kimkat3593k
Y Darian. 28 Medi 1916. At fy Nghydwladwyr. Anwyl Gymro Difater,— Y mae
eich difaterwch ynglyn a'r Hen laith yn blino llawer ar Gymry twymgalon, canys os
ydych chwi yn ddifater, beth allwn ddisgwyl ar ran y Saeson sydd yn ein plith?
14-02-2021
● kimkat0001 Yr Hafan www.kimkat.org
●
● kimkat2001k Y Fynedfa Gymraeg www.kimkat.org/amryw/1_gwefan/gwefan_arweinlen_2001k.htm
● ● ● kimkat0960k Mynegai i’r testunau Cymraeg yn y wefan hon
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_mynegai_0960k.htm
●
● ● ● kimkat3593k Y
tudalen hwn....
|
|
Gwefan Cymru-Catalonia At fy Nghydwladwyr.
|
|
.....
Cyfieithiad
Saesneg isod / English translation below
Cyfieithiad Catalaneg isod / Traducció catalana avall
|
|
(delwedd J4242a) (28 Medi 1916) |
Y Darian. 28 Medi 1916. At fy Nghydwladwyr. Anwyl Gymro Difater,— Y mae eich difaterwch ynglyn a'r Hen laith yn blino llawer ar Gymry twymgalon, canys os ydych chwi yn
ddifater, beth allwn ddisgwyl ar ran y Saeson sydd yn ein plith? Y mae eich
bath ymhob rhan o'r tir; yn y trefydd mawrion, lle y mae masnach wedi cymeryd
gafael ym meddyliau pobl i raddau poenus, yn y rhannau dwyieithog, lle y
teimlir anhawster i gadw'r plant yn Gymry, ac yn y rhannau gwledig lle y bydd
Cymry yn ddigon ffol i gredu y dylni ddywedir am ein hiaith gan dirfeddianwyr
penwag o Saeson. Nid wyf yn dweyd am foment eich bod yn Ddic-Shon-Dafydd,
ond yr ydych wedi gwneud eich meddwl i fyny mai Marw a Wna'r laith, ac yn derbyn y gred yn hollol ddifater! Dengys hynny nad yw
eich cariad yn fawr iawn tuag at yr hen iaith. Pe bai eich plentyn anwylaf ar
fin marw, fe fyddech yn ymdrechu eich goreu i ymladd am ei fywyd, ac yr wyf
yn dra sicr pe baech yn sylweddoli y golled anhraethol a ddaw i'n gwlad os
daw terfyn ar yr iaith fe fyddech lawer yn llai difater ac yn barotach i
ymladd dros ei chadwraeth. Nid wyf yn sicr eich bod wedi sylweddoli fod bodolaeth ein
cenedl fel cenedl yn dibynnu ar gadw o honom ein hiaith. Y mae meddyliau
goreu Cymru'r gorffennol yn ein llenyddiaeth, ac os cymer llenyddiaeth Lloegr
le ein llenyddiaeth ni, Seisnig fydd dylanwadau ffurfiol y dyfodol ac nid y
Gymraeg. O dipyn i beth collwn ein harbenigrwydd, ac ni fyddwn amgen |
|
|
(delwedd J4242a) (28 Medi 1916) |
Saeson Cyffredin. Pe baem yn byw ym
mhell o Loegr fe allem o bosibl gadw i raddau ein nodweddion hyd yn oed pe
collem ein hiaith, ond yr ydym yn rhy agos i Loegr I wneud hynny yn awr, ac y mae gormod o
ddylanwadau Seisnig yn barod yma i ni fod yn ddifater. Os collwn ein
nodweddion neilltuol collwn un o'r dylanwadau mwyaf sydd yn gwneud am undeb
ein cenedl. Ychydig sydd yn clymu dyn a dyn fel cyffelybrwydd
nodweddion ac iaith. Y mae gormod o ddylanwadau yn tueddi ein rhwygo fel
cenedl yn awr i ni allu fforddio colli dylanwad fel hwn. Dylanwad cryf arall
at greu undeb yw erledigaeth, ac fe fu erledigaeth y Sais arnom yn y
gorffennol yn elfen gref yn ein gyrru yn nes at ein gilydd. Ond y mae hwnnw
yn diflannu yn gyflym, a phwysigrwydd cadw'r iaith felly fel elfen ein hundeb
yn fwy nag erioed. Os collwn ein hiaith, collwn hefyd i raddau mawr ein Cyflymdra Meddwl. Nid oes dim yn well na dysgu dwy iaith i ddatblygu meddwl,
ac i greu awydd am astudiaeth. Dywedodd Mr Stanley Leathes, C.B. (un o
awdurdodau mwyaf y deyrnas ar ddysgu ieithoedd, ac a benodwyd yn ddiweddar yn
gadeirydd pwyllgor y Llywodraeth ar y mater): “I always think that bilinguals
like the Welsh get more out of their schools than a country like England,
where only one language is used." Dyma i chwi farn Sais ar bwysigrwydd
cadw'r iaith fel mater o ddatblygiad feddwl. Y mae medru cymharu dwy iaith a
chyfieithu o un i'r llall a mynegi meddwl yn y ddwy yn dangos diwylliant mwy
nag sydd yn bosibl i ddyn unieithog. Y mae Ilawer Cymro wedi ffurfio arferiad
o astudiaeth drwy gymeryd diddordeb yn y Gymraeg ac yn ei chymharu a'r Saesneg. Ac nid oes dadl fod
astudio y Gymraeg a'i llen yn fantais amhrisiadwy fel |
|
|
(delwedd J4242a) (28 Medi 1916) |
Disgyblaeth
Feddyliol. Dywedir wrthym gan
feirniaid diogel fod gwerin Cymru yn darllen mwy o lyfrau ac yn cymeryd mwy o
ddiddordeb mewn llenyddiaeth nag ydyw gwerin bobl unrhyw wIad ar wyneb y
ddaear. Os bydd marw'r iaith marw hefyd fydd y diddordeb yma, fel y gwelir yn
