|
|
(delwedd J7671) 00)
|
HANES BYWYD
SIENCYN PENHYDD:
NEU
MR. JENKIN THOMAS, PENHYDD, MORGANWG.
GAN EDWARD MATTHEWS, EWENNY.
ARGRAFFIAD AMERICANAIDD :
O'R TRYDYDD ARGRAFFIAD YN NGHYMRU,
GYDAG YCHWANEGIADAU.
UTICA, N. Y.:
ARGRAFFWYD GAN EVAN E. ROBERTS,
DROS Y CYHOEDDWR, THOMAS T. EVANS.
1864.
|
|
|
(delwedd J7672) (tudalen 00)
|
HARVARD COLLEGE
June 27.1933
LIBRARY
Mrs. Richard
Hughes
|
|
|
(delwedd J7673) (tudalen 01)
|
1
HANES BYWYD
SIENCYN PENHYDD:
NEU
MR. JENKIN THOMAS, PENHYDD, MORGANWG.
GAN EDWARD MATTHEWS, EWENNY.
ARGRAFFIAD AMERICANAIDD :
O'R TRYDYDD ARGRAFFIAD YN NGHYMRU,
GYDAG YCHWANEGIADAU.
UTICA, N. Y.:
ARGRAFFWYD GAN EVAN E. ROBERTS,
DROS Y CYHOEDDWR, THOMAS T. EVANS.
1864.
|
|
|
(delwedd J7674) (tudalen 02)
|
2
|
|
|
(delwedd J7675) (tudalen 03)
|
3
AT Y DARLLENYDD.
Yr ydym yn tybied y bydd ein cyfeillion yn debyg o ofyn am ryw reswm dros
ymddangosiad SIENCYN PENHYDD eilwaith ger bron y byd. 'Beth yw yr achos fod
yr hen frawd yn dod eilwaith i'r golwg? Paham na chaiff aros yn llonydd yn ei
fedd dystaw, heb flino y byw mwy yn ei gylch?' Yr ydym yn ei ystyried yn
ddyledswydd arnom ddyweyd rhywbeth yn atebiad i'r gofyniadau uchod, Mae dau
neu dri o bethau sydd yn ymddangos i ni yn rhesymau dros y cam newydd hwn. Yn
un peth, gadawsom ychydig allan yn yr argraffiad o'r blaen, er mwyn ei gynwys
o fewn cylch penodol. Peth arall, mae yr awdwr wedi cael allan lawer o bethau
newyddion, wrth gyfarfod à hen gyfeillion yma ac acw, sydd lawn mor ddyddorol
a dim a gyhoeddwyd. Gwelir, o ganlyniad, fod y llyfr yn fwy nag o'r blaen.
Hefyd, y mae lluaws yn parhau i anfon atom am dano o lawer parth o Gymru, ond
nid oes yr un i'w gael; am hyny yr ydym wedi addaw, o bryd i bryd, ddwyn
allan argraffiad mwy cyflawn. Wele hwnw o'r diwedd wedi ymddangos, a
gobeithiwn y rhydd foddlonrwydd cyffredinol. Rhyw beth fel yna sydd gyda ni
i'w ddywedyd yn nghylch yr ail argraffiad; ond beth ddywed rhyw rai eraill,
nid oes neb ar y ddaear yn gwybod eto.
Darfu i ni, fel y gwyddoch, ysgrifenu tudalen fach o flaen y llyfr, yn yr
argraffiad o'r blaen, i ddyweyd wrth y byd ein rhesymau am ei ddwyn allan yn
y ffordd hono, a'n bod yn rhyw led-fwriadu ysgrifenu ychydig o hanes yr hen
bobl, sef y Tadau Methodistaidd, sydd yn mron erbyn heddyw wedi syrthio i
dywyllwch ac ebargofiant; ond yn fuan deallasom nad oedd hyny yn iawn. Galwyd
y peth yn rhagymadrodd, a siaradwyd yn ei erbyn gyda sel deublyg, fel peth
croes i ddeddfau a rheolau bywgraffiadau. Bid a fyno, nid oeddem yn amcanu
dim drwg, nac yn meddwl y gwnelsai y tudalenau bychain y blinder lleiaf i un
enaid rhesymol, nac ychwaith yn golygu yr ychydig hyny yn rhagymadrodd yn y
byd, ond yn unig ein bod wedi cymeryd y cyfleusdra nyny i
|
|
|
(delwedd J7676) (tudalen 04)
|
4
ddywedyd wrth ein cyfeillion ein bod yn meddwl gwneyd rhyw beth eto cyn marw.
Gwyddoch o'r goreu mai rhyw beth felly yw teimlad dyn; ni fyn, yn rhyw fodd,
feddwl mai y peth y mae yn wneyd yn awr yw gorchwyl olaf ei fywyd. Ond er na
fwriadwyd y gofid na'r boen ysgafnaf i un bod dynol, y mae yn debyg, er y
cwbl, mai felly y bu. Pwy a ddiystyra ddydd y pethau bychain?' Mor anhawdd
ydyw boddio pawb! Mae yn haws i'r camel fyned drwy grai y nodwydd ddur. Mae
yn debyg nad oes yr un ffordd ar y ddacar, o eiddo Duw na dynion, yn boddloni
pawb. Y dyn hwnw sydd yn treulio olew ei enaid i foddloni pob dyn, sydd yn
debyg o foddhau leiaf o'i gyd-greaduriaid o neb, gan syrthio gyda llaw i wawd
a dirmyg yn ei holl ymlwybriad. Yr oedd Seneddwr anrhydeddus yn dyweyd yn
ddiweddar yn Nhŷ y Cyffredin, yn wyneb yr holl feio ac ymbleidio oedd
yno yn nghylch pob peth, ei fod ef yn hollol o'r farn, pe byddai rhywun yn y
Ty hwnw yn codi i fyny a dywedyd fod dau a thri yn bump, y byddai rhyw aelod
anrhydeddus ar ei draed mewn sel a thanbeidrwydd yn ei wrthwynebu. Fe allai
fod y Seneddwr hwn yn myned ychydig yn rhy bell; ond yn wir, credwch neu
beidiwch, y mae dynion yn hynod ddrygionus.
Yr ydym hefyd wedi cael lle i ddeall fod y geiriau a ddefnyddir weithiau, yn
rhoi peth teimlad, ac achos cwynfan i'r coeth a'r teimladwy eu heneidiau. Mae
yn rhydd i ni ddywedyd, a gobeithio y cawn ein coelio hefyd, ein bod ni yn
barchus o, ac yn hoffi yn ddirfawr y cyfryw eneidiau pur ac angylaidd, er yn
mhell oddiwrth hyny ein hunain. Mae yn ddrwg iawn genym os oes rhyw frychau
oddiwrthym ni yn syrthio ar eu gynau gwynion i'w halogi. Gan fod pethau yn
sefyll felly, gellwch ddeall nad oedd dim yn yr ystyr yma yn cael ei fwriadu,
ond yn codi o angenrheidrwydd o natur y testun. Pe buasai y testun yn dygwydd
bod y cyfamod gras, cyfiawnhad trwy ffydd, neu dragywyddol orphwysfa y saint,
y mae yn fwy na thebyg na fuasai llawer o'r ymadroddion a ddefnyddir yn
'Siencyn Penhydd' o fewn ei gloriau; ond yn gymaint ag mai am Siencyn yr oedd
y siarad, yn fynych Siencyn oedd yn siarad drosto ei hun, a ninau yn aml yn
gorfod siarad fel Siencyn, er mwyn egluro Siencyn; ac felly aeth y cwbl yn
Siencynyddiaeth. Buasai
5
rhwydd, fel y gwyr pawb, greu rhyw fath o gymeriad, od allan fel cerfyll i
olwg y byd; neu gaboli hen Sien-
|
|
|
(delwedd J7677) (tudalen 05)
|
5
cyn yn rhyw fath o Siencyn newydd; ond pa bwrpas fyddai hyny wed'yn?
Desgrifio y cymeriad fel yr ydoedd oedd yr amcan mewn golwg, o ganlyniad yr
oedd yn rhaid ei ddylyn trwy y tew a'r tenau i ben y daith, gan ymollwng i
siarad am bethau fel yntau, a llawer o'i gyfoedion.
Nid ydym yn amheu nad allesid gwisgo ein Hewythr mewn côt ddu, neisied wen,
cadwyn oriawr am ei wddf, yn croesi y ddwyfron ac i logell y siaced fach; ond
wed'yn byddai mor annhebyg iddo ei hun fel na byddai ei hen gyfeillion yn ei
adnabod. Fel y mae pob peth y mae oreu; ac os buom mor ffortunus, er yn
ddarostyngedig i luaws o anmherffeithiau, a dangos gwir gymeriad y Patriarch,
cyrhaeddwyd y dyben yn llwyr, feddyliem. Yr ydym yn deall fod rhai o'r
beirniaid yn meddwl fod anmhriodoldeb yn rhai dywediadau o eiddo Mr. Thomas,
a rhai o'i weddiau hefyd; megys pan y gweddiodd am i'r Arglwydd dori clun yr
ých, i atal ei frawd i fyned i'r ffair ar y Sabbath-y buasai yn fwy cyfiawn
iddo weddio am ryw ddialedd ar y dyn pechadurus na'r anifail anresymol a
diniwed. Nid ydym yn sicr a ddeil hyn feirniadaeth ychwaith. Yr ydym yn cael
hanes yn yr ysgrythyrau santaidd, fod yr Arglwydd wedi cospi y greadigaeth
afresymol a diniwed lawer gwaith i arbed y dyn. Mae dyn yn fwy o werth yn
ngolwg yr Hwn a'i gwnaeth 'na llawer o adar y tô.' Er, mae yn wir, taw y dyn
sydd yn haeddu ei gospi, eto yr ydym wedi clywed y deadellau defaid yn brefu,
a gruddfanau trwmlwythog y greadigaeth yn gyffredinol, a'r cwbl yn achos y
dyn. Os darfu i Dduw dori clun yr ŷch, yn atebiad i weddi Siencyn, yr
oedd hyny yn cymeradwyo y weddi; oblegyd nid tebyg y buasai efe yn ateb
gweddi yn groes i'w ewyllys.
Y mae rhywbeth fel hyn yn rhoi mantais 1 ninau i roddi gair o gynghor i'r
beirniaid, er, ar yr un pryd, mae yn ddigon tebyg na fyddant yn barod iawn i
dderbyn un cynghor oddiwrthym ni. Ond dyna, y mae pleser wrth ddyweyd
weithiau, pa un a wnelont ai wwrando ai peidio. Nid oes genym yn y diwedd
ddim ychwaneg na hyny i ddyweyd wrthynt hwy, ond y byddai yn dda iddynt
feddwl cyn dechreu dyweyd, a pheidio dyweyd rhyw lawer eilwaith, rhag ofn
iddynt ddyweyd gormod. Nid ydym, wrth siarad fel hyn, yn cymeryd arnom
amddiffyn holl eiriau a brawddegau ein Hewythr; nid dyna ein dyben, unwaith
eto. Ein holl
|
|
|
(delwedd J7678) (tudalen 06)
|
amcan ni yw dangos Siencyn fel yr ydoedd, heb fod yn gyf rifol am ddim ond
hyny. Yr ydym yn gobeithio y gwel ein cyfeillion wrth ddarllen y llyfr
presenol fod hyny wedi ei gyrhaeddyd.
EWENNY, MAWRTH, 1855.
Y TRYDYDD ARGRAFFIAD.
Y MAE y galwad parhaus sydd am 'Siencyn,' wedi dyfod â ni i'r penderfyniad i
wneyd argraffiad eto o hono. Yn gymaint ag nad oes yr un copi i'w gael o'r
argraffiadau blaenorol, a chan ein bod wedi cael rhai hanesynan ychwanegol
oddiar y pryd hwnw, penderfynasom ei helaethu, fel y gwelir, amryw dudalenau.
EWENNY, 1860.
YR ARGRAFFIAD AMERICANAIDD.
HOFF GYMRY AMERICA:-Os byddwch yn edrych am 'ragymadrodd' i'n hargraffiad
Americanaidd, nid oes genym i'w ychwanegu at yr uchod, ond hyn:-Gan fod Hanes
Bywyd y Parch. Jenkin Thomas, wedi teilyngu talent, ac amser yr enwog Barch.
E. Matthews, Ewenny, i'w ysgrifenu, a'i helaethu ddwy, ïe, dair gwaith
drosodd; a'r cyfryw wedi cael ei argraffu gynifer a hyny o weithiau mewn byr
amser, yn Nghymru; yr ydys yn ystyried hyny, heb ddim yn ychwaneg, yn ddigon
o reswm i ninau dros gael un argraffiad o hono yn y wlad hon. Am hyny, wele
ef ger eich bron, fel manna melus; a diau y bydd ei flâs yn eich genau fel
afrllad o fêl. Bywyd yr hwn, darllenwch, a 'ffydd yr hwn, dylynwch.'
UTICA, EBRILL, 1864.
T. T. EVANS.
|
|
|
(delwedd J7679) (tudalen 07)
|
7
SIENCYN PENHYDD.
Y MAE yr enw uchod mor adnabyddus yn Morganwg ag yw haul, ser, a phlanedau; a
diamheu genym fod Cymru yn gyffredin, yn enwedig yr hen bobl, yn hynod
gyfarwydd â chymeriad Apostol Penhydd. Wrth fyned o Gastellnedd i'r Maesteg,
ychydig tu hwnt i le a elwir Pontrhydyfen, yr ydym yn dringo gallt, ar hyd
ffyrdd troeog, geirwon, ac anhygyrch, i ben clogwyn o fynydd diffaeth ac
anniwylliedig. Oddiyno canfyddlr amryw fryniau a dyffrynoedd bychain, yn
debyg i ben a chyrn yr hydd; o herwydd paham, y mae yn debygol, y gelwid y
tŷ, gan ein hynafiaid yn Benhydd. Yn nghanol y bryniau bychain hyn, mewn
ychydig o bant, y gwelir yr amaeth dy hynafiaethol; ei furiau isel, a'i
agweddiad gostyngedig, sydd yn ymddangos fel pe byddai yn ymostwng i'r llwch,
i'r dyben i roddi mantais i'r mynyddau cylchynawl i daflu eu hadenydd
cysgodlawn drosto. Er cyflymed yw cyfnewidiadau amser, ac er mor ddirfawr yw
gwelliadau yr oesoedd, y mae hen dŷ Penhydd wedi ymgadw at ei ffurf
gyntefig, wrth ychydig neu ddim cyfnewidiad er ys rhai canrifoedd. Er cymaint
o gyfnewidiadau sydd wedi bod ynddo o bryd i bryd, nid oes nemawr i'w weled
arno.
Nid ydym yn gwybod am ddim perthynol i'r tŷ hwn amgen rhyw dai ereill yn
y gymydogaeth, ond yn unig mai hwn yw lle genedigol y gwrthddrych sydd dan
sylw. Mae llawer o leoedd anenwog ddigon ynddynt eu hunain, heb fod dim lleol
nac amgylchiadol i'w dyrchafu i sylw y cyffredin; ac eto yn eu perthynas â
genedigaeth a hanes rhyw bersonau penodol, y maent yn dragywyddol gofiadwy.
Čyfarfyddiad rhyfedd Jacob â Duw, a'r cyfamod fu rhyngddynt yno, a
wnaeth Bethel yn hynod ar ddalenau hanesyddiaeth. Mae hynodrwydd mynyddau
Moriah yn fwy yn yr amgylchiadau perthynoi i aberthiad Isaac na'u
cyfansoddiad naturiol. Ni bydd darfod a son am yr Aipht, Mynydd Sinai, yr
anialwch, y Môr Coch, yr Iorddonen, a gwlad Canaan, mewn cysylltiad â had
Abraham, a goruchwyliaethau Duw tuag atynt. Mae Bethlehem wedi cyrhaedd
enwogrwydd diderfyn trwy holl ymerodraethau y Goruchaf, i fynu ac i lawr, fel
lle genedigaeth Ceidwad y byd. Bydd son byth am fynydd Tabor mewn cysylltiad
â'i bregethau,
|
|
|
(delwedd J7680) (tudalen 08)
|
8
yr ardd mewn cysylltiad â'i weddiau, a phen Calfaria mewn cysylltiad â'i
farwolaeth. Pwy fuasai yn clywed am fedd newydd Joseph o Arimathea, oni
buasai i Dywysog y bywyd orwedd yno? Ei esgyniad hefyd i'r nef o Bethania a
geidw y lle hwnw mewn tragywyddol fri. Mac Paul yr apostol wedi enwogi Tarsis
yn gymaint ag mai yno y ganwyd ef, a chanol y ffordd i Damascus i sylw yr
oesoedd olynol, am mai yno yr achubwyd ef. Mae genedigaeth Luther wedi dwyn
Mansfield i oleuni ysblenydd; y mae hen gastell Wittenberg yn denu sylw yr
oesoedd, lle y bu ef yn cyfieithu yr Ysgrythyrau, ac yn taflu y corn inc at
ben y cythraul, llun yr hwn, meddant, sydd ar y mur hyd heddyw. Nid oes. dim
gwychder mewn modd yn y byd yn Llangeitho na Llangan, ac eto cofir hwynt byth
mewn cysylltiad â gweinidogaeth danbaid Rowlands, a pher nefoleiddrwydd
efengylydd Llangan. Felly, ni buasai son am Benhydd; ond gorweddasai yn
ddystaw rhwng y bryriau oesawl, yn anadnabyddus i bawb yn mron, oddigerth y
plwyf y perthyna, oni buasai mai yno y trefnodd Rhagluniaeth ddwyfol i
wrthddrych ein coflant gychwyn ar fodolaeth diddiwedd. Mor swynol ydyw yr hen
anedd-dy i'r teithwyr Methodistaidd! Wrth basio, braidd y gallwn dynu ein
golwg oddiarno. Ar ol myned heibio yn mhell, yr ydym mewn profedigaeth i atal
y ceffyl yn ei fynedfa, a throi ein gwynebau yn ol i syllu arno o'r newydd,
fel pe byddai rhywbeth ar dô a muriau yr hen amaethdy. Nid oes dim yno; ond
eto y mae yn dwyn i'n cof, gyda bywiogrwydd a theimlad rhyfeddol, holl
neillduolrwydd y dyddiau gynt, y sonia ein tadau gymaint am danynt, yn nghyda
chymeriadau y dynion rhyfeddol y bu Duw gyda hwynt.
Pan gymerom olwg wrthedrychol ar bethau er ys can' mlynedd yn ol neu ragor, y
pryd yr oedd Methodistiaeth Galfinaidd yn nghudd yn nghroth tragywyddoldeb,
mewn dygn dywyllwch i bawb ond i'r Hwn sydd yn gweled y diwedd o'r dechreuad,
ac er cynt yr hyn ni wnaed eto,' yr oedd y tywyllwch dudew ar wyneb y
dyfnder. Y Beibl ydoedd lyfr anadnabyddus ac anghyfarwydd i'r cyffredin, ac
heb neb braidd yn gallu ei ddarllen pe buasai yn gyrhaeddadwy. Yr oedd un
lled fawr yn mhob eglwys plwyf, yr hwn a ystyrid yn llyfr at swyno yn fwyaf
neillduol, a'r offeiriadon yn trin y gelfyddyd o synyddiaeth. Tybid am bawb
oedd wedi dysgu Lladin, y gallent, drwy offerynoliaeth y Beibl, wneyd â'r byd
yn agos fel y mynent. Nid rhyfedd
|
|
|
(delwedd J7681) (tudalen 09)
|
9
oedd clywed fod Mr. Jones, o'r Persondy wedi dodi Twm Tytywarchi sefyll ar ei
ben ar dop y simne, a phob ymdrech wedi bod yn aflwyddianus i'w gael o'r fan
hono, nes i'r gwr parchedig ddyfod a'r llyfr i'w ryddhau o'i benyd. Treulid y
Sabbathau mewn chwareuyddiaeth a difyrwch cnawdol gan ieuenctyd yr oes, a
chyfarfyddai yr hen bobl fethedig â'u gilydd, yma ac acw, wrth eu ffyn, goreu
y gallent, i siarad am eu campau gynt. Chwareuid pêl ddydd Sul, o foreu hyd
yr hwyr, yn erbyn yr hen eglwys, a'r offeiriadon hybarehus yn cadw cyfrif
rhwng y pleidiau, ac yn cael rhan o'r cwrw ar ddiwedd y daplas am eu
gwasanaeth. Wrth weled y fath agwedd alaethus ar Gymru, yr enynwyd tân' yn
rhai personau, a llefarsant â'u tafodau.' Dyma y cyfnod y taflwyd y baban
Methodistaidd allan o groth tragywyddoldeb i faesydd anniwylledig Cymru, 'heb
lygad yn tosturio wrtho.' Gwelodd Duw, er hyny, 'ei amser yn amser
serchogrwydd; lledodd ei aden drosto, a chuddiodd ei noethni; tyngodd hefyd,
iddo, ac aeth i gyfamod ag ef.' Pan yr oedd rhyw lais dystaw fel hyn yn
dechreu swno, a thrydar ansoniarus, fel pe byddai rhyw gornant yn sïo, ac
mewn ymdrechfa ddiarbed am dori allan oddi-rhwng y glenydd, ar yr 16eg o
Fedi, 1746, y ganwyd Siencyn.
·
Nid oedd neb, ar a wyddom ni, yn meddwl fod Duw wedi danfon y bachgen hwn i'r
byd at un pwrpas uwch na bugeilio da a defaid ar hyd y mynyddau a'r clogwyni
cymydogaethol, byw yn hen, a marw yn gyfoethog, wedi talu i bawb eu gofynion.
Ond yr oedd Llywydd nef a llawr, wrth bob tebyg, wedi rhagweled pethau gwell
iddo, a 'phethau yn nglŷn wrth iachawdwriaeth.' Yn bugeilio a thrin y
ddaear y bu am flynyddau, yn hollol ddifeddwl am enaid, a byd diddarfod. Er
hyny yr oedd rhywbeth yn y bachgen yn wahanol i fechgyn ereill, er yn
annuwiol. Tyfodd i fynu yn ddyn lled annibynol, hynod o arw ac anniwylledig.
Nid oedd yn prisio am neb, mawr na bach, gwreng na boneddig, dyn na diafol;
yn mlaen yr âi Siencyn drwy y tew a'r teneu. Dyn blewog, mynyddig, a Chymroaidd
yr olwg arno oedd, yn nghylch pump troedfedd a naw modfedd o hyd. Oni bai fod
y Goruchaf yn rhyfeddol yn y cwbl, buasem dan brofedigaeth i feddwl ei fod
wedi camsynied wrth ddewis creadur fel hwn at bwrpas mor fawr. 'Cafodd ef
mewn lle anial, mewn diffeithwch gwag erchyll; arweiniodd ef o amgylch, a
pharodd iddo ddeall, a chadwodd ef fel canwyll ei lygad.' Er mor arw ei
ymddangosiad, cafodd hwn drugar-
|
|
|
(delwedd J7682) (tudalen 10)
|
10
edd. Yr oedd rhyw ddyn dyeithr yn dygwydd bod yn pregethu yn y gymydogaeth, y
pryd y dygwyd y gwirionedd adref at ei feddwl, ac y bu rhyw ymgynhyrfiad
rhyfeddol yn holl ymerodraeth feddyliol y llanc.
Yr oedd rhywbeth o gylch argyhoeddiad fy ewythr Siencyn ag oedd yn weddol
hynod. Yn y dyddiau hyny yr oedd pregethu yn beth anghyffredin, ac edrychid
ar hyny fel rhyw newydd-beth disylwedd ac afreolus. Yn mhlith yr ychydig
gynghorwyr, fel eu gelwid, yr oedd hen wr a adnabyddid wrth yr enw Iefan
Tyclai;' arferai ddyfod drwy Forganwg yn fynych, ar daith bregethwraidd. Dyn
lled fywiog yr olwg arno ydoedd, yn gwisgo coat lwyd, o frethyn gwlad heb
goler melfet, siaced fraith, clos penlin corduroy, hosanau du'r ddafad, ac
esgidiau coed, wedi eu sicrhau am y traed â byclu pres. Yn y wisg
offeiriadaidd hon, gan farchogaeth ar ebol coch, heb docio na mwng na
chynffon, y teithiai fy ewythr Iefan Tyclai bant a bryn, a'r efengyl
dragywyddol ganddo. Yn y dyddiau hyny cynelid y cyfarfodydd mewn tai anedd,
neu ysguboriau, fel y gwyddoch. Yn y cyfryw leoedd y byddai Iefan Tyclai yn
cerdded o gylch y lle, gan bregethu wrth hwn a'r llall, wrth fyned heibio. Ar
rai achlysuron cerddai o gylch y tŷ ryw naw neu ddeg o weithiau, gan
draddodi yn ddihafarch yn awr y ddeddf, ac wedi hyny yr efengyl. Yr oedd
cetyn o ffon onen, a chlopa anferthol, o gwmpas pwys neu ddau, yn un llaw
iddo, a'r dwrn arall yn nghauad wrth ddanedd y gynulleidfa, yn ymddangos yn
benderfynol i bastyno y bregeth i'w hymenyddiau a'u calonau. Mae yn gofus
genym glywed yr hen bobl yn dyweyd am dro y dygwyddodd apostol Tyclai ddyfod
ar gyhoeddiad i Langrallo, y pentref gerllaw yr hwn yr oedd Jones, Llangan,
yn byw. Noson o'r wythnos ydoedd, a chrynhodd bagad o bobl y pentref i
dŷ anedd, i'r cwrdd. Eisteddasant oll o gylch muriau y tŷ, gan
ddysgwyl y pregethwr dyeithr. Yn mhen tipyn, wele yr angel yn dod. Darllenodd
a gweddiodd yn nghanol y dynion, yn danllyd ryfeddol. Yna dechreuodd ymsymud
wrth ei ffon o un i'r llall, gan bregethu efengyl y deyrnas i fawr a mân yn
ddiwahaniaeth. Deuwch allan o'u canol hwynt," meddai, ac ymddidolwch.'
Gwyddoch chwi beth, ffryns, os gwelwch iâr yn ymdroi llawer mewn gwrysg
bytatws, yno y bydd yn debyg iawn o wneyd ei nhyth; ac felly, os ymdrowch
chwithau lawer rhagor yn y byd annuwiol hwn, yno y byddwch yn debyg o aros,
ac fe aiff eich nyth ar dan byth, bobl;
|
|
|
(delwedd J7683) (tudalen 11)
|
11
deuwch oddi yno. A chwithau y bobl grefyddol yma, edrychwch ar ba bethau yr
ydych yn byw, o ran eich ysbrydoedd, canys bydd ôl ac argraff y pethau hyny
arnoch yn mhob. man, a chyda phcb peth. Maent yn dywedyd wrthyf fi, os bydd
oen yn sugno gafr, mai blew gafr a dyf arno; ac felly chwithau, os sugno y
byd hwn a wnewch, y mae yn debyg iawn mai ysbryd y byd fydd ynoch, ac am y
byd y bydd eich ymestyniad gwastadol, gan esgeuluso crefydd Mab Duw, ac felly
yn ymlygru eich ffordd, nes o'r diwedd fyned yn eifr perffaith, heb ddim yn
debyg i ddefaid ynoch.' Fel hyn y bu y gwr o Dyclai yn cerdded yn frysiog o
amgylch y tŷ, o gwmpas haner awr, gan draddodi llnaws o'r cyfryw
sylwadau duwinyddol a philosophyddol, a'u cymhwyso yn gelfydd at bob un ar ei
ben ei hun; o'r diwedd ymddangosai'r agerdd fel pe buasai yn gwahanu, a'r
olwynion yn raddol yn arafu, a phob arwyddion fod cerbyd y Tyclai yn sefyll.
Pan yr oedd ar gyfer y gadair yr eisteddai hybarch efengylydd Llangan, Mr.
Jones, gyda serchogrwydd a gwên fwynaidd, a lefarodd wrth yr hen bregethwr,
gan ddywedyd wrtho, 'Iefan bach, yr wyt ti yn yr ysgol er ys llawer dydd yn
awr; atolwg, beth yr wyt ti wedi ei ddysgu yno yr holl amser hyn?'
Mr. Jones bach,' ebe yntau, 'yr wyf wedi bod wrth yr un wers trwy yr holl
flynyddau, a gallaf ddweyd yn onest wrthych heno, fy mod wedi dysgu hono o'r
diwedd." 'Beth ydyw hono, Iefan bach ?' Wel, mi ddywedaf wrthych; yr wyf
wedi dysgu nad wyf yn gwybod dim.' 'Ti wyt? Ydwyf yn siwr i chwi. Wel, wel,
yr ydwyt ti, Iefan bach, yn y dosbarth cyntaf yn ysgol Iesu. Yr ydwyf fi o
hyd, er ymgyrhaedd, yn methu yn llwyr ddod i fynu i'r class yna. Wedi yr
ymddyddanion hyn, terfynwyd y cyfarfod trwy weddi a mawl, ac aeth pawb i'w
ffyrdd dan synu wrth athrylith a hyawdledd y pregethwr.
Yr oedd Iefan Tyclai yn bregethwr gwreiddiol, ac yn ddyn o feddyliau parod,
hedegog, a chyflym iawn. Nid oedd yn debyg fod yr hybarch dad hwn yn blino
dim yn nghylch Howe, Owen, Manton, Baxter, a'r lleill o honynt, nad yn poeni
ei ben ryw lawer mewn perthynas i ddadleuon duwinyddol a philosophaidd yr
oes, ond yn traddodi gydag awdurdod ei feddyliau gwreiddiol ei hun. Siaradai
hefyd fel efe ei hun, fel nad gwiw i ni wneyd cyffelybiaethan a
chyferbyniadau, canys nid oedd fel dim na neb, ond fel Iefan Tyclai. Yr oedd
ei dalentau yn cynwys ynddynt hynodrwydd, yr hwn oedd yn ymarllwys allan mewn
ymadroddion
|
|
|
(delwedd J7684) (tudalen 12)
|
12
o'r fath ag a barai i lawer yn yr oes hon syru yn aruthrol. Bu talentau gwych
a gorchestion rhyfeddol yr hybarch Tyclai yn mron myned, fel yr ydym wedi
cael lle i ddeall, i fythol ebargofiant, ond fel y dygwyddasom gyffwrdd â'i
enw mewn cysylltiad â'r hen Benhydd yn yr argraffiadau o'r blaen. Nid oedd
neb, hyd y nod yn ei ardal ei hun, fel yr ydym yn clywed, yn gwybod dim am y
fath ddyn wedi bod yn y byd, oblegyd danfonwyd atom ni i holi pwy ydoedd, ac
o ba wlad, a than lywodraeth pwy y bu yn prophwydo. Gresyn fod talentau mor
wych, ac araethyddiaeth mor hedegog a grymus, wedi suddo fel hyn mor llwyr i
fro dystawrwydd. Ond dyna fel y bu, ac nid oes dim i wneyd bellach ond goreu
y gellir. Mae yn ddigon gwir, serch hyny, fod dyn o'r fath wedi bod yn ein
byd, a'i fod wedi bod yn pregethu amryw droion yn Morganwg, yn amser Siencyn;
Jones, Llangan; Davies, Castellnedd; ac o dan deyrnasiad Sior y trydydd.
Mae pentref yn Sir Gaerfyrddin a elwir Llanfynydd, adnabyddus i lawer fel lle
trigianol y diweddar Barch. Dafydd Rees. Mae Llanfynydd yn seinio yn
gyfrinachol iawn i glustiau rhyw luoedd o Fethodistiaid Deheubarth Cymru,
mewn cysylltiad âg enw y gweinidog uchod, yr hwn a berchid yn fawr oblegyd ei
waith drwy yr holl Dywysogaeth. Gerllaw y pentref hwn, sef o fewn ychydig
ganoedd o latheni o bellaf, y mae tŷ bychan, wedi ei gyfansoddi â
phridd, ac â rhyw ddefnyddiau ereill yn gymysg, yn llwyd ei ddrych, yn isel
ei agweddiad, heb fod yn codi nemawr o droedfeddi uwchlaw y ddaear las sydd
o'i gylch. Ond aroswch gyferbyn ag ef, peidiwch a bod yn rhy wyllt, nac yn
rhy benuchel ychwaith; edrychwch ar yr hen anedd adfeiliedig; trowch, sylwch
eto, tynwch eich hetiau, braidd na ddywedem, ie, datodwch eich esgidiau
hefyd, canys hwn yw y Tŷclai, lle y bu yr hybarch Iefan yn byw! Distadl
yw yr olwg arno,
onide? ïe, y mae yn rhy sâl i'w gofrestru yn llyfr y plwyf: nid ydyw y
Tyclai, digon tebyg, ar hen lyfrau plwyf Llanfynydd. Ah! y mae ar lyfrau
uwch: y mae wedi ei gofrestru yn y nefoedd, fel un o balasau etifeddion bywyd
tragywyddol. Edrychwch! dyma hen lety Gabriel, a rhyw luaws o In nefol lawer
gwaith, pan yr oedd pobl Llanfynydd yn meddwl nad oedd neb dyeithr o fewn y
plwyf. Bu brawd i'r Parch. Dafydd Rees yn byw yn yr anedd nefol hon amryw o
flynyddau ar ol yr hybarch Iefan; yr oedd yntau hefyd yn ddyn da, meddant,
ond nid yn bregethwr enwog fel Iefan.
|
|
|
(delwedd J7685) (tudalen 13)
|
13
Oddiar pan ysgrifenasom o'r blaen buom yn ymweled â'r hen lety enwog, Tyclai.
Yr oeddem wedi clywed ei fod yn agos i fod wedi syrthio; ond camsyniad oedd
hyny; y mae yr hen anedd-dy yno eto, yn ei sefyllfa gyntefig; fel yr yr oed
yn y dechreuad, felly y mae yr awr hon, heb ddim cyfnewidiad, oddieithr
ychydig o dô yn awr ac eilwaith, i'w gadw yn ddiddos. O gwmpas ei haner,
deallwch sydd o glai; y mae y muriau yn geryg am dipyn, ac yna yn glai o hyny
i fynu. Gwelsom, lawer gwaith fwy o glai mewn tŷ. Os ydym yn cofio yn
dda, yr ydym wedi gweled tai yn glai i gyd, o'r top i'r gwaelod. Eithr y mae
rhywbeth gwahanol rhwng clai a chlai, fel y mae rhagor rhwng seren a seren
mewn gogoniant. Fe allai mai nid yn natur y clai mwy na'r ser, serch hyny, y
mae y gwahaniaeth gymaint, eithr yn y cysylltiadau gwahanol sydd wedi bod
rhwng y naill glai a'r llall. Troisom o gwmpas yr anedd lonydd, edrychasom
eilwaith ac eilwaith, eithr nid oedd dim neillduol i'w weled na'i glywed;
clai oedd y cwbl oedd o'n cwmpas o'r diwedd. Eto, er nad oedd dim neillduol
i'w weled, yr oedd adgof o'r cysylltiadau rhyfedd fu rhwng yr hen dy â'r
diwygiad yn Nghymru, yn nghyda'i fod unwaith yn balasdy ein hewythr Iefan, yn
creu ynom deimladau nad ydynt yn cael eu cynyrchu gan glai cyffredin.
