|
|
(delwedd 6521) (tudalen 343)
|
CALIFORNIA (Y Traethodydd / Gorffennaf 1851 / tudalennau 354-361)
[What I saw in California: being the journal of a Tour, by the Emigrant Route
and South Pass of the Rocky Mountains, across the Continent of North America,
the Great Desert Basin, and throngh California, in the years 1846, 1847. By
EDWIN BRYANT, late Alcalde of San Francisco.]
[Yr hyn a welais yn California, sef
Dyddlyfr Taith, ar hyd Lwybr yr Ymfudwr a Bwlch Deheuol y Mynyddoedd
Creigiog, ar draws Cyfandir Gogledd America, Canol yr Anialwch Mawr, a thrwy
California, yn y blynyddau 1846, 1847. Gan EDWIN BRYANT, gynt Maer San
Francisco]
Note of a Military Reconnoisance, from Fort Lavenworth, in Missouri, to San
Diego, in California, including part of the Arkansas, Del Norte, and Gila Rivers.
By Lieut. W. H. EMORY, Topographical Engineer.
[Nodau o Chwildaith Filwraidd, o Gaer Lavenworth, yn Missouri, i San Diego,
yn California, yn cynnwys rhan o’r Arkansas, Del Norte, ac Afonydd Gila. Gan
Is-Gad. W. H. EMORY, Peiriannwr Darlunleol].
Y llyfrau hyn ydynt ddau waith a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn America ei hun,
er mai nid y diweddaraf chwaith, ond y cyflawnaf a’r egluraf a ddygwyddodd i
ni weled eto. Gan fod cymaint o ymfudo i bob parth y dyddiau hyn, a llawer yn
myned i wlad yr aur, tybiasom na buasai yn annyddorol cael erthygl helaeth am
unwaith ar y daith ddyeithr trwy gyfandir America, wedi ei hufenu o’r ddau
waith uchod. Dywedir fod Mr. Bryant yn boneddig o wybodaeth a synwyr da, yr
hyn, yn wir, sydd yn amlwg trwy ei holl waith. Efe a aeth gyda’r ymfudwyr ar
hyd y tir yn 1846, can belled a Chaer neu Fort Laramie, lle y darfu iddo ef,
gyda chymdeithion etholedig, newid eu pedrolfeni am ychain a mulod - wedi
penderfynu teithio yn gyflymach na phrif gorff yr ymfudwyr. Yn lle dilyn yr
hen lwybr teithio ar hyd ffordd Caer Hall, efe a ddilynodd y ffordd newydd a
ganfüwyd heibio i ben deheuol y Llyn Halen Mawr, yr hwn sydd yn gorwedd yn y
cwr gogledd-orllewin i’r cyfanwlad o anialwch mawr. Y llyn hwn yw y gronfa
hynotaf o ddwfr yn yr holl fyd.Y mae yn derbyn dyfroedd afon gryn fawr, ac
amryw ffrydiau llai, ac nid ymddengys fod yr un o honynt yn hallt; ond y mae
dwfr y llyn ei hun yn cynnwys trwythiad helaeth o halen cyffredin. Tynodd
Col. Fremont allan o bum galwyn o ddwfr y llyn, trwy darthiad, bedwar peint
ar ddeg o chloride of sodium, bron yn bur. Gwelsom sylw yn rhywle fod llynau,
nad oes llifiad allan o honynt, yn drwythedig â halen mwnawl, yr hwn a ddygir
i lawr trwy eu cynnwysiad. Gan mai trwy darthiad yn unig y mae y dwfr yn
myned ymaith, y mae dwfr y llyn yn dyfod, mewn hir amser, yn hollol hallt. Y
mae y dybiaeth hon, pa un bynag a ydyw yn gywir neu nad yw ar egwyddorion
gwyddoniaeth, er hyny yn debygol iawn, mor debygol fel y byddai yn werth
ymchwiliad prawfiadol. Gerllaw y llyn hynod hwn y mae cartref dewisedig y
twyllwyr Mormonaidd, neu Saint y Dyddiau Diweddaf. Wedi eu gyru gan rym
gorthrech o’u cartrefi yn Illinois, dewisasant
|
|
|
(delwedd 6522) (tudalen 344)
|
y lle hwn yn fangre preswylfod, lle y gallant fwynhau eu crefydd, er
ei gorphwylled, heb eu haflonyddu. Y mae llanerch eu dewisiad oddeutu dau
gant a deg ar hugain o filltiroeddo’r Bwlch Deheuol, ac mewn sefyllfa gyfleus
– ar y brif-ffordd o Oregon i California - yr hyn, mewn amser dyfodol, a fydd
yn bwysig, yn annibynol ar y gwerth a rydd ei gysylltiad â’r llyn halen arno.
Ar y tu deheuol i’r llyn hwn y mae llyn Utah - corff o ddwfr croeyw yn
llifeirio i’r llall. Yr oedd y llwybr a gymerodd Mr. Bryant yn eu harwain ar
draws y diffaethwch mawr hallt, taith o bymtheng milltir a thrigain, heb
ddwfr na glaswellt. Gwelir ar unwaith y rhaid y bydd yr anghenrheidrwydd o
groesi y gwastadedd marwol hwn yn wrthddadl ddifrifol byth yn erbyn y llwybr
yma, gan y bydd y rhai hyny a deithiant gyda phedrolfenau o dan yr
anghenrheidrwydd o fod ddau neu dri diwrnod yn ei groesi. Canlynodd y
cwmpeini lwybr Fremont trwy y diffeithwch y flwyddyn o’r blaen. Pan yr
oeddynt ar y rhan hon o’r daith, gwelsant i berffeithrwydd y twyll-olygfa,
neu y siomedigaeth hynod hono sydd gyffredin mewn anial tywodlyd. Rhydd y
darnodiad canlynol ddarluniad teg o un o’r dysgleirdeb hwn:-
“Fel y dywedais o’r blaen, yr oeddwn wedi disgyn oddiar fy mul, a chan ei
droi i mewn gyda’r caballada, oeddwn y cerdded amryw rydau o flaen y
cwmpeini, i’w harwain yn union at nôd ein cyrchfa. Ar oleddf (diagonally) o’n
blaen, ar y llaw ddeheu, a ninnau y cyfeirio i’r gorllewin, gwelem gysgodau
rhifedi o ddynion a cheffylau - tua phymtheg neu ugain. Yr oedd rhai o’r
lluniau yn ymddangos fel yn marchogaeth, ac eraill fel pe buasent yn
cydgerdded fel milwyr traed. Yr oedd eu gwynebau a phenau eu ceffylau wedi eu
troi tuag atom, ac ar y cyntaf ymddangosent fel pe buasent am redeg i lawr ar
ein traws. Yr oedd eu pellder ymddangosiadol, a barnu yn ol y terfyngylch, o
dair i bum milltir. Ond nid oedd eu maint yn cyfateb i ni, canys ymddangosent
mor fawr â’n cyrff ni ein hunain, ac o ganlyniad yn gawri o gorffolaeth. Ar
yr olwg gyntaf, mi a dybiais mai cwmni bychan o Indiaid oeddynt (yr Utahiaid,
fe allai) yn cydgerdded o’r ochr arall i’r gwastadedd. Ond o’r braidd yr
ymddangosai hyn i mi yn bosibl, gan nad oedd yn debyg y cymerid y llwybr hwnw
gan helwyr na rhyfelwyr. Mi a elwais ar rai o’n pobl ni ag oedd nesaf ataf i
frysio ymlaen, gan fod pobl o’n blaen yn dyfod tuag atom. Yn fuan iawn
cynyddodd y pymtheg neu ugain i lun neu gysgod tri neu bedwar cant, ac yn
ymddangos eu bod yn cydgerdded tuag atom yn eithaf cyflym. Ar hyn mi a dybiais
y gallai mai Col. Fremont a’i gwmni oeddynt, gydag eraill, o California, yn
dychwelyd yn ol i’r Unol Daleithiau ar hyd y llwybr hwn, er yr ymddangosent i
ni yn rhy luosog i fod y rhai hyny. Mi a siaredais â Brown, yr hwn oedd
agosaf ataf, ac a ofynais a oedd efe wedi sylwi ar y lluniau dynion a
cheffylau oedd o’n blaen? Efe a atebodd ei fod, a’i fod ef wedi sylwi ar yr
un fath ymddangosiad lawer gwaith o’r blaen, ond iddynt ddiflanu, a’i fod ef
yn credu mai twyll y llygaid oeddynt, tebyg i’r twyll-olwg (mirage). Dyna y
pryd, am y tro cyntaf, gan mor berffaith oedd y twyll, y darfu i mi ddyfalu y
gallai mai lluniau ein cysgod ein hunain yn adlewyrchu gan yr awyr oeddynt,
yr hon a lenwid â mân ronynau grisialaidd. Arweiniodd hyn i wneyd sylwadau
manylach ar y rhyfeddod hwn, fel y gallem sicrhau y twyll os hyny ydoedd. Mi
a sylwais ar un llun yn ymddangos beth ymlaen ar y lleill, ac mi a synais
wrth ei debygoliaeth i mi fy hun. Yr oedd ei symudiad hefyd, mi a dybiaswn,
yr un a’r eiddo fy hun. I roi prawf o’r dybiaeth hon uwch law ammheuaeth, mi
a droais yn sydyn o gwmpas, ac ar yr un amser estynais fy mreichiau ar led ar
eu llawn hyd, a chan droi fy wyneb dros fy ysgwydd i weled symudiad y llun,
gwelwn ei fod yn gwneyd yr un fath symudiad yn gymhwys. Yna mi a gerddais yn
araf, a chyda camrau hirion: gwnaeth y llun yr un fath. I roddi prawf
perffeithiach, mi a wneuthum yr un modd drachefn, gyda’r un canlyniad. Yr
oedd y peth erbyn hyn yn eithaf clir.
|
|
|
(delwedd 6523) (tudalen 345)
|
Ond gwireddwyd ef yn fwy fyth, canys darfu i’r holl welediad o’r llu cysgodol
ym mhen awr, ddarfod ac ymadael o gwbl, ac nid oedd mwy o hono i’w weled.
Cawsom eglurhad boddhaol ar y rhyfeddod hwn. Y lluniau oedd ein cysgod ni ein
hunain yn llewyrchu ac yn adlewyrchu gan gyfansoddiad tebyg i ddrych, a
gymysgir â’r gwagle ffurfafenol, oddiar y gwastadedd tywodlyd. Nis gallaf
well egluro y pwnc hwn yn well.”
Wedi iddynt deithio ymlaen nes cyrhaeddasant afon Mair, yr hon a eilw Fremont
yn afon Humboldt, hwy a ddilynasant droadau ei glyn, lle y cawsant wellt i’w
hanifeiliaid, a digon o helyg a choed cotwm i wneyd tân. Daethant yn nesaf i
le a elwir Sink afon Mair, yna yr oedd ganddynt o’u blaen daith arall i’w
gwneyd, o bum milltir a deugain, heb ddwfr na glaswellt, nes eu dyfod i ddyfroedd
y Fruakee, neu afon y Salmon-frithyll, sy’n ymarllwys i lyn Pyramid. Y mae y
ffrwd hon yn cyfodi yn y Sierra (mynyddoedd) Nevada, gerllaw bwlch yr
ymfudwyr, yr hwn a adwaenir wrth yr enw, Bwlch y Salmon-frithyll, yn yr hwn
le mae y teithiwr yn dyfiod allan o basin y diffeithwch mawr. Nid oes yn un
màn ar y cyfandir olygfa ddaeryddol mor hynod ag yw basin mawr canolbarth
California. Y mae yn cael ei derfynu i’r dwyrain gan gadwen fawr y Mynyddoedd
Creigiog: i’r gorllewin gan y Sierra Nevada; ac i’r gogledd ac i’r deheu gan
drumau y rhedeg yn groes i’r ddwy gadwen fawr hyn. Y mae felly fel pe byddai
wedi ei gauad oddiwrth y rhan arall o’r byd, fâ chanddo ei fynyddoedd, ei
lynoedd, a’i afonydd ei hun - afonydd nad ydynt yn ymarllwys i’r Werydd na’r
Tawel-fôr. Ei ffrwd fwyaf yw afon yr Arth, yr hon, wedi cymeryd cylchdro o
ddau can’ milltir, sy’n ymarllwys ei dyfroedd i’r Llyn Halen Mawr, ar y cwr
dwyreiniol i’r llyn hwnw. Heblaw hon, y mae llawer eraill, y rhai sydd, bob
un o honynt, yn ymdywallt i’r un llyn, neu yn colli yn nhywod y diffeithwch.
Y mae y tir gan mwyaf yn llwm, oddieithr ar hyd ymylau yr afonydd, ac ochrau
y mynyddoedd. Y mae yr ysmotiau ffrwythlawn hyn yn gwneyd math o Eden hyfryd
yn nghanol y “diffeithwch gwag erchyll,” lle y gall anifeiliaid yr ymfudwr
blinderus gael gwellt a dwfr i’w cynnal ar eu taith ddychrynllyd. Y mae cylch
y diffeithwch hwn agos i bum can’ milltir: er fod yn rhaid dyweyd na wyddom
ni ddim am ran fawr o hono. Y mae yn codi o bedair i bum mil o droedfeddi yn
uwch na gwastad y môr. Gellid casglu oddiwrth hyn fod yr hinsawdd yn
annyoddefol oer; ond nid felly y mae, er y gwelodd Mr. Bryant rew yn mis
Gorphenaf, ond yr oedd yn beth anghyffredin; canys dywed Fremont nad oedd
ardymheredd yr hinsawdd am bythefnos yn Hydref ond 40º ar godiad haul, 70º y
prydnawn, a 50º ar fachludiad haul, ardymheredd cwbl mor dyner ag yw 40º yn
ogleddol; neu ar lànau y Werydd. Y mae y wlad fawr hon yn cael ei thrigianu
yn deneu iawn gan ychydig lwythau o Indiaid truenus, y rhai sydd yn ymddibynu
am gynnaliaeth ar wreiddiau, llysiau, pysg, ac ysgyfarnogod, pa rai sy’n cael
lloches yn yr artemisia pygddu - yr unig lwyn sy’n tyfu yn y diffeithwch.
Ychydig o adar sydd i’w cael yma, heblaw math o soflieir bychain, nac o
filod, heblaw yr antelope llwfr, yr hwn sydd yma yn cael digon o olygfa i
weled dynesiad ei elynion. Gall fod y felldith o anffrwythlondeb â pha un yr
ymwelodd natur, os goddefir y fath ymadrodd, â’r lle hwn, wedi cael ei
had-dalu yn nghyfoethogrwydd ei thrysorau mwnawl; ond nid yw yr ymchwil a
wnaed eto wedi taflu nemawr oleu ar y pwnc hwn
|
|
|
(delwedd 6524) (tudalen 346)
|
Y mae i fwlch Sierra Nevada fwy o godiad na bwlch y Mynyddoedd Creigiog; yn
wir y mae holl drum y blaenaf yn fwy cribog na’r olaf. Wedi disgyn llethr y
Sierra, nid oes dim neillduol ar y ffordd, nac anhawsder o ddim pwys i ddyfod
drwyddynt. Y pellder o Lyn y Mynydd sydd yn darddle y Salmon-frithyll, neu
afon Truckee, ar y tu gorllewin i’r Sierra Nevada, neu Gaer Sutter, ar gainc
Americanaidd y Sacramento, yw cant a chwech a deugain o filltiroedd, ac
oddiyno i dref San Francisco y mae dau gan milltir. Yr holl bellder, yn ol
Bryant, o Independence i San Francisco, yw dwy fil dau cant a deng milltir a
phedwar ugain (2290); a chymerwyd i’w deithio, y dyddiau oeddynt o’r 5ed o
Fai i’r 1af o Fedi. Fel y dywedwyd o’r blaen, teithiwyd yn agos i saith can’
milltir gydag ychain, a’r gweddill gyda mulod. Tybiaeth ofer yw y gellir
gwneyd y daith gyda mulod mewn tri mis, tra y cymer bump i’w gwneyd gydag
ychain. Cafodd ein teithwyr, pan ddaethant i Gaer Sutter, eu gwledda â chig
eidion newydd ei ladd, melons, wynwyn, a tomatoes; seigiau dyeithr iddynt
er’s llawer o amser, ac am yr hyn ni chymerasai eu croesawydd haelionus ddim
ad-daliad. Bu y daith yn llwyddiannus, ac y mae ein hawdur yn lloni ei hun ar
ei therfyniad ffodus fel hyn:-
”Gyda diolchgarwch geirwir a defosionol y gorweddais ar fy ngwely caled, i
gysgu unwaith eto o fewn terfynaau gwareiddiad. Ni chyfarfyddod neb o honom â
dim damwain na thrallod anghysurus er pan adawsom ein cartrefleoedd. Gyda
rhifedi bychan o naw dyn yn unig, ni a deithiasom o Gaer (Fort) Laramie i
Gaer Sutter, pellder o agos i ddau cant ar bymtheg (1700) o fillitroedd, dros
ddiffeithwch dilwybr a diffrwyth, a mynyddoedd oedd brin yn anhygyrch; trwy lwythau
o Indiaid anwaraidd, gan fyned, o anghenrheidrwydd, trwy lawer o anhawsderau,
a dyoddef caledi a phrinder mawr; a dyma lle yr ydym oll mewn iechyd da, heb
golli dim o newmar werth a berthynai i ni, oddieithr un anifel, yr hwn a
fethodd gan flinder, ac a adäwyd ar y ffordd. Ni fu dim ymrafael rhyngom ni
a’r Indiaid, i’n gorfodi i gymeryd ymaith fywyd mewn hunan-amddiffyniad
anghenrheidiol; ond yn y gwrthwyneb, pa bryd bynnag y cyfarfuem â hwynt ar
ein taith, trwy ein hymddygiad tuag atynt, enillwyd eu caredigrwydd
heddychol, neu tynerwyd a dïarfogwyd eu gelyniaeth, heb daraw unwaith. Yr
oeddem yn gofalu yn wastad am barchu eu teimladau a’u hawliau, a hwythau a’n
parchent ninnau. Anfynych y ceid achos i gofnodi canlyniadau mor fafriol dan
y fath amgylchiadau ag yr oeddym ni yn teithio.”
Darfu i lawer o ymfudwyr y flwyddyn hono fyned ffordd wahanol i’r llwybr
arferol, a hwy a gollwyd yn y diffeithwch, neu a ymddyrysasant yn y
mynyddoedd, gan ddyoddef caledi ag y mae adrodd am dano yn ddigon i wneyd dyn
yn glaf. Ond nid yw ein bwriad i adrodd llawer o’r hanesion gofidus hyn - ni
a awn heibio rhag bod yn rhy faith.
Tiroedd Calfornia, y rhai sydd ar dueddau y môr - y rhan hyny ag sydd rhwng
Sierra Nevada a’r Môr Tawelog, yw yr unig barth ag sydd yn awr o fawr werth.
Y mae y diriogaeth hon yn cyrhaedd yn llinell o 42º ogleddol i ben Llynclyn
(gulf) California, neu Fôr Cortes, pellder o agos i saith gant (700) o
filltiroedd, a rhwng cant a dau gant o filltiroedd o led, yn gwneyd gwlad o
fwy na chan’ mil (100,000) o filltiroedd ysgwar. Y mae dwy afon fawr fordwyol
yn llifeirio trwy y diriogaeth hon - y Sacramento o’r gogledd, a San Joaquin
o’r deheu. Y mae y ddwy afon hyn yn cyfarfod, ac yn ymarllwys i fôrgilfach
San Francisco. Y mae y dyffryn, trwy yr hwn y maent yn llifeirio, yn
ffrwythlawn, ac yn cael ei ddyfrhau yn dda, ac yn alluog i gynnal poblogaeth
fawr. Y mae yn llawn o
|
|
|
(delwedd 6525) (tudalen 347)
|
helwriaeth, megys eirth, hyddod, ceirw, a miliynau anifeiriol o adar dwfr. Y
mae glaswellt a cheirch gwyllt yn tyfu yn helaeth, yr hyn sy’n rhoi eithaf
digon o gynnaliaeth i yroedd mawrion o wartheg a cheffylau; y rhai
cyntaf-gwartheg - yw yr hyn sydd eto yn cyfansoddi cyfoeth y wlad. Y mae yr
hinsawdd yn nodedig o ddymunol - llawn cystal a’r Eidal yr ymfrostir cymaint
am ei hiachusrwydd. Gellir cynnyrchu ffrwythau y gwledydd poethion, ffigys,
oranges, lemons, ac olewydd, yn llwyddiannus; yr olewydd yn arbenigol, gan y
mynegir am danynt eu bod yn agorach na’r rhai ar dueddau Môr y Canoldir. Y
mae y parthau gogleddol yn hynod o gyfaddas i dyfiant ŷd, gan ei fod yn
cynnyrchu mwy o’r erw na’r parthau ar y Werydd o’r cyfandir bwnw. Bu y wlad
hon am agos i gan’ mlynedd yn meddiant yr Yspaeniaid Americaidd, gan mai y
Jesuitiaid a gymerodd afael arni gyntaf, y rhai a sefydlasant genadiaethau o
San Diego i i San Francisco. Darfu i’r offeiriaid cyfrwys ac anturiaethus
hyny roddi eu dylanwad ar yr Indiaid brodorol, a’u defnyddio i drin y tir,
neu i ofalu am y lluoedd gwartheg, crwyn a gwêr y rhai oedd eu prif fasnach,
a’r llongau a ymwelai yn achlysurol â’r porthladdoedd hyny. Yr oedd holl
gorff y wlad, o’r naill genadiaeth i’r llall, yn cael ei hawl-hòni gan y
tadau, y rhai a yrent ymaith bob anturiaethwyr eraill. Pan wrthryfelodd
Mecsico yn erbyn Ysbaen, syrthiodd y Jesuitiaid dan anfoddlonrwydd y
llywodraeth wancus, yr hon oedd yn awyddus am gael rhyw esgus dros
drawsfeddiannu y tiroedd breision, a’r diadelloedd afrifed oedd yn perthyn
i’r cenadiaethau. Y mae y sefydliadau hyn, a fuont unwaith or ardderchog, yn
awr yn falurion, gan fod y brodorion Californiaidd yn rhy ddioglyd i weithio
eu hunain, ac yn rhy analluog i gynnal y dylanwad a arferai y padres neu y
tadau hyny ar y cyndrigolion. Llawer o anturiaethwyr gwrol – yn cael eu denu
gan hinsawdd dymherus, a thir ffrwythlawn y wlad, a ymsefydlasant o bryd i
bryd yn Nghalifornia, gan gymeryd gafael yn y fantais na welid neu a
ddiystyrid gan y brodorion. Casglasant gyfoeth mawr trwy agor planigfeydd, a
magu gwartheg a cheffylau. Trwy eu cyfrwysdra a’u gwroldeb amyneddgar, yn yr
hyn yr oeddynt yn tra rhagori ar drigolion anwybodus ac oriog y wlad, darfu
iddynt gadw gafael yn eu meddiannau trwy yr holl gythrwfl a’r chwyldroadau ag
oedd yn cyson gynhyrfu y llywodraeth Fecsicoaidd. Nid oes dadl na buasai
California yn mhen ychydig o flyneddau - heb ymyriad yr Unol Daleithiau –
wedi peidio a bod yn rhad o weriniaeth Mecsico.
Ond nid cyfleusderau amaethyddol California yw yr hyn sydd yn rhoddi gwerth
mawr arni. Y peth a fu yn ymchwil mawr, er pan ddarganfüwyd y byd gorllewinol,
yw cael llwybr byrach i Asia na’r fordaith hir dymhestlog heibio i Benrhyn
Gobaith Da. Wrth chwilio am y fynedfa hon, olrheiniodd mordeithwyr y moroedd
rhewog yn ofer, a rhoddwyd yr ymgais i fyny fel peth bron anobeithiol. Yn
awr, ymddengys fod yr eisieu mawr hwn yn cael ei wneyd i fyny gan weriniaeth
yr Unol Daleithiau. Y mae yn dra thebygol y bydd i ffordd haiarn, rywbryd, ac
nid rywbryd pell chwaith, wneyd cyfandir America yn brif-ffordd masnach rhwng
Asia ac Ewrop. Hyd yn hyn nid oedd yr un lle ar gyffiniau y Môr Tawelog yn
briodol i fod yn derfyniad y ffordd. Yr oedd Oregon yn ormod i’r gogledd, ac
heb longborth cyfleus a diogel. Yn awr y mae gan America feddiant mewn hydred
briodol, ll y mae un o’r angorfdäau ardderchocaf yn y byd.
Wedi ein harwain fel hyn, ni byddai o bosibl yn anmhriodol gynnyg
|
|
|
(delwedd 6526) (tudalen 348)
|
rhai sylwadau ar gyfleusderau masnachol y parth hwn. Y mae gan longborth San
Diego, yr hwn sydd yn y parth deheuol eithaf i California Uchaf, angorfa deg,
yr hon a fydd mewn amser yn lle masnachol mawr. Yn uwch i fyny, ar yr un
tueddau, y mae angorfa gysgodol a thra diogel o’r enw Monterey, yn cael ei
hamgylchynu gan wlad gyfoethog. Ond diau mai San Francisco a fydd prif
ystorle masnachol, nid yn unig California, ond hefyd yr holl Fôr Tawelog. Y
mae y fynediad i’r angorfa hon ychydig yn fwy na milltir o led yn y lle
culaf, ac felly yn hawdd ei hamddiffyn. Wedi dyfod unwaith i mewn i’r afon, y
mae y morwr yn cael angorfa berffaith ddiberygl ac eithaf helaeth - yn
bymtheng milltir ar hugain o led, a deg a thriugain o hyd. Mewn gair, y mae
ynddi ddigon o le i holl longau y byd i nofio wrth angor. I’r angorfa hon y
mae y Sacramento a’r San Joaquin yn ymarllwys, ac felly yn ei gwneyd yn
ystorfa fasnachol y canolwlad (sic, heb dreiglad). Os gwneir ffordd haiarn
i’r môr Tawelog, yr hyn mae yn dra thebygol a gymer le, rhaid mai San
Francisco fydd ei therfyniad gorllewinol. Eto, y llwybr nesaf o borthladdoedd
Môr Tawelog Deheudir America i China, yw gyda glanau California, ac heibio i
Ynysoedd Alent. Er nad yw hyn i’w weled mor amlwg ar fap gwastad, gall y neb
a fyno foddloni ei hun o’i wiredd trwy gymeryd llinyn a mesur y pellder ar
globe. Felly bydd i’r ddinas fawr hon ddyfod, nid yn ystorfa masnach y
canolwlad (sic, heb dreiglad), eithr hefyd yn brif-le masnachol y Môr
Tawelog.
Cymerodd Isgadben Emory lwybr arall i California, gahanol i’r un a gymerodd
Mr. Bryant. O Gaer Lavenworth, yn nghymydogaeth Independence, efe a ddilynodd
lwybr arferol masnachwyr Santa Fé, yr hwn sydd fwy i’r deheu na’r Bwlch
Deheuol, er nad yw yn gwahaniaethu llawer oddiwrtho wrth edrych ar wyneb y
wlad. Wedi gadael hen ddinas enwog Santa Fé, aeth y cwmpeini i lawr ar hyd y
Rio Bravo del Nord am tua dau cant o filltiroedd, ac yna ar draws y grib sy’n
gwahanu rhyngddi a’r Gila, yr hon sy’n ymarllwys i’r Colarado, yr hon wed’yn
sy’n ymarllwys i lynclyn California. Ar ben uchaf afonydd Rio Bravo a’r Gila,
y mae y mynyddoedd sy’n gwynebu taleithiau Meesico Newydd, Chihuahua, a
Sonora. Y mynyddoedd hyn yw cartrefydd y Navajas a’r Apaches, y rhai sy’n
crwydro i lawr i’r dyffrynoedd ar gwastadedd islaw fel rhuthriadau
dinystriol, gan ddwyn ymaith yroedd, diadelloedd, menywod a phlant y
Mecsicoiaid dychrynedig. Y mae y barbariaid creulawn hyn wedi bod er’s
oesoedd yn cario eu difrod, heb gais i’w hattal. Ond yn awr y mae eu dydd
hwythau a’r ddyfod, a chânt dalu yn ddrud am ddysgu, trwy brofiad gofidus,
fod y Seison a’r Americaniaid yn bobl wahanol iawn i’r llwfriaid y buont hwy
yn eu hyspeilio cyhyd. Y mae y llwythau hyn, yn enwedig y Navajas, yn
gwahaniaethu mewn llawer o bethau oddiwrth yr Indiaid sy’n preswylio y
gwastadoedd ymhellach i’r gogledd a’r dwyrain. Adnabyddir hwynt wrth yr enw
Montezuma; ac y maent yn elynol iawn i’r Ysbaeniaid er buddygoliaeth y Cortes.
Y mae yn anhawdd iawn penderfynu hiliogaeth pwy ydynt hwy; ond y maent yn fwy
gwaraidd na’r llwythau cymydogaethol, er eu bod yn hynod o ryfelgar.
Y mae y tiriogaethau sy’n cael eu dyfrhau gan y Gila, hyd yn hyn i raddau
mawr yn anadnabyddus. Nid oes genym ond y darluniadau anghywir a’r mynegiadau
ansicr a roir gan fasnachwyr anturiaethus, y rhai a feddant yr hyfdra a’r
gwroldeb o wthio eu ffordd trwy wlad beryglus y Navajas, er mwyn yr afanc
sydd yn trigfanu eu dyfroedd, neu y trysorau mwnawl
|
|
|
(delwedd 6527) (tudalen 349)
|
a ddywedir fod yn eu mynyddoedd a’u ffrydiau. Taenwyd llawer chwedl ddigrif,
o bryd i bryd, am y wlad sy’n cael ei dyfrhau gan yr afonig hon. Dywedir ei
bod yn cael ei phreswylio gan bobl mor wareiddiedig a’r rhai sy’n preswylio
dyffryn rhagorol Tenochtitlan. Dywedid bod gro ei ffrydiau yn llawn o aur. Y
mae Isgad. Emory yn rhoi darluniad o furddynod a welodd ar y llwybr hwn, y
rhai, fe allai, oeddynt waith pobl ragorach mewn gwybodaeth na meddiannwyr
bresennol y wlad. Y mae yn bresennol ddau lwyth o Indiaid yn preswylio y
parthau sy’n cael eu dyfrhau gan y Gila, na wyddir ond ychydig am danynt gan
bobl w`ynion, y rhai ydynt bobl tra chyfeillgar a gwybodus. Gelwir hwynt y
Pimas a’r Coco Maricopas. Y maent yn byw ar amaethyddiaeth, gan nad oes
ganddynt duedd at ryfela; nid oblegid diffyg dewrder a dyais anghenrheidiol,
canys y maent yn hyny yn fwy na chyfartal i’r Apaches, y rhai weithiau a
grwydrant i’w gwlad i ddwyn ymaith eu gwartheg, eu ceffylau, a’u mulod. Y
maent mewn enw yn ddarostyngedig i awdurdodau Mecsico, ond mewn effaith y
maent yn annibynol. Yn eu gwlad hwy y mae y murddynod a enwyd o’r blaen, am
adeiladaeth y rhai nid oes genym ddim hanes boddhaol i’w roddi. Gall y
teithydd ymddifyru â phob math o debygoliaethau a thraddodiadau tywyll; ond
nis gall hysbysiad roi dim dadguddiad ar ddirgelwch sydd wedi amdöi hanes y
genedl a fu gynt yn preswylio y dyffryn amgauedig a hynod hwn. Ychydig a rydd
y murddynod hyn o foddlonrwydd i’r teithydd beth oedd gradd cyflwr gwareiddiedig
y bobl a’u trigianent. Carneddi o falurion priddlestri - gweddillion cyflwr
cyntaf gwareiddiad cenedl yw - yr unig olion a geir yn awr yn y murddynod
hyn.
Dywedid gynt fod y ffrydiau sy’n ymarllwys i’r Gila yn gyfoethog o aur, a bod
digonedd o bres ac arian yn y mynyddoedd cymydogaethol. Y mae Isgad. Emory yn
rhoddi cryn goel ar y mynegiadau hyn. Gwelodd ef esiamplau o’r ddau fan hyny,
a chafodd hysbysiad awdurdodedig fod aur yng ngrô y Prierte – ffrwd sy’n
ymarllwys i’r Gila.
Y mae cyfaddasrwydd amaethyddol y parth hwn yn wael iawn. Y mae y tir yn llwm
a noeth, yr hwn na rydd ddim tâl i’r llafurwr. Ychydig iawn yw y llysiau, dim
ond acaciaa mezquite, y rhan fwyaf yn gymysgedig âg amrywiaeth diddiwedd o’r
cactus, yr hwn sydd fel pe byddai yn ei elfen, ac yn cyrhaedd perffeithrwydd
yma. Nid oes dim helyddiaeth yma, oddieithr ychydig o soflieier a geifr y
mynydd: mewn gair, oddieithr y bydd i’r hybysiadau am gyfoeth mwnawl y wlad
droi allan yn dda, trwy ymchwiliad manylach eto, y mae tebygoliaeth y bydd i’r
Navajas, Apaches, Pimas, a’r Coco Maricopos, gael eu gadael byth mewn
meddiant dirwystr o’r parthau hyn. Eglurir hyn yn well gan y dyfyniad
canlynol o fynegiad Isgad. Emory, ac a rydd beth goleuni hefyd ar yr hyn sy’n
hynod o ddyddorol i’r Americaniaid, os nad rhyw rai eraill yn gystadl a
hwythau, er nad yn yr un ystyr:- “Y mae y wlad, o Arkansas i’r pwynt hwn -
cydorfiliad (sic, = cydorlifiad) y Colorado a’r Gila – yn ei chyfaddasiad i
amaethyddiaith, yn meddu neillduolion a ddirwasgant eu hunain byth ar y
boblogaeth a’i preswylia. Y mae holl Ogledd Mecsico, Chihuahua, Sonora, a’r
ddwy California, mor bell i’r gogledd a’r Sacramento, can belled ag y ceir yr
hysbysiadau goraf, yr un fath yn natur gwyneb ei thir, ac yn gwahaniaethu ond
ychydig yn ei hinsawdd a’i chynnyrch. [Nid yw hyn yn gywir o berthynas i
California, yn ol Mr. Bryant a ‘Fremont’s Geographical Memoir.’] Ni ellir
ymddibynu am wlaw, mewn nemawr gyflawnder, mewn unrhyw ran o’r
|
|
|
(delwedd 6528) (tudalen 350)
|
tir mawr hwn, er cynnyrch y ddaear. Y mae y wlad yn ddigoed, ac mewn
rhan fawr, o bob math o lysiau hefyd.
Y mae ychydig o ffrydiau bychain yn llifeirio i wahanol gyfeiriad oddiwrth y
mynyddoedd mawrion sy’n drumau ar draws y wlad hon mewn llawer o fanau. Y mae
y ffrydiau hyn yn cael eu gwahanu, weithiau gan wastadedd, ac weithiau gan
fynyddoedd, heb ddwfr ac heb dyfiant; a gellir eu galw yn ddiffeithleoedd o
ran dim sydd sydd ynddynt i gynnal bywyd anifeilaidd. Gan hyny y mae triniad
y ddaear yn gyfyngedig i’r lleiniau culion o dir ag sydd yn gydwastad â
dyfroedd y ffrydiau; a pha le bynag y mae yn cael ei arfer i nemawr
helaethder llwyddianus gan gymygogaeth, y mae ar draul ymddarostyngiad hollol
ac ufudd-dod i benaeth, a hyny yn groes i arferion pobl eraill. Rhaid
ufuddhau i’r penaeth a fyddo yn trefnu o berthynas i’r amser a maint y
dyfrhâd gwerthfawr gan yr holl gymydogaeth. Gallai ymadawaid oddiwrth y
rheolau hyn, trwy wastraffu y dwfr, neu fod yn rhy hael arno, nes esgeuluso
cadw y dyfrglawdd, beryglu moddion cynnaliaeth llawer o bobl. Rhaid iddo, gan
hyny, fod wedi ei arfogi â gallu i gosbi yn rhwydd ac ebrwydd.
Y mae elw llafur yn rhy annigonol caethwasanaeth Negroaidd. Nid yw
caethwasanaeth, fel y mae yn cael ei arfer gan y Mecsicoiaid - dan y ffurf o
peonage, yr hyn sydd yn galluogi eu meistr i gael gwasanaeth rhai mewn oed yn
mhrif dymor eu bywyd, heb fod o dan yr anghenrheidrwydd o’u magu mewn
babandod, eu cynnal mewn henaint, na chynnal eu teuluoedd - yn rhoi dim
prawfiadau er cyfrif elw caethwasanaeth fel y mae yn bodoli yn yr Unol
Daleithiau.
Nid oes neb a ymwelodd â’r wlad hon, ac sydd yn adnabyddus â chymeriad a
gwerth llafur caethwasaidd yn yr Unol Daleithiau, a feddyliai fyth am ddwyn
ei gaethion ei hun yma gyda golwg ar wneyd elw o honynt; llai o lawer y
prynai ei gaethion i’r fath bwrpas. Ni wnai ei lafur yma, pe gellid eu cynnal
fel caethion, ymhlith pyons agos o’r un lliw a hwynt eu hunain, fyth dalu y
draul o’u halltudiad, a llai o lawer arian eu pryniad.”
Y mae yr adroddiad yna, o eiddo Isgad. Emory, yn dysgu i ni, mai pa faint
bynag a ennill yr Unol Daleithiau o diriogaethau ati ei hun o’r parthau yna,
na bydd yn nemawr neu ddim chwanegiad i gryfder taleithiau y gaethwasanaeth.
Y mae hefyd yn rhoddi hysbysiad am barthau ag yr oedd y gwybodaeth am danynt
yn dra anmherffaith; ond y mae wedi ei ysgrifenu yn lled anofalus, ac yn
ddiffygiol o’r manylrwydd hyny ag a fuasai yn ddymunol mewn llawer o
amgylchiadau. Ond rhaid cyfaddef, mai ar hynt filwraidd y gwnaed yr holl
sylwadau, yr hyn oedd yn gwneyd y cyfleusdra yn brin i chwilio a threiddio i
fanylwch.
Yr oedd bodolaeth aur yn y Sacramento a’i ffrydiau n anadnabyddus pan
ymwelodd Mr. Bryant ar Isgad. Emory â’r lle, er y dywedir i ni gan Mr. Bryant
iddo oddiweddyd hen gloddiwr mynyddig, yr hwn a dystiodd y gwyddai ef am
leoedd mwnau yr aur ar arian byw, a mynydd o sulphur pur. Y mae darganfyddiad
diweddar y mŵn aur wedi newid agwedd ar amgylchiadau California yn
hollol. Y mae tuedd yr ymfudiad ag oedd o’r blaen yn edrych tuag Oregon o’r
Unol Daleithiau, yn awr yn llifeirio o bob lle i California; a chan fod
cymaint o son am, ac o fyned yno, y mae yn ddymunol rhoddi cymaint o
hysbysiad ag a fyddo yn bosibl am dano. Y mae yn anhawdd gwneyd hyn hefyd
heb, ar y naill law, gael ein twyllo gan fynegiadau rhy ffafriol, neu, ar y
llaw arall, anghredu gormod, a thaflu heibio fynegiadau gwerthfawr, o dan y
dybiaeth eu bod yn dywedyd gormod.
Darganfyddwyd yr aur gyntaf yn y flwyddyn l848. Gwnaed y darganfyddiad yn
ddamweiniol, wrth gloddio lle i ffrwd melin; a chadwyd ef am beth amser yn
ddirgelwch, ond er hyny, allan yr aeth y son yn anwrthwynebol. Y mae yr
hysbysiadau diweddaraf yn dyweyd fod y mŵn gwerthfawr
|
|
|
(delwedd 6529) (tudalen 351)
|
yn yr holl ffrydiau sy’n ymarllwys i’r Sacramento a San Joaquin. Y mae
tiriogaeth yr aur yn cyrhaedd 37½ º i 40º gogleddol; ac o Sierra Nevada i’r
môr. Y brif gloddfa sydd ar Afon y Bluen, a’r Rio de las Americanas, ffrydiau
sy’n llifeirio i’r Sacramento o’r dwyrain. Yr oedd Col. Mason yn cyfrif y
cloddwyr, yn Awst, 1848, yn bedair mil, rhwng Indiaid a Chalifforniaid, a
chynnyrch eu llafur o ddeugain i hanner cant o ddolars bob dydd. Er y pryd
hyny y mae miloedd wedi cyrchu yno o’r Unol Daleithiau, Mecsico, Deheudir
America, o China hefyd. Y mae miloedd lawer o bunnau wedi dyfod i’r Unol Daleithiau
eisoes, ac ymddengys nad oes brinder eto. Y mae darganfyddiad y trysorau hyn
wedi chwyldroi yn hollol fasnach a threfn y wlad hòno. Yr oedd y milwyr yn
gadael eu barracks, morwyr yn dianc oddiar eu llongau, ysgrifenwyr,
marsiandwyr, crefftwyr, boneddigion, gweision, &c. - pawb yn cymeryd eu
traed tua glanau y Pactolus hon: neb yn peidio myned a allent fyned. Yr oedd
yr offerynau a arferid i gloddio am aur yn gyffredin ac anhylaw iawn; ac mae
yn debyg nad oeddid yn casglu hanner y mŵn o’r tir, o eisieu offerynau
cyfaddas. Y caffael, at ei gilydd, a gyfrifid o wns i ddwy y dydd i bob dyn.
Yr oedd cymaint cyfoeth mor ddisyfyd yn hollol bendroni y rhan fwyaf o’r
anturiaethwyr, ac yn egluro yn gryf iawn wirionedd yr hen ddiareb gartrefol
hòno, “Y ffwl a’i arian a ymadawant â’u gilydd yn fuan.” Yr Indiad, yr hwn
oedd o’r blaen yn noeth, a welid yn chwyfio y moethwisgoedd iddo ef o gotwm
lliwiedig dysglaer, neu arwisg o ysgarlad, tra y byddai y rhan fawr eraill yn
gwastraffu eu hennill mewn yfed neu gampchwareuon. Yr oedd y cwbl yn myned
ymlaen am beth amser yn esmwyth ddigon. Pan oedd digon o le i bawb, a neb
wedi pentyru rhyw swm mawr o drysor, ychydig oedd y demtasiwm i anonestrwydd
neu drais; ond nis gallasai y sefyllfa hon ar bethau barhau yn hir. Llawer,
wedi bod yn aflwyddiannus eu hunain, a ddechreuasant genfigenu wrth ffawd dda
eu cymydogion; ac yr oedd sefyllfa ansefydlog y wlad, ynghyd â braidd yr
anmhosiblrwydd o gael cyfiawnder cyfreithiol, yn rhoi temtasiwn i rai o
dueddiad drygionus i bob drygau anonest. Yr oedd fod y boblogaeth mor gymysg
yn tueddu yn fawr i greu anghydfod; a’r canlyniad ydoedd, fod lladrad a
llofruddiaeth wedi myned yn bethau mor gyffredin fel nad oeddynt yn creu dim
syndod. Ymddengys mai dyna duedd naturiol pethau yn y cloddfäau aur. Ar
ddyfodiad y gauaf, y mae y rhan fwyaf o’r mŵnwyr yn gadael y lle os
gallant, y rhai a fuont ddiwyd a doeth i werthu eu hennill yn y modd goreu,
ac eraill i’w daflu ymaith mewn afradlonedd a champchwareuaeth. Nid oes dim
ammheuaeth na fu golygfeydd mor erchyll yn San Francisco y gauafau diweddaf,
ag a welwyd erioed gan yr Yspaeniaid pan ddarganfuwyd America gyntaf.
Ni byddai yn anmhriodol yma, i ni gynnyg rhoddi awgrymiadau ar hanes naturiol
y mŵn hwn, a’r anhawsder o’i gael. Mewn dau fath o le y ceir yr aur bob
amser, naill ai mewn ffurf o wythïenau, fel metteloedd eraill, neu mewn
tomenydd gro a gwelyau afonydd. Y creigiau yn mha rai eu ceir a elwir y
primary a’r volcanic formations; y mettel eu hun yn gyffredin yn ymlyng wrth
quartz; y gwythïenau yn gyffredin yn hynod fychain ac afreolaidd. Hawdd deall
fod y mŵn, o leoedd fel hyn, yn llai o werth, a bod y gwaith gydag ef
i’w gael yn llai ennillfawr. Y mae y creigiau gwreiddiol a llosgfaol yn galed
anghyffredin; ac i wahanu yr aur oddiwrth y gareg, y mae rhaid pylori y graig
yn mha un y byddo yr aur. Pan ystyriom mai
|
|
|
(delwedd 6530) (tudalen 352)
|
y nesaf peth mewn caledwch i’r adamant yw callestr, y mae yn hawdd dyfalu fod
y draul yn fynych yn fwy na r elw. Drachefn, “ Nid aur yw pob peth dysglaer.”
Un o’r mwnau mwyaf cyffredin a geir lle y byddoi aur yw sulphurate of iron,
neu iron pyrites. Y mae y mŵn hwn, yn ei ymddangosiad allanol, mor debyg
i’r mettel gwerthfawr fel y gall y mwyaf cyfarwydd gamgymeryd. Y mae pob dyn
celfyddydol yn agored i gael galw arno gan ddynion anwybodus yn ei
gymydogaeth i ddosranu y siampl y byddont hwy yn hyderus a raid fod yn aur
o’r fath buraf; ac ni foddlonir mohonynt eu bod yn camgymeryd nes gweled y
mŵn gwerthfawr yn eu golwg yn diflanu yn y tawddlestr, neu dan y
chwithbib, gan adael dim ond tewion llwyd o rŵd haiarn, ac yn arogli yn
gryf fel brwmstan. Y mae amgylchiad fel yna mor gyffredin fel y cafodd y
mŵn hwn yr enwad mwy priodol na chyfrifol o “aur ffyliaid”.
O berthynas i wreiddiolaeth aur yn ngro afonydd, neu mewn tomenydd tywod, y
mae hawer o ddadleu. Taera rhai mai pydriad creigiau ag oedd yn cynnwys aur
ydyw, trwy gydweithrediad awyr a gwlybaniaeth; - yr aur yn dyfod i lawr
gyda’r gro ar lifeiriant o’r mynyddoedd, ond yn ei adael yn ngwaelod yr afonydd.
Y mae hyny yn dra thebygol, ond y mae dadl yn ei erbyn. Y mae y cyfryw yn
gyfyngol i ryw leoedd neillduol, yr hyn y gellid tybio na allasai fod pe
buasai y mettel yn dyfod i lawr gyda’r llifogydd. Ar y dyb yna, pa nesaf i
lygad y ffynnon yr elid, mwyaf yn y byd a geid o’r aur. Ond y mae prawfiadau
wedi eu cael mae nid dyma fel y mae yn gyffredin. Gellir cael aur ar hyd
gwely afon, o fewn rhyw derfynau penodol, tra yn ddisymwth, ychydig yn uwch i
fyny, neu yn is i lawr, na cheid dim. Y mae y Mecsicoiaid yn galw y leoedd
hyn yn placers, gair yn tarddu yn wreiddiol, tybiem, o’r Lladin placeo; a
dyma y lleoedd y gellir tirio am aur i fantais. Ond y mae anhawsderau i’w
cyfarfod hyd yn nod yn y lleoedd hyn. Y mae llawer o siomedigaethau tebyg i’r
hyn a ddarluniwyd uchod, ac y mae y gwaith o olchi aur yn flinwaith i’r
eithaf; yn llafur anhyfryd, afiach, ac anghysurus. Pan chwanegom at hyn,
gymeriad moesol isel iawn llawer o’r anturiaethwyr i’r gloddfa aur, y rhai y
byddai yn well ganddynt gael aur trwy dori gyddfau dynion na’r ffordd araf o
olchi grô, gwelir nad yw bywyd cloddiwr aur i genfigenu wrtho na’i ddymuno.
Y mae yn briodol sylwi, fod yr hanes am gyfoeth a gafwyd yn y cloddfeydd aur,
y rhan fynychaf, pa un ai yn fwriadol neu beidio, yn gyffredin yn rhy
helaeth. Dylid cofio nad yw y rhai a anfonant hanesion anghyffredin o dda
adref, ond rhan fychan o boblogrwydd yr ardaloedd mwnawl hyny. Mae y dyn
deallus a diwyd yn myned rhag ei flaen i’r placers, a chyda pheth deheurwydd
yn ei waith, gall, fe allai, yn fuan wneyd ei hun i fyny. Y mae yn ebrwydd yn
ysgrifenu adref ddarluniad llawn o’i lwyddiant, ac felly yn cynhyrfu awydd
cannoedd eraill, wedi clywed am ei ffawd dda ef, ond heb ddysgu yr achos neu
yr achlysur o’r ffawd hòno. Ar y llaw arall, y mae dyn o wybodaeth fach, yr
hwn nad yw yn adnabod aur pan welo ef, yn aflwyddiannus yn ei gais, a theifl
ei arfau gweithio lawr mewn digllonedd, ac yn barod i felldithio pawb a phob
peth o’i gwmpas, tra mai ar ei anwybodaeth ei hun y dylasai ei anathemau
ddisgyn, ar ei anfeddylgarwch yn ymgymeryd â gwaith nad oedd ganddo
gydaddasrwydd iddo. Wrth reswm, nid yw efe yn ysgrifenu llythyrau adref; a’r
dosbarth hwn yw y llïosocaf o lawer.
|
|
|
(delwedd 6531) (tudalen 353)
|
O berthynas i’r llawnder o aur a ddaeth yn ddisymwth o California,
darfu i lawer anturio, ar y canlyniad, ar amgylchiadau masnachol ac arianol y
byd. Taerodd rhai mai yr effaith a fyddai, tyng i lawr werth aur ac arian,
fel ag i weithio hollol chwyldroad mewn masnach, nes cynhyrfu’r holl fyd.
Addefwn nad oes genym ni y fath bryder ofnus. Y mae San Francisco yn debyg o
fod yr ystorfa fasnachol fwyaf yn y byd. Nid yw masnach y Môr Tawelog ond yn
ei mabandod eto; ac nid all yr oes hon ddyfalu beth a fydd ryw amser dyfodol.
Bydd yr ymdrafod masnachol mawr hwn yn gofyn swm mawr o aur fel
cynnrychiolydd symudol eiddo o fath arall; ac y mae rhagluniaeth Duw, yr hwn
sydd yn cyfaddasu moddion amgylchiadau dynion, yn rhoddi trysorau, yn ol
trefn pethau, yn gyffredin yn y lleoedd y byddo y rhan fwyaf o honynt yn anghenrheidiol.
Treulir llawer o filiynau o honynt i adeiladu dinasoedd gwychion, y rhai a
addurnant lanau y Môr Tawelog. Bydd eisieu adeiladu llawer Tyrus enwog yn y
pen hwnw o’r byd. Rhaid cael aur i gyfnewid am nwyddau gwerthfawr India a
China. Bydd eisieu agor cysylltiad mordwyawl rhwng y Werydd ar Môr Tawelog.
Bydd eisieu llawer o reilffyrdd ar hyd a thraws America, o ben bwygilydd.
Rhaid i ni gofio hefyd am gynnydd anturiaethau, yr hyn a rydd ddigon o le i
lyncu holl gyfoeth cloddfëydd California, pe byddent yn gan’ miliwn o bunnau
bob blwyddyn. Y fath gyfnewidiad sydd wedi cymeryd lle yn y byd yn ein cof
ni, er nad ydym eto yn oedranus. Dyma America a Lloegr wedi dyfod yn
gymydogion trwy gyflymder yr ager-longau; a thrwy gwefryddiaeth rhyfeddol,
gall y naill ddinas, a’r naill deyrnas, tu yma a tu draw i fôr, gyfeillachu
â’u gilydd bob awr o’r dydd. Nid yw yr amser ymhell pan y bydd pobl China yn
gymydogion i’r Americaniaid ac i ninnau. Beth fydd canlyniaf y cyfnewidiadau
mawrion hyn - gwahanol genedloedd, oeddynt mor ddyeithr i’w gilydd, yn dyfod
i fyw megys i ddrysau eu gilydd? Cyfranogant naill ai o rinweddau neu ddrygau
eu gilydd. Bydd y cadwynau hyn o amgylchiadau a’n dygant at ein gilydd, yn
offerynol naill ai i ddiraddio neu i godi y natur ddynol. Y mae y canlyniad
yn ymddibynu ar yr hyn a wna eglwys Crist - y dylanwad a all hi daflu ar
amgylchiadau y byd. Os daw y byd yn ddoethach, heb ddyfod yn well - os
cynnydda cenedloedd mewn cyfoeth, heb gynnyddu mewn rhinwedd yn gyfatebol - y
mae pob rheswm a phrofiad yn dysgu i ni yn llawer gwaeth o’r cynnydd cyfoeth
a gwybodaeth. Gellir galw Gwyddoniaeth yn ferch ieuangaf crefydd, a chyfoeth,
yn ei ystyr helaethaf, yn blentyn gwyddoniaeth; a chysylltiad y tri a
gyfansodda elfennau dedwyddwch y teulu dynol. Tlawd yw y trysor heb
wybodaeth, a melldith yw gwybodaeth heb rinwedd. Y mae genym obaith cryf y
gall, ac y bydd y cynnydd mawr y mae gwyddoniaeth a chyfoeth yn ei wneyd, o
dan gyfarwyddyd yn eglwys Crist, yn foddion i ledanu sancteiddrwydd
ysgrythyrol dros yr holl wledydd sy’n awr yn gorwedd mewn tywyllwch a chysgod
angeu. Gwelir yr hwyl-long, yr agerlong, a chludai yr ymfudwyr, yn llwythog,
nid yn unig o offer gweithio y mwnwr, ond hefyd o weinidogion Crist, a’r
Ysgyrythau sanctaidd. Y “llong ardderchog” a nofia dros dònau y Môr Tawelog,
a ddwg yn ei mynwes, nid yn unig gyfoeth dysglaer y mŵngloddiau, ond
hefyd drysorau amhrisadwy gwirionedd ac iachawdwriaeth. O! na ddeffroai yr
eglwys i ystyriaeth o’i chyfrifoldeb mawr a chynnyddol, ac i gyflawniad zelog
o’r gwaith mawr sydd wedi cael ei benodi iddi.
Er i ni ddywedyd o’r blaen nad oes genym bryder y bydd i gyfoeth
|
|
|
(delwedd 6532) (tudalen 354)
|
California ddyrysu amgylchiadau y byd, yr ydym yn ofni ei effeithiau
mewn ffordd arall. Nid yw y gwaith o chwilio trysorau yn gweddu i anrhydedd y
Brytaniaid. Nis gall yr Americaniaid lai na gweled y neillduedd cyfansoddol
moesol sy’n gwahaniaethu y tair cenedl Ewropëaidd, y rhai a boblogant y
cyfandir a ddarganfyddwyd gan y morwr Genoesaidd. Yr oedd yr Yspaeniad breuddwydiol
a dychymygol yn gweled yn y byd y newydd wiredd ei ddychymygion am ei Dorado.
Tybiai yn flaenorol am hinsawdd mwy tymherus nag anwyl Andalusia ei wlad ei
hun, cyfoeth tu hwnt drysorau Grenada, gwasanaethwyr mor ufudd a
chaethweision gorthrymwr dwyreiniol, a benywod hawddgarach o bryd, a mwy
swynol na rhai paradwys Mahomet. Yn y fath ddarluniau yr oedd dychmygion yr
Yspaeniad yn nofio yn ddiattal; ac, i wireddu ei freuddwydion, efe a
anturiai, gyda gwroldeb di-droi yn ol, i beryglon y cefnfo^r, ac i afiechyd
heintus y goedwig boeth, gan ymladd ei ffordd â’r barbariaid oedd yn heidio
ar ei lwybr, a dringo, gydag ymdrech diflin, y mynyddoedd oedd â’u cribau yn
iâ, wrth waelod y rhai y gorweddai y dyffrynoedd a gynnwysent y trysorau ag
oeddynt i wobrwyo ei ymdrechiadau, a’r ffynnon risialaidd ag ydoedd i
adnewyddu ei nerth diffygiol. Y Ffrencyn, ar y llaw arall, a chwiliai am
olygfëydd, lle y gallai, heb gael ei luddias gan gyfreithiau, na’i lwytho gan
gofalon teuluaidd, dreulio ei fywyd mewn gorwychder a digrifwch - ei glustiau
yn cael eu cyfarch gan frefiadau praidd, dwndwr y rhaiadr, a sŵn
soniarus ei anwyl grŵth. Ond hollol wahanol oedd ymgais a theimladau y
Brython. Ail beth gydag ef oedd cyfoeth, ac yr oedd yn diystyru moethder
dïoglyd, a gwag ddifyrwch. Ceisio noddfa rhag gorthrymder cyfreithiau yr oedd
ef - cartref, lle y gallai fwynhau hawliau gwladol a chrefyddol, yr hyn a
ommeddid iddo yn ei wlad ei hun. Nid ceisio rhyddid oddiwrth gyfraith yr oedd
ef, ond oddiwrth orthrymder. Efe a ddygodd sefydliadau ei wlad trosodd gydag
ef, gan fod yn awyddus i’w diwygio - nid i’w dinystrio. Yr oedd yn caru gwlad
ei dadau yn wresog a diragrith; yr oedd cofio am ei bryniau a’i dyffrynoedd
yn felus ganddo; ac ni ddymunasai fyth gael ei wahanu oddiwrth ei hen wlad,
oni buasai i orthrymder ei yru ymaith. Yr oedd ef yn ymostwng yn siriol i’r
farnedigaeth o weithio, ac nid oedd yn dymuno cael ei eithrio oddiwrth lafur
a roddai iddo wobr cyfartal, gan ymfoddloni ar ennill araf a chodiad graddol.
Y mae yn ymddangos i ni, mai i’r ardymher foesol a gynnwysa y neullduolion
yna, y mae y Brytaniaid yn ddyledus i raddau mawr, am eu rhagoriaeth ar bob
cenedl arall ar wyneb yr holl ddaear. Er eu bod yn trigiannu gwlad tra
anfanteisiol yn naturiol, gyda hinsawdd ddïarebol o anhyfryd ac ansefydlog,
darfu i’r bobl wych a deallus hyn estyn eu terfynau i bob cẁr,
a phlanu eu sefydliadau ym mhob chwarter o’r byd. Goresgynodd yr Yspaeniaid
daleithiau cyfoethog canolbarthig a deheuol America, a chan ddiystyru y
cynnyrch tyfol â’r hwn yr oedd natur wedi gwastraffu ei haelioni yn helaeth
tros yr holl diriogaethau teg hyny, hwy a ymroisant yn unig i chwilio am y
trysorau mŵnawl oedd yn guddieddig yn mherfeddion y ddaear, ac yn ngrô
yr afonydd. Y Brython, yntau, wedi hwylio gyda y glànau, a gymerodd feddiant
o’r tiriogaethau a ddiystyrwyd gan yr aur-heliwr, ac efe a wastadaedd y
goedwig, a hauodd ŷd, a wnaeth y rhaiadr rhuadol yn wasanaethgar i’w
law-weithfëydd, ac a sefydlodd longwriaeth, gan w`ynu pob porthfa â’i
hwyliau; ac heblaw amgylchynu ei hun â phob cysur a gysylltid â’r meddwl am
gartref, anfonodd
|
|
|
(delwedd 6533) (tudalen 355)
|
hefyd ei gynnyrchion ar led, gan ddwyn yn ol, mewn cyfnewid, yr aur am yr hwn
y treuliodd yr Yspaeniad ei fywyd yn afonydd a mynyddoedd y deheu.
Boed i ni, am ychydig fynydau eto, ystyried beth a fu canlyniad naturiol yr
ymchwilio hwn? - beth a fu yr effaith ar y cenedloedd a ymfeddwasant mewn
dychymyg am ymgyfoethogi ar unwaith? Cymerwn Yspaen yn esiampl. Tua’r pryd y
darganfyddwyd yr America, ac am beth amser wedi hyny, yr oedd y wlad hòno yn
nghanol-ddydd ei gallu a’i henwogrwydd. Yr oedd teyrnasiad cyfrwys Ferdinand
ac Isabella wedi ei gwneyd gartref yr ardderchocaf o deyrnasoedd Ewrop, tra
yr oedd ei threfedigaethau tramor yn cynnwys y parthau cyfoethocaf o’r
ddaear. Ond, yn annedwydd iddi hi, bu ei chyfoeth yn offeryn ei dinystr. Yr
oedd pob llestr fasnachol a ddeuai adref, yn llwythog o drysorau Mecsico a
Periw, yn felldith i’r fam-wlad. Dacw drigolion Cadiz yn diystyru gwaelder
celfyddydau diwydrwydd, pan welsant y llwch aur yn dyfod iddynt o’r byd
newydd; y crefftwr gonest yn anfoddloni ar ei lafur a’i ennill bychan, pan
oedd dysgleirdeb y mettel gwerthfawr yn tywyng ar ei olygon; y masnachwr
cyffredin yn diystyru ei faelfa fechan, wedi bod yn rhoi tro i lawr i’r
porthladd, a gweled y llong Indiaidd ardderchog yn taflu ei hangor i lawr, ac
yn chwydu cyfoeth o’i choluddion, nes oedd ei ddychymyg yn ymddyrysu; a’r
llafurwr isel, yr hwn oedd o’r blaen yn foddlawn ar drin y tir fel ei deidiau
o’i flaen, a aeth i ddechreu melldithio yr hen dir diffrwyth, ac i chwennych
croesi y cefnfor oedd yn cyfyngu rhyngddo a gwlad, yr hon yr oedd ei
mynyddoedd yn arian, a’i ffrydiau yn rhedeg dros raian o aur coeth, a cheryg
ei hafonydd yn werthfawrocach na pherlau Golconda. Ni cheir yr eglwyswr yn
breuddwydio am ddim ond Ophir, a dyddiau auraidd Solomon; ac y mae y gŵr
boneddig o ddysg a moes yn goddef i’w ddychymyg redeg yn orwyllt ar ol y cnu
aur, ac afalau Hesperides. Yr afradlawn ofer, yr hwn a dreuliodd ei etifeddiaeth
mewn bywyd moethus; yr uchelwr o waed, yr hwn yr oedd ei falchder, er heb
ganddo ddim ar ei helw, yn ei rwystro i ymwneyd âg unrhyw anturiaeth lafurus
gartref; y milwr cyffredin, yr hwn a fu fyw fel pe buasai yn derbyn cyflog
cadben, ac a drowyd ymaith i weithio, lladrata, neu newynu - maent oll yn
ymwthio i’r ei Dorado newydd - yn penderfynu gwneyd un ymdrech i ail
feddiannu yr hyn a gollasant, a dychwelyd yn ol gyda digon o gyfoeth i herio
Ardalydd Cadiz, Deu Ddue Madeira. Gellir yn hawdd weled canlyniad y fath
sefyllfa. Darfu i amaethyddiaeth, gweithfäyddiaeth, a’r crefftau - yr elfenau
mawrion hyny o gyfoeth gwladol - ddiflanu, trwy gael eu hesgeuluso. Cafodd
moesau eu gwaethygu, masnach ei lladd, a’r deyrnas ei handwyo, fel hyn, gan
gyfoeth ag oedd yn ymdywallt arni; collodd y safon uchel ag oedd yn ei feddu
ymhlith galluoedd Ewrop, a syrthiodd yn raddol i fod yn eithaf disylw a
diddylanwad.
Draw, ar lanau y Môr Tawelog, ar y tu deheu i linell y canol-ddydd, yr oedd
pobl ddysyml a dedwydd yn byw, o dan deyrnasiad tadol “plant yr haul.” Y mae
teithwyr, eto, yn edrych gyda syndod ar weddillion mawrion gwareiddiad yn
Periw; ac y mae hanesion lawer yn darlunio gogoniant ac ardderchogrwydd yr
hen Cuzco. Yr oedd deiliaid dirodres yr Incas yn byw mewn tangnefedd a
dedwyddwch, gan drin eu meusydd, neu yn gwylio eu praidd llamas ar lethrau yr
Andes. Ond Och! yr oedd aur yn ngrô eu hafonydd, ac arian i’w gael yn Potosi;
a daeth allan o’r sefydliad
|
|
|
(delwedd 6534) (tudalen 356)
|
Yspaenaidd, yn Panama, haid o anturiaethwyr i ddifrodi gwlad deg y
deheu. O holl weithredoedd creulondeb a ddygodd ddianrhydedd ar ddynoliaeth
erioed, ar y Periwiaid, druain, y cyflawnwyd y cyflafanau duaf. Lladdwyd y
trigolion diniwed fel anifeiliaid i’r farchnad; rhoddwyd yr Inca cysegredig i
farwolaeth greulawn a gwarthus; a thrwy bob dychymyg drygioni y daeth Pizarro
a’i gymdeithion i feddiant o’r trysorau gwerthfawr oedd yn addurno teml yr
haul. Ond dilynodd y felldith hwy. Wedi cael yr yspail, aethant, fel
bwystfilod creulawn, i ymrafaelio, hyd at farwolaeth, wrth ei ddosbarthu.
Llofruddiwyd Francisco Pizarro, ganol dydd, yn ei balas, yn nghanol ei
gyfoeth annheilwng, gan ddilynwyr y gwych Almagro, un o’r rhai goreu o’r
gorchfygwyr, yr hwn yr oedd ef wedi ei ysbeilio, ac wed’yn ei ladd. Bu
Fernando Pizarro yn ymboeni am yr ugain mlynedd goraf o’i fywyd yn ngheudwll
y Castile; a phan ddaeth allan, yr oedd wedi ei andwyo, ac yn ddiysbryd.
Darfu Gonzalo Bizarro, a’i gydymaith gwaedlyd Carbajal, gymeryd arfau yn
erbyn eu brenin, a chawsant ddiwedd gwarthus bradwyr. A hwythau, y bobl mwy
cyffredin, a gollasant eu trysorau a’u gwaed mewn ymrafaelion creulawn â’u
penaethiad, neu a arweiniasant fywyd afradus ac annedwydd, yr hwn, yn fynych,
oedd yn terfynu mewn angeu gwarthus. Hyd yn nod y rhai hyny a fuont mor
ddoeth, neu ffodus, ag i allu gadael y byd newydd, gyda bwriad o dreulio
gweddill eu dyddiau yn eu gwlad enedigol, oeddynt yn annedwydd, wrth feddwl
am ddychrynfëydd y fordaith, rhag i’w trysorau fyned yn anrhaith i’r môr-ladron
gwaedlyd oedd yn heigio y Môr Caribbëaidd ar Llynclyn.
Yn awr, y mae gofyniad yn cyfodi in sylw yma - sef, pa un a effeithiasai yr
ymdrafod hwn â’r aur yr un fath ar ryw genedl arall a fuasai yn amgylchiadau
yr Yspaeniaid? Yr ydym yn tueddu i roddi ateb cadarnhaol i’r gofyniad. Y mae
yn wir fod gan grefydd Eglwys Rhufain ei dylanwad, i ryw raddau, ar ddybenion
a gweithredoedd yr Yspaeniaid; ond gellir rhoddi cyfrif boddhaol am
ganlyniadau eu hymddygiadau ar wahan i’w crefydd. Nid yw trachwant, fel y mae
y gwaethaf, yn gyfyngedig i ryw genedl neillduol. Pan gaffo oruchafiaeth ar
feddwl dyn, y mae yn dadguddio ei hun yr un fath ar y Sais ag yn yr
Yspaeniad. Os darfu i’r Cortes rostio ymherawdwr yr Azteciaid, darfu i Warren
Hastings arteithio eunuchiaid y Munny Regum. Os lladdodd Pizarro y Periwiaid,
am y rheswm, medd efe, o fod eu Inca yn dirmygu y Bibl, darfu i’r llonglywydd
Brutanaidd ryfela â’r Chinëaid oblegid i’w hymherawdwr nacäu caniatäu i opium
ddyfod i’r wlad. Yr oedd yr egwyddor yr un yn y ddau achos; a’r egwyddor
hòno, beth bynag a addefid, oedd syched am elw. Gobeithiwn, gan hyny, na bydd
i ni, Frytaniaid Lloegr nac America fyned fel yr Yspaen, i gymeryd ein
llywodraethu gan chwant golud, rhga i ninnau gyfarfod â’r un gosb gyfiawn. Y
mae yr un fath achosion yn cynnyrchu yr un fath effeithiau. Gwyliwn rhag i’r
cyfoeth a all lifeirio i ni o California, a gwledydd eraill, lygru ein
moesau, dyrysu ein masnach, attal ein gweithfaoedd, a dystrywio ein
hamaethyddiaeth.
Wrth daflu golwg ar sefyllfa bresennol pethau, y mae yn ddymunol iawn gwybod
y llwybr goraf i California. Y mae amryw ffyrdd wedi eu cymeryd, a dadleuir
dros bob un o honynt. Y prif lwybrau a ddilynwyd eto, yw y rhai hyn: -
1. Yr hen ffordd, trwy y Bwlch Deheuol a Chaer Hall, ar y tu deheuol i’r Llyn
Halen.
2. Yr hen lwybr Yspaenaidd, trwy Santa Fé ac Abiquin.
3. Y llwybr a gymerwyd gan Is-gad. Emory.
4. Y ffordd trwy
|
|
|
(delwedd 6535) (tudalen 357)
|
Sonora.
5. O Corpus Christi, trwy Saltillo.
6. Trwy Mecsico i Mazatlan.
7. Heibio i Cape Horn.
8. Panama.
Tybir mai y gyntaf o’r ffyrdd hyn fydd y fwyaf dewisedig am ryw hyd o amser
gan deuluoedd mewn pedrolfenau. Hi yw yr un a adnabyddir oreu, gan ei bod
wedi ei darlunio yn dda gan y rhai a’i teithiodd. 0 Independence i Gaer
Laramie - yr hyn sydd gryn lawer yn fwy nag un ran o bedair o’r daith - y mae
y ffordd yn myned trwy y gwastadedd mawr, lle y mae digon o fwyd i
anifeiliaid, a choed a dwfr ddigon i anghenrheidiau yr ymfudwyr. Y mae yn wir
fod y ffordd yn arw iawn o’r Bwlch Deheuol, ond nid yn anhygyrch i
bedrolfenau. Deallwn fod y llywodraeth ar sefydlu gorsaf filwraidd yn Nghaer
Laramie, ac yn nghymydogaeth Caer Hall, heblaw y gaer sydd eisoes yn Ynys
Grand, ar yr afon Platte. Gwna hyn y ffordd yn ddiogelach rhag anrheithiadau
yr Indiaid, a cheir nodded i rai anghenus ac afiach, ac yn ngwyneb colli
anifeiliaid, neu unrhyw anghenrhaid arall. Dymunir argymhell i sylw y rhai a
ddewisant fyned trwy Santa Fé, y llwybr a gymerodd un Mr. Gregg, ac a
ddarlunir mewn llyfr o’i eiddo, a elwir, “Commerce of the Prairies.” Dilynodd
ef fforch ddeheuol yr afon Canadian, can belled i fyny a’r Angosteiras. Gall
y rhai a fynant gymeryd y llwybr yna, gychwyn yn Nghaer Smith, ar yr
Arkensas, tua’r dydd cyntaf o Ebrill; canys, tua’r amser hwnw, bydd y tyfiant
yn yr hydred hwnw can belled ymlaen ag y bydd yn Independence fis yn
ddiweddarach. Gall ymfudwyr felly gyrhaedd Santa Fé mewn pryd manteisiol.
Gallant gael amser i ddadebru eu hanifeiliaid blinedig, neu eu cyfnewid am
eraill i deithio llethrau geirwon a gwastadoedd diffrwyth y Gila. Rhaid cofio
fod y llwybr hwn yn anhygyrch i bedrolfenau; ond i gwmni o wŷr ar
geffyllau (sic), fyddo yn meddu iechyd da a chyfansoddiad cryf, y mae yn
cyflwyno llawer o fanteision. Ar hyd y ffordd hon, bydd raid i’r teithydd, yn
wir, fyned trwy wlad y Comanches a’r Navajas; ond, fe allai na bydd iddo fwy
o berygl oddiwrthynt hwy nag oddiwrth y Pawnees a’r Sioux, ar y llwybr
gogleddol. Y mae llawer yn siarad yn fwy ffafriol am y ffordd trwy y Bwlch
Deheuol, neu Gila, na’r un o’r ffyrdd trwy Mecsico, o barth i gynnildeb a
dïogelwch. Y mae teithio yn Mecsico yn ddrudfawr iawn, ar ffyrdd yn ddiarebol
o beryglus. Os bydd y cwmpeini yn ddigon o rifedi i amddiffyn eu hunain rhag
y ladrones, hyny yw, y lladron, y mae yn berygl cynhyrfu eiddigedd awdurdodau
gwladol y lleoedd, a gall y teithwyr fod yn agored i lawer o fân flinderau.
Heblaw hyny, bydd y rhai a ânt ar hyd ffordd Mazatlan, neu San Blas, gan
ymddibynu ar fyned yno ar hyd y môr, yn peryglu cael eu cadw yn hir mewn lle
costus ac afiach. Tybir mai ychydig iawn a ddewisant y fordaith heibio i
Benrhyn Horn. Ymddengys fod hòno yn fwy anghysurus a pheryglus nag un o’r
lleill, oddieithr y gellid ei gwneyd âg agerlong. Yn bresennol, y mae y
llwybr ar draws culdir Panama yn eithaf anghysurus: ond, am fyrdra y ffordd
a’r amser a dreulir yn y daith, y mae yn llawer mwy manteisiol nag un arall.
Er hyny, ni ddylid cadw o’r golwg y bydd i deithwyr i California gyfarfod â
llawer o galedi, pa un bynag a gymerir o’r ffyrdd a enwyd. Caiff y rhai a ânt
ar hyd y tir eu blino, fwy neu lai, gan ymosodiadau lladronllyd yr Indiaid,
neu golli eu hanifeiliaid trwy grwydro neu flino. Ac yn sicr, anghysurus iawn
gael eu gadael ar hanner y ffordd, rhwng Caer Laramie ac Independence, gyda
phedrolfen ddrylliog, ac heb ganddynt
|
|
|
(delwedd 6536) (tudalen 358)
|
nac ychain na mulod. Dïau na ddylid gadael neb mewn anghen tra fyddo y
cwmpeini ar y ffordd; eto, dylai pob dyn ofalu drosto ei hun, canys byddai
llawer o oediad yn anghyflëus iawn i’r holl gymdeithion. Rhaid cofio hefyd,
fod taith hir, flinderus, yn dadguddio teimladau gwaethaf y natur ddynol, yn
gymysgedig â llawer o’i theimladau goreu, fel y gall pawb feddwl. Y mae hefyd
lawer o drais a chreulonderau yn cael eu cyflawni yn flyneddol ymhlith yr
ymfudwyr ar y gwastadoedd. Nid ydym wrth ddyweyd hyn yn golygu attal neb a
glywo ar ei galon wneyd yr anturiaeth, ond rhoddi hysbysiad ffyddlawn o’r
anhawsderau sydd i’w dysgwyl gan yr ymfudwr. Y mae ysgrifenwyr yn rhy dueddol
i dangos yr ochr oreu i’r datlun, ac felly yn hudo llawer i gynnyg yr
anturiaeth nad oes ganddynt alluoedd cyfartal i’r fath orchwyl.
Wedi i ni ddilyn ein hawduron mor belled a hyn, byddai yn anmhriodol i ni
derfynu yr erthygl euraidd hon heb daflu golwg ar y cyfnewidiadau sydd wedi
cymeryd lle yn California. Y mae yno “genedl” - ïe, genedloedd – “wedi eu
geni” megys “mewn un dydd.” Y mae pob llythyr-long yn dwyn newyddion na
chlywyd eu bath. Y mae chwedlau dychymygol yr Arabiaid yn ddichwaeth i’w
cyferbynu â’r mynegiadau gwirioneddol sydd yn ein cyrhaedd o California; -
tywod a grô y Sacramento yn cael eu hysgwyd mewn cwpan bren, a dinasoedd a
phentrefi yn codi i fyny mewn “ un-dydd un-nos.” Ar y cyntaf, llwch ydoedd,
yna grô; cynnyddodd y grô yn wnsau, a’r wnsau yn bwysau; ac ni ryfeddem na fydd
y pwysau yn dunelli cyn hir! Nid oes dim llai na chan’ myrdd o ddolerau wedi
eu casglu eisoes, a dïau fod tua dwy ran o dair o’r swm anferth uchod wedi ei
wasgaru tros y moroedd oddiyno i wledydd, a chan genedloedd eraill, heblaw yr
Americaniaid. Y mae y creigiau heb eu chwilio eto i wybod yn gywir beth sydd
ynddynt.
Bydd sefyllfa y rhai a ânt yno o hyn allan yn llawer mwy cysurus nag y bu hyd
yn hyn. Y mae cyfansoddiad llywodraethol gwladol wedi ei ffurfio a’i
fabwysiadu, a’r dalaeth newydd wedi ei derbyn i’r Undeb, a chaethwasanaeth a
masnach ddynol wedi ei gwahardd byth. Y mae poblogaeth San Francisco tua deng
mil a deugain, a’i llongborth yn llawn o longau o bob parth o’r byd. Y mae
deg o agerlongau yn mordwyo yn gyson rhwng Oregon a California, a thair ar y
Sacramento a San Joaquin, a bwriedir sefydlu eraill i China, heibio i
Ynysoedd Sandwich. Y peth anhawsaf eto i’w sicrhau yn California yw teitl i
dir. Y mae amaethyddiaeth yn awr yn dyfod yn ennillfawr, a llawer a aethant
yno i gloddio aur a droisant i drin tir.
Fel y gellid tybio, y mae safon moesau yn isel iawn yn California, a
throseddiadau dychrynllyd yn cael eu cyflawni, ac yn dïanc yn ddigosb. Y mae
yno le i eglwys Crist weithio, i ledanu ei goleuni ysgrythyrol. Ac y mae yn
dda genym allu dangos na bu yn segur chwaith. Dyry y “New York Commercial
Advertiser” y mynegiad hwn allan o’r “California Watchman,” yr hwn sydd yn
cael ei gyhoeddi yn San Francisco, o olygiaeth y Parch. Mr. Williams,
gweinidog yr Eglwys Henaduriaethol gyntaf. Y mae yn llen fechan dlws, ac yn
dyfod allan unwaith yn y mis hyd yn hyn; ond fel pob peth arall, yn
California, yn anferth o ddrud - 50 cents, neu hanner dolar y rhifyn. Y mae y
tudalen cyntaf o’r rhifyn cyntaf yn rhoddi rhestr o’r amrywiol eglwysi neu
gynnulleidfaoedd yn San Francisco, a’u gweinidogion, fel y canlyn: -
|
|
|
(delwedd 6537) (tudalen 359)
|
Eglwys gyntaf y Bedyddwyr, Parch. O. C. Wheeler.
Eglwys y Drindod, Parch. F. S. Mines.
Eglwys Gynnulleidfaol gyntaf, Parch. T. B. Hunt.
Eglwys Fethodistaidd (Wesleyaidd) Esgobawl, Parch. W. Taylor.
Eglwys Gatholig Rufeinig (Pabyddion). --
Capel Gras, Parch. P. L. Ver Mehr.
Eglwys Henadurol gyntaf, Parch. A. Williams.
Y mae gwasanaeth yn yr Eglwys Gatholic Rufeinig yn Yspaenaeg, Ffrancaeg, a
Seisoneg. Y mae addoliad yn yr holl eglwysi eraill ar Suliau am un-ar-ddeg y
boreu, a phedwar, a hanner awr wedi saith y prydnawn.”
Yr ydym yn cael hefyd hysbysiadau am y sefydliadau canlynol: Cymdeithas
Fiblaidd San Francisco, Cymdeithas Traethodau y Môr Tawelog, LIyfrfa Fasnachol
Fethodistaidd (Wesleyaidd), Cymdeithas Biblau California (Bedyddwyr), Ysgol
Rydd, Cymdeithas Cyfaill Dyeithriaid.
O dan y pen “Eglwysi Protestanaidd yn California,” y mae yr hysbysiad
canlynol, yn ychwanegol at y rhai yn San Francisco:-
“Yn Benicia, Eglwys Henadurol gyntaf, y Parch. S. Woodbridge.
Yn Montery, Eglwys Henadurol, yn cael ei gwasatiaethu gan y Parch. S. H.
Willey, capelwr y wylfa filwraidd.
Yn San Jose, Eglwys Henadurol, Parch. J. W. Douglass; Eglwys Fedyddwyr,
Parch. J. D. Briarly; Eglwys Fethodistaidd Esgobawl, yn cael ei gwasanaethu
gan bregethwyr cynnorthwyol.
Yn Sacramento, Eglwys Esgobawl Fethodistaidd, Parch. Mr. Owen; Eglwys
Gynulleidfaol, Parch. J. A. Benton; Eglwys Bedyddwyr, Parch. J. Cook.
Yn Stockton, Eglwys Henadurol, Parch. J. Wods; Methodistiaid Esgobawl, yn
cael eu gwasanaethu gan bregethwyr cynnorthwyol.”
Mewn chwanegiad i’r mynegiadau uchod, y mae genym gyfle i roddi yr hysbysiad
a ganlyn:- Mae Mr. Sarber, o Gynnadledd Fethodistaidd Esgobawl (Wesleyaidd)
Pittsburgh, wedi ymuno â chenadiaeth California, a llawer o bregethwyr
cynnorthwyol yn llafurio, mwy neu lai, yn ngwaith y weinidogaeth, a bendith
yn dilyn eu llafur i fesur helaeth. Y mae yr holl achos o dan arolygiaeth y
Parch. W. Roberts, arolygwr llafurus Cynnadledd Oregon, a Chenadiaeth
California. Y mae yr achos wedi cynnyddu yn rhif ei lafurwyr o fewn cylch y
gynnadledd, trwy anfon allan bump o genadau, tri o honynt yn meddu teuluoedd.
O’r rhai hyn, amfonwyd y Parch. F. S. Hoyt i Oregon, fel prifathraw Egwyddorfa
Ddysgeidiol Oregon, yn ninas Salem; Parch. Edward Bannister i California, i
sefydlu Egwyddorfa yn y dalaeth hono; a’r Parchedigion S. Simonds, J. Flinn,
a M. G. Briggs, i ymuno â’r Gynnadledd Genadol, ac i fyned i’r gwaith
rheolaidd fel gweinidogion. Bydd i’r gweinidogion hyn chwanegu y llafurwyr, o
fewn Cynnadledd Oregon a Chenadiaeth California, i ddeunaw o nifer, heblaw
nifer o bregethwyr cynnorthwyol. Y mae Bwrdd y Trafnidwyr wedi annog arolygwr
Cenadiaeth Dramor yr Eglwys i benodi tri chenadwr arall i lànau y Môr Tawelog
mor gynted ag y gellir. Oddiwrth hyny y gwelwn, nad yw Methodistiaid
Esgobawl, neu Wesleyaid America, yn “segur na diffrwyth.” Buasai yn ddymunol
genym pe buasem yn meddu mynegiadau am weithrediadau cangenau eraill o’r
Eglwys Gristionogol yn y wlad bell hono, y rhai, credwn, yn ol a welsom
uchod, sydd hefyd yn weithgar ar y maes.
Cyn y rhoddem ein hysgrif heibio, goddefer i ni roddi yma lythyr a ddaeth yn
ddiweddar iawn odduyno; a chan ei fod oddiwrth ddyn o ddysg, y mae yn werth
sylw. Y mae oddiwrth y Proffeswr Forrest Shepherd, o
|
|
|
(delwedd 6538) (tudalen 360)
|
Goleg yr Adgadwraeth (Reserve) Orllewinol, yn awr yn California. “Ni a’i
cymerasom,” meddai y “New York Observer,” “o’r ‘Ohio Observer.’ Ymddengys ei
fod wedi cael ei anfon at gyfaill cyfrinachol. Yr ydym yn adnabod Proffeswr
Shepherd yn bersonol, ac arferem ei ystyried yn un o’r dyngarwyr goreu a
adwaenem. Pa faint bynag o gyfoeth a all ef gael yn ngwlad yr aur ar
anturiaeth, y mae genym hyder y ceir ef yn onest, ac y defnyddir ef yn
haelionus.”
“DINAS SACRAMENTO, Mawrth 25ain, 1850.
“Y mae blwyddyn wedi dïanc fel niwl, ac yr wyf finnau eto ar dir California,
yr hwn y mae ei dlysni a’i degwch y tymmor hwn y fath na all celfyddyd ei
ddesgrifio. Y mae gwyneb amrywiol y wlad yn annarluniadwy. Y mae rhai coed a
llwyni yn eu blodau, tra y mae holl wyneb y tir wedi ei orchuddio â
gwyrddlesni prydferth, yn gymysgedig âg erwau ar erwau o flodau cochi
gwynion, a melynion. Ymhell draw y mae y mynyddoedd mawreddig o eira tragywyddol
yn dyrchafu eu cribau.
Y mae golwg arall ar California nad yw mor hyfryd. Y dyoddefiadau a’r
trallodion a welir yn feunyddiol - yr afiachus, ac heb neb i weini iddynt – y
meirw, ac heb neb i’w claddu; drygau o bob math yn ymsymud, gan gludo gyda
hwy drueni fel â grym corwynt. Os âf i’r mŵnglawdd i gloddio, bydd
cannoedd, os nad miloedd, yn fy amgylchynu mewn ychydig dyddiau, fel y rhaid
ymryson hyd yn nod am y tir y safwyf arno. Os enciliaf ymaith yn ddirgel, ac
wrthyf fy hun, byddaf yn fuan wedi fy amgylchynu gan yr Indiaid; a chydag
anhawsder y dïengais unwaith neu ddwy. Yn ystod y rhyfel Indiaidd, y flwyddyn
ddiweddaf, pan nad oedd yn ddïogel i yr un dyn gwyn fod wrtho ei hun, a phan
oedd ceffylau a mulod yn cael eu lladrata yn ddiwahaniaeth, mi a brynais wedd
o bedwar ych ieuainc, am y swm gwylaidd o 1,130 o ddolerau, a theithiais drwy
y tir aur gyda’m gwely a’m hymborth, a chenyf weithiau ymfudwr i’w amddifyn,
a llwyth i fasnachu. Mi a ennillais ddigon i dalu am fy ngwedd, a phrynu
amrai ddosranau yn y ddinas hon, y rhai, yn ol y prisiau presennol, a
gyfrifir, o leiaf, yn werth pymtheg neu ugain mil o ddolerau. A beidia y
ddinas fod fel cicaion Jonah, sydd i’w weled eto.
Arferai masnachwyr yn Boston bob amser ryfeddu fod Proffeswr Shepherd yn
ymostwng i waith mor isel a gyru gwedd! Y cwbl sydd genyf fi i’w ddyweyd yw,
fod y dengwriad (corporal) â’i fenyg am ei ddwylaw yn amser y chwyldroad
Americanaidd, yn rhyfeddu yr un cymaint ddarfod i’r Cadfridog Washington
ddyfod oddiar ei geffyl, a chynnorthwyo i droi coeden i fyny i wneyd caer.
Wrth roddi yr esiampl hwn o hunanymdrech a diwydrwydd, taflodd cannoedd o
ddynnion ieuainc eu balchder ymaith, gan ymosod ar waith defnyddiol, llawer o
ba rai heb hyny a ddigalonasent.
Wedi cyrhaedd gwybodaeth am diroedd yr aur, haiarn, ar arian byw, mi
ardrethais fy ngwedd allan ar gyfranau i’r naill ddyn ieuanc ar ol y llall;
ac yn y ffordd hòno mi a gychwynais lawer masnachwr glew yn ninas Sacramento.
Yn Gorphenaf, daeth lluoedd o ddynion ieuainc i mewn, llawer o ba rai a
safent fel colofn halen, heb wybod pa beth i’w wneyd. Ymddangosai eu bod oll
yn fy ystyried i fel eu cyfaill, a chan hyny deuent ataf fi am waith. Mi a
roddais rai i drin gwair, eraill i borthi, rhai i adeiladu, eraill i bympio,
puro, a gwerthu dwfr, rhai i adeiladu melin lifio, ac eraill i wneyd ffyrdd a
phorthgludo. Ac fel hyn, mewn amryw ffyrdd, mi a roddais waith i agos ddwy
fil o ddynion na wyddent pa beth i’w wneyd. Mi a adeiladais yr ysgoldy cyntaf
yn nyffryn Sacremento, ac felly roi gwaith i raddoliaid Coleg Yale fel
athrawon. Cynnaliwyd llawer cyfarfod gweddi gwerthfawr yn yr ysgoldy hwn,
corfforwyd llawer eglwys a’r Ysgol Sabbothol gyntaf, a’r unig un (a gasglwyd
genyf fi fy hun) yn y parth hwn o California. Y mae genyf yn awr bump o
ieuenctyd Chinëaidd o dan fy ngofal, yn dysgu Seisneg yn gyflym, a’r rhai a
fyddant cyn bo hir yn barod i fyned adref, a thaenu yr efengyl ymhlith eu
cydwladwyr. Hwy a gloddiant ddigon o aur i gynnal eu hunain, a thalu ychydig
i minnau hefyd. Nid wyf yn nyled neb
|
|
|
(delwedd 6539) (tudalen 361)
|
yn California, ac yr wyf mewn llawer o drafferth i gasglu yr arian a
echwynais. Yn wir, pe gallwn eu casglu, gallwn ar unwaith anfon mil o
ddolerau neu fwy i chwi. Mi a gyfrenais meddyginiaeth i’r claf am ddim, a
gwneuthum fy ysgoldŷ gwledig yn elusendŷ hefyd, hyd nes wyf heb le
fy hun i roddi fy mhen i lawr. Heblaw yr ysgoldŷ, mi a adeiladais
bobtŷ, a dau ystordŷ, y rhai yr wyf yn eu gosod am fil o ddolerau
bob un yn y flwyddyn; ond yn nhymmor y gauaf y mae y llifogydd yn dyfod dros
y dre, dair neu bedair troedfedd at eu gilydd. Wrth reswm, y mae hyny yn
rhoddi attalfa i fasnach ac ardreth. Pan oeddwn i yn adeiladu yr
oedd hen goed yn saith gant a
deg a deugain (750) o ddolerau am fil o droedfeddi; yn awr can’ dolar ydynt.
Ni chymerwyd y fath anturiaeth ofnadwy mewn unrhyw wlad o’r blaen. Nid yw yn
beth rhyfedd weled y coeliwr yn dilyn y dyledwr gyda nodyn yn un llaw, a
chŵyn cyfraith ar y llaw arall.
Mi a ddarganfuais wely o gareg galch ger dinas Sacremento. Yr oedd yr holl
galch cyn hyn yn cael ei gyrchu o Ynysoedd Sandwich, a Thalaeth Maine, am
ddeunaw neu bump ar hugain dolar y barilad. Mi a gefais hefyd orweddfa
gyfoethog o fŵn chrome, yr hwn a fydd yn werthfawr i’w anfon i Lundain,
hefyd ffynnonau mŵnawl, &c. Fel yna mi a roddais i chwi hanes o’m
hamser a’m gwaith ar hyd y flwyddyn. Aeth fy nghostau tua thri dolar y dydd
at eu gilydd, heblaw golchi, yr hyn yw dim llai na chwe’ dolar y dwsin. Y mae
y diriogaeth aur hon yn arlun o’r holl diriogaethau aur eraill, gyda hyn o
wahaniaeth – fod llifogydd y mynyddoedd wedi gwneyd gwaith myrddiynau o
ddynion, trwy dori nentydd, rhai ddwy fil o droedfeddi o ddyfnder, a chasglu
yr aur i waelod y pyllau a’r rhigolydd dwr. Y mae y gwythïenau yn berffaith
reolaidd, a gellir eu dilyn yn eithaf cywir ar draws y nentydd. Yn gymwysedig
â’r aur mi a gefais platinum, ac alloy of osmium brodorol, ac irridium, yr
hwn sydd mor werthfawr i flaenllymu ysgrifbinau aur. Y mae y nesaf mewn
caledwch i’r dïamwnd, ac fe allai y ceir dïamwnd.
Wrth ddybenu, mi a ddymunwn ddyweyd ychydig eiriau o berthynas i ymdrechiadau
Cristionogol, a sefydliadau dysgeidiol a chrefyddol yn California. Nid yn
unig y mae y corff mawr o baganiaid yn ddwy fil ar bymtheg (17,000) o
filltiroedd yn nes atom nag o’r blaen, ond y mae cannoedd o honynt yn dyfod
yma o eithaf y ddaear, ac felly yn uniongyrchol tan ddylanwad Americanaidd.
Bydd y ffaith fawr hon yn werth miloedd i fasnach America. Y mae yn wlad
rhyddid, lle y câ y caethwas nodded, a lle y mae cystal a’i feistr. Ni welais
i wlad erioed mor wirioneddol gydraddol. Rhaid i bob dyn, gwyn a du, gymeryd
ei dro yn y llythyr-swyddfa, er gwaethaf ei urddas a’i sefyllfa. Y mae yn wir
y daw rhigolion y teulu dynol yma, guda syched anniwall am aur, ond bydd
iddynt yn fuan gilio o’r ffordd, fel y darfu iddynt yn Botany Bay, a gadael y
lle yn rhydd i ymdrechiadau a dylanwad y Gymdeithas Genadol Gartrefol. Y mae
yma yn sicr ddrws agored, na ddylai y gymdeithas uchod, na Chymdeithas y
Traethodau Americanaidd golli golwg arno. Dylent dywallt eu cyd-ddylanwad i
California, ac Americeiddio a Christoneiddio, os yw yn bosibl, y lluoedd o
baganiaid sydd yn dyfod yma. Y mae y Chinëaid yn casäu y Seison, ond yn caru
yr Americaniaid, ac yn ewyllysgar i gael eu dysgu ganddynt. Mi a adawaf y pwnc
i chwi i’w roddi ger bron bwrdd cenadol cartrefol, ac wyf,
Yr eiddoch yn barchusaf a diffuant,
FORREST SHEPHERD.”
Fel yna y darfu i ni daflu golwg frysiog ar y pethau pwysicaf cysylltiedig â
Chalifornia. Buasai manylwch llawn yn ein gyru tros y terfynau bwriadol
ymhell. Yr ydys, gan hyny, yn terfyngu, mewn gobaith y bydd i’r dernyn hwn
dueddu, i fesur, i greu yn mynwesau ein darllenwyr ddyddordeb yn yr hyn sydd
debyg o fod yn un o’r amgylchiadau hynotaf yn hanes y byd a’r eglwys, masnach
a Christionogaeth, cyn pen nemawr o amser.
|