kimkat1059k At y Werin Weithyddawl Gymreig. Emyr Llydaw. Erthygl o Seren Gomer, 1845-1846

 

07-02-2019

 

● kimkat0001 Yr Hafan www.kimkat.org

● ● kimkat2001k Y Fynedfa Gymraeg www.kimkat.org/amryw/1_gwefan/gwefan_arweinlen_2001k.htm
● ● ●
kimkat0960k Mynegai i’r holl destunau yn y wefan hon www.kimkat.org/amryw/1_llyfrgell/testunau_i_gyd_cyfeirddalen_2598k.htm

● ● ● ● kimkat0960k Mynegai i’r testunau Cymraeg yn y wefan hon www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_mynegai_0960k.htm

● ● ● ● kimkat1059k Y tudalen hwn

 

 

0003g_delw_baneri_cymru_catalonia_050111
 (delwedd 0003)

 

 

 

 

 

Gwefan Cymru-Catalonia
El Web de Gal
·les i Catalunya
The Wales-Catalonia Website

Cywaith Siôn Prys - Testunau Cymraeg ar y We
 
At y Werin Weithyddawl Gymreig
Emyr Llydaw.
Erthygl mewn saith rhan o’r cylchgrawn Seren Gomer, Cyfrol 28 (1845) a Chyfrol 29 (1846)
.


Y Llyfr Ymwelwyr / El Llibre de Visitants / The Guestbook:

http://pub5.bravenet.com/guestbook/391211408/


a-7000_kimkat1356k

Beth sy’n newydd yn y wefan hon?

7015_map_cymru_a_chatalonia_trefi_caernarfon
 (delwedd 7015)


.... 

Llythyr 1

Seren Gomer. Cyfrol 28. Blwyddyn: Ebrill 1845. Tudalennau: 107-110. Delweddau: B0980-B0986

Gymry, dyma effeithiau dysgu y Saesonaeg idd eich plant o flaen y Gymraeg; eu gwneyd yn anwybodusion... (x107)


Llythyr 2 (heb ei gynnwys yn y tudalen hwn)
Seren Gomer. Cyfrol 28. Blwyddyn: 1845.

Llythyr 3

Seren Gomer. Cyfrol 28. Blwyddyn: 1845. Tudalennau: 330-332. Delweddau: B0987-B0991

A yw Gwerin Weithyddawl Cymru yn fwy anwybodus na Gwerin Weithyddawl Lloegr yn bresennol? (x330)

Llythyr 4

Seren Gomer. Cyfrol 28. Blwyddyn: 1846. Tudalennau: 44-46. Delweddau: B0992-B0995

Parhad o’r gofyniad, A ynt Gwerin Weithyddol Cymru yn fwy anwybodus ac anwaraidd na Gwerin Weithyddol Lloegr yn bresennol? (x44)

Llythyr 5

Seren Gomer. Cyfrol 28. Blwyddyn: 1846. Tudalennau: 232-233. Delweddau: B0996-B0999


Llythyr 6
Seren Gomer. Cyfrol 28. Blwyddyn: 1846. Tudalennau: 296-298. Delweddau: B1000-B1003


Llythyr 7
Seren Gomer. Cyfrol 28. Blwyddyn: 1846. Tudalennau: 198-200. Delweddau: B1004-B1008



 

 


(delwedd B0980) (llythyr 1, tudalen 107a)

(x107)
AT Y WERIN WEITHYDDAWL GYMREIG
EMYR LLYDAW

 
Llythyr 1
Seren Gomer Ebrill 1845

“Eu Nêr a folant, eu hiaith a gadwant.” TALIESIN.
 
Os ymchwiliwn pwy ydynt elynion mwyaf yr iaith Gymraeg yn Nghymru, yn yr oes hon, a phaham ei difodir, ymddengys i ni mai y Cymry eu hunain ydynt yn gweithredu yn benaf yn erbyn ei llwyddiant, a'r ymarferiad o honi. Nid ydym am ymwrthod â dysgu ieithoedd heblaw y Gymraeg; ond nid allwn lai na chollfarnu yr arferiad gwrthun ag sydd wedi cael ei fabwysiadu gan werin weithyddol y Cymry, sef, dysgu y Saesonaeg idd eu plant yn hytrach nâ'u hiaith eu hunain. Pa mor atgas yw clywed Cymro a Chymraes, y rhai fyddant wedi dysgu o gylch hanner cant neu driugain o eiriau cyffredin Saesonaeg, gair yma a thraw, gan un ac arall, a braidd yn deall, pan ofynir iddynt y ffordd o un ty i'r llall gan y Sais uniaith, pa un a ddylent ateb - yes neu no; nac mewn un wedd yn medru rhoddi unrhyw ddesgrifiad, hyd yn nod o'r caeau, yr heol, y gamfa, neu'r glwyd, yn dysgu eu plant o'u mebyd i siarad Saesonaeg, meddynt hwy. Dyma athrawon a chyfoeth o wybodaeth ganddynt i addysgu eu plant i fod yn ddoethion ar ychydig o eiriau anneall iddynt eu hunain! Beth? Ceisio dysgu eu plant i ddeall ac ymarfer iaith ag y mae eu geiriau mor anwybodus ag y byddai y Chinaeg! Onid mwy rhesymol fyddai i chwi, deuluoedd Cymreig, ddysgu idd eich plant yr iaith ag y cawsoch eich haddysgu ynddi gyntaf? Mor amlwg ydyw, mai hono ydyw yr iaith hawddaf i chwi ei llefaru, a pha faint gwell y deallech hi na rhyw lol fratiog, na wyddoch chi ddim yn y byd am dani? Nid yw hanner y werin Gymroaidd yn gwybod pa ydynt ystyron hanner y Saesonaeg a faldorddant wrth eu plant, o un wythnos i'r llall; pan, ar yr un pryd, y deallent yn drylwyr eu hen iaith hynaws a chynhenid gyda phob rhwyddineb. Yr ystorfa fechan yma o wybodaeth Seisonig a drosir i feddiant rhan ehelaeth o blant y Cymry, sydd yn eu gwneud yn ddyliaid yn ngwyneb gweddeidd-dra Cymruaidd. Nid ydynt yn gwybod y Gymraeg, a geill pob dyn a'u clyw, ac sydd yn meddu gwybodaeth o'r Saesonaeg, ganfod, nad ydynt yn gwybod dim ar yr aeg hono, oblegid nid oeddynt eu rhieni yn gwybod ond yn fynych, mal y nodwyd, lai na thriugain o eiriau, a'r canlyniad




 

 


(delwedd B0981) (llythyr 1, tudalen 107b)

 

naturiol yw, pa wybodaeth a ddichon fod gan eu plant; pan, ar yr un pryd, pe cawsent eu codi fyny, gan ddysgu iddynt iaith gynhenid eu rhieni, a allasent fod yn enwogion mewn gwybodaeth erbyn cyrhaeddyd eu deunaw mlwydd oed, ond wrth geisio eu dwyn i fyny yn Saeson, beth yw y canlyniadau? Wel, eu gwneud yn amddifad o'r hyn a'u gwnaethai yn ddefnyddiol yn mysg eu cydwladwyr - eu gwneyd yn anwybodus am genedlgarwch eu hynafiaid - lladd yr ysbryd teilwng o gyfeillgarwch a hanfodai yn mysg eu cenedl, eu hestroneiddio, a'u gyru i feusydd na ddeuant yn eu hoes yn adnabyddus ynddynt na’u cynnyrch - gosod mur rhyngddynt a dyfod i feddiant o wybodaeth am geinion awenyddawl gwlad eu genedigaeth - eu gormeiliaw ag iaith na fedrant arni, a'u hamddifadu o wybodaeth a fuasai o wir lesiant iddynt - cauad eu llygaid ar gynnyrchion yr argraffwasg Gymreig; ac ni chant wybodaeth mwy am hanesyddiaeth eu gwlad a'u cenedl, eu defion a'u harferion, a cheuir eu clustiau am byth rhag cael y fraint o ddeall y Bardd pan yn traddoid ei gân arwrol, ei gainc fugeil-gerdd, ei englynion a'i gywyddau ar amryfrith destunau. Hefyd, gwthiwyd hwynt o gysegr-leoedd eu henafiaid, trwy annoethineb eu teidiau a'u mamau, i wrando yr hyn na ddeallant, pan y mae eraill o'u cydwladwyr ym meddu eu breinniau cynhenid, eu hiaith yn eiddo eu teuluoedd, a phregethiad efengyl hedd yn seinio yn eu clustiau o gleinfeydd eu gwlad, a'i pharchedigion yn gwenu yn siriol arnynt, ac yn ei hanerch â'r “newyddion da o lawenydd mawr,” yn eu clywedigaeth, pan mae'r Cymry Seisonig wedi eu hamddifadu o deimladau dynol tuag at eu hiaith, o herwydd mal y dengys yr hen ddiareb “rhwng dwy gadair wedi syrthio idd y llawr, heb ddal yr un,” na neb i drugarhau wrthynt; a hyny o achos ynfydrwydd, dallbleidiaeth, a balchder anwybodus ein rhieni. “C,” meddai ambell goegyn hunanfalch, “onid oes digon i weinyddu mwy o fendithion iddynt nag sydd ar fwrdd llëenyddawl, yn ngwahanol ieithoedd Cyfandir Ewrop, yn y pedwerydd canrif ar bymtheg?” Efallai mai gwir hynya; ond i ba ddyben y gwrandawa y Cymro Seisonig, yr hwn a fydd wedi dysgu siarad y “twang” hir wrthun, ac ymarferawl, a daenir ar hyd y wlad; ac wrth lynu wrth hwna, a cholli y Gymraeg? ïe, pa fudd a geiff wrth wrandaw ar areithydd hyawdl a medrus yn traddodi darlith neu bregeth Seisnig weddol gyffredin? Byddai mor amddifad o'i deall â phe y gwrandawai ar Gymro yn llefaru y Gymraeg. Gymry, dyma effeithiau dysgu y Saesonaeg idd eich plant o flaen y Gymraeg; eu gwneyd yn anwybodusion, ac yn sathrwyr llëenyddiaeth eu gwlad enedigol yn gyffredinol. Nid oes un weithred yn ymddangos yn fwy annynol na gweled dynion na allant ddal i siarad pum mynyd yn Saesonaeg ag un dyn, pan, ar yr un pryd, y mae ganddynt eu hiaith eu hunain yn berffeithiach nag un iaith arall - yn wybodus o arferion eu gwlad, ac am ystwythder y Gymraeg, a 'i lliosogrwydd o eiriau, etto, dan rith a mwgwd yn ymarfer â iaith na wyddant ddim am dani, - yn amcanu dwyn eu plant i fyny yn Saeson, er mwyn iddynt fod yn fwy boneddigaidd








 

 

 
(delwedd B0982) (llythyr 1, tudalen 108a)

 
(x107) (meddant) nag y dichon fod, ac ymddangos, mewn gwe Gymroaidd. Pe y gofynem i lawer ag ydynt am alltudio eu hiaith o'r byd, rhag bod yn gyfrwng i drosglwyddo gwybodaeth deuluaidd yn y Dywysogaeth, a wyddant pa rai ynt ystyron y geiriau Seisnig cyffredin a ganlýn, y rhai a arferir eu clywed mor gyflawn gan blantos yr ysgolion: Noun, Adjective, Pronoun, Verb, Adverb, Article, Conjunction, Preposition, Interjection; hefyd, Addition, Multiplication, Reduction, &c.; ïe, nag am un o reolau rhifyddiaeth, a channoedd o eiriau cyffredin ac ymarferol gan y sawl a wyddant y ffordd i siarad y Saesonaeg yn weddaidd, pan nad allai y rhan fwyaf o'r werin wladaidd, a ddysgant y Saesonaeg i'w plant, roddi atebion na dychymygu pa beth i ddywedyd ydyw eu hystyron, a chan eu bod mor anhyddysg mewn geiriau mor gyffredin, pa faint eu hanaddasrwydd i ddwyn eu plant i wybodaeth o'r aeg Saesonig? Myn llawer o Gymry, na allant lunio gorchymyn idd eu plant mewn geiriau Saesonaeg, i anfon y gwartheg o'r erfin, y ceffylau o'r maes, y defaid o'r egin, y moch o'r twmpath cloron, y ieir o'r gwenith, y gwyddau o'r cae ceirch, 'r hwyaid o'r ty, i ni gredu eu bod yn deall Saesneg yn ddigon da i addysgu eu plant i fod yn Saeson!
Pa ryfedd fod ein cymmdogion yn chwerthin am ben y cyfryw! Nid yw y cyfan a ddysgant ond ffuantrwydd, oherwydd gwel pob dyn ag sydd wybodus, nad ynt yn addas at un gorchwyl, mwy nâ phe buasent heb ddysgu gair o un iaith o'r byd ond y Gymraeg. Y mae cyflawn gymmaint, os nad mwy, o drafferth i ddwyn y plant a ddygir i fyny gan rieni hanner-Saesonaidd i adnabyddiaeth gywir a chymmedrol o'r aeg hono, a phe buasent wedi eu dwyn i fyny yn Gymry trwyadl, am hyny, Cymraeg a weddai i bawb o genedl y Cymry.
 
Beth sydd yn fwy annynawl na gorfod gwrando ar ŵr a gwraig. na wyddant ddim am un iaith ond y Gymraeg, a phob peth o'u hachosion am y ffair, y farchnad, &c., yn trefnu eu gweithrediadau, a phob gair a siaredir ganddynt a rhyngddynt â'u gilydd yn y ty; ac yn y maes, a fydd oll yn Gymraeg; a phan anerchant eu plant, rhyfedd y cyfnewidiad! pob gair fydd mewn rhywlun o Saesnonaeg, yr hyn sydd yn peri i ni feddwl am hen Gymro, o Flaenafon, yn myned â buwch a llo i ffair y Fenni, er ys llawer o flyneddau. Wedi myned â hwynt yno, daeth rhyw ddyn at Shon, a gofynai bris y fuwch a'r llo, yn Saesonaeg; a chan na wyddai Shon ddim Saesonaeg, rhedai ymaith i edrych am un o’i gymmydogion,sef, Harry o'r Coety; cafodd afael ynddo, gan ei anerch, “Harry, dere gyda fi, i gael gwybod a wyt yn adnabod Saesonaeg.” Wedi myned yn ol at y fuwch a'r llo, gofynai y boneddig, “What is the price of the cow and the calf?” “Ïe, (ebai Harry wrth Shon,) Saesonaeg yw ef,” gan eu gadael yno, heb roddi ychwaneg o esboniad nâ hyny, ond yn unig annog y Sais i ddysgu Cymraeg cyn dyfod i brynu buwch a llo eilwaith. Ychydig o enghreifftiau o brawf mor ynfyd yw y rhai a gymmerant arnynt fod yn dysgu y Saesonaeg idd eu plant, pan yn gorfod arfer y cyfryw gymmysgfa a ganlyn, mal y clywsom lawer o'r cyffyleb: - Y fam yn anerch ei mab, - “John, my dear, go yn gwmws to cwrs the sheep o'r kae dan yr hewl.” “Bill bach, yngwas i, go yn union to see where is Britwen a


 

 

 
(delwedd B0983) (llythyr 1, tudalen 108b)

 



Nebwen
, the cows, and shut them in the kae dan y graig.” “Harry, you must go to gweilod y wern and shut the bwlch yn y wal, and agor y gwter, and see if the mamogion are in the redin {???}. “Evan,” meddai un hen ŵr wrth y Bontnewydd, yn swydd Faesyfed, ag oedd yn tybied ei fod yn gryn dalp mewn gwybodaeth Seisnig., “go, and fetch me the bar harn bach from the beudy.” “Daid,” meddai y bachgenyn, which shall I bring from the beudy, the bar harn bach or the bar harn mawr?” Onid ydynt y cyfrai faldorddion ag uchod yn ddigon i beri i Gymro wridaw gan gywilydd, am fod ei gydwladwyr yn ymddwyn mor anweddaidd tuag at eu plant, gan ei dysgu i fod yn ffyliaid, ac yn chwerthinfa gyffredin eu cymmdogion, am nad oes ganddynt eu hiaith gynhenid ac nad ynt alluog i siarad un o'r ddwy iaith, na rhoddi atebiaid i estron-ddyn o Sais na Chymro, mewn modd gweddaidd, yn yr iaith, (?) meddynt, y cawsant eu haddysgu ynddi gan eu rhieni anwybodus a beilchion?”
 