Dechreuodd achos y Methodistiaid, mae yn debyg, yn Mhentref Llanfynydd, ger
llaw yr eglwys; ond o herwydd rhyw anghyfleusderau, symudwyd yr achos i
Dyclai, at ein hewythr, lle y bu yn trigo yn hir, nes o'r diwedd y cafwyd
tŷ sefydlog i drigo ynddo. Adeiladwyd y tŷ hwn o fewn cant neu ddau
o latheni i balas Iefan, yr hwn a adnabyddir yn awr wrth yr enw Capel
Llanfynydd. Os dygwydd i chwi fyned i weled y lle ryw bryd, y mae efail gof
ar y llaw ddeheu; wrth fyned o'r capel yno cofiwch droi i mewn, a cherddwch a
phenaeth yr efail gyda chwi, fel guide; canys y mae efe yn gwybod yr holl
wirionedd yn nghylch y pethau dan sylw. Er fod llawer o gyfnewidiadau mewn
byd o amser, eto i gyd y mae doethiueb fel pe bai yn cartrefu byth o amgylch
Tyclai-ni fyn symud gyda chyfnewidiadau yr oesoedd. Yr efail hon sydd
gerllaw, sydd fel pe bai yn drigle doethineb, ac yn swyddfa gwybodaeth
hanesyddol i'r holl gwmpasoedd. Cawsom lawer iawn o help yn ein hymchwiliadau
oddiwrth y cyfaill hwn; y mae yn caru henafiaethau, ac yn barod i gyfaanu
gwybodaeth i'r neb a'i derbynio. Dywedodd wrthym mai brodor o ardal
Llanfynydd
|
|
|
(delwedd J7686) (tudalen 14)
|
14
oedd y Parch. Mr. Davies o Gastellnedd; iddo gael ei ddwyn i fynu yn
Ystangrach, tŷ fferm heb fod yn mhell o Dyclai; i Mr. Davies ddyfod i
Forganwg yn amser Siencyn Penhydd, a buont yn cydlafurio; eto y mae gryn
dywyllwch o ba le daeth, a phwy ydoedd. Pob parch i benaeth y gofion yn
Lianfynydd, eto nid ydym yn meddwl y dylid cymeryd y dystiolaeth uchod heb
ychwaneg o ymchwiliad. Y mae dechreuad dyddiau Mr. Davies yn dra anhysbys i'r
cyffredin yn bresenol; fe ddichon y gall fod rhai yn fyw ag sydd yn gwybod,
pe gellid taro wrthynt; ond y mae canol a diwedd ei einioes yn dra adnabyddus
yn Morganwg; canys bu yn un o flaenoriaid y diwygiad. Daeth yn gurad i
Gastellnedd, a llafuriodd gyda'r offeiriad efengylaidd, a chladdwyd ef yn
mynwent yr eglwys yn y dref uchod, ac y mae ei feddrod ef yno yn weledig hyd
y dydd hwn. Fe allai y ceir clywed rhyw beth pellach yn nghylch hyn eto.
Y mae yn debyg nad oedd gan ein heythr Iefan ddim etifeddiaeth o fewn y
greadigaeth; nac oedd, dim lled troed; ac eto yr oedd yn byw ynddi, ac yn
rhodio ar hyd-ddi cystal a neb. Byddai yn arfer dyweyd, meddant, am dri
rhyfeddod mewn perthynas i'r greadigaeth, y rhai a elwir byth yn yr ardal
hono, Yn dri rhyfeddod Iefan Tyclai.' Byddai ein hewythr yn gweled
rhyfeddodau diddarfod yn y Beibl; a phe buasech ond ei glywed yn pregethu,
neu yn cadw society, buasech yn eu clywed yn cael eu hadrodd, gyda deheurwydd
a dawn. Yr oedd hefyd yn ddiau yn gweled llawer o ryfeddodau ar hyd y llawr;
eithr yr oedd tri rhyfeddod fel pe baent yn llyncu i fynu yr holl ryfeddodau
ereill iddynt eu hunain.
Y rhyfeddod cyntaf oedd, Fod y greadigaeth yn fawr iawn. Anferthol yw ei
maint,' ebe yr hen batriarch; nid oes diwedd arni, am wn i; cerddwch lle y
mynoch, y mae lle i fyned yn mhellach o hyd; y mae yn agor o'ch blaen naill
neu fôr, neu fynydd, neu froydd sydd yn dod i'r golwg fyth ac hefyd.' Y mae
yn debyg nad oedd ein hewythr wedi rhodio nemawr dros derfynau ei blwyf, y
rhan fwyaf o'i ocs; ac wedi dechreu teithio, y mae plwyf ar ol plwyf yn dod
i'r golwg, heb ddim argoel taro yn erbyn y mur. Wedi cyrhaedd pen hwnt Sir
Gaer, un ochr dacw Sir Aberteifi a Sir Benfro yn codi o flaen llygaid ein
hewythr, nes y byddai yn barod i lesmeirio, ac yn gwaeddi allan. O, ryfedd yw
maint y ddaear!' Pan y byddai yn dyfod i lawr yr ochr arall drwy Sir
Frycheiniog, a gweled pen y Begwns, byddai
|
|
|
(delwedd J7687) (tudalen 15)
|
15
fel yn syrthio i lewygfeydd o syndod, ac yn gwaeddi, 'O, ryfedd yw en huchder!'
Wedi teithio i lawr trwy Forganwg, a gweled y dyffrynoedd ffrwythlon a'r
broydd eang yn ymledu o'i flaen, y mae yn agos a cholli ei bwyll, gan waeddi
allan, 'Ow, ow, y mae yn fwy nag a feddyliais i erioed!' Cyn bod ein hewythr
yn cael ei anadl yn iawn, wedi y synedigaeth yn yr olwg ar helaethder y
broydd, dyma y Bristol Channel a'i dyfroedd arianaidd yn codi o'i flaen, nes
yr oedd wedi myned yn llipa, fel pe na buasai ysbryd mwyach ynddo. Nid oedd
yn gallu dywedyd braidd dim ond, Mawr yw ei maint, mawr yw ei maint!' Yn
fynych iawn dywedai, meddynt, wrth edrych o'i gwmpas oddiar ben rhyw dwyn, Yr
wyf yn rhyfeddu maint y greadigaeth yma.'
Yr ail beth ag oedd yn synu cin hewythr yn ddirfawr, er ei maint i gyd, pa
fodd y dygwyddodd na ddaeth cwys o honi i'w ran ef. Nid oes yr un gwys nad
oes rhyw un yn ei pherchenogi, oddi yma i lan Mor Hafren; ond.y mae yn
syndod, gan gymaint yw y ddaear, na ddaeth rhyw ychydig o honi i fy rhan i;
pe buasai ond y Tyclai, a'r ardd o'i flaen.' Wel, yn siwr, y mae rhywbeth i'w
weled yn hyn hefyd; ond dyna, nid oes dim i ddyweyd ond mai felly yr oedd, ac
fe allai mai felly oedd y ffordd oreu hefyd, am ddim a wyddom ni; canys nid
pawb, er eu bod yn ddynion duwiol, sydd yn gymhwys i berchenogi y ddaear. Y
mae yn rhaid gadael y pwnc yna i ryw un sydd uwchlaw dynion i'w benderfynu.
Eto, chwareu teg i'n hewythr, y mae defnydd syndod yn y peth, yn enwedig pan
edrychir ar y peth yn ddygwyddiadol. Wrth feddwl am gynifer o erwi o dir sydd
yn y byd, peth rhyfedd ddigon na fuasai erw fach ddyfod i ran ein hewythr
Iefan. Fel hyn y bu, y mae yn debyg; 'canys ni roddwyd iddo etifeddiaeth,
naddo led troed.'
Y trydydd peth oedd yn synu Iefan, ac yn wir yr oedd hyny yn gymaint syndod a
dim, ei fod cyn gyfoethoced a neb ag sydd ar ei gwyneb. Wel, wel, os felly
dyma y syndod mwyaf o'r cwbl. Nid oes gan yr etifedd,' ebe efe, 'ag sydd wedi
ei eni i gyfoeth ac anrhydedd, dim ond bwyd i'w fwyta, a dillad i wisgo; ac
er nad oedd dim yn fy aros wrth ddod i'r byd, ac er na chefais led troed o'r
ddaear yn fy oes yn y byd, er hyny nid oes wedi bod arnaf eisiau bwyd i
fwyta, na dillad i wisgo; y mae wedi dod gyda'r angen o ddydd i ddydd. Yr wyf
mor gyfoethoced a'r brenin, ac yn gyfoethocach; yr wyf yn byw wrth lai o
ofal, yn mwynhau natur yn fwy gloyw, ac yn cysgu yn fwy tawel y nos.
Ac
|
|
|
(delwedd J7688) (tudalen 16)
|
16
ar ol i'r ddaear ddarfod, y mae genyf nefoedd i fyw arni byth.' Dyma dri
rhyfeddod Iefan Tyclai: ac yn wir erbyn eu hystyried, yn ol ac yn y blaen, y
mae rhyfeddodau mawrion ynddynt hefyd. Edrychwch ar faint y ddaear, y mae
hyny yn syndod; ac onid yw yn syndod hefyd na fuasai rhyw gwys o honi yn
syrthio i ran Iefan? Edrychwch arno er hyny yn byw gryn bedwar ugain mlynedd
gystal a neb ar ei hwyneb, ac yn honi cymaint o awdurdod ar hyd ei ffyrdd a'r
rhai oedd yn dywedyd mai hwy piau hi.
Yn awr, rhwi welwch, o fyfyrgell Tyclai yr oedd Iefan yn dyfod allan i
draddodi y darlithiau campus oedd yn effeithio mor rymus yn y dyddiau gynt. Y
mae yn gofus genym glywed am un oedfa ryfedd o effeithiol, pan yn pregethu am
fywyd crefydd, mewn cymydogaeth heb fod yn mhell o'r lle yr ydym yn ysgrifenu
yn awr. Ar brydnawn gweddol deg, tua diwedd cynauaf yr haidd, aeth gwr y
tŷ yn yr hwn yr ydoedd i bregethu, i'w gyfarfod wedi ychydig o deithio,
canfyddodd o hirbell yr anfarwol Dyclai yn dyfod. Yr ydoedd yn marchogaeth yn
daclus fel arfer, ar yr ebol melyn, a'i freichiau a'i goesau, yn wir yr holl
gorff, mewn gweithrediad cyson, fel peiriant hunan-weithiol. Curai â'i ddwy
droed ystlysau y ceffyl yn ddiorphwys, fel pe byddai yn ddig wrth yr anifail;
ond nid oedd dim yn hyny ychwaith, meddant hwy. Yr oedd yn arferiad yn yr
amseroedd hyny i fyfyrio duwinyddiaeth gan mwyaf ar gefn ceffyl, a thybiai y
bobl, pan oedd y meddwl yn gyru yn y blaen gyda y pynciau dyfnion hyny, fod y
coesau yn myned yn ddiarwybod, gan yru y ceffyl a'r cwbl gyda'u gilydd. Yr
oedd ymddangosiad yr hybarch dad mor afler a dim a welwyd, y tro hwn, yn taro
i mewn i'r cwrt o flaen y tŷ. Yr oedd yr het yn agos a chuddio y
wyneb-yr ydoedd yn cuddio y cwbl hyd fon y trwyn yn sicr, fel yr oeddent yn
meddwl nad oedd yn gweled ond y peth nesaf i ddim. Yr oedd wed'yn gadach coch
mawr yn dod dros ei glustiau, yn cuddio yr ên i gyd, ac yn cyrhaedd hyd flaen
y trwyn, fel y gellwch farnu yn hawdd, debygem ni, pa faint o'i wyneb oedd yn
y golwg. Er nad oedd yr un amcan gan ein hewythr yn hyn rhagor na
chynesrwydd, eto yr oedd dyben arall yn cael ei gyrhaedd yn llwyddianus yn
ddiarwybod; canys yr ydoedd yn cuddio barf pythefnos o dyfiant o leiaf. Ond
perchid ef fel angel, er hyny, gan yr holl deulu, y rhai a dybient mai
gogoniant penaf pregethwr yw bod yn ddifalch. Daeth yr oedfa, a thyina lonaid
y tŷ o ddynion yn dyfod yno. Nid oedd
|
|
|
(delwedd J7689) (tudalen 17)
|
17
yr un pwlpud, ac nid gwiw ychwaith
roddi ystol, canys nid ydoedd ef yn dringo i ben dim byth, ond yn cerdded yn ddiorphwys
drwy y bobl, o'r naill ben i'r llall i'r tŷ, gan siarad â hwy beunydd,
yn hyawdl a brwdfrydig dros ben, heb amser i ddim ond cymeryd ei anadl o
braidd. Nid oedd efe nemawr byth yn tynu ei destun a dywedyd Amen yn yr un
gongl o'r tŷ; oblegyd ar ol cychwyn siwrnai, nid oedd neb byw yn gwybod
yn mha le y buasai yn dybenu, nes ei weled In sefyll, a rhoddi penill allan i
ganu,
"
Yr oedfa hon fe ddechreuodd a'i wyneb tua drws ag oedd yn edrych allan i
feili bychan, yn yr hwn yr oedd haid fawr o wyddau yn gwladychu, a'r bobl yn
sefyll yn dýn rhyngddo ef a'r drws hwnw. Edrychodd yn hyll o'i gwmpas am
ychydig, gan sylwi yn fanwl ar barwydydd y tŷ, a'r cwbl mewn dystawrwydd
dwfn, yn debyg i addoliad y Crynwyr. Yr oedd y bobl hefyd yn synedig oblegyd
golwg ddyeithr y pregethwr, a dystawrwydd y cyfarfod; fel yr oeddynt yn sylwi
i'r fath raddau, a dysgwyl am ryw genad vri i ddyfod allan, nes oedd eu
geneuau yn agoryd gyda'u llygaid. Y mae yn debyg fod y merched wedi addurno y
parwydydd â rhyw chwech neu saith o luniau adar o wahanol rywogaethau, ar ba
rai yr oedd llygaid y gwr o Dyclai yn ddiorphwys. Yn sydyn dyma ef yn codi ei
ddwylaw, a gwaeddi allan yn groch dair gwaith gyda nerth adnewyddol, Yshw,
yshw, yshw.' Gyda hyny nid oedd dim i'w glywed â'r glust gan fonllefau y
gwyddau oddi allan, y rhai a gurent eu hadenydd, ac a ysgrechent mor
echrydus, nes yn agos syfrdanu pawb oedd wedi dyfod i glywed y gair. Gyda
hyny y mae rhyw ddyn corfforol yn neidio ar ei draed, ac yn gwaeddi, Cauwch y
drws, hawyr, yn lle bod y gwyddau yn aflonyddu y cwrdd. Yr oedd y ceiliogwydd
gwyn wedi estyn ei wddf hir y pryd hyn o fewn y drws, a gwaredigaeth ryfeddol
gafodd am ei ben pan y cauwyd ef; yn mhen rhyw gymaint, bid a fyno, adferwyd
llonyddwch eilwaith; gyrwyd yr adar ymaith, ac aeth ein hewythr da rhag ei
flaen. Ond yn fuan deallodd y gwrandawyr mai ar yr adar oedd yn nghrog ar y
pared yr oedd efe yn gwaeddi yshw, yshw, yshw. Ond er gwaeddi, nid oedd
aderyn yn cyffro; pryd y cymerodd gyf leustra i floeddio yn ddiarbed, 'Bobl, bobl,
mynwch grefydd a bywyd ynddi, mynwch grefydd a bywyd.' Ac wele ef yn dechren
ar ei daith ar hyd ac ar draws y tŷ, i ddywedyd wrth bob un wrth fyned
heibio am grefydd â bywyd ynddi, ac yn fynych y byddai a'i ddyrnau wrth
ddanedd y
|
|
|
(delwedd J7690) (tudalen 18)
|
18
gwrandawr wrth siarad â hwy am y pethau hyn. Felly trodd yr oedfa allan yn y
diwedd yn fuddiol ac effeithiol iawn. Bellach y mae yn rhaid i ni ɛdael
ein hen dad o Dyclai, er mor felus ydyw ei hanes, gan obeithio y gwel ein
darllenwyr yn yr ychydig a ddywedwyd, ei gymeriad pregethwraidd ac
areithyddol yn weddol gryno. Yr ydym yn meddwl y dylasem wneyd sylw o'r hen
gyfaill hwn yn fwy na llawer o'r rhai yr ydym yn cyfarfod â hwy ar ein taith,
yn gymaint mai efe yw tad ysbrydol y patriarch o Benhydd. Fel y mae yn
gyffredinol, felly y mae yr awr hon hefyd, cenedlwyd y mab ar ddelw ei dad.
Cawsom yr hanes yn ddiweddar gan frawd sydd yn hen yn awr, am ymddyddan fu
rhyngddo a Siencyn ar y mater hwn, mewn cyfeillach neillduol. Gofynodd y
brawd ieuanc yn ddisymwth iddo, wrth deithio yn nghyd, 'Siencyn Tomos, pa
bryd, neu trwy ba foddion y dechreuasoch chwi feddwl a chwenych bod yn
grefyddol? Mi ddywedaf i ti y gwir, yn union a rhwydd,' ebe yntau. Pan yr
oedd hen wro gynghorwr, nid enwog iawn o ran ei ddoniau, ond hynod effeithiol
ar brydiau, yn dyfod trwy y wlad i bregethu, aethum i, gyda llawer ereill o'm
cyfoedion, i'r cwrdd i wrando, nid gyda golwg ar ddim lles ysbrydol trwy
hyny, ond i gael difyrwch yn benaf, o herwydd ei ddawn dyeithr, a'i lwybr
ysmala. Wedi iddo ddechreu fel arferol, trwy ddarllen a gweddio, dechreuodd
ymadroddi, fel pe buasai yn siarad â ni, ei wrandawyr. Nid wyf yn cofio ei
destun, os oedd testun hefyd ganddo; canys nid wyf yn cyfio iddo enwi un
adnod wrth ei henw a'i rhif. Meddyliais wedi hyny lawer gwaith fod ei araeth
yn dra ysgrythyrol drwyddi oll. Ei amcan y pryd hwnw, yr wyf yn cofio, oedd
ymdrechu deffroi pechadur o'i gwsg pechadurus, a pheri iddo gredu ei fod mewn
perygl enbyd o fod yn uffern dros byth. Yr oedd yn union fel pe buasai yn
siarad yn bersonol â rhyw un yn y gynulleidfa, a adwaenai efe, fel dyn
melldigedig o ddrwgdrwg iawn, allan o'r cyffredin. Agorais inau fy llygaid,
ac edrychais yma ac acw; a chan droi eilwaith fy ngolygon yn ol ar y
pregethwr, canfyddwn ef yn edrych yn daer arnaf, a bwgwth y dyn drwg yn
ofnadwy. Mor wir a'i ddweyd, credais yn benderfynol mai ataf fi yr oedd yn
cyfeirio yn uniongyrchol. Beth bynag, nid hir y gwrandewais cyn gorfod credu
taw fi oedd y dyn drwg, a'r dyn drwg iawn oedd gan y pregethwr, a fy mod yn
wrthddrych y bygythiad ofnadwy. Dylynodd swn y bygythiad fi, nes llanw fy
nghydwybod â
|
|
|
(delwedd J7691) (tudalen 19)
|
19
braw a dychrynfeydd uffern dân; ac yno y gadawodd fy ewythr Iefan Tyclai fi, heb
ddywedyd cymaint a ffarwel i ti, fachgen. Minau a aethum i'm ffordd tua
chartref, ond nid fel cynt; ac nid oedd cartref, na phawb a phob peth a
feddyliwn am danynt yn fy ngwella i, nac yn esmwytho fy ngofid. Yn wir mi
wnes, dros beth amser, lawer cynyg i dawelu fy meddwl, ond methu a wnaethum.'
Y mae yn dechreu ei hanes, fel y gwelir uchod, gyda dywedyd, Yr oedd hen wr o
gynghorwr yn dyfod ar gyhoeddiad trwy y wlad,' &c. Rhyw air offeiriadol
am bregethwr oedd Cynghorwr bach;' ac felly aeth yn deitl arferedig gan bawb
i'r pregethwyr. Yr oedd yn eglur i'w weled, hyd y nod yn yr offeiriaid a
elwid yn efengylaidd, eu bod yn taflu diystyrwch mawr ar bawb nad oedd o'u
hurdd hwy, yn eu dull o siarad â hwynt, ac am danynt. Cyfiawnder ydyw dywedyd
eu bod yn sawru o Babyddiaeth tra y buont yma ar y ddaear, ond yr ydym mewn
barn cariad yn meddwl i'r olchfa ddiweddaf wrth fyned trwy yr Iorddonen eu
puro yn llwyr oddiwrth yr aflendid hwn. Y mae cynghorwr Tyclai, yn ol y
desgrifiad uchod, dipyn yn ddyeithr i lawer o dduwinyddion yr oes hon. Nid
oedd efe yn cyfyngu ei hun at un testun neillduol, ond yn pregethu y Beibl
drwyddo oll agos bob pregeth. Nid oedd efe yn ymflino yn nghylch penau a
rhaniadau, cynffonau a phlethiadau, ond yn gyru yn y blaen yn ei gyfer, trwy
y tew a'r tenau, nes methu a myned yn mhellach, ac yna yn ol pob rheswm,
dybenai y tro hyny, gan ddywedyd 'Amen' ar ba beth bynag a ddywedasid.
Y peth sydd yn coroni y cwbl mewn pregeth yw, bod dynion yn cael eu hachub i
fywyd tragywyddol. Ni a welwn hyn yn cael ei gyflawni yn ngweinidogaeth yr
hen frawd o Dyclai, canys trwyddo ef, fel offeryn, y deffrowyd Siencyu Domos
o'i gwsg ysbrydol, ac yr agorwyd ei lygaid, cyn suddo o hono i dywyllwch
tragywyddol. Wedi yr oedfa hon, y mae yn debyg i Siencyn wneyd llawer cynyg
arni i dawelu cydwybod ddeffroedig, a'i hesmwythau yn ysgafn, heb blygu ger
bron Duw.
Ychydig wedi yr amser hyn, debygid, yr oedd peth a elwir yn daflu disiau mewn
lle cyfagos, o'r enw Troedyrhiw, neu Benrhiw, yn mhlwyf Margam. Byddai y gamp
hon yn arferedig iawn er ys llawer dydd yn y gwledydd yma. Yn hir-nos y gauaf
byddai y teuluoedd yn myned, yn fechgyn ac yn ferched, yn hen wŷr a hen
wragedd wrth eu ffyn, yn
|
|
|
(delwedd J7692) (tudalen 20)
|
20
lluoedd, tua rhyw fan y byddai taflu disiau, a thyna lle y byddent yn tori
cnau ac yfed cwrw hyd y boreu, yn fynych. Ar nos Calangauaf byddai cnau ac
afalau yn gyffredin ar ddisiau, a gwaith yr enillwr fyddai gwerthu yr ysglyfaeth
i'r gwyddfodolion, gan eu cadw hwy yn malu trwy gydol y nos. Rhai sychedig
iawn yw cnau, fel y gwyddoch, yr hyn oedd yn galw um ryw wlybwr yn mron o hyd
i gynorthwyo y felin i falu. Serch noson yn y flwyddyn, yr oedd pawb yn
maddeu tipyn o draul i'r dyben o gael gwledd ar gwrw. Yn ngwres y gwirf, yr
ymddyddan cyffredin a gymerai le oedd yn nghylch ysbrydion, canwyllau cyrff,
a bendith y mamau. Bid a fyno, aeth Siencyn Penhydd tua Phenrhiw, i dreio ei
law ar ergyd o ddisiau un noson, ac i edrych a gai yno esmwythad i'w feddwl
trallodedig. Pa un ai rhagluniaeth neu rywbeth arall y gelwch yr amgylchiad,
trodd y chwareu o blaid ein gwron, ac enillodd y gamp. Cyhoeddwyd trwy y llys
mai efe oedd wedi cario y fuddugoliaeth, a choronwyd ef à bonllefau cymeradwyol.
Dwy wydd oedd yn dygwydd bod ar ddisiau y tro hyn, o ganlyniad trodd y noson
allan yn sychach na llawer un, yn gymaint a bod cryn dipyn o drafferth
wrthynt cyn y gallesid eu bwyta. Gan awydd dangos yr ysgly faeth i'r teulu
gartrtof a phob peth, cychwynodd Siencyn i'w daith tua chanol nos. Cododd y
gwyddau, un dan bob cesail, a ffwrdd ag ef. Yr oedd yr adar yn lled anesmwyth
yn awr ac eilwaith, fel pe byddent yn arwyddo annghymodolrwydd â'u sefyllfa,
gan roi ambell ysgrech yn awr ac yn y man. Nid oedd hyn yn rhyfedd yn y byd,
pan ystyrir eu bod yn haner hurt mewn tywyllwch nosawl, rhwng cwsg a dihun,
wedi eu haflonyddu yn anmhrydlawn; nid ydynt y creaduriaid callaf liw dydd,
yn nghanol eu synwyroldeb. Er hyny ymdrechodd Siencyn fel gwron i gadw
heddwch a dystawrwydd ar bob llaw; ond gwnaed ei eithaf, byddai un yn rhoi
ysgrech wrth un glust iddo, a'r llall fel pe byddai yn cydsynio a'r
afreolaeth wrth y glust arall, nes gwneyd y sefyllfa yn hynod annymunol i
fodoli yn hir rhwng dwy wydd. Eto nid ymollyngodd yn ei ysbryd, eithr
cerddodd yn y blaen trwy y llaca tew, gan ddymuno bob cam i gyrhaedd pen y
daith. Och fl! er y cwbl cynyddodd yr ymdrechfa ar ddeheu ac ar aswy y
gwyddau yn dyfod yn fwy aflonydd, Sienuyn yntau yn gwanychu a digaloni, nes
o'r diwedd iddynt ddechreu ymryddhau ychydig, a chael gwell mantais i guro ar
bob llaw ar ystlysau y bachgen, fel y gallesid meddwl eu bod o ddifrif
|
|
|
(delwedd J7693) (tudalen 21)
|
21
am geryddu ynfydrwydd y llanc. O ryfedd, fe chwysodd yn yr ymdrechta, a daeth
ofn a braw arno; tybiai ei fod yn gweled goleuni dysglaer yn tywynu o'i amgylch,
daeth gol ygfeydd uffern a'r farn ddiweddaf o flach ei feddwl, a thybiodd ei
fod yn marw! Y pryd hyn gollyngodd y gwyddau yn syberthol i'r llawr, a
syrthiodd ar ei liniau, gan waeddi am drugaredd. Y gwyddau, hwythau, gan
gymeryd aden i'w tomen enedigol, yn ysgrechian yn yr awyr mewn mwynhad o
gyflawn ryddid, a barasant gynhwrf trwy yr holl ar- . dal, a braw disymwth a
syrthiodd ar bawb, gan gredu mai ysgrechfeydd annaearol oedd yn cerdded trwy
yr awyrgylch, yn rhagarwyddo haint dychrynllyd neu ryfeloedd mawrion yn y
tir. Ond yn Penrhiw y bu ryfeddaf o bob man, pangyrhaeddodd y ddwy wydd
adref. Yr oedd y fath guro adenydd ac ysgrechain yn mhyllfa y gwyddau, fel pe
byddent yn cydlawenhau, oblegyd eu cyfeillesau hyn a fuont golledig ac a
gaed, yn farw mewn ystyriaeth, ac a ddaethant yn fyw drachefn. Tylwyth y
tŷ, wrth glywed y swn annghyfrifol hyn, a feddyliasant, (gyda llawer mwy
o resymoldeb na llawer peth,) glywed o honynt ysbryd. O dan yr amgylchiadau
hyn y buout trwy y nos, a'u cwsg wedi cilio oddi wrthynt. Boreu dranoeth nid
oedd ôl dim o gylch y tŷ, pob peth yn ei le, ond yn unig fod y ddwy wydd
wedi dychwelyd adref yn ddyogel. Wel, hawyr da, wele ni wedi dylyn y gwyddau,
a gadael Siencyn ar ei liniau yn gweddio am drugaredd. Sut y bu wedi'n? Nid ydym
yn gwybod pa faint o amser y bu yno mewn ymdrech â Duw, ond ymddengys iddo
gyrhaedd gartref rywbryd cyn y boreu, mewn dychrynfeydd aruthrol. Rhyw awr
enbyd o ddychrynedig oedd yr ymdrechfa a'r gwyddau i Siencyn a'r gymydogaeth
drwyddi oll; tybiasant yn ddilai fod diwedd y byd wedi dod. Y mae rhyw
brydydd a ganodd ar yr achlysur ofnadwy, yn dywedyd i satan gyfranogi i fesur
mawn iawn yn y gwefriad hyn hefyd. Eb efe:-
"Rwy'n credu'n ddilai i satan gael dychryn,
A braw wrth ei weled yn cwyinpo ar ei ddeulin;
Aeth gweddi i'r lan, er maint oedd yn rhwystro;
Daeth ateb i lawr fod Iesu yn gwrando;
Gan ddywedyd, Fy mrawd, bydd ffyddlon hyd angeu,
Cai goron o aur, a thelyn lawn danau.'
Pa un a gafodd satan ryw lawer o fraw y pryd hwnw, fel y sylwa y prydydd, nis
gwyddor, ond un peth a wyddom, iddo gael llawer golchfa ddihafalch gan
Siencyn wedi hyny. Yr oedd satan yn ei chael hi ganddo pwy bynag yn y byd
|
|
|
(delwedd J7694) (tudalen 22)
|
22
a fuasai yr ei haeddu hi; os byddai bai wedi ei gyflawni yn rhyw le, yr oedd
ffon Siencyn i fynu yn y fynyd uwch ben satan, fel awdwr holl feiau ein byd
bach ni; fel hyn byddai llawer brawd a chwaer yn dianc yn bur ddigerydd, wrth
gytuno yn unfrydol i luchio y bai i wyneb y diafol. Wedi y noson ryfedd hyn,
ymddengys wrth eiriau Siencyn ei hun iddo gymeryd llwybrau ereill am ychydig
i esmwythau aflonyddwch ei feddwl. Addunedais,' meddai, i beidio a bod fel
cynt, ac ymdrechais hyd y gallaswn i wneyd y dyn drwg iawn yn dda, ond gwnawn
a fynwn nid oedd yn bosibl i wneyd dim da o hono; ond cyn hir, er mai hir
iawn y gwelais yr amser, wedi gwrando swn pregeth ddamniol Tefan Tyclai,
ysgrech yr hon oedd yn rhuo yn ofnadwy yn fy nghydwybod, y daeth yr enwog was
hwnw i Grist, Mr. David Morris, (tad y diweddar Barch. Ebenezer Morris,) trwy
y wlad i bregethu: minau yn nghyda llawer ereill, a aethum idd ei wrando, a
than arweiniad goleu a thywalltiad yr Ysbryd Glan, fe ddangoswyd i mi y dyn
drwg iawn, fel y galwyd fi yn gywir gan Iefan Tyclai, a Duw a'i gyfraith a
minau yn elynion i'w gilydd, Yn y cyfwng hwn, pan oedd pob gobaith am fod yn
gadwedig wedi ei ddwyn yn llwyr oddi wrthyf, wele, yn y weinidogaeth ddrws
gobaith yn ymagor yn nyffryn y lladdfa, a gwelais fod genyf hawl i gredu a
gobeithio yn Iesu Grist am fy mywyd, er fy ngwaethaf fy hun a'r cythraul yn
nghyd. Yr ydwyf wedi fy achub, er mawl gogoniant ei ras ef. Diolch iddo ei
fod heb dewi byth.'
Yr oedd yn ymddangos fel pe buasai y bendro wedi ei gymeryd; ymddangosai yn
rhyfeddol hurt. Brydiau ereill byddai am dori y cadwynau, a diane o olwg
dynion. Yn yr amser hwn yr oedd cryn lawer o farnau yn ei gylch; ac yn
nghylch pa beth a ddeuai o hono. Byddai rhai yn tybied mai effaith gwres yr
haf yn mhoethder y cynauaf diweddar oedd wedi effeithio arno; ereill yn
meddwl mai anhwyldeb y cylla ydoedd, ac yn codi yn ddot i'r ymerydd; ac
ereill yn golygu mai rhyw arwyddion dechreuol o'r typhus fever, yr hon oedd
yn lladd aml un yn y wlad ydoedd. Yn gymaint a bod barnau yn amrywio cymaint
yn nghylch y dolur, yr oeddent yn amrywio hefyd, wrth bob rheswm, lawn
cymaint yn nghylch y feddyginiaeth. Yr oedd rhai am ei waedu, ereill am roi
strait jacket am dano; a'r cyfryw oedd yn lled dybio mai rhyw beth am grefydd
oedd arno, oeddynt am ei daflu i eigion y môr. Bid a fyno, nid oedd
|
|
|
(delwedd J7695) (tudalen 23)
|
23
yr un feddyginiaeth i'r llanc. Dolur oedd hwn, nid yn y corff, ond yn yr ysbryd;
dolur nad oedd ond ychydig yn y wlad y pryd hwnw yn deall ei natur.
Yr oedd ambell offeiriad da yn dechreu ymddangos yr amser hwn, gan bregethu
yr efengyl yn loyw ac awdurdodol, y rhai wedi hyny, a orfuant ymadael â'r
eglwysi gwladol, a myned i'r prif-ffyrdd a'r caeau.' Un o'r cyfryw oedd y
diweddar Barch. Mr. Davies, Castellnedd; yr hwn oedd ŵr duwiol, gwresog,
a dawnus iawn yn ei ddydd, Ymadawodd ef â'r Eglwys Wladol, a phregethodd yn
mhlith y Methodistiaid hyd ddiwedd ei oes. Tra yr oedd Siencyn yn y dwymyn
ddychrynedig a nodwyd, efe a aeth un dydd Sul i Eglwys Mihangel i wrando Mr.
Davies. Hwn oedd y boreu Sabbath bythgofiadwy y dygwyd ef, trwy weinidogaeth
y gwr parchedig uchod, i ryfeddol oleuni yr efengyl. Tywynodd arno wawrddydd
annherfynol, hanl yr hwn sydd yn llewyrchu yn danbaid ar ei ben tra yr ydym
ni yn ysgrifenu y llinellau hyn, a lle ni bydd nos byth i roddi terfyn ar ei
orwychder. Aeth blynyddau heibio yn chwyrn, heb fod rhyw swn mawr am dano
wedi hyn, ac eto yr oedd rhyw hynodrwydd ynddo yn wahanol i ddynion ereill.
Ei weddiau cyn hir a ddaethant yn destun siarad y gymydogaeth, yn nghyda'r
manau yr ydoedd yn arferol o gyrchu iddynt i weddio o gylch y tŷ a'r
tyddyn, hwnt ac yma. Yr oedd chwarel y tu cefn i'r tŷ, ac y mae yno eto
o ran hyny, yr hon sydd wedi ei thragywyddol enwogi fel ystafell neillduedig
Shanco i ymgyfathrachu â Duw. Clywid ef ganwaith yn y maenglawdd hwn yn
ymdrech lawlaw â'i Arglwydd am ddiangfa i'w enaid, yn nghydag yn trin llawer
o faterion ereill rhyngddo â'i Arglwydd. Pan y byddai rhyw beth pwysig ar ei
feddwl, collid ef yn sydyn o blith y teulu, ac i'r chwarel yr elai. Cyn hir,
pan y collid ef, yr oedd pawb wedi dyfod i ddeall yn mha le y ceid ef. O
dipyn i beth fel hyn, daeth Shanco a'r chwarel yn ddiareb yn mhlith y teulu.
Yr oedd Iesu a gardd Gethsemane yn lled gyfarwydd a'u gilydd. Byddai y
dysgyblion, ar ol ei golli, yn barnu yn deg am y tir y ceid ef arno, 'canys
mynych y cyrchasai efe vno.' Dyfrhaoedd hi â'i ddagrau lawer tro, ac anadlodd
yn ei hawyr bereiddiach sawr na holl flodau y byd llysieuol. Yr oedd rhyw
beth yn debyg yn ngweddiau Cyfryngwr y Testament Newydd yn yr ardd a gweddiau
hen bechadur Penhydd yn y chwarel. Yr oedd y ddau yn hynod syml a thaer.
Gweddiau heb eu bath oedd rhai yr ardd. 'Efe
|
|
|
(delwedd J7696) (tudalen 24)
|
24
mewn ymdrech meddwl a weddiodd yn ddyfalach.' Rhai go debyg iddynt oedd rhai
y chwarel. Nid ydym yn amheu nad oedd rhai y chwarel lawn cystal, bid a fyno,
a rhai goreu y pwlpud.
Adroddir am dro go ryfedd yn nghylch gweddi y chwarel yn tori clun ŷch.
Cynelir ffair Llandaf yn wastadol ar ddydd Llun, yr hyn sydd yn gwneyd yn dra
annghyfleus i'r rhai sydd yn mhell, ac yn achosi llawer o gychwyn ar y Sabbath.
Yn y sefyllfa hon yr oedd brodyr Siencyn un tro, a phenderfynasant gychwyn
â'r ychain ar ddydd Sul. Bu cryn ddadl yn nghylch hyn rhyngddo ef a'i frodyr;
yr oedd yn dyweyd y gallasent gychwyn ar ddydd Sadwrn, a gorphwys dros y
Sabbath; ac yr oedd hyny yn eu golwg hwythau yn draul fawr; ac i arbed hyny
mynent gychwyn ar y Sabbath.— 'Credwch fi,' ebe yntau, y bydd mwy o dranl
arnoch am dori y Sabbath a phechu yn erbyn Duw.' Ond beth bynag, i bant yr
aeth Thomas ei frawd â'r ychain tua'r ffair, ac i bant yr aeth yntau tua'r
chwarel, a'i galon yn llawn sel dros Dduw a'i ddydd. Y mae rhai yn dyweyd ei
fod yn gweddio yno am i Dduw dori clun un o'r ychain, a'u hatal y waith hon
rhag myned. Pa fodd bynag, wrth y Rhyd, heb fod yn mhell iawn oddiwrth y
tŷ, dyma un o'r ychain yn cwympo, ac yn tori ci glun yn ddau getyn. Mor
gynted ag y gwelodd Thomas yr anffawd, crochlefodd yn y fan, ' Y mae Sianco
yn y chwarel yn gweddio.' Rhedodd adref, a chafodd fod y weddi yn y chwarel
a'r ŷch yn tori ei glyn ar yr un pryd.
a
Wedi bod fel hyn yn cydfyw a'i frodyr am beth amser, y peth rhyfeddaf erioed
swynwyd ei ysbryd haiarnaidd gan degwch merch. Yr oedd pawb oedd yn
gydnabyddus ag cf, pan yn ystyried ei feddwl annibynol, ei ffordd swta a
diserch, yn synu yn aruthrol pa sut y meddyliodd am forwyn, a hefyd beth a
allasai fod ynddo ef a dueddai forwyn i feddwl am dano yntau. Yr oedd efe yn
mhell, debygem, o fod y peth hwnw a elwirthe ladies man.' Ond dyna; beth
wyddom ni am faterion fel hyn? Onid yw yn ddigon i bob un edrych at ei
amgylchiad ei hun, a phenderfynu gyda y ddiareb Gymreig, Nid oes yr un barcud
heb farcutan?'Wedi i Siencyn gael ei daro â'r haint hon, nid oedd na byw na
bywyd iddo nes rhoddi terfyn disymwth i weddwdod mewn glân briodas.' Merch un
John Lewis, o blwyf Mihangel, oedd y ddynes a ddarfu fyned gyda Siencyn i'r
byd priodasol. Aethant į Aberafon am dipyn, y lle hefyd y gan-
|
|
|
(delwedd J7697) (tudalen 25)
|
25
wyd mab iddynt, Mehefin 27ain, 1786, a galwyd ei enw Thomas; y mae efe yn fyw
yn awr, ac yn trigianu o fewn chwech neu wyth milltir i'w gymydogaeth
enedigol, mewn lle a elwir Sker, ar lan y môr, ac yn amaethwr go fawr. Yr
oedd ei dad yn bur hyderus y caffai y bachgen hwn ras; a byddai yn arfer
dyweyd y gwyddai efe yn ddigon da yr achubid ef. Fe ddichon ci fod wedi cael
rhwyddineb a hwylusdod mawr wrth roddi ei achos i Dduw lawer gwaith, ac yn
penderfynu oddiwrth hyny fod Duw yn rhoddi drws agored iddo, ac yn gwrandaw
ei weddiau ar ran y llanc. Tebygem, er hyny, ei fod yn arfer gormod o eonder
wrth sicrhau y peth oddiwrth y cyfryw deimladau. Yr oedd yn ddyledswydd arno
ef i weddio dros ci blentyn, a gallasai Duw roi cysur a gwyneb siriol iddo
fel dyn yn cyflawni ei ddyledswydd yn onest, pa un a oedd yn meddwl achub y
bachgen ai peidio. Yr arwydd egluraf o wrandawiad y gweddiau hyny, a fuasai
gweled y bachgen yn gweddio drosto ei hun, ac yn byw yn dduwiol. O Aberafon,
lle yr aeth wedi priodi, symudodd i dyddyn bychan a clwid y Goetre, yn mhlwyf
Margam, gerllaw hen gapel (neu ysgubor yn hytrach) y Dyffryn, lle y treuliodd
weddill ei oes.
Wrth drin y byd, teithio, ac ymgymysgu yn mhob sut â dynion, yr oedd yn dyfod
yn fwy adnabyddus beunydd, a'i hynodrwydd yn myned yn destun siarad
cyffredinol; canys nid hynod mewn rhyw un peth ydoedd, ond yn mhob peth.
Gallasech feddwl ei fod yn wallgof; yn cerdded mor ddihafalch a brysiog, fel
pe bai wedi ei anos gan gŵn trwy y llaid a'r llaca; ei lygaid yn fflamio
yn ei ben, ac yn edrych fel dyn am ffoi o olwg preswylyddion y ddaear. Yr
oedd ar gefn ceffyl yn debyg ryfeddol i'r dychymyg sydd genym am berpetual
motion-mewn gweithrediad o hyd; pwt o chwip yn ei law, yn curo beunydd a
diorphwys, a'i goesau mawrion a gewynaidd yn yspardyno yn ddibaid o'r pryd y
cychwynai. hyd nes y disgynai. Yr oedd ei holl agweddiad yn awgrymu fod rhyw
frys anrhaethol arno i fod ar ben ei daith gyda ei fod yn cychwyn. Yr oedd yn
eglur i bawb, bid a fyno, fod arno lawer mwy o frys na'r ceffyl, a bod yr
enaid rhesymol oedd yn marchogaeth yn llawer mwy cyflym yn ei symudiadau na
greddf yr anifail oedd dan y baich a'r fflangellau. Yr un fath fyddai gyda
rhyw orchwyl o waith; yr oedd yn weithiwr digyffelyb; gwnai gymaint a dau
weddol. Gweithiodd yn galed gyda ei dyddyn dros ei oes, a chasglodd gryn
lawer o gyfoeth. Byddai yn codi oriau o flaen pawb yn y
|
|
|
(delwedd J7698) (tudalen 26)
|
26
tŷ, ac yn myned i'r ysgubor i ddyrnu; ac yno dyrnai yn ddiarbed, fel pe
buasai yn ddig wrth yr yd, y gwellt, a'r cwbl, nes y byddai yn chwys a tharth
i gyd. Wedi hyny, efe a elai at y 'Beibl cam,' fel ei gelwid, yr hwn oedd
wedi camu wrth ei gadw ar ryw bethau ochrog yn yr ysgubor, a darllenai dipyn
ar hwnw, ac efallai gweddio; a chyn y diwedd mewn brwydr boeth â rhai o brif
ellyllon y tywyllwch; a chwi a glywsech swn y rhyfel weithiau yn mhell. Fel
hyn y byddai yn dyrnu cetyn, darllen eilwaith getyn, gweddio efallai wedi
hyny, nes y delai yn bryd i'r tylwyth godi; yna âi i'r tŷ, galwai ar
bawb, pwtiai y tân yn dda, a gorweddai ar ei hyd ar yr aelwyd o'i flaen am
ryw gymaint eilwaith. Fel hyn, meddai efe, yr ydoedd yn prynu yr amser.
Nid ydym yn gwybod yn iawn pa bryd y dechreuodd bregethu: oblegyd yn y
dyddiau hyny nid oeddynt yn ymlynedig wrth un ffurf benodol, ond yn dechreu
'dyweyd tipyn' o flaen hwn a hwn, wrth fyned gydag ef y Sabbath o gartref.
Byddai rhai yn myned ar daith gyda rhyw bregethwr, i ddechreu yr oedfaon, ac
i fod yn wasanaethgar yn mhob peth y byddai angen; y pryd y byddent yn
cymeryd y cyfleusdra i esbonio y benod, rhoi gair o gynghor, ac yn y blaen o
dipyn i beth i gymeryd testun a phregethu, ac yn dyfod yn bregethwr fel yna,
yn hollol ddifwriad a damweiniol. Llawer un yn y modd hyn, wedi cychwyn i'r
daith yn ddyn anghyoedd, a ddychwelai yn bregethwr newydd o'r mint, er mawr
syndod i'w hen gymydogion. Yr oedd yn rhywbeth fel creadigaeth-rhyw godiad
buan i fodolaeth. Byddai rhai wedi dechreu fel hyn, yn gadael y pregethu am
dymhor eilwaith, ac yn cychwyn ati wedi'n yn wyneb rhyw gynhyrfiad newydd,
fel y mae yn anmhosibl dywedyd y dydd o'r mis y dechreuodd llawer o honynt ar
y gorchwyl o bregethu. Ond eglur yw hyn, aeth Siencyn yn bregethwr rywbryd:
canys y mae pobl yn fyw ac yn iach yn awr a'i clywsant ef ddegau o weithiau.
Nid oes nemawr o'i ddywediadau wrth bregethu ar gael yn bresenol; ei
ddywediadau personol a chyfrinachol ydynt amlaf. Yn fynych yr ydym wedi
clywed yr hen bobl yn desgrifio ei ddull a'i ymddangosiad yn y pwlpud, yn
enwedig ar ol iddo dwymno ychydig yn y gwaith. Coat o frethyn llwyd ydoedd ei
wisg haf a gauaf, oerni a gwres; a siaced wlanen, neu fwmbast a gwlan o waith
y tŷ; het gwerth haner coron ag ymyl anferthol o fawr iddi, rywbeth yn
debyg i'r hen badellau pres a allasech eu gweled er ys llawer dydd at hidlo
llaeth idd-
|
|
|
(delwedd J7699) (tudalen 27)
|
27
ynt. Tynai ei het, bid siwr, yn mhen cetyn wedi myned i'r pwlpud, nid yn union;
canys yr oedd yn dyosg ei goat fawr yn gyntaf. Yn nghof yr ychydig bobl ag
sydd yn awr yn weddill angeu, a'i gwelsant ac a'i clywsant, yr ydoedd yn hen,
ei wallt yn wyn, ac yn lled hir, ac yn cwympo ar ei ysgwyddau, yn hynod
dderwyddol ei ymddangosiad. Y mae ceirniaid yn meddwl na fu dafn erioed o
olew gwallt ar ei ben ef, ond ei fod yn Nazaread o groth ei fam oddiwrth
hyny. Ni byddai fawr o werthu ar Macassar Oil pe byddai pawb fel yr hen dad
Siencyn; ac yn wir yr ydym yn coelio y byddai un crib ddadrys yn ddigon yn
mhob plwyf rhwng yr holl blwyfolion, pa faint bynag allai ei boblogaeth fod.
Tynu ei fysedd trwy ei wallt y byddai efe, a hyny yn gyff redin yn groes i'r
grân, nes y byddai fel gwrych mochyn, yn y gwrthwyneb i gyd. Yn ngwres y
foment, wrth bregethu, byddai ei ddwylaw yn ei wallt yn o aml, y mae yn
debygol heb yn wybod iddo, yn ei godi yn grych i'r lan, a hwnw yn fflwchan
mor echrydus nes yr oedd rhyw olwg bron annaearol arno. Buasai llawer un yn
barod i benderfynu mai y gwr drwg ei hunan ydoedd, oni bai fod ei ben yn wyn.
Wrth yr hanes sydd genym am ei bregethau, gallwn gasglu eu bod yn
gymhariaethol, a llawer o'r cymhariaethau hyny yn bur gartrefol. Dichon fod
rhai yn ddigon ysgafn a chelleirus wrth eu gwrandaw, ond yr oedd ef yn eithaf
difrif wrth eu dweyd, a bod yn siwr i chwi. Yr oedd clwyd, ac y mae eto, ar
gefn y mynydd rhwng Penhydd a Llangynwyd. Clwyd y Brynmawr y gelwir hi, yn yr hon y rhoed y bach uchaf i lawr,
a'r llall tuag i fynu, i atal dynion drygionus i'w thaflu oddiar y bachau. Wrth
bregethu ar y cyfamod gras, dywedodd fod y cyfamod hwnw 'yr un fath a chlwyd
y Brynmawr, un bach i fynu a'r llall i lawr, fel nas gallasai satan na neb
arall ei daflu byth o'i le. Y mae un bach i fynu gyda Duw, a'r llall i lawr
am ei bobl; fe saif sail Duw; yr Arglwydd a edwyn y rhai sydd eiddo ef.' Wrth
bregethu ar y testun, Rhaid i ni ddal yn well ar y pethau a glywsom,' yr oedd
yn anog y gwrandawyr i ddal y testun bid a fyno-fod hwnw yn sicr o fod yn
bur, beth bynag am y llall. 'Fe allai fod yma lawer,' ef efe, 'yn cwyno fod
eu cof yn bur ddrwg, nas gallant gofio nemawr mewn modd yn y byd. Taw a dy
gelwydd; nid ar dy gof mae'r bai; tydi sydd yn ei lanw a phethau ereill;
pethau drwg, bydol, brwnt, fel nad oes dim lle i bethau da. Mi warantaf dy
fod
|
|
|
(delwedd J7700) (tudalen 28)
|
28
yn cofio yn burion am beth y gwerthaist yr hen gaseg wen yn ffair Llandaf, er
ys tair neu bedair blynedd yn ol; chwech neu saith bunt, onide? Ië, yn siwr;
'dyw hyny ddim wedi myned allan o'th gof eto. Yr wyt yn cofio pob peth ond
efengyl Dygwyddodd fod yn yr oedfa hono hen ŵr ag oedd yn ateb i'r
desgrifiad uchod, yn gymaint a'i fod wedi gwerthu caseg wen tua'r amser, ac
yn agos i'r pris dywededig, yn ffair Llandaf. Ar y twyn o flaen hen gapel
Dinaspowys, wedi dyfod allan o'r cwrdd, wele yr hen ŵr yn dechreu rhoi
tafod enbydus i rai o'r crefyddwyr am ddyweyd wrth y pregethwr am dano ef a'r
gaseg, gan nad oedd neb ond hwn a hwn i ddweyd; ac mai hwy oedd y diawliaid
penaf am glecs a chelwydd ag oedd yn rhodio y ddaear. Meddyliwyd mai y peth
goreu oedd ffoi gyntaf gallesid oddiwrth effeithiau anffodus y bregeth hon, a
gadael ar hen frawd i ofal rhagluniaeth ddwyfol. Wrth bregethu ar
ostyngeiddrwydd, dywedai fod y gras hwn yn cynyddu fel cynffon buwch, tuag i
lawr o hyd. 'A wyt ti yn dy adnabod dy hun?' eb efe, ryw dro ar ei bregeth.
Wel yn wir wn i ddim pa sut yr ydwyf i ddeall. Mi ddywedaf wrthyt; os na
welaist dy hun cyn ddued a'r diawl, welaist ti ddim o dy hunan eto.'
Ni a welwn oddiwrth yr engreifftiau hyn a'r cyffelyb, ei fod ef yn hollol
ddieuog o fod yn dynwared Arglwydd Chesterfield mewn dim; a phwy bynag a
ddywedo hyny, y mae yn sicr o fod yn dra chamsyniol. Nid oedd y
gairboneddigeiddrwydd wedi cyrhaedd Penhydd a'r Goetre yn y dyddiau hyny;
clywsom ei fod wedi dyfod hyd Abertawy ychydig cyn ymadawiad Siencyn â'r byd.
Nid oedd y Cymry yn addfed i'r fath bethau ychwaith; y mae Duw yn cymhwyso
dynion at yr oes y maent yn byw ynddi; ac ni thâl dynion un oes lawer at y
llall ychwaith, Adroddir am offeiriad yn pregethu yn Llundain, yr hwn oedd yn
rhy foneddigaidd i ddyweyd y gair uffern yn nghlyw pobl mor barchus ag oedd
yn ei wrandaw. Wrth son am bechod, dywedodd ei fod yn arwain i'r man ag yr
oedd boneddig eiddrwydd yn gwahardd iddo enwi y lle. Yr ydym yn coelio yn
ddilys nad oedd yr un berthynas rhwng hwn a'r hen Benhydd. Wrth edrych ar
ddull llawer o'r tadau, y maent yn ymddangos i ni yn lled ryfedd; ac eto y
mae yn rhaid cyfaddef fod Duw yn eu harddel a'u hamddiffyn yn
annghyffredinol. Oni buasai hyny, dirmygasid hwynt fel y ffyliaid penaf yn
fyw. Dyma oedd yn eu prydferthu, ac yn tori
|
|
|
(delwedd J7701) (tudalen 29)
|
29
eu ffordd yn y blaen, gan roddi taw ar elynion crefydd, a chreu arswyd ar y
dynion caletaf yn eu gwydd.
Yr oedd pregethau y patriarch o Benhydd, meddai hen bobl y Dyffryn, yn cael
eu cyfansoddi gan mwyaf rhwng yr odyn galch a hen gapel y Dyffryn; rhywbeth
rhagor nag ergyd careg. Fel hyn yr oeddent yn dwymn o'r tân heb gael amser i
oeri unwaith. Barna rhai o'r hen breswylyddion yn awr am y dyn nad yw yn cael
ei bregeth o gylch y mesuriaeth hyn i'r pwlpud, ei fod heb ei alw oddi uchod.
Galwant ein hewythr Siencyn yn dyst ar y mater yn y fynyd; a chan gauad eu
dyrnau, a siglo eu penau mewn eiddigedd santaidd, penderfynant yr achos drwy
ei daflu i'r llys hynafiaethol ag oedd mewn grym pan eu ganwyd hwy.Gyda phob
parch i farnu yr hen dadau y dymunem ddyweyd, fod yr amser yn cyfnewid yn
chwyrn, a llawer o bethau newydd yn dyfod i'r golwg gyda hyny, fel y mae yn
eglurach beunydd na ddylid bytholi unrhyw ddull na threfn nad ydyw o
ysbrydoliaeth ddwyfol. Yr oedd Siencyn yn oracl ei oes yn mron; ond pe buasai
yn byw hyd yn awr, y mae yn gwestiwn genym na fuasai wedi gorfucheddu ei
ddefnyddioldeb. Y mae pob peth y bywyd hwn yn symud yn fuan, i roddi lle i
rywbeth mwy perffaith, nes y bydd perffeithrwydd o'r diwedd wedi llyncu y
cwbl i fynu i dragywyddol sefydlogrwydd. Yr ydym yn gweled o hyd fod Duw yn
hynod ddoeth, wrth newid preswylwyr y byd mor aml; oni bai hyny byddem ar draws
ein gilydd yn mhob heol o hyd. Y mae yr hen a'r ieuanc yn methu cytuno; ac
oni bai gras ataliol, fel ei gelwir, yr ydym bron yn meddwl yr elai yn frwydr
boeth,
Yn awr, ni adawn y pregethu, ac a ddeuwn at brif bethau y patriarch, sef ei
ddywediadau cyfrinachol a chymdeithasol. Mae yn gofys genym glywed hen
bregethwyr a fuont yn cydoesi gryn lawer ag ef, yn adrodd am gymdeithasau
rhyfeddol ag oeddynt yn y Dyffryn yn yr amseroedd hyny. Yr oedd Siencyn,
meddant, Daniel o'r Constant, Wil y gwehydd, a Richard James, yn nghydag
amryw ereill, yn cwrdd gyda eu gilydd yn wastad. Dechreuai un o honynt adrodd
rhywbeth, fe allai ei deimladau y diwrnod hwnw, neu sylw ar ryw ran o'r
Beibl; cymerai y esaf ato y sylw, ac yn y blaen, o un i'r llall yn ddiorphwys
fel tân gwyllt yn ffaglu mewn gwellt. Y mae yn gofus genym glywed yr hen
weinidog parchus, Mr. Richard James, wedi iddo heneiddio a methu gyda yr
achos, yn adrodd dan wylo, fel gwlaw y cyn-
"
|
|
|
(delwedd J7702) (tudalen 30)
|
30
auaf, yn rhyw ddafnau breision a ffrwythlawn ryfeddol, am hen societies y
Dyffryn, yn amser y gwroniaid a enwyd uchod. Yr oedd yn union,' eb efe, fel
pe taflesid pêl i dô, a'r hen fechgyn yn dechreu twymno, a chwareu drwy eu
gil ydd gyda chyflymdra bachgenaidd, heb neb yn blino.
Wedi iddi gael to unwaith, nid oedd yn cael amser i syrthio i'r llawr; yr
oedd un neu y llall yn ei gafael hi o hyd. Byddai Wil y gwehydd yn taflu pêl
i dô yn lled fynych, a Siencyn, a'i wallt fflwch a'i lygaid eryraidd, yn codi
ac yn ei tharo yn ol gyda grymusder mawr; gyda hyny byddai yn llaw Daniel o'r
Constant, yr hwn a'i gwasanaethai i bwrpas; felly, o un i un, y chwareuent,
weithiau hyd haner nos; a'r benywod, er nad oeddynt yn dyweyd dim yno, yn
curo eu dwylaw yn nghyd, ac yn dybenu mewn bonllefau o fawl.' Fel hyn yr oedd
yr hen bobl yn tynu eu cymhariaethau oddiwrth yr hen gampau yr oeddynt wedi
eu harferyd yn eu hieuenctyd, a'r rhai yr oedd pawb yn adnabyddus o honynt.
Yn hyn yr oeddynt yn enwog ac yn ganmoladwy, canys felly y llefarwyd yr
Ysgrythyrau, gan eu cymhwyso yn brydferth a syml at ddealltwriaeth y gwaelaf
ei amgyffredion, fel na raid i neb fod yn golledig o eisiau ei ddeall.
Yr oedd rhyw bregethwr wedi dyweyd yn ddiweddar fod yr iachawdwriaeth yn
debyg i'r solar system, ac yr oedd Modryb Sian o'r Tyhen mewn gofid mawr, yn
methu gwybod beth oedd y system hono. Yr oedd yn gwybod tipyn am
iachawdwriaeth; ond am yr un hwnw nis gwyddai hi ddim. Aeth at William o'r
Felin, dyn go-gall yn nghyfrif y Cwm, i ymholi ychwaneg o barth y pwnc.
Cauodd William ei lygaid, rhwbiodd ei ddwylaw, a gwnaeth wyneb echrydus o
gewcog; ond wedi y cwbl, daeth allan o'i ddwfn fyfyrdod gan gyffesu fod y
systemau hyny y tu hwnt i'w amgyffredion ef yn rhyw le. Fel hyn cuddio yr
iachawdwriaeth a wnawd, yn lle ei hegluro, a pheri llawer o drafferth i'r
boblach yn ddiachos. Pe buasai y duwinydd dyfnddysg yn dyweyd ei bod yn debyg
i rôd y felin, a'r dwfr oedd yn ei throi, yn nghyda chant o bethau ereill ar
hyd y llawr yma, buasai William ar lan y dwfr, mor gryfed a Samson, a Sian yn
ei bedgown coch yn deall cystal a neb. Yn wir, yn hyn, bid a fyno, yr oedd yr
hen dadau yn drech na'r modern preachers o'r haner. O brysur, yr oedd set o
bobl go ryfedd, fel dynion, ac fel dynion duwiol, i gael y pryd hyny yn y
Dyffryn. Rhaid yw cyffesu fod llawer o gnawd a ffolineb yn nglŷn â'r hen
bobl dda: nid efengyl i gyd oeddynt hwy-
|
|
|
(delwedd J7703) (tudalen 31)
|
31
thau ychwaith. Y mae tuedd mewn llawer i son am eu disynwyroldeb fel
hynodrwydd crefyddol ac am y pethau beius oedd ynddynt fel eu
duwiolfrydigrwydd mwyaf. Yr ydym yr. tueddu i wneyd goddefiadau mawrion am
anfanteision y personau, a nodweddiad yr amserau yr oeddynt yn byw ynddynt,
eto yr ydym yn rhwym o geisio gwahaniaethu rhwng cnawd ac ysbryd yn y cwbl.
Byddai llawer o bethau a ganmolid y pryd hwnw yn warthruddedig yn awr; a phe
dywedid llawer o'r pethau wrth ddynion yn bresenol, a ddywedwyd y pryd hwnw,
cyfrifid hyny, i'r dywedwr, yn berffaith addasrwydd i fedlam. Ond y mae amser
i bob peth, a phob peth yn brydferth yn ei amser.' Bu amser yn Nghymru pan
nad oedd pregethu yn fawr beth, oni allai y pregethwr ganu y bregeth o'r
dechreu i'r diwedd. Byddai rhai yn methu dechreu canu y pryd hyny cyn tua
chanol y ddarlith, o ganlyniad ni chai y rhan gyntaf ond ychydig o
wrandawiad; eithr pan ddeuai y pregethwr yn agos i swn y llythyren G, yr oedd
yr holl glustiau yn agored i wrando y beroriaeth. Eithr erbyn heddyw nid yw
hyny fawr beth gan y bobl: canys nid oes rhyw lawer, ar a wyddom ni, yn
chantio y gwasanaeth yn Nghymrn yn awr; y mae yr arferiad yn myned yn gyflym
i annghymeradwyaeth.
Rhaid dyweyd fod yr oes yr oedd y Patriarch o Benhydd yn byw, yn hynod
anniwylliedig, ac yn wir nid oedd y Patriarch ei hun fawr gwell; am hyny yr
oeddynt yn taro eu gilydd yn hyfryd. Yn
ddiamheu genym bu yn hynod yn ei ddydd, ac o les annrhaethol i
grefydd, yr hyn sydd yn eglur hyd y dydd hwn.
Yr oedd bachgen ieuanc yn dyfod i'r eglwys y tro cyntaf, wrth yr hwn y
dywedodd Siencyn, 'Fy machgen i, myn Grist i dy galon; yr un man ei fod yn dy
boced ag yn dy ben.' Merch ieuanc yn y Pil oedd yn dyfod i mewn pan oedd ef
yn dygwydd bod yn bresenol. Dywedodd William Thomas wrtho mai merth Siencyn y
tiler ydoedd. 'Ho,' ebe yntau, merch Siencyn: yr wy'n 'nabod dy dad y merch
fach i, yn burion; y mae ef wedi treio pob crefyddau sydd yn ein gwlad ni
yma, ac yn ffaelu yn mhob man. Tyred yn mlaen, y merch fach i, a gwrandaw fi
yn dyweyd wrthyt, Cais well crefydd na chrefydd dy dad, onide byddi gan y
diawl un o'r diwrnodau nesaf yma.' Wrth un dyn dywedodd, 'Yr wyt ti fel yr
yspwng (sponge) yn cymeryd y cwbl i mewn. Dod di hwnw yn y dwfr, yn y cwrw, y
llaeth, y bustl, neu'r gwenwyn, fe gymer ei lonaid o bob peth. Yr
|
|
|
(delwedd J7704) (tudalen 32)
|
32
wyt tithau yn ddyn pob man a phob peth; y capel, y dafarn, 'does dim
gwahaniaeth beth. Yr oedd gwraig bur gyf rifol, mewn man, yn dweyd ei
theimlad crefyddol yn y cynulliad eglwysig, ac yntau yno. Wedi tipyn o siarad
yn nghylch y mater, cododd Siencyn, a dywedodd wrthi, 'Slwt wyt ti, slwt wyt
ti: y mae ffynon loyw fel yr aber yn y cae wrth y tŷ; ond am ei bod hi
dipyn yn nes, i bwll y domen yr wyt ti yn myned, lle y mae y gwyddau, a'r
hwyaid, a'r moch, a'r cwbl, am ddwr i yfed, a dwr i wneyd tê, a phob peth.'
Meddwl yr ydoedd wrth hyny, fod ffynon yr iachawdwriaeth yn yr ymyl, ond fod
pydew toredig Eden ychydig yn nes ati, ac mai i hwnw yr oedd hi yn ymgyrchu
am fywyd. Fel ag y bydd pethau yn dygwydd yn rhyfedd weithiau, yr oedd ffynon
hyfryd iawn yn y cae o flaen tŷ y wraig foneddig, a phwll y domen wrth y
cefn yn yr ymyl; cymerodd y cwbl yn llythyrenol, ac ymadawodd â'r eglwys o
herwydd y sarhad a roddodd yr hen wr blewog iddi. Yn wir rhaid dyweyd mai
cyfarchiad lled fras i wraig foneddig oedd ei galw yn slut y peth cyntaf, heb
un rhagymadrodd yn y byd, fel yna.
Yr oedd dyn a elwid Wil yn perthyn i society y Dyffryn, yr hwn oedd wedi bod
yn gwrando araeth ar drochyddiaeth, ar lan pwll, yn agos i Aberafon, ac wedi
rhyw haner gredu y stori. Mae yn debyg fod y pregethwr dawnus yn haeru yn
ddiberswad nad oedd dim posibl myned i'r nefoedd wen, heb groesi trwy ryw
afon, nant, neu bwll. Yr oedd Wil yn teimlo yn anfesurol yn nghylch bod yn un
o deulu y nef, a thybiai na fuasai y drafferth ddim yn fawr i sicrhau
mynediad helaeth i mewn yno, os mai dyna i gyd ydoedd. Bu yn cadw dwndwr hir
yn nghylch aflonyddwch ei feddwl wrth hwn a'r llall, nes yn rhyw haner syfrdanu
rhai o'i frodyr a'i chwiorydd. Yr hen gyfeillion fel hyn, mewn gofid blin, yn
ymorchestu hyd y gallent, yn fenyw ac yn wrryw, trwy resymau a dynent allan
o'r Ysgrythyrau, a llawer o rai ereill hefyd, i atal gŵyrdroad y
bachgen. Eto nid oedd dim yn tycio, yr oedd Wil yn penderfynu myned trwy ryw
lyn o ddwr, serch bod cuwch a'i ganol mewn llaid yn ei waelod. Wedi iddo
gredu mai hwnw oedd llwybr y nef, pa ryfedd ei fod yn benderfynol? a pha beth
oedd croesi pwll o ddwr, er mwyn enill teyrnas nefoedd a'i gyfiawnder ef? Os
dyna i gyd oedd y gorthrymderau sydd raid i ddyn fyned trwyddynt, nid rhaid
cadw cymaint o ystwr yn nghylch hyn; deuir i'r pen yn go fuan â'r cwbl. Daeth
y newydd yn fuan
|
|
|
(delwedd J7705) (tudalen 33)
|
33
i glustiau Siencyn fod Wil yn myned i gael ei drochi. Ei drochi,' eb efe, ei
drochi mewn beth; nid wyf yn coelio fod eisiau trochi llawer arno, y mae yn
ddigon brwnt eisoes, yn enw pob peth.' Ië, fy ewthr Siencyn, cymerwch hwyll,
nid ydych yn deall ystyr y peth. Dyna yr ydym ni yn ei feddwl, y mae yn myned
dros ei ben i'r pwll dwr, i wneyd y peth a elwir yn fedyddio arno. O, ai ie,
felly, felly, dyna hi, 'rwy'n gweled yn awr. Ac mae Wil yn meddwl gwneyd
hyny; tebyg iawn ei fod yn gweled hono yn haws ffordd na gweddio, marwhau
llygredd, a pheidio a rhodio yn chwantau y cnawd.' Ar ryw noson society wedi
hyny, dyma Wil yn dal yn taro i mewn fel bollt, mor ddieuog a neb. Llamodd
Siencyn ar ei draed mor ystwyth a'r llwdn iwrch, a gwaeddodd yn groch, Wil,
beth yw'r mater arnat ti?' Does dim arnaf fi, fy ewythr Siencyn; beth yr
ydych yn ei weled?' 'Wyt ti ddim wedi bod yn son rhywbeth am gael dy
fedyddio, fachgen? Wel, y mae peth son wedi bod am hyny, yn siwr, bydd hyny ar
fy meddwl weithian.' 'Gwrando, a gest ti dy fedydyddio o'r blaen ryw bryd?'
'Do, pan oeddwn yn blentyn.' 'A wyddost ti, Wil, yn enw pwy y bedyddiwyd di y
tro hwnw ?' 'Gwn, yn burion, y mae y ffurf idd ei gweled yn y Common Prayer?
Wel, yn enw pwy, Wil, y mae'r llyfr gweddi yn dywedyd?' 'Ÿn enw y Tad, y Mab,
a'r Ysbryd Glan.''Wel, dyna ti wedi dy fedyddio yn enw trindod o bersonan, y
mae yn debyg. Gwrando, Wil, yn enw pwy ddiawl yr wyt ti ar fedr cael dy
fedyddio y tro nesaf?" Yr ymddyddan hyn a ddybenodd yr holl ddadi, a
chauwyd y cwbl i fynu mewn dwfn ddystawrwydd.
Yr oedd dwy wraig yn perthyn i'r Dyffryn wedi ymrafaelio yn ddychrynllyd, a
myned yn dân poeth at eu gilydd, yn anmhosibl ei ddiffodd; a phob un o honynt
wedi cael y cam mwyaf erioed oddiar law y llall. Llawer llwybr a gymerwyd, o
bryd i bryd, i geisio eu heddychu, ond po fwyaf y ceisid gwneyd hyny, mwyaf
cyndyn yr oedd y benywod yn myned, nes yr oedd yr holl le wedi terfysgu; un
yn mhlaid Siani, a'r llall o blaid Peggi, ac yn y blaen. Ar un noson, galwyd
hwy ill dwy yn y blaen, i ymddyddan â hwy, ac i geisio gwneyd heddwch. Yr
oedd llawer yn dywedyd wrthynt y fath beth dymunol oedd heddwch yn mhob man,
ac yn hynod efengylaidd yn eu hanog hwythau at hyny. Ond ofer oedd yr holl
gynghorion; nid oedd y fath beth a gallu eu cymodi; yr oeddynt yn myned i'r
natur greulonaf
|
|
|
(delwedd J7706) (tudalen 34)
|
34
erioed, ac yn uchel adrodd y fath gam oedd pob un o honynt wedi gael oddiar
law y llall. Wedi iddi fyned i'r pen hwnt fel hyn, gofynodd rhywun, 'Siencyn
Tomos, oes dim ar eich meddwl chwi i ddyweyd? Nac oes, yn gyhoeddus, am a wn
i,' eb efe; ond y mae genyf air i ddywedyd wrth bob un o honynt yn
ddirgelaidd, ar eu penau eu hunain.' Gyda hyny cododd i fynu, a dywedodd,
'Dewch gyda fi eich dwy i gael dweyd wrthych.' I bant gydag ef yr aethant am
y cyntaf; ac i ben y twyn o flaen y capel yr aethant gyda eu gilydd. Dyna,'
eb efe wrthynt, 'yw eich lle chwi eich dwy; y fileiniaid clecog, cerddwch i
wneyd heddwch, a pheidiwch dyfod yn agos yma nes y byddoch wedi ei wneyd
hefyd;' ac i bant ag ef i'r society, gan gloi y drws ar ei ol Yn mhen rhyw
gymaint, dyma lais trydar ac wylo wrth y ddor, y benywod wedi gwneyd heddwch,
ac yn curo am ddyfod i mewn, gan addaw cyn agor y drws nad ymrafaelient byth
ond hyny. Felly terfynodd Siencyn y ddadl hon mewn byr amser.
"
Hen Sian o Gwmgwynai, druan, a arforai yn aml iawn gael rhyw hwyl yn yr
oedfaon; nid oedd nemawr yn pasio nad oedd Sian yn cael tipyn o awel, fel y
dywedent. Yr oedd Siencyn yn amheu nad efengyl i gyd oedd yn cynhyrfu yr hen
wraig, ond ei bod yn gwaeddi weithiau heb wybod am beth. Rhyw dro yr oedd ef
yn pregethu a Sian yn gwaeddi yn iawn. Yn y society, ar ol y bregeth, 'Dywed
di dipyn, Sian,' eb efe; 'yr wyt ti yn cael llawer yn yr oedfaon yma, dylai
fod genyt ti gryn lawer i ddywedyd wrthym.' Ond rhyw fodd nid oedd gan y
chwaer fawr i ddywedyd wedi y cwbl. Gwyddost ti beth,' meddai, yr wyt ti yn
union yr un fath a gast hela Wil Herbert; y mae Wil yn gwaeddi nerth ei ben
ar yr aelwyd weithiau, Fox, fox,' a'r hen ast yn ymysgwyd ac yn agor fel pe
bai yr helfa fwyaf erioed, pan nad oes yno genaw yn agos, na thraul un pryfyn
garw o gylch y lle. Mae arnaf ofn, Sian, dy fod dithau yn gwaeddi heb draul
yn aml. Gwaedda a fynot, os bydå traul, ond heb draul 'does dim mewn gwaedd.
Yr oedd rhyw Fari oedd yn anferthol o ymladdgar yn perthyn i'r Dyffryn; hi
oedd y feistres am dafod drwg yn y rhestr tai lle yr oedd hi yn byw; ac nid
oedd hi byth yn hapus heb bwt o ffrae cyn machlud hau! bob prydnawn. Yr
ydoedd yn bur hoff o'r peth a elwir yn Ngwent a Morganwg, 'Clwb tê.' Y dull y
cynelir y clybiau hyn yw, drwy ymgynulliad o amryw o ferched Efa at eu
gilydd, un yn dy
|
|
|
(delwedd J7707) (tudalen 35)
|
35
fod a thê, y llall deisen, un arall ag ychydig frandi neu gin i'w roi ynddo,
ac yn y blaen fel yna. Cynelir y gymdeithas yn nhŷ un o'r aelodau, a'r
gorchwyl sydd yn myned yn y blaen fwyaf, ebe hwynt wrthym ni, ydyw ymdrin
ychydig mewn ffordd gyfeillgar a dystaw â materion y gymydogaeth. Bydd y rhan
fwyaf o bethau fel hyn, perthynol i bobl ereill, yn dyfod dan sylw y
cyfarfod; a phob un wedi dybenu yr hanesyn yn dyweyd, 'Er mwyn dyn, peidiwch
a dyweyd wrth neb arall; cedwch e' yn secret.' Yr oedd Mari, deg i un, â'i
llaw yn go ddwfn yn y fasnach hon, a'i thafod hefyd yn rhedeg yn gyflymach o
lawer na'r express ar y Great Western, Wel, yr oedd pawb o honynt, drwyn yn
nhrwyn, yn addaw gadael y cwbl yno ar eu hol, heb soam ddim byth mwyach. Ond
rywfodd, erbyn dranoeth, byddai y glec yn dechreu cerdded, hanes y clwb yn
dyfod allan yn raddol, a phawb yn sibrwd o dŷ i dŷ, fel y gallasech
feddwl fod swn llawer o ddyfroedd yn eich clustiau, ac ystormydd o wynt,
gwlaw, a tharanau yn ymdori. O brysur, rhyngoch chwi a minau, nid oedd y
gawod ddim yn mhell, pan y byddai rhyw arwyddion fel hyn yn ymddangos. Byddai
aml un o honynt fel hyn wedi gollwng y gath o'r cwd, a thyna lle y byddai yr
holl gymydogaeth yn ceisio hela hono trwy y drain a'r dyrysni-welsoch chwi
erioed sut beth. A byddai yn dygwydd fod gan y Fari grybwylledig gyfran
helaeth yn mhob helynt. Yr un anhapusrwydd, o ganlyniad, oedd yn yr eglwys
o'i phlegyd. Mari oedd Fari mewn byd ac eglwys. Yr oedd Siencyn wedi ei
derfysgu drwyddo lawer gwaith yn achos hon, ac yn enwedig mewn rhyw derfysg
go ddiweddar a ddygwyddodd. Pa fodd bynag, ar ol y terfysg uchod, noson y
cwrdd eglwysig cyntaf, dyma Mari yn taro i mewn mor dal a neb. Cynhyrfodd
Siencyn yn yr olygfa arni; cododd i fynu, cauodd ei ddwrn, tarawodd ei droed
yn erbyn y llawr, a chrochlefodd, Mari, Mari, cerdda i maes o'r society: y
jack y lantern, gwaith arwain pawb i ddyryswch ydwyt y ffordd y cerddi.'
Felly y gorfu i hon gymeryd y traed, ac i bant a hi ar hyn yna. Fel hyn y
byddai efe yn gweinyddu y peth a elwir yn ddysgybliaeth eglwysig yn dra aml,
a hyny yn ateb y dyben lawn cystal à rhyw ffordd arall, os nid gwell yn
fynych, yn yr amserau hyny.
Yr oedd gwraig dew, olygus, a lled annibynol yr olwg arni, wedi dod i'r
cyfarfod neillduol un noson, a Siencyn yntau yn pendrymu yno ar ben ei ffon.
Yn mhen rhyw gy-
|
|
|
(delwedd J7708) (tudalen 36)
|
36
maint, cododd ei ben, ac edrychodd yn hyll yn wyneb y wraig, gan ddywedyd,
'Magi, Magi, Magi o'r lle a'r lle, onide? Ie,' ebe hithau. Beth yr wyt ti yn
'fofyn yma?" Fy lle yn y society,' oedd yr ateb. Dy le yn y society! O,
ai ie? Dewch yn y blaen, hawyr,' meddai, gyda eich gilydd, pob un a'i
handspike, i gael ei throi i'r pwll llifio, i edrych a ellir taro line arni
yn rhywle.' Meddyliodd y fenyw, druan, ar gynhyrfiad y foment, fel yr oedd yn
ddigon naturiol, eu bod ar fedr ei llifio yn blanciau at ryw bwrspas; ond yn
ngwyneb ail ystyried, yr oedd yn beth amlwg nad oedd cnawd ac esgyrn ddim yn
rhyw ddefnydd cynhwys yn y byd i'r seiri. Eto wrth siarad yn y blaen,
daethant i ddeall eu gilydd yn well tua'r diwedd. Er fod llawer o bethau
cyrnig, annoeth hefyd yn fynych yn ei ddull, eto yr oeddynt yn gyffredin yn
effeithio llesad. Yr oedd pethau yn gweddu iddo ef na fuasai gwiw i neb arall
eu cynyg.
Y mae yn amlwg fod arno ofal mawr am iachawdwriaeth dynion. Byddai yn hel ar
ol y bobl wedi bod yn ymddyddan â hwy, yn enwedig mewn ffordd geryddol, i
edrych pa effaith a gawsai yr ymddyddanion ar eu meddyliau, ac i geisio eu
hachub yn mhob modd rhag syrthio i ddyryswch ac annybendod. Yr oedd yn
dygwydd un tro bod un o'r cyfeillion wedi llithro i ryw fai, a Siencyn ac
ereill yn ei geryddu yn yr eglwys. Beth bynag, nid oedd y brawd yn eithaf
ystwyth, ac yr oedd yn ymddangos fel pe na buasai y cerydd yn felus, a'r brodyr
hwythau yn golchi arno hyd y gallent, ac yn ceisio ganddo lyncu y peleni bron
o'i anfodd. Fel yna yr ymadawsant o'r diwedd, heb wybod yn y byd beth a
ddeuai o'r brawd claf, yn gymaint nad oedd dim argoel hyd yn hyn, am un
effaith ddymunol. Boreu dranoeth, yn blygeiniol iawn, dyma Siencyn yn cymeryd
ei lawffonrhyw bastwn cam, garw, ydoedd, tebyg iawn i'r dyn—ac i bant ag ef
yn groes i'r perthi a'r caeau, yn chwys ac yn darth bob tipyn bach, ac yn
edrych fel llew rhuadwy. Canfyddodd rhai o'r cymydogion ef yn rhedeg ar
ffrwst, a meddyl. iasant ei fod yn ymofyn y meddyg at un o'r teulu neu ryw
beth, ac yr oeddynt yn gwaeddi, un yn awr a'r llall yn y man, ar ei waith yn
pasio y tai, 'Siencyn Tomos, a oes rhyw beth y mater? Un o frodyr y Dyffryn,'
ebe yntau, 'sydd yn glaf; buom yn rhoi pills iddo neithiwr, ac yr ydwyf yn
myned i edrych a ydynt wedi gweithio ai peidio; os nad ydynt yr wyf yn ofni
ei fod wedi marw; y mae yn all over
arno; a ffwrdd ag ef, a'i anadl yn ei ddwrn, yn y blaen. -
|
|
|
(delwedd J7709) (tudalen 37)
|
37
Yr oedd y bobl yn haner gwylltio o eisiau gwybod pwy oedd yn nhagfa marwolaeth
yn y gymydogaeth; a thyna lle yr oeddynt yn edrych ar eu gilydd, a phlethu
dwylaw, ac yn holi pob un oedd yn myned heibio, os gwyddent hwy. Ond wele
Siencyn yn cyrhaedd tŷ y brawd, a'r cyfarchiad cyntaf oedd, 'Ai byw hwn
a hwn heddyw?' Cafodd fod y cyfaill yn fyw, ond yn glaf iawn; yr oedd y
pelenau, fel y dywedai yntau, yn gweithio, ac yn peri poen dirfawr. Wedi
gweled fod y moddion wedi effeithio yn dda, gweinyddodd Doctor Penhydd ryw
botel mwy cysurol a chyfnerthol, a gwellhaodd y brawd yn dda iawn. Dyna lle
yr oedd Siencyn yn canu y fuddugoliaeth ar bechod wrth ddychwelyd. Ni a
enillasom ein brawd; cadwasom enaid rhag angeu; a chuddiasom luaws o
bechodau.'
y camsyn
Yr ydoedd yn cadw cyrddau eglwysig lle bynag y byddai; ac nid oedd y bobl yn ymddangos
eu bod wedi ei fwynhau yn gyflawn heb iddo gadw society gyda hwynt. Meddylid
hefyd ei fod yn adnabod dyn drwyddo wrth ei weled, a siarad ag ef ychydig. Y
mae yn ddiamheu ei fod yn llygadgraff a synwyrlym iawn, ac yn treiddio cryn
lawer i lawer i gymeriad y natur ddynol; ond tebyg iawn fod y bobl yn myned
yn rhy bell yn nghylch ei wybodaeth yn yr ystyr yma, canys priodolent iddo y
peth nesaf at anffaeledigrwydd. Ar y cwbl yr oedd ei amcan yn bur gywir, ac
nid aml iai y nôd. Yr oedd rhyw fachgen ieuanc yn dyfod i'r gymdeithas mewn
man yr oedd Siencyn yn bresenol fel gwr dyeithr ar ei daith. Wedi ymddyddan
cryn lawer a'r llanc yn ol ac yn mlaen, cododd Siencyn Tomos yn hynod o
ysgaprwth, a dywedodd wrtho, 'Barcut wyt ti, barcut wyt ti, yn ymofyn rhyw ysglyfaeth;
a phan cei di hyny, cymeri aden, a bant a thi oddi yma i rywle.' Trodd y peth
allan fel y dywedodd, er na adwaenai efe y bachgen o ddynion y byd, na
chlywed erioed am ei hanes cyn y foment hono. Yr oedd merch berthynol i'r
eglwys yn ngolwg y gwr ieuanc; wedi iddo gael gafael ar hono, a phriodi,
gadawodd y gref ydd i arall. Mewn cyfarfod misol yn Nghastellnedd, hyd yr
ydym yn cofio, yr oeddid yn ymddyddan â brawd lled annghyson gyda'i grefydd;
weithiau yn bob peth, a phrydiau ereill yn ddim ddim. Dywedodd hwn a'r llall
lawer wrtho, ac am gryn amser, heb fod dim yn tycio. O'r diwedd gofynwyd i'r
patriarch o Benhydd a oedd dim ar ei feddwl ef. Na wn i, yn siwr,' ebe yntau,
'beth sydd i ddyweyd wrtho. Mi ddywedaf i chwi beth,' eb efe o'r diwedd; y mae
yn y fac-
|
|
|
(delwedd J7710) (tudalen 38)
|
38
tory wlân offeryn echrydus o ddaneddog, y maent yn galw devil arno. Y mae yn
chwalu y gwlan yn chwilfriw, ac yn ei chwilfriwo yn llarpiau oddiwrth ei
gilydd, i'r dyben o'i weithio yn rhyw ffurf newydd. A wyddoch chwi, y mae yn
rhaid dodi y brawd hwn rhwng danedd y diawl, ci ladd wrth odrau Sinai, ei
falu yn chwilfriw, a'i dynu gymal oddiwrth gymal; nid oes dim sut beth a'i
adgyweirio; rhaid ei wneyd i gyd o newydd.' Yr unig beth a allwn ni ei roddi
ar bapur yw y geiriau; y mae yr effeithiau yn dianc oddi ainom. Dywedir fod
yr effeithiau yn anghydmarol yn y cyfarfod, ac iddynt barhau ar y brawd yr
oeddid yn ymddyddan ag ef hyd y bedd.
Byddai Siencyn a satan yn cwympo allan yn bur aml; weithiau yn yr ysgubor, y
caeau, wrth gerdded yr heol, ac yn fynych ar gefn y ceffyl. Clywyd ef o getyn
o ffordd mewn ffrae ddychrynllyd â rhyw un, ac â'r tafod casaf, mwyf bawlyd,
a brwnt ag oedd bosibl ddychymygu. Galwai ryw un yn rascal, scoundrel, y
bredych, y twyllwr, y lleidr, ac felly yn y blaen. Byddai pobl ddyeithr a
ddygwyddai ei glywed, mewn syndod, ond y lleill oeddynt yn bur gyfarwydd â'i
arferion. Yr oedd yr hen frawd yn bwrw bron bob bai ar gefn y diafol, pa un a
oedd yn ei haeddu ai peidio. Pan y byddai rhyw demtasiwn yn dyfod i'w feddwl
o ryw le, byddai y ffon i fynu yn erbyn satan yn y fynyd, ac yntau yn ceisio
cynllunio rhyw lwybrau i ymddial arno am ei boeni. Yr oedd yn myned unwaith at
gyhoeddiad, ac yr oedd y ceffyl oedd ganddo y pryd hyny yn dygwydd bod yn go
deneu, fel y bydd ceffylau y pregethwyr yn gyffredin. Yr oedd yn myned heibio
hen chwarel, ac yno saethodd profedigaeth oddiwrth ddiafol, medd efe, yn ei
gymhell i daflu yr hen geffyl i mewn i'r chwarel, i dori ei wddf, a dyweyd
mai slipo a wnaeth wrth fyned heibio. Cei geffyl newydd gan dy frodyr, pan
glywant am yr anhap; maent yn ddigon abl.' Bu meddwl y patriarch mewn dirfawr
boenau yn y brofedigaeth ddyeithr hon; ond trwy ras ataliol gorchfygodd y
brofedigaeth, a diangodd yr anifail â'i einioes yn ysglyfaeth heibio y pyllau
a'r chwarelau. Wedi i'r ystorom fyned heibio. yr oedd yn methu deall beth i
wneyd mewn ffordd o ymddial ar ddiafol. Safodd gryn dipyn, ac ystyr iodd. Daeth
yn sydyn idd ei gof fod gwylmabsant yn y gymydogaeth, lle yr ymgynullai yr
holl wlad i yfed a dawnsio am nosweithiau cyfain. Yr oedd yn tynu yn hwyr y
pryd hyn, ond tuag yno yr aeth. Wedi nesu at y tŷ, clywai yr
|
|
|
(delwedd J7711) (tudalen 39)
|
39
holl le yn gynghanedd a dawnio. Galwodd wrth y tŷ, a daeth yr hen dafarnwr
allan; gofynodd iddo am le i ddodi ei geffyl yn yr ystabl, ond nid oedd lle
iddo gan geffylau y mabsantwyr. Edrychodd Siencyn ar y tafarnwr yn ofnadwy o
lewaidd, a gofynodd, 'A oes license genyt ar dy dy?' 'Oes,' oedd yr ateb.Dod
fy ngheffyl i mewn yn y fynyd, onide mi dy dacla di.' Cafodd y tafarnwr beth
braw ac arswyd, a throdd rai o geffylau y mabsantwyr allan i gael lle. Wedi
hyny aethant ill dau tua'r tŷ, pryd y clywai yr hen apostol y
llam-ddawnsio mwyaf arswydlawn uwch ei ben ar y llofft, nes yr oeddd y lle yn
crynella bob tipyn. Tynodd ei het, a throdd ei glust i fynu at y swn, ryw
beth fel y gwelsoch hwyaid ar y taranau; tynodd ei fysedd trwy ei wallt, ac
edrychodd yn annaearol ar y tafarnwr, yr hwn oedd mewn peth arswyd eisoes, a
gofynodd, 'A ydyw y diawl gyda thi yn y tŷ yma? O, nac ydyw, syr: dawns
sydd yma.' 'Dawns, ai ie dawns! O wel, cânt ddawnsio ar eu penau yn y pwll
yna yn fuan!' Rhedodd tafarnwr i fynu i'r llofft mewn braw a dychryn, a
dywedodd fod consurwr yn y tŷ, ac y byddai rhyw ddrygfyd mawr yn syrthio
yn fuan. Y mae y dyn hysbys sydd ar y llawr wedi dyweyd y byddwch yn sefyll
ar eich penau yn y pwll oddieithr i chwi ymadael yn fuan. Ffowch, a gwnewch y
goreu o'ch traed.' Gyda hyn dyma rai o'r merched yn dechreu ysgrechain, a'r
dyryswch mwyaf yn syrthio yn mhlith byddin y diafol, pob un yn ffoi megys am
ei einioes i'w cartref; a llawer o honynt yn dyweyd eu bod yn gweled rhyw
anghenfilod echrydus yn rhedeg yn gyfochrog & hwynt bob cam. Wedi dianc o
honynt trwy ddrws y cefn, daeth y tafarnwr i'r gegin at Siencyn, yn bur
ddychrynedig. 'Wel,' ebe yr hen Beuhydd, a oes bara a chaws genyt yn y
tŷ? Ões,' oedd yr ateb. 'Dere ag ef i'r bwrdd yma.' Yn awr,' eb efe wrth
y tafarnwr, rhaid i ti ofyn bendith arno.' Myfi syr, nis gofynais i fendith
erioed.' 'Gofynaist ti fendith erioed! y filair, beth yw dy oedran di?' 'Hyn
a hyn.' 'Ac heb ofyn bendith ar dy fwyd eto! Pa bryd yr wyt ar fedr dechreu?
Y dyn,' meddai, gan edrych yn ei lygaid fel llew, rhaid i ti ofyn bendith y
foment hon.' Y dyn yn ddychrynedig a waeddodd, ‘Ó 'O Dduw, beth a wnaf?
Dyna,' ebe Sienyn, Efallai y gwna hyn yna y tro yn awr; gofyn di yn fynych i
Dduw beth a wnai, ac efe a ddywed wrthyt fe allai o'r diwedd.' Aeth i weddi
wed'yn, gan ddiolch am gonewest ar ddiafol, ar ei dir ei hun. Ha, ha,' eb efe
wrth fyned adref,mi dy ffitiais
|
|
|
(delwedd J7712) (tudalen 40)
|
40
di, satan; enillaist ti fawr yn mhrofedigaeth yr hen geffyl.'
Yn Morganwg, yn enwedig yn y dosbarthiadau gweithfaol, yr oedd y bobl yn
gyffredin yn cadw y peth a alwant 'Cwrw bach.' Rhywun yn gwneyd cwrw yn ei
dŷ oedd hyny, er mwyn gwneyd rhyw swm i fynu gogyfer a rhent, neu amser
gwasgedig mewn cystudd, &c Yr ydoedd hyn wedi myned yn arferiad cyffredin
bron gan bawb, ac yn hy. nod lygredig. Yr oeddynt yn myned yno i wneyd lles
i'r teulu, ac o ganlyniad tybiai pawb mai eu dyledswydd oedd yfed cymaint ag
oedd yn bosibl; a'r hwn a dreuliai fwyaf o arian a gyfrifid yn fwyaf
anrhydeddus ar yr amgylchiad. Mewn rhan arall o'r tŷ, byddai rhyw
bymtheg neu ugain o'r rhywogaeth deg yn ymddifyru gyda'r clwb tê, er dangos
eu serchogrwydd a'u cydymdeimlad hwythau â'r teulu adfydus. Yr oedd y fan
hon, fel yr awgrymwyd o'r blaen, yu llys anhyfryd iawn i neb gael trin ei
achos, yn bersonol, teuluol, neu amgylchiadol. Beth bynag yn y byd oedd yr
Inquisition a'r Star Chamber, nid oedd sefyll ger eu bron hwy yn rhyw lawer
mwy annymunol na syrthio rhwng pymtheg neu ugain o dafodau menywod, y pryd y
byddai un neu y llall yn eich blingo o hyd. Byddai rhai o newyddiaduron y
glec yn dyfod allan â hanes y cyfarfod dranoeth yn foreu, fel yr ydoedd yn
troi yn dryblog tna'r Constant yn dra aml; ac nid oedd dim posibl deall ar
rai amserau dan ba graig y gallech gael cysgod rhag cynen tafodau.'
Dygwyddodd un noson pan oedd Siencyn yn pasio rhyw dy, fod yno gwrw bach; a
chlywai orchwylion y cwrdd gwlyb yn myned yn y blaen yn dra hwylus. Meddyloidd
yn-r ddo ei hun beth a wnai. Safodd, a meddyliodd shut y gallaf roddi ergyd
ar ben y bwystfil? Yr oedd rhywbeth yn dywedyd o'i fewn, Cerdd i mewn,
Shanco.' I mewn yr aeth o'r diwedd idd eu canol hwynt; tynodd ei het, ac
edrychodd o'i amgylch, nes yr oedd sylw y cyfarfod yn hollol arno. Yna
dywedodd wrthynt, Byddwch yn uffern bob siol cyn pen fawr amser, wrth ei
dylyn hi yn y blaen fel hyn,' Yr oedd y bobl wedi arswydo, a chwant ffoi pe
medrent; ac i'r rhan fwyaf o honynt yr oedd Siencyn yn berffaith adnabyddus.
Yn nghanol y cwbl dyma ef yn dywedyd, 'Gweddiwn.' I weddi yr aeth, gan weddio
gyda y fath nerth anorchfygol nes oedd pawb bron yn efrydd yn y lle. Bid a
fyno, cawsant nerth i fyned oddi yno i gyd cyn weddi ddarfod, canys nid oedd
yno neb ond ei hunan pan
|
|
|
(delwedd J7713) (tudalen 41)
|
41
gododd oddiar ei liniau. Fel hyn y torwyd i fynu y rhialtwch yma. Yr oedd
satan yn gorfod ffoi yn annrhefnus o flaen cadfridog Penhydd. Enillodd lawer
buddugoliaeth ar ddiafol mewn ffordd go ryfedd cyn hyn, a diamheu iddo golli
rhai hefyd.
Yr ydoedd, fel y nodwyd o'r blaen, yn foreuwr mawr; byddai yn codi o flaen
pawb yn wastad, yn enwedig yn yr haf, wrth drin y braenarau a chalchu. Byddai
y cert a'r ceffylau wrth yr odyn galch oriau cyn bod y calchwyr na neb yno;
byddai wedi llanw fe allai, a dyfod eilwaith erbyn bod y bobl yn dechreu
ymgyrchu yn gyffredin tuag yno, Prynu calch wrth fesur yr oeddynt wrth yr
odyn-y cert yn cynwys hyn a hyn o fesur. Beth bynag ryw foreu yr oedd yn
llanw y cert wrtho ei hun, heh neb gerllaw, pawb yn gorwedd yn dawel o 'dan
rwymau adferedigol natur-cwsg peraroglaidd,' ac ymddangosiad Phoebus heb
ddadblygu mantellau y nos, a'i roddi i gadw hyd dywyllwch nosawl eilwaith; y
pryd hyny yr oedd Siencyn mewn ymdrech dirfawr à diafol yn mhiben yr odyn. Yr
oedd Îlu satanaidd, medd efe, yn ymosod yn ddiarbed arno, gan ei demtio ef i
law hyd y daliai y cert, i gael enill ychydig yn y mesur. Yr oedd yntau yn
ymdrech yn erbyn y brofedigaeth, gan hòni mai lladrad oedd hyny, a bron yn
rhy wan, Na,' ebe satan, "does dim eisiau ei alw yn lladrad, ond yn
fesur go dda,' Llanwodd y gert; ond rhag bod mwy nag arferol, penderfynodd
fyned i ben y cerwyn a thaflu peth o hono i lawr, fel y byddai yn sicr o fod
llai yn hytrach na mwy na mesur. Hyn a wnaeth, a ffwrdd ag ef. Wedi myned i
ben y rhiw rhwng yr odyn a'r cae, ataliodd y wedd, rhoddodd gareg o dan yr
olwyn yn daclus, i'r ceffylau gael gorphwys, ac aeth i weddi. Yn mhen ychydig
gwelid ef ar ben y bryn, yn troi ei het oddeutu ei ben, ac yn gwaeddi,
'Buddugoliaeth, buddugoliaeth! concwest ar holl allu y tywyllwch; haleluia!
Yr wyf yn gallu pob peth trwy Grist, yr hwn sydd yn fy nerthu.' Wedi hyny
ffwrdd ag ef eilwaith at y ceffylau a'r calch.
Ryw dro yr oedd gwas cymydoges iddo yn myned ag ychain i ffair Castellnedd
dros ei feistres, a phenderfynodd yntau i anfon rhai hefyd, ac aethant gyda'u
gilydd tua'r ffair. Yn rhyw le tua haner y ffordd, dechreuodd Siencyn
bendrymu ac ocheneidio, gan ymddangos yn brudd iawn; ond cyn i'r dyn gael
amser i ofyn dim iddo, gwelodd ef yn troi pen y ceffyl yn ol, yn rhoi y ehwip
a'r yspardyn iddo, gan
|
|
|
(delwedd J7714) (tudalen 42)
|
42
waeddi, 'Gwna y goreu o dy ffordd ac o'r ychain, Wil; dyma fi yn ffoi o swn y
byd.' Galwodd hwnw ar ei ol, gan ddywedyd, Yn enw dyn, beth yw'r mater
arnoch? i ba le yr y'ch yn myn'd?' Mae digon y mater, fachgen, mae ffair
Castellnedd wedi llanw 'nghalon cyn fy mod haner y ffordd yno; a beth fydd fy
hynt ar ol myned iddi? A chan yspardydo a chwipio, i bant yr aeth fel dyn
gwyllt, gan adael rhwng rhagluniaeth a phob canlyniad. Yr oedd yn ddigon o
bregeth, ebe hwynt wrthym ni, i weled Siencyn yn marchogaeth. Byddai ar led i
gyd, yn ymysgwyd a chicio fel pe buasai am fyned o flaen y ceffyl, a'i adael
filltir neu ddwy ar ol cyn diwedd yr yrfa. Yn yr agwedd hon un diwrnod, yn
brysio at ei gyhoeddiad, y cyfarfyddai â'r boneddwr oedd yn olygwr ar y lle
yr ydoedd yn byw. Cyfarchodd y boneddwr ef, Yu enw dyn, Siencyn, ble'r 'ych
chwi yn myn'd, gan yru mor ddychrynllyd?' Ah!' ebe yntau, pe gwelit ti y
cebystr damniol yna sydd am dy wddwg, ti yrit dy hun i rywle am dy fywyd.'
Cyfarchiad go ryfedd i wr boneddig, onide? eto oddiwrth Siencyn yr oedd yn
pasio yn ddiberygl; eithr nid gwiw oedd i neb arall fyned yn y blaen fel yna.
Yr oedd mor hawdd i'r Ethiop newid ei groen, a'r llewpard ei frychni, ag oedd
ysgaru Siencyn a'i hynodrwydd oddiwrth eu gilydd. Y gwir yw, pe buasai bosibl
gwneyd hyny, nid Siencyn mo hono mwyach.
Heb fod yn mhell oddiwrth y fan yr ydoedd yn byw y mae lle a elwir Taibach
Aberafon; man pur enwog am weithfaoedd copr. Mewn cysylltiad â'r gwaith
uchod, yr oedd wedi myned yn dra helbulus rhwng y meistriaid a'r gweithwyr; y
diweddaf yn ymofyn ychwaneg o bris, a'r cyntaf yn nacâu hyny. Safodd y
gweithwyr allan. O'r diwedd cymerwyd gafael ar rai o honynt gan y golygwyr, i'w gwneyd yn esiampl,
am esgeuluso y ffwrneisiau, a thrwy hyny achosi colledion dirfawr i'r
perchenogion. Carcharwyd un yn Abertawy, ac yn y diwedd trosglwyddwyd ef i'r
press gang, y rhai oedd yn y dref yr amser hwnw. Yr oedd pawb trwy y
gymydogaeth yn trydar yn drwm am dynged y bachgen, wrth feddwl fod y fath
ganlyniad wedi dygwydd ag i beri iddo ymadael a'i wlad. Erbyn hyn yr oedd
pawb yn dechreu edrych yn brysur ar yr
amgylchiad, a cheisio dyfeisio beth oedd idd ei wneyd. Llawer o'r bobl
fawrion a ddanfonasant ac a ddaethant at y gwr boneddig, i ddymuno arno adael
i'r llanc ddyfod yn rhydd, gan fod ar ei law ef i wneyd hyny. Er yr holl
ymdrech i gyd, methwyd a chael un tro
|
|
|
(delwedd J7715) (tudalen 43)
|
43
yn y byd arno; yr oedd yn parhau yn ei gynddeiriogrwydd yn ddiymod. Wrth
weled peth fel hyn yn methu tycio, a'r amser yn agosâu i'w ddanfon ymaith, yr
oedd y perthynasau bron yn ymdori gan ofid, ac yn wir, y cymydogion yn lled
drybylog. O'r diwedd cafodd rhai ar eu meddyliau i fyned at Siencyn Tomos i'r
Goetre, i ddeisyf arno ef, yn enw pob daioni, fyned at y gwr boneddig yn
achos y bachgen. O brysur, dacw y patriarch yn ufuddhau i fyned yn bur
ddiorchest. Yr oedd y boneddwr ac yntau yn eithaf adnabyddus â'u gilydd, ac
yn byw yn bur gymydogol. Dacw ef yn myned, boed a fyddo, tuag yno ar ffrwst,
a ffon hir fawr yn ei law, yn ddigon o ddwy, ac yntau yn cydio yn rhyw le
tua'i chanol. Dychymygwn ein bod yn ei weled y mynyd hwn yn chwythu a
thynffaglu ar draws y caeau, yn wyllt a haner call yr olwg arno. Wele ef wrth
ddrws y tŷ yn curo yn ddiarbed. Agorwyd, a chafodd y boneddwr yn y
tŷ. Tynodd ei het, gwasgodd hi yn deisen dan ei gesail, a chyda'r ffon
yn y Ilaw arall, a'i wallt fel blew gafr yn y gwrthwyneb i gyd; yn yr agwedd
hono i mewn i'r parlwr yr aeth, gan sefyll fel post ar ganol y parth, ei
lygaid yn serenu yn ei ben, a'i holl ddullwedd yn arwyddo fel pe buasai wedi
dianc y boreu hwnw o'r gwallgofdy, ac heb wybod pa le i fyned nesaf am
gysgod. Gyda hyn, tarawodd y llawffon yn erbyn y llawr, a dywedodd wrth y
boneddig synedig, Yr wyt ti wedi ei gwneyd hi yn daclus o'r diwedd; danfon
bachgen cymydog o wlad ei enedigaeth. Beth yw dy feddwl di? Ni ymedy y
cleddyf a dy dy di byth; fel y gwnaethost y gwneir i ti thau, a bod yn siwr i
ti hefyd.' Yn rhagluniaethol i bregeth y patriarch, erbyn ei fod yn darfod yr
ystori, dyma ryw un yn cwympo o'r llofft, dros y grisiau, i lawr i'r gwaelod
fel taranau; gyda hyny yr oedd y forwyn yn gwaeddi, Och fi! mae y plentyn
wedi ewympo a thori ei wddwg!' Gellwch feddwl erbyn hyn fod y tŷ yn
derfysg drwyddo draw, ac yn benbleth i gyd, a phawb yn rhedeg ar draws eu
gilydd at odreu y grisiau. Ond cafwyd fod y plentyn wedi ymdaro yn well na'r
dysgwyliad. Wel,' ebe Sienyn, wedi i'r mwsfwrf ddechreu ymdawelu, 'dyw hyna
ond cychwyn ar ofidiau o fewn y tŷ hwn, os na ddanfoni am y bachgen
adref.' A thyna Siencyn allan gyda'i ergyd, heb ddyweyd, Dydd da i chwi,' na
dim yn y byd. Y boneddwr mewn braw a redodd ar ei ol, gan waeddi, 'Siencyn,
fe gaiff ddyfod adref beth bynag fo yn y byd.' Felly y bu; danfonwyd yn union
am dano adref, er costio cryn dipyn i'w gael yn rhydd. Ni
|
|
|
(delwedd J7716) (tudalen 44)
|
44
a welwn fod hynodrwydd Siencyn Tomos ac ofergoeledd yr oes yn cyfarfod â'u
gilydd, nes effeithioli yn hynod ar yr amgylchiadau hyn.
Y mae yn ymddangos mai dyn meddylgar iawn ydoedd yn ei ffordd; byddai bob
amser fel yn suddedig mewn dwfn astudiaeth. Pa un a'i marchogaeth, cerdded,
neu yn gwneyd rhyw orchwyl y byddai, nid oedd yn siarad ond ychydig, eto yr
oedd yn ymddangos fel pe byddai ar goll mewn meddylgarwch. Adroddir am dano
yn teithio o oedfa i oedfa un Sabbath, gyda dyn ieuanc yn y weinidogaeth, yr
hwn a arferai fyned gydag ef rai gweithiau; tua haner y ffordd yr oedd y cwbl
wedi myned yn ddystaw rhyngddynt, ac yntau fel pe buasi wedi myned i golli mewn
dwys fyfyrdod. Yn sydyn, heb un rhagymadrodd, gwaeddodd allan, 'Bu farw
Phil.' Phil! pwy Phil yr ydych yn feddwl, Siencyn Tomos?' ebe y cyfaill. Y
bachgen hurt!' ebe yntau, ond Phillip Morgan, o'r lle a'r lle.'O, do yn wir,'
medd y cyfaill, 'mi glywais.' 'Wel,' ebe yntau, fe ddiangodd byth, mi
goeliaf. Do fe ddiangodd; ond nid o herwydd ei fod yn bert mwy na thi a
minau. Eithr efe a wyddai beth oedd ffaelu a byw yn y fan draw, a'i symud i'r
fan hyn; dyna fu am ei fywyd ef.' Gan hyny gwaeddodd yn groch allan, ‘O am
fyned trwodd o farwolaeth i fywyd!' Nid oes dim yn eglurach na'i fod mewn
ymdrafodiaeth gyson a chrefydd, ac å byd didranc.
Pan y disgynai rhyw beth cryf ar ei feddwl yn moddion gras, byddai yr olwg yn
ofnadwy arno, gan waeddi a rhuo nes yr oedd yr holl le yn crynu ger ei fron.
Un engraifft o lawer a gawn goffa yn bresenol. Yr oedd cyfarfod yn y Dyffryn,
nis gwyddom yn iawn pwy oedd yn dygwydd bod yn pregethu; bid a fyno, yr oedd
effeithiau anarferol yn disgyn ar y bobl. Arferai Siencyn eistedd mewn
eisteddle y naill ochr i'r pwlpud yn hen gapel y Dyffryn. Yr oedd y gair yn
effeithio arno nes yr oedd yn ymdroi, yn ymdrafod, ac yn ysgwyddo; crafai ei
ben nes yr oedd ei wallt gwyn yn fflwcsyn annyben, a gwreichionai ei lygaid
fel fflam dân. Gyda hyny dacw ef yn neidio dros y seat i ganol y dynion, gan
waeddi yn ddiarbed, 'Satan, cymer fi yn awr; dywed aist ganwaith mai ti
fuasai fy mherchen! dere yn awr, cymer fi heddyw, y diafl, os beiddi.
Haleluia! Ni chei ddim o honof byth. Duw yw yr hwn sydd yn cyfiawnhau; pwy yw
yr hwn sydd yn damnio? Mae yn ddyogel genyf na all
|
|
|
(delwedd J7717) (tudalen 45)
|
45
nac angeu nac einioes, &c., fy ngwahanu i oddiwrth gariad Duw, yr hwn sydd
yn Nghrist Iesu fy Arglwydd.'
Hyd yn hyn nid ydym wedi dywedyd nemawr am ei ddywediadau mewn Cyfarfodydd
Misol a Chymanfaoedd, yn y rhai y cymhellid ef yn fynych i lefaru. Yr ydoedd
yn ffyddlawn iawn mewn teithio i'r cyfryw cyfarfodydd, a byddai o fendith
fawr ynddynt yn gyffredin. Nid oeddynt y pryd hyny ond bychain iawn; ychydig
o bregethwyr, a rhai offeiriaid, yn ymuno â'u gilydd i geisio dwyn achos
crefydd yn y blaen mewn dull mwy perffaith, yn eu tyb hwy, nag oedd yn
Nghymru yr amser hwnw. Yn eu cyfarfodydd yr oeddynt yn dra effeithiol yn aml;
cyfarfyddent yn Ysbryd yr Arglwydd, yn llawn tân nefol o gariad at eu gilydd,
ac at eneidiau dynion. Yr oedd y peth nesaf i fod yn anmhosibl i'r cythraul
ddodi ei fys i mewn rhyngddynt heb ei losgi, gan mor wresog y cariad ag oedd
rhyngddynt a'u gilydd. Yr oedd rhyw undeb santaidd yn cael ei fagu yn y
teimladau hyn, fel yr oeddynt yn siarad â'u gilydd fel plant wedi eu magu ar
yr un aelwyd; ac wrth eu gilydd y siaradent, nid y tu cefn i'w gilydd.
Cyfrifid Siencyn yn gampus yn yr ymddyddanion hyn, gan ei fod yn wrol i
ddyweyd ei feddwl, ac yn ddiduedd yn ei holl ymwneyd å dynion. Mewn cyfarfod
o'r fath yma, yr oeddent yn siarad â dyn ieuanc yn y weinidogaeth, yr hwn
oedd yn lled anystwyth, a phur falch ei ymddangosiad. Yr oedd hwn a'r llall
yn dyweyd amryw o gynghorion wrtho, ond nid oedd yn debyg ei fod yn ymgymeryd
yn wych â hwynt. Yr oedd fel llawer, mae'n debyg, yn tybied mai ffyliaid gan
mwyaf oedd yr hen bobl, a'i fod ef yn gwybod ei hun fwy na hwynt oll gyda eu
gilydd. 'Siencyn Tomos,' ebe rhyw un, a oes gyda chwi ddim i ddyweyd? Mi
ddywedaf i chwi,' meddai; rhaid i chwi dynu y gwalch drwy y simne cyn y
gwnewch ddim byth ag ef.' Yr ydoedd yn dyweyd wrth ryw ddyn ieuanc oedd yn
dechreu pregethu tua'r Pil, fod yn rhaid ei dynu ef dair gwaith drwy y simne
cyn dechreu dyweyd dim. Mawr y mae amser yn newid pethau! Yn wir, fe allai,
pe cylymid yn nghyd simneiau fy ewythr Siencyn a cholegau yr oes hon, a thynu
pregethwyr drwy y naill a'r llall, y byddai gwell dynion i'w cael, ac y
cyfarfyddid yn res tua'r canol yn rhywle. Darlith bob yn ail yn y lecture
room a'r simne, a allai fod o les anrhaethol. Byddai y naill yn rhoi
gwybodaeth o bethau yn gyffredinol, a'r llall yn gweini addysg neillduol ar
huan-adnabyddiaeth. Rhaid yw dywedyd nad yw
|
|
|
(delwedd J7718) (tudalen 46)
|
46
y dyn hwnw ddim yn gampus mewn gwybodaeth sydd heb adnabod ei hun,
Adroddir hanes Cyfarfod Misol yn Llandrisant, y bu ein hen gyfaill yn dyweyd
ychydig o'i brofiad ei hun; a byddai gyda hyn, fel pob peth arall, yn dra
gwahanol i ddynion ereill. Dechreuwyd y cyfarfod gan Mr. Richard James, ac
awd yn y blaen wedi hyny gan gymhell eu gilydd i ddyweyd, heb enwi neb. Yn
fud fel hyn y buont am gryn dro. Ebe rhyw ddyn ieuanc, Siencyn Tomos, beth a
wnawn fel hyn? Dim am wn i,' meddai yntau, ond gwastraffu amser.' Wel,' ebe y
gwr ieuanc, gofynwch rywbeth i mi, a minau a ofynaf i chwithau wedi hyny, i
gael y cyfarfod yn y blaen.' Nid felly,' ebe yntau,mi ddywedaf fi dipyn yn
gyntaf. Mi a wnaethum bond (cronfa ddwfr) yr wythnos ddiweddaf, tua phedair
troedfedd o ddyfnder, ac y mae ffrwd dda o ddwfr yn rhedeg iddo a throsto:
digon o fodd i'r anifeiliaid gael dwfr, ac i'r gwyddau a'r hwyaid i nofio.
Yna mi a eisteddais, ac a edrychais, ac a ymffrostiais, gan ddy wedyd wrthyf
fy hun, O, ho, yr wyf yn drech na'm cymydogion o lawer, canys y mae fy mhond
dwfr i yn loyw, a'u pondydd hwy i gyd yn frwnt a thomlyd. Ond ar fyr enyd,
clywn lais dystaw yn dywedyd, Ai ie, Shanco? mi dy ffitia i di yn awr. A
pheth a wnaeth y gwr debygech? Gyru mochyn trwy fy mhond a wnaeth, nes oedd yn
llaid i gyd o'r gwaelod i'r wyneb, heb un man gloyw i weled ynddo; ac ar hyny
darfu fy ymffrost; a dywsdais, Wel, wel, darfu fy llaf ur. 'Does dim sydd
well na chael ffrwd gref o ddwfr ffynon i olchi fy mhond a minau. Mae yn
debyg fod y patriarch wedi teimlo awydd gref i wneyd cronfeydd o
ddyledswyddau a gweithredoedd dynol, a'u cadw yn gyfleus wrth bwys, fel na
fuasai arno drafferth fawr i gyrchu dwfr, ac fel hyn yn ystyried esmwythder
crefyddol. Yr oedd yn ymddangos yn bur loyw nes gyru y mochyn drwyddo; ond
wrth ei aflonyddu, dangoswyd ei fod yn llawn budreddi yn y gwaelod.Mae
profedigaethau yn cymysgu y dwfr sydd yn ymddangos yn risialaidd, nes ei fod
yn lled frwnt rai gweithiau, ïe, yn rhy frwnt i ddim yfed o hono. Yr unig
ffordd, yn nhyb yr hen frawd, oedd cadw ffrwd gref o ddyfroedd Calfaria i
redeg yn gyson ar ei draws ef a'i ddyledswyddau, i'w cadw yn bur.
Mewn un arall o'r cyffelyb gyfarfodydd, wedi hir ymddyddan â blaenor,
gofynwyd i Siencyn Tomos ddyweyd rhyw beth wrtho, Yntau a gododd, ac a ddywedodd,
'Yr wyf yn
|
|
|
(delwedd J7719) (tudalen 47)
|
47
deall nad yw dy ddiod di mor flasus ag y bu hi; a pha beth yw yr achos;
debygit ti? Yr oedd hen wraig gynt yn byw yn mhlwyf Ystradfellte, mewn
tŷ bach ar ymyl y ffordd, lle y byddai llawer o drafaelu heibio tua'r
calch, ac yn gwerthu diod i'r sawl a alwai. Yr oedd yn yr arferiad o ddarllaw
ei hunan gartref, ac wedi cael gair mawr ei bod yn cadw diod dda iawn. Os
byddai rhyw beth yn rhagori, dywedai y bobl ei fod cystal a diod modryb Bess
o'r Ystrad. Y llancian oeddynt yn arferol o deithio yn ol ac yn mlaen tua'r
calch y ffordd hono, a alwent wrth fyned heibio yn lled aml am ddracht o
ddiod; ac ar ol yfed damper, galwent yn gyffredin am un arall, gan mor dda
ydoedd. Modryb, ebe hwynt, y mae eich diod mor dda, ni a fynwn damper eto. Yn
mhen enyd, meddyliodd yr hen wreigan mai haws a llai trafferthus o lawer
fyddai iddi brynu casgen o ddiod, ac felly hi a brynodd gasgen o borter. Dyma
y llanciau yn dyfod wedi hyny i gael dracht yn eu syched: profi y ddiod,
gwneyd clem, edrych i mewn i'r damper, a chymeryd dracht eilwaith, cyn dyweyd
dim. Hach, modryb, ebe hwynt o'r diwedd, nid diod o'ch gwaith chwi yw hon.
Ffarweliwch, ffarweliwch, modryb. Deallodd yr hen wraig, er ei cholled, erbyn
hyn, ei bod wedi camsynied.' Ar hyn efe a drodd at William, ac a ddywedodd,
Frawd, berwa dy ddiod yn dy dy dy hunan gartref, ac na ddyro o flaen dy
frodyr a dy chwiorydd ond y peth y gwyddost sydd yn ymgeledd a
meddyglainiacth i dy enaid dy hun. Unwaith yr âi di i ddelo mewn porter, bydd
dy ffryns yn troi eu cefnau arnat. Dro arall, mewn ymddyddanion â'r
blaenoriaid, yr oedd yr hynaf a'r blaenaf o honynt yn achwyn ar ei sychder
a'i syrthni gyda hi, ac yn ymddangos fel pe buasai wedi colli tir yn ei
ysbryd gyda chrefydd, oddiwrth y peth y gwelwyd ef. Torodd Siencyn allan yn
danbaid, gan ddywedyd, Jack, Jack, hoga dy gryman; hoga dy gryman, Jack. Ti
ydyw y medelwr blacnaf yn y fan hyn er ys llawer blwyddyn bellach; ac yn wir,
chwareu teg, medelwr go dda hefyd. Ond yn awr y mae'r peth yn wahanol; y mae
bwlch yn dy gryman. Eto mi dy gynghoraf di i fyned â dy gryman i'r maen y bum
i wrtho boreu heddyw; fe ddaw hwnw ag ef i awch eto.' Yna, gyda llais
dyrchafedig, gwaeddodd, Jack, hoga dy gryman, onide fe ddaw Arglwydd y fedel
i dy droi oddiar y grwn, am dy fod ar ffordd y gwaith i fyned yn y blaen.'
Dywedir fod yn anmhosibl darlunio effeithiau y dywediad uchod ar y brawd ei
hun, ac ar y cyfarfod yn gyffredinol.
|
|
|
(delwedd J7720) (tudalen 48)
|
48
Yr ydoedd fel pe gwefreiddiasai yr Hollalluog bob cnawd. Danfonid ef bron yn
wastad i ymweled â'r eglwysi ar bob achos o bwys, a byddai ei wasanaeth yn
dra effeithiol y rhan fynychaf i ateb y dyben amcanedig. Amryw flynyddau cyn
diwedd ei oes, daeth brawn a chŵyn i Gyfarfod Misol y Sir, fod yr achos
mewn un man yn hynod adfeiliedig, ac yn gwywo bob dydd; nad oedd yno fawr o
bregethu wedi bod yn y misoedd diweddaraf, na nemawr o ymgais yn aelodau y
lle am ychwaneg, ac os nad edrychid atynt yn fuan, fod yr achos yn debyg o
fyned i'r dim. Gwrandawodd pawb yn astud ar y cwyn galarus, ae wedi bod
gosteg am ychyd ig, dywedodd rhywun, Y mae cyhoeddiad hwn a hwn yno heno, a
pheth pe bai un o'r brodyr ereill yn myned gydag ef, a galw society yn ol, i
geisio eu hadferu hwynt.' Yna yr hen ŵr parchus, William Tomos o'r Pil,
a atebodd gydag awdurdod, gan alw ar Siencyn Tomos, 'Siencyn, y mae yn rhaid
i ti fyned yno; a'n gweddi ninau oll a gaiff fyned i'r nef am lwydd ar dy
fynediad.' Felly efe a ufuddhaodd, a thuag yno yr aeth. Ar ol yr oedfa
gyhoeddus, galwyd ar yr yr eglwys i aros ar ol, a dechreuwyd rhoddi y peth
ger bron gan y gwr oedd gydag ef, ac yntau yn gorwedd ar ei hyd ar y faine.
O'r diwedd dywedodd ei gyfaill, 'Dowch, Siencyn Tomos, codwch at eich
gwaith.' Yntau a gododd gyda byn, ymysgydwodd, ac edrychodd o'i amgylch, fel
pe buasai y bendro arno; yna, gan sefyll a'i bwys ar ben ei ffon ar ganol y
tŷ cwrdd, dywedodd, Hawyr, beth yw'r mater arnoch! Rhod dda yw'r rhôd,
dwfr da yw'r dwfr; paham na thry y rhôd, hawyr? Aeth yn fud am ychydig, gan
edrych yma a thraw. O,' meddai yn sydyn, 'mi welaf shwt mae y rhod yn pallu
troi; ar y cafn tyllog yna y mae y bai; y mae y p dwr yn myned i golli; 'does
dim posibl iddi droi.' Yna dechreuodd alw y bobl wrth eu henwau, canys
adwaenai hwy oll. Galwodd yn gyntaf y blaenol; Dafydd, Dafydd y teiliwr,
onide? Nage; Dafydd y ffermwr, y ffermwr mawr; ïe, y melinydd; gwerthu can
wrth y sachau. Pa le y mae'r grefydd Gwir y dywedwch; bron yn annghof, bron
yn annghof. Y byd, y fasnach, wedi llyncu y grefydd o'r golYna efe a drodd at
hen foneddiges, Mrs. hon a hon, yr hen wraig foneddig dduwiol, ac anwyl gan
bawb, pa le y mae hi? Yn soddi yn ngofalon y byd y mae hithau; mŵn
haiarn yn y graig, a llawer o bethau eraill. Pa le y mae Miss hon a hon, y
ferch foneddig ffyddlawn gyda chrefydd; ïe, a fu felly, ond beth yn awr? O,
caru cnawdol, hwn yn
|
|
|
(delwedd J7721) (tudalen 49)
|
49
lanach, a'r llall yn gyfoethocach. Beth am fater enaid? Gwir iawn, bron yn anngof.
Catrin, Catrin, tydi sydd yna onide? A ydwyf yn camsynied? Catrin?' 'Ie,' ebe
hono. 'Të, ei chorff hi,' ebe yntau, ond pa le y mae ei henaid hi? Ah! wedi
boddi, yr wyf yn ofni, mewn cybydd-dod.' Fel yna yr aeth dros bawb, yn fyr,
yn ei ffordd hynod ei hun, gan ddywedyd pethau lled bwrpasol wrthynt oll.
Wedi rhoi gwers bersonol i bob un, cododd ei lef yn sydyn, a gwaeddodd,
Dihunwch, bobl! bobl! y mae Mab Duw yn dyoddef yn y lle hwn yn awr yn ei enw
o'ch plegyd chwi. Dihunwch, dihunwch drwy ras, onide fe'ch dihunir à barn.'
Ar hyny dacw ef yn syrthio i lawr ar ei ddeulin, ac yn gweddio am i'r nefoedd
roddi yr Ysbryd Glan i bawb ag oedd yn y fan, i adferyd yr achos a diwygio y
bobl gydag ef. Erioed ni chlywyd y fath daerni, ac effeithiau yn gydfynedol,
ebe hwy; syrthiodd yr un ysbryd ar bawb oedd yn y tŷ, nes nad oedd dim
ond gweddio ac wylo yn eu plith, yn fenyw ac yn wrryw. O hyny allan llwyddodd
Duw yr achos yn y fan hono, a derbyniwyd tua deg ar hugain o aelodau
newyddion yn bur fuan. Cododd Duw hefyd fab i'r blaenor uchod i waith y
weinidogaeth, yr hwn sydd wedi bod yn un o addurniadau penaf Methodistiaeth
yn Morganwg hyd y dydd hwn.
Nid oedd yr un duedd yn ein hewythr Siencyn i alw am ant dân o'r nef i ddifa
neb, pa gynddrwg bynag y byddent; ond ch ymdrechai yn ddiflino am yr Ysbyyd
Glan i achub pawb oddiwrth eu pechodau. O herwydd ei duedd gymodlawn, na a'i
lwybr rhyfeddol o lwyddianus at heddychiad pleidiau mewn ymrafael, gelwid ef
Siencyn Tomos y tangnefeddwr.' Byddai yn llwyddo, ryw fodd, i wneyd heddwch
wedi i bawb. Yereill fethu. Adroddir am amgylchiad yn Nhaerphili, tra
annghysurus. Yr oeddent oll, wedi hir ymrafaelio a'u gilydd; ac wrth geisio
gwneyd i fynu, yr oedd y fflamau yn cyneu yn waeth. Bu y Parch. Mr. Jones,
Llangan, ac ereill yno droion; ond nid oedd dim yn tycio. Anmbosibl bron oedd
cael taw ar dafodau yr ymrysonwyr, os unwaith y dechreuid ymddyddan ar y
mater. Yr oedd y rhan fwyaf wedi penderfynu bod eu hachos yn anfeddyginiaeth,
ac na fuasai dim yn rhoi taw ar eu tayodau ond angeu. Beth bynag, yn rhyw
Gyfarfod Misol, wedi adrodd yr hanes, a chanu y gloch uwch eu penau, dywedodd
rhywun am ddanfon Siencyn yno fel y feddyginiaeth olaf. Wedi cymhell cryn
lawer arno, ufuddhaodd i fyned. Yno yr aeth; a dywedodd gryn lawer
|
|
|
(delwedd J7722) (tudalen 50)
|
50
am yr annuwioldeb o gynal i fynu ymrafaelion, yn nghyda'r aflwydd a'r dinystr
yr oedd hyny yn ei ddwyn ar grefydd. Ond er y cwbl yn dân gwyllt yr aeth
pawb, gan ddyweyd i gyd ar unwaith, a phawb yn cael y camwri mwyaf oddiar
ddwylaw eu gilydd. Aeth Siencyn, a'i ffon yr ei law, i gerdded i fynu ac i
lawr ar hyd y capel, a chan gòdi ei olygon tua'r nef, a tharo y llawffon yn
erbyn y llawr, gofynodd, 'Arglwydd, ai dy ddyweddi di yw hon?' Tynwyd sylw y
bobl oddiwrth y glec at Siencyn, a thawsant gan edrych arno; yntau yn cerdded
yn gyflym yn ol a blaen, gan ofyn, 'Arglwydd, ai dy ddyweddi di yw hon? Lladd
hi' eb efe. Yna, fel pe atebasai rhyw un, 'Na wnaf.' 'Gwerth hi, ynte!' 'Na
wnaf.' 'Gwad hi!' 'Na wnaf.' Yna cododd ei lais, a dywedodd, 'Hi gostiodd yn
rhy ddrud i mi; gwerth fy nwyfol waed yw hi. Pa fodd y rhoddaf hi i fynu, a
pa fodd y gadawaf hi ychwaith? Yna syrthiodd i lawr, a gweddiodd yn dra
effeithiol, a Duw yn ddiamheu yn tywallt ei Ysbryd mewn modd annghyffredin,
nes oedd y bobl, pan gododd oddiar weddi, yn foddfa o ddagrau, ac yn
cofleidio eu gilydd yn un cwlwm, gan waeddi am faddeuant, Felly y terfyn. wyd
y ffrae hon mewn perffaith dangnefedd a chydweithrediad. Nid dyn plaid oedd
Siencyn, ond dyn Duw oedd efe, yn ymdrech nid i gario y fuddugoliaeth, ond i
ddyfod a phob plaid at yr Arglwydd, a'u gadael yno.
し
Ryw dro pan oedd Siencyn a'i gyfaill ar daith bregethwraidd yn Sir Gaer, yr
ydoedd mewn profedigaethau aml yn achos ei geffyl. Yr oedd yr ebol yn weddol
deneu yn cychwyn; ac ymddangosai bob dydd fel pe byddai y daith yn m methu
cytuno â'i gyfansoddiad. Ofnodd nad oedd yr efeng yl yn darpar yn fras ar
gyfer y ceffylau, beth bynag am ddynion. Cynhyrfodd hyn ei gywreinrwydd i
wneyd ymchwiliad manylach i'r mater, drwy ddilyn yr anifail i'r ystabl i
weled ansawdd y fywioliaeth. Mewn llawer man nid oedd dim ond coed a cheryg ger
bron yr anifail gwirion, ac yntau yn codi yn dair blwydd oed, o ganlyniad yn
colli ei ddanedd, fel yr oedd y peth nesaf i anmhosibl i'r anifail i ymborthi
ar ddefnyddiau mor galed ac anni hreuliadwy. Byddai rhyw fanau ereill yn fwy
cywrain a dichellgar; cadwent ddigon o wair yn y rhesel, ond yn edrych yr
oedd mor llwyd a'r llaca; gallasai fod yno oddiar dyddiau yr apostolion, heb
un angen am ei newid, oblegyd ni chffyrddai un creadur anresymol ag ef. Fel
hyn yr ydoedd yr ebol yn gwaelu o ddydd i ddydd, ac o herwydd hyny yr oedd
Sien-
|
|
|
(delwedd J7723) (tudalen 51)
|
51
cyn mewn ysbryd gwahanol i efengyl yn aml, a hylldremai weithiau i'r nefoedd,
ac weithiau ar bedwar asgwrn y ceffyl. Beth bynag, ryw ddiwrnod daeth at
gapel, lle y croesawyd ef yn fwynaidd gan ddiacon, yr hwn oedd yn bur
drwsiadus ei wisg, ac o ymddangosiad fel rhyw haner gwr boneddig. Tybiodd
Siencyn wrth gwrs y byddai yn anfoneddigaidd iddo redeg ar ol y bachgen i'r
ystabl, fel pe bai yn drwgdybio dyn mor gyfrifol, ac felly aeth i'r tŷ,
gan adael rhwng rhagluniaeth ag ef y waith hon. Amser yr oedfa ddaeth, a
chododd y cyfaill a'r diacon anrhydeddus i fyned i mewn i ddechreu y
gwasanaeth; pan y cymerodd Siencyn arno ei fod yn troi ffordd arall. Ýr ebol
oedd yn ei feddwl ef, ac yn methu yn un wedd ei ymddiried i ofal
rhagluniaeth. Tr ystabl yr aeth, gan obeithio fod gwledd y tro hwn gan y
ceffyl; ond och fi! erbyn edrych dacw ef yn pendrymu fel haner marw, heb
fwyta un tipyn o'r danteithion. Synodd y Patriarch. Beth,' eb efe, 'a ydyw y
ceffyl yn cael gwaew? digonedd o wair o'i flaen ac yntau yr. peidio profi
dim.' Nesaodd at y rhesel, edrychodd y gwair, aroglodd ef, ocheneidiodd, ond
ni regodd o drugaredd, er fod yr amgylchiadau yn ddigon i wneyd i 'ffeiriad
regu, yn mron. Yr oedd y gwair yn drewi yn ffiaidd gan lwydni a malldod, fel
yr oedd islaw archwaeth yr anifail a ddyfethir chwaithach hyny, Gallesid
tybied am dro fod ei feddwl mewn anialwch Arabaidd, rhwng yr ebol a'r rhesel,
heb wybod beth i wneyd, na pheth i ddywedyd. O'r diwedd ymddangosai fel yn
dychwelyd yn araf i'w bwylligrwydd, yn plygu ei ben fel mewn myfyrdod dwfn,
ac o'r diwedd ymddangosai fel wedi penderfynu beth i wneyd. Gyda hyn, wele ef
yn ymaflyd mewn dyrnaid o wair llwyd, ac yn ei roddi yn mhoced ei got, a
ffwrdd ag ef nerth ei draed i'r capel. Erbyn hyn yr oedd yr addoliad yn
cerdded yn rhwydd, a phawb yn dysgwyl y pregethwr olaf. Cymerodd ei destun, a
phregethodd yn daclus, fel pe na fuasai dim yn bod. Ar ddiwedd y cwrdd, fel
yr oedd arferol, cyhoeddodd y blaenor fod y society i aros yn ol. Dechreuodd
y gwr boneddig ganmol y cwrdd, a gofyn a oedd neb a chwant dyweyd tipyn; ond
anhwylus a thrwm y cerddai yr olwynion, a dystawrwydd yn selio pob gwefus.
O'r diwedd dyma Siencyn yn ymysgwyd, a dechreu crafu ei ben, yr hyn oedd yn
rhagarwyddo berwad ei grochan, a bod rhyw beth bron yn dyfod allan. Dacw ef
yn neidio ar ei draed, ac yn edrych yn wyneb y diacon fel dyn gwyllt newydd
ddod o'r coed, gan ofyn iddo, Beth pe baech
|
|
|
(delwedd J7724) (tudalen 52)
|
52
chwi yn dywedyd ychydig o'ch profiad, syr; y maent hwy yn dyweyd o hyd, fe
allai y carech chwi gael y cyfleusdra hwn. Dechreuodd y diacon siarad rhywbeth
trwy ei drwyn am ei ofnau, ac amryw bethau cyffelyb, yn dra anfoddlonol i'n
hewythr Siencyn. Bid a fyddo, dyma fe yn tynu y dyrnaid gwair o'i boced, a'i
ysgwyd am draws y diacon, nes yr ydoedd ei ben a'i ddillad golygus yn wair,
yn llwch ac yn fwnws bob tipyn bach; ni welsoch y fath bowdro ar ddyn erioed;
a Siencyn yn ysgwyd y sopyn gwair uwch ei ben, yn gwaeddi gyda nerth
anorchfygol, Mae dy grefydd mor llwyded a hwn roist ti o flaen fy ngheffyli;
dyma bictiwr dy grefydd di.' Dywedir i'r ddarlith hon effeithio yn rasol ar y
dyn yn y canlyniad. Byddai Siencyn fel hyn yn gwneyd mwy o lesâd â dyrnaid o
wair llwyd na haner y byd a dyrneidiau o aur melyn.
Yn cydoesi â Siencyn yr oedd dyn bach o bregethwr, yn byw yn ardal y
Creunant, a adnabyddid wrth yr enw Thomas Price, o'r Creunant; a dywedir ei
fod yn llawer iawn o bregethwr' ar amserau, a chredai yntau ei hun yr un peth
yn ddiysgog, yr hyn oedd yn help mawr i fyned yn y blaen, fel y gwyddoch,
Gallem feddwl wrth yr hanes, ei fod yn fwy cymhwys i ryw dref yn yr amseroedd
hyny nag i ardal fynyddig y Creunant. Yr oedd ef yn ddyn bach o darawind
smart, calonog, a phenderfynol o ran ei ymddangosiad, yn rhyw beth tebyg i
haner gwr boneddig. Ymddangosai yn mhlith y Creunantiaid fel bod uwchraddol,
wedi disgyn o Jupiter, neu o leiaf rhai o gymydogaethau y ser dysglaerwen. Yn
lle yr het dros y llygaid agos, a choat o frethyn llwyd, llaes fel cwd ar y
cefn, yr oedd Price a dandy hat, ac yn gogwyddo tua'r ochr ddehau, neu yn ei
gwisgo y naill ochr idd ei ben, fel y dywedir yn gyffredin. Coat ddu, o
doriad teiliwr Llundain, yn dyn am y canol, a'i chwt dipyn yn hir, ac yn
flaenfain, rhyw beth yn debyg i gynffon pia. Fel hyn yr oedd Tom Price yn
ddyn bach go bert a thestlus i edrych arno, wedi rhedeg rhyw haner cant neu
driugain mlynedd o flaen ei gydfforddolion. Er hyny traddodiad â ddywed nad
oedd yn hollol anenwog yn y pwlpud bob amser, yn enwedig os celai y gwynt
gydag ef, fel y dywedir.Eto fe ddylid, tebygem, briodoli hyny i'r gwynt, nid
i'r dyn; oblegyd rhaid i bob peth fyned o flaen y gwynt. Adroddir am Tom
Priee yn pregethu mewn Cwrdd Misol, lle yr oedd y rhan fwyaf o hen gyfeillion
y Sir yn nghyd, ac yn mhlith ereill ein hewythr Siencyn Penhydd. Cafodd Tom
hwyl, ac
|
|
|
(delwedd J7725) (tudalen 53)
|
53
yr oedd llawer yn cael hwyl o dano; yr oedd yn hynod o lewyrchus, fel y
dywedir. Yn ngwres yr hwyl Price oedd ben; ymddangosai fel cawr, yn curo yn
fwg ac yn darth, gan goncro a sathru galluoedd uffern dan draed. Ond yn
sydyn, fel taro dwylaw yn nghyd, dyma hi yn flat, ac yn tywyllu fel y fagddu,
a'r pregethwr yr myned yn y blaen yn enbydus o dlawd. Tom, druan ddim yn
ddigon call i ddybenu lle darfyddodd yr hwyl, wrth geisio ei gwneyd hi, yn myned
yn salach, nes yr oedd pawb yn barod i gilio rhag ei ysgrechfeydd ansoniarus.
Bid a fyddo, gorfu arno ddybenu ryw bryd yn nghanol tywyllwch dudew ac
annghymeradwyaeth gyffredinol. Wedi myned i'r tŷ, yn mhen rhyw getyn
wele Siencyn Tomos yn dechreu ysgwyd ac ymgrafu, fel pe buasai yn anelu at
ddyweyd rhyw beth. Wedi gwasgu yr hen het, nes ydoedd fel teisen ar ei hen,
yn nghyda rhyw bethau ereill oedd yn gyffredin yn rhagredeg ei athrylith,
dywedodd wrth y p[r]egethwr, 'Twm, a wyddost ti shwt y bu hi heno, fachgen?
Os na wyddost, mi ddywedaf fi wrthyt: Fe ddichon i ti fyned i'r pwlpud dan
ofni a chrynu, ac o ganlyniad yn gweddio am help i fyned drwyddi. Wel, Tom
Price, ebe yr Arglwydd, yn gymaint a dy fod yn teimlo dy annigonolrwydd at y
gorchwyl, mi ddof gyda thi, ac a'th gynorthwyaf. Felly. y bu, a hi a aeth yn
y blaen yn dda annghyffredin am getyn, a'r bobl yn cael blas. Blas Duw
ydoedd, nid dy flas di, cofia. Pan oedd Duw yn rhoi nerth, a thithau yn curo
yn y blaen, wele ryw ddiafol yn dyfod atat, yn codi flap y goat ddu, ac yn
curo dy gefn gan ddywedyd, Dal wrthi, Tom Price. Teimlaist ti ddim llawer
oddiwrth hwnw; ond yn mhen ychydig dyma un arall yn dod ac yn rhoi slap ar dy
gefn, gan waeddi, Well done, Tom Price; ti fyddi o'u blaen i gyd. Ond nid oedd
dim niwed yn hyny, oblegyd pwy allasai atal y diafliaid brwnt rhag dod yno?
Mi ddywedaf wrthyt yn mha le y bu y drwg; ti a gymeraist, fel Adda, o ffrwyth
y pren, a throdd yn felldith yn union. Pe buasit ti yn ei adael i waeddi Tom
Price nes buasai yn grug, ni fuasai niwed, ond yn lle hyny tithau a darewaist
dy ddwylaw yn nghyd, gan waeddi yn groch, Well done, Tom Price hefyd. Ah, ah,
ebe'r nefoedd, Tom Price, ai ie, a dacw hi yn tynu ei llaw yn ol, ac wele Tom
druan yn sport i gythreuliaid, yn ddirmygedig yn ngolwg dynion, yn dlawd ac
heb gerpyn i guddio ei noethni.'
Yn amser ein hewythr Siencyn yr oedd campau a chwareuyddiaethau Cymru mewn
bri cyffredinol gan fawr a mân.
|
|
|
(delwedd J7726) (tudalen 54)
|
54
Nid oedd braidd swn dim ar dymhorau ond chwareu pêl, ymladdfeydd ceiliogod a
chŵn, y bêl droed, a'r bando. Yr oedd plwyf Margam, lle trigianol Siencyn,
yn ddosbarth nid anenwog yn y celfyddydau hyn, yn enwedig y bando. Yn ein cof
ni yr oedd y plwyf hwn yn glodfawr dros ben; a molianid y llanciau gan
filoedd trwy y gwledydd am ystwythder a chyflymder eu symudiadau, yn nghyda'u
destlusrwydd a'u deheuder yn gyru y bêl. Yn wir, fe fu Siencyn ei hun yn
nyddiau ei ieuenctyd yn un o gystadleuwyr goreu yr oes. Gwelwyd ef lawer
gwaith ar draeth Cynffig yn herio y wlad ar fando neu ddwrn. Beth bynag,
dygwyddodd i blwfi y Pil a Margam wneyd match i chwareu ar draeth Cynffig, am
ryw gymaint o arian y gwr; a mawr y swn oedd, fel arferol, am yr amser
apwyntiedig. Dyna oedd gan bob dau, yn fenyw a gwrryw; ac ni welsid nemawr i
blentyn, o flwydd oed ac uchod, heb fando yn ei law. Yr oedd yr ysbryd hwn
mor gerddedol a chyffredinol, fel pe buasai wedi ei dywallt ar bob cnawd, a'r
wagers yn myned yn mlaen fel y gwynt. Edrychwyd, bid sicr, am y bechgyn mwyaf
gwisgi a champus yn yr holl ardaloedd, y rhai oedd yn gwybod am bwys a gwres
y dydd o'r blaen, ac wedi eu dysgyblu i'r man eithaf. Yr oedd bachgen yn
ardal Taibach, at yr hwn yr oedd llygaid agos bawb yn troi, fel prif gampwr
yr oes. Nid ydoedd yn ddyn mawr o ran corffolaeth, yn hyt rach fel arall, ond
ystwyth ei symudiadau, a bron yn anffaeledig ei ergydion. Ymorchestodd yn
nechreuad ei oes i'w wneyd ei hun yn enwog fel rhedegwr, yn nghyda chywrein.
rwydd yn nhriniaeth y bando. Mae llyn yn gyfagos, yr hwn a elwir Pwll
Cynffig, yn mesur oddeutu tair milltir o gwmpas; y peth cyntaf bob boreu
wedli codi o'r gwely a wnai y gwron hwn oedd rhedeg tair gwaith o gylch y
llyn, er mwyn dysgyblu ei draed, ei ewynau, a'i anadl. Cyrhaeddodd yr amcan
yn bur dda hefyd, meddant, canys rhedai fel hydd yn agos, nes oedd braidd ond
ei lun yn ganfyddadwy wrth fyned heibio. Yr oedd deheurwydd ei ergydion hefyd
mor ryfeddol fel nad oedd yn methu taro y bêl i bellder annghredadwy, gan ei
hofran drwy yr awyr las dan chwibian fel pelen magnel. Yr oeddem ni yn adwaen
y gwr hwn yn dda, ond y oedd wedi heneiddio yn ein cof cyntaf, fel nad oedd
dim olion y pethau uchod yn ganfyddadwy. Cynaliwyd y pwyllgor yn Margam, at
ddethol y gwŷr oedd i gymeryd rhan yn yr ymdrechfa, a golygai pawb yn
unfrydol mai gobaith gwan oedd am fuddugoliaeth, heb gael y dyn
|
|
|
(delwedd J7727) (tudalen 55)
|
55
ieuanc hwn yn mlaen y chwareu. Yr oedd erbyn hyn rwystr mawr ar y ffordd,
serch hyny, fel yr oedd pawb yn methu deall beth i wneyd. Drwy nerth diwygiad
grymus a ymwelsai â'r wlad hon ychydig cyn hyny, cipiwyd y llanc hwn 'megys
pentowyn o'r gyneu dân,' ac yr oedd yn awr, er gofid dirfawr i'w gyfoedion,
yn grefyddwr. Er hyny nid oeddynt wedi rhoi fynu yn lân nad oedd
yn bosibl ei adenill, a'i gofrestru o'r newydd yn mhlith y glewion. Danfonwyd
dau o'r mwyaf dawnus ac athrylithgar i osod pethau yn drefnus ger ei fron, a
dymuno ci gydweithrediad gyda hwynt, y waith hon, beth bynag. Mae yn debyg
iddo wrthwynebu y tro hwn yn gadarn, gan roddi ateb penderfynol i genadon y
genedl. Ar yr un pryd cynyrchwyd profedigaeth yn ei feddwl a ganlynwyd ag
ymrysonfa aruthrol. Daliwyd o flaen yr enaid mewn lliwiau godidog yr hen
fuddugoliaethau gynt, yr ysnodenau yn chwifio yn yr het, ac ar y ddwy
ysgwydd, yn nghyda'r bloeddiadau o fawl a arllwysid ar eu penau nes hollti
heolydd llydain yn yr awyr. Ah! dacw draeth Cynffig o flaen ei lygaid ar
ddydd y gystadleuaeth ddyfodol; dacw'r miloedd yn ymgrynhoi, ac wele yr holl
faes yn bortreiedig o flaen ei lygaid. Ow! y mae yn cael ei gario ymaith yn
nheimlad ac ysbryd y gamp! Och! ebe yr enaid yn mhen tipyn, wedi iddo ddod
ato ei hun, ai dyma lle yr wyf yn y diwedd? Grudfanodd, wylodd, a cheisiodd
weddio am feddeuant. Tybiodd iddo gael maddeuant, am mai pechod o wendid
oedd, a theimlai gysur yn cael ei adferyd i'w enaid. Tra yr oedd cysur yn
dechreu dychwelyd 1 i'w enaid fel hyn, ac yntau yn mwynhau ychydig o dangnef
edd, mae yn debyg fod y pwyllgor yn eistedd i gymeryd dan sylw y moddion
tebycaf i'w ddenu a'i ddwyn drosodd at ei hen gyfeillion.
Penderfyniad y committee hwnw beth bynag fu, danfon parselyn, yn cynwys
dillad chwareu plwyf Margam, iddo erhyn y diwrnod. Yr oedd dillad o wahanol
liwiau gan y plwyf, fel sydd gan wahanol deyrnasodd, ac mae rhyw beth yn y
colours sydd yn twymno gwaed dynion yn rhyfedd, y y mae yn debyg. Hyd yr ydym
yn cofio yr oedd gwyr Margam yn arfer coch a gwyn. Daeth y dillad aml-liwiog
hyn, beth bynag, yn gryno mewn neisied i'r bachgen un diwrnod, ryw ychydig
cyn y dudd apwyntiedig. Rhyfedd byth; dyma ystorm newydd yn codi, gwaeth na'r
gyntaf. Ow! dyma y pedwar gwynt o'r diwedd fel yn cyfammodi i chwythu ar
bedair cong! y tŷ. O! pan welodd efe y lliw-
|
|
|
(delwedd J7728) (tudalen 56)
|
56
iau a'r ysnodau, hen arwyddluniau buddugoliaethol blaenorol, y mae yr enaid
yn llesmeirio ynddo-mae awydd myned yn dechreu cymysgu ei feddwl: arswyd ac
ofn yn sefyll wrth y drws, yn bygwth yn ofnadwy os allan yr âi. Erbyn hyn
dyma ystorm newydd yn codi, a'r enaid anfarwol fel llong mewn perygl myned yn
ddrylliau ar leoedd geirwon. Edrychwch, dacw y llestr yn awr yn nghanol yr
Euroclydon, yn cael ei thaflu yma a thraw, gan daro weithiau ar y graig hon,
ac weithiau ar y ceryg daneddog draw, nes oedd pob gobaith am fod yn gadwedig
wedi ei ddwyn ymaith. Yn nghanol y drygfyd hyn, ac ofn soddi am byth, er i'r
herlod roddi y dillad lliwiog am dano, dyma ef yn dechreu dadwisgo, gan daflu
y dillad dros y bwrdd am byth, i ddadlwytho y llong, a chyda y morwyr gynt yn
dymuno ei myned hi yn ddydd.' Yn mhen ychydig wedi dadlwytho fel hyn, ac â'i
ddwylaw ei hunan fwrw llawer o daclau y llong allan, dechreuodd y llestr gael
gwynt mwy ffafriol, a dwr gloywach, a chan adael y lleoedd geirwon hyny, y
mae yn hwylio yn y blaen, er yn 'annyben dros lawer o ddyddiau,' mewn gobaith
cryf am ddyogelwch. 'Teyrnasodd gras trwy gyfiawnder i fywyd tragywyddol' yn
ddiau yn y bachgen hwn, fel yr eglurwyd yn ddigon amlwg, mewn bywyd crefyddol
hirfaith.
Fe allai y bydd llawer yn rhyfeddu pan y dywedir, mai Thomas Robert, hen
ddiacon Dyffryn y Taibach ydoedd y llanc a ddesgrifiwyd uchod-un o
ddiaconiaid goreu yr oes; duwiol y tu hwnt i amheuaeth, cymeriad yr hwn sydd
yn arogli yn esmwyth, tra y mae ei gorff yn pydru yn ngwaelod bedd. Wedi
colli y tywysog hwn o'r fyddin ddu, nid oedd dim i'w wneyd ond troi i edrych
ryw ffordd arall. Y mae yn debyg fod Thomas, mab ein hewythr, yn aelod go
ffyddlon yn y gymdeithas hon, ac nid y lleiaf mewn bri yn mhlith y gamesters.
Byddai yntau, ebe hwy, yn cyrhaedd ergidion cywir a champus ar y bêl yn aml;
a chan nerth aruthrol ei fraich, pan y tarawai hi, byddai yn cael gwynt i
bellder anferthol, ac nid yn anfynych y byddai ergydion nerthol Thomas yn ei
danfon yn ddihafgrch i 'gôl.' Wedi y siomedigaeth gafwyd drwy golli Thomas
Robert, syrthiodd y cyfrifoldeb lawer ar ysgwyddau mab yr hen bregethwr, ac
wrtho yr oedd dysgwyliad cyffredin y plwyfolion. Yr oedd yr hen wr ei dad, yn
ddiamheu, fel y mae yn rhesymol i ni feddwl, yn lled groes i'r fasnach, ac
mewn ymdrech diffino yn ceisio perswadio y bachgen i aros gartref. Byddai
Sien-
|
|
|
(delwedd J7729) (tudalen 57)
|
57
cyn weithiau yn pendrymu, yn fynych yn ocheneidio, a phrydiau ereill yn
dwrdio yn ofnadwy, gan fygwth y byd hwn a'r nesaf ar y bachgen. Yr oedd yn
wahanol dywydd arno, fel y gellid meddwl. Gweddiodd lawer hefyd yn yr
amgylchiad gofidus hwn am i'r Arglwydd o'i ras gymeryd rhyw lwybr i'r dyben o
atal ei fynediad. Twm," ebe yr hen wr yn sydyn un diwrnod, 'yr wyt yn
penderfynu myned, fachgen, y mae yn debyg; ond gwrando, yr ydwyf yn dyweyd
wrthyt, os myned, gwna oreu dy galon-paid colli o eisiau gwneyd dy eithaf;
ati a'th holl egni neu ddim.' Ond yn rhagluniaethol, neu ryw beth, ychydig
cyn cychwyn, cafodd Thomas anwyd, aeth yn sâl iawn, fel nad allodd ddwyn ei
fwriad i ben; ac yn lle myned 1 Cynffig, gorfu arno fyned i'r gwely. O
brysur, adfywiodd a llonodd Siencyn yn rhyfedd, gan gredu yn ddihoced mai
cenad o'r nefoedd oedd hwn, wedi dyfod yn unionsyth, ac o bwrpas yn atebiad
i'w weddiau. Tarawodd ei ffon wrth y llawr, gyda nerth dauddyblyg, a
gwaeddodd, 'Ha ddiafol, ti collaist hi dy wala, er mor gyfrwys ydwyt: y mae
un yn ddoethach ac yn gryfach na thithau. Haleluia! Byddugoliaeth! Unwaith
eto, Bendigedig; dyma'r cythraul dan fy nhraed.'
Tra yr oedd Siencyn yn canu y gonewest fel hyn, yr oedd terfysg a thrymder
calon nid bychan drwy yr holl gymydogaeth, yn enwedig yn mhlith y chwareuwyr,
o herwydd fod clefyd wedi lluddias un o'r gamesters goreu; eto nid oedd dim i
wneyd ond edrych allan yn mhlith yr ieuenctyd am ryw un arall i gyflawni y
diffyg hwn. Wedi edrych o gwmpas am ychydig, cafwyd un a graddau helaeth iawn
o gymhwysderau, llanwyd y rhestr, a gwnawd pob peth yn barod i'r ymdrechfa
eilwaith. Dacw hwynt ryw ben boreu yn cychwyn yn unfrydol i draeth Cynffig i
dreio eu dwylaw. Cyfodai y wlad o'r bron gyda hwynt, rhai mewn cerbydau, rhai
ar feirch, rhai ar fulod, ereill ar asynod, a rhai ar draed; pob gradd, a phob
oedran, a phawb yn ddiwahaniaeth yn dân gwyllt o blaid rhyw ochr. Yr ychydig
boblach oedd yn gorfod aros gartref y diwrnod hwnw oedd y cleifion, &c.,
yn nghyda'r ychydig grefyddwyr oedd yn peidio er mwyn cydwybod. Yn mhlith
bagad o'r rhai hyn hefyd, yr oedd llawer o'r un ysbryd, a dysgwylient yn
byderus gyda phob symudiad am ryw newydd o faes yr ymdrechfa.
Wele, y mae y dydd yn prydnawnu, ac adenydd nosawl yn ymdaenu dros y ddaear
gron, gan gymhell ewsg ar ei phlant lluddedig. Ust! dacw drwst cerddediad, onide?
Yr
|
|
|
(delwedd J7730) (tudalen 58)
|
58
ydoedd rhwng dau oleu, neu yn ngwyll y nos, yn anhawdd i ganfod. Y mae pob un
yn clustfeinio, ac heb anadl yn cerdded braidd, ar ymdori am glywed y newydd.
Y maent yn dyfod yn nes, hwynthwy ydynt, y mae swn dyeithr yn eu mysg. Swn
wylofain, ac ocheneidiau trymlwythog ydyw, yn agosau bob tarawiad amrant.
Dyma hwynt o'r diwedd gogyfer, pryd y deallwyd er tristwch a gofid calon fod
Margam wedi colli y dydd! Och! y mae yn effeithio yn farwol ar deimladau
canoedd. Derbyniodd clust Siencyn ychydig o hono, ac er ei holl
grefyddolrwydd i gyd, ymgymysgodd ei enaid yn nheimladrwydd y foment. Tarawyd
yntau à phrudd-der dwfn, a gwingodd yn aruthol o herwydd fod ei blwyf ef wedi
colli y dydd, fel nas gwyddai beth i wneyd, ac yn mhrofedigaeth y foment
gwaeddodd allan, 'Pe buasai Twm ni yno, nid fel yna y buasai.' Wedi i ryw
gymaint o amser fyned drosto, prysurodd a phryddhaodd eilwaith yn ddirfawr,
ac arafodd yn ei symudiadau, fel pe byddai yn dychwelyd o blith yr
anifeiliaid gwylltion i'w bwyll a'i synwyroldeb cyffredin. Ocheneidiodd yn
drwm ynddo ei hun, ymsymudai o fan i fan yn dra anesmwyth, gan dynu ei fysedd
drwy ei wallt yn awr ac eilwaith, nes oedd hwnw i gyd yn y gwrthwyneb; a chan
siarad ag ef ei hun, dywedai, Wel, wel, dyma hi yn bert o'r diwedd; y
cythraul cas, a wyt wrth dy fodd yn awr? Yr wyt wedi cael dy wyn yn llwyr
arnaf bellach. 'A welwch chwi y fath ddiafol cyfrwys a melldigedig! Pwy ddydd
yma yr oeddwn yn cynghori Twm, ac yn gweddio am i'r Arglwydd ei atal trwy ryw
foddion rhag myned i'r chwarenfa; ac wedi iddo wneyd hyny, dyma y diawl wedi
gwneyd Twm o honof fi fy hun.'
Yr oedd ein hewythr, fel y rhan fwyaf o'r hen boblach er ys llawer dydd, yn
lluchio llaid yn ddiorphwys i wyneb y diafol, am bob peth a wnelsid, mewn
meddwl a buchedd, tref a gwlad, ffair a marchnad. Cafodd diafol lawer golchfa
weddol ddidrugaredd gan y prophwyd, ar weddi ac wrth bregethu, ac yn mhob
ffasiwn y dychymygai ei galon. Nid oedd nemawr o enwau drwg o fewn y
greadigaeth, nad oedd Siencyn yn eu dodi ar ddiafol. Meddyliwyd lawer gwaith,
fel yr awgrymasom eisoes, fod ffrae fawr rhyngddo â rhai o'i gymydogion, o
gylch yr ysguboriau a'r beudai, ond erbyn rhedeg tuag yno, nid oedd neb yn
weledig ond efe ei hun; yn danllyd a ffyrnig yr olwg arno, yn ymladd â rhyw
elyn annaearol, yr hwn a alwai yn scouudrel a rascal diegwyddor a brwnt.
|
|
|
(delwedd J7731) (tudalen 59)
|
59
Yn Nantcaredig, yn Sir Caerfyrddin, wedi siarad â dyn yn y society, dywedodd,
'Nid wyt ti na dyn na diawl; dyma fi yn dy osod yn y picil; boed rhyngot ag
ef.' Yr oedd yn myned oddi yno i Lanarthney, yn yr un Sir, i bregethu, ac yn
gyffredin byddai society yn cael ei chynai ar ol y cwrdd, yn enwedig i'r
patriarch. Yr oedd yno fenyw gyfrifol a lled rinweddol yn perthyn i'r achos,
yr hon a gyfarfyddodd ag ysbryd tanllyd iawn wrth dramwy yn nghymydogaeth
allor Hymen. Aeth yr ysbryd hwn heibio iddi; efe a safodd, ond nid adwaenai
ei agwedd, drychiolaeth oedd o flaen ei llygaid; bu dystawrwydd, a thybiai y
clywai lais yn dywedyd, Gwell yw dau nag un, o achos bod iddynt wobr da am eu
llafur. Canys os syrthiant, y naill a gyfyd y llall; ond gwae yr unig; canys
pan syrthio efe nid oes ail i'w gyfodi. * * Ac os cryfach fydd un nag ef, dau
a'i gwrthwynebant yntau; a rhaff deircainc ni thorir ar frys.' Arweiniodd
cymhwysder y genadwri, yn nghyda'i heffeithioldeb, y chwaer yn uniongyrchol i
dybio ei bod yn weledigaeth nefol; am hyny brysiodd, ac nid oedodd i
ufuddhau. Yn ddisymwth, yn agos o gylch yr un amser, y tarawyd offeiriad y
plwyf â rhyw anhwyldeb hynod ac annghyfrifol yn ei ochr aswy. Wedi
ymgynghoriaeth maith a manwl yn mhlith y meddygon yn nghylch achos yr
anhwyldeb hwn, barnwyd yn unfrydol o'r diwedd fod person y plwyf yn dyoddef
poenau dirdynol oddiwrth ddiffyg asen yn yr ochr hono. Erbyn hyn yr oedd yn
amlwg i bawb nad oedd yr un feddyginiaeth yn y byd i'r offeiriad heb gael
gafael yn yr asgwrn a'i roi yn ei le yn ol. Wedi edrych ychydig o ddentu,
mewn cryn boen ar brydiau, canfyddodd y person yr asen yn y ddynes a
ddesgrifiwyd
uchod, a phan ddaethant at eu gilydd yr oeddynt yn taro fel dwy law. Dywedodd
ei gwyn wrthi, ac eglurodd y poen a ddyoddefodd, ond bod swyn ei hedrychiad
wedi lliniaru llawer arno, ac y byddai yn berffaith iach tebygai ar ol i
asgwrn ddyfod at ei asgwrn. Cadarnhaodd hyn eto at feddwl y ddynes, fod y
weledigaeth a welsai yn rhyw beth goruwchnaturiol, gan edrych ar hynawsedd yr
offeiriad yn esboniad ymarferol, a phethau yn cydgwrdd mor ragluniaethol. Fe
allai erbyn hyn, mai afreidiol yw i ni ddywedyd i garwriaeth gynhes ddechreu,
a chael ei ddwyn yn mlaen yn drefnus a chalonog, hyd nes penderfynu ar yr
amser i ymuno mewn 'glân briodas.'
Y mae yn rhaid dyweyd cyn myned yn mhellach, er fod hyny yn ddigon poenus,
fod yr offeiriad hwn yn lled gyfrin
|
|
|
(delwedd J7732) (tudalen 60)
|
60
achol â gwraig y dafarn. Rhag i neb ein camddeall hefyd yn y mater hwn, nid
cymaint a'r wraig yn ei pherson yr ydym yn feddwl, ond yn hytrach yn ei
masnach. Y mae y peth mor anhawdd ei ddyweyd yn eglur, ac wed'yn y mae yn
well ei ddyweyd, rhag ofn wrth geisio myned heibio yn ddystaw i chwi feddwl
yn waeth am y person nag ydoedd mewn gwirionedd. Yr oedd llawer iawn o bethau
da, deallwch, yn nglŷn â'r pendefig, er hyny; yr oedd rhyw beth arno fel
nad oedd i'r dim fel offniriad hefyd. 'Yr oedd yn wr mawr yn ngolwg llawer,
ac yn anrhydeddus; ac yr oedd yn wr cadarn nerthol, ond yr oedd yn
wahanglwyfus.' Beth oedd arno, dywedwch? Wel, rhyw syched annghypedrol, fel
nad oedd modd yn y byd i'w ddisychedu, er yfed byth ac eto, holl ddyddiau ei
fywyd; ni ddywedai byth 'digon,' er drachtio o hyd. Yr oedd hen wraig y
dafarn yn yr arferiad o gadw llymaid o gwrw da bob amser, a chyda hi y byddai
yr offeiriad yn wastad o foreu hyd brydnawn. Yr oedd yn echrydus o feddw yn
fynych, a phan y byddai angladd yn dygwydd bod, yr ydd bod, yr oedd yn aml yn
methu cyfarfod â'r elor gydag un rhwyddineb, wrth glwyd y fynwent, gan ci fod
yn sangu ar odrau yr offeren-grys, nes cwympo weithiau, bron cwympo yn aml, a
dau neu dri yn gorfod ei gynal yn y blaen rywfodd, goreu y gallesid dan yr
amgylchiadau. Rhai annyben ddigon yw y crysau hyn, y mae yn wir, ond eto fe
all dyn eu cadw rhag ymlusgo cynddrwg, ac ymddyrysu yn ei goesau, os bydd yn
weddol sobr. Byddai hefyd yn gwneyd rhyw gyfeiliornadau annymunol wrth
ddarllen gwasanaeth y gladdedigaeth, nes afrywio teimlad aml un o'r
perthynasau. Yn fynych iawn y byddai yn darllen ein brawd hwn,' pan mai
chwaer fyddai yn yr arch, a'r clerc yntau yn gorfod gwaeddi yn aml, 'Chwaer
ydyw, chwaer ydyw, syr. Gallem ddyweyd llawer yn ychwaneg, ond yr ydym yn
gobeithio y gwelwch chwi fel yr oedd pethau yn sefyll wrth gymaint a
ddywedwyd.
Yn awr yr oedd gryn helbul ar y bobl fod y ddynes grefyddol a rhinweddol hon
yn myned i ymrwymo mewn priodas â rhyw anghenfil fel hyn. Ar yr un pryd nis
gellir dywedyd fod person y plwyf yn ddyn dibroffes, o ganlyniad yr oedd yn
eithaf rheolaidd. Nid yn unig yr oedd yn ddyn proffesedig, ond hefyd yr oedd
yn weinidog yr efengyl, mewn dull urddasol a chyson; wedi derbyn ei swydd o
law i law oddiwrth Pedr ei hun. Pan oedd y bobl yn y dyryswch a'r tywyllwch
mawr hwn, dyma gyhoeddiad Siencyn
|
|
|
(delwedd J7733) (tudalen 61)
|
61
Penhydd yn dyfod i law. Yn unfrydol, heb un eithriad, penderfynwyd i dafn y mater
i'w law ef pan y delai, fel yr un cymhwysaf, yn ol barn pawb, 'i ddeongl
deongliadau, a datod cylymau. Ar y diwrnod apwyntiedig, pan oedd dysgwyl nid
bychan am y Patriarch, dyma ef yn dyfod i'r golwg, y tu yma i dro y berth
draw, yn ei ddull arferol i'r blewyn; yn llwyd a hyll ei olwg, fel un newydd
ddianc o blith gwylltfilod y goedwig. Yr oedd pastwn anferth o faintioli y
tro hwn yn ei law, ac yn ei godi uwch ben yr anifail gwirion, fel pe yn
bwriadu bob mynyd ei daro bendramwngl i'r llawr; curai hefyd ei goesau yn
erbyn ystlysau y ceffyl yn ddiorphwys, fel pe buasai yn gweithio wrth ddwr
neu agerdd. Yn fuan dyna ef gyferbyn a'r lle, yr agerdd tel yn cael ei ollwng
ymaith, a'r peiriant yn sefyll. Mae yn myned i'r capel, a phregethu rhyw
gymaint, mae yn debygol, er nad oes genym ni nemawr o hanes am y bregeth y
tro hwn. Y society a ganlynodd y bregeth, ac wrth gwrs dymą fater y
ddynes a pherson y plwyf yn cael ei drefnu ger ei fron, yn ei wahanol ranau,
a'i holl gysylltiadau. Ymddangosai yn fater cryn ddyryslyd, hyd yn nod i holl
gampusrwydd meddwl ein hewythr, Buasai mater fel hwn wedi taro ambell ddyn,
ac yn wir llawer dyn o dalentau cymedrol hefyd, à dallineb di-bendraw. Cododd
Siencyn, serch hyny, ar ei draed, ac fel cawr yn ymysgwyd ar ol ei daro yn
hurt am dro, a chan gribo ei wallt ddwy waith neu dair â'i fysedd, nes oedd
hwnw yn ffluwchyn mawr yn ddigon i darfu brain. 'Dere yma,' eb efe wrth y
ddynes; edrych, tro dy wyneb yma i fi gael dyweyd wrthyt.' Ufuddhawyd yn
union i'r gorchymyn, a dyna yntau yn dechreu siarad. Yr wyt ti,' meddai, yn
myned i wneyd yr un peth yn gymhwys a ieuo dafad a mochyn wrth eu gilydd.
Hawyr, a welwch chwi y ddafad wirion yn nghlwm wrth y mochyn mawr tomlyd acw,
yn cael ei llusgo trwy y llaca a'r pwdel, nes y mae mor ddued ag yntau.
Gollyngwch y ddafad yn rhydd, hawyr, onide fe ladd y mochyn hi wrth ei llusgo
yn ol ac yn y blaen trwy y dwr a'r dom. Dyna y ferch yn dod a bwyd i'r
mochyn, a'i arllwys i'r cafn. Och fi! a welwch chwi y bwystfil yn rhedeg gan
lusgo y ddafad fach yn ddidrugaredd dros y garn geryg, a thrwy y byllfa
afiachus, ac am draws ei gafn drewllyd? hi fydd farw yn siwr, hi fydd farw yn
siwr. O, y creadur budr! y mae yn gwledda ar y golchion drewllyd yna; mae y
ddafad yn newynu druan, yn nghlwm wrtho uwchben y cafn. Mae yn brefu am y
borfa las; 'does
|
|
|
(delwedd J7734) (tudalen 62)
|
62
dim fyno hi â'r hen gyrtydd ffiaidd yna; ond beth dâi siarad y mae mewn undeb
â chreadur, unig bleser pa un yw ymdreiglo yn y dom. Mae hi yn ceisio tynu
tua'r cae druan, yn ol hyny o nerth sydd ynddi; ond y mae yn rhy wan, er hyny
yn lladd ei hunan wrth geisio gwneyd yr hyn sydd yn anmhosibl. Roch, roch,
ebe y mochyn, ac i bant fel ffwl, heb un teimlad dros y ddafad sydd yn
ymlusgo mewn carchar wrth ei ochr.' Tarawodd ein hewythr ei bastwn yn erbyn y
llawr y pryd hyn, a gwaeddai nes ydoedd pawb yn crynu, Hawyr, gollynged
rhywun y ddafad yn rhydd, onide hi fydd farw a'i phen yn y cebystr. Mae yn
well ei lladd na'i gadael i boeni fel yna, os na ellwch ei gollwng yn rhydd.
Peth annaturiol ofnadwy yw gweled dafad yn dyhoeni yn nghlwm wrth greadur o
fochyn.' 'A wyddost ti,' eb efe wrth y fenyw, yr wyt yn myned i glymudy hun,
wrth fodd dy galon, yn rhwym wrth fochyn y diafol. Paid a rhyfeddu os gwna dy
dagu o'r diwedd. Bydd raid i ti fwyta yn nghafn y cythraul gydag ef; ac os
byddi yn rhy wan dy ystumog, byddi farw o newyn yn nghlwm wrth y bwystfil
drewedig. Edrych pa beth yr wyt ar fedr ei wneyd, a chilia mewn pryd, cyn
myned yn rhwym, onide yn nwylaw satan y bydai yn gorfforol.' Yr effeithiau
mwyaf dymunol, meddant, a ddylynodd y bregeth hon, canys crewyd y fath
atgasrwydd a braw yn meddwl y ddynes, fel nad oedd yn bosibl ei pherswadio
mwyach i ddwyn yr iau mewn cysylltiad â mochyn. Felly fe arosodd y ddafad yn
y cae gwyrddlas i bori, gan adael y mochyn gyda'r cafn a'r soig, ac yn
ymdreiglo yn y dom.
Yr oedd hen wr unwaith yn cyd-deithio â'n hewythr, ac yn myned heibio i
eglwys plwyf y Pil, ac yr oedd hyny yn dygwydd ar yr amser yr oedd gwasanaeth
ynddi. Mae llan y Pil yn agos i'r ffordd fawr; nid oes ond ychydig o latheni
o'r heol i'r drws. Dywedodd y gwr oedd gydag ef, ' Y mae gwasanaeah yn yr
eglwys, ac y mae genym ninau amser hefyd; a ddewch chwi mewn, Siencyn Tomos?'
Safodd, ac edrychodd yn hyll ar yr hen lan am yspaid ychydig fynydau, fel pe
buasai yn darllen rhyw beth ar ei muriau llwydion; ac o'r diwedd dywedodd,
'Fachgen, pe bawn yn gwybod fod yr offeiriad yn fyw, 'rwy'n credu y down i.'
fyw, Siencyn bach, ond gwelsoch chwi y dyn yn myned i'r llan ysmeityn, a chwi
glywch ei lais yn darllen hyd yma, ond i chwi wrando yn astud.' 'Ië,' ebe
yntau, 'ti glywaist swn yr hen gloch yna am filltir o ffordd, yn curo yr un
dôn
|
|
|
(delwedd J7735) (tudalen 63)
|
63
oddiar pan y crogwyd hi i'r lan ar ben y clochdy acw; ond a wyt ti yn meddwl
fod yr hen gloch yn fyw?' Tarawodd ei lawffon yn erbyn mur y fynwent, a
gwaeddodd, ''Dyw'r 'ffeiriad ddim yn fyw; y mae ei grefydd mor farw a'r
fynwent, 'does dim anadl yn swn hwna. Crefydd y bywyd i mi; dere an y blaen i
gael edrych am well hon.' Nid oedd Siencyn, deallwch, yn cynwys un ragfarn
ynddo at yr offeiriad a'r llan fel y cyfryw, ond yn unig cael yr offeiriad yn
fyw, oblegyd yr oedd ef yn cydlafurio à llawer iawn o'r offeiriadon byw. Ei
brif gyfeillion ydoedd Mr. Jones, Llangan; Davies, Castellnedd; Howells,
Trehill; Phillips, Llangrallo; a lluoedd ereill o'r cyffelyb feddwl; ond nis
gwnai ef ddim ag offeiriad, na phregethwr chwaith heb ei fod yn fyw.
Yr ydym yn cofio clywed am ddau bregethwr perthynol i'r Annibynwyr, y rhai a
ddygwyddasant ddyfod i'r ardal lle yr oedd y Patriarch yn byw, a chwant
arnynt alw i'w weled, o herwydd clywed cymaint am ei ddull hynod.
Penderfynasant, mewn undeb ag ychydig gyfeillion ereill, i fyned yn un swydd
tua'r Goetre i edrych ei hynt. Yr oedd ef y pryd hyn yn hen, ac yn bur sâl,
yn methu myned allan er ys cryn dipyn. Aethant i mewn, a chawsant olwg
hynafiaethol arno, yn eistedd ar rywbeth tebyg i gadair, gerllaw y tân, ac yn
ymddangos fel rhyw hen dderwydd, yn astudio dewinyddiaeth. Yr oedd y
pregethwyr ieuaine hyn dipyn yn drwsiadus, a'u gwallt wedi ei osod flewyn
wrth flewyn, fel wedi newydd daro i maes o siop yr eilliwr. Yr ydoedd hefyd
gadwyn oriwr yn crogi i lawr, a dwy neu dair o seals, ac fe allai gymaint a
hyny o allweddau eilwaith, nes yr oedd rhwng y cwbl yn agos swmp dwrn yn
nghrog wrth y gadwyn. Dealled yr anhyddysg mewn hanesyddiaeth mai felly yr oedd
J dull yn yr amseroedd hyny. Canys nid oedd hanes hyd y blynyddoedd diweddaf
am gadw yr oriwr yn llogell y siaced fach, a chadwyn felen dros y ddwyfron,
ac yn ymblethu am y gwddf. Y mae amser i bob peth, fel y dywed Solomon, a
phob peth at yr amser, y mae yn debyg. Byddai cadwyn, allweddau, a seals ddim
yn edrych mor rasol mewn pwlpud yn awr yn gymaint a bod y gadwyn felen yn
cael ei hystyried gan lawer o'r duwinyddion yn fwy boneddigaidd. Gynt, pan yr
oedd y gadwyn yn crogi i lawr, allweddau, a'r seals mewn arferiad, yr oedd y
gadwyn felen mewn bri mawr am yddfau y corgwn. Ni welid nemawr i gorgi, os
byddai mewn teulu lled gyfrifol, yn enwedig os byddai yn gi boned diges, heb
gadwyn felen am ei wddf. Yr
|
|
|
(delwedd J7736) (tudalen 64)
|
64
oedd llawer o gorgwn yn y dyddiau hyny na fu cadwyn am eu gyddfan erioed, sef
y rhai nad oeddynt o waedoliaeth uchel, a dygiad da i fynu. Yr ydym yn cofio
y byddid yn ystyried graddau a gwahaniaeth o bwys yn mhlith y corgwn, ac nid
oedd dim rhyddid i bob corgi ymddangos ar yr heol mewn cadwyn felen, onide
gwae fuasai iddo; byddai bob un yn ei luchio yn ddidrugaredd â llaid a
cheryg. Bid a fyno, yr oedd yr arferiad mewn bri yn mhlith y corgwn, ac y mae
llawer o'r hen bobl sydd yn cofio hyny yn glod. fawr yn ngwlad y cwn, yn
barod iawn i ddywedyd, pan y gwelant y gadwyn felen am wddf rhyw ddyn, fod yr
olwg arno yn gryn gorgaidd, ond nid ydym ni yn gallu cydweled â hwy yn hyny
ychwaith; nid yw y peth yn ddim gwaeth tebygem ni, oblegyd ei fod wedi bod
mewn arferiad ac yn hen ffasiwn gan gwn, yn enwedig gan eu bod hwy yn lled
gyffredinol wedi ei thaflu ymaith.
Fel hyn, beth bynag, yr aeth y ddau foneddwr i mewn at ein hewythr, ac wedi
cyfarch, dywedasant mai pregethwyr oeddynt hwythau hefyd. Edrychodd yn
ofnadwy arnynt, o'u penau i'w traed, fel pe buasai yn gweled ynddynt ryw
lawer o wynt. Dywedodd wrth un o honynt, yr hwn oedd yn wr lled dalfrig yr
olwg, 'Gwrando, yr wyf fi yn sâl er ys Ilawer dydd, ac yn methu myned i
foddion gras, a dyma fagad o bobl yma hefyd; a chan mai pregethwr wyt ti y
mae yn rhaid i ti bregethu yma yn awr, i fi gael dy glywed.'Dymunodd y gwr
dyeithr gael ei esgusodi er mwyn pob peth; ond nid oedd yn bosibl; rhaid oedd
myned ati yn union. Cerdd yn y fynyd,' meddai; dacw ystol yn nghornel y
tŷ, dos idd ei phen hi, heb siarad dim rhagor." chan ei gilgwthio yn
y blaen tuag ati, gorfu ar y pregeth wr druan fyned i'w phen, er yn
ddychrynedig ac ofnus. Wedi rhoi hymn i ganu, darllenodd ac aeth i weddi. Nid
oedd yr awyr yn iachus tua'r gweddio, y mae yn ddigon tebyg, canys clywid
Siencyn yn gruddfan yn gwynfanus ger bron yr hen gadair. Dybenodd y pregethwr
hyny o orchwyl, ac aeth i gydio yn y Beibl, ar feddwl tynu testun a
phregethu, pan y gwaeddodd y Patriarch yn groch, 'Stopa, cerdd i weddi eto, i
edrych a elli di wneyd yn well y tro nesaf, Fachgen, dysg weddio cyn cymeryd testun
i bregethu.' Yr oedd pawb wedi synu, a'r cwrdd wedi myned yn ddystaw; y
pregethwr yntau yn crynu, a bron yn syrthio oddiar ben yr ystol yn
bendramwnwgl i'r llawr. Nesaodd Siencyn ato, gan ysgwyd ac ymysgwyddo, ac yn
edrych fel dyn wedi ei
|
|
|
(delwedd J7737) (tudalen 65)
|
65
droi yn y gwrthwyueb, gan waeddi, Cerdd yn y fynyd i weddi o'r newydd;' a
chan chwifio y llawffon, fel teyrnwialen brenin uwch ei ben, gydag awdurdod a
nerth, gorfu ar y gwr boneddig syrthio drachefn ar ei liniau. Dechreuodd o'r
newydd, a gwellhawyd cryn dipyn, yn ol tyb ein hewythr, ac yna awd yn y
blaen. Ymddangosai y gwr ieuanc erbyn hyn fel yn cynwys ynddo lai o wynt o
lawer, a'i adenydd mawrion wedi myned yn llipa am ei draed. Wedi ei
ddadlwytho ychydig fel hyn, pregethodd yn wylaidd a diymffrost, a chawd cwrdd
gweddol iawn yn y diwedd. Gellwch wybod nad oedd y cwrdd hwn yn hyfryd dros
yr amser presenol, ond yn anhyfryd iawn; eto dywedir i heddychol ffrwyth
cyfiawnder ddylyn.
Y peth sydd wedi synu llawer yw priodoldeb ei gydmariaethau, er yn hynod
ddigon, mae yn wir. Yr oedd rhyw gymhwysder annghredadwy ynddynt i'r personau
â pha rai y byddai yn siarad, yn nghyda'r amgylchiadau y byddent ynddynt. Pan
oedd yn siarad â dynion dyeithr na welodd erioed o'r blaen, na gwybod dim am
danynt, ond cymaint yr ydoedd yn ei gasglu yn yr ymddyddan hwnw, eto
defnyddiai ryw gydmariaethau ag oeddynt y rhan fynychaf yn lled bwrpasol. Nid
yn aml y clywsom am dano yn taro ergyd chwithyg, ond yn gyffredin yr oedd
rhyw beth hynod o rymus a tharawiadol.
Traddodiad a ddywed am dano pan oedd ar daith trwy Sir Aberteifi, iddo ddyfod
i Benmorfa, lle y bu yn cadw cyfarfod eglwysig gyda hwynt. Wedi cryn
ymddyddan am y naill beth a'r llall, daeth hen wraig yn mlaen i ddywedyd
ychydig am ei haehos tragywyddol, fel y byddis yn gyffredin. Dywedodd gryn
dipyn am y naill beth a'r llall, a phawb yn gwrando yn astud. Y mae yn debyg
fod yr hen wraig yn gymeriad go ryfedd ar y cwbl; hyny yw, yr oedd yn dueddol
i siarad ar y mwyaf, a hyny am bersonau, ac nid am bethau, fel y dywed y bobl
gall. Ymddengys fod dirmygu ac iselhau dynion yn rhyw bechod parod i
amgylchynu yr hen gristionoges. Nid oedd dim o'i bath, meddent, am local
news, ond fod hwnw yn go ddrwg y rhan fynychaf. Nid oedd bosibl cael gan yr
hen chwaer i brophwydo daioni, pan oedd rhyw ychydig o hono ar gael; bid
siwr, y mae yn brin ddigon yn aml, ond trueni yw ei wneyd yn ddim hefyd, os
bydd ychydig. Yn y fel hyn yr ymdeithiai yr hen wraig hon trwy fyd o amser,
dan geintachu, a'i hysbryd yn chwerw a sur y rhan fynychaf. Ni ddarfu i ni
glywed nad oedd yr
|
|
|
(delwedd J7738) (tudalen 66)
|
66
hen chwaer yn dduwiol, serch hyny, ond fod rhyw beth ag oedd yn lled anhapus
yn ei hysbryd sarug, a hyny yn effeithio ar yr aelod bychan y tafod, nes yr
oedd hwnw yn dân a gwreichion gwyllt. Ar hyn o bryd, beth bynag, yr oedd yr
hen gristionoges yn ddigon tawel, yn adrodd ei thywydd a'i hofnau. Neidiodd
ein hewythr ar ei draed, fel un wedi cael ergyd ar ei ystlys gan ryw angel
hedegog, a safodd o flaen y wraig yn wyllt, neu ynte yn debyg i un o'r fath.
'Cwyd dy ben i'r lan,' meddai; 'gad i mi weled dy wyneb.' Edrychodd y wraig i
fyny yn dawel a chrefyddol iawn, nes yr oedd wyneb yn ateb i wyneb. 'Oh, oh,'
ebe y patriarch, beth yw'r dant mawr echrydus sydd genyt yn dy ben? Y mae dy
wefus yn methu ei guddio,' Nid oedd nemawr o ddanedd yn mhen yr hen fenyw,
druan, fel yr oedd y peth yn ymddangos yn rhyfedd i bawb beth oedd y dyn yn
siarad. Gwrando,' meddai, 'y mae dant genyt yn rhy fawr i un wefus yn y byd
ei guddio. Och fi! un llym iawn ydyw; gochelwch fyned yn agos ato, onide fe
rwyga eich cnawd. Nid dant dyn yw hwna, nage; ho, 'rwy'n deall yn awr; dant
badd ydyw; gochelwch rhag myned yn agos, y mae perygl i chwi gael eich
rhwygo. Deuwch yma, frodyr, â'r pensiwn i gael ei dynu allan.' Y gofion,
deallwch, a'r pensiwn oedd yn arfer tynu danedd yn yr amseroedd hyny, a
goruchwyliaeth go galed ydoedd hi hefyd. Pan oedd y fenyw bron yn llesmeirio,
ac yn credu fod yr operation ar gymeryd lle, dyma Siencyn yn gwaeddi allan,
Yn dy ysbryd y mae y dant, ac y mae yn rhaid ei gael allan. Y mae yn rhaid
cael yr Ysbryd Glân ei hun, ac offerynau nefol, ac yna fe ddaw y dant mawr,
llym yna allan.
Wedi dybenu & hon, daeth gwraig olygus a chyfrifol iawn ger bron, wedi
ymdrwsio yn drefnus, mewn clogyn coch. Wedi cryu siarad, a'n hewythr yn methu
cael nemawr o lwybr i fyned yn mlaen, ac yn ffaelu deall yn iawn beth ydoedd,
a chan ymdroi o'r naill fan i'r llall, dywedai yn mhen ychydig, O, mi
ddywedaf wrthych shwt y mae y peth yn sefyll. Yr oedd bachgen yn ein gwlad ni
acw yn myned allan i aredig, ac yn nghanol y cae torodd yr aradr yn ddau getyn;
aeth i geisio aradr arall, torodd hono eilwaith yn yr un man; aeth i 'mofyn
un wed'yn, torodd hono hefyd fel y ddwy gyntaf, yn yr un man. Fel hyn y bu
drwy'r dydd nes tori pedair aradr ar ddeg. Aeth ei feistr i'r cae, i edrych
beth oedd y rheswm fod y bachgen yn tori yr holl erydr; a gwelodd fod atalfa,
sef craig, yn nghanol y cae, yn ddigon i
|
|
|
(delwedd J7739) (tudalen 67)
|
67 dori holl erydr y byd. Clyw'r dyn,' ebe'r meistr, "does ryfedd yn y
byd fod yr erydr yn tori; beth dal ceisio aredig trwy'r graig ag aradr bren?
Beth ellir wneyd gan hyny i fyned yn y blaen a'r gwys ac aredig y cae? Wel
nid oes dim i wneyd ond ceisio offerynau i dyllu y graig, a rhoi pylor ynddi,
a'i saethu yn chwilfriw. Y wraig a'r clogyn coch yna, gwrando; y mae craig yn
nghanol dy galon dithau; hi dyr erydr y byd; nid gwiw cynyg myned ag aradr i
dy enaid di. Wel, beth sydd raid ei wneyd? 'Does dim i wneyd ond dy dyllu, a
rhoi pylor ynot, a dy saethu yn chwilfriw, fe allai wed'yn y gellir gwneyd
rhyw drefn artat.'
Ymadawodd ein hewythr oddiyno, a daeth, yn ol ei addewid, yn mlaen i'r
Twrgwyn; yr oedd yno gyfarfod eglwysig yn ei aros, fel yn mhob man arall ar y
daith. Yr oedd yn wledd gan y bobl gael yr hen Benhydd i gadw y cymdeithasau
hyn. Yr oedd yn dygwydd bod yno amryw yn adrodd eu helynt yn y cyfarfod hwnw.
Yr oedd yno un dyn yn benodol, yr hwn oedd yn ymddangos yn lled ffraeth a
blaenllaw gyda chrefydd, ac wrth ei alwad yn llaw-feddyg. Yr oedd yn ddyn
mawr, gwrol yr olwg, ac yn ei ymddangosiad allanol fel pe buasai ganrif neu
ddwy o flaen ei gydgenedl. Dyn rhyfeddol ydoedd yn ei ddull o siarad, serch
hyny. Gan mor ddiniwed oedd yr olwg arno, braidd y gallasid meddwl y buasai
'ymenyn yn toddi yn ei ben.' Yr oedd ei enau yn llyfnach nag ymenyn,' a'i
eiriau yn felusach na'r mêl dewisol. Yr oedd rhai o'r beirniaid yn golygu y
buasai melusder ei eiriau bron yn ddigon i ddenu y wenynen o'i chwch. Cydymdeimlai
â'r adfydus, mewn geiriau beth bynag, fel pe buasai ei hun yn y corph; wylai
gyda y rhai oedd yn wylo, a medrai lawenhan gyda y rhai oedd yn llawenhau.
Ond yr oedd rhai yn meddwl nad oedd y boneddwr hwn lawn cystal a'i
ymddangosiad allanol. O gartref yr oedd ffeina wedi y cwbl; nid ydoedd cystal
o gylch y tŷ, na thebyg mor nefol yn y tŷ ag yr ydoedd o gylch ac
yn y capel. Yr oedd y sant penffordd hwn yn ddiafol penpentan, yn ol pob
hanes. Hwn oedd yn siarad, beth bynag, fwyaf o bawb, y pryd hwnw mewn modd
tra theimladwy, a grasol dros ben terfynau. Beth bynag a ofynai Siencyn iddo,
derbyniai atebion mwynaidd a llyfn;
gallesid meddwl fod yr holl nefoedd yn canolbwyntio ynddo. Yr oedd ein
hewythr yn dra anesmwyth er ys meityn, ac yn y diwedd dechreuai ymysgwyd ac
agor botymau yr hen gôt fawr, a chan daro y ffon gydag awdurdod yn erbyn y
llawr, gofynodd, Beth
|
|
|
(delwedd J7740) (tudalen 68)
|
68
yw'r dyn mawr yma sydd gyda chwi? O ba ddefnydd y mae hwn wedi ei wneyd? O ba
le y daeth i'r wlad hon? Y mae ei groen fel y sidan; 'does yr un graith na
brycheuyn arno; yn wir y mae mor dyner ac ystwyth ei deimlad â melfed.' Gyda
hyny efe a nesaodd ato yn sydyn, nes oedd blaen ei ffon bron yn cwrdd a'i
fynwes, a gwaeddodd allan, nes oedd pawb mewn syndod, 'Hawyr, dewch i ni gael
troi yr ochr arall i maes i edrych a ydyw hono mor llyfn a hon. Ah, nid yw,
mi wn. A wyddost ti, er fod dy groen fel sid an a melfer, ddim ond dy dro di
i'r gwrthwyneb, carthen rawn wyt ti yn y diwedd.' Goruchwyliaeth ofnadwy,
debygem ni, fyddai blingo dyn yn fyw hefyd, ond gwell i ddyn golli ei groen
na cholli ei gwbl, er hyny.
i
Yr ydym yn clywed yn fynych am ein hewythr yn pregethu, ac yn cadw societies
yma a thraw, ond yn anfynych iawn y mae hanes am ryw lawer o'i bregethau: ei
ddywediadau mewn ymddyddanion neillduol yw y rhai ag sydd wedi aros fwyaf,
mewn traddodiad hyd y dydd hwn. Beth bynag, cawsom ychydig o hanes pregeth yn
ddiweddar, gan hen frawd oedd yn ei glywed. Yr ydoedd yn pregethu y pryd hwnw
mewn man yn Sir Forganwg a elwir y Creunant, nid pell o Gastellnedd. Rhyw
gapel bach lled henafiaethol ei ymddangosiad oedd yr hen gapel hwn. Yn yr hen
dŷ beth bynag, yr oedd dau bwlpud, un i'r offeiriaid, fel eu gelwir, a'r
llall i'r cynghorwyr. Yr oedd areithle y cynghorwyr, bid a fyno, yn rhyw
debyg i ystol deir-troed, neu astyllen wedi ei thaflu yn ddidrefn ar dri
pholyn wedi eu pwyo ddaear. Yn agos gogyfer a phen y pregethwr, yr oedd darn
o haiarn wedi ei bwyo i'r mur, a thwll ynddo, lle y byddid yn arferol o ddodi
canwyll ddimai, yr hwn hefyd a elwir y canwyllbren.' Gosodent un ganwyll
ddimai, mae yn debyg, ar y canwyllbren hwn, a goleuai 'i bawb ag oedd yn y
tŷ' Dyma y fan yr oedd Siencyn wedi dyfod i draddodi pregeth. Ei destun
y tro hwn ydoedd, Crist yn oleuni y byd.' Dywedodd lawer, y mae yn debyg, ond
nid ydys yn cofio ond ychydig o'i bregeth, yn nghyda golwg ryfedd y pregethwr
ar ben y plencyn; dywedai, Goleuni yw y testun, bobl; a wyddoch chwi beth yw
goleuni? A fyddai y byd hwn yn rhyw ddefnydd i ni heb oleuni ynddo, dywedwch!
Beth a wnelem â byd o dywyllwch i fyw ynddo? mha le, ac o ba le y mae y
goleuni yn dyfod, bobl? O, mi ddywedaf pa le y mae rhai o honoch yn dywedyd
yn awr; yn mha le! Yn fy llygad i mae; nage, nid yn dy lygad di
|
|
|
(delwedd J7741) (tudalen 69)
|
69
y mae'r goleuni.' Gyda hyny y mae yn troi at y ganwyll ddimai, ac yn ei
gwasgu rhwng ei fysedd nes ei diffodd. 'Dyna,' eb efe, yn nghanol y tywyllwch
tew, a weli di yn awr? Na, y mae yn ddigon tywyll bellach arnat, mi wn.' Yr
oedd pawb yn cydsynied â'r gwirionedd uchod, canys y gauaf oedd hi, ac yr
oedd y noson yn dywell iawn, Rhoddodd y Patriarch orchymyn allan yn lled fuan
i ryw un roddi tân eilwaith ar ben y ganwyll ddimai. Cafodd rhyw ddyn afael
arni, a gwthiodd trwy y dorf i fyned allan i dŷ yn y gymydogaeth i
edrych am dân arni. Wedi cryn helbul fel hyn i gyneu y ganwyll, o'r diwedd
dyma y brawd yn dychwelyd, mewn brys a brwdfrydigrwydd, gan ymwthio yn ei ol
drwy y dyrfa, a'r ganwyll wedi ei thanio drachefn; a chan ei gosod ar y
canwyllbren, dyna'r ganwyll fach eto o'r newydd mor rhyddfrydig ag erioed yn
goleuo i bawb yn ddiwahaniaeth. Dyna,' ebe Siencyn, 'a gredwch chwi yn awr
mai nid yn eich llygaid y mae'r goleuni? Bobol, yn Nghrist y mae goleuni a
bywyd, nid ynoch chwi. Cerddwch am bob peth i'r man y mae i'w gael, bobl. Os
gwelwch frwyn yn tyfu yn rhyw le, gellwch chwilio am ddwr gerllaw yno, canys
y mae dwr yn sicr o fod gerllaw gwreiddiau brwyn. Ac os gwelwch fwg, cerddwch
yno i chwilio am dân, a lle y cewch dân, y mae yno oleu a gwres. Cerddwch eto
i ymofyn pob peth lle y mae i'w gael, bobl, onide chwi fyddwch hebddo, Deuwch
at Grist am oleuni a bywyd byth, hawyr.' A llawer o'r fath ymadroddion y
dysgodd efe hwynt, hyd y gallent wrando; ond heb ddameg ni ddywedodd ef
nemawr wrthynt.
hen
Yn yr un man yr oedd dro arall yn cadw society, ac yn siarad â hen frawd o'r
enw Dafydd Christmas. Yr oedd tân go lew yn dygwydd bod y noson hono yn
aelwyd yr gapel, a Siencyn yn eistedd o'i flaen, a Dafydd Christmas y naill
ochr. Rhwng y prophwyd a'r tân, ar gareg yr aelwyd, yr oedd ci yn gorwedd, ac
mor ddiofal a dibryder a neb, heb feddwl am unrhyw berygl. Un o hen gŵn
defaid Cymru oedd hwn, y rhai oeddynt yn aml ar hyd y wlad cyn dyfodiad yr
Ysgotiaid i'n tiriogaethau ni. Rhai geirwon, blewog oeddynt, fel y gŵyr
llawer o honoch, yn agos cymaint o flew arnynt ag oedd o wlan ar ambell
ddafad fynyddig. Bid a fyno, fel hyn yr oedd pethau yn sefyll pan yr oedd Dafydd
Christmas a'n hewythr yn siarad â'u gilydd yn bur dwym am fater crefydd. Yr
oedd Siencyn yn methu cael Dafydd i ateb i'w fesurau, er pob ymdrech. Yr oedd
Dafydd, yn
|
|
|
(delwedd J7742) (tudalen 70)
|
70
ol tyb y prophwyd, yn ddeddfol, hunanol, a hunan-gyfiawn. Yr oedd Siencyn,
yntau, yn dân poeth yn erbyn y cyfryw ysbryd, gan ddal allan fod yn rhaid
darfod yn lån å'r Adda cyntaf, colli bywyd, ac, heb gerpyn i guddio noethni,
ddyfod at Grist am fywyd tragywyddol, gan bwyso byth arno, heb ddim arall.
Ond y mae yn debyg nad oedd Dafydd yn meddwl yn hollol nad oedd ganddo ef ei
hun ryw beth i wneyd yn y gorchwyl, a rhwng y ddau, Crist ac yntau, y byddai
yn debrg ryw ddiwrnod o ddianc i dir y bywyd. Yr oedd Siencyn Domos yn
dechreu ymysgwyd, ac ymdroi yn ol ac yn y blaen, a tharo y llawffon yn fynych
yn erbyn y llawr; ond yn fuan dyma ef yn troi ac yn edrych y dyn yn ei wyneb,
gan waeddi allan, Deio, a wyddost ti tebyg i beth ydwyt? Mae dy dŷ yn
gollwng dafnau bob tipyn; y maent yn dyfod i mewn yma ac acw, a thyna lle yr
ydwyt tithau yn symud dy wely o'r naill fan i'r llall o ffordd y dafnau; eto
gwlychu y mae efe wedi y cwbl, ac y mae bron a dyfod i lawr o dan dy law. Ond
dyna; yn yr hen dy pwdr yna y myni di fyw, er pob peth, Deio.' Gyda hyny
gwthiodd ei ffon fawr rhag ei blaen gyda holl nerth braich estynedig, gan
waeddi, 'I lawr i'w bwll y delo dy hen dŷ di, Deio.' Y mae yn debyg i'r
ffon fyned o dan yr hen gi a ddesgrifwyd uchod, yn gorwedd ar yr aelwyd, gyda
y fath rym nes ei daflu bendramwnwgl a chorphorol i ganol y tân mawr, nes
ydoedd ei flew yn cyneu yn wenfflam gwyllt. Neidiodd y ci gyda nerth cawr
allan o'r gyneu dân, ac ar hyd y capel bach y rhedai yn ddiberswad, gan waeddi
ac udan, fel mae yn rhesymol ddigon i feddwl; canys yr oedd yr elfen
ddinystriol yn difa y blew garw hyny yn ddidrugaredd, fel tân ysol yn difa
sofi; ac yn wir, y mae yn fwy na thebyg i'r croen hefyd dderbyn ychydig o
hono. Yn mhen rhyw gymaint o amser, wedi ymdrech galed iawn, llwyddodd y
brodyr i ddiffodd angerdd y tân, ond nid heb sarhad a cholled mawr; canys yr
oedd y ci, yr hwn er ys ychydig yn ol oedd wedi ei wisgo mor hardd a
chomfforddus gan natur, yn awr yn anghenfil noethlwm, ac yn barod i syrthio
i'r briddell ddystaw. Yr oedd Siencyn, meddant, yr holl amser yn edrych yn
hynod o hurt, yn nghanol y cythrwfl mawr, oblegyd nid oedd ganddo ef,
deallwch, un amcan yn y byd i daflu y bwystfil i'r tân, ond i hyny ddygwydd i
ryw ddyben anhawdd ar hyn o bryd ei egluro. Yr oedd y bobl hefyd, rai o
honynt, mewn braw tost, yn ngwylltineb y foment, yn credu fod y capel yn dod
yn ddrylliau am eu penau,
|
|
|
(delwedd J7743) (tudalen 71)
|
71
a swn ymadrodd Siencyn yn eu clustiau, 'I'w bwyll y delo.' Bu hyn yn foddion,
beth bynag, i roi terfyn ar y cwrdd y noson hono; awd i weddi, a dyben wyd.
Ni chlywsom beth a ddaeth o'r ci byth wed'yn, pa un a wellhaodd, ynte a fu y
tro yn angenol iddo; ond ni a obeithiwn i hyn fod yn wers i'w berchenog i
beidio dod a chŵn gydag ef i'r cwrdd mwy.
Mae yn debyg mai yn yr un ardal, ond tro arall, yr oedd ein hewythr yn dyweyd
wrth ryw ddyn ei fod yn debyg i singrug y dust. Fe ddichon y gall llawer fod
mewn tywyllwch fel yr oeddem ein hunain, yn nghylch arwyddocad y frawddeg
uchod. Mae y gair 'Singrug' yn llygriad o eisingrug, sef crug o eisin. Chwi
welwch domen o eisin wrth felin, wedi bod y melinydd yn gwneyd blawd ceirch,
yr hwn sydd yn dysgleirio fel arian byw ar dwyniad haul; ond dywedir mai y
lle mwyaf nadreddog ydyw yn yr holl fyd. Pe baech yn troi ychydig ar y domen
ddysglaer hon, gwelech ei bod yn fyw drwyddi o nadredd. Dyma y peth gan hyny,
yr ydoedd yn ei alw yn singrug y dust. Eb efe, Y mae dy dafod yn ddigon teg,
ac yn gallu chwerthin yn serchog ar bawb; gellid meddwl wrth edrych arnat o
faes dy fod yn ogoneddus dros ben, ond gwanwch y ffon drwyddi; y mae ei galon
yn fyw gan nadredd gwenwynig, Hawyr, ciliwch rhag y singrug nadreddog hyn, onide
fe'ch rhwyga yn farw. 'Dyw crefydd ddysglaer ar y wyneb, a thomen fudr o
nadredd oddi tani, yn ddim ond gwaith y diawl i anafu dynion.' Dygwyddodd yn
anffortunus y tro hwn hefyd, canys yr oedd ci gerllaw, ac yn anfwriadol, fel
o'r blaen, tarawodd y ffon i'w ochr, nes myned i'w berfeddion. Traddodiad a
ddywed i'r ci hwn wella yn dda serch hyny, a pharhau yn ei ddefnyddioldeb
flynyddau lawer, ond am y dyn dybenodd ei grefydd y noson hono.
Mewn cysylltiad â'r ymddyddanion hyn, daeth gwraig yn y blaen, o'r enw Mari
James, gan siarad am ei thywydd a'i hymlwybriad crefyddol drwy y byd hwn. Bu
ein hewythr yn hir yn methu gwybod beth i ddyweyd wrthi, nac i wneyd o honi.
Yr oedd y bobl yn gwybod yn burion wrth ei ysgwydiadau a'i anesmwythder, fod
rhyw beth arno yn anhapus ac annyoddefol. Eb efe o'r diwedd, 'Beth yw'r mater
ar y fenyw hon? mae rhywbeth yn atal cymdeithas â Duw. 'Dyw hi ddim yn
cymdeithasu âg ef yn awr, os bu hi ryw bryd. Ond os ydyw wedi bod, mae
rhywbeth yn ei rhwystro yn awr, bid a fyno. Edrychwch, frodyr, a welwch chwi
ryw beth ar Mari James ag sydd yn atal cymundeb â'r nef
|
|
|
(delwedd J7744) (tudalen 72)
|
72
oedd.' Cerddodd ar hyd y lle yn ol ac yn y blaen, ac oddeutu y fenyw lawer
gwaith, gan edrych drosti yn llwyr, yn mhob man, gan ddywedyd wrtho ei hun, Y
mae rhyw beth yn ddiffyg ar Mari James, a pheth mawr hefyd, ond beth ydyw
Beth bynag ydyw y mae yn difa nerth Mari, hi fydd rhy wan i ddim os na ellir
gwybod beth ydyw, a'i ddinystrio. Cododd ei ben yn sydyn y tu cefn i'r wraig,
a dywedodd, 'Mari, mi welaf yn awr beth ydyw yr achos; edrych, yr wyt yn
cario mwnci ar dy ysgwydd.' Trodd y wraig gyda syndod, gan edrych arno yn ei
lygaid, a dywedyd, Mwnci! yn mha le y gwelwch fwnci, fy ewythr Siencyn? Ar dy
ysgwydd y mae,' medd yntau, ac yr wyt yn ei borthi yn gyson. Nid wyt ti yn
cymeryd tamaid a ddim heb estyn dy law at dy ysgwydd i roddi peth i'r mwnci
hef yd. A 'dyw hyny ddim yn ddigon; yr wyt yn prynu liawer o 'falau a
gingerbread i'w cario yn dy boced i'w borthi yn mhob man. Nid rhyfedd dy fod
yn wan yn wir, a thithau yn rhoi mwy na haner dy fwyd i borthi y mwnci; ac yn
treulio yr ychydig arian sydd genyt hefyd ar afalau a gingerbread. Cododd y
llawffon uwch ei phen, gan waeddi, ‘I lawr a'r mwnci, Mari; i lawr ag ef,
onide fe fwyta y cwbl sydd genyt, ac yn y diwedd fe sugna dy waed. Fe allai
eich bod chwi yn dywedyd, frodyr, nad ydych yn gweled un mwnci ar ysgwydd
Mari. Gwrandewch, mwnci a chwant ydyw sydd yn ei chalon, a hithau yn porthi
hwnw, ac yn newynu ei hysbryd ei hunan. Mari, yr wyf yn dywedyd wrthyt ti
eto, lladd y mwnci sydd yn dy galon, canys y mae yn mron bwyta dim crefydd
sydd ynot." Atebodd yr ymddyddan hwn, yn ol tystiolaeth y wraig ei hun,
y dyben i'w gwaredu oddiwrth bethau ag a fuasai yn ei suddo i wae a gofid yn
anocheladwy.
Yn y lle hwn hefyd yr oedd dyn yn teimlo rhywbeth ar ei feddwl yn lled gryf
am fyned i bregethu. Yr oedd yn dygwydd fod pethau lled anffortunus yn
nglŷn â'r mater hwn. Yr oedd Dafydd Phillip, canys dyna oedd ei enw, yn
dân am bregethu, a'r bobl yn oer iawn yn nghylch ei glyw ed. Yr oedd Dafydd
trwy y cwbl dan dywalltiad annghyffredin rhyw ysbryd dyweyd, fel pe buasai
wedi yfed dau ddamper o leiaf o 'hen gwrw Llanbedr-pont-Stephan;' ond yr oedd
fel pe buasai rhyw ymataliad ar ysbryd gwrando, fel yr oedd pawb yn unfrydol
yn dymuno ar Dafydd i beidio dyweyd nes y byddai chwant gwrando yn disgyn ar
ryw rai. Ond mynai Dafydd bregethu, serch pregethu wrth goed a
|
|
|
(delwedd J7745) (tudalen 73)
|
73
cheryg. Yr oedd yn meddwl yn ddiau y gallai bregethu yn gampus hefyd, canys
yr oedd wedi ymarfer cryn lawer ar ei ddawn heb yn wybod iddynt hwy, ac felly
yn teimlo ei gymalau wedi dyfod i ystwythder mawr. Yr oedd ganddo ardd, yn yr
hon yr oedd wedi planu lluaws o fresych, y rhai oeddynt wedi tyfu mor grwn,
fel yr oeddynt yn efelychiad pur dda o benau dynion sydd yn sefyll yn rhesi,
O flaen y gynulleidfa hon y safai Dafydd yn aml iawn yn eu hanerch yn
ddifrifol, gan ddychymygyu fod ganddo gynulleidfa o eneidiau rhesymol ger ei
fron. Fel hyn siaradodd Dafydd ryw lawer o bryd i bryd â'r cabbage, a
thraddodwyd llawer o bregethau gwerthfawr yn eu gwydd. Yr oedd Dafydd, wrth
arfer pregethu fel hyn, yn cryfhau yn ddirfawr yn ei feddwl am ei alluoedd i
bregethu, fel nad oedd gwiw siarad ag ef am beidio; mynai bregethu. Un cryf
ydoedd, y mae yn debyg; ei ffordd ei hun a fynai, yn hollol ddibris o bawb,
yn debyg iawn i ddyn yn myned i achub y byd ar dir y cnawd. Daeth Siencyn yno
i gynorthwyo y brodyr i drin yr achos, ond ffaelodd yntau a gwneyd dim â
Dafydd; yr oedd yn rhy galed a thafod-rydd i ddim. Wedi y cyfarfod,
penderfynodd y ddau flaenor ymadael a'r lle, a myned at yr Annibynwyr, gan na
fyddai modd byth iddynt hwy fyw gydag ef wedi i'r hen brophwyd ei hun fethu cael
un llaw arno. Gartref yr oeddynt yn myned gyda eu gilydd, gan ddywedyd hyny
wrth ein hewythr Siencyn, a gofyn gyda llaw a oedd ganddo ef ryw gynghor i
roi iddynt yn wyneb y fath amgylchiadau. Nid oedd gydag yntau ddim i ddyweyd,
ond yr oedd yn ymddangos yn brudd a digalon iawn. Daethant i'r groesffordd
lle yr oeddynt yn ymadael; ysgydwasant ddwylaw ac ymadawsant, a'r ddau ddyn
yn dyweyd eu bod yn benderfynol i ymadael, ac yn synu fod Siencyn heb ddim i
ddyweyd wrthynt. I bant yr aethant, un i'r heol hon, a'r llall i'r nesaf, pob
un tua'i artref. Pan wedi myned tua lled cae oddiwrth eu gilydd, clywsant
waeddi dirfawr ar eu holau. Fechgyn, clywch; fechgyn, clywch; deuwch yma.'
Troisant yn ol, a daethant at eu gilydd drachefn.Yn awr, fechgyn,' meddai, "'does
dim eisiau i chwi fyned. at y Dissenters oblegyd Dafydd Phillips. Byddwch
chwi eich dau yn ddwy belen wlyb un bob ochr i'r badell: cedwch eich pelenau
yr. wlyb, cofiwch; a gosodwch hen belen. sych Deio Phillip yn y canol
rhyngoch; mor sicr a'ch bod chwi yn fyw, fechgyn, chwi lyncwch belen Deio i
fynu cyn hir, a chewch lonydd ganddo." Darfu i'r ddammeg hon eff-
|
|
|
(delwedd J7746) (tudalen 74)
|
74
eithio arnynt i lynu wed'yn, ac nid hir y dygwyddodd cyn dyfod pethau i ben
yn rhyw gyffelyb i'r peth a ddywedodd; canys aeth Dafydd Phillip lai lai o'r
diwrnod hwnw allan, nes yn fuan yr aeth yn ddim, ac y darfyddodd yn lân;
gadawodd y grefydd a'r cwbl, ac aeth yn rhy annuwiol i breg. ethu i gabbage,
chwaithach i ddynion, ac felly cafwyd llonydd ganddo ef mwyach. Nid ydym ni
o'r cyfryw sydd yn dal anffaeledigrwydd; oad ar yr un pryd yr oedd rhywbeth
pur hynod yn y dyn hwn, canys nid yn aml y byddai yn methu taro y nôd, fel y
gwelwch yn amlwg. Y pethau hyn oedd yn ymddangos yn ynfydrwydd, yn fynych a
atebent ddyben i wneyd gorchwylion mawrion, y cyfryw nad allesai neb arall ei
wneyd trwy ddoethineb. Gwisg flewog a garw oedd yr eiddo ein hewythr, mae yn
wir; ond ei wisg ei hun ydoedd, gan hyny yr oedd efe yn edrych yn dda a
pharchus ynddi. Pe buasai rhywun arall yn taflu y fantell hon ar ei
ysgwyddau, buasai yn ffwl yn ngolwg pawb, ac yn destun chwerthin i'r holl
fyd.
Yr oedd ein hewythr, er ei holl erwindeb a'i chwithig rwydd ymddangosiadol,
yn byw mewn parch a chynesrwydd yn mryd calonau y bobl. Gellid meddwl yn
fynych wrth ei ddull, nad oedd dim yn cyfansoddi ei gymeriad ond creulondeb;
eto yr oedd o dan y wisg arw hon y galon dyneraf, hynawsaf, a mwyaf teimladwy
yn lletya. Yr oedd yno deimladau tyner at holl drueni y natur ddynol; yr oedd
ei galon yn gallu cofleidio y tlawd, a mynwesu y weddw a'r amddifaid; a phan
y gwelai deimlad mewn dyn wrth siarad ag ef am ei brofiad, nid oedd neb yn
barotach i gynorthwyo, na nemawr mor fedrus i roddi llaw o dan ysbryd
cystuddiedig i'w godi i fynu. I'r cyfryw yn fynych yr ydoedd 'ei gariad yn
well na gwin, ac arogl ei olew na'r holl berarogl au. Yr oedd enaid mawr,
rhyddfrydig, a grasol, gan ein hewythr, yn dysgleirio yn odidog trwy y goat
lwyd, ac yn peri i berlau y byd gywilyddio. Gwelsom ef yn fynych yn tynu ei
enaid allan nes oedd dim son am gorff, na dim o'i gylch. O, mor ogoneddus y
mae yn ymddangos yn awr! Dacw ei enaid yn noeth; edrychwch arno. Yn mha le y
mae? Dywedwch cyn yr elo i sefyllfa anweledig eto. Tro dy ben draw, a gwel;
dacw ei enaid yn cael ei dynu allan i'r newynog; rhyfedd y fath ffrwd o
deimlad calon sydd yn llifo onide? Mae efe yn datod rhwymau anwiredd, yn tynu
ymaith feichiau trymion, a gollwng y rhai gorthrymedig yn rhyddion. Yn tori
ei fara i'r rhai newynog, a dwyn y
|
|
|
(delwedd J7747) (tudalen 75)
|
75
crwydriaid i dy^’. Mae y canlyniad yn amlwg; mae ei oleuni yn tori 'allan fel
y wawr, a'i iechyd yn tarddu yn fuan; ei gyfiawnder a â o'i flaen; a
gogoniant yr Arglwydd yn ei ddilyn.' Gwelwyd enaid ein hewythr fel hyn lawer
gwaith, yn gorlifo yn ffrwd gref, risialaidd, a grasol dros geulanau y corff,
yn ymarllwys i froydd adfyd a thrueni, gan esmwythau poenau llawer un, a
chymhwyso balm at glwyfau dyfnion y galon drom. Nid ydym yn amheu na ddarfu
iddo syrthio i brofedigaeth ambell dro o herwydd tynerwch ei galon at y
tlawd. Canfyddir mai y pechodau lleiaf ydyw y rhai hyn; eto y mae yn rhaid
gochelyd pob peth pan yr elo yn bechod.
Clywsom am dro ddygwyddodd a bu yn gyfyng ar Siencyn o'i blegyd, er mai
caredigrwydd ei galon yn ddiau a'i harweiniodd y ffordd hono, Yr oedd hen
wraig yn y gymydogaeth yn lled dlawd, ac wedi cyfarfod yn ddiweddar â rhyw bethau
anffortunus, fel yr oedd yn wasgfa ryfeddol arni mewn perthynas i'w
hamgylchiadau bydol. Penderfynodd mai yr unig lwybr iddi ddyfod allan o'i
chyfyngderau presenol oedd gosod rhywbeth ar ddisen (dice.) Nid ydym yn cofio
pa beth ydoedd, pa un ai gwydd, bwrdd, pedwaran o gnau, neu beth, pe byddai
rhyw bwys yn hyny hefyd; beth bynag, dyna y pethau sydd yn cael eu gosod ar
ddisen yn gyffredin, ac y mae yn gofus genym enill pedwaran o gnau unwaith
pan yn ieuanc, yn y ffordd hon. Daeth yr hen wraig at Siencyn i adrodd ei
chwyn, a thruenus oedd yr hanes, mae yn debyg. Gosododd y mater ger ei fron,
dan wylo y dagrau yn hidl, ac ôl gofid caled yn ei gwynebpryd. Gofynodd a
oedd efe yn meddwl y byddai yn bechod yn erbyn Duw iddi hi, o dan y cyfryw
amgylchiadau, i osod rhyw beth ar ddisau, i gael casglu ychydig arian i
ddyfod o'r gwasgfeuon presenol. Yr oedd enaid y patriarch yn ddrylliedig iawn
erbyn hyn, a'i deimladau yn gorlifo pob rheswm, fel y byddai efe weithiau.
Trodd o amgylch gryn dipyn, gan edrych weithiau i'r nef, ac yn fynych tua'r
ddaear. 'Gwrando di,' ebai; 'gan mai hon yw'r unig ffordd effeithiol i ddyfod
allan o'r dyryswch hwn, a chan fod dy ddyben dithau yn gywir yn y mater,
canys dy ddyben di yw talu dy ddyled, a bod yn onest, yr wyf fi yn methu gweled
nad ellir ei wneyd yn ddystaw; cofia, bydd mor ddystaw ag sydd bosibl, heb
ddwyn dim arall mewn cysylltiad ag ef. Beth yw pris yr ergyd?' 'Swllt,
Siencyn Tomos,' ebe y wraig. 'Wel, dyma swllt i ti; ond paid dodi fy enw i i
lawr i daflu disau; yr
|
|
|
(delwedd J7748) (tudalen 76)
|
76
wyf fi yn rhoddi y swllt yn rhad.' I bant yr aeth y wraig, fel wedi cael ysglyfaeth
lawer,' a chyhoeddai yn mhob man fod taflu disau i gymeryd lle yn ei thŷ
hi, a chasglodd enwau lawer i ymgystadlu am y wobr. Yr oedd y wraig wedi
cyrhaedd y dyben erbyn hyn, a chanddi ddigon o arian yn ei phoced i dalu y
cwbl, a rhyw faint dros ben. Noson y gystadleuaeth a ddaeth; yr oedd yn
prydnawnu yn deg, a Sol yn ymddangos fel pe buasai wedi bod yn trochi ei
adenydd mewn môr o borphor, a chan eu lledu ar draws y wybren, ymsuddai yn
ddystaw o'r golwg y tu cefn i fynydd cyfagos. Yn ngwyll y nos, rhwng dau
oleu, fel y dywedir, dyma swn cynhwrf mawr trwy yr holl ardal, yn enwedig yn
mhlith y dynion ieuaine, gan wneyd y darpariadau angenrheidiol tuag at
gychwyn i diriogaeth y gystadleuaeth. Yn fuan gwelid hwy o bob cyfeiriad yn
dringo yr allt, tua thŷ y fenyw, yr hwn oedd yn sefyll ar ael y bryn.
Pan welodd Siencyn yr holl ymdyru hyn, deallodd yn eglur mai nid yn ddystaw,
fel y cynghorwyd, y byddai y gorchwyl yn debyg o fyned yn y blaen, ac y
byddai rhyw gyffro yn debyg iawn o fod yn y byd crefyddol hefyd o'i blegyd.
