kimkat3806k Gwaith Barddonol Islwyn. 1897. William Thomas (Islwyn), Yr Ynys-ddu, Sir Fynwy (1832-1878) (rhan o Fwrdeistref Caerffili ers 1966).

22-05-2023





 .....

Gweler hefyd / Vegeu tambe / See also:

.....

0003_delw_baneri_cymru_catalonia_050111
..
 
 
 
 
 
 
 

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les
 
 
Cywaith Siôn Prys - Testunau Cymraeg ar y We
 
Gwaith Barddonol Islwyn. 1897.
William Thomas (Islwyn) (1832-1878).

RHAN 3/9. Tudalennau 200-299.
 


 

 

Map

Description automatically generated
(delwedd 7282)


Shape, circle

Description automatically generated https://translate.google.com/

(Cymraeg, catala, English, euskara, Gaidhlig, Gaeilge, Frysk, Deutsch, Nederlands, français, galego, etc)

...

www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion-prys_386_islwyn_y-gyfeirddalen_3803k.htm
Y Gyfeirddalen.
.....
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion-prys_386_islwyn_000-099_RHAN-1_3804k.htm
Rhan 1. Tudalennau 0-99
.....
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion-prys_386_islwyn_100-199_RHAN-2_3805k.htm
Rhan 2. Tudalennau 100-199.
.....
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion-prys_386_islwyn_200-299_RHAN-3_3806k.htm
Rhan 3. Tudalennau 200-299.
.....
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion-prys_386_islwyn_300-399_RHAN-4_3807k.htm
Rhan 4. Tudalennau 300-399.
.....
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion-prys_386_islwyn_400-499_RHAN-5_3808k.htm
Rhan 5. Tudalennau 400-499.
.....
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion-prys_386_islwyn_500-599_RHAN-6_3809k.htm
Rhan 6. Tudalennau 500-599.
.....
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion-prys_386_islwyn_600-699_RHAN-7_3810k.htm
Rhan 7. Tudalennau 600-699.
.....
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion-prys_386_islwyn_700-799_RHAN-8_3811k.htm
Rhan 8. Tudalennau 700-799.
.....
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion-prys_386_islwyn_800-864_RHAN-9_3812k.htm
Rhan 9. Tudalennau 800-864.
.....

 

A person with a beard

Description automatically generated with medium confidence

A map of the united kingdom

Description automatically generated with low confidence

(delwedd J7768)
(delwedd 3181d)


llythrennau duon = testun wedi ei gywiro

llythrennau gwyrddion = testun heb ei gywiro

 

 

 

200 GWAITH ISLWYN.


Pur anfarwoldeb bore,
Coron cyn loes y groes gre.
Diolchaf i Naf a'i nos
A'i dda engyl am ddangos
Y man lle gorffwyswch mwy, — ac mae'r wen
Hardd Eden i minnau'n gyraeddadwy.
I fewn pan ddeuaf finnau
O'r flin hynt, O!’r ail fwynhau
Rhyngom a fydd, a'r angau
Tu ol byth i'n tawel bau,
Gwlad Seion, hyfrydlon fro,
Nis enwir y nos yno.

 


Tŷ ger y môr ganol nos.

 
A! mae ynnof ddymuniad
Trwy'm hoes, am wneyd cartre mad
Yn fy henoed i f’hunan
Mewn rhyw le tra mwyn ar lan
Y gwyrdd fôr, a gardd firain
O'i gylch fel paradwys gain,
Gerllaw hwn adeiliwn d
ŷ,
Nef ei hunan fai hynny.

 

Dedwydd yno trwy hyd y dydd hunwn,
Gyda'r nos hoff a'r eos deffrown,
O! gyda'r ser mi godwn, — mewn purach
Dydd dwyfolach amgenach mi ganwn
Foliant gogoniant Gwiwner
Mal sant yn ymyl y ser.

Efo'r awen awn yn llawen
A llawn lleuad
Tua'r glannau, a'm meddyliau
Am addoliad.

Eurai, gogoneddai'r nos
Unigawl, y don agos.
Tonnau a ser — cawn tan eu swyn
Newyddfyd i'r awen addfwyn.

Mae y ser fel ain siarad
Yn y nos am d
ŷ fy Nhad;
Meddyliau uwch geiriau gaf
O'r ser, ddwyfolwers oraf.


Y NOS. 201

Tybiaf, meddyliaf im ddod — o fynwes
Addfwynaf y Duwdod,
Mal Efe— a theimlaf fod
Fy ach o'r wynfa uchod.


Tybiai fod eto obaith
Am Eden wen yr ail waith,
Eden well dan ewyllys
Fy Mhrynwr, llywiwr y llys;
Addaw maent mewn hedd i mi
Caf eilwaith acw ei foli,
A'i weld wedi’r holl hirwae
Yn ei lys "megys y mae."


A! mi a wn am fangre dymunol,
A'r môr yn agor o'i flaen — unigol
Dawel lannerch, mewn lle di-elynol.


Yn mwynder eu cymundeb
Clau, ni theimlwn eisiau neb.
Gwell weithion y don dyner,
A'r caruaidd sanctaidd ser,
Na gweigion gymdeithion dydd
I weini ar awenydd.


Unoliaeth awen, seren, sant.


Awen, a seren, a sant,
Enwir mewn perffaith uniant.
Yn eu nodwedd un ydynt,
O’r un llwyth a thylwyth ynt.

Y ser oeddynt fy mhrif gysuryddion,
Eang fydoedd, gynt yn fy ngofidion,
I fyw rhinweddol fy arweinyddion;
Nos oedd angyles pan suddai’nghalon
Inhywys i ddinas lôn, — i froydd
Y gwin newydd a'r bythol ganeuon.


Hi a'm haddysgai fod modd i esgyn
I ryw eilfydoedd ar loewaf edyn,
Draw o dwrf daear a dyn, — i weld gwawr
A dydd dirfawr ein tynged ddiderfyn.


Gwna y nos ddangos i ddyn
Y dwyfol aur edefyn
Sy eto, er rhwysg Satan
Yn uno'r byd â'n Hiôr ban.


202 GWAITH ISLWYN.

Gwyneb nef mewn afonydd.


Weithion mae'r hyfrydlon fro.
Hoff isod y n gorffwyso.


E baentia’r nen ei gwyneb ysblenydd
Obry ar fynwes bur yr afonydd,
A lluniau'r cymylau dros y moelydd
Acw redant fel cysgodau 'u Creawdydd;
Beth yw'r gwawl gorsynawl sydd — ar y ddôl?
Ai lliwiau dwyfol o waith llaw Dofydd?


Ail greadigaeth mewn llynnoedd.


Nos ddywed, "Bydded!" a bydd
Nennau'n y llynnau llonydd.
Seren ar ol seren sy
Ar wybren glasfor obry,
Iw huchelfaith daith yn dod
Drwy asur y d
ŵr isod.
O flaen Duw fel hyn y daeth
Gwawr deg y greadigaeth;
Fel hyn yn sydyn doe'r ser
O ddu amdo diddymder.

Mewn ter lif mae natur lân
Heno yn dyblu'i hunan.

Sain y nant swyna y nos, — fry wyla
Pan fo'r haul yn agos,
Mynnai’n awr i'r guwawr gain
Yn Nwyrain gwyn i aroa

Y mae y nant fel am i ni, — weithion
Ddeall iaith y nosli
Mewn hedd cymuno â hi,
A boddus ateb iddi.

Yr eos.

Clyw, draw, yr eos lawen, — fel duwies
Ar flodeuog gangen;
Llanw â’i mawl y nefawl nos
Wna'r eos bêr ei hawen.

I'r gwigoedd heirdd cydgrynhoa beirddion
Aml yng ngoleu y ser, mal angylion,
I fwynhau dwyfol seiniau a swynion,
A melusderau mawl eos dirion!


Y NOS. 203


Gynghanedd ryfedd! Distawa'r afon,
Im meddyliaeth, a'r balmaidd awelon,
Bob llaw, i wrandaw ar hon,— oll yn gaeth,
A pheroriaeth ei cherdd hoff yr awrhon.


A! onid ydyw anian odidog
Mewn pur syndod, rhyfeddod gorfoddog,
Yn rhoi’i gwiwfys ar ei gwefus eurog?
Yn dal ei hanadl uwch yr odl enwog,
I lwyr fwynhau seiniau syn, — cerddoriaeth
Dihafal hudoliaeth dwyfol delyn.


Y nos a’r gwlithyn.

O law nos y cain rasyn, — goronir
Ag ariannaidd wlithyn,
A'i arogl ef drwy y glyn,
Syw iawn dâl, sy yn dilyn.

O wlithyn gorwyn, mor gu
Yw dy wên wrth dywynnu!
Hylif em, dy loewaf wawl,
Gura ser â'u gwawr siriawl.
Ni fedd un teyrnedd, i'm tyb,
Na phalas, dy gyffelyb.
Pa hyfryd loewder sy'n pefru?
Bcth wyd? Ai llygad cariad cu?
Ogonawl wlithyn gwiwnef,
A'i dafn wyd o afon nef?

Mi welais emau heulog, — yn Llundain
A'u llond o'r godidog;
Glanach, a mil mwy gleiniog,
Dy ddafn ter mewn creider crog.

A dŵr nef dioda'r nos
Fil o dyner flodionos,
Yna’n
ŵyl oll dan len, — ânt i huno,
M
wy, i freuddwydio am froydd Eden.


Y nos a gorffwysdra.

Llefara nos i'r llafurwr, — heddwch,
A rhyddid i'r gweithiwr;
Dwg hun i flinedig
ŵr
Rhag aflwydd ei chwerw gyflwr.

Mal nef yn ymyl y nant
Yw man ei hoff ddymuniant.


204 GWAITH islwyn.


Taen blodau'n fwâu hedd
Rhosynawg tros ei annedd.
Mae'n gartref i dangnefedd,
A gwir hoen, mae'n gysegr hedd.
Boddlonrwydd a dedwyddyd
A gawn o'i fewn, a gwyn fyd.
Y gwyrdd sy fel gardd Seion,
Fel glas ne, gylch y lle llon
Daw'r gwlith â dwbl fendith fad
Ddwyfol, ar ei ardd wiwfad.

Is eirian wawl ser y nef — fawreddus,
Rhy ogoneddus yw'r wiwgain haddef,
O! rhy lân yw'r drigfan draw,
Rhy lonydd i'w darluniaw.

Y gŵr blin a gâr ei blant,— a hwythau
Weithion a gyfodant,
Ail am engyl ymhongiant, — wrtho,
A'u croeso goreu iddo a roddant.

Arweinia y rhai hynaf,— yn ei law,
Anwyl
ŵr tirionaf,
Idd y lleia rhodda wres
Ei gynnes fonwes fewnaf.

Eu swn a'u melawg gusanau, — sy dâl
Dros y dydd a'i feichiau;
Mwy ennill yw, mae'n well llog
Na'r gyflog eurog orau.
Hidlo balm nefol wna'r hwyrol oriau
Ar y g
ŵr a lethir a gorlwythau;
Cloa boddloniant pur ei amrantau
Ag hun melusach nag yn mhalasau
Ymerawdwyr a gw
ŷr gau, — mor llonydd
Yw ei obennydd clyd, mor ddiboenau.

Breuddwyd y gweithiwr.

Hyd y nos breuddwydio wna, — am orffwys
Ym mherffaith hedd Gwynfa,
'R awr bêr caiff llafurwyr byd
O'u holl ingfyd ollyngfa.

Gwel ei hun wedi glaniaw
O’i fordaith a'i drymwaith draw;


Y NOS. 205

A'r llaw fu'n gweithio mor llesg,
Yn dal mewn gallu dilesg
Balmwydd o wych lwydd uwchlaw
Gelyn i'w lidiog wyliaw.
Banllefau meibion llafur
Yn y loew bell Jubil bur
Glyw efe, — buddugol fawl
Ar fannau anherfynawl;


Lle mae y werin oll mwyach — tu hwnt
I hawl gormes afiach,
Hwnt i heiyrn eu hen deyrn du,
Heb allü gan drais bellach.


Hun y creadariaid.


Sua'r afon ei physg, weithion,
I hun dirion trwy'r dyfnderoedd,
A breuddwydiant am ogoniant
A llifeiriant y pell foroedd.


Y cerddgar adar ydynt
Yn dychwel o'u huchel hynt!


Llaesa eu corau lliosog, — ysgeifn
Eu hesgyll godidog;
Ant mewn llon hyfrydlon frys
Mwy i'w sigl-lys mwsoglog.


Y wiw wenynen ddiwyd, — adawa
Y blodeuyn ceinbryd,
Ac mewn heddwch i'w chwch a,
Le faedda bob celfyddyd.


Yn hedd hwyr y paen a ddaw,
A'i esgyll yn ymrwysgaw,
Yn eres oll, fel rhyw syn
Aderyn o fyd arall.


A'r hardd bluog geiliog cain
Hyderus, sydd yn darwain
Yn ei ran ei deulu'n rhwydd
Ir ieirglwyd fel rhyw arglwydd

 
Hun y bardd.


Minnau hunaf, af i fyd, — od, uthrog,
Dieithrawl yr ysbryd;
Acw enaid uwch cylch cnawd a,
Hardd hedfa trwy freuddwydfyd.


206 GWAITH ISLWYN.


Er ei rwysg, carcharor yw,
Cloedig mewn clai ydyw!
Aml raff gylch y seraff sydd,
Dyfnaf Babilon defnydd.
CÍoa hwyr y synhwyrau,
Y llaes gorff sydd yn llesghau.
Mater baid, a'r enaid rhydd
Nid ofna mwy rhag defnydd;
Uwchlaw byd dychwela ban
Iw freiniol fro ei hunan.


Cymer ei daith faith i fyd, — yr engyl,
Uwch cyfryngau cleilyd;
Ymgais ydyw i fyw fel
Angel wedi diengyd.


Ebrwydd hed yn y cerbyd breuddwydiol, —
Yn nef yrrir gan engyl anfarwol, —
Trwy bur hewyd, i'w gartre' boreuol,
Bro ei ddwyfol haniad, darddiad urddol;
Selir ser allawr ser-wawr nos siriol
Ei addas briodas a'r Ysbrydol.
Breuddwyd fedd allweddau — ysbrydolfyd,
Hawl i agoryd y bythol gaerau,
Eirian awr o fewn yr anherfynawl,
Llawen ofwy i blith y llu nefawl,
Bydd inni, ac arddunawl — gysgodau
O agweddau bodolaeth dragwyddawl.


Storm y nos.


Hoff ydwyf dan bruddglwyf bron
O wrando ar ru’r wendon
Yn herio'n hy’n oriau nos
Y gwgawl greigiau agos.


Aed daearol fydolion, — i rifo
Eu haur ofer weithion,
Mil mwy bri, gwell mael i'm bron, — os mwynhaf
Is trwm auaf, y nos storom eon.


Yn fy nhrigfa yn Rhagfyr
Dedwydd bod, wedi dydd byr,
A syllu yn serchus allan
Ar y glwys bur eira glân.


Y NOS. 207


Eira rydd ei oer, oer wawl
Llwyrwyn, fel cysgod lloerwawl.
Mor gu yw'r storom ruawl
'N awr i mi, mor bur ei mawl!


Rhuadau'r llew mawredig, — ysgydwa
Y gysgodawg goedwig,
Ei daran lais, cryglais cry,
Ddeffry ddyfnderoedd Affrig.


Y Lloer.


Weithian y storom drom draw
A hanner nos i hunaw;
Derfydd y tyrfau dirfawr,
Daw tangnef drwy'r nef yn awr,
Dros yr oll daw'r ser allan,
Enwog lu, filiynau glân;
O ddu gwmwl, yn ddigymar, — ei harddwch,
Yn ei holl degwch daw'r lleuad hygar.


Dethol lusern ymdeithydd
Wedi i'r don ordoi'r dydd;
Mewn hiraeth mae yn aros
Am hon yn eigion y nos.
O'i bron deg mae bryn a dôl — i'w gweled
Oll yn yfed ei harianlli nefol.
Môr arian dros anian sydd,
Rhwysc Eden dros y coedydd.


Mae arian ar y bannau, — mae arian
Ar y môr a'i donnau,
Mae arian ar y muriau, — rhyw ddylif
O fyw arion hylif yw'r ne olau.


Eden yng ngoleu'r lloer,


Yn y nef, loer henafol,
Asi ni ag oesau'n ol!


Ti glywaist gu alawon, — y bore
Gan bur archangylion,
Doniol lu — uwch Eden lon
Gwlawiaist dy belydr gloewon.


Adda a'i Efa dan dy wên ddwyfol
Elynt am hynt trwy'r rhodfeydd rhamantol,
Gwisgai Eden yn y nos gysgodol
Geinderau gwychderau uchdaearol.


208 GWAITH ISLWYN.


Troai yn lwys baradwys ysbrydol
Dan gain addurn dy wên ogoneddol —
Nos Eden! O, nos hudol! — tecach na
Nos gu Arabia, O, nos gerubiol!


Cymylau golau i gyd, — llawn ceinder,
A geid yn nwyfre’r deg Eden hyfryd;
Nifwl, ie, cwmwl can
Yno oleuai’i hunan!


Y cwmwl, cyn y camwedd, — arwisgai
Bob rhwysg a gogonedd,
Pob ceinder, gwychder, a gwawl,
Afrifawl ffartiau rhyfedd.


Oedd weithiau ar agwedd llong fawreddog,
Dan hwyliau ar donnau'r nef sidanog,
A'i llwyth o drysor pell fôr llifeiriog,
A'r engyl draw, y "dwylaw " dihalog,
Newidiai wedyn fry yn odidog
Ar ne las swynawl, i deyrnlys enwog,
Ac, mewn urddas cwmpasog,
Gu wyrdd crai, a gerddi crog.


Deuai'r ser gan leuferu
Yn nes i lawr, hynaws lu;
A! nês i'r ddaearen oedd
Rhifedi ei chwaer-fydoedd.


Gardd yng ngoleu lleuad.


Mor gain, O, mor ogonawl, — yw 'mherllan,
A'i lliwiau eirian o dan y lloerwawl!


Blodau y pren afalau nefolwych,
Wna i chwannog angylion ei chwennych,
O, fawrhydri! Fry edrych! — A fu pren
O fewn i Eden yn fwy hynodwych?


Y lloer a phrudd-der


Er hyn, 'e geir yn ei gwedd — arwyddion
Pruddaidd o dristlonedd;
Mae rhyw drem o ardrymedd, — lliw galar
Iw weld ar hygar loewder ei hagwedd.


A, leuad fad! wyt hoff i'r adfydus,
Rhyw belen dirion iawn i’r blinderus,
Lleferi dirioni i druenus,
Acw anfoni dy wen i'r cwynfannus.


Y NOS. 209


Gu loer, chwaer y galarus, — dy brudd wawl
Sy wir swynawl i fonwes resynus.


Ai dy asiad a'th gaethiwed oesol
Wrth fyd mor bellenig, mor unigol,
Sydd yn achosi 'th gynni byth gwynol,
Fel caeth forwyn dan gadwyn dyngydiol?
Ai awydd esgyn hyd ryfedd ysgol
Cread Iehofah, i'r cyrrau dwyfol?
Ai awydd crwydraw, draw, uwch dir reol,
Efo nifer y ser anfesurol?


Ai gweld o'r pur uchelder — holl hagrwch
A llygredd y dyfnder,
A dyn is gwawl mor dyner
A ban arf yn erbyn Ner?


Adeg myfyr a gweddi.


Y santaidd nos a'n tuedda ni — fwy-fwy
At fyfyr a gweddi,
Ei nefol-deg adeg hi
Sydd hwylus i addoli.


Hoffder yr Iesu o’r Nos.


Y nos anfonai'n Hiesu — ei dirion
Weddi daer i fyny,
Am gariad ei Dad o'i du
A'i rad i'w gwbl waredu.


I
w hoff fynydd, pan orfiennai — y dydd,
Mab Duw a esgynnai;
Natur oll, yn ddistaw'r ai,
Oblegid Duwdod blygai.


Tybiaf fod syndod trwy'r ser— o'i weled
Mor ŵyl yn y dyfnder;
Priod Fab, anwylfab Ner,
A'i bryd yn llawn o bryder!


Un ogyfuwch âg Iehofa — a'i lin
Ar lâs Palestina!
Brenin ne’n gynefin â
Phob dolur a chur chwerwa!


Y ddofn nos mewn hedd a fwynhai,
O’i gyfoeth hi a'i hadgofiai,
Clywai’r tyner ser yn son
O gariad am ei goron,



210 GWAITH ISLWYN.


A'i liosog balasau
Oll o berl, yn y bell bau,
Am ei orsedd ryfeddawl,
Ae am forau gorau'r gwawl.
Meddyliai am addoliad
Engyl fry drwy d
ŷ ei Dad;
O! tybiai y clywai eu clod
O'i heddychawl fynydd uchod.


Y Nos yn cuddio’r croesbren.


Hoffai'r nos, a'r nos a wnai — am hynny
Gymwynas pan drengai,
Ei duwch dyfnaf doai — ei groesbren,
A'r oleunen uwch Calfari lennai.


Uchod cyn darfod o'r dydd — Haul enwog
Ddiflannai gan gwilydd;
Torrai ymaith, mewn terydd
Lid dirfawr, deirawr o'r dydd.


Nos mor ddu ni fu, — ni fydd
Oesau fil nos hefelydd,
Fel bydoedd trymion oeddynt
Ei gorblygion geirwon gynt.


Gwnai y ser, gan y soriant, — alw adref,
Belydrau'u gogoniant,
Ei loes ni oleuasant, — eu gwawl cu
Rhag gwedd Iesu yn llwyr a guddiasant.


Ni allai'r Iddewon hyllig — weled
Yr hoelion llymedig,
Na'r archollion dyfnion dig,
Na gwaed y bendigedig.


Ein Hiesu anwyl yn y nos honno
Rodd iawn i Ion dros fyrddiynau yno,
Ac i'r nef lwys cai'r lleidr ei gymhwyso
Dan ei offeiriadawl waed yn ffrydio,
Rhyfeddawl flaenbrawf iddo — o ffyniant
Ei haeddiant, a llwyddiant ei holl eiddo.


"Gorffennwyd!" O'r gair ffynnol — fe wawriodd
Rhyw foreu tragwyddol,
Yfory teg anfarwol — heb un loes
Ar ol einioes o hirnos orlennol.


Y NOS. 211


Nos einioes fel nos anian,


Adeg gymylog ydyw
Yr einioes hon, oer nos yw.
Siom ar ol siom fel niwloedd sydd
Yn ei gordoi mewn garw dywydd.


Amledfawr gymylau adfyd — er hyn
Sy o rinwedd hyfryd,
Er yn brudd, i droi ein bryd
Ar geinfawr fro y gwynfyd.


Ni welem ser anwylion — y ne bell
Oni bai'r nos dirion;
Na mawr gariad rhad yr Ion,
Heb alaeth a helbulon.


Ei odiaeth addewidion — yn dwr ser
Dros orwel trallodion
Gyfodant — nos gofidion
Yn ei hedd sy lawn o Ion!


Acw i fro nef cyfeiria ni, — a ffydd
Goffeir yn ei chynni
O'i theg etif eddiaeth hi
A’r sedd sy'n aros iddi.


Gofid blin gyfyd ei blant — o'u halaeth
I olwg gogoniant
Dinas Ior, sy'n dyneshau,
Ymylau gwlad y moliant.


Nos einioes, fel nos anian,
Sy loew gan wawl dwyfawl dân,
Gan gu ser, gan gysuron,
Gan ddisgleirdeb wyneb Ion.
Yn nhrymder, yn nyfnder y nos, — mewn hedd,
A mud unigedd, O, mae Duw'n agos!

Duo wna'r byd, a Ner ban
A leinw ei le ei hunan,
Daw i lawr yn awr yn nês
A'i dirion wyddfod eres;
Yn hedd du nos ni ddywed neb
Anwylder ei bresenoldeb.


212 GWAITH ISLWYN.


Deuwch, ofidiau duon, — i guddio
Gwedd y ddaear weithion;
I mi weled ymylon
Y wlad well, a golud hon.

Anwyl fraint, mae'n oleu fry! — mae cannaid
Wawl ar fy enaid, mae'n glir i fyny!

Mae angylion llon bob llaw
Im harwain rhag im wyraw;
Os yw'r byd i gyd am gau
Ei ddaearol is-ddorau,
Salem Ior sy'n agored,
A'r heol aur oll ar led.

 
Ni fydd nos yno.

A chlywaf wych alawon, — miliynau
Sydd o' mlaen yn Seion;
Wedi’r llid, fy mrodyr llon, — fyth ganant
Mewn gwyn ogoniant, mewn gynau gwynion.

Minnau af, mae hoen hefyd, — i finnau
Ar fynydd y gwynfyd;
Yng ngwyl fawr yr angel fyd
Caf hoewaf ddidranc fywyd.

Ydd ysgol wisg ddiosgaf, — a llaeswych
Wn y llys a wisgaf;
Yn lli angeu gollyngaf
Y groes hon, aur goron gaf.

Hawddamor, oror araul
A "Duw a'r Oen" dy der haul!
Gwyneb Duw-ddyn yn gwenu
Yw'th haul can a’th oleu cu.

Ni fedrwn ddal yr anfeidrol, — leufer
A lifa'n dragwyddol
Yn y nef, nes cael yn ol, — ar wawr glau
Y gorffen-forau, ryw gyrff anfarwol.

Ni welir y nef yn niwlio, — na dydd
Trwy oes Duw'n machludo,
Na chysgod hudd yn cuddio — yr eurog
Nef ddinas enwog, — "Ni fydd Nos yno!"


Y WAWR. 213

Y WAWR.

Cerub teg flaen cerbyd dydd
Yw'r gywrain wawr; agorydd
Uchel ddorau'r borau ban,
Bron aur yr wybren eirian,
Gein yr wybr, digymar yw,
Ai gwên Eden gain ydyw?

Blina anian ysblenydd
Erbyn prudd derfyn y dydd,
Mae yn edrych fel mewn oedran,
Yn flin, ar ol cyflawni’i rhan,
Ei phluog eurog gorau,
A'u lleisiau i gyd sy'n llesghau;
Ei chlaer haul o’i uchel rod,
O'i sedd asur sawdd isod;
Mor llesg a marw yw y lli,
Mae anian heb ddim ynni.
Ond ar fyw awr y wawr wen
Dryloewaf, natur lawen
Ymrwysga, hi wisga wên — ardderchog,
Nwyf a byw odidog febyd Eden.
I fyny cwyd mewn ifanc oed
Y bêl hon heb ol o henoed,
Mewn gwyrddni a glesni glân, — yn gwenu,
Yn lleueru gan bob iliw eirian.

Synnais pan welais y wawr
Ogylch heddyw’n ymagawr,
A'r henfyd fel claer wynfa, — mor eurog
A gwiw fawreddog foreuau Adda.
A'r olwyn fawr heb dreulio,
Dieithr rym, er cyd ei thro.

A'r hen fyd, mor heinyf yw!
Ai Addaf wyf? Ai heddyw
Y daeth y gre'digaeth deg
I fod, y gyntaf adeg?

Rhudd-linell hardd o oleuni — yw'n unig
Ar y nen wrth godi;
Eitha dirym wrth dorri;
A gwan iawn yw ei gwên hi.


214 GWAITH ISLWYN.


Edefyn gorfain (dwyfawl
Er hyn yw) o ryw wan wawl.

Dyrch fel y llewyrch lleia, — ei goleu
Gwylaidd draw a gryna;
Y ddu nos, pan ddynesa
Trwy y niwi, ei gwatwar wna.

Ond cryfha, cynhydda'i nerth,
Nes enfyn y nos anferth
A'i lluoedd niwl-dorfoedd dig
I gyd yn orchfygedig,
Ffoant, diflannant yn flin
Dros aur-ganllawiau'r llewin.
A'i chlau lumanau mir — enfysliwiol,
Draw yn fuddugol drwy y nef ddygir.

Llwyr yn awr enilla'r nen,
Esgynna i lys gwiw-nen,
Hawlia'n hyf deyrnwialen hon,
Ei chyrrau pella, a'i choron.

Mae'r huan eirian o'i hol
Ryw ffynnon anorffennol;
Lleufer dwll i fôr y dydd, — yw'r nefol
Wawr adlonol — y môr dilennydd.
Dibenna ei chlod beunydd
Mewn mawr ddawn, mewn môr o ddydd.

Gwel ogonawl glogwyni!
Codant, dwyreant heb ri,
Fil mil ar ol eu gilydd
Ir lan dont ar lanw y dydd
O araul fannau eirian,
A lleuer dydd oll ar dân.


Llidiog gymylau llwydwawr
Dros ochrau'r mynyddau'n awr
Roliant, a doddant fel dim
Ar ddydd i awyr ddiddim.

Ymleda natur mal Eden eto,
Y swynol ddyffryn sy yn ail ddeffro,
Syw heirddion gariadus erddi'n gwrido,
A pharadwys o amgylch yn ffrydio,
Y goleu hanerog sy'n glain euro
Y geirw fryniau gwelwon geir fry'n gwylio,
O Anian, pwy wna'th ddarlunio? Angel,
(Gwellt yw ei bwyntel,) nis gall dy baentio.


Y WAWR. 215


Edrychaf tra'r ymdrochi, — mewn mawredd,
Mewn môr o oleuni,
Mewn disgleiriaf loewaf li
(Uthrolwyrth!) o aur hyli.

Per iawn gerdd, pob pren a'i gôr
Yma sy'n dy hawddamor;
Llwyni fyrdd sy'n llawn o fawl
O roeso i'th wên rasawl;
Try y byd i gyd yn gân
Ar bêr awr bore eirian.

Egyr boreugerdd cydgor y brigau,
Heirdd eu hadenydd, peraidd eu doniau,
Lluon gorhwylus mewn llon garolau,
Pynciant, moliannant, wrth y miliynau,
Eglwys i gyngan yw y gleis gangau;
Greddfol ydynt eu gwir hawdd fawliadau
Cu feirdd Eden, uwch cyfarwyddiadau,
Uwch addysg ddynol, celfyddol foddau,
Duw ei hunan a wnaeth eu llon donau;
Ganant ei glod heb nodau — yn berffaith,
Hardd ddifyrwaith yw'r ddieilgerdd forau.

Ar oriau y wawr eurog, — rhagorach
Yw'r garol blygeiniog
Nag emyn dyn, mwy doniog, — mwy peraidd
Yw llu Handelaidd y llwyni deiliog.

Coron-lwyth y crwn wlithyn — oreu berl,
Geir ar bob blodeuyn:
A! mae ail y gemau hyn? — gemau'r dydd,

Dihefelydd arian dwyfolwyn.
Diolcha'r blodau eilchwaith
Am y llwys nef-emau llaith,
A'u hiach aroglau uchod
A fynegan eu glân glod.

Adlonol yw dylanwad
Y borau aroglau rhad;
Eu rhin hwy a dry hen oed
Yn fyw obaith, yn faboed.

Iach yw yr awel ddifyr chwareus
Hyd ochrau'r bryniau, y bore hoenus;
Anadla fywyd i fyd gofidus,
Mag rosynau ar fochau'r afiachus.


216 GWAITH ISLWYN.


Henffych. awel dawel dydd! — gwnei’n llawen,
A llunni i awen esgyll newydd.


Drwy d' anadlu gwnei gyfrannu
Modd i ganu, meddyginiaeth;
Llonder ysbryd, hyfryd hwyl,
Wawr anwyl, yw'th feithriniaeth.

Ychydig sy'n gwylio’i chodiad, — er mor
Dra mirain ei thrwsiad;
Huna myrdd tra'r nennau mad
Yn oddaith o ogoneddiad

Yn eu cerbydau gorau y gyrrant
I weled mannau'n ol eu dymuniant,
Lleoedd o gelfol ddynol ardduniant,
A gwiw arlunfeydd gorlawn o foddiant;
Eu haur yn rhwydd am y rhain a roddant,
Edmygwyr, dilynwyr pob adloniant,
Ein harweinyddion, — er hyn ni wyddant
Am y wawr gain a'i môr o ogoniant.

Gweithiwr genfydd foreuddydd fawreddau
Ar awr taniad enyniad y nennau,
Na wel brenhinoedd bythoedd mo'u bathau;
Ei law sy barod ar las y borau
At ei orchwyl, wr anwyl ei riniau;
Fe a o'i fwthyn gwyn, gyda gwenau,
Gyda'r hedydd enwog ei droadau;
Drwy wiw ddolydd a dyfnder o ddiliau,
A’r nef arddunol dry yn fyrddiynau
O fythgynhyddol faith ogoneddau!

O! pwy wna fesur y gwymp enfysau
Draw a berir gan y pelydr borau?
Ai angelion llon sy n tynnu'r lluniau
Wêl hwn ar enynnol lenni'r nennau?
Ai cerub celfgar sy ar ei orau
Trwy bur hoen, yn paentio’r wybrennau?
Saif i edrych! Gwrendy’r melus fydrau
Yn llawn o deimlad ddaw o’r llwyn-demlau,
O, mae yn nef i'w mwynhau. — wr gwledig,
Mae'n wir foddedig mewn rhyfeddodau.

O fawreddog foreuddydd
Odlau saint ar d'awel sydd,


Y WAWR. 217


Miwsig fel cymysg foliaint
Moroedd o ser, myrdd o saint.
Yn llawn serch y laethferch lon,
Hithau sy'n dychwel weithion,
Ar hwylus frys drwy'r las fro
Adref, a'i hysten odro.
Rhy lawn i roi ar lenni
Ei gwych hoen a'i thegwch hi,
Mor iach o wedd, merch y wawr! — mor nefol
Ei charol drwy'r iach orawr.

Ardeb cywir yw'r wawr dirion, — loewbryd
O lwybrau y cyfion;
Rhai celyd ynt, rhai culion, — ar egwyl
Boreu i'r anwyl lân bererinion.

Ond tua'r hwyr dont er hyn
Yn lletach, hawddach iddyn,
Llai o gerrig, llai geirwon,
O neshau at ddinas lôn;
A therfyn y faith yrfa
Fydd palas yn ninas Naf.

Ymledant, rhedant i'r aur ystrydoedd
Tragwyddawl tanbeidiawl, o led bydoedd,
Terfyn diderfyn y seintiol dorfoedd
Yn byw yn nwyfawl ddisgleirdeb nefoedd.
Arllwysa’r holl oesoedd — o'u cul lwybrau
Ir wynfa olau ryw eirian filoedd.

Gwawr y sant yn agor sydd
I fawreddus foreuddydd;
Haul harddwych o loew urddas
A geir ar ol gwawr ei ras.
Gras sydd megys gwawr i sant, — hyd fythol
Gu ganol dydd gogoniant
Yn wybrau nef, heb oer nos
Na hwyr fyth yn eu haros!
Wybrennau llon heb orllewin ynt,
A'u dyddiau heb fachlud iddynt.

Delw'r bedd yw unigedd nos, — ym weithian
Mor egwan a'r meirw agos;
Y bersawrus wawr brysura
Heibio im, ei llais a'm bywha.


(tudalen 218)

218 GWAITH ISLWYN.

Godidog gysgod ydyw
O'r adgyfodiad i fyw.
Trwy’i heffaith gwell gobaith gaf,
Am fore gwell myfyrifiaf.

Mal hyn y cwyd miliynau, — drwy'r alwad
A'r yr olaf forau
Fel engyl uwch gafael angau, — dyrchant
I ogoniant, yn wynion eu gynau.

Cedyrn fel duwiau'n codi
Fydd yr holl dyrfa ddi-ri.

O'u nifer minnau hefyd, — a ddyrchaf
I ardderchog fywyd;
Daw'r fro lân sy'n gân i gyd,
Daw'r Goron wedi’r gweryd.

Diau ni fydd eisiau yn oes oesoedd
I mi o fethiant huno mwy fythoedd,
Bêr hoffus fywyd heb orffwysfaoedd,
Heb wely angau a heb wael ingoedd,
Heb un sain o alar, heb nos-niwloedd.
Na haul yn gwyro i'w lewin-gyrroedd,
Yn ieuanc ein galluoedd, — tra oes Ner
Neu erfawr nifer canrifau'r nefoedd.

GOSODIAD CARREG SYLFAEN CAPEL BARGOED.


"DOED sylfaen Capel Bargoed ar y graig,
Mor gadarn ag mae'r creigiau'n ffinio'r aig.
Os pery'r capel tra y pory clod
Y sylfaenyddes wiw, fe fydd yn bod
Tra pery amser. Boed y deml lân
Hyd fyth yn haeddol o dragwyddol gân!
Ar lan y Rumi boed y deml hon
Yn gysur pur i lawer clwyfus fron.

Fe roir y garreg sylfaen yn ei lle
Yfory — ac fe fydd angylion ne
Yn canu uwch y gwaith; mi hoffwn i
Angylion-frodyr, ganu gyda chwi,
Ond cystudd balla hyn, ar hyn o bryd,
Ond pwy a
ŵyr na chawn mewn arall byd
Gyfarfod â rhyw hardd gadwedig lu
Achubwyd oddifewn i'r muriau cu
A seilir fory! Gwnawn obeithio hyn
Er mwyn y G
ŵr fu farw ar y bryn.


 

JOHN JONES, BLAEN ANNERCH. 219

JOHN JONES, BLAEN ANNERCH.


JOHN JONES Blaen Annerch, enw mawr ei werth,
Yn sefyll ar ei sail ei hun i gyd,
Heb unrhyw ateg o'r allanolfyd;
Fel pyramid, mae'n aros yn ei nerth.

Pe cawn i'm ffordd, dewiswn gan y nef
Gael bod yn un o'r rhai mae cenedl faith
Yn dod i'w hangladd gyda gruddiau llaith
A chalon drom — un felly ydoedd ef.

Dewiswn fod yn un o’r rheini sydd
Wrth fyw, yn aur-oleuo'n tywyll fyd;
Wrth farw,’n gadael cwmwl maith ei hyd
A nos o’u hol — yn marw fel y dydd!

Nis gwn pa le i ddechreu ’mhruddaidd gân
Gan faint fy nghariad at y gwrthrych cu;
Nis gwn pa le, pa fodd, i'w gorffen hi,
Gan ddyfned, amled, ei deilyngdod glân.

O! rhowch im liwiau'r wawr a’r enfys cain
I dynnu darlun cennad hawddgar Duw;
Rhowch fyrdd-amrywiog odlau'r eos wiw,
Holl geinion arddull, a holl swynion sain.

Doed ysbryd Pant y Celyn eto i lawr,
Pereidd-der Handel i'r gynghanedd fwyn, —
Doed mwy i'r Awen, sef rhyfeddol swyn
John Jones ei hun ddydd y Gymanfa fawr.

Pe tynnid darlun llawn o hono ef,
Nis caem ei gadw'n hir; cerubiaidd law,
O gwmwl gwyn, a'i distaw gipiai draw
Iw hongian ar barwydydd nef y nef.

Aeth pulpud Cymru oll am dano ef
Iw ddyfnaf ddu, y nef i'w gwynaf wyn;
Tra wylem yn ei arwyl, oll yn syn,
Gorfoledd priodaswledd lanwai'r nef.

Y nos cyn marw ein hardderchog dad,
Breuddwydiais imi glywed anthem bêr
Mewn rhyw ororau pell tu hwnt i'r ser —
O, ddwyfol gerdd! O, nefoedd o fwynhad!


220 GWAITH ISLWYN.


Y nos ganlynol bu i mi’r un fraint,
Ond O,’r oedd rhywbeth newydd yn y côr
Rhyw newydd lais, fel nawfed ton y môr!

Adwaenais ef plith lleisiau myrdd o saint.
Fe glywodd lais y nef yn foreu iawn,
A pharod ufuddhai i'r galwad llawn.
Rhyfeddol fraint! cael cychwyn tua'r nefoedd
Wrth gychwyn bywyd bron; a'i ymadferthoedd,
Pob cynneddf, a phob dawn, i gyd yn newydd,
A'u hieuanc ynni at wasanaeth crefydd.
'Roedd ei gynheddfau yn eu holl ddisgleirder,
Fel arfau glain, hyd eto heb eu harfer.

Fe'i cafodd Iesu ef yn hoewlym ysbryd —
Yn Samuel, nid Eli hen a rhydlyd.
Rhyw newydd Ioan ydoedd ef i’r Iesu,
Rhyw ddisgybl ’roedd yr Arglwydd yn ei garu
Yn fwy na'r lleill, pe gallai cariad dilan
Mewn unrhyw wedd ragori arno'i hunan.



Fe drodd yn foreu at y mawr Iachawdur
Gan ofyn, — "Beth a fynni im ei wneuthur?
A allaf, mi a i gwnaf,’r wy'n rhoi fy hunan,
Fy mywyd a fy nerth, i ti yn gyfan."

Pan roes ei hun i'r Arglwydd, tebyg ydoedd
I newydd long yn llynges Teyrnas Nefoedd,
A'i llwyth i gyd o'r nef, ei hwyliau'n wynion,
Y Gair ei llyw, y Gair ei chwmpawd union.
Ei gariad cyntaf oedd angerddol danbaid
Y cyfnod hwnnw'n llanw ei holl enaid;
Pob rhwystrus ddrain a ddeifid gan ei boethder,
A Seion deg oleuid gan ei loewder.

Prydferthwch pur y Dwyfol Bren Afalau
Wnai ogoneddu gweledigaeth forau
Y newydd lygad, Ffydd; o dan ei gysgod
Eisteddai fel o dan adenydd Duwdod,
Sef Duwdod boddlonedig! Ac i archwraeth
Y Newydd Ddyn, ei ffrwyth oedd felus odiaeth,
Fe ai, am rodfa, draw i froydd Escol
I wledda ar y pomgranadau nefol;
Ar glogwyn Pisgah gwelid ef yn fynych,
Fel angel pell, a gloewaf yspienddrych
Y Gair wrth lygad Ffydd, mewn mwyniant odiaeth,.
Yn gweld, o bell, y ddwyfol etifeddiaeth.


JOHN JONES, BLAEN ANNERCH. 221

Yn fuan wedi gwneyd ei le yn Seion,
Yng Nghytir bach, dangosai'r llanc arwyddion
O anghamsyniol ddoniau yr eneiniad
Y rhai sy'n mhell uwchlaw pob dynwarediad.
Gweddiwr mawr addawai'r mawr bregethwr,
A gorfoleddai'r saint wrth weld ei gryfdwr
A'i afael ar y Nef; yr oedd yr "Angel"
Yn methu ymryddhau, fel gynt ym Mheniel;
Ymgasglai'r wlad ynghyd i weld yr ymdrech,
I weld yn gwawrio seren fawr Blaen Annerch.

'R oedd tân ei ysbryd, irder ei dduwioldeb,
A'i gariad cyntaf yn holl angerddoldeb
Ei wres boreuol, a phereidd-dra rhyfedd
Y llais ag oedd fel hanfod pob cynghanedd,
Yn toddi’r dorf, yn tynnu o'r calonnau
Caletaf yn eu plith lifeiriol ddagrau.

Trafferthus iawn yw llwybr ambell un
I fyny i'r areithfa; hir a maith
Ei ymdrech, fel pe na bai neb i'r gwaith
Nefolaidd yn ei alw ond — ei hun.

Ond am hawddgaraf wron hyn o gân,
'R oedd llais ei Dduw'n ei alw'n glir o’r nef,
(Adsain i'r galwad oedd ei weddi gref)
A chydlais arall — llais yr eglwys lân.

Mae galwad oddiwrth y saint cytun
Yn gystal prawf o alwedigaeth glir
A mewnol gymhelliadau (gwell yn wir,)
Ond gydag ef yr oedd y ddau yn un.

Yr eglwys bur gyfeiriai’i santaidd fys
(A modrwy y briodas arno'n dyn,)
At yr areithfa fel ei le bryd hyn,
Ei briod le, fel brenin yn ei lys.

Llaw wen y santaidd eglwys wnai yn awr
Garpedu grisiau'r pulpud iddo ef,
A dringai yntau o dan nawdd y Nef
I uchelderau'r weinidogaeth fawr.

 

Mor brydferth ar y claer fynyddoedd fry
Y safai traed yr efengylwr mwyn,
Mor gryf ei lais, ond oll mor llawn o swyn,
Fel oen yn addfwyn, fel y llew yn hy.


222 GWAITH ISLWYN.


Ar hyd welyau dyfnaf trefn gras
Y llifai afon ei hyawdledd mawr, —
Y caru cyn ein bod, a'r dod i lawr
O uchder nef, a'r gwisgo agwedd gwas.

Ei wneuthur dan y ddeddf, wrth fodd ei Dad,
A'i dros-osodiad yn ein lle yn llawn,
Ei lwyr ufudd-dod, a'i anfeidrol Iawn, —
O! dyma bynciau’i weinidogaeth fad.

Trwy Geredigion, gyda'r balmaidd wynt,
Ymledai si fod rhywun ar ei draed,
Yn efengylu maith rinweddai'r gwaed,
A doniau ail i ddoniau Rowland gynt.

O lawer sir trwy Ogledd a thrwy Dde
Dylifai gwahoddiadau ato'n awr;
Nid oedd trwy Gymru ond un teimlad mawr-
Ei weld a’i glywed, ym mhob cwm a thre.

A'u galwedigaeth daer cydsynio wnai;
Os uchel ydoedd eu disgwyliad hwy,
Cyflawnder ei ddyfodiad oedd yn fwy —
Mwy'r son o'i ol na'r swn o’i flaen a ai.

Fel ymdaith brenin ieuanc drwy ei wlad,
A'r goron gain yn pefru ar ei ben —
Pob baner hardd fel enfys yn y nen,
A thorfoedd iddo'n rhoddi pob mawrhad, —

Cyffelyb fu ei ymdaith gyntaf ef
Trwy gylch y siroedd, brenin llawn y llu;
Torfeydd! torfeydd yn canlyn ar bob tu!
Iw lwyr fawrhau cydunai’r byd a’r Nef.

Y dyrfa! ’r dyrfa! nid oedd waeth pa le,
Pa un ai yn y boblog drystiog dre
Sy'n un llawn fôr o fywyd; ynte fry
Ar ael unigedd fynydd, o’r naill du
Lle ceid addoldy bychan, dim heblaw
Ond ambell gaban gwledig yma a draw —
Nid oedd gwahaniaeth — lle y byddai e,
Fe fyddai'r dyrfa hefyd yn ei lle.
Fe fynnai'r dyrfa'i ddilyn ar bob hynt
Fel y dilynent y Bedyddiwr gynt.


Trwy swyn sugndynnol deddf naturiol iawn,
Fe geir y dyrfa lle y ceir y dawn.


JOHN JONES, BLAEN ANNERCH. 223

Pa beth yw y cynnwrf a welir bob llaw?
Mae'r bryniau'n ymsymud gan dorfoedd o draw,
Mae'r plwyf-ffyrdd rhy gulion yn llawnion o’r llu;
Cerbydau aneirif yn dyfod bob tu;
Mae'r boreu yn hyfryd, mae'r nef fel pe bai
Am noddi'r cynhulliad sydd byth yn mwyhau.


Dydd mawr y Gymanfa sy'n awr wedi dod,
Dechreuir yr oedfa â chanu a chlod;
'R awr ddeg yw yr awr, a'r santaidd addolfa
Yw'r bur awyr las o waith llaw Iehofah.
Mae’r miloedd yn disgwyl Blaen Annerch yn awr,
Mae'n codi o'r diwedd fel codiad y wawr;
Mae gwên yn goleuo ei wyneb i gyd,
Efengyl ei hun yw siriolder ei bryd.
Agora ei destyn yn araf a llawn,
Ei destyn hoffusaf, — ''Efe yw yr lawn."
Nid ydyw y llanw ond dechreu'n y pellder,
Ond mae’i swn o draw yn dweyd am ei gryf der.
Aiff hanner awr heibio, mae’r llanw'n ymchwyddo,
A llongau y saint ar ei ddyfnder yn nofio,
A'u hwyliau ar led i ddal yr awelon
Sy'n chwythu yn nerthol o'r nefoedd yn union.
O, pwy all ddarlunio y dyfnion amennau
O dan yr eneiniad sy’n rhwygo y nennau?
Mae'r bêr floedd orffennol yn awr yn ei chryfder,
A'r dyrfa'n doddedig gan swyn ei phereidd-der,
Ac er ei rhyfeddol nertholdeb a’i hynni
Mae lleisiau y dyrfa’n y man yn ei boddi!

'Roedd rhyw ddirgelwch yn ei lais a'i ysbryd
Wnai i adnodau gofiem er ein mebyd
Ymddangos oll yn newydd, fel yr oeddent
Yng nghlywedigaeth Israel pan y deuent
O enau’r proffwyd gyntaf. Mor gartrefol
Oedd ef yn rhol y llyfr anghydmarol!
Cof sancteiddiedig oedd fynegair iddo,
A'i fywyd yr esboniad iawn ohono.

Yng nghynadleddau y Gymanfa gref,
Pan fyddai'r pwnc ar amgylchiadau’r saint,
Ffigyrau sych — ychydig deimlai ef,
Gadawai hyn i ddynion llai eu maint.

Nid talent rhifo oedd ei dalent ef;
Gwnaiff undyn ystadegwr bron; ei ddawn


224 GWAITH ISLWYN.


Oedd teimlo cariad Duw, a gras y nef,
Trueni dyn, a'r bywyd ddaeth trwy lawn.

Pan ddeuai’r mater uwch ei ryw ger bron,
"Cyfamod hedd, ei gryfder, a'i barhad,"
Ai’n fywyd oll, disgleiriai’i lygaid llon,
A'i galon dwymn a losgai gan fwynhad.

A phan gyneuai fflam ei deimlad cry,
Fel nwy-oleuwr yn y neuadd fawr,
Cyneuai’r oll o'i gylch, a fflamiai'r t
ŷ
Fel teml Solomon, gan ddwyfol wawr.

Rhyfeddol allu yw y gallu sydd
'R ol teimlo'i hun, yn gwneyd i dyrfa fawr
Gyd-deimlo — fel mae'r haul yn gwneyd y dydd —
Hyn wnaeth ein Cymru wiw’r hyn yw yn awr.

O, f’enwog dadau, arwyr mawr y groes,
Rhai droisoch Gymru, oedd ddiffaethwch blin,
Yn Eden wridog, yn eich plith nid oes
Na Jones Blaen Annerch enw mwy ei rin.

Y groes a'i maith rinweddau bob amser lanwai’i fryd,
Y peidio cyfrif beiau i euog farwol fyd:
Symudodd i Galfaria yn foreu iawn i fyw,
A'i babell a gyfododd yn ymyl croes ei Dduw.

A'i gefn tua'r ddaear, a'i wyneb tua'r nef,
Helyntoedd gwladol Prydain ni chaent ei sylw ef;
Angylaidd fywyd dreuliodd uwchlaw daearoi fyd,
Gan fod ei ymarweddiad fry yn y nef o hyd.

Mae clogwyn ar yr Andes yn ymyl eilfyd draw,
Os cyrraedd teithiwr ato, fe fydd y storm islaw;
Fe wel y mellt yn gwibio, fe glyw y daran gref,
Mewn pellder dwfn dano, a dim o’i gylch ond nef.

Cyrhaeddodd yntau'n foreu glogwyni pellaf ffydd,
Uwchlaw yr holl gymylau, yng ngoleu dwyfol ddydd;
Taranau croch Magenta a Solferino gref,
Ni chlywodd braidd eu hadsain o'i uchder yn y nef.

Swn masnach a'i holl dyrfau a foddid, er mor llawn,
Yn swn dioddefiadau ei Arglwydd un prydnawn;
Ni wyddai ddim ond Iesu, a hwnnw ar y groes
Yn rhoddi lawn digonol drwy lawn anfeidrol loes.


JOHN JONES, BLAEN ANNERCH. 225

O! clywsom ef yn bloeddio, fel angel yn y nef, —
"Iawn! Iawn!" nes byddai'r creigiau yn adsain gan y llef —
"Iawn! Iawn!" mewn eilfloedd hyfryd, llond cae, llond byd o air,
Llond tragwyddoldeb hefyd, ei rinwedd byth a bair!

Fe wnaeth ddiwrnod da o waith, llafariodd tra bu'n ddydd;
Ac er cyrhaeddyd pen ei daith, pen draw i’w waith ni fydd.

Pur had o anllygredig ryw yw'r had a hauodd ef,
Perffeithder ei ddadblygiad fydd gogoniant eitha'r nef.

Fe gadwai’i boblogeiddrwydd mawr hyd olaf hwyr ei ddydd,
Ac er i’w seren fynd i lawr, ei goleu'n para sydd.

O, fy nhad! er maint dy fawredd a'th hyawdledd uwch y llu,
Nid oedd neb o'r fath hynawsedd ar yr aelwyd, neb mor gu;
Er it ennill urdd apostol, a chymeriad gloewaf sant,
Wedi'r oedfa fawr chwareuem gylch dy liniau megys plant.

Nid oedd ail i'th boblogeiddrwydd ond dy ddiniweidrwydd glân,
Cofiaf byth dy wenau siriol nos auafol wrth y tân;
Meddit lygad y golomen wedi’i golchi â llaeth yn wir,
A'th arabedd a'n gadawai, er yn llawen, eto n bur.

Ffarwel Jones! Beth yw’r disgleirdeb welaf, hwnt i'r olaf don?
''Cerbyd Israel, a'i farchogion" ddaeth i'th gyrchu adre’n llon —
Nid dy gerbyd di dy hunan ydyw’n unig, O fy nhad!
Mae yn perthyn i’r holl deulu sydd a'u gwyneb tua'r wlad.

Cerbyd Israel yw y cerbyd, cerbyd yr holl lwythau'n wir,
Ac mae ynddo sedd i minnau, ac fe ddaw yn ol cyn hir;
Pan ddisgynnaf, yn anfarwol, oddiar y danbaid sedd,
Yn dy freichiau gad im ddisgyn, yn y wlad sy lawn o hedd.

Pan gyrhaeddaist fro'r angylion fe'th gyfarfu ddisglaer lu
Ith roesawu, o'r rhai alwyd trwy dy weinidogaeth gu.
Ac wrth syllu’n ol o'r bryniau dwyfol fry, i'r anial maith,
Gweli dorf o'th alwedigion eto’n dilyn ar eu taith.
Pan gyrhaeddant yn ddihangol adref, ar eu newydd wedd,

Bydd pereiddiach fil yr anthem, a melusach fyrdd y wledd;
Ni fydd byth olygfa harddach yn y nef, na Chennad Hedd
Yn cofleidio'i waredigion oll yn iach tu hwnt i'r bedd.

Jones Blaen Annerch oedd dy enw, Jones Blaen Annerch byth a fydd;
O dy feddrod ym Mlaen Annerch allan deui'n hardd ryw ddydd.
Diau'r cyntaf yr ymholwn am ei drigfan yn y nef,
Fydd yr anwyl Jones Blaen Annerch, canys yno'r un fydd ef.




