kimkat0338k Priodi

r Plant. Beriah Gwynfe Evans. 1898. "Mrs Griffiths," myntwn i fel na, "rown in dod hibo i gael sharad gair bach a chi am danyn nhw yn Tynywern."

04-11-2017


● kimkat0001 Yr Hafan www.kimkat.org
● ● kimkat2001k Y Fynedfa Gymraeg www.kimkat.org/amryw/1_gwefan/gwefan_arweinlen_2001k.htm
● ● ● kimkat0960k Mynegai ir testunau Cymraeg yn y wefan hon www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_mynegai_0960k.htm
● ● ● ● kimkat0331k
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion-prys_priodi-r-plant_1898_cyfeirddalen_0331k.htm
● ● ● ● ● kimkat0338k Y tudalen hwn


 

0003g_delw_baneri_cymru_catalonia_050111
(delw 0003j)

 

 

 

 

 

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Gal
les i Catalunya
The Wales-Catalonia Website

Cywaith Sin Prys - Testunau Cymraeg ar y We
 
Priodir Plant

Beriah Gwynfe Evans
(Papur Pawb. 1898)


Y Llyfr Ymwelwyr / El Llibre de Visitants / The Guestbook:
http://pub5.bravenet.com/guestbook/391211408/



a-7000_kimkat1356k

Beth syn newydd yn y wefan hon?


---

6665_map_cymru_catalonia_llanffynhonwen_chirbury_070404

(delw 6665)

 

PENNOD I. - DAFYDD A FINNAU.

PENNOD II. - DAFYDD A MADLEN, Y FORWYN.

PENNOD III. - MRS GRIFFITHS, TANYBRYN.

PENNOD IV. - LESN FACH I DAFYDD.

PENNOD V. - POLLY, Y FERCH-YN-NGHYFRAITH.

PENNOD VI. - HUGHES, Y SHOP, Y MAB-YN-NGHYFRAITH.

PENNOD VII. - Y PARLWR GOREU AR JACED NEWYDD.

PENNOD VIII. - YN TANYBRYN.

 

 

 


None
(delwedd B0896a)

(Papur Pawb. 29 Ionawr 1898). Pennod I.

PRIODIR PLANT:
sef FFWDAN MAM-YN-NGHYFRAITH

PENNOD I. - DAFYDD A FINNAU.

Rw in credu nad oes un dosparth o bobol yn fyw ar y ddaear wedi cael mwy o gam oddiar ddwylaw pawb na dosparth y Fam-yn-Nghyfraith. O leia, dyna nghred a mhrofiad i, a fe ddylswn i wbod, wath rw in fam-yn-nghyfraith yn hunan i ddwy o ferched ac i dri o fechgyn, ac yn dishgwl cael bod yn fam-yn-nghyfraith i ddou arall, cyn bo hir iawn. Ac fel y gwedes i, fe ddylswn i wbod, a phan fydda i wedi gweyd yr hanes i gyd wrthoch chi, chi fyddwch chithaun gwbod gystal a finnau.

 

Wel, nawr, fel gallwch chi wbod shwd mae pethaun bod, gadewch i fi weyd wrtho chi i ddechreu mai fi yw gwraig Cwmllydan. Chi wyddoch am Gwmllydan, wrth gwrs, - un or ffermydd gore rhwng Llandeilo a Chaerfyrddin. Ac er taw fi syn ei weyd e, chewch chi ddim pertach gwartheg, na gwell lloced o loi, na glanach llaethdy, na mwy o fleth yn ol yr herwydd, na gwell borded o dwrcis a gwyddau ar y farchnad Yndolig, nag a gewch chi yn Nghwmllydan - a waeth gen i pwy fydd yn ei wbod e. A allwch chi ddim cyrhaedd y marc yna heb gael tipyn bach o brofiad.

 

Rw in fam i bump or merched smarta, glana welws ych llyged chi erioed - a mae pawb yn gweyd eu bod nhw i gyd yn tynu ar ol eu mam.

 

Maer merched yna run spit a chi, Mrs Williams, mynte Neli, Wil y saer, wrtho i bore heddy diwetha, pan own in rhoi tipyn o flawd ceirch iddi gydar tamed tshain mochyn, maer merched run spit a chi, Mrs Williams, mynte hi fel na, a maer bechgyn cas nhw wedi bod yn lwcus, dyna w in glywed pawb yn weyd.

 

A fe ddylse Neli, Wil y saer, wbod, waeth mae hin clywed cymaint o glecs a neb yn y plwyf am wn i.

 

Mae tair on merched i wedi priodi. Dyna Jane yn Lletyr Ywen, wedi priodi John, mab y Tyddyn, a ffarm fach nobl gyda nhw - wrth y mod in edrych tipyn ar eu hol nhw nawr ag yn y man.

 

Mae Loran briod a shopwr yn Abertawe. Fe fysen dda gen i taw nin nes ati fel gallswn i fynd iw gweld hin amlach, waeth o ran dim w in weld fe fysen dda iddi hi, ac yn enwedig iw gwr, Mr Hughes, pe bawn in fwy cyfleus i roi gair o gynghor iddyn nhw weithiau.

 

Dyna Kate, wedyn, yn briod a doctor ar bwys Caerfyrddin. Fe geso i lawer o drafferth gyda Kate, fel cewch chi wbod yto.

 

Mae Tomos, y mab hena, yn Tanywern, yn briod a Siwsan, Tanybryn - merch fach brion yn i ffordd, tae hin cael llonydd gan i mam, Mrs Griffis, Tanybryn, ond, wrth gwrs, ddim ffit i ddala canwll at un on merched i, fel y gwyr pawb syn u nhabod nhw.

 

Mae Edward, yr ail fab, wedi agor siop yn Llanelli, a phe bai gydag e wraig fysen gwbod y ffordd i wneud y goreu o bobpeth fei gnese hin brion. Ond - ond fe gewch wbod yto.

 

 

 


None
(delwedd B0896b)

(Papur Pawb. 29 Ionawr 1898). Pennod 1.

Ac maen aros gatre yto Sally a Florrie, ond fe fyse nhw wedi mynd onibai fod genty nhw fam, syn cadw llygad ar eu hol nhw. Wel, chi welwch fel ny fod gen i hawl i weyd rhywbeth am drafferthion mam-yn-nghyfreth. Ond chi synech mor lleied o gydymdeimlad w in gael gan Dafydd yma - y gwr, chi wyddoch.

 

Rown in son am y pethau hyn wrtho fe neithiwr, a beth y chin feddwl wnaeth e? Wherthin am y mhen i. A dyma fin gweyd wrtho fe: -

 

Ie, ie, chi ellwch chi wherthin, myntwn i, ond credwch chi fi ne bido, nid chware plant yw u codi nhw, a llai na hyny o whare plant yw u priodi nhw, a llai na hyny wedyn yw edrych ar u hole nhw ar ol priodi!

 

Beth wedsoch chi, Dafydd? Maer job fwya geso chi oedd cadwn merched ni rhag priodi? Ie, ie, mae hynyn eitha gwir mewn un ystyr. Ond mae gwahaniaeth rhwng priodi a phriodi, fel sy rhwng buwch a buwch. Digon rhwydd yw i chi gael ryw short o fuwch ar ben ffair; peth arall yw cael buwch dda, flethog, yn shiwr o fwrw llo yn ei hamser, a phobpeth yn nobl amboutu hi. Ie, ie, dynar job, Dafi bach, cael buwch i siwto welwch chi. A dyna lle bur job i ninnau gydar merched yma, cael bechgyn i siwto nhw.

 

Beth wedsoch chi, Dafydd? Gallsem ni adael ir merched siwtou hunain yn nobl! Gallem, mynte! A ble bysen nhw nawr, wish, a shwd byse hi arnyn nhw!

Fe fynsoch chi, Dafydd, gael eich ffordd gyda Tomos, a dishgwlwch shwd mae hi arno fe! Dyna chi fargen gas e, ontefe nawr! Dyna chi ferch-yn-nghyfreth fach neis sy gyda chi, ond taw e? A dyna chi fam-yn-nghyfreth sy gyda Tomos, ontefe nawr!

 

Beth wedsoch chi, Dafydd? Lodes fach nobl yw Siwsan, gwraig Tomos? Ie, mynta, yn ych golwg chi. Lot wyddoch chi am y peth! Tae chi wedi bod yno gyment a fi, ac yn gwbod gyment ag a wn i, fe fyse gyda chi stori arall fentra i! Ac am i mam hi! Y mowredd anwyl! Dyn helpo Tomos druan! Diolch ir Mowredd fod gan bob un sydd wedi priodi merch i fi fam-yn-nghyfreth syn gofalu tipyn mwy am gysur ei merch ai mab-yn-nghyfreth nag yw mam-yn-nghyfreth Tomos druan yn ofalu am ei gysur e a Siwsan.

 

Beth wedsoch chi, Dafydd? Fod Mrs Griffis ynon ddigon mynych? Odi mynta; rhy fynych lawer yn ol y meddwl i. Tae hin gofalu tipyn mwy am ei fferm i hunan gartre yn Tanybryn, a busnesau tipyn llai yn Tynywern gyda Tomos a Siwsan, fe fysen well i bawb, debygwn i. Ond dyna! allwch chi ddim tyfu cyrn ar dda moelon, na dodi synwyr yn mhenau rhai pobol. Pwy fusnes sy gyda hi, wish, yn Tynywern o gwbwl?

 

Beth wedsoch chi, Dafydd? Ei merch hi yw Siwsan? Ie, wrth gwrs. Fe wn i hyny gystal a chithe. Fe fysen dda gen i tae chi Dafin gallu rhoi rhyw newydd i ddyn weithiau. Ie, wrth gwrs, merch Mrs Griffis yw Siwsan. Ond beth am hyny? Y machgen inau yw Tomos, a mae gen i hawl i edrych ar ol y machgen yn hunan, gwlei! Ond wfft i Mrs Griffis fod yn rhaid iddi hi fusnesa o hyd ac o hyd tua Tynywern.

 

Beth wedsoch chi, Dafydd? Fod yn dda

 

 

 


None
(delwedd B0896c)

(Papur Pawb. 29 Ionawr 1898). Pennod 1.

bod hin busnesa weithiau? Oh, ie, dyna chi Dafydd ir dim! Pawb yn well nach gwraig chich hunan! A beth wnaeth Mrs Griffis wish? Rhoi buwch i Siwsan yn ller un drigws ar y clofers yr wthnos ddiwetha! Hawdd gallse hi, wir! Digon bach o waddol rows hi gyda Siwsan, druan a hi! Fe allse rhoi hanner dwsen o wartheg cyn byse hin gneud fyny am y diffyg yn stafell Siwsan, poor thing. Mae trueni ar y nghalon i am Siwsan lawer pryd, a dyna un pam w in mynd yno mor amal. Ond pwy fusnes sy gyda Mrs Griffis yno dw i ddim yn gwbod.

 

Beth wedsoch chi, Dafydd? Ble bues ir prydnawn yma? Wel, os oes rhaid i chi gael gwbod, fe fues yn Lletyr Ywen yn gweld Jane. Fe allse dyn feddwl wrth ych clywed chin gweyd, nag os dim lle i fi fynd i weld y merch yn hunan! Mowredd anwyl! Pwy y chin feddwl else i gweld hi ond ei mam? A lwcus i fi fynd hefyd, credwch chi fi! Roedd gwraig y Tyddyn, wedi bod yno bore heddy a wedi perswado John i fynd ar gaseg froc ir ffair Clyngaua iw gwerthu. Amswynwch, John bach! myntwn i, Fe fyddwch yn gwneud peth ffol ymbeidus os gwnewch chi hyny. A fe wedes wrthi nhw pam. A doedd gan John, druan, ddim byd gwell i weyd na bod i fam yn meddwl mai dyna fyse oreu iddo. Wfft iti! myntwn i, ti a dy fam! Os rhaid iti gael dy glymu wrth ffedog dy fam o hyd? A gwedwch chi pwy fusnes oedd gan wraig y Tyddyn i fynd i Letyr Ywen o gwbwl!

 

Beth wedsoch chi, Dafydd? Mam-yn-nghyfreth Jane yw gwraig y Tyddyn? Dyna chi yto! Pam na wedwch chi rywbeth weithiau nag w in wbod? Ie, wrth gwrs, mam-yn-nghyfraith Jane yw gwraig y Tyddyn. Ond beth am hyny? Ond taw mam Jane w innau? A mae mam yn nes na mam-yn-nghyfraith, gwlei! Ond un rhyfedd i chi, Dafydd! Weles i neb mor dwp a chi erioed! Does dim posib ffysto peth ich pen chi! Fel pe bai gan wraig y Tyddyn, am fod John yn fab iddi, well hawl i weyd wrthyn nhw yn Lletyr Ywen beth sydd oreu iddyn nhw wneud na sy gen i, an merch yn hunan yn wraig Lletyr Ywen! Mae gan Jane achos diolch fod genty hi fam syn meddwl tipyn mwy am ei chysur hi nag yw ei thad!

 

Ond dyna chin gwmws shwd un yw Dafydd ni, welwch chi! Mae e fel ta fen credu y gneser plant yn nobl hebddw i, ac am wn i nag yw e mor ddwl a chredu weithe y gnelsen nhwn well taw ni ddim yn mynd yn agos iddyn nhw, - os clyws dyn shwd beth eriod! Maer Mowredd yn i wbod e, dyw e ddim proffit yn y byd i fi i fynd i halar amser ar eu hol nhw - ond beth arall alla i neud? Dim ond un fam sy gan y mhlant i, a fydd hono ddim gyda nhwn hir os na chaiff hi dipyn bach fwy o gydymdeimlad gatre nag rw in gael nawr gan Dafydd, gan ta pun!

 

Ond fel y gwedes i, maer tipyn ple yna yr un nosweth yna yn dangos i chi mor lleied mae Dafydd yn gydymdeimlo an ffwdan gydar plant. A phan bydda i wedi diben ir stori i gyd, fe gewch weld dylswn i gael rhywbeth gydag e heblaw gneud spri am y mhen i am mod in trio edrych ar eu hol nhw tra bydda ir ochor yma.

 

(Iw barhau.)

 

 


None
(delwedd B0897a)

(Papur Pawb. 05 Chwefror 1898). Pennod 2

PRIODIR PLANT:
sef FFWDAN MAM-YN-NGHYFRAITH

(Hawlysgrif yr Awdwr.)

PENNOD II. - DAFYDD A MADLEN, Y FORWYN.

 

Ry chin gallu deall rhywbeth fath ddyn yw Dafydd ni orwth y sharad wedes i yn y bennod ddiwetha odd wedi bod rhyngto nin dour nosweth hyny. Fel gallech chi weld, mae Dafydd yn un od iawn. Fe fysen fach gydag e, os gwelwch yn dda, i meio i, fel gwelsoch chi, am mod in mynd i Letyr Ywen, at Jane y merch, i roi gair o gynghor withe i John; ac yn y meio i wedyn am y mod i yn gweyd wrth Tomos, y mab, syn byw yn Tynywern, am bido grondo gomrodd ar Mrs Griffis, Tanybryn. Mae Mrs Griffis, welwch chi, am fod Siwsan, ei merch hi, wedi cael priodi Tomos ni, yn credu fod gyda hi hawl i fynd i sweian faint fyn hi tua Tynywern. Ond gan bwyll, merch i, myntwn i wrthw in hunan, dim o dy sweian di tra bydd mam Tomos byw, ta beth.

 

Rwyn credu, o brysur calon, onibai fi, y byse Mrs Griffis yn rheoli yn Tynywern fel mae hi gatre yn Tanybryn. Mor ddigwyddil mae rhai pobol!

 

Mae Tomos ni, fel i dad yn union, heb fawr asgwrn cefn i sefyll dros i reits. A serch bod Dafydd yn ddyn nobl iawn, mae en ofnadwy o anghyson a fei hunan ambell waith.

 

Ond mae rhyw fan gwan yndo ni i gyd, welwch chi, a maer goreu yn ei cholli hi withe. A gwendid Dafydd ni - heblaw tipyn o ddiffyg plwc ac asgwrn cefen weithe pan fydd ishe - yw diffyg cysondeb.

 

Nawr, rho i ddim diolch am neb os na fydd en gyson a fei hunan. Rown in arfer gweyd hyny wrth y plant pan oe nhw gatre stil. Cofiwch, mhlant i, wedswn i wrthyn nhw, byddwch yn gyson a chich hunen ta beth fo. Peidiwch gweyd un peth heddy, a gneud peth arall foru. Cofiwch am yr hen ffeiriad hyny oedd yn pregethu dirwest dydd Sul, ac yn meddwin garn ddydd Llun. Doedd dim llawer o fendith ar bregeth hwnw. A phan aeth rhywun i weyd wrtho, fe dylse fe neud ei hunan beth oedd en bregethu i bobol erill, dyna wedws e, O! mynte fe, gnewch chi fel bydda in gweud, a chi fyddwch yn reit eich gwala. Ond ry chin gweld, roedd en anghyson a fei hunan, a felny dodd en cael dim effaith ar y bobol. Pidwch chi bod fel rhen ffeirad hyny, da mhlant i.

 

Wel, os gwedes i hyny shwrne, fei gwedes e gant o withe rwyn siwr wrth y plant gatre yn nghlyw Dafydd. Ac a gweyd y gwir wrtho chi, rown i withen siarad ar llidiart er mwyn ir post gael clywed; gweyd wrth y plant, welwch chi, fel gallse Dafydd ni ddeall: ond wedir cwbwl nath e ddim llawer o les i Dafydd.

 

Nawr, maen gas gan y nghalon i glywed neb yn canmol ei hunan. Rw i wedi sylwi - a dyna brawf i chi fod gen i lygid yn y mhen, a fe fysen dda gen i tae Dafydd ni yn sylwi cymaint ag w i - rw i wedi sylwi mai nid y iar syn clochdar ucha syn dodwy fwyaf cyson. I fi gael dangos i chi nawr. Mae yna hen slaben o iar fawr goesog ar y ei clos yna, chi clywch hi ambell fore yn cloch-

 

 

 

 


None
(delwedd B0897b)

(Papur Pawb. 05 Chwefror 1898). Pennod 2.

dar dros yr holl le.

 

Gy-gy-gy-gy-gy-gy-co!

Gy-gy-gy-gy-gy-gy-co!

Gy-gy-gy-gy-gy-gy-co!

 

A dyna lle bydd hi, ai gy-gy-co yn ddigon ich byddaru chi, a gneud i chi feddwl jest iawn mai hi syn dodwy pob wy yn y sgubor, ar dowlod a walplat y stabal, a chwbwl! Ond tae chin mynd i edrych yn ei nyth hi, chi gesech hen damed bach o wy dim mwy na marblen, a ddodwiff hi ddim dou ddwsen o weithe yn y flwyddyn! Ond mae yna hen damed fach o iar fach ddu, gyda chlustiau gwynion, dyw hi fawr mwy nach dwrn chi i gyd, ac nag yw hi ddim yn clochdar ond rhyw unwaith neu ddwy fach ar ol dodwy, syn dodwy jest round ir flwyddyn, ac mae gyda hi wyau mawr jest digon o bryd i ddyn. Rw i wedi meddwl lawer gwaith am y ddwy iar, a rw in gweyd wrth Dafydd weithe:

Dafydd, myntwn i.

 

Nan? mynte fe.

 

Wyddoch chi, Dafydd, rw in meddwl lawer gwaith mod i fel y iar fach ddu yna. Dyw hin clochdar dim llawer, ond does dim gwell giar fach na hi ar y clos i gyd; ond am yr hen bishyn lwyd yco syn clochdar digon i dynuch clustiau chi, dyw hi ddim gwerth i chadw!

 

A fe fydd Dafydd yn hwerthin, ar plant yn hwerthin gydag e. Mae nhwn deall yn nobl mod in gweyd y gwir.

 

Diolch ir mowredd, mistres, mynte Madlen, y forwyn fwya, diolch ir mowredd mistres nag y chi ddim yn clochdar fel yr iar lwyd, ond gneud eich gwaith yn ddishtaw fel y iar fach ddu.

 

Mae hyd yn nod y gwasanaethynon, welwch chi, yn deall a gwerthfawrogi mishtres dda. Rown in synu, hefyd, i glywed Madlen yn gweyd fel nar bore hyny, wath cyn brecwast rown i wedi bod ar ei hol hi, ac yn i rowso hin biwr am rywbeth oedd hi wedi adel heb i wneyd tuar llaethdy. Ond rw in gweyd stil, os bydd mishtres yn fishtres, ac uwch law pobpeth os bydd y fishtres bob amser yn gyson, mae hin shiwr o gael parch gan y gwasnaethynon.

 

Ond dyna ddiffyg Dafydd ni, wedyn, yw diffyg cysondeb. Fe gochws hyd ei ddou clust pan glyws e Madlen yn gweyd felna, ar peth cynta naeth e ar ol brecwast oedd mynd ar ol Madlen ir llaethdy, a gweyd wrthi - fei clywes e an nghluste yn hunan.

 

Madlen, mynte fe os clywa i chi byth ond hyny yn paso remarks ar eich mishtres fel gnetho chi ar frecwast bore heddy, chi gewch fadel o Gwmllydan y diwarnod hyny.

 

A maes ag e, fel bollt, a hibo i fi heb y ngweld i, waeth rown in digwydd bod y tu ol ir caws list.

 

Ac i fi gael bod yn blaen a gonest a chi yn y mater, rown i wedi gweld Dafydd yn gwneyd arwydd ar Madlen i fynd tuar llaethdy pan godws e orwth y ford amser brecwast.

 

Nawr, dw i ddim yn un ddrwgdybus, ond fe wn hefyd y fath rhai ffalst yw merched. A mae Madlen yn lodes smart jolly ymbeidus, a digon o gaish am deni. A rywffordd neu giddyl, does dim ods nawr shwd y buodd hi, fe glywes i ryw sharad rhwng Gutor gwas a Lisar ail forwyn, oedd yn awgrymu fod gan Dafydd, os gwelwch yn dda, olwg ar Madlen. Wrth gwrs, fe wyddwn in nobl na allse fod dim byd yn hyny; rwyn nabod Dafydd yn rhy dda o lawer, er na fyse gen

 

 

 



None
(delwedd B0897c)

(Papur Pawb. 05 Chwefror 1898). Pennod 2.

 

i ddim llawer o dryst i Madlen nac i un ferch arall o forwn o ran hyny, tae hin meddwl y gallse hi gael ei ffordd gydai mishtir. Ond fe gynhyrfes i drwyddwy pan glywes i Guto a Lisar ail forwn, a dyna pam etho i i rowso Madlen am y llaethdy, ac nid am fod rhyw lawer o niwed yn y gwaith oedd heb ei wneud yno. Ond rown i am ddangos iddi pwy oedd ben, ac nag oedd dim llawer o iws iddi hi drio hware tricsis yn Nghwmllydan tra fyswn i byw, ta beth.

 

Ry chin deall nawr shwd rown in synu amser brecwast i glywed Madlen yn talu compliment felny i fi. Ond naeth hyny ddim ond yn nhueddu i i fod yn fwy drwgdybus pan ddales i Dafydd yn mynd shar llaethdy, ac yn gwneyd moshwn ar Madlen i ddilyn e. A beth netho i, ond whiw a fi miwn ir gegin fach, ac wrth gefen y caws list fan ny i gael gweld a chlywed beth oedd yn mynd yn mlaen. Dos dim ond trwch palish, welwch chi, rhwng y gegin fach ar llaethdy, a fel maen digwydd mae yno dwll bach yn y palish fan ny - fi gnath e o ran hyny fel gallswn i weld yn ddishtaw bach beth oedd y merched yn wneud yn y llaethdy pan nag oe nhwn meddwl y mod in gwbod. Maen dda i fishtres i gadw llygad ar ol y merched. Fe weles i ferch yn tynu gwyneb padell, ac yn yfed ei hanner e un tro - ond fe ga i amser i weyd am hyny a phethe erill tebyg i hyny yto. Ond gweyd am Dafydd a Madlen yn y llaethdy yw ngwaith i ar hyn o bryd.

 

Rown i an llygad wrth y twll yn y palish jest gyda bod Madlen wedi dilyn ei mishtir miwn ir llaethdy. A dyna wedws e wrthir peth cynta, fel rw i wedi gweyd wrtho chi.

 

Madlen, mynte fe, os clywa i chi byth ond hyny yn paso remarks ar eich mishtres fel gnetho chi ar freijwast gyne, chi gewch fadel o Gwmllydan y diwarnod hyny!

 

A maes ag e fel bollt heb y ngweld i wrth gefen y caws list.

 

Maen hin too bad o Dafydd, hefyd, ei fod en anfolon ir gwasanaethynon y nghanmol i lle clywse fe. Ond dyna shwd un yw Dafydd, welwch chi. Anghyson yn un peth, anghyson yn mhobpeth. Am dana i, rw in lico bod yn gyson, a dyna pam etho i i miwn at Madlen ir llaethdy wedi iddi mishtir fynd maes. A dyna ller oedd hi, a chornel ei ffedog yn ei llygad, ac yn esgus tynu hufen llaeth.

 

Fe saces i swllt yn ei dwrn hi, a fe wedes wrthi: Dyna rhywbeth i chi gael fferings yn Llandeilo, Madlen, myntwn i. Rw in lico dangos mod in deall pan fo gwasnaethynon yn parchu ei mishtres. A maes a fi.

 

A fe allswn gymryd yn llw i fi glywed Madlen yn gweyd, Poor ffelo o mishtir! pan own in ceuad drws y llaethdy ar yn hol.

 

Rwyn gweyd y pethe hyn er mwyn i chi gael gweld nag oes dim ofon arna i ddangos beth ywn man gwan i. Os oes gwendid yndw i - ond diolch ir mowredd, does dim llawer - dyna beth yw, calon rhy dyner. Dw i ddim yn un gas, dw i ddim yn un ddrwgdybus, does dim llawer o gleber yn perthyn i fi, ac uwchlaw pobpeth, dw i nemor byth yn canmol yn hunan, a rw in treio bod yn gyson yn mhobpeth. Ond rw in galon dyner, a. dynar gwir.

 

(Iw barhau.)

 

 

None

(delwedd B0898a)

(Papur Pawb. 12 Chwefror 1898). Pennod 3.

PRIODIR PLANT:
sef FFWDAN MAM-YN-NGHYFRAITH

(Hawlysgrif yr Awdwr.)

 

PENNOD III. - MRS GRIFFITHS, TANYBRYN.

 

Sharad own i am gysondeb, ond taw e? Ond fel aeth y stori yn nghylch Dafydd ni a Modlen, y forwyn fwya, ar peth om meddwl i. Rw in lico mynd a stori i ben ar ol ei dechreu hi, welwch chi. Dw i ddim fel Dafydd ni, er engraipht. Fe ddechreuith Dafydd stori, a fe gadewith hi ar i hanner i fynd ar ol ryw stori arall welwch chi, a ddibenith e ddim o hono wedyn, a wyddoch chi yn y byd mowr ble byddwch chi yn y diwedd.

 

Rw in gweyd wrtho fen amal iawn.

 

Dafydd, myntwn i wrtho fe, Dafydd pan bo chin mhoilyd dy chi ddim yn gade] y gwys ar i hanner, a throi penaur ceffylau a blaen yr arad ar groes ir rhychiau, a bant a chi dyn a wyr ble. Nid dyna shwd mae mhoilyd, ond mynd ar gwys i ben y talar, wrth gwrs. A dyna shwd dylse chi neud gyda stori ar ol dechreu ei gweyd hi, a dyna shwd dylsech chi neud gyda phethau erill hefyd. Ar ol dechreu gyda rhywbeth, mynd ag e ir pen neu ddim. Fyddwch chi byth yn gyson heb hyny, a rho i ddim diolch am neb os na fydd en gyson.

 

Dyna shwd bydda in gweyd wrth Dafydd nin amal iawn. Ond chydig o eifaith rwyn gael arno fe rwyn ofni. Rw i wedi gweyd, I a gweyd, a gweyd, nes rw i wedi blino gweyd ond gwasgu i glust mae Dafydd yn wneud drwyr cwbwl, ar un peth dronoth ag oedd e cyn hyny. Gwyr daioni mae en ddigon i dori calon un dyn i feddwl am drio diwygio tipyn bach arno Ond fel rown in gweyd, cysondeb ywr peth mawr, ac am gysondeb own in sharad pan ddath stori Dafydd a Madlen, y forwn, mown. Dw i ddim yn credu fod dim byd yn stori Guto, a Lisar ail forwn, yn nghylch fod gan Dafydd olwg ar Madlen, hyny yw, wrth gwrs, dim meddwl na ddylse fod gan fishtir da am lodes o forwn dda, w in feddwl.

 

Lodes smart ymbeidus yw Madlen hefyd, - dim ffit, maen eitha gwir, i ddala canwyll at un o ferched Cwmllydan, welwch chi. Mae rheini i gyd, fel clywsoch chi Neli Wil Saer yn gweyd, yn tyngu eu mam bob un, er nag w i ddim yn gweld fod un ohonyn nhwn gwmws run peth ag own i yn ei hoedran hi. Dyna Jane, y ferch hena, mae ei gwallt hi yn debyg anghyffredin i beth oedd y ngwallt i yn ei hoedran hi. Rwyn cofio nobl fel byse hi ddoe ddwetha dipyn cyn i fi briodi, mod in arfer synur merched yn Plasbach - ffarm nhad a mam, chi wyddoch - wrth dynu ngwallt lawr a gadel iddo fe gwmpo dros yn ysgwyddau tu ol i fi, rown in gallu eistedd arno fe ar y stol o dana i. Pidwch a meddwl wrth hyny mod in falch o ngwallt, welwch chi. Na, diolch ir Mowredd, dos dim balchder yn perthyn i fi, ond y balchder o fod yn gallu talun ffordd, a bod y rhent gyda Dafydd yn barod bob hanner blwyddyn pan

 

 

 

 

 

None

(delwedd B0898b)

(Papur Pawb. 12 Chwefror 1898). Pennod 3.

 

ddaw galw. Fyse fe ddim, chwaith, onibai mod in gwbod y ffordd yma. Na, down i ddim yn falch o ngwallt; roedd en fwy o boendod i fi na dim byd arall, yn enwedig yn y tywydd twym, tuar cynhaua gwair ar cynhaua llafur. Peth syn mwrno dyn yn ofnadwy yw pwysau mawr o wallt pryd hyny, nenwedig os daw en rhydd, a dod yn bwysau ar eich gwar chi, neu rywbeth felny. Wel, mae gwallt Jane yn debycach i ngwallt i nag un or merched erill-er nag w i ddim yn credu fod e cweit mor hir a ngwallt i chwaith.

 

Dyna Lora wedyn, dannedd man glan, fel dwy res o berlau gwynon, rhwng dwy wefus goch, goch fel ceiros. Maen ddigon o sight i chi weld dannedd Lora, nenwedig pan fydd hin gwenu. Ac mae gyda hir wen fwyaf swynol welsoch chi gan neb erioed rwyn shiwr o hyny - yn gymws fel rown i cyn i fi briodi, a fel rwy yto o ran hyny. Ond os dim o ddannedd a gwen Lora gan Jane, na gwallt Jane gan Lora; roedd y ddou gan eu mam yn ei hamser.

 

A felny am y merched erill i gyd, mae pob un yn tynu ar yn ol i mewn rhywbeth neu gilydd, ond dim un ohonyn nhw run peth a fi yn mhobpeth chwaith. A fel rown in gweyd, er fod Madlen yn lodes smart ymbeidus, dyw hi ddim ffit i ddala canwyll wrth ochor un o ferched Cwmllydan wedir cwbwl. Ac heblaw hyny, fe wyddwn in eitha da, wedi clywed Dafydd yn rhoir fath drimfa i Madlen, yn y liaethdy, pan own in edrych arnyn nhw trwyr twll hyny yn y palish heb i bod nhwn gwbod, fe wyddwn in eitha da, pryd hyny, ta pun, taw nonsens i gyd oedd Guto a Lisan sharad pan glywes i nhwr tro hyny.

 

Ond fel rown in gweyd wrtho chi, does dim cysondeb yn Dafydd ni. Allwch chi ddim bod yn shiwr cewch chi e fory, lle cesoch chi e ddoe, neu heddy o ran hyny. Rwyn cofion nobl shwd roedd e pan oe nin caru. Roedd en: dwlin deg arna i, welwch chi, ond roedd yno ferch arall, Elen Davis, Glynmawr, bron dwli am dano yntau. Roedd rhai yn gweyd mai lodes smart iawn oedd Elen Davis; ond a gweyd y gwir, weles i ddim byd smart yndy erioed, ond ei thafod, roedd hwnwn mynd fel rhod ddwr neu bwll tro, nag oedd dim diwedd i gael arno fe. I chi gael deall, Mrs Griffiths, Tanybryn, mam Siwsan, syn briod a Tomos, y mab hena i, yw Elen Davis Elen Davis, Glynmawr, oedd hi slawer dydd; Mrs Griffiths, Tanybryn, os gwelwch yn dda, yw hi nawr - a mae hin gwbod hynyn nobl hefyd, ac yn gofalu dangos bob cyfle geiff hi, ei bod hin gwbod hefyd. Ond dyw hi ddim yn dangos llawer oi chwafars pan bydda in gweld ac yn clywed. Mae hin gwybod gwell na hyny hefyd, waeth mae hin gwbod mod in cofio am yr amser pan oedd hin Elen Davis, Glynmawr, a finnaun Jane Morgan, Plasbach.

 

Rown in nabod i dolur hi pryd hynyn nobl. Meddwl cael gafael yn nghwt Dafydd Jones, mab Cwmllydan, oedd hi, a meddwl cael sacoi hunan mewn i Gwmllydan. Dynar gwir am dani yw hyna.

 

A roedd i thrico hi i drio cael gafael yn Dafydd pryd hynyn gwilyddus. Pan byse fen mynd a llafur ir felin, fe fyse hin shiwr o fod ar y clos rhywle, waeth roedd

 

 

 


None
(delwedd B0898c)

(Papur Pawb. 12 Chwefror 1898). Pennod 3

yr hewl agosa o Gwmllydan ir felin, chi wyddoch, yn paso trwy glos Glynmawr, ond doedd dim o hynyn ddigon o reswm dros i Elen fugeila Dafydd yn paso drwyr clos. A run peth wedyn pan byse fen mynd or cwrdd nosweth waith, fe fyse Elen yn shiwr o fod yn y cwrdd y nosweth hyny, ac yn trioi gore ar ol dod maes i dori ple ag e rywffordd neu giddyl, nes oedd arna i gwiddyl am dani. Rwyn cofion nobl, un nos Fercher, rown i a rhyw ferched erill yn dod lawr or ty cwrdd hyd at ben y groesffordd, a roedd Dafydd yn sefyll fan ny, yn dishgwl am dana i. Nawr tae chin cymryd y tro ar y llaw hwith, dynar ffordd tuan ty ni, Plasbach, chi wyddoch, ond tae chin troi ar y llaw dde, dynar ffordd agosa tua Glynmawr.

 

Roedd Elen rhyw ddeg llath falle om mlaen i, a phan welws hi Dafydd yn sefyll fan ny, dyma hi ato fe, os gwelwch yn dda, ac yn esgus fod gyda hi neges barticular iawn ag e, ac yn ei dynu fe gyda hi ar hyd yr hewl tua Glynmawr.

 

Dymar merched erill yn pwtian i giddyl ac yn pwffan hwerthin.

 

Dyna ti wedi colli Dai, Cwmllydan, heno, Jane fach, mynte un ohonyn nhw.

 

Paid a chamsyned, merch i, myntwn innau. Rwyn mynd hibor felin. Good night, ferched.

 

A bant a fi ar ol Dafydd a Elen.

 

Halo Miss Davis! myntwn i, pan ddetho i atyn nhw. Chi sydd yna? Down i ddim yn ych nabod chi ar y cynta.

 

A dyma fin miwn iddi ple nhwch dou bob cam hyd glos Glynmawr. Down i ddim mynd i adael i Elen gael gafael yn Dafydd felny chwaith, fel cas hi wybod gen i wedi hyny. Ond i feddwl am impidens y ferch yn citcho yn mraich y bachgen fanny ar ben y groesffordd ai lusgo fe gyda hi tuar Glynmawr Chymerswn i ddim mor byd am wneud peth fel ny.

 

Wedi cyrhaedd clos Glynmawr, down i ddim am roi siawns i Dafydd i aros yno ar yn ol i.

 

Ody chin dod, Dafydd, myntwn i. Good night, Miss Davis. nin doun mynd, a fe gitshes yn ei fraich e, a bant a ni.

 

A tae chin gweld gwyneb Elen, Glynmawr, pryd hyny! Roedd en ddigon o sight i weld e.

 

Ond dyna ddangos i chi shwd un oedd Mrs Griffiths, mam Siwsan, gwraig Tomos ni, pan oedd hin ferch ifenc, a mor rhwydd ei droi oedd Dafydd ni, a chi allwch ddeall felny pam rw in gweyd mai diffyg cysondeb yw gwendid mawr Dafydd o hyd.

 

Nawr mae rhai pobol yn gweyd y mod in un galed iawn, a nag os dim maddeu i gael gen i pan fydd rhyw un wedi troseddu yn yn erbyn i. Ond nawr ry chi wedi gweld eich hunan mor ddisail yw gweyd peth felny. Dyna fi wedi gadel i Siwsan, merch Elen, Glynmawr, briodi Tomos ni, drwyr cwbwl, er bod Elen wedi gneud ei gore i stopor fatch rhwng Dafydd a fi. Pe bawn in un galed, ac yn cadw gelyniaeth fel mae pobol yn gweyd, fyswn i byth yn gadel un bachgen i fi neud tocs ag un o ferched Elen, Glynmawr!

 

(Iw barhau.)

 

 


None
(delwedd B0899a)

(Papur Pawb. 19 Chwefror 1898). Pennod 3,4.

PRIODIR PLANT:
sef FFWDAN MAM-YN-NGHYFRAITH

(Hawlysgrif yr Awdwr.)

PENNOD III. - (Parhad.)

 

Nid mod in achwyn dim ar Siwsan, cofiwch. Merch fach sweet yw Siwsan, hware teg iddi, llawer ods iddi mam, ac wedi dangos pob parch i fi eriod, hware teg iddi. A tae ei mam yn busnesau tipyn llai tua Tynywern fe fysen well i Tomos a Siwsan. Er i Elen, Glynmawr, ffaelu cael gafael yn nghynffon Dafydd, Cwmllydan, fe naeth hi fatch nobl wedir cwbwl. Teulu weltwdw iawn oedd teulu Tanybryn; a chan fod gwraig Tanybryn wedi marw, fe gas Elen le i fynd mewn yn ddidrafferth, a chan mai Siwsan oedd yr unig blentyn, fe gas stafell anghyffredin, a gwaddol gampus hefyd - fe ofales i am hyny, er i fi gael tipyn o job hefyd i bwno yn mhen Dafydd pan yn mynd i rytyddia yno. Ond fe aeth, a fe wnaeth fargen nobl dros Tomos hefyd o ran hyny, a fe wedws pan ddaeth e nol fod Mrs Griffiths wedi bod yn barod iawn yn y mater, heb godi dim llawer o anhawsder amboutu dim wedse fe. A wir, a gweyd y gwir, fe gas Siwsan fwy nag own in ddishgwl. Wn i ddim beth oedd yn mhen Mrs Griffiths, pun ai balchder, ishe dangos i Dafydd a finnau shwd fyd da oedd arnyn nhw yn Tanyobryn, neu ofon byswn in mynu torir fatch os na chese Dafydd i foddloni yn y rhytyddia, neu beth; falle fod tipyn o bob un ohonyn nhw. Ond gan ta pun fe gespwyd mwy nag own in ddishgwl gael i Tomos gyda Siwsan, er y mod in gwbod yn mlaen llaw debygswn i, cese hin golew hefyd.

