kiimkat2104k
Gwefan Cymru-Catalonia: Enwau lleodd. Erthygl gan John Rhys, 1896 (Anerchiad i
Eisteddfod y Castell Newydd yn Emlyn)
|
Gwefan Cymru-Catalonia
Cymru |
(delwedd 6514) |
Enwau Lleoedd.
Anerchiad y
Llywydd, y Prifathraw John Rhys, i Eisteddfod y Castell Newydd yn Emlyn, Awst
13. 1896
Mae hen ddihareb
i’r perwyl fod pob ceiliog yn gawr ar ei esgynlawr ei hun, a buaswn innau yn
medru eich annerch chwi yn hyfach yr ochr arall i afon Teifi, ar dir a daear
Ceredigion, yng ngwlad fy ngenedigaeth. Ond rhaid gwneyd y goreu o sir
Gaerfyrddin, gan fod yr Eisteddfod wedi ymbabellu yma ryw ychydig lathenni y tu
chwith i’r terfyn.
Ni ddigia
neb wrthyf wrth son fod y dyffryn hwn wedi magu a meithrin, ar y naill lan i’r
afon a’r llall, lawer o ddynion enwocaf a mwyaf blaenllaw ein cenedl, fel
pregethwyr, cerddorion, beirdd, seneddwyr, ac ereill o athrylith. Nid anturiaf
enwi neb; gwnaed crybwyll Emlyn, Ceri, a Phen yr Herber y tro. Dyffryn Teifi
a’r wlad oddiyma i fyny hyd Aberystwyth yw gwersyllfa yr Eisteddfod, a dyma’r
wlad yr erys yr Eisteddfod ynddi hwyaf. Bum y llynedd yn y Cei Newydd am
wythnos, pan gynhelid eisteddfod yn rhyw fan neu gilydd yma bob dydd, a
chlywais i amryw weinidogion fore’r Sul canlynol roddi allan “Hen Wlad fy
Nhadau” i’w chanu nes i’r blaenoriaid yn y côr mawr eu hargyhoeddi’n ddisyrmwth
mai nid arwain Eisteddfod yr oeddynt ar y seithfed dydd.
Ond hwyrach y dywed rhywun mai eisteddfodau bychain oedd y rhai hynny; digon
prin fod hynny’n wir, ond addefaf yn rhwydd mai bychain oeddynt o’u cymharu a’r
Eisteddfod a elwir yn genedlaethol; a da iawn hynny. Mae’r Eisteddfod
Genedlaethol wedi myned mor fawr fel nad oes ond rhyw hanner dwsin o wŷr
cryfion fel Mabon yma fedr wneuthur iddi glywed. Y canlyniad yw ei bod wedi
myned bron i gyd yn gwrdd canu’r corau mawr. Nid wyf i am yngan gair yn erbyn
canu, ond nid ar ganu yn unig y bydd byw dyn, ac nid pob dyn sydd yn glust nac
yn geg i gyd. Da fyddai pe gollid cael gan fwy o’n cyd-wladwyr apelio at y
llygad drwy ddefnyddio’r pwyntyl i dynau darluniau celfydd o olygfeydd heirdd
fel y rhai a geir yn y rhan hon o Gymru. Ond ryw fodd neu gilydd, nid yw’r
Eisteddfod hyd yma wedi llwyddo i ddarbwyllo meibion a merched Cymru i
ddadblygu eu galluoedd nag i arlunio na cherflunio. Canys hwyrfrydig wyf i
gredu nad oes ganddynt athrylith o’r fath sydd gennyf mewn golwg, a da gennyf
weled nad yw’r pwyllgor wedi anghofio’r canghennau hyn o’r celfyddydau cain.
Wrth son am yr Eisteddfod Genedlaethol dylaswn ddyweyd mai’r eisteddfodau llai
sydd yn gwneuthur y rhan fwyaf o’r gwaith; gwnant hwy eu rhan yn ddistawach, a
pharatoant y wlad at yr Eisteddfod fawr, ac y mae iddynt nodwedd odidog arall,
sef y gall corachod fel myfi a’m cyffelyb eu hannerch. Mewn gair rhoddant
gyfleusdra i ni i siarad, ac nid dim o beth yw hynny, canys nid rhaid galw i’ch
cof mai gwychgan bob edn ei lais. Pa fodd bynnag am hynny, nid yw yr
eisteddfodau lleol braidd byth. yn hollol esgeuluso llenyddiaeth a hanes Cymru;
a gobeithio y daw heddyw i’r goleuni bryddest ardderchog ar brydferthion ac
enwogion Dyffryn Teifi. A meddylddrych rhagorol oedd cael casgliad o’r enwau
lleol o gylch ogylch i Ddinas Emlyn, a buasai yn dda iawn gennyf fi pe buasai
wedi cael derbyniad gwell nag a gafodd. Canys y mae yma laweroedd o enwau hynod
ddyddorol. Er engraifft, ceir ar lafar gwlad y rhan hon o honi amryw hen enwau
personol na wneir defnydd cyffredinol o honynt mwy, megis Arthen yn Aber
Arthen; Cadfor yn Llwyn Cadfor; Geraint ym Medd Geraint; Gwrtheyrn yng Nghraig
Gwrtheyrn nas gwn yn iawn pa le y mae; a Gwyrful, neu Gwrful, yn Ffynnon
Gwyrful. Dyna i chwi bump o enwau personol sydd yn adnabyddus mewn mannau
ereill, megis Arthen yn Rhiw Arthen, yn Nyffryn y Rheidol: ac y mae Geraint yn
enw adnabyddus yn llenyddiaeth Cymru, a dyddorol yw clywed Bedd Geraint yn cael
ei seinio Beth Geraint, yr un modd yn union ag y gwna’r werin Bedd Gelert, yn
sir Gaernarfon, yn Feth Gelert; gwelwch fod yr un deddfau seinyddol yma ac yno.
Mae Gwrtheyrn hefyd yn adnabyddus yn ein llenyddiaeth, a cheir yma a thraw
leoedd ar hyd a lled Cymru yn dwyn ei enw anffodus. Yr enw mwyaf anghyffredin o’r
pump yw Cadfor, ond digwydd yn ei ffurf Wyddelig yr ochr arall i’r mor. Ac y
mae Gwyrful yn fwy adnabyddus i mi yn y ffurf Gwerful yn enw eglwys yn y
Gogledd a elwir Betws Gwerful Goch, y byddai esgob Seisnig diweddaf Llanelwy yn
arfer ei galw yn Fetws-Jee-Jee. Ni fyn Cymry yr oes hon weled enwau eu hen
seintiau, pa fath bynnag oedd daliadau crefyddol y seintiau hynny, yn cael eu
cymeryd yu ysgafn.
Dwg hyn ar gof i mi ddau enw o darddiad Hebreig y sydd wedi eu Cymreigyddio a’u
cysylltu â lleoedd yn yr ardaloedd hyn, set Dewi a Deiniol. Dewi neu Dewydd
yw’r ffurf hynaf o’r enw yn Gymraeg, ond y mae ffurf ddiweddarach iddo, sef
Dafydd, heb son am drydedd ffurf sydd yn dygymod a geneuau rhai pobl yn well
fyth, sef David, a ddygir yn syth o’r Saesneg. Am yr enw Deinol neu
Deinioel, o’r enw ysgrythyrol Daniel y daw hwnnw, a chysylltir ef â ffynnon ar
fin y ffordd i Lanarth. Arweinia hyn fi i’r dwfr, a thynnir fy sylw at amryw
ffynhonnau sydd wedi bod yn ol pob tebyg yn cael eu hystyried yn rhinweddol,
megis Ffynnon Ddeinol, Ffynnon Ddewi, Ffynnon Wyrful, Ffynnon Fadog, a Ffynnon
Dudur, a chlywaf hefyd am Ffynnon Fendiged, canys dyna gynhaniad Dyfed o’r hyn
a ysgrifennir yn Fendigaid. Enwau saint yw’r rhan fwyaf o’r rhai yna fel y
gwelwch; a gall fod llawer o saint wedi bod yn yr ardaloedd hyn nas gwyddom ni
hyd yn oed eu henwau heb son am eu hanes a hanes eu gwaith, Yr wyf i wedi bod
yn aros rhyw bythewnos bellach yn Esgair Eithin ar bwys Traeth Saith; ac yr wyf
wedi dyfalu llawer a oedd a fynnai rhyw sant â hwnnw. Dywed rhywun mai enw'r
nant yw Saith am ei bod yn union fel saeth. Mae hynny yn groes i'r iaith a'r
ffaith hefyd; canys ni chymysgir y geiriau saith a saeth gan neb sydd yn siarad
Cymraeg hyd ag y gwn i. Ac am fod y nant yn union fel saeth nid gwir hynny, ond
ystori i’w derbyn gan bobi o bell, neu bell o'u cof o'r hyn lleiaf. Cymaint a
hyn am y fympwy yna. Dywed rhai ereill mai'r Saith yw'r saith fyddwch chwi'n
gael wrth son am y saith ganwyllbren aur neu'r saith gysgadur, a'r saith hefyd
a feddai clychau Aberdyfi, yn ol fel y bydd rhai yn eu rhifo. Ond camgymeriad
i'm tyb i yw hwnna, canys ni ddylai clychau Tylwyth Teg Cantref y Gwaelod fwy
na chlychau'r Tylwyth hwnnw mewn un cantref arall rifo mwy na phump. Saith o ba
beth ynte sydd i'w ddeall mewn cysylltiad â Thraeth Saith? Wel hwyrach mai'r
Saith Gysgadur a feddylir, a'r diwrnod o'r blaen pan gefais i olwg gyntaf ar y
lle prydferth hwnnw, tybiais i mi weled y Saith yn chwareu croci ar y tywod, a
chedwais ymhell oddiwrthynt rhag eu deffrfo. Yr oedd y saith o ddwy ryw, ond
myn rhywun mai Saith Ann wedi dyfod yma mewn llong foel yn yr amser gynt oedd
Saith y Traeth, ond pa reswm sydd mewn peth felly, bernwch chwi; a oes rhyw
synwyr, meddwch chwi, yn y meddylddrych o saith Ann Jones yn yr un cwch bach?
Ond gadewch
i mi ddychwelyd am funyd at y saint y soniais am danynt eiaoes, yn enwedig
Dewi. Crybwyllais ddwy ffurf Gymraeg i'r enw, sef Dafydd a Dewi; yr un modd y
mae i'r gair sant a ddeillia o'r Lladin sanctus ffurf hynach, a honno
oedd “seith,” sef yw hynny mewn sillebiaeth ddiweddar “saith.” Er engraifft,
gelwir yr abostol Pedr yn Llyfr Taliesin yn Seith Pedyr, ac y mae son yn hen
Lyfr Llandaf am eglwys y Douddeg Seith, nifer lled fawr feallai yn yr un
eglwys. Pa foudd bynnag, dyna'r enw oedd ar yr eglwys honno, a dichon mai yr
hyn a olygid wrth Draeth Saith oedd y traeth lle glaniodd rhyw hen “saith”
neu sant o bell i bregethu'r efengyl i baganiaid yr oesoedd tywyll, ac i'w
cynghori i dalu'r degwm yn dawel. Hwyrach o ran hynny mai enw tad Dewi oedd Saith,
canys yn ol y chwedlau enw priodol hwnnw oedd Sant, er mai amhriodol oedd iddo
gyda golwg ar ei fuchedd; pa fodd bynnag, gall mai'r gŵr a elwir wrth yr
enw Sant yn y chwedlau oedd Saith yr amser yr oesai efe ynddo. Ond ni chymerwn
lawer am haeru mai dyna'r esbouiad sydd i'w roddi ar yr enw, er ei fod cystal a’r “saeth” y
clywsoch am dani, a’r “saith Ann” hefyd. Hwyrach na ŵyr pawb fod y bobl
sydd yn codi tai yn Nhraeth Saith wedi cymeryd yn eu pennau alw’r lle wrth yr
enw Tre’Saith. Ond gŵyr pawb am deuluoedd a ddisgwylient i bob cyw hwyad
o’r eiddynt hwy dyfu i fyny’n alarch hardd a golygus; peth mawr a chynhwysfawr
yw dychymyg.
Pa fodd bynnag, mae mwy o reswm yn hyn nag yn
null ambell un o drin enwau lleol: dyna’r enw Madog sydd yn ddigon adnabyddus i
bawb, ond pa reswm, yn niffyg rhyw hysbysiaeth hynafol, sydd dros esbonio
Ffynnon Fadog yn Ffynnon Waedog fel y darllennais y dydd o’r blaen? Nid oes
mewn golygiad felly ddim ond prawf fod gwaed ar ymennydd y darganfyddwr; megis
y mae hylif arall ar ymeunydd ambell i wr arall a genfydd ddwfr yn enw afon
Gwy, a Mawddwy a Thywy a Thawe am a wn i; swn dyfroedd sydd yn syfrdanu
clustiau rhai pa le bynnag yr elont.
Dyma i chwi engraifft arall, set Pen yr Herber, sydd wedi ei anfarwoli gan
ddawn ac areithyddiaeth Dr. Herber Evans y mae’r ardal hon a Chymru oll a
chanddi bob rheswm i fod yn falch o hono. (Gwelais yr enw yn cael ei esbonio
dro’n ol yn y dull afresymol a ganlyn, — pen “a head,” her “a
challenge,” ber ‘‘short.” Pe buasai y dadansoddiad hwn yn gywir dylasai
yr enw gymeryd y ffurf Pen yr Herfer, ac nid Herber, ond anfynych
y bydd esbonwyr o’r fath yn ymostwng i ystyried seinyddiaeth yr iaith. Os
amhenwch hwynt haerant mai llygriad sydd wedi cymeryd lle. Ond nid Pen yr
Herber rhyngom ni a Chwm Cuch yw yr unig le o’r enw; y mae un arall ar bwys Tan
y Groes; a dylasai y ffaith honno awgrymu fod ystyr uniongyrch i’r gair herber:
a dyma fo, cysgod neu lety neu ysbyty. Gair o darddiad Seisnig yw herber,
a dyna un o ffurfiau yr hen air Seisnig herberge, a olygai ysbyty neu
lety. Defnyddir yr un gair gan yr Ellmyn am westy hyd heddyw, ac y mae wedi
myned yn albergo yn yr Eidal ac yn auberge yn Ffrainc. Fel yna
chwi a welwch fod ambell i enw y gellir cael allan ei ystyr; ond y brofedigaeth
y syrth rhai iddi yw meddwl y gallant hwy esbonio pob enw heb un ymdrech
bellach na chrafu eu pennau. Er pan wyf i yn yr ardal, yr wyf wedi cael
ugeiniau o gwestiynau am ystyr enwau lleol, a’r rhan amlaf gorfodir fi addef
nas gwn, ac i yrru’r gofynwyr ymaith mewn syndod mor ddygn yw fy anwybodaeth i
am berthau y medr pob un o’r hollwybodolion lleol ymhelaethu arnynt heb “os”
nac “oni bae.” Y wers a garwn ei dysgu iddynt yw cydymoddef â’r meddylddrych
fod enwau i’w cael nas gwyddant hwy na neb arall eu hystyr, ac mai purion gadael
rhai pethau i ysgolheigion yr oesoedd dyfodol i’w darganfod, a dilyn rheol yr
heliwr, sef peidio lladd pob gwylltfilyn yr un tymor.
Ond y peth pwysicaf yw na bo iddynt newid enwau eu hardal na rhwyddhau’r ffordd
i neb arall i’w newid. Y mae rhai o’r enwau sydd gennyf mewn golwg yn yr
ardaloedd hyn yn cadw ar gof eiriau Cymraeg da, megis yr Hen Hafod, enw sydd
hefyd ar le y bum i yn byw rai blynyddau ynddo yn y pen arall i sir Aberteifi;
hafod yw lle haf neu yr hyn a eilw gwŷr Ucheldiroedd yr Alban yn shielings.
Dyna enw arall sydd yma o natur ddesgrifiadol, — Llwch yr Hâl, y buaswn i yn ei
gyfieithu i Gymraeg mwy arferedig heddyw fel “Llyn y llaid;” canys llyn yw
“llwch” a llaid neu fudreddi yw “hâl,” y tardd o hono’r gair “halog” a
“halogi.” Ni chrybwyllaf ond un eto, sef Llannerch y Moydw; ceir yn hwn y gair
“meudwy” yn cael ei seinio yn ol dull tafodiaith Dyfed, ond ni buasai o un
diben i mi na neb arall ofyn i chwi pa fodd y seinir y gair “ moudwy “ yn y
Dyfedwys pe na buasai enw’r lle yn ei gadw ar eich tafodau; yr ateb fuasai na
wyddech chwi ddim am y cyfryw oddigerth cyfarfod ag ef mewn llyfrau.
Pa le bynnag y mae cwacyddiaeth wedi cael ei phig i mewn, alltudir ffurfiau
Dyfed o’r enwau er mwyn dodi yn eu lle fath o sillebiaeth lenyddol. Cymerer yn
engraifft yr enw a gynhenir Clun yr Our ar le ar bwys Pen y Morfa; ni fyn rhai
ei ysgrifennu yn amgen na “Glyn yr Aur,” er na wneir ond ychydig neu
ddim o ddefnydd o’r gair “glyn” yn y gymydogaeth. Mewn gwirionedd ni
fynnwn i dderbyn yma un enw a’r gair “glyn” ynddo heb groesymholi ac heb
glywed pa fodd y seinir ef gan yr anllythyrennog. Nid anaml y ceir y gair “clun”
mewn enwau yn Nyfed, megis Clun yr Ynys yn agos i Ynys Aberteifi; a’r un yw
yn ol fy marn i a’r gair Gwyddelig cluain a olyga weirglodd; ac os felly
“clun” yn hytrach na “clyn” fyddai’r sillebiaeth gywiraf; a chof
gennyf fod y gair “clun” yn digwydd mewn rhyw hen lyfr yn yr enw “Clun
Cein,” sydd bellach wedi myned yn adnabyddus fel Cilcain, yn agos i’r
Wyddgrug, yn y Gogledd. Ond i ddychwelyd at y cwacyddion, er cyflymed ydynt i
frith lenyddoli’r enwau, nis gellir dibynnu arnynt i nadel yr anllythyrennog
i’w llygru. Dyna’r engraifft o Gwm Coednerth, y buaswn i ‘n disgwyl enw dyn
ynddo ar ol y gair Cwm, ond nid yw Coednerth yn debyg i enw personol, a’r dydd
o’r blaen wrth edrych dros hen ltfrau eglwys plwyf y Penbryn darganfyddais mai
Cwm Gwydwrth oedd yno ryw chwech ugain mlynedd yn ol, a daeth i’m cof fod
Gwaednerth yn digwydd fel enw rhyw hen Gymro nad wyf yn cofio dim arall am
dano. Dyma i chwi engraifft arall, sef enw’r nant a elwir yn Hawnant neu
Hownant; y mae rhai o’r bobl sydd yn medru ysgrifennu yn ei gwneyd yn Hoffnant,
a Blaenhoffnant a welir uwch ben drws gwesty yn y Cwm. Ond yn hen lyfr plwyf y
Penbryn y sillebiaeth yw Hafnant, ac o’r sillebiadau hyn y gwaethaf, i’m tyb i,
yw Hoffnant y ty tafarn.
Rhaid i mi ymatal rhag eich blino, canys nid oes diwedd braidd ar yr
engreifftiau rhyfedd hyn y mae ol cywreinrwydd direswm a lletwith wedi ei
argraffu arnynt. Peidiwch a thalu sylw iddo, ond cadwch yn gyndyn at yr enwau
fel y dysgasoch hwynt gan eich hynafiaid, a chofiwch fod i bob un o
dafodieithoedd y Gymraeg ei nodweddau a’i phriodolion ei hun, ac mai nid
cyfiawnder â’r Ddyfedwys yw gwneyd iddi yndwybro yn afrosgo yn llywetheiriau tafodiaith
Mon nac Arfon.
U n o’r enwau rhyfeddaf yn sir Aberteift i’m tyb i yw Troed yr Aur, ac
ymddengys fod llygriad o ryw fath wedi cymeryd lle ynddo; canys ceir ef
weithiau wedi ei ysgrifennu neu ei argraffu’n Tredroir. Ond tywyll i mi yw
hynny hefyd, a da oedd gennyf glywed y dydd o’r blaen fod gan gyfaill o’r
eiddof hen weithredoedd yr ysgrifennir ef ynddynt Tref deyrn, Tredeyrn, neu
rywbeth o’r fath. A chlywais wedi hynny gan Mr. Lloyd, ficer hybarch y plwyf,
Tref deyrn yw yr enw ar gymunlestr hynafol yr eglwys sydd dan ei ofal. Ond os
Tref deyrn oedd enw yr ardal a’r plwyf, carwn wybod pa deyrn a olygid, a pha
beth sydd gan hanesyddiaeth i’w draethu ar y pwnc.
Ar ol mân ymddiddan â chwi fel hyn, mynnwn alw eich sylw at un neu ddau enw
sydd yn galw i’m cof rai o’r hen chwedlau Cymreig. Y dydd o’r blaen, wrth
gerdded o Dan y Groes i Aber Teifi, croeswn ffrwd fechan mewn lle a elwir Pen y
Bont, cyn dyfod i Dre’ Main, a dywedwyd i mi gan ragor nag un o drigolion yr
ardal mai enw’r ffrwd yw Gwenwynfarch. Nid wyf yn deall yr enw, ond dwg i’m cof
chwedl Ceridwen Wrach a’r Pair Dadeni. Yr oedd hi wedi bod yn llysieua am amser
maith yn ddiwyd dros ben, ac wedi gosod Taliesin a gŵr dall o’r enw Mordaf
i edrych ar ol y Pair yn berwi. Ond wrth ferwi fe dorrodd y pair a llanwodd ei
gynnwys Lyn Tegid â’i wenwyn. Cysylltir y chwedl hefyd ag ambell i lecyn arall,
a dywedir i’r gwenwyn o’r Pair wenwyno meirch Gwyddno Garan Hir, a cheir yma a
thraw nant a elwir yn Wenwyn Meirch Gwyddno, neu yn fyrrach, Gwenwyn Meirch, megis
y gelwir ffrwd yn rhywle rhwng Conwy a Bangor; nid cof gennyf pa le yn iawn y
mae. Ond dyna sylwedd yr ystori, a buasai yn dda gennyf wybod a oes trymwydd
o’r un chwedl i’w chael yn yr ardaloedd hyn, megis yn y Gwenwynfarch gerllaw
Tre’ Main.
Dros y cefn yna mae dyffryn a elwir yn awr Cwm Cuch, a elwid gynt Glyn Cuch, ac
yno yn y coed y cedwid moch Pryderi brenin Dyfed, medd un o’r Trioedd Cymreig;
ac yno cyn hynny y bu Pwyll ei dad ef yn hela, pan gyfarfyddodd â brenin Annwn.
Felly gellir casglu fod crediniaeth ryw dro yn bodoli fod un o byrth Annwn yng
Nghwm Cuch, a charwn yn fawr wybod a oes yno ogof neu agen a allai roddi bod i
chwedloniaeth o’r fath. Y mae gennyf hen ofyniad arall, set pa le yr oedd Pen
Llwyn Diarwya y sonia ystori Pwyll am dani yn y Mabinogion. Dywed honno i Bwyll
ddyfod i fyny o’i lyn yn Arberth, i Ben Llwyn Diarwya, i fod yn barod i
ddechreu hela Glyn Cuch yn ieuenctid y dydd drannoeth, ac mai’r boreu pan
wnaeth hynny y cyfarfu frenin Annwn. Fy ngofyniad i yw, — pa le yr oedd Pen
Llwyn Diarwya? Barna’m cyfaill meddygol Mr. Powell yma ei fod ef wedi cael hyd
i’r fan, sef yw honno Pen Llwyn Du, ac aeth a mi yno y dydd o’r blaen. A dyma a
welsom ar wal y gwesty, — enw Pen Llwyn Du, ac oddiar yr enw llun llwyn; a phan
ofynnodd Mr. Powell ar ymweliad blaenorol beth oedd y llun, yr ateb oedd mai
llwyn eirin duon bach oeddl, ac mai’r enw’n gyflawn yw Pen Llwyn Da Eirin Duon
Bach. Tueddir fi i feddwl fod Mr. Powell yn iawn, ac mai atodiad at yr enw yw y
ddeuair “duon bach,” ac mai’r enw cyn hynny oedd Penllwyn Du Eirin, a
hynny feallai yn llygriad o’r enw Pen Llwyn Diarwya fel y ceir ef yn y
Mabinogi. Y mae anhawsder arall ynglyn â’r pwnc, sef pa Arberth oedd mewn golwg
yn y Mabinogi; golyga rhai mai tref Narberth yn sir Benfro oedd, ond y mae
honno ymhell o Gwm Cuch; ac ar y llaw arall y mae gennym Arberth yn ymyl, ond
erbyn hyn ymddengys mai enw yn unig ar afonig yw a ddisgyn i’r Teifi ryw
ychydig lathenni oddiar Bont Llechryd, ac a dardd ryw le yng nghymydogaeth
Blaenannerch. Rhydd ei henw i balasdy a elwir Glan Arberth, ac i bentref bychan
a elwir Pontyrdarberth, sef yw hynny, debygaf i, Pont Rhyd Arberth. A’r hyn yr
hoffwn i hynafiaethwyr glannau’r Teifi ei wneyd yw darganfod pa le yr oedd Llys
Arberth a Gorsedd Arberth yn sefyll. Os ceir hwynt yn yr ardal hon, nid anhebyg
na cheir hyd hefyd i’r lle y treuliai Pwyll y noson cyn mynd i hela Glyn Cuch,
sydd yn agor i afon Teifi ryw filltir’o’r Pen Llwyn Du. Dylent ddechreu yn y
Pen Llwyn Du, a chwilio’r llecyn cyfagos y saif palasdy’r Pant Gwyn arno; ac os
methant yn y ddau le hyn, doeth fyddai chwilio pennau’r bronnydd oddiarnynt am
hen olion amddiffynfeydd. Ond ymataliaf, gan mai dysgu pader i’r person yw i mi
ymgymeryd â’r gwaith o hyfforddi eich hynafiaethwyr chwi mewn ymchwiliad o’r fath.
Ni wyddys i ba gyfnod yn y cynfyd y perthyn y pethau hynaf yn y Mabinogion, ond
y mae’r ardaloedd hyn yn gyfoethog mewn olion ereill o hynafiaeth, sef hen
feddfeini yn perthyn i’r bumed a’r chweched ganrif. Dyna un o’r rhai mwyaf
amlwg o honynt yn sefyll ar ganol cae llafur yn Nyffryn Bern, yn agos i’r
Penbryn, amryw yng Nghil Geran a’r Bridell, amryw ereill ym mynwent Clydeu, a
byddai un yn gorwedd hyd yn ddiweddar mewn cae odditan y Gelli Dywyll; ond y
mae honno bellach wedi ei gosod i fyny ym mynwent Cennarth. Y mae y meini hyn
mor hen fel na wyddys ddim am y bobl y codwyd hwynt er coffadwriaeth iddynt, a
rhyfedd y chwedlau a gredir am rai o honynt. Er engraifft, pan fum i ychydig
flynyddau yn ol yn edrych ar hen garreg Gelli Dywykk, adroddai gweithiwr i mi
mai carreg fedd oedd i gaseg wen rhyw hen gyrnol neu ryw foneddwr milwriaethus
arall oedd mewn mawr alar am ei anifail ryw oes neu ddwy yn ol. Ni fedrwn fodd
yn y byd roddi cyfrif am yr ystori, ond credaf yn awr fy mod wedi cael hyd i
allwedd y dirgelweh. Lladin yw’r darlleniad fel hyn,— CVRCAGNI FILI ANDAGELU;
sef a fyddai hynny yn Gymraeg.— Bedd Cyrchan fab Yniell” neu ryw enw felly. Ac
os bu y garreg ar fedd y gaseg wen, rhaid fod yr hen filwr wedi meddwl ddarfod
iddo ddarganfod y gair am eboles yn y FILI ar feddfaen hynafol Cyrchan. Ond
pwnc yw hwnna i hynafiaethwyr Cennarth a’r Castell Newydd i chwilio i mewn
iddo; a pha beth bynnag a wneler, na adawer i un niwed ddigwydd i’r hen feini
coffadwriaeth hyn sydd wedi goroesi cymaint o gyfnewidiadiau a chwildroadau
ymhlithi trigolion Dyfed. Pa le bynnag y clywoch ddarganfod carreg o’r fath
gyrrwch air yn ddioed i’r papurau newyddion, ac uwchlaw pob peth cadwch y
garreg yn ofalus rhag y masiwn neu’r saer maen; canys efe yw gelyn mwyaf
penderfynol coffadwriaeth garegol yr oesoedd aethant heibio. Gwnaiff y tywydd
et waethaf i’w difetha, ond gwnaiff y masiwn fwy, ac y mae ambell i dyddynwr yn
agos cynddrwg. Eisieu y sydd i’r Cyngor Sir a’r Bwrdd Ysgol gefnogi yr
ysgolfeistriaid i ddysgu’r oes sydd yn codi am werth a dyddordeb gweddillion
hynafiaetliol ein gwlad. Y mae llywodraeth Ynys Manaw ar y blaen i bawb o honom
yn hyn o beth; gosodant hwy bapur mawr neu garden helaeth i fyny ym mhob
ysgoldy yn yr ynys, i ddangos pa beth yw’r gyfraith gyda golwg ar berchenogaeth
gweddillion hynafiaethol, a darluniau i ddangos llun y pethau mwyaf cyffredin
sydd i’w disgwyl i ddyfod i oleuni wrth drin y ddaear neu dorri sylfaeni tai ac
adeiladau ereill. Y canlyniad yw fod yn bosibl i’r ysgolfeistr yno wneyd ei
ysgolheigion yn hynafiaethwyr o’u mebyd, ac yn llygad agored pa le bynnag y
byddo achlysur i briddellau’r dyffryn ddatguddio eu trysorau cuddiedig. Paham
na chaiff plant Cymru fanteision o’r un fath? Nid oes dim ond difrawder ac
anwybodaeth ar y ffordd, canys y mae gennym ni fwy na mwy o fyrddau a
chynghorau bellach, — byrddau ysgol, cynghorau sir, cynghorau plwyf, a
chynghorau ereill nas gwn i hyd yn oed eu henwau. Un o amcanion yr Eisteddfod
yw diwyllio a goleuo’r genedl, a hwyrach y gallai lewyrchu yn y cyfeiriad a
grybwyllais. Ond gwelaf ei bod yn hen bryd i mi dewi, a gadael i olwynion y
gystadleuaeth fyned rhagddynt. Ac heblaw hynny canfyddaf fod y beirdd a’r
cerddorion fel pe ar ymdorri gan ysbrydiaeth yr awen o bob rhyw; ond erfyniaf
arnynt gofio mai o’r holl awenau “Goreu awen, Gwirionedd.”
DIWEDD
___________________________________________
Sumbolau:
a A / æ Æ / e E / ɛ Ɛ / i I / o O / u U / w W / y Y /
MACRON: ā Ā / ǣ Ǣ / ē Ē / ɛ̄ Ɛ̄ / ī Ī / ō Ō / ū Ū / w̄ W̄ / ȳ
Ȳ /
MACRON + ACEN
DDYRCHAFEDIG: Ā̀ ā̀ , Ḗ ḗ, Ī́
ī́ , Ṓ ṓ , Ū́ ū́, (w), Ȳ́ ȳ́
MACRON + ACEN DDISGYNEDIG: Ǟ ǟ , Ḕ ḕ, Ī̀
ī̀, Ṑ ṑ, Ū̀ ū̀, (w), Ȳ̀ ȳ̀
MACRON ISOD: A̱ a̱ , E̱ e̱ , I̱ i̱ , O̱ o̱,
U̱ u̱, (w), Y̱ y̱
BREF: ă Ă / ĕ Ĕ / ĭ Ĭ / ŏ Ŏ / ŭ
Ŭ / B5236: B5237:
BREF GWRTHDRO ISOD: i̯, u̯
CROMFACHAU: ⟨ ⟩ deiamwnt
ˡ ɑ ɑˑ aˑ a: / æ æ: / e eˑe: / ɛ ɛ: / ɪ
iˑ i: / ɔ oˑ o: / ʊ uˑ u: / ə / ʌ /
ẅ Ẅ / ẃ Ẃ / ẁ Ẁ / ŵ Ŵ /
ŷ Ŷ / ỳ Ỳ / ý Ý / ɥ
ˡ ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ
əɪ uɪ ɪʊ aʊ ɛʊ əʊ / £
ә ʌ ẃ ă ĕ ĭ
ŏ ŭ ẅ ẃ ẁ Ẁ ŵ ŷ
ỳ Ỳ
Hungarumlaut: A̋ a̋
U+1EA0 Ạ U+1EA1 ạ
U+1EB8 Ẹ U+1EB9 ẹ
U+1ECA Ị U+1ECB ị
U+1ECC Ọ U+1ECD ọ
U+1EE4 Ụ U+1EE5 ụ
U+1E88 Ẉ U+1E89 ẉ
U+1EF4 Ỵ U+1EF5 ỵ
gyn aith δ δ £
wikipedia, scriptsource. org
wikipedia, scriptsource. org
https://en.wiktionary.org/wiki/ǣ
---------------------------------------
Y TUDALEN HWN: www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion-prys_242_enwau_lleoedd_cymru_john_rhys_1896_2098k.htm
---------------------------------------
Creuwyd: 16-07-2013
Ffynhonell: Nodlyfr 611
Adolygiad diweddaraf : 2004-02-26
Delweddau:
Freefind: |
Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o
dudalennau'r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web CYMRU-CATALONIA (=
Gal·les-Catalunya)
Where am I? You are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (=
Wales-Catalonia) Website
Weə-r äm ai? Yüu äa-r víziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA
(= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait
Edrychwch ar yr Ystadegau / Mireu
les estadístiques / See Our Stats