I’w wneud / Per fer encara: Cyfieithiad Catalaneg isod /
Traducció catalana avall
|
|
(delwedd J4470) (Celt Llundain. 1 Tachwedd 1902.)
|
Celt Llundain. 1 Tachwedd 1902
PRAWF DIC SION DAFYDD.
ALLEGORI DDRAMAYDDOL GAN LLEWELYN WYN.
BARNWR. YR ANRHYDEDDUS SYR CARU CYFIAWNDER.
CLERC Y LLYS. Mr. Cryno.
COFRESTRYDD Y BARNWR. Mr. Digyffro.
GWAS Y BARNWR. Mr. Clir-ei-lais.
DADLEUWYR. DROS YR ERLYNIAD. Mr Cymraeg, yr erlynydd. Mr. Llên Cymru. Mrs.
Crefydd Cymru (gwraig Mr. Llên). Miss Addysg Cymru, merch Mr. Llên. Mr.
Gwareiddiad. Dr. Hanes. Heddgeidwad Gor-selog.
DROS Y GARCHAROR. Mr. Masnach. Mr. Codi-yn-y-byd, mab y carcharor. Miss
Balchder, merch y carcharor. Mr. Rhith-Gwareiddiad. Dr. Rhagfarn.
CARCHAROR. DIC SHON DAFYDD.
RHEITHWYR. Mr. Cydwybod (blaenor), Mr. Union, Mr. Chwareu-Teg, Mr.
Gwel'd-bob-ochr, Mr. Geirwir, Mr. Didderbyn-wyneb, Mr. Gonest, Mr. Diofn, Mr.
Tawel, Mr. Synwyrol, Mr. Diwylliant, Mr. Deallgar.
MR. CRYNO yn galw ar y Rheithwyr wrth eu henwau.
Hwythau yn ateb, ac yn cymeryd eu lle yn sedd y Rheithwyr.
Yna rhydd Mr. Cryno iddynt y siars canlynol, a hwythau yn sefyll ar eu traed:
-
“Boed i chwi farnu yn gywir ac yn gyfiawn rhwng cenedl y Cymry a'r carcharor
wrth y Bar, fel yr ateboch i'ch cydwybod yn ol llaw."
Yna eistedda'r Rheithwyr i lawr; a Mr. Cryno, gan droi at y carcharor, a
ddywed: -
"Garcharor wrth y Bar, cyhuddir di o fod wedi ymosod mewn modd creulon
ac ysgeler ar Mr. Cymraeg, a'i glwyfo yn fwriadol a chyllell lem, gyda'r
amcan o'i lofruddio ar y bymthegfed o Fedi diweddaf, yn Heol Rhagfarn,
gerllaw Palas Ymffrost. Beth yw dy atebiad, a wyt Euog ai Dieuog?"
|
|
|
(delwedd J4471) (Celt Llundain. 1 Tachwedd 1902.)
|
DIC SION DAFYDD (yn sefyll yn y doc rhwng dau
heddgeidwad) "Dieuog, fy Arglwydd."
MR. GWLADGARWR: Myfi sydd dros yr Erlyniad.
MR. UCHELGAIS: A minau dros y Carcharor.
MR. GWLADGARWR: Rhynged bodd eich Arglwyddiaeth, a Foneddigion y Rheithwyr,
er fod genyf brofiad hir erbyn hyn, nid wyf yn cofio un adeg pan y teimlwn
gymaint o gyfrifoldeb yn gorphwys arnaf ag y gwnaf heddyw. Saif y carcharor
o'ch blaen am drosedd ffiaidd ac enbydus. Cyhuddir ef o glwyfo, gyda'r amcan
o ladd, un o gymwynaswyr penaf ein cenedl ni, sef Mr. Cymraeg. Ond er gwyched
cymeriad yr erlynydd, ni ddymunwn, ar un telerau, i chwi fod yn yn euog o'r
anghyfiawnder lleiaf tuagat y carcharor, ac yr wyf yn rhwym o ofyn i chwi, os
bydd ynoch yr amheuaeth lleiaf ynghylch ei gyfrifoldeb, i ddychwelyd dedfryd
o Ddieuog." Credaf, serch hyny, fod genyf brofion diymwad o euogrwydd y
carcharor, a'i fod, er ys blynyddau, wedi bod yn dyheu am, os nad yn
cynllunio marwolaeth Mr. Cymraeg yn y modd mwyaf creulon a didrugaredd.
Ymddangosa trosedd y carcharor yn waeth yng ngoleuni ei berthynas agos a Mr.
Cymraeg. Pan oedd y carcharor yn faban, Mr. Cymraeg fu yn ei fwyda, yn siglo
ei gryd, yn ei fagu a'i faethu, ac yn ei addysgu. Yn wir, nid gormod dyweyd
mai Mr. Cymraeg oedd yr unig gyfaill a feddai y carcharor yn y byd pan oedd
yn ieuanc. Pan ddaeth y carcharor i oedran gwr, penderfynodd fyned i fyw i
Lundain, ac yn ystod ei arosiad yn y brif-ddinas priododd Miss Ymffrost, a bu
iddynt ddau o blant, Mr. Codi-yn-y-byd, a Miss Balchder. Bu'r erlynydd yn
ymweled a theulu'r carcharor amryw droion yn Llundain, ond er fod y carcharor
ei hun am dymhor yn ymddangos yn falch ei weled, ym mhen amser oerodd ei
gyfeillgarwch, ac ni fynai ei wraig a'i blant
|
|
|
(delwedd J4472) (Celt Llundain. 1 Tachwedd 1902.)
|
siarad a'r hen gyfaill fu yn dynerach na mam ac yn
well na thad i'r carcharor. Llwyddodd amgylchiadau'r carcharor yn ddirfawr,
ac ym mhen tymhor prynodd ychydig ffermydd yn yn ei hen ardal, a chododd
balas bychan yno o'r enw Palas Ymffrost, lle mae efe a'i deulu wedi bod yn
byw hyd yn awr. Dygaf dystion o'ch blaen y rhai a glywsant y carcharor yn
bygwth Mr. Cymraeg. Cewch glywed fel y tyngodd y lladdai ef y cyfleu cyntaf a
gaffai, fel yr anogodd ei gymydogion i'w drin gyda dirmyg ac amharch, ac fel
y gwnaeth ei oreu i wneyd bywyd ei hen noddwr yn faich ac yn ddolur iddo.
Cewch glywed, hefyd, fel y bu raid i Mr. Gwareiddiad, boneddwr adnabyddus i
chwi oll, ac un o ffryndiau anwylaf yr erlynydd, rybuddio'r carcharor un
waith o'i berygl os gosodai law i gyffwrdd a Mr. Cymraeg. Fe edrydd Mrs.
Crefydd wrthych fel y bu yn llygad-dyst o un ymosodiad creulon o eiddo'r
carcharor ar Mr. Cymraeg, a chewch glywed gan Mr. Llen, Miss Addysg, a Dr.
Hanes am falais a chenfigen y carcharor yn erbyn yr erlynydd. Fel yr oedd y
blynyddau yn pasio, cynyddai adgasrwydd a digofaint y carcharor. O'r diwedd
yr oedd ei natur ddrwg yn ymylu ar wallgofrwydd, ac ond iddo wel'd gwyneb
hynaws a golwg wladaidd a siriol Mr. Cymraeg, elai ei nwydau gwyllt yn drech
nag ef, a, thorai allan i felldithio ac i fygwth y diniwed. Ar y bymthegfed o
fis Medi diweddaf, digwyddodd Mr. Cymraeg ei gyfarfod mewn heol gul sydd yn
arwain i Balas Ymffrost. Gelwir yr heol ar ol enw un o gyfeillion y
carcharor, yn Heol Rhagfarn. Ar ol ychydig ymddiddan, syrthiodd y carcharor
ar Mr. Cymraeg, a chlwyfodd ef yn ei ben a chyllell. Cariwyd Mr. Cymraeg i dy
gerllaw, a elwir Calon-Cenedl, ac yno bu Dr. Hanes
yn gweini arno hyd oni adferwyd ef i'w iechyd. Fe ddywed Dr. Hanes wrthych
natur yr archoll oddiwrth ba un yr oedd Mr. Cymraeg yn dioddef. Dyna'n fyr
hanes yr helynt i chwi. Chwi, foneddigion, sydd i benderfynu p'un a wnaf
brofi y cyhuddiad neu beidio. Galwaf y tyst cyntaf, - Mr. Cymraeg!
MR. CYMRAEG.
MR. CLIR-EI-LAIS: Mr. Cymraeg! Mr. Cymraeg!
|
|
|
(delwedd J4473) (Celt Llundain. 1 Tachwedd 1902.)
|
MR. GWLADGARWR: Mr. Cymraeg, chwi yw'r erlynydd yn
yr achos hwn?
Mr. CYMRAEG: Ie, syr.
Mr. G.: Ac yr ydych yn byw ar eich stad eich hun mewn palas bychan o'r enw
Cymru?
Mr. C.: Ydwyf, syr. Yno yn unig yr wyf wedi bod yn byw er's amser bellach.
Mr. G.: 'Rwy'n meddwl eich bod unwaith yn berchen ar lawer ystad arall, megis
Cernyw, Ystrad Clwyd, Lloegr, ac ereill.
Mr. C.: Do syr; ond collais hwynt drwy drais a brad, a thrwy fy nifaterwch fy
hunan. Ac, yn wir, mae yn ddrwg genyf ddyweyd fod y carcharor a'i gyfaill Mr.
Rhith-Gwareiddiad wedi llwyddo i ddwyn oddiarnaf ran o'm hystad olaf.
Mr. G.: Yr ych chwi a'r carcharor yn hen gydnabod?
Mr. C.: Ydym; y fi magodd e', ac a'i dododd ar y ffordd i enill ei
fywioliaeth.
Mr. G.: A ydych wedi parhau yn gyfeillion?
Mr. C. Na, syr, ar ol i'r carcharor symud i Lundain i fyw, oerodd ein
cyfeillgarwch, a chefais y fath dderbyniad diflas yn ei dy un tro fel y
cedwais oddiwrtho hyd nes y dychwelodd o Lundain i'w hen ardal.
