|
|
|
100 GWAITH
ISLWYN.
Y STORM.
X.
Y môr.
Y GREADIGAETH der
Yw teml yr Ior, a'r ser
Y porth sydd yn ei dderbyn
O’i danbaid lys gyferbyn.
Fe’i cododd hi
O amgylch fry,
A rhoes â'i law bob congl faen,
Geir yn serchu'r adail gain,
Mesurai hyd,
Eangder, dyfnder, pob rhyw fyd
Fel cyntedd draw
A chwyf ei law.
Rhoes am bob byd fel gwahan len
Y nos, holl hyd a lled ei nen;
A haul fel archoffeiriad
Yng nghanol pob rhyw lu
I rwygo â'i ddisgleiriad
Ei bydoedd-orchudd hi,
Gan ddwyn y dydd i mewn fel môr
A chyflawnderau cariad Ior.
Ac wedi rhoi y bydoedd
O amgylch yn eu lle
Dywedai Duw, — "Da ydoedd,"
A chodai lond pob ne
Ar unwaith hyd ei orsedd bêr arogl-darth o fawl,
Ac yn y don anfeidrol fry nofiai'r pellaf bawl.
Ac aeth y Ior dwyfolaf
I mewn i'r cyntedd olaf
I'r nef, y sancteiddiolaf,
Y cyntedd o dragwyddol lun
Sydd uwch y cyfan, ynddo ei hun.
Ac un oedd tôn y bydoedd gynt
Trwy'r mil myrdd o ororau,
Un oedd eu can a'u haraul hynt
Fel eiddo ser y borau.
Ond tynnodd dyn, — pan y culhaodd chwant
Ei holl feddyliau bellach ynddo'i hun,
Pan y cyfyngodd pechod helaeth rod
Ei feddwl a'i holl ehediadau pell
I gylchoedd byrwel hunanoldeb mwy.
|
|
Y STORM. 101
Gan wneyd i'w feddwl, a lydanai gynt
Fel tro-fôr o fawreddau am yr oll,
I ymleihau nes darfod ynddo ei hun,
A'i fynd yn wagnod yng nghyfanswn bod, —
Fe dynnodd fawredd Duw a rhod ei fawl
I mewn, i mewn o'r byd-gynteddau, gynt
Y cydaddolai gyda'u miloedd hwy,
I mewn i feingylch teml o’i waith ei hun,
Mil llai ei gylch na’r fforest leiaf draw
A alwodd Duw o wlithyn, dros ei wisg
A lifai, i gysgodi rhag y gwres
Ei wir addolwyr, ac i sancteiddioli
Y dydd â thyner brudd-der drostynt hwy.
Fe gollodd ddelw yr Anfeidrol, fel
Y ffurfiai'r greadigaeth unol hi
Lle'r oedd pob gwrid yn forau led y byd,
Pob gwên yn hanner dydd, pob teimlad-chwydd
Yn fydoedd cydgyfodol, pob pruddhad
A thawelhad yn hardd fachludiad byd.
A chodai'i lun ei hunan ar ei deml,
Gan newid gwedd yr anllygredig Dduw
I gyffelybiaeth dyn llygredig mwy,
A'i holl addoliant a gyfyngid fyth
Yn ol iseldra a byrdra’r llun a wnai
I gynrychioli'r Addoledig mawr.
Addoli Duw! Addoli ei hun y mae
Llygredig ddyn fynychaf, yn ei deml
Hunanwedd, wael, a gyfyd ef o fewn
Cyfleustra rhwydd-gyrchadwy iddo’i hun.
Y mae yn cau y bryniau allan oll
Na phlygant ennyd ond i’r ddaear-gryn
Hollalluawgrwydd Natur, ac na wel
Yr haul newidiad ar eu harwedd fyth,
Na chlyw yr oesoedd un anghordiawl sain
Fyth yn eu dyfnion foliaint; caua ef
Y cyfan allan, — môr a bryn a ser,
Arweinwyr moliant amser ymhob oes,
Gan drefnu'r cyfan iddo ef ei hun.
Ar hyd y
bryniau y gweddiai ef,
Y Perffaith, a'i ddamegion ar y maes
O fynwes Duw a wlawid fel cawodydd.
Edrychai ar y byd fel darn o deml
Ei Dad tragwyddoi, ac ni welai ddim,
Dim ynddo yn anheilwng onid dyn.
|
|
102 GWAITH
ISLWYN.
Yr oedd cysgodau'r bryniau arno ef
Yn disgyn, disgyn fel sancteiddrwydd pur,
Rhag cysgod dyn yn unig troai ffwrdd.
Yr oedd yn tawel huno ar y môr,
A'r môr yn huno'n dawel gydag ef,
Neu'u cyffro'n unig fel y profai'n well
Ei undeb â’i Greawdwr yn y storm.
Ar gyffro anian, codai gyda'r haul
A’r môr a'r bryniau i addoli y Tad.
Ei fore weddi godai gyda’r byd,
Gweddi a allai godi'r byd ei hun
A’i arwain trwy y nef â llawnach dydd.
Y bryniau oeddynt byrth ei deml ef,
A chanol nos ei gysegredig awr;
Syn ymlonyddai'r mynydd pan o bell
Y gwelai ef yn nesu gyda'r nos,
A lleufer o gerubiaid nefol wawr
Yn llifo fel ysplander ar ei lwybr,
A serch lon Ephrata fyth o'i flaen,
Sy heddyw ar ei galon dyner fry,
Yn cau y clwyf a brynnodd hedd y byd;
A duai'r haul dan nos ei angau ef.
Fe hoffai rodio ar hyd lan y môr
A rhifo'r tonnau fel y deuent hwy
I’w gyfarch o’r dyfnderoedd eithaf, oll
Yn wynion gan awyddfryd at ei draed.
A chipiai ar ei weddi ru y dwfn,
A’r holl ystorom oddiarno ef,
Gan anfon addoliadau anian fawr
I fyny n gymeradwy hyd y Fainc
Dragwyddol, gyda'i nefol lais ei hun.
Y bryniau oedd ei frodyr; pan ei caed
Yn unig ac ymddifad ar y maes
A'r ser yn disgyn rai eiliadau'n gynt
Ei weled yno ei hun, cyfeiriai ef
Ei gamrau byd-sancteiddiol tua ffordd
Y bryniau, ac yr oeddynt hwy yr un,
Ac awel bêr fel llais ar hyd pob ban
Yn anfon eu gwahoddion dros y nef,
Gan lawenhau ei weled unwaith mwy
Yng nghartref, a gweithredoedd pur ei Dad
A’r bryniau byd-ddodrefnol oll o'i gylch,
A'r lloer yn tyner weini ar y byd,
Gan ddwyn holl jubili y ser i lawr,
A'r tangnef anhraethadwy dros y cwbl.
|
|
Y STORM. 103
O, llawer nos a wnaed yn sanctaidd fyth
Yng nghofion amser gan ei weddi ef,
A'i ddyfnion fyfyrdodau, dyfnion fel
Y dyfnder a dderbynia'r ddaear fawr —
Ar ol i'r haul dramwyo bwa'r dydd
A'i wywo i'r dyfnderau ar ei ol —
Lle huna moroedd a mynyddau'r byd,
Nad yw yr heuliau goguneddus draw
O’i eigion anhraethadwy onid ser
Rhy bell, rhy uchel, i oleuo breuddwyd.
Olewydd! glwysaf o fynyddau'r byd!
Bryn yr adgofion dwyfol! Cyrchfan Ior!
Na chawn dy weled, oddiar dy ael
Ddyferu deigryn o lawenydd pur
Am unwaith, wylo lle yr wylodd ef,
Y parthai'r wawr ei ddagrau disglaer oll
Bob borau oddiwrth y gwlith o gylch
I’w gado yn dragwyddol lle eu caed,
Rhag hollol wywo o’r malledig fyd,
A chau o’r gauaf ar yr olaf rin!
Ni theimlai y pererin, ar y daith
Nefolaidd honno, eisiau seren fyth
Na llusern wan y cymyledig loer;
Digonol fyddai pell-belydrol wawl
Adgofion teithiau y Pryniawdwr gynt
I'w arwain hyd y sancteiddiolaf fan.
Derbyniaist sang ei droed, a goleu fyth
I ffydd y llwybrau a oleuodd ef
Pan nad oedd golau ar fynyddau'r byd
Ond gaed o hono ef, a daflai fwy
Na llawnder y canolddydd ar bob gwên.
Derbyniaist dros dy fannau lawer tro
Lif ei weddiau sydd yn chwyddo i'r lan
Arch lachawdwriaeth, pan y collir hi
Yn niluw amser ac euogrwydd erch,
Pan godo moroedd profedigaeth oll
I soddi'r cyfan ond a nodo Duw
I chwyddo yn dragywydd oddiar
Golledigaethau bydoedd, arno ei hun.
A thithau Cedron! Oni chodir di
I froydd araul anfarwoldeb, fel
Cofiedydd hawddgar ei ddiweddaf ing
A llifol adgof ei ymdeithiad ef
Pan groesai fwy na diluwiedig fyd
I gyrraedd y gogoniant roed o’i flaen?
|
|
104 GWAITH
ISLWYN.
O ddyfnder ebargofiant, bru y môr,
Dwed, oni elwir nefoleiddiaf lif
Y nos gofiadwy honno yn ei ol,
Pan ddaw y Prynwr ar gymylau'r nef,
Pan roer mynyddoedd a dyffrynnau'r môr
Yn sychion fel byd arall ger ein gwydd?
Do, gwelaist ef bryd hyn, a rhoest dy li
I gyd yn ddagrau fythoedd wedi’r tro.
Ardderchog eto
ydyw rhodio i maes
Pan godo’r haul i alw'r byd i fawl,
Neu pan ddiflanno yn gysgodau draw
I roddi lle i offeiriadaeth uwch
Y ser tragwyddol sydd yn uno'r byd
Ag uchel addoliadau nef y nef,
Gan agor oddiar y bryniau oll
Y sancteiddiolaf i ddyfodiad dyn,
A chodi y wahanlen sydd yn cau
Yr holl angylion oddiwrthym — draw
Yng nghyntedd araul y gogoniant pur
A'r nefol Wyddfod y tu fewn i'r llen.
Y mae y bryniau eto'n addolfeydd,
A’r môr o hyd yn dadgan mawredd Duw,
A'r tonnau mewn urdduniant anibynnol
Ymhell o olwg gweledfeydd y byd
Lle nad yw glannau'r ddaear wamal hon
Yn rhedeg fyth, na dim o honi hi
I'w weled, onid ambell big o ynys
Môr-amgylchedig; yno fyth, ar hyd
Dragywyddoldeb defnydd, codant hwy
Fawl yr Anfeidrol hyd gymylau’r nef.
A pharod ydynt i gyfodi fyth
Ar alwad yr awelon glwys bob un
Genada'r nefoedd i’w hadgoffa hwy,
Gan eu hadeinio yn nhrysorau natur,
Fel prawf ucheledd eu hanfoniad fyth,
Oll âg hollalluawgrwydd yr ystorm.
Ac nid oes gan y ddaear ofal gwag
A all eu lluddias yn eu huchel waith
A rhwysg eu haddoliadau. Taflant hwy
Y byd tu ol, a’i greigiog lannau oll,
A rhoddant ei fynyddoedd uchaf ef
Gadwyni cyfain hanner cylch y byd,
A’i wythi dyfnion o sylweddol aur,
Fel pethau dirmygedig oll dan draed.
|
|
Y STORM. 105
A gwae y llaw a faidd eu cyffwrdd hwy,
Ac hyf halogi cysegrfeydd y dwfn,
A throi y don dragwyddol yn ei hol.
A phan ddwyreo rhyw gyfandir mawr
Ei derfyn-fyddin o gydredol greig
Arfedig âg arswydion defnydd oll,
Yn erbyn eu dyfodiad, rhwygant hwy,
Ddyffrynnoedd llydain trwy eu canol, pell
Aberol helaethderau, gan eu llanw
Eu hunain, a chwanegu at eu rhol
Newyddion foroedd am a thrwy y byd
Helaethion leoedd i’w haddoliaint dorch.
Ha henffych it'
y Môr! y Môr!
Ardderchog yw dy anthem pan yn moliannu'th Ior,
Dy anthem yw y storom, a'r tonnau hyf dy gôr,
A dull ni feddi di;
A gwae a ffrwyno'th donnau, a gwae a herio'th li
Pan chwyddo trwy yr awel i seinio moliant draw
Lle clywo'r nef uchelaf a'r bryniau beilch bob llaw.
Fe syrthiodd
taran hy
Dros ganllaw y cymylau,
A galwad oedd ei rhu
I'r mor addoli isod,
I'r bryniau grynu fry.
A chlywaist yn dy erfawr gryd
Sy'n drymach na'r mynyddau i gyd,
Yn fwy ei led, yn fwy ei hyd
Na llawer byd, —
Ti glywaist rymus lef dy Ri,
A thefli i'r cymylau
Freuddwydion gweig a gwenau,
A chodi mae dy lef,
A chodi mae dy donnau
A’u nwyfiant am y nef.
Y storom yw dy fawlgerdd seml
Y ser dy oleuadau claer, a thi ni cheisi deml.
Ac nid oes
genyt offer cerdd na threfn i'th anthem hy,
A dull ni feddi di.
Mae'th fynwes fawr yn chwyddo i fyny at dy Dad,
O! boed i ’nghalon innau yr un gogwyddiad rhad.
Gwrandawaf, Fôr, fan yma dy daran-gyngerdd gref,
Ac adsain ar ol adsain yn llanw byd a nef!
Dan grynu tawaf yma fel y seren welw ei gwawr
|
|
106 GWAITH
ISLWYN.
Sydd acw yn addoli'n fud a'i llygaid tua'r llawr.
Mil gwell yw anadl teimlad na chorwynt rhwysgfawr dawn,
Ior! derbyn fy addoliad,— distawrwydd calon lawn.
Un deml nid oes yma na dull o uchel fri,
Y galon yw dy deml, Dad, a dull ni cheisi di.
Rhy gyfyng yw’r palasau a'r deml fwyaf sy,
Rhy gyfyng, mil rhy gyfyng duwdod i'th gynnwys di.
Ac i ba le'r edrychaf am olwg ar dy wedd,
Ble mae dy lais oruchaf, ble dyfnaf mae dy hedd?
Ar ol i'r storm ddistewi hyd fin y dyfnder af;
Pan noetho'r môr ei fynwes dan lydain wenau haf,
A'i donnau ar ol dychwel o fryniau'r dymhestl fan
Yn huno oll yn esmwyth ar wynion liniau'r lan,
Dad! gwelaf yno ardeb o’th anherfynol Hedd,
A'r tawel anfeidroldeb dywynna ar dy wedd.
A chofiaf yn y blinfyd y dedwydd fywyd fry
Lle bydd yr Oes Dragwyddol yn dragwyddol haf i mi.
Fel hyn bydd moroedd bywyd ar ol terfysgu'n hir
Yn bythol ymlonyddu ar draeth y dwyfol dir.
Y Môr! Y Môr!
Ardderchog yw dy anthem, a'th ddull yn moli'th Ior.
Rheola yn dragwyddol, fawrwych fôr,
Yr helaethderau sydd yn parthu'r byd.
Mae agoriadau'r gwledydd gyda thi,
Gwaelodion a dyfnderau natur oll
O dan dy gysgod mewn tragwyddol hedd
Yn ffoi rhag golwg a gorhyfder dyn;
Yr wyt yn magu'th wenyg ieuainc oll
Ar liniau natur, a sylfeini'r byd
O'u hamgylch yn ymgodi yn eu nerth
A'u haruthr noethni. Dygi yn dy hudd
Golofnau'r bryniau dan urddunol nos
A theilwng orchudd o'u mawrhydri hwynt.
A llawer cadwyn o fynyddoedd derch,
A gwledydd teg o baradwysol wedd,
Gynhwysir ynnot, sail a bannau oll,
A chyfandiroedd tansoddedig fyth,
Byd o ddirgelion, na chanfyddodd dyn
Ei wawr erioed, ond lle goddefi di
I ambell fan bigyrnu uwch y don.
Peth unig ydyw i welediad dyn
Pan ddelo heibio ar ei ysgafn hwyl,
A geilw ef yn ynys. Ban o fyd
Mawreddog yw, byd na thramwyodd dyn
|
|
Y STORM. 107
Ei lannau braidd; yn gorwedd ynnot, fôr,
Fel tragwyddoldeb, yn ofnadwy oll,
A thywyll oll i ymweliadau dyn,
Cauedig rhagddo amffylch ogylch fyth;
Ac, fel y tragwyddoldeb a gysgoda,
Heb ffordd i mewn nac un fynedfa i ddyn
Ond angau; na ddaw neb o hono'n ol,
Na llynges o ardderchog hwyliau i’r lan
O'i ddyfnder, ond yn adfail mân a briw,
Fel ein gobeithion pan ddychwelont hwy,
Yn fân adgofion yma a thraw o'r dwfn
Sy'n rhoi i angau ei ofnadwy bwys,
A'i fawredd, a'i anolrheinadwy nerth.
Y mae y ban ynysol unig draw,
Sy'n crynu fythoedd rhwng y nef a’r don,
A'r gwynt tragwyddol yn ei hysgwyd hi
Fel delwedd o'r ddaeargryn ar y llif,
Y mae yn dal cymundeb, er mor bell,
Mor unig a digysur ar y dwfn,
A chyfandiroedd o aruthrol faint,
Byd cyfan o anhydraeth olygfeydd.
Saif acw fel gwyhedydd dros y cwbl,
Fel byd-genhades oddiar y llif,
I wylio borau y dadguddiad llawn,
Gwawr cydadgodiad y mynyddoedd pell.
Gwae'r hwyl amheuo eu bodolaeth hwy,
Gan redeg yn ddireol dros y llyfn,
A rhoi yr helm i’r gwyntoedd ennyd byr.
Pe sychai pechod oddiar wyneb bod,
O,’r byd tragwyddol godai arnom fyth;
Y gadwyn fawr ar gadwyn dros eu gilydd
O gedyrn wirioneddau danom gaed;
Y broydd anfarwolwawr o fwynhad;
Yr uchder dros ben uchder o orfoledd;
A'r graig dragwyddol o gysgodawg wedd
O dan y cyfan, dros y cyfan fyth,
A'r cysgodfeydd o elysfaol wedd;
A’r amaethyddiaeth o wynfaodd pur
Yn gwyrddu'r cyfan hyd y dwyfol fryn
Ddiflannai i'r anfeidrol gyda Duw.
Bod alltudiedig
ydyw dyn, ymhell
O’i briod wlad a'i briod fyd ei hun;
Fe lifodd pechod fel tywyllaf fôr
Dros olygieydd ei deg anfarwol fod.
|
|
108 GWAITH
ISLWYN.
A gwthiodd ef yn ol, yn ol, hyd draeth
Anobaith a chulhaol lannau gwae,
Sy fyth yn ymgyfyngu nes y bo
Y safle olaf wedi gwywo oll,
A'r cyfan yn ddiderfyn fôr o lid,
Heb arwelediad tragwyddoldeb mwy,
Oleudy unig, nac ymddifad hwyl.
Ceir ambell bigwm o’r anfarwol fyd
Yn torri dyfroedd Amser yma a thraw,
Rhyw feddwl pell-ehedol ambell bryd,
Ban o ryw fryn tragwyddol yn y dwfn,
Dychymyg ennyd-godol byr-weladwy.
A rhywbeth fel goleudy ar ei brig.
Rhyw ddyfnder o fyfyrdod aruthr dan
Yr enaid yn ymagor fel clawr byd,
Rhyw bell adgofion ar y dieithr lif
Yn codi fel ynysoedd anfarwolwawr
Nas gall yr enaid onid cipio o bell
Drem arnynt heb eu cyrraedd a'u mwynhau,-
Cofleidia hwynt. Arwyddion ynt o’r maith
Ogoniant a ddatguddir, bannau byd
Ysplenydd, a dwyfolion olygfeydd.
Arweinydd y
dyfnderoedd, rholia fyth.
Dy eiddot ti ardrefnu gwedd y byd,
A'i daenu fel darlunlen ar dy lif,
Yn wledydd ac yn fyrdd o olygfeydd,
A lledu'r ynys a'r cyfandir mawr
Yn ol dy ddeddfiad yng nghynghorau'r dwfn
Gynhelir dan gysgodion seiliau'r byd.
Pan yr ymlygrodd teulu erfawr dyn
Y pryd nad oedd dynolryw, er mor aml,
Ond un aruthrul lwyth, o ddull yr un,
Yr un o iaith ac o arferion oll,
O ddefod a thymheredd yr un wedd,
Heb bellder gwledydd i'w dieithrio hwynt,
A gwahaniaethu'u cymeriadol wedd;
Pan ddirfawr ymlygrasant, nes y caed
Y byd yn dywyll gan un cysgod erch
O bechod ac o gymhlethedig wae,
O dan ddirgelwch llen y Diluw mawr, —
Ti gyfnewidiaist wedd y ddaear oll,
Gan dorri'r byd yn gyfandiroedd mwy
A breichiau estynedig dy gadernid,
O orddyfnderoedd dy aruthrol fron,
|
|
Y STORM. 109
A dwyn o fyd dy ddyfroedd rhyngddynt hwy
Fôr ar ol môr yn barthol gyfryngfeydd.
Llydanaist yr afonydd gaed o’r blaen
Yn rhwydd rydiadwy, gan eu gwneuthur mwy
Yn ddychryn i’r cenhedloedd ar bob tu,
Mor nerthol a galluog nes yr oent
Yn dwyfoleiddio eu chwyddedig lif,
Gan eu haddoli megis duwiau ceidr,
Ofnadwy i'w cythruddo yn eu hedd
Ac ameu gallu eu terfyniaeth hwynt.
A thailaist un cyfandir dan yr haul,
Gan rwymo ei boethedig wledydd ef
O amgylch â'r cyhydedd fel â gwregys;
A chrogaist ar y gogledd gonglau un,
A bylchaist hwynt drachefn â llawer môr
Aruthrol ei lifeiriaint, gan fwâu
Eu glannau ag aberoedd erfawr led,
Nes gwahanoli a nodweddu fyth
Tirolwedd pob cyfandir ynddo'i hun,
A gwneyd pob penrhyn bron yn arwydd gwlad.
A phan adawyd Babel yn y niwl,
Fel holl fawreddau a gobeithion dyn,
Heb ond y tarth i’w werthfawrogi mwy,
Fel gorffwys fan cyfleus a pharod fry,
Ar egwyl syn y byd-wasgariad mawr,
Pan safai'r adail dderch ar ganol nef
Gan derfysg geiriau am ei seiliau hi,
Pan wnaed y rhaniad mawr ar ddynol ryw,
Yn ol eu hieithoedd, cenedl am bob iaith,
Gogwyddwyd eu cerddediad tua ffordd
Y gwledydd amlwedd, alluocaf for
A drefnaist iddynt dan wahanlen fawr
Y Diluw. Rhodiodd y cenedloedd oll
Dros fryniau, cyfyngdiroedd, ac o gylch
Aberoedd llydain filoedd, nes eu cael
Bob un i'w briod wlad a'i fro ei hun;
Ac wedi darfod o'r ysgogiad maith
A wnai i'r bryniau symud dros y byd,
Amgylchaist leoedd eu preswylfod hwynt,
A chododd dy daranau rhyngddynt fyth.
I ti yr ydym yn rhwymedig, fôr,
Am amrywiaethau dyn. Ti sydd yn rhoi
Ei wlad a'i haul a'i hinsawdd i bob llwyth,
Y rhai sy'n llunio eu cymeriad mwy,
Yn arwynebol neu yn ddyfnion ddwys,
|
|
110 GWAITH
ISLWYN.
Yn nerthol neu yn weinion, fel y bo
Gwedd anian ogylch, a’i thymeredd hi
Sy'n codi dyn yn ol ei delw ei hun,
Gan leddfu'r enaid i'w harddelwedd bron,
A rhoddi iddo radd a rhod yr haul.
Y mae dy lawnion freichiau fel cronfeydd
O oesoedd, breichiau o'r tragwyddol fôr,
Yn ymddyfnderu rhwng cenhedloedd dyn,
Gan beri uwch dadblygiad arnynt hwy,
A throad o holl weddau y ddynoliaeth,
Danghosiad anherfynol fawredd dyn,
A’i ymadferthoedd ef o dan bob haul,
A'i oruchafiaeth o dan bob lleddfhad
Ac awchlymhad o ddefnydd; acw o dan ]
Rew-gyfandiroedd y gogleddfyd oer,
Na edwyn ond un tymor oesoedd byd,
Hyd losgol wastadeddau Affrig boeth
Lle rhudda'r byd fel archoll dan yr haul,
Lle mae'r fforestydd anfeidrolfawr oll
Yn disgwyl am y llawn belydryn rydd
Eu holl ddyfnderoedd hwy yn fôr o dân.
Yr wyt yn trefnu pob parthedig lwyth,
Fel byd unigol ar ei ben ei hun,
A'i iaith ei hun, a'i ddeddfau'i hun, a rhes
O gawr-feddyliau oll yn eiddo’i hun,
A'i awen bêr ei hunan fyth ar hyd
Ei briod fryniau, ac ar lannau glain
Ei ddyfroedd pur, yn tywallt llif ei cherdd
Ar briod wedd a newydd ddull yn ol ,
Y golygfeydd a'i hysbrydolant hi,
A threigliad ei gymeryd ymhob oes.
Po mwyaf
fyddo'r pellder lenwi di
A’th gysgod-anfeidrolder rhyngddynt hwy,
Rhyfeddaf oll, a mwy amrywiol fydd
Dadblygiad y ddynoliaeth; mwyaf oll
Y gwelir mawredd a gogoniant dyn,
Ac amrywiaethau yr awenol nwyf
Sy'n nefoleiddio ei fodolaeth ef,
Gan brofi ei ddisgyniad fyth o’r duwiau.
Yr wyt yn torri'r byd i fyny o gylch
I'w luosogi, ac i ddwyn i maes
Ei ymadferthoedd oll-greadol ef,
A’i ryfedd allu i ail-blannu ei hun
Yn ardderchawgrwydd ei berffeithiau oll,
|
|
Y STORM. 111
Ac i ail ymddyrchafu trwy ei holl
Gyneddfau fel archangel hyd y nef
Dan bob amgylchiad ac ystad o fod.