226 GWAITH ISLWYN.

NICANDER.


NICANDER hoff! nid oes pythefnos bron
Er pan y buom yn beirniadu ’nghyd
Uwch gorchestweithiau aml i awen lon,
Yn frodyr serchog o un fara un fryd —
Pythefnos! a thydi wyt yn dy arch I
O beth yw clod — rhag angau beth yw parch?


Ni welais i, fy nhad, dy wedd erioed,
Ond gwn ei bod yn hawddgar fel y wawrddydd;
Ni chlywais i dy lais, na swn dy droed,
Ond gwn eu bod yn bêr fel clych eglwysydd
Ar foreu Sabboth Duw. Cawn gwrdd ynghyd,
Mi wn, o gylch y bwrdd mewn gloewach byd.

Disgynnai dy onestrwydd amaf fi
Fel esmwyth aden angel, feirniad pur!
Dyrchafol ydoedd dy ohebiaeth di, —
Addolet fyth y teilwng, coeth, a'r gwir.
Angylaidd yw y daith i'th angladd di, —
Mae'r awen deg a Chymru yn eu du.


A gaf fi mwyach gu ofwyo Mon,
Gaiff cwmwl f’hiraeth oeri uwch dy fedd?
Gaf fi goffhau dy felus awdlau — son
Am d' oes o ddysg, ac am dy oes o hedd?
Gyferbyn gwelaf rosyn gloew ei fri,
A phlannaf ef ar fedd dy dangnef di.

O Fynwy mynnaf ofwy at dy fedd,
Caiff blodau Mynwy wylo gwlithion Mon
Bob boreu ar dy lwch, tra angel hedd
Yn cwyno, gyda'r ser, ar djmer dôn;
Ffarwel, Nicander hoff! Cawn gwrdd ynghyd,
Mi wn, o gylch y bwrdd mewn gloewach byd.


Mae ’nghynghaneddion yn dylifo i lawr, —
Cynghanedd oedd dy holl fodolaeth di;
I ti, fy mrawd, cynghanedd oedd y wawr,
Cynghanedd oedd yr awel bêr ei si.
Cynghanedd oedd yr oll; cynghanedd brid
Fydd cwrdd, o gylch y bwrdd, mewn gloewach byd.


EMRYS 227

EMRYS.

EMRYS enwawg, mor swynol,
Er marw, y
ei enw o'i ol,
Dyn a'i brid enw i barhau
'N urddasol, fyrdd o oesau.
Eneinied Ior fy noniau
A'i fyw rin, i lwyr fawrhau
Ei was anwyl, a seinio
Hwylus gân i'w felus go.
Ac fel y bardd coeth, arddun,
O! megys Emrys ei hun,
Fy nghân fo rydd-gan, a rhai
Pigion’n ol defion difai
Y beraidd lân gynghanedd,
Sy fel haf o syfi wledd.
Y rhydd a chaeth! harddwch chwi
Ei waith a'i daith a'i deithi.


O holl ddalennau llyfr d' hanesyddiaeth,
Ti Fangor hen, eisteddfa fawr dysgeidiaeth,
Ni fedda ddalen well na'r ddalen ddengys
Mai ti oedd dinas enedigol Emrys.
D' ystrydoedd culion yn ein bryd eangir,
Dy fyg gadeiriol dyrau ogoneddir,
Pan gofiom am ein Emrys bach yn chwarau
Ar hyd dy belmynt hen, gan syllu weithiau
Fry ar dy dyrau'n siarad wrth y cwmwl
Pan ar ei ffordd i wisgo'r Wyddfa â nifwl.

O ddwyfol Fenai!
A thyfion Eden yn addurno'th lannau,
Pa afon-fôr fel ti! — Mon, ar un ochor,
Yn cysgu ar ei chefn yn y dyfnfor,
A'i phen, yn uwch, ar greigiog glustog Cybi;
A'r ochor hyn, yn fythol risiawg resi
Fynyddoedd Arfon yn y nef yn gwylio
Yr ynys wen i gyd — neu'n ymneillduo
I gwrdd â Duw'n y cwmwl — pa olygfa
Mor addas fyth â Menai, Mon, a'r Wyddfa,
I led-freuddwydiol ienctyd awen dreulio
Ei bore ddydd, ac yn eu hol ymffurfio?


228 GWAITH ISLWYN.


Awenydd pur! ti yfaist lyfnder Mona,
Ith ysbryd rhodiodd mawrder derch yr Wyddfa;
Fe wnaeth y Fenai wely yn dy galon,
A throdd o'th fewn yn rhyw ysbrydol afon;
A'i phont grogedig unodd ddeufyd ynnod,
A chroesaist at angylion heb yn wybod;
A chawn y golygfeydd a'u holl amrywiaeth
Yn ail ymddangos yn dy "Greadigaeth."

O Fangor i Gaergybi, — derbyn yno
Wybodau uwch eu rhyw; fel llong yn llwytho
Ar gyfer gwledydd pell, fe lwythai yntau
Ar gyfer porthladd Madog, gan y deuai
Y dydd i fynd i mewn i hafn ddymunol
Ei ddefnyddioldeb yn ei fasnach ddwyfol.

I'w ddyfodol Caergybi a addfedai
Emrys anwyl: glan y môr a'i swynai;
Yno aml hwyr o drylwyr hoen dreuliai;
Efe o'r dwyfol fawryd a yfai;
Y daran-anthem pan dorrai —’n sydyn,
Iw nodau syn ei awen adseiniai.

Ymleda yr olygfa deg yn awr
I fyrdd ystrydoedd heirdd Llynlleifiad fawr, —
Marchnadfa'r byd o'r bron, lle ceir llyngesoedd
Dan faner hedd, yn cyrraedd am filltiroedd
Fel gelltydd nofiol ar yr afon lydan,
A'u beilchion frigau yn y nef ei hunan;
Diderfyn elltydd o ddi-brin hwylbrennau
Yn hofian yn y nef eu myrdd llumanau. —
Pwy yw yr egwyddorwas welai'n rhodio
Iw orchwyl gyda'r dydd, gan syn fyfyrio
Fel un a fynnai rodio ar yr enfys,
A sarnu ar y byd? Ein hanwyl Emrys!
Mae'i ddwylaw ar ei orchwyl, ond ei galon
Ar bethau uwch na'r byd. Mae'i awen dirion
Yn dechreu ymysgwyd yn ei chawell borau,
Yn dechreu chwareu hefo'r aur allweddau,
Rhai sydd yn agor yr ysbryd-borth dirgel
I ollwng awyr at y rhyfedd angel
Sydd yn ein marwol gnawd yn garcharedig,
A'i hiraeth am ei Dad a'i nef enedig.


Llyn tro yw'r dref anuwiol — llyn sy'n sugno,
I ddyfnder gwarth a gwae, y neb ddaw ato;


EMRYS. 229

Ond cymer Emrys gylch o bell i’w ochel,
Osgoa yr ymylon, fel gwna angel
Pan ar ymweliad byr â'n byd llygredig;
Ymgeidw'n bur, a'i fron yn wynfydedig.

Yng nghanol llwybrau gwyrgam fil,
Fe geidw ef y llwybyr cul,
A phob dydd wythnos fel dydd Sul
n wyn gan burdeb moes;
Pan grwydro ereill ar bob llaw,
Mae'i lygad yn sefydlog draw
Ar y dragwyddol goron ddaw
Ar ol y gwae a'r groes.

Breese anwyl a berseiniodd — rin y gwaed,
Ar 'Hen Gerdd' a'i swynodd;
Aml i Sul melus wylodd,
Ai galon dirion a dodd.

Drwy ienctyd, derfysglyd fôr,
Ef engyl fu ei angor;
Fe'i hachubodd rhag soddi
Yn y llidiog leidiog li.
Lled eigion colledigaeth,
(Uchel nôd!) ei ochel wnaeth!
Ò'i amryw berlau, Emrys
Yw gwawr a braint goreu Breese.
Diau eilchwyl diolchodd
Emrys i Breese, am bêr rodd
Y dirion Iachawdwriaeth,
Adref idd y nef pan aeth.

Y brif-ddinas a brofodd ei anian,
A natur bur ei dduwioldeb eirian;
Brwydrodd, cafodd y dydd ar y cyfan;
Wedi hollol orthrechu, dai allan
Yn wyn ei glod, wron glân; — swynion lu
Ar bob tu i’w ddrygu oedd ry egwan.

Meddiannai’i oriau hamddenol — yn llwyr
At wellhad meddyliol;
Ni chai ffug ddifyrrwch ffol
Un awr o'i hamdden hwyrol.

Ei ddoniau a'i buredd yn y Boro',
Ei gynnydd beunydd, swynai bawb yno.


230 GWAITH ISLWYN.


A rhoed gwahoddiad caredig iddo
I wasanaeth Efengyl, i seinio
Ei gras a'i dinag roeso, — ei chariad,
A'i heuraidd alwad i'r holl rai ddelo.

Bu yntef i lais y nef yn ufudd,
Heb ymdroi gwnai ymroi â mawr awydd,
A’i hyder yn Nuw’n ei gylchdro newydd,
A Duw’n ei arddel yn ei dyner-ddydd,
Yn mawrhau'i ddawn yn more'i ddydd, — a'i sel,
Ie’n ei arddel fel yn ei hwyrddydd.

Y Seion bur y sy yn y Boro
Adwaenai’n rhwydd yr hyfrydlais drwyddo,
Clywai'r aur glych cysonwych yn seinio
O'i weinidogaeth, a Duw'n bendigo,
Llawer Sul yn llwyr selio —’i lafur g
ŵyl,
Ail dyn anwyl wedi ei eneinio.

Er ei ddoniau arddunol, — a’i doraeth
Cymhwysderau nefol,
Hyd yn hyn cadwai'n ol — eu llawn fawredd,
Trwy fyw o nodwedd trafnidol.

O weithwyr pybyr ein pau
Mae'r dynion mawr eu doniau;
Meibion pur llafur yw llu
O weision goreu Iesu;
Ameuthyn yw amaethwr
At waith gras — y gwas yw’r g
ŵr.

Ond ar dawel ymweliad,
Wr myg, a'i hen gartre mad,
Newidiwyd, do, holl nodwedd
Ei fryd a'i fywyd, i’w fedd.
Yn lle masnach, bellach bu
'N gyson weinidog Iesu.
Mae ei daith yng nghymdeithas
Caledfryn, drwy Leyn fro lâs,
Trwy Eifionnydd lonydd lan,
Yn wirgamp i arwrgân!


O gyfaill gwerth ei gofio,
Caledfryn! haul gwyn yw'th go;
Ai loewder, er machludaw,
Eto ar drum "y tir draw."


EMRYS. 231


O loew-wych nerthol awen,
Gerais i yn y Groes Wen,
Sawl hwyr, ae O sawl arawd
O'th ddawn gu a'th awen gawd!
Wrth basio'r bedd gorweddi,
Mae cur tost, ti'm ceraist i.
Llew'n y cyhoedd oedd, a’i ddull
Fry'n eonddewr frenhinddull;
Teyrnol
ŵr, taran o lais!
Oedd ddihafal ei ddyfais
I lywio torf, — ond fel tad
O dwymlon gydymdeimlad
Ar ei wiw aelwyd siriolaf,
Ail iddo er chwilio ni chaf.
I roddi help i'r eiddil
Awen fach, oedd un o fil;
Un o fil yn ei fyw wawd,
Un o fil yn ei folawd.
Pedr y cyhoedd oedd, a’i her
A'i nodwedd yn llawn hyder;
Ond Ioan bob anian bêr
Nos hapus hoen y swper,
A’i lawn fynwes gynnes gu
Ar rasol fron yr Iesu.


Yn iach, Caledfryn! Uchod — cawn eilwaith
Uwch c
ŵyn ail gyfarfod,
A chydblethu, clymu clod
Melusach na'n mawl isod.
Caledfryn trwy ei graffder pur,
A'i eryr-lygad treiddbell clir,
Oedd barod fyth i ganfod dawn,
A thynnu allan grebwyll llawn,
Canfyddai yn ein Emrys bur
Arwyddion o athrylith gwir,
O ddefnyddioldeb gwych ei ryw,
A thwysog ar fyddinoedd Duw.
Clai oedd y t
ŷ, y mur o gnawd,
Ond canfu ar y cyntaf rawd,
Cyhoeddiad cyntaf Emrys wiw,
Odidog gerub yno'n byw —
Rhy dda i werthu nwyddau'n hwy;
Rhy dda i ddim, hyd angau mwy,
Ond traethu rhinwedd marwol glwy.


232 GWAITH ISLWYN.


Gwas y nef, Christmas hefyd — pan gwrddodd
Ag ef, fe roddodd iawn gyfarwyddyd;
r Duw, ei eiriau o dân
Enynnai yn ei anian;
Pwy
ŵyr holl gamp ei araeth,
A than nef yr effaith wnaeth?


Ar ei foreuol daith, Porthmadog
A welai ynddo'i hoff weinidog.
Rhoes Salem arno'i bryd a'i chariad dyfnai,
Do, carodd Emrys ar yr olwg gyntaf,
A mynnai selio y briodas santaidd
Heb oedi dim.


Ond ni roe'n harwr gwylaidd
Gam mawr yn fyrbwyll fyth. Ei rodiad union
Oedd araf, mesuredig, cryf, a chyson;
Yn enwedigol ar uchelffyrdd Seion.
Ni fynnai seilio t
ŵr heb ragarwyddion
Y gallai'i orffen mewn prydferthwch cyson.
Iw brydferth ysbryd, pennaf anghysonder
Oedd gorchwyl wedi ei adael ar ei hanner.
Buasai’i galon ddagrau gwaed yn wylo
Pe gwelsai eglwys dan ei law'n adfeilio.
Mae engyl nef yn wylo dagrau heilltion
O fry, pan welant eglwys yn adfeilion;
Yr adfail drymaf oll yw adfail Seion.
Gweld dwyfol fur ar lawr, a thyrrau nefol
Ar ogwydd yn y cwmwl — anioddefol
I Gristion yw y drych; y mae'n olygfa
I lawenhau archelyn hyf Jehofa.


Ef ni ddechreuai gŵys, heb rodio'n gyntaf
O gylch y maes, a phrofi'r tir yn araf.
Y penna i gyd, o bob cyfatebolrwydd,
Yw'r un rhwng eglwys Dduw a gwas yr Arglwydd;
Mae'u symudiadau’n ddistaw ac yn ddwyfol
Fel symudiadau'r ser a'u cydgan nefol,
Nas clywir ond gan engyl, neu gan awen
Pan hedo yn ei phell ysbrydol elfen.


Gwnai'n brawd gochelgar, gwylaidd, craff ei ardrem,
Gyfamod blwyddyn gydag eglwys Salem,
Fel gallent brofi'u gilydd, ymgydnabod,
A gweld ai doeth ai annoeth fyddai'r undod.
Bu'n flwyddyn ei flynyddau oll mewn pryder.
Ond ar ei diwedd ’roedd yn llawn o hyder.


EMRYS. 235


O santaidd hyder wedi dal y profiad,
A chael o fry ryw ddyli o arddeliad.


Mor hardd a mawr ei urddiad! Dyn profedig
Yn cydio yn yr aradr fendigedig
A grymus ddwylaw byth o hynny allan,
I
w dal am helaeth ran o ganrif gyfan,
Nes gwelid ei g
ŵys olaf yn ymdoddi
Yr Wynfa fry, "ar lan y pur oleuni!"


Wrth syllu'n ol,’roedd maes o flwyddyn gyfan
Iw weled, o'i ddiwylliad pur ei hunan
A'i gnwd yn donnau aur dan awel falmaidd,
A llygaid y medelwyr claer angylaidd
A'u golwg eisoes arno — mae'r ysgubau,
Ran amlaf, erbyn hyn, ymhell uwchlaw'r wybrennau.


Fel eryr ieuanc hedai'n syth
I nefol gylch gwasanaeth Ner,
Gan adael ei ddaearol nyth,
Ei ado'n llwyr, ei ado byth,
I fyw a throi ymysg y ser.


Gan fyw yn Ior, gwnai fwynhau
Ei wyneb llawn a'i wenau.


Eglurder y dwyfol ddisgleirdeb — oedd
Addurn ar ei wyneb;
Am y nod, amheuai neb,
Duw a roddodd ei drwyddeb.

 
Nid caniatad cennad hur,
Breinteb esgob ar antur;
Uwch oedd ei hawl, a chadd hi — oddi uchod,
Diau'r Duwdod wnai ei awdurdodi.


Ceir ambell bregeth, rywfodd, yn ein swyno
Tra byddom — dim ond hynny — yn ei gwrando.
Mae ei diweddglo yn ddiweddglo'n ddiau,
Gadewir hi ar ol o fewn y muriau
Fel ofer sain. Ond pur bregethau Emrys
Barhaent yn eu sylweddolrwydd dilys
In dilyn tua'n cartref; oent yn aros
Fel gwledd Nadolig ar y bwrdd am wythnos,
A'r tad yn torri llawer tafell lydan
I holl eneidiau'r ty — y dorth oedd gyfan
Po mwya torrid, fel y deisen fechan


234 GWAITH ISLWYN.


Wnai'r weddw i Elias yn Sarephtah,
A'r olew o’r ystên wnai flwyddyn bara —
Blynyddau, hefyd, weithiau! Sonnir heddyw
Am aml bregeth fawr o'r rhes uchelryw.


Aruchel ydoedd nod ei weinidogaeth,
Nid creu ymdoniad byr ar fôr teimladaeth,
Rhyw arwynebol gynnwrf yn mynd heibio,
Tra caed dyfnderau'r deall heb eu plymio—
Bron heb eu cyffwrdd.


Os cyfodai dyfroedd
Y teimlad dano ef, gwirionedd ydoedd
Y ddwyfol loer a’i chwyddai tua'r nefoedd.
Arwyneb llyfn y dorf, os ymsymudai,
Daeargryn o wirionedd a'i hachosai.
Pob newydd bregeth oedd wythien newydd
O drysor gwell nag arian — a'r gwrandawydd
A weithiai yn y bur wythien honno
Am lawer awr, ar ol i'r Sul fynd heibio,
Gan agor fwy-fwy a dadblygu’r trysor
Trwy gof ac efryd maith ar air y cyngor.


Pan godo'r morwr ei angorau i fyny,
Pan daeno'i hwyl i'r ffafriol wynt ei llenwi,
Mae ganddo yn ei olwg hafn ddymunol,
Ac er mor bell cyrhaedda hi'n ddiangol;
Yr unfodd Emrys yn ei bulpud arddun,
'Roedd ganddo bwynt, o gyntaf air ei destyn,
Mor glir yn ei feddyliol weledigaeth
A seren yn y nef ar rew-nos odiaeth;
A chyn dibennu, gwnai i'r dorf synedig
Ei weled fel goleudwr dyrchafedig
Ar uchaf grib y graig, a’r golau ynddo
Mor glaer a gwyneb angel yn disgleirio.


Pan chwyddo'r afon, rhaid mwyhau
Ei gwely, neu ei ddyfnhau;
Rhaid ildio mwy o dir i'r traeth,
Pan godo'r llanw’n nerthol iawn;
A Salem yn rhy gyfyng aeth
I ddal y rasol ddwyfol ddawn;
Helaethwyd lle y babell hon
Do, fwy nag unwaith, fel gwnai ton
Y dwyfol ddylanwadau pur
Ddwyn llongddrylliedig rai i dir.


EMRYS. 235


Adeiliai aml Ddiwygiad mawr
Orielau newydd, newydd lawr;
A'r aur ddylifai i fewn heb drai,
Fel y dylifai’r euog rai
Oedd edifeiriol am eu bai.
Estynnwyd y cortynau 'mhell,
A'r rhaffau ar eangder gwell,
A'r hoelion aur sicrhawyd fry
I ddal gogoniant teg y ty.


Ac o'r tu allan idd ei gorlan gun,
Fe daenai'i aden dros eglwysi Lleyn
A gwlad Eifionnydd. Ei gyf’rwyddyd ef,
Mewn profedigaeth, oedd fel gair o'r nef.
Hapusaf gartre'n aml newidiai'n brawd,
Am anghysuron llety digon tlawd,
Fel newid hindda am ystormydd llym,
Neu newid tir am don, heb gwyno dim,
Ond cyfri'r oll yn fendith ac yn fraint
Os gallai rywfodd adeiladu'r saint.
Pan ddodai Rhagfyr oer ar deyrnol ben
Y santaidd Wyddfa goron eira wen,
Gan roi y deyrnas olygfaol fawr
Oll dan ei llywia
eth pan y rholiai i lawr
Dros biglym greig sydd megis dannedd byd,
Raiadrog nentydd, oll mor wyn gan lid
A'r bannau pell gan eira, gwelid ef
Bryd hynny'n myned ar wasanaeth nef,
Mor ddedwydd yn ei deimlad, er mor flin,
A phe yn rhodio yn ei ardd ei hun
Ar hwyr o haf; fe droai'r d
ŵr yn win
Rhinweddol iddo ar y santaidd hynt,
Fel gwnai yng Nghana Galilea gynt.
Ac angel ddeuai’n ddistaw gyda'r ser,
I daenu'i wely ef yn nhangnef Ner.


Y mae elfennau ei gymeriad llawn
Yn rhy luosog bron i unrhyw ddawn
Eu gwir ddesgrifio. Wyf fel arluniedydd
Yn syllu ar olygfa deg, ysblenydd,
Yn cynnwys pob amrywiaeth o brydferthion,
Y bryn yn wyrdd i'w fannau pell; yr afon
Arianlliw yn breuddwydio am yr eigion,
Gan droi a throi fel un yn chwilio am dano,
Gan holi’r coedydd tal sydd yn ei minio


236 GWAITH ISLWYN.


A welant hwy y môr o'u balchaf frigau,
A glywant hwy gartrefol ru ei donnau;
Y gerddi'n gwrido fel priodferch wylaidd
Ar foreu holl foreuau'i hienctyd euraidd;
Nis gwn pa le i ddechreu, f’eiddil awen,
Nis gwn, gan rif y swynion, ble i orffen.


Barddoniaeth ni wnaeth yn nod;
'R oedd ei dwf mewn cerdd dafod
Mor bur ac mor naturiol
O fyw ddawn, a thwf y ddôl.


Fe ganai fel y cân y fronfraith ber,
Neu fel y cân yr eos wrth y ser
Rhai ddont yn nes i lawr i lwyr fwynhau
Y bur gynghanedd, pan fo cwsg yn cau
Amrantau pawb ond beirdd. — Pwy’i dysgodd hi
I leisio mor feistrolgar — weithiau fry
Ymhell uwchlaw y cwmwl — weithiau i lawr
Fel un fai’n gweled angladd anian fawr
Yn agoshau, a rhyw aneirif lu
O engyl yn galaru oll mewn du?
Ni chadd yr eos ddysg; Difeiria'r lleddf
A'r llon, o lygad-ffynnon doniau greddf.


Rhwydd anadlu
Oedd ei ganu, a'i dda gynnydd;
Emrys anwyd,
Do, eneiniwyd, yn awenydd.


Y fath doreithiog lawnder o gynheddfau
Ni welwyd braidd erioed; crynhôdd holl riniau
Y cylch meddyliol i addurno'i nodwedd;
Ei feddwl oedd fel rhod. a’i chronder rhyfedd
Heb unrhyw fwlch, na diffyg ar ei hagwedd.
Llaw gadarn barn wnai ffrwyno’i awen rymus
Fel nad ymgollai yn y pell Ramantus,
Yn niwlfyd gorddychymyg, a'r cysgodau
Sy'n duo darlunfaoedd rhai awenau.
'R oedd glewder ganddo i gydfynd âg anian,
Ond nid i fynd tu hwnt iw ham-gylch eirian.
Ymgadwai oddi fewn i'r gwir a’r dilys;
Lle safai y gwirionedd, safai Emrys.
Cydwysedd ei gynheddfau oedd ryfeddol;
Ni welid ochredd g
ŵyr, na rhwyg ar reol.


EMRYS. 237


O gylch ei farn fe droe ei holl gynheddfau
Mor ddisglaer ac mor gyson a’r planedau
O gylch yr haul, mewn pell ond perffaith rodau.


O, y swynawl nos honno — fy nghyfaill!
Mae’n fy nghofion eto,
Pan ddest o dan wledig do
Fy awen, i’m gofwyo.


Wedi'r da fawl, wedi'r odfa hwylus,
Gyrrem adref i fy haddef heddus,
Fro gled yn nodded gw
ŷdd gogoneddus,
Yn llawn o ynni, yn llon a hoenus;
O!’r oedd yn nos fawreddus! — a thithau
Yng ngorau dy wiw hwyliau hudolus.


O! eres awenydd y rhosynau,
A'i brif oludoedd y ceinber flodau,
Nid gauaf oedd alaf ei feddyliau,
Ond haf yn ei dirion rad fwynderau;
Y cu a’r hygar, nid cuchiog greigiau,
Oedd hardd ogonedd ei euraidd ganau;
Rhedodd holl fyfyriadau — ei lawen
Wiw rasol awen, ar ros-welyau.


Prydferth erddi
Yw ei gerddi, pob rhagor-ddull;
Rhydd eu swynion
I wir feirddion, oraf arddull.


A cheir aml ffwnt yn chwarau —’n ei erddi
Dan heirddion belydrau;
O! mae y rhos yn mawrhau
Oer rin eu dyferynau.


Gwin a medd yw ei gân i mi,
A blâs hufen heblaw syfi;
Goludoedd arogl Eden
Hyfryd nawf ar hyd y nen.


Cymdeithas y Beiblau a swynodd ei fryd,
Brenhines yr holl Gymdeithasau i gyd,
Sy’n gadael i'r Beibl esbonio ei hun
Yn gadael y Rhol rhwng y dwyfol â'r dyn;


238 GWAITH ISLWYN.


Yn estyn i bellaf baganiaid y byd
Y rhyfedd ddatguddiad sy'n gariad i gyd;
Sy'n dweyd am yr aberth, yn dweyd am yr hedd,
A'r cadw, a'r bywyd, a’r codi o'r bedd;
Gwnaeth Emrys ei oreu mewn dadleu o du
Ei hawliau, a’i lwydd yn rhyfeddol a fu.


Oedd fawr ymhob rhyw gylch; ond yn y pennaf
O’i gylchoedd oll, y gwelid ef yn fwyaf.
Oedd fawr fel bardd; ond nid ei felus awdlau
Enillodd iddo ef ei folawd gorau —
Goruwch ei bulpud crog ei brif lawryfau,
A'u gwyrddni bair i deg addurno borau
Yr adgyfodiad claer i'r aur ororau.


Ond bellach mae cysgodau’r bedd yn disgyn,
A'i yrfa fawr gerllaw ei dirfawr derfyn.
Yn rhosydd Moab cadd fel Isr'el dario,
A chyda sain yr afon gynefino,
Nes ffodd ei harswyd ymaith, nes hiraethu
Am groesi'n llwyr i fro y bythol ganu.


Ffarwel yn awr! Ffarwel, hawddgaraf Emrys!
Mi genais hyn o gerdd drwy deimlad hapus
A phruddaidd bob yn ail. O Emrys ffyddlon,
Gadewaist ar dy ol y decaf goron
Adawodd sant erioed, a thrwy fy nagrau
Hyfrydwch pur i mi yw rhifo'i phenau.
Fel beddau Éthiopia, mae'th fedd edmyg
O wydr oll i gyd, wrth Gapel Helyg;
Dy ffyddlon Geidwad wêl yn oleu heddyw
Dy bur brynedig lwch — ei bwrcas ydyw,
A gwerth ei waed.
Gwnaeth Duw ei brif ewyllys
I sicrhau dy adgyfodiad, Emrys;
Ynghanol myrdd myrddiynau, a thrwy honno
“O'r cwbl roes, ni chollir dim o hono!"


