kimkat2085k Hanes Cymry America. Hanes Cymry America; A’u Sefydliadau, Eu Heglwysi, A’u Gweinidogion, Eu Cerddorion, Eu Beirdd, A’u Llenorion; Yn Nghyda Thiroedd Rhad Y Llywodraeth A’r Reilffyrdd; Gyda Phob Cyfarwyddiadau Rheidiol I Ymfudwyr I Sicrhau Cartrefi Rhad A Dedwyddol. Gan Y Parch. R. D. Thomas, (Iorthryn Gwynedd.) 1872. (= Robert David Thomas, Ganwyd Llan-rŵst, Sir Gaernarfon, 17 Medi 1817; Bu Farw Knoxville, Tennessee, Unol Daleithiau América, 25 Tachwedd 1888.)

09-10-2018

● kimkat0001 Yr Hafan www.kimkat.org
● ● kimkat2001k Y Fynedfa Gymraeg www.kimkat.org/amryw/1_gwefan/gwefan_arweinlen_2001k.htm
● ● ●
kimkat0960k Mynegai i’r holl destunau yn y wefan hon www.kimkat.org/amryw/1_llyfrgell/testunau_i_gyd_cyfeirddalen_2598k.htm
● ● ● ● kimkat0960k Mynegai i’r testunau Cymraeg yn y wefan hon www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_mynegai_0960k.htm
● ● ● ●
● kimkat2083k Hanes Cymry America. Iorthryn Gwynedd. 1872: Y Gyfeirddalen www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion-prys_239_hanes-cymry-america_iorthryn-gwynedd_1872_y-gyfeirddalen_2083k.htm
● ● ● ● ●
kimkat2085k Y tudalen hwn

 

0003g_delw_baneri_cymru_catalonia_050111
(delwedd 0003)





Gwefan Cymru-Catalonia
El Web de Gal
·les i Catalunya
The Wales-Catalonia Website

Cywaith Siôn Prys - Testunau Cymraeg ar y We

HANES CYMRY AMERICA. LLYFR 1. RHAN 1.


(delwedd E1413)

Y Llyfr Ymwelwyr / El Llibre de Visitants / The Guestbook:

http://pub5.bravenet.com/guestbook/391211408/

a-7000_kimkat1356k
Beth sy’n newydd yn y wefan hon?

7015_map_cymru_a_chatalonia_trefi_caernarfon
(delwedd 7015)

….

 https://translate.google.com/ (Cymraeg, català, English, euskara, Gàidhlig, Gaeilge, Frysk, Deutsch, Nederlands, français, galego, etc)
....

DOSRAN A – Y DWYRAIN A’R DE (1/2)

tudalennau 0-110



(delwedd E1414)

DOSRAN A. - Y DWYRAIN A’R DE.
PENNOD I. Rhagsylwadau. Cymry Gwalia. Cymry America. ...5
PEN. II Cymry America yn yr Aeth-Heibio. Y Dyffryn Mawr ...15
PEN. III. Y Sefydliadau a’r Eglwysi Cymreig yn Nhalaeth Pennsylvania ...29
PEN. IV. Y Sefydliadau a’r Eglwysi Cymreig yn Nhalaeth New York ...71 

.....

 

 


(delwedd E0853) (tudalen i_teitl)

(x009) (tudalen 1)

HANES CYMRY AMERICA.; A’U SEFYDLIADAU, EU HEGLWYSI, A’U GWEINIDOGION, EU CERDDORION, EU BEIRDD, A’U LLENORION; YN NGHYDA
THIROEDD RHAD Y LLYWODRAETH A’R REILFFYRDD; GYDA PHOB CYFARWYDDIADAU RHEIDIOL I YMFUDWYR I SICRHAU CARTREFI RHAD A DEDWYDDOL.

GAN Y PARCH. R. D. THOMAS,
(IORTHRYN GWYNEDD.)

CYFROL I.

“Ac efe a wnaeth o un gwaed, bob cenedl o ddynion, i breswylio ar holl
wyneb y ddaiar,” &c. ACT. xvii. 26, 27.

“Y tir yr aethom drosto i’w chwilio, sydd dir da odiaeth.” - NUM. xiv. 7, 8

“Tra mor, tra Brython.”

“Oes y byd i’r iaith Gymraeg.”

“Oes y byd i’r iaith Gymraeg;” “Duw a digon.”

UTICA, N.Y.
T. J. GRIFFITHS, ARGRAFFYDD, EXCHANGE BUILDINGS.
1872.


 

 


(delwedd E0854) (tudalen ii_cofrestriad)

(x010) (tudalen 2)

Entered according to Act of Congress, in the year 1872, by

ROBERT D. THOMAS,

In the Office of the Librarian of Congress, at Washington.

W. H. HUGHES,
Stereotyper, Utica, N.Y.


 

 


(delwedd E0851) (tudalen a_rhagdestun-1)

(x007) (tudalen a)

HISTORY OF THE WELSH IN AMERICA;

And their Settlements, Churches, Pastors, Poets, Musicians, Literature, &c.
Government Lands, Railroads, Ocean Steamships, &c.

BY REV. R. D. THOMAS, (IORTHRYN GWYNEDD.)


Price $2.00, and $2.50, and $3.00 - Neatly Bound.

For the beneflt of those numerous and respectable Welsh Descendants, and
others, who do not understand the Welsh language, I deemed it proper to
publish here a brief Abstract of the Contents of this volume. It is divided into
Three separate Parts.

PART I. - The East and the South. -

Chapter I. Introduction. The supreme government of God over the world. The Great Continent of America. The United States. The Constitution. Slavery. Civil War. Emancipation. The Americans. Welsh Descendants and their Loyalty. The Ancient Britons in Wales. The Welsh in America. Great Disadvantages of the first Welsh Settlers.

Chapter II. The Welsh in America in past times. Madog Ap Owain Gwynedd. Roger Williams, Wm. Penn, &c. History of the Great Valley (Dyffryn Mawr) and Philadelphia. Trials and loyalty of the Welsh during and after the Revolutionary War, &c. History of the Welsh church in Philadelphia. Increase of Welsh emigration to the United States after the years 1795 and 1812.

Chapter III. The Welsh Settlements, Churches, &c., in the State of Pennsylyania. Cities, towns, lands, agriculture, coal and iron works, and slate quarries; railroads, &c.

Chapter IV. The Welsh Settlements, Churches, &c., in the State of New York.

Chapter V. In Ohio.

Chapter VI. In Vermont.

Chapter VII. In New Jersey, Maryland, Washington, D.C., Virginia, West Virginia, Tennessee, Massachusetts, Maine, &c.

PART II. The Far West. -

Chapter I. The States of Indiana and Michigan. The proper meaning of the term “Far West”

Chapter II. Description of the State of Illinois. Chicago. The Welsh Settlements.

Chapter III. History of all the Welsh Settlements, &c.. in Wisconsin.

Chapter IV. In Minnesota.

Chapter V. In Iowa.

Chapter VI. In Missouri.

ChapterVII. In Kansas - Emporia, Arvonia, Powys, Bangor, &c.

Chapter VIII. The State of Nebraska.

Chapter IX. The Welsh in California.

Chapter X. History of Oregon, Nevada, Utah, and of all the Territories, where thousands of Welsh people are likely to emigrate in the future.

Chapter XI. History of Canada, and the Welsh Colony in Patagonia, South America.

PART III. A FULL VIEW OF THE WELSH IN AMERICA.

Chapter I. Population of the United States. The various nations that inhabit them. Languages. Christianity. The Welsh population in every State. Tables. Total number. Remarks.

Chapter II. The Welsh Religions Denominations. Calvinistic Methodists, Congregationalists, Baptists, Wesleyan Methodists; other churches. Tables. Average number of their churches, pastors, deacons, members, Sabbath Schools, hearers, collections, &c. Lists of the names and addresses of their pastors.

Chapter III. An Extract of the Prize Treatise on “Eminent Welshmen, Pastors, Poets, Musicians, &c., and the Literature of the Welsh in America,” by Hugh J. Hughes, Esq.. of New York.

Chapter IV. Further list of Welsh Poets, Literati, Books, &c. Periodicals, Newspapers, Lawyers, Physicians, Statesmen, &c. Notes on Political Parties.

Chapter V. Instructions to Emigrants.

Chapter VI Government Lands. Pre-emption Laws. Homestead Acts. History of “The Welsh Emigrant Society,” established in Mahanoy City, Pa., April, 1869. The best
plan to emigrate. The precious letter and instructions of the Hon. Jos. S.
Wilson, Commissioner of the General Land Office. Reports, maps, and circulars of the General Land Office. Extracts from them. Explanations. Government Land Offices in all the States. Instructions to understand the Maps


 

 


(delwedd E0852) (tudalen b_rhagdestun-2)

(x008) (tudalen b)

and the “ Surveyed Lands” of the Government, and the best way to select,
purchase, and settle on them. Inducements to Welsh emigrants. Now is the
best time to secure cheap lands and “happy homes” in the Westem States and
Territories. We need Government aid.

Chapter VII. State and Railroad Lands, in Wisconsin, Illinois, Michigan, Minnesota, Iowa, Missouri, Nebraska, Kansas. List of Railroad Companies and others, that own lands for sale in the above States. Good and cheap lands in Virginia, West Virginia, Tennessee, North Carolina, &c., in the South. Inducements to settle thereon.

Chapter VIII. The main Railroad from the city of New York to all the principal cities and towns in the West, North, and South. List of Railroads that are connected with them. The three great Pacific Railways – Central, Kansas, Northern - and their great traffic, extensive, fruitful, and cheap lands, and their great advantages to Emigrants, &c. The best way to buy tickets. List of distances, rates, &c.

Chapter IX. Instructions to emigrants to understand exchange, and the value of gold, silver, bank notes, Government and Railroad bonds, &c. Work. Wages. Ocean Steamshlps.

Chapter X. Model of the Contents of Volume II. of the “History of the Welsh in America.”

History of the following Statesmen, Pastors, Deacons, and Poets, with Selections of their Works, &c.: -

1. Hon. Llewelyn Breese, Secretary of State, Wis.

2. The late Rev. Thos. Thomas (W.), Remsen, N.Y.

3. Rev. Rees Evans (W.C), Wis.

4. Rev. Evan Owen (C.), Wis.

5. Rev. E. B. Evans (C), Hyde Park, Pa.

6. Rev. Morgan A. Ellis (W. C), Hyde Park, Pa.

7. Rev. D. W. Morris (B.), Hyde Park, Pa.

8. Rev. Wm. Roberts, D.D., Bellevue, Pa.

9. Rev. Theophilus Jones (B.), Wilkesbarre, Pa.

10. John Edwards, Esq. (Eos), Rome, N.Y.

11. Rev. Hugh C.Parry (Cefni), Providence, Pa.

12. David Edmunds, Esq., (Inspector of Mines,) Shamokin, Pa.

13. Rev. J. Velindre Jones: Lewis Evans (Darenydd); Morgan Evans (Meurig Aman). Summit Hill, Pa.

14. Josiah Jones (Josiah Brynmair), and William Jones (Tawelfan), Gomer. Allen Co., Ohio.

15. Rev. Sem Phillips, (C), Steuben, N.Y.

16. T. B. Morris, Esq. (Gwyneddfardd), Scranton, Pa., and W. S. Jones, Esq., General Manager of “BANER AMERICA,” Scranton, Pa.

17. J. C Roberts. Esq., General Manager of the “DRYCH,” Utica, N.Y.

18. The Welsh of Philadelphia; Horatio Gates Jones, Esq., David Jones, Esq., David T. Davies, Esq., Rev. D. T. Philllps (B.), Enon Baptist Church, &c.

19. The late Rev. Wm. Rowlands, D.D., Utlca, N.Y.

20. The Colleges, and their Welsh students.

21. Visitors from Wales.

22. Remarks. Advertisements.

During the past twenty years the author has paid much attention to the important subject of emigration from Wales to the United States of America. In 1851-2 he visited almost all the Welsh settlements in New York, Ohio, and Pennsylvania; and in 1864 he published a book entitled “THE EMIGRANT,” and sold many thousands [of] copies of it in his native land - Wales. He returned to this country in 1855. Since then he was settled as a pastor of the Welsh Congregatioiial churches at Rome and Floyd, and the city of New York, and Mahanoy and Shenandoah Cities, Pa. During the past three years he visited all the Welsh settlements in the Unlted States, and explored the Government
and Railroad lands. collecting materials for the above Volume. It has already
cost him much precious time, and money; and the expenses of its publication
will be very great. He hopes that many thousand copies of it will be sold in
Wales and in America. He is anxious to be enabled to publish a cheap edition of it. That would greatly benefit, not only Welsh emigrants, but also the General Government of the United States, Railroad and Steamship Companies, &c. No such history was ever before published in the Welsh language, in this, nor in any other country. It was greatly needed for the beneflt of the Welsh nation generally, and especially for the advantage of the thousands of Welsh emigrants that will emgrate to this country, and settle on our fruitful lands in the West, North, and South, in future.

The author intends to publish, as soon as possible, the Second Volume of the “History of the Welsh in America,” Price from $2 to $8. If his nation, and others, will duly patronize aud encourage him. That will complete the History; and will contain Brief Memoirs of all Eminent Welshmen - Statesmen, Warriors. Sailors, Mechanics, Lawyers, Physicians, Pastors, Preachers,
Poets, Musicians, Literati, &c., with Lists and Selections of their published
Works; together with the history of our “Eisteddfodau,” Literature. &c.
Reviews. Selected Welsh Sermons. The Welsh Press; and Essays on Welsh
Preaching. Many of the most eminent Welsh scholars, and Welsh Descendants have promised to aid the author by thelr contributions to the Second Volume.


 

 


(delwedd E0855) (tudalen iii_rhaglith-1)

(x011) (tudalen 3)

RHAGLITH.

At y Cymry yn Cyffredinol, yn Mhob Gwlad:

ANWYL GYDGENEDL - Cyhoeddwyd llawer o gyfrolau gwerthfawr, o bryd i bryd, gan awduron enwog, yn cynnwys hanes Cymry Gwalia, a’u gorchestion, a’u defodau, a’u llenorion, a’u llenyddiaeth, a’u heglwysi, a’u gweinidogion, &c., y rhai a ddarllenwyd gan y miloedd. Teimlwyf y dyddordeb mwyaf yn yr hanesion hyny; ac nid all dim byth ddileu yr adgofion melusion sydd ynwyf am enwogrwydd a rhagorfreintiau y Cymry yn anwylaf “Wlad ein Tadau,” na lladd fy awyddfryd cryf am lwyddiant a dyrchafiad fy nghydgenedl yn mhob gwlad. Ond collasant eu llywodraeth, a’u rhyddid i raddau helaeth yn eu gwlad eu hunain; a dylent folianu y Goruchaf am agor drws mawr a llydan iddynt i feddianu tiroedd ffrwythlon, cartrefi dedwyddol, addysg dda, a rhyddid gwladol a chrefyddol, dan Lywodraeth Werinol enwog yr Unol Dalaethau, a manau ereill yn America.

Mae “Cymry America,” er ys blyneddau, yn genedl luosog, yn bobl gyfoethog a chyfrifol, ac yn Gristionogion Beiblaidd, selog, a dylanwadol, yn y wlad hon. Ond nid oeddynt hwy eu hunain yn gwybod ond ychydig o hanes eu gilydd, am eu bod mor wasgaredig; ac yr oedd Cymry yr Hen Wlad yn gwybod llai fyth am danynt, am eu bod wedi ymfudo mor bell oddiwrthynt. Maent yn wir deilwng o hanes helaethach nag a gyhoeddwyd gan neb eto am danynt; ac y mae mawr angen am hyny, er lles cyffredinol y genedl yn y ddwy wlad. Cyflenwi yr angen yna yw prif amcan awdwr y llyfr hwn. Creda ei fod yn meddu teimlad gwir genedlgarol; galara oblegid ffaeleddau ei gydgenedl, ond llawenycha o herwydd eu llwyddiant mewn rhinwedd, purdeb, a


 

 


(delwedd E0856) (tudalen iv_rhaglith-2)

(x012) (tudalen 4)

RHAGLITH.

defnyddioldeb; a dichon ei fod, yn yspaid yr ugain mlynedd diweddaf, wedi cael cymaint, os nad mwy, na neb arall, gyfleusderau a manteision i wybod hanes cyffredinol “Cymry America.” Pa fodd bynag am hyny, mae y gyfrol hon wedi costio iddo flyneddau o amser gwerthfawr, i deithio a chasglu ei defnyddiau; llafur caled i’w hysgrifenu a’i pharotoi i’r wasg; a thraul dirfawr i’w chyhoeddi. Ymdrechais ei gwneyd mor gynnwysfawr, trefnus, a chywir, ag oedd modd i mi, yn ol y gallu a’r manteision oedd genyf. Defnyddiais yr holl hanesion a anfonwyd i mi; ac yr wyf yn dra diolchgar i’r holl rai ffyddlon a’m cynorthwyasant yn brydlon a siriol. Buasai yn dda genyf gael ychwaneg o hanesion o rai manau; ond ni chefais, er dymuno hyny. Tybiais unwaith y gallaswn gyhoeddi llawer mwy o hanesion ein henwogion yn y gyfrol hon; ond gwelais wedi hyny nad allaswn; a gwel pob darllenydd craffus hefyd fod hyny yn annichonadwy. Diau y gall y rhai cyfarwydd mewn hanesion lleol weled amrai o wallau a diffygion yn y gyfrol hon, Dymunaf arnynt eu nodi a’u hysbysu yn garedig i mi. Sicrhaf hwynt na wnaed hwynt yn fwriadol, ac y cywirir hwynt yn yr Ail Cyfrol, yr hon a gyhoeddaf eto mor fuan ag y gallaf, os caf fywyd ac iechyd, a chefnogaeth. (Gwel yr Hysbysiad am y gyfrol hono.)

Yr wyf yn cyflwyno y gwaith hwn i’r Cymry yn gyffredinol, gan ddymuno arnynt ei brynu, er fy nghefnogi i dalu traul fawr ei gyhoeddiad; a’i ddarllen er eu lles eu hunain a’u plant. Ac yr wyf yn ei gyflwyno. hefyd i’r “Duw a wnaeth y byd a phob peth sydd ynddo,” gan erfyn arno fendithio ei ddarlleniad er lles presenol a thragywyddol cenedl y Cymry,

Yr eiddoch, yn wir,

Mahanoy City, Hyd. 30, 1871. R. D. THOMAS.


 

 


(delwedd E0857) (tudalen v_cynnwysiad-1)

(x013) (tudalen 5)

CYNNWYSIADYR HOLL LYFR.

DOSRAN A. - Y DWYRAIN A’R DE.

Tu dal[en]


PENNOD I. Rhagsylwadau. Cymry Gwalia. Cymry America. Tudal[en] ...5

PEN. II Cymry America yn yr Aeth-Heibio. Y Dyffryn Mawr ...15

PEN. III. Y Sefydliadau a’r Eglwysi Cymreig yn Nhalaeth Pennsylvania ...29

PEN. IV. Y Sefydliadau a’r Eglwysi Cymreig yn Nhalaeth New York ...71

PEN. V. Y Sefydliadau a’r Eglwysi Cymreig yn Nhalaeth Ohio ...111

PEN. VI. Y Sefydliadau a’r Eglwysi Cymreig yn Vermont, &c. ...148

PEN. VII. Talaethau Ereill - New Jersey, Maryland, Virginia, Tennessee, Massachusetts, Maine, &c. ...169

DOSRAN B. - Y GORLLEWIN PELL.

PEN. I. Talaethau Indiana a Michigan ...5

PEN. II. Y Sefydliadau a’r Eglwysi Cymreig yn Nhalaeth Illinois ...11

PEN. III. Talaeth Wisconsin - Y Sefydliadau a’r Eglwysi Cymreig ...19

PEN. IV. Minnesota - Y Sefydliadau a’r Eglwysi Cymreig ...44

PEN. V. Iowa - Y Sefydliadau a’r Eglwysi Cymreig ...55

PEN. VI. Missouri - Y Sefydliadau a’r Eglwysi Cymreig ...84

PEN. VII. Kansas - Y Sefydliadau Cymreig, Tiroedd, &c. ...109


 

 


(delwedd E0858) (tudalen vi_cynnwysiad-2)

(x014) (tudalen 6)

CYNNWYSIAD YR HOLL LYFR.
Tu dal[en]


PEN. VIII. Nebraska - Ei Thiroedd, &c. Cymry Nebraska,...135

PEN. IX. California - Darluniad o’r Wlad. Cymry, &c. ...143

PEN. X. Oregon a’r Tiriogaethau - Eu Hanes, &c. ...156

PEN. XI. Canada - Patagonia - Eu Hanes. Cymry ...169

DOSRAN C. - CYFLAWN OLYGFA, &c.

PEN. J. Poblogaeth Gymreig yr holl Dalaethau ...6

PEN. II. Yr Enwadau Crefyddol Cymreig 18

PEN. III. Crynodeb o Draethawd Hugh J. Hughes, Ysw., ar “Hanes Enwogion Cymreig, a Llenyddaeth Cymry America” ...88

PEN. IV. Rhestr Ychwanegol o’n Beirdd, a’n Llenorion, a’n Llyfrau ...67

PEN. V. Cyfarwyddiadau i Ymfudwyr ...72

PEN. VI. Tiroedd Rhad y Llywodraeth, a’r Moddau i’w Sicrhau ...86

PEN. VII. Tiroedd y Talaethau, a’r Reilffyrdd, ac Ereill ...103

PEN. VIII. Y Reilffyrdd Goreu o New York i’r Gorllewin a’r De ...115

PEN. IX Aur, Arian, Pres, Papyrau, Gwaith, Cyflogau, Llongau ...126

PEN. X. Cynllun o Gynnwysiad yr Ail Gyfrol, &c. ...185

Can a Chydgan - Peroriaeth gan Joseph Parry, Ysw.

Yr Hysbysiadau (Advertisements).

(Gwel Gynnwysiad manylach o flaen pob Dosran.)


 

 


(delwedd E0859) (tudalen 1)

(x015) (tudalen 1)

HANES CYMRY AMERICA. YN Y DWYRAIN A’R DE, YN NHALAETHAU

PENNSYLVANIA, NEW YORK, VERMONT, NEW JERSEY, MASSACHUSETTS, MAINE, OHIO, MARYLAND, RHANDIR COLUMBIA, VIRGINIA, WEST VIRGINIA, TENNESSEE, &C.

GAN Y PARCH. R. D. THOMAS,
(IORTHRYN GWYNEDD.)

UTICA, N.Y.
T. J. GRIFFITHS, ARGRAFFYDD, EXCHANGE BUILDINGS.
1872.


 

 


(delwedd E0860) (tudalen 2)

(x016) (tudalen 2)

BARDDONIAETH.

O uchel fryniau Gwalia,
A’i dolydd ffrwython hi,
Y daethom i Columbia,
Mewn llongau ar y lli’;
Rhag trais a du orthrymder,
Y Nef fu’n nawdd i ni;
A chawsom bob cyflawnder
O ryddid, da, a bri.

Ein hiaith dros byth siaradwn,
Yn groyw ac yn ber;
Llenyddiaeth bur goleddwn,
Tra llewyrch haul a ser;
A’r Beibl mawr a barchwn,
Fei dwyfol Air yr lor;
A Christionogaeth gredwn,
Tra mynydd, a thra mor.

Tra can yr awen nefol
Yn Arfon ac yn Mon,
Bydd ei pher-odlau’n swynol
Ar diroedd y wlad hon:
Gan Gymry pur Columbia,
Hyd dranc yr olaf oes,
Pregethir lawn Calfaria,
A rhinwedd gwaed y Groes.


 

 


(delwedd E0861) (tudalen 3)

(x017) (tudalen 3)

CYNNWYSIAD. - DOSRAN A.

PENNOD I.
RHAG-SYLWADAU.

GORUCHEL Lywodraeth Duw ar y Byd. Cyfandir Mawr America. Yr Unol
Dalaethau. Y Weriniaeth a’i Deddfau. Caethwasiaeth. Y Gwrthryfel Mawr. Yr Americaniaid. Enwogrwydd a Dewrder yr Hen Frythoniaid. Uchel Gymeriad Cymry Gwalia. Cyfyngderau Gweithwyr Cymry. Lledaeniad ein Cenedl drwy’r Byd. Cymry America - Eu Hanfanteision a’u
Cyfyngderau Boreuol; eu Cymeriad a’u Sefyllfa Uchel Bresenol. Y Llyfr hwn wedi ei amcacu i fod yn Llesol i’r Genedl yn gyffredlnol, T.d. 5-14

PENNOD II.

CYMRY AMERICA YN YR AETH-HEIBIO.

Madawg ap Owain Gwynedd. Roger Williams. William Penn a’i Amserau, a’i Ymdrechion i sylfaeuu Pennsylvania. Daeth llawer o Gymry yma o’i flaen ef, a chydag ef, o ardaloedd y Brithdir yn Meirion, a Dolobran Fawr, yn Maldwyn, a manau eraill. Eu safle uchel y pryd hyny. Dinas
Philadelphia. Gwlad y Dyffryn Mawr, fel yr oedd gynt, ac fel y mae yn awr. Cymry America yn 1776. Gormes Llywodraeth Lloegr. Rhyfel y Chwildroad. Dewrder a Theyrngarwch y Cymry. Adfywiad yr Ymfudiad Cymreig ar ol y Chwildroad. Y Ffurf-Lywodraeth Werinol yn cael ei Chadarnhau cyn diwedd y fl. 1788. Washington yr Arlywydd Cyntaf. Ail Ryfel
a Lloegr yn y fl. 1812. Yr Heddwch yn cael ei Sefydlu yn Awst, 1814. Cynydd dirfawr Ymfudiad. ac Amaethyddiaeth. Darfyddodd Ymfudiad y Crynwyr; a daeth lluoedd o Annibynwyr, a Bedyddwyr, ac eraill, o Gymru i America, yn y fl. 1795, ac ar ol hyny. Hanes yr Eglwysi Cymreig yn Philadelphia, a gwlad y Dyffryn Mawr. Symudiadau y Cymry oddiyno i leoedd
ereill yn y Gogledd a’r Gorllewin. Nodiadau ar yr Ymfudiad Cymreig Boreuol T.d. 15-28

PENNOD III.

Y SEFYDLIADAU CYMREIG YN PENNSYLYANIA.

Darlunlad o Arwynebedd ac Adnoddau y Dalaeth; a’i Manteision a’i Hanfanteision. y Sefydliadau Cymreig, a’u Heglwysi. a’u Gweinidogion, a’u Llenorion: -
1. Ebensburgh.
2. Johnstown.
3. Pittsburgh a’i Hamgylchoedd.
4. Brady’s Bend.
5. Lochiel, Harrisburgh.
6. Columbia.
7. Reading.
8. PottsVÌlle.
9. St. Claire.
10. Five Points.
11. Minersville.
12. Tamaqua.
13. Ashland.
14. Mahanoy City.
15. Shenandoah City.
16. Centralia.
17. Mount Carmel.
18. Shamokin.
19. Broad Top.
20. Slate Hill.
21. Slatington.
22. Danielsville.
23. Chapmanville.
24. Catasauqua.
25. Summit Hill.
26. Beaver’s Meadow.
27. Jeansville.
28. Audenried.
29. Hazleton.
30. Danville.
31. Plymouth.
32, Kingston.
33. Wilkesbarre.
34. Laurel Run.
35. Mill Creek.
36. Pittston.
37. Hyde Park a Scranton.
38. Bellevue.
39. Providence.
40. Olyphant.
41. Beachwood.
42. Gibbonville.
43. Carbondale.
44. Dundaff.
45. Gibson.
46 Bradford.
47. Tioga Co.
Tiroedd Amaethyddol y Dalaeth.
Gweithfeydd Glo, Haiarn, a Llechi Pennsylvania T.d. 29-70


 

 


(delwedd E0862) (tudalen 4)

(x018) (tudalen 10)

CYNNWYSIAD.

PENNOD IV.
TALAETH NEW YORK.

Darluniad o Arwynebedd, Reilffyrdd, Camlasau, Dinasoedd, Trefydd, a Masnach y Dalaeth. Dechreuad yr Ymfudiad Cymreig i Utica a Steuben, Oneida Co.

 

Y SEFYDLIADAU CYMREIG: -
1. Dinas New York.
2. Albany.
3. Utica.
4. Deerfield a Marcy.
5. Bethania.
6. New York Mills.
7. Orlskany.
8. Rome.
9. Floyd.
10. QuakerHill.
11. Holland Patent.
12. Trenton.
13. Prospect.
14. Steuben, a Phenymynydd.
15. Plwyf Remeen.
16. Waterville. 17. Otsego.
18. Herkimer Co.
19. Lewis Co.
20. St. LawrenceCo.
21. Madison Co.
22. Cattaraugus Co
T.d. 71 - 110

PENNOD V.
TALAETH OHIO.

Ei Choedwigoedd; ei Thiroedd Amaethyddol a Mwnawl; ei Reilffyrdd, a’i
Dinasoedd, a’i Masnach, &c. Y SEFYDLIADAU CYMREIG: -
1. Paddy’s Run.
2. Cincinnati.
3. Columbus.
4. Brown Township.
5. Newark.
6. Granville.
7. Y Welsh Hills.
8. Delaware.
9. Radnor.
10. Troedrhiwdalar.
11. Gomer, Allen Co.
12. Putnam Co.
13. Van Wert Co.
14. Palmyra.
15. Parisville.
16. Talmadge.
17. Springfield a Brewster.
18. Alliance.
19. Irondale.
20. Cleveland.
21. Newburgh.
22. Bedford.
23. Mineral Ridge.
24. Niles.
25. Youngstown.
26. Crab Creek.
27. Church Hill.
28. Hubbard.
29. Coalburgh.
30. Brookfleld.
33. Sharon, Pa.
32. Pomeroy.
33. Minersville.
34. Syracuse.
35. Ironton.
36. Portsmouth.
37. Y Sefydliadau Cymreig yn Siroedd Jackson a Gallia
T.d. 111 - 147

PENNOD VI.
TALAETH VERMONT.

Ei Mynyddau Creigiog Uchel, fel Mynyddau Arfon yn Nghymru. Ei Bryniau Gwyrddleision, a’i Doldiroedd Ffrwythlon. Ei Hinsawdd, a’i Dyfroedd, &c. Ei Chwarelau Llechi.

 

Y SEFYDLIADAU CYMREIG: -
1. Fairhaven.
2. Blissville.
3. Middle Granville, N.Y.
4. Jamesville.
5. Poultney.
6. Salem, N.Y.
7. Ei Heglwysi, a’u Gweinidogion; ei Beirdd a’i Llenorion, T.d. 148-158

PENNOD VII.
TALAETHAU EREILL. - DWYREINIOL A DEHEUOL.

NEW JERSEY. Darluniad o’r Dalaeth. Y Cymry: -
1. Yn Jersey City.
2. Hoboken.
3. Englewood
4. Newark.
5. Elizabethtown.
6. Camden.
7. Slateford.
8. Dover, Morris Co.

TALAITH MARYLAND:
Canton; Baltimore; Frostburgh, &c,

RHANDIR COLUMBIA: Washington, Eisteddle y Llywodraeth.

VIRGINIA: - Richmond, ei Thiroedd a’i Hinsawdd, &c

WEST VIRGINIA: Ei Mynyddau a’i Dyffrynoedd.

TENNESSEE: Knoxville. Coal Creek. Chattanooga.

MASSCHUSSETTS: Boston; Quincy.

MAINE: Portland; Brownville
T.d. 159 - 179





 

 


(delwedd E0863) (tudalen 5)

(x019) (tudalen 5)

HANES CYMRY AMERICA.
PENNOD I.

RHAG-SYLWADAU.

“Y Duw a wnaeth y byd, a phob peth sydd ynddo, gan ei fod yn Arglwydd Nef a daiar - ac efe a wnaeth o un gwaed, bob cenedl o ddynion, i breswylio ar holl wyneb y ddaiar, ac a bennodd yr amseroedd rhagosodedig, a therfynau eu preswylfod hwynt; fel y ceisient yr Arglwydd.” - ACTAU xvii. 24 - 27.

“Duw, yn y dechrenad, a greodd y nefoedd a’r ddaiar;” a’i “anweledig bethau ef, er creadigaeth y byd, wrth eu hystyried yn y pethau a wnaed, a welir yn amlwg; sef, ei dragywyddol allu ef a’i Dduwdod; hyd onid ydynt hwy yn ddiesgus.” Gen. 1. 1. Rhuf. 1. 20. Ond, er hyny, y mae llawer o ddynion dysgedig a thalentog, ond o dueddfryd anrasol, wedi myfyriaw y cread, heb weled y Creawdwr; ac wedi ysgrifenu cyfrolau ar ryfeddodau anian, heb son gair am Dduw anian! ac y mae amrai o’n haneswyr dysgedig’a medrus, wedi darlunio gwledydd a moroedd y byd, ac wedi cofnodi hanes gwahanol genhedloedd y ddaiar, a’u llywodraethau, a’u cynydd, a’u dylanwad, a’u cyfoeth, a’u gogoniant, heb ddewis gwybod, na chydnabod Llywodraeth y Goruchaf, na rhoddi iddo Ef ei gyfiawn ogoniant! “ Oblegid, a hwy yn adnabod Duw, nis gogoneddasant ef megys Duw, ac ni buont ddiolchgar iddo; eithr ofer fuont yn eu rhesymau, a’u calon anneallus


 

 


(delwedd E0864) (tudalen 6)

(x020) (tudalen 6)
HANES CYMRY AMERICA.

hwy a dywyllwyd; pan dybient eu bod yn ddoethion, hwy a aethant yn ffyliaid.” Rhuf. 1. 21, 22. Yn mhlith y mil-fyrdd fydoedd a osododd Duw, i gylchdroi ar eu tragywyddol echelydd, yn yr eangder dirfawr, efe a wnaeth ein daiar delaid ni. Nid yw ond un fechan, mewn cymhariaeth i rai o’r heuliau a’r planedau mawrion; ond y mae, er hyny, yn ddigon mawr a goludog i fod yn breswylfa ddedwydd i filiynau fodau rhesymol, ac afresymol hefyd. Ni chreodd hi yn ofer; i’w phreswylio y lluniodd hi. Esa. 45. 18. Gosododd y ddeuddyn cyntaf yn mharadwys Eden; a bwriadodd iddynt luosogi a llenwi y ddaiar. Gen. 1, 28. Credwyf hefyd fod gwaith meibion Noah, ar ol y diluw, yn ceisio adeiladu “Twr Babel,” yn amcanu yn uniongyrch i atal cyflawniad rhag-gynllun Duw i boblogi y hyd. Ond disgynodd Duw, a chymysgodd eu hiaith hwy, dyrysodd eu hamcanion, ac “oddiyno y gwasgarodd yr Arglwydd hwynt ar wyneb yr holl ddaiar.” Gen. xi. 1-9. Pwy a all atal ei law Ef? Efe sy’n cyfodi ac yn darostwng breninoedd; cyfyd hwynt i ateb ei ddybenion mawrion a daionus ei hunan; a phan y pallant wneyd hyny, ac y troant yn ormeswyr hunanol a llugredig, er drygu eu deiliaid, Efe a’u darostwng i’r llwch. Y mae ei oruchel-lywodraeth Ef ar holl symudiadau dynion; ac hyd yn nod derfynau eu preswylfod wedi en pennodi ganddo, fel y ceisient yr Arglwydd.

CYFANDIR MAWR AMERICA.

Cyfandir mawr yw America, yn rhedeg o foroedd rhewllyd y gogledd, dros linell y cyhydedd, hyd Patagonia a Cape Horn yn y de, am oddeutu naw mil o
filldirau
o hyd; ac o lanau Môr y Werydd, dros y Mynyddau


 

 


(delwedd E0865) (tudalen 7)

(x021) (tudalen 7)

YR UNOL DALAETHAU.

 

Creigiog hyd lanau y Môr Tawelog, am oddeutu tair mil o filldirau o led. Cynnwysa lawer iawn o filiynau o erwau o diroedd gwerthfawr, o goedwigoedd eangfaith, o Indrawn a gwair toreithiog, o wahanol lysiau a ffrwythau; o fynyddau o bryniau yn orlawn o fwnau; o lynoedd mawrion a grisialaidd, ac o afonydd dyfnion a mordwyol; gydo llawer iawn o ynysoedd mawrion a mân. Rhenir ef yn ddwy ran, sef Gogledd a Deheudir America. Yn NGOGLEDD America y mae y Canadas, Labrador, Newfoundland, New Brunswick, Nova Scotia, &c., oll dan lywodraeth Lloegr; yma hefyd y mae yr Unol Dalaethau, a Mexico, &c. Ond yn NEHEUDIR America y mae gwledydd a mân lywodraethau Venezuela, Guiana, Colombia, Equador, Peru, Brazil, Bolivia, Paraquay, Uruguay, Chili, yr Argentine, a Patagonia. Poblogwyd ef gyntaf gan wahanol lwythau o Indiaid melyngoch, anwaraidd, a chrwydredig, y rhai oeddynt dra anwybodus, ac ofergoelus; ond yn awr poblogir rhanau ehelaeth o hono gan wahanol genhedloedd gwareiddiedig teyrnasoedd Ewrop, sef y Spaeniaid, y Portugaliaid, yr Italiaid; y Ffrancod, yr Ellmyniaid, y Swediaid, y Saeson, y Scotiaid, y Gwyddelod, a'r Cymry. Ond y mae digon o le ynddo eto i gynnwys miliynau ychwaneg o boblogaeth.

 

YR UNOL DALAETHAU.

 

Yn amser y Chwildrood, Gor. 4, 1776, pan gyhoeddodd y Trefedigaethwyr eu Hannibyniaeth ar Lywodræth Prydain, nid oedd ond un-deg-tair o Dalaethau yn ffurfio yr Undeb hwnw, sef, Massachusetts, New Hampshire, Rhode Island, Delaware, Connecticut, Maryland, New York, Virginia, New Jersey, North Carolina, Pennsylvania, South Carolina, a Georgia; ac nid

 

 


(delwedd E0866) (tudalen 8)

(x022) (tudalen 8)
HANES CYMRY AMERICA.

oedd eu poblogaeth ond bychan, na’u tiroedd diwylliedig ond ychydig, na’u masnach a’u dylanwad ond egwan iawn. Ond safasant yn wrol dros eu hiawnderau; trwy frwydrau gwaedlyd trechasant eu gelynion a’u gormeswyr; prynasant wledydd eangfaith âg arian; a gorfodasant yr Indiaid i symud yn mhellach bellach i’r gorllewin, nes eu cyfyngu yn uchel-diroedd y Mynyddau Creigiog; a meddianasant eu tiroedd mwyaf dymunol a ffrwythol. Heblaw y tair-ar-ddeg o dalaethau a nodwyd uchod, y mae y talaethau a’r tiriogaethau isod wedi eu hychwanegu at yr Undeb, a than lywodraeth yr Unol Dalaethau, yn awr; sef, Maine, Vermont, Ohio, Indiana, Illinois, Michigan, Wisconsin, Iowa, Minnesota, Missouri, Kansas, Nebraska, Arkansas, Colorado, Texas, California, Kentucky, Tennessee, Louisiana, Alabama, Mississippi, Florida, West Virginia, Oregon, Washington, Idaho, Montana, Dakota, New Mexico, Arizona, Utah, a Nevada. Ar ddechreuad yr Undeb, nid oedd gan y Llywodraeth Werinol newydd awdurdod ond dros ychydig o diroedd yn y dwyrain ar lanau y Werydd; ond erbyn heddyw y mae ei hawliau a’i hawdurdod yn cyrhaedd o’r Werydd i’r Tawelog, ac o’r llynoedd mawrion yn y gogledd hyd gyffiniau Mexico yn y de! ac y mae yn meddianu y tiroedd mwyaf ffrwythlon, y mwnau mwyaf gwerthfawr, a’r porthladdoedd, a’r llunoedd, a’r afonydd mwyaf cyfleus, yn nghyd a’r hinsoddau mwyaf tymherus ac iachusol, ar yr holl gyfandir mawr. Y mae ffurf-lywodraeth a deddfau y Weriniaeth fawr hon, i’w rhestru yn mhlith y rhai goreu a ysgrifenwyd erioed, ac a ddefnyddiwyd i lywodraethu dynion; cydnabyddant iawnderau a rhyddid gwladol a chrefyddol y bobl, sef y dinasyddion gweithgar, gonest, ac ufudd; gwnant y darpariadau goreu at addysgu eu plant yn mhob gwybodaeth fuddiol;


 

 


(delwedd E0868) (tudalen 10)

(x024) (tudalen 10)
HANES CYMRY AMERICA.
iddynt lawer o weinidogion, ac athrawon, a llenorion, a beirdd, tra dysgedig, duwiol, a dylanwadol; ac y maent yn dra haelionus i gynorthwyo eu cymdeithasau crefyddol, (Beiblaidd, Cenhadol, a Thraethodol,) er lledaenu gwirioneddau y nef drwy yr holl dalaethau a’r tiriogaethau, yn gystal a gwledydd tramor. Bu, ac y mae dylanwad llesol eglwysi ac athrofäau y New England States, a New York, a Philadelphia, yn ddirfawr ar yr holl wlad. Oni buasai eu hymdrechion diflino hwynt i ledaenu crefydd ac addysg, buasai talaethau a thiriogaethau y gorllewin wedi eu melldithio gan anffyddiaeth a llygredigaethau yr ymfudwyr diweddar o Germani, a Ffrainc, ac Itali, &c., a buasai Pabyddiaeth y Gwyddelod a’r Ellmyniaid wedi gwreiddio ac ymledu mwy yn y wlad. Y mae yr Americaniaid hefyd yn . bobl weithgar, anturiaethus, a llwyddianus iawn mewn trafnidaeth a masnach, ac yn nodedig am eu dyfais a’u cywreinrwydd yn y gwahanol gelfyddydau, ac yr oedd rheidrwydd mawr am hyny, er rhwyddhau poblogiad a diwylliad y wlad fawr hon. Dylid cofio nad oes un genedl neillduol yma yn cael eu galw yn Americaniaid, ond mai yr hen sefydlwyr, o wahanol genhedloedd, a elwir felly; a bod pob cenedl, yn mhen amser, yn ymdoddi i’w gilydd, a’r holl ddinasyddion yn cael eu galw yn Americaniaid, Nid yw y Llywodraeth hon dros i neb o’i mewn fod yn selog dros gadw eu cymeriad a’u hynodion cenedlaethol, ac ni rydd gefnogaeth i hyny: ei phrif amcan yw gwneyd un genedl fawr, deyrngarol, a rhinweddol o’r holl genhedloedd - o’r un iaith (y Saesonaeg), a’r un arferion. . Ond nid yw mewn un modd am ymyraeth â’u gwahanol olygiadau crefyddol. Y mae yn Llywodraeth Gristionogol, a chefnoga Gristionogaeth; ond ni fyn erlid a chosbi neb pwy bynag o gredoau gwahanol, os byddant yn ddinasyddion heddychol


 

 


(delwedd E0869) (tudalen 11)

(x025) (tudalen 11)
YR UNOL DALAETHAU.

ac ufudd i’w deddfau gwladol. Dyma ei gogoniant a’i chryfder. Ië, hyn a ddyrchafodd Anghydffurfwyr puredig Lloegr, a’r byd, i ffoi iddi am noddfa yn amser yr erledigaethau creulon.

Yr wyf fi, ac y mae miloedd ereill, yn teimlo dyddordeb mawr yn Hanes CENEDL y Cymry yn mhob oes a gwlad, o amser Gomer hyd yn awr. Gen. 10. 2-5. Hyfrydwch mawr i mi, ac i bob Cymro a Chymraes cenedlgarol yw darllen eu hanes boreuol yu ngwahanol wledydd Asia Leiaf, ac yn nhir Gaul, ac yn yr Ynys Wen; ac y mae hanes dewrder eu breninoedd a’u tywysogion - dysgeidiaeth eu Derwyddon a’u beirdd, ac  tywyllion, ac ymdrechion eu pregethwyr (yr hen Anghydffurfwyr Cymreig) yn erbyn Pabyddiaeth ac Eglwysyddiaeth, a gormes eu gwlad, a thros iawnderau Duw a dyn, yn llawenhau ein calonau, ac yn creu awydd cryf ynom i’w hefelychu; ac y mae y pethau canmoladwy hyn yn ein hynafiaid wedi tynu sylw, a chael uchel gymeradwyaeth haneswyr dysgedig a dyngarol perthynol i genhedloedd ereill. Er maint oedd anfanteision a ffaeleddau ein hynafiaid, yr oedd yn perthynu iddynt enwogrwydd mawr, a rhagoriaethau lawer. Galarwn oblegid eu gwendidau, a’u hymrysonau â’u gilydd, yr hyn a achosodd iddynt golli eu llywodraeth, a’r rhan fwyaf o’u gwlad; ond llawenychwn oblegid iddynt, er gwaethaf holl gydnerth ac ymosodiadau anghyfiawn -a dichellddrwg eu gelynion, gadw mynyddoedd a dyffrynoedd “Gwyllt Walia,” a’u Rhyddid, a’u Hiaith, a’u Defodau, a’u Gristionogaeth Feiblaidd, a’u bod eto yn genedl luosog a chref, ac anrhydeddus ar y ddaiar. “Tra Môr, tra Brython.” Oes y byd i’r Iaith Gymraeg.” “Duw a Digon.”

Diau fod cenedl y Cymry yn awr yn NGWALIA, o


 

 


(delwedd E0870) (tudalen 12)

(x026) (tudalen 12)
HANES CYMRY AMERICA.

dan Lywodraeth Lloegr, yn fwy lluosog, ac yn fwy enwog o ran eu dysg, a’u crefydd, a’u llenyddiaeth, a’u moesau, nag y buont erioed, ac nad oes cenedl ar wyneb yr holl ddaiar, mewn cymhariaeth i rifedi eu poblogaeth, mor uchel a hwy o ran eu rhagorfreintiau crefyddol. Y mae rhifedi eu heglwysi efengylaidd, a’u hysgolion Sabbothol, a rhifedi a thalentau eu gweinidogion a’u pregethwyr, a’u hathrawon, a’u beirdd, a’u llenorion, a dylanwad y pwlpud a’r wasg Gymreig yno, yn brawf o hyn. Ond yr ydym yn hiraethu am glywed fod Llywodraeth Prydain wedi penderfynu rhoddi mwy o iawnderau crefyddol, addysgiadol, a gwleidyddol iddynt, a bod cyfoethogion y wlad wedi dyfod i weled a gwneyd eu dyledswydd at y dosbarth gweithiol, trwy dalu cyflogau gwell iddynt am eu llafur, a rhoddi mwy o barch iddynt fel deiliaid ufudd y llywodraeth. Y mae miloedd eto yn Nghymru, o bobl oreu y wlad, yn cael eu dirwasgu gan ormes, tlodi, ac anmharch! Oes, y mae yno filoedd heddyw o weithwyr gonest, sobr, diwyd, a chrefyddol, na chawsant hwy na’u gwragedd, na’u plant, wisgoedd na bwydydd, na thy, na gwely, na thân, teilwng o’u cymeriad a’u llafur! Ac y mae yno filoedd o dyddynwyr parchus, ac o lafurwyr, a masnachwyr, a chrefftwyr ymdrechgar, yn eu henaint a’u gwendidau, wedi gorfod diwedddu eu hoes, a marw, yn yr elusendai! Y mae y fath lywodraeth, a’r fath wlad, yn galw am ddiwygiadau dioed; canys ni ddylai y fath gymeriadau fod byth yn dlawd.

Y mae cenedl y Cymry yn awr yn wasgaredig yn ngwahanol wledydd y ddaiar. Bernir fod dros un filiwn o honynt yn Nghymru; a dichon fod yn agos yr un nifer yn Llydaw, a manau ereill dan Lywodraeth Ffrainc; a bod llawer o filoedd yn Lloegr, Scotland, a’r Iwerddon, a lluoedd ereill yn Australia, a manau


 

 


(delwedd E0871) (tudalen 13)

(x027) (tudalen 13)
YR UNOL DALAETHAU.

ereill o’r byd. Dichon fod oddeutu tair miliwn o honynt yn awr yn fyw ar wyneb yr holl ddaiar. Dymunwyf eu llwyddiant yn mhob gwlad lle maent, dros byth. Nid all fy nghalon i byth ewyllysio adfyd ac aflwyddiant un Cymro na Chymraes.

Ond “CYMRY AMERICA” yw prif destyn hanesiaeth y gyfrol hon, ac atynt hwy yr wyf yn prysuro i alw eich sylw. Buont am amser maith mewn dinodedd, ac heb fawr o gyfoeth, na manteision, na dylanwad; a phrin y gwyddai y rhan fwyaf o drigolion Cymru eu bod yn bodoli, canys nid oeddynt braidd byth yn clywed son am danynt. Nid oedd y wasg Gymreig yno yn cymeradwyo eu hymfudiad, nac yn dewis son am eu henwau; ac ystyrid hwy gan lawer yno fel “ysgubion y byd, a sorod pob dim.” Bu yr eglwysi a’r pwlpud yn Ngwalia yn edrych arnynt gyda dirmyg, ac yn barnu mai pobl ariangar a chwaneg i elw oeddynt, heb ond ychydig o ysbryd crefydd ynddynt, ac y dylasent foddloni ar yr ymborth a’r dillad oedd ganddynt yn yr Hen Wlad, er nad oeddynt yn deilwng i gael eu galw yn ymborth a dillad! Clywsom hefyd fod rhai yn Nghymru yn dyweyd nad oedd yn mhlith holl Gymry America, na phregethwr, nac athraw, na llenor, na bardd, teilwng o’r enwau hyny, ac mai gwehilion pregethwyr, ac athrawon, a llenorion, a beirdd Cymru, oeddynt oll! Dichon fod ganddynt hwy resymau digonol dros farnu felly, neu seiliau digonol i gasglu felly. Nid wyf fi yn barnu felly. Gwn fod llawer o ddynion digymeriad ac anonest, a rhai pregethwyr diddoniau, ac amrai o feirdd a llenorion anfedrus a dichwaeth, wedi dyfod dros y môr i America, er hyny y mae Cymry America, fel cenedl, yn bobl weithgar, gonest, a pharchus; y mae llawer o honynt yn bobl gjfoethog ac anrhydeddus. Y mae gan y gwahanol


 

 


(delwedd E0872) (tudalen 14)

(x028) (tudalen 14)
HANES CYMRY AMERICA.

enwadau crefyddol lawer iawn o eglwysi bychain blodeuog, ac amrai o bregethwyr athrylithgar, dysgedig, doniol, a dylanwadol; ac y mae yma amrai o lenorion coethedig, a rhai beirdd gwir awenyddol. Ni charwn ysgrifenu gair i ddirmygu Cymry parchus America, ac nid wyf yn bwriadu eu gorganmol, ac ni wnaf ychwaith geisio gwadu eu beiau a’u drygau. Amcanwyf ysgrifenu Hanes cywir a diduedd, fel y gallo y darllenydd gael gwell cyfleusdra i farnu drosto ei hun am gymeriad, manteision, a dylanwad ein cenedl yn y wlad fawr hon; ac ymdrechaf ei wneyd yn llyfr gwir fuddiol, nid yn unig i’r ymfudwyr Cymreig, ond i’r Grenedl yn gyffredinol yn mhob gwlad.


 

 


(delwedd E0873) (tudalen 15)

(x029) (tudalen 15)

 

PENNOD II

 

CYMRY AMERICA YN YR AETH-HEIBIO.

 

1. MADAWG AP OWAIN GWYNEDD. - Nis gwyddom pa bryd, na chan ba genedl, y dechreuwyd poblogi cyfandir mawr America; ond gwir yw fod gwahanol lwythau o Indiaid yn byw arno, gan mwyaf o honynt oddeutu glanau yr afonydd sydd yn ymdywallt i Fôr y Werydd, yn y fl. 1492, pan y darganfyddwyd ef gan Columbus; ac yn y fl. 1620, pan y glaniodd y Tadau Pererinol; a chyn hyny, pan oedd yr Ellmyniaid a’r Swediaid yn cyfaneddu oddeutu afonydd y Delaware, a’r Hudson; ac yn y fl. 1682, pan y dechreuwyd sefydliad William Penn. Ond barna rhai fod y Cymro anrhydeddus, sef Madawg ap Owain Gwynedd, wedi darganfod y wlad, a elwir yn awr America, a sefydlu ynddi, gyda llawer o’i bobl, oddeutu y fl. 1170, sef o ddeutu saith gant o flyneddau yn ol, a thros dri chant o flyneddau o flaen Columbus. (Gwel “Hanes Cymru,” gan y Parch. Thomas Price, t.d. 589, neu “Yr Ymfudwr,” gan I.G., t.d. 55.) Gallasai hyny fod yn wirionedd; a buasai yn ddymunol gan luoedd pe buasai yn ffaith eglur. Ond nid wyf fi eto wedi cael profion digonol o hyny. Nid yw yr hanes yn nodi y lle y tiriasant yno gyntaf, nac yn cadarnhau eu bod wedi tirio mewn un man yn y Gorllewinfyd ar eu hail fordaith; ond dywed yn bendant “na wyddys i ba le yr aethant,” ac “na welwyd ef byth mwyach.” Ac er cymaint a chwiliwyd ac a ysgrifenwyd am yr Indiaid Gwynion Cymreig, nid yw yn wirionedd fod neb eto wedi eu gweled, na’u clywed yn siarad Cymraeg; ac nid yw yr hanesydd craffus, Camhuanawc ei hunan, yn gwbl argyhoeddedig o wirionedd yr hanesion am Madawg, a llwyth y Madawgwys yn America. Credwyf finau fel yntau, “fod llawer o haeriadau gwag, ac anmhwyllog wedi eu gwneyd a’u hail adrodd, a llawer o gelwyddau noeth a bwriadol wedi eu hychwanegu atynt,” gyda golwg ar hyn, ac y dylem fod yn wyliadwrus rhag cael ein camarwain. (Gwel “ Cenhadwr,”

 

 


(delwedd E0874) (tudalen 16)

(x030) (tudalen 16)
HANES CYMRY AMERICA.

1854, Mawrth, t.d. 107; a Hydref, 1856, t.d. 376.) Ni charwn wawdio y fath hanesion, ond hoff fyddai genyf gael profion sicr fod disgynyddion Madawg eto yn bodoli yn rhywle yn America; ac er na fyddent, yn eu cyflwr darostyngedig ac isel fel Indiaid Cymreig, o fawr les nac anrhydedd i ni fel cenedl, eto byddent yn wrthddrychau gwir deilwng o’n cydymdeimlad a’n hymdrechion crefyddol i’w goleuo a’u llesoli.

2. ROGER WILLIAMS. - Bydd enw, ac egwyddorion, ac ymdrechion y Cymro enwog hwn yn barchus gan genedl y Cymry, a chan genhedloedd ereill, hyd ddydd olaf amser. Bernir iddo gael ei eni yn Nghymru tua’r fl. 1599, a chael addysg athrofaol er bod yn offeiriad yn yr Eglwys Wladol. Ond wedi hyny efe a ymunodd â’r Bedyddwyr, ac a bleidiodd egwyddorion yr Anghydffurfwyr; am hyny erlidiwyd ef, a gorfu arno adael gwlad ei enedigaeth, a ffoi am nodded at y Tadau Pererinol (cymysgedig o Bresbyteriaid, ac Annibynwyr, ac Eglwyswyr), ger Boston, Massachusetts. Nis gwyddom pa bryd y tiriodd, ond yr oedd yn weinidog yn Salem yn y fl. 1634. Ond oblegid ei olygiadau neillduol, a rhyddgarol ar bethau gwladol a chrefyddol, cafodd ei erlid oddiyno hefyd gan y Cristionogion hyny! Ond cafodd nodded gan Canonicus, penaeth enwog y llwyth cryf Indiaid a elwid Narragansetts, y rhai a breswylient ar lanau yr afon hono, yn y fl. 1636. Prynodd dir gan yr Indiaid; daeth amrai o’i gyfeillion ato yno, a galwasant y lle yn Providence, er dangos eu ffydd yn Rhagluniaeth Duw. Saif y dref hono yn nhalaeth Rhode Island. Yn ol golygiadau Roger Williams, yn llaw y mwyafrif o’r Bobl yr oedd hawl i ddewis eu swyddogion gwladol a chrefyddol; nid oedd gan y lywodraethwyr gwladol hawl i reoli ond yn unig mewn achosion gwladol; Duw yn unig oedd i reoli y gydwybod; ac yr oedd yn selog dros i grefyddwyr o wahanol olygiadau i oddef eu gilydd mewn cariad; a barnai nad oedd gan y brenin hawl i drawsfeddianu tir yr Indiaid. Yr oedd yr Indiaid yn hoff iawn o hono, ac yr oedd ganddynt ymddiried mawr ynddo . Er cymaint o gam a gafodd gan Eglwys Salem, a swyddog


 

 


(delwedd E0875) (tudalen 17)

(x031) (tudalen 17)

CYMRY AMERICA YN YR AETH-HEIBIO.

y llys cyffredinol, dangosodd yr ysbryd mwyaf maddeugar, trwy eu hysbysu am, ac atal cydfrad y Pequods creulon i’w dinystrio. Yn 1644, cafodd Charter gan Senedd Lloegr, trwy yr hwn yr unwyd Providence a Rhode Island dan yr un llywodraeth. Enwogodd ei hun drwy ei sêl dros droedigaeth yr Indiaid, a thrwy wneyd Geirlyfr i ddeongli eu hiaith, yr hwn a argraffwyd. Wedi hir oes o lafur caled, a defnyddioldeb mawr, bu farw yn y fl. 1683.

3. WILLIAM PENN, a’i Amserau. - Yn 1496, darganfyddodd John Cabot a’i feibion Newfoundland, Labrador, a Maryland; ac yn 1583 tiriodd Syr Walter Raleigh ar ynys Roanoke, a galwyd y wlad yn Virginia; ac yn 1614, archwiliodd Cadben Smith y tiroedd yn ngogledd-ddwyrain America, a gwnaeth fapiau a morleni, a galwodd y lle yn New England. Ar hyny y sylfaenodd llywodraeth Lloegr ei hawl i America. Yr oedd y “London Company,” a’r “Plymouth Company” wedi anfon llawer o bobl i sefydlu ar, a dwyn yn mlaen eu masnach â’r Indiaid yn yr holl wlad ar lanau y Werydd, South Carolina yn y De, hyd Maine yn y Gogledd. Ond o’r fl. 1598 hyd 1664, yr oedd yr Ellmyniaid a’r Swediaid yn meddianu llawer o diroedd oddeutu y Delaware a’r Hudson. Llwyr ddarostyngwyd hwynt gan lywodraeth Lloegr, Hydref 11, 1664. Wedi hyny cymerasant lw o ffyddlondeb i’r Llywodraeth hon . Credwyf fod rhai Cymry mor foreu a hyny yn byw yn mhlith y Dutch a’r Saeson yn y gwledydd a elwir yn awr yn Virginia, Maryland, Delaware, Pennsylyania, New Jersey, New York, Connecticut, Massaiichusetts, a Rhode Island; oblegid nodir enwau rhai o honynt yn yr hanesion boreuol hyny, sef William Morris, Edward Lloyd, Williams, James Mills, William Mills, Jones, Richard Hancock, Thomas Foulke, Henry Jones, a John Morgan. Ond nid oedd un Sefydliad Cymreig yn America cyn amser William Penn.

Ganwyd William Penn yn Llundain, Lloegr, Hydref 14, 1644. Mab oedd i Syr William Penn, Admiral nodedig wrol a llwyddianus yn llynges Lloegr. Bernir ei fod yn ddisgynedig o hen deulu Cymreig anrhydeddus


 

 


(delwedd E0876) (tudalen 18)

(x032) (tudalen 18)
HANES CYMRY AMERICA.

y Tuduriaid, o Pen-y-mynydd, Môn, ac mai am hyny y mabwysiadodd ei hynafiaid yr enw Penn. Cafodd ei fagu yn grefyddol, a bu yn bregethwr, yn ddadleuydd, ac yn awdwr enwog gyda y Crynwyr (Quakers.) Yr oedd yn gyfaill mynwesol i’r enwog George Fox, y Crynwr, yr hwn a dalodd ymweliad a dinas New Castle, ar lan y Delaware, America, yn 1672, ac wedi hyny a ddychwelodd i Brydain Fawr. Dichon mai trwyddo ef y tueddwyd William Penn i feddwl gyntaf am wneyd sefydliad yn America. Yn 1673, cyfryngai rhwng John Fenicks ac Edward Byllinge gyda golwg ar eu hawliau i’r tiroedd yn New Jersey. Yn 1676, pennodwyd ef yn un o ymddiriedolwyr Byllinge; ac yn Awst, 1677, etholasant commissioners i werthu: y tiroedd hyny; yr oedd Thomas Foulke yn un o honynt. Prynasant lawer o diroedd gan yr Indiaid, a sefydlodd aros 320 o bobl arnynt, gan mwyaf yn Grynwyr o Lundain, ac Yorkshire, Lloegr. Sefydlodd rhai o honynt ar y tir lle saif dinas Philadelphia yn awr. Yn 1670, bu farw tad William Penn, a gadawodd etifeddiaeth werthfawr ar ei ol iddo. Yn mhen pedair blynedd ar ol hyny, pan oedd yn 28 ml. oed, priododd â Gulielma Maria Springett, merch Syr William Springett. Yr oedd llywodraeth Lloegr yn ddyledus i’w dad yn y swm o £16,000, ac yn analluog i dalu mewn arian; ond yn Mawrth 4, 1681, arwyddodd Charles II charter iddo am lawer o diroedd, oddeutu afonydd y Delaware a’r Schuylkill, yn America.

Yr oedd Penn yn awyddus am enwi y sefydliad hwnw yn New Wales, ond y brenin, ac ereill, a benderfynasant ar yr enw Pennsylvania. Galwyd y wlad felly. Penderfynodd Penn wneyd y defnydd goreu o honi. Pennododd William Markham, ei berthynas, i fod yn Is-swyddog dano yno; ac ysgrifenodd lythyrau synwyr-gall a charedig gydag ef at y trigolion, ac at yr Indiaid. Cyrhaeddodd Markham, ac ereill, y wlad yn Mehefin, 1681, a gwnaeth y rhagdrefniadau rheidiol. Trefnodd Penn y rheolau i werthu y tir, ac i lywodraethu y wlad, yn y modd mwyaf doeth, a gwerthodd lawer o’r tir i’r “Free Society of Traders” ac i bobl barchus a chyfoethog ereill yn Lloegr, Scotland, Iwerddon,


 

 


(delwedd E0877) (tudalen 19)

(x033) (tudalen 19)

CYMRY AMERICA YN YR AETH-HEIBIO.

a Chymru; enwir llawer iawn o Gymry a brynasant diroedd ganddo yn y wlad, ac yn ninas Philadelphia; sef William Powell, Richard Davie, Griffith Jones, Nathaniel Evans, Joseph Richards, Willam Phillips, Charles Jones, John Price, Thomas Rowlands, Charles Lloyd, William Jenkins, John ap John, John Wynn, Edward Edwards, John Pierce, George Rogers, John Jones, Thomas Morris, William Lloyd, Thomas Powell, a llawer ereill. Yr oedd y rhai a brynasant diroedd yn y wlad i gael lotiau hefyd yn y ddinas; ac ymddengys fod safle a chynllun Philadelphia wedi eu pennodi a’u trefnu, dichon yn ol rhag-gynllun Penn ei hun, gan y Commissioners, cyn iddo ef ei hun dirio yn America; daeth ef ei hunan, gyda llawer o ymfudwyr, dros y môr, yn y llong hwyliog o’r enw “Welcome,” a thiriasant yn New Castle, ar y Delaware, yn Hydref, 1682. Cafodd Penn y derbyniad mwyaf croesawgar. Yn yspaid ei arosiad. yn America, trefnodd reolau y llysoedd gwladol; a chynhaliwyd y General Assembly gyntaf yn ninas Chester, Pa., Rhag. 4, 1682. Yn hono gwnaethant amryw o ddeddfau, y rhai a nodweddid âg argyhoeddiad dwfn Penn, o iawnder a rhyddid gwladol a chrefyddol i’r dinasyddion yn ddiwahaniaeth. Yr oedd rhai Cymry parchus yn perthyn i’r llysoedd gwladol hyny. Diau fod llawer o’r Crynwyr Cymreig, oddeutu Dolgellau a’r Brithdir, Meirionydd, ac oddeutu y Trallwm a Dolobran Fawr, Maldwyn, G.C., wedi. ymfudo mor foreu a hyny - o’r fl. 1682 hyd 1692, i Pennsylvania. Yn 1684, dychwelodd Penn i Loegr; a bu yno am flyneddau yn llafurus a defnyddiol. Yn ei absenoldeb, honodd y Cyngor yn Pennsylvania ormod o awdurdod; ac ataliodd hyny beth ar eu llwyddiant. Aeth Penn yno eilwaith, Tachwedd, 1699, a thrwy ei ddoethineb a’i uniondeb, terfynodd ymrysonau y Gymanfa yn Philadelphia; a chadarnhaodd amryw o ysgrifau gwerthfawr. Dychwelodd i Loegr yn Rhagfyr, 1701, a bu farw yno Gorphenaf 18, 1718, yn 74 mlwydd oed. Bu un Thomas Lloyd, mab i rieni parchus o Dolobran Fawr, plwyf Meifod, Maldwyn, yn Llywodraethwr ar Pennsylvania, o’r fl. 1684 hyd 1689, pan y rhoddodd ei swydd i fyny. Ymddengys na


 

 


(delwedd E0878) (tudalen 20)

(x034) (tudalen 20)
HANES CYMRY AMERICA.

threuliodd William Penn ond ychydig o amser yn y wlad hon; ac na chafodd ef ond ychydig o fwyniant ac elw oddiwrth ei sefydliad newydd; ond bu yn llesol i filoedd ereill, ac i’r Cymry yn neillduol. Dyma ddechreuad y sefydliadau Cymreig yn America.

4. DINAS PHILADELPHIA, A GWLAD Y DYFFRYN MAWR. - Lled debyg yw, fod dinas y “Cariad Brawdol,” (Philadelphia,) wedi cael ei chynllunio gan Penn ei hunan, yn y fl. 1681, a bod rhai Cymry, ac ereill, wedi dechreu preswylio ynddi yn haf y fl. 1682, oddeutu 189 flyneddau yn ol! Nid oedd y pryd hyny ond bechan a gwael, heb ond ychydig o breswylwyr, nac adeilad costfawr ac addurnol o’i mewn. Ond cynyddodd yn gyflym, mewn poblogaeth a masnach; a bu yr iaith Gymraeg yn cael ei siarad yn gloywber ar ei heolydd, ac yn ei marchnadoedd, am lawer o flyneddau; oblegid hi oedd prif farchnadfa tyddynwyr Cymreig y Dyffryn Mawr. Saif ar guldir iachus a phrydferth, rhwng afonydd y Delaware a’r Schuykill. Y mae yn awr yn un o’r dinasoedd mwyaf, harddaf, a chyfoethocaf, yn holl wlad fawr America; ac y mae ynddi ganoedd, os nad miloedd, o ddisgynyddion y Cymry, (Welsh Descendants,) mor barchus, a chyfoethog, a dylanwadol, a neb o’r cenhedloedd ereill, ond wedi colli eu hiaith, ac yn llwyr adael yr addoliad Cymreig; ac nid oes ond . ychydig o deimlad cenedlgarol mewn llawer iawn o honynt; y mae eithriadau pwysig ac anrhydeddus. Pe buasent wedi cadw eu hiaith, a pharhau i fynychu yr addoliad cyhoeddus Cymreig, gallasai fod genym yn awr, yn Philadelphia, lawer o eglwysi CYMREIG blodeuog a dylanwadol. Y mae peidio dysgu a siarad Cymraeg, ac esgeuluso cefnogi yr eglwysi, a’r weinidogaeth, a’r wasg, Gymreig, yn ddirmyg ar ein hanrhydedd, ac yn amcanu at roddi ergyd farwol i’n bodolaeth fel Cenedl Gymreig.

GWLAD Y DYFFRYN MAWR! - Dywed yr hanesydd Robert Proud, fel hyn: - “Yn mhlith yr anturiaethwyr a’r sefydlwyr cyntaf, y rhai a diriasant yn 1682, yr oedd llawer o Gymry, y rhai a elwid Ancient Britons,


 

 


(delwedd E0879) (tudalen 21)

(x035) (tudalen 21)

CYMRY AMERICA YN YR AETH-HEIBIO.
gan mwyaf yn Grynwyr. Prynasant 40,000 o erwau o dir gan William Penn. Cymerodd y rhai a ddaethant y pryd hyny gymaint o hono ar ochr orllewinol afon y Schuylkill, ag a wna i fyny y tri rhandir (townships) a elwir Meirion, Haverford, a Radnor; ac yn mhen ychydig flyneddau wedi hyny, cynyddodd eu rhifedi mor fawr nes sefydlu y tri arall, sef Newtown, Goshen, ac Uwchland. Ar ol hyny cynyddasant yn barhaus, a daethant yn bobl luosog a llewyrchus.” Crynwyr, gan mwyaf, oeddynt; ac yr oedd llawer o honynt yn bobl gyfoethog a dysgedig, a rhai yn bregethwyr gyda’r enwad hwnw. Dywed yr hynafiaethydd enwog, Eli K. Price, Ysw., wrth ysgrifenu hanes ei hynafiaid, “fod Philip Price, a’i wraig gyntaf, wedi sefydlu yn rhandir Haverford, yn agos i’r man y safai y Buck Tavern, wedi hyny ar hen ffordd Lancaster, oddeutu chwe’ milldir o ddinas Philadelphia, yn y fl. 1097.” A dywed Samuel Jenkin, Ysw., fod ei dad, ac ereill, yn arfer pregethu Cymraeg yn “hen gapel Cymreig y Bedyddwyr, yn y Dyffryn Mawr, 15 milldir o Philadelphia, yn agos i’r “Great Western Road,” oedd yn myned o’r ddinas hono i Pittsburgli, Pa.,” ac “yn Penypeck, (neu Penyparc,) 10 milldir i’r gogledd.” Dywed Benjamin P. Lewis, Ysw., yn yr Hanes a gyhoeddodd yn y “Cenhadwr” am Ionawr a Chwefror, 1866, “fod Radnor a Haverford yn sefyll yn swydd Delaware; Goshen, Nantmeal, Tre’rdyffryn, ac Uwchland, yn swydd Chester; a Gwynedd, (North Wales,) a Meirion, a Maldwyn, yn swydd Montgomery.” A dywed y Parch. Robert M. Patterson, wrth ysgrifenu hanes yr Eglwys Bresbyteraidd, . yn y Dyffryn Mawr, - “fod y Dyffryn Mawr yn dechreu yn agos i Norristown, ar lan y Schuykill, oddeutu 18 milldir o Philadelphia; ac yn rhedeg ar draws swydd Chester, yn nghyfeiriad y de-orllewin. Bod yr eglwys uchod yn sefyll o fewn 8 milldir o Norristown, yn y wlad. Eu bod yn rhy wasgaredig ar y cyntaf i gynal gweinidog sefydlog; ond yr arferent gadw cyfarfodydd yn eu tai, Bod un David Evans, wedi ymfudo o Gymru yn y fl. 1701, gyda’i dad, David Evans, Ysw., yr hwn, tebygol yw, oedd yn Henadur yn y “Welsh Tract” neu Pencader, yn nhalaeth


 

 


(delwedd E0880) (tudalen 22)

(x036) (tudalen 22)
HANES CYMRY AMERICA.

Delaware; ac mai y David Evans, y mab hwnw, a bregethodd Gymraeg gyntaf yn yr eglwys hono ar y . Dyffryn Mawr, cyn ac wedi y fl. 1710. Fod dwy gynulleiafa fechan, mor foreu a hyny, yn bodoli, sef un ar y “Welsh Tract” a’r llall yn y Dyffryn Mawr. Buont am beth amser mewn undeb â’u gilydd; ond wedi hyny ymrysonasant. Sonia hefyd am y Parchn. Malachi Jones, a John Rowlands, a Timothy Griffiths, a fu yn pregethu yno, yn Gymraeg ac yn Saesonaeg; (ond wedi mis Ebrill, 1761, collwyd yr iaith Gymraeg yn llwyr o’r areithfa hono! Nid oedd ei hoes hi yno ond prin 50 mlynedd!) Dewisasant weinidogion Saesnig ar ol hyny. Ar y cyntaf codasant gapel log yno. Adeiladwyd capel newydd yno yn 1794. Dyna yr addoldy lle yr addola yr eglwys Bresbyteraidd ynddo yn awr, ond ei fod wedi ei adgyweirio a’i helaethu. Cyferbynier y Dyffryn diwylliedig a hardd, fel y mae yn awr, â’r hyn oedd gant a haner o flyneddau yn ol; nid oedd y pryd hyny ond “gwlad o goedydd,” a chynnwysid talaeth Pennsylyania, yn siroedd Philadelphia, Bucks, a Chester, a’r oll o’u hamgylch yn diroedd anghyfaneddol, neu yn faesydd helwriaeth yr Indiaid; yr oedd anifeiliaid gwylltion yn crwydro o amgylch, a’r cyn-frodorion yn preswylio eu caeau a’u pentrefi genedigol; tyrfaoedd o honynt a âent heibio i’r lle yr ydym yn sefyll arno, gan ddyfod o bellder, a myned i Philadelphia ar ymweliadau; yr oedd y ffyrdd yn ddrwg ofnadwy, fel yr oedd taith i’r ddinas yn un ofidus iawn; nid oedd na railroads na stages i’w cael y pryd hyny; ar yr ychydig diroedd diwylliedig: y gwelid tai logiau cyffredin lawn yn noddi y preswylwyr, eu gwaliau wedi eu gwyngalchu, eu lloriau o bridd, a’u haelwydydd yn cael eu cynhesu â thânau o goedydd mawrion, oddeutu y rhai yn yr hwyr yr ymgynullai y gwyr a’r gwragedd i wneyd eu gorchwylion teuluaidd, ac i dreulio yr amser i adrodd hanesion am eu dyoddefiadau yn yr Hen Wlad, a’u hanturiaethau, a chadernid ffydd eu hynafiaid mewn pethau crefyddol, a’u hofergoelion. Yr oeddynt yn byw ar laeth, a bara, ac afalau, a chig moch, a gwenith, a mush, a menyn, a mêl, a chig hyddod, a thurkeys. Y dynion a’r merched a’u dilladent eu hun


 

 


(delwedd E0881) (tudalen 23)

(x037) (tudalen 23)

CYMRY AMERICA YN YR AETH-HEIBIO.

â brethyn syml, o’u gwneuthuriad eu hunain; marchogent ar geffylau, a’r wraig tu ol i’r gwr, i’r addoliad cyhoeddus, ac ar amser eu claddedigaethau; pobl syml iawn oeddynt mewn gwlad anniwylliedig; a theithiai rhai o honynt dros 20 milldir i’r addoldy ar amser y “Cymundeb.”

Edrychwch yr hen fapiau o dalaeth Pennsylyania, a gwelwch fod dinas Philadelphia yn sefyll yn swydd rhiladelphia, a bod siroedd Delaware a Montgomery yn cyffinio â hi; ac hefyd bod siroedd Chester a Lancaster yn cyflSnio â’r rhai hyny, ond yn sefyll yn bellach i’r de-orllewin. Lower Meirion oedd y nesaf at ddinas Philadelphia; ac yr oedd Upper Meirion yn nes at Norristown a Phoenixville; a Tre’rdyffryn i’r de-orllewin yn cyffinio ar Upper Meirion; a gwlad y Dyffryn Mawr yn rhedeg am filldiroedd tua’r de; a Gwynedd i’r gogledd-ddwyrain oddiyno. Y mae y tair brif railroads yn awr yn rhedeg o Philadelphia drwy ranau o’r hen sefydliadau Cymreig hyny; sef y “Northern Pennsylvania R.R.” heibio i Wynedd i Bethlehem, ar lan y Lehigh; a’r “Philadelphia & Reading R.R.,” drwy Meirion, ar lan y Schuylkill; a’r “Central Pennsylvania R.R.” drwy y Dyffryn Mawr, heibio i Brecknock a Charnarfon yn swydd Lancaster. Ac wrth deithio yn y stage sydd yn rhedeg o dref Lancaster i Peach Bottom, canfyddir y “Welsh Hills,” fel y gelwir hwynt hyd heddyw, ar eich aswy law, tua’r gogledd-ddwyiain. Tueddir fi i feddwl fod y “Welsh Tract,” lle yr oedd eglwys Pencader, yn gorwedd yn nes i’r Delaware, Bu y sefydlwyr Cymreig cyntaf yn America yn ddoeth iawn yn eu dewisiad o’u tiroedd, oblegid y mae y gwledydd hyny yn awr yn rhai o’r tiroedd amaethyddol goreu yn nhalaeth Pennsylyania. Y mae yn anhawdd gwybod yn sicr, yn awr, nifer eu capelau a’u heglwysi, na pha le yr oeddynt yn sefyll. O na buasent wedi cadw eu gwlad a’u hiaith! yna cawsem yr hyfrydwch mawr yn awr i’w gweled yn boblogaeth gref yno, ac o gyd-addoli â hwynt yn eu heglwysi blodeuog. Ond nid oes yno heddyw ond ychydig o lyfrau Cymreig yn eu hen dai, a’u capelau, i gadw coffadwriaeth am danynt; ac nid oes braidd neb o’u disgynyddion yn

 

 


(delwedd E0882) (tudalen 24)

(x036) (tudalen 22)
HANES CYMRY AMERICA.

gallu darllen y rhai hyny! Cofiwch mai Crynwyr Cymreig oedd y rhan fwyaf o sefydlwyr cyntaf y Dyffryn Mawr, &c. Yr oedd rhai Cymry enwog a dysgedig yn eu plith, sef, Thomas Lloyd, y Llywydd; y Parch. Abel Morgan, (B.) awdwr y Mynegair Ysgrythyrol, a gweinidog yr eglwys yn Pennepack; a Dafydd Llwyd, y cyfreithiwr; a Rowland Ellis, o’r Brynmawr, ger Dolgellau, G.C.; a Hugh Roberts; ac Ellis Pugh, prif feddyg Philadelphia; a Dr. Thomas Wynn, llefarydd yr Assembly gyntaf a gynaliwyd yn Philadelphia; a Dr. Edword Jones, ac ereill.


5. CYMRY AMERICA YN Y FL. 1776. - Y mae y diweddar Dr. Alexander Jones, o New York, wedi cyhoeddi cyfrol werthfawr ar “Hanes Cymry ’76,” ac y mae yn teilyngu darlleniad gan bob Cymro. O amser tiriad yr ymfudwyr Cymreig cyntaf yn Pennsylyania hyd y fl. 1776, aeth heibio 94 o flyneddau. Yn y cyfnod hirfaith hwnw, cafodd Cymry America (fel cenhedloedd ereill) amser a manteision i gynyddu yn eu rhif, eu cyfoeth, a’u dylanwad; ac yr oedd amrai o honynt yn New England, yn New York, yn New Jersey, yn Maryland, yn Delaware, yn Virginia, ac yn enwedig yn ngwlad y Dyffryn Mawr, a dinas Philadelphia, wedi enwogi eu hunain fel masnachwyr, cyfreithwyr, meddygon, pregethwyr, athrawon, a gwleidyddwyr. Oblegid gormes llywodraeth Lloegr ar ddeiliaid ufudd ei threfedigaethau Amerigol, a’i gwrthodiad i wrando ar eu cwynion, a’i gwaith yn ceisio eu darostwng trwy ryfel a gwaed, ar y Pedwerydd dydd o Orphenaf, 1776, penderfynodd tair-ar-ddeg o’r trefedigaethau ymuno a’u gilydd i amddiffyn eu Rhyddid a’u Hiawnderau, a chyhoeddasant eu Hannibyniaeth! Cymro enwog, sef Thomas Jefferson, o Virginia, trwy gynorthwy Benjamin Franklin, ac ereill, a wnaeth yr ysgrif nodedig hono, sef “The Declaration of Independence,” yr hon a arwyddwyd gan ddynion enwocaf yr oes hono, ac yn eu plith gan lawer o Gymry parchus, sef Thomas Jefferson, Stephen Hopkins, William Williams, William Floyd, Francis Lewis, Lewis Morris, Robert Morris, ac ereill

Dechreuodd Rhyfel y Chwildroad yn Ebrill, 1775, a


 

 


(delwedd E0883) (tudalen 25)

(x037) (tudalen 25)

CYMRY AMERICA YN YR AETH-HEIBIO.

pharhaodd hyd Tachwedd, 1782! pan y terfynodd yn fuddugoliaethus o du yr Americaniaid, ac y gwnaed Cytundeb Heddwch. Yn y rhyfel hwnw hynododd llawer o Gymry America eu hunain fel milwyr medrus a gwrolddewr, a rhoddasant y cynorthwy mwyaf parod ac eifeithiol i Washington a’i fyddinoedd. Ymladdwyd rhai brwydrau gwaedlyd ar diroedd y Cymry yn Meirion a’r Dyffryn Mawr! Ond safodd y Cymry yn ffyddlon dros eu Rhyddid a’u Hiawnderau, a rhoddasant eu harian, a’u plant, a’u gwaed eu hunain, er eu hamddiffyn. Bu Robert Morris, Banker cyfoethog yn Philadelphia, drwy ei haeledd a’i fedruswydd, fel arianydd, o ddirfawr gynorthwy i’r Weriniaeth newydd yn ei chyfyngderau y pryd hyny. Ond sicr yw fod helyntion blinion yr amseroedd hyny wedi effeithio yn dra niweidiol i lwyddiant yr eglwysi Cymreig.

6. ADFYWIAD YR YMFUDIAD CYMREIG I AMERICA AR OL Y CHWILDROAD. - Ar ol y Chwildroad a’r rhyfeloedd blinion, cafodd y wlad lonydd i adgyfnerthu, trwy dalu mwy o sylw i amaethyddiaeth a’r celfyddydau buddiol. Yn Medi 17, 1787, gwnaed y Ffurflywydraeth (Constitution) newydd, a chadarnhawyd ef gan y talaethau cyn diwedd 1788; ac yn Ebrill y flwyddyn hono, etholwyd Washington yn Arlywydd yr Undeb; ac ail-etholwyd ef yn 1792, a bu ei lywyddiaejth yn dra boddhaol a llwyddianus. Yr oedd y Congress y pryd hyny yn cyfarfod yn Philadelphia; ond yn y fl. 1800, symudwyd eisteddle y Llywodraeth Gyffredinol i ddinas Washington, yn rhandir Columbia. Dan lywyddiaeth Washington, ac Adams, a Jefferson, llwyddodd y Weriniaeth newydd yn ddirfawr, a helaethodd ei therfynau yn ddirfawr i’r gorllewin a’r de. Ond yn amser llywyddiaeth Madison, torodd allan ail ryfel rhwng Lloegr a’r Unol Dalaethau, yn y fl. 1812. Defnyddiodd Lloegr wasanaeth yr Indiaid creulon! ac ymladdwyd llawer o frwydrau gwaedlyd yn ngwahanol barthau y wlad, ac ar y llynoedd, a’r afonydd, a’r moroedd. Ond yn Awst, 1814, gwnaed Cytundeb Heddwch, a therfynodd y rhyfel; ac wedi hyny cynyddoedd ymfudiad yn ddirfawr


 

 


(delwedd E0884) (tudalen 26)

(x038) (tudalen 24)
HANES CYMRY AMERICA.

fawr o wahanol wledydd Ewrop i America, ac o’r talaethau dwyreiniol i’r tiriogaethau gorllewinol.

Yn y 17eg a’r 18fed ganrif, yr oedd gan y Crynwyr a’r Presbyteriaid eglwysi blodeuog mewn rhai ardaloedd yn Nghymru; ond wedi hyny gwywasant yn raddol, a darfyddodd eu hymfudiad.

Ar ol y Chwildroad, o’r flwyddyn 1795 hyd 1805, y daeth llawer o Ymneillduwyr, sef yr Annibynwyr, a’r Bedyddwyr, a’r Trefnyddion Calfinaidd o Gymru i America. Oddeutu y fl. 1795 y daeth y personau canlynol drosodd i’r wlad hon, sef Mr. Jenkins (tad yr hynafgwr duwyol a’r cenedlgarwr enwog, Samuel Jenkins, Ysw., sydd eto yn fyw yn Philadelphia), yr hwn a fu yn pregethu i’r Cymry am lawer o flyneddau yn Philadelphia ac yn y Dyffryn Mawr, gyda y Bedyddwyr Cymreig, ac enwadau ereill; ond ni bu yr eglwysi Cymreig hyny erioed yn lluosog a chryfion. Yn y cyfamser bu amrai o Gymry yn aros am ychydig amser yn y ddinas, sef y Parch. Richard Jones (B.,) o dref Aberteifi; y Parch Howell R. Powell, y Parch. Daniel Morris, Daniel Thomas, Evan George, ac ereill. Yn Hydref 26, 1795, y tiriodd Ezeciel Hughes, a George Roberts, ac Edward Bebb, a Dafydd Francis (o Lanbrynmair); a’r Parch. Rees Lloyd, a William Gwilym, a Morgan Gwilym, ac ereill yn Philadelphia, ac arosasant yno am rai misoedd. Ni ddaeth ond ychydig o ymfudwyr Cymreig i America o’r fl. 1802 hyd y fl. 1815. Ond wedi hyny daeth amryw, a sefydlasant am beth amser yn Philadelphia, a’r ardaloedd Cymreig o’i hamgylch. Bu Samuel Jenkins, Ysw., (a nodwyd uchod) a’i dad yn nodedig ffyddlon gyda’r achosion Cymreig gweiniaid yn y ddinas, ac yn y Dyffryn Mawr, ac yn dra charedig i’w cydgenedl. Bu farw Mr. Jenkins ei dad yn South Carolina, yn Rhagfyr, 1841, yn 86 mlwydd oed. Ar ol ymadawiad y Parch. Mr. Jenkins, nis gallaf gael gwybod beth a ddaeth o’r Eglwys Fededdiedig Gymreig yn y Dyffryn Mawr; ond yr wyf yn sicr fod amrai o weinidogion wedi bod yn pregethu i’r Cymry yn y ddinas ar ol hyny, ar wahanol amserau, sef y Parch. William Morgan (B.,) Pottsville; y Parch. Wm. Owen (B.,) Pittsburgh; y Parch. Watkin Watkins


 

 


(delwedd E0885) (tudalen 27)

(x041) (tudalen 27)

CYMRY AMERICA YN YR AETH-HEIBIO.

(A.,) a Mr. Richards (W.,) a Mr. William Jones (T.C.,) ac ereill. Bu y Parch. Mr. Senar, a’r Parch. William Hopkins, a’r Parch. John L. Richards, a’r Parch. Mr. Jones, yn gweinidogaethu i’r Cymry yno, mewn ystafell fechan, ar corner of 12th & Filhert Streets; ac y mae yno eto ychydig o gynulleidfa Gymreig yn cyfarfod yn achlysurol, ac un Mr. Rosser yn pregethu iddynt. Bu ganddynt gapel hardd yn amser Mr. Hopkins; ond rywfodd gorfu iddynt ei werthu. Dylasai fod eglwys Gymreig gref a flodeuog yn ninas Philadelphia, a gallai fod un felly yno eto, pe byddai yr holl Gymry parchus sydd yno yn gallu siarad a darllen yr iaith Gymraeg yn gwneyd eu dyledswydd. ac yn penderfynu cydweithredu yn anwyl ac yn egniol er lles eu gilydd, anrhydedd eu cenedl, a gogoniant y Gwaredwr.

7. SYMUDIADAU Y CYMRY O PHILADELPHIA I LEOEDD EREILL. - Cyu pen llai na chan’ mlynedd ar ol amser William Penn, yr oedd y rhan fwyaf, a’r rhau oreu o’r tiroedd wedi eu gwerthu oddeutu dinas Philadelphia, ac yn y Dyffryn Mawr, a’r ardaloedd Cymreig ereill; ac yr oedd yr hen sefydlwyr Cymreig wedi marw, a’u plant wedi colli eu Cymraeg, a’r eglwysi Cymreig, oblegid hyny, yn weiniaid a gwywedig, a dichon rai o honynt wedi marw, ac eglwysi Saesnig wedi eu sefydlu yn eu lle, yn hen gapelau y Cymry yn y wlad. Nid oedd pethau felly yn ddeniadol i ymfudwyr newyddion o Gymru i ddyfod atynt a sefydlu yn eu plith; ac yr oedd ardaloedd newyddion yn agor o’u blaen mewn lleoedd ereill, lle y gallent gael tiroedd am brisiau isel, mewn manau iachus, a gobaith am lawer mwy o fanteision crefyddol yn yr iaith Gymraeg. Am hyny symudodd amrai o honynt i Utica a Steuben, N.Y., ac i Beulah (neu Ebensburgh), Pa., ac i’r “Welsh Hills,” yn Licking Co., ger Newark a Granville, Ohio, ac i lanau y Miami a Paddy’s Run, Ohio. Dechreuwyd yr holl sefydliadau uchod oddeutu yr un amser, sef rhwng y blyneddau 1796 a 1802. Traethaf eu hanesion eto yn eu lleoedd priodol.


 

 


(delwedd E0886) (tudalen 28)

(x042) (tudalen 28)
HANES CYMRY AMERICA. .

8. NODIADAU AR YR YMFUDIAD CYMREIG BOREUOL. -

1. Yr oedd llawer o ysbryd y Tadau Pererinol yn yr ymfudwyrr Cymreig cyntaf. Erlidiwyd hwynt a’u gwlad oblegid eu hegwyddorion crefyddol, ac ymfudasant i America er cael llonyddwch i addoli Duw yn ol rheolau ei Air, a llais eu cydwybodau.

2. Yr oedd llawer o honynt yn dyddynwyr a masnachwyr cyfoethog.

3. Ymunasant a’u gilydd, ac yr oedd ganddynt allu ac ewyllys i gynorthwyo y gweiniaid.

4. Dewisasant diroedd rhagorol mewn ardaloedd dymunol.

5. Crynwyr oedd y rhan fwyaf o honynt.

6. Eu diffyg a’u camwedd penaf oedd esgeuluso dysgu yr iaith Gymraeg i’w plant, a pheidio cefnogi a chynorthwyo y weinidogaeth, a’r addoliad Cymreig, a llenyddiaeth eu cenedl.


 

 


(delwedd E0887) (tudalen 29)

(x043) (tudalen 29)

PENNOD III.
Y SEFYDLIADAU CYMREIG YN PENNSYLVANIA.

Yn amser William Penn, yn 1682 a 1690, nid oedd yn cynnwys ond ychydig siroedd diwylliedig ar lanau y Delaware a’r Schuylkill, ac nid oedd ei phoblogaeth ond ychydig o filoedd; ond yn awr y mae ei thiriogaeth dros dri chant o filldirau o hyd, ac yn agos i ddau gant o filldirau o led; yn cynnwys 46,000 o filldiroedd petryial, a thros dair miliwn o boblogaeth. Gorwedda rhwng talaethau New Jersey o du y dwyrain, New York o du y gogledd, Maryland o du y de, ac Ohio o du y gorllewin. Y mae ynddi lawer iawn o fynyddau a bryniau uchel a choediog, ac o ddyffrynoedd eang a thoreithiog, ac o afonydd mawrion, a rhai o honynt yn fordwyol; a chyflawnder o haiarn a glo, a mwnau tra gwerthfawr ereill. Y mae hen wlad y Dyffryn Mawr, yn enwedig swydd Lancaster, a’r “Lebanon Valley,” yn rhai nodedig hardd a ffrwythlon; cynyrchant bob math ydau a ffrwythau; a gwelir llawer o amaethwyr diwyd yn gallu byw yn gysurus ar eu tyddynau, hyd yn nod ar y mynyddau a’r bryniau. Y mae ei hinsawdd yn dymherus. Ei phrif ddinasoedd ydynt Philadelphia, Harrisburgh, Lancaster, Reading, Allentown, Easton, Bethlehem, Pottsville, Wilkesbarre, Scranton, Danville, Williamsport, Altoona, Johnstown, Pittsburgh, ac Erie. Y mae mynyddoedd yr Alleghany, a’r “Mynydd Glas” yn ei chroesi, ac y mae afonydd y Susquehanna, a’r Schuylkill, a’r Lehigh, yn rhedeg drwyddi. Ei phrif reilffyrdd ydynt, “The Pennsylvania Central,” yr hon sydd yn rhedeg o Philadelphia drwy Harrisburgh, i Pittsburgh; a’r “Philadelphia &


 

 


(delwedd E0888) (tudalen 30)

(x044) (tudalen 30)
HANES CYMRY AMERICA.

Reading R.R.,” a’r “Lehigh Valley R.R.,” a’r “Lehigh & Susquehanna R.R.,” &c. Y mae yn un o’r talaethau goreu yn yr Undeb, o ran ei llywodraeth, ei masnach, ei chelfyddydau, ei hysgoldai, ei hathrofäau, ei chymdeithasau dyngarol, a’i heglwysi Cristionogol; ac y mae porthladd dinas Philadelphia yn gyfleus i holl longau y byd. Ond nid oes yn y dalaeth hon yn awr diroedd rhad gan y Llywodraeth na’r reilffyrdd; ac y mae gormod o lawer eisoes o FWNWYR a llafurwyr yn ei gweithfeydd GLO; a gwell fyddai i filoedd o honynt, os gallant, ymfudo i rai o’r talaethau gorllewinol a deheuol, ac ymdrechu enill eu bywioliaeth yn fwy cysurus, trwy lafurio y ddaiar. Nis gall y mwnwyr byth, trwy y strikes na’r suspensions, gael y cyflogau a ddylent gael am eu llafur caled a pheryglus, tra y bydd GORMOD o weithwyr yn y glofeydd. Heblaw hyny, nid oes yn awr ond ychydig o obaith y gall y Cymry gael tiroedd glo iddynt eu HUNAIN yn Pennsylvania, am fod cenhedloedd ereill wedi eu meddianu; ond gallant gael y fath diroedd am brisiau isel mewn talaethau ereill.

1. Ebensburgh. / 2. Johnstown. / 3. Pittsburgh a’i Hamgylchoedd. / 4. Brady’s Bend. / 5. Lochiel, Harrisburgh. / 6. Columbia. / 7. Reading. / 8. PottsVÌlle. / 9. St. Claire. / 10. Five Points. / 11. Minersville. / 12. Tamaqua. / 13. Ashland. / 14. Mahanoy City. / 15. Shenandoah City. / 16. Centralia. / 17. Mount Carmel. / 18. Shamokin. / 19. Broad Top. / 20. Slate Hill. / 21. Slatington. / 22. Danielsville. / 23. Chapmanville. / 24. Catasauqua. / 25. Summit Hill. / 26. Beaver’s Meadow. / 27. Jeansville. / 28. Audenried. / 29. Hazleton. / 30. Danville. / 31. Plymouth. / 32, Kingston. / 33. Wilkesbarre. / 34. Laurel Run. / 35. Mill Creek. / 36. Pittston. / 37. Hyde Park a Scranton. / 38. Bellevue. / 39. Providence. / 40. Olyphant. / 41. Beachwood. / 42. Gibbonville. / 43. Carbondale. / 44. Dundaff. / 45. Gibson. / 46. Bradford. / 47. Tioga Co. / Tiroedd Amaethyddol y Dalaeth. / Gweithfeydd Glo, Haiarn, a Llechi Pennsylvania T.d. 29-70 /

1. EBENSBURGH, Cambria Co. - Saif y lle hwn ar fryniau yr Alleghany. Dechreuwyd y sefydliad gan y Parch. Morgan J. Rees (B.,) a’r Parch. George Roberts (A.,) oddeutu y fl. 1796. Dechreuasant lafurio y ddaiar oddeutu Beulah; wedi hyny penderfynasant godi y dref ar y bryn bychan lle y saif yn awr. Nid oedd eu dewisiad yn ddoeth iawn, am mai gwlad fynyddig, goediog, ac oer ydyw. Yr oedd y coedydd oedd arni yn fwy gwerthfawr na’r tir danynt. Ond y mae ei dyfroedd yn loywon, a’i hawelon yn iachus. Trwy lafur ac ymdrech cynyddodd y sefydliad - daeth llawer o Lanbrynmair, a Phenarth, a manau ereill, i fyw yno; ac erbyn heddyw, y mae ganddynt gartrefi llawnion a chysurus. Pobl dda, gweithgar, a gwir grefyddol oeddynt, a gwnaethant eu goreu i ddwyn eu plant i fyny felly. Nid yw tref Ebensburgh ond un fechan, ac nid oes ynddi


 

 


(delwedd E0889) (tudalen 31)

(x045) (tudalen 31) Y SEFYDLIADAU CYMREIG YN PENNSYLVANIA.

ond ychydig o fasnach, er mai hi yw y County Seat, Cymry yw ei phreswylwyr gan mwyaf, ac y mae amrai o honynt yn ddynion o gyfoeth, dysgeidiaeth, a dylanwad; ac y mae y tyddynwyr Cymreig wedi meddianu y wlad oddeutu y dref am filldiroedd, ac yn byw yn gysurus arnynt. Ond y mae eu tiroedd yn “rhedeg allan,” a llawer o’u plant yn ymfudo i’r gorllewin; ac y mae yr iaith Gymraeg yn diflanu yn gyflym yn y lle; er hyny, y mae gan y Bedyddwyr, a’r Trefnyddion Calfinaidd, a’r Annibynwyr, amrai o eglwysi Cymreig eto yn y lle. Y Parch. Wm. Harrison yw gweinidog y T.C., a’r Parch. Thomas R. Jones sydd yn pregethu i’r eglwys Annibynol yn y dref, yn Gymraeg a Saesonaeg. Y mae ganddynt gapel newydd hardd, gwerth dros $10,000, ac eglwys luosog a gweithgar ynddo . Tybiwyf fod y Parch. Daniel Thomas eto yn pregethu yn achlysurol i’r eglwysi Annibynol yn y Gogledd a’r De, er ei fod wedi rhoddi i fyny eu gofal gweinidogaethol. Clywais hefyd fod y Parch. wedi cymeryd eu gofal sefydlog. Nis gwn pwy sydd yn pregethu i’r Bedyddwyr yno yn awr. Bu y brodyr canlynol yn gweinidogaethu am flyneddau yn Ebensburgh - Morris Jones, William D. Williams, John Howes, Llewelyn E. Powell (A.,) Thomas R. Jones, Morgan A. Ellis (T.C.,) Evans a Thomas (B.) Dichon nad yw poblogaeth Cymreig Ebensburgh a’r ardaloedd cylchynol yn awr dros bymtheg cant (1,500.) Wrth fyned gyda y train ar y “Pennsylvania Central R.R.,” i Ebensburgh, aroswch yn Station Cresson, a chludir chwi oddiyno, mewn cars ereill, am oddeutu saith milldir, ar y “Branch R R.” i’r dref.

2. JOHNSTOWN, Cambria Co. - Saif y dref hon mewn cwm bychan, rhwng bryniau coediog uchel, yn ymyl y “Pennsylyania Central R.R.,” oddeutu 24 milldir yn gorllewin o Cresson, a 78 milldir i’r dwyrain o Pittsburgh. Nid oedd ond lle bychan ugain mlynedd i’r ol, ond cynyddodd yn gyflym, ac y mae ynddi yn awr filoedd o drigolion o wahanol genhedloedd, a llawer o gapelau ac adeiladau rhagorol, ac y mae ei masnach yn fywiog. Ymddibyna yn benaf ar y gweithiau haiarn a


 

 


(delwedd E0890) (tudalen 32)

(x046) (tudalen 32) HANES CYMRY AMERICA.

glo sydd o’i deutu, ac yn agos ati. Dechreuodd y Cymry sefydlu yno er ys llawer o flyneddau; ac y mae gan y Bedyddwyr, a’r Trefnyddion Calfinaidd, a’r Annibynwyr, gapelau da, ac eglwysi lluosog a gweithgar ynddi yn awr; ac y mae y Parch. R. H. Evans (T.C.,) a’r Parch. Daniel Jones (B.,) yn weinidogion defnyddiol yn eu plith. Y mae y Parch. Thomas Jenkins (A.,) wedi ymadael oddiyno i Radnor, Delaware Co., Ohio; ond y mae y Parch. Richard Edwards (A.,) yn byw yno eto, ac yn barchus a defnyddiol. Dichon fod yn Johnstown a’i hamgylchoedd dros 1,500 o boblogaeth Gymreig, ac y mae yn eu plith lawer o bobl barchus a chrefyddol.

3. PITTSBURGH, Alleghany Co. - Y mae hon yn hen ddinas fawr a phoblog. Saif ar iseldir bychan, ac ar y bryniau, rhwng yr afonydd y Monongahela a’r Alleghany, ac islaw iddi yr ymdywalltant i’w gilydd, ac y dechreua yr afon Ohio. Ceir ynddi lawer iawn o drigolion, wahanol genhedloedd, ac o fasnachwyr cyfoethog ac anturiaethus; ac o weithfeydd haiarn, gwydr, &c., ac o’i deutu y mae amrai o weithiau glo rhagorol, yn y rhai y mae miloedd o ddynion yn gweithio, ac yn enill yn dda. Ond barnwyf ei bod yn lle afiachus, am ei bod yn sefyll mor isel ar lanau yr afonydd, rhwng y bryniau uchel cyfagos, a’i bod yn aml iawn yn cael ei thywyllu gan darth yr afonydd, a mwg y gweithfeydd. Ond, er hyny, y mae miloedd o’i thrigolion wedi cael iechyd da, a hir oes, ynddi . Dechreuodd y Cymry ei phoblogi er ys dros 30 mlynedd yn ol; a pharhaodd y mwnwyr, a’r crefftwyr, a’r “gweithwyr tân,” i ymfudo yno trwy y blyneddau; a dichon fod yno yn awr dros dair mil (3,000) boblogaeth Gymreig, a chymeryd i mewn y Cymry sydd yn preswylio dros yr afonydd yn ninasoedd Birmingham, ac Alleghany. a’i hamgylchoedd. Y mae gan y Bedyddwyr, a’r Trefnyddion Calfinaidd, a’r Annibynwyr, gapelau mawrion, ac eglwysi cryfion, yn y ddinas er ys llawer flyneddau; ac y mae y Parch. William Owen, (B.) a’r Parch. T.C. Davies, (T.C.) a’r Parch. H. E. Thomas, (A.) yn weinidogion parchus a defnyddiol yn eu plith, yn bresenol. Nid


 

 


(delwedd E0891) (tudalen 33)

(x047) (tudalen 33) Y SEFYDLIADAU CYMREIG YN PENNSYLVANIA.

oes yno yn awr eglwys Gymreig berthynol i’r Wesleyaid. Yn yr eglwysi Cymreig hyn y mae llawer o ddiaconiaid, ac aelodau, parchus a defnyddiol. Y mae gan yr Annibynwyr Cymreig, hefyd, gapel da, ac eglwys fechan weithgar, yn Birmingham; ac yno y mae yr hen weinidog enwog y Parch. Thomas Edwards, (A.) a’i briod, yn byw; ond nid yw yn awr yn bugeilio yr eglwys. Ac y mae ein cydwladwr cyfoethog a haelionus, Mr. Thomas, arolygwr y roiling mill, yn Wood’s Run, Alleghany, wedi adeiladu Hall ardderchog yno, er mwyn i’r gwahanol enwadau crefyddol Cymreig gael lle cyfleus i bregethu yr efengyl yno; ac y mae yno rai pregethwyr, a diaconiaid, ac aelodau, defnyddiol.

Yn mysg Cymry Pittsburgh, y mae rhai yn llenwi swyddi dinasol a gwladol; a rhai beirdd a cherddorion; a chefnogwyr gwresog i lenyddiaeth Gymreig a’r eisteddfodau. Y mae y reilffyrdd, a’r afonydd, yn gyfleus iawn i hyrwyddo masnach y ddinas. Wrth sefyll yn yr “Union Depot,” neu ar lan yr Ohio, a sylwi ar y miloedd teithwyr, sydd yn dyfod ac yn myned, yn y trains, a’r agerddfadau, bob dydd, gwneir chwi i gredu fod Pittsburgh yn lle pwysig a dylanwadol.

4. BRADY´S BEND, Armstrong Co. - Saif y lle hwn ar lan yr afon Alleghany, oddeutu 60 milldir i’r gogledd o Pittsburgh, nid yn mhell o Venango Co., gwld yr olew (the oil region). Y mae yn hen sefydliad Cymreig; ac yr oedd yn lle poblogaidd oddeutu 20 mlynedd yn ol; a bu amryw o bregethwyr, perthynol i’r gwahanol enwadau, yn llafurio yno. Y mae y Parch. David Davies, (A.) a’r Parch. Henry Edwards, (B.) yn weinidogion ffyddlon yno eto. Ymadawodd llawer o Gymry oddiyno, am eu bod yn cael gwell gwaith a chyflog mewn lleoedd ereill. Clywsom fod yno amrai o Gymry parchus a chrefyddol yn byw eto. Gellir myned yno gydag agerddfad o Pittsburgh.

5. LOCHIEL, ger Harrisburgh, Dauphin Co. - Saif Harrisburgh ar lan y Susquehanna; ac y mae yn ddinas hardd a bywiog. Ynddi y mae Senedd-dy Llywodraeth y dalaeth, ac amrai o adeiladau godidog ereill. Nid oes


 

 


(delwedd E0892) (tudalen 34)

(x048) (tudalen 34) HANES CYMRY AMERICA.

ynddi ond ychydig o Gymry yn byw. Gerllaw iddi, oddeutu 1½ milldir o ganol y dref, yr ochr ddwyreiniol y mae y Lochiel Iron Works, lle bu llawer o Gymry gweithgar, a lle bu eglwys Gymreig undebol ffyddlon, am lawer o flyneddau, a’r Parch. Thomas D. Rees, ac ereill, yn gweinidogaethu iddynt. Adeiladodd perchenogion y felin haiarn gapel hardd yno, er i’r gwahanol enwadau crefyddol gael lle cyfleus i bregethu yr efengyl yn Gymraeg a Saesonaeg, ac i gadw Ysgolion Sabbothol. Ond y mae y gweithiau haiarn, fel y gweithiau glo, yn ansefydlog iawn; am fod gormod o duedd mewn rhai meistriaid i ddarostwng eu gweithwyr, ac i orfaelu ar eu llafur caled; am hyny ymadawodd llawer o Gymry parchus o’r lle hwn i Wheatland ger Sharon, Pa., a lleoedd ereill. Gwanhaodd hyny yr eglwys Gymreig yn ddirfawr. Ond y mae Mr. Rees, a’i deulu, yn byw yno eto, ac yn pregethu yr efengyl i’r ychydig a arosodd yno. Y mae y gwaith newydd, sef, y “Steel Works,” o fewn milldir a haner i’r dwyrain o Lochiel.

6. COLUMBIA, Lancaster Co. - Tref fechan hardd yw hon ar lan afon y Susquehanna, oddeutu 30 milldir i’r dwyrain o Harrisburgh. Bu yno lawer o Cymry, yn gweithio yn y rolling mill; ac eglwys undebol flodeuog. Ond symudodd llawer o’r Cymry oddiyno i Knoxville, Tennessee; ac y mae yr eglwys Gymreig yn wan yno yn awr. Clywsom fod Mr. Lewis, (T.C.) pregethwr da, a llenor medrus, wedi symud yno i fyw; a bod yno amrai o Gymry crefyddol a haelionus eto. 7. READING, Berks Co. - Saif ar lan y Schuylkill, dan y bryniau, yn nghwr gogleddol y “Lebanon Valley.” Y mae dwy brif reilffordd yn croesi eu gilydd ynddi, sef un Philadelphia i Pottsville, a’r llall o New York, drwy Allentown, i Harrisburgh, a’r gorllewin. Ellmyniaid, gan mwyaf, sydd yn ei phoblogi. Y mae ynddi amrai o weithfeydd haiarn. Ychydig o flyneddau yn ol daeth amrai o Gymry i weithio i’r rolling mill newydd, a godwyd o fewn milldir i’r dref, i’r tu gogleddol iddi. Sefydlwyd eglwys Annibynol rydd yn y lle, a bu ynddi ddiaconiaid ac aelodau ffyddlon a haelionus.


 

 


(delwedd E0893) (tudalen 35)

(x049) (tudalen 35) Y SEFYDLIADAU CYMREIG YN PENNSYLVANIA.

Pregethid yr efengyl yn achlysurol gan weinidogion y gwahanol enwadau. Yn Mehefin, 1869, yr oedd yno 18 o deuluoedd Cymreig, yn cynnwys oddeutu 80 o boblogaeth Gymreig; ac yr oedd yr eglwys yn rhifo dros 20 o aelodau. Addolent mewn ysgoldy cyfleus, ac wedi hyny yn nghapel newydd y Presbyteriaid Saesnig. Ond ymadawodd llawer oddiyno. Thomas Evans, Ysw., (heater,) oedd diacon ffyddlon yr eglwys. Nis gwn pa gryfder a llewyrch sydd ar yr achos yn awr. Oddeutu Reading y mae y wlad fwyaf prydferth a ffrwythlon; ac nid yw ardaloedd Meirion a Gwynedd, a’r Dyffryn Mawr, yn mhell oddiyno.

8. POTTSVILLE, Schuylkill Co, - Prif dref Schuylkill Co., yw hon. Saif mewn iseldir cul, rhwng y bryniau, ar lan y Schuylkill, 93 milldir i’r gogledd-orllewin o Philadelphia, a 35 milldir o Reading. Ynddi y mae Carchardy y sir; ac o’i deutu y mae llawer o weithiau haiarn a glo. Dechreuodd y Cymry sefydlu ynddi oddeutu 40 mlynedd yn ol; a hi oedd prif le eu hymgyrchiad am lawer o amser wedi hyny. Bu y Parch. B. Evans, (A.) yn awr o Hyde Park, a’r Parch. William Morgan, (B.) yr hwn sydd eto yn byw yn Pottsville, yn llafurus a defnyddiol yma. Adeiladodd y Bedyddwyr, a’r Annibynwyr, a’r Trefnyddion Calfinaidd, gapelau bychain yno, a bu eu heglwysi unwaith yn llewyrchus ynddynt; ond, oblegid symudiadau y Cymry o’r lle, nid ydynt ond gweiniaid iawn; ond y mae ynddynt amrai o Gymry ffyddlon a defnyddiol, sef John Lucas, Ysw., (coal operator,) gyda y T.C. a Mr. William Rees, a Mr. Lewis, gyda yr A., ac amrai gyda y B. Eu gweinidogion presenol ydynt y Parch. W. morgan, (B.) a’r Parch. Mr. Pugh, (A.) Nid oes yn awr weinidog sefydlog gyda y T.C. Bu y Parch. Mr. Morgans, (A.) brawd y Parch. Mr. Morgans, Samah, Maldwyn, G.C., yn ddefnyddiol iawn yma; ond y mae efe, er ys blyneddau, yn gorwedd yn ei fedd yn mynwent Hazleton, Luzerne Co. Ar ei ol ef y bu y Parch. Edward R. Lewis, (lorwerth Callestr,) yn dra defnyddiol gyda’r Annibynwyr yn Pottsville a St. Clairs; ac y mae efe eto yn byw yn barchus yn Pottsville. Dichon


 

 


(delwedd E0894) (tudalen 36)

(x050) (tudalen 36) HANES CYMRY AMERICA.

fod yn awr yn Pottsville, a’r ardaloedd, a’r pentrefydd, o’i namgylcli, oddeutu 800 o boblogaeth Gymreig. Cynhaliwyd amrai o eisteddfodau llewyrchus yn Pottsville. Eir yno gyda y Reading R.R.

9. ST. CLAIRS, Schuylkill Co. - Tref fechan yw hon o fewn tair milldir i’r gogledd o Pottsville. Bu unwaith yn enwog am weithfeydd glo. Yno y daeth y diweddar Wm. John, Ysw., i feddianu cyfoeth mawr; ac y mae un o’i feibion yn byw yno eto, sef Geo. W. John, Ysw., ac yn foneddwr parchus a haelionus, ond nid yw yn gallu siarad Cymraeg. Sefydlwyd yma dair o eglwysi Cymreig, mewn tri o gapelau, gan y Bedyddwyr, a’r Annibynwyr, a’r Trefnyddion Calfinaidd. Ond nid ydynt yn awr mor llewyrchus ag oeddynt ddeng mlynedd yn ol, am nad oes gynifer o Gymry yn byw yno yn awr ag oedd y pryd hyny. Nid wyf yn deall fod yno yn awr un gweinidog sefydlog gyda’r un enwad; ond y mae gofal eglwys y B. ar Mr. Morgans o Pottsville. Dichon fod yno eto dros 600 o boblogaeth Gymreig, ac yn eu plith y mae amrai o ddynion gwir grefyddol a pharchus. Yno y mae Thomas J. Griffiths, Ysw., y cerddor enwog, ac amrai o feirdd a llenorion ieuainc yn byw.

10. FIVE POINTS, Schuylkill Co. - Saif y lle hwn o ddeutu pum’ milldir i’r dwyrain o Pottsville, ac o fewn tair milldir i St; Clairs. Gweithfeydd glo bychain sydd yno. Yn y fl. 1852 yr oedd yno lawer o Gymry yn byw, ac eglwysi blodeuog gan yr Annibynwyr a’r Bedyddwyr. Yn mhen blyneddau wedi hyny llosgwyd capel yr Annibynwyr (yn ddamweiniol), a symudodd llawer o Gymry oddiyno i leoedd ereill. Darfu yr achos Annibynol yn llwyr yno, ac yn Cwmbwrla, gerllaw yno. Ond y mae Mr. Morgans (B.,) Pottsville, yn pregethu yn gyson i’r eglwys Fedyddiedig fechan yno. Efallai fod yno, ac yn yr amgylchoedd, eto, dros 150 o boblogaeth Gymreig. Mor gyfnewidiol yw y gweithfeydd glo! ac mor fer yw oes yr eglwysi Cymreig ynddynt! Fel y bu yma y bydd eto mewn llawer o leoedd newyddion. Dysged y mwnwyr y wers hon yn dda, a da fydd iddynt os cymerant rybudd prydlon.


 

 


(delwedd E0895) (tudalen 37)

(x051) (tudalen 37) Y SEFYDLIADAU CYMREIG YN PENNSYLVANIA.

11. MINERSVILLE, Schuylkiul Co. - Saif y dref hon o ddeutu pum’ milldir i’r gogledd-orllewin o Pottsville. Ymddibyna yn hollol ar y gweithfeydd glo sydd o’i deutu, sef eiddo Meistri Kears ac ereill. Sefydlodd llawer iawn o Gymry yno; ac oddeutu ugain mlynedd yn ol yr oedd gan yr Annibynwyr, a’r Trefnyddion Calfinaidd, a’r Bedyddwyr, eglwysi cryfion, a chapelau rhagorol yno. Bu yr enwogion, y Parch. Mr. Harris (Ieuan Ddu), a’r Parch. Roderick E. Williams (A.,) a’r Parch. Robert Williams (T.C.,) ac ereill, yn dra defnÎddiol yno am flyneddau. Ystyrid Minersville y pryd hyny, ac am lawer o amser wedi hyny, yn “Athen” y Cymry yn America. Bu y llenorion a’r beirdd enwog, J. Spinther James, a’r Parch. Mr. Griffiths (B.,) a’r Parch. John E. Jones (A.,) a’r Parch. Mr. Jeffreys (T. C.,) yn gweinidogaethu yno wedi hyny. Ac yno y claddwyd y bardd medrus, Mr. Rowlands (Llinos), a’r hen weinidog a’r pregethwr talentog, y Parch. John Roberts (B.) Bu Cymry Minersville am flyneddau yn nodedig ymdrechgar a ffyddlon dros achos Iesu, ac er dyrchafu llenyddiaeth, barddoniaeth a cherddoriaeth Gymreig. Cynaliasant yno amrai o gyfarfodydd llenyddol ac eisteddfodau. Ond yn yspaid y deng mlynedd diweddaf, y mae y gweithfeydd glo, a masnach, ac achosion crefyddol, a llenyddol, wedi gwanhau yn ddirfawr. Ond dichon fod yno, ac yn yr amgylchoedd, eto,. dros 1,500 boblogaeth Gymreig; a gwyddom fod llawer o honynt yn bobl dda, crefyddol, a ffyddlon, a rhai honynt yn ddynion mewn swyddi, ac yn meddu cyfoeth a dylanwad. Yma y mae y cyfreithiwr ieuanc gobeithiol, David Jones, Ysw., yn byw; ond y mae ei brif swyddfa yn Pottsville. Y mae ysgolion dyddiol rhagorol yn Minersville. Gweinidogion presenol yr eglwysi Cymreig yno yw y Parch. Daniel Davies ( A.), a’r Parch. William Thomas (T.C.), ac y maent yn bregethwyr da a defnyddiol. Gellir myned yno o Pottsville gyda y reilffordd, neu gyda y stage. Nid yw yn debyg yr ymgyfyd Minersviile byth eto i’w gogoniant cyntefig. Dymunaf ei llwyddiant.

12. TAMAQUA, Schuylkill Co., Pa. - Saif y dref hon ar lan y “Little Schuylkill River,” oddeutu 25 milldir


 

 


(delwedd E0896) (tudalen 38)

(x052) (tudalen 38) HANES CYMRY AMERICA.

i’r dwyrain o Pottsville, ac o fewn pum’ milldir i Summit Hill (Carbon Co.) Y mae dwy reilffordd yn rhedeg drwyddi, sef y Reading R.R., a’r Catawissa R.R. Y mae llawer o weithiau glo o’i deutu, ac y mae ynddi un rolling mill fechan. Codwyd yma un capel bychan gan yr Annibynwyr er ys dros ugain mlynedd yn ol; a bu yno unwaith eglwys flodeuog, ond nid yw yn awr ond bychan o rifedi. Bu y Parchedigion William Thomas, a John Morgan Thomas, a Mr. Morgan (A.), yn gweinidogaethu yma. Ond eu gweinidog presenol yw y Parch. David E. Hughes. Diaconiaid - Mr. John Davies (tailor), a Mr. Watkin Beynon (brawd Mr. Rosser Beynon, y cerddor medrus o Ferthyr, D.C.,) dau ddyn da, duwiol, doeth, a ffyddlon dros achos y Gwaredwr. Y mae Mr. Walters yn wr cyfoethog a chyfrifol yma, ac y mae ganddo lawer yn gweithio dano yn y machine shop. Celfyddydwr cywrain a llwyddianus ydyw, ac y mae ef a’i deulu wedi cynorthwyo llawer ar yr eglwys Gymreig. Dichon fod yno eto oddeutu 200 o boblogaeth Gymreig.

13. ASHLAND, Schuylkill Co. - Saify dref hon oddeutu 22 milldir i’r gogledd-orllewin o Tamaqua, ac y mae y Reading R R yn myned trwyddi. Ymddibyna ar y gweithiau glo sydd o’i deutu, ac yn agos ati. Sefydlodd y Cymry yno er ys dros 15 mlynedd yn ol, a dichon fod yno yn awr dros 1,200 o boblogaeth Gymreig, ac y mae amrai o honynt yn ddynion cyfoethog a chyfrifol, ac yn noddwyr i lenyddiaeth ein cenedl. Y mae rhai o honynt yn gerddorion ac yn ddadganwyr medrus. Cynaliwyd rhai eisteddfodau yno. Y mae yno ddau gapel Cymreig, un gan yr Annibynwyr, a’r llall gan y Bedyddwyr. Y Parch. Mr. Thomas yw gweinidog presenol eglwys y Bedyddwyr; ond y mae yr eglwys Annibynol yn awr dan ofal y Parch. Mr. Pugh, Pottsville. Bu ynddi amrai o weinidogion ffyddlon, sef Edwards, a Williams, a Rees. Ymadawodd y gweinidog ieuanc dysgedig a pharchus, y Parch. Wm. Ö. Williams ( A.), oddiyno i’r gorllewin yn haf 1870. Y mae ansefydlogrwydd y gweithfeydd glo yn atal llwyddiant yr eglwysi. y mae David Owen, Ysw., diacon yr eglwys


 

 


(delwedd E0897) (tudalen 39)

(x053) (tudalen 39) Y SEFYDLIADAU CYMREIG YN PENNSYLVANIA.

Annibynol yno, a’i briod, a’i blant, yn golofnau cryfion dan yr achos; ac y mae ei fab hynaf, Wm. Owen, Ysw., yn feddyg medrus yn y lle. John Pritchard, Ysw., (B.,) yw y prif fasnachydd Cymreig yn y dref; ac y mae yno lawer o fwnwyr cyfoethog a pharchus, sef David Evans, Ysw., Thomas Davies, Ysw., ac ereill.

14. MAHANOY CITY, Schuylkill Co. - Tref fywiog a chynyddol yw hon, yn cael ei hamgylchu gan lawer iawn o weithfeydd glo. Oddeutu deng mlynedd yn ol nid oedd ond bechan; ond yn awr y mae ynddi dros chwe’ mil o drigolion, o wahanol genhedloedd; a dichon fod ynddi yn agos i 1,000 o boblogaeth Gymreig, ac yn eu plith mae llawer o fwnwyr parchus wedi adeiladu tai eu hunain, ac amrai o honynt yn fosses medrus a chyfrifol yn y gweithfeydd glo, sef John W. Williams, Rees P. Jones, John Powell, Thomas E. Williams, Thomas Lewis, Lewis Evans, William J. Watkins, a dichon ereill. Cymry parchus hefyd yw contractors presenol hen waith glo Meyers; ac y mae gan y Cymry hefyd yn y dref “Union Co-perative Store” lwyddianus; ac y mae Cymdeithas yr Iforiaid wedi ei sefydlu yn y lle, a chynaliwyd yma gyfarfodydd llenyddol, a dwy eisteddfod lewyrchus. Sefydlwyd yr eglwys Annibynol Gymreig yma oddeutu 1863, ac adeiladasant gapel da ar Centre Street yn fuan wedi hyny. Ebrill, 1865, hyd Mai, 1869, bu ysgrifenydd y llyfr hwn yn weinidog sefydlog ar yr eglwys hon, a chafodd lawer o garedigrwydd, a gwelodd fawr lwyddiant. Y Parch. Dl. T. Jones, gynt o Port Tenant, ger Abertawe, D.C., yw eu gweinidog presenol, ac y mae yn gysurus a defnyddiol. Dymunwyf ei fawr lwyddiant ef a’i eglwys. Diaconiaid yr eglwys yw John W. Williams, Lewis Lewis, Isaac Davies, a Thomas Jones; ac y mae ynddi lawer o aelodau ffyddlon, sef John Morgan, George L. Roberts, Richard Phillips, David Reynolds, Howel Jeffreys, David Jeffreys, Mrs. W. F. Jones, David E. Thomas, William Richards, William Harris, a lluoedd ereill. Ceir ynddi hefyd rai cerddorion medrus, sef Harris, a Jones, a Roberts, a Williams. Y mae yma eglwys dda,


 

 


(delwedd E0898) (tudalen 40)

(x054) (tudalen 40) HANES CYMRY AMERICA.

ffyddlon, a haelionus. Soniant am gael capel newydd helaethach, mewn lle mwy cyfleus. Sefydlwyd eglwys y Bedyddwyr Cymreig yn y dref yn nechreu y fl. 1865, ac adeiladasant gapel bychan hardd ar Catawissa St., yn ngwaelod y dref. Bu y Parch. Theophilus Jones yn gweinidogaethu yma am dros ddwy flynedd; ond ymadawodd i Wilkesbarre yn Mehefin, 1870. Nid yw yr eglwys Fedyddiedig yma mor lluosog a’r eglwys Annibynol; ond y mae ynddi lawer o aelodau gwir ffyddlon, a thra selog dros egwyddorion eu henwad. Un o ddiaconiaid yr eglwys hon yw yr hen frawd parchus, Mr. Thomas Gittins, gynt o Lanlligan, Maldwyn, G.C. Y mae Evan J. Griffiths, Ysw., yr adeiladydd medrus, yn gefnogwr haelionus i’r eglwys hon, ac i lenyddiaeth Gymreig; ac y mae ein cyfaill Idris Davies, M.D. (Amosydd Glan Ffrwd), yn feddyg enwog yn y lle. Saif Mahanoy City mewn iseldir cul iawn rhwng y bryniau ar bob llaw, yn y mynyddau, ac nid oes tiroedd amaethyddol da o fewn milidirau iddi; ond y mae dwy brif reilffordd yn rhedeg drwyddi, sef y Lehigh Valley R.R., i New York (160 milldir), a’r Reading R.R., i Philadelphia (120 milldir). Lled debyg yw y bydd y rhan fwyaf o’i glofeydd wedi eu llwyr weithio allan cyn pen ugain mlynedd eto. Y mae cars y Reading R.R. yn rhedeg drwy dunnel yn agos i filldir o hyd, rhwng Mahanoy a Tamaqua. Ceir yn y dref hon un Bank, un Hotel fawr, Post Office, Papyr Newydd wythnosol, ac ugeiniau o dafarnau a saloons. Y mae ynddi hefyd Express a Telegraph Offices.

15. SHENANDOAH CITY, Schuylkill Co. - Saif y dref hon oddeutu tair milldir i’r gorllewin o Mahanoy, ar fryn bychan iachus, yn nghanol y mynyddau coediog, sydd yn orlawn o wythienau glo mawrion a rhagorol; ac y mae y ddwy reilffordd a nodwyd uchod yn rhedeg drwyddi o New York a Philadelphia. Dechreuwyd sefydlu a gweithio yno oddeutu saith mlynedd yn ol, ac y mae yno yn awr dros dair mil o drigolion, o wahanol genhedloedd, ac oddeutu 600 o boblogaeth Gymreig, ac yn eu plith lawer o bobl dda a gwir grefyddol, a rhai cerddorion medrus, a llenorion ieuainc gobeithiol,


 

 


(delwedd E0899) (tudalen 41)

(x055) (tudalen 41) Y SEFYDLIADAU CYMREIG YN PENNSYLVANIA.

tra ffyddlon gyda y cyfarfodydd llenyddol, a phob achos da arall. Dechreuodd yr Annibynwyr Cymreig bregethu a chadw ysgol Sabbothol mewn ysgoldy yno yn niwedd y fl. 1865, ac adeiladasant gapel da yno yn niwedd 1866, yn yr hwn yn awr y mae eglwys fechan ffyddlon a haelionus dan ofal ysgrifenydd y llinellau hyn. Ei diaconiaid ydynt John J. Thomas, John Phillips, a Daniel Williams - y cyntaf o Cwmavon, D.C., a’r ddau olaf o ardal Rhosllanerchrugog, G.C.; ac y mae ynddi lawer o aelodau ffyddlon o Ogledd a Deheudir Cymru. Tri o’r Trustees yw Thomas W. Davis, Thos. L. Powell, a William Pritchard. Cododd yr eglwys hon ddau bregethwr ieuainc a gobeithiol, sef John P. Jones, yr hwn sydd yn awr yn Athrofa Hudson, Ohio; a William J. Thomas, yr hwn sydd eto yn byw yn y lle, ac yn dra ffyddlon a defnyddiol yno. Y mae Mr. John Harris (A.,) yn pregethu yn achlysurol yno hefyd. Bu y Trefnyddion Calfinaidd yn cydaddoli â’r Annibynwyr hyd ddiwedd y fl. 1869, pan y sefydlasant eglwys eu hunain; ac y mae ganddynt yn awr gapel da yn y lle, ac achos llwyddianus ynddo . Enwau eu diaconiaid yw Wm. P. Jones, a Henry Davies, dau frawd ymdrechgar a ffyddlon. Bu Mr. Edward Evans yn pregethu yma am fisoedd, ond y mae yn awr yn yr Athrofa yn New Jersey. Y mae y Parch. J. Adams, a Mr. Roberts, yn awr yn byw yn y dref, ac yn pregethu i’r T.C. Sefydlodd y Bedyddwyr eglwys yma yn y fl. 1866, yn yr ysgoldy; cynyddasant, ac y maent yn awr yn adeiladu capel newydd rhagorol yno, a’r Parch. David Evans yn gweinidogaethu iddynt yn sefydlog, a’r brawd Edward Williams yn pregethu iddynt yn achlysurol. Y mae Mr. Phillips (crydd), a Mr. Davies, y Coal-operator, a Mr. Williams a’i frawd (yr undertakers), yn noddwyr haelionus iddynt. Y mae amrai o’r Cymry wedi adeiladu tai yma, sef Powell, a Davies, ac Ellis, a Williams, a Roberts, ac Evans, a Jones, a Palmer, ac ereill Mr. Jonathan Ellis yw y Postmaster. Amgylchir y dref gan dros bymtheg o weithfeydd glo mawrion; ac y mae pedwar neu bump o weithfeydd ereill yn cael eu hagor yn awr, a bydd yma le i ganoedd ychwaneg o fwnwyr a chrefftwyr, a llafurwyr, yn fuan;


 

 


(delwedd E0900) (tudalen 42)

(x056) (tudalen 42) HANES CYMRY AMERICA.

ac y mae y dref a’i masnach yn debyg o gynyddu yn gyflym o hyn allan. Y mae yma hefyd un Bank, un Papyr Newydd wythnosol, dwy Hotel dda, dwy Hall fawr, llawer o stores da, a gormod o dafarnau a saloons; ond y mae yr eglwysi Cymreig ac Americanaidd yn ymdrechgar dros foesoldeb, sobrwydd, a dirwest.

Nodiad cyffredinol am SWYDD Schuylkill. - Sir fynyddig a bryniog ydyw drwyddi oll. Nid oes ond ychydig dir amaethyddol da, nac ardaloedd heirdd ynddi; a mwyafrif ei phoblogaeth ydynt y Gwyddelod, a’r Ellmyniaid, Pabyddol a Democrataidd, ac y mae ganddynt eglwysi lluosog yn mhob tref, ae y mae eu dylanwad yn ddirfawr ar y llywodraeth sirol, a dinasol, a hwynt-hwy sydd lluosocaf o lawer yn yr holl weithfeydd. Nid yw y Cymry ond ychydig o nifer yn eu plith. Ond y mae yn y sir hon hefyd lawer o Americaniaid, a Saeson, a Scotiaid, ac ysgolion dyddiol rhagorol. Bu yn y gweithfeydd glo yma lawer o ymladdau, lladradau, a llofruddiaethau; ond y mae yma yn awr, ac er pan ffurfiwyd Undeb y Mwnwyr, lawer mwy o dangnefedd, a diogelwch.

16. CENTRALIA, Columbia Co. - Pentref bychan yw y lle hwn, ar y Lehigh Valley R.R., oddeutu dwy filldir o Ashland, a 7 milldir o Shenandoah. Y mae ynddo lawer o dai a thrigolion, ac amryw o weithfeydd glo o’i ddeutu. Ychydig o Gymry sydd yno; ac nid yw yn debyg y daw yno lawer byth. Er hyny y mae gan yr Annibynwyr a’r Bedyddwyr eglwysi bychain yno. Addolant ar wahan yn yr un ysgoldy; ac y mae dau frawd ffyddlon yn gweinidogaethu iddynt, sef y Parch. Benjamin Jones, (B.) a’r Parch. William Davies, (A.) Ond rhaid iddynt weithio yn galed bob dydd â’u dwylaw eu hunain er eu cynhaliaeth. Y mae yno rai Cymry tra chrefyddol a charedig.

17. MOUNT CARMEL, Northumberland Co. - Pentref bychan cynyddol yw y lle hwn, oddeutu 5 milldir i’r gorllewin o Ashland a Centralia, ar le hyfryd ac iachus, a llawer o weithfeydd glo o’i ddeutu. Y mae yno ddwy Hotel, Post Ofifice, a llawer o stores, dau gapel Saesnig,


 

 


(delwedd E0901) (tudalen 43)

(x057) (tudalen 43) Y SEFYDLIADAU CYMREIG YN PENNSYLVANIA.

un Pabyddol, ac ysgoldy newydd bricks. Y mae tair reilffordd yn myned yno, sef y Lehigh Valley R.R., a’r Reading R.R., a’r Northern Central R.R. Gwyddelod ac Ellmyniaid, gan mwyaf, sydd yn byw yno. Bu yno lawer o Gymry, ar wahanol amserau, ond lled ansefydlog fuont; ond y mae yno yn awr oddeutu dau gant o boblogaeth Gymreig; ac eglwys Annibynol wedi ei sefydlu, yn rhifo yn agos i ddeugain o aelodau. Mr. Thomas T. Williams, sydd ddiacon da a ffyddlon yn yr eglwys. Ac y maent yn awr yn adeiladu capel newydd hardd yno, ac yn ymdrechu talu am dano. Y mae y lle a’r eglwys yn debyg o gynyddu yn gyflym yn y dyfodol. Cynhelir yno gyfarfodydd llenyddol; ac yno y mae Mr. Mesach Watkins, a Mr. Phillips, y cerddorion medrus, yn byw. Sefydlodd y Bedyddwyr eglwys yno yn ddiweddar.

18. SHAMOKIN, Northumberland Co. - Saif y dre boblog hon oddeutu 8 milldir i’r gorllewin o Mount Carmel, ac 20 milldir i’r dwyrain o Sunbury, ar y Lehigh a’r Northern Central R.R. Dichon fod ynddi dros 12,000 o boblogaeth, o wahanol genhedloedd. Saif ar lan afon fechan, a thry ar haner cylch rhwng y bryniau. Y mae yno dros ddeuddeg o weithfeydd glo mawrion o’i deutu; y mae ynddi lawer o stores, dau Panc arianol, un Hall fawr, un blast furnace, machine shops, llawer o Hotels a thafarndai. Ansefydlog iawn a fu y Cymry yno; ni buont erioed yn lluosog iawn yn y lle; ond adeiladodd yr Annibynwyr, a’r T.C. a’r Bedyddwyr, gapelau bychain bob un; a bu rhai pregethwyr yno am fyr amser, sef H. C. Harris, William Thomas, a’r Parch. William J. Lewis. Ond er ys llawer o amser ymadawsant hwy; cauwyd capel y B. i fyny; ac nid oes yno heddyw ond eglwysi gweiniaid iawn gan y T.C. a’r A., er fod ganddynt gapelau newyddion heirdd. Gobeithio y llwyddant eto. David Thomas yw diacon yr eglwys Drefnyddol Galfinaidd; ac Isaac E. Thomas, a Seth Francis, yw diaconiaid yr eglwys Annibynol. Cymry oll oddeutu 200. Yn Shamokin y mae David Edmunds, Ysw., yr Inspector of Mines yn byw.


 

 


(delwedd E0902) (tudalen 44)

(x058) (tudalen 44) HANES CYMRY AMERICA.

Y mae amrai o lofeydd ereill yn Northumberland Co., sef, yn Locust Dale, a Locust Gap, Bear Gap, a manau ereill, a diau fod rhai Cymry yn gweithio ynddynt, ac yn trigianu yn mhlith cenhedloedd ereill, er nad oes ynddynt byth, na gweddi, na mawl, na phregeth, nac addoliad, yn yr iaith Gymraeg. Galarus yw meddwl fod neb o genedl y Cymry yn hoffi byw yn y fath leoedd; ac na byddai mwy o duedd ac ymdrech ynddynt i fwynhau moddion gras.

19. Bu capel, ac eglwys, gan y Cymry yn y BROAD TOP, Huntington Co., rai blyneddau yn ol; lle y bu y Parch. Daniel Thomas (A.), yn gweinidogaethu; a llawer o Gymry yn gweithio ac yn masnachu. Ond oblegid y strikes, ataliwyd y gweithfeydd; ymadawodd y bobl; ac nis gwn pa ddefnydd a wneir yn awr o’r capel. Y mae pethau fel hyn yn dygwydd weithiau. Nid wyf yn hoffi gweled yr eglwysi Oymreig yn marw. Gobeithio y bywheir yr achos yno eto.

20. SLATE HILL, York Co. - Saif y lle hwn yr ochr ddeheuol i afon y Susquehanna, yn agos i gyffiniau talaeth Maryland; oddeutu 70 milldir o Philadelphia, 50 milldir o Baltimore, ac oddeutu 20 milldir o Havre de Grace. Gellir myned yno gyda y stage, bob yn ailddydd, o Lancaster, (25 m.) neu gyda y train o Philadelphia i Havre de Grace; ac oddiyno gyda cherbyd, neu gyda y badau ar yr afon ac ar y canal. Y mae yn hen le. Gwlad amaethyddol oedd. Ond darganfyddwyd y llechi, (slates,) ac agorwyd y cloddfeydd gan y Cymry, y rhai a wnaethant sefydliad Cymreig cryf yno. Gelwid y lle gynt yn Peach Bottom. Sefydlwyd yno dair eglwys Gymreig. Darfyddodd yr eglwys Wesleyaidd er ys llawer o flyneddau., Bu yno amryw o bregethwyr yn llafurio; ac y mae y gweinidogion enwog y Parch. J. Williams (A.), a’r Parch. E. F. Jones (T.C.), yn barchus a defnyddiol yno eto. Dichon fod yno yn awr dros 600 o boblogaeth Gymreig; a diau fod llawer o honynt yn bobl rinweddol, ac yn aelodau ffyddlon yn eglwysi y T.C. a’r Annibynwyr. Gwlad hyfryd a ffrwythlon yw. Pentref bychan sydd yno, lle y mae y ddau gapel Cymreig, a rhai stores, heb yr un dafarn!


 

 


(delwedd E0903) (tudalen 45)

(x059) (tudalen 45) Y SEFYDLIADAU CYMREIG YN PENNSYLVANIA.

Ymddibynant ar y chwarelau, gan mwyaf; ond y mae amrai o’r Cymry yn byw yn gysurus yno ar eu tyddynau bychain. Bu gwaith y chwarelau yno yn ansefydlog; a chafodd eu meddianwyr, yn ddiweddar, golledion trymion, sef David James, Ysw., ac ereill. Yno y bu y brawd anwyl, y Cymro selog, a’r datganwr enwog, William Morris, gynt o Bethesda, Arfon, G.C., fyw am flyneddau; ac yno y bu farw, ac y claddwyd ef. Nis gellir disgwyl gwaith sefydlog, a chyflog da, yno, hyd nes y gwel perchenogion y chwarelau gyfleustra i anfon y llechi oddiyno gyda rhyw reilffordd, yn lle gyda y canal, fel yn bresenol.

21.SLATINGTON, Lehigh Co. - Chwarelau llechi (slates) sydd yma eto. Gwlad amaethyddol hardd oedd, yn cael ei phoblogi gan yr Ellmyniaid. Ond dechreuodd y Cymry weithio a sefydlu yno er ys dros ugain mlynedd yn ol; agorodd Mr. Heniy Williams, a Mr. David Williams, ac ereill, chwareli yn agos yno, ac oddeutu yno; ac erbyn heddyw y maent yn ddynion cyfoethog a dylanwadol. Y mae yno lawer o chwarelau gan genhedloedd ereill; ond Cymry, gan mwyaf, sydd yn gweithio ynddynt. . Gall fod y boblogaeth Gymreig yn yr holl ardaloedd hyny yn awr dros fil o eneidiau. Y mae yno yn awr dair o eglwysi Cymreig bychain, gweithgar, a blodeuog; un gan yr Annibynwyr, un gan y Trefnyddion Calfinaidd, ac un gan y Bedyddwyr, a llawer o aelodau ffyddlon ynddynt; ac y mae y Parchedigion, Jeffreys (T.C.), Owen (A.), a Morton, (B.) yn weinidogion defnyddiol yno. Ceir yno lawer o gefnogwyr gwresog i lenyddiaeth Gymreig, ac i’r achos dirwestol. Saif pentref Slatington ar fryn bychan, prydferth, yn agos i afon y Lehigh, ac yn ngolwg y Blue Mountain; ac y mae y Lehigh Valley R.R., a’r Lehigh & Susquehanna R.R., yn rhedeg heibio yno; ac y mae y lle wedi cynyddu llawer yn yspaid y chwe’ mlynedd diweddaf; ac yn debyg o gynyddu llawer eto; er fod y meistri a’r gweithwyr yn aml yn methu cytuno am y cyflogau. Y mae yno lawer o fân chwarelau, a chyfrifir y llechi yn rhai rhagorol i doi, ac i ysgrifenu, ac i wneyd pethau ereill gwerthfawr. Adeiladodd


 

 


(delwedd E0904) (tudalen 46)

(x060) (tudalen 46) HANES CYMRY AMERICA.

llawer o Gymry dai gwerthfawr yno; ac y mae Hugh Davies, Ysw., gynt o Lanbrynmair, G.C., wedi codi palasdy iddo ei hunan a’i deulu, a hall fawr i’w genedl, yno. ehwarelau mawrion Sir Gaernafon, G.C., sef, ardaloedd Bethesda, Ebenezer, Llanberis, &c., yr ymfudodd y rhan fwyaf o’r Cymry i Slatington, (ac i’r chwarelau ereill yn America,) ac y mae rhai o honynt wedi bod yn dra llwyddianus.

22. DANIELSVILLE, Northampton Co. - Gorwedda y lle hwn o oddeutu saith milldir i’r gogledd-ddwyrain o Slatington, yn ymyl y Blue Mountain, rhwng afonydd y Lehigh a’r Delaware. Ardal wledig a ffrwythlon yw. Oddeutu y pentref bychan y mae amrai o chwarelau bychain gan y Cymry mwyaf llwyddianus a chyfoethog. Gerllaw y pentref y mae capel bricks bychan wedi ei adeiladu gan y T.C., er ys blyneddau; a llawer o aelodau yr Annibynwyr, a rhai Wesleyaid, yn cydaddoli yn frawdol ynddo . Y mae yno lawer o Gymry crefyddol yn byw; ac yn eu plith y bardd Ioan Llyfnwy, ac amrai ereill o gefnogwyr ein llenyddiaeth. Gweinidogion sefydlog eglwysi Slatington sydd yn pregethu amlaf yno. Ac yn yr ardal hon y bu farw ac y claddwyd y Parch. G. Roberts (W.), yr hwn oedd ddyn call a duwiol, ac yn bregethwr gwresog a doniol. Cyffelyb yw gwaith a chyflogau y chwarelwyr yn y lle hwn ag ydynt oddeutu Slatington. Dichon fod yma oddeutu dau gant o boblogaeth Gymreig.

23. CHAPMANVILLE, Northampton Co. - William Chapman, Ysw., ydyw meddianydd y chwarel fwyaf yn y lle hwn; efe a’i hagorodd gyntaf, oddeutu deuddeg mlynedd yn cl, ac a’i trefnodd yn fedrus, ac a’i gweithiodd yn llwyddianus. Brodor yw o Cornwall, Lloegr. Bu yn gweithio yn chwarel fawr Braichycafn, yn Arfon; yno y dysgodd siarad Cymraeg; priododd foneddiges grefyddol o’r Ellmyniaid; ac y mae yn awr yn byw yn Bethlehem, Pa., ac yn werth canoedd o filoedd! Y mae cangen o reilffordd yn awr yn rhedeg o Bethlehem, ar lan y Lehigh, drwy bentref y Bath, i ardal Chapmanville - pellder o 15 milldir. Yn ymyl y chwarel y mae llawer o dai, ac un hotel, a store, ac ysgoldy,


 

 


(delwedd E0905) (tudalen 47)

(x061) (tudalen 47) Y SEFYDLIADAU CYMREIG YN PENNSYLVANIA.
wedi eu hadeiladu, a llawer o dyddynau ffrwythlon yn y wlad fawr o’u deutu. Adeiladwyd eglwys Saesnig ar y bryn gerllaw. Dichon’fod yno dros 300 o boblogaeth Gymreig. Sefydlwyd eglwys Gymreig unwaith yn yr ysgoldy; a bu y Parch. John E. Williams (A.), yn gweinidogaethu iddynt; ond ymadawodd y flwyddyn ddiweddaf. Bu Mr. Chapman a’r chwarelwyr yn garedig iddo. Dylasai fod yn y lle hwn eglwys Gymreig flodeuog; a gobeithio y bydd yno un felly eto. Mae sobrwydd ardal yn hanfodol i lwyddiant achos crefydd bur. Oddeutu 10 milldir sydd o’r lle hwn i Danielsville, ar draws y wlad; ac nid oes dros 12 milldir oddiyma i Easton, Pa., na mwy nag 20 milldir at y chwarelau Cymreig ereill, ar lanau y Delaware, lle mae amrai Gymry llwyddianus; a lle y bu, ac y mae pregethu Cymraeg, yn achlysurol, mewn ysgoldai, gan y gwahanol enwadau. Tebygol yw yr agorir degau o chwarelau bychain eto mewn gwahanoi fanau yn siroedd Northampton a Lehigh, canys y mae ynddynt gloddfeydd llechau rhagorol; ac nid yw masnach y slates ond dechreu yn yr Unol Dalaethau.

24. CATASAUQUA, Lehigh Co. - Saif ar lan y Lehigh, mewn gwlad ffrwythlon a hyfryd, oddeutu tair milldir Allentown, a thros 130 milldir o New York. Gellir myned yno o new York gyda y New Jersey Central R.R., i Easton, ac oddiyno gyda y Lehigh Yalley R.R. David Thomas, Ysw., o ardal Castellnedd, D.C., a ddechreuodd y sefydliad Cymreig yma, er ys yn agos i 30 mlynedd yn ol. Cododd yma iawer o dai, a blast furnaces, a rolling mill fawr, a bu yn dra llwyddianus; fel y mae yn awr yn un o’r dynion mwyaf medrus, cyfoethog, a dylanwadol, yn y sir, ac yn foneddwr haelionus a chrefyddol. Dan ei ofal ef a’i feibion y mae yr holl weithfeydd haiarn yn y lle hwn, ac yn Hokendauqua, gerllaw yno. Erbyn heddyw y mae Catasauqua yn dref boblog, o wahanol genhedloedd, ac y mae ynddi amrai o eglwysi efengylaidd gan y Saeson, a’r Ellmyniaid, a’r Gwyddelod. Y mae Mr. Thomas yn swyddog yn yr eglwys Bresbyteraidd Saesnig, y yr hon a adeiladwyd yn ymyl ei balasdy; ac y mae ei blant a’i berthynasau,


 

 


(delwedd E0906) (tudalen 48)

(x062) (tudalen 48) HANES CYMRY AMERICA.

a llawer o Gymry, yn aelodau o’r un eglwys. Dichon fod yno yn awr dros 300 o boblogaeth Gymreig; a dylai fod yno eglwys Gymreig. Oddeutu saith mlynedd yn ol, sefydlwyd eglwys unol Gymreig yno; a bu yn llwyddianus am flyneddau. Ni bu yno weinidog Cymreig sefydlog erioed; ond pregethid iddynt yn achlysurol gan wahanol bregethwyr. Ond oblegid ansefydlogrwydd y Cymry yn y gweithiau haiarn, a diffyg gweinidogaeth sefydlog, a chefnogaeth deilwng i’n cenedl a’r iaith Gymraeg, gorfu i^r ychydig ffyddloniaid oedd yn addoli yn yr “ystafell” yno, roddi yr eglwys hono i fyny. Nid oes yno er ys misoedd ond pregethu achlysurol, a chyfarfodydd gweddio sefydlog ar y Sabbothau, gan y Cymry, yn eglwys Saesnig y Presbyteriaid, ac y mae Mr. Griffiths yn pregethu Cymraeg yn achlysurol yno. Bu Morgan Emanuel, Ysw., a Mr. William G. Lewis, a Mr. William James, a Mr. Lewis Richards, ac amrai ereill, yn gefnogwyr gwresog i’r achos Cymreig. Dichon y bydd eglwys Gymreig flodeuog eto yn Catasauqua; ac y bydd yno ganoedd mwy o Gymry nag sydd yno yn awr. Yr ochr draw i’r afon y mae y gladdfa (cemetery) ardderchog, lle y mae llawer o Gymry yn gorwedd. Bydd Mr. Morton, Slatington (B.), yn pregethu yno yn aml.

25. SUMMIT HILL, neu’r Old Mines, Carbon Co. - Priodol y gelwir y lle hwn dan yr enwau Saesnig uchod, oblegid ar ben y bryn y saif y pentref, a dechreuwyd gweithio y glofeydd er ys dros 40 mlynedd; a dechreuodd y Cymry sefydlu yno er ys 30 mlynedd yn ol. Saif y lle hwn rhwng Tamaqua (6 m.) a Mauch Chunk, prif dref sir Carbon (12 m.), ac y mae yno ddeg neu ddeuddeg o lofeydd mawrion, yn meddiant a than reolaeth.un Cwmpeini, sef y “Coal & Navigation Co.” (y rhai hefyd sydd yn feddianwyr y canal a’r reilffordd). Credwyf fod yno yn awr dros ddeuddeg cant o boblogaeth Gymreig, (yn gymysg â lluoedd o Wyddelod, ac Ellmyniaid, a Saeson, &c.) Y mae gan y Bedyddwyr gapel bychan ac eglwys ffyddlon ar y Bryn, a’r Parch. Mr. Morton, o Slatington, yn weinidog iddynt. Ond yn y gwaelod y mae ardal Ashton, lle mae capel da,


 

 


(delwedd E0907) (tudalen 49)

(x063) (tudalen 49) Y SEFYDLIADAU CYMREIG YN PENNSYLVANIA.

helaeth, ac eglwys gref gan yr Annibynwyr; a’u gweinidog presenol yw y Parch. J. Velindre Jones. Cafodd yr eglwys hon bob mantais i fod yn llwyddianus, oblegid ni bu gan yr un enwad Cymreig arall erioed eglwys yn ardal Ashton; bu yma amrai o weinidogion ffyddlon. Arolygwyd y gwaith am lawer o flyneddau gan Mr. John Powell; ac wedi hyny bu yr holl lofeydd dan arolygiaeth ein cenedlgarwr enwog, Thomas Phillips, Ysw, ac yr oedd y rhan fwyaf o’r bosses yn swyddogion ac yn aelodau o’r eglwys. Bu yma rai adfywiadau nerthol. Ac y mae golwg siriol iawn ar yr achos yn awr; canys y mae lluedd o’r bobl ieuainc wedi ymaflyd â’u holl galon ynddo . Codwyd yma pregethwr ieuanc gobeithiol yn ddiweddar, sef Lewis Evans (Darenydd), Ac yma y mae y bardd medrus, Morgan Evans (Meurig Aman), a’i briod yn byw; a llawer o gerddorion deallgar, megys Thomas James, a’i briod, ac ereill. Y mae Shadrach Watkins, a Josiah Williams, a John Beynon, a Thomas Williams, a Thomas Jenldns, David Maxey, a David Mathews, ac ereill, yn swyddogion, ac yn aelodau ffyddlon o’r eglwys hon. Soniant am wneyd capel newydd, ac y mae arnynt angen am dano. John T. Evans, Ysw., o’r lle hwn, a ddyrchafwyd i fod yn “Inspector of Mines,” dros Carbon Co. Nid yw gwlad a phentref Ashton, ond lle gwael yr olwg arno, o ran tir ac adeiladau; ond y maent yn awr yn gweithio tunnel newydd drwy y mynydd yr ochr ogleddol iddo; ac y mae argoelion y bydd reilffordd yn rhedeg drwyddo, yn fuan, o Tamaqua i Mauch Chunk, ac y bydd tref ardderchog a masnach fywiog cyn hir yn y lle hwn. Poblogaeth Gymreig, 1,200.

Oddeutu milldir a haner islaw Ashton y mae ardal Coaldale, lle mae llawer o Gymry parchus yn byw, ac arferent fyned i addoli i eglwys Ashton. Ond yn ddiweddar ffurfiwyd eglwys Annibynol yno, mewn ysgoldy, dan ofal y Parch. David E. Hughes, Tamaqua. Pa un a oedd hyny yn ddoeth a threfnus, amser a ddengys. Carwyd wirionedd a phurdeb yn mhob man. Dymunwyf lwyddiant achos y Gwaredwr. Y mae llawer o Gymry yn byw yn Bull’s Run, a’r Tai Newyddion


 

 


(delwedd E0908) (tudalen 50)

(x064) (tudalen 50) HANES CYMRY AMERICA.

gerllaw yno. Yn Coaldale y bu Evan Jones, Ysw., fyw a marw, wedi cyflawni ei swydd fel ynad gwladol yn anrhydeddus.

26. BEAVER’S MEADOW, Luzerne Co. - Hen le tra adnabyddus i fwnwyr America yw y lle hwn. Oddeutu 25 mlynedd yn ol yr oedd yno lawer o Gymry yn byw. Saif yn ngwaelod Luzerne Co., ar gyffiniau siroedd Carbon a Schuylkill, ac y mae y Lehigh Valley R R. yn rhedeg drwyddo er ys blyneddau. Ar y mynyddau coediog uchel y saif; ac mewn hen ysgoldy bychan yno y sefydlwyd yr eglwys Annibynol Gymreig, ac yr urddwyd R R. Williams, Cincinnati, a D. Daniel, o Dundaff. Adeiladwyd capel da gerllaw yno, yn yr hwn y bu eglwys ffyddlon, a gweinidogaeth effro, gan y brodyr Daniel Rees, Philip Peregrine, a M. D. Morgan, a John R Williams. Ond yn y blyneddau diweddaf agorwyd gweithfeydd glo gwell oddeutu y lle; gwasgarodd y Cymry, fel y gwanhawyd yr eglwys yn ddirfawr; ond y mae yno rai ffyddloniaid eto. Mr. Thomas Lewis yw y diacon presenol, a bu ef a’i briod yn gynorthwy mawr i’r achos.

27. JEANSVILLE, Luzerne Co. - Pentref bychan yw y lle hwn, oddeutu 1½ milldir o’r Meadows, ac Audenried, a Hazleton, a Dutchtown. Amgylchynant ef. Nid oes ynddo ond ychydig o Gymry yn byw; ond trwy ymdrechion Jonah Rees, Ysw., a Mr. W. Hughes, ac amrai ereill, cododd yr Annibynwyr Cymreig gapel da yn y lle yn nechreu 1869, a bu y Parch. Mr. Harrison yn gweinidogaethu yno, am dymhor byr. Ymadawodd i Coalburgh, Ohio. Y mae Mr. Owen Evans yn foss yn Dutchtown, gerllaw yno, lle mae amrai o Gymry yn gweithio.

28. AUDENRIED, Carbon Co. - Lle newydd yn ymyl Jeansville ydyw. Dechreuodd y Cymry sefydlu yno er ys dros wyth mlynedd; ac yn fuan wedi hyny, symudodd Jonah Rees, o’r Meadows, yno i fyw, a dechreuodd achos Cymreig yn yr ysgoldy yno. Bu ef a’i deulu yn ffyddlon iawn dros eu cenedi a’r achos crefyddol yno. Cynyddodd yr eglwys Annibynol yno.


 

 


(delwedd E0909) (tudalen 51)

(x065) (tudalen 51) Y SEFYDLIADAU CYMREIG YN PENNSYLVANIA.

trwy ymdrechion Lewis Thomas, D. Lloyd, J. Beynon, J. Grier, ac ereill; prynwyd ac adgyweiriwyd yr hen ysgoldy, a gwnaed ef yn gapel hardd a chyfleus; ac y mae yno yn awr eglwys gref, a’r Parch. Dl. Evans, o Yale College, wedi ei urddo yno yn weinidog sefydlog iddynt. Yno y mae y Parch. Benjamin Nicholas (B.), gynt o Bloomsburgh, Pa., yn byw yn awr.

29. HAZLETON, Luzerne Co. - Tref boblog a hardd yw hon, a llawer o fasnach ynddi . Yno y mae y coal operator cyfoethog, Mr. Pardee, yn byw; ac y mae llawer o lofeydd oddeutu y dref; ond Gwyddelod ac Ellmyniaid, gan mwyaf, sydd yn gweithio ynddynt. Y mae Mr. James, y Postmaster, yn fasnachydd llwyddianus, ac yn Gymro cenedlgarol yn y lle. Gellir myned yno gyda y Lehigh Valley R.R. Yn y rhandir mynyddig sydd yn gorwedd rhwng Hazleton a Ben Haven, a White Haven, yn Luzerne Co., y mae llawer o weithfeydd glo newyddion, sef Ebbw Vale, Ieddo, Eckley, Upper Lehigh Valley, a manau ereill, a chlywais fod llawer o Gymry yn gweithio ynddynt, a bod gan y Bedyddwyr Cymreig, ac enwadau ereill, eglwysi Cymreig bychain ynddynt. Clywais hefyd fod yno rai Cymry cyfoethog a thalentog yn trigianu.

30. DANVILLE, Montour Co. - Tref fawr yw hon ar lan y Susquehanna, ac y mae y Catawissa R.R. yn rhedeg trwyddi i Williamsport; a’r Delaware & Lackawana & Western R.R. yn rhedeg heibio iddi o Northumberland, trwy Rupert, heibio i Plymouth a Pittston, i Scranton. Ynddi ac o’i deutu y mae llawer o weithfeydd haiarn, lle mae llawer o Gymry yn gweithio er ys llawer o flyneddau. Y mae gan yr Annibynwyr, a’r Bedyddwyr, a’r T.C. eglwysi a chapelau yma; ond nid ydynt yn awr mor llewyrchus ag y buont, am fod y gweithiau yn ansefydlog, a llawer o’r Cymry wedi ymadael, ac ereill wedi marw. Bu yno amrai o weinidogion ffyddlon gyda y T.C. a’r B.; ond nid oes yno neb yn sefydlog yn awr gyda y T.C. am a wn i. Y Parch. John S. Jones yw gweinidog presenol y Bedyddwyr; ac y mae y Parch. John B. Cook (A.), wedi parhau ei


 

 


(delwedd E0910) (tudalen 52)

(x066) (tudalen 52) HANES CYMRY AMERICA.

weinidogaeth sefydlog yno am lawer o flyneddau, ac yn barchus a defnyddiol yno eto. Bu ei frawd, William Cook, Ysw., diacon ffyddlon ei eglwys, farw yno yn niwedd 1869. Yn Danville y daeth y cerddor Cymreig enwog, Mr. Joseph Parry, i sylw gyntaf, ac odddiyno yr aeth ef a’i deulu i’r Athrofa Gerddorol i Lundain. Y mae ei athrylith a’i fedrusrwydd cerddorol wedi tynu sylw y byd, a chael uchel gymeradwyaeth. Ac yno y mae ei frawd-yn-nghyfraith, Mr. Gomer Thomas, y cerddor a’r organydd ieuanc, yn byw. Lle enwog yw Danville. Dichon fod yno yn awr oddeutu 500 o boblogaeth Gymreig. Bu capelau ac eglwysi Cymreig yn Bloomsburgh, gerllaw Danville; ond ymadawodd y Cymry oddiyno a darfu yr achos. Gall fod yno rai Cymry yn byw eto, a phregethu Cymraeg yn achlysurol.

31. PLYMOUTH, Luzerne Co. - Saif y dref gynyddol hon ar ochr orllewinol y Susquehanna, yn ngwaelod dyffryn mawr a hardd y Wyoming, yn agos i Kingston, a Wilkesbarre. Y diweddar David Levi, Ysw., oedd y sefydlwr Cymreig cyntaf yno. Dechreuodd agor gwaith glo yno yn 1848. Cafodd lease ar y lle am 10 mlynedd, o 1850 hyd 1860, a daeth yn feddianol ar gyfoeth mawr; ond collodd lawer o hono yn y panic arianol yn niwedd 1857. Yn 1851 daeth ei dad, John Levi, a’i. frawd, Joseph Levi, a George Morgan, a Wm. Charles, a Thomas Prosser, ac Enoch Powell, a David George, a Robert Powell, ac ereill, yno ato. Sefydlwyd yr eglwys Annibynol yno gan y Parch. David Jones, Scranton, yn 1853. Llwyddodd. Codasant gapel hardd yno yn 1864, a thalasant am dano. Bu David Levi yn ffyddlon a defnyddiol yno hyd ei farwolaeth, yn Awst 15, 1869. Cafodd yr eglwys, a’r Cymry yn gyffredinol, golled fawr ar ei ol, canys yr oedd yn ddyn da a haelionus. Y mae ei weddw, Mrs. Levi, a’i mab, yn byw yno eto, ac yn cadw y Post Office. Cynyddodd y lle yn gyflym; y mae yno yn awr lawer o weithfeydd glo; ac islaw yno y mae Avondale, lle bu y trychineb mawr. A bernir fod yno yn awr dros 1,200 o boblogaeth Gymreig, a llawer yn eu plith o ddynion crefydd ol, a rhai beirdd, cerddorion, a llenorion ieuainc


 

 


(delwedd E0911) (tudalen 53)

(x067) (tudalen 53) Y SEFYDLIADAU CYMREIG YN PENNSYLVANIA.

gobeithiol, selog dros eu cyfarfodydd llenyddol. Bu y Parch. John P. Evans (Pentyrch), yn weinidog ar yr eglwys Annibynol yno am beth amser; ond yn 1870 ymadawodd i Yale College. Mr. Wm. D. Rogers, a Mr. Wm. Charles, a Mr. David George, yw diaconiaid yr eglwys; a Mr. David Jones yw yr ysgrifenydd; ac y mae golwg obeithiol arni. Rhoddasant alwad i’r Parch. D. Evans (Trelech) i gymeryd eu gofal gweinidogaethol, a daeth o Hubbard, Ohio, i weinidogaethu yno yn Medi, 1871. Addola y Trefnyddion Calfinaidd mewn Hall fawr, ac y mae ganddynt eglwys a chynulleidfa gref yno, a llawer o bobl dda yn eu plith. Soniant am godi capel hardd. Pregethir iddynt gan y Parch. Thomas J. Phillips (Cyw Ionawr), a chan y Parch. William J. Lewis, y rhai sydd yn byw yno, a chan weinidogion a phregethwyr o leoedd ereill. Ei swyddogion ydynt, Jonah Lewis, David W. Evans, David J. Wiiliams, Thomas J. Davies; a’i hysgrifenydd yw Thomas E. Jones. Y mae gan y Bedyddwyr hefyd eglwys flodeuog yn y lle, ac y maent yn adeiladu capel rhagorol yno, yr hwn a agorir yn fuan. Y Parch. Mr. Morgan yw eu gweinidog. Ni chefais ychwaneg o hanes yr eglwys hon. Mae Mr. Evan Jones, pregethwr ieuanc gobeithiol, o’r Bwlchgwyn, ger Gwrecsam, Sir Ddinbych, G.C., a Mr. Charles Edwards, yn ddefnyddiol yn yr eglwys Annibynol yn Plymouth. Mae prisiau y tiroedd oddeutu yno, a’r lotiau yn y dref, yn uchel iawn; er hyny y mae yno lawer o adeiladu, a masnach fywiog. Cedwir store fawr yno gan Wm. D. Rogers,Ysw., a Mr. David Jones.

32. KINGSTON, Luzerne Co. - Saif y lle hwn o fewn 3 milldir i’r gogledd o Plymouth. Pentref bychan prydferth yw yn nghanol y Wyoming Valley. Ynddo y mae Athrofa gan y Wesleyaid Saesnig. Y mae y Lackawana a’r Bloomsburgh R.R. yn rhedeg drwy y lle, a street cars yn myned oddivno i Wilkesbarre. Yn ymyl yno, wrth waelod y bryniau, y mae dau waith glo mawr, a llawer o Gymry yn gweithio ynddynt. Sefydlwyd eglwys Annibynol mewn ysgoldy gerllaw yno er ys tair blynedd yn ol, ac y mae yn llwyddo yn raddol; cynwysa


 

 


(delwedd E0912) (tudalen 54)

(x068) (tudalen 54) HANES CYMRY AMERICA.

yn awr 54 o aelodau, a dau ddiacon, sef Wm. L. Roberts a John Millward. Ysgol Sabbothol, 70. Cynulleidfa, 120. Poblogaeth Gymreig (gwyr, gwragedd, a phlant), oddeutu 74. Y mae golwg obeithiol ar y lle. Soniant am godi capel. Y mae yno bedwar o gerddorion, sef William Evans, Morgan Morgans, W. Williams, a Thomas Parsonage; a dau fardd ieuanc gobeithiol, sef David Williams ac Isaac Davies. David Morgan, Ysw., gynt o Pittston, a ddechreuodd y ddau waith glo yn y lle, ac wedi hyny a’u gwerthodd i’w meddianwyr presenol. Ni bu yma erioed weinidog. sefydlog, ond pregethir iddynt gan wahanol weinidogion. Trwy ymuno â’r eglwys yn Plymouth, gallent gadw gweinidog yn anrhydeddus, a chael gweinidogaeth a bugeiliaeth fwy cyson ac effeithiol.

33. WILKESBARRE, Luzerne Co. - Hon yw prif dref y sir, er nad yw mor boblog a Scranton. Adeiladwyd hi ar ochr ddwyreiniol y Susquehanna, ar le gwastad a dyfrllyd. Parhaodd yn lle bychan am flyneddau. O ddeutu 26 mlynedd yn ol, bu yno rai Cymry yn gweithio, ac yn cynal moddion crefyddol; ond ymadawsant i leoedd ereill, a darfu yr achos. Ond yn yspaid y deng mlynedd diweddaf, agorwyd llawer o lofeydd oddeutu yno, a gwnaed dwy brif reilffordd i redeg oddiyno i New York, a Philadelphia, sef y Lehigh Valley R.R., a’r Lehigh a’r Susquehanna R.R. Wedi hyny cynyddodd y lle yn gyflym, ac y mae yn awr yn un o’r trefydd mwyaf poblog a bywiog o fewn y sir. Adeiladwyd canoedd o dai yno yn yspaid y chwe’ blynedd diweddaf; ac y mae yno yn awr, dichon, dros 1,000 o boblogaeth Gymreig, y rhai, gan mwyaf, a breswyliant ar y bryniau bychain prydferth yn ymyl y dref, ac oddeutu y glofeydd. Y mae gan y Trefnyddion Calfinaidd gapel mawr a hardd ar un o’r bryniau hyny, a’r Parch. Ed. J. Hughes yn eu bugeilio er ys llawer o flyneddau. Eglwys gref a gweithgar ydyw. Y Cymry perthynol iddi hi yw arolygwyr a phrif fosses llawer o’r glofeydd; ac y mae ynddi amrai o bregethwyr da, sef Mri. L. S. Jones, William D. Jenkins, a W. H. Williams. Sefydlodd y Bedyddwyr Cymreig eglwys yno er ys dwy


 

 


(delwedd E0913) (tudalen 55)

(x069) (x55) Y SEFYDLIADAU CYMREIG YN PENNSYLVANIA.

neu dair blynedd. Addolant mewn ystafell gyfleus yn y dref, ac y mae y gweinidog ffyddlon, a’r pregethwr talentog, y Parch. Theophilus Jones, yn gweinidogaethu iddynt er dechreu Mehefin, 1870. Prynasant dir i wneyd capel newydd, uwchlaw y depot, ac y mae argoelion y gwelant fawr lwyddiant. Yno y mae yr adeiladydd (architect) medrus, a’r awenydd athrylithgar, Aneurin Jones, Ysw. (Aneurin Fardd), yn trigianu. Oddeutu dwy flynedd yn ol, sefydlodd yr Annibynwyr eglwys yno. Addolant mewn ysgoldy bychan, ac y maent wedi dechreu adeiladu capel mawr a drudfawr yno, yn nghanol coedwig fechan, ar fryn hyfryd, gerllaw capel y T.C. Nid yw eu rhifedi ond ychydig eto, er hyny y mae yn eu plith amrai o ddynion da, haelionus, ac ymdrechgar. Mr. Dl. W. Evans yw ysgrifenydd yr eglwys, a Jones a Williams yw y diaconiaid; ac y mae yr hen frawd ffyddlon, Mr. Hugh Owen, yn aelod a phregethwr yno. Ond nid oes ganddynt weinidog sefydlog eto. Mewn cysylltiad â rhyw eglwys Annibynol gyfleus arall, gallent gynal gweinidog yn gysurus. Os bydd y gweithfeydd glo yn llwyddianus, ac os daw yno lawer o Annibynwyr o’r Hen Wlad, a manau ereill, gall y bydd yno eglwys gref yn y dyfodol. Dymunwyf eu llwyddiant.

34. LAUREL RUN, sydd yn sefyll o fewn dwy filldir i’r gogledd o dref Wilkesbarre. Gweithiau glo sydd yno hefyd, a Chymro parchus yw y foss presenol. Sefydlodd y Bedyddwyr eglwys yno; bwriadant godi capel da, ac y mae y Parch. Mr. Nicholas yn gweinidogaethu iddynt. Gerllaw yno, yn ddiweddar, y sefydlwyd eglwys Annibynol hefyd. Addolant mewn ysgoldy. Diaconiaid - Thomas Lewis, a James Lewis.

35. MILL CREEK, Laurel Run P.O. - Oddeutu un filldir sydd o’r lle olaf a nodwyd i’r lle hwn. Saif ar fryn iachus hyfryd, dair milldir o Wilkesbarre, ac y mae y Lehigh & Susquehanna R.R. yn myned trwyddo. Gwaith glo sydd yma eto, a Jenkin B. Jones, Ysw., yw y foss, yr hwn sydd Gymro dysgedig a chenedlgarol, ac yn noddwr haelionus i’r eglwys Annibynol Gymreig a sefydlwyd yno er ys dros ddwy flynedd yn ol, ac sydd


 

 


(delwedd E0914) (tudalen 56)

(x070) (tudalen 56) HANES CYMRY AMERICA.

yn llwyddianus. Y maent wedi adeiladu capel newydd cyfleus yno, ac yn ymdrechu talu ei draul eu hunain. Gweinidog - Parch. David Davies, gynt o Lundain. Diaconiaid - Hopkin Jenkins, William Griffiths, a Thomas Butler. Ysgrifenydd - Wm. Samuel. Pregethwyr - Price, a’r ddau Jones. Teuluoedd Cymreig, 60. Poblogaeth Gymreig, 300. Y mae y lle yn debyg o gynyddu, a’r eglwys yn debyg o lwyddo.

Y mae amryw o weithfeydd glo, a sefydliadau Cymreig bychain ereill oddeutu Plymouth a Wilkesbarre, sef Nanticoke, a Newport, &c., a phregethir yr efengyl ynddynt gan y Bedyddwyr, a’r Annibynwyr, a’r Trefnyddion Calfinaidd. Codwyd capel Cymreig yn ddiweddar yn Newport, ac y mae Mr. John M. Evans (T.C.), yn pregethu yno.

36. TAYLORVILLE. - Saif y lle newydd cynyddol hwn rhwng Pittston a Hyde Park, ac y mae yno lawer o Gymry yn byw, a’r gweithfeydd glo yn llwyddianus. Mae gan y Bedyddwyr eglwys a chapel yno, a’r Parch. Maurice Evans yn gweinidogaethu iddynt. Sefydlwyd eglwys Annibynol yno hefyd, ac y mae y pregethwr a’r bardd ieuanc, “Gwawrfryn,” yn ddefnyddiol yno.

37. PITTSTON, Luzerne Co. - Tref wasgaredig, boblog, yn sefyll o bobtu i’r afon Susquehanna, yn mhen uwchaf y Wyoming Valley, yw hon. Y mae ynddi lawer o gapelau a masnachdai mawrion. Ymddibyna ar y glofeydd sydd o’i deutu. Rhed y tair reilffordd, sef y Lehigh, a’r Susquehanna, a’r Lackawanna, heibio iddi. Nid oes ond ychydig o filldiroedd o honi i Wilkesbarre, ac i Scranton. Nid yw y Cymry mor lluosog yno yn awr ag oeddynt gynt, ond dichon fod yno eto yn agos i fil o boblogaeth Gymreig yn y dref a’i hamgylchoedd. Y mae gan yr Annibynwyr, a’r Bedyddwyr, a’r T.C. gapelau da yno; ond nid yw yr olaf ond eglwys fechan. Y Parch. J. James (B.), yw y gweinidog Cymreig sefydlog yno. Y mae yno lawer o Gymry parchus a chrefyddol yn perthyn i’r gwahanol eglwysi. Ffurfiwyd yr eglwys Annibynol yno yn 1846, gan y Parch. David Lewis. Codwyd y capel cyntaf yn 1847, a’r ail ar y Welsh Hill yn 1860. Diaconiaid


 

 


(delwedd E0915) (tudalen 57)

(x071) (tudalen 57) Y SEFYDLIADAU CYMREIG YN PENNSYLVANIA.

presenol - John W. Davies, John Williams, James M. Williams, a Henry Harris. Ysgrifenydd - Henry W. Evans (y Phrenologist enwog). Bu y Parchn. E. B. Evans, ac E. R. Lewis, a John B. Williams, yn gweinidogaethu yno. Yma y mae yr hen fardd enwog, Mr. Thomas (Iolo Mynwy), a Mr. David Williams, yn byw, ac amrai o feirdd a llenorion ieuainc ereill. Cynhaliwyd yma amrai o eisteddfodau poblogaidd. Masnachwyr cyfoethog a haelionus yn y lle yw Meistri H. E. Hughes a B. Bevan. Yn Mai, 1871, cymerodd trychineb le yn ngwaith glo Blake & Co.; ac wedi hyny yn yr Eagle Shaft, Awst 14, 1871.

38. SCRANTON, Luzerne Co. - Hon yw y ddinas fwyaf poblog yn Luzerne Co. Saif ar wastadedd, ar lan y Lackawanna, rhwng y bryniau mawrion, ac y mae ynddi lawer o adeiladau a masnachdai drudfawr; ac y mae amrai o reilffyrdd mawrion yn rhedeg iddi o New York, a Philadelphia, a Baltimore, a thrwyddi yn mhob cyfeiriad i’r gorllewin, a’r gogledd, a’r de. Bu ynddi gapelau ac eglwysi Cymreig; ond yn awr nid oes grym ynddynt, am nad oes llawer o Gymry yn byw yno, a bod Hyde Park mor agos. Machine shops, a gweithiau haiarn a glo, sydd yn lluosog ynddi, ac o’i deutu. Yn ddiweddar gwnaed hi yn Fwrdeisdref, dan yr enw, “The City af Scranton,” gyda rhagorfreintiau neillduol; ac y mae Hyde Park, Bellevue, Providence, &c., o fewn ei therfynau dinasol. Ynddi y mae swyddfa Gymreig Baner America, yr hon yw un o’r rhagorion penaf (Gwel Hanes Llenyddiaeth Cymry America.)

39. HYDE PARK, Luzerne Co. - Saif y lle hwn ar fryn bychan, yr ochr orllewinol i Scranton, a’r afon Lackawanna, mewn lle hyfryd ac iachus. Deng mlynedd yn ol, nid oedd ond ychydig o dai arno; ond yn awr y mae wedi ei dewfritho â masnachdai, ac aneddau, a chapelau; ac y mae y tri chapel Cymreig ardderchog sydd yno yn agos i’w gilydd, sef eiddo y T.C. a’r B., a’r A., wedi costio dros $12,000 bob un, ac yn gyfleus i gynnwys o saith i wyth gant o wrandawyr bob un. Dyrchafant eu pinaclau hyd y nen! Gwelir hwynt yn amlwg o Scranton, ac o bellder mawr tu draw i’r ddinas


 

 


(delwedd E0916) (tudalen 58)

(x072) (tudalen 58) HANES CYMRY AMERICA.

hono. Ynddynt y mae eglwysi cryfion, a chynulleidfaoedd mawrion, ac ysgolion Sabbothol blodeuog. Bu y Parch. Joseph E. Davies (T.C.), a’r Parch. J. P. Harris (Ieuan Ddu), a’r Parch. Fred. Evans (B.), a’r Parch. E. B. Evans (A.), yn gweinidogaethu yma am flyneddau yn dra llwyddianus. Yn Ionawr, 1871, y rhoddodd Mr. Evans (A.), ei weinidogaeth sefydlog i fyny yno; ond y mae yn barchus a defnyddiol yno eto, ac yn feddyg medrus yn y lle. Gweinidogion sefydlog y lle yn bresenol yw y pregethwyr talentog, a’r awduron enwog, y Parch. David W. Morris (B.), diweddar o Ddeheudir Cymru; a’r Parch. M. A. Ellis (T.C.), Golygydd y Cyfaill. Dichon fod yn Hyde Park a Scranton dros 5,000 o boblogaeth Gymreig. Yn eu plith y mae llawer o fosses cyfrifol, ac yn gerddorion, a beirdd, a llenorion, galluog, rhy luosog i’w henwi yma. Sefydlwyd yno Gymdeithas Lenyddol ac Athronyddol, yr hon a fu yn foddion i oleuo ac i goethi llawer o feddyliau; a chynhaliwyd yno lawer o Eisteddfodau enwog, a chadeiriol. Yma y mae y beirdd talentog, Gwentydd Fardd, T. B. Morris (Gwyneddfardd), a Henry M. Edwards, ac ereill; a’r cerddor medrus, Robert James, yn byw; ac y mae Henry J. Phillips, Ysw., a lluoedd ereill, yn gefnogwyr i lenyddiaeth ac ymfudiad Cymreig, ac i bob achos da arall. Hyde Park yw Merthyr fawr y Cymry yn America yn bresenol, ac yno y mae y boblogaeth fwyaf o Gymry. Ond creda rhai nad yw ei llwyddiant i barhau yn hir eto, am fod yno ormod o Gymry eisoes, am fod y gweithfeydd yn ansefydlog, a’r gwythienau glo yn darfod, a bod glofeydd gwell yn cael eu hagor mewn lleoedd ereill cyfagos. Nis gwyddom ni. Dymunem barhaol lwyddiant y lle. Credwyf fod y gweithwyr wedi cael cam dirfawr yn y terfysgoedd diweddar fu yno.

40. BELLEVUE. - Saif y lle hwn o fewn milldir i Hyde Park, yr ochr ddeheuol, ar y bryn, gerllaw llwyn o goed cysgodfawr; ac yr oedd gan y T.C. eglwys a chapel yma er ys blyneddau. Oddeutu blwyddyn yn ol, codasant gapel newydd hardd a gwerthfawr yno, yn yr hwn y mae y Parch. Wm. Roberts, D.D., gynt o New


 

 


(delwedd E0917) (tudalen 59)

(x073) (tudalen 59) Y SEFYDLIADAU CYMREIG YN PENNSYLVANIA.

York, yn gweinidogaethu. Yn Patagonia, rhwng Hyde Park a Bellevue, y mae canoedd o dai wedi cael eu codi yn ddiweddar. Y mae yn Bellevue lawer o bobl dda a chrefyddol, a rhai beirdd a llenorion. Dichon fod yno yn agos i fil o boblogaeth Gymreig.

41. PROVIDENCE. - Adeiladwyd y lle hwn o fewn dwy filldir i’r gogledd o Hyde Park, a Scranton, ac y mae y street cars yn rhedeg o Scranton yno, ac i Hyde Park. Dechreuodd y Cymry weithio yn y Notch gerllaw yno yn y fl. 1855. Dyna ddechreuad Providence. Ffurfiwyd yr eglwys Annibynol yno yn haf y flwyddyn hono. Adeiladwyd y capel A. yn niwedd 1861. Traul, 11,250. Bu y Parch. E. B. Evans yn gweinidogaethu yno, mewn cysylltiad â Hyde Park, o’r fl. 1857 hyd ddiwedd y fl. 1866. Wedi hyny y Parch. David Parry (Dewi Moelwyn), o Medi, 1867, hyd ei farwolaeth, Medi 8, 1870. Claddwyd ef yn barchus yn mynwent capel yr Annibynwyr yn Bradford Co., Pa. Y mae yma eto eglwys, ac ysgol Sabbothol, a chynulleidfa dda. Diaconiaid - Thomas Hopkins, David Jenkins, Rees Sims, a Thomas R. Williams. Ysgrifenydd - James Williams. Pregethwr - William Howell. Y mae gan y Bedyddwyr gapel mawr da, ac eglwys a chynulleidfa gref yn Providence. Costiodd y capel $4,500. Dim dyled. Eu gweinidog presenol yw y pregethwr a’r bardd enwog, y Parch. Hugh C. Parry (Cefni), gynt o Sir Fon, Gogledd Cymru. Diaconiaid - Ed. Harries, D. Griffiths, Robert J. Rowlands. Ysgrifenydd - Llewelyn Roberts. Y mae yr achos yn flodeuog yn y lle hwn. Sefydlodd y Trefnyddion Calfinaidd, hefyd, eglwys yno Ion. 15, Ì870. Cynhaliant eu cyfarfodydd yn y Co-operative Hall. Nid ydynt eto ond ychydig o rifedi. Eu swyddogion ydynt, Richard Roberts, blaenor; Dafydd Goronwy, ysgrifenydd; a Morgan Lewis, trysorydd. Pregethir iddynt gan Ellis, o Hyde Park; a Roberts, o Bellevue, ac ereill. Y mae yn Providence, dichon, yn agos i 1,500 o boblogaeth Gymreig, ac yn eu plith amrai o gerddorion rhagorol, ac o feirdd a llenorion ieuainc gobeithiol. Gerllaw Providence y mae Green Ridge, lle mae depot y reilffordd


 

 


(delwedd E0918) (tudalen 60)

(x074) (tudalen 60) HANES CYMRY AMERICA.

sydd yn myned i Scranton a Carbondale. Ac nid yn mhell oddiyno y mae gweithfeydd glo Dinsmore, a Dixon, lle mae ychydig o Gymry yn byw. Griffith J. Roberts, Ysw., o Dolgellau, G.C., sydd fasnachwr cyfoethog yn Providence. 42. OLYPHANT, Luzerne Co. - Ychydig o filldirau o Providence, tua’r gogledd, ar y reilfforidd sydd yn myned i Carbondale, y saif y lle hwn. Glofeydd sydd yno, a llawer o wahanol genhedloedd yn gweithio ynddynt. Gall fod yno yn awr oddeutu 400 o boblogaeth Gymreig, ac y mae amrai o bobl grefyddol yn eu plith. Pregethir yr efengyl iddynt gan y Bedyddwyr, a’r T. C, ac y mae capel hardd wedi ei adeiladu yno er ys rhai blyneddau gan yr Annibynwyr, ac y mae yr hen frawd anwyl, y Parch. Lewis Williams (gynt o Carbondale), yn weinidog ffyddlon yn yr eglwys hono. Y mae y personau canlynol yn ddynion defnyddiol gyda’r eglwys Gymreig yno, sef John W. Evans ( A.), John W. Howells (T.C.), a Richard Davies (B.); ac y mae Mr. Griffith A. Williams (A.), yn Gristion cymwynasgar yno; ac Edward Jones, Ysw. (T.C.), yn ddyn cyfoethog, yn arolygydd a meddianydd rhai glofeydd gerllaw yno, ac yn genedlgarwr gwresog. Yma y mae y Parch. B. Bowen (B.), a i deulu yn byw. Ceir yma hefyd amrai yn gefnogwyr i Lenyddiaeth Gymreig. Yn ddiweddar symudodd y Parch. Ed. Jenhns (B.), o Coalburgh, Ohio, i fyw yno.

43. BEACHWOOD, Spring Brook P.O., Luzerne Co. - Sefydliad amaethyddol yw hwn, yn nghanol y bryniau coediog, rhwng Scranton a Pittston. Y sefydlwyr Cymreig cyntaf yno oeddynt, Traharne Watkins, William Thomas, Morgan Daniel, John Jones, Rees a John Leyshon, &c., yn 1833. Cerddent oddiyno i’r glofeydd i Carbondale, pan nad oedd Scranton na Hyde Park mewn bodolaeth, na reilffordd yn agos i’r lle! Nid yw y tir yn ffrwythlon, ond y mae yno goed gwerthfawr. Cafodd yr hen bobl lawer o waith caled i lafario y tiroedd yno; ond y mae eu plant yn awr yn mwynhau eu tyddynau. Dechreuwyd pregethu yno yn 1833, gan Ŵ. Richmond, E. B. Evans, a L. Williams; ac adeiladodd

 

 


(delwedd E0919) (tudalen 61)

(x075) (tudalen 61) Y SEFYDLIADAU CYMREIG YN PENNSYLVANIA.

yr Annibynwyr gapel bychan yno, yr hwn a losgwyd yn 1848; a chodasant yr ail gapel yn Spring Brook, yn 1869, gwerth $800, ac y mae ynddo eglwys fechan ffyddlon yn awr. Adeiladodd y T.C. eu capel yno yn 1835; a bu y diweddar weinidog ffyddlon, y Parch. John Davies, (T.C.) Blakeley, yn pregethu llawer yma, ac yn Hyde Park, ac yn Carbondale. Bu yr hen bregethwr nodedig, Thomas Thomas o Glynnedd, D.C., yn byw ar ei dyddyn yma am 16 o flyneddau, ac yn llafurus dros achos Iesu; ac yma y bu farw, ac y claddwyd ef. Yn 1869 dechreuodd y Bedyddwyr bregethu yma, mewn tai ac ysgoldai. Tad yr Parch. D. Daniel, Dundaff, Pa., oedd Morgan Daniel, a bu ef, a’i briod, a’i blant, yn noddwyr i’r achos Annibynol; ac y mae William Daniels, ei fab, yn byw yma eto. Ceir yn y sefydliad yn awr dros 36 o deuluoedd, ac yn agos i 200 o boblogaeth Gymreig. Y mae y personau canlynol yn aelodau ffyddlon gyda’r Annibynwyr, - William Edwards, David Elias, Jenkin Jones, David Jenkins, Morgan Pugh, Samuel Jones, Rees Matthews, Thomas Lewis, &c.; a chyda y T.C. - Evan Lewis, John W. Jones, Evan Evans, William Jones, David Nicholas, William Pembridge, Thomas Lewis, &c.; a chyda y Bedyddwyr, - James Lewis, William Richards, David Davies, &c., ac y mae William Bowen, William Brooks, a Griffith Laugher, ac ereill, yn dyddynwyr parchus yn yr ardal.

Y ffordd rwyddaf i gyrhaedd ardal Beachwood, neu Spring Brook, yw myned gyda y train o Scranton, ar y Delaware & Lackawanna, & Western R.R., hyd depot Moscow, 16 milldir o Scranton; ac oddiyno gyda cherbyd, neu ar draed. Y mae rhai Cymry yn byw yn agos i Moscow; ond y mae y capelau oddeutu 5 milldir oddiyno.

44. RUSHDALE, neu Gibsonville, Luzerne Co. - Saif y lle hwn ar lan y Lackawanna, yn agos i’r reilffordd, o fewn 6 milldir i Olyphant, a 4 milldir i Carbondale. Lle newydd bywiog ydyw, ac yn cael ei boblogi fwyaf gan y Gwyddelod; ond y mae yno lawer o Gymry parchus a chrefyddol, ac eglwys Annibynol Gymreig,


 

 


(delwedd E0920) (tudalen 62)

(x076) (tudalen 62) HANES CYMRY AMERICA.

er ys rhai blyneddau; a’r hen frawd ffyddlon, y Parch. Mr. Jenkins, yn pregethu iddynt; ac y mae amrai o’i feibion yn ddefnyddiol yno, yn yr eglwys, a chyda phob achos da arall. Charles Gibson, Ysw., o Philadelphia, yw perchenog y tiroedd; a John Jermyn, Ysw., yw y coal-operator llwyddianus, sydd yn meddianu ac yn rheoli y glofeydd yno. Mewn ysgoldy y mae y Cymry yn cadw eu cyfarfodydd hyd yma. Y Delaware & Hudson R.R. sydd yn rhedeg heibio y lle hwn o Scranton i Carbondale; ond nid oedd yno yn ddiweddar na Depot na Post Office; yr oedd yn rhaid myned ddwy filldir oddiyno i Archibald, i gael y rhai hyny. Gall fod yn Gibsonville yn awr dros 200 o boblogaeth Gymreig.

45. CARBONDALE, Luzerne Co. - Saif y dref hon ar lan y Lackawanna, yn ngogledd-barth sir Luzerne. Oddeutu 40 mlynedd yn ol, yn 1830, daeth Charles Jones, Ysw., yno, o Penycae, D.C. Nid oedd yno y pryd hyny ond un store, ac un dafarn, ac ychydig o dai bychain (shanties) Gwyddelig, ar Shatty Hill; ac un gwaith glo bychan ar lan yr afon; ac nid oeddynt yn codi o hono ond oddeutu 5 tunell y dydd, nac yn gallu enill ond cyflog bychan, o $13 i $20 y mis, a’u bwyd. Anfonent y glo i Honesdale, ac oddiyno ar y canal i New York. Daeth ychwaneg o Gymry yno yn 1831, a 1832, a 1835, o Sir Fynwy, D.C. Bu llawer o ymryson y pryd hyny rhwng y Cymry a’r Gwyddelod. Adeiladodd yr Annibynwyr eu capel cyntaf yma yn 1834, lle yr oedd enwadau ereill yn cydaddoli; a’r ail yn 1848, pan oedd yr eglwys yn lluosog; a pharhaodd felly hyd y fl. 1858. Bu y Parch. Lewis Williams yn ddefnyddiol ynddi am flyneddau lawer. Cododd y Bedyddwyr gapel yno yn 1837, lle bu y Parch. William Thomas, a’r Parch. Philip Davies, ac ereill, yn gweinidogaethu. Cododd y T.C. gapel yno yn 1849, a bu y Parch. John Daries, Blakeley, yn pregethu iddynt am lawer o flyneddau. Ond o’r fl. 1858 hyd 3868, rhedodd y glofeydd, a’r eglwysi, i lawr yn ddirfawr; bu y tair eglwys Gymreig yn isel iawn yno, a symudodd y Cymry i leoedd ereill; ond yn y tair blynedd diweddaf y


 

 


(delwedd E0921) (tudalen 63)

(x077) (tudalen 63) Y SEFYDLIADAU CYMREIG YN PENNSYLVANIA.

mae gweithfeydd, a masnach, ac eglwysi, Carbondale, wedi adfywio, ac y mae golwg obeithiol arnynt yn awr. Darganfyddwyd yno wythienau gwell drwy dirio yn ddyfnach; ceir cyflawnder mawr o’r glo goreu yno; a gwnaed rheilffyrdd newyddion i’w gludo ymaith. Tebygol yw y daw Carbondale yn lle pwysig a bywiog eto. Y mae ynddi yn awr lawer o adeiladau, a masnachdai, rhagorol; a dros ddeng mil o boblogaeth, o wahanol genhedloedd, Gwyddelod gan mwyaf. Gall fod yno yn awr oddeutu 800 o boblogaeth Gymreig; ac yn eu plith y mae llawer o bobl grefyddol a ffyddlon. Y mae rhai o’r hen sefydlwyr yn byw yno eto, megys Charles Jones, Ysw., ac ereill, ac yn bobl gyfoethog. Yn ddiweddar urddwyd y Parch. B. Evans yn weinidog ar yr eglwys Annibynol yno.

Yn 1854, adeiladodd y Wesleyaid Cymreig gapel bychan yno; bu ganddynt unwaith 35 o aelodau ynddo; a bu y Parch. David Williams, o Aberdare, yn pregethu iddynt am chwe’ blynedd. Ond methasant dalu ei ddyled; a gorfu iddynt ei werthu yn 1862, a gwnaed ef yn anedd-dai; ac ymunodd yr aelodau â’r Annibynwyr ac a’r Saeson.

Oddeutu 35 mlynedd yn ol, Carbondale, yn Luzerne Co., a Pottsville, yn Schuykill Co., oedd prif sefydliadau y mwnwyr Cymreig yn Pennsylvania. Mor wahanol ydyw yn awr! Mor ansefydlog yw y glofeydd!

46. DUNDAFF, neu Clifford, Susquehanna Co. - Un o’r siroedd mwyaf gogleddol yn Pa. yw Susquehanna, a chyffinia ar dalaeth New York; ac y mae reilffordd yn rhedeg drwyddi o Scranton i’r Great Bend, ac yn uno yno â’r New York & Erie R.R. Ar gornel isaf (de-ddwyrain) y sir y mae ardal amaethyddol Dundaff, neu Clifford, yn sefyil, o dan ac ar lethrau y bryn uchel a elwir Elk Hill, a thu draw ac oddeutu y Round Hill a glanau y Round Pond, hyd South Gibson. Nid yw ond oddeutu 12 milldir i’r gorllewin o Carbondale. Y tir sydd fryniog a choediog. Mr. Thomas Watkins, (mwnwr o Carbondale,) oedd y Cymro cyntaf a sefydlodd yno. Mai 10, 1833, prynodd 50 erw o dir coed, am $3 yr erw. Wedi hyny daeth David E. Thomas, David


 

 


(delwedd E0922) (tudalen 64)

(x078) (tudalen 64) HANES CYMRY AMERICA.

Edwards, William Jones, David J. Thomas, Secariah Jenkins, David Rees, Daniel Moses, David Anthony, Robert Ellis, ac ereill, i fyw yno. Wedi i’r Parch. Jenkin Jenkin ddyfod yno o New York, yn 1836, yr adeiladwyd y capel cyntaf, (A.) Daeth y Parch. Daniel Daniels yno yn 1850, a’r haf canlynol yr adeiladwyd yr ail gapel, ar y bryn hyfryd gerllaw y ty lle y dechreuasant bregethu gyntaf. Capel mawr a chryf ydoedd, ac y mae yn edrych yn dda eto. Y mae ynddo yn awr eglwys Annibynol gref a chyfoethog; a’r Parch. Daniel Daniels sydd yno eto yn weinidog synwyr-gall a defnyddiol; ac y mae yn byw yn gysurus ar ei dyddyn mawr ei hunan, gyda’i briod hawddgar, a’i blant lluosog. Y mae Mr. Henry Davies, un o ddiaconiaid yr eglwys, yn byw yn ei ymyl. Poblogir y lle yn awr gan . lawer o dyddynwyr parchus, megys David a Thomas Rees, John Morgan, Evan Jenkin, Samuel Owen, John a Thomas Reynolds, T. D. Rees, Isaac Morgan, M. Morgan, ac ereill. Y mae llawer o Gymry yn awr ar eu tyddynau yn Herrick Township, a rhai yn masnachu yn South Gibson, gerllaw yno; ac y mae dwy reilffordd yn awr yn gyfleus iddynt. Codant lawer o wair, ac yd, a ffrwythau, a magant lawer o anifeiliaid, a gwnant lawer o’r ymenyn goreu, a pheth caws. Tiroedd o $30 i $40 yr erw. Poblogaeth Gymreig oddeutu 400. Dundaff, neu South Gibson, yw eu Post Offices. Gellir myned yno drwy Carbondale, neu gyda y cars o Scranton.

47. GIBSON, Susquehanna Co. - Oddeutu dwy filldir i’r gorllewin o gapel y Cymry yn Clifford, neu Dundaff, ar lan afon fechan, yn y gwastadedd, y mae South Gibson; ac oddeutu 3 milltir oddiyno, ar y bryniau, y mae y Cymry wedi sefydlu ar eu tyddynau rhagorol, gerllaw pentref arall a elwir Gibson, Mae brodyr parchus a thalentog y Parch. D. Evans, (Trelech,) sef Thomas Evans, (yr athronydd,) a Daniel Evans, (y bardd,) a Lewis Evans, a’u rhieni; a Jenkyn Reynolds, Ysw., ac amrai o Gymry parchus ereill, wedi sefydlu yno, er ys llawer o flyneddau. Ond nid ydynt yn ddigon lluosog eto i sefydlu eglwys, ac i godi capel Cymreig. Buont


 

 


(delwedd E0923) (tudalen 65)

(x079) (tudalen 65) Y SEFYDLIADAU CYMREIG YN PENNSYLVANIA.

yn arfer myned i gapel Dundaff; ond yn awr cydaddolant â’r Americaniaid, mewn capel Presbyteraidd Saesnig sydd yn eu hardal. Y maent oll yn bobl grefyddol, ac yn. lioffi clywed pregethu Cymraeg, a darllen llyfrau Cymreig.

48. BRADFOBD CO., Pa. - Saif y sefydliad Cymreig amaethyddol hwn yn ngogleddbarth Pennsylvania, ar, a rhwng mân fryniau coediog, ar gyffiniau y ddwy sir a elwir Bradford a Susquehanna. Y sefydlwyr cyntaf oeddynt, Joseph Jenkins, Jenkin Jones, Edward Jones, John Edwards, a Thomas Jones, (oll wedi marw a’u claddu yn y fynwent yno,) a David Thomas, a Samuel Davies, sydd eto yn fyw yno. Dechreuasant sefydlu yno yn 1831. Clywais Mr. Thomas, a’r hen Gymro parchus Mr. Samuel Davies, yr hwn sydd yn awr yn 84 ml. oed, yn adrodd hanes eu dyfodiad yno, a’u helyntion a’u cyfyngderau, am lawer o flyneddau, wrth geiso byw yn nghanol y coedydd, a’r eira, ar ymborth gwael, heb ddimf arian! Prynid y tir y pryd hyny gan Mr. Mitchell, boneddwr o Philadelphia, am $3 yr erw. Ond nis gellir prynu tyddynau diwylliedig yno heddyw dan o $30 i $50 yr erw. Cynyddodd y sefydliad yn yspaid y 40 mlynedd diweddaf fel y mae yno yn awr oddeutu 60 o dyddynwyr Cymreig parchus, a’u tai a’u tiroedd yn wir werth dros ddau can’ mil o ddoleri ($218,350), heb son am eu heiddo personol mewn arian, ac aur, &c. Y mae y sefydliad yn awr wedi ymledu, nid yn unig yn Pike, ond hefyd i Warren a Middletown (townships). Y mae y personau canlynol yn trigianu yn Pike township, sef y Parch. Samuel A. Williams, Dr. William Roberts, William S. Davies, William J. Davies, Daniel Phillips, Philip Phillips, Mrs. Elizabeth Williams, Thomas Morris, Jenkin J. Williams, Rees Griffiths, Henry Jones, John Morris, James W. Jones, Edward Owens, Newton Humphreys, Philip Williams, Evan W. Davies, Thomas W. Evans, John D. Davies, Thomas J. Thomas, William Evans, Philip Davies, John Thomas, Morgan Thomas, Edward Jones. Ac yn Warren township, y personau canlynol, Evan Howell, Howell Howell, Evan H. Davies, David Davies, William


 

 


(delwedd E0924) (tudalen 66)

(x080) (tudalen 66) HANES CYMRY AMERICA.

Howell, Roger B. Howell, William Rider, Thomäs James, David J. Thomas, George L. Jones, Thomas F. Thomas, William Watkins, David E. Jones, Timothy Evans, a Samuel M. Williams. Ac yn Middletown township, y personau canlynol, Samuel Davies, David Thomas, Roger Phillips, Jenkin Jones, Parch. Thomas Thomas, James Jones, John D. Thomas, Thomas Williams, Thomas Owen, Thomas Jones, Thomas J. Jones, David E. Davies, Samuel P. Williams, John S. Davies, a Joseph Jones, ac ereill. Rhaid fod yn yr holl sefydliad dros 300 o boblogaeth Gymreig. Nid oes llawer o genhedloedd ereill yn gymysgedig â hwynt; ond y mae eu plant, gan mwyaf, yn hoffach o’r iaith Saesonaeg, a mwy manteisiol fyddai iddynt yn awr gael gweinidogaeth Saesnig. Nid yw y capel ond un hychan a gwael, a saif yn ymyl y fynwent, yn nghanol y sefydliad, ar y ffordd i Laraysville, pentref bychan o fewn dwy neu dair milldir oddiyno, lle y mae eu Post Office.

Bu y Parch. Daniel D. Jones yn gweinidogaethu yno am lawer o flyneddau, yn gymeradwy a defnyddiol. Claddwyd ef yn y fynwent wrth y capel. Y mae ei weddw wedi priodi y Dr. William Roberts, yr hwn sydd feddyg enwog yn y lle. Ganwyd ef ger Amlwch, Mon. Dechreuodd y gweinidog talentog, y Parch. Samuel A. Williams, weinidogaethu yno yn Ebrill, 1850, a bu yn dra chymeradwy a defnyddiol yno, nes y rhoddodd ei weinidogaeth i fyny yn wirfoddol, oblegid ei henaint a’i wendid, yn nechreu 1870. Y mae yn awr dros 80 ml. oed, ac y mae yr eglwys eto yn gofalu am ei gynhaliaeth gysurus, a bydd hyny yn anrhydedd iddynt. Diaconiaid - David Thomas, John S. Davies, Evan W. Davies. Ysgrifenydd - William S. Davies. Gallai yr eglwys hon yn hawdd godi capel newydd hardd, gwerth $6,000, ac y mae angen am dano. Ond o hyn allan rhaid pregethu mwy ynddo yn yr iaith Saesnaeg nag yn yr iaith Omeraeg. Bu son mawr unwaith fod y Parch. David Roberts, Camarvon, yn dyfod yno i’w bugeilio, ond ni ddaeth. Clywais fod y brawd ieuanc gobeithiol, Mr. Morris, wedi sefydlu yn eu plith, a’i fod ef yn alluog i bregethu yn Gymraeg a Saesonaeg. Annibynwyr gan mwyaf yw Cymry y sefydliad hwn: ond y mae yno rai


 

 


(delwedd E0925) (tudalen 67)

(x081) (tudalen 67) Y SEFYDLIADAU CYMREIG YN PENNSYLVANIA.

Bedyddwyr, a T.C. a Wesleyaid, a Presbyteriaid. Gweinidog defnyddiol gyda y Presbyteriaid Saesnig yw y Parch. Thomas Thomas, a brawd i’r diacon David Thomas. Y mae plant Cymry y sefydliad yma wedi cael addysg ragorol, a rhai o honynt yn ddysgawdwyr nodedig. Y mae Roger B. Howell, a John D. Thomas, yn enwog fel “Teachers of Vocal Music” Ac yn yr ardal hon y ganwyd ac y magwyd y Professor Evans, gynt o Marietta College, Ohio. Gellir myned i’r sefydliad trwy Montrose, neu Owego, neu Towanda.

49. Y mae tri o sefydliadau Cymreig eto (heb eu darlunio) yn nhalaeth Pennsylvania, sef Blossburgh, Morris Run, a Charlestown, yn TIOGA CO. Gweithiau glo sydd yn Blossburgh, a Morris Run, a gellir myned yno gyda y Branch R R. o Owego neu Elmira. Y sir nesaf at Bradford Co. yw Tioga Co. Y mae Blossburgh a Morris Run o fewn dwy filldir neu dair i’w gilydd, a Charlestown yn ardal amaethyddol o fewn deuddeg milldir iddynt, ond yn nes i Wellsborough. Dyma lley bu y Parch. John Davies, a’r Parch. Philip Peregrine, yn llafurio yn ffyddlon am flyneddau. Ac y mae yno yn awr dair o eglwysi Annibynol dan ofal y Parch. F. Teilo Evans, diweddar o Gymru, a llawer o swyddogion ac aelodau gweithgar ynddynt. Y mae Mr. Evans yn gysurus a llwyddianus yno. Adeiladasant gapelau newyddion yn ddiweddar yn Blossburgh a Morris Run.

TIROEDD AMAETHYDDOL PENNSYLYANIA.

Nid wyf yn deall fod dim o diroedd rhad y Llywodraeth i’w cael yn awr yn Pa. Y mae y tiroedd amaethyddol goreu yn y dyffrynoedd, ac mewn lleoedd ereill, wedi eu gwerthu a’u diwyllio; ac y mae y speculators cyfoethog, er ys blyneddau, wedi prynu y rhan fwyaf o’r tiroedd mynyddig a bryniog, lle y mae y mwnau glo a haiam. Nid oes yma yn awr un fantais i Gymry, na neb arall, i gael un math o diroedd rhad, neu am brisiau isel, fel y bu gynt; ac y mae y lotiau yn y prif drefydd yn uchelbris iawn.


 

 


(delwedd E0926) (tudalen 68)

(x082) (tudalen 68) HANES CYMRY AMERICA.

GWEITHFEYDD GLO PENNSYLYANIA.

Oddeutu 50 mlynedd yn ol y dechreuwyd agor y glofeydd yn Pa., pan nad oedd reilffyrdd na chamlasau i gludo y glo i New York, na Philadelphia. Bu Asa Packer (yr hwn sydd yn awr yn foneddwr anrhydeddus yn Mauch Chunk, Carbon Co., Pa., ac yn un o’r dynion cyfoethocaf yn y dalaeth), yn codi glo ei hunan, ac yn ei anfon o Mauch Chunk i Philadelphia ar gefn mulod dros gan’ milldir o ffordd! Yn yspaid yr haner can’ mlynedd diweddaf, agorwyd canoedd o lofeydd mawrion yn siroedd Carbon a Schuylkill, a Northumberland, a Luzerne, a manau ereill yn y dalaeth; ac y mae yn awr ganoedd o filoedd o fwnwyr, a llafurwyr, a chrefftwyr, yn gweithio ynddynt, a miliynau o dunelli bob blwyddyn yn cael eu hanfon i’r farchnad i ddinasoedd New York, Philadelphia, Baltimore, Boston, a manau ereill, gyda y reillfyrdd, a’r canals, a’r llongau. Glo careg - maenlo caled difflam (anthracite) yw y rhan fwyaf o’r glo a godir o du y dwyrain i fynyddau yr Alleghany; ac y mae y gwythienau yn amrywio mewn gwahanol fanau o 7 troedfedd i 30 troedfedd o drwch, a llawer o honynt yn gorwedd dan eu gilydd, ac mewn manau yn tori allan i’r bryniau; a gweithir hwynt yn dra gwahanol i’r dull y gweithir glo rhwym mewn gwythienau gwastad yn Nghymru ac yn America, ac y mae peryglon y mwnwyr yn llawer mwy ynddynt. Ond y mae llawer o’r maenlo yn Luzerne Co. a manau ereill yn gorwedd yn wastad yn nyfnder y ddaiair, a gweithir hwynt mewn dull gwahanol. Rhaid cael breakers mawrion a chostf awr i dori a glanhau y maenlo cyn y bydd yn addas i’w anfon i’r farchnad; a rhaid i bob breaker gael llawer o hen bobl a phlant i bigo y ceryg o’r glo - am hyny y mae yn anhawdd i neb heb lawer o filoedd o ddoleri i ddechreu, na dwyn yn mlaen waith glo mawr ym Pennsylvania. Gwir yw fod rhai wedi dechreu ar ychydig o arian, ac wedi gwerthu eu hawl yn y gwaith wedi hyny i ddynion cyfoethog, ac wedi elwa llawer mewn byr amser felly. Ond y mae rhan fwyaf o’r glofeydd yn Pa. yn cael eu meddianu a’u rheoli gan gymdeithasau (companies) lluosog o ddynion anturiaethus, a gorawyddus am wneyd arian - weithiau ar ddull stockholders; ac y mae llawer o’r rhai hyny wedi twyllo a lladd y gweiniaid, er mwyn i’r ychydig gael y rheolaeth a’r elw! Bu rhai yn euog o hyny. Ond y mae llawer hefyd o’r coal operators yn ddynion gonest, cywir, crefyddol ac anrhydeddus, ac yn dymuno gwneyd cyfiawnder a thegwch a’r gweithwyr. Ond glo rhwym (butuminous) gan mwyaf sydd yr ochr orllewinol i’r Alleghany, ac amrywia ei wythienau o 3 troedfedd i 7 troedfedd o drwch; ac nid oes eisiau ond ychydig o bylor i’w weithio, na breakers i’w ddryllio a’i lanhau. (Dyna yw natur y glo, a maint y gwythienau mewn manau yn Maryland, a Virginia, a Tennessee, a thalaethau y gorllewin).

Bu amser yn Pa. pan nad oedd y mwnwr yn gallu enill dros $20 y mis, a’i fwyd; a than lywyddiaeth Buchanan yn 1856,


 

 


(delwedd E0927) (tudalen 69)

(x083) (tudalen 69) Y SEFYDLIADAU CYMREIG YN PENNSYLVANIA.

&c, nid oedd yn gallu enill mwy na $1 y dydd! Ond yn amser yr rhyfel diweddaf, o herwydd y galwad mawr am y glo, a phrinder dynion i’w weithio, bu yn amser da iawn ar operators a glowyr Pennsylvania. Gwerthent y glo y pryd hyny yn New York am $14 y dunell! ac yr oedd llawer o’r mwnwyr yn gallu enlll $5 y dydd, a rhai ychwaneg o lawer. Ond wedi darfod y rhyfel ni welsant y fath amser, ac ni chawsant y fath gyflogau mwy. Achosodd llwyddiant y fasnach lo y pryd hyny i luoedd o ddynion anturiaethus i agor glofeydd newyddion lawer yn siroedd Schuykill a Luzerne, a manau ereill. A’r gwir yw fod yn awr ynddynt lawer gormod o lofeydd, a llawer gormod o fwnwyr, ac nas gallant gael gweithio yn gyson drwy holl fisoedd y flwyddyn, ac enill cyflogau da, heb orlenwi y farchnad. Tynai hyny bris y glo yn isel iawn. Lle byddo gormod o lo yn y farchnad, a gormod o weithwyr yn y glofeydd, nis gall yr operators na’r mwnwyr enill ond ychydig. Dyma yw yr achos o’r holl strikes a fu yma, a dyma a osododd reidrwydd am i Gymdeithas Haelionus y Gweithwyr i alw am y suspension hirfaith diweddar. Amcanant yn dda; ac er sefydliad y W.B.A. (The Workingmen’s Benevolent Association) y mae llawer mwy o heddwch a dyogelwch i bersonau a meddianau, yn sicr, yn siroedd Schuylkill, Carbon, a Luzerne. Y mae hyny yn anrhydedd i’r gwahanol genhedloedd perthynol i Gymdeithas neu Undeb y Mwnwyr; a dylai y tirfeddianwyr, a’r coal operators a’r contractors, a’r bosses, a’r railroad companies, ystyried hyny, a chefnogi mwy ar y gweithwyr, ac ymdrechu rhoddi iddynt gyflogau rhesymol am eu llafur caled a pheryglus, os gallant; ac ni ddylai blaenoriaid Undeb y gweithwyr gamarwain y bobl, drwy honi gormod o awdurdod, na cheisio cyflogau afresymol. Credwyf y dylai fod gwell dealltwriaeth rhwng y meistri a’r gweithwyr er cael gwaith, a chyflogau, a marchnad mwy sefydlog; a bod hyny yn ddichonadwy trwy ddoethineb a theimlad da o bob ochr; a gobeithir y cymer hyny le yn fuan trwy yr holl weithfeydd glo yn Pennsyivania. Ond credwyf fod masnach y glo yn y dalaeth hon wedi rhedeg i’w man uwchaf, ac na welir hi byth eto mor llwyddianus ag y bu, am fod gormod o bobl yn y glofeydd, a thalaethau ereill yn dechreu cystadlu a hi yn yr unrhyw fasnach. A chredwyrf hefyd y byddai yn llawer gwell i filoedd o’r mwnwyr Cymreig ac ereill ymfudo oddiyma i dalaethau y de a’r gorllewin, er enill eu bywioliaeth yn llawer mwy cysurus a heddychol, trwy lafurio eu tyddynau, neu weithio eu glo ar eu tiroedd eu hunain.

Y GWEITHFEYDD HAIARN YN PENNSYLVANIA.

Y mae Pennsylvania yn enwog am ei gweithfeydd haiarn hefyd. Ceir ynddi lawer iawn o rolling mills a blast furnaces mawrion, yn Easton, a Bethlehem, ac Allentown, a Catasauqua, a manau ereill ar lanau y Lehigh; ac yn Danville, a Pottsville, a Reading, a Harrisburgh, a Johnstown, a Pittsburgh. Mae


 

 


(delwedd E0928) (tudalen 70)

(x084) (tudalen 70) HANES CYMRY AMERICA.

cysylltiad pwysig rhyngddynt a masnach y glo; y mae aflwyddiant y naill yn achosi aflwyddiant y llall hefyd. Pur ansefydlog fu y naill a’r llall hyd yma; ac yn aml bu camddealltwriaeth annymunol rhwng y gweithwyr haiarn a’u meistri. Pan fyddo y fasnach haiam yn llwyddianus y mae y meistriaid yn elwa llawer, a’r gweithwyr yn enill cyflogau da; ond pan fyddo yn aflwyddianus, y mae sefyllfa pawb a fyddo yn dibynu arni yn dra anghysurus.

GWEITHFEYDD LLECHI PENNSYLVANIA.

Nid yw y cloddfeydd llechi (slate quarries) yn Pennsylvania ond bychain mewn rhifedi a maintioli - dim ond rhyw dyllau bychain mewn cymhariaeth i gloddfeydd mawrion Arfon a Meirion, yn Nghymru. Ond credwyf y darganfyddir cyn hir chwarelau llawer mwy yn y dalaeth hon (yn gystal ag mewn talaethau ereill, megys Vermont, Maine, Virginia., Tennessee, Minnesota), ac y bydd galwad mwy cyflcyffredinol am do-lechi, ac angen am fwy o chwarelwyr yma. Y mae oes y shingles (a wneir o goedydd) bron a darfod. Yn awr yw yr adeg i Gymry anturiaethus i chwilio am chwarelau llechi, ac i sicrhau eu tiroedd, ac i ddechreu eu gweithio yn llwyddianus yn y gwahanol dalaethau a nodais. Credwyf y gwelir mawr lwyddiant ar y fasnach slates yn fuan yn y wlad hon. O hyn allan bydd mwy o adeiladu tai bricks yn y dinasoedd mawrion, ac o ddefnyddio llechi i’w toi. Dyna yr amser y bydd angen yma am lawer o chwarelwyr o Gymru, ac y gallant gael cyflogau da, a gwaith sefydlog, heb reidrwydd am strikes; na dyoddef eisiau. Rhaid agor ychwaneg o chwarelau, a chael adfywiad ar fasnach y llechi, cyn y bydd angen am ychwaneg o chwarelwyr, a chyn y gallant hawlio y cyflogau a ddylent gael.


 

 


(delwedd E0929) (tudalen 71)

(x085) (tudalen 71)

PENNOD IV.

TALAETH NEW YORK.

Un o’r talaethau mwyaf yn yr Undeb yw talaeth Caerefrog Newydd; y mae ei harwyneb yn mesur, mewn rhai manau, 300 milldir o hyd wrth yn agos i 300 milldir o led, heb gymeryd i mewn y Long Island. Cynnwysa driugain o siroedd mawrion - saith a deugain mil o filldirau petryal - a thros bedair miliwn (4,364,411) o boblogaeth, o wahanol genhedloedd, yn 1870. Cyffinir hi o du y dwyrain gan dalaethau Connecticut, Massachusetts, a Vermont; o du y de gan New Jersey a Pennsylyania; o du y gogledd gan afon St. Lawrence a Llyn Ontario; ac o du y gorllewin gan Canada Uwchaf, Llyn Erie, a rhan fechau o Pa. Y mae ynddi amrai fryniau a mynyddau uchel, megys y Catskill Mountains, rhwng New York ac Albany; a llynoedd. grisialaidd, megys Oneida, Cayuga, Seneca, Canandaigua, Lakes; a choedwigoedd eangfaith, megys, “The Brown’s Tract,” yn siroedd Lewis, Herkimer, a Hamilton, &c. Ei phrif afonydd mewnol yw yr Hudson, a’r Mohawk, a’r Afon Ddu. Darganfyddwyd y “North River,” fel y gelwid hi gynt, gan Henry Hudson, Ysw., yn y fl. 1609, a galwyd hi wedi hyny ar ei enw ef, Afon Hudson; ac y mae yn fordwyol o New York i Albany a Troy, am dros gant a haner o filldirau; afon fawr, ddofn, a lludan ydyw, ac y mae llanw y môr yn cyrhaedd yn uchel iddi; gwelir ugeiniau o longau yn hwylio arni bob dydd; ac y mae amrai o’r agerddfadau mwyaf a harddaf yn dyrwygo ei dyfroedd ddydd a nos, yn oestadol, er cyfleusdra i fasnachwyr a theithwyr. Ceir golygfeydd ardderchog wrth deithio arnynt yn y


 

 


(delwedd E0930) (tudalen 72)

(x086) (tudalen 72) HANES CYMRY AMERICA.

nos, pan fyddo y lloer yn llawn; neu yn y dydd, pan fyddo y coedydd yn ddeiliog, a’r maesydd yn wyrddleision, a’r gerddi yn flodeuog. Nid yw y Mohawk a’r Afon Ddu yn fordwyol, ond mewn rhai manau; ond y mae eu dyfroedd yn werthfawr i gyflenwi yr “Erie Canal” yr hwn sydd yn rhedeg am ugeiniau o filldirau, trwy ganol y dalaeth o Albany i Buffalo, ac yn gyfleustra mawr i hyrwyddo masnach. Ceir canals bychain ereill yn y dalaeth, sef, un o Utica i Binghampton; ac o Rome i Boonville; ac o Troy i White Hall. Ei phrif reilffyrdd ydynt y rhai canlynol, “The Hudson River, R.R.,” sydd yn rhedeg o New York i Albany a Troy, gyda glanau afon Hudson; “The New Yorh Central R.R,” sydd yn rhedeg o Albany a Troy, trwy Utica a Rome, i Buffalo a’r Suspension Bridge, ger y Niagara Falls. Ac y mae ynddi amrai o reilffyrdd ereill, yn rhedeg ar draws y wlad, er cyfleusdra i fasnachwyr a theithwyr. (Gwel Hanes y Reilffyrdd.)

Gwlad lled fryniog a choediog yw y dalaeth hon; ac y mae y rhan fwyaf o’i thiroedd yn fwy cyfaddas i godi gwair a ffrwythau, ac i fagu anifeiliaid, ac i wneyd caws ac ymenyn, nac i godi gwenith, a grawn arall; ac y mae llawer o’i thiroedd yn rhy wael ac uchel i dalu am eu llafurio; ond y mae y coedydd yn werthfawr. Er hyny, y mae llawer o ddyffrynoedd a doldiroedd ffrwythlon, mewn rhai siroedd yn y dalaeth, lle y codir y gwenith goreu, a phob math arall o ydau a ffrwythaú, a hyny yn lled gynharol. Y mae y gauaf yn hir, yr hinsawdd yn oer, a’r eira yn ddwfn iawn, yn ei siroedd gogleddol; ac y mae yn wresog iawn yn misoedd yr haf. Ar y cyfan y mae yn dalaeth iachus, ac y mae ynddi helaethrwydd o ddyfroedd rhedegog, a ffynonau gloywlan, ac o bobpeth arall rheidiol er cynhaliaeth a dedwyddwch dynion. Ni ddarganfyddwyd ynddi eto


 

 


(delwedd E0931) (tudalen 73)

(x087) (tudalen 73) TALAETH NEW YORK.

ddim glo; ond y mae ynddi amrai o weithfeydd haiarn, plwm, calch, a chwarelau llechi. Ei phrif ddinasoedd ydynt New York, Brooklyn, Albany, Troy, Schenectady, Utica, Rome, Syracuse, Auburn, Rochester, Buffalo, Dunkirk, Salamanca, Elmira, Corning, Binghamton, Canastota, Oswego, Watertown; ac y mae yn amrai o honynt law-weithfeydd rhagorol. Yn Albany y mae ei Senedd-dai. Ceir ynddi hefyd bob darpariaeth at addysgu plant pawb yn ddiwahaniaeth, a llawer o athrofäau rhagorol, ac asylums ardderchog. Ond y mae y rhan fwyaf o’i thiroedd yn awr wedi eu meddianu, ac wedi eu diwyllio, ac yn uchel-bris iawn, yn enwedig yn ac oddeutu y trefydd mwyaf poblogaidd; ac ni cheir ynddi yn awr ddim o diroedd rhad y Llywodraeth; ond gellir prynu tiroedd lled dda, am brisiau cymedrol, o $20 i $50 yr erw, gan yr Yankees, mewn rhai manau gwledig, mewn amrai o’i siroedd. Ond y mae yn rhy ddiweddar i gael sefydliad Cymreig cryf yn un man o’r dalaeth hon yn awr; gwell fyddai i’r tyddynwyr Cymreig ymuno â’u gilydd, a myned yn mlaen, ar unwaith, i’r gorllewin neu i’r de.

Dechreuodd y Cymry ymfudo i, a sefydlu yn, nhalaeth Efrog Newydd, yn Utica a Steuben, Oneida Co., mor foreu a’r blyneddau 1795, a 1800; ac yn awr y maent wedi ymledu oddeutu yno, ac yn bobl luosog a dylanwadol yn siroedd Lewis, Herkimer, St. Lawrence, Madison, Otsego, a Cattaraugus. Dewisasant fryniau uchel ac oerion, a lled anffrwythlon, oddieithr rhai manau, er hyny, trwy eu llafur caled, a’u diwydrwydd, yn magu anifeiliaid, ac yn gwneyd ymenyn a chaws, y maent oll yn awr mewn bywioliaeth ddedwydd, a llawer o honynt yn bobl gyfoethog a haelionus; ac y maent yn enwog am eu heglwysi a’u gweinidogion Cymreig. O’r fl. 1800 hyd 1850, cynyddasant yn ddirfawr. Ymfudodd


 

 


(delwedd E0932) (tudalen 74)

(x088) (tudalen 74) HANES CYMRY AMERICA.

lluoedd o Gymry o Maldwyn, Arfon, Meirion, a Mon, a sefydlasant yn eu plith; dechreuasant sefydliadau newyddion, ffurfiasant eglwysi, codasant gapelau, urddasant winidogion, a llwyddasant yn ddirfawr. Ond yn yspaid yr 20 mlynedd diweddaf, darfu ymfudiad yno yn raddol; esgeuluswyd dysgu yr iaith Gymraeg i’r plant; cododd prisiau y tiroedd; symudodd llawer o’r bobl ieuainc i’r gorllewin, a bu feirw llawer o honynt yn y rhyfel diweddaf; a bu feirw hefyd lawer iawn o’r hen bobl fwyaf crefyddol a ffyddlon; fel, oblegid hyny, nad yw y Cymry na’r eglwysi Cymreig, yn Oneida Co., N.Y., mor lluosog ac mor flodeuog ag y buont; nid yw yn debygol y gwelir hwynt byth eto mor enwog a llwyddianus. Parhad ymfudiad o’r Hen Wlad, a pharhad yr iaith Gymraeg, yw bywyd a nerth y sefydliadau Cymreig yn America.

1. DINAS NEW YORK. - Dechreuwyd poblogi y lle hwn, gan yr Ellmyniaid, yn fuan ar ol y fl. 1609, pan ddarganfyddwyd y North River gan Henry Hudson, Ysw., yr hwn oedd Sais o genedl, ond y pryd hwnw yn ngwasanaeth morwrol y “Dutch East India Cornpany;” hwyliodd dros y Werydd, fel cadben ar y llong hwyliog a elwid “Half Moon” gan obeithio cael mynedfa trwy’r gogledd-orllewin i China. Ond ataliwyd ef gan rew, a hwyliodd tua’r de, a darganfyddodd afonydd y Delaware a’r Hudson, a manau ereill yn America. Ar hyny y sylfaenant yr Ellmyniaid eu hawl yn y wlad. Dechreuasant adeiladu eu tai bychain yn mhen isaf (cwr deheuol) Ynys Manhattan, yn agos i’r fan y mae Wall Street a’r Battery yn sefyll yn awr. Cynyddodd y lle. Masnachent â’r Indiaid. Galwasant y dref yn New Amsterdam. Bu Stuyyesant yn llywodraethu yn hir ac yn llwyddianus yno. Ond yn Medi, 1664, cymerwyd y ddinas gan Col. Nicholls, yn enw ac awdurdod Llywodraeth Lloegr, a galwyd hi o hyny allan yn New York, er anrhydedd i’r Duke of York, brawd Charles II., yr hwn a roddodd iddo lawer o diroedd yn America,


 

 


(delwedd E0933) (tudalen 75)

(x089) (tudalen 75) TALAETH NEW YORK.

gyda hawl i’w llywodraethu. O’r pryd hwnw hyd y Chwildroad (oddieithr am ychydig amser yn 1673 a 1674) bu New York dan lywodraeth Lloegr. Nid oedd ond lle bychan yn 1776, a 1812. Ond wedi hyny cynyddodd yn gyflym yn ei phoblogaeth, ei masnach, a’i dylanwad. Y mae yn awr yn un o brif ddinasoedd y byd, ac yn cynnwys yn agos i un miliwn o drigolion (942,252) ar Ynys Manhattan yn unig, heb son am ddinasoedd Brooklyn (396,200), a Jersey City (81,744), y rhai sydd dros yr afonydd, bron yn ei hymyl, ac yn uno â hi, mewn masnach, cydymdrech, a llwyddiant. Dyblwyd ei phoblogaeth, bron, yn yspaid yr ugain mlynedd diweddaf! ac y mae argoelion y gynydda yn ddirfawr yn y deng mlynedd nesaf. Y mae ei hadeiladau ardderchog, a’i heolydd llydain, a’i pharciau mawrion prydferth, bron a gorlenwi yr holl dir sydd ar Manhattan, o waelod y ddinas, ger y Battery, rhwng y ddwy afon, y North a’r East Rivers, heibio i’r Central Park, hyd dref Harlem, yn agos i 8 milldir o hyd wrth ddwy a thair milldir o led! a byddant yn fuan wedi llwyr gyflenwi yr holl Ynys, hyd ei therfyn gogleddol, sef Spuyten Duyvel Creek, yr hon sydd dros 10 milldir o waelod deheuol y ddinas, sef y Battery.

Oddeutu deugain mlynedd yn ol, nid oedd ond ychydig o dai wedi eu hadeiladu yr ochr ogleddol i Heol 14eg; a’r pryd hyny, ac am flyneddau wedi hyny, yr oedd y masnachdai, a’r anedd-dai, a’r eglwysi, a’r ysgoldai, a’r prif adeiladau, yr ochr ddeheuol iddi; ac yr oedd llawer o’r cyfoethogion y pryd hyny yn byw yn Henry St., ac East Broadway, a Bond St., &c. Nid oedd heolydd y ddinas y pryd hyny wedi eu gwneyd mor drefnus, na’r adeiladau mor ardderchog a thraulfawr. Yn yspaid y 30 mlynedd diweddaf y cynyddodd fwyaf; ac y mae tai a thiroedd (real estate) wedi dyblu a threblu yn eu gwerth er hyny, a’r ardrethi wedi codi yn ddirfawr. Yn awr, y mae yr Avenues (1, 2 3, 4, 5, 6, 7, 8, 9, 10, 11), yn rhedeg yn drefnus ac unionsyth, Heoi 14eg am lawer o filldirau, at, ac heibio y Central Park, hyd Harlem, a’r New York Lunatic Asylum, a’r street cars yn rhedeg ar lawer o honynt, ddydd a nos, yn wastadol; a gall unrhyw ddyn gael ei gludo ynddynt


 

 


(delwedd E0934) (tudalen 76)

(x090) (tudalen 76) HANES CYMRY AMERICA.

o waelod y ddinas - oddiwrth y Battery, neu y City Hall, a manau ereill, am o neu 10 cent, yr holl ffordd hyd at y Central Park, a Harlem, &c. Y mae yr avenues yn rhedeg o’r de i’r gogledd, a Broadway, a’r Bowery, &c., yr un modd. Ond y mae yr heolydd (o 14th St.) yn rhedeg o’r dwyrain i’r gorllewin, o’r North River i’r East River, yn drefnus a rheolaidd, ac yn rhifo yn awr 148 street, ger Carmansville, a’r High Bridgeville! ac yn ddiweddar dechreuwyd rhedeg street cars ar amrai o’r heolydd hyny, er cyfleusdra i deithwyr a gweithwyr i fyned o afon i afon, a’u croesi yn y ferry boats, a thirio yn Brooklyn, Williamsburgh, Greenpoint, Astoria, Hoboken, Jersey City, &c. Y mae Broadway yn un o’r heolydd harddaf a welais erioed - yn rhedeg yn unionsyth o’r City Hall (a bron o’r Battery) hyd at l0th St., a bron hyd Union Place, am yn agos i ddwy filldir o ffordd! ac y mae yn rhedeg o Union Place, ar draws yr avenues ereill, i’r gogledd-orllewin, heibio Bloomingdale, tu draw i’r New York Lunatic Asylum. Y mae masnachdai (retail stores) ar y rhan fwyaf o’r avenues a nodwyd, yn awr; ond y rhan fwyaf o’r prif fasnachdai (wholesale stores) y tu deheuol i Heol 14eg; a’r boneddigion cyfoethog wedi symud oddiyno, ac adeiladu eu palasdai ar y 5th Avenue, a Madison, a Lexington Avenues, a 34th St., ac yn uwch i fyny, hyd at, oddeutu, a thu draw i’r Central Park; ac y mae y rhan fwyaf o’u heglwysi costfawr wedi eu symud yn agos atynt. Gadawsant y miloedd sydd yn byw yn ngwaelod y ddinas i ofal ychydig o eglwysi efengylaidd tylodion (gydag ychydig eithriadau), ac i gydymdrech egniol ychydig o weinidogion hunanymwadol a ffyddlon, ac i lawer o city missionaries tra llafurus, y rhai a gynorthwyant yn dra haelionus. A ydyw hyn yn iawn, ac yn Gristionogol? Ffaith ydyw, fod gwaelod dinas odidog New York, yn awr, yn fwy llawn o eglwysi Pabyddol, a chwareudai, a saloons, a thafarndai, a phuteindai, nag y bu erioed, a bod mawr angen am ddiwygiad Cristionogol nerthol, er sobri, moesoli, addysgu, ac achub eneidiau y miloedd sydd yn rhedeg tua dinystr tragywyddol. Prif adeiladau cyhoeddus y ddinas yw y Bible


 

 


(delwedd E0935) (tudalen 77)

 (x091) (tudalen 77) TALAETH NEW YORK.

House, yr Academy of Music, y City Hall, y Custom House, a’r Sub-Treasury, a’r Exchange, a’r Castle Gardens, a’r gwahanol lyfrgelloedd, a’r book-stores, a’r chwareudai, a’r ariandai, a’r swyddfäau, a’r asylums, a’r eglwysi, ardderchog, sydd ynddi . Y mae Wall Street yn heol nodedig am ei haur, a’i harian, a’i phres, a’i phapyrau, ac am.ei byrddau cyfnewid, a’i speculators, gan y rhai y bu, ac y mae gallu i effeithio ar fasnach yr holl wlad, a’r byd! Gall y llongau, a’r agerddlongau mwyaf ddyfod iddi o holl borthladdau y ddaiar, ar For y Werydd, oddeutu y Long Island, trwy y Narrows, rhwng y Staten Island a’r Long Island, neu trwy y Long Island Sound, a thrwy Hellgate. Gwelir canoedd o longau, mawrion a mân, yn dyfod iddi, ac ac yn myned allan o honi, bob wythnos; ac y mae ei phorthladd yn un cyfieus a dyogel bob amser o’r flwyddyn. Bob ochr i’r ddinas, ar y ddwy afon, y mae piers coediog mawrion, wedi eu gwneyd, o waelod y ddinas hyd 23rd St., a thewfrithir hwynt yn wastadol gan longau. Ond nid ydynt mor gyfleus a chedyrn a’r Docks sydd yn Liverpool. Gwelir llawer o longau hefyd yr ochr arall i’r afonydd, yn Brooklyn, Williamsburgh, Greenpoint, Jersey City, a Hoboken, y rhai sydd ddinasoedd poblogaidd yn ymyl New York. Gall teithwyr ac ymfudwyr gael cyfleusderau yma i fyned i, a dychwelyd o bob man o’r byd, am brisiau rhesymol. Credwyf fod yn y ddinas hon dros ddau gan’ mil o Brotestaniaid Efengylaidd, a bod yn eu plith lawer iawn o’r bobl fwyaf crefyddol a haelionus - cefnogwyr yr holl gymdeithasau crefyddol, a phob achos da arall. Ac y mae yn eu plith hefyd lawer o weinidogion efengylaidd talentog, megys Dr. Thompson, Dr. Tyng, Dr. Adams, Dr. Phillips, Dr. Hall, Henry Ward Beecher, De Witt Talmadge; a’r Cymry enwog sydd yn pregethu i’r Saeson yno, sef y Dr. Williams, Alfred Harris, Fred. Evans, a Philip Davies. Ond beth yw barnau ac ymddygiadau y gweddill (dros 700,000) o breswylwyr y ddinas? Bernwch chwi. Rhaid fod yma faes cenhadol mawr a phwysig. O, pa bryd y daw dinasoedd mawrion y ddaiar yn eiddo ein Harglwydd ni a’i Grist Ef! Po byddai holl boblogaeth New York yn fwy pur ac ysgrythyrol


 

 


(delwedd E0936) (tudalen 78)

(x092) (tudalen 78) HANES CYMRY AMERICA.

yn eu masnach, a’u gwleidyddiaeth, a’u crefydd, mor ddirfawr a llesol a fyddai eu dylanwad ar yr holl dalaethau, a’r byd!

Yr oedd rhai Cymry yn byw yn New York mor foreu a’r fl. 1795, a dechreuwyd pregethu Cymraeg yno yn fuan ar ol hyny, gan Mr. John Williams (B.), tad y Parch. Dr. Williams, Amity St. Church; a chan y Parch. Howell E. Powell (T.C.) Bu y gwahanol enwadau Cymreig yn cydaddoli mewn gwahanol ystafelloedd. Codasant addoldy newydd; ond wedi ymadawiad Mr. Powell, gorfu iddynt ei werthu er talu ei ddyled. Yn y flwyddyn 1813, daeth y Parch. Daniel Morris i’r ddinas; casglodd y Cymry yn nghyd; ail ddechreuodd yr achos, a llafuriodd yno am dair blynedd. Yn mhen dwy flynedd wedi hyny, daeth y Parch. Evan Roberts atynt, ac arosodd gyda hwynt un flwyddyn. Yn nesaf daeth y Parch. Benjamin Powell, o Utica, yno, ac a fu gyda hwynt dair blynedd. Wedi hyny, oddeutu y fl. 1822, daeth y Parch. James Davies, o Ohio (gynt Aberhaves, Maldwyn, G.C.) yno, a bu yn llafurio yno am naw mlynedd yn llwyddianus - addolent gyda’u gilydd y pryd hyny mewn ysgoldy ar Mulberry St. Yn y fl. 1825, daeth y Parch. Shadrach Davies (A.), gynt o’r Maindy, Morganwg, D.C., yno, a bu yn cydlafurio â Mr. James Davies am beth amser. Yn fuan ar ol hyny ymranodd yr eglwys gymysgedig; dechreuwyd achos y T.C. yn y ddinas, a bu Shadrach Davies yn gweinidogaethu iddynt am ychydig amser. Dyna ddechreuad eglwys y Trefnyddion Calfinaidd yn New York. Wedi hyny prynasant dy yn Allen St., a gwnaethant ef yn gapel da, lle y bu y Parch. William Rowlands, D.D., y pregethwr enwog, a’r llenor medrus, yn gweinidogaethu yn llwyddianus am lawer o flyneddau, a lle y cafodd lawer o brofedigaethau chwerwon oblegid ymbleidiaeth a difriaeth rhai dynion ymrysongar. Ymadawodd i Rome. Wedi hyny daeth y Parch. William Roberts (gynt o Runcorn, Lloegr), i weinidogaethu iddynt; codasant gapel newydd rhagorol ar 13th St., rhwng y 2nd a’r 3rd Avenues - gwerth dros $25,000 - a bu Mr. Roberts yn dra llwyddianus i dalu ei holl ddyled. Ymadawodd ef oddiyno i Bellevue,


 

 


(delwedd E0937) (tudalen 79)

(x093) (tudalen 79) TALAETH NEW YORK.

Luzerne Co., Pa., yn y fl. 1869. Yn nechreu y fl. 1871, cymerodd y Parch. Howell Powell, o Cincinnati, Ohio, eu gofal, ac y mae ganddo eglwys a chynulleidfa gref, ffyddlon, a haelionus, dan ei ofal yno yn awr. Dymunwyf ei fawr lwyddiant.

Parhaodd yr Annibynwyr Cymreig i addoli yn ysgoldy Mulberry St., o dan weinidogaeth y Parch. James Davies, hyd ei ymadawiad yn 1831. Wedi hyny pregethodd y Parch. John B. Cook iddynt am un flwyddyn. Yn 1832, cymerodd y Parch. Jentin Jenkins ofal yr eglwys. Bu yno am rai blyneddau. Yn ei amser ef, yn 1833, ymunasant â’r Presbyteriaid Saesnig, er mwyn cael cynorthwy i gynal y weinidogaeth. Dyna yw enw yr eglwys yn ei Charter a’i Deeds eto. Prynasasnt gapel ar heol Broome, lle y buont yn llwyddianus. Yn 1836 cymerodd y Parch. Jonathan J. Jones eu gofal, a bu yn dra defnyddiol yn eu plith hyd y fl. 1847, pan y rhoddodd ei ofal gweinidogaethol i fyny. Wedi hyny gwerthasant yr hen gapel yn Broome St., a chodasant gapel bricks nodedig gyfleus a hardd, 65 wrth 36 tr. Costiodd y ddwy lot $4,500, a’r adeilad a’r adgyweiriad dros $10,500 - cyfanswm, $15,000. Gwnaeth yr eglwys a’r gynulleidfa ymdrechion nodedig i ostwng y ddyled i $5,000. Yn 1849 bu y Parch. John Morgan Thomas yn llafurio am oddeutu blwyddyn iddynt. Aeth yn ol i Gymru. Bu yr eglwys am dair blynedd wedi hyny yn byw ar supplies o Oneida Co., a Pa. Yn 1853 urddwyd y brawd Griffith Griffiths (gynt o Ffestiniog, G.C.), myfyriwr o Goleg Hackney, Llundain, yn weinidog iddynt. Bu yn fugail ffyddlon iddynt am rai blyneddau; ond nid allodd gasglu ond ychydig at dalu dyled y capel. Ymadawodd yn nechreu y fl. 1857. Yn mis Hydref y flwyddyn hono y dechreuodd ysgrifenydd y llinellau hyn ar ei weinidogaeth yno, a gwelodd lawr lwyddiant ar yr eglwys yno. Trwy ei gydymdrech ef a’r eglwys a’r gynulleidfa, a thrwy gynorthwy haelionus boneddigion Saesnig y ddinas, llwyr dalwyd y gweddill dyled o $5,000, yn nghyd a holl draul adgyweiriad ac arliwiad y capel erbyn Mai, 1869. Ond wedi hyny, oblegid ymrysonau a chableddau ychydig o bersonau, yn cael eu cefnogi gan rai gweinidogion, cafodd yr eglwys a’r gweinidog


 

 


(delwedd E0938) (tudalen 80)

 (x094) (tudalen 80) HANES CYMRY AMERICA.

ddirfawr gam, a gofidiau lawer. Camarweiniwyd llawer, ac ataliwyd llwyddiant yr eglwys. Ymadawodd y gweinidog yn Tachwedd, 1864, gyda chymeradwyaeth ei eglwys ffyddlon, a sefydlodd yn Mahanoy City, Pa. Wedi hyny bu y Parch. Evan Griffiths (gynt o Lanegryn), yn eu bugeilio o Tachwedd, 1864, hyd ddiwedd y fl. 1869. Ar ei ol ef y daeth y Parch. William B. Roberts (gynt o Bethesda, Arfon, G.C.), i weinidogaethu iddynt, ac y mae ganddo yno eto eglwys a chynulleidfia fechan nodedig ffyddlon a haelionus. Dymunwyf iddo, ef a’i eglwys heddwch. undeb, a mawr lwyddiant. Yn Medi, 1871, ymadawodd Mr. Roberts i Cattaraugus, N. Y. Saif addoldy yr A. ar 11th St., rhwng 2d & 3d Avenues. Adeiladodd y Bedyddwyr Cymreig gapel da yn Christie St., a bu ganddynt eglwys a chynulleidfa dda yno am lawer o flyneddau, a bu amrai o weinidogion talentog yn gweinidogaethn iddynt, sef y Parch. Theophilus Jones, y diweddar Barch. Mr. Davies, a’r Parch. Mr. Bowen, ac ereill. Ond ni phregethir Cymraeg yno yn awr ond yn achlysurol.

Bu gan y Trefnyddion Wesleyaidd Cymreig hefyd eglwys a chynulleidfa dda, am flyneddau, yn y Mission Rooms, yn Mulberry Street, lle y bu y Parchedigion Thomas Thomas, a John Ellis, yn gweinidogaethu yn llwyddianus; ond oblegid anffyddlondeb ac ymrysonau, llwyr ddarfu yr achos yno oddeutu y flwyddyn 1863.

Bernir fod yn “ninas New York, a’r cylchoedd, o saith i naw mil o Gymry, a’u disgynyddion, y rhai ydynt yn troi mewn cylchoedd masnachol a llaw-weithfeydd.” (Gwel “ Hyfforddwr yr Ymfudwr,” gan John. W. Jones, Ysw., t.d. 89). Diau fod. Ond nid wyf yn credu fod haner y nifer hyny yn gallu siarad yr iaith Gymraeg, nac un ran o naw o honynt yn arfer gwrando yr efengyl yn y capelau Cymreig, nac yn gofalu dim am yr eglwysi Cymreig, na llenyddiaeth eu cenedl. Pe buasai llai o ymrysonau, ac o ysbryd sectol, wedi bod yn mhob un o’r eglwysi Cymreig yn y ddinas, a mwy o gydymdrech gwir efengylaidd er llesoli ein cydgenedl yno, buasai golwg llawer mwy llewyrchus arnynt yn awr. Er fod lluoedd o Gymry parchus wedi ymuno â’r eglwysi Saesnig yn New York, Brooklyn, a


 

 


(delwedd E0939) (tudalen 81)

(x095) (tudalen 81) TALAETH NEW YORK.

Jersey, ac yn aelodau ffyddlon a chyfrifol yn eu plith; er hyny ffaith anwadadwy yw, fod yno eto Faes Cenhadol Cymreig mawr a phwysig; ac y dylai gael ystyriaeth ddifrifol Cymry crefyddol a chenedlgarol y dinasoedd hyny.

Sefydlodd Cymry parchus New York dair o Gymdeithasau Cymreig Elusengarol a Chynorthwyol, - “The St. David Benevolent Society,” “The Ancient Britons’ Benefit Society,” &c, Gwnaethant lawer o les i’n cenedl. Cefnogwyd hwynt gan Gymry parchusaf y ddinas, ac y maent yn flodeuog eto. Flyneddau yn ol, yn amser Gwilym Fardd, Ioan Machno, Lewis Davies, Gwilym ap Ioan, Bardd y Bowery, Robert Richards, Dic Sir Fon, ac ereill, cefnogent lenyddiaeth a barddoniaeth Gymreig, a chynaliasant amrai o gyfarfodydd llenyddol, a rhoddasant amrai o wobrwyon i’r cystadleuwyr buddugol. Ond nid wyf yn gwybod fod un Eisteddfod Genedlaethol wedi cael ei chynal yn New York erioed. Mor hawdd y gallasent ei chynal. Cawsent ddigon o gefnogaeth. Da genyf ddeall fod Cymdeithas Lenyddol wedi cael ei sefydlu yno yn ddiweddar, dan arweiniad Hugh J. Hughes, Ysw., ac ereill. Llwyddiant iddynt. Y mae llawer iawn o Gymry cyfoethog yn New York, a Brooklyn, a Jersey, megys William Miles, Owen Jones, Lewis Thomas, Thomas Thomas, Thomas Davies, Bennett Williams, John Davies, Daniel L. Jones, Cadwaladr Richards, Hugh Roberts, Griffith Roberts, Evan Jones, David Owen, John Williams, John Bowen, Robert Rogers, Thomas Thomas, Hugh Lewis, Evan Thomas, a lluoedd ereill. Cyrhaeddasant eu sefyllfaoedd parchus, trwy eu sobrwydd a’u diwydrwydd, a bendith y nef. Y mae amrai o’n cydgenedl yno hefyd mewn swyddi enillfawr ac anrhydeddus. Pe byddai holl Gymry parchus y dinasoedd hyn yn penderfynu ymuno â’u gilydd, gallent godi yr eglwysi a llenyddiaeth Gymreig yno eto i fywyd, a nerth, ac anrhydedd anfarwol; a byddai hyny yn enw tragyfyth iddynt.

2. ALBANY, Albany Co., N.Y. - Saif ar yr ochr orllewinol i afon Hudson, oddeutu 150 milldir o New


 

 


(delwedd E0940) (tudalen 82)

(x096) (tudalen 82) HANES CYMRY AMERICA.

York; oddeutu 6 m. o Troy, a 15 m. o Schenectady. Hi yw prif ddinas y dalaeth. Ynddi y mae y Senedd-dy. Yn 1870, yr oedd ei phoblogaeth yn agos i saith deg o filoedd (69,422). Y mae ynddi lawer o eglwysi, ac o adeiladau, ardderchog, ac o law-weithfeydd. Bu yno, a dichon fod yno eto, lawer o Gymry yn byw, a rhai o honynt yn gyfoethog, ac mewn swyddi urddasol. Ond nid wyf yn deall fod un eglwys Gymreig erioed wedi cael ei sefydlu yno; clywais fod pregethu Cymraeg achlysurol wedi bod yno flyneddau yn ol.

3. UTICA, Oneida Co., N, Y. - Un o’r trefydd mwyaf a phrydferthaf yn swydd Oneida yw hon. Gorwedda ar ochr ddeheuol dyffryn hardd, ac afon fechan ddolenog y Mohawk, oddeutu 94 milldir i’r gorllewin o Albany, a 240 milldir o New York, a 200 milldir i’r dwyrain o Buffalo. Dichon fod ynddi yn awr dros dri deg o filoedd (30,000) o boblogaeth, o wahanol genhedloedd; ac yn agos i dair mil (3,000) o Gymry, Ymleda y ddinas i East a West Utica, ac ymgyfyd jm raddol i’r bryniau. Y mae ynddi lawer o heolydd llydain, ac o fasnachdai rhagorol, ac o eglwysi mawrion, ac o balasdai gwychion. Ceir ynddi hefyd amrai o law-weithfeydd, ac un neu ddwy o gotton factories mawrion. Gerllaw iddi y mae y Lunatic Asylum. Y mae ynddi hefyd ysgolion dyddiol rhagorol; ac yn Clinton, o fewn 9 milldir oddiyno, y mae Hamilton College. Y mae yr Erie Canal, a’r New York Central R.R., yn myned trwy Utica; ac y mae dwy reilffordd arall yn awr yn gyfleus i fyned oddiyno i’r gogledd ac i’r de. Ymddegys mai Cymry a brynasant diroedd, ac a breswyliasant, gyntaf, oddeutu Port Schuyler, lle saif Utica yn awr,) sef Charles Williams, Paul Richards, a Levi Stephens, a hyny cyn y Chwildroad, yn 1776. Daeth William P. Jones, a Griffith Rowland, ac amrai ereill, yno yn 1795, a Richard Francis, o Sir Benfro, yn 1797, a John Adams, ac Edward Baldwin, yn 1800. Nid oedd y pryd hyny ond ychydig dai (log-houses) ar heol Whitesboro, ac ar Main St., lle y saif y Bagg’s Hotel yn awr. Cymerai lawer o amser a thrafferth i’r hen ymfudwyr i ddyfod yno o Philadelphia a “New


 

 


(delwedd E0941) (tudalen 83)

(x097) (tudalen 83) TALAETH NEW YORK.

York; deuent mewn llongau hwyliog bychain o Efrog Newydd ar afon Hudson i Albany; ac oddiyno dros y tir i Schenectady; ac oddiyno ar draed, neu mewn llusg-fadau ar afon y Mohawk. Nid oedd y pryd hyny un math o dy addoliad nac un gymdeithas eglwysig yn y lle, gan Gymry na Saeson.

Y Bedyddwyr CYMREIG a ffurfiasant yr eglwys gyntaf yno, yn nhy John Williams, yn agos i’r Asylum, Medi 12, 1801. Yn eu mysg ar y pryd yr oedd yr henuriaid, y Parchn. James Harris a John Stevens, y rhai a weithredent fel eu gweinidogion. Yr oedd 22 o bersonau yn bresenol. Yn 1806 adeiladasant dy addoliad ar heol Hotel, ac etholasant Abraham Williams, James Morgan, a William Francis, yn ymddiriedolwyr. Oblegid gwneuthuriad y gamlas (canal), symudasant y capel bychan hwnw i heol Broadway, sef y fan y mae eu ty addoliad hardd presenol yn sefyll arno. Llwyddasant. Bu y gweinidogion canlynol yn eu gwasanaethu: Abraham Williams, John Stevens, David Griffith, Joseph Richards, David Michael, William H. Thomas, Wm. Phillips, David Phillips, Hugh Hughes, David Jenkins, Morris J. Williams, John Edred Jones. Y maent yn awr heb un bugail.

Yr Eglwys GYNULLEIDFAOL Gymreig a ffurfwyd yno Ionawr 1, 1802, gyda 14 o aelodau. Cynaliasant eu cyfarfodydd mewn tai anedd hyd y fl. 1804. Yn y flwyddyn hono yr adeiladasant eu capel cyntaf ar gongl heolydd Whitesboro a Washington. Adeiladwyd y capel bricks yn yr un lle yn 1834, a gwerthwyd ef i gadw Public School yn 1870. Capel rhagorol ydoedd, digon i gynnwys o bump i chwe’ chant o wrandawyr. Cynhaliwyd yno lawer iawn o gyfarfodydd a chymanfaoedd bendithiol, a gwelwyd ynddo lwyddiant mawr. Y gweinidog cyntaf ar yr eglwys hon oedd y Parch. Daniel Morris, yr hwn a ddaeth yno o Philadelphia yn Tachwedd, 1802. Ar ei ol ef y bu y Parch. Wm. G. Pierce, o Steuben, yn dyfod atynt yn fisol; a bu y brodyr Rowland Griffith, a John Roberts, yn ei gvnorthwyo. Yna y Parch. Howell R. Powell am amser byr. Wedi hyny bu y Parch. Benjamin Powell yn gweinidogaethu iddynt am dair blynedd. Dechreuodd y Parch. Robert Everett, D.D. (gynt o Ddinbych, G.C.), weinidogaethu yma yn 1823, a bu yn llafurus a defnyddiol yma am ddeuddeng mlynedd. Wedi hyny bu y Parch. James Griffiths (o Sir Gaerfyrddin, D.C), yn weithgar a llwyddianus yma am un-ar-bymtheg o flyneddau. Cafodd lawer o ofid, ac ymadawodd i Cattaraugus. Ar ei ol ef bu y Parch. Evan Griffiths (gynt Llanegryn, G.C.), yp. ymdrechgar yma am chwe’ blynedd, a’r Parch. David Price (Dinorwig) a fu yn dra phoblogaidd yma o Mai, 1857, hyd ddiwedd y flwyddyn 1864. Ar ei ol ef daeth y Parch. Griffith Griffiths yma, a bu yn llwyddianus am amrai flyneddau.


 

 


(delwedd E0942) (tudalen 84)

(x098) (tudalen 84) HANES CYMRY AMERICA.

Yn Mai, 1867, dechreuodd y Parch. Rhys Gwesyn Jones ar ei weinidogaeth yma, lle y mae eto yn gysurus a defnyddiol. Yn haf y flwyddyn 1860, ymunodd y ddwy eglwys Gynulleidfaol Gymreig a’u gilydd. Y maent yn awr yn addoli yn eu capel ar Columbia St., yr hwn a werthasant; ac y mae ganddynt yn awr mewn llaw oddeutu $8,000 (gwerth y ddau gapel) at godi capel newydd mawr a phrydferth, yn nghanol y ddinas, a bydd holl draul ei adeiladiad o $16,000 i $20,000. Y mae gweinidog enwog, ac eglwys ffyddlon yr Annibynwyr yn Utica yn deilwng o’r fath addoldy. Gobeithio na bydd casglu yr arian i dalu ei ddyled byth yn brofedigaeth danllyd iddynt. Y mae yno eglwys gref, 250 o aelodau; ac Ysgol Sabbothol dda (120), a chynulleidfa luosog - dichon o 500 i 600. “Mewn undeb y mae nerth.” Gallant wneyd pethau mawrion. Y mae llawer o’i haelodau a’i swyddogion yn ddynion duwiol, doeth, gweithgar, a haelionus. Diaconiaid - Richard Jones, Henry D. Foulkes, Rowland Williams, O. Roberts, ac Ellis Thomas.

Eglwys y Trefnyddion CALFIrNAlDD. - Bu rhai o’r T.C. mewn undeb a’r eglwys Gynulleidfaol yn Utica hyd fis Chwefror, 1830, pan y ffurfiasant eu hunain yn eglwys Drefnyddol Galfinaidd; ac ar yr 20fed o’r un mis derbyniwyd hwy i undeb a’r enwad hwnw, mewn Cyfarfod Chwarterol a gynhaliwyd yn Remsen. Eu swyddogion cyntaf oeddynt Evan Roberts a Robert J. Jones. Y pregethwyr cyntaf a fu yn gweini iddynt oedd y Parchn. Benjamin Davies, Wm. T. Williams, a David Stevens; wedi hyny y rhai canlynol: Morris Davies, Morris Roberts, William Rowlands, Enoch Samuel, David Lewis, Thomas Foulkes, William Hughes, ac Ebenezer T. Jones. Dechreuodd y Parch. James Jarrett weinidogaethu yn eu plith yn Awst, 1870, ac efe yw eu gweinidog presenol. Adeiladasant gapel bricks rhagorol, 35 tr. wrth 60 tr., ar Seneca St. Dim dyled arno yn awr. Aelodau, 230: Ysg. Sab., 140; cynulleidfa, tua 450. Diaconiaid - Richard Roberts, Hugh Davies, David Anthony, a Robert E. Roberts. Ysgrifenydd- - Robert E. Roberts. Trysorydd - David E. Richards. Pregethwyr cynorthwyol - Parch. Thomas Jenkins, Wm. A. Jones, a Thomas Thomas.

Y TREFNYDDION ESGOBAWL (Wesleyaidd) a ffurfiasant Genadaeth Gymreig yn ninas Utica Gorphenaf, 1840. Cyfarfyddent mewn goruwch-ystafell ar y cyntaf; ond yn Mai, 1850, prynasant ddarn o dir, ar yr hwn yr oedd ysgoldy, ar heol Washington, a gwnaed yno gapel bychan cyfleus. Yn 1858 adgyweiriwyd y capel, 28 tr. wrth 44 tr. Traul y capel a’r tir yw $2,500. Dim dyled arno yn awr. Bu y Parchn. Rees Davies, Thomas Hughes, a John Jones, yn gweinidogaethu yno hyd y fl. 1854, pryd y cymerwyd gofal yr eglwys gan y Parch. R. L. Herbert. Bu ef yn weinidog parchus a llwyddianus yno o Ion. 1, 1854 hyd Ion. 30, 1860, pan y symudodd i Fairhaven, Vermont. Ar ei ol ef y bu y gweinidogion parchus canlynol


 

 


(delwedd E0943) (tudalen 85)

(x099) (tudalen 85) TALAETH NEW YORK.

yn llafario yno - Thomas Thomas, Humphrey Humpnreys, D. T. Davies, ac Isaac Thomas, yr hwn a roddodd ofal yr eglwys i fyny yn Mai, 1871. Y mae yno eglwys fechan ffyddlon eto. Aelodau, 60; Ysg. Sab., 80; cynulleidfa, 100. Blaenoriaid - Edward Parry ac Evan Jones. Trysorydd - John R. Owen. Blaenor y cor - Wm. W. Jones. Pregethwyr - Rees Davies, David T. Davies, Wm. O. Williams (William o Fon), ac Evan Jones. Bu y Parch. Llewelyn D. Howell (gynt o Lanuwchlyn) yn ddiacon ac yn bregethwr ffyddlon yn yr eglwys Annibynol yn Utica am lawer o flyneddau, hyd ei farwolaeth; ac iddo ef yr ydym yn ddyledus am y Traithawd Buddugol, yn cynnwys casgliad o “Hanes Cymry Utica, a’i hamgylchoedd,” yr hwn a gyhoeddwyd yn llyfr bychan, 30 t.d.

Bu y diweddar David Morris, Ysw., (tad yr ysgolor a’r duwinydd enwog Dr. Morris, o Cincinnati, Öhio); a Thomas Jones, a John R. Jones, a Wm. Williams, a H. Howell, a Robt. Hughes, a Wm. Owen, a David Pierce, a John Griffiths, ac amryw ereill, sydd wedi marw, yn dra haelionus a gwasanaethgar i’ w cenedl, ac i’r eglwysi Cymreig yn Utica. Y mae Utica yn nodedig am ei Heisteddfodau, a’i beirdd, a’i cherddorion, a’i llenorion. Gwel restr o’u henwau yn Dosran C. Y mae Dyffryn mawr y Mohawk oddeutu 20 milldir hyd wrth dair a phedair milldir o led, mewn manau. Gorwedda rhwng y bryniau o bobtu iddo, yn swyddi Oneida a Herkimer. Yn 1800 yr oedd yn goediog, ac mewn manau yn gorsiog, ac yr oedd yr hen Gymry yn ofni ei brynu a’i boblogi, oblegid fod yr ychydig oedd yn byw arno y pryd hyny yn dihoeni yn y cryd; ond y mae y rhan fwyaf o hono yn awr wedi ei sychu a’i ddiwyllio, ac arno y gwelir y doldiroedd mwyaf toreithiog, a’r tyddynau mwyaf cyfoethog.

Y mae yn cyrraedd am rai milldirau tu isaf i Utica, ac oddiyno heibio i Whitestown, ac Oriskany, a Marcy, hyd at, a thu draw i ddinas Rome.

Y mae yn debyg iawn i Ddyffryn Clwyd yn Ngogledd Cymru; ac y mae y bryniau sydd o’i ddeutu yn gyffelyb i fryniau Dinbych a Fflint, yn goediog, a diwylliedig; ond nid mor uchel a serth, yn un man, a’r Foel Famau.


 

 


(delwedd E0944) (tudalen 86)

(x100) (tudalen 86) HANES CYMRY AMERICA.

4. SALEM, Marcy (neu Deerfield), Oneida Co. - Saif yr ardal hon oddeutu pedair milldir i’ gogledd o Utica, oddeutu yr hen ffordd sydd yn myned oddiyno trwy Trenton i Steuben a Remsen. Dechreuodd y Cymry ei phoblogi oddeutu 60 ml. neu 70 ml. yn ol. Arferent fyned oddiyno i addoli i eglwysi Utica. Yn fuan ar ol dyfodiad y Parch. R. Everett, D.D., i Utica, yn 1823, dechreuodd bregethu yn ardal Marcy, (neu Deerfield,) a sefydlodd gangen o eglwys Utica yno. Buont yn pregethu mewn tai ac ysgoldai yno am rai blyneddau. Adeiladwyd y capel coed cyntaf yno ar dir gwastad Mr. Cadwaladr Richards, gynt o Lanuwchlyn, (tad Mr. John Richards, a Mrs. William D. Williams,) yn y fl. l831, dan ofal Mr. Everett. Rhoddodd Mr. Richards un erw o dir i wneyd mynwent wrth y capel; ac y mae efe yn gorwedd yn dawel ynddi er 1856. Yn 1832 y daeth y Parch. William D. Williams i’r ardal, a bu yn pregethu yno am amser. Yn 1833 cawsant ollyngdod rheolaidd o eglwys Utica, a ffurfiasant eglwys Annibynol yn Salem, Marcy. Yr hen sefydlwyr oedd yno yn dechreu yr eglwys oeddynt Ellis Roberts, o Lanuwchlyn; John L. Lewis, o Machynlleth, (y ddau ddiacon cyntaf yno,) a Mr. Vincent, (saer coed,) o Machynlleth; a Rowland Griffith, (teiliwr,) o Ddinas Mawddwy, ac ereill. Ar Gorphenaf 17, 1833, urddwyd y Parch. William D. Williams yn weinidog yno. Yr oedd y gweinidogion canlynol yn bresenol, ac yn gweinyddu ar yr achos, - Robert Everett, James Davies, gynt o Aberhaves, Howell R. Powell, (brawd i’r Parch. Jonathan Powell (A.), o Sir Fon,) a’r Parch. James Griffiths, Utica. Bu yn gweinidogaethu yno am flyneddau. O’r fl. 1841 hyd y fl. 1848, bu y Parch. Samuel A. Williams, gynt o Lanidloes, G.C., yn awr o Bradford, Pa., yn gweinidogaethu yno. Ar ol bod yn gweinidogaethu am rai blyneddau yn Steuben, ac Ebensburgh, Pa., dychwelodd y Parch. William D. Williams, i fyw ar ei dyddyn ei hun yn ardal Deerfield; ac o’r pryd hyny hyd yn awr - am dros 23 mlynedd - y mae wedi bod yn weinidog sefydlog a llwyddianus yno. Y mae ei dy newydd, hardd, yn sefyll ar un o lethrau y bryniau, oddeutu milldir i’r gogledd o’r


 

 


(delwedd E0945) (tudalen 87)

(x101) (tudalen 87) TALAETH NEW YORK.

capel; ac oddiyno ceir y golygfeydd prydferthaf ar ddyffryn y Mohawk, a dinas Utica, ac ar yr holl wlad dyddynol hyd gopäau y Paris Hills! Adeiladwyd y capel newydd yn 1859 - 44 tr. wrth 30 tr. - coed - traul $1,200 - dim dyled yn aros arno. Y mae yn addoldy hardd; a mynwent fawr gerllaw iddo, yn yr hon y mae lluoedd o’r hen sefydlwyr, a’r aelodau ffyddlon, yn gorwedd; sef, William Vincent, (pregethwr,) ac Ellis Roberts, a Simon Thomas, (diaconiaid,) a’r Parch. David Hughes (W.), gynt o Leyn, Arfon, G.C., ac ereill. Aelodau 50. Cynulleidfa 150. Cynhelir Ysgol Sabbothol fechan yma yn misoedd yr haf. Diacon, John L. Lewis; trysorydd, John H. Jones; ysgrifenydd, Evan Davies.

Y mae gan y Trefnyddion Calfinaidd eglwys a chapel ar y Bryn Mawr, oddeutu 3 milldir i’r gogledd-ddwyrain o gapel yr Annibynwyr yn Deerfield. Dechreuwyd yr achos yno er ys blyneddau, a bu yno rai gweinidoglon ffyddlon, megys y Parchn. John Hughes, ac E. Salisbury. Ac y mae yno eto egliws fechan ffyddlon. Aelodau, 18; rhai ar brawf, 8.Ysg. Sab., 24. Blaenor - Mr. Thomas Jones.

Y mae gan y T.C. hefyd gapel da arali ar Fryn Marcy, oddeutu 3 milldir i’r gogledd-orllewin o gapel Salem Marcy. Nis gwyddom pa bryd y dechreuwyd yr achos yno.

Y mae yno hefyd eglwys fechan ffyddlon. Aelodau, 19; ar brawf, 7; Ysg. Sab., 24. Blaenoriaid, Mr. Griffith Davies, ac un arall.

Bernir nad yw poblogaeth Gymreig Salem a’r Bryn mawr yn awr dros 350. Bu yn llawer mwy.

5. BETHANIA, Marcy, Oneida Co. - Gorwedda yr ardal hon ar y bryniau, oddeutu dwy filldir i’r gorllewin o gapel y T.C. ar Fryn Maroy. Oddiyma ceir golygfeydd ardderchog ar wastadedd Holland Patent, ac ar fryniau Ffloyd a Steuben, ac yn mhell tu draw i Rome, hyd Oneida Lake! Dechreuodd y Cymry sefydlu ynddi yn 1836. Y Parch. James Griffiths (A.), Utica, a ddechreuodd bregethu yno er ys dros 32 miynedd yn ol; ac efe a ffurfiodd yr eglwys Annibynol yno. Adeiladwyd y capel cyntaf yno yn 1839. Bu yr Annibynwyr a’r T.C. yn cydaddoli ynddo am flyneddau. Adeiladwyd yr ail gapel (sef yr un sydd yno yn awr) yn 1859 - 26 tr. wrth 38 tr. - traul $1,200 - capel da, a hardd.


 

 


(delwedd E0946) (tudalen 88)

(x102) (tudalen 88) HANES CYMRY AMERICA.

tu mewn ac allan, ydyw. Aelodau 21; Ysg. Sab. 25; cynulleidfa 40; diaconiaid, Evan J. Jones, Richard Evans, a David E. Lloyd. Bu y gweinidogion canlynol yn llafurio yno - Hugh Lewis, Samuel A. Williams, William D. Williams, John R Griffiths; urddwyd ef yno - bu yno am 14 ml. - symudodd i Ffloyd. Y mae mynwent ehelaeth yn ymyl y capel, a llawer o farwolion yn gorwedd ynddi . Gerllaw iddi y mae ty a thyddyn Mr. Morris Jones, un o’r hen sefydlwyr. Nid oes ganddynt fugail sefydlog yn bresenol. Gellir myned o Utica i’r ardal hon gyda y cars, ar y Black River R.R. Saif o fewn dwy filldir i depot Marcy, ac o fewn tair milldir i depot Holland Patent. Poblogaeth Gymreig yr ardal hon (a Bryn Marcy) sydd oddeutu 160.

6. NEW YORK MILLS, Oneida Co. - Saif y lle hwn oddeutu dwy filldir i’r gorllewin o Utica, ac yn ymyl Whitesboro, lle mae athrofa ragorol. Y mae y street cars yn awr yn rhedeg o Utica drwy y lle i Whitesboro. Un o’r lleoedd prydferthaf yn holl Oneida Co. ydyw. Gorwedda ar lanau y Sauquoit River, yr hon a ymdywallt i’r Mohawk, gerllaw yno. Y mae eu trigfanau, a’u gerddi, a’u perllanau, a’u doldiroedd, yn swynol i’r golwg; a phalasdai y boneddigion crefyddol a haelionus, Walcott a Campbell, yn addurno y lle. Y boneddigion a nodwyd yw meddianwyr yr factories (cotton, &c.,) mawrion sydd yno; yn mha rai y mae canoedd o feibion a merched yn enill eu bywioliaeth yn gysurus. Sefydlodd y Cymry parchus, Eliis Ellis, Ysw., a Thomas Ellis, Ysw., a William Roberts, Ysw., ac ereill, yno, er ys dros 25 mlynedd yn ol; ac y mae y ddau olaf wedi adeiladu pail factory fawr yno, yn yr hon y mae llawer yn gweithio. Sefydlwyd yr eglwys Gynulleidfaol Gymreig yno gan y Parch. Wm. D. Williams, Medi 23, 1847. Bu Mr. Owen Baxter, Edward Davies, a J. R. Griffiths, yn pregethu llawer yno. Tachwedd 14, 1856, urddwyd y brawd ieuanc Thomas W. Roberts, o Athrofa Whitesboro, yn weinidog iddynt; ond ymadawodd i Athrofa Auburn, Medi 14, 1857, lle y bu farw. Ar ol hyny bu y Parch. Mr. Morgan (brawd Morgans, Samah, G.C.), yn gweinidogaethu yno am


 

 


(delwedd E0947) (tudalen 89)

(x103) (tudalen 89) TALAETH NEW YORK.

rai misoedd. Yn y fl. 1859, daeth y Parch. Edward W. Jones yno i lafurio, a bu yno hyd ei farwolaeth, yn 1869. Yn Mai, 1870, dechreuodd y Parch. Thomas M. Owen (gynt o Lanrwst, G.C.) weinidogaethu yno; ac y mae yno eto yn gysurus a llwyddianus. Adeiladwyd y capel yno yn 1848. Traul $1,100. Adgyweiriwyd ef yn 1870, ac y mae yn awr yn un o’r addoldai harddaf yn y gymydogaeth. Aelodau 64. Ni chefais rif yr Ysg. Sab., a’r gynulleidfa. Diaconiaid, William Roberts, Thomas L. Davies, a Humphrey J. Williams. Y mae y ddau olaf yn gerddorion medrus. Dichon fod poblogaeth Gymreig New York Mills a Whitesboro oddeutu 300.

7. ORISKANY, Oneida Co. - Pentref bychan hardd yw hwn eto, ar ochr ddeheuol y Mohawk, oddeutu 7 milldir i’r gorllewin o Utica. Y mae yr Erie Canal, a’r New York Central R R., yn myned trwyddo. Factories mawrion sydd yno hefyd; un yn Oriskany, a’r llall yn agos yno yn y “Pleasant Valley.” Oddeutu ugain mlynedd yn ol bum yn pregethu yno; ac yr oedd yno y pryd hyny lawer o Gymry o Lanidloes, a’r Drefnewydd, a’r TraJlwm, G.C., a dichon fod llawer o honynt yno eto. Y mae gan y T.C. eglwys yno er ys llawer o flyneddau; ac y mae yn parhau yno eto. Aelodau; 28, Ysg. Sab. 35, diacon 1. Gall fod y boblogaeth Gymreig yno yn awr oddeutu 150.

8. ROME, Oneida Co. - Y mae Rhufain, yn Oneida Co., N.Y., yn ddinas ardderchog. Saif ar wastadedd eang, yr ochr orllewinol i afon y Mohawk, yr hon sydd yn rhedeg i lawr o’r gogledd, gan ddolenu a dyfod yn agos ati, ond yn sydyn yn troi oddiwrthi, ac yn cymeryd cyfeiriad dwyreiniol, tuag Utica, er dyfrhau doldiroedd, a llawenychu trigolion y dyffryn mawr. Nid yw y ddinas hon mor boblogaidd ag Utica, ond y mae mor hardd; ac y mae ynddi lawer o balasdai, hotels, eglwysi, ysgoldai, a stores, ardderchog. Y mae ynddi amrai o foneddigion cyfoethog ac anturiaethus, megys Huntington, Stryker, ac ereill. Codwyd gerllaw iddi, yn ddiweddar, blast furnaces, a rolling mills, yn y rhai y mae llawer o Gymry yn gweithio. Mr. James Thomas


 

 


(delwedd E0948) (tudalen 90)

(x104) (tudalen 90) HANES CYMRY AMERICA.

yw y boss yn un o honynt; Cymro cenedlgarol a chrefyddol. Y mae John Parry, Ysw., yn adeiladydd enwog a chyfoethog yno er ys blyneddau; yn ddyn o ddylanwad mawr fel gwleidyddwr, ac yn caru ein cenedl ni. Dechreuodd y Cymry sefydlu yno er ys dros 32 o flyneddau yn ol; ac y mae yno, ac oddeutu yno, yn awr, amrai o fasnachwyr, a thyddynwyr, parchus.

Eglwys y TREFNYDDION CALFINAIDD. - Dechreuwyd yr achos yno yn 1841. Prynasant gapel rhagorol yn nghanol y dref, am $1,400; ond y mae yn awr yn werth dros $4,000. Capel mawr, da; a chyfleus, ydyw; ac y mae ynddo eglwys gref a ffyddlon yn awr. Aelodau, 72; Ysg. Sab., 48; cynulleidfa, 100. Diaconiaid - William N. Jones, David Evans, William Williams, Moses L. Jones, a John Edwards (Eos Glan Twrch). Gweinidog - Parch. John H. Jones. Casgliadau blyneddol at wahanol achosion crefyddol, $550.

Yr Eglwys GYNULLEIDFAOL. - Dechreuodd yr Annibynwyr bregethu yno yn 1850, mewn ysgoldy a brynasant gan y Presbyteriaid Saesnig. Yr oeddwn yn bresenol yno ar amser ffurfiad yr eglwys, Awst 10, 1851. Gwnaeth 19 o bersonau gyfamod difrifol i ddwyn yn mlaen yr achos yno, sef Henry L. Williams, a’i ddau fab, Lewis a William H., a’i ferch, Ann E. Williams; Richard H. Jones a’i briod, Elizabeth, a’r brawd Wm. T. Jones a’i chwaer, Mary G. Jones; Parch. Thomas R. Jones a’i wraig gyntaf; Robert Jones (Enlli); Robert Roberts, Wm. Jones (tailor); George Parry, Margaret Griffiths, Ann Evans, Elizabeth Owen, Annie Davies, a Rebecca Evans. Y mae y rhan fwyaf o honynt yn fyw eto, mewn gwahanol fanau; ond rhai a hunasant. Symudasant yr ysgoldy i le mwy cyfleus, ar Liberty St., lle y mae yn awr, wedi ei adgyweirio, yn gapel da a chyfleus. Y pryd hyny pregethai y Parch. Thomas K. Jones iddynt. Wedi hyny buont yn byw ar supplies. Daeth Mr. Hugh J. Williams a’i deulu i fyw i’r lle, a buont yn gynorthwy mawr i’r achos, ac y maent felly eto. Bu awdwr y llyfr hwn yn gweinidogaethu iddynt am ddwy flynedd, mewn cysylltiad a Floyd, yn 1856 a 1857, yr un amser ag yr oedd yr enwog Dr. Rowlands yn fugail ar eglwys y T.C. yno. Bu Morgan, a Williams yno wedi hyny. Dechreuodd y Parch. David E. Pritchard weinidogaethu yno yn Ion. 15, 1864, ac y mae yn barchus a defnyddiol yno eto. Bu yr achos yno lawer gwaith yn wan iawn, bron a marw; ond y mae er ys rhai blyneddau yn adfywio. Y mae yno yn awr eglwys obeithiol iawn. Aelodau, 48; Ysg. Sab., 30 i 35; cynulleidfa, 70. Y mae yno amrai o swyddogion ac aelodau gweithgar ac unol, sef Richd. H. Jones, Griffith T. Jones, Wm. H. Williams, Hugh J. Williams, David J. Evans, ac ereill.

Mae y ddwy eglwys Gymreig yn ganmoladwy am eu teimladau


 

 


(delwedd E0949) (tudalen 91)

(x105) (tudalen 91) TALAETH NEW YORK.

da at eu gilydd, a’u hundeb, a’u cydweithrediad yn mhob achos da a chyhoeddus. Y maent yn ddirwestwyr selog, ac y mae yn eu plith feirdd a llenorion enwog. Cefnogant y cyfarfodydd llenyddol a’r eisteddfodau. Poblogaeth Gymreig, 400.

9. FLOYD, Oneida Co. - Ceir y sefydliad Cymreig hwn ar fryniau uchel a choediog rhandir Floyd - oddeutu 7 milldir i’r gogledd-ddwyrain o Rome, a 4 milldir i’r gogledd-orllewin o Holland Patent, ac ni cheir eto reilffyrdd yn myned yn nes ato na’r lleoedd hyny. Y sefydlwyr Cymreig cyntaf oedd Mr. Nathaniel Davies a’i briod, o Sir Gaerfyrddin, oddeutu y fl. 1800. Ar ol hyny daeth yno yr hen sefydlwyr canlynol - Thomas Hughes, o Sir Fon; William Williams (Cooper), tad y diweddar Dr. Williams, Utica: Wm. R Williams, (tad y Golygydd enwog, Samuel Williams, Ysw., San Francisco, California); William Pritchard, Arfon; Richard M. Williams i Ab Morydd). Yr oedd rhai o honynt yn myned i addoli y pryd hyny i Utica (dros 15 milldir o ffordd). Nid oedd ganddynt un eglwys na chapel yn Floyd. Buont wedi hyny yn addoli mewn ysgoldy bychan. Yn y fl. 1834 daeth Mr. Thomas T. Jones, Manaw, Mon, a Mr. John W. Jones, o Eifionydd, Arfon, a’u gwragedd, i fyw i’r ardal, gydag amrai ereill. Yn y flwyddyn hono yr adeiladwyd y capel (coch) cyntaf yno, ac y mae yn aros yno eto. Bu y gwahanol enwadau yn cyd-addoli ynddo am rai blyneddau. Ffurfiwyd yr eglwys Annibynol ynddo yn l836. Llwyddodd yn raddol, dan weinidogaeth Hugh Lewis, Edward Blunt, a John Edwards. Adeiladasant gapel newydd da yno oddeutu y fl. 1855. Bu ysgrifenydd y llinellau hyn yn gweinidogaethu yno am ddwy flynedd - yn 1856 a 1857. Wedi hyny y Parch. Edward W. Jones; ac yn awr y Parch. John R. Griffiths. Aelodau, 64; Ysg. Sab., 55; cynulleidfa, 108. Diaconiaid - (a fu yno) John W. Jones, David Isaac, Thomas T. Jones, Thomas L. Davies, - (sydd yno yn awr) - Paul Phillips, Thomas D. Roberts, Elias Williams, Griffith O. Jones.

Eglwys y TREFNYDDION CALFINAIDD. - Ffurfiwyd yr eglwys hon yn y fl. 1836, pan oedd y Parch. Henry Rees a’r Parch. Moses Parry yn y wlad. Pregethasant yn y Capel Coch. Bu llawer o bobl ffyddlon yn perthym iddi, megys Edward Jones,


 

 


(delwedd E0950) (tudalen 92)

(x106) (tudalen 92) HANES CYMRY AMERICA.

Wm. Owen, John Pierce, Edward R. Jones, Robert Owen, John Edwards (Eos), John Jones, James Jones, Roberts, Hughes, Davies, Jones, ac ereill. Y mae llawer o honynt yno eto; ond bu farw rhai, a symudodd ereill. Codasant gapel bychan yno yn 1837, a gwnaethant un newydd llawer mwy yn 1862, 40 tr. wrth 32 tr. Traul, $2,200. Y mae yn addurn i’r ardal. Nid yw yr eglwys yno mor lluosog ag y bu; ond y mae yno eto achos blodeuog, a swyddogion ac aelodau gwir ffyddlon. Aelodau, 37; ar brawf, 10. Diaconiaid, 2; Ysg. Sab., 50; cynulleidfa, 100. Diaconiaid - Robert Owen, Thomas Andrew, Owen Griffith, James Jones. Bu y Parchn. Thomas T. EvanS a Richard W. Jones yn byw yno am lawer o flyneddau; ond nid oes yno yn awr un gweinidog na phregethwr. Dichon fod poblogaeth Gymreig Floyd oddeutu 350. Yno y mae yr hen fardd enwog Richard M. Williams (Ab Morydd), yn byw.

10. QUAKER HILL, Oneida Co. - Saif yr ardal hon ar y bryniau, tu draw i bentref Western, oddeutu 7 milldir i’r gogledd o Floyd, a Rome. Y mae yno eglwys a chapel gan y T.C. er ys blyneddau, ac y mae ynddi yn awr 24 o aelodau ymdrechgar. Tyddynwyr gan mwyaf ydynt. Yno y mae y cerddor a’r gantores enwog Mr. William Jones a’i briod yn byw. Ychydig o Gymry sydd yn awr yn byw ar y Western Hill, gerllaw yno. Gall fod poblogaeth Gymreig y ddwy ardal oddeutu 80.

11. HOLLAND PATENT, Oneida Co. - Saif y pentref bychan hardd hwn ar wastadedd hyfryd a ffrwythlon rhwng Utica a Remsen, ac y mae y Black River R.R. yn rhedeg trwyddo. Y mae ynddo amrai o eglwysi Saesnig, ac un ysgoldy da, gyda rhai stores, Post Office, &c. Gwelais yno un capel perthynol i’r Undodiaid wedi ei lwyr-adael; a chlywais fod y Pabyddion am ddechreu achos yno. Dechreuodd y Cymry sefydlu yno yn 1836, ac yr oedd y gwahanol enwadau yn cyd-addoli mewn anedd-dai yn 1838.

Eglwys y TREFNYDDION CALFINAIDD. - Sefydlwyd hi yn 1840. Adeiladwyd y capel yn 1843 - 42 tr. wrth 26 tr. Traul, $1,000. Saif ar y Square. Helaethwyd yn 1857. Dim dyled. Aelodau, 32; Ysg. Sab., 35; cynulleidfa, 65. Blaenoriaid - William E. Phillips, Ebenezer Jones, Meredith J. Meredith. Bu y gweinidogion canlynol yn byw ac yn gweinidogaethu yno - David Williams, Richard F. Jones, Thomas Williams, a’r Dr. Wm. Rowlands. Y mae y gweinidog parchus, a’r cyhoeddwr enwog, y Parch. Thomas T. Evans, yn byw yno yn awr.


 

 


(delwedd E0951) (tudalen 93)

(x107) (tudalen 93) TALAETH NEW YORK.

Yr Eglwys ANNIBYNOL. - Ffurfiwyd hi yn 1843. Buont yn addoli mewn ysgoldy am flyneddau; wedi hyny yn talu rhent am fenthyg capel. Prynasant adeilad y capel presenol, ar y Square, yn 1860. Traul, $1,400. Dim dyled. Y diaconiaid cyntaf oeddynt Thos. Humphreys a Griffith Jones. Bu yr eglwys am 14 ml. o dan ofal y Parch. W. D. Williams; wedi hyny bu y gweinidogion canlynol yn llafurio yno - John R. Griffiths, James Davies, a John Cadwaladr; ond yn bresenol y mae dan ofal y Parch. James Griffiths, mewn cysylltiad a Trenton. Diaconiaid presenol - David Richards, a David Williams.

Bu Mr. Hugh Evans (crydd), ac aelod parchus gyda y Bedyddwyr Saesnig, yn byw yno am flyneddau - yn genedlgarwr gwresog, ac yn wleidyddwr doeth a dylanwadol, hyd ei farwolaeth. Yr un modd y bu Mr. John Davies, (California), gynt o ardal Dinas Mawddwy, G.C., yr hwn sydd yn awr yn byw yn un o dalaethau y De. Poblogaeth Gymreig, oddeutu 250.

12. TRENTON, Oneida Co. - Pentref bychan hardd yw hwn, rhwng y bryniau, ar lan afon fechan, oddeutu 4 milldir i’r dwyrain o Holland Patent. Lle prydferth ac iachus yw. Y mae ynddo amrai o eglwysi Saesnig, ac un eglwys flodeuog gan yr Undodiaid. Rhed y Black River R.R. heibio i’r pentref, dros bont hir, uchel, nid yn mhell o’r Trenton Falls, lle y cyrcha llawer o ymwelwyr bob haf. Y mae amrai o Gymry yn byw o’i ddeutu ar eu tyddynau braf .

Yr Eglwys ANNIBYNOL. - Bu y gwahanol enwadau yn cydaddoli am flyneddau yn y Town Hall, ac yn arfer myned oddiyno i eglwysi Steuben a Remsen. Ffurfiwyd yr eglwys tua’r fl. 1856, gan y Parch. Wm. D. Williams. Codwyd y capel oddeutu y fl. 1858 - 31 tr. wrth 44 tr. Traul, $1,500. Capel coed da ydyw, wedi ei wneyd yn hardd oddi fewn ac oddiallan. Ar ol y Parch. Wm. D. Williams, bu y Parchn. James Davies, Robt. Evans, a John Cadwaladr, yn gweinidogaethu yno. Aelodau, 32. Eu bugail presenol yw y Parch. James Griffiths. Y diaconiaid cyntaf oeddynt Benjamin Parry a Jonathan Jones; ond y rhai presenol ydynt Edward Williams a Joseph Jones; mae yr olaf yn byw ar ei dyddyn mawr toreithiog gerllaw yno, a’i dad a’i fam (gynt o Machynlleth, Maldwyn, D.C); a John G. Jones, Ysw. (gynt o’r Ffarm); a’r Parch. John W. Jones (W.); oed, 74 ml.; ac amrai o Gymry parchus ereill yn byw yn y pentref.

Y mae South Trenton yn sefyll o fewn ychydig filldirau iddo,


 

 


(delwedd E0952) (tudalen 94)

(x108) (tudalen 94) HANES CYMRY AMERICA.

yn nes i Utica. Bu yno lawer o Gymry, ac eglwysi a chapelau gan y Bedyddwyr, a’r Wesleyaid, Poblogaeth Gymreig, oddeutu 200.

13. PROSPECT, Oneida Co. - Pentref bychan cynyddol yw y lle hwn, yn mhlwyf Trenton. Saif ar lan yr afon West Canada Creek, dwy filldir uwchlaw Trenton Falls; tair milldir o Trenton, a dwy o Remsen. Y mae ynddo eglwysi Saesnig, ac amrai o stores. Mewn pantle nodedig, yn ymyl ffrydlif yr afon, y mae tannery mawr yn meddiant Cymro parchus; ac nid yn mhell oddiyno y mae tair neu bedair o chwarelau o geryg nadd rhagorol, a llawer o Gymry yn gweithio ynddynt. Eu meddianwyr yw Henry R. Jones ac Evan T. Thomas. Yn ymyl y pentref y mae dwy fynwent, lle y mae amrai o filwyr Cymreig wedi eu claddu; ac o fewn dwy neu dair milldir oddiyno y mae melinau mawrion Hinkley & Blue. Llifio lumber yw eu gwaith. Cludir coedydd mawrion iddynt, ar yr afon, o bellderau coedwigoedd y gogledd oer. Y mae yno lawer o bobl yn gweithio.

Eglwys yr ANNIBYNWYR. - Yr oedd amrai o aelodau eglwysi Steuben a Remsen yn byw yno er ys dros 25 ml. Ffurfiwyd yr eglwys yno oddeutu y fl. 1856, yn yr Academy. Codwyd y capel, 45 wrth 35 tr., yn 1857. Traul, $1,200. Dim dyled. Bu y brodyr Hugh R. Williams a Robert Evans yn gweinidogaethu yno. Ond y maent er ys blyneddau yn byw ar supplies. Capel hardd, mewn lle cyfleus, ydyw. Aelodau, 80; Ysg. Sab., 21; cynulleidfa, 75. Diacon - Isaac Cunney; Ysgrifenydd - David D. Griffiths; Trysorydd - John R. Davies.

Eglwys y TREFNYDDION CALFINAIDD. - Bu eu haelodau hwythau yn arfer myned i gapel Penycaerau, yr hwn sydd o fewn milldir yno. Sefydlwyd yr eglwys yn Prospect yn 1857. . Adeiladwyd y capel yn 1860 - 28 wrth 35 tr. Traul, $950. Dim dyled. Shed i gerbydau ac anifeiliaid, $150. Aelodau, 30; Ysg. Sab., 25 i 40; cynulleidfa, 75. Blaenoriaid - John T. Jones, David J. Hughes, David Jones (Prospect P. O.) Dim un gweinidog yn byw yno. Taith Sabboth - Prospect, Penycaerau, ac Enlli.

Y mae y ddwy eglwys uchod yn dra unol, ac yn aml yn cydaddoli. “Wele, mor ddaionus ac mor hyfryd yw trigo o frodyr yn nghyd!” Salm 138. 1.

Cododd y Parch. David Williams (B.), gynt o Lanidloes, gapel bychan yn Prospect, a bu yn pregethu ynddo am lawer o flyneddau. Ei eiddo ef yw yr addoldy. Ond y mae yr achos Cymreig wedi darfod ynddo er ys dros ddwy flynedd, a’r gweinidog


 

 


(delwedd E0953) (tudalen 95)

(x109) (tudalen 95) TALAETH NEW YORK.

a nodwyd wedi ymuno a’r T.C., ac yn byw yn agos i gapel Penycaerau. Poblogaeth Gymreig, 300.

14. STEUBEN, Oneida Co. - Plwyf (township) mawr ydyw hwn, ar enw Baron Steuben, yr hwn a gladdwyd ynddo yn 1794; cyffinia ar blwyf a phentref Remsen. Gwlad fryniog a choediog ydyw; a’i thiroedd yn well at fagu anifeiliaid, a gwneyd ymenyn a chaws, na dim arall. Yn y fl. 1790, nid oedd ond ychydig o bobl wynion yn byw ynddo, heblaw y Baron, a Mr. Sizer, a Mr. Weeks; ac yr oedd y pryd hyny yn goedwigoedd anhygyrch, ac anniwylliedig; ond gellid prynu y tiroedd am o $3 i $5 yr erw y pryd hyny. Erbyn heddyw y mae y rhan fwyaf o’r coedydd wedi eu tori a’u llosgi, a llawer o’r tiroedd wedi eu diwyllio yn lled dda; ac nis gellir prynu tyddynau ac adeiladau arnynt, yn awr, dan $40 neu $50 yr erw.

Ymddengys fod amrai o Gymry wedi sefydlu yn Steuben mor foreu a Medi 15, 1795. Dyna ddyddiad eu dyfodiad cyntaf yno. Enwir Wm. Williams, Hugh Roberts, Owen Griffiths, Griffith Rowland, ac Evan Owen, a’u teuluoedd, fel y sefydlwyr cyntaf yno. O’r fl. 1795 hyd y fl. 1800, daeth llawer ereill o Gymry, o Arfon a Maldwyn, i breswylio yno, sef William P. Jones, Evan Griffiths, Robert Griffiths, John Thomas, William Griffith, Diacon Jones, Hugh Griffiths, David Jones, ac ereill. Yn y flwyddyn hono y daeth Mr. John Roberts, o blwyf Pellach, Lleyn, Arfon, G.C., a’i deulu, yno. Yr oedd Catharine ei ferch yn 10 mlwydd oed y pryd hyny; yr hon wedi hyny a fu yn briod ffyddlon i’r diweddar ddiacon Mr. Timothy Griffiths; y mae y weddw barchus a chrefyddol hon yn fyw ac yn iach eto, yn ei thy bychan hardd ger capel yr Annibynwyr yn Steuben, yn awr yn ei 81 mlwydd oed! Gwelais hi, ddydd Sadwrn, Mai 6, 1871. Yn ol ei thystiolaeth hi, yr oedd yr holl bersonau a’r teuluoedd a nodwyd, wedi sefydlu yn Steuben cyn i’w rhieni hi, a’u teulu, ymfudo yno yn 1800. Coediog iawn oedd yr holl wlad. Drwg iawn oedd y ffyrdd drwy y coedydd i Utica, a Whitestown. Tyddynau bychain oedd gan y Cymry - tai logs oedd yn yr holl wlad - ychydig o’r tiroedd oedd wedi eu harloesi - ac nid oedd nac eglwys


 

 


(delwedd E0954) (tudalen 96)

(x110) (tudalen 96) HANES CYMRY AMERICA.

na chapel, na neb yn pregethu yr efengyl yn yr holl ardaloedd! Ond yr Cymry a gadwent gyfarfodydd gweddio yn eu tai; a’r Parch. James Harris (B.), a bregethodd Gymraeg gyntaf yno, yn ysgubor Mr. Weeks, ar ben yr allt, ger y lle a elwir Sixty, oddeutu y fl. 1798. Priododd y fenyw rinweddol hon a Mr. T. Griffiths, yn y fl. 1808, yr hwn oedd yn grefyddol cyn hyny; a bu yn ddiacon ffyddlon gyda’r Annibynwyr yn eglwys Steuben hyd ei farwolaeth, yn 1840. Y mae iddynt lawer o blant crefyddol eto yn fyw, sef John R. Griffiths (diacon), sydd yn byw yn eu hen gartref cyntaf, sef y Creigiau ar y ffordd i Benymynydd; a Mrs. Roberts, gwraig Mr. John Roberts, &c:

O’r flwyddyn 1800 hyd 1820, cynyddodd y sefydliad yn ddirfawr; daeth lluoedd o Gymry parchus a chrefyddol yno o Philadelphia, ac o’r Hen Wlad.

Yr Eglwys UNOL. - “The First Meihodist Society at Steuben.” Ymddengys mai eglwys unol o Drefnyddion Calfinaidd ac Annibynwyr oedd hon, yr hon a sefydlwyd yn 1801. Eu gweinidog cyntaf oedd y Parch. John G. Roberts; wedi hyny y Parch. William G. Pierce. Urddwyd y ddau yn yr eglwys hono, a buont yn cydlafurio yno am rai blyneddau. Cofrestrwyd yr eglwys hono Mawrth 24, 1804. Yn haf y flwyddyn hono codasant gapel logs yn y man y mae y Capel Ceryg yn sefyll yn awr; ac arferid ef hefyd yn ysgoldy; ond ar Nadolig yr un flwyddyn llosgwyd ef, trwy ryw anffawd. Yn 1805 codasant gapel frame yn yr un man, lle buont yn addoli am lawer o flyneddau, hyd nes y codasant y capel ceryg mawr presenol. Wedi hyny symudasant yr hen gapel yn agos i’r Store Felen, a gwnaethant ef yn dy anedd, a gwelir ef yno eto.

Yr Eglwys GYNULLEIDFAOL. - Yn 1805 yr oedd amryw o Annibynwyr selog yn cyd-addoli a’r Eglwys Unol, ond heb aelodi eu hunain ynddi . Meddyliasant am ymuno ag eglwys Annibynol Utica; ond cynghorwyd hwynt i ffurfio eglwys Gynulleidfaol yn Steuben, a gwnaethant hyny yn nhy Nicoaemus Griffiths, yn mis Ebrill, 1805. Ymunodd y T.C. a’r Annibynwyr; efelly llyncwyd yr Eglwys unol gan yr un Gynulleidfaol; ond ni newidiwyd ei henw hyd Ebrill 18, 1829, pan y gwnaed hyny trwy gyfraith yn Albany. Gwnaed y cyfnewidiad hwnw yn unol a didramgwydd. Am hyny yn Ebrill, 1805, y dechreuodd Cynulleidfaoliaeth egwyddorol a threfnus yn Steuben. Creda fod gan bob eglwys hawl i lywodraethu ei hunan, heb fod yn gyfrifol i neb arall, ond i Grist, yr hyn yw prif nodwedd yr eglwysi Cynulleidfaol. Bu y gweinidogion canlynol yn gweinidogaethu yn yr eglwys yma - John G. Roberts, W. G. Pierce,


 

 


(delwedd E0955) (tudalen 97)

(x111) (tudalen 97) TALAETH NEW YORK.

Evan Roberts, Wm. D. Williams, ac ereill. Oddeutu y fl. 1838 y dechreuodd y Parch. Robert Everett, D.D., weinidogaethu yno, a pharhaodd i wneyd hyny yn ddiwyd a llwyddianus hyd y fl. 1867, pan y rhoddodd fugeiliaeth neillduol yr eglwys i fyny yn wirfoddol i ofal ei olynwr, y Parch. Sem Phillips, yr hwn sydd yno yn awr yn gysurus a llwyddianus. Y mae efe yn awr yn casglu ac yn cyhoeddi “Hanes Eglwys Gynulleidfaol Steuben.” (Gwel Cenhadwr am Mai, Mehefin, &c., 1871).

Y mae y rhan fwyaf o hen swyddogion ac aelodau ffyddlon yr eglwys Gynulleidfaol yn Steuben er ys blyneddau yn gorwedd yn y fynwent dawel sydd yn ymyl y capel, a llawer wedi ymfudo i leoedd ereill. Nid oes yno yn awr eglwys na chynulleidfa mor lluosog ag a fu yno. Aelodau, 75; Ysg. Sab., 26; cynulleidfa, tua 100. Y mae capel yn ddigon i gynnwys o 500 i 600, a gwelwyd ef yn orlawn ar amser eu Cymanfaoedd. Y mae y Parch. R. Everett, D.D., a’i deulu, yn byw gerllaw yno, ar ei dyddyn, lle mae swyddfa y Cenhadwr. Y mae Dr. Everett yn awr yn 80 ml. oed, ac yn parhau i gyd-olygu y cyhoeddiad gwerthfawr hwnw a’i fab, Lewis Everett, Ysw. Teilynga yr hen bererin a’r diacon ffyddlon, Mr. William Roberts, a’i briod, y rhai a gladdwyd yno yn ddiweddar, goffadwriaeth barchus yn hanes yr eglwys hon.

PENYMYNYDD, Steuben. - Saif y lle hwn ar, ac oddeutu un o’r bryniau uwchaf yn Steuben, oddeutu tair milldir i’r gogledd o’r Capel Ceryg. Oddiarno ceir y golygfeydd mwyaf mawreddog ar goedwigoedd eangfaith y Brown’s Tract, oddentu yr Afon Ddu, ac ar Lewis Co. hyd Turin, ac ar y mynyddau uchel sydd yn rhedeg rhwng talaethau New York a Vermont! Dechreuodd y Cymry boblogi y lle hwn yn foreu iawn. Yr hen sefydlwyr oeddynt William P. Jones, H. Williams, David Griffiths, W. Lewis, Robert James, Owen J. Jones,.Elias Williams, W. Thomas, W. Wheldin, David Davies, ac ereill. Ffurfiasant eglwys Annibynol, a chodasant gapel coed da yno, a bu y Parch. R. Everett, D.D., yn gweinidogaethu yno yn llwyddlanus am flyneddau. Y mae yr eglwys yn awr dan ofal y Parch. Sem Phillips. Aelodau, 50; Ysgol Sabbothol a chynulleidfa fechan. Nid yw yr achos Cymreig mor flodeuog yno yn awr ag y bu, oblegid symudiadau a marwolaethau.

Eglwys y BEDYDDWYR Cymreig yn Steuben. - Yr oedd rhai Bedyddwyr Cymreig wedi sefydlu yno yn 1800. Bu Mr. Morgan Williams yn pregethu iddynt mewn amryw fanau. Ar ddyfodiad y Parch. Richard Jones, o Philadelphia, yno, yn y flwyddyn 1806, y ffurfiwyd yr eglwys yno. Codasant eu capel cyntaf ar y lle y saif eu capel coed rhagorol presenol - sef oddeutu haner milldir i’r gogledd o’r Capel Ceryg. Y gweinidogion a fuont yn eu gwasanaethu yn olynol oeddynt - Richard Jones, Thomas Morgan, David Grifllths, Jesse Jones, Griffith


 

 


(delwedd E0956) (tudalen 98)

(x112) (tudalen 98 ) HANES CYMRY AMERICA.

Jones, David Prichard, David Williams, ac Edward Humphreys. Rhif yr aelodau yn bresenol yw 40. Diaconiaid - Hugh T. Jones a Thomas E. Williams.

Eglwys y TREFNYDDION CALFINAIDD yn Steuben, - Yn mhlwyf Remsen y sefydlodd y T.C. amlaf, ac yno y map eu heglwysi cryfaf; ond y mae ganddynt ddwy eglwys a dau gapel yn mhlwyf Steuben. Y mae sefydliad cryf o honynt, er ys blyneddau, yn ardal y Nant, yr hon a saif oddeutu dwy neu dair milldir i’r de-orllewin o’r Capel Ceryg, ac y mae ganddynt yno eglwys ffyddlon, a chynulleidfa dda. Aelodau, 46; plant, 6; Ysg. Sab., 39. Diaconiaid, 4. Casgliadau blyneddol, $310. Bydd y Parch. Edward Rees yn treulio llawer o’i amser yn yr ardal hon, er lles yr eglwys a’r gymydogaeth. Ac y mae ganddynt eglwys a chapel arall ar y French Road, rhwng Penymynydd a Phenygraig. Y mae yno, er ys blyneddau, eglwys fechan weithgar. Nifer yr aelodau yw 23; Ysg. Sab., 20. Diaconiaid, 4. Ardal lled fryniog ydyw.

Eglwys y TREFNYDDION WESLEYAIDD yn ardal Sixty, Steuben. - Bu gan y Wesleyaid Cymreig gapel ac eglwys lwyddianus yn y lle hwn, lle y bu y Parchn. John R. Williams, Thomas Thomas, ac ereill, yn llaf urio yn llwyddianus mewn cysylltiad a’r eglwysi Wesleyaidd Cymreig ereill yn South Trenton a Ninety-Six. Ni hysbyswyd fi beth yw cryfder presenol yr eglwysi hyn. Dymunwyf eu llwyddiant. Nid yw poblogaeth Gymreig holl blwyf Steuben yn awr dros un fil (1,000). Dichon nad yw gynifer a hyny. Y mae yn llai nag y bu.

15. REMSEN, Oneida Co. - Plwyf mawr hir ydyw hwn, yn cyffinio ar Steuhen a Trenton; ac yn cyrhaedd hyd lanau y West Canada Creek, a’r Afon Ddu. Y mae Herkimer County ar yr ochr ddwyreiniol iddo. Y mae yn llawer mwy gwastad na phlwyf Steuben. Gwlad goediog a thoredig ydyw; ac ansawdd y tir, a’r hinsawdd, yn debyg i’r plwyfydd nesaf iddo. Y Cymry, gan mwyaf, a’i poblogant. Dechreuodd rhai o honynt ei ddiwyllio mor foreu a’r fl. 1800; ac y mae gan y gwahanol enwadau crefyddol lawer o eglwysi a chapelau da ynddo yn awr. Saif pentref Remsen mewn culhant ar ei ochr orllewinol; ac y mae ynddo un heol hir, ac amrai o stores ac anedd-dai, hotels, Post Office, ac un addoldy Saesnig gan y Trefnyddion Wesleyaidd, yn yr hwn y mae y Cymro ieuanc, y Parch. Hugh S. Williams, gynt o’r Penmaen Mawr, Arfon, G.C., yn gweinidogaethu. Y mae y Black River R.R. yn myned drwy y lle.


 

 


(delwedd E0957) (tudalen 99)

(x113) (tudalen 99) TALAETH NEW YORK.

- Eglwysi y TREFNYDDION CALFINAIDD yn mhlwyf Remsen. - Sefydlodd amryw o honynt yn y plwyf hwn cyn, ac ar ol y fl. 1800, a chynyddasant yn ddirfawr. O siroedd Arfon, Meirion, a Maldwyn, yr ymfudodd y mwyafrif o honynt. Bu Mr. George Owen, o Benycaerau, a’i feibion, Obadiah a William Owen, alluoedd o ddynion a theuluoedd crefyddol ereill, yn selog a defnyddiol dros, ac yn gynorthwy mawr i’w hachos, ac y mae ganddynt lawer felly eto.

Adeiladasant gapel ceryg mawr ar ben y bryn yn ymyl pentref Remsen, digon ehelaeth i gynnwys o 500 i 600 o wrandawyr; a chapelau bychain ereill, o goed, yn Penycaerau, Pen-y-graig, Enlli, a Prospect; ond nid yw eu heglwysi na’u cynulleidfaoedd, yn awr, yn lluosog yn yr un o honynt. Wrth sylwi ar eu “Dyddiadur” am y fl. 1871, gwelir fod ganddynt bump o gapelau, ac o eglwysi yn mhlwyf Remsen (heb gyfrif y ddwy a nodais yn Steuben), a bod eu cyfanrif fel y canlyn - Diaconiaid, 9; aelodau cyflawn, 133; aelodau ar brawf, a phlant, 32; aelodau yr Ysgol Sabbothol, 145; casgliadau blyneddol at y weinidogaeth, ac achosion ereill, $857.00. Bu y gweinidogion canlynol yn llafurio yn eu mysg - William G. Pierce (a nodwyd o’r blaen yn Steuben); Morris Roberts, o Mawrth, 1833, hyd Hydref, 1837; Ebenezer Salisbury, ac ereill. Ond yn awr gofalir am danynt, a phregethir iddynt gan y gweinidogion parchus canlynol - Edward Rees, Thos. Williams, a J. D. Jones. Mae y ddau olaf yn byw yn mhentref Remsen. Gweinidogion duwiol, a phregethwyr efengylaidd a difrifol ydynt. Y mae ganddynt bregethwr da, o’r enw Evan Morris, yn byw yn Pen-y-caerau. Cynhelir eu cymanfaoedd yn y capel mawr ceryg yn Remsen, a bydd y tyrfaoedd yn lluosog, ac awelon nefol yn aml yn cydfyned a’r genadwri fawr am y groes.

Eglwysi y BEDYDDWYR yn mhlwyf Remsen. - Ffurfiwyd yr eglwys yn mhentref Remsen yn y fl. 1832, a chodasant gapel coed rhagorol yno. Y gweinidogion a lafuriasant yno oeddynt Wm. H. Thomas, David Michael, James Harris, Wm. Jones, John James, Ambrose Williams, a Steven Howell. Eu gweinidog presenol yw y Parch. Morris Williams, gynt o Pwllheli. Arfon, G.C. Rhif yr aelodau yw 70. Diaconiaid - David Prichard, Evan Pugh, a Hugh R. Jones. Y mae gan y Bedyddwyr Cymreig eglwys fechan arall yn ardal Bardwell, yn mhlwyf Remsen. Saif yr ardal hon oddeutu pedair milldir i’r dwyrain o bentref Remsen, yn agos i ardal Enlli, ar y ffordd i Ninety-Six. Codasant gapel newydd da yno. Gweinidogaethir iddynt gan y brawd ffyddlon, y Parch. Owen Parry, yr hwn sydd hefyd yn dyddynwr cyfoethog yn y lle.

Eglwysi yr ANNIBYNWYR yn mhlwyf Remsen. - Yr oedd llawer o aelodau perthynol i’r Annibynwyr wedi sefydlu yn mhlwyf Remsen yn foreu iawn; ond arferent fyned i gymuno a gwrando yr efengyl i gapel ceryg Steuben. Ond wedi i’r Parch.


 

 


(delwedd E0958) (tudalen 100)

(x114) (tudalen 100) HANES CYMRY AMERICA.

Morris Roberts ymuno a’r Annibynwyr yn yr eglwys hono yn niwedd y flwyddyn 1837, dechreuodd bregethu yn mhentref Remsen, ac yn ardal Bethel, a manau ereill yn y plwyf, mewn tai, ysgoldai, ac ysguboriau; ac arddelodd Duw ei lafur. Yn 1838 y ffurfiwyd eglwysi Annibynol Peniel, yn y pentref, a Bethel yn y wlad. Codasant gapel coed mawr a chyfleus i gynnwys o 500 i 600 o wrandawyr, yn nghanol pentref Remsen. Mae amrai o hen aelodau ffyddlon yr eglwys hon wedi marw, megys Mrs. M. Roberts, Ed. Price, Robt. Roberts, y cerddor medrus, ac ereill. Bu Mr. Roberts yn gweinidogaethu yma ac yn Bethel am 33 o flyneddau, yn gysurus a llwyddianus. Ond yn haf y fl. 1870, rhoddodd y ddwy eglwys i fyny yn wirfoddol i ofal ei olynydd talentog, y Parch. Robt. Evans (Trogwy), yr hwn sydd yno yn awr yn barchus a llwyddianus. Aelodau, 80; Ysg. Sab., 40; cynulleidfa dda. Y mae yn yr eglwys hon eto lawer o swyddogion ac aelodau gweithgar, megys Griffith O. Griffiths, E. Jones, Griffith G. Roberts, Wm. N. Davies, a John Roberts, ac ereill.

BETHEL. - Saif y capel hwn oddeutu saith milldir o Remsen, ar y ffordd i Boonville, a dwy filldir o Depot Steuben. Y mae yn ardal fawr, a llawer o dyddynwyr parchus yn byw ynddi . Codasant gapel coed da yno; ac y mae mynwent ehelaeth yn ei ymyl. Bu William Hughes, a Hugh Hughes, a Wm. N. Davies, a Jacob Williams, a W. Roberts (Madryn), ac ereill yn ffyddlon iawn yno. Ond y mae rhai o honynt wedi marw, ac ereill wedi symud oddiyno. Y mae yno eglwys yn cynnwys 76 o aelodau, a chynulleidfa gref, a chor rhagorol dan arweiniad Mr. Robert Jones. Aelodau ffyddlon yn yr eglwys ydynt John Thomas, Richard Thomas, John Owen, K. Thomas, Edward W. Edwards, Hugh Roberts (Madryn), W. Thomas, ac ereill. Bu y Parch. Morris Roberts yn weinidog llafurus yno am flyneddau. Eu gweinidog presenol yw y Parch. Robert Evans (Trogwy).

NINETY-SIX. - Sefydlwyd eglwys a chodwyd capel gan yr Annibynwyr yn yr ardal hon er ys llawer o flyneddau, ac mae yno eglwys a cnynulleidfa fechan eto. Aelodau, 16. Pregethir iddynt gan y Parch. Morris Roberts, ac ereill, yn achlysurol. Saif yr ardal oddeutu chwe’ milldir i’r gogledd-ddwyram o bentref Remsen, ac oddeutu pedair milldir i’r gogledd o Prospect. Gallent y ddwy eglwys Annibynol yn Ninety-Six a Prospect fod mewn undeb gweinidogaethol a’u gilydd. Credwyf nas gall poblogaeth Gymreig holl blwyf Remsen fod yn awr yn llawer mwy na dwy fil (2,000).

16. WATERVILLE, Oneida Co. - Saif y pentref hardd hwn rhwng y bryniau, oddeutu 16 m. i’r de o ddinas Utica, yn mhlwyf Sangerfield. Sefydlwyd yr eglwys Annibynol Gymreig yno yn y fl. 1852. Prynasant gapel


 

 


(delwedd E0959) (tudalen 101)

 (x115) . (x101) TALAETH NEW YORK

bychan hardd yr Esgobiaid Saesnig, lle y bu yr offeiriad Hughes yn gwasanaethu. Ei gweinidog cyntaf oedd y Parch. Edward Davies; urddwyd ef yno yn Medi 1853, a bu yn gweinidogaethu yno am 16 o flyneddau, hyd y fl. 1869. Y mae yn byw yno eto, ac yn gweinidogaethu gyda y Cynulleidfawyr Saesnig, mewn dwy eglwys gyfagos yno. Dechreuodd y Parch. John Owen, gynt o Penycadair, Sir Gaer, D.C., weinidogaethu yno, Ion. 9, 1870; yr hwn a fu farw ar ei daith yn Johnstown, Pa., Mawrth 5, 1871, ac a gladdwyd mewn mynwent gerllaw yno. Y mae ei weddw ieuanc yn aros eto yn Waterville. Y mae yno eto eglwys fechan ffyddlon. Aelodau 63 - Ysg. Sab., 35 - cynulleidfa dda - canu rhagorol. Diaconiaid - Thomas Roberts, Robert Evans, William Evans, Robert Griffiths. Ysgrifenydd - David Roberts. Nid llawer o Gymry sydd yn byw yn y pentref yn awr, heblaw Edwards, ac Ellis, a Thomas, a Davies, ac ereill Y mae y rhan fwyaf o’r aelodau a’r gwrandawyr yn byw ar eu tyddynau ffrwythlon yn y wlad, yn enwedig ar Paris Hill; sef T. Roberts, Thomas Price, Rowland Jones, Robert Evans, John E. Evans, David Davies, a’u teuluoedd, a’u perthynasau, ac ereill. Bu yr Annibynwyr yn arfer pregethu ar Paris Hill, yn nhy Mr. Rowland Morris, a manau ereill; a chododd y Wesleyaid Cymreig gapel yno, lle bu y Parch. H. Humphreys yn byw, ac yn gweinidogaethu, am beth amser. Ond nid wyf yn deall fod yno bregethu rheolaidd yn awr. Gall fod poblogaeth Gymreig Waterville a Paris Hill yn awr oddeutu 350.

17. OTSEGO CO., N.Y. - Ychydig o filldirau i’r deddwyrain o Watenrille, yn agos i Bridgewater, y mae pedair sir yn cornelu ar eu gilydd, sef Oneida, Herkimer, Madison, ac Otsego. Nid wyf yn sicr yn mha un o’r siroedd yna y mae y capelau Cymreig yn sefyll. Tybiwyf fod Bridgewater yn Oneida Co., a Wimfield yn Herkimer Co., a West Winfield a Plainfield yn Otsego Co. Ond am eu bod mor agos at eu gilydd, caniataer i mi ysgrifenu am danynt fel pe byddent oll yn Otsego County.

Saif Bridgewater rhwng y bryniau, ar wastadedd


 

 


(delwedd E0960) (tudalen 102)

(x116) (tudalen 102) HANES CYMRY AMERICA.

bychan, oddeutu tair neu bedair milldir o Paris Hill; a dichon, 16 milldir i’r de o Utica. Sefydlodd y Cymry yno er ys llawer o amser; ac y mae gan y T.C. eglwys a chapel yno. Aelodau 33; ar brawf, a phlant, 13. Ysg. Sab., 40. Casgliadau blynyddol, $220. Diaconiaid 3. Y mae amrai o dyddynwyr parchus yn byw yn yr ardal; ac y mae reilffordd newydd yn awr yn myned trwy y pentref a’r sefydliad, heibio i Winfield a West Winfield, tua’r de, yn gyfleus i fasnachwyr a theithwyr.

WEST WINFIELD, Otsego Co., N. Y. - Pentref nodedig hardd ac iachus yw hwn, ar lan yr afon Unadilla; ac amgylchir ef gan gaeau ffrwythlon a bryniau coediog. Dyma lle mae y Dr. Edwin Evans, a’r Cadben Owen Griffith, a’i deulu, yn byw. Y mae y cyntaf yn feddyg da, a’r olaf yn store-keeper bywiog, a gonest; ac yn ei store fawr ef y mae y rhan fwyaf o’r Cymry yn masnachu. Gerllaw yno y mae Mr. Hugh Davies, gynt o Lanwrin, ger Cemaes, Maldwyn, G.C., yn byw, ar ei dyddyn ehelaeth o’r enw “Cefn-y-gadair,” 260 o erwau.

PLAINFIELD. - Oddeutu Plainfield Centre y mae y rhan fwyaf o’r tyddynwyr Cymreig wedi sefydlu, mewn gwlad fryniog a choediog, ond tra ffrwythlon. Ymddibynant, gan mwyaf, ar fagu anifeiliaid, a gwneyd caws ac ymenyn; gwelais lawer o hops yn cael eu codi yno, a llawer o berllanau ffrwythau. Bum yn ymddiddan â Mr. Edward L. Morris, o Meifod, Maldwyn, G.C. Efe oedd y Cymro cyntaf a sefydlodd yno, yn Ebrill, 1853. Wedi hyny daeth llawer o Gymry parchus, o wahanol fanau, i breswylio yno; sef Francis G. Griffiths, William C. Richards, Owen D. Jones, John L. Davies, Richard Roberts, David Davies, Moses Davies, John Williams, ac ereill; ac y maent oll yn llwyddianus, ac yn bobl weithgar, sobr, a haelionus. Gwelir mai sefydliad Cymreig lled newydd yw hwn; a gellir prynu tyddynau diwylliedig yr Americaniaid mewn manau yn agos yno eto, am o $25 i $50 yr erw, a dichon rai am lai na hyny. Y mae Plainfield Centre ar le iachus a hyfryd, ac amgylchir ef gan y pentrefydd bychain canlynol - West Winfield, West Exeter, Leonardville, Unadilla Forks, a Bridgewater; ac y mae y


 

 


(delwedd E0961) (tudalen 103)

(x117) (tudalen 103) TALAETH NEW YORK.

reilffordd o fewn tair neu bedair milldir iddo, yn gyfleus i deithwyr a masnachwyr i fyned a dyfod o Utica, a lleoedd ereill. Nid oes ond ychydig o drigolion yn y pentref. Yno y mae John L. Davies (gynt o Sir Benfro, D.C.), a Jacob Williams (gynt o Bethel, Remsen), ac ereill, yn byw; ac yno hefyd yr adeiladwyd capel newydd hardd yr Annibynwyr. Yn ddiweddar codwyd dwy ffactori gaws, yn gyfleus i dyddynwyr yr ardaloedd.

Eglwys y TREFNYDDION CALFINAIDD. - Ffurfiwyd yr eglwys mewn ysgoldy yn Plainfield Centre, oddeutu y fl. 1857, gan y Parch. Mr. Hughes (yr offeiriad). Ond ni adeiladwyd y capel newydd gerllaw yno hyd haf y fl. 1869 - 26 tr. wrth 29 tr. Traul. $1,300. Dim dyled arno yn awr. Aelodau, 82; ar brawf, a phlant, 32; Ysg. Sab., 35; casgliadau blyneddol at wahanol achosion, $318,59; cynulleidfa, 60. Blaenoriaid - David Davies, Moses Davies, John Williams. Bu y Parch. John Adams yn gweinidogaethu yno am lawer o amser. Ymadawodd yn nechreu 1871. Y mae Mr. T. H. Griffiths yn pregethu yno eto.

Eglwyys yr ANNIBYNWYR. - Sefydlwyd yr eglwys yno yn Ebrill, 1861. Prynasant adeilad yr hen Hotel fawr yno, gydag erw o dir perthynol iddi, a buont yn pregethu am flyneddau yn y llofft ehelaeth ynddi . Adeiladasant y capel yn haf y fl. 1869; 40 tr. wrth 30 tr. Traul, $3,000. Adeilad hardd a threfnus, wedi ei wneyd yn chwaethus oddimewn ac oddiallan. Talwyd ei holl draul gan yr eglwys a’r gynulleidfa ar ddiwrnod ei agoriad! Dyna esiampl deilwng i’w hefelychu gan yr holl eglwysi. Aelodau, 85; Ysg. Sab., 50; cynulleidfa, 160. Diaconiaid - Francis G. Griffiths, Owen D. Jones, Wm. C. Richards; Yfgrifenydd, John L. Davies. Y mae yma eglwys dda, unol, a gweithgar. Dechreuodd y Parch. Hugh R. Williams weinidogaethu yno Gor. 4, 1868, ac y mae yn weinidog llafurus a defnyddiol yno eto.

Sefydliad da a chynyddol yw hwn - y mae ynddo yn awr dros driugain o deuluoedd yn byw yn gysurus. Poblogaeth Gymreig Plainfield 300; Bridgewater 200; cyfanrif 500.

18. HERKIMER CO., N.Y. - Sir hir, gul, yw hon, yn rhedeg o derfyn swydd Otsego hyd at swydd St. Lawrence yn y gogledd, oddeutu 80 milldir o hyd wrth 20 milldir o led. Y mae y Central R.R. yn rhedeg ar draws ei rhan ddeheuol, trwy drefydd y Little Falls, a


 

 


(delwedd E0962) (tudalen 104)

(x118) (tudalen 104) HANES CYMRY AMERICA.

Herkimer, i ddinas Utica. Poblogaeth y sir yn 1870 oedd 39,932. Ni chynyddodd ond ychydig er y fl. 1850, ac y mae ei phoblogaeth yn lleihau er y fl. 1860.

WEST SCHUYLER, Herkimer Co., N.Y. - Dywed Thomas Jones, Ysw., tyddynwr parchus o’r lle yma, fel y canlyn: “Ffurfiwyd y plwyf hwn Ebrill 10, 1792. Mae dau Bost Office ynddo, sef East a West Schuyler. Dechreuwyd ei boblogi gan yr Ellmyniaid mor foreu a’r fl. 1765. Sir amaethyddol yw hon, lled fryniog ac anwastad, oddieithr glanau y Mohawk; a gwneir mwy o gaws ynddi nag mewn un sir arall yn y dalaeth. Rhaid fod y Cymry wedi dechreu sefydlu ynddi yn foreu iawn, oblegid y mae oddeutu tri chant o enwau Cymreig ar benau teuluoedd o fewn y sir; ac yn ol pedwar yn mhob teulu, y mae oddeutu deuddeg cant (1,200) o hil Gomer ynddi; ond y mae y rhan fwyaf o honynt wedi colli eu hiaith, wrth gymysgu â chenhedloedd ereill, &c. Saif y lle hwn oddeutu saith milldir i’r gogledd-ddwyrain o Utica. Gellir dyfod oddiyno yma gyda y stage trwy Schuyler Corners. Saif ein sefydliad oddeutu dwy filldir i’r gogledd o’r lle olaf. Y mae yma yn awr tuag ugain o deuluoedd, neu 80 o boblogaeth Gymreig. O tua $40 i $200 yr erw yw pris y tir yma yn awr. Mae manteision, a phrisiau da i’w cael yma am bob math o gynyrch; ond yr anfanteision sydd yma yw pellder y Cymry o bob addoldy Cymreig. Y mae rhai o honom yn aelodau gyda’r T.C., ac ereill gyda’r Annibynwyr, yn Utica; ac yr ydym yn arfer myned yno i wrando yr efengyl. Cynhaliwn gyfarfodydd gweddio yma ar y Sabbothau, os na fydd rhyw rwystr. Yn gyffredin, y mae y gauaf yn myned tua haner y flwyddyn (6 mis) yn y plwyf hwn, a’r hin yn lled oer y tymhor hwnw, ac yn lled boeth yn yr haf. Carwn weled fy nghenedl wedi sefydlu yn gymdeithasau cryfion gyda’u gilydd mewn lleoedd dymunol, er mwyn cadw ein hiaith odidog, a sicrhau helaethrwydd o foddion gras; byddai hyny yn fantais grefyddol fawr, beth bynag am ystyrion ereill - “Duwioldeb sydd fuddiol i bob peth.” Deallwyf fod gan y T.C. eglwys fechan


 

 


(delwedd E0963) (tudalen 105)

(x119) (tudalen 105) TALAETH NEW YORK.

ar Frankfort Hill, yn y sir hon. Nid oes yr un gweinidog Cymreig o fewn ein sir. Chwefror 10, 1871.

FRANKFORT HILL, Herkimer Co., N.Y. - Saif yr ardal hon oddeutu pedair milldir i’r de-ddwyrain o ddinas Utica. Y mae yno amrai o dyddynwyr parchus yn byw er ys blyneddau. Arferent ddyfod oddiyno i addoli i eglwysi Cymreig Utica. Pregethir yno yn achlysurol gan y gwahanol enwadau. Y mae gan y T.C. eglwys a chapel yno. Aelodau 30; ar brawf, a phlant, 30. Ysg. Sab.. 32. Diacon 1.

NEWPORT, Herkimer Co., N.Y. - Deallwyf fod yr ardal hon yn sefyll oddeutu 10 neu 12 milldir i’r dwyrain o gapel Salem, Marcy, N.Y. Bu yno unwaith lawer o Gymry crefyddol, o Sir Benfro, a manau ereill, yn byw. Yn 1843 cododd yr Annibynwyrr gapel yno, o’r enw Bryn Sion; a bu ynddo eglwys gref, yn cynnwys 70 o aelodau; a phregethid iddynt gan weinidogion Utica a Deerfield. Ymadawodd y Cymry oddiyno i’r gorllewin, a darfu yr achos. Y mae hen gapel arall gan y T.C. oddeutu dwy filldir oddiyno, yn Herkimer Co., wedi cael ei gau i fyny er ys blyneddau, oblegid ymadawiad y Cymry i Cattaraugus, a manau ereill Er hyny y mae rhai tyddynwyr Cymreig cyfoethog yn aros eto yn yr ardaloedd.

NODIAD. - Bu amrai o deuluoedd Cymreig yn byw yn ardal Salisbury, oddeutu 6 milldir i’r gogledd o Little Falls; a buont yn cadw cyfarfodydd mewn ysgoldy yno, yn 1855, ac wedi hyny; ond symudasant i leoedd ereill. Dichon fod yno rai Cymry eto.

A rhoddi Newport i mewn yn Herkimer Co., gall fod y boblogaeth Gymreig, sydd yn gallu siarad Cymraeg ynddi yn awr, yn 200.

19. LEWIS CO., N.Y. - Gorwedda y sir hon i’r gogledd o Oneida Co., ac y mae yn cyffinio arni, ac ar siroedd Herkimer, Oswego, Jefferson, a St. Lawrence; rhed yr Afon Ddu, a’r Black River R.R., ar ei hyd, o’r de i’r gogledd; Martinsburgh yw ei phrif ddinas, ac y mae ynddi lawer o bentrefydd cynyddol. Y mae canal yn rhedeg o Port Leyden, heibio i Boonville, ac yn


 

 


(delwedd E0964) (tudalen 106)

(x120) (tudalen 106) HANES CYMRY AMERICA.

cysylltu â’r Erie Canal, yn ymyl Rome. Gwlad fryniog a choediog ydyw; a mwy na haner ei thiroedd heb eu diwyllio eto. Ond y mae ynddi wastad-diroedd eang, a rhai dyffrynoedd bychain toreithiog. Ceir ynddi ddigonedd o geryg calch; ac mewn manau, fwn haiarn; a dichon fod ynddi fwnau ereill, sef glo, &c. Gallai y Cymry gael tiroedd lled râd eto yn ei choedwigoedd; a chredwyf y bydd yn wlad ardderchog yn mhen ugain mlynedd eto. Ond y mae ei gauaf yn hir, a’i hinsawdd yn oer. Y mae ynddi ddyfroedd gloywon iachus. Gellir gweled yr arth, a bwystfilod rheibus ereill, mewn manau ynddi, weithiau. Y mae ynddi amryw o afonydd, a rhai llynoedd. Ei phoblogaeth yn 1870 oedd 28,700. Ni chynyddodd ond ychydig yn y deng mlynedd diweddaf. Dechreuodd y Cymry ei phoblogi er ys dros 25 mlynedd yn ol; ac y mae amrai honynt mewn amgylchiadau cysurus yno yn awr.

TURIN, Lewis Co., N.Y. - Pentref bychan cynyddol ar wastadedd hyfryd yw Turin, oddeu tu 25 milldir i’r gogledd o Remsen. Y mae ynddo amrai o stores da, yn cael eu cadw gan Gymry parchus. Cedwir y Post Öffice yno hefyd gan Gymro synwyr-gall a chrefyddol. Saif y lle oddeutu 3 milldir i’r gorllewin-ogledd o Lyons Falls; wrth yr hwn (bentref) y mae y Black River Canal yn dechreu rhedeg i Rome - trwy yr hwn y rhed y Black River R.R., o Utica, heibio Remsen, a Boonville, i Lowville; ac yn fuan gorphenir hi i Watertown, ac oddiyno i Cape Vincent, ar lan afon St. Lawrence. Y mae stage yn rhedeg o Lyons Falls i Turin. Y mae yno amrai gapelau Saesnig; ac y mae y Cymro dysgedig, sef y Parch. Lewis Williams. yn gweinidogaethu i’r Presbyteriaid yno. Yma hefyd y mae y bardd Mr. William G. Roberts, mab y diweddar Robert ab Gwilym Ddu, o Arfon, yn byw.

Yr Eglwys ANNIBYNOL Gymreig yn Turin. - Buont yn pregethu am lawer o flyneddau yn yr Hen Academy. Yn y fl. 1804 prynasant addoldy rhagorol y Bedyddwyr (Saesnig) yno, am $500. Dim dyled. Aelodau, 20; Ysg. Sab., 25; cynulleidfa, 60. Diaconiaid - Robert Williams (gynt o Dolgellau, Meirion, G.C.), a John O. Jones. Gweinidog - Parch. O. P. Jones, gwr ieuanc o Drelech, D.C.


 

 


(delwedd E0965) (tudalen 107)

(x121) (tudalen 107) TALAETH NEW YORK.

Yr Eglwys ANNIBYNOL ar Tug Hill. - Dechreuodd y Parch. William D. Roberts, gynt o Bryncoch, Cemaes, Maldwyn, G. C. ac ereill, sefydlu yno oddeutu y flwyddyn 1848, a ffurfiwyd yr eglwys yn fuan wedi hyny, ac urddwyd ef yn weinidog arni yn 1846. Bu yn weinidog duwiol a gofalus yno am dros ugain mlynedd. Bu farw Ionawr, 1869, a chladdwyd ef yn y fynwent yno. Yno hefyd y mae ei fab, y gweinidog ieuanc, Thomas W. Roberts, yn gorwedd. Codwyd y capel o’r enw Nebo ar y bryn, oddeutu dwy filldir i’r gorllewin o bentref Turin, yn 1847 - 28 wrth 32 tr. Traul, $800. Dim dyled. Aelodau, 41; Ysg. Sab., 35; cynulleidfa, 125. Diaconiaid - David W. Roberts (mab hynaf eu diweddar weinidog), Elias Williams, ac Owen Williams. Gweinidog - Parch. Owen Picton Jones, gynt o Trelech, D.C.

Eglwys y T.C. ar Tug Hill, Turin, Lewis Co., N.Y. - Yn agos i gapel yr Annibynwyr ar y Bryn y mae Capel Seion. Adeiladwyd ef yn y flwyddyn 1843. Nid oes yno achos cryf yn awr. Aelodau, 13; ar brawf, a phlant, 6; Ysg. Sab., 26; cynulleidfa fechan - dan ofal y Parch. Richard Isaac, Collinsville, N.Y.

Eglwys y T.C. yn Collinsville, Lewis Co., N.Y. - Pentref bychan hardd yw Collinsville, ar ffordd y stage o Lyons Falls i Turiu, oddeutu dwy filldir o’r naill a’r llall, a’r un pellder o Port Leyden. Ffurfiodd y T.C. eglwys yno er ys dros 27 mlynedd, ac adeiladasant gapel hardd yno, a chlochdy arno. Y mae yno eglwys gref a ffyddlon. Aelodau, 60; ar brawf, a phlant, 30; Ysg. Sab., 58; cynulleidfa fawr. Diacon, 1; casgliadau, $550. Yno y bu y Parch. Thomas Williams yn byw ac yn gweinidogaethu yn llwyddianus am lawer o flyneddau; ond y mae yr eglwys er ys amrai o flyneddau bellach dan fugeiliaeth y gweinidog talentog, y Parch. Richard Isaac.

CONSTABLEVILLE, Lewis Co., N.Y. - Saif y lle hwn oddeutu tair milldir i’r de-orllewin o Collinsville. Y mae gan y T.C. eglwys a chapel yno hefyd, dan ofal y Parch. R. Isaac. Aelodau, 30; ar brawf, a phlant, 8; Ysg. Sab., 30; casgliadau, $328. Diaconiaid, 2.

Bernir fod rhif y Cymry fel y canlyn: - Collinsville, 300; Tug Hill, 250; Constableville, 300; Turin, 150; Lowville, West Martinsburgh, Lyons Falls, a Leyden, 100. Cyfanrif y Cymry yn Lewis Co., N.Y., oddeutu 1,000.

20. ST. LAWRENCE CO., N.Y. - Un o’r siroedd mwyaf gogleddol yn nhalaeth Efrog Newydd yw hon. Terfyna ar lan deheuol afon St. Lawrence, yr hon a red o’r llynoedd mawrion, rhwng y Canadas a’r Unol Dalaethan. Y mae ynddi lawer o goedwigoedd, ac afonydd, a llynoedd, a rhai dyffrynoedd ffrwythlawn. Gelliir prynu


 

 


(delwedd E0966) (tudalen 108)

(x122) (tudalen 108) HANES CYMRY AMERICA.

tiroedd yn lled rad, mewn manau, ynddi eto. Dechreuodd y Cymry (gan mwyaf o honynt o’r Drewen, Castell Newydd Emlyn, a manau ereill yn Sir Aberteifi, D.C.), sefydlu yn, ac oddeutu Richville, er ys yn agos i ugain mlynedd yn ol, a sefydlasant eglwys Annibynol yno yn fuan wedi hyny (yn 1854). Codasant gapel da yno. Urddwyd y Parch. Thomas D. Rees yn weinidog iddynt yn Mehefm, 1855. Llafuriodd yno yn gysurus a llwyddianus hyd y fl. 1864, pan y symudodd i Ashland, Pa. Wedi hyny rhoddasant alwad i’r Parch. David Jones, o’r Drewen, D.C., i gymeryd eu gofal. Daeth yno, ac y mae yno eto, yn barchus a defnyddiol. Y mae yno eglwys dda a gweithgar. Dichon fod y boblogaeth Gymreig yno yn awr oddeutu 250.

21. MADISON CO., N.Y. - Gorwedda y sir hon bron ar ganol talaeth fawr New York; o du y gorllewin, hi yw y nesaf at Oneida Co. Nid oes ond oddeutu 15 milldir o Watenville i Morrisville, un o’i phrif drefydd, ar draws y wlad; ac nid oes ond ychydig o filldirau oddiyno i’r sefydliad Cymreig yn Nelson Flats. Y mae ei hochr ogleddol yn taro ar Oneida Lake, lle mae porthladd rhagorol, sef Bridgeport; ac mae y New Yoprk Central R.R., er ys blyneddau, yn rhedeg trwy Canastota, a Branch R.R. yn rhedeg oddiyno i Cazenovia; ac nid oes oddiyno i Nelson Flats ond oddeutu pedair milldir. Yr wyf yn deall yn awr mai y ffordd sicraf a rhwyddaf i fyned yno yw gofalu am fyned gyda y train cyntaf o Utica, neu Rome, i Canastota. Dechreuodd y Cymry ymfudo o Oneida Co., a manau ereill, i Madison Co. er ys dros 23 mlynedd yn ol.

Sefydlwyd yr eglwys Annibynol yno yn Mai, 1850. Diaconiaid: yr henafgwr parchus a ffyddlon, Mr.Robt. Jones, ac ereill. Urddwyd y Parch. John Lloyd yn weinidog yno yn niwedd y fl. 1851. Bu yn dra defnyddiol am naw mlynedd, hyd 1860, pan symudodd i Palmyra, Ohio. Codasant addoldy da yno, o fewn milldir neu ddwy i Nelson Flats, pentref bychan yn cynnwys Post Office, a rhai trigfanau, ar y ffordd i Cazenovia. Y mae yn awr yn sefydliad mawr, eang, yn cyrhaedd am bump nen chwe’ milldir o Nelson Flats, bron i ymyl Morrisville. Pregethai Mr. Lloyd hefyd i gynulleidfa fechan yn nhy Mr. Edward Lewis, Leeville. Bu y Parch. Cadwaladr Jones yn gweinidogaethu yno am ddwy flynedd; a symudodd oddiyno i


 

 


(delwedd E0967) (tudalen 109)

(x123) (tudalen 109) TALAETH NEW YORK.

Coal Valley, Illinois, yn 1863. Yn fuan ar ol ei ymadawiad ef, urddwyd y Parch. James Williams, gynt o Minersville, Pa., yn weinidog ar yr eglwys, yr hwn sydd yno eto yn barchus a defnyddiol. Yr oedd yno eglwys gref a chynulleidfa fawr yn 1856, ond y mae wedi cynyddu yn ddirfawr ar ol hyny. Mae Athrofa ragorol yn Cazenovia, lle bu amrai o bregethwyr, a phobl ieuainc, yn cael addysg. Yno y bu Morris Jones, Ysw., gynt o ddinas New York, a’i deulu, yn byw am rai blyneddau, ac yno y bu farw. Mae ei weddw a rhai o’i blant yn awr yn Oshkosh, Wisconsin.

Eglwys y T.C. yn Madison. Co. N.Y. - Yr oedd llawer o honynt yn aelodau o’r Eglwys Unol yn Leeville, yn 1851. Llwyddasant yno ar ol hyny. Codasant addoldy da yn y sefydliad, lle bu y Parch. John Adams yn llafurio am flyneddau, a lle mae y Parch. Ebenezer T. Jones yn awr yn weinidog poblogaidd a pharchus. Aelodau, 50; ar brawf, a phlant, 23; Ysg. Sab., 45. Diaconiaid 4; casgliadau, $617. Dichon fod poblogaeth Gymreig sir Madison oddeutu 700.

22. CATTAEAUGUS CO., N.Y. - Gorwedda y sir hon yn y rhandir mwyaf gorllewinol o dalaeth New York, o fewn ychydig o filldirau i Dunkirk, ar lan Lake Erie; ac nid oes pellder mawr o’i therfyn gogleddol i ddinas fawr Buffalo. Y mae yr Erie R.R. yn rhedeg o ddinas New York,trwy Great Bend, a Binghamton, ac Owego, a Waverly, a Corning, ac Elmira, i Salamanca (am 413 o filldirau), yr hon sydd yn awr yn un o brif drefydd Cattaraugus Co., ac y mae yn cymeryd cyfeiriad gogleddol oddiyno trwy dref Cattaraugus, ar draws y sir i Dunkirk. Yn Salamanca y mae yr Atlantic and Great Western Division (o’r Erie) R R. yn dechreu, ac yn rhedeg oddiyno dros ran o Pennsylyania, i Ohio, ac ar draws y dalaeth hono i Cincinnati; oll yn 860 o filldirau o New York! Ar gornel ogleddol-ddwyreiniol y sir y mae y lle a elwir Sandusky, lle mae Post Office; ac nid oes llawer iawn o ffordd oddiyno i Batavia, ar y New York Central R.R. Credwyf fod Branch R.R. yn rhedeg oddiyno yn agos i sefydliadau y Cymry yn Cattaraugus. Dechreuasant ymfudo a sefydlu yn, ac o amgylch Freedom er ys dros 25 ml. yn ol.

Yr Eglwys ANNIBYNOL yn Cattaraugus Co., N.Y.- Codasant gapel da, o’r enw Carmel, yn mhlwyf Freedom, a thalasant ei draul, er ys llawer o flyneddau. Dechreuodd y Parch. James Griffiths weinidogaethu yno yn y flwyddyn 1850, a bu yn llafurus


 

 


(delwedd E0968) (tudalen 110)

(x124) (tudalen 110) HANES CYMRY AMERICA.

a llwyddianus yno hyd y flwyddyn 1864, pan y dychwelodd i Utica. Gwnaeth Mr. Griffiths ddirfawr les yno. Credwyf eu bod wedi codi capel arall mewn cymydogaeth arall yn ei amser ef hefyd. Ar ol ei ymadawiad ef, bu y brodyr Wm. Thomas (yn awr o Arvonia, Kas.), a Wm. Lewis (yn awr o Newburgh, O.), yn gweinidogaethu yno; ond eu gweinidog presenol yw y Parch. Wm. B. Roberts, gynt o New York. Dechreuodd weinidogaethu yno yn Medi, 1871. Mae Evan Griffiths, Ysw., yn ddiacon ffyddlon yn yr eglwys yn Freedom. Perthyna i’r Annibynwyr yn y sir hon amrai o swyddogion cyfrif ol a ffyddlon, a llawer iawn o aelodau ymdrechgar a haelionus. Tyddynwyr parchus yw y rhan fwyaf o honynt.

Eglwys y BEDYDDWYR yn Cattaraugua Co., N.Y. - Ni chefais yr ystadegau yn brydlon. Ond deallwyf fod llawer iawn o’r Bedyddwyr Cymreig wedi sefydlu yn sir Cattaraugus er ys llawer o flyneddau, a bod ganddynt eglwys gref a gweithgar, a chapel mawr yn agos i Sandusky, dan ofal gweinidogaethol y pregethwr talentog, a’r bardd enwog, y Parch. John P. Harris (Ieuan Ddu); ac yr wyf yn meddwl fod ganddynt eglwys a chapel arall mewn cysylltiad a hi yn y sir, dan fugeiliaeth Mr. Harris.


 

..

 

..

Xyz

 

 Sumbolau:

a A / æ Æ / e E / ɛ Ɛ / i I / o O / u U / w W / y Y /
ā
Ā / ǣ Ǣ / ē Ē / ɛ̄ Ɛ̄ / ī Ī / ō Ō / ū Ū / w̄ W̄ / ȳ Ȳ /
ă Ă / ĕ Ĕ / ĭ Ĭ / ŏ Ŏ / ŭ Ŭ /
ˡ ɑ ɑˑ aˑ a: / æ æ: / e eˑe: / ɛ ɛ: / ɪ iˑ i: / ɔ oˑ o: / ʊ uˑ u: / ə /
ʌ /
ẅ Ẅ / ẃ Ẃ / ẁ Ẁ / ŵ Ŵ /
ŷ Ŷ / ỳ Ỳ / ý Ý /
ɥ
ˡ ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ əɪ uɪ ɪʊ aʊ ɛʊ əʊ /

---------------------------------------
Y TUDALEN HWN /THIS PAGE / AQUESTA PÀGINA:
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion-prys_239_hanes-cymry-america_iorthryn-gwynedd_1872_1_A1_2085k.htm

---------------------------------------
Creuwyd / Created / Creada: 05-10-2018
Adolygiadau diweddaraf / Latest updates / Darreres actualitzacions: 05-10-2018
Delweddau / Imatges / Images:
Ffynhonnell / Font / Source: Llyfrau Google; llyfr electroanidd rhad ac am ddim

Freefind.
Archwiliwch y wefan hon
SEARCH THIS WEBSITE
Adeiladwaith y wefan
SITE STRUCTURE
Beth sydd yn newydd?
WHAT’S NEW?


Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Gal·les-Catalunya)
Where am I? You are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website
Weə-r äm ai? Yüu äa-r víziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA (= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait


http://c10.statcounter.com/counter.php?sc_project=1095411&java=0&security=043b27d8&invisible=0
Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats