Y Beibl Cysger-Lân (1620) yn yr iaith Gymraeg. Testun ar lein. La Bíblia en gal·lès de l’any 1620. Text electrònic. Dhə Báibəl in Welsh. The 1620 Holy Bible in Welsh. Online Edition.  2680k Gwefan Cymru-Catalonia : la Web de Gal·les i Catalunya : Wales-Catalonia Website.

http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_003_beibl_apocrypha_y_rhan_arall_o_lyfr_esther_71_2680k.htm

0001 Yr Hafan
neu trwy Google: #kimkat0001

..........2657k Y Fynedfa yn  Gymraeg
          neu trwy Google: #kimkat2657k

....................
0009k Y Gwegynllun
                    neu trwy Google: #kimkat0009k

..............................
0960k Cywaith Siôn Prys (Testunau yn Gymraeg) - Mynegai
                              neu trwy Google: #kimkat0960k

........................................... 1281k Y Gyfeirddalen i Feibl Wiliam Morgan 1620
                                            neu trwy Google: #kimkat1281k

.............................................................y tudalen hwn

 


 (delw 0003)

 

 

 

 

 

0860k y llyfr ymwelwyr
..

 

 

 

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les
 

Y Beibl Cysegr-lân (1620): Yr Apocrypha

 

(71) Y Rhan Arall o Lyfr Esther



 


(delw 73316)

Adolygiadau diweddaraf:  2009-01-21

 

 

  2681k This page with an English version (1620 Welsh Bible / 1611 English Authorized Version) (The Rest of Esther)


 

Y RHAN ARALL O BENODAU LLYFR ESTHER HEB FOD YN YR HEBRAEG NAC YN Y CALDEEG

 

Rhan o'r ddegfed bennod yn ôl y Groeg.

 

10:4 Yna y dywedodd Mardocheus, Duw a wnaeth hyn;

10:5 Canys cof yw gennyf y breuddwyd a welais am y pethau hyn: oblegid ni phallodd dim o hynny.

10:6 Ffynnon fechan a aeth yn afon; ac yr oedd goleuni, a haul, a dwfr mawr. Esther yr hon a briododd y brenin, ac a wnaeth efe yn frenhines, yw'r afon;

10:7 A'r ddwy ddraig ydwyf finnau, ac Aman.

10:8 A'r cenhedloedd oedd y rhai a ddaethant i ddifetha enw'r Iddewon.

10:9 A'm cenedl i yw'r Israel yma, y rhai a floeddiasant ar yr Arglwydd, a hwy a achubwyd: ie, yr Arglwydd a achubodd ei bobl, a'r Arglwydd a'n gwaredodd ni o'r drygau hyn oll; a Duw a wnaeth arwyddion a gwyrthiau mawrion, y rhai ni wnaethpwyd ymysg y cenhedloedd.

10:10 Am hynny y gwnaeth efe ddau goelbren, un i bobl Dduw, a'r llall i'r cenhedloedd oll.

10:11 A'r ddau goelbren hyn a ddaethant gerbron Duw, dros yr holl genhedloedd, erbyn awr, ac amser, a dydd barn.

10:12 Felly Duw a feddyliodd am ei bobl, ac a gyfiawnhaodd ei etifeddiaeth.

10:13 Am hynny y dyddiau hynny fyddant iddynt hwy yn y mis Adar, ar y pedwerydd dydd ar ddeg a'r pymthegfed o'r mis, gydag ymgyfarfod, a llawenydd, a hyfrydwch gerbron Duw, ymysg ei bobl ef byth dros bob oes. 

PENNOD 11
11:1 Yn y bedwaredd flwyddyn o deyrnasiad Ptolomeus a Chleopatra, y dug Dositheus, yr hwn a ddywedodd ei fod yn offeiriad ac yn Lefiad, a'i fab Ptolomeus, y llythyr hwn am y Purim, yr hwn y dywedasant mai hwnnw oedd, ac i Lysimachus fab Ptolomeus, yr hwn oedd yn Jerwsalem, ei gyfieithu.

11:2 Yr ail flwyddyn o deyrnasiad Artacsercses fawr, y dydd cyntaf o fis Nisan, y breuddwydiodd Mardocheus mab Jairus, fab Simei, fab Cisai, o lwyth Benjamin;

11:3 Yr hwn oedd Iddew, ac yn trigo yn ninas Susa, gŵr mawr, am ei fod yn weinidog yn llys y brenin.

11:4 Ac un oedd efe o'r gaethglud a gaethgludasai Nabuchodonosor brenin Babilon o Jerwsalem, gyda Jechoneias brenin Jwda. A dyma ei freuddwyd ef:

11:5 Wele sain twrf, taranau, a daeargryn, a chythrwfl ar y ddaear.

11:6 Ac wele, dwy ddraig fawr a ddaethant allan yn barod bob un ohonynt i ymladd; a'u llef oedd fawr.

11:7 Ac wrth eu llef hwynt yr ymbaratôdd yr holl genhedloedd i ryfel, fel yr ymladdent yn erbyn y genedl gyfiawn.

11:8 Ac wele ddiwrnod tywyll a niwlog, cystudd ac ing, drygfyd a thrallod mawr ar y ddaear.

11:9 Yna y trallodwyd yr holl genedl gyfiawn, gan ofni eu drygfyd, ac yn barod i'w difetha.

11:10 Yna hwy a waeddasant ar Dduw; ac wrth eu gwaedd hwynt y daeth megis o ffynnon fechan, afon fawr, a dwfr lawer.

11:11 Goleuni hefyd a haul a gyfododd, a'r rhai iselradd a ddyrchafwyd, ac a ddifasant y gogoneddus.

11:12 A phan gyfododd Mardocheus, yr hwn a welsai'r breuddwyd hwn, a'r hyn a fynnai Duw ei wneuthur; bu y breuddwyd hwn ganddo yn ei galon, a thrwy bob rheswm y chwenychai efe ei wybod ef, hyd onid oedd hi yn nos.


PENNOD 12
12:1 Ac yr oedd Mardocheus yn gorffwys yn y llys, gyda Gabatha a Tharra, dau o stafellyddion y brenin, y rhai oedd yn cadw y llys:

12:2 Efe a glybu hefyd eu hamcanion hwynt, ac a chwiliodd allan eu bwriad hwynt, ac a gafodd wybod eu bod hwy yn barod i roi llaw ar y brenin Artacsercses: ac efe a ddangosodd i'r brenin amdanynt.

12:3, A'r brenin a holodd ei ddau stafellydd; a hwy a gyffesasant, ac a grogwyd.

12:4 Yna yr ysgrifennodd y brenin y pethau hyn mewn coffadwriaeth: Mardocheus hefyd a sgrifennodd yr un pethau.

12:5 A'r brenin a orchmynnodd i Mardocheus wasanaethu yn y llys, ac a roddes iddo ef roddion am hyn.

12:6 Eithr Aman mab Amadatheus yr Agagiad, yr hwn oedd ogoneddus yng ngolwg y brenin, a geisiodd ddrygu Mardocheus a'i bobl o achos dau ystafellydd y brenin.

PENNOD 13
13:1 Dyma hefyd gopi y llythyr: Y brenin mawr Artacsercses sydd yn ysgrifennu hyn at y tywysogion, a'r rhaglawiaid, y rhai sy dano ef ar saith ar hugain a chant o daleithiau, o India hyd Ethiopia.

13:2 Gan fy mod i yn arglwydd ar genhedloedd lawer, ac yn llywodraethu'r holl fyd, mi a ewyllysiais, heb ymddyrchafu oherwydd cadernid awdurdod, eithr gan lywodraethu yn addfwyn ac yn llonydd bob amser, osod y deiliaid yn wastadol mewn bywyd llonydd, a gwneuthur y deyrnas yn heddychol ac yn hyffordd hyd yr eithafoedd, ac adnewyddu heddwch, yr hwn y mae pob dyn yn ei chwennych.

13:3 A phan ymgynghorais i â'm cynghorwyr pa fodd y dygid hyn i ben, Aman, yr hwn a aeth yn rhagorol mewn doethineb gyda nyni, ac sydd hysbys ei fod mewn dianwadal ewyllys da a sicr ffyddlondeb, yr hwn sydd yn cael yr ail anrhydedd yn y deyrnas,

13:4 A fynegodd i ni fod pobl atgas wedi ymgymysgu â holl lwythau'r byd, yn wrthwynebus eu cyfraith i bob cenedl, ac yn esgeuluso yn wastad orchmynion brenhinoedd, fel na all undeb ein teyrnasoedd ni, yr hon yr ydym ni yn anrhydeddus yn ei hamcanu, fyned rhagddi:

13:5 Pan gawsom ninnau wybod y modd y mae'r genedl hon yn unig wedi ymosod i wrthwynebu pob dyn yn wastad, gan newidio, ac ymrafaelio â'r pethau yr ydym ni yn eu gorchymyn, trwy ddwyn cyfreithiau dieithr, a chan gyflawni pob drygioni a fedront, fel na chaffo ein brenhiniaeth ni wastadfod:

13:6 Am hynny y gorchmynasom am y rhai a hysbysir i chwi mewn ysgrifen oddi wrth Aman, yr hwn sydd swyddog ar ein materion, ac yn ail i ni, eu llwyr ddifetha hwynt oll gyda'u gwragedd a'u plant, trwy gleddyfau eu gelynion, heb ddim trugaredd na thosturi, ar y pedwerydd dydd ar ddeg o Adar, hwnnw yw'r deuddegfed mis o'r flwyddyn bresennol hon:

13:7 Fel y byddo o hyn allan i'r rhai oedd gynt, ac yn awr ydynt elynion, wedi iddynt mewn un dydd trwy nerth ddisgyn i uffern, adael pethau yn llonydd, ac yn gwbl ddidrallod i ni.

13:8 Yntau, gan feddwl am holl weithredoedd yr Arglwydd, a weddïodd ar yr Arglwydd,

13:9 Ac a ddywedodd, O Arglwydd, Arglwydd, hollalluog Frenin, oblegid bod pob peth yn dy feddiant di, ac nad oes a'th wrthwynebo di pan fynnech achub Israel:

13:10 Oblegid ti a wnaethost y nefoedd a'r ddaear, a phob dim rhyfedd, yn yr hyn sy dan y nefoedd.

13:11 Arglwydd pob dim ydwyt ti hefyd, ac nid oes a'th wrthwyneba di, yr hwn ydwyt Arglwydd.

13:12 Ti a adwaenost bob peth, ti a wyddost, O Arglwydd, nad o draha, nac o falchder, nac o chwant gogoniant, y gwneuthum i hyn, sef nad anrhydeddwn Aman falch:

13:13 Canys mi a fuaswn fodlon i gusanu ôl ei draed ef er iachawdwriaeth i Israel.

13:14 Ond mi a wneuthum hyn rhag gosod ohonof ogoniant dyn goruwch gogoniant Duw, a rhag addoli ohonof neb ond tydi: ac nid o falchder y gwnaf hyn.

13:15 Ac yn awr, O Arglwydd Dduw Frenin, arbed dy bobl: oherwydd y maent hwy yn edrych arnom ni i'n dinistrio, a hwy a chwenychasant ddifetha'r hon sydd o'r dechreuad yn etifeddiaeth i ti.

13:16 Na ddiystyra y rhan a waredaist i ti dy hun o dir yr Aifft.

13:17 Gwrando fy ngweddi, a bydd drugarog wrth dy ran; a thro ein tristwch yn hyfrydwch; fel y gallom ni fyw, a moliannu dy enw di, O Arglwydd: ac na ddifetha enau y rhai sydd yn dy glodfori di, O Arglwydd.

13:18 Felly Israel oll a lefasant yn gryfaf y gallent: oblegid eu marwolaeth oedd o flaen eu llygaid.

PENNOD 14
14:1 Esther hefyd y frenhines, wedi i loes angau ei dal hi, a ffodd at yr Arglwydd;

14:2 Ac wedi iddi ddiosg ei gogoneddus wisg, hi a wisgodd wisg cystudd a galar; a lludw hefyd a thom yn lle ennaint balch y llanwodd hi ei phen; a hi a ddarostyngodd ei chorff yn ddirfawr, a'i holl fannau hyfryd a lanwodd hi â'i gwallt wedi ei dynnu:

 

14:3 A hi a weddïodd ar Arglwydd Dduw Israel, ac a ddywedodd,

14:4 O fy Arglwydd, ein Brenin ni wyt ti yn unig; cynorthwya fi, yr hon ydwyf unig, ac heb gynorthwyydd gennyf ond tydi: oblegid y mae yn enbyd iawn arnaf.

14:5 Mi a glywais er pan y'm ganed, ymysg llwyth fy nghenedl, gymryd ohonot ti, O Arglwydd, Israel o'r holl genhedloedd, a'n tadau ni o'u holl hynafiaid hwynt, yn etifeddiaeth dragwyddol; a gwneuthur ohonot ti iddynt yr hyn a leferaist.

14:6 Ac yn awr, nyni a bechasom yn dy ŵydd di; a thi a'n rhoddaist yn nwylo ein gelynion,

14:7 Am i ni ogoneddu eu duwiau hwynt.
Cyfiawn wyt ti, O Arglwydd.

14:8 Ac yr awron nid digon ganddynt chwerwed ein gwasanaeth ni, eithr hwy a drawsant ddwylo â'u heilunod,

14:9 Ar ddiddymu y peth a ddarfu i ti ei ordeinio â'th enau, a dileu dy etifeddiaeth di, a chau safn y rhai sy yn dy foliannu, a diffoddi gogoniant dy dŷ  di a'th allor,

14:10 Ac agoryd genau'r cenhedloedd i gyhoeddi rhinweddau pethau ofer, ac i fawrygu brenin cnawdol byth.

14:11 Na ddod Arglwydd, dy deyrnwialen i'r rhai nid ydynt ddim; ac na ad iddynt chwerthin am ein cwymp ni: eithr tro eu cyngor yn eu herbyn eu hun, a difetha yr hwn a ddechreuodd arnom ni.

14:12 Cofia, Arglwydd; pâr dy adnabod yn amser ein cystudd ni: cysura fi, O Frenin y cenhedloedd, a llywydd pob tywysogaeth.

14:13 Dod yn fy ngenau ymadrodd cymwys gerbron y llew, a thro ei galon ef i gasáu yr hwn sydd yn ein gwrthwynebu ni, er dinistr iddo ef, ac i'r rhai sy'n debyg eu meddwl iddo yntau:

14:14 Ie, gwared ni â'th law, a chynorthwya fi, yr hon ydwyf unig, ac heb gynorthwyydd gennyf ond tydi.

14:15 O Arglwydd, ti a wyddost bob dim: ti a wyddost mai cas gennyf ogoniant y rhai anwir, a bod yn ffiaidd gennyf wely y rhai dienwaededig, a phob dieithr.

14:16 Ti a wyddost beth sydd raid i mi; a bod yn ffiaidd gennyf arwydd fy malchder, yr hwn sydd ar fy mhen, ar y dyddiau yr ymddangoswyf, a bod mor ffiaidd gennyf ef â chadach misglwyf; ac nad ydwyf yn ei wisgo ef ar y dyddiau yr wyf yn cael llonydd;

14:17 Ac na fwytaodd dy wasanaethyddes ar fwrdd Aman; ac nad anrhydeddais wledd y brenin, ac nad yfais winoffrwm;

14:18 Ac na lawenychodd dy lawforwyn o'r dydd y'm symudwyd hyd yr awr hon, ond ynot ti, O Arglwydd Dduw Abraham.

14:19 O Dduw cadarnach na neb, gwrando lefain y rhai diobaith, a gwared ni o law y drygionus, ie, gwared fi o'm hofn.

PENNOD 15
15:1 Ac ar y trydydd dydd, pan beidiodd hi â gweddïo, hi a ddiosgodd ei galarwisg, ac a wisgodd ei gwychder.

15:2 Ac wedi iddi fyned yn wych ei threfn, a galw ar Weledydd ac Achubydd pawb, hi a gymerodd ddwy lawforwyn;

15:3 A hi a bwysodd ar y naill, fel pe buasai hi fwythus:

15:4 A'r llall oedd yn dwyn ei phwrffil hi.

15:5 Gwridog hefyd oedd hi o berffeithrwydd ei thegwch, a'i hwyneb yn llawen, ac megis yn hawddgar: eithr ei chalon oedd gyfyng arni gan ofn.

15:6 Ac wedi iddi fyned i mewn trwy'r holl ddrysau, hi a safodd gerbron y brenin; ac yr oedd efe yn eistedd ar orseddfa ei frenhiniaeth, ac efe a wisgasai ei ddisgleirwisg oll; ac efe oll mewn aur a meini gwerthfawr oedd ofnadwy iawn:

15:7 A chan ddyrchafu ei wyneb yn disgleirio gan ogoniant, efe a edrychodd yn llym o ddig: yna y syrthiodd y frenhines, a hi a newidiodd ei lliw mewn llewyg, ac a ogwyddodd ar ben y llawforwyn oedd yn myned o'i blaen hi.

15:8 A Duw a drodd ysbryd y brenin yn addfwyn, fel y neidiodd efe ar frys oddi ar ei orseddfa, ac y cymerodd hi: ac efe a'i cysurodd hi â geiriau heddychlon, ac a ddywedodd wrthi,

15:9 Esther, beth yw'r mater? dy frawd di ydwyf fi: cymer gysur.

15:10 Ni roddir di i farwolaeth, oblegid cyffredin yw ein gorchymyn ni: tyred yma.

15:11 Ac efe a gododd y wialen aur, ac a'i gosododd ar ei gwddf hi:

15:12 Ac efe a'i cofieidiodd hi, ac a ddywedodd, Llefara wrthyf fi.

15:13 Hithau a ddywedodd wrtho ef, O arglwydd, mi a'th welwn fel angel Duw, a'm calon a gyffrôdd rhag ofn dy ogoniant:

15:14 Oblegid rhyfeddol ydwyt ti, O arglwydd; a'th wyneb sydd yn llawn gras.

15:15 A thra'r oedd hi yn llefaru, hi a syrthiodd yn ei llewyg.

15:16 Yna y trallodwyd y brenin; a'i weision oll a'i cysurasant hi.

PENNOD 16
16:1 Y brenin mawr Artacsercses at y penaethiaid a'r tywysogion ar gant a saith ar hugain o daleithiau, o India hyd Ethiopia, ac at ein deiliaid ffyddlon, yn anfon annerch:

16:2 Llawer wedi eu mynych anrhydeddu trwy fawr ddaioni gweithredwyr da, a aethant yn falchach,

16:3 Ac ydynt yn ceisio nid yn unig ddrygu ein deiliaid ni, eithr hefyd, am na fedrant fyw mewn digonedd, y maent yn ceisio dychymyg niwed yn erbyn y rhai a wna ddaioni iddynt:

16:4 Ac y maent nid yn unig yn tynnu diolchgarwch o blith dynion, eithr hefyd gan ymddyrchafu mewn balchder rhai heb wybod oddi wrth ddaioni, y maent yn amcanu dianc oddi wrth farn Duw, yr hwn sydd yn gweled pob peth, a'i farn yn gas ganddi ddrygioni.

16:5 Llawer gwaith hefyd y mae geiriau teg y rhai yr ymddiriedwyd iddynt am lywodraethu materion eu cyfeillion, yn gwneuthur llawer o'r rhai sy mewn awdurdod yn euog o waed gwirion, ac yn eu hamgylchu mewn blinderau diymadferth;

16:6 Trwy ffalster a thwyll eu dull drygionus, yn twyllo diniweidra a daioni penaethiaid.

16:7 A hyn a ellwch chwi ei weled, fel yr eglurhasom ni, nid yn gymaint o'r hen historiau, ag y gellwch, os chwiliwch pa bethau a wnaed yn ddrygionus yn hwyr, trwy ymddygiad echryslon y rhai a osodwyd mewn awdurdod yn annheilwng.

16:8 Ac y mae yn rhaid edrych am yr amser a fydd, fel y gwnelom y deyrnas yn ddidrallod ac yn heddychol i bob dyn;

16:9 Gan arfer cyfnewidiadau, ac ystyried y pethau sy'n dyfod mewn golwg, trwy achub blaen pethau bob amser yn llarieiddiach.

16:10 Oherwydd Aman, Macedoniad, mab Amadatha, yr hwn mewn gwirionedd oedd estron i waed y Persiaid, a phell oddi wrth ein daioni ni, ac wedi ei dderbyn gennym ni fel gŵr dieithr,

16:11 A gafodd yr addfwynder sy gennym ni i bob cenedl, yn gymaint ag y gelwid ef yn dad i ni, a'i addoli gan bawb megis yr ail i'r orseddfa frenhinol:

16:12 Am na fedrai efe ddwyn ei fawr barch, efe a geisiodd ein diddymu ni o'r llywodraeth, ac o'n heinioes hefyd:

16:13 Ac a geisiodd trwy lawer o ffyrdd twyllodrus ddifetha Mardocheus, yr hwn a'n hachubodd ni, ac ym mhob peth a wnaeth ddaioni, ac Esther ddifai, yr hon sy gyfrannog o'r deyrnas, ynghyd a'i holl genedl.

16:14 Oblegid fel hyn y meddyliodd efe ein cael ni yn unig, a dwyn llywodraeth y Persiaid i'r Macedoniaid.

16:15 Eithr yr ydym ni yn cael bod yr Iddewon, y rhai a roddasai'r dinistrydd hwnnw i'w difetha, yn ddiniwed drwg, ac yn arfer cyfreithiau o'r cyfiawnaf,

16:16 Ac yn blant i'r Duw byw goruchaf a mwyaf, yr hwn a gyfarwyddodd y deyrnas i ni, ac i'n rhieni, mewn trefn odiaeth.

16:17 Am hynny da y gwnewch, os chwi ni chyflawnwch y llythyrau a anfonodd Aman mab Amadatha atoch chwi.

16:18 Oherwydd efe, yr hwn a wnaeth hyn, a grogwyd, ynghyd â'i holl dylwyth, o flaen pyrth Susa, trwy fod Duw, llywydd pob peth, yn talu iddo yn fuan farn addas.

16:19 Eithr gan osod allan gopi o'r llythyr hwn ym mhob lle, gadewch i'r Iddewon arfer eu cyfraith mewn rhyddid.

16:20 A chynorthwywch hwynt, fel y gallont y trydydd ar ddeg o Adar, y deuddegfed mis, ar yr un dydd, ddial ar y rhai a osododd arnynt hwy yn amser eu cystudd.

16:21 Oblegid Duw, llywydd pob peth, yn lle dinistr y genedl etholedig, a wnaeth iddynt lawenydd.

16:22 Cedwch chwithau hwn gyda phob llawenydd yn ddydd uchel, ymysg eich uchel wyliau;

16:23 Fel y byddo iachawdwriaeth yn awr, ac wedi hyn, i ni, ac i'r Persiaid da eu hewyllys,  a choffadwriaeth dinistr i'r rhai sy'n cynllwyn i'n herbyn.


16:24 A phob dinas a gwlad bynnag yr hon ni wnelo fel hyn, a lwyr ddifethir â  gwaywffyn ac â thân, mewn llid; fel y gosoder hi byth nid yn unig yn ddi-sathr gan ddynion, eithr yn atgasaf gan fwystfilod ac adar, bob amser.

 
DIWEDD

 

Adolygiadau diweddaraf:  2009-01-21

 

Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Gwefan "CYMRU-CATALONIA"
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web "CYMRU-CATALONIA" (= Gal·les-Catalunya)
Weə(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ə peij fròm dhə "CYMRU-CATALONIA" (= Weilz-Katəlóuniə) Wéb-sait
Where am I?
You are visiting a page from the "CYMRU-CATALONIA" (= Wales-Catalonia) Website

 

CYMRU-CATALONIA

 

 

Edrychwch ar fy ystadegau