kimkat2842e Tribannau Morgannwg. T.C. Evans (Cadrawd) “The Folklore of Glamorgan”. Eisteddfod Genedlaethol Aber-dâr 1885Tri pheth ni châr un Cristion / Yw dadwrdd haidd o feddwon / Gweld offeirad mâs o'i go / A byw lle bo cybyddion. Gwefan Cymru-Catalonia / el Web de Gal·les i Catalunya.

12-10-2018

● kimkat0001 Home Page / Yr Hafan
www.kimkat.org
● ● kimkat1864e Gateway to this Website in English / Y Fynedfa Saesneg
www.kimkat.org/amryw/1_gwefan/gwefan_arweinlen_2003e.htm
● ● ● kimkat0997e Index to texts in Welsh in this website / Mynegai i’r testunau Cymraeg yn y wefan hon
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_mynegai_0977e.htm
● ● ● ● kimkat2842e Y tudalen hwn


 

0003g_delw_baneri_cymru_catalonia_050111
 (delw 0003)
 
 
 
 

Gwefan Cymru-Catalonia
El Web de Gal
·les i Catalunya
The Wales-Catalonia Website

Cywaith Siôn Prys - Testunau Cymraeg ar y We
 
(Rhan o) The Folklore of Glamorgan
T. C. Evans (Cadrawd)
Eisteddfod Genedlaethol Aber-dâr 1885


Y Llyfr Ymwelwyr / El Llibre de Visitants / The Guestbook:
http://pub5.bravenet.com/guestbook/391211408/



a-7000_kimkat1356k
Beth sy’n newydd yn y wefan hon?

 
---

6665_map_cymru_catalonia_llanffynhonwen_chirbury_070404
(delwedd 6665)

....

 https://translate.google.com/ (Cymraeg, català, English, euskara, Gàidhlig, Gaeilge, Frysk, Deutsch, Nederlands, français, galego, etc)
...
llythrennau duon = testun wedi ei gywiro
llythrennau gwyrddion = testun heb ei gywiro

(Dim ond y rhan gyntaf o’r ysgrif sydd yma, sef tudalennau 186-215: CONTENTS.Preface to the Old Tribanau (Triplets) — Hen Dribanau Morganwg (Glamorganshire Triplets) — Nursery Rhymes (Hwian Gerddi) — Weather Prognostications (Daroganau am y Tywydd) — Old Sayings concerning the Weather — The Authors of Glamorgan’s Delight (Awdwyr Dywenydd Morganwg) — Peculiar Old Expressions common with the People of Glamorgan — Old Glamorganshire Riddles)
….

 

 


(delwedd 2345) (tudalen 186)

(x186)

PROSE — THE FOLKLORE OF GLAMORGAN.

THE FOLKLORE OF GLAMORGAN

BY MR. T. C. EVANS (CADRAWD), LLANGYNWYD.

CONTENTS.
Preface to the Old Tribanau (Triplets) — Hen Dribanau Morganwg (Glamorganshire Triplets) — Nursery Rhymes (Hwian Gerddi) — Weather Prognostications (Daroganau am y Tywydd) — Old Sayings concerning the Weather — The Authors of Glamorgan’s Delight (Awdwyr Dywenydd Morganwg) — Peculiar Old Expressions common with the People of Glamorgan — Old Glamorganshire Riddles — Supernatural Belief — Love Spells — The Phantom Funeral — Signs of the approach of Death — Experiences Prognostical of Accidental Deaths — A familiar Spirit — The Ghost of Pentre (Ysbryd y Pentre) — The Tale of the Ciff — A Tale of a Salmon’s regular appearance on a Christmas Day at Aberavon — A Welsh Couplet — The Seven Wonders of Glamorgan — The Legend of Cynffig — The Tale of Llyn Nelferch — Sir John Aubrey of Llantryddid — An old Welsh Couplet — Fairy Tales (Y Tylwyth Teg) — Croes Efa (Eve’s ribaldry) — A Popular Tale in Glamorgan, by lolo Morganwg — Twm of the Fair Lies ( Twm Gelwydd Teg) — Miscellaneous Old Tales, Sayings, and Superstitions — Y Ladi Wen (The White Lady) — The singing in a Phantom Funeral heard.
 
Amongst the twelve counties of Wales, there are none that can boast of such special and peculiar specimens of ancient Folklore, as Glamorgan; and whatever the rural poetry of England may be able to show, Morganwg is notably the home of the tribanau (triplets), which the rural bards of the past prepared for the use of the plough-boy and the driver of the plough-oxen.

It has been my earnest desire to see these relics of bygone days preserved. They are worth preserving on their own account, for I know of no better source to obtain examples of the old dialect of Glamorgan, than these tribanau. As compared with the English pastorals, which the poets of the seventeenth , and eighteenth centuries have given us, with their Corins and Celias, their Phocebes and Strephons — how real these triplets are, and how completely they reveal the condition of the bucolic mind.

The following collection is the result of what I may call the pleasantest labour of my life during the last ten years. There are many yet amongst the elderly inhabitants of the rural districts of “Morganwg, a’i muriau gwynion,” who can. recognise the tribanau as old friends, reminding them of days long past away. Without some such labour, one might say that twenty years hence all knowledge of the old ox-songs would in all probability have died out, and a chapter in the rural history and industrial economy of our country would thus have been deprived of its characteristic ornament — a chapter possessing a kind of ideal beauty, of features Arcadian, and rare, in connection with western lands. These tribanau have the real merit of presenting to our minds an unsophisticated picture of pastoral life in Glamorgan before the advent of the modem system of farming. They are redolent of the soil from whence they sprang, and have in them the very flavour of the life and manners of the period they belong to. Flowing as they did spontaneously out of the minds and hearts of the youth of the time, they contain within them the ex­pression of their loves, their likings, and their longings; and they reveal, artlessly and skilfully, the nature and influence of their surroundings, domestic, and general.

With the exception of a few tales by the late Iolo Morganwg, this Collection is the result of many year’s gleaning amongst the older peasants of Glamorgan, many of whom are now dead — [THE AUTHOR.]

 

 


(delwedd 2346) (tudalen 187)

(x187)

PROSE — THE FOLKLORE OF GLAMORGAN. 

Without for a moment assuming that the young of that period were happier than their successors of the present day, or that they enjoyed nearly so many advantages, material or mental, and without in the least desiring a return of old times, I cannot but feel real regret when I recall to mind the time when the rural life of our county was vocal, when there seemed to be ever soaring upwards from day to day, and from year to year, what may be termed musical incense from our fields — a proclamation of seasons succeeding seasons, and the continuance of seed-time and harvest. There are persons now living who remember how the youths employed upon the farms in the “Fro” — and there were many more of them employed then than now — used to gather together, after supper was over, around the fire to recite their ox-songs; and great the renown accorded to the one who knew the greatest number. Sometimes there might be one or two amongst them brighter than the rest, who recited verses of their own composition. Peals of laughter which shook the rafters of the house, greeted success or failure. This is a picture of rural life then quite common, which has, I think, no parallel in this latitude, and which reminds one more of Greek dimes —

“Where burning Sappho loved and sang,”

than those of humid Britain. I will venture to assert, that if but a Greek writer had written a description of such a scene (a scene perhaps more Doric in character than Corinthian, more Boetian than Athenian), Mr. Gladstone would have written essays on the Welsh ideal culture, and Mr. Alma Tadema would have painted the scene with its accessories of poet, critic, and audience, all in sympathy with each other. What was this, but a “straining after higher things” by a class of youths usually considered and ranked amongst the dullest and least imaginative of mankind?

Before proceeding with the tribanau, it may be well that we should give here a brief disquisition on the place of the ox in the domestic and social economy of Wales. For many hundreds of years it was part of the rural economy of England and Wales, that ploughing should be done by oxen. Many traditionary maxims had accumulated in all those ages, and were handed down to each successive generation of husbandmen. This traditional lore contained guidance as to the management of the ox — how he should be treated, when first put under the yoke, how fed and managed whilst working, his likes and dislikes; and how he should be honoured, and many other matters relating to him. The gentle disposition and willing obedience of the animal caused him to be looked upon with a degree of fondness. Superstition credited him with a kind of occult intelligence, something like that which has been attributed to bees. It was thought that the experience of olden times dictated that regard should be paid to the sympathy that existed between the ox and his owner.

In popular mind, his association with the manger of Bethlehem gained for the ox, at least at one season of the year, a kind of reverence. At midnight on Christmas Eve it was thought that he fell on his knees to adore the Infant Saviour. Where wassailing was a customary part of the Epiphany festivities, as in certain parts of Herefordshire, they never failed to offer the wassail bowl to the best or the favourite ox. This was done with numerous ceremonies.

On the same particular occasions, a cake was placed on his horn, which he was incited to toss off, so that augury might be drawn from its falling as to the fruitfulness or otherwise of the coming year. Important events, when they

 

 


(delwedd 2347) (tudalen 188)


(xl88) PROSE - THE FOLKLORE OF GLAMORGAN.

occurred in the family of his owner, were to be communicated to him. In case of death, it was thought necessary to deck his horns with signs of mourning. A most remarkable idiosyncrasy connected with the ox is that he will not work smoothly and well unless he is continually sang to. The practice of ox-drivers the world over is in remarkable accord in this respect. Lady Duff Gordon heard the youthful Egyptian ox-driver sing to his beasts on the banks of the Nile, and noted down his song.*
 
* Lady Duff Gordon’s “Letters from Egypt.”
 
We could quote instances, where Englishmen travelling through Glamorganshire, and delighted with the beautiful airs which they heard sung by the young swains at ploughing-time, did similar service for the triban songs of Morganwg. With regard to the tribanau themselves, they are in every particular pure Glamorganshire lore. Some of them are very old*,
 
*Iolo Morganwg was of opinion that some of the airs have come down to us from the time of the Romans.
 
others perhaps may be as late in date as the year in which oxen were last seen yoked to the ploughs they drew across the broad cornfields of the Vale of Glamorgan. When that last yoke was unfastened cannot perhaps be fixed, but it could not be much later than the year 1845. The custom had been slowly dying out ever since the year 1830, and now (1885) the traditions, songs, and all the memories of the centuries which terminated a little over fifty years ago, are in the perishable keeping of the few grey-headed men who were the plough swains of the palmy days of ox-driving.

Although the ox liked singing to accompany his labour, to keep his mind, so to say, from chafing under the indignity of finding his shoulder under the yoke, it was not every, or any kind of song, that pleased him. There was a set measure and tune to the driver’s song, which it was known he loved, with strains gentle and soothing, and a prolonged note or two in each cadence. —  Not only that, but the words also must be such as pleased his intelligence. A sense of humour had the ox, it must be gratified by some playful nonsense. He was wise, therefore words of sound sense must now and then be chanted to him. He had lively sympathy with those who owned and tended him, therefore his driver could confide to him the story of his love affairs, or his varied experiences in service. Finally, the ox had a modest, though decided sense of his own importance, and the singer must by no means neglect the fact.
 