 

Ond ry chin gallu gweld nawr orwth yna nag w i ddim yn un syn dal llawer o ddigofaint at neb, neu fel y gwedes i, fyswn i byth yn gadael i Tomos ni wneud fyny a merch Tanybryn, wedi i fam hono wneud ei gore glas, a gwaethai chalon yn yn erbyn i pan yn ferch ifanc.

 

Ond diar anwyl! Beth w in hwilia i Dyma fi jest mynd cynddrwg a Dafydd ni, sharad am rywbeth heblaw beth oedd gydi fi! Ond dyma fi wedi dod i ben y llinyn yto, a ry chithaun deall yn well nawr pam rw i mor anfolon fod Mrs Griffith: Tanybryn, yn busnesau [sic; = busnesu] cymaint yn Tynywern, a ry chin deall hefyd shwd nag w i ddm wedi gadel i hen glap dwl Guto a Lisar, ail forwn, amboutu Madlen i flino dim ar y meddwl i.

 

PENNOD IV. - LESN FACH I DAFYDD.

 

Dw i ddim yn credu y gallse angel or nefoedd fyw gyda Dafydd ni - o leiaf fel gwraig iddo - heb fynd mas o natur weithe. Chi wyddoch yn nobl nag w i ddim yn wyllt yn nhymher, na dim byd felny. Na, mae digon rhyngto i a hyny yto, diolch ir mowredd. Ond fel rwyn gweyd, mae Dafydd ni yn ddyn i drio amynedd y fenyw ore garnodd y ddaear erioed, ne fyswn i ddim yn colli nhymher ag e.

 

Mae dynon yn sharad am amynedd Job, rhwydd gallan nhw wir! Doedd gyda Job

 

 

 

 

None

(delwedd B0899b)

(Papur Pawb. 19 Chwefror 1898). Pennod 4.

ddim ond gwraig, a gwraig dda fasa ddigwydd, a felny dim diolch iddo fe fod yn amyneddgar a mwn i! Ond pe byse Job yn briod a Dafydd ni, fentra i fe fyse llai o siarad am ei amynedd e!

 

Ond dyna shwd maer gwrywod i gyd welwch chi - canmol rhinweddau eu giddyl yn y Beibl a phobman arall am wn i, llareidd-dra Moses, doethineb Solomon, ac amynedd Job, heb feddwl dim byd, welwch chi, fod menywod yn llawer mwy llariaidd, a doeth, ac amyneddgar na neb ohonyn nhw. Ond chaiff merch neu wraig ddim clod am rinwedd, tae hi fel angel y goleuni - a ry ni felny rhan fwya ohono ni, ta beth - ond gadewch iddi ffaelu mewn un peth, a hwnwn amal yn beth digon bach, a fydd dim diwedd ar stwr y gwrywod am ei diffygion!

 

A dyna shwd mae hi gyda fi, welwch chi. Dim gair o son am gymaint w i wedi slafo a ffwdanu ac aberthu er mwyn Dafydd ar plant; dim diolch am mod i wedi cnoi nhafod gant o weithe yn lle gweyd gair cas pan fyse Dafydd neu wraig un or bechgyn neu wr un or merched neu rai or teulu yn nghyfreth yn shengyd ar y nhroed i au tafodau difeddwl. O, na dim diolch i fi byth am y pethau hyn.

 

Ond pan fydda i, ambell waith nawr, yn ffeilu dala, ac yn gweyd gair bach cros yn ol, does dim diwedd ar eu sharad nhw, a fe allsech feddwl wrth eu clywed nhw mai fi ywr fenyw wacetha a gwyllta ei natur yn y shir i gyd, yn lle fel rw i yn un or rhai mwyaf tawel, lleia parod i gynhyrfu, a rhwydda i fyw gyda hi o neb w in nabod.

 

Mae ambell i fenyw, fel gwyddoch chi, dos dim posib ir gwr drwg ei phlesio hi, a all neb fyw mewn heddwch a hi - dyna Mrs Griffiths, Tanybryn, er engraipht, Elen Davies, Glynmawr gynt, mam Susan, gwraig Tomos ni, chi wyddoch. Dyna un, os gwelwch yn dda, y byswn in folon ei chownto yn mysg rhai anodd byw gyda nhw. Fe all un dyn a llyged yn ei ben weld hyny. Mae hi mas a phawb jest iawn;, mas a Siwsan ei merch ei hunan, mas a Tomos ni, ei mab-yn-nghyfraith, ie, a mas a finnau hefyd o ran hyny! Yr unig un nad yw hi mas ag e am wn i yw Dafydd ni, a mi fyse mas a Dafydd er fod Dafydd yn un digon rhwydd i fyw gydag ef, hware teg iddo - fe fyse mas a Dafydd onibai ei bod hin meddwl y gallse hin speito i fwy wrth fod mas a fi ac yn ffrinds a Dafydd.

 

Ond mae cyfrifoldeb ofnadwy ar rai fel na syn trio hela rhwng perthnasau au giddyl. A dyna beth mae Mrs Griffiths wedi bod yn neud. Am wn i, tae hin cael ei ffordd, fe halse rhwng Tomos ai fam, a rhwng Siwsan ai mam-yn-nghyfraith, yn gystal a rhwng Dafydd ni ai wraig. Menyw ofnadwy yw Mrs Griffiths.

 

I fi gael gweyd wrtho chi nawr shwd y buodd hi, ac i chi gael gweld gymaint sy raid i ambell fam-yn-nghyfreth fel fi ddioddef dim ond am ei bod hin trioi gore dros les a llwyddiant y plant ar plant-yn-nghyfraith.

 

Fe nghlywsoch in gweyd or blaen mae merch Mrs Griffiths yw Siwsan syn briod a Tomos ni yn Tynywern. Ond trwy drugaredd tynu ar ol ei thad ac nid ar ol ei mam mae Siwsan gan mwya.

 

 

 

 


None
(delwedd B0899c)

(Papur Pawb. 19 Chwefror 1898). Pennod 4.

Wel, ta pun, yn Tynwern mae Tomos a Siwsan yn byw, ac yn Tanybryn mae Mrs Griffiths yn byw. Mae Tynywern yn rhy fach o le lawer i bar ifanc gweithgar a digon o fynd yndy nhw fel Tomos ni a Siwsan, a rw i wedi bod yn gweyd os dwy neu dair blynedd dylse nhw gael lle mwy. Mae Tanybryn wedyn yn hen scrongol o le mawr, lle case nhw ddigon o le i wneud tipyn ou hol ar y lle. Mae Mrs Griffiths wedi claddur gwr ers tipyn, a mae Tanybryn yn llawer gormod o le i un fenyw allu ei fanejo - fe geswn i ddigon o waith i fanejo Tanybryn, chwaethach Mrs Griffiths.

 

Ond, ta pun, rown in digwydd bod ar de yn Tanybryn ryw brydnawn, a Mrs Griffiths wedi bod yn dangos y llaethdy ar rwm caws a ryw bethau felny i fi ac yn canmol y lle a chanmol ei hunan, fel mae hin arfer wneud, wyddoch. Ond pwy ddiolch sydd iddi i wneud blith? Mae yno bump ar hugain o wartheg godro, a dwsin o ddefaid godro. A mae gyda hi ddwy forwyn gryf iw helpu hi i edrych ar ol y cwbwl. Ond fe ellsid meddwl i glywed Dafydd ni yn son am dani weithe nag oes neb tebyg i Mrs Griffiths, Tanybryn. Fe golles in nhymher yn enbyd rhyw ddwarnod - amser swper oedd hi, rwyn cofion nobl, a Dafydd ni wedi bod hibo Tanybryn ar y ffordd gartre o Tynywern, ac yn canmol Mrs Griffiths, ar blith, a phethe felny ir cymylau. Wel, fe ddioddefes i cyd a gallswn i, a wedyn dyma fin tori mas ac yn gweyd:

 

Wel, wir, Dafydd, un od i chithe, hefyd! Pam yn neno rheswm y detho chi gatre heno?

 

Nan? mynte Dafydd.

 

Pam detho chi gatre heno? myntwn i wedyn, yn ddigon tawel hefyd, er fod yn llais in crynu mynta.

Beth y chin feddwl, Jane? mynte fe, gan roi i gyllell ai fforc oi law.

 

Oh, myntwn i, meddwl ych bod chin od iawn i ddod dros y caeau yr holl ffordd o Tanybryn i Gwmllydan ar nosweth dywyll fel hyn pan oedd gyda chi gyment gwell lle, gyment gwell aelwyd, gyment gwell partner, a chyment gwell croeso gydar partner hyny, nag sy gyda chi yn Nghwmllydan!

 

Jane! mynte fe, gan edrych fel ffwl arna i.

 

Ie, ie, mi wn mai Jane ywn enw i, Dafydd, a mi wn mai Elen yw enw Mrs Griffis, a mi wn fod merch Glynmawr wedi gneud i gore ers llawer dydd i gael gafael yn nghynffon mab Cwmllydan. A fe fysen ddigon bolon iddo fe roi ei hat ar yr hol yn Tanybryn fory nesa yto fentra i, ond chaiff hi ddim or pleser hyny nes bydda i wedi mynd tan y grwys.

 

Jane! Tewch son rhag cwiddyl i chi! mynte Dafydd wedyn, gan dynu ei niched mas oi boced a sychu ei dalcen.

 

Beth wedsoch chi, Dafydd! myntwn innau. Y fi i dewi son rhag cwiddyl? Ody en rhyw gwiddyl i fi i weyd y rhaid i chin nghladdu i gynta cyn gallwch chi gael eich ffordd i fynd i hongan ych hat yn entri Tanybryn. Ai i fi maer cwiddyl fod gwitw Tanybryn yn ffaelu anghofio beth ffilws merch Glynmawr wneud slawer dydd, slawer dydd? Ai i fi maer cwiddyl fod y ngwr in mynd hibo Mrs Griffiths at ei ffotdd adre,

 

 


None
(delwedd B0899d)

(Papur Pawb. 19 Chwefror 1898). Pennod 4.

ac yn gorffod ishte fan hyn iw glywed en i chanmol, ai chanmol, ai chanmol hi yn ddiddiwedd fel pe na bai neb ddim tebyg iddi i gael yn y byd! Oh, ie! chi allwch chi ddryched, Dafydd bach! a gwasguch dannedd, a sychuch talcen ar hancitsher. Ond nenor gallu os oe chin moyn Elen Glynmawr, pam na fyse chin ei chymryd hi slawer dydd, pan oedd hin ddigon digwiddyl i redeg ar ych hoi chi i bob twll a chornel, ach gwylad chin mynd i bob ffair a thaith a chwrdd nos waith, a phob peth! Fe fysen dipyn mwy gweddus i chi neud hyny, allswn i feddwl, na mynd nawr ar ei hoi hi tua Tanybryn. Hware teg iddi hi, fe arhosws hi nes doedd hi wedi claddu ei gwr - ond ry chin ddigon digwiddyl i fynd nawr tra boch gwraig chin fyw. Fallech bod chin dishgwl i finnau fynd och ffordd chi? Ond fe sparia ich sport chi, Dafydd bach! Chewch chi ddim o ngwared i mor rhwydd a hyna, peidiwch chi a chamsyned! Na! fydda i ddim marw un spel fach yto, ta beth, pe bae dim ond i speito gwitw Tanybryn a chithe. Rhog cwiddyl ar ei gwyneb hi, a rhog cwiddyl ar eich gwyneb chithau, Dafydd! Dyna shampl neis ich plant, ond taw e nawr?

 

A gwyddoch chi beth wnaeth Dafydd? Fe ddath wad o lw mawr mas ganto fe! Do, yn y ngwir i! Ag yntaun aelod yn y ty cwrdd a chwbwl. Pe byse fen sailor, neun mynd ir Eglwys, neu rywbeth felny, fyswn i ddim yn gweyd cymaint. Ond mae clywed dyn syn aelod mewn ty cwrdd yn tyngu a rhegu yn beth ofnadwy iawn, a wyddwn i ddim beth wedswn i.

 

Ond cyn i fi gael amser i weyd dim byd, o ran hyny, dyma Dafydd off fel bollt orwth y ford ac yn stret ir gwely, heb feddwl am edrych yr anifeiled na dim.

 

Ry chin gweld nawr gymaint w in orffod ddioddef yn dawel fel hyn! Fe fyse unrhyw fenyw arath wedi tynur ty i lawr dan y fath amgylchiadau, ond netho i ddim ond gweyd rhyw hanner dwsen o eiriau bach caredig, fel na wrtho fe iw gadw e o ffordd profedigaeth ac o ffordd Mrs Griffiths, Tanybryn, welwch chi.

 

Chodes i ddim o nghloch na dim wrtho fe, ond ymresymun dawel fach ag e fel na, fel gallwch chi wbod pan weda i na sylws ddim un or gwasanaethyddon fod dim byd mas o le, wath pan aeth Dafydd ir gwely ar y pwd doedd yno ddim un ohonyn nhw yn y gegin, er eu bod nhw yno i gyd ar swper ar y ford fawr pan ddechreuos Dafydd ai hanes am Tanybryn. A chlywes i ddim un ohonyn nhw yn mynd mas chwaith.

 

A dyma chi brawf arall. Fe etho i i edrych am danyn nhw, a doedd gen i neb ar y llawr ond Madlen, y forwn fwya. Roedd Lisar ail forwn wedi mynd ir gwely, a Guto wedi mynd mas ir ty mas fel arfer i gysgu. A roedd gwyneb Madlen fel y tan pan ddetho i am i phen hi. Wn i ddim pun a oedd y sponer yno yn dishgwl am dani neu bido. Ond i gael gwneud yn shiwr am y peth, pun a wydde hi fod rhywbeth mas o le rhwng Dafydd a fi neu bido, fe ofynes iddi os clyws hir sharad rhyngto ni.

 

Naddo i mistres, mynte hi. Roe chin clebran rhywbeth wrth mishtir pan ddibenson nin swper. Rw in mynd ir gwely. Good night, a bant a hi a dim ond ond hyny.

 

A gan fod Dafydd wedi mynd ir gwely, gorffu i fi fynd mas yn hunan i edrych os oedd pobpeth yn right gydar anifeiled, wath erbyn i fi fynd mas. roedd Guto wedi ffoi - wedi mynd i edrych am ryw groten sy gydag e yn Tanyfedw, meddu nhw.

 

Ry chin gweld nawr mai arna i maer gofal i gyd yn dishgyn os bydd rhywbeth mas o le yn Nghwmllydan.

 

Fe licswn 1 weld Mrs Griffiths, Tanybryn, yn poeni a thrafferthu felny taer gwr wedi mynd ir gwely ar y pwd arni. Dim danger ohoni, fe fentra i hi!

 

Ry chin gweld nawr fod gyda pnobol achos i ryfeddu swd w i mor amyneddgar, a mor lleied o shawns fyse gyda Job i gael bod yn enwog am ei amynedd tae en briod a Dafydd ni yn lle ai wraig o Wlad Uz.

 

Tranoeth [i] hyny rown i ar de yn Tanybryn, a fe gewch glywed yr wthnos nesa shwd pasodd hi yno, mor ddwl a selffish roedd Mrs Griffiths.

 

(Iw barhau.

 

 


None
(delwedd B0900a)

(Papur Pawb. 26 Chwefror 1898). Pennod 5.

PRIODIR PLANT:
sef FFWDAN MAM-YN-NGHYFRAITH

(Hawlysgrif yr Awdwr.)

PENNOD V. - POLLY, Y FERCH-YN-NGHYFRAITH.

 

Fel y gwedes i, down i ddim hanner bolon i weld Dafydd nin mynd mor amal hibo Tanybryn, nenwedig tra byse Mrs Griffis yno, a hithaun witw. Nid am fod gen i un amheuaeth am boutu Dafydd ni, cofiwch; dyw hi ddim yn debyg y byse fe yn dryched ar Mrs Griffis tra byswn i yr ochor hyn ir afon. Ond dos dim iws trysto gwitw, welwch chi, nenwedig pan fo hono wedi bod yn treio jocan ach gwr chi pan oedd en fachgen ifanc.

 

Felly, fe benderfynes i fynd i Tanybryn ym hunan, a fe feddyles os oedd Dafydd yn moyn galw yn Tanybryn y rhoiswn i ddigon o esgus iddo fe bob yn dipyn. Roun i wedi bud yn meddwl am y peth or blaen, welwch chi, ond fe rows visit Dafydd ni y tro diwetha yma fath o sumbwl i fi i fynd mlaen a rwyn credu y cytunwch chi a fi mai servo Mrs Griffis yn eitha reit oedd yr hyn netho i.

 

Wel, ta pun, dyma swd netho i. Pyrnawn tranoeth, wedi ir sharad hyny gymyd lle rhwng Dafydd a fi, a fynte bant ag e orwth y ford swper mewn hwyl fawr, ac ir gwely ar y pwd, fe etho i i daclun streit ar ol cino.

 

Gan mod in mynd i Danybryn, fe benderfynes wishgon nillad goreu. Wthnos neu ddwy cyn ny rown i wedi cael bonet biwtiful yn bresant orwth Polly, y merch-yn-nghyfreth, syn briod ag Edward, y mab syn cadw shop yn Llanelli. A mae gan Polly well taste mewn milineri na neb a weles i eriod. A dyw i ddim rhyfedd pan ystyrio ni, wath roedd hi wedi bod yn first miliner yn un o shope mawr Llundain, a wedi bod am ddwy flynedd yn Paris hefyd. A mae gyda hi law ryfeddol gyda boneti. Mae bonet o dan ei llaw hi gydar peth perta welws ych llygid chi ariod, nes bo bron trueni arno chi gwisgo hi gan mor dda a mor bert mae hin dryched. Ag i fi gael gweyd y gwir i gyd, nawr, fe fues in gros ofnadwy i Edward ni i wneud dim tocs a Polly ar y cynta, wath dyw hi ddim yn dod o ryw deulu uchel yn y byd - yn wir, roedd ei thadcu hi yn withwr wrth y dydd gyda nhadcu yn Plasbach. Ond dos dim ods am hyny nawr, maer ddou hen ddyn wedi mynd, a Pholly wedi dysgur grefft yn first rate. Fe weda i wrtho chi ryw dro yto shwd detho i i fod yn folon i Edward ni neud tocs a hi, ond dos gen i ddim amser heddy wath rw i am weyd wrtho chi beth gymws le yn Tanybryn.

 

Ond fel roun in gweyd, fe gesor fonet berta welws ych llyged chi riod yn bresant gan Polly pan fues i lawr yn Llanelli ryw bytheunos cyn yr amser rwyn son am dano nawr. A fe alla i weyd wrtho chi wrth fynd hibo, os cewch chi gyfle i fynd i Lanelli rywbryd, cerwch chi i ddryched i ffenest shop Edward ni, a fe fentra i y cytunwch chi a fi

 

 

 

 

 

 

 

 


None
(delwedd B0900b)

(Papur Pawb. 26 Chwefror 1898). Pennod 5.

mai dyna lle maer boneti goreu - ar hatau goreu hefyd o ran hyny - o un lle welsoch chi eriod. A fe alla i weyd wrtho chi hefyd fod y pris yn ddigon resymol - hyny yw ag ystyried fod defnyddiau mor dda yn yr hatau ar boneti. Chi gewch well bargen yno nag unman y gwn i am dano.*

 

*Rhaid i ni adgofio Mrs Jones, Cwmllydan, fod y frawddeg uchod trwyddi draw yn hysbysiad am siop ei mab ai merch-yn-nghyfraith. Nid oes dim ond ein parch at ohebyddes mor ffyddlon yn ein rhwystro i groesir paragraph allan. Caiff ymddangos y tro hwn, ond codir pris hysbysiad am dano os gyrir ei gyffelyb ryw dro eto. - Gol. Papur Pawb.

 

Wel, i fi gael mynd mlaen ar hanes - wath dos gen i gynnyg ir rhai whit what hyny na allan nhw byth ddibenu stori ar ol ei dechreu hi. Fel roun in gweyd, fe geso ir fonet yma yn bresant gan Polly pan own in dod gatre o Lanelli ryw bytheunos cyn yr amser rwyn son am dano.

 

Wel, yn lle dod gatren streit o Lanelli, beth netho ir tro hyny ond mynd mlan i Abertawe, lle mae Lorahs ail ferch yn briod a Hughes y Shop. Chi wyddoch, wrth gwrs, am shop Hughes, y mab-yn-nghyfrath, yn Abertawe. Mae hin cael ei gadel, fel gwyddoch chi, fel y shop dreperi flaena yn yr holl dre, ac am betha ffansi i fenywod, costiwms, a jacedi, a mantls, a phethau fel ny, mae nhwn gweyd nag os dim tebyg iddir ochor hyn i Lundain.*

 

*Mae Mrs Jones eton troseddu rheol y swyddfa. Ond gan mai yn yr un erthygl yr ymddengys y paragraph hwn ar llall, ni fydd i ni y tro yma ei dwyn o dan y ddeddf. - Gol. Papur Pawb.

Roedd arna i hwant, a gweyd y gwir i chi, i gael gweld beth oedd y pethau mwya newydd yn y ffasiynau i ferched a gwragedd. Dyna un or anfanteishion, welwch chi, o fyw yn nghanol y wlad - ambell waith iawn y gallwch chi fod yn y ffasiwn, a mae dyn yn dryched yn hwithig iawn pan yn mynd ir dre os bydd en mhell ar ol y ffasiwn. Ond rw i wedi trion ngoreu hyd yn hyn i bido bod yn mhell iawn ar ol gan ta pun. Fe wyddoch chi, dw i byth yn lico rhican yn hunan, does dim byd yn gasach gen i na hyny. Ond y gwir a saif wedir cwbwl, a does dim ishe i fi, am wn i, fod a chwilydd i arddel nag os dim neb yn y dre yn gwishgo yn stanshach na fi pan fydda in lico.

 

Wrth gwrs, nid i fi maer clod i gyd am hyny. Mae gen i fontais na sy ddim gan bawb, a does arna i ddim cwiddyl gweyd hyny. Nid pob un sy a first-clas milliner yn ferch-yn-nghyfraith, fel Polly yn Llanelli, a nid pob un sy a mab-yn-nghyfraith fel Hughes Abertawe, ar show gore o bethe ffansi i fenywod yr ochor hyn i Lundain. Fel ny does dim cymaint o ddiolch i fi, a gweyd y gwir, fod yn nillad i bob amser yn rhai nag oes dim ishe i fi fod a chwiddyl i harddel nhw. A gweyd y gwir - fel gwedws Neli Wil Saer wrtha i yr wthnos ddwetha i gyd,

 

Mrs Jones, mynte hi, maen bleser ych gweld chi ach merched yn dod ir ty cwrdd

 

 

 

 

 

 


None
(delwedd B0900c)

(Papur Pawb. 26 Chwefror 1898). Pennod 5.

 

ar ddydd Sul; mach dillad chi shwd rhai anghomon.

 

Taw son, Neli, myntwn i, gan droi twlpyn bach o fenyn mewn pishyn o bapur ai roi e yn ei ffedog hi gydar blawd cyrch ar bwyd sycan.

 

Wel nage wir, Mrs Jones, mynte Neli wedyn. Gwyddoch chi beth glywes i rwthnos ddwetha?

 

Ryw nonsens fel arfer, Neli, mynta.

 

Wel nagen siriws i chi. Rown in digwdd bod yn hewl y farchnad yn Llandilo pan oech chin dreivo hibo yn y car, a fe glywes un gwraig ffarm respectabl or ochor draw i Dywi yn gweyd wrth wraig y shop oedd yn sefyll gyda hi ar y drws, mynte hi, Rwyn bound o fynd i gal golwg ar fonet gwraig Cwmllydan, a jacedir merched. Mae nhw bob amser yn shiwr o fod yn werth dryched arnyn nhw. Dewch nol hibo yma wedyn, mynte gwraig y shop wrthi hi, fe licswn i gael gwybod beth sy genty yn ei bonet, a beth yw shap y jacedi, fel galla i gael rhai run peth a nhw ir shop. Dyna chin gwmws fel roe nhwn gweyd wrth eu giddyl, Mrs Jones.

 

Hen un lew am ddod o hyd i bethau felna yw Neli, welwch chi. A fe wn i fod shopwyr yn Llandeilo, ie, ag yn Nghaerfyrddin hefyd o ran hyny, yn lico cael rhyw esgus i nghadw mewn ple a nhw ar Sadyrnau neu ddydd marchnad os digwyddai i alw miwn A doedd dim or fonet newydd na dim gen ir dwarnod oedd Neli Wil Saer yn son am dano.

 

Ond i fi gael gweyd yr hanes wrtho chi shwd y buodd hi yn Abertawe. Down i ddim wedi meddwl mynd ynor tro hyny, na dim wedi hala gair i weyd na dim byd. Ond rown i am ddangos i Lorah y fonet own i wedi gael yn bresant gan Polly merch-yn-nghyfraith. Falle licse Lorah, digon hawdd, ddodi un or merched or shop i neud un run peth iddi hithe. Fyse ddim cymaint o wahaniaeth gen i am hyny, wath mae tipyn bach o ffordd o Abertawe i Gwmllydan, welwch chi, a hit fyse nemawr neb yn ein gweld nin dwy a boneti run peth gyda ni.

 

Ac heblaw hyny, rown i am gael gweld beth oedd y ffasiynau newydd mewn jacedi a mantls a phethau felny. A bant a fi sha Abertawe, yn lle mynd yn steit gatre o Lanelli. Doedd hyny ddim llawer o dowlad mas or ffordd fel gwyddoch chi, dim ond jest o Lanelli i Abertawe, wath dyw hi fawr pellach o Abertawe i Bontarddulais nag yw hi o Lanelli. Felny fe godes i dicet o Lanelli i Abertawe, a bant a fi, ar bambocs ar fonet yndi gyda fi.

 

Ond fe whariws cwmpnir relwe hen dric bach cas ofnadwy a fi wrth ddod nol. Rown i wedi codi return welwch chi o Landeilo i Lanelli, a gan nag os fawr fwy o ffordd o Abertawe i Bontarddulais nag sy o Llanelli i Bontarddulais, fe feddyles i yn ddigon diniwed y gallswn i gael dod o Abertawe i Bontarddulais am yr un ticet. Feddylws y nghalon i ddim byse nhwn mynd i wneud gwahaniaeth.

 

Ond os y chi yn y fan na, cyn i mi ddod i Bontarddulais dyma rhyw hen becor bach yn dod i edrych y ticedi. Fe ddangosais in nhiced iddo fe fel y lleill.

 

 

 

None

(delwedd B0900d)

(Papur Pawb. 26 Chwefror 1898). Pennod 5.

 

This wont do, mynte fe.

 

Beth wedsoch chi? myntwn i.

Wnaiff ddim o hwn y tro, mynte fe.

 

Pam hyny, wys? myntwn inne.

 

Ticet o Lanelli i Landilo yw hwn, mynte fe, nid o Abertawe.

 

Jest run distans ywr ddou, myntwn innau.

 

Rhaid i chi dalu o Abertawe i Bontardulais, mynte fe - ac os y chi yn y fan gorffod i fi wneud hyny, er fod y ticed gen i o Lanelli trwy Bontarddulais yn reit i wala.

 

Shwd na i nawr, ynte? myntwn i wrtho fe. Cha i ddim am yn arian o Lanelli i Bontarddulais ?

 

Chi gewch ddod am ddim o Lanelli i Bontarddulais, mynte fe, os cymrwch chir drafferth i fynd i Lanelli a starto oddiyno yto.

 

Fe fues jest a rhoi cnepyn iddo am i impidens. Dishgwl i fi dalu am fynd o Bontarddulais i Lanelli er mwyn cael dod nol am ddim Fe wedes ir hanes wrth Dafydd ni pan ddetho i adre, a rown i am iddo ysgrifenu at Lord Emlyn neu rywun i gael y hwech nol, gan nag own i ddim wedi bod yn y tren o Lanelli i Bontarddulais, a finnau wedi talu am hyny. Ond beth y chin feddwl wnaeth Dafydd yn lle ysgrifenu? Hwerthin am y mhen i. Ond dyn ashwd un yw Dafydd, welwch chi.

 

Ond dyma fi heb weyd am Tanybryn yto. Fe ddaw hynyr wthnos nesa gwlei.

 

(Iw barhau.)

 

 


None
(delwedd B0902a)

(Papur Pawb. 5 Mawrth 1898). Pennod 6.

PRIODIR PLANT:
sef FFWDAN MAM-YN-NGHYFRAITH

(Hawlysgrif yr Awdwr.)


PENNOD VI. - HUGHES, Y SHOP, Y MAB-YN-NGHYFRAITH.

 

Rown i wedi dechreu gweyd wrtho chir wthnos ddwetha am dana in mynd i Tanybryn i weld Mrs Griffis, ond mod i wedi gweyd wrtho chi gynta am y presant neis ges i gan Polly, merch-yn-nghyfraith, yn Llanelli, wyddoch chi.

 

A phidwch chi a meddwl nawr nag os dim cysylltiad rhwng presant Polly an visit innau i Danybryn. Mae rhai pobol na chewch chi ddim pen na chynffon ar eu stori nhw pan fon nhwn ei gweyd hi. Ond nid un fel ny w i. Rw in lico mynd ar stori i ben, ac yn drefnus, a dyna, pam y gwedes i wrtho chi am y fonet newydd geso i gyda Polly, merch-yn-nghyfraith. Y fonet hyny, welwch chi, wishges i i fynd i Danybryn i weld Mrs Griffis, y pyrnawn hyny - a dynar tro cynta eriod i fi i gwishgo hi, dyna chi.

 

Ond, fel y gwedes i, fe etho i o Lanelli i Abertawe i roi tro am Lorahr ferch, a Hughes, y Shop, mab-yn-nghyfraith. A gan nag own i ddim wedi hala gair i weyd wrthyn nhw mod in dod, na dim, fe ddetho am i penau nhw heb yn wbod iddyn nhw.

 

Doedd dim o Lorahn hido rhyw lawer am hyny, chwaith, wath roe nhwn digwydd bod yn fishi y diwarnod hyny, nid yn gyment yn y shop ag yn y show-room. Wrth gwrs, mae nhwn gneyd cryn lawer o fusnes yn y shop bob dydd o ran hyny, nid fel shopau Llandilo nawr, lle gallan nhw fynd i gysgu hanner eu hamser ganol yr wythnos, os byddan nhwn lico, o ran y fusnes rwyn feddwl, er eu bod nhwn ddigon bishi ddydd Sadyrnau ac ar y ffeiriau. Ond nid fel ny yw hi gyda Lorah, a Hughes, mab-yn-nghyfreth, yn Abertawe. Mae yno ddigon i wneyd jest bob dydd or wthnos, ac yn fishi anghyffredin rai prydiau; ond wedyn, mae rhai diwarnodau yn slacach nau gilydd - a rodd y diwarnod hyny yn digwydd bod yn slac yn y shop, hyny yw, fel y byddan nhwn cownto slac yn Abertawe.

 

Ond fel y gwedes i, er i bod hin slac, mewn ffordd, yn y shop, roedd hin ddigon bishi arnyn nhw yn y show-room. Roedd lot o goods newydd wedi dod miwn y diwarnod cyn ny, a roe nhwn agor rheiny, ac yn gneyd y show-room fyny erbyn dydd Sadwrn, y diwarnod cynta or sale am y tymhor, welwch chi, a dyna lle roedd Lorah a Hughes wrthi ac yndi dros eu penau au clustau.

 

Mam fach! O, ble dethoch chi, nenor gallu? mynte Lorah, pan welws hi fin sefyll yn nrws y show-room, waeth rown i wedi mynd lan yn streit trwr shop pan wedson nhw wrthw i mai yn y show-room roedd Lorah.

 

O, myntwn i, dim ond galw hibo netho i ar y ffordd gatre o Lanelli. Rw i wedi bod yn aros am ddiwarnod neu ddau gyda Edward a Polly, weldi.

 

Wfft i chi, mam, na fyse chin hala gair i weyd ych bod chin dod, neu ynte yn dewis rhyw amser gwell na heddy, gan ta pun.

 

 

 


None
(delwedd B0902b)

(Papur Pawb. 5 Mawrth 1898). Pennod 6.

Chaiff Hughes na fi ddim amser i fod gyda chi heddy. Ry nin bownd o ddodi pethaun reit yn y show-room heno, tae hin fore fory arno nin dybenu.

 

Falle galla i helpu dipyn bach arnoch chi, myntwn i. Chi wyddoch chi Lorah fod taste anghyffredin gen i mewn peth felny. Ry chin cofior te hyny yn yr ysgoldy gatre yco; fi daclodd yr ysgoldy jest i gyd yn hunan y pryd hyny, a chi wyddoch gyment o sharad oedd amboutu hyny drwyr ardal.

 

O, flinwn ni ddim ohono chi, mam-yn-nghyfreth, mynte Hughes, yn dod mlaen, a llond ei freiche o fantls a jacedi. Roedd e wedi nghlywed in gweyd wrth Lorah, debygswn i.

 

Cyn i fi gael amser i aped e, dyma swn y gong lawr steirau, a Lorahn gweyd:

 

Wel, chi ddethoch at amser cino bach nobl, mami, shwd gino ag yw e heddy. Rhaid i chi baso hibo i ni heddy. Dewch, Hughes. Licwch chi, mami, fynd ir bedrwm gynta cyn mynd i gino?

 

Fe licwn i gael lle i dynum monet off, ta beth, myntwn i. Dw i ddim yn hido am ishte wrth y ford a monet ar yn mhen i, os galla i helpu.

 

Fe wedes i hyn dipyn bach yn sych maen eitha gwir, wath rown i wedi teimlo tipyn fod Lorah a Hughes mor ddihidans ohona i, gan taw dim ond rhyw dro ar shawns fel ny rw in gallu mynd hibo iddyn nhw, a fyse fawr gen i iddyn nhw i feddwl hyny.

 

Down in styried dim tipyn, mami fach, mynte Lorah wedyn, ry ni mor fishi, welwch chi. Dewch gyda fi ir bedrwm.

 

A bant a nin dwy, a Hughes off lawr steirau i gino.

 

Beth sy gyda chi yn y bambocs yna, mami? mynte Lorah, pan own in taclu tipyn ar y ngwallt ar ol molchyd.

 

O, rhywbeth bach geso i gyda Polly, yn Llanelli, i fynd gatre gyda fi, myntwn in ddihidans bach.

 

Os drwg i ddryched arno? mynte Lorah.

 

Na, drycha di faint fyn di, merch i, myntwn innau, gan fynd mlaen i godin ngwallt.

 

Fe wedes wrtho chi or blaen, ond do fe, fod gen i wallt anghyffredin? Ac yn ol y mam i, fe ddylse menyw sy a gwallt pert gymeryd gofal ohono fe, a fe fydda in trio ngoreu i wneyd hyny hyd y galla i.

 

Ond nid cynt yr agorws Lorahr bambocs, ac y tynws hir fonet maes, na dyma hin gwaeddi dros y lle.

 

O, mami! dymar fonet fach fwya biwtiful welws yn llyged i riod! Rwyn bownd o gael ei gweld hi ar eich pen chi, mam. Gadewch i fich helpu chi i godich gwallt.

 

A dyma hi yn yn helpu i, yn gwmws fel roedd hin arfer pan yn groten gatre yn Gwmllydan.

 

Rwy jest anghofior ffordd, mami, mynte hi. Ond mae gyda chi wallt splendid. Fe fysen dda gen i tae gen i gymaint o wallt a sy gyda chi, mam.

 

Allwn ni ddim cael pobpeth, Lorah fach, myntwn innau. Ac os cas Jane y ngwallt i, fe gest tin nannedd i, a does dim glanach dannedd yn nhre Abertawe na sy gen ti, Lorah.

 

Fe driwyd y fonet.

 

 

 

 

None

(delwedd B0902c)B0900

(Papur Pawb. 5 Mawrth 1898). Pennod 6.

 

Rhoswch fyned, mami, mynte Lorah. Mae ishe codich gwallt chi dipyn bach yn uwch gydar shap hyn o fonet, rwyn meddwl. Dyna hi nawr, first-clas a chetyn!

 

A wir, pan ddryches i arna in hunan yn y clas, yn medrwm Lorah, rown in gallu gweld fod y fonet yn y ngweddu in gampus.

 

Tria hi ar dy ben di, shwd mae hin dy siwto di, wish, myntwn i.

 

A fe dacles dipyn ar ei gwallt hithau i gael e i siwtor fonet.

 

Ond dyw hin lovely, mami! mynte hi wedyn. Maer shap yn newydd, ar blodeu y mwya tasti weles i slawer dydd. Ond sobor anwl, dyma fin halain amser fan hyn gyda chi, a Hughes jest a hwanco am i gino. Dewch, mami.

 

Ond erbyn i ni fynd lawr steirau, doedd yno ddim golwg ar Hughes. Roedd e wedi cymryd i gino ag off ag e yn ol ir show-room.

 

Rw in lico gweld dyn yn mindo i fusnes yn nobl, welwch chi; ond, wedir cwbwl, pan fo rhywun dierth gyda chi, ry chin lico dangos tipyn bach o barch i hwnw, a fei cymres hi dipyn bach yn hwith fod Hughes mor ddihidans, a fe ddangoses i hyny hefyd yn ddigon plaen.

 

Os gwelwch yn dda, maam, mynter lodes o forwm oedd yn tendo wrth y ford. Fe arhosws mishtir am yn agos i hanner awr cyn dechreu cino ich dishgwl chi a mishtres lawr ddar y llofft, a fe wedws wrthw i am geisho gyda chi i baso hibo iddo fe, gan i fod e mor fishi.

 

Pe bae en ffarmwr, ac yn stres cynhaua arno fe, fe allswn ddyall, myntwn i. Ond pwy daro sy i fod ar shopwr? Does dim gwair na llafur gydag en dishtriwo yn y tywydd, ac yn galw arno fe i mroi bob mynyd o dywydd teg geiff e. Ac am aros am hanner awr in dishgwl ni, dyw hyny ddim ond nonsens iw weyd does dim hanner awr i gyd ddar w i yn y ty, os e, Lorah?

 

Rwyn ofnin bod ni wedi bod dipyn bach yn hir gydar fonet, mami, mynte Lorah. Mae hin nawr wedi dou or gloch, ac am un oedd y gong gino yn cael ei swno.

 

Ond maer amser yn mynd heb yn wbod i chi rywffordd yn y dre.

 

Ar gino, fe setlws Lorah a finnau y cese Miss Williams, yr head milliner, fenthyg y monet i am awr neu awr a hanner iddi gael trio gneyd un mor debyg ag y gallse hi iddi i Lorah.

 

Rwyn ofni bydd Hughes yn cadw stwr a fi, hefyd, am gymryd Miss Williams y prydnawn yma, mynte Lorah. Mae en fishi iawn yn y show-room, a Miss Williams yw jest yr unig un all i helpu e yno.

 

A gwir y wedws hi. Roedd en anfolon tost i adel i Miss Williams fynd. Roedd yn fach gydag e, os gwelwch yn dda, i fi adel y fonet yno iddyn nhw dros ddydd Sul, i Miss Williams gael amser i neyd un arall pan na fyse stres. Ond mae gwrywod mor anystyriol. Rwy wedi sylwir un peth yn Dafydd ni, a rwyn ofni nag yw Hughes ddim llawer gwell. A fe wedes in meddwl yn go blaen wrtho fe wedi i Lorah a Miss Williams fynd ir workroom i neyd y fonet. Fe aroses i ar ol yn y show-room i gael rhoi unrhyw help allswn i, a fe gymres i

 

 


None
(delwedd B0902d)

(Papur Pawb. 5 Mawrth 1898). Pennod 6.

 

fantais o hyny i weyd gair om meddwl wrth Hughes. Roedd en rhy gall i weyd llawer nol wrtha i, and fe rowsodd y bechgyn ar merched yn ofnadw iawn - a rown in specto wrth hyny ei fod e mas o hwyl yn ymbeidus.

 

Ond os oedd e, fe ddaeth nol iw le heb fod yn hir. Roedd e wedi agor bocsed o mantls neis ymbeidus, a fe gitshes yn un ohonyn nhw, a fe dodes hi ar y ngwar i, gael gweld shwd byse hin dryched, a roedd hin dryched yn splendid.

 

Dyma fantl neis, myntwn i wrth Hughes. Fe fyse hon yn mynd yn nobl gydar fonet geso in bresant gan y merch-yn-nghyfreth yn Llanelli.

 

Rwyin credu yn y nghalon i fi glywed en rhegu pan drows e i gefen arna i i rowso un or bechgyn.

 

Mae gwahaniaeth mawr rhwng dull rhai dynon o ymddwyn at eu perthnasau yn nghyfreth, Hughes, myntwn i, pan drows en nol.

 

Chymrws e ddim arno fe nghlywed i, ond mynte fe, mhen spel:

 

Gymrwch chir fantl yna yn bresant geni, mam-yn-nghyfreth? Os licwch hi, cerwch a hi i rwm Lorah, a phaciwch hi yn y bocs yna i fynd gatre gyda chi heno.

 

Chi welwch mai bachgen piwr digynnyg yw Hughes. Ond banner y peth yw cael mam- yn-nghyfraith all gydymdeimlo a ffwdan dyn mewn busnes. Fe dalws y shwrne i ffordd yn nobl i fi, wath roedd gen i fonet newydd a mantl newydd yn cyrhaedd gatrer nosweth hyny, heb gostio cinog i fi - ond cost y tren o Abertawe i Bontarddulais, a rwyn ddig wrth yr hen flagard bach hyny ar y relway hyd heddy am wneid i fi dalu pan oedd gen i diced o Lanelli.

 

Ry chin gweld nawr shwd rown in partoi i fynd i Danybryn at Mrs Griffis y pyrnawn hyny.

 

(Iw barhau.)

 

 

 


None
(delwedd B0903a)

(Papur Pawb. 12 Mawrth 1898). Pennod 7.

PRIODIR PLANT:
sef FFWDAN MAM-YN-NGHYFRAITH

(Hawlysgrif yr Awdwr.)

PENNOD VII. - Y PARLWR GOREU AR JACED NEWYDD.

 

Wel, nawr te, am dana i yn Tanybryn.

 

Fel y gwedes i or blaen, fe etho i ir parlwr back yn stret ar ol cino i daclu, a fe dynes y fonet geso i gyda Polly merchn-yn-nghyfraith mas or bambocs, ar fantl geso i gyda Hughes, y mab-yn-nghyfreth, mas or dror, a fe wishges y ddwy. A dynar tro cynta i fi i gwishgo nhw hefyd. Doedd dim or tywydd wedi caniatau i fi gwishgo nhw y ddou ddy Sul diwetha; a fel gwyddoch chi doe nhw ddim gen ir dydd Sul cyn hyny. Felny down i ddim wedi cael shawns i gwishgo nhw o gwbwl cyn y pyrnawn hyny.

 

Pidwch chi a meddwl wrth hyny nawr mai un wastrafflyd ar bethe w i. Na, fe fentra i weyd na chewch chi neb yn holl Ddyffryn Tywi yn fwy gofalus am i ddillad fel am bob peth arath nag w i. Rw in cofior hen hweddel mai yn ngenaur sach mae cynhilor blawd, a fydda i byth yn rhydeg dros ben pethau gyda mod in u cael nhw: Dw i byth, neu o leia nemor byth, yn gwishgo nillad gore ar ddwarnod gwaith. Rw i wedi bod yn mynd a nillad ail oreu lawer pryd i de ar ddwarnod gwaith at rai or menywod stansha rhwng Llandeilo a Chaerfyrddin, a dos dim cwiddyl arno i i weyd hyny chwaith. Dillad parch yw dillad parch, a dillad parch ddylse nhw fod, weda i. Ond fyddan nhw ddim yn barch yn hir os byddwch chin u gwishgo nhw i bob man daear.

 

Ond fel gwyddoch chi roedd amgylchiadau neillduol yn galw dros i fi findon hits y pyrnawn hyny. Mae tipyn bach o come up yn Mrs Griffis, Tanybryn a rown i am ddangos iddi gallswn inau fod cuwch cwd a ffetan. Fydd dim byd yn yn hala i fwy mas o hwyl na gweld rhyw un yn cael mantais arnoch chi, neun cymryd mantais arnoch chi, am eu bod nhw yn digwydd tori tipyn mwy o swel na chi. Maer Mouredd yn i wybod e, does dim rhyw hen ffrwmp a balchder yndw i; welws neb arwlydd o hyny yndw i eriod, rwyn siwr o hyny, - ond hen beth cas ymbeidus yw i chi ymddangos dan anfantais pan bo chin cwrdd a rhyw un fel Mrs Griffis, Tanybryn, sy a jest digon o wynt yndy hi iw chodi hi oddiar y ddaear.

 

Dyna pam rown in gwishgo nillad parch goreu y pyrnawn hyny. A maen rhaid i fi weyd roe nhwn dryched yn splendid am dana i. Allswn i i ddim gweld yn dda iawn yn yr hen barlwr bach chwaith. Hen dwll o le bach tywyll yw e, a dim lle i roi glas ar y mamplish na dim byd. Rw i wedi bod yn gweyd wrth Dafydd ers llawer dydd bod hin hen bryd iddo fe fildo ty newydd, rhog i gwiddyl e.

 

Ac i chi gael gweld nawr fath un yw Dafydd ni, a mor lleied o gydymdeimlad sy

 

 

 


None
(delwedd B0903b)

(Papur Pawb. 12 Mawrth 1898). Pennod 7.

gydag e ar menywod au trafferth. Beth i chin feddwl, o brysur calon, wedws e pan own in ffaelu penderfynu ble dodswn ir shiffaner.

 

Weda chi, Jane, ble dodwch chi, mynte fe.

 

Ble? myntwn inau, yn falch anghyffredin i feddwl fod Dafydd yn mynd in helpu i mas or dryswch.

 

Ar ben yr haffdrors, mynte fe. Fe all pawb i weld e fan ny. Maen drueni fod glas mor gwmws a sy yn ddrws y shiffoner yn cael i guddio ar bwys y llawr fan na. Tae e ar ben yr haffdrors, weldi, fe allswn i weld i shafo yndo fe bore dydd Sul.

 

Glywsoch chi fath hen un dwl eriod? Ond dyna shwd un yw Dafydd, welwch chi.

 

Ond er taw fi syn i weyd e, does dim neisach parlwr yn un lle yn yr ardal nag sy gen i. Onibai byse chin meddwl falle mod in rhican gormod arno in hunan, fe fyswn in gweyd nag os dim un drawing rwm yn nhre Llandeilo, na nemor un yn nhre Caerfyrddin chwaith, syn edrych yn well na pharlwr goreu Cwmllydan, dyna chi! A nid rhyw hen bethau brafra sy yno chwaith, ond eitha celfi substantial, y goreu allech chi gael am arian. Dyna shwd le yw parlwr Gwmllydan, os gwelwch yn dda, - a all Mrs Griffis, Tanybryn, ar waethai dannedd, ddim dangos dim byd tebyg iddo fe - fel gwedes i wrth Dafydd ni, hefyd, pan oedd en brolian a brolian Tanybryn y peth hyn a Thanybryn y peth arall.

 

Chi ach Tanybryn, myntwn i. Os parlwr yn Tanybryn yn debyg i barlwr Cwmllydan licswn i wbod? Neu shiffaner a drws glas yndo fe, licswn i wbod?

 

A doedd gydag e ddim gair i weyd - ond dim diolch iddo fe chwaith o ran hyny.

 

Fallech bod chin synu mod in gweyd am y parlwr goreu yn Nghwmllydan pan own i ar y ffordd ir visit i Danybryn. Ond cymrwch chi bwyll. Pidwch chi a chamsyned a meddwl nag w i ddim yn gwbod beth w in wneud welwch chi. Chi gewch chi weld mod in eitha reit wedir cwbwl, fel arfer. Dw i ddim fel Dafydd ni yn gweyd stori - whiw fan hyn, a whiw fan yco, na wyddoch chi ddim ble yn y byd y bydd e. Na, nid un fel ny w in gweyd stori. Pan fydda in gweyd stori rw in mynd yn streit at y point, a dyna shwd w in mynd trwy barlwr goreu Cwmllydan ar y ffordd i Danybryn.

 

Dyma shwd mae hi. Fe wedes i wrtho chi or blaen ond do fe, mae hen dwll bach tywyll yw parlwr bach Cwmllydan, a dim glas uwch ben y mamplish na dim. Wel, rown in teimlo mai trueni na faswn in cael golwg iawn a llawn arno in hunan cyn starto sha Tanybryn.

 

Rw in lico cael golwg felny cyn mynd mas, nenwedig os bydda in gwishgo rhywbeth newydd am y tro cynta. A fe weda chi pam. Fe weles i hen dro bach lletwith ymbeidus yn digwydid i fi shwrne. Rown i wedi bod yn Llandeilo fe se [fyse??] ar byrnawn dydd Sadwrn, a wedi prynu jaced barod i fin hunan yno. Roedd hyny cyn bod Hughes y Shop, Bertawe, wedi priodi Lorah ni, chi wyddoch; wath byth wedyn gydag e rwyn pyrnu pobpeth felny, wrth gwrs; am mod

 

 

 

 


None
(delwedd B0903c)

(Papur Pawb. 12 Mawrth 1898). Pennod 7.

in meddwl dylse pob un helpu ei dylwth ei hunan, ac am fod gwell bargen i gael yn shop Hughes, mab-yn-nghyfreth, nag yn un man y gwn i am dano.*

 

*Yr ydym wedi croesi allan fan yma hanner dwsin o frawddegau yn y rhai y noda Mrs Jones brisiau nwyddau neillduol yn Shop Mr Hughes. Rhaid i ni ddyweyd eto mai fel hysbysiad yn unig y gellir caniatau i beth felly ymddangos. - Gol. Papur Pawb.

 

Wel, fel rown in gweyd wrtho chi, fe wishges ir jaced boreu Sul, yn y parlwr bach, a gan mod i wedi cael yn rhwyestro tipyn bach y boreu hyny, a ngwallt i wedi dod yn rhydd pan own in dodin monet ar y mhen, roedd hi wedi mynd dipyn bach yn ddiweddar, a phawb wedi mynd o mlaen i shar cwrdd. Felny fe hastes inau i fynd gynta byth y gallswn i ar eu hol nhw, ar jaced am dana i, wrth gwrs, ond ddales i ddim o honyn nhw nes oe nhw yn nrws y tycwrdd yn mynd miwn, a fi oedd y dwetha on teulu ni yn mynd miwn. Maen set ni, fel gwyddoch chi, jest yn y pen pella orwth y drws, a felny roedd pawb, wrth gwrs, yn gallun gweld ni, a chael gweld beth sy gyda ni os bydd rhywbeth newydd gyda ni.

 

Wel, fe sylwes ir boreu hyny fod jest pawb yn edrych arna in mynd lan ir aley, fel se gyrnau ar y mhen i, a rown in meddwl, wrth gwrs, mai edrych ar yn jaced newydd i oe nhw. A felny roe nhw hefyd, o ran hyny, a fe ddechreues fod yn fwy ples ar y margen, er fod y jaced wedi costi cinog a dimai fach neis i fi. Wath rown in meddwl os oedd yn shaced newydd in werth i bawb i ddryched fel ny ar y nol i y tro cynta i fi i gwishgo hi fod rhaid ei bod hin rhywbeth onghomon iawn.

 

Wel, mae set Tanybryn jest goferbyn an set ni, yr ochor arall ir aley, a roedd Mrs Griffis yno on blaen ni. Pan ishteddes i yn y set a thowlu llygad ar Mrs Griffis fe welwn i bod hi wedi mynd mor goched ar gwaed yn ei gwyneb a rown in meddwl mai jealous oedd hi am fod gen i jaced newydd. Ond ar ddiwedd y cwrdd, dyma hin agor drws y set gynta o bawb, ac yn dod i shiglo llaw a fi, a fe nghadws i fanny nes oedd hanner y dynion wedi mynd mas, a finaun benwan ishe cael mynd iddyn nhw gael gweld yn shaeced i. Ond pan dries i agor drws y set dyma hin sishal yn y nghlust i: -

 

Mrs Jones, mynte hi. Mae ticet y shop ar ych shaced chi tu ol. Dodwch un or merched i dynu e bant dyn ewch chi mas.

 

Ac or mowredd anwl! Pan ddishgwyles i dyna ller oedd yr hen diced gwr drwg ar gefn yn shaced i yn blaen i wala, a finau yn yn hast heb i dynu e bant y bore hyny, ar hen barlwr bach yn rhy dywyll i fi weld yn hunan yn y glas yn reit. Fe allswn jest suddo ir ddaear gan gwiddyl wrth feddwl mod i wedi martsho felny holl hyd y tycwrdd a thicet y shop ar gefen yn jaced i.

 

Rwyn shiwr fod Mrs Griffis, yr hen bishyn shwd ag yw hi, wedi cael sport neis am y mhen i wedi mynd mas or cwrdd y bore Sul hyny!

 

(Iw barhau.)



 

 

None

(delwedd B0904a)

(Papur Pawb. 19 Mawrth 1898). Pennod 8.

PRIODIR PLANT:
sef FFWDAN MAM-YN-NGHYFRAITH

(Hawlysgrif yr Awdwr.)

PENNOD VIII. - YN TANYBRYN.

 

[sic; = VIII]

Dyma nn drefnus iawn yn gallu mynd mlaen ar hanes a gweyd wrtho chi am y fisit i Danybryn, a dangos selfishness Mrs Griffis i chi. Ry chin deall nawr beth own in wneud yn y parlwr gore cyn mynd maes, am nag oedd dim glas ffit i ddyn i ddryched yndo fe i gael yn y parlwr bach. Down i ddim am fynd sha Tanybryn welwch chi, a falle ticed y shop yn hongan wrth y fonet, neu yn stico ar y mantl newydd.

 

Wedi satisfyon hunan na allse Mrs Griffis gael dim byd maes o le yndw i, dyma fin starto i gael mynd. Ond gyda mod in agor drws y parlwr pwy welswn i ond Dafydd ni wedi dod mewn o maes i moyn rhywbeth.

 

I beg pardwn, maam, mynte fe pan welws e fi gynta, waeth rown i wedi tynur veil lawr dros y ngwyneb, a felny welws e ddim o ngwyneb i i nabod i ar y tarawiad cynta.

 

Rown i dipyn bach yn shy hefyd, waeth a gweyd y gwir i chi, dynar tro cynta eriod i fi wishgo veil welwch chi. Dyw hi ddim yn ffashwn gyda ni ffordd hyn i wishgo veils, dim ond gwragedd a merched y gwyr mawr. Ond rown i wedi gweled cyment o wishgo arnyn nhw pan own i tua Llanelli ag Abertawe, welwch chi, a Polly, merch-yn-nghyfreth, oedd wedi rhoir fonet i fi wedin sharso i i wishgo veil gydar fonet, fel rown i wedi penderfynu gwneud. A fe netho.

 

Felny pan etho i maes or parlwr dwp yn erbyn Dafydd, ar fantl newydd ar yn ysgwyddau, ar fonet newydd ar y mhen, ar veil lawr dros y ngwyneb, nabyddws Dafydd un tipyn mo hono i.

 

I beg pardwn, maam, mynte fe, ac yn cochi iddi ddou clust.

 

Un shy iawn yw Dafydd ni, welwch chi.

 

Allswn i ddim pido wherthin i weld en cochi fan ny o flaen i wraig, ac yn begian y mhardwn i.

 

Ond fe nabyddws Dai yn llaish in hwerthin, a dyma fen gweyd: -

 

Danco chi, Jane, los! - Chi sy na? Fe gredes ta mishtres oedd wedi dod i roi tro am dano ni.

 

Falle wir, myntwn inau. A begio pardwn ych mishtres, a dancoch gwraig iefe? Neis iawn wir!

 

Ry chin smart ymbeidus. los! Ble ry chin mynd mor smart a yna? A beth ywr hen fflwcs yna sy gyda chi dros eich gwyneb?

 

Un rhyfedd i chi. Dafydd Ond gwyddoch chi mai veil yw hon?

 

Ie, ie, mi wn i hynyn nobl, ond beth y chi, Jane, yn neud a veil? Dyna beth w i am wbod.

 

Falle wir! Fel pe na bysech gwraig chin ddigon da i wishgo veil gwlei? Cerwch chi ir trefi yna a fe gewch pob lodes o forwn yn gwishgo veils nawr. Ac os bosib os na alla i wishgo veil ambell waith.

 

Ond ble ry chin mynd? mynte fe.

 

 

 


None
(delwedd B0904b)

(Papur Pawb. 19 Mawrth 1898). Pennod 8.

Mae hyny gen i, myntwn i. Ry chin ganu mynd a dod pryd myno chi, heb ofyn cenad i neb ond Mrs Griffith, Tanybryn, a maen enbed o beth na alla inau gael mynd weithe?

 

Atebws e ddim byd am fynyd. Yna mynta fe,

 

Pryd cawn nich dishgwl chi nol?

 

Wn i yni y byd, myntwn i. Falle ca i gyment o reso man lle rwy in mynd ag y chin gael yn Tanybryn. Ac os fel ny dyn a wyr pryd dywa in ol.

 

Jane, mynte fe, braidd yn savage, waeth fe all Dafydd fod yn gas weithe. Peidwch sharad dwli! Licwch chi i fi ddod i gwrdd a chin dod nol?

 

Gwnewch chi fel mynoch chi, Dafydd bach, myntwn inau, yn starto i fynd.

 

Ble ca i ddod i gwrdd a chi?

 

Ble mynoch chi, myntwn inau, ac off a fi.

 

Fe droies y mhen nol dros yn ysgwydd ar bwys gat y clos, a dyna lle roedd Dafydd yn sefyll ar step y drws yn dryched ar yn ol i.

 

Os byddwch chin dod i gwrdd a fi, Dafydd, myntwn i wrtho fe, rhog trueni or diwedd: chi gewch yn hanes i gyda Mrs Griffis, Tanybryn, a bant a fi.

 

Wel wn i ddim pryd enjoyes i walk yn debyg slawer dfydd. Roedd gwaith Dafydd nin begian yn mhardwn i wedi gweyd mwy wrtha i nag oedd y glas uwch ben y mamplis yn y parlwr goreu wedi weyd, a mi wyddwn yn mod in edrych yn deidi ymbeidus.

 

Ond fe fues i just a bursto maes i hwerthin unwaith neu ddwy ar y ffordd, pan gwrddswn i a rhai or cymydogion, un yn gwneud bow ar llall yn gwneud cyrtshi. Fe dynws Dafydd, y gof, i hat i fi, wrth fynd hibo, a fe wnaeth gwraig y Llety gyrtshi nes twtsh y llawr. Rown in wherthin yndw in hunan ar ol mynd hibo, nenwedig am ben gwraig y Llety, waeth hen un uchel ymbeidus yw hi, just cynddrwg a Mrs Griffiths, Tanybryn; a roedd cwpwl o eiriau bach cas wedi paso rhyngty hi a fi ar Hewl y Farchnad, yn Llandilo, y dydd Sadwrn cyn hyny.

 

Dyna tir hen ladi, myntwn i wrthw in hunan, wedi iddi hi fynd hibo. Falle byddi di dipyn bach yn fwy gofalus am dy dafod pan gwrdda i dir tro nesa yn Hewl y Farchnad, yn Llandilo.

 

A gwir y wedais i hefyd. Roedd hin fwy gofalus i thafod. Wedws ir un gair oi phen, ond troi bant fel bollt pan welws hi fin dod. Roedd hi wedi dod i wybod erbyn hyny, welwch chi, waeth roedd hi wedin ngweld i yn y tycwrdd, dydd Sul, ar fantl ar fonet, ar veil a chwbwl fel rown ir diwarnod rhows hir cyrtshi i fi ar yr hewl pan own in mynd i Danybryn.

 

Dw i ddim yn credu fod gwraig y Llety wedi maddeu iddi hi ei hunan byth am i bod hi wedi rhoi cyrtshi i fir diwarnod hyny. A fe wn fod Dafir, gof, wedi provokoi shar arni, waeth fe glywes i Gutor gwas yn gweyd. Roedd Guto, welwch chi, wedi mynd ir efel ryw noswaith, a fe ddaeth gwraig y Llety hibo, a phar o sgitshe yn ei basged i gael eu hoelo.

 

Dyma Dafin citsho yn y sgitshe, ac yn edrych arnyn rhw, ac yn gofyn shwdl licse hi cael nhw wedi eu hoelo.

 

 

 


None
(delwedd B0904c)

(Papur Pawb. 19 Mawrth 1898). Pennod 8.

Fe weles bar o sgitshe wedi eu hoelo yn bert ymbeidus gyda gwraig Cwmllydan, mynte fe. Licsech chi i fi gneud nhw felny?

 

Ffordd yr hen wrdrwg i fynd amboutu gwraig y Llety, ai llynu hi maes oedd hyny wrth gwrs, waeth fe wydde well nag w i byth yn gwishgo sgitshe hoelon, dim ond pedol fach yn ol, a phlat bach teneu, teneu, yn mlaen. I gelwydd mawr e oedd gweyd y mod in gwishgo sgitshe hoelon. Ond wyddai wraig y Llety, diruan bach, ddim gwell.

 

Ond dyma hin codi ei thrwyn. Na i dim diolch i chi, Dafis! Hoelon plaen w in moyn. Dw i ddim wedi dysgu cym up y dre, diolch ir mowredld.

 

Nag y chi, mich mentra i chi, mynte fen ol. Ond gwedwch wrtha i, pwy oedd y ledi gwrddsoch chi ar yr hewl, pwy ddiwarnod? Fe glywes eich bod chi, a menywod erill, wedi ffansio i dillad hin ymbeidus. A roedd Jack Tydraw yr ochor draw ir berth, a mae en gweyd eich bod chin shwr o gofio pwy oedd hi, waeth fe rhoisoch chi gyrtshi mawr iddi wrth fynd hibo.

 

Ei anwiredd mawr e yw hyny! mynte hithe, yn cochi fel y tan. Netho i ddim ond plygu i godi tipyn bach ar y ngardys!

 

Dyna chi shwd un yw gwraig y Llety. Ond hen foy ymbeidus yw Dafir gof.

 

Un smart y chi, Mrs Jones, mynte fe wrtha i tranoeth, pan oedd en dod i Gwmllydan i wneyd rhywbeth ir engine chaffo.

 

Be syn bod nawr? myntwn i.

 

Ow, mynte fe. Fe glywes ych hanes chi nithiwr, a bod gwraig y Llety wedi rhoi cyrtshi hyd y llawr i chi. A wir, fe gredes in hunan mai un o ladies y Gelli Aur oe chi pan gwrddes i a chi.

 

Taw son, Dai! myntwn i. Mae rhyw hen snecs fel na gen ti stil.

 

Chi wyddoch chi well na hyny, Mrs Jones, mynte fe. Does, yma ddim menyw arall yn yr ardal allse neyd i fi feddwl mai un o ladies Gelli Aur yw hi.

 

Ond rwyn gweyd am Dafir gof stil mai un or dynon mwya craff yn yr ardal i gyd yw e.

 

Ond ta beth, mlaen a fi tua Tanybryn, a chnoco wrth ddrws y ffrynt. Mae drws y back yn Tanybryn, ond fydda i byth yn mynd ffor ny. A mae hanner ucha drws y ffrynt yn lass. Tipyn o hen ffrwmp yn Mrs Griffiths oedd ei gael e fel ny. Ond fe atebws i ddiben y tro hyn. Fe ngwelwd i rywffordd drwyr glass yn y drws, wath pan ddaeth y forwn ir drws, roedd ffedog lan oi blaen hi, a fe gymra in llw mod i wedi gweld hin ei chlymu hi am ei chanol wrth ddod drwyr passage.

 

Dyma hono wedyn yn gwneyd cyrtshi i fi pan agorws hir drws.

 

Is Mrs Griffiths in? meddwn i.

 

Yes, maam. Please walk in, maam. This way, maam, mynter forwn.

 

A finnau jyst a byrsto gan hwerthin, waeth hen lodes o forwn i fi oedd hi, oedd wedi mynd i Danybryn orwtha i Clangaua cyn diwetha.

 

I call Mrs Griffiths now, maam. Please sit down, mynte hi, ar ol yn nhroi i ir parlwr ffrynt, a thynu ei ffedog dros un or stolan [sic; = stolau] yna.

 

(Iw barhau.)

 

 

Sumbolau:

a A / / e E / ɛ Ɛ / i I / o O / u U / w W / y Y /
ā
Ā / ǣ Ǣ / ē Ē / ɛ̄ Ɛ̄ / ī Ī / ō Ō / ū Ū / w̄ W̄ / ȳ Ȳ /
ă Ă / ĕ Ĕ / ĭ Ĭ / ŏ Ŏ / ŭ Ŭ /
ˡ ɑ ɑˑ aˑ a: / : / e eˑe: / ɛ ɛ: / ɪ iˑ i: / ɔ oˑ o: / ʊ uˑ u: / ə /
ʌ /

ẅ Ẅ / ẃ Ẃ / ẁ Ẁ / ŵ Ŵ /
ŷ Ŷ / ỳ Ỳ / /
ɥ
ˡ ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ əɪ uɪ ɪʊ aʊ ɛʊ əʊ /

ә ʌ ẃ ă ĕ ĭ ŏ ŭ ẅ ẁ Ẁ ŵ ŷ ỳ Ỳ
wikipedia, scriptsource. org

Y TUDALEN HWN /THIS PAGE / AQUESTA PGINA:

www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion-prys_priodi-r-plant_1898_rhan-1_0338k.htm

Ffynhonnell / Font / Source: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Creuwyd / Creada/ Created: 04-11-2017

Adolygiadau diweddaraf / Darreres actualitzacions / Latest updates: 04-11-2017

Delweddau / Imatges / Images:

 

Freefind:

Archwiliwch y wefan hon
SEARCH THIS WEBSITE
...
Adeiladwaith y wefan
SITE STRUCTURE
...
Beth sydd yn newydd?
WHATS NEW?


Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwld ag un o dudalennau'r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sc? Esteu visitant una pgina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Galles-Catalunya)
Where am I? You are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website
Weə-r m ai? Yu a-r vziting ə peij frm dhə CYMRU-CATALONIA (= Weilz-Katəluniə) Wbsait



Free counter and web statsStatistics for Welsh Texts Section / Ystadegaur Adran Destunau Cymraeg