26-05-2023
.....
Gweler hefyd / Vegeu tambe / See also:
.....
|
Gwefan
Cymru-Catalonia |
|
(Cymraeg,
catala, English, euskara, Gaidhlig, Gaeilge, Frysk, Deutsch, Nederlands,
français, galego, etc)
|
|
(delwedd J7545a) (28 Gorffennaf 1904) |
Tarian y Gweithiwr. 28 Gorffennaf 1904. MlSHDIR Y
‘DARIAN,’ - Bachan ar
y tramp w i, yn gnithir dim byd ond
trampo o shir i shir fel wandering Jew. ‘Gwitho nis gallaf,’ os gwetws yr
atnod - ma gwitho yn doti gomrod arna'i; ond, a bod yn fair, dw i ddim yn
dala y galla'i gwpla'r atnod, ‘cardota sydd gywilyddus genyf,' achos wi wedi
cardota trw ngwilydd y slawar dydd. Naca wrth y 'munan wi'n trampo dw i byth
with y 'munan os galla'i bido, achos ma shwd lot o latron pen hewl i gal. Y
'matnar i yw Shoni Shirgar. Mae Shoni a fina gyta'n gilydd nawr ys wn i ddim
faint, a dos byth air cros rynton ni, ond yn cytuno ishta doi bwnsh. I ni un yn
supplio diffyg y nail, hoff ddarllenwyrs (felni dyla pawb nuthur) ma trad
ffamws gyda Shoni, ond dim cystal pen (gen i mai’r pen), ond wara teg i
'matnar, diw e ddim wedi cal y 'mantishon i: chytig o'r byd welws Shoni cyn
iddo fa droi mas gen i. Ond at hyn own i'n towli. Own i a Shoni yn mynd yn
gros o Ferthyr i'r Mount dy 'Satwn dwetha, ac wedi dod i dop Pentre Mwar
[Mawr], ni glywswn fwstwr diarth draw orwthon ni rwla. Sefson i wrando.
‘Band!’ mynta Shoni, gan hito ar y swn
ishta bryllyth, ac yna yn dirwn 'm!an gan atrodd y son odd yn Shirgar y
'slawar dydd am ‘Fand y Mount' - na chotws dim shwd fand oddar amser
Nebuchodn--- (neno dyn, os dicshonari yn offis y ‘Darian’ na? Os dos a, speled un o chi enw yr 'en frenin
na i fi), a bod un bachan ynddo wedi hwthu mwy i 'hunan na wnath band y
Grenadiers i gyd gyta'u gilydd, &c. ‘Haisht!
myinwn ina gan wpo sprag iddi weel a ar ganol i 'glepa wast. ‘Haisht! Clyw!
Ma racor na un band yn wara, ar os, ne wi'n dechra swrddanu ne rwpath.' ‘Itha
reit,' atebws Shoni, ma na ganodd.” ‘Os collad
arnot ti, bachan,’ myntwn i. ‘Wel, ma
na siwr o fod hanar dwsan,' medda fynta nol, gan gorrecto i 'unan. ‘Dyna ti'n
nes i fwcwl nawr,' atebas i gan giustfino yto. R'wy'I’n gweyd fod na ddoi
fand pres yn wara o lia, ag un band flutes. ‘Siwr sy
siwr,' oedd apad Shoni gan roi miwn ishta dyn. Ar hyn
dechreuws y ’matnar a fina i 'stepo 'i mas yn swn y band; ac wrth ddod tshag
lawr hibo Cefan Penar, deallson yn itha plaen fod y band a ninna 'n doi yn
gwitho at y’n gilydd. Ac yr odd y swn yn grand, Mishdir Golysydd, fel odd a'n
dod lan trw gôd Cwmpennar! Mi gretas i y bysa matnar yn colli'r ticyn gas a o
dan effath y music, ardo. ‘Ble on
nhw'n mynad, wysh?' ‘A beth odd y matar?' dyna'r pethach odd yn mynd trw'n
meddwi ni ar y ffordd. 'Y Brenin
yn dod i aros at Lord Aberdar, dala i rwpath,' mynte Shoni, ‘mi glwes i fod
a'n dod i Abertwa.' |
|
|
(delwedd J7545b) (28 Gorffennaf 1904) |
Dim shwd
gôd yn tyfu, myntwn i, er y 'mod i just dod i weld lycad yn llycad a mhatnar
am siwrna, yn enwetig ar ol roundo'r tro a gweld y gwyr trad yn 'u cota
cochon, a'r gwyr ceffyla yn wara'u prancs wrth ddod 'mlan trw'r côd. Do wir,
mi ddychrias gretu fod y 'matnar wedi cal galal yndi. Ond mi welswn y rigmant
yn dod i full stop ac yn scwaro mwn pant yn y cod, yn gymysg a milodd ar
filodd o ddynion, mynwod, a phlant. Ac er i fi weld fod meddwl Shoni yn cwmpo
i'r llawr, para yn itha tywyll yr odd y weledicath i'r ticyn menydd sydd gen
i. Own i'n ffili a 'dyfalu am beth yr odd yr hwrlibwrli. Mae na reswm i
bopath, ond os a? Walla ta fi sy'n dwp, ond dw'i ddim yn fachan sy'n cretu
mwn rhan a dicwddiad; fe gretiff y 'matnar i bopath fforna, ond dw'i ddim, na
chi; a chreta i ddim nad os rhwpath yn rheswm dros ddod a'r milodd yna at 'u
gilydd i'r cod - yn sowljiwrs,
plismyn, gwyr clyba o bob shap, tylwth y box hats, a dynon cyffretin. ‘Dere
mlân, Shirgar,' wetas i o'r diwadd, ‘cwn drot, i ni gal mas be sy off na’ 'Fi dy bia
di,' atebws Shoni, a bant a ni ishta doi grotyn. ‘Ond 0!
Mishdir y ‘Darian,' ma arna 'i ofon atrodd beth welson ni, wath yr odd y
pethach mor od 'no. Cretwch chi fi ne bido, waff 'r'ol i Shoni a fi gyradd
lle'r on nhw, mi dimlas rhwpath yn cerdded trwy ngwad i na wn i ddim yto beth
odd a mi ceras, w, fel clai, wath o'n i'n cretu'n siwr i ni ritag heb wpod i
ni i genol lot o letrithod o goliw! Wn i ddim a alla'i drusto 'munan i atrodd
ffor' odd pethach. Mi dria ngora, ta beth, wath ma'r hanas yn werth 'i glwad.
Wilia am friddwd y Bardd Cwsg! Dyw a ddim ffit i ddala canwll wrth ochor y
weledicath geso i a mhatnar yn ngôd y Dyffryn. Ishlaw i
ni yn y cwmpad tir, dyna lle odd cylch round o gerig wed'i dynu acha llun
circus, ond bod y performin ring yn llai o size - cerig mawr ishta giants,
wedi ‘u doti ar 'u talceni; ac yn y cenol yr odd carag fawr yn gorwadd ar 'i
flat; ac yn mwfid nol a blan rwng y cerig, mi welas foda mor od na wn i ddim
shwd ma 'u nhw. Ffilas a neyd mas 'n bod nhw yn angylion - serch bod 'no rai
wedi trio gwishco yn 'u style nhw, O'n nhw ddim yn yllyllod wetini, wath o'n
nhw'n dishgwl yn shwd rai gwirion i gyd. O’r ochor arall, ffilas neyd mas ta
dynon o'n nhw, wath 'do' nhw ddim ishta chi a fina, a plant Adda 'n
gyffretin. Yr odd y rhain. bob one, wedi ffixo 'u llycid ar y sers, ac yn
gatal 'u gwallt i dwtsha 'u sgwidda a dyna lle o'n nhw fel lot o jack-a-daws
yn atab 'u gilydd ac yr on nhw 'n brawlan rhw iaith na chlwes i ariod ariod
un run shwt a hi. R'odd 'no rai wedi cymryd yn ’u
pena i wishgo gwn nos glas gola, a wnw bob shapsa am bothdu nhw; wetini
ro'nhw'n gwishco rhwpath ishta llian sychu am ‘u pena ('dicon o isha clymu 'u
clopa nhw,' mynta Shoni). Ond naca
glas odd yr unig liw - yr odd pisha a chap nos rhai yn wyrdd, a rhest wetini
yn wyn fel can. |
|
|
(delwedd J7545c) (28 Gorffennaf 1904) |
Wyddoch
chi beth, Mishdir Golygydd, mi gofias, do, mi gofias, w, am y Gad Gamlan mwn
pisha glishon a chapa cochon welws y Bardd Cwsg yn wara 'u prancs a bothdu
'ddo, y rhai drows mas wetini i fod y Tylwth Teg, a mi wneso 'meddwl i fyny
mewn bothdi shiffad taw yr un tacla odd y rhain odd yn wara ’u antics, ond 'u
bod nhw wedi dicwdd re liwo 'u pisha. ‘Wherthin?'
chi werthinsach chitha, ed, tasa chi 'no. O'n nhw mor smala, w! O'n nhw'n
smala yn 'u gwishgad, ond tasa chi ddim ond clwad 'u clepar, a notiso'u
shapsa nhw! Mi glwas y 'mamgu yn wilia shew am y Tylwth Teg, ond chretas i
ariod cyn heddy 'u bod nhw yn shwd rai smala. Wherthin ?
Own i a matnar yn wherthin spo ni'n shiglo! Toc (os
gwetws bachan o'r North own i'n napod) mi welswn y performans yn dechra. Rodd
no riw fachan bach yn wthu mwn corn, gan neyd llisha ishta bugle - arwdd odd
'ny i fynd bant a'r cart. Gyta ny mi welswn wad o fôd yn iawn yn dringo i dop
y garag - odd a ishta eryr mawr ar dalp o graig yn agor 'i blyf fel tasa fa
am weyd ‘fi yw'r billy mishtir ma.' Ond gallwn i feddwl fod 'i amsar gora fa
wedi paso, pwr dab; sposo bod y llaish na wedi bod a mwy o bowar yndo nag sy
heddy, ond guesso w i, chi sy'n gwpob. ‘Bachan,'
mynta Shoni, gan roi pocad o dan y 'mhalfesh i, pwy yw'r hen benshynar yco a'r
medals ar 'i frest? Y' mhwy fattles biodd e, licswn wpob?' (Towlio yr odd y
Shirgar at y bodyn hybarch odd wrth ochor y nall ar y garag). ‘Peth od na
basa'r Victoria Cross gento, ed; beth odd yn bod, wysh? Own ina
ishta Shoni yn ffili dyfalu am hyny, w; oblecid gallach feddwl wrth 'i
strokes a na fasa dim yn sefyll o'i flan a, wath dyna lle basa fa yn ciad 'i
ddwrn, yn ysgwd 'i fricha ac yn 'i harllws i fel pwll y mor - yn son rhwpath
am ‘glwysgor’ a ‘glasgoed' awyrgylch eurgain,' a rhw eira mawr erill, ac wrth
'u cymysgu nhw, yr odd a'n rhincan 'i ddanadd fel injin fortar. Wel, dyma
fa, Mishdir Golygydd, pan glwes i'r bod yna (galwch chi a beth licwch chi) yn
dweyd y gair - ‘Mountain
Ash mewn tan yswn,' - own i'n
dishgwl gweld yr hen god derw yn tano wrth y 'mhen i, own yn wir, wath yr odd
a wedi mynd mas o'i gof yn ddrychynllyd i'r byd. Ond
chitshws 'i ddim, drw Iwc yr odd gomrod o shavins gento yn moci'r tan.
Wetini, pan odd a'n dangos ffordd i gal Cymru gyfan, sposo bod rhwy
ddryciolath ne rhwpath - addysg, prifysgol, enwad mawr ne rhwpath yn 'u boeni
fa cyn yr amsar a tasa chi ddim ond 'i weld a! Nawr fe godsa'i laish a fe
ddwedsa - 'Na ganwaith'! nes bod y cod yn whiban; wetini fe stampsa'i drod ar
y garag nes odd y llawr yn shiglo o dano; a dyna lle bysa fa'n pleto nes
cochi fel twrci taw nhw fel Tylwth odd y boys i uno Cymru! ‘Ond yw
a'n wetwr piwr,' mynta Shoni. ‘Oti,'
tepas ina 'dipyn yn dytshu,' gweyd gomrod o'r hanar.' Ond dath rhwy
ddrwgdypiath drosto'i tsha nawr fod y boda hyn ag yr odd y bobol yn 'u hanar
addoli nhw yn byw nes aton ni lawar iawn; felly mi wpes ymlan i ochor rhwy
officar bach yn gwishco scarf am 'u genol, a ffon - whad o ffon yn iawn fel
ffon bugel - yn 'i law; a mi ofynes iddofa (yn Gymrag nawr, wath rodd rwy
syniad geni ariod, wn i ddim shwd dath a ed, nad odd dim iws wilia ond Cymrag
ar bwys y cylch cerig, ne fe fysa un o'r Tylwth yn nido lawr i wddwg dyn) — 'A'i hwnco
sy a'r dail yn 'i wallt - hwnco ufws o'r
jwg gam od ny estynws y ddwy fenyw 'ny iddofa - ai hwnco yw brenin y Tylwth,'
myntwn i wrth y dyn mwn scarf. |
|
|
(delwedd J7545d) (28 Gorffennaf 1904) |
‘Brenines
gwed, mynta Shoni yn y nglust i. (Sposo fod y Shirgar mwn dowt pun a dyn ne
menyw odd a). Ond yn gweld nad odd dim aped yn dod orwth y dyn mwn scarff, mi
dwtshas y'm 'at a thries wpod gento yto beth odd enw'r brenin. Dim aped! Ond rhag
ofon ta Sisnag odd iaith y Tylwth, weti’r cyfan, fe gitshodd y matnar yn y
cwesishwn ac fe 'i trows a i'r Sisnag, gan ofyn dicyn yn drwscwl: 'What's the
gaffer's name?’ ‘Hwffa
Mon,' mynta'r tamad officar mor sychad a chorcyn, a bant yr a'th a. Yna mi
welas ina ‘ta nid wrth 'i big ma napod cyffylog.' Ond pan
own i'n rhyw feddwl am blan i witho wrtho, fe welswn y beirdd yn dechra nido
i dop y garag, a mi gollas y cwbwl! Ond 'sdim ots, Mishir Golycydd, ni geson
rally iawn iddi gweld nhw. O'u nhw'n gwmws ishta lot o gilocod ar ben toman
yn clochdar am y gora. Dyma'r
Cochin China i'r lan ac yn trio’i laish, ond fflat shot odd hi. Ar 'i ol a
dyna’r Black Minorca yn popo i’r lan, ac yn mystyn 'i wddwg yn bert, ond
ffilodd yntau daro'r gloch. Ond dyco'r Cilog Gâm i'r lan a'i spardina 'n
dishgluro i gyd - fe gretws e ta fe fasa'r billy mishdir ond fe gamsymws,
wath yn 'u plith nhw yr odd na Guinea Cock bach wedi dod drwa o Ferthyr, ac
yr odd a'n blesar i notiso r'un bach yn 'i gwitho hi. R'odd shwd frest bach
decha gento, a shwd laish bach sweet, fe odd y gora o ddicon tasa chi gofyn i
fi. Rodd na lot o gilocod erill tu fas I’r ring, a whant arni nhw i fynd i
dop y garag, rai o nhw yn dishgwl yn ddimofal i wala, oblecid na cheso nhw
mo'u napod. ‘Mi fytwn
i ngap,' mynta Shoni mas yn ychal (wedi ffindo mas y tro cinta ariod i fod
a'n fardd). 'Mi fytwn
i ngap os na wetswn i'n well na'r twpsod na; dyna r beth-di'n-galw glwson ni
nawr - y cyng-cyng-cynganeddion 'na - odd rheina i gyd, w, yn hen lyfra
nadcu.' Weles i mo
matnar mwn gwell 'wyl ariod - 'rodd a yn 'i goach! Ond ‘gwell 'ti guad dy
focs,' myntwn i (lle bo fa 'n llosgi 'i fysadd) ne ma nhw'n siwr o d'urddo
di; a dyna glawr arnot ti cyd a byddi di.' Oblecid, drychwch
ma, yr odd 'no ddyn bach - pwtyn o ddyn bach yn dishgwl yn gwmws fel tasa
fa'n byw mwn niwl - yr odd hwna yn myn' nol a blan ar yn pwys ni jest; a dyna
lle bysa fa yn citsho yn mricha dynon, ac yn mynd a nhw'n scrin at y brenin,
a wnw wetini yn 'u marco nhw a ribana. Dodd dim ots gyta'r dyn bach pwy fasa
fa’n citsho yndo - tasa fa'n fair fel lord mayor Cardydd, mlan odd a'n cal
mynd. Fe ddelsa at Marchant Williams, w, odd yn ishta mwn ffald yn yr orsadd,
a dyna lle basa fa 'n i syrro fa ishta picpocat, gan fynd ag e o flan 'i
well. A pan
glwes i matnar wrth ym' ochor i yn cammol 'i gwds, mi glywswn y wys or yn
tori mas o ngefan i, a mi wetas wrtho yn wyllt reit am guad i focs, ne mi
fyse'r dyn bach o'r hen fyd yn siwr o ddoti 'i bawan arno ni. Wel, mi
geso berswad ar y Shirgar i ddala miwn, a wir fe ddath i allu gwiddi
‘Heddwch’! gystal a neb yn y cod. Dyna gwpwl o'r pethach basws yn y Mount,
Mishdir y ‘Darian.' A dyma fi off. IANTO
MORGANWG. |
…..
Sumbolau:
a A / æ Æ / e E / ɛ Ɛ
/ i I / o O /’uU / w W / y Y /
MACRONː ā Ā / ǣ Ǣ / ē
Ē / ɛ̄ Ɛ̄ / ī Ī / ō Ō / ū Ū / w̄
W̄ / ȳ Ȳ /
MACRON
+ ACEN DDYRCHAFEDIGː Ā̀ ā̀ , Ḗ ḗ,
Ī́ ī́ , Ṓ ṓ , Ū́ ū́, (w), Ȳ́
ȳ́
MACRON + ACEN DDISGYNEDIGː Ǟ ǟ , Ḕ ḕ, Ī̀
ī̀, Ṑ ṑ, Ū̀ ū̀, (w), Ȳ̀ ȳ̀
MACRON ISODː A̱ a̱ , E̱ e̱ , I̱ i̱ , O̱
o̱, U̱ u̱, (w), Y̱ y̱
BREFː ă Ă / ĕ
Ĕ / ĭ Ĭ / ŏ Ŏ / ŭ Ŭ / B5236ː B5237ː
BREF GWRTHDRO ISODː i̯, u̯
CROMFACHAUː ⟨ ⟩ deiamwnt
A’I PHEN I LAWRː ∀, ә, ɐ (u+0250) httpsː //text-symbols.com/upside-down/
Y WENHWYSWEG: ɛ̄
ǣ æ
ˈ ɑ ɑˑ aˑ aː / æ æː / e eˑeː / ɛ
ɛː / ɪ iˑ iː ɪ / ɔ oˑ oː / ʊ
uˑ uː ʊ / ə / ʌ /
ẅ
Ẅ / ẃ Ẃ / ẁ Ẁ / ŵ Ŵ /
ŷ
Ŷ / ỳ Ỳ / ý Ý / ɥ
ˈ ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ
/ aɪ ɔɪ əɪ uɪ ɪʊ aʊ ɛʊ ɔʊ
əʊ / £
ә ʌ ẃ ă ĕ ĭ ŏ
ŭ ẅ ẃ ẁ Ẁ ŵ ŷ ỳ Ỳ
Hungarumlautː A̋ a̋
U+1EA0 Ạ U+1EA1 ạ
U+1EB8 Ẹ U+1EB9 ẹ
U+1ECA Ị U+1ECB ị
U+1ECC Ọ U+1ECD ọ
U+1EE4 Ụ U+1EE5 ụ
U+1E88 Ẉ U+1E89 ẉ
U+1EF4 Ỵ U+1EF5 ỵ
gyn aith
δ δ £ gyn aith
δ δ £ U+2020 †
« »
DAGGER
wikipedia, scriptsource. org
httpsː []//en.wiktionary.org/wiki/ǣ
Hwngarwmlawtː A̋ a̋
gyn aith
δ δ
…..
…..
ʌ ag acen ddyrchafedig / ʌ with acute accentː
ʌ́
Shwa ag acen ddyrchafedig / Schwa with acute |
…..
…..
wikipedia,
scriptsource.[]org
httpsː//[ ]en.wiktionary.org/wiki/ǣ
---------------------------------------
Y TUDALEN HWN: www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion-prys_354_yr-orsedd-beirdd_1904_3813k.htm
---------------------------------------
Creuwyd: 25-04-2023
Adolygiad diweddaraf : 25-04-2023
Delweddau:
Ffynhonell: Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Newyddiaduron Arlein.
---------------------------------------
Freefind. |
Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymweld ag
un o dudalennau'r Wefan CYMRU-CATALONIA
On soc? Esteu
visitant una pagina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Gal·les-Catalunya)
Where am I? You are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia)
Website
Weə-r am ai? Yüu aa-r viziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA
(= Weilz-Katəlouniə) Websait
Adran
y Wenhwyseg / Seccio del dialecte de Gwent / Gwentian Welsh
Edrychiadau ar y
tudalennau / Vistes de les pagines / Page Views
Edrychwch ar ein Hystadegau / Mireu les nostres
Estadistiques / View Our Stats