Occasionally, the strength and beauty of the yoke might fittingly be sung. And this in the full license of poetry, was done, needless to say, in terms of hyperbolical praise. Altogether, these songs form quite a curious feature in the happy strides of rural life. Who shall say how many thousands of young hearts have not been nurtured into contentment of life, by the singing of these songs, or drank happiness from them in the sunshine of each happy day? In later life, may not the recollection of them have built up the good citizen by the three-fold chord which bound him to the hearth he had established for himself in his native village, and the warmth they infused into his innate feelings of loyalty and patriotism? And yet, these songs are now in the keeping of generation which is becoming patriarchal, and are in danger of being altogether lost The boy ox-driver has become a being of the past, and there is no one whose duty it is to commit these songs to memory; or, if occasion occurred, to increase their number. They are diminishing year by year. Let them not be altogether forgotten. Those that we have been able to rescue, poor as they may be in the eyes of the critic, are dear to us all, as the last draught of the exhausted spring of

 

 


(delwedd 2348) (tudalen 189)

PROSE - THE FOLKLORE OF GLAMORGAN. (x189)

poetry that once flowed side by side with the life of the people; and for this alone, they are truly worth preserving.

HEN DRIBANAU MORGANWG (GLAMORGANSHIRE TRIPLETS).
 
1
Tri pheth ni châr un Cristion,
Yw dadwrdd haid o feddwon;
Gwel’d offeiriad ma’s o’i go’,
A byw lle b’o cybyddion.

2
Tri pheth wy’n wel’d yn lled-chwith —
Hwch a iwc mewn gwenith;
Côl o bolon heb un c’lwm
A Thwm y llipryn llaw-with.*
 
*Chwith
 
3
Tri pheth gashaf o’m calon—
Hen fenyw dlawd afradlon;
Gwesty llwm, di-lo, di-fawn,
A’r pared yn llawn poerion.
 
4
Tri pheth wy’n farnu’n gydradd—
Dyn meddw brwnt mewn angladd,
Gwraig gwr llen yn tyngu, a swn
Rhai’n gyru cŵn i ymladd.
 
5
Tri pheth ar wraig sy’n hagrwch—
Gwallt ansyber siabwch,
Plant yn gramen yn eu crwyn,
A melyn drwyn gan drewlwch.
 
6
Tri pheth sy’n gas anhywaeth—
Crach ustus mewn cym’dogaeth,
Anudonwr dig, a brat
Disynwyr at wasanaeth.

7
Tri pheth sy’ gas ac anfad,
Cael drwg am dda’n lle taliad—
Colli parch heb wybod pa’m,
A goddef cam-gyhuddiad.
 
8
Tri pheth sy’n lloni’r bachgen—
Gwel’d gwraig y tŷ yn llawen,
A’r crochan mawr yn berwi’n ffrwd
A llon’d y cŵd o boten.
 
9
Tri pheth wy’n garu beunydd,
Yw digon o lawenydd;
Mynych dramwy yn ddi-ble,
At ieu’nctyd y Dre-newydd.
 
10
Tri pheth ni saif yn llonydd,
Yw’r niwl ar ben y mynydd;
A malwoden mewn lle llwm,
A thafod Twm Felinydd.
 
11
Tri pheth ni saif heb siglo,
Yw llong ar fôr yn nofio;
Dail yr aethnen yn yr haf,
A thair merch fraf yn dawnsio.

 

 


(delwedd 2349) (tudalen 190)

(tudalen 190) PROSE - THE FOLKLORE OF GLAMORGAN.

12
Tri pheth wyf yn hoffi,
Offeiriad wedi meddwi;
Yn bwrw gwlaw cynaua’ gwair
A merch â gair drwg iddi.

13
Tri pheth sy’n dda gan hwsmon
Cael petwar tymor ffrwythlon
Gweld y teulu ar eu gwên,
A chwrdd-a hen gyfeillon

14
Tri pheth nid wyf yn hoffi
Yw’r llapitch, tê, a choffi;
Erlid clecian fel y cloc
A mynd i’r lloc at Siani.

15
Tri pheth wy’n garu’n ffamws
Cig, pwdin a phytatws;
A chwpan llawn o ddiod dwym
A chusan mwyn gan Catws.

16
Tri pheth wi’n garu ora’ -
Yw rum a llaeth y bora’,
Mynd tua’r Hiltwn a Brynsach,
I’r bola bach gael gwledda.

17
Tri pheth sy’n cwnu nghalon
Fod genyf arian ddigon
Cael wybren haf yn deg uwchben,
A gwenau Gwen lliw’r hinon.

18
Tri pheth sy’n hardd ar Gymro,
Sef dysgu’n graff a ddysgo;
Cadw’r gwir rhag myn’d ar feth,
A dyw’eyd y peth a fedro.

19
Tri pheth sy’n anhawdd ddigon,
Cael cae o dòn heb feillon;
Cwrdd offeirad heb ddim dysg,
A thwyn Penprisk heb ladron.

20
Tri pheth sy’n anhawdd gwybod,
Byw’n sobr lle b’o diod;
’Nabod benyw wrth ei gwên,
A thwyllo hen frithyllod.

21
Tri pheth ni châr fy nghalon,
Myn’d ar y nhraed drwy’r afon;
Marchogaeth ebol heb un ffrwyn,
A merch er mwyn ei moddion.

22
Tri pheth ni alla’i aros,
Yw enwyn tri phythefnos;
Bara haidd yn llawn o fràn,
A menyn Siwan Domos.

23
Tri gorchwyl tra anghynes
Yw treulio’r Sul ar neges;
Dala’r arad heb un sŵch,
A charu hwch o ’Sgenes.

24
Tri pheth erioed ni cherais,
Yw putain a lladrones;
A phydleres ar ben ffair,
Ond dyna dair cydmares?

25
Tri pheth na châr y ngena’
Yw afal sur y bora’;


 

 


(delwedd 2350) (tudalen 191)

PROSE - THE FOLKLORE OF GLAMORGAN. (x191)

Grawel moch oddiar y drain,
A diod fain Llangana.

26
Tri pheth ni allaf garu,
Swn llygod yn y gwely;
Taith drwy’r gwynt a’r glaw dros fryn,
Am hesgid yn fy ngwasgu.

27
Tri pheth sy’n gas gan wladwr,
A phawb, beth byna’u cyflwr,
Crefu cwrw, danod bai,
A bwydo hen Dai Bwdwr .

28
Tri pheth sy’n gas yn mhobman -
Dyn yn anmarchu’i hunan;
Tlawd yn dioddef eisiau bwyd,
Ar cybydd llwyd mewn caban.

29
Tri pheth sy’n gas yn wastad,
Gan bawb fo’n berchen teimlad;
Anudoni, gwasgu’r gwan,
Gwên Pharo’ gan offeiriad.

30
Tri ysbryd i’w rhyfeddu,
Yw ysbryd cath yn carthu;
Ysbryd whilber wrth naill go’s,
A dwy frân nos yn chwyrnu.

31
Tri pheth sy’n gas bob amser -
Dysgawdwr dwl di-feder;
Cigfran wàr-ddu’n dallu’r ŵyn,
A’r blaidd yn dwyn eu hanner.

32
Tri pheth ni allai aros -
Ci rheto heb ei anos;
Byw heb fara yn fy nghell,
A chrefydd bell Rhys Tomos.

33
Tri pheth mae Mari’n garu,
Cael sponer t
n i’w gwasgu -
Un gyrhaedd gusan ar ei min,
A modrwy cyn priodi.

34
Tri pheth sy’n gas echryslon,
Gwel’d gwr a gwraig yn feddwon -
Baili’n cario’r gwely bant,
A nythaid o blant noethion.

35
Tri pheth sy’n anhawdd ’nabod -
Dyn, derwen a diwrnod;
Y dydd yn hir, y pren yn gau,
A’r dyn yn ddau-wynebog.

36
Tri pheth wy’n garu’n mhobman,
Yw cwrdd a chwmp’ni llawen;
A gwasgu’r eneth fach bob nos,
A’i lluo’n groes i’w thalcen.

37
Tri pheth sy’n with ei wala -
Gwel’d march heb ddim pedola’;
Hwyad wyllt yn criped craig,
A merch-neu-wraig yn ffowla.

38
Tri pheth sy’n gas afrifed -
Dadleuon dyn pengaled;

 

 


(delwedd 2354) (tudalen 192)

(x192) PROSE - THE FOLKLORE OF GLAMORGAN.

Sain ddiles offeren Sul,
A marchnad gul heb drwydded.

39
Cas hefyd dri-pheth arall,
Y creiriau a bardd anghall;
Tafarn lle ma’r drwg a’i dardd,
A cherdda bardd di-ddeall.

40
Tri pheth mwy cas na’r cyfan,
Offeirad balch ei anian;
Prydydd pŵl yn fardd y blawd,
A clerwr tlawd ei driban.

41
Tri dawnswr gora’n Nghymru,
Syr Charles o Gefn-Mabli;
Scweier Lewys Wych o’r Fàn,
A Syr John Carne o’r Wenni.

42
Tair Sian a dwy Wenllian,
Dwy Ann, a Margad fychan:
Dwy Fari lân, a Leisa ffel,
Cydseiniant fel yr organ.

43
Tair wŷr, tai chwaer, tair chwerw,
Tair merch, tair gwraig, tair gwidw;
Tair llong ar fôr, tair brân uwchben,
Tair clwyd, tair c’lomen wrw.

44
Tri pheth sy’n myn’d yn ddiffrwyth,
Blawd ceirch i wneuthur cramwyth;
Tori’r pren cyn crino’i frig,
A phobi’r cig yn olwyth.

45
Tri lle oera’n Nghymru,
Yw mynydd bach y Rhydru;
Twyn y Garth, a’r Cefn Onn,
Lle buo’i bron a sythu.

46
Tri pheth yw fy nymuniad,
Bod harddwch fy ymddygiad;
Yn denu’r bachgen glana’ rioed,
I addaw bod yn gariad.

47
Tri pheth ddymunai’n hynod -
Cael sawl wy’n garu’n briod;
A nerth gan Dduw i fyw’n gytun,
A marw ’run diwrnod.

48
Mae geni grefft o’r gora’,
Pedoli moch a gwydda’;
Dodi iwc ar uchaf brain,
A dala chwain mewn rhwyda’.

49
Mi welais ferch yn godro,
A menyg ar ei dwylo;
Hilo’r llaeth drwy glust ei chap,
A merch Sion Cnap oedd honno.

50
Mi welais ddydd ar Mari,
Y delsa’ ma’s i’r baili;
I ddysgwyl am y bachgen llon,
[      ] chalor a thori.
(?? = Bu bron i’w chalon â thorri).

