yr un croen a fi, fel gwyddoch chi; a fel’ny fe benderfynes i fan’ny’r funed hyny i beidio dial fel’ny ar Davies y Castell am i hen dricis e slawer dydd.

 

Pob peth yn nobl yw son am ymweled ag anwireddau y tadau ar y plant, ond beth

 

 

 

None

(delwedd B0912b)

(Papur Pawb. 14 Mai 1898). Pennod 16.

 

allse Dic, poor fellow, help am ddrygioni i dad? A fe gofies am y gair sy’n son am faddeu i’r gelyn, a phentyru cols coch ar i ben e, wrth hyny. Fel’ny fe benderfynes innau fod fyny a Davies y Castell, nid wrth stopo’r fatsh rhwng Dic, i fab e, a Sali ni, ond wrth i halia hi’n fatsh – a gwedwch chi os gallswn i neud dim byd yn well na mwy taliedd a Christionogol na hyny.

 

"Nawr, was i," myntwn i wrtho fe. "Well i ti fod yn blaen am shwrne, ag ateb y nghwestiwn i. Beth oe ti’n moyn ffor’ hyn gyda Sali ni?"

 

"Chi wyddoch yn nobl, Mrs Jones," mynte fe, gan hanner hwerthin. "Chi wyddoch mai caru oe ni."

 

"Ie, ie," myntwn i, "ond mae caru a jocan caru, was i; a rw i’n moyn cael gwbod pun oe ti’n neud, machgen i."

 

"Mrs Jones," mynte fe, "tawn i byth yn cyffro o’r fan yma, down i ddim yn meddwl jocan a Miss Jones, a rown i’n meddwl sharad a hi i ben heno pryd cese nhad ddod i Gwmllydan i sharad a Mr Jones a chithe."

 

"A meddwl sharad netho chi, iefe, was i?"

 

"Wel, rown i wedi dechreu pan ddaeth i thad i’r golwg, a bant a Sali fel bollt."

 

"Ie, a bant a rhyw un arall dros ben y jwmper i’r cae," myntwn i. "Ond gan eich bod  chi wedi dechreu sharad a Sali chi gewch ddibenu a fi, machgen i. Ond rw i’n moyn i chi ddeall ar y dechreu nad w i ddim myn’d i gellwair dim a chi, ac os wyt ti’n meddwl, Dic bach, y gallu di hware trics a Sali neu a fi, rwyt ti   wedi camsyned dy ddelar, machgen i!"

 

"Na, byth na chyffra i, rwy’n eitha sirws," mynte fe; a rown i’n gwel’d wrtho fe fod e hed.

 

"O’r goreu," myntwn i. "Pob peth yn nobl. Wel, nawr, ynte, shwd y chi’n meddwl gneud? A sposo’ch bod chi’ch dou yn cael myn’d at eich gilydd, shwd y chi’n meddwl byw? Mae ffermydd yn brin ymbeidus!”

 

"Odyn, ma nhw, fel mae gwaetha’r modd," mynte fe.

 

"Allwch chi ddim myn’d a Sali i’r Castell tra bo’ch tad a’ch chwarorydd gatre," myntwn i wed’yn.

 

"Dim yn rhwydd," mynte fe.

 

"Dim o gwbwl," myntwn i, yn eitha penderfynol. "Pan brodith y’ch chwarorydd pobpeth yn nobl; ond mae un wraig yn ddigon ar un aelwyd."

 

Wedws e ddim, ond cnoi i winedd.

 

"Wel," myntwn i wed’yn. "Run man i chi weyd y cwbwl, gan y’ch bod chi wedi dechreu, was i."

 

"Dos gen i ddim rhagor i weyd," mynte fe gan droi i wyneb bant.

 

Rown i wedi specto o’r blaen, ond rown i’n teimlo’n go shiwr erbyn hyn.

 

"Falle wir!” myntwn i. "A mae cwilydd arnoch chi, was i, i weyd wrth ei fam ych bod chi wedi prynu’r lle dros ben. Tomos, Ty’nywern?"

 

"Wel, tawn, i’n marw?” mynte fe. "Shwd wr drwg detho chi i wbod hyny, Mrs Jones?”

 

"Paid ti hido dim byd shwd detho i i wybod," myntwn i. "Rw i yn gwbod, a mae hyny’n ddigon ar hyn o bryd, debygswn

 

 

 

 


None
(delwedd B0912c)

(Papur Pawb. 14 Mai 1898). Pennod 16.

 

i. A dw i’n synu dim am fod cwiddyl arnat ti, Dic, i gydnabod wrtha i dy fod ti wedi prynu lle y mab i."

 

"Oh, na, wir, fair play, Mrs Jones, hware teg, nawr, fair dw’s ar funcoes i!" mynte fe’n anesmwyth.

 

"Wel, beth sy’ gen ti i weyd? Odw i ddim yn gweyd y gwir, gwed?"

 

"Odych, ry chi’n gweyd y gwir, mewn ffordd, ond nid prynu’r lle er mwyn hala Tomos bant oedd y’n amcan i, ond fe ddaeth siawns i fi gael y lle yn fergen, a fe prynes e am y talse fe yn nobl hefyd."

 

"Er mwyn cael gostwng rhent Tomos, mynta?" myntwn i.

 

"Na, nid hyny gyment chwaith," mynte fe, gan grafu i ben.

 

"Well, beth yn’te?"

 

"Oh danco! Os oes rhaid i fi weyd wrtho chi, dyma fe: Fe glywes ryw son fod Tomos am fyn’d bant i’r ’Merica, a fe feddyles on byse fe’n myn’d gall’se Sali a finnau fyn’d i Ty’nywern."

 

"Oh!" myntwn i. "Wel, gwrando ar un gair bach weda i wrthat ti, Dic, a dyma fe. Os aiff Tomos ni i’r ’Merica, ti elli dithau weyd good-bye wrth Sali hyd mynot ti, waeth chei di byth mohoni tra bydda i byw, na wed’yn chwaith os galla i!"

 

"Wel, mae Tomos yn saff i wala ynte," mynte Dic. "Fe dowla i’r fargen fyny ’fory nesa."

 

"Na nei," myntwn i wed’yn. "Sa di at dy fargen, a rho di notis i Tomos i madel Wyl’hengel."

 

"Beth sy’ gyda chi nawr. Dw i ddim yn deall,” mynte fe, gan edrych yn hurt.

 

"Dyma sy’ gen i, Dic," myntwn innau. "Gna di fel rw i’n gweyd wrthat ti. Dibena di’r fargen. Rho di notis i Tomos. Paid gadel i neb wbod fod dim yn bod rhwng Sali a tithau. ’Does neb yn gwbod, os e?"

 

"Neb ond Sali - a chithe a finnau," mynte fe.

 

"O’r goreu. Nawr ynte, ar ol rhoi notis i Tomos, cymer gyfle i weyd wrth Siwsan dy fod ti’n meddwl priodi - ond paid a gweyd sha phwy, a bod yn rhaid i ti gael y tir Wyi ’Hengel. Ond dy fod ti’n folon, rhenty Ty’nlon i Tomos yn lle Ty’nywern. A ti alli weyd gyda llaw, bod Ty’nlon yn lle bach iawn i bar ifenc fel Tomos a Siwsan, ond gnelse fe’n brion iddi mam, Mrs Griffiths, Tanybryn. Ac os licse Mrs Griffiths rhoi Tanybryn i Tomos a Siwsan, a myn‘d i Ty’nlon i hunan, byset ti’n folon i hyny, ac y gneset ti rywbeth rhesymol i gwrdd a Tomos yn y mater er mwyn rhyddhau’r ffordd."

 

"Mrs Jones!” mynte Dic. "Wel, i jaist ariod; weles i ddim general tebyg i chi, naddo yn y ngwir i. Dw i ddim yn synu dim fod Sali mor glefer!”

 

A dyma’r hen ffwl yn towlu i fraich am dana i, ac yn rhoi wad o gusan mawr i fi cyn mod i’n meddwl dim beth oedd e’n myn’d i neud!

 

"Cer ona ti’r hen ffwl!" myntwn i gan rhoi gwth iddo fe i’r clawdd.

 

“Howyr! Beth sy’n bod yma?” mynte llais o’r hewl, a dyna lle roedd Dafydd ni, os gwelwch yn dda, yn edrych dros ben y bwlch arno ni!


(I’w barhau.)



 

 

Sumbolau:

a A / æ Æ / e E / ɛ Ɛ / i I / o O / u U / w W / y Y /
ā
Ā / ǣ Ǣ / ē Ē / ɛ̄ Ɛ̄ / ī Ī / ō Ō / ū Ū / w̄ W̄ / ȳ Ȳ /
ă Ă / ĕ Ĕ / ĭ Ĭ / ŏ Ŏ / ŭ Ŭ /
ˡ ɑ ɑˑ aˑ a: / æ æ: / e eˑe: / ɛ ɛ: / ɪ iˑ i: / ɔ oˑ o: / ʊ uˑ u: / ə /
ʌ /

ẅ Ẅ / ẃ Ẃ / ẁ Ẁ / ŵ Ŵ /
ŷ Ŷ / ỳ Ỳ / ý Ý /
ɥ
ˡ ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ əɪ uɪ ɪʊ aʊ ɛʊ əʊ /

ә ʌ ẃ ă ĕ ĭ ŏ ŭ ẅ ẁ Ẁ ŵ ŷ ỳ Ỳ
wikipedia, scriptsource. org

Y TUDALEN HWN /THIS PAGE / AQUESTA PÀGINA:

www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion-prys_158_priodi-r-plant_1898_rhan-2_0339k.htm

Ffynhonnell / Font / Source:  Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Creuwyd / Creada/ Created: 04-11-2017

Adolygiadau diweddaraf / Darreres actualitzacions / Latest updates: 04-11-2017

Delweddau / Imatges / Images:

 

Freefind:

Archwiliwch y wefan hon
SEARCH THIS WEBSITE
...
Adeiladwaith y wefan
SITE STRUCTURE
...
Beth sydd yn newydd?
WHAT’S NEW?


Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Gal·les-Catalunya)
Where am I? You are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website
Weə-r äm ai? Yüu äa-r víziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA (= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait



 Free counter and web stats Statistics for Welsh Texts Section / Ystadegau’r Adran Destunau Cymraeg