|
|
(delwedd K0001) (tudalen 0)
|
PRIS SWLLT.
COFIANT HENRY JENKINS,
O Ellerton-ar-Swale, Sir Gaerefrog,
YR HWN A FU FYW DROS 169 MLYNEDD,
YN NGHYD A'I
Cyngorion Meddygol Amhrisiadwy,
GAN YR ANRHYDEDDUS
Mrs. ANN SAVILLE,
BOLTON, SIR GAEREFROG.
CYFIEITHEDIG GAN J. T. JONES, ABERDAR.
YR AIL ARGRAFFIAD YN GYMRAEG.
ABERDAR: ARGRAFFWYD GAN J. T. JONES A'I FAB, COMMERCIAL PLACE.
1867
|
|
|
(delwedd K0002) (tudalen 1) |
1
LLYFR CENEDLAETHOL.
Yn awr yn y Wasg, ac yn cael ei gyhoeddi mewn Rhifynau 1s. yr un,
Geiriadur Bywgraffyddol, o
ENWOGION CYMRU,
YN WYR LLEN A GWYR LLEYG, O'R BOREUAF
HYD YN AWR, YN
Feirdd, Hynafiaethwyr, Gwyddonegwyr, Pregethwyr, Offeiriaid, Llenorion,
Cerddorion, yn nghyd a phob un o Enwogrwydd mewn ystyr Wladol neu Grefyddol.
AMODAU.
I. Fod y gwaith i ddyfod allan mewn o 20 i 25 o ranau Swllt yr un bob 6 neu 7
wythnos, mor agos ag y gellir; a phob un i dalu am y rhanau wrth eu derbyn,
nes eu gorphener.
II. Y neb a roddo ei enw am
saith Llyfr ac a dalo am danynt, a gaiff un am ei drafferth. Gall
y neb a ewyllysia gael y gwaith yn ddidraul drwy y Post.
TYSTIOLAETH GWAHANOL LENORION AM Y GWAITH.
“Y DIWYGIWR.”
Mae yr unfed ar ddeg a'r ddeuddegfed rhifynau (a'r olaf o'r gyfrol gyntaf)
o’n blaen, a darllenasom hwynt gyda llawer o bleser, ac y mae yn dda genym
allu dwyn tystiolaeth ffafriol iawn i'r gwaith o'i ddechreu hyd yma. Y mae'r
papur a'r gwaith yn dda dros ben. Y mae’r rhagymadrodd, gan yr awdwr a' r
cyoeddwr, yn orchestol a dysgedig, yn yr hwn yr hona henafiaeth, uwchafiaeth,
a hawliau arbenig y Cymry. Hyderwn y caiff y cyoeddwr yr un gefnogaeth eto
gyda’r ail gyfrol ag a gafodd gyda’r cyntaf, ac na fydd rhaid iddo i
dalfyru’r gwaith mor ddefnyddiol a difyr i'r oes hon ac i'r rhai a ddeuant ar
ol, fel y byddo i ni yn y diwedd gael math o Eiriadur Bywgraffiadol buddiol fyddo
debyg o fod ar gael am oesau.
|
|
|
(delwedd K0003) (tudalen 2)
|
2
COFIANT HENRY JENKINS,
O Ellerton-ar-Swale, Sir Gaerefrog,
YR HWN A FU FYW DROS 169 MLYNEDD,
YN NGHYD A'I
Cyngorion Meddygol Amhrisiadwy,
GAN YR ANRHYDEDDUS
Mrs. ANN SAVILLE,
BOLTON, SIR GAEREFROG.
CYFIEITHEDIG GAN J. T. JONES, ABERDAR.
YR AIL ARGRAFFIAD YN GYMRAEG.
ABERDAR: ARGRAFFWYD GAN J. T. JONES A'I FAB, COMMERCIAL PLACE.
1867
|
|
|
(delwedd K0004) (tudalen 3)
|
3
ENTERED AT STATIONERS' HALL.
|
|
|
(delwedd K0005) (tudalen 4)
|
4
RHAGYMADRODD.
Y MAE y llyfr hwn wedi ei gyfieithu o'r trydydd argraffiad ar ddeg yn
Saesneg, pa un oedd wedi cael ei ddiwygio yn ofalus o'r holl wallau a
lithrasant i'r rhai blaenorol; ychwanegwyd ato hefyd gyngorion gan y Meddygon
enwocaf, er gwneyd meddyginiaeth deuluaidd, gyda rheolau er meddianu iechyd a
hir fywyd, gan Syr Richard Jebb, diweddar feddyg i'r teulu Breninol, &c.;
ac i wneyd y llyfr yn fwy defnyddiol yn gyffredinol rhoddwyd ynddo
arddwriaeth, a chyfarwyddiadau meddygol am bob mis trwy y flwyddyn. Y mae
wedi ei gyfieithu yn y modd mwyaf eglur a hawdd ei ddeall ag y gellid, ac ni
ddylai fod un teulu yn Nghymru heb ei feddu. Wrth ystyried gwerthfawrogrwydd
y llyfr hwn y mae yn rhyfedd na chawsai y Cymry eu bendithio â chyfieithad o
hono er ugeiniau o flynyddau cyn hyn. Gan fod miloedd o'r argraffiad cyntaf
wedi gwerthu, a galwad mor fawr am y llyfr, penderfynasom gyoeddi ail
argraffad o hono yn Gymraeg.
Ser gwawl, a thrysorau gwir — yma sydd,
Ac am Swllt eu gwerthir,
Dalenau, os dylynir,
Barha'n hoes a'i llwybr yn hir.
|
|
|
(delwedd H2006) (tudalen 5)
|
COFIANT HENRY JENKINS.
PAN y daethym gyntaf, medd Mrs. Saville, i drigo yn Bolton, pentref bychan
oddeutu saith milldir o Richmond, yn sir Gaerefrog, i'r hwn le y cyngorid fi
i fyned gan fy meddygon er adferiad fy iechyd, trwy fy mod yn cael fy
nghystuddio gan y dyfrglwyf, diffyg anadl, a darfodedigaeth, hysbyswyd i mi
lawer o bethau am oedran mawr a meddyginiaethau rhyfeddol, a wnaed an y dyn
nodedig Henry Jenkins, er nad oeddwn y pryd hwnw yn credu ond ychydig o'r
pethau a glywn.
Ond pa fodd bynag, yr oedd hen foneddiges yn trigo y gymydogaeth yr hon
fuasai yn adnabyddus o'm teulu, a phan y clywodd am fy nyfodiad ymwelodd â
mi, ac wrth sylwi ar sefyllfa wael fy iechyd, dywedodd, “Y mae yn dda iawn
genyf, madam, eich gweled yn Bolton, y lle, fe allai, goraf a allwch fyned
iddo yn Lloegr i adferu eich iechyd, o herwydd y mae un Henry Jenkins yn
trigo yn y gymydogaeth, yr hwn sydd wedi gwneud lluaws o welliadau bron yn
anghredadwy."
“Ond yr wyf fi yn awr, madam," ebe finau, “yn saith a deugain oed, yr
hyn, yr wyf yn ofni, a fydd yn rhwystr mawr i'm gwellâd." “Dim
oll," meddai hithau, "o herwydd y mae wedi gwellâu rhai hynach o
lawer na chwi; a phan y daethym gyntaf i Bolton yr oeddwn wedi cael fy mboeni
gan gancer llidiog dros fwy nag ugain mlynedd, yr hwn a iachaodd efe yn
hollol mewn ychydig fisoedd; canys pan oeddwn yn trigo yn Knaresborough,
oddeutu deg mlynedd ar ugain yn ol, cefais ergyd damweiniol trwm ar fy mron
chwith, yr hwn a droes yn chŵydd caled, ac yn fuan
|
|
|
(delwedd H2007) (tudalen )
|
6
wedi hyny yn gancer. Darfu meddyg yr hwn oedd yn ymweled â'm teulu, ac yn
cael ei gyfrif yn un hynod o fedrus yn ei waith, geisio yn ofer ei wellâu, ac
wrth ganfod na fedrai wneud dim lles cyngorodd fi i oddef tori fy mron
ymaith, gan ddywedyd y byddai hyny yn sicr gwellâu, a minau yn y diwedd a
gydsyniais, er fod hyny yn beth erchyll iawn; ac felly gwnaed, torwyd ymaith
fy mron. Darfu i hyny fy
nhaflu i dwymyn boeth, yr hon yn agos a ddygodd fy mywyd. Modd bynag, wedi
rhai misoedd, pan yr iachaodd y clwyf, ymddangoswn i wellâu ychydig, ond mewn
amser byr gafaelodd y cancer yn y fron arall, ac mewn ystod fach aeth yn
waeth nag y bu yr un arall. Cyngorai y llaw-feddyg yn daer i gael tori hono
ymaith hefyd, gan sicrhau y gallai efe wedi hyny wneud hen wraig iachus o
honof. Ond myfi a wrthodais yn bendant, gan fynegu y byddai well genyf farw
na goddef y fath beth drachefn. Cydunais â’i gyngor, modd bynag, i olchi y
clwyfau dair neu bedair gwaith y dydd dwfr cryf oddiar foron (carrots), yr
hyn a esmwythai y boen, er nad oedd mewn un modd yn gwellâu y dolur. Felly y
bum mewn gofid dros fwy nag ugain mlynedd, nes y daethym bron yn swp o
esgyrn, pan, er fy mawr ddedwyddwch, y priododd fy chwaer wr boneddig ag oedd
yn byw yn Richmond, ac yn fuan wedi hyny aeth i fyw gydag ef. Yno clywodd yn
fuan am glod Jenkins, ac ysgrifenodd ataf i'm hysbysu, gan ddymuno arnaf
ddyfod i Bolton yn ddioed, a pharotodd yno le addas i mi aros. Cychwynais, ac
aethum trwy deithiau byrion at fy chwaer i Richmond, ac yn fuan wedi hyny i
Bolton, yn llawnehâu wrth y meddwl o'm hiachad buan wedi y fath cystudd hir a
thrwm; a'r diwedd a fu i Jeukins fy hollol iachau yn ystod naw mis, yn unig trwy
rinwedd un llysieuyn, yr hwn a dyf yn mhob cae, y Cynghafan, a elwir yn
Saesneg Clider, neu Goosegrass. Yfais y sudd, a rhoddais y dail, wedi eu
gwasgu, a’u dodi fel sugaethan (poultice) wrth y clwyfau. Yr oeddwn yn dri
ugain oed pan y gwnaeth
|
|
|
(delwedd H2008) (tudalen 7)
|
7
efe y gwellâd rhyfedd hwn; a chan hyny, madam, nid oes un achos i chwi dybied
fod eich oedran yn un rhwystr i'ch gwellad."
Pan oedd yr hen foneddiges o'r braidd wedi gorphen llefaru, dyma wr boneddig,
yr hwn oedd yn byw yn y gymydogaeth, ac yn agos i gant oed, yn talu i mi
ymweliad boreuol. Tystiodd fod yr hyn a ddywedasai yr hen foneddiges yn wir,
gan ychwanegu fod Jenkins wedi ei wellâu yntau, pan oedd dros ddeg a thri
ugain oed, o ddiffyg anadl anaele, yr hwn oedd wedi bod yn ei flino dros
bymtheg mlynedd, mewn ystod pymtheg mis, yn unig trwy orchymyn iddo yfed
haner peint o ddwfr tar ddwywaith y dydd, wedi ei barotoi fel y gorchymynodd.
Gofynais i'r hen foneddig
yn mha le y gallwn weled Jenkins? Atebodd y gwelai efe ef y dydd canlynol, ac
yr anfonai ef ataf fi. "O'r pryd y gwellaodd efe fi, yr wyf yn rhoddi
iddo gymaint bob wythnos, am yr hyn y geilw efe bob dydd Sadwrn. Y mae llawer
ereill yn y gymydogaeth, y cyfryw y mae Jenkins wedi eu hiachau o wahanol
ddoluriau, y rhai a roddant iddo hefyd ryw beth bob wythnos; ac ereill a'i
cynorthwyant o ran cywreinrwydd, gan ei gyfrif yn llawer rhy hen i weithio ei
gelfyddyd; ac felly y mae y dywediad ynfyd ei fod yn pwyso ar y plwyf, neu yn
gardotyn, yn hollol ddisail."
Yn ol addewid y boneddig, galwodd Jenkins arnaf y dydd canlynol; ymddangosai
yn hen wr parchus a golygus; ac wrth gael ei gyflwyno mi, edrychai arnaf yn
ddyfal, a dywedai, “Yr wyf yn gweled, madam, eich bod yn cael eich blino ag
amryw glefydau; ond gobeithiaf, trwy gymorth Duw, fod yn alluog i'w symud
oll." A hyny a wnaeth yn hollol, canys cyn pen deuddeg mis yr oeddwn can
iached, ac fe allai yn iachach, nag buais erioed yn fy mywyd. At y dyfrglwyf
cyngorodd fi fwyta oddeutu owns o gaceni celyd, neu grystyn bara caled, cyn
bwyta dim, bob boreu, a bwyta mewn oddeutu dwy wedi hyny; at y diffyg
|
|
|
(delwedd H2009) (tudalen 8)
|
8
anadl perodd i mi gymeryd dwfr tar; ac at y darfodedigaeth, cymerais, bob boreu
a phrydnawn, lonaid llwy dê o ystor gwyn, wedi ei falu yn llwch, a'i gymysgu
à mêl. Cyngorodd fi i
gerdded, ac i gael cymdeithas ddifyr yn neillduol.
Y rhai uchod yw yr unig feddyginiaethau a gymerais erioed, a'r cyfryw a
gyngorwn i bob un a flinir â'r doluriau a enwyd, gan lwyr gredu nad eill dim
fod yn well, nac ond ychydig cystal.
Wedi iddo fod yn ymweled â mi dros ryw amser, a minau fy hun yn feunyddiol yn
dyfod yn iachach a chryfach, gofynais iddo beth oedd ei oed mewn gwirionedd,
pan yr atebodd, “Cant a thri ugain a thair er mis Mai diweddaf," yr hwn
oedd y mis y dywedodd ei fam y ganwyd ef ynddo, yn mlwyddyn ein Harglwydd
1500. Bu fyw oddeutu chwech mlynedd wedi y pryd hwn; felly ymddengys iddo
gael ei eni yn nheyrnasiad y Brenin Harri VIII, a byw yn nheyrnasiad Harri
VIII., Iorwerth VI., y Breninesau Mari ac Elizabeth, a'r Breninoedd Iago l. a
Siarls 1., Unbenaeth Cromwel, a rhan o deyrnasiad Siarls II., dan
lywodraethiad yr hwn y bu farw.
Gofynais iddo pwy frenin, a pha beth cyoeddus yr oedd efe yn ei gofio bellaf;
atebodd, “Harri yr Wythfed a Maes Flodden” (gan feddwl Brwydr Maes Flodden);
ymladdwyd y frwydr hono yn erbyn y Scotiaid, yn nheyrnasiad Harri yr Wythfed,
ar y nawfed o Fedi, 1513.
Yna holais a oedd y brenin yn bresenol. Dywedodd, “Nac oedd, yr oedd yn
Ffrainc, ac Iarll Surrey oedd y Prif Lywydd." Gofynais
iddo pa oedran y gallai fod y pryd hwnw. Dywedodd, “Oddeutu tair ar ddeg; o
herwydd," meddai ef, “anfonwyd fi i North Allerton, gyda phwn ceffyl o
saethau, ond oddiyno anfonwyd bachgen mwy â hwynt i 'r fyddin." Yr oedd
hyn yn cytuno â hanes yr amser, o herwydd bwâau a saethau a arferid y pryd
hwnw; yr oedd yr Iarll a enwodd yn faeslywydd, a’r Brenin Harri ar y cyfnod
yn Tournay yn Ffrainc.
|
|
|
(delwedd H2010) (tudalen 9)
|
9
Yna gofynais iddo os gallai ddarllen ac ysgrifenu. Atebodd y medrai ddarllen
yn lled dda, argraff ac ysgrifen. “Dylaswn," ebai efe, “fod yn
ysgrifenwr gwell, canys cymerodd fy mam, yr hon oedd yn ysgoleiges dda, lawer
o drafferth i'm dysgu; ond gwnaeth fy nhad gymaint ag a allai i’m rhwyitro, o
herwydd nid oedd efe yn unig yn annysgedig ei hun, on casâai ddysg mewn
ereill."
Yr oedd y pryd hwnw lawer yn byw yn yr un plwyf y rhai oeddynt yn agos neu
dros gant oed, a thystient oll fod Jenkins yn hen wr er pan oeddynt hwy yn ei
gofio, canys yr oedd wedi cael ei eni cyn bod un gofrestr yn yr eglwysi. Yna
dywedodd wrthyf iddo fod yn drulliad i Arglwydd Conyers, a'i fod yn cofio
Abad Abatty Fountain yn bur dda cyn dilead y mynachlogydd.
Bu farw yr Henry Jenkins hwn yn Rhagfyr, 1670, yn Ellerton ar Swale, yn sir
Gaerefrog; yr oedd oddeutu tair ar ddeg oed pan ymladdwyd Brwydr Maes
Flodden; felly bu fyw dros 169 o flynyddoedd, sef dwy flynedd ar bymtheg yn
hwy na'r Hen Parr, dyn hynaf wedi dystrywiad y byd cyn-ddiluwiol.
Yn nghanrif olaf ei fywyd yr oedd yn bysgotwr — ei alwad yn y dyfroedd, a'i
ymborth yn gyffredin; ond yn ei ddyddiau diweddaf cynelid ef fel y
crybwyllwyd.
Bu yn dyst yn y cangheil-lys a llysoedd ereill ar bethau yr oedd yn eu cofio
er ys mwy na chant a thri ugain mlynedd; bu hefyd yn Mrawdlys Caerefrog fel
tyst, i'r hwn le yr elai yn gyffredin ar ei draed, pellder o fwy na deugain
milldir, a sicrâwyd fi gan foneddigion y gymydogaeth ei fod yn fynych wedi
bod yn ymdrochi yn yr afon pan yr oedd dros gant oed.
Y mae yn Swyddfa Cofrestr y Brenin, yn y Syllty, gof o dystiolaethau mewn
cyfraith Seisnig, a gymerwyd yn 1665, yn Kettering, sir Gaerefrog, lle y
dygwyd Henry Jenkins, o Ellerton ar Swale, 164 oed, yn mlaen yn dyst.
Y mae yn awr (medd Mrs.
Saville) yn meddiant Mr.
|
|
|
(delwedd H2011) (tudalen 1)0
|
10
Stokes, o Kenilworth, yn swydd Wnrwick, arch-len (coffin-plate) a gafwyd yn
ddiweddar, ar yr hwn y mae y cerfiad rhyfedd hwn — "Mr. James Bowles,
obit. Awst 15, 1656, 152 oed." Wrth hyn ymddengys iddo fyw i'r un oed
a'r Hen Parr, marw ugain mlynedd ar ei ol, a phedair blynedd ar ddeg o flaen
Henry Jenkins. Alcan (tin) yw yr archlen, wedi golchi y ddau wyneb iddi ag
arian, ac ar ei chefn enw y gwneuthurwr (fel y tybir) John Dyer.
Gan fy mod yn awr (medd Mrs. Saville) yn ymorphwys yn hollol ar Jenkins am fy
ngwellâd, erfyniais iddo ymweled â mi mor fynych ag y gallai, a chan ei gael
yn meddu talentau anghyffredin, a chof da rhagorol, un dydd gofynais iddo a
fyddai yn wrthwynebol ganddo fynegu i mi rywfaint yn mhellach o hanes el
fywyd, Atebodd na fyddai, ac yn ddioed dechreuodd fel hyn: " Ganwyd fi
(yn ol hanes fy mam) ar y 17eg dydd o Fai, 1500, yn Ellerton ar Swale, yn sir
Gaerefrog; ar yr amser y'm ganwyd, yr oedd fy nhad, fy mam, fy nhaid, fy
nain, a'm hen nain, i gyd yn byw yn yr un ty, a adeiladasant eu hunain, yr
hwn oedd yn benaf yn gynwysedig o gangeni mawrion o goed, clai, a baw y
ffordd, ac wedi ei doi â gwellt, a'i wahanu i amryw ystafelloedd. Ymddengys
fod fy nhad y pryd hwnw mewn cyflwr lled dda, o leiaf yr oedd ganddo geffyl a
chert, a buwch, ac yr oedd ganddo ardd helaeth, yr hon oedd yn llawn o goed
ffrwythau a llysiau, y rhai a ddygai efe i'r farchnad gyfagos i'w gwerthu,
i'r hyn y cynorthwyais inau gan gynted ag y gellais. Efe hefyd a ai ar brydiau i erddi y boneddigion
oddiamgylch i drin y coed a phethau ereill. Yn y gauaf efe a blanai ac a
wellâi wrychoedd a ffyrdd y gymydogaeth, yn yr hyn y cynorthwywn inau ef; fy
mam, hefyd, a werthai fenyn, caws, llaeth, ffrwythau, a llysiau. Gelwid fy
mam a'm nain yn feddygesau y pentref, ac ystyrid hwy mor ragorol yn yr alwad
hono fel y deuai y cymydogion a phobl y wlad am filldiroedd oddiamgylch
atynt, pan fyddai arnynt ryw ddolur neu afiechyd, a chan eu bod
|
|
|
(delwedd H2012) (tudalen 11)
|
11
wedi cael y fath arferiad, nid mynych y methent iachau y cleifion."
Gofynais i Jenkins pa fodd y gallai y fath bobl wladol ac annysgedig feddu ar
y ffordd i wellâu clefydau, y rhai oeddynt yn fynych yn myned yn drech na
holl fedrusrwydd a gwybodaeth y meddygon goraf. Dywedodd, “Yr oedd gan
fy nain frawd o'r enw Hugh Smith, yr hwn, pan oedd yn un ar ddeg neu ddeuddeg
oed, a aeth ar y môr gyda meddyg ar long, ac efe a hoffodd y bachgen yn fawr,
gan ei ddwyn ef yn ysgolaig rhagorol. Bu hwnw lawer o flynyddoedd
oddicartref, ac ymddengys iddo ar farwolaeth ei feistr gymeryd y swydd o
feddyg yn ei le, achyfrifid ef yn un medrus iawn yn ei alwad; arosodd ymaith
dros lawer o flynyddoedd, a phan ddaeth adref, trwy ei fod mor hoff o'i
chwaer (mam fy nain), mynai iddi drigo gydag ef i drin ei dy, gan ei fod heb
briodi, a hithau a'i cynorthwyai ef yn ei alwad feddygol. Ond, modd bynag,
nis gallai fod yn foddlon gartref; wedi aros mor hir ar y môr, dywedai ei fod
fel pysgod ar dir. ac ar ol trigo ychydig flynyddoedd gartref hwyliodd
drachefn tua'r India Ddwyreiniol. Arosodd ymaith gerllaw deng mlynedd ar
ugain, nes yr oeddym oll wedi meddwl ei fod wedi marw; ond er ein mawr
syndod, heb un rhybudd blaenorol, dychwelodd adref. Y pryd hwn darfu i'm nain
ei ddarbwyllo unwaith yn rhagor i sefydlu gartref a dylyn ei alwad feddygol,
a thrigodd hithau gydag ef, gan ei gynorthwyo yn ei waith fel o 'r blaen.
Wedi iddo aros gartref dros ychydig flynyddoedd, lletyai ddymuniad drachefn
am fyned i'r môr unwaith yn rhagor, wedi cael yn ddiweddar golledion mawrion,
ac ni allai fy nain na neb o honom ei ddarbwyllo i gyfnewid ei fwriad, ac
unwaith yn ychwaneg hwyliodd tua'r India Ddwyreiniol. Cyn ei ytnadawiad
rhoddodd i fy nain ei holl gyffeiriau a'i offerynau meddygol, gyda'i
gyngorion gwerthfawr at amryw ddoluriau, ac o herwydd yr arferiad a gafodd
gyda'i brawd, yr oedd pobl y wlad yn cyrchu ati hi pan fyddai rhyw anhwyl-
|
|
|
(delwedd H2013) (tudalen 12)
|
12
deb arnynt, ac felly hefyd at fy mam ar ol marwolaeth y llall."
Yna gofynais pa un a ddychwelodd ei ewythr, y meddyg, byth yn ei ol ai na
ddo. Atebodd, “Na ddo, o herwydd ystyriai yr hinsawdd yn rhy oer
gyfansoddiad; a chan iddo gael twymyn a selni mawr yn yr India Ddwyreiniol,
daeth mewn llong Bortugiaidd i Lisbon, lle y trigodd dros lawer o
flynyddoedd, ac y bu farw. Ar ei ddyfodiad cyntaf i Lisbon anfonodd amryw
lythyron at fy nain, yn erfyn arni ddyfod yno ato ef; ond yr oedd ganddi y
fath atgasrwydd at y môr, fel na ellid ei darbwyllo i fyned yno, a hi a fu
farw yn ein ty ni yn 138 oed. Clywsom wedi hyny i'w brawd farw yn agos i'r un
amser; yr oedd efe oddeutu dwy flynedd yn henach na hi."
Gan fy mod yn ddernyn o feddyges fy hun (ebai Mrs. Saville), gofynais i
Jenkins os oedd ganddo rai o gyngorion ei ewythr, y meddyg, y rhai a roddasai
efe i'w nain. Atebodd fod y papurau ganddo yn ei gist gartref, y rhai a
gawsai efe gan ei fam, ac os dymunwn y rhoddai efe hwynt i mi, gan nad
oeddynt o fawr ddefnydd iddo yn ei oedran ef. Dywedais wrtho os dyna fel yr
oedd y byddai yn dda genyf eu cael; yn ganlynol dygodd hwynt gydag ef y tro
nesaf y daeth, ac wedi cymeryd ymborth aeth yn mlaen â’i hanes.
Y cyngorion a gefais gan Jenkins, gyda llawer ereill ydwyf wedi brofi fy hun,
a roddais i mewn yn niwedd hanes ei fywyd, yr hyn wyf yn fwriadu gyoeddi ar
ol ei farwolaeth, os byddaf byw yn hwy nag ef, a sicrâaf y darllenwyr i mi
wneud rhai meddyginiaethau rhyfeddol gyda rhai o honynt yn barod. Myfi a
welais, y mae yn wir, gyngorion lled gyffelyb mewn llyfrau ereill; ond gan
fod y rhai hyn yn ysgrifau mor hen, rhaid mai hwy yw y rhai cyntaf.
Yn nesaf gofynais i Jenkins os bu ganddo erioed frodyr neu chwiorydd. Atebodd
na fu ganddo erioed ond un chwaer, yr hon oedd oddentu dwy flynedd yn hynach
nag ef, a bu farw yn 123 mlwydd oed. “Yn wir," ebai ef, “bu
|
|
|
(delwedd H2014) (tudalen 13)
|
13
ein holl deulu ni farw mewn oedran mawr, wedi mwynhau iechyd da a'u holl
synwyrau hyd y diwedd."
Gofynais, gan ei fod ef a'i deulu wedi byw i'r fath oedran hir, pa un a
oeddynt wedi defnyddio unrhyw foddion neillduol i'r dyben hwnw. Dywedodd,
“Oeddynt, yfent yn wastadol ddwfr tar, cawl danadl, neu drwyth danadl."