51
Mi welais ddwy lygoden,
Yn llusgo coach yn llawen;
O’r Ewenni i Gaerdydd,
A llestri pridd a halen.

 

 


(delwedd 2355) (tudalen 193)

PROSE - THE FOLKLORE OF GLAMORGAN. (x193)

52
Mi welais arna’i amser,
’Ddiar hyny nid oes llawer;
Y troeswn feddwl merch go fawr,
Mewn llai na awr a haner.

53
Mi fus’n caru’n gynhes,
A merch o wniadyddes;
Rhwng Bontfaen a blaen Colhuw,
Mae’r lle mae’n byw’r angyles.

54
Mi wela’ Benrhiw Meibion,
Mi wela’ Ddyffryn Cynon;
A’r tŷ lle mae yn Aberdâr,
Yr un a gâr fy nghalon.

55
Mi geso’m gwawdd i ginio,
Ar binslons* wedi stiwo;
Bara haidd a dysgl goed,
Ni fu erioed sïwd roeso.

*Enw yn Morganwg ar eirin, neu plums.

56
Mi wela’s Deirw Corn-dwb,
A phob dau’n ymladd dwp-dwb;,
A dyn disynwr gyda’r rhai’n,
Mi al’swn lefain Iwb-wb.

57
Mi wela’ Ben Bwlch Garw,
Mi wela’ Waen Croeserw;
Mi wela’r ferch fydd mam y mhlant,
Mi wela’ Nant-y-Bedw.

58
Mi wela’r man yn ola’,
Lle ce’s anadliad gynta’,
’Does neb a ŵyr ond Duw ei hun,
Ble chwythai’r un diwetha’.

59
Mi weriais gant o syllta’,
A mil o chwecheinoga’,
Wrth yfed cwrw a gwin at Gwen,
A’i cholli ar ben y siwrna’.

60
Mi gefais gawl i ginio,
Caf gawl i swper heno;
Fe gaiff y feistres fyn’d i ddiawl,
Cyn yfai chawl hi eto.

61
Mi ddysgais fod yn brydydd,
Ac hefyd yn felinydd;
Dysgais hefyd godi’r doll,
Cywreinia o’r holl garenydd.

62
Mi welai’n mhell oddiyma,
Mi wela’ Foel y Caera’;
Mi wela’r ferch sydd arnai chwant,
Mae’n berchen gant o bunau.

63
Mi wela’r ferch o’r Gelli,
Mi wela’ Ddyffryn Llyfnwy,
Mi wela’ ben y d’warchen las,
Mi wela’ blas y Wenni.

64
Mi wela’s heddyw’r bora’,
Do, Bili o Benbwlch Ucha’;
Guto fain, a’i fwyall gam,
Yn trychu am y trecha’.

 

 

 


(delwedd 2356) (tudalen 194)

(x194) PROSE - THE FOLKLORE OF GLAMORGAN.

65
Mi fuo lawer blwyddyn,
Yn canu gita’r ych’in,
Bara haidd a chosyn cnap,
Dim teisen lap na phwdin.

66
Mi godais heddyw’r bora’,
Mi wela’s gywion gwydda’:
Ecin haidd ac ebol bach,
O bellach fe ddaw C’lama’.

67
Mi godais gariad newydd,
Mi ro’es yr hen i fynydd:*
Mae’n promis cwrdd, os ceidw’i gair,
Wrth Eglwys Fair, y Mynydd.

*Dull Morganwg o ddywedyd i fynu.

68
Mi brynais gaseg felan,
Am bedair punt a wigan*;
Cheisha i byth o’r bwt yn ol,
Gwaeth bargan ffôl wnaeth Morgan.

*Chweugain, deg swllt,

69
Mi ddaethym o Lanhari,
Yn benaf rhag ymboeni,
I gwrdd ac

Eustons o Drefrân,
I ddyweyd y gân oedd geni.

70
Mi wna bob camp yn ddifa,
Mi garia i ddw’r mewn sifa,
Mi farchoga oddiyma i’r North ,
Ar gefn torth o fara.

71
Mi wnaf bob camp yn gampus,
Gwnaf afal sur yn felus,
Mi wnaf i i’r gweddrod ddo’d âg ŵyn,
A brig y brwyn yn ffigys.

72
Mi welais Wil o’r Felin,
Yn bwyta naw ’sgadenyn;
Tatws, erfin, lonaid cart,
A deuddeg cwart o enwyn.

73
Mi flina’s byw’n y Blaena’,
Yn yfed llaeth mor dena’,
Cosyn glâs, a blas y maidd,
A bara haidd fynycha’.

74
Mi fu’s yn y Caera’
Am lawer o flynydda’;
Yn gweitho yno am fy mwyd,
Nes mynd yn llwyd y ngruddia’.

75
Mi fytas gwt o botan,
A dwy ne dair pytatan,
Ond am y cig ’thal i mi sôn,
Aeth Shoni Shôn a’r cyfan.

76
Mi wela’s long ychrydus,
Gan daled oedd ei mastus,
Yn hwylo’n braf t’a Brysta’n llin,*
A lodin o’r East Indies.

*Yn llinyn

77
Mi gym’raf ryw hen ’sgeran,
Tua phymthag mlwydd ar huga’n;
Cyn yr elo’ ’i’n dywydd smart,
I dwymo part o ’nghefan.

 

 


(delwedd 2357) (tudalen 195)

PROSE - THE FOLKLORE OF GLAMORGAN. (x195)

78
Mi wela i’r Dimlon domlyd,
A’r wraig fonheddig hefyd,
Mi wela’r tŷ ar ben y twyn,
Sy’ bron a dwyn y mywyd.

79
Mi gwrdda’s heddyw’r bora’,
A Dafydd o’r Felindra’,
Rhwng tula’r Cnwc, a Chraig Rhiwblawd,
A golwg d’lawd ei wala.

80
Mi glywa’s gân y gigfran,
Sy’n hofran uwch Craig Afan,
Fod Gwilym Prys a’i wallt yn wỳn,
Yn tynnu’n dỳn tuag yffarn.*

*Dull Morganwg o ddyweyd uffern.

81
Mae’r ceiliog coch yn canu,
Mae’n bryd i’r merched gwnu;
Mae’r bachgan bach yn mynd t’a’r glo,
A’r fuwch a’r llo yn brefu.

82
Ma geni bedwar eid’on,
Rwy’n gweled hyny’n ddigon,
A cheffyl gwyn, nid yw ond gwan,
O’r gora’ dan y goron.

83
Ma geni ’wech bustechyn,
Eu gwell ni ellir erfyn;
Hwy doran’ gwys fu ’riod ei bath,
Am gan’ llath fel y cordyn.

84
Mae rhai medelwyr hwylus,
Yn gwneyd eu gwaith yn gampus,
Ond am y lleill, a’u natur laith,
Mae ganddynt waith echrydus.

85
On’d ydyw yn beth nafus,
Fod gwraig yn gwisgo britches,
A mynu’r pwrs a’r aur i gyd,
Y faedan ysglyfaethus.

86
Mae llawar heddyw’n wylo,
Ac eraill yn gofidio,
Gwell ganddynt weled Dydd y Farn,
Na gweled T’rarn (?) yn falio.

87
Ma nghariad i eleni,
Yn byw yn Souwth Corneli;
Yn fain i gwâst, yn nêt ei phleth,
Mae’n wynach peth na’r lili.

88
Mae Tâf yn afon rwysgus,
Mae Tâf yn dra pheryglus,
Taf a ddygodd fywyd cant,
Mae Tâf mewn pant echrydus .

89
Mae’r merched yma ’leni,
A’u bwriad ar briodi,
Heb ddim i’w ddodi yn eu tai,
Ond hwy eill dau a babi.

90
Mae effaith llysiau chwerw,
Yn dda i ddyn rhag marw,
Ond dyma’r peth wnaiff ddyn yn iach,
Yw llymaid bach o gwrw.

 

 


(delwedd 2358) (tudalen 196)

(x196) PROSE - THE FOLKLORE OF GLAMORGAN.

91
Mae’r Fro a’i meusydd ffrwythlon,
Yn swyno lawer calon;
Mae’r wlad o’r Lai i Ogwy laith,
Yn llawn o waith prydyddion.


92
Mae’n bwrw gwlaw’n y Blaena’,
Mae’n dechra’ pican yma,
Mae’n heulo’n deg ar bont Llandaf,
Mae’n dywydd braf yn Mrysta’.


93
Mae’r Mêr* fel môr yn myned,
Mae’r Stor hyn wedi ’i styried,
Trowch yr eidion i ddw’r piwr,
Mae’n suwr o dori ‘i syched,


*Pwll dw’r mawr yn Sant y Brid.


94
Mae llefain mawr a gwaeddi,
Yn Ystradffin eleni,
A’r cerig nadd yn toddi’n blwm,
Rhag ofn Twm Siôn Catti.


95
Mae Bedffwrd Gymro digri’,
A’i gyfaill Ffil y Jockey,
Yn hela oriau trist yw’r gair,
I chwarau’r iair a’r cendi.*

*Neu chwareu yr Ystôl Gadno.


96
Ma gwyr y Wig, medd dynion,
Yn meddu ar arferion;
Pe eu mesurid, led a hyd,
Gwnân faeddu’r* byd o ddigon.


*Gair cyffredin am guro, neu goncro, yn Morganwg.

97
Bechgyn Shoni Siencyn,
Am ganu gyda’r ych’in,
Dyna’u tâl, un math o fwyd,
Sef crwstyn llwyd ac enwyn.


98
Bu’m bart o dri diwrnod,
Yn rhodio Cefn Hirgoed,
Rhwng y dderwen gopa fain,
A’r tŷ sy’ ar waen y gwaddod.


99
Peth ffein yw haul y bora’,
Peth ffein yw blodau’r ’fala;
Peth ffein yw cariad f’o gerllaw,
Dyn helpo’r sawl f’o bella’.


100
Dyn helpo’r mab na’s medro,
Lwyr ddilyn merch a’i cheisio;
Fe fydd hwnw’n farw’n fud,
A’i gladdu a’i glefyd ynddo.


101
Fi helas yn y Walas,
Do, lawar bora’ diflas,
Rhwng y gwr a gwraig y tŷ,
O’r diwedd fi ‘madawa’s.

102
Fi wela’ East ’Berddawan,
A Brithwn wrtho’i hunan,
Fi wela’ fferm fawr Castletown,
A beggars pownd St. Athan.


103
’Rwy’n awr ers llawer blwyddyn,
Yn byw mewn carchar cyfyng,

 

 


(delwedd 2359) (tudalen 197)

,
PROSE - THE FOLKLORE OF GLAMORGAN. (x107)


Dos genyf le i gwni ’nhrwyn,
Mewn ffald ar dwyn Trefflemin.

