|
|
|
800
GWAITH ISLWYN.
Atal
hoen ein telynau, — a'u hoelio
Ar helyg ganghennau,
Cloi’r galon a’i ffynhonnau, — nis meiddiwn,
Canu, gwn, fynnwn wrth gofio'u henwau.
Enwau a fyddant hynod
Tra cylchoedd bydoedd yn bod.
A champweithiau tadau teg,
Ha ardyrau Gwalia! pan eich gwelir
Calon fflwch gwladgarwch a agorir,
Prifenwau oesau i'n cof a wysir,
Ar hyfion ymdrechion adedrychir,
Taranau'r gâd trwy y wlad arledir,
Ar y saeth lem ad-dremir, a chyd floedd
Afrifawg luoedd a thwrf eu heirf glywir.
Golud a phinacl ein gwlad, a'i ffyniant,
A phrif allwedd ei holl hedd a'i llwyddiant.
O! arhosed gair Iesu — a'i deyrnas
Yn gadernid Cymru,
A rhinwedd i'w heirianu, — nes bydd hon
A'i bryniau uchelion trwy’r wybr yn chwalu.
Y CEFFYL A'R ASYN.
(la fontaine.)
'Roedd asyn tlawd a cheffyl yn cyd-deithio,
Y naill dan erfawr bwn, a'r llall yn ddedwydd arno,
A chloch oedd nâd ein Balaam am gynhorthwy, —
"Syr, byddai yn gymwynas ganmoladwy,"
"Ust! be sy ar y llabwst diog, hawyr? "
A ffwrdd âg ef â'i sodlau yn yr awyr,
A threngu wnaeth y truan yn ei ymyl,
Ond trwm echrydus fu y tro i'r ceffyl —
Rhowd pac yr asyn ar ei gefn,
A'i groen drachefn.
Fe ddylai dynion gario beichiau’u gilydd,
A rhoi y naill i'r llall gynorthwy beunydd,
Waith cyfaill pan y syrthia yn dy ymyl,
I ti y gedy ei faich, a byddi’n frawd i'r ceffyl.
|
|
ENAID.
801
ENAID
PA fodd darluniaf di, O Enaid mawr?
Oferedd yw i mi ddefnyddio iaith yn awr.
Rhyw ddarn o Dduw
Rhy fawr i lygad amser yw,
A’i feddylddrychau dyrchafedig
Fel bryniau yn yr anweledig
Mae’n sefyll uwch cyfandir amser, fry
Fel Alp o eilfyd; angau yw
Y nerthol ddaear gryn a'i try
I’w le yn ol ar ymyl bryniau Duw.
Mae yn
pontio’r eigion ser
A drychfeddwl;
Mae yn dringo’r nennau ter
Fel uchel-bren bythol draw,
Ac yn plethu eu cyfundraethau fel colfennau yn ei law.
Mae ei feddwl, fel y nefoedd, fyth a byth yn ymeangu
Tua Duw ac anfeidroldeb; geoy’r ser-deyrnasoedd obry,
Fel pererin nef-rwymedig
Ar ei daith anherfynedig,
Byd ar fyd fel dôl ar ddôl
Ar ei oL
Yf i mewn, yr Enaid mawr, fydoedd Duwdod fôr ar fôr
Fel meddyliau munud awr, a sycheda am feddyliau noethion Ior,
Am ei weled fel y mae mwy heb gyffelybol lun
Y tu draw i’w holl weithredoedd ynddo’i hun.
Cyneuer byth feddyliau ter
Drwy nen fy enaid i fel ser.
Meddyliau mawrion ynt y goleuadau gwiw,
Sy’n llosgi tua bydoedd gwell a'u terfyn oll yn Nuw,
Yn llosgi nes y byddont yn anweledig draw
Yng nghanol dydd y Duwdod, claer Dduwdod ar bob llaw.
Rho imi, Dad, y gallu i dramwy’n ol a blaen
Trwy dragwyddoldeb meddwl sydd o anfeidrol daen.
Y
mae y byd yn fawr, mae’n llanw cylch
Rhyfeddol yn y gwagle, ynnot ti
O Enaid mawr, drychfeddwl syml yw.
Y greadigaeth, er llydaned hon,
Brysura i mewn ac allan trwot ti
Fel awel lawn o Dduwdod, a phob byd
Fel adsain o'i gadernid. Mae y ser
|
|
802
GWAITH ISLWYN.
Yn soddi yn dy ardderchawgrwydd maith
Fel traeth o gregin, tra y chwyddo’th lanw
Uwch cyfyngforoedd amser oll i mewn
I'r moroedd pell tragwyddol, lle y mae
Duwdod yn foroedd mwy, a'r oesoedd oll
Fel tonnau o anfeidrol rif, o chwydd
Anfeidrol rwysgfawr. Enaid! beth yw
môr,
Môr o fawreddog fydoedd ar dy ffordd?
Rhyd, hawdd i enaid groesi. Medri di
Linynnu’r bydoedd ar ddrychfeddwl derch
A chwareu ar y tant. Mae rhywbeth
ynnot
Sy’n fwy na’r bydoedd — rhywbeth sydd yn gwneyd
I'r haul dy adwaen oddi draw fel un
O'r nefol bythol fodau, ac, i'th law
Ollwng ei reithlyfr mwyach, lle y mae
Uchelion ddeddfau llawer byd, lle cawd
I'r ddaear ei thudalen; — rhywbeth sydd
Yn troi elfennau natur oll fel afon
Ar olwyn dy ddibenion, gan eu dwyn
I gydweithredu drosot ti, rhai sydd
A'u gilydd yn rhyfela ac yn dryllio
Y nefoedd â'u hystormydd, ac yn gadael
Rhwygiadau oesol ar ystlysau’r bryn.
Yr wyt yn cau y tarth i mewn, ac wele
Fraich egyr lwybr trwy y gwynt a'r môr,
Nerth sydd yn ysgwyd gwledydd fel pe bai
Ysgogiad mawr y ddaear yn deimledig.
O Enaid! mae y byd yn soddi ynnot,
I'r tawel eigion o adgofion sydd
Yn cysgu ar suddedig draeth ieuenctyd,
Fel anigonol beth o fychan bwys;
A thi wyt gadarn eto, yn dy flaen
Yn ymeangu gydag oesoedd eilfyd,
Ac nid oes dim a'th flina, Enaid mawr,
Ond rhifo oesoedd. Henffych dymor pan
Ddiffoddir llusern amser uwch y byd
A phruddaidd oleuadau’r nos rhai sydd
Yn dyferynu tragwyddoldeb arnat
Mor brin, a thithau mor sychedig fyth.
Wyt fel pe rhwymid Ysbryd mawr y môr
Ar graig gerllaw rhyw ffynnon. Felly
ti
Dan araf ddyferynol oriau amser.
Mae 'th nerthoedd fel afonydd yn dyfnhau
Ac yn llydanu i dragwyddol fôr.
Paham y byddit — pam mor gryf i farw?
|
|
ENAID.
803
Mor danbaid i’r dragwyddol nos dy ddal?
Rhaid fod dyfodol cerub, rhaid fod byd
Tragwyddol yn dy aros, fod dy waith
Yn ddwyfol a diderfyn fel dy nerth.
Gadewi
ganrif ar dy ol fel ton
Ar fordaith anherfynol. Haul a lloer
A ser ni welir mwy;
Tyn amser, enbyd yrrwr, yn y man
Ffrwyn fawr yr oesau i mewn, pan fyddo ar
Redegfa lawn, a'i gerbyd mawr o fydoedd,
Pob olwyn heulog a ser-wawlyr mawr,
A unwaith ymollynga, a dwyfol lais
Lef allan "Darfu!" uwch y cwbl,
"Na fydded!" Mae y
bryniau? Mae y môr?
A'r myrdd dyffrynnoedd? Gwagle yw yr
olL
Tydi! tydi!
Yn unig a adawyd, Enaid mawr!
Ac yn dy nerth a'th rwysg gadawyd di
Wyf yn dy weled yn dragwyddol iach,
Ymhell i fyny ar fynyddau Ior,
A naddu’r wyt gadarnaf gestyll fry
Yng nghreigiau tragwyddoldeb. Llosga’r
byd
Fryn oddiar fryn, dyfnderoedd tan ddyfnderoedd
Arddrych i mewn at arddrych, nes y bydd
Ei echel main a theneuedig mwy
Yn gorwedd ar y gwagle. Bydd y ser
Fel tân-fynyddoedd wedi diffodd byth
Yn casglu nos dragwyddol am eu bannau.
Anghyfaneddol ceir y bydoedd oll,
Tyf barnau drostynt fel fforestydd dyfnion.
I ti er hynny’r dydd ofnadwy hwn
Duwdod a thragwyddoldeb ymagorant,
Ac ei i mewn dan ganu. Wrth dy ystlys
Y cwymp deng mil o fryniau ac o fydoedd,
O Dduw canfyddi’r oll
Fel cwymp o ddail brydnawngwaith.
Byddi di,
Pan gyfarfyddo y ddau dragwyddoldeb
Yn nhyrfau croch yr olaf ddydd, ar ol
I'r cyntaf weithio’i ffordd i mewn i'r ail
Trwy holl oes-gloddiau amser, byddi di,
O! Énaid mawr, yng nghartref ar y llif,
Ac yn mwynhau anesgrifiadwy rwysg
A thwrf eu cyfarfyddiad pan y sawdd
Holl fryniau amser mwy.
|
|
804
GWAITH ISLWYN.
Y MILFLWYDDIANT.
HENFFYCH awr!
PAN ddaw’r cenhedloedd yn eu rhwysg i'r lan
O dy^ eu hir gaethiwed, fel y daeth
Eu Duw i'r lan o'r bedd, ag angau erch
A'u holl elynion bellach dan eu traed,
O dan fanerau prynedigaeth daw
Holl Israel dynol ryw mewn hedd i'r lan
Trwy fôr o waed, i addawedig wlad,
A Chanan eu hiawnderau, fel y daeth
Eu cysgod gynt o'r Aifft.
Fe ddofir yr elfennau. Flwyddi fil
Anghofia’r tonnau eu digofaint gynt,
A thaflant ffwrdd ormesol iau y gwynt:
Y santaidd donnau wylant ar y traeth
Ddagrau o hylif berl, mewn edifeirwch
Am oesoedd o greulondeb at y lan.
Fe gaiff yr eglwys lawenychu’n awr,
A sychu ei dagrau ymaith a gafaelion
O wenau yr Anfeidrol, a mwynhau
Ei wyneb fel disgleirdeb hanner dydd,
A byw ar ryfeddodau, byw ar Dduw
Fel wybren ar afonydd o belydron.
A daw y
planedau yn nes at eu gilydd
O gonglau y gwagle, fel nefol chwiorydd,
Fel nef-gyfandiroedd pereiddiaf eu sawyr
Heb rhyngddynt ond culfor rydiadwy o awyr.
Fel ardal odidog o deg Elysfaoedd
Ymalwant dros donnau awyrol y nefoedd.
Bryd
hyn bydd anian gref fel eang fôr o fawl,
Yn chwyddo tua nef y nef ei dwyfol lanw heb dawl,
A bydd pob anadl yn fawl bryd hyn;
A gwelir hawddgar weddau angylion wrth y beddau,
Ac yn eu llaw allweddau
Aur y glyn.
Dyfera’r gwlaw o'r nef yn dyner fel y gwlith,
A chwilia’r awel gref ar santaidd hynt ymhlith
Awyrol encilfeydd y storm, a charn
Ei hadfail yn y môr,
Am lwch merthyron Ior
I'w casglu oll at ddôr —
Dôr y Farn.
|
|
TYBIAETH.
805
TYBIAETH.
NID ym yn sicr fod yr enaid mawr
Yn cyfeiliorni pan y cwyd uwchlaw
Holl brofiad dyn o'r cawell hyd y bedd,
Gan sisial pethau anhraethadwy, gyrru
Pob ffigur dros y terfyn, ymbellhau.
Fel seren i'r tragwyddol.
Onid
oes
Gan enaid hanes ynddo ei hun, — rhyw drai
O dywyll bethau’n murmur o’r tu ol
Ar bell, anghysbell draethau — traethau lle
Y collwyd Adgof gyda gorfawr ddrylliau
Rhyw fyd neu fydoedd.
A
yw’r ser uwchben
Mor ddwyfol ac ardderchog ag y myn
Barddoniaeth ganu? Onid mewnol swyn,
Adgofion am ddwyfolach golygfeydd
A phethau yn disgleiro oll gan Dduw,
Sy’n rhoddi iddynt hwy eu hysbryd-nerth
A'u harucheledd? Ynnom mae y ser!
A phob barddoniaeth, onid adgof yw
O rywbeth mwy a fu, neu ragwelediad
O rywbeth mwy i ddyfod?
Pwy nad yw
Yn teimlo weithiau fel pe byddai byd
Hir-anghofiedig, trwy ryw ongl bell
O’i gynfod yn chwyrn hedeg, neu yn cyffwrdd
Rhyw benrhyn o adgofion?
Dychymygion,
—
Pwy brofa nad gweddillion bywyd uwch
Mil ardderchocach ynt, yn nyfnaf fôr
Yr enaid mawr yn gorwedd hyd nes del
Oll-chwiliol anadl barddoniaeth heibio?
O! henffych awr pan ymddanghosa Duw
Fel nerthol haul uwch holl gyfnodau bod,
A ffordd yr ysbryd trwyddynt oll yn olau
O’r Dwyfol — trwy’r parthedig fod — yn ol
I'r Dwyfol mawr drachefn.
|
|
806
GWAITH ISLWYN.
MAE BYWYD FEL Y NEF.
MAE bywyd, fel y nef, yn llawn o fydoedd;
Pob dydd — rhyw fyd o ddrwg neu rinwedd ydoedd
Trwy gylcholygfa’r oriau buain deuem,
Awr ar ol awr, fel cae’r ol cae a heuem;
Yn had hyd yr ymylon aeth y dydd
I lawr dros holl derfyngylch amser prudd,
Fel byd hauedig i'r tragwyddol rodau,
Ac yn nhymorau tragwyddoldeb codai.
O fewn addfedol ddylanwadau iawnder,
Y mae yr had yn tyfu i gyflawnder,
Cyflawnder dydd y Farn, mawr ddydd y medi,
Pan fydd holl oriau amser o flaen y Farn yn lledu,
Byd goruwch byd trwy awyr tragwyddoldeb,
Yn wynion i grymanau angau neu anfarwoldeb.
O HAPUS LUDDEDIG.
Mae’r nos ar ei bannau i gyd yn oleuni,
Môr bywyd tua’r bedd yn prysur ymloewi.
Nid hon yw yr uchaf, mae ereill wybrenau,
Mae bywyd ar fywyd, a nennau ar nennau.
Po uchaf y dringom mwy clir yw’r olygfa
Nes gwawriom yn Nuw a chael ynddo’r Wynfa.
A feiwn ni’r ffordd sy’n croesi y bryniau?
Y gallu a'r ordd sy’n dryllio calonnau?
Mae’r ffordd yn troi’n sydyn trwy gilddor y bedd
I balas tragywydd a hafddydd ei hedd.
Ar
aden tywyllwch mae’r ser yn neshau,
A thua bro hawddfyd tymhorol mae’r wynfa dragwyddol yn cau.
O!
hapus Luddedig sy’n disgyn i’r glyn
Hyd riw gorthrymderau, a'th galon yn llyn,
A'r llwybr o’th ol yn wlyb gan dy ddagrau,
A glyn dy adgofion yn dywyll gan feddau,
Bedd, bedd y tu cefn i fedd yn y nifwl
Fel plyg y tu cefn i blyg yn y cwmwl,
Ac ambell i fedd ac ambell i flwyddyn
Yn rhy bell i'r meddwl ei gofio a’i ddilyn,
O hapus Luddedig sy’n curo mewn hedd
Wrth haiarn ddôr angau, yng nghysgod y bedd!
Trwy stormydd a gwyntoedd mae ceisio y nef,
Ac nid yw hi’n agor i'r ysgafn ei lef.
|
|
O HAPUS
LUDDEDIG. 807
Pan fyddo y llais wedi methu gan alar,
Yn eiddil ei swn ac yn isel ei drydar
Fel awel mewn mynwent o feddau newyddion,
O! mae ein gweddiau bryd hynny yn gryfion,
Yn suddo i galon y Duwdod, yn plethu
Ei briodoliaethau fel cadwyn o'n deutu.
Mae’r Duwdod yn agor ei fynwes a'r nefoedd
O'i mewn, pan y llefom o’r stormus ddyfnderoedd.
Ar lawr dan y groes, a chraig yn y galon,
Neu ar ymyl rhyw fedd oedrannus a llwydfron,
Lle cyfyd y cof ei orsedd aml ennyd
Gan droi ei deyrnwialen dros bell forau bywyd —
Aml flwyddyn yn codi fel angladd i'r golwg
Yn araf a phruddaidd trwy’r niwloedd anamlwg,
A rhai o'r wynebau yn ddieithr, ac eto
Fel rhithiau breuddwydion heb hollol ymado, —
O! dyna hoff funud y Fendith fawr,
Mae dagrau yn nofio y nefoedd i lawr.
Pan hedo y weddi drwy gawod o ddagrau
A'i haden yn wleb gan ddyfroedd teimladau,
Y weddi wan eiddil a'r anadl tyner
Na chlywyd o fewn terfynau bro amser,
Hi lanwodd y wynfa oruchaf â'i hadsain
A dyg iechydwriaeth yn ol ar ei hadain.
Pan nofio y galon i fyny mewn dagrau,
Y nef amgylch ogylch a egyr ei hafnau;
Ymdorcha cyfiawnder gylch gwynion bileri
Gorseddfainc y gras, i selio y weddi.
Mae Ior
yn y nefoedd yn pwyso y croesau,
Yn mesur yr yrfa, yn rhifo y beddau.
I'r bedd — na! nid yna y soddodd dy ddagrau,
Mae’r llaw fu’n eu casglu yn wynnach na’r beddau,
A wylaist erioed un funud, un deigryn?
'R oedd costrel o'r nefoedd islaw yn ei dderbyn.
Mae dyn yn anghofio ei ddagrau, a'r dyffryn
Yn gollwng dros gof gawodydd y gwanwyn,
Ac eto mae natur yn brysur o'r golwg
A'r hedyn claddedig yn gwyrddu i'r amlwg.
Mae’r gawod yn codi o'r ddaear mewn blodau,
A dagrau yn cnydio mewn nef o rasusau,
A maes llwm y galon o'r hir anffrwytholdeb
Yn harddwych aeddfedu i haf anfarwoldeb.
Bu farw! mae Ior yn cofio’r arteithiau,
Ac wrth eu rhifedi yn trefnu’r taleithiau.
|
|
808
GWAITH ISLWYN.
Nid ofer, fy mrawd, yw wylo yn ymyl
Un ieuanc yn marw, pan na fo ond engyl
I’w clywed gerllaw yn symud trwy’u gilydd
Gan drefnu y goron, gan drefnu y palmwydd,
A gwylio yr awrlais yn ymyl y funud,
A'r galon bron sefyll, a'r byd prin yn symud.
A wylaist ti yno? do, afon o ddagrau,
A mynwes ni ddeil y byd o drallodau
Bilerodd rhagluniaeth bryd hyn ar yr enaid.
A phan fo’r olygfa yn codi ar amnaid —
Ar amnaid y cof i fyny o feddau
A thawel orweddfa fy more flyneddau —
Pan bwyswyf fy mhen ar y beddfaen oer,
Yng ngoleu sancteiddiaf y seren a'r lloer —
Ar lanw o adgofion fe ddychwel teg ddrylliau
Y llynges odidog o fore bleserau
Gyda’r hon y cychwynnem o borthladd ieuenctyd,
Dan hafaidd awelon, rhy hafaidd, rhy hyfryd,
A phan lifont i mewn gyda gwynt cryf o gofion
Pa ddewrder all furio o amgylch y galon?
Fy natur a egyr fel hafn gyferbyn
A dagrau a'i lleinw i'w croesaw a'u derbyn.
Mae’r
nefoedd yn sefyll i edrych ar ddeigryn,
Mae’n plygu i ganfod y tlawd ar ei deulin
Dan gysgod y pren yn y fforest bell, unig,
A'i wedd yn pruddhau cysgodion y goedwig.
Hi selia y deigryn tu fewn, pan y byddo
'N rhy wylaidd i ddangos ei hun a disgleirio;
Mae arobell i deimlad rhy ddwfn a thawel
I'w adsain fyth gyrraedd y wefus a'r awel,
Ond clyw! mae y nefoedd yn dal yr ochenaid
Pan yn symud yn drwm hyd waelodion yn enaid.
Mae Ior yn dyrchafu ei orsedd yng nghanol
Prudd ddrylliau y galon a'r fron edifeiriol,
Ac YNDDO mae dyn yn ymsymud a byw,
Mae ei feddau yn agor a'i galon yn gwaedu yn Nuw;
Pwy bellach a ofnai? Daw’r cyfan i'w
le
Tra bywyd ac angau yn troi ynddo Fe.
A phwy na charasai ei rwymo i'r lladdfa,
A chael bedd mor nefolaidd ger allor Moriah.
O!
nid oes un trallod mor ddwfn, mor gudd,
Nad yw i'r Anfeidrol mor amlwg a'r dydd.
Y prudd trallodedig, tawelaf ei bryd.
|
|
O HAPUS
LUDDEDIG. 809
Sy’n wylo i’w fynwes ei ddagrau i gyd,
Yn rhwymo’i drallodau i gyd wrth ei galon,
Yn cario ei fflam i gyd yn ei ddwyfron,
Heb oddef ochenaid i lwytho yr awel,
A phawb yn ei dybied yn ddedwydd a thawel, —
Y neb sydd alluog i lennu y gwg,
I oddef y fflam a chaethiwo y mwg,
I yfed ei ddagrau, a byw ar ddistawrwydd,
Yn fedd iddo’i hun, ac ar hiraeth yn arglwydd;
Y prudd trallodedig tawelaf ei fryd,
Mae un yn trysori ei ddagrau i gyd
Mewn cwmwl o gariad i agor ryw forau
Yn gawod o ogoniant trwy’r nefol ororau.
O! ti y siomedig a'r gwelw dy wedd,
Sy a'th garol brudd heno fel adsain o'r bedd,
A chysgod marwolaeth o'th amgylch yn cau,
Ac eto marwolaeth ei hun yn pellhau,
Tuag atat dy hunan y cwyni o hyd
Yn ddistaw, rhag clywed a gwawdio o'r byd,
A'th galon wywedig yn unig yn awr
Y rhaid it' gymuno, ac â'r beddau di-wawr
Sydd amgylch yn agor fel noddfau bob tu,
Ac eto bob tro yn cau rhagot ti,
Mae un yn cofnodi dy aml flinderoedd
A dyddiau dy alar ar lyfrau y nefoedd.
Mae’r tonnau angylaidd trwy’r nef yn distewi
Am ennyd, i wrando a dal ar dy weddi.
O Dad yr ymddifad a brawd y siomedig,
Fe wlawia ei wenau i’r fynwes wywedig.
Pan na fyddo cyfaill yn ymyl na brawd,
Na llaw neb i estyn elusen iV tlawd,
Pan fyddo yr aelwyd yn oer fel y bedd,
A newyn yn eistedd yn wyn ar y wedd,
Mae Ior y fan honno i'r athrist tylawd
Yn noddfa a chysgod, yn gyfaill a brawd.
Am bob newydd artaith sy’n rhwygo y galon
Fe esyd â'i law newydd berl yn y goron;
A'r deg etifeddiaeth mewn heulfro o'r wynfa,
Ei heang derfynau yn fwy fe’u heanga.
O! hapus
Luddedig, flinedig dy fron!
Melusaf yr hafn po uchaf y don.
Pan fo angladd y dydd mewn distawrwydd yn symud
I fedd y gorllewin, mae’r ser yn dychwelyd;
Ar feddrod yr haul mae y lloer yn disgleirio.
|
|
810
GWAITH ISLWYN.
A'i gosgordd o fro tragwyddoldeb yn gwawrio;
Rhaid cylchu ein bywyd â nen o gymylau
Cyn delo y nefoedd a’i thegwch i'r golau;
Croesawai y gaddug sy’n llennu y byd
I ddangos y nefoedd tu cefn i gyd;
Mae'r nos yn llawn ser, mae hedd mewn trallodau,
Mae dydd yn y cwmwl sydd amgylch y beddau.
Coleidiaf fy medd gan ymlawenhau,
Ar aden ddu angau ma'r nef yn neshau.
Rhaid llosgi’r gre'digaeth i’w hadfer i Dduw,
Rhaid gruddfan i ganu, rhaid marw i fyw;
A bedd yw ystafell oleuaf ein bywyd,
A'r nesaf i mewn i balasau nefolfyd.
O hapus Luddedig! mae’r nef oedd yn agos
Pan na fo yn naear un swyn yn ymddangos;
Mo'r isel yw’r ddôr sydd yn arwain i'r bywyd!
Rhaid plygu hyd y bedd i gael grisiau nefolfyd.
Y DYLANWAD.
PAN y myn y daw,
Fel yr enfys a'r gwlaw,
Fel odlau yr eos ger y gwyrddaf lyn draw;
Nid mwy anibynnol y seraff y sydd
Yn disgyn ar donnau diweddaf y dydd,
Pan fyddo’r gorllewin, rhwng huan a môr,
Fel i dragwyddolfyd yn ffurfio y ddôr.
Pan y myn y daw,
Fel y ser dros adfail y cwmwl draw
Yn llwyr anibynnol ar amser islaw;
Pan y myn, heb orfodaeth na dyled i'r byd,
Pan y myn, fel pethau y nefoedd i gyd.
Nid felly y môr
Sydd iddo’i reolau, ei ddeddfau, a'i ddôr;
Mae ei lanw a'i drai yn curo o hyd
Fel dringlyn ♦ mawr
amser yng nghlyw yr holl fyd;
O ganrif i ganrif mynegir adegau
Ac eiliad fanylaf ei hollymweliadau.
Nid felly yr haul
Sydd i amser yn sail,
A'r oriau a'r eiliadau i'w gysgod yn gail, —
♦ Pendulum.
|
|
"DEUWCH,
GWELWCH Y FAN." 811
Mae yr Alp sydd yn rhew tragwyddol o hyd
Ac yn wyn o fraw byth gan ei bellder o’r byd,
Mae’n gwybod y funud y cyfyd o fôr
Tywyllwch y dwyrain fel delw yr Ior;
A'r adar a wyddant gan ddeffro’r un eiliad
I chwyddo per udgorn y byd-adgyfodiad.
Dylanwad
yr awen,
Y pruddaidd a'r llawen,
Mae’n hŷn yn ei darddiad na’r ser bore fu
Yn canu uwch bydoedd dwyreol di-ri;
Mae’n ddyfnach o Dduw na’r moroedd di-draul
O ddyfroedd; mae’n gwawrio lle machlud yr haul.
Fel yr enfys y daw,
Fel arwydd cyfamod tragwyddol wnaed draw
Rhwng Meddwl a Duwdod, pan araf ddychwelai
Môr mawr tragwyddoldeb hyd nes ymddanghosai
Mynyddoedd pell amser, ac Arch y Meddyliau
Tragwyddol yn disgyn yn iach ar eu bannau.
"DEUWCH, GWELWCH Y FAN."
OFNADWY fan, O fedd, ystyriem di,
Erch gladdfa ein gobeithion teg i gyd;
Pan lenaist obaith Israel yn dy fru,
Tywyllwch dudew a ordodd y byd,
Ac nid edrychem tua’r nef am wawr,
Yr oedd ein gwawr a'u nefoedd ynnot ti,
Ein Hathraw hoff, a’n Harchoffeiriad mawr,
O dan dy gwmwl a'th gauadlen ddu.
A! ynnot
mwy nid yw ofnadwy fedd;
Yn amlder ei rym i fyny daeth,
Yn goch ei ddillad, ac yn hardd ei wedd,
Mor rhwydd, mor rhwysgfawr, o'th afaelion caeth.
O! deuwch, gwelwch, nid yw yma mwy,
Nac yma neb ond angeu dan ei glwy;
O, gwelwch yr anfeidrol ddwyfol wyrth,
Darostwng nerth marwolaeth, dryllio’i byrth,
A thorri llwybyr drwy gysgodau’r bedd
I ddinas Duw, a thawel froydd hedd.
|
|
812
GWAITH ISLWYN.
Y BRYNIAU.
GWELED y bryniau fel gwlad wybrennol
Yn hongian dros anian, mae’n dra synnol,
Draw ymeangant fel ardrem hongiol,
Lluniau o fedredd y llaw anfeidrol,
Fel Anfeidroldeb ar grôg ardebol,
Fawredd ar fawredd duwiau-ddyferol,
A, braich Duw fel brychau dôl — a'u cyfyd
Eu seilwaith hefyd o’u sel eithafol!
Chwal hwynt trwy’r uchel entyrch
A’u sail fel bro ddail a ddyrch.
Am ystlys y tymhestloedd — draw hongiant
Dringion yr uchafoedd!
Cerddediad cawraidd ydoedd — hyd-ddynt gynt,
Duwiau ar fawrhynt hyd awyr-foroedd.
Broniad
gair Ior yw’r bryniau, — coronwaith
Cywreiniaf ei riniau,
Ei gre-nerth dan goronau
Ar y nef yn ymdeyrnhau.
Crôg ael
awyr eu creigleoedd — echrys
Ar hyd ochrau’r nefoedd,
Ei glywiol leithig-leoedd.
Fynediad
ofnadwy — o Dduw-fawredd!
Ei fôr amhlymadwy
O allu maith, ar goll mwy
A chodiad anghyrchadwy!
Wedi i
Dduw doi y ddaear — â'r nefoedd,
A rhoi Neifion anwar
Iorwedd o dan wedd wâr,
Hudd nef fwyn iddo’n faniar,
A bwrw y
gwenyg brigwynion — gorwyllt
Dan gaerau uchelion.
A chrogi uwch yr eigion
Chwydd y tir uwch awydd ton, —
Rhoi gwagder y dyfnder dwys
Mawr arffed i’w môr orffwys,
A chrynhoi ei charn awyr
A darostwng mwng ei myr,
Archodd ei Hior chwydd arall,
Chwydd byd ar ei fraich ddi-ball
|
|
Y
BRYNIAU. 813
Goruwch môr ar ymgyrch maith
Awyrfawr, a'r tir hirfaith,
A'i fryniau y fawr ennyd
A danodd, bwriodd y byd,
Fel uchelion dystion Duw
Fil myrdd yn nghofl y mawr-Dduw.
Hyd y nefoedd y bloeddiant,
Moli Ner dan drum haul wnant.
Plethiadau, clymau y clod
Fachant ar y nef uchod.
Mawl Naf hyd ymyl y nen
A gludant â gloew aden,
Gyda'r sêr tyner eu tôn
Ar doriad eu gwawr dirion,
A'r goleufawr rwysgfawr haul
A'r lloer a'r holl lu araul, —
Arwyddion yr Ior oeddynt
Ar fyd halog euog gynt, —
A safent yn lwys hefyd
Fel duwiau uwch beiau’r byd.
Llawer patriarch a archid
O'r byd di-wawr, llawr y llid,
Chwareule y chwerw helynt
A du gae pechodau gynt
Dywyllid, wywid gan wae
A gyriad barn a gorwae,
Fro lom o dan farwol len
Byd fu fel wyneb Eden;
Y blaned a gwbl lennodd
Ior a'i farn dan arwaf fodd,
A barn fel arwydd arni,
Fel arwydd ei haflwydd hi,
A Dig yn aredig ei rhod
Hyd ddirfawr gladdle diddarfod, —
Galwai Naf i gol nefoedd — ei gu rai,
A greddf i'r uchafoedd
Y serch yn eu mynwes oedd — droai’n fwyn
Eu tremion addwyn tua'r mynyddoedd.
A chodent, brysient o'u bro— is tawel
A newydd awel gan weddio,
Hyd y mynydd dymuno
Diddarfod gyfarfod fo.
Ei glywed, a gweled gwedd
Ragoraf ei drugaredd,
Moli i’w lys, a theimlo’i law
|
|
814
GWAITH ISLWYN
Fel ernes nefol arnaw,
Rhodio trwy ardd ei harddwch,
Caru, ymddilladu â llwch,
Ymostwng yn ddim, eistedd
Dan aden addien ei hedd,
A dwyn araf ledaeniad
Hyd yr oll, ei gysgod rhad!
O'r nennau teg arnynt hwy — disgynnodd
Duwies gain fawladwy
Addewid, ymylid mwy — a nefol
Wawr y dwyfol rad-ofwy.
Abraham lwybrai yma, — gadawodd
Frig diwerth Moria
Yn wrid o ddydd gan gred dda
A dwyfol rad lehofa.
Ffydd gu lle gorfu gerfiodd — lythrennau
'R gwaed ar y bannau, a'r graig dderbyniodd
Yr angel tawel a'i tôdd — ei hoerwawr
Ddisigl lawr fyth ddisgleiriodd.
Tra difai gred, tra Dofydd
Ban nefol anfarwol fydd.
A mynydd Duw mewn hedd dwys
Môr-ddwfn daweledd mawrddwys,
Lle nad oedd onid llun Duw
I'w gwrdd — cysgod y gwir-Dduw,
Na gwyneb, gwawr, na gwenau
Ond eiddo Ior yn dyddhau,
Lle mae'r anial fal byd-fedd
Yn yfed môr tangnefedd,
Iawnbarth i'r ddawn awenber
O’i dwys hudd, glywed y ser!
Derbyniodd, dygodd dân Duw,
Gordderch arwydd y gwir-Dduw,
Redai gynt gan or-deghau
Brig Horeb oer ei gaerau.