Gwladwyr hynawsion, peidiwch a chymmeryd eich twyllo gan y cyfrai a'ch annogant i beidio a dysgu eich hen iaith idd eich plant. Ymarferwch, bob amser, yn eich teuluoedd, yr iaith Gymraeg; darllenwch yr Ysgrythyr, a phob llyfr daionus ereill, yn eich iaith; ymarferwch hi yn y ffair a'r farchnad, bawb ag sydd yn wybodus ohoni; dysgwch eich plant i ddarllen eich iaith, mal y gwelont ei gwerth hyd oni fydd Porthmyn Lloegr yn gorfod dysgu y Gymraeg, mal yr ydych chwi wedi cael eich gorfodi i ddysgu eu Saesonaeg; ac na ofalwch am sarhad y gwy^r hyny, pan yn cablu eich “Welsh gibbrage”; oblegid yr ydym yn gwybod fod y rhan amlaf o naddynt hwy yn amddifad o wybodaeth yn, ac am, yr unig “gibbrage” ag y ceisiant osod allan eu meddyliau yn ddealladwy i ereill. Na thwyller chwi, fy nghenedl, nid ydych yn anwybodus o herwydd mai y Gymraeg ydyw eich iaith; nid ydych yn anwariaid o herwydd mai Cymry ydych; nid ydych yn wyr llyfrion am mai y Gymraeg yw eich mynegfys at wybodaeth. Na, na; meddant eich cyfeillion, y rhai ynt wedi sylwi ar ddullwedd gwerin-bobl Lloegr, a gwerin-bobl Cymru, ddyfod i'r maes yn dystion fod y Cymry wedi cadw eu hiaith yn llawer mwy moesgar dynion (sic) nâ y Lloegrwys; yn fwy gwybodus yn fwy gwybodus ac aiddgar dros lesoldeb, yn hawddach eu trin, ac yn tra-rhagori arnynt mewn rhinweddau crefyddol. Nid yw yr arferiad annuwiol ac {NODYN:??adgas - ddim yn eglur} o gablu enw Duw, tyngu a rhegu, gyda phob gair a draethir, yn mysg y werin wladol Gymreig, mal y ffyna ar hyd a lled swyddi Lloegr; ac, ysywaeth, y mae y Cymry ag ydynt wedi colli eu Cymraeg, mal yn ymhyfrydu yn yr arferiad; ond y mae y Weinidogaeth Efengylaidd wedi cael effaith gref ar eich meddylion, trwy offeryngarwch Cenadon hedd; ac y mae rhyw rymusder wedi, ac yn parhau i gydfyned â phregethiad y Gair yn y Gymraeg, yn mysg y genedl. Deliwch eich iaith; y mae yn deilwng o'i chadw, ei meithrin, a'i choleddu, tra y parhao enw Prydeiniaid i gael ei Gydnabod yn mysg gwahanol genedlaethau y byd, pa na fuasai un gymmeradwyaeth arall yn galw am eich parch ati. Rhaid fod rhyw ddylni, un angheredigrwydd mawr, wedi dal y Cymry, pan y gallant adael heibio eu hiaith orlawn o eiriau - iaith mor beraidd ac ystwyth ei




 

 

 
(delwedd B0984) (llythyr 1, tudalen 109a)

 

(x109) chystrawen - iaith mor bêr ei chaniadau, mor felys ei pheroriaeth, mor gyfoethog o ddiarebion ein henafiaid medrusgall, eu trioedd, teilwng o'u cerfio ar fynor gwerthfawrocaf y byd; a channoedd o enwau mor naturiol ar gael, er enwi meibion merched y Cymry. Peth arall ag sydd wedi dod i arferiad yn mysg y Cymry, ag sydd yn gyfeuliornus, yw enwi eu plant ag enwau ysgrythyrol. Nid ydym, yn y mesur lleiaf, am ddiraddio enwau dynion yn yr ysgrythyr, - pell oddiwrthym yw hyny; ond pa gyssondeb sydd yn yr arferiad gwrthun o roddi yr enwau canlynol ar blant y Cymry; ïe, na phlant y Saeson ychwaith, sef Adda, Abel, Noah, Lot, Abraham, Isaac, Jacob, Esau, Moses, Aaron, Josua, Elieser, Jephthah, Esaiah, Jeremiah, Ezeciel, Daniel, Hosea, Habaccuc, Joel, Zecharaiah, Malachi, Uriah, Nathaniel, Solomon, Gad, Manassaeh, Benjamin, Joseph, Eliseus, Elias, Mesaleel, Matthew, Marc, Luc, Ioan, Paul, Pedr, Timotheus, Iago, a channoedd ereill a allem nodi. Pe y gwybyddech ystyron yr enwau uchod, gwridiech yn ngwyneb eich anwybodaeth. Nid oes un odd eich plant yn teilyngu yr enwau uchod, nag yn ateb idd yr ystyron a gyflëant; a pheth pe y cyfieithid y cyfryw enwau idd y Gymraeg, ac eich rhwymid idd eu hanerch felly, byddech yn rhwym o ganfod eich dylni. Etto, canfyddir yr un gwrthuni yn eich mympwyau yn rhoddi enwau merched, mal Efa, Sarah, Rebecca, Rachel, Naomi, Esther, Abigail, Elizabeth, Selina, Martha, Sophia, Eunice, Priscilla, Kesia, Jemimah, Lydia, &c.; a chynddryced eilwaith ynt y rhai canlynol: - Penelope, Charlotte, Eleanor, Frances, Leah, &c., ac ugeiniau o enwau anhyall i chwi eich hunain, y rhai ynt yn swnio mor amhuraidd yn nghlustiau y rhai a wyddant eu hiawn ystyr. Beth, fy nhydwladwyr, a ydych chwi wedi meddwi ar afresymoldeb? A ydych chi wedi penderfynu gwneyd pob peth yn groes i anianawd eich hynafiaid, yn mysg pa rai, hyd y canrifau diweddaf, a gadwasant eu hen enwau cywir, addas, a phriodol, ar eu plant heb eu llygru, trwy ystod eu darostyngiad dan iau y Rhufeiniaid, eu gormesiaid gan y Saxoniaid, câd-ruthriadau y Daniaid, ac yspeiliadau a thraws-oresgyniad y Normaniaid? Etto, eu henwau a gadwyd mewn ymarferiad hyd oes y Diwygiad, gan y gwrth-ddiwygiwyd yn hyn, er anghlod i genedl y Cymry, gan roddi heibio yr hen enwau, ac y dygwyd i arferiad enwau ammhriodol idd eu rhoddi ar eu meibion ac ar eu merched. Oni byddai rhai o'r enwau canlynol yn fwy priodol i'w rhoddi ar blant y Cymry, nâ'r rhai ynt mewn bodoliaeth yn bresennol:- Aneurin, Taliesin, Llywarch, Meugan, Brân, Llyr, Myrddin, Emrys, Einion, Eidiol, Cenau, Coel, Caswallon, Maelgwn, Tudur, Catwg, Gwinlliw, Glywys, Dewi, Goronwy, Rhys, Cynhaiarn, Hu, Ifor, Iolo, Cawrdaf, ynghyd â lluoedd ereill a ellid eu henwi, ond digon hyn. Y cyfrai ddylent fod enwau plant y Cymry, ac nid rhai dyeithr, mal George, Charles, Edward, Thomas, Richard, Benjamin, James, Francis, Joseph, Henry, Philip, William, Walter, Albert, Alfred, Robert, Lewis, Horatio, Nelson, Edmund, Frederick, Ralph, &c., enwau nad ydynt berthynol idd y Cymry. Darfydded y cyfrai ymarferion gwrthun, a bydded i ni y Cymry adferyd llawer


 

 

 
(delwedd B0985) (llythyr 1, tudalen 109b)

 

o'r hen enwau gynt, trwy eu gosod ar ein meibion ac ar ein merched. Beth am enwau ein merched yn y dyddiau presennol? Y rhai a roddir arnynt ynt mor ammhriodol ag y dichon i hyny fod, oblegid y maent yn cael enwau mor rhyfedd gan y Cymry, fel y mae arnom gywilydd idd eu crybwyll, heblaw yr enwau ysgrythyrol, mal Charlotte, Caroline, Jane, Prudence; a digrif yw clywed y canlynolion, Mary, Ann, Betto, Shwgi, Emma, Peggi, Flora, Harrieta, Paulina, Margareta, Louisa, Pamela, ac ugeiniau ereill o enwau anaddas ar ferched y Cymry. Nid ydym yn gweled un anghyssondeb yn yr enwau uchod i fod ar ferched y Saeson, ar Gyfandir y rhai y mae eu hystyron yn adnabyddus iddynt; ac nid ar ferched y Dywysogaeth, iaith pa ryw yw y Gymraeg, ac yn ol yr hyn sydd resymol dylent gael enwau Cymreig. Onid oes enwau mwy Cymruaidd ar gael? Oes; ond y mae rhyw falchder wedi meddiannu y werin Gymröaidd, a lle bynag y byddo balchder yn cael groesawiad, mor sic â hyny y bydd anwybodaeth yn ei ganlyn; ac felly maent y Cymry, fel na fynant fod unrhyw beth yn iawn, oni fydd yn toncian mewn rhyw swn Seisonig. Oni byddai yr enwau canlynol yn llawer gwell a mwy priodol: - Gwawr, Goleuddydd, Angharad, Gwladus, Nest, Elen, Mair, Tegwedd, Arianrod, Ceinwen, Morfydd, Dyddgu, Cenedlon, Eleri, Tywynwedd, Arddun, Dolgar, Non, Gwenfaen, Tegiwg, Madrun, Derwela, Maches, Gwenafwy, Peillan, Peithien, Cain, Cwyllog, Llechid, Gwenhwyfar, Gwenonwy, Bronwen, Mechell, Arianwen, Tanglwst, Nefedd, Gwrgon, Lleian, Rheingar, Gwenddydd, Tydfil, Elened, Gwen, Cymhorth, Clydai, Mwynen, Gwenau, Canna, Sanna, Melangell, Gwenlliw, Dwynwen, Enfail, Tybie, Ystrafael, Ethni, Tonwy, ac ugeiniau ereill, rhy aml idd eu crybwyll yma. Pe byddai idd y Cymry enwi eu plant, deuai hyny â mwy o ysbryd ymchwil idd eu mysg, a rhaid cydnabod pa mor fawr y siomiant y mae llawer estronddyn wedi ei gyfarfod, pan wedi dyfod gannoedd o filltiroedd o’i wlad, yn unig er cael gweled trigolion Cymry, clywed eu hiaith, ac hen enwau y preswelwyr; ond ow! nid oes yn swnio yn ei glyw enwau yr hen Gymry, ond digon o Dwmiaid, Johniaid, Dickiaid, Jamesiaid, Georgiaid, Charliaid, a Harriaid. Cymry, oni ddiwygiwch, ac ymdrechu mwy dros gadwedigaeth eich iaith, eich hen enwau, eich breinniau, a’ch defodau, buan y cleddir y cyfan o’ch eiddo mewn môr o anghof tragwyddol canys, os sylwn, dyma yw amcan y Senedd Saesonaidd yn barhaus; ac os edrychir yn ol ar weithrediadau Seneddol Prydain o gyfnod llas (?) y Tywysog Llywelyn gan y barbarydd gwaedlyd a annynol Edward y cyntaf hyd yr oes hon, amlwg i bob dyn yw fod eu hergydion yn barhaus er difreiniaw y Cymry o’u hiaith eu llenyddiaeth a’u cenedlgarwch gan hyny, ymwrolwn, a dangoswn fod ein hiaith a’n llenyddiath mor anwyl genym ag yw ein bywydau. Deuluoedd Cymröaidd y Dywysogaeth, dysgwch y Gymraeg idd eich plant o flaen un iaith arall o’r byd; rhoddwch enwau Cymreig ar eich meibion ac ar eich merched. Ysgolion Sabbathol y Dywysogaeth, dysgwch y Gymraeg yn yr eglwysi a’r addoldai yn flaenaf o un aeg arall; onite pa fodd y gwirir geiriau y Derwydd Taliesin?
“Eu Nêr


 

 

 
(delwedd B0986) (llythyr 1, tudalen 110a)

 
(x110) a folant, eu hiaith a gadwant.” At eich dyledswyddau â chwi, holl offeiriaid a phregethwyr, o bob enwad yng Nghymru: onite bydd rhaid eich claddu cyn eich amser, i barchedigion Saesonig i ddod i bregethu eu haeg yn eich areithfanau. O! fy nghenedl, diwygiwch yn hyn; deuwch mal un gwr i weithredu, ac yna ni bydd achos galaru mewn oesoedd dyfodol o gladdu yn Gymraeg, mal y cwynant llawer o wyr Cernyw heddyw, am ynfydrwydd eu henafiaid yn colli y Gymraeg.

Rhag i neb feddwl mai rhyw fympwy sydd genym am alareb y Cernywiaid ar ol eu hen iaith, gosodwn yma yr eglurhad a ganlyn: - Arferai Thomas Tregorah, Cernywiad, ymholi â ni, a mynych ofyn ystyron ugeiniau o enwau Cymreig ar lefydd yng Nghernyw, a mynych y llwyddem i ddesgrifiaw pa fath oedd yr ardal, neu y cylchon, mal y synai ein bod yn alluog i ddangos ansawdd a golygiad y llefydd, ac heb fod erioed o fewn yr wlad; ac y mae yn rhaid fod yr iaith Gymraeg yn gynnwysfawr cyn y gellid arddangos llefydd mor eglur. Dywedai yn aml, “fod y Cernywiaid wedi cadw eu breinniau a’u hiawnderau gwladol a dinasyddol, ond collasant eu hiaith, pan y collodd y Cymry ei breinniau, ond cadwasant eu hiaith, a’u llenoriaeth.” “Yr oedd,” meddai, “cadwedigaeth breinniau gwladol yn brawf o wroldeb, a llygad manwl; ond yr oedd yn rhaid fod y llygad arall yn dywyll, cyn y goddefasant golli eu hiaith; oblegid gwell yn y pen draw y golled gyntaf nâ’r ail.” “O!” meddai, “na fyddwn alluog ac yn wybodus yn y Gymraeg; mi a awn adref er adferyd eu cyniaith i fy nghydwladwyr; a gwn na fyddai fy ngwasanaeth yn annerbyniol.” Yn mhellach, dywedai, gyda galar, “Y mae yr enwau Prydeinig ar gael a chadw ar y llefydd, mal yr wyf yn aml yn gorfod ochain wrthyf fy hun, a dywedyd, yr enwau Cymröaidd hyn ydynt bob tro eu crybwyllir, mal yn dannod idd ein henafiaid am ei hynfydrwydd, ac, mewn ystyr, yn cyhoeddi, Yr ydym ni yn dàl y Gymraeg i fyny, er na feddwn dafodau i lefaru, na gallu i synied, tra yr oedd gan henafion yr oes hon bob un o’r ddau, er gweithredu i gadw eu hiaith heb ei difodi, cofiwch mai yr un cwyniad fydd gan rai o’ch hil ar eich hol chwithau, os goddefwch idd y Gymraeg gael ei chladdu. Os collwch eich iaith, cofiwch y collir eich enwau o lechres gwahanol genedlaethau y ddaear, ac ni bydd sôn am Gymry, Cymro, a Chymraeg, gan eich gorfodegwyr byth mwy. EIN HIAITH! EIN HIAITH! fy nghenedl; na adewch iddi gael darfod, oblegid na chewch chwi na neb o’ch olion ddiolch gan estroniaid am ei rhoddi heibio, ond eich gwarthruddo. Gwiriwn ddymuniad melysber y bardd, -

“Cymraeg ymdaeno, ac enw Cymro a baro tra bo byd.”

EMYR LLYDAW.

 

 

 

________________________________________________________
 
Llythyr 2 (?? ddim yn y ffotogopi sydd gennyf)
 
________________________________________________________
 

 

 


(delwedd B0987) (llythyr 3, tudalen 330a)

(x330)
Llythyr 3
Seren Gomer 1845

 

AT Y WERIN WEITHYDDOL GYMREIG.
 

LLYTHYR III.


A yw Gwerin Weithyddawl Cymru yn fwy anwybodus na Gwerin Weithyddawl Lloegr yn bresennol?
 