Heb
ŵyriad, byth fe bery —’r ewyllys,
Daw yr "oll" i fyny;
Anwyl frawd, cawn eilio fry
Wych dôn, — yn iach hyd hynny!



THOMAS RICHARD, ABERGWAUN. 23


THOMAS RICHARD, ABERGWAUN.


FEL angel yn rhodio dros fwa y cwmwl,
A'i fys yn cyfeirio yn union i’r nef,
A'i fantell fel borau o aur ar y nifwl,
A nerthoedd y nefoedd i gyd wrth ei lef;
Fel hynny y rhodiai y pennaf areithydd
Dros nef yr athrawiaeth, y bwa o waed
A roed i rychwantu y duon wybrennydd,
Yr eigion rhwng daear a nefoedd a gaed.


Dyrchafiad ei lais oedd yn arwydd i filoedd
Anghofio eu gofid, a gado y byd,
Ei bechod, ei wae, ac ofnadwy ddyfnderoedd
Marwolaeth, eu gado o danynt i gyd.
Fel angel ymaflai yn udgorn y nefoedd,
Fel angel ehedai trwy ganol y nef,
A'r dydd jubiliaidd gyhoeddai i filoedd,
A bywyd ei hunan oedd adsain ei lef.


Ni cheisiai ogoniant tua yma i'r nefoedd,
Na dim ond hynodrwydd ei Arglwydd, y groes;
Na ser i oleuo ei enw i'r oesoedd,
Ond ser cadwedigion casgledig ei oes.


Canfyddaf dy dystion, O ymadawedig,
Pur dystion dy lafur yn ol ac ymlaen;
Tu yma, tu acw i derfyn gwywedig
Marwolaeth; O gwynfa ei hun yw eu sain!
A ydwyt yn rhodio ar lannau y nefoedd,
Ar lannau y moroedd tragwyddol o hedd,
A'th fynwes yn chwyddo, gan ddisgwyl dy luoedd
I araf ddod allan o gysgod y bedd?


Fe godai iachawdwriaeth o'i ffynhonnau,
Gan ddwyn llaeth bywyd o'r tragwyddol fronnau.
A'r elfen fawl a gaed o dano ef
Dan ddylanwadau'i areithyddiaeth gref,
Yn donnau cynhyrfedig hyd y nef;
Ei ddawn a gaed yn agor fel y borau,
Ac yn y pellder wawr y gwell ororau,
Rhyw gil-agoriad o'r tragwyddol ddorau!
Yr oedd ei bregeth yn ei mawredd chwyddol
Yn codi ar y dyrfa anedwyddol
Fel Horeb dan gymylau'r farnol hynt,
A'i lais fel udgorn y digofaint gynt;


240 GWAITH ISLWYN.


A chrynai miloedd dan fygythion nef,
A siglent fannau'i areithyddia
eth ef;
Euogrwydd fel daeargryn gipiai'r llu
I glyw taraniad yr Anfeidrol fry.
Fel angel Duw, yn uchel yn y nef,
A'i udgorn yn ei law, y galwai ef
Euogion ger ei fron, ac archai mwy
Faith adgyfodiad o’u gweithredoedd hwy;
O feddau duon amser pan y doent,
Pan am yr enaid syn yr ymgrynhoent,
Pwy allai mwy ymgynnal dan y llid,
A dal ymgroniad ei bechodau ’nghyd?
Pan ryferthwyent yn eu llawnder erchyll
O fyrdd o oriau ac adgofion tywyll,
Pan gronnid bywyd mewn un awr o wae,
Pan gaed bodolaeth fel yn ymgulhau
Hyd at ddymuniad am ddiddymiad braidd,
A'r enaid oll yn gwywo hyd y gwraidd, —
O nefol ennyd, pan y dygai ef
Y groes i'r golwg, a phell lannau'r nef!
Ei ffurf ymgodai fel i herio’r bedd,
Ac edrych drosto gyda thawel hedd,
A gwên o fuddugoliaeth ar ei wedd.
Fel toriad bywyd oedd ei floedd yn awr,
Na chollid fyth ond ar fôr-floedd y dyrfa fawr,
Pan na chaed diben i fodolaeth mwy,
Ond moli, moli byth yr Oen a'u prynodd hwy.

O, llawer gwaith adseiniai'r wlad a'r dref
I rymus floedd ei alwedigaeth ef.
Yr oedd y creigiau ar y bryniau pell
Yn adsain oll i’r gwahoddiadau gwell,
A'u hadsain yn dychwelyd ar y llu
Fel galwad arall, galwad natur gu.

Llif-ddorau teimlad gaed yn awr
Yn cydymollwng dan y llawnder mawr,
Y llawnder o orfoledd yn ei ran,
A wnai i'r enaid dorri dros bob glan,
Pob caer o ddefod ac o ffurfiol foes,
Yng ngolwg llawn y ddyrchafedig groes.
Rhy fychan yr addoldy danat ti!
Fe lannwyd llawer wybren, llawer llu
A'i llanwodd â’u haddoliad, pan y caed
Y maes yn symud — symud dan eu traed.
Fy nhadau! ardderchocaf weision Duw!


THOMAS RICHARD, ABERGWAUN. 241


Eu cofio yn eu beddau, hyfryd yw.
Ser boreu y diwygiad unwaith fu
Yn ysgwyd Cymru o afaelion du
Marwolaeth anherfynol, ac yn dwyn
Ar fil o fryniau wawr efengyl fwyn, —
Fel engyl Duw ehedech trwy y wlad,
Ac yn eich llaw allweddau y rhyddhad,
A’r oll a geisiai dyn, a goleu'r nef
Yn llifo ar eich ol. Llangeitho gref,
A Morris y taranau, wisgai'r wawr
A'r nefoedd am ei weinidogaeth fawr!
Gwregysid hwy â gallu fel â gwisg,
A'u nerth aruthrol waradwyddai ddysg,
Rhyfelwyr cedyrn oeddynt, ond ni chaed
Fyth ar eu hol ond arwydd dwyfol waed,
A gwywedigion filoedd yn codi ar eu traed.
Symudai'r nef fel awyr gyda hwy,
A'r dylanwadau uwch y miloedd mwy.
Rhoed Horeb a Chalfaria yn yr un
Waredol gadwyn, a ffordd fawr i ddyn
Ar hyd-ddynt hyd orseddfainc Ior ei hun.
Elias, yr anfarwol, O tydi
Y crogai Cymru ar dy amnaid gu,
Fel colfen yn y nef, dan ddwyfol wlith,
Yn barod i lesghau neu chwyfo byth!
Yr oeddych chwi yn santaidd fel y ser
Goruwch y byd, anwylaf dystion Ner.
Ni allai'r annuw edrych ar eich gwedd,
Heb gofio Duw, ac ymbil am ei hedd.
Ofnadwy oedd eich enwau ar bob rhyw,
Fel tywysogion a rhyfelwyr Duw.

Gorffwysa dithau'n dawel gyda hwy,
A dos i mewn, i mewn i'w gwleddoedd mwy,
I mewn ac allan rhodiaist yn eu plith,
Y cydlafurwr llon, y brawd heb rith.
Pan oedd yr eglwys yn oleuni'r byd,
Fel llu banerog o ofnadwy bryd,
Pan weddnewidid wyneb Cymru oll,
Pan elai'r cwbl ond enaid dyn i goll, —
O pan helaethai purdeb hon o hyd,
Pob dydd yn ddydd o farn ger bron y byd,
A'r anuwiolion eisoes oll yn fud,
Yr oeddit ti ymhlith y blaenaf gaed
Yn arwain lluoedd y pryniawdol waed.
 


242 GWAITH ISLWYN.


Ar uchel fryn ei areithyddiaeth ffraeth Llywyddai holl weddnewidiadau iaith;
A gwasanaethai geiriau arno fyth,
Fel lliwiau'r nefoedd ar y boreu wlith,
Neu ‘i hamryliwiau ar yr enfys gain;
A dygai yr un meddwl mawr o'n blaen
Olynol drefn, yn holl arwisgoedd iaith,
Fel angel gweddnewidiol ar ei daith,
Nes rhoed i anwybodaeth bwl ei hun
Ei ganfod ar ryw dro, ar ryw ddychweliad cun.

Yr oedd ei areithyddiaeth fyth fel môr,
Na chyfaddefai derfyn, glan, na dôr,
Nac ynys seibiol ar ei lif, na dim
Ond dyfnder, dyfnder, a diderfyn rym.
Dylifai’i ddawn dan ysbrydoliaeth hedd,
Fel afon o lydanol wyrddol wedd,
A golygfeydd newydidion ar bob tro,
Rhyw gerub-fryn, rhyw baradwysaidd fro.
Pwy amlach ei fyfyrion; eto, pwy
Allasai, fel efe, eu hebgor hwy,
A byw ar ysbrydoliaeth yr eiliadau,
Ac arwain amser wrth ei darawiadau?
Ni wyddai ei eangder fwy na’r nef,
Na'i gyflawn aden fwy na’r awel gref
Caed bythol wanwyn ar ei enaid mawr,
Rhyw ymagoriad newydd ar bob awr;
Ni ddygodd bywyd auaf yn ei gol,
A allai yrru ffrwd ei ddawn yn ol,
Na pheri sychiad ar ffynhonnau hon,
Nes sychodd ffynnon bywyd dan ei fron.

MRS. JONES,
GWEDDW Y PARCH. J. JONES, BLAEN ANNERCH.


MAE un i'w henwi eto; chwaer yn wir,
Ir gwragedd ddoent o Galilea gynt,
Ar ol yr Iesu ar ei olaf hynt,
"Gan weini iddo ef " o gariad pur.
Ei weddw ydyw hon; bu iddo ef
Yn briod, chwaer, a mam; boed hwyr ei dydd
Yn hwyr o ddwyfol hedd, heb gwmwl prudd;
Ac yna, ail gyfarfod yn y nef!


GWEDDI 243

GWEDDI.

Llythyrgludydd yr enaid.


AM Weddi lân y canwyf
A phur aidd, ei hoffi’r wyf;
Bu i mi heb amheuaeth
Yn gynhaliol fywiol faetli,
Ffynnon cysuron y sant,
A'i ganwyll i ogoniant.


O fodd y plethwyf iddi
Rwymyn aur o’m hawen i.
Hi fu ynni fy enaid,
A'i holl rym mewn llawer rhaid.
Hi redodd lawer adeg
I agor dôr y nef deg,
A dug i mi rad gymorth
Doniau o bell, Duw yn borth.

Fry hi gyfododd o fro gofidiau,
Ar hoew adenydd, uwch môr a’i donnau,
Uwchlaw y daran a'r uchelderau,
Uwch pellaf drum olaf y cymylau,
Filwaith i'r nef olau, — a dug yn ol
Hyd y rhiw serol ddwyfol drysorau.

Fy nghenhades yn fy angen ydoedd
I ofyn nwyfau o nef y nefoedd,
Yn daer uwch y pellderoedd — gwnai ofyn
Rhad i'r abwydyn uwch rhodau'r bydoedd.

Er fy mai, deuai bob dydd
Yn glodus lythyrgludydd,
Yn barod yn y bore
A hwyr nos i fynd i'r ne.
Esgynnai’n hwylus ganwaith
A’m llythyr, fy llythyr llaith,
Ag ol edifeiriol fys
Ar y dail, ddagrau dilys;
A Ior, fy mhorth, er fy mai,
Yn fuan a’m gofwyai.

I fyny eto anfonaf — drwy hon,
A thirion lith yrraf,
Nes elo a’m cais olaf
O’r terfyn, i gartref Naf.


244 GWAITH ISLWYN.


Y ffenestri yn agored tua Jerusalem.


Arddunol gweld addolydd
A gair Duw yn agor dydd!


Ei dŷ ef sy gysegr nefol, — parod
Bob bore at ddwyfol
Wasanaeth, a'i blant swynol — yn gryno
A'i weis yno, heb un yn absennol.


Yn arwain eu tylwyth rhiaint welir
At y Fainc ddwyfol, rasol, — fe'u rhesir
Yn hardd o'u hogylch, y Beibl mawr ddygir;
Byd a i ddisylwedd oferedd fwrir
Allan am ennyd, a llon ymunir
I wrando weithian ran o'r Gair enwir,
Gyda pher emyn trwy’r gwaed offrymir
Aberth mawl, fe'u hatebir, — a hwy, gwn,
O fewn y dwthwn hwnnw a fendithir.


Ni ddaw drwg, nac anedwydd dro, — i’w cwrdd,
Cant eu cyfarwyddo
A'u harwain heb wyro, — Gweddi a chlod
A wna ddiwrnod a nawdd Dduw arno.


Ni ddaw i fwthyn y Weddi fythol
Un ffael anedwydd na phla niweidiol;
Lle trig Gweddi mae gallu tragwyddol
A Ion yn ei ras yno'n arosol,
Diau gyda phob duwiol — mae Duw'r hedd
Yn ei gariad rhyfedd yn gartrefol.


Derbyniaf arch Naf i nhy,
Daw hoen a rhad o hynny.
Bo gwell fy haddef bellach,
Ys hon fo yn Seion fach.
Yn fy nhy, o flaen fy Naf,
Hyd fedd offeiriad fyddaf;
Ceir hedd sicr uwch cyrraedd siom,
Byd odiaeth Obededom.


Arferaf y wawr fore,
Aberthaf i Naf y ne.


A min nos caf ymnesu, — erfyniaf
Ar i'w faner ledu,
A'i gariad fel caead cu
Drosof, er gwaed yr Iesu.


GWEDDI. 245


Af i huno ar fynwes — fy Ngheidwad,
Ef yw ’nghadarn achles;
Rhydd imi beraidd amwes
I ’ngwylio rhydd engyl res.

Yn orddedwydd breuddwydiaf
Trwy y nos am Gartre Naf
A diddan fro dedwyddyd, — am seintiau,
Am y fwyn bau, am ofyn y bywyd,
Am haul heb ddim cymylau,
Am bur hoen mwy i barhau,
Am y gorau forau fydd
Fawreddog glaer foreuddydd,
Pan gaf uwch poen a gofid
Esgyn goruwch llynclyn llid,
O wael fedd i nefol fyd
Yn nelw fy Anwylyd.


Cyfoeth gras.

Ion drwy’i wir gariad wna’n dra rhagorol,
Tu hwnt i gaerau ffiniau gorffennol
Ein dymuniadau mwyaf eithafol;
Y Weddi ehangaf, o gystudd ingol
Erioed anfonwyd ar aden fewnol,
Ion a fedra ragori’n anfeidrol
Ar y Weddi honno; mor arddunol
Hwnt i'r eiddunedd a'r natur ddynol
Yr ehanga ei gariad cyfryngol
Yn rhyw afonydd pell anherfynol!

O feddwl dyn! pwy feiddia—roi y ffin
Gorffennol i’w yrfa?
Yng ngloew nef fry angel wna
Ddilyn ei weddi ola.

Un munudyn! a'i ddymuniadau
Hwnt a baisiant heibio i oesau,
Fry ehed goruwch dirfawr rodau
Myrdd o fydoedd, moroedd o fodau,
Nid yw’r bedd, y du oer bau, — ond bywyd
Iach ar ei loewbryd a dechreu’i lwybrau.
Ond, yn Nuw, nid yw ein hawydd — pennaf
Ond y lleiaf at rad y Llywydd.

I f'enaid mi ofynnaf — y rhadau
Gwaredol uchelaf,
Eto daw'r geiriau ataf, —
"Mae yn ol fil mwy yn Nâf!”


246 GWAITH ISLWYN.


E ddeil y Weddi ola — yn y man,
A'm dymuniad pella,
Yn ffyddlawn fe'u cyflawna,
Fe rydd im ryw fôr o dda


Hwnt i angau, ond dengys — yn y fan
Fôr o hedd dihysbys,
Neu newydd le’n nawdd ei lys,
Le mwy tawel i'm tywys.


Llawer a ddichon taer weddi y cyflawn.

 
Pwy a draeth ei helaeth hawl?
Un Gweddi â'r tragwyddawl!
Rhoddwyd pob llawnder iddi
Yn eres ran, Aeres Rhi!


Ymguddiaf dan rym Gweddi,
Agor môr wna ei grym hi.


Ni fedd enwog fyddinoedd — y filfed
O'i nefolfawr nerthoedd;
Gyda’i nerth Gedeon oedd
Yn uthr fwy na thyrfaoedd.

Y mae gallu holl luon
Engyl Duw yng ngalwad hon;
Ar ei llais disgynna'r llu,
A chan, i'm hamgylchynnu.
Taen o blaid y Cristion blin
Ryfeddol ddisglaer fyddin;
Gwarcheidwaid gorwych ydynt,
Gwarchlu Ior goruchel
ŷnt.


Er dyfais mawr diafol — a’i allu
Hyllig ac uffernol,
Taran Naf a'i tery n ol,
Rhag Gweddi ffy’n dragwyddol.


O bob parth os cyfarth cŵn
Drygionus, dreigiau annwn,
O’m henaid ochenaid chwydd,
Tery hwynt â distawrwydd,
A throlyn o gythreuliaid
Yn sydyn fel boglyn* baid.

• Bubble.


GWEDDI. 247

Yn ddilys pan addolaf
I gysgod y Duwdod af.


Cuddia fi’n llon yn ei gyfion gafell,
I gyd yng nghysgod ei eang asgell,
Peryglon mawrion ymhell — draw a yr,
Yr wyf yn bybyr o fewn ei Babell.


Gweddi dyn derfyn nas daw
Gelyn drosto i’m gwyliaw;
Llinell bell, lle ni eill byd
Na diafol ddod hefyd.
Gwneir ysblenydd ddefnydd o
Holl anian, trwy gynllunio;
Defnyddir ar dir, ar don
Ei hyniau yn eon.
Cyflymder ager a rydd
Fythol ogonol gynnydd,
Mewn hoen pasia, gwawdia’r gwynt
Fel hoen cerub flaen corwynt;
Segur ar y gwyrddlas eigion — unwaith
Fu ynni’r awelon,
Hwythau a chwyddant weithion
Yr hwyl deg ar rol y don.


Y nant, o bu gynt heb waith,
Ar yr olwyn droir eilwaith;
Try draw â chyngerdd lawen
Olwyn y wiw felin wen.
Ond Gweddi, y weddi wir, — (y fwyaf
Wyrth a fawrygaf ) ni werthfawrogir!
O, mor ddi-barch yw myrdd y byd
O elfen fawr ysbrydolfyd,
Lle mae y gallu mwyaf
Ie, holl nerth llaw ein Naf!
Llais hon yn hollallu sydd
Yn awyr y Cread newydd.
Y mae ager a grym eigion,
D
ŵr a thir, dan lywodraeth hon.


Trydan uwchlaw anian yw,
Eneidiol drydan ydyw,
A'i gwifrau ar heuliau’r rhod
Ar ochor y ser uchod,
Cedyrn wifrau yn cydiaw
Yn eirian drôn yr Ion draw.


248 GWAITH ISLWYN.


Mae’r enaid mawr ei hunan
A holl fyd ysbryd o dan
Ei rheolaeth helaeth hi,
Byd meddwl bob dim eiddi.


O eiddil ŵr diweddi,
Y gŵr mawr, idd ei grym hi
Soflyn gwan, us o flaen gwynt
Gwyra i bob rhyw gorwynt.


Egwyddor rymus Gweddi
Wna â Ion ein huno ni.
Ior â'i nerth wna’n cadarnhau,
Ymhogiwn am ei angau!
Os tyr y gref ystorom
A syn drwst o Sinai drom,
Os trwm fydd y storom faith
Ymafaelwn mwy filwaith!
Bo gafael ymhob gofid
Yn Nuw Ior nes lleddfo’r llid.

“Fy Ngweddiwyr.”

E gafodd Jacob gyfion
Orchfygu trwy allu hon.

Ef un nos ofnai Esau
Yn ei sor oedd yn neshau;
Y nos honno nis hunodd,
A mawr rym i weddi ymrodd;
Aeth i’r man lle cadd ganwaith
Ras i fyw drwy ei oes faith.

Bu daer hen Jacob dirion
A'r "G
ŵr" o fri ger ei fron;
Y G
ŵr ar fyr ragorodd,
Niwl ei ffurf ddynol a drodd,
I angel prid newidiodd;
Newydd drem — yn Dduw e drodd!
Ryfedded gweled y gwael
Am Jehofah’n ymafael!
A! llwyddodd llaw y Weddi
Ddihafal, er atal Rhi;
O ddwylaw ei addolydd
Ni allai ffoi — llaw y ffydd
Blethai brid addewidion
Fawrwych rwym am fraich yr Ion;


GWEDDI. 249


Ef a geid mewn dalfa gan
Ei air enwir ei hunan.


Mor ryfedd i'm Hiôr ofyn, — y mawr Dduw! —
Am ryddhad gan bryfyn!
Ai’r craff seraff yn syn — weld Duw'r lluoedd,

Llywiwr y bydoedd, yn llaw’r abwydyn.


Trwy nos hir er taerni y sant,
A'i holl aidd, ni fu llwyddiant.
Gohiriai Duw ei gariad
O'i hoffder ym mwynder mad
Y Weddi, ae er addas
Brofi ffydd ei brif hoff was.
Pur Weddi yw'r pereiddiaf
Alaw a wneir yng nghlyw Naf.
Melusach, hoffach ei cherdd
Dawel, nag angel gyngerdd.
Ion gâr ei swn ger ei sedd, — a chyn hir
Draw, draw agorir dôr ei drugaredd.


Hyd drannoeth y taerineb — a'r hewyd
Barhai yn ddiwrtheb,
Swn taerach, uchelach, heb
I Ior eto roi’i ateb.


Po mwyaf profir Gweddi’r gwael
Tan ei gofid, tynna’i gafael.

Ar weniad gwawr y wiwnef
Daeth y ddawn, — “Bendithiodd ef!"
Ion i'w daith a'i bendithiodd,
Ac anian draig yn oen drodd;
Dygasedd llidiog Esau,
Troai’n serch, tra yn neshau.


Rhag fy Esau innau af,
Hon i finnau ofynnaf.
O, fendith y bendithion,
I minnau fyth mynnaf hon!
Hyd y glyn diogel af,
Yn nawdd hon llonydd hunaf.
Dirym yw Gweddi daeraf
Enaid prid, i newid Naf;
Ond ei nerth wna’n newid ni
Iw ddelw, wrth ei addoli.


250 GWAITH ISLWYN.


Ni thyn Ner o'i lys eres,
Ond tyn ni at Ion yn nês.


Hi yw f’ysgol, caf esgyn
Yn dra phell hyd ei haur ffyn,
Cadernid addewidion
Ion a’i ras yw ffyn aur hon.
Uwch pellder y ser os af
Hyd hon, ni thyr o danaf.
Cryfach po uchelach yw,
Cadarn hyd y fainc ydyw.
Canaf ar eithaf ei rhad,
Uwch caer awen, uwch cread;
Drwy engyl hyd-ddi dringaf
Nes fy nod i lys fy Naf.


Dirym fu lluoedd dewrion
Amalec yn ymyl hon.
Ei lew dorfa wnaed fal dim
Ar ffodus faes Rephidim.
Gwyliai Moesen y gelyn
Heb un braw o ben y bryn;
E ddaliodd fry ei ddwylaw
Ar led — dyferai i’w law
Cyn hwyr, y lwyr fendith Ion, — sef helaeth
Fuddugoliaeth wrth fodd ei galon.
Rhoddes Duw urddas y dydd
I ddwylo ei addolydd.


Natur fawr un tro fu — ar Weddi fwyn,
Fel llawforwyn addwyn, yn gweinyddu.
Rhoed holl anian o dani,
Daear a nef i’w dwrn hi.


Gweddi i'w llaw gadd y lleuad, — a’r haul
A roed at ei galwad;
Safent wrth ei deisyfiad
Er parhau’r golau i'r gâd.


Uchod bu syndod i'r ser — nas deuai
Nos dywyll fel arfer;
Ddydd a nos, diffoddodd Ner
Eu chwyldaith trwy'r uchelder.

 
O ryfedd fri Gweddiydd
A’i law’n dal olwyn y dydd!


GWEDDI. 251


Y santaidd Elias, yntef,
Oedd yn hy ar allweddau nef.
Ar Dduw e daer weddiodd,
A'r wybren glaerwen a glodd;
Ei rymus Weddi oedd rwymyn
Acw am loew gwr y cwmwl gwyn.


Bu y loewnef, dair blynedd — a chwe mis,
At ei arch m
ŷg rhyfedd;
Elias ar angel-sedd!
Fe roed arno fawr deyrnedd.


Ail-blygodd, addolodd Dduw,
Oni ddelai'r gwlaw ’n ddiluw,
Dylif, erfawr lif ar led,
Daear sech dorrai’i syched.


Ac honno'r wraig o Ganan, — nis enwai
Y briwsionyn bychan
Na roes ei holl d
ŷ i’w rhan, — a hawl i
'R holl ddaioni, yr allwedd ei hunan.


O'r nef fe edrych yr Ior anfeidrol
Ar y gwael a'i Weddi anryglyddol,
Rhanna ei ddoniau i’r anhaeddiannol;
Y gwael a'r rheidus ga’i law waredol,
A chynhorthwy’i fraich nerthol — i'w ddyrchu
Trwy iawn Iesu, o’i wae truenusol.


Ion ni agora i'r hunangarol
Aur drysorfeydd ei rad ras rhyfeddol;
E gaua'r nennau rhag yr hunanol,
Gweddi ddigynni’r hunan-ddigonol,
Nid a’r wag weddi hon yn dragwyddol
O fewn i furiau y nef anfarwol.


Gweddi y truan gwan anigonol
Ystormia’n ebrwydd y gaer dragwyddol,
Y nefoedd egyr, saif yn fuddugol
Ar eirian furiau'r oror anfarwol.
Deigryn, un dyferyn edifeiriol,
Nofia longau nefol — yn llawn rhadau
I fewn i ddu enau'r afon ddynol.


A! pobl y cwynion, y publicanod,
Sy yn llochesu yn y llwch isod,
Hwy sydd dda 'u hachos ger y sedd uchod;


252 GWAITH ISLWYN.


Edifar
ŵr sy'n dyfod — yn enwog,
Ie’n dywysog godidog Duwdod.


Pharisead ni chaffai’i roesawi,
Ior a guddiodd ei hun rhag ei weddi,
Ei iawn oedd ei hunan a'i ddaioni;
Yn nheml Ion son am ei eluseni!

Wael adyn, eiddilyn yn addoli
Ei hunan, gan anghofio ei gynni;
Ai y g
ŵr adref mewn gau wrhydri,
Ynfyd
ŵr annoeth, yn fwy’i drueni.

I'r euog arall Ior agorai —’i aur borth
O hir bell tra safai;
At yr euog mewn hedd troai,
Ei ras oedd fôr i suddo’i fai.

Euogrwydd ei fywyd i gyd godai
Iw olwg ar unwaith, a’r gwael grynai;
Fry yn yr awyr, y Farn, a ruai;
Ai'n nos hollol, tua'r nef ni syllai;
Hyd ei gydwybod euog e dybiai
Rolio o synol 'storm farwol Sinai.
Yn y dwys ofid o flaen Duw safai
Yn fud, heb esgus am fai, — dan gyfion
Farn y goron, ei ddwyfron a gurai.

Yn ei ran ni feddai un rhinwedd,
Na degymau, na dim ond ei gamwedd,
Na modd i ddisgwyl am hedd — a bywyd
Ond trwy agoryd o ddrws trugaredd.

E dorrai allan mewn geiriau drylliog
Gyda pharodwedd a llygaid ffrydiog, —
"I bechadur dan gur bydd drugarog,
Dy ras, Dduw, rho i droseddwr euog!"

Diau hwn aeth i'w dŷ’n ol — yn ŵr rhydd
O fewn newydd gylch cyfiawnhaol,
Ai adref heb y ddedryd,
A hyn oedd fel newydd fyd!

Draw e welai'r lleidr halog — lwybr Gweddi
Yn egori tua'r nef deg eurog,
Llwybr i wan weddi'r annuw
Trosodd hyd at orsedd Duw.


GWEDDI. 253


Erfyn ar derfyn ei daith
Yn nôr uffern, O'r effaith!
Ei Weddi fer ddygodd faith — fythol rad
Iddo'n atebiad, braidd hwnt i obaith.

Gwelai Frawd ar Galfari
Goludog at galedi;
E welai fodd, ger ail fyd, — i faddeu
Holl feiau hyll ei fywyd.

Er cynni y Gŵr canol — er ei gur
A'r goron ddrain wawdiol,
E welai deg ddelw ei Dad
A'i haniad uchfrenhinol.

A thrwy un Weddi'n unig — y trowyd
Y truan colledig,
Un ymddiried puredig
Ir pryniad ar y pren dig.

Ai’n lân i'r Wynfa lonydd
Dan wên Duw brydnawn y dydd!

Ior o'i nef, prysuro a wnaeth — weithion
Olwynion ei dirion Iachawdwriaeth.

I ras yr Ior, gwaith o oriau — ydoedd
Ei waredu’n ddiau;
Aeth i wlad y caniadau,
"Cân yr Oen," cyn ei hwyrhau.

Mewn un prydnawn gwaith oes a gyflawnwyd,
O fywiol ynni ef a ailanwyd,
Yr halog ddyn euog gyfiawnhawyd,
A'i enaid eilchwyl yn y gwaed olchwyd,
Ir nef lwys fe’i cymhwyswyd, — cyn hwyr ef
Yn y gain haddef a ogoneddwyd.

Egyr rhyfedd allwedd hon
Ddorau carcharau chwerwon.
Paul anfarwol a fwriwyd
I garchar gan anwor nwyd;
A Silas, was yr Iesu,
A roed yn y dyfnder du;
Uchel fur a chloiau fel
Ar gell engur coll-angel!


254 GWAITH ISLWrN.


Er poenus artaith ac effaith cyffion,
Er uchel gaerau a chloiau geirwon,
Troes y ddau at orsedd — Ion yn union; —
'Hedai’n ol o’i dwyfol daith
Yn ol fel meilten eilwaith,
A chanddi arch newydd Ion
I rwygaw daear-eigion,
A darwain o'r dyfnderoedd
Ddaeargryn sydyn nes oedd
Y gell bybyr ail i gawell baban,
Fel myr enwyllt, fel y môr ei hunan,
Pob caer arswydus gwgus yn gwegian,
Pob dôr yn agor, pob dur yn egwan;
Crynai'r t
ŷ fel deildy dan
Ystorom a thrwst taran.

Y drysau cryfion geirwon agorwyd,
A heiyrn farrau cadarnaf a yrrwyd
Oll yn eu hol, a llaw ni welwyd!
Y cyffion oll gollwyd, — a'r ddau enwog
Wrth wir weddio gan wyrth ryddhawyd.

Urddas oedd ar y ddau sant, — at ryddhad
Rhodd eu Hior ogoniant,
Creodd hoen ac urdduniant
A bri Jubili i'w blant.

Ceidwad y carchar cadarn
Waeddai fel yng ngwydd y fam
A sedd yr Ior, — " Beth sydd raid
I fi estron, O feistriaid?"
"Cei rad y nef os credi
Ir Oen fu ar Galfari;
Euog adyn, fe'th gedwir
Yn ei waed o chredi n wir."
Cyn agor gwawr y borau
Yr oedd hwn wedi’i ryddhau
Rhag nerth diafol serth a'i swyn
A chadwyn ei bechodau.


“Myfi yw y ffordd.


Nid oes un ffordd ond Iesu — a'i haeddiant
I Weddi ddyrchafu
O fonwes dlawd i fyny,
Arwydda gwaed ei ffordd gu.


GWEDDI. 235

Agorai’i waed Ef y cysegr Dwyfol,
A rhwygai'r gadarn wahanlen farnol
Acw er oesau lennai'r fainc rasol,
Lennai Dduw! Fe luniodd heol — olau,
Hardd, fawr yn nennau, sef ffordd frenhinol
I Weddi yr anhaeddol — fynd i'r lan
At lys nef eirian, at les anfarwol.

Ryfeddol lawn! Cyfiawnder foddlonodd!
Ei waed a'i haeddiant mawr a'i dyhuddodd;
Y Ddeddf-daran ddiweddaf a dorrodd
Ar ei ben, a’i holl lid a dderbyniodd;
Y gyfraith bur gaf wrth ei bodd — heb lid,
Mwyach ei ryddid i’r Meichiau roddodd,
Ac o'i fodd, ynddo rhoddai
Ryddid i fyrdd o'u du fai.

O farw'r trydydd forau — e gododd
Heb gadwyn yr angau,
Yn ei nerth "i'n cyfiawnhau"
Drwy ei iawn a'i fâd riniau.

Fe godai yn fyw Geidwad — yn fore,
Yn f’awr archoffeiriad,
Hoff un, er amddiffyniad
A lles dyn yn llys ei Dad.

Yn ebrwydd trwy’r cain wybrau — adref aeth
Drwy fythol ororau,
Ir dwyfol gysegr golau
Bellach er "ein cwbl iachau."

A! y mae swyddog grymus i Weddi,
Diail ei urddas yn dadleu erddi,
"Efe yw'r Iawn," — dyna’i ddirfawr ynni;
Yn ei iawn llawenhawn ni! — Crist Iesu
Sy orlwyddiannus eiriolydd inni!
O, canwn er ein cynni! — mae mab Ion
Yn yr uchelion i’n cynrychioli!

Ar ddeheulaw Ner e ddeil yn eiriol
O du ei eiddo, er ei waed haeddol,
Hyd nes daw'r eglwys fawr anifeiriol,
Fore a fydd, yn dyrfa ryfeddol
Allan o'r bedd yn lân hollol, — pob sant
Hwnt i fethiant megis Yntau fythol,


256 GWAITH ISLWYN.


Uwch du ofid, uwch diafol, — uwch pryder,
Uwch ser, uwch eisiau eiriol!
Try’ngweddi innau trwy’i ing baeddiannol
Yn rymus yn awr, mae Iesu’n eiriol,
Ni obeithiaf bythol — am achubiaeth
Ond o'i offeiriadaeth a'i waed ffrydiol.
O bythol eiriol erof — fy Nuw cu!
O dyro, Iesu, dy Weddi drosof!

YR HEN WEINIDOG.


‘Y NEB ni weithio,' meddai Paul, ‘Na chaffed fwyta chwaith,
Ond cofiwn, ni ddywedodd ef ‘Y neb ni allo waith.'

Adwaenwn un gweinidog claf, ’r oedd wedi ffaelu gweithio;
Alleirio’r llinell olaf wnaf —’r oedd wedi ffaelu teithio.

Adwaenwn filwr oedd un dydd y gore yn y gâd,
Mewn henaint a phenllwydni prudd fe’i cadwyd gan ei wlad.

Adwaenwn filwr uwch ei radd, o urddas milwaith mwy,
Tan faner Iesu treuliai’i oes, bu farw ar y plwy!

O Gymru! tyred gyda mi i dŷ’r gweinidog claf,
Fe roddodd oreu’i oes i ti, ei wanwyn oll, a'i haf; —

Y mae y gauaf wedi dod, ac eira amser sydd
Yn gwynnu ei santeiddiaf ben, a darfod mae y dydd.

O! cofia 'th hen weinidog pan yn methu yn ei dŷ,
O! cofia, Gymru, os yw’n wan, fe roes ei nerth i ti.

Fe roes i ti ei wanwyn teg a’i euraidd lon gynhauaf,
Gofala am y tymor oer, O! cymer di ei auaf!

Gwel a yw’r to sydd uwch ei ben yn ddigon rhag yr hin,
Gwel a oes ar ei aelwyd dân, ac yn ei gostrel win.

I
R ANGOR.


Rhag ch
ŵdd môr angor a rydd — gadernid
Rhag dyrnau ystormydd;
Y di-sigl yn cydio sydd
Yn y flin don aflonydd.


DAVID JONES, TREBORTH. 257

DAVID JONES, TREBORTH.

GWELL gennyf dy hanes diweddar, fy ngwlad,
Na 'th hanes hynaf ol i gyd;
Gwell gennyf yr heddwch ddilynai y gâd,
Y tangnef ddilynai y llid;
O! gwell yw hyfrydlais efengyl yr Iôr
Na thwrf y rhyfeloedd a fu;
Mae engyl yn ddistaw i wrando dy gôr
Yn canu am Geidiwad mor gu.
Os aeth d' anibyniaeth a'th gyfraith i goll,
Anthemau Llangeitho sy dâl am yr oll.

Bu dywell dy fro am ganrifoedd di-hedd,
Nid oedd i'w goleuo ond fflachiad y cledd;
Rhyfel-feirch a sarnent dy lesni dan draed,
A'u ffroen yn y cwmwl gweryrent am waed.
A! mwy na disgleirdeb yr enfys a'r wawr
A geir yn goleuo dy froydd yn awr!
Mae 'th fryniau yn gorffwys ar fynwes y wiwnef,
A'u bannau’n cydbwyntio i'r pell fythol artref;
Dy holl gerrig adsain adferwyd i'w hawl
Gre'digol, i ateb yn unig i fawl.
Dychwelwyd dy gledd yn dragwyddol i’w wain,
Ac nid oes ond blodau lle na bu ond drain;
Amheua’r ymwelydd, wrth rodio dy dir,
Ai daear ai nefoedd wyt, Gymru, yn wir.
Nid oes ynnot fryn na santeiddir ei dioed
A syml addoldy hynafol ei oed;
Na bro heb ei Bethel, a'r myg Angel mawr,
Gan weddi rhyw Jacob, yn rhwym wrth y llawr.


Yn lle y gwroniaid rhyfelgar a fu,
Ti gefaist genhadon y bywyd yn llu;
Ac ni fu cenhadon mwy dwyfol eu dawn
Erioed yn cyhoeddi rhinweddau yr lawn.
Mae 'u henwau yn dodi dy ysbryd ar dân,
Ac yn eu nefol-res mae gwron fy nghân.


DOLYDDELEN anfarwolwyd fel ei enedigol le;
Uwch y fangre, pan ei ganwyd, llawenhai angylion ne;
Mae angylion yn adnabod myrdd o'th lennyrch, Gymru fad;
Teimlant mor gartrefol ynnod ag yng Nghanan, santaidd wlad.



258 GWAITH ISLWYN.


Oni chedwir Dolyddelen, oni chedwir Tal y sarn,
Gan warchodlu o gerubiaid, rhag dyfethol dân y Farn?
Oni cha y fath gysegroedd ddianc yn yr olaf ddydd,
Fel colofnau yn oes oesoedd ar y "ddaear newydd" fydd?


Ganwyd Dafydd ar y Sulgwyn, — arwydd nad oedd iddo ef
Ond cyfodiad ar gyfodiad yng nghyfeiriad nef y nef;
Fe ddihunodd i fodolaeth ffyda’r Iesu, ’r "trydydd dydd;"
Ac o fewn "grym ei adgyfodiad" treuliodd gerub-oes o ffydd.


Galwodd Duw ei dad i'r nefoedd, pan nad oedd ond ieuanc iawn,
I gymeryd arno’i Hunan ei holl ofal ef yn llawn;
Idd ei law ei hun cymerodd ei hyfforddiant, a'i holl ffyrdd;
Mwy nag athraw dynol gafodd, mwy na nawdd angylion fyrdd.

Codwyd ef,’r un modd a Ioan, yn athrofa Iesu’i hun;
Fe’i haddysgodd ar ei ddwyfron, ac o dan ei aden gun.
Pwy ond Duw allasai lunio y fath enaid yn ei wawr?
Pwy ond Duw yn uniongyrchol allsai godi "tri mor fawr?"

Ni fu iddo o fanteision ond ychydig, fore’i ddydd;
Nid oedd eto’n Nolyddelen ysgol un, na llyfrgell rydd.
Gorchwyl hawdd oedd rhifo'i lyfrau, eto ni fu lle mor dlws,
Mor gysegrol, â'r lle cadwai’i lyfrau gynt — "yng nghil y drws."

Y fath olygfa fuasai’i weled yn fachgennyn gwridog, iach,
Ar deg hwyr o haf, yn myned yno, i'w fyfyrgell fach,
At ei hanner dwsin llyfrau ’ng “nghil y drws" — ac angel draw
Yn ei wylio, rhag i niwed ei gythryblu ar un llaw.

Gall fod y diffyg o fanteision borau
Yn rhoi i'r meddwl dynol fantais weithiau.
Mae’n gweithio gyda m
wy o fewnol allu
Na phan bo amgylchiadau yn ei helpu.
Y mae athrylith anorchfygol weithian
Yn llwyr ymdaflu ar ei nerth ei hunan.
Ceir mwy o ofal am yr addurn-goedydd,
Sy yn addurno’n gerddi mor ysblenydd:
Ond yn y dderwen, dyfodd wrthi’i hunan,
Y gwelir nerth a holl fawrhydi anian.
Fe fagodd hon gadernid yn ei borau,
Ac ni ysgydwir hi gan stormydd oesau.

Dirmygus ganddi hi fai dringo muriau,
A phwyso ar ategion a cholofnau.


DAVID JONES, TREBORTH. 259


Nid ffrwyth dysgeidiaeth, nid planhigyn llafur,
Yw gwir
wreiddiolder, eithr cynnyrch Natur.
Bydd rhyfder liwn, feallai,’n gyfatebol
I naturioldra’r twf, a nerth y storm allanol.
Prydferthach, glasach, yw y pur eginyn,
Na edwyn ond y gawod bêr a'r gwlithyn,
Na holl gynhyrchion gwrtaith celfyddydol,
Sy’n gwthio’r twf i'r lan yn anamserol.
Mawryger Dysg; ond gall fod ambell eithriad,
Lle mae naturiol dwf yn cyrraedd uwch dadblygiad.

Os na chadd ef ddysgeidiaeth yn y borau,
Fe gafodd Anian— yr athrawes orau —
I droi cyfeiriad ei feddyliau gwawriol
Yn brydlawn tua’r uniawn bwynt — y Dwyfol.
A! nid oes neb a ddysg yr ieuanc feddwl
Yn debyg i flodeuyn, seren, cwmwl!

Rhoed iddo lygad craff i weled Anian,
A thrwyddi hi i weled Duw ei hunan.
Ni allai crebwyll Milton anghydmarol
Drosglwyddo iddo y fath wers effeithiol,
Ar allu, mawreddogrwydd, ac arddunedd,
A'r syniad gai wrth weld mynyddau Gwynedd
Yn crwydro fry, mewn bythol aruthroldeb,
Gan edrych arno fel o Dragwyddoldeb!
Pa beth all roi i awen llanc feddylddrych
Am gyfoethogrwydd ac ysblander gorwych,
Cyffelyb i fachludiad haul Mehefin,
Pan fyddo pwyntel Ior yn lliwio'‘r teg orllewin —
Pan fo afonydd claer o aur toddedig
Yn arllwys dros gymylau pentyredig,
I ryw dragwyddol geudod, a rhyw ffurfiau,
Fel eiddo engyl, yn addurno 'u glannau?
Fe yfodd ei athrylith ardderchoca
Yn ddwfn i fewn ogoniant yr olygfa.
Ei enaid doddai dan y claerder eirian,
A rhedai i fewn i ffurf odidog Anian.
Yn forau lluniwyd ei athrylith gun
Gan Natur lân, yn ol ei delw ei hun;
Ac, yn y man, fe welid fod ei ganiad
Yn adlun hardd o ryfedd wawl machludiad,
A'i feddylddrychau, fel o ddwyrain amser,
Yn suddo i orllewin tragwyddolder,
I lawenhau angylion bro y Gwynfyd,


260 GWAITH ISLWYN.


A chyfoethogi dofn lenyddiaeth eilfyd.
Hoff ddisgybl Anian ydoedd yn ein mysg,
A ffyddlawn fyth a fu i'w dwyfol ddysg.
Doi ambell awel dros ei bregeth ef
Yn llwythog oll gan beraroglau’r Nef.
Caed ambell ddarlun, hardd fel pren afalau
Yng ngoleu lloer a ser, a dwyfol wenau.

Y Gwanwyn oedd ei gynllun; dilyn wnai
Brydferthion Ebrill, a balmeidd-der Mai.
Yr Haf oedd reol ei farddonol ddawn,
Y lwythog fen, yr ysgub felen, lawn.
Cyweiriai’r delyn wrth lawenaf dôn
Y llon fedelwyr, pan yn moli Ion,
Am haul a gwlaw, ac ysguboriau clyd,
A'u muriau oll ar dorri gan yr yd.
Ni chlywais anghord unwaith yn ei dôn;
Nid wyf yn cofio ’i glywed ef yn son
Am ddim ond ffydd, — am ddim ond gobaith per,
A chariad yn cyrhoeddyd uwch y ser.

Ceir rhai yn canu am yr Hydref prudd,
Am hyd y nos, a byrder blin y dydd,
Pan fyddo Natur fel dan farwol glwy,
Dan gystudd trwm, yn chwennych marw mwy;-
Pan gryga llais y gwynt, — pan fyddo'r coed
Yn gwlawio 'u dail, gan lesgedd a hen-oed.
Ein brawd ni chanai am y tymor du;
Rhy ddisglaer oedd ei obaith; mil rhy gu, —
Mil rhy gariadlawn, oedd ei Awen lon,
I borthi trymder, a llesg brudd-der bron.

Fyth am y Gauaf cana ambell un,
Y sydd a'i fywyd oll yn auaf blin;
A thros ei dynged rhyw angladdol len
Yn lledu, fel y drom auafaidd nen.
Mae Anian, fel ei galon ef ei hun,
Oll wedi rhewi, a phob gobaith cun
Yn gorwedd yn y bedd; dinodded yw
Rhag stormydd chwerwon, fel y gangen wyw.
Ond holl gynhyrchion ein hardderchog frawd
A adlewyrchent ei ddisgleiriaf ffawd;
Ei wynfyd mewnol weithiai trwy ei gerddi,
Fel egin glas o ddaear lawn o ynni.


DAVID JONES, TREBORTH. 261

Mynegfys aur yr Ysgol Sul
Ddanghosai iddo’r "llwybr cul,"
Sy'n arwain heibio haul a ser
I fyny i Baradwys Ner.
Sefydliad bendigedig yw
Yr Ysgol hon; — mae angel Duw
Yn gwylio wrth ei gwynnaf ddor,
A'i hunig ddysg yw Gair yr lor.
Mae, fel y Sabbath myg ei hun,
Yn santaidd, — yn santeiddio dyn.

Fendigaid wr a'i dysgodd ef
Yn hon i ddarllen geiriau’r Nef!
Ar ol cyflawni tasg mor fawr,
Gallasai’i athraw fynd i lawr
Iw dawel fedd, mewn hedd di-lyth,
Fel un a'i waith ar ben am byth.
Carasai angel ddod yn ddyn,
I ddysgu darllen i'r fath un, —
I agor porth gwybodaeth wiw
O flaen athrylith o'r fath ryw.

Nid yw y rhai sy'n meddu llyfrau lawer,
Ym more 'u hoes, braidd yn efrydu’r hanner.
Mae llwyrder yr efrydiaeth yn gymesur
I brinder y manteision. Mwy yw’r llafur,
A hirach filwaith yw y llinyn plymio,
Os culfor yw y ddysg; — gwna’n llwyr ei chwilio.
Cwyd hwn bob cragen at ei glust feddyliol,
A llwyr fwynha ei holl adseiniau nefol.

Ni feddai’n bardd ond hen Ramadeg Nantglyn,
Iw ddysgu yng-nghelfyddyd gain yr englyn;
Ond digon oedd i awen mor naturiol,
I lwyr feistroli’r nyddu cynghaneddol.

Byth ni 'th ddirmygaf di, y bêr gynghanedd,
Adseini i glych y nef mewn pur gysonedd!
Gem ydyw englyn nad all unrhyw lên
Ei wisgo ar ei bron, ond Cymru hen.
Mae sain cynghanedd Dewi Wyn o Eifion
Yn ddigon braidd i ddofi gwylltedd Neifion.

Bu hyfryd ganddo yntau, fore’i oes,
Felusion y gynghanedd sain a'r groes,
Ac ambell i gynghanedd lusg, mor bêr
Ag odl ddyferodd o anthemau’r ser;


262 GWAITH ISLWYN.


A thrwy ei fywyd o weithgarwch llwyr,
Ein bardd a eurai orwel llawer hwyr.
Ag awenyddol ogoneddiad claer,
A thoddaid cyfoethocach na'r pur doddedig aur.

Ar ol dychwelyd o’i "gyhoeddiad" pell,
Dros fryniau Cymru, ai i’w fyfyr-gell,
I lunio cerdd, a llonni hwyr y Llun,
A chynghaneddion melus fel y gwin.
A! llawer awr aeth heibio — fel y mae
Angylion yn mynd heibio — wrth fwynhau
Cymdeithas ber yr awen! Llithrai’r nos,
O awr i awr, i gwrdd â'r geinwawr dlos,
Tra ef yn tynnu bywyd-ddarlun mad
O’r "mab af radlon" yn cofleidio’i Dad.

Tyrd, Awen, mwy i syllu arno ef,
Fel un o bennaf weinidogion nef,
Ni fedd y byd un swydd mor ddyrchafedig
A chennad hedd, gan Dduw yn anfonedig.
Prif lysgenhadwr amser ydyw ef,
A’i gredlythyrau oll o lys y nef.
Y mae gogoniant dwyfol ar ei swydd,
Sy’n gwneyd i Satan ffoi o'i santaidd
ŵydd.
Mae’r had a heuir gan ei ddiwyd law,
Yn dod i fyny yn y dydd a ddaw,
Yn wyn gynhauaf o ddidranc barhad,
A myrdd o engyl y medelwyr mad.
Er hau mewn dagrau, meda, yn y man,
Mewn pur orfoledd, ar y nefol lan,
Tu hwnt i gyrraedd pechod, ing, a phoen,
Ym mythol bresenoldeb "Duw a'r Oen."
O! pan gyrraeddo derfyn pur ei daith,
Derbynia "goron," am ei uchel waith,
Na wisgodd teyrn mo’i bath; ac ar ei ben
Bydd enfys Duw’n disgleirio yn ddi-len,
Pan dduo’r haul, pan syrthio ser y nen.

Er uched yw y bardd, er pured yw
Cenhadaeth awen o sancteiddiol ryw,
Ymgolla yn y swydd oruchel hon,
Fel seren yn y dydd, fel defnyn yn y don.

Nid gwthio’i hunan i areithfa’r groes
A wnaeth efe; ond eglwys Dduw a roes


DAYID JONES, TREBORTH. 263


Yr alwad iddo; a'r nesaf alwad yw
At uniongyrchol alwedigaeth Duw.
Pan fyddo y lân eglwys yn ei lle, —
Pan fyddo hi ar ganol ffordd y ne, —
Mae dwyfol rym yn ei hewyllys gun,
Mae’n adlewyrchu meddwl Crist ei hun.
Fe welai brodyr Dolyddelen fod
Rhyw seren deg o arfaeth Duw yn dod;
A chydunasant, ar ei gwawriad hi,
Iw chroesaw idd ei rhod ardderchog fry.
Mae’r "doethion" eto yn eglwysi nef,
Fyth yn parhau i weld "ei seren Ef."

Yr oedd ei frawd, trwy’i weinidogaeth gref,
(Fel angel yn ehedeg yn y nef,)
A siroedd Cymru eisioes wrth ei draed,
Yn gwaeddi am achubiaeth trwy y gwaed.
O! clywais ef, fel udgorn Sinai gynt,
Yn ysgwyd Cymru, fel â dwyfol wynt;
Fe dynnai’r nef, â'i nerthol lef, i lawr
Yn gawod drom ar y Gymanfa fawr;
A thyfai grasau’r eglwys ar ei ol,
Fel, wedi cawod, egin glas y ddôl.
Joseff y teulu, — fe agorai’r wlad
I eraill o ardderchog d
ŷ ei dad.

Grymusder ydoedd nodwedd "Tal y sarn,"
A nerth fel nerth daeargrynfeydd y farn.
Wrth wrando arno’n agor geiriau’r lor,
Meddyliem braidd am lanw’r Gwerydd fôr, —
Am ryw Niagara feddyliol gref
Fry yn ymarllwys dros fynyddau’r nef.
Pregethau "Treborth" oeddynt emau’r saint,
Mwy hynod am dryloewrder na maint,
Disgleirdeb pur ei arddull wnelai ddrych
I angel weled ynddo’i wyneb gwych.
Llwyr daflai ef ei ddifrifoldeb dwys
Iw bregeth, nes y plygem dan ei phwys.
Rhy santaidd ydoedd ei areithfa ef
I greu digrifwch coeg, — rhy lawn o’r nef
I gymhelliadau o ddaearol ryw
Anturio fyth i ddringo’i grisiau gwiw.
Addysgu, nid difyrru, oedd ei nod;
Ei amcan oedd lleshau, nid ennill clod.
Er cymaint oedd ei ddawn, ni welid ef
Yn gwthio’i hun i mewn i'w bregeth gref.


264 GWAITH ISLWYN.

Fe suddai hunan yn anfeidrol fôr
Cyflawnder Crist, a'i anherfynol stor.
Symudai bopeth fyddai rh
ng y llu
A chroes ei Arglwydd, fel y gwelent hi,
Heb unrhyw len, ar uchder Calfari.

Ei bregeth ryfedd, gan brydferthion dawn,
Addurnid oll â godidogrwydd llawn.
Tywysai ni trwy ryw rodfeydd di-ail,
Dan goed ag anfurwoldeb ar eu dail;
Ond nid oedd rhodfa, er eu dirfawr ri,
Heb ei mynegfys tua Chalfari.

Godidog flodau, addas idd y nef,
A geid yng ngardd ei bur athrylith ef;
Ond, er eu mawr amrywiaeth, tyfent oll
Yn ffurf hoff enw’r Iesu yn ddigoll.
Holl ymerodraeth crebwyll, dysg, a dawn,
A drethai at wasanaeth Crist a’i iawn.
Holl flodau ei athrylith, drwy ei oes,
A rwymai’n sypyn cryno ar y groes.
Er godidoced dy genhadon di,
O Gymru fad! — er amled yw eu rhi,
Ni chefaist un mwy pur ei ddull nag ef, —
Neb mwy coethedig yn athrawiaeth nef.

Ni chlywyd ef, ar hwylus daith, erioed
Yn traethu pregeth hanner canrif oed.
Toreithiog fythol oedd ei feddwl ef,
Fel daear Canan gynt dan fendith nef.
Ffrwythlonder meddwl o drofanol rym
Boed iddo ef, heb wywder gauaf llym.
Ei feddwl mawr gynhyrchai fel y gwnai
Paradwys ddwyfol Eden cyn y bai.
Fe ddeuai, fel y daw y gwlaw a’r gwlith,
Yn newydd fythol, ac yn faethol fyth.
Nid camlas marw oedd ei bregeth bur,
Ond afon yn dolennu trwy y tir,
Ac ar ei glannau flodau ieuainc, per,
Ac ar ei bron, yn adlewyrchu’n der,
Gysawdau pur o ffres-greuedig ser.

Di-ail dywysog ydoedd mewn cymdeithas,
Yn llonni â'i arabedd bawb o'i gwmpas.
Pwy fel efe am adrodd hanes difyr,
Flaen siriol dân, ar noson oer o Ragfyr?


DAVID JONES, TREBORTH. 265

Dirmygus ganddo oedd gwynebau hirion,
Mewn byd mor wynfydedig ac mor dirion.
Dirmygai fyth y talcen gwallt-guddiedig,
Fel pob ystafell wag, ddiddefnydd, unig.
Pa beth yw Cristion ond y dyn puredig?
Pa beth yw gras ond natur berffeithiedig?

Parhaodd yn ei waith,
Nes cyrraedd pen ei daith;
A'i ysbryd pur
Ehedodd tua’r wlad
Addawyd gan y Tad,
Y dwyfol dir.

Gorffwysa ambell un,
Cyn cyrraedd henaint blin,
Ar wely o ros;
Ei ddefnyddioldeb sydd
Yn darfod cyn ei ddydd;
Mae’n huno cyn y nos.

Ond ar bob cam o rawd
Ein cysegredig frawd
Caed ol o waith;
Ac ni ddisgwyliai ef
Orffwysf a cyn y nef, —
Cyn pen y daith.

Fel haul, goleuo bu
Tra yn ein golwg ni;
Ni allai fwy;
Goleuodd nes, mewn hedd,
Fachludo i lawr i’r bedd;
Ni allai’n hwy.

Er teimlo llawer loes,
Ym mlwyddi ola’i oes,
Pregethai Waed y Groes
Yn bêr o hyd;
A llanwodd ef yn llwyr
Ei fore ddydd a’i hwyr,
A gwaith i gyd.

Yn iach, fy mrawd! — Mae’r bedd yn felus iawn,
A'r ol fath einioes o weithgarwch llawn.


266 GWAITH ISLWYN.


Mae Iesu’i hunan wedi cloi dy fedd,
Mae allwedd aur yn hongian ger ei sedd,
A'th enw’n gyflawn arni, i’w goffhau
O’th gariad gynt, a bore dy ryddhau.
Ffarwel yn awr! — Mi ddeuaf at dy fedd,
Ryw falmaidd hwyr, pan fyddo dwyfol hedd
Yn gorffwys yn santeiddiol ar y byd,
A lleisiau pawb, ond eiddo’r ser, yn fud —
Rhyw nos llawn-lleuad fydd — rhyw ddwyfol nos,
Fel honno gynt orchuddiai Eden dlos.
O! bydd prydferthwch yr olygfa gu
Yn dwyn i'm cof dy degwch moesol di.
Bydd eglwys Gomer ar angylaidd wedd,
A'i dagrau yno’n gwlitho blodau ’th fedd.
O! pe bawn angel o anfarwol fri,
Dewiswn wylio dy orffwysfa gu!

NIS GALL Y FFLAM EU DIFA HWY.


NIS gall y fflam eu difa hwy a brynwyd ar y pren;
A thros y rhai gogwyddodd Ior ar fron o waed ei ben.


Yr oedd y ffwrn yn boeth, a'i gweld yn angau oddi draw,
A thaflwyd, taflwyd hwy i mewn dan rwymau droed a llaw.


A chollai'r elfen yn y fan ei chwbl ond ei lliw;
O, nis gall tân eu difa hwy fo’n rhodio llwybrau Duw.

 
Mae natur deg yn adwaen llais ei Hior, a swn ei draed;
Adnabu ei wynepryd, do, trwy borffor len o waed.


O’i mynwes tynnodd yn ei llid y ddaear-gryn, cref law ei nerth;
A rhwygodd, rhwygodd yn y fan ei chreigiog wregys certh.


Fe blygai y ddaearen dan ruddfannau Ior, anfeidrol faich,
A rhodiai’r storm trwy ganol nef a'r bryniau ar ei braich.


Symudai’r haul yn araf draw, fel elor-gerbyd du,
A'r dydd yn farw o'i fewn, a’r nef mewn galar ar bob tu.


Ac wylodd llawer ffynnon bell hyd arlechweddau Canan gu;
Pan gludai’r awel brudd y llef, "Mae syched, syched arnaf fi!"


A Chedron yn y fro islaw ruddfannai am dramwyfa fry;
A chlywid awen Seion deg yn gruddfan gyda hi.


Ni fynnai’r wig lle torrwyd y melldigedig bren
Flaguro mwy, nac edrych byth mwyach tua’r nen!


A'r awel lon pan ddelai yn agos ati hi
Fel uwch ben bedd distawai, a drylliai’i thelyn gu!


ANGEL. 267


ANGEL.


A GAIFF fy ysbryd i
Yng ngharchar defnydd du
Fydryddu'th hanfod cu,
O Angel rhydd!
A gaiff carcharor tlawd
Drwy rydlyd farrau cnawd
Dy weld, a'th alw’n frawd
O wlad y dydd!

 

O, braidd nad ydyw'n fai
I un sy gymaint llai,
O fewn ei gragen glai,
Dy enwi di!
Myfi mewn cyfyng gell,
A thi yn rhyddid pell
Y tragwyddoldeb gwell
Yn Nuwdod fry!

Adarwr creulawn ddaeth,
A'm dal yn fore wnaeth
O fewn ei faglau caeth,
Sef pechod du;
Pan ddeui ar dy hynt
Ar edyn dwyfol wynt,
Mae cof o'm rhyddid gynt
Im llethu i.

Ac eto ’rwy'n mwynhau
Dy bell leferydd clau,
Fel swn rhyw ddwyfol diai,
Mae'n sisial hedd;
Mae'n addaw agor dôr
I ryddid fel y môr,
I anfarwoldeb Ior,
Tu draw i'r bedd.

Mi ganaf, ysbryd gwyn,
Y dagrau-odlau hyn,
Na chymer dithau'n syn
Os lleddf eu sain;
Feallai cyn bo hir,
Daw'r anthem yn fwy pur,
Daw seiniau mil mwy clir
I foddi'r rhain.


268 GWAITH ISLWYN.

Rhy santaidd yw'th ogoniant idd ei ganfod;
Ysbrydol, megys eiddo'th Ior, yw'th hanfod.
O, wynfydedig fod! heb lwyth daearol
Ith dynnu i lawr o rwysg dy rod anfarwol,
Ymddyrcha meddwl dyn i fyny weithiau
I fydoedd ysbryd pur, rhyw deg ororau;
Ond, fel y cerbyd dan y lâs awyren,
Tyn defnydd ei yn ol o'i ddwyfol wybren
I ddyfnder fel y bedd; o uchder angel
Disgynnir ef yn gydradd â'r anifel.

O ddefnydd! O fynyddoedd wedi eu rhwymo
Wrth gwmwl gwyn a fynnai basio heibio
I olwg gorsedd Duwdod, ac ymdoddi
Iw hanfod pur ei hun, ei lawn oleuni!
Israel ym Mabilon — ymhell o’i Seion
Ei hun, — yw enaid dan faterol gyffion.
Ni chân garolau pêr ei fro ei hunan,
Ond am
bell nodyn yn y breuddwyd egwan.

Tyrd, ddieithr Allu! tor y c'lymog linyn,
A gad i'm hysbryd gorfoleddus esgyn
Fel "cerbyd Israel a'i farchogion" — heibio
I haul a ser, i'm cartref bore eto.

Odidog fod; ni raid i ti gwynfanu,
Nid yw'th fodolaeth di yn cael ei rannu
Rhwng dwy wrthelfen groes. Er awr dy gread
Ni theimlaist ynnot d' hun un gwrthdarawiad,
Ni fu sain groes nac unrhyw afreolaeth
I dorri pêr gynghanedd dy fodolaeth.

A'th ysbrydolrwydd, gyda'th berffaith burdeb,
Yw gwraidd dy allu, sail dy anfarwoldeb.
Yr ysbryd sydd mewn dyn sy'n rhoddi iddo,
Lywodraeth ar yr holl gre'duriaid dano:
Ei reswm yw ei rym; y Meddwl rhyfedd,
Ag sy’n goleuo'i lygaid a’i holl agwedd,
Sy'n cadw'r byd i lawr, fel pe bai'r Duwdod
Yn tremio drwyddo ar bob peth sydd isod.
Ti fedri, Angel, o'th gyfoethog allu,
Ymwisgo yn yr unrhyw ffurf a fynni
I ddweyd dy air wrth ddyn, y gair dderbynni
O enau Ior pan wrth ei fainc addoli.
Ti elli ddod i lawr yn anweledig
O'r wrybren lâs, at Abram fendigedig;


ANGEL. 269


Ymddangos iddo ef fel g
ŵr ymdeithiol,
(Ac eto rhywbeth ynnot mwy na dynol,)
A golchi'th draed, a than y pren orffwyso,
A rhoddi hanfod pob rhyw fendith iddo,
Ac yna diosg niwlwisg daearoldeb,
Ac ail ymdoddi'n ol i anfarwoldeb,
Yn ol i Dduw!


Manoah ni'th adnabu
Er mor ofnadwy'th wedd, nes ymddyrchafu
O honot tua'r Nef yn fflam yr allor,
Gan brofi grym dy air, a sail dy gyngor.
O, pwy a
ŵyr nad ti'm gwaredodd innau
Pan nad oedd yn fy mryd ond dyn a minnau
In gweld ar ael y dibyn — ar ymylon
Y tro-lyn ferwai fel uffernol eigion.

Beth oedd dy oedran pan y gwelaist Adda
Yn rhodio hyd ros-lwybrau Eden gynta?
Pa beth dy syndod weld dy hunan ynddo,
Ac arall ran na welaist moni eto
Mewn uniad â'r Meddyliol? Yr oedd defnydd
Y dynol gorff bryd hynny mor ysblenydd
A lliwiau'r fore wawr, ac nid oedd eto
Un had o dranc nac o ddadfeiliad ynddo.
Tâl pechod yw marwolaeth; moesol burdeb
Mewn defnydd fo ag ysbryd glwys mewn undeb,
Wna sicrhau i'r defnydd anfurwoldeb.
"Y marwol hwn" gyfodir yn y diwedd,
Yr un a lusgid yn ei fawr iawn lesgedd
O fan i fan am welliant — i’r “Ffynhonnau,"
I "ddwr y môr" — hwn, fu yn rhaib i donnau
Eigionau rhuol cystudd — hwn a wisgir
Ag anfarwoldeb pan y llwyr orffennir.
A! ni fuasai'n rhaid ei farw fythol
Pe y cadwasai'r hedyn creadigol
Blanesid ynddo yn y santaidd forau
Ymhell o ddaear pechod a’i ororau.
Pe y cadwasai dyn ei lân ddechreuad
Nes gorffen tymor ei amodol brofiad,
Buasai'i santaidd gorff yn traws-ymffurfio
I led-ysbrydol agwedd, ac yn nofio
O hono'i hunan, dros y glesni wybrol,
Ryw fachlud haul, i'r pur ororau dwyfol.


Ac eto, nid achwynaf, Angel addien!
Os “mcthodd" têg gynhauaf cyntaf Eden,


270 GWAITH ISLWYN.


Bydd fil-mil gwell yr ail! O'r ail gynhauaf!
Boed ynddo ran i mi y bore olaf!
Dwed, faint o amser, wedi creu y dyn,
A basiodd, cyn i Efa hardd ei llun
Ymddangos ger ei fron? Pa beth ddywedodd
Y prydferth wr, prydferthach gwraig pan welodd?


Pa fodd y deuai ato bob creadur
I gael eu henwau'n ol eu huniawn natur?
A welai Adda'n ddyfnach na'r allanol?
A welai ef bryd hyn olynwaith mewnol
Eu bodolaethau oll, y modd y gwelir
Olwyn
waith awrlais pan ei hamgylchynnir
A gorchudd gwydr, fel y gallai roddi
Eu henwau wrth eu hanian bur heb wyrni?
Ni holaf mwyach am y bore gyfnod;
Mae’r bore'n ffoi, a chanol nos yn dyfod.
Yn unig dywed, bethoedd cân eich corau,
Pan glywsoch gyntaf yr addewid forau!


Pan fyddo'r Cristion yn llesghau,
Ei oes a'i anadl yn byrhau,
'Rwyt ti pryd hynny'n agoshau,
Yn dod yn is, yn nes i lawr,
Ni allwn bron dy weld yn awr!
Mae llen y cnawd mor deneu mwy
Fel gall yr ysbryd dremio drwy
Y gorchudd brau, a gweld dy wedd,
A theimlo blâs anfarwol hedd.
Dawelwch! O ddistawrwydd cun!
Dyfnha dy hanfod, dybla'th hun,
I ni gael clywed ysbryd gwiw
Sy' newydd ddod o ymyl Duw
Yn siarad! Rhyfedd yw yr iaith,
Do, ni a'i clywsom hi un waith
Yn Adda'n tad, cyn taro o bechod
Ein hysbryd-glyw â llwyr fyddardod.
Mae yma ereill gyda thi.
Eu hesgyll wrth ymsymud sy
Yn sibrwd am angylion lu.
Ni ddaethant hwy i'th gynorthwyo
I ddwyn yr ysbryd adref heno;
Mae'th allu di yn fwy na digon,
Tydi a leddaist fyrdd o alon
A'th fellten-gledd dy hun, dros Seion;


ANGEL. 271

Na; daethant yma i fwynhau
Y brif olygfa sy'n boddhau
Nefolion — gweled ysbryd pur,
Ar ol caethiwed enbyd, hir,
Yn dawnsio ar ei holl gadwynau,
Yn esgyn adref i’r wybrennau.

Os yw y dorf yn llawenhau
Pan fyddo brenin yn neshau;
Os oes baneri yn y wybr,
Bwâu heirddion dros bob llwybr;
Beth yw'r llawenydd deimlwch chwi,
Angylion y Baradwys fry,
Pan fyddo sant, na'r eira'n wynnach,
Ar hwylio'i hynt, yn bur, yn holliach,
I wlad, nag Eden deg yn decach!
Rhowch im fy ysbryd-olwg ennyd
I weld ei lwybr i'r nefolfyd —
Y lydan ffordd agorai'r Duw-ddyn
Wrth esgyn fry, i'r saint ei ddilyn;
Mae sypiau fyrdd o flodau nefol
A dyfwyd yn yr ardd dragwyddol,
Yn gwlawio dros y ffordd frenhinol;
Eich dwylaw grogant uwch ei lwybr
Enfysau y dragwyddol wybr,
Tu ol i’w gilydd, fil o filoedd—
A dan y rhain i nef y nefoedd!
Ac O! pan welo dyrau'r ddinas,
Pan welo'i ddarparedig balas
I gyd o berl, i gyd yn barod,
A'r Iesu'i Hun yn ei gyfarfod —
O Fawredd! rhyfyg fu’nhaerineb,
Nis gallaf sefyll yn ei wyneb,
Tarewch fi eto â dallineb!

Pan fyddo'r meddyg wedi troi
Ei gefn, a’r teulu n ymgrynhoi
I wrando ar fy ngair diweddaf,
I dderbyn fy nghynghorion olaf —
Boed rhai ohonoch, frodyr gwiw,
Yn anfonedig gan fy Nuw,
O gylch fy ngwely-angau bach,
I ddwyn i fro dragwyddol iach
Ysbryd na theimlodd ar y llawr
Ond poen a siom a "chystudd mawr."


272 GWAITH ISLWYN.

 
Na! taried un am ennyd mwy,
Ac aed i'r angladd gyda hwy,
A chloed y bedd ac aed â'r allwedd
Yr G
ŵr sy'n caru hyd y diwedd.
Ymysg y saint sydd yno’n cysgu,
A'u beddau wedi'u manwl nodi,
Rhoed rifnod ar fy meddrod innau
Mewn mynor 'stryd o gofgolofnau —
Fel na fo eisiau fore'r deffro
Holi un Mair na Martha eto,
"Pa le dodasoch ef i huno?"


Os caf gyrhaeddyd bro y Wynfa,
Ryw ddedwydd ddydd o lwyr ddiangfa,
'R ol cyfarch i fy hen gyfeillion
Y dyrfa sy yng nghartref Seion,
Ymholaf am fy Angel-Geidwad
A'm dygodd drwy fy holl ymdeithiad;
Caiff adrodd im y modd diengais
Rhag gallu Satan erch a'i falais
Ar lawer tro — datguddio'r amcan
Pan aeth yr aur, y tai, a'r cyfan,
O flaen Rhagluniaeth rwygol; edrydd yno
Resymau'r daith, a'i throion oll yn gryno; —
Pam trawyd fi i lawr a minnau'n dringo;
Paham bu adfyd mawr a minnau'n llwyddo.
O uchder nef y nef, yn ol y syllaf,
A'm llwybyr cul trwy'r anial dwfn a welaf,
O garreg-filltir yr aileni pell
Hyd at y terfyn yn y gwynfyd gwell;
Bydd rhosyn ar bob draenen; gwawr siriolaf
Yn euro godrau y cymylau duaf.
O! synnaf weld fath was fu arnai'n gweini,
Un wisgai fantell o ddi-len oleuni,
A chob o anfarwoldeb dros y cyfan,
Un, er ei fawr wasanaeth, guddiai'i hunan
Nes dwyn i d
ŷ ei Dad y llesg afradlon,
A hulio'r bwrdd â bara yr angylion.
Caiff fod fy nghyfaill pennaf o'r angelfyd,
Bwytawn ynghyd o ffrwythau pren y bywyd
Y sydd yn trwm ddyferi anfarwoldeb,
Bob mis yn rhoddi ei ffrwyth am dragwyddoldeb.
Canfyddaf di o bryd i bryd yn disgyn
O'r cwmwl gwyn, a lleufer ar dy edyn


ANGEL. 273


Dry nos yn ddydd, ar werthfa
wr weinidogaeth
Ynglyn â rhyfedd drefn prynedigaeth.
Cysgodet, gynt, y fore Drugareddfa
Ag esgyll oll o aur — lle’r oedd eisteddfa
Y Mawredd Dwyfol. Uwch y pur gysgodau
Goblygai'th ben mewn santaidd fyfyrdodau;
O! ar y pethau hyn chwenychet edrych
Pan oedd y niwl yn dew ar y spienddrych
Wynebai at Galfaria.


Graddol y doedd
Dy amgyffrediad o fwriadau'r Nefoedd.
Dyfnhai'th ddyddordeb yn y cynllun dwyfol
Yn ol ei ddadblygiadau pell-olynol.
Beth oedd i ddod? Pwy fyddai Had y Wraig?
Yr oedd y sain, fel swn pellenig aig,
Yn addaw môr o ddidor ryfeddodau,
A gwrandaw arno wnaet, o bell, am oesau.
Pa beth oedd bendith Abraham? Pwy fyddai
Had Dafydd a'i Etifedd pan y deuai?
Fe syrthiodd Solomon — nid hwnnw ydoedd
Blaguryn Jesse, gobaith y cenhedloedd;
Rhaid aros eto am ddatguddiad oesoedd.
Ond yma a draw fe gaed rhyw lesg gyfeir-fys
Ar fyrddiwn croesffyrdd amser, i dy ddwys
Ir gras-ddyfodol mawr.
Pan roist orchymyn
I Abram arbed bywyd rhyfedd blentyn
Y lân addewid — O! pan welaist yno
Yr hwrdd yn barod i'w aberthu drosto,
Yn barod heb i neb ei barotoi,
Yn barod heb un awydd ynddo i ffoi —
“Yn lle y mab" pan welaist ei offrymu,
Daeth hanner-meddwl i dy ran bryd hyny
Am Rywun Mawr yn gwaedu dros filiynau,
Rhyw Un a dafn o'i waed yn fwy ei bwysau
Na holl bechodau'r byd.

A’r archoffeiriad
Pan welit yn cyffesu beiau anfad
Y flwyddyn ar y di-fai fwch dihangol,
Pechodau miloedd ar ei ben unigol,   
A'i ddanfon ymaith gyda'r g
ŵr cyfarwydd, —
Dwed, oni chrynai yr awgrymol nodwydd
Ar gyfer Calfari a'r mawr foddlonrwydd?
"Cyfarwydd" oedd "y g
ŵr" o'r ffordd i fyned,


274 GWAITH ISLWYN.


Ond nid o'r ffordd yn ol, Fe ai i waered
A thithau yn ei wylio mewn unigedd,
Gan synfyfyrio ble yr ai'n y diwedd;
Fe groesai afon ddofn, ac yn union
Ar ol ei chroesi syrthiai'r bont i'r afon
Fel drwy ddaeargryn cryf. Ni allai ddychwcl
Y bwch yn ol, oblegyd beiau Israel
A bwysent ar ei ben, a Duw ni fynnai
Weld camwedd fyth yn Jacob pan faddeuai.

Ymlaen! ymlaen! mae'r bwch a'r gŵr yn pasio,
Pa nos-fyd ydyw hwn maent weithian ynddo,
Heb un preswylydd, ffordd, na charreg filltir,
Na neb yn pasio byth? Un swn ni chlywir
Ond sain diddymdra.

Ffarwel, fwch dihangol!
Cyrhaeddaist oror ebargofiant bythol,
Na
ŵyr angylion ble y mae'n dragwyddol.

Ond pan y daeth cyflawniad llawn yr amser,
Pan welaist, gyda syndod, yn y dyfnder
Y Dwyfol Fab â gwisg o gnawd am dano,
Dyryswyd dy ddamcanion unwaith eto.
Ni allai Ef ddioddef yn oesoesoedd,
Yr Hwn yw hanfod holl fwynhad y nefoedd,
A ffynnon pob dedwyddwch. Podd y gallai
Y llygad hwnnw bylu, a oleuai
Y ser bob nos mor danbaid, neu farwolaeth
Anturio brwydr ag anfarwoldeb perffaith?
Ac eto, beth a allai fod ei ddiben
Yn dod i lawr mor ddwfn, rhoi'r fath orchudd-len
Dros haul ei gyn-ogoniant, archu'r lluoedd
Iachai yn llwyr i beidio dweyd pwy ydoedd?

Ond pan ddanfonwyd di o'r lan oleune
I weini ganol nos yn Gethsemane,
Nos ei fradychiad du — O! pan y clywaist
Ddyfalach weddi ei ing, a phan y gwelaist
Ei ryfedd chw
ŷs o waed, y coch ddefnynnau
Yn rhewi ar y llawr i ddwyfol berlau
Er prynnu euog fyd — y cyfnod hwnnw
Ti deimlaist y gall Anfarwoldeb farw,
Y gall y Crewr ddioddef un prydnawn
I roddi dros y greadigaeth — Iawn!
Ymaflaist yn y cwpan ar y llawr.


ANGEL. 275


Ond ’roedd ei bwysau yn anfeidrol fawr,
Rhy fawr i neb ei godi ond ei Hun,
Rhy chwerw i’w yfed ond gan Ddwyfol Ddyn.
Ond er mor drwm ei gynnwys, er mor fawr,
Mae'n wag ar greigiau Calfari yn awr.

Yn fore deuai'r gwragedd at y bedd;
Tydi'n foreuacb. Dywed, gennad hedd,
Pa fath, wrth godi oedd ei newydd wedd;
Darlunia'r fuddugoliaeth fwya' erioed,
A threngol ruddfan angau dan ei droed.
Pa fodd y plygaist ti ei amwisg wen,
"A'r napcyn a fuasai am ei ben?"
Dwed imi enw'r angel dedwydd fu
O fewn i feddrod Joseff, gyda thi —
(Bedd Joseff mwy; mae'n dwymn iw dderbyn ef,
Yn barod idd ei gorff, fel mae y nef
Iw enaid.) P'un ohonoch, feibion nen,
Eisteddodd lle bu'i draed, p’un lle bu'i ben?
Beth oedd y cyntaf air ddywedodd Ef
Ar ol cyfodi'n Arglwydd byd a nef
Iw "fywyd anherfynol?"


Neu, a fu
Im Harglwydd rhyfedd basio heibio i chwi
O frys i weled Magdalen, fu bron
Ei weld yn codi?


Feib y wawrddydd lon!
Dywedwch, a oedd ar ei wedd yn awr
Ryw ol o'r chw
ŷs, rhyw ol o'r archoll fawr?
O, Didymus! bu bron yn dda i ti
Led-ameu'i adgyfodiad, fel caem ni
Wybodaeth am ei lais, a'i ddull, a'i wedd,
Mewn oedfa gynnar wedi gado'r bedd.
"Moes yma'th fys, a dod yn ol yr hoelion,
Moes yma'th law, a theimla ’nghlwyfau dyfnion."
Onestaf sant! ni foesaist ti dy fys;
Athronydd pur! ni wnaethost unrhyw frys
I estyn un o'th ddwylaw — digon fu
'R gwahoddiad i ddileu'th amheuaeth du;
Pwy ond Efe fu ar Galfaria fryn,
"Y Cywir Hwnnw," wnai wahodd fel hyn!

Os oddiwrthyt, ennyd byr, y ciliais,
Gwnei faddeu im, can's gyda'r Iesu crwydrais.
Y mae fy holion eto heb eu hateb,


276 GWAITH ISLWYN.


Cânt sefyll drosodd hyd yn nhragwyddoldeb,
Pan fydd fy ysbryd i yn ddigon santaidd
I ymgymysgu gyda'r llu angylaidd.


Y mae yr enw roed i ti yn Patmos
Yn rhagbrawf im o'r addysg sy'n fy aros
Pan gaf dy lawn fwynhau — “Un o’r henuriaid."
Mae'th hendra mawr, ynglyn â'th ienctyd dibaid,
Yn dy ddyrchafu uwch fy holl athrawon;
Nis gallaf fynd yn ol mor bell â'm holion
Nad wyt ti'n ol ymhellach.

Gwelaist wead
Y bydoedd yn eu gilydd fore'r cread;
Tydi a fedri eglurhau yn hollol
Hanesiaeth ddofn yr oesau daearegol,
Rhoi hyd y "chwe diwrnod," a darlunio
Y diluw mawr yn codi ac yn treio.
Cawn gennyt ti esboniad llawn, o'r diwedd
Ar gyn-iaith dyn, a'r oruchwyliaeth ryfedd
A'i torrai i fyny'n aml fil o ieithoedd,
Pan geisiai dynol ryw arddringo'r nefoedd
Hyd risiau defnydd, yn lle ysgol rhinwedd;
Desgrifi seiliad dwfn T
ŵr Babel rhyfedd,
Ei uchder yn yr wybrau, a'r gwasgariad
Gymerodd yno le i bob cyfeiriad,

Anadliad dy hyawdledd wna wasgara
Y niwl orchuddia Pisgah; cawn oleuni
Ar ddwyfol angladd Moses ar y bannau,
A'r modd ymffurfiodd haen o dew gymylau
Cyd-rhwng y clogwyn pell a'r bobl isod,
Rhag gweld ohonynt santaidd fan ei feddrod,
A'i droi'n uchelfa o addoliad uchod.
Cawn hanes taith y doethion, a'u dychweliad,
A rhyfedd ansawdd seren eu harweiniad.
Mae llawer myrdd o ereill ryfeddodau,
Ir rhai y deli di yr aur allweddau;
Yn iach, hyd oni chwrddom!

Dan dy gysgod
O cadw fi, hyd oni chwrddom uchod!
Os ydwyf yn etifedd iechydwriaeth,
Ti fyddi'n ffyddlon im yn dy wasanaeth,
Hyd nes cyrhaeddwyf fro fy etifeddiaeth.


Y CAETHGLUDIAD. 277

Y CAETHGLUDIAD.


DYWEDWCH im, awenau Seion wiw,
Pa fodd na chlywir heddyw foliant Duw?
Pa beth a ddarfu i Gaersalem lon?
Pa ddieithr niwl orchuddia dyrau hon?
O! a ddiflannodd ysbryd mawl, a fu
Am oesoedd ar ei gorsedd fryniau hi?

Ni theimla’r sant duwiolaf ar ei hynt
Y cysgod ar ei lwybrau deimlai gynt;
Mae’n pruddaidd rodio hyd dy fryniau’n awr
Fel un a deimlai ddiffyg rhywbeth mawr,
Fel un yn dwyn i gof ryw ddyddiau gwell,
Fel sant yn teimlo fod ei Dduw ymhell.

Dy holl broffwydi, distaw ydynt hwy,
A Seion! mae rhyw wagder ynnot mwy,
Mae’n debyg i’r gorwagder dieithr fydd
Pan rodia Duw i maes o'r greadigaeth brudd
Yr olaf ddydd!


Hiliogaeth y santaidd, rhai welir mor wyw,
Pa gwmwl ddaeth rhyngoch â gwyneb eich Duw?
O, prin y disgleiria y deml yn awr
Mor danbaid a dwyfol ar gyfer y wawr.
Cythruddir y nen ag arwyddion di-hedd,
A chwery y mellt fel ar lafn y cledd,
Ymdorra’r cymylau â lleisiau o fraw
Uwchben mynydd Ephraim a Seion deg draw.

Gwae, gwae y diwrnod gadewaist dy lor,
Y Duw a'th arweiniodd o ddyfnder y môr,
A droes y dyfnderoedd tragwyddol â'i lef
Yn fawrwaith o gaerau ar grog hyd y nef,
A gauodd ystormbyrth y dyfnder i gyd,
Ar holl fawredd Soan, ag amnaid o'i lid,
A drodd yr anialwch truanaf ei wedd
Yn ddyfroedd o lawnder, yn llwybrau o hedd,
O flaen dy ddyfodiad pan grynai y byd
Gan swn dy orfoledd, dwyfoldeb dy bryd;
Y Duw a'th gyfarfu ar Horeb bell draw,
A myrdd o angylion yn gweini bob llaw,


278 GWAITH ISLWYN.


Ac yn ei ddeheulaw ddeddf gyfiawn ei sedd,
A dalen o fythol gyfamod ei hedd;
Y Duw a gyfeiriodd â'i gwmwl ei hun
Y ffordd tua broydd y diliau a’r gwin,
A fagodd dy feibion ar fronnau y nef,
A llaeth tragwyddoldeb, i gyd iddo ef,
A drefnodd larieiddiaf arweinydd i'r had
Iw tywys i olwg mynyddoedd y wlad, —
Paham ei gadewaist, O Juda, — yr Ior
A daflai ei lwybrau ei hunan, y môr
A'r dyfnder i ti yn agored o'r bron,
Pan rodiech i fyny, fel duwiau o'r don?
Gostyngai ei nefoedd i weled dy wedd,
A'i enfys oedd drosot fel arwydd ei hedd.
A deuai i'th frwydrau boreuol ei hun,
A'r haul ar ei amnaid a safai, a'r hin
A saethai ei fellt fel ym mrwydrau y nef,
Ac amser arosai i’w filwyr hyf ef.
Gwel, Israel, ei anrheg o’th amgylch, O! gwel
Y wlad sy’n llifeirio o laeth ac o fêl.


Ond daeth yr awr, y bore blin
I ado Seion wrthi ei hun,
A Juda fro nefolaidd dlos
Yn unig dan y farnol nos.
Am wrthod Duw, ei Brenin Mawr,
O Seion lom, fe ddaeth yr awr.


Holl allu y gogledd a gyfyd i gyd,
Y genedl fawr o ystlysau y byd.
Assyria alluog a ddeffry i'r gâd,
Llef rhyfel rydd allan nes deffro pob gwlad.
Mynyddoedd y byd a symudant o bell
Dan gasgliad ei myrdd tua’r wlad a fu well.
Ei llais o bell rua fel môr yn ei rym,
A'i sang a ddilea genhedloedd yn ddim.
Ei baner a gyfyd i’r bobloedd i gyd,
Ac arnynt chwibana hyd eithaf y byd,
Y llew ddaeth i fynny o'i loches ddi wawr,
A gordd yr holl ddaear a godir yn awr.


O Dan bell y clywir gweryriad ei feirch,
Gwel! drychir y nefoedd a'r ser ar eu seirch.
Gan uchel weryriad ei gedyrn y cryn
Y ddaear o amgylch, a Seion ei hun.


Y CAETHGLUDIAD. 279


Dydd barn! Dydd dialedd! Mae’n torri yn awr
A gwyneb marwolaeth ei hun yw ei wawr.
Cyfodwch y faner lifeiriol o waed
Oll, oll tua Seion yn felldith a wnaed.
Pob gweddi a gyfyd i'r nefoedd am nawdd,
Gwaedd erwin, gwaedd byddin y gelyn a'i bawdd.


Jerusalem! O gaer y Brenin Mawr
Y dysgai’r nefoedd harddwch wrth dy wawr,
Y bu proffwydi’r nef a beirddion Duw
Yn dedwydd rodio’r hyd dy fannau gwiw,
Gan yfed o ffynhonnau’r nef ei hun
Feddyliau oesoedd ereill, rhyfedd win
Barddoniaeth ereill fydoedd, tra o'u blaen
Olygfa amser hyd y gorwel cain
Oleuid â dyfodiad Duw mewn cnawd
A phell ysblander ei gyfryngol rawd, —
Ai dyma lle y bu eneiniog Duw,
A ddaeth i fyny o Ephrata wiw
I arwain Israel tua’r rhiwiau draw,
Bugeilio’r nefol braidd a'i delyn yn ei law?
Jerusalem! mor unig heb dy Dduw!
A! nid y Seion santaidd honno yw;
Beth fyddai’r nef ei hunan heb ei Hior?
'R hyn fyddai’r gwely heb y llanwol fôr,
Rhyw fythol wagder, tragwyddoldeb oer,
Fel crwydro byth o fewn rhyw ddiffoddedig loer.

Mae’n ganol nos! Ymguddiodd ser y nef
Oll, rhag goleuo’r distryw sy’n neshau,
Ac nid oes angel ar ganllawiau aur
Y nefoedd heno. Braidd y clywir swn
Dyferiad prudd Siloa ber islaw
Tra’n golchi traed santeiddiaf Seion Duw
A dagrau y dylasai Juda lom
Eu wylo oesau’n ol. Mae’n ganol nos!
Ac athrist heno ydyw llais y gwynt
Fel pe yn cludo am yr olaf waith
Sain moliant ar ei aden tua’r nef.
Clyw ferw’r gwersyll Babilonig draw,
Fil miloedd ar ddi-hun awr drom y bedd.
Gwel fellt eu cleddau ar y mewnaf gaer
Yn gorddisgleirio fel rhyw ddydd o farn.
Y mae awenau hawddgar Seion mwy,
Ac ysbryd goruchwyliaeth ryfedd hon,


280 GWAITH ISLWYN.


Ei hysbryd ffyddlon fyth-addawol hi,
I gyd yn esgyn i uchelaf d
ŵr
Y Deml wagedig, mewn parodrwydd prudd
I ddianc tua’r nefoedd, gyda fflam
Ddiweddaf Seion, fel ei hadgof hi,
I fyny at y Tad fyth i’w goffhau
O'i thrallod maith, a'i gariad yntau gynt.
Rhaiadra’r gelynion fel afon o lid
Tros gaerau rhwygedig y ddinas i gyd;
Ei sanctaidd uchelion yn fathrfa a wnaed,
A golchir ei miloedd heolydd â gwaed.
Clyw’r nef yn cyhoeddi uwch trigle y saint
Eangder i'r cleddyf, a rhyddid i’r haint.
Try’r ser oll eu llygaid i fyny mor wyw,
I fyny mewn syndod, gan edrych ar Dduw!
A'r wawr weddnewidia ei gwyneb a'i llun
Weld baner Assyria ar Seion ei hun.
Dinistriwch! Dinistriwch! Ddymchwelwyr y byd!  
A dygwch ei meibion yn gaethion i gyd;
Ei Duw mawr ei hunan a'ch galwodd i'r lan
I ddymchwel ei lluoedd, y nerthol a'r gwan;
Daw proffwydoliaethau cadarnaf yr Ior
Ich cymhell i fyny, fel gwyntoedd y môr,
Dros riwiau heirdd Seion llifeiria y gwaed,
Siloa a lenwir, a fethrir dan draed.

Weddillion Juda! cydgrynhowch yn awr
Wrth sain y Babilonig udgorn mawr
Sy’n galw’r genedl o bob cwr ynghyd
Iw praddaidd drefnu — dorf anferthol fud,
Bedd-ddistaw fel cynteddau’r Deml fry —
Iw harwain ffwrdd o flaen byddinoedd hy
A chleddau Babel bell. Yr olaf ddarn
O feib y cedyrn, tua chaer y farn
Cychwynnwch!


O Jerusalem! Pa fodd!
Pob gobaith gyda'th ryddid di a ffodd.
Gwel hwynt yn araf symud, riw uwch rhiw,.
Fel araf arwyl cenedl bennaf Duw.
Pêr flodau Palestina ar eu hol,
A fwyn ymgodant ar y dyner ddôl,
Ar ol eu sang, fel pe gofynnent hwy —
Pa bryd y gwelir meib y nefoedd mwy?


SAINT ENLLI. 281

SAINT ENLLI.

DEG awen, cân dy gywydd
I gynnar ddiffynfa’r ffydd.
Enlli fach! enillaf hwyl
O'th gofion union anwyl.
Cofio 'th saint fel cyfoeth sydd,
Neu foeth i hynafiaethydd.
Yr oedd ffydd ar ddiffoddi
Yn y 'storm, hyd nes i ti
Fwrw gwyn dy fore ganwyll
O'r môr uwch y tramawr wyll.

Dwy filltir gywir dy gylch,
A'r eigion yn gaer ogylch —
Un o hyd — os bychan oedd
Dy led, O diail ydoedd
Rhyfedd glod dy grefydd glau,
Fel haul dy ddwyfol olau.
Er lleied am-led dy dir,
Y fendith oedd gyfandir.
Ni fu erwi gan feirwon,
O wir saint mor fras a hon;
Yn dirion cuddia d’ oror
Ugain mil wrth eigion môr;
Ugain mil o'th seint-hil sydd
Yn llenwi 'th erwi llonydd.
'E feda’r adgyfodiad
Wych doraeth o'th odiaeth had.
Ca Llawddog gawell heddwch
A hun lawn o fewn dy lwch.
Dirfawr abad fu Derfel
Ir ynys hon, o ran sel;
Yntef sydd dan lonydd len
Dew orchudd dy dywarchen.
Diboen i'r abad Beuno
Yw gwely rhad dy gul ro.
Mae Cadfan o dan dy do
Hoff was i'r ne’n gorffwyso,
Yn disgwyl egwyl agor,
Ryw loew ddydd, ei farwol ddôr.
Gwir brofodd glwysgor Brefi
Fawr gnwd ffydd ein Dyfrig ni;


282 GWAITH ISLWYN.


Rhodd yno ei urdduniant,
Do, was hen, i'n Dewi Sant;
O bob archesgob ni chaid
Purach neu wynnach enaid;
Rhôi ei fraint a'i ddirfawr fri
A'i anlloedd, am hedd Enlli.
Deyrn o sant! Oedrannus oedd,
A'i ddidwyll awydd ydoedd
Am dreulio yno ei oes
Yn llonydd, weddill einioes;
Byw mwy mewn cymundeb mel
A Duw, yn Enlli dawel —
Rhyw Seion ber o swn byd
Mwy, a'i elfen am eilfyd.
Fawredig dduwiolfrydedd, —
Pwy’n awr drwy fyd mawr a'i medd?
Byw beunydd, rhoi’i bob ennyd
Yn ddigoll i Dduw i gyd;
Gado’r byd, dal gyda’r bedd
Ryw ofeb sobr a rhyfedd!

Aeth rhif o wyr difrifol
Drwy hyfryd unfryd o’i ol
I fwynhau yr un dwfn hedd,
Yr un hygar unigedd.
A daethant o'i gymdeithas
Dirion, yn gryfion mewn gras.
Brwd elai eu brawdoliaeth,
Ac yn Nuw cynyddu wnaeth.

Lle braint ydoedd Enlli brid,
Goreu addysg a roddid.
Fe rannai Einion frenin
Iw mysg, er addysg, o'i rin;
Rhoe lladaeth Emyr Llydaw,
Urddol wr, yn rhwydd o'i law,
I gadw y coleg odiaeth,
A than nawdd Duw’n Athen daeth.

Y monachod mynychynt
Ein Enlli gain yn llu gynt.
Glaniaw rhag llid gelynion
Wnai saint yn yr ynys hon;
I fwynhau, i fyw yn ol
Cywir foddion crefyddol.


Y CAETHGLUDIAD. 283


Os oedd ofergoelion syn
Hudolus yn eu dilyn;
Eu rhinwedd oedd er hynny
Drwy fraint, fel goleudwr fry;
Rhyw wawr wan, yr oreu oedd
Acw yn asur cynoesoedd;
Gwawr o ras, goreu'r oesau,
Nid oedd hi ond yn dyddhau.

Finnau, yn llesgedd f' henaint,
Hoff
wn, cyfrifwn yn fraint
Gael treulio yno mewn hedd
O dawel ymneillduedd
Eiddilion flwyddi olaf
Fy ngyrfa, yn noddfa Naf.
Byw arno, byw iddo ef,
Mwy’n ddiddig mewn hedd-haddef;
A dal cymundeb â'r don,
Byd ail, o
ŵydd bydolion.
Heb dyrfau byd, heb derfyn
Ond y gwyrddfor, gefnfor gwyn.
O'n holl fyd, Enlli a fo
Iach wlad i'm haul fachluda
Gwedi y boen, gyda Beuno
Gorffwysaf, mi drigaf dro;
Ac hefo Beuno, o'r bedd
Codi yn mawr-rwysg adwedd.
Gwytherin goeth ei arawd,
'R enwog Tyfriog ei frawd,
A'u chwaer dyner Eleri, —
Fo aml oes yn f’ymyl i.
A Derfel mewn rhwysg dirfawr
Gyfyd ar yr hyfryd wawr;
A'r doniog Cawrda unwedd
Draw aiff i wlad yr hoff wledd.
A Phadarn hoff eheda
I fro lon anfarwol ha.
Dwg Naf ein Tegwyn hefyd
O Enlli ban i well byd.
Dof finnau — minnau’n y man
Fry’n gydfyw â’r hen Gadfan.


284 GWAlTH ISLWTN.

ODLAU PRIODASOL

A gyfansoddwyd i Mr. John Morgan, mab i William Morgan, Ysw., Pont-y-pridd, ac Ellen, merch hynaf y Parchedig W. Jones, Pontarddulas (gynt Cwmaman.)


BYDDED iddyn, y deuddyn dedwyddol,
Ffawd Adda a'i Efa dan wên ddwyfol,
Ehelaeth doraeth o lwydd daearol;
Un haf o lawenydd aniflannol,
Nis unwyd merch mor swynol — a hoff fab,
Er Abram a Sara, bâr mor siriol.

Dyma ddau anwyl, dyma ddywenydd;
Dyma ddwy galon dwym' idd eu gilydd;
John sydd fel Adda, a'i Efa ufudd
Yw ei gain Ellen, un deg aneilydd.
Gyrfa deg! Ar haf eu dydd — na ddoed pla,
Neu wywder gaua yn dragywydd.

Pwyll ei mam (pa allu mwy — is nefoedd?)
A fo oludoedd Ellen fawladwy.
Ellen wen, dan arweiniad,
Rodio yn ol ei duwiol dad,
Bo eur-gamp John heb wyrgam,
Diwyd fel ei dad a'i fam;
Y cryf addysg grefyddol
O'i gyff ef, gaffo ei ol.
Boed bur — ac O! boed barod
Y ddau i fyd sydd i fod,
Yn eu taith boed iddynt hedd,   
Enw da, a ne’n y diwedd.
Gyfeillion tirion, eich taith '
Fo’n yrfa o hoen hirfaith;
Frawd a chwaer, hyfrydwch yw,
Gwna'ch diddan ganiad heddyw;
Cynghanedd ddi-ddiwedd ddaw,
Ail afon yn ymlifaw.,
Er i angeu fynd rhyngoch;
Wedi y bedd ynghyd boch!,


YMWELIAD Y DOETHION A BETHLEHEM. 285

YMWELIAD Y DOETHION A BETHLEHEM.

Y disgwyliad.

PAN fyddo rhyw amgylchiad gor-ryfeddol
Ar ymyl sylweddoliad, ceir y byd
Yn disgwyl gydag awydd bythddyfnhaol,
A dynol ryw ar flaenau'u traed i gyd;
Pob arfaeth fawr o uchel lys dwyfoldeb
A dafla ei chysgodau 'mhell o'i blaen,
Fel mynydd mawr, fel Alp o dragwyddoldeb
Yn taflu cysgod dros dragwyddol waen;
Fel y dirwynai’r ddwyfol awr i fyny
I Dduw ymddangos yn ein natur ni,
Gan rym disgwyliad ’roedd y byd yn crynu,
Dan gysgod ei ddyfodiad ar bob tu;
Arwyddai y disgwyliad cyffredinol,
Yr iechydwriaeth gyffredinol gaed
Trwy ei babelliad yn y natur ddynol,
Ei fywyd pur, a’i oll-haeddiannol waed.

A! genedl ddyn, ni wyddet fawr am dano,
Dy gwbl oedd rhyw feddwl mawr o'i fod;
Ni thynnwyd nemawr ddarlun it o hono,
Dy gwbl oedd rhyw ddisgwyl am ei ddod.

Prudd alltud oeddit o wladwriaeth Israel,
Canolbwnc y goleuni dwyfol gynt,
Ac estron trist i'r Ganan ddwyfol dawel,
Lle clywid cerdd yr angel ar y gwynt;
Y wlad y ceid ei bryniau'n gysegredig
Gan sangiad engyl ar eu teithiau pur,
Pan hedent â rhyw newydd bendigedig
I feibion Israel, o'r tragwyddol dir.

Gorweddai Israel wrth y dyfroedd tawel,
Dewisol braidd, mewn bras gauedig ddôl;
A llawer bugail pur, a llawer angel
Ar ddynol ddull, yn edrych ar eu hol;
A thithau'n crwydro ar y bythol fynydd,
Y "ddafad arall," heb un goleu braidd,
Yn holi am y gorlan ddwyfol lonydd,
Heb unrhyw ateb ond rhuadau'r blaidd.

Ond er dy bellder o'r gauedig gorlan,
Ti glywet weithiau lais y Bugail Mawr


286 GWAITH ISLWYN


Ar ymyl awel bell — rhyw arwydd egwan
Y deuai ar dy ol ryw foreu wawr.

'Roedd ser i'w canfod yn dy wybren dithau,
Yn gwenu yn y nos o hirfaith hyd;
Fe gododd un o firain wedd yn forau,
Addewid Eden — seren gynta’r byd.
Nid yw’r ddynoliaeth ond parhad o Adda,  
Aneirif amlhad o hono ef;
Gadawodd iddi ei obeithion penna,
A'i brif gymunrodd, yr addewid gref.
O, pwy nad yw yn teimlo ambell ennyd,
Ryw adgof am baradwys hardd ei llun;
Pwy nad yw fel yn canfod flaenau cynfyd
Ymhell tu ol ac eto ynddo ei hun?
Pa beth yw crebwyll ond adgofion Eden?
Pa beth yw barddas, onid ymgais drud
I sylweddoli y Baradwys addien,
Neu broffwydoliaeth am anfarwol fyd?

Myfi ni feiaf ffynnon fy naturiaeth,
Os daeth o honi ffrydiau pechod cas;
O honi hefyd llifodd dyfroedd gobaith, —
A gloew ffrwd addewid gyntaf gras.
I ba le bynnag crwydrai y ddynoliaeth,
Dilynai ffrwd y lân addewid hon,
Os elai’n fain gan drai o ysbrydoliaeth,
Ni sychai hi yn hollol dan ei bron;
Blodeuyn gobaith yn ei hymyl dyfai
Oes ar ol oes, yn eiddil iawn mae’n wir,
A'i berarogledd, er mor wan, a lonnai
Breswylwyr pellaf y cenhedlig dir;
Y cenedl ddyn, pan fyddai’n llwyr siomedig,
Aroglai hwn, a theimlai bêr fy whad,
A syllai i’r gorllewin bendigedig,
I weld a oedd arwyddion am yr Had.

Trwy wres eu cariad at dragwyddol bynciau
Dadblygwyd hedyn yr addewid bur,
Yn fwy mewn rhai oedd agos i ororau
'R Baradwys gain fu ar y dwyrain dir.
O'r dosbarth hwn fe gododd rhai i fyny,
W
ŷr etholedig, goleuedig, glân,
Ymholwyr am y dwyfol wir oleuni,
Ac yn eu rhi mae doethion cu ein cân.


YMWELIAD Y DOETHION A BETHLEHEM. 287


Ysbrydoedd puraf y Cenhedloedd oeddynt,
Olynwyr Job a Jethro, feibion Ner;
Goruwch y dorf, mewn purach awyr teithient
Gan holi am eu brawd ymysg y ser.
Ni feddent hwy ond golau eiddil anian
I chwilio am dano yn y ddunos faith,
Ac ambell i belydryn cryf o Ganan
Yn saethu dros y caddug ambell waith.
Caed eisoes yng nghanolfur y gwahaniaeth
Ryw adwy fechan, i oleuni byw
Addewid Ior, a mellt y broffwydoliaeth
Dywynnu allan, golau uwch ei ryw.
Fe dorrodd cronfa y goleuni dwyfol,
Pan dorrwyd undeb llwythau Israel gynt,
Gwasgarwyd gyda hwy y llewyrch nefol,
Ac odlau Seion ar y pedwar gwynt;
A'r cenedl ddyn a welodd lusern Salem —
Y llusern a oleuodd Ior ei hun
A mellten Sinai; clywodd ddwyfol anthem
Pêr fardd Ephrata am y dwyfol ddyn.
Ni ddarfuasai proffwydoliaeth Peor
Ag adsain trwy yr oesoedd ar ei glyw;
Disgwyliai weld golygfa hardd yn agor,
A seren deg yn dod o orsedd Duw.

Cyflawnwyd ei ddisgwyliad yn y diwedd,
Dymuniant y cenedloedd oll a ddaeth;
Gadawodd yn y nef ei glaer ogonedd,
A thabernaclu gyda ni a wnaeth.

Y cyfarwyddyd.

Mae’r ddaear yn fendigaid! Sangodd Duw
O'r diwedd arni hi, a sanctaidd yw.
Ond clust yr Iddew gan ei ddaearoldeb
Sydd drwm yn awr, ni chlywodd sang dwyfoldeb.
Er dod i waered ar ein marwol lun,
Iw etholedig fro ym mhlaned dyn,
I fysg ei bobl, ac at ei eiddo ei hun;
Ni welsant hwy ei arwydd yn y nef,
Ei eiddo ei hun ni dderbyniasant ef.

Ond tra trymhai’r Iddew gan gnawdoldeb,
Tra cysgai ef yn eigion daearoldeb,
Darparai Duw oleuni yn y nef,
I ddwyn y doethion effro ato ef.


288 GWAITH ISLWYN.


Rhyw nos odidog der,
Tra syllent ar y ser,
Fe chwyddai cydgan bêr
Holl anian lon;
A chlywid newydd nod,
Yn anthem bell y rhod,
I rywun oedd yn dod
Ir ddaear Lon.

Rhyw ddwyfol fôr o gân,
Oedd holl eangder glân,
Y deg ddwyreiniol nef;
Wrth wrando’r anthem hon,
A nefoedd dan eu bron,
Cyfododd golau llon
“Ei Seren Ef!"

Mil gormod yw i ddawn,
Ddarlunio’r gwynfyd llawn
A deimlent hwy,
Wrth wrando’r dwyfol fawl,
A darllen, yn y gwawl
Rhyfeddol hwn, eu hawl
I Geidwad mwy.
Ai angel oedd yr ymddanghosiad llawen,
Yn tramwy’r nef ar gyffelybiaeth seren?

Ai’r angel hwnnw a arweiniai’r had,
Trwy’r anial gynt, i'r addawedig wlad,
Mewn colofn o dân?

Ai cydgynhulliad
O danbaid ser mewn dedwydd gyfarfyddiad?
Ai rhyw gymanfa o ddisgleiriaf fydoedd
Oll yn ymdoddi’n un, i roesaw’r Duwdod ydoedd,
Y Duwdod oedd yn dod i rwymo’r cyfan
Mewn bythol undeb gylch ei groes ei hunan?
Godidog sergynhulliad, addas ydoedd
Pan gafwyd canol bwnc dyn, angel, a'r holl fydoedd.
Nis gwyddom ni dan gwmwl daearoldeb
Nad seren oedd o gylchoedd tragwyddoldeb.

Addola, Awen! dod gywreinder heibiaw,
Lle mae dy Dduw yn fud, bydd di yn ddistaw.

Fyth am y pur a'r dwyfol ymofynnent,
Efrydwyr llyfr creadigaeth oeddent,


YMWELIAD Y DOETHION A BETHLEHEM. 289


Y rhagymadrodd i'r efengyl wiw,
'R argraffiad cyntaf o feddyliau Duw,
Porth teml y bywyd, cysgod prynedigaeth, —
Bob nos darllennent lyfr creadigaeth;
Eu dail hoffusaf oedd y dail wybrenol
A dadguddiadau pell y nef serenol.
Mae gan y ser hyd heddyw dduwinyddiaeth,
Ond rhy ysbrydol yw i lygad pwl anffyddiaeth.
Mae gan bob seren air o rinwedd oesol
Ir neb sydd yn hiraethus am y dwyfoL
Pwy ddywed fod ysgaroi fythol fôr
Rhwng cread nerth a chread cariad Ior?
Mae ffydd yn canfod o'i harsyllfa well
Y ddau yn mynd yn un mewn rhyw gysylltgraig bell.

Pur feib Gwyddoniaeth oedd y doethion cun,
A gwir Wyddoniaeth sydd yn arwain dyn
Yn raddol i gysegroedd Duwinyddiaeth
At ganol bwnc pob bywyd a gwybodaeth.


Y daith.  


Fe roed i filoedd gyfarwyddyd llawn
Am oesoedd wedi hyn, at Brynwr byw;
Ond er pob mantais gaed, ychydig iawn
A aethant i ymofyn am eu Duw.
Nid golau ser sydd ar ein llwybr ni
I Bethlehem, yr Ardd, a Chalfari;

Mae’n awr yn hanner dydd
Ar holl diriogaeth ffydd,
Mae’r haul yn llawn;
Ac ni ddaw cryfach gwawr
O hyn i'r borau mawr
Ar ffordd yr lawn.

O! pam na bai y byd
Yn myned oll ynghyd
I Bethlehem gun,
A holl belydrau’r nef
Yn gorffwys ar y dref
Ac ar ei wyneb Ef —
Y Dwyfol Ddyn!

Ond doethion oedd gwroniaid pur fy nghân,
Ac er na chlywsant hwy ei enw glân
Yn cael ei seinio’n eglur nac yn llawn,
Hwy gychwynasant ar yr ail brydnawn.


290 GWAITH ISLWYN.


Y dydd canlynol i'r olygfa nefol
Ymbaratoent i’w rhyfeddol daith;
'Roedd yn eu blaenu gôr o engyl nerthol,
Ac yn eu dilyn osgordd harddwych maith.
Arosent am y nos, yn llawn o bryder,
A ddeuai’r seren ddwyfol eto i'r ian?
Ai breuddwyd gawsent am y pur ddisgleirder?
Ai siomedigaeth eto fyddai 'u rhan?

Hwyrfrydig oedd yr huan i fachludo,
Hwyrfrydig iawn ym mryd y cenedl ddyn,
Edrychai fry fel un a fai’n myfyrio,
Fel un garasai gael y fraint ei hun
O'u cyfarwyddo at y Golau Dwyfol,
Fel un garasai aros yn y nef
Nes dangos iddynt hwy yr haul tragwyddol,
A diffodd wedyn yn ei ymyl ef.

O'r diwedd aeth i lawr gan ogoneddu
Mynyddoedd y gorllewin teg eu pryd,
Anfeidrol enfys oedd yr wybr bryd hynny,
Pob cwmwi oedd fel porth i ddwyfol fyd.

Wrth weled y gogoniant gorllewinol,
Sibrydai’r doetliion, — "O gysegrfa glaer,
Cyfaddas bron i dderbyn yr Anfeidrol,
Yr holl orllewin sydd yn fôr o aur!"

Ac yn y man disgynnai o'r tragwyddol
Y sanctaidd fydoedd ar uchafion nef,
Ac yn eu plith y seren gyfarwyddol,
O ddwyfol bryd, ei seren addien Ef.

Uwch croesffyrdd amser codwyd aml fynegfys,
Ond dyma yr egluraf eto fu,
Fel claer belydryn oddar flaen cerubfys
Danghosai lwybyr iechydwriaeth gu.

Symudodd y seren ardderchog ei gwawr,
A'r doethion gychwynnent i'w gyrfa yn awr.
Daeth seibiant rhyfeddol i'r cenedl ddyn
Y nos ryfedd honno, bu felus ei hun;
Breuddwydiodd deg freuddwyd am gyfaill a brawd
Na welsai er Eden, sef Duw yn y cnawd, —
Dirgelwch duwioldeb a gododd i’r lan
O fôr tragwyddoldeb, sef Duw ar ei ran.


YMWELIAD Y DOETHION A BETHLEHEM. 291


Lle sangai ei droed tarddai afon o wawl,
A'r ffordd o'i ol ydoedd yn foroedd o fawl.
Er cymaint ei fawredd ni theimlid un braw,
Ni welid un cleddyf o lid yn ei law.
Er cyd yr ysgariad adnabu ei wedd,
A chofiodd am fore gyfamod ei hedd.
Emmanuel ydoedd, sef Duw gyda ni,
Galluog eiriolwr, yn dadleu o’n tu;
Adferwr ein natur, adferwr ein hedd,
Tywysog y bywyd, diddymwr y bedd.

Ei deg weledigaeth oedd sylwedd i gyd,
Tra ef yn breuddwydio am Geidwad y byd,
Ei bur gynrychiolwyr oent ar eu ffordd ato
Y nos ryfedd hon, tra ef yn breuddwydio.

Pa awen ddarlunia felusder yr hynt,
Disgleirdeb y seren, peroriaeth y gwynt,
Ysplander y nos a oleuai eu rhawd
Yn deilwng o’i derfyn, sef Duw yn y cnawd?
Ser nefoedd y dwyrain ynt ddisglaer o hyd,
Ond weithian rhagorai disgleirdeb eu pryd;
A oeddynt yn derbyn uwch llewyrch, gwell gwawr,
O wyneb eu Hior pan yn dyfod i lawr!

Uwchben y doethion lledai'r nos
Fel eang arddanghosfa dlos
O ryfeddodau gallu Duw;
Yr arddanghosfa gyntaf yw;
'Roent ar eu ffordd i’r ail yn awr,
Sef arddanghosfa'i gariad mawr.

Nos gynta'r daith aeth heibio'n llon
A chyflym fel munudyn bron;
Dechreuai'r ser ddiflannu'n awr
O flaen y deg gerubaidd wawr;
A'r olaf un i ado’r nef
O'r miloedd oedd ei seren Ef.
Diflaniad hon o'r wybren fraith
Fesurai deg raniadau'r daith.

Gorffwysent dros y dydd;
Ar ymyl afon loew las
Breuddwydient am afonydd gras
Rhai lifent mwy yn rhydd.


292 GWAITH ISLWYN.

O ddydd i ddydd ymorffwys wnaent,
O nos i nos i'w gyrfa aent,
A'r seren gain bob hwyr yn dod,
Gan fynd drwy'r nos ar agos rod
Yn araf, fel y gallent hwy
Ei dilyn heb amheuaeth mwy.

Croesawid hwy bob bore'n rhad
Gan lwythau rhyw genhedlig wlad,
A chawsant lawer holiad dwys
Gan lawer cenedl dan ei phwys,
Am amcan eu cenhadaeth hon,
Ac ystyr dwfn y seren lon.

Disgwyliai'r bobloedd ymhob gwlad
Am fore ddydd, am fawr ryddhad;
Disgwylient am ryw Frenin gwell
I ddyfod o'r gorllewin pell,
A'i deyrnwialen oll yn hedd,
A sail ei fainc ar ludw'r bedd.

Ai harddwch y lewinol nen
A’i gorysplandra, pan fo'r huan
Dan fôr o aur yn cuddio'i ben,
A greodd y disgwyliad eirian?
Nis gwyddom ni; ond digon yw
Fod llygaid pawb o ddynol ryw
Yn edrych tua bedd y dydd
Am fore y ddynoliaeth brudd.

Anfonai llwythau y dwyreiniol fyd
Oll gyda'r doethion eu hanrhegion drud,
Aur, thus, a myrrh, fel arwydd o'u gwarogaeth
I Frenin mawr a Phrynwr y ddynoliaeth.
"Rhowch iddo," meddent, "ein haddoliad glwysaf,
Dywedwch wrtho am ein hiraeth dwysaf.
O, ceisiwch ganddo roi tragwyddol rad —
Tragwyddol fendith ar y ddwyrain wlad.
Os gofyn ef pwy ym, dywedwch wrtho —
Olynwyr Job, Melchisedec, a Jethro.
Ewch rhagoch bellach, buraf feib y dwyrain,
Mae’r seren eto wedi dod i'ch harwain."

Ryw ganol nos, ar ol ymdeithio'n hir,
Canfyddai'r doethion yn y serwawl clir


YMWELIAD Y DOETHION A BETHLEHEM. 293


Fynyddoedd Canan yn uchafion nef
Yn esgyn i roesawu ei seren Ef.
O uchelderoedd sanctaidd! myrdd o weithiau
Y darfu i angylion ar eu teithiau
Oblygu eu hedyn ar eu peli gopaon
I orffwys ennyd, ar eu ffordd i Seion.

O Ganan fendigaid, hoff Eden proffwydi,
Bro ddwyfol y Gair, canolbwynt goleuni, ’Rol oesoedd o siomiant ac oesoedd o erfyn,
Mae'r cenedl ddyn wedi croesi dy derfyn!

Cryfaodd anthemau y nefoedd yr eiliad
Y sangai'r cenedlddyn ar oror dadguddiad.
Nid cenedl mwy, mae y natur yn deffro,
Ac at ei chanolbwynt i gyd yn dylifo;
Cynhyrfodd y seren holl fôr y cenhedloedd,
A dilyn mae llanw diderfyn y bobloedd.

Trwy heirdd ddyffrynnoedd elai'r doethion rhagddynt,
A phur fugeiliaid Jacob a ddanghosynt
Ir ymwelyddion leoedd bytholedig,
Anfarwol gan adgofion bendigedig,
Ogofau cysegredig i dduwioldeb,
A'u syn adseiniau fel o dragwyddoldeb.

Ar hwyrol awr, ail nos eu hynt yng Nghanan,
A hwy yn teithio yn y golau eirian,
Diflannodd y disgleirdeb cyfarwyddol,
Machludai'r seren bur am ennyd i'r tragwyddol.

Jerusalem.

Yr oedd Caersalem yn eu golwg mwyach,
Ac nid oedd eisiau ser i’w harwain bellach.
Yr oeddynt ar ganolbwynt y goleuni,
A haul y Gair o'u hamgylch yn tywynnu.
Pan ddygo natur ei hefrydwyr ffyddlon
I
ŵydd y Gair, i ŵydd goleuni Seion,
Fel un a’i gorchwyl drosodd mae'n diflannu
Fel ser yng nghodiad huan yn ymgolli.

Gaersalem, er it syrthio o'th ogonedd,
Ti gedwaist Air y bywyd yn ei buredd;
Er lladd ohonot dy broffwydi uniawn,
Eu proffwydoliaeth gedwaist oll yn ffyddlawn;
Er colli’r ysbryd cedwaist y lythyren,
A'r addewidion oll a gaed, o'r gyntaf wnaed yn Eden.


294 GWAITH lSLWYN.


Yn araf iawn ac mewn godidog urddas
Y doethion ddoent i mewn i'r ddwyfol ddinas;
Ysplander eu gosgorddlu wrth ddylifo
Trwy’r dwyrain borth, y nos serenog honno,
Oleuai yr olygfa synfawreddus,
Eu hybarch wedd, a'u gwisgoedd gogoneddus
A dynnai sylw’r dorf.

Synholi wnaethant
Pwy oedd y gw
r, ac o ba le y daethant.
Cyffrowyd holl Gaersalem pan eu clywid
Yn holi am y Brenin a anesid.
Deallai lsrael mai’r Messia ydoedd,
O herwydd dod o feibion y cenhedloedd
Heb fyddin, arf, na phennaeth i'w rheoli,
I addef ei lywodraeth a'i addoli.

Pan glybu Herod y newyddion rhyfedd,
Cyffrodd ei enaid, llwyr newidiai’i agwedd.
Y nos o’r blaen, mewn breuddwyd rhy sylweddol,
Agorwyd iddo olygfeydd dyfodol —
Fe welai fôr o ddwyfol chwyldroadau
Ac yntau’n suddo’n eiddil dan ei donnau,
A’r corwynt cryf yn taflu ei deyrnwialen
Fel soflyn sych ar allor mellt yr wybren;
Disgynnodd Brenin o gymylau’r nef,
A sang ei droed faluriai’i orsedd ef.
A chlywodd holl genedloedd byd yn bloeddio
Eu hunfryd groesaw a'u teyrngarwch iddo;
A’r môr a ymlonyddai yn dragwyddol,
A bu un Deyrnas mwy, y deyrnas ddynol-ddwyfol.

Fe wysiodd ger ei fron ddysgawdwyr Seion,
Yr archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion,
I holi oracl fore proffwydoliaeth,
Pa le y genid Crist, etifedd y freniniaeth.
Cydatebasant oll mai Bethlem Juda
A fyddai cyntaf fangre y Messia, —
"A thithau Bethlehem, tir Juda dirion,
Nid lleiaf wyt ymhlith ei dywysogion,
O honot ti y daw Tywysog nefol,
Fugeilia' mhobl lsrael yn dragwyddol."
Y creulawn deyrn a holai’r doethion llawen
Pa bryd ymddangosasai’r ddwyfol seren,
Mewn congl ddirgel o'r brenhinol lys,
A dwedodd wrthynt, —


YMWELIAD Y DOETHION A BETHLEHEM. 295

"Ewch yn awr ar frys
I chwilio am y Mab, Tywysog heddwch,
A phan y caffoch Ef, i mi mynegwch;
Dychwelwch yma i Gaersalem gref,
A minnau af, ac a'i haddolaf Ef. "

Pan ddelai’r doethion ar eu taith yn ol,
Y brenin Herod, yn ei ryfyg ffol,
Arfaethai ynddo’i hunan anfon llu
O filwyr erch i ladd y maban cu.

O, ynfyd! anfon dy orchymyn nerthol
I rwystro’r haul i godi yn dragwyddol;
Anadla ar bob planed i’w ddiffoddi,
Ac arch i'r graig, gan wres dy ddigter, doddi;
Cynhulled dy Sanedrim, selied cyfraith
I dorri cadwen achos pur ac effaith;
Tro ben dy farch i ffordd mellt y taranau,
A thros yr enfys gyr dy heirdd gerbydau;
Dy droed tarawa ar y ddaear egwan
Nes llyncu o ddaeargryn fryniau Canan, —

Milfiloedd hawddach, bryfyn, fyddai hynny,
Na lluddias Gair y nef rhag ei gyflawni.
Ti, chwynyn ar y traeth, pwy ydwyt, Herod,
I droi yn ol gryf lanw arfaeth Duwdod!
Caiff gwrthglawdd pechod, uffern gref, ac angau,
Eu cuddio cyn bo hir o dan ei donnau.
Y mae dy orsedd hyd ei sail yn crynnu,
Ac ni chei weld y doethion byth ond hynny.
Mae Duw yn ymgymeryd â’u harweiniad,
A’r seren eto sydd yn dangos bro y Ceidwad.

Mae cref Frenhiniaeth wedi dod i lawr,
Ac os yw hi mor rymus yn ei gwawr,
Beth fydd ei gallu yn ei chanol dydd?
Mabandod hon yn siglo'r ddaear sydd;
Pan ymddadblygo teyrnas Had y Wraig
Fe ddua haul y nef, fe hollta’r graig.

Ymlaen y teithient tua Bethlem bur,
Yn sicr bellach o fwynhau cyn hir
Ddymuniant pennaf y cenhedloedd oll;
'R oedd anian wedi eu harwain yn ddi-goll
At lusern bur datguddiad yng Nghaersalem,
A'r ddwy’n eu cyfarwyddo tua Bethlem.


296 GWAITH ISLWYN.


Chwe milltir o ymdeithio tawel llonydd
A'u dygodd hwynt i olwg dinas Dafydd.


Dinas Dafydd.


Doed un o honoch chwi, angylion Gwynfa
Sy'n canu'n llawen heno uwch Ephrata,
Un o fy mrodyr, feirdd y fro dragwyddol,
I dynnu darlun o'r olygfa nefol.
Ar ymyl bryn y safai'r ddinas fechan,
Yng nghanol coedydd cyfoethocaf Canan;
Ai dyma ganol bwynt prydferthwch anian,
Ei harddaf le i dderbyn Ior ei Hunan!
Os lleiaf oedd plith tywysogion Juda,
Mae’n awr yn haeddu lle yng ngolygfeydd y Wyddfa.

Syllasant tua'r nef, yr oedd y seren
Yn gorffwys mwy, genhades deg yr wybren.
Hi safodd ar ei gyrfa gyfarwyddol
Goruwch y lle yr oedd y Mab Tragwyddol.


Gallesid disgwyl gweled dan ei golau
Odidog lys, ac engyl ar ei dyrau;
Rhyw nefol balas wedi ei naddu allan
O fynydd perl, yn danbaid fel yr huan.
A, preseb oedd ei gryd! Ystabl ydoedd
Y lle y ganwyd Crewr mawr y bydoedd!
Ond doethion oent ddirprwywyr y cenhedloedd,
A gwyddent fod prif ryfeddodau'r oesoedd
Ac amgylchiadau godidocaf amser
Yn cychwyn o dan len, yn dechreu yn y dyfnder.

 
Blinasai'r cenedl ddyn ar odidogrwydd,
Palasau aur, coronau, mawreddogrwydd,
Yr oedd ei hiraeth erbyn hyn am Berson
A allai lanw dymuniadau’i galon.
Nid oedd o bwys pa agwedd fyddai arno,
Pa amgylchiadau fyddai ogylch iddo,
Os ceid defnyddiau iechydwriaeth ynddo,

Nid dod i geisio aur yr oedd y doethion,
'Roedd hynny ganddynt, a thrysorau ddigon;
Ysbrydol waredigaeth oedd dymuniad
Eu calon hwy, ysbrydol ymddyrchafiad —
Dyrchafiad moesol y ddynoliaeth egwan,
Trwy gaffael yn eu natur Dduw Ei Hunan.


YMWELIAD Y DOETHION A BETHLEHEM. 297


Mae Duw yn ddigon, er dan len o gnawd,
Mae'n fwy na digon byth er fod ei wisg yn dlawd;
Er nad oedd iddo yn y llety le,
Cai 'u tragwyddoldeb gartref gydag E;
Duw! dyna lawnder holl warieoedd dyn,
Mae'n llond ei holl aberoedd, Duw ei Hun!
Addolaf wrth ei enw, Fythol Fod,
'Rwyf finnau bellach yn dirmygu clod
Aur, coron, llys, y byd, yr haul, a’r ser,
Ac uwch yr oll yn holi am fy Ner.


Addola, f’enaid, gyda'r doethion syn;
Ni raid it' bellach ddringo ael y bryn
I holi y cymylau am dy Dduw;
Ni raid i ti, wrth droed yr wybrol riw,
Ryw bruddaidd ddisgwyl am y cerbyd tân
A gludai'r proffwyd at ei orsedd lân;
O edrych! mae y ser yn syllu i lawr,
Fel pe bai'r Duwdod gyda ni yn awr;
Nid yn yr uchelderau mae Efe,
Y dyfnder heddyw yw ei lonydd le.


O ostyngeiddrwydd, hunymwadiad tawel,
Trwy'ch broydd chwi y cân y ddwyfoi awel.
Mangreoedd distaw'r pur, y mawr, a'r union, —
Ddyfnderau uchel, uchelderau dyfnion, —
Mae engyl yn ymweled â'ch gororau,
Ac ynnoch chwi caed Duw ei Hun un borau!


Y doethion gyda gwylder gostyngedig
A aent i mewn i'r fangre gysegredig,
A chanfuasant yr olygfa, nefol —
Duw gyda dyn yn addfwyn a chartrefol!
Pan welsant, gyda Mair, y rhyfedd faban,
A dwyfol gariad ar ei wyneb eirian,
O! nid oedd rhaid petruso dim na holi,
Ond syrthio i lawr ar unwaith, a'i addoli.


Disgleirdeb rhyfedd ei ogoniant dwyfol
Am ennyd basiodd dros ei wyneb dynol
Fel tanbaid hanfod myrdd o ser y borau,
Ac adwaenasant Ef, gan agor eu trysorau
A g
ŵyl offrymu iddo o'u hanrhegion,
Aur, thus, a myrrh, y godidocaf roddion.


298 GWAITH ISLWYN.


Fe glywir yn addoliad pur y doethion
Yr holl genhedloedd yn addoli weithion.
Yr holl genhedloedd, trwy y lon ddirprwyaeth,
Estynnant iddo goron y frenhiniaeth;
Mae'r seren hithau'n cynrychioli anian,
Gan roddi ar ei ben ei choron eirian —
Caiff rodio ar y môr, a'r don a rewa
Yn balmant dan ei draed pan ei cerydda.
O flaen ei gerydd gwywa y ffigysbren;
A phan orffenna'i waith agora'r wybren
Iw roesaw tua thref, a chwmwl gwyn
A'i derbyn oddiar yr olaf fryn.


O sylweddolydd tynged y ddynoliaeth!
Nid oedd llywodraeth Adda ond proffwydoliaeth
O'i gyffredinol ymerodraeth Ef
Sy’n cynnwys defnydd, uffern, ysbryd, nef.


Mae canol bwnc y ddirfawr greadigaeth
Yn awr yn trigo yn y deg ddynoliaeth;
Mae holl aelodau teulu mawr y cread
Yn cwrdd yn Bethlem wedi hir ysgariad;
Mae daear yma yn ei phrif gynhyrchion,
Aur, thus, a myrrh, y goreu o’i hanrhegion;
O’r greadigaeth nefol fry anfonwyd
Y seren olaf loewaf a oleuwyd;
Y drydedd nef sydd hefyd yn bresennol
Mewn myrdd o engyl, corau'r fro anfarwol;
Mae'r pontydd nefol wedi eu hadgyweirio,
A'r angel glân o'r ochor draw yn rhodio;
Anfonodd y cenhedloedd pell eu doethion,
A’r Iddew agos ei fugeiliaid union;
Y mae yr Iddew mwy, a'r cenedl ddyn,
Y seren bell, a’r angel, oll yn un;
A'r rhwymyn rhyngddynt heddyw sydd dragwyddol,
Y mae yr oll yn un, a Duwdod yn y canol.
O! caffwyf finnau, y pechadur gwaela,
Ryw dawel le o fewn anfeidrol gylch Ephrata.


Prif ryfeddoldeb gras, bytholwyrth cariad,
A syndod penna'r nef, yw’r ymgnawdoliad;
Y dyfnaf fan ar fythol fôr duwioldeb,
Addolaf fyth ar lan y rhyfeddoldeb.


YMWELIAD Y DOETHION A BETHLEHEM. 299


Am filoedd o flynyddau y ddynoliaeth,
A syrthiai i lawr trwy eigion colledigaeth;
Llwyr fethodd beirdd, diwygwyr, athronyddion,
Iw hatal hi — cyflymai i lawr i’r eigion.
Ond Duw ei Hun a wisgodd hon am dano,
A chododd, cododd byth o'r funud honno.
Os oedd yn uchel yn ei disglaer gread,
Hi g
ŵyd yn llawer uwch trwy’r ymgnawdoliad;
Hi g
ŵyd yn awr i uchder cyfatebol
Iw urddas Ef, y cadarn Dduw anfeidrol.

Mae darostyngiad Duw ei Hun
Yn cyfiawnhau dyrchafiad dyn,
Cawn ddringo byth i’r lan!
Cawn esgyn o Ephrata bêr,
Cawn fyned heibio'r haul a'r ser
A'r angel yn y man.


Os daeth fy Nuw i lawr o'r nen,
Gan ado fry ei orsedd wen.
Os plygodd Ef ei ddwyfol ben
Am onid ennyd awr,
O, pwy a faidd fy lluddias i
I esgyn tua’r nefoedd fry
Ar hyd y ffordd y rhodiodd Rhi
Ar agwedd gwas i lawr.


Emmanuel! O enw cu!
Emmanuel! Duw gyda ni!
Duw gyda ni — y dechreu yw —
Y diwedd fydd — Ni gyda Duw!
Ni gyda Duw y trydydd dydd
Yn dod o rwymau'r bedd yn rhydd,
Ac o Bethania gydag Ef
Yn esgyn tua nef y nef,
Ni gyda Duw y dydd diweddaf,
Fel engyl ar y cwmwl olaf!


Ar ol mwynhau y bur olygfa nefol,
Astudio holl linellau'i wyneb dwyfol,
Fe deimlai'r doethion mai yr Iesu ydoedd
I lanw holl ddymuniad y cenhedloedd.
Ymollyngasant i bereiddiaf hun,
A, do! fe gadd yr alltud genedl ddyn
Orffwysfa yn y man, a bythol gysur


…..

Sumbolau:

a A / æ Æ / e E / ɛ Ɛ / i I / o O / u U / w W / y Y /
MACRONː ā Ā / ǣ Ǣ
/ ē Ē /
ɛ̄ Ɛ̄ / ī Ī / ō Ō / ū Ū / w̄ W̄ / ȳ Ȳ /
MACRON + ACEN DDYRCHAFEDIGː Ā̀ ā̀, Ḗ ḗ, Ī́ ī́, Ṓ ṓ, Ū́ ū́, (w), Ȳ́ ȳ́
MACRON + ACEN DDISGYNEDIGː Ǟ ǟ, Ḕ ḕ, Ī̀ ī̀, Ṑ ṑ, Ū̀ ū̀, (w), Ȳ̀ ȳ̀
MACRON ISODː A̱ a̱, E̱ e̱, I̱ i̱, O̱ o̱, U̱ u̱, (w), Y̱ y̱
BREFː ă Ă / ĕ Ĕ / ĭ Ĭ / ŏ Ŏ / ŭ Ŭ / B5236ː  B5237ː B5237_ash-a-bref
BREF GWRTHDRO ISODː i̯, u̯
CROMFACHAUː
  deiamwnt
A’I PHEN I LAWRː , ә, ɐ (u+0250) httpsː //text-symbols.com/upside-down/
Y WENHWYSWEG:
ɛ̄ ǣ æ

ˈ ɑ ɑˑ aˑ aː / æ æː / e eˑeː / ɛ ɛː / ɪ iˑ iː ɪ / ɔ oˑ oː / ʊ uˑ uː ʊ / ə / ʌ /
 ẅ Ẅ / ẃ Ẃ / ẁ Ẁ / ŵ Ŵ /
 ŷ Ŷ / ỳ Ỳ / ý Ý / ɥ
ˈ ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ əɪ uɪ ɪʊ aʊ ɛʊ ɔʊ əʊ / £
ә ʌ ẃ ă ĕ ĭ ŏ ŭ ẅ ẃ ẁ Ẁ ŵ ŷ ỳ Ỳ Hungarumlautː
A̋ a̋

U+1EA0 Ạ U+1EA1 ạ
U+1EB8 Ẹ U+1EB9 ẹ
U+1ECA Ị U+1ECB ị
U+1ECC Ọ U+1ECD ọ
U+1EE4 Ụ U+1EE5 ụ
U+1E88 Ẉ U+1E89 ẉ
U+1EF4 Ỵ U+1EF5 ỵ
gw_gytseiniol_050908yn 0399j_i_gytseiniol_050908aaith δ δ £ gw_gytseiniol_050908yn 0399j_i_gytseiniol_050908aaith δ δ £ U+2020 †
« »

 
DAGGER
wikipedia, scriptsource. org

httpsː []//en.wiktionary.org/wiki/ǣ

 
Hwngarwmlawtː A̋ a̋
gw_gytseiniol_050908yn 0399j_i_gytseiniol_050908aaith δ δ
 …..
…..
ʌ ag acen ddyrchafedig / ʌ with acute accentː ʌ́

Ə́ ə́

Shwa ag acen ddyrchafedig / Schwa with acute

…..
…..
wikipedia,
scriptsource.[]org
httpsː//[ ]en.wiktionary.org/wiki/ǣ

---------------------------------------
Y TUDALEN HWN: www.kimkat.org/amryw/1_testunau/
sion-prys_386_islwyn_200-299_RHAN-3_3806k.htm

---------------------------------------
Creuwyd: 08-03-2023
Adolygiad diweddaraf : 08-03-2023
Delweddau:

Ffynhonell: Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Newyddiaduron Arlein.
---------------------------------------

Freefind.
---
Archwiliwch y wefan hon
Cerqueu aquest web
SEARCH THIS WEBSITE
---
Adeiladwaith y wefan
Estructura del web

SITE STRUCTURE
---
Beth sydd yn newydd?
Que hi ha de nou?
WHAT’S NEW?


Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymweld ag un o dudalennau'r Wefan CYMRU-CATALONIA
On soc?
Esteu visitant una pagina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Gal·les-Catalunya)
Where am I?
You are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website
Weə-r äm ai? Yüu äa-r viziting ə peij from dhə CYMRU-CATALONIA (= Weilz-Katəlouniə) Websait


Adran y Wenhwyseg / Seccio del dialecte de Gwent / Gwentian Welsh
Edrychiadau ar y tudalennau / Vistes de les pagines / Page Views
Web Analytics Made Easy -
StatCounter
Edrychwch ar ein Hystadegau / Mireu les nostres Estadistiques / View Our Stats