Cyn
disgyn at ddyn Ior ddaeth, — yn ysgafn
Ar asgell achubiaeth
Cyffyrddai, dyferai faeth, hyd fannau
'R bryniau, rydiau o fôr y warediaeth.
Am adeg
ymsymudai — uwch y byd
Nefolwych barth trigai,
A'i ras uwchben arosai,
A’r nef yn haddef a wnai.
Ond yn is yn is nesodd,
|
|
Y
BRYNIAU. 816
Duw, o ras, atom ail drodd,
A lleithig cadwedigaeth
Ar fannau’r mynyddau wnaeth.
Atebai o frig Tabor,
Ac o leithig unig Hor.
Hawddgarai’r creigydd geirwon
A'i aden lad, a'i wên lon.
Gweddi proffwydi a'u ffydd
Fugeilynt efo’u gilydd
Addewid hedd i euog
Acw ar hyd y bryniau crog.
Unigrwydd Sinai a'i hagrwch — dorrwyd
Gan diriad ei heddwch
A chysgodion ei radlonwch, — borau
Loer ei feddyliau o ryfedd elwch
A wawriai dros drum oeraidd
Sinai, a ireiddiai ‘i wraidd.
Meddyliau am hedd i elyn, — meddwl
Am haeddu dros waelddyn,
Troi Duw o fewn natur dyn
Mwy ar waelddull marwolddyn,
A’i ddarwain trwy holl ddorau
Gwae y byd, trwy euog bau
Trueni, taro unwaith
Fôr, môr ei deilyngdod maith.
Ban Horeb â’i wên eurai, — a’i dremiad
A daniodd drum Sinai,
A'r anial a ymfryniai — i'w weled
I'w ogoned iys tra disgynnai,
Ei lachar lys o luched
Hyd y rhiw lom gaed ar led,
A'i gaerau teg o wawr tân
Dorrwyd o gorff y daran.
Muriwyd y bryn â mawredd, — a throwyd
Uthr riw ei unigedd
Garw ael, yn fangre o hedd — diweddfan
I olaf daran bytholfyd orwedd,
Fyth orwedd mewn hedd, a ni
Llon nawdd, tu allan iddi,
Tu allan i'r tywyllwch
A chylchoedd y trinoedd trwch.
Llwch yr anialwch niwliai — bryd yr wybr,
Rhodd yr haul dywyllai,
Fel tir-fôr gan rolio’r ai, — anian lon
Yn guddeigion gaddugai.
|
|
816
GWAITH ISLWYN.
I'w nen goronog anian a grynai,
O thronau’r awyr ei tharan ruai,
A holltau Horeb â'i mellt a eurai;
A gorwel o luched hardd ymledai
Am yr holl anial, fel gwal a'i gwyllai,
Gwarcheidwyr Eden goruwch a'i rhodiai,
Cerublu nefol osgorddol gerddai
Y godre synnol, a'u llygaid ar Sinai.
Heddyw o'r uchafoedd cledd Ior chwyfiai
Ac uchder awyr fel coch waed droai
Dan ei aweliad, a lon a waliai
Y byd âg adgofion bai, ond mur nes
I'w rasol fynwes dyner sylfaenai,
A rhod trugaredd godai — dros y bryn
A gwawl sydyn dros y mynydd glwys hedai.
Ar Seion
y troes hewyd
Afon ei galon i gyd,
Ac euraidd wrid ei gariad
Hunai fyth ar y fron fad.
Baner ei hedd bu’n hir iddi, — hir bu
Ei ddisglaer borth arni,
Dan ei hedd gysgodion hi — angylion,
Gwiw luoedd hylon, yn gwyl addoli;
Fel trum nef olau, tramwy
Ei bannau teg buont hwy,
A lledu eu holl aden
Ar y nos i euro’i nen.
Duw a
etholodd ei hodiaeth aeliau,
O fodd ei fynwes i'w hafaidd fannau
Tyner symudodd tan ras-amodau,
Tan wawr y cyfamod a'i gysgodau
Fu yr hir hongian allan yn nulliau
Golenni niwl am galon o heuliau,
Yn hir hongian fel bore gyfryngau
Yr iachawdwriaeth, o'r goruchderau;
A llifion engyrth pell afon angau
Yn araf danynt, a'i llethr hyf o donnau
Ar fad dreiad o'r olaf fyd-riwiau:
Lle teimlai ffydd awyr rydd, Ior-reiddiau
Ymylon awelon uwch eu hwyliau,
Lle teflid ei thid o hiraethiadau
Gan law rasol i ganol aur-oesau;
Tra’r hedol luchedol lewychiadau
|
|
Y
BRYNIAU. 817
Hyd y môr hwnt, fel agoriad amrantau
Ion oiddiar ei galon-eigionau,
Gwrid ei freuddwyd uwch ei gariad-fawreddau,
Breuddwyd ffurfiwyd mewn adail o ffurfiau,
Rhodd ei gariad-ruddiau — i Seion fad,
Eurog dwyniad trwy gawod o wenau.
Haddef
Jehofa’i hun ei haddefid,
Ei enw a'i ogoniant yno genid,
Ac ofer ryfedd y fan gyfrifid
Ei luman olau mwy oni welid
Fel arwydd ei llwydd; 0 bell llueddid
Yn eonach o fyrdd pan ei henwid.
Tueddau hon santeiddid — â sang lon,
Ar ei hymylon a'i hochrau molid.
A'i goleuadau o'u lle pan gludid,
A bore ddydd ffydd pan brudd ddiffoddid
Ar hyd ei hymyl gan eiriau Duw emid,
Yn wag a diwawr pan ei gadewid,
Rhyw fore ymdaith Duw eilwaith welid
Yn rhodio ei nen, â gwrid enynnid
Y dwyfol rudd uwch adfail ei rhyddid,
Oerni y gafell, carnau y gofid;
A'i heddwch eilwaith fel môr ddychwelid,
Lledai ei hagwedd yn ei holl degid,
A'i chwaer glaer Moria degleuerid,
Y deml gadarn hyd ei hymyl godid,
A thyrau Jehofa eilwaith rifid
Ar ei theg gaerau a'i phyrth agorid,
A chan y dôn i'r goruchion daenid
Ei rhes o gedyrn furiau ysgydwid,
A'r llestri aur i'w llysau ter yrrid,
Siloa lwys oleuid, â i hangel
A'i chwyfion tawel drachefn ei toid.
Goleuwyd
brig Olewydd — â gweddi
Tragwyddol eiriolydd
A agorai bell gaerydd
Heulaidd ddôr tragwyddol ddydd.
Eneiniai’i
bannau unig — o'i deg rudd
A dagrau codedig.
O'r dwfn yn ei natur y daw.
Rhinwedd yn ddyfnfor o honaw;
Ar y traeth yn ei natur trig — rhyw foroedd
O oroludoedd anfeidroledig.
|
|
818
GWAITH ISLWYN.
Y BEIBL.
FENDIGAID air y digelwyddog Ior!
Ymagor wyt o’m blaen fel gwnai y môr
O flaen Columbus gynt, diwaelod yw
Dy ddyfnder di, sef dyfnder meddwl Duw.
Cyrhaeddi'n
ol, o ran dy gynnwys pur,
I gyfnod pan nad oedd rhwng môr a thir
Na ffin, na deddf yn bod. Cyrhaeddi
'mlaen
Trwy oesau’r byd a ddaw, ar fythol daen.
A charreg felltir olaf amser sy
Anfeidrol bellder o'r tu ol i ti.
Lle
nad oes dechreu, ble dechreuaf fi,
Lle nad oes diwedd, ble dibenna ’nghân;
A gaf fi ddechreu tua Chalfari
Dy ganol bwynt, lle’r unir heb wahan
Di-rif linellau dy ddadguddiad maith,
Canolbwnc holl feddyliau Duw a’i waith?
Cyfundrefn faith o fydoedd heb un haul
A fyddot, ryfedd Feibl, heb Galfari,
Adeilad uwch na’r ser heb unrhyw sail —
Iawn yw dy rwymyn, Iawn dy hanfod di.
Dy deddf, dy ebyrth, dy gysgodau gawn
Yn cydgyfarfod mewn cydgordiad llawn
A sylweddoliad perffaith, yn yr Iawn.
Ar ol dadguddio in’ y modd a'r pryd
Y dygwyd pechod i'n hanffodus fyd
Dadguddia, yn yr ymyl, ras y nef
A'r bwriad i'w ddileu a'i faeddu ef.
Cymysgai sain addewid gyntaf Ner
Ag adlais trwst y codwm, O! mor bêr!
Melusach oedd na chydgan ser y borau, —
Cynghanedd prynedigaeth yw yr orau!
Addawyd had y wraig, yr hwn ysigai
Erchyllaf ben y sarff; pan ymddanghosai
Danghosai Abel yn ei gyntaf aberth
Mai sylwedd yr addewid fawr oedd pridwerth,
Boddlonrwydd hollddigonol dros gamweddau
Trwy farw un oedd fwy na myrdd miliynau
O ddynion ac angylion gyda'u gilydd.
|
|
Y BEIBL.
819
Fe welai ffydd, o Eden, ben Calfaria
Lle yr agorid dôr i decach gwynfa
Na'r hon gauasai pechod; fe wireddwyd
Ar ddalen gynta’r Beibl, — "Yr Oen a laddwyd
O ddechreu’r byd."
O
Adda hyd at Moses
Nid ysgrifennwyd yr addewid eres
Yr hon a ffurfiai sylfaen pob dadguddiad,
O'r hon nid yw'r holl Feibl ond dadblygiad
I lawr hyd Patmos bell.
O
enau Adda
Mynegwyd yr addewid werthfawroca,
I'r patriarch cyfnesaf, yntef eilwaith
A'i rhoddai i'w olynydd, oll yn berffaith
Heb lygriad na chymysgedd — fel y daethai
O enau Duw ei hun pan yn yr ardd ei traethai.
Ffrwd fain oedd hi, ond dwyfol bob dyferyn,
A rhinwedd ynddi i droi yn fôr diderfyn
I nofio myrdd i'r nef.
Er cyd yr oesau
O Adda hyd at Moses,’r oedd blynyddau
Y seintiol batriarchiaid oll mor feithion
Fel mai ychydig oedd niferi tystion
Addewid gras. Ychydig o ddolennau
Wnai ffurfio cadwen y dystiolaeth forau.
Er, yn y man, ordoi y cynfyd annuw
Am ei ddrygioni erch, â'r dyfroedd diluw,
Gwnaeth ffydd i Noa gyda dwylaw diwyd
Ddarparu arch i gadw ei haddewid,
Fan holltai’r ddaear yn rhaiadrau filoedd,
Pan gydarllwysai holl gymylau’r nefoedd,
Pan godai’r moroedd o'u gwelyau dyfnion
Gan guddio bannau’r ddaear yn eu heigion,
Fe gasglai Noa’i deulu amgylch iddo
Bob bore, hanner dydd, a hwyr, i selio
Eu ffydd yn yr addewid, ac i'w dysgu
Mai achub hon i fyd oedd heb ei eni
Gymhellodd ras y nef trwy dirion arfaeth
I ddarpar iddynt hwy’r fath waredigaeth.
'Rol glanio ar y newydd fyd,
Bu Noa fyw ganrifau ’nghyd
I selio y dystiolaeth fawr
A ddaeth o Eden bell i lawr.
|
|
820
GWAITH ISLWYN.
Ac os cymysgwyd iaith y byd
I ieithoedd fyrdd, yn Babel draw,
Fe roed i'r ieithoedd hyn i gyd
Yr hen addewid ar bob llaw.
Aeth dalen gynta’r Beibl drud
Fel hyn i bob rhyw barth o'r byd,-
Rhyw ernes o'r gymdeithas fawr
Sy’n taenu'r Beibl oll yn awr
Dros gyrrau eitha daear lawr.
Cyffredinol fu'r addewid
Trwy yr oesau meithion draw,
"Hâd y wraig " un unig enwid,—
Ffydd ni wyddai ar ba law
Yr edrychai hi âm dano,
At ba lwyth, neu at ba wlad,
Dim ond disgwyl rywbryd iddo
Ddod a'r cyffredinol hâd.
Ail i
afon mewn anialwch
Heb redwely idd ei lli,
Oll ar wasgar trwy'r diffaethwch,
Fu y wiw addewid gu;
Ond yn amser da y nefoedd
Casglwyd dyfroedd hon ynghyd,
A'i rhedwely unig ydoedd
Teulu Abram, a'r holl fyd.
Cymerth
iddi ffurf a chartref
Gydag Abram, wrth ei bodd,
Pabell Abram fu ei haddef,
A'i luesty ef a'i todd;
Trwy ei rhinwedd ganwyd iddo
Fab o uwch-ddaearol hâd,
Bellach cafodd ei neillduo
I un llwyth ac i un wlad.
Gwelodd Abram, gwelodd Isaac
O Foriah, Galfari;
Yn yr hwrdd oedd yn y drysni
Gwelodd Aberth gwell i ni.
Ni fu sel erioed mor danbaid,
Ni fu ffydd erioed mor lawn,
A gwobrwywyd hi â chysgod
O anfeidrol berffaith lawn.
|
|
Y BEIBL.
821
Mae awr y nefoedd wedi taro,
Ymdoddi mwy mae calon Pharo
O dan ergydion barnau’r Duwdod,
A rhydd I Gynfab Ior ollyngdod.
O! dacw’r santaidd bur arweinydd,
Deddfroddwr mawr y genedl pewydd
A lunir trwy ei fawr genhadaeth
I Dduw yn santaidd offeiriadaeth,
I wylio’i ddwyfol lyfr, nes delo
Cyflawnder y benbedloedd at y Siloh.
Mae'r tir a sanga Moses santeiddiedig
Oll yn fy ngolwg i yn gysegredig.
Pa fodd y gallat edrych yn ei wedd,
Pa fodd y gallaf wrando ar ei lais,
Y cyntaf wr erioed etholodd Duw
I ysgrifennu ei feddyliau’i hun
Ac agor rhol y llyfr penna erioed?
Mae myfyrdodau deugain mlynedd maith
Unigedd Midian dawel, wedi rhoi
Rhyw ddwyfol argraff ar ei santaidd wedd.
Rhy santaidd yw i siarad fawr ei hun,
Rhag suddo o'i wrandawyr ger ei fron
I beidio codi mwy; angenrhaid yw
I Aaron siarad drosto, idd yr hwn
Y mae efe yn Dduw. Rhy santaidd
yw
Ei gorff i neb ei gladdu ond yr Ior
A'i engyl distaw, rhag i synnawl fyd
Adeilio teml ar ei edmyg fedd
A dwyfoleiddio’i lwch. Pa ryfedd fod
Gwialen yn y fath gysegrol law
Ýn parthu’r môr yn ddau, yn hollti’r graig
Gan dynnu afon allan lle nid oes
Ffynhonnell ond sy wyrthiol, ac yn gwneyd
O Mara chwerw win y gallai engyl
Eidduno marwol syched er ei fwyn —
Y llaw fu wedi hyn, dan ryfedd swyn
A nerthol ddylanwadau Ysbryd Duw,
Yn dal y bluen ysgrifennai i lawr
Y modd y galwyd a ddiddymdra llwm
Gyfoethog fydoedd i addurno fry
Y pell dragwyddol ofod, ac a roes
Yn eglur inni greadigaeth dyn,
Gan baentio nos ei gwymp, a bore wawr
Ei ryfedd brynedigaeth. Dyma 'r gŵr
A ddringodd Sinai i gyfarfod Duw,
|
|
822
GWAITH ISLWYN.
A derbyn o'i ddeheulaw gref y ddeddf
Sy'n gwneyd y Beibl fyth yn safon barn
Y byd a'r Dy doedd oll.
Ond er mor bur
Y gyfraith lân a dderbyniasai ef,
Er gwae y byd toredig gyfraith oedd;
Eithr yn y cwmwl tew, y mellt, a'r mwg,
Trugaredd hefyd gaed, a chanddi hi
Derbyniodd Moesen y gyfundrefn rad
O raff-gysgodau a gyfeiriai’r ffordd
At ddwyfol un nad oedd y gyfraith fawr
Ond athraw ato ef, i gyfiawnhau
Pob un a gredai yn rhinweddau’i waed.
Danghoswyd iddo’r drugureddfa rad,
A'r gyfraith dan ei chysgod wrth ei bodd
Yn ddyhuddedig fyth gan ddwyfol waed.
Ac mor ryfeddoloedd y drefn rad
I achub euog ddyn, mor berffaith lwyr,
Mor ogoneddus i gyfiawnder Ior
A'i holl briodoleddau, fel y caed
Cerubiaid gwynfa yn cydsyllu i lawr
Ar synnawl santaidd ogwydd, arni hi
Fel rhai na feddai nef y nef ei Lun
Cyffelyb swyn i brynedigaeth dyn.
Danghoswyd iddo y "Diangol fwch,"
Ac Aaron bur a'i ddwylaw ar ei ben
Yn llwyr gyffesu camwedd Israel oll,
Ac yna yn ei ddanfon ffwrdd yn llaw
Gŵr cymwys i'r anialwch — yr anialwch
Na ŵyr nac ofnog ddyn, na satan chwaith,
Pa le y mae. Fe welai’r cymwys wr
Yn mynd a'r bwch diangol yn ei law
A'i feiau ef ei hunan ar ei ben,
Sef camwedd Meribah yn bennaf oll
Fe’i gwelai’n mynd, a'r perthi o'r tu ol
Yn gwasgu at eu gilydd, fel nad oedd
Un llwybyr i ddychwelyd; gwelai ef
Yn croesi yr afonydd dyfna erioed
A'r pontydd ar ei ol yn syrthio i lawr
Heb fodd dychwelyd mwyach. Moesen
fawr,
Rhoe'r rhag-gysgodau hyn, a miloedd mwy,
Oll yn ei bum-rol pur, ac wedi cau
Ei ragymadrodd i'r efengyl bur
Fe ddringodd glogwyn Pisgah i fwynhau
Golygfa ddwyfol Canan, yna rhoes
|
|
Y BEIBL.
823
Ei ysbryd pur i Dduw, a'i farwol gorff
I ddwyiol angladd nad oedd ynddi hi
Alarwr dan y nef.
Fel mae’r fendigaid awr yn ymneshau,
Mae rhedle yr addewid yn culhau;
O fyrddiwn epil Abraham sy'n awr
O rif y gwlith a wylir gan y wawr
Ar roswelyau Saron, dewis hi
Dan lonydd gysgod coed Ephrata gu
Dy Jesse’r Bethlehemiad, ac o ri
Ei feibion ef y proffwyd mawr ei fri
Eneinia Dafydd wridgoch — hwn fydd tad
Yr addawedig fendigedig hâd.
O, ddedwydd deulu! O, freintiedig lyw,
O'th lwynau di y daw y dyn fydd Dduw;
Ti genaist lawer salm broffwydol, bêr,
Am dano; cyfran fawr o Feibl Ner
Addurnaist a'i ogoniant, ac fe fydd
Dy enw di mewn cof, tra pery memrwn ffydd;
Dy salmau, bêr ganiedydd Israel wiw,
Yw cyfrwng moliant holl addolwyr Duw
O dan y ddau gyfamod. Nid oes tant
Ar delyn prynedigaeth, ryfedd sant,
Na ddarfu'th gerubiaidd gyflym fys
Ei gyffwrdd yn ei dro. Ein Hedmund
Prys
Wareuodd ar dy ol dy delyn wiw,
Dan ysbrydoliaeth o eil-raddol ryw,
I lonni eglwys Gomer. Tybiaf fi,
Y bydd y dedwydd waredigion fry
Yn canu bythoedd rai o'th salmau di.
Rhagwelaist y bradychwr erch ei bryd,
A'r dioddefaint oedd i roi i fyd
O feirwon, anfarwoldeb. Gwelaist draw
Ryw gysgod du, rhyw ddisglaer wawr gerllaw —
Sef cysgcu angladd twysog mawr y nef,
A disglaer wawr ei adgyfodiad ef,
A chenaist salm o ddarluniadol rin
Y gallsai Ioan ei hanadlu’i hun
Y cyntaf dro erioed, gerllaw y bedd
Oedd wag dragwyddol o dywysog hedd
Ar fore’r trydydd dydd. Dy lygad pur
Proffwydol welai’n oleu ac yn glir,
Ei gnawd mewn gobaith yn ymorffwys mwy
Ac enfys o ogonedd gylch ei glwy
Yn claer ymdragwyddoli; ni chai’r bedd
|
|
824
GWAITH ISLWYN.
Na'i lygredigaeth gyffwrdd dim â'i wedd
Canfyddaist lwybr bywyd trwy y bedd
Yn arwain i dragwyddol lwydd a hedd.
Dilynaist ef, yn dringo’r olaf fryn,
Y pellaf, nesaf at y cwmwl gwyn
A ffurfiai gerbyd ei ddyrchafiad fry,
A chenaist anthem ei esgyniad cu.
O byrth, dyrchefwch oll eich pennau ynghyd,
Ac ymagorwch, ddrysau’r dwyfol fyd,
A brenin y gogoniant drwoch ddaw
A baner buddugoliaeth yn ei law.
TREFECA.
MOR gysegredig wyt, Drefeca hen,
Dros lawer oes cartrefle llonydd llen,
Mor neillduedig oddiwrth y byd,
Fel gwynfa hardd tu faes i’w dwrf i gyd.
O bell ymddengys dy amgylchoedd pur
Trwy ddrych adgofion fel y santaidd dir.
Fe deimla'r teithiwr pan yn dod i'r lan yn araf ar ei hynt o riw i riw
Fod awyr gysegredig am y fan, fod ysbryd oesoedd ereill eto'n fyw; —
Fod engyl y diwygiad mawr a fu
Yn gorffwys eto ar dy dyrau di;
Fel hyn y teimlai y ffyddloniaid gynt
Wrth ddod i awyr Seion ar eu hynt.
Ai dyma'r farn y clywyd Harris fawr,
A'i rymus lef yn tynnu’r nef i lawr?
Mor fynych ynnot y canfyddwyd ef
Fel angel yn ehedeg yn y nef,
GwahoddawÌ sain efengyl yn cryfhau,
Taranau’r gyfraith fwy fwy’n ymbellhau
Nes byddai’r cyfan yn efengyl mwy
A'r dyrfa’n floedd o fawl am farwol glwy.
Mor fynych yr adseiniai’r muriau hyn
I'r gân o foliant am Galfaria fryn;
Mor fynych yma yr anghofiai'r saint
Gan nefol hedd eu llygredd a’u holl haint,
Pan y taranai y diwygiwr mawr.
Mor hybarch yw y cysgodfaoedd draw
A blannwyd yno - â chysegrol law
Y pen diwygiwr! Braidd na thybiem weithiau
Fod amser, y difawr, a'r tymhorau
|
|
RHINWEDD.
825
Yn gwneyd eu holl i'w harbed ar eu hynt,
A'u gado fel yr oent mewn oesoedd gynt
Wrth orffwys danynt ar fachludiad haul.
O dychymygem ennyd fod eu dail
Yn sibrwd enw y diwygiwr cun
Ac enw Huntingdon o dan yr un.
Man
neillduedig oddiwrth y byd,
Fel gwynfa hardd tu faes i'w dwrf i gyd;
Ni chlywir yma ond y lleisiau pêr
A roed i'r fro, i'r mynydd, ac i'r ser;
Unigrwydd digon eang yma gawn
I’r meddwl ynddo droi ac ymddadblygu 'n llawn.
Mor
ddedwydd yw yr ieuainc uchelgeisiol
Yng ngolau ter holl ser y nef glasurol.
Y meddwl yma yn ddisgleiriach burol
Trwy ddwfn o oesoedd yn pelydru sy,
Nes sefyll yn fuddugol ar fryn dysgeidiaeth fry.
Mor ddedwydd treuliant aml flwyddyn lawn
I ychwanegu gorau dysg at ddawn;
Cymhwyso’u hunain mewn unigrwydd maith,
O olwg dynion, i'r santeiddiaf waith,
A threulio’r borau mewn athrofa gudd
I ddyfod at eu gwaith yn rymus ganol dydd.
RHINWEDD.
AED ereill i geisio anrhydedd a chlod, i’r lan ar uchelion y byd,
Gogoniant derchedig yn unig fo'n nod, a mawlfloedd y
bobloedd ynghyd;
Af finnau i waered yn wylaidd fy ngwedd i fro dawel rhinwedd i fyw,
Ac yno cyfodaf fy mhabell mewn hedd dan gysgod cydwybod a Duw!
Os na chaf ogoniant daearol, caf fwy -- fy nghymeradwyaeth fy hun,
Boddlondeb tufewnol, cydwybod ddi-glwy, bendithion melusach na gwin.
Os na fydd ysplenydd afonydd o fawl yn llifo o'r ol, bydd fy llwybr
Yn oleu gan burdeb, fel llinell o wawl’r ol angel a groesodd yr wybr;
A phery y llinell pan dderfydd y byd, pau ballo disgleirdeb fy ngwedd,
Fel miloedd o ser yn tywynnu ynghyd yn danbaid goleua fy medd.
|
|
826
GWAITH ISLWYN.
Hoff waith angylion, Rinwedd brid, yw dod ynghyd i'th noddi;
Wyt yn rhywerthfawr, rinwedd lân, i dân y farn dy doddi;
A da yw’r gwirioneddol fawr, a'r da yr awr ddiweddaf
Yn unig a goronir draw ar ddeheu law’r Goruchaf.
Y mae dy wobr ar ei thaith, os yw yn faith yn tario, —
Ei mawredd a'i bytholdeb sy yn peri y gohirio.
Mae
perarogledd Rhinwedd, diau,’n hyfryd
Wrth syllu ar ei delw yn afon bywyd.
Tu draw i holl linellau ei gelynion,
Tu hwnt i bechod ac i angeu creulon,
Mae llanw tragwyddoldeb yn llifeirio
Oll gyda hi, heb awel groes i'w lluddio.
Ond rhosyn plith y drain yw’r mwya’i geinder,
A'r unwedd rhinwedd ar anialwch amser.
Arddunol ydyw yn ei myg unigedd,
A gwesgir allan ei holl berarogledd.
O! pwy mor gryf, mor gadarn a'r rhinweddol;
Mae’i wyneb, er mor hardd, o bres tragwyddol.
Cyfiawnder ydyw gwregys cryf ei lwynau,
Mae’n graddol fagu nerth i gwrdd âg angau.
Fel eiddew am y dderwen, Rhinwedd union
A bleth am allu Duw ei breichiau gwynion.
Os
isel yw ei bwthyn, wrth y ddôr
Mae claer warchodlu o angylion Ior;
Symudiad eu sidanaidd esgyll sydd
Beroriaeth iddi wedi darfod dydd,
Peroriaeth y buasai Handel fawr
Yn tewi byth o'i chlywed ennyd awr.
Pan
el i orffwys, oll yn ddedwydd flin,
Y mae rhyfeddol ddyfnder yn ei hun,
Fel dyfnder wybren o ddidyrfyn las,
Fel balmgwsg Efa cyn y codwm cas;
Fe allai cerub ddewis bod yn ddyn
Er cael mwynhau breuddwydion rhinwedd gun.
Os yw ei gwisg yn dlawd, hi gaiff ar frys
Ei newid oll am laeswych ŵn y
llys;
Cyfoethog draill ei gynau gwynion fydd
Yn cuddio y cymylau’r olaf ddydd,
A Duw a'i harddel ger casgledig fyd
Fel aeres deg ei gyfoeth mawr i gyd.
|
|
AI
BREUDDWYD YW BODOLAETH. 827
Dedwyddyd pur yw marw iddo ef,
A newid poen am dirion hoen y nef.
Paham yr ofnai y dyfodol maith,
Pan nad oes yn ei hir ddaearol daith
Droadau gŵyr i beri iddo loes,
Wrth syllu’n ol ar bererindod oes?
Mae marw cryf yn dilyn Rhinwedd fad
Trwy fythol ddeddf, fel ffrwyth yn dilyn hâd.
Oes o gyfiawnder, oes o ddweyd y gwir,
Ac oes heb athrod yn ei hystod hir,
Heb dorri’i lw, heb newid byth mo'i air,
Heb farn usuriaeth yn melldigo’i aur,
Oes lawn o gymhwynasau i'r tylawd,
Heb dderbyn enllib, heb niweidio’i frawd —
Dos, ddedwydd ddyn! Cref yw dy galon
di,
Colofnau rhinwedd a'i hategant hi.
Nid ofni, mwy, rhag unrhyw chwedl drwg,
Byth ni’th ysgogir er mor fawr y gwg.
Dos, ddedwydd ddyn! I ddyffryn angeu
dos!
Nac ofna ddim, os tywyll yw y nos,
Y nos ddiweddaf yw am byth i ti,
O! mae un seren yn ei hentrych hi,
Sef gwên dy Dduw; chwaer-seren arall sydd
O fewn i'th enaid, sef cydwybod rydd.
AI BREUDDWYD YW BODOLAETH?
Ai breuddwyd yw bodolaeth? breuddwyd, dyn,
Ai rhyw ddychymyg ar weledig lun
Y byd, ai cysgod yw’n ehedeg ffwrdd
Ar aden tyb a dychymygol dwrdd?
Anhraethol frys tua'r bedd-ddiddymdra llwyr,
Ai hynny yw? Sisialaist, "Pwy a ŵyr?”
Myfi a wn! a thyred gyda mi,
Frawd — tyred acw tua'r fynwent ddu;
A weli di y bedd sy'n gwgu draw,
Yn gwgu arnaf tan gysgodion taw?
Mae yma sylwedd. Yna dan y pridd
Mae cyfoeth fy modolaeth oll yng nghudd;
Oes, gyfaill. y mae yna fwy na thyb.
Rwy'n cofio'r awr, yr awr y dygwyd hi
O'm mynwes. A! fe deimlai angeu du
Fod yno sylwedd, trysor gwerth ei gael
|
|
888
GWAITH ISLWYN.
I gyfoethogi'r nef â'i riniau hael.
Ai cysgod oedd y DDELW houno o burdeb
Ymglymai wrthyf a'r fath nefol undeb?
O, dwed ai cysgod yr angyles gu
Ymlynai wrthyf yn yr ymdrech ddu,
Gan erfyn yn ei hiaith a'i threm, “O! cymorth fi?”
A weli di yr archoll dan fy mron -
Yr archoll dorrwyd yn yr ymdrech hon?
Ai cysgod yw fy mhoen? A! gwyn fy myd
Ped hywy fai - yn gysgod cau i gyd,
Rwy'n teimlo'r clwyf, er nad oes ar fy ngrudd
I gynrychioli'r teimlad ddeigryn prudd;
Yma! o fewn! y mae fy nagrau'n llifo
Yma— o fewn— mae'm calon yn eu wylo;
O fewn y gwelir dagrau yn eu purdeb,
Pan maent yn fil rhy drwm i nofio ar y wyneb.
Nid cysgod, LLAWDBEN, a allasai dynnu
Y llanw o ddagrau welwyd y pryd hynny;
'Roedd mwy na chysgod yn yr angladd honno—
Oedd! mwy na breuddwyd, mwy na bywyd yno;
Bu swyn bodolaeth y pryd hwnnw farw -
A! dydd o gladdu sylwedd ydoedd hwnnw.
Y DDERWEN.
TI welaist lawer oes
Cyn hon, O dderwen eon!
A llawer canrif bell a roes
I ti ryw heirdd fodrwyon;
A’u cadw'n ffyddlon byth wnei di
O gariad at yr oesau fu.
A
oedd yr oesau fu
Yn well na hon?
Rwy'n tybied wrth dy olwg di
Fod hiraeth yn dy fron
Am fore ddydd canrifoedd gwell,
Canrifoedd dy ieuenctid pell.
A oedd melusach cân
Yn nofio ar y gwynt
Fu'n chwyfio'th ddeilen ieuanc lân
Ryw ganrif fore gynt?
Oedd! oedd! a minnau gyda thi
Sy’n wylo am y pethau fu.
|
|
YMADAWIAD
Y PARCH. D. EDWARDS.
YMADAWIAD Y PARCH. D. EDWARDS (Pennal),
O'R COED DUON I PILTON GREEN, GWYR,
Hydref 14, 1870.
HIRAETH sy yn mhyrth Seion— oer alar
Wrth ffarwelio weithion
A gwas a weithiai yn gyson
A sel mawr yn y Salem hon.
'E rodd drwy’iymarweddiad - a'i goethion
Bregethau yn wastad,
Oleuni a dylanwad
I goethi a gloewi’n gwlad.
Tawel
yn y Coed Duon — fu 'i rodiad,
A'i fryd ar yr union;
Cofir ef fel gwr cyfion,
Duwiol, hyd yr ardal hon.
I dy wasanaeth, Edwards union — dos
Dan dy ddisglaer goron;
A gefaist, frawd, mor gyflon —
Ni all neb weld gwall yn hon.
Ni a gawn mewn gogoniant — eto gwrdd
Hwnt i gur a siomiant;
A byw fythoedd heb fethiant — a chwarau
A thelynau o fythol loniant.
Rhyw ail fael anfarwol fydd — ymuno
Mewn perffaith lawenydd;
Hefo y saint adref sydd
Ger bron eu hawddgar Brynydd.
I GYFEILLES
(Sonawd).
GYFEILLES deg, a glywi di yr awel
Gerllaw yn canu yn yr wybren dawel?
Mor fwyn ei thôn! mae hi yn cydymdeimlo;
A weli dy y gwlith? mae’r nef yn wylo —
Ai yr wyt tithau! minnau wylaf hefyd —
Mae dagrau’n felus; y mae wylo’n hyfryd.
Uwchlaw EI BEDD mil haws i'r llygad wylo
Nag edrych — edrych ar y blodau’n gwywo;
|
|
830
GWAITH ISLWYN.
Camsyniais — do! mae pawb yn wylo yma!
O, pwy, ar feddrod un mor deg, mor ieuanc — pwy na wyla.
BEDD EVAN HARRIES.
PWY i Alpau y pwlpud — gwyd o’i ol
Gyda’i awch a'i oglud?
Ow! mae wylo am olud
Y ddawn fawr sydd heddyw’n fud.
ANORFFENNOL.
IESU mawr! Rho ras i mi
I'th ddilyn, all addoli;
Mae’n neshau, a'm heinioes sydd
I ben yn dirwyn beunydd,
Dwyn dy iau, rhodio’n dy ol,
Hyd y rhiw, wrth dy reol;
Llawer rhiw sy 'mhell ar ol
Ar ffiniau y gorffennol —
Iesu mawr! Bu'th ras i mi,
Res uwch diffres i'w croesi;
Rhiw neu ddwy dan glwy’r gloes,
Sy'n awr i Seion eirioes,
Rho'th arweiniad mawladwy,
Arweinydd hoff! riw neu ddwy.
LLONGYFARCH.
AFONIAN hoff! Dymunaf lwydd i'th
ferch, a'i phriod mwy;
Eu bywyd fyddo'n draeth i foroedd serch i lanw fyth fwy fwy.
Tydi a'i collaist — ond i gariad mwy y collaist hi;
Bydd ef yn fwy na thad — na thi yn fwy, Afonian gu!
Ti a'i collaist fel y cyll y nant ei hun o fewn yr afon gref;
O! collont hwythau, fel yr afon gu, eu hunain fyth yn nhawel fôr y nef.
Mil uwch na’r Andes bo amddiffyn Ior o gylch y ddau,
A dyfnach na dyfnderau’r tawel fôr, fo’u heddwch clau.
Os digwydd nos ordoi eu bywyd gwiw, boed lawn o ser;
Os cwrddant ar eu taith â dyrus riw, ei phen fo dinas Nêr!
Enillfawr golled ydyw. Tebyg yw
I golli seren yn y boreu ddydd;
Neu dderi’n colli’u mês; neu flodyn gwiw
Yn colli’i arogl yn yr awel flydd.
|
|
MAER
ABERTAWE. 831
Wyf newydd ddirwyn f'awrlais; nid oes llaw, Afonian gu,
All ddirwyn pwysau’n heinioes; tua’r naw mae’n hawrlais ni;
Fe dery y ddeuddegfed awr cyn hir, i mi yng Nghymru wiw,
I ti, Aionian, ar estronol dir, ond cawn yn Nuw
Ein hunol fythol artref — ynddo cawn
Ein gwlad, ein Heden lawn,
Holl hoen y boreu mewn di-dranc brydnawn.
MAER ABERTAWE.
MAERONIAETH Abertawe fawr
Sy enfys gylch ei enw’n awr;
Jerusalem fy nghofion i
Hen Abertawe, ydwyt ti;
Mae delw'th aber ar fy mron,
Er crwydro’n mhell mae swn dy don
Yn dilyn fel rhyw gerub-gân
Ddyferodd o ryw seren lân
Ryw oes yn ol, ryw euraidd oes
Cyn imi deimlo unrhyw loes,
Cyn chwiban o gerbydres hy
I foddi 'th bêr fôr-anthem di,—
Gan mor gysgrol fyth i mron
Yw swn dy Dawe, sain dy don,
O! nid oes dinasyddol fri
Cyffelyb i'th faeroniaeth di.
Boed llwydd i'w harwr yn ei le
Fel pennaf wr fy nghalon-dre;
Dymunwn i i'w ‘flwydd' barhau
Cyhyd a blwydd ym mhlaned Iau.
Dôr ei
breswylfa egyr ef
I dderbyn gweinidogion nef
Yr unwedd ag yr egyr hi
I dderbyn haul y boreu cu;
Fe ŵyr fod derbyn cennad Ior
Fel derbyn angel yn ei ddôr,
Gadawant fendith ar eu hol
Fel y gadawa'r gwlith i'r ddôl.
O, letygarwch, nnwedd wiw,
Sancteiddiaf o'r rhinweddau yw
Er pan, un waith, derbyniodd Dduw,
Er pan eisteddodd "yn y cnawd"
Ger aelwyd fach Bethania dlawd.
|
|
832
GWAITH ÌSLWYN.
Er esgyn i'w ogoniant fry,
Yr Iesu gyda i weision sy,
A gyda hwynt i bob rhyw dŷ,
Fe gofia bob cymwynas gun
Fe’i dyd i lawr fel iddo’i hun.
Rhy gul
yw cydymdeimlad rhai
I dderbyn neb i mewn i’w tai
Ond pobl un enwad; G--- sy
A'i wyneb fel yr huan fry
Yn gwasgar cysur, hedd, a hoen,
Ar holl aelodau teulu’r Oen.
Mae
lletygarwch rhai mor gul
Fel nad oes ond rhyw un o fil,
Pregethwr mawr, boneddwr gwych,
Yn cael mwynhau â arlwyad sych.
Ceir eto rai dan enw’r gair
Addolent lo os bydd o aur.
Dirinwedd hollol yw eu haidd,
Ac hunanoldeb yw ei wraidd.
Mae’n harwr fel y cwmwl llawn
Sy'n dod i'r lan o'r môr brydnawn,
Mae’n gwlawio dros y fro i gyd
Ar gedrwydd Libanus, ynghyd
A'r rhosyn gwyl yn Saron glyd.
Ac unig denyn ei haelderau
Yw terfyn eitha'i gyfleusderau.
Fe red y bywiol drydan, tra
Y rhed y gwifr; felly’r a
Haelioni’n brawd tra bo ar daen
Gysylltiad idd ei gario 'mlaen.
Mae
bendith fwya'r byd, a bendith fwya'r
nef,
Fel dwy angyles deg ynghyd, yn rhodio gydag ef,
Sef bendith gweddw wan a'i phlant amddifaid sy
Yn llawenychu yn eu rhan trwy’i garedigrwydd cu;
Y llwybr oedd mor arw lyfnhaodd ef i'w traed i gyd,
A bendith un fu farw ddaw iddo o'r ail fyd.
Fe ŵyr am lwybrau’r awen gu, rhodfeydd
angylion Ior,
Rhydd aml wib-daith lonydd fry hyd lan y dwyfol fôr,
Y môr o bur wirionedd maith
Sy'n dechreu lle y derfydd ffaith,
Y môr sy'n yfed iddo’i hun
|
|
MAER
ABERTAWE. 833
Holl
ffrydiau gwybodaethau dyn,
Y môr lle mae ynysoedd Duw
A'r seintiau ar eu bannau'n byw,
A llongau o oleuni claer
Yn hwylio ar ei hylif aur.
Mae
ffawd yn 'gwneuthur' ambell un, nid felly gyda'n brawd,
Fe lwyddodd ef trwy waith di-flin ei hun i wneuthur ffawd.
Ychydig iawn sy'n cael y byd yn barod oll i'w derbyn,
Eu meusydd wedi eu hau i gyd heb wynt na llanw i'w herbyn;
Y plâs yn barod ar y fron, pob rhodfa deg o'i gwmpas
Mor llyfn, ac mor brydferth bron ag enfys yn ei urddas
O flaen y mwyrif mawr o'n hil a sernir gan yr "Uch Deng Mil;"
Gorwedda bywyd yn ei hyd
Fel tiroedd y gorllewin fyd,
Y gorwyllt dir a'r goedwig dywell
Ni ildiant ond i'r bâl a'r bwyell;
Diwylliad yw yr unig allu
A wna i anian ein diwallu,
Efelly bywyd yn ei hyd
Mae’n rhaid gwrteithio’r oriau i gyd,
Rhaid prynu amser, erw wiw,
Os mynnem gywain haf yn Nuw,
Heb flino fyth na llwfrhau
Mae’r oll i'w wneyd, mae’r oll i'w hau.
Wrth
syllu’n ol, o'i anrhydeddus safle,
Ar flwyddi’i oes, ni chenfydd unrhyw wagle,
Pob blwyddyn bell a chyfrif da i'w roddi,
Planhigion llafur ienctyd wedi tyfu
Yn gedrwydd hyf am weddill oes i'w noddi.
Y fath fwynhad yw syllu i orffennol
Sydd wedi darpar erbyn pob dyfodol!
Os cafodd Alpau beiddgar am ei luddio,
Fe’u cafodd oll yn unig idd eu dringo;
Os codai croes-for yn ei erbyn weithiau,
Ei benderfyniad godai’n uwch na’r tonnau,
Nis enwaf fi orchfygydd mil o gadau
Fyth yn yr unrhyw gân a Maeddwr Amgylchiadau.
Meistrolodd wyddor deg mordwyaeth bywyd,
A throai’i hwyl pan godai croeswynt enbyd,
I'w yfed oll i mewn, ac er arafu
Ai rhagddo radd nes i'r ystorm dawelu.
Am ennyd bach os methai fyned rhagddo
Gan wylltfor amgylchiadau yn gwrthlifo,
|
|
884
GWAITH ISLWYN.
Wrth angor gobaith nofiai'i long heb wyro
Mae hon yn awr yn Aber Tawe’n nofio
A myrdd o ysnodenau i'w haddurno,
A minnau ar y lan, fel bardd y teulu
Am yrfa lwyddol yn ymorfoleddu.
Pa le mae awen caredigrwydd cu?
O! doed ei hysbrydoliaeth arnaf fi!
Pe gwnawn eiriadur-enw cu,
Rhown garedigrwydd am dy enw di.
Mae’n brawd yn deall amcan mawr y nef
Wrth roi mor hael — ei roi drachefn mae ef.
O! nid yw Ior yn rhoi trysorau cun
I neb i'w doi i fyny iddo’i hun;
Mae’n rhoi i ddynion gyfoeth, fel y mae
Yn rhoi ei wlaw i'r cwmwl, i ddyfrhau
A gwneyd i'r blodau ganu; fel y rhydd
Oleuni yn yr haul, i greu y dydd.
Ein brawd sy ffynnon, heb na chlawr na chlo,
A groesaw i bawb yfed yn eu tro
Heb dalu dim — O! diolch dyn tylawd
Yw’r talu goreu erbyn boreu brawd.
Yr Arglwydd sy'n benthycia, ac fe ddyd
Ddigonol log, i fyw trwy fythol fyd.
Gwae'r dyn sy'n cloi rhag angeu ei drysorau,
Yr allwedd honno gloa'i enaid yntau
Yn nhywyll garchar tragwyddoldeb pell
A goleu byth ni ddaw i'w farnol gell.
Yr hael, wrth wisgo’r noeth yn Rhagfyr garw
Sy'n sicrhau Mehefin deg i farw.
Caredig
lyw i'w weithwyr yw, mae’n feistr, eto’n dad;
A'u gwobr lân am lunio’r gân sy rodd o fynwes rad.
Cydbletha
ef awdurdod gref a thyner gariad byw,
Ar unig wir ufudd-dod pur, hoff gynnyrch cariad yw.
Arddela'n
hŷ’r berthynas sy yn rhwymo pawb yn
un,
O! mae'r tylawd yn gystal brawd a'r ucha' ‘i Iwydd a'i lin.
Y GELYN.
MAE’r gelyn, clywch, yn dyfod
Fel llanw mawr ei nerth,
Rhowch, ddewrion, eich ysgwyddau
|
|
TALHAIARN.
885
Ynghyd fel creigiau certh,
I dorri nerth ei donnau
I rolio’r llanw draw —
Cydruthrwn i'w gyfarfod
Fel llewod ar bob llaw
I droi yn ol ei nerth.
Aed
rhywun at ei longau
I'w dodi oll ar dân
Fel na ddiango gelyn byth
O Gymru lonydd lân;
O, chwythed gwyntoedd ffafriol
Y wenfflam fawr a chref
Nes byddo’r tân yn berwi’r môr
A'r mwg yn toi y nef.
Dowch,
ddewrion, dowch i'w yrru
Yn ol i'r marwol draeth,
Chwareued mellt ar bob rhyw gledd,
Boed angau ar bob saeth;
O, gyrrwn hwynt i'r tonnau,
A rhown y dorf i gyd
Rhwng gwres y llongau’n llosgi
A phoethach gwres ein llid.
TALHAIARN.
Y MAEN hwn guddia mewn hedd — brofedig
Brif awdwr o Wynedd;
Ow! rifo bardd mor ryfedd,
Addfwynaf wr, i ddwfn fedd.
Ei barodlawn bêr hyawdledd, — a'i fyth
Gyfoethog arabedd,
A'i gân, gwyd ei ogonedd
A'i fawl byth uwch gafael bedd.
Talhaiam eto oleua — ei wlad
A'i lên ardderchoca;
Rhyw ail gof anfarwol ga
Gu eilydd, tra bo Gwalia.
|
|
886
GWAITH ISLWYN.
Y LLEN LEIDR
Y LLEN LEIDR— un llawn o lol,
Ow! eiddilyn meddyliol;
Ymhonnwr heb ddim enaid,
Ei enw byth yn fuan baid.
Duach yw lladrad awen,
Mwy anfad yw lladrad llên,
Mwy eonfawr, mwy ynfyd,
Na’r lladradau gau i gyd.
Bathedig aur, beth ydyw?
Eiddil beth ger meddwl byw.
Meddylddrych nefolwych fedd
Fry, hawl i anfarwoledd.
Pery hwn pan gwympo’r rhod
A’r llachar ser oll uchod.
Difai yw
lladron defaid,
A'r hwn a ddygo o raid,
With y dyn o ragrith dwl
A feiddio ddwyn diychfeddwl.
Un bach,
ysgafnach nag us,
Lwm enaid! mae fel manus.
Digonol dafol i'r dyn —
Prawf garw — fai rhwyd prif-goryn.
Mae fel
llwm gotwn heb gŵyr,
Eisiau enw heb synwyr.
Peth
enbyd yw gorfryd gau
I ddynyn fo heb ddoniau;
Dwyn y gamp — dyna i gyd —
Ac ennill am rwysc ennyd.
Dyn
eiddil heb adnoddau
Yw y dyn gwellt, adyn gau.
Erddyl
hen farddas arddun,
Fel ei waith nefol ei hun;
Ni all hwn ddwyn pennill heb
Ryw anaf ar ei wyneb,
Rhyw fyfyr, rhyw ffigyr ffol,
Gwael, o radd bongleryddoL
|
|
DECHREU
CANU. 837
A fynno fri ar gefn ei frawdd
Ddielir â thragwyddol-waw.
Ca wialen cywilydd,
A sarn llaid i feimiaid fydd.
Ni roddes natur bur i'w ben
Hanner ymenydd cylionen.
Hynny o
fri fo yn fy rhan
Fo yn fy enw fy hunan.
Rhedaf ar fy nhraed fy hun
Hyd balas urddas arddun,
A gonest heulog wyneb
Uwch dyled, niwed, i neb.
Mil gwell fydd dwy linell lân
Nag ofer gyfrol gyfan
Lawn o ffug yspeil-len ffol,
Hyll druanwaith lladronol.
Gwell gen i, gwell gan awen
Frath y neidr na'r enw Lleidr Llên.
Y CADEIRFARDD MARW.
URDDASAWL Gadeirfardd isod— huna
O fewn cyfamod,
Angylion sy yn ngwaelod
Ei oer fedd — mae deffro i fod.
Ymwelydd! Dyma olaf — arweddfa
'R addfwyn fardd tirionaf,
Dwyrea wedi hir auaf
I fro lon anfarwol haf.
DECHREU CANU.
GORFFWYSAIST lawer blwyddyn, f’awen gu,
A'th gerub-ben oblygaist ar dy blu
Gan bêr freuddwydio am y dyddiau fu.
Bu fywiog dy ieuenctyd, llawn o waith,
O! llawer tro y cymerasom daith
Yng ngherbyd y dychymyg, heibio'r byd,
Y lloer, a'r haul, a goleu'r ser i gyd.
Nyni a daflem ar ein gwib-daith wiw
Fwaog bontydd heirdd, o fyd i fyd.
|
|
838
GWAITH ISLWYN.
A rhodiem drostynt gydag hyfdra mad
I'r bydoedd sy o gwmpas tŷ ein
tad;
Ser mawrion godem, megys gemau glân,
I'w llon linynu ar y gynnar gân.
Gorffwysaist wedi hyn, fy awen wiw,
Wrth odreu tawel y dragwyddol riw
Sy'n rhedeg at y Tad — y rhiw y sydd
O’r nos yn cyrraedd i'r tragwyddol ddydd.
Ni ddaeth ond ambell odl dros dy fin,
Rhyw hanner effro a rhyw hanner hun,
Heb unrhyw ymdrech y blynyddoedd hyn.
Cod mwyach! y mae'r haul yn croesi'r bryn,
Diwrnod amser ar ei hanner sydd,—
Cod mwyach! Cyfod! mae yn ganol dydd.
Dwed, a
enillaist rywbeth yn dy faith
Orffwysfa? A oes ynnot ysbryd gwaith?
A dyfodd dy adenydd yn dy hun?
A ydynt hwy yn awr, fy awen gun,
Yn gryfion i ehedeg tua gwlad
Yr etholedig fendigedig had
A chroesi môr o oesoedd?
Dywed
im
A feddi di yn awr ddigonol rym
I ddal disgieirdeb ei dyngedfen ef
Yr angel-ddyn, cenadwr mawr y nef,
Elias! un o arwyr mwyaf Ior,
Y gŵr a dynai o drysorau'r môr
I lanw cwmwl lacob fel y cai
Moriah bêr a Charmel eu dyfrhau.
Cân idd y glwysaf arwr! awen, cân
I’r gŵr a dynnai'r bythol dwyfol dân
O nef y nef i lawr, ac yn y man
A aeth ei hun mewn dwyfol dân i’r lan.
ELIAS Y THESBIAD.
BWNC uthr! Ba awen a'i cân?
A oes dull esyd allan
Y rhyfedd fuchedd oedd fel
Rhawd engur rhyw brid angel?
|
|
ELIAS Y
THESBIAD. 839
Dod awen drylen am dro
O goneddus gân iddo,
Y gŵr wnai agor y nen,
A lywiodd anian lawen,
Deithiodd lygrol farwol fyd
Ag urddas heb ei gwrddyd,
Ac yn ei rwysg cyn hwyrhau
Draw a sengodd dros angau.
Elias oedd haul o sant
I’w genedl — ei ogoniant
A lleufer ei gymeriad
Oleuai fyrdd Israel fad.
Gwelid ef fel golau Duw
Mewn nos syn, mewn oes annuw.
Addas
oedd idd ei oes hell,
Oes duwiau gau, oes dywell,
Oes Ahab a Iesebel,
Ni fu oes yn fwy isel;
Dibrisid Duw a'i breswyl,
Dirfawr wae, a darfu’r ŵyl;
Darfu y gân, a'r dorf gynt
A mawl i Salem elynt;
Ac yn lle y canu llon,
Addolid lloi eiddilion;
Yn lle enw Duw,’r lloi yn Dan
A lwythid â mawl weithian.
Deddf Horeb ydoedd farwair,
Cloedig gauedig air.
Llyfr y ddeddf, lleferydd lon,
Ai'n waeth gan lwydni weithion.
Baal
oedd Dduw i'r bobl a ddaeth
O rwym isaf gormesiaeth —
O wlad yr Aifft, lu di-rif
Urddolwych, trwy fôr-ddylif.
Y gwir
Dduw a agorodd heol
Dra mawr eang drwy y môr rhuol
Rhag drygionus ddreigiau, drwy ei ganol
Y Ior a'u dygodd yn waredigol
I fyny o'r eigion dwfn rhwygol.
Iehofa o'i nerth roes afon wyrthiol
Bêr iawn i'w hyfed a bara nefol,
Ei gysegr eirian yn eu canol,
|
|
840
GWAITH ISLWYN.
Ei faner wen, a'i golofn arweiniol;
A ysgrifennodd ryw fodd rhyfeddol
Bur hoff athrawiaeth y berffaith reol,
Ei ddeddf lân yn y tân melltenol.
Hwynt hwy er hyn aent ar ol
Y ffieiddiwch anflyddol.
A thros y wlad glodadwy
Duwiau maen addolid mwy.
A Duw
Horeb o'r daran
Fry uwch byd wnai’u cyfarch ban —
Y Duw wnaeth y byd, yn ol
Dyfais ei gynllun dwyiol
Ac a'i hongiodd fel cangen
Las brydferth yn anterth nen.
Anfad ddirywiad
ar ol
Eu briedd glwys boreol!
Dybryd oedd gweld had Abram, — a'r halog
Ahab euog yn ffyrdd Ieroboam
Ddysgodd Israel, genel gu,
Heb achos, oll i bechu.
Ar
weision Duw, ar Seion daeth
Du egwyl erledigaeth;
Torrai ffrwd o ddigter ffrom,
Tros y tir torrai storom;
Iezebel o'r teyrnlys ban
Wnai ollwng ei chwn allan
Ar gywir broffwydi’r ffydd,
Defaid corlannau Dofydd —
I'w herlid hwy o’r wlad oedd
Yn hafal i fro'r nefoedd.
Nes
gwenau a naws gwanwyn
Pan drymaf gauaf a’i gwyn;
Hoff gan Ner yn nyfnder nos
Idd ei engyl ymddangos.
Elias
ddaeth o lys ei Dduw
I gwrdd â gelyn y gwir-Dduw;
Urddas oedd ar wedd y sant
Arwydd lon a'i ardduniant;
Fflamiai nefol dwyfol dân
Yn ei der lygaid eirian,
Wrth ei lef a'i nerthol wys,
Taranlef, crynai’r teyrnlys
|
|
ELIAS Y
THESBIAD. 841
Ior a lennodd ei foreuol hanes,
Arferion ei dirion febyd eres,
Cauodd o'r ddwyfol gyfrol y gofres
O'i gyn-dylwyth fel gweig enwau diles,
Mawreddog awgrym roddes — fod ei radd
Yn loew uwchradd i bob dynol lechres.
Nid enwir achau dynol — yn nhynged
Y dyn-angel nerthol,
Un roddir cyn hir yn ol
I fraich Naf ar feirch nefol.
Ion a'i dyg i fyny dan
Ei enwog nawdd ei hunan.
Deuai ar unwaith gan groch daranu,
A'r brenin fel deilen grm wnai grynu;
Ofer ei fyddin erfawr i faeddu
Y dychwelwr a aned i chwalu
Ei holl anuwiol allu — ac o lwch
Edifeirwch i gyflawn adferu
Y deg llwyth, fel digoll lu
I ogonol ail ganu
Yr Ner wnaeth eu hadferu — trwy’i gryfder
Tan ei faner o'r tonnau i fyny.
Y gŵr unigol gan wyrthiol nerthoedd,
Erfawr eneiniog, heriai frenhinoedd;
Ucheled a'i dynged oedd — ei allu,
A Duw i'w waredu'n bleidiwr ydoedd.
Ahab
ydoedd abwydyn — ger ei fron,
Mewn gwir fraw a dychryn
Am ei fai safai yn syn
Coronedig gam-adyn.
O gof
aeth ei drysorfa gyfoethog,
Ei ddaearol lwydd a'i swydd orseddog,
Ei holl lysoedd a'i fyddinoedd enwog,
Ei wron-aerwyr a'i goron eurog;
Oedd anuwiol ddyn euog — o flaen Duw
A'i enaid annuw’n terfysgu'n donnog.
Gwynepryd
synbryd y sant
Wnai gynneu gan ogoniant.
Gwelodd arwyddion golau
Y farn sicr fawr yn neshau.
|
|
842
GWAITH ISLWYN.
Ar heol fawr awyrol fyd — o bell
Gorbell, fe glywsai gerbyd
Y dwyfawl lid yn dyfod,
A lon dig i farn jm dod.
Yn enw ei Naf dyrchafodd
Ei fyg law, a'r nef a glodd.
Bron gu yr wybren gauwyd — a'r cwmwl
Drwy y camwedd rwymwyd
Ni fu laith y nef lwyd — adeg hirfaith
O bur effaith geiriau'r mawr broffwyd.
Agorion gwlybion y gwlaw
A roddodd ei Ior iddaw
Dihafal lid lehofah — gynyddodd,
A'r pla estynnodd drwy Palestina.
Yn ei broydd sychai beunydd
Yr afonydd araf yno,
Gerddi, dolydd, oll am newydd
Win-gafodydd yn gofidio.
A
tharawai aruthr huan — deifiol
Ar holl dyfiant Canan,
Y wlad hoff is barnol dân
Ai'n llesg oll, llosgai allan.
Y
llysiau i gyd oedd yn llosgedig
A bywyd yr hadau yn bydredig,
A'r fro odidog fal anial unig
Wywai gan anadl poethwynt gwenwynig.
A'r gwyrddwawr bren o'r gwraidd i'r brig — wywodd;
Duw a ergydiodd geinder y goedwig.
Ahab
welai gylch ei balas — wywder
Wawdiai rym ei deyrnas —
A'i erddi er ei urddas
Heb floen na gwlyb flewyn glas,
O wres
anaele y rhosyn olaf
Yn Saron orwech gauai'n syn-araf
Dan y barnol losgol haf — darfu ‘i wen
A'i wrid addien, llwyr wywai'r diweddaf.
Anian
glodd ei ffynhonnau— oddifewn
I ddu fyd y creigiau;
Llethodd sychder y bêr bau
Aniddan, am flynyddau.
|
|
ELIAS Y
THESBIAD. 843
Daear gan y sychder a agenai,
Y poethwynt tesog gorlidiog ledai
Ei adenydd, a'r goedwig a daniai
A'i hysawl lewyrch y nos oleuai
A'r afon olaf yn orfain elai,
A'i dafn olaf i'r môr dwfn wylai.
Deuai yn drist yn ei dro
Y gwanwyn prudd dan gwyno,
Heb gynnyrch, heb ogonedd.
Heb arwydd gwlaw na bwrdd gwledd;
Ar ei ol agorai haf
Newydd, ond heb gynhauaf!
Ac hir rwymid y cryman
Di-fudd uwch yr aelwyd fan.
Ond heb ei newid, Ahab anuwiol
A barhai'n ei gamwedd boreuol, —
A'i oferedd, — yn anedifeiriol;
Yr Ion ni addefai, a'i farn ddwyfol
A'i enfawr allu fu'n ofer hollol
I'w ddwyn ef ol ffyrdd yn ol, — mewn geulwydd
Byddar ynfydrwydd, beiddiai'r Anfeidrol.
Rhag
ei ffyrnig orddig gas
Ddu lywydd, ffodd Elias.
Ior oedd ei gyfarwyddwr,
Ei ran, ei darian. ai dŵr.
Gyda'i Dduw gadawodd ef
Yn ffyddiog ei hoff haddef;
Deuodd i anial diwen — cysgodog
Ger ydd enwog Iorddonen,
Man addas i ymnoddi —
Mewn heddwch mawr gerllaw'r lli,
Eurog fraint, ar garreg frith
Ei fainc gar afon Cerith —
Rhagorach yr oer garreg,
A hedd Duw, na gorsedd deg.
O'r afon
yno'r yfai,
A rhyfedd ddigonedd gai.
Greddfau
adar ysglyfgar ddifodwyd
A'u haruthr drachwant gan wyrth Ior drechwyd,
|
|
844
GWAITH ISLWYN.
Y cigfrain eu hunain a anfonwyd
Ar eu hadenydd — newyn ordeiniwyd
I weini, darbodi bwyd — yn ei flas,
Gan Dduw Elias eu gwŷn
ddilewyd.
Bu rhyfedd cael boreufwyd,
A phrydnawnol, faethol rwyd,
MeÌus, gan ednod milain, — rhoi pob cêd
O'u bodd — a myned heb ddim eu hunain.
RHOS IGOL, CAE'R FFYNNON.
CAE'R
FFYNNON is cu orffennedd— welaf
Fry ar ael siriolwedd;
Gwymp lys yw, gem, palas hedd,
A'i funau'n ddrych o fawredd.
Ardeb tlysineb swynol, — Eden lon
Dan lwyni rhamantol;
Ceinion o dyfion dwyfol
Filiynau ceir flaen ac ol.
Rhos-lwybrau grisiau grasol — uwch alaeth
I uchelion nefol,
Yw y gwych rodfaoedd gwawl
Geir i harddu'r gaer urddawl.
O, y drych o’i dŵr uchel
— ymegyr
Haedd edmygiad angel,
Huan draw drenga’n dawel,
Llyn gwaed y gorllewin gwel.
Rhos Igol, a roes egwan — awen
Hoen newydd dda gyfran,
I mi ar fy hynt dyma'r fan,
Dyma lonydd deml anian.
Yn
ei ddydd awenydd ddaeth — heibio hon,
Is baich o feirniadaeth;
A chaid llonyddwch odiaeth
O fore i nos, a'i fwrw wnaeth.
Yn ddiau mae'n hawdd i awen — ganu'n
Gynnes i . .
. .
Ser-wawl yw ei siriol wên — Ior roddo
Ras i lwyddo Rhos Igol addien.
|
|
Y
BEDDAU. 845
DOD ADRE O'R ODFA.
ANODDYFN is Waun Adda! — ochr annwn,
Ddychrynawl lithrigfa;
Ow sal dwli wedi Sul da,
Ow'r adfyd wedi'r odfa!
Y WYDDFA.
FRY'N y nef mor gartrefol — yr Wyddfa,
Mor addfwyn! Mor ddwyfol;
Geilw ni o'i gwawl yn ol
I dŷ’n Naf dan do nefol.
BARN BEIRDD PWLLHELI.
BERNAIS y beirdd heb wyrni, — a dios
Nis daw unrhyw gyfri;
Yn y farn nid ofnaf fi
Alaeth am feirdd Pwllheli.
Y BEDDAU.
PA le y mae doethineb, ble
Y mae ei thrigfan is y ne?
Ar derfyn byd, ar ymyl bedd,
Fan yma mae ei sobraf sedd.
A! enaid tlawd yw hwnnw sydd
Heb fedd o fewn holl goedwig ei adgofion prudd.
Rhoer
i mi annedd unig draw
Ar ael y bryn, a mynwent lawn gerllaw;
I fydoedd ereill, fy allweddau
A'm harweinyddion fydd y beddau.
Paham
yr ofnir bedd? Ochr goleu bywyd yw,
Lle mae y nef yn dechreu a dyn o ddifri'n byw,
Yr enaid mewn maintioli teg yn cychwyn ar ei stad.
Gan adael ysgol amser fyth a dychwel at ei dad.
Du
erchyll ydyw'r cerbyd, a'r ffordd, ystormus yw,
Ond pwy achwynai ar y ffordd sydd yn terfynu yn Nuw?
Ar ol croeslwybrau filoedd y mae y culfedd du
Yn llwyr grynhoi holl lwybrau dyn i mewn i'r Duwdod fry.
|
|
846
GWAITH ISLWYN.
MIS TACHWEDD.
MIS tuchan yw mis Tachwedd — mis niwloedd,
Mis anaele trymwedd;
Mis creulon, drosto'n dristedd,
Mis arch byd, mis erch y bedd.
ADEG ETHOLIAD.
DWYS yw'r olwg ar Disraeli — a'i griw,
Tra'r storm gref yn codi —
Rhy hen ei long i'r werin li,
Rhyfeddol, mae ar foddi.
Aiff
i'r dwfn, a phwy ar dir — a wyla
Eiliad, pan ei collir?
Y Fabilon hon cyn hir
Yn ngheufedd gwarth anghofir,
Gwaharddwyd
i'r deg Iwerddon — ei rhan,
Gan rwyg ei gelynion;
Ond gwawr rhyddhad gyrraedd hon— caiff forau
Ac oesau o lwydd cyson.
Yn awr
anfonwn wron, — un a fyn
Fod dan faner Gladstone,
Yr uchaf o'r uchafion
Gawn ar faes y ganrif hon.
O du
Bright a Right ar ol — hir huno
Taranwn yn nerthol,
A rhoddwn ein gŵr
haeddol
Heb un pall ar ben y pol.
YR YSGOL SUL
PAN
wasgaro'r wawr y tywyllwch mawr,
Pan fo'r haul a'i olau'n liawn,
Ac yn tynnu draw tua llinell naw
Awn yn llon tua'r ysgol — awn.
Yno'r ydym oll yn un
A'n calonnau yn gytun,
Ac yn yfed nefol rin
Yn yr Ysgol Sul;
Af yn llon tua’r Ysgol Sul.
|
|
SION WYN
O EIFION. 847
Yn y gauaf prudd pan y torro'r dydd,
Neu ar hyfryd forau haf,
Pan fo blodau fyrdd yn ymylu'r ffyrdd
Tua'r Ysgol Sul yr af.
Pan y delo dydd y nef,
Dydd yr Arglwydd ydyw ef.
Hyfryd gennyf ado tref
Am yr Ysgol Sul.
Yn
y dosbarth gwiw, O, mor hyfryd yw
Yn y weddi fore hon,
Ac yn ddiwahan y dyrchafwn gân
Ac ymdywallt wnawn mewn addoliad llawn,
Ein calonnau oll yn llon,
Yn y Beibl sanctaidd cawn
Ddysg a chyfarwyddyd llawn
Fodd i ieuanc fyw yn iawn;
Af i'r Ysgol Sul.
EVAN HARRIES.
HIRAETH sy yn mhyrth Seion— o gludo
Gwyliedydd mor ffyddlon
Ar y mur, i fro'r meirwon,
Mae yn saeth yn mynwes hon.
Seren ar wybren yr oes, — oedd eirian
Ar fedd-orwel einioes;
Heb ffael i'w disgleirdeb ffoes
I niwl gorllewin eiloes.
Ei fyw dân o nef dynnai; — ei frawddeg
Gwyfr oedd a dywysai
Nef-drydan, y dorf daniai,
Yn gorff mad o deimlad ai.
Caed
ystyr cu ei destyn — trwy ei ystun,
Trwy ei osteg arddun;
Ei law a'i ddifrifol lun
O'i ddirlith ydoedd ddarlun.
SION WYN O EIFION.
O! Seion-dannau awen Sion dyner,
Oedd nefol ogonedd hon fel Gwener
Yn serenu, a'r nos ar ei hanner;
|
|
848 GWAITH ISLWYN.
Hi roes bereidd-dod ar oes o brudd-der,
O’i nychdod mae fry'n uchder — engyl lon,
Sion Wyn o Eifion sy un o'u nifer.
ANFARWOL DDYN.
ANFARWOL ddyn! pwy fedr dy orchfygu,
Ymffryma'r môr o’th flaen, a gwnei i'r fellten blygu;
Nesha yr huan gyda'i deulu o fydoedd
I gyd i'th wydd, o uchelfannau'r nefoedd.
Daw'r lloer i lawr yn wylaidd o’i phalasau,
A dyd ei throed ar ymyl y cymylau,
A dengys it heb unrhyw gel ei hagwedd brudd a'i brychau.
Yr wyt yn lledu'th daflen ar yr huan,
Yn enwi y planedau o gylch, yn sangu ochrau anian,
Gan blymio'r eigion ser. Ffwrdd tua'r
nefoedd
Fel angel ei, gan agor dorau'r bydoedd.
Pan godi dy wialen tua'r nifwl,
Disgynna'r mellt fel rhaiadr dân o'r cwmwl
Yn ufudd wrth dy draed. Ac ar dy
awgrym
Amgylchant fôr a thir fel engyl cyflym
Fai'n llamu o'r cymylau i drosglwyddo
Dy feddwl hyd derfynau'r byd yn danllyd a diflino.
Ti wnai y tarth yn nerthol fel daeargryn,
Yr wyt yn tynnu'r tân o'r nef, yn codi'r ffrwd o'r dyffryn
Yn gynt na'r awel. Erfawr yw dy allu,
Anfarwol ddyn! Pwy fedr dy orchfygu?
HIR einioes lawn o rinwedd — i Miss Hughes
Am ei swyn a'i mwynedd;
Duw fo'n borth hyd fin ei bedd —
A nef Duw fo ei diwedd.
CYMHELLWYD fi i ddethol darnau byrion,
Ac felly aeth f’arwrgerdd yn ysgyrion.
Ac os oes beiau cofied yr holl graffwyr
Fod peth o'r bai yn perthyn i'r argraffwyr.
|
|
CLOD.
849
ISLWYN,
ODDIAR GARREG EI FEDD.
CLOD.
MOR felus i mi yw cyweirio fy nhelyn
Fu'n crogi ar helyg glyn angau mor hir,
I chwareu clod arwr nas adwaen un gelyn,
A'i enw fel seren yn uchel a phur.
Mae 'm tannau'n dyferu eu hodlau pereiddiaf
I D-- , ni raid im' eu cyffwrdd ymron,
Ni raid ond anadlu, daw'r odlau melusaf
I’w enw yn ol holl eneiniad Llwyn On.
Beth
glywaf? Pereiddiaf blethiadau y delyn,
Nid gordrwst y fagnel, nid tinciad y cledd;
Llon iaith meibion llafur, — olwynion Cwmfelin
Yn troi er mawlhad i gelfyddyd a hedd;
|
|
850
GWAITH ISLWYN
Os gwelaf y weddw, — nid gweddw y milwr, —
Ond gweddw y gweithiwr, caf D-- gerllaw
Yn sychu ei dagrau, yn noddi ei chyflwr,
A gwên ar ei wyneb, a rhodd yn ei law.
Mae tymor ar fôr pan na ŵyr yr
edrychydd
Ai llanw ai trai yn y pellder sy'n bod,
Ond ffy ei amheuaeth fel breuddwyd pan genfydd
Y rholiawg feilch donnau fel duwiau yn dod;
Bu adeg ar draeth pell ieuenctyd fy ngwron
Na wyddid ai aflwydd ai llwydd fyddai’i ran,
Ond heddyw mae'r llanw mor uchel, mor gyson,
Nas gallaf ond canu ei lwydd ar y lan.
Mae bechan afonig hyd ochrau Plumlumon
Yn llesg ddyferynu, mor eiddil ei sain
A dafnau mewn ogof, ond buan try'n afon,
A chwyddo yn fôr wna ei harian li main;
Ar lannau'r môr Hafren fe gipiodd fy ngwron
Ei hysbryd, a’r unrhyw fu ymchwydd ei ffawd,
A'r un ei wasanaeth — fel dwg y bur wendon
Y llong ar ei mynwes, dwg yntau y tlawd. –
Yr
hen afon Tawy furmurai drwy'r oesoedd,
Ar awen Omerawl adseiniai gerllaw,
Heb unwaith freuddwydio trwy'r cysglyd ganrifoedd
Fod eres oludoedd yn fyd aur islaw;
Dadlennydd y golud di-draul ymddanghosodd,
A'i fyddin wynebddu i'r dyfnder yr aeth,
Ar graig adamantaidd a'i durwch a dorrodd, —
Columbus y glofyd o'r diwedd a ddaeth.
Mae natur yn un trwy ei holl amrywiaethau,
Un corff a phob aelod yn gwneuthur ei ran;
Gweinydda y nant ar yr afon, a hithau
Weinydda ar drysor y môr yn y man;
Cyflenwa'r môr eilwaith holl reidiau y cwmwl,
Gwna'r cwmwl gydnabod â chafod dra chu, —
Fy arwr a fedd y cyffelyb ddrychfeddwl
Am undeb cyfalaf a llafur y llu.
O! nid oes golygfa mor hardd ar ddynoliaeth
A meistr a gweithwyr yn byw yn gytun;
Yr oll yn dangnefedd, a chadwen unoliaeth
Yn rhwymo buddiannau yr oll yn yr un;
|
|
CLOD 851
Y meistr
haelgalon, fel haul yn y canol,
A'i weithwyr o’i amffylch mewn trefn ddigoll,
Yn byw ar ddisgleirdeb ei wyneb tywynnol,
A goleu yr un yn oleuni i'r oll.
Os uchel
efe, nid yw hynny ond mantais
I weled ymhellach y tlodi islaw,
Nid uchder unigol hunanol uchelgais,
Ond uchder y cwmwl goludog ei wlaw;
Tra uchel yw tarddle y Nilus frashaol,
Tra uchel a phell yw cartrefle y gwlith, —
Po uchaf sefyllfa ein gwron dyngarol
Melusaf yw'r rhoddion sy'n disgyn i'n plith.
Teilyngdod
wobrwyir, a'm harwr eistedda
Mewn cadair lywyddol ym mwrdd ei hoff dref,
Ei swydd fel dinesydd a lonydd gyflawna
Ac nid oes rhagorach gwarcheidwad nag ef;
Ar lan dy Fôr Alarch, ti hen Abertawy,
Pa drefol lywyddfraint geir fel d’ eiddo di,
Lle bu fy mhrudd awen mor ieuanc yn canu
- Am rai sy mwy anwyl na mywyd i mi.
Y ddaear
sy'n gorff, ag amryfal wythenni
Drud, drwyddi yn rhedeg, — gwaed masnach y byd,
Mae ef yn eu hadwaen, fel meddyg uchelfri
Yn adwaen gwythenni'r corff dynol i gyd;
Lle union y globwll a wêl mewn munudyn
I reinio * y wythen sy flwyddi fyrdd oed,
Ac allan arllwysir rhyw gyfoeth diderfyn,
Byd newydd ddatguddir gan llath is ei droed
Mi
wela'r amddifad, pan ddel Sul y Blodau,
Yn rhodio yn araf at eglwys y plwy,
Mae'n gosod blodeuglwm yn arwydd o gariad
Ar fedd ei rhieni, a'i chalon yn ddwy;
O! nid oes ond un yn y nefoedd i'w noddi,
Sef ''Tad yr amddifad," â'i ddwyfol fraich gref,
Ac nid oes ond un ar y ddaear yn rhoddi
Per falm yn ei chlwyfau, a D-- yw ef.
Pe fyth
y dewisai archangel orchuddio
Ei danbaid ddisgleirdeb a mantell o gnawd,
Gwnai hynny er mwyn yr anrhydedd o wisgo
Y santaidd gymeriad, — diffynnwr y tlawd.
• To lance.
|
|
852
GWAITH ISLWYN.
O! rhoi yw y derbyn helaethaf o'r diwedd,
I Dduw mae y benthyg, fe dal yn ddilyth,
A D-- , fel angel, a a i ogonedd
Nef elusengarwch, ryw foreu o'n plith.
Mae
crefydd yn adwaen ei enw difrychni,
Ei ymdrech o'i phlaid sydd egniol a llwyr;
Ac fel ei gyfenw, agora'i ffenestri
Oll tua Chaersalem foreuddydd a hwyr;
Mae caethglud y codwm yn dychwel yn araf
Dros nos-fryniau amser, i Ganan y nef,
O! pan y cyrhaeddont yr oror bereiddiaf,
Ymhlith y rhes flaena o'r dyrf a boed ef.
DAVID BACH.
DAETH ysbryd pur i lawr o’r nef
A gwisgodd gnawd yn ysgafn len,
Fel gallai fynd yn ol i'r nen
O'r lle y daethai e£
O! teneu
oedd y llen o glai,
Fel plyg o niwl, fel meddwl bron,
Fel cysgod cwmwl ar y don, —
Diosgodd ni, — mor hawdd, mor glau
Wrth
edrych ar ei lwybyr pur,
Mae fel pe hedasai angel gwyn
Dros wyneb teg rhyw freuddwyd-lyn
Ar bleser daith o'r dwyfol dir.
Beth
ydoedd? Tlysni teg y wawr
Beth ydoedd? Hanfod rhos y byd,
A pheraroglau’r gerddi i gyd
Yn pasio ennyd awr.
O ddynol
eos! Pam mor fwyn
Y cenaist ti yn nos y byd, —
O pam mor bêr i dewi cyd!
Ai breuddwyd oedd yr oll, ai swyn?
Daeth
ysbryd pur o'r ser i lawr,
Ac yn ein brys galwasom ef
Yn David Bach, — ac yn y nef
Hwn yw, i ni, ei enw'n awr.
|
|
GORMES
CYFALAF. 853
Nis gwyddom beth yw'r enw cu
Sydd gan angylion arno ef
Yn awr yng ngwynfyd pur y nef, —
Ond David Bach fydd byth i ni.
Pan yn y fro dragwyddol iach,
Y cwrddom ef, tu hwnt i'r bedd,
Er mor ogonawl fydd ei wedd, —
Ac er y bydd yn ddwyfol ddyn
At fesur oedran Crist ei hun, —
Cyfarchwn ef fel "David Bach."
GWRTHRYFEL LLAFUR.
HYLL ellyll y Sefyll Allan,— a fu
Yn farn byd pedryfan;
Uthr rwygai’r gweithiwr egwan,
Ysai y bwth a'r plas ban.
Claddai
‘i ewin yn y werin
Yn dra gerwin, didrugaredd;
Anedwyddwch oedd ei elwch,
A'i hyfrydwch mewn difrodedd.
Uthr oedd gweled y werin lethedig
Dan ergydion ei lid yn rhwygedig,
Ei gawraidd allu megis gordd hyllig
Yn dyrnu ydoedd eu llu darniedig,
Ymlonnai’n dra mileinig, — gan fwynhau
Eu prudd gwyniadau, aethau adwythig.
Yn ei
urddlym osgorddlu
Caed newyn a dychryn du, —
Llwm, welw-wyn newyn euog, — a'i chwerwerch
Arwydd, — dynol benglog,
Baner o frawder i'w fri
Ag arni lun esgyrnog.
Pwy dan
nef all wrthsefyll
Ynni a nerth newyn hyll?
Ysguba, — nid oes gobaith, —
Y mwya’i rwysg â’i lym raith.
Haws troi y llanw distrywiol,
Hyrddio nerth y Werydd yn ol.
GORMES CYFALAF.
RHYW deyrn erch ar aur dron oedd
Cyfalaf, — drygai filoedd.
|
|
854
GWAITH ISLWYN.
DOL. ♦
YN ein tir pa destun teg
Mal ceisio canmol caseg?
Griffiths yw y gŵr a
hoffaf,
Ei Ddol a'i gig yn ddiail gaf.
O! pwy, mwy, geir yn un man
Ail y gŵr o Gilgeran?
Acw ar daith fe gurai Dol
Niferi'r Derby anfarwol.
Blin enw fai Blaenannerch,
Diles im', heb Dol a'i serch.
Aberporth o'i chynhorthwy
Sy fythol ddymunol mwy.
Ac mor rwydd cymerai hi
Y gain awen i Geinewi!
Y lle ochrog od Llechryd,
Heb hon, fai allan o’r byd.
Rhyw dun o flaenor doniol
Plufyn oedd y dyn i Dol;
A dirfawr bwys cadeirfardd
Oedd ail us i Ddoli hardd.
Haeddai Dol feirdd i’w dilyn
Arwyr glew'r Gwrhay a'r Glyn.
Teilynga Dol ddi-lol lân, — ar fy ngwir,
Hoff awdl hir, a phedolau arian.
Y mae Dol,’nol f'amod i
Yn werth diolch, wrth dewi.
DARGANFYDDIAD GLO.
FE gollwyd y wythien
Am ugain mlynedd faith,
Yn sydyn troes y glo yn graig,
A’r glowr adref aeth;
Fe aeth a'i arfau gweithio
Oll adref gydag e,
Am ugain mlwydd ni chlywyd swn
Ei fandrel yn y lle.
A
daroganai llawer
O wŷr dysgedig iawn
♦ Yr oedd lslwyn ar
daith yng Ngheredigion jn casglu at gapel; Mr. W. Griffiths, Rock, yn
“gyfaill;" ac yng ngherbyd Mr. Griffiths y teithient.
|
|
PRIODAS
GWILYM TEILO. 855
Fod y wythien wedi mynd
I ebargofiont llawn,
Ac nad oedd dim o flaen y plwy,
Dim mwy, ond llosgi mawn.
Ond
Gethin fawr ei gyfoeth,
A Dafydd fawr ei ddawn,
A aethant obry ar ei hol
'Mhen ugain mlynedd llawn;
Er gwaetha’r gau broffwydi
A'r mân fasnachwyr oll,
Fe aed drwy galon gref y graig
Ar ol y wythien goll.
Edrycha
pob gau broffwyd
Yn awr mor hurt a llo,
Wrth glywed fod y creigiau
Oll wedi troi yn lo.
Hir oes
i Gethin enwog,
Canmolwn ef i gyd,
Mae ganddo gyfoeth dirfawr
Ac anturiaethus fryd,
Ei galon sydd mor eang
A'i etifeddiaeth fawr,
Al benderfyniad fel y graig
Y cloddiwyd trwyddi i lawr.
Nis gẁyr pa beth yw ildio
I rwystrau nac i draul;
Rhy uchel yw i wrando
Ar ddaroganwyr gwael;
Buasai’n archu cloddio
I lawr nes dod i ma's
Yn Neau Cymru Newydd,
Tu hwnt i'r ddaear las.
PRIODAS GWILYM TEILO.
HIR einioes drylawn o riniau — i'r par
A'r puraf ragorau;
A gwlawied nef ei chedau,
Foreu a hwyr, i'w llwyr wellhau.
|
|
856
GWAITH ISLWYN.
Yr anwyl aur-awenau — i'w mwyniant
Ddyhidlant hedd-odlau,
Llu y nef fo'n eu llonhau
Ar dyner dyner dannau.
Byw yn dda, byw yn dduwiol — y byddoch
Hyd y bedd, byw'n fuddiol,
A chyd fyw, a byw heb ol
Du fwriad edifeiriol.
Ond da fwriad 'difeirwch — am bechod
Yn mhob achos, cofiwch;
Am ei fod ymofidiwch,
Iawn yw y lle — yn y llwch.
Y mae
eisiau ymosod — i wneyd da
Yn ein dydd byr isod;
Mae'n frau iawn, mae'n fyr hynod,
O gwnewch ei ddiwygio'n nod.
CARTREF.
Y GORAF le i'w garu,
Delw o'r nef yw'm cartref cu.
Mae im' dân a mam dyner,
Mae yno byth im hoen bêr,
A gwên ddi-ffug yn nydd ffawd
A'r unffurf yn awr anffawd.
Ni cheir brad yn chwerwi bron
Neu gilwg dan un galon,
Ond calon wrth galon gu,
Wedd lon, yn ymddolennu.
I glefyd
enbyd od af
Yno, ni ddigalonnaf.
Mam gariadus serchus sy
Angyles ger fy ngwely.
Drwy nos hir druenus, hon
A'm gwylia o dwym galon.
Myn ddal fy mhen eiddilaf
I'r lan, pan yn egwan af.
A chariad fy chwiorydd
Ffyddlawn yn gysurlawn sydd.
|
|
CARTREF.
857
Od a y morwr diwyd
O'i wlad bêr, ca weld y byd,
Amrywion gwylltion a gwar,
A gwel ynysoedd gwylar; *
Afonydd gwychaf anian
A'u gro o aur gloewawr glân,
Heirdd goed y rhudd gyhydedd
Resau ar eu hochrau hedd,
Fforestydd o balmwydd beilch,
Ac erfawr fryniau gorfeilch;
Ar falmwynt adar filmyrdd
Llawn o fawl, a'u lliwiau’n fyrdd;
Gemliw nos, digwmwl nen
Odiaeth, fel oedd uwch Eden, —
Ei bennaf fyfyr beunydd
Er hyn am ei fwthyn fydd;
A nodwydd anewidiol
Ei galon union, yn ol
Bwyntia tua'r lle tawel,
I'r trofan eirian pan el.
O dre y bardd am dro bum,
Ar foethus yrfa aethum,
I fwynhau pell barthau’r byd
A mynnu hoen am ennyd;
Eto siomiant dwys imi
A fu’r holl ddaearol fri;
Môr y ddinas, myrddiynau,
Mawredd oedd yn fy mhruddhau;
Hiraethais, gelwais i go
Fy anwyl gartref yno.
Yr hen barth, er olrhain byd,
Yw diddadl nyth dedwyddyd.
Fy annedd dan hedd fy Naf
Sy gu ar hirnos gauaf.
Mor glyd mewn mawr galedi
Trwm, oer, yw cartre i mi!
Yr hwyr yn ngoleu’r eira
Y plant wareuant â’r ia,
Neu syllant i'w llesiant llon
Trwy'r ffenestr ar y Ffynnon,
Ceir hon i gyd fel cywrain gawg,
Nefol degan, neu flodeugawg.
* Coral.
|
|
858
GWAITH ISLWYN.
A cheir
hwyl gylch yr aelwyd,
Ein hunawl gufawl a gwyd
I Naf o galon ufudd
Am radau a doniau'r dydd.
Ac i
lawr os daw'r hen dŷ
Yn ddybryd gamedd obry,
Af i weled adfeilion
Muriau y lle fu mor llon,
Wylaf uwch yr olaf faen
Ac af â hi fel cof-faen.
Sia'r nant wrth ser y nef
Yn adrist am f’ hen adref.
Hyfrydwch fydd cofio'r adeg
Min ein nant hon mewn henaint teg.
Mor
ddedwydd fy mreuddwydion
Mewn henaint am ein nant hon,
A'r werddaf len a'r ardd flydd
O flaen y drigfa lonydd!
Ac y dderwen hen honno
Oedd du cefn (hawdded y co!)
Balch o'i chryfder, refder oedd
Yn asur — balch o'i hoesoedd!
Boed
mawryd y byd i'r bon,
Boed alaf i'r bydolion,
Boed lloniant byd i'w llenwi;
Tra fo mam, cartref i mi!
PRIODAS. *
RHAGLUNIAETH ni roi galonnau— deuddyn
Dan ddedwyddach rhwymau;
Yn ein tir ni unwyd dau
Mwy unedig mewn nodau.
Doed
mwyniant, llwyddiant bob llaw, — yn y daith,
Bendithion fo'n gwlawiaw;
Pob argoel drwg, pob perygl draw,
Drwy'u heinioes, hyd awr hunaw!
Ac wedi
bywyd cydwedd, — a dydd hir,
Aed y ddau hygarwedd
Fry i lawn anfarwol hedd,
Nef dawel lon fo'u diwedd.
*
Y Parch. D. Davies, Glyn Nedd, â Miss Mary Daniels, Llanelli.
|
|
YSTOROM
FELLT. 859
YSTOROM FELLT.
EDRYCHAF allan yng ngoleuni'r mellt,
Mae'r wybr yn goch, a’r holl gymylau ar dân.
Gwel! mae'n tywyllu eto; tywyll yw
Fel bru anobaith. Nid oes seren draw
Yn gwawrio o ddyfnderoedd nef, er fod
Milfiliwn yno. Eilwaith mae y mellt
Yn cynneu llygorn yr ystorom fry
Ar oriel y cymylau, nes yw'r nef
O agwedd fel rhyw blaned goch a fai
Yn fflamio heibio'n byd, ac yn y fan
Ar derfyn y greadigaeth. — O pa gri?
Ust! pa wylofus lef sy'n codi i'r lan
Yn athrist gyda'r awel? Ofer im
Glustfeinio, mae y daran ar ei thraeth
A'i thwrf yn llanw'r nefoedd fel pa bai
Rhyw seren fawr mewn tymhestl yn neshau,
A'i hechel hir yn cochi hyd ei bron
Ar dorri yn ei chanol. Blin a maith
Yw rhu'r taranau ar uchloriau'r cwmwl,
A chwyd eu hadsain fel taranau eilwaith
O'r ogof wag a chafn mawr y fro.
Mae'r gwyntoedd bellach yn rhuthro trwy y glyn,
A'r goedwig fawr yn plygu o'u blaen, a'r neint
Yn rhuo dan eu fflangell, a'r mynyddoedd
Yn ymgynghori ar risiau y cymylau.
Gan godi eu breichiau tua'r nef, a thyngu
Na syflant o'r uchelion hyd y dydd
Y saif y lloer, y ddaear fawr, a'r ser
Ar derfyn eithaf amser. Ffwrdd yr ant,
Trwy'r eang drân, fel lleng-gor o daranau
Ar edyn anweledig. O, na chawn
Osteg i wrando yr alaethus gwyn
Sydd yn mwyneiddio'r awel ar ei thaith
I fyny i'r mynyddoedd. Car i
mi,
Feallai, yw, neu frawd yn chwilio o gylch
Am dŷ ei dad a'r mannau hoff lle gynt
Chwareuem gyda'r awel a'r wenynen.
Mae'r dymhestl wedi'i ddal! nid hon yw'r gyntaf,
Boreu ystormus gadd, a chodai gwawr
Ein bywyd dan gymylau fel y rhai
Sy'n awr yn toi y nef. Ym min yr hwyr
Fe holai am ei geraint, nid oedd neb
Yn adwaen ei wynepryd; holi wnai
|
|
860
GWAITH ISLWYN.
Am helynt rhyw gyfeillion anwyl gynt —
'Roedd wedi pasio'u bedd. Ust! nid yw
hon
Awr i freuddwydio. Mae gwrthrychau serch
Yn agos i'r galarus, 'er eu bod
Tu hwnt i'r môr, tu hwynt i angau rai!
Draw
chwydda y Dafwys ei mynwes fel môr;
Mae yr Hafren a'i thonnau
Yn croesi y glannau
A Mynwy yn brysio i atal y ddor,
A gwae a farchogo eu dyfroedd yn awr,
Clyw! taflant y llongau
Fel gro ar y creigiau,
A fforest o fadau
A thraflwnc aruthrol yfant i lawr,
A chodant y llynges sy'n britho eu bron
I ganol y dymhestl ar warthaf y don.
Fry syrth yr hwylbrenni
Fel tyrau i'r weilgi,
Y llynges odidog, diflanna! diflanna
I'r eigion mor esmwyth a chawod o eira.
YR ANDES.
TYRD, tyrd i fyny i'r bryniau; yno mae
Llif ysbrydoliaeth natur yn dyfnhau,
Ac yn llydanu tua'r moroedd ser
Sy'n tonni fyth gan anadliadau Ner.
O natur! caf dy wersi uchaf di
Yng ngenau'r gwyntoedd pell a'r dymhestl hy
I fyny ar y bryniau, ac uwchben
Brynfraich uchela'r ddaear, yn y nen
Lle mae rhyw anfeidrolder o ororau
O'n blaen yn agor ei ardderchog ddorau,
Gan ddangos uchder nad all dim o ddyn
Ei feiddio ond dychymyg, a'r gallu hwnnw ei hun
Heb ludd daearol wrth ei aden gain,
Yn bur, yn noeth, a'r beiddgar ynddo ymdaen.
Y gwyntoedd clyw fel diluw mawr o sain
Yn codi dros y byd; a'r bryniau pell, o flaen
Holl osgordd amser a'r daearol bethau,
Yn esgyn trwyddynt, trwy'r cyfryngol nennau,
Gan edrych i'r dyfodol a'r uthr anfeidrolderau.
Ar ben y bryniau, byd-leihaol uchder,
Teyrnasa natur yn ei garwaf wychder;
|
|
YR
ANDES. 861
Ei rhyfethwyol
ddyfroedd yn llifeirio
Heb feidrol law a gallu i'w llesteirio;
Y gwynt yn codi fel rhyw fôr awyrol,
A'r nef yn symud ar eu chwydd pybyrol.
Ddiderfyn
fawreddogrwydd! Pwy all rodio
Byd-gaerau natur, pwy eu hanner ddringo,
Lle rhed y bryniau a'r cymylau llwydion
I'w gilydd mwy, fel arfyd o freuddwydion,
A'th drumau di, Peru, yn chwyddo a chwyddo eilwaith,
Fel daear-ddringion llydain ar eu seilwaith?
Mae natur yma yn ymado â'r byd,
Yn tynnu ei rhwysg i mewn i'r nef i gyd.
Ddyn gorfalch, dos, a dilyn hi i'w bannau,
Chwareua ar ei huch-ddaearol dannau,
Sy'n ymdeneuo i fyny i'r ysbrydol —
Hanner y ffordd dy lygad hyf ymleinw â gwaed bywydol
Ymhell o fewn y ddaear, ac oddiarni
Lle nad yw dyn a marwol droed yn sarnu,
Y mae gan natur gysegredig fannau
A cheidw hi i'r ysbryd-fyd rai o'i santeiddiaf dannau.
Fel pe bai tragwyddoldeb wedi syllu
Un waith i lawr, a gado i dywyllu
Y tir a'r môr ei gysgod goranferthol —
Canfyddwn hwy mor gedyrn a holl-nerthol
Yn hongian ac yn hongian hyd y nefoedd,
Gan redeg mewn mawrhydri gwyllt bytholwyllt i'r pellafoedd,
Taen natur yma fawrion wastadeddau,
A rhyngddynt tyr ddyffrynnoedd fel byd-feddau.
Crog ei
byrdd-dir a'i helyntoedd
Fel cymylfyd yn y gwyntoedd,
Lle mae'r storm ai harswydoldeb
Bellach yn eu tragwyddoldeb.
Oddiar y
gwastadeddau
Saf y bryniau tua’r nefoedd,
Ac uthroldeb, fel bodoldeb,
Yn ymlunio yn eu gweddau.
Hanner
daear, hanner nef,
Chimborazo! Pwy all edrych arno ef?
Uchel ac ofnadwy yw,
Oddiar y torfoedd bryniau,
Yn ymgodi megys Duw,
A'i amnefoedd yn dyfnhau,
A'i gysegroedd niwl am dano fyth yng nghau.
|
|
862
GWAITH ISLWYN.
Fryniau! fryniau! arnoch chwi,
Ar eich bannau nef-orsafol
Mae y nerthoedd byd-ddyrchafol
A ddiffoddwyd pan y rhoddwyd y llywodraeth oll i ni;
Arnoch chwi
Fry! fryl
Mae eu marwol lid yn ffreuo,
A'u caos-lampau'n ailoleuo;
Y galluoedd nad yw'r byd
A'i holl luniau o fôr a bryniau,
Onid lledrith yn eu llid,
Yr ystormydd caethiwedig
Sydd o danom yn rhwymedig,
Tan fyd-glawr o gyfandiroedd,
Daear-furiau, diwawr foroedd,
A'r taranau tan-ddaearol,
Trwy ysgydwad oll-ysgarol,
Gyfnewidiant wedd y byd,
Gan roi iddo newydd luniau
Newydd foroedd, newydd fryniau,
A newyddaf gant i gyd, —
Fryniau! fryniau! caf eu twrdd
Yn ymruthro i'r lan i'ch conau,
Fel mewn genau yn cydgwrdd.
Engyrth
ysbryd caos sy
Yn anadlu trwoch fry;
A phan yn ei lid y rhuo, y mae nefoedd canol dydd
Fel a barnol wyll yn duo, a lanterni ar y bryniau'n symud sydd,
Oddiar yr ufelfaoedd, cyfyd o'r byd-ddyfnder cudd
Fryniau fflamiol tua'r nefoedd,
Fel gwylfaoedd dychrynadwy, byd-weladwy,
Y tymhestlog olaf ddydd.
TAWELU’R YSTORM.
Diogelwch y saint.
FE allai'r moroedd lanw'r nef
A'r bryniau lanw'r môr;
Ymblygai'r wig ei hun yn arch
I ufuddolion Ior.
Daw'r fflam hyd at dy rwymau, sant,
Fe lysg dy garchar pridd
Lawr hyd y bedd — ti lami o'r fflam
Yn angel nerthol rhydd.
|
|
tawelu'r ystorm. 863
Cydymdeimlad anian adeg ystorm y Croeshoeliad.
A chauai dorau tân y dydd
Mewn trawiad ar bob tu,
A thros yr haul fe daflai'r nos
Ei mantell erfawr ddu.
Cydymollyngai lwynau'r byd,
A gwywai gwreiddiau'r graig,
A dygai'r awel fwyn o bell
Ddyfnion ruddfannau'r aig.
Dyferodd
dafn brwd o'i waed
I'r ddaear — crynodd hon,
Fel pe buasai planed fawr
Yn taro i mewn i'w bron.
A chrynodd nes i'r marw blin
Ddeffroi yn nyfnder angau'i hun.
Gruddfannau'r
ddaear dorrent ffwrdd
O greigiau fil yng nghyd,
A theimlai'r nefoedd hyd yr haul,
A gwywai'r ser i gyd;
Ac ar ei orsedd wylai'r dydd
Am feddrod o gymylau prudd.
A braidd na chodai'r huan
Ar fore'r trydydd dydd
Yn gynt, o awydd gweled
A chael yr Iesu'n rhydd.
O, hawddgar oedd y borau!
Fe wisgai'r nef yn awr
Ei hardderchocaf liwiau
A'i mantell aml wawr.
Ac
ysbryd mawr y Storom
Gadwynai'r gwyntoedd hy,
A gwenai ngwaith ar y byd
O gwmwl disglaer fry.
Oedd!
anian yn adnabod Ior
A'i wyneb oll yn waed,
A phan yn codi i'r lan, a’r bedd
Yn plygu dan ei draed.
|
|
864
GWAITH ISLWYN.
Tawelu'r Storm.
Mil
henffych, henffych it, y Storom hy,
Yn holl arfogaeth yr elfennau fry;
Er codi o'r dyffrynnoedd ar dy lef,
Fel aruthr feddau i amgau y nef;
Er i fynyddoedd o gymylau draw
Oddiar eu gilydd grugio yn dy law,
Ac ymgolofni hwnt fel beddfaen byd;
Draw er i'r ser ymlechu rhag dy lid;
Er rhwymo'r byd â gwregys o daranau,
A throi y môr, y môr bob dafn, yn donnau,
Nid ofnaf di, O natur, yn dy nerth,
Er parthu'r moroedd i'th olwynion certh;
Edrychaf tua'r nef, mae acw un
Fu yn y Storm, fu ar y don ei hun.
Trymhai
y dydd tua'r nawn-gysgodfaoedd,
A rhoddai i'r nos deyrnwialen y nefoedd;
A'r nos acw daflai ei hugan-gymylau
Am ganol y nef fel mantell o feddau;
A ffordd fawr y ser a chaddug ordoai,
A'u lluoedd ysblenydd i ddyffryn o niwloedd arweiniai.
Draw,
draw, ymeofnai y dymhestl hy,
A'r tonnau ymdaflent i'r llong o bob tu,
Fel bleiddiaid ollyngid o ffauau y dyfnder,
A chollai y morwyr bob gobaith a hyder,
O amgylch eu hathraw ymgasglent yn brudd
A'r dagrau a'r don yn eneinio eu grudd,
A chlywid eu lleisiau uwchlaw yr holl dwrdd,
"O, athraw, dihuna, mae'r môr ar y bwrdd,"
Dihunodd yng nghanol y Storom ysblenydd,
A'r tonnau yn gwlychu ei unig obennydd.
Yr oedd
ei wyneb oll yn wenau dwyfol!
Edrychodd ar y don wlychasai'i droed —
Wylodd ei hun i'r môr. Sibrydodd air
Yng nghlyw y Storom — un o eiriau Duw—
A daeth y lloer i'r golwg fal o fedd
Yn dyner ac yn deg, a'i lluoedd ser
Orchuddient waen y nef ar uchel drefn,
A bu dawelwch mawr.
GWRECSAM: ARGRAFFWYD GAN HUGHES A’I FAB, 56, HEOL ESTYN.
|
|
|
|
|