104
Mi wel’a Fryn y Bettws,
Mi wela’ Gwrt-y-Mwnws,
Mi wela’r tŷ ar ben y twyn,
Lle mae’r un fwyn yn gorphwys.

105
Tra maen yn troi mewn melin,
Tra llong yn cario lodin,
Tra môr yn tawlu’i dòna lan,
Mi fota ar ran y Stradlin.

106
Y gwr o’r Lela domlyd,
A’r feistres fach gymhenllyd,
Yn awr ’rwy’n rhydd ar ben y twyn,
Hwy fuon’ bron dwyn fy mywyd.

107
Sioni bach, wr diflin,
Sy’n gwishgo cap a phlyfyn,
Pantaloons a siacad grop,
Efe yw top y gegin.

108
Caerlan sydd hardd ar fynydd,
Y Gilfach a’r Tynewydd,
Ond Hendre’-Forgan a’r Graiglas,
Sy’n maeddu Plas Cilfynydd.

109
Yn y Lela ‘leni,
Mae’r tair merch lana’n Nghymru,
Enwau rhai’n sydd yn mhob man,
Sef Cati, Ann a Mari.

110
Gwaetha’r gwynt yw chwythu,
Gwaetha’r gwlaw yw gwlychu,
Gwaetha’r dydd yw d’od i ben,
A gwaetha’r Gwen fydd pallu.

111
Tra paro mêr mewn asgwn,
A charreg las mewn pingwn,
A’r ceiliog coch yn canu draw,
Yn sydyn daw dydd Sadwrn.

112
Y wylan fach adnebydd,
Pan fo’n gyfnewid tywydd,
Hi hed yn deg ar adan wen,
O’r môr i ben y mynydd.

113
Ffordd fer i dreulio’r gaua’,
Hir oriau tywydd eira,
Yw cadair fawr o flaen y tân,
A llunio cân ddiddana.

114
Ma geni bedwar bwlyn,
Yn pori brig yr eithin,
Hwy doran gwys o’r mwya’ gwych,
Hwy gerdda’n rhych i’r blewyn.

115
Pe bawn yn Nghwm y Dyffryn,
Ni fydda arna’i newyn,
Cawn gwrw gwych heb altro’i naws,
A bara chaws a ’menyn.

116
On’d ydyw yn rhyfeddod,
Bod danedd merch yn darfod?
A tra b’o ynddi anadl chwyth,
Ni dderfydd byth mo’i thafod.

 

 


(delwedd 2360) (tudalen 198)

(x198) PROSE - THE FOLKLORE OF GLAMORGAN.

117
Diareb ddoeth fynega,
Mai deuparth gwaith ei ddechra’;
Dywedaf finau yn ddi-feth,
Taw cwpla peth sydd ora’.


118
Ryw noson ces fy’m siomi,
Pan y gofynnodd Mari
Os parod o’wn i dd’od tua’r Llan,
Cyn Calan, gael priodi.


119
Yn ddystaw d’wedais wrthi,
Taw gwell f’ai i ni oedi,
Na myn’d yn fyrbwyll tan yr iau,
Fod cariad weithiau’n oeri.


120
Wrth dd’od o Bant-y-Lladron,
Fi gefais ofan creulon;
Clywais fwstwr yn y berth,
A dorodd nerth fy nghalon.


121
Diofal yw’r aderyn -
Ni hau, ni fed un gronyn,
Heb ddim gorchwyl yn y byd,
Ond canu ar hyd y flwyddyn.

 
122
Eistedda ar y gangen,
Gan edrych ar ei aden,
Heb un geiniog yn ei gôd,
Ond llywio bod yn llawen.


123
Pe bawn i ddim ond medru,
Ar ddarllen a ’sgrefenu,
Mi ddanfonwn lythyr cro’s,
At Gwen cyn nos yfory.


124
Mae Thomas Gronw wiwlan,
Yn caru Martha Ifan;
O! mae ef yn ffermwr gwych,
A’i bedwar ych a’i wagan.


125
Gwae fi na bawn yn gwybod,
Am ffordd, heb dd’od yn briod,
I ga’l y canpunt sydd yn ‘stor 
Gan ferch yn ochor Llwytgo’d.

126
O na chawn dd’od trwy genad,
I hol fy anwyl gariad -
Yr eneth gron, a theg ei gra’n,
I’w ch’lymu o fla’n y ’ffeirad.


127
Peth ffein yw llâth a syfi,
Peth ffein yw siwgr candi,
Peth ffein yw myned wedi’r nos,
I ’stafell glos i garu .


128
Wrth hela’r ych’in weithia’,
A chroesi tros faenara’,
‘Rwy’n llunio llawer pwt o gân,
I ferched glân y Lela.


129
Dywedir ers peth oesa,
Taw buwch o’r Fro yw’r gora’,
Ond cyn boddloni’r cyflawn serch,
Rhaid yw cael merch o’r Blaena’.

130
Yr ochor hyn i’r clochdy,
Mae’r adgor ora’n Nghymru,

 

 


(delwedd 2361) (tudalen 199)

PROSE - THE FOLKLORE OF GLAMORGAN. (x199)

A rhwng hyny a min y môr,
Mae calon o’r yn llechu.


131
Ym Merthyr Mawr mae ceingan,*
Ei glanach ’does yn unman;
Mi wn am lawer calon hael,
Chwenychai ’chael yn wreigan.


*Meinwen.


132
Mae ’radwr yn Llangewydd,
Yn poeni ar bob tywydd -
Ganol nos yn fawr ei ’sgryd,
Waeth ganddo bryd na’i gilydd.


133
Mae’r frech ar wyneb Martha,
’Run faint â chwecheinoga’;
Er colli dau o’i danedd bla’n,
Mae eto’n lân ei gwala.


134
Mae gen i chwech o ych’in,
Yn well na chant o fechgyn;
Os caf gadw rhai’n yn fyw,
Mi reda’ rhiw Penderyn.


135
Mae ’nghariad i eleni,
Yn byw yn mhentre’r Coety;
’Rwy’n meddwl gofyn idd i mam
A gâ’r ddinam briodi.


136
Mae’r merched wedi myned,
’Does derfyn ar eu siarad -
Yn nghylch dillad o bob lliw,
A phwy sy’n byw heb gariad.


137
Mae merched bach Sant Tathan,
Yn ffaelu troi cramwythan,
Heb ofyn cymorth gwr neu was
I’w thoso ma’s o’r ffrimpan.


138
Dau ych yw Silk a Sowin,
Un coch a’r llall yn felyn;
Pan yn aredig yn eu chwys,
Hwy doran’ gwys i’r blewyn.


139
Nid twyll yw twyllo twyllwr,
Nid brad bradychu bradwr,
Nid lladrad yw, mi gwnaf yn dda,
Ladrata ’ddiar ladratwr.


140
Pan fyddo mynydd Caera’,
A i gap yn cuddio’i gopa,
O niwlyn tew - am hynny taw!
Mae ynddi law, mi brwfa’.


141
Os pall dy gariad iti,
Paid byth a digaloni -
Mae meddwl merch yn troi fel rhod,
Hi ddichon dd’od er hynny.


142
Mae ’nghariad i eleni,
Yn Lloegr - nid yng Nghymru;
Yn mhlith Saeson duon dig,
A fi’n sy’n unig hebddi.


143
Fe dd’wedodd mam fy nghariad,
Na chawswn deg ei dygiad;

 

 


(delwedd 2362) (tudalen 200)

(x200) PROSE - THE FOLKLORE OF GLAMORGAN.

Tra ceir cawnen ar gae tòn,
’Rwy’n dowtio hon gamsyniad.


144
Yng ngwaelod Cwm y Dyffryn,
Mae gwysgod idd eu erfyn;
Tân o lo, yn wych i naws,
A bara chaws a ’menyn.


145
Os blin y ddalen fyglyd,
Mae bagad yn ei herlid,
Dros dir a moroedd, meddant hwy,
Gwnaeth afal fwy o ofid.


146
Oh rhyfedd faint y dwli,
I’r byd sy’n cael ei gorddi,
A’r Sul i’r siol yn enw llaeth,
Mae meddwi’n waeth na brandi.


147
Pe buasai’r brâg a’r berman,
A’r hops heb dd’od i’r unman,
A’r phiol fach, y bib a’r pot,
Fe fuasai nghot yn gyfan.


148
Y ferch a’r ddwy bleth amlwg,
A’r rhiban am i gwddwg,
Dera gyda fi i rhoi tro,
Tua gwaelod Bro Morganwg.


149
Yn Sant-y-Brid mae ’nghariad,
Yn Sant-y-Brid mae ’mwriad,
Yn Sant-y-Brid mae merch fach lân,
Os caf hi o flaen y ’ffeirad.


150
Mi wela’ geiliog twrci,
Mi wela’r ferch o’r Maerdy,
Mi wela’r frân yn hedfan fry,
Mi wela’ Dy Pencelly.


151
Llanfaes, Llanfair, Trefflemin,
A Smilstwn a’r hen felin,
Os aiff cardotyn am eu traws,
Caiff fara chaws ond gofyn.


152
Y neithwr mi freuddwydia’s,
Fy mod i yn Sant Nicholas,
Gyda’r ’ffeirad, sef Wil Twm,
Yn c’lymu clwm priodas.


153
Pan welir pen Moel Caera
Yn gwisgo cap y bora’,
Odid fawr cyn haner dydd,
Fydd ar ei grudd hi ddagra.


154
Y gwr a garo’r doman,
A’i casglo’i gyd i’r unman,
Myn’d a  hi i’r cae mewn pryd,
A ddaw a’r yd i’r ffetan.


155
‘Rwy’n driugain oed, yn seriws,
Wrth lyfr mawr yr eglw’s,
Ni wela’s i erio’d siwd lap,
A Shoni Cnap Sant Dunws.

156
Mi wela’s ddyn a bachgan,
Yn bildo pontbren dderwen,
Ac wedi cwplo, yn y fan,
Hi gwmpws ‘ran ei hunan.


 

 


(delwedd 2363 ) (tudalen 201)

PROSE - THE FOLKLORE OF GLAMORGAN. (x201)

157
O stopiwch! Modryb Catrin,*
Arafwch yma ronyn;
Chwi haeddech iardau ar eich gwàr,
Am ranu ar yr enwyn.

 

*Y Gath.

158
Pan fyddo’r ên yn crymu,
A’r talcen yn croen-grychu,
Fe fydd y deall mwyaf glew,
Tan gwmwl tew’r pryd hyny.


159
‘Rwy’n un o’r crefftwyr gora’,
Ar ystarn, stwc a thwba;
Ennill arian fel y gwynt,
A’u hala’n gynt fynycha.


160
Tai geni aur ac arian,
Tai geni diroedd llydan,
Mi rho’wn hwy’n rhydd heb unrhyw ble,
Am fyw yn nhre’ Llancarfan.


161
Cabitsan ar y Baili,
Dau dop yn tyfu arni,
Y gwynt a’i chwythodd hi i’r llawr,
A’r hen hwch fawr bwytaodd hi.


162
Peth ffein yw haf a hawddfyd,
Peth ffein yw ysgafn iechyd,
Peth ffein yw arian lonaid pwrs,
I dreulio cwrs o ie’nctyd.


163
Tŷ gwyn, tŷ glân, tŷ gola’,
A llawn o bob rhinwedda’,
Y tŷ gora’ ar waelod Nedd
Am gwrw a medd yw’r Creigia.

164
Os ffaelais yn fy amser,
Cael tyddyn wrth y mhleser,
Nol d’od i fynwent Aberdar,
Caf yno’m siar o’r ddaear.


165
Llandw, Llandaf, Llandocha,
Llanfair, a Llanbed’-ucha,*
Llantrisant sydd, Llangeinwr syw,
Llangynwyd yw’r lle gora’.

 

*Llanbedr-ar-Fynydd.

166
Ma merched bach y Blaena’,
Yn gwisgo cap a lasa’,
Modrwy aur ar ben pob bys,
A chwt eu crys yn llapra’.


167
Mae merched Bro Morgannwg,
A’r cyfan yn y golwg,
Yn tynu llawer llencyn mwyn
Dros dwyn i dori wddwg.


168
Ma merchad pert gwlad Forgan,
Yn gwishgo gyna’ sidan;
Mae rhai’n mor feinad yn eu gwâst,
A chynffon gâst Sion Bivan.

169
Mae merched balch y Coety,
A’u bwriad ar briodi;
Heb flanced gwely yn y byd,
A’u gyna’ i gyd heb dalu.


 

 


(delwedd 2364) (tudalen 202)

(x202) PROSE - THE FOLKLORE OF GLAMORGAN.

170
Ma genyf darw Nepwan*
A phedwar corn-ar-hugain,
A buwch yn d’od a llo bob mis-
Nid oedd ei phris ond chweigan.

*Enw pur gyffredin ar wartheg a da balon yn Morganwg.


171
Dim gwell chwech ych ac arad
Nis gellir byth mo’u gwelad,
Na ffeinach arddwr ar y ma’s,
Na Morgan, gwas y Sichad.


172
Mae castell yng Nghaerffili
A gwely plyf i gysgu,
A lle braf i wara wic
Wrth gefan Piccadili.


173
Peth da’n mhob man yw melin,
Os bydd hi’n malu’n ddiflin;
Ond drwg y dyn a ddwg y blawd,
Oddiar y tlawd yn echwyn.


174
Tai’n hela blwyddyn gyfan,
Heb fwrw dim yn unman,
‘F’ai’r dw’r i gyd gan ferch y diawl,
Yn nghrochan cawl Cwmsaibran.


175
Hen Wil y saer, Cwmsaibren,
A ddringodd fry i’r nenbren,
Ac a waeddodd megis cawr,
Ar fwli mawr y Gloren.*

 

*”Gwyr y Gloren” y gelwid pobl yr Ystrad yn yr hen amseroedd.

176
’Nol magu hwch ‘n y Blaena’,
Ac anfon hon i Frysta,
Er ‘maint a wel hi yma thraw,
Yn hwch y daw hi adra’.


177
Ca’dd Prys o Bant-y-Pandy,
Rhyw golled fawr eleni,
Sef colli’r ty^ oedd uwch i ben,
A phart o bren ei wely.


178
’Roedd Prys o Bant-y-Pandy,
Yn wr a haeddai’i grogi -
Yn hudo’r merched wrth y cant,
A thaflu’r plant i foddi.


179
’Rhyd y bontbren grwca,
Pw welaist ti’n myn’d drwa?
Dy gariad di - lliw blodau’r drain,
Fel cambric main o’r India.


180
Ti geisia iwc o dderi,
A gwyrs o Aberhonddu:
Mi fyna’ ddodi’r hwch mewn mwyth,
Cyn caffo’i ffrwyth y gerddi.


181
Gwae fi nad allwn hedfan,
Fel brân, dros ben y Cefan,
At y gloewa, glana’i lliw,
Sy’n byw yn Aberboedan.


182
Cath ddu, mi glwas dd’wedyd,
A fedr swyno hefyd,
A chadw’r teulu lle mae’n byw,
O afael pob rhyw glefyd.


 ç

 

 


(delwedd 2365) (tudalen 203)


PROSE - THE FOLKLORE OF GLAMORGAN. (x203) .


183 (=264)
Fe neidia’r gath yn hoew,
Rhwng gwynt a thywydd garw;
Hi dro’i phen ol tuag at y gwres
Po nesa’ bo hi’i fwrw.


184
Fi waria’ heddy’ unswllt,
Fi waria’ ’fory ddau swllt,
A chyn y colla’i ferch ei mam,
Fi tria hi am y tri swllt.


185
Mi welais iâr o Dwrci,
A mil o gywion dani,
Pob un o rheiny’n fwy nag ych,
A chelwydd gwych oedd hyny.


186
Rocau’r Scer le garwa’
Lle strandws llong “Marina,”
A bwmbast gwyn i wyr y Pil,
Gwerth pedair mil o buna’.


187
Mae Siaco Clerk y Coety
Yn fachgen iawndda lysti;
‘Does neb mor da’r ag e’n ddiau,
I ddringo grisiau’r clochdy.


188
Mi wela’s feinir lysti,
Wrth eglwys Sant Hilari;
Rhaid cael sebon a dw’r brwd,
I olchi’r rhwd oddiarni.


189
Dyn iach nad allo wenu,
Na goddef neb i ganu,
Mi ddaliaf i swllt âg unrhyw un,
Mai dyna ddyn ga’i grogi.


190
Y sawl a fynno fyta,
Dau enllyn gyda bara,
Fe ddyla’ hwwnw fod yn dlawd,
Am wneuthur gwawd o’i fola.


191
Mi wela’ Fro Morganwg,
Golygus yw i’m golwg;
Mi wela’r tyddyn lle mae’m serch,
Ond nid yw’r ferch yn amlwg.


192
‘Rwy’n hoffi twyn Llangynwyd,
A’r pentref lle y’m ganwyd,
A Chefn Ydfa, fwynaf nyth,
Anghofiai byth dy gronglwyd.


193
O rhyfedd faint y twrw,
Sy’ i glywed drwy Gwmgarw,
Iefan Tomos yn gweud fod glo,
I dd’od i ma’s o hono.


194
Yng nghylchoedd Plwyf y Betws,
Bu rhai prydyddion ffamws,
Efan Hopcyn Dy’n-y-Nant,
Fe gursa’ gant yn llabws.

195
Nid pell o blwyf y Wenni,
Ma merch o’r enw Sali,
Hen faedan oerllyd, sychlyd, swrth,
Hi’m poena wrth ei henwi.


196
Mae Dafydd Lewys Lawen,
Medd pawb, yn burion fachgen,


 

 


(delwedd 2366) (tudalen 204)

(x204) PROSE - THE FOLKLORE OF GLAMORGAN.

Am yru ychain hyd y gwys,
Rhag ofn pwys y carthbren.

197
Ni cheir ar ol llafuro,
Rhyw lawer o arlwyo:
Nid os i’w gael, mewn ambell fan,
Ond posel gwan yn pasio.


198
Ce’s gwrw cryf miwn iolwrch,
A chwt o facwn tewdrwch,
Nes i mi wneyd fy mol yn llawn,
Ar hir brynháwn yn Llwyniwrch.


199
Siams Prichard wych o’r Mwntwn,
Oedd hoff o ddilyn helgwn,
’Doedd neb ychwaith, ym mhlwyf yr Aes,
A chystal bras o filgwn.


200
Mae gwyneb y ddaearen,
Ag agwedd teg rhag angen;
Mae Blaen Cwm Taf yn lân ei liw,
I gyd o’r Griw i’r Graenen.


201
O, gwrando’r mab o’r Dolau,
Er brased yw dy gamrau,
Efallia doi cyn diwedd d’oes,
Mor fain dy goes a finau.

202
Mae’r merched yn llawenu,
Wrth wel’d y caea’n glasu,
O! gan dd’wedyd, “Fe ddaw’r haf,
Ac amser braf i garu.”


203
Pan fyddo’r ’tifedd canddrill,
Yn myned ar y gridill,
Sylwed pawb ar hyny’n syth,
Mae’r crefftwr byth yn sefyll.


204
Mynd at y bêl y fforddrych,
A chanlyn dawns yn fynych,
A thawlu coetan, bar, a gordd,
A neidio ffordd y mynych .


205
Mae serch yn rhywbeth rhyfedd,
Yn maenu pob amynedd - ,
Rhyw anfad wall, ryw ynfyd wy^n,
Yn ffwylo dyn â ffoledd.


206
Mae merch â dwy ael feinion,
Yn Mro Morganwg dirion,
Sw’rdanllyd iawn bob awr yw’r pen ,
Am dani, Gwen lliw’r hinon.


207
Lle byddo Gwen lliw’r lili,
Ar eraill mae’n rhagori;
Ni phlyg y gawnen ar ei hol,
Mae’n rhodio’r ddol mor lysti.


208
Daeth tes i’n mwyn gynhesu,
Mae’r gweunydd glwys yn glasu;
O dera draw i’r llwyni drain,
Y gaten fain llygeitddu.

209
Mae’r gwyntoedd yn gostegu,
Mae pawb yn mynd i gysgu;
Mae mab yn d’aros yn y llwyn,
Y fen’w fwyn lygeitddu.

 
 

 

 


(delwedd 2367) (tudalen 205)

PROSE - THE FOLKLORE OF GLAMORGAN. (x205)

210
Ti’r cantor du pigfelyn;
Hed drosof at f’anwylfun,
A gwed nad oes un gair o’m pen,
Ond enwi Gwen liw’r hiffyn.

211
Merch ifanc wyf yn hoffi ,
Dyn wasgfain, ysgawn, wisgi;
A’r man lle sango’r deg ei dawn,
Ni phlyg y cawn o dani.
 
212
Mae chwil y bwm yn canu,
Cawn dywydd teg yfory;
Nid oes fawr goel ar chwil y baw,
Gall fod yn wlaw serch hyny.


213
Pwy le, pwy lan sy’ lana’?
Pwy le, pa lan sy’ ora’? 
Wel, dyna’r lle o lanau’r byd,
I mi, Llanilltyd Faerdra.


214
Peth ffein y clychau ffamws ,
Mewn clochdy uchel cwmws;
Peth ffein yw rank o wyr mewn arms,
Peth ffein yw Psalms mewn Eglw’s.


215
Mae son am wrach y rhibyn,
Y Tylwyth Teg a’r goblin,
A son am ysbryd Ladi Wen,
’N dychrynu plwyf Penderyn.


216
Y ’deryn du pigfelyn,
A diwnia’n dal ar frigyn,
A’r fronfraith rhydd ei cherdd mor fwyn,
O ganol llwyn o gelyn.

217
Anhyfryd beth yw methu,
A ffwyd ar ddyn yw ffaelu - ,
Ni wel fwynder glwysber glau ,
Nag unawr gân a gwenu.


218
Mae gwr yn mynydd Nantar,
A’i grys yn llai na’i golar,
A’i golar crys mor fain a neis ,
Nes tybiodd Price y cobler — nad oedd ganto’r  un.


219
Beth wneir a march ni cherdda?
Beth wneir a chell heb fara?
Beth wneir a buwch ni roddo laeth?
Beth wneir a saeth heb fwa?


220
Beth wneir a stwc heb waelod?
Beth wneir a chasg heb ddiod?
Beth wneir a soeg ond yn fwyd moch?
Beth wneir a chloch heb dafod?

221
Beth wneir a merch benchwiban?
Beth wneir a cheffyl truan?
Beth wneir a thaflod heb ddim gwair?
Beth wneir mewn ffair heb arian?
 
222
Beth wneir a chig heb halen?
Beth wneir a bardd heb awen?
Beth wneir a gardd ni chaffo’i hau?
Beth wneir ag iau heb ychen?

223
Seren ddu a mwnci,
Jac y Gof yn dyrnu,


 

 


(delwedd 2368) (tudalen 206)

(x206) PROSE - THE FOLKLORE OF GLAMORGAN.

Modryb Ann yn pigo pys,
A fina’n chwys dyferu.


224
Ni roddaf fenthyg can’swllt
Tra byddo maen a chyswllt,
Na thra f’o gwr yn tynu llif,
Heb wybod rhif y rhidwllt.


225
Gwell bara haidd a heddwch
Na bara càn a garwch;
Gwell na llys Brenin, Duw a’i gwyr,
Cwr perth mewn llwyr lonyddwch.


226
Three things I cannot relish —
A woman that is peevish,
To meet a parson with no wit,
And Lantwit’s broken English.

The following triplet is from the Welsh, by the late lolo Morganwg: -


227
Three things with contempt have I treated through life —
A soldier that lives upon rapine and strife,
A miser that coffers detestable gains,
And fashion’s dull puppy, that thing without brains.


NURSERY RHYMES (HWIAN GERDDI).

The history of Nursery Rhymes is lost in the mist of antiquity. They are a species of literature that cannot now be produced. All juvenile literature worthy the name comes down to us from the dark ages. Children are most conservative in their tastes, for, spite of the floods of new books that are annually written for them, none of them take the place of the old tales. The stories of “Jack and Jill,” of “Cock Robin,” and of “Little Jack Horner,” are immortal. “Sing a Song of Sixpence,” or “Old Mother Hubbard,” are lisped by countless thousands, and they promise to stand on the summit of eternity, and see time itself into its grave.

 

Nursery Rhymes are very mysterious things, the secret of their vitality defying analysis. In them nonsense is epitomized, etherialized, and immortalized. They are perfect perorations, inasmuch as nothing can be added to them, nothing substracted from them.

 

Welsh Nursery Rhymes, so far as can be discovered, are sui generis. They are not derived from any other language or people, but are essentially a home product. They have not been imported from another tongue or speech, nor are they exported into any other language. The few specimens that we have been able to collect in Glamorganshire, are not perhaps so rich, or so suggestive of childhood, as the mass of English rhymes; but they are of the soil and race, whilst nearly all Nursery Rhymes in English, German, French, and Italian are derived from one common source — the Scandinavia. Were Wales searched over, no doubt a goodly volume of Nursery Rhymes might be collected. Their fault (if any) is in their being too ethical: most of them contain a moral or a lesson.
 
There is a time for everything, and there is room for and an age set aside for the enjoyment of fun and nonsense. Many things that are habitually said




 

 


(delwedd 2369) (tudalen 207)

PROSE - THE FOLKLORE OF GLAMORGAN. (x207)
207

by grown-up people, are only saved from that realm and age by mere assumption. The line of separation is frequently too thin for human vision. A mind that contains no corner in it for the enjoyment of trifles, is an imperfect mind. What a grand corrective nonsense is to the over-assumption of wisdom — to the ponderous pretentions of science. Who does not sympathize with Sidney Smith, when, after listening to a long and dull lecture on the "Fly's Eye," he took upon himself, mockingly, to dispute the fact of its being abnormally large (as insisted upon by the lecturer) on the ground of ancient testimony against that fact contained in the lines: -


228
“Who saw him die?
I said the fly,
With my little eye
I saw him die.”

One can picture the amazed Professor, and Sidney Smith's face must have been a fine subject for study.


Was it not Southey who said that “amidst very learned talk he always felt disposed to burst out into a long farrago of nonsense, just to correct the atmosphere:” and that he had formed in his mind the sentences to use, which were wildly absurd.

ESIAMPLAU O'R CERDDI.

229
Pan o'wn i’n myn’d tua’r ysgol
A'm llyfr yn fy’m llaw,

Heibio'r Eglwys newydd,
A’r cloc yn taro naw -

230
Mali, Mali, cwyn, mae heddy'n foreu mwyn,
Mae'r adar bach yn tiwno, a’r gwcw yn y llwyn.


231
Mae’n dda gan hen wr uwd a Ilaeth,
Mae'n dda gan gath lygoden;
Mae'n dda 'radwr flaen ar sŵch,
Mae'n dda gan hwch gael mesen.


232
Llifio, Ilifio co'd Llangrallo,
Tori pren bedw yn ngallt yr hen widw;
Ei lifo fe'n blancia’,
Ei weithio fe’n goffra’,
Un i Sion a’r llall i fina'.


233
Marc a Meurig, b'le buoch chwi'n pori?
Ar waen las, tuhwnt i ’Berhonddu;
Beth gesoch chwi yno yn well nag yrna?
Porfa fras a dw'r ffynona'.


234
Dere, Pegi, cwyd yn wisgi, 
Nid oes adeg iti oedi;
Dera’ i gynu tân i’r teulu,
Bwyd yn barod ’wy’n ei beru;
Hi ddaw glau yn bump o'r gloch,
Mae’r ceiliog coch yn canu.


235
Siglo’r cawell, canu hiw, dyna waith na wna'i'n fy myw;
Siglo'r cryd a chanu lwli, dyna waith na wnaf eleni.

 

 

 


(delwedd 2370) (tudalen 208)

(x208) PROSE - THE FOLKLORE OF GLAMORGAN.

236

Ding Dong, medd y gloch,
Passing bell y bachgen coch;
Os y bachgen och fu farw,
Ffarwel i'r gwin a’r cwrw.


237

Ding dong, Bela,
Canu cloch ’Bertawa;
Tynu'r rhaff o dan y drws,
A chanu cloch y Bettws.


238

Llanbedr-ar-Fynydd, Llanbedr-ar-Fro,
Pen y Casnewydd ac Efail y Go’;
Llanbedr-ar-Fro, Llanbedr-ar-Fynydd,

Efail y Go’ a phen y Casnewydd.

239
Tipyn bach yn gwrs yr haf

Peth ffein a braf yw bedwen;

Ond pan ddelo'r gaua' du,
Mae'n well dan frig celynen.


240
Rho'wch i mi fenthyg ceffyl i fyned dros y Ian, 
I garu'r ferch benfelen sy'n byw gyda’i thad a’i mam ;
Ac oni ddaw hi'n foddog, a’i gwaddol gyda hi,
Gadawaf iddi'n Ilonydd, gwaeth bachgen pert wyf fi.


241
Mae geni ebol melyn o gwmpas lair blwydd oed,
A phedair pedol arian o dan ei bedair tro'd;
Mi neidia's ar ei gefn i fyn’d tua Phen-y-Lan,
I garu'r fetch fach ifanc sy’n byw gyda’i thad a’i mam.


242
Bachgen ofer wyf, medd rhai,
Ni allaf f’hunan dd'wedyd llai,
Eisieu ‘mod yngwella’m bai,
A gadael tai tafarnau;
Yfed cwrw, llanw’m bol, 
Brâg a hops yn cario’r gòl,
Swn y rhai'n yn 'sigo'm siol—
Cwympo’n fud ar fy hud,

Colli ’ngolwg ar y byd,

A chysga ar hyd y cloddia’.

243
Barcud y wiw, a fyni di gyw?
Myna ddau, os ca’ i nhw’n fyw.


244
Mi ddodwas wy heddyw, mi ddodwas wy ddoe,
Mi w'n i'r lle aeth:
Morwyn y ty^ holws, gwraig y ty^ triniws,

Gwr y ty^bytws, a dyna Ile’r aeth.

245
Y deryn du pigfelyn, ai di drostoi’n dàl

Oddiyma i Ynys Forgan, a disgyn ar y wàl,
A dweyd yn fwyn wrth Gweno am dd’od i ma’s yn bost,

Fod ar ei charwr llawen eisiau'i gwel'd yn dost.

246
Y sawl a dyno nyth y frân,
Fe gaiff fyn'd i ufern dân;
Y sawl a dyno dyno nyth tiwinc,
Ni chaiff weled, gwyneb Duw.

247
Y sawl a dyno nyth y robin,
Fe gaff ei honged wrth y cordyn;
Y sawl a dyno nyth tiwinc,
Gaiff ei grogi wrth y linc.


248

Y sawl a dyno nyth y gwenolen,
Gaiff rhodio'n llwm ar waelod uffern.



 

 


(delwedd 2371) (tudalen 209)

PROSE - THE FOLKLORE OF GLAMORGAN. (x209)

249
Pan fo’r ëos heb un tŷ,
A cheiliog du 'r fwyalchen,
Cynar dd'ont â hir y trig
Dan gysgod brig celynen.

250
Gwelwch chwi'r gwynt, a gwelwch chwi’r gwlaw,
Gwelwch chwi'r deryn bach fan draw -
Gwelwch chwi'r dyn a’r britches Iledr,
Saethws long y Brenin Lloegr.

251
Golau leuad fel y dydd,
Sianco Dafydd ar ei hy^d -
Claddu'i blant yn y nant,
Saith ugain ac wyth cant.

252
Trot, trot, tua'r dre'
’Mofyn bara can a thê;
Trot, trot, tua'r ffair,
’Mofyn teisien dwy neu dair.


253
Mi wela’s beth na welws pawb,

Y cwd a'r blawd yn cerad;* *cerdded

Brân yn toi ar ben y ty^,

A’r pia’n dala’r arad. 

254
Mali fach a fina’ 
Yn myn'd tua ffair y Blaena',
Yn d’od yn ol ar gefn y frân
A phyys o wlan am ddima'.


255
Un, doi, tori cnoi;
Tri, phedwar, gad dy glebar;
Pump, wech,*  paid a'th ’sgrech *chwech
Saith, wyth, cario llwyth,
Naw, deg, cau y geg.


256
Mae geni fi ’stori fach berta'n y byd—
Chwip a short, a thyna hi gyd;
Mae geni fi ’stori sydd dipyn yn fwy-
Tatws a llaeth, a phiol a llwy.


257
Pedoli, pedoü, pedoli pe dinc,
Gwaith y göf bach, a'i lygad blinc;
Pedol a hô’l o dan y dro'd ôl,
Pedol yn eisia' dan y dro'd asa'.* *Aswy.


258
Mi fuo'n caru neithiwr,
Mi geso roeso mawr;
Mi geso botch pytatws,
A ’stol  i eista' lawr.

259

Mae geni gariad yn y Fro,

C’yd ei goesa a choesa llo;

Mae geni gariad yn y Blaena’,
Nid yw mwy na llai na mina’;
Mae geni gariad bitw biti,
Ac am ei wddf mae clwtyn Ilestri;
A phan bo hi'n myn'd yn dywydd garw,
Rwy'n rhoi o yn fy mhoc i gadw.

 

 

 


(delwedd 2372) (tudalen 210)

(x210) PROSE - THE FOLKLORE OF GLAMORGAN.

260
Y ’deryn bach a’r asgell sidan,
Cerdd di drosto'i i Gwmffosfelan,
A disgyn yno ar bost y gwely
Lle mae Nancy Jones yn cysgu.


261
Llifio, Ilifio, Ilifio'n dỳn,
Grôt yw'r hûr y flwyddyn hyn:
Os byddwn ni byw y fiwyddyn nesa’,
Ni gwnwn yr hir i bedair a dima'.


WEATHER PROGNOSTICATIONS (DAROGANAU AM Y TYWYDD).


262
Gwylied pawb pob gwlad y bôch,
Y Iloer lås, y llawer a wlych;
Llawer o'r gwynt yw'r Iloer goch,
Lloer wen yw y seren sych.


263
Fuwch fach gota,* *The Lady-cow
P’un a'i gwlaw neu hindda—
Os daw gwlaw, cwymp o’m llaw:

Os daw haul, hedfana.

264 (=183)
Fe neidia'r gath yn hoew
Rhwng gwynt a thywydd garw:
Hi dro’i phen ol tuag at y gwres
Po nesa' byddo'i fwrw.

265
Y wylan fach adnebydd,
Pan fo'n gyfnewid tywydd—
Hi hed yn deg ar aden wen
O’r môr i ben y mynydd.


266
Pan glywir y mör yn crochlefain yn flin,
A’r cwmwl yn dew dros ben Castell Penllin,
Os gwir y ddiarheb, mae cawod o wlaw
Yn magu'n yr wybren, a'i syrthiad gerilaw.

A translation of the above, by Iolo Morganwg—


267
When the hoarse waves of Severn are screaming aloud,
And Penlline's lofty castle involved in a cloud,
If true the old proverb, a shower of rain
Is brooding above, and will soon drench the plain.


268
Pan welir Moel y Caera'
A’i gap yn cuddio'i gopa,
Odid fawr cyn haner dydd
Bydd ar ei grudd hi ddagra’.


269
Bwa Drindod y  bora, aml gawoda’:
Bwa Drindod prydnawn, tegwch a gawn.  

Neu—

270
Awyr goch y bora', brithion gawoda’;
Awyr goch brydnawn, tegych a gawn.


271
Niwl y gaua', arwydd eira;
Niwl y gwanwyn, gwaeth na gwenwyn.


272
Os gwlaw fydd ddydd Gwyl Switan,
Gwlaw ddeugain niwrnod cyfan.

 .
 

 

 


(delwedd 2373) (tudalen 211)

PROSE - THE FOLKLORE OF GLAMORGAN. (x211)

OLD SAVINGS CONCERNING THE SEASONS

273
Awel oer mis Mai,
Ni wna'r cnydau ddim yn llai.


274
Trymaf gnydau,
Gwlyb gynauaf.


275
Awr fawr Galan, dwy ŵyl Elian,
Tair ŵyl Fair, a gwir yw'r gair.


276
Mis cyn Calanmai, cân y cogau;
Mis cyn hyny tŷf briallu.


277
Yr adar a ganant cyn Gwyl Fair,
A griant cyn Calanmai.


278
Os cân y gôg ar bren llwm,
Gwerth dy geffyl, a phryn bẁn.

279
Cywion gwyddau, ebol bach,
Pa'm na ddaw Calanmai bellach.


Chwedl y gôg—

280
Mi gana’i chwi Ebrill a Mai,
A phart o Fehefin, ffarweliwch bob rhai.


281
Gw^yl Fair ddiwetha'
Yr es oddiyma,
Ni adewais yma lawer o y^d, o y^d;
Gwyr y ffustiau,
Gwragedd y Gograu,

Aethant âg ef oddiyma i gyd, i gyd.

 
THE AUTHORS OF GLAMORGAN’S DEI.IGHT (AWDWYR DYWENYDD MORGANWG).

Siôn, gwr y ty^ — hen wr call.
Yr hen law.
Twm Tipyn, a’i chwedl fechan ddigri'.
Twm Pen Berman, goganydd; ni waeth ganddo’n y byd beth a ddyweto.
Yr Hen Geiliog.
Sion Cent; dangoswr bai yn mhob man y b’o, eithr yn gyfiawn ei farn.
Catwg Ddoeth; athraw doethineb.
Y Bardd Glas o'r Gadair.
Y Cwta Cyfarwydd.
Ystudfach Fardd.
Yr Hen Wrach Eisingrug; clecai enbyd, yn cyhoeddi beiau a ffolinebau pawb.
Yr Hen Saffin.
Guto o Fargam.
Wii Tabwr (Tabwrdd).

Ieuan Gyffylog.* * There is an old adage very common in Glamorgan – “mor ffoled a leuan Gyffylog” (“as foolish as  leuan Gyffylog”).. •
Yr Hen Gyfaill.

  
 

 

 


(delwedd 2374) (tudalen 212)

212
PROSE—THE FOLKLORE OF -GLAMORGAN.

Modryb Angharad; hen feddyges dda, a theuluwraig ddoeth iawn.
Dic y Dwndwr; grwgnachwr hynod, ac anhawdd ei foddloni.

Mawdi Gw^n Sidan; yn gwybod dirgelion pawb o’i chymydogion, am ei bod yn gallu gwân yn anweledig i bob twll.
Hob y Diri, a'i ganu byr bach.
Yr Hen Fardd Penllwyd.
Hen Bregethwr o Gybydd Anghor.
Offeiriad y PJwyf.
Catti Cydnabod; yn gwybod hanes yr holl wlad, pob dyn a phob man; yn gwybod achau pawb, hil, hâd, ac epil.

 
SOME PECULIAR EXPRESSIONS COMMON WITH THE PEOPLE OF GLAMORGAN.
Adnabod un yn mhig y frân.
Agor am lawer, a chauad am ddim.

Agor un bwlch i gauad y llall.
Bid rhyngoch wyr Pentyrch.
Caws o fola’r ci.  
Caws Caerffili.
Clap y dwndwr,
Còl gwas diog.

Cord y Gelli haidd.
C'uwch gw^d a ffetan.
Chwareu Cilbwti.

Chwerthin Cilbochau.
Dala llygoden, a’i bwyta.
Dodi hwch i wau hosanau.
Dysgu'th famgu i bedoli wid (hwyaid).
Fe chwardd Ilonaid bòl o  fwyd, ond ni chwardd cot lwyd.
(Loud laughs the man who has eaten and
But sad is beggar whose belly is lank.)
Fel bech i adyn.
Fel clap y Felin.
Fel crochan yn berwi.
Fel dw'r ar gefn hwyaid.
Gormod o ganfas am rôt.
Gwneyd brenin o un, a baw o’r llall.

Gwyr Yr Hen Blwyf,* tlawd a balch. *Respecting this name of “Yr Hen Blwyf,” there is a tradition Which ascribes its origin to a source
something like the following:- A carpenter in the parish, it is said, had to make a coffin for a young man, aged eight-and-twenty; and ahving to put the age upon the lid, was sorely puzzled what figures to express it by. Recollecting at last that four sevens made eight-and-twenty, he put them down thus – 7777. He was quite satisfied wit this new style of numeration until it came to be subjected to public criticism, when he found he had made ridiculous mistake. This, says tradition, was the occasion which gave the name of “Yr Hen Blwyf” to Llangynwyd Parish.

Gwyr y Brenin Siôn, saith again y cant.
Haul Llanfabon, tes Cwmselsig.* * CoaL



 

 


(delwedd 2375) (tudalen 213)

PROSE - THE FOLKLORE OF GLAMORGAN. (x213)

Heddwch gwyr mawr.
Hela diffrwyth i gòl.*  *Extreme idleness.

Hôl a hebrwng.

Hwldi drebwlder.
Lleidr yw llety.
Llusgo gwrysgan gerfydd ei brig.
Llath Eglwysilan, erw Llangiwc, a chyfar Merthyr.
Mae dwy ochor i ystlys o gig moch.
Mae tro yo ei gynffon.
Mae'r iar yu gallach na'r wy.
Mae modfedd o fachgen gystal a mynydd o ferch.
Moch yr Eglwys Newydd.
Morwyn gwr mawr a hwch melinydd.
Mor civil a hwch mewn sofl.
Mor dywyll a bola buwch.
Mor feddw a whiber.
Mor onest a'r gyrchen.
Mor iach a’r ceiros.
Myned drwy wrysg y cae.
Natur y cyw yn y cawl.
Nes penelin nag arddwrn.
Pobl y Bettws a deiliaid Margam.
Plant Alis y Biswael.* *Englishmen.
Pob peth newydd dedwydd da.
Rhwng seiri a phorthmyn.
Rhys o’r mynydd.* *A common name given to the wind in Glamorg[an].
Siôn 'run siwd.
Sul yr hwch yn nghanol yr ha[aidd].
Tori'r got yn ol y brethyn.
Troi pob careg.
Troi'r clust byddar.
Tynu wy o dân.
Wedi carno'i filwg.
Wedi estyn ei goes.* *When a person is announced as dead.
Y gwr daclws gerws.

Yn nghrog y b’ot ti.
Ymswynwch rhag gwyr y Gloren.* * Beware of the people of the Rhondda.
Ystlys gerddd.
Yr hwch fud sy’n difa’r sôg.
Yr hen wlanen.* *A simpleton.
Y gibi-w, a’r gibi-a, ni fu erioed ar was da.

 

 


(delwedd 2376) (tudalen 214)

214
PROSE—THE FOLKLORE OF GLAMORGAN.

OLD GLAMORGANSHIRE RIDDLES.

C. Beth wedd yn eich dwrn na wedd yn y ffwrn? -A. Ierthyd (a goad).

C. Beth aiff yn wyn i'r Ian, ac a ddaw'n felyn i'r llawr? —A. Wy.

C. Crwn i mewn, a chrwn i maes, blew tnewn blew, a thyna beth —A. Llygad.

C. Un twll, can twll, heb un twll trwyddo?  —A. Gwniadur (thimble).

C. Mil-ddrws a mal-ddrws, a bar traws ar bob drws? —A. Gogr hidlo (sieve).

C. Ladi fach wen. Hwya’ bo'i yn y byd, Ileia’ i gyd mae'n myn'd? —A. Canwyll.

C. Dwy ladi fach yn braichgai ar yr un march: un yn wlyb a’r llall yn sych? —A. Rhodau'r felin.

C. Ladi fach at Ian y nant,
Fe egyr un, ni chauiff cant? —A. Cneuen.

C. Beth aiff drwy'r berth nas gwelir ef byth? —A. Ergyd o ddryll.

C. Gwaen las lydan yn llawn o ddefaid penchwiban,
Morwyn pen-aur, a gwas pen-arian? —A. Yr wybren.

C. Ladi wen las, yn byw'n y plas,
Ei daupen hi fewn a’i chanoi i ma’s? —A. Scolpen (spar).

C. Milast ddu fain ar ben y berth ddrain,
Hi ladd ac hi flyng, chyferthif hi ddim? —A. Pladur.

C. Crochan mawr anghenfil yn berwi bwyd i gan-mil,
Yn berwi’n drwstan drosto heb denyn o dân dano?  —A. Y môr.

C. Beth aiff drwy'r berth, ac a adawa ei gynffon ar ei ol? —A. ’Defyn a nodwydd.

C. Peth crwn gwrol, twll yn ei ganol,
Pump yn wastadol yn ystyried ei daith;
Deuddeg yn watchio heb stopio,
A phawb wrth ei weled yn canmol ei waith? —A. Rhôd yn nyddu.

C. Beth aiff i ford y brenin, a'i wrych ar ei ben-ôl?  —A. Wynwyn (onion).

C. Beth aiff tua Lundain a'i ganoi yn mlaen? —A. Pedol ceffyl.

C. Beth sydd fwya'i uws, a Ileia’i barch? —A.  Clwtyn llestri.

C. Beth sy’n ongian o dan y daflod, a'i fys yn ei lygaid? —A. Aerwy.

C. Beth sydd ar bob peth yn y byd,
Ar gi a chath hefyd? —A. Enw.

C. Beth sydd mewn coed, a chapan gwyn ar ei ben? —A. Carw.

C. Beth sydd ar fwrdd y frenines, a’r deigryn ar ei rudd? —A. Ymenyn.

C. Beth sydd ar ford pawb drwy'r flwyddyn? —A. Goleuni.

C. Yn mha le y tarawyd yr hoel gyntaf—? —A. Ar ei thop.

C. Pa faint wna bâr o esgidiau? -A. Dwy.

C. Pa beth sy'n grwn fel cosyn,
Ac hefyd yn dduach na'r frân;
Haner llath o gynffon,
A thwll ei din yn mlaen? —A. Tegell.

C. Pa beth sy’n  fyw bob pen, a marw yn y canol?  —A. Aradr mewo gwaith.

C. Paham yr ewch at y gwely? —A. Am na ddaw y gwely atoch chwi.

C. Pa beth sy'n debyg i haner Ileuad? —A. Yr haner  arall.


C. Y tir yn wyn, yr achles yn ddu.
A'r hadau o feddyliau? —A. Llythyr.

C. Pren cam cwmws
Y saer ei naddws,
Y gof ei cwplws? —A. Dryll.

C. Beth ddaw i’r tŷ, a llun cryman ar ei ben-ôl? —A. Ceiliog.

C. Pren cam cwmws, yn y coed fe dyfws,
Yn y tŷ fe ganws, ar yr helyg cysgws? —A. Telyn.
 

 

 


(delwedd 2377) (tudalen 215)

PROSE - THE FOLKLORE OF GLAMORGAN. (x215)

C. Drwmbwl drambal draw’n y cwm,
Pedwar-ar-ddeg yn ffusto'r ddrwm? – A. Taranau.
 
C. Beth sydd ar y dw'r, a than y dw’r, heb fod yn cyffwrdd a’r dw’r hefyd? A. – Morwyn yn cario dw'r ar ei phen dros afon.

C. Dwy fraich, un glun,
Asgwrn cefen,a thwll tin? – A. Megin

C. Pa beth sy’n myned yn hirach wrth dori ei ddau pen? – A. Cwter.


C. Drwmbwl drambal draw'n y coed,
Pedwar llygad ac wyth troed? A. – Caseg ag Ebol.

C. Dau bost ar ben y mynydd, heb fod yn cwrdd y llawr, na chwrdd a’r awyr? A. - Cyrn eidion.


C. Goleu leuad dydd,
Sianco Dafydd ar ei hyd;
Claddu'i blant yn y nant,
Saith ugain ac wyth cant? A. Y gleisiad yu claddu (spawning).

C. Naw hen wraig a naw hen ddyn,
Naw hen gwd ar gefn pob un;
Naw hen gath yn mhob un o’r cyda',
A naw cath fach gan bob un o’r catha’. (?)


C. Ceiniog a cheiniog, a haner dwy geiniog, a grôt a phump ceiniog a thri swllt? – A. Pedwar swllt.

C. Brawd chwaer ni fi imi 'rioed,
Cefnder na chnithder, nag achos eu bod;
Yr unig berthynas oedd rhyngddo a fi,
Fod ei fam ef wedi bod yn mola fy mam i? A. Mab.

C. Fe aned plentyn yn Llangan,
Nid mab ei dad na mab ei fam:
Nid mab i Dduw na mab i ddyn,
Ond plentyn prydferth hardd ei lun? A. - Merch.

Clywsom ddarfod i'r diweddar Taliesin Ap Iolo, flynyddoedd yn ol, chwilio llawer am y rhigwm a ganlyn, ond mor belled ag y gwyddom bu
yn aflwyddianus. Yn ddamweiniol, daethom ar ei draws yn ddiweddar drwy ddarfod i mi glywed bachgen bychan yn ei adrodd, yr hwn, meddid,
oedd wedi ei ddysgu gan ei famgu. Cymerwn ein rhyddid i'w ddiogelu yn y casgliad hwn —

C. Mab pwy wyt ti? – A. Mab Cwti.
C. Pwy Gwti? –A. Clwtyn llestri.
C. Pwy lestri? —A. Llestri 'menyn.
C. Pwy fenyn? —A. ’Menyn gwartheg.
C. Pwy wartheg? —A. Gwartheg duon.

C. Pwy dduon? -A. Duon rhawn.
C. Pwy rhawn? —A. Rhawn telyn.
C. Pwy delyn? —A. Telyn Arthur.
C. Pwy Arthur? —A. Arthur môr.
C. Pwy fôr? —A. Môr 'sgadan.
C. Pwy ’sgaadan? —A. Ysgadan bwyta.
C. Pwy fwyta? —A. Bwyta baw.
C. Pwy faw? —A. Baw ci.
C. Pwy gi? —A. Ci bach.
C. Pwy fach? —A. Bach gwair.
C. Pwy wair? —A. Gwair tòn.
C. Pwy dòn? —A. Tòn sych.
C. Pwy sych? —A. Sych dy din.

.....

 

 

 

 

 

.....
Sumbolau:

a A / æ Æ / e E / ɛ Ɛ / i I / o O / u U / w W / y Y /
MACRON: ā
Ā / ǣ Ǣ / ē Ē / ɛ̄ Ɛ̄ / ī Ī / ō Ō / ū Ū / w̄ W̄ / ȳ Ȳ /

MACRON + ACEN DDYRCHAFEDIG: Ā̀ ā̀ , Ḗ ḗ, Ī́ ī́ , Ṓ ṓ , Ū́ ū́, (w), Ȳ́ ȳ́
MACRON + ACEN DDISGYNEDIG: Ǟ ǟ , Ḕ ḕ, Ī̀ ī̀, Ṑ ṑ, Ū̀ ū̀, (w), Ȳ̀ ȳ̀

MACRON ISOD: A̱ a̱ , E̱ e̱ , I̱ i̱ , O̱ o̱, U̱ u̱, (w), Y̱ y̱
BREF: ă Ă / ĕ Ĕ / ĭ Ĭ / ŏ Ŏ / ŭ Ŭ / B5236:  B5237: B5237_ash-a-bref
BREF GWRTHDRO ISOD: i̯, u̯
CROMFACHAU:   deiamwnt

ˡ ɑ ɑˑ aˑ a: / æ æ: / e eˑe: / ɛ ɛ: / ɪ iˑ i: / ɔ oˑ o: / ʊ uˑ u: / ə / ʌ /
ẅ Ẅ / ẃ Ẃ / ẁ Ẁ / ŵ Ŵ /
ŷ Ŷ / ỳ Ỳ / ý Ý / ɥ
ˡ ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ əɪ uɪ ɪʊ aʊ ɛʊ əʊ /
£
ә ʌ ẃ ă ĕ ĭ ŏ ŭ ẅ ẁ Ẁ ŵ ŷ ỳ Ỳ
Hungarumlaut:    

U+1EA0 Ạ  U+1EA1 ạ
U+1EB8 Ẹ  U+1EB9 ẹ
U+1ECA Ị  U+1ECH ị
U+1ECC Ọ  U+1ECD ọ
U+1EE4 Ụ  U+1EE5 ụ
U+1E88 Ẉ  U+1E89 ẉ
U+1EF4 Ỵ  U+1EF5 ỵ
gw_gytseiniol_050908yn 0399j_i_gytseiniol_050908aaith δ δ £
wikipedia, scriptsource. org

 
wikipedia, scriptsource. org
https://en.wiktionary.org/wiki/ǣ
---------------------------------------
Y TUDALEN HWN: www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_007_llen_gwerin_morgannwg_2482e.htm
---------------------------------------
Ffynhonnell / Font / Sourcel:
Creuwyd / Created / Creada:
31 10 2001
Adolygiadau diweddaraf / Latest updates / Darreres actualitzacions: 09-10-2018, 08-08-2017
Delweddau / Imatges / Images:
 


Freefind:

Archwiliwch y wefan hon
SEARCH THIS WEBSITE
...
Adeiladwaith y wefan
SITE STRUCTURE
...
Beth sydd yn newydd?
WHAT’S NEW?


Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Gal·les-Catalunya)
Where am I? You are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website
Weə-r äm ai? Yüu äa-r víziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA (= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait