Hanes Tonyrefail. Atgofion am y Lle a’r Hen Bobl, gan y Diweddar Thomas Morgan (Ystus Heddwch), Y Fron, Pontypridd. Yn Nghyda Rhagarweiniad, Ystoriau, ac Enwau Lleol. Gan Morien. Caerdydd. Argraffwyd gan y Western Mail, Limited (1899).

http://www.theuniversityofjoandeserrallonga.com/kimro/amryw/1_testunau/sion_prys_013_hanes_tonyrefail_01_1223k.htm

0001z Y Tudalen Blaen

..........1863c Y Porth Cymraeg

....................0009k Y Gwegynllun

..............................0960k Y Gyfeirddalen i Gywaith Siôn Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon)

........................................y tudalen hwn / aquesta pàgina


..







0860k y llyfr ymwelwyr

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les
 
Cywaith Siôn Prys - Testunau Cymraeg ar y We

Hanes Tonyrefail
Thomas Morgan (Caer-dydd 1899)
gyda rhagymadrodd ag atodiad ar enwau lleol o amgylch Tonyrefail gan Owen Morgan (Morien)


 


Adolygiadau diweddaraf:
22 01 2002 (mân wallau wedi eu cywirio)
16 02 2002 (mân wallau wedi eu cywirio)


Ry^n ni wedi cadw at yr orgraff wreiddiol - ar wahân i ambell gambrintiad amlwg.

Dynodir y tudalennau felly
(x20), (x21), ayyb, a’r darnau d15, d22, d70, ayyb.
Defnyddiwch eich archwiliwr i fynd atynt yn uniongyrchol.

1224k Mynegai i’r llÿfr hwn
·····
1288ke Trosiad Saesneg / English Translation of this text
 

(1) Yr ydym wedi cadw’r orgraff wreiddiol.
(2) Yr ydym wedi ychwanegu ambell sylw rhwng cromfachau mewn teip oren, gan gynnwys {!!!} wrth gwt rhai o sylwadau di-sail yr awdur.
(3) Dodwyd rhif y tudalen yn y llÿfr gwreiddiol yn y testun  fel y canlyn - (x2), (x3), (x4)
(4) Gall fod ambell wall teipio nad ydym wedi ei weld hyd y hyn
(5) Nid ydym wedi cynnwys y lluniau sydd yn y gyfrol wreiddiol

_____________________________________________________________
Hanes Tonyrefail
Thomas Morgan (Caer-dydd 1899)
gyda rhagymadrodd ag atodiad ar enwau lleol o amgylch Tonyrefail gan Owen Morgan (Morien)


CYNNWYS: (Er hwylustod ry^m ni wedi rhifo pob darn)


rhif y darn rhif yr adran enw’r adran  rhif y tudalen yn y llyfr gwreiddiol

 

● RHAN 1 1 Rhagymadrodd (gan Morien) x3

   

● RHAN 2 2 Tudalen y Teitl x4

   

 3 Rhagarweiniad (Hanes Tonyrefail, Thomas Morgan) x5

● RHAN 3 3-01 Thomas Morgan x5

● RHAN 4 3-02 Hynafiaid Thomas Morgan x5

● RHAN 5 3-03 Llanganna x9

● RHAN 6 3-04 O’r Palasdy i’r Siop  x11

● RHAN 7 3-05 Neuadd y Collena x12

● RHAN 8 3-06 Y Parch. William Evans x13

● RHAN 9 3-07 Dylanwadau Boreuol Ei Oes x17

● RHAN 10 3-08 Dyddiau Olaf Thomas Morgan x20

● RHAN 11 3-09 Llythyr Oddiwrth Thomas Morgan x23

● RHAN 12 3-10 Y Parch. William Evans a Hawliau Merched i Bregethu x23

   

 4 Adgofion am Donyrefail x25

● RHAN 13 4-01 Adgofion am Donyrefail - Llith 1 x25

● RHAN 14 4-02 Adgofion am Donyrefail - Llith 2 x31

● RHAN 15 4-03 Adgofion am Donyrefail - Llith 3 x36

● RHAN 16 4-04 Adgofion am Donyrefail - Llith 4 x41

● RHAN 17 4-05 Adgofion am Donyrefail - Llith 5 x46

● RHAN 18 4-06 Adgofion am Donyrefail - Llith 6 x51

● RHAN 19 4-07 Adgofion am Donyrefail - Llith 7 x55

● RHAN 20 4-08 Adgofion am Donyrefail - Llith 8 x60

● RHAN 21 4-09 Adgofion am Donyrefail - Llith 9  x65

   

 5 Enwau Lleol o Amgylch Tonyrefail (gan Morien)

● RHAN 22 5-01 PALASDY Y COLLENA  x69

● RHAN 23 5-02 PANT Y BRAD  x69

● RHAN 24 5-03 CWM “CASTELLA”  x73

● RHAN 25 5-04 TY CWRDD Y QUAKERS  x73

● RHAN 26 5-05 TYLCHA   x74

● RHAN 27 5-06 GELLI “SEREN”  x74

● RHAN 28 5-07 TWYN TRAETHAWG  x74

● RHAN 29 5-08 Y RHIW  x74

● RHAN 30 5-09 LLANILID  x74

● RHAN 31 5-10 “CAECWRLAS”   x74

● RHAN 32 5-11 CAERLAN  x74

● RHAN 33 5-12 GELLI GRON  x75

● RHAN 34 5-13 “CILELI”  x75

● RHAN 35 5-14 ELWY  x75

● RHAN 36 5-15 TREBANAWG  x75

● RHAN 37 5-16 RHIW Y GARN  x75

● RHAN 38 5-17 TREBOETH  x75

● RHAN 39 5-18 HEOL “RHIW WINDER”  x75

● RHAN 40 5-19 Y WAUN RYDD  x76

● RHAN 41 5-20 CAE’R YSGOL  x76

● RHAN 42 5-21 Y TRAN  x76

● RHAN 43 5-22 “SHON Y BREECHES COCH”   x76

● RHAN 44 5-23 “SHAMS O GEFN TYLCHA”  x77

● RHAN 45 5-24 ANGLADD O DLOTY TONYREFAIL  x79

● RHAN 46 5-25 ”JOB Y TEILIWR” (TAILOR)  x80

● RHAN 47 5-26 MARI SHAMS  x81

● RHAN 48 5-27 LLUEST OWAIN  x83

● RHAN 49 5-28 LLAN DYFODWG  x83

● RHAN 50 5-29 HENDRE FORGAN  x83

● RHAN 51 5-30 Y GILFACH A’R GILFACH GOCH  x83

● RHAN 52 5-31 CRUG GLAS  x84

● RHAN 53 5-32 CWM PANT DYFI  x84

● RHAN 54 5-33 “DIMBATH”  x84

● RHAN 55 5-34 “GLYNOGWR”  x84

● RHAN 56 5-35 TON ITHEL DDU  x85

● RHAN 57 5-36 “SHONI MEIRIONYDD”, PERERIN GWLAD  x85

● RHAN 58 5-37 BEDDARGRAFF HYNOD  x87

● RHAN 59 5-38 “TWM HYWEL LLYWELIN,” YSTRAD DYFODWG  x87

● RHAN 60 5-39 “Y GWYR RHYDDION” HIL GWRONIAID / “Y BLACK ARMY,” LLANTRISANT   x90

● RHAN 61 5-40 “LLYWELIN O’R CWRT” (TWYNYPANDY) RHONDDA   x93

● RHAN 62 5-41 DYDD Y FARN  x93

● RHAN 63 5-42 DR. EVAN DAVIES A “BILI JAC Y GWEHYDD”  x94

● RHAN 64 5-43 PANT Y CEILIOGOD YMLADDGAR  x95

● RHAN 65 5-44 DIWYGIAD CREFYDDOL 1859 DIGWYDDIAD DIGRI   x96

● RHAN 66 5-45 GOLWG AR Y CANNAR MAWR O BEN CEFNHIRGOED  x97

● RHAN 67 5-46 WRTH AFON ANGEU  x99

● RHAN 68 5-47 CAN I BLWYF LLANWYNNO, MORGANWG  x101

● RHAN 69 5-48 ANIANYDDIAETH RHEIDRWYDD  x102

● RHAN 70 5-49 ACHOS AC EFFAITH  x103

● RHAN 71 5-50 HEN DDIGRIFWCH: YR IOOB BOOB  x104

● RHAN 72 5-51 HEN DDIGRIFWCH: ALS O’R SIOP A JOB Y TAFARN  x105

● RHAN 73 5-52 HEN DDIGRIFWCH: CAN HANES FFAIR ABERDAR   x105

● RHAN 74 5-53 CHWAIN, CHWAIN  x110



(x2)
(LLUN: “MAWL IDDO YN DDIDDIWEDD!” Y PARCH. WILLIAM EVANS YM MHWLPUD PENUEL)

(x3)
d1 / (1) RHAGYMADRODD.
Ysgrifenwyd yr adgofion canlynol am Donyrefail a'i hen bobl gan y diweddar Thomas Morgan, yn ei ddyddiau olaf ar y ddaear. Yr oedd y duedd lenyddol yn lled gryf ynddo ef er yn fachgen; ond yr oedd wedi ei rhwystro i ymddadblygu. Aeth ei fryd ar fasnach bron yn hollol. Yr oedd un o'i berthynasau agosaf yn cael mwy o fwynhad, er pan oedd yn blentyn, mewn llyfrau, ysgrifenu, a llenyddiaeth o bob math, nag mewn unrhyw beth arall. Yr oedd hyny yn achosi i ambell ymrafael godi rhwng y ddau, ac ar droion o'r fath gofynai Thomas Morgan i’w berthynas, “Pa beth a ddaw llyfrau i mewn i ti?” Yr oedd y perthynas hwnw yn gweled bod synwyr yn y gofyniad, a phenderfynai y gwnelai o hyny allan edrych ar y wedd fasnachol ar bob peth; ond ni fedrai ef gadw at ei benderfyniad yn hir. Tua’r terfyn yr oedd Thomas Morgan yn cryfhau yn ei dueddiadau llenyddol, a dywedai wrth y perthynas rhagddywediedig, “Yr wyt ti yn debyg iawn yn dy ddull o feddwl i mi.” Fe welir wrth y dull doniol a medrus yr ysgrifenodd Thomas Morgan ei "adgofion” fod ei serch at lenyddiaeth wedi cael lle helaeth yn ei ddyn oddimewn er bod yn nghanol ffwdan masnach drwy y blynyddoedd. Yr oedd, fel y gwelir, wedi bwriadu ysgrifenu ychwaneg o'i "adgofion,” ond daeth y wys oddiuchod i'w gyrchu i fyd yr ysbrydoedd tudraw i'r llen yn lled sydyn. Meddyliais y buasai hiliogaeth hen drigolion Tonyrefail a’r amgylchoedd yn gwerthfawrogi fy ymdrech i "osod i gadw" yr adgofion, yn nghyd a fy ychwanegiadau inau.

Llwyn On, Glantaf, Alban Eilir, 1899.
MORIEN


(x4)
d2 / (2) TUDALEN Y TEITL

HANES TONYREFAIL.

 

ATGOFION AM Y LLE A’R HEN BOBL,

GAN Y DIWEDDAR

THOMAS MORGAN, Y.H.

Y FRON, PONTYPRIDD

 

YN NGHYDA

RHAGARWEINIAD, YSTORIAU, AC ENWAU LLEOL

GAN MORIEN.

 

CAERDYDD.

ARGRAFFWYD GAN Y WESTERN MAIL, LIMITED.

1899



(x5)
(3) RHAGARWEINIAD

d3 / 3-01 Thomas Morgan
MR. THOMAS MORGAN, Y.H., MORGANWG
“NI DDYCHWEL MWY I'W DY."
BYR HANES GAN OWEN MORGAN ("MORIEN.")
“Ystyriais y dyddiau gynt, blynyddoedd yr hen oesoedd.” - Salm lxxvii., 5.

Ganwyd Thomas Morgan ar Donyrefail, neu, yn fwy cywir, Twynyrefail, yn 1815. Gorphenodd ei yrfa ddaearol Chwefror 7, 1890, yn y Fron, Pontypridd. Ail fab ydoedd i Llywelin Morgan a Cesil Morgan, nee Francis. Yr oedd iddo y brodyr a’r chwiorydd canlynol: Dafydd, William, a Morgan, y cyntaf yn unig sydd ar dir y byw yn awr, 1899, ac y mae yn 86 oed; Margaret (fy mam), Ann, a Mari, yr olaf yn unig sydd yn fyw pan yr ysgrifenir hyn.

d4 / 3-02 Hynafiaid Thomas Morgan.
Yr oedd ei dad yn fab i Dafydd Morgan, o Glyn Nedd, ac yn hanu o dirfeddianwr bychan yno. Yr oedd Margaret, ei wraig, yn ferch i’r gwr nodedig hwnw, Shon Llywelin, o Gefn Coed y Cymmer, awdwr llawer o ganiadau ac emynau poblogaidd, ond cysylltir ei enw yn benaf a chan ysmala, a elwir, “Y Ddafad Las a’i Ho’n Sy’n Blino Shon Llywelin" Yr oedd Cesil, ei fam, yn hanu o hiliogaeth urddasol Morganwg a Brycheiniog. Y canlyn a roddir o'u hanes sydd o Lyfr Achau Mr. Geo. T. Clark, Talygarn: - Yr oedd Ann Morgan yn etifeddes y Garth Fawr, Llanilltyd Faerdre. Hi a ymbriododd a Richard, pumed mab Edward Thomas, perchenog Llan (x6) Mihangel a’i etifeddiaeth, yn agos i Bontyfon, a elwir yn awr y “Bontfaen.” Yr oedd y teulu hwn yn hen iawn. O hono yr hanodd y Thomosiaid, o Gastell Raglan. Cymerodd y gangen hono yr enw Herbert, ac o hono hanodd Ieirll Penfro.
Yr oedd Edward Thomas, Llan Mihangel, yn flaenllaw o blaid Charles I yn mrwydr St. Ffagan, a ymladdwyd Mai 8, 1648. Cafodd ef ei ddirwyo i’r swm o dair mil o bunnoedd gan y cadfridog Oliver Cromwell a’r Senedd am hyny. Gorfu addo werthu Llan Mihangel i Mr. Edwin, gynt Arglwydd Faer Llundain, i’w alluogi i dalu y ddirwy. Y mae Llan Mihangel yn nodedig oherwydd ei phlanigfa o goed yw tuol {sic} i’r magwyrydd. Bu i’r Richard Thomas uchod ac Ann, ei wraig, fab o’r enw Richard. Ymbriododd ef a Nest, merch Morgan Cadwgan, o Abererchwy (Abergorci). Cawsant fab, a’i enw oedd James. Ymbriododd ef a Mari merch Thomas Matthew, Maes Mawr. Cawsant fab, ac enwyd yntau James. Ymbriododd ef a Jane Prichard, Collena, Tonyrefail, o linach Iestyn ap Gwrgan, brenhin Morganwg. Cawsant fab, James, ac ymbriododd ef ag Elizabeth Gam, Dre Newydd, Aberhonddu, o linach Syr Dafydd Gam, a laddwyd yn mrwydr Agincourt, pan a’i fwyall ryfel yn cadw’r Ffrancod yn ol oddiwrth Henri V. Ei enw priodol oedd Dafydd ap Llywelin, ac efe yw “Fluellen” Shakespeare. Yr oedd i James Thomas ac Elizabeth, nee Gam, dri mab - James, William a John. Priododd John ei berthynas Ann Deere, Trelleng (“Trallwng”), yn agos i Lan Ilid. Ann, ei merch, a briododd a Edward Francis, Mwyndy Bach, a’u merch hwynt oedd Cesil, mam Thomas Morgan. (Troednodyn: 1790 Sept. 25th. BAPTISM. Cecily, daughter of Edward Francis, farmer, and Anne his wife. Llantrisant Register.) Yr oedd y Deere uchod yn hanu o’r Deereiaid o Wenvo, Penllyn, a Llwyn Onn, yn agos i Ystrad Dawen, yn awr a elwir “Ystradowen.” Manylir ar achyddiaeth ceffylau “races”; chwareu teg i achyddiaeth dynoliaeth, canys mwy ei gwerth nag eiddo mulod, yn gystal ag adar y to.

(x7) Am Llywelin a Cesil, tad a mam Thomas Morgan, yr oeddynt yn wr a gwraig heb ddim yn neillduol yn eu hanes. Yr oeddynt yn ddiwyd, cynil, ac yn ymdrechgar i fyw a thalu eu ffordd, ac hefyd yn ymegnio morio i gyfeiriad yr hafan ddymunol ar ddiwedd mordaith bywyd. Y cof cyntaf sydd genyf am eu cartref yw y dyledswydd foreuol o amgylch eu haelwyd – Llywelin yn darllen pennod o’r hen Feibl Cymraeg, ac yna pawb ar eu deulin; yna esgynai y weddi foreuol o enau crynedig fy nhadcu – canys dyna oedd y gweddiwr i mi – tuag at Dad y Trugareddau. Llawer gwaith y gwelais fy mamgu, ar ol i’r gweddiwr fyned allan at ei orchwyl, yn sychu y dagrau oddiar eisteddle y gadair fawr, ger yr hon yr oedd yr hynaws Gristion wedi ceisio siarad â’i Dduw. Saer coed oedd wrth ei alwedigaeth, a phan y cafwyd ganddo eistedd i’w “photographio” mynodd ddal ei “rule” yn ei ddeheulaw, fel y byddai hithau hefyd yn y llun. Gadawodd ar ei ol fwy na’r cyffredin o dda y byd hwn. Cof genyf y fynyd hon yw iddo ddywedyd wrthyf yn hwyrddydd ei ddyddiau,

“Gofala di am danaf dy
hunan; mae rhyw fwstwr mawr yn dy ben di.”

Codwyd Thomas Morgan yn grydd, ac, fel hyny, yn un o wyr Sant Crispyn. Pan tuag ugain oed cychwynodd yn y “grefft” fel meistr, a daeth ei enw yn adnabyddus trwy yr holl ardaloedd amgylchynol am lawer o filldiroedd. Yr oedd yn ei wasanaeth nifer go helaeth o gryddion, ac yr oedd eu gweithfa yn nodedig am ei hysbryd ymofyngar.
Yr oedd y rhan luosocaf o’r cryddion o dref hynafol Llantrisant. Yn “shop y cryddion” y ceid yr hanesion diweddaf am bob peth mewn byd ac eglwys. Yno y ceid y glec diweddaf, a’r ystoriau mwyaf digri am garwriaethau pentrefi ac ysmaldod personau o bob gradd. Ac yr oedd gweithredoedd y Rhaith, neu y Senedd, yn Llundain, yn cael eu beirniadu yn swn pwnio lledr a hoelion. Oddiyno lledaenai hanes cwrs y byd i’r ffermdai a’r bythynod o Lantrisant i Glynogwy, ac o Llan Bedr {sic – dim treiglad} ar Fynydd i Drebanawg.

Clywais Thomas Morgan yn adrodd, gan chwerthin, am Hywel Williams (“Hywel y Crydd”) yn (x8) edrych
arno yn ddifrifol un boreu pan aeth i’r gweithdy, gan ofyn iddo, “Meistr, sut y mae hi yn awr gyda Lord John?” Fel hyn yr oedd gweithdy y lledr yn fath o ffynnon o’r hon y llifai gwybodaeth trwy yr ardaloedd gwledig hyn.

Yr oedd Tonyrefail wedi bod am oesau yn nodedig am bedwar peth – ei felin lafur, ei efail gof, ei gryddion, a’i wehyddion.
Yr oedd tai y pentref wedi eu toi a gwellt, a’r muriau wedi eu gwyngalchu. Gwnaeth Mr. Evan Prichard, perchenog hen etifeddiaeth y Collena, yr hwn a fu farw Mawrth 19, 1795, ymdrech i sefydlu yn y lle weithdy gwlan a nyddu ar raddfa helaeth. Suddodd lynoedd i ddal digon o ddwfr o’r Elwy i gario yn y blaen yn gyson, haf a gauaf, y felin a’r gweithdy gwlan. Cychwynodd hefyd waith rhaffau rhawn, a gelwir y fan hyd heddyw “Y Rope-yard.” Ond daeth ei ddyddiau i ben pan tua 40 oed, ac amddifadwyd y trigolion o’u noddwr penaf, yr hwn oedd yn llafurio a’i holl allu i ddwyn masnach enillol i’w plith. Ei wraig oedd Susanna, merch hynaf Mr. Robert Thomas, o hil Llan Mihangel. Hithau a hunodd Ionawr 1, 1834, yn 86 oed. Clywais gan yr hen bobl ei gelwid hi wrth yr enw Madam Prichard. Wedi marwolaeth Mr. Evan Prichard, yn 1795, etifeddwyd y Collena gan eu mab, y Parchedig Richard Prichard, B.D., ar ol hyny ficer Llandaf. Bu farw yno yn 84 oed. Ei wraig oedd Eleanor, merch Mr. Hopkin Llywelin, y pryd hwnw yn byw yn y Pentre, Ystradyfodwg. Ar ol hyny symudodd ei rhieni i Brombil, Margam. Ei mab oedd Mr. Gruffydd Llywelin, Baglan, yr hwn a fu farw Tachwedd 6, 1822, yn 55 oed. Dwy flynedd cyn ei farwolaeth yr oedd wedi myned yn berchenog trwy gyfrwysdra o’r Parc Isa a Bwlchyclawdd, oddiar Hywel Thomas Dafydd Hopkin, tad mam tad yr ysgrifenydd. Bu gweddw Gruffydd Llywelin farw Tachwedd 9, 1840; a bu farw ei mab, Mr. Gruffydd Llywelin, Rhagfyr 6, 1888, yn 86 oed. Nid oedd plant ar ei ol. Y mae ei weddw yn awr yn fyw, ac yn hynod am ei charedigrwydd. Yr oedd Mr. Evan Prichard (1795) wedi (x9) benthyca arian gan Mr. Hopcin Llywelin (Pentre) i gario allan y gwelliantau yn nglyn a’i weithfaoedd ar Donyrefail, a bu y ddyled fel hunllef ar deulu y Collena hyd ychydig cyn marwolaeth y Gruffydd Llywelin olaf. Efe a’u “rhoddodd yn rhydd,” ac a ddychwelodd y crwyn ysgrifenedig, neu y “title deeds,” yn ol i’r teulu.

d5 / 3-03 Llanganna
Bu farw yr enwog “Jones Llangan” Awst 12, 1810, yn 75 oed. a phenodwyd y Parchedig Richard Prichard, B.D., yn ei le. Mae yn debyg ei fod yn un o’r offieiriaid hynod hyny yn Nghymru a wyddent fwy am yr ieithoedd Saesonaeg, y Groeg, a’r Lladin, nag am iaith frodorol Cymru, a’r canlyniad oedd ei fod bron yn hollol ddifudd i’r Cymry. Am ei anallu yn mhwlpud enwog Llangan y canodd Thomas Williams, Bro Morganwg, yn ei “Ddyfroedd Bethesda”: -

‘Nawr mae eglwys fach Llanganna
Wedi newid oll yn lan;
Porfa las yn awr sy’n tyfu
Ar y ffyrdd oedd goch o’r bla’n;
Muriau’r Llan oedd oll yn eco,
Yn ateb bloedd y werin fawr: -
’Does na llef {sic – heb dreiglad}, na llais, nac adsain,
I’dd ei glywed yno’n awr.

Mae’r gynulleidfa fawr yn rhanu,
Rhai’n myn’d yma, rhai’n myn’d draw;
“’Does yma,” meddant, “ddwr na bara,
Gwell ymadael maes o law;
Beth dal aros yn Llanganna
Bellach byth o hyn i maes?
Nid oes yma ddim ond tlodi,
Yn lle’r holl ddanteithion bras.”

“Dewch i rywle,” medd y Werin,
“Dewch heb ‘rofyn, dewch yn un,
Lle bo ’ffeiriad neu gynghorwr,
Nid oes fater nemawr p’un;
Peidiwch aros gyda’r meirw.
Y mae’r ddaear bron ar dan
Awn i ’mofyn Gair y Bywyd,
Fel y cawsom ef o’r bla’n.”

(x10)
GYNT!
Dyddiau hyfryd oedd y rheiny,
Pan oedd Rowland, uchel ddysg;
Peter ffyddlon, William Williams,
Llwyd a Morys yn ei {sic = eu}mysg!
Jones, fel angel o Llanganna {sic – dim treiglad}
Yn adganu’r udgorn mawr,
Nes bai’r dorf mewn twym serchiadau
Yn dyrchafu uwch y llawr.

Minau yno’n un o’r werin
(Er mai’r annheilynga ‘i gyd)
Dan y bwrdd yn bwyta’r briwsion
O! mor hyfryd oedd fy myd!
Torf yn bwyta’r bwydydd brasa’ –
Gwin a manna, nefoel faeth!
Wrth y fron ‘r’own ina’n chwerthin,
Tra’n ymborthi ar y llaeth.

YR OLWG GYNTAF ARNO.
Un o’r manau, byth mi gofia,
Gwelais i ef gynta’ i gyd,
Yn cyhoeddi Gair y Cymmod
I golledig anwir fyd;
Iesu’n marw, Iesu’n eiriol,
Diwedd byd, a boreu’r farn,
Oedd ei bregeth o flaen canoedd
Wrth hen gapel Talygarn!

EI GLADDU YN MHENFRO - SIOMEDIGAETH SALEM, PENCOED.
(Jones Llangan a adeiladodd yr hen gapel yn Mhencoed. Dyma lle y meithrinwyd yr hwyadl Deon David Howel, Ty Ddewi. Gosododd Jones golofnen bres ar ganwyllbren y pulpud yn Salem.)


“Salem, Salem, lle mae’r glomen,
Arwydd cariad, arwydd hedd;
P’am na chawsai ti’r anrhydeddd
O roi ynot iddo fedd?
P’am ca’dd Penfro’i chyfri’n deilwng?
P’am ysbeiliodd hi dy glod?
Dygodd arnat etifeddiaeth
Oedd yn gyfiawn i ti’n d’od.

(x11) Taw, na chwyna, beth sydd fater,
B’le gorwedda’i gorph i lawr?
P’un ai’n Mhenfro ai’n Morganwg
Hyd yr adgyfodiad mawr;
Corph heb fywyd, corph heb ana’l –
Dyna’i gyd sydd ganddynt hwy,
Ninau ‘i cawsom yn ei fywyd –
On’d oedd hyn yn llawer mwy?

(Gorwedd Mrs. Selina Jones, priod Jones Llangan, yn nghanol y fynwent ger y capel hwn.)

Dywedir i’r llinellau uchod achosi loes mawr i bawb o berthynasau y gwr a fu mor anffortunus ag esgyn i areithfa yr angylaidd “Jones, Llangan.” Yr oedd i’r Parch. Richard Prichard, B.D., frawd o’r enw Evan, a’r chwiorydd canlynol: - Mari, Catherine, Susanna, Ann, Elizabeth, Martha, a Deborah. Ann, Martha, a Deborah oedd “Hen Ladies” Tonyrefail. Buont fyw yn hen iawn, ac hyd heddiw eu coffadwriaeth sydd fendigedig ar Dwyn yr Efail ac yn nghalonau yr holl bobl sydd yn eu cofio, trwy yr ardaloedd amgylchynol. Canodd “Williams Pantycelyn” farwnad i Susanna.

d6 / 3-04 O’r Palasdy i’r Siop
Pan, yn y flwyddyn 1795, y bu farw Mr. Evan Prichard yr oedd rhai o’r merched yn ieuainc iawn. Yr oedd Madam Prichard, y weddw, yn wrol ei hysbryd, a chododd ei phlant yn anrhydeddus, a chofiai pob un ohonynt mai Prichard oedd ei henw, ac mai eu heiddo hwynt oedd y Collena, o Heol Llantrisant hyd Afon Elwy. Saif yr hen balasdy ar fron, yn gwynebu tref Llantrisant, pump o filldiroedd i’r deheu, ac yn amlwg o’r palasdy. Ar nosweithiau tawel deuai peraidd odlau clych y Llan gyda’r awel fwyn i’r Collena. Yn y Llan yr oedd claddfa y teulu oddiar ddyddiau eu hynafiaid, yr Arglwydd Einon ap Collwyn, mab Arglwydd Caredigion {sic = Ceredigion} a’r Arglwyddes Nest, unig ferch Iestyn ap Gwrgan, Brenhin Morganwg. Dywed Mr. Clark, Talygarn, mai teulu y Collena yn unig sydd yn bresenol yn dal rhan o’r hen etifeddiaeth a (x12) ddaeth i’w rhan yn 1093, pan ranwyd Morganwg rhwng yr estroniaid Normanaidd, ac y bu yr Arglwydd Einion yn anfwriadol yn foddion i’w dwyn i mewn i amddiffynfeydd Gwlad Morgan. Yn mhell cyn marwolaeth Mr. Evan Pritchard, Collena – enw, mae’n debyg, yn tarddu o’r enw Collwyn – yr oedd efo a Madam Prichard, ei wraig, wedi hoffi yn fawr y dull o gario yn y blaen achos crefyddol gan yr offeiriaid gwir Gymreig hyny a fuont yn gychwyniad i’r Trefnyddion Calfinaidd a elwid yn watwarus, “Methodistiaid.” Y waith gyntaf, meddai Madam Prichard yn ei henaint, iddi hi a’i gwr gael eu denu i’r ffordd newydd, ond gwir hen mewn gwirionedd, oedd ger gwal Llan Bedr ar Fynydd. Yr oedd hi a Mr. Evan Prichard ar geffylau ar eu taith ar nawn Sul o’r Collena tua thy ei thad, ger Pontyfon. Clywent “Jones Llangan” yn pregethu i dorf fawr yn y fynwent, ac ataliasant eu ceffylau. Yr oedd udgorn Llangan yn peraidd leisio am “y ffordd newydd a bywiol a agorwyd i dy Dafydd ac i breswylwyr Jerusalem.” Cawsant fod rhyw hudoliaeth yn y floedd beraidd o Langan!

d7 / 3-05 Neuadd y Collena
Cyn pen nemawr o wythnosau yr oedd ystafell Nyddu (Neuadd y Collena) yn gyrchfa pobloedd i wrando yr Efengyl yn cael ei thraddodi yn hen ddull cenedl y Cymry, cyn i’r hen Lanau gael eu halogi gan locustiaid estronol. O bryd i bryd bu yno yn pregethu, heblaw Jones Llangan, Williams Pantycelyn, Pedr Williams, Caerfyrddin, a llawer o enwogion eraill. Safai yr hen gynghorwyr ar hen eisteddle a chefn iddi. Gwnawd pwlpud o’r eisteddfa, a chodai oddiar ben ei chefn le cyfleus i ddal y Beibl, a dwy fraich o bres i ddal y canwyllau, un bob ochr iddo. Ffurfiwyd cyfrinfa (“society”) yno, a bu sain rhodau gwlad y gwawl am flynyddoedd yn aml yr ys ystafell Nyddu bendefigaidd hon. Yr oedd un Dafydd Evans a Bess, ei wraig, yn bobl ieuainc yn aelodau yno. (x13) Mae’n ddigon tebyg mai pan ar hyd y ffordd tuag at ac o’r Collena y syrthiasant, yn ddiarwybod iddynt ei hunain, i hoffi cyfeillach eu gilydd. Yn mhen ychydig o amser methasant a byw yn hwy ar wahan, a hwy a briodasant, doed gwell neu waeth. Y ddau hyn oedd rhieni

d8 / 3-06 Y Parch. William Evans,
yr hwn a wnaeth Tonyrefail yn adnabyddus trwy holl gylchoedd y Trefnyddion trwy Gymru. Ehedodd ei enaid tros yr afon rhwng y ddau fyd Chwefror 5, 1891; ganwyd ef yn Ebrill, 1795.
Yr oedd yn arfer canu yn ei henaint –

“Megys llestr hen a drylliog.”

Fe welir ei fod o fewn tua mis i gyrhaedd ei naw deg a chwech oed pan hunodd yn y fuchedd hon. Yr oedd wedi bod yn pregethu oddiar 1814. Yr oedd o ddigon y gwr mwyaf amlwg yn yr ardal trwy ei oes. Yr oedd llygaid pawb
arno, ac felly, fel gorsedd y teyrn, yn nghanol y fath oleuni buasai’n hawdd canfod y brycheuyn lleiaf ynddo. Ond bu fyw ei oes hirfaith a’i gymmeriad yn wyn, ac nid oes ond byd gwyn wedi ei ddarpar i’w fath tudraw i’r llen. Tua dwy flynedd cyn ei farwolaeth cyfarfyddais ag ef ar Heol-y-Collena, yn agos i’w dy. Ebe fe, yn ei lais soniarus, “Yr oedd dyn i lawr yna yn gwed wrtho i, ‘I chi’n myn’d yn hen, Mr. Evans.’ Dywedais yn ol, ‘Nag wyf fi, y chi sy’n “myn’d” yn hen; yr wyf fi “wedi” myn’d yn hen!’” Mae hyna yn gystal enghraifft a dim o’i ddull byrbwyll ac ysmala. Yr oedd ei lais i ni mal sain addoliad. Dyn byr, tua phump a saith o ddaldra. Yr oedd ei ben yn orchuddedig a thoraeth o wallt mal eira. Ni chafwyd ganddo ei droi, ond torai ef o amgylch ogylch ei ben, a chruchai uwchben ei dalcen. Yr wyf yn cofio yn dda y syndod trwy y lle pan gafwyd ei fod wedi boddloni gwisgo “trousers” yn lle “breeches” penglin ag oedd yn y ffasiwn yn ei ddyddiau boreuol. Gwelir ei fod hyd y diwedd yn Buritaniadd iawn yn ei syniadau.

(x14) Ond i ddychwelyd. O herwydd gwahanol achosion, natur pa rai a wel y darllenydd oddiwrth yr hyn a ddywedir am ymdrechion clodwiw Mr. Evan Prichard (1795), nid oedd pethau yn llewyrchus ar sefyllfa dymorol y weddw wedi iddi golli ei gwr. Gwnawn gyfyngu ein sylwadau at y weddw a’i merched Ann, Martha a Deborah. Ymbriododd Martha ag un Mr. Jones, bragwr, Pontypridd, a Deborah a Mr. Thomas, Pentwyn, Pentyrch. Aeth Mr. Jones ar goll, ac ni wyr neb beth a ddigwyddodd iddo. Symudodd Madam Prichard ac Ann, ei merch, i bentref Tonyrefail, i dy wedi ei adeiladu gan y Parch. Richard Prichard, B.D., iddynt. Symudasant yr hen bwlpud o’r Collena fel y symudwyd yr Arch i dy Obed Edom. Mae’n bosibl y ceir rhyw “phonograph” heb fod yn hir i wneyd i’r hen bwlpud hwnw i adrodd yr hyn a lefarwyd
arno gan y tadau hen! Y mae’n bresenol yn nhy William Bevan (Treharne), yr ochr arall i’r heol o’r fynwent o flaen y capel. Bu am o leiaf drugain mlynedd yn eisteddle pregethwyr teithiol y Corph a hoffent fygu y tobacco yn nhy “yr Hen Ladies.”

Codwyd capel bychan yn ymyl ty Madam Prichard a Miss Ann ei merch, a chlywais i fy anwyl fam adrodd, ar foreu agoriad yr ail gapel o flaen y gynulleidfa, yr ail bennod o Lyfr Zachariah – “Dyrchefais fy llygaid drachefn, ac edrychais; ac wele wr, ac yn ei law linyn mesur, a dywedias, i ba le yr ai (sic; = ei)
di,” &c. Ymadawodd a’r fuchedd hon pan oedd yr ysgrifenydd yn blentyn bach, ond dywedai ei chydnabod ei bod yn un o’r serchusaf a’r brydferthaf o’r merched. Elai Madam Prichard bob boreu wrth ei ffon i weled Cesil, a dywedai yn aml, “Yr wyt ti o’n gwaed ni.” Yr oedd Cesil yn lled falch o hyn hyd diwedd ei hoes. Chwareu teg iddi. Pwy na fuasai yn falch o fod yn berthynas i’r foneddiges hon, yr hon gododd allor addoli ar Dwyn y Ton yn yr amser pan yr oedd Philistiaeth yn llywodraethu yn Nghymru?

Cychwynodd Miss Ann Prichard faelfa, neu shop, yn y ty newydd, a chadwodd yn y blaen hyd y flwyddyn 1853.
Yr (x15) oedd yn un o flaenoriaid Penuel, capel y Trefnyddion, Pontypridd. Yr oedd yn deall cerddoriaeth emynol yn dda, ac yr oedd pan yn ieuanc, ac hyd ganol oed, yn arweinydd y canu yn Nghapel y Corph ar Donyrefail. Yr oedd rhaid cael yr “high-dry” goreu a’r “Queen’s,” a mynai Mrs. Deborah Thomas eu cymysgu a “rappee.” Yr wyf yn gwybod yn dda, canys mi a’u cymysgais yn aml iddi hi. Wedi marwolaeth Mr. Thomas, Pentwyn, dychwelodd Mrs. Deborah yn ol i’r Ton, ac yr oedd ei thy bychan, prydferth yn sefyll lle y saif yn awr ystafell isaf y Boar’s Head, arwyddlun pais arfau Einion ap Collwyn. Priododd Miss Ann Prichard a Mr. Evan Thomas o’r Rhiw, cyn bo hir wedi marwolaeth Madam Prichard yn 1834. Cariai fasnach mewn hadau hau, megys gwenith, ceirch, haidd, &c. Yr oedd yn wr a geisiai wneyd y goreu o’r ddau fyd, ac yr oedd yn mhell o ganu, “Gadawn y byd ar ol,” &c. Ymddygai fel dyn call, gan gredu fod amcan gan Dduw wrth ei anfon i’r byd hyfryd hwn yn gyntaf. Tra fu’r shop gan y teulu ni elai un gwrryw i mewn heb dynu ei het ar y trothwy. Clywais Cesil Morgan yn dywedyd i Mrs. Ann ofyn iddi unwaith ar foreu Llun yn y shop, “Pa le y prynaist di y ‘shawl’ oedd genyt ti yn y cwrdd y ddoe?” Chwarddodd Cesil, a gofynodd, “Ai dyna yw eich gwaith chwi yn y capel, ie fe – edrych ar wisgoedd pobl?” Ond teimlai Cesil byth ar ol hyny ei bod wedi bod yn feiddgar ofnadwy wrth siarad fel y gwnaeth hi y tro hwn.

Yn y flwyddyn 1853, wedi marwolaeth Mr. Evan Thomas, trosglwyddodd Shop y Ton i Thomas Morgan, ac ni chai neb arall y dyddiau hyny agor siop arall ar stad y Collena. Yr oedd hyny wedi bod yn ddeddf mai y shop hono yn unig a gai fod ar yr etifeddiaeth. Adeiladodd Thomas Morgan dy mawr newydd, cyfleus i’r shop, ac y mae y shop yno hyd heddyw. Cof genyf, pan oedd y ty newydd yn cael ei (x16) adeiladu i’r hen wr hynod Mr. Evan Morgan, perchenog Ty’n y Cymmer, Talchan (Tylcha), &c., grio allan am i Thomas Morgan ofalu am i’r simneiau fod yn ddigon uchel i “Wyr Bryste" - gwerthwyr lledr - “eu gweled.”

Yn mlodau ei ddyddiau yr oedd Thomas Morgan yn un o'r dynion mwyaf hoew a diwyd; yr oedd yn bendefigaidd, yn ddirodres, yn yr heolydd, ac yn llawn o arabedd yn ei dy. Yr oedd ar ei gof lawer iawn o ystoriau am a fu yn yr ardaloedd amgylchynol yn hanes personau a theuluoedd. Ar gais yr ysgrifenydd, ysgrifenodd yn hwyr ei ddydd ychydig o’i adgofion. Cof genyf am dano yn "dechrau'r canu" yn y capel, yr unig un y pryd hwnw ar Donyrefail. Y mae y capel presenol y trydydd a adeiladwyd. Yr oedd gwedd urddasol ar ail deml Tonyrefail. Yr oedd y tair "Hen Ladies” ag anian gref eu dygiad i fyny pendefigaidd yn eu nodweddu, yn cyfleu i wedd fewnol dodrefn y capel eu chwaeth goethedig. Y mae yr hanesyn canlynol a glywais gan Thomas Morgan yn enghraifft o’u chwaeth goethedig. Un noson seiat yr oedd y Parch. William Evans yn llefaru am ddarpariaethau Duw i ddynoliaeth. Lluniaeth o bob amrywiaeth; gwlan y defaid i’w cynhesu, &c. Yr oedd Mrs. Deborah a’i chorn wrth ei chlust yn gwrando ar y llefarwr, ond traethu am ddiwalliad corph yn unig a wnelai Mr. Evans y waith hon. “Ie,” ebe Mrs. Deborah, “a blodau a phethau felly i'w mwynhau.” “Hawyr, hawyr" ebe fe yn ol, “dyma hi wedi myned heibio i mi i rywle!” Yna, yn ei ddull ffraeth a pharod, esgynodd i ganol y darpariaethau a welir i ddiwallu yr archwaeth sydd yn gofyn am y tlws, yr hardd, a’r prydferth a deimlir yn yr enaid. Heblaw blodau a lliwiau, llefarodd am ogoniant yr wybren nos a dydd. Peroriaeth yr awel, si cornentydd, rhuad y mor, miwsic y corau asgellog, toriad mawreddog y dydd, ac agor dorau y wawr, a chodiad yr haul, heb ddihuno yr un baban a’u trwst. Heneiddiodd Thomas Morgan yn fawr ar ol iddo gyrhaedd ei saith deg oed, ond yr oedd ei yni yn parhau wedi i beiriant ei gorph lacau yn ei rym. Aeth yn hen heb feddwl (x17) ei bod yn hwyrhau arno. Yr oedd ei hen gydnabod, Mr. Evans, wedi dechreu pregethu flwyddyn cyn ei eni ef, a ph’am na allai yntau hefyd fyw mor hen a Mr. Evans? Arwyddion cyntaf fod ei oes ar y ddaear yn tynu at ei therfyn oedd gwendid ei galon. Yr oedd ei liw yn myned yn llwyd, a phan gynhyrfai ei ysbryd crynai ei wefusau ychydig; ond yr oedd o ran gallu meddyliol mor ieuanc a buan ag erioed. Tebygol yw y dylasai ymdrin a’r byd yn fwy hamddenol, ond yr oedd beunydd am gyrhaedd rhyw nod. Ond yr oedd ei ddyn oddimewn megys yn ei rybuddio yn ddistaw fod y terfyn yma yn agos, a mynych y clywais ef yn ei fisoedd olaf yn coffa sylwadau’r Apostol Iago: (4:12) “Un gosodwr cyfaith sydd, yr hwn a ddichon gadw a cholli. Pwy wyt ti yr hwn wyt yn barnu arall? (4:13) Iddo yn awr, y rhai ydych yn dywedyd, Heddyw neu yfory ni a awn i gyfryw ddinas, ac a aroswn yno flwyddyn, ac a farchnattawn, ac a enillwn; (4:14) y rhai ni wyddoch beth a fydd y fory. Canys beth ydyw eich einioes chwi? canys beth ydyw, yr hwn sydd dros ychydig yn ymddangos, ac wedi hyny yn diflanu. (4:15) Lle y dylech ddywedyd, Os yr Arglwydd a’i myn, ac os byddwn byw, ni a wnawn hyn, neu hyny,” iv., 12-15. Bu yn briod yn dair gwaith. Ei wraig gyntaf oedd Rebecca, merch Hywel Hopcin a Mrs. Hopcin, Caerlan, Tonyrefail. Hi oedd mam ei dair merch, Catherine, Margaret, ac Ann. Priododd y gyntaf Mr. Hugh Begg, genedigol o ardal Ayr; yr ail a briododd Mr. John Evans (“Ab Dewi Haran”) {hynny yw, mab Dewi Haran; David Evans oedd Dewi Haran, 1812-1885, aelod o ‘Glic y Bont’, carfan o feirdd o ardal Pont-tÿ-pridd}; a’r drydedd Mr. John Crooke, South Knoll, Norwood. Ei ail wraig oedd Caroline Thomas, gweddw un Isaac Thomas, Pontypridd (ei henw achyddol oedd Anthony); ei drydedd wraig oedd weddw un o’r enw Mr. Smart.

d9 / 3-07 Dylanwadau Boreuol Ei Oes
Yr oedd yn un o flaenoriaid Penuel, capel y Trefnyddion, Pontypridd. Yr oedd yn deall cerddoriaeth emynol yn dda, ac yr oedd pan yn ieuanc, ac hyd ganol oed, yn arweinydd y canu yn Nghapel y Corph ar Donyrefail. Yr oedd (x18) yn mlodeu ei ddyddiau yn hynod am fywiogrwydd ei symudiadau a boneddigeiddrwydd. Clywais ei dad yn adrodd i Mr. Harris, y cyntaf o Drefeurig, ddywedyd am Twmi fel hyn: “Llywelin, wn i yn y byd o b’le mae Twmi, eich mab, wedi d’od; mae gwaed brenhinol ynddo, yn ol fy meddwl i.” Fy marn i am dano yw hyn: pe buasai wedi cael addysg golegawl, ac wedi mynd allan o’r unigrwydd pentrefol yn ieuanc, y buasai wedi dwyn toraeth o ffrwythau meddyliol. Medrai adrodd chwedlau am bersonau yn gampus. Yr oedd ei gof yn orlawn o adgofion am hynodion hen bregethwyr teithiol y Methodistiaid, a chofiai lawer o’u sylwadau mwyaf arabol. Pan yr oedd yn ieuanc yr oedd Methodistiaeth ar Donyrefail yn ei gwedd fwyaf Pengrynol, hyny yw, Puritanaidd. Yr oedd ochain a gruddfan, yn ol barn yr hen dadau a’r mamau yno, bob amser yn cyd-deithio a gwir dduwioldeb; ac yr oedd, ar y llaw arall, chwerthin, ysmaldod, a bywiogrwydd yn arwyddion nad oedd yr hwn a’u harferai wedi ei “ail eni.” Yr oedd dull y canu Cynulleidfaol yn bwyllog ac araf, fel symudiadau neu sigliadau cawell i fagu babanod yr ail enedigaeth. Yr wyf yn cofio yn dda y “syndod” yn mhlith yr hen dadau ar Donyrefail pan ddaeth “Hanes Bywyd ‘Siencyn Penhydd’” allan o’r wasg, wedi ei gyfansoddi gan yr anwyl a’r gwir hybarch Edward Matthews, y pryd hwnw o’r Ewynwy, ger Penybont. Yr achos o’r “syndod” oedd fod Mr. Matthews yn “gallu bod mor ysgafn” ag i ysgrifenu digrifwch o’r fath! Gwnaeth y llyfr gymaint o argraff braidd ac ymddangosiad cyntaf y Parch. William Evans mewn “trousers” yn lle y “breeches” penyglin. Cof genyf fod “Caledfryn” i draddodi darlith ar Donyrefail. Bu yn destyn seiat, pa un a oedd yn unol a’r Efengyl iddo ddarlithio o fewn y capel. Yr oedd Mr. Evans yn amheus am hyn. Ond yr oedd “Caledfryn” yn boblogaidd fel gweinidog a bardd trwy holl Gymru, ac yn y diwedd penderfynwyd y c’ai ddarlithio yn y capel, ond nid oedd i fyned i’r pwlpud. Daeth y noswaith i “Caledfryn” i ddarlithio; yr oedd y capel yn orlawn. Daeth “Caledfryn” i (x19) mewn, ac aeth ar ei union i fyny’r grisiau i’r pwlpud er i’r blaenor, Morgan Evan (Morgan y Gof) - gwr hynod am ei wedd Buritanaidd a difrifol – wneyd awgrym i’r bardd-bregethwr fod y pwlpud yn waharddedig y noson hono. Mae’n debyg fod Morgan yno ar y pryd fel amddiffynydd neu warcheidwad santeiddrwydd dihalogedig cyssegr Tonyrefail! Edrychai Morgan i fyny ar ol “Caledfryn” fel un yn dysgwyl gweled taranfyllt y ddeddf yn fflachio o bob cyfeiriad tuag at hen “Caledfryn”! Ond nid oedd yno ond tangnefedd. Canfyddwyd Morgan yn codi ei ddwylaw, a chan edrych yn surllyd ar lawr y sedd fawr, a chlybuwyd ef yn sibrwd wrtho ei hun: “Wel, wel! (ochenaid) wn i yn y byd ffordd mae gwynebu William Evan!” Nid oedd Mr. Evans ei hun wedi dyfod i’r cyfarfod. Yr oedd gwisgo blodau o un math yn y byd gan lodesi – am y gwragedd, nid oedd neb o honynt hwy mor ysgafn a gwneyd y fath beth – yn arwydd o uchelder ysbryd a balchder yn y galon, a chynghorid hwy i “feddwl am eu diwedd.” Yr oedd ein hynafiaid yn y cyfnod hwn yn hanes Cymru, megis wedi datgysylltu duwioldeb a’r tlysau anianol oddiwrth ei gilydd. Rhoddent wedd alarus ar addoliad, gan ymddwyn fel rhai yn golygu y buasai Duw yn fwy doeth pe buasai wedi creu llai o flodau a mwy o datws! Yr ydym yn canfod ol llaw Duw ei hun yn addurniadau gogoneddus y ddaear a’r wybrenau. Mae y prydferthion nefolaidd, o lygaid y dydd i fyny at yr haul a’r lloer a’r ser, wedi eu creu i ddiwallu y sychod eneidiol sydd wedi ei osod yn yr enaid am brydferthwch, harddwch, tlysni, a hyfrydwch. Mae’r enaid yn anfarwol, ond derfydd y corph o ran ffurf a chydag ef y chwaeth am fwydydd. Cenadon o fyd yr eneidiau yw blodau a’r prydferthion eraill, i lawenhau yr enaid pan ar ei bererindod yn y corph. Gollyngir ef yn rhydd yn y man – “Anngheuir” ef – a gwna drigo mwy yn myd genedigol y blodau. Fe welir oddiwrth y sylwadau uchod pa beth a olygai yr hynafiaid wrth addurno gwely marw a lleni gwyn, blodau, byth-wyrddion, gan osod ar eu heirch (“coffins”) dorchau o flodau. Yn bwyllog iawn y daeth Thomas Morgan (x20) allan o’r cylch Pengrynol, i weled fod tlysni anianol yn rhan o ddarparieth y Crewr gyferbyn a gwir ddedwyddwch benywod a gwyr yn y fuchedd bresenol.

Cyfaill eglwysig penaf Thomas Morgan yn ei amser olaf ar y Ton oedd Bili Lewis, Rhiw Gwyon Dro Fawr. Yr oedd y Parch. William Evans ugain mlynedd yn henach ag ef, ac ni fu erioed gyfeillgarwch agos iawn rhwng y ddau. Yr oedd yr holl ardalwyr yn falch o Mr. Evans, gan edrych arno fel un o brif addurniadau, nid yn unig Morganwg, ond holl Gymru. Edrychai, yn ddiau, ar y rhai hyny a welodd yn blant pan oedd yn anterth ei nerth corphorol, meddyliol, a phregethwrol, gydag ysbryd tadol, yn cynwys awdurdod a nawddyddiaeth. Yr oedd Thomas Morgan bob amser yn hynod o deimladol yn nghylch barn a’r hyn a ddywedai y Parch. William Evans am dano. Bu siampl Mr. Evans a Mr. Evan Thomas, gwr o’r Rhiw, a ymbriododd a Miss Ann Prichard, Shop y Ton, yn bortreadau (“models”) o flaen ei feddwl yr hoffai eu hefelychu. Ond er i Mr. Evans fyw i fod yn ymyl bod yn “fab can’ mlwydd,” yr oedd yn ffraeth ac yn ieuanc ei ysbryd hyd yn agos i ddydd er farwolaeth.


d10 / 3-08 Dyddiau Olaf Thomas Morgan
Fel yr awgrymwyd yn barod, yr oedd ei ymddatodiad yn dra sydyn. Ychydig fisoedd cyn hyn dywedodd Dr. Hunter wrthyf yn gyfrinachol fod gwendid yn nghuriadau calon fy ewythr, a bod yn ofynol iddo fod yn ofalus o hono ei hun. Awgrymais yn union i’r claf y dylai gymweryd pethau yn hamddenol. Dydd Gwener yr oedd, er yn teimlo yn llesg, wedi myned gyda’i ddwy wyres, Mary a Rebecca, merched Margaret, ei ferch ymadawedig, tua Chaerdydd, i wrandaw Ardalydd Bute yn traddodi darlith yn Neuadd y Parc. Wedi dyfod allan o’r cyfarfod dywedodd wrth Mr. James Richards, Trefforest, ei fod yn rhynu gan oerni, ac yr oedd yn welw iawn ei wedd. Cymerodd ychydig o frandi. Dychwelodd gartref, a gwelais ef y noson hono ar ei ledorwedd ar y soffa, a (x21) dywedodd ei fod yn lled anhwylus, a mynegodd am ei deimlad oer yng Nghaerdydd. Nos Sul nid oedd yn ei le arferol yn Nghapel Penuel. Yr oedd Rebecca, ei wyres, yn fy ymyl, a dywedodd wrthyf ei fod heb godi o’r gwely y dydd hwnw. Yr oedd hyny yn brawf i mi ei fod yn wael iawn. Es i fyny i’r Fron ar ol y cyfarfod; yr oedd ei anwyl chwaer, Mari, yr hon a’i haner addolai, yno yn bryderus iawn yn ei gylch. Es i fyny i’w ystafell wely, a gofynais, “Beth sydd yn bod?” Atebodd o’r gwely, “Yr w’ ’i wedi cael anwyd seriws, ond y mae yn addfedu. Pan es,” ebe fe, “i ymweled ag Evan Roberts, Merthyr,” hen gyfaill a fu yn ysgolfeistr ar Donyrefail, “cefais ef yn eiddil yn ei wely. Yr w’ ’i bron credu fy mod i’n debyg i’r sefyllfa ag y ces e’ ynddi; ond bu e’ farw.” Gofynais a gawn i fyned i gyrchu y meddyg ato. Cododd ei lais yn lled anfoddog, gan ddywedyd, “Na chai, siwr. ‘Does arno i ddim ond anwyd.” Ond O! yr oedd yn Rhosydd Moab. Yr oedd yr Iorddonen yn agos, ond bod trugaredd wedi taenu niwl mal llen wen drosti. Nos Fawrth yr oedd yn fwy sal, a’r meddyg yn awr yn gweini arno. Dydd Mercher yr oedd yn fwy gwanaidd fyth, ac yn analluog i symud yn ei wely heb gymorth. Pellebrwyd am Ann o Lundain; yr oedd Catherine yno yn barod. Bu mynediad Ann i’r ystafell yn foddion i’w loni yn fawr iawn. Erbyn hyn yr oedd son ei fod yn wael iawn wedi lledaenu yn mhell ac agos. Yr oedd yn nghanol ei anwyliaid. Gyda’r wawr boreu dydd Gwener cymerodd bronfraith ei lle ar bren gwyrdd tal ar gyfer ffenestr ei ystafell, a chanai ei alaw wanwynol yn hynod o beraidd a soniarus. Edrychai yr ysgrifenydd trwy y dellt ar yr aderyn yn pyncian ei orfloedd orfoleddus, a gwnelai gofio llinellau prydferth Dafydd ap Gwilym:-

“Y ceiliog serchog ei son,
Bronfraith dilediaeth loywdon;

Ba ryw ddim a fu berach
Blethiad na’i chwibaniad bach,

Pell y clywir uwch tiroedd,
Ei lef o’i lwyn, a’i loyw floedd.”

(x22) Clywai y cystuddiedig odlau yr aderyn. Yr oedd fy ewythr yn hoff iawn o beroriaeth, a phan oedd efe yn swn yr afon rhwng y ddau fyd wele un o adar pereiddiaf “Cymru fynyddig”

“Yn chwiban fel cloch aberth,
Eurgan bwnc organ y berth”

megis i’r enaid oedd ar groesi i’r orphwysfa, i

“Ardal lonydd yr aur delynau.”

Yn foreu Sadwrn yr oedd amlygrwydd fod y terfyn daearol gerllaw. Aeth ei ddwy ferch, ei ddwy wyres, a’i chwaer i ymyl ei wely. Clywyd ef yn sisial, “Trowch fi tua’r south.” Beth oedd hynny? Onid tua chyfeiriad haul canol dydd? Gofynodd yn awr, yn ei hen ddull, “Paham yr ydych chwi’n tywyllu y room?” Yr hyn oedd ddaearol o hono ef oedd yn ymaros ar ol y tuyma {sic} i’r afon; yr oedd ef yn niwl tew yr afon, ac ni threfnwyd i lygaid anianol i weld drwyddo. Ond cafodd gipdrem eilwaith ar ei anwyliaid o’i amgylch; yna gofynodd, “B’le mae’r llall?” Tebygol mai am ei wyres, Margaret Crooke, yr hon oedd gartref yn Llundain, y gofynai. Agosodd Mari, ei chwaer, at ei ymyl, a llefodd allan, “Dyma Mari, dy chwaer.” Mewn llais difrifol dywedodd yn awr, “Hush! hush! hush!” Dyna ei eiriau olaf. Yr eiliad nesaf ehedodd ei ysbryd i’r tragwyddol fyd i fyw! “Hush!”

“O! distewch, derfysglyd donau.”

Y mae ei “Hush!” pan ar drothwy y byd sydd yn anweledig i ni yn awr yn awgrymiadol. Ai clustfeinio yr oedd o herwydd sain caniadau llu mawr yn ei gyrhaedd, a phob un yno yn gwisgo coron ac yn cario’r palmwydd gwyrdd. Pwy a wyr? Dichon mai gweled “y Brenhin yn ei degwch” a wnaeth yr eiliad hono. Llawer gwaith y canodd yn ei fisoedd diweddaf “Y Delyn Aur.” Yr oedd brwdfrydedd yn ei lenwi wrth ganu y geiriau –

“Yno caf fi ddweyd yr hanes,
P’odd {= pa fodd) y dringodd eiddil gwan,
Trwy afonydd a thros greigydd
(x23) Dyrys, anial, aeth i’r lan;
Iesu ei Hunan
Gaiff y clod trwy eitha’r nef.

Nid oes yno ddiwedd canu,
Nid oes yno ddiwedd clod,
Nid oes yno ddiwedd cofio,
Pob cystuddiau fu yn bod;
Byth ni dderfydd
Canmawl Duw yn nhy fy Nhad.”
 
d11 / 3-09 Llythyr Oddiwrth Thomas Morgan
Derbyniais y llythr canlynol oddiwrth Thomas Morgan, dyddiedig Mehefin 28, 1879: - “Mi glywais fod y Parch. D. W. Williams, Fairfield, wedi ymweled ag Evan Evans a Mrs. Evans, Garthgribin, amryw o weithiau yn ystod y misoedd olaf cyn marw Evan, a’i fod yn dweyd wrth ddyfod oddi yno ei fod wedi bod yn gwrando dwy bregeth o’r mwyaf effeithiol – eu bod yn cael eu traddodi megis ar drothwy y nef. Hen wr a hen wraig, y ddau yn ddall er’s blynyddoedd, oedd yn eu traddodi. Bod Mr. Williams yn wylo yn hidl pan yn ailgoffa eu cynghorion iddo ef.”

d12 / 3-10 Y Parch. William Evans a Hawliau Merched i Bregethu
Rai blynyddoedd cyn ei farwolaeth yr oedd cynhwrf yn mhlith y Methodistiad yn Morganwg yn nghylch y priodoldeb o adael merched bregethu. Yr oedd Cyfarfod Misol yn Nghapel Sion, Talygarn, Llantrisant, ac yr oedd yr hen batriarch anwyl o Donyrefail yno ac yn cael sylw a pharch mawr, fel a roddid gynt i’r Apostol Ioan yn ei henaint gan Eglwys Ephesus. Yr oedd achos y merched a phregethu gerbron. Yr oedd Mr. Evans o fewn y sedd fawr, ac yn gwrando yn astud ar y ddadl. O’r diwedd gofynwyd iddo ef draethu ar y mater. Cododd, ac meddai, mewn llais a’i nodau rywle rhwng chwerthin ac wylo, “Wel, wel, ’does genyf fi ddim llawer i’w ddywedyd ar y pwnc – ai priodol yw i ferched bregethu o’r pwlpud; ond hyn a wn i – y ceiliog ac nid yr iar a wnaed i ganu; creadur lled afrosgo yw iar i ddynwared y ceiliog yn canu.” Aeth yn chwerthin mawr trwy y lle, ac yn nghanol y rhuadrau eisteddodd yr henafgwr i lawr.


(x24)
{FFOTO: Y diweddar Thomas Morgan yn ei henaint}

(x25)
(4) ADGOFION AM DONYREFAIL
GAN THOMAS MORGAN EI HUN

“Os bydd gwr marw, a fydd efe byw drachefn? Disgwyliaf holl ddyddiau fy milwriaeth, hyd oni ddelo fy nghyfnewidiad.” – Job xiv., 14

“Canys pan ddel ychydig flynyddoedd yna mi a rodiaf lwybr ar hyd yr hwn ni ddychwelaf.” – Job xvi., 22

d13 / 4-1 Llith 1
TONYREFAIL YN YR AMSER GYNT - CIPDREM AR “JONES O LANGAN” - MABSANT LLANBEDR AR FYNYDD - TORF YN CADW GWYL - HEN DAFARN Y TON - YSBRYD ANNIBYNOL YR HEN DRIGOLION.

Fe ddichon nad annyddorol gan luaws ychydig benodau yn nghylch Tonyrefail, a manau ereill yn mhlwyf Llantrisant, a ddygwyddasant yn ystod y deng mlynedd a thri ugain diweddaf. Ar Donyrefail y’m ganwyd, ac yr wyf yn cofio yn dda am lawer o bersonau, a dygwyddiadau hynod ddyddorol yno yn ystod y cyfnod hirfaith o ddeng mlynedd a thri ugain. Pan wyf yn cofio sylwi gyntaf, nid oedd Tonyrefail ond pentref bychan gwledig ar ochr yr heol rhwng Llantrisant a Glynogwy. Yr oedd yr ychydig dai yn isel, ac wedi eu toi o wellt, yr hwn a ymddangosai pan yn newydd yn euraidd o dan belydrau yr haul. Yr oedd y parwydydd wedi eu gwyngalchu o fewn ac allan. Yr oedd i’r bwthynod erddi prydferth, ac yr oedd yr holl drigolion yn codi blodau, ac hefyd wenyn, can pa rai, er fy mod yn mawr ofni y cantorion pigog, a’m llonai pan oeddwn (x26) ond plentyn a “phinafore” gwyn o’m blaen. Yr oedd yr heol drwy ganol y pentref yn hynod o lan. Ac yr oedd hyny cyn i’r gwahanol fyrddau cyhoeddus ddyfod i fodolaeth. Nid oedd nifer y trigolion yn cartrefu o fewn y pentref ond o dri ugain i bedwar ugain. Yn awr y mae yno tua 1,500. Yr oeddynt oll yn gyfarwydd a’u gilydd, ac hefyd ag hanes y naill a’r llall. Ac ambell waith byddai ystori ddigri, ac ambell i glec, yn gwefreiddio yr holl ardalwyr syml a dirodres. Megis yn y dechreu yr oedd yr awr hono; ond yr oedd gwaith y Dinas wedi dechreu tua thair milldir i’r gogledd oddiyno, ac yr oedd ei ddylanwad yn dechreu cael ei deimlo yn ein hardal y pryd hwnw. Y gwir am dani yw, yr oedd yr hen drigolion yn lled ragfarnllyd tuag at y glowyr, a phan ddeuai ambell un o weithwyr ieuainc Mr. Walter Coffin i lawr o’r Dinas i edrych am enethod prydferth yr ardal, gwnai yr hen famau edrych yn gilwgaidd arnynt. Ond daethant yn fwy cyfarwydd a’u gilydd wedi hyny, ac yn mhen tipyn gwelid bechgyn llenyddol ac ymchwilgar y Dinas wrth fyrddau te y trigolion yn mwynhau “daionus bethau” yr hen deuluoedd. Ie yn siwr i chwi, wedi hyny aeth rhai o ferched y Ton i breswylio “er gwell ac er gwaeth, er tloted ac er cyfoethoced,” o dan yr un groglwyd i ardal y Dinas.

Yr oedd y Ton dri ugain mlynedd yn ol yn un o’r pentrefi mwyaf cyfleus; yr oedd y lle yn fath o “golony” bychan, a phob peth ynddo at wasanaeth dyn. Yr oedd yno felin yd; yr oedd yno weithdy gwlan, a gwneid yno frethynau a gwlaneni o bob math; a maelfa gof. Mae yn debyg mai am hyny ei enwyd yn Dwyn yr Efail. Yr oedd yno hefyd deilwriaid, seiri, a chryddion, a siopau – un ar y Ton, a’r llall yn mhlas Abernodwydd, a thua haner milldir oddiwrth ei gilydd. Yr oedd yno hen dafarn hir wedi ei doi a gwellt; yr oedd yr hen dafarn mor henafol, fel yr oedd ei furiau fel coesau hen wr yn dyoddef oddiwrth glefyd y giau, a elwir yn Saesneg yn “rheumatism,” yn ymddangos yn lled adfeiledig. Yn hwn y cynelid “Clwb (x27) Benefit,” ac yr oedd yn cynwys of {sic; = o} 120 i 140 o aelodau, wedi dyfod yn nghyd o wahanol fanau, filldiroedd o gwmpas. Yr oedd yr holl ffarmwyr drwy yr holl ardaloedd amgylchynol yn aelodau o hono; a thrwy eu hesiampl dda, yn dylanwadu yn llesol iawn ar bobl llai ffodus na hwy eu hunain. Yr oedd “rope yard” wedi bod yno ger glan yr afon rhyw amser; ond y mae yn debyg, o herwydd nad oedd angen rhyw lawer o raffau ar wyr y wlad hono, rhoddwyd heibio gwneud y pethau hyny ar y Ton.

Yr wyf yn cofio sylwi yn foreu fod pawb ar y “Ton” yn byw, fel y dywedir, arnynt eu hunain. Edrychid gan y trigolion ar fyned at y plwyf am elusen yn warth mawr iawn. Ymddangosai pawb fel yn byw yn ddedwydd yno, megis heb dlawd na chyfoethog, ond pobl pendefigaidd y Collena, yn eu plith.

Saif Tonyrefail ar lethr uwch gwastadedd afon Elwy, rhwng Craig y Dinas a Mynydd y Rhiw, ac yn mhen uchaf plwyf Llantrisant, a rhyw bymtheg milldir o Gaerdydd, a phump o Bontypridd. Ychydig i’r gogledd-ddwyrain o’r pentref y mae tarddle afon Elwy, neu “y Lai,” fel y gwelir hi ar lafar gwlad. Arllwysa yr afon hon i’r mor ger Penarth. Pan oeddwn yn ieuanc, deuai eogiaid gleision i fyny hyd y lle hwn yn amser llifogydd. Ond erbyn hyn, maent wedi cael cymaint o ofn y llwch a’r surni a red o’r gweithfeydd glo ag oedd ar yr hen bobl ddiniwed gynt ofn glowyr y Dinas! Gobeithio y gwna yr eogiaid a’r gleisiaid newid eu barn am bethau, fel y gwnaeth yr hen bobl, ac y deuant eto yn llu arianaidd i ffrydiau ac aberoedd yr hen Elwy anwyl!
Perchenogion yr etifeddiaeth ar ba un y saif Tonyrefail ydoedd teulu henafol a phendefigaidd Prichard, Collena. Nid oes neb yn gwybod oddiar pa gyfnod y mae y teulu hwn yn berchenog ar yr etifeddiaeth hon. Mae achos crefyddol y Methodistiad wedi ei sefydlu yma er’s tua cant a deg ar hugain o flynyddoedd. Dechreuodd y Methodistiaid yma mewn canlyniad i ddylanwad yr enwog (x28) Jones o Langan wrth bregethu ar Mr. a Mrs. Prichard, tad a mam y diweddar beriglor Prichard, ficer Llandaf, yr hwn a gymerwyd o’r fuchedd hon ychydig o flynyddoedd yn ol. Saif hen balasdy y Prichardiaid, sef y Collena, yn nghanol meusydd eang gwyrddion, ar war Tonyrefail. Yr oedd y palasdy ar y cyfnod dywedig yn lle gwych, ac y mae olion ei wychder gynt yn weledig yno hyd heddyw. Mae wedi ei adeiladu ar le mor ysgafn, fel y gellir gweled o’r ffenestri dref y Llan a’r holl wlad rhwng y ddwÿ dref. Mae hefyd yn gwynebu mynyddoedd y Rhiw, a gellir cael cipolwg oddiyno ar Fro Morganwg, drwy fwlch y dyffryn, rhwng craig y Llan a mynydd Garthmaelwg. Mae yn ysmotyn hynod o ddyddorol yn hanes adnewyddiad crefydd yn Nghymru!
Yr oedd y Mr. Prichard y soniaf amdano yn ynad heddwch, fel ei deidiau. Enw Mrs. Prichard cyn priodi oedd Miss Thomas, ac yr oedd yn enedigol o Bontyfon. Yr oedd wedi ei dwyn i fyny yn yr adeg oreu, ac yr oedd megis tywysoges Gymreig yn ei chartref, a phob lle y byddai.

Yn mhen ychydig amser wedi priodas Mr. a Mrs. Prichard, dechreuodd yr hybarch Jones o Langan bregethu gydag arddeliad mawr ar anfoes y Mabsant, yn agos i Eglwys Llanbedr ar Fynydd – lle ar ben mynydd rhwng Tonyrefail a’r Bryniau Gwyion {sic} a Phencoed Llanilid. Yr oedd son drwy yr holl wlad am bregethu hynod periglor Llangan, ac ar un nawn Sabbath penderfynodd Mr. a Mrs. Prichard fyned ar eu ceffylau tua’r cyfarfod. Amcan Jones o Langan oed denu y werin a gyrchai i’r Gwyl Mabsant {sic, dim treiglad} annuwiol ar y mynydd tuag at newyddion gwell yr efengyl. Pan yn myned i’r mynyddoedd gwelai y pendefig a’r bendefiges y llethrau, pell ac agos, yn ddu, fel y dywedir, o bobl yn dylifo tua chyfeiriad Llanbedr ar Fynydd. Yr oedd yr olygfa yn un gyffrous iawn, ac yn un newydd iawn y dyddiau hyny, yn Morganwg. Yr oedd tan {sic; = tân} y diwygiad wedi ei gyneu yn y Deheudir, ac adsain hen ddyffrynoedd Morganwg yn dechreu cael eu dihuno gan ganiadau dirfawr orfoledd y pererinion! Yr oedd dringo llethrau mynyddoedd y (x29) nawn hwnw yn arwyddlunio dyrchafiad ein cenedl ag oedd yn dechreu cymeryd lle drwy ddylanwad y diwygiad Methodistiaidd!

Wrth fod Mr. a Mrs. Prichard yn dynesu at yr Eglwys, gwelent ganoedd o bobl yn yr awyr agored gyferbyn a thalcen yr Eglwys. Yn erbyn y talcen yr oedd esgynlawr i’r offeiriad a’r llefarwyr ag oedd i gyneryd rhan yn ngwaith y dydd. Maes o law, wedi iddynt gyrhaedd ymyl y dorf fawr, gwelent wr o edrychiad difrifol yn codi ar yr esgynlawr, ac yn rhoddi emyn allan i ganu. Ei enw oedd William Thomas o’r Pil. Gwr hynod fu ef yn ei ddydd! Wedi y canu, cododd Jones Llangan (yr offeiriad), a rhoddodd yntau emyn allan wed’yn, ac wedi canu eilwaith y penill –

“Tragwyddoldeb maith a minau
Sydd yn mron a chwrdd yn nghyd,
Dyna’r pryd cawn wel’d yn eglur
Fath rai oeddym yn y byd.”

Yna darllenodd ei destyn, sef, “Canys daeth dydd mawr ei ddigter ef, a phwy a ddichon sefyll?” Pregethodd gyda hyawdledd digyffelyb am y farn ddiweddaf, nes yr oedd dychrynfeydd wedi gwefreiddio yr holl luaws.

Cyn hir wedi hyny cawn iddynt ymuno a’r Methodistiaid. Cynelid cyfarfodydd crefyddol wedi hyny yn gyson yn neuadd fawr Collena. Deuai y diwygwyr yno; yno yn aml y gwelwyd ac y clywyd y Parch. W. Williams, Pantycelyn, y Parch. Peter Williams, y Parch. Dafydd Jones, Llangan, “Llwyd o Gaio,” a llawer ereill; ac yno gwelwyd lawer tro –

“Torf yn bwyta’r bwyddydd brasa’,
Gwin a manna, nefol faeth!”

Bu y ddau yn aelodau ffyddlon gyda’r Methodistiaid ar Donyrefail hyd eu bedd. Cyfansoddodd Williams Pantycelyn farwnad am Susanah ei merch. Bu tair o’r merched, sef Ann, Deborah, a Martha, fyw ar Donyrefail hyd o fewn ychydig o flynyddoedd yn ol. Fel eu rhieni, yr oedd eu ty bob (x30) amser yn gartref fforddolion, os byddai y fforddolion yn bregethwyr Methodistaidd. Nid yn unig rhoddent lety i bregethwyr yn rhydd ac am ddim, ond cyfranent hefyd yn helaeth at yr achos. Mae llawer o bregethwyr Cymru yn cofio yn dyner am letygarwch ac addfwynder yr “hen ladies.” Cadwasant hyd y diwedd yr hen bwlpud o’r hwn yr arferai enwogion bregethu yn y Collena, ty eu tad a’u mam. Tua deng mlynedd ar hugain yn ol yr oedd y duwiol Lewis Powell, Caerdydd, ar ymweliad a Thonyrefail, ac yn lletya yn nhy yr hen foneddigesau dywededig, merched y Prichards uchod. Dywedais wrtho hanes yr areithfa lle yr eisteddai. Cododd yn sydyn, a gwedd ddifrifol iawn arno, a chan godi ei ddwylaw megis i fendithio yr hen bwlpud, dywedodd, “Os dylai rhywbeth gael ei anfon i’r British Museum, dylid gwneyd hyny a hwn!”

(x31)

d14 / 4-02 Llith II
CYCHWYN ACHOS GAN Y TREFNYDDION CALFINAIDD - COFRES Y GWRAGEDD A GADWASANT Y TAN AR ALLOR TONYREFAIL - CODI’R CAPEL - EI AIL A’I DRYDYDD ADEILADU - NODION DIDDOROL AM BERSONAU
Bu adeg ar yr achos Methodistaidd yn y lle uchod pan nad oedd ond wyth o fenywaid yn perthyn iddo. Yr oedd hyny yn mhen rhyw ysbaid wedi claddu Mr. Prichard, Collena. Dwy Elizabeth Morgan, Jane Morris, Mrs. Prichard, Mary James, Mrs. Jenkins, Jane Powell, a Margaret Morris. Y gwr cyntaf a ymunodd a hwy oedd Evan Rhydderch. Yr wyf yn ei gofio yn dda. Y mae mab iddo, sef Windsor Rhydderch, yn byw yn awr yn Tylcha Isaf, yn agos i Donyrefail. Y mae mewn oedran mawr – yn agos i bedwar ugain a phymtheg mlwydd oed. Y nesaf a ymunodd oedd Dafydd Evan – gwr ieuanc dan ugain oed – sef, tad yr Hybarch William Evans. Dilledÿdd oedd wrth ei alwedigaeth. Dyn teneu oedd, ac o daldra cyffredin. Yn fy nhyb i, nid oedd yn mhell o fod yn debyg i’r diweddar Barch. Morgan Howell, Mynwy. Yr oedd yn hynod am ei synwyr cyffredin. Byddai bob amser yn gwneud argraff ar yr holl ardalwyr ei fod yn wr call ac yn ddyn da. Yr oedd yn debyg iawn i’r darluniad a rydd y Parch. T. Binney o’r dyn hoff o’r ddau fyd. Yr oedd i Dafydd Evan a Bess ei wraig amryw feibion a merched. Thomas oedd y mab hynaf, sef Twmi o Gornel y Parc – dyn medrus i drafod dynion. Bydd genyf rywbeth i’w ddweyd am y gwr hwn eto. Dafydd oedd yr ail fab. Yr oedd efe yn dadcu i Syr D. Evans, Arglwydd Faer Llundain. Arferai y Parch. W. Evans ddweyd mai Dafydd oedd y goreu o honynt oll fel masnachwr.

Richard oedd y trydydd mab. Dyn dymunuol iawn oedd. Yr oedd ei air fel “bond” am bob peth, ac yr oedd llawer o gyrchu i’w dy, sef Maesyfelin, ger Pontyglyn, am gynghorion.
 
(x32) Evan oedd y pedwerydd. Cymydog caredig, gonest i’r carn. Cododd deulu mawr, ac y maent oll wedi troi allan i fod yn anrhydedd i’w rhieni duwiol, ac o wasanaeth i gymdeithas. “Ei feibion a ddaw i anrhydedd, ond nis gwybydd efe.”

William, sef y Parch. W. Evans, Tonyrefail, yw y pumed mab. Nid oes eisiau dweyd gair am dano ef, oblegyd y mae ei glod trwy holl Gymru.

Un o’r gwragedd a enwyd uchod, sef Mrs. Jenkins, o’r Rhiw, oedd mam y Parch. Mr. Jenkins. Cafodd ef addysg dda. Bu yn Rhydychain am flynyddodd, ac yn mhen rhyw enyd dechreuodd bregethu, a bu yn llwyddianus iawn. Cafodd alwad i un o gapelau Arglwyddes Huntingdon, i Lewes, yn Lloegr. Bu yn weinidog llafarus a llwyddianus yno hyd ei fedd.

Cymerodd Diwygiad mawr le yn yr ardal, ac ymunodd llawer a’r Eglwys Fethodistaidd yno. Ymunodd amryw o wragedd parchus yn aelodau, megis Sara o’r Rhiw a Margaret Llywellyn, sef hen famgu “Morien.” Merch oedd hi i’r bardd enwog o Dy’r Ffynon, Cwmtaf Fawr, sef Shon Llewellyn, awdwr, yn mhlith caniadau poblogaidd ereill gynt, y gan a elwir “Y Ddafad Las a’i Hoen.” Ar eu hol ymunodd “Bechgyn y Rhiw” a’r ddeadell fechan o grefyddwyr yno. Eu henwau oeddynt Evan, Dafydd, a William. Buont o wasanaeth mawr i’r achos yn y lle. Yr oedd Sara, eu mam, wedi colli ei gwr drwy farwolaeth, ac yr oedd y plant yn ieuainc iawn pryd y dygwyddodd hyny, ac yr oedd hi yn naturiol yn un ddigalon ddigon. Ofni yn ddirfawr fethu “talu ei ffordd,” a phenderfynodd fyned tua Brombil-Margam i siarad a pherchen y tyddyn, sef Mr. Gruffydd Llewellyn, i roddi y tir allan o’i llaw. Pan yn myned tuag yno marchogai Evan, ei mab deg oed, ar y gaseg tu ol iddi. Daeth Evan wedi hyny yn foneddwr. Priododd Miss Anne Pritchard, Collena, ond ni fu iddynt hiliogaeth. Adroddodd Sara ei chwyn wrth ei landlord, a dywedodd wrtho fod yn rhaid iddi roddi y tir o’i llaw, am nas gallasai hi dalu am dano. “Na, na,” ebe Mr. G. Llewellyn, “aroswch yn y Rhiw. Y mae genych chwech o (x33) fechgyn, a deuant yn fwy cryf bob dydd. Rhyngoch chwi a minau, Sara, ni dalwn am dano.” Ni derbyniodd Mr. G. Llewellyn ffyrling o rent ganddi am hir amser. Tyfodd y meibion yn weithwyr caled, ac yn bobl gynil a sobr, ac mewn amser daethant yr amaethwyr cyfoethocaf yn yr ardaloedd hyny.

Bydd genyf ragor eto i’w ddywedyd am y meibion hyn. Yr oedd y Margaret Llewellyn y sonir amdani uchod, yr hon oedd yn famgu i’r ysgrifenydd, a’r Sara uchod yn hoff iawn o’i gilydd.

Capel presennol y Methodistiaid yma ydyw y trydydd a adeiladodd y Methodistiaid yn y lle. Codwyd y capel cyntaf o dan gyfarwyddyd yr enwog “Jones o Langan,” a rhoddwyd y tir ato gan Mr. Pritchard, Collena, am ardreth o un swllt y flwyddyn. Rhoddodd y boneddwr o’r Collena Feibl hardd i’w osod ar y pwlpud. Yr wyf yn cofio y dda weled y Beibl, ac yr oedd arno mewn gemau eurog, “Rhodd gan Evan Pritchard, Collena, i Eglwys y Methodistiaid ar Donyrefail.” Adeiladwyd y capel cyntaf tu’r {sic} {sic} flwyddyn 1779, a’r ail yn 1839, a’r trydydd, sef y presenol, yn 1860, ac yn werth ₤1,100. Y mae wedi ei dalu am dano ers tipyn o amser. Y mae yno gynulleidfa fawr, ac mae’r achos yn llewyrchus.

Yr oedd yma, ar le a elwid y Waun Rydd, ysgol ddyddiol fechan i ddysgu Saesonaeg, &c. Yr ysgolfeistr oedd Mr. Edmund Jones, tad y Parch. Edmund Jones, gweinidog parchus gyda y Bedyddwyr yn Mhenycoed, Llanilltid. Yr oedd Mr. Jones a gair da iddo gan bawb, a phobl yr ardal yn siarad yn garedig am dano wedi iddo ymadael a’r lle.

Y nesaf ddaeth yma oedd Mr. Thomas Jones, brodor o Sir Gaerfyrddin, a’r nesaf oedd Mr. D. Lewis, wedi hyny o’r Red Lion, Pontypridd. Byddai Mr. Lewis yn cerdded, nos a boreu i ac o Donyrefail – tua deuddeg milldir y dydd, ac nid oedd ei enill ddim mwy nag 8s. yr wythnos. Y mae hyn yn dwyn ar gof i mi hanesyn a adroddodd y Prif Farnwr Coleridge yn ddiweddar wedi ei ddychweliad o’r America. Rhyw foreu
(x34) ymwelodd Mr. Blaine (aelod o’r Cynghor yn Washington) ag ymylon yr Ohio. Dywedodd Mr. Blaine wrtho fod ei dad ef yn dweyd wrtho fod ei dadcu yn arfer gallu taflu dolar yn groes i’r afon i’r ochr arall. Iddo ef chwerthin wrth glywed y stori, ac i’w dad ofyn a oedd yn amheu ei gwirionedd. “Na, na,” meddai yntau wrth ei dad, “ond yr oedd dolar yn myned lawer iawn pellach y pryd hyny nag yr a yn awr.” Fe chwarddai wyrion cyfoethog Mr. Lewis pe y clywent am enill eu tadcu ar y Ton. Ond trwy’r cwbl, daeth Mr. Lewis yn werth canoedd o bunau cyn iddo farw. Yr oedd Mr. D. Lewis yn ddyn talentog, yn ysgolhaig rhagorol, ac yn ddyn gonest a serchog.

Ar ei ol ef daeth Mr. E. Roberts o Ferthyr. Dyn ieuanc yn nghylch 22 oed oedd ef. Nid oedd wedi cael nemawr o ysgol, ond ysgol nes yn Merthyr. Yr oeddem yn ofni fod y cyfaill yn rhyfygu wrth fyned i gadw ysgol gyda can lleied o ddysgu ei hun, ond siomodd ni o’r ochr oreu. Ymdrechodd dysgu ei hun wrth geisio dysgu ereill, a llwyddodd yn fawr iawn. Yr oedd yn dysgu gramadeg trwy ohebu a’r diweddar a’r hynaws, Mr. Rhys Lewis, argraffydd, Merthyr, ac ereill, a daeth yn un o’r grammadegwyr goreu yn y wlad. Fel y dywedai Mr. Peter Williams, Merthyr, am Evan Roberts yn yr hanes am ei farwolaeth yn y “Western Mail,” “Yr oedd yn un o’r ysgolheigion Cymreig goreu yn Nghymru.” Bu yn Nhonyrefail am flynyddoedd. Daeth ar ei feddwl i ymweled a’r Misses Hill, Cwrt-yr-Ala, un diwrnod. Yr oeddynt yn chwiorydd i Mr. Hill, perchenog gweithiau haiarn Pentrebach, Merthyr.
Cymerasant ddyddordeb mawr yn Mr. Roberts am ei fod ef, ei dad a’i frodyr yn hen weithwyr i’w brawd. Anfonasant at Mr. Hill i ofyn iddo am wneud rhywbeth drosto. Yn mhen ychydig amser wedi hyny danfonodd Mr. Hill am dano. Bu am rai misoedd yn pwyso haiarn yn y gwaith; wedi hyny cafodd ei wneud yn “furnace manager,” a phan fu Mr. Hill farw cafodd rai canoedd o bunau ar ei ol. Bu wedi hyny (x35) yn yr un swydd am flynyddoedd o dan Mr. Fothergill. Gorphenodd Mr. Roberts ei yrfa tua flynedd yn ol. Yr oedd wedi cyrhaedd parch mawr gan ei gyd-drefnwyr. Ni throediodd Cymru un dyn mwy cywir. Heddwch i lwch fy hen gyfaill anwyl! Bu yma amryw yn cadw ysgol ar ei ol ef cyn yr Ysgol Frytanaidd. Byddai yn rhy faith i’w holrhain.

Wedi hyny sefydlwyd Bwrdd Ysgol yma. Yr oedd Tonyrefail yn un o’r ardaloedd cyntaf i gynyg am y Bwrdd. Cawsom wrthwynebiad mawr. Daeth y Parch. R. Pritchard, perchen y lle ar y pryd, yn un swydd o Stratford-ar-Afon, i geisio darbwyllo yr ysgrifenydd i bleidio y National School, ac addawodd roddi swm go dda yn flynddyol tuag ati. Ond nid oedd bosibl ein troi. Daeth y gwr o Faenor Misgyn allan yn ei holl nerth, ac nid oedd dim a safai o’i flaen ef! Y mae yma ysgol ddyddiol enwog o dan Fwrdd Ysgol Llantrisant, ac y mae hi yn “gredit” i’r ardal.

(x36)
d15 / 4-03 Llith III.
YR HYNAWS MR. WILLIAM MORGAN, TYLCHAFAWR - PORTHMON ENWOG - EI HOFFDER O DDYNION OD - SHON DAFYDD FEL PRYDYDD A PHREGETHWR - “CLYWCH, DEYRNASOEDD, A GWRANDEWCH Y CYMYDD” - PREGETHU YN NGHOED Y TYLCHA I DARFU’R “YSBRYD DRWG” - FFORDD GWERTHWYD COED CAE - TWM EVAN PRYS

Un o’r pethau cyntaf wyf yn ei gofio yw gweled Mr. William Morgan, Tylchafawr, yn galw wrth dy fy rhieni, ac yn galw ar fy mam,

“Cesil,” meddai, “beth yw y bachgen llefog yna sydd genych? Yr wyf yn clywed ei swn o Tylcha.”

“Wel, yn wir, syr,” meddai hithau, “un drwg iawn yw e’; mae wedi cael gormod o’i ffordd o lawer.”

Mi gofiais byth am y tro, er nad oeddwn ddim mwy na chwe’ mlynedd oedd ar y pryd. Yr hyn oed fy mam yn gyfeirio ato wrth ddweud fy mod wedi cael gormod o fy ffordd oedd hyn: - Yr oeddwn newydd wella o effaith llosgiad pan oeddwn yn nghylch pum’ mlwydd oed. Nid oedd neb yn credu y gallesid fy adferyd. Nid oedd un meddyg y pryd hwnw yn nes na Phontyfon, rhyw ddeuddeg milldir o Donyrefail.

Byddai y Parch. E. Prichard, o’r Collena, a Rhys Evans, o’r Factory, yn talu sylw mawr i gleifion yr ardal, ac yr wyf yn cofio yn dda i’r ddau ddyfod i’m gweled. Yr oedd Mr. Evans yn gwaedu ugeiniau o’r ardalwyr bob gwanwyn. Byddai yr arferiad y pryd hwnw i wneud hyny. Gwelais lawer merch ieuanc yn cael ei gwaeddu ganddo yn ei braich nes y byddai yn llewygu.
Clywais Mr. Prichard a Mr. Evans yn ymgynghori beth oedd y peth goreu i wneud i mi, a deallais eu bod yn bwriadu fy ngwaedu. Minau yn gwybod ei bod hi yn amser lladd moch, mi waeddais allan,

“Chewch chwi ddim gollwng fy ngwaed i, na chewch wir!”

 Wedi i mi dyfu i fyny, pan y cyfarfyddwn a Mr. Prichard neu a Mr. Evans, byddent yn dweud wrthyf, “Chewch chwi ddim gollwng fy ngwaed i!” (x37) Ond am Mr. William Morgan o Dylcha yr oeddwn yn son. Dyn mawr o gorpholaeth, a gwr mawr o feddwl, oedd efe. Yr oedd ganddo feddwl gwreiddiol bron am bobpeth. Yr oedd yn wir wr boneddig, ac yn un o’r dynion harddaf a welais erioed. Byddai yn cadw rhyw ddeuddeg neu bymtheg o weision a morwynion. Yr oedd ganddo fil o ddefaid, a llawer iawn o ychain. Byddem ni ar Donyrefail yn edrych
arno fel y byddai pobl yn edrych ar Job yn ngwlad Us. Yr oedd ganddo lawer o deirw a da “Scotch” ar fynyddoedd y Gilfach Goch a Fforch Nest. Heblaw hyny, yr oedd yn ffermu Gelligron, Tontraethwg, Tylchawen, Llanilid, a Thylchafawr. Yr oedd dyddiau cneifio y defaid yn Dylcha yn fath o wyl yn yr ardal, yn enwedig yn nghyfrif y plant. Byddai Mr. Morgan yn myned i ffair y Llan bob tri mis i werthu ychain, gwartheg, defaid, a cheffylau. Yr oedd yn hyfryd ei weled yn myned ar y gareg (sic: = gaseg) las, a phawb ar y ffordd ac yn y ffair yn talu gwrogaeth iddo.

Nid oedd Mr. Morgan yn myned oddicartref yn fynych – ei ddifyrwch oedd cael cwmni dynion cyffredin yn ei dy. Byddai rhai cymeriadau hynod ganddo o’i amgylch bron bob amser. Yr oedd ganddo fath o ffwl neu ddau yn Nghylcha yn wastad. Yr wyf yn cofio yn dda am Shon Dafydd – “Shon British Coch,” y byddai yn cael ei alw, am ei fod yn gwisgo felly. Ganwyd Shon yn Gaerwica {sic – treiglad meddal}, Pendeulwyn. Symudodd ei dad i Hendreforgan; ond nid oedd Shon yn ddedwydd iawn gartref. Aeth i wasanaethu Mr. Harries, Trefyrhug, a Grey o Rhiwinder, drwy ddanfon ychain i
Northampton. Dysgodd Shon dipyn o Saesneg wrth deithio yn Lloegr. Byddai yn gwneud llawer o ganiadau i Forwyn y Gilfach, y Crochan Cawl, a Grey o Rhiwinder, &c. Mawr oedd y difyrwch a gaem wrth ei glywed yn eu canu. Byddai Shon yn “pregethu” weithiau. Byddai “Llywelyn o’r Lawn” ac yntau yn myned ar “deithiau” yn aml i “bregethu.” Ni chymerent arnynt eu bod yn perthyn i un enwad neillduol. “Pregethu” ar yr (x38) heolydd y byddent, a chasglu ar y diwedd – pob un a’i het. Testyn Shon un Sabbath pan yn “pregethu” ar Graig y Dyllais, ar fynydd y Bedw, Cymer, oedd, “Clywch deyrnasoedd, a gwrandewch y cymydd.” Nid oedd tai yn y Cymer y pryd hwnnw, ond ychydig o dyddynod bob ochr i’r Cwm. Yr oedd y pregethwr yn dweyd yn ddigon uchel i’r holl ardalwyr glywed, o Dy’n-y-cymer hyd Nyth Bran. Yr oedd Shon yn gyfaill mawr i bawb, yn enwedig Mr. William Morgan, Tylcha. Gwnaeth Mr. Morgan le i Shon i gysgu ar lofft yr ystabl, fel y byddai yn gallu mynd a dod pryd y mynai. Yr oedd yno wely, bwrdd, ystol, a bara bob amser. Nid oedd canwyllbren yno, o herwydd, fe ddichon, nad oedd Shon yn gallu darllen. Yr oedd yno bron bobpeth fel yr oedd y foneddiges hono wedi ei baratoi i’r hen broffwyd Eliseus. Ond yn sicr, yr oedd cryn wahaniaeth rhwng y ddau ddyn!

Byddai Pentre y Ton yn gwybod pryd y dychwelai Shon adref; byddai yn “pregethu” bob amser pan yn dychwelyd trwy goed Tylcha, o herwydd ofn ysbryd drwg, a byddai yn arfer dweyd pethau digrif am wyr y Ton yn ei bregeth. Bu yn ei flynyddoedd olaf yn cario negeseuon o Donyrefail i Bontypridd. Byddai cod gan Shon i fyned a’r llythyrau a phethau ereill. Cariodd filoedd o lawer o bunau i’r ariandy yn Mhontypridd, ac ni wnaeth gamsyniad erioed. Nid oedd Shon yn gallu rhifo; pan y byddai haner cant o dda o’i flaen byddai yn gwybod yn union os byddai un wedi myned yn eisieu.
Ceiniog y neges fyddai Sion yn ei gael, a digon o fwyd pan y dychwelai. Ni fyddai yn arfer cymeryd dim lluniaeth yn Mhontypridd, ond byddai yn talu iddo ar ol cyraedd y pentre. Byddai yn cael ei de yn eu tro gan bobl y pentref, sef y rhai hyny ag y byddai yn gwneud negeseuau drostynt. Gwelais ef yn yfed naw dysglaid o de lawer gwaith. Byddai Shon yn ymffrostio ei fod yn fwytawr mawr. Clywais ef yn datgan faint o gawl a fyddai yn ei yfed ar y tro. Gwnaeth “fatch” cawl un tro a gwas y Gilfach. Yfodd hwnw bedair dysglaid o gawl, ond yfodd Shon chwech! Byddai yn cael llon’d mail (x39) o uwd sygaethan yn Nghylcha o’i flaen, a byddai Mr. Morgan yn ymbleseru wrth ei weled yn myned yn mlaen gyda’r bwyd. Byddai yn debyg iawn o osod y cwbl o’r golwg. Mae Shon wedi ei gladdu er’s blynyddoedd. Cyrhaeddodd ddwy flwydd ar bymtheg a thri ugain. Claddwyd ef wrth gapel y Methodistiaid, Tonyrefail. Byddai y bechgyn yn cael llawer o ddifrifwch wrth ddweyd wrtho y cai ei gladdu yn Glynogwy gyda’i dad. Ond byddai Shon yn protestio y byddai yn “struggle” ofnadwy os cynygient fyned ag ef yn mhellach na’r Ton.

Dylaswn ddweyd fod Mr. Morgan, o Dylchafawr, yn wr cyfoethog. Nid yn unig yr oedd ganddo anifeiliad lawer, ond yr oedd yn dirfeddianydd. Efe oedd perchen Tylchafawr, Coedca, Twm Evan Prys, &c. Gwerthodd Mr. Morgan y Coedca i’r diweddar Mr. J. Hopkins, Cilely. Yr oedd Mr. Hopkins a Mr. Morgan wedi cwrdd un noswaith yn y Boar’s Head, Tonyrefail, ac wedi yfed i ormodedd eu dau, a gwerthodd Mr. Morgan y tir am ₤500 – llawer llai na haner ei werth. Danfonodd dranoeth at Mr. Hopkins i ddweud ei fod wedi yfed y noson cyn hyny, a’i fod yn gobeithio na wnai Mr. Hopkins gymeryd mantais
arno. Trodd yr achos yn ofid dirfawr i Mr. Morgan, ac effeithiodd yn fawr ar ei iechyd, a bu farw yn mhen rhyw ddeuddeg mis ar ol hyny. Gwerthodd Mr. Hopkins y Coedca am ₤1,000 i Mr. Vaughan Edwards, Rheolau, ond cadwodd cryn ddarn ohono ei hunan. Perchenog y rhai hyny yn awr yw Mr. William Hopkins, o’r Island Farm, Penybont. Y mae y tir a werthwyd y pryd hyny am ₤500 heddyw yn werth ₤100,000 (cant o filoedd). Mae gwaith glo mawr arno ac ynddo, gan Syr W. T. Lewis a’i gyfeillion, ac y mae yno rhyw {sic – dim treiglad} fil o lowyr yn gweithio.

Yr oedd Mr. Morgan, o Dylcha, yn hynod o dyner a gofalus am ei deulu. Yr oedd bob amser yn ymddwyn tuag atynt fel plant. Byddai yn hynod i geisio eu cefnogi i sefyll rhyw ran o’u henillion. Yr wyf yn cofio i William Morgan, adeiladydd, Tonyrefail, fyned ato pan nad ydoedd rhyw (x40) ddeudeg oed. Rhoddodd ddafad iddo y flwyddyn gyntaf, gyda chyflog. Yn mhen tair neu bedair blynedd, pan ymadawodd i ddysgu ei gelfyddyd, yr oedd y ddafad wedi myned yn chwech. Gofynodd i’w feistr pan yn ymadael, “Beth am yr ychydig ddefaid, syr? Beth gaf fi dalu am eu lle?” “Paid a blino dy
hunan am y defaid,” ebai Mr. Morgan, “byddant yn ddyogel i ti.” Pan y bu farw Mr. Morgan, yr oedd y ddiadell wedi cynyddu i un-ar-ddeg! A thalodd ei frawd, sef y diweddar Mr. Evan Morgan, Ty’n-y-cymer, am danynt iddo. Claddwyd Mr. Morgan gyda’i dadau yn y Cymer. Cafodd angladd dywysogaidd. Yr oedd yr holl ardalwyr wedi dyfod i’r cynhebrwng hwnw! Gellir dywedyd fod yno “alar mawr iawn” mewn gwirionedd!

(x41)
d16 / 4-04 Llith IV.
YR HYNOD NOAH MORGAN, TYLCHAFAWR - “TAI GWENYN” NOAH - NOAH YN Y CAPEL - SIARAD EI FEDDYLIAU HEB YN WYBOD IDDO EI HUN - “FE FYDD NOAH YNO HEFYD” - THOMAS, CAEGARW


Addewais yn fy llith ddiweddaf roddi ychydig o hanes Mr. Noah Morgan, Tylchafawr, ac ereill. Yr oedd gan Mr. William Morgan, o Dylchafawr, bedwar o frodyr ereill heblaw Noah, sef Twmi, Evan, Hywel, a Morgan. Dyn cyffredin o daldra oedd Twmi, ac yn grwca ei osgo. Nid oedd fawr o ddawn ganddo, ond yr oedd yn llawn o ddigrifwch, a’i holl fryd oedd ar wneud rhyw driciau diniwed a’i gymdogion. Dywedir ei fod yn ddoniol yn hyny. Y mae cannoedd yn cofio Evan, sef Mr. E. Morgan, Ty’n-y-cymer. Bydd genyf lawer i’w ddywedyd am dano yn y dyfodol. Hywel oedd y nesaf. Yr oedd hynodrwydd ynddo ef. Morgan oedd yr olaf, sef tad Mr. Morgan, Floodgate, Llanilltyd Fawr; Mr. John Morgan, Assistant Overseer, Llantrisant; E. Morgan, y Gadairwen, Groesfaen; a meibion ereill, ac yr oedd iddo rai merched. Maent oll yn feibion ac yn ferched talentog, parchus, a chrefyddol. Ond am Noah yr oeddwn yn addaw yr hanes yn awr. Yr oedd Noah yn ddyn llawn chwe’ throedfedd o daldra, ac ysgwyddau llydain iddo, ac yr oedd o gorph llunaidd. Yr oedd bob amser yn gwisgo yn daclus, siaced gron, wen; “breeches” penlin velvet o’r fath orau; ruban wrth ei benliniau yn ateb lliw y “breeches”; hosanau gleision o waith “Shan Persondy,” gwerth haner gini, am ei goesau; ysnoden sidan las am ei wddf, ond nid am ei fod yn Dori; het wellt; ei grys mor wyned a’r eira. ‘Roedd yn edrych fel hen dywysog Morganwg! Byddai bob amser yn gwisgo “channels,” fel y byddai esgidiau o’r fath yn cael eu henwi. Nid pob gweithiwr a allasai wneud esgidiau o’r fath. Byddent wedi eu gwnio a byniawyd pedwar onglog, i mewn ac allan. Byddai y pwythau yn treulio mor galed a’r dur. Ni welais neb yn eu gwneuthur erioed ond (x42) Twmi Morgan (Pharaoh). Yr oedd yn grydd heb ei fath. Ond y mae yntau wedi marw yn America er’s rhai misoedd, yn 84 oed. Yr oedd yn briod a Shoned, merch Isaac, Ty’nybryn, ac y mae ar ei ol fab yn ustus heddwch gerllaw Philadelphia, yn America. Fe ddring y Cymro ond iddo gael chwareu teg. Yr oedd Noah yn talu gini bob amser am y “channels,” a byddent yn parhau blwyddyn iddo. Yr oedd Noah yn bysgotwr rhagorol. Byddai yn cario ei enwar gydag ef yn aml. Yr oedd pob math o blyf ganddo yn ei “bocket-book,” ac yr oedd yn eu “dressio” i’r dim at liw y dwfr. Os byddai rhywun yn glaf, ac yn dymuno am frithyllod, nid oedd eisieu ond dweyd wrth Noah, byddent yn sicr o ddod yn fuan. Yr oedd Richard Lewis (“Dic o’r Cottish”) hefyd yn bysgotwr; ond eu dal mewn rhwydau y byddai Dic. Byddai Noah yn arfer galw yn nhy Dic yn aml ac un boreu dyna fe yn dweud,

“Mr. Morgan, fe welais ‘salmon’ iawn neithiwr.”

“Ym mha le, Dic?”

“Mewn pwll yn afon Lai, rhwng Cwrtygwter a melin Garthgraban.”

“Beth oedd ei bwysau fe, Dic?” gofynai Noah.

“Pedwar pwys ar ddeg yn gywir,” atebodd Dic.

“Ni ‘wedwn saith pwys, Dic,” ebai Noah. Fel yna y byddai Mr. Noah Morgan yn mesur Dic a llawer ereill. Ac yn wir, nid oedd Noah yn mhell iawn o’i le. Byddai Noah yn gywrain ryfeddol i drin a deall gwenyn. Y mae llawer sydd yn fyw yn cofio “tai gwenyn Noah” ar y dyffryn o dan Gelligron, ac mewn llawer o fanau ereill. Yr oedd pob peth o amgylch y “tai” hyny yn ddestlus a chryno, a gosodai y tai mewn manau gyferbyn a’r haul, ac yn y cysgod oddiwrth wynt y Gogledd, a’r lle mwyaf tebyg am bob math o lysiau a blodau. Byddai yn aros oriau i edrych a myfyrio uwchben y gwenyn gyda’u gwaith. Edrychai arnynt trwy wydr pan yn gweithio. Byddai yn aml yn eu darlunio fel adeiladwyr yn adeiladu palasdai – rhai yn rhoddi i lawr y sylfaen, eraill y tuallan yn cario defnyddiau i’r adeilad; y modd y byddent yn addasu y cwyr a’u danedd, ac yn ffurfio eu celloedd ag ef, &c. Yr oedd yn dweyd fod ganddynt gelloedd (x43) i’r cwyr, ac ereill i’r mel.

“Y mae,” meddai, “dri math o wenyn yn mhob haid, sef y gwenyn llafurus, y gwenyn diog, segurllyd (“drone bees”), a’r fam wenynen. Dywedai ef nad oedd dim mwy na thair mam wenynen yn mhob cwch, a’r rhai hyny sydd yn dodwy yr holl wyau o ba rai y deorir yr haid. Byddai yn bleser clywed Noah yn darlunio llafur y gwenyn, a’r trefnusrwydd a’r hunan-ymwadiad sydd yn eu plith . Byddent yn newid a’i gilydd yn eu gwaith yn aml, ac yr oedd pob un ohonynt yn fedrus yn eu gwaith ac yn ufydd i’r frenhines. Pan fyddai y gwenyn yn “codi”, fel y dywedir, byddai Noah yn ei lawn hwyl. Gwisgai pryd hyny het ag ymyl fawr, i’w cadw oddiwrth ei wyneb. Byddai yn eu llesteirio yn gelfyddydgar; ac ar ddiwedd yr haf yr oedd gan Noah ddigon o fel i’r holl ardalwyr.

Yr oedd Noah yn ddarllenwr mawr. Llyfr Job, Diarhebion, Solomon a’r Salmau oedd ei brif lyfrau. Yr oedd llawer o’r rhai hyny ganddo ar ei gof bob amser. Mynych y gwelsom ef yn dyfod i mewn i gapel Tonyrefail, a chan dynu ei het, dywedai yn soniarus,

“Dyn a aned o wraig sydd fyr o ddyddiau a llawn o helbul!” gan drydanu pawb oedd yn bresenol. Bryd arall byddai Noah yn dweyd, yn hollol ddiarwybod iddo ei hun,

“O nad ysgrifenid fy ngeiriau yn awr; O na ysgrifenid hwynt mewn llyfr!”

Yn wir, ymddangosai fel proffwyd mawr Hebreaidd; a phan ddygwyddai y llefarwr fod yn “wr dyeithr o’r Gogledd,” ymddangosai, wrth weled a chlywed Noah, fod yn haner dychrynu yn y pwlpud. Yr oedd un gweinidog enwog yn pregethu yno un noswaith yn ddifrifol ryfeddol ar y farn ddiweddaf, ac yn darlunio holl ddynolryw yno yn derbyn eu tynged. Dyma Noah yn llefain allan,

“Fe fydd Noah hefyd yno.”

Cafodd hyn effaith ryfeddol ar y gwrandawyr. Un noswaith yr oedd gwr dyeithr o’r Gogledd yn pregethu ar y gwr ieuanc yn gofyn i’r Arglwydd Iesu,

“Pa beth a wnaf fel yr etifeddwyf fywyd tragwyddol. A’r Iesu gan ateb a ddywedodd, Cadw’r gorchmynion. Y gwr ieuanc a ddywedodd, Mi a gedwais y rhai hyn oll o’m hieuenctyd.” Ar hyn wele Noah (x44) yn dywedyd yn uchel, “Yr oedd efe yn fodel o wr bonheddig ieuanc; fe’i cadwyd ef yn siwr!” Yn amser y cynhauaf gwair byddai Mr. Noah Morgan yn tynu ei siaced wen ymaith, ac yn blaenori y gweision, a byddent wedi gwneud llawer o waith cyn cyniaw. Nid oedd neb yn siarad gair a’u gilydd pan y byddai Noah yno, ond pawb yn gweithio am eu bywyd. Os digwyddai rhyw siarad, dyna Noah yn gwaeddi, “Amser cynhaeuaf ydyw.”

Bu yntau farw pan yn agos i ddeng mlynedd a thri ugain. Casglwyd ef at ei dadau i fynwent Cymmer y Rhondda. Dywedodd ychydig ddyddiau cyn marw, “Rhoddwch bunt o’m harian i bob gwas a morwyn sydd yma: maent oll wedi bod yn garedig iawn i mi!” A thalodd Mr. Evan Morgan, Ty’n-y-cymer, yr arian i bob un, er nad oedd un ysgrifen yn bod am hyny. Mae un o’i hen forwynion yn fyw yn awr yn Morgan-street, Pontypridd. Bu yn ei wasanaeth am ugain mlynedd, a bu wedi hyny am 30ain o flynyddau gyda’r diweddar Mr. Jones, Glyncoch, a gadawodd yntau ddigon o fodd i fyw i Shwan. Mae hithau wedi cyrraedd ei phedwar ugain oed. Mae hi yn gorwedd ar ei gwely er’s tro, ond da genyf ddywedyd ei bod yn ddedwydd ryfeddol.

Yr oedd “Tomas, Caegarw,” yn gymeriad rhyfedd. Bu Tomas yn was yn y Cefncoed am flynyddoedd gyda mam Mr. Robert Thomas o’r Glyn, ac fe briododd a’i feistres. Un diwrnod yr oedd Hywel Hopkin, o Gaerlan (yr hwn oedd wastad yn llawn ffraethineb), yn cerdded gyda Mr. Robert Thomas; a dyna Tomas, o’r Cefncoed y pryd hwnw, yn dyfod i’w cyfarfod gan farchogaeth ar ei geffyl. Dywedodd Hywel, “Mi glywais am hyn o’r blaen yn yr hen amseroedd – gweision ar feirch ac arglwyddi ar draed!” gan gyfeirio mai gwas oedd ef o’r blaen i Mr. R. Thomas a’i fam. “Taw son, Hwlyn,” meddai Tomas, mewn llais cras, “’does dim diwedd ar dy ddrygioni di.”

Daeth Tomas, wedi marw ei wraig, i fyw i’r Caegarw, ac a briododd a’i forwyn. Bu Ann yn ymgeledd gymwys iddo hyd ei (x45) farwolaeth. Ni byddai Tomas ond yn aml yn chwerthin. Mae y Caegarw ar fferm Caecwrlais, lle yr oedd y Parch. William Evans yn preswylio am lawer o flynyddoedd. Yr oedd Tomas yn ddyn mwy na dwy lath o hyd, a’i freichiau hirion yn cyraedd yn agos at ei benliniau. Byddai yn cerdded yn ei flynyddoedd olaf o’i oes wrth ddwy ffon. Yr oedd Mr. Evans yn hoff iawn o’r hen wr, ac yn garedig a thyner tuag ato. Pan y byddai Mr. Evans yn aros mis yn Bryste, a dau fis yn Llundain a Liverpool, byddai bob amser yn ymholi am fy “ewyrth Tomas.” Yn meudy y Caegarw y byddai Mr. Evans yn cadw ei ychain, a byddai yr hen wr yn gofalu am danynt fel am ei eiddo ei hunan. Yr oedd Mr Evans, pan gartref, yn myned bob boreu i’r Caegarw i weled Tomas a’r ychain.

Pan y byddai y Parch. David Howell, Abertawe, yn ymweled a Thonyrefail, byddai yn myned i aros i gartref Mr. Evans; ac yn y bore byddai Mr. Evans ac yntau yn myned tua Caegarw i weled Tomas a’r ychain. Un boreu, pan aethant ymaith, yr oedd Tomas ar ei liniau ar y glaswellt wrth y ty yn naddu coed. “F’ewyrth Tomas,” meddai Howell, “yr ydych yn gweithio ar eich gliniau.” “Otw,” meddai yr hen Gymro, “mae arnaf ofn nad ydych chwi eich dau yn treulio rhyw lawer o’ch amser fel hyn, a hyny yw yr achos nad ydych yn gwneud fawr o waith.” Yr oedd Mr. Howell erbyn hyn yn gwneud “wep” rhyfedd o herwydd cerydd yr hen Domas; ond yr oedd yn ei fwynhau hefyd. Byddai y Parch. Edward Matthews yn awyddus iawn am fyned i weled “f’ewyrth Thomas” bob tro y deuai i Caercwrlais. Yn union ar ol boreufwyd byddai Mr. Evans ac yntau yn cychwyn. Ar ol myned yno, cawsent Tomas yn frysiog iawn yn bwydo yr ychain, ac yn ddifrifol iawn ei wedd. “Yr ydych wedi gofalu am y cwbl, ydych chwi, f’ewyrth?” gofynai Mr. Evans. “Ydw,” meddai yntau, “hi fyddai yn llawer ffitiach dy fod di a Ned Matho yma yn gwneud rhywbeth yn lle segura fel hyn!” Byddai y ddau athraw anwyl yn cael gwledd hyfryd gyda’r hen Domas ddirodes.

(x46)
d17 / 4-05 Llith V
DIM OND UN TY AR DONYREFAIL - MAN Y SAFAI - DYGWYDDIAD TOST - OS COLLIR AMSER, PEINT O GWRW YN COSTIO SWLLT - Y DUWIOL ISAAC O’R FELIN - CAFN MELIN Y TON A’R PECHADUR DEFNYDDIOL

Nid oes neb yn awr yn fyw ag sydd yn cofio dim ond un ty ar Donyrefail. Bu’m yn ymddyddan a llawer oedd yn cofio yr unig dy oedd yno. Yr oedd yn sefyll yn nghanol y Pentre, lle y mae pedair o groes-heolÿdd - un yn arwain i’r Cymmer, un arall i Lantrisant, un arall i Glynogwy, a’r llall i Gwm yr Elwy, ac yn arwain i Bontyfon. Enw y ty oedd Twyn y Ton. Fe godwyd efail wrth y ty hwnw. Ganwyd Daniel y gof yn y ty hwnw, ac Elias ei frawd. Gof y mae yn debyg oedd eu tad. Yr oeddynt yn weithwyr rhagorol. Yr oedd braich Elias fel darn o haiarn o ran nerth. Yr oedd crefft gof yn gelfyddyd dda iawn yr amser hwnnw.

Yr oedd holl ffarmwyr yr ardal yn codi ychain, ac yn eu cadw nes y byddent yn dair a phedair oed.
Byddai Mr. Harris, Trefyrhug; Robert Thomas, o’r Glyn; a Hywel Gray, o’r Tran, yn prynu ychain bob gwanwyn, ac yn eu hanfon tua Northampton. A’r arian a ga’i yr amaethwyr am yr ychain hyny y talent eu hardreth. I ffair Llantrisant y byddai y ffarmwyr yn anfon yr ychain i gyfarfod a’r porthmyn. Ystyr yr enw hwn yw “arlwyddi creaduriaid corniog.” Byddai Owen Morgan, Daniel Price, a Shon y British Coch wrth eu bodd y pryd hwnw. Byddai yn aml o gant i gant a haner o ychain o’u blaen yn myned tua Lloegr; a byddai yr holl ychain wedi eu pedoli cyn cychwyn gan Daniel ac Elias (’Lias) ei frawd. Cof genyf eu gweled lawer gwaith yn myned a raffau blewog mawrion ar eu hysgwyddau tua’r Lawn, Garthgribin, Hendreforgan, &c., at y gwaith o glymu yr ychain i’w pedoli. Yr oeddent wrth eu bodd gyda’r gwaith o gwympo yr ychain mawrion ac yna yn gosod pedol mewn pum mynyd ar un ochr i’r (x47) traed. Dychwelai y ddau adref gan ymffrostio yn y gwrhydri a fyddent wedi ei gyflawni yn myd yr ychain corniog. Dywedai yr hen breswylwyr ei fod yn ddifyr gweled Elias yn llorio ychain mawrion y Richards yn Hendreforgan. Ar ol i Daniel y gof gael llymaid yn helaeth o ddiod gadarn, gofynai pobl mewn digrifwch am ei dad. “Y nhad,” dywedai Daniel, “oedd y dyn calla’ yn y wlad.”

Yr oedd yn Hendreforgan wasanaethwr o’r enw Etwart; dynwaredai yr hen Richards o flaen ei wyneb, a dywedir ei fod megis crwth a thelyn. Yr oeddwn yn adnabod mab yr Etwart hwnw, ac yr oedd, fel ei dad, yn llawn o arabedd a doniau, ac yr oedd hefyd yn un o’r bechgyn mwyaf caredig a geid drwy yr holl wlad. Cyfarfyddodd a’i angeu drwy fogi mewn lefel glo gwlad ar fynydd Gilfach Goch, pan oedd yr ardal boblogaidd hono yn rhodfeydd defaid y unig. Bu farw ar yr un pryd a Lewis Hopcyn, Caerlan, mab Hywel Hopcyn, a fu wedi hyny yn ysgolfeistr ar Donyrefail. Nid oedd Lewis ond un-ar-bymtheg oed, ac wedi myned i’r lefel gyda William Edward. Wrth eu gweled mor hir cyn dychwelyd gartref, awd i chwilio am danynt, a chafwyd hwynt yn gorwedd yn gelain yn mreichiau eu gilydd. Yr oeddynt wedi teimlo yr awyr yn y lefel yn ddyffygiol ac wedi ymdrechu dianc am eu heinioes, ac wedi cyrhaedd o fewn herc i oleu dydd pan y syrthiasant, mae’n debyg, wrth ymdrechu cynorthwyo y naill y llall. Y mae yn lled debyg mai William Edward caredig oedd yn ymdrechu dwyn Lewis ieuanc allan i’r awyr agored pan y syrthiodd yntau i fethu codi mwyach. Yr oedd y fath ddygwyddiad yn newydd yn y wlad y pryd hwnw, a bu cynhwrf mawr o herwydd yr amgylchiad torcalonnus drwy yr holl gymdogaeth. Erbyn hyn, ysywaeth, y mae anffodion i bobl ddiwyd ein gweithleoedd wedi dyfod yn beth cyffredin, fel nad yw lladdiad un neu ddau ar yr un pryd yn tynu nemawr o sylw. Dyrysodd mam Lewis yn ei synwyrau drwy hiraeth ar ol ei mab.

(x48)
Bu Daniel y gof a Mari (Baia) yn cadw y Boar’s Head, Tonyrefail (arwydd tarian Prichards, fel epil Eynon ap Collwyn, arglwyddiaeth Meisgyn); ond nid oedd Daniel yn hoffi llawer ar y gwestdy o herwydd ei fod yn methu ymatal oddiwrth y gyfeddach gyda chyfeillion llawen yn y nos, a’r effaith o hyny y fath fel yr oedd yn methu yn lan a bod yn hwylus gyda’i waith dranoeth.

Yr wyf yn cofio yn dda fy mod unwaith pan yn laslanc yn myned un boreu Gwener gyda Daniel heibio Tylchaganol. Daniel Davies oedd yn preswylio yno ar y pryd. Yr oedd wedi myned tua marchnad Pontypridd boreu Mercher, ond nid oedd wedi dychwelyd fyth! Yr oedd Daniel Davies wedi bod yn ddyn sobr iawn nes ei fod tua deg a deugain oed. Pan glywodd Daniel y gof nad oedd wedi dychwelyd o’r Bont, dywedodd wrthyf, er mai tafarnwr oedd,

”Wel, dyma drueni am y dyn hwn! Ffarmwr rhagorol, cymydog hawddgar, yn esgeuluso ei fasnach, newynu ei anifeiliaid, gwario ei enill.  Gwel di, y mae y cwrw yn myned yn swllt y peint
arno, ac efe, yn siwr, yw y peth drudaf yn y byd am dair ceiniog.”

Mi ddechreuais y llith hwn wrth son am Ty’nyton, ond cefais fy nghario ar adenydd adgofion i gyfeiriad nad oeddwn yn ei fwriadu.

Dechreuoedd Tonyrefail gynyddu i fod yn bentref, o dan ddylanwad Mr. Evan Prichard, Collena, sef tadcu y meddygon Hopcyn Prichard, Taibach, a William Prichard, Trelalas. Y tadcu oedd perchen y Collena, a dywed haneswyr, “Morien” ac ereill, fod y teulu wedi meddianu y lle yn ddifwlch yn y llinach wrywaidd oddiar tua y flwyddyn 1093. Wel, penderfynodd y gwr dan sylw wneud pentref yno. Cyn hyny nid oedd dim i’w gael mewn ffurf fasnachol, ond pethau fferm, heb fyned yn mhell am danynt. Penderfynodd Mr. Evan Prichard godi gweithfa wlan i wau gwlanen, melin i falu yd. Tynodd allan gynllun o weithiau newydd, a threfnodd fod peiriant y gwaith gwlan i droi olwynion y felin. Dechreuodd gyda gwneud camlas i ddyfod a dwfr afon Elwy, yr hon a (x49) dardd yn Nghaer y Gelyn, i lifo ddigon uchel i ddisgyn i droi olwynon y weithfa wlan wrth waelod Twynyton.

Yr oedd y gamlas yn bedwar cant o latheni o hyd, tua saith llathen o led, a phump o ddyfnder. Y mae llawer tro ar fyd wedi dygwydd er pan y byddem yn grots gwledig yn nofio ar ei ddwfr grisialaidd. Llawer un o’n hen gyfoedion wedi myned i’r wlad bellenig, o’r hon nis gall na chloch nac udgorn eu cyrchu yn ol! Y maent yn cysgu hun drom, o’r hon nis dihunir hwynt gan floedd medelwyr, caniad ceiliog, na thwit gwenol ar foreu haf.

Yr oedd hefyd yn perthyn i’r drefn, dri llyn, a gelwir hwynt Pond y Factory, Pond y Felin, a’r Pond Newydd, yr hwn a dderbyniai y dwfr a rhedai {sic} o nant Caerysgol. Cariwyd allan yr holl orchwyl i berffeithrwydd mewn ychdig amser, a bu y draul o’i gwneud yn filoedd o bunau. Nid wyf yn coelio i Mr. Evan Pritchard dderbyn am ei anturiaeth hyd yn nod llog ar yr arian a wariodd ar y gwaith, ond bu o werth mawr i’r ardalwyr yn gyffredinol, ac, fel y dywedyd mewn llith flaenorol, daeth pentref y Ton yn un o’r lleoedd mwyaf cyfleus yn Morganwg.

Isaac James oedd y melinydd cyntaf yr wyf yn ei gofio yno. Yr wyf yn credu mai efe oedd y cyntaf oll yno. Beth bynag, bu yno hyd ei fedd. Yr oedd pawb yn adnabod Isaac o’r felin yn mhell ac agos; nid cymaint am ei ddawn a’i dalant {sic}, ond nid oedd ychwaith yn amddifad o hyny, ond o herwydd ei grefydd. Yr oedd pawb yn adnabod Isaac; nid oedd na dyn na dynes yn yr holl wlad o amgylch nad oedd yn talu gwrogaeth iddo. Mi glywais lawer yn fy amser yn rhoddi gair da, a rhai ereill yn rhoddi gair drwg i’r un personau, ond ni chlywais neb erioed yn rhoddi gair drwg i Isaac. Yr oedd wedi cyrhaedd y fath sefyllfa o barch yn mhlith y Methodistiaid ac ereill er nad oedd ond dyn cyffredin mewn gwybodaeth, fel yr oedd yn rhaid i Isaac siarad yn mhob cwrdd misol a chymanfa. Yr oedd Isaac yn un o’r cyntaf gyda phob mudiad a fyddai o dueddiad i wella moesau dynion. Pan gychwynodd (x50) yr achos dirwestol, dyna Isaac yn ei bleidio a’i holl nerth. Byddai yn myned i’r gwyliau dirwestol, ac yn eu cefnogi yn mhob modd. Yr oedd un tro mewn gwyl ddirwestol yn Mhontyfon, ac yn cerdded gyda’r orymdaith. Fe glywodd Mr. Elias Bassett, o Lanilltyd, am hyny. Yr oedd Mr. Bassett yn gyfreithwr enwog, ac yn foneddwr enwog selog gyda’r Methodistiaid yn Morganwg, ac yn sefyll megis un o’r colofnau mwyaf cedyrn o dan yr achos. Mewn cwrdd misol ar ol hyny wele Mr. Bassett yn codi ar ei draed, ac yn gofyn i Isaac James,

“Onid oeddech chwi yn yr wyl y dydd o’r blaen yn Mhontyfon?”

“Oeddwn,” atebai yntau.

“A oedd arno chwi ddim ofn, Isaac, i gerdded trwy y dref yn canu ac yn dilyn banerau?”

Yr ateb oedd,

“Mr. Bassett, nid wyf yn gwneud dim gydag achos yr Arglwydd nad wyf yn ei wneud mewn ofn a dychryn, gan ofni nad wyf yn ei wneud yn iawn.”

Nis gallodd Mr. Bassett ofyn un gair yn mhellach iddo. Y mae yn gof genyf, pan oeddwn yn hogyn, glywed Isaac yn cynghori yn y Society, ac yn dweud ei fod y boreu hwnw wedi ofni wrth basio heibio i gafn y felin, rhag bod yn debyg iddo. Yr oedd yr hen gafn yn ddefnyddiol i gario y dwfr i droi y felin, ond ei fod yn pydru wrth wneud hyny. “O!” meddai, “y mae perygl rhag fy mod inau yr un fath ar ol ceisio gwella ereill i mi gael fy hun yn anghymeradwy yn y diwedd.” Cafodd Isaac ei gymeryd ymaith mewn tangnefedd. Heddwch i lwch yr hen Gristion cynhes a thyner.

Rees Evans oedd yn cadw y Factory. Brodor o Sir Gaerfyrddin oedd efe. Yr oedd yn frawd i’r Parch. Thomas Evans, gweinidog yr Undodwÿr yn Aberdar.

(x51)
d18 / 4-06 Llith VI
RHYS EVANS Y GWEHYDD - EI DEULU A’I WEITHWYR - DIRGELWCH ATHRAWIAETH Y DRINDOD - YR HEN BOBL YN METHU EI DEALL
Terfynais y llith flaenorol gyda hanes yr hybarch a’r anwyl Isaac James, o’r Felin.
Am Rhys Evans, o’r Factory, a’i deulu, a’i werthwyr y cawn son am danynt yn y llith hwn. Genedigol o swydd Gaerfyrddin oedd Rhys Evans, ac yr oedd yn frawd i’r diweddar Barchedig T. Evans, gweinidog i’r Undodwÿr yn Aberdar. Yr oeddynt yn ewyrthod i Mrs. Williams, o’r Gethin, yn yr un lle. Dyn lled fychan o gorpholaeth oed, yn un hynod o luniaidd, ac ysgafn ar ei draed. Yr oedd yn ddarllenwr mawr a manwl, ac yr oedd o ran cof yn dra nodedig. Yr oedd o ran cymeriad moesol tuhwnt i amheuaeth, ac fe’i perchid yn fawr gan bawb, yn wreng a bonedd. “Edrychai,” fel y dywedir, “pawb i fyny arno.” Cyrchodd Mari, ei wraig, wlaneni a brethynau i farchnad Llantrisant, ac i un Pontypridd wed’yn am flynyddoedd. Ac yr oedd pob peth a werthai o’r ansawdd oreu. Y mae fy nghof yr eiliad hon yn dwyn yn ol i’r meddwl ddarlun o Mari yn marchogaeth y gaseg goch fawr tua’r farchnad. Tynai y gaseg goch fy sylw yn aml pan oeddwn yn grotyn. Sylwn arni yn aml yn pori ar dwyn y Factory. Byddai hi weithiau yn dianc o’r crofft i heol y pentre, a byddai ei phresenoldeb ar yr heol yn creu ofn a dychryn yn mhlith mamau plant. Rhedai y mamau ar ol eu plant, ac ysgrechent, a’r hen gaseg goch, hithau, fel yn mwynhau y dychryn a gynyrchai ei phresenolddeb ar yr heol, a neidiai fel oenig, a gwnelai ffroeni a gweryru nes yr oedd pob benyw yn ei galw “y garan gas.” Y mae “cnacau” difyr yn aml mewn hen gesyg, yn gystal ag mewn hen geffylau. Nis gwn yn iawn pa un ai yr hen gaseg neu Mari, ei meistres, a fethodd gyntaf a myned tua’r farchnadfa, ond buont eu dwy fyw yn hen. Fel yr awgrymwyd yn barod, (x52) Undodwr oedd Rhys Evans o ran ei grefydd, ac Undodwyr hefyd oedd ei blant. Yr oedd y teulu oll yn hynod dalentog, ond y mwyaf athrylithgar o’r plant oedd Thomas, Joseph ac Edmund. Aeth Thomas ymaith i’r America pan oedd yn nghylch pump ar hugain oed, a bu yno yn beirianydd ar ryw gledrffordd. Yn mhen tri deg a phump o flynyddoedd daeth i’w feddwl yr hoffai unwaith eto weled yr “Hen Wlad” ac ardal boreuddydd bywyd Tonyrefail. Bu ar y Ton heb ddweud wrth neb pwy ydoedd, ac yr oedd 35 o flynyddoedd wedi cyfnewid ei wedd yntau, fel nad oedd neb yno yn adnabod ei ymddangosiad. Buasai yn hoff iawn gan ei gyfoedion ag oedd yn aros ar Donyrefail ei weled a’i roesawu. Ond aeth at hen fangre ei rhieni {sic}; wylodd yn ddiau yno wrth gofio y dyddiau gynt, ac yna ymadawodd yn ddystaw heb ddywedyd wrth neb pwy ydoedd. Ond tua milldir allan o’r pentref, ar ochr heol esgynedig, galwodd yn y Tydu gyda Mari Smith, a dywedodd wrthi pwy ydoedd. Yna aeth ymaith, a’r peth nesaf a glywsom am dano oedd fod ein hen gyfaill Twm wedi huno yn yr angau yn yr Unol Dalaethau. Pan wasgarodd y teulu, aeth Joseph ac Edmund i Aberdar, lle y buont yn preswylio am rai blynyddoedd. Aeth Joseph hefyd tua’r America, a bu farw yno yn gydmarol ieuanc. Yr oedd Rhys Evans yn cadw llawer o weithwyr, tuag ugain o rifedi. Byddai Dafydd Shams y Panwr, o’r Bettws (un o hil John Bradford, Ieuan Tir Iarll), yn galw gyda Rhys Evans bob wythnos, pan ar ei ffordd tua marchnad Llantrisant. Dyna lle y cynelid marchnad y parthau hyny o Forganwg y dyddiau hyny. Yr oedd marchnad Pontypridd heb gychwyn y pryd dan sylw. Yr oedd Dafydd Siams {sic; Shams yn rhannau eraill o’r testun} y Panwr yn hynod hoff o chwedl a chymdeithas. Arosai nos Wener, pen pob pythefnos, gyda Rhys Evans nes oedd hi tua naw o’r gloch y nos, yna ymadawai ar ei geffyl, yr hwn a gariai hefyd fwndel mawr o frethynau. Yn araf y teithiai y ceffyl ar hyd y ffordd fynyddig, heibio hen gartref fy nhadcu a’m mamgu – Tynywaun, Hendreforgan, yna drwy afon Crug-las, (x53) drwy Glynogwy (Glynogwr), a thrwy bentref henafol Melin Evan Ddu, a’r Don Ithel Ddu, yn agos i hen gartref Ithel, brenhin Morganwg. Yna elai y Panwr ffraeth dros Bontrithwen, a dringai Fynydd Llangeinor, a chyrhaedda {sic, =  a chyrhaeddai} Pandy y Bettws tua chanol nos. Yr oedd Dafydd Shams y Pabwr, yntau hefyd yn “Sosin,” fel y gelwid Undodwr y pryd hwnw. Yn awr a phryd arall gwahoddai Dafydd Shams fechgyn Tonyrefail i ymweled a’r Bettws i glywed Mr. Jones, Penybont, yn pregethu Undodiaeth. Yr oedd Mr. Jones yn wr dysgedig, efe oedd gweinidog y Sosiniaid yn nghapel yr enwad wrth odreu heol y Castell Newydd, Penybont. I’r capel hwnw y cyrchai Mr. Walter Coffin, perchenog gwaith y Ddinas, Cwm Rhondda, a’i deulu. Ac yr oedd gan yr enwad gapel bychan yn y Bettws wedi ei waddoli gan rhywun {sic, dim treiglad}. Byddai yn ddyddorol cael gwybod a oedd cysylltiad rhwng hen deulu y Bradfords a’r capel hwnw.

Ar un boreu Sul hafaidd, tua diwedd mis Mai, gwelwyd saith o ieuenctyd y Ton yn cychwyn (tua chwech o’r gloch) tua’r Bettws. Eu henwau oeddynt, Dafydd Evans, yn awr o’r Docks, Caerdydd, mab yr Hybarch W. Evans; “Dewi Harran”
{Dewi Haran - David Evans, 1812-1885, aelod o ‘Glic y Bont’, carfan o feirdd o ardal Pont-tÿ-pridd}; W. James (“Bili o’r Felin”); William Treharne; Thomas Edwards, Caercurlais Isaf {sic}, wedyn o Gaerlam {sic}; Tomos y Gwehydd; a Twm, mab Llywelyn. Cyrhaeddasom Dy’n y Bettws, magwyrydd Dafydd Shams, erbyn naw o’r gloch. Nid oedd Dafydd yn gwybod dim ein bod yn ei canfod, agorodd ei lygaid led y pen, yna bloeddiodd gan ddywedyd, “Mari, y mae yma dorf o gyfeillion wedi dyfod o Donyrefail i’n gweled, ac y mae yn ofynol iddynt gael boreufwyd.” Yna aeth o’n blaen i’r ty, a ninau ar ei ol. “Mari,” ebe ef, “nid oes dadl yn y byd nad rhagluniaieth a barodd i mi brynu y leg cig llo yna yn Benybont neithiwr.” Yna aeth yn y blaen i adrodd wrthym hanes y leg cig llo. “Yr oeddwn neithiwr,” ebe ef, “yn y Ship, Penybont, a daeth Wil Shon, o Dy’n y Clwtyn, Llanharran, i mewn. “Dafydd Shams,” ebe fe, “ y mae genyf (x54) leg o gig heb ei gwerthu, ac y mae yn farchnad ddrwg iawn. Prynwch da ch’i, y leg gen’i.” “Pa faint yw ei phwysau hi, Wil Shon?” “Tri phwys ar ddeg a haner,” oedd ei ateb. “Gwrando, Wil,” ebwn inau, “byddai Mari yn siwr o fy nghyru allan o’r ty am fy mod yn prynu aelod o gig mor fawr ag yna.” Ebe Wil, “Chwi a’i cewch hi am dair a dimeu y pwys.” “Gwelais,” ebe Dafydd Shams wrthym (yr oeddym yn awr yn ddiwyd gyda’r boreufwyd), “na fuasai hi ddim yn dyfod i lawer o arian, a phrynais hi.” Yna dywedodd, “Y mae yn yr ardd datws ag y gelwir “Cochion Cynar” arnyn nhw, ond y mae yn ofynol eu cloddio allan, a dydd Sul yw hi! Ond nid ydwyf yn credu y byddai yn bechod eu cloddio allan er taw dydd Sul ydyw hi, canys y mae yn amlwg fod yr Un Mawr am i ni gael ei ffrythau yn eu blas goreu.”

Aethom erbyn unarddeg o’r gloch tua’r capel, a chawsom y gweinidog yno. Dywedodd ef fod yn teimlo yn ddedwydd gweled cymaint o wrandawyr wedi dyfod yn ngyd. Oni fuasai i ni fod yno, ni fuasai y gynulleidfa ond Dafydd Shams a’r wraig oedd yn glanhau y capel. Esgynodd Mr. Jones i’r pwlpud, a rhoddodd allan air i ganu. Yr oedd bechgyn Tonyrefail yn gantorion go lew. Wedi’r canu, aeth Mr. Jones i weddi, yna, cyn cymeryd ei destyn, anerchodd y dyeithriaid, gan ddywedyd ei fod yn debyg ein bod wedi dyfod i’r Bettws y Sabboth hwnw er mwyn gwrando athrawiaeth yr Undodoiaid. “Darllenaf destyn,” ebai ef, “a gwnaf sylwadau
arno mor eglur ag y medraf.” Yna darllenodd y ddwyfed adnod ar bymtheg o’r benod gyntaf of {sic} epistol cyntaf St. Pedr. “Os ydych yn galw ar y Tad, yr hwn sydd heb dderbyn wyneb yn barnu yn ol gweithred pob un, ymddygwch mewn ofn dros amser eich ymdeithiad.” Cawsom yn ei bregeth lawer iawn o sylwadau da gwerth eu cofio. Ond rhywfodd nid oedd yr athrawiaeth yn cael mymryn o ddylanwad arnom.
 
(x61)
d19 / 4-07 Llith VII.
MR. ROBERT THOMAS O’R GLYN – CHWARAEON DIGRIF – CYMERIADAU HYNOD HELYNT PANTRYTHYN FACH – TWM SHAMS RHYS YN CYMERYD MEDDIANT O HONO – Y MWSTWR YN NGLYN A’I DROI ALLAN

Addewais yn fy llith diweddaf roddi ychydig o hanes Mr. Robert Thomas, o’r Glyn, yn yr ardal. Saif y Glyn, fel y gelwir yr amaethdy lle y preswylai Mr. Robert Thomas, i’r dwyrain o Donyrefail, a thua milldir o’r pentref. Y mae yn sefyll ar lechwedd ysgafn, a’i wyneb tua Chwm Castella, ac yn y pellder saif, megis ar glogwyn rhwng bryniau, dref henafol Llantrisant – hen dref bwysig yn yr hen amseroedd yn hanes amgylchiadau Morganwg.

Yr oedd Mr. Robert Thomas, a’i dadau o’i flaen, yn berchenog ar dir y Glyn; ac yn yr hen amaethdy ar y tyddyn y preswylai efe a’i wraig, eu mab a’u merch. Cadwai efe wyth neu ddeg o weision a morwynion. Enw ei wraig oedd Jenet. Enwau ei plant oedd William a Ffryswydd. Priododd William a Miss Rebecca Smith (chwaer Mri. W. a T. Smith, o Twynycae, yn agos i Lanharan). Yr oedd Miss Rebecca Smith yn ddynes brydweddol, serchog, a llawn o fwyneidd-dra. Yr oedd yn bleser mawr bob amser ymweled a’r Glyn yn eu dyddiau hwy. Eu mab hwy yw Mr. William Thomas, Rhiwgarn Fawr; a’u merched oedd y diweddar Mrs. Henry Naunton Davies, Cymmer, a Mrs. Lewis Davies, Gellywion.

Priododd Miss Ffryswydd Thomas (yr hon oedd ddiarebol am ei phwyll a’i synwyr cyffredin) a Mr. Gruffydd Evans, “Benbwch,” fel y gelwir y lle ar lafar gwlad. Codasant deulu mawr, ac y mae amryw o honynt yn fyw heddyw.

Yr oedd Mr. Robert Thomas a’i wraig yn aelodau crefyddol gyda’r Annibynwyr yn y Cymmer, a byddai llawer o weinidogion yr enwad parchus hwnnw yn cael llety, yn awr ac yn y man, yn y Glyn. Yn mhlith ereill, lletyai yno yn achlysurol y Parch. (x56) Dl. Gryffydd, Castellnedd; y Parch. Philip Gryffydd, yr Alltwen; “Rhys y Glun Bren,” ac ereill. Yr oedd y bobl dda hyny yn hoff iawn o deulu y Glyn, a byddent yn aml yn adrodd yn y Glyn eu helyntion pan ar eu teithiau. Byddai y Parch. Dl. Gryffydd yn adrodd hanesion digri weithiau. Yr oedd ef wedi ei urddo yn weinidog pan yn ieuanc, ac heb briodi. Daeth i’w feddwl mai dymunol fyddai cael cydmar bywyd. Pan oedd y meddwl hwn yn ymhel ag ef, dygwyddodd un nawn ei fod yn rhodio glan y mor, ger Abertawe. Cyfarfyddodd a lodesi ieuainc, a chyfarchodd un o honynt ef wrth ei enw, a dywedodd wrtho ei fod ef wedi bod yn nhy ei mam a’i thad, sef yr Aber, Llanfabon. Pan oeddent fel hyn yn siarad, aeth y merched ereill yn eu blaen, ac yn mhen tipyn rhoddodd y gwr parchedig ei fraich i’r ferch ieuanc, ac aethant ar ol y lleill. Cerddasant yn ol a blaen ar hyd y traeth, pan, yn anffodus, pwy a’u cyfarfyddodd ond rhai aelodau y capel lle yr oedd ef yn weinidog. Yr oedd y pryd hwnw yn cael edrych arno yn drosedd, i weinidog yr efengyl ymhoffi yn y rhyw deg; a chyn fod y gweinidog yn ol yn Nghastellnedd yr oedd y newydd allan ei fod wedi ei weled yn rhodiana gyda merch ar lan y mor, yn agos i Abertawe. Edrychai yr henaduriaid arno yn gilwgus, a chodai yr hen wragedd wyn eu llygaid i’r golwg! Mae yn lled debyg mai un o’r hen draddodiadau Pabyddol oedd y rhagfarn hwn yn erbyn i weinidog gyfeillachu a merch. Gwyr pawb na cha un o offeiriaid Eglwys Rhufain briodi o gwbl. Ar y Sabbath canlynol pregethodd Dl. Griffiths yn ei gapel ei hun ar y testyn am yr Iesu yn ymddyddan a’r wraig o Samaria, iddo ofyn i’r wraig am ddwfr i’w yfed; y wraig yn gwrthod o herwydd mai Iuddew ydoedd efe, a hithau’n Samariad. Yr oedd y dysgyblion wedi myned i’r pentref i brynu bwyd, ond pan ddychwelasant bu ryfedd ganddynt ei fod yn ymddyddan a gwraig. “Yr ydych yn camsynied yn sicr – ymddyddan a gwraig?” meddai Mr. Griffiths. “Oedd, yn wir, dyna ddywed yr ysgrythyr. O!’r nefoedd anwyl, ni feiddia neb siarad hyd yn oed a ‘merch ieuanc’ yma!” Yr oedd y cellwair yn disgyn

(x57) ar yr aelodau fel tan; a’r gwrandawyr hyny oeddynt yn gwybod yr hanes yn chwerthin allan. Ond priododd Dl. Gryffydd a Miss Thomas, a bu eu cyfarfodydd yn fendithiol i’r ddau.

Nid oedd llawer yn gallu darllen yr yr amser hwnw (70 mlynedd yn ol), ac, yn wir, nid oedd ond ychydig o lyfrau yn cael eu cyhoeddi yn Gymraeg. Yr oedd “Seren Gomer” yn dyfod allan yn fisol, ond nid oedd un papyr newydd Cymraeg yn cael ei gyhoeddi yn holl Gymru y pryd hwnw. Yn wir, nid oedd ond ychydig o bapyrau Seisnig yn dod allan.
Yr wyf yn cofio fod Mr. Harris, Trefarug; Mr. Howells, Rhiwfelen; a Mr. Williams, Garthgraban, yn derbyn y “Cambrian” rhyngddynt.

Ar nosweithiau hirion yn y gauaf byddai pobl yn chwareu rhyw gampau digrif yn y Glyn, fel mewn ardaloedd ereill yn y wlad. Byddent weithiau yn chwareu “Bwbach Darllen”; ereill a chwareuent ar y “stol gandno.” {sic}Ambell waith chwareuent yn y Glyn yr hyn a elwid “Trick.” Yr oedd bob amser yn y Glyn, fel oedd yn Tylcha, gymeriadau hynod. Yno yr oedd Beni Tiler, Daniel Price, Dafydd y cigydd, &c. Un noson, a’r lleuad yn arianu y wlad, penderfynwyd chwareu Trick. Math o ddaroganu pwy a fyddai gwyr neu wragedd y cyfeillion oedd y Trick yma. Y noson hono, yn yr ardd y chwareuid y Trick, ac yr oedd Mrs. Thomas, y feistres, heb yn wybod i Ben Tiler, wedi gwisgo yn debyg fel y gwnelai hen Shan Persondy, ac yn ymguddio tucefn i lwyn tew yn yr ardd. Hen ferch oedd Shan Persondy ar ymweliad a’r lle lawer gwaith yn y flwyddyn i wneud bara ceirch; gwisgai wn gwlanen, byr, a het wellt gyffredin ar ei phen. Dyma’r dull yr ymddangosai Mrs. Thomas y tucefn i’r llwyn, a gwyddai y lleill ond Beni druan ei bod hi yno. Yr oedd y parti i fod yn saith o nifer i redeg saith gwaith o amgylch yr ardd. Byddent yn adrodd y geiriau canlynol: -

“Dyma’r gyllell, dyma’r wain,
P’le mae’r ferch sy’n ceisio ‘rhain?”

Ar y seithfed tro, wele Shan Persondy (Mrs. R. Thomas) yn (x58) rhuthro allan o’r tucefn i’r llwyn, ac yn cymeryd y gyllell a’r wain o law Beni ddiniwed! Bu Beni bron llewygu yn y fan, gan redeg llefai, “O, phriodai dd’ h {sic; mae’n debÿg  dd’ hi ddylai fod, hynny yw, ddi} byth! Hen Shan yw hi! Na ‘bur’! (byth).” Yr oedd Ben yn drwm iawn ei glyw. Codai ei ddwylaw yn awr, a dywedai am Shan, “Na wna i, mae Duw yn gwybod! Phrioda i hi ‘bur’ (byth)!” Yr oedd Beni yn un o’r “Hen Gorph” ar y Ton; ond, fel y dywedodd y Parch. Joseph Thomas, Carno, am Pedr wedi iddo regu, mai heb anghofio iaith pysgodwyr glan mor Galilea yr oedd efe! Felly Beni hefyd, pan gynhyrfai yn ddirfawr deuai iaith yr Aipht yn ol iddo yn eithaf naturiol.

Bu Beni yn isel iawn ei ysbryd o herwydd ofn y deuai Shan i’w ran, a gorfu ar Mrs. Thomas ddywedyd y cwbl wrtho. Ysgafnhodd hyny ysbryd Beni yn union.

Flynyddoedd lawer yn ol yr oedd yn byw yn Gwrt Golomen, ger Tondu, hen gyfreithiwr o’r enw Mr. Rhys. Yr oedd yn gyfoethog iawn, a bu farw heb na gwraig na phlant, ac heb wneud ei ewyllys. Aeth yn frwd yn nghylch ei feddianau. Hawliai Mr. Robert Thomas (a hyny yn gywir) mai efe oedd ei etifedd. Ond hawliai un Dafydd Terry mai efe oedd y gwir etifedd. Aeth yn gyfraith, ac wedi hir gyfreithio, a thraul fawr, rhoddwyd y farn o blaid Mr. Robert Thomas, a rhoddwyd rhai o dystion Dafydd Terry yn ngharchar am dyngu celwydd. Aeth rhai o’r tystion wed’yn yn wallgof o herwydd cnofeydd cydwybod yn nghylch eu gwaith anfad. Ond ychydig fu elw Mr. Robert Thomas; yr oedd gwyr y “quills” wedi llyncu bron y cwbl ond yr enwyn! Cafodd yr etifedd hwnw.

Cof genyf pan oeddwn yn laslanc, i genad ddyfod un prydnawn i’r pentref a chais oddiwrth Mr. Robert Thomas am gymorth; yr oedd un Twm Shams Rhys wedi cymeryd meddiant trwy drais o Bantrythyn Fach, un o’r ffermydd ger Pencoed Llanylid {sic}. Tua dau o’r gloch boreu dranoeth, yr oedd tua haner cant o honom wedi ymgynull ar “Groesheolycapel,” islaw y Glyn. Yr oedd pastwn yn llaw bob un o honom, ac yr oedd pob calon yn llawn brwdfrydedd dros “Ropart o’r (x59) Glyn” ac yn penderfynu troi Twm Shams Rhys a’i fyddin o ddynion a chwn allan! Ffwrdd a ni wrth oleuni y ser tua Llantrisant. Cyrhaeddasom gyda thoriad dydd. Yno ymunodd a ni gatrwad gref o’r “Black Army,” a chyrhaeddasom Bontyfon erbyn amser boreufwyd. Cawsom foreufwyd yn y Tennis Court yno. Ar y pryd yr oedd ymladdwr hynod iawn o’r enw Wil Charles yn byw yn Casnewydd, a llawer o son am dano. Yr oedd yn ein plith “Shon, o Dafarn y Cymmer.” Yr oedd yn ddyn lluniaidd, a’i ysgwyddau yn llydain iawn. Dodwyd i {sic} si allan mai Wil Charles oedd Shon. Aeth y son fod Wil Charles gyda ni fel tan gwyllt drwy y dref, a phan y cychwynasom drwy y dref tua chyfeiriad y Filldir Aur, ar ein ffordd tua maes ein gorchwyl, yr oedd holl bobl y dref ar eu drysau yn ceisio canfod Wil Charles. “Dyco fe!” meddai pawb, gan gyfeirio at Shon, yr hwn oedd yn fachgen eithaf heddychol ei anian, er ei fod yn un cadarn o gorph. Troisom i lawr ar ein de, ac ar gae Pantrhythin tyngodd Mr. Redwood, cyfreithiwr, ni yn chwech ugain o nifer yn geisbwliaid, a gosodwyd ruban gwyn am fraich pob un. Yna dynesodd Mr. Redwood at ddrws Pantrhythyn Fach, a gofynodd i’r rhai o’r tu fewn i agor y drws, ond nid oedd un atebiad. O’r diwedd bloeddiodd, “Bring the iron bar here,” a chyda hyny wele “Dafydd Prhys Bach,” {sic} o’r Wig, yn rhuthro tuag at y drws, a’r golofn haiarn yn ei ddwylaw. Ond, cyn iddo daro a dechreu y frwydr, agorwyd y drws, a daeth allan Twm Shams Rhys, ac ereill, a’u cwn. Bloeddiodd Shon (o hyd yn nghymeriad “Wil Charles”): “Gadewch i mi gael gafael yn war fawr Twm Shams Rhys!” Dychrynodd yr oll o’r lleill a ddaethant allan; cymerwyd hwynt yn garchorion, a chawsant eu cymeryd i Gaerdydd i’r carchar. Cawsant wed’yn eu dedfrydu i fisoedd o garchariad.

Bu Mr. Robert Thomas farw yn ddisymwth yn nhy Mrs. Alice Powell, yn “Hen Gastell”, Penybont-ar-Ogwy, a chladdwyd ef yn Llantrisant, ar y diwrnod y coronwyd ein Grasusaf Frenhines Victoria, yn 1837.
 


(x60)
d20 / 4-08 Llith VIII.
“DIC O’R COTTISH”- CANWYLLAU CYRPH - Y SOSINIAID - RASMUS A’R HELBUL - FAIRFIELD - MR. DANIEL OWEN
Yn fy llith flaenorol addewias roddi hanes rhai o weithwyr y diweddar Rees Evans. Yr oedd ganddo lawer o nyddwyr a gwehyddion, fel y dywedais o’r blaen. Un o’r rhai cyntaf wyf yn ei gofio oedd Mr. Thomas Anthony, tad Mr. H. Anthony, Y.H., Caerffili. Dyn bob modfedd o hono oedd Mr. Anthony. Yr oedd wedi ei greu yn wr bonheddig; yr oedd pawb – bach a mawr – yn ei barchu. Yr oedd yn un o’r dynion harddaf a welais erioed, ac yn cadw ei hunan yn hynod o lanwedd bob amser. Fel rheol, nid oedd y gwehyddion yn enillwyr mawr, ond safiodd y gwr da hwn, trwy ei ddiwydrwydd a’i gynildeb, lawer o arian. Yr oedd yn frawd i Mr. Anthony y Panwr, ac yn berthynas agos i Mr. Anthony, Flower-de-leus. Ar ol i Mr. Harry Anthony farw, cafodd yn agos y cwbl o’i eiddo ar ei ol, a daeth yn bur gyfoethog. Priododd a merch John Williams, ffarmwr yn ymyl Caerffili – merch ieuanc hynod o brydweddol – a throdd allan yn uniad rhagorol. Yr wyf yn ei chofio yn dda yn cadw y farchnad am lawer o flynyddoedd yn Mhontypridd i werthu gwlanenni. Yr oedd ei hymddangosiad boneddigaidd, yn nghyd a’r gwlanenni oedd yn werthu {sic, = eu gwerthu}, yn tynu sylw pawb. Gellir dweyd am dani fel y dywedodd Lemuel frenin yn y broffwydoliaeth a ddysgodd ei fam iddo: “Hi a gais wlan a llin, ac a’i gweithia a’i dwylaw yn ewyllysgar. Tebyg yw hi i long marsiandwr, hi a ddwg ei hymborth o bell. Hi a gyfyd liw nos, ac a rydd fwyd i’w thylwyth a dogn i’w llancesau. Hi a feddwl am faes, ac a’i pryn ef. Hi a weithia iddi ei hun garpedau; ei gwisg oedd sidan a phorphor. Hynod oedd ei gwr hi yn y pyrth.” Mi wn nad oes neb yn fyw a ddywed fod hyn yn ormodiaith am Mrs. Anthony. Dylaswn ddewyd mai brodor o’r Bettws, ger Penybontarogwr, (x61) oedd ei thad, a brawd i’r diweddar Isaac Williams, Tynybryn, Tonyrefail. Maent oll wedi myned i fro distawrwydd er’s llawer o flynyddoedd.

Dyna un arall o weithwyr Rees Evans oedd Mr. Hopkin Morgan, o Langriwynau, Sir Fynwy {= Llangrwyne, ger Crucywel}. Yr oedd Mr. Morgan yn lenor gwych. Bu yn myned i Eisteddfod y Fenni am lawer blwyddyn. Priododd a Miss Mary Thomas, o Donyrefail, ac yr oeddynt y par mwyaf golygus a ellid weled. Daeth Mr. Morgan i sylw mawr gydag Arglwydd ac Arglwyddes Llanover. Cymerodd Factory Llangriwynau, Llanover, a bu fyw yno hyd ei fedd. Daeth i sylw mawr gyda’r gwyr mawrion oedd yn ymweled a Llanover, ac yr oedd y gwlaneni a wneud ganddo yn cael eu hanfon i foneddigion pell ac agos. Yr oedd Mr. Morgan yn aelod gyda’r Annibynwyr yn y Cymmer, ond nid oeddym yn edrych arno fel yn “orthodox.” Yr oeddem yn tueddu i feddwl fod credo ei feistr wedi dylanwadu arno; yr oedd yn lled wan yn ei gredo ar ddwyfoldeb person Crist.

Cawsom lawer iawn o ddifyrwch lawer tro wrth ei glywed yn holi Dic o’r Cottish am ganwyllau cyrff ac ysbrydion. Byddai Dic yn cwrdd a thrafferthion pwysig wrth ddod adre’ yn y nos. Byddai mewn angladdau yn fynych yn cael ei wasgu’n drwm. Yr oedd ganddo lawer i’w ddweyd am Groesol Rhiwfelau {sic; = Rhiwfelan / Rhiwfelen}, a Gwaunypant. Yr oedd yn dweyd mai lleoedd ofnadwy oedd y rhai hyn am ysbrydion. Yr wyf yn cofio yn dda fy mod yn sefyll ar Dwyn y Ton ar noswaith dywyll, ac amryw o’r gwehyddion gyda ni. Dyna Dic yn tynu ein sylw at ganwyll gorff yn dod oddiwrth Groesol Tynybryn tua’r Waunrhydd. Yr oedd Dic yn sicrhau mai arwydd fod angladd i ddyfod y ffordd hono yn sydyn ydoedd. Ond dygwyddodd i Hopkin Morgan chwerthin cyn i Dic ddybenu. Digiodd drwyddo, a dywedodd nad oeddynt hwy, y Sosiniaid, a thylwyth Rees Evans, ddim yn credu mewn Duw na diawl, ond eu hunain. Ac yn y cythrwfl, fe ddiffoddodd y ganwyll. A wyddoch chi pwy oedd y ganwyll? Dim ond Abram Lloyd
(x62) o Gelli’rhaidd, yn dyfod at Bili Dafydd, y Bwtsiwr, a defaid mewn panierau, a chanwyll a “lantern” i’w oleuo.

Byddai Dic yn dywed llawer wrthym am ysbrydion Garthgraban Fawr. Yr Humphreys oedd perchenogion y lle, ac yr oeddynt yn byw yno am lawer o flynyddoedd. Dygwyddodd fod ganddynt was o’r enw Rasmws. Yr oedd yn ofergoelwr mawr; yr oedd yn credu yn gryf mewn ysbrydion. Byddai yn gorfod myned tua Llantrisant i’r Post yn hwyr weithiau, ac ar negeseuon ereill. Ond yr oedd yn arfer cwrdd ag ysbrydion bron yn wastad. Byddai ci mawr yn ei ddilyn a’r ci yn troi yn darw; yn y diwedd byddai y perthi ar dan bob ochr iddo, a deuai adref yn chwys mawr ac ar fin marw. Pan y byddai y meistr o dre byddai Rasmws yn ofni yn ddirfawr. Byddai ganddo ddryll yn ei ystafell wrth ochr ei wely. Un noswaith yr oedd yn clywed swn dychrynllyd y tuallan. (Mae Garthgraban Fawr yn ymyl y Coedmawr, ac yr oedd Rasmws yn fwy ofnus yn herwydd hyny; byddai yn credu bod yr ysbrydion yn myned i’r goedig {sic; = i’r goedwig} y dydd ac yn dychwelyd y nos). Ond noswaith ofnadwy oedd y noswaith y saethodd drwy y ffenestr. Pan gododd boreu dranoeth cafodd chwech o’r “turkeys” wedi eu lladd, a deallodd mai hwy oedd yr ysbrydion y noswaith hono, oblegyd wedi iddo saethu bu yno dawelwch mawr. Aeth y perchnogion i fyw i Loegr. Yr oeddynt wedi blino ar ddywediadau Rasmws a’r cymydogion am yr ysbrydion; yr oedd dychryn ar bobl i fyn’d heibio wrth oleu dydd.

Cymerodd Mr. Williams, o’r Gadlys, Aberdar, at y le, a daeth ef a Mrs. Williams i fyw yno. Fe darfodd Mr. Williams yr ysprydion drwg; chlywyd dim am danynt mwyach. Tad y Parch. D. Watkin Williams, Fairfield, oedd Mr. Williams, o’r Gadlys. Yn Aberdar y gwnaeth ei gyfoeth. Fe ddywedir ei fod yn deall marchnad yr arian yn dda. Byddai ganddo rai yn gwylied yr Exchange bron bob amser drosto. Fe ddywedir iddo wneud haner can’ mil o bunau yn y ffordd hon. Yr oedd ei fab, Mr. Williams, Fairfield, yn Cambridge am flynyddau wedi i’w dad ddyfod i Garthgraban, a byddai y gwr boneddig (x63) ieuanc yn dyfod adref yn awr ac yn y man i weled ei dad a’i fam. Yr oeddem bob amser yn ei roesawu pan y deuai. Byddai y pryd hyny yn galw i weled y cymydogion, ac yr oedd yn ein sirioli yn fawr. Byddai Mr. Williams yn cadw gwas iddo ei hunan. Yr wyf yn cofio Dic Butler, o Glynogwr, gydag ef. Byddai Dic yn gwneud ei hun yn ffwl yn fynych, os nad oedd felly mewn gwirionedd. Ond ‘doedd arno ef ddim ofn ysbrydion, beth bynag. Os byddwn byw, bydd genym lawer i’w ddweyd am Mr. Williams eto.

Dyn ieuanc arall wyf yn ei gofio yn gweithio i Rees Evans oedd Mr. Daniel Owen, Ash Hall. Fe ddywedir nad ydoedd yn rhyw lawer o grefftwr pan ddaeth o Lanharran {sic} i Donyrefail. Gallai weithio a’r wenol fach, ond cyn ymadael a’r Ton fe ddysgodd ar y Fly Wheel, a daeth i wae stripes traws a shawls. Yr oedd Mr. Owen y pryd hwnw yn dangos ei fod yn feddianol ar dalent. Byddai weithiau yn cynyg at farddoni. Pan ymadawodd a Thonyrefail, fe ddywedir iddo wneud englyn, a dyma fo –

“Ni ddof i’r Ton ond hyny,
I geisio gwae na chlymu:
Waith dyna rhai sy’n mynd a’r crop
Yw gwyr y siop a’r dwldu.”

Yr oedd Mr. Owen y pryd hyny yn dechreu cael blas ar arian. Fe ddaeth wedi hyny i Bontypridd. Bu yn gweithio am flynyddoedd yn ffactri Heolyfelin, yn Mhontypridd.

Mae yma enwogion ereill wedi bod ar ol Mr. Owen. Dyna lle bu Mr. James byw, a dyma’r lle y bu farw. Efe ydoedd awdwr enwog “Hen Wlad fy Nhadau.” Fe fydd ei enw mewn cof am ganoedd o flynyddau.

Fe briododd Mr. Owen a Miss Jones, merch y Parch. Ll. Jones, gweinidog yr Annibynwyr yn Sardis, Pontypridd. Y mae y briodas wedi bod yn un hapus dros ben. Fe ddywedir fod y foneddiges wedi cael synwyr a phwyll ei hybarch dad. Aeth Mr. Owen yn gydmarol ieuanc i Awstralia; gwnaeth
(x64) gyfoeth mawr yno. [ÔL-NODYN: Bu farw Mehefin 5, 1896. Ganwyd ef Mai 22, 1829]. Mae erbyn hyn yn un o ustusiaid heddwch Sir Forganwg. Beth wyf yn siarad; y mae ei enw yn adnabyddus trwy yr holl wlad. Byddai hanes ei fywyd, wedi ei gyfansoddi ganddo ei hun, yn dderbyniol ac yn llesiol.

(x65)
d21 / 4-09 Llith IX.
PROFFWYD Y BETTWS – DAFYDD SHAMS – CYFARFODYDD DIRWEST GYNT – UNDODWYR Y TON
Bu Dafydd Shams, y Panwr, ger y Bettws, fyw hyd yn ddiweddar ac yr oedd pan derfynodd ei daith ddaearol yn un o warcheidwaid y tlodion yn Mhenybont. Cyfarfyddem yn awr ac yn y man yn Mhenybont, a choffai yn aml, gyda llawneydd, am y boreu hwnw, dros haner cant o flynyddoedd yn ol, pan ymwelwyd a’i fagwyrydd clyd, ger y Betws, gan dorf o fechgyn Tonyrefail. Terfynodd ei yrfa hirfaith yn cael ei barchu gan wreng a boneddig. Dywedir wrthyf fod rhyw ddirgelwch yn nglyn ag hanes dyfodiad y Bradfords, o ba rai yr hanodd Dafydd Shams i’r Bettws, lawer o flynyddoedd yn ol. Dywedir eu bod o linach Saesneg, bendefigaidd, a’u bod wedi gorfod ffoi o Loegr yn amser “Mari Waedlyd,” o herwydd eu Protestaniaeth; a dywedir fod eu cofnodiad llinachol ar un o’r muriau tufewn i Eglwys y Bettws. Ond dyna, yn ol arfer hen bobl, yr wyf yn dueddol i grwydro yn fy ymadroddion. I ddychwelyd. Yr oedd Dafydd Shams yn ddirwestwr selog iawn. Yn y dyddiau hyny cynaliai y dirwestwyr gyfarfodydd mawrion ar nawn Suliau ar y gwastadedd rhwng “Ystafell Arawn” a’r Dinas Isaf ar Graig y Ddinas, heb fod yn mhell o’r heol fawr o’r Cymmer i Lantrisant. Dafydd Shams fyddai yn aml yn llywydd y cyfarfodydd hyny. Rhyw gyfnod rhyfeddol oedd hwnw yn hanes Morganwg. Yr oedd yn hynod am yr yni meddyliol a ddynodai agwedd y Cymry yn gyffredinol ac yn yr ardaloedd amgylchynol. Byddai areithio tanllyd ac hyawdl o dan “Ystafell Arawn” am tua dwy awr. Yno yr areithiai “Lewis Machine,” “Shon Llwynsaer,” John Isaac Evans, Dafydd, mab y Parch. William Evans, &c. Yn wir, yr wyf yn haner coelio i myfi fy hunan ddywedyd tipyn yno fwy nag unwaith. Yn yr wythnos ganlynol byddai Dr. Evan Davies, tad y Dr. H. Naunton Davies, (x66) Cymmer, yn beirniadu ein sylwadau yn areithiau y Sabbath blaenorol. Byddai ysgrifenu ar hyny, ac nid oedd fawr o son am ddim arall. Yr oedd adran ddirwestol gref yn y Ddinas, ac un arall ar Donyrefail. Yr oedd gan bob adran ei baner sidan fawr iawn, a byddai yn cael ei chario gan rywun cadarn o flaen yr adran, pan fyddai ar y “march,” fel y dywedir yn awr. Yr oedd y banerydd a dolen ledr lydan am ei ysgwyddau, a gorweddai i lawr dros ei fynwes. Wrth odreu y ddolen ledr yr oedd crai i dderbyn blaen y polyn hir, ar ben pa un y byddai y pren croes wrth yr hwn y crogai faner fawr lydan. Yr wyf yn cofio fod mesen felen fawr ar ben y polyn, ac un ar flaen pob pen i’r pren croes, baner “y Ton.” Cedwid y polyn yn ofalus ar ben rhes o binau haiarn tuag at ddal hetiau o fewn capel y Methodistiaid yn y lle.

Am Rhys Evans, o’r Factory, er ei fod yn Undodwr, ni wnelai byth wthio ei syniadau Sosinaidd ar ereill; ond byddai bob amser yn barod i roddi benthyg ei lyfrau. Mi gefais i, fel ereill, fenthyg ganddo waith Dr. Priestly;  Esboniad ar y Testament Newydd, gan Besham; a Thraethodau Jones, Gelli Onen. Ond nid wyf wedi cael lle i ddeall i neb o feibion Ysgol Sul y Ton gael ei henill at y ffydd Undodaidd, ond Jenkin Evans, wed’yn ysgrifenydd gwaith glo y Ddinas am lawer o flynyddoedd. Bu ef farw ychydig o flynyddoedd yn ol yn Mlaenllechau, lle yr oedd yn llenwi swydd gyfrifol. Dyn talentog ac ymresymwr, fel y dywedai Morgan Rowland, o’r Ddinas, oedd Siencyn Evan. Bydd genyf ragor eto i’w ddywedyd am y cyfaill anwyl hwn. Ymwelai Dr. Evan Davies a thy Rhys Evans yn aml. Yr oedd amryw o Undodwyr tuag ardal Fforest y Garth, sef ardal a elwid hefyd Ffrwd Amos, ond sydd wedi ei chyfnewid, wedi canrifoedd, i Penygraig. Enw ffol iawn ar wastadedd, onide? Yn mhlith yr Undodwyr yno cawn Bili, mab Beti Llewelyn o’r Cwrt, Daniel Thomas, wedi hyny arolygydd gwaith Mr. Walter Coffin a’i Gyf., &c. Ond yr oedd yno fechgyn lawer yn ddarllenwyr mawr, ac yn aros yn y ffydd Drindodaidd. Gellir enwi yn mhlith ereill,
(x67) T. Thomas Morgan (tad “Morien,” ac hefyd tad y Parch. T. T: Morgan, ficer Chertsey, Windsor), Morgan Rowland, Rowland Rowland, Rowland, mab Thomas Rowland; Ishmael Williams, “Sam y crydd,” William Froster, &c.

Yr oedd Llywelyn, o’r Cwrt, yn llawn o dalent, a’i arabedd yn ffraethbert bob amser. Ond ambell dro cyfarfyddai a’i debyg. Yr wyf yn cofio un noson fod un Siencyn William a Llewelyn, o’r Cwrt, yn dadleu. Yr oedd Llewelyn yn siarad am yr Un mwyaf fel pe gwyddai bob peth yn ei gylch. Yn mhlith pethau ereill, dywedodd Llewelyn, “Gwn am un peth, Siencyn, ac y gellwch chwi ei wneuthur lawn cystal a’r Un Mawr.” “Beth yw hyny?” gofynai Siencyn. “Gellwch,” ebe Llewelyn, “rifo pedwar gystal ag yntau.” “Charwn i ddim cystadlu ag ef,” ebe Siencyn mewn llais cras, “rhag ofyn {sic, = ofn} iddo’m atal ar y tri!” Byddai dawn ac arabedd Llewelyn, o’r Cwrt, yn ddifyrwch mawr yn aml i’r diweddar feddyg, Dr. Evan Davies. Byddai yn cadw Llewelyn gydag ef am fisoedd ar y tro. Dywedodd Dr. H. Naunton Davies wrthyf yn ddiweddar mai un o’r pethau mwyaf effeithiol a glybu yn ei oes oedd clywed Llewelyn, ychydig o amser cyn ei farwolaeth, yn coffa y geiriau rhyfeddol, “O Dad, os ewyllysi droi heibio y cwpan hwn oddiwrthyf; er hyny, nid fy ewyllys i, ond yr eiddot, ti a wneler.” “O na allwn yn awr,” ebe Llewelyn, “ddywedyd fel llefarodd yr Un Mawr hwnw o bentref gwledig Nazareth! Peth ofnadwy yw bod yn gorfod marw yn nghanol dymuniad am gael byw!”
_______________________________________________

Bu farw Thomas Morgan, ysgrifenydd yr adgofion uchod, Chwefror 7, 1890. Claddwyd ef ger Capel Tonyrefail, yn yr un bedd a’i wraig gyntaf, ei anwyl “Rebecca Caerlan,” ar y 13eg o’r un mis. Y mae yn huno yn nghanol ei hen gyfeillion a’i gydnabod yno.

(x68)
{FFOTO: Owen Morgan (“Morien”) 1899}

(x69)

(5) ENWAU LLEOL O AMGYLCH TONYREFAIL.
GAN OWEN MORGAN (“MORIEN”).

d22 / 5-1 - PALASDY Y COLLENA
Dywed Mr. Geo. T. Clark, fod teulu Prichard, neu ap Richard, yn hanu o Einion ap Collwyn, neu Cellwyn, mab Arglwydd Ceredigion a’r Dywysoges Nest, unig ferch Iestyn ap Gwrgan, brenhin Morganwg, A.D.1093; a’u bod yn meddiannu rhan o’r etifeddiaeth a ddisgynodd i ran Einion a Nest pan ranodd Fitzhamon Morganwg rhwng ei bleidwyr. Yr oedd Einion a Nest yn byw yn Nghastell Llantrisant. Y mae yn dra thebygol iddynt wneyd cartref llai milwrol eu natur iddynt eu hunain yn y lle hwn, a’i alw yn Cellwynfa, ac mai llygriad o’r enw hwnw yw yr enw Collena. Ystyr yr enw Cellwynfa yw Dirgelfa Baradwysaidd {!!!}. Y mae eglwys fechan ac Ioan Fedyddiwr yn Noddydd Sant iddi, ar etifeddiaeth y Collena. Dichon mai yn y capel hwn, a elwir “Capel Bach,” yr addolai Einion a Nest yn eu henaint. Mae y prif {sic; = brif} heol i’r Collena o’r heol fawr ychydig i fyny o’r “Capel bach.” Y mae y fywoliaeth eglwysig hon yn mraint y teulu hyd heddyw.

d23 / 5-2 - PANT Y BRAD
Mae y lle hwn, bychan o ran rif y preswylwyr, tua milldir o bentref poblogaidd Tonyrefail, ar y brif heol, yn nghyfeiriad Llantrisant. Enw mwyaf henafol y lle yw y Pistyll Du, enw wedi ei roddi iddo oherwydd lliw y dwfr sy’n llifo oddiar fawn cyfagos. Ond y mae y lle yn adnabyddus hefyd wrth yr enw Pant y Brad oddiar Tachwedd {sic; dim treiglad} 1326, pan ddaliwyd yn (x70) y fan hono Edward II, a elwir Edward o Gaernarfon, o herwydd ei eni yno, Ebrill 25, 1284. Priododd ef y Dywysoges Isabella, merch Phillip IV, brenhin Ffrainc, Ionawr 28, 1308. Esgynodd orsedd Lloegr Gorphenaf 8, 1307. Rhwng ei briodas a’r flwyddyn 1326 yr oedd ei frenhines wedi gorhoffi un Syr Roger Mortimer. Yr oedd yr holl farwniaid ond Arglwydd Arundel wedi digio yn enfawr wrtho, o herwydd ei fod yn dangos llawer o ffaffriaeth, yn gyntaf, i Piers Gavaston, yr hwn yn y diwedd a laddasant; yn ail, Syr Hugh de le Spenser, mab Syr Hugh de le Spenser, Iarll Wynchester a Llyw Castell Britstown, yn awr Bristol. Yr oedd Arglwydd Gilbert de Clare, Arglwydd Morganwg a Chaerloyw, wedi ei ladd yn mrwydr Banawg Burn (Scotland), Mehefin 25, 1314. Yr oedd ar ei ol dair Chwaer {sic, â llythyren fawr} – yr Arglwyddes Eleanor, yr Arglwyddes Margaret, a’r Arglwyddes Elizabeth. Yr oedd Syr Hugh de le Spenser yn Uchel Ystafellydd i’r brenhin. Rhoddodd Edward II yr Arglwyddes Eleanor yn wraig i Syr Hugh de le Spenser. Iddi hi y rhoddasid etifeddiaeth ei brawd yn Morganwg a Gwent, ac fel hyny daeth Syr Hugh yn Arglwydd Morganwg a Gwent. Yr oedd Isabella, y frenhines, a Syr Roger Mortimer o hyd yn rhy gyfeillgar a’u gilydd, ac yn hyderu cael y brenhin rywfodd o’r ffordd. Un o’r dichellion oedd chwerwi y barwniaid yn ei erbyn. Yn 1321 torodd gwrthryfel allan yn ei erbyn. Yr oedd y frenhines ar ymweliad a Ffrainc, yn nghyd a’i mab, ar ol hyny Edward III, yr hwn oedd ar y pryd o dan bedair-ar-ddeg oed, ac yn hollol o dan ddylanwad ei fam a Syr Roger Mortimer. Ymadawasant a Paris, a Medi 25, 1326, glaniasant mewn man unig ar draethau Prydain, rhwng Orford a Harwich, ar etifeddiaeth Thomas, Iarll Norfolk, un o frodyr Edward II. Thomas oedd y cyntaf i roesawu Isabella ar ol ei glaniad. Yr oedd Iarll Kent, brawd arall i’r brenhin, ei gwr, wedi cyd-deithio a hi o Baris; yr oedd gyda hi hefyd ei mab (Edward III), Syr Roger Mortimer, a thua thair mil o filwyr estronol a’u cadbeniaid. Lledaenodd y newydd (x71) am ei glaniad ac aeth Iarll Leicester a’i lu i’w chyfarfod, ac unasant a’i byddin. Hefyd aeth Esgobion Ely, Lincoln, a Hereford ati hi. Apeliodd Edward II at Lundain i ddyfod i’w gynorthwyo, ond yr oedd y surdoes wedi gwrthweithio ei ddylanwad, a ffodd ef a Spenser ac Arundel i Bristol at yr hen Spenser, yr hwn oedd yn naw deg oed. Aeth y fyddin ar ffrwst ar eu hol. Rhoddodd y gwarchodlu yno yr hen Spenser i’r frenhines. Crogwyd a darnwyd ef, a rhoddwyd ei gnawd i gwn. Diangodd y brenhin, Spenser, ac Arundel, a Baldcoc yr Arglwydd Gangellydd i Gaer Loyw, a chyrhaeddasant Fonachlog Castell Nedd. Aeth Syr Hugh de le Spenser i ddarpar Castell San Nghenydd (Caer Philip Basset) i dderbyn Edward II. Yna cawn y brenhin yno, ond yr oedd y frenhines a’i lluoedd ar ei ol, gan ddyfod trwy Gaerloyw. Yr oedd Edward II yn Nghaer Phili’ o Hydref 30 i Tachwedd 4, 1326. Ymosododd byddin y frenhines ar y lle trwy dan a rhuthr, ond diangodd y brenhin a’i dri cyfaill {sic; = dri chyfaill}. Collasant ei gilydd yn y ffoedigaeth; ond cyrhaeddodd Edward II Gelli’r Llenor. Dywed hanes ei fod er mwyn diogelwch wedi gwisgo fel Cymro gwledig; ymddengys y medrai siarad y Gymraeg oedd “Mari o Gaernarfon” wedi ei dysgu iddo yn Nhre Iorwerth, ar draethau Môn, yr ochr arall i’r Menai o Gastell Caernarfon, yr hwn oedd yn cael ei adeiladu ar y pryd. Cyrhaeddodd Fonachlog Margam Tachwedd 4, yn y nos, fel yr ymddengys, wedi iddo ffoi o Gaerphili ar yr un diwrnod. Digon tebyg iddo ffoi o Margam i Gelli Lenor, Llangynwyd, o herwydd bod y mynyddoedd yn fwy diogel iddo na’r mynachdai. Ar Tachwedd {sic; = ar Dachwedd} 19, 1326, yr oedd yn ol yn Moncahlog Nedd. Mae yn debyg mai y canlyn sydd gywir: - Gwnaeth y goreu o’i draed o Gaerphili, a chyrhaeddodd Margam. Bu yn ol a blaen o Tachwedd 4 hyd y 16, rhwng y monachlogydd a enwyd, gan orphwys bob nos yn Gelli’r Llenor. Cawn ef yn rhoddi i fyny sel yr orsedd i law Syr William Blount yn Nhre Mynwy, Tachwedd 20, 1326. Felly cawn iddo gael ei ddal yn Mhant (x72) y Brad rhwng Tachwedd 16 a’r 20, 1326. Rhwng Tachwedd 4 a’r 16 cafodd y brenhin a Syr Hugh de le Spenser, y Cangellydd Baldcoc a Iarll Arundel eu gilydd. Yr oedd y Frenhines a’i byddin wedi teithio o Gaerphili i Henffordd. Daeth hyny yn hysbys i’r brenhin, a anfonodd Abbot Nedd at hi {sic} i ofyn am amodau ar ei ran. Yn y cyfamser yr oedd Iarll Leicester, Syr Samuel Riding, Sir William de la Zouch, a Chymro o’r enw Rhys ap Hywel (offeiriad) yn tramwy yn ddirgelaidd yn Morganwg i’w ddal. Trwy ryw foddion daeth y rhai hyny i wybod fod y brenhin i groesi y mynyddoedd i Ystradyfodwg, a myned oddiyno i Gastell Llantrisant. Dywedir  mai un o fonachod Pen Rhys, oedd yr arweinydd o Gwm Nedd. Dywedir mae’r {sic; = mai} mynach oedd wedi mynegu y drefn i’r ysbiwyr. Yn agos i Bant y Brad y mae yr heol yn troi yn sydyn i’r de yn ei rhediad o’r Rhondda. Ymddengys fod y gelynion tudraw i’r tro, ac felly o olwg y brenhin a’i osgordd pan yn teithio tuag atynt. Yn ddisymwyth cafodd Edward II ei hun yn y fagl! Pan oedd y gelynion a’u mintai o filwyr yn ymdrechu sicrhau y brenhin, llwyddodd Spenser, yr Arglwydd Gangelydd Baldcoc, a Iarll Arundel garlamu, fel ymddengys, a ffoi ar hyd yr heol nes cyrhaedd Gwaun y Pant, ac yna i’r ddau olaf fyned i lawr i ddyffryn yr Elwy; ond daliwyd y ddau ar Heol Wrgan, yn agos i Dwyn Ysguborau, o dan Lantrisant. Am Syr Hugh, aeth ef a’r {sic, = ar} garlam i lawr ar ei aswy i Heol Melin Trefeirig, a chyrhaeddodd Waen Maesgwyn, a elwir Gwaun “Miskin.” Yma gorddiweddwyd {sic} ef gan Syr Samuel Riding trwy garlamu yn heinif, medd yr hanes. Amcan amlwg Syr Hugh oedd cyrhaedd ei gastell ar Dwyn Llantrisant, a diogelu ei hun ynddo. Seiliaf yr hyn a ddywedir am y ddalfa yn Mhant y Brad, ar Waun Maesgwyn, ac Heol Wrgan, ar hyn y dywedir gan Rice Meyrick, yn ei lyfr a elwir “A Book of Glamorgan Antiquities,” a ysgrifenodd yn y flwyddyn 1578, a thraddodiad lleol. Gosodwyd Syr Hugh de le Spenser i farwolaeth yn Henffordd, a’r brenhin yn Nghastell Berkeley, yn y dull mwyaf alaethus!

(x73) Rhai blynyddoedd ar ol hyny crogwyd Syr Roger Mortimer a Syr Samuel Riding yn Llundain, ac alltudiodd Edward III ei fam gythreulig i gastell yn swydd Efrog, lle y bu hi byw wyth ar hugain o flynyddoedd mewn heddwch a mwynhad. Pan agorwyd ei hewyllys cafwyd ynddi y cais am “osod ei chalon i mewn yn arch (‘coffin’) Syr Roger Mortimer.”

Adferwyd etifeddiaeth Syr Hugh de le Spenser a’r Arglwyddes Eleanor i’w mab. Yr oedd yr un enw a’i dad a’i daid. Efe oedd Pencadben byddin Deheudir Cymru (12,000) o dan y “Black Prince” yn mrwydr Cressy (Gorphenaf 10, 1346). Chwech mis ar ol hyny rhoddodd charter i wroniaid Llantrisant.

d24 / 5-3 - CWM “CASTELLA”
Dyna fel yr enwir y cwm yn awr, ond ei enw hen oedd Cwm Cas Dyle, sef yr heol serth, a chynt diarebol am ei thyle a’i gerwinder, hyd Bencoedcae. Bu dyddiau pan yr oedd llawer yn ymddibynu ar gadw yr heolydd yn Nghymru fel byddai yn anhawdd i’r goresgynwyr lladronaidd i ddyfod o hyd i’r Cymry a’u meddiannau yn mhlith y mynyddoedd.

d25 / 5-4 - TY CWRDD Y QUAKERS
Yn 1688 yr oedd John Bevan yn berchenog ar etifeddiaeth Trefeirig. Aeth yn Quaker, ac ymfudodd i Pennsylvania yn nghwmni William Penn, fel yr ymddengys. Tua’r flwyddyn 1701 dychwelodd gartref, gan lanio yn Hull, Lloegr. Gadawodd ferch o’r enw Barabara yn Pennsylvania, ac y mae ei disgynyddion yno yn awr yn parhau yn Quakers ac yn bobl gyfoethog. Yr oedd ef yn desgyn o Thomas ab Evan Prichard, Collena. Ymddengys mai y John Bevan uchod a gododd “Dy Cwrdd y Quakers.” Cawn iddo gymeryd ei garcharu yn Nghaerdydd am ballu talu degwm i Rheithior {sic - didreiglad} Llantrisant. Mae coffadwriaeth am y teulu ar ochr allanol Eglwys Llantrisant.

(x74)
d26 / 5-5 – TYLCHA
Hwn sydd enw ar bedair fferm yn agos i Donyrefail; ei ffurf wreiddiol oedd Talchan. Enw Syro Phoenisaidd ydyw {!!!}, ac felly y mae ar y ffermydd oddiar yn mhell cyn Cred. Y mae dau air yn yr enw – Tal (Arglwydd) Chan (yr haul) – Dominus Sol.

d27 / 5-6 - GELLI “SEREN
Nid oes amheuaeth nad ffurf cywir {sic; heb dreiglad}yr enw yw Gelli’r Sarn.

d28 / 5-7 - TWYN TRAETHAWG
Twyn yn agos i ba un y mae Nant Gelli’r Haidd yn lledu, megis Traeth Bychan.

d29 / 5-8 - Y RHIW
Gelwir y tyddyn ar yr enw hwn o herwydd y rhiw y rhaid mynd ar hyd-ddo i groesi y mynydd i Lan Arawn (!!!) (Llanharan).

d30 / 5-9 - LLANILID
Tyddyn wedi ei roddi mewn rhyw gyfnod pell yn ol i Eglwys Llan Ilid, un o’r cenhadon Cristionogol a ddaeth o Rhufain {sic – dim treiglad} gyda Bran Fendigaid i Forganwg yn y flwyddyn 60 O.C.

d31 / 5-10 - “CAECWRLAS”
Ffurf gywir yr enw hwn yw Cae’r Corlais; Corlais yw enw y nant a lifa heibio troed y tyddyn i’r Elwy, ger Tonyrefail. Hen enw Cymraeg am ddafad yw cor; ceir ef yn aros yn yr enw cor-nant a cor-gi {!!!}, ac yn cor-lan. Ystyr yr enw Cae’r Corlais yw Cae Llais Defaid {!!!}.

d32 / 5-11 - CAERLAN
Hynny yw, cae ar le uchel.

(x75)
d33 / 5-12 - GELLI GRON
Lle wedi ei enwi felly o herwydd ei safle fronnog rhwng yr Elwy a’r Corlais.

d34 / 5-13 - “CILELI”
Ei ffurf gywir yw Cil yr Elwy, hyny yw, Cilfach ar Afon Elwy.

d35 / 5-14 - ELWY
Hen enw yn arwyddo dwfr yn llifo yn araf.

d36 / 5-15 - TREBANAWG
Cartrefle yn nghanol nifer o fanau mynyddig.

d37 / 5-16 - RHIW Y GARN
Ar ben y mynydd i’r dwyrain y mae carnedd fawr o gerrig. Tebygol ei bod wedi ei chodi i fod yn bwynt codiad yr haul boreu Mawrth 25 a Medi 25 i’r gwylwyr ar Fynydd y Din Aes {!!!}. Disgwylient am dano ar ben ael y mynydd, ger ystafell Arawn. Arawn oedd yn gyssegredig yn yr hen amseroedd. Hen aeb – “Hir yw’r nos – aros Arawn.”

d38 / 5-17 - TREBOETH
Treboeth Gwynion. Y mae yr enw yn perthyn i chwedl grefyddol y Derwyddon am Gwyion Bach yn ffoi o Bontypridd trwy Fwlch Gwynion, yn awr “Bwlch Gwyn,” o flaen y dduwies Cariadwen. Rhan oedd hyny o redfa grefyddol ddramataidd.

d39 / 5-18 - HEOL “RHIW WINDER”
Y dull cywir o’r enw yw Heol Rhiw Gwynion Dro. Tebygol yw fod y “Rhacad” ar yr heol yn golygu “Rhegedfa” ar y “troi” tua Treboeth.

(x76)
d40 / 5-19 - Y WAUN RYDD
Enw yw hwn ar y Waun fawr sy’n llenwi y gwastadedd o dan Donyrefail. Ceir ef yn ysgrifenedig Gwaun y Rhythedd, ond tebygol mai lle rhydd, mal cymle, oedd gynt, ac mai hyny a olygai yr enw.

d41 / 5-20 - CAE’R YSGOL
Yma yn ddiau yr oedd ysgol gynt. Cydmerir lle cyfranu addysg i ffyn ysgol {!!!}. O’r enw Cymraeg hwn y tardd yr enw Seisnig “‘sgool,” yn awr “school.” {!!!}Felly ceir Dic Shon Dafydd yn siarad Cymraeg yn ddiarwybod iddo ei hun.

d42 / 5-21 - Y TRAN
Enw yw hwn ar dyddyn ychydig i’r gorllewin o Donyrefail. Ysytyr yr enw yma yw lled, neu estyniad o dir. {!!!}. Fel am estyniad dydd, ceir ef yn y gair “trannoeth,” {!!!} neu estyniad dydd, gwaith yr haul. Yn y tyddyn hwn y preswyliai yn y chwarter cyntaf o’r ganrif hon un a elwid Charles o’r Tran (Charles Davies). Yr oedd yn fasnachwr mawr mewn anifeiliaid, a’i enw yn hysbys trwy Gymru. Ei gyrchfa benaf yn Lloegr oedd Northampton. Un o’i yriedyddion (“drovers”) oedd Shon Dafydd, a adnabyddid yn gyffedinol wrth yr enw.

d43 / 5-22 - “SHON Y BREECHES COCH”
Dywedir na fedrai Shon gyfrif ugain, ond pan yn gyru cant o ddefaid neu o eidionau Cymru o’i flaen, os elai un o honynt o’r fintai, canfyddai hyny ar unwaith, ac yna ymwylltiai a llefai nes dyfod o hyd i’r colledig. Yr oedd yr ysgrifenydd yn gyfarwydd a Shon Dafydd yn ei henaint. Cariodd ar ei ysgwyddau lawer o hetiau a boneti newyddion i ferched a gwragedd y Ton o Bontypridd. Efe oedd y carydd llythyrau o’r Bont cyn bod llythyrdy gan y Llywodraeth ar Donyrefail, a thelid ceiniog iddo am bob llythyr; efe hefyd a ddelai a (x77) phapurau newyddion i’r lle. Yr oedd yn arferiad gwahodd Shon Dafydd i giniaw a the ar y Sabbath, ac yr oedd yn “visitor” bob Sul yn rhyw dy neu gilydd. Er mai gwan ei gyrhaeddiadau meddyliol oedd Shon Dafydd, yr oedd yn ddyn cywir, a gellir dywedyd uwchben ei fedd, “Yma y gorwedd llwch un na wnaeth gam a neb erioed!” Dywedir ei fod pan yn anterth ei nerth ar ol yfed ychydig, yn credu ei fod yn gystal pregethwr a William Evans ei hun, ac iddo lawer tro pan ar daith yn ngwasanaeth “Charles o’r Tran” dreio “gwneud dynion o’r Saeson,” drwy eu hanerch ar ochrau yr heolydd am Dduw Tonyrefail! Dywedir iddo unwaith ddywedyd wrth y Parch. William Evans ei fod yn pregethu mewn tref yn y gogledd ar yr un diwrnod ag yr oedd ef (Mr. Evans) yn pregethu yn y dref honno. Testyn Shon oedd, “Deffro di ogleddwynt, a thyred ddeheuwynt, chwyth ar fy ngardd, fel y gwasgerir ei pheraroglau.” – Can. iv., 16.

d44 / 5-23 - “SHAMS O GEFN TYLCHA”
Yr oedd y gwr doniol hwn yn trigianu mewn bwthyn ar Gefn Tylcha, yn agos i Gae’r Ysgol. Saer maen a thowr oedd wrth ei alwedigaeth. Yr oedd yn enghraifft nodedig o’r dosparth tra hynod hwnw yn Nghymru gynt, yn mha rai yr oedd yr Awen yn berwi allan o’u heneidiau heb fod addysg foreuol wedi darpar llwybrau celfyddydol i lifiadau ei rhin. Yr oedd yn beunydd yn nghanol mwynhad meddyliol; ni fedrai edrych ar y byd mewn ysbryd difrifol.
Yr oedd hi bron bob amser y haf ar ysbryd Shams ond pan y gofidiai o herwydd cur yn ei ben ar ol “crews.” Ond medrai ganu am hyny. Canodd fel y canlyn unwaith yn mhorth yr hen Gapel Bach: -

“Mae Shams o Gefn Tylcha
A’i fwriad ar ofera;
Fe ddaeth t’a thre o lawer man
A’i ’
sana am ei syrna.”

(x78) Pan ddaeth y ddull suddol o fedyddio gyntaf i sylw yn ardaloedd Tonyrefail, wedi, mae’n debyg, adeiladu Soar, Ffwrn Amos (Penygraig), bu Shams yn astudio y pwnc bedyddiol, a chanodd fel y canlyn: -

“Pe bawn i ddim ond gwybod
Fod dw’r yn golchi pechod,
Mi awn i Ogwy, ’n wir i Dduw,
I f’olchi {sic; = folchi} rhyw {sic; = ryw} ddiwrnod!“

Pan oedd son am Bonaparte (“Boni”) trwÿ’r holl wledydd bu Shams yn un o’r Glamorgan Militia yn Nghaerdydd. Nid oedd ond ychydig o’r Cymry gwledig y dyddiau hyny yn deall Saesonaeg. Yr oedd Shams yn un o’r cyfryw. Yr oedd y cadbeniaid yn galw’r “word of command” yn y Saesonaeg a rhedai y gofyniad o un i’r llall o’r milwyr,

“Beth ma’ e’ ’n wed ’nawr?”

Parodd sefyllfa pethau ieithyddol gryn ddryswch, ac elai yr “adjutant” Saesnig unieithog i nwydau, a rhegai, gan eu galw yn “jackasses” ac enwau “nice” cyffelyb. Yr oedd hynafiaid y Glamorgan Militia wedi sefyll o dan wres a phwys y dydd yn mrwydr Cressy a brwydr Agincourt; yn gyntaf o dan faner y Black Prince, mab Edward III, a wnawd yn Dywysog Cymru Ionawr, 1344, a gelwir trigolion plwyf Llantrisant o herwydd ei enw y “Black Army” hyd heddyw; a’r ail, o dan Harry of Monmouth (Henri V). Llidiai hen waed y dewrion wrth yr “adjutant” yn Nghaerdydd. Rhyw foreu lledodd y newydd yn mhlith y Militia fod yr “adjutant” wedi marw yn ddisymwth. Lledaenodd llawenydd. Awr neu ddwy ar ol hyny clywai milwyr Llantrisant grio ac wylofain i lawr Heol Mari. Rhedai y cotiau cochion i lawr yr heol fel rhai yn cadgyrchu i gyfarfod a Boni ei hun.

Cawsant mai Shams oedd yr wylofydd, ac yn sefyll ar ganol yr heol a’i lawes ar draws ei lygaid.

“Beth sy’n bod, Shams? Pam wyt ti’n llefain, Shams?” ebai dwsin ar unwaith.

“O! O! O!” criai Shams yn ei ing.

“A oes rhyw ddiawl wedi dy daro di, Shams?” gofynai Ned o’r Plocyn.

“Nag oes.”

“Wel, “ ebe’r lleill, “pa Satan sydd arnat ti?”

(x79) “Odi chi ddim wedi clywed,” ebe Shams, “fod yr ‘adjutant’ wedi marw?”

“Otyn,” ebe yr holl fintai, “a gwared da ar ei ol!”

“Wyt ti ddim yn llefain ar ei ol e’, wyt ti, y iolyn?”

“Nag wyf fi,” oedd yr ateb wylofus.

“Wel, am beth wyt ti’n llefain, ynte?” gofynai Dic Glanmuchydd.

“A gwed y gwir wrthych chi,” ebe Shams, “llefain yr wyf rhag ofn nad yw’r ‘stori ddim yn wir!”

Canlynwyd hyn gan floeddiadau o chwerthin nes tarfu’r cawcïod yn Nghastell Caerdydd.


d45 / 5-24 - ANGLADD O DLOTY TONYREFAIL
Yn agos i’r “Capel Bach” ar fron y cae rhwng yr heol o’r Cymmer a’r heol i Donyrefail saif hen balasdy a elwir y Capel Mawr. Ynddo y preswyliai gynt Pyweliaid Llaharan. Yn ystod y chwarter cyntaf o’r ganrif bresenol bu y palasdy yn dlodty plwyf Llantrisant. Nid oedd y nifer ynddo yn lluosog. Hen bobl oedd yno yn “byw.” Nid oedd y Cymry y pryd hwnw wedi addysgu y wers Saesnig gythreulig o ranu hen wr a’i hen wraig oddiwrth eu gilydd o herwydd eu tlodi! Yn ei henaint a’i lesgedd yr oedd Shams Morgan, Cefn Tylcha, yn nodded y Capel Mawr. Elai o amgylch yr ardal wrth ei ffon. Yr oedd ei wedd yn siriol a’i “ddawn” mor barod ag erioed. Siriolai pawb yn mhresenoldeb Shams. Edrychai yn dawel dros y dolydd tua hen dref Llantrisant, lle y gwyddai y gosodid yntau cyn bo hir i huno yn nghanol gweddillion hen dadau a mamau plwyf ei enedigaeth. Ar nos gauaf delai ar awelon hyd yn nod i’r tlodty sain peraidd-odlau clych nodedig “Y Llan.” Fel y canodd Wil Hopcyn, awdwr anfarwol “Y Gwenith Gwyn,” i glych Llangynwyd –

“Caru wyf ar hirnos gaua’
Sain peroriaeth, swn y clycha’ –
Rhai sydd addas rhwng mynyddau,
Wych chwiorydd, chwech yn chwarau, “

felly Siams y Prydydd a glustfeiniai a gwen ar ei wyneb, gan wrando yn ddiddan o Dy y Dyn Tlawd ar gylch Llantrisant “yn canu.” (x80) Yr oedd rhyw hen wr a hen wraig neu gilydd {sic} yn syrthio yn barhaus mal rhosynau gwyedig Gorphenaf ar y ddaear, ac yr oedd cart yn cludo y trancedig tua’r gladdfa ger “Y Llan.” Rhyw dro yr oedd angladd hen wr tra adnabyddus o’r Capel Mawr, a bagad o’r ardalwyr wedi ymgynull, ond dim yn ddigon o rif i gario yr elawr.
Yr oedd Shams allan a’i ffon yn ei law, yn pwyso ar arphed un o’r ffenestri. Daeth y cart gyferbyn a’r agoriad i dderbyn arch y marw. Clybuwyd Shams yn sisial rhywbeth, a chlybu Thomas Morgan, y pryd hwnw yn ddyn ieuanc, yr hen brydydd, yn dweyd –

“Myn’d tua’r ddaearen
Fel lleidr at y grocbren!
Ni fydd fawr o ganu Salms
Yn angladd ‘Hen Shams Morgan.’”


Meddwl am yr angladd ei hun yr oedd . Ni fu Shams fyw ond ychydig o amser ar ol hyn. Claddwyd ef y tuallan ger wal ddeheuol clochdy Llantrisant, lle gosodwyd llech goffadwriaethol wrth ben “man fechan ei fedd.”

d46 / 5-25 - “JOB Y TEILIWR” (TAILOR)
Deuai gwr doniol o ardal Eglwyswyno, a elwid “Job y Teiliwr,” i weithio i’r ardaloedd hyn. Yr oedd yn debygol o ran dawn i Shams; yr oedd ynta yn rhy hoff o gwrw a chwmpeini digri. Rhyw dro yr oedd ef a Bili, mab George Bassett, o’r Hafod, ar y spree yn nhafarn y Gyfeillion. Aeth Bili allan am dro. Pan ddaeth yn ol dywedodd Job fel hyn wrtho yn sobr iawn: -

“Mae dychryn dirfawr arnaf
Wrth feddwl am y Farn;
Yr Ystrad a Llanwyno fydd yno
I gyd yn garn;
A Bili, mab George Bassett,
Fydd yno’n mhlith y llu,
A’r Barnwr a wna ofyn,
‘Dyn o ba le wyt ti?’”

(x81) “Drato dy ben di,” ebe Bili, “p’am wyt ti yn hela ofan arno i?”

d47 / 5-26 - MARI SHAMS
Yr oedd Mari yn byw yn un o ddau fwthyn rhwng y Red Cow a Rhiw Gwynion Dro (Rhiwinder). Un prydnawn aeth yr awyrgylch yn dywyll, a chlywid yn y pellder ruadau taranau; fflachiai y mellt fel cenadon Annwn. Yn mhen ychydig yr oedd yr holl wybrennau fel ar dan, a’r ffurfafen megis yn orlawn o gerbydau rhyfel Gog a Magog. Gyda thoriad cras pob taran clywid sgrech Maro Shams.

“Troedig fellt y trydan – yn rhuo
Drwy’r awyr yw’r daran;
Brwydr floedd elfenoedd Anian –
Llef Duw mewn llif o dan!”

Yr oedd yn awr wlaw mawr yn disgyn. Rhedodd gwr o gymydog gan ofni fod rhyw anffawd wedi digwydd i Mari. Pan yn agor drws ei thy torodd taran ofnadwy yn union uwchben ty Mari, ac ysgrechiodd yn fwy nag erioed o’r blaen. Canfu y gwr Mari ar ei gliniau a’i harffedog ar draws ei phen; yr oedd ei hosan a’r gweill ynddi ar y llawr. “O Dafydd Morgan,” ebe hi, “dyma d’wydd! O, Dafydd anwyl! os c’ai fyw i wel’d y boreu, mi a af at Rhys y Ffeiriad i gael crefydd: a’ yn wir!” Bu gystal a’i haddewid; hi a aeth tua’r Capel Mawr, lle yr oedd y ffeiriad yn byw. Ond hi a aeth a’r “marchog,” y priddyn coch, yn ei llaw i ddyfod ag ychydig o laeth ynddo ef, ond, wrth gwrs, y grefydd yn ei chalon. Ond chwerthinai rhai, gan ddywedyd mai yn y “marchog” y bwriadai hi dd’od a’r grefydd yn ei chol. Ond credir, er hyny, i Mari farw “a thrysor” mwy ei werth yn ei “llestr pridd.”

(x82)
{FFOTO: DAFYDD MORGAN, 86 oed, 1899. (“Snapshot” gan Mr. E. Llwyd Jones, Parker Street, Liverpool)}.

(x83)
d48 / 5-27 - LLUEST OWAIN
Lluest sydd dalfyriad o’r enw cyfansawdd “llu-eisteddfa,” neu “eisteddfa llu.” Y mae yr enw “teulu” yn arwyddo “dau lu,” neu lwyth, yn cydgyfarfod yn y gwr a’r wraig briod. {!!!}

d49 / 5-28 - LLAN DYFODWG
Y mae y Llan hon o dan nawdd Duw a Sant Dyfodwg. Yr un sant oedd ef a’r un y gelwir Ystrad Dyfodwg ar ei ol.

d50 / 5-29 - HENDRE FORGAN
Ystyr yr enw hwn yw Hen Gartref un o’r enw Morgan.

d51 / 5-30 - Y GILFACH A’R GILFACH GOCH
Rhoddir yr enw “cilfach” i leoedd ag sydd mal cell neu “gorge,” yn rhedeg allan o gwm mawr i gyfeiriad arall. Y mae y Gilfach Goch yn enw o hynafiaeth mawr. Perthyn i gyfnod y grefydd Dderwyddol. Yr oedd y Derwyddon, yn gystal a phob un o’r hen genhedloedd, yn coleddu y syniad bod yr haul yn cael ei drywanu neu ei frathu gan yr Ysbryd Drwg, a alwai y Derwyddon Afagddu, ar y dydd byraf o’r flwyddyn, a bod corph yr haul brathedig yn gwaedu yn ei daith tua mor y de-orllewin nawn y dydd hwnw; ei fod yn y diwedd yn syrthio yn gelain i’r mor. At hyn y cyfeirir yn Isaiah xiv., 12: “Pa fodd y syrthiaist o’r nefoedd (ffurfafen), Luciffer, mab y waw-ddydd? Pa fodd y’th dorwyd ti i lawr, yr hwn a wanheaist y cenhedloedd? “ Yn mhlith y Syro Phoenisiaid yr oedd marwolaeth flynyddol Adonis (yr Haul) yn cael ei gofnodi gyda galar cenhedlaethol ar Mawrth 25, yn lle Rhagfyr 25 y Derwyddon. Y mae yn amlwg fod y mynydd crwn a elwir y Ddin Aes {!!!}, yr hwn sydd i’r dwyrain o’r Gilfach Goch, yn gysegredig i Arawn, urddenw ar yr haul; a llawer o wylo wedi bod arno wrth weled yr haul yn teithiio tua’r de-orllewin (x84) ar bob Mawrth 25 ar ol eu gilydd. Ceir son am y cyffelyb wylo am yr haul o dan yr enw Tammuz yn Ezeciel viii., 14, lle y dywedir, “Ac efe a’m dwg i ddrws porth ty yr Arglwydd, yr hwn sydd tua’r gogledd, ac wele yno wragedd yn eistedd yn wylo am Tammuz.” Mae yr haul yn ystlysau y gogledd ar Mehefin 25 {sic – dim treiglad} (yr hen amseriad), felly cawn fod y rhai a welodd y prophwyd yn cofnodi y farwolaeth heulog ar y dydd hwyaf. Tammuz hyd heddiw yw yr enw Hebraeg am fis Mehefin. Ar ael mynydd y Din Aes. yn gwynebu tua’r Gilfach Goch. y mae dau fan nodedig, sef ystafell Arawn a Taran Wylo’r Marw! Y mae yr enw “coch” yn yr enw dan sylw yn union o’r un ystyr a’r coch yn yr enw Mor Coch {!!!}.
 
d52 / 5-31 - CRUG GLAS
Enw fferm ar y gwastadedd. Ei ystyr yw “twyn glas.” Ystyr yr enw “twmpath” yw twyn bedd. Yn rhodau y gwnelai yr hen Gymry eu beddau, fel y gwelir yn yr enw “bedd rod.”

d53 / 5-32 - CWM PANT DYFI
llygriad yw yr enw hwn o “cwm pant dyfn-wy.” {!!!} “Gwy,” gwraidd yr enw “Wy” a arwydda ddwfr. Ceir ef yn yr enwau Gwynydd (Goose) {!!!}, Gwyaden (Duck). {!!!}. Felly, ystyr yr enw hwn yw dwfr yn rhedeg trwy gwm dwfn.

d54 / 5-33 - “DIMBATH”
Dyma lygriad arall. Ei ffurf gywir yw Din (Twyn) Bedd. {!!!} Gelwir y lle oddiwrth fedd yn dwyn crwn uchel, nid ymhell o’r ty a elwir Gadlys.

d55 / 5-34 - “GLYNOGWR”
Dyma lygriad arall. Ei ffurf gywir yw Glynogwy {!!!}, hyny yw, Glyn Afon Ogwy.

(x85)
d56 / 5-35 - TON ITHEL DDU
Yr enw hwn yn gywir yw Twyn Ithel Ddu. Ystyr yr enw “Ton” yw treiglad llanw y mor. Rhoddwyd yr enw “Gwaun Ton” i’r borfa hir am ei fod yn ysgwyd mal tonau o flaen yr awel {!!!}. Nid oes sicrwydd pwy oedd yr Ithel hwn, ond y mae yn lled debyg mai y Tywysog Ithel, mab Morgan Mawr, brenhin Morganwg, ydoedd.
Mab Ithel oedd Gwrgan a roddodd Hir Waun Wrgan i’r werin bobl. Efe oedd tad Iestyn a gollodd ei goron trwy Einion ap Collwyn a’r Normaniaid yn y flwyddyn 1093. Mae yn debygol fod y Tywysog Ithel yn byw yn achlysurol yma er mwyn helwriaeth.

d57 / 5-36 - “SHONI MEIRIONYDD”, PERERIN GWLAD
Yr oedd hyd ychydig o flynyddoedd yn ol ddyn hynod, a adnabyddid wrth yr enw uchod, yn byw yn nghylchoedd tyddynod Llanharan a Dyffryn yr Elwy. Yr oedd yn byw yn lanwedd, ond cysgai ar dowlodau, &c. Credai mewn bodoloaeth ysbrydion, canwyllau cyrph, y Tylwyth Teg, &c. Yr oedd yn rhigymwr heb ei ail yn yr ardalodd hyny, ac ofnai y benywod ei ddawn prydyddol. Yr oedd wedi digio wrth wraig Argoed Edwin o herwydd cael yno gaws di-rinwedd. Gwnaeth gan i’r wraig druan, ac enwodd y gan “Yr Ironclad Cheese.” Ebe fe: -

“Y feudan fynyddig,
Gythreulig a thraws,
 Rhaid ei bod yn ddiawledig,
Gwneud cerrig o’r caws!”

Yr oedd yn gweithio yn aml i Mr. Smith, Bryn y Cae. Yr oedd yno “housekeeper” a elwid “Ann Fain.” Canodd Sion iddi hi fel y canlyn: -
“Mae Mr. Smith o Frynycae
Yn maeddu’r dyn* mewn moddion da. (*Mr. R. H. Jenkins, Llanharan)
Pastau {sic} gig a phwdin reis,
Ac ynddo amryw fath o spice;
(x86) Ond eto’i gyd mae yno ddiawl –
Yr hen “Ann Fain” sy’n nafu’r cawl;
Ma’ ’i barf yn hir, a’i gwedd yn llwyd
Gwna’ dreflan snuff ar draws y bwyd.”

Lladdwyd cath rhyw gymydog gan Mari, High Corner House, a Sara, y forwyn, yn Llanharan. Canodd Shon am yr amgylchiad fel y canlyn: -

“Ro’dd castell yr hen wr
Yn bod ar lan y dwr,
A’r llygod ffrenig melldigedig,
Ystyfnig, yn gwneyd stwr,
Yn tori ac yn twrio,
Gan larpio’r cig a’r lla’th;
I gadw’i goffra pwy all amgyffred,
Ei gollad am ei
gath?
I’r dafarn rhywfodd ’r a’th,
A’i hanian hynod a’i natur fawrglod,
Am lygod nid am la’th,
’Roedd yno wraig a morwyn farus –
Rhai diymwad, hyll ar dwyn –
Peth cyntaf a wnaeth Sal,
Yn union ’r ol ei dal,
Oedd yn ei choesau ei chydio,
A’i wado ’nghyd a’r wal.”

Bu Shon farw ar dowlod y Lan, uwchben Pontypridd, tua’r flwyddyn 1889. Dywedir ei fod yn etifedd fferm yn swydd Feirionydd. Yr oedd i’w hetifeddu ar ol ei dad. Blynyddoedd ar ol marwolaeth yr hen wr, clywodd Shon yn Morganwg am hyny, ac aeth tua gwlad ei enedigaeth. Cyrhaeddodd ei hen gartref yn y nos. Edrychodd trwy un o’r ffenestri, a gwelodd ei frawd, ei wraig, a’u plant yn ddedwydd i mewn. Curodd y drws. Agorodd ei fam ffenestr y lofft, a gofynodd, “Pwy sydd yna?” “Shon, eich mab chi.” “Nage,” ebe hi, “ma’ Shon wedi marw er’s blynyddoedd. Ffwrdd a chi!” Nid atebodd Shon, ac aeth ymaith yn ol i Forganwg, ac yno y treuliodd y gweddill o’i ddyddiau yn y byd hwn. .

d58 / 5-37 – BEDDARGRAFF HYNOD
Yr oedd Dewi Haran {= David Evans, 1812-1885, aelod o ‘Glic y Bont’, carfan o feirdd o ardal Pont-tÿ-pridd}, Dic Hendrewen, a Shon yn cyd-eistedd yn Ty-ar-Heol. Yr oedd Dafydd o’r Rhiw newydd farw, a dywedodd Dewi, “Gadewch i ni wneyd ‘beddargraff’ i Dafydd.” Dywedodd Dewi –

“Dyma lle gorwedd Dafydd o’r Rhiw –
Mawr fu ei drachwant am fwyniant i fyw;
Ond Angeu ddaeth heibio a thorodd ei ben –
“Dyna,” ebe Dewi, “gorphen ef, Shon”; ac ar darawiad dywedodd Shon
“Gwnaed yr un peth etto i Dic Hendrewen!”
Neidiodd Dic fel un wedi ei saethu a bwa Ceredigion.

d59 / 5-38 - “TWM HYWEL LLYWELIN,” YSTRAD DYFODWG
Yr oedd Thomas Hywel Llywelin yn fab i Hywel Llywelin, pregethwr gyda’r Bedyddwyr yn Libanus, lle yn awr a elwir Treherbert, ond a elwid Blaen-y-Cwm tua’r flwyddyn 1860. Yr oedd capel arall yn Nghwm y Rhondda Fawr gan y Bedyddwyr; ei enw oedd yr Ynis Fach, yn agos i’r Heol Fach.
Y mae yno yn awr le addoli a elwir Nebo. Gwelir wrth yr enw “Libanus” a “Nebo” fod y Bedyddwyr yn hoff o ddychmygu eu bod yn addoli ar ben mynyddoedd, ond credent ei fod yn ofynol myned trwy yr Iorddonen yn gyntaf. Dywedir fod Hywel Llywelin yn nodedig am felusder ei ddawn wrth bregethu. Dywedodd Morgan, ei fab, wrthyf pan oedd yn 92 oed,

“Gwelais fy nhad yn dychwelyd gartref lawer gwaith ar foreu Llun tros y mynyddoedd, ar ol bod yn pregethu y Sul, yn droednoeth, a’i sgydiau a’i ’sana’ ar draws ei ysgwyddau.” Yr oedd pobl Ystradyfodwg, am eu bod yn aml yn dringo y llethrau mynyddig, yn hoff iawn o fyned oddeutu yn droednoeth. Y mae yn debygol fod Hywel Llywelin yn disgyn o’r Parch. Thomas Llywelin, Glyn Eithinog Rheg Oes {!!!} {= y Rugos}. Pan y bu ef farw ymranodd cynulleidfa Cwm-y-Glo. Yr oedd ef yn fardd enwog yn ei ddydd, a chafodd ei ordeinio gan yr Archesgob Grindal yn amser y Frenhines (x88) Elisabeth. Cyfieithiodd y Testament Newydd i’r Gymraeg o un Saesonaeg Tindal; a dywedir iddo roddi benthyg ei gyfrol ysgrifenedig i’r Esgob Parry, Llanelwy, i’w gynorthwyo i ddwyn allan ei argraffiad diwygedig o’r Beibl yn 1630. Pregethai yn Nghapel Cwm-y-Glo, Abercanaid, a dywedir yr arferai gario ei femrwm o dan ei fraich o Glyn Eithinog i’w ddarllen i’r bobl yn Nghapel Cwm-y-Glo; ymsefydlodd cangen yn Hengoed, gan ddal y gred drochyddol. Cangen arall a fabwysiadodd athrawiaeth y Crynwyr (“Quakers”), a chododd le addoli yn y lle a elwir yn awr Quakers’ Yard. Tebygol mai cangen o Hengoed oedd Bedyddwyr cyntaf Ystrad Dyfodwg.

Yr oedd rhyw ddawn barddoni yn gryf yn Thomas Hywel Llywelin; fe ddichon ei fod wedi ei etifeddu o Glyn Eithinog. Arbenigrwydd ei arabedd oedd cellweiriaeth ddigri; yr oedd yn rhy hoff o gymdeithion digri. Cof genyf ei weled ynghanol ei gyfeillion llawen yn hen dafarn a’i do yn wellt i gyd, ger Ffwrn Amos a Nant Caer-y-gelyn. Yn hogyn tua deg oed, eisteddwn ar y pentan mawr i wrando ar ei ddigrifwch ef a’i “gwmniaeth.” Pan fedyddiwyd Morgan ei frawd yn Afon Rhondda, yn nghyd a deuddeg ereill, gan y Parch. Dafydd Naunton, Ynisfach, canodd Twm fel y canlyn:

“Fe ddywedodd tri ar ddeg
O ddynion teg yr olwg;
Rhai yn fawr a rhai yn fach,
Yn Ystrad lan Tyfodwg.
 Fe fedyddiwyd ‘Mog’ fy mrawd:
‘Doedd iddo ef ond crefydd dlawd;
Ond fe drodd liw’r dwr ar oleu dydd
O’r Ynis Fach i Bontypridd.”

Adroddodd y diweddar Mrs. Evans, Bute Hotel, Treherbert, y stori ganlynol. Un o ferched Cwmserbren ydoedd hi. Saer coed oedd Thomas Llywelin. Yn y cyfnod dan sylw cawl oedd y boreufwyd yn mhob man; ond yr oedd te yn dechreu dyfod i’r neuaddau neu ‘parlours’. Yr oedd Thomas wedi blino ar gawl, er ei fod yn llawer gwell er ei les na’r te.

(x89)
{LLUN: Syr Robert Fitzhamon a’R Arglwyddes Fitzhamon. (Allan o Lyfr Henafol Monachlog Tewkesbury.)}

{LLUN: Bu gadarn yn gosod ei rin yn yr haul.}

(x90) Pan ddaeth un boreu at ei waith, dywedodd Miss Davies wrtho,

“Twm, ch’ai di ddim y boreu yma nes y b’o ti wedi gwneyd englyn.”

“O’r goreu,” ebe Twm, gan wenu, “dyma fe: -

“Pe byddai flwyddyn gyfan,
Heb fwrw glaw yn unman,
Fe fyddai dwr gan ferch y diawl
Yn nghrochan cawl Cwmserbren.”

 
d60 / 5-39 - “Y GWYR RHYDDION” - HIL GWRONIAID / “Y BLACK ARMY,” LLANTRISANT
Mae Tonyrefail yn mhlwyf Llantrisant. Arferir yr enw “Black Army” yn lled gyffredinol yn gellweirus am bobl yn byw yn nhref Llantrisant. O herwydd yr enw “black” (du) daeth yr enw “Black Army” i gael ei gyfrif yn enw sarhaol ar y trigolion. Ond credwn i’r enw gael ei roddi ar y dechreu yn awgrym o anrhydedd arnynt. Yn nechreu y flwyddyn 1346 yr oedd tref Llantrisant yn gyrchfan pob Cymro a deimlai ar ei galon i ymrestru o dan faner y Ddraig Goch i fyned tua Ffrainc.
Yr oedd ffrae enfawr wedi tori allan rhwng Edward III a Philip de Valois, brenhin Ffrainc. Ymrestrodd deuddeg mil o Gymry yn Llantrisant, canys i’r lle hwnw yr oedd yr ymgynulliad. Syr Hugh de le Spenser (y trydydd) oedd Prif Arglwydd Morganwg ar y pryd. Yr oedd pobl Morganwg a Gwent yn enwog iawn fel saethyddion a’r bwa, a dywed Mr. Geo. T. Clark fod eu henwogrwydd y fath fel cedyrn rhyfel, nes yr edrychai yr holl o Brydain ar Arglwydd Morganwg y mwyaf nerthol o holl arglwyddi Prydain. Yr oedd y “Black Prince,” mab hynaf ac etifedd Edward III, wedi ei eneinio yn Dywysog Cymru yn Ngorsedd Gylchol y Beirdd (Round “Table”), ger Castell Windsor, Ionawr 1, 1314, ac wedi gosod er ei dalcen yr hen Nod Cyfrin {NODYN: yma dodir sumbol tebyg i’r llythyren W} Nod y Brenhin Arthur a Phrydain, sef yr Haul a’r holl ynysoedd – yr oedd Eich Dien, hyny yw, Eich Nerth, yn argraffedig o dan y Nod fel ei enw (x91) cyswyn. Mae yn ddigon tebyg, o herwydd mawredd yr ymgynulliad, i’r “Black Prince” ei hun ymweled a Llantrisant. Os do, nid yw yn rhy annhebyg iddo ymweled a Phant y Brad, lle yr oedd ei dad wedi ei fradychu i ddywlaw ei elynion, pan yn 42 oed, ugain mlynedd cyn hyny; a bod Syr Hugh de le Spenser ac yntau wedi marchogaeth i lawr ar hyd Rhyw y Felin, yn awr yr Heol Ddu, heibio Melin Cas Dyle, ar hyd y ffordd yr oed ei dad yntau wedi carlamu, i geisio dianc oddiar Syr Samuel Riding a’r llu o wyr meirch oedd yn ei erlid.

Rhyw olygfa gynhyrfiol oedd canfod y deuddeg mil Cymry yn cychwyn o Lantrisant yn ngwanwyn 1346. Diau fod yr udgyrn yn rhuo a’r awyr yn cael ei rhwygo gan floeddiadau. Llawer hefyd yn colli dagrau o herwydd meibion dewr yn ymadael a’u gwlad am byth! Dywedodd hen Dwmi Matho, y crydd, un o hen drigolion Llantrisant, wrthyf lawer o flynyddoedd yn ol, iddo ef glywed gan hen bobl mai naw oedd rhif “Gwyr Rhyddion Llantrisant ar y dechreu, a’u bod wedi cael eu breintio am eu gwroldeb yn cadw pont yn Ffrainc.” Mawr mor ddyddorol yn ngwyneb y traddodiad uchod yw cael yn hanes brwydr Cressy, Gorphenaf 10, 1346, fod pont ar afon Somme, a lifai rhwng byddin y Black Prince a byddin y Brenhin Philip de Valois. Enw y bont yw Blanche Tache, neu y Man Gwyn. Yr oedd Brenhin Ffrainc wedi gosod o’r tu arall i’r bont ddeuddeg mil o filwyr i rwystro byddin y Black Prince, yr hon oedd yn encilio o flaen byddin Ffrainc tua’r Blanche Tache. Yr oedd y ffordd mor gul tua’r bont fel nad allai ond deuddeg yn rheng agoshau ochr yn ochr, tuag ati o’r deuddeg mil. Mae yn amlwg mai deuddeg o fechgyn tref Llantrisant oedd yn y gadres flaenaf o’r fyddin Brydeinig yn gwynebu y Ffrancod. Nid oedd saethau Morganwg byth yn melltenu yn ofer! Cymry yn ddiau oedd y llu ag oedd yn canlyn y deuddeg, a’r canlyniad o’u hymosodiad ofnadwy oedd i’r Ffrancod ffoi a gadael y bont.
Yna bu byddin Prydain yn croesi afon Somme drwy (x92) gydol y nos. Rhif byddin Prydain oedd tri deg a dau o filoedd. O’r rhai hyn yr oedd o’r Cymry 800 o wyr meirch, 4,000 o saethyddion, a 6,000 yn cario gwaewffyn byr; yr oedd hefyd 6,000 o Wyddelod, a’r lleill yn Loegrwyr a Normaniaid. Croesodd byddin Prydain yn ddiogel, a phan oedd ei chadres olaf yn yr afon daeth byddin Ffrainc oedd yn ei ymlid, ar eu gwarthaf. Tebygol yw fod y fyddin Gymreig ag oedd y cyntaf i groesi yn awr yn saethu yn ol i groes i’r afon, gyda’r amcan i ddal yn ol y Ffrancod tra y byddai y gweddill o’r Prydeinwyr yn croesi. Yr oedd rhif y fyddin o dan Frenhin Ffrainc yn gant o filoedd. Ffurfiodd byddin Prydain ar ucheldir, a’i gwyneb tua’e De a’r Dwyrain, ac arosodd yno i fyddin Ffrainc. Yr oedd y Cymry yn ffurfio canolbarth blaenllaw byddin Prydain. O’i blaen yr oedd y “Black Prince” a Syr Hugh de le Spenser, a baner y Ddraig Goch yn ddyrchafedig ger eu bron. Yn ystod yr ymladdfa ofnadwy a gymerodd le yn union syrthiodd y “Black Prince” oddiar ei farch, ac o herwydd pwys ei wisg o haiarn plethedig methai godi. Taflodd y banerwr Cymreig faner y Ddraig Goch drosto, gan ei guddio, ond y Cymry a ymladdasant a’u traed ar “fringes” y faner, a gyrasant y gelynion yn ol, a safiwyd Tywysog Cymru. Yr enw a rydd yr hanesyddion Ffrengig i’r faner yw “Y Faner Danllyd.” “Valain represents the Welsh as armed with short lances, wherewith they slaughtered a great many of the horses of the French men-at-arms; and it seems certain that by their (Welsh) activity and daring they contributed not little to the success of the day.” Trodd y fuddugoliaeth o dy {sic; = tu} Prydain. Dyddiad siarter cyntaf Llantrisant, braint-rodd Syr Hugh de le Spenser, pen cadben y Cymry o dan Edward III a’i fab, y Black Prince, yn mrwydr Cressy yn 1346, yw Mai 4, 1347. Felly cawn i’r siarter gael ei rhoddi cyn gynted ag y dychwelodd y llu Cymreig yn ol i Lantrisant o Ffrainc. Gwobr i gedyrn Llantrisant ydoedd yn ddiddadl.

(x93)
d61 / 5-40 - “LLYWELIN O’R CWRT” (TWYNYPANDY) – RHONDDA
Wrth yr enw uchod yr adnabyddid Llywelin Jones. Yr oedd yn ddyn hynod o herwydd ei ymadroddion gwreiddiol. Mynai feddwl yn ei ffordd ei hun, a throsto ei hun. Yr oedd ef a Dr. Evan Davies, Dinas, yn hoff iawn o’u gilydd, a’r ddau yn Undodwyr. Yr oedd pynciau dyrus mewn anian yn gystal a duwinyddiaeth yn denu eu sylw. Yr oedd ardal y Cwrt yn llawn o hen draddodiadau am “Fendith y Mamau,” h.y., y Tylwyth Teg, canwyllau cyrph, ac ysbrydion drwg, ac yr oedd y pethau hyny wedi denu sylw Llywelin. Clywais iddo ef a’r meddyg fod un noson oleu lleuad yn y goedwig, yn Nghwm y Nyddrig, yn agos i’r Nantwyn, ac wedi gwneyd cylch santaidd iddynt wneyd rhywbeth a gynhyrfodd Annwn, ac i dewynau yr ysbrydion drwg ddyfod i ymyl allanol y cylch. Gellir barnu am allu meddyliol Llywelin oddiwrth y linellau canlynol a gyfansoddodd wrth fyfyrio ar y Drindod: -

“Er cof am adeil cyfamodau,
Cyn dechreu nos na dydd,
Gan y Drindod, mewn un hanfod –
Mawr syndod i mi sydd!”

Ychydig i’r dwyrain, yn groes i’r Rhondda, o dy Llywelin, yr oedd twyn crwn ar wastadedd yr ynys yn agos i’r afon. Mae yn debygol mai y twyn hwn oedd y “cwrt,” ar ol pa un y cafodd ty Llywelin ei enw. Yn Ynys Monwy (Isle of Man), ar dwyn yr un fath yn union a hwn y cynhelir ar bob Gorphenaf 5 lys neu gwrt cenedlaethol yr ynys hyd heddyw. Twym Derwyddol yw y ddau, ac y mae llawer o honynt yn Morganwg a Gwent. Mae yn amlwg mai hwn yn yr hen amseroedd oedd Cwrt Arglwyddiaeth Glyn Rhondda.

d62 / 5-41 - DYDD Y FARN
Blinid Llywelin yn ei dyddiau diweddaf gan y mogiant (bronchitis) a chredai yn aml ei fod bron marw. Yr oedd ef a’r Dr. Evan Davies wedi cyduno i orwedd eu “hun hir” (x94) ochr-yn-ochr ar yr ochr ddeheuol yn mynwent Capel Soar, Penygraig. Ar foreu haf, tua phump o’r gloch, yr oedd curo mawr ar ddrws Ysgubor y Coed, a elwir yn awr Preswylfa, Penygraig, lle yr oedd y meddyg yn byw. Cododd y meddyg, ac wedi iddo ddod i’r ffenestr gwelai mai Llywelin oedd yno, yn chwythu a phesychu.

“Dewch i lawr, doctor,” ebe ef yn gwynfanus, “er mwyn pob daioni.”

Brysiodd y doctor at y claf, a gofynodd yn dyner,

“Beth yw y mater?”

“Wel,” ebe Llywelin, “yr w’ i wedi bod yn meddwl drwy gydol y nos am yr adgyfodiad a dydd y farn. Yr wyf yn cael lle i ddeall y bydd daeargryn mawr boreu’r farn, ac y mae yn sicr y cwymp gwal ein ochr ni i’r capel gan fel y bydd y ddaear yn crynu; ac y mae arna’ i ofn y syrth hi arno ni pan y byddwn ni yn codi boreu’r farn a’n lladd ni. Peth ofnadwy fydd marw wedyn, onide fe? W’ i’n mofyn i chi ddod i fesur y tir, i gael gweled pa un a yw y man lle y cleddir ni yn ddigon pell o gyrhaedd y mur pan gwymp e’ o herwydd daeargryn.”

Aeth ef a’r meddyg tua’r gladdfa a llinyn mesur, ac yno y bu’r ddau yn mesur y tir a hyd yr ystlyswal. Mae y ddau yno o ran eu cyrph er’s llawer o flynyddoedd; heddwch i’w llwch, ac adgyfodiad urddasol iddynt!

Bu unwaith yn meddwl cael ei gladdu mewn lle arall, a dywedir ei fod wedi datgan hyn rywdro fel hyn: - “W’ i’n fond o’r Methodistiaid tua’r Storehouse yna, ac w’ i’n cael fy nhueddu i fynu fy nghladdu ger eu Hebenezer yn y lle hwnw. Ond y mae tramroad yn rhedeg heibio i’r fynwent, a byddai bedd yno yn lled anhawdd cysgu ynddo o herwydd mwstwr y trams.”

d63 / 5-42 - DR. EVAN DAVIES A “BILI JAC Y GWEHYDD”
Tua’r flwyddyn 1840 yr oedd yr ardaloedd yn llawn brwdfrydedd gyda dirwest. Yr oedd Bili – wedyn, yn ei henaint, ysgolfeistr yn y Ddinas {sic} – yn hoffi’r peint cwrw a chwmni llawen. Ond yn y brwdfrydedd ymunodd Bili (William Evans y Factory) (x95) a’r gymdeithas ddirwestol yn y lle. Yr oedd troedigaeth Bili yn werthfawr yn ngolwg y brodyr, a dydd y gymanfa rhoddwyd y faner fawr sidan iddo i’w chario o flaen gorymdaith y teetotaliaid. Yr oedd y dorf yn fawr, ac yn canu yn llafar wrth gerdded yn araf drwy yr ardal.
Yr oedd Bili, fel y lleill, yn cario medal yn crogi ar riban glas o amgylch ei wddf. Nid oedd un yn y dorf yn ymddangos yn fwy ffyddlon na’r banerydd. Ond siom yw dywedyd, tua’r prydnawn, pan oedd y meddyg yn agos i Tylecelyn, gwelai rywun yn dyfod i fyny’r heol - lle unig y pryd hwnw - a’r heol yn rhy gul iddo. Yr oedd y fedal yn ysgwyd o un ochr i’r llall fel pendelum. Syndod! Bili oedd y gwr! Yr oedd y lludded wrth gario’r faner wedi ei wneud yn sychedig, ac yr oedd wedi yfed a meddwi. “Bili, Bili,” ebe’r meddyg, “beth yw hyn? Y chi yn deetotal ac yn y cyflwr hyn!” Safodd Bili, a chan edrych yn hurt iawn, llefodd allan – “Doctor, yr wyf fi yn gystal teetotal a phob yn ohonyn’ nhw o ran ‘theory,’ ond yr wyf fi, i chi’n gwel’d, yn colli yn y ‘practical’ part.” Y mae’r atebiad dirodres yn arddangosiad o gymeriad syml yr hen wehydd yn gystal a’r elfen o ddigrifwch.

d64 / 5-43 - PANT Y CEILIOGOD YMLADDGAR
Yr oedd “cock-pit” yn Nghrofft y Pandy Inn gynt, ac yr oedd llawer o “games” yno a “matches” yn aml. Un o brif wisgwyr spardynau Ystrad Dyfodwg oedd Morgan Rhys. Ty to gwellt oedd ei drigfan – Ty ar y Twyn, yn agos i’r Pandy. Yr oedd y ty nesaf iddo yn fwy, ac yno y preswyliai Evan Thomas, un o wyr Caerygelyn. Yr oedd y ddau henafgwyr yn ddyddiol a nosol gyda’u gilydd, weithiau yn eistedd ar wal isel o flaen eu tai; brydau eraill yn mhob i gornel; a’u seiat oedd siarad am yr hen gampau gynt a’u hystranciau. Nid oedd un wedi darllen ond y nesaf i ddim, ac yr oedd “cwrs y byd” tuallan i’r cwm yn ddyeithr i’r ddau. Ond bu Morgan Rhys farw, a chynhyrfwyd ysbryd Evan Thomas gan (x96) hiraeth ar ei ol. Un ystafell oedd i dy Morgan, ac yr oedd ei wely ynddi, a lleni cwarelog gwyn a glas o’i amgylch. Y noson ar ol marwolaeth Morgan eisteddai Evan yn smocio ac yn synfyfyriol wrth y tan. Trodd ei wyneb tua chyfeiriad y gwely, a dywedai, “Morgan, wyt ti ddim yn ‘challenge’ neb heno!” Yna pesychai a phoerai yn fan a brysiog a blaen ei dafod i’r tan. Trodd eilwaith, a dywedai, “Morgan, wyt ti’n cofio y ‘fatch’ rhyngom ni, gwyr yr Ystrad, a gwyr Aberdar. Wyt ti’n cofio i ti grio arnom ni, ‘Fechgyn, pob un i feindio ei binch heddy’.’ O Morgan bach, yr wyt ti yn distaw heno!” Poerai yn bybur yn awr. Ar ol ychydig, dywedai drachefn, “Wel, dyma y gwisgar spardynau goreu yn mhlwyf yr Ystrad wedi ein gadael ni; ie’n wir! Duw mawr, beth a na i heb Mocyn Rhys!” Adroddwyd y stori wrthyf gan y Bili uchod; yr oedd yn ddisylw o hono, yn hogyn yn eistedd yn y cornel gyferbyn, yn sylwi a gwrando.

d65 / 5-44 - DIWYGIAD CREFYDDOL 1859 - DIGWYDDIAD DIGRI
Yn y flwyddyn 1859 torodd allan mewn rhanau o Gymru Ddiwygiad o dan weiniogaeth y Parch. Dafydd Morgan, Yspytty. Yr oedd y Diwygiad yn frwd anghyffredin mewn capel yn swydd Aberteifi; yr oedd molianu, gorfoleddu, a neidio yno yn aml hyd haner nos. Elai llawer i weled yr olygfa hynod. Nid yn mhell o’r capel yr oedd gwraig wrol ac iach yn siarad yn gellweirus am stranciau pobl y Diwygiad. Ond un hwyr aeth i’r capel i weled a chlywed. Yr oedd plas cadben yn y fyddin yn yr ardal. Yr oedd y cadben newydd ddyfod o India, ac wedi dyfod a gwas du gydaeg ef. Aeth hwn gyda’r gweision a’r morwynion eraill y cadben tua’r capel unnos Sul i weled yr olygfa. Yr oedd y lle yn orlawn. Cyn hir, ar ol dechreu’r bregeth, torodd allan yn orfoledd. Ebai un wraig, “O, y mae e oll yn hawddgar!” Ebai merch arall, “Mae e’n rhagori ar ddeng mil!” “Mae e’n wyn a gwridog,” ebai un arall. Torodd un arall i ganu –

(x97)
“Pwy welaf o Edom yn odo,
Mil harddwch na thoriad y wawr.”

Ebai y wraig gellweirius, “Dyma ffoliaid! Dyma nonsense!” Torodd gwraig dew allan i ganu –

“A welsoch chi ef, a welsoch chi ef?”

Edrychai y bechadures watwaraidd yn awr i bob cyfeiriad gan feddwl yn siwr bod y gorfoleddwyr yn canu a chlodfori rhywun oedd yn bresenol yn y cyfarfod. Ar darawiad, syrthiodd ei llygad ar y gwas du, a chyda’r ysgrechain mwyaf ofnadwy bloeddiai, “O jawch! Finai a’i gwelaf yn awr!” Gwnaeth ystwr enbyd, a chafodd ei dychryn y fath effaith arni nes y bu raid ei dwyn gartref mewn cart. Er nad yw yr hanesyn yn perthyn i destyn y llyfr, y mae yn neydd ac yn rhy dda i’w anghofio.

d66 / 5-45 - GOLWG AR Y CANNAR MAWR O BEN CEFNHIRGOED
Cyfansoddwyd y llinellau tyner a ganlyn yn haf y flwyddyn 1837 gan Ieuan Myfyr a alwyd ar ol hyny Myfyr Morganwg (Archdderwydd, Pontypridd). {
Evan Davies, 1801-1888} Yr oedd yn byw ar y pryd yn Ngwern Tarw, Pencoed. Ganwyd ef Dydd Hen Nadolig, 1800. Bu farw Chwefror 23, 1888, yn Heol y Felin, Pontypridd. Mae ei fedd ar y llaw dde wrth y fynedfa i gladdfa Eglwys Glyntaf, Morganwg.

Wrth grosi y mynydd ryw ddydd yn Mehefin,
Disymwth, y daethum i olwg y ty,
A’i faesydd awyrawl yn ymyl ffrwd loyw,
lle gynt yn ddiangen bu fyw fy nhadcu.

Wrth weled y twyni a’r llethrau gwyrddleision,
Fe doddai fy nghalon, ai’m llygad yn llyn,
A gweld clais y fagwyr islaw yr ardd onglog,
Lle chwareu f’anwylfam yn blentyn cyn hyn.

Gwel’d yno’r llawr llathraidd lle llamai’n ysgafndroed
Yn oed diniweidrwydd, heb ofal i’w bron;
A’i dull yn arwisgo prydferthwch angylaidd
Gan swyno’r edrychydd a’i phryd ieuanc llon.

(x98)
{Ffoto: “Myfyr Morgannwg.” Yr Archdderwydd. Yn 86 oed yn 1886.}

(x99)
Ond rhedeg wnaeth Amser, gan newid yr oesau –
Er’s hirion flynyddoedd i’r llwch rhoddwyd hi!
O flwyddyn i flwyddyn, gan ddirwyn fy nyddiau,
Yr un modd a hitha’ gwna Amser a mi.

Ar ol hyn, daw boreu bydd haul yn tywynu,
A Natur yn gwenu yn hardd fel mae’n awr;
A’r adar yn canu ryw ddydd pan b’o fina’
Er’s hirion flynyddoedd i’r llwch dystaw’r llawr!

Wrth feddwl mor sicred y gwawria’r fath foreu,
Fy nghalon ddwys dodda, fy meddwl a’m syn –
‘Does ond perarogli fy oes a phob rhinwedd,
Fel byddo fy nghoffa’n fendigaid pryd hyn.

d67 / 5-46 WRTH AFON ANGEU.
Odlau olaf Ieuan Glan Ewyn (John Cooke), Ewynwy, Penybont ar Ogwy

Y byd, y byd, y byd:
Rhyfeddod wyt i mi:
Fel cronfa fawr o lid
A rhwysdrau aml ri.
Pob dydd rhyw hanes ddaw,
A newydd dybryd i’m;
Trallodion ar bob llaw,
A blin bicellau llym –
Dirgrynu mae fy nghalon brudd
Wrth edrych ar dy wgus rudd.

Y byd, y byd, y byd:
Nid oes dim hedd i mi,
Na gobaith cael rhyw bryd,
Fwyn nofio ar dy li;
Ond suddo dan y don,

O’r golwg wnaf cyn hir,
Pan baid curiadau’m bron,
Yn llwyr mewn tael dir;
A swn ystormydd garw’th fryd
Ni chlywaf yn fy ngwely clyd.

Hen afon Ewyn fwyn
Sy’n llifo heibio’m ty
Gan ganu cathlau swyn
Fel odlau gwyryf gu;
(x100) Heb wybod fawr fy modd
Tra’n sefyll ar ei glan,
I gystudd blwng yn nod,
Yn llwyd a gwan fy rhan

– Nas gallaf, fel y dyddiau gynt,
Fwynhau dy gathlau ar dy hynt.

Myn’d mae yr afon fach,
Mor hwyl-lon ag erioed,

Fel pe b’ai pawb yn iach,
Heb loes na llesgedd oed;
Pe marw wnai’r hol blwyf.
Ar lanau didaw hon,
Hi ganai’n gref heb glwyf,
Ei pher ganiadau llon;
Ac ar ei thaith yn gyson a,
Heb edrych ar na chur na phla.
 
Hen afon Ewyn fwyn,
Ai hyn yw’th arfer di?
Sef gwrthod cydymddwyn
A’r bardd fu’n canu’th fri?
O dyro leddfol gan,
Am unwaith ar dy hynt?
Tros wely’r marian man,
Na lifa’n wyllt fel cynt?
A dyro un wylofus gri,
Ar ran fy ingol gyflwr i!

Ond hyn yw’r ateb gaf –
“Nis gwn am ganiad lleddf:
Myn’d, myn’d o hyd a wnaf,
Yn ol gweithrediad deddf;
A , myned wnaf o hyd,
Trwy ddyffryn hardd a dol,
Gan olchi troed y bryn
Heb edrych yn fy ol,
Ar unig iaith fy odlau i
Yw – ‘Mor, y mor, y mor i mi!’

Mewn afon minau wyf
Yn myn’d trwy ddyffryn du –
Cystuddiau, poen, a chlwyf,
A’m gyrant gyda’r lli;
Cyrhaeddaf yn y man
Y Mor Tragwyddol draw –
O dal fy mhen i’r lan,
Fy Nuw – rho i’m dy law:
I’m nofio i dy dawel hedd,
O gyrhaedd poen, tudraw i’r bedd!


(x101)

d68 / 5-47 - CAN I BLWYF LLANWYNNO, MORGANWG
Daethum yn hollol ddamweiniol ar draws y gan brydferth a ganlyn mewn llawysgrifen, wedi ei ddyddio Mawrth 29, 1836, ac enw “Llywelin o’r Cwrt” – Llywelin Jones – wedi ei ysgrifenu o dani. Perchenog yr ysgrif oedd y diweddar Evan Llywelin, yr hwn a fu gynt yn cadw fferm y Mardy, Cwm Rhondda Fach, lle yr oedd yn byw yn y flwyddyn 1836. Cododd dy hardd yn Hendre Gwilym, Penygraig, lle y bu ef a’i wraig a’u hunig fab fyw; ac yn y ty hwnw y treuliodd y tad a’r fam hwyrddydd einioes. Yr oedd y tad yn ddall yn mlynyddoedd olaf ei fywyd: yr oedd yn cael ei gyfrif yn ddyn o gyrhaeddiadau meddyliol gwych, ac yn hyddysg yn y Gymraeg a’r Saesonaeg.

(“Nos Calan.”)
Plwyf Llanwynno gar fy nghalon,
Dyma le mae gwyr bon’ddigion;
Dyma le mae gwaith ac arian,
Bara a chaws, a chig a chusan.

Dyma le mae merched mwynion,
Yn poblogi gerddi gwyrddion,
Dyma le mae’r rhos a’r lili,
Pan b’o awel oer yn rhewi.

Dyma le mae iaith y Cymro,
A phrydyddion i’w chofleidio,
Dyma le mae gwin a gwirod,
Lle mae daear dda a diod.

Dyma le mae pawb llawenydd,
Serch a golud gyda’u gilydd,
Dyma le mae perllan Gwyno,
Ddydd Nadolig wedi deilio.

Dyma le mae’r gog a’r eos
Am gael bod a byw ac aros;
Sain ei tanau sy’n y twyni,
O’r doldiroedd i’r dail deri.

Dyma le mae hen arferiad
Dalen werdd a cherdd a chariad;
Dyma le sy’n parchu pob un -
Lle mae dwylo llawn a’r delyn.

(x102) Dyma’r lle a’r fan ’rwyf fina’
Am gael bod y rhan fynycha’;
Dyma’r lle mae pob difyrwch,
Y dawn goreu a dyngarwch.

Gelwid y bardd yn yr amser y cyfansoddodd y gan “Llywelin Bili Shon.” Saer ocoed ydoedd wrth ei alwedigaeth.

d69 / 5-48 - ANIANYDDIAETH RHEIDRWYDD
(Allan o’r un Llawysgrif)
Gwych ddeddfau anian sydd heb goll
A’n gweithrediadau oll yn oll;
Yn ddianwadal yn ei rhyw
‘Nol trefn ddoeth yr uchel Dduw.

Gwir yw nis gellir gweled gwall
Yn unrhyw ddeddf yn fwy na’r llall;
Ac mae cadwyn yn eu cloi
Mewn modd nas gellir eu gwrthdroi.

Yn ol darpariaeth uniawn Duw
Y gwnaethpwyd pob creadur byw;
Dim coll na saeth yn nim o’i waith,
Fel gwna creadur llesg a llaith.

Ac yn y modd amcanodd e’
Fe ddaeth y cwbwl yn eu lle;
’Nol ei fwriadau hardd ei hun,
Na ddaeth damweiniau naddo un.
E. Thomas, Caerygelyn, Penygraig.

___________________________________-
Nid Duw ei Hun yw’r achos ddim
O’r holl ddaioni mawr a’i rym;
Er hyny gwir deilynga clod
Y bydd, y mae, ac oedd erio’d.

Y mae rhyw ddyben da gan Dduw
Yn nghenedigaeth pob dyn byw,
Cyn colla un iot mewn le na phryd
Fe lwyr ddifoda hyn o fyd.

Pwy glywodd son ar dir na mor
Am siomi yr holl wybodol Ior?
Gofynwn i’r Damweinwyr mad,
Pa ddrwg orchfygodd Dduw a’i rad?

Mae ‘wyllys Duw i wella dyn,
Mae’n well na neb a’i allu’n un;
Mae iechydwriaeth felly’n dod,
Yn rhad y bydd, mae’n rhai ei bod.
L. Jones
___________________________________-

(x103) Pa beth sydd mor rhesymol
A chredu’n gydwybodol
Fod achos arddun yn mhob man,
A Chrewr annechreuol.

Ni all fod un amheuaeth,
Os cywir yw gwrthreidiaeth,
Ein bod yn amgen, cryf a gwan,
Na deiliaid hanfodolaeth.

Fe fyddai’n lled ryfeddol
Pe gwelid bodau bydol,
Cyfoed, cyf-fesur, yn mhob rhan,
Pob un yn annibynol.

Os na wnaeth Awdwr hanfod
Achosi erioed anghyfod,
Na’r drwg y sy’ na’r un a fydd,
Pa achos sydd i bechod?

Yr ydym yn ddyledus
I’r Bod Anfeidrol fedrus
Ac bob amser yn mhob modd,
Ac am bob rhodd ddaionus.

Mae swydda’r cyfansoddiad
Wrth angenrheidiol rediad,
A phob amgyclhiad yn gytun
Yn eiliaw’r un aneliad.

Tra bychan yw’n gwybodaeth
I chwilio i’w oruchwyliaeth,
Da eitha’ ’i gyd, a doeth digoll,
A glan ei holl Rhagluniaeth.
Llywelin o’r Cwrt (1836).

d70 / 5-49 - ACHOS AC EFFAITH
‘Does dim heb achos yn y byd,
Mae pawb yn addeu hyn o hyd,
A’r hyn a wna pob creadur byw,
Sydd dda neu ddrwg, yn ol ei rhyw.

Bu amser pan nad oedd undyn,
Na dim on Dofydd mawr ei hun;
Ni allsai pechod fod pryd hyn,
Pa fodd y daeth sydd imi’n syn!

(x104) Da i gyd yw Duw, a pherffaith oll,
Ni ddaeth oddi yno unrhyw goll,
Rhaid mai rheidedd pethau yw,
Ac anlluddiadwy yw i’r doethaf Dduw!

Ond er fod drwg yn rhwym o fod,
Cyngynllun goreu Duw eriod –
Gwna Ef o’i ras, annhraethol yw,
Y drwg er da i ddynolryw!
- Jenkin Evans, Tonyrefail (Ysgrifenydd Gwaith y Dinas)

Y mae y darnau uchod yn engreifftiau pa fodd yn nghanol y ganrif hon, yn yr ardaloedd gwledig hyn ac yn mhlith y mynyddoedd, yr ymbalfai meddylwyr difrifol a’r ystyriaethau dyfnaf mewn athroniaeth. Credwn mai hen ysbrydion y Mabynogion (Coed y Mabynogion – “Coed y Meibion”) oedd yn sibrwd wrth eu meddyliau. Mae y “genus loci” yn Ninas y Rhondda o hyd!

d71 / 5-50 - HEN DDIGRIFWCH: YR IOOB-BOOB
Yn yr un ysgrifen yn yr hen lyfr caf y pethau digri a ganlyn. Y mae eu cyfansoddwyr wedi huno er’s llawer blwyddyn:-

“YR IOOB-BOOB.”
Cant o deirw corn dwp,
Pob dau yn ymladd dwpdwp;
A mina’n sefyll rhwng y rai’n,
Mi allswn lefain Wbwb!
- Twm Hywel Llywelin.
___________________________________-

Mi welais grythor droedglwb,
A chanddo esgyd flaenglwb,
Ac hefyd ddyn yn Mychudd fain,
Mewn llif yn llefain Wbwb!
- Shams, Cefn Tylcha
___________________________________-
Mi welais lo mewn gwaelgwb,
A cheffyl ffol a ffrwyngrwb;
A dyn disynwyr gyda’r rhai’n;
Mi allswn lefain Wbwb!
- Evan Moses
___________________________________-

Ymddengys fod y prydyddion uchod ar gyfaddech yn Nhy’r Ffynon ar y pryd, ac i “Wb, wb!” gael ei roddi yn destyn iddynt.

(x105)
d72 / 5-51 - HEN DDIGRIFWCH: ALS O’R SIOP A JOB Y TAFARN
“Ar Hyd y Nos”

Mae’r tafarnwr hwn yn trigo,
Ar hyd y nos;.
Fry yn Ngwesty Eglwys Wyno,
Ar hyd y nos:
Pan f’o yno lu o ddynion
Am ei gwrw, ffyliaid gwirion,
Y mae gofid ar ei galon –
Ar hyd y nos.

Ni a Als ddim dros y cefnfor –
Ar hyd y nos
Dig i redeg drwy Gaerodor –
Ar hyd y nos;
Daw o’r Bont a’i chol yn daclus,
A diwalla pawb o’r Ynis
Drwy drafferthu a bod yn daclus –
Ar hyd y nos.

Job sydd yn breweddu’i hunan,
Ar hyd y nos;
Gwrw iachus yn ei grochan –
Ar hyd y nos;
Os bydd dygwydd i chwi alw
Mwy na haner pint o hwnw,
Chwi gewch gerydd llym a garw,
Ar hyd y nos.

Diolch byth i’r Hollalluog
Ar hyd y nos;
Am y dynion diwyd, enwog,
Ar hyd y nos;
Sydd yn darpar y danteithion
Gan eu rhanu’n gynil ddigon,
Megis iar yn bwydo’i chywion –
Ar hyd y nos.

d73 / 5-52 - HEN DDIGRIFWCH: CAN HANES FFAIR ABERDAR
(1) Gwrandewch, fy holl gyfeillion, yn fawrion ac yn fan
A phawb sy’n dilyn ffeiriau, clywch ‘chydig eiriau ar gan;
Fi aetho heb far {sic; ?ystyr} i Ffair ‘Berdar yn gynar yn y gwanwyn,
A chodais gyda’r ‘hedydd bach yn ddigon iach i gychwyn.

(x106)
(2) ‘Nol imi dd’od i’r pentre dros ben y bryniau draw,
‘Roedd yno ie’nctyd glandeg, rhai llondeg law yn llaw
A merched Mair, yn ddwy a thair ar hyd y ffair bron fferu,
Fi actais ina’n ail i ddyn trwy gymryd un o’r rheiny.

(3) Pan o’wn i’n mynd tua’r tafarn yn gadarn gyda Gwen,
Fi gwrddais a chyfeillion, dwys union a di-sen,
Sef Ned o’r Wain a Chatti Fain, a Wil mab Cain a Neli
A Guto Bach ‘run lais a chawr, ac Ester Fawr Cydweli.

(4) Ni drawson gyda’n gilydd tua’r dedwydd dafarn dy,
Gan alw cwart o ddiod yn ffraeth cael bod yn ffri
‘Nol eiste’ i lawr mewn cegin fawr am haner awr yn gyfan
Pwy glywn yn canu gyda’r tant ond Leishon Nant yr Odyn.

(5) Ni aethon mewn i’r ‘stafell lle’r oedd ye ie’nctyd glan,
Ar hyn fe gododd Leishon gan ddywedyd, “Dewch ymla’n”;
Llawenydd llawn gawd trwy’r prydnawn yn foddlon iawn i’r ddiod,
A’r brandy poeth a gwres y tan yn lloni’r glan rianod.

(6) Pan oe’n ni’n eitha llawen, a’r haul bron cuddio’i ben,
Pwy ddela i’r ty ond Dai Cwmdar a Shon o’r ‘Scubor Wen;
‘Rol eista i lawr yn feddw mawr a Shon yn feddw creulon,
‘Roedd am y ferch oedd gyda fi serch colli gwaed ei galon.

(7) Pryd hyn atebodd Leishon y cyfaill ffraethlon ffri,
“Paid a bod mor sceler, waith Tayler ddaeth a hi i’r ty”,
“Ni waeth gen i pwy ddaeth a hi’r ty, fy myna hi, lliw’r manod,
A thyma sofrin fod y ferch yn bur o serch yn barod.”

(8) Pryd hyn daeth Ned Blaenaman a dau o wyr i’r lle
Gan ddweyd ‘dodd yn y parlwr ddim gystal gwr ag e’;
Aeth un o’r tri tuag atto a rhoddodd ergyd hoew,
Ond cododd cyfaill ar ei draed, fe dynodd waed i hwnw.

(9) Pryd hyn ai’r merched allan, rhai mwynlan, dyma’r modd,
I edrych am gyfeillion gael dwedyd fel yr oedd;
A’r rheiny’n dod fe droes y rhod, fu dim erioed mor enbyd,
Ond dan y ford yn ngwal y ci y cedwais i fy mywyd.

(10) Fi welais olwg greulon pan allais godi ‘mhen
Gwel’d Dai Cwmdar yn farw a Shon o’r ‘Scubor Wen,
Roedd Shon Ynysblwm bron tagu Twm a Ianto gwn yn mintan
A Guto Fawr, hen was Top Mill, yn herio Wil Blaenaman.

(x107)
(11) Fi welwn rhyw hen Gymro yn taro Dafydd Tod,
A Sais yn gwaeddi allan, “You’ve killed the man, by God”;
‘Roedd Sam o Griw a Daf o’r Rhiw yn cyraedd Huw Blaencorwg,
O achos battlo fu un tro am gini ‘Mro Morganwg.

(12) ‘Roedd teilwr mawr Tre Gibwn fel tarw’n dod i’r ty,
Gan fwgwth rhoddi awel i Daniel o’r Cwm Du;
A chynyg cic mor fawr ei lic {lic? - gair anodd darllen} at widw Dic o’r Felin,
Ond llanc o’r Rhegoes, nid un mawr, a’i wadodd lawn yn gwdyn.

(13) Ar hyn daeth gwyr yr heddwch, ystyriwch faint y stwr,
I geisio eu tawelu a’u gyru i bant bob gwr;
Ond rhywun rash o Mountain Ash ddechreuodd lasho Lewsyn,
Fe drawyd hwn i lawr a’r clwb, a chlywd Wb, wb! gan bobun.

(14) Fi neidiais i’r pryd hynny fel corgi i maes o’r cwb,
‘Roedd bwli mawr Llanwyno yn clingo er gwaetha’r clwb;
Fi glywn y cri o flaen y ty fod dawns ar Hewl y Felin,
A hwytha’n myn’d yr ie’nctyd tuag yno fel y gwenyn.

(15) Mi aethum a ‘nghyfeillion yn union gyda nhw,
Ac yno ces ryfeddod ddull hynod, ar fy llw;
Gwel’d Wil Chwech Bys yn frwd o chwys a nith i Rys y Rhedyn,
A Mali Miles a Wil Glo Man mor dal o flaen y delyn.

(16) ‘Rol galw am beint o ddiod fi welwn Wil Tai Mawr
A’m hanwyl gariad ine yn dod a dawnsio i lawr;
Fi gwnws tuag ati gan ofyn wnelai yfed,
Ond t’rawodd Wil gan faint ei lid y peint ynghyd a’r pared.

(17) Pryd hyny digiodd Leishon y cyfaill fyddlon, cu,
A dau o fechgyn Dowlais oedd newydd ddod i’r ty;
Ca’dd Wil Tai Mawr ei wado lawr, a chwympwd Wil Tregibwn,
Tra bu Wil y Teilwr Crac yn mesur Jack y Meiswn.

(18) Hi aeth yn ymladd scymun rhwng Rhysyn Nant y Rhew
A Hwlcyn cariad Sara, sef blodau Rhyd y Blew;
Ond Shon, gwas Hill, fe waeddodd “Wil,” ac Emwnt Sil y Dramwr,
Aeth oedd gweled Shon Law Drwm yn lachio Twm Costymwr.

(19) Fe orfu Dafydd Pryddro smaco gwas y Mownt,
Waith gofyn iddo’n dirion am goron o hen gownt;
‘Roedd Dai Pwllglas a Robyn Fras yn gollwng at was y Gelli,
Waith iddo ddweyd yn mhastai’r Twyn, “My love,” wrth Mari Bili.

(tudalennau 108, 109 ar goll)

(x110)
d74 / 5-53 – CHWAIN, CHWAIN
Chwain, chwain,
Sy’n fwy eu rhif na haid o frain,
Yn tyllu’r croen fel pigau o ddrain;
Yn mhell b’o’r rhain: wyf yma’n troi
Ar hyd y nos mewn dirfawr boen,
Gan grafu’r croen a’m cwsg yn ffoi.

Blacks, Blacks,
Sÿn’n brathu’n waeth na’r Income Tax,
Nes gwneyd y croen i gyd yn rhacs;
Bwytewch y Jacs, chwi giwed cas,
Rhowch lonydd i bregethwr tlawd,
A phoenwch gnawd rhyw ddyn diras.

O, O,
Na chawn bob chwanen yn y Fro
Rhwng morthwyl dur ac eingion go’,
Mi wnawn y tro, cawn fwrw’m llid,
Ai’r chwain i gyd yn chwilfriw man,
Yn fwyd i’r tan y byddo’r brid.


“Hanes Tonyrefail” - llyfr wedi ei achub o ebargofiant a’i roi ar y rhywd i bawb o bobol y byd gan Iain Ó hAnnaidh, Hydref 2001
 
·····

DOLENNAU AR GYFER GWEDDILL Y GWEFAN HWN  
·····
2210k
Mynegai yn nhrefn y wyddor i’r hyn a geir yn y gwefan
·····
1051e
testunau Cymraeg â throsiad Saesneg yn y gwefan hwn

 



Ble’r wyf i?
Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc?
Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (= Gal·les-Catalunya)
Weø(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ø peij fròm dhø “CYMRU-CATALONIA” (= Weilz-Katølóuniø) Wéb-sait
Where am I?
You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website

CYMRU-CATALONIA





Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats