kimkat0340k
Priodi’r Plant. Beriah Gwynfe Evans. 1898. "Mrs Griffiths," myntwn i
fel na, "rown i’n dod hibo i gael sharad gair bach a chi am danyn nhw yn
Ty’nywern."
04-11-2017
● kimkat0001 Yr Hafan www.kimkat.org
●
● kimkat2001k Y Fynedfa Gymraeg www.kimkat.org/amryw/1_gwefan/gwefan_arweinlen_2001k.htm
●
● ● kimkat0960k
Mynegai i’r testunau Cymraeg yn y wefan hon www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_mynegai_0960k.htm
● ● ● ● kimkat0331k www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion-prys_priodi-r-plant_1898_cyfeirddalen_0331k.htm
● ● ● ● ● kimkat0340k Y tudalen hwn....
|
|
Gwefan Cymru-Catalonia |
(delw 6665) |
PENNOD XVII. - TWYLLO DAFYDD.
PENNOD XVIII.
- NED A POLLY.
PENNOD XIX. -
MADAME PAULINE A’I MAM-YN-NGHYFRAITH.
PENNOD XX. -
MADLEN YN HELPU HEB FEDDWL.
PENNOD XXI. -
ARLLWYS CWDYN DAFYDD.
PENNOD XXII. -
MAGGIE A’I CHOLEJ.
PENNOD XXIII.
- LODGER MRS GRIFFITHS.
PENNOD XXIV. -
Y MAB-YN-NGHYFRAITH DIWETHA.
xxx
|
|
|
(Papur Pawb. 21 Mai 1898).
Pennod 17. Ni wyddwn i ddim beth a a wedswn i, ar y cynta, pan
glywes i laish Dafydd ni a’i wel’d e fan ny yr ochor arall i’r bwlch. Beth os
dodd e wedi gwel’d Dic yn y nghusanu i, a beth pe byse fe yn tynu
camgasgliadau orwth hyny? Pan aiff Dafydd ni oddar y ces, welwch chi mae e’n
ofnadw i’r byd, a malse fe ddim blewyn rhoi cot i’r crwt fan ’ny nes allse fe
ddim cyffro am wthnos pe bae e’n specto fod rhywbeth yn bod na ddylse. Rhaid i fi gydnabod yn rhwydd nad w i ddim yn amal
yn colli mhen; rw i fel rheol yn cadw’n meddwl yn y mhen, ac yn gwbod shwd i
acto yn nobl. Ond a gweyd y gwir wyddwn i yn y byd beth y wedswn i’r pryd
hyny, ac wrth mod i’n ffeilu gweyd dim roun i wrth gwrs yn rhoi lle i Dafydd
i feddwl rhywbeth nag oedd yn bod, wath hen un jealous ymbeidus yw Dafydd,
welwch chi, lawer fwy felny nag w i. Dyn a wyr beth fyse wedi cymeryd lle fan
’ny yn y’n hurtwch i onibai fod Dic y Castell wedi meddiannu ’i hunan yn well
na fi. “Halo, Mr Jones,” mynte fe’n dawel fach, gan droi at
Dafydd. “Ry chi wedi dod mewn pryd i’r dim, y dyn.” “Mewn pryd i beth?” mynte Dafydd. “Mewn pryd i dori’r striff rhwng Mrs Jones a
finnau,” mynte fe, a dyma fe’n dechreu lachan celwydd fel ci yn trotian. “Roun i,” mynte fe, “yn digwydd bod yn croesi’r
caeau ffordd hyn ar y’n ffordd nol gatre, a fe welswn Mrs Jones yn edrych ar
y da hesbon bach yma, a fe aeth yn ble bach rhyngto ni yn nghylch beth dalse
nhw ar ben ffair. Roedd hi’n gweyd dylse nhw neyd wyth a hweugeinau, a
finnau’n gweyd na chyrhaeddsen nhw ddim mwy nag wyth ond coranau. A beth y
chi’n meddwl wedws i?” “Fe wn i beth wedws hi,” mynte Dafydd, “fe wedws,
’Cer ona ti ’r hen ffwl,’ waeth fe’i clywais hi.” “Ie,” mynte Dic, yn hwerthin yn harty. “Dyna’r gair
wedws hi.” A gwir y wedse fe, fel gwyddoch chi, er mai nid am y
da hesbon oun i’n gweyd “Ry chi, Mr Jones, yn dipyn o judge ar fochyn,”
mynte Dic wedyn. “Fe licswn tae chi’n galw hibo’r Castell rhyw getyn pan fydd
yn gyfleus gyda chi. Mae gen i gwpwl bach o foch yco mor breted a welodd y’ch
llyged eriod, a fe licswn gael eich barn chi arnyn nhw.” Shwd oedd y gwr drwg wedi dod i wbod wn i ddim, ond
roedd e wedi taro ar fan gwan Dafydd ni. Mae Dafydd yn bostio, welwch chi,
nag os neb cystal judge ag e ar fochyn yn yr holl gwmpasodd, a dyma fe’n
dechre gweyd wrth Dic am y moch oedd gyda ninnau yn Nghwmllydan. “Gan y’ch bod chi fan yma ishws,” mynte fe wrth Dic,
“run man i chi ddod lawr sha’r ty i chi gael eu gwel’d nhw,” |
|
|
|
(Papur Pawb. 21 Mai 1898).
Pennod 17. Ac os ’y chi yn y fan yna, fe foddlonws yr hen grwt
ddod. Wyddwn i ddim beth y wedswn i i wel’d e fel’ny yn
dod yn mlaen sha’r clos gyda Dafyd[d]; a phle mawr rhwng y ddou fel pe bae nhw’r
partners fwya fuodd eriod. “Wel, machgen i,” myntwn yndw i’n hunan, “mi dy
dreia i di gam yn mhellach.” Fel’ny pan gyrhaeddson ni gat y clos, ac yr oedd
Dafydd a Dic yn partoi i fyn’d at y twlc moch, dyma fi’n troi at Dic ac yn
gweyd: “Wel, Richard Davies, weda i ddim good night wrtho
chi nawr, chi ddewch miwn i’r ty cyn ewch chi oddyma.” “Myn’d tipyn bach yn hwyr mae hi,” mynte fe yn dawel
fach, “ond fe droa i miwn gyda Mr Jones ar ol i ni wel’d y moch.” “Wel wfft i dy wyneb di,” myntwn i wrtho i’n hunan,
i feddwl am y bachgen yn gallu bod mor ddigwilydd a dod i Gwmllydan fel’ny
pan oedd hi cystal a bod yn liw dydd goleu, ac yntau’n moyn caru Sali ni
hefyd. Ond pan gymeres i amser i ystyried, fe weles fod Dic
yn ffalstach nag own i wedi meddwl i fod e. Wrth daro miwn fel’ny yn
gyfeillgar oedd e shiwra o dowla dierth, a fyse neb o’r gwasanaethyddon na
neb yn specto dim fod dim yn bod rhyngto fe a Sali, os byse fe’n dod i’r ty
gyda’i thad. Fe fwstres ineu sha’r ty i gael partoi tipyn bach o
swper. Fe feddyles unwaith gadawswn i Sali yn y tywyllwch hyd nes dese Dic
mewn gyda’i thad. Fe wyddwn, debygswn i, y cese hi start ymbeidus wrth wel’d
y sponer yn dod miwn fel’ny gyda’i thad, a hithau dipyn bach cyn hyny wedi
wel’d e’n ffoi am ’i fywyd, debygse hi, i gael myn’d o’i olwg e. I serfo hi’n
eitha right fyse hyny, welwch chi, am ’i bod hi wedi bod mor sly am boutu
Dic, waeth doedd neb ohono ni wedi specto fod dim yn bod rhyngty hi ag e
erioed, er i fi ddod i wybod nawr wrth gwrs, ei bod hi wedi bod yn gwylad
gydag e er’s mishoedd. Ond fe feddyles wed’yn byse hi’n well i fi weyd
wrthi, yn lle bod hi’n cym’ryd start a falle gneyd i’r gwasanaethyddon i
specto Fel’ny fe gymes fontais i weyd wrthi, dim ond hi a finnau, fod yna
ddyn dierth ar y rclos gyda’i thad, a byse fe’n debyg o ddod miwn i gael
tamed o swper cyn myn’d. “Pwy yw e, mam?” mynte hi. “Richard Davies, y Castell,” myntwn innau, fel pe
bae dim byd yn bod, ac yn esgud sychu’r ford wrth weyd, ond yn cadw llygad ar
Sali i gael gwel’dJ shwd byse hi’n ei gym’ryd e. “Oh,” mynte hi. “Beth sy’n dod ag e ffordd hyn
wish?” “Ishe gwel’d y moch, am wn i,” myntwn innau. Rown i’n lico gwel’d Sali yn cym’ryd y peth mor gool
ac yn towlu cyment o ddierth, er ei bod hi wedi cochi fel y gwaed hyd y ddou
clust hefyd. Ond fe ddaeth ati hunan mewn myned, a allsech chi ddim meddwl
wrthi fod dim byd yn bod rhyngti a Dic fwy na rhyngti a’r dyn yn y lleuad. “Da merch i,” myntwn i wrtho i’n hunan. “Merch mami
wyt ti bob tipyn ohonot ti.” A phan feddyloch chi allswn i ddim fod wedi cym’ryd
y peth yn well y’n hunan. Yn wir, onibai mod i’n f;wbod beth wyddwn |
|
|
|
(Papur Pawb. 21 Mai 1898). Pennod 17. i fyswn i byth wedi meddwl wrth Sali fod dim tocs
wedi bod rhyngti a Dic eriod. A phan ddaeth Dic miwn gyda’i thad mhen spel, roedd
my lady yn barod i gwrdd ag e, a feddylws Dafydd, poor fellow, ddim fed dim
byd yn bod. A dyna lle buon ni ar swper yn sharad am y peth hyn a’r peth
arall fel cym’dogion, o’r gwasanaethyddon yn gwel’d a chlywed y cwbl, a neb
yn specto dim. Chymws Sali ddim byd arni am Dic fwy na phe bysa fe
ryw ddyn dierth arall, a fe adaws i Madlen fyn’d i agor y drws iddo fe a
phobpeth, tra roedd hithau wrthi yn clirio’r llestri swper oddar y ford fach
i’r ford fawr. A spectodd Dafydd ddim byd. “Bachan bach piwr digynnyg yw Richard y Castell,”
mynte fe pan yn lodio’ ibib [i bib] y nosweth hyny ar y pentan. “A mae gydag
e lygaid anghyffredin am fochyn, hware teg iddo fe.” “Hym!” myntwn innau. A fe wedes yn fy meddwl y’n
hunan, “Ti newidi dy feddwl am Dic cyn nos yforu, Dai bach.” Ddangoses i ddim byd i Sali’r nosweth hyny, ond rown
i wedi deall y signs yn reit y ngwala, a’r nosweth hyny pan oedd Dafydd yn
cysgu fel dormows, rown i a’n nghlust ar bwys drws y parlwr bach yn clywed
Dic wrthi yn adrodd wrth Sali shwd own i wedi ddala fe yn y cae. “Oh! Dic! Pidiwch a gweyd!” mynte hi. “Ie, tawn ni’n marw,” mynte Dic, a mlaen a fe a’r
stori wed’yn. “A ddangosws hi ddim byd i fi ei bod hi’n specto dim
byd!” mynte Sali. “Mae nhad yn gweyd,” mynte Dic, “mae’r foyess bena
oedd e’n nabod oedd y’ch mam yn ferch ifanc,” mynte fe. Bore tranoeth, pan geso i gyfle ar Sali, fe wedes
wrthi. “Dyna ti, Sali fach,” myntwn i i. “Cymer di hwna’n
wers nawr i bido cadw peth orwth dy fam yto.” Fe gochws, ond wedws hi ddim. Ar ol te tranoeth fe berswades Dafydd i fyn’d am dro
tua Ty’nywern, a fe ddaeth nol yn mhen spel yn benwan holics. “Jane!” mynte
fe, gyda’i fod e mewn trwy’r drws. “Jane! Wyddoch chi beth! Tawn i’n cael
gafel ar Dic y Castell y felldith yna, mi laswn e i farwolaeth am wn i.” “Howyr bach, beth sy’n bod?” myntwn innau, gan dowlu’n
ddierth, er mod i’n gwbod yn nobl wrth gwrs. “Ody e wedi rhoi rhy fach am y
moch?” “Danco fe a’r moch!” mynte fe. “Na! Wedi prynu
Ty’nywern mae e, ac wedi bod yco heddy yn rhoi notis i Thomos i fadel
Wylhangel.” “Well wel!” myntwn i. “Beth neiff Tomos a Siwsan
nawr, poor things?” “Wn i ar y ddaear!” mynte Dafydd. “A Dic yma
nuithiwr ar swper yn fel ac yn shwgir i gyd. Danco fe!” “Fyse ddim gwell i chi fyn’d i Danybryn i sharad a
Mrs Griffith, Dafydd?” myntwn i. A dyma fe’n dodi i hat nol ar ’i ben a bant ag e fel
bollt sha Tanybryn. “Dyna chi, madam!” myntwn i wrthwi’n hunan. “Dyna
chi lesn fach nice i chi i roi impidens i wraig Cwmllydan.” (I’w barhau.) |
|
|
|
(Papur Pawb. 28 Mai 1898).
PENNOD XVIII. - NED A POLLY. Ro’wn i’n enjoyo, credwch chi fi, wel’d Dafydd ni yn
ei choeso hi dros y caeau tua chyfeiriad Tanybryn, y prydnawn hyny. “Dyna chi, madam!” myntwn i, yndw i’n hunan sawl
gwaith. “Dyna chi, madam! Mi’ch dysga i chi i roi’ch impidens i wraig
Cwmllydan, os gwelwch yn dda!” Fe fyse llawer un, welwch chi, yn y’n lle i, wedi rhai
eitha pryd o dafod i Mrs Griffiths, Tanybryn, am shwd impidens a rhows hi i
fi. Ond chi wyddoch erbyn hyn mai nid un fel’ny w i. O, na. Fe etho i
amboutu’r fusnes ffordd arall. Fe halas i Dafydd ni shag yno, a fe wyddwn, pan
wedse Dafydd ’i neges yno, y byse my lady yn teimlo’n fwy ddengwaith trosodd
na phe bawn i wedi rhoi pryd o dafod yn iawn iddi. Falle’chi bod chi’n gofyn os nag oedd arna i ofon
byse Dafydd yn cael impidens hefyd gyda’r hen bishyn yn Tanybryn. Ond doedd
dim ofan hyny arna i am ddou reswm. Yn un peth, ’roedd Dafydd a Mrs Griffiths
yn ormod o bertnars i gwmpo ma’s am ryw drifle o beth; ac heblaw hyny, fyse
impidens Mrs Griffiths dim ond fel dwr ar gefen hwyad i Dafydd ni. Dyw Dafydd
ddim yn hido rhyw lawer am ’y nhafod i, wathach am dafod Mrs Griffiths,
Tanybryn. Ond ro’wn i’n enjoyo meddwl mor nice oedd pethau
wedi dod round, welwch chi, a shwd oedd Dic y Castell a Sally a Dafydd a
Siwsan rhyngty nhw a’u giddyl, ac heb yn wbod iddi giddyl mewn ffordd, wedi’n
helpu i i dalu’r hen hwech yn ol i Mrs Griffiths mor nice nawr. Ro’wn i’n falch , pan yn dryched ar ol Dafydd yn ’i
choeso hi dros y caeau, nag o’wn i ddim wedi islhelhau’n hunan i gwmpo ma’s a
Mrs Griffiths, a’i difrio hi yn ei thy ei hunan. Unwaith bues i mor ddwl a
gneyd peth fel’ny, a fe difares ddigon am hyny wed’yn hefyd; do, fe difares
ddigon i bido byth gneyd yr un peth wed’yn. Fe weda chi nawr shwd buodd hi. Ry’ chi wedi nghlywed i’n gweyd am Edward, ’y mab
sy’n cadw shop yn Llanelli, ac am Pauline, ’i wraig e’, merch-yn-nghyfraith,
chi wyddoch, ond dy chi? Wel, o’r goreu, ynte. A nawr i fi gael gweyd wrtha
chi. Match Edward ni oedd yr un bues i ar y cynta fwya
anfolon o holl fatches y plant i gyd. A weda chi pa’m. Roe ni wedi rhoi tipyn bach o hware teg i Edward ni,
welwch chi. ’Roedd e’ wedi cael ysgol atuodd bach, dim byd yn extra, fel
gwedwch chi, ond mwy nag oedd bechgyn ffermwyr wedi arfer gael hefyd. ’Roedd
Dafydd a finnau, welwch chi, wedi meddwl i Ned gael myn’d yn mlaen rywbeth
wrth ei ddysg. Ond doedd dim a fynse fe a hyny rywffordd neu giddyl, ta beth
oedd yn bod, dw i ddim yn gwbod. Ond mae ambell un fel’ny, fel gwyddoch chi,
allwch chi ddim |
|
|
|
(Papur Pawb. 28 Mai 1898).
Pennod 18. gneyd na chambren na shafft ohono fe - ond falle
gwneiff e’ gwrbyn bach nobl. Wel, rhywbeth fel’ny oedd Edward ni. Ese fe ddim yn
ddoctor, nag yn gyfreithiwr, nag yn ddim byd fel’ny, a fe gredes yn ’y
nghalon byse rhaid i ni ei neyd e’n ’ffeirad, gan nad oedd e’ ddim yn ffiit
i’r pethau erill hyny. Ond ta beth, i fi gael gweyd wrthio chi. ’Roedd e’
gatre un haf, wedi faelu’n deg a myn’d nol i’r colej, a dim a fynse fe
chwaith a gwitho ar y ffarm. Fe fues i’n cadw row ymbeidus ag e’ droion am ’i
fod e’n lercan fel’ny amboutu, ac yn gneyd dim. Ond os dy chi yn y fan yna, fe ddetho am ’i ben e’
fyn’d, frig y nos bach, a’i law am gamol rhyw hen groten ar yr hewl, a’r ddou
yn gweyd yn fan ac yn amal. Roe nhw mor fishi wrthi, welwch chi, fel na welsen
nhw un tipyn ohono i nes o’wn i ar eu penau nhw. A diwedd anwyl! Tae chi’n
gwel’d fel cochws Nedi hyd y ddou clust pan welws e’ fi. “Edward,” myntwn i yn sych fach. “Dere sha’r ty.” “Fe ddowa i ma’s lawfach, mam,” mynte fe. Ond wedws y lodes oedd gydag e’ ddim gair o’i phen,
ac edrychais innau ddim arni eilwaith, ond bant a fi, a dim ond hyny am
hyny’r pryd hyny. Ro’wn i’n ffaelu deall pwy all’se hi fod, waeth
ro’wn i’n credu mod i’n nabod pawb amhboutu fforco, welwch chi. ’Roedd, hi’n
edrych yn lodes fach lan i gwala, ac yn ddigon swell hefyd o ran hyny, a dyna
beth nath i fi ddala nhafod yn lle gweyd dim rhagor wrth Ned fan ’ny ar yr
hewl. Bant a fi sha’r ty, a dyna lle bues i’n dishgwl ac
yn dishgwl am oriau am yr hen grwt i ddod ’nol, ond dim son am dano fe. Ond
o’r diwedd, dyma fe’n dod, ac yn dryched yn gilty right. “Edward,” myntwn i wrtho fe, mor gynted ceso i afael
arno fe. “Pwy oedd y lodes yna oedd gen ti gyne?” Rw i wedi gweyd o’r blaen wrtha chi mod i’n credu
mai lle rhieni yw dryched ar ol eu plant rhag ’i bod nhw’n cadw cwmpni na
ddyl’se nhw. “Mam fach!” mynte fe, “beth yw hyny i chi?’ “Beth yw hyny i fi, wir! Fe ddangosa i i ti’n go
handy beth yw e’ i fi, os nag wyt ti’n aped yn go glou!” “Dir cato ni, mam fach! Pidwch cadw stwr! Neno’r
gallu, fe all’se dyn feddwl nag oes dim lle i fi sharad gair a merch ifanc
pan gwrdda i a hi ar yr hewl.” “Mae’n ymddibynu pwyn [sic; = pwy] yw hi,” myntwn
innau. “A dyna pa’m rwy’n gofyn i ti nawr.” “Wel, os os rhaid i chi gael gwbod,” mynte fe, “Miss
Williuams oedd hi.” “Dw i ddim tipyn callach yto,” myntwn i. “Mae 11awer
Miss Williams i ga’l.” “Wel, te, Miss Williams, Caebach,” mynte fe, gan
gochi hyd i ddou clust. “Beth y wedest ti?” myntwn i. “Polly, melrch Wil1
Caebach!” Gweithiwr boach wrth y dydd, welwch chi, oedd Wil
Caebach, a fe wyddwn fod gydag e’ ferch bant yn rhywlo mewn shop neu |
|
|
|
(Papur Pawb. 28 Mai 1898).
Pennod 18. rhywbeth fel’ny. A ’roedd e’n dan ar ’y nghroen i i
feddwl fod mab i fi yn gneyd tocs a merch i Wil Caebach, ta, beth. “Ie,” mynte fe, yn ddigon digwilydd. “A merch Wil Caebach oe ti’n glosso fel’na ar yr
hewl!” myntwn i. “Rwy’n synu am dana ti’n gwneyd fyny a hen gwmpni ishel
fel’na!” “Mami!” mynte fe; “pidwch a gweyd peth fel’na! Rw
i’n myn’d i briodi Polly Williams, Caebach.” Fe fues jist cael ffit wrth ’i glywed e’. Ond fe
wyddwn well na myn’d i gwmpo ma’s ag e’ fan ’ny. Ond beth neitho i, yn ddishtaw bach ar ol te, ond
dodi monet ar ’y mhen, a bant a fi tua Caebach. Hen dy bach to gwellt yw
Caebach, dim ond dwy rwm fach ar y llawr, a rhyw dwll bach o fedrwm dan y to
ar y llofft; a hen ddrws ishel bach i fyn’d miwn. Fe gnoces ’y mhen yn erbyn
top y drws wrth fyn’d mewn, nes tolco’r fonet i gyd, a’i dishtriwa hi’n lan. Doedd neb yn y ty ond Polly, a dyma fi’n ei gollwng
hi right and left ati, a fe rois gystal pryd o dafod iddi a ga’s neb eriod.
Wel, atebws hi ddim gair nes o’wn i wedi colli’n anal yn lan. Wedyn, mynte
hi: “Mrs Jones,” mynte hi. “Ar ol beth y chi wedi weyd, na
i ddim tocs pellach a Edward nes bo chi’ch hunan yn dodi i ofyn i fi neyd
hyny.” “O’r gore, ynte,” myntwn innau. “Dyna fargen ynte.
Ond fe fydd dy wallt di’n wyn, y merch i, cyn byth y dowa i i ofyn i ti.” A bant a fi fel bollt, gan fwrw’n mhen wed’yn yn
erbyn. top y drws wrth fyn’d maes, a Polly yn edrych ar ’y nol i, a dou
rhosyn coch scarlet yn ei bochau hi, a’i dou lygad hi fel dwy fflam yn ei
phen hi, ond heb weyd dim un gair ond gyment ag a wedais i wrtho chi. A bant a fi sha Cwmlydan, gan feddwl mod i’n eitha
saff bellach. Ond dyn a’n helpo i, fel cewch chi weld! (I’w barhau.)
|
|
|
|
(Papur Pawb. 4 Mehefin 1898). Pennod 19. Wedi i fi gwmpo ma’s fel ’ny a Polly Williams, merch
Wil, Caebach, am ’i bod hi wedi trio ca’l gafel yn nghwt Ned ni, fe etho i’n
stret sha thre. Wedi i fi gyrhaedd yno, doedd dim son am Ned, a fe
spectes ’i fod e’ wedi myn’d yn ’y ngwrthol i sha Caebach, ond fe ddaeth nol amser
swper, ac yn edrych fel y gwr drwg. Ond gyda bod swper hibo, dyma Ned yn gweyd yn sydyn:
“Mami, ody mhethau i’n barod?” “Pethau? Pwy bethau?” myntwn innau. “Y nillad lian i, a phethau fel’ny,” medde fe. “Yn barod i beth?” myntwn innau wed’yn. “Yn barod i fi cael nhw,” mynte fynte. “Pam rwyt ti’n gofyn?” meddwn innau. “Am fod ’i hishe nhw arna i,” mynte fe, gan hercyd y
ganwyll fel pe byse fe’n par’toi i fyn’d i’r gwely. “Howyr bach,’ myntwn i. “Dydd Sul diwetha newidest
ti nhw.” “Ie, ie,” mynte fe; “ond rw i’n myn’d bore fory peth
cynta’.” “Myn’d b’le?” myntwn i. “Myn’d nol,” mynte fe yn short fel na. “Myn’d nol i bl’e?” myntwn innau wed’yn, yn ffeilu
deall ar y cynta beth all’se fod yn ’i ben e’. “Nol i b’le, wir?” mynte fe, yn cochi. “Rhyfedd mor
dwp i chi’n gallu bod.” “Edward!” mynte ’i dad; “a’i dyna shwd wyt ti’n
sharad a dy fam?” “Pa’m mae hi’n trio’n mhrofoco i, ynte?” “Dw i ddim yn trio dy brofoco di, machgen i,” myntwn
innau, gan drio ’i dawelu e’, wath mae temper ofnadw yn Edward pan eiff e’
ma’s o hwyl, a ’roedd arna i dipyn bach o’i ofan e’r nosweth hyny, a gweyd y
gwir. “Ry chi wedi gwneyd gwaetha’ch dannedd, mam,” mynte
fe, heb hido dim am ’i dad na neb arall. “Ond gan y’ch bod chi’n cymeryd y
line yna, does gen innau ddim byd i neyd ond i waco hi’n ol i’r man lle detho
i. Alla i gael y car i’n heibrwng i i’r station bore fory, data?” “Galli, galli, machgen i, os wyt ti’n benderfynol o
fyn’d,” myntwn innau, gan gymeryd y blaen ar Dafydd, rhag ofan byse hi’n
myn’d yn gwmpo ma’s rhwng y ddou. Apedodd Ned ddim gair, ond bant ag e’ i’r gwely, heb
gymaint a gweyd “Good night.” Wel, wedes i ddim gair wrth Dafydd yn nghylch y
peth. Mae gwrywod mor od, wyddoch. Dyn a wyr, falle byse fe’n ochri gyda’r
hen grwt, ac yn moyn cael gadel iddo fyn’d yn mlaen i gadw cwmpni a Polly,
merch Wil Caebach, - doedd dim tipyn o drust i Dafydd, welwch chi. Fel’ny, fe
weles mai pido agor ’i lygid e’ fyse’r peth calla i fi. A rhyngto chi a finnau, doedd ddim yn ddrwg i gyd
gen i fod Ned yn myn’d nol. Fe fyse ma’s o berygl yn Llanelli, welwch chi,
wath dyna lle ’roedd, e’ ar y pryd yn |
|
|
|
(Papur Pawb. 4 Mehefin 1898).
Pennod 19. Wel, erbyn bore dranoeth, ’roedd wedi dod nol dipyn
bach iddi le, a jest mor serchog ag arfer. ’Roedd ’i bethau fe i gyd yn barod
gen innau iddo fe, a fe ofales fod y car yn barod mewn pryd, a fe’i gweles
e’n starto o’r clos ar y ffordd i Landilo i gael y tren. A gan i fi wel’d
Polly yn myn’d drwy’r clos yn mhen rhyw awr wed’yn, fe wyddwn fod pobpeth yn
all right. Wel, ta beth, yr wthnos wedyn, dyna i chi lyfr
patrymau grand ymbeidus yn dod gyda’r post i fi, ac erbyn i fi ’i agor e’,
dyna lle ’roedd rhai o’r patrymau boneti bach perta welsoch chi eriod yn y’ch
bywyd. Ac erbyn dryched, o shop rhyw Frenchwman, o’r enw Madame Pauline, o
Lanelli, lady o Paris, mae’n debyg, oedd y llyfr wedi dod. Wel, fe godws y patrymau hyny waew ymbeidus arna i
ishe cael gweld shop Madame Pauline, wath rwy i gystal judge am fonet ag yw
Dafydd ni am fochyn. A fe ath y gwaew yn wath arna i wedi bod yn talu rhent,
waeth ar ryw sharad gyda mishtres, fe wedws hi wrtha i mai o shop Madame
Pauline, yn Llanelli, ’roedd hi a’r ladies ifenc yn cael eu milliniery i gyd
nawr. “Mae hi gystal a dim weles i yn Paris,” mynte hi.
“Does dim un shop yn Llundain a’i ffystiff hi.” “Dafydd,” myntwn i, pan etho i gatre; “rwy’n myn’d
lawr i Lanelli wthnos nesa.” “O’r gore, Jane fach,” mynte fo; “cofiwch fi at
Edward.” A dyna i gyd. Fe ysgrifenais air at Edward i weyd wrtho fy mod i’n
dod, a fe rois hint fach iddo fe licswn i gael myn’d i wel’d shop Madame
Pauline cyn myn’d gatre. Fe ddaeth i gwrdd a fi i’r station, ac ar ol myn’d
iddi lodging e’, fe ethon i shop Madame Pauline - shop fawr, beautiful, yn
llawn o’r pethau perta welws y’ch llygid chi eriod. ‘Roedd yno un fonet fach own i’n lico yn
anghyffredin, a rown i’n dwli ishe ’i chael hi; ond roe nhw’n gofyn dou gini
am dani. Fe gynniges i ddeg swllt ar hugain, a fe godes i bymtheg ar hugain,
fel mae mwy cwilydd i fi weyd, ond ddese’r ferch ddim lawr. “Does gyda ni ddim ond un prish, ma’am,” meddai hi.
“Dyw Madame Pauline byth yn gostwng dim. A mae’r fonet yn werth yr arian.” Rown i’n gwel’d hyny gystal a hithau. “B’le mae Madame Pauline?” myntwn i. “Alla i gael ei
gwel’d hi?” “Na allwch, rwyn ofni, ma’am, mae ladies Gelli Aur
gyda hi nawr yn dewish trimmings iddi hetau newydd nhw. Ga ’i baco’r fonet i
chi?” Ond er cymaint o hwant oedd arna i, all’swn i ddim
cael ar ’y nghalon i roi cymaint a hyny am y fonet, a nol a fi, ac off gyda’r
tren cynta sha Llandilo, gryn dipyn ma’s o hwyl. Ond dranoeth, dyma’r postman yn dod a pharcel mawr i
fi, ac erbyn i fi ’i agor e’, dyna lle ’roedd y fonet fach, a llythyr bach
nice orwth Madame Pauline, yn gweyd fod yn ddrwg gyda hi nag oedd hi wedi
cael ’y |
|
|
|
(Papur Pawb. 4 Mehefin 1898).
Pennod 19. A ’roedd llythyr gyda’r un post orwth Ned, yn gweyd
ei fod e’n ffrindo embed a Madame Pauline, a’i fod e’ wedi ei gwel’d hi’r
nosweth hyny wedi i fi fyn’d, a’i bod hi’n flin ymbeidus na chas hi’n ngwel’d
i. Fe ysgrifenes nol, wrth gwrs, i ddiolch am y fonet,
a fe hales gwpwl o ffowls, a basgeded o wyau, a photeled o hufen llaeth, a
rhyw bethau fel’ny, nol yn bresent iddi hithau. Yn mhen rhyw bythefnos wed’yn, dyma Ned gatre
wed’yn, ond dim ond am nosweth, a fe gymws fantais i gael ple bach a fi, dim
ond fe a finnau. “Mami,” mynte fe. “Wnewch chi rywbeth drostw i?” “Gna i, os galla i,” myntwn innau. “Cerwch i Lanelli,” mynte fe, “a gofynwch i Madame
Pauline os ca i fyn’d yno i garu.” “Fachgen dwl!” myntwn i; “cera i ofyn dy hunan.” “Na,” myn’te fe, “dyw hi ddim ffasiwn i neyd hyny yn
Ffrainc. Rhaid i fam y dyn ifanc ofyn trosto fe.” “Chlywes i fath fflwcs erioed!” myntwn i. Ond ar ol tipyn o bIedo, a chael ar ddeall shwd
’roedd pethau’n bod, a mai Madame Pauline oedd perchen y shop ’i hunan, newydd
cael les arni am drigen mlynedd, fe addewais fyn’d. “Rhaid i chi hala nosweth yco,” mynte Ned. “Waeth
all hi ddim spario amser i chi gael ple hir a hi nes bo hi ar ol cau. A fel’ny buodd hi. Fe etho lawr i Lanelli, ac yn
mrig y nos fe etho tua’r shop pan oe nhw yn cauad, a fe ofynes gael gwel’d
Madame Pauline. Fe espwd a fi miwn i sitting-room beautiful o grand,
lle ’roedd Madame Pauline yn ishte. ’Roedd hi’n dechreu tywyllu, a all’swn i
ddim gwel’d yn blaen iawn, ond fe weles i bod hi’n grand ymbeidus, ac yn
fenyw smart ofnadw. Yn y’n hurtwch, fe frathes ’y neges ar unwaith, gan
frotshan Seisnig gore gall’swn. Ond dyma hi’n hwerthin, ac yn gweyd yn Gymraeg, “Ni siaradwn Gymraeg, os gwelwch yn dda, Mrs Jones, os
nag y chi’n deall French. A well i ni gael goleu i ni gael gwel’d y’n
giddyl.” Fe ganodd y gloch, a dyma’r forwn yn dod a’r gole. A
phan edryches i, pwy y chi’n meddwl oedd gen i? Polly Caebach! Ie, wirione i! Polly oedd Madame Pauline! Wel, fe hwarddws pan welws hi ngwyneb i, nes own i’n
meddwl byse hi’n hollti gan hwerthin. Ond hware teg iddi, y cwbwl wedws hi
oedd: “Wel, gan y’ch bod chi’ch hunan yn gofyn, Mrs Jones,
rwy ’n folon i Edward gael gweyd ei stori ei hunan o hyn mas!” A dyna shwd daeth Madame Pauline, sy’n gneyd
boneti’r ladies gwyr mawr i gyd ffordd hyn, yn ferch-yn-nghyfraith i fi,
welwch chi. (I’w barhau.) |
|
|
|
(Papur Pawb. 11 Mehefin
1898). Pennod 20. PENNOD XX. - MADLEN YN HELPU HEB FEDDWL. Polly, merch Wil Caebach, fel y gwedes i, yw’r unig
un o’r plant-yn-nghyfraith sy’ wedi cael y trecha arna i eriod - a rw i’n
ddigon o fenyw ac yn ddigon onest i gydnabod hyny. Dw i ddim yn un o’r rheiny
sy’n pwffan i hunan byth a hefyd, yn gweyd pobpeth, a mwy na hyny, allan’ nhw
sy’n rhywfaint o glod iddyn nhw ’u hunain, ac yn peido son gair am y petha
sy’ yn eu herbyn nhw. Dyna fi wedi adrodd wrtho chi mor deg a mor onest am
shwd ffystws Polly fi, ag w i wedi dechreu gweyd wrthach chi shwd ffystes
innau wraig Tanybryn. Gadewch wel’d, b’le roun i ar y stori hyny? Oh, ie,
newydd hela Dafydd ni bant sha Tanybryn i gael ple a Mrs Griffiths yn nghylch
y notis to quit oedd Tomos ni a Siwsan wedi gael gan Dic y Castell. Fel gwddoch chi, doedd dim o Dafydd ni yn specto fod
dim rhwng Dic a Sally ni, ac yn specto llai na hyny fod Dic a finnau yn deall
ein giddyl. Na, wait a bit, os gwelwch yn dda. Dw i ddim mor
ddwl a hyny hefyd! Fe wyddwn i amcan os gwedswn i wrth Dafydd, neu os rhoeswn
i rhyw le iddo fe i feddwl fod rhywbeth fel’ny ar droed, fyse dim iws yn y
byd i fi adel iddo fe fyn’d wed’yn sha Tanybryn, wath fe fyse fe’n shiwr o’i
brathu hi rhywffordd neu giddyl. Mae Dafydd mor dwp, welwch chi, a mor
ddiniwed, a fe dynse gwraig Tanybryn mas ohono fe yn go handy os byse gydag e
rywbeth i’w weyd. Ond fe gymres i ddigon o ofal na fyse gydag e ddim i
weyd, welwch chi, ond peth oedd yn taro iddo fe. Roedd yn taro’n brion iddo weyd wrthi fod Tomos a
Siwsan yn gorfod madel o Ty’nywern. Roedd yn taro cystal a hyny i fod e’n
gweyd wrthi fod Dic y Castell yn folon iddyn nhw gael Ty’nlon. Roedd yn taro
gystal a hyny nag oedd dim sharad wedi bod rhyngto fe a fi ar y mater yn
mhellach nag a wyddoch chi oedd wedi cym’ryd lle rhyngto ni - a doedd dim
gair o son wedi paso rhyngto ni am Ty’nlon, ond mod i, wrth gwrs, yn gwbod
fod Dic wedi gweyd wrth Siwsan y celse nhw Ty’nlon os licsen nhw; a roedd yn
taro gystal a hyny i Dafydd ni ddangos i fod e - a finnau, wrth gwrs - yn
benwan holics wrth Dic y Castell am brynu Ty’nywern dan drwyn Tomos a Siwsan.
Roun i’n dychmygu yndw i’n hunan shwd byse’r sharad
rhwng Dafydd ni a gwraig Tanybryn pan ese fe yno; fel byse hi’n trio’i sumpo
fe, cael gwel’d os gwyddwn i rywbeth yn nghylch y peth, ac os gallse fod rhyw
fath o gyd-ddealltwriaeth rhwng Dic y Castell a fi yn y mater. Wath ’roedd hi’n bound o specto rhywbeth, welwch
chi. Dyna lle’r own i wedi bod yno yn trio cael gyda hi i
fyn’d i le bach a rhoi Tanybryn i Tomos a Siwsan. Dyna lle ’roedd hithau wedi
towlu a thascu fel wn i ddim beth,
|
|
|
|
(Papur Pawb. 11 Mehefin
1898). Pennod 20. dim ond am mod i’n awgrymu hyny wrthi. Dyna wed’yn
Tomos a Siwsan yn gorffod myn’d o Dy’nywern, ac yn cael cynnyg ar Ty’nlon - a
hithau’n gwbod yn brion na fyse dim ise iddyn nhw fyn’d i Dy’nlon, am na fyse
hyny ddim ond profedigaeth bellach i Tomos, fan ’ny dim ond ergyd careg orwth
y Square and Compass, welwch chi. Fan ’ny byse fe’n bwsan byth a hefyd, bob
cyfle gese fe, a fe gese ddigon o gyfle os byse fe’n byw yn Ty’nlon. Waeth
fyse dim hanner digon o waith iddo fe ar hen le bach fel’ny, a fel’ny fe fyse
digon o amser gydag e i fwsan neu neyd beth fynse fe. Rown i’n shiwr fel’ny, debygswn i, byse my lady yn
Tanybryn yn shiwr o specto fod gen i fys yn y cawl yn rhywle - ac os byse
Dafydd ni yn gwbod rhywbeth yn nghylch y peth, fe fyse hi’n shiwr i gwala o
dynu arno fe rywffordd neu giddyl. Ond fe fydd rhaid iddi godi dipyn bach yn foreuach
cyn ceiff hi fyn’d tuhwnt i fi, fel ca’s ei wel’d. Fe adewais i Dafydd ni
fyn’d yno ati heb i fod e’n gwbod dim mwy na hithau, a fe wyddwn ta faint
fyse hi’n dreio tynu arno fe, na allse hi ddim tynu mas ohono fe beth nag
oedd ganto fe, a chan nag oedd ganto fe ddim gwybodaeth yn nghylch dim rhwng
Dic a Sally, na rhwng Dic a finnau, allse fe ddim gweyd wrthi, wrth gwrs. Fel’ny rown i’n teimlo’n eitha esmwyth ’y meddwl pan
oedd Dafydd ni yn Tanybryn y nosweth hyny, ac er mwyn towlu mwy o ddierth, fe
etho i i’r gwely cyn iddo ddo[d] sha thre. Ond down i ddim yn cysgu, pidwch meddwl. Fe’i clywes e’n dod i’r ty. “Madlen,” mynte fe. “B’le mae’ch meistres?” “Wedi myn’d i’r gwely, mishtir,” mynte hono. “Oedd hi’n dost?” mynte fe. Hen un tyner ymbeidus, welwch chi, yw Dafydd ni
eriod. “Nag oedd, am wn i,” mynte Madlen. “Roedd hi’n dryched fel se rhyw ofid arni,” mynte
Sali’r ail forwn - a fe benderfynes wrth i chlywed hi rhoiswn i ryw bresant
bach i’r groten fach dranoeth am iddi weyd hyny. “Rhyfedd yn y byd i bod hi’n becso, poor thing,”
mynte Dafydd. “Mae digon o achos becso genti, rwy’n siwr o hyny.” “Beth sy’n bod ynte, mishtir?” mynte Madlen, yn
dechreu taclu swper iddo fe. “Does rhaid yn y byd i ti ddodi swper i fi, Madlen
fach,” mynte fe. “Dw i ddim yn cym’ryd dim heno.” “Well i chi drio dipyn o rywbeth, mishtir,” mynte
hithau. “Na, na i ddim heno,” mynte fe. “Rw i wedi cael
digon o swper am dipyn, gan ta p’un.” “Be sy’n bod, mishtir, gan mod i mor ewn a gofyn?”
mynte Madlen wed’yn. “Tomos sy’ wedi cael notis i fadel o Dy’nywern, dyna
beth sy’n bod,” mynte Dafydd. “Diar anwl! Dyna gwiddyl ontefe!” mynte Madlen. “Pwy
feddylse am Mr Jackson, y gnese fe shwd beth a hyny?” “Nid Jackson yw e,” mynte Dafydd, “Mae |
|
|
|
(Papur Pawb. 11 Mehefin
1898). Pennod 20. e wedi gwerthu’r lle i Dic y Castell, a Dic rows
notis i Tomos heddy.” “Yr hen greadur cas ag e!” mynte Madlen. “A fynte
yma gyda chi ar swper echnos.” “Ie shiwr, Madlen fach, dyna shwd mae’r byd yn myn’d
wel di. Cymer di gynghor gen i, merch i. Paid ti byth a phriodi sha ffarmwr,
os cei di rywun arall.” “Cerwch ona cha [??chi], mishtir,” mynte hithau yn
hwerthin, wath roedd hi’n lico nobl i glywed son am dani yn priodi, yn
enwedig sha ffarmwr. “Ond beth wna nhw yn Ty’nywern nawr?” “Wn i ddim beth wna nhw,” mynte Dafydd, yn towlu i
esgid i ben draw’r gegin. “Mae Dic yn cynnyg Ty’nlon iddyn nhw os licse nhw.
Ond beth wneiff pobol ifenc streifus fel Tomos a Siwsan, ar hen le bach fel
Ty’nlon.” “Ry chi’n gweyd y gwir, mishtir,” mynte Madlen. “Ond
fyse’n fawr gen i i Mrs Griffiths roi Tanybryn iddyn nhw, a myn’d ’i hunan i
Dy’nlon.” Un eitha smart i wel’d rhywbeth, welwch chi, yw
Madlen. “Danco, los, ond taw e mynte Dafydd. “Feddyles i
ddim byd am hyny Ond mi weda i wrth Mrs Griffiths y’n hunan, fory, ar ol cael
sharad a’ch mishtres ar y mater.” “Na nei, na nei, Dafydd bach,” myntwn i yndw i’n
hunan. “Wedi di ddim o mhen i, rw i’n shiwr o hyny. Rw i’n ffastach na hyny o
dipyn bach, yto.” Fe ddaeth i’r gwely mhen spel, a fe driws y nihuno i, a
finnau’n esgus cysgu hold fast, ond ar yr un pryd gyment ar ddihun ag w i
nawr, welwch chi; ond nag own i ddim am iddo fe gael meddwl hyny. Bore tranoeth, wed’yn, fe godes yn ddishtaw bach heb
yn wbod iddo fe, a fe adewais lonydd iddo fe gysgu hyd amser brecwast, wath
fe gysgse Dafydd ni drwy’r dydd, tae e’n cael llonydd. Pan godws e amser brecwast rown i’n benwan mas o
hwyl - esgus wrth gwrs - ac yn rowso pawb, nes gwneyd Dafydd yn falch i fyn’d
mas o’r ty gynta gallse fe. Ond wedi iddo fyn’d, fe ddetho i i’n lle yn all
right, a phobpeth yn nobl yn y ty. Rown i’n cadw’n llygad ar Dafydd nawr ac yn y man o
hyd, waeth fe wyddwn fod gwaew arno fe ishe cael myn’d draw i sharad wed’yn a
Mrs Griffiths, Tanybryn; a down i ddim am iddo fe gael cyfle i sharad dim
gair a fi cyn gwelse fe hi, yn lle ei bod hi’n meddwl mod i’n saco dim byd yn
i ben e. A rhwng brecwast a chino, pwy welswn i yn ei choeso
hi yn groes i’r caeau sha Tanybryn, ond Dafydd ni. Rown i mas ar y clos pryd hyny, a phan gweles i e,
fe hwarddes mas dros yr holl le, wrth feddwl mor neis oedd pethau’n dod rownd
i neyd i Mrs Griffiths neyd beth own i am iddi. “Fe fydd stori arall gen ti, pan ddoi di nol o
Danybryn, Dafydd bach,” myntwn i, a bant a fi sha’r ty. (I’w barhau.) |
|
|
|
(Papur Pawb. 18 Mehefin
1898). Pennod 21. PENNOD XXI. - ARLLWYS CWDYN DAFYDD. Os gofales i fod ma’s o’r ffordd pan oedd Dafydd yn
starto sha Tanybryn yr ail waith bore tranoeth, fe ofales hefyd fod o fewn
cyraeadd pan ddath e’n ol. Os nag own i am hwilia ag e’ cyn iddo fyn’d, ro wn
i am roi digon o gyfle iddo fe arllws ’i gwdyn wedi dod nol. Ond nid gwaith
rhwydd bob amser yw cael gan Dafydd ni, welwch chi, i arllws i gwdyn chwaith.
Fe all e’ gadw ’i ben yn nghau yn nobl, os licith e’, er pryd arall mae yn
ddigon parod i flaban y cwbwl. Wel, ddaeth e’ ddim nol, welwch chi, nes oe ni wedi
galw i gino, ac wrth gwrs all’swn i ddim cael ple gydag e’ fan ’ny lle clywse
pawb. Ond roedd yn ddigon rhwydd gwel’d i fod e’ ar y weiers gwyllt am
rywbeth neu giddyl. ’Roedd e’n towlu ambell gil llygad shag ata i, ond os
gwelse fe fi’n dryched arno fe, fe ddrychse bant - mewn mynyd. Tae e’n
fachgen ifanc moyn tori ple a merch ifanc, fyse fe byth yn wath. Rwy’n nabod
arwyddion y clefyd yn nobl, a fe wyddwn fod Dafydd ni jest cael ei fyta gan
hwant gweyd rhywbeth, ac eto fod arno fe ofan gweyd hefyd. Ond os dy chi yn y fan ’na, gyda bod y bechgyn yn
codi orwth y ford fawr, whiw a Dai ma’s gyda nhw heb weyd gair ei hunan, na
rhoi cyfle i finnau weyd gair chwaith. Wyddwn i ddim yn iawn ar y cynta beth i feddwl wrth
wel’d peth fel’ny. Fe gredes unwaith fod rhyw fusnes embed yn ei alw fe, a’i
fod e’n mwstro’n glou i ga’l dibenu hyny, gall’se fe ddod ’nol i ga’l ple
bach yn dawel, dim ond fe a finnau. Ond pan etho i ma’s i ben bwlch y clos i
ddryched, lercan amboutu oedd Dafydd, os gwelwch yn dda, a’i ddwylo yn mhocedl
’i drowsus. Ond pan welws e’ fi, dyma, fe’n ’i choeso hi am ’i fywyd. “Ho! ho!” myntwn i yndw i’n hunan. “Dyna shwd mae
pethau’n bod, machgcn i, iefe? Wel, ni gawn wel’d amser te.” Amser te ddaeth, a Dafydd gydag e’. Ond fe hwariws
yr un trie yn gwmws ag amser cino, a ma’s ag e’ fel bollt cyn ca’l amser yn
iawn i lyncu ’i gino. “O’r gore, Dai bach,” myntwn i. “Ti gei di dipyn
bach o de time, machgen i. Fe ddaw amser gwely ma’s law, a alli di ddim ffoi
o’r fan ’ny ta beth, a rwy i’n camsyned yn fawr iawn os na fyddi di’n ddigon
parod i arllws dy gwdyn i gyd pryd hyny.” Fel’ny, chym’res i ddim byd arna i amser swper na
dim, ond bant a fi i’r gwely, i’r parlwr bach, fel arfer, gan weyd: “Ody chi’n dod i’r gwely, Dafydd?” “Mi ddowa i ma’s law,” mynte fe. “Rw i am ddarllen
dipyn bach ar yr “Herald” gynta. Pidwch ag aros i fi.” “Pidwch becso dim, wna i ddim, os rhaid
|
|
|
|
(Papur Pawb. 18 Mehefin
1898). Pennod 21. i chi byth,” myntwn innau’n sych fach. “Good night.”
A bant a fi dim ond hyny am hyny. Mhen spel fach, fe glywn Dafi’n dod yn ddishtaw bach
yn y tywyllwch, a thraed ei sanau, ac yn dod i’r gwely mor dawel ag o’wn i’n
arfer myn’d slawer dydd pan fyse’r babi’n cysgu. Un anodd iawn i’w blesio am le yn y gwely yw Dafydd
yn arfer bod. Rhaid iddo gael gneyd rhyw fwy na mwy o saco’r dillad ambouitu
e’, a ryw hen nonsens fel’ny, nes bo’n ddigon o bo’n i ddyn i fyn’d i’r gwely
nes bo fe wedi gwalo ’i hunan yn reit. Ond y nosweth ’hyny, naeth e’ ddim ond
slipo miwn yn ddishtaw bach, dan y dillad, a gorwedd mor dawel a llygoden,
gan feddwl, wrth gwrs, mod i’n cysgu, ac ofan wed’yn ’y nihuno i. “Ond paid ti a chamsyned, machgen i,” myntwn i yndo
i’n hunan. “Rwyt ti’n saff dy wala gen i o’r diwedd, a fe gewn wel’d nawr te
p’un ai gwraig Tanybryn neu wraig Cwmllydan sy’ drecha.” Fel’ny, pan o’wn i’n meddwl i fod e’ wedi dechreu
cynhesu dipyn bach, myntwn i: “Wel, Dafydd bach, gwelsoch chi’ch amser i ddod i’r
gwely o’r diwedd, was i?” Dur, dyna starto nath e’ pan glyws e’n llaish i
gynta. Fe driws gym’ryd arno fe nag oedd e’ ddim yn clywed, a dyma fe’n trio
esgus hwrnu. “Raid i ti byth, Dafydd bach,” myntwn i wrtho fe.
“Thwylli di ddim hen dderyn ag us, was i.” “Beth sy’n bod?” mynte fe wed’yn, pan welws e’ mod i
wedi nabod ’i drisis e’. “O, chi wyr oreu beth sy’n bod,” myntwn innau. “Ond
mae rhyw now rhyfedd wedi dod trostoch chi heddy, ta beth.” “Beth y chi’n feddwl?” mynte fe. “Dw i’n meddwl dim byd, ond ei bod hi’n embed o beth
y’ch gwel’di chi mor sly a minnau wedi bod yn briod yr holl flynyddoedd yma.”
“Sly?” mynte fe. “Dw i ddim vn sly!” “O, nag y chi, wrth gwrs!” myntwn innau’n snochtlyd.
“Dur cato ni! Nag y chi, wrth gwrs. Doe chi dd:m yn sly wrth ei raso hi bant
bore heddy sha Tanybryn, heb weyd un gair wrtha i?” “Peidwch hwalu dwli, Jane fach,” mynte fe. “Myn’d amboutu
busnes Tomos a Siwsan fues i, i chi gael gwbod y cwbwl.” “O!” myntwn innau. “A mae pawb i gael gwbod yn
nghylch eu busnes nhw yn Tanyern os e’ ond y fi? Am mod i’n digwydd bod yn
fam i Tomos yn lle’n fam i Siwsan, rhaid i dad Tomos neyd pethau’n sly fach
heb wbod dim byd i fi.” “Pa’wm ry chi’n geyd [sic; = Pa’m ry chi’n gweyd]
hen bethau cas fel ’na, Jane fach?mynte fe, gan droi. “Ry chi’n gwbod yn ods
yn nobl.” “Rwy’n gwbod beth wy’n wel’d a’i glywed a’n llygid
a’n nghluste’n hunan,” myntwn i. “Rwy’n gwbod y’ch bod chi wedi myn’d i Danybryn at
yr hen fenyw wrdrwg yco’r peth cynta ar ol brecwast bore heddy, a’ch bod
chithe wedi bod fel y gwr drwg ddar ddetho chi’n ol,” |
|
|
|
(Papur Pawb. 18 Mehefin
1898). Pennod 21. Nagodd e’, yn ’i wir e’! Nagodd e’! Doedd dim byd
ma’s o le arno fe! “Pa’m na wed’wch chi, ynte,” myntwn i. “Gweyd peth?” mynte fe. “Gweyd,” myntwn i, “beth gym’rws le rhyngto chi a gwraig
Tanybryn.” “Beth y chi’n feddwl sy gen i i weyd?” mynte fe, yn
anesmwyth. “O!” myntwn i, “os oes rhaid gweyd ei bader wrth y
’ffeirad, fe weda i i chi nawr. Chi allwch weyd wrtha i’ch bod chi wedi myn’d
i Danybryn i gonsylto a Mrs Griffith yn nghylch Tomos a Siwsan; eich bod chi
wed’i gweyd wrthi mai starfo a gwaeth na hyny nese nhw yn Ty’nlon; a gall’se
hi fyn’d i Dy’nlon ’i human, a rhoi Tanybryn i’r plant.” “Ie, ie,” mynte fe. “Chi all’sech gasglu hyny orwth
y sharad amser swper nithwr.” “Ie, siwr,” myntwn i. “A gweithredu y chi ar gynghor
y gwasanaethynon, yn lle ymgynghori a’ch gwraig. Ond aroswch chi, Dafydd. Fe
wedws gwraig Tanybryn wrtho chi mai fi oedd wedi’ch hala chi yno, a fe
wirsoch chithe ar eich gair gwir nag oe chi ddim wedi bod yn sharad gair a fi
yn nghylch y peth o gwbl odd’ar pan ddetho chi’n ol nithwr. A pharu wed’soch
chi hyny, fe newidws ’i thon, ac yn y diwedd, fe wedws byse hi’n boddloni
myn’d i Dy’nlon, a rhoi Tanybryn i Tomos a Siwsan ar un ammod.” “Jane! Lodes wrdrwg, shwd dest ti i wbod y sharad
yna i gyd?” mynte fe, yn neido yn ’i ishte yn y gwely “Os dim ods shwd detho i i wbod,” myntwn i. “Ond fe
weda chi beth arall. Yr ammod oedd nag oe chi ddim i weyd un gair wrtha i ei
bod hi’n gneyd hyny. Ro’wn i i gael meddwl hyd y fyned ddiwetha mai Tomos a
Siwsan oedd yn myn’d i Dy’nlon.” “Wel, i diwc anwl!” mynte Dafydd, gan grafu ’i ben.
“Oe chi yno’n clywed y cwbwl?” “Dos dim ods i chi am hyny, Dafi bach. Dyna chi’n
gallu cadw’ch gair a gwraig Tanybryn. Chi allwch gym’ryd y’ch llw wrthi na
wedsoch chi ddim wrtha i.” “Galla, galla, wrth gwrs,” mynte fe. “Wel, wed’yn,” myntwn i, i gael rhoi clo ar y cwbwl,
“pan fydd pobpeth wedi ei setlo, chi allwch weyd wrthi fod Dic y Castell yn
myn’d a’i wraig i Dy’nywern.” “Beth yw’r ods i fi pwy fydd yn myn’d yno, os yw
Tomos a Siwsan yn myn’d odd’yno?” “Ond odi, mae’n od’s i chi, a fe weliff Mrs Griffith
hyny, hefyd, pan ddaw’r amser i ben. Sally ni sy’n myn’d i briodi Dic y
Castell, a dyna shwd ’roedd Tomos a Siwsan yn cael myn’d odd’yno, a finnau’n
trefnu iddyn’ nhw gael myn’d i Danybryn, yn lle i Dy’nlon. Cysgwch ar hwna,
Dafydd bach. Good night.” “Wel, i jaist ariod!” mynte fe. A fe etho innau i gysgu’n ddigon esmwyth ’y meddwl mod
i wedi cael y trecha ar yr hen ladi o Danybryn o’r diwedd! (I’w barhau.) |
|
|
|
(Papur Pawb. 25 Mehefin 1898). Pennod 22. PENNOD XXII. - MAGGIE A’I CHOLEJ. ‘Does neb ond y rhai sy’ wedi codi plant eu hunain
yn gwbod am y drafferth o’u magu nhw; ond dyw’r drafferth o’u magu nhw wedi’r
cwbwl i gyd yn ddim at y drafferth o drychid ar eu hol nhw, a’u cael nhw i
neud fel ry chi am iddyn nhw. Chi ymdopwch yn brion a nhw tra bo nhw’n rhai bach,
er eu bod nhw’n ddigon drygionus pryd hyny, yn trochi neu racsan eu dillad
byth a hefyd. Mae’n fach gyda merched bach pan yn yr ysgol, nawr, i gael
piner glan bob boreu, heb ystyried dim am y gwaith golchi a swddo [smwddo??]
mae hyny yn ei olygu i’r rhai sy’n gorffod gofalu am hyny. O, rwy’n siwr, ta
pwy sy’ ag amser at beth fel’ny, nag oes dim gyda gwraig ffarm, hyny yw, os
bydd hi’n debyg i fi, ac yn trio dryched ar ol rhywbeth reita’i neyd
amboutu’r lle. O, fe ffindiwch ddigon i neyd ar y ffarm o fore tan nos, a
chyn bod hi’n dyddio ac wrth oleu canwyll, os y chi’n myn’d ar y pen hyny. Ond er cymaint o ofid mae plant yn achosi pan yn
rhai bach, dyw e ddim byd at beth mae nhw’n achosi ar ol tyfu fyny. Dyna
Tomos ni, er treulio ’i drowser a chwbwl, yn gneyd llai o ofid i ni yn grwt
nag a wnaeth e ar ol tyfu fyny a myn’d i le bach ei hunan - a wn i ddim beth
fyse wedi dod ohono fe a gweyd y gwir onibai i fi lwyddo i gael gan Mrs
Griffiths fyn’d i Dy’nlon, a rhoi Tanybryn i Tomos a Siwsan. Wel, rown i’n teimlo’n go falch, credwch chi fi, mod
i wedi cael y ngwyn ar Mrs Griffiths. Prin y drychse hi arna i yn y ty cwrdd
y dydd Sul cynta wedi iddi hi seino i gym’ryd Ty’nlon, ac i rentu Tanybryn, i
Tomos a Siwsan. Ond fe ddetho i fyny a hi’n rhwydd y ngwala. Rown i’n fflynj
anghyffredin a hi, ac yn gwneyd ple mowr a hi bob cam nes i ni gyrhaedd y
bwlch lle roedd y’n llwybr ni’n troi sha Gwmllydan. Fan ny fe sefes. “Mrs Griffiths,” myntwn i, “netho chi ddim yn right
i gisho gyda Dafi ni i gadw orwtho i’ch bod chi’n myn’d i neyd beth gishes i
gyda chi i neyd.” “Ecsciwsiwch fi,” mynte hithe’m sych. “Nid gwneyd
eich caish chi own i, ond gneyd beth own i’n wel’d bod yn dda yn hunan.” “Oh, iefe?” myntwn i. “Wel, chi wyr oreu, wrth gwrs,
ond fyse fawr gen i i chi adael i Dafydd weyd wrtha i, yn lle i sharso fe i
bido.” Fe gochws dipyn, welwch chi, pan wedais i hyny
hefyd. “Ond,” myntwn i wed’yn, “chi wyddoch nag w i ddim yn
un sy’n cadw digofaint, a dyw e ddim yn beth ffein yn y byd fod
cyd-dylwth-yn-nghyfraith fel chi a finnau mas a’u gilydd.” “Dw i ddim ar fod mas a neb tawn i’n cael llonydd,”
mynte hithau. “Ond gan y mod i mor ewn a gofyn, fe liciwn i wbod beth sy yn
eich pen chi nawr.” |
|
|
|
(Papur Pawb. 25 Mehefin
1898). Pennod 22. “Ody Sally’n myn’d i briodi?” mynte hi. “Ody shiwr,” myntwn innau. “Chlywais i ddim gair,” mynte hi. “Naddo mynta wir,” myntwn innau. “Na neb arall tu
fas i’r tylwth. Chi yw’r cynta i fi weyd wrthi yn nghylch y peth.” “Ry chi’n garedig iawn,” mynte hithe wed’yn, yn
dechreu closso dipyn bach nawr. “Pwy yw’r gwr ifanc, ac ody nhw wedi cael
lle?” “Oh odyn,” myntwn i. “Mae nhw wedi cael lle. Dic y
Castell yw’r gwr ifanc, a mae nhw’n myn’d i Ty’nywern Wylhangel. Cofiwch chi
ddod i’r briodas!” A bant a fi gan ei gadael hi’n sefyll fan ny fel
delff! Ond ’roedd Maggie gen i ar y’n llaw yto, ac yn rhoi
mwy o ofid i fi na’r merched erill i gyd. Un od iawn oedd Maggie erioed, er
pan oedd hi’n groten fach. Fe gymysgse gyda phlant gwithiwr fel tyse nhw’n
blant y freeholder goreu yn yr holl gylch; a fe gwelais hi unwaith yn dishgyn
oddar gefen ei phony wrth ddod gatre o farchnad Llandilo, i roi lifft i hen
ddyn sy’n tori cerig ar ochor yr hewl. A phan etho i i gadw stwr a hi, dyna
beth wedws hi, “Roedd Dan wedi bod gyda’r doctor, a doedd e ddim yn
ffit i gerdded yr holl ffordd. Rown innau’n ddigon lysti i gerdded.” “Wel, ti gei gerdded tro nesa ynte i dy ddysgu di,”
myntwn i. “All right,” mynte hithe, a chered gas hi, ac os dy
chi yn y fan yna, fel se hyny ddim yn ddigon iddi, ond fe fynws gario
basgedaid o wyau i hen witw fach sy’n byw ar odre’r tir yma, oedd yn digwydd
cydgerdded a hi sha Llandilo. “Lodes!” myntwn i, pan glywais i am hyny, “nese rhyw
hen lodes fach o forwyn gyflog ddim mwy na yna.” “Falle nese hi ddim cymaint digon hawdd,” mynte
hithau. A dyna’r cwbl geso i gyda hi. Doedd dim use treio ’i
thynu hi ffor hwith. Tae chi’n ei chym’ryd hi trwy deg chi allsech neyd beth
fynsech chi a hi jest iawn. Ond tae chi’n trio ffordd arall, fe ese mor
stiwpid a mwlsyn, a dyn y’ch helpo chi wed’yn! Wel, fe gas yr ysgol oreu allsen ni roi iddi, nes
nag oedd dim sgolheiges yn debyg iddi yn yr holl gylchoedd yma. Chi glywsoch
mynta am y scolarships enillodd hi yn y coleg. A fe fu bant am dair blynedd
yn Lloeger, yn Ngholeg y Merched mae nhw’n galw Girton College arno fe, a fe
basws yn uchel iawn, yn B.A. a phobpeth. Ond os i chi yn y fan yna, wedi paso fel’ny a
chwbwl, dyma hi nol gatre wed’yn, ac yn towlu at waith ffarm fel se hi wedi
cael dim ond tipyn o ysgol y Board School erioed! “Lodes,” myntwn i, pan welais i hi’r tro cynta wedi
dod gatre, yn troi ei ffroc am ei chanol ac yn torchi ei llewys i fyn’d i
odro. “Wyt ti’n styried beth wyt ti’n neyd?” “Odw,” mynte hi, “Rwy’n myn’d i odro |
|
|
|
(Papur Pawb. 25 Mehefin
1898). Pennod 22. “Doedd dim ishe i ti hala tair blynedd yn y colej i
ddysgu godro gwlei,” myntwn i. “Nag oedd, nag oedd,” mynte hithau dan
hwerthin. “Ond dyw tair blynedd o golej ddim wedi gneyd i fi anghofio’r
ffordd. Dewch, mami, ry chi’n arfer bragan eich bod chi’n odraig
anghyffredin. Nawr fe odra i am y cynta a chi.” “Nei di wir!” myntwn i. “Fe ro i hwsfa i ti am dy
impidens.” A dyma fi’n towlu ati i odro Blackie, y fuwch foel
rwydda i godro ar y clos, tra gwyddwn i fod Seren fel y felldith ei hunan, yn
cicio’r bwced a phobpeth nes yn amal iawn roe ni’n gorfod ei chlymu hi wrth y
post cyn cese ni i godro hi. Ond dyma Mag ati, a’i chamol hi, a gweyd “Dere di
morwn fach i,” ac yn dechreu canu’n ddishtaw bach a’r hen fuwch fel se hi’n
enjoyo, ac yn rhoi’r llath y peth rhwydda welsoch chi eriod. A dyma hi’n codi o dan y fuwch ac yn gweyd, “Wel, mami fach. Shwd i chi’n dod yn mlaen a hi?” A gwyr daioni! Dyna lle roedd hi, a nagos i lon’d y
bwced o laeth, a finnau ddim wedi hanner dibenu! A gwaeth na’r cwbwl roedd Mag
yn edrych mor cool a phe byse hi heb neyd dim, a finnau’n hwys dyferu, a
ngwyneb i’n goch fel y gwaed. “Dyna chi, mami, pidiwch chi a gwneyd spree am ’y
mhen i yto, os gwelwch yn dda.” “Ie, ie,” myntwn i. “Rhwydd i ti sharad, y merch i,
ond chas dy fam ddim tair blynedd o golej yn Lloeger eriod!” “Oh,” mynte hithe. “Doedd dim gwartheg yn Girton.” “Wish pun am hyny,” myntwn i, a chreda i byth nag os
e hefyd waeth gen i beth fo neb yn weyd. A wed’yn, os gwelwch yn dda, roedd yn rhaid i Mag gael myn’d i’r ysgol laeth, fel
ae gwrywod fel Tom Parry, Aberystwyth, yn gwbod y ffordd i drin blith yn well
na fi sydd wedi bod wrth y gwaith eriod, ac fel gwyddoch chi yn cael y gair
mai gyda fi mae’r menyn ffeina sy’n dod i farchnad Llandilo. Fe dries i ngore i hadel hi, ond fe drows Dafydd o’i
hochor hi, a rhyntgy nhw’ch dou fe gas neyd fel mynse hi. Ond gwedwch chi os
nad gwastraff ar arian oedd hala un fel na i’r colej i Loeger, i ddod nol i
fod yn ddim ond rhyw damed o laethwraig wedi’r cwbwl! (I’w barhau.) |
|
|
|
(Papur Pawb. 2 Gorffennaf
1898). Pennod 23. PENNOD XXIII. - LODGER MRS GRIFFITHS. Wel, fel rown i’n gweyd wrtho chi, doedd dim byw na
bod gyda Maggie, wedi costi i gael ysgol dda fel’ny a phobpeth, ond ’roedd yn
rhaid i’r ffoles fach, ar ol bod bant yn y colej, ac enill ei B.A. a
phobpeth, i gael myn’d yn llaethwraig, os gwelwch yn dda! A myn’d o bobol y byd, at wryw i gael dysgu’r ffordd
i drafod blith! Beth wyr Tom Parry, wish, am drafod caws a menyn! Ond er mor rhwydded oedd cael gwared o Tom Parry,
’doedd hi ddim mor rhwydd i gael perswad ar Maggie. Mae hono fel mwlsyn pan
gym’riff hi rywbeth yn ei phen. Rw i’n ddigon penderfynol; ond fues i erioed
yn bengam nawr fel Maggie. Roedd yr un man i chi gnoco’ch pen yn erbyn y wal
yn gwmws ag oedd i dreio ’i pherswado hi ar y mater yna. “Run man i chi bido sharad, mami fach,” mynte hi.
“Mae’r tipyn dysg w i wedi gael wedi gneyd i fi weled fod dysg yn dda at
bobpeth, yn y llaethdy run fath ag ar y cae pan yn mhoilyd.” “Beth wyt ti’n hwilia los,” myntwn i. “Dos dim gwell mhoilwr yn y cwmpasodd yma na Jac y
Llety, a chas e ddim dwarnod o ysgol erioed.” Ond nath hi ddim byd ond hwerthin. “Weda i na i a chi, mami,” mynte hi, a mae hen ddull
bach neis gyda hi pan fydd hi’n lico. “Rwy’n gwbod nag os dim gwell menyn ar
farchnad Llandilo na menyn Cwmllydan, a rw i am gadw credit y ffarm fyny.” “Wel, dysga gan dy fam ynte, sy’n gwbod gymant yn
well na ti, da merch i,” myntwn i, gan feddwl dod drosti fel’ny. “Weda i beth na i a chi. Gadewch i fi gael y
fainc groes yn pen ucha’r llaethdy, a
dwsin o bedyll, ac unrhyw dair o’r gwartheg liciwch chi i gyd dan y ngofal i
a neb arall, i twtsh nhw, a fe fentra i ca i mhen hwech mish yto well ris am
y’n menyn i yn Llandilo nag y gewch chi, mami, am eich un chi.” “Wyt ti’n meddwl mod i’n bali, gwlei!” myntwn i. “Mae ofan ar dy fam i fentro, Maggie fach,” mynte
Dafydd, oedd wedi clywed y shared; a mae e’n lico codi llawes Maggie stil. “Ofan! Pidiwch a chamsynied!” myntwn i. “Fe na i fargen
a ti os lici di, Maggie, ti gei di shawns i neyd cynnyg teg arni fel rwyt
ti’n gweyd; ond os yn mhen y hwech mish y bydd y menyn i o flaen dy un di ar
y farchnad, rhaid i ti roi hibo bob rhyw fflwcs fel ysgol llaeth a rhywbeth
fel’ny, a gwrando ar rai callach na thi.” “O’r gore,” mynte hithau’n dawel, “dyna fargen.” “A finnau’n witness,” mynte Dafydd mor sobor a
judge. |
|
|
|
(Papur Pawb. 2 Gorffennaf 1898). Pennod 23. Wel, fe gas hi ei ffor; ac fe’i mynse fe os na chese
hi e. Ac os ’dy chi yn y fan yna, fe’n ffystws i ar y nhir
y’n hunan. Roedd ei menyn hi yn mhen y hwech mish yn dair ffylling, a weithe
yn ginog y pound yn fwy ar y farchnad na’n un i! Pan detho nhw i wbod am dano, fe fynse’r gwyr mawr
amboitu ffor yco ddim byd ond menyn Maggie. Ond pidwch chi a meddwl mai ysgol Tom Parry naeth
hyny. O’r anwl, nage! ‘Natur y cyw sy’n y cawl,’ welwch chi! Wedi dysgu gan i
mam oedd Maggie, welwch chi; a hithau dipyn bach yn gwic gyda hyny. Dyna’r
sicret i gyd! Ond am mai Tom Parry rhous hi ar ben y ffordd –
Pwff! Wel, roedd bod Maggie’n mynu cael ei ffordd ei hunan
gyda pheth fel na, yn groes i ewyllys ei mam, yn ddigon drwg. Ond beth wnaeth
y gwr drwg bach ond fe fynws ar waetha’ nghalon i wneyd ffrinds a Mrs
Griffiths, Ty’nlon (Tanybryn gynt, chi wyddoch). Doedd dim cewc wedi bod gan my lady Ty’nlon arna i
byth ’ddiar ffystes i hi yn nghylch y ddwy fferm. Prin symudsai hi ei
gwefusau pan bysen ni’n cwrdd a’n giddyl. Does gen i gynnyg i ryw un sy’n
cadw hen eiddigedd cas fel na o hyd. Pa’m na allwn ni gael ambell fight fach
a bod yn ffrinds wed’yn? Dyna wedswn i. Ond nid fel’ny oedd Mrs Griffiths, a
phan ddaeth Maggie nol o Cambridge, roedd madam yn ei choatsh, welwch chi, a
Maggie’n ffaelu deall beth oedd yn bod. Chas hi fawr ddim o’r hanes gen i pan
ddechreuws hi holi; ond fe wedes i ddigon wrthi i ddangos fod ei mam wedi
cael y trecha ar Mrs Griffiths ar waetha ’i “chome up” a chwbwl. A beth i chi’n feddwl nath y ffoles fach? Fe drows y
dwr yn ’i llygid hi, a dyma hi’n hercyd ei hat. “B’le rwyt ti’n myn’d?” myntwn i. “I Dy’nlon,” mynte hithau. A bant yr aeth hi; ac yn Ty’nlon yr oedd hi yn
treulio’r rhan fwya o bob myned segur fyse ganti wed’yn, am wn i ddim faint.
Fe all’swn lefain i weled un o mhlant i yn gneyd fyny fel’ny a hen bishyn fel
Mrs Griffiths a finnau newydd rhoi’r fath godwm iddi! Ond dyna shwd mae
plant, welwch chi! Ond nawr, gwaeth na’r cwbwl, fe ddetho i i specto
heb fod yn hir, fod yna rywbeth heblaw Mis Griffiths yn tynu Maggie ni sha
Ty’nlon. Mae Ty’nlon yn dy bach nobl, welwch chi, o le bach; a synes i ddim
rhyw lawer iawn i glywed fod visitor yn aros yno gyda Mrs Griffiths. “Mae lodger gyda chi, mae’n debyg?” myntwn i wrth
ddod nol o’r ty cwrdd bore dydd Sul cynte wedi i fi glywed. “Os shiwr, mae e,” mynte hithau. “Ody e’n talu’n go lew am ei lodging?” myntwn i
wed’yn. Dyma hi’n cochi i’r ddou clust, ac fel’se hi’n myn’d
i weyd rhywbeth, ond wedws i ddim ond ateb yn dawel iach: “Oh, odi’n nobl.” “Da iawn,” myntwn innau; ond er cy- |
|
|
|
(Papur Pawb. 2
Gorffennaf 1898). Pennod 23. maint dreies i, allwn i ddim tynu ddim mwy na hyny
’ddarni. Ond roedd meddwl am Mrs Griffiths, Tanybryn, yn cadw lodgers! Dur
cato ni!” Ond shwd daeth y dyn dierth hyny i aros gyda Mrs
Griffiths, welwch chi, oedd fel hyn. Roedd yno show yn Llandilo, wel[w]ch chi
- nid hen show gomon anifeiled gwyllton, wy’n feddwl, ond beth mae nhw’n galw
yn “dairy exhibition” - show yn nglyn a’r ysgol laeth. A dyna lle roedd
Maggie ni yn un o’r “Exhibitors and demonstrators.” Roe nhw’n dishgwl lot o wyr mowr o Loeger a phob man
i ddod yno, ac yn enwedig rhyw ddyn mawr dychrynllyd o Scotland, yn berchen i
filoedd ar filoedd y flwyddyn, ond oedd wedi cym’ryd yn ei ben e i ffarmo ’i
hunan. Ond ddaeth dim o hwnw, neu fel’ny roe’n nhw’n weyd, ta beth; waeth
chlywodd neb ddim son am dano fe. Ond fe ddaeth yno bwer o bobol ddierth, a llawer o
wyr mawr o bob man, a’r man lle roedd Maggie ni wrthi yn dangos y ffordd i
wneyd caws a menyn o dan y ffasiwn newydd oedd y lle mwyaf poblogaidd yn yr
“Exhibition” i gyd, a wn i ddim faint yno yn growd amboitu’r lle o hyd. Roedd yno un bachan ifanc, swel ymbeidus, “gentleman
farmer” mawr, medda nhw, o shir Henffordd, fe gwmws hwnw mewn cariad a
Maggie, a doedd dim llawer i weyd wrtho fe chwaith, waith roedd hi’n lodes
smart ymboidus. Ond wnelsai hi ddim tocs ag ef. Ei aped e yn Gymraeg
oedd hi’n neyd pan fyse fe’n hwilia Saesneg a hi, fel se hi heb gael dim
ysgol eriod. Mae’n debyg i fod e’n gwbod Cymraeg hefyd, wedi cael ’i fagu yn
shir Frycheiniog, ond fod yn well dag e shared Saesneg, welwch chi. Ond
Cymraeg mawr oedd hi gan Maggie ni bob gair, nes oedd cwilydd ar y ngwyneb i
drosti. Fe ddaeth y boy i Gwmllydan ddwy waith neu dair
wed’yn dan esgus rhyw neges neu giddyl, ond hwilo am Maggie oedd ei fusnes e
rwy’n siwr. Ond nelse hi ddim byd ag e. “Hawyr bach Beth wyt ti’n ddishgwl gael?” myntwn i
wrthi pan wedws hi’n bendant na nese hi ddim tocs ag e. “Rwy’n dishgwl cael rhywun na fydd arno fe ddim
cwiddyl arddel ei iaith, ta beth, mynte hi, a bant a hi. Wel, dod i’r show yma naeth y dyn oedd yn lodjo gyda
Mrs Griffiths yn Ty’nlon, er na wyddai neb pwy oedd e, nag o b’le roedd e
wedi dod, ond ei fod e’n cym’ryd deleit anghyffredin mewn pobpeth amboitu
ffarmo. Wel, fe aeth rhywbeth trwydda i pan glywes i’n
ddishtaw bach hint fod y dyn dierth hyny oedd yn lodjio gyda Mrs Griffiths yn
hala pwer o’i amser gyda Maggie ni. Beth os oedd Mrs Griffiths yn myn’d i ddial ei llid
arna i fel’ny? Tynu’n merch fach ddiniwed i, nag oedd ddim wedi arfer gallu
gneyd dim heb ei mam, i neyd fyny falle a rhyw hen dramp na wyddai neb ond
Mrs Griffiths ddim byd o’i hanes e! Fe etho’n dost wrth feddwl am y peth, a
does arna i ddim cwiddyl i weyd e! (I’w orphen yn ein nesaf). |
|
|
|
(Papur Pawb. 9 Gorffennaf 1898). Pennod 24. PENNOD XXVI. - Y MAB-YN-NGHYFRAITH DIWETHA. [sic; = XXIV] Fe fues i jest a thori nghalon wrth feddwl fod Mrs
Griffith, Ty’nlon, Tanybryn gynt, falle wedi’r cwbwl yn myn’d i gael y trecha
arna i a’n ffysto i’n llapre. Ro’wn i’n meddwl beth os oedd hi wedi
cynllunio’r drwg hyn, a wedi tynu Maggie fach miwn yn ei hanwybodaeth. Doedd dim iws yn y byd i fi weyd wrth Dafydd, a
chisho help gydag e’. Mae Dafydd mor dwp mewn rhyw fusnes, gynnil fel hyn, fe
fyse’r un man i ddodi llo i gorddi wrth yr horsepower, a dodi Dafydd ni i
drafod rhwbeth fel hyn. Fel’ny, fe adawes i Dafydd yn llonydd, a fe dries i
feddwl beth arath all’swn i neyd. Ond pwy fwya fyswn i’n meddwl yn nghylch y peth,
tywylla i gyd oedd pethau’n myn’d. Allswn i ddim gwel’d gole o unman. Fe feddyles byswn i’n sharad a
Maggie ei hunan - ond fe allswn wbod byse hi’r un peth i fi bido. Ond, ta beth,
fe etho nghyd a hyny, gan ddechreu
swmpo mor gynnil a gallswn i. “Maggie,” myntwn i, “pwy yw’r hen fachan yna sy’n
aros yn Ty’nlon nawr?’ “Pwy hen fachgen?” mynte hithau yn ddiniwed iawn,
all’sech feddwl. “Paid ti esgus towlu’n ddierth, ’y merch i,” myntwn
innau. “Cofia di mai dy fam sy’n sharad a ti, a nag oes neb mor debyg o ofalu
am danat ti a dy fam, drwy’r cwbwl.” “Oh, rwy’n gwbod hyny’n nobl, mami fach,” mynte
hithe, “ond beth sydd a fyno hyny a Thy’nlon?” “Dw i ddim yn lico dy fod di’n myn’d yno o hyd ac o
hyd, y ddou pen i’r dydd, a’i ganol e.” “Mami!” mynte hi, gan gochi hyd ei dou clust. “Beth
y chi’n feddwl? Fues i ddim yco dim
ond dwywaith yr wthnos ddiwetha, a dim ond shwrne yr wythnos hyn.” Ab erbyn i fi ystyried, ’roedd hi’n gweyd eitha gwir, ond ro’wn i’n gwybod gwell na myn’d i
gydnabod hyny wrthi hi. Fel’ny, dyma fi’n sefyll ar y’n sodlau, ac yn gweyd
“Well, gwrando di, Maggie, beth w i’n weyd wrtha ti. Dos dim rhagor o docs i
fod rhyngo ti a’r hen fachan Ty’nlon yna.”
“Pwy y chi’n feddwl wrth hen fachgen Ty’nlon?” mynte hithau. “Odi chi’n meddwl mod i’n
ormod o ffrinds a Shon?” Bachan o was, oedd yn dryched ar ol y lle, oedd
Shoni Ty’nlon, welwch chi, ac wrth gwrs, fe wyddwn well nag oedd dim a fynse Maggie a hwnw, ta beth. “Nage, nage,” myntwn innau, ma’s natur erbyn hyn.
“Ti wyddost ti’n well na hyny’n brion. Y bachan dierth yna w i’n
feddwl.” “Oh, Mr Sinclair?” mynte hi, ac yn cochi hefyd.
“Beth sydd gyda chi yn ei erbyn e’?” “Dos gyda fi ddim yn ei erbyn e’ am wn i,” myntwn i.
“Ond - “Nag os gen innau”, mynte hithau; “a |
|
|
|
(Papur Pawb. 9 Gorffennaf 1898). Pennod 24. fel’ny, ry chi a finnau’r un feddwl yn gwmws.” A bant a hi, a dim ond hyny am hyny. Ac erbyn i fi bwyso’r peth yn ’y meddwl, ’doedd gen
i ddim yn erbyn y bachgen, hyny yw, dim all’swn i sefyll ato, ond ei fod e’ a
gwraig Ty’nlon yn deall eu gilyddi, a na wyddwn i ddim yn y byd pwy oedd e’. Ond fe naeth y’n sharad i a Maggie, cymaint a hyn o
les, fe rows i hiibo myn’d shar Ty’nlon. Ond pan o’wn i’n dechre ymfalchio yn
hyny, fe geso wel’d yn go glou fach mae gneyd y drwg yn waeth netho i, wath
dyma’r hen fachan nawr yn dod sha Cwmllydan jest bob dydd, withe wrtho’i
hunan, bryd arath gyda Tomos neu Siwsan, o Danybryn, neu bryd arath fe ddese
am draws Dafydd ar y caeau rhywle, a fe dynse hwnw fe sha’r ty - tae gwaith
tynu arno fe o gwbwl. Wel, mae’n rhaid i fi weyd wedi dechreu tori’r garw
fod rhywbeth yn ffein iawn yn y bachgen, dull bach nice ymbeidus gydag e’,
ond ei fod en shariad Seisneg broad ofnadw, fel mae cymaint a nelswn i oedd
ei ddeall e’. Ond do’wn i ddim yn lico wed’yn nag o’wn i’n gwybod dim byd o’i hanes e’. Ond rhyw byrnawn, dyma’r Tifedd, mab hena mishtir,
chi wyddoch, yn dod trwy’r clos a’i ddryll ar ei ysgwydd, wedi bod yn saethu
dros y tir, a finnau, wrth gwrs, yn cisho gydag e’ ddod i’r ty, i gael glased
bach o gwrw. A hware teg iddo, fe ddaeth heb ddim nonsens o gwbwl. Ond erbyn i fi fyn’d ag e’ miwn i’r parlwr, pwy oedd
yno, os gelwch yn dda, ond Dafydd ni a’r dyn dierth o Dy’nlon. Dyma mishtir ifanc a hwnw yn dryched ar eu gilydd
felse gyrnau ar eu penau nhw’n gwmws.
A wed’yn, dyma mishtir yn neidio mlaen, ac yn ysgwyd, llaw ag e’, felse nhw’r
ffrind’s mwya fuodd eriod. A fel’ny roe nhw, mae’n debyg, a fe ddealles, wrth
eu sharad nhw, eu bod nhw wedi bod yn y colej gyda’u giddyl, ac orwth rhyw
air bach neu ddou, fe ddealles, hefyd, fod y dyn dierth o Dynlon yn weltwdw,
a gweyd y lleia, ac os nag o’n i’n camsyned, yn berchen tiroedd:, rywfaint ta
beth, yn Scotland. Yn Saesneg oe nhw’n sharad, wrth gwrs, a thra roe
nhw wrthi, dyma fin dod a’r botel port wine o’r seffonier i’r ford, gan
feddwl mai gwin fysle ore i wyr mawr fel rhain. A ro’wn i ffedi [sic; = wedi]
talu dou a thair am y boteled hyny ddou fish cyn hyny, a ’doedd dim mwy na’i
hanner hi wedi uso. Ond pan welwsi mishtir ifanc fi’n dod a’r botel i’r ford,
dyma fe’n gweyd mai glased o gwrw
gymerse fe, a lawr a fi i’r seler i moyn dicanter a phob o lass oddiar y
sel’d iddyn nhw’ch dou. Pan detho i’n nol, roe nhw yn nghanol y p’le mawr,
a’r dyn dierth yn gweyd mai hwilo am leithwraig dda oedd e’ i’r home-farm yn
Scotland. Wel, fe wyddwn fod rhai o’r gwyr mawr yn talu
cyflogau arswydus i laethwraig; a fe wyddwn fod merch Griffiths oedd ar y
Land Commission, ffarmwr o shir Benfro, wedi cael lle fel lIaethwTaig o dan y
Frenhines yn Scotland; a jaist, fe, ddechreues feddwl beth pe celse Maggie ni
le fel’ny gyda’r gwr beneddig hyn. |
|
|
|
(Papur Pawb. 9 Gorffennaf 1898). Pennod 24. “Ody chi wedi cael un wrth eich bodd?” gofynai
mishtir ifanc. A dyma’r dyn dierth yn peswch a dwbwl dagu, ac yn
gweyd o’r diwedd: “Alla i ddim gweyd yn iawn. Rwy’n meddwl ca i wbod
rhwbeth o hyn i ben wthnos.” “B’le mae Miss Jones, Mrs Jones?” gofynai mishtir. “Yn y llaethdy, am wn i,” myntwn innau. “Dyna’r laethwraig oreu yn Nyffryn Towy i chi,
Sinclair, yw Miss Jones,” ebe mishtir ifanc. “Fel’ny rwy’n deall,” mynte Sinclair, ac yn cochi
wrth mod i’n dryched arno fe. “Mae gen i neges a Miss Jones, os ca i gwel’d hi am funed,” mynte
mishtir. A dyma fi’n myn’d i alw Maggie, ac i weyd wrthi am fwstro
i newid ei ffrog, a gwishgo blows shidan, a thlaclu dipyn yn glou. Ond nese my lady ddim. “Rwy’n ddigon da fel rwy’ gwlei,” mynte hi, a nath
hi ddim ond golchi ’i dwylo, a gwishgo ffedog wen lan, a miwn a hi i’r parlwr
fel’ny, a dyna lle ’roedd hi’n sharad a mishtir ifanc felse fe’n un ohono ni,
neu felse hi yn un, o deulu mishtir. Wyddwn i ddim beth y wedswn i, dyna chi. “Mae mam eishe i chi, Miss Jones, ddod yco nos
drenydd,” mynte mishtir. “Mae gyda ni barti bach, rhyw ddeg neu ddeuddeg o
ddynion dierth, a mae dwy o’r ladies yn rhai oedd yn y coleg, gyda chi yn
Girton.” “Yn mh’le?” gofynai Sinclair, gan daflu ei lygid fel
dwy soser yn ei ben. Dyma mishtir ifanc yn hwerthin. “Oh, rwy’n gwel’d,” mynte fe. “Mae Miss Jones wedi
bod yn hware ’i hen dricsis a chithe, Sinclair. Roe chi’n meddwl, fasa
ddigwydd, mai rhyw ordinary milkmaid oedd hi. Ond wyddoch chi, mae Miss Jones
yn un o’r ysgolheigion goreu yn y
cwmpasoedd yma, yn B.A., a dyn a wyr beth gyda hyny. Rhag c’wilydd i chi,
Miss Jones, i dwyllo bechgyn ifenc fel ’na.” “Tewch son, da chi, Mr Edward,” mynte hithau, ond yn
cochi hyd ei dou clust. “Gwedwch wrth Mrs Pryce y dowa i, a bydd yn falch gen
i gwrdd a rhai o’r hen classmates o Girton. Ond mae’r gwartheg ar y clos,
rhaid i fi fynd i odro.” “Mi a i yn dy le di, ishte di lawr gyda’r bobol
ddierth, Maggie,” myntwn i, gan feddwl rhoi cyfle iddi falle i dori sharad am
y lle fel llaethwraig, welwch chi. Ond nelse hi ddim, ond ma’s a hi i’r clos i odro. A chyn pen deng
myned, fe a’th y ddou wr bonedidig ma’s ar ei hol hi, a than esgusi judgo’r
gwartheg, sefyll uwchben Maggie’n godro
netho nhw, yn hwerthin ac yn jocan eich tri felse dim ma’s o le mewn
merch wedi cael ysgol fel Maggie yn godro fel morwm gyflog, neu mewn merch
deilad o ffarmwr bach fel Dafydd ni yn sharad a mishtir a’i ffrinds felse
nhwntau’n ffarmwrs bach cyffredin eu
hunain. Tranoeth i’r parti yn nhy mishtir, dyma Mr Sinclair,
fel ro’wn i’n ei alw fe o hyd nawr, yn dod i Gwmllydan, ac yn gofyn am gael
gwel’d Dafydd, a dyma’r ddou i’r parlwr. |
|
|
(delwedd B0920d) |
(Papur Pawb. 9 Gorffennaf 1898). Pennod
24. Cyn
pen pum’ mynyd, dyma Dafydd ma’s, a’i wyneb fel y tan. “Jane,”
mynte fe, “dewch yma mewn muned.” Fe
redes innau yno, gan feddwl fod rhwbeth ma’s o le. “Jane,”
mynte Dafydd, gyda mod i miwn. “Sir James Sinclair, o Blair Castle, yn
Scotland, yw’r dyn dierth yma.” Dyma
finnau’n rhoi cyrtshi iddo fe, fel oedd yn gweddu i fi, wrth gwrs. “A
mae e’n moyn Maggie ni,” mynte Dafydd wed’yn. “Faint
o gyflog mae e’n gynnyg?” myntwn innau, wath mae Dafydd yn od o ddifeddwl am
bethau felny. “Faint
o gyflog?” mynte Sir James yn syn. “Ie,”
myntwn i. “Mae llaethwragedd da fel Maggie ni yn cael cyflogau da ymbeidus.” Dyma
fe’n hwerthin. “Rhaid
i chi, fel Miss Jones, gael eich joke, rwy’n gwel’d,” mynte fe. “A’n servo
i’n right yw hyny, am fod cy’d cyn gweyd ’y feddwl. Ond y gwir am dani, rwy i
wedi cwmpo mewn cariad a Miss Jones byth o’r dydd cynta gwelais i hi yn y
show fenyn, ac os gallwch chi ei thrusto hi i fi, rwy’ am ei phriodi.” Wel,
wyddwn i ddim p’un ai ar ’y mhen ai ar ’y nhraed o’wn i’n sefyll! “I
feddwl am Maggie fach ni, y cyw melyn ola’ o holl blant Cwmllydan, yn ein
ffysto ni i gyd! A
dyna shwd buodd hi. Mae
Maggie nawr yn Lady Sinclair, o Blair Castle, a a’i gwr yn berchen stat
gymaint a stat mishtir. Rwy’
yn falch, credwch fi. Ond
mae’n gas gan ’y nghalon i feddwl fod bys wedi bod gan Mrs Griffith, Ty’nlon,
yn y fusnes - er ein bod ni’n ffrinds nobol o ran hyny. A
dyna’r hanes i gyd i chi. (Y DIWEDD.) SYLW.
- Gan fod cryn gywreinrwydd yn cael ei arddangos mewn gwahanol ranau o’r wlad
yn nghylch personoliaeth gwraig Cwmllydan, dichon mai nid allan o le fyddai
dywedyd yn y fan hon ar derfyn y gyfres yn ddarfod i mi, un dydd marchnad
Llandilo, yn ymyl y dref bwysig hono, gael sypyn bychan cryno ar lawr yn y
ffos. Wedi ei godi a’i
archwilio cefais mai nodiadiau ysgrifenedig gwraig Cwmllydan ydoedd, ac er
gwneud pob ymholiad yn Llandilo, yn y farchnad, ac yn shopau llyfrau Mr
Lockyer a Mr Hopkins, methais a chael gwybod pwy oedd yr awdures wreddiol.
Tybiais nas gallwn felly wneyd dim yn well na chyhoeddi’r ysgrifau fel yr
oeddent yn Mhapur Pawb – a diamheu felly y daw llu i wybod yn well na mi pwy yw
gwraig Cwmllydan. BERIAH
GWYNFE EVANS. Caernarfon,
Gorphenaf laf, 1898. |
|
|
Sumbolau:
a
A / æ Æ / e E / ɛ Ɛ / i I / o O / u U / w W / y Y /
ā Ā / ǣ Ǣ / ē Ē / ɛ̄ Ɛ̄
/ ī
Ī / ō Ō / ū Ū / w̄ W̄ / ȳ Ȳ /
ă Ă / ĕ Ĕ / ĭ Ĭ / ŏ Ŏ / ŭ Ŭ /
ˡ ɑ ɑˑ aˑ a: / æ æ: / e eˑe: / ɛ ɛ: / ɪ
iˑ i: / ɔ oˑ o: / ʊ uˑ u: / ə / ʌ /
ẅ Ẅ / ẃ Ẃ / ẁ Ẁ / ŵ Ŵ /
ŷ Ŷ / ỳ Ỳ / ý Ý / ɥ
ˡ ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ
əɪ uɪ ɪʊ aʊ ɛʊ əʊ /
ә
ʌ
ẃ ă ĕ ĭ ŏ ŭ ẅ ẃ ẁ Ẁ ŵ ŷ ỳ Ỳ
wikipedia, scriptsource. org
Y TUDALEN HWN /THIS PAGE / AQUESTA PÀGINA:
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion-prys_158_priodi-r-plant_1898_rhan-3_0340k.htm
Ffynhonnell / Font / Source: Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Creuwyd / Creada/ Created: 04-11-2017
Adolygiadau diweddaraf / Darreres actualitzacions / Latest updates: 04-11-2017
Delweddau
/ Imatges / Images:
Freefind: |
Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web CYMRU-CATALONIA (=
Gal·les-Catalunya)
Where am I? You are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (=
Wales-Catalonia) Website
Weə-r äm ai? Yüu äa-r víziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA
(= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait
Statistics for
Welsh Texts Section / Ystadegau’r Adran Destunau Cymraeg