awr yn ddigon amlwg mewn rhannau Seisnigeidd o'n gwlad. Un o'r pethau goreu i
ddatblygu meddwl cenedl yw ymdrech i ddatblygu iaith. Y mae eisieu datblygu'r
Gymraeg mewn llawer ffordd — dyna waith i Gymru'r dyfodol, a ddatblygai eu
meddyliau yn well nag unrhyw astudiaeth o ieithoedd ereill. Yn ychwanegol at ein
bywyd meddylol y mae ein bywyd moesol yn gorffwys i raddau helaeth ar fywyd
yr iaith. Y mae i genedl roi ffordd i genedl arall mewn mater o
iaith yn ddigon ynddo ei hun I achosi
dirywiad cenedl am genedlaethau. Pwysig iawn hefyd yw'r ffaith fod Llenyddiaeth y Gymraeg ymhlith y glanaf os nad y glanaf yn y byd. Dywedir yn “A
Nation and Its Books" (llyfr swllt hynod werthfawr a gyhoeddwyd yn
ddiweddar gan Fwrdd Addysg Cymru, a ddylai fod yn llaw pob Cymro), “No bad
book has ever succeeded in Wales, and no coarse or foul book has ever tried
to do so. Not one of the great Welsh classics need to |
|
|
(delwedd
J4242d) (28 Medi 1916) |
be expurgated."
O bosibl na ddarfu chwi a'ch bath sylweddoli y ffaith bwysig yna o'r blaen,
neu ni fuasai un o honoch yn siarad mor ffol ag y gwnaeth un yn ddiweddar pan
ddywedodd fod yn well gan rai glywed pobl ieuainc yn “siarad Cymraeg ar y
ffordd i uffern na'u clywed yn siarad Saesneg ar y ffordd i'r nefoedd."
Oni wyddoch chwi mai un o'r rhesymau cryfaf sydd gan lawer o wyr goreu Cymru
dros geisio Ennyn Diddordeb y
Cymro Bach yn llenyddiaeth ei wlad
ei hun yw ei gadw oddiwrth y llu llyfrau a phapurau afiach a gyhoeddir yn yr
iaith Saesneg. Yn wir dibynna ein bywyd crefyddol i raddau helaeth
ar fywyd ein hiaith. Ni ddatblygwyd iaith erioed gymaint yn ei llyfrau
diwinyddol. Os collir yr iaith collir dylanwad oesoedd o feddyliau goreu y
wlad, ac yn waeth na hynny os llyfrau a phapurau Lloegr fydd ein llyfrau a'n
papurau awn yn gyflym iawn i edrych ar y byd gyda Llygad Materol ac anianol y Sais, ac fe gollwn ein hysbrydolrwydd a chyda
hynny neges ein bodolaeth. Gwir y dywedodd un yng nghyfarfodydd Undeb un o'r
enwadau yn ddiweddar, “Os collir y Gymraeg o'n gwlad, fe gollwn ein
Cristionogaeth i raddau helaeth iawn yr un pryd. Colli ein iaith fyddai un
o'r ergydion mwyaf y gallai Cristnogaeth ei gael… ‘Wales is the last bulwark
of Christianity.'… Os concrir ni gan iaith, llenyddiaeth ac arferion mwy
materol y Sais a chenhedloedd eraill bydd y byd i gyd ar ei golled." Gwelwch felly sut y mae ein bywyd fel cenedl yn feddyliol,
yn foesol, a chrefyddol, ein harbennigrwydd a'n hundeb yn gorffwys i raddau
helaeth iawn ar fywyd yr iaith. Da chwi felly taflwch eich difaterwch i
ffwrdd ac ymunwch a'r llu sydd eisoes wedi penderfynnu ymladd hyd at ddiwedd
einioes am fywyd yr hen iaith annwyl. — Yr eiddoch, ATWEBYD. |
xxxxx
|
|
Y Darian. 28 Medi 1916. At fy Nghydwladwyr. Anwyl Gymro Difater,— Y mae eich difaterwch ynglyn a'r Hen laith yn blino llawer ar Gymry twymgalon, canys os ydych chwi yn ddifater,
beth allwn ddisgwyl ar ran y Saeson sydd yn ein plith? Y mae eich bath ymhob
rhan o'r tir; yn y trefydd mawrion, lle y mae masnach wedi cymeryd gafael ym
meddyliau pobl i raddau poenus, yn y rhannau dwyieithog, lle y teimlir
anhawster i gadw'r plant yn Gymry, ac yn y rhannau gwledig lle y bydd Cymry
yn ddigon ffol i gredu y dylni ddywedir am ein hiaith gan dirfeddianwyr
penwag o Saeson. Nid wyf yn dweyd am foment eich bod yn Ddic-Shon-Dafydd,
ond yr ydych wedi gwneud eich meddwl i fyny mai Marw a Wna'r laith, ac yn derbyn y gred yn hollol ddifater! Dengys hynny nad yw
eich cariad yn fawr iawn tuag at yr hen iaith. Pe bai eich plentyn anwylaf ar
fin marw, fe fyddech yn ymdrechu eich goreu i ymladd am ei fywyd, ac yr wyf
yn dra sicr pe baech yn sylweddoli y golled anhraethol a ddaw i'n gwlad os
daw terfyn ar yr iaith fe fyddech lawer yn llai difater ac yn barotach i
ymladd dros ei chadwraeth. Nid wyf yn sicr eich bod wedi sylweddoli fod bodolaeth ein
cenedl fel cenedl yn dibynnu ar gadw o honom ein hiaith. Y mae meddyliau
goreu Cymru'r gorffennol yn ein llenyddiaeth, ac os cymer llenyddiaeth Lloegr
le ein llenyddiaeth ni, Seisnig fydd dylanwadau ffurfiol y dyfodol ac nid y
Gymraeg. O dipyn i beth collwn ein harbenigrwydd, ac ni fyddwn amgen |
Y Darian (“the shield”). 28 September 1916. To my compatriots. Dear Apathetic Welshman, - Your apathy about the Welsh Language (“the old language”) is very bothersome to the good-hearted Welsh, for if you
are apathetic, what can we expect from the the English [living] among us?
There are people like you all over the land; in the large towns, where
commerce has taken hold of people's minds to a painful degree, in the
bilingual zones, where it is difficult to keep the children Welsh, and in the
rural areas where the Welsh are foolish enough to believe the nonsense that
the empty-headed English landowners say about our language. I am not saying for a moment that you are a Dic Siôn Dafydd
(= a Welshman who despises his mother tongue and refuses to speak it), but
you have made up your mind that the Language will Die, and you accept this idea with complete indifference! That
shows that your love for the Welsh language (“the old language “) is not very
great. If your dearest child were to die, you would strive all you could to
fight for his life, and I am quite sure that if you realized the tremendous
loss our country would suffer if the language were to die, you would much
less apathetic and more willing to fight for its retention. I am not sure that you have realised that the existence of
our nation as a nation depends on us keeping our language. The best minds of
Wales in the past are in our literature, and if English literature replaces
our literature, the formal influences of the future will be English and not
the Welsh language. We shall gradually lose our distinctiveness, and we shall
be nothing more than |
|
|
Saeson Cyffredin. Pe baem yn byw ym mhell o Loegr fe allem o bosibl gadw i
raddau ein nodweddion hyd yn oed pe collem ein hiaith, ond yr ydym yn rhy
agos i Loegr I wneud hynny yn awr, ac
y mae gormod o ddylanwadau Seisnig yn barod yma i ni fod yn ddifater. Os collwn ein nodweddion neilltuol collwn un o'r dylanwadau
mwyaf sydd yn gwneud am undeb ein cenedl. Ychydig sydd yn clymu dyn a dyn fel
cyffelybrwydd nodweddion ac iaith. Y mae gormod o ddylanwadau yn tueddi ein
rhwygo fel cenedl yn awr i ni allu fforddio colli dylanwad fel hwn. Dylanwad
cryf arall at greu undeb yw erledigaeth, ac fe fu erledigaeth y Sais arnom yn
y gorffennol yn elfen gref yn ein gyrru yn nes at ein gilydd. Ond y mae hwnnw
yn diflannu yn gyflym, a phwysigrwydd cadw'r iaith felly fel elfen ein hundeb
yn fwy nag erioed. Os collwn ein hiaith, collwn hefyd i raddau mawr ein Cyflymdra Meddwl. Nid oes dim yn well na dysgu dwy iaith i ddatblygu meddwl,
ac i greu awydd am astudiaeth. Dywedodd Mr Stanley Leathes, C.B. (un o
awdurdodau mwyaf y deyrnas ar ddysgu ieithoedd, ac a benodwyd yn ddiweddar yn
gadeirydd pwyllgor y Llywodraeth ar y mater): “I always think that bilinguals
like the Welsh get more out of their schools than a country like England,
where only one language is used." Dyma i chwi farn Sais ar bwysigrwydd
cadw'r iaith fel mater o ddatblygiad feddwl. Y mae medru cymharu dwy iaith a
chyfieithu o un i'r llall a mynegi meddwl yn y ddwy yn dangos diwylliant mwy
nag sydd yn bosibl i ddyn unieithog. Y mae Ilawer Cymro wedi ffurfio arferiad
o astudiaeth drwy gymeryd diddordeb yn y Gymraeg ac yn ei chymharu a'r Saesneg. Ac nid oes dadl fod
astudio y Gymraeg a'i llen yn fantais amhrisiadwy fel |
English people. If we lived far away from England we could possibly retain
our characteristics even if we lost our language, but we are too close to
England to do so now, and there are already too many English influences here
for us to be indifferent. If we lose our distinctive characteristics we lose one of
the greatest influences on the unity of our nation. Few things bind people
together like the similarity of traits and a language. Too many influences
are tending to rip us apart as a nation now so we cannot afford to lose an
influence like this. Persecution is another strong influence in the creation
of unity, and the persecution against us by the English in the past has been
a strong force in driving us closer together. But that is fast disappearing,
and the importance of preserving the language as an element of our unity is
greater than ever. If we lose our language, we also lose to a great extent
our Mental Agility (“Speed of Thinking”). There is nothing better than learning two languages to
develop thought, and to create a desire for study. Mr. Stanley Leathes, C.B.
(one of the UK's greatest authorities on language learning, who was recently appointed chairman of the
Government's committee on the issue), said, “I always think that bilinguals
like the Welsh get more out of their schools than a country like England,
where only one language is used."
Here you have the opinion of an Englishman on the importance of
preserving the language as a matter of mental development. Being able to
compare two languages and translate from one to the other and
express thinking in both shows a culture which is greater than is possible
for a monolingual person. Many a Welshman has s adopted a method of learning
by taking an interest in the Welsh language and comparing it with English.
And there is no disputing the fact that studying Welsh and its literature is
an invaluable advantage as a |
|
|
Disgyblaeth Feddyliol. Dywedir wrthym gan feirniaid diogel fod gwerin Cymru yn
darllen mwy o lyfrau ac yn cymeryd mwy o ddiddordeb mewn llenyddiaeth nag
ydyw gwerin bobl unrhyw wIad ar wyneb y ddaear. Os bydd marw'r iaith marw
hefyd fydd y diddordeb yma, fel y gwelir yn awr yn ddigon amlwg mewn rhannau
Seisnigeidd o'n gwlad. Un o'r pethau goreu i ddatblygu meddwl cenedl yw ymdrech
i ddatblygu iaith. Y mae eisieu datblygu'r Gymraeg mewn llawer ffordd — dyna
waith i Gymru'r dyfodol, a ddatblygai eu meddyliau yn well nag unrhyw
astudiaeth o ieithoedd ereill. Yn ychwanegol at ein bywyd meddylol y mae ein bywyd moesol
yn gorffwys i raddau helaeth ar fywyd yr iaith. Y mae i genedl roi ffordd i
genedl arall mewn mater o iaith yn ddigon ynddo ei hun I achosi dirywiad cenedl am genedlaethau.
Pwysig iawn hefyd yw'r ffaith fod Llenyddiaeth y Gymraeg ymhlith y glanaf os nad y glanaf yn y byd. Dywedir yn “A
Nation and Its Books" (llyfr swllt hynod werthfawr a gyhoeddwyd yn
ddiweddar gan Fwrdd Addysg Cymru, a ddylai fod yn llaw pob Cymro), “No bad
book has ever succeeded in Wales, and no coarse or foul book has ever tried
to do so. Not one of the great Welsh classics need to |
Mental Discipline. We are told on good authority by sound authorities (“told
by reliable critics”) that the commonfolk of Wales read more books and take
more interest in literature than the ordinary people of any country on the
face of the earth. If the language dies this interest die too, as is now
evident enough in anglicised parts of our country. One of the best things to
develop a nation's thought is an effort to develop language. There are many
ways in which the development of the Welsh language is needed - that is the
work of a future Wales, that would develop their minds better than through
learning any other languages. In addition to our intellectual existence (“mental life”),
our morality (“moral life”) depends (“rests”)
largely on the language. For a nation to give way to another nation in
the matter of language is enough in itself to cause the decline of a nation
for generations. Another important fact is (“also very important is the
fact”) that Welsh Literature is among the most wholesome (“cleanest”) if not the most
wholesome in the world. In "A Nation and Its Books" (an extremely
valuable book costing a shilling recently published by the Welsh Education
Board, which should be in the hands of every Welshman) says, “No bad book has
ever succeeded in Wales, and no coarse or foul book has ever tried to do so.
Not one of the great Welsh classics need to |
|
|
be expurgated."
O bosibl na ddarfu chwi a'ch bath sylweddoli y ffaith bwysig yna o'r blaen,
neu ni fuasai un o honoch yn siarad mor ffol ag y gwnaeth un yn ddiweddar pan
ddywedodd fod yn well gan rai glywed pobl ieuainc yn “siarad Cymraeg ar y
ffordd i uffern na'u clywed yn siarad Saesneg ar y ffordd i'r nefoedd."
Oni wyddoch chwi mai un o'r rhesymau cryfaf sydd gan lawer o wyr goreu Cymru
dros geisio Ennyn Diddordeb y
Cymro Bach yn llenyddiaeth ei
wlad ei hun yw ei gadw oddiwrth y llu llyfrau a phapurau afiach a gyhoeddir
yn yr iaith Saesneg. Yn wir dibynna ein bywyd crefyddol
i raddau helaeth ar fywyd ein hiaith. Ni ddatblygwyd iaith erioed gymaint yn
ei llyfrau diwinyddol. Os collir yr iaith collir dylanwad oesoedd o feddyliau
goreu y wlad, ac yn waeth na hynny os llyfrau a phapurau Lloegr fydd ein
llyfrau a'n papurau awn yn gyflym iawn i edrych ar y byd gyda Llygad Materol ac anianol y Sais, ac fe gollwn ein hysbrydolrwydd a chyda
hynny neges ein bodolaeth. Gwir y dywedodd un yng nghyfarfodydd Undeb un o'r
enwadau yn ddiweddar, “Os collir y Gymraeg o'n gwlad, fe gollwn ein
Cristionogaeth i raddau helaeth iawn yr un pryd. Colli ein iaith fyddai un
o'r ergydion mwyaf y gallai Cristnogaeth ei gael… ‘Wales is the last bulwark
of Christianity.'… Os concrir ni gan iaith, llenyddiaeth ac arferion mwy
materol y Sais a chenhedloedd eraill bydd y byd i gyd ar ei golled." Gwelwch felly sut y mae ein bywyd fel cenedl yn feddyliol, yn
foesol, a chrefyddol, ein harbennigrwydd a'n hundeb yn gorffwys i raddau
helaeth iawn ar fywyd yr iaith. Da chwi felly taflwch eich difaterwch i
ffwrdd ac ymunwch a'r llu sydd eisoes wedi penderfynnu ymladd hyd at ddiwedd
einioes am fywyd yr hen iaith annwyl. — Yr eiddoch, ATWEBYD. |
be expurgated." You and people like you may not have
realised this important fact before, otherwise one of you would not have
spoken as foolishly as one did recently when he said that some people prefer
to hear young people “speak Welsh on the way to hell than hear them speak
English on the way to heaven." Do you not know that one of the strongest
reasons for many of Wales' best people in trying to Spark the Interest of Young Welsh People (“of the little
Welshman”) in the literature of his own country is to keep him away
from the many unwholesome books and papers published in the English language.
Indeed our religious life depends to a large extent on the existence (“life”)
of our language. No language was ever developed so much through its
theological books. If the language is lost the influence of centuries of the
best minds in the country will be lost, and worse if English books and papers
will be our books and papers we will go very quickly to look on the world
through English Eyes (“with the material and natural eye of the Englishman”),
and we shall lose our spirituality and with that the purpose of our
existence. What was said in one of the meetings of the association of a
religious denomination recently is true - "If our country loses the
Welsh language (“if the Welsh language is lost from our country”), we will
lose our Christianity very much at the same time. Losing our language would
be one of the biggest blows that Christianity could suffer ... 'Wales is the
last bulwark of Christianity.'… If we are conquered by the more material
language, literature and practices of the English and other nations it will
be a loss for the whole world (“the whole world will be on its loss"). So you see how our life as a nation intellectually,
morally, and religiously, our distinctiveness and unity rest very much on the
life of the language. For goodness sake then cast aside (“throw”) your apathy
and join the many who have already decided to fight to the last (“fight until
the end of life”) for the life of the beloved Welsh language (“beloved old
language.”) Yours, (a pen name meaning “[the question] was answered”) |
xxxxx
|
|
Y Darian. 28 Medi 1916. At fy Nghydwladwyr. Anwyl Gymro Difater,— Y mae eich difaterwch ynglyn a'r Hen laith yn blino llawer ar Gymry twymgalon, canys os ydych chwi yn
ddifater, beth allwn ddisgwyl ar ran y Saeson sydd yn ein plith? Y mae eich
bath ymhob rhan o'r tir; yn y trefydd mawrion, lle y mae masnach wedi cymeryd
gafael ym meddyliau pobl i raddau poenus, yn y rhannau dwyieithog, lle y
teimlir anhawster i gadw'r plant yn Gymry, ac yn y rhannau gwledig lle y bydd
Cymry yn ddigon ffol i gredu y dylni ddywedir am ein hiaith gan dirfeddianwyr
penwag o Saeson. Nid wyf yn dweyd am foment eich bod yn Ddic-Shon-Dafydd,
ond yr ydych wedi gwneud eich meddwl i fyny mai Marw a Wna'r laith, ac yn derbyn y gred yn hollol ddifater! Dengys hynny nad yw
eich cariad yn fawr iawn tuag at yr hen iaith. Pe bai eich plentyn anwylaf ar
fin marw, fe fyddech yn ymdrechu eich goreu i ymladd am ei fywyd, ac yr wyf
yn dra sicr pe baech yn sylweddoli y golled anhraethol a ddaw i'n gwlad os
daw terfyn ar yr iaith fe fyddech lawer yn llai difater ac yn barotach i ymladd
dros ei chadwraeth. Nid wyf yn sicr eich bod wedi sylweddoli fod bodolaeth ein
cenedl fel cenedl yn dibynnu ar gadw o honom ein hiaith. Y mae meddyliau
goreu Cymru'r gorffennol yn ein llenyddiaeth, ac os cymer llenyddiaeth Lloegr
le ein llenyddiaeth ni, Seisnig fydd dylanwadau ffurfiol y dyfodol ac nid y