OLYGYDD HYNAWS, - Fod y Cymry yn fwy anwybodus ac anwaraidd nâ’r Lloegriaid, sydd yn ddiareb gan lawer o gorcymiaid [sic; gorcyniaid?] Cymreig, y rhai ydynt wedi dysgu ychydig o iaith yr olaf, a disytyru eu heiddo cynhenid eu hunain, er boddio eu mwympwyon gan-dybiawl. Efallai nad yw hyny wedi ei brofi, na digon o sylw wedi ei dalu gan bawb hyd yma ag ydynt yn adnabyddus â theithi a chyfiawnder yr anwybodaeth a hanfoda rhwng y ddwy genedl, ond fod haeriadau yn cael eu derbyn o flaen profion, a’r werin Gymreig yn gadael i hyny gymeryd lle heb un gwrthbrawf. Gan fy mod wedi cael cyfle i sylwi ar anwybodaeth y ddwy genedl, yn neillduol yn ardaloedd y gweithiau haiarn, yn Lloegr a Chymru, anturiaf i wneyd rhai nodiadau, er cael gweled pa un a ydyw yr haeriadau uchod am fy nghenedl yn rhai a ddaliant yn wyneb anwybodaeth ac anwareidd-deb y Cymry a’r Lloegriaid. Cyn yr awn at ein prif ddyben, iawn yw myned i ganfod beth sydd ar gael ar faesydd hanesyddiaeth am y ddwy genedl. Ymddengys fod y Prydeiniaid yn genedl gref, medrus, a rhyfelgar, dan wahanol benaethiaid, tywysogion a breninoedd, yn mhell cyn i Rufain godi idd ei mawredd, a chyn idd ei llywodraethwyr, trwy eu rhwysg, gwareidd-dra, a nerth arfau, ddyfod yn feddianwyr a phenaethiaid y byd adnabyddus, er ys mwy nâ dwy fil o flynyddau yn ol, pan nad oeddynt yr hen Gothiaid ond agos yn anhysbys a dienw am ddàl rhan o awenau a llywodraeth y byd yn mysg gwahanol genedloedd y ddaear y pryd hyny; ac am oesau canlynol, ni feddiannai eu hiliogaeth enw nac adnabyddiaeth amgenach nag yspeilwyr morawl; a thra y bu awdurdod Rhufain ar ynys Prydain, nid hawdd oedd iddynt wneyd llawer o ddrygau idd y Prydeiniaid. Wedi ymadawiad y Rhufeiniaid, gorfu ar y Cymry ymosod er trefnu gwleidyddiaeth, a hyny, mae’n debyg, gyda llawer o ddiwygiad at yr hyn oedd ganddynt yn flaenorol, wedi derbyn o honynt wareidd-deb Rhnfeinig, dros y tymmor hirfaith o 400 mlynedd, — cyfreithiau Dyfnwal Moel Mud, ac ereill o’i rag-flaenoriaid, yn cael eu dwyn ar adfer, yn gymmysgedig ag eiddo y rhai Rhufeinig, a Christionogaeth yn ymledaenu yn eu mysg. Ond o herwydd ymosodiadau gwahanol genedloedd arnynt yn








 

 

 
(delwedd B0988) (llythyr 3, tudalen 330b)

 

barhaus, a’u hawydd am gael meddiant o’u gwlad, a’r holl ynys wedi ei difodi o’r ieuenctyd, y rhai a allent ddwyn arian i faes y gwaed, gan yr awdurdodau Rhufeinig cyn iddynt dynnu eu hiau oddiar yddfau y Cymry, mal y gorfu ar ein henafiaid alw lluoedd estronawl cyflogedig idd eu cynnorthwyo, er amddiffyn eu gwlad, pa rai a gymmerasant yr arfod o wendid ar eu cymmwynaswyr, gan droi eu gelynion penaf yn hytrach na bod yn weision ffyddlawn. Ymddengys fod y cyfrai y pryd hyny yn isel mewn sefyllfa o anwareidd-deb, ac fod eu plant yn cael eu gwerthu mal anifeiliaid yn Rhufain, tra yr oedd y Cymry yn dàl i fyny wladyddiaeth yr ynys, ac mor wareiddgar, gwybodus a chrefyddol ag y gellid dysgwyl idd yr oesau hyny fod. Prawf, mewn oesau canlynol, o anwareidd-deb olion yr hen Gothiaid, trwy yr afoddlonrwydd a ddangosent y Prydeiniaid i addysgu y Sacsoniaid, a phregethu iddynt yr efengyl, yn unol â gorchymyn y Pen Cristionogol yn Rhufain, ac anfoniad Awstin Fynach i bregethu iddynt. Y creulonderau mawrion a orfu ein henafiaid eu derbyn – y tywallt gwaed a gymmerodd le rhyngddynt, ac yn y diwedd eu difeddianu o’u gwlad, a cholli breisdiroedd Lloegr, gan ỳru eu gweddillion i gonglau diffrwyth yr ynys, a ddengys afresymoldeb, anwybodaeth, angharedigrwydd, ac anwareidd-deb y cyfrai a allasent weithredu mor fradychaidd. Wedi iddynt feddiannu Lloegr, a gwneud y saith deyrn hyny yn un, a sefydlu eu gwroniaid yn deyrnolion ar wahanol ranau o’r wlad, nid oedd eu gwybodaethau yn cynnyddu ond ychydig, mal y dengys fod y penaethiaid hyny yn ryfela ac yn mynych dynu y tyrch â’u gilydd, yn y gystadleuaeth am uno maes wrth faes, tra yr oeddynt y Prydeiniaid wedi gorfod ffoi, mal y nodwyd, a gadael eu heglwysi a’u sefydliadau llenyddawl, a llawer o’u cynnyrchyn ysglyfaeth i gynddaredd a llidiogrwydd eu gelynion i sathru arnynt, a hyn oll tra yr oedd y Cymry yn, ac wedi, adeiladu abad-dai, esgobaethau, a gwybodaeth Gristionogol yn llwyddo yn eu plith, oddiyno i wared hyd goroniad Arthur “Ymerawdyr”, yn Nghaerlleon-ar-wysg, yr hyn a wnaed â chymmaint ddeheurwydd Cristionogol ag y coronwyd Buddug, brenines Prydain, yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, mal yr ymddengys yn ol yr hanes, fod yr ymgynnulliad hwnw yn hynod, a Dyfrig yn gosod y goron ar ben Arthur, a Gwenhwyfar, — ei gynghorion pwysig, ei araeth hyawdl, ei enwogrwydd , a’i brysurdeb ar yr achlysur. Yr ydym yn canfod cymmaint o olion ac arferiadau y dyddiau hyny ar ddull presennol coroniad. Penaduriaid Prydain, yr hyn sydd yn dangos nad yw cyn-ddull ein hynafiaid wedi ei ebargofi; er fod ein hiaith wedi ei chau o’r llys, etto, mor amlygwel y syniadau uchod, pan nad. oes dullwedd ac arferion Sacsonaidd y dyddiau hyny yn hanfodi mae yn wybodus yn bresennol, er yr holl anweddeidd-dra, yr anwybodaeth, a’r tywyllwch, yr ymdröant y Cymry ynddynt yn awr. O’r dyddiau hyny hyd amser Alfred Fawr, ni feddianent trigolion Lloegr ar wybodaeth na gwareidd-dra, tra yr oeddynt y Cymry yn genedl wrteithiedig mewn gwybodaeth, a chanddynt enwogion mewn dysg, ac athrofeydd llenyddol. Prawf eglur nad oedd ond ychydig wybodaeth yn hanfodi yn mysg y werin na

 

 

 
(delwedd B0989) (llythyr 3, tudalen 331a)

 

(x331) bonedd y Lloegrwys y pryd hyny, a’u bod yn anwaraidd trwyadl, ac nad oedd ond nifer bychan (os dim) o’u hathrawon yn medru ar lythrenau ac o ganlyniad yn analluog i weinyddu yn nghygfraniad cyfryngau gwybodaeth eglwysig; pan yr oeddynt offeiriaid a swyddogion yr eglwys yn Nghymru wedi cadw dysgeidiaeth yn eu gafaelion, mal yr ymddengys eu bod yn oraf eu gwybodau am ddull, trefn, a dygiad yn mlaen achosion y grefydd Gristionogol. A pha ryfedd idd yr eglwys gan y Cymry gael ei chadw yn fwy pur na chan y Lloegrwys, er yr holl gri ym mharth anwybodaeth y Cymry?

Ni ellir gwadu nad oedd ganddynt eu sefydliadau Cristionogol, wedi eu dechreu yn gynnar ar ol dychweliad Brân ab Llyr o Rufain â chenadon i bregrethu yr efengyl idd y Cymry. Oddiyno hyd amser Lles ap Coel (Lleufer Mawr), ni ellir barnu idd y cynnydd fod yn fawr; er i Dyfan, Ffagan, ac Arwystli Hen fod yn pregethu yn ddiwyd, etto, y cyfryw oedd glyniad y Prydeiniaid wrth yr hen grefydd Dderwyddol, mal yr aeth 150 o flynyddoedd heibio cyn i un o freninoedd, tywysogion, na phenaeth o enwogrwydd, dderbyn a phroffesu yn gyhoeddus y grefydd Gristionogol. Y mae lle i feddwl fod tiriogaethau Brân a’i ganlyddion yn Morganwg a Gwent, ac o barch at y cyfrai yr adeiladwyd yr eglwys henaf yn Mhrydain, sef Llandaf, o’r cyfnod yna. Ymddengys idd y cynnydd gymmeryd lle wedi i Lleufer dderbyn y grefydd Gristionogol, a myned yn mlaen yn hwylus; ac, er mai Derwyddon oeddynt y pryd hyny, yn fwyaf lliosog, etto, pan sylwom, ni a ganfyddwn fod Derwyddiaeth yn lleihau, a Christionogaeth, yn ymhelaethau ei therfynau, ac erbyn diwedd y bedwaredd ganrif, a dechreu y bummed, yr oedd plant ac ŵyron Brychan Brycheniog wedi cael eu dwyn i fyny oll “yn y wybodaeth o’r ffydd sydd yn Nghrist,” ac ni bu un teulu yn fwy rhagorol, gwareiddgar, a duwiol nag oeddynt, yn eu hoes; a’r rhan fwyaf o honynt a oddefasant ferthyrdod o dan ddwylaw Paganaidd, anwaraidd, ac anwybodus y Sacsoniaid. Onid oedd cryn wahaniaeth rhwng y ddwy genedl yn y cyfnod o dan sylw? Ai gan y Lloegrwys y mae yr anrhydedd o feddiant ar “Dri theulu Santaidd Ynys Prydain?” Na; genom ni, y Cymry, y mae yr anrhydedd hwn. Erbyn hyn, yr oedd Caerlleon-ar-wysg wedi dyfod i anrhydedd ac enw mawr, - y drydedd ddinas o ran urddas yn Mhrydain; ei hesgobaeth yr un modd - yr oedd Dyfrig a Dewi Sant yn hynod am eu gwybodaethau, eu diwydrwydd, a’u duwioldeb. Ond nid felly yr oeddynt y Lloegrwys y pryd hyny, ond yr oeddynt fil o flynyddau ar ôl y dysgedigion Cymreig yn y cyfnod a nodwyd.Yr oedd hyd yn od yn y Deheubarth leoedd enwog am feithrin dysgeidiaeth, mal Llanfeithin, a Llanilltyd. Yn yr olaf y codwyd Padarn (Patrig), apostol Cristionogol yn Iwerddon; ac yn y blaenaf yr oedd Catwg Ddoeth, yn athraw ar wybodau yno; ac yn ei nawdd ef y buont Aneurin, Taliesin Benbeirdd, Llywarch Hen, &c., yn cael eu noddi, pan yr oedd eu tiriogaethau yn Llwyfan Argoed, a’r Gogledd wedi eu dwyn oddiarnynt gan farbariaid, y rhai nad oedd ond tywallt gwaed a’u boddlonai.
 
Y cyfryw oedd ansawdd a sefyllfa y ddwy genedl yn y cyfnod uchod, - un yn llwyr anwaraidd,












 

 

 
(delwedd B0990) (llythyr 3, tudalen 331b)



a’r llall yn feddiannol ar wybodau, a dysedigion o enwogrwydd yn eu blaenori, - cyfreithiau gwladwriaethol, cynnal gwleidyddiaeth, a gwareidd-dra yn ysgrifenedig ar eu gweithrediadau; ac, ar yr un pryd, yn gorfod rhuthro i faes y gwaed er amddiffyn a chadw meddiant o’u gwlad. Amlwg yw fod gwybodaeth a gwareidd-deb yn anwybodus i drigolion Lloegr yn amser y dyngarwr rhagorol Alfred, a llênyddiaeth yn anhyall iddynt; canys dywedir iddo orfod cael rhai o ddysgedigion y Cymry er ei gynnorthwyo i drefnu cyfreithiau a sefydlu gwladyddiaeth yn mysg ei genedl, mal Asser o Dy-ddewi, yr hwn oedd y cyntaf a ddechreuodd ddysgu yr ieuenctyd yn Rhydychain. Os mae fel yna yr oedd pethau yn bod, ymddengys fod y Cymry ym mhell o flaen y Lloegrwys mewn gwareidd-deb.

Pan y syllom ar hen gyfreithiau ein cenedl o’r cyfnod boreuaf ag sydd ar gael mewn hanesyddiaeth i waered hyd amser Hywel Dda, canfyddir, pan aeth Hywel ynghyd â gosod trefn a chyfiawnder i weithredu yn mysg ei gydwladwyr, mai nid ffurfio a chynllunio cyfreithiau newyddion o’i wneuthuriad ei hun a wnaeth, ond casglu ynghyd hen gyfreithiau ei genedl oedd y gorchwyl, er gwneyd Cymru a’i thrigolion yn well, a byw yn garedig a chyfiawn, tra nad oedd yn holl Loegr ond yr anhrefnusrwydd, cigweinio a thywallt gwaed, a’r hyn a derfynodd yn eu darostyngiad o dan iau a gormes y Daniaid a’u brenin; a gwaeth fyth oedd yn rhaid fod eu cyflwr pan orfnasant ymostwng o dan faner Gwilym o Normandi, yr hwn a estynodd allan ei deyrnwialen i lywodraethu Lloegr a’i thrigolion anwybodus, anwaraidd, ac anwrtheithiawl. Ymddengys fod y Cymry wedi parhau i gadw y flaenoriaeth mewn gwybodaeth ar drigolion Lloegr; oblegid nid oes un darn ar gael o lênyddraeth y genedl hono idd ei gymharu ag eiddo y Cymry, mal gweithiau y ddau Fyrddin, Aneurin, Taliesin, a Llywarch Hen, a brofiant hyny, heblaw y Trioedd, y Diarebion, &c; a phe y cadwresid yr oll o’u heiddo mal cenedl, tebyg y buasem heddyw yn alluog i gystadlu â’r goreuon o lwythau Ewrop mewn hanesyddaieth, am eu holl orthrymderau a’r anghyfiawnder a dderbyniasant oddiar ddwylaw eu gelynion, hyd amser a therfyniad eu hanymddibyniaeth gan Edward y cyntaf, a’r cyfnod y gwelir fod y Cymry ymhell o flaen trigolion Lloegr mewn gwareidd-dra a gwybodaeth.

O’r amser y collasant y Prydeiniaid Loegr, a thra y dalient i fyny eu hurddasder tywysogawl yn Nghymru, gwnaed llawer o gyfreithiau gormeilus yn eu herbyn, er amcanu eu difodi oddi ar y ddaear; mal, llosgi eu llyfrau, anhreithio eu hathrofëydd, eu heglwysi, a’u Mynachlogydd, a dileu gwybodaeth o’u mysg, a’u gwneyd yn anwariaid a chaethion yn eu gwlad eu hunain, hefyd gwahardd iddynt brynu tiroedd, a’u hattal i fod yn gelfyddydwyr, na chynnal gwladyddiaeth, — gwahardd iddynt gadw eu beirdd – eu cau y tu arall i glawdd Offa — marwolaeth yn dynged idd y sawl a osodai droed y tu allan iddo, a sefydlu statutiau Rhuddlan, &c., ac na chaent ryddid ond mal serfs anwrteithiawg i gynddaredd barbariaid. Colledion llênyddawl y Cymry, pwy a’u rifant? Coelcerth yr anfad-ddyn Yscolan, pwy a ddarlunia y golled? Y dinystr ar weithiau y beirdd, wrth






 

 

 
(delwedd B0991) (llythyr 3, tudalen 332a)

 

 

(x332) orchymyn yr anwariad Edward y cyntaf, cynyrchion toreithiawg eu habad-dai, &c., gan Harri yr wythfed, — pwy a ŵyr y golled o’u difodiad? ac oddiyno i waered at goelcerth llyfrfa Rhaglan, yn Ngwent, gan greuloniaid Cromwell, - pwy a ddarlunia y gyflafan a wnaed o oes i oes ar lênyddiaeth y Cymry? Ni soniwn yma am goelcerthi, a’r dinystr a wnaed ar lyfyau llênyddawl yn yr Iwerddon; etto trwy ystod oesau barbaraidd amryw o freninoedd Lloegr, parhausant y Cymry i gadw y flaenoriaeth mewn gwybodaeth ar drigolion Lloegr, canys nid oedd ym mryd y rhai hyny ond rhyfela. Amlwg yw fod y Cymry yn dàl i fyny ei beirdd a’u llênyddiaeth hyd oes yr olaf o’u tywysogion, cyfansoddiadau y rhai a dra ragorent ar eiddo y Lloegrwys, i waered hyd oes Glyndwr, a’i fardd Iolo Goch, a Dafydd ap Gwilym yn llys Ifor Hael, cyfansoddiadau pa rai ydynt mor dwymfryd a dealladwy heddyw, hyd y nod ymysg y werin weithyddawl Gymreig, â’r dyddiau a hanfodai y beirdd, tra nad oes enw bardd o’u medrusrwydd am rai oesau i ganlyn, a’i enw ar gael, yn mysg y Lloegrwys, yr hyn a ddengys wareidd-deb ac anianawd llênyddawl ein cenedl, tra yr oeddynt y Lloegrwys yn ordöadwy gan anwybodaeth anwareiddiwch.

O’r cyfnod y blodeuai Glyndwr a’i wrolion hyd ddydd genedigaeth yr argraffwasg, nid oedd mwy o wybodaeth gan y Lloegrwys nag oedd gan y Cymry; ac oddiyno hyd amser Charles yr ail, gellir ystyried y ddwy genedl ar yr un grisiau; ond gydag arferiad pa un y dechreuodd masgnach gynyddu yn mysg y Lloegrwys, ac ar rymusder, anturiaethau mawrion o ryfel, meddiannu y ddwy India, a llawer o wledydd eraill, tywallt gwaed brodorion duon yno, a pheri afonydd o’u gwaed i lifo dros diroedd cynhenid eu hynafiaid, dwyn en gwledydd a’u meddiannau gwerthfawr er cyfoethogi eu hunain, sefydlu trafnidaeth, agoryd y Gyfnewidfa (Exchange), adeiladu llongau, aredig tònau mawrion gwahanol foroedd y byd, a throsi celfau i ymarferiad, a ddygasant y Lloegrwys i fwy o wybodaeth nâ chenedl y Cymry yn y canrifoedd diweddaf; hyny yw, daethant yn fwy adnabyddus â thrafnidiaeth y byd, - eu manteision a’u diwydrwydd diweddar a’u dygodd i sylw rhan helaeth o’i breswylwyr, tra yr oedd y rhan fwyaf o’r Cymry yn syrthio i ddifaterwch am drafnidaeth, a dim ond amaethyddiaeth mewn bri ganddynt; ond y mae etto idd ei brofi, neu nad yw, os ynt y Cymry yn fwy anwaraidd ac anwybodus na’r Lloegrwys yn bresennol.
................................................................................

 

EMYR LLYDAW

 

 


(delwedd B0992) (llythyr 4, tudalen 044b)


(x44)

Llythyr 4

Seren Gomer 1846

AT Y WERIN WEITHYDDOL GYMREIG.

LLYTHYR IV.


Parhad o’r gofyniad, A ynt Gwerin Weithyddol Cymru yn fwy anwybodus ac anwaraidd na Gwerin Weithyddol Lloegr yn bresennol?


Wedi ohonom sylwi ar ansawdd ac anianawd y Cymry a’r Lloegrwys dros wahanol oesoedd a aethant heibio, a dangos ychydig o lawer o’r caddugwch dudew a orchuddiodd y ddwy genedl hyd yn bresennol, deuwn yn awr i edrych arnynt, er cael gweld pa un a ydyw yn haeriad yn wirionedd, ac wedi ei seiliaw ar brofion anwadadwy, fod Cenedl y Cymry yn bresennol yn fwy anwaraidd ac anwybodus na gwerin isel-radd lloegr. Cenedl y Cymry yn bresennol ydynt yn sefyll o dan anfanteision mwy na’r Lloegriaid, gyda golwg ar drafnidiaeth a chelfyddydau, er fod amryw o honynt gyda blaenoriaid meib y celfyddydau yn Lloegr. Gwir fod y Cymry yn cael eu cyfrif yn genedl grefyddawl, a’u cymmeryd yn gyffredinol, ac y maent yn ddynion sydd yn talu parch a sylw i bethau crefyddol, a hyny yn fynych gyda mwy o aidd nag o wybodaeth am gredoau gwahanol sectau, cyn y cymmerant amser i ymchwiliaw a barnu; ac, o ganlyniad, yn anhaeddiannol o’r cymmeriad a roddir iddynt; sef, “anwariaid ac anwybodusion.” Os gofynwn pa le y cynlluniwyd mesurau a phob drygnaws er gwrthwynebu y sefydliadau gwladwriaethol, y gwrteithiwyd cynhyrfion, y codwyd arfau er dymchwelyd cyfreithiau Seneddawl Prydain Fawr, yn ysdawd y tri chan mlynedd ddiweddaf a aethant heibio? Gellir ateb yn gadarnhaol, taw nid gan y Cymry. Nid Cymro oedd yr adyn Guy Fawkes, yr hwn a roddodd ei fryd, ei lafur, a’i ymdrech, yn nghyd a’i ganlynwyr, ar chwythu i fyny y Senedd ddiwygiadol a phrotestannaidd, a’i holl aelodau ar darawiad amrant i fyd yr ysbrydoedd. Rhag myned o afael y werin weithyddawl, nid aroswn i sylwi ar amryw ereill a allem eu crybwyll; ond deuwn o fewn cylch cofion yr oes hon, er dangos nad ydynt fy nghenedl yn teilyngu y cyfenwad a roddir iddynt gan rai o blant rhyfyg, diystyrwch, ac anwybodaeth. Nid Cymro oedd Thomas Pain, ei “Oes Reswm,” a’i Sathr Lithiau, ai Arnodion ar y gyfrol gyssegredig. Nid Cymry oeddynt Thistlewood, a’i gydfradwyr, pa rai a gyd-gyssylltiasant er dinistriaw eu gwlad, am ba un eu crogwyd. Nid yn Nghymru, na chan Gymro ychwaith, y cynlluniwyd Breinlen Siartiaeth, yr hon a gynhyrfodd yr anwybodus a drigolion gweithyddawl gogledd Lloegr, nes meddwl mae hwy a’u Breinlen oedd ben y byd; ac yn nghanol y rhyfyg ynfydwyllt hwnw, rhai ohonynt a laddwyd, ereill a alltudiwyd, a channoedd a garcharwyd, er boddiaw mympwy carwyr arian ar gefn anwybodaeth. Nid Cymro oedd Lovet, na’r hen dylluan annoeth a chynhyrfus Fergus O’ Connor, trwy ba rai y twyllwyd John Frost, Williams, a’r ynfyd-ddyn Jones, i fyned ag anwybodusion gweithiau haiarn Mynwy i ryfel y[n] Casnewydd-ar-wysg; na, gwyr cynhenllyd gweithfeydd gogledd Lloegr sydd wedi cynlluniaw pob tynged anffodus yn y dyddiau diweddaf arnynt eu hunain, ac am bob ymgegfa wrthryfelgar ag sydd wedi bod yn mysg y Cymry yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Gan y rhai hyn y codwyd muriau o gasineb rhwng trigolion Cymru a’u meistriaid, pa rai ni ddilenir am dymmor hir. Gan y gwyr hyn y cynlluniwyd pob twyll a hoced er dwyn y werin weithyddol i gyssylltiad ag arfau y llywodraeth.

Pwy a gafodd yr elw oddiwrth pob undeb a sefydlasant? Peth hyfryd iawn gan wyr fel hyna yw cynhyrfu y bobl o dwyll a chelwydd, gan sefydlu trysorfeydd, meddant, er dwyn achosion eu hiawnderau i ateb dybenion gogoneddus rhyddid! Dwy neu dair ceiniog yn wythnosol oddiwrth bob aelod a gysylltid â’r hymbugiaeth, ac o chwe cheiniog i dri swllt a chwe cheiniog am y daflen freiniedig er eu gwneyd yn ddreliaid, a’r cri mawr yn cael eu hau yn mysg y bobl; ac o herwydd eu hanwybodaeth y gwelir y miloedd o anwariaid yn

 

 


(delwedd B0993) (llythyr 4, tudalen 045a)


[?YSTODYRU – aneglur] idd eu hunebau, er eu diogelwch rhag trais, mal y deallant; ac wedi y gyront y sataniaid a nodwyd, y werin wirion-ffol i dòri cyfreithiau eu gwlad, a bod yn agored i nerth a gallu y pylor a’r plwm, y bidog a’r magnal, y maent hwy yn cymmeryd gofal i fod yn (x45) ddiogel; ac yn y cyfryw amser, y mae holl arian y werin anwybodus yn cael eu dwyn ymaith, a’u cadw yn meddiant y cyfrai ffieiddiaid twyllodrus. Ai llesiant eu cydwladwyr oedd yn ngolwg Fergus O’Connor, &c., pan yn ymbleidiaw â Siartiaeth? Nage, ond cadw i fyny y cynhyrfiad oedd y nod, am y gwelasant fod y werin weithyddawl wedi eu meddwi ar gyffeiriau breinlen rhyddid, a’u llygaid yn nghau, a’u meddyliau yn rhy gaethion am fynydyn i feirniadau rhwng yr hyn oedd dda a’r hyn oedd ddrwg; a lle da iddynt i werthu eu blagardiaeth yn y Northern Star, eu Traethodau cynhyrfgar, eu hareithiau celwyddog a thwyllodrus, mal eiddo Vincent, &c., yn nghyd â’u cardiau dimai y dwsin am dri a chwech yr un, a’r lleiaf a naddynt am chwe cheiniog.

Dyma y gwir sydd wedi tyna anair ar y Cyrmry am fod mor ynfydaidd a’u gwrandaw, ac ymuno â hwynt. Nid Cymro oedd
Twist, cynhyrfydd a sylfaenydd yr undeb hwnw a fu yn achos o dywallt gwaed yn Merthyr Tydfil gynt, yr hwn a gasglodd yn nghyd drysorfa fawr o arian er gwrthwynebu perchenogion y gweithiau haiarn mawrion yn Neheubarth Cymru, a galluogi (meddai ef) y gweithiwr i fod yn gyfartal â’i feistr, a’i rwymo i roddi y prisoedd a welai y gweithiwr yn addas am ei weithiau, yr hon drefn, pe daethai i ben, a wnaethai y gweithiwr yn feistr, a’r meistr yn gaeth; ac wedi diysbyddi holl drigolion y gweithiau, o Bontypwl i Abertawy, o’u harian, y rhai oeddynt mor anwyliadwrus, efe a gododd ei gŵd, ac ymaith yr aeth, gan adael ei gyfrifon yn anneallus, a blychau yr arian yn weigion! Dyna fel y gwnaeth yr adyn hwnw â’r Cymry.

Y werin weithyddawl, na fydded i chwi wrando ar y cyfrai ddhyhirod, - nac ymrafaelwch â boneddigion y gweithiau; ond ymdrechwch â’ch holl egni i gadw heddwch â phawb, gan gymeryd rheswm yn reol, ac nid afreolaeth a drygnwydau. Ewch law yn llaw â’r rhai y gwasanaethwch iddynt, - hon yw y ffordd i iawn weithredu, a dyfod i feddiant o barch a nodded. Cofiwch mae hil y genedl ddewr ydych, ac na fydded i chwi fyned yn nod i saethau gelynion, er sarhâd eich hunain, ac anair ar eich iaith. Rhyfedd y rhedeg a fu am ychydig amser ar ol y dylni a nodwyd, a mawr y cyfarfodydd a gadwyd — yr areithio a fu — y
depots a seilwyd — y trampo a fu gan luoedd o scamps — y bara a chaws a fwytawyd - y cwrw a yfwyd — y cenadon a etholwyd - y coacho a’r ysbardyno a fu gan blant yr hymbygiaeh hon!

Fy ngenedl, goddefwch i mi wneyd y syniad canlynol; — Pe buasech yn gosod yr holl arian a dalasoch o bryd i bryd i undebau cynhyrfgar gwyr Gogledd Lloegr, yn un drysorfa er cynnull yn nghyd lyfrgell, a chyhoeddi gweithiau awduron a llenorion Cymru, gallasech heddyw ymffrostiaw mewn defnyddiau gwybodaeth, gydag amryw o gymdeithasau gwyddorawl, mal y Mechanic Institute, &c.; ond yn lle hyny, nid oes genych ond achos galaru am bob undeb o natur lywiadol ag y buont eich dwylaw yn nglyn â hwynt. O hyn allan, byddwch yn wyliadwrus; cefnogwch addysg, coleddwch eich iaith, dygwch i fyny eich plant i fod yn gampus ac yn garyddion llenyddiaeth eu gwlad, yn flaenaf ar bob gwybodau; ac ewyllyswyr da eu cenedl, eu hiaith, a’u defion. Hefyd, nid ydych mor bell yn ol mewn gwybodaeth ag yr haerant eich gelynion. Nid yn Nghymru, na chan ei thrigolion, y cofleidiwyd daliadau Joanah Southcot, y cafodd dderbyniad idd ei thwyll a’i rhagrith; na, hon a hudodd ei phleidwyr Lloegraidd i ganlyn ei hudoliaeth, neu eu gyru i wallgofrwydd a dylni, pan y gallasent gofleidio y cyfrai dybiau, a seiliaw eu serchiadau ar wegi, a’r hyn nad allasai byth ddyfod i hanfodiaeth, tra yr oeddynt preswylyddion y Dywysogaeth, er eu holl anwareidd-deb, yn diystyru y fath



 


 

 


(delwedd B0994) (llythyr 4, tudalen 045b)

 

 

hygoeledd, ac yn chwerthin am benau lloerigion anwybodus Lloegr yn caniatau idd yr ellylles i wneyd ynfydion o honynt, yr hyn a ddengys eu hanwybodaeth, a’r sefyllfa o anwareidd-dra, yn mha un yr oeddynt yn ymdroi ynddi, gan y ffug dduwies hudolawg hòno. Nid Cymro, na brodor o Gymru ychwaith, oedd yr anffyddiwr Carlile, yr hwn a lygad-dynodd gannoedd o breswylwyr Lloegr i ganlyn ei ol, a derbyn ei ffuantaeth. Nid Cymro oedd y dyhiryn John Thom, yr hwn a gyfenwai ei hun yn Syr W. Courtenay, yn ngymmydogaeth Caergrawnt, yr hwn a dynodd idd ei ganlyn lawer o breswylwyr yr ardal hono, tra na fuasai un o feibion Cymru mor wallgof a rhoddi coel iddo am eiliad. Hwn a gafodd ganlynwyr iddo mewn gwlad y dywedir fod ei thrigolion yn wybodus a gwareiddgar. Hwn a gymerai arno mai efe oedd y Messaia addewedig! Dyma yr ynfyd-ddyn y dylinwyd ei ol, y derbyniwyd ei gredo, y codwyd arfau rhyfel yn erbyn y llywodraeth er ei amddiffyn, am eu haeriadau celwyddog ac afresymawl. Heresi hwn a gofleidiwyd gan ddynion a gyfenwent eu hunain yn bobl wareiddgar; ac yn yr ymgyrch idd ei ddàl y collodd y Cadben Benett ei fywyd, am yr hyn ynfydrwydd y dedfrydwyd un i farw, amryw a alltudiwyd, a lliaws a garcharwyd. Cenedl y Cymry, pwy a welodd argraffedig ar dudalenau hanesyddiaeth ein gwlad hudoliaethau mor ffuantus a gweithrediadau mor anghydweddol ag anianawd rhwsymeg, am neb o honnoch chwi? Anwybodus! ïe, meddai rhai: ond pwy, oddiwrth yr arnodion gan anwariaid, a ddichon eich cyhuddaw o ddim cyffelyb idd yr hyn a grybyllwyd? Neb. Ai gyda ni yn Nghymru, a chan ei brodorion, y cafodd athrawiaeth halogedig Sosialaidd Robert Owen dderbyniad? Ai yr anwariaid Cymroaidd a fuont yr ynfydion hyny a roddasant goel idd y cyfrai afresymoldeb? Y Cymry, credwch fy ngeiriau, yr ydych wedi dangos a phrofi fod genych fwy o wybodaeth, wedi cael amgen gwareiddiad, ac yn fwy cedyrn ac anhawdd idd eich cyfnewid, a derbyn cyfeiliornadau, na y werin weithyddawl yn Lloegr; mal y canfyddir yn amlwg nad oes un hudoliaeth, pa mor afresymol y dichon iddi fod, na cheir dynion yn barod idd ei derbyn yn llawen yn mysg y Lloegriaid; a pha fwyaf y twyll, lliosocaf y canlynwyr, pan y gyrid y cyfryw allan o Gymru â nerth rhesymeg. Nid Cymro oedd yr anghenfil melldithiawl Joe Smith, prophwyd haerllug Mormoniaeth, a thad Seintiau cythreulig y “dyddiau diwethaf,” yr hwn a sefydlodd ei dwyll, a gadwodd i fyny ei hud yn America , a drosodd ei freuddwydion gŵylliawg i Frydain, y rhai a gawsant y rhai a gawsant dderbyniad groesawus gan y Lloegriaid, ac ar rai o gyffiniau y Dywysogaeth, yn neillduol yn y lleoedd nad yw y Gymraeg yn wybodus; neu lle y mae’r Cymry wedi colli eu hiaith. Athrawiaeth y twyllwr hwnw a dderbyniwyd ac a gofleidiwyd yn fawr gan rai o drigolion yr Alban, a pharha mewn parch a bri yno hyd yn bresennol, pan yr ydych chwi, y Cymry, yn ac wedi ymwrthod â’r cyfryw sothach yn hytrach na derbyn niwl pob awel, yr hyn a wiria ein syniadau eich bod yn fwy gwybodus a gwareiddgar nac ydynt hanner y werin weithyddawl yn Lloegr. Gan hyny, deliwch eich iaith; hon ydyw yr un sydd wedi dangos i chwi synion amgenach nag ymddyried i bobl gwegi a thwyll - sefydlwch ysgoldai, a dysgwch eich plant i ddarllen y Gymraeg. Cablir llawer ar y Cymry, ac ar eu hiaith, a rhoddi iddynt y cyfenwad o "anweiriaid anwybodus," onite nad arferent eu hiaith, pa un, meddir sydd mor anhawdd ei dysgu a’i deall. Ai gwir hyny? Ni ddywedir felly gan y Lloegriaid ag ydynt wedi dysgu darllen a deall y Gymraeg, oblegid y mae genyf gyfaddefiad amryw a naddynt ag y bûm yn ychydig gynnorthwy idd eu dysgu, a’r rhyfeddod mwyaf ganddynt yw, wedi y dysgasent lythyrenau yr egwyddor, y gallant gyda rhwyddineb sillebu a darllen gyda y fath gywirdeb. Dywedai un boneddig, "Rhaid fod y dyn nad allai ddysgu yr iaith Gymraeg yn llwyr amddifad o archwaeth, teimlad, ac amgyffred; oblegid (meddai) pa iaith o’r byd yn bresennol sydd yn cadw sain a gallu ei llythyrenanu mor rhagorol, mal nad oes un o honynt yn gorwedd yn fudion i dafod y llefarydd i gamu trostynt, mal y mae miloedd o eiriau yn yr iaith Saesonaeg, y Ffrancaeg, yr Yspaenaeg, &c.” Digoned y rhai canlynol y waith hon, rough, laugh, though, thoughts, &c.


Dywedai un arall nad oedd yn canfod ond dwy o lythyrenau y Gymraeg ag oeddynt o ymddangosiad mal un yn dwyn lle y llall, sef, y a’r u, pan oedd y fath gymmysgedd afreolaidd yn hanfodi o amrywiaeth seiniau yn perthyn idd yr un llythyrenau yn y Saesonaeg, ac fod seiniau yn cael en harferyd ynddi nad oedd llun na llythyrenau am danynt, ac mae da idd y Lloegriaid fod yr iaith Gymraeg a’i llythyrenau yn hanfodi. Er engraifft, (meddai,) pa le yn yr iaith Saesonaeg y ceir y seiniau canlynol: — England, anguish, hanging, angling, &c; sef, yr ng, th, ac dd? Pa le yn nhaflen yr egwyddor Saesonaeg y ceir sain th? etto, gwelir y llythyren hon a’i sain Gymreig yn y geiriau canlynol - fel think, thin, through, thought, think, thorough, &c. Hefyd, fal yr dd Gymraeg yn y geiriau

 

 

 


(delwedd B0995) (llythyr 4, tudalen 046a)



(x46) canlynol, - this, that, than, they, there, then, &c. Y llythyren c, druan, a gyfnewidir yn rhyfedd, mal â sain s yn cement, circumsise [sic = circumcise], circumflex, ceremonies, &c.; a phrydiau ereill yn sain k, neu c Gymreig, mal comment, commit, commotion, concile, cunning, calling, conqueror, comfort, concordance, curious, chemistry, &c., yn nghyd â channoedd o enghreiftiau a allem nodi, pan nad oes y cyfryw ddyryswch ac anghyssondeb yn hanfodi yn yr iaith Gymraeg? Yn olaf, dywedai un arall ei fod yn medru darllen yr iaith Gymraeg mor rhwydd a’r aeg Saesonig, a’r unig ddyryswch a gyfarfyddodd oedd, fod yr f a’r m yn cymmeryd swydd y b, mal bara, ei fara, fy marn, &c.; ond mor fuan ag y gwelais a gallu synied pa fodd yr oedd hyn yn bodoli, adnabum fy nghamsynied am ystwythder y Gymraeg, a barwyf y geill gystadlu ag un o gyn-ieithoedd y byd am ei llyfndra, mwyneidd-dra, ac ystwythder; a pha faint mwy y rhagora yn hyn ar neb o ieithoedd cymmysglyd diweddar Ewrop? Y Gymraeg i Gymry, fy nghenedl, - parch a bri iddi tra byd.

.................................................

 

EMYR LLYDAW.
 

 

 


(delwedd B0996) (llythyr 5, tudalen 232a)

(x232)

Seren Gomer 1846

AT Y WERIN WEITHYDDAWL GYMREIG

 

 

 

Llythyr V

 

A ydynt yn fwy anwaraidd ac anwybodus na Gwerin Weithyddawl Lloegr? yn nghyd â nodiadau ar sefyllfa a trigolion gwahanol swyddi y deyrnas, ar y Gymraeg a’r Saesonaeg, &c.

 

Ofer gofyn am faddeuant i neb, a minnau yn parhau i weithredu o ewyllys fy hun, i ysgrifiaw at y Werin Weithyddawl Gymreig. Enw y dysgedig Sharon Turner a fythola fawredd hynafiaeth y Gymraeg. Ymdrechion diflin Owen Myfyr, Iolo Morganwg, a'r Athraw Gwilym Owen o Feirion, a safant yn eu gogoniant tra y Blawr a'r Ysgyryd yn Ngwent, a'r Wyddfa a Chadair Idris yn y Gogledd, yn ddigwymp. Ymddiffyniad y boneddig blaenaf a nodais i weithiau ein hen Feirdd a brawf enwogrwydd ein hiaith, a'n cenedl, a’u gwybodaeth eang. Maddeuir i ni yma am grybwyll am anmherffeithrwydd yr iaith Saesonaeg; a bydded hysbys nad o un anmharch at yr iaith hono yr ydym yn gwneyd y nodiadau yma; na, yr ydym yn meddu parch I holl ieithoedd y byd; ond dysged pob cenedl eu iaith gynhenid eu hunain o flaen un aeg arall. Caniatëir gan ddoethion ac ysgolorion uchelglod nad yw yr iaith Saesoneg ond un dra anwrteithiedig, ac fod llawer o waith etto cyn y cyrhaedd debyg i berfeithrwydd, gan y rhai a'i deallant oraf. Os felly, pa fodd y curir anwybodaeth y Cymry, yn fwy nag ar Werin Weithyddol Lloegr? Holwn yn mhellach, gan fod haeriadau yn cael derbyniad yn hytrach nag ymchwil, a anwareidd-dra y Cymry. Dywedir gan ambell un anwybodus, er mor lleied y Dywysogaeth o ran maint, nad ydynt yn deall eu gilydd! Nad eill Gogleddwyr ddeall pobl y Deheudir a'r Gwenhwysiaid. Hyn sydd anwiredd, nid oes y fath beth yn bodoli, oblegid y mae ein cenedl dros Gymru penbaladr yr un yn eu geiriau; ac nid oes ond ychydig o wahanol aceniad rhwng y naill ddosran â’r llall. Yr un dullwedd a neillduolion cynhwynol sydd idd ein hiaith yn Ngwynedd, Powys, Dyfed, Deheubarth, Gwent a Morganwg, ac Ystradyw; a gwelant pawb mai yr un yw yn dyfod allan o holl argraffweisg Cymru, gyda'r eithriad nad yw ei llythyreniad yn unddull; ond yr hyn nid yw o un pwys, yn seiniad ei geiriau na chystrawen ein hiaith, a'r hyn nid yw yn ddigon i brofi mai pobl anwaraidd ac anwybodus ydvnt y Cymry.

 

Pa mor annoeth yw clywed dynion a gymmerant arnynt fod yn wybodus yn y Lloegraeg, ac ar yr un pryd yn diystyru heniaith eu teidiau, a gwneyd eu hymosodIon arnom fel cenedl; a’r dysgedigion (?) hyn, os chwilir hwynt, a geir mor amddifaid o wybodaeth am yr iaith a broffesant ei gwybod â'r "anwariaid Cymreig?” Carem gael gwybod gan ambell Gymro ag sydd yn elynol i iaith ei rieni, cyfrwng gwybodaeth ardal ei febyd, a bro ei enedigaeth, beth ydyw yr achos y rhoddir sain yr g Gymreig y gy Saesonaeg mor gyffredin, mal na all miloedd ar filoedd o’r werin weithyddawl Saesonig wybod yn y byd pa sain a roddir i'r g yn y cannoedd o eiriau ag y saif yn flaenaf ynddynt, ychydig o ba rai a wasanaethant er dangos yr anghyssondeb? Y canlynolion a seinir å'r g fel y mae yn yr egwyddor, neu, efallai, â seiniad y j: - general, generous, gentleman, genealogy, geography, geornetry, Germany etc. Ond pa gyssondeb sydd yn yr hyn a ganlyn? Rhoi sain yr G Gymraeg yn give gone gun guilt gold guess grove griff grass green goose garden gower

 

 


(delwedd B0997) (llythyr 5, tudalen 232b)

Seren Gomer. 1846.

 

governor, &c. Nid awn lawer yn mhellach i sylwi ar y dyrysbeth anodwyd; ac nid dywedasom air am hyny, oni byddai yr holl ymffrost am ragoroldeb yr aeg Saesonig, gan derfynu ar hyn, gyda nodi nad ydyw y double w un amser yn llafargar mal ei seinir yn yr egwyddor; ond yn syrthiaw yn w, mal ei seinir yn y Gymraeg, mal yr ymddengys yn y geiriau Saesonig a ddyfynwn yma, - wish, who, was, now, new, wonder, wall, whirl, wind, &c. Rhyfeddod sydd fwy fod dwy o ynghyd yn cael eu seiniaw yn w Gymreig! ïe, heb un sain o’r cyfryw yn hanfodi yn yr egwyddor lythyrenawl, mal, - mood, brood, good, broom, bloom, groom, &c.; ac hynotach fyth yw y gair wood! Silliadaeth a seiniad y gair blood sydd yn dòr ar y dull uchod. Dylent y Cymry ag ydynt am ddysgu yr iaith Saesonig, ei wneyd yn orchwyl ac ymchwil i ymofyn, pa un a ydyw yr iaith hòno yn rhagori ar eu hiaith gynhenid eu hunain neu nad yw, cyn y gyront yr eiddo eu hunain i fro ebargofiant. Hefyd, rhaid fod naill ai anwareiddwch, anystyriaeth, neu anwybodaeth mawr yn bod ar awdwyr Gramadegau Saesonig; oblegid nad oes neb o honynt yn cydunaw a chyd-ddangos â'u gilydd, mwy nag eiddo y Gymraeg; ac er yr holl anwareiddiwch a nodir, ymddengys fod mwy o Gymry yn y Dywysogaeth yn iawn ddeall yr iaith Gymraeg nag sydd o Ramadegwyr a Geiryddion yn Lloegr yn iawn ddeall yr iaith Saesonaeg, er yr holl ymfrost am dani? A ydynt Bailey, Sheridan, Johnson, a Walker yn un a chytun am eu hiaith? Nac ydynt. Pa achos beiaw cymmaint ar y Cymry a'u hiaith, eu hanwareiddiwch, a'u hanwybodaeth, pan mae yr iaith Saesonaeg, er yr holl welliadau a chaboli arni, etto mor anhebyg i gyrhaeddyd yr un gradd mwy o berffeithrwydd nag ydyw yn bresennol? Y Cymry, bechgyn a merched Cymru garneddawg, y rhai ydych yn gwisgo yr hugan a’r clos Ilwyd, y bais, y gw^n a’r arffedog wlanen o weuad cartrefol, yr ydych yn llawer mwy boneddigaidd na miloedd o drigolion Lloegr ac yn fwy gwybodus am eu hiaith nag ydyw y werin weithyddol yn Lloegr am eu heiddo hwynt. Darllener a chymharer y cyfrolau mawrion o siarad-ddull gwahanol swyddl Lloegr ar amryfal acenion a roddir ar eiriau gan y werin weithyddawl, ynghyd a’r twang amrywiog. Gwir fod miloedd ar filoedd o honynt mor anwaraldd ac y dichon i neb o drigolion India fod, pan y fwyaf o'r werin weithyddawl Gymruaidd yn ddarllenwyr eu Biblau. Os ymchwiliwn a sylwi ar werin weithyddawl Lloegr, ni a'u cawn yn gyffredinol mewn gwaeth sefyllfa o anwareiddiwch ac anwybodaeth nâ neb o drigolion Cymru. Mynyech y crybwyllir yn Senedd Prydain Fawr am sefyllfa resynawl, ac anwybodaeth y werin weithyddawl yn Lloegr. Canlyned y darllenydd ni am ychydig, a barned yn ddiduedd; canys nid haeriadau a wnant y tro mewn amgylchiadau o gymmaint pwys. Diau mai y mwfaf eu gwybodaeth o'r isel-radd ydynt weyddion a chelfyddydwyr trefi masgnachol Lloegre Nid oes un rhan o Gymru, lle y Ilefarir. y Gymraeg, nad ynt y trigolion yn cyflawn ddeall eu gilydd: — y Gogleddwr Cymreig mal yn ei artref pan yn y Deheubarth, a' r Gwenhwysiad yr un modd yn Ngwynedd a Phowys, pan na ddeallant y werin weithyddawl Lloegr ddim o'u gilydd yn y swyddi nesaf at y naill y llall. Gosoder y werin weithyddawl yn swyddi Bedford Berks, Buckingham, Caergrawnt, Caer, Cernyw, Cumberland, a Derby, at eu gilydd, a byddant mor ddyeithr y naill i'r llall yn eu siarad a'u twang, mal na ddeallant eu gilydd, ond gyda chryn anhawsdra. Gosoder trigolion Dyfnaint, Dorset, a Durham ynghyd, a bydd miloedd o honynt yn methu deall eu gilydd! Y mae y fath amrywiaeth mewn seiniad geiriau gan breswylyddion y swyddi canlynol, fel y mae bron yn anghredadwy ond i'r sawl a'u hadwaenant, sef, Essex, Caerloyw, Hants, Henffordd,

 

 

 

 

 

 


(delwedd B0998) (llythyr 5, tudalen 233a)

Seren Gomer. 1846.

 

Hertford, Huntingdon, Kent, Middlesex, Leicester, a Lincoln. Os yr amrywion yma ynt harddwch yr iaith Saesonaeg, wfft! y cruglwyth pentyrawl o ebychion ansoniarus yn cael eu hymarfer mewn iaith y dywedir nad oes ei chyfartal yn mysg teulu dyn! Hefyd, nid oes, efallai, neb dynion a mwy o glogyrndra yn eu dull o siarad nag anneddion y swyddi canlynol, a rhodder hwynt at eu gilydd, mal, Lancaster, Caerefrawg, Stafford, yr Amwythig, Northampton, Northumberland, Nottingham, Rutland, Gwlad yr Haf, Rhydychain, Suffolk, Surrey, Sussex, Warwick, Westmorland, Wilts a Chaerwrangon ac wrth gymharu rhai uchod, gwelir gan bob dyn diduedd y cyfryw (x232) gaddug o anwybodaeth sydd yn döadwy uwch benau gwerin weithyddawl Lloegr. Rhyfedd y sarhad a wneir ar y Cymry, y dwrdio sydd ar eu hanwybodaeth, a'u bod yn ol gan rnlynedd mewn gwybodaeth ar y Lloegrwyr. Dylent y cyfryw haerwyr gymmeryd pethau yn fwy pwyllog; oblegid peth gwrthun yw clywed ambell i gocatw, pan wrth wydryn a Ilosgi myglys, yn cyhoeddi dedfrydau mal hyn ar ben cenedl o ddynion, a phan, ar yr un pryd, yn anwybodus am danynt, ac heb fod erioed ddeng milltir o fordd yn eu gwlad.

 

Er fod rhai o'r dynion mwyaf medrus yn ngwyddonau yr oes yn Lloegr, eto teneuon ac anaml ydynt, Ni enir Newton na Herschel, Watts na Bolton, Erie na Davy, bob dydd; ni welir Peel a Brougham, Pitt, Fox, a Grey, bob wytbnos; ac nid ymddengys ond ambell Wellington a Nelson yn ystod oes. Nid bob mis y neddir allan o gloddiau anian y fath enwogion â Cooke, Parry, Humphrey, a Ross; ond nid o werin weithyddawl Lloegr y cododd y rhai uchod oll; na, y mae rhai o naddynt o hanion Cymreig, Albanaidd, a GwyddeIig. Son am anweddeidd-dra y Cymry, a'u hanwybodaeth! Nid oes yn mysg cenedl y Cymry yn yr oes hon, ddynion yn debyg I lawer sydd yn Lloegr mewn anwybodaeth, - eu hunig iaith yn anneallus ganddynt; rhegfydd ac afresynoldeb ydyw yr hyn beth a ymhyfrydant ynddynt. Nid ydynt gwerin weithyddawl Dyfnaint, a rhan o Wlad yr Haf, ond anwariaid trwyadl; ac ofer yw meddwl iddynt hwy a gwerin weithyddawl Gweithiau Haiarn a Glo Stafford a‘r Amwythig i ddeall eu gilydd, - nid allant. Gwystlwn ein hanfodiaeth y byddai cystaI gan wladyddion swyddi Stafford a’r Amwythig i geisio deall Cymro uniaith yn amlygu ei feddyliau trwy awgrymau yn unig, â gallu deall parabliad y Dyfneintwyr; nid am fod un o breswylwyr y parthau a nodwyd yn medru siarad eu hiaith mal y dylent; ond am nad yw yr iaith Saesonaeg yn cael ei deall a’i hiawn lefaru ganddynt. Hawdd yw dywedyd a chyhoeddi fod y Cymry yn anwariaid; a dylid ystyried mor hawdd i'r sawl a adwaenant Loegr wybod pwy sydd a gwirionedd o'u tu, a phwy sy a'u sodiau ar y tywod yn hyn o haeriad. Teuluoedd Cymru, y rhai ydych yn barod i roddi coel i'r dyb uchod, gwrandewch, sylwch, a bernwch! y mae yr oll o honoch gyda blaenoriaid yr ynys mewn gwareidd-deb, gwybodaeth, a boneddigeiddrwydd; a gofelwch ddysgu eich iaith, a’i chadw mal yr ydych heb ei llygru, a 'i gosod yn anneallus i chwi eich hunam, mal y mae miloedd o drigolion Lloegr yn gwneyd â’u hiaith hwynt. Er enghraifft, wele un darn bychan, allan o'r miloedd ellid eu crybwyll, ac a elwir gan drigolion rhai o swyddi Lloegr yn “Yorkshire Broauge: “ –

 

“Throo Barinsla, Ganber, t’Owd Taan Doddath, an uther plaices, can be convay’d ta lanes an uther foaks’ cluises; az can allso weyvers spare weft tut warehouses, we greater dispatch then onny either line.”

 

 


(delwedd B0999) (llythyr 5, tudalen 233b)

Seren Gomer. 1846.

 

Fy nghenedl y Cymry, nid oes y gymmysgfa yn hanfodi yn ein hiaith ni ag sydd yn yr iaith Saesonig, mal y dengys y doethawr Pitman, tad a sylfaenydd y gyfundrefn Phonographaidd. Dyweda y boneddig hwn fod y fogail a yn cael ei seiniaw mewn 18 o amryfal seiniau; yr i mewn 6 o wahanol seiniau; yr i mewn 4 o wahanol seiniau; yr o mewn 7 o wahanol seiniau; a'r u yn cynnyrchu 6 o wahanol seiniau. Gwel yr Hysbysiad, Ipswich Phonographic Soiree, Mai 14, 1846. O, mor anwyl fyddai genym eich gweled yn ymhyfrydu mwv yn eich iaith, ac nid yn ymbalfalu mewn Jaith na ddeuwch yn eich oes yn wybodus ynddi; a pha fodd y deuwch, pan nad ydynt y Saeson eu hunain yn medru ei dysgu a'i deall?

 

Mawr y ffwdan sydd o barth yr Ysgolion Brytanaidd yn bresennol; a gallesid meddwly buasai y brwdfrydedd drostynt yn rhwymo y Cymry i gael y Gymraeg i mewn i’r Normaliaeth; ond, Ow! eich iaith wedi ei chau allan o'r rhai hyn: dim dysgu y Gymraeg yma etto! ac felly y parha, oni fydd i chwi, y werin weithyddol Gymreig, ddihunaw, a phleidiaw eich iaith. Pa hyd y gommeddwch i'r cyfryw sarhad fod arnoch chwi ac ar ein hiaith? Edrychwch odd eich amgylch, a pheidied llawer o honoch a gadael i feddwdod a dylni idd eich gyru o'r byd yn anmhrydlawn, yn lle edrych a sylwi ar wybodaeth, a chefnogi cynnyrch yr argraffwasg. Bydded i filoedd ohonoch fod mor llafarus o hyn allan i feddiannu gwybodaeth ag y buoch i wario eich arian ar gwrw, a lol glebarllyd hen bretenders syfrdanllyd. Peidiawch a chymeryd eich hudaw gan y cyfryw benweiniaid baldorddus, amcan pa rai ydyw llenwi eu cestau glythawg ar draul eich llogellau, trwy adrodd hen rimynau disylwedd, gan geisio gwneyd eu hunain yn brydyddion. O,  Gymry! gyrwch y baldorddwyr odd eich gW^ydd, a gwnewch eich hunain yn ddiwyd i gasglu gwybodaeth fuddiawl.

 

Wrth derfynu y waith hon, gan addaw, os caf einioes ac iechyd, y safaf ger eich bron etto, goddefwch i mi ofyn i chwi rai pethau, a'ch cymhell i wir barchu teilyngdod. Ai bychan genych lafurwaith llênyddol Cymry, gan y diweddarion Athraw Pughe, Iolo Morganwg, ac Owain Myfyr? A ydyw gwladgarwch amrywiol o enwogion cymru yn beth dystald yn eich golwg? A ydynt ymdrechion diflinaw y dysgedig Garnhuanawc, a rhai o foneddesau Gwent a Morganwg,  a llawer o'u cyffelyb yn Ngwynedd a Phowys, yn teilyngu un sylw a pharch oddiwrthych, y rhai ydynt wedi codi llênyddiaeth Gymruaidd i sylw llenorion penaf Ewrop, trwy eu nawdd i Gymdeithas Cymreigyddion y Fenni?” Canfyddaf fod Golygyddion  yr “Archaeologia Cambrensis" yn bwriadu ail-argraffu y “Myfyrian Archaiology," yn dair cyfrol, am dair punt a thri swllt, os cânt 300 o enwau i ddechreu. Llwydd a bendith ar eu gwladgarwch. Fy mrodyr y Cymry, cefnogwch eu bwriadau, a dangoswch mai dynion ydych am gadw ar gael lafur eich hynafiaid; a mai “Cymru fu, sydd, ac a fydd.”

 

Ydwyf, un o’r werin weithyddawl Gymreig,

 

EMYR LLYDAW.

 

 


(delwedd B1000) (llythyr 6, tudalen 296b)

(x297) Seren Gomer 1846

AT Y WERIN WEITHYDDAWL GYMREIG.,

Llythyr VI.

 

GYDWLADWYR HYNAWSION, - Gan i mi, yn fy llythyrau diweddaf atoch, ganmawl llawer arnoch, a dangos fod Gwerin Weithyddawl Lloegr gymmaint ar ol am wybodaeth ag ydych chwithau; a hyn a ganiateir gan bawb a wyddant am yr anwybodaeth a hanfoda; ond rhag i chwi, fy nghenedl, feddwl eich bod wedi cyrhaeddid grîs uchelach nag ydych, goddefwch, y waith hon, i un ag sydd yn dymuno i chwi bob daioni, yn nghyd a chynnydd mewn gwybodaeth a moesoldeb, fel na chaffont crach-feirniaid o anianawd a galluoedd Dic Shon Dafydd eich collfarnu o herwydd eich hymddygiadau anwaraidd, a thrwy hyny, yn ol eu mympwy, fwrw eu galanas ar ein hen Iaith bereidd-sain, roddi i chwi air o gynghor.

 

Llawer o gyrchu sydd gan breswylwyr y gweithiau i’r tafarn-dai; hyny o arfer ni chollfarnwn, oblegid, nid ydynt y tafarn-dai, o ran eu hunain, yn waeth nâ yr annedd-dai y preswyliwch ynddynt; ond, yr ydwyf yn eich beiaw am yfed i ormodedd, a chlebran am lawer o bethau nad ydynt yn werth sylw un dyn i wrando arnynt. Pa hyfrydwch a fwynhewch yno wedi o honoch feddwi, gan dyngu a rhegu, sydd anhyall i lawer? Ni cheir yno yn eich plith ond ynfydrwydd ym mhob gair a gweithred odd eich heiddo. Y mwnwr a'r glöwr yn ymffrostiaw yn eu gorchestion — un yr holwr goreu, arall y saethwr goreu; Twm y dramwr y dyn cryfaf yn y pwll; Talcen Shoni Pen y Rhiw yr un ffeina a welws Bili Twt erioed - mwn yn iawn ynddo. “Hoi, wasi," meddai Dolphin, “mae talcen yr hén Dafydd y Rhyychwr yn capo hwnw- mae’r pin rock drosto bob scwlffin, a’r pin holin, a'r pin coch, yn blastar dros y face i gyd, a gweithiwr sweet yw’r hen Rhychwr, wasi.” “Hoi! Hoi! wasi, (meddau Will y prank,) – hawsa’ gwaith iddo fod yn weithiwr da, wasi, tai e' ddim ond yn ym un un i, fe dyne’r concait i maes o’r fo, ond fi gwnes i fwy o fw^n na neb yn y level y mis hyn, er taw clawd budur oedd yntho." “Ha! (meddai Twm y Scwtwr,) nid yw dy dalcen di di hanner cyndrwg â’m un i, wasi; dim tamaid o lyfn, - holo yn y gloden, a hono fel y flinten yn taro tân bob ergyd —blyntio dwsin o fandreli cyn cinio bob dydd fel y clock, wasi; y Jacen yn glynu wrth y top fel y gwr drwg, a gorföd ei saethU bob wifflin." Gyda hyny,dyma dir y pinau duon; Will Shon, y Bolsis tri chwarter, yr wythien goch, yr wythien fraith, a'r gwythieni bychain, ac i lawr â hi trwy ganol y Ffarwel Rock, i waelodion y gwelyau ceryg calch, ac oddiyno i'r làn  

i ben yr wythien sebon; nid oes un dyn a ddichon gyfrif y gwrhydri y mae pawb wedi ei wneyd, a phob un yn seiniaw ei gorn buganu ei hun; pawb yn siarad ar unwaith, a neb yn gwrandaw; y gyrdd, y mandrelau, y pigau, y llafnau, y rhawiau, y teryd, y geingion, y rammers, rables, y troliau, yr olwynion, yr ermigau, a’r peiriannau, mewn cyffro gwyllt. Ned y Cottrel, Harry’r Lispin, Jack y Wheel, Dic y Saim, Phill y pwynt, Wat y Catris, Matho’r Bwli, Mocyn yr Hunan, Shams y Coedwr, Dai’r Jigwr, Lelo y Stepwr, Gitto’r Plockyn, Shoni’r Bys Pwt, Will y ci Brith, Shanco’r hen Ganwyll, a Nick y Celwydd, oll at unwaith yn brablan am eu henwogrwydd eu hunain – pethau na fuont, gwrhydri na fodola, a gorchestion

 

 

 

 

 


(delwedd B1001) (llythyr 6, tudalen 297a)

nad allent yn eu hoes eu cyflawni. Rhyfedd y swn mawr a glywir yn mysg y glowyr – glo teg, garw, brau, a chaled – rhai yn trin corpws y Gaffer, ereill yn rhegi y pwyswr, “dramaid neat a lenwais i, dim ond tunell y {sic; = a} bwysws; mi wn ei bod yn siwr o fod yn dunell a chwech cant, pe cawsai gyfiawnder;” a chyda hynny dyma yr halier yn cael ei feio – y dram yn cael ei chythreuleiddio, y Machine yn cael ei yru i fflamiau y Vesuvius, a’r pwyswr yn derbyn y ddedfryd o’i grogi - a’i enaid, druan, yn cael ei offrymu i ufel yr Etna! Yn nghanol y ffwdan hyn, neidiai Ianto’r Plisgyn i fyny, gan haeru mai efe ydyw y gweithiwr goreu yn y lle, “a thorais (meddai) hyn a hyn o dunelli o lo y mis o’r blaen.” “Hawdd y gallaset (meddai Belcher Bach), talcen neat oedd genyt, wasi, ïe, a scip hefyd hanner y mis.” Dyn anwyl, y fath banu sydd ar y gwythieni mwn a glô am ysbaid y criws a’r ffetching – yr holo, y cyttio, y saethu, y llanw, a’r hela sydd yn bod. Ben o’r Bannau, Rosser y Cribwr, Shanco’r Carn, Will Wyllt, Dai’r Neidiwr, Twm yr hen Venter, Shon y Trwyn, Harry’r Bacsau, Will y Trwmp, Shoni Pegi, Dai Lawen, Lewsyn y Gybildi, Twm y Bwlch, Dic o’r Scybor, Hwlcyn yr En, Sam y Swrn, Nedws y Galchen, Wat y Biben, a Rawli’r hen Heliwr, oll mewn ffwdan yn gwaeddi nerth eu cegau am gael gosteg, i glywed Cân Cwn Llanbradach gan Ianto’r Forge. Gyda hyny, dyna’r halabalw fawr yn dechreu, a gorchestion hynodawl Ranger, Leader, Driver, Tulip, Rori, Flora, Beuaty, Lovely, Lass, &c., yn cael eu crybwyll, mal nad oes un gair i’w glywed, ond y gweiddi mawr; a gellid meddwl  mai haid o gw^n hela sydd yn y lle, a mwy o barch yn cael ei roddi i redegfeydd y cw^n, y ceffylau, a’r helwyr, nag i holl geliau gwyddorawl y byd, a phob symlrwydd wedi ei alltüdiaw, a dysg a gwybodaeth yn bethau diwerth  yn eu golwg!

 

Dyna le ryfedd i ddyn sobr ac ystyrbwyll i eistedd am awr, yn gwrando ar y lol disynwyr a glywir, a’r pranciau a welir! Dai llun y Barcut am gael chwart arall i mewn cyn stopo’r tap; Robin yr yfwr am fyned â ffetching gartref; Twm y drill am gael dawnsio reel gyda Will y Clots, a Shon Frank, Dic y Randi, am daro steps; Harry Lawchwith am dreio pob o smacken â Will Lawgam, a Shon y Cwrw Bach am aros gyda'r Cwicyn tra dalio'r godén; ac, yn nghanol y ffwdan, dyma y gwaith yn dyfod i'r bwrdd, ac yn cael ei fwgwth; a gellid meddwl a dychymmygu fod y mis canlynol i fod yn amser diysbyddu holl fw^n a glo^ y Dywysogaeth. A chyn y ty^r y gyfeillach i fyny, byddant oll yn sôn am eu gwroldeb eu hunain, a phob un yn ymladd â rhyw un, ond ni w^yr â phwy, nes cael pår o lygaid duon; ac yn y cynnulliad hwn ceir penau  dolurus, breichiau toredig, ac asenau rhai wedi eu plygu, bysedd a dyrnau wedi ddgymmalu, arddyrnau wedi eu wedi eu sigo, trwynau wedi eu cnoi ymaith, clustiau wedi eu  nodi, dannedd wedi eu colli, a galanasderau mawrion wedi eu cyfflawni, a'r gwaith erbyn hyn wedi ei lwyr ddibrisiaw am laver o ddiwrnodau, a’r gorchestwyr yn ymgynnull un i weithle y naill y llall, er cael gwybod am y prnacs a gyflawnwyd ganddynt yn ystod amser y meddwdod mawr yn wythnoS y cyfrif, mal y bydd yn ddydd Mercher neu Iau cyn y dechreuir ymaflyd yn y gwaith drachefn, a chynlluniaW ffordd i gael ychwaneg o gwrw ar yr hen gownt, a thori y tafarnwr newydd, a chael ychwaneg o flagardiaeth a phob anfoesgarwch. Fy nghenedl, pa hyd y parhant eich ffolinebau? Oni byddai yn well gwario’r arian am wybodaeth? Oni byddai mwy o lesiant i chwi, pe yr ymgynnullech yn nghyd i wrando ar rai o lenorion eich gwlad yn darlithiaw ar wahanol destunau, er dyfod o honoch i feddiant o werth gwybodaeth; mal daearyddiaeth, naturiaeth, celfyddydau, a llywiadaeth, &c.? Oni dedwyddach a fyddai gwrando ar gantorion medrus yn canu rhai (...)odd ein hen ganiadau gwladgarol a moesol na ielpan, (...) canu cwn Llanbradach, a'r cyfrai, ynghyd a 

 

 


(delwedd B1002) (llythyr 6, tudalen 297b)

Seren Gomer. 1846. (x298)

 

bonglerwyr anfedrus? Oni byddai cynnyrch toreithiog y “Caniedydd Cymreig," gan Ieuan Ddû, Glan Tywi, yn llawer mwy buddiawl i wrando arnynt na y larymau na geisiwch eu humian ar hyd y tafarn-däi? Iê, y mae canu’r “Ddafad lâs a’i Hoen sy’n blino Shon Llywelyn,” fil o weithiau yn fwy campus na dim o'r trash a floeddiwch, pan uwchben eich gwydrau, yn llyncu ufel sawr-ddrewllyd, a meithriniad gwallgofrwydd. Yn wir, oni ddiwygiwch, ac ymaflyd mewn gwybodaeth, chwi a ewch yn wawd gan y rhai, a wyddant pa beth ydyw rhinwedd a gwir foesgarwch. Arferiad atgas yn eich mysg ydyw rhoddi enwau arnoch eich gilydd, sef, difenwau; a diau fod gwyr y tân yn honäd i bawb yn y gamp hono, ac nid oes nemawr o ddynion nad ydynt, (mal y dywedir) dan eu llysenwau dros holl weithiau mawrion Deheubarth Cymru; fel Twm y gag up, Twm yr hen fuwch, Twm y drawback, Twm y lludw, Twm yr hen grwmpyn, Twm yr hen het, Twm y rabble, Twm yr hen fuwch, Dick yr hen farch, Will naill lygad, Will yr hen goes, Will yr hen glem, Will yr hen fonyn, Will yr hen iâr, Will law bwt, Will yr hen w^ydd, Dic wedi marw, Shoni traed moch, Shoni traed moch, Shoni sclemyn, Jack y barcud, Shoni’r hen ddyn, Dai Pharo, Ianto'r ci tân, Bob cwt y ci, Huwcyn polish, Will mawr, Will sy lai, Will sy fwy, a Huwi’r Sap; ïe, y mae enwau genych ar eich gilydd yn rhy ffiaidd idd eu crybwyll a’u dangos trwy’r argraff-wasg. A ydych yn hyn am efelychu Gwerin Weithyddol Stafford a’r Amwythig, sef rhoddi enwau atgas arnynt eu hunain, mal nad oes weithiwr yno braidd heb ei ddifenw?

 

Wele ychydig o honynt, er dangos mor wrthun ydyw yr arferiad, y rhai a adwaenem wrth yr enwau isod mal; Old Fatun, Old Bufetee, Old Cadger, Old Stiffen, Old Slasher, Old Bulkey,  Old Slynu, Old Bags, Old Badger, Old Fox, Old Fithciu[n], Old Lodle, Old Rorey, Old Blinker, Old Clubun, Old Splayer, Old Trudger, Old Rookey, Old Fudle, Old Stretcher, Old Surley, Old Horse, Old Cow, Old Donkey, Old Barrow, Old GreasyOld Bouncer, Old Dripey, Old Gem, Old Cock, Old Fausty, Old Wildun, Old Smoothun, Old Jupiter, Old Fish, Old Briskun, Old Flighty,  Old Dareun, Old Freshun,  Old Beauty, a channoedd  ereill o’r un dull, on digoned hyna y waith hon. Onid ydyw mor  rhwydd adwaen dynion wrth eu henwau priodol ag ydyw wrth yr enwau a nodasom? Ymaith i dir anghof a phethau mor annymunol, a pherchwch  eich gilydd, gan anerch y naill y llall â'r enwau a roddwyd arnoch gan eich rhieni, ac nid ymhyfrydu mewn dilyn arferion anfoesolion rhanau o Loegr. Nid ydym yn beiaw ar yr arferiad canlynol o enwi dynion ar ol y lleoedd y cawsant eu geni a’u meithrin, pe yr enwid hwynt a’u galw fel y dylid, ac nid mal rhai o’r canlynolion: - Twm o’r Rhyd, Dic Panteg, Will Pontypwl, Twm Aberhonddu, Twm Cwmdu, Dai Cydweli, Shoni Penybont, Hwlyn Llanpumsaint, Macyn o’r Wern, Sam o'r Graig, Isaac Carnllech, Deio o'r Fenni, Will Cefngolau, Harri o Gaer, Rhobin Llangefni, Gitto Mathafarn, Shoni Sir Flint, Dai Sir Gàr, Griffi o’r Rhonas, Ianto o’r Llwyni, Dic Llansamled, Phill Abergwesyn; Nedws Llanwrtyd, Franc Cilycwm, Lewsyn Morganwg, Wat Benywern, &c. Darfydded difenwi yn eich mysg; arfer gwrthun ydyw. Yr ydych yn anmharchu eich hunain yn golwg pob dyn symwyrol; ac nid ydych yn parchu y rhyw deg mal y dylech. Ow! mor gyffredin yr arferwch ddifenwi merched eich gwlad! Ychydig, er mwyn teimladau, a grybwyllwn, fel, Mali'r Slwt, Beto’r Huddugl, Nani’r Dant, Sal y Frolic, Jini Fain, Mati'r Gwt, Hanni Fawr, Pego’r Scwint, Leah Las Fach, Shini

 

 


(delwedd B1003) (llythyr 6, tudalen 298a)

Shone, Fyr, Yr hen ‘Sten, Yr hen Facsi, Yr hen Gwta, Yr hen Floneg, Yr hen Wydd, Yr hen Lyswen, Luci’r Gengel, Yr hen Lili, Yr hen Hwyad, Shygi’r Bais Fèr, Neli’r Gwn brith, Ffani’r trwyn flat, &c., &c. Feibion a merched Cymru, trowch eich gwynebau oddiwrth arferion mor llygredig; a bydded i chwi, yn lle difenwi eich gilydd, er bod yn llawen, i ddiwygiaw yn hyn o gamp, sydd o duedd mor anfoesgar. Edrychwch odd eich hamgylch, a rhoddwch ystyriaeth ddifrifawl eich bod yn byw yn oes rhai diwygiadau mawrion, ac mai chwi sydd wedi cael byw i weled y bedwaredd ganrif ar bymtheg o oed Crist, pan na chawsant eich cyndeidiau weled y rhyfeddodau a ganfydir genych chwi, a’r breinniau a fwynhewch. Na, buont feirw cyn gwawriad dydd yr ymchwilwn, ac oeddynt yn llyfrau ceuadwy, heb gyfleusderau i ddysgu darllen eu hiaith mal sydd genych chwi yn Ysgolion Sabothawl Cymru. Ond, a ydych chwi yn gyffredin yn ymdrechu yfed i feddiant o wybodaeth? Ofnwyf nad ydych. paham? Nid oes arwyddion arnoch o fobl awyddus am ddysg. Rhyfedd y ffwdanu sydd o gylch y gweithiau nos Sadwrn y cyfrif, y Sul a'r Llun canlynol, a llawer o honoch yn fwy tebyg i afresymolion nag i ddynion, gan wario eich arian ar ddiodydd meddwol —ymladd, blagardio, a phendroni; a thebycach ydynt y tafarn-dai i dylcai moch a gwallgofdai, nag i anneddau bodau cyfrifol! Ar bwy y mae'r bai? Arnoch chwi. Nage, meddych, ond ar y tafarnwyr. Nage, meddaf finnau, ond arnoch chwi y mae'r bai, am nad ydych yn gwybod pa gymmaint sydd gymmedrol, a myned adref yn sobr. Er mwyn eich hunain a’ch teuluoedd, ac mal cenedl, gwariwch hanner yr arian a delwch am ddiodydd yn awr i brynu Ilyfrau, a threuliwch yr amser ag ydych yn aros yn y tafarn-dai, i ddysgu, darllen, a meddwl; a chofiwch nad ydynt y rhai sy’n prynu llyfrau, ac yn ymdrechu meddu dysg, yn meirw fel y meddwon, na phwrcasant unrhyw beth ond cwrw; oblegid bydd gan y darllenydd ei lyfrau yn etifeddiaeth idd ei blant, pan na bydd gan yr oferwr ddim yn weddill; mae’r cyfan a lyncodd, ac y talodd ei arian amdano, wedi ymadaw ag ef, wedi llifo gyda’r nant i geudod yr hafnen, neu wedi ei ysgaru gan y cymylau ar hyd y ddaear. Pa sawl un o deuluoedd ydynt heddyw yn meithrin eu plant, a’u ddwyn i fyny yn nullwedd llygredig yr arferion ffuantus? Y mab yn cael mynded i'r tafarn nos Sadwrn a dydd Sul i wario coron am gwrw, nes meddwi, a dyfod adref yn waeth ei ddryvh nâ mochyn, a'r fam a'r tad yn chwerthin am ei ben, gan ymffrostiaw dranoeth fod Dai nhw, Will neu Twm wedi gwneud criws iawn, heb rwgnach am yr arian a wariodd; ond os bydd Dic, Shon, a Huw, wedi prynu llyfrau gwerth swllt neu ddau mewn mis, mawr a fydd cynhwrf y fam, a sarugrwydd y tad, gan ddywedyd, “Yr ydym yn meddwl, welwchi, y collant eu synwyrau wrth ddarllen yr hen stwff llyfrau dwl yma;” ond barned y darllenydd pa un ydyw y tebycaf i golli ei synwyrau, y meddwon neu ddarllenddion y llyfrau? Teidiau a mamau Cymreig, ffeiddiwch feddwdod ac anfoesgarwch yn eich plant, - na rygnachwch arian am gyfryngau gwybodaeth iddynt; gw^yr yr ysgrifenydd pa un sydd oraf, Yr ydym wedi syn lawer gwaith, pan yn gwrandow arnoch chwi, y Werin Weithyddol, yn clebran disynwyrdeb pan wedi meddwi, yn siarad am bethau crefyddol, arall yn syfrdanu am ei waith, y nesaf yn canmawl rhyw hen ganad mwyaf lolaidd a fu erioed, crygyn arall yn gwrandaw ar hanes brwydrau y cw^n, y ceiliogod, a daear-foch. Ereill mewn cyffro rhyfeddawl, yn haeru taw Robin y Raswr a’r Cyw Cloff ydynt ben y byd yn eu rhedegfeydd, er pan farw Twm Emwnt! mal y gellid meddwl fod yr Olympic Roegaidd wedi cael eu hadsefydlu ar fynyddau Cymru! Wfft, y son mawr sydd genych am y dyrnodwyr campusawl y sydd ac a fuont, mal y tybiem fod Molinox, Spring, Langan, Ward, a Burke, yn sefyll ger ein bron, a phob un a’i wron; ac, un yr un pryd, na wyddoch fwy y nag am y cyfrai nac am dannedd gwybedyn, traed ac adenydd y chwain, ymfyddiniad y morgrug, medrusrwydd y gwenyn, ac addarniant a chywreinrwydd eu celloedd. Yn lle yr ymffrostiadau hurtaidd a nodwyd, ymdrechwch ddyfod yn wybodus; myfyriawch a gwariwch eich arian am yr hyn sydd o werth ei wybod. Os nad oes genych lyfrau ar ddaearyddiaeth er eich hyfforddiant er dyfod yn wybodus am ansawdd ein daear, a natur ei oll fywolion, cefnogwch yr argraff-wasg Gymreig, ac na ofrphwyswch hyd oni weloch rhyw Goldsmith Cymreig yn llewyrchu yn eich furfafen lenyddawl, er gwellhau a meithrin ynoch archwaeth wahanol idd yr hyn a hanfoda mewn miloedd ohonoch yn bresennol. Terfynaf y waith hon; a buan y byddaf etto ger eich bron, os caniatâ y Golygydd i mi gyfran o’r SEREN.

 

EMYR LLYDAW.

 

 


(delwedd B1004) (llythyr 7, tudalen 198b)

Seren Gomer. 1846.

AT Y WERIN WEITHYDDAWL GYMREIG.

 

LLYTHYR VII.

 

Y CYMRY MYGEDIG, - Y mae genyf air â chwi etto, yn eich ffwdanau llysenwol, a bod rhai o honoch chwi, efallai, yn grwgnach, am nad oeddem wedi crybwyll digon o'r hen enwau sydd genych ar eich gilydd, ynghyd â’r dull a arferwch, pan yn yfed cwrw a llosgi myglys, a’r clebranau gwageddus sydd genych yn y tafarn-dai, &c. Hyfrydwch mawr i bob carwr gwybodaeth, gwladgarwyr, a noddwyr y Gymraeg, fydd eich gweled yn ymestyn mwy tuag at gyrhaeddyd cyfryngau dysg, coleddu llênyddiaeth eich gwlad, darllen a meddwl, efrydu, cymharu a chydbwyso pethau, eu dilyn a’n holrhain, hyd oni ddeuwch yn alluog i farnu rhwng teilyngdod ac annheilyngdod yr hyn a gynnygir idd eich sylw. Dir yw, fod amseroedd tywyllion wedi aros a gorddi meddyhau ein hynafiaid, dysg a gwybodaeth wedi gaddef ymosodion cedyrn eu gelynion, ac yn fathrfa i draed yr anwybodus. Edrychwch yn ol ar y goleuadau tryloywon a dywynasant yn y dywysogaeth o ddydd Dafydd Ddû, Hiraddug, i waered. Enwau Salisbury, Parry, Morgan, Davies, Canoldref, Perri, a Shon Wyn o Wydir, a lluoedd ereill yn anwyl i feddwl pob Cymro heddyw, am yr hyn a wnaethant yn eu hoesau dros eich iaith a llênyddiaeth eu gwlad. Os edrychwn ar sefyllfa ein cyndeidiau er ys can mlynedd a aethant heibio, ceir fod miloedd o honynt yn well eu moesau a’u harferion nâ llawer o honoch chwi heddyw! Gellwch ddweud, ysgatfydd, mai hen bobl ddy!ion oeddynt yn byw y pryd hyny, a’u bod yn credu pob ofergoelion. Rhaid caniatâu, fod ganddynt lygaid craffus i ganfod (?) llawer o ddrychiolaethau nad ellir eu canfod yn bresennol, ac, y dychrynid hwynt yn aml gan y gweledigaethau nosawl; ond, er y cyfrifir hwynt yn ofergoelus, yr oedd dynion o ddysg a gwybodaeth yn eu mysg yn yr amserau mwyaf cadduglyd ar y werin, a buont argraff-dai Pengwern, (yr Amwythig) yn foddion daionus i yru eu cynnyrchion toreithiawg idd y Cymry, cyn bod ond ychydig, neu un argraff-dy wedi eu sefydlu yn Nghymru er eu goleuaw; a bydd enw yr hen fardd ac hynafiaethydd, Shon Rhydderch, yn anwyl gan bob gwladgarwr Cymreig am ei orchestion. Er fod miloedd o lyfrau wedi eu dosparthu gan y wasg, o gyfnod argraffiad yr Ysgrythyrau i iaith y Cymry, yd y deng mlynedd ar hugain diweddaf, a dynion doniol mal pregethwyr wedi cyfodi, ac yn llafutiaw yn ein mysg; etto safent yr ysbrydion nosawl, y canwyllau cyrff, ar gyhiraeth eu tir yn lled gadarn – aprai enwau y “gwyr hysbys,” a’r hen wyddonod, ddychryn yn meddyliau y werin - dawnsiai “Bendith y Mamau, a’r Tylwyth Teg” mewn llawn hwylau ar aelon bryniau a chymydau y Dywysogaeth, yn chwyrndroi yn eu cylchau crau, nes gwneyd eu holion yn ganfyddadwy ar y lleoedd! Ond, pan sefydlwyd SEREN GOMER gan yr enwog Gomer, ac ymledaeniad gwybodaeth, a chefnogiad i ddysg yn ein mysg, ymlidiwyd y drychiolion i fro dystawrwydd – cwn annwn ni chlywwyd mwy – yr angladdau nosawl a derfynasant eu gwaith – yr ysbrydion a ffoisant pan dyywynodd goleuni gwybodaeth – yr hen guddfeydd a gawsant esmwytbdra gan eu hen berchenogion – esboniaw chwareuyddiaethau y cathod ac udiadau y cwn a syrthiasant i ddiddymdra - caniadau y

 

 


(delwedd B1005) (llythyr 7, tudalen 199a)

Seren Gomer. 1846.

 

ceiliogod, ni dderbyniant sylw gan y werin - cliciad y prif gopyn – llais irad n y corff – crawciadau y cigfrain – croesiad y biogen — cyfarthiad y wenci — gwrychion y mygdyll, ac arwyddion o flaen marwolaeth, ydynt gan mwyaf wedi eu  gyru i orphwys, a llyfr mawr Cwrt y Cadnaw wedi cauad arno, a'r swynion a wnaed trwyddo wedi gwywo, yn nghyd â Simon Magws, Shams y Baili, wedi gorfod ymguddiaw o olwg y Cymry, yn yr oes hon. Nid oes neb, bellach, yn ardal Pontypwl yn medru swyno melinau i droi yn eu gwrthol, na neb yn gwybod dim am y mwn aur yn Nghwm Clydach, Brycheiniog! Ië, mae hyd y nod y Bwca Trwyn gynt, druan, wedi gorfod ymadael ag ardal Glewyseg, a chygnmeryd ei artref (mae yn debyg) ar draethell y môr coch,  oblegid, y mae haul gwybodaeth wedi eu gorthrechu oll – a bendith ar eu holau, meddwn ni, trigolion Cymru! Gan fod y ffugion a nodwyd wedi darfod yn eich mysg chwi, y werin weithyddawl, a gwybodaeth Feiblaidd a chyffredinol wedi gwneyd llawer o gyfnewidiad arnoch, ni bydd anfoddlon genych i mi ofyn i chwi, paham na chefnogwch fwy ar gyfryngau gwybodaeth? Onid ydyw yn warth i chwi, fel cenedl, nad oes genych gymmaint ac un Newyddiadur wythnosol yn eich meddiant? “O," meddai y tyddynwr cyfrifol o Gymro, ac ar yr un pryd yn werth ei filoedd o bunau, “Yr wi’n derbyn y Mark Lane Express yna, papur Llundain, welwchi, i gael gweled siwt y mae yr yd, y caws, y cloron, a’r maip, yn gwerthu.” Meddai arall, “Y Daily Times ichi, wi’n dderbyn.” Y nesaf, y Weekly Dispatch, y Sun, yr Examiner; ac y mae llawer o honoch chwi, y Cymry, yn frwdus dros ben am y Northern Star, yn yr hon, meddai rhai o honoch, y mae holl freiniau dyn yn cael eu cadw yn ddilwgr, yn ghyd a llawer ereill a allem eu crybwyll. (...)  wrth gyfenw fel yna pell ydwyf o ddiystyru y newyddiaduron uchod, na y maent yn ddaionus a gwasanaethgar; ond paham na byddai ynoch ddigon o aidd a ffyddlondeb i gadw i fyny un Newyddiadur wythnosol Cymreig i chwi eich hunain? Gresyn fod dros naw can mil O drigolion yn Nghymru, heblaw swydd Fynwy, yn amddifad o gymmaint gwladgarwch a methu gwneyd hyny yn eu hiaith eu hunain! Soniwch yn aml am eich hynafliteth, a’ch cenedlgarwch; ond ymddengys i mi mai geiriau blaentafod ydynt, ac nad oes ystyr iddynt, onite nid allech weithredu mor rymus er gyru  eich iaith a’i hynafiaeth i fro anadferiad. Y weri, gelwch eich hunain i gyfrif; edrychwch odd eich amgylch, ac ymofynwch a oes genedl heddyw ar gyfandir Ewrop mor fusgrell â chwi yn nghadwedigaeth eu hiaith a’i llênyddiaeth? Clywir rhai yn mynegi ac yn credu nad oes dim yn eisieu ond pregethu a byw yn dduwiol ar y Cymry; â  hyny yr ydym yn foddlawn; ond y mae digon O bregethu, a miloedd o ddynion yn byw yn dduwiol yn Lloegr, &c., yn gystal ag yn  Nghymru, etto, nid yw anturiaethau a thaeniad gwybodaeth ddim yn llai am hyny; o ganlyniad, paham y sefwch yn segur, y werin  weithyddawl Gymreig? mynwch eich iawnderau gan y rhai ydynt yn amcanu difodi eich iaith a’ch enwau oddinr y ddaear; mynwch idd yr ysgolfeistr yn Nghymru' i ddysgu eich plant i ddarllen eich iaith o flaen pob peth arall; na oedwch; gyrwch eirchio ar eirchion idd y Sendd am gael gweinyddiad cyfreithiau yn eich iaith; bydd gan bob gwladgarydd lloegraidd fwy o barch i chwi o lawer nâ phe gadewch hwynt yn

 

 


(delwedd B1006) (llythyr 7, tudalen 199b)

Seren Gomer. 1846.

 

llonydd. Deffrowch! Da chwi, weddillion Caswallon, Caradog, ac Arthur, cyn ei myned yn rhy ddiweddar. Wedi darfod cyfnod ofergoeledd, a ydynt eich athrawon wedi eich arwain at wybodaeth gyffredinol yn gystal a chrefyddol? Y mae arwyddion fel yn awgrymu na; ac y mae llawer o honoch yn ymddangos yn lled anwybodus, neu anystyriol am eich enwogrwydd eich hunain, gan waeddu Howrah gyda phob peth newydd ond wedi ei gael, nid yw o un gwerth.

 

Blin genyf er ys blynyddau, pan yn eich mysg, fo miloedd o honoch yn ymfoddloni ar ffolinebau, yn methu adwaen eich gilydd ond wrth ryw gas-enwau a roddwch y naill ar y llall pan yn eich pranciau meddwol, gan arfer iaith sathredig a llerw yn eich cyfeillachu, a phan wrth eich gorchwylion, fel, “Hoi wasi, dàl dy glap, onide fi smasha dy hen face di.” “Hoi, dere â’r tongs yn ol, yr hen flash.” “Hoi, wasi, paid di ac usio dy red rag arna i, onite fi dwtcha dy snout, mewn o boedi dic wasi.” “Beth ma’r catipillar yna’n frawlian? Y fi stitch front hwna, wasi, m’wn cwpwl o rounds.” Hoi, wasi, behavia cyn y smwthia i di,” &c. Y pethau anfoesol, ïe, ac annynol uchod, a glywir yn aml yn eich mysg; ac ysywaeth yr ydych yn cael hwyl arnynt. Ow! Y werin weithyddawl, ymaith â’r arferion llygredig o'ch plith.

 

Gyda hyny, y mae difenwi yn gamp barchus gencyh, a chlywais enwau rhyfedd ganwaith yn cael eu seinio mewu hwyl, yr hyn a barai i mi deimlo yn anfoddhaol pan yn gwrando aenoch yn ynfydu mewn dylni mor ddi-foes, gan son am y rhai canlynol: - Jo’r Tobacco, Shoni’r Whistle Inn, Dic y bachgen mawr, Will Mouse, Will yr hen gylla, Twm y Traed, Jack y clustiau hirion, Shoni ’Nghender, Twm y Bricks, Wil y Bwtchwr, Shoni naill lygad, Daniel Midaleisi, Twm y Crwt, Dai Nelson, Will chwecheiniog, Shoni Fat, Will dau Gart, Mocyn Spite, Shoni'r Cwacer, Twm y Cardi coch, Dai Cochyn, Rhysyn Swn, Dai Sailer, Will chwech Bys, Dai’r boreu, Will mab Shian, Franc Wyllt, Twm crafu T-n, Shoni blawd ceirch, Will Sergeant, Ben y Pren. Billy glo mân, Dai'r Llefwr, Will Mwnci'r d-l, Twm y Bacwn, Jack Black Pudding, Josi Perrot, Shani sir Benfro, Twm Tew, Dai’r Sway, Dai’r Botten, Shad y Deryn, Dic tri Chwarter, Twm pedair Aelod, &c. Fechgyn bychain y gweithiau, peidiwch a dilyn arferion y meddwon, y difenwyr, y tyngwyr, a’r rhegwyr; ond ymaflwch mewn llyfrau, er cyrhaeddyd gwybodaeth, yn hytrach nag yn y peint a’r chwart; dysgwch ddarllen eich Beiblau, a llyfrau daionus ereill, er eich gwneud yn gampus; a gosodwch y bibell a’r myglys heibio, ac ymaflwch yn mhibellau trosglwyddiad addysg, er meithrin eich meddyliau, eu haddasu at efrydu, a’u goleuaw, yn y rhai y cewch well blys nag ymddigrifu wrth weled y mwg yn myned allan o’ch geneuau yn byst drewllyd. Gadewch eich ymffrostiadau ymladdawl heibio. Nid son am frwydr y Byli Bach, a Dai y Clatchwr, a gwaeddi, “Sweet, Shoni Twm Billi, Ben y wenci wyllt, a Ianto’r Copa,” a “Hoi, wasi, y fi yw meistr y crots.” “Dai’r Dragwr a finnau, wasi, ni roisom iddi griws nos Sul diweddaf, - ni yfson ddeg chwart o gwrw, wasi, - yn feddw mawr yn myned tua chartref; a buom yn ymladd yn Waen y Delyn a chae Macsi a Phill o’r Daren, a Dai'r Mochyn.” Mynych y gwnewch ddifyru eich gilydd â chwedlau gwrachaidd fel yna.

 

Cynhwrf mawr ac ymffrostiadau aml a glywir genych am weithio, paffio, ac yfed. Rampin wedi bod yn ben campwr, a dadl fawr am yr enwogion dyrnodol, o Phill Portybello i lawr hyd Will Charles o’r Casnewydd; gan barhau i ddifenwi – Shon a Dai Bugs Inn, Dai trwy’r Dwr, Will yr hen Wr, Twm beth a’r gloch, Dai’r Gwcw, &c., ac nid oes un dyn, er eistedd yn eich plith am dair o oriau, a glyw un o honoch yn cael ei alw wrth ei iawn enw; ond mynych y crybwyllir genych gyda, “Hoi, wasi,” “Yr oedd Mocyn Spring, a

 

 


(delwedd B1007) (llythyr 7, tudalen 200a)

Seren Gomer. 1846.

 

Shoni’r hen gi off yn iawn y neithiwr – dyna lecsiwn, wasi;” a chyda hyny, rhestr hirfaith o bersonau yn dod dan sylw, fel Dai'r Cardi Glas, Twm Spanker, Dic Cwmbwch, Dai Spanker, Will Wopi, Y Castell Bach, Will o’r Cow, Dai o’r Globe, Shoni Ceiliog y boreu, Wil yr hen Geiliog, Shoni’r d___l, Shon trwy'r Dwr, Shoni Spring, Will ci bach y Dwr, Twm Sychbant, Twm Chops, Jack gwaeth na’r d___l, Twm Baginett, a Shoni Pickle Onions, &c. Dyma y cyfrai enwau a roddwch ar eich hunain, weithiau o wawd a dirmyg y naill ar y llall, a phyrydiau ereill rhoddwch enwau ar eich gilydd, gan ystyried fod rhywbeth yn ddigrif a chwerthingar yn hyny; a rhai o honoch a dybiach fod tipynach o wit mewn dylni fel yna. Camsyniad aruthr yw y cyfan, nid arwyddion o wareidd-dra a moes yn nhrigolion unrhyw ddosparth o wlad ydyw ymarfer â’r cyfrai arferion ar eu gilydd. Nid ystyria un dyn, meddiannol ar bwyll, eich holl ymddyddanion yn werth sylw, pan y byddo ffrwyth Syr Shon Heiddyn, ac un neu ddau o Ddugiaid Edom yn dilifaw i wared idd eich cegau, mel y dwr dros olwyn melin,a cyn dechreu ymgymmysgu â’i gilydd - y maent yn gyru ysgafnder hynod ynoch, mal na cheir ond y lol a'r brawliau yn eich mysg. Y seiri a'r gofaint mewn hwyl a nerth yn canmawl eu cywreinrwydd eu hunain, a'u cynlluniau, ac yn cablu eiddo ereill. Nid ynt holl adeiladau mawrion y byd ddim! Peirnerth Archimedes, â'r hwn y dymchwelai longau mwyaf y byd yn ei hoes, yn beth dystadl! Nid ydyw desgrifiad Homer o alluoedd Vulcan, ei ermigau, morthwylion, efelau, ei darllawdai, ei dawddffyrn, a'u rhychiau tywynbyst o dân a gwrychion, ond pethau bychain yn eich golwg. Yr oll a glywir genych ar ben pob bys, ydynt, yr efail, y rubble, y ffwrnais, y gwellaif, y rolliau, y pinions, y cogs, y crabs, y ?brassetts, y fly wheel, y driving wheel, a'r shaft, y ?meiol, y porchyll, y sindris, yr yelds, y bridge, y stacks, y fflue, a'r sciwser; yn nghyd â, "Hoi, wasi, yr Hen Glogs, nid yw Shoni'r hen Gewc, ddim hanner cystal gweithiwr â fi, wasi." "Hoi, wasi," meddai Fal Lal(?) "y fi yw dy fishtir di, wasi; on' byse'r bridge gw'mpo, fi fyswn ni wedi dy ffystodi yr wythnos o'r bla'n, ac yr oedd y fflue yn ddrwg --- hefyd, wasi." Arwyddion rhyfedd ynt bethau fel yna; prawf pa mor ddichwaeth ydych at wybodaeth; am hyny, soniwch am wa'th pan yn ei wneud, ac nid myned i feddwi, ymladd, a gweithio, ar yr un pryd. Pe buasech chwi, y werin o gylch y gweithiau haiarn yn Mynwy a Morganwg, &c. wedi gwneyd y defnydd a allasech o'ch amser, ac eich arian, ni fuasai ond ychydig o'ch cydwladwyr yn alluog i gystadlu â chwi mewn dysg a wybodaeth; a dylsai fod genych heddyw eich sefydliadau gwyddorol, a llyfr-gelloedd mawrion; ond, yn lle hyny, nid oes genych ddim er enwogi eich hunain fel cenedl, a lleoli y naill y llall; a chofiwch na fydd genych y cyfrai tra y byddo meddwdod, glythineb, ac afreolaeth yn llywodraethu eich nwydau.

 

O fy Nghenedl! fy Nghenedl! Gwell i chwi ymuno fel un gwr, a gwneyd trysorfa o arian er cael allan gyfryngau gwybodaeth. Pa fodd y disgwylir i chwi, nac idd eich plant, ddyfod yn alluog i ddosranu gwyneb y bellen ddaearol, a’i theithio yn y meddwl, pan yn eistedd yn hen gadair wellt Shon o Flaen y Cwm, os na ymdrechwch gael llyfrau er eu dysgu i wneyd hyny?

 

 


(delwedd B1008) (llythyr 7, tudalen 200b)

Seren Gomer. 1846

 

enwog natur byth yn nghau os na chryfranwch at at gloion ei ymddattodiad. Bydd y ddaear, ei choedydd, ei llysiau, ei mwnau, a’i wahanol rywiau o fywolion, yn nghau rhag eich plant, oni wna y wasg eu dangos iddynt. Bydd celfyddyd yn ymguddio dan fentyll y nos, a’i darganfyddiadau buddiol a lliosog fel yn galaru o dan eich traed, am na wnewch y defnydd a ellid â hwynt. Bydded i wybodaeth gael maethiad genych, a dylifo i’ch mysg, fel y dywed yr enwog Dewi Wyn am y dwfr: -

 

“Elfen denau ysplenydd,

Llyfndeg, yn rhedeg yn rhydd.”

 

A boed felly, meddai

 

EMYR LLYDAW.

 

 

 

…..
Sumbolau:

a A / æ Æ / e E / ɛ Ɛ / i I / o O / u U / w W / y Y /
ā
Ā / ǣ Ǣ / ē Ē / ɛ̄ Ɛ̄ / ī Ī / ō Ō / ū Ū / w̄ W̄ / ȳ Ȳ /
ă Ă / ĕ Ĕ / ĭ Ĭ / ŏ Ŏ / ŭ Ŭ /
ˡ ɑ ɑˑ aˑ a: / æ æ: / e eˑe: / ɛ ɛ: / ɪ iˑ i: / ɔ oˑ o: / ʊ uˑ u: / ə / ʌ /
ẅ Ẅ / ẃ Ẃ / ẁ Ẁ / ŵ Ŵ /
ŷ Ŷ / ỳ Ỳ / ý Ý /
ɥ
ˡ ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ əɪ uɪ ɪʊ aʊ ɛʊ əʊ /

---------------------------------------
Y TUDALEN HWN /THIS PAGE / AQUESTA PÀGINA:
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_001_at_y_werin_1059k.htm
---------------------------------------
Creuwyd / Created / Creada: 20-07-2017
Adolygiadau diweddaraf / Latest updates / Darreres actualitzacions: 07-02-2019, 04-10-2018, 20-07-2017
03-11-2010 12.17; 2009-12-02, 2005-02-19, 08 11 2002

Delweddau / Imatges / Images:
Ffynhonnell / Font / Source: Nodlyr Rhif N90. Ffeil werin 090503.

Freefind.
Archwiliwch y wefan hon
SEARCH THIS WEBSITE
Adeiladwaith y wefan
SITE STRUCTURE
Beth sydd yn newydd?
WHAT’S NEW?


Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Gal·les-Catalunya)
Where am I? You are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website
We
ə-r äm ai? Yüu äa-r víziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA (= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait

hit counter script

Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats