kimkat3805k Y Waunwaelod. Emwnt Matho. Y
Darian. 1919. Tafodiaith Morgannwg (Caerffili) (Dialecte de Morgannwg /
Glamorgan dialect) (Y Wenhwyseg).
23-04-2023
.....
Gweler hefyd / Vegeu tambe / See also:
.....
|
Gwefan
Cymru-Catalonia
|
|
(Cymraeg, catala, English,
euskara, Gaidhlig, Gaeilge, Frysk, Deutsch, Nederlands, français, galego, etc)
26-12-1918
13-02-1919 B0764
20-02-1919
27-02-1919 B0761
20-03-1919 J7832
llythrennau duon = testun wedi ei gywiro
llythrennau gwyrddion = testun heb ei gywiro
|
|
(delwedd J7831a) (26 Rhagfyr 1918) |
26-12-1918 Y Darian. 26 Rhagfyr 1918. Y Waen Waelod, Mynydd Caerffili. Mr. Gol. Ma'n rhaid i finna weud
fel na, sbo, er nad wy'n ych nabod chi, na chithe'n y nabod inne. Ond ta pwyn
i chi, rych chi'n gallu trafod y DARIAN yn ddeche digynnig. Oddar y'ch chi
wedi citcho yndi ma hi wedi gwella cinog ar ginog. Rwyn prynu'r DARIAN oddar
y startws hi, a fe alla i weud. Fuws hi ariod cystal a ma hi'n awr, a fe
ddylsech chi o bawb gal gwybod hynny. Wel, bendith arnoch chi, weda i, a Iwc
dda i'r DARIAN. Wel, Mr. Gol., yr hyn gynhyrfws
dicyn arna i i sgrifennu lein neu dwy i'r DARIAN yr wsnoth hyn odd darllen
pishyn Herbert Kenvyn oddar Twyn y Gwcw, Mynydd Caerffili. Myn- ydd
Caerffili! On te fe wrth i groesi e o Dongwynlais i Gaerffili yr a'th
Christmas Evans i gyfamod a Duw'r Nefodd; ac onte fe am "fynydd bach
Caerffili" y gwelws Tanymarian, wrth gofio am gyfamod Christmas fawr a
Duw, petai e'n mynd i addoli rhwun heblaw Duw, taw mynydd bach Caerffili
fydde hwnnw? A dyma finne'n awr yn sgrifennu'r ticyn hyn o ymyl y Waen
Waelod, lle y ganwd ac y magwd Dafydd Williams, y dyn mawr hwnnw startws y
“Royal Literary Fund," a bagad o bethach erill. Weda i ddim rhagor na
hynna am Dafydd Williams, wath ma Dr. Thomas, Y. H., Caerffili, wedi gweud
popeth yn "Pebyll Seion," llyfyr o hanes Ymneilltuaeth Caerffili,
a'r Cylch. Ac i Dr. Thomas, he'd y mae tre Caerffili'n ddyledus am y gof
golofn hardd sydd ym Mharc Caerffili i Dafydd Williams. Wrth ddarllen pishyn
H.K. fe deimles ymhunan yn twymo drwyddw’i gyd, a myntwn i wrth yr hen fenw
ma, odd ar y pryd yn cymysgu'r ddwy owns fenyn a'r hannar pownd margarine,
y'n lwans ni'n dou am yr wsnoth, “Shuan, ferch, ishta lawr, a gad yr |
|
|
(delwedd J7831b) (26 Rhagfyr 1918) |
hen sâm trucs yn y man na, waith
ma'r rhyfel wedi cwpla, a diolch i'r Arglwydd am hynny, nawr heb fod yn hir
fe allwn ddishgwl mas am gal ambail bownd o fenyn mynydd Caerffili 'da Mrs.
Harris, y Garwa, gwrando arna i'n darllen y pishyn ma." A fe darllenes e
nes yr odd yr hen fenw'n llefen, ond fe ddylswn weud fod Shuan wastod yn byw
yn lled agos i'r dwr. Fe weda wrthoch pwy yw H. Kenvyn. Kenfin odd i steil e
slawer dydd, ond sbo gen i i fod e'n timlo y dyle fe bolisho ticyn arno fe ar
ol bod off yn gweld y byd. Dyna pwy yw e i chi, mab Sam Kenfin o'r Warren.
Rwy'n cofio'i da'cu, Twmi Kenfin, yn ddyn ifanc yn dod i Gaerffili o Fryste.
Ro'dd na ddynon decha yn dod o Fryste slawer dydd, ac nid rhw rapscaliwns fel
sy'n dod nawr. Fe gas Twmi waith yn Tirgibbwn, ac yn waff wetny fe briodws
sha merch fach lan fidir o'r Rhytri. Fe dda'th hi a'i llytnyr alotath 'da hi
o'r Rhytri i'r Watford, a fe ddercheuws Twmi dynnu sha'r capal, a fe
ddileitws i ddod sha'r Ysgol Sul, a fi odd i athraw e. Mhen ticyn derbynwd
e'n aelod gan Mr. Davies, odd yn wnitog yn y Watford a Glandwr y pyrt hwnnw.
A wharre teg iddo fe, fe sticws i ddyscu Cymrag nes odd hi'n bleser i glwed e
ar waith yn y Cwrdde Gweddi, yn enwedig y Cwrdde Gweddi odd obothtu'r tai, a
rodd galwad mawr arno fe mewn Cwrdde Diolchgarwch ymhob Capal yng Ngaerffili.
A Chymrag odd pob eclws odd ma. Rodd Twmi yn un da desprad ar i linie, ac ar
i dra'd, he'd. Mae pishyn H.K. wedi cwnni shew o hen bethach i'm meddwl i am
hen Gwrdde Gweddi a hen weddiwrs Caerffili, ac os ych chi'n fo'lon, Mr. Gol.,
fe hala i dicyn am rai o honyn nhw i DARIAN, fel bwy'n gallu, os gnewch chi
wella ticyn ar y mhishis i, a thicyn o orffennol y lle yn gyffredinol he'd. A
fe licwn i'n fidir petai H.K. yn hala hanes Cwrdde'r Cymreigyddion, wa'th ma
Dafydd Rogers yn gweud wrtho i u bod nhw'n cal cwrdde piwr digynnig. Odd e'n
gweud na chlws i shwd beth ariod. yn i fywyd a gwnitog y Seison, Van Road, a
gwnitog y Twyn, - Mr. Pryce Evans, a Mr. J. N. Jones y galws e nhw — yn dadla
ar "Pa un a'i montish neu anfontish yw enwadaeth?" "Shwd o'n
nhw'n dadla, Dafydd?" myntwn i. "Battle of the Marne odd hi a'r
fencos i," mynte Dafydd. Fe licwn i'n fidir ta fe'n sgrifennu'n weddol
gyson i'r DARIAN, wath 'dwy ddim yn gallu mynd i'r cwrdde sha Chaerffili nawr
oddar ma'r rwmitis yn y nghymale i, a ma Herbert yn gallu sgrifennu'n iawn,
'blecid ro'dd e'n dileito lot miwn steddfota pan odd e'u grwt yn gwitho da fi
yn Tymelyn cyn iddo fe fynd off. EMWNT MATTHO. |
|
|
|
20-02-1919 Y Waunwaelod, Caerffili. Syr, — Sguswch fi, wir, 'blegid
wyddwn i ddim ych bod chi'n "syr" nes i fi weld fod Herbert Kenfyn
yn ych galw chi. Fe wyddwn ych bod chi yn itha tilwng i fod yn
"syr"—yn fwy tilwng na sopyn sy'n gwishgo'r enw 'blegid rych chi yn
gwsneuthu'ch cenedl yn ol wyllys Duw, a rwy'n onfi nag ych chi ddim yn neud
ffortun, he'd, gyda'r jobyn; ond ta beth am hynny, wadwch bant, 'blegid rych
chi yn olynieth y gwir wlatgarwyr, ac os byddwch chi byw am dicyn, a gobitho
y byddwch chi, wa'th fe allwn ni sparo lot yn well na chi, sy'n neud shew byd
mwy o fwstwr, fe gewch chi weld y DARIAN yn allu desbrad yn y South 'ma, ac
yn y South y ma' timlo pyls Cymru. Down i ddim wedi meddwl hala dim i'r
DARIAN yr wsnoth hyn nes i fi ddarllen pishyn dwetha H.K. Ma' 'na un neu ddou
o bethach yn i bishyn e ddyle ga'l sylw Cymregyddion Ca'rffili, a falle,
he'd, Cymregyddion llefydd erill. Ma' H.K. yn rong wrth weud nad o's ond y
cwpwl ma' fe wedi enwi yn pyrnu'r DARIAN. Fe wn i am bothtu 20 yn i phyrnu hi
bob wsnoth, a ma peth o'r credit yn dod i Emunt Matho am denyn nhw, a fe glwa
i swn tra'd rhacor yn mynd i'w hordro hi. Cwnnwch chi'ch calon,
"syr," os w i yn nabod H.K., a wi'n dishgwI y mod i, chaiff
Cymregyddion Ca'rffili ddim llonydd nes y byddan nhw'n pyrnu'r DARIAN bob
jac. Ma na rai ishws wedi towli i ngwmed i mod i'n ca'l yn nhalu am gisho
scwto ticyn ar y DARIAN, a bod H.K. yn un o'r cwmpni, ond celw'dd i gyd yw e,
'blegid do's dim yn dod miwn i'n ty ni, ond y nwarnod gwaith ag iddyn' nhw
gal gwbod y cwbwl, do's 'da fi ddim rhyntw i a'r wyrcws ond mochyn, a chwpwl
o ffowls, a dou glwb, a Shuan, a'r Rhagluniaeth fowr, a dyna ddigon, on'te
fe, "syr"? A do's 'da H.K. ddim shars yn y cwmpni, 'blegid fe wedws
wrtho i pwy ddwetydd fod bylc i arian e mas ar
iws miwn cornd bif yn y Merica. Ma' R.K. yn abal, do's dim dowt, a fe glwes i
hanner gair i fod e'n mynd i roi cino fowr i'r Cymregyddion acha nos Gwyl
Dewi, o fla'n cwrdd Llaethferch, a'i fod e'n mynd i roi i lun yn i musquash
cot i bob eulod, ond fod yn rhaid 'i bob eulod fod yn pyrnu'r DARIAN yn
regilar, a dod a'r copi am yr wsnoth 'dag o sba'r gino, a he' d, ych bod
chithe, syr, i ga'l ych gwawdd. Dyna glwes i, a Ifan Griffis sy'n i weud e
obothtu'r dre. Yr odd 'na un peth arall ymhishyn H.K.
ag own ni am weud gair arno fe. Fe wedws yn bod ni wedi ca'l drama yn y
Gymdithas pwy nos, a rodd e yn i chamolws hi, a chamolws e ddim gomrod,
'blegid fe nath pob un i waith yn ffamws. Fe wedws, os sylwoch chi, fod y
pyrgethwrs a'r deconied, a fe’u henws nhw, yn rhoi'u bendith ar y ddrama, ac
fe dowlws hint u
|
|
|
(delwedd J7639b) (20 Chwefror 1919) |
bod nhw yn bendithio'r Thietar
Sisnag wrth gamol y ddrama Gymrag. Rwy'n nabod Henry John flynydde cyn iddo
fe symud o Llys Fân, a fiws o ariod miwn Thietar, a dyw e ddim yn meddwl
mynd, ac am Ifan Griffis, yr hen biwritan cryf, fe ele fe i gadw'r White Lion
cyn rhoi i fendith i'r Thietar Sisneg. Yr hyn o'dd y pyrgethwrs a'r deconied
sharadws yn y cwrdd yn i weud o'dd fod y ddrama Gymrag yn foddion i gwnnu
chwaeth y bob! at bethach Cymrag, a thynnu mas dalent, a dysgu hanes a bywyd
yn gwlad ni. A phwy ddwetydd, fe drows Mr. Pryce Ifans i miwn, a fe yfws
ddisgled o de 'da ni. Ma fe’n amal o bothti'r mynydd ma, a rodd 'dag e gi du
mowr. "Beth yw'r ci 'ma sy' 'da chi,
Mr. Ifans?" "Ci Mr. Jones, y Twyn,"
mynte fe . "Gida fi mynnyth fod.” Ond ma'r cymdocon yn gweud taw a'r shâr
ma'r ci gida nhw'u dou, a'i fod e wedi bod yn ange i lawer gwiningen. Ond
dyna own i am weud fod Mr. Ifans wedi diall y pyrgethwrs, a rodd e' yn un o
honyn' nhw, a'r deconied, yr un fath; a finne. Sdim o ni ishe y Thiettar
Sisneg I fywyd Cymru, wath ma' 'na ryw dawch afiach obothtu 'ddi sy'n
gwenwyno bywyd gore; a be siwr yw e, sdim o ni'n moin y teipo gymeriad tebyg i'r actor Seisnig.
Fe wedws Clement Scott, a Thietar critic o'dd e, fod bywyd y Thietar, or top i'r
gwilod, yn bwdwr, a ro’dd e’n gwbod am beth o'dd e'n whilia. Dyn dishefwn ni!
Meddyliwch am Ifan Griffis yn rhoi a fendith ar y Thietar wrth gamol y ddrama Gymrag! Do's ganto fe ddim
mwy o gewc ar Thietar nag sy gan gath a'r fwstard, nagos wir. Ifan Griffis,
er ych bod chi dicyn bach yn henach na fi, yto cymwch chi gyngor ’da fi,
pidwch chi a llyncu popeth ma’ H.K. yn I weud, 'blegid er i fod e’n fachan
piwr, ma’ ’na lot o Ianci dwdl noshiwns yn i ben e. Sticwch chi i bwsho'r
DARIAN a'r bobol Ca'rffili, a fe na inne ngore o bothtu’r mynydd 'ma. A
Dafydd Rogers, fe ellech chi neud lot mwy nag ych chi'n neu[d] nawr.
Mwstrwch, y dyn! EMWNT MATHO. |
|
|
…..
xxxxx
Sumbolau:
a A / æ Æ / e E / ɛ Ɛ /
i I / o O / u U / w W / y Y /
MACRONː ā Ā / ǣ Ǣ / ē
Ē / ɛ̄ Ɛ̄ / ī Ī / ō Ō / ū Ū / w̄
W̄ / ȳ Ȳ /
MACRON
+ ACEN DDYRCHAFEDIGː Ā̀ ā̀ , Ḗ ḗ,
Ī́ ī́ , Ṓ ṓ , Ū́ ū́, (w), Ȳ́
ȳ́
MACRON + ACEN DDISGYNEDIGː Ǟ ǟ , Ḕ ḕ, Ī̀
ī̀, Ṑ ṑ, Ū̀ ū̀, (w), Ȳ̀ ȳ̀
MACRON ISODː A̱ a̱ , E̱ e̱ , I̱ i̱ , O̱
o̱, U̱ u̱, (w), Y̱ y̱
BREFː
ă Ă / ĕ Ĕ / ĭ Ĭ / ŏ Ŏ / ŭ Ŭ /
B5236ː B5237ː
BREF
GWRTHDRO ISODː i̯, u̯
CROMFACHAUː ⟨ ⟩ deiamwnt
A’I PHEN I LAWRː ∀, ә, ɐ (u+0250) httpsː //text-symbols.com/upside-down/
Y WENHWYSWEG: ɛ̄
ǣ æ
ˈ ɑ ɑˑ aˑ aː / æ æː / e eˑeː / ɛ
ɛː / ɪ iˑ iː ɪ / ɔ oˑ oː / ʊ
uˑ uː ʊ / ə / ʌ /
ẅ
Ẅ / ẃ Ẃ / ẁ Ẁ / ŵ Ŵ /
ŷ
Ŷ / ỳ Ỳ / y Ý / ɥ
ˈ ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ
/ aɪ ɔɪ əɪ uɪ ɪʊ aʊ ɛʊ ɔʊ
əʊ / £
ә ʌ ẃ ă ĕ ĭ ŏ
ŭ ẅ ẃ ẁ Ẁ ŵ ŷ ỳ Ỳ
Hungarumlautː A̋ a̋
U+1EA0 Ạ U+1EA1 ạ
U+1EB8 Ẹ U+1EB9 ẹ
U+1ECA Ị U+1ECB ị
U+1ECC Ọ U+1ECD ọ
U+1EE4 Ụ U+1EE5 ụ
U+1E88 Ẉ U+1E89 ẉ
U+1EF4 Ỵ U+1EF5 ỵ
gyn aith δ δ £ gyn aith δ δ £ U+2020 †
« »
DAGGER
wikipedia, scriptsource. org
httpsː []//en.wiktionary.org/wiki/ǣ
Hwngarwmlawtː A̋ a̋
gyn aith δ δ
…..
…..
ʌ ag acen ddyrchafedig / ʌ with acute accentː
ʌ́
Shwa ag acen ddyrchafedig / Schwa with acute |
…..
…..
wikipedia,
scriptsource.[]org
httpsː//[ ]en.wiktionary.org/wiki/ǣ
---------------------------------------
Y TUDALEN HWN: www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion-prys_359_waunwaelod_y-darian_3805k.htm
---------------------------------------
Creuwyd: 08-03-2023
Adolygiad diweddaraf : 08-03-2023
Delweddau:
Ffynhonell: Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Newyddiaduron Arlein.
---------------------------------------
Freefind. |
Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymweld ag
un o dudalennau'r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sóc? Esteu
visitant una pagina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Gal·les-Catalunya)
Where am I? You are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia)
Website
Weə-r äm ai? Yuu äa-r viziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA
(= Weilz-Katəlóuniə) Websait
Adran
y Wenhwyseg / Secció del dialecte de Gwent / Gwentian Welsh
Edrychiadau ar y
tudalennau / Vistes de les pagines / Page Views
Edrychwch ar ein Hystadegau / Mireu les nostres
Estadistiques / View Our Stats