Gofynais iddo pa fodd yr oedd yn parotoi dwfr tar. Dywedodd y cawn hyny yn
mhlith y cyngorion a roddodd efe i mi, a byddai ei ewythr yn dyweyd ei fod yn
adnewyddydd nerth penaf a ellid gael; yr oedd yn cywiro ac yn puro y gwaed,
ac yn peri iddo redeg trwy y corff yn rhwydd; arferai ddyweyd yn fynych, Y
gwaed yw y bywyd, ac wrth gadw hwnw mewn cylchrediad priodol rhwystrir bron
pob afiechyd, a bydd i'r personau a arferant gocheliadau hyn fyw yn llawer
hwy, a mwynhau gwell iechyd nag ereill. Yr wyf yn awr,” meddai Jenkins, “yn
163 mlwydd oed, a braidd y cefais brofi erioed beth yw bod yn glaf. Bydd i 'r
dwfr tar a'r cawl danadl (byddaf fi fynychaf yn bwyta y danadl gyda y cawl)
gadw y corff yn agored, a rhwystro afiechyd a gyfyd oddiwrth gorff rhwym. Bu
agos i mi ag anghofio crybwyll am un peth arall rhagorol i gadw iechyd ac i
wneyd bywyd hir, sef llyncu yn achlysurol wy newydd, heb ei ferwi, yn y
boreu; dyna oedd arferiad fy ewythr yn barhaus, ac ystyriai efe hyny yn achos
o'i fod yn byw mor hir, gan ei fod wedi myned dan gymaint o wahanol hinsoddau
a chyfnewidiadau.
"Gan fy mod yn unig fab," ebai Jenkins, "yr oedd fy mam hoff
iawn o honof, a chymerodd ofal neillduol am fy iechyd pan oeddwn yn ieuanc:
dywedai, gan gynted ag y ganwyd fi, o'r braidd, yn ol arferiad cyffredinol
ein teulu, pa un bynag ai bechgyn ai gwnaeth i mi wasgod wlanen wlanog, a
phethau i’w chylymu dros fy ysgwyddau, a’i chylymu ar bob ochr, yr hon oedd
yn gorchuddio fy lwynau, ac o ganlyniad yn ddeublyg y tu blaen; dywedai fod y
peth hyn yn rhwystr i lawer o ddoluriau yr
|
|
|
(delwedd H2015) (tudalen 14)
|
14
oedd plant yn agored iddynt, ac o'r braidd yn rhwystr perffaith iddynt gael
anwyd, prif achos o'r rhan fwyaf o'r clefydau a'r doluriau y mae y plant yn
agored iddynt; y mae hefyd o wasanaeth mawr iddynt pan y maent yn tori
danedd, trwy gadw y gwaed yn dwymn ac yn esmwyth; ac yr wyf yn credu pe
byddai mamau yn gyffredin yn dylyn y rheolau hyn, y gochelent lawer awr drom,
a llawer traul orchyll, er y cwbl a ddywedid i'r gwrthwyneb gan ryw ddoethion
rhyfeddol, y rhai a fynegent i'm mam nad oeddynt hwy yn cymeradwyo defnyddio
gwlanen at blant pan oeddent mor ieuanc, gan ystyried fod hyny yn fwy priodol
i bersonau hynach; a'i hateb cyffredin oedd i, “Paham na osodwch heibio yr
hen wlanen?" Yn wir, yr wyf yn ystyried bywyd hir, ac iechyd
anghyffredin fy nheulu yn ddigonol ateb i'r gwrthwynebiadau hyn. Pan oeddwn
yn alluog i gerdded fy hun gwnaeth fy mam i mi socasau o hirwlan, neu yn
hytrach haner hosanau, yr hyn, gyda phais wlanen, ac esgidiau uchel a gyrhaeddent
at fy meilyngau (y rhai ydynt gryfâd mawr, ac yn rhwystr i'r fferau droi yn
geimion), yn ataliad pendant i'm coesau gael anwyd, ac yn cadw fy nhraed, fy
nghoesau, a'm cluniau yn gynes ac esmwyth; ystyriai y pethau distadl hyn, y
rhai a arferid dros lawer blwyddyn yn ein teulu ni, yn brlf achos na chafodd
neb o honom y gewynwst na'r gymalwst, trwy Ragluniaeth, a'r achos hefyd i ni
oll fyw i'r fath oedran hir. Pan y tyfais i fyny dylynais alwedigaeth fy
nhad, sef garddwriaeth, myned i'r marchnadoedd gydag ef, &c., a chan fy
mod o angenrheidrwydd yn agored i bob tywydd, trwy gyngor fy mam cefais
grysau gwlenyn digon hir i orchuddio fy lwynau, ac is-glos o'r un defnydd,
gyda hosanau tewion o hirwlan, esgidiau uchel, y rhai a gylyment yn mlaen, a
gyraeddent yn uwch na fy meilyngau, gyda gwadnau tewion wedi eu hoelio, yn
esgidiau gweithio; y mae yn afreidiol i mi ddyweyd mai anfynych y cawn anwyd.
Ni fuasai fy holl wisg, y
mae yn wir, yn addas i bob un, ond cyngoraf bob
|
|
|
(delwedd H2016) (tudalen 15)
|
15
person sydd yn gwerthfawrogi ei iechyd i wisgo gwlanen yn agosaf i'w groen, ac
i'w newid o leiaf bob pythefnos, a bydd hyny yn sicr o'u gwneud yn iachus a
chysurus yn eu hen oedran. Bydd y rhai na fuont arferol o 'u gwisgo, fe
allai, yn teimlo eu hunain yn anghysurus ar y dechreu, ond wedi iddynt eu
gwisgo dros wythnos neu ddwy, dechreuant deimlo eu lles a'u cysur. Ni ddylai
y rhai sydd yn wisgo gwlanen byth ei throi heibio haf na gauaf, ac ni fydd
ynddynt un tueddiad i wneyd hyny ar ol iddynt eu gwisgo dros beth amser; hi a
gymera iddi y chwys ac a geidw y corff yn oer, a rwystra y cwlwm gwythi, y
gymalwst, y gewynwst, a llu o ddoluriau ereill. Gyda golwg ar fy ymborth
arferol, yr oedd yn gynwysedig o fwyd cyffredin, megys bara a chaws, cig oer
gydag wniwns, llysiau, rhuddugl (raddish) &c. Yr oedd ein holl deulu yn
hoff o wniwns, y rhai wyf yn ystyried yn iachus iawn, yn wir, wedi eu berwi
neu rostio, ond ni ddylid eu rhostio na'u berwi yn ormod; wrth eu cymeryd heb
eu trin, cânt yr un effaith yn dufewnol â gwlanen yn allanol; ac heblaw hyny,
y maent, os cymerir hwynt yn oerion i swper, yn rhwystr i bob anwyd gwyntog.
Anfynch y swperem ni yn y gauaf hebddynt, a chefais hwynt bob amser yn peri
cysgu, ac yn twymno y corff. Anfynych yr yfwn ddim heblaw dwfr, neu ddiod
fain, ond pan y gweithiwn yn galetach nag arferol ni chefais fod peint o gwrw
erioed yn gwneyd drwg i mi; a chan ddylyn arferiad yr Hen Parr, ni fyddwn yn
bwyta ond pan fyddai chwant bwyd, nac yn yfed heb fod yn sychedig. Yn
gyffredin bwytawn fy swper oddeutu saith ar gloch yn y gauaf, ac wyth yn yr
haf, gan gerdded oddeutu awr ar ei ol i'w dreulio. Y mae rhai pobl yn erbyn
swperau fel pethau afiachus, ond yr wyf fi o'r gred, os byddant yn ysgafn, ac
wedi eu cymeryd awr neu ddwy cyn myned i'r gwely, eu bod yn hollol fel arall.
Byddai y rhai a giniawant yn hwyr ac yn ardderchog, y mae yn wir, yn llawer
gwell heb swper; ond yr wyf yn credu na fydd i berson newynog a
|
|
|
(delwedd H2017) (tudalen 16)
|
16
elo i'w wely heb ddim swper gael dim llawer o orphwysdra. Ein hamser arferol
o fyned i’r gwely oedd naw ar gloch yn y gauaf, a deg yn yr haf; ac o gyfodi,
pump yn y boreu yn yr haf, a saith yn y gauaf, a myfi a yfwn haner peint o
ddwfr oer yn wastad bob boreu ar ol cyfodi o'r gwely."
Arosodd Jenkins yma ychydig, pan y gorchymynais ddwyn iddo ymborth, ac yn
fuan wedi hyny aeth yn mlaen â’i hanes.
Ebai fe, “Pan oeddwn oddeutu deuddeg oed, dechreuais deimlo casineb at
alwedigaeth fy nhad, neu yn hytrach at ei dymer, yr hon oedd yn wyllt ac
erchyll, yn gymaint felly pan fyddai rhyw beth yn ei flino, fel yn gyffredin
y byddai y gair yn dyfod ar ol yr ergyd. Aethym oddiamgylch i wneyd rhyw fân
bethach oddeutu dwy flynedd, pan y cymerodd boneddig o'r enw Mills fi, yr hwn
oedd yn byw yn y gymydogaeth, i'w wasanaeth, i edrych ar ol ei geffylau, i
gynorthwyo yn yr ardd, ac i wneyd rhyw fân bethau ereill. Ar ol i ml fod
gydag ef dair neu bedair blynedd, trwy anffawd anghysurus cefais i a'r holl
weinidogion ereill ein troi ymaith heb un geirda. Yr oedd fy meistr yn godwr
boreuol iawn, a phan ddaeth i lawr y grisiau yn bur foreuol un boreu, cafodd
yr holl ddrysau heb na chlo na bollt arnynt, a phob un heb ei dori, a phob
peth o werth a ellid eu cario wedi eu lladrata a'u dwyn ymaith o'r ty. Yn
ddioed canodd y gloch yn wyllt, a rhybuddiodd yr holl wasanaethyddion i
ddyfod o’i flaen ef i'r parlwr, a dywedodd ei fod yn sicr fod rhai o honynt
hwy yn rhanog yn yr ysbeiliad, gan nad oedd un clo na bollt wedi ei dori, a
bod yn rhaid i rai o honynt ollwng y lladron i fewn, trwy ei fod ei hun wedi
cloi a chau pob man wrth fyned i'w wely. Tystiasom ein huniondeb bob un, ond
er hyny, mynegodd os na wnaem gyfaddef y troai efe ni oll ymaith yn ddioed.
Nid oedd holl gyngorion y cymydogion ond ofer iddo, parhaodd yn ei fwriad yn
ddiysgog, a gwnaeth i ni oll adael y ty y diwrnod hwnw, a myfi a aethym i
weithio rhywbeth a gawn
|
|
|
(delwedd H2018) (tudalen 17)
|
17
fel o'r blaen. Ond gan fod y gogyddes wedi bod yn aros lawer blwyddyn gyda
Mr. Mills, cafodd sefyllfa yn y gymydogaeth yn ddioed, ond ni fu rhai o'r
gwasanaethyddion ereill mor ffodus. Y mae yn addas sylwi yma i 'r gogyddes yr
hon oedd yn cysgu gyda morwyn y ty, ar y noswaith y cymerodd yr ysbeiliad le,
wrth fyned i'w gwely, wneyd defnydd o eiriau anweddaidd, am yr hyn y cafodd
ei cheryddu gan ei chywely, trwy ei bod o feddwl sobr, a hithau a
dystiolaethodd mai dyna y tro cyntaf erioed, ac mai hwnw fyddai y diweddaf.
Ar ol i'r gogyddes fod am amryw fisoedd yn ei sefyllfa newydd, dygwyddodd
fyned i fasnachfa yn y gymydogaeth i brynu rhyw bethau, y rhai oeddynt mewn
ystafell dufewnol, can gynted ag yr aeth y masnachwr i ystafell arall I
gyrchu y pethau, dyn a ddaeth i fewn ar ei hol, a fynegodd y geiriau a
ddywedasai hi wrth ei chywely ar noswaith yr ysbeiliad. Ni wnaeth ddim sylw
wrtho ar y pryd; ond wedi cael ei neges, aeth ymaith yn ddioed, ac at Mr.
Mills, yr hwn oedd yn byw gerllaw; cafodd ef yn sefyll wrth ei ddrws, a
dywedodd wrtho fod y dyn a ysbeiliodd ei dy mewn masnachfa gyfagos. Aeth Mr Mills gyda hi yn ddioed, a
daliwyd y dyn. O flaen yr ynad gwadodd fod ganddo ef un llaw yn y lladrad, na
wyddai efe ddim am dano; ond dywedodd y gogyddes am y peth oedd hi yn lefaru
wrth forwyn y ty, a’r modd y bu rhyngddynt ar y pryd hwnw, yn yr hyn y
cytunodd morwyn y ty yn hollol, ac anfonwyd y dyn i aros ei brawf, yr ynad yn
dyweyd fod yn rhaid ei fod wedi ei ddirgelu yn yr ystafell ar yr amser wnw.
Wedi ei roddi yn ngharchar, cyfaddefodd ei fod yn ymguddio ar y pryd dan y
gwely, ac iddo bron datguddio ei hun trwy chwerthin am eu penau, a phan
aethant i gysgu daeth allan o'i ymguddfa ac agorodd y drws i'w gyfeillion, y
rhai a ysbeiliasant y ty.
“Crybwyllais y peth (ebai Jenkins) yn benaf i ddangos mor an angenrheidiol
ydyw i bawb edrych dan y gwely, ac yn mhob man yn yr ystafell, cyn yr elont
i'r
|
|
|
(delwedd H2019) (tudalen 18)
|
18
gwely, ac hefyd i ddangos mor afresymol ydyw i neb droi ymaith ei
wasanaethyddion yn rhy fyrbwyll cyn cael prawf. Pan glywodd Mr. Mills
gyfaddefiad y lleidr, yr oedd yn flin neillduol ganddo am ei ymddygiad tuag
at ei wasanaethwyr, ac un Ri gnlwudd gyda hwynt, neu anfonodd am danynt i
wneyd iawn am ei ymddygiad. A chan mai myfi oedd yr unig un allan o sefyllfa
ar yr amser, cymerodd fi yn ddioed yn was iddo ef ei hun, ac yn fuan wedi
hyny gosododd fi yn ddrulliad, yn mha sefyllfa y parheais nes y bu efe farw,
yr hyn a ddygwyddodd yn nghylch ugain mlynedd wedi hyny, ac oddiwrth y geirda
a roddodd efe i mi, yn mhen ychydig ar ol hyny cefais y swydd o drulliad i
Arglwydd Conyers. Ar ol bod flynyddau lawer gydag Arglwydd Conyers,
dygwyddodd anffawd anghysurus yno, rhywbeth yn debyg fel y bu gyda Mr. Mills,
yr hyn a wnaeth i'w Arglwyddiaeth droi ymaith ei holl wasanaethyddion yr un
dydd. Yr oedd ganddo drewflwch hardd a gwerthfawr iawn wedi ei addurno â
pherlau. Cariai y blwch hwnw yn wastad yn llogell ei wasgod. Un tro pan oedd
yn glaf iawn, ac yn cadw ei ystafell wely, ar ei gyfodiad yn y boreu methodd
gael gafael yn y trewflwch; gwyddai ei fod ganddo pan yr aeth i’r gwely, a
chan na fu allan o'i ystafell daeth i’r penderfyniad ei fod wedi gadael iddo
syrthio yn yr ystafell; canodd y gloch yn ddioed, a gorchymynodd i’r gwas
chwilio am dano, yr hyn a wnaeth dros hir amser, ond heb ei gael. Yr oedd ei
Arglwyddiaeth mewn llid mawr, a mynegodd os na cheid y blwch y troai efe
ymaith bob gwasanaethydd oedd yn y ty, gan haeru fod yn rhaid bod rhai o
honynt yn ei feddu, o herwydd yr oedd efe yn sicr ei fod yn ei law cyn iddo
fyned i'r gwely, ac ni fuasai efe allan o'r ystafell wedi hyny. Chwiliwyd yr
ystafell drachefn a thrachefn, ond y cwbl yn ofer, ni ellid cael y blwch, ac
er ein bod ni oll yn datgan ein diniweidrwydd trowyd pob un o honom ymaith, a
phan yr eid ato i ofyn am eirda adroddai hanes y trewflwch, fel mai trwy
anhawsder mawr y cawsant le drachefn.
|
|
|
(delwedd H2020) (tudalen 19)
|
19
Yr Arglwydd Conyers hwn (y diweddaf o'r enw hwnw) a fu farw heb un etifedd,
yn nheyrnasiad Philip a Mari, B.A. 1557. Yn fuan ar ol marwolaeth ei Arglwyddiaeth,
cafwyd yr un trewflwch yn llogell clos melfed iddo a grogasid yn mhlith ei
ddillad, lle y tybir iddo ei roddi mewn camsynied, yn lle llogell ei wasgod,
o herwydd yr oedd un o'r gweision yn tystio fod y clos hwnw am ei
Arglwyddiaeth pan y cymerwyd ef yn glaf, ond nid byth wedi hyny. Gan fy mod i
gymaint oddiamgylch i'w Arglwyddiaeth, wrth olwg ac ystumiau y mae genyf
achos i gredu fy mod yn cael f'y nrwgdybio ganddynt, ac wedi hyny clywais fod
rhai o honynt yn dyweyd hyny: bydded hyny y bo, bum i allan o waith dros hir
amser, pan, un tro, y dygwyddais gyfarfod hen adnabyddiaeth, yr hwn oedd yn
cael ei fywoliaeth wrth bysgota yn y ffrydiau cyfagos, a thrwy ei daer
erfyniad unais ag ef yn ei alwedigaeth, a bum yn yr alwad hono yn mwynau
iechyd rhagorol, hyd o fewn dwy flynedd yn ol, pan y darfu i rai o
foneddigion y gymydogaeth (yn enwedig y rhai a wellêais o amryw ddoluriau),
weled yn addas fy nghynorthwyo yn y modd yr ydych wedi clywed, gan fy
nghyfrif yn awr yn rhy hen i weithio.
“Y mae yn awr yn eich meddiant, Madam," ebe Jenkins, holl
brif-amgylchiadau fy mywyd; am y pethau a ddygwyddasant er pan wyf yn
bysgotwr, mewn gwirionedd, nid ydynt werth eu hadrodd." Diolchais iddo
am y wybodaeth a roddodd mewn perthynas i'w fywyd, &c., ac anfonais ef
ymaith gydag anrheg, gan ddeisyf arno ymweled â mi can fynyched ag y byddai
yn gyfleus iddo, yr hyn a barâodd i wneyd hyd ei farwolaeth, yr hon a
gymerodd le oddeutu pum mlyned[d] wedi hyny. Prin yr oedd Jenkins wedi gadael
y ty pan y galwodd yr hen foneddig, fy nghymydog, gyda mi, yr hwn a'i
anfonodd ef gyntaf ataf, pan, yn ddioed, y darllenais yr hanes a roddasai
Jenkins am dano ei hun i mi. Ar ol peth arosiad, “Yr wyf yn credu,
Madam," ebai ef, “fod pob gair a ddywedodd efe wrthych yn eithaf gwir; o
|
|
|
(delwedd H2021) (tudalen 20)
|
20
leiaf, clywais y rhan fwyaf o hono gan eraill, y rhai a'i hadwaenent yn dda
dros flynyddoedd; ond yr wyf yn meddwl y gallaf adrodd rhai pethau a welodd
efe yn addas i'w cuddio. Ychydig flynyddau yn ol, clywodd y brenin presenol,
Siarls II., am ei oedran mawr, &c., a dymunodd gael ei weled yn Llundain,
gan anfon iddo gerbyd i'w ddwyn i fyny yno; ond, modd bynag, gwrthododd
Jenkins fyned i’r cerbyd, gan ddewis yn hytrach fyned ar ei draed; ac felly y
bu, trwy deithiau byrion, efe a aeth i Lundain, ffordd yn agos i ddau gant o
filldiroedd. Ar ei ddyfodiad i Lundain cyflwynwyd ef i'w Fawrydi, yr hwn a'i
holodd ef yn fanwl yn nghylch ei alwedigaeth, ei ddull o fyw, &c., ac heb
ganfod dim yn neillduol yn hyny, gofynodd iddo pa fodd yr oedd wedi medru byw
gymaint yn hwy na phobl ereill. “Syr," ebai Jenkins, "yr wyf yn
wastad yn cadw pen oer, traed twymn, ac ni fum erioed yn hoff o ferched a gwin."
Ni ddangosai y brenin wedi cael ei foddâu yn fawr wrth yr ateb hwn, o herwydd
gwyddid dda ei fod yn hoff o'r ddau, a gollyngodd ef ymaith, a dywedwyd i mi
iddo gael rhodd flynyddol. Ond, modd bynag, ni fynegodd Jenkins hyny i neb a
glywais i; efe a fydd yn ddystaw, neu a dry y pwnc, yn wastad pan y gofynir
iddo.
Efe a ddywedodd wrth y
brenin nad oedd yn hoff o ferched na gwin. Pa anhoffder bynag oedd ganddo i
win, os yw y dywediad yn wir, nid oedd ganddo anhoffder neillduol i ferched,
o herwydd pan oedd efe gerllaw deg a phedwar ferched, o herwydd pan oedd efe
gerllaw deg a phedwar ugain oed dywedir fod ganddo ferch ieuanc yn feichiog,
a dim ond ei henaint barodd iddynt beidio ei roddi i ddwyn ei benyd; ond beth
bynag, cafodd wers lem gan offeiriad y plwyf, yr hwn oedd yn ddyn tra duwiol.
A dywedid rhyw beth cyffelyb am dano pan oedd yn drulliad gydag Arglwydd
Conyers; ond yr wyf yn meddwl na phrofwyd erioed mo hyny. Ond ymddangosai
ynddo gasineb yn barhaus at briodas, yr hyn a achoswyd, fel y clywais, trwy
gael ei siomi mewn cariad yn ei ddyddiau ieuengawl. Pa un a ydyw yr
|
|
|
(delwedd H2022) (tudalen 21)
|
21
hanesion hyn am dano yn wir, ai nad ydynt, nid wyf yn meddwl penderfynu, ond
clywais hwynt fel gwirionedd, fwy nag unwaith, gan rai a’i adwaenent yn dda.
Trwy fod Mrs. Saville yn tybied nad oedd yr hanes a roddasai Jenkins am dano
ei hun yn ddigon i wneyd cyfrol, wedi sylwi ar burdeb yr awyr a iachusrwydd y
rhan hono o sir Gaerefrog, lle yr oedd Jenkins yn byw, man a elwir yn
gyffredin Montpelier Lloegr, a yn mlaen i roddi darluniad boddâol o hono; ond
gan fod llawer o gyfnewidiadau a diwylliaeth wedi cymeryd lle yno ar ol ei
hamser hi, fe allai y bydd yn fwy boddâol i'r darllenydd gael hanes am y lle
yn ngeiriau teithiwr diweddarach, ac un oedd yn gyfaill iddo. Dyweda fel hyn:
Y mae y wlad yma yn nodedig o iach, a'r trigolion yn byw i oedran mawr.
Rhoddodd tad a mab eu tystioiaeth yn ddiweddar yn mrawdlys Caerefrog, pryd y
cafwyd fod y tad yn 140, a’r mab yn 100 mlwydd oed."
Gan ddechreu gyda Richmond, efe a ddywed: “Y mae yr holl wlad oddiamgylch i
ni yma dros filldiroedd, yn llawn o farchogwyr a masnachwyr mewn ceffylau. Ac
y mae y rhyw mor adnabyddus fel na chedwir eu hachau dros nemawr o oesau, fel
y dywedir y gwneir yn Arabia; eto, dynodir ei meirch ag enwau yr hyn yn
wastadol a wna y pris yn uchel yn ol rhagoroldeb y tad y deuent o hono. Ac yn
wir, bostied dyeithriaid a fynont ar geffylau Arabia a Thwrci, neu rai
Yspaenaidd Cordova, am y rhai y talwyd pum cant o bunau yr un, yr wyf yn
meddwl bod rhai o eiddo y wlad yma, ac Esgobaeth Durham, yr hon sydd ar ei
chyfiniau, am gryfder a buandra, tu hwnt i'r rhai cyflymaf a fagwyd erioed yn
Twrci a Barbari, a chymeryd nerth a chyflymdra yn nghyd; ac er y geill un
Barbari fyned tu hwnt i un yn sir Gaerefrog ac redegfa o filldir, eto â un
sir Gaerefrog yn mhell o'i flaen mewn pedair milldir; aiff ceffyl Barbari â'r
dydd â saith pwys a haner, ond aiff un sir Gaerefrog â'r gamp gyda deuddeg pwys;
mewn gair, caiff ceffyl
|
|
|
(delwedd H2023) (tudalen 22)
|
22
sir Gaerefrog gario y dyn ac un Barbari y plyfyn; addefir eu bod yn geffylau
goraf am hela, ac hefyd ar y ffordd, ag sydd i'w cael yn y byd, a phrynir hwy
gan ddyeithriaid tramor ar y cyfrif hwnw. Gan fod cymaint o geffylau yn cael
eu magu yn y wlad hon, dygir yr ieuenctyd i fyny, y rhan fwyaf, yn y
meirch-dai, ac y maent yn rhai rhagorol da cheffylau. Heblaw eu clod am
geffylau, y maent yn borfawyr enwog iawn hefyd, dros yr holl wlad hon, ac yn
magu math rhagorol o ychain, fel y gellir gweled yn ffeiriau North Allerton,
man y prynir nifer mawr o honynt wyth waith y flwyddyn, ac y dygir hwynt can
belled a morfeydd sir Lincoln ac Ynys Ely, man y porthir hwynt i'r maint a'r
tewder anferth ag y gwelir hwynt yn marchnadoedd Llundain. Y farchnad y dygir gwartheg y wlad
ogleddol hon yn benaf yw St. Ives tref rhwng Huntlngdon a Chaergrawnt.
Richmond, a elwir felly oddiwrth ei sefyllfa ar fryn, sydd ffrwythlon, er fod
y wlad oddiamgylch iddi yn greigog a diffrwyth; rhydd yr enw sir Richmond i'r
dosbarth y mae ynddi, fel y gelwir un arall yn ddwyreiniol yn sir Allerton. Y
mae y gyntaf yn Esgobaeth Caerlleon Gawr, a’r olaf yn un Durham.
"Yr oedd y dref hon yn amser Richard II. yn un Duciaeth Lancaster, ac
felly y mae eto. Adeiladodd Iarll Edwin gastell yma, twr yr hwn sydd yn aros
hyd yn hyn, yn gystal â chlochdy yr hen briordy. Y mae yn fwrdeisdref a
lywyddir gan faer, &c., ac mewn grym ym mhob math o gyfraith; y mae
ganddi farchnadfa dda, a thri phorth a arweiniant i'w gwahanol gyffiniau; y
mae wedi ei hadeiladu yn dda â cheryg i gyd, ac yn anfon dau gynrychiolwr i'r
Senedd.
“Mynegwyd i mi i Mr. Wharton, is-swyddog dan y diweddar Dduc Richmond, yn y
flwyddyn 1732, orchymyn tirio i lawr yn ddwfn mewn gwahanol leoedd, i edrych
am y bont dröedig a'r ffos a berthynai i gastell Richmond; o chawsant afael
yn y bont, yr hon oedd wedi ei gwneyd a waith cywrain.
|
|
|
(delwedd H2024) (tudalen 23)
|
23
“Gwnaethom rai teithiau o’r dref i'r wlad oddiamgylch, dilynasom yr afon
Swale yn orllewinol, yr hon a red gyda muriau castell Richmond, ac o herwydd
creigiau, yr rhai a rwystrant ei ffrydiau, y mae yn gwneyd rhaiadr naturiol;
y mae yr afon hon, er nad yw fawr, yn nodedig am roddi enwau i'r tiroedd, trwy
y rhai y rhed am ryw bellder, a elwir Swale Dale; ac i hen deulu o’r enw hwn,
y diweddaf o ba rai oedd Solomon Swale, Barwnig (yr hwn a ysgrifenodd ei
hun), o Swale Hall, yn Swale Dale, wrth yr afon Swale.
“Bu y boneddig hwn yn anffawdus, a thorwyd ef allan o'i feddianau gan
ysgrifenydd yn y Syllty, yr hwn, wrth sylwi fod y teulu yn dal eu meddianau
dan y goron, a'u bod heb adnewyddu eu hawl er llawer o flynyddoedd, a gafodd
yr etifeddiaeth iddo ei hun. Cyfraith fawr a fu y canlyniad, ond heb un
effaith amgen na mwyâu anffodau y gwr boneddig hwn, yr hwn a fu farw yn
ngharchar y Fleet, ond nid cyn i'w wrthwynebwr ddistrywio ei hun, yr wyf yn
meddwl.
“Y mae Swale Dale yn ddyffryn isel, hyfryd, a ffrwythlawn, yn llawn o
welltglas, ond heb fawr o goed, er bod lle gerllaw a elwir Forest Swale Dale;
gallasai fod felly mewn amser gynt, ond nid oes yno ddim digon yn awr i'w alw
yn llwyn.
“Nid yn mhell oddiyno y mae Wensley Dale, dyffryn cyfoethog a ffrwythlawn
iawn wedi ei orchuddio â gwelltglas rhagorol, ar yr hwn y ceir gyroedd o
anifeiliaid, ac hefyd, mewn rhai lleoedd, mwn plwm. Rhed yr afon Eure trwy ei
ganol, yr hon sydd yn cyfodi yn y mynyddoedd gorllewinol, yn dra agos i
darddiad y Swale, yr hon, fel pe byddai, a neidiai iddo dros ddibyn yn Myton;
y mae yn y ddwy afon hyn ddigonedd o bysg, ac yn yr Eure y mae math o
bysgodyn a elwir Ceinwch Coch (Craw-fish.)
“Ond gadewch i mi aros yma i sylwi ar un o'r pethau mwyaf anghyffredin yn
Lloegr, neu, fe allai a fu erioed yn y byd — Henry Jenkins yr wyf yn feddwl,
oedran mawr a rhagoroldeb yr hwn sydd yn teilyngu sylw neillduol. Gan-
|
|
|
(delwedd H2025) (tudalen 24)
|
24
wyd ef yn y flwyddyn 1500, a bu farw yn 1670, yr hwn oedd y pryd hwnw dros
169 oed. Nid oes dim cofrestrau can hyned â hyny, ac felly rhaid penderfynu
ei oed un ai o'i hanes am dano ei hun, neu oddiwrth amgylchiadau, neu
hanesion pobl eraill, y rhai yw y pethau isod. Gofynodd boneddiges iddo, yr
hon oedd yn awyddus am wybod yn sicr beth oedd ei oed, pa oedran oedd, a pha
freninoedd oedd efe yn gofio; yr oedd hyn oddeutu chwech mlynedd cyn ei
farwolaeth. Atebodd ei fod yn 163 oed, a'i fod yn cofio brwydr Maes Flodden,
a ymladdwyd yn erbyn y Scotiaid yn nheyrnasiad Harri yr Wythfed. Yna gofynodd
iddo a oedd y brenin yno? Atebodd, Nag oedd, yr oedd yn Ffrainc, a Iarll
Surrey oedd y maeslywydd.' Gofynodd iddo beth oedd ei oedran ef y pryd hwnw.
Mynegodd mai tair ar ddeg oed. Ymladdwyd y frwydr hono ar y nawfed o Fedi,
1513, ac yr oedd y Brenin Harri y pryd hwnw yn Tourney yn Ffrainc. Yr oedd y
pryd hwnw lawer o bobl yn yr un plwyf y rhai oeddynt dros gant oed, a
thystient oll fod Henry Jenkins yn hen ddyn yr amser cyntaf oeddynt hwy yn ei
gofio ef. Elai yn fynych i'r brawdlys yn Nghaerefrog ar ei draed, pellder o
fwy na deugain milldir, a bu fel tyst mewn amryw lysoedd ereill, cofrestr y
rhai a grybwyllant am ei oedran mawr. Yr oedd yn wastad yn ddyn bywiog, a'i olwg
a'i glywed ganddo yn berffaith hyd y diwedd.
“Y foneddiges a grybwyllwyd uchod oedd yr Anrhydeddus Mrs. Ann Saville, merch
Iarll Maclesfield, a gweddw yr Anrhydeddus Mr. Saville, brawd Arglwydd
Saville; dywedodd y boneddig a roddodd i mi yr hanes hwn, ei bod yn ddynes
deimladwy ac elusengar iawn. Arferai ymweled i 'r tlodion cystuddiol, a
rhoddi iddynt gyffeiriau, a phethau ereill at eu hangenrheidiau a dywedir
iddi yn fynych roddi cyffeiriau i'r cyfoethogion hefyd, a gwneyd llawer iawn
o feddyginiaethau anhawdd a rhyfedd, trwy gyngorion Jenkins. Pan gwelodd hi
Jenkind gyntaf yr oedd mewn cyflwr afiach hynod; ond clywyd hi yn adrodd yn
fynych iddi
|
|
|
(delwedd H2026) (tudalen 25)
|
25
gael ei hadferyd i berffaith iechyd yn dra buan, a byw i oedran mawr. Yr oedd
yn addurn i'w rhyw; bu fyw yn cael ei charu, a bu farw yn cael galaru ar el
hol gan bawb a'i hadwaenai.”
BEDDARGRAFF
Ar Gofodail a osodwyd yn Bolton, sir Gaerefrog, trwy danysgrifiadau cyoeddus,
er coffadwriaeth am Henry Jenkins.
Na wridia, Fynor,
I achub rhag Anghof Goffadwriaeth
HENRY JENKINS,
Un o isel enedigaeth,
Ond o fywyd gwir ryfeddol,
Canys cyfoethogwyd ef
A phethau Natur,
Os nad â Golud,
A dedwydd oedd
Yn mharâd, os nad yn amrywiaeth
Ei fwynderau,
Ac er i'r byd pleidiol
Gasâu a diystyru
Ei gyflwr isel a gwael,
Gwelodd llygad anmhleidiol Rhagluniaeth ef,
Ac a'i bendithiodd
A iechyd tadawl a hir ddyddiau,
I ddysgu dyn camsyniol
Fod y bendithion hyn yn gynwysedig mewn
Cymedroldeb,
Bywyd o Lafur, a Meddwl Tawel.
Bu fyw i'r Oed rhyfeddol o
169,
A gladdwyd yma Rhagfyr 6, 1670.
A chafodd y Teilyngdod hwn ei wneyd i'w
Gofadwriaeth.
*1713
|
|
|
(delwedd K0027) (tudalen 26)
|
26
CASGLIAD O GYNGORION GWERTHFAWR, Y RHAN FWYAF O'R RHAI A RODDWYD I MRS.
SAVILLE, GAN HENRY JENKINS.
“Yr wyf yn credu (meddai Syr Richard Jebb) mai natur yw y meddyg goraf, ac
fod llysiau, yn eu modd digymyg, yn ddigonol i wellâu pob afiechyd."
“Yr Arglwydd a greodd feddyginiaethau allan o’r ddaear, a'r hwn sydd ddoeth
ni ddiystyra hwynt.” – Eccles. xxiii. 4.
D.S. — Myfi a roddais amryw gyngorion at yr un peth, canys, trwy lawer o
achosion, yn fynych y peth a wellâo un ni wellâ un aran; ond cyngorwn y
cyfryw bersonau ag a flinir â rhyw ddolur neillduol i ddefnydio pob un o'r
rhai a roddir i lawr yma at y peth.
AT Y WRACH NEU Y CRYD (Ague).
1. Toddwch scrupl, neu haner dram, o wermod, mewn gwydraid o ddiod fain, a
chymerwch ef bump neu chwech gwaith y dydd. Neu cymerwch gymaint ag a ddalier
ar swllt o lwch pen canwyll bron pan fyddo y pang yn dechreu. Neu cymerwch
gymaint ag a safo ar swllt o bylor, yr un modd. Neu rhoddwch dafell o wniwn
mawr wedi ei dori yn groes wrth y cylla. Neu drochwch mewn dwfr oer pan fyddo
y pang yn dechreu.
|
|
|
(delwedd K0028) (tudalen 27)
|
27
AT Y CRYD TRIDYDDIOL,
Neu un a ddychwelo bob tri diwrnod,
6. Rhoddwch wrth bob arddwrn blastr o driagl a huddugl. Neu bwytewch lemon bychan, y croen a'r
cyfan, cyn y pang.
AT Y CRYD PEDWAR-DYDDIOL.
8. Rhoddwch blastr o Venice Turpentine ar yr arddyrnau. Neu
un o bupur wedi eu malu, a'u cymysgu â thriagl. Neu rhoddwch olew Turpentine wrth y meingefn, pan
fyddo pang yn dyfod arnoch.
TAN IDDWF (Erisipelas).
11. Cymerwch dram o Beruvian Bark bob dwy awr. Neu cymerwch lonaid gwydr gwin
o ddwfr tar, yn dwymn, yn y gwely, bob awr, gan olchi y lle ag ef. Neu os
bydd y corff yn rhwym, cymerer dogn (dose) neu ddau o rhywbarb a cream of
Tartar.
Os bydd yr afiechyd wedi gafael yn y gwyneb neu yr ymenydd, dylid golchi y
traed yn fynych mewn dwfr twymn.
AT Y PARLYS MUD (Apoplexy).
15. Cymerwch scrupl o nitr, mewn lloned gwydr gwin o ddwfr oer, bob tair neu
bedair awr. Neu os bydd y pang yn fuan ar ol pryd bwyd, cyfoger, ond na
waeder. Neu yfwch yn helaeth o de sage; y mae hwn yn beth rhagorol i'r cylla.
Neu cymerwch dram o flodau lafant (lavender) mewn gwydraid o ddwfr twymn.
|
|
|
(delwedd K0029) (tudalen 28)
|
28
AT Y DIFFYG ANADL (Asthma).
20. Yfwch haner peint o ddwfr tar (wedi ei iawn barotoi) ddwy waith yn y
dydd, ac i bob haner peint rhoddwch loned llwy fwrdd o fel, siwgr candy wedi
ei falu, neu siwgr llwyd da; y mae hwn wedi gwellâu diffyg anadl a fu yn aros
dros ugain mlynedd, mewn ychydig fisoedd. Neu cymerwch loned llwy fwrdd o
frwmstan bob dydd, mewn chwarter peint o win Madeira, oddeutu un ar ddeg o'r
gloch. Neu felyn wy newydd ei ddodwy, mewn gwydraid o fedd-win, bob boreu gan
ymprydio; gellir ei felysu os dewisir. Neu cymerwch o ddeg i dri ugain
dyferyn o elixir o vitriol, mewn gwydraid o ddwfr, dair neu bedair gwaith y
dydd. Neu cymysgwch yn dda yn nghyd syrup of squills, a syrup marsh mallows,
a chymerwch lonaid llwy de yn fynych. Neu, bryd bynag y delo yr anadliad
gwrwstaidd neu y peswch arnoch, llyncwch belen neu ddwy o gamphor o faint
pysen, gwna hyn rwyddau y gwellâd yn fawr. Yn ddiod gyffredin yfwch de dail
carn yr ebol neu horehound, wedi ei felysu â mêl neu siwgr llwyd. Cafodd
llawer les mawr wrth fygu dail carn yr ebol wedi ei dori yn fin a'i gymysgu â
thobaco. Pan y mae diffyg anadl o natur sych a dirdyniadol, y mae cymeryd
llaeth newydd yn y boreu a'r nos yn dra buddiol, a'r pryd hwnw y ddiod oraf
yw dwfr berwedig wedi ei dywallt ar afalau wedi eu tori yn dafelli, a'u
melysu a mêl neu siwgr llwyd.
TORIAD ALLAN GERIAIDD (Bilious Humours).
30. Cymerwch dair neu bedair gwaith y dydd, o
|
|
|
(delwedd K0030) (tudalen 29)
|
29
ugain i ddeg ar ugain dyferyn o elixir of vitriol mewn gwydraid o win neu
ddwfr. Neu cymysgwch owns o tincture of Peruvian bark, gydag un dram o elixir
of vitriol, a chymerwch ddwy lonaid llwy de o'r cymysgedd hyn dair gwaith yn
y dydd. Neu cymerwch ddeg ar ugain neu ddeugain dyferyn o balsam of Peru,
mewn gwydraid bychan o French brandy, bob boreu oddeutu un ar ddeg o'r gloch.
Neu, os dewisir, gellir ei gymeryd ar siwgr gwyn. Neu cymysgwch 36 gronyn o
blue pill, gyda 24 gronyn o pill of cochiae, a gwnewch hyn yn ddeuddeg pelen,
a chymerwch un neu ddwy o honynt wrth fyned i'r gwely; y mae y rhai hyn yn
beleni cryfâol rhagorol iawn, ac yn dra llesol at glefyd yr afu; y peth goraf
i agor y corff yn y clefyd hwn (yr hwn sydd yn rhy gyffredin yn mhlith pawb)
yw castor oil; gellir cymeryd o un i dair llonaid llwy fwrdd, os bydd yn
angenrheidiol, i agor y corff. Cymeryd llonaid cwpan te o de camomile yn
gyntaf peth bob boreu a hwylusa y gwellâd yn fawr iawn. Y mae endive a
dantyllew, a'u cymeryd fel te neu eu bwyta fell [sic; = fel] llysiau, yn
bethau da rhagorol iawn.
GWAEDU O'R TRWYN.
37. Golchwch yr arleisiau, y trwyn a'r gwddf â gwinegr. Neu tynwch i fyny i'r
trwyn ddwfr a gwinegr. Neu roddwch i fyny yn y ffroen liain newydd ei losgi.
Pan fyddo yn ddrwg iawn, aed y dyoddefydd dros ei ben i ddwfr oer. I rwystro
y dolur hwn, bwytewch lawer o raisins, ac yfwch faidd yn helaeth bob boreu,
neu gwnewch y ddau.
|
|
|
(delwedd K0031) (tudalen 30)
|
30
I ATAL RHEDIAD GWAED O ARCHOLL.
42. Rhoddwch wrth y lle dopiau danadl wedi eu pwyo. Neu rhoddwch ar yr
archoll liain wedi ei losgi. Neu taenwch arno ludw lliain wedi ei losgi, ar
ol ei roddi mewn gwinegr llym a'i losgi.
POERI GWAED.
43. Cymerwch dair llonaid llwy fwrdd o sudd sage mewn mel, atalia hyn boeri
neu gyfog gwaed. Neu cymerwch o ddwy i bedair owns o sudd danadl. Neu
cymerwch drwyth gref o bwrs y bugail. Neu cymerwch lonaid cwpan te o eirin
sychawl (prunes) wedi eu berwi, dros ddwy neu dair noswaith.
CYFOG GWAED,
45. Cymerwch ddau lonaid llwy fwrdd o sudd danadl; todda hyn hefyd waed wedi
tywarchu yn y cylla. Neu cymerwch gymaint o nitr ag a safo ar haner coron,
wedi ei doddi mewn gwydraid o ddwfr oer, ddwy neu dair gwaith y dydd.
PLEDRENI,
53. Ar y traed, o achos cerdded, a wellânt trwy dynu edef wlan trwyddynt, a
thori dau ben yr edef a'i adael nes y pilio y croen ymaith. I'w hatal rhwbier
traed yr hosanau yn dda â sebon, ac ni chyfyd yno bledren byth.
CORNWYDYDD. 55.
Rhoddwch wrthynt blastr o flawd a mel. Neu
|
|
|
(delwedd K0032) (tudalen 31)
|
31
blastr o Venice turpentine. Neu o sebon meddal a sugr llwyd, yr un faint o
bobun. Neu blastr o wniwns pobedig.
YSIGIAD.
59. Rhoddwch wrtho, yn ddioed, driagl wedi ei daenu ar bapur llwyd. Neu blastr o bersli wedi eu pwyo ag
ymenyn. Neu blastr o dom buwch newydd. Neu golchwch y lle â gwinegr twymn, ag
ychydig o rum ynddo.
I ATAL CHWYDD ODDIWRTH YSIGIAD.
63. Rhoddwch dafell o gig eidion teneu wrth y lle. Neu rhoddwch wrtho yn
ddioed frethyn wedi ei blygu chwech gwaith, a'i roddi mewn dwfr oer, a'i drochi
yn y dwfr drachefn pan yr oero y brethyn.
I WELLAU CHWYDDIAD ODDIWRTH YSIGDOD.
65. Twymwch ef dros haner awr, foreu a hwyr, â brethyn wedi bod mewn gwinegr
a dwfr, can boethed ag y gellwch ei oddef.
LLOSG NEU WLYBLOSG.
66. Golchwch y lle yn ddioed â gwinegr da, ac wedi hyny rhoddwch arno linseed
oil nes y gwellâo. Neu, os bydd yn ddrwg iawn, cymysgwch oil neu spirits of
turpentine gyda'r gwinegr, a gwnewch fel y mynegwyd uchod.
Y CANCER YN Y FRON.
68. Gwellâwyd cancer gwaedlyd llidiog, wedi bod
|
|
|
(delwedd K0033) (tudalen 32)
|
32
yn aros dros ugain mlynedd, yn gwbl iach, yn unig wrth yfed chwarter pint
ddwywaith yn y dydd o sudd clider neu goosegrass, a rhoddi y dail wedi eu
pwyo wrth y lle sydd dost. Neu
berwch yn araf sudd clider mewn saim moch croyw, yr un faint o bob un, a
rhoddwch wrth y lle foreu a hwyr, fel plastr. Neu, os na fydd wedi tori,
rhwbiwch y fynwes foreu a hwyr a spirits of hartshorn, sweet oil, a laudanum,
yr un faint o bob un. Neu rhoddwch celandine a thom gwydd, wedi ei curo yn
dda yn nghyd, a'n taenu ar liain main, foreu a hwyr wrth y lle; gwna hyny
lanâu a gwellâu y clwyfau.
CANCER MEWN RHYW LE ARALL.
72. Rhoddwch wrth y lle wniwns cochion wedi eu pwyo. Neu, pwywch flodau,
dail, a gwrysg persli gwylltion, a rhoddwch hwynt fel plastr wrth y lle, gan
ei newid bob deuddeg awr; ac efe a wellâ mewn ychydig wythnosau.
CANCER O DAN Y LLYGAD,
74. A hollol wellâwyd wrth yfed yn feunyddiol gwart o ddwfr tar, gan olchi y
lle ag ef, ac wedi hyny rhoddi plastr o dar a brasder cig gwedder wedi eu
toddi yn nghyd wrtho; gwellâodd hyn gancer wedi bod yn aros ugain mlynedd
mewn dau fis.
CANCER YN Y GENAU.
74. Golchwch y genau yn lân, foreu a phrydnawn, gydag ychydig liain wedi ei
gylymu wrth ben pren bychan, â gwerth ceiniog o borax gwyn, [â] chymaint
|
|
|
(delwedd K0034) (tudalen 33)
|
33
a hyny o fêl, wedi eu cymysgn yn dda yn nghyd. Neu chwythwch ludw brethyn
yscarlad i'r genau a'r gwddf; meddyginiaeth ragorol.
BRONAU CELYD.
77. Rhoddwch wrth y lle blastr o butter of wax. Neu blastr o wer a ginger
wedi ei falu, taenwch ef ar bapur llwyd, gyda thwll i roddi pen y fron
trwyddo; newidiwch ef bob boreu a phrydnawn, a chadwch y lle dra thwymn â
gwlanen. Neu os bydd dolur tufewnol, yfwch drwyth newydd gwraidd cwmffri.
BRONAU CHWYDDEDIG A DOLURUS.
80. Berwch ddyrnaid o flodau camomile, a dyrnaid o faloes, mewn dwfr a
llaeth, a rhoddwch y dail twymn rhwng dwy wlanen arno, bob chwech awr; gwna
hyn ostwng lympiau neu chwydd ar bob man arall hefyd.
MALAITH, GIBWST, LLECHEIRA (Chilblains).
81. Os heb dori, rhwbiwch y lle yn fynych â mwstard a brandi. Neu gyda
muriatic acid, wedi ei gymysgu â dwfr; saith llwyaid o ddwfr i un o'r acid; y
mae yn gwellâu, ac yn rhwystro hefyd. Neu rhwbiwch y lle ag oil, neu spirits
of turpentine. Neu gyda halen ag wniwns wedi eu pwyo yn nghyd. Os wedi tori,
golwch y lle â tincture of myrrh ac ychydig ddwfr. Neu rhoddwch arno Turner's
cerate. I'w hatal, gwisgwch wlanen, neu hirwlan, neu hosanau o ledr chamois.
|
|
|
(delwedd K0035) (tudalen 34)
|
34
PLANT.
I atal Llechau (Rickets), Tynerwch, neu Wendid.
88. Trochwch hwynt mewn dwfr oer bob boreu, hyd nes y byddont yn naw neu ddeg
mis oed.
DIDENAU AGENOG.
90. Rhoddwch wrthynt balsam of sugar. Neu butter of wax; a gwna un o'r ddau
yn fuan eu hiachau.
DWYLAW AGENOG.
94. Golchwch hwy yn dda â sugr coch a dwfr. Neu rhwbiwch hwynt yn dda a mel
cyn myned i'r gwely, a gwisgwch fenyg lledr. I atal hyny golchwch hwynt â
blawd mwstard. Neu â bran a dwfr wedi berwi.
GWEFUSAU AGENOG.
100. Rhoddwch arnynt ychydig o sal pranella.
Y COLUDDWST (Cholic).
101. Yn y pang, yfwch lonaid gwydr gwin o Daffy's Elixir. Neu cymerwch 30
defnyn o oil of aniseed ar siwgr gwyn. Neu cymerwch 30 defnyn o essence of
peppermint yr un ffordd. Neu lonaid gwydr gwin o ddwfr peppermint, wedi
felusu â siwgr. Neu cymerwch haner owns o tincture of rhubarb. Wrth fyned i'r
gwely golchwch eich traed a'ch coesau mewn dwfr twymn.
Y COLUDDWST SYCH.
108. I'w atal, yfer yn helaeth o de sinsur. Neu
|
|
|
(delwedd K0036) (tudalen 35)
|
35
bwytewch wniwn mawr amrwd yn fynych. Neu cadwch ddernyn o sinsur yn barhaus yn eich
genau. Neu cymerwch yn achlysurol lonaid gwydr gwin o sweet oil a brandi, yr
un faint o bob un. Y mae y rhai uchod yn dda yn mhob doluriau gwyntog.
Y COLUDDWST AR BLANT.
113. Rhoddwch iddynt yn fynych ddognau bychain o fagnesia. Neu scruple o
aniseed wedi ei falu yn eu bwyd.
Y COLUDDWST GERIAIDD (Bilious Cholic).
116. Yfwch yn helaeth o lemonade twymn. Neu cymerwch lonaid llwy fwrdd o
sweet oil bob awr.
COLUDDWST ARFEROL.
118. Y goraf, os nad yr unig beth rhagddo, yw gwisgo crys gwlanen, neu wasgod
wlanen, yn agosaf i'r croen. — D.S. Dylai gael ei newid bob pythefnos o ellaf
[o leiaf].
COLUDDWST,
Oddiwrth fwg neu darth plwm, plum gwyn, Verdigris, &c., a elwir yn
gyffredin y Dry Gripes.
120. Yn y pang yfwch fenyn toddodig, ac yna cyfogwch trwy ddwfr twymn. Neu
cymerwch eich boreufwyd yn wastadol o gawl cig gwedder bras. Neu cymerwch
lawer o oil of sweet almonds. D.S. Y mae y ddau olaf yn ataliadau rhagorol
rhag y dolur.
|
|
|
(delwedd K0037) (tudalen 36)
|
36
Y COLUDDWST GWYNTOG.
124. Bwytewch yn helaeth o bys crasedig. Neu bwytewch wniwns amrwd yn y nos i
swper. Neu bwytewch lawer o had sinsur. Neu yfwch lawer o de
sinsur. Neu cadwch ychydig o sinsur yn barhaus yn y genau.
DARFODEDIGAETH.
130. Cymerwch bob boreu a lonaid llwy de o ystor gwyn wedi ei falu a i
gymysgu â mel; y mae hyn wedi gwellâu llawer yn y radd olaf o'r dolur hwn.
Gwellâwyd rhai wrth yfed yn helaeth o drwyth brag, neu sudd brag (essence of
malt) wedi ei doddi mewn dwfr ffynon, a'i gymeryd yn oer. Neu curwch i fyny
felynwy wy newydd ei ddodwy, a chymerwch ef mewn gwydraid o fedd-win bob dydd
oddeutu un ar ddeg neu ddeuddeg ar gloch. Y mae jelly currants duon yn unig,
a'u bwyta yn helaeth, gyda bara gwyn da, wedi gwellâu rhai amryw weithiau.
Neu gymysger yn dda yn nghyd syrup of marshallows a syrup of squils, a
chymerer llonaid llwy de o hono lawer gwaith yn y dydd, yn enwedig os bydd peswch
ar y claf. Yn y gradd olaf o'r afiechyd hwn sugner dynes iachus yn
feunyddiol. Neu, yn foreu
bob dydd, torer tywarchen o ddaear newydd, ac arogler yn y twll dros haner
awr. Neu toddwch haner pwys o fêl da yn yr unrhyw fesur o winegr cryf, wedi
ei ferwi nes y byddo can dewed â hufen, a chymerwch lonaid llwy fawr o hono
bedair neu bump o weithiau yn y dydd; y mae hyn wedi gwellâu llawer; ac os
nad yw yr un peth a God-
|
|
|
(delwedd K0038) (tudalen 37)
|
37
bold's Vegetable Balsam, ateba yn union yr un dyben. Yn yr afiechyd hwn dylai
yr ymborth fod yn ysgafn, ond yn faethol, megys pysgod, ieir, cig oen, cig
llo, &c.; oysters, a ffrwythau cadwadwy a sychion, &c., ydynt dda
hefyd. Yn ddiod gyffredin yfer llaeth newydd neu cider, yn glauar, neu ddwfr
haidd, neu ddwfr afalau, neu faidd, ag ychydig o sudd lemon ynddo. Gwna awyr
iachus, ymarferiad corfforol, yn enwedig cyfnewidiad awyr a chymdeithion
llawen, lawer o gynorthwy i wellâu.
ANWYD.
144. Cymerer yn fynych lonaid llwy de o syrup of violets. Neu os bydd peswch,
cymysgwch yn dda yn nghyd yr un faint o syrup of squills a syrup of
marshmallows, a chymerer llonaid llwy de yn fynych yn y dydd. Neu yfwch beint
o ddwfr oer, gyda llonaid llwy fwrdd o driagl ynddo, pan orwedder yn y gwely.
Neu gellir cymeryd yr un faint o flawd ceirch, yn lle y triagl, os byddir yn
dewis.
ANWYD YN Y PEN.
250. Piliwch yn dra theneu groen orange, rholiwch ef i fyny a'r ochr dufewnol
allan, a gosodwch un yn mhob ffroen.
I RWYSTRO EFFEITHIAU DRWG ANWYD.
151. Y funyd yr elo person i fewn i'r ty, a'i ddwylaw a'i draed yn oerion,
bydded iddo eu gosod yn ddioed
|
|
|
(delwedd K0039) (tudalen 38)
|
38
mewn dwfr oer, a'u gadael yno nes y dechreuant wresogi; y mae hyn yn ataliad
da, a rhwystra yn wastad lecheira.
DIRDYNIADAU (Convulsiona)
152. Cymerer llonaid llwy de o valerian root, wedi ei falu, mewn cwpanaid o
ddwfr oer, bob boreu, gan ymprydio. Neu cymerer dognau mawrion o magnesia mewn llaeth wedi ei scumio. Neu
ymdrochwch mewn dwfr oer,
DIRDYNIADAU MEWN PLANT.
155. Rhoddwch iddynt yn fynych ddognau bychain o fagnesia mewn llaeth. Neu
ddognau bychain o fagnesia a rhubarb.
CYRN.
158. I'w gwellâu, rhoddwch, bob boreu, sialc wedi ei falu a'i gymysgu â’ch
poeri ar y cyrn; gwellânt yn fuan trwy hyn. Gwellâ yr un peth hefyd bob math
o ddefaid. Neu rhoddwch blastr o bitch neu o Venice turpentine, wedi ei daenu
ar ledr, wrth bob corn. Neu gwlychwch hwynt yn dda, foreu a hwyr, â sudd yr
house leek, a gosodwch ar y corn ddarn o'r ddeilen. I atal cyrn, golchwch
eich traed yn fynych mewn dwfr oer.
RHWYMDRA.
163. Cymerwch eich boreufwyd yn fynych o gawl dwfr a churants. Neu cymerwch
bob boreu a hwyr
|
|
|
(delwedd K0040) (tudalen 39)
|
39
lonaid llwy fwrdd o cream of tartar wedi ei gymysgu â mel. Cyfodi yn foreu
sydd beth da rhagorol rhagddo hefyd.
PESWCH.
167. Os bydd gyda phoen a chaethiwed yn y fynwes, cymerwch bob nos wrth fyned
i'r gwely lonaid llwy de o spermaceti, wedi ei gymysgu yn dda â siwgr candi
maledig. Neu bwytewch yn barâus o horehound wedi ei drin â siwgr candi
(candied horehound). Neu cymerwch yn fynych lonaid llwy de o syrup of
horehound. Neu yfwch yn helaeth o de horehound, wedi ei felusu â mel neu
siwgr llwyd. Neu cymerwch yn fynych lonaid llwy de o syrup of squills a syrup
of marshmallows wedi eu cymysgu yn nghyd, yr un faint o bob un. Neu o de wedi
ei wneyd â Spanish ice. Neu yfwch beint neu ragor o ddwfr oer wrth orwedd yn
y gwely, gyda llwyaid fawr o flawd ceirch neu driagl wedi ei droi ynddo.
PESWCH DIFFYG-ANADL.
179. Cymerwch ddwy owns o Spanish liquorice, ac o halen haner owns, berwch y
liquorice mewn tri pheint o ddwfr nes y bo yn gwart, a rhoddwch yr halen
ynddo pan y bo o boethder y gwaed; yfwch ddau lonaid llwy fwrdd o hwn bob dwy
awr. D.S. Gwna hyn wellâu y diffyg-anadl llaith mwyaf cyndyn.
PESWCH Y DARFODEDIGAETH.
181. Y peth goraf at hyn yw cadw dernyn o liquor-
|
|
|
(delwedd K0041) (tudalen 40)
|
40
ice, wedi ei dafellu fel horseradish yn ochr y genau wrth fyned i'r gwely.
PESWCH SEFYDLOG.
163. Cymerwch lonaid llwy fwrdd o syrup of horehound bob hwyr a boreu. Neu
cymerwch ugain dyferyn o elixir of vitriol mewn gwydraid o ddwfr oer ddwy neu
dair gwaith y dydd. Neu golchwch y pen â dwfr oer bob boreu. Neu ymdrochwch
mewn dwfr oer.
PESWCH GOGLEISIOL.
187. Yfwch ddwfr oer, wedi ei wynu â blawd ceirch, bedair neu bum waith y
dydd. Neu cedwch ddernyn o siwgr barley neu siwgr candi
yn baraus yn y genau.
CWLWM GWYTHI (Cramp).
189. I rwystro yr afiechyd hwn, yfwch haner peint o ddwfr tar bob boreu a
hwyr. Neu gosodwch rolyn o frwmstan dan eich gobenydd. Neu cylymwch eich
gardas yn llyfn a thyn dan eich penglin pan fyddwch yn myned i'r gwely. I'w
wellâu rhoddwch y traed a'r coesau mewn dwfr twymn. Neu ddaliwch rol o
frwmstan yn eich llaw. Neu estynwch eich sawdl allan yn gryf. Neu fynwch gael
gwefreiddio y fan.
CWLWM GWYTHI YN Y CYLLA.
196. Gorchuddiwch y cylla yn ddioed â phlastr o driagl Venice. Neu cymerwch yn ddioed o flodau neu
|
|
|
(delwedd K0042) (tudalen 41)
|
41
hadau narrow-leaved lavender mewn gwydraid da o frandi neu win Madeira. Neu
cyfogwch â dwfr clauar, neu de gwan camomile. Os dychwel y poen yn rymus, dylid
rhoddi gwlaneni o ddwfr poeth wrth y cylla. Os bydd y dolur yn tarddu
oddiwrth y gymalwst, &c., rhaid cymeryd brandi, neu win Madeira cryf.
Y CROUP.
Y mae hwn yn ddolur peryglus iawn, ac yn fynych yn ymosod ar blant. A dylid
cyrchu meddyg deallus yn ddioed; ond gan nad ellir cael un bob amser, mynegaf
pa beth i'w wneyd. Bydd tarawiadau y gwaed yn gyffredin yn gyflym, a'r
anadliad yn galed a llafurus, gyda swn cryglyd a neillduol, y llais yn llym a
gwichlyd, y gwyneb yn goch, ac hefyd weithiau yn welwlas neu ddu.
200. Pan y cymerir plentyn â'r arwyddion hyn, dylid rhoddi ei draed yn ddioed
mewn dwfr twymn. Os bydd yn dew bydd gwaedu yn ddefnyddiol, ond nid heb hyny.
Dylid gwneyd iddo hefyd anadlu mewn anwedd dwfr twymn a gwinegr. Os na leiha
yr arwyddion, dylid rhoddi plastr o blister rhwng ei ddwy ysgwydd. Rhodder
wedi hyny i' r plentyn y cymysgedd canlynol: dwfr pennyroyal, tair owns,
syrup of poppies ac o althea, owns o bob un, wedi eu cymysgu yn nghyd.
Gwellâwyd rhai plant o' r dolur hwn trwy roddi gelod yn ddioed wrth eu
gyddfau, a chymeryd wedi hyny, lonaid llwy de o syrup of rice, gydag yn
nghylch ugain defnyn o essence of peppermint ynddo, yr hyn a raid ei roddi
mewn awr neu ddwy drachefn,
|
|
|
(delwedd K0043) (tudalen 42)
|
42
os bydd angen. I atal dychweliad y dolur peryglus hwn, dylai y plentyn wisgo
plastr o Burgundy pitch rhwng ei ysgwyddau.
ARCHOLL.
205. Rhwymwch arno ychydig o gaws wedi ei bobi. Neu codwch ef yn nghyd
gyda'ch bys a'ch bawd am chwarter awr, yna rhwymwch liain, wedi ei ddyblu
bump neu chwech gwaith, wedi ei wlychu mewn dwfr oer.
BYDDARNI.
207. Rhoddwch y poeri a fyddo eich genau yn y boreu â phen eich bys yn y
clusúau bob boreu. Os bydd yn tarddu o anwyd, cadwer y pen yn dwymn, yn
enwedig yn y nos, cymerwch garthiad esmwyth, cadwch y traed yn dwymn, a
golchwch hwynt mewn dwfr twymn, cyn myned i'r gwely. Os oddiwrth gwyr sydd yn y clust, dyferwch iddi
ychydig oil of almonds, a golchwch hi y boreu dranoeth dwfr a llaeth twymn.
Os oddiwrth sychder y clustiau, rhoddwch ynddynt dipyn o gig moch tew, a
chauwch y clust i fyny ag ychydig wlan. Neu gollyngwch iddynt ychydig
ddyferion o sudd wniwn, a llanwch hwynt gwlân. Neu rhoddwch ychydig halen yn
y clustiau. Neu gwlychwch ychydig wlan mewn brandi, a rhoddwch ef yn y
clustiau. Neu gwefreiddier trwy y clustiau. Neu arferer ymdrochi mewn dwfr
oer bob dydd, nes iachau.
BYDDARNI AROSOL.
218. Cymerwch wniwn coch, tynwch allan ei ganol
|
|
|
(delwedd K0044) (tudalen 43)
|
43
a llanwch ef ag olew almonds wedi eu pobi, gadewch iddo aros yno dros nos,
yna torwch ef, gan ei hidlo, a gollyngwch dri neu bedwar dyferyn i'r glust,
foreu a phrydnawn, a chauwch hi i fyny â gwlan du. Y mae hyn wedi gwellâu
byddarni ar ol aros deng mlynedd ar ugain.
BYDDARNI GYDA PHOEN YN Y PEN A SWN YN Y CLUSTIAU.
221. Piliwch ewyn garlleg, tarewch ef mewn mel, a rhoddwch ef yn y glust yn y
nos, gydag ychydig wlan du, a gorweddwch â'r clust hwnw yn uchaf. Gwnewch felly, os bydd angen, dros wyth
neu ddeg noswaith.
GENEDIGAETH.
222. Ar ol genedigaeth plentyn, llaeth y fam yw yr unig ryddâd addas i gorff
y plentyn; bydded iddo ddechreu sugno ddeg neu ddeuddeg awr ar ol ei eni.
DYFRLIF.
Rhediad y dwfr yn anfwriadol yw hwn, a syched parhaus a lleiâd y corff yn ei
ddylyn.
223. Yfwch, dair neu bedair gwaith y dydd, chwarter peint o bosel alum, trwy
roddi tri dram o alum mewn pedwar peint o laeth; gwna hyn wellâd mewn wyth
neu ddeg diwrnod. Neu toddwch chwarter owns o cantharides mewn haner peint o
elixir of vitriol, a chymerwch o bymtheg i ddeg dyferyn ar ugain, mewn dwfr
ffynon, ddwy neu dair gwaith y dydd.
|
|
|
(delwedd K0045) (tudalen 44)
|
44
Y DYFRGLWYF.
226. Bwytewch grystyn bara, neu gacen galed, oddeutu owns bob boreu, gan
ymprydio ddwy neu dair awr cyn boreufwyd. D.S. Gwna hyn yn fuan wellâu
dyfrglwyf yn y fynwes, ond i hyny dylid cymeryd llonaid llwy de o sinsur
hefyd mewn gwydraid o frandi da, unwaith y dydd, o leiaf. Neu cymerwch ddram
o nitr, bob boreu, mewn chwarter peint o gwrw. Neu cymerwch dair llonaid llwy fwrdd o sudd cenin
bob boreu. Gwellâ hyny hefyd y dyfrglwyf gwyntog. Wedi carthu eich corff
arferwch ymdrochi mewn dwfr oer. Neu gwefreiddier chwi yn fynych; y mae hyny
wedi gwellâu y dyfrglwyf o'r fath waethaf.
POBL WEDI BODDI.
235. Rhwbiwch y corff i gyd drosto â halen. Gwna hyny adferu rhai a ymddangosant
yn hollol farw.
POEN YN Y CLUST.
237. Dodwch ffigysen fechan weodi ei rhostio yn y clust. Neu dodwch ynddo
wniwn wedi ei rostio. Neu gwefreiddier chwi trwy y clust. Neu rhwbiwch y
clust yn galed â'ch llaw dros chwarter awr. Golchwch eich traed yn fynych
mewn dwfr twymn. Neu gosodwch gwd gwlanen poeth, wedi ei lenwi â mallows a
blodau camomile berwedig, ar y clust. A chymerwch scrupl o nitr a deg gronyn
o rubarb dair gwaith y dydd. Os bydd rhyw bryfed, neu ryw sylwedd caled yn y
clust, gollyngwch i fewn ychydig
|
|
|
(delwedd K0046) (tudalen 45)
|
45
ddyferion o olew olive, neu olew almonds, tyna hyny hwynt allan. Os bydd y
poen oddiwrth bryfaid, dyferwch i fewn ychydig o laeth clauar, yr hyn a' u
gyra allan; neu sudd wermod, yr hwn a'i lladda.
SWN NEU GANU YN Y CLUSTIAU.
249. Dyferwch iddynt sudd wynwyn.
CWYR CALED YN Y CLUSTIAU.
250. I'w doddi, chwistrilliwch iddynt ddwfr twymn. Neu ddwfr a llaeth clauar.
DALLINEB.
252. A ellir ei wellâu weithiau, trwy wefreiddiad. Felly, hefyd, trwy
ymdrochi yn wastadol mewn dwfr oer.
CIB-DDELLNI.
253. Dyferwch iddynt sudd afalau surion.
LLYGAID TOSTION.
254. Yfwch yn fynych de y dorfagl (eye-bright), a golchwch y llygaid ag ef
ddwy neu dair gwaith y dydd. Neu golchwch y llygaid ddwy waith â’r sudd wedi
ei wasgu o'r dorfagl, a gwisgwch ddernyn o sidan dros y llygaid; y mae hyn
wedi gwellâu dallineb hollol. Neu cymysgwch sudd cynffon y llygoden
(house-leek), a chymysgwch ef â hufen, yr un faint o bob un, a golchwch y
llygaid lawer gwaith y dydd ag ef.
|
|
|
(delwedd K0047) (tudalen 46)
|
46
GOLWG PWL.
258. Gwlychwch eich llygaid yn dda â’ch poeri yn y boreu; y mae hyn wedi
gwellâu rhai oeddynt agos yn ddall. Neu dyferwch i'r llygaid yn fynych sudd
afalau wedi pydru. Neu
defnyddiwch y pethau a enwyd at lygaid tostion.
LLYGAID GWAEDLYD.
259. Chwythwch i'r llygaid siwgr candi newydd ei falu. Neu rhoddwch wrthynt
glwtyn o liain wedi ei wlychu mewn dwfr oer, a gadewch ef wrthynt dros ddwy
awr. Neu gosodwch wrthynt hyssop berwedig fel plastr.
ARCHOLL AR Y LLYGAID.
262. Rhoddwch wrthynt blastr o conserves of roses yn ddioed. D.S. Gwellâ hyn
hefyd lygaid gwaedlyd.
PILIONEN AR Y LLYGAID.
264. Cymysgwch yn dda sudd iorwg y ddaear (ground ivy) gydag ychydig fel, a
dau neu dri gronyn o bay salt, a dyferwch ychydig o hono i'r llygaid foreu a
phrydnawn.
LLYGAID YN RHEDEG O DDWFR POETH LLYM.
265. Dyferwch i'r llygaid ychydig ddefnynau o siwgr gwyn wediei doddi mewn
French brandi. Neu rhoddwch dafell deneu o gig eidion teneu wrth y gwar.
|
|
|
(delwedd K0048) (tudalen 47)
|
47
LLYGAID NEU AMRANTAU LLIDIOG.
267. Rhoddwch wrthynt fel plastr conserves of roses. Neu benau wermod wedi eu
curo i fyny melyn wy. Neu rhoddwch wrthynt blastr o afalau, wedi eu berwi, eu
rhostio, neu rai wedi pydru, yn dwymu.
YSBOTIAU GWYNION YN Y LLYGAD.
270. Rhoddwch ychydig o gwyr clust ar yr ysbotiau wrth fyned i'r gwely.
LLYGAID GWEINIAID.
271. Golchwch y llygaid a'r pen bob boreu a dwfr oer.
LLEWYGU WRTH OLLWNG GWAED
272. A rwystrir wrth fwyta cawl cyn hyny. Neu wrth orwedd yn y gwely ar y
pryd.
LLEWYGFEYDD.
274. Arogled y person winegr cryf, neu hartshorn, a llynced lwyaid fwrdd neu
ddwy o ddwfr oer, ac oddeu. tu un rhan o dair o hono yn winegr.
TEWDRA MAWR.
275. Cerdder llawer. Neu ymborthwch yn gwbl, neu yn benaf, ar lysiau. Neu
ymborthwch yn y boreu a'r nos ar fara a llaeth a dwfr, yn oer, nes y bo y
tewder wedi lleiâu.
TWYMYNAU.
278. Yn nechreu twymynau, os bydd y cylla yn an-
|
|
|
(delwedd K0049) (tudalen 48)
|
48
esmwyth, cyfoger; os bydd y coluddion, carther hwynt; os bydd tarawiad y
gwaed yn galed, llawn, a chryf, gwaeder. Yfer yn helaeth o dost a dwfr, neu o
de afalau neu wood sorrel, fel cyfnewidiad. Neu yfwch gawl dwfr teneu, wedi
ei felusu â mel, a dau ddram o nitr i bob chwart. Neu yfwch lonaid gwydr gwin
bob awr o ddwfr tar. Ac
y mae sudd dail mefus (strawberries) yn ddiod ragorol i oeri. Neu gellir bwyta
y ffrwythau yn helaeth. I atal cael clefydau heintus na anadler yn agos i
wyneb y person claf, ac na lyncer y poeri yn yr ystafell. Y
mae haint yn wastad yn gafael yn y cylla gyntaf.
TWYMYN UCHEL
289. A ellir wellâu trwy roddi plastr o driagl ar yr iâd. Os bydd gyda
cholled o synwyr a vigilia doder y claf dros ei ben yn yr afon, yr hyn a
ellir ei wneyd yn ddiberygl yn nechreu y dwymyn.
TWYMYN DYSPEIDIOL
(Intermitting.)
291. Yfwch lemonade twymn yn nechreu pob pang. Efe a iacheir mewn ychydig
ddyddiau. Neu cymerwch lonaid llwy de o oil of sulphur mewn cwpanaid o de
balm, unwaith neu ddwy y dydd.
TWYMYN ARAF.
293. Ymdrochwch mewn dwfr oer bob dydd dros ddwy neu dair wythnos.
TWYMYN GROENDARDDOL (Rash).
294. Yfwch bob awr lonaid llwy fwrdd o sudd ground
|
|
|
(delwedd K0050) (tudalen 49)
|
49
ivy. Gwellâ hyn yn fynych mewn pedair awr ar hugain. Neu
ddefnyddiwch drwyth gref o hono, os na ellir cael y sudd.
TWYMYN GYDA PHOEN YN YR AELODAU.
296. Cymerwch ugain dyferyn o spirits of hartshorn, mewn cwpanaid o ddwfr
oer, ddwy neu dair gwaith mewn pedair awr ar ugain. Neu yfwch yn helaeth o de
cinquefoil.
TWYMYN Y LLYNGYR.
298. Berwch lonaid llaw o riw a wermod yn dra araf mewn chwart o ddwfr, a
tharthwch y bola uwch ben y trwyth, a gosodwch y dail wrtho yn sugaethen
(poultice). Gwnewch hyny bob boreu a phrydnawn. Tyna hyn lyngyr oddiwrth
blant, y rhai nid ellir rhoddi un physigwriaeth iddynt, y mae hefyd yn dda
iawn mewn twymynau pydrol (putrid).
PIB-GLWYF (Fistula).
299. Golchwch gregin gleision (muscle shells) yn lân, llosgwch hwynt yn
llwch, a gogrynwch hwynt yn flawd, cymysgwch saim mochyn, a thaenwch hwynt ar
ledr golchedig, a rhoddwch hwynt wrth y lle dolurus. D.S. Gwellâ hyn y dolur
uchod yn ei raddau gwaethaf; gwellâ hefyd y piles.
DYLIFIAD (Flux).
301. Berwch fraster mynwes mollt (bread of mutton) mewn chwart o ddwfr dros
awr, ac yfwch y cawl
|
|
|
(delwedd K0051) (tudalen 50)
|
50
can gynted ag y galloch. D.S. Y mae hyn wedi gwellâu y dylifiadau henaf a
mwyaf ffyrnig. — Neu gwnewch Burgundy pitch yn beleni o faint pys, a chymerwch
dair o honynt bob nos a boreu nes y gwellâer. Neu cymysgwch Norway tar a
siwgr llwyd yn dda yn nghyd, a chymerwch hwynt fel y Burgundy pitch. Neu
roddwch fara crasedig llwyd mawr mewn tri chwart o ddwfr, gyda dram o
cochineal maledig, a dram o salt of tartar, yfwch y cyfan mor fuan ag y
galloch. D.S. Gwellâ hyn bob dylifiadau, y geri marwol, ac enyniadau yn y
coluddion.
DYLIFIAD Y GWAED.
310. — Cymerwch o lwch rhubarb gymaint ag a safo ar swllt, a haner hyny o
lwch nutmeg, mewn gwydraid o win gwyn, bob nos cyn y gorweddoch yn y gwely.
Neu cymerwch beleni y Norway tar, fel yn y dylifiad. Neu yfwch yn helaeth o
ddwfr oer gyda llonaid llwy fwrdd o flawd da wedi ei droi ynddo nes y
gwellâoch.
CLEFYD Y GWAED, Y GWAETHAF O BOB DYLIFIAD.
320. Ymborthwch yn unig ar rice, sago, saloop, ac weithiau ar de cig eidion,
ond na fwytewch gig. Neu ymborthwch ar rice a llaeth. I'w rwystro, cymerwch
lwyaid fawr o wêr mollt (mutton suet) wedi ei doddi ar dân araf, ond na
waedwch.
CYMALWST (Gout) YN Y CYLLA.
324. Toddwch ddau ddram o Venice triagl mewn
|
|
|
(delwedd K0052) (tudalen 51)
|
51
gwydraid o win y mynydd, yfwch ef, ac ewch i'r gwely; byddwch wedi esmwytho
yn mhen dwy awr, ac wedi gwellâu yn mhen deg awr. Os cymera y cylla gydag
anwyd synedig, bydd cordial twymn yn angenrheidiol, megys gwin Madeira a
spices wedi eu berwi ynddo. Bydd
brandi a rum yn angenrheidiol weithiau i yru yr anwyd o'r cylla. Os bydd
tuedd i gyfogi, yfwch de camomile gwan. Y mae arfer aether oddiallan yn
llesol hefyd. Os bydd y poen yn drwm iawn gellir cymeryd deg dyferyn ar ugain
o laudanum mewn cwpanaid o drwyth marshmallows.
CYMALWST MEWN UNRHYW AELOD.
332. Dywed rhai na ddylai y gymalwst gael ei wellâu (y mae hyny yn wir, na
ddylai gael ei gwellâu heb fod yn yr iawn ffordd), Ond myfi a'i gwellêais
lawer gwaith heb un effeithiau drwg yn canlyn. Rhwbiwch y rhanau tost yn dda
â thriagl twymn, ac yna rhwymwch y lle â gwlanen wedi ei rhoddi yn y triagl.
Gwnewch hyny, os bydd angen, bob deuddeg awr. Gwellâ hyny y gymalwst waethaf,
y gymalwst wynaidd , neu y gewynwst. Neu cymerwch bob nos yn y gwely lonaid
gwydr gwin bychan o frandi da a train oil, yr un faint o bob un, a rhwbiwch y
lle tost ag ef. Y mae hyn wedi gwellâu y gymalwst, gymalwst ewynaidd, a' r
gewynwst, wedi i bob peth fethu. Neu cymysgwch yn dda haner owns o etherial
spirits of Turpentine, un owns o compound tincture of aloes, a haner owns o
sal volatile. Gosodwch mewn costrel, ac ysgydwch yn dda, a chymerwch 50
dyferyn o'r cymysg-
|
|
|
(delwedd K0053) (tudalen 52)
|
52
edd hwn bob nos a boreu, mewn llonaid gwyyr gwin o ddwfr twymn. Os nad hwn yw
y gout specific, efe a ateba yn gymwys yr un dyben, ac a lwyr wellâ y
doluriau a enwyd.
Y GYMALWST YN Y LLAW NEU Y TRAED.
337. Rhoddwch wrth y lle tost sugaethen o fara gwyn a dwfr, ac wedi hyny
dodwch wrtho ddail bresych ieuainc yn dwymn. Neu rhwbiwch ef yn dda bob boreu a phrydnawn o flaen
y tan, â’r un faint o oil of turpentine ac oil of amber, a rhwymwch y lle yn
dda mewn gwlanen. Neu rhoddwch wrtho dafell o gig eidion teneu yn amrwd, gan
ei newid bob deuddeg awr nes gwellâo. D.S. Y mae y cyngorion
hyn yn briodol i wellâu y dolur mewn un lle ar y corff neu yr aelodau. I'w
atal, cyn myned i'r gwely bob nos yfwch wydraid o gin a dwfr, a llonaid llwy
de o frwmstan ynddo.
Ond yr ataliadau goraf rhag y gymalwst ydyw cymedroldeb ac ymarferiadau
corfforol, cyfodi yn foreu, a myned i'r gwely yn gynarol. Dylid atal rhag pob
pob peth sur, ac yn y gwanwyn a diwedd y flwyddyn cymeryd dognau o rubarb a
magnesia, yn enwedig i'r rhai hyny nad allant ymdrochi ac yfed yn, ac o,
ddyfroedd Caerbaddon, y rhai ydynt yn adnewyddu y cyfansoddiad, ac yn hwyluso
treuliad, trwy fod diffyg treuliad y cylla yn un o brif achosion y dolur
poenus hwn.
CANCER NEU FARWEIDDIAD; I’W ATAL NEU EI RWYSTRO.
339. Mwgdarthwch y lle yn baraus â gwinegr, yn
|
|
|
(delwedd K0054) (tudalen 53)
|
53
yr hwn y berwyd anmhuredd haiarn (un ai gwreichion neu y pethau a neidiant
oddiwrth forthwyl y gof). Neu cymerwch bob boreu a phrydnawn dair pelen o
Castile soap o faint pysen.
Dylid yfed yn ddiod ddwfr haidd, dwfr a llaeth, te linseed, neu gin a dwfr
gwan.
I LADD Y MAN BRYFAID SYDD YN TREULIO Y CIG ODDIWRTH Y DANEDD.
343. Golchwch eich genau ddwy waith bob dydd a dwfr a halen, a glanêwch eich
danedd â huddugl yn unig. D.S. Gwellâ hyn y llwg (scurvy) yn nghig y danedd.
Y GLASGLWYF (Green Sickness).
344. Cymerwch lonaid cwpan te foreu a phrydnawn o drwyth lignum vitae. Neu
bwytewch scurvy grass yn fynych, fel deiliach, wedi eu cymysgu â surens y cwn
(sorrel).
I WNEYD Y GWALLT I DYFU YN HIR A THEW.
349. Golchwch y pen bob nos â thrwyth cryf o rosemary, a sychwch ef â
gwlanen.
POEN YN Y PEN.
351. Rhoddwch aether wrth y talcen. Neu tynwch i fyny i’r trwyn ychydig o
sudd horse radish. Neu aroglwch yn gryf grañon horseradish, wedi eu rhoddi
|
|
|
(delwedd K0055) (tudalen 54)
|
54
mewn ychydig liain. Neu olchwch y traed mewn dwfr twymn, a rhwbiwch hwynt yn
galed a lliain bras. Neu
rhwbiwch y pen yn galed â'r llaw dros chwarter awr.
POEN ANGERDDOL YN Y PEN.
357. Cymerwch o winegr da a dwfr dri llonaid llwy fwrdd bob un, a haner
llwyaid o Hungary water; rhoddwch hwn ar y talcen a'r arleisiau ddwy neu dair
gwaith bob dydd.
POEN GEWYNAWL YN Y PEN.
358. Sychwch a malwch yn llwch owns o marjoram, a haner owns o assarabucca,
cymysgwch hwynt yn nghyd, gan eu cymeryd fel trewlwch, a chadw y gwddf â' r
clustiau yn dwymn. Anfynych yr achosa drewi cyn y boreu nesaf.
POEN SEFYDLOG YN Y PEN.
359. Rhoddwch wrth eich talcen liain wedi ei wlychu mewn dwfr oer, gan ei
newid fel y byddont yn twymno.
RHWYSTRIAD YN Y PEN.
360. Cymerwch fodiad neu ddau o drewlwch cryf. Neu o unrhyw beth a wnelo i
chwi drewi. D.S. Cadwch eich pen yn dra thwymn yn y nos.
YR INGLOES (Heartburn).
868. Yfwch yn ddioed beint neu ragor o ddwfr oer. Neu fwytewch bump neu
chwech o lymeirch (oysters).
|
|
|
(delwedd K0056) (tudalen 55)
|
55
Neu sipiwch ddernyn o Spanish liquorice. Neu cymerwch wydraid o frandi neu
rum. Neu cymerwch ddogn neu ddau o rubarb. Weithiau bydd yn angenrheidiol cyfog.
YR IG (Hiccup).
368. Bwytewch ddwy neu dair o preserved damsins. Neu cymerwch dri dyferyn o
oil of cinamon ar gnap o siwgr gwyn. Neu cymerwch fodiad o drewlwch cryf; neu
o unrhyw beth a wnelo i chwi drewi. Neu llyncwch gegiad o ddwfr oer, gan gau
eich genau a'ch clustiau.
Y PAS (Hooping Cough).
373. Rhwbiwch y cefn yn dda o flaen tân cyn myned i 'r gwely â hen rum, ac
ychydig oil of amber. Neu yr un faint o oil of amber a spirits of hartshorn.
Neu gydag hen ram a garlleg. Neu rhwbiwch y fynwes yn dda cyn myned i'r gwely
ag oil of amber, gan ei gorchuddio yn baraus â gwlanen, a chadw y corff yn
agored yn araf â senna wedi ei ferwi gyda prunes, neu raisins da, ond na
chyfoger. D.S. Os nad hwn yw Roche's embrocation, ateba yn
gymwys yr un dyben. Weithiau
ni wna dim ei wellâu ond newid yr awyr.
CRYGNI.
377. Cymerwch yn fynych lonaid llwy de o'r un faint o syrup of marshmallows a
syrup of squills wedi eu cymysgu yn dda. Neu cymerwch lonaid llwy de o
conserves of roses bob nos. Neu cymerwch bob boreu
|
|
|
(delwedd K0057) (tudalen 56)
|
56
gan ymprydio lonaid llwy de o syrup of violets. Neu lonaid llwy de o sudd
horse radish wedi ei gymysgu â mel, yr un amser. D.S. Y mae crygni ystyfnig
wedi cael el wellâu yn unig trwy yfed peint o ddwfr oer, a llonaid llwy fwrdd
o driagl wedi ei gymysgu ynddo bob nos cyn myned i'r gwely.
Y FAMWST (Hysteric
Disorders).
383. Y goraf (ac fe allai yr unig feddyginiaeth) yw ymdrochi mewn dwfr oer.
ANNHREULIAETH (Indigestion).
Un achos mawr o'r anhwyldeb hwn yw, fod pobl yn llyncu eu hymborth heb haner
ei gnoi.
333. Dylid bwyta pob peth ag sydd yn hawdd ei dreulio. Y
mae cyfogiad a charthiad esmwyth yn bethau tra llesol. Neu fwytewch aniseed yn fynych, bodiad
bychan ar yr un amser. Neu cymerwch ddeg dyferyn ar ugainu o elixir of
vitriol mewn gwydraid o win gwyn, neu ddwfr, ddwy waith yn y dydd. Neu
cymysgwch nghyd un owns o tincture of bark, ac un dram o elixir of vitriol, a
chymerwch ddwy lonaid llwy de o hono ddwywaith yn y dydd. Weithiau ni wna dim
ond codi yn foreu ac awyr iachus ei wellâu. Pan y byddo y dolur wedi tarddu
oddiwrth adlwytho y cylla, neu fwyta gormod o ffrwythau, &c., yr unig
foddion yw bwyta digon o hen gaws Caerlleongawr. Y mae llawer o ddoluriau
oddiwrth annhreuliad erchyll wedi eu gwellâu trwy yfed yn helaeth o de sage,
wedi rhoddi ynddo ychydig o sudd lemon, neu winegr da, a'i
|
|
|
(delwedd K0058) (tudalen 57)
|
57
felusu â mel neu siwgr llwyd. Y mae newidiad awyr a chymdeithas ddifyr yn dra
llesol yn y dolur hwn.
Y CLEFYD MELYN.
390. Cymerwch belen o
Castile soap o faint pysen, bob boreu, gan ymprydio. Neu curwch wyn wy yn
deneu, a chymerwch ef mewn llonaid gwydr gwin o ddwfr bob boreu a phrydnawn.
Neu cymerwch ddram neu ddau, os na agora y corff, o tartar toddedig, mewn
cwpanaid o de gwan, neu gawl dwfr, bob boreu a hwyr. Y mae cyfogi hefyd yn
dra defnyddiol, dylid gweithio y cyfan i fyny dwfr twymn, neu de camomile
gwan. Ymarferiad corfforol cryf, megys rhedeg, dawnsio, neidio, &c., a'i
gwell â rai prydiau. Gwellâwyd rhai trwy gymeryd teithiau hirion.
Y CLEFYD MELYN AR BLANT.
398. Cymysgwch yn dda (trwy guro yn hir) haner owns o rubarb teg, a dwy
lonaid aw o gurrants glan. Rhoddwch lonaid llwy de bob boreu, gan ymprydio.
Gwellâ hyny ef yn fuan.
YR YMGRAFU.
Nid yw hwn ond math o bryfaid bychain o dan y croen; gan hyny, y mae cymeryd
meddyginiaeth dufewnol yn hollol ddiles.
399. Golchwch yr holl leoedd y byddo arno â rum cryf. Neu cymysgwch lwch
hellebore gwyn â llaeth, ac eneiniwch foreu a hwyr nes y byddo yn iach. Neu
curwch yn dda yn nghyd sudd dau neu dri lemon gyda
|
|
|
(delwedd K0059) (tudalen 58)
|
58
yr un faint o oil of roses, ac eneiniwch. Gwellâ hwn ef yn fuan. D.S. Y mae
yn awr luaws o feddyginiaethau braint lythyredig y rhai a'i gwellânt ar un
waith. Ond y gwellâd mwyaf sicr yw cymysgu sulphur vivum ag ymenyn, ac
eneinio ag ef; iacha hyny ef o bob gradd ar ol ymiro un waith neu ddwy.
Y MAN WYNAU (King's Evil).
406. Yfwch chwarter peint o ddwfr calch bob nos a boreu. Neu yfwch lonaid
gwydr gwin o sudd clider newydd ei wasgu, neu goosegrass, bob nos a boreu,
gan ymprydio; a golchi y lle tost â'r unrhyw. Neu cymerwch lonaid llwy de o
cream of tartar bob boreu a hwyr mewn ychydig o ddwfr twymn. Neu ddefnyddiwch
yr ymborth a gyngorir i archollion poethglefrog. Neu ymdrochwch yn fynych yn,
ac yfwch ddwfr, y môr.
CLOFFNI.
Oddiwrth sefydliad arosol y lle.
413. Curwch i fyny felynwy wy newydd ei ddodwy yn dra theneu, a phob yn
llwyaid ar y pryd, a churwch gydag ef chwech llonaid llwy fwrdd o ddwfr.
Rhwbiwch hwn yn esmwyth yn y rhanau dolurus dair neu bedair gwaith y dydd,
ond na rwbiwch ond dros ychydig fynudau.
COESAU CHWYDDEDIG.
414. Rhoddwch wrthynt bridd y panwr wedi ei daenu ar bapur llwyd. Neu erfin
(maip) pwnedig, neu wedi eu berwi. Y mae cadw y corff yn rhydd yn
angenrheidiol.
|
|
|
(delwedd K0060) (tudalen 59)
|
59
COESAU ARCHOLLEDIG, AC YN RHEDEG.
416. Rhodâwch wrthynt sugaethen (poultic) o afalau pwdr, a charthwch y corff
un neu ddwy waith yr wythnos. Neu golchwch hwynt mewn brandi, a rhoddwch
wrthynt ddail ysgaw, gan eu newid ddwy waith y dydd. Gwellâ hyny yn fuan.
Dylid arfer carthu y corff hefyd unwaith neu ddwy yr wythnos.
Y GWAHANGLWYF.
421. Yfwch yn baraus o gawl dail burdock foreu a hwyr. Neu yfwch haner peint
o faidd celery foreu a hwyr. Neu ymdrochwch yn y môr yn hir ac yn fynych. Neu
arferwch ymdrochi mewn dwfr oer yn ddyddiol.
YR HUNGLWYF.
425. Tynwch winegr cryf i fyny y trwyn. Neu yfwch drwyth cryf lavender y dall
meinion. Neu o drwyth berw y dwfr foreu a hwyr.
I LADD LLAU.
428. Taenwch neu rwbiwch yn y pen drewlwch Yspaen. Neu defnyddiwch
precipitate powder, gwyn neu goch, yr un ffordd. Neu golchwch y pen â thrwyth
amaranthe.
I UN YN YMDDANGOS WEDI CAEL El LADD GAN FELLT, NEU DDAMP, NEU WEDI MYGU.
431. Trochwch hwynt yn ddioed mewn dwfr oer. Neu chwythwch yn gryf i lawr eu
gyddfau a'r fegin. Neu chwythed dyn cryf i'r genau.
|
|
|
(delwedd K0061) (tudalen 60)
|
60
CLEFYD YR AFU.
434. Cymerwch haner dram o nitr puredig mewn cwpanaid o faidd, dwfr haidd,
neu dost a dwfr, dair neu bedair gwaith y dydd. Neu lonaid llwy de o spirits of nitr, yr un ffordd,
a chan fynyched. Pan tyddo yr afu wedi chwyddo ni ddylid cymeryd un peth
twymn. Carthiadau araf o fanna a mel a ddylid gymeryd. Yn y clefyd hwn ni
ddylid cymeryd dim yn dwymnach na'r gwaed. Weithiau bydd yn angenrheidiol
mygdartha y manau dolurus, megys â chamomile, Weithiau dylid agor y
cornwydydd. Os bydd y carthiad yn rhydd a gwaedlyd, ni ddylid ei atal, os na
fydd yn gwanâu y dyoddefydd yn ormod. Y mae carthiad rhydd yn fynych yn dwyn
ymaith y dolur. Yn unig yfer maidd, dwfr haidd, a dwfr wedi rhoddi bara
crasedig ynddo.
Y "LUES VENEREA," NEU Y CLEFYD DRWG.
440. Can gynted ag y byddo modd wedi ymgydiad anmhur, neu yn amheus, dylai
pob person ymolchi, neu chwistryllio â dwfr sebon meddal, gan olchi yn gyntaf
â'i ddwfr ei hun. D.S. Anfynych y metha hyny rwystro effaith y dolur. Modd
bynag, os bydd i arwyddion y dolur ymddangos, neu gael eu teimlo, y moddion
goraf a mwyaf syml yw rhai Dr. Hunter, sef pedwar gronyn ar ugain o calcinad
mercury, wedi eu gwneyd â conserves of hips i bedair pelen ar ugain, a
chymeryd un o honynt bob nos a boreu; ac ar ol cymeryd pob wyth pelen,
cymerer owns o fanna, a haner owns o salts, mewn haner peint o ddwfr twymn, a
pheidio cymeryd o' r pelenau y dydd hwnw. Symuda
|
|
|
(delwedd K0062) (tudalen 61)
|
61
hyn yn fynych holl arwyddion y dolur a fydder wedi gael yn ddiweddar. Ond os
bydd y dolur wedi bod yn aros yn hir, a gwreiddio i'r cyfansoddiad, dylai pob
un sydd yn gwerthfawrogi ei iechyd fyned yn ddioed at feddyg medrus.
Modd bynag, myfi a wellêais lawer yn ngraddau gwaethaf y clefyd hwn, trwy
roddi iddynt owns o arian byw bob boreu, a llonaid llwy fwrdd o
aqua-sulphurata, mewn gwydraid o ddwfr, bob prydnawn, o ddeutu pump ar gloch.
LLOERIGRWYDD (Lunacy).
444. Cymerwch bob dydd owns o double distilled vinegar. Neu cymerwch drwyth
cryf o acrimony bedair gwaith y dydd. Neu rhwbiwch y pen lawer gwaith y dydd
â gwinegr da, yn yr hwn y dodwyd dail ground ivy. Neu ymdrochwch mewn dwfr
oer; neu mynwch eich gwefreiddio.
GWALLGOFRWYDD GWYLLT.
449. Y mae yn ddiau fod pob gwallgof yn llwfrddyn, ac y gellir ei iachau heb
ei guro. Cadwch y pen wedi ei eillio yn lân, golchwch ef yn fynych a gwinegr
da. Y mae pothellu (blistering) yn gwneyd mwy o ddrwg nag o dda. Neu rhoddwch
wrth y pen yn fynych lieiniau wedi eu trochi mewn dwfr oer. Neu bydder byw yn
hollol ar afalau dros fis. Neu ar ddim ond bara a llaeth oer. Neu dodwch y
pen o dan bistyll can gyhyd ag y geill y cyfansoddiad ei oddef. Neu arllwyser
dwfr oer ar y pen trwy big
|
|
|
(delwedd K0063) (tudalen 62)
|
62
crochan te. Neu arferwch ymdrochi yn baraus mewn dwfr oer.
CNOAD Cl CYNDDEIRIOG.
457. Os bydd y person wedi ei gnoi mewn lle cnawdol, heb fod yn rhy agos i un
wythien, dylid tori y lle (os gellir ei wneyd yn ddioed) ymaith, a thrin yr
archoll â dwfr a halen. Neu gyda halen a gwinegr, a'i drin wedi hyny ddwy
waith yn y dydd â basilicon melyn, wedi ei gymysgu â precipitate of mercury
coch. Neu cymerwch haner owns o nitr, a dwy dram o Virginia snakeroot wedi ei
falu, cymysger hwynt yn dda mewn curfa (mortar), rhaner hwynt yn ddeg dogn, a
chymerer un bob dydd. Neu cymysgwch bwys o halen gyda chwart o ddwfr, a
gwasgwch a golchwch yr archoll ag ef dros awr, yna rhwymwch arno halen dros
ddeuddeg awr. Gwellâwyd rhai trwy yn ddioed rwbio yr archoll yn dda â sweet
oil, a gwellâwyd llawer hefyd trwy yn unig ymdrochi yn y môr.
Y FRECH GOCH (Measles).
460. Yn y clefyd hwn, yfwch gawl dwfr teneu yn unig, dwfr a llaeth, neu ddwfr
a bara crasedig, goraf pa fwyaf; a golchwch y traed a'r coesau yn fynych mewn
dwfr twymn. Os bydd tuedd i gyfogi, cefnoger hyny trwy yfed dwfr clauar, neu
de camomilo gwan. Cymerwch yn awr ac eilwaith lonaid llwy de o oil of sweet
almonds, a siwgr candi wedi ei doddi ynddo, a'i felusu â syrup maiden hair,
neu gwallt y forwyn.
|
|
|
(delwedd K0064) (tudalen 63)
|
63
Ar ol y frech goch cymerwch saith neu wyth carthiad, neu ragor, ac am roi
wythnosau gofalwch rhag cael anwyd, ac yn unig defnyddiwch ymborth ysgafn, ac
na yfwch ddiod frag.
RHWYSTRIAD MISGLWYF.
465. Yfwch haner peint o drwyth cryf pennyroyal bob nos wrth fyned i'r gwely.
Neu cymerwch haner owns o
lwch sych valerian wrth fyned i'r gwely. Neu cymerwch bedair owns o sudd
brook lime wedi ei gymysgu â sudd orange, wrth fyned i'r gwely. Neu cymerwch
wyth neu ddeg gronyn o calomel mewn pelen, dros ddwy neu dair noswaith, gan
ofalu na chaffer dim anwyd, gwna hyn beri cyfogi a charthiad. a dylai gael ei
gymeryd yn agos i'r un amser. Neu gwefreiddier y person un waith neu ddwy.
“MENSIS NIMI," NEU PAN Y RHEDANT 1 ORMODEDD.
470. Rhodder y traed mewn dwfr oer; (ni wna hyn byth niweid.) Neu yfwch ddwfr
oer yn unig, a llonaid llwy fwrdd o flawd da wedi ei gymysgu ag ef. Neu yfwch
wydraid o'r dwfr oeraf a ellwch gael, a defnyddiwch liain tew neu wlanen wedi
ei wlychu mewn dwfr oer. Neu ddefnyddiwch ysbwng wedi ei wlychu mewn gwin
coch a gwinegr. Neu gwaedwch yn y fraich, rhwystrwch y lle â'ch bys, ac yna
gadewch iddo waedu drachefn.
I HELAETHU LLAETH.
475. Yfwch beint o ddwfr oer bob nos wrth fyned
|
|
|
(delwedd K0065) (tudalen 64)
|
64
i' r gwely. Neu yfwch yn helaeth o gawl pys llygod (lentil.)
I WNEYD I LAETH CEULEDIG REDEG.
477. Gorchuddiwch y ddynes â lliain bwrdd, a gosodwch badellaid o ddwfr poeth
dan ei mynwes, yna rhwbiwch y fron dros dair neu bedair munyd. Gwnewch hyny
bob dydd nes y gwellâo.
I WNEYD I'R LLAETH GYTUNO A'R CYLLA.
478. Os bydd yn teimlo yn drwm rhoddwch halen ynddo; os bydd yn cawsi
rhoddwch ynddo siwgr, ac i bersonau geriog (bilious) cymysgwch ddwfr ag ef.
MARWEIDDIAD (Mortification).
480. I'w atal, rhoddwch wrtho sugaethen o flawd, mel, a dwfr, gydag ychydig
furum ynddo.
CLEFYDAU GEWYNAWL.
481. Cyfodwch yn foreu, ac ewch i'ch wely yn gynar, a gwisgwch grys gwlanen
yn agosaf i’ch croen, a rhwbiwch eich corff yn fynych â brws cnawd. Byddwch
yn ofalus i ochelyd corff rhwymn, ond na chymerwch garthiadau cryfion —
rhubarb a senna yw y goraf. Defnyddiwch i foreufwyd de mother of thyme, neu
thyme cyffredin. Neu fel cyfnewidiad, cymerwch de rosemari cryf. Neu de sage,
ac ynddo ychydig o sudd lemon, neu winegr da, a'i felusu â capilair, neu
siwgr llwyd; goreu pa fynychaf y cymerir hwn. Neu cymysgwch yr un faint o
assafoetita a Castile soap, a chymerwch ddwy belen o faint pysen bob nos a
boreu.
|
|
|
(delwedd K0066) (tudalen 65)
|
65
Golchi y traed a'r coesau bob nos mewn dwfr twymn cyn myned i'r gwely, sydd
beth llesol iawn yn y clefyd hwn. Os poenir chwi gan y gwynt, cymerwch ugain
neu ddeg dyferyn ar ugain o elixir of vitriol mewn gwydraid o win, neu ddwfr,
ddwy neu dair gwaith y dydd, dylai yr ymborth fod yn gig llo, gwedder, oen,
neu gywion, ond dim planigyn oddieithr yr erfinen a'r ffâen Ffrengig; dylid
gwrthod gwin a phob danteithfwyd. Y mae awyr iachus ac ymarferiad yn hollol
angenrheidiol.
NETTLE RASH.
510. Twymyn ysgafn yw, yr hon yn fynych a barha dros wythnosau gyda chosi a
llosgiad, a thoriad allan dros yr holl gorff fel pe buasid wedi cael curiad
danadl. Yn yr India Orllewinol gelwir hi y dwymyn bigog. Y gwellâd goraf i
hon ydyw rhwbio rhanau dolurus yn dda a phersli. Y mae meddyginiaeth dufewnol
yn hollol ddifudd.
HEN OEDRAN.
511. Yfwch haner peint o ddwfr tar boren a hwyr. Neu yfwch yn fynych o de
danadl neu gawl danadl. Neu llyncwch wy newydd ei ddodwy bob boreu. Neu
mynwch eich gwefreiddio bob dydd. Fe allai y bydd i un o'r pethau hyn
adnewyddu eich nerth am lawer o flynyddoedd.
POENAU YN Y CEFN.
515. Gwnewch beleni o faint pysen, yr un faint o Venice turpentine, blawd
teg, a siwgr da, a chymerwch dair neu bedair o'r rhai hyn bob boreu a
phrydnawn. Neu rhwbiwch y cefn yn dda o flaen y tân cyn myned i'r
|
|
|
(delwedd K0067) (tudalen 66)
|
66
gwely â rum a garlleg. Neu cymerwch foreu a hwyr ddeg dyferyn ar ugain o
balsam of capivi ar ddernyn o siwgr gwyn, a rhoddwch yn blastr wrth y cefn. Neu
rhoddwch redyn y dwfr mewn dwfr nes y byddo yn dew a glydiog, a rhwbiwch y
cefn ag ef foreu a hwyr.
Y PARLYS.
519. Gellir gwellâu y clefyd hwn yn y gwanwyn nen yr haf, ond pur anfynych yn
y gauaf. Yfwch haner peint o ddwfr tar foreu a hwyr. Neu cymerwch bob boreu,
gan ymprydio, owns o conserves of rosemary. Neu yfwch yn helaeth o de wedi ei
wneyd o lavender dail meinion. Neu yfwch lawer o de sage, wedi rhoddi ynddo
sudd lemon, neu winegr da, a'i felusu a siwgr llwyd. Neu gwefreiddier nes y
bydder yn iach.
PARLYS YN Y DWYLAW.
524. Golchwch hwynt yn fynych mewn trwyth cryf o sage, mor boeth ag y medroch
ei oddef. Neu berwch lonaid llaw o ddail ysgaw, a dwy neu dair llwyaid o had
mwstard mewn chwart o ddwfr, ac ymolchwch yn hwn yn fynych gan boethed ag y
galloch ei oddef.
PARLYS YN Y GENAU.
526. Ymgarthwch yn dda, ac wedi hyny cnowch had mwstard yn fynych. Neu
gollyngwch i lawr i'ch gwddf, gan ei daflu i fyny wedi el olchi, sudd pren
sage. Neu gwnewch yr un fath â sudd sage cryf, wedi rhoddi ynddo winegr.
PARLYS AR OL GWEITHIO MEWN MWN PLWM GWYN, NEU VERDIGRIS.
530. Cymerwch haner owns o drwyth valerian. Neu ddau ddram o valerian root,
yn llwch. Nou gos-
|
|
|
(delwedd K0068) (tudalen 67)
|
67
odwch yn allanol liain wedi ei wlychu mewn gwinegr cryf ar y lleoedd dolurus,
gan wneyd hyny yn fyny, os bydd angen. Neu yfwch yn fynych yn helaeth o ddwfr
oer. Neu gwefreiddiwch bob dydd nes y byddoch yn iach.
CLWYF Y MARCHOGION (Piles).
537. I'w atal, golchwch y lle yn dda a dwfr oer. I'w wellâu, rhoddwch wrtho
blastr o driagl twymn. Neu rhoddwch wrtho wniwn wedi tynu ei groen a'i bwnio;
gwellâ hyn y piles sychion. Neu
blastr o turpentine varnish; gwellâ hyn y blind piles a'r gwaedlyd. Neu
llyncwch felynwy newydd ei ddodwy mewn gwydraid o frandi foreu a hwyr. Gwellâ
hyn y peth yn dufewnol.
CLWYF Y MARCHOGION TUFEWNOL.
542. Bwytewch geninen fawr wedi ei berwi bob boreu, gan ymprydio. Neu
llyncwch belen o Burgundy pitch yr un fath; gwellâ hyn hefyd y rhai gwaedlyd.
CLWYF Y MARCHOGION GWAEDLYD.
544. Ysgafn ferwch gudd danadl gydag ychydig siwgr, a chymerwch ddwy owns.
Anfynych y bydd angen ei gymeryd yr ail waith.
Y PLA.
545. I'w atal, bwytewch flodau marigold gydag olew a gwinegr bob dydd gyda'ch
bwyd. I'w wellau, defnyddiwch lawer o sudd lemon, neu winegr yn mhob peth.
Neu cymerwch owns neu ddwy o sudd marigold. Neu yfwch yn helaeth o heli pan y
clafychoch, ac nac yfwch ddim arall dros oriau. Neu yfwch yn helaeth o ddwfr
oer wedi ei wynu â blawd ceirch.
|
|
|
(delwedd K0069) (tudalen 68)
|
68
CLEFYDAU PARLYSAIDD.
550. Pwniwch ddarn o cuckoo point, a gosodwch ef ar y tafod. Adfera hyn chwi
yn fynych i lefaru.
YR EISGLWYF (Plurisy).
551. Cymerwch lonaid gwydr
gwin o ddwfr tar twymn bob awr. Neu cymerwch ddram o huddugl bob awr. Neu
rhoddwch blastr o frwmstan a gwyn wy. Neu rhoddwch ddail bresych dwymn wrth
yr ystlys. Neu fygdarthwch blodau camomile.
Y mae gwaeda, yn enwedig ar y lle dolurus yn dra llesol, ac yn
esmwythâu y poen yn fawr. Os parha y poen ar ol gwaedu a mygdarthu, rhoddwch
blastr pledrenu wrth y lle, a gosodwch ef yno ddau ddiwrnod. Yfwch ddwfr
pearl barley, wedi ei felysu â mel, &c., a defnyddiwch garthiadau
esmwythion pan y byddoch ar wellâu.
I UN WEDI El WENWYNO.
558. Os ag arsenic, toddwch chwarter owns o salt of tartar mewn peint o
ddwfr, ac yfwch o hono bob chwarter awr nes gwellâu. Os ag opium, cymerwch
ddeg dyferyn ar ugain o elixir of vitriol mewn gwydraid o ddwfr oer bob
chwarter awr nes y byddo effaith wedi cilio. I'r gwenwyn Affricanaidd, yfwch drwyth cryf o wraidd
y sensitive plant.
POLYPUS YN Y TRWYN.
561. Malwch yn llwch ddarn o alum, a thynwch I
|
|
|
(delwedd K0070) (tudalen 69)
|
69
i fyny i'r trwyn. Yna toddwch alum mewn brandi, gwlychwch lint ynddo, a
gosodwch wrth y lle pan pan fyddwch ar fyned i'r gwely.
I BIGIAD NEU ARCHOLL FYDDO
CRAWNI.
562. Rhoddwch wrtho durpentine yn unig.
PYSALISM, NEU BOERI PARHAUS.
563. Cnowch yn barhaus ychydig o fara sych, llyncwch ef gyda y poeri.
I CHWYSU.
564. Cymerwch drwyth cryf o riw. Neu cnowch yn baraus ddail riw.
Y FYNYGLOG (Quinsey).
566. Cadwch yn wastad yn eich genau ychydig o sal prunella. Neu cymerwch
lonaid llwy de o currant jelly du. Neu cymerwch lonaid llwy de o winegr wedi
ei ferwi, cymysgedig mêl, can dewed â hufen, yn achlysurol. Gwellâ hyn wddf
tost a chornwydlyd. Neu llyncwch yn araf ddwfr rhosynau gwynion wedi ei
gymysgu a syrup of mulberries. Neu
rhwbiwch y gwddf ddwy waith y dydd volatile liniment, neu enaint bywiol. Nid
yw y rhai sydd yn gwisgo gwlanen yn agosaf i'w croen ond anfynych yn cael y
dolur hwn. Y mae gwisgo neisied yn rhydd oddeutu y gwddf yn y nos, neu
ddernyn o wlanen, yn rhwystr perffaith iddo.
|
|
|
(delwedd K0071) (tudalen 70)
|
70
Y FYNYGLOG YN Y PEN.
Adwaenir hwn yn gyntaf trwy boen disymwth ac anhawstra i anadlu yn cymeryd y
person yn y nos, neu ar ryw symudiad cryf.
575. Cymerwch bymtheg neu ugain dyferyn o laudanum yn y gwely. Neu agorwch
lifweli (issue) ar y glun.
LLECHAU (Rickets).
576. Ar blant; i'w hatal, neu eu hiachau, golchwch hwynt mewn dwfr oer bob
boreu.
GEWYNWST (Rheumatism).
Y mae poenau gewynaidd yn gyffredin yn fwyaf poenus pan yn dwymn yn y gwely.
Ond y mae gewynwst oer, yr hwn sydd fwyaf poenus pan fyddo y lle yn oer.
577. Gellir gwellâu hwn wrth ei rwbio yn wastadol â brwsh cnawd (flesh
brush). Rhwbiwch i fewn i'r lle driagl twymn, a rhoddwch wrth y lle bapur
llwyd wedi rhoddi triagl arno; newidiwch ef bob deuddeg awr. Neu yfwch haner
peint o ddwfr tar bob boreu a hwyr, gan olchi y lle ag ef yn dwymn. Neu
yfwch, wrth fyned i'r gwely bob nos, lonaid gwydr gwin bychan o frandi da a'r
un faint o train oil. Y mae hyn yn wellâd sicr. Neu cymerwch lonaid llwy
fwrdd o sudd horseradish bob boreu, gan ymprydio. Gwellâwyd rhai trwy
ymdrochi mewn dwfr oer, gyda rhwbio a chwysu; rhai wrth ymdrochi
|
|
|
(delwedd K0072) (tudalen 71)
|
71
dwfr twymn, a llawer trwy ymdrochi mewn dwfr hallt. Pan y byddo yn ddrwg
ymborthwch ar ddwfr haidd a churrants, afalau pobedig, maidd newydd, potenau ysgafn,
&c. I atal y dolur hwn gwisgwch rawn am eich traed. Gochelwch draed
gwlybion, a gwisgwch wlanen yn agosaf i'ch croen. Wedi ei wellâu, i adferu
nerth, golchwch y lle ddwy waith y dydd gyda chawl traed eidion cryf, a
bwytewch o hono yn fynych hefyd.
GEWYNWST YN Y PEN.
590. Golchwch y pen yn dda wrth fyned i'r gwely â gwinegr da yn oer, a
rhwbiwch ef yn dda â'r un peth nes yr elo i mewn. Neu dodwch dan y gobenydd
lonaid llaw o riw.
GWREINEN, TARWDEN (Ringworm.)
592. Golchwch hwynt yn fynych â tincture of myrrh. Neu â champhorated hungary
water. Neu rhoddwch wrtho blastr o afalau pwdr. Neu rhwbiwch hwynt yn fynych
darn o houseleek.
RHEDIAD O'R TRWYN.
597. Tynwch i fyny yn araf i'r trwyn lonaid llwy de o hartshorn a gwinegr.
TORIAD LLENGIG (Rupture).
598. Mwgdarthwch dros ddwy awr ag aqua twymn.
TORIAD LLENGIG MEWN PLANT.
599. Berwch lonaid llwy fawr o blisg wyau, wedi
|
|
|
(delwedd K0073) (tudalen 72)
|
72
eu sychu mewn pobty, a'u malu yn llwch, mewn peint o laeth, a phorthwch y
plentyn yn barhaus â bara wedi ei ferwi yn y llaeth hwn.
TORIAD LLENGIG GWYNTOG.
600. Twymnwch dail buwch yn dda, taenwch ef ar ledr tew, rhoddwch had cymmin
ar hyd-ddo, a rhoddwch yn boeth wrth y lle, pan yr oero rhoddwch un arall, a
chadwch y plentyn yn ei wely dros ddau ddiwrnod.
PEN CRACHOG (Scald Head).
601. Gosodwch wrtho yn barhaus double distilled winegr gwin gwyn. Neu
eneiniwch ef bob dydd â thar Barbadoes. Wedi ei wellâu, rhoddwch garthiad
esmwyth neu ddan.
CLEFYD Y BRENIN (Scrofula).
603. Rhoddwch wrth y lle blastr o pioni du neu wyn, nes gwellâu.
Y CLEFRI POETH (Scurvy)
604. Yfwch haner peint o ddwfr tar nos a boreu. Neu yfwch lonaid cwpan de o
sudd clider bob boreu, gan ymprydio. Neu yfwch chwarter peint o ddwfr calch
oddeutu un ar ar gloch yn y dydd yn wastadol. Neu cymerwch, ddwy waith yn y
dydd, lonaid llwy fwrdd o frwmstan mewn llaeth. Neu yfwch foreu a hwyr haner peint o drwyth scurvy
grass. Neu yn y gwanwyn yfwch ei sudd ef mewn cwrw neu ddiod
|
|
|
(delwedd K0074) (tudalen 73)
|
73
fain. Neu fwytewch y dail gyda surens y cwn fel llysiau, &c. Gwna yfed
dwfr Harrowgate yn helaeth yn fynych ei wellâu. Ymdrochi yn y môr yn unig a'i
gwellâ yn fynych. Yn y dolur hwn defnyddiwch yn benaf fwyd llaeth.
Y mae scurvy yn nghig y danedd wedi cael ei iachau trwy sugno lemon neu
orange chwerw. Y mae pob math o fwyd-ddail yn dda rhagddo; pob peth o natur
sur, pethau wedi eu cyffeithio (pickles), spruce beer, erfin, berw y dwfr,
&c., dylai y cyffelyb gael eu bwyta yn helaeth. Bydd awyr iachus, ymarferiad, a chymdeithion llawen,
yn gynorthwy mawr i wellâd.
ARCHOLLION CLEFROG.
620. Dodwch haner pwys o lignum vitae, ac owns o senna pump chwart o ddwfr
gwlaw, mewn llestr pridd, gorchuddier ef yn dda, a gosodwch ef mewn pair o
ddwfr poeth a berwer ef yn araf dair awr, a gadawer ef yn y pair nes yr oero.
Wedi iddo aros un noswaith yfwch haner peint o hono bob boreu yn dwymn, am
bedwar yn y prydnawn. Os bydd yn rhyddhau y corff yn ormod cymerer llai.
Golchwch yr holl archollion hefyd ag ef yn dda. Sycha yr holl archollion i
fyny mewn tri mis. D.S. Gwella hyn hefyd y scurvy yn hollol, a chlefyd y
brenin, cornwydydd, ac archollion sydd rhedeg o bob math.
Y CLEFRI YN NGHIG Y DANEDD.
624. Glanêwch eich danedd bob boreu â huddugl
|
|
|
(delwedd K0075) (tudalen 74)
|
74
ac wedi hyny golchwch eich genau yn dda â dwfr a halen. Neu golchwch hwynt yn
dda bob dydd â thrwyth Peruvian bark, gydag ychydig fyrrh neu tincture of
roses.
ARCHOLL AR GRIMOG.
626. Rhoddwch ar y lle ychydig bapur gwyn wedi ei wlychu â siwgr, a chadwch
arno nes yr iachao. Gwna hyn hefyd iachau archollion. Neu gosodwch arno
ychydig o gold-beater's skin wedi ei leithio phoeri.
YR ERYROD (Shingles.)
630. Math o gylch wreinyn yw hyn yr hwn a amgylcha y corff can lleted â llaw.
Rhoddwch arlleg wedi eu pwnio wrth y lle. Neu ymdrochwch yn y môr ac yfwch
ddwfr hallt nos a boreu.
GWRTHWYNEB YN Y BOREU.
632. Na fwytewch ddim wedi chwech yn y pryd nawn. Neu yfwch beint o ddwfr
oer, gan ymprydio, yn y boreu.
Y FRECH WEN.
634. Gofalwch yn y dolur hwn am gael awyr rydd, bur, ac oer; ac agorwch y
ffenestri bob dydd, gan ofalu i beidio oeri y claf, ac yfer yn helaeth o
ddwfr wedi rhoddi bara ynddo, neu laeth wedi berwi afalau ynddo, neu laeth a
dwfr a bara gwyn ynddo. Os bydd
|
|
|
(delwedd K0076) (tudalen 75)
|
75
y frech yn myned i fewn, a dirdyniadau yn canlyn, yfer yn ddioed beint o
ddwfr oer, a llonaid llwy ganolig o driagl wedi ei gymysgu ynddo. Yn ddiatal
gyra hyny y frech allan, ac etyl y dirdyniadau. Pan fyddo yn ddrwg iawn gwaeder
yn y traed, a doder y traed a'r coesau mewn dwfr twymn ddwy neu dair gwaith y
dydd, cyn neu wedi i'r frech dori allan, a dodwch erfin wedi eu berwi wrth y
traed, ond na chadwch y pen yn rhy dwymn un amser. Pan fyddo y dolur yn drwm
dyoddefydd yn wau, rhodder iddo ychydig win, ac os bydd y crawniad wedi suddo
i'r croen, gellir dodi cyfogiad araf, ac weithiau gellir cymeryd hefyd
ychydig garthiad. Wedi iddo
grawnu newidier dillad y claf, ond bydded i'r rhai hyny fod yn lliain sych a
thwymn. Y mae aflonyddwch mawr yn fynych yn rhwystr i godiad a gostyngiad y
frech; pan fyddo felly, rhoddwch i blentyn lonaid llwy de o syrup of poppies
bob pump neu chwech awr, a llonaid llwy fwrdd i berson mewn oedran. Os bydd y
genau yn ddolurus, a'r tafod yn sych ac agenog, dylid eu golchi fynych â dwfr
a mêl a gwinegr ynddo. Ar ol i'r frech fyned ymaith, carther y dyoddefydd.
Rhoddwch i blant drwyth senna a prunes neu gurrants, ac ychydig rubarb ynddo.
Geill rhai mewn oedran gymeryd tri neu bedwar dogn o rubarb a manna. D.S. Y
mae brech y fuwch yn awr wedi myned mor adnabyddus a chyffredinol, fel na wna
rhieni a garant eu plant ddim ei hesgeuluso. Yr unig barotoad angenrheidiol i
hyny yw, rhoddi iddynt ddau neu dri charthiad esmwyth, cadw y dyoddefydd yn
oeraidd, a rhoddi iddo ymborth ysgafn. Y mae yn
|
|
|
(delwedd K0077) (tudalen 76)
|
76
briodol carthu corff y olaf ar ol rhoddi brech fuwch arno.
GEWYNAU WEDI BYRHAU,
645. Eneiniwch y lle yn dda bob boreu a'ch poeryn cyntaf.
CROEN WEDI RHWBIO YMAITH.
646. Poerwch yn y boreu, neu bryd arall, ar ychydig o bapur gwyn a dodwch ar
y lle.
ARCHOLL YN Y CEFN, YR HWN
FU YN RHEDEG YN HIR.
647. Cymerwch bob boreu gan ymprydio ddwy neu dair llonaid llwy o sudd
danadl, a rhoddwch ddanadl wedi eu pwyo wrth y lle fel sugaethen. D.S. Gwellâ
hin hen glwyfau a gweliau.
TORIAD DOLURUS, NEU ARCHOLL.
648. Golchwch y lle hwyr a boreu â thrwyth cryf marshmallows.
COES DDOLURUS,
649. Rhwymwch blastr diacculum, modfedd o led, am y goes, ychydig uwchlaw y
dolur, a mygdarthwch ef, hwyr a boreu â dwfr poeth. Neu rhoddwch blastr o wer
gwedder wrtho. Neu golchwch y clwyf yn fynych a dwfr calch.
|
|
|
(delwedd K0078) (tudalen 77)
|
77
GENAU
653. Cymysgwch yn dda yn nghyd ychydig fêl a borax gwyn, a chyda lliain ar
ben pren, a rhwbiwch y genau yn dda ag ef, yn enwedig y nos. Neu gwnewch hyny a siwgr gwyn wedi ei
guro i fyny a gwyn wy. Neu golchwch y genau â the sage ag ynddo ychydig
winegr a mel.
GWDDF DOLURUS.
657. I atal y dolur hwn, gwisgwch ddernyn o wlanen, neu neisiad wedi ei rwymo
yn llac am y gwddf yn y nos. I'w wellâu, cymerwch o bymtheg i ugain dyferyn o
spirits of turpentine ar lwmp o siwgr gwyn; nid oes dim gwell na hwn. Neu
bwytewch yn helaeth o currant jelly. Neu cymerwch y pethau a gyngorir i'r
Fynyglog.
GWDDF DOLURUS ARCHOLLEDIG.
660. Cymerwch yn fynych lonaid llwy de o fel a gwinegr wedi eu berwi yn nghyd
nes byddont can dewed a thriagl.
GWDDF DOLURUS CHWYDDEDIG (Inflamed).
661. Gosodwch nitr a siwgr wedi eu cymysgu yn dda, ar y tafod.
GWDDF DOLURUS PWDR.
662. Gosodwch lwmp o siwgr, wedi ei roi mewn brandi, ar y tafod.
|
|
|
(delwedd K0079) (tudalen 78)
|
78
CYLYMAU GWYTHI (Spasms).
663. Cymerwch yn ddioed lonaid llwy fawr o tincture of rhubarb, a llonaid
llwy de o sinsur wedi ei falu, mewn gwydraid o frandi da ag ychydig o siwgr
llwyd ynddo. Neu cymerwch ddeg dyferyn ar ugain o Turlington’s balsam, a deg
dyferyn ar ugain o laudanum, mewn ychydig o frandi, neu ar siwgr gwyn. D.S. Gwellâ hyn bob archollion dolurus
tufewnol, os cymerir hwynt wrth fyned i'r gwely. Os bydd y claf yn rhwym
iawn, cymerer llwyaid fawr o furum, a'r un faint o siwgr llwyd da, a chymaint
o jalop a rhubarb ag a saif ar swllt, wedi eu cymysgu. D.S. Y mae yr holl
feddyginiaethau rhag cwlwm gwythi yn y cylla yn dda rhag y dolur hwn.
YSIGIAD.
667. Daliwch y lle mewn dwfr tra oer dros ddwy awr. Hefyd, rhoddwch wrtho
liain pedwarplyg, wedi ei wlychu yn yr un a enwyd. Hefyd, golchwch ef â
verjuice da, neu winegr, ddwywaith y dydd, dros bymtheg mynyd. — D.S. I
wellâu gwendid ar ol ysigiad, mwgdarthwch bob dydd â heli cig eidion.
PIGIAD COLYN GWENYNEN.
670. Rhoddwch wrth y lle sudd dail gwydd-wydd (honey-suckle). Hefyd,
sugaethen plantain, wedi ei phwnio â mel. Hefyd, cymerwch yn dufewnol, ddram
o ddail currants duon, wedi eu eu sychu a'u malu. Y
mae yr olaf yn wrthwynebydd gwenwyn rhagorol.
|
|
|
(delwedd K0080) (tudalen 79)
|
79
COLYN GWENYNEN.
673. Peidiwch a rhoddi dim wrtho ond mel.
COLYN GWENYNEN NEU GAEWN YN Y LLYGAD.
675. Rhoddwch wrtho carduus benedictus, wedi eu pwnio gyda gwyn wy;
adnewyddwch ef fel y sycho.
COLIN CACWN.
674. Rhoddwch wrtho sweet oil, neu driagl, neu wniwns wedi eu pwnio, neu
erllyg, neu houseleek wedi eu pwnio, neu riw.
COLYN YN NGHORN Y GWDDF.
681. Curwch yn dda yn nghyd, gyda llwy, fêl a sweet oil ag ychydig winegr, a
chymerwch lonaid llwy de o hwn bob munyd nes y ceir esmwythyd.
PIGIADAU (Stitch) YN YR OCHR.
682. Rhoddwch wrtho driagl wedi ei daenu ar fara wedi ei grasu.
GWRTHWYNEB A PHOEN YN Y CYLLA.
683. Cyfogwch gyda chwart o ddwfr clauar ddwy neu dair gwaith y dydd, bob yn
ail ddydd yn unig, nu gwellâu.
POEN YN Y CYLLA A'R COLUDDION.
684. Yr ataliad goraf i'r poen hwa yw cyfodi yn foreu, a gwneyd dwy awr o
ymarferiad cyn boreufwyd,
|
|
|
(delwedd K0081) (tudalen 80)
|
80
bob boreu. Yn y pang yfwch wydraid mawr o Daffy's Elixir. Hefyd, llonnid gwydr gwin o'r un faint o sweet
oil a brandi. Hefyd, gwydraid o ddwfr peppermint wedi ei felusu yn dda â
siwgr. Hefyd, yfwch lonaid cwpan de o de camomile, dros
amryw foreuau, gan ymprydio. Os bydd y poen yn cyfodi oddiar ddiffyg treuliad
yn ddiweddar, llyncwch beth o'r caws hynaf a ellwch gael. Hefyd, dodwch owns
o fanna da a dwy owns o soluble tartar mewn chwarter peint o ddwfr twymn, a
chymerwch ef pa bryd bynag y delo y pang arnoch; nid oes gwell meddyginiaeth
na hwn. Neu golchwch y traed a'r coesau yn fynych mewn dwfr twymn; ac
weithiau bydd yn angenrheidiol mwgdarthu y fynwes â dwfr twymn, weithiau i
roddi priddfaen dwymn neu sugaethen dwymn wrth wadnau y traed, ac weithiau y
mae gwaedu yn cael effaith dda. Bydded yr ymborth yn ysgafn, oer, a thenau, a hawdd ei dreulio.
POEN YN Y CYLLA GYDAG OERNI A GWYNT.
697. Llyncwch bump neu chwech pupyren dros chwech neu saith boreu, gan
ymprydio.
Y GAREG.
698. I'w attal neu ei wellau. — Bwytewch grystyn bara neu oddeutu owns o
gaceni celyd, bob boreu, gan ymprydio. Neu yfwch haner peint o ddwfr calch
ddwy waith y dydd nes y gwellâoch. Neu cymerwch yn fynych ddeg ar ugain neu
ddeugain dyferyn o waddod sebon (soap lees) mewn chwarter peint o drwyth
marshmallows. Neu cymewrch lonaid wy de o had violets
|
|
|
(delwedd K0082) (tudalen 81)
|
81
wedi eu malu bob boreu a phrydnawn; gwna hyn ddifa y gareg a'i dwyn ymaith.
MEWN PANG TOST.
703 Berwch wniwns nes y bônt fel toes, a dodwch hwynt yn sugaethen wrth y
cefn a chesail y forddwyd (groin); esmwythâ hyny y boen yn fuan. D.S. Gwellha
hyn y lumbago, neu y gewynwst yn y lwynau.
CAREG YN YR ARENAU.
705. Berwch owns o wraidd ysgallen gyffredin, a phedwar dram o stick
liquorice, mewn pint o ddwfr, ac yfwch ei haner bob boreu. Neu yfwch bint o
ddwfr oer bob boreu, gan ymprydio. Neu ymdrochwch bob dydd mewn dwfr oer.
RHWYSTR YN YR ARENAU.
708. Yfwch haner pint o ddwfr tar bob nos a boreu. Neu ddeuddeg gronyn o salt of amber, mewn
llonaid gwydr gwin o ddwfr oer, foreu a hwyr. Neu cymerwch lonaid llwy fwrdd
o sudd syrup o ground ivy. Neu haner pint o'i drwyth foreu a hwyr.
Y TOSTEDD (Stranguary).
713. Toddwch haner owns o nitr mewn chwart ddwfr, ac yfwch lonaid gwydr gwin
o hono bob awr. Neu yfwch lawer o lemonade. Neu yn helaeth o drwyth erfin,
wedi ei felysu a sugr da. Neu cymerwch drwyth gref o ddail mefus. Neu
bwytewch yn fynych o'i ffrwyth.
POEN GAN LOSGIAD HAUL.
718. Golchwch y lle yn dda â thê sage cryf.
|
|
|
(delwedd K0083) (tudalen 82)
|
82
ALARU (Surfeit) DIWEDDAR.
719. Cymerwch benau gwyrdd wermod, o faint nutmeg.
I ATAL GWAEDU 1 ORMODEDD.
720. Yfwch yn helaeth o ddwfr oer.
I IACHAU NOS CHWYSIADAU.
721. Yfwch chwarter pint o ddwfr twymn wrth fyned i'r gwely.
CHWAREN CHWYDDEDIG YN Y GWDDF.
722. Yfwch heli y mor yn fynych bob dydd, a golchwch y lle a'r unrhyw.
CHWYDDIADAU MEDDALION A LLIPA.
723. Pistyllwch ddwfr oer arnynt bob dydd.
CHWYDD GWYN YN Y CYMALAU.
724. Bwytewch ddanadl wedi eu berwi, a rhoddwch hwynt yn sugaethen wrth y
lle. Neu, gollyngwch ffrwd o ddwfr arno bob dydd. Neu ffrwd o ddwfr un dydd,
a golchi dwfr oer yn dda y dydd nesaf, ac felly bob yn ail. Neu daliwch y lle
dros haner awr bob boreu dan bistyll; gwna y peth olaf hwn wellhau pob poenau
yn cymalau. Defnyddiwch garthiadau araf, fel na ddychwelo y peth.
I DDILEU CHWYDDIADAU GWYNION A CHELYD.
729. Daliwch hwynt foreu a hwyr mewn anwedd gwinegr a dywelltir ar geryg tân
gwynias. Neu, eneiniwch hwynt âg eli wedi ei wneyd o rosynau gwynion, dail
ysgaw, dail bysedd y cin (fox gloves), a St. John's wort, llonaid llaw o bob
un, wedi eu Cymysgu â saim mochyn, ddwy waith bob dydd.
|
|
|
(delwedd K0084) (tudalen 83)
|
83
I SEFYDLU DANEDD.
731. Rhoddwch alum wedi ei falu, o faint nutmeg, mewn chwart o ddwfr ffynon,
dros bedair awr ar hugain, yna hidlwch y dwfr, a golchwch y genau ag ef.
I LANHAU Y DANEDD.
732. Rhwbiwch hwy yn dda â brws caled, gyda lludw bara wedi ei losgi.
I ATAL Y DDANODD.
734. Golchwch y genau yn dda bob boreu â dwfr oer, a golchwch hefyd ar ol pob
pryd bwyd.
I WELLHAU Y DDANODD.
734. Dodwch ychydig gotwm wedi ei wlychu mewn oil of tar wrth y lle tost. Neu
gymysgwch ychydig o bylor a chotwm yn dda yn nghyd, a chedwch ef wrth y lle.
Neu dodwch wrth y lle ychydig o nutgall. Neu dodwch ychydig o gotwm wedi el
wlychu mewn laudanum. Neu cnowch ychydig o wraidd flowerdeluce. Os bydd twll
yn y dant, dodwch ynddo belen fechan, wedi ei gwneyd o'r un faint o gamphor
ac opium. Neu gosodwch ffigysen wedi ei chrasu rhwng y foch a chig y danedd.
Neu cymerwch ddeg dyferyn ar ugain o laudanum wrth fyned i'r gwely. Gwellêir
ef weithiau wrth gnoi neu fygu myglys. Neu golchwch y traed yn fynych mewn
dwfr twymn. a rhwbiwch hwynt yn dda a lliain bras. Neu rhoddwch flodau
camomile, wedi eu lledferwi mewn gin, can boethed ag y gellwch ei oddef rhwng
gwlanen wrth y foch. Neu gwefreiddiwch trwy y danedd.
|
|
|
(delwedd K0085) (tudalen 84)
|
84
Y DINCOD.
755. Rhwbiwch flaenau y danedd yn galed â lliain sych. D.S. Y mae pob llwch
garw a thincture cyffredin yn dystrywio y danedd; a phigo y danedd yn barhaus
yn gwneyd yr un peth.
SYCHED MAWR HEB GLEFYD.
756. Yfwch ddwfr ffynon, yn yr hwn y toddwyd ychydig sal prunella.
POEN YN Y CERYG.
157. Dodwch wrthynt pellitory y wal wedi ei guro i fyny yn sugaethen, gan ei
newid foreu a hwyr.
ENYNFA YN Y CERYG.
758. Berwch flawd ffa, mewn tair rhan o ddwfr ac un o winegr, a dodwch wrth y
lle.
Y GEG (Thrush),
759. Ydynt florynod gwynion bychain yn y genau, y rhai yn raddol a
effeithiant ar y coluddion. Llosgwch frethyn ysgarlad yn lludw, a chwythwch
ef i'r genau. Neu rhwbiwch y genau yn fynych ag ychydig fil a borax gwyn, fel
y cyngorir at enau dolurus. Neu rhoddwch ddeuddeg gronyn o vitriol i wyth
owns o ddwfr haidd, a defnyddiwch fel uchod.
D.S Carthiadau araf o magnesia, rhubarb, mana, &c., ydynt angenrheidiol
yn gyffredin.
TROAD YN Y PERFEDD.
764. Cymerwch lonaid gwydr gwin o sweet Oil a brandi, haner a haner. Hefyd,
gwydraid o beppermint neu ddwfr spearmint da, gyda llonaid llwy de o siwgr
ynddo. Pan fyddo y peth yn ddrwg iawn, cymerwch bwys neu ragor o arian byw,
owns ar un waith. Y
|
|
|
(delwedd K0086) (tudalen )85
|
85
mae llawer o bethau a gyngorwyd at y colic yn dda yn y dolur hwn.
I DYNU CNAWD DDRAIN, DARNAU COED, AC ESGYRN.
767. Rhodder wrth y lle risgl gwyrdd tufewnol y gollen newydd ei dynu oddiar
y pren.
BRATHIAD GWIBER, NEU RATLESNAKE.
768. Dodwch wrth y lle erllyg wedi eu pwnio. Hefyd, rhwbiwch yr archoll yn
ddioed â sweet oil; y mae yr olaf hwn mewn gwirionedd wedi gwellâu cnoad ci
cynddeiriog.
VERTIGO, NEU NOFIAD YN Y PEN.
769. Cymerwch bob boreu, gan ymprydio, lonaid llwy fwrdd o had mwstard gwyn.
Hefyd, cymysgwch yn nghyd un ran o salts of tartar a thair rhan o cream of
tartar, a chymerwch lonaid llwy de mewn gwydraid o ddwfr bob boreu, gan
ymprydio. Hefyd, cymerwch
chwech dyfer o essential oil of lavender ar siwgr gwyn. Hefyd, yfwch yn
fynych drwyth cryf oddiar yr un dail meinion. Hefyd, cymerwch gyfogiad neu
ddau. Hefyd, ymdrochwch mewn dwfr oer bob dydd.
METHU CYSGU.
776. Cymerwch ronyn neu ddau o gamphor; y mae hyny yn sicrach a mwy dyogel na
laudanum. Hefyd, gosodwch wrth y talcen, dros ddwy awr, lieiniau pedwar
dyblyg wedi ei gwlychu mewn dwfr oer; na yfwch de green.
CNOADAU GWENWYNIG.
778. I’w hattal, rhwbiwch y dwylaw yn dda â sudd radishes.
|
|
|
(delwedd K0087) (tudalen 86)
|
86
CORNWYDYDD (Ulcers).
779. Taenwch galomel drostynt ddwy neu dair gwaith y dydd. Hefyd, dodwch wrthynt, ddwy waith y dydd,
sugaethen o foron cochion wedi eu berwi. Hefyd, yfwch yn helaeth o de
acrimony. Hefyd, yfwch haner pint o ddwfr calch, nos a boreu. Hefyd, rhoddwch
bob boreu blastr o fwyar duon, neu ddail plaintain wedi eu pwnio. Hefyd,
sychwch a malwch ddail cnau ffrengig, a thaenwch y llwch dros yr archoll, a
dodwch ddeilen collen ffrengig ar y lle. Hefyd, mwgdarthwch hwynt foreu a
hwyr â thrwyth cryf dail collen ffrengig, a rhwymwch y dail a ferwyd ar yr
archoll. Gwellâ hyn esgyrn dolurus, a'r gwahanglwyf. Gochelwch spices ac
ymborth bras, ac yfwch faidd yn unig, dwfr haidd, neu ddwfr a bara wedi ei
grasu ynddo.
CORNWYD YN Y BLEDREN NEU YR ARENAU.
790. Cymerwch drwyth cryf acrimony dair gwaith y dydd. Hefyd, yr un peth o
horsetail. Hefyd, cymerwch can fynyched, louaid llwy de o syrup neu lwch yr
un peth.
CORNWYD AR GIG Y DANEDD NEU YR EN.
724. Rhoddwch wrtho fel rhoses, ac ynddo spirits of vitriol.
CORNWYD PIB-GLWYFAWL.
795. Golchwch ef â solution of corrosive sublimate. Hefyd, rhoddwch wrtho
ystwyth-drwyddew (bougies) wedi taenu yn dda hyd-ddo sweet oil. Hefyd,
ymdrochwch bob dydd mewn dwfr oer.
|
|
|
(delwedd K0088) (tudalen 87)
|
87
CORNWYD YN YR URETHRA.
798. Cymerwch ewin garlleg, bob nos a boreu, nes gwellâu. Hefyd, defnyddiwch yn
feunyddiol ystwythdrwyddew wedi taenu yn dda hyd-ddo sweet Oil.
CYFOGAU (Vomits).
799. I blentyn, rhodder llonaid llwy de o antimonial wine. I fachgen neu
lodes, dwy, ac i ddyn neu ddynes, pedwar gronyn o emetic tartar. Hefyd,
ugain gronyn o ipecacuanha; os dewisir, gellir ei felusu. Wedi iddo sefyll am ddwy neu dair munyd,
tywelltwch y te ymaith ac yfer ef.
I ATAL CYFOGI.
800. Cymerwch lonaid llwy fwrdd o gudd lemon. Hefyd, chwech gronyn o salts of
tartar. Y maent yn well wedi eu cymysgu. Hefyd, rhoddwch wrth y fynwes wniwn
wedi ei dori ar ei draws.
DWFR GWAEDLYD.
803. Cymerwch ddwy waith y dydd beint o drwyth yarrow. Hefyd, gan gymaint a
hyny o drwyth acrimony.
GWNEYD DWFR WRTH Y DYFERYN, GYDA PHOETHDER A PHOEN.
805. Na yfwch ddim ond lemonade. Hefyd, curwch i fyny fwydion pump neu chwech
afal, gyda chwart o ddwfr, a chymerwch ef yn y gwely. Iacha
hyn y peth yn gyffredin erbyn y boreu.
DWFR LLOSGEDIG.
807. Cymerwch ddau lonaid
llwy fwrdd o sudd newydd ground ivy.
|
|
|
(delwedd K0089) (tudalen )88
|
88
METHU ATAL DWFR.
808. Yfwch chwarter peint o bosel (posset) alum bob nos yn y gwely. Hefyd,
llonaid llwy de o lwch acrimony mewn ychydig ddwfr foreu a hwyr. Hefyd,
ymdrochwch mewn dwfr oer bob dydd.
ATALIAD DWFR.
811. Yfwch lawer o lemonade twymn. Hefyd, cymerwch lonaid llwy fwrdd o sudd
lemons wedi ei felusu â sudd violets. Hefyd, cymerwch scrupl o nitr mewn dwfr
bob dwy awr. Hefyd,
cymerwch saith gronyn o mercurius dulcis, neu sweet mercury.
I WELLHAU DEFAID.
815. Rhwbiwch hwynt yn dda bob boreu sialc wedi ei gymysgu â'r poeryn a fyddo
yn eich genau y boreu. Hefyd, rhwbiwch hwynt bob dydd â radish. Hefyd, â sudd
marigold. Hefyd, â sudd crafanc y frân. Hefyd, â'r tu fewn i godau ffa bach
(horse-beans) newydd eu hagor. Hefyd, mewn dwfr yn yr hwn y toddwyd sal
ammonia. Hefyd, â houseleek.
GWENDID YN Y FFERAU.
820. Daliwch hwynt nos a boreu mewn dwfr oer dros bymtheg munyd.
Y WEM FEDDAL.
821. Rhoddwch ddail surens y cwn mewn papur gwlyb, a rhostiwch hwynt ar y
marwor; cymysgwch hwynt gyda lludw wedi ei ogryn yn fân mewn sugaethen, a
rhoddwch wrth y lle yn dwymn bob dydd.
|
|
|
(delwedd K0090) (tudalen 89)
|
89
Y WHITES.
622. Ymddygwch yn ddiwair, gan ymborthi yn gynil. Defnyddiwch ymarferiad
parhaus. Cysgwch yn gymedrol, ond na orweddwch byth ar eich cefn. Rhoddwch
ddail a blodau rosemary mewn dwfr dros nos, ac yfwch haner peint neu ragor o
hono nos a boreu gan ymprydio. Gwna ymarferiad â bwyd llaeth yn unig yn
fynych ei wellhau. Y mae cawl cryf yn fynych yn cael effaith dda. Mewn amser
twymn ymdrochwch bob dydd mewn dwfr oer.
YR EWINOR (Whitlow).
831. Trochwch ef mewn dwfr a fyddo yn berwi ar y tân. Hefyd, rhoddwch wrtho
sugaethen o driagl, neu o fel a blawd. Hefyd, o ffa a lixivium. Hefyd, bara
wedi ei gnoi. Hefyd, bara wedi ei gnoi ag ymenyn newydd; newidier ef bob
dydd.
DYFRGLWYF GWYNTOG.
834. Bwytewch yn helaeth o bys crasedig. Hefyd, yfwch gwpanaid dair gwaith y
dydd o de camomile. Hefyd, cymerwch ddram o wraidd neu hadau lovage pa bryd
bynag y delo y pang. Hefyd, defnyddiwch lwch dail a blodau marjoram fel
trewlwch. Hefyd, carthwch yn achlysurol, ac ymdrochwch mewn dwfr oer bob
dydd.
LLYNGYR.
849. Gwybyddir fod y llyngyr ar blentyn trwy oerni, neu anwyd fel cryndod,
lliw llwyd, llygaid suddedig, cosi ar y trwyn, neidio wrth gysgu, a drewdod
anarferol ar yr anadl. Cymerer bob boreu, gan ymprydion trwyth cryf dail y
gollen ffrengig. Hefyd,
|
|
|
(delwedd K0091) (tudalen 90)
|
90
berwch lonaid llaw o riw a wermod yn araf mewn chwart o ddwfr, a mygdarthwch
y bol â'r trwyth, a rhowch y dail berwedig fel sugaethen wrtho; gwnewch hyny
bob nos a boreu. D.S. Y mae
yr olaf yn rhagorol i blant na chymerant bethau yn dufewnol. Neu cymerwch
lwyaid o sudd lemons, neu winegr cryf, bob boreu, gan ymprydio. Hefyd, yfwch
yn fynych de wermod cryf. Hefyd, yfwch haner peint o ddwfr calch nos a boreu.
Y mae sop gwyn yn mwyd plant beth rhagorol. Yn ddiweddaf, cymerwch ymarferlad
helaeth allan. — D.S. Gwellhawyd plant wrth gymeryd dau lonaid llwy de o worm
seed, neu had llyngyr, mewn triagl, dros chwech boreu olynol.
LLYNGYREN LIOSBEN (Tape Worm).
859. Cymysgwch lwyaid fawr o dar Norway mewn peint o ddiod fain, cymerwch ef
can foreued ag y galloch, gan ymprydio, nes y delo y llyngyren ymaith: y mae
hyn yn feddyginiaeth sicr, ond rhaid i blant gymeryd llai dogn. Hefyd,
cymerwch lonaid cwpan te, neu ragor, o laeth caseg, newydd ei odro oddiwrthi,
bob nos a boreu dros wythnos, gan ymprydio; gwna hyny un ai ei lladd neu ei
hanfon ymaith. D.S. Y mae llewygu a chwant bwyd aethus yn arwyddion o'r fath
uchod. I bob llyngyr ereill rhaid arferu bron yr un driniaeth. Yr ataliad
goraf rhag llyngyr yw peidio yfed dwfr drwg.
ARCHOLLION.
861. Rhoddwch wrthynt yn ddioed powder of yarrow. Hefyd, golchwch hwynt yn
fynych â thrwyth
|
|
|
(delwedd K0092) (tudalen 91)
|
91
cryf marshmallows. Hefyd, o wood betoni, wedi ei bwnio; gwna yr olaf iachau
toriadau gwythi gwaed a gewynau, a thynu allan ddrain a darnau o'r cnawd. Hefyd, rhoddwch ar y lle ddeilen werdd a
thyner o brook lime. Hefyd, cymerwch ddram o benau ground ivy ddwy waith y
dydd, yn llwch. Hefyd, rhoddwch blastr o lysiau'r fam (St. John's wort) wrtho
bob dydd. Gwna magdan (tinder) rwystro gwaedu.
ARCHOLLION TUFEWNOL.
870. Cymerwch ddwywaith y dydd ugain neu ddeg dyferyn ar ugain o Turlington's
balsam, ar siwgr gwyn. Hefyd, cymerwch ddwy waith y dydd ddau neu dri dyferyn
o essential oil of lavendar ar siwgr gwyn. Hefyd, yfwch yn fynych gwpanaid o
de marshmallows. Hefyd, gwpanaid o yarrow bedair gwaith y dydd; rhaid iddo
aros ddeuddeg awr cyn ei yfed.
GEWYN DOLURUS.
874. Berwch wraidd cwmffri nes y bo yn ludd tew, a rhoddwch ar y lle fel
sugaethen; newidiwch ef dair gwaith y dydd.
I AGOR CLWYF A GAUODD YN RHY GYNAR.
874. Dodwch wrtho centuary wedi ei friwio.
ARCHOLLION PWDR.
875. Golchwch hwynt hwyr a boreu â sudd twymn acrimony. Os gwellhant yn rhy
fuan, a chasglu, rhoddwch wrthynt sugaethen o'r dail wedi eu malu,
|
|
|
(delwedd K0093) (tudalen 92)
|
92
gan eu newid bob dydd nes y gwellâo. Hefyd, rhoddwch wrth y lle sugaethen o foron
cochion. Ond os cymer marweidd-dra le, rhoddwch sugaethen o flawd gwenith
(wedi iddo fod wrth y tân nes y byddo yn dechreu gweithio) wrtho pan bron yn
oer, gwellâ yn fuan.
CARTHIAD ESMWYTH.
880. Yfwch beint o ddwfr claear gan ymprydio, a cherdded ar ei ol. Hefyd,
bwytewch wy meddal a llonaid llwy de o halen gydag ef. Hefyd, rhoddwch owns o
senna mewn peint o ddwfr, a dau scruple o salt of tartar, dros ddeuddeg awr,
yna hidlwch ef, a chymerwch o hono ei haner yn y boreu. P.S. Y mae y wild ash
o'r un natur a senna; gwna ei dail, ond cymeryd cymaint arall, garthu yn dda,
ac ni wna gnoad yn y cylla fel senna.
I WNEYD DWFR LLYGAID RHAGOROL.
884. Berwch yn dra araf lonaid llwy fwrdd o goperas gwyn, wedi ei grafu, a
thair llonaid llwy fwrdd o halen cyffredin, mewn tri pheint o ddwfr ffynon;
pan oera, costrelwch ef heb ei hidlo, cymerwch i fyny y gostrel yn esmwyth, a
rhoddwch ddyferyn neu ddau o hono yn y llygaid foreu a hwyr, gyda brws o flew
camel. D.S. Gwellâ hyn gochni, neu unrhyw ddolur arall ar y llygad. Gwellâ
hefyd bys, rhediadau, ac hyd y nod ddallineb weithiau. Ond os bydd y llygaid
yn llosgi gormod, rhoddwch ychydig o ddwfr ynddo; gwellâ hyn hefyd enynfa yn
y llygaid.
|
|
|
(delwedd K0094) (tudalen 93)
|
93
I WNEYD DAFFY'S ELIXIR.
888. Cymerwch o senna da, gum guiacum, Spanish liquorice (wedi ei dafellu yn
fychan), aniseeds, coriander, a gwraidd elecanpane, haner owns o bob un, a
chwarter pwys o raisins of the sun stoned; pwnier y cwbl yn nghyd, a rhodder
hwynt mewn chwart o frandi da; dodwch ef wrth y tân dros ychydig ddyddiau,
yna hidlwch a chadwch at wasanaeth. Y dogn yw llonaid gwydr gwin. D.S. Pan y
byddo eisieu rhagor o garthu, rhoddwch ynddo chwarter owns o lwch julap.
I WNEYD DWFR CALCH.
889. Dodwch bwys o galch byw da mewn chwech chwart o ddwfr ffynon dros bedair
awr ar ugain, yna tywalltwch oddiar y calch, a chostrelwch ef.
I WNEYD DWFR TAR.
890. Ar chwart o dar goraf Barbadoes neu Norway, rhoddwch alwyn o ddwfr oer,
trowch ef yn dda dros bum neu chwech munyd, rhoddwch gauad arno dros dri
diwrnod; tywalltwch y dwfr yn lan ymaith, a chostrelwch ef yn dyn at eich
gwasanaeth.
1 WNEYD TURLINGTON'S
BALSAM.
891. Cymerwch balsam of Peru a balsam of Tolu, haner owns o bob un, green
storax in tears, a gum guiacum, owns o bob un; gum Benjamin owns a haner,
heptic aloes, a frankincense, dau ddram o bob uu [un]; maler y gum, a doder y
cwbl chwart o
|
|
|
(delwedd K0095) (tudalen 94)
|
94
rectified spirits of wine, ysgydwch y gostrel yn fynych D.S. Y mae hwn yn feddyginiaeth
ragorol i ddyn ac anifail, a'r goraf a ellir gael at archollion tufewnol ac
allanol,
DR. JAMES'S POWDER.
892. Yn Apotheary's Hall, neu gyda rhyw gyfferydd da arall, mynwch Dr.
Hardwich's fever powder, yr hwn, os nad yr un, a ateba yr un dyben yn gymwys.
SCOT’S PILLS.
893. Toddwch ddwy owns o hepatic, neu bitter aloes, gyda llwyaid fawr o sweet
oil, a chymaint a hyny o ddwfr ar dân araf. Pan y mae o dewder addas, gwnewch
ef yn beleni â phowder liquorice.
SOOTHING SYRUP,
I blant pan y maent yn tori eu danedd
894. Rhwbiwch gig eu danedd yn dda bump neu chwech gwaith y dydd â syrup of
poppies. Os nad yr un yw hwn a'r American soothing Syrup
rhagorol, ateba yn gymwys yr un dyben.
I WNEYD Y PLA WINEGR NODEDIG,
Neu Haint Atalydd.
895. Dodwch riw, sage, mint, rosemary, a wermod, llonaid llaw o bob un, mewn
dau gwart o'r gwinegr goraf, uwchben marwor twymn dros wyth diwrnod;
|
|
|
(delwedd K0096) (tudalen 95)
|
95
yna hidlwch ef trwy wlanen, a rhoddwch ynddo haner owns o camphorated spirits
of wine; â hwn golchwch y gwyneb, y genau, a'r lwynau, ac aroglwch ef pan yr
eloch allan; aroglwch ysbwng wedi ei roddi ynddo cyn yr eloch at berson claf,
neu leoedd y byddo y pla ynddo. — D.S. Hwn ydyw y gwinegr aroglawl rhagorol.
I DYNU INC NEU WIN ALLAN O LIAIN.
896. Dodwch y lle yn ddioed mewn llaeth a fyddo yn berwi ar y tân. Hefyd, mewn gwer toddedig poeth, a phan y
golcher ef yn hollol lân.
I GADW BWTASAU AC ESGIDIAU, A’U GWNEYD NA DDELO DWFR TRWYDDYNT.
896. Toddwch yr un faint o gwyr gwenyn a gwêr (uwch tân araf) a chyda brws
bychan, neu wlanen, rhwbiwch hwn yn dda i'r esgidiau, gan en twymno yn
gyntaf, ac wedi iddynt hollol sychu gwnewch yr un peth drachefn. D.S. Bydd
hyny yn rhwystr perffaith I bob gwlybaniaeth fyned trwyddynt, a pharânt lawer
yn hwy.
I RWYSTRO DWFR TRWY Y GWADNAU.
899. Rhwbiwch hwynt yn dda llawer gwaith â linseed oil berwedig, a gadewch
iddynt sychu yn yr haul. D.S. — Rhaid i’r esgidiau neu y gwadnau fod yn
newyddion, &c.
|
|
|
(delwedd K0097) (tudalen 96)
|
96
GLUD CADARN
At China, Gwydr, a ddalio dân a dwfr, ac a gyll ei liw yn fuan.
900. Mewn llonaid llwy fawr o laeth newydd, dodwch lwyaid fawr o winegr,
tywalltwch ymaith y maidd, a chwanegwch ato wyn wy. Curwch hwynt yn dda yn
nghyd, ac ychwanegwch gymaint a hyny o galch bywiog a'i gwnelo yn ludd tew.
901. Y mae gwirod poethion yn sicro fod yn wenwyn araf; gan hyny, pa gyntaf y
gadawer hwyut heibio goraf oll.
902. Dwfr yw y ddiod oraf o'r cyfan, efe a fywioga yr archwaeth at fwyd ac a
gryfha y treuliad.
903. Y dwfr iachaf i'w yfed yw dwfr gwlaw wedi ei ddal mewn llestr pridd. Ar ol iddo aros a sefydlu, cymerer ef
ymaith yn lan i lestr arall, ac efe a geidw yn dda amser hir.
904. Y mae yfed dwfr yn atal parlys mud, diffyg anadl, dirdyniadau, gewynwst,
y famog, gwallgofrwydd, parlys, y gareg, crynfeydd, &c.
905. Gwna y poeryn cyntaf yn y boreu, wrth ei roi yn allanol, yn fynych
wellâu dallineb, gewynau wedi byrhau trwy archoll, cyrn, a defaid; ond i fod
yn hollol effeithiol, dylid cnoi bara ynddo, a'i roddi bob boreu, pan y
gwellâ archollion newyddion, clywed
|
|
|
(delwedd K0098) (tudalen 97)
|
97
trwm, amrantau llidiog, darwden glefr boethawl, coesau archollawl, &c.
Ond ei lyncu, esmwythâ a gwellâ yn fynych ddiffyg anadl, y cancer, y falling
sickness, y gewynwst, y grafel, clefyd y brenin, y gwahanglwyf, y parlys, y
clafr, y gareg, chwyddiad yr ysgyfaint, &c., &c.
D.S. — Y ffordd oraf i'w gymeryd yn dufewnol yw, bwyta oddeutu owns o gacen
galed neu grystyn bara, bob boreu, gan ymprydio dros ddwy neu dair awr; pa
hwyaf y gwneir, felly goraf oll.
907. Y mae ymdrochi mewn dwfr oer a gwefreiddio yn dra llesol yn mhob
afiechyd gewynawl ac arosol, ac os gwneir hyny am ddeg diwrnod ar ugain,
dywedir yr iacha gnoad ci cynddeiriog.
I WELLA GWAITH ANWYD.
Cymerer llonaid llwy fwrdd o fel, llonaid llwy fwrdd o ymenyn, llonaid llwy
fwrdd o flawd ceirch, gwerth tair ceiniog o'r rum goreu, un wy, a chymysger
hwynt yn nghyd mewn haner peint o ddwfr berw; i'w gymeryd ddwy waith yn y
dydd.
|
|
|
(delwedd K0099) (tudalen 98)
|
98
RHEOLAU
ER CADW IECHYD A BYW YN HIR;
GAN SYR RICHARD JEBB,
DIWEDDAR FEDDYG I'R TEULU BRENINOL.
1. Cadwriaethau goraf iechyd yw ymarferiad corfforol chymedroldeb; geill pob
sefyllfa arferu y rhai hyn ar bob tymor ac yn mhob lle. Y mae ymarferiad yn
taflku ymaith bob gormodedd, a chymedroldeb yn ei rwystro; y mae ymarferiad
yn glanâu y llestri ac yn rheoleiddio cylchrediad y gwaed.
2. Y mae gradd gymedrol o ymarferiad yn hollol angenrheidiol i iechyd.
3. Cerdded yw yr ymarferiad goraf i'r rhai a eill ei oddef, a marchogaeth i'r
rhai nad allant.
4. Y mae yr awyr yr ydym yn anadlu o'r pwys mwyaf i'r iechyd.
5. Dylai pob un sydd am gadw ei iechyd fod mor lâa [lân] a di-ddrygsawr yn eu
tai ag y mae modd.
6. Nid oes dim yn well er lles iechyd nag ymprydio a bwyd
c[y]ffredin.
|
|
|
(delwedd K0100) (tudalen 99)
|
99
7. Y mae pob diod frag, oddigerth ychydig ddiod fain loyw, yn ddrwg, ac felly
y mae te a choffi cryf.
8. Y mae bod y corff yn rhwym yn ddrwg iawn i iechyd; gan hyny, pan fyddir
felly dylid cymeryd rhyw beth i'w ryddhau yn ddioed.
9. Y mae ataliad chwysiad (a elwir yn gyffredin, cael anwyd,) yn achos bron o
bob afiechyd. Gan hyny, symuder ef yn ddioed trwy chwysiad araf.
10. Nid yw cyffeiriau, y rhan amlaf, ond peth yn lle ymarferiad corfforol a
chymedroldeb.
11. Nid yw pothellu (blister), craffiniad (cupping), a gwaedu, ond anfynych
yn angenrheidiol, oddieithr i'r diog a'r anghymedrol; nid ydynt ond dyfais i
wneyd moethau i gytuno ag iechyd.
12. Rhoddir y cyffyrydd ar waith yn benaf i wrthwynebu y cogydd a'r gwinydd.
Hoffder natur yw y pethau mwyaf cyffredin a syml.
13. Y mae pawb yn well barnwr am ei gyfansoddiad ei hun na neb arall, ac yn
gwybod pa fath fwyd, a pha faint, sydd yn gwneyd y tro iddo oraf.
14. Nid yw pethau
cymhelliadol ond yn unig yn creu chwant gau am fwyd.
15. Os na ellwch wneyd heb win, na chymerwch ragor na phedwar gwydraid.
16. Yr oedd cyfaill neillduol i mi (medd Syr Richard,) yr hwn oedd yn dra
hoff o fyw yn dda, a chanddo wraig, o'r hon yr oedd yn dra hoff, a theulu
lluosog; a dymunai fyw yn ddigon hir i'w gweled wedi eu sefydlu yn y byd.
|
|
|
(delwedd K0101) (tudalen 100)
|
100
17. Yr oedd, modd bynag, o gyfansoddiad drylliedig, nes ei fod oddeutu haner
cant oed, pan y gofynodd fy nghyngor pa fodd i feddu hyny. Cynghorais ef yn
daer i gymeryd llwybr rheolaidd o gymedroldeb ac ymarferiad corfforol; wrth
wneyd hyn efe a wellâodd, ac a ddaeth yn ddyn iach cadarn.
18. Yn yr amser yr wyf yn son yr oedd gwendidau wedi effeithio yn fawr ar ei
gyfansoddiad, a syrthiasai i amryw fath o ddoluriau, megys y colic, y
gewynwst, y cwlwm gwythi, &c., a thwymyn araf yn barhaus, fel mai y
waredigaeth oraf y gallai efe obeithio am dani (oddigerth er mwyn ei deulu
lluosog) oedd i angau roddi terfyn ar ei ofid.
19. Y canlyniad o’m cynghor, yr hwn a roddaf i lawr yma, yn ei eiriau ef ei
hun, ydynt, - Pan. meddai ef y penderfynais fyw bywyd cymedrol, cefais fy hun
yn fuan wedi fy rhyddhau oddiwrth fy holl afiechyd, a pharhêais felly hyd y
dydd hwu, ac yr wyf yn awr dros gant oed.
20. Y mae y bwyd a'r gwin ag yr wyf yn ei gymeryd yn wastadol, yn cytuno a'm
cyfansoddiad, a thrwy ddefnyddio yr hyn a fyddo yn gymedrol, yr wyf yn cael
fod eu holl rinweddau yn myned i fy nghorff, ac yn ei gadw heb gasglu dim
pethau drwg.
21. Ac yr wyf yn credu y dylem ystyried bywyd rheolaidd fel meddyg, a pha
beth yw ein meddyginiaeth fwyaf naturiol ac addas, gan ei bod yn ein cadw
mewn iechyd, yn ein gwneyd i fyw yn gryf ac i oedran mawr, ac yn ein hatal
rhag marw o selni trwy lygredigaeth y gweliau.
|
|
|
(delwedd K0102) (tudalen 101)
|
101
22. Pwy bynag, trwy ymddiried i ieuenctyd, neu nerth ei gyfansoddiad, a ddibrisio
fy sylwadau, rhaid iddo fyw mewn perygl parhaus o glefyd a marwolaeth.
23. Ac yr wyf yn sicr, trwy ymarferiad, fod y dyn ag sydd yn byw bywyd sobr a
rheolaidd, yn fwy tebyg o fyw yn iachus a hir na gwr ieuanc sydd yn arwain
bywyd afreolaidd ac anghymedrol, pa gan gryfed bynag y byddo ei gyfansoddiad.
24. Clywais rai personau anianol ac anystyriol yn haeru nad oedd bywyd hir yn
fendith; ac wedi i ddyn fyned dros ei 70 mlwydd ei fod yn well yn farw nac yn
fyw.
25. Ond myfi a wn yn well na hyny, canys yr wyf fi yn awr can gystal ag y bum
erioed yn fy mywyd, ac efallai yn well; yr wyf yn awr yn mwynhau pob mwynhad
yn well na phan oeddwn yn ieuauc. Yr wyf yn cysgu bob nos yn drwm a llonydd,
ac y mae yr holl freuddwydion yn foddhaus a dymunol.
26. Yr wyf hefyd yn awr yn sicr y geill hyd y nod bersonau o gyfansoddiad
afiach, trwy ddylyn bywyd rheolaidd a sobr, fyw i oedran mawr, fel y
gwnaethym i; canys yr wyf fi yn haeru fod fy menydd yn awr gystal ag y bu
erioed.
27. Dywed rhai personau y darfu i amryw, heb ddylyn bywyd rheolaidd, fyw can
mlynedd a rhagor, a chan hyny tybiant y bydd iddynt hwythau fod mor ffawdus;
ond rhaid i mi ddywedyd wrth y cyfryw bersonau nad oes un mewn deng mil o'r
cyfryw yn meddu y fath ddedwyddwch; a'r rhai a wnant hyny, y maent yn
gyffredin yn cael eu cario ymaith trwy ryw afechyd.
|
|
|
(delwedd K0103) (tudalen 102)
|
102
28. Gan hyny, y ffordd sicraf yw (o leiaf wedi cyrhaeddyd deugain neu ddeg a
deugain oed), dylyn sobrwydd.
29. Y peth yr wyf fi yn ei gyfrif yn fywyd rheolaidd a sobr yw peidio bwyta
nac yfed dim na chytuna a'r cylla, na bwyta nag yfed mwy nag a allo y cylla
dreulio yn hawdd.
30. Y mae, myfi a wn, rai hen lythion a haerant fod yn angenrheidiol iddynt
fwyta ac yfed llawer, i'r dyben o gadw eu twymdra a'u nerth naturiol, a phe
byddai iddynt ddylyn bywyd cymedrol na fyddai ond un byr; ond gwn yn dda na
eill cylla hen a gwanaidd dreulio graddau mawr o ymborth.
31. Dylai hen bobl fwyta
ychydig ar unwaith, a hyny yn fynych.
32. Dywed ereill y geill bywyd sobr yn ddiau gadw dyn mewn iechyd, ond na
eill estyn ei fywyd.
33. Gwn nad yw hyn ychwaith yn wir, canys yr wyf fi fy hun yn dyst o hyny;
canys pe na fuasai i mi ddylyn cynghor fy nghyfaill Dr. Jebb, ond parhau i
fyw fel yr oeddwn yn flaenorol, yr wyf yn sicr y buaswn yn fy medd er ys
llawer blwyddyn.
34. O! y fath wahaniaeth a gefais i rhwng bywyd rheolaidd ac afreolaidd: un a
rydd iechyd a hir hoedl, a' r llall a rydd afiechyd a marwolaeth anamserol.
35. A rhaid yn sicr ei fod yn ddedwyddwch mawr i ddyn sobr ystyried fod y
ffordd y mae yn byw yn ei gadw mewn iechyd, ac heb fod yn ddygiedydd un
afechyd nac anmhuredd.
|
|
|
(delwedd K0104) (tudalen 103)
|
103
36. Y mae yn anmhosibl, yn ol natur gyffredin pethau, i'r hwn a fyddo yn byw bywyd
sobr a rheolaidd fagu unrhyw afiechyd neu farw yn anamserol, cyn yr amser
dros yr hwn y mae yn anmhosibl iddo fyw; ond cyn hyny ni eill farw, gan fod
bywyd sobr yn symud ymaith achosion cyffredin selni, ac ni eill selni
ddygwydd heb ryw achos.
37. Y mae iechyd ac afiechyd, bywyd a marwolaeth, yn ddiau yn ymddibynu ar
sefyllfa ddrwg neu dda hylifedd y corff. Y mae cymedroldeb yn eu puro a'u
perffeithio, a chanddo y duedd naturiol o’u huno yn nghyd fel ag i'w gwneyd
yn anwahanadwy ac yn analluog o gyfnewidiad. neu ymarferiad, pethau sydd yn
creu twymyn erchyll, ac yn diweddu mewn marwolaeth.
38. Am danaf fy hun, yr wyf yn ymdeimlo hyd y nod yn awr, yn yr oedran o gant
a saith, yn iachus a hyfryd, yn bwyta gydag awydd i fwyd, ac yn cysgu yn dda
ragorol.
39. Y mae fy synwyrau hefyd gystal ag y buont erioed, fy nealltwriaeth mor
loyw ac eglur ag y bu yn y pryd goraf, fy marn yn gadarn, fy nghof yn
graffus, fy ysbrydoedd yn dda, a'm llais (y peth cyntaf yn gyffredin sydd yn
pallu gyda ni) yn gryf yn pheraidd; ac, yn wir, y mae rhai hyn yn arwyddion
sicr a gwirioneddol fod hylifedd fy nhorff yn dda, ac na eill ddarfod ond
gydag amser.
40. Yr wyf hefyd yn mwynhau y boddlonrwydd o ymddyddan gyda dynion o dalentau
dysglaer a deall rhagorol, oddiwrth y rhai, hyd y nod yn awr, yn fy oedran
hirfaith, yr wyf yn gallu dysgu rhywbeth.
|
|
|
(delwedd K0105) (tudalen 104)
|
104
41. Y fath ddedwyddwch a mwynhad ydyw fy mod yn alluog, yn yr amser hwn o'm
bywyd, heb y blinder lleiaf, i astudio y pynciau mwyaf pwysig; ac y mae yn
anmhosibl i neb flino ar y fath fwynderau hyfryd, y rhai a ellai pob dyn
fwynhau trwy ddylyn y bywyd a wnaethum i.
42. Fel i ddybenu fy nhrnethawd, dywedaf, gan fod hir ddyddiau yn llawn o'r
fath fendithion, a minau yn dygwydd bod yn un sydd yn eu mwynhau, y mae yn
ddyledswydd bendant arnaf, yr wyf yn ystyried, i roddi fy nhystiolaeth o'i
ochr; ac i sicrâu i holl ddynolryw (hyd y nod yn yr amser hwn o fywyd) fy mod
yn mwynhau y pethau yr wyf yn ddarlunio, ac nad yw y pethau a enwais ddim ond
yn unig amlygiad o'r buddioldeb mawr sydd yn deilliaw o hir fywyd, fel y
byddo i ereill gael eu darbwyllo i gadw rheolau hyfryd cymedroldeb a
sobrwydd.
43. Y mae dyn sobr yn blasu pob mwynhad mewn bywyd; y mae meddwdod yn troi
allan reswm, yn boddi y cof, yn anurddo harddwch, yn gwanychu nerth, yn berwi
y gwaed, yn gwneyd archollion tufewnol, allanol, ac anwelladwy; gwna y dyn
cryf yn wan, a'r doeth yn ffol; efe a yf i iechyd ereill, a ysbeilia ei
iechyd ei hun.
44. Yn awr yr wyf yn canu yn iach â chwi trwy ddyweyd, bydded i flynyddoedd
ereill fod mor hir a dedwydd a'm rhai i, a bydded iddynt fyw mewn rhinwedd ac
ewyllys da tuag at bawb.
|
|
|
(delwedd K0106) (tudalen 105)
|
105
GARDDWRIAETH AM BOB MIS YN Y FLWYDDYN, GYDA CHYNGORION MEDDYGOL.
IONAWR.
Yn y mis hwn y dynoethwch wraidd coed, a gorchuddiwch wraidd coed newydd eu
planu â thail i rwystro i'r rhew eu niweidio. Torwch bob cangen wywedig
oddiar goed ffrwythau. Planwch blanigion, a glanêwch y coed o fwswgl. Hauwch
ferw ffrengig, mwstard, radish, a llysiau bychain ereill. Mewn lle cynes
bras, a chysgodol, hauwch Hotspur peas. Rhoddwch ddaear newydd wrth eich
sage, tyme, a llysiau per ereill. Trawsblanwch goed ieuainc, torwch frigau y gwinwydd;
rhychwch y tir erbyn y gwanwyn. D.S. Na chymerwch physigwriaeth, ac na
waedwch, heb hollol angenrheidrwydd. Bwytewch yn fynych, a gochelwch gysgu
gormod.
CHWEFROR.
Yn y mis hwn symudwch grafftiau blynyddoedd blaenorol. Torwch a gosodwch
blanigion. Gellir planu gwinwydd yn nechreu y mis hwn, a ffrwythau a dyfont
yn dwsiau. Hauwch bob math o hadau cnewyllawl a rhai cedyrn. Ar ymylau
cysgodawl hauwch hadau polyanthus. Hauwch ffa, pys, yd, salad, marigold, had
anis, radishes, panas, moron, wniwn, garlleg, beets, a Dutch brown lettuce.
Planwch helyg a phlanigion dyfrawl. Rhwbiwch fwswgl oddiar y coed ar ol
gwlaw. Torwch lindis y maith o goed byw, a llosgwch
|
|
|
(delwedd K0107) (tudalen 106)
|
106
hwynt. D.S. Byddwch yn gynil mewn physigaeth, ac na waedwch heb hollol
angenrheidrwydd; byddwch ofalus rhag cael anwyd.
MAWRTH.
Rhaid yn y mis hwn orphen pob gwaith a orchymynwyd ddechreu yn y mis
diweddaf. Gellir grafftio un peth yn y mis hwn. Torwch gangenau prenau afalau
ac eirin, a ffrwythau eirin, a ffrwythau ereill; gosodwch blanigion o sage,
rosemari, lavender, tyme, &c. Parêwch i blanu helyg a dyfrblanigion
ereill. Hauwch bys,
ceirch, a haidd, a phob math o hadau gwellt. D.S. Carthwch a gwaedwch; na
fwytewch gig bras.
EBRILL.
Hwn yw y mis mwyaf prysur gyda'r amaethydd a'r garddwr yn y flwyddyn, o
herwydd y mae y ddaear y pryd hwn yn barod ac addas i dderbyn unrhyw had a
hauer. Cribiniwch eich moron, radishes, wniwn, &c. Planwch kidneybeans ac
asparagus; parthwch artichokes. gan blanu tri o honynt yn yr un twll. Planwch
ffa gardd, rouncival, a phys mawrion ereill i fod yn gnydiau olynol; planwch
blanigion o sage, riw, lavendar, Hauwch bob math o lysiau am y tro olaf.
Hauwch erfin, a phob math o gabbage lettuce, a thrawsblanwch y cos a'r
cilesia lettuces a hauwyd y mis o'r blaen. — D.S. Y mae yn awr yn amser da i
waedu a chymeryd pob math a physig; cadwch oddiwrth lawer o win a phethau
cryfion ereill, yr hyn a weithia eich gwaed, ac a ddystrywia eich
cyfansoddiad.
|
|
|
(delwedd K0108) (tudalen 107)
|
107
MAI.
Hauwch cucumbers yn y tir naturiol, ac hefyd purslane a bresych. Hauwch bys a
ffa mewn tir llaith i gael cnwd diweddar. Planwch kidneybeans i gael ail
gnwd; trawsblanwch celery yn rhesi; ceibiwch eich cnwd o foron erbyn y gauaf,
y ffa, wniwn, &c., yr hyn a hebgora lawer o drafferth mewn misoedd
dyfodol; hauwch erfin, ac os daw y gwlaw yn fuan ar ol hyny bydd yn
gefnogaeth fawr i'r planigion: hauwch leek wheat, a phys diweddar; chwynwch
blanigion ieuainc a iorwg; braenarwch eich tir, edrychwch yn dda at eich
defaid, os bydd y tywydd yn wlyb, rhag ofn y pwd (rot). — D.S. Trwy fod y
gwaed a hylifedd yn awr yn fywiog yn y corff, byddwch yn ofalus rhag bwyta
halen, cig cryf neu hen; dylai pobl dewion ochelyd gormodedd o wirod o un
math.
MEHEFIN.
Hauwch brocoli am ail gnwd yn nechreu y mis hwn; trawsblanwch celeri, a
savoys a bresych ereill erbyn y gauaf; hauwch kidneybeans a brown lettuce i
gael cnydiau diweddar; casglwch y cyfryw lysiau ag ydynt yn awr mewn blodau
i'w sychu mewn lle cysgodol, ac nid yn yr haul; hauwch bob math o lysiau mân,
salad, bob tri neu bedwar dydd; cadwch eich gardd yn rhydd o chwyn, o herwydd
hwy a ddystrywiant bob planigion a fyddo yn agos atynt; chwynwch eich yd; a
hauwch erfin gwylltion (rape), had bresych, a had erfin. — D.S. Y mae dail
oerawl, megys lettuce, surens y cwn, purslene, &c., yn atal gormod o
chwysu, ac yn taflu ymaith heintiau twymynawl.
|
|
|
(delwedd K0109) (tudalen 108)
|
108
GORPHENAF.
Hauwch erfin ac wnwyn i sefyll y gauaf, ac hefyd moron, had bresych, a
cauliflowers; cadwch eich gardd yn rhydd oddiwrth chwyn, ac nac angofiwch chwynu
y mis hwn y planigion newyddion: casglwch yr hadau ydynt yn addfed, a'r
blodau, a sychwch hwynt yn gyntaf yn y cysgod, ac wedi hyny yn yr haul. —
D.S. Gochelwch yfed i ormodedd. Defnyddiwch lysiau oerion. Gochelwch gig hallt a chryf, a chadwch
oddiwrth physig.
AWST.
Hauwch cauliflowers, spinage, wnwyn, bresych, colewort, lettuce, cresses,
chervil, a corn salad, erbyn gallaf: trawsblanwch brocoli i sefyll; planwch
blanigion savory, tyme, sage, hyssop, rosemari, lavendar, mastic, a
phlanigion aroglawl ereill; parêwch i hau rape, radish, mwstard, cresses, ac
erfin, bob wythnos; hwy a dyfant yn fuan yn awr yn addas defnyddio. — D.S. Yn
y mis hwn arferwch ymborth cymedrol; gochelwch gysgu yn fuan ar ol bwyta, o
herwydd dygn hyny arnoch farweidd-dra, poen yn y pen, crynfeydd penddyferiad,
a'r cyffelyb glefydau. Cymerwch ofal mawr rhag anwyd a phoethder disymwth.
MEDI.
Planwch wraidd liquorice, oddeutu dwy droedfedd y naill oddiwrth y llall,
mewn daear laith: planwch artichokes, a haqwch hadau llysiau gauaf; hauwch
wenith a rhyg; torwch blanigion (quicks) erbyn diwedd y mis; hauwch banas a
moron mewn awyr rydd
|
|
|
(delwedd K0110) (tudalen 109)
|
109
agored, a thir llaith; symudwch a phlanwch gangenau o flodau; gosodwch restri
o fefus (strawberries) a phren-melyn (barberries
HYDREF.
Trawsblanwch y brown Dutch a'r lettuce cyffredin mewn rhimynau twymn i sefyll
y gauaf; hauwch bob math o salad ar hen welyau brydion, megys lettuce,
cresses, radish, mwstard, a spinage; codwch y pridd at y celeri, chardoos,
a'r brocoli, i'w dyogelu rhag y rhew; gwnewch blanfeydd o ddarnau o goed
gooseberries, currants, a rasberries; torwch artichokes a choesau hirion, y
rhai a ellwch gadw yn y ty trwy eu gosod mewn tywod; parêwch i hau gwenith,
gosodwch i fyny eich tir haidd; hauwch rai i wneyd llwyni, neu gloddiau;
planwch blanigion, a thriniwch y perthi; planwch bob math o goed a roddant eu
dail. — D.S. Gochelwch fod allan yn hwyr yn y nos, o herwydd geill anwyd a
geir yn awr barhau trwy gydol y gauaf.
TACHWEDD.
Os bydd y tymor yn dyner, gellir parhau i dacluso cangenau coed afalau, coed
ereill a ddaliant dywydd, coed ffrwythau ar y muriau, &c. Ond ni ddylid
tori cangenau ar ol hyn, rhag i wlaw a rhew niweidio y coed pan y byddont
newydd gael eu tacluso; rhychwch eich tir, a chyfodwch ef i fyny yn wrymian;
planwch ddarnau o goed afalau surion i grafftio arnynt; parêwch i blanu
cangenau eirin mai (gooseberries), currants, a raspberries; gwnewch welyau
brwd i asparagus; tor-
|
|
|
(delwedd K0111) (tudalen 110)
|
110
wch goed, a changenau coed: os bydd y tywydd yn ffafriol planwch goed, a
choed ffrwythau. — D.S. Y physig goraf y pryd hwn yw ymarferiad corfforol da,
dillad clyd, ac ymborth iachus. Ond os bydd i ryw glefyd eich dala, dybenwch
eich physig y mis hwn, ac yna aroswch hyd fis Mawrth.
RHAGFYR.
Planwch bob math o geryg, cnewyllod, &c., planwch winwydd, a rhai i'w
grafftio; rhychwch y tir, a theilwch ef i rimynau; tua diwedd y mis hauwch
radishes, a moron, ar rimynau twymn; hauwch cresses, mwstard, a salads
ereill, ar wely brwd canolig, a gorchuddiwch â mattiau, planwch bob math o
goed sydd yn deilio.
RHEOLAU IECHYD YR HEN PARR. — Cadwch eich traed yn dwymn trwy ymarferiad
corfforol, a'ch pen yn oer trwy gymedroldeb, na fwytewch byth ond pan fyddoch
newynog, ac na yfwch ond pan fyddo natur yn galw am hyny.
|
|
|
(delwedd K0112) (tudalen 111)
|
111
CYNWYSIAD. Tudalen.
Y Rhagymadrodd 3
Cofiant Henry Jenkins 5
Beddargraff H. Jenkins 25
At y Wrach y neu y Cryd (Ague) 26
At y Cryd Tri-dyddiol 27
At y Cryd Pedwar-dyddiol 27
Tan Iddwf (Erysipelas) 27
At y Parlys Mud (Apoplexy) 27
Diffyg Anadl (Asthma) 28
Toriad alla Geriaidd (Bilios Humours) 28
Gwaedu o’r Trwyn 29
I atal rhediad gwaed o archoll 30
Poeri gwaed 30
Cyfog gwaed 30
Pledreni 30
Cornwydydd 30
Ysigiad 31
I atal chwydd oddiwrth ysigiad 31
I wellâu chwydd oddiwrth ysigiad 31
Llosg neu wlyblosg 31
Y cancer yn y fron 31
Cancer mewn rhyw le arall 32
Cancer o dan y llygad 32
Cancer yn y genau 32
Bronau Celyd 33
Bronau chwyddedig a dolurus 33
Malaith, Gibwst, Llecheira (Chilblains) 33
Plant – I atal y Llechau (Rickets), Tynerwch, neu Wendid 34
Didenau Agenog 34
Dwylaw Agenog 34
Gwefusau Agenog 34
Y Colyddwst (Cholic) 34
Y Colyddwst Sych 34
Y Colyddwst ar Blant 35
Colyddwst oddiwrth fwg neu darth plwm, &c. 35
Y Colyddwst Gwyntog 36
Darfodedigaeth 37
Anwyd 37
Anwyd yn y pen 37
I rwystro effeithiau drwg anwyd 37
Dirdyniadau (Convulsions) 38
Dirdyniadau mewn plant 38
Cyrn 38
Rhwymdra 39
Peswch 39
Peswch Diffyg-anadl 39
Peswch Darfodedigawl 39
Peswch Sefydlog 40
Archoll 42
Byddarni 42
Byddarni arosol 42
Byddarni gyda phoen yn y pen a swn yn y clustiau 43
Genedigaeth 43
Dyfrlif 43
Y Dyfrglwyf 44
Pobl wedi boddi 44
Poen yn y Clust 44
Swn neu ganu yn y clustiau 45
Cwyr caled yn y clustiau 45
Dallineb 45
Cib-ddellni 45
Llygaid tostion 45
Golwg pwl 46
Archoll ar y Llygaid 46
Pilionen ar y Llygaid 46
Llygaid yn rhedeg o ddwfr poeth, llym 46
Ysbotiau Gwynion yn y Llygaid 47
Llygaid Gweinion 47
Llewygu wrth ollwng gwaed 47
Llewygfeydd 47
Tewdra mawr 47
Twymynau 47
Twymyn Uchel 48
Twymyn Dyspeidiol (Intermitting) 48
Twymyn Araf 48
Twymyn Groendarddol (Rash) 48
|
|
|
(delwedd K0113) (tudalen 112)
|
112
Tudal.
Twymyn gyda Phoen yn yr aelodau 49
Twymyn Llyngyr 49
Pib-glwyf (Fistula) 49
Dylifiad (Flux) 49
Dylifiad y Gwaed 50
Clefyd y Gwaed, y gwaethaf o bob dylifiad 50
Cymalwst (Gout) yn y Cylla 50
Cymalwst mewn unrhyw aelod 51
Y Gymalwst yn y llaw yn eu y droed 52
Cancer neu Farweiddiad - i’w atal neu ei rwystro 52
I ladd y man bryfed sydd yn difa y cig oddiwr 55th y danedd 53
Y Glasglwyf (Green Sickness) 53
I wneyd i’r Gwallt dyfu yn hir a thew 53
Poen yn y Pen 53
Poen angerddol yn y Pen 54
Poen Gewynawl yn y Pen 54
Poen sefydlog yn y Pen 54
Rhwystriad yn y Pen 54
Yr Ingloes (Heartburn) 54
Yr Ig (Hiccup) 55
Y Pas (Hooping Cough) 55
Crygni 55
Y Famwst (Hysteric Disorders) 56
Annhreuliaeth 56
Y Clefyd Melyn 57
Y Clefyd Melyn ar Blant 57
Yr Ymgrafu 57
Y Man Wynau 58
Cloffni oddiwrth selydliad arosol y lle 58
Coesau Chwyddedig 58
Coesau Archolledig, ac yn rhedeg 59
Y Gwahanglwyf 59
Yr Hunglwyf 59
Lladd Llau 59
I un yn ymddangos wedi cael ei ladd gan fellt neu ddamp, neu wedi mygu 59
Clefyd yr Afu 60
Y Lues Venerea, neu y Clefyd Drwg 60
Lloerigrwydd (Lunacy) 61
Gwallgofrwydd Gwyllt 61
Cnoad Ci Cynddeiriog 62
Y Frech Goch 62
Mensis Nimi, neu pan y rhedant i ormodedd 63
I helaethu llaeth 63
I wneyd I laeth ceuledig redeg 64
I wneyd i laeth gytuno a’r cylla 64
Marweiddiad (Mortification) 64
Clefydau gewynawl 64
Nettle Rash 65
Her Oedran 65
Poenau yn y Cefn 65
Y Parlys 66
Parlys yn y Dwylaw 66
Parlys yn y Genau 66
Parlys ar ol gweithio mewn Plwm Gwyn neu Verdigris 66
Clwyf y Marchogion (Piles) 67
Clwyf y Marchogion Tufewnol 67
Clwyf y Marchogion Gwaedlyd 67
Y Pla 67
Clefydau Parlysaidd 68
Yr Eisglwyf (Plurisy) 68
I un wedi ei wenwyno 68
Polypus yn y Trwyn 68
I Bigiad neu Archoll fyddo yn Crawni 69
Pysaliam, neu Boeri Parhaus 69
Y Fynyglog (Quinsey) 69
Gewynwst yn y Pen 71
Y Fynyglog yn y Pen 70
Llechau (Rickets) 70
Gewynwst 70
Gewynwst yn y Pen 71
Gwreinyn, Tarwden (Ring Worm) 71
Rhediad o’r Trwyn 71
Toriad Llingig (Rupture) 71
Toriad Llingig mewn Plant 71
Toriad Llingig Gwyntog 72
Pen Crachog 72
Clefyd y Brenin (Scrofula) 72.
Y Clefri Poeth (Scurvy) 72
Archollion Clefrog 73
Y Clefri yn nghig y dannedd 73
|
|
|
(delwedd K0114) (tudalen 113)
|
113
Tudal.
Archoll ar Grimog 74
Yr Eryrod (Shingles) 74
Gwrthwyneb yn y boreu 74
Y Frech Wen 74
Gewynau wedi byrhau 76
Croen wedi rhwbio ymaith 76
Archoll yn y Cefn, yr hwn a fu yn rhedeg yn hir 76
Toriad Dolurus, neu Archoll 76
Coes Ddolurus 76
Genau Dolurus 77
Gwddf Dolurus 77
Gwddf Dolurus Archolledig 77
Gwddf Dolurus Chwyddedig (Inflamed) 77
Gwddf Dolurus Pwdr 77
Cylymau Gwythi (Spasms) 78
Ysygiad 78
Pigiad Colyn Gwenynen 78
Pigiad Gwenynen 79
Pigiad Gwenynen neu Gacwn y Llygad 79
Colyn Cacwn 79
Colyn yn nghorn y gwddf 79
Pigiadau (Stitch) yn yr ochr 79
Gwrthwyneb a phoen yn y Cyllau 79
Poen yn y Cyllau a’r Coluddion 79
Poen yn y Cyllau, gydag oerni a gwynt 80
Y Gareg 80
Mewn Pang Tost 81
Careg yn yr Arenau 81
Y Tostedd (Stranguary) 81
Poen gan Losgiad Haul 81
Alaru (Surfeit) Diweddar 82
Chwaren Chwyddedig yn y Gwddf 82
Chwyddiadau meddalion a llipa 82
Chwydd Gwyn yn y Cymalau 82
I ddileu Chwyddiadau Gwynion a Chelyd 82
I sefydlu y Danedd 83
I lanhau y Danedd 83
I atal y Danedd 83
Y Dincod 84
Syched mawr heb glefyd 84
Poen yn y Ceryg 84
Y Geg (Thrush) 84
Troad yn y Perfedd 84
I dynu o’r cnawd ddrain, darnau coed, ac esgyrn 85
Brathiad Gwuber neu Rattlesnake 85
Vertigo,sef Nofiad yn y Pen85
Methu Cysgu 85
Cnoadau Gwenwynig 85
Cornwydydd (Ulcers) 86
Cornwyd yn y Bledren neu yr Arenau 86
Cornwyd ar Gig y Danedd neu yr En 86
Cornwyd Pibglwyfawl 86
Cornwyd yn yr Urethra 86
Cygogau (Vomits) 87
I atal Cyfogi 87
Dwfr Gwaedlyd 87
Gwneyd dwfr wrth y dyferyn, gyda phoethder a phoen 87
Dwfr Llosgedig 87
Methu atal dwfr 87
Ataliad dwfr 88
I wellhau Defaid 88
Gwendid yn y Fferau 88
Y Wem Feddal 88
Y Whites 88
Yr Ewinor (Whitlow) 89
Y Dyfrglwyf Gwyntog 89
Llyngyr 89
Llyngyren Liosben (Tape Worm) 90
Archollion 90
Archollion Tufewnol 91
Gewyn Dolurus 91
I agor clwyf a gauwyd yn rhy fuan 91
Archollion Pwdr 91
Carthiad Eswyth 92
I wneyd Dwfr Llygaid rhagorol 92
I wneyd Daffy's Elixir 93
I wneyd Dwfr Calch 93
I wneyd Dwfr Tar 93
I wneyd Turlington’s Balsam 93
Dr. James’s Powder 94
Scot’s Pills 94
Soothing Syrup i Blant 94
|
|
|
(delwedd K0115) (tudalen 114)
|
114
I wneyd y Pla Winegr Nodedig 95
I dynu Inc neu Win allan o liain 95
I gadw botasau ac esgidiau, a’u gwneyd na ddelo dwfr trwyddynt 95
I rwystro dwfr y gwadnau 96
Glud Cadarn 96
Gwirod Poethion, &c., &c. 96
Gwella Dallineb, &c. 97
I wella Anwyd 97
Ymdrechi a Gwefreiddio 97
Rheolau er cadw iechyd a byw yn hir, gan Syr R. Jebb 96
Garddwriaeth 105
Rheolau Iechyd yr Henn Parr 110
DIWEDD.
J.T. JONES A’I FAB,
ARGRAFFWYR, ABERDAR.
|