Yr wyt yn llanw'r byd â bydoedd, gan
Dy gariad anherfynol ato ef,
Er mwyn y per hyfrydwch o fwynhau
Ei ddedwydd bresenoldeb gyda thi,
A'i ysgwyd fel anwylyd ar bob môr
Sy'n cyfarch pedwar pwynt y nef i gyd,
Ac yn eigioni ar derfynau'r byd.
A ydwyt, fôr, yn hoffi clywed swn
Llais dwyfol dyn yn torri'th ddyfnaf hedd,
Gan lonni'th aruthr ymneillduedd di,
A'th bell unigrwydd y tu faes i'r byd?
A wyt yn hoffi ysgwyd ar dy fron
Ei gryd-ynysoedd, a chenhadu'r don
I'w ffyddlawn cyfarch ef ddwy waith y dydd
O amgylch yr holl blaned, ar bob glan
A chraig a phenrhyn, ac i frysio 'mlaen
I'r pell afonydd i'w gyfarfod ef,
A chodi ar dy gyflawnderau hael
Bob afon gyrraeddadwy dros y byd?
Paham yr ydwyt ar dy lannau oll
Yn trefnu tawel ddyfnion orffwysfeydd
Aberoedd rhwydd-ddisgynnol feinol fyth,
Hedd-lyfnion fel y glas sy'n gwaenu’r nef,
Yn lle trynaddu gwylltion elltydd draws
Y byd o amgylch, ochrau union serth
I'th donnau geirwon ymdrochioni fyth
O danynt, ac ystorm dragwyddol arwain
Tro-Iynnoedd cynddeiriogwyllt dan bob craig,
Nes gorfynyddu holl derfynau'r byd,
A gwneyd pob glan yn wylltred o erchylldra, —
Fôr anherfynol, dywed! Onid fel
Y caffo dyn ddylifiad rhwydd i'w fyd,
I freichiau agoredig ei hoff rai,
Goronant frig y garth â mwy na'r byd,
Gan ddisgwyl gyda'r ser, ac fel y prif
O siriolderau y gwelediad maith,
Lydanol wawr ei hwyl a swn ei lais?
Pan elo dy
orfoledd mawrwych di
Yn rhy aruthrol a goruchel draw,
Yng nghodiad yr elfennau, i wael ddyn
|
|
112 GWAITH
ISLWYN.
Ddefnyddio natur fel llawforwyn mwy
Yn gweini'n unig ar ei reidiau ef;
Pan godo'th fawl i raddfau yr ystorm
Nes yr anghofiot ar dy gwmwl-lif
A dyrchafiadau dy ddyfnderoedd pell
Bob peth ond yr Anfeidrol;
Pan fo dy wenyg yn dyfrhau y nef,
Gan olchi godre llaes y cwmwl du
O orddyfnderau'r byd, yn awr dy nerth;
Pan y goleui'r nos â dydd o ewyn
Yn torri dros y creigiau am y byd;
Pan na faidd onid. un fwynhau dy ddrych
A gweld ei hunan yn dy fawredd oll,
A rhith o ddelw ei gadernid ef
Yn britho'r don uchelaf, pan y cais
Fynwentu'r gwyntoedd dan ei bwa crôg
A dwyn y nef i lawr, — a ydwyt ti,
A yw dy ysbryd mawr, yn awr dy hedd,
Yn ysgrifennu ar bileri'r byd
Rol fawr dy feirwon? Onid oes rhyw hedd
Syn-dawol yn dy eigion, pan y dwg
Ystorom fawr ei meirwon gyda hi,
A’i lladdfa oddiar y rhuol faes
Lle cesglir cedyrn natur oll i'r frwydr,
A marwol ddyn y lleiaf yn y gâd?
Tebygem weithiau fod dy ysbryd mawr,
A'r storm yn hongian dros ei ysgwydd noeth,
Fel urddwisg laes, a'r gwyntoedd geirw i gyd
Yn ffurfio’i anadl o ddyfnderau'i fron,
A gemol fan o uchder Ararat,
Fel arwydd pennaf ei fawrhydri ef,
Yn byclu yr ystorom ar ei fynwes,
Ac hybarch arglwydd-donnau’r Chaos gynt
A gwylltni y tragwyddol ar eu gwedd
O'i amgylch, — tybiem ambell bryd ei fod
Yn galw rhol ei feirwon, ac yn troi
Godreon y mynyddoedd dros eu llwch,
Ac yn beddfeinu eu gweddillion hwynt,
Oes ar ol oes, â phreiff golofnau’r byd,
Byd-golofn bryn-faenedig am bob oes.
Yr ydwyt ti yn
cipio fyth o'n gwydd
Bob un o'th feirwon, fedd a chyfan, fôr,
Gan wahardd i'r galarwr ddod yn nes
I oror gysegredig angau prudd.
|
|
Y STORM. 113
Un cam yn nes i mewn na'r lan — glan môr.
Môr yw marwolaeth, ac nid oes un lan
Arosol iddo, gan ei fod o hyd
Yn codi gyda chenedlaethau’r byd,
Gan ado'r cyfan yn y man, pob gwlad,
Pob oes, yn ddyfnder tywyll ar ei ol;
Môr tywyll, lle y bythol gollir dyn,
A holl welediad ei fodolaeth ef,
A'i ofnau, a’i obeithion tecaf, fel
Amrywion maes soddedig, tywyll ddwfn,
Lle mae ystormydd barn ar aden fyth,
A'r gwynt byd-wastadaol yn ei rym
Yn ynnill uchder gydag amser, fel
Y tyr ei oesoedd ar ei arwedd ef
Yn fryniau o dywyllwch dros eu gilydd.
Ond beth yw bedd a beddfaen? O, paham
Y ceisiai dyn ynysu ar y dwfn
Adgofion ei drueni, ac aberu
Ei enaid dan eu creig unigaidd hwynt,
Lle nad oes onid ymddifadrwydd llwyr
A phrudd-der delweddedig ar bob tu?
Pam na adawai i'r ysbeiliol ddwfn
Gynnwys y cyfan fythoedd fel ty di?
Beth yw y beddfaen onid dyfais gwae
I roi i angau ryw barhaol fod
Ger bron yr enaid fyth, ac ail fawrhau
Yr hyn ni ddylai farw ond un waith
O flaen y galon am-rwygedig lesg?
Fe fynnai'r ddaear ddedwyddoli dyn,
A thyfu dros ei wae, a thaenu'i gwyrdd
Ar hyd weddillion ei obeithion oll,
A rhoi i'r adar ganu lond y pren
Gorhuddol, a chydweddu'r athrist fan
A’r dedwyddolaf fyd o amgylch daen.
Ond rhaid i ddyn uchderu’r cof â maen
O'r graig dragwyddol, a’i fynyddu ef
Goruwch yr holl welediad, dros y byd,
A gwynnu'r ddaear â cholofnau derch
I’r creulawn deyrn, a rhoi celfyddyd gain
O rym ei dyfais i'w milweddu hwynt.
Fe ddylai arwyl
symud yn y nos,
A’i chysgod olaf ddarfod yn y graig,
Y graig gadarnwedd ar oer ael y bryn,
|
|
114 GWAITH
ISLWYN.
Gwir ddelw y bedd, diysgog fel efe,
Ac fel efe, er holl gawodydd nef,
Er ei holl ddagrau pan yr wylo hi
Yng ngalar a chynhyrfiad yr ystorm
Yng nghydgyffroad yr elfennau oll,
Er hynny fyth yng nghauad, fyth a byth
Yn dywell ac yn unig ac yn wag,
A'i hadsain yn ofnadwy ganol dydd
Fel canol nos, heb gân y daran fawr
A allai gynrychioli aruthr nerth
A byd-newidiol ddylanwadau amser,
Rym ond i ysgwyd yr unigaidd lwyn
A dyf gan grynu dan ei chysged hi
A’r meinlâs crwydrol a linyna'i chefn.
Ac eto pwy a rodiai dros y fan,
O pwy arweiniai'r aradr dros y gwyrdd
Mwy — mwy na sanctaidd hwnnw? Ar ei daith
Pa flin bererin allai agoshau
Heb wrando ar yr ysbryd hoff gerllaw
Sydd yno eto, eto yno, fel
Yn disgwyl rhywbeth, disgwyl am ryw un?
Fôr! mae dy
feddau di dan orchudd oll,
Ac nid oes yn dy ddyfnder ddim i mi,
Nac adgof fynnai geulo unrhyw don
Yn faen oddiarnat. Beth pe byddai un?
Eisteddid lawer munud ar y lan,
Yn unig, ond y creigiau; llawer ton
A holid fel y taflai yn ei thro
Ei dyfnion genadaethau ar y byd;
A llawer awel anwyd ar y llif,
A ysbrydolwyd gan ryw waneg bell,
A holem hithau, gan ei throi yn ol,
I ganu adgyfodiad uwch y fan.
Fôr! cadw dy
ddirgelion hyd y dydd
Na welir ton yn gwlitho'th wely mwy,
Pan fyddi di, fel llawer calon brudd,
A lanwaist â dy ddyfroedd, oll yn wag;
Pan droi ymaith gydag athrist drai
Oddiwrth dy holl aberoedd, megis hi
Un borau oddiwrth ei holl obeithion
A'i chymuniadau â holl bethau'r byd.
Y mae dy feddau yn dy fynwes oll,
Ac yn dy fynwes byddont. Digon yw
|
|
Y STORM 115
Y mor ei hun i wylo drostynt hwy.
Y mae dy ddagrau gymaint â dy hun,
Yn llanw fyth y byd-wagiadau oll.
Mae Natur trwy ei holl elfennau'n un,
Ac mewn cyfamod cadarn am y byd.
Paham y codem wrthglawdd rhagot ti,
Gan ameu dy ffyddlondeb? Marwol ddyn
Yn unig a drodd allan, ac efe
Yw'r unig anghysonder dan y nefoedd.
Efe yn unig sy'n ysgaru ei hun
Oddiwrth y greadigaeth, ac yn dwyn
Ei hun i'r lan yn erbyn Duw a'i fyd
A threfn hanfodol pethau. Pan y daeth
Y Crewr yma ar raslonaf wedd,
I weld daearddarn ei anfeidrol waith,
Adnabu ei weithredoedd ef i gyd.
Dychwelai natur ei holwynion oll
Bob elfen-fraich ar hyd ei holwyn fawr,
Ar awgrym ei ewyllys; dysgai hi
Ei rhiniau lleiaf i'w adnabod ef,
A sychu neu lifeirio oddiwrth
Ei air fel bys-gyffyrddiad yr Anfeidrol.
Yr oedd y gwynt yn codi ar y nef,
Ac hyd y môr yn disgyn ar ei gais,
Fel pe na buasai ond ei lais ei hun
Yn chwyddo yn ei fynwes. Bywiocai
Y môr o dan yr hwyl a'i dygai ef;
A phan y codai, cyd-ddisgynnai'r mŷr
Gan addef ei fawrhydri, a'r holl wybr
Adwaenai ei chynhalydd ynddo ef.
Dyn brau yn unig a'i hamheuai ef:
Fe wadai y gwirionedd yn ei ŵydd
Yn erbyn cyd-dystiolaeth gwynt a môr,
Yng nghanol dydd o wyrthiau ac o Dduw,
Nes codi o'r ddaeargryn yn y man,
A barn o fryniau ar ei hysgwydd hi
Yn esgyn tua'r nef, ac nes i'r bedd
Ei hun ddihuno dan y baich o gabledd
A thaflu parth o fyd-welediad maith
Yr Adgyfodiad gwell i fyny, fel
Goleuni byd-gyhuddol, tua'r nef.
A glywyd dy daranau hynaf di,
Bygythion Chaos, aruthr fôr, bryd hyn?
"Mae syched arnaf!" Daeth dy donnau oll
|
|
116 GWAITH
ISLWYN.
I'r wyneb, a glâs angau ar eu gwedd.
A gallu dyfnach na'r ddaeargryn gref
Ollyngai holl ffynhonnau'r byd bryd hyn,
A gwelwai natur wrth ei gwedd ei hun,
Gan ollwng ei theyrnwialen fawr o'i llaw
I'r cysgod aruthr a lywyddai'r byd.
Yr ydych chwi yn ffyddlawn, a phob un
Yn sefyll yn ei le yn nheyrnas Duw.
Pan y rhychwanta'r bwa fôr y nef,
Ysblenydd arwydd y cyfamod wnaed
Yn swn llifeiriaint y disgynnol ddiluw
A'r pell-ddychwelol foroedd, cyn i’r arch
Ddarfod dyferu a'r ffurfafen bell,
Pan godai'r byd yn newydd, gadarn fôr,
O'th oruchwyliaeth hollalluog di,
Pan gwelid y cymylau gwlybion fry
Yn dechreu ail ymlunio, ac i gyd
Yn llawnion o gyflawnder tonnau'r môr, —
Clyw! y mae natur trwy ei phaithau oll
Yn gyffro o lawenyäd, mae y nef
Yn plygu gan gawodydd dros y byd,
Y mae y mor yn gwlychu brig y graig
Gan godi, dyfnder cyfan ei holl led,
A'r fellten ffarchog yn ogofu'r nef,
A'r croch daranau’n rhuo dros y cwbl,
Fel bryniau olwynedig trwy y pell
Dyneli a waghant uchderau'r wybr.
A dyn yn unig sydd yn crynu dan
Gydgyfarchiadau yr elfennol fyd.
A'r arwydd o gysonedd natur gain
O gydredolrwydd ei helfennau hi,
A'i hanghyfnewidioldeb trwy bob rhan,
Yr arwydd o barhad un wedd y byd
O'i ddiogelwch, ac o'r sicrwydd sydd
Am ei drosglwyddiad hyd yr olaf ddydd;
Fel llythyr o hollalluawgrwydd Duw,
A phob rhyw fôr a mynydd yn ei le
Fel arlinellau o amrywiol wedd,
Sel Duwdod ar ei nef amlennol hi, —
Hyn sy'n brawychu alltudiedig ddyn,
A ddylai ei gysuro ef a gwneyd
Ei gam yn eofn hyd derfynau’r byd.
|
|
Y STORM. 117
Y Môr! y Môr! Pwy rifa'r swynion cu
A orwedd ar dy ddyfnder maith i mi!
Ailenedigaeth i'm bodolaeth wan
Yw rhodio hyd dy daweleiddiaf lan.
Bryd hynny mae y galon unig hon
Yn rhodio allan fel i gwrdd â'r don,
Gan droi am dani natur fel ei bron;
Helaethion yw ei gweithrediadau mwy
A chlywaf y tu faes i'r byd eu swn mawreddus hwy.
Tebygem ar yr ennyd hon
Weld ysbryd amser ar y don,
A'i ddyddiau gloewaf am ei law
Yn troi, a llawer borau llon
Yn agor eto'u harddwych draw
A'i wawr yn deffro'r don.
Egori, gefnfor mawr, i mi
Fel dyfnaf ddôr holl led dy li
Fel dôr i barthau amser oll,
A daw y cyfan fu ar goll
I fyny ar dy donnau hedd,
O lawer parth dan loer y bedd.
Cwyd amser ar
fy enaid prudd,
Parth ar ol parth, a dydd ar ddydd,
Gobeithion ar obeithion fyrdd,
A'r oll yn newydd, oll yn wyrdd.
Aeth llawer blwyddyn dros y byd,
Troes llawer haul ei gant i gyd,
Heb godi adsain wan o'th lef
Ar ymyl un isloerawl nef;
Heb gipio o fewn holl gylch y byd
Bell swn dy lais, a gwawr dy bryd,
Dy bryd hawddgaraf, haelaf un,
A'th lais o oll-bereiddiol rin.
Glan môr yn unig a all ddwyn
Yn ol i mi y rhiniau mwyn.
O Gilfach dawel! cronni di
Bereiddion fy modolaeth i.
Ac ar dy nefoleiddiaf lan
Swyn ar ol swyn fel tonnau gwan
A ail lifeiriant trwy fy mron
Gan lanw holl wagleoedd hon.
O yno, yno crog y ban
Sy gadarn oddiar bob glan,
|
|
118 GWAITH
ISLWYN.
Pob môr o amser amgylch ogylch;
Ac yno gwelir yn eu trogylch
Bell ddyddiau bywyd wrth eu trefn,
Pan ledont yn ein cof drachefn.
Mae uchder oddiar dy li
Wêl froydd amser ar bob tu,
Rhyw bigwm o eneidiol fawredd
A daen o dano fel ei lawredd
Eangder a holl faes bodolaeth,
Arsyllfa bell goruwch marwolaeth.
O am anadlu ar dy awel
A'th hedd nefolaidd, Gilfach dawel.
Fe rodiodd dau anwylion dros dy draeth
Brydnawn tawelaf; llawer blwyddyn faith
Oddiar amgylchoedd amser dorrwyd ymaith
Er nawn, O nefoleiddiaf nawn, yr ymdaith.
Fe gododd amser rhyngom fel cyfandir,
A bywyd di-oes i fyny lawer rhandir
Na chaed i fyny hyd ei harwedd drom
Oll ond yn greigiau a Sahara lom.
Ond pan y gwelaf lan y Gilfach hon,
Y mae yr oll fel teimlad ar fy mron,
A'r awr o hedd yn agos fel y don,
A'm calon eto yn ei llanw hi
A bywyd fel ag afon lawn ei lli.
Tebygem eto weld ei delw lon
Yn disgyn gyda chysgod gwyrf y don,
A gobaith eilwaith gwyd ei ben o dan
Y gafod o adgofion a ysbrydola'r lan.
Y mae dy greigiau ar fy enaid i
Oll yn rhifedig mwyach, Gilfach gu;
A'th donnau’n disgyn ar fy nghalon wan
Fel edyn engyl ar ryw fewnol lan;
A'th awel dyner ar y galon hon
Yn gorffwys megys ar ei chartref-don.
Tawelaf nawn
oedd hwnnw! addas awr
I'r ymdaith olaf cyn y rhaniad mawr.
Yr oedd y glannau'n amlwg ar bob tu,
A'r nefoedd oll yn dawel-ddyfnion fry,
Fel taen boddlonrwydd dwyfol drosom ni.
Un don ni awelweddai'r nefoedd fry,
Ond ein diweddaf ddyfnaf eiriau ni
|
|
Y STORM. 119
A godent fel o ddyfnder pell a syn
Na agorasid hyd yr oriau hyn;
Fe deimlid tra ymlifai'r oriau ffwrdd,
Fel pe na chaem drachefn am oesoedd gwrdd;
A deuai'r tangnef ar y galon brudd
Bair iddi ymlonyddu ar y dydd,
Yr adeg ymadawol sydd yn dwyn
Holl fryniau angau rhyngddi a'i holl swyn.
Yr oedd cysgodion y neshaol ffawd
Yn tawel hongian dros ein henaid tlawd,
Gan hedd-bruddhau y galon ieuanc lon,
A'i lleddfu i dymheredd hedd y don.
Tyrd gyda mi,
Lawforwyn deg y nef, '
A'th fraich dyneraf dod o dan fy mhen.
Tydi yn unig gafwyd dan yr haul
Yn ffyddlawn, O tydi yn unig roed
I aros yn fy ymyl pan fai'r byd
Ac amser lawer huan o fy mlaen,
A minnau'n dilyn ar arafach llif
Eu pell adgofion hwynt. Pa le y mae
Dy drigfa pan yng nghartref? Dangos im,
Pan fyddo'r ser yn ddyfnion yn y nos,
Y golau tawel a luserna’th lys,
A chwr ei fantell ogoneddus ef,
Yr angel sydd yn cadw'th seren lon,
Dy seren deg dy hunan, ar y nef,
Yn barod ac yn sanctaidd, erbyn awr
Dy lon ddychweliad o dy ymdaith faith,
A'th ysbryd etholedig gyda thi,
Yn addas yntau i'r gogoniant gwell
A gwelediadau y tragwyddol ddydd.
A ydwyt ti yn cyrchu ambell dro
Phiolaid o neithdarol win y nef
I lonni'm hysbryd ar anialwch oer
Myfyrion siomedigaeth, ac i droi
Oddiar fy enaid ryndod erch y bedd,
Sy'n peri i'r enaid deimlo yn ei niwl
Sylweddol oerni bron, a'i ddieithr wlith
Yn troi yn felldith wywol ar bob bloen?
Fe droes y byd yn ol, Angyles deg.
Tydi ni throaist. Daethost ti i mewn
O dan y cysgod anwawladwy gaed
Yn hongian oddiar y tawel fedd
|
|
120 GWAITH
ISLWYN.
Dros holl welediad bywyd amgylch ogylch.
Yr oedd y gafod yn rhy drom i'r byd,
A'r enaid oll ymdaenai y pryd hyn
Fel cwmwl mawr o siom, i'w harllwys hi
Flynyddoedd a blynyddoedd pell ar hyd
Holl lwybrau bywyd, nes y codent hwy
Gan ddagrau, hyd welediad arall fyd,
Lle troir ffynhonnau hiraeth dan y fron
Fyth yn darddfaoedd o dragwyddol hedd.
Gorffwysaist ar y bedd fel seren lon;
A'm henaid, dan ei bywiol reiddiau hi,
A ddysgwyd i obeithio trwy y bedd,
Ac edrych ar y tywyll unig faen
Fel colofn gyntaf yr anfarwol fyd,
Fel arwydd gwlad, gwlad o dradwyddflol hedd.
A chododd ar y prudd ddyfnderoedd hyn
Feddyliau llawnion o lawenol nwyf,
Y modd y cyfyd ar hyd hedd y nos
Ser Duw'n dyferu o’r tragwyddol ddydd.
A dysgaist dy gydymaith, er mor brudd,
I lonni'r bedd â chan, a gwrando mwy
Ar adar y baradwys yn y glyn,
Pan ddeuent drosodd o'r dragwyddol wlad
Y gwelir ei heddychlawn froydd hi
A'i chwyfol nef-ddyferol feusydd, fel
Godreon tragwyddoldeb, yn y llif
Byd-barthol yn ymolchi — pan y doent
I ganu ar y cangau oerion hyn,
Ac ysgwyd pren marwolaeth hyd ei wraidd,
Sydd ag un gangen yn blodeuo fyth,
Y gangen blannwyd ar y gwywdra certh,
Pan gerddodd cyfaill dyn un oer brydnawn
Ar byd y glyn tawelaf yn ei waed,
Y gwaed a'i cludodd dros y marwol li
Heb deimlo'r tonnau barnol ar y rhai
Y nawf yr ia tragwyddol sydd yn toi
Torfeydd dynolryw dan ei blygion erch.
A deuai ambell awel lon i'r glyn
Fel ar dy awgrym per, a'r nef ei hun
Yn gorffwys ar ei haden dawel hi,
A hedd yn ffrydio arnom fel pe bai
Y blaenaf o holl swynion nef gerllaw, —
Y wyneb sydd yn gwneyd y byd yn wag
A llwyr ailuniaidd heb ei siriol wawr.
|
|
Y STORM. 121
Yr ydwyt ti yn ffyddlawn, Awen gain,
Tydi a'r Môr. Ac hyfryd ydyw troi
Ennyd o wydd gweddnewidiadau'r byd,
Ac eistedd dan eich ysbrydoliaeth chwi,
A gwrando ar eich gweinidogaeth hedd.
Clyw! mae y tonnau'n disgyn ar y traeth
Heb gysgod troedigaeth, fel y daw
Meddyliau'r ser trwy’r oesoedd ar y byd.
Un waith yr yfir eu barddoniaeth hwy,
Anghyfnewidiol ydyw fel y graig
A lif o dan ei gyfoethogrwydd hael,
Anfarwol fraint, dan seren a than haul.
Gwrandawaf arnynt fel dyferion hedd
Yn disgyn! Onid ar y cywair hwn
Y prudd ddisgynnent lawer blwydd yn ol,
Pan ymostyngai'n bywyd unol ni
Fel traeth i'w derbyn? Sanctaidd yw eu swn,
Fel pan ddisgynnent ar ein holaf nawn,
Pan gaed y byd a'r dywell graig ei hun
Yn sanctaidd fel ar ol cytfyrddiad ysbryd,
Pan hunai cysgod angel ar bob peth,
Pan welem benrhyn ar ol penrhyn pell
Yn codi yn fawreddus gyda'r llif,
Fel blaenau y dyfodol athrist, cyn
I amser llesg ei dderbyn ar ei haul
A'i godi ar y byd. Tebygem fod
Y tonnau am ddywedyd rhywbeth mwy,
A siarad dros yr absenolion rai,
O ddyfnder cofion y gafaelfawr fôr,
Y sydd yn derbyn fyth i'w fynwes lawn
Ystorom fawr fel adgof, soddiad byd
Fel meddwl a dychymyg ennyd bron.
Llefarwch,
Donnau! O na fedrwn i
Eich iaith fawreddog ddysgwyd gennych gynt
O enau geirwon Chaos, pan yr oedd
Y byd yn ymronynnu yn eich bru,
A'r haul yn casglu y pelydron mân
O gonglau'r nef o gylch ei gronig fach
A chwyfid gan yr awel yn ei rhod,
Cyn codi o'r mynyddoedd yn eu nerth
Fel duwiau oddiar y llifion beilch,
A'r nefoedd dadgloedig am y byd
Yn cydymagor i’w croesawu hwynt;
Na fedrwn godi oddiar y traeth
|
|
122 GWAITH
ISLWYN.
Eich geiriau amhrisiadwy, mwy eu gwerth
Na mwnau glain Golconda a Pheru!
Mae gan yr enaid gydymdeimlad syn
A swn eich pell-ddisgyniad, donnau per,
A'ch adsain wan a gollaf ynnof f’hun
Ar ryw bellderoedd o feddyliau prudd
A redant hyd fy anfarwoldeb pelL
O nefol dynged! Trefna i mi
Breswylfa unig ger y lli,
Lle ceidw'r don o hyd gerllaw
Ei delw lon, a gollwyd draw.
Per fyddai rhodio gyda'r lloer,
A chyda ffrwd yr awel oer,
O gylch y graig a'r penrhyn pell
A chanu am y glannau gwell, —
O, nefoedd fyddai gwylio'r wawr
Yn plygu'r nos fel amlen fawr,
Gan ddwyn o'r gorchudd ban ar fan,
Gwlad ar ol gwlad, glan ar ol glan.
A phan y troai'r ser i lawr,
Fel tanbaid lan o'r wynfa fawr,
Per fyddai gollwng f'enaid mwy —
Tu draw i amser — arnynt hwy.
O flaen efrydion maith y môr,
A'r golwg ar ei ddyfn di-ddôr,
Ymloewai bod i’w ddyfnder pur
A'i anfarwoldeb ynddo'n glir,
Ymburai'r enaid trwyddo i gyd,
Mor bell i maes o dwrf y byd,
Nes derbyn ar ei ddyfnder gwell
Ser tragwyddoldeb a'r dydd pelL
Y STORM.
XI.
Y llifeiriant.
GWIR fawreddogrwydd yw dy eiddot ti,
O natur! Yn dy ymneillduedd, wyt
Fawreddog er mwyn mawredd, ac yn toi
Dy hunan ag wybrennau, danbaid wedd,
Heb lygad-dyst na thafod i'th fawrhau,
Na neb i weled ond yr unig loer
A'r ser gorddistaw pan y crynont fry.
|
|
Y STORM. 123
A thragwyddoldeb o ddistawrwydd syn
O'u hamgylch yn ymledu. Dygi di
Dy holl ogoniant allan, a dy fraich
Estynni mewn afonydd llawnion ceidr
O fôr hyd fôr, a chyfandiroedd teg
A obenyddi ar y dyfnion fyr;
Ac o wersyllfa'th geidrion dyfnaf oll
Arweini dy ynysoedd teg o'r dwfn
I wylio ar y môr anagoredig
Y moroedd na agorwyd eto i ddyn,
Ac na chanfyddwyd ar eu llifion heirdd
Ond plu-hwyl yr aderyn, pan ei caed
Yn nofio yn ei degid ar y don,
A'r awel nefol lond ei aden gain;
A threfni dy fynyddoedd am y nef,
Gan roi i lawer un goruwch y gwynt
Eisteddfa o ogoniant ac o hedd,
Lle tafla y wawr gannaid gyntaf oll
Addewid deg y dydd, ac arwydd llon
Agoriad y cyhydedd unwaith mwy,
Lle ymohiria'r haul am lawer awr
Ar ol i'r broydd dyfnion dynnu'r nos
Fel arwyl-fantell dros cu bronnau teg
Ac am-oIeuo’r ser o gylch y byd;
Ac yn nyfnderau'r byd-fforestydd pell
Ordeini lawer rhaiadr i lonhau
Unigrwyild oesol ac anfeidrol hedd,
Fel adsain o leferydd Ior ei hun
I lonni ei weithredoedd unig pell
A dweyd ei fod yn fyw. Bugeili di
Dy froydd rhwng y bryniau pell fel praidd,
A than y ser fel gortho o ogoniant
Corlanni hwynt bob nos; a hedd yr hwyr
Fel afon Duw ollyngi ar y byd;
Ti wnei y mawrion ryfeddodau hyn
Heb geisio gair o fawl, O Natur deg.
Tu draw i helaethderau'r Werydd fôr
Sy’n derbyn haul y nefoedd ar ei don,
A’i ddydd gogwyddol arno fel ei hwyl
Hedd-blygol, a mawreddau awr machludiad
Fel breuddwyd duw ar frig ei ffoawl lif;
Tu draw i olaf gylch mordwyaeth gynt,
Urddunol egwyl, cyn i orfryd dyn
Ddwyn natur oll fel troedfainc dan ei draed
A dwyn y seren bennaf yn y nef
|
|
124 GWAITH
ISLWYN.
Dan deyrnged iddo, cyn i law ei nerth
Arfeiddio'r dyfnder al agorwyd fyth
Fel dôr i fydoedd eraill, cyn i'r môr
A thragwyddoldeb yr ystorom fawr
Ymagor iddo, cyn i’r nodwydd fer
Fradychu'r môr a’i olaf lan i’w law,
Pan yr ymledai’r dyfnder ar ei hynt
Fel cysgod tragwyddoldeb, yn rhanhau
Y byd i fydoedd lawer, a mil mwy
Nag angau certh ei hunan rhwng pob un, —
Tu hwnt i'r beilchion donnau, Natur deg,
O forau cyntaf amser gwnaethost hyn.
A thaenaist i edmygedd mud y ser,
A'r oesoedd dilais, y gweledion hyn.
Bryd hynny yr'oedd gennyt fan o hedd,
Cyfandir o unigedd ar y dwfn;
A phan y blinit ar derfysgoedd dyn
A swn ei farwol ddaearoldeb ef,
Dy fantell wawl am danat, ysbryd pur,
A dynnit, a dwy seren danbaid lawn
Yn tawel orffwys ar dy fynwes wen,
Ac enfys o fewn enfys am dy fraich
Fel teg foreuau'r ser yn araf droi,
Ac ymneillduit gydag awel hwyr
Ar un ymdafliad araul di-os y dwfn
I dawel bêr fyfyrio ar dy Dduw,
A gweld yr haul ar addoliadol wedd
Yn codi ar y gorllewinol fyd,
Gan daenu dros y bryniau sanctaidd draw
Y borau fel o sancteiddiolaf Duw,
O ddyfnaf lyn y nefoedd; ac nid oedd
Swn i dy aflonyddu ond a wnaed
Gan fawredd a gweithredoedd Ior ei hun,
Tros yr anfesuradwy barthau hyn
Tramwyit, ag ysbrydion yr afonydd
A thon gronedig lawn fel calon bur
O dan eu bronnau gwlybion, gyda thi;
A gwylltaf ysbryd Chaos oddiar,
Yn edrych arnoch dros y tanllyd fin,
Nes gollwng deigryn aruthr ar y môr
O fflamau bryn-lanedig, pan y tyr
A sawdd fynyddoedd dan ei ruddgoch fyr,
Gan ado gwledydd cyfain ar ei ol
Yn weigion ac yn ddymchweliadau erch
|
|
Y STORM. 125
A'u dyfroedd oll yn mygu hyd y nef,
A'u holl ddinasoedd ar eu bron o wae
Fel barnau duon byth, fel bryniau byw
O farwor ac o ddistryw. Gydag ef
Ysbrydion cyntaf amser, y rhai fu
Yn gwylio’r greadigaeth erfawr hon
Yn tyfu oddiar ganghennau preiff
Tragywyddoldeb fel tyneraf gang
Uwchben y gwagle unig, oer, a thywyll,
Gan blygu yn yr anherfynol hedd
O dan y gyntaf awr, ddisgynnai mwy
Fel edn o'r anherfynol arni hi —
Caed hwy yn edrych gydag ef i lawr.
A llawen oeddit, cadarn oedd dy ffydd
Yn Nuw, yng nghanol yr am-dystion hyn
A dawel feithrinasid gyda thi
Fel engyl ieuainc dan y cyntaf do
A gasglwyd dros ddiddymdra. Llawer gwaith
Y chwareuasoch ar y cyntaf faes
A lawrai'r bythol wagle; llawer tro
Yr aethoch allan gyda'r lloer a'r ser
O dan arweiniad y tragwyddol air,
Pan oeddynt hwy yn ieuainc ac yn agos
Ac fel unedig deulu fyth ynghyd,
Cyn i ystormydd amser ddod i mewn,
A’i oll-ysgarol ddylanwadau ef,
I'w parthu oddiwrth eu gilydd fyth
A thaflu rhyngddynt trwy y gwagle maith
Eangder uwch eangder, nos ar nos,
Nad oes a’u beiddia ond dychymyg mwy —
Anorchfygadwy allu'r enaid, sydd
Yn beiddio dyfnder angau, ac yn dwyn
Uwch braich y bedd anwylion fil yn ol
Heb lygredd ar eu gwedd, a’u mynwes fyth
Yn don o gariad chwyddfawr, gwen, a llawn
Oddiar y galon ddofn; fel yr oent
Pan dynnodd angau y gyfryngol len,
Yn dawel ac yn ieuainc ac yn deg;
A’u gwenau’n torri ar eu gruddiau heirdd
Fel gwawroedd nefoedd, nes y teimlid fod
Prydferthwch yno yn edmygu ei hun,
Ac yn ehedeg ymaith gyda’r wên
Ddofn honno fel perffeithder olaf harddwch; —
Cyn eu condemnio hyd y gwagle oer
Bob un mewn anfeidrolder o unigedd;
|
|
126 GWAITH
ISLWYN.
Mor ddieithr oddiwrth eu gilydd mwy
A'r fath aruthrol ddyfnder rhyngddynt oll,
Fel nad all mwyach o’u holl foroedd gwawl
Ond un pelydryn gyrraedd dros y gwag
Fel adgof, arwydd fod eu lampau pell
Heb ddiffodd yn y storm dragwyddol sydd
Yn rhuo amgylch ogylch amser fyth.
Edrychit ar y môr, a meddwl mawr
Agorai ger dy golon fawr fel aber,
Un arall yn ei ymyl, ac un mwy,
Helaethach, eilwaith yn ei dyfnder hi,
A llanwai ef bob un â mawreddogrwydd
Fel ebyr byd â thonnau, pan y cwyd
Y llanw, a'r holl nefoedd arno ef
Yn dyrchu, a'r holl dymhestl ar ei frig;
Ac nid oedd hwyl ar hyd yr eang lif
I dynnu’th feddwl oddiar y pur
A'r dwyfol a ddelweddid ar ei don.
Duw! ef yn unig
welit ti
Ar hyd y glwys fawreddig li,
Ac nid oedd ar y don na’r ne
Fyth yn weledig ond efe.
Pan gasglai'r
ser ar ael y nos,
Fel cysgod o'r baradwys dlos,
Ni chaed un marwol wrthrych mwy
A'th dynnai oddiwrthynt hwy,
A'th lluddiai i gyduno fry
A moliaint y nefolion lu.
Ior a natur oedd yr oll
Yno welid, ac ni theimlid dim ar goIL
Cyflawn oedd bodolaeth ber
Gyda natur, Ior, a'r ser.
Sugnit yno
laeth y don,
A dyferion ysbrydoliaeth fel o'r fron.
Curai’r môr fyrdd o donnau
Ar y lan fel calonnau,
Pan nad oedd y gwynt a'r tarth
A phob wybren a phob parth
I feddyliau Duw ond bronnau.
Torrai'r wawr ar dy rudd
Fel dadguddiad dyblyg ddydd;
|
|
Y STORM. 127
Ar ddydd gwell o ddwyfol wawl
Lifai dros y boreu pell i oleuo ysbryd mawl
Yn ei ehediadau gwell
Am y perffaith, am y pell.
Fel adenydd engyl hedd,
Chwyfai'r awel dros dy wedd.
A thangnefedd ddygai'r don
Fel anadliad ar dy fron.
Safai'r bryn
Uwch y glyn
Fel offeiriad, a’r holl nef
Yn ei amfantellu ef,
A eiriolai
Dros yr wylaidd fro tra molai,
Dros y rhos a'r awel bêr,
A eiriolai gyda'r ser,
Cynrychioiwyr nesaf Ner.
Fel hanfod môr,
fel llawn gronedig swn
Llifeiriaint byd, Niagara, clywaf di,
Fel arall fyd. Fel amser yn ei hynt
Yn boddi'r cyfan yn ei dwrf ei hun
Gan gau'r tragwyddol allan, soddi di
Bob taran fawr am lawer nef, pob llif,
Pob afon lawn ei thon am lawer gwlad,
Gan gasglu'r oll i mewn i'th fawredd d' hun,
Pob swn a thymhestl a mynediad pell,
Fel dy Greawdwr bethau amser oll
A thragwyddoldeb iddo ei hunan fyth
Nes y tragwyddol soddir yn y man
Bob cenedl, oes, a byd, oll ynddo'i hun.
Pan ddaw y diwedd, pan y cesglir hwynt,
O fewn gwelediad ei hanfodol rwysg,
A swn rhaiadriad ei dragwyddol nerth,
Fe allai'r storom sefyll ar dy fin
A throi yn ol yn fud, a'i gwyntoedd oll
Yn glynu am ei bronnau gwlybion hi
Yn arswydedig! Onid dyma'r modd
Y rhuai y llifeiriaint am y byd
Pan dreiai'r diluw, pan y rhuthrai môr,
Môr cyfan, dros bob cadwyn o fynyddoedd
Fel o dan yriad Duw, dan bwys y nef,
I lawr, aruthrol lifiaint, pan y caed
Adfeilion y cymylau dan y don
Ac awyr-orseddfeinciau'r storm i gyd,
|
|
128 GWAITH
ISLWYN.
A phell drysorau’r gwyntoedd? Cefaist ti
Yr oesoedd i daranu, ac i roi
Tystiolaeth fythol i gadernid Duw,
A rhyddid i’w addoli yn dy holl
Fawrhydri pell-gyntefig, fel yr oet
Ym more-gofion amser, pan y'th gaed
Yn rhyfedd ym mhlith byd o ryfeddodau.
Llawn ddigon fyddit i hynodi byd,
Byd o anialdra o dy amgylch wnaed
Yn adsain-le i fawredd ac i nerth.
Meddyliau
anhraethol eu mawredd i mi
Farchogant, fel duwiau diluwiau, dy IL
A'r enaid synedig gydnebydd eu nerth
A theimla'u dwyfoliaeth a dyfnder eu gwerth,
Er nad all holl eiriau holl ieithoedd y byd,
Pe cesglid eu holl arddercheddau ynghyd,
I ffurfio un gair o urdduniant a gwerth,
Ddarlunio y lleiaf ei ddyfnder a'i nerth.
Wrth ganfod ymdafliad mawreddog dy li,
A chryndod y ddaear a'r nefoedd bob tu,
A’th fwa ysblenydd o ddyfroedd bob awr,
Fel arwydd y Duwdod rhwng nefoedd a llawr,
Rhaiadra yr enaid o uchderau gwell,
A thyr ei feddyliau fel o ryw fryn pell,
Pell fryn arucheledd sy'n bannu yn Ner
Fawrhydri yr enaid a'i hawlfritint i'r ser.
Fel llynnoedd ar fryniau anfarwol eu rliyw
Meddyliau am fawredd, am ddyfnder, am Dduw,
Ar hyd yr holl enaid a orwedd fel byd
Soddedig, dan bwys mawreddogrwydd i gyd —
Yn awr ymollyngant nes colli pob syniad
Am amser a phethau o farwol derfyniad.
Llifeiried anffyddiaeth a balchder y byd
Tros fwa dy allu i'r dyfnder i gyd,
Fel ofnau y diluw dros fwa y gwlaw
Lif drosto fel ofnau y diluw o draw.
Tragwyddol tarana fel adsain y llef
A alwodd y ddaear fel meddwl i’r nef,
Fel meddwl tragwyddol a wisgai yr haul,
A chylchoedd y nefoedd fel mantell ddi-draul.
Mae’r enaid yn adwaen ei gynllun ei hun A'r ddelw dragwyddol ym mawredd dy
lun.
O Natur ardderchog! na faem fel tydi,
Yn ffyddlawn trwy filoedd yr oesoedd in’ Rhi.
|
|
Y STORM. 129
Fe rydd y creadur gwamalog ei ryw
I law ebargofiant addoliant ei Dduw,
A hanner ei einioes gawn eisioes o'n hol,
Heb un porth i'r nefoedd yn agor o'i gol,
Fel anial tywyllaf heb seren na dôl.
Tydi ydwyt ffyddlawn bryd hynny, pan fo
Serchiadau y galon o'r ffynnon ar ffo
Fel edn ar grwydr o’i gangen a'i fro.
Wyt ffyddlawn bryd hynny, a'r afon yn llawn
Bob amser, — boreuddydd, canolddydd, prydnawn, —
A'i mŷr fel meddyliau yn rhychu ei gwedd,
A'i glannau dan arwydd dyhuddiant a hedd,
A'r goedwig o'i dyfnder a'i moroedd o wyrdd
A gwyd gyda'r gwyntoedd yn filoedd a myrdd
Fel gwynfa ddeffroedig, i foli y llaw
Godasai y bryniau cysgodawg o draw,
I dorri awchlymder y storom pan dry
Holl fin yr elfennau ar rod y nef fry;
A'r llanw ddychwela yn ffyddlawn i'w ran
I eiriol ar greigiog allorau y lan
Dros gamwedd y dyfnder, gwamalrwydd y gwynt,
A gorfryd y storom anhreithiol ei hynt,
Pan lwyr ebargofir ei gyfoeth i gyd
A chylchoedd y gwledydd, fel duw yn ei lid;
Ac adsain Niagara a lenwir o hyd
Fel gair mawr urddunol wnaed i enau byd.
O Natur! pwy all gipio'th ddwyfol wenau
A'u gwisgo ar ei rudd fel hawlfraint i'r wybrennau?
Pwy fyth all godi un o'th eiriau dyfnion,
Y cymer nerth y moroedd geirw a llyfnion
I'w llunio bob yn un, a gwasg y bryniau
I dynnu ar y byd eu llythyrennol luniau?
Y mae dy froydd yn ymagor draw
Fel tudalennau cyfrol o waith y Ddwyfol Law,
Y ser a Duw ei hardeitl, ac uwchben
Pob dalen deg o fynydd, môr, a nen,
Rhyw seren bell fel enw o'r tragwyddol
Fel peniad uchel draw ac uwch-arwyddol,
Ac yma a thraw air gwerth y lleill i gyd,
Fel enw Duw, fel llawn ddeffiniad byd.
Pwy ddengys im
agoriad dy ddirgelion
A gwerthfawocaf awr dy Dduw-ymwelion,
|
|
130 GWAITH
ISLWYN.
Pan y symuda’i Wyddfod yn weladwy
Dros hedd y fro a’r môr anolrheinadwy,
Pan ar y tawel lion rhwng y gwŷdd
Y clywir rhediad ei drugaredd rydd —
Pan ymleddfha ei wyddfod ar don fachludol dydd,
Yr awr ymsodda'i bresenoldeb ef
A'i gyfarchiadau ar hyd natur gref
Fel edyn angel pell yn nyfnder nef?
Pan rodiom ar
hyd fin y môr
Yng ngolau'r pell wynfaoedd,
Pan egyr nos y ddwyfol ddor
I ser y nefoedd
Geir yn ymdorfu arni hi
O awydd canfod
Y ddaear eto, gardd trugaredd Rhi
A drych ei hanfod,
Lle troes y Duwdod arno’i hun
Ddiffyg o gnawd
I godi ar dynerach llun
Fel brawd, —
Yr Anfeidroldeb cofleidadwy
I wael greadur,
Yr Anfeidroldeb goddefadwy
I bechadur;
Pan glywaf dawel si y don
Fel breuddwyd hedd,
Fel breuddwyd angel pruddaidd-lon,
Pan laetho arnom mwy fel bron
O fynwes hwnt i’r bedd;
Pan gwyd y gwynt fawreddau'r môr
Ymhell i’r nef
Pan ddyrch y tonnau hy fel côr
Yng nghyntedd duwiau, hyd-ddo ef;
Pan syrth Niagara ar ein clyw
Fel tymhestloedd,
A'i ddyfroedd crog mawreddog ryw
Yn cyfarch creadigaeth Duw
Fel torf o foroedd,
A'i adsain eilwaith dros y nef
Yn rhaiadru,
A'r mynyddoedd fyth i'w lef
Ar ymdrech i droi adru,
A'r ystorm fawr ei hun,
Delw urdduniant,
|
|
Y STORM. 131
Yno yn addoli ei llun
A'i dymuniant;
A'r môr-wyntoedd pererinol,
Aruthr gôr,
Yn dyrchafu ’u cerdd urddunol
Glywed draw eu ffawd ddymunol,
Glywed môr,
Môr cyfagos, yn ei ddyfnder,
Yn ei nerth,
A'r mynyddoedd ar ei ffiniau
Fel ar derfynau'r byd yn serth,
Môr na feiddia unrhyw hwyl
Rwyfo hyd-ddo ar ei hynt,
Ond a daen y nef ei hun —
Mellt a gwynt, —
Mae yr enaid
distaw, syn,
Yn dymuno canfod mwy
Ysbryd y mawreddau hyn,
A'u calonnau aruthr hwy
Yn y maith ddirgelwch mawr,
Obry'n curo nes bo'r byd
A'i deg wedd yn newid gwawr,
A'i fynyddau'n chwyddo i gyd.
Ym yn teimlo
ger y don
Hedd-brydnawn,
Pan orffwyso ar ei bron
Seren lonydd, hanner llawn,
Seren ddofn fel gobaith pell,
Teimlo'r ym
Forau o baradwys well
Ar ei hael o lanwol rym.
Oni fynnai'r waneg ddwyn
Air o ddyfnach, sicrach swyn,
Gair o anherfynol rin
Fel o wefus Ior ei hun?
Gwrando arni! Daeth o bell,
Daeth trwy lawer storom hell,
Gwrando ei newyddion gwell.
Da yw eistedd
ar y graig
Sydd yn byw
Rhwng y ddaear oer â'r aig,
Ac yn derbyn braidd bob rhyw
|
|
132 GWAITH
ISLWYN.
Ar ei chlogwyn unig oer, —
Môr a daear, lli a lloer,
Yr aderyn yn ei gân,
Bollt y daran nefol dân,
Haul a chwmwl, hwyr a borau,
A holl gadwyn y tymhorau,
Llid y nefoedd, a dirgelwch
Ei boddlonrwydd a'i thawelwch,
A'r tymhestloedd o bob rhyw,
A'r pell dystion, holl ser Duw.
Felly llawer
enaid blin
Rhwng dau fywyd, rhwng dau hin;
Yr ymadawedig gwell
Ar un tu, y dyddiau pell,
Môr o gofion,
Dyfnder o dyneraf brofion,
Ar ei gof fel tawel nofion —
A'r presennol bethau sydd
Lonnaid y mynedol ddydd.
I ddedwyddwch pan y gwnaed
Bywyd oll yn llyfnai draeth,
Môr o gysur unwaith gaed —
Fel breuddwydion treio wnaeth,
A chysgodion llawer bedd
Gauent dros y swynol wedd
O fodolaeth, a wnai fywyd oll yn hedd.
Per yw edrych
ar y glannau
Lle y bu
Y don eurog, cofio'r mannau
Elor-weddog mwy a du.
Mae y traeth y funud hon
Fel anialwch ger y fron,
A distawrwydd difynediad
Hyd derfynau ei welediad,
Heb ond swn y galon brudd
Yn cronhau ei dagrau rhudd.
Eistedd ar y graig, a bydd
Megis hithau nos a dydd,
Rho dy enaid allan mwy
I drallodau siom a'i glwy,
I'r awelon oer eu rhyw,
Holl sor daear, holl ser Duw
|
|
Y STORM. 133
Rho dy air, don, i mi.
Hoffi'r ydwyf weinidogaeth lawn dy li.
Y mae gennyf air o hedd,
Gair a gipiwyd o ddyfnderoedd is na'r bedd.
Yn y dyfnder gwnei dy dref,
Fel y ser yn nyfnder nef;
Dyfnder dyfroedd moroedd du
Yw dy gartref, donnig gu.
Ac ni feiddi ddringo'r ne
Dim ond edrych o’r dyfnderoedd ar ei lle.
Felly ninnau!
Henffych awr
Y cawn esgyn traeth y wawr,
Traeth y nefoedd, esgyn fry
Nes bo'n dduwdod tanbaid, tanbaid ar bob tu.
Hyd yr adeg,
donnig gu,
Croesaw fyrdd i'th swynlawn si.
Dywed ar y glannau draw
Fod y llanw, olaf lanw,’r byd gerllaw.
Saf ar y lan! Mae'r lloer o wywlyd wedd
Fel meddwl prudd y nos, fel planed oer y bedd,
Yn esgyn gyda'r niwl, a'r ddyfnaf don
Yn teimlo llaw y dynged ar ei bron,
Y dynged rwyma hi i ddilyn hon;
Fel y delweddiad oer o dynged dyn,
Gorffwysa ar y storm a’r cwmwl blin
Goruwch y byd, ac fel pe byddai draw
O rif y ser er bod aml nef islaw;
Mewn nef, ond nef o wyntoedd, grog y byd
I ddal ei ddagrau a'r ystormydd pyd;
Ryw rith o'r hyn fuasai, cysgod gwael
O’r mawredd gollwyd, y tragwyddol haul.
Pa gydymdeimlad, don o falchaf frig,
Sy rhyngot ti a'r blaned draw, a drig
Fel wyneb prudd-der dan dragwyddol hug?
Tydi, a welaist gyntaf lannau'r byd
Yn codi gyda'r creol air i gyd;
Yr hybarch, yr hynafol, a'r ofnadwy,
A drefni'th babell o'r anolrheinadwy,
A geui'th wely rhwng colofnau'r byd,
Ddeffroi y nef âg enbyd lef dy lid,
Pa raid i ti addoli'r prudd a'r pell,
A chwilio beunydd fel am lannau gwell?
|
|
134 GWAITH
ISLWYN.
Pa raid ond am ein bod yn teimlo i gyd
Ryw ddiffyg absenoldeb rhywbeth drud?
Y STORM.
XII.
Y diluw.
CHWYRN ruthra y dyfroedd fel afon o’r graig,
Ymhell droa y terfyn clywch ruad yr aig!
Y Diluw sy'n arwain ei foroedd i'r lan
Yn ẃyn gan ddigofaint, tros ddyffryn a ban.
Fel byddin fuddugol crochfloeddia'r elfennau
Wrth weld y mynyddoedd yn gostwng eu pennau.
Un elfen deyrnasa trwy'r cyfan yn awr,
Mae hanner y ddaear yn gefnfor mawr!
Y corwynt a dreigla y creigiau bryd hyn
O gopa y mynydd nes llanw y glyn.
Ffowch ymaith! mae'n dymchwel y bryniau cellt,
Ffowch! ffowch! mae ei anadl yn boeth gan y mellt!
Torfeydd a ymaflant yn nannedd y creigiau,
A'u dwylaw yn gwaedu, yn gwaedu i'r tonnau.
Mae ewyn y don fel eira ar y bryniau,
A'r môr yn taranu ar draeth o gymylau!
Y Diluw a lwnc yr afonydd chwyddedig
Fel mân ddyferynau o gwmwl gwywedig.
Dyrchafa y storom ei mainc ar y nifwl,
A’i duon gerbydau a yr dros y cwmwl.
Ar wlybion olwynioii trwy ganol y nefoedd
Try'r ddaear fel planed ystormus o ddyfroedd.
