kimkat3804k Gwaith Barddonol Islwyn. 1897. William Thomas (Islwyn), Yr Ynys-ddu, Sir Fynwy (1832-1878) (rhan o Fwrdeistref Caerffili ers 1966).

10-05-2023





 .....

Gweler hefyd / Vegeu tambe / See also:

.....

0003_delw_baneri_cymru_catalonia_050111
..
 
 
 
 
 
 
 

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les
 
 
Cywaith Siôn Prys - Testunau Cymraeg ar y We
 
Gwaith Barddonol Islwyn. 1897.
William Thomas (Islwyn) (1832-1878).

RHAN 1/9. Tudalennau 0-99.
 


 

 

Map

Description automatically generated
(delwedd 7282)


Shape, circle

Description automatically generated https://translate.google.com/

(Cymraeg, catala, English, euskara, Gaidhlig, Gaeilge, Frysk, Deutsch, Nederlands, français, galego, etc)

...

www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion-prys_386_islwyn_y-gyfeirddalen_3803k.htm
Y Gyfeirddalen.
.....
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion-prys_386_islwyn_000-099_RHAN-1_3804k.htm
Rhan 1. Tudalennau 0-99
.....
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion-prys_386_islwyn_100-199_RHAN-2_3805k.htm
Rhan 2. Tudalennau 100-199.
.....
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion-prys_386_islwyn_200-299_RHAN-3_3806k.htm
Rhan 3. Tudalennau 200-299.
.....
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion-prys_386_islwyn_300-399_RHAN-4_3807k.htm
Rhan 4. Tudalennau 300-399.
.....
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion-prys_386_islwyn_400-499_RHAN-5_3808k.htm
Rhan 5. Tudalennau 400-499.
.....
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion-prys_386_islwyn_500-599_RHAN-6_3809k.htm
Rhan 6. Tudalennau 500-599.
.....
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion-prys_386_islwyn_600-699_RHAN-7_3810k.htm
Rhan 7. Tudalennau 600-699.
.....
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion-prys_386_islwyn_700-799_RHAN-8_3811k.htm
Rhan 8. Tudalennau 700-799.
.....
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion-prys_386_islwyn_800-864_RHAN-9_3812k.htm
Rhan 9. Tudalennau 800-864.
.....

A person with a beard

Description automatically generated with medium confidence

(delwedd J7768)


llythrennau duon = testun wedi ei gywiro

llythrennau gwyrddion = testun heb ei gywiro

 

 

 

GWAITH BARDDONOL
ISLWYN.

 

1832 — 1878.

“Y mae y byd yn santaidd yn y nos,
A’r ysbrydolfyd fel yn un ag ef."

1897.


ARGRAFFWYD DROS OWEN M. EDWARDS GAN HUGHES A’I FAB, GWRECSAM.

 

 

LIBRARY OF THE UNIVERSITY OF WISCONSIN

 

 

 

 

 

 


 

 

RHAGYMADRODD.


Fy nyledswydd i oedd rhoddi i'r cyhoedd holl waith barddonoi Islwyn allwn gael; rhwng y dyfodol a phrofi faint sy'n anfarwol.

 

Diolch, am gennad i gyhoeddi peth gyhoeddasant hwy, i'r Mri. Hughes (Caniadau Islwyn, detholion o'r "Ystorm," "Cymru," &c.); Mr. Gee {Marwnad Dr. Parry, 1875); Mr. I. Jones (Awdl y Nefoedd); Mr. Duncan (darnau yn y Cardiff Times).

 

Cyhoeddwyd hefyd yn ystod bywyd Islwyn, — Barddoniaeth yn 1854 ("Myddfai,' '"Yr lesu a Wylodd," "Yr Adgyfodiad," "Glyn Ebwy," "Aeth blwyddyn heibio"); Albert Dda yn 1869; Ymweliad y Doethion (gydag "I’m Hathraw" ac "Yr Angor") yn 1871, Marwnad David Jones yn 1871; John Jones Blaen Annerch yn 1877. Ymddanghosodd llawer o’r darnau byrion a detholion o'r darnau hwyaf yn y Traethodydd, Drysorfa, Cylchgrawn, Dysgedydd, Gwerinwr, Ymgeisydd, &c.; ac yng nghofnodion Eisteddfodau.

 

Codwyd cynnwys y gyfrol hon bron i gyd o lawysgrifau Islwyn, cydmarwyd y gwahanol lawysgrifau â'u gilydd ac â rhannau oedd wedi eu cyhoeddi, a'm hymgais oedd rhoi pob llinell ysgrifennodd i mewn. Faint fuasai ef yn gyhoeddi nis gwn; tybiaf y bydd pob gair yn y gyfrol yn werthfawr i Gymru.

 

Trefn damwain yw'r drefn. Ond rhoddir rhestr o’r gweithiau y gwyddis eu hamseriad i sicrwydd, fel y gallo'r efrydydd wylio dadblygiad awen Islwyn.

 

Dymunwn ddiolch i Mr. Daniel Davies, Dyfed, Dafydd Morgannwg, a lliaws o gynorthwywyr parod ereill, ac i dros bum cant o danysgrifwyr.

 

OWEN M. EDWARDS.

 

Llanuwchllyn, Ionawr 1, 1897.

 

 



BLYNYDDOEDD ISLWYN

1832. Geni Islwyn.

1850. Y Gerbydres. Abram yn aberthu Isaac.

1852. Cywydd Ffydd. Morgan Howel.

1853.

Mawrth 16 Amser.
Mai 17 Gwagedd o wagedd.
Mai 17 Machludiad Haul.
Mai 17 Y Ser.
Mai 17 D. R. Stephen.
Meh. 3 Yr Eryr.
Meh. 5 Y nos yn mynegu.
Meh. 5 Pa beth yw ieuenctid.
Meh. 5 Yr Arglwydd sy'n teyrnasu.
Meh. 5 Y nos y bradychwyd ef.
Meh. 8 Udgorn y Jubili Milflwyddol.
Meh. 9 Daeth yr awr.
Meh. 9 Lle'r ydwyf fi yn myned.
Meh. 10 Oni ellych chwi wylio un awr?
Meh. 18 Gorffennwyd.
Meh. 14 Preswylfa'r bardd.
Meh. 15 Mawl i Dduw.
Meh. 16 O ddyfnder môr.
Meh. 16 Arglwydd y lluoedd.
Meh. 16 Y Groes.
Meh. 17 Cofiaf chwi.
Meh. 17 O Dad, maddeu iddynt.
Meh. 17 A Phedr a ganlynodd o hirbell.
Meh. 17 Carnhuanawc.
Awst 29 E. Morgan, Caer Dydd.
Awst 29 Fy chwiorydd.
Medi Carnhuanawc.
Hydref 6 Byrdra pob peth. (Yng Nghaer Dydd).
Hydref 12 Adgofion Serch.
Hydref 24 Marw Anne Bowen yn ugain oed.
Tach. 14 Hawddamor, Nos. (Yng Nghaer Dydd) .
Tach. 16 Ceisio gloewach nen.
Tach. 26 Fy Mreuddwyd.
Rhag. 7 Y Wenynen. (Yn llys Arglwyddes Llanofer).
Rhag. 15 Awn hyd Bethlehem.
Rhag. 15 Y Bardd.
Rhag. 17 Distawrwydd y Pregethwr.
Rhag. 17 Yr leuanc Hen.


1854.

Ion. 17 I’m cyfaill Peredur,

 


1854.

Ion. 20 Englynion Gnodau (y 14 cyntaf).
Ion. 20 Syr Robert Peel.
Mawrth Efengyl fwyn, ehed.


1854.— 1856. Yr Ystorm.


1856.

Mai 19 Dechreu ysgrifennu’r Ystorm.
Cenedl y Cymry.
Rachel.


1857. Y Genhadaeth Gristionogol.


1858. Rebeca Jones, Pontypridd.


1859. Echryslonrwydd Rhyfel.


1862. Er Cof,— Mrs E. Williams.
Priodas, — D. Roberts a K. Lewis.


1863. Er Cof,— R. Jenkins.
Er Cof, — Mrs. Hopkins.
Albert Dda.
I'm Hanwylyd.


1866. Yr Ymfudwr a'i Gariad.
Y Bugail a’i gi.
Priodas Thomas a Fisher.
Pellebyr Môr y Werydd.
Bedd Cyfaill.
Ai breuddwyd yw bodolaeth.


1867. Ymweliad y Doethion.


1868. Y Wawr.


1869. Yr Ysbiadur.


1870. Clod Richard Hughes.
Ymadawiad D. Edwards.
Bedd Talhaiarn.
Marwnad David Jones.
Y Nos.


1872. Er Cof, — Mr. Edwards, Abercam.
Y Groes.
Moses.


1873. Caned Clychau Rhondda.
Priodas J. Morgan ac Ellen Jones.


1874. James Henry a Jehoiada.
Nicander.
Cartref.
Marwnad Dr. Parry.


1875. Emrys.


1876. Rachel.
Er Cof am Ann.


1877. Sarah Ann Lewis.
Y Nefoedd.
Caroline Mary Davies.
John Jones, Blaen Annerch.
Y Weddi Anorffennol.


1878. Marw Islwyn.
 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

ISLWYN YN 1859, YN SAITH AR HUGAIN OED.

 

 
Ganwyd Islwyn Ebrill 3, 1832, mewn t
ŷ yn agos i'r Ynys Ddu, pentref bychan yn nyffryn y Sirhowy, hanner y ffordd rhwng Tredegar a'r Casnewydd; ac wrth droed Mynyddislwyn y treuliodd ei oes. Morgan a Margaret Thomas oedd ei rieni, a William Thomas oedd yr ieuengaf o’u naw plentyn. Cafodd addysg yn ysgolion blaenaf Mynwy a Morgannwg, — yn Nhredegar, Casnewydd, y Bont Faen, ac Abertawe. Tra yn Abertawe dechreuodd gyfeillachu â merch ieuanc o'r enw Anne Bowen; a phan oedd amser priodi wedi ei benodi, bu farw y ferch ieuanc yn dra disymwth. Ofnid yn hir mai dihoeni a marw a wneiai ar ol ei ddyweddi, ac y mae ol ei brofedigaeth fawr ar lawer o'i waith.



 vi. BYWYD ISLWYN.

 

Dechreuodd gyfansoddi’n fore, dan gyfarwyddydd Gwilym Ilid; ei frawd yng nghyfraith, y Parch. D. Jenkins, y Babell; ac yn enwedig Aneurin Fardd. Enillodd ar "Abraham yn aberthu Isaac” yng Nghefn Coed Cymer yn 1850, ar "Carnhuanawc" yn Eisteddfod y Fenni yn 1853. Ysgrifennai i'r Gylchgrawn, a chyhoeddodd Barddoniaeth yn 1854. Dechreuodd bregethu gyda'r Methodistiaid yn 1854. Rhagorai fel pregethwr mewn tlysineb a thynerwch, ond nid oedd yn ymddifad o nerth. Priododd Martha Davies yn 1864, o'r tŷ y buasai Anne Bowen yn byw ynddo.

Enillodd amryw gadeiriau, — yn y Rhyl am awdl Y Nos yn 1870, yng Nghaergybi am awdl Moses yn 1872; yng Nghaerffili am awdl Cartref yn 1874, yn Nhreherbert am y Nefoedd yn 1877. Curid ef weithiau, cododd i eilio diolch i Granogwen, wedi ei guro ar y Fodrwy Briodasol, fel hyn,


“Rhaid addef mwy, hi bia'r gân,
Hi nghurodd i yn ddigon glân;
Gwir fod y testyn yn bwrpasol
I ferch— “Y Fodrwy Briodasol;"

Peth chwithig oedd mewn merch mor fâd
I guro'i hawenyddol dad —
Mae hyn yn arwydd digon siwr
Y bydd i'r Farddes guro’i g
ŵr."


Bu’n golygu'r Cylchgrawn, yr Ymgeisydd, y Glorian, y Gwladgarwr, a barddoniaeth y Faner a'r Cardiff Times. Beirniadodd lawer hefyd. Bu farw Tachwedd 20, 1878.

Bychan hytrach ydoedd o gorffolaeth, ac ysgafn, tua phump troedfedd a chwech modfedd o daldra; yr oedd o bryd tywyll, a’i ymddanghosiad yn llednais a gwylaidd; yr oedd y pen yn fawr, gryn lawer yn fwy yn ol y cyfartaledd cyffredin na'r corff, ond nid oedd y gwahaniaeth gymaint fel ag i dynnu sylw, ac i wneyd y peth yn hynod. Yr oedd y wyneb yn hir, ac yn hardd, a'r trwyn yn lluniaidd, heb fod yn fawr, a'r gwefusau hytrach yn drwchus, a thoriad y genau yn brydferth; yr oedd y talcen yn fawr iawn, yn cyfuno uchder a lled, ac anaml y gwelwyd talcen o'r fath uchder mor llydan a gwastad hefyd; yr oedd y llygaid, y rhai oeddynt yn llechu o dan aeliau trymion, yn llawn, yn fawrion, a disglaer, a'u trem ymhell.

D. Davies.




CYNHWYSIAD.


Y ST0RM.
tudal.
I. — Mae’r oll yn gysegredig .....1
II. — Byd heb storm ..... 9
III. — Y Rhuthr .....33
IV. — Y Graig .....35
V. — Y Gwyntoedd .....39
VI. — Ceisio Gloewach Nen .....52
VII. — Mynyddoedd Adfyd .....53
VIII. — Iaith y Planedau .....65
IX. — Yr Haul ..... 66
X. — Y Môr .....100
XI. — Y Llifeiriant .....122
XII. — Y Diluw .....134
XIII. — Y Storm Olaf.....136
XIV. — Diwedd “Y Storm” .....139


Cartref.....145
Fy Nhad .....153
Fy Mrawd .....160
Fy Nai tuhwnt i'r môr .....162
Fy Nai tuhwnt i'r bedd .....163
I'm Hathraw .....164
Lille .....166
Ar fedd chwaer .....166
Fy Mam .....167
Er Cof, — Mrs. Jones .....171
Y Fynwent .....172
Gardd Eden .....185
Johnny a Thomas Francis .....192
Y Nos, - Awdl .....193
Y Wawr .....213
JOHN JONES BLAEN ANNERCH .....218
Nicander .....226
Emrys .....227
Thomas Richard Abergwaen .....239
Mrs. Jones Blaen Annerch .....242
GWEDDI .....243
Yr Hen Weinidog .....256
I'r Angor .....256
David Jones Treborth .....257
Nis gall y fflam .....266
Angel .....267
Y Caethgludiad .....277
Saint Enlli .....281
Odlau Priodasol .....284
Ymweliad y Doethion .....285
Calfaria .....300
MOSES .....301
Y Groes .....319
Cyfryngwr .....329
Albert Dda .....331
Sabboth Gartref.....356
Beddargraff D. Edwards .....356
Y Nos .....357
Er Cof, — Mr. Edwards ..... 35Q
Dr. Parry y Bala .....361
Yr Adgyfodiad .....370
Cymru .....371
Llangeitho .....395
Llywelyn .....396
Ffontygeri .....398
Cleddyfau y Brythoniaid .....399
Anwyldeb Cymru .....400
Pontarfynach .....402
Stormio Uffern Ddu (Efelychiad) .....402
Cenedl y Cymry .....403
Abou Ben Adhem .....432
Preswylfa'r Bardd .....433
Cathl Hiraeth .....434
Fy Chwiorydd .....435
Adgofion Serch .....440
MewnAdgof.....442
Y fodrwy briodasol .....444
Lle yr wyf fi .....445
Cystudd yn y Gwanwyn .....447
Adgof.....447
Cynwyniad y Caniadau .....448
Y Nefoedd .....449
Odlau Hiraeth .....462
Beddargroff Heman Gwent .....462
Carnhuanawc .....463
William Parry .....480
Adgofion am Benjarnin Miles, Pantywyll .....481
Sarah Ann Lewis .....483
Nora Rachel .....485
Annie Mary .....486
Er cof.....487
William John, Abertawe .....488
Er cof am Ann .....490
Y Morwr .....491
Y Parch. W. Morris Tyddewi .....494
Dr. Harries Jones .....495
Tysteb D. Howells .....497
Englynion Priodasol .....499
Y Gwanwyn .....500
Er Cof.....501
Rhuddos y Morfa .....502
Y Gwyddfid .....503
John James .....503
Ar ol y frwydr .....504
Sant Paul .....505
David Howells Abertawe .....531
Udgorn y Jubil Milflwyddol .....536

 

 

VIII.
CYNHWYSIAD.
TUDAL.

Yr Arglwydd sy'n teyrnasu .....539
Pa beth yw ieuenctid .....539
Y nos yn mynegu gwaith ei ddwylaw ef.....540
Gwagedd o wagedd, gwagedd yw y cwbl .....540
Machlud Haul .....541
Y Ser .....542
Amser .....542
I'r Eryr .....543
Nos y bradychu .....546
Daeth yr awr .....554
Gorffennwyd .....556
Ant Heibio .....557
Pedr .....557
E Morgan .....558
Salmau .....561
Emynnau .....564
Cyfaill .....566
Rebecca Jones .....566
Caroline Mary Davies .....507
David Morris .....569
Clychau Rhondda .....569
Gweddi .....570
Lazarus .....571
Mewn gwlad bell .....57?
Clod Lletygarwch .....572
D R Stephens .....573
Caledfryn .....581
Er Cof, - Mr Hopkins .....582
Llinellau Galarnadol .....583
Er Cof, — R Jenkins .....584
Cân o Glod .....585
Er Cof, — dau blentyn .....587
Pellebyr Môr y Werydd .....588
Myddfai .....589
Aberthu Isaac .....597
Y Groes .....609
Angau .....614
Adgyfodiad .....644
Hiraeth .....614
Yr Ysgol Sabbothol .....615
Aberth Crist .....615
Morgan Howel .....616
Cywydd Fydd .....617
Y GWEDDNEWIDIAD .....621
Fy Mreuddwyd .....637
Y Bardd .....643
Awn hyd Bethlehem .....652
Iesu a wylodd .....653
Yr Adgyfodiad .....656
Glan Ebbwy .....657
Aeth Blwyddyn Heibio .....657
Yr Ysbiadur .....657
Fy Ngardd .....658
Fy Rhosynau .....664
Distawrwydd y Pregethwr .....665
Yr Ieuanc Hen .....667
Peredur .....667
Ynglynion Gnodau .....668
Syr Robert Peel .....670
Yr Ymfudwr a'i gariad .....672
Y Bugail a'i Gi .....674
ECHRYSLONRWYDD RHYFEL .....675
Y Genhadaeth .....689
I'm Hanwylyd .....769
Y Gerbydres .....773
Er Cof, - E Williams .....771
Chwedl .....772
Cymru, — Awdl .....773
Enaid .....801
Y Milflwyddiant .....804
Tybiaeth .....805
Bywyd fel y nef.....806
O Hapus Luddedig .....806
Y Dylanwad .....810
Gwelwch y fan .....811
Y Bryniau .....812
Y Beibl .....818
Trefeca .....824
Rhinwedd .....825
Ai breuddwyd yw bodolaeth .....827
Y Dderwen .....828
Ymadawiad D Edwards .....829
I Gyfeilles .....829
Bedd Evan Harries ..... 830
Anorffennol .....830
Llongyfarch .....830
Maer Abertawe .....831
Y Gelyn ..... 834
Ar fedd Talhaiarn ..... 835
Y Llen Leidr ..... 836
Y Cadeirfardd Marw .....837
Dechreu Canu .....837
Elias y Thesbiad .....838
Rhos Igol, Cae'r Ffynnon .....844
Dod adre o’r Odfa .....845
Y Wyddfa .....845
Barn Beirdd Pwllhell .....845
Y Beddau .....845
Mis Tachwedd .....846
Adeg Ethollad .....846
Yr Ysgol Sul .....846
Evan Harries .....847
Sion Wyn o Eifion .....847
Anfarwol Ddyn .....848
Clod .....849
David Bach .....852
Gwrthryfel Llafur .....853
Gormes Cyfalaf.....853
Dol .....854
Darganfyddiad Glo ..... 854
Priodas Gwilym Teilo .....855
Cartref.....856
Priodas .....858
Ystorm Fellt .....859
Yr Andes .....860
Tawelu'r Ystorm .....862

 

 

 

Y STORM.

I.

 

Y Storm. Mae'r oll yn gysegredig. Ysbrydoliaeth Natur.

PA bryd, O Natur deg, y'th ddysgwyd di
Fyth bythoedd i wedd-newid, ac i roi
I'r tawel a'r ystormus ar dy wedd
Gellweirio fyth, a bythol watwar dyn,
Rhy watwaredig eisoes, nes ei gael
Yn uchel ar y mynydd neu y môr;
Ei ddenu trwy y borau dros y fro,
Neu dawel hynt, o wddf yr afon lefn
Ymlifiad, hyd freuddwydion hedd y don,
Ddistawrwydd anian, pan orffwyso’r môr
Gan ddisgwyl am y ser, a gair y nos;
Ei dawel ddenu oni wywo'r lan
Fel ymyl breuddwyd i'r eangder pell,
A beddu'r penrhyn yn y berwol f
ŷr,
A gweled draw ystormus ael y graig
Ac adfail y goleudy ar ei brig,
A gorsedd gan y storom yno mwy?

O siomedigaeth na chyrhaeddodd bedd
Mo'i ddyfnder, na marwolaeth erch ei ing!

Paham na throai bywyd, gyda bod
Yr enaid ar ei drothwy, oll o'i gylch
Yn llefau o wylofain ac o wae,
A'r cryd yn adfail arnom? Felly mae
Per awel bore-fwyniant am y dyn
Yn chwareu ei hadenydd balm-ddyferol,
Nes swyno'r enaid, fel ar lif o gân,
I uchder y tragwyddol wynt, lle mae
Y gân yn darfod mwy, a'r awel lem
Yn deifio'r enaid hyd yr olaf obaith,
Oll hyd deneurwydd angeu. Awel bêr!
Pa bryd y'th unwyd dithau â'r ystorm,



2 GWAITH ISLWYN.


Ac y dechreuaist dithau ganu o'i thu?
Hudoles bêr o gylch yr aber lon,
A'th galon gyda'r daran bell a'r môr!
Pa beth yw storom? Awel yn ei grym.
A siom? Daearol obaith wedi cael
Ei lawn helaethrwydd, ac yn chwythu mwy
Y peth ofnadwy ydyw. Awel bêr
Oedd honno hudodd oddiar y lan
Yr enaid newydd dirio ar draeth bywyd,
Yn gwrando curiad ei ddedwyddaf galon,
Yn peraidd adsain hyd funudau llon
Y gyntaf awr, y ddedwyddolaf gaed.


Fel pe na bai eu gwedd yn ddigon braw,
Mae'r tonnau yn ymleisio yn y gwynt,
Ac angeu ac anobaith yw eu hiaith.
Fel pe bai'r daran a'i holl fyd o sain
Draw wrth ymchwalu ar y tywyll fôr
Yn myrdd ymrannu hyd y tonnau rhwth,
Gan ymfytholi ar yr eigion mawr.
Cydruant yn ei mawredd, yn ei holl
Urdduniant dwyfol hi. Ond pwy a ddeil
Daranau y gorddyfnder, a mynediad
Y môr a'i ruol gedyrn! Forwr tlawd,
Pererin blin y don, y mae dy wedd
Yn duo gan ystorom ddyfnach fyth,
Lle cryn yr enaid ar ei olaf graig,
A thragwyddoldeb yn melltenu i mewn,
A tharan o gydwybod, pwy a
ŵyr,
Yn siarad am dymhestloedd uwch drachefn,
Am foroedd tywyll o anfeidrol wae,
A nos rhy ddofn i oleuni ser,
Lle mae goleuni Duw yn darfod byth,
A'r enaid marwol yn ymdreiglo dros
Y fraich dragwyddol mwy. Dwed, forwr blin,
Os rhydd dy enaid o’r arswydion hyn,
Pa le y mae dy feddwl? Gyda phwy
Dy galon drom, os gwyddost? Onid yw
Dy enaid eto'n fwy na’r dymhestl hon,
Ymhell tuallan iddi, ac yn uwch
Ei ehediadau na'r holi wyntoedd hyn?
Mae'r enaid fyth yn fwy na'r byd, a'r bedd
Fel troedfainc anfarwoldeb dan ei sang.
Mae'n uwch na'r byd ar ben holl fryniau'i fri,
Ac o waelodion dyfnaf ing a gwarth


3 Y STORM.


Rhed ei obeithion tua Duw a'r nef,
Fel cadwyn o fynyddoedd heibio'r haul,
A gwelaf ef yn cerdded dros ei wae
Dan ganu o'r tragwyddol. Ofer, fyd,
Y lledi di dy gwmwl arno ef
Sy'n dwyn o fewn ei fynwes fwy na'r haul,
Gan weled dros fedd-ddiffyg aruthr bod.

 
Y mae dy galon, forwr, oll o fewn
Yr annedd unig dan y bryniau pell;
Y muriau gwynion, a'r winwydden deg,
A myrdd o freichiau yn anwylo'r mur,
Y gylchawl wawr o ros ar hyd y sail,
Y glwyd bêrgolyn, gwyrdd y ffynnon grai, —
Ymgwyd y cyfan ar dy enaid blin, '
A rhywun o anwylach adgof fyth,
Nad oes gan amser ddyfnder i lenhâu
Ei delw rhagot, na chan angeu fedd
Rhy erch i'th enaid sefyll ar ei faen
A syllu ar ei hol, draw! lle nad yw
Bodolaeth ond rhyw wâg di-fwa mwy,
Rhyw godiad maith o rithiau oddiar
Eithafoedd pob rhyw oes. Llif llawer ton,
Fel llawer awr, ogyfuwch yn y gwynt,
A llawer bryn o fôr aelguchiog lif,
Dan groch daranu heibio, heb i ti
Ei chanfod gan y mewn-ymdroad hwn
O'th holl feddyliau am un adgof bêr,
Un canol-deimlad i'r holl enaid mawr.


Braw! mae y môr yn codi dros y cwbl,
A phob rhyw don fel llanw ynddi ei hun,
A llawer craig o ddyrchafedig ael
Na wêl y don ond unwaith ym mhob oes
Ei breiniol uchder, collir hithau dan
Y nos o ddyfroedd sydd yn dwyn y nef
A byd y gwyntoedd ar ei beilchion f
ŷr.
A llawer traeth dragwyddol gollir mwy,
Dragwyddol ymneilldua o
ŵydd y byd
I bell gymundeb gorddyfnderau'r môr,
Lle ni ddaw borau mwyach nes y daw
O wyneb Duw ei hunan, pan y ffy
Cymylau amser oll, a'r bedd, o'i flaen.


Mae ysbryd barn a distryw ar y byd!
A moroedd godant ar ei alwad erch.


4 GWAITH ISLWYN.

 
A dychryn ddeil weithredoedd pennaf Duw,
A rhua'r ddaear, rhua'r nefoedd oll,
Fel pe bai'r bryniau yn ymgasglu i farn,
Fel pe bai cyfrif natur wedi dod
A barn-w
ŷs y Tragwyddol ar y byd.

O am eich aruthr ysbrydoliaeth chwi,
Y creigiau, chwi geryddwyr beilch y môr;
A chwithau, chwyddawl hyawdleddau’r dwfn,
Genhadau y gorddyfnder, wenyg ceidr,
Fytholion gedyrn yr ystorom fawr,
Y blaenaf yn y gwyntoedd, a’r diweddaf
O’i meibion i ymostwng; yn ymdroi
Am ddyddiau yn ddigofus dan ei harch
Ar ol i'r byd lonyddu, a'r holl nef
Anghofio yr ystorom gyda phell
Freuddwydion amser. Tithau’r daran groch,
Y sydd dy hun yn dduwdod bron, a'th ru
Uwchben holl dyrfau'r cyfan fyd, — y peth
Fai tragwyddoldeb oddiar ryw awr
O waelion amgylchiadau, — O am radd
O'th fawreddogrwydd anherfynol, darn
O'th allu, o'r meddyliau pell tu draw
Sy’n brynio i'r Anfeidrol dros dy sain.

 

Paham yr atolygem o un nef,
Un bryn tragwyddoledig, rym y gerdd?
Dos, taro hi, o fewn y graig mae'r dyfroedd,
Mae'r ysbrydoliaeth yn y pwnc i gyd.
Ac nid oes gan y nefoedd ddim i'w ddweyd
Ond a ddywedent ar y cyntaf oll.
Mae meddwl dirfawr yn dy ymyl, clyw
Mae'n gruddfan yn dy ymyl am ryddhad.
Fe all ei fod yn gorwedd yn y bryn
Er awr y greadigaeth, heb i un
O feibion Amser weld ei wawr erioed;
Boed i dy enaid godi arno mwy,
A'i ddwyn i olau y tragwyddol ddydd.
Fe all ei fod yn ofnog grwydro hyd
Y bannau pellaf ar y bryniau fry,
Gan bwyso weithiau ar y cwmwl aur,
Neu esgyn ar belydryn pur o ddydd, —
Fawreddog amnaid am ryw bellach byd,
Am ryw wirionedd uwch yn nhynged dyn.


5 Y STORM.


Rhyw awgrym a ddyferodd Ior fel ffafr
I'r bryn pellfrydig a phell-dremiol draw
A syllai i’r tragwyddol ar ei ol,
Pan ymagorai sabboth mawr ei hedd
I’w dderbyn eilwaith wedi gorffen gwaith
Y greadigaeth; dos, a dwg i lawr
Y gwylaidd feddwl, a phâr glywed mwy
Lon sain ei genadwri yn y byd.


O! y gafaelion o feddyliau drud,
Y ffrydiau aur o ysbrydoliaeth bur
A gladdodd y ddaeargryn cyn i'r byd
Eu gweled yno. Am na fynnai weld,
Derbyniodd Ior y cyfan iddo ei hun,
Y cyfan ar un farn, a daeth y bryniau
Digofus ar y deillion mewn un nos.
Dychymyg fu’n caethiwo'r ddwyfol ffrwd
I Helicon, yn casglu am un bryn
Yr awenolion a’r mwynderau gynt.
Fe roddes Natur awen ar bob ban,
Arwrgerdd i bob ton, ac i bob llif
Ryw arlif llawn o ysbrydoliaeth bêr,
A threfnodd yr Awenau dros y byd.
O ddedwydd adeg, pan y clywir hwynt
I gyd yn taro eu tragwyddol gerdd,
Pan welo natur jubiliaidd awr
Ei hysbrydolion leisiau, a phan ddaw
Gweithredoedd Ior, y gaethglud fawr, yn ol
Dan ganu am eu Duw a’u Tad, y modd
Y canent pan gychwynnai'r byd a’r ser,
Berorol bethau, o'r tragwyddol hedd.

Mae dyfroedd Helicon yn gwyrddu'r byd,
Yf lle y mynnot, Helicon yw’r cwbl.
Pamassus? Dacw ef, y mynydd ban
Y'th anwyd dan ei gysgod. Ni fu neb
O glod Homeraidd ar ei frig erioed.
Ond fe fu’r awel yno, a'r ystorm
Yn cyd-ddysgubo lleisiau'r byd ymlaen
Fel islais cydgasgledig Amser tan
Bell anthem tragwyddoldeb lawer tro,
A bu y cefnfor yno, gadael wnaeth
Y diluw awen nerthol ar ei frig,
Adgofion byd colledig; bu yr Ior
Ei hun yn cerdded dros y bannau hyn,


6 GWAITH ISLWYN.


Pan berai i'r oll i sefyll ar ei air,
Nes deuai eilwaith ar y cwmwl fry
I archu'r cyfan ymaith fel y cai
Y gofod oll i foroedd Duwdod mwy.

Mae'r oll yn gysegredig, mae barddoniaeth
Nefolaidd ar yr holl fynyddoedd hyn,
A bu — goddefer y wladgarol nwyf, —
Bu llawer brawd a chyndad hoff i mi,
Na edwyn neb eu henwau mwy na'u clod,
Ond taweledig rith yr oes a'u dug, —
Ar hyd y bryniau hyn ar lawer nawn
Yn canu neu yn wylo fel y caed
Profiadau bywyd. Ninnau gyda hwynt
Adawn gymunrodd o adgofion per,
Rhyw anadliadau a myfyrion syn,
I'r awel dyner eu mynwesu fyth,
Neu fyth i wywo ar y niwl uwchben.
Pa beth yw ffynnon Jacob? Y mae delw
Un mwy na Jacob ym mhob ffrwd trwy'r byd.
Fe aeth fy nhadau dros yr afon hon,
A'r holl awelon nefol lawer gwaith,
A'r lloer, a llawer seren ddwyfol wawr,
Ar haul, a'r daran hefyd. Mae y byd
I gyd yn gysegredig, a phob ban
Yn dwyn ei gerub a'i dragwyddol gainc.
Ac nid yw glannau yr AEgean pell, —
Penrhynion tragwyddol-wawr Groeg, y sydd
Yn codi gyda moroedd amser fyth,
Ac ar bob craig oleuni llawer oes, —
Ond rhannau bychain o farddonol fyd.
Ni chanodd Homer am y bryniau draw,
Ni welodd hwynt! Beth fuasai'r Wyddfa hon
Pe cysgodasai hi ei gawell ef?
Rhyw ardderchocach Ida yn ei gân
A dydd o dduwiau yn torri ar ei brig.
O! am yr oes, O! am y ganrif mwy
Ddyfera oddiar ei hasgell aur
Ar un o’ch bannau chwi, Eryri beilch,
Y Bardd ddeongla eich rhyfeddol iaith.
Dragwyddol archoffeiriaid yn y nef,
Yn gweini bythoedd oddiar y byd,
Offrymwch chwi ystormydd fyrdd i Dduw,
Rhyw un o geidrion natur ar bob ban;
A deil pob ban allorawg ar ei fin


7 Y STORM.

 

Ryw orwyllt wynt bob borau a phrydnawn,
A rhua o dan rwymau ceidr y graig,
Nes tawel farw ymaith i'r tragwyddol.
O am yr awr bar i ni glywed mwy,
A syn glustfeinio arnoch gyda'r ser,
Syn wrando a wrandawent hwy erioed, —
Eiriolaeth urddasolion bethau'r byd,
Yn pwyso oll draw ar orsedd-waith Duw,
Y goruchelder pell a nef y nefoedd.
O am y llaw a gerfiai arnom oll
Rai o'ch breuddwydion aruthr, ac a chwiliai
Bob craig a chwmwl, a phell rôl o niwl,
Am nerthol fyfyrdodau llawer oes,
Gruddfannau aruthr natur, lle y mae
Ei mynwes fawr yn chwyddo tua'r haul
Y dydd, a thua heuliau uwch y nos.

Boddlonaf ar dy ysbrydoliaeth di
Y bêr-awelog fro, a’th flodau ter,
Fel ser blagurol ar dy dyner las,
A thithau fryn, ym mhell orffwysfa'r niwl,
A'th rôlfawr ysbrydoliaeth di, y môr,
Sy'n rhuo yn dy gynhyrfiadau fel
Pe treiglit dragwyddoldeb ar y byd,
Gan ddwyn y Duwdod ar dy lif i farn,
I farn anffyddol fyd.

Ond pwy ai câ?
O, pwy gyrhaedda fyth eich graddau chwi,
A hedd anfeidrol eich myfyrion, pan
Ymseibio'r byd i feddwl am ei Dduw?
Dychymyg yw yr awen. Chwi, y creig,
A'ch brodyr o aruthrol deulu'r byd,
Sy'n meddu dwyfol wirioneddau'r bardd;
A chwi sy'n cynnal gyda'r nennau hyn
Arnefoedd uwch barddoniaeth, a'i holl ser.
Rhoer imi eistedd ar ryw graig a gweled!
Tyrd, ysbrydoliaeth dderch y fôr-don fawr
Sy draw yn ymwastraffu ar y traeth,
Tyrd, eistedd ar uchelach lif yr enaid
A fynnai arwain yr ystorom fawr,
Ystormydd bywyd hefyd, dros y gân!
Dos unwaith dros yr enaid, digon fydd.




8 AR WAELOD MYNYDD ISLWYN.


 

“Mae'r oll yn gysegredig, mae barddoniaeth nefolaidd ar yr holl fynyddoedd hyn.”,

“Bu llawer brawd a chyndad hoff i mi ar hyd y bryniau hyn ar lawer nawn." -Y STORM.

 

Ty Islwyn ar y terfyn a y dde; ty y Parch D. Jenkyns yn agosaf ato; y ty y ganwyd Islwyn ynddo yn nes atom.

9 Y STORM.


Y STORM.


II.


Byd heb Storm — dyn ar ddelw Duw, gallu ffydd, dyfodiad pechod a stormydd, adgof am y tawelwch fu. Paradwys.

PAN nad oedd amser eto wythnos oed,
Yn addfwyn eto, ac yn pwyso'n sobr
Ar eirwon liniau tragwyddoldeb, draw
Fe wawriodd bwa o ogoniant claer
Dros asur-fannau’r nef, ac arni hi
Jehofa hongiodd oleuadau'i deml,
Fil myrdd o ser, yn barod i wawlhau,
Ar un edrychiad oddiwrtho, yr Hwn
A edrych, ac y mae yn hanner dydd
Ar dragwyddoldeb oll. Edrychodd Ef
O'i fainc dragwyddol ar y dyfnder mawr,
A bydoedd fyrdd gyneuent wrth ei draed;
A gwelid uchel dal yr haul oddiar
Fynyddoedd aur y dwyrain, pan gychwynnai
I'w feiddgar daith ar hyd Ior-lwybrau'r nef,
A môr o ddydd yn llanw ar ei ol,
Gan guddio byd bob chwydd. Olygfa fawr!
Pan y sicrhawyd carreg sylfaen amser,
Tra môr diaraul tragwyddoldeb draw
Yn araf dreio gyda sobraf dwrdd
I ddyfnder anfeidroldeb a thawel leoedd Duwdod,
Pan ganodd ser y borau nes i'r haul,
A'r bydoedd-bererinion, edrych oll
Yn ol ar dragwyddoldeb, gan addoli
A syrthio ar eu gliniau unwaith mwy,
Tra y danghosai Duwdod â'i deyrnwialen
Eu ffordd i lawr drwy'r oesoedd, hyd y dydd
Y deuai eilwaith i'w cyfarfod hwynt,
Ac i derfynu lle y dechreuasai
Eu hanes, ynddo ei Hun, a dwyn i mewn
Y wedd sylweddol o fodolaeth, rhyw
Ail dragwyddoldeb, lle na bydd na byd
Na therfyn, amser, peth gweledig mwy, —
Ond Duwdod anherfynol oll yn oll.

A phan agorai dyn ei lygaid glwys
Yng ngwynion freichiau diniweidrwydd pur.


10 GWAITH ISLWYN.

Yr oedd yr awel yn telori o'i gylch
A moliant ar ei hanadl, a'i hadenydd
Yn ysgwyd cawod o anthemau'r nef
O bêr drysorau adlais gyda'r wawr.
Ac nid oedd cangen ddistaw yn yr ardd,
Na cholfen un na chwyfai gan addolwyr.
Murmurai afon ieuanc wrth ei draed,
A thonnau arian lifent ar y lan
Fel dagrau engyl pur ar rudd prydferthwch.
Dyferai'i swn hylifber ar y clyw,
A balmaidd oedd yr effaith, balmaidd oedd
Yr awel bêr berarogl ar y lan.
Pan wywai'r ser yn eang wawl y borau,
Pan rodiai'r wawr rhwng arianlwyni Eden,
A'i throed yn gwynnu yn y gwlith, a'r blodau
Yn agor i'w chroesawu, ac yn gwrido
Ar ol cusanu'i throed; lle gwelai'r dydd,
A'r don wrth ysgwyd o'i chysgadrwydd pêr,
A deffro o ryw weledigaeth brudd
Am wyntoedd ac ystormydd,— dieithr bethau,
Nid dieithr mwy! — pan ddelai heibio'r ardd
Mewn awel bêr-aroglau, i ddeffroi
Teyrn y baradwys, oedai ennyd cyn
Anadlu'r bore ar ei lifol ael
Yn dwym o fynwes ei foddlonol Dduw.
Hwyrfrydig oedd i dorri’r dwyfol hedd
Farmorai golygfeydd y wynfa oll
I dawel wedd myfyrdod, dyfnaf daw
Perffeithiaf feddylgarwch. Cai y dyn
Ar lechwedd un o'r bryniau eurwawr oedd
Yn edrych tua'r dwyrain, ac yn troi
Tragwyddol wawr o flodau ar yr ardd,
Wynfaol chwydd o anian, ar yr hwn
Yr hoffai'r cwmwl edrych nes y bai
Yn gwrido fyth, a byth yn newid gwedd.
Ar hunwedd yno cai y dedwydd ddyn,
Nid o lesghaol ludded, ond o bêr
Lonyddol fyfyrdodau am ei Dduw.
Ar ol i'r nefoedd gauad fflamwawr ddor
Byd-noddfa y gorllewin ar y dydd
A'i bêl ymoerol mwy, pan yr ymdaenai
Cysgodion bryniau Eden ar y byd
Fel seilwaith ardderchocaf fainc y nos
A berlid â mawreddau pennaf Duw,
Pan nad oedd nos ond sancteiddiolach dydd


Y STORM. 11

A'i hunig olau yn angylion, dwfn
Ddyddâd o enaid ar anfeidrol fyd;
Ar lydan wynt o ber-ddifrifol sain
Pan drefnid y cymylau dros y byd
Ryw egwyl dedwyddolaf, cyn i'r mellt
Ymlidio yn dragwyddol ac ymwau
Trwy anfeidrolion fronau'r nef fel myrdd
O fforchog eirf poethedig oni rhuo
Fel pe y dygai ynddi adfail byd, —
Ei geidwad-angel godai tua'r nef
Ei gannaid law, y llifai ffrwd o wawl
Dwyfolaidd oddiarni, a rhoddai dyn
Ei enaid oll i’r alwedigaeth dderch,
A hongiai ei fawreddog fyfyrdodau
Fel ardderchocaf ddringion wrth y ser,
Fel araul ddringion i'w ddwyfolfawr ran,
I'r dwyfol ymneillduo am y nos
Nes, gyda'r haul, ymgodi o iswaith Ior
Lle y cychwynna ei berffeithiau mewn
Gweledig bethau bydoedd ag y gall
Babanol law eu teimlo; gyda'r haul,
Sy'n cynrychioli ger yr oesoedd oll
Y creol air, gan ddwyn y greadigaeth,
Ddiderfyn fawredd, gydag ef i'r lan
Bob boreu fel o ddiddym, gan ddyddhau
Deng mil o fryniau â'i anfeidrol wên;
A'i enaid mewn caethiwed gan y ser
A'i tynnent ymaith i eigionau'r nos,
Gyhoeddwyr anfarwoldeb, luoedd Duw,
A rodient allan fel o hono ei hun
I ganu am eu Tad, gan ddwyn eu borau
Ar lawer pennarth o’r tragwyddol fyd, —
A'i fod i gyd yn feddylgarwch pur.
Per ymollyngai dyn i falmaidd gwsg,
Ac i freuddwydion gorfawreddog am
Baradwys, nad yw'r seren olaf draw
Yn sicr o'i chyfeiriad. Nid oedd cwsg
Bryd hynny ond symudiad gwell i mewn
I orgeadau yr ysbrydol fyd,
Ymlifiad hyd yr anfarwolion rodau,
Per hynt ar lannau y tragwyddol for;
A byth ni lifai ar ei freuddwyd ef
Oer wawl y beddfaen unig ar y bryn,
Y lechwedd lom a didrain; ac nid oedd
Môr anherfynol galar wedi cael


12 GWAITH ISLWYN.

 
Glan o fewn breuddwyd eto, na dychymyg
Pelldreiddiol i ledyngan ei neshâd.
Anturus ragehediad, rhagwawlhâd
O enaid ar y dyfodolion bethau,
Ni chaed i aflonyddu mwyniant per
Dyddhaol oriau amser, pan y torrai
Y wawrddydd danbaid o'r tragwyddol nos
Yng nghanol bloedd dwyreol fydoedd Ior,
Afrifed dorfoedd, ac yng nghanol swn
Byd-sylfaeniadau ei ddeheulaw gref
A phell aweliad y dragwyddol fraich,
Raiadrol Dduwdod! Hyd yn hyn ni chaed
Un cwmwl o lofruddiog wawr, o ffurf
Caeredig na byddinog, na niwl fyd
Yn symud ar gastellog drefn o fewn
Eangaf orwel Eden. Disglaer oedd
Gwelediad ardderchocach enaid dyn
Hyd orgylch ei ddychymyg faith, a thros
Bell oleuadau ei farddoniaeth fawr
A ymddyrchafai mewn mawrhydri pur
Diderfyn rwysg, ar gyfer gweithiau Duw
Ac ar eu cynllun gorfawreddog hwynt.
Ac nid oedd gofal am yfory fyth,
Rhagwrthiad o bryderus ofnau iddo,
Yn rhagdywyllu ei ragluniaeth ddofn,
Gan ddwyn holl bwys, a mwy na phwys, ei holl
Helyntoedd ar yr enaid cyn i Dduw
Ei alw danynt oddiar ei haul,
Sy’n galw yn ei enw wrth bob byd,
Bob dor ddwyreiniol, gyda gosgordd fawr
Llydanol ddisgleirderau'r bore ddydd.
Yr oedd pob dydd o anherfynol rad
Fel llawnaf fôr; pob awr fel newydd lanw
Yn wylo am eangach traeth, am le
I arllwys mwy o gyflawnderau Ior,
Aberoedd dyfnach i bob dwyfol ddawn
Fwynhau ei llawnaf chwydd, a dweyd wrth chwyddo
Fod Duw yn fwy na rheidiau'i fydoedd oll.
Bendithion fyrdd yn ol i’w fynwes Ef
Ddychwelent fel y doent heb le i’w dwyn,
A myrdd o flodau gauent gyda'r dydd
Heb un i edrych ar eu gwawr o liwiau
Y gallai angel weled yn ei wisg
Ryw ddifyg, a dyfeisio newydd addurn
O wawr a ffurf mwy eirioes wrthynt hwy.


Y STORM. 13


Er lledu'i enaid trwy bob nerth i maes
Fwy-fwy, ac yfed o ddaioni bod,
O radau Ior ei eithaf, teimlai dyn,
Er cymaint a dderbyniai ar bob awr,
Fod môr yn llifo heibio y ddau tu.
Yr oedd bodolaeth yn ddedwyddwch pur
I mewn i'r meddwl dyfnaf, ac i maes
Hyd bellaf ehediadau'r enaid, hyd
Arsyllfa olaf ei athrylith dderch.
Pa wrthrych bynnag o'r diderfyn fyd
Ddwyfolai â'i edrychiad pur, ni chaed
Dim ynddo a gythruddai dawel fôr
Ei anherfynol hedd. Ah! nid oedd gwawr
Y bryniau pell yn peri i ddyn bryd hyn
Adgofio pellach pethau. Ac nid oedd
Afonydd hedd-wawr y baradwys, rhwng
Gorlathrol lannau o fyrierain wawr
O lyfnaf arwedd yn llifeirio fyth,
A'r awel dyner ar eu mynwes lawn
Yn ymdawelu i farw wedi rhoi
Ei hoffrwm olaf iddynt, arogl pêr
Perarogl i bob ton — nid oeddynt hwy
Pan fai eu swn dawelaf min yr hwyr, Lifeiriol hedd, yn peri i enaid dyn
Brudd ymlonyddu i fyfyrion syn
A meddwl, meddwl! Sydyn waedd y gwynt
Wrth gyffwrdd âg oer fronnau canol nos,
A'i adsain ddilon bell, ni thorrai i mewn
I gylch swynedig ei ddwyfolaf hun
A wylid gan angylion, araul lif
O anfarwolion fodau, riniau ceidr,
Lurugog anfarwoldeb! Nid oedd chwyth
O naws gauafol fyth yn disgyn ar
Amfrwysol bethau ei ramantol awr,
A freision godent mewn un nos ar hyd
Pell arwynfaoedd ei freuddwydion ef,
Yr hongiai eu gorelltydd gwylltwedd dros
Ddyfnderoedd nad yw'r greadigaeth hon
Trwy yrfa'r oesoedd wedi dwyn ei haul
A'i rhagddydd mawr o ser
I'w golwg eto. Nid oedd adgof oer,
Fel sydyn wynt o'r ol, yn chwythu i maes
Oleuon y presennol oriau tra
Yr ymoddeithent gan fendithion Duw,
Lifeiriol olew rhad, un ar ol un.


14 GWAITH ISLWYN.

Fel eu cyneuid gan yr haul, y sydd
Fyth fyth yn rhedeg dros y bydoedd, gan
Oleuo llugyrn amser, oni bydd
Yr olaf awr yn llosgi i mewn i Dduw,
Yn welw yn y dwyfol ddydd, pan gwyd
Duw mwy fel mesur anfesurol bod,
Fel yr anfeidrol fôr o fewn yr hwn
Y collir holl afonydd amser byth,
Holl derfyn-feini’r oesoedd; Duw ei Hun
A'i Hun yn cylchu’r cwbl, gan lydanu
Amseroedd, llwybrau, a thyngedion bod
Oll iddo ei hunan yn ddiderfyn mwy.
Yr oedd y graig yng ngorsedd-waith y bryn
Yn gyfan, llyfnwedd, myrdd-gadwynog, fel
Ei treiglwyd gynnau o'r dragwyddol Law,
Ac nid oedd awel bruddaidd eto o fewn
Un ceule ynddi, yn ymruddfan fod
Ei meini hi ar hyd y glyn islaw
Yn oer oleuo, â'u marmorawl ddydd
Digysur, olaf ddisgynfaoedd dyn
I wae a barn ac anherfynol nos,
Yn gwawdio duwch ffawd a gwyndra barn,
A chofrestryddion bythwyddfodol, — bedd
A thywyll fod o gofion. Ac nid oedd
Y fforest enfawr ar awelon nawn
Yn gostwng ei sibrydol ddail tra'n clywed
Ergydion clir y fwyall ar y pell
Gyffiniol gylch o w
ŷdd, a'r adsain oll
O anaearol ryw, fel pe bai bedd
A'i oerion fyfyrdodau, gaerau mein,
Yn troi yn llais am ennyd, ac yn gofyn
Byd-haen o newydd eirch.

Fe rodiai dyn
Fel cysgod ei Greawdwr dros y byd,
A'r ddaear ymlonyddai ger ei fron,
A chofion y greadigaeth am ei Duw
A ail-gyneuid ffordd y cerddai ef.
Rhoddasid iddo y tragwyddol air
Y bydd y greadigaeth fawr yn falch
O cheir hi ynddo yn y diwedd fel
Y leiaf o'i lythrennau. Yr holl fyd
Ymgrymai iddo fel yr unig un
A gawsai allwedd y dirgellon oll,
Ac Alpha ac Omega natur fawr


Y STORM. 15


Cyfrinion Ior. Fe ddygai ynddo ei hun
Ffrwd glir o Dduwdod droai'r byd fel olwyn
Y crynai Natur ar ei phwys fel corsen.
Fe welai ddeddfau Natur yn ddi-len,
O ddwyfol ddydd ei ddealltwriaeth fawr,
Fel gweoedd yn yr haul; a'i air ei hun
Yn fwy na'r cyfan, fel y gweddai fod
I raglaw yr Anfeidrol. Golwg — gair —
Lanwent holl gylch ei allofyddiaeth ef.
O dan ei lygad, fel dwyfolach haul,
Ymweddnewidiai Natur. Mewnol oedd
Yr holl beiriannaeth fawr a droai'r byd.
Yr enaid, fel yr oedd ar ddelw Duw,
Ar ddelw ei berffeithiau, rhaid ei fod,
Fel Duw, yn fwy na’r byd. Beth bynnag sydd
Ar ddelw Duw, yn ol y graddau, mae
Duw yn bresennol yno, a'r ddwyfol fraich,
Holl hyd santeiddrwydd, allan. Delw Duw
O fewn anfarwol ysbryd — beth yw'r gwynt,
A'r môr, a’r mynydd, yn ei herbyn hi?
Pe credem eto, ffoai’r bryniau, fel
Pe deuai Duw i Farn ar gwmwl Ffydd.
Pe credem o'r fan hyn y gallai Duw
Lefaru trwom, o'r fan hyn yng nghanol
Mynyddoedd barn a drylliau llawer oes,
Ni byddai dim amhosibl i ni.
A'r bryniau geirwon hyn, beth ydynt hwy
Ond delwau o'r ysbrydol rwystrau sydd
Ym mydoedd uwch yr enaid, ar hyd ffordd
Y bywyd anherfynol; help i ddyn
Trwy ddaearolion bethau weld ei hun,
A chael delweddiad o'r profiadau hy
A'u gorddieithrwch yn arswydo'r fron,
Fel aruthr bethau o ryw farnol fyd
Yn rhodio trwy yr enaid ganol nos?
Anffyddiaeth, dychryn, ofn, y bryniau uwch
Sy'n hongian dros yr enaid ac yn dal
Tragwyddol auaf ar eu bannau erch,
A'r daran sydd yn ysgwyd tragwyddoldeb, —
Ddiflannant oll ar gofiad llusern ffydd,
Nes gwelo'r enaid ffordd bodolaeth oll
Yn olau hyd yn Nuw, a'r beddfaen oer
Yn nringion anfarwoldeb yn ei le,
Un o fuddugol sefyllfaoedd bod
O’r hon mae'r nef yn gyrhaeddadwy mwy


16 GWAITH ISLWYN.
 
Fel eurog gangen yn llaw Duw. Holl ffordd
Tynghedion enaid o ddiderfyn hynt,
Ddyddhair gan fellteniad gwannaf ffydd,
Er dyfned fyddo y tu yma i'r bedd,
Ac nid yw'r beddfaen oer ond un o'r mil,
Mil cynalyddion dan y ddwyfol wirf.
Paham mae ffydd mor nerthol? Onid am
Ei bod yn dwyn y dwyfol allu i mewn
I'r enaid eilwaith, ac yn tynnu i lawr
Gadweni rhagdrefnedig-undeb bod,
Un ar ol un, i afael dyn, nes cael
Yr olaf, nesaf i’r Anfeidrol, ar
Y pell fynyddoedd sy'n cyffinio'r byd,
Yn barod i’w ddyrchafu'n llwyr i Dduw,
Ei godi iddo Ef yn hollol mwy
O ŵydd y byd, fel seren gyda'r dydd.
Mae ffydd fel dydd yn uno'r nef â'r ddaear,
Fel haul yn codi cydrhwng dyn a Duw,
Rhwng bryniau oerion bywyd, glyn y bedd,
A'r am-anieidrolderau lle y mae
Gogoniant Duwdod yn rhaiadru mwy,
A'i symudiadau yn glywadwy fyth
Fel bythol godiad o newyddion fydoedd.
Ffy amser ymaith, ac ni welir mwy
Yr oesoedd, y cymylau sy'n gordoi
Pell a thragwyddol hanesyddiaeth dyn.
Y mae gwirionedd amser ger ein bron,
Y dechreu pell a'r diwedd, ac i gyd
Yn Nuw, fel ffordd yr huan yn y nef,
Yn codi ac yn disgyn.

Cyfyd ffydd
Fel haul ar amser, a goleua'r oll
I mewn i Dduw bob pen. Mae'r enaid sydd
Yn credu, wedi canfod gwawr y byd,
A maith gydgodiad milfil heuliau Ior,
O'r borau cyntaf, danbaid dorf y sydd
Fyth yn baneru ei ogoniant claer
Hyd nefoedd, fil mewn anherfynol ddydd.
Fe rodia'r enaid ar ei haden bell,
Fel angel dros yr eigion oesoedd, sydd
Yn torri ymaith lannau'r bythol fyd,
A gwel y cyfan fel y daeth o Dduw,
A'r cyfan fel y bydd yn Nuw drachefn,
Ar ol y puriad o angerddol dân


Y STORM. 17

Oleua amser i'w dragwyddol fedd,
Heb ado ond a fydd yn addas oll
I’w fudo i mewn i Dduwdod, ac i fod
Fyth ynddo fel priodoleddau mwy.
Un Heddyw mawr yw amser iddi hi,
A Duw ei haul holl-lanwol. Oesau fil
Tu blaen, tu ol, un ffunud ydynt oll
I'w dwyfol edrychiadau hi, y sydd
Yn derbyn golygfeydd tu draw i'r haul,
Tu draw i orwel y diweddaf ddydd,
Pan dry holl amser yn fachludiad mwy,
Pan y machluda Duwdod yn ei holl
Weithredoedd, i ail-godi ynddo ei hun
Mewn tragwyddoldeb newydd. Ar ei thaith
Pan y prysura i gwrdd â Duw, i gwrdd
A'r gwirioneddol ddechreu yn y diwedd,
Pan ffy y greadigaeth i roi lle
I'r da a gysgodasai hi, i'r Duw
Yr hongiwyd ei holl ser a'i heuliau ynghyd
Ar amser — un o bell
Dylathau tragwyddoldeb ar ei hogwydd —
Fel cyffelybrwydd o'i gyfodiad ef,
Rhagardeb o'r dyddhad llydanach fydd
Ar gylchoedd anifeiriol bod, pan ddaw
I soddi'r darlun ynddo ei hunan, — gan
Gyflymed ei rhedegiad amser gyll
Ei boenus wahanolrwydd, ac ymred
Yr oesoedd oll i'w gilydd, lifol wedd,
Gan fawrwych ymribynnu gyda hi
Nes cwrdd â thanau y diweddaf ddydd.
Fel newydd-greol air o enau Duw,
Hi seilia'r bydoedd eilwaith yn y meddwl,
A myn i ddyn eisteddfa dderch ymhlith
Aneirif luoedd ser y borau hwnnw,
I orfoleddu gyda meibion Duw
Uwchben y newydd greadigaeth — un
O donau hollalluogrwydd sydd yn chwyddo
Trwy amser oll ei byd-beroriaeth faith.
Hi drefna anhrefn oll o'i flaen, hi yr

Lifeiriaint beilchion Caos oll yn ol,
Gan ddiorchuddio bydoedd yn y dwfn.
Hi hongia oleuadau Ior ar hyd
Y nos
wagwyddol, caua wely'r môr
A dymod hollalluog yn y creig,
Ac arch i'r ddaear donni tua'r nef


18 GWAITH ISLWYN.

Ei meddal ddefnydd ac i sefyll fyth
Yn fryniau yno. Trefna rodau'r nef,
Y myrdd olwynion, cylchoedd haul a ser,
Orleiswaith amser oll, a phâr i ni
Glustfeinio ar y cydysgogiad mawr
A'r gyntaf awr yn taro, a bythol un
Unolwedd dawel tragwyddoldeb maith
Yn cael ei dorri i fyny mwy
I afrif raddfau, rhodau, heuliau, ser.
Mae ffydd yn adgysylltu dyn â Duw
Gan wneyd yr oll yn ddwyfol; haul a lloer
A ser a gwae a beddau, — yn ei ddwyn
I weled a thragwyddol lygad o
Ffordd a chyfeiriad Duwdod; yn dyrchafu
Ei holl feddyliau a'i efrydion derch,
Fel ser, i’r dwyfol oruchelder pur,
I'r fan ddwyfol-wawr, lle ni welir mwy
Wahaniaeth arwedd ar y ddaear bell,
Na bro, na bryn o gribog ael, na môr |
Na chroes na bedd, ond un tawelaf oll,
Hydweddol â'r Anfeidrol amgylch ogylch,
Yn hardd lewyrchu gyda "Bydded” Duw,
O ser ei gariad nid y lleiaf un.
A cheidw hi yr enaid ar bell fynydd
Y bythol weddnewidiad, lle y mae
Holl amgylchiadau amser yn gweddnewid,
A gwyneb Duwdod yn disgleirio byth,
A'i wisg o ragluniaethau geirwon oll
Can wynned a'r goleuni; lle y daw
Tragwyddol bethau i gyfarfod dyn,
Elias, blaenion o'r traffwyddol lu
Yn edrych am eu brodyr, ac yn dwyn
Canghennau pren y bywyd dros y ser,
Rhyw freuddwyd o ogoniant. Cred, a bydd
Duw drosot, ynnot, ac o'th amgylch mwy,
Dy faner a dy darian a dy gledd,
Dy wregys o anfeidrol bethau byth,
Dy haul a'th fywyd y ddau tu i’r bedd,
Dy graig yng nghanol holl lifeiriant barn,
Dy fugail ar fynyddoedd tywyll angau,
Dy uchelderau yn yr olaf ddiluw.
Yn unig cred. Trwy gredu mae y sant
Yn taflu ei bechodau afrif mwy,
Ei fywyd a'i farwolaeth, byd a bedd,
A barn a thragwyddoldeb, oll ar Dduw,


Y STORM, 19


Ar Dduw yn plygu i'w derbyn yn y cnawd.
Symuda ymaith, fel daeargryn, holl
Fynyddoedd enaid arno ef, a soddodd,
Fe'u soddodd hwynt, oll yn ei waed ei hun.
Cystuddiau dyn a'i anwireddau oll
Roed arno ef yr un prydnawn, a'r un
Prydnawn a gollwyd byth ar ben y bryn,
Lle llwythwyd anghof â phechodau byd,
Lle torrodd a lle y distawodd holl
Daranau yr Anfeidrol ynddo ei hun.
Mae ffydd yn darfod a'i phechodau mwy
Wrth edrych ar ei Duw, ac ato ef
Cyfeiria ei chyhuddwyr erch i gyd.
Nid ofnwn pe symudai'r ddaear — ffydd
Sy'n gwneyd i'r enaid mwyach deimlo ei hun
Fel seren dawel lon yn yr Anfeidrol
Yn sicr yn ei hundeb pur â Duw.
Cydsyrthied yr wybrennau ar y byd,
Ac aed y bryniau i ddyfnderau'r môr,
Ar ol i'r bryniau dreulio hyd ddiddymdra,
A thrai y môr o wendid beidio byth,
A llwch y byd ymchwalu ar yr awel,
Bydd Duw yn bod, a'r enaid ynddo ef
Yn hardd, diysgog, cydunedig, fel
Pe felly erioed buasai trefnwedd bod.
Ar fryniau uwch ei hedd yn cerdded bydd,
A'i wenau yn ymseru ar ei ffawd,
A'i wybrau fyth i fyny, fyth i'r lan,
Heb orwel, heb ymgload pruddaidd mwy.
O am yr awr y cenfydd dyn ei holl
Ffynhonnau eto yn Nuw, a phan y gad
I'r bryniau grynnu, ac i'r ddaear droi
Dan lefain, — "Duw sydd noddfa a nerth i mi,
Efe a'm cynnal pan y try y byd
Yn wagle, a'i ardderchog bethau'n darth.
Yr arwaith mawr, y byd, yr haul, y ser,
Y corff, cyfeilllon, cyfeillgarwch, câr,
Diflannent oll ar unwaith, mae fy nhroed
A'm holl orffwysiad ar y sylfaen noeth, —
Yr Hollalluog." Delw Duw o'n mewn,
Ac undeb â'r Tragwyddol, yw ein hawl
Igyfoeth, parch, a theyrnedd pob rhyw fyd.
A dedwydd oedd y dyn a deimlai'i hun
Trwy ei gyneddfau oll yn un â Duw,
Fel y winwydden trwy ei changau heirdd
A'r fawr gedrwydden o ymdeyrnol wedd.


20 GWAITH ISLWYN.

 


Fe grynai'r byd o'i flaen, gan weled Ior
A'i holl berffeithiau fel cynalwaith uthr
O dan ei eiriau a'i weithredoedd oll.
Teyrnasai Ior o enaid dyn bryd hyn,
O'i fywyd-orsedd yn y galon bur.


O ddedwydd adeg, pan y rhodiai dyn
A'i Grewr law yn llaw, drwy Eden wiw,
Fel plentyn gyda'i dad. Felldigaid awr
A daflodd ar y rhwym a'u hunent hwy
Fflam pechod, a enynnodd amser oll
Yn oddaith o ddigofaint rhyngddynt mwy.
Blagurai, ymagorai meddwl dyn
Mewn myrdd o feddylddrychau teg newyddion,
Fel uchelwydden a blanasai Duw
O dan gawodydd myrrh y ser,
Aml riniau, yn colfenu tua'r nef.
Fe welai Duw ei hunan ynddo ef
Mewn dyfnder o gyneddfau. Erchyll awr
A ddug y storom farnol rhyngddynt hwy,
A'r cwmwl sydd yn duo tynged dyn
Gylch ei anfarwol fod, gan godi'r ser,
Ddwyfolion rai, i mewn i Dduw i gyd,
Nes oedd yn nos ar hyd yr enaid oll, —
Derfysglyd aber o'r anfarwol fôr,
Heb ynddo ond delw y gorhongiol greig,
Mynyddoedd tywyll, gwaeau, beddau, barn
Yn disgyn fyth, a byth yn ymddyfnhau.
O bechod! O erchylldra! Gwae y dydd
Y damniwyd Amser â dy sangiad erch.
Gwae'r dywell awr yr ysgrifennwyd ar
Ei wyneb-ddalen ef dy enw di,
Fel yr ofnadwy destyn, pan y rhoed
Holl gyfrol fawr yr oesoedd drosodd mwy
Ar ysgrifen-fwrdd y dragwyddol farn
I erch awduriaeth yr ofnadwy ysbryd
O wae, y sydd yn lledu hanes mawr
Y byd o flaen y meddwl sobr, fel
Ei hunan-gofiant, ac yn adnewyddu
Yr argraffiadau gyda phob rhyw oes.
Pa beth y'th enwaf? Y mae iaith yn pallu
Ymglymu yma, a'r llythrennau fel
Yn ymbellhau o'r enaid ar bob tu,
Rhag ffurfio sain i'r fath anferthwch, sain
Mor estron i beroriaeth briod bod.


Y STORM. 21


Peroriaeth creadigaeth lawen Ior,
Fel y tarawodd gyntaf wrth y gair
Holl-berol, holl gyweiriol, fel y bydd
Yn Nuwdod eilwaith, pan y boddir byth
Holl amheroriaeth amser yn y gân
Dragwyddol, y dragwyddol gân a dyr
I mewn pan syrthio olaf gaer y byd.


Fe ddaeth y borau, ’roedd yr haul i ddod,
A thi a gafwyd yn ei le, tydi
A'th nos dragwyddol gafwyd. Trodd y dydd
Rhagddarparedig yn ei ol, a'r haul
Fachludai’n ol i'r borau. O pa beth,
Beth ydwyt? Mae ymdyrfol oesau'r byd,
Ser amser, yn cyfodi ac yn disgyn,
A myrdd o ser am galon dyn yn machlud;
A gobaith llon yn plannu'r lampau hyd
Bell fryniau y dyfodol, i'r dyfodol,
Pan ddêl, eu diffodd â'i wirionedd oer;
Y mae pob newydd flwyddyn ar y bedd,
Pob newydd lanw o amser, fyth yn dwyn
O faith ystorom bywyd lawer llwyth
O longddrylliedig bethau daclwyd gynt
I forio anfarwoldeb, ac i gael
Eu hafn yn Nuw, a nofio yn ei hedd
Wrth y dragwyddol angor; mae y byd
Yn ail ymseilio ar ei fedd ei hun,
I ail waghau ei newydd wedd â beddau;
Mae'r oesoedd yn ymsymud dros y byd
Fel elor-gynalyddion y ddynoliaeth,
A'r cyfan o'r tu ol yn troi yn fedd,
Yn dywell gladdfa o holl bethau'r byd;
Mae dyn yn marw bywyd, ac yn byw
Marwolaeth beunydd, yn gwyngalchu'r bedd
Ar fryniau a nefolion leoedd cof,
Gan roi i siomedigaeth ennyd awr
Eangder oes o gofion, a pharhad
I ing yr ymadawiad pan yr oedd
Yr enaid yn ymdywallt oll i'r deigryn —
Gan ddewis gydag ef farw ar y grudd —
Nes teimlid fel pe bai bodolaeth oll
Yn wagle ac yn gysgod; ing yr awr
A welai fedd yn cau ar fwy na'r byd.
Mae rhyfel erch yn golchi'r byd â gwaed
Fel âg afonydd barn, ac uchelfrydedd


22 GWAITH ISLWYN.


Yn rhudd-ddyfrhau beilch gedrwydd ei ddibenion
Sy'n hongian dros y byd, o’r marwol lif,
I brofi dy fodolaeth erchyll di,
O Bechod. Eto pwy a ddywed im
Beth ydwyt? O ba le? Dy gryd, dy fedd,
Dy febyd erchyll a dy arwyl lon,
Dy erch gyfnodau hyd y nos o wae,
Y nos ni ellir ei goleuo heb
I Dduw ymostwng mwy a dwyn ei hun
Dan ddiffyg mawr o waed fel haul i'r lan, —
Ai moddion syn, ai angenrheidrwydd wyt?
Taw! digon yw — yr wyt. Mae'r oesoedd oll
Yn dy ail adrodd fel mawr destyn amser
A llais rhy groew, fe ddaw y bregeth fawr
O enau Duw ei hunan, — Tragwyddoldeb.
Y mae y byd o gyrrau amser oll,
Cymanfa yr hil ddynol, yn ymdyrfu
Fyth tua'r bedd i'w gwrando, oni bydd
Amser i gyd yn wâg, a'r olaf oes
Yn ymddihoeni mewn unigedd gwael,
A'r Sabboth bythol wedi cael yr oll,
Tu draw i'r bedd, i mewn i Dduw i gyd.
Paham yr ydwyt? Holl ddoethineb dyn, —
Ar ol myfyrio hanner amser ymaith,
A gweld y ddaear o'i hystafell lwyd,
Pan syllo allan, yn heneiddio o'i gylch,
Y bryniau di-wawr a'r lluddedig fôr,
A golau amser wedi croesi'r llinell;
Pe meiddiem edrych trwy y dymhestl froch
Y sydd a'i gwyntoedd yn ochneidiau byd,
A'i tharan yn gollfarnol lef uwch ben
Cenedlaeth lawn bob tro, byd-haen o fywyd, —
Doethineb balla yn yr ymchwil hon,
Ac unig ateb pob athronydd mawr
Yw — syrthio'n ol i'w gader lom, a marw.
Paham yr ydwyt? I ba beth? Taw, taw,
Yr ydwyt dithau i rywbeth, fel pob sarff
Sy'n yfed gwenwyn erch y byd oddiar
Ffordd ardderchocach dyn. A oes i ti,
Feddgloddiwr bydoedd amser, fedd? O gylch
Dy galon uffern-ddofn, lle yr ymnytha
Aneirif ysgorpionau gwae, a oes
Ofn angeu fyth, a breuddwyd diddymhad?
Ymseiliai'r greadigaeth fawr o newydd
Ar y diddymiad hwnnw, ac o'i wyll


Y STORM. 23


Yr haul tragwyddol godai, a rhyw ddydd
O anherfynol hedd. Taw, Enaid, taw!
Mae ffeithiau o anarluniadwy ryw
Yn hanesyddiaeth bod na ddichon neb
Eu dirnad, ond yr hwn sydd fwy na'r cwbl,
Yr hwn gwmpasa'r cyfan fel y nef,
Y ddaear a’i mynyddoedd a'i chlogwyni.
Fel hyn y mae; pa fodd, nis gwyddom; pam,
Nid oes a ddywed. Pechod, — O, y mae
Yn ffaith aruthrol; mynydd tywyll bod,
Y gorwedd lladdfa amser wrth ei droed,
Cwympedig genedlaethau’r byd.
Pa fodd y daeth i mewn? O gofyn, ddyn,
Pa fodd y gelli ei osgoi? Pa le
Y cei y llusern sy'n goleuo'r bedd,
Y grisiau prinion hyd y marwol fryn,
Y rhaff diagwyddol ar y llif o farn,
Y bwa yn y cwmwl lle y mae
Cyfamod gwreiddiol bod o hyd mewn grym,
Hedd-fwa sy'n ymlifo i mewn i Dduw,
Yn hardd ymagor i'r tragwyddol ddydd
A oedd i godi ar y bore fyd
Dros wynion fryniau diniweidrwydd gynt,
Ond a symudwyd heibio'r oesoedd oll
I wawrio dros ben arall amser, dros
Ddiweddaf oriau'r ddaear?
Trefnodd Duw
Y Ffeithiau mawr gyferbyn. Dug ei Hun
O’r dyfnder fel y gyferbyniol ffaith.
A dyma ddau winonedd amser, clyw, —
Fod Pechod, a bod Duw mewn cnawd yn fwy.
A rydd yr haul hanner y byd i'r nos
I ddangos ei dragwyddol allu a'i rwysg
Ei hunan pan y cyfyd wrth ei bwyll,
I eglurhau ei fawredd? Oni roed
Hanner y greadigaeth, neu y cwbl
A grewyd yn nhragwyddol wythnos Ior,
I bechod holl nos Sadwm amser, fel
Y profid fod ei anherfynol ras
A'i gyfoeth, a'i dragwyddol allu, yn fwy,
Yn fwy na holl drueni amser, pan
Y codai ef ei hunan ar y byd,
Gan fythol leddfu holl ystormydd bod
I un dragwyddol hindda â thaenelliad
O'i ddagrau a'i holl-haeddol waed ei hun?
Ac fel y deuai'r Sabboth mawr i mewn,


24 GWAITH ISLWYN.

Y tragwyddoldeb o ddiderfyn hedd
Ar ol y cwbl, gyda sydyn wawr
O’i galon ac o'i gariad dros y groes,
Ai nid gogonawl oedd arddangos haedd
Y dyferynau hynny, am y pren
A lynent un prydnawn, ac oddiar
Eigionau pellaf tragwyddoldeb sydd
Fel ser tragwyddol yn disgleirio byth,
Gan hawlu’r oll, yr anherfynol oll,
I ddyn colledig mwy? O, onid oedd
Yn werth ei brofi am un waith fod un
Ymddarostyngiad o'r Tragwyddol Fod,
Fod un cerddediad hyd y byd a'r bedd,
Un sangiad ar y marwor enbyd, un
Prydnawnol grwydriad hyd y bryn o wae,
Un iddo ef, yn fwy na digon byth
I gyfiawnhau holl fôr-lifiadau gras,
I wneyd trugaredd yn gyfiawnder byth,
Ac yn fwy cyfiawn mwy y cyfiawnhâi,
A gwneyd cyfiawnder yn anghyfiawn bron,
A barn yn gamwedd wedi barnu Duw?
Cyfiawnder y tragwyddol nerthoedd mwy
Yw trugarhau heb raddau a heb rif,
Cyhoeddi blwyddyn gymeradwy Ior,
A lledu'r uchel wyl dros fryniau'r byd,
Dros fryniau'r oesoedd oll, nes dwyn yr oll,
Holl gaethglud amser, gwaredigion Duw,
I ddinas y tragwyddol fryniau draw,
Çydgyfarfyddfa meibion Duw, lle mae
Y brenin yn ei degwch, a myrdd myrdd
Wrth edrych arno fyth yn ymdeghau;
Caersalem anfarwoldeb, lle yr esgyn
Holl lwythau yr Anfeidrol, lle nid oes
Un porth yn cau, na mur yn plygu mwy,
Na'r maith ymlifiad yn dibennu byth,
Fyth bythoedd yn ymlanw, eto fyth
Yn diorchuddio ar y bryniau pell,
Gan ddangos araul barthau uwch yn Nuw,
Heolydd byd-lydanol bob un, fel
Ffordd haul y borau. Trugarhau heb gyfrif,
Ar ol y cyfrif fu; pardynu heb gofio
Ond enw y pechadur; rhwygo i maes
Y duon ddail o anferth gyfrol barn
Nas gall ond Duw ei chodi, ac nas gall
Ond tragwyddoldeb neu efe ei dwyn


Y STORM. 25


Sy’n soddi tragwyddoldeb ynddo ei hun,
Yn llanw "awr" a'i hunan, nes ei gwneyd
Yn fwy na thragwyddoldeb, yn fil mwy
Na phob estyniad o feidrolion bethau;
Eu rhwygo i maes nes crogi'r clorian erch
Goruwch tragwyddol gyfarwyddion gras,
A dwyn goleuad anfarwoldeb dros
Y bedd a nos-fynyddoedd amser mwy, —
Cyfiawnder y dragwyddol orsedd yw.
O,’r dagrau hynny! Onid gwerthfawr oedd
Gael cyfle unwaith i arddangos beth,
Beth allai Duw trwy ddagrau, a pha fodd
Yr wylai un drueni’r byd i ddim,
I lai na dim gan iddo ef — wylo?
Mae gallu anherfynol yn ei fraich,
Hi seilia fyd bob codiad; cafwyd nerth
A rhwysg cyfartal yn ei farwol ing.
Fe bechodd dyn, fe lanwodd Duw ei holl
Ddyfodol oer â'i hunan, ac o'r bedd
Daeth allan i'w gyfarfod, ran agoryd
Dyfodol newydd iddo ynddo ei hun.
Pa beth yw pechod? Ymostyngodd Duw
Fe ruddodd y melldigaid bren â’i waed,
Bu farw yn ein lle, ac O, farwolaeth
Cwmpasog honno! Holl drueni dyn
A ffoliwyd yno. Rhyw ddansoddiad oedd
O holl fynyddoedd gwae. Ymledodd Un
I farw, a'i angau ymhelaethai dros
Gylch pellaf, olaf afryglyddiaeth dyn;
A llefai Iawnder, — "Mwy na digon yw."
A daeth y môr o Iawn i lawer aber
O ddirfawr gylch, nad oedd gan bechod un
Oer adfail ar ei chreigiau. Enaid, taw!
Beth yw y ddaear a'i mynyddoedd geirw
Yn yr amgylchawl gread? Y peth yw
Dy bechod yn y dwyfol Iawn — brycheuyn!
Digonedd am y cwbl — gwaedodd ef.

Ac eto hyfryd meddwl am y wedd
Fuasai ar fodolaeth, galw yn ol
Y pethau a gollasid, peri i ser
Y borau hwnnw daro'r gân o newydd
O oriel bellaf adgof. Oni ddaw
I freuddwyd adgof lanw o fwynhad
Na swniai erioed ar y soddedig draeth?


26 GWAITH ISLWYN.

Per brudd-der cofio yw dedwyddyd dyn.
Mae'r enaid trwy adgofion yn mwynhau
Mwy nag a allai'r byd ei hunan roi,
Mae'n llanw â'i weithrediad mawr ei hun
Bob diflyg, ac yn gwneyd y cyfan mwy
Yn harddwych, mawr, a pherffaith fel ei hunan.

O uchder adgof
Gafaela yn nigwyddion geirwon bod,
A chyfyd arnynt greadigaeth fawr
O oruchelion bethau; mae y nerth,
Y ddwyfol gynneddf yn yr enaid sydd
Yn hiraeth am yr anherfynol pur
A'r perffaith a'r tragwyddol, oddiar
Y tryblith o adgofion yn deddfhau
Yn ddiarwybod iddo'i hunan braidd,
A'r cyfan, tra meddylio am a fu,
Yn codi fel y mynnai iddo fod.
A thybia'r enaid iddo weled gynt
Wynfaoedd felly, gan mor gymwys ydynt,
Mor addas iddo. Hawddgar oedd y dydd
Goronai ddwyrain amser, tecach yw
Wrth wawrio dros fynyddoedd mewn yr enaid
A'r seren fore, adgof, ar ei flaen.
Blodeuyn hawddgar ydoedd fel ei caed
Ar fanc ystormus bywyd — tyrd i mewn
I dderch ros-erddi adgof, dwyfol yw.
A nef funudau bywyd ydynt hwy
Pan fo yr enaid allan o'r presennol
Yn chwilio y traffwyddol leoedd am
Y per anwylion fu; pan fyddo haul
Yr heddyw blin a thrystfawr wedi machlud,
A dwyfol sobrwydd anherfynol fod,
Fel nos ardderchog, ar yr enaid rhydd
Yn disgyn, a holl oesoedd Duw fel ser
Tragwyddol. Beth yw heddyw? Mae yr enaid
Yn hawlu tragwyddoldeb fel ei heddyw,
Ei briod ddydd, ei ddwyfol ddydd di-oriau.
Y ddoe? y fory? darfu am y cwbl.
Mae'r enaid wedi codi ynddo ei hun
I'r uchder lle mae'r bythol haul i'r lan,
Lle mae yn anherfynol ddydd, o'r hwn
Nid yw pob carreg filltir ar hyd ffordd
Diderfyn fywyd dyn, mesurau bod,
Ond rhannau o wrthuni amser, rhith


Y STORM. 27

Ddaduniad o'r anysgaradwy, cysgod
Colfenau eiddil ar y bythol lif.
Nid yw mynyddoedd angau ar ei ffordd
Ond ymohiriad awr neu ennyd; byr
Ymloewad cyn ymlifo i dragwyddoldeb,
Lle collir swn yr awrlais gyda myrdd
Wrthseiniau geirwon amser, lle nad oes
Un cysgod mwy i awru'r deial oer.
Derbynia ddiolchgarwch enaid blin
Am cymaint o ddedwyddwch ar y daith,
O Adgof. Llawer carreg lyfnaist ti,
A dringwyd llawer bryn heb synio'r rhiw
Wrth gadw'r galon a'i theimladau oll
Ymhell tu ol. Per feusydd bore byd,
Pell doriad gwawrddydd gobaith, rhodfa bell
Y galon ar hyd faes ieuenctid gynt,
Pan redai bywyd flaen dychymyg bron,
Pan oedd y byd gymaint a'r enaid braidd,
Yr enaid yn ei gryd er hynny, cyn
Cyfodi yn ei rwysg a throi i maes
I uchel lwybyr bod, ffan holi am
Ei Dduw a thragwyddoldeb, egwyl lon
Cyn cael ei hun ar derfyn eitha'r byd,
Ar ymyl beddfaen bore ddug i'w gof
Yr iaith dragwyddol a'r tragwyddol fyd,
Lle trodd bodolaeth yn ardderchog nos
Heb onid golau ser, adgofion fyrdd,
A myrdd o arobeithion uwch eu gwawr,
Pan nad oedd eto un dyfodol braidd,
Nac un ymgasgliad o adgofion prudd
Yn codi ar y galon bob yn ail
Gan dynnu ei feddyliau oll ymlaen,
Neu oll yn oll, nes llwyr waghau'r presennol
O'r enaid mawr, a diolwyno amser
Nes rhedai'i oriau drosodd mor ddi-swn,
Di-wasgiad mwy; per olygfeydd y wawr,
Dileniad cyntaf amser, bore wrid
Yr enaid pan y rhodiai gynta'i maes
I gyd yn degwch ym morwyndod bod, —
Dy eiddo di, O Adgof, yw y swyn,
All gyff
wrdd beddau y dedwyddion hyn
A pheri i farwolaeth bod ail fyw.
I ti y rhoed y gair sy'n agor holl
Gauedig ddorau amser; y wialen
A hyllt y tywyll fôr sy'n llanw dros


28 GWAITH ISLWYN.


Holl wawriol genedlaethau'r byd, gan ddwyn
Pell niwloedd ebargofiant ar bob traeth,
Lle gwelwyd a lle byth y collwyd dyn,
Gyredig alar-dorfoedd pob rhyw oes
Ti feddi di y nerth i gadw draw
Aderyn gwae sy'n nythu dan y fron,
Ac anfon y golomen yn ei le
A deilen olewydden yn ei phig,
Addewid yn y man o werddach bro
Nes cano y rhwymedig ar y graig.
Mae gan bob enaid fel y cyntaf un
Ei Eden rywle tua dwyrain bod,
A thi sy'n dwyn yr agoriadau aur,
A thi sy'n cadw ffordd holl brennau bywyd
Rhag cau, O nid i wahardd; a thydi
Sydd yn ymweled â'u hunigedd hwynt
A llawer deigryn llawn o enaid, llawn
O riniau cariad, dagrau sydd yn dwyn
Y bythol wanwyn ar eu bywiol lif
Sy’n adnewyddu bywyd trwy ei holl
Hinsoddau, ac yn arwain hyd y bedd
Chwyf y cynhauaf mawr. Cyfodi di,
O ddyfnder amser a’i arddercbog nos,
Afaelion o ogoniant milwaith uwch
Nag ardderchawgrwydd holl freuddwydion byd,
Ramantol fawreddogrwydd. Adgof bêr!
Paham yr ymadawem? Tyred, tyred,
A byddwn fyw o fewn y pethau fu,
Bêr absenoldeb! Aed y byd ymlaen,
Mwynhâwn ninnau heddyw yn y fory
Y cyfan ag a fydd yn werth mwynhau
Pan all yr enaid ddewis a'i boddha.
O fewn yr enaid byddwn byw, o fewn
Hoff bethau'r enaid, sydd yn gorwedd oll
O fewn dy etifeddiaeth dawel di,
Ar ymyl teyrnas y tragwyddol hedd,
Lle bythoedd y teyrnasai anghof ar
Yr olaf fedd, bedd adsain. Adgof bêr!
Fe basiodd yr amodlw dros y bedd,
A chlywodd ysbryd o’r tu draw i'r byd.
Tyrd! hyd y beddrod arall ag y mae
Rhyw faen o fewn tragwyddol nos y graig
Yn gorfreuddwydio eisioes gael ei hun
Yn gorffen y bydlethiad ar y fron,
Hyd yno dyred; yno ymadawn


Y STORM. 29


Os mynni. Dywed wrth yr awel brudd,
A dywed wrth y seren gyntaf, dywed
Yn isel wrth y funud ganol nos,
Mae'r enw, er mor bruddaidd, ganddynt hwy,
Hwy a'i hadwaenant pan y chwilia'r byd
Ei rol yn ofer. Ac os daw, ryw hwyr,
Ryw awel heibio heb ei adwaen mwy,
Cod iddi fel ochenaid, a bydd farw,
A nythed yr aderyn ar fy medd,
A chaned anian yno fel o'r blaen.


Yr oedd pob pren yn flodau hyd y ddaear,
A'r awel am y cangau yn ymdroi,
Yn nofio mewn aroglau’n araf, araf,
Fel pe'n dymuno aros rhyngddynt mwy,
A gado'r nef a'i huchelderau pell,
Ac ar y gangen amlflodau hon
Anadlu'i holaf. Pan y clywid swn
Mawreddog rod y dydd ar fryniau'r dwyr,
Fel blaenaf lais y prif o gorau Duw,
Yn galw bryniau fil a byd i wrando,
Coedwigoedd eurwawr Eden lennid gan
Aneirif godiad, anherfynol daen
O gorau’r wawrddydd, lond yr awel fawr
Dderbynia'r borau ar ei haden bell,
Holl anherfynol Jubili y wawr.
A gwenai aml gerub mawrwych, gaed
Yn ymgadeirio mewn rhyw gwmwl derch,
Rhyw gadair o ogoniant ag y troed
Holl rwysg y borau arno, mawreddogrwydd
Y danbaid greadigaeth wrth ddeffroi,
A'i eurwisg yn llifeirio ar y nef
Fel borau arall, a'i dywynnol wedd
Fel haul agosach, haul yn dangos Duw,
A chylch o fydoedd ereill am y gair
Holl-berol fyth yn adsain. Gwenai fry
Goruwch y moroedd o beroriaeth gaed
Yn torri ar lydanol draeth y dydd,
Lydanol ysplanderau'r bore anfeidrol,
Tra milwawr feirddion y baradwys hyd
Fynyddoedd fil yn pyncio, yn y wisg
A dderbyniasant o'r dragwyddol Law,
Ysplander daerlifeiriol, ffrydiol geinder.
Fe redai'r llew o enau noeth ei ffau,
I lawen gyfarch y brenhinol ddyn,


30 GWAITH ISLWYN.

 
Draw pan ddwyreai ef ei heulaidd ben
A'i ffurf ysplenydd oddiar y byd,
Fel cerub a gysgasai ym mheroriaeth
Amfydoedd Ior. I'w gyfarch rhedai ef
Gan ruo o lawenydd aruthr fel
Y rhua'r môr, wrth glywed ar ryw bell
Bigyrnol Alp o gwmwl ddieithr swn
Pell ysgogiadau'r dymhestl ffroch, a murmur
Ei haruthr gynadleddau, tra’i cherbydau
Gordduon yn ymdaenu'n faith ar hyd
Fawreddus fforda mellt y taranau draw.
Hyd fwng ystormus yr anifail broch
Fe dynnai dyn ei wen ddiniwed law,
Gwen oedd bryd hyn fel mynwes diniweidrwydd,-
Nid felly dwylo'i feibion ar ei ol,
Nid felly ei law ei hun pan godai hi
Yn arw gan bridd i fyny at ei dalcen
I sychu ffwrdd y gawod chwys a fai
Yn gwlychu ei wyneb gwelw neu yn gymysg
A chawod drom o ddagrau ar ei rudd,
Pan oedd ei rudd, fel wyneb amser mwy,
Yn rhychau drosto, a'i ardderchog dal
Yr ofnai'r holl greedig fyd o'i flaen
Fel nos o flaen y dydd, yn wael o wedd,
O'r ddaear yn ddaearol; nid fel cynt
Pan ledai yn ddangosog lydan glaer
O'r gallu a'r mawrhydri fedr Duw
Argrafiu, ie, ar bridd.


O, hyfryd yw
Adgofio'r hyn a fu, na ddaw drachefn.
Breuddwyd yw bywyd, enaid yn dihuno,
Daeargryn angau sydd yn deffro dyn.
Agorai Eden llai ei maint, nid llai
Ei mwyniant na hon yma, yn ein gwydd.
Ar ymyl ffordd ieuenctid taflai hi
Ei dorau yn agored, ac o'i mewn
Fe ledganffyddid rhes o ddringion derch
Yn rhedeg i orentrych mawredd oll,
I’r wynfa bell a byth-bellhaol sydd
Yn hir ymgynnal ar ryw enbyd obaith,
Rhyw golom niwlog a rhamantol o
Freuddwydion gwawrddydd bywyd; pan yr oem
Yn creu tyngedion ac yn archu'r bedd
A'r tywyll bethau dros y gorwel oll


Y STORM. 31


Rhwng lled-gwsg a di-hun, bêr egwyl, cyn
Agoryd yn yr enaid erfawr rwyg,
A rhwygion erfawr eilwaith, trwy y rhai
Y cafodd anherfynol wyntoedd gwae
Eangder ffordd i mewn, i droi yn ol
Fôr araul bywyd ar dragwyddol drai,
Ac i ddadwreiddio y gobeithion gaed
Yn tyfu ar hyd fryniau'r enaid, fel
Fforestydd anfarwolwawr, yn y rhai
Yr hoffai'r awen ymgysgodi a rhoi
Yr enaid i freuddwydio ar ei chân,
A'i obenyddu mewn barddoniaeth ffydd,
Eangder i leihau a diffodd pell
Fryn-lampau uchelfrydedd a blanasai
Rhyw freuddwyd beiddgar yno, man na bu
Ond ambell gerub-ddyn yn rhodio erioed
Lle gwelai amser oll, un yma a thraw
Fel duwiau ar yr oesoedd.
O, swynion nefol yr olygfa hon!
Braidd na fuasai sant ar risiau'r nef
Yn edrych dros y bedd, gan genfigennu
Eden mor hawddgar i nos-ochr y byd.
Yr oeddym ar y trothwy, ar y trothwy.
Efrydydd blin! a fuost ti erioed,
A glywaist ti erioed am neb a fu
Ym mhellach gam na throthwy gwynfyd, gorsing
Paradwys yma i'r bedd?
Yr oeddym ar y trothwy, blin y dydd!
Daeth uchelfannau, sail, a chwbl i lawr,
A gorsing gobaith a'i eurddringion oll,
Oll yn yr adfail.


Na ofynned neb
Neb fedr deimlo, ble mae'r fan —
Bedd, bedd sydd yno.
A throm yw agwedd anian gylch y lle,
Mae'r blodau yno yn pendrymu, a'r gwlith
Yn wylo ar eu mynwes hyd brydnawn.
A thyner yw yr haul; ar ganol dydd
Ni leibia hwynt â'i wres. A'r edn
Ddisgynna ar y beddfaen hwn, a thaw!
A hir ymdrecha natur dwym ei chalon
I gadw y dywarchen ar dy fron
Yn dyner ac yn werdd ar ol i'r gauaf
Anadlu angau ar y byd. Hir, hir


32 GWAITH ISLWYN.

 


Y mae un arall yn gohirio o gylch,
Ei bechan ddidrain annedd, fel pe bai
Yn disgwyl clywed cyffro o’i mewn, neu lais
Yn son am adgyfodiad, balmaidd son
Am ail gyfarfod. Ah, nid yw y bedd
Sy'n gofyn, gofyn, gofyn, ac ar ol
I oesoedd, gwledydd, bydoedd, wrando a rhoi
Eu hunain a'u hadgofion olaf iddo,
Yn gofyn gan daranu, — nid yw ef
Yn ateb un gofyniad er i'r truan
Drengu wrth geisio. Eto hyfryd yw
Adgofio’r hyn a fu, na ddaw drachefn,
Na ddichon eto ddyfod!

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

YNG NGWLAD ISLWYN, GER Y GELLI GROES.


“Per brudd-der cofio yw dedwyddyd dyn.
Mae'r enaid trwy adgofion yn mwynhau
Mwy nag a allai'r byd ei hunan roi.” –Y STORM.


Y STORM. 33


Y STORM.
III.

Y rhuthr.


FEL udgorn dyrchafa ei llais ar y bryn,
A gwrendy y glyn
Dan grynu fel colfen ar raiadr bryd hyn.
A wyt tithau yn crynu? Tyrd, gwrando yn hy,
Llais natur sy fry,
A natur sy'n canu ei hanthem i ni.


Mae y mynydd yn crynu, a'r dderwen ar lawr!
O'r tu cefn i'r muriau gwrandawaf yn awr,
Nid erchylldra i gyd yw y dymhestl fawr.


Ar ben y mynyddoedd y clywaf ei llef
Ofnadwy a hy',
Fel pe bai dan ei thraed uchelfaoedd y nef,
Ac yn ei heyrnfreichiau y bryniau fry,
A than ei theyrnwialen y derw addolant,
A chenglau y graig yn y dyfnder ymlaesant,
Tarana fel cawr ar glogwyni'r mynyddoedd,
A thros ei hysgwyddau arllwysa y gwlaw,
O lynau y nefoedd,
Sy'n hongian ar fronnau yr wybren draw.

Clywch, acw ar daflod y nefoedd mae’n rhuo,
A'i tharanau dros lofft y cymylau yn treiglo.
Yr afon a gyfyd o’i gwely i'w gwrando!
A Rhyfel yw ysbryd y dymhestl hy,
Goresgyn y bryniau a'r wybren mae hi,
A themtia yr afon anwadal i estyn
Ei gwleb deyrnwialen dros waelod y dyffryn,
A chroesi y terfyn a'i thonnau,
A noethi morddwydydd y bryniau.

Ag uchel law,
Marchoga ar y cwmwl draw,
Sydd wedi ei genglu â tharanau,
A'r fellten danbaid ar ei ael yn cynau.
Fry cwyd ei haiarn fraich tua’r sêr a beiddgar lef,
Tra yn ei dwm holl daranfolltau’r nef.

Yr eofn wynt, rhyw daran a'i deffroa,
Wrth gwympo i lawr o'r nen, a’i erchyll fwng ysgydwa;
Anturia allan rhwng y mellt a'r nifwl,
Yn wlyb o'r cwmwl.
 


34 GWAITH ISLWYN.

 
O flaen fy aelwyd gled, a gwynaf fi?
Anuwiol fyddai, Forwr! a thydi
Ar allt erchyllaf angau, yn gafaelu
Yng nghangen olaf gobaith, a mil o feddau'n codi
Ar flaen y gwynt gan rythu i fro'r taranau,
Fel pe am gau ar gedyrn yr wybrenau.


Ah, nerthol yw'r ystorm ar gefn y weilgi,
Tra'r dwfn o lan i lan o'i phlaid yn ymarfogi,
A lleng o donnau wrth ei harch o’r dyfnder
Yn rhuthro i'r lan a'u hwyneb yn glasu i gyd gan ddigter.


Un bryn ni chwyd ei ysgwydd fawr o greigiau
Yno, i’w hatal ar ei thaith dros ben y môr-fynyddau,
A'i themtio i ddryllio ar ei ochr yr olaf o'i tharanau.
Ma'r ffordd yn rhydd bob llaw, a chôr y gwyntoedd
Yn chwyddo ei chlod o'i blaen yn udgorn mawr y nefoedd.
Ynilla holl wastadedd maith y tonnau,
Tra'r daran fawr yn cadw y nefoedd ar ei gliniau.


Anffyddiaeth! ffoa rhag y tyrfau sydd
Draw yn cyhoeddi dy gondemniad prudd
O uchel fainc y nefoedd. Byddar bydd
Rhag derbyn y dystiolaeth ddwys,
Y plyga yr wybrenau dan ei phwys.

Mae nerthoedd yr ystorom ar yr wybr,
Ac uchelderau'r creigiau yw eu llwybr.
Braich noeth y dymhestl dreigla ar y gwynt
Ei mawrlwyth o ddigofaint, farwol hynt.
Y daran a ddiluwia fyd a nef
Mewn môr o sain; a llawer clogwyn gref
Fwynha leferydd i gyhoeddi fry
Feddyliau Anian a'i theimladau hi.
I lawr yr holltau anherfynol clyw
Ymdoriad pell y daran, aruthr yw.
Fry, chwyth y gwynt ei udgorn lond y nef,
Gan alw'r bryniau i'w addoli Ef
A ferchyg yr wybrenau.


Gwna y gwlaw
Wrth ddisgyn ar y creigiau moelion draw
Ardderchog gydgerdd. Deffro mae y llyn
Gan roi ei donnau broch wrth draed y bryn,
Oll dan dywysiad yr ystorom fawr
Sy'n llenwi'r ddaear fel y nef yn awr.


Y STORM. 35

Yr afon lesg ddihuna, hithau, dan
Reddf cydymdeimlad â'r mynyddoedd ban;
Derbynia'r nentydd gorchwyddedig, — sy
Ail storm o eira ar y rhiwiau fry —
Fel cymwynasau ar y mynyddoedd draw,
A galwad i ledaenu ar bob llaw
Ogoniant Anian.


Tros y nef yn lân
Agorai'r mellt eu baner goch o dân.
Am eiliad bryniau a dyffrynnoedd gawn
Yn ail ymddangos yn nisgleirdeb nawn,
Ond eluad ydyw — dyfnach nos yn awr
Ddisgynna, gloa yr olygfa fawr.
Ailrua'r daran o'r tywyllwch pyd
Mewn llawnaf dôn, fel angladd-gloch y byd.

 
Dewisach yw yr annedd dan y bryn
Na marmor lysoedd, ar yr oriau hyn.
Dedwyddach fil na thywysogion byd
Y bardd sy'n gwrando o’i ystafell glyd.
Yng ngoleu claer y mellt darllenna ef
Lythrennau enw'r Ior ar len y nef.
Ei gyfrol ar y bwrdd a ddyd i lawr,
Agorodd natur ei chyfrolau 'nawr!

Y STORM.


IV.

Y graig.

SAF ar y graig! Barddoniaeth duwiau yw,
Os meiddi oddef yr ofnadwy iaith,
Os meiddi wrando ar y môr a byw,
A'th enaid godi gyda'r fordon faith,
Ymgodi tuag ardderchocach traeth
Nes clywed yr ymchwyddiad ar ryw LAN
Dragwyddol fel yn darfod mor dyner, O mor wan!


Ton ar ol ton ysgydwa lawr y traeth,
Ar hyd y ddaear a'r taranau hyn,
Fel pethau bywyd hyd y galon laith
A thrwy ei holltau a'i hysgarion syn.
Fel pe bai byd yn trengu fryn wrth fryn
Y gwelaf hwynt! Ofnadwy wawl a rydd
Eu hewyn wrth ddiflannu fel golau angau prudd.


36 GWAITH ISLWYN.

 
Y mae gan angau olau o'i fath ei hun,
A sêr tywyllion ddigon, O y mae
Rhyw anfarwoldeb o adgofion blin
Rhag methu o'r siomedig weld ei wae,
A synio gwagder bywyd, a'r pell drai
O ddymunolion bethau forau byd,
Pan oedd yr oll yn dawel a'r storm ar ol i gyd.


Saf ar y graig! Gogonawl yw'r sefyllfa,
Er hynny, sydd yn dwyn i’r galon flin
Y gwynt a'r gwae drachefn, rhyw arsyllfa
Bâr iddi weled nad yw hithau ei hun,
Fod dros y cyfan ryw amrywiaeth hin,
A bod i'r graig ei nos a'i phell adgofion
Am ysgariadau gynt, i'r bryniau eu seil-brofion.


Ni ddylem ymawyddu weled un
Yn wylo pan ein hunain ar y llif
O ddagrau, ’n ceisio rhyw belldraethau cun
Y cerddwyd drostynt unwaith yn rhy hyf,
A'r adgof-dyrau rannwyd mor ddi rif
Uwch dyfroedd ebargofiant, oll uwchlaw
Awyrdon loddol anghof sy'n dilyn — dilyn draw.


Ni ddylem! Eto prudd-ddyddanol yw
Weld eraill hefyd o wywedig wedd,
Ac ambell un heblaw yn meiddio byw
Tu ol i fywyd yn y tawel hedd
Lle nad oes dim yn amlwg ond y bedd,
A phan y delo allan, oll yn wyw
Fel blodyn a ddylasai mewn hinsawdd arall fyw.


Rhyw ddrych o fywyd ydyw natur oll,
A byd yr enaid ar ryw farwol len,
Ceir rhwng y bryniau uchaf lawer coll,
A llawer hollt tragwyddol, llawer pen
Yn edrych fyth i lawr o'i briod nen
Heb ganfod seren mwy, a llawer awel
Yn canu am ryw nef sy fil mwy tawel.


Mae pren gogwydd-fawr ar y mynydd draw,
A welsid yn ymgodi’n fawrwych gynt,
A'i gangau yn meddiannu'r nef bob llaw,
Cai yntau heno'n isel dan y gwynt,
A llawer côr yn tewi ar eu hynt
Gael y cerddfaoedd heirdd i gyd mor llwydion,
A'r cyfan ond fel adfail o freuddwydion.


Y STORM. 37


Y mae y cangau yn cyfeirio i gyd,
Fel bysedd meinion llwydion, tua'u bedd;
A'r gwlithion dros y dail wywedig bryd
Fel dagrau yn dyferu, a'i hollwedd
Fel un a fynnai mwy dragwyddol hedd.
Clyw gyffro'r gangen hon — aderyn du,
Fel adgof, gynnau ar ei brig a fu.


Barddoniaeth, O farddoniaeth! Pwy a ddyd
Derfynau arnat? Eang fel y nef
Yw taen dy ymerodraeth; mae y byd,
Ei greig, ei foroedd, a'i fynyddoedd ef,
Yn troi o'th amgylch a chyfundraeth gref
O dragwyddolion bethau, a'r holl ser
O fewn gwelediad dy gerub-drem der.


Un yw gwirionedd, ac i ti y rhoed
Dirgelwch ei unoliaeth. Rhoer i hon
Y graig ystormus, gwydra yn ddi oed
Wedd o wirionedd ar ei garwaf fron,
A daw y graig i'r lan yn fyw o'r don
Fel rhan o'n bywyd, rhan o'n henaid mawr,
A'r bryniau gydsymudant a'u hysbryd oll yn awr.

Edrychaf ar y pêr flodeuyn draw,
Mae mwy na blodyn yna! mwy i mi,
Mwy i bob un el heibio yn dy law;
Fel dôr blygedig egyr ef i ti,
A'r enaid rodia i ryw wynfa fu
Fynediad athrist drwyddo; o'r tu cefn
Chwyrn ddadfachluda amser, a chwyd y byd drachefn.


Pa beth sydd yna? Ti yn eglurhau
Uniolaeth pethau, myrdd cydiadau bod;
Tydi yn llanw y gwagleoedd gau
A ganodd balchder dyn o farwol glod
A fynnai ar wahan fodoli, a dod
Yn unig bennaf fawredd — ysgaredig
Oddiwrth y Duwdod hefyd, urdduniant melldigedig, —


Urdduniant engyrth y dafledig graig
A hyrddiodd y ddaeargryn fythoedd fry,
Lle mae y daran fel clwyfedig ddraig
Yn ysgwyd caerau'r nefoedd oll â'i rhu,
A storm dragwyddol ar ei honglau hi;
A'r byd-unedig fryniau'n gorffwys draw
Ar seddau cydresolion, mewn oesol hedd islaw.


38 GWAITH ISLWYN.

 
A myrdd bwâau y cyfamod hedd
A daflodd yr Anfeidrol dros y byd
I maes o’r enaid cyntaf, ti a'u medd,
Olrheini hwynt i'w gorffwysfeydd i gyd
Ar fryniau, moroedd, ac ystormydd pyd,
A thrwy y cwmwl du a thrwy y ser
Sy'n ymgymysgu â’r enaid mewn rhyw gawod ddagrau bêr.


Pa beth yw testyn? Ton ar fôr tragwyddol,
Ac nid oes gwybod ble dibenna'r daith,
Na pha ryw bell ynysau nef-arwyddol,
Pa benrhyn welir, pa anfarwol draeth,
Pa seiniau glywir o'r dragwyddol iaith!
Beth yw y draethell hon ond rhan o fyd?
Dos, sawdd i'r gorwel arall, mae'r pwnc yn gwawrio o hyd.


Pa le yr aeth y testyn? Mae y don
Yn gweled llawer nef a llawer traeth
A llawer gwlad, ac eto’r un yw hon,
Er cael o raddau yn ei chwydd a'i hiaith.
Pe meiddiem mewn ystorom fod yn ffraeth
Fe ddylai testyn weithiau golli ei hun
Yn anifeiriant pethau, rhag Babeleiddio un.


Mae ambell un o'u golygfaoedd hwy,
Y creig a'r broydd, yn ein henaid ni
A bythoedd gwelir yr olygfa mwy
Gerllaw y galon, fel rhyw daeniad cu
O fywyd wrth ei bywiol ddyfroedd hi.
Pa beth sydd yn parhau'r olygfa hon
Gan dyner dragwyddoli swn y don?


Ddwyfoldeb enaid, O Farddoniaeth, Hon!
Hon sydd fel hyn yn eneidioli'r byd
A'i feirwon bethau. Rhoer im’ weld y don,
Farddoniaeth, dan dy ysbrydoliaeth ddrud,
Weld onid blaen y penrhyn, beth yw hyd
A lled a dyfnder amser! Yn y fan
Rhydd ei holl feirw i fyny, — a thi, O fwynaf Ann.


Mae'r enaid weithiau fel pe'n teimlo ei hun
Yn fwy nag amser, ac yn archu'r byd
A'i oriau ymaith fel cymylau blin
Oddiam ei briod uchder, a'i holl biyd
Yn teg ymledu; fel pe deuai o hyd
I ryw golledig wyddor sydd yn dwyn
Holl rithiau amser dan ei rymus swyn.


Y STORM. 39


Y STORM.


V.


Y gwyntoedd.


Gyrrwch, wyntoedd,
Ar eich hyntoedd,
Dros y llyn,
Dros y glyn,
Dros y bryn,
A thros lawer Alpfôr gwyn!
Beth yw gwlad o fryniau i chwi
Ond gorddringion uwch i fri?
Lle mae'r byd yn ymwahanu
Beilch y croeswch dan chwibanu,
A chan ado'r geirwon fryniau
Fyrdd ar ol fel niwl-gyffiniau.
Beth yw tonnau
Ond y bronnau
A estynnir
Gan y fam dragwyddol, Natur,
Lle y tynnwch laeth gwrhydri,
Galluawgrwydd, a mawrhydri?
Berwed moroedd,
Brynied byd,
Lle mae'r tonnau
Llawna'u llid,
Lle mae'r bryn
Yn gwneyd glyn
Yn y nef ei hunan fry
Rhyngddo â rhyw niwl-lethr hy,
Gwaen neu fryn,
Môr neu lyn, —
Drostynt ewch,
Drostynt dewch,
A'ch tragwyddol orchwyl wnewch.

 
Mae eich priod nef o hyd
Yn helaethach, ac yn lledu uwch y llid;
Beilch ymgodwch, chwyddwch chwi,
Tw diddarfod ofod hi,
A'ch pell orfoleddol lef
Gryma holl uchelion nef,
Lle na welir ond y daran,
Fythoedd, neu Greawdwr anian.


40 GWAITH ISLWYN.


O, mae yn yr enaid uchder
A rhyw nef o ddwyfol wychder,
Lle mae bryniau yng ngwych arfod
Anfarwoldeb wedi darfod,
Bryniau, ofnau, beddau, braw,
Wedi darfod ar bob llaw,
Wedi cael eu holaf fannau,
A phob ton ei holaf lannau,
Moroedd gwae
Ar ryw blymaidd drymaidd drai;
Lle y gwelir beichiau'r byd
Yr holl siom a'r ofnau i gyd
Ond fel borau-niwloedd llwydion
Yn ymylu tir breuddwydion.


O am gyrraedd ynnof f’hun
Briod orfawrhydri dyn,
Dringo oddiar bob glyn
Y cerubaidd fewnol fryn
A ymheula mewn ucheledd
A Duw-huliad o daweledd.
Y mae ambell
Feddwl llambell
Yn ei weled,
O daweled!


Pan dywyllo môr y byd,
A phan godo’i donnau i gyd;
Pan y rhytho'r bedd, fel gwaneg
Olaf distryw, am ychwaneg,
Am ychwaneg wedi cael
Mwy na bywyd ar un ffael;
Pan y metho'r cyfaill gorau
Gofio’i gymwynaswr borau;
Pan fo'r byd o allanolion
Yn diflannu mor ddiolion,
Gan ein gado'n ddigymdeithion
Ar yr anialderau meithion;
A saeth adgof
Trwy y fron,
Trwy ddi rif
Feddyliau hon;
Pan fo brodyr hoff yn cefnu
Ac i'n herbyn yn ymdrefnu;
Pan fo siomiant, a'i holl fryniau.


Y STORM. 41


Am ein bywyd fel cyffiniau, —
Y mae ynnot ti dy hun
Fawredd uwch y cyfan, ddyn!
Gelli feiddio bryniau'r byd,
Ac o fewn ymgodi o hyd,
Neu fawreddog ymddifyrru
A gofidiau o'th gylch yn tyrru,
Fel yr awel yn y glyn,
Fel y corwynt ar y bryn,
Yn y sicrwydd ynnot fod
Uchder uwch yr uchaf rod.


O, ardderchoced weld yr enaid mawr
Yn tawel ymneillduo iddo ei hun,
Gan godi ar adenydd dwyfol wawr
Meddyliau uchel, o ddyrchafol rin,
Rhai teilwng o anfarwol dynged dyn,
Yn codi i'r taweledd pell na faidd
Ond Duw ei hun ei gynnal neu enaid pur ei aidd.


O, dedwydd hwnnw a all odde' ei hun,
A dal ymgroniad ei feddyliau noeth,
A dewis absenoldeb llwyr pob un, —
Y difyr, y cyfoethog, ac y doeth,
Gan ddisgwyl am unigedd fel am y pennaf foeth,
A chan ei enaid weithiau ynddo ei hun,
Fel yn ei nef dawelaf, Elysfa ddwyfol lun.

 
Unigedd! Pell, O engyrth bell, fo'r ffawd
A dry feddyliau’r euog arno ei hun.
Unigedd! Mae y gair yn dringo ei gnawd
Fel gwewyr gwae, fel anherfynol fin
Y cledd tragwyddol. Colledigaeth flin,
Beth ydwyt onid ysbryd erch yn troi
Fyth ynddo, arno ei hunan, heb unrhyw le i ffoi?


Ffynhonnau heddwch y diniwed, man
Y tardd hapusrwydd â thragwyddol li
O ryw ddyfnderoedd anherfynol dan
Fodolaeth dyn, O, chwerwon ydych chwi
Fel gwaelod cwpan barn i'r gaIon dru,
Y galon na faidd wrando arni ei hun,
Pan na fo swn i’w glywed onid un.


Yn hytrach, eirwon wyntoedd, rhoer i mi
Barth o'ch herfeidd-dra anherfynol, chwi
Sy'n croesi'r bryniau, ac yn chwareu hyd


42 GWAITH ISLWYN.

 
Y gorddyfnderoedd sydd yn gwydru'r nef,
Mewn dyfnder cyferbyniol yn eu bron;
Yn ofer ymgadwyna'r bryniog f
ŷr,
Yn ofer gwylia'r daran hyf o fewn
Y pell gymylau o ardyrol drefn,
Y mae eich ffordd ar hyd ymylau'r llif,
A'ch goruchafiaeth yn yr uchaf fôr,
Ac ar eich edyn cipiwch chwi y don,
A'r nef danghoswch iddi, briod wlad
Eich etifeddiaeth, bro eich tynged dderch,
A syrth yn ol fel delwedd siomedigaeth,
A chawod eira yw y cyfan gawn
Ar ol ei holl feiddgarwch, ac ar ol
Gofidiau bywyd oll; rhyw arwydd fod
Uwch pethau i’w mwynhau, a'r enaid mwy
Yn disgyn tua thawel barth y bedd
Lle mae y ffordd dragwyddol. O am nerth
I ddal yr aden sydd yn dwyn yr enaid,
A baich y galon, oddiar y byd
Pan frynio uchaf mewn mynyddog wae.


Y mae i'r bryniau, fel i'r broydd teg,
Eu defnydd. O, y mae pob pigwm oer,
A phob dyrchafiad oddiar
Wastadedd erch diddymdra, o ryw fudd
A rhyw fendithiol ddefnydd. Trallod, siom,
A phrofedigaeth, geirwon fryniau bod,
Hwy sydd yn casglu am eu bannau oer
Y gwyntoedd enaid-leddfol sydd yn dwyn
Pell seiniau bydoedd eraill ar y fron,
A rhyw aroglau o wynfaol naws.
I fyny yno mae yr enaid blin
Yn cofio am ei fonedd, ac yn dal
Dirgelion ei fawr dynged, tra y ceir
Nos siomiant yn eu haraf eglurhau
O serawl fawredd. Ac ar hyd-ddynt hwy
Y ceir y dwyfol lynnoedd, y cronfeydd
Nefolwawr sy'n diwallu'r enaid blin,
Gan lanw ei feddyliau, a chan adael
Ei holl obeithion fel penrhynion gwael
Ymhell tu ol — tu ol i'r ma
wr gyflawnder
Sy eto yn nhynged dyn. Pell eira siom,
Sy'n gwynnu beiddgar Alpau gobaith, geir
Fel yn ymdoddi arnom ambell dro
Yn ddyfroedd o adgofion, o dan wawr


Y STORM. 43


Rhyw seren ddienwadwy sydd yn awr
Yng nghylchoedd anfarwoldeb gyda Duw.
Ac O, y toraeth o ddedwyddwch dardd,
Y meusydd newydd o feddyliau ffrydiant
O gylch y galon dyner ar ol hyn.
A hwy sy'n amrywiaethu arwedd bod,
Gan ffurfio harddwch bywyd, mawreddogrwydd
Yr enaid tra yn chwyddo fyth ymlaen.
Ac ynddynt hwy y gorwedd yr holl gyfoeth
Sy'n codi amgylchiadau enaid hyd
Y nefoedd a holl reidiau'r byd a ddaw.


Dyloted hwnnw na fu erioed yn dlawd!
Dirmygus na ddirmygwyd, ac na fu
Ei enw yn sarn i blaned o wallgofion,
Rhai na adwaenant fawredd ond y sydd
Mewn daear felynedig. Tlodi geir
Yn ffurfio seilwaith mawredd pennaf dyn.
Pa le mae uchelderau pennaf amser,
Y bryniau sydd yn profi nad yw'r byd
Ond cyfran o dragwyddol olygfeydd,
Pechod-soddedig barth o gyfan hod?
Pa le y ceir y disgleirderau hyn?
Nid yw yr orsedd drom-euredig draw
Yn derbyn eu pelydron. Ac ni fu
Brenhinol osgordd yno, ac ni ddaeth
Athroniaeth eto dros eu ffiniol gylch.
Rai dirmygedig amser, d'wedwch chwi.
I chwi y rhoddwyd gwybod hyn, chwychwi,
Y gwael a'r gwrthodedig gan y byd,
A wthir o'i gymdeithas a'i holl fawl,
I chwi y rhoddir y dadguddiad derch,
Y dringion prinion hyd y rhai y daw
Angylion y dragwyddol rod i lawr.


Pan gauodd pechod uchaf ddorau'r byd,
Nef lwybrau amser, a agorent gynt
Ar Eden gyda heuliau cyntaf amser,
Pan gollwyd dy gymundeb di, O Haul,
A'th ser o blith eu brodyr; pan y daeth
Ein daear lom dan wylo o bob cwmwl,
Dan gasglu yr ystorom fawr o’i chylch,
A gwneyd galarwisg o'i holl nefoedd mwy,
Brudd arwyl o wybrennau, i bell rod
Pell wagle ei halltudiad, lle ni faidd


44 GWAITH ISLWYN.

Un seren edrych ar y nos dawelaf
Heb grynu bob pelydryn, na'r Anfeidrol
Ei hunan ddyfod heb waghau ei hun
Ac megys gado ei hun ar ol, gan roi
Ei enw allan mwy fel Mab y dyn,
(O’r meibion oll y pennaf!) lle nad oes
Gan gariad le i roi ei ben i lawr,
I lawr i farw ond yn ei waed ei hun,
Nac un orffwysfa i gyfiawnder Duw
Ond ar adfeilion bedd y byd, neu ar
Ei ddyfnach fedd ei hun; lle methodd angau,
Holl angau'r byd prynedig, ledu am
A chynnwys eu Pryniawdwr a ymledai
Dros holl derfynau eu drwghaeddiant hwy,
Nes llefai angau ar y trydydd dydd
I'r nef ei dderbyn, a chael dod ei hun,
Er dued oedd, i blith yr olaf res
O nerthoedd iachawdwriaeth, er yr olaf,
Y pennaf, a’r perffeithiaf sydd yn rhoi
Yr enaid ar ei orsedd; fore'r byd
Pan godwyd holl uchelion amser mwy,
Ei arnefolion leoedd ef, i mewn
I Dduw a'r eilfyd — fe adawyd un,
Un ffordd unigaidd, yn y niwl a'r nos,
Un ddringfa dawel oddiar y byd,
Ar risiau'r hon y gall yr enaid blin
Weld mwy nag Eden eto, a mwynhau
Y nefol weledigaeth yn ei rhwysg,
Pell olygfeydd y wlad tu draw i'r bedd,
Lle ni ddaw angau prudd na rhyd o wae,
Na rhyd o ddagrau byth, na thonnau mwy,
Ond uchel donnau'r archangylaidd gan
Sy'n nofio tragwyddoldeb ar ei swyn
Gan wthio ei fyrdd oesoedd oll o'r meddwl,
A phob ystyriaeth o'i ymlifiad ef,
Gan lawnder oll-gynwysol y mwynhad.

A chwi sydd yn ei meddu, y ddringfa hon,
Chwi'r dirmygedig rai, a'r gwael eu byd,
Rhai nad oes gan y byd i'w swyno mwy
Ond ambell adgof o ryw bethau gwell
Fu ynddo, nid o hono; fel angylion
A welwyd ar y byd un borau teg, —
Teg am eu bod hwy ynddo, am eu bod
Yn gwneyd i ni anghofio'r haul a'r byd,


Y STORM. 45


Gan ddod yn heuliau ac yn fyd eu hunain
Mil mwy a chyfoethocach na'r rhai hyn, —
I'r enaid dedwydd a gai ddod o fewn
Pergylchoedd eu swynoledd tawel hwy
A nefoedd eu prydferthwch, welwyd unwaith,
A mwy nag unwaith gollwyd. Adnewyddir
Golygfa bruddaidd eu machludiad hwy
Bob tro y dringo'r enaid i ben bryn
Y pell welediad, bryn y pell welediad,
Bryn adgof, sydd yn casglu uchder fyth
A bannau eraill beunydd. Aml y daw
Areulion ddyddiau bywyd arno ef,
Yn lluoedd ac yn lluoedd, o'r tir pell.
Rhyw hedfa o adeiniog ysgeifn bethau
Yw holl ddedwyddion bywyd dyn, ar hyd
Y llawr yn hedeg cyntaf; adgof yw
Yr uchder ysbrydolwawr sy'n mwynhau
Eu haml ymweuon, ac yn derbyn gwawr
Eu hail ddyfodiad. Heirdd y gwelaf hwynt,
Fel nefol golomennod yma a thraw,
Yn disgyn ar yr enaid o’r pellafoedd.
Pa le yr ydych yn ymorffwys mwy?
Ac o ba le y deuwch? O ba fyd?
A phwy sydd yn eich anfon? O, a phwy
Sydd yn eich galw ymaith? O ba fath
I ddeddf sydd yn eich rhwymo? Neu a oes
Lawn ryddid i chwi dramwy'n ol a blaen,
A dewis eich tymhorau ymweliadol?
Ai chwi sydd yma? Chwi eich hunain? Rhai
Yr hoffem edrych ar eich cysgod gynt
Yn angeleiddio'r byd; y deuai'r ser
Ymhell i lawr i'r nos dan lawenhau
Cyn yr ystyriem, dan eich llygaid chwi,
Fod y dydd drosodd, a bod pethau amser
Ymhellach o un haul? Ai chwi yn wir
Sy’n cyffwrdd â'n heneidiau ambell dro?
Ai dichonadwy ein hanghofio'n llwyr,
Y rhai a garech yn fil mwy na'r ser
Sydd heddyw'n ffurfio eich ardderchog ddydd,
Gan glaeroleuo’ch llwybrau? Onid oes
Rhyw gwlwm eto yn ein huno ni,
A’n tynnai at ein gilydd o bob byd?
Ac er cyfryngiad angau a'i gysgod du,
Beth yw dylanwad angau a’i rwysg ar hyn?
Chwi wyddoch. A yw angau erch yn fwy


46 GWAITH ISLWYN.
 
Na'r enaid hefyd, a’i fynyddoedd tywyll
Yn drysu ffordd yr ysbryd? A yw'r bedd
Yn ymeigioni rhyngoch chwi â'r oll
Nad allai bywyd o dymhestloedd wneyd
Gwâg munud rhyngoch â'u cariadau per?
Os condemniedig ych i deithio 'mlaen
Ar hyd y bryniau anherfynol pell,
Yn llaw rhyw angel nerthol a bedd-ddistaw
Na fyn ddywedyd dim ond "Duw,"
A'i olwg fythoedd yn y blaen ar ryw
Ryw nôd aruthrol; neu os morio'n brudd
Ar hyd y môr dilewyrch a di lan
Di awel a di hedd, lle ni chlybuwyd
Am gysgod craig nac adfail hafn erioed,
Lle mae y cwmpawd yn ymgylchu fyth
Gan chwilio’nmhob cyfeiriad am ei bwynt
Ac heb ei gael — nid yno maent! nid yno!
O pwy a'i dywed! Byth nid yno! Amhosibl!
Ar lan y ddwyfol afon sy'n dyfrhau
Pell ddinas Duw, neu ar y bryn o berl
Sy'n dal mawreddau ei frenhiniaeth Ef,
A mangre araul ei ogoniant pur,
Lle tyf holl ffrwythau anfarwoldeb dan
Dragwyddol haf ei nefoedd-wlawiol wên, —
A ydych chwi yn meddwl ambell dro
Am rywrai llai breintiedig? fyth yn sefyll
Yng nghanol nef wrth feddwl am y rhai
Na welsant nefoedd, ond anadlech chwi
O'ch amgylch yma? Yn unig dywed im
Pa seren hawddgar o'r myrddiynau fry
A hoffi, fel y gallwyf syllu fyth,
Fyth ar ei thegwch hi, nes cael fy hun,
Ryw awr ddedwyddlawn, yn ymagoshau
I fyny tua'i rhod Ti fyddi yn gorffwys,
Yn tawel orffwys, ar ei gorgylch hi.


Chwi sydd yn meddu y gymdeithas hon,
A'r enaid-ymddiddanion dyfnion hyn,
A'r gwahoddiadau tua llwybrau'r ser,
Ser byw y mawr ogoniant, tua ffyrdd
Yr ysbryd yn helaethrwydd ei ryddfreiniau
Yn teithio fel pelydryn gyda'r haul,
Neu draw yng nghanol ser y borau, y borau
Sy'n lledu gyda chylch y creol air,
Yn lledu ar yr ymddatguddiol Dduw,


Y STORM. 47


Ar ddyfnder ac uchderau Ior, y sydd
Yn ymddadlennu o'i dragwyddol hanfod
O flaen y nefoedd fyth. Chwi sydd yn cael
Cymundeb gwirioneddau pennaf bywyd
Ar fannau eich unigedd. Siomiant sydd
Yn codi enaid ar bell raddeg bod,
Gan wneyd y bychan gan y byd yn fawr
Yn Nuw a'r ysbrydolion. Y mae llwydd
Daearol, ac amseiniol foliant dyn,
Y llawrwyf o dymhorol wywol wawr,
Y palas ar y bryn, a'r etifeddiaeth
Ddaearol-deg o gwmpas yn crynhoi
Y nefoedd gorwel-hongiol fel ei chylch,
Yn peri i ddyn anghofio'r bedd, a'r byd
Goruwch ymdaen tu yma a thu draw,
Lle mae yr enaid yn ei elfen dderch
Yn meddwl ac yn troi uwchlaw y byd
Yn swn urddunol wirioneddau bod,
A lle mae amgylchiadau bywyd mwy
Yn cyflawn ymaddfedu, ac yn hongian
Bob un, fel meddwl llawn,
Ar gangau tawel-hongiol ein myfyrdod,
Lle troir bywyd yn feddyliau pur
Lond myfyrdodau'r galon, lle y mae
Yr enaid fel yn adgaffaelu’i hun
O afael rheibiol amser, ac yn troi
Pob peth yn feddwl, gan derfynu i hanes
Fel rhan ac hanfod-beth o hono’i hun.
Pan anfarwola'r enaid ynddo ei hun
Y marwol a'r llygredig, gan eu harchu
I ddiosg eu daearol wisgoedd mwy,
A chodi i'r anfarwol gydag ef;
Pan fo yn archu'r bedd a'r oll sydd ynddo
I fyw’ndragwyddol ac i symud mwy
Fyth yn y blaen, fyth bythoedd gydag ef,
Fel seren yn ei wybren fawr ei hun,
Lle mae y mewnol adgyfodiad mawr
Ar bethau bywyd, pethau amser oll,
Yn mynd ymlaen, a'u holl ddigwyddion hwy
Yn gado'u beddau ac yn gwisgo i gyd
Eu newydd wedd a'r perffaith, yn yr hon
Y gwelant ac y cyfarfyddant Dduw
Ym marn y byd ysbrydol, — oni fernir
Pob dyn yn ol ei enaid? O, pa beth
Yw'th fywyd yn feddyliau? A'th weithredoedd


48 GWAITH ISLWYN.

 
Yn noethder y goleuni pur o'th fewn?
Meddyliau fydd y cyfan cyn bo hir,
Holl swm a chyfrif bod. Ni fydd y corff,
Ond beth fydd ei weithredoedd yn feddyliau!
Cyflawna dy weithredoedd beunydd, fel
Y mynnit i'th feddyliau yn y byd
Anfarwol fod. A boed dy fywyd, ddyn,
Yr hyn a alli oddef fyth a byth
Fel meddwl ac fel hanfod-ran o'th enaid.
Fe a'th weithredoedd ymaith; yr holl fyd,
Y bryniau draw, a'r môr, diflannant hwy,
A chei gyfarfod â'r ddaearen hon
Lle bu dy gryd, dy fywyd, a dy fedd,
Lle pechaist, ofnaist, ac y digiaist Dduw,
Fel llychyn yn yr awel, neu fel niwlen
Ym maith fachludiad amser; ond fe fydd
Y cyfan o'th weithredoedd welodd hi
Fyth ynnot fel ansoddion d'anfarwoldeb.
Ddyn, nid oes dim yn marw. Nid oes bedd
I ddim o'th eiddot. Mae y ddaear hon
Yn gwrthod dy weithredoedd. Bydd dy holl
Anwiredd jrn cael gorwedd ar dy fedd,
Ond bedd ei hun ni cha. Beth yw y pridd?
Y peth yw'r maes a'r bryniau hyn o'th gylch,
Yr un o ddefnydd, elfen, deddf; fe roir
Y pridd i'r pridd drachefn, i ryw grug
Neu floen ei wisgo â theilyngach gwedd,
Ond rhaid i'r ysbryd ddychwel at ei Dduw,
A'i holl weithredoedd gydag ef, — y da
A'r drwg, y ddau ynghyd, a'r ddau
Fel rhannau o'i gymeriad, oll ar wedd
Ysbrydol a barnadwy, i'r byd arall,
Lle mae yr oll yn ysbryd, a phob peth
Yn feddwl byw di-fantell a di-len,
A Duw fel haul, fel dydd, yn amlyghau
Y cyfan oll a'i Hunan. Pridd i'r pridd,
A phridd yw baich y bedd, rhyw wastadhâd
O ddaear balch i'w ddaear yw y cwbl,
A cherydd arno am gerdded dros ei frodyr,
Y bryniau a'r clogwyni mudion, cyd;
Piler o dywod wedi peidio troi
Ar hyd ddiffeithwch crinboeth amser mwy, —
Paham yr wylem am ei golli ef?
Yr ym yn gadael byd o'r unrhyw ar ol
Yr un diwrnod. Pridd i'r pridd yw'r cwbl,


Y STORM. 49


Ond pwy all feddu ei weithredoedd ef,
Gweithredoedd yr anfarwol fu o'i fewn?
Maent hwy i gyd o fewn yr enaid mawr,
Yn gronfa o feddyliau neithol pur,
Yn croesi gydag ef, ac oll yn rhwym
Dragwyddol wrth ei dynged. Pridd i’r pridd —
O'r enaid y mae pechod, ac i mewn
I'r enaid rhaid ei ddychwel. Nid oes bedd
Gynhwysa ei weithredoedd onid un
Gynhwysodd fwy na holl weithredoedd Duw, —
Ei hunan yn yr olaf o’i weithredoedd
Yn natur farwol dyn. Ac nid oes dim
All wneyd i enaid oddef ynddo ei hun
Ei fywyd yn feddyliau, ond pan ddont
Yn ol trwy ganol ei gyfryngdod ef,
Trwy gawod waed ei groes, a'u hedyn oll
Yn dyferynu gan y dwyfol rin,
A'u holl ansoddau wedi newid byth
Trwy rin ail-greol y ddyfodfa hon, —
Pryd hynny gall yr enaid euog ddal
Ysbrydoledig faich ei holl weithredoedd,
Pan lifont ar ei galon dros y groes,
Oll gyda'r weddi o anfeidrol rym, —
''Dad, maddeu iddo!" Mae y ddaear fawr,
Dyfnder y nef, a'r ser aneirif draw,
Pob ton a chraig gysgodfawr yn y môr,
O ddyn, yn gwrthod dy weithredoedd oll,
Ac yn dy wthio'n ol i ti dy hun,
Ofnadwy ymneillduedd, gartref erch.
Ac nid oes aden ar y nefoedd draw
Na wywai ddwyn dy gysgod. Nid oes neb
A'th dderbyn fel yr wyt, ond Duw ei hun,
O dan y nefoedd, dan y byd, a than
Ddrychfeddwl olaf darostyngiad bron
A thrwy y bedd, yn chwilio am dy hynt
Heb seren i'w oleuo ar ei daith
Ond seren ddwyfol cariad ynddo ei hun,
Na golau ond a wnai ei groes i farw,
Ei groes o waed rhy amlwg ar y bryn.
O, ni fydd pechod farw ond lle bu
Marwolaeth ei hun farw, a phob gwae.
Rhyw gyfrwng nerthol yw ei angau ef
A drych ei brynediffaeth, i gyfnewid
Holl wedd bodolaeth dyn, a throi y nef
Ac anfarwoldeb eilwaith ar ei dynged.



50 GWAITH ISLWYN.

 
O ddyfnder trugarawgrwydd! Y mae ef
Yn derbyn pechaduriaid, ac yn derbyn
Eu pechod oll o'u blaen, gan feddu'r cwbl
O fewn yr eigion, y farwolaeth fawr
Nas gallai'r haul er uched, er mor bell,
Fyth syllu ar ei gorlydanol gylch
Am holl randiroedd erch euogrwydd, holl
Benrhynion gwae, yn rhedeg ac yn rhedeg,
Rhyw gyd-oflyngiad o holl foroedd gwae,
Amlifiad o'i holl gyflawnderau ef,
Ffynhonnau bywyd yn cydlifo i mewn
I angau, fel y byddai angau mwy
Yn ffynnon anfarwoldeb i'r holl fyd,
Yn darddle i afonydd llawnaf Duw
Sydd i ddyfrhau y byd a nef y nef;
Y nerthoedd sydd yn cynnal ac yn creu
Y bydoedd ogylch o ddefnyddiol ryw,
Yn cydymroi i farw er sylfaenu
Rhyw greadigaeth o ysbrydol wawr,
Lle mae yr oll yn newydd, lle y bydd
Dyn a Duw hefyd ar ryw newydd wedd
Yn gweld eu gilydd, ar eu gilydd byth
Yn troi rhyw newydd olwg o foddhad,
Ac yn mwynhau y pellder unwaith fu,
Y barnau nef-ysgydwol a'r dieithrwch,
Mewn cofion pereiddiedig yn ei waed,
Ei waed sydd yn pereiddio gwae ei hun,
Gan wneyd yr enw euog bron yn fraint,
A'n daear wael y flaenaf o'r holl ser,
Ac un o'i bryniau'n uwch na nef y nefoedd,
Lle y cydgasglodd y Goruchaf Fod
Ei ddirfawr hunan o bob byd a nef
I farw dros ei fydoedd, ac i droi
Llifeiriaint tragwyddoldeb yn eu hol.
Y mae ei angau ef yn rhedeg rhwng
Yr enaid â'i euogrwydd, rhwng y ddau
A'r Duwdod, ac y mae y ddau ynghyd,
Duw a phechadur, yn gydfoddlawn fyth.
Y mae pob gweithred yn yr enaid mwy
Yn ymbureiddio i feddylddrych pur
A syniad o ufudd-dod ac o fawl;
Y mae yn hongian ar y tywyll fedd,
Ar nos-gysgodion angau yn y glyn,
Ei fantell wael o gnawd a'i holl amhuredd,
Ac yn prysuro draw i wyddfod Duw


Y STORM. 51

Yn enaid o feddyliau, — o feddyliau
Pell-losgawl o addoliant, — ac yn dwyn
Bodolaeth bur o fawl a diolchgarwch
I’w rod dragwyddol. Mae ei gamwedd oll,
Oll yn olchedig yn y dwyfol waed,
Ac yn ei ysbryd mwy fel canol wawl,
Fel haul o gariad am yr hwn y try
Yr enaid a'i feddyliau byth dan ganu.


Fry, meddwl pennaf yr archangel pur,
Wrth redeg dros ei hanes, dros ei fod,
Dros dreigliad ei holl oesoedd gyda'r ser
O'i godiad yn y dwyfol gyda hwynt,
Wrth edrych ar ei hanes ynddo ei hun
Fel ffrwd o wawl di-gysgod a di-len
Yn llifo hyd ei darddiad yn y nef
Foreuaf a agorwyd dan y gair
Oll-greol, ei feddylrych pennaf yw, —
"Ni phechais! moliant fyth i enw Duw!"
"Yr Hwn a'n golchodd oddiwrth ein holi
Bechodau" — dyna bennaf feddwl sant,
A nef ei nefoedd oll, y dyfnder mawr
O'r hwn y daw holl foroedd mawl i'r lan
Dros oesoedd tragwyddoldeb, a thros bob
Bob munud araul ar ei fythol fod.
Fe ddygodd fy mhechodau yn ei gorff,
Ei hunan ar y pren, a daeth i'r lan
O'r beddrod heb ei faich, a minnau, mi
Yng nghanol grym ei adgyfodiad ef —
Deddf Iachawdwriaeth sydd yn dwyn y byd
I'r dwyfol rodau eilwaith, fyth i droi
O amgylch y canolfan mawr, tu fewn
I'r seren fewnaf o’r myrddiynau fry —
A minnau godwyd, godwyd gydag ef
I nefoedd purdeb a sancteiddrwyad derch,
Lle taenwyd f’ymarweddiad a'm holl ffyrdd;
Ac wedi tramwy eu helaethrwydd hwy,
A godwyd i'w ddiweddaf godiad ef,
I nef holl nefoedd ei gyfryngol rwysg
Y sydd fyth bythoedd yn ymledu am
Ddeheulaw gallu Duw, deheulaw holl
Briodoleddau’i hanfod.
O, y môr,
Y môr o wych ddedwyddwch heddyw dardd


52 GWAITH ISLWYN.

 
Wrth feddwl am yr hyn a fuont gynt,
Yr hyn ni welant, ni adwaenant mwy,
Ond trwy ei groes a’i gyfryngwriaeth ef.
A chwi, y gwael a'r bycham gan y byd,
A welaf ar y rhiwiau serth a geir
Yn hongian drwodd o'r gogoniaint hyn
I gymell dyn i'r lan, tra yma a thraw
Gang o'r tragwyddol bren a gwawroedd aur
Gwlad anfarwoldeb ar ei araul frig.
A'r nefoedd yn ymgroni yn ei bêr
Bêr addon, ac yn syrthio i lawr yn gyfain
Gan bwysau teg dedwyddwch,— chwi yw'r rhai
Ddewisir, y tylodion, fel y bo
Tylodi cyfoeth yn noethedig fyth.
Y trallodedig sydd yn cael y bryn
Goleulawn hwn, a gododd hyd y nef
O ddyfnder ei farwolaeth, pan yr aeth
O dan drueni dyn, a phan y cododd
Gan ddwyn y byd i fyny gydag ef
Trwy rym ei adgyfodiad mawr ei hun.

Y STORM.
VI.

 
Ceisio gloewach nen.


“My heart’s poles now are fixed as earth’s in Heaven,
Shining in solid silence to the moon,
Starry and icy silence; and all ceased
Their torrid oscillances. Once it rolled
In tropic splendour."

YN nyfnder nos
Y lleuad dlos,
Dan wylo, fyth yn welw ei gwawr,
Dramwya yr eangder mawr,
I geisio gloewach nen.


Ar wedd fyfyrgar
Pan fo’r seryddwr o'i arsyllfa
Yn pwyso bydoedd, arno tremia
Yn athrist eto'n hawddgar,
Fel pe yn deisyf oddi fry
Ar iddo ddangos iddi hi
Y ffordd tua gloewach nen.


Y STORM. 58

Heb gâr i'w llonni ar ei thaith
Yn unig trwy'i harianrod faith,
Nid syn os ydyw wrthi ei hun
Heb gyfaill un
Yn wylo am loewach nen.


Fel breiniol weddw
Ar orsedd wen
Hiraethu mae
Am loewach nen.


A hwy y ser,
O'u cylchoedd ter,
Ni sylwant ar ei gweddi hi,
Ehed mor daer, mor athrist fry —
A oes yn cylchu eich rhodau Chwi
Hapusach gloewach nen?


Neithiwyr yn nyfnder nos,
Pan i'r ffurfafen dlos
Ar ei hunigrwydd cwynai'n brudd,
Dywedwn i, —
Dy gâr wyf fi,
O sych dy rudd
Gyfeilles hoff! a llawen bydd,
A chrwydraf gyda thi
I geisio gloewach nen.

Y STORM.


VII.


Mynyddoedd adfyd,


MYNYDDOEDD adfyd, tywyll ydynt hwy
Pan syllom arnynt o'ch cyfeiriad chwi,
Fydolion, sydd a'ch calon ar y byd
A'ch uchelfrydedd pennaf yn y pridd.
Tywyllion ydynt, o'r cyfeiriad hwn
Yr ydym yn eu hofni, mae ein henaid
Yn crynu dan eu pell gysgodion hwy.
O amgylch iddynt yn y pellder awn;
Rhyw nos ddi-gysur ar eu bannau sydd,
Mor foelion oll, mor anial ar bob ochr!
Ac nid oes câr i'w weled arnynt fyth,
A'i lusern yn ei law, na seren lon


54 GWAITH ISLWYN.

 
Yn meiddio tramwy y caddugau hyn.
Y mae y byd yn ymbellhau, a phawb
Yn troi rhyw olwg tosturiaethol ar
Y truan sydd yn rhwym o'u dringo hwy
Yn llaw y dynged dyweli sydd yn tynnu
Yr hug ofnadwy dros ei hwyneb teg,
Teg pan ddilennir ef yng ngolau'r dydd
Sy'n araf dorri ar fynyddoedd uwch
Marwolaeth, oddiarnynt. Tynnwch chwi
Eich glythion ddaearolion at y tân,
Clustogwch eich cadeiriau, rho dy ben
Ar glustog meddal o gyffelyb naws,
Nes bo y meddwl am y bedd, ar ol
Y mwyniaint hyn, yn erchyll iawn yn wir.

Gwell gennym ddringo gyda'r truan draw,
Heb ddim o'r byd am danom ond a ddaeth
Am danom oll i'r byd, a rhywfaint llai
O gymaint ag y mae y marwol hwn
Yn colli pwysau fel mae'r enaid mawr
Yn ymddadblygu fwy i'r perffaith ddyn,
Gan orfantoli ym mesurau bod.
Y mae arsyllfa yn dy enaid, ddyn —
Anfynych y cyrhaedda neb ei phwynt,
Gan mor weddnewidiedig yw y byd,
A'i holl wrthrychau, o'i huchelder hi,
Fel nas gall neb ei oddef ond y pur
A’r sanctaidd a’r diniwed, lle nid oes
Dim swynol ond y sydd tu draw i'r bedd, —
Y well olygfa yn ei maith welediad, —
Na dim o werth ond sydd yn ddwyfol mwy,
Neu'n adgyfodi o’r beddedig fyd
Ar ddwyfoledig wedd. Ond pwy a faidd
Fyth sefyll ar yr edrychfaoedd hyn,
Y byddo cysgod o'r daearol rhwng
Eu henaid a’r tragwyddol?

Adfyd sydd
Yn profi i ddyn beth ydyw, ac yn rhoi
Ei hunan iddo ef yn lle y byd.
Mewn adfyd y mae dyn yn cael ei hun,
Ei enaid yn ei fawredd. Mae y byd
Yn llai nag ef pan feiddio ymbellhau
Ar hyd fynyddoedd adfyd oddi wrtho,
A byw o fewn ei ddwyfol fyd ei hun,


Y STORM. 55


Lle mae y ser a'r môr tragwyddol oll,
Ddyfnderoedd pennaf, wirioneddau bod;
A'i briod raiadr ar fynyddau pell
Gwrolder oll-herfeiddiol; peraidd ddôl
Y dwyfol gariad; ffrwd y mewnol hedd,
Na ddichon dim ei dorri; golau haul
Y byd ysbrydol, a siriolaf wawr
Y dydd tu draw i'r bedd. Mynwesa'r ffawd,
Y dynged a’th orfoda i droi i mewn
I ti dy hun; a phan y delot allan
Ti fyddi'n synnu wrth dylodi'r byd,
A ffoledd dynion. Na felldiga'r storm,
O chyfyd gwyntoedd amser ar dy ffawd
A'th yrr i maes o holl noddfeydd y byd,
O ddinas gadarn golud, a'r tu faes
I'w holaf argaer hi, nes byddot mwy
Yn rhwym o droi i'r ystafelloedd dyfnion
Sydd yn dy eneid fel cynteddau bydoedd,
A chau dy hun am danat. Adfyd sydd
Yn gyrru yr afradlon tua thref,
Y crwydriad tua'i gartref lle y mae
Ei Dad yn aros, a'r dragwyddol wledd.
Gwel! mae dy angel, ddyn, wrth ddôr dy enaid
Yn disgwyl dy ddychweliad. Mae yr holl
Angylion hefyd yn cydlawenhau,
A chwydd ar fôr llawenydd llawn y nef
Pan ddelo y twylledig ato ei hun.

Ac nid mor dywyll yw'r mynyddoedd hyn,
Y mae goleulawn fannau arnynt hwy,
A broydd telaid rhwng eu hechrys greig,
Ac ymweliadau o angylion hefyd,
A chysgod clyd yr HollalIuog law
Sy’n dal y nefoedd ar ei chledr ynghyd,
Yn mesur llwybrau'r haul â’i lleiaf fys,
Fel chwarau ar ddarlunlen fawr y nef.
Ond pwy a wel eu swynion, ond y rhai
Sy'n rhodio eu gorfannau, ac yn syllu
I lawr ar bob peth ond y ser a Duw?

O, edrych mwyach ar y ddaear, ddyn,
O bell dueddau Duwdod, ac o ffordd
Y tragwyddolion bethau. Mae y ffawd
Sy’n torri ymaith amgylchiadau’r byd,
Ac yn dy ddadgysylltu oddiwrth


56 GWAITH ISLWYN.

Wrthrychol bethau amser, awr, a chlod,
Y palmwydd dynol, a phob marwol swyn,
Gan beri iti sefylI arnat d'hun,
Fel edn ar ei asgell yn y gwagle,
Heb fynydd a heb gangen dan y nef, —
O, mae yn werth pryniedig aur y byd
A chydraiadriad ei fawreddau oll,
Ystorom o orseddau ac o fawl.


Tylodi sydd yn rhoi i ddyn y mwn
Tragwyddol, a all wneyd ei enaid ef
Yn fwy na'r byd, yn fwy na'r bydoedd oll,
Sy'n llanw ei ddwyfol dynged. Adfyd yw
Y gallu rhyfedd sy'n gorseddu dyn
Fel cerub, arno'i hunan, ac yn rhoi
Y nef a’i holl ddistawrwydd hyawdl hi
Yn goron ar ei ben, a mwy na'r ser
I lawenhau ei nos. Y truan draw,
Gadewch i ni ei ddilyn ef o bell,
O bell rhag torri ei ddwyfolaf hedd,
A'i alw yn ol i'r byd â chysgod dyn;
Gad, ddyn, i ni ei wylio, am y bryn
Unigaidd draw, yn crwydro wrtho'i hun,
Ac ynddo ei hun. Y truan? Nid oes neb
A'i geilw felly ond y cyfryw sydd
Ymhell o dano, gyda'r pryf a'r aur,
A'r dref, a'r ddinas fyglyd, a'r holl lwch
Sy’n llanw llygaid dyn, a mwy na hyn —
Ei enaid trwy ei holl welediad bron.
Pa le y mae'th gyfeillion? Ble yr aeth
Y rhai a'th folent gynt, y rhai nad oedd
Y byd yn ddigon yn eu golwg bron
I’w daflu i dy freichiau? Hwy, a wnaent
Eu hunain i dy foddio yn bob peth?
Dy garedigion o’r palasau gynt;
A aethant hwythau? A oddefent hwy,
Ymddifad, i ti dynnu deilen fach
O'u gardd, i sychu'th ddeigryn, neu fwynhau
Golygfa o fyd o fewn eu gorwel hwy?
Ai nid oes dim yn nyffryn bywyd — dim
A ellit ti ei garu, ac hiraethu
Na bai ef gyda thi?


Yr ynfyd, taw!
A phaid a holi'r gwyntoedd am y gwyntoedd.
Mae'n dda fod dy ofynion ar y gwynt


Y STORM. 57


Sydd yn eu derbyn, ar y gwynt yn marw
Cyn cyrraedd yr holedig yn ei hedd
A'i fewn-gysegroedd nefoL Ydwyt ti
Yn tybied fod y dirmygedig draw
Yn teimlo ei fawr ddirmyg? Dim! os yw
Yn deilwng o'i ddioddef. Neu a wyt
Wrth syllu o dy ddaear, waelaf ddyn,
Yn methu peidio wylo weled fry
Y fath dylodi? Cadw'th ddagrau oll
Nes bydd eu heisiau arnat, pan y bo
Dy aur a'th balas a'th ogoniant oll
Yn ysgwyd llaw â thi ym mhorth y bedd,
Ac arall yn eu disgwyl, yn anfoddog
Eu bod yn gwylio dy anadliad olaf.

Tylodi! beth yw hynny? Nid y dyn
Sydd wedi colli baich o ddim daearoL
Ym mhorth y bedd, pa beth yw tlodi, frawd?
Ar lannau'r byd tragwyddol, O pa beth?
Ar ol i'r marwol wywo am dy enaid
Ar ol dy noethi fyth o flaen dy Dduw,
A'th roi i gyd yn enaid ger ei fron
Heb niwl o gnawd am danat, pan na fydd
Y ser yn ddim i ti, na'r haul na'r ddaear,
Pa hawl a godi di o'th dir a'th dai
A ddeil y golau hwnnw? O, pa lamp
O'r miloedd lampau sy'n goleuo'th lys
Ac yn dyddhau yr oriel ganol nos,
A ddyffi gyda thi i’r byd a ddaw?
Pa haul, pe meiddit, o’r holl heuliau fry?
Fe wywai'r oll, yr heuliau acw i gyd,
Cyn cyrraedd glan y byd ofnadwy hwnnw.
Pan fydd dy babell yn agenu o'th gylch,
Pob adwy fwyfwy yn ymledu, a gwelid
Yr ysbryd yn weledig o'r tu fewn,
A'r enaid oll yn ffrydio i maes i'r dydd,
Y dydd tragwyddol anherfynol draw, —
O dywed, beth fydd tlodi? Beth a wna
Yr enaid yn gyfoethog yn ei fyd
Ei hunan, ac o flaen ei farnol Dduw?


Anuwiol! beth yw'th dlodi dyfnaf di
Yn ing marwolaeth? Onid gweled fod
Dy baias mawr a'r bwthyn yr un fath
O ran eu cywir werth, a'r ddau yn ddim,
A'r llaw a'u gwnaeth fel hwythau, pan y syrth


58 GWAITH ISLWYN.

 
Dy gorff o'th gylch, a phob rhyw farwol beth, —
Y byd, a'r ser, a'r nefoedd oll, — i'r dyfnder,
Gan d'adael di dy hunan yn oer niwl
Marwolaeth, heb oleuni ond a rydd
Dy enaid di-lenedig ar dy lwybr
Dan y dragwyddol gaddug, rolion barn?

Trwy ymfodoliad mewnol ynnot d' hun,
Trwy fyw o'r galon, byw o'r enaid pur,
O ffynnon gyntaf, buraf, ddyfnaf bywyd,
Ac nid o un daearol beth tu faes
Tu faes i briod ddyfnder enaid dyn;
Trwy roesaw adfyd fel gwahoddiad Duw
I ni ymnefoleiddio yn ein serch,
Ac ymddyrchafu, a chymeryd mwy
Ein lle yng nghylchoedd yr ysbrydol fyd,
Cylchoedd tragwyddol gariaa, lle y mae
Tragwyddol ac oll-berffaith gynllun dyn
Yn mawrwych eistedd ar ddeheulaw Duw —
Trwy hynny y mae gwneyd yr enaid mawr
Yn fwy na'r byd tra ynddo, tra y bo
O dan ei faich a'i holl dymhestloedd ef;
Trwy hynny y mae taflu tramgwydd faen
Tylodi i sylfeinwaith mawredd dyn,
A rhoi tragwyddol bwys gogoniant hwn
I orffwys ar dywyllaf gonglau'r byd,
A chodi’r nefoedd yn ei wagle ef.

Mynyddoedd adfyd! helynt hyd-ddynt hwy,
A'u dringo trwy y gwyntoedd oer a blin,—
O, hynny sy'n dadblygu'r enaid mwy,
Yn dwyn i fyny y tragwyddol rin
A orwedd ynddo, ac yn dwyn pob un
O'i nerthoedd allan i'r eangder maith
Nad yw y ddaear ynddo ond cam o fythol daith,
Nac angau ond hyspysol gloch ei ddydd a'i ddwyfol waith.

Eangder dy gyneddfau, enaid mawr
Pa dafod byth a'i dywed! Dedwydd yw
Y dynged honno, — er ei bod bob awr
Yn llawn o siomiaint a gobeithion gwyw
Maith fynediadau o angladdol ryw —
Ddadblyga bell ddyfnderoedd dy gyneddfau,
Gan godi’r Caos sydd o'th fewn i gylch bywydol ddeddfau,
A gwneyd i'th holl fodolaeth droi o amgylch dy nef-reddfau.


Y STORM. 59

Lle mae y bryniau bellaf yn y nef,
A'r gwynt yn cynnal yr wybrennau gan
Ei nerth ei hun, a gallu ei gyngerdd gref,
Lle mae y creigiau yn ymostwng dan
Y daran fawr gyfagos, a holl lan
Y serawl nef fel cymydogaeth ddwyfol
I'w gweld gerllaw, dros lyn o nos hyrwyfol;
O, yno, ar y bryniau, y mae cael
Gwelediad iechyd yn ei lawnaf rin,
Lle nad oes lwybyr ond yn erbyn ael,
Lle mae y ffyrdd fel ochrau nef bob un
Ac ar eu bannau fel y nef ei hun,
A broydd a mynyddoedd o gymylau,
Yn rholio danom am y bryn-ymylau.

Fel dynoledig ewig yno mae
Yr ieuanc yn ehedeg yn ei hynt,
A nwyf yr awel yn ei ysgafnhau
A'i lifol droed yn disgyn ar y gwynt,
Lle nad all storom ond ei ddwyn yn gynt,
Gan aweleiddio'i gam i'w annedd ferth,
Pan soddir pellder yn ei lanwol nerth.

Ac yno hirfaith yr ymgynnal ef
Sy lawn a llesg o ddyddiau, hir y dwg
Holl auaf bywyd ar ei galon gref,
Ei wyntoedd nosawl a'i ymwelion drwg,
Ffurfafen dywell henaint a'i holl wg;
Gorllewin bod, lle nad oes ysgogiadau
Na golau ond a rydd
Darfyddiad olaf dydd
A chyfres o ddilynol fachludiadau.

Y mae ei nerth, y nerth a gafodd ef
Ar riwiau y mynyddoedd geirwon gynt,
Pan barai wagle yn y storom gref,
Gan fynnu ffordd lle caed y llifol wynt
Rhaiadrol, bron ymgeulo ar ei hynt
Dan wasgiad y taranau, a'r holl nef,
Pan ymollyngai ar y dymhestl gref.

Y mae ei nerth boreuol yn parhau,
A'i wyneb eto fel rhyw hwyrol forau
Yn llawn o wenau, daweledig rai!
A'r llygad eto'n derbyn holl ororau


60 GWAITH ISLWYN.


Y wlad i mewn, a'r môr a thymhestl-ddorau
Y nefoedd pell a'u bydoedd cymyledig,
Lle mae'r taranau anfeidrolion
Yn casglu eu hamthrawl rolion,
A lle mae’r nef a gwynt yn balmantedig
Y gallai angel ollwng ei adenydd
A thramwy'r nefoedd ar ei rol ysplenydd.

A'r bywyd fyddo arwaf gan fynyddoedd,
O hwnnw, derfyn dydd, a fydd yn fawr.
A'r enaid ddioddefodd ei flynyddoedd
Gan lawned o ofidiau mor ddi-wawr, —
Bob un yn fynych droeodd, a phob awr, —
Efe fydd nerthol pan y ceir pob gallu,
Ond eiddo'r enaid, yn tragwyddol ballu,
Pan gollir gwawr y ddaear, pan y bydd
Y ser o dano oll a'u holaf ddydd.
Pan na fydd yn dy enaid amgylchiadau,
Ond dyn a Duw, y meddwl a’r teimladau, —
Efe fydd nerthol na wastraffodd ddim
O'i nerth ar farwol fyd, a gadwai’i rym,
Grym meddwl, grym serchiadau, oll ynghyd
Fel serawl bethau 'mhell goruwch y byd.
Efe ar ol un waith eu caru hwy
A gweld eu gwaelod, bedd, ni charodd mwy,
Ni charodd mwy ond pethau sydd i gyd
A'u dyfnder yn y Duwdod, a'i oesodd Ef eu hyd,
Efe fydd nerthol i wynebu draw
Y byd anfeidrol ar ei dynged ddaw,
Y byd a dynnodd rin ei enaid ef,
Ei feddwl, a holl fflydiau’i galon gref
I'w fewn i gyd, pan wnelai, yn ei rod
Ddaearol, yr oruchaf nef ei nod,
A gwên ei Arglwydd ei goronol glod.
I'r hwn ni feddai bywyd, trwy symudiad
Ei holl flynyddoedd, swynion gwerth ei gludiad,
Ond ambell fedd ac ambell i fachludiad, —
Machludiad o ryw barthau o fodolaeth
Nefolwedd, dan ryw drumau o farwolaeth
A daflodd siomiant fel daeargryn gynt
Yn erbyn borau bywyd, a'i gynnar hawddgar hynt,-
Beth yw y byd a'i swynion iddo ef?
Pob mawredd ynddo, a phob gorsedd gref?
Y perthi aml-liw sy'n ymylu’i daith,
Fe'u gwelodd, ond eu pasio fu ei waith.


Y STORM. 61


Os tynnodd un o'r mil-liwiedig gangau,
Trodd yn ei afael, wraidd a brig, yn angau,—
Euredig farwolaethau ydynt hwy, —
Ac aeth ymlaen yn ddifrifolach mwy,
A thynnodd ei serchiadau bob yn un
Yn ol o’r byd. Un bedd o dywyll lun
Yn unig a ddewisodd o'r carneddi
I ollwng ambell lifddor, ambell weddi
Pan ddelai ato, am un ail gyfarfod
Pe bai bodolaeth gyda hynny’n darfod.
Dewisodd un, a dim ond un ddewisodd
O'r pethau fu, ac adfail oer a brisodd;
Fe'i hailgyfododd ar gynaliol gofion,
O, mae yn uchel ar ei enaid-nofion
Yn gyfan yn ei galon-aber ef
Lle na thyn amser ei ystorom gref.
Fe alwodd ei serchiadau'n ol o’r byd,
Ei galon, a’i feddyliau goreu i gyd,
Yr holl feddyliau sydd yn tynnu nerth
Yr enaid allan, ac yn profi’i werth,
Sy'n gofyn gallu'r enaid i’w dyfalu,
A chydalluoedd byd a bedd i’w chwalu,
Rhai nad all byd o berlau eu had-dalu.
Pan y dychwelai'r gobaith hwnnw i’w law,
Fel bedd, addaweb o ddedwyddwch draw,
Dynnodd y byd un bore bythgofiedig,
Pan ddaeth i'w law yn briddlyd a thoredig,
Fe dyngodd ar y toriad, ar y bedd,
Y mynnai bethau o gadarnach gwedd,
A'r ser a holl adenydd Duw i'w huddo
A bydoedd eraill yn ddyledwyr iddo;
Y rhwymai'r nefoedd gydag ef, i sefyll neu gydsuddo.
Oddiar ei enaid taflodd yr holl fyd
Fel nos, a chwalai’i niwl-fawreddau i gyd,
Disgynnodd Duw i lawr, a'r ser o ddwyfol bryd.
Breuddwydiodd trwy ieuenctid; pan ddeffroes
Ar ymyl gwagle distaw, llwyr y troes
Ei enaid a'i feddyliau oll i fyny
Lle mae y ser am Dduw fel craig yn glynu,
Lle mae afonydd pob daioni sy
Yn tarddu gyntaf ac yn llawn eu lli,
Ar ol dychwelyd o bob oes a byd
A llawn ddyfrhau rhedleoedd bod i gyd.
Dwyreai bywyd fel cyfandir draw
O gaddug amser, lledai ar bob llaw


62 GWAITH ISLWYN.

Paradwys ar baradwys, hongiai nef
O ryfedd ardderchawgrwydd arno ef,
Ond rhythodd gwagle aruthr draws ei daith.
Distawrwydd oedd o'i fewn, neu ddistaw iaith,
A safodd, safodd yno dymor hir,
Lle nad oes bellach ond i enaid dir
A ddeil y sangiad anturiaethus — draw
Lle nad oes gan y byd a deimlo llaw,
Lle mae y llafar yn y dyfnaf daw
Yr erchyll oll fel peth tu faes i'w fyd,
Lle try yr haul a'r ser yn ol i gyd,
A phethau mil agosach gyda hwy,
Gan ado enaid y peth ydyw mwy,
Yn unig byth. Pan syrthio'r corff fel mantell
Dros ymyl amser a'i deneuaf gantell,
Pan gyda'r galon saf y byd marwolaf,
Pan adaw y gauaf maith, distawrwydd y glyn olaf
I fyny i'w ffynhonnau eithaf hi,
A phan y metho ei diweddaf li
Ysgogi allan, O pan ddaw'r arafiad
Y gwyndra, y distawrwydd, a’r mewn-safiad,
Pan dawo'r byw fel beddau amglustfeiniol,
A ddarfu bywyd? Trwy y pethau seiniol
Gweledig— calon, genau, corff — do, darfu.
Ond aeth yr enaid ymaith. O pa angel a'i cyfarfu,
Pa ryw o dragwyddoldeb gaed i'w dderbyn,
A oedd y nef o hirbell neu gyferbyn?
Paid, dyner Fam! O, tyn yn ol dy law,
Y bedd sy'n curo'n awr, a chlych y bydoedd draw.


Rho mwy dy law o dan fy mron,
A yw y galon unig hon
Yn curo, curo? O, paham
Y curai hi
Ar ol ei llu,
Ar ol ei mam
A'i mwy? — Paham
Na pheidiai hi y dywell awr
Y syrthiodd mwy na’r ser i lawr,
Holl nefoedd cariad baradwysaidd wawr?


Paid! gall fod ton
O fywyd eto dan y fron.
O freuddwyd bêr,
Parhâ! y mae


Y STORM. 63

Rhyw seren eto
Uwch y gwae
Yn addo — paid a'i phrofi hi.
Cred eto, cred
A bydd yn erbyn bedd yn hy.

Dos eilwaith, dos,
A allodd ton
Marwolaeth fyth
Fyth oeri y galon nefol hon,
A rhoi i’r bedd
Y fath nefolaidd wylaidd wedd?

Dos eto, dos
Yr wyt yn hir —
A ddaeth y nos
Y nos ddi-ser yn wir?
Taw! mae'th ddistawrwydd
Wedi dweyd,
A'th loes-wên nos
Ddi-foreu wedi gwneyd.
Ti ddysgaist dithau

Iaith y bedd,
Distawrwydd bythol ydyw ef
A ffyrnig hedd.

O pan lefaro
ran y clyw
Pan yr atebo
Alwad Duw,
Fe fydd yn werth
Ar adfail yr holl fydoedd fyw,
Ar lechwedd olaf amser, — clyw,
Ar olaf sail
Y llosgawl fyd,
A chodi'r haul
Treuliedig draw
Fel gwan oleuen yn y law
I weld y llid
Ddymchwela seiliau'r bedd i gyd,
Pan ddaw i'r lan o nos y bedd
Nefoedd o ser,
Lond agoredig hanfod Ner
Ar newydd wawr a newydd wedd.

Pan y dadrolir holl ddaeareg bod
A haenodd angau, byd ar fyd,


64 GWAITH ISLWYN.

 
Bryniau a broydd, mawr a bach ynghyd,
Brenhinbarth, cyrrau'r gwae ac alpau'r clod,
Dadrolir hwy i'r nef yn awr
Bob haen o led y ddaear fawr.
Ac amser ddaw oll heibio i Dduw
A'i luoedd oll, oll yn ei freichiau gwyw.

 
Fe glyw — fe glywodd bedd cyn hyn.
Aeth y Gorchfygwr trwy y glyn.
Fe glyw, le glyw
Pan ddelo Duw
A'i briod nef
A'i gedyrn oll o'i amgylch ef.


Y meirwon glywir dan y byd,
Yn codi ar ddaeargryn amser, fyrdd ynghyd.
A ffy y bryniau, ffy y môr,
Ac ni adawa dydd yr Iôr
Ddim, dim o'r ddaear, dim o'r byd
Ond bywyd — bywyd a fydd ei weddill-lwch i gyd


A gwelir angau echrys bryd
Fel nos o fewn y nos o lid,
O’r hon y seinia cnul pob byd
Y nos ddilea'r nef i gyd
Mewn un machludiad, a’r holl ser,
Pan gyfyd barn-gymylau Ner,
Ac arnynt draw ei orsedd danbaid der,
Fel bryn o wawl
Ar fôr o fawl,
A leinw'r gofod gwag nes teimlir fod
Y llawnder yn helaethach ym mhob rhod,
A thonnau mawl,
Yn uwch eu tawl,
A llawnach na phan oedd pob trân
Yn dwyn ei nef a'i fyd o dân,
A'i arbarth ter
O grogawl gerub-ddaliol ser.


Fe rythodd gwagle dros ei yrfa lon,
A gwagle hollol fu y ddaear hon
A'i hollogoniant mwyach iddo ef:
Aeth drosti mwy gan hongian wrth y nef
A'i byd-gyffyrddol addewidion hi,
Fel cerub, pan dramwyo'n daear ni,
A'i fraich fel bwa dros y ser, ac un
O'u cantau 'mhlyg yn ei ddeheulaw gun.


Y STORM. 65


Y STORM.


VIII.


Iaith y planedau


PAN rodio i ganol y nos
Fel cysgod distawrwydd a hedd,
Pan wisgo
y nefoedd eu serenog ros
A llewyrch eu Duw ar eu gwedd —
Pan godo y lloer ei y nef
A'r ser yn ei harwain i fyny,
A chyngherdd distawrwydd mor gref,
A'r byd fel wrth adsain yn glynu —
Pan dawo y môr i’r nef fawr-wydd
O burdeb y dwyfol lefaru,
O, pan y mwynhaom ddistawrwydd —
Distawrwydd y bydoedd yn caru, —
Yr egwyl nefolaidd y daw
Holl natur yn hylif i'n bronnau,
A'r môr ysbrydoliaeth o draw
Yn symud y nefoedd fel tonnau,
Fel tonnau o amgylch penrhynion
Ser-olau yr enaid pan rydd
Ei hunan i'r pethau nef-wynion
Tu allan i amgant y dydd,
Pan egyr ser-demlau'r uchafion
Holl led a helaethrwydd y nef,
A phan ellid gweled gorsafion
Y weddi, a llifiad y llef —
Trwy'r dwyfol ddistawrwydd i fyny
Dros olaf ymylgylch y gwawl
A'r seren sy fyth yn terfynu
Y cread gan bennu ei bawl —
Pryd hyn fe gyfarchai y bryniau,
A'r lloer, a'r planedau, a’r ser,
Fel tystion tragwyddol eu rhiniau,
Fel meibion anwylaf ei Ner.
"Fy mrodyr," dywedai, "Fytholion
Wynebau di weniaith, di wawd!
Yr un uwch yr holl newidiolion,
Ardderchog, oludog, neu dlawd." —
Sibrydai yr holl blanedolion
A'r ser, trwy y ffawod,~"Ein Brawd!
Cyfoethog neu dlawd,
Mewn gwychder a’r gwawd,
Yr un yw y Nefoedd, O byth y’n eu rhawd!



66 GWAITH ISLWYN.

Lle nid oes wahaniaeth rhwng gorscdd a maen,
Pell, pell y tu yma y derfydd pob sain
Daearol, a phob uchelfrydol esgyniad
Gall rhod yr aderyn orlamu’i derfyniad.
Yr un yw y ffawd,
Cyfoethog, tylawd,
Y gwychder a’r gwawd,
I ni —
Gl
ŷn di:
Mae'r Nef yn rhy berffaith
I rifo'r byrlymion ar wyneb y lli,
Nid digon o ser-ffaith
Pridd wawd a phridd fri.
Gl
ŷn di,
Cyfoethog neu dlawd,
Os union dy rawd,
Mae'th gader yn barod a'th fawredd heb ri
Gyda ni, gyda ni,
EiN Brawd."

Y STORM.


IX.


Yr haul.


NID yw y greadigneth aruthr hon
Ond Teml yr Anfeidrol, ac nid oes
Un cyntedd llai na byd, a digon prin
Y pennaf a'r helaethaf, pan y del,
I gynnwys cwr ei fantell, ac i ddal
Adsain ei lais o fewn ei lawnaf gylch.
Nef fawr yn ddor pob eang gyntedd gawn,
Yn troi ar haul fel colyn; a phan gwyd
Y dydd ei olaf feinaf far o wawl,
Ei dôr awyrol ailgolyna hi,
Dan lifo, ar y ser; a lleuad gron
Fel meddwl tawel oddiar bob un
A gwyd, gan hanner-agor trwy y niwl
Ei llygad breuddwyd-huliol, fel pe bai
Yn gwahodd dyn i lanw a chronhau
Ei syniad, nad yw amser wedi cael
Trwy ei holl oesoedd hyd ser-orsaf heno,
Air a chyflawnder iddo. Galwodd Duw
Y greadigaeth, bydoedd fyrdd, o gylch
Y canol air, a myrdd o fydoedd mwy,


Y STORM. 67


Tu faes tu hwnt i’w gilydd, haul am haul,
A ser-anfeidrolderau amgylch ogylch,
Nes caed yr oll yn debyg iddo'i hun,
Ac fel efe yn fawr, ac fel efe
Yn anherfynol fyth ond iddo ei hun,
Sy fyth yn fwy na'r cyfan, fel y mae'r
Cynhwysol fyth yn fwy na’r cynhwysedig,
A'r meddwl luniodd yn anfeidrol fwy
Na’r llun a daflodd allan.


Collodd dyn
Ei syniad am y greadigaeth hon,
Pob syniad cywir am ei mawredd lu
A'i hundeb a’i helaethrwydd. Synnai mwy
Pan dynnai'r dydd ei holl gyfryngdod ffwrdd
A’r haul ei ganol-fawredd odd y nef,
Fe synnai weld nefolach, dyfnach dydd
Yn gwlawio ei belydrau claer ar hyd
Ymylau'r nos. Anghofiai rhai y ser
Fel pethau o gyfundraeth uwch, nad oedd
Gan ddyn a'i fyd ran ynddi hi, na'i loer,
Er bod ei hagwedd fel pe mynnai hi
Ollyngdod, trwydded gan y ddaear gref
Ormesol ei llywodraeth, i roi tro —
Dan ddeddf bob paladr hyd ei chreigiau, hyd
Ei chanol-bwynt, heb ado gronyn fyth
I groesi terfyn ei chwmpasog gant,
Na syrthio dros ei hymyl-geulan bell
I fôr am-ruol creadigaeth Ior,
Sydd yn ymlannu ar ei rhimiol gylch
O'r anherfynol a'r tragwyddol draw,
Cylchoedd o ddydd di-rif fel môr wrth fôr
Tu faes i'w gilydd, dan a thros eu gilydd,
Fel tragwyddoldeb o ddiderfyn wawl,
Bob un yn troi o gylch ei drolyn mawr,
Ei haul creidd-dynnol, am yr hwn y rhed
Y bydoedd yn llifogydd anfeidrolwych
O allu ac ysplandra, nos bo môr
Y tran bytholgylch oesoedd ar eu hol
Yn storom o ddisgleirder ac o nerth —
Fel pe y mynnai drwydded i roi tro
I blith ei brodyr a gollasid gynt,
Pan y gwahanodd pechod deulu Duw,
Gan eu gwasgara â'i aruthrol wynt,
Bob lloer a phlaned i'w hanialwch pell,


68 GWAITH ISLWYN.

 
Meudwyon aruthr hyd y gwagle oer,
Pan dorrwyd yr ysbrydol bynt i lawr,
Rhai oeddynt yncysylltu'r ser i gyd
A'u gilydd, ac a phellaf orsedd Duw,
Fel rhannau teg o'r un cyfanwaith mawr,
Cynteddau yr un Ior-lanwedig deml.


Meddyliai dyn am oesoedd mai ei fyd
Soddedig ef oedd canol bwynt y cwbl
A swm y greadigaeth, ac nad oedd
Y ser ond gwreichion ar ei gyrrau ef,
Arwyddion ei derfynau, nad oedd gan
Yr haul un dwyrain na gorllewin ond
A droai efe ato yn ei daith
Ganol a ser-ysgogol; fod yr haul
A nefoedd Duw i gyd yn troi o’i gylch.


O, fel y gallodd meddwl un — un dyn—
Ddileu holl freuddwyd amser, a rhoi'r byd
A'r haul a’r ser i gychwyn fel o newydd
I maes o gyntedd amser yn eu trefn;
A dwyn y greadigaeth fawr i'r lan
O hono ei hun, o feddwl ynddo'i hun,
Yn ol ei mawredd a'i hanfodol ddull,
Heb seren dan dywyllwch, nac un byd
Yn tramwy yr anfeidrol heb ei ddeddf.


Fe syrthiodd creadigaeth Duw i’w law
Fel afal, a gwahoddai'r byd i weld
Dirgelwch ei threfniadaeth ar ei fys,
A sylfaen ymerodraeth fawr yr haul,
Ac uwch ymerodraethau ser y nef,
A gyd-deyrnasant trwy yr unrhyw ddeddf
O godiad hyd fachludiad amser mwy.


Haul! nid oes boreu yn dy hanes di, —
Dy hanes o ddiderfyn rwysg a gwawl,
O fewn yr hon y mae rhyw blaned fyth
Yn disgwyl dy gyfodiad, mil a myrdd
O froydd a mynyddoedd yn y niwl,
A'r nefoedd fel llumanau dros eu pen
Yn gwrando swn dy ddydd-wneuthurol rod,
Sy'n taflu dydd o amgylch ac o flaen
Bob tafliad lonnaid wybren môr a byd


Y STORM. 69


Gan fesur amser trwy ei gylchoedd oll,
O'r cyntaf i'r diweddaf, pan ymsawdd
Pob mesur yn yr anfesurol mwy,
Pan na chanfyddir amgant lle y bydd
Y gorwel fyth yn ddyfnach, lle ni cheir
Un terfyn ond a wnel gwelediad dyn,
Byrdra ac anigonrwydd ei welediad,
Yn agoredig ryfeddodau Ior, —
O fewn dy hanes ogoneddus fawr
Nad oes ol mewn wagleoedd onid dau,
Dwy ddalen wag yn unig, a adawyd
Yn wag, yr olaf, pan y teimlai'r byd
Pan deimlai'r nef, pan deimlai amser fod
Un cof yn ddigon y diwrnod hwnnw
Pan lefodd y Tragwyddol yn y cnawd
"Mae syched arnaf," nes i'r synnol fyd
Adseinio mewn daeargryn, nes i’r lloer
A'r ser i gyd ddihuno ganol dydd.
Mae'n ddigon ac yn ormod; rhydd y baich
I dragwyddoldeb, ac nid gormod ef
I’w gynnwys, ac i ddal y môr o fawl
Daen yn ddiderfyn o'r gwirionedd dwfn.

Braidd y ceir boreu yn dy hanes di
Mor fawr â hwnnw dorrodd mor ddisymwth
Ar foroedd dyfnion ei feddylfyd ef,
Seryddwr amser oll. O Newton fawr!
Fe allai'r ser
Eu hunain ffurfio'th feddfaen claer, a'r haul
Fachludo dros fynyddau'th fawredd olaf,
A’r seren fore wenu ar dy lwch
Fel brawd o'r un addewid, ac o'r un
Gyffelyb genadwri, ’r hwn a ddug
Ysplenydd ddydd y cyflawn eglurliad
Ar galon a ffynhonnau'r dydd ei hun.

Ai plentyn oit ar lan y dwyfol fôr,
Yn cipio ambell royn yma a thraw?
Drychfeddwl dirfawr ydoedd, teilwng o
Genhadwr iddo ef nad yw y byd
Ond groyn iddo, a'r ser ond taeniad uwch
O fanro ar uchelach creig ei allu.
Na welai amser fwy o'r plantos hyn,
Nad oedd i'w mawredd hwy a gyffelybid
Ond cyd-fawr, cyd-ddwfn ostyngeiddrwydd pur!
Yn rhodio hyd ei geulan grynol ef


70 GWAITH ISLWYN.

 
Dan grynu, O na welai amser f
wy
O'r cyfryw enaid-bererinion pur
Frawychent feddwl am yr olaf beth,
Rhydio a chynnwys dyfnder olaf Duw;
Y rhai wrth syllu ar yr haul a'r ser
Obeithiant nad yw’r helaethderau hyn
Ond cyntedd y gogoniant, tarth y môr
Tragwyddol, a phenrhynion bythol fyd
Yn treiddio ac yn chwyddo tonnau amser
Gan wneyd cyfyngfor bywyd yma'n fawr
Gan fawredd gobaith, a disgwyliad pell;
Y rhai obeithiant, yn eu dwyfol ffydd,
Nad yw y greadigaeth, er mor fawr,
Mor llydan, ond gwahanlen defnydd, rhwng
Yr ysbryd a’r ysbrydol, dyn a Duw,
Y bryniau rhyngom a'n tragwyddol wlad;
Y rhai sy'n edrych ar olyniad cyson
Planedau, heuliau, ser, pel ar ol pel
Yn codi'r dydd i fyny ac yn gwneyd
Machludiad yn amhosibl oesoedd byd,
Y lloer yn adgyfodi o deg fedd
Byd-ddwfn machludiad draw, hanner y dydd
Gan daenu'r borau tyner dros y byd —
Y ser o’u huchelderau'n taflu i lawr
Ryw ddarnau o dragwyddol ddyddiau Ior
Sydd yn goleuo bryniau tragwyddoldeb oll;
Y rhai sy'n edrych ar y cylchiad hwn
Boreu ar gyfer nawn, a’r lloer a’r ser
A’r holl blanedau’n cynorthwyo'u gilydd,
Fel unol ymdrech creadigaeth Duw,
Cydymegniad ei holl fydoedd hi,
I ffurfio ffigyr o'r tragwyddol ddydd
Sy'n llanw oesoedd anfarwoldeb fry
A ddwg efe i mewn, am dano, fel
Ei briodoledd a'i ogoniant pur,
Pan ddaw ei hun i olwg dyn ar ol
Ei holl weithredoedd.

Rhyfedd yw dy rwysg,
A theilwng ddrych o'th Berydd mawr, O haul!
Ti gludi fyd fel pluen ar dy fôr,
Dy fôr di lan o wawl. Derbynni'r ser
Fel engyl-adar ar dy donnau’n awr
Pan gasglont yn y pellder am eu brig
Y niwl ac ardderchocaf hudd y nos.


Y STORM. 71


Ac nid yw'r nos helaethaf ond dy arwydd
Dydd-gloawl ar y byd, a'r ser di-rif
Ond delwau dy ogoniant ar y sel,
Y sel ardderchog sydd yn rhoi dy fydoedd,
Un ar ol un,
Fel plant i freichiau am-bluedig cwsg,
I ryfeddodau mewnol gread dyn,
Y breuddwyd, sydd yn tynnu heuliau uwch
O’r enaid i oleuo bryniau pell
Rhamantus fyd dychymyg, ganol nos.


Ac nid oes leisieu cymorth arnat ti
Mewn un awyrbarth o'th lywodraeth fawr,
O'r canol bwynt hyd olaf gwr y dydd
Sy’n ymgymysgu draw â dyddiau’r nef
Lle mae yr enaid weithiau'n cael ei hun
Yn ddiarwybod iddo, ac yn wylo
Ei fod o fewn atyniad marwol fyd,
A baich o ddefnydd fel condemniad trwm
Yn hongian wrth ei ysbryd, nad all dim
Ei rwygo ond y rhwygwr mawr y sydd
Yn ysgar bydoedd ac yn tynnu'r cylch
Du tywyll am bob byd o euog nod
Sy’n rhwyfo trwy dy foroedd duon, Amser,
A than y barnol donnau amlaf, hyd
Y gobaith olaf sydd yn bannu ei wae.
Ti ddygi amser gyda thi fel môr,
Ac fel y tyn y lleuad ar ei hol
Foroedd y byd ar lanw o awyddfryd,
Y tynni di y byd a’r lloer a'r bydoedd
A roddwyd dan dy ofal, oll fel llanw
O danbaid hollalluawgrwydd o dy gylch.

Mor fawrwych nofiant ar dy fythol ddydd!
O na chawn wrando twrf dy fydoedd di,
Ac eistedd oddi arnynt oll fel cerub,
A chlywed yr ystorm anfeidrol sydd
Yn rhuo o'r tu ol i’r bydoedd hyn,
Ar ol pob un, y storm o sain oll-lanwol
Nad yw ei hadsain yn dibennu byth,
Yn seibio, nes y delo'r belen fawr
Yn ol drachefn ar ei heang gylch
I godi y taranau flwyddyn arall.
Digonol wyt dy hun i ddwyn dy faich,
A chadw'th iydoedd a'th leuadau heirdd


72 GWAITH ISLWYN.

Uwch bedd-lanedig foroedd amser oll.
Dos, deilwng gynrychiolydd o dy Dduw,
Sy'n ysgrifennu, ar ddalennau gwag
Y gofod, greadigaeth fel drychfeddwl,
Ac fel drychfeddwl yn ei galw yn ol
I fod mewn llawnach purdeb ynddo ei hun.
Parha
I godi o dawelfawr hafn y nos
Fyd ar ol byd yn ol eu harddaf drefn,
Eu cipio ar uchelder dy gyfodiad
A'u nofio yn fawreddog dros y dydd,
Nes egyr y ddiweddaf nos o bell
Ei thywyll byrth, O nes y g
welot draw
Benrhynion aber y traffwyddol fyd
Yn pennu amser â'r ddiderfyn lan,
Nes gwelot draw y Graig aruthrol sydd
Yn soddi bydoedd dan ei chrog o wae
Fel gro ton-daflol, neu yn derbyn fyth
Ryw lif o heuliau ar ei gloewaf frig
Yn esmwyth a mawreddog, lif o ser
Fel tragwyddoldeb o foreuau. Boed
Dy leiaf wên, fel eiddo'th Dduw, yn ddydd,
A’th fachludiadau fel yr eiddo ef,
Fel eiddo ei drugaredd lawn a'i ras,
Draw ond ymddangosiadol ac mewn rhith.


Helaethrwydd dy ddaioni, gylchedd maith
Dy fyd-oleuol, byd-fendithiol daith,
Dy fawredd yw yr achos fyth dy fod
Yn machlud. Nis gall dyn dy ddilyn dros
Geulannau niwl ei fyd. Mae'n rhaid i ti
Roi cylch anfeidrol cyn y gelli ddwyn
Dy ddydd a'th fawredd eilwaith ar y byd.
Y byd sy'n troi ei gefn arnat ti
Trwy oesoedd o wamalwch. O, pe gallai,
Pe gallai gadw ei wyneb arnat fyth,
Heb droi ei fryniau prudd a’i gyfandiroedd
A'i lygad nef-ddelweddol, y mawr fôr,
Fyth ar y cwmwl a dyfnderau'r nos!
Mae pwynt cerubiaidd ar y nefoedd fry
Na wel fachludiad ar dy yrfa fyth,
Hyd at y pellaf sydd yn mesur cylch
Diweddaf amser, ond rhyw godiad maith,
Rhyw godiad ar godiadau, byd ar fyd,
Llydanach dydd ar ddydd, yn chwyddo i'r lan


Y STORM. 73

 
Hyd uchder eithaf defnydd haen y ser
Goruwch y rhai y gorffwys tragwyddoIdeb
Fel nefoedd, a gorseddfainc Duw fel haul.
Os rhaid i'th fawredd a'th helaethrwydd di,
A'n gwendid ninnau, ffurfio rhyngddynt hwy
Wedd o fachludiad a newidiad fyth,
Pa beth am Dduw a ninnau? O, pa beth
Am hirfaith yrfa ei ragluniaeth ef
Sy'n codi fythoedd ac yn machlud fyth
Ar froydd a mynyddau'r bywyd hwn?
Pe gwelem, y mae Duw yr un o hyd,
A'i holl drugaredd fel y cyflawn haul,
Pe gallem ond ei ddilyn, a mwynhau
Golygfa y pellderau nad yw'r bedd,
I'w ganfod oddiar eu terfyn hwy.
Nyni sy'n disgyn tua bro y niwl,
Yn taenu ofn a digalondid fel
Byd-gwmwl dros ein henaid, ac yn ceisio
Ei weled trwy y llygaid cnawdol hyn,
A darllen ei fynediad rhyfedd trwy
Gyfryngdod y daearol bethau o'n cylch,
Yn lle fel engyl rodio dros y byd
A cherdded bryniau adfyd ag y mae
Siom fel daeargryn yn eu taflu i'r lan
Er mantais enaid a golyga well —
A bod a'n hymarweddiad yn y nef,
Y nef o ffydd, o burdeb, ac o fawI,
Sydd yn mwynhau gwynepryd Duw a thaen
Ei ragluniaethau oll fel hanner dydd.
Y mae arsyllfa yn y bywyd hwn,
Fel ymdaith seren, uwch y byd a'r bedd,
O'r hon ni welir yn nhrugaredd Ior
Fachludiad na lleihad ond hynny wneir
Gan eu hanfodol fawredd ynddo ef,
A'u pellder yn yr anherfynol draw.
Ac os yw gwên a thrugareddau Duw
O agos heuliau'n ymleihau i ser
Rhy bell a gweinion yn y dwyfol braidd
I dreiddio y rhagluniaeth gymyledig
A llonni'r ysbryd ar y bryniau oer,
Mawrha y dynged sy'n pellhau y dydd,
Y dydd o Dduwdod ar dy enaid dyr,
Y dydd na edwyn un cyhydedd fyth
Na chanol na therfyn-bwnc, am nad oes
Un diwedd ar ei forau, ar y wawr


74 GWAITH ISLWYN.

 
Lif yn dragwyddol o drugaredd Ior.
Po bellaf rhagom yr amgylcho Duw,
O mwyaf, llawnaf, ardderchocaf fydd
Ei drugareddau pan y del yn ol.
Ei fawredd yw yr achos fod ei gylch
Mor eang. Aros ennyd! ennyd yw
Dy holl arosiad yn y bywyd hwn.
Daw yr holl ffafrau, y ser-wenau hyn,
Oll yn y man,
Bob un fel haul ysplenydd, yn eu hol,
I roi dyddhad diderfyn ar ddyddhad
Ar rod dy dynged yn y bythol fyd.
Yn unig aros. Y mae Duw yn fawr,
A'i drugareddau fel efe ei hun
Yn gofyn tragwyddoldeb oesoedd Ior
I droi o’u mewn ac ymddadblygu'n llawn.
Nis gallant ddod i olwg dyffryn cul,
Cul ddyffryn amser, ond fel ser, o bell
Yn twynnu ac yn gwahodd dyn i'r lan.
Haul yw pob seren; tragwyddoldeb yw
Cyflawnder pob addewid wlawiodd Duw
O’i galon waed-gawodol oddiar
Y tywyll fryn, uwchben holl oesoedd dyn,
Ei oesoedd oll hyd wawr yr olaf un,
Pan na fydd eisiau un addewid mwy
Ym mynwes yr Addaw-wr mawr ei hun.
Yn unig aros. Y mae Duw yn fawr
Ac un o'i wenau'n fwy nag amser oll.
Mae f’ haul yn machlud, a chysgodau'r bedd
Yn disgyn ar fy ymdaith fel y nos
Ddiweddaf, a'r addewid olaf bron
Fel seren yn ymrolio i fyny mwy
Yn nhew gymylau yr ystorom hon.
O dringa di fynyddoedd adfyd serth,
Y mae'r mynyddoedd hyn, er garwed ynt,
Yn esgyn i'r tragwyddol ddydd i gyd,
A'u bannau gyda'r ser, a’u holl lechweddau
Tu draw yn o au gan wynepryd Duw,
A lluoedd o angylion ar eu hael
Yn cydaddoli gyda’r seintiol lu,
A'u gorseddfeinciau yn cawodi dros
Y llethrau llyfnion ddyddiau o belydron.
O ben mynyddoedd angau gweli mwy
Ffordd ryfedd ei drugaredd ef yn troi
Fyth ar i fyny, ar i fyny fyth


Y STORM. 75

Ar aden pob rhagluniaeth, dros y byd
A'r bedd, eu beddau hwy a garwyd gynt,
Fel pethau difeddadwy, ac uwchben
Dy fedd dy hun yn uchaf lawnaf oll.
Cei weled na ddisgynnodd rhod ei ras,
Ac na fu cyfnewidiad ynddo ef,
Na chysgod troedigaeth, na fu haul
Ei gariad am funudyn mewn un fro, —
Mai'r uchder dwyfol oedd yn peri i ti,
Y mawredd a’r helaethrwydd, dybio fod
Machludiad yn ei gariad neu leihad.
O! mae y nef dragwyddol fyth yr un,
Ac nid oes bro a bryniau ynddi hi,
Cyfodiad na disgyniad. Golygfeydd
Y ddaear gyfnewidiol hon y sydd
Yn esgyn ac yn disgyn; ynddi hi
Y mae yr hollt, a'r môr, a'r graig, a gwag
Ofnadwy'r bedd. Mae'r nefoedd, fel y Duw
Sy’n hongian eu hamgylchoedd ar ei air,
Yn ddigyfnewid gyd-uchelion fyth,
A'u gwelediadau uwch holl fannau'r byd,
A thros fynyddoedd ei gyfryngdod ef,
Fel heulog bebyll duwiau dros y cwbl.
Ac os yw’r storom a'r gwamalog wynt,
A'r cwmwl fyth yn pasio trwyddynt hwy,
Eu newid byth nis gallant; wedi'r cwbl,
Yr holl daranau a'r rhaiadrol wlaw,
Clir yw eu gwedd, a disglaer fel o'r blaen,
Cyd-lyfnion loewon ddyfnion hyd y ser.
Mae'r wybren goruwch Horeb danllyd fryn
Yn oleu er ys oesoedd. Duw, —
O, anherfynol ras, a chariad yw.
A chariad yw y gyfraith fawr ei hun,
Daeargryn o ddigofaint yn dyrchau
Bryn Sinai a Chalfaria i'r un rhes,
A bryniau bywyd ei chlogwyni fry.
Gras dyfnach yw digofaint, lle y mae
Digofaint yn cyflawni amcan gras,
Gan gasglu'r byd â'r daran a'r ystorm
I gorlan bywyd a thragwyddol hedd.

Dos rhagot, haul! Y mae dy wersi, fel
Dy fydoedd oll, yn fawrion, ac i gyd,
Yn agor ein meddyliau tua'r nef
Fcl dydd llydanol. O, na bai ein holl


76 GWAITH ISLWYN.

 
Feddyliau, fel dy helaeth gylchoedd di,
Yn rholio trwy'r anfeidrol ac yn dwyn
Rhyw ddyddiau newydd beunydd ar y byd.
O pe caem edrych ar y ddaear hon,
Ei broydd, ei gorseddau, a'i holl gylch,
Am ennyd trwy dy lygad uchel di,
Darfyddai uchelfrydedd ond a fai
Lydaned, uched, ddyfned a'r holl ser,
Holl greadigaeth am-daenedig Duw;
Darfyddai pob uchelfryd ond yr hwn
A gronnai ei ddibenion oll yn Nuw,
A fyddai foddlawn, fel y bydoedd hyn
I ddychwel i ddiddymdra yng ngoleuni
Ei wên, gan gyfrif yr helaethaf gylch
O lafur a bodolaeth, oesoedd fyrdd
O ing a lludded, wedi cyrraedd nod
Oruchol a digonol, mwy na gwobr,
Pe tynnai un cymeradwyol air
O enau yr Anfeidrol; uchel fryd
A hoffai'n hytrach farw ar ol gweld
Mainc Duw a llys ei odidawgrwydd ef,
A gwedd ei wyneb yn tywynnu'n llawn,
Ac a fwynhâai yn yr angau hwnnw
Swm anfarwoldeb a chyflawnder bod.
Darfyddem edrych ar y ddaear hon,
Ond yn ei thro pan ddelai gyda thorf
Y ser i fyny ar ei blwyddyn fer.
O, dwyfol fyddai edrych ar y byd
Fel meddwl yn y pellder mawr, a'r lloer
Fel ysbryd breuddwyd yn ei hymyl hi
Yn rhodio trwy ei nos. Ni fyddai'r nos
Ond cysgod oddiyna, cysgod byr
Yn syrthio ar ei hol. Torfeydd y ser
Ni welid mwyach yn ymgasglu i mewn
I'w chysgod pruddaidd, nac i nos un byd.
Caem esgyn ar dy lanw disglaer hyd
Ymylau tawel eu môr-ddyddiau hwy,
A'u gweled yn cu mawredd fel eu rhoed
Bob un ar flaen ei chreadigaeth fawr.


O ganol dy ogoniant tafla fyth
Dy ddydd fel tragwyddoldeb am dy ser,
A dod belydryn o ffynhonnau'r gwawl,
O ddyfnion flaenau'r greadigaeth lawn,
Fel dyfnach canwyll yn fy llygad i,


Y STORM. 77


Nes gwelwyf dros y diflyg draw a bod
Yng nghartref fel archangel gyda'r ser.
Ddychymyg, aros! Pam y byddai'r haul,
Sy'n anfon ei bell reiddiau dros y byd
A thros fynyddau'r lioer a'i balchaf rod
A thros y ser a'u holl wynfaoedd hwy,
Haul mawr yr enaid, sy'n goleuo bod
Fel wybren â'i gyfodiad, ac yn dwyn
Baich trwm y byd yn wychach ac esmwythach
Ar foroedd ei feddyliau uchel — pam
Nad allai yntau esgyn, a mwynhau
Gwelediad ei genadau, y tu faes
I rod yr haul ac oesoedd amser oll?
Rhaid iddo ef ymlwybro yn y dwfn
O dan y niwl a'r nos, ac amser llesg
Fel diffyg ar ei wedd yn ymddyfnhau,
Nes cau yr oll o'r golwg dan y bedd.

 
Y mae mynyddau'r bywyd marwol hwn
Yn torri ar bob pwynt y dwyfol ddydd
O hono ac o'i amgylch fyth a lif
Am dragwyddoIaeb, fel y tyr y graig,
Y bryniau, a'r cyfandir, ddwyfol lyfn
A theg olygfa y taenedig fôr.
Fan yma ceir gofidiau ar bell daen,
Ac angau fel mynyddoedd garwach draw,
Yn torri'r nefoedd ymaith ac yn gwneyd
Ei fywyd oll yn froydd, a'i holl hynt
Yn beth o waeledd ac iseldra prudd
Cydwastad ag iseldra olaf bod, —
Y bedd a siomedigaeth perffaith bron.
Gwych fydd y borau pan gyrhaedda ef
Ei rod daenedig ar y nefoedd gwell,
Y nefoedd nad oes eisiau haul o'u mewn
Gan lewyrch Duwdod, pan y gwel y cwbl
O'i briod uchder yn y dwyfol fry,
A phan y bydd y bryniau tywyll hyn,
Hyd at yr olaf a'r uchelaf sydd
Yn arwain tragwyddoldeb hyd y bedd,
Gan hongian ei fawreddau yn niwl amser, .
Bob un yn olau fythoedd, a phob un
O fewn ei dynged yn ogoniant mwy,
Yn beth o fawredd ac urdduniant dwfn,
Fel y mae'r ddaear a'i holl olygfeydd,
Ei bryniau, a phob rhiw i ti, O haul.


78 GWAITH ISLWYN.

Pan godot arni yn dy gyflawn nerth,
Gan daflu dros ei chreigiau garwaf hi
Ryw fôr o ogoneddiad led y byd.

Y mae y byd a'r enaid gledd yng nghledd.
Y marwol a'r anfarwol, er yn rhwym
O deithio yr un llwybyr, trwy y daith
Yn araf ymddadrwymant, gan bellhau
Oddiwrth eu gilydd yn eu gilydd fyth.
Mac gwagle'n dechreu rhyngddynt gyda bod
Sel tynged ar yr undeb. Amser ddwg
Ei wyntoedd lledol i'r agorawl rwyg,
Ac ambell storm, ddigonol yn ei nerth
i dorri byd yn ddau, a newid gwedd
Y blaned fawr gan boenau, oni bai
Fod dyn yn fwy na bydoedd, ac yn fwy
Nag angau a'i holl allu tywyll ef,
Yn rhwym o godi o bob môr o wae
Ar ol pob byd-faluriol ordd o fla
d,
Tawelu ac ymledu fel y nef
Ar ol pob storom, mewn cymundeb derch
A'r anherfynol a'r disoddawl draw,
A byw’n dragywydd, byw trwy angau, byw
Trwy bethau nad yw angau ond eu gysgod
A byd-fedd ond eu harwynebedd teg, —
Y brofedigaeth sydd yn croni o'i mewn
Beryglon tragwyddoldeb mewn un ton
O ddistryw anherfynol ac o wae,
Yn bygwth dadsylfaenu adail bod,
Pileri rhinwedd, pell rodfaoedd hedd
Ardyrau gobaith, eu cyd-ddymchwel oll
Ar foment ac ar dragwyddoldeb mwy,
A chladdu'r enaid dan y distryw fyth,
A gostwng anfarwoldeb a holl lan
Y byd a ddaw i ddyfnder ag y mae
Bedd yn ogoniant iddo ac yn haul,
Am oesoedd dyn, holl oesoedd Ior ei hun.
Gwynt ar ol gwynt ddaw i lydanu’r rhwyg
Nes y cyrhaeddo o'r diwedd ddullwedd angau,
Dyfnder difwa a thywyllwch bedd.

Nac ofna ef, er dued. Nid yw'r bedd
Ond dwyn i ben a llwyr berffeithio'r hyn
Y mae dy enaid, trwy bob meddwl derch,
Bob codiad i'r anfarwol, pob dychymyg


Y STORM. 79

Sy'n gwisgo gorysplenydd rodau'r haul,
Gan gipio o'r eangder ar oi bys
Fudrwyon Sadwrn fel y byddo mwy
Yn addas i ymddangos ger bron Duw,
A dal disgleirder ei orseddfainc ef,
A sefyll dan daranau ei gadernid
Yn treiglo trwy ei hanfod pell ei hun,
Gan ddysgub bydoedd oddiar ou ffordd,
A'u hadsain olaf yn anfeidrol fwy
Na thwrf eu haruthr gyd-ddisgyniad hwynt
Dros y ceulannau sydd yn rhimio bod,
Yn rhimio holl greadau llaw ei nerth,
Fel modrwy arian yn ei faith gyflawnder,
Ry fechan a rhywael i’w leiaf fys
Sy ag araul dragwyddoldeb ar bob un, —
Nid yw y tywyll fedd ond cyflawnhau
Yr hyn yr ydwyt trwy bob meddwl pur,
Pob syniad teilwng o dy fawredd, ddyu,
Yn ceisio'i ddwyn i ben ddydd ar ol dydd.
Pan fo dy enaid di a’r ser yn un,
Pan lifo dy feddyliau iddynt hwy
Mewn cydgymysgiad o urdduniant pur,
Pan dorfo'th ddychymygion heibio
Penrhynion olaf amser, môr y dydd
Huanol, i gyduno yn y nef
A chydaddoli â holl engyl Duw
A blaenaf luoedd cariad, O yr wyt
Bryd hynny'n mhellach oddiwrth y byd,
Y corff, a phethau o weledig ryw
Na phan y taflo angau rhyngoch chwi
Ei farwol fryn yn naeargryn ei nerth.


Cam, cam — a dyna ni dros wag y bedd.
Paham yr ofnwn yr ysgariad hwn?
Bu lled y greadigaeth, rhod yr haul
Fil milwaith drosodd, rhyngom lawer tro.
Do, lawer tro, pan godem gyda'r ser,
Fan godai ein meddyliau oll o'n mewn
Gan gipio'r enaid ar eu boreu pell
I uchder y tragwyddol olygfeydd.
O, mae'r llinynau sy'n eu huno hwy
Yn weinion pan y delo angau'n mlaen,
A bychan, bychan ydyw gorchw
yl bedd
I hwnnw a arferai amlaf fod
Lle na bu gan y marwol safle erioed


80 GWAITH ISLWYN.

 
Na chysgod eilrith am funudyn byr;
A hoffai ymarweddu yn y nef
A byw a bod a symud trwy ei oes
Yn Nuw fel rhod, fel ffordd, fel cartref pur;
A deimlai ei ymddiried arno ef
Ymbwysiad ei holl enaid ar ei air;
Fod ei gerddediad ardderchocach fyth
Ar hyd uchderau addewidion Duw
Ac nid ar hyd y ddaear ond mewn rhith;
Nad oeddyn disgyn ar y ddaear hon,
Yn gorffwys, ac yn huno, ac yn troi
O gylch y graig ddaearol hon a'r bryn
Yn unig ond ei gysgod ef, ei rith,
Y corff, y marwol; fod ei olwg ef,
Ei bryder, ei obeithion, a'i edrychiad
Ar wedd y byd ysbrydol fry, pa fodd
Uwchben y cyfan yr ymweddai Duw,
Ai tangnefeddus ai ceryddol caed
Ei olwg ef, ai bryn o wg, ai gwên
Fro-daenol leinw welediad yr ysbrydol;
A deimlai ei awyddfryd pennaf fyth
Am godi ac ymgadw ymhell goruwch
Y byd, orseddau a phrinderau 'nghyd,
Y groes a bryn y gallu, oll, a bod
Fel angel yn ddihalog gyda Duw,
Fel meddwl sanctaidd yn ei gariad ef.
I hwnnw dreuliai ei ddedwyddaf awr
I holi'r ser bob nos, a welont hwy
Arwyddion ei ddyfodiad ef, a oedd
Pigyrnol fryniau'r greadigaeth draw
Yn derbyn tor y wawrddydd ar eu brig,
A oedd olwynion ei gerbydau ef
Yn ysgwyd tragwyddoldeb bellach, gwên
Ei wyneb yn dileu yr heuliau oll
Gan roddi awgrym y machludiad mawr
A rydd y greadigaeth oll dan len,
A blyg y nefoedd fel gwywedig wisg,
Gweddus yn unig i ddiddymdra, ysbryd
Distawrwydd ac ebargof, — O, i hwnnw
Na adnabyddai'r byd ond fel y mae
Yr angel sanctaidd sydd yn ymyl Duw
O'r nefoedd yn ei adwaen, fel y ser
Sydd yn ei ganfod yn ei briod gylch
Ac yn ei wirioneddol wedd, y nos
Pan ddaw y bryniau allan i amdoi


 

Y STORM. 81


Ei holl ynfydrwydd a'i orchwylion gwael
Rhag gweled fry o ffyddlawn dystion Duw,
A chofio a chyhuddo pan y del
A'i holl weithredoedd gydag ef i farn,
Ei briod wybren, ei weithredoedd oll
Am dano, pan y saif ar amnaid Duw
I fyw neu farw fyth yn ol y wedd
Dry yr anfeidrol arno oddiar
Y nefoedd gorsedd-adeiledig draw, —
I hwnnw bychan ydyw croesi bedd;
Yr hwn a hongiai dros ei enaid, dros
Eisteddfa'i farn cylch ei feddyliau i gyd,
Fynyddoedd tywyll angau (goleu rai
Pan arnynt, derbynfaoedd dyddiau'r nef)
Ac oddiarnynt, fel gorseddau'r gwir,
Gorseddau'r enaid a'r anfarwol fyd,
A ffurfiai bob golygiad yn ei le
Am bethau'r ddaear, pethau'r bywyd hwn;
A welai'r cyfan o'r dyfodol pur,
Gan adeiladu ei arsyllfa dderch
O feini'r bedd ac adfeiliadau'r byd;
A wnai farwolaeth yn ganol-bwynt bywyd
O’r hwn y gwelai'r cyfan yn ei le,
Neu o'r uchderau cydraddolion draw,
Y cylchoedd sydd yn dwyn gorseddau'r ser,
Ac yn crynhoi meddyliau'r saint i'r lan
I uchder ei dragwyddol feddwl ef
Sy'n rhagddelweddu yn ei feddwl fyth
Gyflawnder a pherffeithrwydd pob rhyw beth,
A chyflawn ffrwyth pob gweithred, oes, a byd,
Yn dwyn dadguddiad tynged ar ei wedd
A ban a swm pob seren ynddo ei hun,
Y diwedd a'r dechreuad oll, yr hwn
Na wel un dechreu ond o hono ei hun
Na diwedd ond a fachlud iddo'n ol;
A welai yng ngoleuni Duw ei hun
Y Duw anfeidrol na raid iddo fyth
Roi cam ymlaen i weled, nac yn ol
I gofio; nad oes yn ei hanfod mawr
Un adgof fythoedd na dyfodol, ond
Holl-bresenolrwydd pethau, bydoedd, bod;
Heb ddechreu dyddiau ac heb ddiwedd oes,
Heb amser ac heb dragwyddoldeb mwy,
Nad yw y cyfan fu, sydd, neu a ddaw
Ond un anfeidrol wyddfod ger ei fron.
 


82 GWAITH ISLWYN.

 
Dyn sydd yn dweyd, "A fu. Un eiliad drosodd.
A phwy a'i ca? Pa feddwl dyn a ddeil
Ei afael arno? Yn ei wendid mae
Yn colli y gwelediad mawrwych daen
O'i amgylch yn draffwyddol, fel nad oes
Dim yn bodoli yn ei olwg ef
Ond cymydogaeth y munudyn hwn.
Trwy fud a symud hyd y ddaear hon,
Ac arfer edrych trwy olygon cnawd,
Mae'r enaid yn ymddaearoli bron,
A gwelediadau ei ysbrydol fyd,
Gwelediad priod ei anfarwol fod,
Yn ymgyfyngu ac yn ymgulhau,
Yn cau i mewn, i mewn, gylch o fewn cylch,
Yn ol arddullwedd y tymhorol fyd,
A byrion welediadau'r ddaear hon,
Nad oes arsyllfa ar ei balchaf fan
O awyr-orseddedig Alp a chwmwl
Lle rhed y bryn i'r nef, a'r nef i'r bryn,
Rhyw gymysg o'r daearol a'r ysbrydol,
Rhyw ymbriodiad ar allorau'r gwawl
O ddaear ac o nef fel corff ac enaid —
Nad oes gweledfa ar ei phellaf fryn
A all gymeryd onid darn i mewn
O'i byd-welediad. Mae yr enaid llesg
Yn gwisgo gwedd y ddaear am ei fyd
Ei hunan, ac yn siarad am ei fod
A'i anfarwoldeb priod gylch ei rwysg
Yn ol olyniad bryn a bro, yn ol
Cyfyngdra ac helaethrwydd ffrwd a môr,
Lle nad oes mewn gwirionedd onid un,
Un araul anherfynol, môr di lan.
“A fu," medd dyn. Y mae o hyd i Dduw,
Ac "ydwyf yr hwn ydwyf " yw ei enw.
Ac nid oes dim yn cael ei golli, dim
Yn darfod bythoedd. I ba le yr ai?
Pa feddrod a'i derbyniai? O, pa nos
A'i plygai dan ei chysgod y tu faes,
Rywle tu faes i'w fythol hanfod ef,
Sydd yn amgylchu'r cyfan fel y mae
Y nefoedd acw yn cwmpasu'r byd,
Gan dderbyn ei holl fachludiadau ef
Fyth, fyth i mewn i'w heangderau'u hun,
A chylchoedd yr holl oesoedd ar eu gwedd
Mewn môr-lifiadau o egluraf wawl?


Y STORM. 83


"Machluda'r haul," — dyn a ddywedodd hyn;
Nis gall y nefoedd ei ddywedyd fyth,
Y sydd yn cynnal ei fynediad ef
Fyth, byth ymlaen ym mawredd hanner dydd.
Yng ngwelediadau anherfynol Ior
Mae'r oll a fu, yn bod; yr oll a fydd
Yn gorwedd yn ei hanfod ef fel llyn.
Rhyw lyn yw tragwyddoldeb ynddo ef
Yn cronni ei feddyliau, ac yn rhoi
Delweddiad o'r dyfodol fel y bydd
Pan godo dyn ei olwg ar ei wedd.
Duw yw y cwbl. Ni ddaw digwyddiad fyth,
Na damwain ar ei lwybrau araul ef,
Na thro anisgwyliadwy. Ynddo ef,
A thrwyddo ef, ac iddo ef, y mae
Y cyfan yn ymsymud ac yn bod;
Ac nid oes dim yn newydd nac yn hen.
O, pe y gwelem yn ei olau ef,
Ni fyddai amser ddim, nac oesoedd ond
Cysgodau tlodi ac amherffeithrwydd dyn,
Rhyw bethau o deuluaeth y mynyddoedd,
A newid-weddol rithiau’r ddaear hon,
Ac anhrefn pethau y tu yma i'r nef.
Mae dyn yn colli'i olwg ar yr haul,
A'r bryniau hurtion oll yn troi i maes
I'w gwyno ar ei ymddifadiad prudd
A cholliad y gogoniant nad yw ef
Na hwy ddigonol iddo.

Y mae pwynt
Lle nad oes seren yn machludo fyth,
Yn esgyn nac yn disgyn, nac un byd
Yn croesi llinell y gwelediad mwy,
Y cyfryw yw bodolaeth oll i Dduw.
Bu gwrthrych hawddgar unwaith ar y byd,
Fe aeth yr enaid tyner ar ei ol,
Gallasai groesi olaf gylch y byd
Wrth ganlyn y gogoniant swynol hwn,
Heb synio fod y byd a’i bethau ar ben,
Fe gollodd — collodd y gwelediad byth,
Diflannodd ymaith, ac ni chenfydd mwy
Ond tawel gysgod y cyffroad — bedd.
"Y mae," er hynny; a phe taflai dyn
Y ddaear ymaith, a chyfyngawl wisg
Y ser a'r bryniau, oddiam ei enaid,


84 GWAITH ISLWYN.

Gan honni ei fawrhydri fel y gwna
Pan ddaw y beddrod i’w orseddu ef
Ar anfarwoldeb, O fe wel bryd hyn
Fod yr hawddgarwch oll ar gael yn Nuw,
Fel seren yn yr anherfynol fyth.


Bu Ceidwad farw ar y bryn, y mae
Y gwaed yn llifo byth ar orsedd Ior.
O, mae yr aberth yn boddloni byth.
Nid oes adgofion yn ei hanfod ef,
Yr hwn a wel y cyfan, ac a ddwed
Uwchben yr oesoedd — "Ydwyf yr hyn wyf;"
Ac wrth bob peth — "Wyt yr hyn ydwyt fyth."
Dos ato, dos i fyny at ei fainc,
Mae digon am dy achub, er mor bell
I ti ffynhonnau yr achubiaeth hon,
A blaenau afon bywyd, afon hedd.
Dos, nid yw adsain yr iawn-gloawl air
Ysgydwodd seiliau’r byd a sedd y dydd,
Y llef a rwygodd fwy na bryniau'r byd —
Y baraol fryniau gauent ar bob llaw
Ffordd yr anfarwol nes y culent mwy
Ei dragwyddoldeb hyd gyfyngdra bedd,
Iselder, dyfnder, a thywyllwch angau;
Y llef a dynnodd o gloedig fron,
O greig-gloedig fynwes natur fud
Ei chalon a'i theimladau hyd yr haul,
A wnaeth i'r creigiau gipio yn yr wybr
Farn dyn ar orsedd y ddaeargryn fawr,
A rhuo’r ddedryd ar gymylau'r nef,
Y ddedryd fawr a selir ganddo ef
Pan ddaw i fyny lond yr olaf ddydd,
Pan dry yr haul fyth bythoedd yn ei ol,
Fel cysgod gwael, wrth weled yn y nef
Ei sylwedd a'i gyflawnder yn dyddhau
Dyrchafol fryniau tragwyddoldeb oll
A ddygant ddinas Duw ar uchaf res
Eu bannau, a'r tragwyddol dân fel niwl
O wae taniedig ar eu parth soddedig,
Soddedig ac ymsoddol fyth o dan
Ddaeargryn rythol ei ddigofaint ef, —
O, nid yw adsain y terfynol air,
Y gair a gloai hedd-gyfarchiad mawr
A chariad-weinidogaeth Duw mewn cnawd,
Hyd yma wedi darfod ar y nefoedd.


Y STORM. 85


Ar hedd-awelon ei foddlonrwydd ef.
Dos ato. Newydd, newydd ddod i mewn
Y mae y mawr Bryniawdwr, a’i holl chwys,
Holl waedlyd chwys yr ymdrech ar ei rudd,
A'i law deyrnasol yn dyferu gwaed
Ar hyd yr oesoedd, gwerth eu bywyd hwy,
Yn newydd fel y galon-gawod gynt
A gauai'r groes i mewn, mewn cylch o waed,
Cylch na faidd melldith fyth ei groesi ef,
Na chwmwl barnol ei gymylu mwy,
Na chyrraedd neb o’i fewn. O ddedwydd awr,
A ddyd yr enaid ar uchderau Ior
I weled ei wynepryd, a mwynhau
Holl-bresenolrwydd pethau ynddo ef,
Y pethau ag y mynnai'r enaid fyth
Eu gweled fel yr oeddynt, golygfeydd
Y Dwyfol yn ei ymdaith dros y byd —
Yn cychwyn allan o'r goleuni pur
Ni ellir dyfod ato, a mynyddoedd
Bytholfyd yn diflannu, myrdd ar fyrdd,
A dinas fawr ei Dad yn machlud mwy,
A'i holl anthemau yn distewi gan
Gyfryngiad ei ddigofaint mawr ei hun
A huddai ei ogoniant ef mor llwyr
Nes y cyfrifid pob rhyw ddwyfol wên,
Pob priod weithred o'i hanfodol nerth,
Pob teneuhad o'r llenni am ei berson,
Yn rhyfedd wedd-newidiad ac yn wyrth,
Ei briod wedd yn wedd-newidiad mwy,
A hedd-naturiol ysgogiadau'i law
Dros ei weithredoedd yn rhyw wyrth o nerth, —
Yn dyfod oesau ar ol oesau 'mlaen,
Ym mawredd ei drugaredd a'i holl ras,
A gor-uchwyliaeth o arwyddion maith
Am oesoedd yn ymsymud dros y byd
Fel pell-ddisgynnol gysgod ei ddyfodiad,
A miloedd, miloedd o aberthau drud
Yn uno'u ffrydiau i arwyddo i ddyn
Y môr o hedd a ddygai dan ei fron, —
Yn blaenu seren dawel Bethlehem,
Seren genhadol canad, nad yw fyth
Yn symud ond i ddwyn i mewn i ryw
Golledig fyd wawr y tragwyddol ddydd,
Y seren deg na welir ond un waith
Goruwch y bydoedd, ond ar ol ei gweld


86 GWAITH ISLWYN.

Un waith na threngant yn dragwyddol mwy:
Sydd, nid yn machlud, ond yn gwywo i mewn
I'r Duw sydd yn ei dilyn hi fel dyild,
Dydd llawn o anherfynol rad a hedd;
Yn gwenu ar y doethion yn ei gryd
A’u holl ddoethineb yn ei dawel wên,
Yn machlud i'r anfeidrol ac yn troi
Yn fawl tragwyddol am adferiad dyn;
Yn gwenu ar y llon fugeiliaid hefyd
Y wen sy'n casglu bydoedd Duw bob un
I gorlan ei drugaredd ddwyfol ef;
Ac wedi hynny, trwy heolydd gwng
Caersalcm yn ymlwybro ganol nos
Heb le i huno ond y gan'eg oer
A ailfarmorid âg oer ddydd y scr;
A gweld y ser yn disgyn, neu y byd
Fel yn ymgodi'n araf atynt hwy,
Mewn cydgymundeb synnol uwch ei ben:
A'i glywed ef yn gofyn, — "Fynnwch chwi,
Chwi hefyd, fyned ymaith?" — ac o’r diwedd
Yn unig dan holl faich trueni dyn,
A'r haul ei hunan yn ymguddio mwy,
A’r nefoedd yn tywyllu uwch y ser,
A holltau'r beddau yn cydsyrthio o gylch
Fel cedyrn farrau’r oesoedd dan y byd;
Ei weled ef yn dringo rhiw y gwaed
Ac amser, amser a’i gamweddau oll,
Fel croes anfeidrol ar ei enaid ef,
Y groes nad oedd y melldigedig bren
Ond cysgod o'i herchyllrwydd, ar yr hon
Y bu ei enaid ef a'r ddwyfol law
O dan y barnau, nes diflannodd holl
Holl gamwedd amser dros fynyddoedd pell
Ei am-gyfodol amser.
O, gogoneddus fydd mwynhau y cwbl
A fu am gadwedigaeth dyn, a fu,
Ac eto sydd, yn Nuw, yr hwn a rydd
Ei enw fel Pryniawdwr allan fyth, —
"Wyf yr hwn ydwyf," — ddyddiau'r nefoedd oll.


Y mae y corff a'r enaid fel dau fryn,
Ac amser fel daeargryn rhyngddynt hwy,
Yn chwyddo'r pellder, ac yn taflu un
Fel mynydd o ogoniant tua'r nef,
Nes y derbynio ar ei araul frig


Y STORM. 87

Ryw ehedfaoedd o angylion pur
Y dwyfol air, a Duw fel boreu mwy,
Nes yr hiraetho’n anhraethadwy gael
Ei ysgar oddiwrth y marwol fyd,
A’i daflu dros holl foroedd amser draw
I’w le ei hun, a bod yn unig fyth,
Fel tawel fryn yn Nuw, i'w dderbyn ef
Fel dydd tragwyddol am yr enaid oll.
Beth yw y bywyd hwn? Mae gallu dyn,
Pob cynneddf, yn rhanedig, a'i ddibenion
A'i egwyddorion megis rhwng dau fyd
Yn crynu ac yn ansefydlog fyth.
Fe fynnai'r enaid ddianc tua'i wlad,
A bro ei dawel odidawgrwydd fry,
A'r holl ysbrydol gydag ef. Ni cheir
Uchelfryd y llygradwy heibio’r bryn
Na'i duedd gyda'r cwmwl chwim a'r haul.
O'r ddaear, dros y ddaear, ac i’r ddaear,
A than y nefoedd, dan y ser, a thrwy
Fedd-weddog froydd amser gyda’r pryf,
Hyd lwybrau llychlyd y daearol fyth, —
A dyna ei athrawiaeth ef i gyd.
Y mae yr enaid yn mwynhau y ser
Fel cydaelodau o'r un teulu derch,
Fel brodyr o'r un anian a’r un naws,
O’r un nef-uchder gwreiddiol, ac o'r un
Awyddfryd ac ucheledd tuedd fyth;
Fc hoffai wrando arnynt trwy y nos
A myned allan gyda'u tanbaid lu,
A'i holl feddyliau yn ymffurfio dan
Ei enaid ef, fel byd o anfarwoldeb,
Fel pwys sylweddol o ysbrydol rym;
Pryd hynny mae y marwol yn llesghau,
A’i duedd ef i huno, ac arffedu
Ei hunan ar ddistawrwydd a mwynhad.
Rhaid bolltio'r drws, ac edrych yr ail waith
Rhag i ryw bridd symudol ddod i mewn,
A pheri iddo ddychryn ganol nos,
A'i weled ar y maes o flaen yr haul.
Rhaid cloi y ddor, a throi i mewn, a chau
Y nef i maes, a gado’r ser i gyd,
A gobaith anfarwoldeb gyda hwy,
A theg ddadguddiad y tragwyddol fry,
Sy'n agor bydoedd o gyfrolau draw
Y rhai nad allodd doethion amser oll


88 Gwaith ISLWYN.

 
Feistroli dalen gyfan o'u mawr swm.
Mae’n rhaid perswadio'r ysbryd erbyn hyn
I fachlud o’i ddiderfyn hanner dydd,
A galw ei feddyliau o bob byd,
A cheisio rhyw ddiddanwch, rhyw ad dâl,
Yng ngwngder ac ynfydrwydd byd y breuddwyd,
Y Breuddwyd, sydd yn chwareu pob cymeriad,
O’r proffwyd uchel ar orseddfainc ffawd
Hyd nt y daroganwr du ei wisg.


Pa beth yw breuddwyd? Onid ysbryd pur
Yn ceisio taflu ffwrdd adgofion defnydd,
Ac ymryddhau i ddianc tua'i wlad
Tro bo y marwol yn mwynhau ei hun
Yn dawel gyda'r byd a’r bryniau meirw;
Yn ceisio edrych tra bo’r llygaid hyn
Yng nghauad, trwy ei fewnol lygad pur
A theimlo'i ffordd i fyny â meddyliau,
Ac ymadeinio â'r ysbrydol noeth,
A chodi yn ei anibynrwydd derch
Ar ddefnydd, trwy ei ddwyfol rym ei hun?
Y mae yn methu, a'r canlyniad yw
Ystorom o elfennau oddiar
Gyffredin faes bodolaeth, cymysg, anhrefn,
A chaos o fodolateth nad all neb
Ei gofio a’i ddelweddu; enaid pur
Yn edrych trwy ddau olwg ar ddau fyd,
Nes bo'r gwelediad yn ddyryswch pur;
Yn ceisio cipio golwg ar y byd
Anfarwol, dros y marwol, a’r diweddaf
Yn brynio a phigyrnu ar bob llaw,
Nes torri y gwelediad yn rhyw fil
O ddarnau anghysylltiol anghydweddol —
Yn ymbenrhynio i'r tragwyddol fôr;
A'i brudd adgofion am y marwol hwn
Fel miloedd o ynysoedd yn llenhau
Ac yn tywyllu y gwelediad nefol.
Barddoniaeth y briodas ryfedd rhwng
Ysbryd a marwol ddefnydd, nef a chnawd,
Yw’r Breuddwyd, — enaid pur yn llawenhau,
Gan geisio taro ei anfarwol gân
O fewn mesurau caethion, o dan faich
Byd o fynyddoedd tywyll. Hyfryd yw
Er hyn ei ganfod yn mwynhau o bell
Welediad y gogoniant, ac yn rhoi


Y STORM. 89

Rhyw dro i olwg y mynyddoedd aur

O dan gysgodau’r byd. Bryd hynny mae

Yr enaid fel yn edrych dros ei gryd
Ei gryd o gnawd, ei ffawell-fyd o frwyn,
O aur a bryniau amblethedig teg
Sy'n hongian yn y gwagle mawr, a'r haul,
Mab hynaf natur, yn ei gylchu fyth
A’i oesoedd gan ei dawel ysgwyd, dan
Ei wên dragwyddol, y nef-lanwol ddydd;
Y mae yn edrych dros ei farwol gryd
Pan deimlo ei ysgogiad yn lleihau,
A'r byd bob cangen a phob bryn yn sefyll,
A dim yn symud ond y ser a Duw —
Fel gobaith Jacob yn ei gawell gynt;
A chenfydd Anfarwoldeb fel angyles,
Hyd afon bur y bywyd yn neshau,
O lys ei Dad a'i harddwch ar ei gwedd,
A geiriau hanner-ysbryd hanner-daear
Ddyferant dros ei fin ysbrydol wawr,
Mewn nwyf rh
wng syndod a gwallgofrwydd derch.
O, nis gall gofio ei fwynhad ei hun,
Nac enwi un o'r ymwelyddion derch
Nac arddelweddu ynddo’i hunan mwy
Un o aberoedd y dragwyddol lan,
Pan ddaw yr haul âg adgyfodiad mawr
Y bryniau ar ei edyn a'r holl fyd,
Pan ga ei hun yn gondemniedig eto
I edrych allan trwy ffenestri'r cnawd,
A darllen Duwdod mewn ffigyrau gwael,
A chau ei hun i'r ddameg geir o'i gylch
Yn codi gyda'r dydd.


Pa lw oedd hwnnw a gysylltai'r ddau
Ar allor fore amser, pan nad oedd
Llais gan yr enaid i foddhau i'r rhwym?
Y mae yr enaid yng ngoleuni gwan
Y Breuddwyd, lloer ei anfarwoldeb ef,
Yn ameu gwiwdeb y cyfamod pell,
Ac ehediadau ei feddyliau ef
Ymhell goruwch y ddaear, a goruwch
Ser-oleuedig arbinaclau'r nos
A hoff breswylfa ei ddychymyg mwy
Yw'r wlad tu draw i'r bedd, lle nad oes môr
Ond anfarwoldeb, afon, bryn, na bro,
Ond bywyd glân ac ysbrydoldeb pur;


90 GWAITH ISLWYN.

 
Lle nad oes cartref gan yr enaid fyth,
Gorffwysfa mwy, na thrigfa, onid Duw,
Na chorff ond anfarwoldeb am ei holl
Feddyliau ac helaethrwydd bywyd byth.
“O ddedwydd adeg," dywed ynddo'i hun,
"Pan gollaf olwg ar y bryniau hyn,
Pan dderfydd bod mewn bro a chysgod bryn,
Pan dderfydd bydoedd, daear, haul, a ser,
Tywyllwch a goleuni defnydd oll,
A dydd a nos, pan na hanfoda mwy
Ond enaid taweledig yn ei Dduw,
Pur ysbrydolrwydd amgylch ogylch fyth,
Pan nad all codiad na machludiad haul
Rith-lawenychu a brawychu dyn,
Na diluw dyfroedd, chwydd y ddaear-gryn,
A gweddnewidiad bydoedd dan ei nerth,
Gynyrchu yn yr enaid ofer fraw
Ac aflonyddwch, fel pe gallai byd
Rholiedig arno ei ddyfetha fyth,
Fel pe y bai gan ddiluwiedig fyd,
Gan fyd o foroedd, arswyd yn ei gôI
A dychryn bod-ddileol iddo ef;
Pan na fydd gallu ei deimladrwydd mwy
Yn cael ei lifo a’i wastraffu ar bridd,
Na byd llygradwy'n yfed iddo ei hun
Rinweddau ei anfarwol hanfod ef,
Ei ddagrau aur, a’i ymegnion derch
I mewn i'w foroedd a'i fedd-holltau gwael,
Fel pethau o gyffelyb werth a rhyw
Oll â'i afonydd lleidiog ef ei hun."


Ac eto tybiem am yr enaid pur,
Ar ol ei ollwng i’r anfarwol fyd,
Nad yw y breuddwyd a'i fawreddau ond
Ei filfed cysgod, fod yr ysbryd draw
Yn hoffi meddwl am y marwol hwn
Fel am gydymaith, cyd-bererin, fu
Yn teithio gydag ef is lwybrau bod
O dan y seren fore, cyn i'r haul
A'r dydd tragwyddol godi, pan y ffodd
Fel cysgod ymaith yn y goleu llawn,
Gan ado’r enaid ar y daith ei hun.
Cydymaith llesg dan nych yn fynych fu,
A llawer gwaith y troai'r ysbryd cryf
I'w lonni ef, a’i gymell yn y blaen,


Y STORM. 91

Ymlaen ychydig wedyn, hyd y bedd
O leiaf, a therfynau'r belen hon,
Hyd ymyl modrwy amser, cyntaf gylch
Bodolaeth. "Tyred, mae y bedd gerllaw,
A bryn diweddaf dy ymdeithiad di,
Ar ol un tro am y rhagluniaeth hon
Yn gyflawn yn y golwg, a llen fawr
O oesoedd, — oesoedd yw ei gysgod ef, —
Tyrd dano, ennyd eto tyrd ymlaen,
Mi fynnwn ganfod dy ofidiau di
Ar ben, a'th weled yn dy gartref hedd
Yng nghôl dy fam a'i breichiau tawel hi
Cyn rhodio moroedd y tywyllwch draw,
A rhoi y cyflawn lam a âd y byd
A’r ser a breuddwyd-lannau amser oll
Am dragwyddoldeb, oll ar ol. Hir, hir
Y buom gyda'n gilydd; rhoist dy hun
Yn ddrych a ffenestr imi, trwy yr hon
Y syllwn, nid yn gymaint ar y byd
A’r bryniau ystormedig deithiem ni,
Ond ar y ser a glannau'r dwyfol fyd
A godent hwy draw ar eu tonnau aur,
Pell donnau ysbrydoliaeth drostynt lif
Ar hyd y nef-fordwyol enaid, pan
Y taen ei hwyliau oddiar y byd,
A helm tragwyddol gobaith yn ei law,
A seren anfarwoldeb ynddo'i hun
Yn codi ac yn eistedd ar ben blaen
Y llong ysbrydol o feddyliol nwyf,
Yr arwydd a'r arweinydd; nes dy ddod
Yn olau beth ysbrydoledig gan
Weithrediad meddwl ynnot, arnat fyth;
Ac nes i tithau bron anghofio'r byd,
Anghofio'r cyfan ond y tawel fedd,
A heuliau'r nefoedd oll, oll ond yr olaf
A ddwg fawreddau'r Adgyfodiad gwell
Ar edyn ei ogoniant, fel y dydd
Fyth y ceisiasai ei gyrhaeddyd ef."
Y mae pererin ffyddlawn yn mwynhau
Adgofion ei gydymaith unwaith fu
Yn glynu wrtho ac am dano fyth,
A gallu a ffyddlondeb mwy na'i nerth,
Yn torri yr ystorom gydag ef,
Gan yfed trwy yr yrfa flin ei ran
O'r gwyntoedd, gwyntoedd byd pan deflid ef


92 GWAITH ISLWYN.

Fel mynydd noeth i ganol gauaf siom,
Lle syrthiai ein cysgodion oll o’n cylch,
Fel beddau gobaith-wywol ban unigrwydd,
Lle mae y byd yn ymgyfyngu mwy,
Yn ymgulhau fel min o dan yr enaid
Nes gwaedo mwy na'r galon, a’r holl ddyn
Yn friw gan orlymderau bywyd oIl.
Per ganddo feddwl am gydymaith fu
Yn dringo bannau’i obaith bob yr un,
Yn teithio, wedyn, holl ddyffrynnoedd siom,
Nad oes a'u rhodia onid rhithiau bedd,
A'r gwir bererin nad all feddwl fyth
Am ado ei anwyliaid nes y bont
Yn gyflawn dros derfynau amser oll,
A'u cysgod olaf wedi gado'r byd —
Ffyddloniaid puraf cariad, nad all un
Hyawdledd eu perswadio i droi yn ol
Ond hyawdleddau distaweddau'r bedd
Sy'n eistedd ar y tragwyddoldeb mawr,
A thywyll faen o’r graig fel oeraf fys  
Ger oesoedd amser ar ei enau fyth.
Y cyfaill ffyddlawn yn ei ymyl gaed,
Pwy bynnag a'i gadawai, er i'r byd
Ystyried safle'n ddigon iddo ef
Ryw fan i sefyll arno ganol nos
I edrych ar y seren a garasai;
Ac yn cyd-edrych y tu fewn i’r byd
Ar lyn ei galon, ac yn gwrando'n brudd
Ar ddyfnaf olaf lais ei ysbryd lleddf,
Y curai’i galon yn gyflymach bron
Rhag clywed ymgwyn dwfn ei feddwl llesg,
Gan foddi ei gwyniadau mewnol ef,
Yn am-lanwadau ei chyflymol lif;
A gydymdeimlai fel nas medra neb,
Na dim, un angel nac un seren fry,
Ond defnydd corff-Iuniedig, gydymdeimlo;
A blygai gydag ef o dan ei wae,
A chydag ef a godai fel afonydd
Ar ol cawodiad o ddedwyddol rin;
A wylai pan y byddai ef yn brudd
Nes y boddheid yr anfarwol, fod
Modd ganddo i liniaru ia y bedd
A thorri'r rhew sy'n oeri bywyd byth
A chawod ddagrau ac â bywiol wlith
O gwmwl agos iawn i'r galon drom;


Y STORM. 93

Cydymaith a gymerai arwedd bod
A’i holl dymhorau oddiwrtho ef, —
Haf dan ei wên, a gauaf dan ei wae;
A godai gyda'r haul pan alwai ef,
A chyda'r ser a godai eilwaith dan
Gynhyrfiad newydd o ddwyfolach rhin,
A chyda hwy lafuriai lawer awr;
A wisgai i'w ewyllys, fel y maes
I foddio y tymhorau yn eu trefn,
Yn ol arweddau y newidiol haul
A droai'r flwyddyn amlwedd dros y nef.
A phan y tynnai gwaith yr ysbryd mwy
I dawel awr y telyn, pan y caed
Olwynion by
wyd bron a throi i gyd,
A chysgod eu diweddaf adain hwynt
Yn syrthio ar y byd ymloerawl mwy,
Eu holaf a’u tywyllaf fraich, y bedd —
A grymai yntau tua'i olaf hedd
A thy ei hir hir gartref, fel pererin
Yn dechreu plygu ei luddedig ben
Weld isel ddôr ei hedd-gartrefle mwy,
O fewn ychydig gamau dros y gwyrdd;
Gawodai ei flynyddoedd dros ei ben
Fel arwydd yr addfedrwydd a'r cyflawnder,
Fel awgrym ei barodrwydd i’w hun fawr,
Fod ei flynyddoedd yn rhifedig oll
O rif fel gwallt ei ben, pe trefnid hwynt
Yn ol helaethrwydd ei brofiadau ef,
Oll yn rhifedig, ac yn wynion oll,
Yn wynion pe na byddai onid gan
Rinwedd a chariad a sancteiddrwydd glwys,
I gyd yn wynion i gynhauaf Duw.
Ai rhyfedd os dyfera'r enaid un
O’i ddagrau mawr ei hunan ar yr haul
Ddwg foreu yr ysgariad rhyngddo ef
Ai gydsymudol cyd-deimladol cyd-
HanfodoI gâr, nes diffodd byth o'i gof
Oleuni y dydd hwnnw, heb ei weld
Fyth mwy ond yn lloerlifol wawl y bedd
Dderbyniodd ei anwylyd fyth i'w gol?
Fe gofia yn y nef. Y mae y dyn
Gwir ddyrchafedig, yn ei lysoedd aur,
Yn hoffi meddwl am ei annedd gynt,
Y babell a'i derbyniodd ac a'i rhoes
I fawredd ac i lwybrau tecach ffawd.


94 GWAITH ISLWYN.

 
Po teca'r canol dydd, anwylach fydd
Yr adgof am y wawr a lethwyd bron
Gan wyntoedd a mynyddau pan nad oedd
Neb a'i gwahoddai oddiar un ban,
Na llwybyr ond a dorrid draws y byd,
Na dôr o fyrdd yn agor ond a wnaed
I wywo ar ei gofyn, ac i ffoi
Ffoi ymaith gyda’r pell-roliedig niwl.

Dos rhagot, haul! Daeth rhyngom ddiffyg mawr
O fwy na daear. Dywed rywbeth eto.
Mae nos yn perthyn i’th gyfundraeth di,
Ac ar dy cyfer fyth. Nis gelli draw,
Er llawned ac helaethed yw dy ddydd,
Oleuo byd o’i amgylch. Dwed i ni
Ai rhyw ymwelydd o ddieithriaf nawd,
Ai traws-ymyrrwr, estron, a di hawl,
Ai cyferbynedd gwynfyd ydyw gwae,
Ei argyferedd, ei gyfarwedd ef,
Parth o'r un angenrheidrwydd a'r un drefn?
Y mae pob planed yn tywyllu'i hun,
Gan adeiladu’i nos o'i bryniau'i hun,
O'i moroedd, ac o’i chyfandiroedd teg,
Ei thyrau, ei dinasoedd, a'i theyrnlysoedd;
Ac angenrheidrwydd ei hansoddiad hi
Yw’r gwae sydd yn ei beddu rhag y dydd
Hanner ei hoesoedd. Hongiwyd ar bob peth
Ei briod gysgod gyda'r haul, a myn
Ei dro a'i daen anolau bob yn ail
Yn ol cydnerthol, cydurddunol ddeddf,
A honno sydd yn dal yr haul i’r lan.
Beth yw y ddaear bridd-luniedig hon,
Ei nos a'i dydd, ei bryniau oll o'i chylch,
Ond delwedd o'r anfarwol fyd y mae
Yr enaid pererinfawr fyth yn gael
O amgylch ei feddyliau pellaf oll
Yn lledu'n dragwyddoldeb? Nid oes bryn
Fyth yn cymeryd ar ei ochrau oll,
Nac ar ddau cyferbyniol, rwysg yr haul,
Y mae un ochr gan y nos o hyd,
Neu gan ryw eilun o'i chysgodion prudd.
Ac nid oes un rhagluniaeth drosti oll
Yn olau, nac un gadwyn o ddigwyddion
Yn rhedeg gyda’r haul gwynfydol fyth.


Y STORM. 95


Rhagluniaeth olau — ban
Ar fynydd amser yw,
Ac nid oes ond un sefyll fan,
Ac am un eiliad gwyw,
Lle ca ucheddau'r enaid lan
Wrth nofio'r gwag sy rhyngddo â Duw,
Ryw bwynt i ostwng ei adenydd,
A meddwl am ei fro garenydd,
Rhyw araul fan i orff
wys ennyd
Heb deimlo ei alltudiol bennyd.


Rhagluniaeth olau — rhaid
I honno ddwyn ei nos
Ar ol ei dyrchafiadau
A'i mwyniaint lif y rhos,
Tu cefn i'w mynyddoedd
A'i harelysfa dlos.
A phrawf ei nef-anfoniad yw
Ei bod yn gyflawn, ac o Dduw.


Goleua marwol ddyn
Ei balas ar y bryn,
Ar ol i'r huan ddisgyn fel
Pererin pell i’r glyn,
Ar ol i fryniau'r ddaear
Fil miloedd ymdawelu,
A'r ser droi allan yn eu nerth
Fel duwiau i'w diogelu,
Try dyn y byd yn ol ac adnewydda'r dydd,
Afonydd o oleuni wahanant y nos brudd.
O dedwydd ydyw dwyn noshad rhagluniaeth, pan
Fachludo y goleuni mwy o fan i fan,
O hedd i hedd,
O fedd i fedd,
A chysgod pob rhyw obaith yn disgyn yn yr hedd,
A diwedd pob perffeithrwydd draw'n neshau, bedd ar ol bedd.

 
Saf yna, saf yn dawel
A rhoer i'r nos ei lle,
Ac na oleuer lamp y byd
Yn absen haul y ne,
Ei olau gwaharddedig
O fwyniaint ac o flys
Sy'n lloer-oleuo'r enaid,
Fel rhyw golledig lys


96 GWAITH ISLWYN.

 
Fai'n crynnu ar ddaeargryn fyw
Bob eiliad dan gondemniad Duw.
Saf dan y cysgod athrist, saf.
Nid oes un flwyddyn oll yn haf,
Na gwynfa heb ei tharan gliriol,
Na chylch o ddydd heb nos amfuriol.


Y marwol, cysgod yr anfarwol yw,
A'r greadigaeth erfawr — cysgod Duw,
Cysgodau ei anfeidrol fawredd ef
Yn dod yn feithion fydoedd hyd y nef
Am oesoedd ar ol oesoedd; pan y daw
Yn holl gyflawnder ei ogoniant draw,
Fe ffy y byd-gysgodau oll yn un,
A byth ni welir ond efe ei hun.
Rhaid arwain dyn i fyny trwy y byd
A'i feddylddrychau trwy y ser i gyd,
Ei arwain trwy y cysgod sydd yn cau
Ior ymaith, cyn ei weled fel y mae.
Ac amser, onid cysgod egwan yw
O'r anherfynol, oesoedd mawrion Duw i
Edrychodd yr Anfeidrol ar y byd
Yn holl gyflawnder ei berffeithiau i gyd,
Ei fawredd a'i anherfynolrwydd ef,
Edrychodd, a llifeiriodd ar y nef
Yr haul i gyd a'i oesoedd oll o’i flaen
I lygad dyn fel anherf
ynol daen.
Tywyllwch ydyw cysgod dyn bob llaw,
A nos yw cysgod yr holl fydoedd draw,
Tywyllwch, prudd-der, byd-ostegol fraw;
O, haul ysblenydd, lond yr oesoedd, yw
Y lleiaf gysgod o symudiad Duw;
Ac er tanbeidied ei wynepryd gwiw,
Ar gyfer Duwdod nos ei hunan yw.


Tywyllwch yw diddymdra; rhyw leihad
O'r nos dragwyddol, araf deneuhad
Yw bywyd dyn yng nglynnoedd amser prudd;
Cysgodion yw yr oll o'i amgylch sydd
Ac ar hyd ambell feddwl pell laswyniad gwan o ddydd;
Rhyw gysgod ar ei lwybrau yw y byd,
Ac ar gysgodion taen y ser i gyd
Rywfaint ysgafnach, ysbrydolach bryd;
Nis gall yr haul ddatguddio iddo ef
Ond cysgod, byd o gysgod, niwlog nef;


Y STORM. 97


Fel cysgod rhed ei fywyd drostynt hwy,
Nes elo'n llai na gafael adgof mwy,
A faidd afaelyd a'i hysbrydol law
Ar gysgod gair dros hanner canrif draw;
Y cysgod olaf ddaw, y beddrod prudd,
Ac yn ei holl fawrhydi trwy yr hudd
Fe rodia’r enaid i'r tragwyddol ddydd.


Ni welir dim yn eglur, y peth yw,
Na gronyn, byd, na meddwl o un rhyw,
Digwyddiad na rhagluniaeth, ond yn Nuw.
Y mae cysgodau pethau yn yr Ior
Yn darfod fel y ddaear yn y môr.
Tywynna ei oleuni llawnaf Ef
Bob tu i amser; pob rhagluniaeth gref
Dderbynia Dduw i'w chanol, o’i hamgylch, fel y nef
Yr haul a chyflawn eglurhad y dydd.
A gwelir mwy y llynnoedd dagrau prudd,
Holl ddyfnder bywyd, dyfnder du y bedd,
Yn adlewyrchu ei siriolaf wedd.
Pan syllo Duw ar fyd o feddau prudd,
Ar ddyfnder angau y diweddaf ddydd,
Diflanna'r nos, diflanna’r olaf hudd,
A bywyd fydd y cyfan ynddo Ef,
Diderfyn adgyfodiad hyd y nef!
Ac ni fydd angau, angau’r oesau i gyd,
Ond cysgod bywyd bythoedd yn gwywo gyda'r byd.
Hanerog yw goleuni amser; rhannau
Unigol welir, a thoredig lannau.
Nid oes un meddwl cyflawn yn y byd,
Ochr welir, cysgod yw y llall i gyd
Yn aros am y perffaith ddydd, y wawr
A noetha'r enaid fel golygfa fawr,
A'i holl feddyliau fel mynyddau'r dydd,
A'i fod am dano heb un llen na hudd,
Fel teml urddunol, hyd y sancteiddiolaf,
Hyd at y galon a'r fewn-gyntedd olaf,
A thragwyddoldeb, archoffeiriad mawr
Bodolaeth, ddaw i mewn pan dery'r awr,
A syrth y byd fel gwahan len i lawr;
Holl ddorau'r enaid gydagorir mwy,
Ac ni ddaw cysgod bythoedd rhyngddynt hwy.


Mae golau amser yn rhy isel fyth
I ddangos odd yr enaid ond ei wlith,
 


98 GWAITH ISLWYN.

 
Gwlith teimlad prudd-ddisgynnol; am y don
O feddwl derch a gor-dafliadau hon,
Ni fedra ddangos ond ei chrychiad hi
Ar wastad bywyd a'i gyffredin li;
Ymdorcha i'r nefolion leoedd fry!
Nis gall yr haul ei throi yn ol, na'r ser
Ei glannu ar eu harbellderoedd ter,
Nac ymaberu, na ddychwela hi
O'u dyfnaf aber i'r eangder hy,
A heibio'u gloewaf benrhyn o ogoniant
Gan holi uwch y cyfan am aberoedd ei boddloniant.


Un crychiad o'r anfarwol pan gyffro
Y môr o feddwl dan y fron, un tro
A edy amser mewn un ennyd grynol
Fel bwrlwm ar y moroedd anherfynol.
Bryn enaid yw drychfeddwl; gwych ehediad
O fawreddogrwydd ar ei bell welediad;
Ac nis gall amser dderbyn onid ael,
A hwnnw gan ei bellder yn lloeri ei lawnaf haul.
Cyffredin yw y meddwl ag y medr
Amser ei gynnal ar ei gyfyng gledr.
Nid teilwng yw o'r enaid mawr a phur,
A fyddo y tu yma i'r bedd yn glir
Fel peth o farwol ddefnydd, fel y bryn
O gleilyd gaerau draw sy'n beichio'r glyn
A nos dragwyddol o gysgodion.


Clir
Na foed i'r enaid felly ddim tua yma i'r dwyfol dir,
Y tir na edwyn haul na phethau byw
Na bannau na dyfnderau onid Duw, —
O, yno, ynddo ef, ei haul yn wir,
Y ceir yr enaid bellach yn y clir,
A'r cyflawn byth, a'r amlwg. Yn y nef
Dragwyddol y gorfrynia'i feddwl ef.
Pan fyddo'r enaid yma'n ceisio codi
Drychfeddwl mawr fel byd, yn ceisio cylch
Ei rôd a'i fesur o fewn amser oll,
Nid rhyfedd od a arddrych llawn i goll
I'r anherfynol, nes y metho'r byd
Ei gynnwys gan ei fawredd, a'i nef-wynebol bryd.
Babanol beth yw'r enaid, meddant hwy,
Tra yma; bydded faban; mae yn fwy
Na'r byd sydd yn ei grydio rhwng ei fryniau


Y STORM. 99


A'i gyfandiroedd o fôr-grydiol riniau.
Y mae ei lygad eisioes, er mor wael,
Yn taflu i'w ddyfnderoedd rôd yr haul.
Y mae yn chwareu â therfynau'r byd,
Mae'n trwsio ei lamp lle diffydd llusernau'r ser i gyd,
Ac anfarwoldeb wawria trwy holl agenau'i gryd.
Gwel ei feddyliau fel comedau byw
Yn dychwel dan oleuni goraedd Duw.
Cod, farwol ddyn, yr amrant mawr, y byd
A'i lennol fryniau, cod y llen i gyd
Oddiar dy enaid, yn eu lled a’u hyd
A'u dwyfol danbaid uchder, cenfydd hwy,
Meddyliau'r enaid yn eu mawredd mwy.
Mae rhan o holl feddyliau mawrion dyn
Goruwch y gair, ac o anhydraeth lun
Oddiar y cwbl fel bryn a nef yn un.

Daw amser fel pererin blin i'r lan;
Ond digon iddo yw y cyntaf fan,
Gwelediad cyntaf y dyrchafol syniad,
A gâd i fydoedd eraill y terfyniad.
O, gogoneddus ydyw rhodio dan
Gysgodion meddwl, a rhyw grogawl fan
O fawreddogrwydd dros yr enaid syn
Yn hongian megis nef-gyffyniol fryn.
Fel allai cerub daweleiddiol fron,
A rhodio trwy y nos ardderchog hon,
Fel cysgod mawredd, cysgod anfarwoldeb,
Yn disgwyl codiad Duw a llawnder tragwyddoldeb.


Fel gwlad a'i bryniau yn dyffrynnu'r nefoedd,
Gan ddal yr wybren ar eu hael-bellafoedd,
A'i holl ystormydd ar eu dyrchafiadau,
A rhwysg y daran ar ei phell roliadau;
Fel gwlad a'i bryniau yn triannu’r nos,
A'u gorgysgodion ar ei mynwes dlos, —
Fel honno, O mawreddog yw'r cyfrolau
A fyddont ar ryw barthau fyth bythoedd yn anolau,
A thros eu hanner yn gysgodion prudd,
A’r hanner arall ond rhyw lâs o ddydd.
Dos, ddyn, trwy honno mewn awyddfryd mad,
Fel un a gerddai trwy ramantawl wlad,
Ar ymyl nef y nefoedd, a gerllaw
Dyfroedd y Bywyd a'u cyflawnder draw.
Mae nos ym myd yr enaid, a phrudd luniau
Yn gorffwys ar ei odidocaf fryniau.


 

Sumbolau:

a A / æ Æ / e E / ɛ Ɛ / i I / o O / u U / w W / y Y /
MACRONː ā Ā / ǣ Ǣ
/ ē Ē /
ɛ̄ Ɛ̄ / ī Ī / ō Ō / ū Ū / w̄ W̄ / ȳ Ȳ /
MACRON + ACEN DDYRCHAFEDIGː Ā̀ ā̀ , Ḗ ḗ, Ī́ ī́ , Ṓ ṓ , Ū́ ū́, (w), Ȳ́ ȳ́
MACRON + ACEN DDISGYNEDIGː Ǟ ǟ , Ḕ ḕ, Ī̀ ī̀, Ṑ ṑ, Ū̀ ū̀, (w), Ȳ̀ ȳ̀
MACRON ISODː A̱ a̱ , E̱ e̱ , I̱ i̱ , O̱ o̱, U̱ u̱, (w), Y̱ y̱
BREFː ă Ă / ĕ Ĕ / ĭ Ĭ / ŏ Ŏ / ŭ Ŭ / B5236ː  B5237ː B5237_ash-a-bref
BREF GWRTHDRO ISODː i̯, u̯
CROMFACHAUː
  deiamwnt
A’I PHEN I LAWRː , ә, ɐ (u+0250) httpsː //text-symbols.com/upside-down/
Y WENHWYSWEG:
ɛ̄ ǣ æ

ˈ ɑ ɑˑ aˑ aː / æ æː / e eˑeː / ɛ ɛː / ɪ iˑ iː ɪ / ɔ oˑ oː / ʊ uˑ uː ʊ / ə / ʌ /
 ẅ Ẅ / ẃ Ẃ / ẁ Ẁ / ŵ Ŵ /
 ŷ Ŷ / ỳ Ỳ / y Ý / ɥ
ˈ ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ əɪ uɪ ɪʊ aʊ ɛʊ ɔʊ əʊ / £
ә ʌ ẃ ă ĕ ĭ ŏ ŭ ẅ ẃ ẁ Ẁ ŵ ŷ ỳ Ỳ Hungarumlautː
A̋ a̋

U+1EA0 Ạ U+1EA1 ạ
U+1EB8 Ẹ U+1EB9 ẹ
U+1ECA Ị U+1ECB ị
U+1ECC Ọ U+1ECD ọ
U+1EE4 Ụ U+1EE5 ụ
U+1E88 Ẉ U+1E89 ẉ
U+1EF4 Ỵ U+1EF5 ỵ
gw_gytseiniol_050908yn 0399j_i_gytseiniol_050908aaith δ δ £ gw_gytseiniol_050908yn 0399j_i_gytseiniol_050908aaith δ δ £ U+2020 †
« »

 
DAGGER
wikipedia, scriptsource. org

httpsː []//en.wiktionary.org/wiki/ǣ

 
Hwngarwmlawtː A̋ a̋
gw_gytseiniol_050908yn 0399j_i_gytseiniol_050908aaith δ δ
 …..
…..
ʌ ag acen ddyrchafedig / ʌ with acute accentː ʌ́

Ə́ ə́

Shwa ag acen ddyrchafedig / Schwa with acute

…..
…..
wikipedia,
scriptsource.[]org
httpsː//[ ]en.wiktionary.org/wiki/ǣ

---------------------------------------
Y TUDALEN HWN: www.kimkat.org/amryw/1_testunau/
sion-prys_386_islwyn_000-099_RHAN-1_3804k.htm

---------------------------------------
Creuwyd: 08-03-2023
Adolygiad diweddaraf : 08-03-2023
Delweddau:

Ffynhonell: Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Newyddiaduron Arlein.
---------------------------------------

Freefind.
---
Archwiliwch y wefan hon
Cerqueu aquest web
SEARCH THIS WEBSITE
---
Adeiladwaith y wefan
Estructura del web

SITE STRUCTURE
---
Beth sydd yn newydd?
Que hi ha de nou?
WHAT’S NEW?


Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymweld ag un o dudalennau'r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sóc?
Esteu visitant una pagina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Gal·les-Catalunya)
Where am I?
You are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website
Weə-r äm ai? Yuu äa-r viziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA (= Weilz-Katəlóuniə) Websait


Adran y Wenhwyseg / Secció del dialecte de Gwent / Gwentian Welsh
Edrychiadau ar y tudalennau / Vistes de les pagines / Page Views
Web Analytics Made Easy -
StatCounter
Edrychwch ar ein Hystadegau / Mireu les nostres Estadistiques / View Our Stats