kimkat3807k Gwaith Barddonol Islwyn. 1897. William Thomas (Islwyn), Yr Ynys-ddu, Sir Fynwy (1832-1878) (rhan o Fwrdeistref Caerffili ers 1966).

13-05-2023





 .....

Gweler hefyd / Vegeu tambe / See also:

.....

0003_delw_baneri_cymru_catalonia_050111
..
 
 
 
 
 
 
 

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les
 
 
Cywaith Siôn Prys - Testunau Cymraeg ar y We
 
Gwaith Barddonol Islwyn. 1897.
William Thomas (Islwyn) (1832-1878).

RHAN 4/9. Tudalennau 300-399.
 


 

 

Map

Description automatically generated
(delwedd 7282)


Shape, circle

Description automatically generated https://translate.google.com/

(Cymraeg, catala, English, euskara, Gaidhlig, Gaeilge, Frysk, Deutsch, Nederlands, français, galego, etc)

...

www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion-prys_386_islwyn_y-gyfeirddalen_3803k.htm
Y Gyfeirddalen.
.....
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion-prys_386_islwyn_000-099_RHAN-1_3804k.htm
Rhan 1. Tudalennau 0-99
.....
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion-prys_386_islwyn_100-199_RHAN-2_3805k.htm
Rhan 2. Tudalennau 100-199.
.....
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion-prys_386_islwyn_200-299_RHAN-3_3806k.htm
Rhan 3. Tudalennau 200-299.
.....
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion-prys_386_islwyn_300-399_RHAN-4_3807k.htm
Rhan 4. Tudalennau 300-399.
.....
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion-prys_386_islwyn_400-499_RHAN-5_3808k.htm
Rhan 5. Tudalennau 400-499.
.....
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion-prys_386_islwyn_500-599_RHAN-6_3809k.htm
Rhan 6. Tudalennau 500-599.
.....
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion-prys_386_islwyn_600-699_RHAN-7_3810k.htm
Rhan 7. Tudalennau 600-699.
.....
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion-prys_386_islwyn_700-799_RHAN-8_3811k.htm
Rhan 8. Tudalennau 700-799.
.....
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion-prys_386_islwyn_800-864_RHAN-9_3812k.htm
Rhan 9. Tudalennau 800-864.
.....

A person with a beard

Description automatically generated with medium confidence

A map of the united kingdom

Description automatically generated with low confidence

(delwedd J7768) (delwedd 3181d)


llythrennau duon = testun wedi ei gywiro

llythrennau gwyrddion = testun heb ei gywiro

 

 

 

 

300 GWAITH ISLWYN.


Wrth weled Duw ei Hunan yn Ei natur,
Duw yn y cnawd yn gwenu ar bechadur!
O felus hun! y cyntaf hun a gafodd
Er pan ag Eden deg yr ymadawodd.


Yn nyfnder eu hyfrydlawn gwsg, rhybuddiwyd
Cenhadau'r dwyrain, mewn nefolaidd freuddwyd,
I ochel Herod a Chaersalem mwyach,
A thraethu'r hanes i'r cenhedloedd bellach.

A’r cenedl ddyn am dymor ymneillduai
O
ŵydd y dwyfol Geidwad, fel y gallai
Gael hamdden mewn distawrwydd ac unigedd
I weithio allan yr adferiad rhyfedd.
Cyfarfu’r cenedl ddyn âg Ef drachefn,
Pan oedd y Groes a’r beddrod o'r tu cefn,
Pan oedd Calfaria creigiog wedi ei groesi,
A'r bedd mewn buddugoliaeth wedi ei lyncu.
O! byth nid ymadawodd mwy â'i Geidwad
Ar ol ei gwrdd tu draw i'r Adgyfodiad!

CALFARIA.


Calfaria, cloai fwriad — y ddyfais
Ddwyfol ei chynlluniad;
Clo fry roes Calfaria rhad
Ar adail trefn gwarediad.

 
Gwelaf Ras ar Galfari, — ei foroedd
Ar Galfaria’n torri,
Moroedd lawn! mawredd i — guddio 'mhechod
Dyma ryfeddod! môr i’w foddi!


Swn euogrwydd sy Niagra — swn hedd
Sy’n uwch o Galfaria!
Llefwyd, "Gorffennwyd," a pha — lef ddynol,
Ie, neu ddwyfol, a'r ni ddofa?


Am lu Salem, â'i lais ola — rhyw hael
Eiriolaeth anadla;
Uwch y ser pa achos a— dry yn ol
Os clywaf eiriol dan loes Calfaria!


MOSES. 301


MOSES.

Nos Gosen.


CAI Seion Duw’n Gosen deg
Hyfrydaf fore adeg,
A llawenhau mewn llon hwyl
I ffyniant Ioseff anwyl.


Ond nos ddu, pan ddarfu’i ddydd,
Syn lennai Gosen lonydd.


Anuwiol frenin newydd — a godai
Yn gadarn ormesydd,
A'i bennaf waith rhoi beunydd
Atal ar ffawd teulu’r ffydd.


Cenedl gyfan weithian aeth
Am oesau dan ormesiaeth;
Is y cyni os cwynid,
Trymach bob awr a'i llaw’r llid.


Dan wylo codi wnelynt
I'r Aifftiaid gau, gaerau gynt;
Yn ngwlad yr Aifft cynglydu
Caerau certh â'u dagrau cu.


O ben pyramidiau bu — eu gwaedd brid,
O erch ofid, yn aml ddyrchafu;
Ior o'i nef tosturio wnai,
Gwrandawai 'u cri’n y diwedd.


Pan roddwyd arch arswydawl — dieflig
I daflu 'u meib swynawl
Yr afon, f’arwr hyfawl — gyfodwyd,
Ef addfedwyd i’w ryfedd ddyfodawl.


Y baban Moses.


Wele weithian faban fydd
I’r had yn fawr waredydd;
O! bydd lawen, Gosen gu!
Y maban gwan sy'n gwenu
Ar fron Iochebed mor frau,
Yn ddios heria dduwiau,
Duwiau’r Aifft oll, ryw dro, — a Pharo syn
Anwar euog-ddyn, a gryna rhagddo.


302 GWAITH ISLWYN.


Iochebed! rhoist achubydd
Egyr ddor yr aig ryw ddydd.
O, dyna gryd yn dwyn grym
Mwy na moroedd mewn mawr-rym!
Fe gâr engyl ymyl hoff
Ei gywrain gawell gorhoff.


Dri mis o dirionder mam,
Y denawl fychan dinam
A guddiwyd; gorchudd gweddi
Uwch ei ben oedd ei chob hi.


O chwynai’r un bach ennyd,
Toai gwae y t
ŷ i gyd,
Rhag i'r Aifftiad ofnadwy
Weld y man, a'i glywed mwy.


Os bu o boenau lais babanol,
Deuai Miriam a'i chân dymhorol
I’w foddi; ernes fuddiol — o'i cherdd hi
Wedi boddi yr Aifftiaid beiddiol.


Ei fendigaid fwyn deg
wch yn ei gryd 
A wnai greu llonyddwch
I’w fam ac i Amram hoff;
A oedd gorhoff hawddgarwch
Fel hwn, i lwyr ddiflannu
Dan don yr afon a'i rhu?


Pan fethodd ei fam ei noddi — yn hwy
Rhoes Naf feddwl iddi —
Mewn cawell mawr gerllaw’r lli
Ei rhoddwyd, â thaer weddi.


O draw’n gwylio’r cawell, — mewn ing caled
Am ei arbed, sai Miriam o hirbell.


"O 'mrawd bach, O 'mriw di-baid," —
Ynganai o ing enaid, —
"Mae yn rhyfedd, min yr afon,
A'i llif oer hi yn lle y fron!
Yn lle braich anwylfraich ’nhad, '
Mae dinawdd hesg am danad.
Trwy dy nerth, O tyred, Naf!
Achub, O Dduw Goruchaf,
Er Abram" --


MOSES. 303


Ust! swn camau
Hoenus hwnt, glywai’n neshau.
Tywysoges eres oedd,
Odwych ferch Pharo ydoedd;
O bell gwelai’r cawell cu,
Ac archodd un i’w gyrchu.


Duw yn awr a dymerodd — ei mynwes;
Ac i mewn pan syllodd,
Anwylaf faban welodd, — ei wyneb
A'i dlysineb di-ail a’i swynodd.


Gweld plentyn gŵyl yn wylo — a'i trwyadl
Droai i’w anwylo;
Ei hawddgar wedd, a'i ddagrau, O — ar goedd
Pe llysai bydoedd, pwy all'sai beidio?


Yng nghôl hesg ai angel oedd?
Ai o fyd, ai nef, ydoedd?


O'i hymguddfa Miriam aeth,
Gan ofyn mewn gwyn afiaeth
"Af fi i chwilio am famaeth?"
"Ei," medd hi, — ond, mam a ddaeth!
Ei fam ei hun! Fu mwy hoen
I Efa yn ei haf-hoen,
Yn Eden fro lawen lwys,
Mwy erioed yn Mharadwys?
Ebe hi, gan roddi bywyd
I un oedd fel mewn newydd fyd, —
"Y bachgen hwn a gwnni,
A maga fab myg i fi;
A mi a wnaf am hyn oll
O degwch gyflog digoll."


Cyflog ardderchog a ddaeth
I gariad — ei fagwraeth!


Addysg Moses.


Ar ei addysg ymroddodd
Ei hygar fam o’i gwir fodd.
Ei cynnydd myg yn nawdd mam
Oedd ebrwydd yn ffydd Abram.
Ar ei bron dysgai’r Hebraeg, — heniaith bêr
Ei llwyr hoffder, cyn sill o'r Aifftaeg.


304 GWAITH ISLWYN.


Dysgai’r brid addewid ddaeth
Am wiw wlad y mel odiaeth,
A’r hynod gyfamod fu
I'r genedl ei thrigianna,
Am angel Bethel, am bob
Digwydd ym mywyd Iacob.
Aethant unwaith ar daith deg,
I weld, is ser dwyfoldeg,
Unig fedd Ioseff anwyl, —
Ef, a'i fam, a Miriam
w^yl;
Yno adroddai’r hanes
O’i dderch swydd, a'r llwydd, a'r lles
A wnaeth i Seion ethol,
Seion nef oesau yn ol.
"Rhoes arch i'r patriarchiaid,"
Eb hi â dagrau di-baid,
"Y dydd eu gofwyai Duw,
I'w dwyn o'r caethdy annuw,
I grynhoi ei esgyrn ef
A'u hedryd tuag adref."


Ac o newydd aidd Moses cyneuai
Yn fil tanbeidiach, gloewach, pan glywai
Am ei linach ymlynai —’n fil tynnach,
Gwych ffawd ei âch mwyach nid amheuai.


Deuai i oed o’r diwedd — i fyned
I fewn i'r llys rhyfedd,
I ganol pob gogonedd
A'r lleuer sy gerllaw’r sedd.


Bu yn fab yno i ferch
Y brenin — parai’i annerch
Trwy’r holl lys megis ei mab,
Ei gwir dywysog arab.


Ni fu erioed o flaen uchelfrydedd
Fath ragorol anarferol fawredd;
Y werin, gan ei eirian ogonedd,
Ar bob tu yn canu Abrec unwedd;
Onid hefyd yn enwog etifedd,
A rhwysg ei arsang ar risiau gorsedd?


Am ei harddwch, ei fawr rym, a'i urddas
Fe roddwyd arno fawredd y deyrnas,
A'i rheol lwyddol ar ei law addas;
Tra eon biler cryfa’r teyrnbalas.


MOSES. 305


Maeddai y byd am ei dda wybodau,
A'i weithredoedd i gyd yn eithriadau,
Acw mal uwchlaw cymylau — y ser crog
Ior oedd oludog o'i arddeliadau.


Ond er y gwychder i gyd
Nid oedd ond anedwyddyd;
Y gwiw boreuol addysg barhâi
Y ddwyfol lên yn Gosen ddysgasai,
Yn ei gyfoeth bedd Ioseff a gofiai,
A delw anwyl ei fam a'i dilynai,
A'r addewid fawr ddeuai, — a'i fron lân
O’r llys seirian am Ganan ymgwynai.


Ni pheidiodd yr argraffiadau — mewnol,
Nes myned fel tonnau
Y môr, sy’n dryllio’r muriau
Y rhai geir yn ei ar-gau.


Ef, unwaith, os penderfynai, — heb os
At ei bwnc y cadwai;
Mwy’n ddi-sigl fel mynydd sai,— yn ddiddadl
Mewn gallu trwyadl mwy’n gellt troai.


Gwrthododd lon swynion y presennol,
Draw am eu gwell, gyda dirmyg hollol;
A rhwym hapusaf ei fri mabwysol
O egni ei fryd rwygai’n fwriadol
Er mwyn bod gyda’r bobl gyfamodol.
Gwelai ei ffydd ar gynnydd trwy ganol
Gwyll eu hadfydau, fil gwell dyfodol,
Bore trwy gaddug, gwobrwy tragwyddol.
Gwelai un difai, un glân a dwyfol,
O Judah’n dyfod, a'i ddodi’n y dafol
'N erbyn trosedd torf ryfedd afrifol;
Synnai ef edrych ar bwys anfeidrol
Ei foddloniant yn llwyr droi y fantol,
A'i hael haeddiannau’n codi’r hil ddynol,
Rhai oedd yn feirwon, i urdd anfarwol.


Duw Isaac, efe a'i dewisodd, — a'i bobl
Am byth a briododd;
Gosen eilwaith a geisiodd,
Berth fan, a bu wrth ei fodd.


306 GWAITH ISLWYN.


Gwelai Aifftiwr digywilydd — yn taro
Eu frawd tirion, llonydd,
Rhyw hyfwyn lafurwr ufudd,
Is ei arw dasg y nos a'r dydd.


Enynna'i lid yn union — dros yr had,
Ac ar eiliad lladdodd y creulon.
Mewn tywod mân y toai
Y gelyn erch; disgwyl wnai
I'r genedl ar y fath arwydd — godi
Yn gadarn o'u haflwydd,
Eu myrdd oll, i ymryddhau
O rwydau eu gwaradwydd.


Ond torasai y treisydd
Di-ffael eu hysbryd a'u ffydd;
Digalon gyda'u gilydd — yn llwfrhau
Is pynnau cosb beunydd.


Yn, nhir Midian.


Pharo glybu yn fuan — yn ei lys
Ladd o hono'r truan;
Rhedai’i lid yn fôr di-lan; rhag ei ddig
Yn siomedig ffodd Moses i Midian.


Jethro'n y wlad ddieithriawl
Roes i'r tirion estron hawl;
Cadd drigfa gyda y g
ŵr, yna,
I ennill ei fara fel llafurwr.
A’i ferch yn wraig iddo fu,
Un nad oedd yn cydweddu;
Ei chyndyn dwymyn dymer — roi brawf ar
Brif wron llarieidd-der;
O hyn oll fe barai Ner
Y dda fendith, addfwynder.
Ei enaid, rhy danbaid oedd
Odid rhy eon ydoedd.
Ni fyn Ion ddefnyddio neb, — nes tyner
Droi’n iawn wylder ei hunanoldeb.


Yn mad unigedd Midian,
Nos a dydd, ai is ei dân;
Am lawn ddau ugain mlynedd
Yno bu yn dyfnhau bedd
I’r gau hyder ddaeth trwy’i godiad,
Yn swynawl lys anuwiol wlad.


MOSES. 307


Ffrwyth unigedd deugain mlynedd
Oedd gwiw wyledd newydd galon;
Yfai'n helaeth ar fugeiliaeth
O naturiaeth ei
ŵyn tirion.


Oedd barod i'r anwar elyn Pharo,
I wneyd i'w war is ei ddyrnod wyro;
Ydoedd barod, wedi i Dduw ei buro,
I ddwyn cenedl oedd fythoedd yn cwyno,
Oll yn ol i’r freiniol fro, — mewn urddas,
Yn genel addas ogonawl iddo.


Er eu lles, mwy na’r oll oedd,
I'r Duwdod parod ydoedd!


Enaid gwyn wedi ei waghau — weithian,
I Dduw ei Hunan ei lanw â'i ddoniau!


Awrgloch gref arfaeth nefoedd,
Taro’n awr yr awr yr oedd,
Yr awr o ddirfawr rhyddhad,
I hil y dwyfol alwad.


Ar fynydd Ior, hen Horeb — fe welai
Nefolwych ddisgleirdeb,
Perth yn fflamio yno heb, — ei difa
Yn hardd ddiana yn ei gwyrddineb.


Angel Duw o'r dringawl dân
I'w waith a’i galwai weithian
Wrth ei enw, o'r berth hynod,
Rhoi gyhoedd arch rhag ei ddod
I le mor fad, teml mor fyg,
O ry-afiaeth a rhyfyg.


"Myfi yw Duw— Duw dy dad "— eb Efe,
Byw fyth yw fy mwriad,
I roi i'w hil ef y bêr wlad,
Drwy ynni dy arweiniad.


"Wr ethol, dos! Trwy'th law di
Daw'r genedl o'i dir-gynni."


Arweinydd ei bobl.


Wedi dileu’i wirthddadleuon, — Moses,
Y grymusaf wron,
Ai’n awr i'r Aifft anhirion,
Yn fawr
ŵr drwy enw'r Ion.




308 GWAITH ISLWYN.


Aaron wnai Ion yn enau — i'w was pur
Beunydd i’w antur; bu'n dduw yntau,
I roi yn eglurhaol
Eiriau Naf i’w gar yn ol.

 
O gyson deithio i Gosen daethant,
A newydd ddadguddiad gras draethnsant
Wrth bennau y llwythau dan eu llethiant
Faith res, ger Moses ymgrymasant;
Rhoddes Ior ar ei ddau sant — arddeliad,
Ar ei ddau gennad urdd o ogoniant


Yn had Abram dadebrai — ar unwaith
Y rhin a'i nodweddai,
Sef cred i'r oll ddywedai
Eu hoff Dduw fyth— ffydd ddi-fai.


I gadarnhau eto’i eiriau tirion
O flaen y genedl oedd dan flin g
ŵynion,
Arddelai Ner hardd wialen Aaron
I wneyd enwawg fawreddawg arwyddion;
Bu i law ffydd yn abl ffon, — oedd beunydd
O nerth I’w crefydd gan wyrthiau cryfion.


Cenedl wyw heb lyw, heb wlad,
Oeddynt, a heb ddatguddiad
O'r Nef, er eu hynafiaid, — Ioseff dda
A roes yr ola i'r Israeliaid.


Rhyfedd oedd canrifoedd heb
Oleuni'r dwyfol wyneb!


Wedi blynyddoedd gannoedd o gwyno,
Heb un gweledydd pur i'w cysuro,
Wele o Horeb oleu i euro
Haf eu hynotaf dynghedfen eto.
Rhyw gadarn lyw ar gydio —’n Dduw-nerthawl,
Yng nghyrn hy ffwyrawl, yng nghoron Pharo.


A dieithr rym daeth yr awr, — i archu’r
Erchyll deyrn trahausfawr
I ryddhau, er mawredd Iôn,
Ei dirion had o'i orawr,


Yr ymdrech a Pharo,


Yn syth i'r teyrnlys aethant,
Drwy ddwys sêl dwedai’r ddau sant: —


MOSES. 309


"Wele, ein Duw, fel hyn y dywed, — 'Rhô,
Cyn im' hirio, i 'mhobl gûn ymwared;
O'i boen, fy hoff gynfab i,
O'I holl ing a ollyngi'."


Ond y brenin, erwin ŵr,
Hiriai’n hyf fawr enw Iôr,
Oedd yn dal ei dduwiau’n d
ŵr
O rym mwy ar dir a môr.


Rhag rhoi ymwared Duw a galedai
Ei galon anhirion; y teyrn a'i heriai;
Gwyilt gaer ei galon yn gelltgraig elai,
O'i fan wych sedd fel y dyfnach suddai
I fedd mor ddwfn, na fyddai — unrhyw ol
O'i honiad fythol pan ei difethai.


Fal ffwrn o ufel ffyrnig
Yn bwrw fflamau’n donnau dig,
Felly y teyrn hy yn awr,
Gan derfysg a gw
ŷn dirfawr
Tarannai, arwyddai raith — mwy creulon
Am orchwylion mil mwy erch eilwaith.


Gwyllt atal y gwellt, eto
Yr un gwaith trymwaith bob tro;
Archai bob un roi’r un rhi
Yn fanwl o briddfeini,
A’u hedliw gai’r genedl i gyd — eilwaith
Is eu gorwaith am eu seguryd.


O'u chwerwon garcharau — ai 'u gwaedd uchod
I'r gloewbell ofod, — Ior glybu 'u llefau.
Ar lawr y llys teyrnlys teg, — arwr glan,
Jehofah’i hunan daflai’i herfaneg.


Ger bron y gormeswr balch, pan fwrid
Yr hoff wialen, hi’n sarff a welid!
Trwy’i balas ei hysplandra trybelid
Odliwiau erchyll a adlewyrchid;
A'r lleill, seirff uffern, o drech cadernid,
O ddiail wanc, oll ganddi a lyncid!
Oedd ddraig lawn o ddrygawl lid, — bygythiai,
Ei phen dyrchai, a'i chynffon a dorchid.


Ni wnai hyn i'r gelyn gau
Eu gollwng o'u dyfn gellau.


310 GWAITH ISLWYN.


Onid ail ei hudolion — yn eu mais
I Moesen ac Aaron?
Hwythau a wnaethant weithion
O wiail seirff, pa les son.

 
Ni wyddom ni, braidd, ddim yn awr, — am rym
Yr hen Gelf euogfawr,
Ai rhyw rith lwydrith dan len
Ai uthr elfen gythreulfawr;
Digon in yw fod gan Ner
Derfyn ar ei du arfer,
Ac iddo’n awr ei goddef
I'w amcanion union ef,
I galedu gwael adyn
Is erch anghrediniaeth syn.


Ar hyn daeth uthr famau Duw
A dinistr i'r wlad anuw;
Enynnawl farnau’n unig
A'u rhyddhai rhag Pharo ddig.


Y Nilus, o holl anwylion — ddi-rif
Dduwiau’r Aifft echryslon,
Addolid gan eiddilon
Fel duw pennaf uchaf hon.


Rhyw fore’n ol ei arferiad — Pharo
Ddelai yno o dan ddylanwad
Ei goel, i roi moliant gau, — yn dra g
ŵyl
Ger ei Neil anwyl plygai’i heyrn liniau.


Moses hefyd yn rymus a safai
Yno, a'i gadarn wialen godai
Ar ei d
ŵr rhuol, — duw Pharo drawai
Ar ei wyneb, cledd Ior a'i trywanai,
A'i waed allan bistylliai — ger ei fron,
Holl fywyd calon yr holl Aiöl ceulai.


Erch olwg! Yr archelyn
I'r Ior ni chredai er hyn.


'RoI haint y llyffaint, doi'r llau
Ryw flin ddi-rif filiynau,
E wnai’r farn hon yn rhy fyr
Gwasanaeth y gau swynwyr;
Ei durfing wae roes derfyn
I’w bost hwy — "Bys Duw yw hyn!"


MOSES. 311


Pla ar bla, bob tro'n fwy blin — Duw yn awr
Uchod a erfawr awchai eu durfin
I erchyllach archolli
Haiarn fron y teyrn a'i fri.

 
Yn y man, er dychryn mwy
Ar y dud anghredadwy,
Duw roes i'w was Moesen — (rhoes cyn hynny
'R holl ddaear obry) allweddau’r wybren.


Tywallt wnai ar yr Aifft eon 
Fellt, a rhwysg barfolltau yr Ion.


Ond bro wen Gosen i gyd
Fel Gwynfa, ail gwahanfyd,
Yn nawdd Duw gai hindda deg,
Drwy y llid yr holl adeg.
Gwenau haul gai yn helaeth,
A hedd Ior drwy’i  goror gaeth;
A ser, y nos, eurai’i nen
Odidog, fel mwd Eden.


Eto amledodd tywyllwch teimladwy
Uwch yr anedwydd Aifft ddychrynadwy
I unrhyw fynediad rhy ofnadwy,
Nifwl ydoedd i law’n afaeladwy!


Ac addo wnai Pharo ffoI — roi rhyddhad
Yn ei fwriad ffug-edifeiriol.


Yn ol ei arferol fodd, — rhyfygus
Wr hyderus, ei air a dorrodd.


Mae’r oruchwyliaeth, y mawr archelyn,
Ie, a'th yrfa, bron ar ei therfyn;
Unwaith eto, Duwdod dyn, — adyn gwael,
Ei gynfab Israel o afael d' efyn.


Duw Iôr aeth allan i daro — yr Aifft
A'i rym unwaith eto;
Ei gref fraich lwyr rwygai’r fro
Y synnawl farn-nos honno.


Jehofah nododd gyntafanedig
Pob ty heb arbed i'r cledd llymedig,
Bu uthr y dinistr heb eithriad unig;
Ceid un marw ymhob tylwyth adwythig,


312 GWAITH ISLWYN.


Draw o wych adail y llys derchedig
Obry hyd gleid
ŷ'r gaethes gloedig.


Myrddiynau meirw oedd hanes — anaele
Yr un eiliad eres!
O'u cyfrif ni fu cofres,
Rhy fawr i rif y farw res.


Anifail a dyn hefyd
O’r eang wae’n marw ynghyd.


Ar hanner nos dychrynnwyd — mil filoedd
O deuluoedd, eu gobaith dilcwyd;
Un ddolef rwygai’r nefoedd
Un flin genedlaethol floedd.
Clywid myrdd, myrdd, ymhob man,
Heb un cynfab yn cwynfan.
Bu y nos i gynfab Ner
Yn bur adeg ddibryder;
Nos o lwydd, nos o wledda,
Ei chof bereiddgof barha.
A! diben y cysgod-aberth
Arwyddai waed mwy fyrdd ei werth.
Gwaed yr Oen oedd gysgod rhad
O’r Siloh a'r Croeshoeliad.


Lle gwelid gwaed yn gwridaw
Tua'r drws, ai’r dinistr draw;
Yr angel uchel ei law
Er aberth yrrai heibiaw;
Ei finiog gleddyf a weiniai,
Gan fflamio i'w daith ymaith âi.


Pharo’n awr rhwng cyrff aneiri — ddeffrodd,
Ryfedd ffrawd, i erchi
Jubili i holl bobl Ion
O'i dynion heyrn gadwyni.


Gadael yr Aifft.


Gwthiaw ffwrdd yr holl gaethion
Wnai ei weis ef y nos hon, —
"Ewch ar frys, oll, ewch o'r fro
Enbydus hon, heb ado
Heno o’ch eiddo haeddol
Yn yr Aifft ewin ar ol."


MOSES. 313

Ar bob tu i'w gyrru’n gynt
Rhoddodd yr Ai
fftwyr iddynt
Liaws gloew o dlysau glân,
Rhai gorau aur ac arian.


Yn y nos cychwynasant, — byd ni wêl
Fyth genel dan y fath ogoniant

Dygai Moses eu huchelres
O Rameses yn rymusion,

Heb un llesg, heb yn y llu
I'w gelu wr digalon.