Gymraeg. O dipyn i beth collwn ein harbenigrwydd, ac ni fyddwn amgen |
Darian
("l'escut"). 28 de setembre de 1916. Als meus
compatriotes. Benvolgut gal·lès apàtic,
- La vostra apatia per a l’Idioma gal·lès
("la llengua antiga") és molt molest per
als gal·lesos de bon cor, perquè si sou apàtics, què podem esperar dels
anglesos que viuen entre nosaltres? Hi ha gent com tu a tota la terra; a les
grans ciutats, on el comerç s’ha apoderat de les ments de la gent fins a un
grau dolorós, a les zones bilingües, on és difícil fer que els nens siguin
gal·lesoparlants, i a les zones rurals on els gal·lesos són prou insensats
per creure el despropòsit que els terratinyents anglesos capbuits diuen sobre
la nostra llengua. No dic per un moment
que sou un Dic Siôn Dafydd (= un gal·lès que menysprea la seva llengua
materna i es nega a parlar-la), però heu decidit que la llengua morirà, i accepteu aquesta
idea amb total indiferència! Això demostra que el vostre amor per la llengua
gal·lesa ("la llengua antiga") no és molt gran. Si el vostre fill
més estimat morís, us esforçarieu tot el possible per lluitar per la seva
vida, i estic segur que si us adonéssiu de la pèrdua tremenda que patiria el
nostre país si la llengua moria, serieu molt menys apàtic i més disposat a
lluitar per la seva retenció. No estic segur que us
hàgiu adonat que l'existència de la nostra nació com a nació depèn de que
mantinguem la nostra llengua. Les millors ments de Gal·les en el passat es
troben en la nostra literatura i, si la literatura anglesa substitueix la
nostra literatura, les influències formals del futur seran angleses i no la
llengua gal·lesa. Anirem perdent la nostra peculiaritat i no serem res més
que |
|
|
Saeson Cyffredin. Pe baem yn byw ym
mhell o Loegr fe allem o bosibl gadw i raddau ein nodweddion hyd yn oed pe
collem ein hiaith, ond yr ydym yn rhy agos i Loegr I wneud hynny yn awr, ac y mae gormod o
ddylanwadau Seisnig yn barod yma i ni fod yn ddifater. Os collwn ein
nodweddion neilltuol collwn un o'r dylanwadau mwyaf sydd yn gwneud am undeb
ein cenedl. Ychydig sydd yn clymu dyn a dyn fel cyffelybrwydd
nodweddion ac iaith. Y mae gormod o ddylanwadau yn tueddi ein rhwygo fel
cenedl yn awr i ni allu fforddio colli dylanwad fel hwn. Dylanwad cryf arall
at greu undeb yw erledigaeth, ac fe fu erledigaeth y Sais arnom yn y
gorffennol yn elfen gref yn ein gyrru yn nes at ein gilydd. Ond y mae hwnnw
yn diflannu yn gyflym, a phwysigrwydd cadw'r iaith felly fel elfen ein hundeb
yn fwy nag erioed. Os collwn ein hiaith, collwn hefyd i raddau mawr ein Cyflymdra Meddwl. Nid oes dim yn well na dysgu dwy iaith i ddatblygu meddwl,
ac i greu awydd am astudiaeth. Dywedodd Mr Stanley Leathes, C.B. (un o
awdurdodau mwyaf y deyrnas ar ddysgu ieithoedd, ac a benodwyd yn ddiweddar yn
gadeirydd pwyllgor y Llywodraeth ar y mater): “I always think that bilinguals
like the Welsh get more out of their schools than a country like England,
where only one language is used." Dyma i chwi farn Sais ar bwysigrwydd
cadw'r iaith fel mater o ddatblygiad feddwl. Y mae medru cymharu dwy iaith a
chyfieithu o un i'r llall a mynegi meddwl yn y ddwy yn dangos diwylliant mwy
nag sydd yn bosibl i ddyn unieithog. Y mae Ilawer Cymro wedi ffurfio arferiad
o astudiaeth drwy gymeryd diddordeb yn y Gymraeg ac yn ei chymharu a'r Saesneg. Ac nid oes dadl fod
astudio y Gymraeg a'i llen yn fantais amhrisiadwy fel |
Gent anglesa. Si visquéssim lluny
d’Anglaterra, podríem conservar les nostres característiques fins i tot si
perdéssim la nostra llengua, però estem massa a prop d’Anglaterra per fer-ho
ara, i aquí ja hi ha massa influències angleses perquè siguem indiferents. Si perdem les nostres
característiques distintives, perdem una de les majors influències en la
unitat de la nostra nació. Poques coses uneixen la gent com la semblança de
trets i un llenguatge. Massa influències tendeixen a separar-nos com a nació
ara, de manera que no ens podem permetre el luxe de perdre una influència com
aquesta. La persecució és una altra forta influència en la creació de la
unitat, i la persecució contra nosaltres per part dels anglesos en el passat
ha estat una força important per apropar-nos. Però això està desapareixent
ràpidament i la importància de preservar la llengua com a element de la
nostra unitat és més gran que mai. Si perdem la nostra llengua, també la
perdem en gran mesura l'Agilitat mental
("Velocitat de pensar"). No hi ha res millor
que aprendre dues llengües per desenvolupar el pensament i crear un desig
d’estudi. Stanley Leathes, CB (una de les autoritats més grans del Regne Unit
en matèria d'aprenentatge d'idiomes, que va ser nomenat recentment president
del comitè del govern sobre la qüestió), va dir: "Sempre crec que els
bilingües com els gal·lesos treuen més profit de les seves escoles que un
país com Anglaterra, on només s’utilitza un idioma." Aquí teniu l'opinió
d'un anglès sobre la importància de preservar l'idioma com a qüestió de
desenvolupament mental. Ser capaç de comparar dues llengües i traduir d'un a
l'altre i expressar el pensament en totes dues mostra una cultura més gran
que sigui possible per a una persona monolingüe. Molts gal·lesos han adoptat
un mètode d’aprenentatge interessant-se en la llengua gal·lesa i comparant-lo
amb l’anglès. I no es pot discutir el fet que estudiar gal·lès i la seva
literatura és un avantatge inestimable com a |
|
|
Disgyblaeth
Feddyliol. Dywedir wrthym gan
feirniaid diogel fod gwerin Cymru yn darllen mwy o lyfrau ac yn cymeryd mwy o
ddiddordeb mewn llenyddiaeth nag ydyw gwerin bobl unrhyw wIad ar wyneb y
ddaear. Os bydd marw'r iaith marw hefyd fydd y diddordeb yma, fel y gwelir yn
awr yn ddigon amlwg mewn rhannau Seisnigeidd o'n gwlad. Un o'r pethau goreu i
ddatblygu meddwl cenedl yw ymdrech i ddatblygu iaith. Y mae eisieu datblygu'r
Gymraeg mewn llawer ffordd — dyna waith i Gymru'r dyfodol, a ddatblygai eu
meddyliau yn well nag unrhyw astudiaeth o ieithoedd ereill. Yn ychwanegol at ein
bywyd meddylol y mae ein bywyd moesol yn gorffwys i raddau helaeth ar fywyd
yr iaith. Y mae i genedl roi ffordd i genedl arall mewn mater o
iaith yn ddigon ynddo ei hun I achosi
dirywiad cenedl am genedlaethau. Pwysig iawn hefyd yw'r ffaith fod Llenyddiaeth y Gymraeg ymhlith y glanaf os nad y glanaf yn y byd. Dywedir yn “A
Nation and Its Books" (llyfr swllt hynod werthfawr a gyhoeddwyd yn
ddiweddar gan Fwrdd Addysg Cymru, a ddylai fod yn llaw pob Cymro), “No bad
book has ever succeeded in Wales, and no coarse or foul book has ever tried
to do so. Not one of the great Welsh classics need to |
Disciplina mental. Ens diuen, amb bona
autoritat (“explicades per crítics fiables”), que la gent de Gal·les llegeix
més llibres i s’interessa més per la literatura que la gent comuna de
qualsevol país de la terra. Si la llengua es mor, aquest interès també mor,
com ara és prou evident a les zones anglitzades del nostre país. Una de les
millors coses per desenvolupar el pensament d’una nació és un esforç per
desenvolupar la llengua. Hi ha moltes maneres en què es necessita el
desenvolupament de la llengua gal·lesa: aquesta és la tasca d’un futur País
de Gal·les, que desenvoluparia les seves ments millor que aprenent qualsevol
altra llengua. A més de la nostra
existència intel·lectual ("vida mental"), la nostra moralitat
("vida moral") depèn ("descansa") en gran part del llenguatge.
Perquè una nació doni lloc a una altra nació en matèria de llengua, és
suficient per si mateixa per provocar el declivi d’una nació durant
generacions. Un altre fet important és que ("també és molt important el
fet") que la Literatura
gal·lesa és un dels més
edificants ("més nets") si no el més edificant del món. A "Una
nació i els seus llibres" (un llibre extremadament valuós que costa un
xíling, publicat recentment per la Comissió d’Ensneyament de Gal·les, que
hauria d'estar en mans de tots els gal·lesos), es diu: "Cap llibre
dolent no ha tingut èxit a Gal·les ni cap llibre groller o indecent mai ho ha
intentat. Cap dels grans clàssics gal·lesos no necessita |
|
|
be expurgated."
O bosibl na ddarfu chwi a'ch bath sylweddoli y ffaith bwysig yna o'r blaen,
neu ni fuasai un o honoch yn siarad mor ffol ag y gwnaeth un yn ddiweddar pan
ddywedodd fod yn well gan rai glywed pobl ieuainc yn “siarad Cymraeg ar y
ffordd i uffern na'u clywed yn siarad Saesneg ar y ffordd i'r nefoedd."
Oni wyddoch chwi mai un o'r rhesymau cryfaf sydd gan lawer o wyr goreu Cymru
dros geisio Ennyn Diddordeb y
Cymro Bach yn llenyddiaeth ei
wlad ei hun yw ei gadw oddiwrth y llu llyfrau a phapurau afiach a gyhoeddir
yn yr iaith Saesneg. Yn wir dibynna ein bywyd crefyddol
i raddau helaeth ar fywyd ein hiaith. Ni ddatblygwyd iaith erioed gymaint yn
ei llyfrau diwinyddol. Os collir yr iaith collir dylanwad oesoedd o feddyliau
goreu y wlad, ac yn waeth na hynny os llyfrau a phapurau Lloegr fydd ein
llyfrau a'n papurau awn yn gyflym iawn i edrych ar y byd gyda Llygad Materol ac anianol y Sais, ac fe gollwn ein hysbrydolrwydd a chyda hynny
neges ein bodolaeth. Gwir y dywedodd un yng nghyfarfodydd Undeb un o'r
enwadau yn ddiweddar, “Os collir y Gymraeg o'n gwlad, fe gollwn ein
Cristionogaeth i raddau helaeth iawn yr un pryd. Colli ein iaith fyddai un
o'r ergydion mwyaf y gallai Cristnogaeth ei gael… ‘Wales is the last bulwark
of Christianity.'… Os concrir ni gan iaith, llenyddiaeth ac arferion mwy
materol y Sais a chenhedloedd eraill bydd y byd i gyd ar ei golled." Gwelwch felly sut y mae ein bywyd fel cenedl yn feddyliol,
yn foesol, a chrefyddol, ein harbennigrwydd a'n hundeb yn gorffwys i raddau
helaeth iawn ar fywyd yr iaith. Da chwi felly taflwch eich difaterwch i
ffwrdd ac ymunwch a'r llu sydd eisoes wedi penderfynnu ymladd hyd at ddiwedd
einioes am fywyd yr hen iaith annwyl. — Yr eiddoch, ATWEBYD. |
ser expurgat.
"És possible que vosaltres i persones com vosaltres no us hàgiu adonat
d'aquest fet important, en cas contrari, un de vosaltres no hauria parlat tan
estúpidament com fa poc quan va dir que algunes persones prefereixen escoltar
els joves parlant gal·lès diables que escoltar-los parlar anglès camí del cel
". No sabeu que una de les raons més fortes de moltes de les millors
persones de Gal·les d’intentar Despertar l’interès
dels joves gal·lesos (“del petit gal·lès”) en la literatura del
seu propi país, és mantenir-lo allunyat dels molts llibres i articles poc
edificants publicats en llengua anglesa. De fet, la nostra vida religiosa
depèn en gran mesura de l'existència ("vida") de la nostra llengua.
Mai cap llenguatge es va desenvolupar tant a través dels seus llibres
teològics. Si la llengua es perd, la influència de segles de les millors
ments del país es perdrà, i pitjor que això si els llibres i papers anglesos
seran els nostres llibres i papers;
anirem molt ràpidament a mirar el món a través d’ ulls anglesos ("Amb l'ull
material i natural de l'anglès"), i perdrem la nostra espiritualitat i
amb això el propòsit de la nostra existència. El que es va dir recentment en
una de les reunions de l’associació d’una confessió religiosa és cert:
"Si el nostre país perd la llengua gal·lesa ("si la llengua
gal·lesa es perd del nostre país"), perdrem molt el nostre cristianisme.
La pèrdua de la nostra llengua seria un dels cops més grans que podria patir
el cristianisme ... "Gal·les és l'últim baluard del cristianisme."
... Si ens conquereix el llenguatge, la literatura i les pràctiques més
materials dels anglesos i d'altres nacions, serà una pèrdua per al món sencer
("el món sencer estarà en la seva pèrdua"). Així veieu com la
nostra vida com a nació intel·lectualment, moralment i religiosament, la
nostra peculiaritat i unitat descansen molt en la vida de la llengua. Pel bé
de tots, deixeu de banda ("llançar") la vostra apatia i uniu-vos a
les moltes persones que ja han decidit lluitar fins a l'últim ("lluitar
fins al final de la vida") per la vida de l'estimada llengua gal·lesa
("estimada llengua antiga. ”) Sincerament, (un nom
de ploma que significa "[la pregunta] ha estat contestada") |
Sumbolau:
a A / æ
Æ / e E / ɛ Ɛ / i I / o O / u U / w W / y Y /
ā Ā / ǣ Ǣ / ē Ē / ɛ̄ Ɛ̄ / ī Ī / ō Ō / ū Ū / w̄ W̄ / ȳ Ȳ /
ă Ă / ĕ Ĕ / ĭ Ĭ / ŏ Ŏ / ŭ Ŭ /
ˡ ɑ ɑˑ aˑ a: / æ æ: / e eˑe: / ɛ ɛ: / ɪ
iˑ i: / ɔ oˑ o: / ʊ uˑ u: / ə / ʌ /
ẅ Ẅ / ẃ Ẃ / ẁ Ẁ / ŵ Ŵ /
ŷ Ŷ / ỳ Ỳ / ý Ý / ɥ
ˡ ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ
əɪ uɪ ɪʊ aʊ ɛʊ əʊ /
ә ʌ ẃ ă ĕ ĭ ŏ ŭ ẅ ẃ ẁ Ẁ ŵ ŷ ỳ Ỳ
wikipedia, scriptsource. org
Y
TUDALEN HWN /THIS PAGE / AQUESTA PÀGINA:
www.[]
kimkat.org/amryw/1_testunau/sion-prys_313_at-fy-nghydwladwyr_1916_3593k.htm
Ffynhonnell / Font / Source: archive.org
Creuwyd / Creada / Created: 25-01-2021
Adolygiadau diweddaraf / Darreres actualitzacions / Latest updates: 25-01-2021
Delweddau / Imatges / Images:
Freefind: |
Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web CYMRU-CATALONIA (=
Gal·les-Catalunya)
Where am I? You are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia)
Website
Weə-r äm ai? Yüu äa-r víziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA
(= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait
Statistics for Welsh Texts Section
/ Ystadegau’r Adran Destunau Cymraeg
Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu
les estadístiques / View My Stats
DIWEDD