Mr. G.: Dywedwch wrth y llys, Mr. Cymraeg, mor fyr ag y medroch, hanes
ymddygiad y carcharor tuag atoch ar ol iddo ddychwelyd o Lundain.
Mr. C.: Ni fu wythnos yn yr ardal heb ddangos ei adgasrwydd o honof. Nid oedd
dim yn rhy ddrwg ganddo i ddyweyd am danaf; gwnaeth ei oreu i ladd pob
cyfeillgarwch a ffynai rhyngof a Miss Addysg, Mrs. I Crefydd, Mr. Masnach,
Mr. Cyfraith, ac ereill o'm hen gyfeillion a chan ei fod wedi byw yn Llundain
yr oedd ganddo gryn ddylanwad ar y gwanaf a'r anwybodusaf o'm cymydogion, a
chollais lawer ffrynd drwy ei enllib.
|
|
|
(delwedd J4474) (Celt Llundain. 1 Tachwedd 1902.)
|
Mr. G.: A wnaeth ef eich bygwth o gwbl?
Mr. C.: Do llawer gwaith y bygythiodd fy Iladd, gan ddyweyd na wawriai
Ilwyddiant ar yr ardal hyd nes i mi gael fy symud i ffwrdd, ac fy mod yn cadw
fy neiladon neu'm tenantiaid mewn gwaeth cyflwr na chaethweision.
Mr. G.: A glywodd neb ef yn eich bygwth?"
Mr. C.: Nis gallasai pobl beidio ei glywed! Nid oedd byth yn anelu cuddio ei
farn, ac yr oedd yn ymhyfrydu, gallwn dybied, yn ei fygythion i'm herbyn.
Mr. G.: Yr ydych yn cofio y bymthegfed o fis Medi diweddaf?
Mr. C.: Ydwyf, yn dda.
Mr. G.: A welsoch chwi'r carcharor y dydd hwnw?
Mr. C.: Do; cyferfum ag ef mewn heol fechan, gul, a brwnt sydd yn arwain i'w
dy.
Mr. G.: Beth yw ei henw?
Mr. C. Gelwir hi yn Heol Rhagfarn, ar ol Dr. Rhagfarn, un o ffryndiau goreu'r
carcharor.
Mr. G.: A beth ddigwyddodd pan gyfarfuoch eich dau?
Mr. C.: Gofynodd y carcharor i mi os oedd y son yn wir fy mod yn myn'd i
Eisteddfod Bangor boreu dranoeth?
Mr. G.: Aroswch fynud, Mr. Cymraeg. 'Rwy'n credu nag oeddech chwi wedi eich
gwahodd i'r Eisteddfod?
Mr. C. Nac oeddwn; 'doeddwn i a threfnwyr yr Eisteddfod ddim ond "ffryns
gwr b'n'ddigion” (chwerthin). Y carcharor oedd eu heilun ac iddo ef a'i
deulu, Mr. Codi-yn-ybyd a Miss Balchder, y rhoddent y lle amlycaf yn yr wyl.
Mr. UCHELGAIS [yn codi]: Mae hyn, fy arglwydd, yn dra dyddorol, ond nis
gallaf wel'd beth sydd a fyno a'r achos hwn.
Y BARNWR: Nis ymddengys fod y cysylltiad yn eglur iawn, mae'n rhaid i mi
ddyweyd.
Mr. GWLAD.: Daw y rheswm yn eglur i'ch arglwyddiaeth yn y man. Pa fodd y
daethoch i feddwl myn'd i'r Eisteddfod heb eich gwahodd?
|
|
|
(delwedd J4475) (Celt Llundain. 1 Tachwedd 1902.)
|
Mr. C.: Gan mai fi yw perchen yr Eisteddfod, a chan i mi ei nhoddi pan oedd y
carcharor a'i deulu yn ei dirmygu, meddyliais ei fod yn ddyledswydd arnaf
ymweled a hi bob amser hyd yn oed heb wahoddiad. Gwesgid arnaf i wneyd hyn
hefyd, gan fy nghyfeillion, Mr. Gwareiddiad a Mr. Llen Cymru.
Mr. G.: Ac at hyn y cyfeiriai'r carcharor ar y bymthegfed o fis Medi, aie?
Mr. C.: Ie; ac atebais inau fod y son yn eithaf gwir.
Mr. G.: A beth ddigwyddodd wedyn?
Mr. C. Collodd y carcharor bob hunanfeddiant, gwaeddodd allan nad oedd modd
i'm cadw yn dawel heb fy Iladd, neidiodd arnaf, a chyn i mi wybod rhagor,
gwanodd fi a chyllell lem.
Mr. G. [wrth y cwnstabl], Dangoswch y gyllell. [P.C. Gor-selog yn rhoddi
cyllell yn llaw Mr. Cymraeg.] Ai dyna'r gyllell?
Mr. C. Ie; 'rwy'n ei hadnabod yn dda. Mae wedi bod yn eiddo i'r carcharor er
ys blynyddau, a chafodd hi yn siop Mr. Aniolchgarwch.
Mr. G. Wel, beth ddigwyddodd wedi i chwi gael eich gwanu?
Mr. C.: Rhaid fy mod wedi syrthio i lewyg, oblegid nid wyf yn cofio dim mwy
hyd nes y dyhunais mewn ty gerllaw, o'r enw Calon Cenedl. Y canlyniad fu i mi
fethu bod yn bresenol yn yr Eisteddfod ym Mangor.
[Mr. Gwladgarwr yn eistedd.]
Mr. UCHELGAIS: 'Dych chwi, Mr. Cymraeg, a'r carcharor ddim yn ffryndiau er's
llawer dydd?
Mr. C. Nac ydym; byth oddiar pan ddechreuodd ef ddyfod ymlaen yn y byd.
Mr. U.: Ie, Mr. Cymraeg, mae Ilawer heblaw chwi yn cenfigenu wrth weled
ereill yn llwyddo [chwerthin]. Yr ydych wedi adrodd wrthym pa fodd y
digwyddodd yr helynt ar y
|
|
|
(delwedd J4476) (Celt Llundain. 1 Tachwedd 1902.)
|
bymthegfed o fis Medi, a'r modd y bu'r carcharor yn eich bygwth. Gadewch
wel'd, ydych chwi ddim wedi bod yn bygwth y carcharor?
Mr. C.: Dim erioed, syr. Buaswn yn siglo llaw ag ef un amser.
Mr. U.: 'Nawr, 'nawr, Mr. Cymraeg. Ai ni ddywed'soch wrthym fod y carcharor
wedi dwyn rhan o'ch ystad Gymreig oddiarnoch?
Mr. C.: Do: mae hyny yn eithaf gwir.
Mr. U.: 'Dydych chwi ddim yn foddlon iawn i hyny, Mr. Cymraeg, mae'n hawdd
deall?
Mr. C.: Nac ydwyf, bid siwr.
Mr. U.: Ac nid oes genych feddwl uchel iawn o'r carcharor am ei ran o'r
gwaith?
Mr. C.: Eithaf gwir.
Mr. U.: Ac yr ych wedi bod yn ei wawdio ar brydiau, a'i alw yn benfeddal, ac
yn y blaen?
Mr. C.: Feallai i mi wneyd.
Mr. U. (yn sarug): Nid “feallai” wyf yn ’mofyn, syr. Do neu naddo?
Mr. C.: Do.
Mr. U.: 'Nawr, syr, cofiwch eich bod ar eich llw. A
ydych chwi'n cofio Brad y Llyfrau Gleision?
Mr. C.: Ydwyf.
Mr. U.: Ai ni fygythiasoch y pryd hyny yru'r carcharor yn alltud o'r wlad?
Mr. C.: Defnyddiais rhyw eiriau o'r fath.
Mr. U.: A ydych chwi'n cofio i chwi ffraeo a'r Barnwr Homersham Cox?
Mr. C.: 'Rwy'n ei gofio ef yn ffraeo a fi (chwerthin).
Mr. U.: Ac yr ydych yn cofio, mi wn, i chwi gyhuddo'r carcharor y pryd hyny o
ddwyn cam dystiolaeth yn eich erbyn?
Mr. C.: Ydwyf: a dywedaf yr un peth eto.
Mr. U.: Ac eto, syr, ydych yn foddlon siglo llaw ag ef?
Mr. C.: Ydwyf, os gwna dynu ei eiriau yn ôl.
|
|
|
(delwedd J4477) (Celt Llundain. 1 Tachwedd 1902.)
|
Mr. U. - Ie, 'rown i'n meddwl fod “os” yna yn rhywle (chwerthinj). Mae'r
carcharor wedi eich cyhuddo o fod yn galed wrth eich deiliaid?
Mr. C.: Ydyw, syr; cyhuddodd fi lawer gwaith o'u trin yn waeth na
chaethweision.
Mr. U.: Ac y mae rhai o'ch deiliaid wedi eich cyhuddo o'r un peth?
Mr. C.: Oes: rhai o honynt sydd wedi dod dan ddylanwad y carcharor.
Mr. U.: Ie, dyna ddywedwch chwi! Ai nid am eich ymddygiad tuagat eich
deiladon y mae'r carcharor wedi bod yn eich bygwth?
Mr. C.: Dyna fu ei esgus.
Mr. U.: Ei “esgus” meddech chwi, syr; ei reswm meddaf finau. 'Nawr, gadewch i
ni ddod at y bymthegfed o Fedi. 'Roedd hi'n boeth iawn y diwrnod hwnw?
Mr. C.: Oeddi tes bach Gwyl Fihangel.
Mr. U.: Yr oeddech ar y ffordd i Eisteddfod Bangor?
Mr. C.: Oeddwn.
Mr. U. Ac yr oeddech, bid siwr, yn ddig iawn am na dderbyniasoch wahoddiad i
fod yno?
Mr. C. Wel, oeddwn.
Mr. U.: Ac, mi gredaf, eich bod wedi cyfarfod a rhai ffryndiau?
Mr. C.: Oeddwn.
Mr. U.: Ac yr oeddynt wedi bod yn cydymdeimlo a chwi?
Mr. C.: Oeddynt.
Mr. U.: Pan gyfarfuoch a'r carcharor, a ddywed'soch wrtho y gwnaech ei drechu
cyn y diwedd?
Mr. C.: Do; dywedais rywbeth i'r perwyl yna.
Mr. U.: Ac yr oeddech, mewn gair, yn penderfynu cael y goreu arno?
Mr. C.: Yr oeddwn yn sicr y gwnawn ei faeddu ryw ddydd neu gilydd.
Mr. U.: Ei faeddu, aie? Yr ydych wedi bygwth y carcharor droion?
Mr. C.: Dim erioed.
Mr. U.: Ai ni ddywed'soch wrth ei fab,
|
|
|
(delwedd J4478) (Celt Llundain. 1 Tachwedd 1902.)
|
Mr. Codi-yn-y-byd, y gwnaech ei ysgubo ef a'i deulu o'r wlad ryw bryd?
Mr. C.: Do; fe ddywedais hyny, a dywedaf hyny'n awr. Hwy yw perygl mwyaf
Cymru ar hyn o bryd
Mr. U. (dan wenu): Ie, ie, yr ym yn gwel'd eich meddwl 'nawr. Y carcharor
oedd prif gynghorwr Pwyllgor Eisteddfod Bangor?
Mr. C.: Ie, felly clywais.
Mr. U.: Ac yr ydych yn credu mai ar ei gyngor ef y gomeddodd y pwyllgor eich
gwabodd i'r wyl?
Mr. C.: 'Rwyf yn sicr o hyny.
Mr. U.: Ac yr oeddech yn ddig wrtho?
Mr. C.: O, 'doeddwn i ddim wedi disgwyl gem o enau llyffant
Mr. U.: Llyfant? Ai dyna y gelwch y carcharor?
Mr. C. (dan chwerthin yn wawdlyd): 'Rwy'n tynu fy ngeiriau yn ol. 'Dydynt
ddim yn gwneyd chwareu teg a'r llyffant
Mr. U.: Nid ydych, Mr. Cymraeg, mor ieuanc ag y buoch?
Mr. C.: 'Rwy'n meddwl, syr, fy mod yn ieuengach na chwi (chwerthin).
Mr. U.: Feallai hyny, syr, ond gadewch i mi ddyweyd fy mod mewn gwell cas
cadw na chwi (chwerthin). A wyf yn iawn wrth ddyweyd eich bod yn teimlo
oddiwrth bwysau henaint?
Mr. C.: Na; nis gallaf ddyweyd hyny, er nad ydwyf mor ysgafndroed ag y bu'm
unwaith.
Mr. U.: Onid yw'r darfodedigaeth yn gryf yn eich teutu? Ai ni fu eich chwaer,
Miss Cernywaeg, farw o'r clefyd?
Mr. C.: Do.
Mr. U.: Ac onid yw eich brawd, Mr. Llydawaeg, yn dioddef oddiwrth yr un
afiechyd?
Mr. C.: Na; tybiai'r meddygon unwaith ei fod, ond camsymed oedd hyn, a'r
hanes diweddaf a glywais oedd ei fod yn gwella'n gyflym.
|
|
|
(delwedd J4479) (Celt Llundain. 1 Tachwedd 1902.)
|
Mr. U.: Ac onid yw eich cefnderwydd, Mr Gwyddelaeg a Mr. Albaenaeg, yn
dyhoeni dan yr un clefyd?
Mr. C.: Nid yw y meddygon yn unfryd ynghylch y mater, ond y maent yn unfarn
erbyn hyn mai nid clefyd cyfansoddiadol ydyw, ond clefyd yn deilliaw oddiwrth
ddifaterwch ynghylch jeu hiechyd.
Mr. U.: Ai nid yw yn wir eich bod chwithau unwaith neu ddwy wedi llewygu gan
wendid?
Mr. C.: Do; flynyddau yn ol, ar ol ysbaid hir heb faeth, llewygais, ond yr
wyf wedi llwyr wella erbyn hyn.
Mr. U.: Peth twyllodrus iawn yw iechyd,
Mr. Cymraeg 'Nawr, fe ddywed'soch wrthym i'r carcharor eich gwanu a chyllell.
A wel'soch chwi'r gyllell yn ei law?
Mr. C.: Gwelais rywbeth fel cyllell yn ei law.
Mr. U.: Ble tarawyd chwi?
Mr. C.: Ar ochr fy nghern [gan ddangos y graith.]
Mr. U.: Ac ar ol derbyn yr ergyd, collasoch bob ymwybodaeth?
Mr. C.: Do.
Mr. U.: 'Nawr, Mr. Cymraeg, ai nid cael eich gorchfygu gan eich teimladau a'r
gwres a wnaethoch, a bwrw eich pen, wrth syrthio, yn erbyn careg?
Mr. C.: Nage 'rwy'n siwr. Gwelais a theimlais y gyllell oedd yn llaw'r
carcharor.
[Mr. Ucheigais yn eistedd.]
Mr. GWLADGARWR: Mae blynyddau mawr oddiar pan lewygoch o'r blaen?
Mr. C.; Oes, syr. Yr own yn sal iawn yr adeg hyny, a bu Mrs. Crefydd yn fy
nyrsio.
Mr. G.: Feallai y cawn ragor o'r hanes ganddi hi. 'Does dim sail dros ddyweyd
i chwi lewygu ar y bymthegfed o Fedi cyn cael eich clwyfo?
Mr. C.: Nac oes.
Mr. G.: 'Nawr, Mr. Cymraeg, p'un ai chwi neu'r carcharor siaradodd gyntaf ar
y dydd hwn?
Mr. C.: Y carcharor, syr. Nid oeddwn byth yn dyweyd gair wrtho os na
gyfarchai ef fi'n gyntaf.
|
|
|
(delwedd J4480) (Celt Llundain. 1 Tachwedd 1902.)
|
Mr. G.: Mae'r carcharor wedi bod yn ymyryd llawer
rhyngoch chwi a'ch deiladon?
Mr. C.: Ydyw, lawer iawn yn gwneyd ei oreu i'w troi yn anfoddog, ac yn cynyg
pob math o lwyddiant iddynt os ymadawent oddiwrthyf.
Mr. G.: Ac y mae wedi llwyddo gyda rhai?
Mr. C.: Ydyw, gyda Mr. Maesyfed, fel engraifft.
Mr. G.: A beth am y lleill?
Mr. C.: Y mae tri neu bedwar o'r rhai ereill wedi haner fy ngadael hefyd. Ond
maent yn dechreu canfod eu camsynied, wrth wel'd fod Mr. Maesyfed ymhell ar
ol mewn addysg, mewn diwylliant, ac mewn gwir fwyniant wedi fy ngadael.
Mr. G. Un gair am Frad y Llyfrau Gleision a'r Barnwr Cox. Cyhuddwyd chwi
ganddynt o fod yn aniweir, yn anwybodus, ac yn gelwyddog?
Mr. C.: Do.
Mr. G.: A oedd sail dros y cyhuddiadau hyn?
Mr. C.: Dim gwell sail na geiriau enllibus y carcharor a'i ddau gyfaill, Dr.
Rhagfarn a Mr. Rhith-Gwareiddiad.
[Mr. Gwladgarwr yn eistedd i lawr.]
Y BARNWR: Dywedasoch i'r carcharor golli pob hunan-feddiant cyn eich taro.
Beth oeddech yn feddwl wrth hyn?
Mr. C.: Ei fod, fy arglwydd, mewn nwydau cynddeiriog.
Y BARNWR: A welsoch chwi ef erioed o'r blaen yn yr un nwydau?
Mr. C.: Do, lawer gwaith. Yr oedd yn fynych fel creadur gorffwyllog pan yn ei
dymherau drwg. Y
BARNWR: A ydych yn meddwl, wrth
ddyweyd hynyna, nad oedd bob amser yn gyfrifol am ei weithredoedd?
Mr. C.: Nid oedd yn fwy cyfrifol nac ereill wedi colli eu hunan-feddiant
“Llid-gwallgofrwydd byr” medd yr hen ddiareb.
[Mr. Cymraeg yn gadael sedd y tystion.] (I'w barhau.)
|
|
|
(delwedd J4481) (Celt Llundain. 8 Tachwedd 1902.)
|
Celt Llundain. 1 Tachwedd 1902
PRAWF DIC SION DAFYDD.
ALLEGORI DDRAMAYDDOL GAN LLEWELYN WYN.
BARNWR. YR ANRHYDEDDUS SYR CARU CYFIAWNDER.
CLERC Y LLYS. Mr. Cryno.
COFRESTRYDD Y BARNWR. Mr. Digyffro.
GWAS Y BARNWR. Mr. Clir-ei-lais.
DADLEUWYR. DROS YR ERLYNIAD. Mr Cymraeg, yr erlynydd. Mr. Llên Cymru. Mrs.
Crefydd Cymru (gwraig Mr. Llên). Miss Addysg Cymru, merch Mr. Llên. Mr.
Gwareiddiad. Dr. Hanes. Heddgeidwad Gor-selog.
DROS Y GARCHAROR. Mr. Masnach. Mr. Codi-yn-y-byd, mab y carcharor. Miss
Balchder, merch y carcharor. Mr. Rhith-Gwareiddiad. Dr. Rhagfarn.
CARCHAROR. DIC SHON DAFYDD.
RHEITHWYR. Mr. Cydwybod (blaenor), Mr. Union, Mr. Chwareu-Teg, Mr.
Gwel'd-bob-ochr, Mr. Geirwir, Mr. Didderbyn-wyneb, Mr. Gonest, Mr. Diofn, Mr.
Tawel, Mr. Synwyrol, Mr. Diwylliant, Mr. Deallgar.
(Parhad). TYST 2. MR. LLÊN CYMRU.
Mr. GWLADGARWR. Mr. Llên Cymru!
Mr. CLIR-EI-LAIS. Mr. Llen Cymru! Mr. Llen Cymru!
[Mr. Llen yn dyfod ymlaen i sedd y tystion.]
Mr. G. Mr. Llên Cymru yw eich enw yn Ilawn, 'rwy'n meddwl?
Mr. Llên. Ie: gelwir fi felly i'm gwahaniaethu oddiwrth fy mrodyr ieuengach,
Mr. Llên Ffrainc, Mr. Llên Lloegr, a'r lleill.
Mr. G. Chwi, mi gredaf, yw'r henaf o'ch teulu?
|
|
|
(delwedd J4482) (Celt Llundain. 8 Tachwedd 1902.)
|
Mr. Llên. Fi yw'r henaf sydd yn fyw. ’Rwyf yn ieuengach na Mr. Llen Canaan,
Mr. Llen Groeg, a Mr. Llen Rhufain, ond y maent hwy wedi myn'd er's llawer
dydd.
Mr. G. Yr ydych yn adnabod yr erlynydd?
Mr. Llên. Ydwyf; hen gyfaill anwyl i mi ydyw. Cawsom ein cyd-fagu, ac yr ym
wedi bod yn ffryndiau mawr drwy gydol ein hoes.
Mr. G. Ac yr ydych yn gwel'd eich gilydd yn fynych?
Mr. Llên. Nid oedd braidd ddiwrnod yn pasio heb i ni weled ein gilydd, ac
wedi i mi briodi, gyda ni y mae wedi gwario pob dydd Sul.
Mr. G. Mae'r erlynydd a'ch gwraig yn hen ffryndiau, 'rwy'n meddwl.
Mr. Llên. Ydynt, er iddynt fod am flynyddau bron yn ddieithriaid i'w gilydd.
Bu'r erlynydd a finau yn afiach am amser flynyddau yn ol, a rhoddodd y
meddygon ni i fyny sawl gwaith. Dywed Dr. Hanes y buasem ein dau wedi darfod
am danom oni bai am ymroddiad a thynerwch Mrs. Crefydd.
Mr. G. 'Doech chwi a Mrs. Crefydd ddim yn briod yr adeg hono?
Mr. Llên. Nac oeddem. Nis gwyddwn fawr yn ei chylch cyn fy afiechyd, a
theimlwn beth rhagfarn yn ei herbyn. Ond pan oeddwn ar fin darfod am danaf
daeth dau wr i ymweled a mi. Enw y naill oedd Morgan Llwyd, ac enw y llall
oedd Stephen Hughes. Pan welsant fy nghyflwr i a Mr. Cymraeg, dywedasant fod
yn rhaid i ni gael nurse dda. Daethant a Mrs. Crefydd i'r ty, a gweinyddodd
hi arnom gyda'r fath ofal fel y gwellasom yn fuan. Ac wedi fy llwyr adfer,
gofynais iddi os gwnelai fy nghymeryd er gwell neu er gwaeth, ac unwyd ni
mewn glan briodas gan Williams, Pantycelyn.
Mr. G. Ai pan yn yr afiechyd hwn y llewygodd Mr. Cymraeg?
Mr. Llên. Ie: yr oedd yn dihoeni am dymhor
|
|
|
(delwedd J4483) (Celt Llundain. 8 Tachwedd 1902.)
|
hir, ac nid oedd neb yn gofalu am dano. A phan ddaeth Mrs. Crefydd i'w weled
yr oedd mewn rhyw fath o lewyg marwol.
Mr. G. A ydych yn adnabod y carcharor?
Mr. Llên. Ydwyf, o ran ei weled, ond nid wyf yn cofio i mi siarad ag ef
oddiar pan oedd yn blentyn.
Mr. G. 'Rwy'n meddwl ei fod yn fwy cyfeillgar a'ch brawd ieuanc, Mr. Llên
Lloegr, nag yw a chwi?
Mr. Llên. Clywais ddyweyd ei fod yn ymffrostio ei fod yn gyfarwydd iawn a'm
brawd, ond gwada fy mrawd ei fod wedi cael adnabyddiaeth o hono erioed.
Mr. G. A welsoch chwi'r carcharor erioed yng nghwmni Mr. Cymraeg?
Mr. Llên. Do: gwelais hwy yn cyfarfod weithiau, ond ni fyddent ond ambell
waith yn siarad a'u gilydd. Yn wir, y mynud y gwelai Dic Sion Dafydd yr
erlynydd, un ai croesai i'r ochr arall i'w osgoi, neu pasiai ef gan edrych yn
wgus a digllawn arno, neu canlynai ef a bygythion a chelanedd.
Mr. G. Beth oedd y bygythion, Mr. Llên?
Mr. Llên. Clywais ef unwaith yn bygwth Mr. Cymraeg os elai yn agos i dy fy
merch, Miss Addysg dro arall tyngodd na chelai Mr. Cymraeg byth ond hyny
groesi trothwy Mr. Cyfraith.
Y Barnwr. Pa hawl, tybed, oedd ganddo ef i wahardd tai pobl ereill i'r
erlynydd?
Mr. Llên. Arferai ddyweyd fod hen gyfraith eto mewn grym yn atal Mr. Cymraeg.
Mr. Uchelgais. Pasiwyd y fath gyfraith, fy arglwydd, yn y flwyddyn 1536 yn
nheyrnasiad Harri'r Wythfed, ac erys hyd y dydd heddyw ar ddeddf-lyfrau'r
wlad.
Mr. Gwladgarwr. Eto, fy arglwydd, ystyrir y gyfraith yn llythyren farw erbyn
hyn. Y Barnwr. 'Rwy'n synu nad yw'r gyfraith farbaraidd ffol ac anheg wedi
cael ei llwyr ddiddymu yn yr oes oleu hon gan Senedd ein gwlad.
[Cymeradwyaeth yn y llys.]
|
|
|
(delwedd J4484) (Celt Llundain. 8 Tachwedd 1902.)
|
Mr. Clir-ei-lais. Gosteg gosteg! Y Barnwr. Nis gallaf oddef arddangosiad o
deimlad fel hyn yn y llys! Nid ty chwareu, ond llys cyfraith, ydyw hwn! Os
digwydd y fath beth eto, gorch'mynaf i'r llys gael ei glirio.
Mr. G. A wyddoch chwi beth oedd teimlad Mr. Cymraeg tuagat y carcharor?
Mr. Llên. Clywais ef yn dyweyd lawer gwaith y dylid ymddwyn yn dyner tuagato,
fod mwy o fai ar ei ben nag ar ei galon, ac fod ereill wedi ei arwain ar
gyfeiliorn, megis Mr. Rhith-Gwareiddiad.
Mr. G. Un gofyniad arall, Mr. Llên. Pa bryd clywsoch chwi'r carcharor yn
bygwth Mr. Cymraeg y tro diweddaf?
Mr. Llên. Yr wythnos olaf yn mis Awst diweddaf clywais ef yn bygwth llindagu
Mr. Cymraeg os meiddiai ddangos ei big yn Eisteddfod Bangor.
[Mr. Gwladgarwr yn eistedd.]
[Mr. Llên yn haner troi ymaith.]
Mr. Uchelgais. Aroswch fynud, Mr. Llên, peidiwch bod mor frysiog. Mi hoffwn
inau gael gair neu ddau gyda chwi. Yr ydych chwi a Mr. Cymraeg yn gyfeillion
mawr?
Mr. Llên. Ydym.
Mr. U. Ac yr ych yn elyn i'r carcharor?
Mr. Llên. Nac ydwyf; nid ydwyf yn elyn i neb.
Mr. U. Ddim yn elyn i neb, syr! Atebwch fy nghwestiwn. A
ych chi ddim yn elyn i'r carcharor?
Mr. Llên. Nac ydwyf.
Mr. U. Ai nid ydych wedi ei wawdio droion ar goedd gwlad mewn gwatwargerdd a
thuchangerdd?
Mr. Llên. Wel, do, mi wnes hyny.
Mr. U. Ai ni fuoch yn ei wawdio mewn 'Steddfod Genedlaethol?
Mr. Llên. Gaton pawb, feiddiwn i ddim! Fe sydd yn y gadair yno bob amser
(chwerthin).
|
|
|
(delwedd J4485) (Celt Llundain. 8 Tachwedd 1902.)
|
Mr. Clir-ei-lais. Gosteg I gosteg!
Mr. U. Dewch, dewch, Mr. Llen, peidiwch a chwareu a'r cwestiynau fel yna. Cofiwch,, syr, os gallwch, fod rhyddid a chymeriad dyn yn
crogi ar bob gair! 'Rwy'n hyderu y gwnewch chwi bwyso o hyn allan eich
geiriau, yn fwy manwl. A fuoch chwi yn adrodd gwatwargerdd ar y carcharor yng
Ngorsedd y Beirdd?
Mr. Llên. Do, syr, cyn iddo roddi oriawr newydd i'r Archdderwydd.
Mr. U. 'Rown i'n meddwl y daethem ni o hyd i'r gwir cyn y diwedd! A ydyw Mr. Cymraeg o dymher wyllt?
Mr. Llên. Mae mor addfwyn a'r oen, syr.
Mr. U. Pwy sy'n siarad am wyn, syr? Gofyn wnes i os yw
Mr. Cymraeg o dymher wyllt?
Mr. Llên. Nac ydyw, syr.
Mr. U. Ydych chwi'ch cofio Brad y Llyfrau Gleision?
Mr Llen. Ydwyf, a llawer heblaw fi.
Mr. U. Peidiwch hidio am y lleill, syr. Ai ni fu yr erlynydd mewn tymher
gynddeiriog yr amser hyny?
Mr. Llên. Do, fe fu yn sefyll i fyny dros ei hawliau.
Mr. U. O'r goreu; ac wrth sefyll i fyny dros ei hawliau, bu'n dyweyd pethau
caled am y carcharor?
Mr. Llên. Do.
Mr. U. Ac fe ddywedodd na chelai Cymru lonydd cyn cael gwared ar dylwyth Die
Sion. Dafydd?
Mr. Llên. Do: fe ddywedodd rhyw eiriau tebyg.
Mr. U. Ac fe ddywed'soch chwithau rywbeth cyffelyb?
Mr. Llên. 'Rwy'n meddwl i fi wneyd.
Mr. U. 'Rych yn meddwl, syr! A ddywed'soch chwi, neu naddo?
Mr. Llen, Do, syr.
Mr. U. Atebwch yn onest, ynte, a pheidiwch ceisio cam-arwain y llys! Rych yn
cofio helynt y Barnwr Cox?
Mr. Llên. Ydwyf.
|
|
|
(delwedd J4486) (Celt Llundain. 8 Tachwedd 1902.)
|
Mr. U. Ai ni ymosododd Mr. Cymraeg ar y Barnwr nes ei yru ar ffo?
Mr. Llên. Do.
Mr. U. Ydych chwi'n cofio i'r Barnwr Ridley nacau gadaw i Mr. Cymraeg agor ei
ben yn y llys?
Mr. Llên. Ydwyf, yn dda.
Mr. U. Ai ni ddwrdiodd Mr. Cymraeg ef gyda'r fath hyawdledd o Gaergybi i
Gaerdydd fel y darfu i'r Barnwr dynu ei eiriau yn ol?
Mr. Llên. Clywais felly.
Mr. U. "Clywais” eto! Pam nas atebwch ofyniad eglur mewn modd diamwys?
Do neu naddo?
Mr. Llên. Do.
Mr. U. A glywsoch chwi'r carcharor yn galw'r erlynydd yn falldod gwlad, ac yn
rwystr ar ffordd llwyddiant ei gyfeillion a’I ddeiladon?
Mr. Llen. Do, lawer gwaith.
[Mr. Uchelgais yn eistedd.J
Mr. Gwladgarwr. Gyda golwg ar helynt y Barnwr Ridley, a
oedd gan Mr. Cymraeg hawl gyfreithlon i siarad yn y llys?
Mr. Llên. Oedd.
Mr. G. Ac y mae'r Barnwr dysgedig yn cyfaddef erbyn hyn iddo ymddwyn yn
fyrbwyll?
Mr. Llên. Ydyw.
[Mr. Gwladgarwr yn eistedd.]
Y Barnwr. Dywed'soch ychydig yn ol fod Mr. Cymraeg o'r farn fod mwy o fai ar
ben nac ar galon y carcharor?
Mr. Llên. Dyna oedd ei farn, fy arglwydd.
Y Barnwr. Beth yw eich barn chwi eich hun?
Mr. Llên. Mai eiddilyn ydyw o ran corff a. meddwl.
Y Barnwr. Dyna i gyd, Mr. Llên.
[Mr. Llen yn eistedd i fawr.} (I'w barhau.)
|
|
|
(delwedd J4465) (Celt Llundain. 15 Tachwedd 1902.) (Celt
Llundain. 15 Tachwedd 1902.) (Celt Llundain. 15 Tachwedd 1902.)
|
Celt Llundain. 15
Tachwedd 1902
PRAWF DIC SION DAFYDD.
ALLEGORI DDRAMAYDDOL GAN LLEWELYN WYN.
BARNWR. YR ANRHYDEDDUS SYR CARU CYFIAWNDER.
CLERC Y LLYS. Mr. Cryno.
COFRESTRYDD Y BARNWR. Mr. Digyffro.
GWAS Y BARNWR. Mr. Clir-ei-lais.
DADLEUWYR. DROS YR ERLYNIAD. Mr. Gwladgarwr.
DROS Y GARCHAROR. Mr. Uchelgais.
TYSTION. Mr Cymraeg, yr erlynydd. Mr. Liên Cymru. Mrs. Crefydd Cymru (gwraig
Mr. Llên). Miss Addysg Cymru, merch Mr. Llên. Mr. Gwareiddiad. Dr. Hanes.
Heddgeidwad Gor-selog Mr. Masnach. Mr. Codi-yn-y-byd, mab y carcharor. Miss
Balchder, merch y carcharor. Mr. Rhith-Gwareiddiad. Dr. Rhagfarn.
CARCHAROR. DIC SHON DAFYDD.
RHEITHWYR. Mr. Cydwybod (blaenor), Mr. Union, Mr. Chwareu-Teg, Mr.
Gwel'd-bob-ochr, Mr. Geirwir, Mr. Didderbyn-wyneb, Mr. Gonest, Mr. Diofn, Mr.
Tawel, Mr. Synwyrol, Mr. Diwylliant, Mr. Deallgar.
(Parhad)
Mr.
Gwladgarwr. Mrs. Crefydd Cymru
TYST 3. MRS. CREFYDD CYMRU.
Mr. Clir-ei-lais. Mrs. Crefydd Cymru! Mrs. Crefydd Cymru!
Mr. Gwladgarwr. Yr y'ch chwi yn briod a'r tyst diweddaf?
Mrs. Crefydd. Ydwyf, er's blynyddau lawer bellach.
Mr. G. Maddeuwch i mi am ofyn i chwi. Yr ydych chwi lawer yn hyn na'ch gwr?
Mrs. C. Ydwyf, gryn lawer yn henach.
Mr. G. Chwi yw'r henaf ond dau o'ch teulu, mi gredaf?
|
|
|
(delwedd J4466) (Celt Llundain. 15 Tachwedd 1902.)
|
Mrs.
C. Ie: mae fy nwy chwaer - Eglwys Groeg ac Eglwys Rufain - dwy efeilles - yn
henach na mi; ond fi fu'n magu fy chwiorydd, Crefydd Gwerddon a Chrefydd
Lloegr.
Mr. G. Ac yr ydym
wedi clywed am eich gwasanaeth da i Mr. Cymraeg a'ch gwr yn eu hafiechyd. Nid
yw eich gwaith da wedi ei osod o'r neilldu oddiar pan briodasoch?
Mrs. C. Na: mae fy
mhriodas wedi fy ngalluogi, drwy fy ngwr,
Mr. Llen, i helaethu terfynau fy nylanwad yn ddirfawr.
Mr. G. Ac yr ydych yn ffryndiau mawr a'r erlynydd?
Mrs. C. (gyda
theimlad). Nis gallaf byth anghofio fy nyled iddo ef am ei nodded i mi pan
oeddwn yn ddigartref.
Mr. G. Byddai yn gymhorth i'r llys pe's dywedech yr hanes, Mrs. Crefydd.
Mrs. C. Wel, yr
oeddwn yn arfer byw mewn tyddyn bychan digon llwm. Ond wrth dreigliad amser,
a chan mai gwael oedd ei furiau ar y cyntaf, dechreuodd ddadfeilio. Cyn i mi
gael amser i'w adgyweirio, torodd storm o fellt a tharanau ar ei ben, a
thynwyd ef i lawr gan y Llywodraeth am ei fod, meddent, yn beryglus. Ond yn
lle codi bwthyn arall i mi, danfonwyd fi i fyw dan gronglwyd fy chwaer,
Crefydd Lloegr. Yno y bu'm yn dyhoeni am ysbaid yn ei phalas gorwych, heb
weled neb, braidd, o'm hen gydnabod ond y carcharor a Mr Rhith-Gwareiddiad.
Llwyddodd y carcharor i wenwyno meddwl fy chwaer yn erbyn Mr. Cymraeg fel y
gwrthododd ei ollwng i ymddiddan a mi o gwbl. Pan ddes i wybod hyny, eis
allan o'i phalas er fod yr hin yn wlyb ac oer, a minau heb le i fyned iddo.
Yna clywais gan Mr. Morgan Llwyd a Mr. Stephen Hughes, dau o'm caredigion
penaf, fod Mr. Cymraeg yn gorwedd yn glaf mewn caban bychan ar ochr y mynydd
moel, ac ar eu cais eis yno i'w nyrsio ef a'i gyfaill. A phan wellhaodd
Mr. Cymraeg o'i afiechyd
|
|
|
(delwedd J4467) (Celt Llundain. 15 Tachwedd 1902.)
|
cododd gartref
newydd i mi yn yr hwn yr wyf yn byw hyd heddyw.
Mr. G. A ydych yn adwaen y carcharor?
Mrs. C. Adwaenwn ef
pan yn fachgen, ond ni fu'm yn siarad ond ychydig ag ef wedi ei ddychweliad o
Lundain.
Mr. G. A welsoch chwi ef yn yr adeg yr ych newydd gyfeirio ati?
Mrs. C. Mae genyf
bob lle i gofio ei wel'd. Un diwrnod gwelodd
Mr. Cymraeg a finau yn edrych ar y ty newydd oedd yn cael ei godi i mi drwy
haelioni Mr. Cymraeg. Collodd y carcharor, gallwn feddwl, ei synwyrau am beth
amser, syrthiodd ar Mr. Cymraeg gan ei guro yn ddidrugaredd a phastwn onen
wyllt, nes iddo lewygu. Yna cyhuddodd fi o flaen yr ynadon o droseddu yn
erbyn cyfraith y tir, a thaflwyd fi i garchar, am dymhor, ac nis gollyngwyd
fi yn rhydd hyd nes y pasiwyd y Ddeddf Goddefiad.
[Mr. Gwladgarwr yn eistedd.]
Mr. Uchelgais. Mrs. Crefydd, mae blynyddau lawer oddiar pan daflwyd chwi i
garchar?
Mrs. C. Oes.
Mr. U. Ac nid ych chwi a'r carcharor byth wedi siarad a'ch gilydd wedi hyny?
Mrs. C. Nac ydym.
[Mr. Uchelgais yn eistedd, a Mrs C. yn ymadaw.]
Mr. Gwladgarwr. Miss Addysg Cymru
Mr. Clir-ei-lais. Miss Addysg Cymru TYST IV. Miss ADDYSG CYMRU.
Mr. G. Un o ferched Llen a Chrefydd I Cymru ydych chwi?
Miss A. Ie'n siwr,
yr wyf yn un o'u plant.
Mr. G. Ac yn sicr yn un o'r rhai harddaf! A ydych yn byw dan yr un gronglwyd
a hwynt hwy?
Miss A. Na; nid wyf
yn byw yn yr un ty, er fy mod yn gwario oriau bob dydd yn eu cwmni. Yr oeddwn
yn awyddus i gael ty i mi fy hun, lle gallwn weled fy nghyfeillion heb flino
dim ar fy rhieni, a thrwy garedigrwydd Mr. Cymraeg llwyddais i godi'r fath
dy.
|
|
|
(delwedd J4468) (Celt Llundain. 15 Tachwedd 1902.)
|
Mr. G. Yr ych chwi a
Mr. Cymraeg felly yn gyfeillion?
Miss A. Ydym, mae'n
dda genym ddyweyd, ar hyn o bryd.
Mr. G. Ai ni fuoch bob amser, ynte? Miss A. Pan oeddwn yn fychan, a'm rhieni
yn dylawd iawn, bu
Mr. Cymraeg yn gyfaill ac yn gymwynaswr mawr i mi, a pharhaodd ein
cyfeillgarwch yn ddifwlch hyd nes i mi fyn'd i fyw i dy fy hun.
Mr. G. Beth ddigwyddodd wedn? Miss A. Pan eis i fyw i fy nghartref newydd, un
o'r rhai cyntaf ddaeth i'm gwel'd oedd y carcharor.
Mr. G. Un cwestiwn yn y man hyn. A oeddech yn ei adnabod o'r blaen? Miss A.
Yr oeddwn wedi clywed son am dano, ac wedi ei wel'd weithiau. Ond ni wnai
edrych arnaf y pryd hwnw, am fod fy rhieni yn bobl dlawd.
Mr. G. Felly, y tro cyntaf i chwi siarad ag ef oedd pan alwodd yn eich ty
newydd? Miss A. Ie daeth ef a chyfaill iddo i'm gwel'd gyda'n gilydd.
Dywedodd wrthyf mai
Mr. Gwareiddiad oedd enw ei gyfaill, a chan fod fy rhieni wedi'm dysgu i
barchu
Mr. Gwareiddiad, yr oeddwn yn falch iawn i'w wel'd. Ym mhen ychydig
cynghorodd
Mr. Gwareiddiad fi i gau fy nrws yng ngwyneb
Mr. Cymraeg, gan ei fod yn ddyn anwybodus, digyrr eriad, ac anwaraidd.
Dywedodd wrthyf iddo gael ei gospi gan sawl Barnwr am droseddau anfad, ac nad
oedd yn deilwng i eistedd mewn cornel ty gwraig na geneth barchus. Yr oeddwn
yn ieuanc iawn ar y pryd, ac wedi fy syfrdanu gan fy nhy a'm bywyd newydd.
Mae yn gywilydd genyf orfod cyfaddef i mi wrando ar y carcharor a'i gyfaill,
ac i mi gau drws fy nhy yn erbyn
Mr. Cymraeg, yr hwn a'i rhoddodd i mi.
[Miss A. yn tori
allan i wylo.]
Mr. G. Dewch chwi, Miss Addysg, treiwch
|
|
|
(delwedd J4469) (Celt Llundain. 15 Tachwedd 1902.)
|
feddianu eich hun,
er y gwn mor galed yw i chwi roddi eich tystiolaeth. Beth ddigwyddodd wedyn?
Miss A. Fel y des i
adnabod y carcharor a'i gyfaill yn well, ac y cynyddwn mewn profiad a
gwybodaeth o'r byd, deuais i wybod mai nid Mr. Gwareiddiad, ond Mr.
Rhith-Gwareiddiad, oedd ffrynd y carcharor. Un diwrnod cefais adnabyddiaeth o
Mr. Gwareiddiad ei hun, a gofynais iddo beth oedd ei farn am
Mr. Cymraeg. Ar ei gynghor taer, gofynais faddeuant Mr Cymraeg, a chroesawais
ef drachefn i'm ty. Ac yno y mae ac y bydd byth yn un o'r gwahoddedigion
uchaf ei fri a'i anrhydedd.
Mr. G. A wyddoch chwi rywbeth am berthynas Mr. Cymraeg a'r carcharor?
Miss A. Nis gwn ond
yr hyn a ddywedais, a hyn yma ymhellach. Pan ddanfonais am Mr. Cymraeg ar
gyngor Mr. Gwareiddiad, aeth y si ar led, a daeth y carcharor i'm gwel'd yn
llawn llid a digofaint. Dywedais wrtho na wrandawn mwyach arno, ac yna trodd
yn ddigllawn allan o'r ty. Ar drothw’r drws cyferfu a Mr. Cymraeg, a rhoddodd
hergwd iddo a phastwn, gan waeddi y byddai'n rhaid iddo ddefnyddio moddion
ereill yn y man i gadw Mr. Cymraeg yn ei le.
Mr. G. Faint o amser sydd oddiar hyn?
Miss A. Y chydig cyn
helynt Gorphenaf oedd.
[Mr. Gwladgarwr yn eistedd.]
Mr. Uchelgais. 'Dych chwi a'r carcharor ddim yn ffryndiau, Miss Addysg?
Miss A. Nac ydym,
wedi iddo fy nhwyllo.
Mr. U. Ac yr ydych yn ei ddirmygu a'i ffieiddio?
Miss A. Nid oes
salach creadur nag ef ar wyneb daear las heddyw!
Mr. U. Aroswch fynud, Miss Addysg! Mr. Cymraeg gododd y ty i chwi, ynte?
Miss A. Ie.
Mr. U. Ac yn fuan ar ol i chwi ei gael, cauasoch eich drws yn erbyn aw iwr y
rhodd 'Rych chwi, Miss, yn gwybod rhywbeth am salwch cymeriad!
[Mr. Uchelgais yn eistedd.] (I'w barhau.)
|
|
|
(delwedd J4487) (Celt Llundain. 22
Tachwedd 1902.)
|
Celt Llundain. 15 Tachwedd 1902
PRAWF DIC SION DAFYDD.
ALLEGORI DDRAMAYDDOL GAN LLEWELYN WYN.
BARNWR. YR ANRHYDEDDUS SYR CARU CYFIAWNDER.
CLERC Y LLYS. Mr. Cryno.
COFRESTRYDD Y BARNWR. Mr. Digyffro.
GWAS Y BARNWR. Mr. Clir-ei-lais.
DADLEUWYR. DROS YR ERLYNIAD. Mr. Gwladgarwr.
DROS Y GARCHAROR. Mr. Uchelgais.
TYSTION. Mr Cymraeg, yr erlynydd. Mr. Liên Cymru. Mrs. Crefydd Cymru (gwraig
Mr. Llên). Miss Addysg Cymru, merch Mr. Llên. Mr. Gwareiddiad. Dr. Hanes.
Heddgeidwad Gor-selog Mr. Masnach. Mr. Codi-yn-y-byd, mab y carcharor. Miss
Balchder, merch y carcharor. Mr. Rhith-Gwareiddiad. Dr. Rhagfarn.
CARCHAROR. DIC SHON DAFYDD.
RHEITHWYR. Mr. Cydwybod (blaenor), Mr. Union, Mr. Chwareu-Teg, Mr.
Gwel'd-bob-ochr, Mr. Geirwir, Mr. Didderbyn-wyneb, Mr. Gonest, Mr. Diofn, Mr.
Tawel, Mr. Synwyrol, Mr. Diwylliant, Mr. Deallgar.
(Parhad).
Mr. Gwladgarwr. Mr. Gwareiddiad!
Mr. Clir-ei-lais. Mr. Gwareiddiad! Mr. Gwareiddiad!
TYST V. MR. GWAREIDDIAD.
Mr. G. Yr ych chwi yn hen gyfaill i Mr. Cymraeg?
Mr. Gw. Efe oedd fy nghyfaill cyntaf yn y rhan hon o'r byd.
Mr. G. Y mae Mr. Cymraeg, 'rwy'n meddwl, yn un o'ch cynrychiolwyr yma?
|
|
|
(delwedd J4488) (Celt Llundain. 22
Tachwedd 1902.)
|
Mr. Gw. Ydyw'n siwr, ac ni chefais ei ffyddlonach
mewn un cwr o'r byd. Nid yw yn gwrandaw ar bob stori ffol, ac nid yw yn
rhedeg ar ol oferedd. Y mae yn wr diwylliedig, ac yn caru heddwch, hynawsedd,
a gwirionedd. Gallaf ddyweyd yn onest na chefais erioed was mwy trylwyr nag
efe, na goruchwyliwr gwell a mwy goleuedig ar fy nghyfoeth.
Mr. G. Chwi glywsoch beth ddywedodd Miss Addysg am
Mr. Rhith-Gwareiddiad. A ydych yn perthyn i'ch
gilydd?
Mr. Gw. Ydym; y mae'n haner-brawd i mi, a dywedir
ein bod yn debyg iawn i'n gilydd. Amcana ef ychwanegu at y tebygolrwydd drwy
wisgo mor agos ag y gall i fi, ac y mae hyd yn oed yn dynwared fy llais a'm
geiriau a'm hystumiau. Mae wedi creu cymaint o anrhefn ym mhob man fel yr wyf
wedi ei orfodi i alw ei hun wrth ei enw llawn, sef Rhith-Gwareiddiad. Ond mae
llawer eto yn cael eu twyllo ganddo.
Mr. G. A ydych yn adnabod y
carcharor?
Mr. Gw. Na; nis gallaf ddyweyd fy mod yn ei adwaen,
a phan y nesaf ato, cilia draw. Bu'm yn ei rybuddio unwaith i beidio niweidio
Mr. Cymraeg.
Mr. G. Beth berodd i chwi ei rybuddio?
Mr. Gw. Gwelais ef yn bygwth Mr. Cymraeg un diwrnod
ar drothwy ty Miss Addysg, ac eis ato i'w gynghori i fod yn dawel.
[Mr. Gwladgarwr yn eistedd.]
Mr. Uchelgais. Un o'ch gweision chwi yw Mr. Cymraeg?
Mr. Gw. Ie.
Mr. U. A welsoch chwi'r carcharor yn taraw Mr.
Cymraeg?
Mr. Gw. Naddo.
Mr. U. Mae genych weision ereill yn y wlad hon
heblaw Mr. Cymraeg, megis Mr. Saesneg, Mr. Masnach, ac felly yn y blaen?
Mr. Gw. Oes.
Mr. U. Ac y maent hwy yn weision ffyddIon hefyd?
Mr. Gw. Maent yn weision tra ffyddlon, ond nid wyf
yn teimlo mor sicr o'u doethineb
|
|
|
(delwedd J4489) (Celt Llundain. 22
Tachwedd 1902.)
|
ar bob amgylchiad ag wyf o Mr. Cymraeg.
[Mr. Uchelgais yn eistedd a Mr. Gwareiddiad yn
sefyll.]
Mr. G. Dr. Hanes!
Mr. Clir-ei-Iais. Dr. Hanes! Dr. Hanes!
TYST VI. DR. HANES.
Mr. Gwladgarwr. Yr ydych chwi yn hen gyfarwydd, Dr.
Hanes, a'r erlynydd?
Dr. Hanes. 'Rwy'n cofio'r dydd y'i ganwyd; 'rwy'n ei
gofio yn blentyn bach yn yr ysgol yn ymladd wrth ochr Llewelyn a Glyndwr yn
erbyn Iorwerth a Harri; 'rwy'n ei gofio'n dawnsio wrth swn telyn Dafydd ap
Gwilym. Gwelais ef yn dadblygu dan gyfarwyddyd tyner a thadol yr Esgob Morgan
bu'm yn gweini arno ar ei wely cystudd; bu'm yn cyd-lawenau a Mrs. Crefydd
pan adferwyd ei iechyd; ac yr wyf wedi bod yn ymhyfrydu yn ei nerth a'i
nwyfiant newydd oddiar hyny.
Mr. G. Y mae Mr. Cymraeg yn ddyn iach ynte?
Dr. Hanes. Mae ei galon fel y gloch; mae ei holl
aelodau yn iach; ac er fod ei gylla ychydig yn wan ar adegau, nid oes un
rheswm paham nas gall oroesi llawer iawn o'i frodyr ieuengaf.
Mr. G, Y chwi fu'n gweini iddo yn ei gystudd yng
Nghalon Cenedl?
Dr. H. Ie'n siwr.
Mr. G. Beth oedd ei gyflwr pan welsoch chwi ef?
Dr. H Yr oedd yn dechreu dod ato ei hun. Yr oedd
clwyf ar ochr ei gern, ac yr oedd wedi gwaedu llawer. Tywelltais olew i'r
clwyf, ac ni fu'n hir cyn cael adferiad llwyr.
Mr. G. Clywsoch Mr. Cymraeg yn adrodd pa fodd y
derbyniodd yr archoll? A ddywedech chwi, a barnu oddiwrth natur y clwyf, y
gallai fod wedi ei dderbyn yn y modd a ddesgrifid ganddo?
Dr. H. Nid yn unig gallai, ond credaf fod hyny yn
debygol iawn.
Mr, G. A welsoch chwi'r gyllell hon o'r blaen?
|
|
|
(delwedd J4490) (Celt Llundain. 22
Tachwedd 1902.)
|
Dr. H. Do.
Mr. G. Ym meddiant pwy oedd hi pan welsoch hi o'r
blaen?
Dr. H. Ym meddiant y carcharor.
[Mr. Gwladgarwr yn eistedd.]
Mr. Uchelgais. 'Dyw cylla Mr. Cymraeg ddim yn gryf,
Dr. Hanes?
Dr. H. Ddim mor gryfed, dywedwch, a chylla Mr.
Saesneg (chwerthin). Mae ef yn gallu llyncu pobpeth heb deimlo poen ar ol
hyny.
Mr. U. Ac y mae Mr. Cymraeg wedi llewygu unwaith neu
ddwy?
Dr. H. Ydyw.
Mr. U. Ac mi allai fod wedi llewygu ar yr wythfed o
Fedi?
Dr. H. Ni fyddai hyny, wrth gwrs, yn ambosibl, er ei
fod yn beth lled anhebygol.
Mr. U. A phe bai wedi llewygu, a syrthio yn erbyn
careg lem, gallai hyny esbonio'r clwyf welsoch ar ochr ei gern?
Dr. H. Ni
fyddai yn amhosibl.
Mr. U. Dywedwch i chwi weled y gyllell ym meddiant y
carcharor. A welsoch chwi hi ganddo ar y cyntaf o Fedi?
Dr. H.
Naddo; oblegid ni welais y carcharor y dydd hwnw.
[Mr. Uchelgais yn eistedd.]
Y Barnwr. Yr ych yn adnabod y carcharor?
Dr. H. Ydwyf, fy arglwydd, er yn blentyn.
Y Barnwr. Beth ddywedech yw ei allu corphorol a
meddyliot?
Dr. H. Nid yw ei allu corphorol ond bychan, a'i allu
meddyliol yn llai fyth. Mae ei feddwl mor wamal fel y mae'r lleiaf yn ddigon
i'w gynhyrfu a'i wallgofi.
Y Barnwr. A ydych yn ei
ystyried yn hollol lawn?
Dr. H. Prin yr hoffwn ddyweyd hyny. Y mae ganddo
ddigon o synwyr i wneyd a chadw arian, a dim rhagor.
[Dr. Hanes yn eistedd.]
(I'w barhau.)
|
(delwedd J4503) (Celt Llundain. 12 Rhagfyr 1902.)
(delwedd J4504) (Celt Llundain. 12 Rhagfyr 1902.)
(delwedd J4505) (Celt Llundain. 12 Rhagfyr 1902.)
(delwedd J4506) (Celt Llundain. 12 Rhagfyr 1902.)
(delwedd J4507) (Celt Llundain. 12 Rhagfyr 1902.)
(delwedd J4508) (Celt Llundain. 12 Rhagfyr 1902.)
(delwedd J4509) (Celt Llundain. 12 Rhagfyr 1902.)
(delwedd J4510) (Celt Llundain. 12 Rhagfyr 1902.)
|
|
12
12 1902
|
http://papuraunewydd.llyfrgell.cymru/view/3106388/3106394
Newyddion Dyfynnu Rhannu
PRAWF DIC SION DAFYDD. ALLEGORI DDRAMAYDDOL GAN LLEWELYN WYN. BARNWR. YE
ANRHYDEDDUS SYR CARU CYFIAWNDER. CLEBC Y LLYS. I COFEESTEYDD Y
Mr. Cryno. |
Mr. Digyffro. GWAS Y BARNWR.
Mr. Clir-ei-lais. DADLEUWYR. Dnos YR ERLYNIAD. I DROB Y CARCHAROR.
Mr. Gwladgarwr.
Mr. Uchelgaie. TYSTION. Mr Cymraeg, yr erlynydd.
Mr. Masnach.
Mr. Llen Cymru.
Mr. Codi-yn-y-byd, mab y Mrs. Crefydd Cymru carcharor. (gwraig
Mr. Llen). Miss Balchder, merch y Miss AddysgCymru,merch
carcharor.
Mr. Llen.
Mr. Rhith-Gwareiddiad.
Mr. Gwareiddiad. Dr. Rhagfarn. Dr. Hanes. Heddgeidwad Gor-selog. UAECHABOE.
DIE SION DAFYDD. HHEITHWYE.
Mr. Cydwybod (blaenor),
Mr. Union,
Mr. Chwareu-Teg,
Mr. Gwel'd-bob-ochr,
Mr. Geirwir,
Mr. Didderbyn-wyneb,
Mr. Gonest,
Mr. Diofn,
Mr. Tawel,
Mr. Synwyrol,
Mr. Diwylliant,
Mr. Deallgar. (Parhad).
Mr. Uchelgais. Dr. Rhagfarn
Mr. Clir-ei-Iais. Dr. Rhagfarn I Dr. Rhagfarn TYST V.
Mr. Uchelgais. Dr. Rhagfarn, yr ych yn hen gyfarwydd a'r carcharor a'r
erlynydd? Dr. R. Ydwyf.
Mr. U. Yr ych wedi clywed y dystiolaeth heddyw ynghylch yr hen anghydfod
rhwng y ddau. A ydych yn cydfyn'd a'r hyn ddywedwyd?
Dr. R. Gwir bob gair.
Mr. U. Yr ydym wedi clywed fod y carcharor weithiau bron gwallgofi? Beth
yw'ch barn chwi, fel ei feddyg? Dr. R. Gallaf ddyweyd na fu erioed hynawsach
na thirioned dyn na'r carcharor. Mae yn hail fellow well met mewn ty a
thafarn, mewn eglwys neu football field. Mae yn un o'r bobl fwyaf synwyrol wn
i am dano, ac yn bollol anhebyg i wneyd niwed i neb.
Mr. U. A wnaethoch chwi edrych ar glwyf yr erlynydd? Dr. R. Do.
Mr. U. Beth ddywedech chwi am y modd y daeth o hyd iddo? Dr. R. Gwn fod yr
erlynydd yn dioddef oddiwrth y bendro ambell waith, a'i fod wedi llewygu fwy
nag unwaith. Mae yn eiddilyn o ran corff, meddwl, ac yst&d, ac mor nwydus
fel y gellir ei alw yn wallgofddyn ambell i dro. Nis gall oddef gair o
gerydd, er mor dyner, na chydymod a'r gwrthwynebiad lleiaf. Fy marn yw iddo
gael fit o'r bendro pan gyferfu a'r carcharor, ac iddo syrthio i lawr mewn
haner llewyg, a tharo ei gern yn erbyn careg lem, ac mai dyna oedd achos ei
glwyf.
Mr. U. A ddywedech y gellid achosi'r clwyf gan gyllell? Dr. R. Mae hyny'n
bosibl: ond nid yn debygol.
|
|
|
|
xxxxx
[Mr. Uchelgais yn eistedd.]
Mr. Gwladgarwr. 'Rych chwithau a'r erlynydd yn elynion er's blynyddau? Dr. R.
'Does dim posibl i foneddwr fodyn ffryns a'r fath borcyn gwael!
Mr. G. Fe ddywed'soch eiriau celyd yn ei erbyn ym Mrad y Llyfrau Gleision?
Dr. R. Dim haner digon caled i siwtio'r fath ynfydyn carpiog 1
Mr. G. Ac yr ych wedi dyweyd yn gyhoeddus y dylid rhoddi pen ar ei einioes?
Dr. R. Drwy rym cyfraith, syr
Mr. G, O'r goreu. Ond ai ni ddywed'soch fod bai ar y fam-faeth a'i derbyniodd
i'r byd na fuasai wedi ei lindagu cyn iddo siarad gair? Dr. R. Credaf, fel
meddyg, ei fod yn ddyledswydd i amddifadu pob erthyl brwnt o anadl einioes, a
gwae fi na fuasai'r erlynydd wedi derbyn y fath driniaeth.
Mr. G. Gyda Haw, Dr. Rhagfarn, gan eich bod yn siarad fel meddyg," a ydych wedi pasio arholiad meddygol yn y wlad hen? Dr. R. Naddo.
Mr. G. Ymh'le ynte y graddioch? Dr. R. Yn yr un Brifysgol, syr, ag y
graddiodd
|
|
|
|
xxxxx
Mr. Rhith-Gwareiddiad, sef, ym Mhrifysgol Anniwylliant yn Ymherodraeth Nwyd a
Dallbleidiaeth.
Mr. G. Mae'n dda genyf glywed eich qualifications, Dr. Rhagfarn.
[Mr. Gwladgarwr yn eistedd.] Y Barnwr. Dr. Rhagfarn, a welsoch chwi'r
carcharor erioed wedi colli ei dymher? Dr. R. Wel, f'arglwydd, do, unwaith
neu ddwy? Y Barnwr. Oedd yr erlynydd gerllaw ar y pryd? Dr. R. Oedd: fe oedd
achos y dymher ddrwg. Y Barnwr. A oedd y carcharor
fel pe wedi eolli ar ei hunan? Dr. R. Wei, 'roedd yr erlynydd yn ddigon i
yru'r callaf yn walJgof
[Dr. Rhagfarn yn ymadael.]
|
|
|
|
xxxxx
Mr. Uchelgais. Rhynged bodd eich Arglwyddiaeth a Boneddigion y Rheithwyr. Yr
ydych erbyn hyn wedi clywed y ffeithiau i gyd, ac fe feiddiaf ddyweyd eich
bod er's amser wedi penderfynu na chlywscch erioed a'ch clustiau'r fath
sotbach mewn Ilys cyfraith o'r blaen. Yn awr, pwy yw'r erlynydd? Clywsoch ei
gymeriad. Dyn nwydwyllt, sarug, cas, yn wastad yn chwythu bygythion a
chelanedd yn erbyn pawb na phlygant lin o'i flaen ef, os gwelwch fod yn dda.
'Does ddadl nad ydyw er's blynyddau wedi dilyn y carcharor droiau a'i
fygythion a'i enllibau. A oes un o honoch,
foneddigion, heb fod yn sicr yn eich meddwl y buasai'r erlynydd wedi rhoddi
taw oesol ar y carcharor pes gallai? Ond mae wedi methu. Er ei ddirmygu a'i
enllibio mewn ffair a marchnad, mewn tref ac eglwys, mewn steddfod a chwrdd
pregethu, mae Die Sion Dafydd yn fyw o hyd. Ac felly, o'i gasineb angerddol,
ar ol methu ei yru ar ffo, mae
|
|
|
|
xxxxx
Mr. Cymraeg yn meddwl cael gwared arno drwy eich help chwi! Beth yw'r hanes
glywsom heddyw? Ar bryanawngwaith ym mis Medi cyferfu'r ddau elyn drwy
ddamwain yn agos i dy'r carcharor. 'Does neb wedi beiddio awgrymu fod y
carcharor wedi cynllunio'r cyfarfyddiad. Anhap a damwain oedd y cyfan. A pha
beth oedd stad meddwl y ddau, un at y llall? Clywsoch fod Die Sion Dafydd
wedi llwyddo i gadw'r erlynydd allan o Eisteddfod Bangor. A
oedd hyny'n dueddol i wneyd Die yn waeth ei dymher? Die oedd wedi enill y
dydd: yr erlynydd mewn nwydau, fel y gorfu iddo gyfaddef wrthyf. Dyna'r ddau yn decbreu siarad, un
yn bygwth y llall, fel y gallwch gasglu. Yn y cythrwfl, syrthiodd
Mr. Cymraeg i'r llawr. Clywsoch ei hanes gan y meddygon. Mae ei feddyg ei hun
yn gorfod cydnabod fod yr erlynydd wedi llewygu unwaith neu ddwy o'r blaen.
Ydych chwi ddim yn meddwl mai'r stori fwyaf rhesymol yw iddo syrtnio'r tro
hwn, a tharo ei ben yn erbyn careg lem? Cofiwch,
'doedd neb arall yno ar y pryd, dim ond y ddau hyn. Nid oes eisieu i mi ofyn
i chwi, p'un o'r ddau wnewch gredu? Digon i mi yw gofyn, a
ych yn sicr, tuhwnt i bob amheuaeth, mai'r carcharor wnaeth glwyfo
Mr. Cymraeg? Os oes yr amheuaeth lleiaf yn eich mynwesau, yna gollyngwch y
carcharor yn rhydd, - yn rhydd i fyn'd yn 61 at ei deulu i fyw bywyd tawel,
heddychlon a daionus fel y gwnaeth cyn i'r helynt hwn ei ysgaru oddiwrth ei
anwyliaid a'i geraint a'i gyfeillion
|
|
|
|
xxxxx
Mr. Gwladgarwr. Nid oes eisieu i mi, Foneddigion y Rheitbryr, eich cadw ond
am foment neu ddwy ymhellach. Gallwch benderfynu gystal a gwell na minau ar
eich dedfryd. Dywedodd fy nghyfaill dysgedig wrthych os ceddech mewn
amheuaeth y dylecfc ollwng y carcharor yn rhydd. Ie, ond ccfiwch y dylai'ch
amheuaeth fod wedi ei sylfaenu ar reswm. Gofynaf i chwi, a
oes amheuaeth rhesymol yn eich meddwl ynghylch enwogrwydd y carcharor? Un
peth sydd sicr, i
Mr. Cymraeg gael ei glwyfo. Pa fodd? Dy-wed ef yn bendant mai'r carcharor a'i
clwyfodd a chyllell. Pan ddangoswyd y gyllellyna iddo, dywedodd, Un fel yna
oedd yn llaw'r carcharor pan darawodd fi." Cafwyd gafael yn y gyllell
gan yr Heddgeidwad ger llaw'r fan y syrthicdd yr erlynydd. Pan gyhuddwyd y
carcharor o'r trosedd, beth wnaeth? A wnaeth ef wadu? Dim o'r fath beth.
Tystiodd yn haerllug ei fod yn falch i'r erlynydd gael ei glwyfo.
Foneddigicn, ni wnaf ymhelaethu. Os ydych yn credu'r Heddgeidwad, eto mae'r
carcharor yn euog. Os hyn yw eich barn, gwn na wnewch betruso rhcddir i'ch
barn ei llafar. Y Barnwr. Foneddigion y Rheithwyr; ar ol y gwrandawiad astud
a roddasoch i bobdarn o'r dystiolaeth, ac ar ol yr areithiau medrus yr ych
wedi glywed, ni wnaf eich cadw yn hir gyda geiriau o'm heiddo i. Mae yn wir
ddrwg genyf weled gwr fel y carcharor yn sefyll wrth y bà r, a gwn y bydd yn
galed i chwi wneyd eich meddyliau i fyny. Ond yr ydym
|
|
|
|
xxxxx
yma i wneyd cyfiawnder ac i wneyd y gylraith oil yn oll, a pha mor galed
bynag y bo, rhaid i chwi a minau wneyd ein dyledswydd yn ddi-dderbyn-wyneb.
Mae'n amlwg fod anghydfod yn ffynu rhwng yr erlynydd a'r carcharor er's
blynyddau lawer. Nid ein gwaith ni heddyw yw chwilio p'un oedd ar fai yn hyn.
Feallai fod bai ar y ddwy ochr-nis gwn. Ond nid yw yn erbyn cyfaith y tir i
ddau wr fod yn elynion. Yn wir, dysa sydd yn rhoddi gwaith i'r cyfreithwyr I
Ond mae gorfodiaeth ar i bawb fyw'n heddychlon a'u gilydd. A'r cwestiwn sydd
genych chwi i'w ateb yw. A wnaeth y carcharor glwyfo'r erlynydd a chyllell ar
yr wythfed o Fedi? Os do, a oedd rhywbeth yn
ymddygiad yr erlynydd yn cyfiawnhau'r weithre? Gyda golwg: ar y cwestiwn
cyntaf, mae'n anhawdd gweled pa fodd y gellwch osgoi dyfod i'r farn i'r
carcharor glwyfo'r erlynydd. Chwychwi, foneddigion, sydd i farnu, nid myfi.
Nis gallaf ii, ond rhoi fy 'mhiniwn i chwi.. Os nad
yw yn werth eich sylw, gadewch ef naill ochr. Chwi sydd yn gyfrifol am eich
dedfryd, nid myfL Ond fel y dywedais, anhawdd genyf fi ddirnad pa fodd y
gellwch osgoi'r canlyniad. Stori feddal, gallwn gredu, yw'r stori am lewyg yr
erlynydd. 'Does dim prawf o'r fath beth: tystiolaeth Dr. Hanes yw nad yw'r
erlynydd. wedi llewygu er's blynyddau lawer. Dywed
Mr. Cymraeg iddo wel'd y gyllell yn llaw'r carcharor. A
yw
|
|
|
|
xxxxx
Mr. Cymraeg y dyweyd celwydd noethlymyn? A yw wedi dod
i'r llys i dyngu anudon? Anhawdd genyf gredu hyny. Mae'n ffaith i'r
Heddgeidwad gael cyllell y carcharor gerllaw: pa fodd y daeth y gylleIl yno,
yn agored? Gofynodd
Mr. Gwladgarwr i chwi osod pwys ar yr hanes roddodd yr Heddgeidwad o'r siarad
fu rhyngddo ef a'r carcharor pan gymerwyd ef i'r ddalfa. Ond ar ol y dull
afreolus y rhoddodd yr Heddgeidwad ei dystiolaeth yn y llys, mae'n rhaid i mi
ofyn i chwi i beidio rhoi dim sylw i'r rhan yna o'r dystiolaeth. Os felly y
dowch i'r penderfyniad mai'r carcharor glwyfodd yr erlynydd, cyfyd cwestiwn arall,-A oedd rhywbeth yn ymddygiad yr erlynydd yn
cyfiawnhau'r weithred? Eto, chwi sydd i benderfynu. Ni wnaf ond esbonio'r
gyfraith. Hyn yw cyfraith, tir ar y pwnc. Mae hawl gan wr i amddiffyn ei
einioes drwy gymeryd ymaith einioes arall, os nad oes modd arall. Os gwel gwr
elyn yn anelu dryll ato, mae ganddo hawl i'w saethu. Os ymosodir ar wr gan
arall a chleddyf, mae ganddo hawl i drywanu'r arall hwn a chleddyf. Ond os
ymosodir ar wr gan arall a'i ddyrnau'n unig, nid oes hawl gan y gwr i
amddiffyn ei hun a chyllell neu gleddyf, neu bistol. Yn awr, a oedd y carcharor mewn perygl am ei fywyd pan gyferfu a'r
erlynydd yn heol Rhagfarn ar yr wythfed o Fedi? Nid oedd gant yr erlynydd, yn
ol yr hyn a glywsom, na ffoTh
|