Eu tair miliwn o'r Aifft drom a elynt,
Gydag urddas milwrddull cydgerddynt
Yn lluoedd addas, a'r oll oedd eiddynt
Yn ddiogel o Gosen a ddygynt;
A hoff gais eu Ioseff gynt — i'w tadau
O flaenau oesau a gyflawnasynt.


Y lân golofn dân dywynnai — y nos,
I niwl bob dydd troai;
Dwyfol arweinydd difai
Byth yn nef! Pa beth a wnai
Elfen deg y golofn dân?
Tywyniad Crist ei hunan!


Hon a droes yn fuan draw,
O fwriad i'w cyfeiriaw
O gylch, rhag Philistiaid gau,
Hyd anial llwm diwenau;
Y Môr Coch oedd fel mur cau
Ar draws holl rawd eu rhesau.


I ble’r ai y bobl ar hyn
A'r tyrfog fôr eu terfyn,
O dan eu hing? Onid nes
Dros eon Guldir Suez?
Na! Ior fyth berffeithiai’r fam,
Ailgodai ei law gadarn -
I lwyr ddial ar ei alon,
A maeddu 'u dig ym medd y don.


Unwaith eto Pharo ffol — wr creulon,
Ymlidiai a'i weision aml dewisol.


314 GWAITH ISLWYN.


Gyrrodd, goddiweddodd hwy
Ynghyd mewn cyfyng adwy,
Ag angau yn dal cyngor
Ingol, rhwng Migdol a'r môr.

 

Diau hanner nos dynion
Yw bore ddydd ebrwydd Ion.


Ar hyn, y golofn orenwog elai
'N fawrwych o’u hol, a'r ddau lu didolai,
Israeliaid â'i gwawr a siriolai,
A'u hen elynion â niwl barn lennai.


Moses hyglod, ei wialen gododd,
A thros y tonnau uthr ei hestynnodd;
Yna dwyreinwynt cryf a daranodd,
A'r môr ei hunan â'i rym a rannodd,
Ar w
ŷs Jehofah yn ddau fur safodd,
A rhyngddynt rhodiynt yn dorf waredol,
Drwodd hyd yr heol, — lle yn chwarau
Eto’n y borau ceid tonnau berwol.


Tu ol i’r dywell golofn, — ai'r beiddiawl
Lyw anuwiawl ar eu hol yn eofn;
Gyrrai fyth yn fwy gerwin,
Ni welai i ble, gan niwl blin.


Darganfu'r teyrn drwg ynfyd,
A'i rychwyrn gedyrn i gyd,
Yn rhy hwyr, mai y môr oedd
Bob llaw am bawb o'u lluoedd.
Rhy ddiweddar oedd iddynt
Ddiengyd o'u hynfyd hynt.
Y wialen gref eilwaith
Droai’r môr draw i’w rym maith,
A'i ddau fur a doddai fel
Eira nef ar ffwrn ufel.
Ofer oedd edifarhau
O dan y ffyrnig donnau;
Natur ei hun yn troi oedd
Ei llaw i faeddu'u lluoedd.


Y gwylltion wenyg holltynt — eu gleiniawg
Olwynion pan yrrynt;
Tua’r nefoedd draw nofiynt, — cerbydau
A thramawr donnau aruthr am danynt.


MOSES. 315


Pharo gerth, yn nerth ei nwyd,
A’i fyddin oll a foddwyd.


Y tu hwnt i’r Aifft a'i hawl,
Awen Moesen rymusawl
Seiniai fawl, ragorawl gân,
Arweiniai'r côr ei hunan;
A rhif y ser, dyrfa syn
O addolwyr i'w ddilyn.
O’r tu arall i allu
Ein llygredd a'r dyfnfedd du,
Ei gân fyth dawdd i gun fawl
Gwiw "Gân yr Oen" gogonawl.


Yn yr anialwch.


Daeth i'w braint y fendith brid
O warediaeth a rhydid!
Gwaith Moesen fwyn mwy’n eu mysg
Oll oedd eu diwall addysg.

Goruchwyliaeth eu disgyblaeth
I wedd odiaeth sancteiddiedig,
A’u cymhwysiad i addoliad
I wir rodiad pobl buredig,--

Bellach, oedd anhawddach nod — nag agor
Gwgus for o'i waelod;
Dwyn y bobl o gadwen bai
A fyddai yn fwy rhyfeddod.

Yn fuan wedi glaniaw
Ar hoew wychr drefn yr ochr draw,
Eu gorddig wrthnysig nwyd
Anghyson a ddanghoswyd,
O’u mawr siom yn Mara sur, —
Aur adeg i’w Gwaredur! —
Ni chofient eu huchafiaeth
Na'r hoff deg hynt o’r Aifft gaeth;
Ond, heb achos, cydbechu,
Tuchan am ddwfr, rhyw lwfr lu!

Moses dduwiol a eiriolai, — yn daer
A Duw a'i gwrandawai;
Y pren i’r d
ŵr pan fwriai, — Israel brudd
Liaws anufudd, meluswin yfai.


316 GWAITH ISLWYN.


Wedi Mara, mor dymhoraidd
A fu Elim, le nefolaidd,
Fro y peraidd ddwfr puraf!
Deuddeg ffynhonnau diddan
O heulog liw crisial glân
Yno geid rhag eu hadwyth
Bob llaw, sef un i bob llwyth.


Yn anial Sin cynhennai, — y genedl
Ddrygionus, pan welai
Y trysor ystorasai,
Yn eu llwybr yn mynd yn llai.

 
Gwaeddent, achwynent am grochanau,
Llon doraeth yr Aifft a'i llawnderau,
Heb unwaith feddwl am boenau, — ei hiau faith,
Neu gofio unwaith eu gefynnau.


Duw a roes, ar gais Moesen
Fara yn hael fry o’i nen;
Cryndeg fel had coriander,
Fel mel ddiliau'r borau’n bêr.


O fyw rhyfedd! Tyrfa afrifawl
Yn hyfryd dyfu ar ford dwyfawl!
Anial Sin wnai’n le swynawl, — i’w miloedd
Ydy nefoedd oedd yn wledd ddyddiawl.


Trwy uchel faeth angelion — y genedl
Fagai ynni ddigon
I yrru myrdd o ddewrion
Hyglod, ail us, o'u gwlad lon.


Yn eu heisiau tuchanasant, — eilwaith,
Ond wele Ogoniant
Ior yn syn gerbron y sant — ar graig grog,
Arwydd o’i enwog ddwyfol urdduniant.


Ei ddihafal wialen
Darawai'r graig, hyfgraig hen,
Allan o honi deilliai'n union
Wyrthiawl lifiant, ryw nerthol afon,
Chwyddedig ddyfroedd ddigon — at reidiau
Y llwythau oll weithion.


Amalec â grym ei lu — ddoi i'w cwrdd,
Ei gyrch fu agwrdd i’w gorchfygu;


MOSES. 317

Ond rhoes eiriolaeth Moesen, — a rhinwedd
Yr enwog wialen
Loew fuddugoliaeth lawen,
Diail lwydd, i'r genedl wen.


Rhagarwydd o'r rhagorol
Gadau, yn Nuw, geid yn ol.


Ar fynydd dwyfol gorsynnawl Sinai
Trwy ddwys ogoniant Ior a ddisgynnai;
Fel cydllais moroedd Efe gyhoeddai
Ar ei eithafoedd, ei Gyfraith ddifai.
Yn daran ar daran’n awr ymdorrai
Ei eirchion union — a'r graig enynnai,
Ar un tarawiad yn ffwrn troai.
A'r anial mawr grynai — i'r terfyngylch
A'r genel, ogylch, rhag Ion, lewygai.

 
Miloedd, miloedd o dewion gymylau
Unent eu plygion a'u duon doau,
I ffurfio cuddlen ar ben y bannau,
A phabell ordywell i Dduw’r duwiau,
A'i lu o engyl, rhag cloddio o angau,
Wrth weld gor-ryfedd glaer ogoneddau
Ei ddwyfol wyneb, fedd i filiynau.


Wele'n awr ein glân wron
Yng ngwyddfod hynod ei Ion!


Wyneb yn wyneb fe ymddiddanai
A Duw ei hunan, nes gordywynnai
Ei wyneb yntef — fe ganolbwyntiai
'R gogonedd yn ei wedd, er na wyddai;
Ei firain agwedd a gyfranogai
O'r moroedd o wawl, o’r mawredd welai.
Eiddilwch Israel ni ddaliai —’r purdeb,
Ei haul-wyneb o olwg a lennai.


Ior rodd i'w gyfarwyddaw
Ei reith-lyfr i'w nerthol law;
Diail lyfr i'r genedl oedd,
Rheol lwys i'r ol-oesoedd;
Cynllun, cyfamodlun mad,
Hyd egwyl y diwygiad;
I'w paratoi mewn pryd teg
I odiaeth ryfedd adeg


318 GWAITH ISLWYN.


Trwy ddarbod hir i dderbyn
Y dedwydd had — y Duw-ddyn.


O flwydd i flwydd, ei gref law
Wnai’n llonydd iawn eu lluniaw
Yn araf, araf i fod
Yn ddedwydd bobl i Dduwdod.


Ar ben yr hynt oeddynt yn bobl sancteiddiol,
Gwyl a phuredig hil ofieiriadol,
Yn barod i esgyn o'u prid ysgol
Adre i gyrrau 'u hystad ragorol.

 
Rhosydd Moab.


E ganfu'r prid gynfab — yn gynllun-ach
I'r oesoedd mwyach, yn rhosydd Moab.


Addfwyn un, dim ond unwaith
Yng nghyfnod ystod y daith
Y collodd ef ei nefol — larieiddfryd,
Dros ennyd resynol;
Trwy'r gwall fe'i cauwyd allan
O’i lwys etifeddiaeth lân.

 
Yn ufudd i’r arch nefawl, — aeth i farw
Wrth ei fodd yn hollawI;
A nerthodd Duw yn wyrthiawl, — ei lygaid
I weled y gannaid wlad ogonawl.


I ben Nebo’n ddigwynion esgynnai,
Canan dêg eirian oll ymagorai;
Duw, i loniant ei was, a'i dadlennai;
Trwy ei orfoddiant, tra y rhyfeddai,
I anwylach Canan elai, — i wlad
Hapus ei Geidwad, o Pisgah hedai.
A'i Dduw byw a'i claddodd ban
A'i law anwyl ei Hunan.


Mawr fu ym moreu ei fywyd,
A'i hir oes oedd fawr ar ei hyd;
I fyrdd uwch o fawredd aeth
Awr heulog ei farwolaeth;
O! ddialar angladd hylon, —
Fu neb ond Jehofah yn hon.


Y GROES. 319

Y GROES,

FFO ymaith, Haul! i gongl dywylla’r nen!
A gyda thi, dan wgu, aed y dydd;
Ac O, na ad belydryn ar dy ol.
Golygfa rhy arswydol hon i wawl,
A chywilyddia’r dydd ei harddel hi,
A'r nos ddychrynnai pe bai ganddi lygad.
Na ddywed wrth y ser, os crwydri i'w plith, —
Ac i ba le na chrwydri’n awr? Pa le
Sy ddigon pell o olwg byd fel hwn?
Y pellder mwyaf, mil rhy agos yw!
Cei roesaw yno; yno mae y saint
Yn goronedig, a'r angylion pur;
A pharch i'r Duwdod yw’r arwyddair fry,
Yr allwedd aur a egyr byrth y nen
Gan sicrhau croesawiad llawn a rhwysg
I bob ymwelydd, pob addolydd ddêl
Pe o ddistadlaf barth cre'digaeth Ior: —
Ond O! na ddywed wrthynt pam yr wyt
Yn crwydro o'th gartrefol gylch mor bell,
Rhag iddynt yn eu santaidd ddigter, oll
Fry ar eu claer orseddau, dyngu ’nghyd
Na thremiant ar y ddaear euog mwy
Ar ol dy fachlud, i sirioli’r nos;
Ac nad ymwelant fyth â'u hathrist loer,
I’w llawenhau a'u gwenau llawn o hedd,
Ac i'w chysuro ar ei gyrfa brudd.
Ti, frenin y planedau, boddlawn fydd,
Ac amyneddgar — aros gyda ni.
Enwocach eto fydd y ddaear hon
Na'r ser i gyd — enwocach trwy y Groes.
Na chrwydra 'mhell gan wylo am dy Dduw,
R
haid wrth dy wawl cyn hir i ddwyn i mewn
Ddisgleiriach dydd o adgyfodiad gwiw,
Na chododd o wybrennau’r dwyrain draw
Ei fath erioed er pan y'th aned yno.


Dwed, Leuad deg! Ble’r oeddit ti bryd hyn?
Yr oeddit tithau, fel y Ddaear dlawd,
Yn dywell ac yn bruddaidd iawn dy wedd;
A'r haul ni fynnai daflu siriol drem,
Na throi ei wyneb golau atat fry,


320 GWAITH ISLWYN.


Na sylwi ar dy ddagrau aml, o lid
Dy fod yn gwasanaethu byd mor wael.
Ac wylo’r oeddit mewn rhyw gongl o'r nen
Yn athrist, fel y gwragedd wrth y Groes.


Gogwydda'i ben, O wirfoddolrwydd pur!
Nid marw o boen, ond o ewyllys mae.
Nid chwi, elynion erch, ac nid tydi
Felldigaid Groes, a ddyg ei fywyd ef.
Ei "roddi" mae; pa gariad mwy na hwn!
Ei "roddi" mae; ei hun y rhodd ar rhoddwr.


Gogwydda’i ben — ei ben oedd uwch na’r haul,
Oedd gyfuwch â Jehofa ar ei fainc.
Rhy uchel oedd i’w dynnu i lawr trwy drais,
Ac i ymostwng, ond o hono’i hun.
Ei hunan trodd ei ystlys at y cledd,
Trylymaf gledd cyfiawnder ar y bryn,
Wirfoddawl Oen yn gwaedu dan ei glwyf.
Ewch ymaith, filwyr! dyd y goron ddrain
Ei hunan ar ei ben, a’r bicell erch
A'i law ei hun i'w galon santaidd gyr.
Aed Simon heibio. Dug ei groes ei hun
Er yn flinedig, ac er fod ei ing
Yn tynnu gyda’i chw
ŷs borfforawl waed.
Nid Isaac yw; ni raid ei rwymo ef
A dwylaw ereill. Mae ei law ei hun
Yn barod, a’i gyfiawnder yw y cledd,
Ei ddeddf ei hunan yw y gyllell lem.
Ond A, greulonaf fyd, rhy lawn tydi
O ddienyddwyr yr addfwynaf Oen.
Dy law, Waredwr, cadw dan dy fron,
Mae dwylaw torf yn barod ar bob tu
I’w trochi yn dy waed a chodi 'th Groes.

Efe ni holai fel yr aberth gynt,
Wrth ddringo ael y mynydd dan ei loes
A’r allor ar ei gefn — ni holai ef
"Fy Nhad, mae’r Oen?" Fe’i gwelai ynddo i hun;
Ond nid oedd yno angel llon gerllaw
I ddangos arall nod i fin y cledd.

Distawa, Ddaear! Tithau, Pilat, taw!
A bydded Caesar heb ei goron mwy;
Nid Rhufain sydd yn llanw’r fainc brydnawn
Swyddogion ymerodraeth fawr ei Dad,


Y GROES. 321


Cyfiawnder dwyfol, deddf y bydoedd oll,
Sydd yn ei wysio ef ger bron y fainc,
Uwch mainc na hon tu cefn i len y cnawd,
Lle penderfynir tynged engyl derch,
A lle mae bydoedd yn afrifawl dorf
Dan grynu’n aros am eu bythol ffawd.

Ei air, ei awgrym, ddymchwelasai’r byd,
Gan ddadgorffori llysoedd Rhufain fawr;
Ei air greasai, uwch yr adfail, lys
Ar wychach dull palasau’r dwyfol fyd;
Ac un o’r engyl (teyrn angylion, ef)
Ddygasai orsedd glaer o’r wybren fry,
A byddin o seraffiaid, ac Efe
A eisteddasai ar y fainc mewn rhwysg
Anfeidrol, a'i holl farnwyr wrth ei draed,
A'i holl gyhuddwyr ger ei fron yn fud,
A hollalluawgrwydd yn grymuso’r farn.

Pa ddynol allu, pa uffernol nerth,
Pa nerth uffernol dynol yn gytun,
Allasai ei ddarostwng Ef? Pa deyrn
Feiddiasai’i wysio ger ei fron, Efe
Sy’n arwain holl fyddinoedd nef y nef,
A'r hwn wrth natur oedd dragwyddol lyw,
Y nesa’n y freniniaeth at ei Dad,
Yn llanw’r oesoedd trwy yr yspaid pan
Nad oedd yr enw amser ar barhad,
Ond tragwyddoldeb pur yn llanw’r oll,
Ac Ef ei hun, â'i hun, yn llanw tragwyddoldeb!
Mab Duw, a Duw, a Duw mewn dyn oedd ef;
A'i ganiatad yn unig allsai roi
I'r hoelion lymdra, ac i'r cleddau fin.
Fe seliodd, do, mewn llys goruwch y ser,
Ryw fyrdd o oesoedd cyn ei hoeddi hi,
Y ddedryd fawr a'i rhwymai ar y Groes;
Ei air ei Hun trwy enau pryfyn oedd
“Croeshoelier Ef!" Bloedd iawnder ydoedd hon,
A chais y ddeddf a roddwyd ganddo’i hun,
A'r hon o hono’i hun oedd ardeb llawn.
"Croeshoelier Ef!" O Sinai daeth y waedd,
Ac nid oedd bloedd Caersalem ond yr adsain.

Arafwch, filwyr dig! eich Ceidwad yw!
O, dygwch rai ei Groes, y mae ei friw
Yn ddigon iddo er ei fod yn Dduw.



322 GWAITH ISLWYN.


Anfeidrol lid sy’n plygu'i ysgwydd Ef,
Cynddaredd uffern, a digofaint Nef;
A! fraich a ddrylliai fydoedd dan ei bwys,
I ddynion yn rhy fawr, i Dduw yn ddwys!
Ond nid oes cynorthwywr un gerllaw,
O’r ddaear isod, nac o'r nefoedd draw;
Ei hunan dwg y llid, ei ddwyfol fraich
A'i cynnal yn fawreddog dan y baich
Nes syrthio o'r tu ol i'w Groes brydnawn
O’r golwg byth, i ddyfnder môr o lawn.


Ei hun yn gaer o gylch ei eglwys roes,
Anfeidrol amddiffynnwr, ar y Groes.
Ei hun gwrthsafodd holl fagnelau coll,
Fel Craig yr Oesoedd, craig y bydoedd oll.
Pistylla gwaed, ac ynddo lawn, o'i glwy,
Mae dyn yn rhydd, mae Duw yn foddlawn mwy.
Gwel byrth y nefoedd yn ymagor fry,
Clyw udgorn hedd yn seinio o Galfari;
Yr Iawn yw’r allwedd a ddatglodd y nef,
Agorodd euraidd byrth Caersalem gref;
A'r Iawn a gododd udgorn hedd bryd hyn
At enau per Trugaredd ar y bryn.

Gadewch yr allor, archoffeiriaid, mwy,
A’r holl aberthau, llwyr ddilewch hwy.
Ymrwygodd y wahanlen! Doed yn awr
Y byd ger bron y drugareddfa fawr.
Caed allor gadarn, do, ac aberth llawn,
Offeiriad hefyd ar y Groes brydnawn,
Yr oll yn un, a'r un, trwy’r oll, yn lawn.
A! ni raid iddo mwy ddioddef loes,
Mynychu’r aberth, nac ailgodi’r Groes
Ni fedd cyfiawnder un gofyniad mwy,
Mae’n foddlawn byth yn nyfnder iawnol glwy.
Holl saethau'r ddeddf, a holl bicellau'i llid
I'w galon fawr derbyniodd hwynt i gyd,
Ac ni ddaw un o honynt fyth i'r lan
I agor eilwaith glwyf pechadur gwan.
Ei holaf saeth, diflannodd yn ei glwy,
A soddodd yn ei waed ei melldith mwy.

Ai dyma'r tâl, raslonaf haelaf Un?
Am ras mor fawr ai dyma dâl y dyn?


Y GROES. 323


Dy wawdio, addfwyn Oen, tra dan y llid
Yn marw yn dy waed dros fleiddiaid gwaetha'r byd.
Arafwch, filwyr dig, y Ceidwad yw,
Y Mab yn llennu yn y dyn, y Duw!
Mae yna urddos, oes, a chariad cun,
Diderfyn gariad at golledig ddyn.
Mae yna gariad mewn gweithrediad llawn
Yn agor dôr y carchar ag allwedd gref yr Iawn;
O trowch y bicell rhag ei galon gu,
Mae’n chwyddo’n awr o gariad atom ni;
Ond na — "heb ollwng gwa«d" nid oes i ni
Faddeuant, nac mewn unrhyw waed ond gwaed ei galon gu.
Mae'n rhaid ei dryllio, ynddi hi y trig
Yr unig rin ddyhudda ddwyfol ddig;
Myn Ior ei hagor hi, o'i mewn y mae
Y perl o Iawn, y pridwerth i'n rhyddhau.
O tynnwch allan, filwyr dig gerllaw,
Yr hoelion llymion o'i dirionaf law —
Y llaw fu’n selio yr ymrwymeb gu,
Yr hen gyfamod am ein bywyd ni,
Cyn seilio’r byd, cyn cynneu seren fry.
O na ddywedwch wrtho, — "Gwared d' hun,"
Pa fodd y gall tra’n gwared euog ddyn?
Saf, Geidwad mawr! Saf yna ar y pren!
A'n gobaith, os disgynni, fyth dan len.
Dy waed yw’r unig lawn am bechod dyn,
A'r unig ffordd i'w wared ef yw peidio gwared d' hun.
Na wawdiwch ef, O ladron, dan ei loes,
Mae’ch bywyd yn ei angau, mae 'ch nefoedd yn ei Groes.
Mae’i unig ffordd i’w orsedd yn arwain trwy ei waed,
Ac wrth ymostwng dan ei faich tyn fydoedd dan ei draed.

"Gorffennwyd!" Mae taranau Horeb draw
Yn ddistaw oll, ac wybren loew mwy
O ddwyfol dangnef yn amgylchu’r byd.
"Gorffennwyd!" Mae y cwmwl tew yn wag,
Llwyr gollwyd ei lidiawgrwydd yn y Groes.
Mae liais yr udgorn cryf yn beraidd mwy,
O Sinai’n beraidd; tangnef yw y floedd.
Mae’r bobl yn britho ael y mynydd draw,
A gyda Moses ant i wyddfod Duw,
I wyddfod Duw gwyddfodol yn y cnawd.
A hen wersyllfa'r codwm, fuasai gynt
Yn sefyll draw o hirbell, droir mwy
Yn drigfa hedd, a goruchafiaeth lawn


324 GWAITH ISLWYN.


Yw'r floedd a enfyn ei myrddiynau fry
Trwy holl balasau'r ser i lys y Tad.
"Gorffennwyd!" Nid oes yn y gyfraith lan
Lidiawgrwydd; mae yn gwenu uwch y Groes,
A gwenu bywyd ar farwolion mae.
Neshewch i'r mynydd, nid oes terfyn mwy.
Mae Sinai'n eistedd ar ei sail mewn hedd,
A môr o waed yn golchi ei ochrau fry
Gan ddiffodd fyth ei ffwrn o oesol dân
A chuddio’i lethrau â  thrysorau'r Iawn.
Pan grynai’n ddirfawr dan daranau Duw,
A llais y ddeddf oddiar ei fflamiol frig,
Gan gryfed oedd, yn peri i'r ddaear oll
Adseinio’n hyawdl mewn daeargrynfau —
Bregethwyr hyfion areithfeydd y graig —
Bryd hyn pan grynai’n ddirfawr, a phan grynai
Y byd o'i gylch fel ar ymddatod mwy,
Amlygwyd Iesu 'u trengu yn ei waed.
Anfeidrol effaith! Safodd yn y fan!
Da ganddo orffwys wedi crynu cyd
A chuddio’i ben am oesoedd yn y m
ŵg.
Ac i bechadur euog, hyfryd yw
Cael noddfa gadarn, craig i sefyll arni —
Lle saif yr oesoedd a lle saif y ser
I sefyll wedi ayrthio filwaith dan
Ystormydd profedigaeth, ac o flaen
Awelon aniser, siomiant ym mhob awel;
A sefyll nes i donnau angau oll
Fynd drosodd fythoedd — sefyll yn ddi gryn
Rhwng chwyldroadau tanliyd ddydd y Farn,
Pan syrth y ser, fawreddus danbaid gyrff,
Yn ddrylliau fyrdd ar draws eu gilydd fry,
Eu deddfau’n anhrefn, anhrefn eu deddf.

O, nac ymffrostied dyn, y mwyaf hoff
A'r mwyaf hawddgar, yn ei gariad mwy.
A chwithau, archangylion, byddwch fud.
Nid oes anwyldeb yn y Nef wrth hyn.
Y seren bellaf yn yr entrych draw,
Yr uchaf, nesaf at orseddfainc Duw,
Sy’n yfed gwawl ei bresenoldeb byth,
Gan adlewyrchu ei ddisgleirdeb llawn —
Disgleirdeb ddallai’r haul â bythol nos,
Y seren bellaf — pell i'r ser eu hunain,
Edrycha i lawr trwy’r anherfynol drai.


Y GROES. 325


Ac ar ein tywyll fyd sefydla’i threm,
Ac yma cenfydd Gariad yn gwaghau
Ag haelaf law holl drysorfeydd y Ncf,
Gan arllwys allan gyfoeth Duw ei Hun.
Gwel yma'r briodoledd ar ei sedd,
Y Groes ei sedd, â drain yn goronedig
Ar Galfari, a'i gwisg yn goch gan waed,
A than yr ymdrech ddwys yn chwysu — lawn;
A'r oll i gadw'r anheilyngaf rai,
Yr anheilyngaf o'r anheilwng oll.
Arferol yw y ser o edrych yma
O'r adeg pan ddisogynnodd Duw o'u plith
I'r preseb, a'i orseddfainc gyda hwy
A’i holl balasau ar eu bannau'n wag.
"Duw, cariad yw;" nid iaith y ser mo hyn,
Rhy uchel iddynt hwy yr arddull hwn.
Yr olaf a'r hawddgaraf enw yw
Ar Dduwdod, ac â llythyrennau gwaed
Ei ysgrifennwyd gyntai — gwaed yr Hwn
A gynrychiolid gan yr enw per.
Ac ni adwaenai Gabriel, er mor bur,
Ac er mor ddwfn yng nghyfrinion Duw,
Ni wyddai ef yr un o'i lythyrennau
Nes ei benodi i drosglwyddo i'r byd
Y newydd am ei sylweddolwr mawr.
"Duw, cariad yw;" a fynnai angel glân
Blymio yr enw? Safed wrth y Gioes;
Mae yno yn ei waed yn llanw'r enw,
A'r enw'n llanw'r byd o gylch â hedd.
Wrth weled anfarwoldeb ar y Groes
Yn marw — Hollalluawgrwydd dan y baich
Yn plygu —’r llais a roes i fydoedd fod
O dan ergydion angau yn gwanhau —
Dedwyddwch pur yn gruddfan dan y dur
Pwy feia’r cof os gedy allan mwy
Holl enwau Duw ond Cariad — Cariad byth!

Y mae'n gyfiawnder hefyd, O mor llym
Wrth Fab, with unig aer ei goron fawr;
Bydd ddistaw, Iddew, am dy gyfraith mwy,
Ac am fanylder ei gofynion hi
Ar Sinai bell, ei harswydolrwydd mawr,
Ei llais y daran, mellt yn lampu’i theml —
Tyrd gyda mi, danghosaf iawnder mwy,
Yr un cyfiawnder mewn disgleiriach drych.


326 GWAITH ISLWYN.


Draw gwel dy gyfraith yn crynhoi ei bâr
O'r oesoedd oll, o blith pob iaith a phobl,
Elfennau tanllyd, llwythog oll o lid,
I fynwes eang y Machniydd, nes tyr
Ei galon ddwyfol gan y ffrwydriad syn,
Ac nes y detyd cloion dyfn y graig,
Ac nes ysgydwa'r ddaear fel pe bai
Byd arall yn ei tharo ar ei rhod,
Ei tharo, a diddymdra yn yr ergyd.
Ar Horeb bygwth llid yn unig inae,
Ond yma, rhoi i bob bygythiad rym;
Yr udgorn yno; yma'r cleddyf noeth
Yn agor mynwes y Deddfroddwr mawr,
A’r llafn o'r golwg yn ei briod waed.

Mae engyl yma’n ddistaw. Syndod dry
Eu holl hyawdledd yn fudanrwydd pur,
Mudanrwydd doeth ar bwnc mor fawr — nad oes
Darluniad arno yng nghyfrolau'r Nef,
Na gair a'i gesyd allan yn ei rym
O fewn holl ieithoedd y nefolion fry
Sy fyth yn darllen rhyfeddodau Duw,
Oruchel waith, yn athrofeydd y ser
Wrth ymbartoi i swyddi'r dwyfol fyd.
Y mae meddyliau uwch trosglwyddiad iaith —
Meddyliau sant dan gysgod Croes ei Dduw!

Adwaenoch Ef, nefolion, yn ei waed;
Mae yna fwy na gwaed i'ch golwg chwi,
Ac nid yw'r croesbren yn terfynu'ch trem.
Y mae dyfodol newydd nawr o flaen
Y byd a'r bydoedd yn ymagor draw
O'r munud hwn — yr ydych yn ei weld
Yn llawn o anfarwoldeb, O mor deg!
Mae'r ddeddf yn ddistaw, a fuasai gynt
Yn ysgwyd llawer nef â'i tharan groch,
Gan fygwth diorseddu engyl fyrdd,
Sef dynion wedi 'u gwneyd yn engyl mwy
Trwy riniau'r gwaed sy'n lliwio'r Croesbren fry.
Mae gorsedd Ior yn gyfiawn wrth ryddhau
Byd llawn o garcharorion, tra y ceir
Ei gallu yn seiliedig ar y Groes,
A'i haur golofnau’n ddyfnion yn y gwaed
O’r golwg, wedi ‘u sicrhau am byth.
Gadarnaf fainc! Pwy all ei hysgwyd hi!


Y GROES. 327


Gorseddfainc gras, gorseddfainc iawnder yw;
Gras yn teyrnasu trwy gyfiawnder mwy.

Angylion! Pam mor ddistaw? Mae y gair
"Boddlonwyd," — gair rhyfeddaf Duw ei Hun —
Yn fil rhy ber, yn fil rhy lawn o swyn,
I neb a’i clywo, pe yn gerub glân,
Ymaflyd yn ei delyn arian mwy
Nes llwyr ddistawo'r adsain olaf fyth
Trwy holl wybrenau y bytholfyd pell.
Y mae cyfiawnder bellach wrth ei fodd,
Ei gleddyf yn ddiddefnydd yn y wain,
Camedig arf, a’i farwol fin yn bwl
'Rol taro’n erbyn calon Duw mewn cnawd.
O, pwy a draetha rwysg coroniad gras
Wrth fawrwych esgyn I’w orseddfainc wen,
Cyfiawnder yn ei gynorthwyo i'r lan,
Y ddeddf yn edrych arno gyda gwên,
Tra engyl Duw yn crymu'n dorf ddi-rif
O’i flaen, bob un a'i goron yn ei law

Buasai hi, Trugaredd, lawer oes,
Yn wylo'n athrist ger yr orsedd hon —
A barotowyd cyn sylfaenu'r byd —
Heb hawl i esgyn i'r eisteddfa deg,
Yn wylo fod eu llawnion drysorfeydd
Trwy'r oesau ’nghau, heb fodd i'w hagor hwy
Yng ngallu Duw ei hun, hyd oni ddaeth
Yr Archoffeiriad o'r tu fewn i'r llen,
A'i waed yn dyferynu ar ei ol,
A'r allwedd ganddo, — ’r unig un a wnai.
Derbyniodd hi o law Cyfiawnder pan
Ddistawodd ei daranau uwch y Groes.

Mae Ffydd a'i gwrthrych yma, mor gytun!
Adnebydd hi ei gwrthrych yn ei waed, —
Ei waed, ei gwrthrych, sail ei hyder oll!
Mae'r lleidr draw yn gweled mwy na dyn,
Anfeidrol fwy, yn gwaedu wrth ei ochr.
"Arglwydd," ar groesbren! Ffydd sy'n dwedyd hyn;
Try'r Croesbren, ger ei fron, yn golofn fawr
Yr orsedd honno sydd yn uwch na’r nef.
‘Wyt ar dy ffordd i'th Deyrnas hwnt i'r ser,
Pan ddelych iddi Arglwydd, cofia fi!'
Cyrhaeddodd yno, do, yr un prydnawn.


828 GWAITH islwyn.

Iesu! A welodd hwn dy degwch pur,
Pan wylit ddagrau gwaed tan farwol gur?
A welodd hwn falm bywyd yn dy glwy,
Ac yn dy angau anfarwoldeb mwy?
Ac oni welaf fi dy wedd yn awr
Ar dy orseddfa’n decach fyrdd ei wawr,
A duwdod yn disgleirio ar dy bryd
Fel hanfod llewyrch heuliau fyrdd ynghyd?
Ti, Deyrn y byd, Ti, Frenin cyrrau'r nef,
Dwed, oni 'th welaf ar dy orsedd gref
Sy drosti’n berlau, drosti’n ser i gyd,
A'r nef o’th gylch yn un tragwyddol wrid;
Dwed, oni 'th welaf mewn gogoniant mwy
Na phan yn wylo dan dy farwol glwy?
Yr un yw Ffydd, yn naear ac yn nef,
O dan y Groes, o flaen yr orsedd gref;
Angylaidd lygad, gwawl ym meddwl dyn,
Yn gweled Duw yng ngolau Duw ei hun.
Rhy deneu ydoedd yr orchuddiol len
Borfforai wyneb Iesu ar y pren
I'w dallu, a dieithrio’i wyneb gwiw,
Hi sychai ffwrdd y gwaed, a gwelai — Dduw!

Mor ofer, Pilat, oedd dy ymgais di
I olchi'th ddwylaw. Nid oes iawn mewn dwfr.
Estynna'th law, mae’n gochach nag o'r blaen.
Egluro'r gwaed yr wyt wrth ymlanhau;
Dyfnhau'r ystaen. Na'r haul amlycach yw.
Pan wisgo'r haul y llen sy ganddo ’nghadw
Hyd fore’i dranc, i guddio'i farwol wedd
O wyddfod Duw pan ddel i farnu'r byd
Yn rhyfedd rwysg ei ail ddyfodiad glân,
Nid dan, ond ar y cwmwl olaf mwy —
Pan wisga hon am ennyd uwch y Groes,
Nis gall gysgodi dy euogrwydd erch.
Disgleiria yr ystaen sydd ar dy law,

O Pilat, yng ngoleuni haul cyfiawnder,
A'i loer, cydwybod, yn ofnadwy glaer.


Pilat! Mae modd dileu’r ystaen er hyn.
Arllwysa'r d
ŵr, a dos a'r cawg yn wag
A llanw ef â’r dyferynau drud,
(Rhy rad i ni!) mor llachar dros ei rudd
Ddyferant i ddyfrhau y ddaear sech
Sy'n adwaen ynddo baradwysol rin,


Y GROES. 329

Ie, rhin i Edeneiddio byd o ddrain;
Arch, Pilat, idd y dyrfa ymbellhau,
A sangu'n ysgafn, tra y chwiliot am
Un dafn — un! Disgleiried ar dy law,
Mae'r eira'n duo wrth ei gwyndra hi!
Saf dan ei Groes! Mae'r olchfa dan ei fron;
O, bydd gerllaw pan dorro’i bywiol ffrwd;
Pan dorro, torrir syched llawer oes.
Ystaen y cwymp red ymaith oll yn llwyr,
Euogrwydd oesoedd foddir ynddi hi.
Saf dan y Groes! Daw miloedd gyda thi,
O lawer byd, i weled agor hon.
Yn iach, f’aflendid! Ymaith gyda'r ffrwd
Sy'n llifo i orlynclyn angof mwy!
A phed arosit heb lifeirio 'mlaen,
Ni'th welwn mwy, rhy drwm i nofio wyt,
A thrymach yw y Gwaed i'th gadw i lawr.
Duw! Pwy all godi'r bai a gleddaist ti!

CYFRYNGWR.


SAIL ein hiachawdwriaeth roddwyd, mewn cyfamod eithaf cryf,
Cyn sylfaenu y mynyddoedd, ac o flaen y bryniau hyf;
Fe ordeiniwyd yn Gyfryngwr, y tragwyddol Fab yn awr,
Cyn ymddangos fel Creawdwr i roi sylfaen byd i lawr.

Ym moreuaf gerbyd cariad allan aeth i'n hachub ni,
Ac er dyddiau tragwyddoldeb ei fynediad allan fu:
Cyn bod llais clodforawl angel, cyn bod llais clodforawl dyn,
Seliodd y cyfamod grasol, seliodd er ei fwyn ei hun.

Pwy all draethu’r gweithrediadau am ein hiachawdwriaeth gaed
Y symudiad rhagordeiniol, a'r eiriolaeth drosom wnaed,
Yn nistawrwydd tragwyddoldeb, pan nad oedd daearol fyd
Yn bodoli ond mewn arfaeth, a chyn geni’r ser i gyd?

Cyfaneddle'r ddaear ydoedd mangre ei foreuol fryd,
'R oedd dyddordeb yn y gwagle oedd i dderbyn sail ein byd —
Byw i fod yn sanctaidd allor i'w aberthiad ryw brydnawn,
Byw i'w lanw â phrynedigion drwy ei angeu drud a'i iawn!

Ac wrth roi i lawr sylfeini y ddaearen yn eu lle,
Ac wrth hongian oddiarni fawrion oleuadau'r ne,
'R oedd ei ddwyfol fyfyrdodau ar y mil rhyfeddach awr
Pan y rhoddai mewn cyfyngder sylfaen gobaith byd i lawr.


330 GWAITH ISLWYN.


Carai feddwl am y boreu pan adawai'r nef ei hun,
Pan ymgrymai’n ddigon isel i wneyd ei babell gyda dyn;
A chan gymaint oedd ei gariad, a chan gymaint oedd ei aidd,
Awriais y dragwyddol arfaeth droai yn rhy araf braidd.

Ymddanghosai yn ffenestri proffwydoliaeth oddi draw,
Hoffai ddyfod i’r rhodfaoedd drefnwyd gynt â dwyfol law —
Hen rodfaoedd y cysgodau! Mynych cyfarfyddai ffydd
A'i hanwylyd hawddgar yno, er nad ydoedd eto’n ddydd.

Fel ar nos loeroleu dawel gwel y morwr ymyl tir,
Gwelwyd ef gan batriarchiaid — nid yn amlwg nac yn glir;
Hoffai ddangos ei ogoniant, er mor bell ac er mor wan;
Er fod môr o oesoedd rhyngddynt, hoffai sefyll ar y lan.

Gwyddai ffydd ei fod yn dyfod, a disgwyliai lawer awr
Weled ei ddisgleiriaf gerbyd heibio'r haul yn dod i lawr;
Ar glir benrhyn proffwydoliaeth safai ac edrychai mwy,
Heb fwynhau yr addewidion, ond o bell eu gweled hwy.

Daeth yr amser terfynedig, amser ei ddyfodiad  ddaeth,
Ni bu’n ol i'w addewidion, ei ryfedd ymddanghosiad wnaeth;
Y Tragwyddol Fab a roddwyd, ganwyd yn dywysog hedd,
Er ei ddod yn ddyn, mae hynod fawredd Duwdod yn ei wedd.


Ofer lioli dim am dano ym mhalasau Salem gain;
Mae cerbydau yn Ephrata, ni ddaeth ef yn un o'r rhain;
Nid oes rhwysg nac ymddanghosiad, na thorfeydd yn seinio clod,
Nid oes cyffro ar y ddaear, er mai Duw ei hun sy’n dod.

Daeth i lawr yn ddigon isel i breswylio gyda dyn,
A chymeryd baich euogrwydd torf aneirif arno’i hun;
Daeth mor isel ag i’w ddodi yn y preseb gwael heb fri,
Daeth mor isel ag i’w wneuthur dan y ddeddf i'n harbed ni.

Rhyfedd ras, O ryfedd gariad! Ni bu’n ormod ganddo Ef
Adael ei ogoniant uchod, a'i orseddfainc yn y nef;
Mae’r angylion yn ei ganlyn gyda moliant, cân, a chlod
Hyd ym Methlem — dyna'r terfyn, Nis gall angel pellach ddod.

Gwelir seren dra rhyfeddol ar ffurfafen nef yn awr,
Mae y doethion wedi darllen iachawdwriaeth yn ei gwawr;
Maent yn penderfynu deall diwedd ei chenhadaeth lon;
Seren o gyfundraeth hynaf cariad dwyfol ydyw hon.

Pasiodd heibio’r llys brenhinol, pasiodd heibio’r ddinas fawr,
Mae yn sefyll uwch Ephrata, ar Ephrata llif ei gwawr.
Safed y ddynoliaeth hithau yma, mae yn eithaf blin;
Dyma’r man y mae y Nefoedd yn ei bwyntio i maes i ddyn.


ALBERT DDA. 331


ALBERT DDA.


I. Galar y frenhines.

 
TARAN uwch llys Victoria — a dorrodd
Dros dyrau’r freninfa.
Braw a'u todd oll, Albert Dda — yn sydyn
Gyrhaeddai derfyn gorddiwyd yrfa.

Angeu er holl londer llys
A dorau aur, nid erys;
Rhag ei nerth mor egwan oedd
Bri neu anlloedd breninllys!
Unfodd â llwyn bychan anfalch
I daran follt, yw derwen falch;
Er cryfed, balched uwch ben,
Llwch ydyw i'r llucheden.

Un prydnawn Prydain hunodd, — truenus
Trannoeth y cyfododd;
Gloewawr y Sul pan glywodd
Hanes ei dranc, yn nos drodd.

Ganol nos ei gnul a wnaeth — i gannoedd
Gwnnu’n brudd gan hiraeth;
Ar ei ol i fawr alaeth
Ac arwyl ddu Caerludd aeth.

Ein Banon gun o’i hunaw
Sydd drist ar ei gorsedd draw.
Palasau heirdd, pa les ynt!
Eu swyn a ffoes o honynt.
Ar lawer haf dihafal
Ble mor hoff â Balmoral,
Pan gynt y delynt ill dau
Er mwyn hedd, i’r mynyddau?
Pennau’r mynyddau yn nef
Oeddynt i'w gweld o'u haddef,
A garw drum Lochnagar draw
Uwch iddynt yn ymchwyddaw.
Anedwydd weithion ydyw,
Oer fel y fan Alban yw.
Poen yw gweld Abergeldie,
Mae yn saeth i'w monwes hi.
Y iach Alban uchelbur
Eilw i gof ei mewnol gur.

 


332 GWAITH ISLWYN.


Darfu'n llwyr yr arwyrain
A’r hoen geid yn Osborne gain.
Ni all rhwysg uchelwysg chwaith
Sirioli Windsor eilwaith;
Tywyll yw y Castell heb
Wenau ei addwyn wyneb.

 

Eglywir y nodau galarnadol,
Cyfyd holl Brydain ei sain gresynol,
Yn ei galarwisg mae yn gw
ŷl eiriol
Bore a nawn dros y plant brenhinol;
A'i gweddi sydd yn ufudd ger nefol
Orseddfa yr Ion, dros y weddw freinol.


Pan fo Victoria anwyl yn wylo
Parod iawn gawn ein Prydain i gwyno,
Yn ei holl ofid mae’n dagrau’n llifo,
Ei baich a ddygwn, cydunwn dano;
Mewn parch ei chyfarch a wnawn, a’i chofio
O flaen gorsedd trugaredd, taer guro;
A bedd ei hun anwyl — byddwn yno
Yn filoedd gwlad i fad gydofidio.


Yr Ion nas methodd â'i rin esmwytho
Loesau y galon ddilun, Ef ddalio
Ar ei gwiw sedd ei meddwl rhag suddo;
Ac O’r dda ateg, gobaith cwrdd eto
A’i chu anwylyd, hen a'i chynhalio,
Gobaith gwlad ber uwch ser a'i chysuro.
Gweled drwy ffydd beunydd y bo — ’r pell dir,
A! ni yngenir enw angeu yno.

Y gyfyng awr a gofir,
Hiraeth oedd ar fôr a thir.
Rhoddai llongau arwyddion
Galar dwys uwch gwely’r dos.

Cydostyngent, hwy iawn wyrent
Eu baneri,
Taenai’r hiraeth a’r mawr alaeth
I'r môr heli.


Hwnt ar adenydd hoewon trydanol
Ehedai’r eres hanes resynol;
Cyffroai don ar fôr cyffredinol
Dynoliaeth — ton o hiraeth tynherol;


ALBERT DDA. 333


Holl ddynoliaeth aeth o'i ol — i wylo,
Arwyl oedd honno idd yr hil ddynol.


Rhyw len ddu dros Berlin ddaeth,
Elai ei llys i alaeth.
Ei rhwysg am alarwisgoedd
Drwy gur newidiai ar goedd.


Paris orwemp roes arwydd
O gyd-deimlad rhad yn rhwydd.
Pob dawn wnai’i ffyddlawn goffhau
Hyd awen Môr y Dehau.


Dawn awen Zealand Newydd — drawr gwynai
Drwy ganiad ysblenydd,
Dyr boen Victoria beunydd,
Iachaol falm i'w chlwy fydd.


Pren mwya’r goedfa i gyd — draw syrthiodd
Dros seith ymyl bywyd,
A’i drwst a barai dristyd —
Clyw — braw o bell — clybu’r Byd!


Y dderwen blannodd hiraeth — naturiol,
Victoria o alaeth,
I’w dirion goffadwriaeth.
O tyfed, ffynned yn ffaeth!

 
Na ddeued stormydd eon,
Gaua erch i rwygo hon;
Goruwch brasder dyfnder dôl,
Ger byw rin dagrau breiniol,
Aed ar led uwch daear lawr
I awyrfyd yn erfawr,
A draw boed mewn uchder byth
Yn deilwng o’i Enw dilyth.


II. Mawl y da.

Nis gwyddem nes ei guddio — yn y bedd,
Y buddion gaid drwyddo;
E gyfyd Prydain i gofio — a wnaeth
O lawn wasanaeth, a'i gnul yn seinio.

Y rhyfelog trystfawr fola — y byd,
Heb oedi ymgryma;
Yn y bedd adnabydda
Y buddiol, duwiol, a da.


334 GWAITH ISLWrN.


Prydain oll wedi ei golli, — dalodd
Ei dyled i’w deithi;
Un blaenor, neb i lenwi
Ei le ef ni welai hi.

Rhoddes le mwy mawreddog — i gyfion
Gofiant ei Thywysog
Nag i’r hanes am goronog — bennau;
Am wir riniau pa deyrn mor enwog!

III. Rosenau,

Olrheinir disglaer hanes
Ei ach ddugiol, yn ol, nes
Darfyddo, pallo y pell
Oleuni ar y linell.

Rosenau, fangre swynawl,
Adgoffeir gydag hoff fawl,
Ei le genedigol oedd,
A bro tad Albert ydoedd.
Hoffwn yn awr gerllaw’r llys,
Fwyn Awen, gael fy nhywys,
A'r ser yn hanner siarad
Am rai fu mor hoff, mor fad,
Ond rhai sy’n awr gyda’r ser,
A Naf! na bawn o’u nifer!
Yn nistawrwydd nos torrwn
I wylo wrth gofio, gwn.

E roddodd ef wawrddydd oes
I rinwedd, boreu’r einioes.
Ac ymyl trolyn camwedd
A ofnai fal dyfnaf fedd.
Aeth trwy brofedigaeth deg
Glas oed, beryglus adeg;
Diangodd o'i hud engur,
A chadd barch am fuchedd bur.


Rhoddodd ei fryd ar addysg,
A dod yn enwog mewn dysg.
Dygai barch dysgedigion,
Gloew baich o Brifysgol Bonn.


Ysgolor diesgeulus — a thrwyadl
Dan athrawon medrus,
Rhoddodd gamp fawreddus — o’i flaen yno,
Enillodd honno yn llwyddiannus.


ALBERT DDA. 335


Yno rhoes sail oes i lawr,
Sylfaen bywyd llesolfawr.


Ei feddwl yfai addysg,
Llyn ydoedd, a dyfroedd dysg
Yn ei lenwi drwy lonydd
Efrydion dyfnion bob dydd;
Torrai ei lawnder tirion
A'i olud ar y wlad hon;
Feddyliol gronfeydd helaeth, —
Eu llenwi i ni a wnaeth.


IV. Y briodas.


I’w ddyfodol ymaddfedu — yr oedd
Yn raddol — dadblygu
Y ddawn oedd i weinyddu,
A dwyn gwawr ar Brydain gu.


Ior a edwyn yr adeg,
Mae’n parotoi mewn pryd teg.
A'i law gref e blyg yr Ior
Y gangen at ei gyngor.

 
Myn y pren i'w law mewn pryd
Yn ifanc — a’r dyn hefyd.
Parotoai Albert ieuanc
I wlad ei dreigl, i fawl di-dranc.
Cymhwysder gadd drwy addysg,
Y dyn mawr, i ddod i'n mysg.


Is rheolau a gwersi yr aelwyd,
Boreu tawel einioes, Albert luniwyd
I’w hoff yrfa — i Brydain ei ffurfiwyd,
Mewn gwybodau a moesau cymhwyswyd.

 
Y mae yn gyfiawn i'm hawen gofio
Am y swyn addien grymus wnai iddo
Adaw Coburg, rhoi Gotha deg heibio,
Er mwyn gwneyd Prydain addwyn yn eiddo.


Uniawn dywysog! Pan ein dewisodd
Nid am enw neu am glod y dymunodd,
Nac am allu — serch pur a'i cymhellodd;
Nid ei addysg, ei galon dueddodd
Albert yr ieuanc i lwybraw trwodd;
Nid y goron ogoned a garodd —
Y Goronedig addfwyn a'i swynodd,
Ei theyrnwialen a'i thron ni welodd.


336 GWAITH ISLWYN


Y deg Victoria a'i dygodd — swynion
Victoria lon dros y don a'i denodd;
Yn ddilwgr ei gariad ddaliodd, — tynhau
Wnai’i aur reffynau oni orffennodd.


Diddanwch dydd eu huniad
Gofir yn hir, a'i fwynhad;
Wrth eu plant traethant yr hen
Am floedd y lluoedd llawen,
Unol gyffredinol dôn
Anwyl-ber gydgân Albion;


A’r taranau o’r Tŵr enwog, — a niwl
Magnelau galluog,
Bob llun yn dyrchu’n dorchog — i’r nefoedd,
Llen daenfawr oedd uwch Llundain fawreddog.

 
Prydain yn darwain ar uchelderau
Orfoleddus foliannus filiynau,
A'u llwyr fryd oll ar fawrhau — ’r pâr breiniol,
Rhoi llef arddunol, yr holl fyrddiynau!


Caent fendith Cymru hithau — anfonodd
I fyny weddiau
Hyd orsedd Ior dros y ddau
Am lwydd, hedd, ac aml ddyddiau.


Hawddgar bâr, oedd ger y byd
Yn hyfawl gynllun hefyd —
O undeb a ffyddlonder
O dan fad ordinhad Ner.
Delw o anwyl gyd-lynu,
A chwrdd teg, serch o’r ddau tu


O Gariad! pa’n rhagori,
O’r rhiniau teg, arnat ti!
Golud byd benbwygilydd
Hebod megys sorod sydd,
Wyt oludoedd mewn tlodi,
Gwnei’n dyner ein hadfer ni
Yn ol mwy o'r anial maith,
Yn ol i Eden eilwaith.
Y llwythog ddidwyll weithiwr
Yn ei gaban, egwan wr,
Efo ei fun gun a gâr
A chrug o blant chwareugar.


ALBERT DDA. 337

 
Dedwyddach ydyw na glyw gwlad
Dan goron, nas adwaen gariad.


Bri ydoedd y briodas — ar gariad
Pur, ger yr holl deyrnas:
A daeth i gymdeithas — yn engraff lân
O iawn a dyddan ieuad addas.


Collfarniad oedd eu huniad hwy
Ar y rhai fedrant roi’r fodrwy,
A rhoi y llun oer, y llaw,
Y galon yn gwrthgiliaw
Yn anifyddlon, a’u monwes
Mal y graig heb deimlo gwres.
Anheilwng er mwyn elw
Yw rhoi’r llais i eirio'r llw.

 

v. Y Prydeiniwr.

 

Y mawrwych ieuanc dramorwr — droai
Yn drwyadl Brydeiniwr;
Daeth o galon, union wr,
Y goraf Brydain-garwr.


A'n brenhines gun pan ymunodd,
Ei theg oror am byth a garodd,
A'i gwiw luman ei serch ymglymodd,
Diau â'n Prydain y priododd.
O! y drem yn angeu drodd — gan bryder
Ar ei hoff faner, pan orffennodd! —


VI. Gwasanaeth ei nerth.

 

Pan oedd rhyfel fel ar fin
Agoryd yn dra gerwin;
A newydd ddwys orbwysig — i’n goror,
Ar y môr, yn dod o’r Amerig;

Ei rym i Brydain a roes
A rhannau goreu’r einioes.
Hi gafodd Albert gyfiawn
Ym mlodau’i ddyddiau a’i ddawn.
E ddaeth i'w gwasanaethu,
A hyd ei fedd diwyd fu.

 

Oedd barod i'w hynod waith,
A chalon i'w uchelwaith;
Egni llawn i gynlluniaw
A fai o les, a chref law
I hollol weithio allan
Yn ddioed a roed i'w ran.



338 GWAITH ISLWYN.


A'i gyneddfau gwiw’n aeddfed,
Fel pren fftwythlawn ar lawn led,


VII. Y bywyd pur.


Ym mhuredd ei gymeriad,
Buddiolai, goleuai’n gwlad.
Di-fai y caed ei fywyd
Ar fryn uchaf balchaf byd.
Llygredig bendefigaeth,
Iachau ei ffynhonnau wnaeth;
I fawrion mewn oferoes
Halen a fu ei lân foes.
Mal sant yn ymyl y sedd,
Briai, arweiniai rinwedd;
Rhoddi myg arwydd ei mawl

Ar nen y llys brenhinawl


Ar wybrennau uchder breiniol — haul oedd
I lu amgylchynol,
Yn cynneu yn y canol,
A hwynt draw aent ar ei ol.


Puredd a rhinwedd i'r oes
A geir, os gwellheir y llys,
Yno mae ffynhonnau moes
Fywiol, a'r cyfeiriol fys.


Bywyd ein llys, echrys oedd,
O’r genedl llygrai gannoedd;
Gwridai, cywilyddiai’r wlad — am lygredd
Euog amhuredd ei gymeriad.


Deuai, trwy’r Tywysog duwiol, — i’r lle
Ryw wellhad rhyfeddol;
Eglur yw nas gwelir ol
Yn awr, o’r llwgr blaenorol.


Hynodol gynllun ydyw
I ni o foes, a iawn fyw.


Trwy rym ei fuchedd dra rhinweddol,
A goreu foddion siampl gi'efyddol,
Adenillid, glanheid yn hollol,
Ie’n llwyr ddwys y lle urddasol.


ALBERT DDA. 339


Allor sy gerllaw’r sedd — i Dduw’r heddwch,
Clwy edifeirwch, a chân clodforedd.
Cân i'n Duw cyn hyn nid oedd,
Hoff sain, yn nhai'n brenhinoedd.


VIII. Y penteulu.


Peunydd yr urddas pennaf — coronog,
Ac y rhinwedd lwysaf,
Yn ei deulu ’nghyd welaf
Dan ryfedd dangnefedd Naf.


Y mae gofal am gyfoeth
Drwy ei d
, cynhilder doeth.
Union drefn cysondrefn sydd
Trwy y llawn gartre llonydd;
Yno byth canfyddwn bêr
Lewndid, heb afradlonder.


Cyfuwch o'r blaen nis cafwyd — teuluaeth
A iawn reolaeth y dyner aelwyd.
Cartref hoff, nis ceir trwy fyd,
O afrif, un mwy hyfryd;
Ymlyniad am y lonydd
Aelwyd, a serch ar led sydd;
Gau fyd o'r dihalog fan
A'i dwrw oll, gedwir allan.
Le tawel! mae fel am fod
O dwrf y byd sy'n darfod,
Mewn rhyw gu ymneillduedd
I fwynhau dwyfol-ddwfn hedd,
A siarad am y wlad lon — a diwall
Sy o'r tu arall i'r ser tirion.
Hwy dalant, dduwiol deulu,
Barch i'r ddwyfol gyfrol gu,
Y gyfrol ddwg i eiryd
Reol y Farn o’r ail fyd.
A hwyr llonydd darllennant
Air Duw Nef, a'i gredu wnant.

Ac fel tad ca folawd teg
Ym Mhrydain am hir adeg.
Cymysg heb derfysg bob dydd
Ei gariad â doeth gerydd.

Mewn haelaf addysg os manwl fyddir,
Ac os prydlon geryddon a roddir,
I benteulu tra buan y telir,
O hau yn forau cnwd llawn a fwrir.


340 GWAITH ISLWYN.


Yntau a welodd fel penteulu
Yr had hygar cynnar yn cwnnu,
Ei blant trwy'i noddiant yn cynhyddu
Mewn hedd, a'u rhinwedd yn eirianu,
Rhai fagodd, gododd mor gu, — mor gynnes
Yn ei fonwes, fel
ŵyn i fyny.


Fe'u lluniodd, fe’u magodd nes edmygir
Gan yr holl wlad eu cymeriad mawrwir;
Ple mae ar go esiamplau mor gywir
O rodiad, o gariad mor ragorwir!
Eu bywyd teg ar bob tir — sy’n rhoddi
Hoff hardd oleuni, a’u ffyrdd ddilynir.

Ac o bydd gorseddfainc bell
Yn wag dro, eir heibio'r oll,
Ac o'i d
ŷ gwiw (nis caed gwell
Erioed) e geir rhi di-goll.

IX. Tywysog Cymru.

Athen a fynnai ethol — un o'i d
Iddi'n deyrn rhagorol,
I roi y ddeddf a'r rheol — o'i llys cain
A'i thrôn firain, i'w thir anfarwol.

Rhedai hanes am Alffred yno
A'i enw tyner a wnai eu tanio,
Hoffasent, carasent roi'u croeso
A'u caerau nawdd a'u coron iddo;
Ond hiraethodd teyrngadair Otho
'N ofer, er yn dyner, am dano.

Yn ddi-goll magodd y gŵr
Sydd i fod ar ein sedd fawr
Yn deyrn ben, yn gadarn bor,
Y mwyaf, sicraf is ser.

Yn dra boreu dechreuodd, — a mirain
Gymeriad a luniodd;
Gwyrth fawr, tywysog wrth fodd
Rhyddid a chrefydd roddodd.

Mynnai i'w fab adnabod
Gwledydd gwâr daear, a dod
I feithrin gwiw gyfathrach
A phawb oll, ac a phob âch.


ALBERT DDA. 341

Ei anfon i’r gorllewinfyd — i gael
Golwg ar eu rhyddid,
Deall y bobl, dull eu byd, — heb atal
Nodi'u hamryfal dymherau hefyd.

Gwell na dysg yw llawen daith,
Hir a hoffus yw’r effaith;
Mae'n tarfu'r meini terfyn,
Mwyhau'n meddyliau am ddyn;
O bawb i gyd, o bob g
ŵr,
Y doethaf yw’r ymdeithiwr;
Ni bu gul neb o galon
Ar ol hynt tmy'r ddaear lon.

Efe, a welodd fwyaf — o'n daear,
Dios yw'r cymhwysaf
I lywio'n ol meddwl Naf,
A chael y sedd uchelaf.

Cofiaw am y croesawiad
A roes Amerig yn rhad —
Cofio’r torfoedd oedd o hyd,
Llonfawl y gorllewinfyd,
A'r heulog glaer heolydd — trybelid
I’w fri gyneuid yn Efrog Newydd,
Wna darfu perygl dirfawr
Atal llid mewn tywell awr. —
Cyfaill fydd er mwyn cofion
Y foreu daith hyfryd hon;
A cheir heddwch a rhyddid
O'i glymau borau â'r byd.

Uched oedd meddylddrych ei dad
Am oreu freiniol gymeriad;
Heb grefydd beunydd yn bur
Ni fuasai at ei fesur.
Rhaid oedd cyffroi'i dueddiad
Heb feth, at dduwioldeb fad,
Drwy'i anfon i'r dwyreinfyd,
Drwy y lân Ganan i gyd,
Y wlad brid gysgodid gan
Adenydd Duw ei hunan;
Hynotaf oror Natur,
Angel ar bob awel bur;


342 GWAITH ISLWYN.

Ac lle bu cawell a bedd
Siloh yn ei iseledd;
A'r miutt yr holltai'r meini
Claf ar ei ol — Calfari!

Bro Esaiah, Jeremiah,
Bro Hosea bêr, a Seion!
Er mor llonydd, mae'n ysblenydd,
Dihefelydd, mewn adfeilion.

E goelia wedi gweled,
Cadarnach, cryfach y cred.
Cipolwg ar Macpelah
Gafodd ef, mae’n adgof dda.
O neshau at fryn Seion,
Mae i law ffydd aml i ffon.
Yno e droes ffydd yn drem,
A seliwyd hi yn Salem.

Bo'r gŵr fydd biau'r goron — yn talu
Parch teilwng i gofion
O’i orhoff hynt; argraff hon — O cadwed,
Diogeled ei gred a'i galon!

Boed fyw ei burdeb hyd fedd,
Ar drôn parhaed ei rinwedd;
Hyd yn nef aed yn ufudd
Yn llwybrau’i dad!
Pell bo'r dydd,

Er hyn i gyd i Victoria'n gado,
A rhoi'i llwyddiant pur a'i lle iddo;
Ei llaw addien hi a'n llywyddo
Yn ddiatal hir flwyddi eto;
Am y llaw anwyl anwyl honno,
Y deyrnwialen draw wnai wylo!

X. Noddwr addysg.

Albert Dda lwybrai at ddysg — y miloedd,
Neud byddin oedd o du buddion addysg.

Carai roi addysg gwiwrin,
A'i roi i blant gweithiwr blin
Na all ennill eu lluniaeth,
Er rhoi cefn i lafur caeth;
Mae’n rhynu mewn oer annedd,
Ow brin fyd! bara ni fedd!


ALBERT DDA. 343.

Pwy gasha'r plant carpiog sydd
Yn wehilion heolydd,
Yn crwydro gwibio ar goedd
Yn isaf le’n dinasoedd,
Tros nos heb gartre is nen,
Blin eu tynged, blant angen? —


Tyner oedd Albert o honynt, — islaw
Ei sylw ef nid oeddynt,
Ac o'i fodd agorodd gynt
O'i nawdd ysgolion iddynt.

Troi nos y truenusion,
Nifer llwm, yn foreu llon!
Gwyddai y lles eres sydd
O roi addysg foreuddydd;
Tra yn egwan plyga'n plant
I fyw'n ol rheol rhiant,
Gwir addysg sy'n gwareiddiaw,
Oes Aur i'n mysg trwy ddysg ddaw;
Gwna ei rin goethi'n gweithwyr,
Cawn wragedd gwell, a gwell gwyr;
Gwerin fawr, i'r goron fydd
Yn hyfoes werin ufudd.
Gwladwriaeth heb gloi dorau
A geir fyth yn ymgryf hau;
Byw fydd hon heb fyddinoedd
Na'r cledd dur, na’r rhagfur oedd.

O noddwr mawr ein haddysg!
Ei enw oedd d
ŵr er nawdd dysg.
E fynnai roi afonydd
Yr holl wybodau yn rhydd,
A lledu'i asgell lydan
Drwy ei oes gu dros y gwan.

Myg flaenawr! ymgyflwynodd
I ddiwyd fywyd o'i fodd.
At bob gorchwyl egwyl oedd,
A’i ofalon yn filoedd.

Od adeiledid badd-dai i dlodion,
Boreu teg hafaidd ein Halbert gyfion
Idd eu hagoryd fyddai y gwron;
Dda ewyllysiwr, gwyddai eu llesion;
Rhyfeddawl rin oerfaddon — i iechyd,
Maedda gelfyddyd meddygawl foddion.


344 GWAITH ISLWYN.

A'i rad i'r ymddifad oedd afon
Nerthol yng nghanol ei anghenion;
Pur dywysog, pwy i’r rheidusion
A'r diymgeledd mor dwymgalon!


A chofiai Fasnach hefyd
Sy ben am leshau y byd.


Hoffai agor i longau y moroedd
Byrth o wiw lwyddiant, newydd borthladdoedd,
I dderbyn llawnion faelion i filoedd
Ein dewr ynyswyr, o'r holl deyrnasoedd,
Ac anfon i'r rhain lydain oludoedd
Ein tir a'r mwn naddir o'r mynyddoedd;
Yn ei rym yno yr oedd, — a’r eirian
Faneri yn hofian ar y nefoedd.


Wrth raid areithiwr ydoedd,
A rhoi'i fryd ar brofi’r oedd.


Swyn ei araeth dra synhwyrol
A enillai bawb yn hollol,
Naws unol, i’r un syniad.


Drwy’i ddull difrifol eglur-olau,
A rhyfedd haeledd ei feddyliau,
A mawr swm ei resymau, — llwyddo wnaeth
Yn ei gu araeth, heb ferw geiriau.


Ef oedd gryf, e ddyg ei ran
Is gofal teyrnas gyfan.


XI. Cynghorydd y frenhines.


Cynghorydd llonydd gerllaw — ein Banon,
Beunydd I’w hyfforddiaw,
Uchaf
ŵr i’w chyfeiriaw,
A tharian dros ei thrôn draw.


Fry ei chadarn fraich ydoedd,
A chaer nerth ei choron oedd.


Bu'n tynnu at bwynt union
Wrth helm y wladwriaeth hon,
Llywydd dan lonydd lenni
Addfwyn wrth ei holwyn hi.


Am hyn oll nis gwyddem nes
Rhoi o’n hanwyl frenhines
Hanes in o'i wasanaeth


ALBERT DDA. 345


I'n llys ni a'r lles a wnaeth.
Heddychol ydoedd uchod,
Fel seren ar uchel rod
Yn rhoi o’i goleuni rhwydd
Tirion, ond mewn distawrwydd.


Er ei ddyrchu i rod ardderchog,
O un awydd gau ni bu'n euog;
Er yn ymyl y goron emog
Ni ymyrrai ag un em eurog;
Gwymp loewdra ei gemau pelydrog
Dan ei ddwylaw gaed yn ddihalog;
Wrth droed yr Orsedd fawreddog — eistedd
Wnai hyd y bedd, yn ddeiliad boddog.


Heddychol wr oedd, uwchlaw
Y swyn od sy yn hudaw
Llawer i ddarwain lluoedd
O flas at y rhyfel floedd,
A bod un i bawb dynion
Tan y ser yn destyn son.
Ond efe wrthodai fod
I'n cadarn lu’n benciwdod;
Os oedd y brif o swyddau,
Mwy enwog ceir am nacâu.
Y fewnol fuddugoliaeth
Ar hunan-glod yn nod wnaeth.

XII. Noddwr y Celfau.

Os hyglod ydoedd y maes gwleidiadawl,
I’r enwog Dywysog mwy dewisawl
Oedd arwain y gwyddorawl, — ei galon
Ac ei hael foddion roes i'r Celfyddawl.

Nid rhwysgfawredd gwagogoneddol
Garai, ewyllysiai y llesiol,
Rhôi o'i wiw nodded arweinyddol
I beiriannaeth a chelfau breiniol.
Er mawl eiriau y llwybr milwrol
Trôai o’i fodd at yr ofyddol,
Aeth i ofwyo’r llaw-weithfaol,
Ac i noddi pob amcan haeddol
Fyddai i’r byd yn fuddiol, — pob mudiad
Er gwellhad a gwareiddiad graddol.


346 GWAITH ISLWYN.


Heb feth adnabu ei faes
A'i ran dda, llafurio’n ddwys
Er llwydd cywreinrwydd yr oes,
A gwneuthur i lafur les.


Adfer gwyddawr i fawredd,
Ac ailfywhau celfau hedd;
Rhoi nodded gwirioneddol
Di-ffug, nid addewid ffol;
Rhai noddwyr geir yn addaw,
Genau llyfn heb egni llaw;
Ni wnant un ged weithredawl
Na dim o fodd ond am fawl.
Ef o wneyd ni fu yn ol
Gan ei hewyd egniol.
Un di-ffael i wneyd effaith,
Ni bu’n well neb yn ei waith;
Prin ar air; rhagorai’r ged;
Aruthrol oedd ar weithred.
I’w esiampl dyledus yw
Ein hamaethyddiaeth heddyw.
Daear wnaed i roi yn ol
A roddir iddi’n raddol;
Ei ffrwythydd ni rydd yn rhad,
Na'i moethau heb amaethiad;
Diwyllier, a daw allan
Yn gan mil ei hegin mân.
Deallus oedd mewn diwylliad,
Gwyddai’r ffordd i guddio’r hoff had
A thyner nerthu anian
A'i haur lwyth i ddod i'r lan.
Hoff ganddo rodio ar hyd — ei gaeau,
Drwy ei ddi-efrau diroedd hyfryd,
Edrych, wr haelwych, ar ol
Ei ddi-brin ddolydd breiniol,
Golud ei dir, gweld y da
Hyd ei dyddyn dedwydda
Mewn boddus cysurus hedd,
Hyd ganol mewn digonedd.
E wobrwywyd ei brawon
A chynnyrch per, llawnder llon.
Bwriai’i dir bur-yd araul
A grym trefn, nid gormod traul.


ALBERT DDA. 347


Troai ei wyneb rhag y trywanol
Gleddyf ac y gwyw lawryf milwrol;
Nid eirf tân, iawn drafod dôl — gai’i nodded,
Coledd yr oged, nid y cledd rhwygol.


XIII. Yr arddangosfa fawr.

 
O’i ddoniau i'r hil ddynol
Mae yr un mwya ar ol.


O’i orchwylion, yr uchela — a fu
Y Fawr Arddanghosfa;
Adail oedd i deulu Adda
A barotodd ein Halbert Dda.


Adunaw’r teulu dynol, — ac adfer
Cydfod cyffredinol,
A dwyn hedd i fyd yn ol,
Dyna’i fwriad anfarwol.


Mal brawd e deimlai bryder 
Dros ei holl frodyr is ser;
A'i gariad hyd bob goror
Gyrhaeddai fel y gwyrdd fôr.
Noddwr holl feibion Adda,
Brawd i ddyn oedd Albert Dda,
O haelfrydig ddyn digoll,
Nid dyn rhan, ond dyn yr oll.
Galwai’r byd i gyd heb gas
I'w drybelid Wydr-balas,
O balas glân, heb elyn!
O odiaeth frawdoliaeth dyn!

Udgorn hedd sy’n adgrynhoi
'R hil ddynol yn frawdol fry,
Mae digter, ffalster yn ffoi,
Lle’r oedd sor, serch llariaidd sy.

Man ydoedd i bobloedd byd,
Eirian gynhullfan hollfyd.
Pabell hoff, lle nad oedd pob llwyth
Ond aelod o'r unrhyw dylwyth.
A moesgar gydgymysgu
Wnai’r serchus olygus lu.
Hapus fan, cwmpasai fyd
A'i dawel gelfau diwyd.


348 GWAITH ISLWYN.


Ple is haul i'r palas hwn
A'i loewbyrth, gyflelybwn?
Palas yr hofiai pelydr
Y ne wen, warae’n ei wydr!


A, mor deg yn 'y mryd yw —’r lle dillyn,
A’r flwyddyn — mae’n flwyddyn nefol heddyw


Mae’n awr fel pe gwelsem ni
Nef-adail yn cyfodi
Am ennyd gorddymunol,
Idd y nef ymdoddai’n ol.


Bloeddio i gad wnai’r bobloedd gynt,
Arw fodd, pan gyfarfyddynt;
Cwrdd yn hyllaf gyflafan,
Yn niwl tew, yng nghanol tân;
Gwg yn eu golwg welid,
Holltai y llawr gan fellt llid;
Gan fagnel rhyfel a’i ru
Caerau anian yn crynu!


Pa gariad galluadwy —
Rhengau yn tân — rhyngynt hwy!
Nid oedd un arfod iddynt
I gael cyfeillachu gynt,
Nag mewn oes adeg mwynhau
Eu gilydd yn y golau.


Ond er eanged y gofod rhyngynt,
Oll yn ei gynllun cu arddun cwrddynt,
I deml tangnefedd o'r diwedd deuynt,
O'u hol eu handwyol eirf adawynt;
Ar ol y gad farwol gynt — mae hedd gwyn
Yn canlyn, a blwyddyn Jubil iddynt.


Ar ol y byd enbyd oedd
O orfilain ryfeloedd,
Dacw eilfyd y Celfau — yn ymagor,
Nid yn m
ŵg magnelau
Erfawr, na gwawl arfau, — ond yng nghanol
Iach wyl ogonol, ac uchel ganau.


Gwelent eu mad ymddibyniad beunydd
Ar ddiogelwch, ar dda eu gilydd,
Bod da un genedl i'r byd yn gynnydd,
A llawnder gwlad yn llanw drwy y gwledydd,


ALBERT DDA. 349


A bod drwg enbyd i’r rhan — yn dristyd,
A drwg hefyd i'r cyfan.


A deallasant fod llesion — ein hil
Mewn unoliaeth tirion,
Mai dinistr mwya' dynion — drwy’r oesoedd
Yw cam ryfeloedd ac ymrafaelion.


Dieithriwch ydyw ethryb
Rhyfel; mwy tawel i’m tyb
Fyddai tynged y gwledydd, — llonyddach, 
Diogelach, o nabod eu gilydd.


Wedi nabod wynebau — eu gilydd
Gwelant yr un nodau
Yn oll, yr un llinellau, — eglur ol
O anfarwol berthynas forau.


Drwy y coll er crwydro cyd — is teirmil
O ystormydd enbyd,
Adref gwelaf eu hedryd,
Rhyw ail gwrdd i’r Hil i gyd.


Un oeddynt oll yn nhy Adda, — un oll
Yn nhy’r Arddanghosfa,
Todd hwynt; Palas Albert Dda — oedd i'r byd,
I gyfanfyd, fel adgof o wynfa.


Mor filain pam y rhyfelynt? — a gwaed
Pam gwedyn tywelltynt?
A hwy'n awr oll, fel yn nhref,
Yn addef mai un oeddynt?


Dyfais Albert (ai dwyfol— feddwl oedd!)
Faedda lid yn raddol;
Dacw mudiad cymodol
Hynaws a wna'n hasio'n ol.


Ac er amheuon o'r Crimea — deil
Y deg Arddanghosfa,
Hi ddeil nes sylweddola
Yn ddi-len ei dyben da.


Hyd yr oes hauwyd yr had, — daw i'r lan
Drwy lonydd ddeddf tyfiad;
A cheir, o hedd a chariad
Na fu mwy, gynhauaf mad.


350 GWAITH ISLWYN.


Rhoddai i'w orchwyl tara ardderchog
Fam ddiwyraw, a llaw alluog,
Wrtho daliai, glynai'n galonnog
Haeddawl dasg, a meddwl diysgog.


A'r anhawsderau yn gadau godent
Gan ei ddiflino egni ddiflannent;
A'r daroganwyr o draw a gwynent,
Aml lu aniddan, oll ymlonyddent,
Clod y tywysog enwog a ganent,
Wrth ei wasanaeth, oedd fel gwyrth, synnent.

Cadarn a ieuanc ydoedd,
Nawn teg ei ogoniant oedd.


Penna g
w^r oedd ef pan agorid
Y ter Balas disglaer trybelid,
Ei enw y dwthwn hwnnw fendithid,
Ar lesolwr mawr ei hil sylwid,
A chyfion floedd ddyrchefid, — gan bob iaith
A gwlad ei fawrwaith a glodforid.

I’w gyhydedd ymgodai — haul bri teg
Albert hoff — nis syrthiai —
Ond cryfach, uchelach ai — ei leufer
A'i amwych loewder nes y machludai.

Cai haelfeib pob celfau pert
Eu canolbwnc yn Albert;
Pwnc canol, pen, ac enaid
Y gu Arddanghosfa gaid
Ynddo ef — ni ddaw o'i ol
Un noddwr mor ddefnyddiol.

XIV. Duwch ei ymadawiad.

Duwch ei ymadawiad — a niwliodd
Ein hail Arddanghosiad,
Rhy lesg oedd teimladau'r wlad
Gan saeth ac hiraeth cariad.

O y cynnyrch a'r ceinion
Aml a ddaeth i'r Deml Hedd hon!
China ddyg o'i chynnydd hael,
A'i dewis geinion diwael;
Heirddion feinbriddion o'i bro,


ALBERT DDA. 351

O'i mwynwaith welem yno;
Bathion, a moddion meddyg,
A gorau addurnau ddyg.
Mynnai Ffrainc, mewn offer bedd,
Gynnal ei gloew ogonedd;
Nid oedd plith pobloedd pob pau
Ei bath am gywrain bethau
Norway ddeuai'n wir ddiwyd
A’i mael o bell ymyl byd;
I Babell Hedd yn bybyr
Deuodd o bau y dydd byr.
Trwy hael fodd Awstralia fawr
Yrrai drosodd aur drysawr;
Oddi draw, hardded oedd drych
Ei cholofn aur uchelwych!
Brazil, bu eres holi
Gael trem ar ei heulem hi;
Tymor i weld cellt-emau
Yn bur o'r drofanol bau.
Tra hael oedd Awstria o lin
A delid, a gwaith dilin
O fedrusrwydd hylwydd hon,
A dirif oriaduron.
Dyg Rws oer o'i bedd-oer bau
Ei brethyn o’i bro hithau:
Nis traidd gwynt Rwsia trwyddo,
Mewn gauaf trymaf gwna'r tro:
Crwyn eirth, o'n cylch i'w crynhoi
I'n mawrles, a chrwyn morloi,
Rhyfedd wrth deithio rhewfyd
Dymor gwlaw, ein bod mor glyd.
Hefyd cobau dihafal
Pert i gyd o Portugal.


Mor odidog Oriel enwog
Yr Arluniau!
Parai newydd fyw lawenydd
I filiynau.


Cerfluniau gorau a gaid,
Ar fynor cerfio enaid.
Gwenai y delwau gwynion,
Delw o bridd anadlai bron.
Oeddwn yn disgwyl iddi
Ado'i man — siarad a mi!


352 GWAITH ISLWYN.


Ym mhob celf mae bywiocâd
Eisoes trwy'r Arddanghosiad.
Newydd hwyl o hyn a ddaeth
Rhyfeddol ar ofyddiaeth.


Torf oeddynt yr ofyddion — goronwyd
Am gywreinwaith tirion,
Ynni i'w llaw a hoen llon
Byth ydynt eu bathodion.


Golwg ar welliantau'u gilydd — ddygodd
Ddiwygiad ysblenydd;
Mwynhau'r oll, tremio yn rhydd,
Ac ennill drwy bob cynnydd.
Ond bu tristyd ynnof wrth gofio
Y Pennaeth mwyn pan aethum yno;
Oedd rhy anhawdd yn ydd awr honno,
Rhy galed, ymatal rhag wylo.


Gwnai'r tro anochel flwyddyn uchelwyl
I filoedd aneiri'n flwyddyn arwyl;
A’n clodfawr dywysog enwog anwyl
Mewn bedd, pa ryfedd bruddhau ein prifwyl!

Y gŵr oedd i agoryd
Arddanghosfa benna'r byd,
Ei phen a'i hamddiffynnwr,
Yn ei fedd, unionaf
ŵr!


Oll i'r man daeth llawer mil — o bob iaith
Yn y gobaith o gael teg Jubil,
I ben y daith erbyn dod — clywent g
ŵyn
Oer, a llais achwyn o’r llys uchod.


Ar ein sedd, tra yn neshau — I’w golwg,
Gwelent gysgod angau;
A’n llys i gyd yn llesghau, — cauad wnaeth
Ar ddu hiraeth ei ddisglaer ddorau.


Ac arwyddion ar ein gruddiau — trwy'r wyl
Ei fod yn anwyl hefyd i ninnau.


Newydd ddod o'i angladd ef
Iawn oedd i Brydain addef
Wrth y dorf ei hiraeth dwys,
Wrth y myrdd hiraeth mawrddwys.


ALBERT DDA. 353

O ganol ei ogonedd
A'i swydd fawr, suddai i fedd.


Claf heddyw yw celfyddyd, — a gwyddor
Guddiai’i gwyneb hefyd
Ger ei fedd. Pwy geir o fyd
A'u nawdd mwy, y ddwy ddiwyd!


Er huno’r mawr arweinydd
Parhad i’r sefydliad fydd.
Ei feddwl ef ddeil o'i ol,
A'i gynnydd fydd ogonol;
Erys ar ol i'n hwyrion
Roi i fedd y ganrif hon.
Fe geir arddanghosfa gywrain
I'w hagor, tra bo gwyddor gain;
Daw ail oes a'i gwiw dlysau
A'i gloewaf glod i gelf glau.


A'r molawd roir i'r milwr — a roddir
I’r haeddawl wyddonwr;
Daw’r lles, y golud, a’r llwydd,
I ddedwydd gelfyddydwr.


Traethir yn hir y da wnaeth,
Synnir wrth ei wasanaeth,
Beirdd odlant, ganant i'w go
Nad ydynt mewn bod eto;
A'u blodau byw a ledir
Ar ei lwch mewn arwyl hir.
Erys ef wedi yr oes hon
Fel Selyf oloesolion.
Moliant dyr mal ewyn ton,
Fel niwl o flaen awelon,
Ond rhinwedd wedi’r einioes
Draw fwynha ddiderfyn oes;
Pwy ddywed gadarned yw!
Caerog adail, craig ydyw.


XV. Y diwedd.


Os na fu ei oes yn faith,
Bu’n fawr, heb un oferwaith.
Os oedd fer, lleshaodd fyd,
Rhôi i Naf ei ran hefyd;
Mesur wrth ei lafurwaith
Dry’i oes fer yn deiroes faith.
Er mor fer ei drem ar fyd
Bu ddyfal — byw i ddeufyd.


354 GWAITH ISLWYN.


Rhyngu dy fodd rhwng dau fyd
O Naf! bora ninnau hefyd!


Y da wneir ydyw ein hoes,
Ac wrth hyn bydd gwerth einioes;
Nid byw’n hir, ond byw yn ol
Gair Rhi, ardderchog reol
Ddihalog — byw i ddilyn
Diben da — nid byw ond hyn.


Edrych arno’n llunio lles
I ddynion, ryfedd hanes,
Edrych ar ei lawnwych lwydd
Oedd edrych ar ddiwydrwydd.


Ni rodd ef hyder mewn rhyw ddyfodol,
Ond mwynbau y munudau mynedol,
Parhaus ynni i’r presennol — daflai,
A meddiannai ei oriau hamddenol.


Byw heb dwrf, gwneuthur bob dydd — ddaioni,
Ymroi âl holl ynni, ond mor llonydd!


Safai’r g
ŵr nesaf i’r goron,
Mawreddus hynt, ond mor ddi son!
Odiaeth oedd ei fendith ef — mewn mwynder
Gw
ŷl a thyner, fel gwlith y wiwnef.


Uwchlaw, ei swn ni clywid, — ei rinwedd
Er hynny a deimlid;
I'r ddynoliaeth mawrdda wnelid — mewn hedd,
Ond ei ogonedd ni udgenid.


Dylifai’i fywyd ail afon — ry fawr
I ferwi yn grychdon;
Y lli bas sy lle y bo son
Twrw moliant ar ei ymylon.


Dyrchafodd, fe rodd ei fryd — wr hynod
Ar ennill gwên hyfryd
Ior nef, a'i "dda was" hefyd,
Anwylaf air, mewn ail fyd.


Nid son wnai ef am grefydd, — ond ei byw
Hyd y bedd yn ufudd,
Rhodio’n ol troed Gwaredydd
Heb hyder ffoI, byw drwy ffydd.


ALBERT DDA. 855


Arswyda rhai, os sydyn — daw y waedd
A'r diweddaf elyn;
Dedwydd a fydd credadyn
Parod mwy, doed pryd y myn.


Hapus ran, pwyso yr oedd
Ar Iesu, Craig yr Oesoedd.
Ar lif y farwol afon
Gweled tir a gwaelod ton!
Nid ofnai hon, er dyfned
HUynt ei llif, er maint ei lled.
Er dyfned ni raid ofni
Aflwydd yn ei hymchwydd hi,
Os mwynheir archoffeiriad
Ynddi, a goleuni gwlad.
Parodrwydd i’r pur adref
A gaed yno ynddo ef.
Deildy yw rhith duwioldeb,
Ofer nod ni saif er neb;


Ond ei gadarn dŷ gododd — ar y graig,
Ar gref storm ni syflodd
Ei adeilad — fry daliodd, — yn nhonnau
Yn mhell li angau ni ymollyngodd.


Mwynhau’r hen emyn yr oedd, — yr emyn,
Am rym Craig yr Oesoedd,
Canu pan o dan y d
ŵr
I’w Waredwr yr ydoedd.


Draw gwelai anwyl dir y goleuni,
A llon gorau Seion i'w groesawi
Ar y lan arall, ryw lu aneiri
Oll yn ei gwrddyd â llawen gerddi.


Mae’r angeu er mor engur,
Mae’r bedd wedi oes mor bur,
Yn gynhor i ogoniant,
A'r drws yw i gartre’r sant.


Boreu’i einioes a brynodd, — a’i fawrwaith
Yn foreu orffennodd;
Cerbyd Naf a safodd — yn ei ymyl,
Draw i fyd engyl adref dihangodd.


Aeth o’r byd a'i waith ar ben — nos Sadwrn;
Ys hedodd yn llawen
I fwynhau "gorffwysfa’n ol "
I ganol Sabboth gwiwnen.


356 GWAITH ISLWYN.


SABBOTH GARTREF.


(Cyfansoddwyd mewn cystudd.)


Y MAE y gweision yn pregethu
A minnau yma wedi methu,
Y meddwi hwn sydd yn fy ngwaelu -
Hwy ar y maes a minnau’n ffaelu.


O! bydded llwyddiant i'r cenhadau,
Arddeliad ar eu hymdrechiadau,
A boed i minnau yn fy nh
ŷ
Foddlonrwydd i'r ewyllys fry.


Meddyliais unwaith y mwynhawn
Un Sabboth o orffwysdra llawn
Fel ynys deg ar donnog fôr,
Fel saib ar gerdd tragwyddol gôr; —


Ond teimlwn ar y bore braf,
Fel y medelwr fore haf
Pan welo’r cryman wedi ei ddodi,
Ac yntau yn rhy wan i'w godi.


Diwrnod o orffwysdra clyd
Yw’r Sabboth rhyngom ni ar byd;—
Ond dydd o waith a llafur yw
Y Sabboth rhyngom ni â Duw.


Na feddwl, O genhadwr hedd!
Am orffwys nes ym mynwes bedd;
Amser yw wythnos gweision Duw,
A'u Sabboth — Tragwyddoldeb yw!

BEDDARGRAFF D. EDWARDS, LLANDDERFEL,
MEIRIONNYDD.


LLANWODD yrfa o foes yn Llandderfel;
Myg wr diwyrgam o'i gryd i'w argel;
Diau nis duwyd ei einioes dawel
O'i theg wawr hyd at eitha ei gorwel;
Huna, dad! nes dêl — dy gorff i fyny
O’th ogo obry^, ag holl nerth Gabriel.




Y NOS. 357

Y "NOS."

TYRD Nos! a'th dorf o dystion; ym yn hoffi
Hyawdledd dwfn y ser sydd gyda’r wawr yn tewi.
Y mae dy bur ddistawrwydd yn cyhoeddi
Fod acw Dduw a bydoedd tecach inni.
Nos yw y dydd sy’n cadw’r ser o'r golwg,
A dydd yw’r nos sy’n gwneyd y nef yn amlwg.


Mae’r haul yn creu anffyddwyr o'i gyfodiad,
A thrwy y dydd y byd, y byd sy’n siarad.
O croesaw, Nos! sy’n gwneyd i'r byd ostegu
I dragwyddoldeb trwy y ser lefaru.
Rhy gynnar, Wawr! rhy gynnar yw it ddeffro
A dringo uchelderau’r dwyrain eto;
Rhy gynnar — aros! mae y Nos mor dawel
A'r fath deimladrwydd ar ei hathrist awel.
Mae’n dangos heuliau nad oes machlud iddynt,
Rhai nad yw’r bedd yn taflu’i gysgod drostynt.
Saf! oeda, Wawr! y mae dy ddull chwareugar,
Dy ysgafn drem, a'th odlau llon difyrgar,
Yn dramgwydd i gymanfa'r santaidd fydoedd,
A phan ddiflanna’r Nos diflanna'r nefoedd.


O! tyrd y falmaidd Nos! yr adeg dawel,
Pan gwsg y ddiwyd olwyn ar ei hechel,
Pan nad yw twrf y byd yn daearoli’r awel.


Y morwr blin ar don aflonydd amser
A lawenha pan welo yn y pellder
Y llinell dân o ser ar lan y nefoedd,
Goleudai o dragwyddol angorfaoedd.

 
Ac oedfa'r Nef yw’r Nos — Duw! Duw sy'n siarad
I'w theml ymgynhulla'r ser i losgi mewn addoliad!
A'u llygaid, heuliau’r hwyr, yn tanio oll gan gariad,
Odidog gôr! anadlaf finnau odlig
I'w canol draw, o'm preswyl nosawl unig.


O! mae dy wyneb, Natur fawr,
Yn olau gan ryw ddwyfol wawr.
Yr awel fwyn —
Rhy eiddil i gyffroi y llwyn,
Sy'n gorffwys yn yr hwyr-gysgodau,
A'i holl freuddwydion am y blodau —


358 GWAITH ISLWYN.


Pan lifo hon
Fel dwyfol don
A gyffroasid yn yr wybren dawel
Gan adsain rhyw nefolaidd gerdd
Neu fwynaf anadl angel,
O!’r traeth-adgofion yn y fan
O ddyfnder bywyd ddaw i'r lan,
A llawer bwriad, llawer trefn
A chwelir ar y graig drachefn.
O!’r myfyrdodau pell olynol
Gyneuir yn y fynwes ddynol,
Fel ser uwchben yr anherfynol.
Ddedwydd awr
Pan y daw'r
Nef i lawr
A'r holl ser, ardderchog wawr
Y bytholddydd, Dduw-ddydd mawr!
Gwel y ser
Y ser i gyd —
Duw yn edrych
Ar y byd!


O!’r meddyliau anhraethadwy
Sydd yn esgyn ac yn disgyn
Trwy yr enaid noeth diblisgyn
Fel angylion mewn urdduniant a thaweledd anirnadwy.

Pan glywaf swn môr-brudd y goedwig heddwawr
Y mae fy enaid a'i feddyliau beddwawr
Gan awel o'r tragwyddol yn adfywio,
Y bore ddydd anfarwol yn eu lliwio.

Ardderchog wyt, O Natur, ganol nos!
A dyma ganol dydd dy ardderchawgrwydd.
O fewn dyfnderau'r nos y lleda hi
Rôl ei hanfeidrol fonedd flaen y nef,
Ei hachau o'r tragwyddol, ac yn awr
Y clywaf hi yn canu am ei Thad;
O! hapus hwnnw a all eilio'r gân
A thynnu adlais o'r tu hwnt i'r ser.
Y mae y bryniau cedyrn, ar ol cau
Ffenestri'r wybren, ar ol troi y byd
O'r neilldu am y nos, yn cydymroi
I fyfyrdodau aruthr ac i fawl
Rhy ddwfn idd ei glywed, rhy ofnadwy,
Rhy bur i neb ei ddeall ond yr Hwn


Y NOS. 359


Sy'n edrych ar ddistawrwydd bydoedd fel
Uchelaf rwysg hyawdledd, pan y maent
Yn beiddio efelychu yr Anfeidrol.


O Natur, Natur! aros mwy fel hyn!
Y mae y byd yn santaidd yn y nos,
A’r ysbrydolfyd fel yn un ag ef.
Mae’r enaid ar ei holl feddyliau’n teimlo
Rhithiau angylion yn ymorffwys ennyd
Fel brodyr a gollasid lawer oes.


Pryd hyn
Mae Natur dyner yn clustfeinio ar
Ei holi ffynhonnau’n tarddu i’r lan o Dduw.
Clyw swn y dyfroedd ar lechweddau’r bryn,
Dwrf gorfawreddog! fel pe mynnai'r rhaiadr
Yr ser ei glywed a dyweyd wrth Dduw
Fod iddo eto ar y bryniau lef
Dragwyddoi o addoliad. Obry clyw
Yr afon hithau ar ei milwedd daith,
Yn llanw dyffryn ar ol dyffryn ag
Angylaidd fôr o addoliadol swn.
A'r ffynnon fach ymhell o fewn y goedwig
A lawenycha fod ei hodl hi
Yn hyglyw yn y gyffredinol gerdd,
A bod y ser yn gwrando arni hithau
Yn canu yn y côr.
Mae Natur yn addoli yn holl nerth,
Holl fawredd yr elfennau! Gwrendy’r môr
Wyllt fawl y gwyntoedd nes ymgodo’i donnau,
Fel gwyn fyd o addolwyr, tua'r nef.

ER COF AM MR EDWARDS, VICTORIA HOUSE.
ABERCARN.


RHAGLUNIAETH fawr! Pa fodd y bu
I frawd mor hoff, i dad mor gu
Ddiflannu ymaith cyn i ni
Gael ennyd fach
I ganu'n iach!


Caraswn i gael ysgwyd llaw, caraswn anfon gydag ef
Ryw gofion hoff i’r ochr draw, at rai sydd bellach yn y nef,
Yng nghartref yn y dwyfol fyd,
Ers llawer blwyddyn faith ei hyd.


360 GWAITH ISLWYN.


Ond ni chaed rhybudd, ni chaed awr — yr oedd y cerbyd wrth y ddor —
Rhy sanctaidd oedd, rhy bur ei wawr, i gyffwrdd â'r daearol lawr —
Claer gerbyd meibion Ior; —
Ni feiddiai'r angel — yrrwr mawr
Ohirio ennyd mwy — mor fawr
Oedd awydd y Gwaredwr cun
I gael ei eiddo ato’i hun.


Pa bryd y rholiodd y fath don
Ar unrhyw draeth o'r ddaear hon?
Pa bryd newidiodd ddisglaer ddydd
I hwyr mor dywyll, nos mor brudd?
Ond wrth ddychwelyd, aeth y don
Ag ysbryd Edwards ar ei bron
I fôr y bythol wynfyd fry;
A'r disglaer ddydd, disgleiriach fu!


Agorodd angau gyda brys ei rydlyd byrth i gyd o'i flaen.
Adwaenai gerbyd mawr y Llys, a gwelai engyl Duw ar daen;
Ni allai ofyn sill i'n brawd,
Na'i luddias funud ar ei rawd.


Ust, deulu prudd! Nac wylwch mwy,
Mae meddyginiaeth lawn i’r clwy; —
'Roedd cyfaill hoffus gennyf fi,
Ac unwaith cytunasom ni
I ado cartref, gado gwaith,
A mynd ynghyd ar hyfryd daith;
Pan ddaethum at yr orsaf fawr,
Yr oeddwn i ar ol, ryw awr,
Mewn tren boreuach aethai ef,
Ond wele ail gerbydres gref,
Ac er im' deimlo braidd yn brudd,
Mi a'i daliais ef yng nghorff y dydd.
O, nid yw hyn
Ond ennyd cyn!
Diwrnod byr yw'r einioes hon
Ac oriau ei blynyddau bron,
Ac nid yw marw cyfaill cu
Ond blaenu ennyd arnom ni,
O, nid yw hyn
Ond cychwyn cyn;
Yng nghanol eich wylofus sain,
Nid yw yr oll ond tren o’r blaen.


DR. PARRY, Y BALA. 361


DR PARRY. Y BALA.


Y boreu.


PA beth yw Corsica i mi
At fangre'th enedigaeth di,
Y lonydd Bersham — enw sy
Yn anwyl gan angylion fry,
Rhai yno geid yn gwylio'th gryd
Dan nawdd eu claer adenydd clyd?


Pa beth yw hanes boreu oes
Y gwron rodd i filoedd loes,
Gan lanw byd â sain ei fri,
At hanes foreu Parry gu!


Pan dorrodd gwawr ei fywyd, llawenhau
Wnaeth Angel Methodistiaeth yn y nef,
Wrth glywed tyrfa'n dod — sef tyrfa gref
O weinidogion Seion yn neshau
Yn arfog at eu gwaith, o’i arfdy ef.
Danghosodd IESU i ryw dyrfa lon
O Dadau Methodistaidd ger ei fron
Olygfa newydd ar ddyfodol pur
I ddod o addysg Parry cyn bo hir —
Dyfodol i ymagor yn ein mysg,
Rhyw ddwyfol ddydd o sancteiddiedig ddysg
Yn torri, draw, ar fryniau Cymru lân —
A bu am ennyd seibiad yn eu cân!


Penodwyd i'r bachgennyn yn ei gryd
Ei geidwad; — angel ffyddlawn. Ar bob pryd
Fe'i gwyliai, fel pe'n un o lawer mil,
Wrth fynd i'r ysgol ddyddiol, a'r un Sul.
O'i febyd fe’i bendithiwyd gan y Nef,
Nid oedd dewiniaeth yn ei erbyn ef;
A bu ei foreu lwybr, fel mae'n wiw
I un sydd i ddisgleirio yng ngwaith ei Dduw,
Yn wyn o'r cryd i fyny, hyd nes daeth
I gyflawn rym i gydio yn ei waith.


Ei lwydd a chwyddodd, do, yn afon fawr,
Fel gwelir wrth ei gwely gwag yn awr;
Ac os yn fechan yn ei ffynnon wan
Fel llygad gwlithyn newydd agor pan
Dan ael blodeuyn,’roedd mor loew a chlir
A llygad gwlithyn hefyd, ac mor bur.


362 GWAITH ISLWYN.


Mor deg, mor addeus ydyw mebyd pur
Yn hanes dynion sydd i fod cyn hir
Yn gedyrn dros eu Hior; mae'n effaith gwiw
A phrawf o ragarfaethol gyngor Duw.
Dadblygiad cyson o'i foreuddydd ef
Fu'i ganol ddydd, a’i hwyr, yng ngwaith y Nef.


Nis etifeddodd gyfoeth yn ei gryd,
Ond etifeddodd fwy nag all y byd
Ei roi i neb — rhieni â'u holl fryd
Ar wasanaethu Duw, a'i feithrin ef
Yn addysg ac athrawiaeth lân y nef.


Ymhen ei ffordd fe gadd yr iawn gyfeiriad —
Yr addysg sydd yn rhoi o dan gymeriad
Sylfaenwaith dwyfol, nas gall holl ystormydd
Dyfodol oes ei ysgwyd yn dragywydd.
Bu tad a mam grefyddol yn cyfeirio
Ffrwd bywyd pan ddechreuai’n wan lifeirio;
Ac wedi mynd o’r ysgogyddion ymaith
Parhai yr ysgogiad yn ei effaith.


Bu iddo hefyd ar Sabbothau’r borau
Un addas iawn i ddechreu agor dorau
Ei fyd meddyliol,—
ŵr a'i brif feddylfyd,
A'i fyfyr llawn, ar Dduw a thragwyddolfyd.
Ni ellir cofio Hughes heb gofio hefyd
Am ryw awyrgylch megys o nefolfyd,
Am ras i goethi deall, gwella calon,
Am rywrai’n pasio — tebyg i angylion.
Bu’r Awen hon un waith yn ei gyfeillach,
A rhifid ef yn sant o'r puraf bellach;
Fel teithiwr yn yr orsaf ’roedd e'n aros
Am hwyr gerbydres Iesu i ymddangos —
I minnau’r oedd y byd ymhell,
I minnau'r nef yn agos.


Ceid, rywfodd, grefyddolrwydd yn ei wyneb,
Ac yn ei iaith drysorau o ddoethineb —
A honno yn un nefol. Anhawdd ydoedd
I fachgen tirf anghofio ymhen blynyddoedd
Ddylanwad pur ei ddysg a'i bresenoldeb —
Un oedd yn byw ar gyfer tragwyddoldeb.

 
Mae'r disglaer foreu yn ymledu weithion,
A cheir ein harwr ymysg myrdd Manceinion;


DR. PARRY, Y BALA. 363


Mae Parry yn eu mysg — ond nid o honynt;
Fel pe na bai'n eu gweld ymlwybra drwyddynt.
Efryda y Ladineg ar yr heol,
Y Groeg yn yr ystr
ŷd rhyw newydd reol
Feistrola ef bob dydd. Gymeriad addien,
Mae bob yn ail yn gweithio ac yn darllen.


Fe glymai am ei fys ryw ddalen Ladin
I’w darllen ar y ffordd, — a dalen wedyn,
Nes bwyta'r llyfr oll. Yn ddiwyd ddiball
Ai rhagddo i feistroli llyfr arall;
Un arall eilwaith — ac un arall wedyn.
Fel hyn, o un i un fe fagai edyn
Meddyliol, gan ymgodi'n uwch i wybrau
Gwybodaeth deg a'i hanherfynol lwybrau.
Darllennodd lawer wrth y goleu goreu
A fedd y byd — goleuni'r wawrddydd foreu,
Sy'n dyblu ynni deall yr efrydydd, —
Gweil awr o'r wawr nag oriau maith o’r hwyrddydd.

Y dydd.


Y mawr yn aml gynhwysir yn y bychan,
Dymaid o fes gynhwysa fforest lydan;
Ac yntau trwy yr Ysgol Sul, a’i swyddi,
Ddanghosai fesen yr athrawol deithi —
Y fesen dyfodd wedyn yn frenhinbren,
Gan guddio'r Bala, y Fethodistaidd Athen,
A llawer o feddyliol dirf blanhigion
Yn tyfu'n gryf o dan ei chysgod tirion,
Nes dod eu hunain yn ysbrydol dderi,
Bob un yn nawdd i braidd ysbrydol dani.
Mor felus ydyw olrhain cwrs ei fywyd,
Y mae fel llyfr cyfoethog i'm meddylfryd,
A phob rhyw ddalen newydd yn rhagori,
Ac yn dyfnhau mewn cyfoeth a goleuni,
Nes yw y ddalen olaf yn troi drosodd
I Olau'r nef — y "Diwedd" mawr a'i seliodd.

 
O Bersham i Manceinion — dyna linell
Heb ar ei gloewder unrhyw niwlen dywell;
O'r Ysgol Sul, hyd risiau gloewon odiaeth,
I fyny i Areithfa'r Brynedigaeth,
Oedd gyfres o ysbrydol ddyrchafiadau
Uwch law brenhinol rwysg dan aur goronau.


364 GWAITH ISLWYN.


O'r Bala, megys eryr cryf, esgynnai
I fyny i’r Brifysgol — lle cyrhaeddai
Uchelion gloewon dysg, gan ymberffeithio
Ymhob cyrhaeddiad freuddwydiasid ganddo,
Wrth wrandaw Dalton gynt, a Lardner enwog,
Ychydig a ddyfalai'r ddau dywysog
Meddyliol hyn, pan fyddent yn darlithio,
Fod llanc o’r fath ddyfodol disglaer yno.


O’r Alban yn ei ol i’r Bala lonydd,
O! mae e gartre'n awr! a phawb yn ddedwydd
O roddi iddo gadair y ddysgeidiaeth.
Fe'i llanwodd hi — do, fel cyflawnydd arfaeth
Benodol gan y nefoedd. Do, fe'i llanwodd
Fel Solomon ei bulpud, nes gorffennodd.


Mae gartre'n awr! 'Rwyt tithau, f’awen, weithian,
Uwch ben dy bwnc, fel llong’r ol myned allan
O'r afon a'r cul fôr, yn gorfoleddu
Uwch ben y Werydd llydan, gan amledu
Ei rholfawr hwyliau fel cymylau gwynion,
A throi y gallu ar yr holl olwynion
Hyd eitha'r ager cryf.


Nid oes golygfa
O fath yr hon geir im yn agor yma —
Dyn mawr yn eistedd mwy i lawr ar union
Ganolbwynt ei feddylfryd a'i holl galon!
Mae yn ei le, a'i long wedi cyrhaeddyd,
'Rol mordaith union, at yr unbwynt hyfryd;
Mae'n gweld ei waith o'i flaen yn eglur-olau
Oddi yma hyd ei fedd, heb dor na rhwystrau.


Os holir im pa beth yw un egwyddor
Ei hanes a'i arweiniad trwy'r holl dymor
Hyd at y cyfnod nawr sydd yn ymagor, —
Pa beth oedd un meddylddrych Ior Rhagluniaeth
O'i barthed ef — un amcan dwyfol arfaeth, —
Atebir yn ddiofn — llunio Athro,
Cyfodi dyn i godi dynion dano!


Fe fu yn dlawd yn ninas fawr Manceinion,
'Roedd eisieu hynny at wneyd athraw union
I fechgyn tlodion Cymru; — hwy, fynycha,
Sy drwy helbulon fil yn dod i'r Bala.
Yr oedd llifeiriant boreu i' amgylchiadau


DR. PARRY, Y BALA. 365


Yn groes i gwrs ei fryd a'i dueddiadau,
'Roedd hynny yn gymhwysder i gyd-deimlo
A'r sawl oedd i wynebu'r gwrthlif eto.


Mae hen long ryfel draw ar lannau'r Hafren,
Heb arni gadben, dwylaw, hwyl, na hwylbren;
Mae wedi ei throi yn llwyr o'r neilltu weithion
Gan y niweidiau gadd mewn brwydrau poethion;
Mae wedi ei throi yn ysgol i blant tlodion.
Môr garw bywyd a'i cymhwysodd yntau —
Plentyn y don all ddysgu plant y tonnau.


Mae yn ei le fel seren glaer sefydlog,
Yn llosgi acw yn ei rhod ddiysgog
Yn unig i oleuo, ac i ddangos
I ereill rai y cylchoedd sy'n eu haros.


Bu’n unig ymysg miloedd ym Manceinion
(Ond ’r oedd ei lyfrau yn gyfeillion ddigon,
Er nad yn aml eu rhif), a'i fyfyriadau
Y cyfnod hwn, ar fil o lonydd oriau
Ar auaf-nosau wrth y ganwyll egwan,
Fu iddo yr hyn i Moses gynt fu Midian.
Daeth Moses o'i unigedd hirfaith allan,
Yn nerthol
ŵr i ddwyn yr Had i Ganan;
Cymhwyswyd yntau heb yn wybod iddo,
I arwain arweinyddion Seion yno.
Preswylydd mawr y berth a ymddanghosodd,
Do, iddo yntau — a'i dangnefedd gafodd.


Fe weithiai'n ffyddlon gyda'i ddosbarthiadau,
Fel Noa gyda'r arch. Ei holl serchiadau
Ymblethent am ei waith. 'Roedd yn ei gader
Athrawol wrth ei gyflawn fodd bob amser.
Nid cader athro o dymer oer oedd honno,
Ond cader freichiau tad, a'i ddosbeirth cryno
Fel serchog blant o'i gylch ar nos o auaf,
Yn holi holion gan eu cyfaill mwynaf.


'Roedd dysgu ereill iddo yntau'n ddysg.
Cynyddodd ei wybodaeth yn eu mysg
Nes ennill cyrhaeddiadau uwch o hyd
I arwain ei ddisgyblion tra’n y byd.
Fel garddwr yn ei ardd, efelly trodd
Ein harwr trwy ei ddosbeirth, wrth ei fodd;


366 GWAITH ISLWYN.


Fe wyddai ble i bur ysgythru'r gau,
Pa le i chwynnu, ble i ddyfrhau; —
A gwnai yr oll mewn cariad, megys un
Oedd yn ei elfen yn ei ardd ei hun.
Ni fu ei waith galedwaith iddo ef,
Ai trwyddo fel a cwmwl trwy y nef,
O flaen y falmaidd awel — fel yr a
Yr awel dros y blodau fore o ha.
'Roedd iddo ef orffwysdra yn ei waith,
Rhyw fannau gorffwys ar bob cam o'r daith.
Os cariai faich, y baich a’i cariai ef
Dan ymwybyddiaeth o foddlonrwydd Nef;
Fel g
ŵr yn cario’i gwch tros lawer bryn,
Y cwch a'i cariai yntau wedi hyn.


Mae pulpud Cymru oll mewn du
Ar ol yr efengylydd cu,
A’i harddodd trwy ei oes;
Ei arddull ydoedd gynllun llawn
O weinidogaeth uchel iawn —
Mawr ganol bwynt ei ddysg a'i ddawn
Oedd Crist a lawn ei groes.


O dan eneiniad rhad y nef,
Fe godai’r dyrfa gydag ef
O
ŵydd y byd ymhell;
A phan orffennai’r Sabboth llon,
Clustfeiniai aml gredadyn, bron
Fel un a glywai'r olaf don,
Yn torri ar wlad sydd well!


Mae aml bererin erbyn hyn
Ymhell ymlaen — mae Seion fryn
Yn amlwg iddo ef;
Mae'n cofio'n brawd fel "Cristion" gu,
Yn cofio'r "Efengylydd" fu
Yn dangos iddo’r gulffordd sy
Yn awr ar flin y nef.


Gallesid meddwl pan yn llanw’i le
Ymysg ei ddosbeirth gwiw, nad oedd efe
Yn unpeth ond Dysgawdwr. Pan yr ai
I’w bulpud eilwaith, gell'sid meddwl mai
'R pregethwr oedd yn unig, gan mor llawn
Oedd rhiniau’r brynedigaeth drwy ei ddawn.


DR. PARRY, Y BALA.  367


Addurnol arddull, heb yr ofer wych;
Y coeth a'r athronyddol, heb y sych;
Gallasai weithio allan feddwl mawr,
A'i ddangos gefn a gwyneb, nen a llawr,
Nes aem o'i ogylch; — safai erbyn hyn
Fel palas o oleuni ar ryw fryn,
Na fu yn gorffwys arno niwl erioed,
Na neb yn meiddio ameu wrth ei droed.


Ysbrydol amaeth pur
Oedd ef, o ffyddlawn ryw;
Ac O! fel syllai dros y tir
Hauasai ef i Dduw,
I weld pa ffrwyth, pa gynnyrch oedd
O'i lafur cudd mewn llwyddiant coedd.


Fe ddyblodd ef ei hun,
Do, lawer, llawer gwaith,
Trwy fagu gweinidogion da,
Dorf, at y dwyfol waith;
Pan ddelo boreu cun
Yr adgyfodiad mwy,
Fe gaiff ei wobr fawr ei hun,
A rhan o'u gwobrau hwy.


Ni liosogodd nemawr sant
Ei hunan fel efe,
Ni bu i nemawr athraw blant
O’r nifer hyn i’r ne;
Ac O! ni fydd i nemawr un
Wobrwyau o'r fath ddwyfol rin.


Rhyw Paul oedd Parry gu;
Ac am bob disgybl gwiw,
Ei enw ef oedd Timothi —
Ei sanctaidd fab yn Nuw.
Edrychai ar ei ol fel tad,
Fel un yn gwylio dros ei had.


Yr hwyr.


Aeth heibio’r boreu o ymbarotoi,
Y mae cymylau’r hwyr yn ymgrynhoi
Uwch ben y dydd o weithio heb ei ail,
Rhaid gostwng tôn y gerdd wrth weld ei haul
Yn araf ostwng ei ddisgleirdeb clir
Tu arall i fynyddau'r tywyll dir.


368 GWAITH ISLWYN.


Gan gariad at ei waith,
Fe deimlai braidd yn flin,
O herwydd fod ei daith
Yn hwy na’r gwaith ei hun —
Ychydig gamau byr yn hwy,
Gan rym ei glefyd ola a'i glwy.
Carasai i'w ddaearol daith
Ddibenu gyda'i nefol waith,
A gyrru yn ei harnais llawn
I d
ŷ ei Dad yn hwyr brydnawn.


Bu athrist ganddo rwystro’i rym
Cyn llwyr waghau ei hadlestr pur;
Bu'n dristedd, bron, orffwyso dim,
Er ’nawr yng ngolwg Canan dir!


'Roedd gwrandaw ar dy sain,
O! fawr Iorddonen gref,
Am fisoedd hirion, braidd
Yn alar iddo ef.


Y sain bereiddia erioed
Oedd swn ei ddosbarth cu,
A char'sai fynd mewn cyflawn oed
O'u swn i sain —
I sain yr anthem fry!


Fe gyrhaeddasai llawer sant
O nifer ei ysbrydol blant,
Ers tro, y ddinas gain;
O! ’r gorfoleddu'r ochr draw,
Pan gwrddai hwnt uwch loes a braw,
Pan deimlai aml gyfeillgar law
Deimlasai ef o'r blaen!


Ymysg y llu ’roedd yno rai
O’i ddosbeirth gynt, yn llawenhau
O weld eu hathraw'n dod;
Fel yr arweiniodd Parry hwy,
Arweinient hwythau Parry mwy
I weld y wlad lle nad oes clwy,
Na sain — ond anthem clod.

 


Arweinient ef, o fin y d
ŵr,
Trwy engyl fyrddiwn at y Gwr
Ddioddefodd farwol glwy;


DR. PARRY, Y BALA. 369


A chlywyd yn yr anthem fawr
Ryw lais na chlywsid hyd yn awr, —
'Roedd wedi dysgu ar y llawr
Y gân na dderfydd mwy.


Ym mysg y saith ugeinmil llon
Brynasid ar y ddaear hon,
Cymerai’n rhwydd ei le.
'Roedd wedi hen feistroli’r gân,
'Roedd wedi dechreu’i chanu o'r bla'n,
Pan gyda'r pererinion glân,
Yn dringo tua'r ne.


Daeth angel hardd â choron wen —
Ni fu ond ennyd ar ei ben,
Fe roe y goron gain
Wrth droed gorseddfa Iesu cu,
Gan ddwedyd, ‘Gormod yw i mi!
Rhowch hon i'r Bendigedig fu
Yn gwisgo coron ddrain!'


Ar hynny rhoddai'r dyrfa i gyd
Eu holl goronau i lawr’r un pryd,
Gogoniant gloewa'r nef, —
Drwy hynny mae yn uchder nen
"Goronau lawer ar ei ben,"
Yn ol yr anthem fawr — "Amen!
Y moliant iddo ef!"

Hen fynwent gysegredig Llan-y-cil!
Ni feddi lwch, pe bae dy feirwon fil,
Mwy bendithiedig! Daear ddedwydd yw
Dy ddaear di am gynnwys perl mor wiw —
Mor werthfawr gan y Dwyfol Dad, a wnaeth
Ei brif ewyllys ar dy drysor caeth.

Boed gwanwyn deublyg ar dy dyfion di!
Boed fyrdd dy flodau, myrdd dy wlithion cu,
I wylo hwyr a boreu ar y bedd,
Lle gorffwys ei weddillion yn yr hedd,
Nas gellir aflonyddu arno mwy —
Lle ni ddaw gelyn byth i beri clwy!



370 GWAITH ISLWYN.


YR ADGYFODIAD.


MI ddringaf i’r wybren fry hyd risiau’i addewidion Ef,
Teg foreu anfarwoldeb sy yn gwawrio dros fynyddau’r nef.


Un ffagl yw’r greadigaeth fawr, anfeidrol fflam yn ennyn fry,
A choch yw’r nef a'i thanllyd wawr, a heuliau yw ei chynnud hi.


Mil, mil o fydoedd lysg o'i blaen, a’u hulw dywylla’r nef uwchben;
Marworyn du yw'r huan cain, mae'r ser yn wylo ar fronnau'r nen.

Tra thwrf cerbydau Ior gerllaw,
Caleda'r wybren laes gan fraw;
A cheula'i môr o hylif ter
Yn balmant i osgorddlu’r ser.

Chwydd ar ol chwydd o'r ddwyfol gan
Fry, clyw, yn lledu'r wybren dân!
A, dyna'r Brenin yn ei swydd,
Mae’r farn a'r Barnwr yn ei gwydd.

Ar fainc o berlau yn ymyl Duw,
Arch-angel o oruchel ryw
Ddechreua weithrediadau’r dydd,
A bloedd yr adgyfodiad rydd.

Cwyd udgorn bywyd at ei fin,
Aruthrol udgorn Duw ei hun!
Anfeidrol dwrf! brawycha’r nen,
Gogwydda, a syrth y goron o ser oddiar ei phen;
Disgynnant, fyrdd ar unwaith, gyda’r llef,
Fel cawod drom o berlau drwy y nef.

Uwchlaw ehed yr adsain gref
O fyd i fyd, o nef i nef;
A thyr fyddardod angeu’i hun,
A chwyd a gwrendy y fynwent flin.

Fel euog flaen ei Famwr dua’r haul,
A nos dragwyddol orffwys ar ei ael;
Fel lamp mewn tymhestl, derfydd ar ei hynt,
A diffydd fel y ganwyll yn y gwynt.

Dydd angeu’r greadigaeth gref,
A dydd diffoddiad lampau’r nef, —
Mae’n gwawrio o’r orseddfainc draw,
A chwmwl ar ei ol ni ddaw.


CYMRU. 371


CYMRU.


Hoff wlad.


"PA beth yw’r swyn sydd yn y gair "Fy ngwlad,”
A’r gallu rhyfedd, rhyfedd ei barhad?
Pa beth yw’r aidd sy'n ennyn dan fy mron
Pan enwaf, neu pan glywaf enwi hon,
Pa un ai yn ei broydd heirdd ei hun,
Ai 'mhell tu draw i'r môr yn alltud eithaf blin?


’R ym yn dy garu, Gymru, yn ddi-goll,
Yr ym yn caru dy fynyddoedd oll.
Adwaenom eu copaon bob yr un
Fel wyneb cyfaill ar ol cyfaill cun;
Pan gwyd yr haul, a phan yr el i lawr,
Llwyr yw ein hiraeth am y lloer yn awr,
I'w cyfarch a'u mwynhau o dan sancteiddiach gwawr.


Y môr darana ar dy draethau di
A mwy o fawredd ac o nerth i ni!
E dafla feddylddrychau mwy na’r byd
I'th freichiau o benrhynion maith eu hyd;
Mwy per-bruddaol yw pell swn y trai,
A mwy cynhyrfus fyrdd y llanw i'n bywiocau.


Y morwr llawen, a dreuliasai gynt
Yn swn dy ddyfroedd ei foreuol hynt,
Gwel lawer ynys decach ar y don,
A llawer gwlad o gyfoeth mwy na hon,
Ond fel y nodwydd ar ei gwmpawd, try
Ei feddwl yn sefydlog atat ti.


Gwlad y mynyddoedd a'r gwylltineb maith!
Wrth droed ei bryniau, fel pererin, iaith
Eistedda i addoli. Ble mae’r llaw
All dynnu darlun o'r mynyddoedd draw
A grwydrant yn y cwmwl, ac o bell
Gyfeiriant obaith tua byd sydd well?


Cyn hyn bu ganddi anibyniaeth lawn,
Ymhlith cenhedloedd enw uchel iawn,
Bu ganddi faner genedlaethol gynt
Yn chwyfo uwch ei lluoedd ar eu hynt,
A chlywyd bloedd ei byddin ddewr cyn hyn
Yn deffro holl adseiniau bro a bryn.


372 GWAITH ISLWYN.


Ei seren anibyniaeth aeth i lawr,
A bedd Llywelyn a’i gorchuddia’n awr!
Ni rifir hi ymysg teyrnasoedd mwy,
Ei henw a ddarfu o'u cynghorau hwy,
Machludodd haul ei gwladwriaethol fri;
Yn llwyr oddar ei bannau uchaf hi.


Er hyn y mae gogoniant llawer gwell
Yn eiddo iddi, yn ei bryniau pell.
Pa beth yw cyfoeth cenedl? Nid y gad,
Y rhwysg, a’r rhyfel, ond ei gwlad, ei gwlad!
Gwlad a'i dyffrynnoedd fel gwynfaoedd clyd,
A’i bryniau fel arwyddion newydd fyd;
Gwlad ag y gwna ei golygfaoedd berth
Ddadblygu’r meddwl I’w angylaidd nerth.
Er colli’i gwladwriaethol freiniol fri,
Anrhaethol eto yw ei chyfoeth hi.


Pan syllom ar fynyddoedd hon
Ar doriad borau dedwydd,
Bob un yn chwyddo megis ton
O fôr Hollalluawgrwydd,
Pob galar yn dibennu sydd,
Yr ym yn teimlo eto’n rhydd.


A phan y cawn olygfa glaer
Mawreddog awr machludiad,
Pan ffrydia drostynt nentydd aur,
Ac anian bron yn siarad,
Ein mynwes yn ymchwyddo sy
Gan anibyniaeth engyl fry.


Y bugail ar lechweddau mynyddoedd nefol hon,
O, rhodder imi dreulio yn ei gymdeithas lon
Yr oriau per-hamddenol sy’n dyfod ambell bryd
Fel engyl idd ein gwahodd uwch holl ofalon byd.
Rhagorach yw ei gyfran, er gwaeled yw ei wedd,
Nag eiddo’r pen coronog sy’n uchel ar ei sedd.
E balla rhwysg y ddaear ar ddiwedd ein boddhau,
Ond byth ni phalla anian, mae’n newydd I’w  mwynhau.
Y llygad flina’n edrych ar rwysg yr orsedd fainc,
A derfydd yn y diwedd swyn y filwrol gainc,
Ond ef erioed ni flinodd yn edrych ar y wawr
Yn tywallt ar y bryniau ffrwd y foreuol awr.


CYMRU. 373


Er mynych ymglustfeiniad erioed ni ddarfu swyn
Y dafnau yn yr ogof, y ffynnon dan y llwyn.
Pob borau ymagora fel cyntaf forau’r byd,
A'r haul a adnewydda y greol wyrth o hyd.


Y mynyddoedd.


Rhoer imi gipio’r ysbryd fedyddia’r bannau draw
Mewn dylif o farddoniaeth ymdorrol ar bob llaw.
Mae’r wawr yn ymledaenu ar hyd eu hochrau hwy,
Diderfyn fawreddogrwydd ymdaen o'm hamgylch mwy.
Ban ar ol ban ddisgynna o fyd y niwl yn awr,
Yn filoedd ymddanghosant i dderbyn gwên y wawr,
I fyny hyd eu hochrau ymrolia’r niwloedd prudd,
A llechwedd ar ol llechwedd a daniwyd gan y dydd.
Yn nrych y wawr ymdrefnant i edrych ar yr haul
Yn dyfod led y nefoedd, a’i allu yn ddi-draul.
Yr un mor ogoneddus, yr un mor brydferth ynt,
A phan y doent i fyny o nos y tryblith gynt.

Gwylltineb tragwyddol o gylch a'u meddianna,
Celfyddyd ni esyd ei throed i lawr yma.
Ei meibion a'u cadwant i anian yn unig,
I'r geifr yn noddfa, i’r stormydd yn lleithig.
Meddiennir y dyffryn gan ddyn a’i gynlluniau.
Ei ffyrdd palmantedig, ei dref, a'i balasau;
Fe dyr y coedwigoedd rhai ydynt yn cofio
Pan nad oedd ond gwyntoedd yn mynd y ffordd honno;
Ete sydd i'w weled, a phan y clustfeiniaf
Lleferydd y dynol yn unig a glywaf.
Ond ar ei mynyddoedd unigaidd, y dwyfol
Yn unig a glywir, a welir fyth bythol!
Sydynrwydd a serthedd eu geirwon glogwyni
Rydd arch i ddyn sefyll a mynd i addoli.
Draw wrth eu godreon gorffwysa’n synedig
I dderbyn meddyliau mil mwy dyrchafedig
Na dim a ffynhonnodd erioed ynddo’i hunan —
Barn ar ddaearoldeb yw’r drem hon ar anian.
Pob tuedd am ennill a chlodydd tymhorol
Wanheir gan welediad ar fawredd mor nefol.

Nef! nef!
Yw bloedd ei bryniau — ail i lef
Y sant mewn hiraeth am ei dref,
I'w feddwl ef eu bannau hwy
A wasanaethant fel coffhad
Am d
ŷ ei dad, a gwlad ddi-glwy.


374 GWAITH ISLWYN.


Rhydd, rhydd,
Y teimlwn ein hysbrydoedd prudd
O rwymau’r ddaear hon a'i lludd,
Ar derfyn dydd pan roddom daith
Ar hyd eu llonydd fannau hwy
I gyrraedd mwy unigrwydd maith.

Mor hawdd addoli yn y maith unigedd
Sy’n rhoddi iddynt fwy nag arucheledd!
Ag ysbryd duwiolfrydedd mor gydunol
Ceir holl ddylanwad eu pinaclau nefol!
Eu bannau a’n cyfeiriant i’r uchafoedd
Fel bysedd engyl tua ffordd y nefoedd.
O teimlwn fel pe byddai’r holl olygfa
A ninnau ynddi,’n symud tua’r wynfa.
Mor hawdd addoli lle mae’r holl gre'digaeth
Fel yn ymestyn am ei Ner mewn hiraeth!


Addoli mae y creigiau er na chlywaf
Iaith na lleferydd gan eu ffurfiau cryfaf;
Tystiolaeth ydyw eu haddoliad uchod,
Tystiolaeth i’w dragwyddol allu a'i Dduwdod;
Addoli mae’r llifeiriaint sy’n taranu
O graig i graig, o fewn yr holltau obry;
A dadgan nerth Creawdwr mae y daran,
A bron ei gynrychioli Ef ei hunan!
Yr awel, hefyd, ar ogwyddol gangau,
Cerdd lawn o foliant a anadla hithau.
Mor hawdd i ddyn ymuno yn y moliant,
Ymgodi tua’r nef ar ddylif yr addoliant!


Ymdaenant weithiau’n gyfres erfawr led,
I bob cyfeiriad cangen uthrol red,
Ac ambell fynydd uwch y mil ymgwyd
Ac ar ei ben e ddyd y caddug llwyd
Yn arwydd ei goroniad — plygant draw
Eu pennau o goedwigoedd ar bob llaw.


O fynwes y dyffrynnoedd dyfnion clyd
Disymwth yr ymsaethant ambell bryd
Mewn maith unigedd tua’r wybren gref,
Fel arsyllfaoedd rhwng y byd a'r nef.


CYMRU. 375


Mynyddoedd Meirionnydd.


Cysgodion ardderchog mynyddoedd Meirionnydd
Fel nos o farddoniaeth orchuddiant ei broydd
O ddwyrain i lewin, o ogledd i ddehau,
Cyfochrog â'r cwmwl y gwelaf eu trumiau.
Ni fedra y llygad, o bell, eu gwahanu
Oddwrth y cymylau sydd yn eu hamgylchu,
Ond trwy ddiysgogrwydd tragwyddol eu creigiau
A dyfnach tywyllwch eu pell amlinellau.


Cader Idris.


Cyfoda Cader Idris, ym mhellder wybrol fyd,
Ei gorsedd, a chymylau yn ortho drosti ddyd.
Mae’n fynydd i fynyddoedd! eu huchaf lais ni chlyw.
Mae’n uchel o uchelion, a phell o bellder yw.

Y mae ei dydd yn feithach, a’i nos yn fyrrach — daw
Y boreu yn foreuach, a'r hwyr yn hwyrach draw.
Wrth syllu ar ei hochrau o duedd Tal y Llyn
Pa galon na ddychrynna o dan y creigiau hyn?
Mor serth ei beiddiol ochrau! yn union tua’r nen
Y saethant i'r wybrennau trwy gwmwl, storm, a llen,
Fel rhai a fai’n dirmygu ymgyrraedd am eu nod
Trwy lwybrau cylchol — llwybrau dynoliaeth is y rhod,
Fel llwybrau y ddynoliaeth pan ymgyrraeddo hi
Am uchel gamp dedwyddwch a maith-barhaol fri.

Edrychaf o'r uchelfan pan fyddo’r haul yn llawn
A dylif o ysblander dros draeth ardderchog nawn,
Canolddydd o ardduniant ymdorra ar bob llaw,
Llif o ardduniant yma, llif cyfoethocach draw.
O teimlwn fel pe byddem ar ganol bwynt y byd,
Ar ganol bwynt ei swynion a'i geinion ef i gyd.

Draw tua phwnc y gogledd, arweinia'r Wyddfa gref
Fawreddau yr olygfa filldiroedd tua’r nef.
Mynyddoedd fil weinyddant yn addfwyn wrth ei throed,
Fel ufudd ymerodraeth o dan ei llywiaeth roed.
Ei hawyr deneuedig yn addas elfen sydd
I dderbyn ymweliadau angylion derfyn dydd.
Ei gosgordd o fynyddoedd yn dilyn tua’r nen,
A thros eu beilch ysgwyddau y dydd yn wisg ddi-len.

Mor llawn o awgrymiadau anfarwol yw y drych!
Y pellder, O mor nefol! Yr agos, O mor wych!


376 GWAITH ISLWYN.


Barddonol efryd lanwa yr amlinellau pell,
Nes gwisgant lwyr ddisgleirder a gwychder bydoedd gwell.

O orwel pell y deau, ei ben Plumlimon gwyd
Yn araf ac yn bruddaidd, trwy lawer caddug llwyd,
Fel pe yn cofio’r oesoedd pan oedd ein Gwalia’n fawr,
A'i glogwyn yn ddisgwylfa filwrol ar bob awr.
Pan glywid twrf y gelyn ar ganol nos gerllaw,
Fel seren buddugoliaeth ei goelcerth godai draw.

Ardderchog Lyn y Bala â llen o arian rydd
Amrywiaeth holl i’r oror lle’r egyr dôr y dydd.
Ac fel angylaidd ddringfa i fyny i’r wybren fry
Mynyddau’r Aran welir — pob gris yn fynydd sy.
Mae cadwyn faith y Berwyn fel yn canllawio llwybr
I ysbryd yr ystorom i rodio trwy yr wybr.

Môr-gilfach Aberdeifi fel gwerddlas fythol waen
Ymhell i'r gorllewinbwnc, ymegyr oll o'n blaen,
Fel newydd fyd ymdaena diderfyn wyrdd y môr,
Fel drych o anfeidroldeb a dy Enion lwybrau’r Ior.
Mor brydferth yw y waneg dragwyddol wen y sy
Yn chwareu ar dy draethell, Meirionnydd greigiog hy;
Mor heirdd y llongau ledant ar hyd ymylau hon
Eu hwyliau, fel adeaydd o eira uwch y don!

Pan syllom ar y creigiau yn dal ymgyrchiad dig
Y llanw ymosodol a’r storom ar ei frig,
Gan daflu yn ei wrthol y berwol lif yn wyn
Gan fraw wrth adael ochrau y caerau beilchion hyn, —
O mae yn dwyn i adgof y dewrion gynt a gaed
Yn troi yn ol elynion, rhai ddoent trwy lanw o waed.
Cydsefent ar y terfyn, a ffurfient yno graig
A droai’r ymosodwyr yn ol fel tonnau’r aig.
Boed tannau ar fy nhelyn yn gysegredig mwy
I’w cofiant, er na chlywaf ond braidd eu henwau hwy.

Mynyddoedd Arfon.

Ond pa ddarlunydd dynnodd ar y llen
Ogoniant Arfon? Ei hardderchog lu
O fryniau yn ymledu dros y nen, —
Mae’r ddaear fel yn troi yn nefoedd fry.
Goruwch eu gilydd yr ymgodant fyth
Fel pe bai natur hyd eu grisiau hwy
Am ddringo bellach tua'r nef ddi-lyth,
Heb orffwys nes cael gweld ei Chrewr mwy.


CYMRU. 377


I bwy y dyrchid y beraon draw
Ond idd yr hwn a ferchyg nef y nef?
Pell byramidiau y dragwyddol law,
Mor union y cyfeiriant ato ef!
Anghofia’r teithiwr pan eu gwel
Bigyrnau Soan; holl ogoniant dyn
Ddiflanna fel y niwloedd ar eu hael,
O'i flaen nid erys onid Ior ei hun.


Drngo’r Wyddfa.

 
Gwel acw y pererin wrth droed yr
Wyddfa fawr,
Yn ymbar'toi i ddringo ei llethrau beilch yn awr.
Mae’r huan wedi codi, a borau hafaidd sy
Yn gwisgo â disgleirdeb yr holl fynyddau fry.
Rhyfeddol ddisgwyliadau o dan ei fynwes bur
Enynnir, fel pe byddai ar sangu nefol dir.


Yn araf a i fyny, yn araf eto’n llon,
I fyny ac i fyny — ond pell o hyd yw hon.
Mae’r Wyddfa i'r wybrennydd yn llonydd ymbellhau
Fel delwedd o’r perffeithrwydd y mynnai dyn fwynhau.


Ar hyd y ffordd gerigog ymdrecha’n galed draw,
Ond am ei holl ymdrechion y golygfeydd bob llaw
Yn gyflawn a’i gwobrwyant, a thua’r glogwyn gref
Gorona’r holl ogoniant gorymestynna ef.


Mae llawer mynydd bellach, a llawer clogwyn hy
Mewn dyfnder mawr yn gorwedd goris ei safle ny.
A’r Wyddfa yn y diwedd a’i llwyr ryddha ei hun
O fysg yr holl gopaon, a geir o bell fel un;
Unigol yn ei mawredd, ac anibynnol mwy,
Ymgyfyd tua’r nefoedd, ac obry gedy hwy.

Y llwybyr cul sydd bellach yn enbyd ymgulhau,
A'r teithiwr hyf am ennyd a ofna agoshau.
Yr uchaf drum a’r olaf gulhaodd natur draw,
A rhoes arswydol ddyfnder diorchudd ar bob llaw,
Fel pe mynasai yma derfynu ymgais dyn,
A chadw’r ban uchelaf yn sanctaidd iddi’i hun.
Ond ar ei phen y gwelaf y teithiwr llon yn awr,
Yr olwg gyntaf yma wobrwya’r ymdrech fawr.

Ar edyn taenedig diderfyn arddunedd
Ei ysbryd a gipir i nefoedd edmygedd.
Pob meddwl iselaidd a bychan ddiflanna
O flaen rhyfeddodau’r aruthrol olygfa.


378 GWAITH ISLWYN.


Ei enaid ymegyr fel aber i dderbyn
Môr mawr yr arddunol sy’n chwyddo gyferbyn.
Ni theimla un diffyg mewn mwyniant mor uchel
Ond diffyg ysgrifell a doniau yr angel.


Fe wêl yn ei ymyl ryw ieuanc arlunydd
Yn syllu mewn syndod o gopa y mynydd.
Fe ddringodd i fyny fel cywrain gelfyddwr,
Ond sangodd yr Wyddfa a throes yn addolwr.
Ei fraslen a blygodd, dyferodd ei bwyntel,
Anghofiodd yr oll ond ei Grewr goruchel.

Gylchogylch edrycha — mynyddoedd, mynyddoedd,
Aneirif, aruthrol, ar grog trwy y nefoedd;
Mwy uchel a beiddgar bob chwyddiad eu cenfydd
Fel pe yn ymseilio ar fannau eu gilydd.
Lle derfydd un gyfres dan goron o niwloedd,
Y llall a gychwynna’n fwy beiddgar i'r nefoedd.

O ganol y dirfawr a’r pur ryfeddodau
Dyn yntau dderbynnir i'w dderch fyfyrdodau.
Er gwaeled, er pelled yn awr ei canfyddir,
O’i uchel fyfyrdod ni hollol alltudir.
Fod egwan helbulus! mae yntau’n ymestyn
O hyd am fwynhau y di-dranc a'r diderfyn.
Draw rhag ei ddirmygu a’i lwyr ebargofio
Chwarelau Dinorwig ddywedant am dano.

Ond nid y mawreddog, yr erch, a'r aruthrol,
Yn unig a welir o’r glogwyn arfeiddiol.
Yn debyg i'r wyn ogylch llethrau Gwyllt Walia
O gylch yr aruthrol y tlws a chwareua.
Wrth droed yr arddunol y prydferth a gymer
Ei safle, a gwna yr ofnadwy yn dyner.
Mor heirdd y dyffrynnoedd ddilledir ag ydau
Gyferbyn â moelni tragwyddol y creigiau!
Y llynnoedd lluosog o bell ymddisgleiriant,
Ac ynddynt y creigiau a ailymddanghosant.


Fe genfydd odditano orddyfnderoedd,
Agenau yn y creig, fel beddau bydoedd,
Rhy ddyfnion i belydron haf eu tramwy
A chwareu ar eu hochrau anringadwy.


O'i flaen y greadigaeth noeth o greigiau
Dywylla’r nefoedd mewn aneirif fiurfiau,


CYMRU. 379


Ar ffurf pigyrnog weithiau ymddyrchafant,
A therfyn olaf yr ystorm a basiant.
Yr eira yn dragwyddol goron wisgant,
A'u traed ar orsedd o gymylau roddant.
Tros wagle erfawr yr ymhongiant wedyn
Gan agor, fal pe taenai byd ei edyn.
A llawer llyn, a llawer llannerch ffrwythlon
O amgylch gauir rhag y gwyntoedd llymion.


Yr olygfa oddiar ben yr Wyfddfa.


Eangder yr olygfa sydd eto braidd yn well,
Arddunol yw yr agos, ond nefol yw y pell.
Yr agos fyth ni lanwa holl ddymuniadau’r fron,
Y pell sydd yn ffiguro yr hedd a fynnai hon.
O, pan y caffom olwg ar lan tu hwnt i aig
Tebygem weld angylion paradwys ar y graig.

 
Goleuni oesoedd eraill yn awr i'r golwg ddaw,
Chwareua ar adfeilion y castell hyglod draw.
Ac yn yr ymyl gorwedd hoff ynys Mon, a lli
Y Fenai deg yn arwain y môr o'i hamgylch hi;
Gorwedda fel darlunlen taenedig ar y don,
Aneirif yw y swynion a gawn ar fynwes hon.
Ac yn y dirfawr bellder Iwerddon deg ei phryd
A lonydd ymddyrchaf a o fynwes dyfrog tyd;
Er gwanned ar y dyfnder ei hamlinelliad du,
Er colli yn y pellder ei golygfaoedd cu,
Y dyfnder a’r pellderoedd sy’n rhoi I’r oror bell
Ei huchddaearol ystyr, a’i hawgrymiadau gwell; —
Mor ddistadl yn y gorwel, mor fechan ar y don,
Ac eto o’i chyrhaeddyd mor eang ydyw hon.
O Wyddfa y dystiolaeth pan syllo llygad ffydd,
Fel hyn y gwelir eilfyd yng ngolau’r seren ddydd.

O niwloedd prudd y gogledd mynyddau’r Alban sydd
I'w canfod, fel cysgodau o nos ar fynwes dydd.
Ffigurant yn eu gwylltedd a'u hanibyniaeth fry
Gymeriad y mynyddwr breswylia 'u hochrau hy;
Fel hyn y crwydra yntau yn nef barddoniaeth rad,
Y gwisga yntau’r storom i’w gynnal yn y gâd.
O, braidd na wnaem glustfeinio i glywed adsain wan
Y godbib genedlaethol yn marw ar y ban.
Cyfarchant yr Eryri, fel brodyr o un fryd
Yn eistedd mewn llonyddwch tragwyddol uwch y byd,
Gan ado i lifeiriant ei ddigwyddiadau ef
I lif o’n ddisylw obry, a hwythau yn y nef,


380 GWAITH ISLWYN.


Yn edrych mewn tangnefedd draw ar y seren bell
Sy’n addo i’r ddynoliaeth foreuddydd canmil gwell.
Edrychant ar eu gilydd fel pe yn cofio’r pryd
I dringent i'w gorseddau ar gyntaf forau’r byd,
Pan oedd tragwyddol wyrddni yn chwyfo ar bob ban,
Y storom heb ei geni, a'r awel eto’n wan;
A phan oedd y cymylau fel mentyll engyl gwiw
Yn tonni yn yr wybren ar fraich yr awel fyw,
Mor wynion gylch eu bannau ag enaid teg y dydd,
A'r fellten heb ei geni, neu heb ei rhoddi’n rhydd.

Ystorom ar yr Wyddfa.

Ystorom ar yr Wyddfa! Pwy a faidd
Ddynesu at y testyn, heb o aidd
Addoli’n gyntaf, a chyfaddef fod
Un hollalluog yn y nef yn bod.

(Yma darllener Y Storm, tud. 34, llin. 18-22.)

Y gorfynyddoedd, ymneillduant hwy
O olwg dyn, a byd o niwloedd mwy
O'u hamgylch gaua. Dyblyg nos a daen
Ei rholion o dywyllwch ol a olaen.

(Yma darllener Y Storm, tud. 34, llin. 23-32.)

Adseinia’r enaid, fel o bellaf fryn
Ei anfarwoldeb, i'r cyngherddi hyn.

(Darllenner Y Storm, tud. 34, llin. llin. 33. - tud. 35, llin. 23.)

Noddfeydd cyfaddas oeddych, wylltion greigiau,
I ryddid fynd i dreulio’i olaf oriau;
Chwi a'i derbyniech pan yn llwyr luddedig,
A ffurfiech iddo thronau mwy dyrchedig.
E wyliai’r daran rhag dyfodiad gelyn,
A ffurfiai yr elfennau’i olaf fyddin.

Bannau Brycheiniog.

Brycheiniog! oror o dawelwch per,
Gwlad idd ei gweld yn santaidd olau’r ser.
Ei hinsawdd sydd dymerus i'w fwynhau,
A'i chadwyn o fynyddoedd yn parhau
Nes tynnu ogylch amddiffynnol gaer
O fewn yr hon mae'r oll yn hafaidd ac yn glaer.

Dy Fannau ydynt anwyl iawn i mi,
Delweddau oestad o urrduniant fry.
Edrychais amynt lawer hwyr brydnawn
Nes ebargofio’r byd a'i ofid llawn.


CYMRU. 381


E ffrydia lleufer o farddoniaeth bur
Ar hyd-ddynt, fel ar fannau’r santaidd dir.
O, y dylanwad orffwys ar eu hael, —
Iaith goruwch swn, goleuni goruwch haul!

Y mae eu huwch yn bod, mynyddoedd mwy
Aruchel a nefgeisiol fyrdd na hwy;
Ond o'u cydmaru â’r aneirif lu
O fryniau a ymdorfant ar bob tu,
Arddunol ydynt — yn y boreu wawr —
Arddunol goruwch iaith pan elo’r haul i lawr.
A chyferbyniad ydyw unig sail
Pob mawredd a phrydferthwch is yr haul.

O Fannau nefol, O ogoniant fry!
Bum un Nadolig wrth eich godrau chwi,
Ond ffoisoch i'r cymylau rhagof fi.
Fe farnai ysbryd eich pinaclau pell
Feallai — mai o Fynwy — mai o bell
Oedd oreu im eich gweled.

Mynyddoedd Mynwy.

Gwyllt Walia ydwyt tithau, Mynwy gu!
Dy enw’n unig a newidiaist ti.
Ein heiddo ydwyt trwy hynafol rodd,
Ac ysbryd Gwlad y Rheieidr ni chy
ffrodd
Ar dy fynyddoedd, ni 'th adawodd di
Pan fynnai Lloegr dy restru ymysg ei siroedd hi.

Bob amser nid rhaniadau anian yw
Rhaniadau daearyddiaeth — ysbryd byw
A gorwyllt Gwalia gaf yn crwydro o hyd
Dros dy fynyddoedd, trwy’th dyffrynnoedd clyd —
Tarana ar y bannau — rhuthra i lawr
Ar wyn y nentydd yn y storom fawr.

Nid hyglod ydyw dy fynyddoedd di
Am serthedd, uchder, a beiddgarwch hy;
Eu nerth wastraffant yn eu lluosawgrwydd,
Ac eto y mae ynddynt ardderchawgrwydd.

Dyffrynoedd Cymru.

Ond nid y mawreddog, y gwyllt, a’r aruthrol,
Yn unig hynodant y wlad anghydmarol;
Nid creigiau ysgythrog yn derbyn tymhestloedd
Di-rif ar eu conglau, heb syflyd trwy’r oesoedd;
Nid dyfnion ogofau yn yfed ystormydd


382 GWAITH ISLWYN.


A chynnwys costrelau y nen yn dragywydd;
Nid gwylltion fynyddoedd yn taflu eu dringion
Bellderoedd aruthrol i'r nefoedd ar union;
Aur bwyntel amrywiaeth a liwia ei hwyneb
A mil o ddillynion a phob dymunoldeb.


Y tlws a chwareua o gylch yr aruthrol,
Yn debyg i'r
ŵyn gylch y creigiau gorfeiddiol.

Os bechan ydwyt, Gymru wiw,
Os cyfyng yw dy le,
Cydgasglwyd ar dy fynwes bêr
Bob ceinder is y ne.
Ein rhandir yn eangach fu,
Ond digon dy amrywiaeth di.

Pa le y dengys anian lon
Ei swynion o bob rhyw,
A'i miliwn harddwch mal yn hon?
Byd mewn mân-ddarlun yw.
Gwg anian yn ei hwyneb gawn,
A’i gwên hawddgaraf yno’n llawn.

Os gedy’r mynydd ar ei hynt
I niwl a'r gwynt ar ol,
Canfyddwn yn ei gysgod mawr
Ardderchog wawr y ddôl;
Os gwga’r creig ar ogwydd fry,
Rhos Eden obry’n gwrido sy.

Rhwng holltau y mynyddoedd pell
Dyffrynnoedd gwell eu gwawr
Orweddant — nid oes gwynt na rhu
I'n haflonyddu’n awr.
O, llawer paradwysaidd lyn
A olcha draed y creigiau hyn.

Mynyddoedd hon, rhagfuriau ynt
Ar gyfer gwynt a gwlaw,
I gadw nerth pob storom flin
A min pob drycin draw,
O dan eu nodded chwardd y waen,
A'i thwf tyneraf yno daen.

Mor ddedwydd ydyw yr ymdeithydd cun
Sy’n caru anian er ei mwyn ei hun;


CYMRU. 383


Yn gado’r ddinas dan ei myglyd len,
Gan ymneillduo tua llonydd oen
Rhyw fynydd didrain sydd yn dyrchu’i hun
Fel ffurf nefolaidd goruwch niwloedd blin
A thwrf y ddaear. Dedwydd yw ei ran
A'i fyfyrdodau ar y glogwyn fan.

Ond ceir ei ysbryd weithiau bron llesghau
Gan fawreddogrwydd bythoedd yn parhau;
Er cryfed a llydaned ei adenydd
Yr eiyr flina ar y pell wybrennydd;
Ni wnaed y natur ddynol i ymgynnal
Yn hir dan arucheledd diymatal.

Pigyrnol greig, fel tyrau i angylion,
Eu haruthroldeb bwysa ar y galon
A grym lluddedol ambell ennyd llonydd
Pan fynnai hi yn hytrach fin afonydd.

Pan ddaw y teimlad lluddedigol yma
I ran y teithydd ar fynyddoedd Gwalia,
Disgynned hyd at droea y glogwyn feiddiol,
A chaiff yn awr olygfa bêr a swynol,
Tynerwch yn dyferu ar ei lwybrau,
A mwynder yn anadlu dros y blodau.
Mor syd$$ daw i'r dyffiyn sydd yn deffro
Pob syniad o dynerwch teimlad ynddo.
Cyfnewid wna y mawreddogrwydd gorddwj$$s
Am swyn rhosynau, ffrydiau, a pharadwys.

Pa un ddewiswn o dy feilch fynyddoedd
Yn frenin ar y lleill, pan ddyrch y miloedd
Eu pennau heibio’r nennau fel brenhinoedd?

Pa un ddetholwn o dy ber ddyffrynnoedd
Fel gwynfa’r gerdd — mae’r cyfain yn wynfaoedd.

Dyffryn Clwyd.

 
Hoff Ddyffryn Clwyd yng nghofion yr ymdeithydd
A gwyd fel delwedd o brydferthwch llonydd.
Teilynga y flaenoriaeth am lonyddwch,
Ei olygfeydd a'i baradwysaidd heddwch.
Llifeiriol lawnder donna dros ei ddolydd,
Môr aur cynhauaf yma sydd ysplenydd.
Ac hyd ei ochrau fel i'w lawn amddiffyn
Heirdd furiau o fynyddoedd sy'n ymestyn;


384 GWAITH ISLWYN.


Gwyrddlesni’r fro yn dâl am eu cysgodau
A weua iddynt fentyll o bob lliwiau.
Ardderchog goed â'u gwyrddni pell-lifeiriol
Ddyfnhant ogoniant yr olygfa swynol.

Uwchlaw darluniad yw y swyn amgylcha
Y preswylfeydd a frithant yr olygfa.
Mor syml, mor llonydd hyd y fro eu gwelaf,
Y gair dedwyddwch ar eu m
ŵg ddarllennaf.
Heddychol fannau, lle y câr hapusrwydd
Breswylio gydag anian a boddlonrwydd,
Prydferthwch ogylch, a thangnefedd ynnoch,
A gwên y nefoedd sy’n tywynnu arnoch.

Mae anian yma fel yn llunio dyn
I*w hagwedd lonydd, ac i'w delw ei hun.
Nerth yn y corif, bywiogrwydd yn y meddwl,
A wna ei oes yn hirddydd lion digwmwl.
Mor ddedwydd yw ei gyfran hwyrddydd odiaeth,
Pan fyddo’r fro yn llafar gan beroriaeth,
Cyngherddawl adar ar y coed yn pyncio,
A’r dail yn sibrwd hanner geiriau wrtho.

Yr afon Clwyd a lonydd ymddolenna
Prif fendith, pennaf addurn yr olygfa.
Ni ruthra heibio gyda thwrf tymhestloedd
Mae ysbryd yr olygfa ar ei dyfroedd.
Trwy ganol rhyfeddodau y gwelediad
Mor araf a myfyrgar ei mynediad!
Dirwyna ei harianllif hyd y dolydd,
A mynych y gohiria plith y coedydd,
Ac o’i chyfeiriad union aml y troa,
Fel un a fynnai lawn fwynhau’r olygfa
A phan ymedy tua ffordd y moroedd
Y mae rhyw swn o hiraeth ar ei dyfroedd.

Y golygfaoedd hyn sydd yn dy wneuthur,
O Gymru deg, yn wlad o hedd a chysur.
Yr ydym yn dy garu pan y gwelom
Dy greigiau yn y cwmwl oddiarnom,
Pan fyddot fel yn gadael y ddaearen
I grwydro yn aruthrol yn yr wybren;
Ond mwy llonyddol yw ein cariad weithion
Pan na fo dy fynyddau ond cysgod'on
I swynion mil tynerach a mwy llonydd —
Y golygfeydd ar tinion dy afonydd.


CYMRU. 385

Dyffryn Conwy.

Teleidiaf Ddyffryn Conwy pan ganfyddir
A edy ynnom argraff na ddileir.
Fan yma y rhamantol ydyw nodwedd
Y golygfeydd, ac anarluniol wylltedd;
Draw yr ymdaen prydferthwch anghydmarol
Hyd wyneb te$$g y fro, fel gwrid gwynfaol.
Disgynna’r dyfroedd gyda thwrf gerwinol
O lynnoedd y mynydd-dir gorllewinol,
Edrychaf ar eu gwylltion ddisgynfaoedd
Trwy ganol paradwysaidd oly$$'aoedd,
Eu heirddion rieidr o ryfeddol uchder
Yng nghanol gw
ŷdd a phob naturiol wychder,
Edrychaf ac addolaf — ond cyrhaeddyd
Yr uchder o farddoniaeth all gymeryd
Y fath wynfaoedd ar ddarlumol lenni,
Ni roed i mi yr anghydmarol allu.

Coed, dwfr, ac adfail, eu hamrywiol swynion
A blethant trwy dy olygfaoedd mwynion.
Daeth llawer bardd a llawer dwys athronydd
O bell cyn hyn i'th ganfod, oror lonydd.
A hithau Hemans! o dyneraf gofiant,
Etholodd di yn llannerch ei dymuniant
Uwchben dy lonydd geinder tra’n myfyrio,
Ei horiau mwyaf dedwydd lifent heibio.
Ciuätfeiniodd ar dy reieidr rhyferthwyol
A llais ei hysbryd hi yn llwyr gyd-donol.
O, medrai yfed dy farddoniaeth lawnaf,
Ddeongli rhyfedd iaith dy tfrydiau puraf.
Edrychai ar dy geinion anifeiriol
A'r llygad clir barddonawl sydd yn deol
Pob gwrthrych cain, i'w adgyfodi eilwaith
Mewn bywyd uwch o flSgur a barddoniaeth.
Ac wedi hedeg o flynyddoedd heibio
Adgofion Conwy oeddynt yn ei swyno.
Am danat ti, O oror bell, y canai,
Ac am ymylon Ciwyd ei nysbryd a ruddfannai.

Fy Nghymru lonydd, os yw rhai yn edrych
Yn ddiystyrol arnat ti yn fynych,
Y mae ysbrydoedd puraf y ddynoliaeth
Yn dyfod atat i anghofio alaeth
A thwrf y byd; a chael yr ymneillduedd
Sydd gydnaws â phur ysbryd duwiolfrydedd.



386 GWAITH ISLWYN.


Hwy ddeuant atat i fwynhau y tangnef
Sy’n dwyn ar gof i ddyn ei nefol artref.
Hwy ddeuant i gymuno â’n mynyddoedd
Sy’n cymhell ein hefrydion tua’r nefoedd.


A fu Taliesin ger yr oror hon
Yn treulio’i ddydd, yn plethu’i odlau llon?
Ei breswyl didrain a’i rodfaoedd llonydd
A wnelai draw ar ymyl llyn Geirionnydd.
Rhoed iddo ef yn forau’r gynneddf odiaeth,
Dirgelwch y farddonol weiedigaeth.
Gwladffarwch roddodd enaid yn ei ganau
A'u cadwai’n fyw trwy oesoedd chwyidroadau.
Hyf oedd ei gerdd, tra seren anibyniaeth
Hyd eto yn llewyrchu ar y dalaeth.
Ëi awen ydoedd bur a chenedlaethol,
A rhoes i’r genedi arwyddeiriau oesol.
Aeth oesoedd heibio, eto mae ei gerddi
Yn peraidd seinio rhwng mynyddoedd Cymru.
A'i goffadwriaeth, miloedd a'i bendithiant
Tra’n rhedeg dros y gair, "Eu hiaith a gadwant."

 
Nis gwn pa le i edrych am eich beddau,
Eich olaf orffwysfaoedd, O fy nhadau!
Ond caraf grwydro ar hyd ochrau’r llynnoedd,
Lle unwaith bu eich didrain breswylfaoedd,
Myfyrio hyd ymylau yr afonydd
Lle gynt y gwelwyd chwithau, lawer hwyrddydd.
Tebygem fod y tonnau man ar awel
Yn dweyd eich enwau wrth y glannau tawel.


Plj$$ryn y Ddyfrdwy,


Dan lawenhau ym raryniau pell Meirionnydd
Cychwynna’r Ddyfrdwy ar ei thaith ysplenydd
Trwy froydd fel paradwys, rhwng mynyddau
Y collir yn y nefoedd eu gorfannau.
A golygfaoedd ei hymylau eirian, —
E lanwai hon ei hun y gerdd yn gyfan.


Tra eto’n ieuanc, gwylaidd ar ei gyrfa,
Llyn Tegid i'w eangder a'i derbynia.
Gynhyrfus lyn! ei orsedd o daranau,
Gwyd ysbryd yr ystorom ar dy donnau,
Y mae yn hoffi dy ymylau noethion
Yn hoffi cwynfan ar dy wastad finion.


CYMRU. 387


Pan ruthro geirwon wyntoedd y mynyddau
I olchi eu hadenydd yn dy donnau,
A gwynnaf osgordd o lifeiriant gerwin
Hyd ochrau y mynyddoedd yn eu canlyn,
Disymwth dros dy lannau yr ymchwyddi,
Ac yn dy rwysg y môr a efelychi.
Y Ddyfrdwy yfa, o’i mynediad drwod
Ran o dy ysbryd a’th arddunedd hynod.
Try allan o dy eigion yn gyfoethog
O'th lawnder di, yn afon gref a bywiog,
Ymorfoledda y mynyddoedd ynddi
A’u hadgyfnerthion a arllwysant iddi.
Cyflyma’i dyfroedd yn j'stôrmus weithiau
Nes golchi’r creig yn wynion ar ei glannau,
Ac weithiau’n araf fel pe bai’n myfyrio
Ar flodau’i glan, heb ddewis myned heibio.
Trwy fro Llangollen yn y man llifeiria,
Myrdd o ddelweddau harddwch adlewyrcha.
Hi nydda ei harianllif i gyfanwaith
Amgylchol anian, fel y prif addurnwaith.
Coed gwyrddion blygant dros ei dyfroedd eirian,
A’u cangau sy’n dyferu golud anian.
Gw
ŷdd, blodau, a phelydron, dros ei hymyl
A blethant gysgodfaoedd fel i engyl.
Prydferthwch anherfynol a lifeiria
I lawr i'w hymyl lle yr ail ddisgleiria;
Llaw anian weua ei hymylwaith goreu
Ar hyd ei glan â phrydferth liwiau’r boreu;
Gweirddgloddiau dyfnion ar ei hochrau tawel
Fel llynnoedd aur ymdonnant dan yr awel.
Ymlaen y rhed, a'i golygfeydd amgylchol
Yn newid fel profiadau V bywyd dynol.
Yr Alwen ddaw, a'r Ceiriog, iV chyfnerthu,
A’r Alun hefyd dawdd ei theyrnged iddi.
Islaw Caerlleon clyw y môr yn dyfod,
Ac ymeanga’n fawrwych i'w gyfarfod.
Dderwyddol lif! deffroa swn dy ddyfroedd
O'n mewn adgofion cenedlaethol filoedd.
Ein Owen Glyndwr garai dy beroriaeth,
A gwnai ei drigfa ger dy gyrrau odiaeth.
Goddefer deigryn o wladgarwch weithion,
Ein tadau a syrthiasant ar dy finion.
Hoff afon y Brythoniaid! 'R oedd dy ddyfroedd
Yn gysegredig gan eu beiddgar luoedd.


388 GWAITH ISLWYN.

 
Ar foreu mawr y gâd pan ymbar'toent,
Eu hirion rengau ar dy finion drefnent,
Pob milwr a gusanai’r ddaear dano,
Ymgrymai, yfai o dy ddyfroedd yno,
A'r faner genedlaethol a agorid,
A'u rhyfel floedd o fryniau pell a glywid.
Ofergoel oedd ar foreu’r marwol lielynt,
Ond haeddant ddeigryn llawn— ein tadau oeddynt
Teutyu,
Dan furiau dy gestyll aruthrol a hy
Cynhaliwn gymundeb â'r oesoedd a fu.
A brofa y creigiau gadernid y môr,
Y creigiau a roddwyd i'w ddyfroedd yn ddôr? —
Mor gedyrn dy feibion, a'u gallu mor fawr
Pan wnaed y fath gaerau iV cadw i lawr.
O elyn i gyfaill olynol yr aent,
A gelyn a chyfaill yn nerthol a wnaent.
Os treiai am ennyd rhag caerau mor gerth,
Môr llawn dy wroldeb ddychwelai iV nerth
A syrthiai y rhagfur, a'th faner o ben
Y t
ŵr ardderchocaf a chwyfai’n ddi-len.
Noddfaoedd ofnadwy eu caed yn eu bri,
Y maent yn ofnadwy mewn adfail i ni.

Ar ymyl y moroedd ymdaen eu hadfeilion,
A'u caerau’n adseinio i bruddgerdd y wendon;
Hiraethol gymdeithas yn awr a gynhaliant
A'r tonnau a'u gwelodd yn nyJd eu gogoniant.
Caerffili! canfyddais dy adfail ryfeddol
Yng nghanol amddrychfa o fryniau arddunol.
Breninoedd a ffoent i gysgod dy gaerau,
A môr erledigaeth, ateliaist ei donnau.
E welwyd ein Glyndwr yn rhodio dy gaerau,
I'w lais awdurdodol adseiniodd dy furiau;
Ond bythol unigedd yn awr a breswylia
Dy eang neuaddau, a phrudd-der a’u toa.
Lle gynt y teyrnasai gogoniant a mawredd,
Distawrwydd tragwyddol a gyfyd ei orsedd.
Ynya eion.
Pwy ganai Gymru ar wladgarol gainc
Heb gyfarch Mona ar ei dyfrog fainc?
Mor neiUduedig oddiwrth y byd,
Mor fythol dangnefeddus yw ei phryd, —


CYMRU. 889


Parhau trwy’r oesoedd yn hynafol wna,
A'i hymffrost yw ei defaid ac ei da.
Ac yma fel yn Eden lon ei hun,

Gardd ydyw anian, amaeth ydyw dyn.
Mor felus gwrando ar y tonnau pan
Ddisgynnont yn berorol ar ei glan
Pan fyddo dylanwadau’r hwyr fferllaw,
Ac ambell seren yn ymddangos draw
A’i phell oleuni yn ysbrydol bron,

A'i delw bur yn crynnu ar y don.


Llong ar ol llong yn cylchu’r penrhyn pell
Unigaidd draw, O pa farddoniaeth well / •
Pa beth yw’r swyn fywha’r olygfa hon,
Pan welom hwyliau ar bellderau’r don?
Ai teimlo’r ydym fod ein hysbryd prudd
Yn myned ymaith gyda hwy — yn rhydd —
Diangor mwyach — heibio penrhyn ola
Y ddaear hon, i grwydro am y wynfa?
Yn ofer mae y môr yn ymderfysgu
Fyth wrth eich troed, aruthrol greigiau Cybi;
Heirdd olygfaoedd Cymru, tua’r llewin,
Ddanghosant ynnoch chwi fawreddog derfyn.
Dewisol noddfa y derwyddon hen,
Offeiriaid Prydain, a gwarcheidwyr llên.
Pan ffoent hwy rhag gallu Rhufain gynt
Yr hedai’i heryr ar y pedwar gwynt,
Môn a'u derbyniai, a dyrchafai’r don
Ei hamgaer wen o gylch eu noddfa hon.
Pa le yn awr y mae’r coedwigoedd fu
Yn ei mantellu â chysgodion cu,
Ac yn ei gwneyd yn oror gymwys brid
I'r rhai a fynnent lwyr anghofio’r byd?
Mawrhaodd beirddion hen yr oror wiw,
Gwlad o gysgodion, gwlad o feirddion yw.
Pa le yn awr mae’r tywysogion hy
Breswylient unwaith tua’i glannau hi?
Yn nyfnder oesoedd mae eu henwau ter
Yn para i lewyrchu megis ser.
Aberffraw! rhydd dy enw ail fywhad
I'w coffadwriaeth hwy — eu teyrnlys mad.


390 GWAITH ISLWYN.


Y porthladdoedd.


Disgynnaf oddiar dy fryniau hy,
A'th bell fynyddoedd a adawaf fry
Fel engyl yn y niwloedd, lle ni ddaw
Ond ambell i luddedig gwmwl draw
I orffwys ar ei daith yn drwm o'r don,
Gadawaf mwyach dy ddyffrynnoedd llon —
I lonydd huno yn eu harddwch berth
O dan gysgodau dy fynyddoedd serth.
Celfyddyd gyfyd ei gwahoddol law

O'r mil porthladdoedd sy'n ymestyn draw.
Gogoniant anian a gogoniant dyn
Gydblethir mwy trwy 'th olygfaoedd cun.
Hwyl-brenni filoedd ar ymylau’r don
Olynant hyd y gwel y llygad bron, —
Rhai’n codi eu hangorau wedi cael
Eu llwyth dewisoi o'u brodorol fael,
Yn llonydd ddisgwyl am y gwyntoedd gwell
Sy’n sibrwd wrthynt am eu gwledydd pell,
Pob hwyl ar led i'w gwahodd — oll yn rhydd
I fyned ganol nos neu ganol dydd;
Ac ambell long yn codi’n araf draw
O borffor don y gorwel fel lled llaw;
O'r gwyn oleudy neu o'r penrhyn mawr
Defnyddir y pellwelyr cryf yn awr,
A'r llywiad hwylia i'w chyfarfod hi
A'i dwyn i fewn yn iach i'r porthladd cu;
I'w law gyfarwydd ef y cadben rydd
Y llywiaeth oll, yng nghanol creigiau cudd.
Anturio ar dy lan, llongddrylliad yw
Heb un o'th feib dy hunan wrth y llyw.
Ond wedi dianc dy feisleoedd pyd
Bendithia’r morwr dy aberoedd clyd.

Banerau y cenhedloedd yma gawn
A'u lliwiau’n hofian yn yr awel lawn.
A baner heddwch uwch yr oll y sydd
Yn chwyfo yn ardderchog nos a dydd.
Hynodol gân y morwr fywiocâ
Y porthladd oll, â'i waith ei wynfyd wna.


Y mwnau.


Tra ymhyfryda y farddonol ddawn
Yng nghyfoethogrwydd ac arddunedd llawn


CYMRU. 391


Ei golygfeydd, tra gwisga anian wiw
Ei holl arwyneb â phrydferthwch byw —
Gorchuddia y mynyddoedd ar bob tu
Oludoedd anherfynol yn eu bru.
Gan froydd heirdd a mwnau prid eu rhyw,
Gwlad hoff barddoniaeth a thrafnidiaeth yw.
Gwytheni o ddefnyddiau mawr eu gwerth
A wnant ei chreigiau anfesurol serth
Yn uchaf ffordd anturiaeth, ac yn ddôr
I dda a’i wely ail i wely môr.


Morgannwg.


Bendithia llawer hinsawdd bell a gwlad
Dy anherfynol fael, Morgannwg fad.
Morgannwg! enw clodfawr dros y byd;
A llongau y cenhedloedd ddont ynghyd
I geisio 'th olud; o’r Atlantic pell
Llydanfawr, deuant am y cyfoeth gwell.
Dy lo a wna yn ddedwydd ac yn glyd
Fyrdd o aelwydydd ar derfynau’r byd.

Gwych lanw dyfeisiaeth ddaeth dros dy geulennydd,
Mae’n cyflym feddiannu dy fryniau a'th froydd.
Cyn hir, fel y'th alwyd yn hoff wlad barddoniaeth,
Y'th elwir yn wlad rhyfeddodau gwyddoniaeth.
Tra denir y beirddion i lannau 'th afonydd
Gan sawyr eu blodau, a chysgod eu coedydd,
O'u llonydd ymylon efryda’r peiriannydd
Wyddoniaeth aruchel a beiddgar eu pontydd.

Pontydd.

Ei Menai a barodd ddadblygiad rhyfeddol
A gwych oruchafiaeth o grebwyll dyfeisiol.
Dwy waith y canfyddwyd athrylith anturus
Mewn myfyr yn ymyl ei llifiaint cynhyrfus,
A dwywaith ei gwelwyd uwchben y cyfyngfor
Yn hongian ei phontydd wrth newydd egwyddor.

Pont Menai gysyllta gadernid peiriannol
A thelaid brydferthwch a cheinder barddonol.
Pa le mae ategion yr adail ddihafal?
Ai breichiau y gwyntoedd sy fry yn ei chynnal?
Y creigiau tragwyddol bob tu ymagorant
I dderbyn ei thidau, ac yno ymglymant.
Cyfandir ac ynys a faith ysgaresid
A ailgyfarfyddant mewn heuldes trybelid.


392 GWAITH ISLWYN.


Marchogion, cerbydau, trafnidiaeth a'i gosgordd,
A wnant yr awyrfyd ar hyd-ddi yn brif-ffordd.
Y môr a darana, ymchwydda ei ddyfroedd,
Mae hon a'i sylfeini uwch cyrraedd y moroedd.
Y llong yn llawn hwyliau a rwyfa o dani
A dwg yn ddiangol ei beilchion hwyl-brenni,
Y cadben a'i harwain yn ddifraw heb feddwl
Fwy am yr uchelbont nag am ryw bell gwmwl.

Uwch eigion y Fenai gwyddoniaeth a gyfyd
Ail arwydd o'i gallu, ail golofn o'i mawryd.
Draw gwel y Britannia — myrddgellog bibellau
A'u rhyfedd gadernid yng ngallu eu rhannau,
I'w lleoedd awyrbell yn gyfain eu codwyd,
A'r stormydd ffyrnicaf ni lwyddant i'w hysgwyd.
Syn wrendy y môr ar y daran agerddol
Fawreddog, a dreigla trwy 'u ceudod aruthrol.

Y rheilffordd a’r pellebyr.

Y rheilffordd fawreddog, arch ddyfais yr oesoedd,
A dorra ddistawrwydd dy lonydd ddyffrynnoedd.
Gwyddoniaeth ymddengys a phellder a dderfydd,
A'r gogledd anghysbell a'r deau gyferfydd.
Dy wylltion fynyddoedd eu pyrth a agorant,
Allweddau y creigiau i fyny a roddant.
Eu cydgerdd fynyddig gostega ’th lifeiriaint
I wrando taranau y gwrdd agerbeiriaint.
Ar unwaith i'r tanglawdd yn nawdd dy fynyddau
O mal yr a 'u cludres, heb braidd deimlo’r cledrau!
Tra rhoddant i gludion aneirif trafnidiaeth
Adenydd y corwynt dros wyneb y dalaeth,
Cyfochrog y gwelir y gwyfrau pellebrol
I ddwyn ei newyddion — y ddyfais ryfeddol
A archodd yr elfen nwyfreol i blygu
Ei hedyn i'r ddaear, ar ddyn i weinyddu.
Mor feinion y gwyfrau i rwymo yr elfen,
Mor weinion i ddangos cyfeiriad y fellten!
Ehed a'n hysbysion mewn tangnef derchedig
Fel angel cariadlawn a llwyr anweledig.
Gogoniant gwyddoniaeth fel haul a ddyrchafodd,
A phellder ac amser fel niwl a wasgarodd.
O ddyfais ddigymar! dyferodd o'r cwmwl,
Ac inni y rhoddes fuander y meddwl.
Mae’r tymor yn dyfod, mae’r wawrddydd yn gwenu,
Y gwelir dynolryw trwy’r byd yn un teulu.


CYMRU. 393

Ei breiniau,


Gwlad o dangnefedd ac o ryddid gwir,
Ni sanga caethwas ar dy ddedwydd dir;
Rhy bur yr awyr a anedli di
I faner gormes ei llychwino hi.
Os tlodion yw dy feibion, maent yn rhydd;
Nid ofnant rhag llyffethair nos na dydd.
Fel seiliau dyfnion eu mynyddau’n awr
Y deil eu breiniau, breiniau Prydain Fawr.
Fendigaid hil, na faidd gormeswr erch
Eu haflonyddu rhwng eu bryniau derch.
Ar dymor hau g
yr yr amaethwr llon
Na feda yr anrheithiwr gynnyrch hon;
A phan y crugia, o dan haul di-len
Ei lawnion aur ysgubau ar y fen,
Ar hyd ei feusydd, yn ei hawlfraint gref,
Rhydd fel ei arlwydd mwy y rhodia ef.

Ei hathrylith.


Athrylith hefyd rhwng ei bryniau hi
Fwynha yn gyflawn y tawelwch cu,
Y nefol gysgod, yr unigedd gwell,
Y lawn beroriaeth o lifeiriaint pell,
Sydd mor gyfaddas idd ei feithrin ef
A i foreu lunio’n ol ewyllys nef.
Mewn cyfatebrwydd i dy wylltedd hy
A'th agwedd olygfaol ryfedd fry,
Darfelydd yn dy feib yn bennaf gawn
Yn ffurf hynodol y farddonol ddawn.
Anadla anian drwy eu cerddi llon,
Pur lynnau ynt lle gwelir wyneb hon;
Crwydr ei hawelon peraroglus hi
Drwy blethion hoff eu ceir fel llwyni cu.
Eu hodlau rwydd ddyferant fel y gwna
Yr addon aeddfed o ganghennau’r ha.
Diorchest gynnyrch anian yw eu gwaith,
Hwy ni addysgwyd gan ddiwylliad maith,
Clyw ferw y rhaiadr yn ei seinfawr iaith.
Pan ganant, tery y llifeiriant fry
Nerth a chyweirnod y beroriaeth hy.
O eithaf oesoedd ei hanesiaeth lon
Y bardd a berchid rhwng mynyddoedd hon;
Tra thon yn sibrwd ar y lan ddi-lyth
Na fydded Cymru heb ei beirddion byth.


394 GWAITH ISLWYN.


Ei chrefydd.


Y maen diweddaf yn yr adail gref,
Gyfeiria mwyach tua ffordd y nef;
A’r nodwedd olaf yng nghymeriad hon
A gwyd ein meddwl i gymundeb llon
A gobaith byd sydd well — gwlad crefydd yw,
Gwlad cysegrfaoedd y goruchaf Dduw.
Ddedwyddaf oror! ym mha wlad y cawn
Y ffordd i'r nef mor oleu, ac mor llawn
O bererinion? Hen ac ieuainc sy
A'u hwyneb tua’r ddinas nefol fry.
Dros hon pan ledo hwyr ei gaddug llwyd,
Arogldarth mawl o'i mil aneddau gwyd.

Yn egwyddorion yr efengyl gu
Mor hyddysg ydyw ei phreswylwyr hi!
Y gair efengyl yw y cyntaf bron
A ddysgir iddynt dan fynyddoedd hon.
I bobloedd ereill y gadawant hwy
Y ffyrdd i gyfoeth ac anrhydedd mwy,
A’u bryd gyfyngant mewn ymdrechfa gref
I rodio’n ufudd yn y ffordd i'r nef.

Diflannodd ofergoelion llawer oes
Fel pethau diddym o flaen grym y groes.
Bloedd jubiliaid glywid dros ein gwlad
Pan seiniodd yr efengyl ddydd rhyddhad.

Oes ar ol oes ei chreigiau geirwon fry
A faith adseinient i'r rhyfel-floedd hy,
‘Efengyl’ yw yr adsain ront yn awr
Tra yn cysgodi y Gymanfa fawr.

E synna’r teithiwr ganfod ar ei hynt
Addoldai lle y bu rhyfeloedd gynt.
Cyfrifir mwyach yr addoldai mad
Ym mhlith hanfodion golygfeydd y wlad.
Pob mynydd bellach a gysgoda’n hael
Gysegrfa i’r Goruchaf ar ei ael; —
Rhyw gymydogaeth lonydd ddidrain yw,
Ni welaf yn y fro nac ar y rhiw
Ond ambell annedd o unigaidd wedd,
A sain ni chlywaf yn y swynol hedd
Ond uchel fawlgerdd y rhyferthwy draw
A phruddaidd g
ŵyn yr afon ddofn islaw;


LLANGEITHO. 395


Ond mintai ar ol mintai ddaw i lawr
Ar hyd y llethrau, ar y ddedwydd awr;
Y fyny hefyd yr ymddringant hwy,
A thorf gydunant yn y moliant mwy.
Ar nos o auaf syllaf tua’r lle,
Mor gydnaws â goleuni ser y ne
Yw hyfryd oleu y llusernau sy
Yn araf symud hyd y llechwedd fry,
Ac oll yn cwrdd ym mhyrth yr Ior a'i d
ŷ.
Tra phobloedd eraill yn cyfeirio 'u bryd
Ar wag oferedd a difyrion byd,
Tra llanwant bellach ar yr hwyrol awr
Y llwybrau i’r chwareudy gau ei wawr,
Ym "mhorth y nefoedd" caf dy feibion di
A'u mawl a'u gobaith am y wynfa fry.


Haul anibyniaeth, llwyr fachludo wnaeth,
Ond goleu tecach ar ei ol a ddaeth;
Dydd iachawdwriaeth dorrodd ar ein gwlad,
Ymledodd nes goleuo myrdd â'i rad.
Cyfododd arnom haul cyfiawnder nef
A meddyginiaeth yn ei esgyll ef,
Yr haul oleua byd y byd a ddaw
Heb ado cwmwl ar y beddfaen draw.

LLANGEITHO.
O Gymru bur! pa wlad o dan y ser.
Mor enwog a thydi am weision Ner i
Cyffelyb wyt i Ganan, Gymru dirion,
A'th fryniau ynt i mi fel bryniau Seion.
Pan welaf hwynt o bell, tra’r haul yn machlud,
Cyffelyb ynt i fryniau tir y bywyd.
Pan fyddo’r haul yn machlud, os clustfeiniaf,
Ar hyd dy fryniau adsain bêr a glywaf,
Sef adsain anthem ein duwiolaf dadau,
Pan ganent gynt yng ngwres y diwygiadau.
Fel hyn y safodd llawer bardd Hebrêig
Ar fryniau Canan, yn nefolaidd unig,
Ar ol y Pasg i wrando ar adseiniau
Per gân minteioedd Israel ar eu teithiau.
Mae adsain cydgan fel yr eiddynt hwy,
Yn para’n hir, sef cân am farwol glwy.
Gallasai côr o engyl, wrth fynd heibio
Ar gwmwl gwyn, ddistewi oll a gwrando.


Text, letter

Description automatically generated

396 GWAITH ISLWYN.


Os oes gan wledydd eraill eu henwogion,
Os yw eu hymffrost yn eu cadfridogion,
"Ni chenfigennwn wrth eu ffrost ddaearol,
Mae testyn ein gorfoledd ni yn nefol —
Ein crefydd yw, a'n tanllyd weinidogaeth
Sy’n ennyn moliant dros ein holl diriogaeth.
Aed ereill i fasnachu a rhyfela,
Nyni a awn i wrando gair Jehofa.
Ymffrostiant hwy mewn clodfawr faeslywyddion,
A ninnau a ymffrostiwn mewn angylion —
Mewn dynion oeddynt megys nerthol engyl
Yn hedeg yn ffurfafen yr efengyl.
Danghosant hwy ddinasoedd claer hynodfawr,
A’r mannau lle cyflawnwyd campau clodfawr,
Nyni ddanghoswn fwy, ond iddynt deithio
Mor bell â mangre’n cerdd, sef pentref bach Llangeitho.

Pa beth wnai’r pentref hwnnw mor odidog?
Ai genedigaeth rhyw ddi-ail gadfridog?
Anfeidrol fwy! ail-enedigaeth miloedd
I fywyd perffaith a di-dranc y nefoedd.
Ni chlywyd udgyrn cad erioed yn seinio,
Ni chlywyd magnel yn taranu yno,
Er hynny clwyfwyd yn y lle archengyl,
Satanaidd lu, gan gleddyf llym efengyl.
Duw al wirionedd yn daranau yno
A glywyd nes i orsedd Satan suddo,
Nes ffoi o'i gaethion lu heb orffwys ennyd
Nes rhoi eu traed i lawr ar dir tragwyddol ryddid.
O'r bryniau ogylch, O! mor bêr i'w glywed
Oedd sain eu cân ar adfail ty 'u caethiwed.

LLYWELYN.
UN fechan oeddit, Gymru, medd y byd;
A bychan yw y ser i olwg amser
Yn unig am eu bod ymhell.
Pwy all ddatguddio y dirgelion sydd
Yn wylo yn nyfnderoedd distaw anghof
Am ryw fynegol lais, rhyw feiddgar fwa
I bontio dyfnder oesoedd?
Dy lanw o fawreddau droed i mewn
I stormus gefnforoedd hanesyddiaeth,
Ac eraill a'i hawliasant, ac i ni


LLYWELYN. 397


Yr ewyn arwynebol oedd y cwbl
Dros fryniau amser daflwyd.

 
O! na chawn,
Llywelyn, olwg ar dy ddidrain fedd!
Eisteddwn yn ei gysgod aml awr
Fel seren yn y nos.


'R oedd cerbyd gwyn y dydd yn gyrru i lawr
Hyd oriwaered y gorllewin ter,
Ei olwyn dân borfforai’r wybren fawr,
A gwisgai’r nefoedd ei dwyfroneg ser.

Yr oedd y lloer i eigion nef
Yn ymbellhau mewn llid,
A’i llynges — llynges fawr y ser
Yn diangori i gyd,
Gan adael porthladd amser gau,
A glannau’r awyr fyd.

A chyda’r nos caed milwr yn neshau
I gysgod dwfn y goedwig dromfrig draw,
A dara o gleddyf dan ei fraich,
A'i lusern yn ei law.

Pa le y mae? gofynnai’n brudd, tra cuddia’i rudd â'i ddwylo,
A'i galon yn ei lygad gaed, ei ffynnon waed yn wylo;
"Dy olaf deyrn, O! Gymru fad, anedwydd wlad fy nhadau,
Arferai droi yn ol mor chwyrn y llanw o gedyrn gadau!
Ei enw oedd y swyn a rwymai
Ein holaf rengau mewn beiddgarwch,
Ei wyneb oedd y wawr a dwymai
Fflam olaf welwaf cenedlgarwch;
Ymlaen, ymlaen, pan wthiai’r gelyn
A'n huchel-Ieoedd dan ei draed,
Pan ar yr helyg crogai’r delyn
A'i mwynaf dannau’n hidlo gwaed,
O bell anadlai rhyw awelig
Dy fod, Llywelyn, eto’n fyw!
Bwâid mwynion gangau’r helyg
Yn deml o glod i'n holaf lyw;
A chodai bloedd o galon fawr gwladgarwch
Ymhell dros awyrdyrau’r dymhestl draw,
A thaflai coelcerth-danau cenedlgarwch
Oleuni dydd i wledydd ar bob llaw.


398 GWAITH ISLWYN.


Fel tyrau o oleuni tua’r ser
Ymgodai ein Heryri aml eu bannau,
A mawrion lythyrennau rhyddid ter
Argreffid draws y nef oedd yn eu tanau;
Ymlaen, ymlaen! mil mil o froydd floeddient,
Ddewrion, ymlaen ar ol ein holaf lyw;
Mae rhyddid yn goleuo’r bryniau, hoeddent,
Ac O! y mae Llywelyn eto’n fyw!
I gorlan dywell angau ymgynhullem
Tra bugail anibyniaeth gyda ni,
Aem ar ei ol pan wyddid nad enillem,
Ac nid oedd bywyd werthfawr ond i farw gyda thi."

FFONTYGERI.


GLAN môr! glan y môr i mi!
Teg oror Ffontygeri!
Cân engyl yn d' ymyl di,
Hwynt garant Ffontygeri,
Hoff hynt geir, Ffontygeri,
Ar lan dirion dy don di.
Swn y don sy yn dyner
Delyn bardd, ar dy lan ber.
Wyt gwr, O Ffontygeri,
O fyd gwell ymhell i mi!
Gloew le is goleu leuad,
Os eir min nos, O’r mwynhad!
Brudd Leuad! bwriodd lewyrch
Ryw dro, anfarwolai’r drych;
Nos Sadwm hynaws ydoedd,
Nosawl hynt cyn y Sul oedd —
Gofus awr, pan gefais i
Hoff hynt ger Ffontygeri.
Teithio ger hon at waith gras
A rydd gymhwysder addas.

Holl swm fy ewyllys i
Yw t
ŷ gar Ffontygeri,
A gardd deg, a gwyrdd y don
I'w hymylu, a moelion
Geirwon greigiau Ffontygeri
Goruwch y don i’m gwarchod i.
Nefoedd fyddai cael Neifion,
Môr islaw fy mhreswyl lon.

Morgilfach prydferth ym Morgannwg.


CLEDDYFAÜ Y BRYTHONIAID. 399

CLEDDYFAU Y BRYTHONIAID.

 
FE welwai gormes du yng ngwawr
Cleddyfau y Brythoniaid,
Ac wylai rhyddid lawer awr
Ar feddau ei wroniaid,
A chodai i’r nefoedd y gloewaf o'i gleddau
Wrth gofio 'u ffyddlondeb, wrth weled eu beddau.


Canfyddai’r Brython gledd ei dad a'i daid
Yn hongian ar y mur,
I’w wyneb codi gwrid o waed
O'i galon — ffynnon bur,
A thyngai, a'i law ar garn garw’r cledd,
Y byddai cyn nos
Fel enaid y rhos,
Yn goch ac yn dwym fel y gwrid ar ei wedd.


I bwy erioed y plygodd hon,
Y wlad o feilchion fryniau?
Flaen pwy ymgrymodd Arthur hy,
A dewraf lu y tadau?
Fe blyga y bryniau i donnau y mur
Cyn byth yr ymgrymwn i estron bor.


Y mae y gwyntoedd yn y nef
Yn rhyddion fel y dydd,
Fy Nghymru! mae y storom gref
Ar hyd dy filoedd bannau’n rhydd,
Ac nid ydynt hwy ond delweddau i mi,
O'th ryddid a'th deg anibyniaeth di.


O, mae y baban hwn yn deg,
Mair! gallem ar ei wenau fyw,
Rhyw gerub-faban roed i ni
I ddwyn i fyny a'i fagu i Dduw!
Ac nid oes bedd mor greulawn, gwn,
A meddwl eto — eto am hwn!


A thithau! pam y 'th roed i rai?
A'i fel y'th rwygid oddiar fy mron
A dernyn mawr o’m calon gyda thi i
Y nefoedd wnaeth y fraich — haiarnodd hon.


 

 

…..

Sumbolau:

a A / æ Æ / e E / ɛ Ɛ / i I / o O / u U / w W / y Y /
MACRONː ā Ā / ǣ Ǣ
/ ē Ē /
ɛ̄ Ɛ̄ / ī Ī / ō Ō / ū Ū / w̄ W̄ / ȳ Ȳ /
MACRON + ACEN DDYRCHAFEDIGː Ā̀ ā̀ , Ḗ ḗ, Ī́ ī́ , Ṓ ṓ , Ū́ ū́, (w), Ȳ́ ȳ́
MACRON + ACEN DDISGYNEDIGː Ǟ ǟ , Ḕ ḕ, Ī̀ ī̀, Ṑ ṑ, Ū̀ ū̀, (w), Ȳ̀ ȳ̀
MACRON ISODː A̱ a̱ , E̱ e̱ , I̱ i̱ , O̱ o̱, U̱ u̱, (w), Y̱ y̱
BREFː ă Ă / ĕ Ĕ / ĭ Ĭ / ŏ Ŏ / ŭ Ŭ / B5236ː  B5237ː B5237_ash-a-bref
BREF GWRTHDRO ISODː i̯, u̯
CROMFACHAUː
  deiamwnt
A’I PHEN I LAWRː , ә, ɐ (u+0250) httpsː //text-symbols.com/upside-down/
Y WENHWYSWEG:
ɛ̄ ǣ æ

ˈ ɑ ɑˑ aˑ aː / æ æː / e eˑeː / ɛ ɛː / ɪ iˑ iː ɪ / ɔ oˑ oː / ʊ uˑ uː ʊ / ə / ʌ /
 ẅ Ẅ / ẃ Ẃ / ẁ Ẁ / ŵ Ŵ /
 ŷ Ŷ / ỳ Ỳ / ý Ý / ɥ
ˈ ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ əɪ uɪ ɪʊ aʊ ɛʊ ɔʊ əʊ / £
ә ʌ ẃ ă ĕ ĭ ŏ ŭ ẅ ẃ ẁ Ẁ ŵ ŷ ỳ Ỳ Hungarumlautː
A̋ a̋

U+1EA0 Ạ U+1EA1 ạ
U+1EB8 Ẹ U+1EB9 ẹ
U+1ECA Ị U+1ECB ị
U+1ECC Ọ U+1ECD ọ
U+1EE4 Ụ U+1EE5 ụ
U+1E88 Ẉ U+1E89 ẉ
U+1EF4 Ỵ U+1EF5 ỵ
gw_gytseiniol_050908yn 0399j_i_gytseiniol_050908aaith δ δ £ gw_gytseiniol_050908yn 0399j_i_gytseiniol_050908aaith δ δ £ U+2020 †
« »

 
DAGGER
wikipedia, scriptsource. org

httpsː []//en.wiktionary.org/wiki/ǣ

 
Hwngarwmlawtː A̋ a̋
gw_gytseiniol_050908yn 0399j_i_gytseiniol_050908aaith δ δ
 …..
…..
ʌ ag acen ddyrchafedig / ʌ with acute accentː ʌ́

Ə́ ə́

Shwa ag acen ddyrchafedig / Schwa with acute

…..
…..
wikipedia,
scriptsource.[]org
httpsː//[ ]en.wiktionary.org/wiki/ǣ

---------------------------------------
Y TUDALEN HWN: www.kimkat.org/amryw/1_testunau/
sion-prys_386_islwyn_300-399_RHAN-4_3807k.htm

---------------------------------------
Creuwyd: 08-03-2023
Adolygiad diweddaraf : 08-03-2023
Delweddau:

Ffynhonell: Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Newyddiaduron Arlein.
---------------------------------------

Freefind.
---
Archwiliwch y wefan hon
Cerqueu aquest web
SEARCH THIS WEBSITE
---
Adeiladwaith y wefan
Estructura del web

SITE STRUCTURE
---
Beth sydd yn newydd?
Que hi ha de nou?
WHAT’S NEW?


Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymweld ag un o dudalennau'r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sóc?
Esteu visitant una pagina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Gal·les-Catalunya)
Where am I?
You are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website
Weə-r äm ai? Yuu äa-r viziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA (= Weilz-Katəlóuniə) Websait


Adran y Wenhwyseg / Secció del dialecte de Gwent / Gwentian Welsh
Edrychiadau ar y tudalennau / Vistes de les pagines / Page Views
Web Analytics Made Easy -
StatCounter
Edrychwch ar ein Hystadegau / Mireu les nostres Estadistiques / View Our Stats