Fe welai y graig.
Pan daenodd yr hwyr ei len gyntaf o nifwl,
Fe welid goleudy, mor de, â drychfeddwl,
A'i sail yn y môr, a'i lofft yn y cwmwl.
O! aml i forwr a lonnwyd cyn hyn
Wrth weld ar y dyfnder oleuni mor wyn.
Y môr oedd yn gysglyd pan gododd y lloer,
A'r tonnau freuddwydient ym mreichiau'r lan oer;
'R oedd y lamp yn goleuo, fel seren y môr,
A chraig oedd y sylfaen, a harn oedd y ddôr.
Ond daeth yr ystorm, a fflangellodd y tonnau
Nes rhuthrent fel llewod a briw yn eu bronnau;
O amgylch yr adail cyfarfu'r elfennau,
A Neifion ollyngodd ei nofiol fagnelau,
|
|
Y storm.
135
Fe lwyr benderfynodd na chai y goleudy
Waredu un llong o'i afael ond hynny;
Edrychai yr huan wrth godi ar yr aig,
Fe welai y Graig!
Calon y Storm.
A! nid erchylldra i gyd yw'r dymhestl hy,
Y mae tynerwch yn ei chalon hi.
Ar ol i raiadr o daranau draw
Ymarllwys dros y nef, O!’r seibiant ddaw
Fel afon falm i fewn i'r fynwes brudd,
Ar hyd yr hon mordwya'r Awen rydd
Hyd lannau'r wlad lle na fydd bellach glwy,
Na storom flin, nac adsain storom mwy.
Anadla Anian yn fwy rhydd ar ol
Y mawrwych dwrf, ac ymlonydda'r ddôl
Ar wely'r fro, mewn diolchgarwch yf
Y gawod ber o law y dymhestl hyf.
O! gwyn ei fyd all wrando'r tyrfau draw
Heb deimlo'i galon yn gwanhau o fraw,
Na'i lwynau'n datod fel yr euog tru
Pan glywo'r barnol lais o'r orsedd ddu.
A all eu gwrando heb ddychryndod blin,
O! gwyn ei fyd, farddonol ddedwydd ddyn!
Dad! rho im' wenu pan fo'r daran fawr
Yn treiglo tros ryw AIp o niwl i lawr.
A dod gydwybod dawel yn obennydd
Pan hunwyf yn y storom fawr ysblenydd;
Y nefol fendith! dod gydwybod dawel
Pan fo rhyw siffrwd sobr yn llais yr awel,
Rhyw uchel awgrym yn yr wybren draw
Fod gallu Duw, a Duw ei hun, gerllaw!
Oes! y mae
calon gan y dymhestl fry,
Ac ambell un all gymdeithasu â hi.
Mordwya'r meddwl yr eangder draw,
A santaidd rwyd athrylith yn ei law,
Ac O! y traill o nefol feddylddrychau
I'r ddaear dyn, o lynnoedd y cymylau.
|
|
136 GWAITH
ISLWYN.
Y STORM.
XIII.
Y Storm olaf.
AR uchelfannau amser draw tywynna gwawr y nef,
A chysgod tragwyddoldeb ddaw ar hyd ei lwydion dyrau ef;
A'r fam-esgynlawr, araf godir hi;
A theifl yr elfennau
Awyrbont dros wybrennau
Hyd ymyl uchel nennau
Eilfyd fry.
Ac aml angel o'r uchafion fry ar aden corwynt o ogoniant ddaw
I archu sobrwydd — fod gosgorddawg lu y farn mewn trefn a'i lluman hi
gerllaw,
A'r nef yn arllwys ei thyrfaoedd gwawr
I’r gwagle
maith ororau
Sy'n agor eu holl ddorau
I dderbyn ser y borau
Fyrdd i lawr.
Y mae olwynion amser yn llesghau, a'r haul yn codi'n araf fel i farw,
A nefoedd prudd o waed am dano'n cau; a beddau'r bydoedd yn y tryblith garw
Yn lledu eu hanfeidrol ddorau draw.
A daw y dydd i
fyny,
A'i rod mewn barnau'n glynu,
A'r olaf awr yn crynu
Yn ei law.
Mae'r gwyll
teimladwy sy'n amgylchu'r bedd
O ddydd i ddydd yn teneuhau, fel niwl
O flaen dyfodiad pell yr haul,
Pan lif y boreu o ffynhonnau'r wawr
Hyd awyr draeth y nef. A gorsedd drom
Marwolaeth welaf yn gogwyddo dros
Ymylon amser, fel treuliedig graig
Ar lechwedd pellaf byd; — bys yr anfeidrol
Gyffyrdda â hi, a'i anadl arni ddaw,
A threigla i eigionau anghof mwy,
A'r adgyfodiad fydd.
Teyrnwialen angau wywa yn ei law
Fel diffrwyth gang o danllyd wigoedd uffern
A felldithiasai Duw. Y mae y byd
Yn parotoi i dderbyn Ior a'r Farn.
Mae’r bryniau yn cenhedlu yn eu bra
Elfennau eu dymchweliad. Eilwaith rhed
O'i galon fawr o dân-fynyddoedd draw
|
|
Y STORM. 137
Ei lifwy ar eangawl gylch, ar ol
Praffhau a cheulo oesoedd fil o fewn
Ei fryniog graig-wytheni; eilwaith llif
O dan gynhyrfiad uchel farnau Duw.
Llifeiria trwy ei holl ogofau allan
Fel berwol waed y ddaear euog hon
Ar olaf allor amser, i ddileu
Euogrwydd oesoedd, a dyhuddo llid
Y gwawriol dragwyddoldeb. Seion deg
Fry ar ddaeargryn gipir tua'r nef
I weld ei Duw o bell, a'r gwagle fel
Afonydd o oleuni ar ei ol.
A'i law ei hunan ysgrifenna Ior
Feddargraff olaf amser oddiar
Weddillion adail fawr y greadigaeth
A llythyrennau wedi eu torri i maes
O echyl mwya'r bydoedd.
Ogylch bydd
Daeargrynfeiau a sergrynfaoedd fil
Yn cymysg sail a gortho creadigaeth —
Ei sail o greig, a'i llathraf do o ser —
Yn un anferthol adfail ar ymylon
Diddymdra, wagle pell, i anadl Ior
Eu hysgwyd dros yr erchwyn uthr i lawr
I ddyfroedd oer Letheaidd anghof mwy,
Lle mae diddymdra'n treiglo'i araf fyr
Dros graig oer amser gan orchuddio'r oesoedd
Fel cregin brau llawn o adseiniau gweigion
Sy'n tyfu drosti'n fyrdd.
Ystorom fawr fydd Natur oll bryd hyn
Ac anadl Ior ei hysbrydoliaeth hi,
A phell odreon ei gaddugwisg farn
Fydd ei chymylau duon fry, a swn
Adenydd ei angylaidd osgordd fydd
Ei gwyntoedd yn y nef,
A ffrwydriad bydoedd ei tharanau croch.
Y bore hwnnw daw yr haul i'r lan
Fel bugail llesg dros fynydd aur y dwyrain
I weld ei gorlan fawr o fydoedd fry
Yn cael eu gwasgar yma a thraw ar hyd
Anialwch erch y gwagle, yn nhymhestloedd
A rhaib y tryblith wyntoedd, pan y rhoir
Y greadigaeth gyfan yn eu llaw
Fel fforest fawr i'w rhwygo, lle y bydd
Pob colfen frau yn fyd.
|
|
138 GWAITH
ISLWYN.
Mae'r Dymhestl Olaf to dechreu taranu,
Mae'r fflam las yn dringo pileri y byd,
Mae seiliau'r mynyddoedd tragwyddol yn llaesu
A'u bannau fel Etna anfeidrol ei hyd.
Mae'r ddaear yn sefyll yn drom ar ei hechel,
A saif holl olwynion y bydoedd uwchben,
A Ior a ysgydwa yng ngwynt ei ddigofaint
Y bydoedd fel cawod o aeron drwy'r nen.
Agorwyd y porth tua gwagle Diddymdra,
A miliwn o fydoedd gydruthrant i'r adwy,
Ogoniant ofnadwy!
Yr haul gydal dorf o blanedau ddilyna.
Deffroa y byd — mae y meirw yn deffro
I gyd yr un bore, yn nerthol fel duwiau,
Mae Udgorn y Bywyd o'r nefoedd yn seinio,
A'r daran ddiweddaf yn rhoddi cnul angau.
Marwolaeth a egyr ei byrth, mae holl furiau
Ei garchar gordywyll yn syrthio bob llaw;
Mae'r dorf o waredigion yn esgyn i’r wybrau,
A bro y cymylau yn llanw draw.
Ynysoedd a doddant i ganol y weilgi,
Mae’r creigiau o amgylch y moroedd yn toddi.
Clyw'r môr yn neshau at y glannau taniedig,
Gan ferwi ar wely o greigiau toddedig.
Fel cronglwyd o dân ymestynna y nefoedd,
A deffry y daran gan fwg yr uchafoedd,
A rhua o bell fel angelgawr mewn poenau
Fai'n cerdded yn droednoeth dros danllyd fynyddau;
Mae'r llewod yn rhuo ar farwor y goedwig,
A genau eu ffau gan y fflam yn gauedig.
Agora'r Daeargryn ei safn newynllyd,
A hanner y byd ni ddiwalla'i foreubryd,
Fe gwyd ar ei ysgwydd y ffrwythlawn ddyffrynnoedd
Nes syrth eu hafonydd fel rheieidr o'r nefoedoL
A thaniwyd y byd i oleuo yr Eglwys.
Trwy wagle'r gre'digaeth, i mewn i Baradwys.
|
|
Y STORM. 139
Y STORM.
XIV.
Diwedd yr Ystorm.
MAE’n bryd i'r storm dawelu, mae yn bryd
I ninnau orffwys wedi teithio cyd
Ar hyd fynyddoedd byd, mynyddoedd bod,
A ffordd yr ysbryd hyd ei bellaf rod.
Ystorom ydoedd, ac a fernir dyn
Am golli ei ffordd yn hon, a cholli ei hun?
Nid yw y gwynt yn rhwymo ei hun wrth reol,
Chwi wyddoch, nac yn sylwi ar beth lleol.
Ac nid oes gan y byd am dano nef,
Nac wybren ddigon llydan iddo ef.
Hardd wisgoedd daear yw y nennau i gyd,
Mae'r storom yn eu rhwygo ffwrdd mewn llid.
Fe fyn ei ffordd, o nerthoedd y caeth-lennau,
Pe taflech chwi yr Wyddfa oll i’w enau
Gan ruo a tharanu, — "Cymer hwn
Am feiddio cerdded dros y wlad heb bwn,
Dos ymaith! ymaith fyth a'th aflerw udsain
Neu dod dy holl alluoedd ar gydsain."
Y gydsain bêr
Geiriau a'u ser, —
Pwy ’rioed deimlodd feddwl, pwy welodd ei wawr?
Mae y geiriau yn hysbys fal llys ar fol llawr.
Och, gwelwch eu gwawr,
A sugnwch eu sawr,
A llyfwch y llawr,
Mewn bywyd mae'n bawr.
Fy mrodyr, nid yw'r gwynt o'r meddwl hwn,
Ac nid yw'ch gwasanaethydd hoff, da gwn.
Peth ofer
mwyach fyddai cynghaneddu,
Ar ol yr hyn a fu ni fyddai'n gweddu.
Ond peidiwch chwi a synnu (maddeu'r ud-sain)
Os bydd ystorom eto ar bwnc y gydsain.
Y llwybr goreu o'r cwbl, debygem ni,
(Mae'r llinnell hon yn arw, ond ffwrdd â thi)
Y goreu lwybr o'r cyfan, ni debygem,
Ac yma eich cydsyniad atolygem,
Ac os na roddir ef ni awn ymlaen
Os nid er mwyn y synwyr, er y sain;
Oblegid rhaid fod sain yn beth o bwys
Can's rhaid i'r enaid ganlyn yn ei gwys.
|
|
140 GWAITH
ISLWYN.
O bwys? Pwy wadai hyn oddiar pan roed
Yr enaid mewn cadwynau wrth ei droed?
A pheth mae'r daran draw yn cynghaneddu?
Fe all fod bloedd rhyw seren yn cydweddu.
Fe synnai'r mynydd garwaf acw, gwn,
Pe dwedwch nad yw ond anurddo’r byd
Oblegyd fod ei led, uchder, a'i hyd
Ronyn neu ddau neu lai, yn llai na hwn.
Y mae'r mynyddoedd o amrywiol uchder,
Ond pwy na wel mai hynny yw eu gwychder?
Y ffordd
debycaf i ryddhau yr awen
A pheri iddi lod byth mwy yn llawen
Oedd archu iddi esgyn gyda'r gwynt
A gweld y greadigaeth ar un hynt;
Y peth yw'r gwynt a'r stormydd yn eu llwybrau
Bom ninnau trwy farddoniaeth a'i holl wybrau.
Gobeithio na fu
yma dorri ar eiriau,
Ni fynnem hynny mwy na thorri esgeiriau.
Mae asgwrn bach o air, fe wyr y nifwl,
Yn fwy o werth nag angel o ddrychfeddwl.
Bellach, O eiriau nerthol, dewch i lawr,
A rhodied meddwl o’r carchardy mawr.
Lle na bo meddwl, gwir, mae gair yn rhywbeth
Ond clyw-beth.
Y meddwl yw y mellt a'r daran fawr,
A’r gwlaw sy'n dwyn y nef ei hun i lawr,
A'r ser a'r duwiau fel argawod fawr.
Boddloned geiriau o chant ffurfio mwy
Ryw gwmwl-gerbyd i’w gogoniaint hwy.
Tu draw i feddrod amser a'i holl fydoedd
Bodola meddwl fyth yn Nuw a'i nefoedd,
Pan na faidd geiriau na lleferydd mwy
Fyth dorri eu hanfeidrol syndod hwy.
Dywedir in o’r
carchar, "Fe wnaeth rhai
Orchestion yn y gadwyn yn ddi-au?"
Heb au mae'n wir, a boed ei hyd a fyddo,
A dedwydd yw y cof a’i hadnewyddo.
Ond ymha fodd y rhagorasant hwy?
Y cawsant un o fryniau barddas mwy?
Dywedwch in yn ddiau, yn ddi-au,
Ai nid trwy geisio codi ac ymryddhau
Dringasant i’r gref awel arnynt gaed.
|
|
Y STORM. 141
A chyda'r haul a'r nefoedd ffwrdd yr aed?
Ond och, yr oedd mynyddoedd am eu traed
Yn sicr wrth bob gwraidd a ban ac oto,
Ac nid oedd ond codymu a dweyd "No-go"
A siarad bellach mewn tywyllwch mawr
A chwympo ar bob clawdd a ffigr a phawr.
A dedwydd fyddai'r dynged pe gallasyn
Led-ddewis bellach rhwng y gẁr a'i asyn.
Dos, awen bellach, cân ar ben y graig;
Ond paid a'i chario gyda thi pan fot yn croesi'r aig,
Y mor o feddwl sydd a'i ddyrroedd pur
Draw, draw i fyny ar y dwyfol dir
A'i lannau fel yr haul ymhell a chlir;
Môr anfarwoldeb, sydd ryw bryd yn dodi
Yr enaid ar y fan
Lyfnedig a di-lan
Lle bu ystormgraig angau yn ymgodi
(I uchder pennaf, pennaf obaith dyn)
A gasglai wyntoedd amser oll yn un.
Bydd rydd! bydd fawr! boed lydan fel y nefoedd
Dy enaid oll i dderbyn o’r pellafoedd
Y rhyfeddodau agoshaol sydd
Yn dechreu codi yn yr enaid-ddydd.
Dos ymaith,
cân, agora nen ar nen.
Anturia ym mhob byd, tu fewn i'r llen.
Ond paid a chodi'r Ẃyddfa ar dy ben.
Mae eisiau, gyda'r ser, anghofio’r Wyddfa,
Hi fyddai yno uwch ei holl arglwyddfa.
Prin digon, gwyddoch, ser, y cadwn ni
Y corff am danom ar eich cylchoedd chwi;
Os gellwch chwi anadlu ein teimladau
O eiriau, yn ein henaid-gynhyrfiadau
Pan fyddo mewn-fôr o feddyliol donnau
Yn mawrwych godi rhwng y nef â'n bronnau,
Mil croesaw i chwi ganlyn; ond, cyfeillion,
Na thybiwch fyth ein harwain fel gwŷr deillion.
Mae peth gwahaniaeth rhwng y mwn a'r meillion.
Mae amser a'r
holl fyd yn newid beunydd,
A newydd wedd bob gwanwyn ar y gweunydd.
Pa hawl sy gan un bryn i ddweyd, — 'Myfi
Yw pennaeth anian a'i chanol-bwynt hi
|
|
142 GWAITH
ISLWYN.
Weithredoedd daearegol — safent mwy,
Mi yw eu cynlliin a'u perffeithrwydd hwy."
Fe godai'r byd, debygem, haen ar haen
Yn sicr a mawreddog fel o'r blaen,
Gan ddwyn rhyw lawnach arwedd ar bob codiad
A moroedd uwch, a bryniau uwch eu rhodiad.
Nid yw y byd a'i foroedd gorhelaethion
Yn caru troi yn ol mesurau caethion;
Ac os yw’n wir am ddaear wael, O, drymed
A fyddai im' eu taflu hwy am gomed.
Fe fyn y ddaear fynd, gyfeillion bychain,
Pe safech chwi o'i blaen fel llu o ychain
Gan ruo am fesurau mwy cymedrol
A llwybrau peth gweddusach na rhai cledrol.
Fel hyn y mae. Fe fyn y ddaear droi,
A'i moroedd a'i mynyddoedd gyda hi ffoi
Trwy oesoedd ar ol oesoedd yn bur fonol
A'i llygad ar y perffaith yn y canol.
Newidia yr Afonydd eu gwelyau,
Y maent yn chwilio am ffyrdd gwell mae'n ddiau,
A dodwa'r gwagle beunydd ryw fyd-wyau,
A gwych o beth yw hyn — ond dyma'r swmbwl, —
Paham y safai dyn ar ol y cwbwl,
Ar ol y cwbwl, ar ryw ganrif bell,
Yn fawr ei drwbwl na ddoi'r oes yn well
Trwy ddychwel lle ymdagodd yr holl bethau
A fu o'i flaen, bro anghof a'i lawethau?
"Fel hyn y dylid canu." Pam? "Fel hyn
Y canodd Neli Wen neu Oli Wyn."
A phwy oedd Oli Wyn? "O, rhyw greadur
Na fu ei fath yn gyrru trol neu bladur."
Ond pwy oedd Oli Wyn? Mor sicr a'm mhen
Rhaid dweyd nad oedd ond brawd i Neli Wen.
Mae'n rhyfedd fod yn rhaid i oesoedd dalu
Gwarogaeth i un Nef ar ol ei malu.
Bydd rhai yn
digio, ond fe ddigiai rhai
Pe dwedem ni fod llo a llo yn ddau.
Bydd rhai yn
teimlo awydd i daranu
A bythol glirio ffurfafennau canu,
Gobeithio'r ym er mwyn ein pennau gweiniaid
Na fydd yr hynt yn storom o gydseiniaid.
O bob ystorm y pennaf yn ei hyllwch
Yw honno sydd yn symud mewn tywyllwch.
Gobeithio, os na welir gwawr y wennol.
|
|
Y STORM. 143
Na fydd yr haul a'r synwyr yn absennol.
Yn awr, Gydseiniaid, y mae gennym beth
I’w ddwedyd wrthych, craffwch yn ddi-feth.
Y mae gwrthryfel yn y barddol dir,
Ac mewn gwrthryfel y mae dweyd y gwir.
Mae'n rhaid i chwi ddistewi. Nid yw'n deg
Fod gorsedd yr arglwyddiaeth yn y geg.
Daw adeg ar farddoniaeth na fydd im
Gyfundrefn gaethol o fesurau blin.
Na deddf
Ond greddf,
Y ddwyfol ddeddf o oll-bereiddiol rin
A orwedd yn yr enaid mawr ei him;
Y ddeddf osodwyd ynddo ef gyferbyn
A holl weithredoedd Duw, ei hawl a'i allu i'w derbyn.
Ddedwyddaf adeg, pan lifeiria cerdd
O'r enaid pur fel ffrwd o'r goedwig werdd,
Mor beraidd fyth, mor baradwysaidd rydd,
Fel dŵr ar hyd y ddôl, a than y gwydd;
Pan welir ar ei holl feddyliau ef
Oleuni'r gwlith, a glas a dwfn y nef;
Pan na fydd caethder ond y caethder sy
Ar ffordd y môr ger bron cyfandir hy,
Ar ffordd llif eiriaint yr afonydd draw
Pan gauo'r bryniau ar ei hynt bob llaw,
Y caethder sydd ar ffordd y daran hy
Pan deimlo yr anfeidrol allu fry
A'i am-gyffyrddiad ar ei rholion hi;
Pan fydd holl ddeddfau barddas yn rhy bur,
Rhy fewnol i'w hesbonio fyth yn glir,
A'u rhoi i lawr mewn geiriau fel y gallo
Y dwl eu hefelychu pan ddeallo.
Barddoniaeth, O Farddoniaeth! Pwy a roddes
I neb awdurdod ar y fath angyles,
I bennu dy derfynau? Ymaith, Reol!
Ffowch, ddeddfau dynol! Rhowch i hon dragwyddol heol.
Mae'n pasio oesoedd fyrddiwn yn ei brys,
Mae'n rhoi modrwyon Sadwrn am ei bys
Fel arwydd ei phriodas â'r tragwyddol,
Y pur, y pell, y perffaith, a'r anfeidroL
Fe enir bardd ryw ddydd a wawdia ddeddfau.
|
|
144 GWAITH
ISLWYN.
A lunia'r gân yn ol rhyw ddwyfol reddfau;
Maluria Babilon y cynghaneddion,
A'i anghydmarol lwydd ddilea ddeddfau caethion.
Gorffennir galw barddas yn gelfyddyd
Pan ymollynga i dragwyddoi ryddid,
Pan edy lyn cynghanedd am y moroedd
Lle mae pob ton yn fyd, a'r lan yn nef y nefoedd,
Y moroedd lle y cyfarfyddir weithiau
A llynges o angylion ar eu teithiau.
Fe enir bardd
ryw ddydd — O doed yn fuan! —
Fe chwal y beirniaid fel y chwal yr huan
Gymylau’r nos o'i flaen; bydd beirniaid bychain
A mawrion, yn ei ddilyn ef, fel ychain
Yn dilyn comed fry; a'u gwaith bryd hynny
Ym môr ei swynion fydd mawrhau a synnu.
Maddeued im, pan ddelo’r bardd nefolaidd,
Am imi ganu weithiau mor reolaidd.
Fe all y dengys yntau ambell awr,
Pan ddelo arno rhyw hwyl chwerthin fawr,
Ei fedr ar gynghanedd, pan na fyddo
Ond meddwl bach di bwys i’w osod allan ganddo.
Fe'm ganwyd i
ym mlwyddyn y Reform Bill,
A dyna pam yr wyf yn dwyn ystormbil
Mor hyf i mewn i'r Senedd Awenyddol,
Er dychryn i Doriaid mân-brydyddol.
YSTORM AR FYNYDD ISLWYN.
|
|
Y GLYN, —
CARTREF ISLWYN.
CARTREF.
Y cartref bore.
IS goleuni glwys gloewnef — Eden deg
Dan do oedd fy nghartref;
Liw nos, ai ymyl y nef — a welwyd
Yn fy mreuddwyd, oedd fy more haddef?
Mae cofion am dano’n dod
I'm monwes â grym hynod,
Ac aml awr
cwmwl hiraeth — a dorra
Uwch dwyrain bodolaeth;
Diau'n nos ei gysgod wnaeth
Holl nawn gorllewin henaeth.
Hen wr wyf ar
fin yr afon — olaf;
Ai'm hanwyliaid ffyddlon,
O’r tu hwnt i rydau hon, — glywaf fi
I’m croesawu, om cur, i Seion?
Aelodau'r hen
le ydynt,
Ie, o'r hen gartre’ gynt!
|
|
146 GWAITH
ISLWYN.
Er eu bod uwch
marw byth,
Yn dal coronau dilyth,
Yr un byth er eu hoen bêr
Yw tôn eu lleisiau tyner.
Fy chwaer Ann wrth fy ochr i
Sy'n f’aros, a niferi
O anwylion fy nghyn-helynt
Wnaent yn nef fy hen gartref gynt.
Llawn o buredd fu ’nghyfeillion borau,
Llawn o gariad, y cyfeillion gorau,
Dichwerwedd, fu'n cydchwarau — mor ddedwydd
Trwy eu gilydd, ger y cartre golau.
Ceir trafod aml gartrefi
Mewn oes — ond, i 'monwes i
Fe bair y cartref borau — hyd henaint,
Er llu o geraint, drwy'r oll y gorau.
Diau y Seion —
aelwyd swynolaf —
Ydyw, a'i nodwedd y diniweidiaf;
Yr hen dŷ gwladaidd — pery y puraf,
Erys fyth fel Salem yr oes feithaf;
Rhyw siom i deimlad yw'r symud amlaf,
Rhyw aeth ac antur blin wrth y cyntaf.
E barha y boreuaf, — ac ato,
Wedi chwilio y byd oll, dychwelaf.
Fy nhad
anwylaf, enaid ein haelwyd,
Yno'n gyfoeth o gariad in' gafwyd;
Y wialen ni welwyd, — heb air erch
Llywiai o burserch yr oll heb arswyd.
Am y fam! Y fam! Pwy fyth
A gaf i'w lle'n dragyfyth?
Pe unid
cariadau pennaf — y byd
Bawb oll yn ddianaf,
Y hi yn rhagori gaf,
I mi na'r nifer mwyaf.
Cariad mam,
cred, yw y mwyaf; — cura
Y cariad tyneraf;
Llyma im' gêd, os llaw mam gaf,
O! llaw angel a ollyngaf.
|
|
CARTREF. 147
Brodyr y tirion brydydd
(Ba dda son!) yn y bedd sydd.
Elisa ei chwaer lwyswen — a roddwyd
Is y bruddaidd ywen;
Ei harwyl hi fel oer len
Ordoai'n cartre di-wen.
Cartref y morwr.
Y fath swyn tragyfyth sydd
Yn llenwi cartref llonydd!
Ar hyd dragwyddolfyd o ddwr
Dyma hiraeth mâd y morwr;
Ar ddyfroedd fyrdd, ei efryd
Wna bwyntio yno o hyd.
Cartref i hwn yw'r pegwn pur,
Nod ei gais, enaid ei gysur.
Mae synied am ei swynion
Hyfryd ef, yn lleddfu'r don.
Merchyg y gwenyg gwynion
Yn eu llid, dan ganu’n llon
Ei gân hynod gynhwynol
Wrth gofio'r gun un sy'n ol;
Wrth gofio ei berth gafell,
A'r rhai bach, yng Nghymru bell.
Breuddwydia yn beraidd wedyn,
Am Nef, sef ei gartref gwyn;
Cenfydd ei wraig ufudd gain,
A'i mir agwedd mor hygain,
Mor hardd a'r bore arddun
A wnai o ddau ddedwydd un;
A'i saith o'i chwmpas weithion
Yn ymglymu, llamu’n llon;
Pum mil o hir filltiroedd,
I'w wyllt hwyl ef, lled dôl oedd.
Tybiai'r fordaith faith, o'i fodd,
A'i dyryswch oll drosodd;
Gwelai Gymru gu ei gwedd,
A'i gun wyngalchog annedd
Yng ngolwg, a'i saith angylion
Anwyl ef, ac ei Wenno lon.
Ar y gain eurwawr ’e gwyd
Yn bruddaidd — dim ond breuddwyd!
|
|
148 GWAITH
ISLWYN.
Cartref y bardd.
O! yr hoen y sy ar nos o auaf,
Ar fad aelwyd y cartref tawelaf,
Tra mawr yw ynni y storm erwinaf,
Ar rwygfawr hwyr y du Ragfyr oeraf;
Yn fy nhy mi a fwynhaf — y tyrfau
Fel amleisiau o'r per fawl melusaf.
Mae yn rhyfedd
hymn yr afon — o bell!
Mor bur yw'm myfyrion!
Onid yw awen y don,
Ar daith o gariad weithion
O'i dwfn hedd, yn cydfwynhau
Mewn hoen â’m hawen innau?
Un ffenestr fy hoff annedd — addurnir
Gan iâ-ddarnau rhyfedd,
A byd celfyddyd ni fedd
Ddarnau o’r fath addurnedd.
Er lliwiedig
ffenestri llydain, — gwaith
Y gelf fwyaf mirain, —
A'i hia oer, oer, ar y rhain
Rhagora'n ffenestr gywrain.
'E daenodd Duw
ei hunan — eiry len
Ar lawr y byd cyfan;
Syllaf yn ofnus allan, — O! sanctaidd
I’w Duw, a llunaidd, yw pryd holl anian.
Mor dda i mi
a'm priod,
A'm plant bach bellach, yw bod
Ar aelwyd o'r siriolaf, —
Mae gwae'n hoen, mae gaua'n haf!
Syn fwynhad cyferbyniad yn bennaf
Ydyw achos y dedwyddyd uchaf;
Os trwm oddallan y stormydd hyllaf,
Oddifewn mae y tangnef addfwynaf;
Tirion y cartre yn haf, — mae'n dyblu
'N awr, mae'n lle gu yn nhrom hin y gaua£
Eitha byd efo’m
saith bach — a fwynhaf,
Nefol yw cyfeillach
Fy mir do, fy mhriod iach,
A'm hawen — pa raid mwyach?
|
|
CARTREF. 149
Canaf tra'r glo yn cynneu,
Mae'n gu reddf i'm hawen greu
O flaen yr olygfa lonydd,
A'r swyn o fewn cartre y sydd.
Llonio englyn sydyn sydd
Yn hoen i fron awenydd;
Mae fel prid angel yn dod
O lachar gwmwl uchod.
I mi, wr lleddf, O! mor llon
Yw nyddu cynghaneddion
Y gywrain awdl, ei gwau'r nos
A ’nhirion wraig yn aros
Gan wau'i hosanau, mor swynol — ei gwên -
A bore y deisen briodasol!
A! Gwen, y mae llawer gwyneb
Anwyl, is y dywarchen wleb;
Ni thâl y genhedlaeth hon,
Fe allai, yn gyfeillion;
Oes! i ni mae oes newydd
Wedi dod; rhyw syndod sydd.
Y didor newidiadau — a gafwyd!
Yr engyl a huddwyd! Yr angladdau!
Eto,’r un wyt,
O!’r Wen hoff
I mi'n wir, fy mun orhoff.
Yr un mor gun, fy ngwraig ŵyl,
Wyt yn hen eto'n anwyl.
Cartref y
milwr.
Durfron
gadfridog dewrfryd, — sy â'i wg
Yn ysigo'r hoJllyd,
A braw ar ei lidiog bryd, — a chadarn
Fraich o haiarn fel ei fawrwych hewyd,-
Ger ei aelwyd,
y Dyw gwrolaf — geir
Yn gariad o'r mwynaf,
A chawr gwg yn chwareu gaf
Hwnt a'i engyl blant iangaf.
Yn y wain y
gwron hyf
A gladd ei waedlyd gleddyf;
Dyry ei wn a'i darian
I'w wraig bert i'w crogi ban;
Teganau ei blant gwynion
Yn eu lle drefna yn dra llon.
|
|
150 GWAITH
ISLWYN.
Fe'i myn hi, y fam, yn nes,
Gan ei chofleidio'n gynnes;
O! ei seiniol gusanau
Sy glws ar ei gwefus glau,
A dywed hi yn dawel, —
"Wyt i mi fel hanfod mêl;
Swyn medd yw dy gusan i mi,
Yn mlas hufen, mêl, a syfi,"
Ah! melus gweld y milwr
Yn troi'n ol i’r tirion wr;
Gwroldeb yw i gawr ildio
Yma i ganad rhad am dro,
Rhoi’i hun i'w fun i fyny,
Caeth i'w buddugoliaeth gu.
Cartref y
brenin.
Yng nghartref, y teyrn hefyd
A geir fel ninnau i gyd;
Y frenhines fron anwyl
Yma wna waith mam yn ŵyl.
Ni raid gwisgo'r ddrud goron
I wneyd cartre yn lle llon;
Dim ond hoffder tyner tad,
A gŵr yn llawn o gariad.
I'w fawrhydi afreidiawl
Gorseddfainc a mwyngainc mawl;
Deganau! nis digonant,
A'u swyn, — pa les wrth swn plant!
Y deyrngadair hyna a godwyd,
Y fwya ardderchog fry a ddyrchwyd, —
Mwy o hoen gorhoen a gwyd — heb ddwndwr
I gadr reolwr o gadair aelwyd.
Nadolig.
Gwyliau Nadolig, gwel lawen deulu
Yma o diroedd pell yn ymdyrru,
Pa allu dawn, pwy all dynnu —’r darlun?
O, megys un maent yn ymgusanu!
Nid oes ond
seiniau croesaw
Cyfarchion llon ar bob llaw.
Hyd eto ceir y tad-cu,
Sy a'i henaint i'n synnu,
Adref yn ei gadair fawr
Ar ei aelwyd siriolwawr;
|
|
CARTREF. 151
Y mae unwaith mwy yno — yn ei hawl
A geiriau grasawl i'w gwir groeso.
Wele y Pren Nadolig — i'r rhai bach
Ar y bwrdd derchedig,
Yn odiaeth addurnedig,
A difyr oll hyd ei frig.
A chelyn gwyrddrych eilwaith — ar y mur,
Mal arwyddlun perffaith
O gariad a'i ragorwaith
O'i rym hir, o’i bara maith.
Cartref tragwyddol.
Truenus yw cartre annuw,
A dinawdd os na adwaen Dduw.
Nid oes arno do a dâl, — na thestyn
O’i fewn i ganu, na sylfaen i'w gynnal.
Bo allor i Ior, bellach,
Tra f’wy byw,’n fy nghartref bach!
Bob borau emynnau mawl
A seinio o ’nhy swynawl.
Engyl yn f’ymyl a fydd
Yn bennaf noddwyr beunydd,
Tra elo mawl nefawl o ’nhy
O fonwes dduwiol i fyny.
Tŷ eich
sant, O! tŷ uwch siom — o bob rhyw,
Tŷ bywyd ydyw "tŷ Obededom!"
Ah! nid erys un cartref daearol
Am hiroes ini oll, er mor swynol —
Nid yw'r haddef ond amnaid arwyddol,
Cysgod isod o gartref cydoesol
A Naf ei hunan — yr anherfynol,
Cartref y wen loewnef aniflannol!
Sef y nef,—
"orffwysfa'n ol,"—
I ryfedd dorf afrifol.
E fu Iesu fyw
isod,
Iachawdwr, yn wr di-nod;
Galw'r nef yn eglur wnaeth
"Tŷ fy Nhad," O, fan odiaeth!
Duw yn Dad, bywyd yn do!
Iesu’i hunan sy yno!
|
|
152 GWAITH
ISLWYN.
Gŵyr ef pa gartref sy gu
I ddyn — beth wna'n diddanu.
Gŵyr Iesu (bu garw isod
Hyd y bedd ei ryfedd rod),
Gŵyr ef ba nef wna i ni,
Y llawenydd wna'n llonni.
O'i isod
gartref odiaeth,
Bethania, i’r Wynfa'r aeth,
I bartoi’n yr wybrau teg
Eildo, cartref bytholdeg.
Ba les i Mair balas mwy, — o fawredd
O ryw loew nodwedd anarluniadwy,
Nac i Martha ferth drafferthus —
Ba les yw yr oll heb Lazarus?
Bydd Israel yn wael ei wedd
Heb ddau o'i feib i’w ddiwedd;
Pa hoen mwy heb Beniamin,
Heb Ioseff ei fab iesin?
Heb lonathan, ba nyth hoff
I’r pêr ganiawdwr purhoff"?
O, Ti, fy Nuw,
Crist fy nhŵr,
Ti, Ti yw'r Parotowr!
Bydd fy Ann eilwaith, bydd fy anwylion,
Fy merth wiw Dora, fy Martha dirion,
A'm holl, O! f’holl gyfeillion — fry yn saint
To maith o geraint, i emu'th goron.
Melus yno fydd
ailuno
Uwch ymado na cham wedyn;
Cael byd gwell, cael bywyd gwyn,
A dedwyddyd y Duw-ddyn.
Gydag ef gwedi
y gofid — yn nhref
O felus gartref
olaf
Yn nhŷ ac ar fynwes Naf!
|
|
153
TY'R AGENT, —
LLE GANWYD ISLWYN.
FY NHAD.
TYRD, ysbryd yr alargerdd, atat ti
Y mae fy llef, a'm holl ddymuniad mwy.
Dy bruddaidd ysbrydoliaeth yw fy nghais,
I mi fwynhau y byd a fu drachefn
Yn adgyfodiad adgof, onid el
Y bywyd yma heibio ac y daw
Y bywyd arall a'i dragwyddol bwnc, —
Y Duwdod wedi eglurhau ei hun.
Arfaethwyd gado dy ddwyfoldeb, fyd
Y sydd a’i ddyfroedd o dawelaf bryd
O risial anfarwoldeb, a'i fynyddoedd
Yn derbyn ymweliadau angylion nef y nefoedd,
A golau tragwyddoldeb ar ei fannau,
Ac arall fyd fel môr mawreddus ar ei lannau, —
Arfaethwyd hynny, ond danghosodd rhod
Rhagluniaeth im fod arfaeth uwch yn bod.
Yr ydwyf yma eto, fryniau oerion,
Yn syllu arnoch. Chwi yn unig, weithion,
|
|
I54 GWAITH
ISLWYN.
Adwaenaf o wynebau'r dyddiau fu,
Caf oll yn ddieithr yma onid chwi.
Dywedwch rywbeth wrthyf. Llawer meddwl
Daflasoch imi o’r tu draw i’r cwmwl.
Pa fodd y cauwyd y cymundeb borau,
Ac y distawodd yr angylaidd gorau
A hoffent suo gynt o fan i fan
Pan ddelai ymyl eilfyd mewn ffin o ser i'r lan?
Ni fuwyd oddicartref wythnos lawn,
O na fuasai lai o un prydnawn!
Pa le yr oeddych, ysbrydolion pur,
A welwn weithiau ar ddedwyddaf dir
Y breuddwyd aur, a goror bell y gân,
Pan fyddo'r nef uwch ben â myrdd o ser ar dân;
Yr engyl sydd yn gwasanaethu dyn,
Pa le yr oeddych na allasai un
Ddywedyd wrthyf am ei ing diweddaf,
A sisial imi ei ddymuniad olaf —
Ei olaf gais yng ngrym y storom arw
A'r afon ddu — fy ngweled cyn ei farw?
Yr oedd y
gadair yno yn ei lle,
A'r ffon fel ninnau yn ei ddisgwyl e.
Ymledai’r waen yn lâs o gylch y tŷ,
Ond cartref nid oedd yno mwy i mi.
Ac nid adwaenwn braidd y bryn gyferbyn
A fu fy nghyfaill pennaf lawer blwyddyn
Ym myfyrdodau Anian, pan glustfeiniem
Pa adsain o dragwyddol fyd a glywem.
Nefol-gaer
Gobaith, geir o gylch y galon
Yn ceisio dal ynghyd, dan warchae o drallodion;
Do, do, cyn hyn dderbyniodd lawer adwy
Ollyngodd ar yr enaid nerth ofnadwy
O siomiant ac o wae. Paham y ceisiai weithion
Ymddal cyhyd, a chuddio ei adfeilion?
Ymollwng mwy. Mae tynged wedi profi
Mai ofer yw gobeithio lle mae angau yn teyrnasu.
Ddieithriol
gyfnewidfa! Mae y byd
Sydd o fy mlaen yn newydd im i gyd,
Heb ar ei amgylchiadau un goleuni
All roddi awgrym fod y ser erioed yn perthyn imi;
|
|
FY NHAD. 155
Byd arall yw, a gerddir heb arweiniad
Y llaw a gaed fel perffaith arlun cariad.
Pa beth ei galwaf, — y tynerwch hwnnw,
Y gofalgarwch sydd goruwch pob enw
Fel pob peth dwyfol, y teimladrwydd tirion,
Y fynwes ail, y galon o fewn calon,
Na edwyn onid tad? Pa beth all ei egluro?
A I rhodio'r byd am onid wythnos herada
Diflannodd sẁynion
y boreuol fyd;
A Seren Cartref o farddonol bryd,
O gylch yr hon y carai engyl hedd
Ymhongian gynt, machludodd yn ei fedd.
Ffarwel, ffarwel, ddelwyddion Dore oes!
Rhaid newid mwy y breuddwyd am y groes,
Yr hwyl nefolaidd am y gofal prudd,
Y seren bell am sorod gwael y pridd.
Rhaid gwrando bellach pan y galwo'r byd,
A'i alw i mewn, fu wrth y ddôr gyhyd;
Mae'n ofer edrych tua'r gadair fawr
Am un ofalai am bob peth bob awr.
Rhaid gado mwy borthladdoedd bore byd,
Aberoedd gobaith a barddoniaeth brid,
Lle na adwaenwn o ofidiau bywyd
Ond swn y llanw yn y pellder hyfryd,
Rhaid myned allan bellacb gyda'r dyfroedd,
Ymollwng i ystormus fyd, o lannau fel y nefoedd.
O annedd dlos
yng nghanol gwyrdd y meusydd,
Rhaid canu'n iach i’th swynion yn dragywydd;
Y nant, — mi hoffaf fyth dy gysgod di, —
Rhaid canu'n iach i’w hysbrydoliaeth hi.
Ond O, arosed bythoedd yn fy nghofion
Dy furiau oll, a llun dy aelwyd dirion
Yn berffaith fel yr oedd, a delw y wyneb
Oleuai'r oll yn forau o sirioldeb.
O faith
welediad adgof na ddiflanned
Un maen arwyddol o fy more dynged;
Blagured mebyd eilwaith yng nghrog-erddi
Nefolaidd adgof, blanna engyl inni.
O bydd yn hyfryd gweld y goIygfaoedd
Draw oddiar yr olaf o'n blynyddoedd;
Bu yr olygfa'n fwy na dynol inni,
Fe fydd yr oll yn ddwyfol erbyn hynny.
|
|
156 GWAITH
ISLWYN,
Ac O, os gwelir tuag hwyrddydd bywyd
Bererin llesg ac amgysgodau eilfyd
Fel nos sancteiddiaf ar ei ael yn disgyn,
Ac am ei lwybrau swn angylaidd edyn
Ar hyd y meusydd telaid hyn yn crwydro,
Boed angel borau yr olygfa yno
I roi i'r cangau lais, i'r awel deimlad,
Ac i adfeilion tŷ fy nhad adfywiol wawr o gariad.
Nid mwy cynefin
idd y lan y llanw hwyr a borau
Nag ydoedd i dy enaid di, fy nhad, ddyfodiad gorthrymderau.
O mae fy nghalon oll yn glwy wrth gofio am eu hamlder hwy,
Wrth feddwl am y pryder mawr o flaen y wawr a gaed yn effro,
Y baich o amgylchiadau prudd nad oedd y dydd yn ddigon iddo,
Y baich a deimlid hyd y byw ar ol i bawb ymollwng i freichiau anghof gwiw.
A drysorasoch
chwi ei ddagrau ef
O dystion sancteiddiolaf awr y bedd,
Osododd Duw ar hyd canllawiau'r nef
I wylio yr adfydus gwyw ei wedd?
O seren canol nos, mynega'n awr
Bob cwyn a
deigryn ger yr orsedd fawr.
Nid oedd ond pared rhyngom. Llawer gwaith
Y syrthiodd caer fy mreuddwyd idd ei gw^yn;
Na thorred boreu bythoedd ar fy nhaith
O phallaf ddeigryn eto er ei fwyn
Pan gofiaf hynny. Y dagrau trymion prudd
Fedyddient ganol nos yn ganol dydd.
Pan gaffai
lonydd ambell eiliad ber,
Pan beidiau'i ingau onid ennyd awr,
Fel pan newidia'r Nefoedd ei gwyntoedd am ei ser,
O felly y newidiai yntau’i wawr.
Fe ganai am ei Dad, a'i gariad cu,
Ac am yr aberth mwya ’rioed a roed ar Galfari.
Athrylith Pant
y Celyn yn ei gân
A enid eilwaith; ysbrydoliaeth hon
Ddeffroid eilwaith yn ei lef
Gai newydd ymollyngiad.
E fu ei gylch
yn eang iawn un dydd,
Ac nid oedd gormod iddo ef ei wneyd
|
|
FY NHAD. 157
Yn ffordd dyledswydd a thros waith ei Dduw,
Dros waith yr Hwn a'i carodd cyn ei fod.
Ni fu yr hin ry oer, na'r daith ry bell,
Na lle yr ymgynulliad rhy ddi sylw,
Ac nid oedd gan y draul ar lechi cof
Un cerfiad nac un nôd o flwydd i flwydd.
O bu afradlon, dros ei Dduw y bu.
Anghoflai'r cyfan ond teilyngdod mawr
Y gwaith rhagorol. 'Roedd ei garedigrwydd
Fel eiddo'r ffynnon sydd yn rhoi ei dafn
O dan y cysgod oesol, lle nad oes
Ond ser ac engyl idd ei chanfod hi.
Llaw aswy cof ni wypai beth a wnai
Deheulaw cariad. Roddion bywyd maith!
Disgynned eich adgoflon ar ei fedd
Fel pelydr crwydrol o dragwyddol fyd.
O Garedigrwydd! i ba le yr ai?
Dos, eistedd ar ei lwch;
Pa fynwes mor ddirodres, mor anghofus,
O'i rhinwedd bennaf? Gydag anadl hwyr
Pan ddelot heibio yn yr awel leddf,
Tro olwg ar ei feddrod yn y glyn,
A chofia nid yn gymaint am ei haeledd
Ag am ei nef ol anghofusrwydd ef.
Ymddifaid,
pwyswch ar y beddfaen gawn
Yn wyn gan alaeth uwch ei orffwys fan,
Gall ddwyn i gof y fraich o gariad llawn,
I felus gof, y fraich gynhaliai'r gwan;
Pan wisgid ffurf Rhagluniaeth oll â du,
Aech ato ef, ac yn ei gariad ymnewidiai hi,
Fel o flaen drych o brif egwyddor nef,
A llawen fyddech ar y ffordd i dref.
Ragrithiwr, saf
am ennyd ger ei fedd.
Gall adgof godi o’i gymeriad pur,
Angel o wers i tithau. Mawr yw sedd
Cymeriad fo a'i sail ar y tragwyddol wir.
Yr oedd gwirionedd fel urddunol wawr
Ar wyneb ei dduwioldeb, nid oedd crefydd
Ond mynwes arall am ei galon fawr
O fewn yr hon y cura yn dragywydd.
Y llais a alwai'r gweithiwr tua'i orchwyl
Yn fyw a llon, yr un yn gymwys gaed
|
|
158 GWAITH
ISLWYN.
Yn groesaw dynion at y Ceidwad anwyl,
Yn llon a bywiog ganmol rhin y gwaeÍl.
Fe deimlai Rhagrith dan y fanllef honno
Yn gollfarnedig; torrai ar y llu
Mor oll-ddeffroawl,’r oeddynt yn clustfeinio
Ar gur y galon fel o'i phellaf adsain hi.
Fel ar y môr y crea ton o'i hamgylch
Aneirif donnau, fel ymdoniad byw
Yn creu toniadau filoedd trwy'r awyr-gylch,
Gwythienau bywyd o dragwyddol ryw
Ar hyd ei lawnion ddyledswyddau gaed
Yn chwyddo, chwyddo fel â gallu Duw,
A gallu fyw ar ol y fferro cig a gwaed.
Bu arw dy
fordaith, fy nhad, flynyddoedd diweddaf dy oes;
A! mynych y gwelais dy fad bron soddi gan wyntoedd mor groes;
Fe dorrodd Rhagluniaeth y nef i fyny ei hindda oedd wiw,
Ac ysbryd y dymestl gref a hollol feddiannodd y llyw;
Gallaswn â dagrau o waed ddyhuddo y dyfroedd, y don
Goruwch dy holl enaid a gaed yn boddi gobeithion y fron.
Prydnawn o wylofain yn wir a gefaist, — machludiad di-hedd, —
Blynyddau o donnau, heb dir mewn golwg ond acw i'r bedd.
Gwybuaist — a chawsom i gyd wybodaeth dan brofiad fy nhad —
Holl gyfnewidioldeb y byd, y gwenau mewn llwyddiant, a'r brad
Mewn aflwydd pan fyddai y wên yn angel
mewn anial yn wir.
O adfyd! Paham hyd yn ben y seliwyd phiolaid mor sur?
O ddyfnder
Rhagluniaeth yr Ior, yr wyf yn addoli yn awr,
Uwch sanctaidd ymylon ei môr — mae y don wedi derbyn y wawr,
A'r dyrys ofidiau o'r bron yn troi yn ddibenion o hedd,
Mae'r Arglwydd yn eistedd ar hon, y don sy'n gorchuddio y bedd.
Haul cariad y Duwdod y sydd yn sugno tarth adfyd i'r lan,
I'w gwlawio yn ol ar fy nydd yn helaeth fendithion i'm rhan;
Os bu'th oruchwyliaeth, fy Nuw, yn ddyfnder tryblithiol — yn awr
Dwyrea'th ddibenion o'r dyfnder fel ser, fel dydd uwch llwybrau y llawr.
Bu dda gennyf deimlo y chwydd yn nyfroedd bodolaeth y sydd,
Yn arwydd o sicraf neshad y tragywyddoldeb a fydd, —
Y ddinas dragwyddol ei sail, uwch cyrraedd corwyntoedd mor llym.
Yn dechreu ymagor, a haul cyfiawnder yn codi i'w rym.
Bai oriau cyn myned i mewn, tawelodd y dyfroedd, a chaed
|
|
FY NHAD. 159
Llonyddwch; dy Geidwad oedd yno'n taenellu y dyfroedd â'i waed;
Dy Geidwad tragwyddol ei hun yn rhodio y tonnau o'th blaid —
Fe drodd chwerwaf ddyfroedd marwolaeth yn win, ac angel yn
ei ymyl a gaed.
Y mae y cyfiawn yn nirgelwch Duw;
A rhai o dyraudinas fawr ei feddwl
Sy'n gorwedd yn nistawrwydd y dyfodol,
Rhai o benrhynion ei bell arfaeth ef,
O bell yn amlwg iddo, cyn eu dod
O fewn gwelediad idd y marwol fyd.
Y mae meddyliau Duw, fel Duw ei hun,
I gyd yn ymgnawdoli. Ac fel yr oedd
Arwyddion amlwg o'i ddynesiad Ef,
Y mae i'r cyfiawn y cyffelyb fraint
Yn ymyl esgoreddiad ei fwriadau.
Mae "Seren” ragarweiniol i bob un
O'i brif feddyliau, ond na roir i neb
Ei gweled ond i'r doethion, megis gynt.
Ti wyddit tithau fod meddylddrych mawr
Dy Arglwydd wrth y ddor, y deuai eilwaith
Ac y cymerai'r eiddo ato ei hun.
"Ni chaf dy weled eto" oedd y gair
Diweddaf glywais o dy enau di.
Bryd hynny nid oedd hollt yng nghwmwl amser
I mi ddarganfod golau'r byd a ddaw
Yn dechreu torri. Nid oedd swn
Yr afon ddwyfol, sydd yn llawenhau
Pell ddinas Duw, hyd eto yn fy nghlyw.
Ond ti a wyddit. Y mae ambell air
O broffwydoliaeth eto yn y byd.
Pell oeddwn oddiwrthyt ar yr awr
Y daeth cysgodau'r bythol fyd i lawr.
Y cyfiawn! O
mae golau uwch ei fedd
Na ddeil uchelfryd ar ei uchaf fan
Gyffelyb iddo. Y mae yno hedd,
Y fath a deimla angel ar y lan
Sy'n derbyn Duwdod yn weledig mwy,
A thonnau tragwyddoldeb uwchlaw pob loes a chlwy.
Mae eu gweithredoedd yn eu canlyn hwy
Dros fwa y cyfamod dwyfol sydd
|
|
160 GWAITH
ISLWYN.
Yn uno'r ddeufyd dros y beddrod mwy,
Y ddeufyd gyda gwawr tragwyddol ddydd;
Ac hyfryd hyfryd, pan y teithiem ni
Yn ol i amser ym mro adgof gwiw,
Ym mhlith beddfeini y blynyddau fu,
Ardderchog megis darn o'r nefoedd yw
Eu gweled, gweithred ar ol gweithred lawn
Yn tawel gychwyn, tua ffordd y nef,
Gan wneuthur swn hyfrydol hwyr brydnawn,
Wrth fyned heibio i'w orweddfa ef
Yn llawen tua'r orsedd erbyn dydd
Y fam a fydd.
Lle y gadawsom
weithred dda o'n hol ar lwybrau bywyd,
Gadawsom angel hoff, a'u gwna yn air o'n tu mewn eilfyd;
Pan alwa yr arch-angel mawr eu corff o'r graian mwy,
Cyd-adgyfoda yr un awr eu holl weithredoedd hwy.
Agorai ef bob
newydd ddydd fel newydd ddalen yn y llyfr mawr,
I’w lenwi erbyn eilfyd sydd i radau, — gweithred am bob awr;
Ac ynddo ysgrifennai fyth â llaw ddi-swn o gariad, —
Y llythyrennau'n disgyn fel y gwlith, — ei amddiffyniad.
Yr oedd y llyfr wedi ei gau, gwaith bywyd oll ar ben,
Ac yntau'n marw wrth ei fodd, a'i olwg ar y nen;
Nid am ei fod yn gorffwys dim ar ddynol weithred ganddo wnaed
Mawr werth yr aberth oedd ei rym, nid gweithred, ond y Gwaed.
FY MRAWD.
(Cyfansoddwyd ar farwolaeth ei hoffus briod yn Tasmania.)
ANTURIODD dros y moroedd pell,
Yn llawen dros y lli,
O! nid oedd un baradwys well
Na'th lon gymdeithas di.
Yr oedd mor dda — yr wyf yn ameu bron
A fu'r fath un yn rhodio'r ddaear hon;
Ai nid angyles oedd a welais i
Ar glogwyn breuddwyd yn dy ymyl di?
Y llwybr ar ei
hol drwy farwol fyd
Gan oleu rhinwedd sydd yn wyn i gyd.
Fe allai angel rodio yn ei llwybr,
A bod mor bur ag ar y loewaf wybr.
|
|
FY MRAWD. 16l
Esiampl gyflawn o'r rhinweddau oll
Adawodd ar ei hol, heb un ar goll.
Parhad o'i rhinwedd a'i rhagorion hi
A fyddo bywyd ei hanwylblant cu.
Nis gallaf ofyn am un fendith fwy
Ar ran ei thirion blant, nag iddynt hwy
Gael byw ei bywyd hi ym mhob rhyw rinwedd
Tra ar y ddaear hon, a marw'r unwedd.
Tywalltaf falm i'th glwy,
Fy mrawd, nac wyla mwy,
Mae hi yn ddedwydd ger gorseddfa'r Oen
Uwch cyrraedd poen.
Clyw, fy mrawd,
mae clwyf i 'mron
O daraw un mor dirion;
Byd niwliog, heb d' anwylaf,
Yw y byd hwn, bywyd di-haf.
Torrwyd dy gartref tirion
A rhwyg llwyr, o golli hon.
Fy mrawd hoff!
wyf am roi taith,
A gyrfa dros fPor garwfaith,
Hyd ymyl gwlad Van Dieman,
I'th adlonni di o dan
Alar am dy anwylyd,
Sychwn, gwn, dy ddagrau i gyd.
Rhwydd i'r bardd fyddai rhoddi'r byd
A'i deg urddas am dy gwrddyd!
Ei bedd sy
bell, rhy bell i ni ymweld â'r santaidd fan,
Ond nid rhy bell i Iesu ei dwyn o'i marwol hun i'r lan.
O! plannwch flodyn llon ei liw bob gwanwyn ar ei bedd,
Fel arwydd o addewid Duw, a chodi ar ei wedd.
'Roedd angel yn ei hangladd hi, fe ddaeth o gwmwl draw;
Fe glodd y bedd, ehedodd fry a'r allwedd yn ei law.
Er pelled yw ei bedd i ni, y mae i'n Ceidwad hardd
Mor adnabyddus ac mor gu a'r "bedd oedd yn yr ardd."
Gobeithio'r y'm
eich gweld ryw ddydd yn dod yn ol heb nam;
Ond A! golygfa bruddaidd fydd y teulu heb y fam.
Y teulu heb y fam sy brudd mewn pell estronawl wlad,
Ond O! na weler yno byth y teulu neb y tad.
|
|
162 GWAITH
ISLWYN.
FY NAI TU HWNT
I’R MOR.
WILLIE.
MAETH enw hoff
i mi fel lloer i'r moroedd,
Mae'n galw mewnfôr teimlad o'i ddyfnderoedd:
Ac er y pellder rhwng y lloer a'r lli,
Ac er y pellder rhyngot tithau a mi,
Mae’r sugndniad yn parhau
Yr un mor nerthol a phe bai
Y lloer yn eistedd ar y don,
A thithau'n pwyso ar fy mron.
Mi deimlais
ddiffyg ar dy ol;
Mi wylais fel yr wyla'r ddôl,
Trwy ddagrau gwlith y gauaf du,
Ar ol ei meillion heirddion hi.
Fel tyner oen
dilynet fi,
A minnau a'th fugeiliwn di.
Mae seren
fechan lon ei phryd
Gerllaw y lleuad brudd o hyd
Fyth yn ei dilyn hi,
A thithau megis seren lon
Wareuit fythoedd ger fy mron,
Ger lloer fy mhrudd-der i.
Yr oedd dy dad tu hwnt i'r don
Tu arall i'r ddaearen hon,
A'th fam dyneraf gydag e,
A minnau'n ceisio llanw eu lle.
Planhigyn dy athrylith di
A dyfodd yn fy nghysgod i;
Dywedir im ei fod yn awr
Yn lledu fel nefolbren mawr;
O! pwy a ŵyr na roir i mi
Gael eistedd yn dy gysgod di,
Pan fyddi yn dy gryfder llawn,
A minnau'n eiddil ym mhrydnawn
Yr einioes farwol hon: —
Willie! mi dybiaf fod y don
Sydd acw'n disgyn ar y lan
Yn dweyd, — ar ol ei dirfawr daith
Mewn rhyw ysbrydol nefol iaith, —
Daw adref yn y man.
|
|
FY NAI TU HWNT
I'R BEDD. 163
FY NAI TU HWNT I'R BEDD.
Yr wyf yn teimlo'n athrist wrth adgofio
Y wyneb llon sy dan y briddell heno,
A'r wên oedd ar dy wyneb pan y deuwn
I'th olwg, a phan gyda thi chwareuwn.
Chwareuwn gyda thi, a gwnawn fy ngoreu
I deimlo'n llon fel yn fy mebyd boreu.
Ni chefaist fyw i adweyd fy enw'n gyfan,
'Roedd gennyt arnaf enw bychan, bychan;
Dy oreu ydoedd er mor fyr, er bloesged;
O, beth na roddwn heno am ei glywed!
Ber fu dy fordaith ar uchelfor amser,
Ond digon hir i deimlo ei erwinder.
Môr amser groesaist yn y culaf fan;
Ond O! mor erwin oedd o lan i lan.
Man culaf môr yw'r garwaf fan i groesi,
Lle mae'r dragwyddol lan ar amser yn ymylu.
Fy nghalon aeth yn glaf wrth weled dorau
Y beddrod yn ymagor it' mor forau,
A thi mor deg, a ni mor hoff o honot,
A chartref oll mor wag, mor bruddaidd hebot.
Paham na chawsem gadw'r blodyn tirion?
'Roedd yn y nefoedd eisoes flodau ddigon
A! gwell er hynny oedd ei symud acw,
Lle nad oes, ar y dwyfol dir, un blodyn mir yn marw.
Ni feddaf
ddarlun o dy lon wynepryd,
A gwell yw hynny rhag cynyddu tristyd.
Rhydd wyf yn awr i lanw'r amlinellau
Sy'n aros ar fy nghof, â nefol liwiau.
Ỳn nwyfol oleu'r ser, mi dynnaf weithion
Dy ddarlun fel yr wyt ym mysg angylion;
Mae'r ser yn gweld dy wyneb mewn gogoniant,
A'th degwch ar fy enaid adlewyrchant
Dychmygaf gwelaf di yng nghanol engyl
Di-rif, a Phren y Bywyd yn dy ymyl,
A'i gangau uwch dy ben yn ffurfio cysgod,
A'i mwythau'n plygu'n drymion oddi uchod,
Yn drymion gan rinweddau anfarwoldeb,
A'i flodau'n perarogli tragwyddoldeb.
|
|
164
ANEURIN FAHDD.
I'M HATHRAW.
MAE llawer blwyddyn, anwyl frawd, er pan gymerem ni
Ein hwyrol daith, ein llonydd rawd, ar ymyl llonydd
Yr hen Sirhowy. Nid oes dod na bri yn eiddo hon,
Os nad i ni, ryw amser, fod a'n cysgod ar ei thon.
Al llawer hwyr y buom ni yn crwydro ar ei glannau,
Pan oedd fy mysedd eiddil i yn dechreu cwrdd â thannau
Y delyn awenyddol fad, yn ol dy gyfarwyddyd rhad.
Mae’r haul yn isel dan y bryn, y mae y glyn yn duo,
A thybiaf fod yr afon bur is awyr hwyr yn suo;
Yn suo am y
dyddiau mad
Pan nad oedd eisieu ond dy dad,
A thi, a minnau, ’n tri yng nghyd,
I wneyd i fyny eithaf byd!
|
|
LILLE. 165
O, fyd di-alar, fyd di-glwy,
Ni ddaw ei fath, ANEURIN, mwy!
A! mae yr olwyn
fel yn flin wrth droi y felin fad,
Mae tôn y nant, o gywir reddf, yn lleddf o dan bruddhad;
Mae fel pe'n cwyno wrthyf fi o'th eisiau di a'th dad!
Dywedir im fod
yn y byd fwynderau fwy na rhi,
Dewiswn i o'r rhain i gyd gael awr o gwrdd â thi;
Fy llygaid fel dan gwmwl llawn a wlawient ar dy fron,
Hoen ie'nctyd eilwaith wenai dan y dyner gafod hon.
Fe hoffai cyfeillgarwch pur gael byd rhy fach i fôr,
Rhy gyfyng i ysgarol fur, rhy gul i glawdd a dôr;
Wrth gofio am ein disglaer wawr a hoen ein dyddiau gwell,
'Rwy'n beio, braidd, Columbus fawr, am ganfod byd mor bell.
Mae arfaeth
ddistaw dan fy mron i weld Amerig fawr,
ANEURIN! prif gymhelliad hon yw gweled siriol wawr
Dy wyneb — gwrando ar dy lais — ymheulo yn dy wên —
Ymddiddan am y dyddiau fu, y lon Baradwys hen.
LILLE.
O LILLE, y brydferth! y brydferthaf bron
Erioed fu'n sangu ar y ddaear hon!
O Lille y brydferth! Lille y brydferth fyth
A fyddi yn fy ngolwg i, fy nith.
Mae llawer tymor bellach wedi pasio
Er pan y'th roisom di i lonydd huno.
Aeth llawer storom arw dros ein teulu
Er pan, Lille fach, y'th roed mewn bedd i gysgu,
Ond pe bai oesoedd wedi myned heibio
Amhosibl a fyddai dy anghofio.
'Rwyf yn dy
gofio fel angyles iach
Yn dod i dŷ fy mam, a'th fasged fach
Yn hongian ar dy fraich al llond o ros
(Debygwn
heddiw) o’r Baradwys dlos
O’r fath sy’n
tyfu yng ngerddi nef y nef,
O flaen ei
balas Ef!
'Rwy'n tybied fod y cwmwl fry
Yn cadw ei gawod, nes dy weled di
|
|
166 GWAITH
ISLWYN.
Yn gynnes a diogel yn y tŷ.
O Lille y brydferth, y brydferthaf bron
Erioed fu'n sangu ar y ddaear hon,
Anfonai'th fam ryw neges gyda thi,
Ac O! mor swynol yr adroddit hi
A'th beroriaethol lais, fel llais y corau
Sy'n canu syda glasiad hafaidd forau.
A phan anfonem di yn d' ol â'r ateb
'Roedd dydd o wenau yn goleuo'th wyneb.
Wylasom ger dy
fedd yn chwerw iawn.
O Lille! mor dywyll oedd y blin brydnawn,
Ein llygaid fel cymylau yr awr honno,
Ni allent weled dim, na gwneuthur dim ond wylo,
Ond wedi peidio o'r gawod ddagrau
Yr ym yn awr yn gweld yn olau —
Fe'th gipiwyd di o flaen ystormydd llymach,
O flaen cawodydd llawer trymach.
O Lille y brydferth! cipiwyd di
I wlad lle nad oes cwmwl du
Yn duo'i nef, na storom arw
I'w chlywed byth, na neb o'i mewn yn ofni marw.
O tyrd im cwrdd
pan groeswyf afon angau;
Bydd di ymysg y cyntaf ar y glannau
I'm cwrdd yr ochor draw. Adroddaf yno
Ein helynt wedi'th fynd, cei dithau wrando
Dan gysgod pren y bywyd, ein dau'n holliach,
Ein dau heb ofni cael ymadael bythoedd bellach!
Mae'n werth ymadael
am ryw hirfaith gyfnod
Er mwyn y fendith o'r fath ail gyfarfod,
Cyfarfod eilwaith dan anfarwol gangau
Y bywiol bren, tu draw i gysgod angau.
Ffarwel, anwylaf Lille! nes delo'r borau
Y cawn gyduno byth yng ngherdd y nefol gorau.
AR FEDD CHWAER, SEF MRS. DAVIES, GLYN EBBWY.
Er ei mynych nych, ni wnai — unrhyw gŵyn,
Rhoi gair croes ni fynnai,
Yn y cynllun heb un bai
Diwaelod gariad welai.
Ei chrefydd uwch yr afon— ymleda
Am wlad arall weithion;
Nid ofnai donnau dyfnion
Na nerth yr Iorddonen hon
|
|
167
GREEN MEADOW.
Cartref Islwyn wedi marw ei fam.
FY MAM.
YN fynych iawn gofynnid im paham
Na fyddwn wedi canu cerdd fy mam,
Paham na chlywsid, yng nghysgodau'r glyn,
Lais prudd yr awen lawer mis cyn hyn.
Rhy dyner eto yw fy nghof am dani,
Amhosibl i hiraeth perffaith ganu.
Nid yw fy holl
fodolaeth onid cwmwl
I ddal cafodydd hiraeth, dagrau drud,
A phan y gwelaf angel o ddrychfeddwl
Ymdorra'r cwmwl rhyngof a'i deg bryd,
A'r angel dry yn niwlen yn fy nwylo,
Nis gallaf feddwl dim, na gwneuthur dim ond wylo.
Pan y
darfydda'r gwlaw, ceir gweld yn glir
Y golygfeydd tu ol, y dwyfol dir
Y rhodiais drosto gydag ysgafn gam
Flynyddau'n ol, yn llaw f’anwylaf fam.
Ewyllys Awen sydd yn nerthol iawn,
Pan fyn arferyd ei harddunol ddawn;
Ei harch a rydd, a theyrnas fawr yr enaid
A dawel ymlonydda ar ei hamnaid;
|
|
168 GWAITH
ISLWYN.
Gweinydda'r meddwl a'i gyneddfau'n gyson,
Ac yn eu hymyl tyn deimladau'r galon;
Ond methai'r Awen trwy y misoedd hyn
Gysoni fy modolaeth yn y glyn;
Y teimlad oedd oruchaf; mynnai ef
Ei ffordd ei hunan ag wylofus lef.
Ond nid oes llanw ar ddaearol lan
Heb lonydd drai i'w ddilyn yn y man;
O nid oes nos mor dywyll nac mor faith
Heb fore cu i dorri ar y daith.
Mae llanw hiraeth, er mor gref ei don,
Yn dechreu troi ar draeth y fynwes hon.
Fy ol-fodolaeth leda fel yr aig,
Ac yn ei ymyl adgof sydd yn graig
I efryd eistedd arni — gwel yn awr
Gerubaidd ffurf, yn decach fil na’r wawr;
Mae teimlad yn myfyrio — myfyr sy
Yn teimlo, mae y ddau mewn undeb cu.
Mae'r gadair fawr yn dwyn i'm cof ei gwedd,
Y wyneb oedd yn adlewyrchu hedd
A bythol gariad; mae treuliedig glawr,
Treuliedig dudalennau’r Beibl mawr,
Yn dwyn i'm cof ei thyner lais toddedig
Pan y darllennai'r llyfr bendigedig,
Disgynnai rhyw eneiniad ar ei hysbryd
Yr eiliad yr agorai air y bywyd,
A barai i'm glustfeinio lawer tro,
A derbyn adlais o anfarwol fro.
O ysbryd
lletygarwch! Wyla di
Ar fedd fy mam, am ennyd, gyda mi;
Ei thy oedd gartref i genhadau lon,
Ac am ei haeledd byth ni chlywid son.
Am ddeugain mlynedd deuent at ei thy —
Pwy ŵyr na ddaeth angylion oddi fry
Yn ddiarwybod ambell waith, gan ado
Tragwyddol fendith inni wi’th ymado!
O, mae yn edrych gyda'r dyrfa fry
Mewn hyder sanctaidd, am y bore cu
Y daw y Barnwr ar gymylau'r nef
I arddel pawb a'i harddelasant Ef,
Efe yn ddieithr yn ei frodyr fu,
A hithau a'u cymerodd gyda hi;
Ni wylaf mwyach, llawenychu wnaf —
Fy mam fu gyda'r Iesu pan oedd glaf!
|
|
FY MAM. 169
Ond pe coffheid ei chymhwynasau i gyd,
Gofynnai gyda'r dyrfa lân, — "Pa bryd?"
Ffarwel, lon
ddiofalwch bore oes,
Ffarwel i'r hon a ddygai bob rhyw groes
Ei hun, i mi gael llonydd i fyfyrio
Heb unrhyw ofal yn y byd i'm blino.
Bu'r byd i mi
yn llawn
O swynion hyfryd iawn
Un cyfnod pell;
Ond angau cryf sy'n dwyn
Yn raddol bob rhyw swyn
I fydoedd gwell.
Arllwysa môr y byd
Ei berlau goreu i gyd
I borthladd bedd.
Canfyddais
longau fyrdd
Yn cuddio'r ceinfor gwyrdd
Un bore llon;
Byw lynges hardd ei gwedd
Mewn undeb ac mewn hedd
Heb dani don;
Ond daeth y ddryc-hin brudd,
A thua hwyr y dydd
Es tua'r fan.
A gyfnewidiad blin!
O'r llongau teg eu llun
Nid oedd yn awr ond un,
A honno'n wan!
Cydgychwynasom
gynt
Cyn cyrraedd ar ein hynt
Fan noeth y bythol wynt,
Byw lynges fawr;
Ond o'r araderchog rif
Ar ol y croeswynt cryf
Ni welir ar y llif
Ond un yn awr!
Fy mam! a fu i
mi
Y fath angyles gu
Pan oeddwn wan,
A fu i mi ei llaw
Wrth odre mebyd draw
I'm dwyn i'r lan.
|
|
170 GWAITH
ISLWYN.
Ai breuddwyd mawr ei rin
A gefais wrthyf f’hun,
Ai rhyw gerubaidd lun
A welais fry,
Un fraich o dan fy mhen
A’r llall fyth tua'r nen
Yn gofyn bendith wen
A rhad i mi?
Na! ofer yw y
dyb,
Mae'm gruddiau yn rhy wlyb
Mae'r deigrol li'n rhy iawn;
Pa fodd mae cofion dyn
Am bopeth mawr ei rin
Fel gweledigaeth gun
Yn ebrwydd lawn?
Anfona, Awen
fwyn!
Am unwaith er ei mwyn
Y seiniau mwya'u swyn,
Dy guaf gân.
Dod ar ei beddrod hi
Y blodau tecaf sy
Yng ngardddy frodyr fry,
Yr engyl glân.
O! cofia'r
cyfnod pan
Yr oeddit eto'n wan,
A'r ffordd ymhell i'r lan
I'th ddinas wen,
A'r modd y caffem ni
Lonyddwch, drwyddi hi,
I araf esgyn fry
O nen i nen.
Cymerai
bethau'r byd
A gofal hwn i gyd
I'w rhan ei hun bob pryd,
Tra byddem ni
O fewn y fyfyr gell,
Yn pyncio am y pell
Ororau, canmil gwell,
Lle'n awr mae hi.
|
|
171 FY MAM
Ieuenctyd cerub fu
Dy deg ieuenctid di
O dan ei haden hi,
O fore gwiw!
Bore o ffrydiol aur,
Y lleuad oedd dy chwaer,
A'r ser dy gwmni claer,
Pur deulu Duw.
A! gwag yw'r gadair fawr, a'r hen, hen dŷ,
Mae’r fro yn wag, mae'r byd yn wag i mi,
Mae newydd nod yng ngherdd yr afon sydd
Yn llifo trwy y fro — iselnod prudd,
Angladdol liw sydd ar fy ngardd yn awr,
Y mae y blodeu fu mor llon eu gwawr
Yn edrych fel pe byddent dan eu clwy,
Yn disgwyl un nad yw yn dyfod mwy.
Ffarwel i'w llon groesawol fore Llun,
Wrth ddychwel o'r Sabbothol daith yn flin,
Edmygais y pellebyr lawer gwaith,
Fel pe y gwelwn angel ar ei daith;
Ond pan y dug i mi mewn marwol awr
Y marwol newydd i Manceinion fawr,
Yr angel gwyn, er cymaint ei ysblandra.
A droes yn angel du, a beiais ei fuandra.
Dymunwn blygu i Ragluniaeth fawr,
Dymunwn ar fy neulin fynd i lawr,
Dymunwn ganu yn y nos y gân
A gwyd o froydd gostyngeiddrwydd glân;
Er hynny seinia pwnc y bruddgerdd hon
Yn ddieithr iawn, mae'n anghredadwy bron,
Adgofion Mam! Dwed im', fy Awen wan,
Ai dyna'r oll sy'n aros yn dy ran?
Adgofion — dim ond hynny — am yr un
Drwy f'oes a gerais fel fy enaid f'hun!
MRS. JONES, CAE DRAW, MERTHYR TYDFIL.
I wlad engyl diangodd, — awch hiraeth,
A'i choran a wisgodd,
A'i phoen yr awr gorffennodd
Yn ddi-dranc lawenydd drodd.
MRS. B. BEDDOE, LLANFABON.
Ni, y byw, ar lan ei bedd— wnawn ddewis
Yn ddiau'r im fuchedd;
'R un bywyd o hyfryd hedd,
Yr un Duw, a'r un diwedd.
|
|
172
Bedd Islwyn.
MYNWENT Y
BABELL.
Pia'r bedd ym Mynwy bell?
Islwyn huna'n
fwyn fan yna.
Onid ei enaid
fry a gana
Yn y dyrfa
Hapus dyrfa'r
wlad sy well.
R. BEVAN.
Y FYNWENT.
Machlud haul.
WEDI i'r haul gyflawni’i dro,
A myned mwy i huno;
Wedi i'r lloer mewn prudd-der llawn
Ar ne der wawrio'n diriawn,
Ac i'r ser mewn gloewder glân
Ddwyn eu holl fyddin allan,
I wylio'r nen ysblenydd
Oruchel, nes dychwel dydd,
Dros y ton lâs gan dristhau
I'r Fynwent draw af finnau.
Y fath hedd rhyfedd ar ol
Iaith daearfyd fyth-dyrfol!
O! melus im yw wylaw
O dwrf y dref a'r dorf draw.
I ddrych fy nghof, er yr hirfaith ofod,
E gwyd wynebau fy hen gydnabod.
|
|
Y FYNWENT. 173
Sy yn ein Hiesu yn huno isod,
O! mal Gwynfa im yw eu hail ganfod
A dwyn i gof dan gafod — o ddagrau
Y troion borau, y cartre'n barod, —
Y dodrefn wedi 'u trefnu
Hefyd, a'r gain fodrwy gu,
Rhwymyn ein borau amod,
A'r ysblenydd ddydd ar ddod,
Ond yr angau'n mynd rhyngom,
A'm heinioes i mwy yn siom,
Yn siom oll, fy einioes mwy
Yn fedd i mi tra fyddwy.
Adgof dyner.
Mae'n dawel yma'n y diwedd,
O! 'm mam hoff, y mae yma hedd!
Ni thyr llef dy dangnefedd,
Na gelyn byth gloion bedd.
Ni enfyn neb o lin fy nhad — lythyr
I lethu dy deimlad;
Newydd un yma ni ddaw, — na phoenus
Iaith alarus byth mwy i'th ddoluriaw.
Cydraddoldeb
yno.
Ni arddelir urddoliaeth, — nac achau,
Nac uchel waedoliaeth;
Ni bydd cof yn y bedd caeth,
Fel yn awr, am flaenoriaeth.
Taena y Fynwent
union — ei llenni
Uwch y llonydd feirwon:
Cydradd ydyw dugiaid ceidron
Yn oer glai bedd a'r gwaela 'u bon.
Jubili i bobl
lawer, — awr rhyddhad
Awr ddedwydd cyfiawnder,
O dra'r byd, yw'r awr bêr — i fynd obry
I waeldy marwolder.
A! blin yw'r
werin trwy waith,
Go lwydion trwy galedwaith;
Gyrrir gan feistri geirwon,
Ofer eu bri, hyd farw bron;
Eu gwarrau llesg a wyrant, — gan ruddfan,
Wŷr aniddan, hwy'n gynnar heneiddiant;
|
|
I74 GWAITH
ISLWYN.
Er hyn oll, yr enillion
Yn nacau byw-reidiau bron.
Onid digon yw bron brudd,
Ac isder eithaf cystudd
Yn eu plith, heb ddyblu'r pla
O berygl eisiau bara,
Heb do gwael, ac oer aelwyd,
Costau heb fodd, cist heb fwyd,
Tra gwaria eu meistri gerwin
Fyrdd o aur ar foroedd o win,
A'u henfawr wastraff anfad
Gan lwydd, yn ddigon i wlad?
I'r werin wan, er mor brudd ei hanes
Egyr y Fynwent gariadgar fonwes,
Cant weithion heddychlon ryfedd achles
Rhag twrf tymhestloedd a garmoedd gormes.
Yn iach i niwed, yn iach i newyn,
Yn iach i alaeth, yn iach i elyn,
Lethwr gwlad, yn iach adyn! — yrwyr gau,
Dim mwy o'ch tyrfau, dyma eich terfyn;
Eich cnul gloch acw'n niwl y glyn — seiniodd!
Duw a osododd ddymchweliad sydyn.
Un yno a'r
frenhines — y forwyn
Lafuriai fel caethes;
O drôn ban, daw'r unbenes
I'r un gyffredinol res.
Y gwas yn
dragwyddol rydd.
Y Fynwent dyr efynnau — y caethwas,
Ca eithaf ei freiniau,
Mae'n dragywydd rydd o'r iau,
Gorffennir gweu rheffynau.
Melus saib i'r
gwas syml sydd
O'i boen, ar ei gobennydd.
Llaw angau a'i gollyngodd
O raith ei feistr, wrth ei fodd.
Os bu'n llesg a'i gosb yn llawn
Yn herwydd gwŷr anhiriawn,
Is ei bwn rhy drwm os bu
Gyhyd, a'i fron yn gwaedu,
Cyflawn fydd yr iawn ar ol
Ei ludded dialeddol.
Daear y cyfeillgar fedd
|
|
Y FYNWENT. 175
Gaiff drosto'n do o'r diwedd,
Lle o nawdd a llonyddwch
Dwfn, hir, goris llenni'r llwch:
Fe ga hun heb fywiog nwyd,
Bêr hun, ry ddofn i'r breuddwyd;
Ei farwol faich fwria, — angau weithian
Gysga allan o’i anian, — dihuna
Oll yn newydd yn nydd Naf — o'r bedd cau,
Hefo'r myrddiynau, fry, mor ddianaf,
Mor dda y drych, mor ddi-dranc
A bywiol gerub ieuanc!
Diwedd cenfigen
a chyd-ymgais.
Y Fynwent sydd derfyniad
Ar weniaith a bryntwaith brad.
Yn y bedd cenfigen baid,
Yma ni wna un niwaid.
Dileir cystadleuaeth — o bob rhyw,
Y terfyn ydyw ar bob trafnidaeth.
Cadfridawg enwawg yno — gwsg weithion
A'r holl luyddion gerllaw iddo,
Yn ddi-swn y lluoedd sydd
A'u gâlon gyda'u gilydd;
A chyda y gwarchaeedig
Yn ei ochr oraw'r gwarchaewr drig.
Yn y glyn i derfyn daeth
Hyglod addysg Gwleidyddiaeth;
Er eu sel, Rhyddfrydwyr sydd
Oll yno'n ddigon llonydd.
Hi ydyw'r prif gymodydd, — Diwygwyr,
Diogelwyr geir oll gyda'u gilydd,
Heb ddu wg, heb eiddigedd,
Na nwyf byth, yn nhangnef bedd.
Heb lid, oll, yr Wrthblaid aeth
I'r un hedd a'r Weinyddiaeth;
Mewn heddwch mae'u llwch bob llaw
I lawr yn cydfaluriaw.
Esgob oedd a'i wenwisg bur,
Un ydyw a'r henadur.
Huna glyw oedd berchen gwlad,
Wedd ŵyl, wrth ochr ei ddeiliad.
Bedd y dyn
tlawd.
Dyna fedd dyn tlawd — un fu
'I holl oes yn gyfaill Iesu
|
|
176 GWAITH
ISLWYN.
Caled fu'i dynged hyd angau,— gofid
Gafodd a blinderau,
Bron brudd, a'r bara yn brin,
A gerwin lidiog eiriau.
Rhodiai'n nod i
waradwydd,
Gwn, am lawn tri ugain mlwydd;
Pan ballai pob poen bellach
Ni fu ond rhyw angladd fach;
Arwyl fach ar ei ol fu,
Ac arch y plwyf i'w gyrchu
I'w dŷ pridd — dim braidd ond y pren,
Heb alarwyr, heb eloren.
Er hyn, oedd iach yr enaid,
A'r bedd dan ogonedd gaid.
Engyl ddoent
i'w angladd ef — a llonfryd
Wedi edryd ei enaid adref;
A seiniwyd y nos honno,
Gan lu glân, bêr gân I’w go.
Corff sant! nid yw cyrff y ser
Yn hafal er eu nifer;
Pa raid ond enwi'r pridwerth,
Y gwaed o ardderchog werth!
Y garreg arw sy’n
gwyro, — ar ei fedd
Mor fud ag ef heno,
Heb weithion adgof o hono
Ond ei dau air gyda’i oed o.
Ddarllennydd,
er eu lluniaw
'N ddi-lun, gan "anghelfydd law,"
Daw seintiau llon gogoniant
Yn y nos, a'u darllen wnant.
Y da lu, cyn dyfod i lawr
Welsant mewn gogoniant gwynwawr
Yr anwyl ddeuair hynny
Ar lyfr Iôn, yn araul fry.
Dwy chwaer a brawd
bach wrth fedd eu mam.
Draw gwelaf ddwy chwaer afiach
O bell, gydag un brawd bach,
Min hwyr, a'u camau'n araf — yn dyfod
Ar hyd waelod y fro dawelaf;
Cerddant mewn prudd-der gorddwys
|
|
Y FYNWENT. 177
At gamfa'r gladdfa fyg, lwys;
Yn dawel i mewn deuant,
Is yr Yw’n ddigysur ânt,
At lwydaf feddau'r tlodion
A geir ar bell gwr o hon.
Safaf, edrychaf o draw,
Af ennyd i glustfeiniaw
Ar y chwaer hyna n rhoi’i chŵyn,
Am huddo eu mam addwyn.
“O'm Mam! a fyddai'n gamwedd
I'th rai bach felltithio'r bedd?
Ow! am roi mam mor ieuanc
I oer ddyfnder trymder tranc
Nid un dyner — tynerwch
Ei hun sydd dan lonydd lwch.
Pwy yn awr a'n helpia ni?
Einioes sydd angau inni.
O ble daw'r tân rhag anwyd
I 'mrawd bach bellach, a bwyd?
Ti mewn bedd — mae'n syn — heddyw,
Tra hen bobl y pentre'n byw!
Ti 'n y bedd, a'r coed yn byw!
A'm tad — O! gormod ydyw —
Yng ngwyrdd fedd dyfnfedd y don
Tan frochus wgus eigion."
Gweled eu dwys
galedi
Dawdd yn hawdd fy nghalon i;
Diau bydd f’ymchwil di-baid
Mwy ddeufwy am amddifaid
I roddi o'm haur iddynt,
Tlodion Iôn ei hunan ynt!
Caf lôg ardderchog ryw ddydd,
Iôr ei hun jrw f’Ariannydd.
Sul y blodau.
Dewch ar forau Sul y Blodau
Tua'r beddau, hynt dra boddus;
Rhowch bwysiau amryliwiau,
Rhes o orau fill persawrus.
Gwened blaendwf y gwanwyn
Yn hygar, mal awgrym mwyn
O'r claer adgyfodiad a fydd,
Y gwanwyn bythawl ei gynnydd.
Mae had cun obry’n hunaw,
|
|
178 GWAITH
ISLWYN.
I fawr dwf ryw fore daw;
Cyfyd hyd y Wynfa deg
Ryw odiaeth ddisglaer adeg —
Erfawr dwf prif "Erw Duw,"
A gardd holl erddi'r gwir-Dduw!
Rhy eang ond i'r angel, — fydd cae mad
Yr adgyfodiad, odidog fedel!
Gweddw oedrannus a basged flodau.
O! gwel acw weddw wan
Yn llwydrudd drwy bell oedran,
Yn dod a'i basged flodau — tua bedd
Un sy'n gorwedd mewn hedd er’s blynyddau,
Gŵr ei hienctyd hyfryd hi
Unwaith oedd bopeth iddi.
Diau, mwy, ’r fodrwy sy fain,
Dygwyd am flwyddi deugain,
Ond mae'r enw mad mor anwyl.
A phan aeth yn hoff fun wyl
Yn ei gwyn, yn ei gwenau, — o dawel
Hen dŷ ei chyn deidiau,
I wneyd, wrth ordeiniadau
Yn nhy Dduw Iôn, un o ddau.
Bedd gweinidog.
A! rhoddaf fill ar wyrdd fedd
Gweinidog gwiw ei nodwedd;
Ef fu'n foddion prydlon, prid,
Yn Nuw, i'm llwyr gyfnewid.
Seion deg sy yn ei du
Oherwydd ei ddaearu.
Bedd y milwr.
Cofiwch lwch noddwr ei wlad
Y milwr trwm ei alwad.
Y Sabbath wrth basiaw heibio
Rhowch flodeuyn gwyn idd ei go,
Na, un coch gwaedgoch i gyd,
Efe roes waed ei fywyd
Yn Waterlw, torrai i lawr
Alon geirwon ein gorawr.
Bedd y merthyr.
Ust! Ust! boed pawb yn ddistaw,
Ysgafn boed pob rhyw droed draw, —
|
|
Y FYNWENT. 179
Dyna orffwysfa gŵr ffydd,
Gŵr hyf o blaid ei grefydd.
Rhag gwadu yr Iesu, rhoes
I dân, do ei brid einioes.
Rhowch oreu swp o barch i'r sant,
A lynodd â'r fath ffyddloniant.
Bedd yr anadnabyddus.
A bedd yr
anadnabyddus, — O! rhowch
Ar hwn flodyn serchus;
Pwy ŵyr nad anwyl dad oedd
I rai ydoedd gariadus?
Bedd y bardd ei hun.
Draw! draw! wrth weld yr huan
Mor bur yn ymwyro ban,
A'i haf leufer fel afon
O fygr aur ar y nef gron,
Daear yn fud, a'r nef, fel — pe'n gwrando
Rhad gyngor rhyw deg angel,
Môr o borffor, mor berffaith
Tros y bell ne a phe'n ffaith;
Muriau o wawl pur, mor wych, — a gwaliau
Crisial, a muriau Caersalem orwych, —
Draw! draw, dymunai f’awen
Gael huno, gorffwyso’i phen.
Bydded i fi'r bedd di-faen,
Heb nod, heb un i'w adwaen,
Lwysaf le,’r ol oes flin — ar ddihalog
Ororau y lliwiog glaer Orllewin.
Ar dirion hwyr, rywbryd arall,
'R ol dydd o boen, o boen ddi-ball
Pan syllwyf dan bruddglwyf bron
Ar hygar donnau'r eigion,
A gwyrdd Neifion fel gardd nefawl
Is ser a'u gogoneddus wawl,
Pob gwaneg deg fel yn dod — a grasawl
Lon air o dadawl enau'r Duwdod;
Arddunol sancteiddrwydd anian
Yn troi'n wynfa'r olygfa lân, —
Am ennyd, braidd, dymunwn
A bodd Naf, gael bedd yn hwn,
Hefo'r dorf sy'n dy fru di,
O Fynwent fawr ddifeini!
|
|
180 GWAITH
ISLWYN.
Y gladdfa deuluaidd
.
Na, Da! pan ddaw fy niwedd,
Ger y llan boed man fy medd!
Gyfeillion tirion, torrwch
Yno le i'm marwol lwch.
Rhowch fi i lawr dan laswawr len,
Is tawel gysgod Ywen.
Dail hon a fo'n delynau — i hwyliawg
Awelon eu chwarau,
Eu miwsig fo am oesau
O’r Ywen brudd fry'n parhau.
Nodded Ywen mewn heddwch
Oes ar ol oes, fy oer lwch;
O! na foed i ynfydion
Daro byth ryfder ei bon.
Gadawer hon yn llonydd
I'm cwyno, nes delo’r dydd
I niwloedd y glyn olaf
Doddi i ddydd newydd Naf,
Yr ysblenydd ddydd i ddod — i fyny
A gallu Iesu, o'r oergell isod.
Yno y dodwyd fy
hen gyndeidiau
Yn dawel i lwch, deuluol achau,
Yn aml i reng, gan lem law yr angau;
Yno e geir fy nghyfeillion gorau,
Rhai ffyddlon o'u calonnau, — a’r un gain
O! ’r un wir firain fu farw'n rhy forau!
Bedd fy chwaer.
A minnau wyf am annedd — dawelaf
Yn ochr Elisa fy chwaer lwyswedd.
Mae adenydd Ior am dani,
'R un dlos, mae yn aros yn hir
Yn ei bedd, yn ei bedd bach,
Heb ball, am ei brawd bellach.
Mae hi'n awr yn mwynhau'i hedd
Gwn, am lawn ddeugain mlynedd;
Eneth bach, hi aeth i'w bedd,
I lawr i dawel orwedd,
Ah! do, cyn geni'r brawd cu
Mewn cwyn sy yma'n canu;
Er hyn, ei hanwylo'r wyf,
O raid ei charu'r ydwyf;
|
|
Y FYNWENT. 181
Ar heuldir Anfarwoldeb — pe'i gwelwn,
O! mi adwaenwn, gwn, ei theg wyneb;
Awr beraidd fry i’w bardd-frawd — yn ddiau
Fydd, o wynebau'r torfeydd, ei nabawd!
I’m, un o swynion mwyna — gwlad fy Naf,
Gwlad lwysaf, fydd gweled Elisa.
Gallwn farw'n llon fory
Er y dda fraint o'i chwrdd fry.
Y dwfn fedd nid
ofnaf fi, — o'i gariad
Y mae Duw-Geidwad i'm hadgodL
Metha fy ngwlad ag adwaen
Yr enw mwy ar gam y maen;
Metha'r Olaf Amaethwyr
Ddeall sill ol bennill byr.
Iesu a'r bedd.
Yr Henaf Frawd, er hynny, — ni fetha!
Fyth ei gariad bery;
O fewn ei fron bydd f'enw fry, — a'i ffyddlon
Uchaf angylion o gylch fy ngwely.
Ewyllys y Tad.
Y llannerch, y lle union, — a gofia
Fy Nuw— Gyfaill ffyddion;
Delw sy o deulu Seion
Yn gywir fry ger ei fron.
Fe rydd arch i'r dywarchen
I chwyfo mwy uwch fy mhen,
O! ysgafn fydd fel asgell
Cerub; ail gwasgawyr bell.
Nis tyr "Ewyllys y Tad,"
Cadarn yw yn llaw Ceidwad.
E dry'n fân y darn o fynor
Uwch y man; fe sycha y môr;
O'u rhodau'r aer chedant,
Gwrthol o’u rheol yr ant;
Byth ni ddigwydd aflwydd i'r
•* Ewyllys," ac ni chollir
Un mymryn llwchyn o'r llu
A roed i'w llwyr waredu.
Ni fyn Iôn i
"ddim o hono — golli,"
Nis gall ei anghofio;
Mewn awr gref fe'i myn o’r gro,
Yn Natur gyflawn eto.
|
|
182 GWAITH
ISLWYN.
Ni all y Fynwent lwyd fy arswydo,
Dywell gafell, ond imi adgofio
I Iesu ei hunan orffwys yno,
A! fe aeth i lawr i fythol euro
Yr wgus oer, oer ogo, — troes y bedd
Diau mwy yn annedd dwymn i huno.
Haul Iesu grasawl isod, — wych loewder
Fachludai i'r beddrod,
Glyn bedd yw'r goleua'n bod — mae'r gell gau
Yn olau i'w gwaelod!
Ioseff o
Arimathea.
O! na fuaswn, ddydd angladd fy Iesu,
Yn lle'r Ioseff hygar wnai ei garu,
I roi fy hunan yn llwyr i fyny
Arno o hiraeth i wasanaethu;
O’i ol i gerdded, â chwmwl gorddu
Yr hwyr am danaf, i lwyr alaru;
Yr hwn o'i fodd ar bren fu — o'i gariad
A'i ras, fwyn Geidwad, drosof yn gwaedu.
A rhoi benthyg myg o 'medd
Fy hun, yn olaf annedd,
I'w gorff oedd glwyfus i gyd
Gael ynddo huno ennyd.
Hoffaswn gael corff Iesu
I gael ei eneinio'n gu,
Dan brudd gwyno ei eneinio —
Yno'n anwyl,
A’i roi i’w le’n ara' i lawr,
A gohiriaw'r gu arwyl;
Ac eistedd mewn cystudd mawr
O alaeth, ar y dulawr,
Gerllaw, i wylaw o'r ol
Mwy, hefo'r ddwy Fair dduwiol.
Ioseff ro'i
fedd i Iesu, — rhoes Yntef
Yr sant, i'w ad-dalu,
Wynfa lân yn gyfran gu, — Gogoniant
A Dwyfol loniant nad yw'n diflannu.
A! cafodd y
benthyg hefyd — yn ol
Yn wely tra hyfryd
I'w gorff, wedi’i da'nu gan
Dyner law Duw ei hunan.
|
|
Y FYNWENT. 188
"Nid yw Efe yma.”
Arno er murio y carchar marwol,
Ac er sicrhau mwy na dorau durol,
Er archoffeiriaid, fradwyr erch, gwyrol,
Er Pontus Pilad a'i lu gwyliadol,
Er rhwymo’n Hathraw, rholio’r maen uthrol
Ar ei fedd, er ei selio'n herfeiddiol,
Iesu gododd â nerth oll-ysgydwol
I'r lan! i'r Ion! trwy y dorf elynol,
Dan aur faner bywyd anherfynol,
A'r angeu’i hunan yn marw ynghanol
Ei eres ogoniant goresgynnol,
Tra meib bywyd draw, draw ymhob heol,
O'r gref Gaersalem neibl — yn dechrau
Llawenhau â thelynau bythlonol.
A byth wedyn beth ydwyd
Ti, 0 y lom Fj'nwent lwyd?
Mynedfa, mwy,
o'n hadfyd, — trwy gaddug
I'r tragwyddol fywyd,
Arweinfawr ddor i wynfyd,
Oer gell bedd sy ddor gwell byd.
Yng nghadarn
law fy Ngheidwad, — drwod af
Draw i dir nefolwlad,
Cyfeirfys at Teyrnlys Tad,
A man fy holl ddymuniad.
I'w anwylion,
beth yw y glyn olaf?
Glyn y dydd! le’r Gelyn diweddaf!
Angau tirion, fy nghyfaill ffyddlonaf,
Annoeth a fuais, mi mwy ni'th feiaf,
Terfyn pob gelyn gaf — ynnot weithion,
Un o'm hen alon byth mwy ni welaf.
Ti'ogwyddol ieefcyd.
Gwaelod y bedd sy glyd byth
O'iol, i'wholl wehelyth!
O'm ceufedd Ef a'm cyfyd — mewn harddwch
Fry, o lwch, i anfarwol iechyd.
Oh! Uchod, beth ydyw iechyd bythol! .
Byw oesau rif tonnau’r moroedd taenol,
Hwnt i Rifyddiaeth a'i gant ryfeddol,
Byw y claer huan allan yn hollol!
O, fuchedd ryfedd, ar ol — blinderawg
A dolenawg glefydau olynol.
|
|
184 GWAITH
ISLWYN.
Yn holl
elfennau mwynhad, — y fwyaf,
Cofier, y bennaf yw Cyferbyniad,
Meithder ar ol byrder bôd
Fydd hoen y nefoedd hynod.
Am rwysg Caersalem a'i rhin,
Pwy ŵyr oreu? Pererin.
Ef fu unwaith âg hadau tufewnol
Y marw yn ei anian, mor wenwynol,
A'i galed fywyd dan glwy difaol,
Efe a ŵyr am werth yr Anfarwol.
Hwn all ymgodi'n hoilol — at fawredd
A rhyfedd fonedd bod anherfynol.
Ni gawn yno enwog wynion ynau,
Naou o'u gwawr gan y cerub gomu';
Cawn gyferbyniad gan Gof o'r bannau
Tragwyddol, pan ddaw'r anfarwol forau,
Dadguddiad, gwn, acw leinw'n calonnau
A mawl i Ner am y gorthrymderau,
Am y du gethin siomedigaethau,
Am y bedd ei hun, am y buddiannau,
Yr urddas a'r gras sy'n dod o groesau.
Ni gynyddwn ar y gogoneddau
Y sy ar engyl, wrth basio'r angau
I'r iach entyrch, a phechod erch yntau I
HHeb ymadael mwy.
Tragwyddol
ryfeddol fydd
Mwynhau yn Salem.Newydd
Goron-wedi'r greulon groes,
I lonni bythol einioes,
A gwraodaw hwyl alaw lon,
Croesawiad corau Seion;
A chwrddyd mewn hylryd hwyl,
A'n hen gyfeillion anwyl;
Rhai mewn trallod isod oedd,
Fry i n Hiôn yn frenhinoedd,
Heb orni cyni nac aeth,
Nac engur gur ysgariaeth;
Hedd i mi fai’u cwrdd am awr
Yma'n y cystudd tramawr;
O! beth fydd y cwrddyd bythol
A saint Naf, sy in' eto'n ol!
|
|
GARDD EDEN. 185
GARDD EDEN.
BU gan ddynoliaeth yn ei dyddiau gwell,
Ardderchog gartref yn y dwyrain pell,
Cyn dod o bechod ar yr ieuanc fyd
I wywo'i degwch a heneiddio'i bryd;
Pan oedd y ddaear hon o hawddgar lun
Fel nefol ardd flaen palas Duw ei hun,
Pan wenai engyl ar eu hieuanc frawd, —
Yr an$$$$el newydd yn y wisg o gnawd,
A elwid Adda, bod o ryfedd ryw,
Ardderchog goron creadigaeth Duw.
O ddedwydd adeg, cyn i bechod du
Ddarganfod rhwng y ser ein daear ni,
Cyn darfod adsain y di$$mar sor
A ganodd uwch newyddion fydoedd Ior;
Cyn i daranfollt hollti'r cwmwl gwyn
A hongiai uwch y ddaear deg bryd hyn,
Yn blygion o ogoniant, cyn i'r dydd
Hiraethu am y nos a'i llenni prudd;
O cyn i seren ddechreu crynu fry
Uwchben euogrwydd dyn a'i ryfyg hy.
Pa fodd y canaf
i'r ardderchog Ardd,
Boreule hyf iyd y ddynoliaeth hardd?
Mae'r awen sydd yn dringo'r Alpau derch,
Yn gyrru heibio i'r ystorom erch,
Mewn godidocaf gerbyd ar ei hynt,
Yn pasio carreg filltir ola’r gwynt—
Yn syllu i lawr o Chimborazo draw,
Ar erwi fyrdd o gwmwl tew islaw,
Hae'n methu dringo'r oesol iur y sy
Yn cau i mewn ei haml degwch hi —
Arsyllfa im nis caf, er gwneyd fy ngorau,
I weld preswylfa diniweidrwydd borau,
Y mae'r cerubiaid tanllyd yn gwahardd
Hyd heddyw y fynedfa deg i'r Ardd.
Mi drof i mewn i'm henaid prudd fy hun,
Beth ydwyf ond parhad o'r cyntaf ddyn,
Parhad o'i nodwedd a'i adgofion ef,
A'i hiraeth mawr, a'i siomedigaeth gref?
'Rwyf finnau fel yn teimlo ambell awr
Ryw niwlog adgof am ogonedd mawr
|
|
186 GWAITH
I8LWTN.
Fy natur yn ei
mebyd santaidd gynt —
Wan adgof am ryw lon foreuol hynt
Ar hyd rhodfeydd yr aniflannol wyrdd,
O'r fath sy'n harddu teg ymylon ffyrdd
Y cerbyd dwyfol fry, rhyw gwmwl-go
Am fore llon mewn rhyw hyfrydol &o—
Bro y syrthiasai pwyntel Raphael fawr
Am byth o’i law wrth syllu ar ei gwawr;
Lle nad oedd clafaidd liwiau Hydref prudd
Yn sisial enw angau wrth y gwydd.
A fum i'n canu ar ryw ddwyfol draeth
Gerdd nad oes gennyf adgof am ei hiaith?
Pa beth oedd ymgais y ddynoliaeth e$$an
Trwy’r oesoedd i gymysgu'r rhyfedd gwpan
O ryw anfarwol rin, ond cof cymyefglyd
Am Eden deg, a rhinwedd pren y bywyd?
Ni chlywir
belloch dan y felldith fawr,
Ond ambell ddarn o'r ddwyfol gân yn awr;
Toredig ddarnau anghysylltiol sy
O'r hen beroriaeth anherfynol fu,
Ychydig yma, ac ychydig draw —
Peroriaeth rhwng taranau ar bob llaw.
Nid yw arweinydd corau anian gun —
Perffeithydd ei cherddoriaeth, dyn ei hun, —
Yn canu ond yn bur anfynych mwy,
Gan archoll pochod erch a'i farwol glwy.
Rhyw ambell odl ddaw o'i enau ef
Wrth ganfod rhwng cymylau'r storom gref
Der dŷ ei Dad, a phenrhyn pell o’r nef.
Mae dyn a natur mewn caethiwed mwy
Yn garcharorion, ac ni chanant hwy \
Ond pan y torro rhyw belydryn gwell
O wawr rhyddhad i mewn rhwng barrau'r gelL
Ond ym
Mharadwys, breswyl lonydd lân,
Ni chlywid fyth ond un dragwyddol gân,
Un gyffredinol anthem dros y byd,
Bêr anfeidrolder o gydgordiau prid,
Unedig anthem gylch gorseddfainc Ior,
O feinlais pell y ser hyd islais dwfn y môr,
Di-dor beroriaeth oedd bodolaeth dyn,
A sang ei droed ar wyrdd y Wynfa gun
Ddeffroai gerdd, er fod ei sang yn awr
Yn deffro ysbryd y ddaeargryn fawr.
|
|
GARDD EDEN. 187
’Roedd byw ei
hun yn ddigon o fwynhad,
Yr oedd ei siarad yn beroriaeth fad,
A'i ganu'n filwaith mwy; cerdd-beiriant mawr
Oedd creadigaeth eang Duw yn awr,
A dyn ddeffinoai'r seiniau mwyaf llon
Trwy bob cyffyrddiad ar yr organ hon.
Y dyn a safai fel cyfryngydd gwell,
Rhwng y naturiol a'r ysbrydol pell,
Gan gynghaneddu holi elfennau bod
O'r llwch iselaf hyd yr uchaf rod,
Cai marwol ddefnydd dafod yn y dyn
Ac ynddo gwelai'r angel ei ddelw ef ei hun.
Pan elai ef i huno am y nos
A’i bea yn ddwfn mewn anforwol ros;
O pan ddistaẃai bywiog donau'r dydd,
Pan ai'r asgellog gorau yn y gwŷdd
I pyd i orfiwys mwy, fe alwai Duw
Y lloer a'r ser i gadw'r gân yn fyw.
Dihunid brenin y baradwys dlos
Gan anthem anian weithiau ganol nos,
A rhodiai allan ar yr hwyr-awr ber
I wrando ar hyawdledd pur y ser —
Oenhadon disglaer tragwyddoldeb pell
Sy'n canu eto am ryw fydoedd gwell.
O, Eden yn y
nos! Paradwys wiw,
Ar awr distawrwydd, awr sancteiddiaf Duw,
Pa ddawn a draetha ei gogoniant ter
Dan oleu'r lloer, a santaidd oleu'r ser?
Caraswn weled y baradwys wen,
Pan fyddai nos yn tynnu ysgafn len
Dreiddiadwy i angylion dros ei nen.
Y cwmwl arian a gusanai'r gwŷdd,
A wlawiai arnynt addewidion dydd.
Wrth grwydro ganol nos trwy'r ddwyfol ardd,
Fe gwrddai dyn â llawer cerub hardd,
A'u hedyn claer sidanaidd lanwai'r nef
A llon beroriaeth, wrth ei basio ef.
Yr oedd ei glyw yn deneu iawn bryd hyn
Dealiai iaith yr awel ar y bryn,
A iaith y dail, a dyihaf iaith y don.
|
|
188 GWAiTH ISLWYN.
' Boedd ei synhwyrau yn ysbrydol bron.
Mae anian eto'n siarad, ond y mae
Clyw (iyn yn lÿddar ond i lefau gwae.
Rhodfeydd godidog redent trwy yr ardd,
Y fath na ddychymygodd crebwyll bardd;
Cyfielyb oeddynt i’r rhodfeydd y sy
O flaen palasau yr angylion fry;
Ymylid hwy âV blodau mwyaf per,
Cyifelyb i'r rhai sydd yng ngerddi'r ser
Yn tyfu o dan gysgod gorsedd Ner.
Fe godai y foreuol awel lon
Gerublwyth o aroglau yn ei bron,
Anadlai hwynt ar fynwes dyner dyn,
I'w hyfryd ddeffro o'i felusaf hun.
O pan ddihunai, 'roedd yr ardd i gyd
O'i amgylch yn ymagor megys byd
O berarogledd blydd, tra’r coedydd cain
Yn plygu dan y gyngerdd bêr ei sain
A droai'r goedwig fore a phrydnawn
Yn ddwyfol deml i beroriaeth lawn.
Pan godai Adda
ei ddihalog law
I dynnu eurog ffrwyth y gangen ffaw,
Ataliai hi gan syndod wrth y gerdd
Foliannus oedd yn llanw'r goedwig werdd.
Ai'r oriau heibio fel munudau bron,
A boddid amser yn y gyngerdd hon.
Parhâi'r blodau trwy y flwyddyn hir
I hardd ddisgleirio ar y sanctaidd dir,
A Rhagfyr &len oedd yn decach fyrdd
Na'n claer Fehefin ni a'i eiddil wyrdd.
Ni ddeuai'r eira'n is na phen y mynydd,
Neu uchel frig y paradwysaidd goedydd, —
Ymfiurfiai yno i bob delw a llun,
Barnantus weddau, i ddifyrru dyn;
A phren y bywyd dan ardderchog lwyth
O fythol rin, bob mis a roddai'i ffrwyth.
Fe dyfai
ffrwythau holl hinsoddau'r byd
Ar hyd mynyddoedd y baradwys brid —
Coed ffrwythau'r gogledd ar y bannau beilchion
Yn awyr oerach y cymylau gwynion, —
Ysblenydd acron y trofannau gaed
Mewn bythol ardderchawgrwydd wrth eu traed.
|
|
GARDD EDEN. 189
Holl anian ydoedd yn ei llon newydd-deb
Yn llawn o ieuanc ynni a ffrwythlondeb—
Mor gyflym tyfai y planigyn egwan
Yn nerthol bren, a myrdd o adar eirian
Yn pyncio rhwng ei ddail, a cherub weithiau
Yn plygu ei adenydd ar ei gangau.
Y ddaear ydoedd fras, a hawdd ei gweithio,
A llawn o rin, heb angen ei gwrteithio.
Diderfyn frasder y cyn-ddynol gyfnod
Oedd ar ei gwyneb yn rhyw haen ddiddarfod,
Brashêid hi âg oesoedd o edwino,
Fforestydd anfeidrol-fawr wedi crino,
A gwthiai flodau o nefolaidd sawr,
Trofannol ffrwythau o gerubaidd wawr,
Fwy mewn diwrnod nag mewn oes yn awr.
Poeth-wely ydoedd o naturiol dân,
Anianol wres yn twymno'i mewnol lan,
I gyflym dyfu rhyw gynhyrchion rhyfedd
O'r fath a geir o dan y claer gyhydedd.
Y llew a drigai
gyda'r oen bryd hyn,
A'r llewpart brych orweddai gyda'r myn;
Fe grogai cwmwl tragwyddolwyn fry,
Fel baner heddwch uwch yr oror gu.
Yr oedd holl natur yn ei lle i gyd,
Fel teyrnas dyn, a'i etifeddiaeth brid
A'r holl elfennau'n ufudd ger ei fron —
Fe roddai'r ffrwyn yng nghlaerwyn enau'r don
Gan lywodraethu'r môr. Distawai'r gwyntoodd
Ar godiad bys dirprwywr mawr y nefoedd,
Er iddo golli ei lywodraeth fawr,
Enillodd hi yn ol drachefn yr awr
Y rhodiai Mab y Dyn ar frig y don
Fel nerthol aer breniniaeth Eden lon.
Machludiad haul yn Eden lân!
O, ble mae'r gallu, ble mae'r gân
Ddarlunia y disgleirdeb mawr,
Pan elai rhwysg y dydd i lawr
Mewn godidocaf liwiau
Fel claer Niagara o dduwiau—
Pelydrau ola, teca’r dydd
A ogoneddent ddail y gwŷdd;
Trawsffurfient y cymylau pell
Fel grisiau i'r baradwys well.
|
|
190 GWAITH
ISLWYN.
Fe lifai y cymylau'n nentydd
O donnog aur trwy'r pell wybrennydd.
'Roedd nôd ddiweddaf corau'r dydd
Yn llon, yn ysgafn, ac yn rhydd —
Yr hwyr-ddydd fel y wawr —
Nid fel y mae yn awr.
Mae lleisiau natur oll yn brudd
Wrth araf ddilyn elor dydd
I lawr i'r orllewinol riw —
Ei thôn yn lleddf a'i gwedd yn wiw.
O, ieuanc oedd y lloer a llawen,
Pan godai ar bereiddfro Eden,
Teyrnasai fry fel bendigedig
Frenhines newydd-goronedig,
Ar nefoedd newydd-agoredig;
Ac nid oedd prudd-der ar ei gwedd,
Cyn gweld o honi fai neu fedd.
' Roedd digon o gymdeithas fry,
O ser ac engyl ganddi hi,
Cyn dod o bechod, erchyll gawr,
I dorri'r cysylltiadau i lawr —
Yr enfys-bontydd gaed uwchben
O fyd i fyd, o nen i nen,
Ysblenydd hynt,
Angylion gynt,
Cyhoeddus lwybrau trwy'r wybrennydd;
Nid oes ond awen bur a chrefydd,
Yn gallu canfod olion mwy
Ar santaidd hynt o honynt hwy.
Elin byd adferir eto i'r ystad
Foreuol yn y deg baradwys fad;
Y mae yn natur eto ryw adgofion
O'r ddwyfol Ardd, a rhyw ddiflannol brofion
Fod defnydd Eden eto ganddi hi
Pan y dadblygir ei hadnoddion cu.
Nid yw y rhosyn sy'n addurno'n gerddi,
Gan wrido gydiL'r fath ryfocldol dlyani,
Nid yw efe ond rhosyn gwyllt y perthi
Yn llaw diwylliad, wedi gweithio allan
Ei fewnol degwch, tegwch Eden eirian!
Ni all diwylliad, er mor ryfedd yw,
Greu newydd degwch, na rhoi newydd liw
Na feddai ef o'r blaen, dim ond dadblygu
Yr hen brydferthwch sydd o'i fewn yn cysgu.
|
|
GARDD EDEN. 191
Ceir pob peth yn y cread fel pe bai
'N anfoddlawn i fodoli fel y mae.
Ymdrecha'r graig i efelychu tyfiant,
Blodeua allan mewn godidog risiant.
Mae'r gangen ddiddail yn y gauaf gerwin
Yn estyn breichiau noethion fel pe'n erfyn
Am hyfryd adeg gwanwyn anherfynol,
I ddwyn yn ol haf Eden — haf tragwyddol.
Mae ambell
lannerch yn fy Nghymru dlos, —
Pan rodiwyf drwyddi rhwng y dydd a'r nos,
Pan fyddo'r ser yn ennill ar yr huan —
I mi fel darn o Wynfa Duw ei hunan.
Deg afon Clwyd! O, pe taflai Ior
Fy mhechod olaf i'r tragwyddol fôr,
Na ddaw ymwelydd bythol at ei lannau,
Na bad na goleu bythol ar ei donnau —
Pe rhoddai imi gorff heb unrhyw glwy,
Na chystudd trwm, nag ofn marw mwy,
Mi allwn fyw'n dragwyddol ar dy lannau,
A galw'th ddyflryn di yr Eden orau.
O, nid oes Eden, er mor hardd, mor der,
Ond cysgod gwan o Eden uwch y ser,
Lle mae y saint dan orchudd gwinwydd gwell
Yn canu'r fythol gerdd yn ddigon pell
O afael pechod mwy.
Arwyddiun gwyw
Oedd Eden o baradwys nes at Dduw,
Paradwys yn ei fynwes, yn ei wedd,
Yn un dragwyddol wledd!
O, dyro imi, Iesu, fy anwylyd,
O dyro imi ran ym mhren y bywyd;
Rho imi eistedd yn dy Ardd dy hun,
A blannwyd g4n dy l$$w,— dy law a fu'n
Prudd sychu'r d»xgrau oddi ar dy rudd
Ger bedd dy gyfaill Lazarus ryw ddydd.
Mae'r ffordd
ymhell, ni wel y seren bella
Sy'n crynu gan agosrwydd Duw, ni wel mo fur y Wynfa.
Mae'r ffordd
ymhell, ond cyflym yw y cerbyd
Sy'n tramwy o farwolaeth draw i fywyd.
Ac nid i un — nid cerbyd i Elias
Yn unig yw, y proffwyd mawr ei urddas.
|
|
192 GWAITH
ISLWYN.
Ond cerbyd Israel, — cerbyd yr holl lwythau,
Ac yn y man ceir ynddo le i minnau.
O, hyfryd meddwl gyrru tua thref
Yng ngherbyd Paul— y clud a'i dygodd ef
O Rufain i ogoniant — ac a ddug
Ardderchog lu'r merthyron o'r fflam i'r Wynfa fyd.
Dad gwna fi'n barod pan y delo'r dydd
I lamu iddo yn dragwyddol rydd,
I yrru tua'r Eden bêr uwchlaw y ser y sydd.
JOHNNY A THOMAS FRANCIS, GUAYACAN, CHILI.
O CHILI bell y daethant dros y tonnau,
Mor ieuainc, O
mor ysgafn eu calonnau!
Mor falmaidd
oedd awelon y Tawel-fôr!
Y dydd y cychwynasant i'r uchel-fôr;
A'u rhiaint oddiar y lan, mi dybiaf,
Yn edrych arnynt am y tro diweddaf!
Ai nid oedd
prudd-der yn yr ymadawiad
Ar fwrdd y llong, rhy ddwfn i ddesgrifiad,
Rhyw ddirgel deimlad, hanner ymwybodol,
Rhyw gysgod du’n ymestyn o'r dyfodol?
Ai ni edrychent ar y llong, o bell,
Fel angel-long yn rhwym i fydoedd gwell?
Ai ni thybiasant hwy y noswaith honno,
Ar fôr breuddwydion weld y llong yn hwylio
Tu hwnt i Gymru, a thu hwnt i amser,
A golygfeydd tragwyddol yn y pellder?
Ai nid oedd swn yr awel ar yr hwyliau
Fel swn y ffarwel gerdd a rydd y sant yn angau?
Fel yr Hebrewr
ar estronol hynt
O fro ei dadau, pan yn alltud gynt,
Dros lawer anial poeth dychwelai'n flin
Er mwyn cael marw yn ei wlad ei hun;
Fe allai fyw mewn llawer goror arw,
Ond rhaid oedd mynd i Ganan bur i farw;
I gwm o Ganan Gomer daethant hwythau,
I orffwys gyda'r hen Omerawl lwythau.
Ardderchog amcan oedd i'w mordaith forau,
Am addysg bur y daethant i'n gororau;
Ond Duw anfonodd ei orchymyn allan
I'w derbyn hwy i'w athrofeydd ei hunan,
Yr athrofeydd lle graddia yr angyIion,
Lle tardd gwybodaeth yn ei dwyfol ffynnon.
|
|
Y NOS. 193
Y NOS.
Rhag-feddyliau.
MI ganaf am ogonedd
Y nos, gain hynaws ei gwedd;
Euraidd adeg bardd ydyw,
Ac awr bêr y cerub yw.
Engyl ar ei hymyl hi,
Miloedd a geir yn moli,
Rhyw adgof ynnof ennyn
O deg etifeddiaeth dyn,
O'i enwawg darddiad hynod.
A’i hawl i anfarwawl fod.
Mi glywaf lwysaf leisiau
A'u holl nwyf i'm llawenhau;
Lleisiau nef, rhai eartrefawl,
Er ymhell’rwy'n cofio'r mawl.
Ysbrydol leisiau brodyr
Yw'r angel-dôn drwy’nghlyw dyr;
Mae perthynas urddasawl
Rhyngof ii a'r eang fawl;
Afradlon wyf, a'r odlau
Myg a phell wna im goffhau
Am annedd fy nymuniad,
Iaith fy Nuw, a thy fy Nhad;
Ac am y dydd ca i'm dwyn — yn ol
Eto i’r rhyfeddol gartref addwyn.
Deg nos! wyf yn
d’aros di
O fyd i'm hadgyfodi,
Ar allu pur, i well pau,
I fydoedd uwch gofidiau.
Efo’r Duwdod, drwod, draw
E ga'm henaid gymunaw;
Seren ar ol seren sy
Ar fin y llwybr i fj$$y,
I fyny, i fjmy fyth,
Trwy gu ofod tragyfyth,
I’r lan, i'r lan, trwy'r loewnef,
Trosodd at ei orsedd Ef.
Dydd a’i
gulder.
Fyrred yw
golygfa'r dydd — er esgyn
I rwysgedd ysblenydd!
Y cread dan suddiad sydd, — ser gollir,
Eu myrdd gleddir yn moroedd goleuddydd.
|
|
191 GWAITH
ISLWYN.
Ar ei loew-rod ni wel yr haul eirian
Ond disgleirdeb ei wyneb ei hunan;
Am encyd hollol mae'n cauad allan
Gyfandir seronog enwog anian;
Nid yw'r oll ddengys ond rhan — trwy’r hynod
Elnwog ofod, o'r gyson drefn gyfan;
Dim ond rhan o'r cyfanwaith,
Rhychwant cyn diderfyn daith;
Un don o ddwfn eigion Ner;
Syn don — yr adsain dyner
Gyntaf a meinaf er mawl
IV " Fydded " gor-ryfeddawl.
Noa a'i heangder.
Y nos wna ddangos i ddyn — le union
Ei blaned, fel mymryn,
Rhyw anenwog ronynyn; — yn ddim a
Ger ffawd y dyrf a o gyrff diderfyn.
Brau fad ger llongau'r prif fydoedd — mawrwych,
Sy'n morio'r dyfnderoedd;
Ac ar eu banerau coedd
Urddasiant myixid o oeaoedd.
Er lleted
ydyw’n daear alltudiedig,
Nid yw yn anian ond tywodyn unig;
Ar eigion nos rhyw egwan ynysig,
O oleudai’r ser yn anweledig;
Deilen awr oed mewn tragwyddol goedwig;
Brau ddolen yng nghadwen yn hongiedig,
Orwych fydoedd mil mwy dyrchafedig.
Fy ysbryd gyfyd uwch holl ogofau
Y ddaearen hon, i feddu’r nennau.
A chymeraf fy nhaith iach am oriau
Yng ngloewaf fydoedd, plith engyl-fodau,
Odidog oludog ymweliadau,
A broydd ysblenydd sy fel blaenau
Y nefol anherfynol drigfannau.
Nos swynhudol ehanga'n sjmiadau
Am Greawdwr y pell edmyg rodau,
Yr Hwn a alwodd yr eirian heuliau,
A greai anian â gair o'i enau;
Ei law Ef luniodd eu haml iiliynau,
|
|
Y NOS. 195
A'i law a'u darwain trwy'r uchelderau
Mawreddus, ail us ar awel oesau;
Dygir, bugeilir y bydoedd golau
Fel ŵyn gwylaidd addfwyn gan ei ddeddfau;
Er o rif rhagor na gwlith y borau,
Mae Ior yn nabod eu mir wynebau,
A geilw y ser trwy yr holl bellderau
Ar iyw iaith hynod, oll "wrth eu henwau."
O! ddidor ryf eddodau! — hwy faeddant
Y rhifyddiaeth orau,
Palla i gyd — pwy all gau
Am y ser â mesurau?
Os eir amgylchedd seren
E wna archangel yn hen;
Daw bore hynod adgyfodi — cyn
Terfyn un flwyddyn nefol iddi,
Fawreddig flwyddyn ddigoll,
Fwy nag eangder amser oll.
Mawredd uthr ryfedd, a threfn — cerub a
Acw i syndra uwch eu cysondrefn.
Rheol drwy anfeidrolder
Yw perffaith
gysonwaith ser.
Dyrysaf uwch y dyfnder isod — rhy fawr
Fyth i weld ei waelod,
Lle i fydoedd filoedd fod
Yn dawel fel mân dywod.
Eto, rhaid im ymatal,
Gormod o dduwdod im ddal!
Dymuno corff anfarwol i olrhain.
O am gorff yn
rym i gyd,
Un a fai oll yn fywyd;
Un fedrai daith anfeidrol
Drwy y nef heb droi yn ol;
Un, fel enaid, na flinai,
Hwylus gorff, fyth na lesghai;
Heb fethiant, er byw fythol, — heb angau,
A heb reidiau ond rhai ysbrydol.
Gwibdaith
drwy’r gyfundrefn heulog.
Yna o dywyll fyd ymadawn,
A'm tragywydd adenydd a daenwn
|
|
196 GWAITH
ISLWVN.
Uwch y cymylau, yn iach acw molwn;
Ar y Lloer danbaid gannaid disgynnwn,
A'i llosgfryniau am-olau ymwelwn,
A'i heirdd newidiawl arweddau nodwn;
Am ei hatynol rin yr ymholwn,
A'i rhaff dynnol wych reol chwareuwn,
Ar hedfa seraiT ei rhod fesurwn;
Ogylch y blaned ddciearol hedwn,
A hithau fel lloer fwy olau welwn,
O fyw newydd! niis cerub fwynhawn.
Awn ar gyrch i Mercher gan,
Dewis hoff blaned lluan;
Gwasga hon at ei fonwes,
Beunydd rhydd ei orau wres
A'i orau olau o hyd
Yn helaeth i'w anwylyd.
Afreidiol creu un lleuad
Yn chwaer fwyn i Mercher fad,
_ Nawdd ag03 haul sy'n ddigon,
E ga'r dydd holl gariad hon.
Ar y daith cawn Gwener deg,
Mor brid ei gwrid goreudeg!
Ei thyner fireinder hi
A geir yn tra rhagori
Ar geinder gwychder a gwawl
Holl nifer y llu nefawl,
Duwies tegwch harddwch oedd
Yn asur y cynoesoedd,
A! mwynhawn brif em y nos
Benigamp, pe bawn agos;
Os synnais wrth ei swynion
O’r ddaear bell hybell hon,
Ynfyd awn o'i chanfod hi — ar ryfedd
Fyg sedd gyfagos iddi,
A chael hir drem uchelwych
O’i hwyneb draw heb y drych.
Awn eilwaith ar daith nes dod — i Iau fawr,
Prif fyd ein harianrod,
Na wel o’i aruchel rod
Drwy oesau’n daear isod.
|
|
Y NOS. 197
Oddiyno'n arddunol — i Sadwrn
Bell sidell ramantol,
Draw yn deg dry yn ei dwy
Eirian fodrwy anfeidrol: —
Y nos anwyl gâr yma breswylio
Ddedwydd blaned, heb braidd dydd i'w blino,
A bythawl loerwawl yn tawel euro
Pob drych rhamantawl mil-lennawl yno;
Hi a ga lawer lloer i'w goleuo,
Amrywiaeth o'u gwasanaeth i'w swyno,
O'u hamgylch loewder gwel rai'n machludo
O hyd, ac eraill yn hardd-deg wawrio;
Un yn entrych gwych y gwawl;
Un ar y terfyn hwyrawl,
Arall a'i gwawl yn pallu
I gyd oll, mewn diuyg du;
Lloer«arall yn dod allan
O'i bwid mewn ail ddiffyg ban,
A'i heglurdeg ddisgleirder
With ddyrchu'n synnu y ser;
Un ar gil o leufer gwan,
Un arall oll yn eirian;
Ac weithiau'r lleuadau oll
Mewn teg ymuniad digoll,
Y swynol gysegrol saith — yn t'wynnu,
Draw'n eiriannu ne Sadwm ar unwaith.
O, farddol
ryfeddol fyd,
A'th nwyfre fyth yn hyfryd!
Yn hir y mynnwn aros
Yng nghysegrfyd nawddfyd nos,
Byw ar der leufer dy lon
Fireiniaf lawforwynion.
Ar fy nhaith eilwaith elwn — heb lesghau,
Ag ymylau'r Drefn Heulog ymwelwn.
Uranus fawr, y
nos fyd,
Yn hon aroswn ennyd,
I fwynhau ei golau gwan,
Hwyr aur ei chwe lloer eirian;
Yna i bwnc fy nhaith bell
Yn oerbarth Neptune hirbell,
Terfyn fyd ein heuldrefn fawr,
Y ffinfyd pell gorffenfawr.
|
|
198 GWAITH
ISLWYN.
Ac yna yn iach canwn, — am barthau,
Sy fyw o heuliau, daith oesau filiwn.
Enwog nos! mae'th gynhwysiad — yn rhy fawr
Fyth i’m hamgyffrediad,
Rhy faith yw'r gyfundraeth fad
Oddiarnaf, im ddirnad.
Newton a’r nos.
Newton — Columbus natur — a chwiliodd
Trwy uchelwych lafur,
Deg nos, dy wiwgain asur,
Dy hedd pell, dy fydoedd pur.
Dilynai dy
olwynion
Drwy y nef, oleunef lon.
Gwelai d'ardderchog olud
A deddfau dy rodau drud.
A! rhoddaist iddo ryddid
A braint y Gre'digaeth brid.
Dalia'i law, fel angel Ior,
Allweddau y bell wyddor,
Wnai ddi-gloi y bydoedd glân,
Enwog uchddorau anian.
O fyd i fyd hedai fel
Un rhwng y dyn a'r angel.
Er hyn
addefai’r olrheinydd hyfawl
Nad oedd ond maban egwan unigawl,
Heb ddarganfod ond un perl arddunawl
Yno ar fin y pell anherfynawl;
Diadwaen foroedd didawl — eto oedd
O faith oludoedd y nos fythledawl.
Cydgerdd y rhodau.
Syn wrandaw wna yr awen,
Y nos, ar beroriaeth nen.
O! braidd hi glyw beraidd glod — y rhodau
Cariadus, mewn undod;
Mae rhyw fain adsain — rhyw nod
O’u dwyfawl gân yn dyfod.
Hyd y llydan ofod, y lleuadau
A sidellant yn eres eu dulliau
Mewn drych hynodwych gylch y planedau,
A'r rhai hyn eilwaith gylch mawrion heuliau.
|
|
Y NOS. 199
Gyda swynol gydseiniau — anthemol,
Yn gôr anfeidrol o gywrain fydrau.
Er fod eu mawr rifedi
Uchod yn ormod i ni
Ei gynnwys, — eu cydganedd — rhyfeddol
Acw sy unol yn ei llawn gysonedd;
Nis ceir un nôd croes o'u cân
Nac anghord yn eu cynghan.
Daw y nos fel cennad Ner
I fyny dan ei faner,
Ag angylion llon bob llaw,
Orwych res, er ei chroesaw,
Yn enw yr lon ei hunan
I ddi-gloi y bydoedd glân.
Clyw eu haur byrth £sclaer ban
Uwch angau, gyda chynghan,
Gyda sain rhỳw gywrain gôr,
Ogylch yn cydymagor;
O gwel cu hanichel rôd,
Rai dedwydd gerllaw'r Duwdod.
A! nis dring dinistr angau
I'r lan byth i'w gorlon bau; /
Er ehanged eu
gwledydd,
Gofod i feddrod ni fydd.
Nid a angladd o'u haddef
Tra miloedd blynyddoedd nef.
Ni throir maen yn feddfaen fyth
Oer gofur yn dragyfyth.
Y nos a’r rhai hunasant.
Dyner ser! cryf
hiraeth sy, — yn ddibaid
Yn fy enaid ara ddringo i fyny
Palasau y seintiau sydd
Uwch braw, o fewn eich broydd.
Ynnoch rywle mae ne ’nhad,
Aur wynfa mam dirionfad.
Oes rhyw gof o'r amser gynt
Eto yn eiddo iddynt,
Rhyw ddolen o'r gadwen gaid
Yn ein huno'n un enaid?
Ann, fy chwaer,
sy'n eich nef chwi,
Rhoddwyd nef fore iddi.
|