Ond, fel y byddis yn gyffredin, gobeithiodd y pethau goreu, ac esmwythaodd
ychydig. Dyrchafai ei olygon drachefn, a gwelai y cryddion a'r teilwriaid yn
ymdyru o bob cwr tuag yno, a Wil y crydd cloff o fewn can llath ar eu hol, yn
gwneyd goreu ei galon i'w dylyn ar ddwy ffon-fagl. Deallodd ein hewythr, wrth
weled y teulu yma yn carlamu, fod cwrw yn y cwestiwn hefyd, gyda disau. Nid
anuniawn y barnodd ysywaeth, canys yr oedd yr hen wraig wedi darpar ychydig o
borter, fel na fyddai iddynt chwareu yn sych. Aeth yr ymdrechfa heibio;
enillodd rhyw un, ac yfwyd wed'yn hyd y boreu; canys pan oedd Sol yn agor
drws ei ystafell, i ddyfod allan fel cawr i redeg gyrfa y diwrnod hwnw,
tywynai ar rai o'r cryddion a'r teilwriaid yn gorwedd yn ochr y cloddiau wedi
cysgu mewn meddwdod; ac yr oedd ereill i'w gweled yn rhedeg yma a thraw am
loches, fel pe buasai arnynt gywilydd i weled yr haul.
Nid oes angenrheidrwydd i ni ddywedyd erbyn hyn, tebygem, mai dyma oedd
siarad y plwyf y diwrnodau canlynol. Y wraig yn grefyddol, a'r fath ystwr
wedi dygwydd mewn cysylltiad â hi, oedd yn peri i elynion gablu yn ddirfawr,
gan adrodd yr hen ystori hono fod crefyddwyr yn waeth na neb dynion yn y byd.
Derbyniodd clustiau y crefyddwyr ychydig o hono, a bn yn ofid trwm i'w
calonan, a thyma yr
་
|
|
|
(delwedd J7749) (tudalen 77)
|
77
achos yn mlaen yn mhen rhyw gymaint o nosweithiau, yn dyfod gydag awdurdod i
society y Dyffryn. Rhoddwyd y mater i lawr, ac aed dros yr hanes wrth gwrs,
gan alw y fenyw yn mlaen.
Yr oedd Siencyn mor ddystaw a'r bedd, a'i wyneb tua'r llawr, fel pe buasai yn
addoli a'i bwys ar ben ei ffon.' Pan oedd y wraig yn cael ei churo o bob tu
yn ddiarbed, a phob gobaith i fod yn gadwedig wedi ei ddwyn oddiarni, fel yr
ymgyrchfa olaf am noddfa gwaeddodd allan fod Siencyn Tomos wedi rhoi caniatad
iddi i wneyd fel y gwnaeth, ei bod wedi ymgynghori ag ef yn gyntaf. Gyda hyn,
yn rhyfedd a sydyn, bu swn, ac wele gynhwrf, fel pe buasai holl esgyrn yr hen
Ddyffryn yn taro yn erbyn eu gilydd. Dyma olwg newydd ar bethau yn awr;
Siencyn Domos wedi caniatau i ddynion daflu disau! 'Ai gwir hyn?' ebe un o'r
hen gyfeillion. Bu dystawrwydd am ychydig, tra yr oedd llawer enaid yn myned
trwy y cyffroad mawr hwn. Yn fuan dyma Siencyn yn tori ar y dystawrwydd
pruddaidd, ac yn cyffesu fod gwirionedd mewn rhan yn y dystiolaeth; ond,'
meddai, gwnawd llawer yn rhagor o'r peth nag y darfu i mi ei ganiatau, serch
hyny. Mi ddywedais wrthi am daflu disau, a thyna gyd, yn ddystaw; ond y mae
cwrw, a meddwdod, a llawer o bethau wedi bod mewn cysylltiad â'r peth.' 'Ië,
ond yr oedd y cyntaf yn afreolus, pe na buasai yn arwain i'r llall, ac yn
bechod yn erbyn Duw,' ebe y brodyr; 'a shwt y gallasech chwi roddi caniatad i
wneyd y cyfryw beth ag sydd yn groes i air Duw, a phob rheol o foesoldeb?
Erbyn hyn, chwi welwch y mae ein hewythr da yn ngafael y gyfraith. Gwnaeth
Siencyn bob ymdrech yn y byd i gyfiawnhau y weithred mor belled ag yr oedd yn
dal perthynas ag ef, yn gymaint ag mai dyben da a'i harweiniodd at hyny. Ond
ni wnai hyny y tro; profwyd ef yn droseddwr, a churo yn ddiarbed fu yno hefyd
ar ben y cawr, i'w gael i'r llawr. Nid oedd dim ond cwympo neu dori i fod yn
y diwedd. Nid oedd ein hewythr, wedi iddynt ddyfod am ei ben fel hyn, ddim yn
haner hwylus i gwympo ychwaith. Peth go anhawdd gan y natur ddynol erioed,
fel y gwyddoch yw cwympo am fai, er yn euog o feiau mawrion iawn. Yr oedd
ychydig o hyn yn ngweddill yn y Patriarch hefyd. Ond yno y buwyd yn euro ac wrthi,
nes yn agos i haner nos, dan geisio llorio y cawr, yn lle gorfod dyoddef y
boen o'i dori allan. Ryw bryd cyn canu o'r ceiliog, dyma enaid ystyfnig y
prophwyd yn dechreu rhoi ffordd; y mae yn toddi, yn cydnabod y bai, ac yn
gwaeddi,
|
|
|
(delwedd J7750) (tudalen 78)
|
78
'Pechais yn erbyn y nef.' Gyda hyn y mae yn llefain allan,
Frodyr, yr ydych am i mi gwympo; nid yw yn orchest yn y byd yn awr;
edrychwch, dyma fi yn cwympo;' a chyda hyny ymollyngodd ar ei hyd i'r llawr.
Hawyr,' meddai, edrychwch, dyma fi wedi cwympo.' Yr oedd yr hen Ddyffryn
erbyn hyn yn fonllef o fawl trwyddi o ben-bwy-gilydd, a Siencyn ar ei draed
yn eu canol, yn gwledda ar faddeuant rhad gystal a neb. Ar yr un pryd, yr
ydys yn meddwl i'r tro hwn gael ei ganlyn â llawer o ofidiau, ocheneidiau, a
thywydd garw, ac i'r hen frawd fod mewn ymdrechion celyd â'r gelyn o'i
herwydd.
Yr oedd wedi hyn yn myned dros y caeau, neu ran o fynydd, pryd y cododd
ystorm chwerw yn ei feddwl yn nghylch ei gyflwr. Wni yn y byd,' eb efe, a
weddiais i boreu heddyw ai peidio; yr oedd yn lled galed, bid a fyno.' 'Do,
do, Siencyn,' meddai wrtho ei hunan, 'buost yn darllen a gweddio; mi dy
glywais â fy nghlustiau fy hun.' 'Ië, ïe, yr oeddit yn siarad dy wala; ond y
pwnc yw hyn, a glywodd y nefoedd dy weddiau? a wyddost ti, y dyn?' Er fod ein
hewythr yn ymddyddan ag ef ei hun, nid oedd hyn yn un gyfrinach yn y byd,
oblegyd clywid ef ar brydiau yn groes i'r Dyffryn, wedi hyny arafai ychydig,
a dywedai dipyn yn ddystawach. Eto yr oedd y peth hwn yn gwasgu yn galed
arno, mae yn ddigon tebyg; canys cerddai yma ac acw, ar draws ac ar hyd,
weithiau yn araf fach, weithiau yn wyllt ac yn gyflym, gan ymholi yn
ddiorphwys, 'wn i yn y byd a weddiais i heddyw ai peidio?" Yn sydyn,
safai rhyw beth o'i flaen; nis gallasai ddywedyd tebyg i beth ydoedd; rhyw
dduwch afluniaidd oedd yn ymwasgu ato, ac yn ysgyrnygu danedd, gan ddywedyd,
Shanco, weddiaist ti erioed yn dy fywyd, chwaithach heddyw.' Cynhyrfodd hyn y
Patriarch i'r fath raddau, nes y mae yn edrych fel dyn wedi ei drydanu; a
chyda hyny dyma yr hen ffon fawr i'r lan, ac yntau yn gwaeddi fel'cadarn wedi
gwin,' 'Dy gelwydd di ydyw, y diawl!' Ond, cyn gallu tynu ergyd a'r llawffon,
yr oedd yr hwtach wedi cilio; onide yr oedd ergyd eilwaith wedi ei amcanu ar
ben y sarph. Wele ef fel cawr eto yn awr, fel un wedi cael nerth a bywyd
newydd, yn gwaeddi nes oedd y cymydd yn adsain, Satan, dere yn ol, dere yn
awr; yr wyf yn myned i weddio yn bresenol, tithau gei fod yn witness.' Dyma
fe i lawr ar ei luniau, ac yn cael ychydig o ddrws agored, y pryd y cauodd ei
ddyrnau, gan lefain, Bydded ein gelynion yn farnwyr. Ah! y cythraul brwnt,
ergyd a chilio
|
|
|
(delwedd J7751) (tudalen 79)
|
79
sydd genyt ti o'r dechreuad; dere yma yn awr i fod yn witness. Gogoniant! y
mae satan wedi ffoi. Ond yr wyf yn galw ar yr angelion santaidd yn dystion,
ïe, yr wyf yn galw ar Iesu, Cyfryngwr y Testament Newydd, a Duw, Barnwr pawb,
yn dystion ar fy achos. O Arglwydd, ti a wyddost bob peth; ti a wyddost fy
mod yn dy garu di. Buddugoliaeth unwaith eto ar holl hiliogaeth y pwll
diwaelod !
'Ac am fod Iesu'n fyw,
Byw hefyd fydd ei saint.'
Dychwelodd Siencyn oddiar y mynydd y dwthwn hwnw yn fwy conewerwr na'r Duc o
Wellington; yn goncwerwr ar uffern a'i holl ofnau. Ni a welwn mai cyfnewidiol
ydoedd ein hanwyl ewythr, o ran ei brofiad, weithiau i lawr a phrydiau ereil!
i'r lan, fel y dywedir; ambell waith yn amheu cael byw, ac yn mhen ychydig
eilwaith yn goncwerwr mawr.
Yr ydym yn cofio clywed am dro y bu cryn helbul arno yn nghylch gadael ei
orchwyl i fyned i oedfa ganol dydd i hen gapel y Dyffryn. Yr oedd pregethwr
yn dygwydd bod yno ar ddiwrnod, a galwad uchel arno yntau i fod gyda phethau
ereill perthynol i'r byd hwn. Yr oedd y caead yn ddrwg, a'r anifeiliaid yn
anesmwyth, ac yn tori ar draws y llafuriau a'r cwbl, gan wneyd hafog tost. I
bant yraeth, yn foreu iawn, a'r bilwg a'r menyg ganddo, at y gorchwyl o
sicrhau y bylchau, er atal yr anifeiliaid i ddystrywio yr ydBu yn caead fel
cawr am oriau lawer, nes oedd pryd y cyfarfod yn tynu yn agos, ac eto llawer
o'r gwaith yn aros heb ei orphen. Tybiodd fod yn well iddo ddylyn ei orchwyl
yn y blaen, yn gymaint fod y fath berygl i'r anifeiliaid dori i mewn i'r yd,
a gwneyd fe allai, ryw alanastra echrydus.Nid crefydd, ebe rhybeth yn ei
feddwl, yw esgeuluso helyntion y bywyd hwn ychwaith, pan y byddo gwir alwad i
fod gyda hyny. Y mae y Beibl hefyd yn dechreu dyfod i'w feddwl yn gadarnhad
ar hyny. Y mae yn syrthio ar ei liniau i ofyn cyfarwyddyd; ond yn methu
gweddio, a satan fel yn curo ei adenydd, ac yn bloeddio uwch ei ben, ‘Ah, ah,
Sianco, weddiaist ti erioed eto.' Mae yn codi yn wyllt, a dyma lais yn
dywedyd yn ei fynwes gymysglyd, 'Wele, ni a adawsom bob peth, ac a'th
ddylynasom di.' Penderfynodd ar unwaith beidio ymgynghori â chig a gwaed, a
brysiodd ac nid oedodd i ufuddhau i'r 'alwedigaeth nefol.' Gan ei fod yn
meddwl dyfod yn ol at y gwaith ar ol y cyfarfod, edrychodd am le dyogel i
guddio y bilwg a'r menyg.
|
|
|
(delwedd J7752) (tudalen 80)
|
80
Gosododd hwynt yn drefnus mewn llwyn yn yr ymyl, ac ymadawodd a'i wyneb tua
hen dŷ cwrdd y Dyffryn. Yn gymaint a'i fod y tro hwn yn lled ddiweddar,
yr ydoedd ei olwg yn ddyeithr yn dyfod i mewn i'r hen gapel. Yr oedd colar ei
grys yn agored, a'i ben crych, rhawnllyd, fel yn arwyddo fod yr enaid a
breswyliai yn y corff hwnw ar fin gwallgofrwydd. Gwthiai yn ddihafarch drwy y
dorf, nes yr oedd yn agos i'r pwlpud, pryd y llonyddodd ychydig. Yr oedd yn
dygwydd bod yn oedfa dda; y pregethwr yn hwylus, a'r bobl yn toddi wrth
wrando y gair. Yn mhen rhyw gymaint, clywid Amen yn aml oddi yma ac oddi
draw, a'r cynhyrfiad yn cynyddu wrth fod y pregethwr yn myned yn y blaen. Yr
oedd y prophwyd yn dechreu teimlo rhyw gymaint o hono, ac ar ei galon yntau
hefyd ddywedyd Amen, gyda'r bobl. Dyma ei enaid o'r diwedd yn codi i hwyl
ddigon i ddywedyd, 'Amen,' a 'diolch iddo. Mae yn myned i agor ei enau, a
bloeddio allan, pan y daeth yn sydyn i'w feddwl fod rhywun wrth basio heibio
y lle yr ydoedd yn caead wedi llydrata y bilwg a'r menyg. Syrthiodd hyn fel
dyfroedd oerion ar ei ysbryd, a diflasodd, pendrymodd a chollodd bob teimlad.
Yn mlaen yr oedd yr hwyl yn myned, serch hyny, gyda'r pregethwr a'r bobl, nes
darfu Siencyn hefyd ymadnewyddu dipyn eilwaith, a'i enaid pryderus yn cael ei
ferwi drachefn. Yr oedd yn awr fel pe buasai y gwirionedd yn ei gordeddu;
methai eistedd, ond pan yn y weithred o daflu ei fraith i waeddi 'Haleluia,'
saethodd rhyw ysbryd i'w feddwl eilwaith, gan ddolefain, Mae'r bilwg a'r
menyg wedi eu lladrata mor sicr a dy fod yn fyw.' Efe a orchfygwyd eto y tro
hwn; yn lle rhoi bloedd eisteddodd fel cawr wedi ei lwyr orchfygu. O'r diwedd
dyma y cym ylau fel yn tori, a'r gwlaw mawr fel yn disgyn, a'i ysbryd yntau
yn cael ei wlychu nes oedd yn barod i floeddio o'r newydd, 'Bendigedig fyddo
ei enw.' Ond cyn fod y gair allan dyma ddiafol yn gwthio'r bilwg i mewn wedi
hyny. Eithr gorchfygwyd y cwbl y tro hwn, aeth y ffrwd yn rhy gref i'w hatal
mwyach, a chlywid ef yn bloeddio, 'Y bilwg, y diawl, beth sydd a fynot ti ag
ef? Os ydyw wedi ei ladrata, onid myfi a'i piau ef, ac wedi talu am dano yn
onest hefyd Satan, am dy wddf di y byddo yn dragywyddol! Haleluia! clod i'r
hwn a'm prynodd ar y pren!' ddiafol ffoi nerth ei draed, a'r bilwg am ei wddf
ei hun o'r diwedd, gan adael Siencyn yn orchfygwr mawr ar faes y frwydr. Yr
oedd yn rhyfedd ddigon ei glywed, serch hyny,
|
|
|
(delwedd J7753) (tudalen 81)
|
81
canys nid oedd y gynulleidfa yn gwybod dim o hanes y bilwg a'r menyg y pryd
hwnw, pan yn clywed y bloeddio mawr, ‘Am dy wddf y byddo! Ni bu i ni glywed
dim rhag llaw am y bilwg a'r menyg, ond digon tebyg iddo ef gael yr hwyl y
tro hwn, a'r offerynau caead yn y fargen hefyd; a phe na fuasai yn eu cael
byth, nid pwys mawr cedd ganddo ef ar y tymhor hwnw.
Dywedir am tregethwr, yr hwn a ystyrid y pryd hwnw yn ddoniol iawn, yn mhell
uwchlaw y cyffredin, Clywid son am ei ddoniau hyd at Lundain; a thyma lythyr
yn dyfod gyda'r post un diwrnod yn ei gymhell i ddyfod yno gyda phob brys.
Aeth yno yn uniongyrchol gyda'r cerbyd. Ar ol cyrhaedd yno, y mae yn teimlo
ei hun fel pe byddai wedi myned o dan ryw gyfnewidiadau o bwys rhwng mynyddau
Cymrn a'r brifddinas yn rhywle, canys yr oedd ei holl deimladau wedi newid.
Yr oedd yn synu gweled a theimlo ei hun mewn cerbyd ar hyd yr ystrydoedd, a'r
bobl yn ei alw yn 'feistr' yn lle 'Shon.' Cymerodd gymaint o wynt yn y fan
hono, nes magu afiechyd trwm, yr hwn a lynodd wrtho am weddill ei oes. Yn
mysg holl ryfeddodau Llundain, ni welodd ddim mor ogoneddus ac o werth siarad
am dano beunydd gymaint ag ef ei hun yn marchogaeth mewn fly o Islington i
Jewin Crescent.
Wedi dychwelyd, daeth eilwaith ar ei hynt i'r Dyffryn i bregethu, ac wedi
ymdrwsio yn berffaith yn ol y ffasiwn, ac yn wir yn mhell y tu hwnt i'r
ffasiwn hefyd; o leiaf y tu draw i un ffasiwn y darfu iddynt hwy weled, yr
ydym yn sier, yn nghymydogaethau y Taibach, Aberafon, a Phontrhydyfen, Fel
hyn, beth bynag, y daeth y pregethwr, a phregethodd yn lew iawn, os nid yn
gampus, fel y dywedir; ond yr oedd Siencyn, ac ereill hefyd yn lled sur yr
olwg arnynt, fel pe buasent yn cael mwy o flas Llundain ar y pregethwr nag o
flas efengyl Crist. Wedi y cwrdd, aethant i mewn i dy gerllaw, a chymerodd y
gwr ieuanc y gadair ddwy-fraich oedd yn y canol, &c. Galwai am bibell, ac
am bapyr hefyd i'w chyneu; ac wedi dechreu chwiffio a mwynhau ei hun i'r dim,
y mae yn cychwyn yn chwim tua Llundain. Yr holl hanes am y dref fawr hono,
wedi'r cwbl, oedd ei fod yn myned mewn cerbyd yma ac ucw, ac iddo weled trwy
y ffenestr y peth hyn a'r peth arall wrth fyned heibio, fel pe na buasai yn
cael cyfle i weled dim ond trwy ffenestr ei goach. Nid oedd Siencyn yn dyweyd
dim ond trwy awgrymiadau: canys yr oedd yn ddigon amlwg er ysmeityn
|
|
|
(delwedd J7754) (tudalen 82)
|
82
fod cyffroadau yr enaid bron yn siglo y corff yn chwilfriw.Ond, pan na allai
ddal yn hwy, y mae fel yn myned i ymddial ar yr hen lawffon, gan ei tharo yn
ddidrugaredd yn erbyn y llawr, a chan edrych y dyn ieuanc yn ei wyneb,
dywedodd, Duw dy helpio di, y mwnci disynwyr; yr wyt ti wedi dy lanw â gwynt;
ti fyddi wedi myned gyda rhyw wynt cyn hir, oddieithr cael moddion atat, a
hyny yn fuan hefyd. Gwrando! buasai yn well er dy les di o'r haner pe buasent
yn dy yru ar hyd yr heolydd mewn wilbar (wheelbarrow) yn lle cerbyd. Dyn
wilbar wyt ti hefyd; y mae dy ben a dy galon yn rhy wan i fyned yn uwch nag
olwyn wilbar; ac fe fyddai dy gwymp dipyn yn haws o'r wilbar na'r cerbyd
uchel.' Aeth wedi hyny ar ei hyd ar gareg yr aelwyd, a gorweddodd a'i wyneb
i'r lan, gan waeddi fel y clywid ef yn groes i gae, 'Dere lawr, dere lawr
yma, onide ti a ddeui yn bendramwnwgl a thori dy wddf o'r diwedd.' Aeth hyn
heibio, ord och! cyn nemawr o fisoedd yr oedd gwddf y pregethwr wedi ei dori;
ac er ei holl ymchwydd, ymdreiglodd mewn tom a llaid.
Efallai nad oedd un bai na phechod ag y byddai cydgrefyddwyr a
chyd-bregethwyr Siencyn yn gyffredinol, a Siencyn ei hunan yn neillduol, yn
fwy eiddigus o hono ac yn cadw gwyliadwriaeth fwy manwl yn ei erbyn na
balchder ac ymchwydd. Adnabyddiaeth Siencyn o ddrwg y galon, yn enwedigol y
duedd sydd ynddi i ymchwyddo ac ymddyrchafu, yn nghyda'r ofn rhag i falchder
yn anad dim ddyfod i mewn fel afon, a barai iddo gadw llygad craff ar ol pawb
oedd yn cael dyrchafiad, rhag iddynt hwythau ymddyrchafu. Gorchwyl pur
anhawdd, yn ei fryd ef, oedd i ddyn fyned i'r brifddinas, mwynhau parch,
dyrchafiad a phoblogrwydd yno, a dyfod yn ei ol yr un faint a phan aethai o
gartref. Bu yr enwog Jones, o Langan yn Llundain droion; fel y dywed y
marwnadydd
'Llundain boblog, falch, derfysglyd.
Glywodd sain ei bibell ef;
Cafodd wybod bod yn Nghymru
Un oedd lawn o ddoniau'r nef.'
Mwynhaodd Mr. Jones yno lawn cymaint ag a allai calon dyn gweddol o resymol
ei ddymuno o barch a phoblogOnd nid oedd Siencyn heb ei ofnau am dano yntau.
Yr oeddynt yn cydfarchogaeth unwaith pan oedd Mr. Jones newydd ddychwelyd o
un o'i ymweliadau â'r brifddinas. Dygwyddodd fod yr offeiriad ryw gam neu
ddau yn y blaen
"
|
|
|
(delwedd J7755) (tudalen 83)
|
83
ar y Patriarch; yn sydyn teimlai Mr. Jones ddau neù dri o ergydion ysgafn yn disgyn
ar ei gopa; deallodd ar unwaith mai llawffon enwog Siencyn oedd yno; trodd ei
wyneb yn ol, a haner waeddodd, Sianco, Sianco, beth wyt ti yn ei wneyd,
fachgen? Eich cadw chwi i lawr, syr,' ebe Siencyn; - 'yr y'ch ch'i wedi bod
yn Llundain gyda'r gwŷr mawr, ac wedi cael llawer o barch yno; y mae
eisiau cwbl o ergydion ar eich pen i'ch cadw ch'i rhag tyfu.' Y mae yn fwy na
thebyg ei fod yn camsynied, ond yr oedd yn well gan Siencyn, ac yr oedd yn
fwy cydweddol ag arferiad y dyddiau hyny, i gamsynied yr ochr hono nag ar yr
ochr arall. Rhoddwyd llawer ergyd ar ben y gostyngedig rhag ofn i'r balch
gael dianc yn ddigerydd.
Yr oedd Siencyn yn cadw society yn Mro Morganwg, pan y torawodd wrth ryw
fachgen mewn ymddyddan, yr hwn ni adwaenai efe; eto yn rhyw fodd, fel pe
buasai yn ei adwaen yn ysbrydol i gryn berffeithrwydd, fel yr oedd pawb yn
synu wrth yr ymddyddan. Mae yn debyg mai rhyw un llesg yn ei grefydd ydoedd,
yn ymgrogi, fel y dywedir, yn rhyw le rhwng byd ag eglwys; yn llwydaidd a
llwfr ei agwedd. Ond ni wyddai Siencyn ddim am hyn mwy na'r dyn yn y lleuad;
canys y mae yn debyg mai y tro cyntaf iddo ei weled erioed oedd y tro hwn.
Wedi holi gryn dipyn, a'r bachgen yn ceisio ateb goreu y gallai, mae yn
sefyll o'i flaen, ac yn gwaeddi, Hach, hach,' ac yn poeri. Nid oedd yr olwg
arno yn serchus ar y goreu; ond pe buasech yn ei weled yn cydio â'i ddwylaw
yn y ffon fawr, yn taro hono yn erbyn y llawr. Y mae yn gofyn tiwn wed'yn, ac
yn cael rhyw fath o atebiad; a chyda hyny dyna ergyd i'r llawr a'r ffon, gan
waeddi hach, hach, drachefn. Eto dacw y llawr yn cael ffonod arall; mae rhyw
beth yn dyfod allan eto, cewch weled; canys rhagarwydda fod rhyw gynhyrfiad
yn meddwl trybylog y Patriarch. Wedi edrych o gwmpas ar hwn a'r llall, y mae
yn dywedyd mewn llais gweddol ddystaw, yn fwy dystaw nag arferol, 'Alla'i
ddim ei lyncu, alla'i ddim ei lancu. Gallasech feddwl fod rhoch wedi dyfod
i'w wddf; mae yn cerdded o gwmpas, ac fel dyn mewn poen, yn ceisio llyncu
rhyw beth, ac yn methu yn un wedd. Y mae yn sefyll, ac yn poeri, ac fel yn
cymeryd anadl newydd, i wneyd ymdrech at lyncu wed'yn os oedd bosibl, Ond mae
yn taro y ffon yn erbyn y llawr, ac yn tystio eilwaith, Yr wyf yn methu ei
lyncu, yr wyf yn methu ei lyncu.' Yr oedd ambell un, yn enwedig y newyddian
yn y ffydd, yn barod i feddwl
|
|
|
(delwedd J7756) (tudalen 84)
|
84
mai peth felly oedd goruchwyliaeth cadw society: sef bod i un o'r henuriaid
lyncu dyn yn fyw, mewn modd gwyrthiol, a'i chwydu allan, fel y gwnaeth y
pysgodyn â Jonah, i dir sych, ac mewn agwedd newydd. Beth bynag am hyny, y
mae ein hewythr yn troi'n chwyrn, ac yn edrych y bachgen yn daer yn ei wyneb,
gan ddywedyd, 'Nid oes un cnawd all dy lyncu; y mae gormod o flas y mwg arnat,
a'r huddygl hefyd. Hach, hach, hach, yr wyt yn rhy fyglyd i fod ar fwrdd y
saint; yr wyt yn byw yn y simne; dyna'r lle yr wyt yn bwyta, ac yn cysgu, ac
yn codi.' Agorodd y llanc ei lygaid yn aruthrol, gan edrych yn lled ddiniwed,
a dywedodd, Byw yn y simne! yn mha simne yr wyf fi yn byw? chysgais i mewn
simne erioed, er cof genyf; gyda Thomas Jones yr wyf fi yn byw, ac yn wastad
yn cysgu ar y llofft gyda'r bechgyn, mewn lle cyn laned ag sydd yn y
plwyf.''Ië, dy gorff,' ebe ein hewythr; ond mae dy enaid yn byw yn simne y
diawl, ac y mae cymaint o flas mwg arnat, fel nad yw yn bosibl dy lyncu; dere
allan o'r simne, Wil, on'te byddi nid yn unig yn y mwg, ond yn y tân hefyd.
Yr wyt yn byw mewn pechod; a blas pechod, ac nid gras, sydd ar dy brofiad
di.'
Fel hyn, chwi welwch, yr oedd Siencyn yn ei thrafod hi; ac er fod y
drafodaeth yn ddigon rhyfedd, eto yr oedd rhyw beth llawn mor ryfedd ei fod
yn taro y nôd mor gywir, heb fod dim yn arwain at hyny, ond yn unig cymaint o
siarad fu rhyngddo a'r bachgen ar y pryd. Nid oedd neb ag oedd adnabyddus o'r
dyn yn meddwl ei fod yn byw mewn dim yn y byd ag oedd yn anweddus, ond yn
unig ei fod yn hytrach yn gloff gyda'r grefydd. Eithr amgylchiadau a
ddangosodd yn fuan fod yno fyw yn nhywyllwch y simne, a bod ei bechod wedi
dod yn amlwg i'r byd.
Mae yn gofus genym glywed hen frawd yn adrodd ymddyddan rhyngddo a gwraig yn
Aberafon. Y mae yn ymddangos fod Betti, wrth ddyweyd ei phrofiad, yn cwyno yn
gryn ddyogel oblegyd ei gwaeledd ei hun, a'n hewythr Siencyn yn methu cael
boddlonrwydd ei bod yn gwybod nemawr am brofiad ysbrydol, ffydd yn Nghrist, a
chysuron yr efengyl. Y mae dan ymysgwyd, a symud o fan i fan, yn gofyn y peth
hyn a'r peth arall, eithr yn methu cael dim syniad yn nghylch dim. Dal ati yr
oedd Betti, er ei bod yn greadur gwael iawn, a llawer o bethau cyffelyb. Ond
tra yr oedd hi yn siarad yn hir, ac yn siarad yr un peth o hyd (am ei
gwaeledd) heb ddim yn y byd arall, y mae ein hewythr yn
،
|
|
|
(delwedd J7757) (tudalen 85)
|
85
myned i gerdded yn ol ac yn y blaen heibio iddi, gan aros foment weithiau pan
ar ei chyfer, a throi ei fysedd yn ei wallt, nes yr oedd hwnw yn sefyll yn
syth. Yn y diwedd daeth a safodd ar ei chyfer, plygodd ychydig yn ei arau,
tynodd yr hen gôt o gwmpas iddo, ac edrychodd yn wyneb y wraig, gan waeddi,
Betti, Betti, dod dy beisiau i lawr, yr wyt wedi dynoethi digon arnat dy
hun.' Neidiodd y wraig yn nghynhyrfiad y foment, gan edrych i lawr, rhag bod
rhybeth yn y cyfeiriad hwnw wedi myned yn annhrefnus; ond wrth weled pob peth
yn ei le, y mae yn codi ei phen, a dywedyd, ''Dyw 'mheisiau i ddim i'r lan,
fy ewythr Siencyn.' 'Na, mae dy gorff yn burion,' meddai yntau; 'yr enaid a'i
waeleddau yr wyt yn ddynoethi; nid oes genyt ddim ond gwaeledd i'w ddangos,
am hyny y mae yn llawn bryd i ti roi dy beisiau i lawr; a dos gartref, a
chais gan Dduw ryw beth gwell i'w ddangos y tro nesaf. Y mae llawer o dy fath
di yn y byd, yn cwyno eu bod yn bechaduriaid mawrion, a thyna i gyd, ac heb
wybod am oruchwyliaethau Ysbryd Duw yn trin eu cyflyrau, ac yn egluro iddynt
ogoniant a chyfiawnder Crist i guddio eu noethni am byth. Dos gartref, Betti,
a cherdda ar dy liniau, a chais ryw beth i'w ddyweyd y tro nesaf am yr
efengyl yn trin dy enaid, nes byddo gogoniant Ceidwad yn dy godi i fynu i
obaith bywyd tragywyddol, er dy holl drueni.'
Wedi terfynu y mater hwn yn fyr ac yn gryno fel yna, y mae achos arall tra
annghysurus yn dyfod i'r golwg, yr hwn oedd yn gofyn gryn dalent a deheurwydd
i'w drin, a'i osod mewn trefn. Mewn clwb tê a gynaliwyn yn un o dai Constant,
yr ydoedd merch Wil Dafydd, a Mari gwraig Twm Shon, wedi bod o dan driniaeth
go ganolig, a chyn boreufwyd boreu dranoeth, yr oedd y teuluoedd hyn yn
hysbys o'r cwbl a drafodwyd yno yn eu cylch; a thyna ystorm!Yr oedd Wil
Dafydd a Twm Shon yn rhuo o flaen y tai fel llewod, ac yn bygwth dinstr buan
ar ryw ddwy neu dair o'r benywod. Yr oedd yr holl Gonstant ar dân y
ben-bwy-gilydd; a chymerodd dwy neu dair ymladdfa gas le rhwng y gwyr yn
achos y gwragedd. Yr ydoedd Sian gwraig Twm, fel ei gelwid, yn proffesu, yr
hon hefyd oedd wedi bod yn lled ddwf yn y fusnes, ac wedi gollwng ei tafod yn
gynt na'r awel. Yr oedd Sian, yn mhlith amryw bethau ereill, wedi dyweyd
pethau lled ysgeler am chwaer yn yr eglwys, ac am ei merch. Tybiodd Sian mai
y peth goreu y gallai wneyd o dan yr amgylchiadau, oedd myned at ein hewythr
|
|
|
(delwedd J7758) (tudalen 86)
|
86
Siencyn, a dyweyd mai hono ddywedodd y cyfryw bethau am dani hi a'i merch. Yr
oedd y pethau yn gywilyddus, yn rhy gywilyddus i'w hadrodd.
Ond fel y dywedasom, aeth Sian at Siencyn; ac mewn modd cyfrinachol dywedodd
y cwbl o'r ystori, gan ddywedyd hefyd mai Pegi oedd wedi dyweyd felly am dani
hi a'i merch. Wrth gwrs, fe ddarfu i'n hewythr gredu y cwbl; nid oedd ganddo
ddim i wneyd ond credu, am hyny; canys pwy fuasai yn meddwl am foment y
buasai neb mor felldigedig a thadogi ei ystori ei hun ar un arall fel yna? Yr
oedd Siencyn yn edrych ar y dywediadau fel rhai cywilyddus mewn byd ac
eglwys. Penderfynodd alw Pegi yn mlaen yn ddioedi i roi cyfrif am ei
gweithredoedd, a'i throi allan hefyd yn ddiseremoni. Y noson society nesaf yr
oedd Pegi yno, ond 'doedd Sian ddim. Y mae ein hewythr yn codi, yn pwyso ar
ei lawffon, yn edrych dipyn o gwmpas, ac yn gweled Pegi yn eistedd yn y
cornel pellaf, a'i chefn ar y wal.
"
Pegi,' meddai, 'Pegi o'r Constant, dere di yn y blaen, mae eisiau siarad â
thi.' Y mae hithau yn ufuddhau yn union, heb feddwl dim drwg, fel y bydd y
dieuog yn wastad, fel yr ydych yn gwybod. Y mae Siencyn, heb holi dim yn
nghylch y mater, yn dechreu ymysgwyd, ac yn gosod ei hun mewn trefn, ac yn
dywedyd, Wel, Pegi, beth wnaeth i ti ddyweyd fel hyn a'r fel am Sian, a ydyw
y gwr drwg wedi dy feddianu? Yr wyt ti yn rhy frwnt i fod mewn plwyf,
chwaithach mewn eglwys, dos allan.' Pan yr oedd yn nghanol y cynhyrfiad hwn,
dyma frawd yn neidio yn y blaen, ac yn dywedyd, 'Aroswch fynyd, fy ewythr
Siencyn, yr ydych wedi camgymeryd; Sian o'r Constant ddywedodd fel yna am
Pegi, ac yr ydym yn meddwl trin rhywbeth ar y mater heno. Mae y Patriarch yn
myned yn hurt, ac yn edrych fel pe buasai wedi disgyn o Jupiter, neu rai o'r
bydoedd fry. Eto ni fynai goelio neb nad yr euog oedd ger ei fron. Yr oedd
tymher Pegi erbyn hyn wedi codi. Mae hi yn dechreu ei gyhuddo o dderbyn clecs
a chelwyddau, a llawer o bethau eraill nad oedd yn arch waethu yn dda; ond yr
oedd wedi myned i ddyryswch. Y mae yn eglur fod y chwaer gyhuddedig wedi cael
ei chlwyfo, ac yn gofyn am iawn gan ein hewythr, naill ai iddo dynu ei eiriau
yn ol, neu ynte dyweyd pwy oedd awdwr yr ystori. Wel, y mae efe yn adrodd oll
ac oll fel y bu pethau, ac mai Sian oedd wedi bod yn ei dŷ ef, ac wedi
dyweyd yr hanns fel yna. Ar yr un pryd yr oedd yn hawdd deall ei fod wedi
teimlo yn wyneb
|
|
|
(delwedd J7759) (tudalen 87)
|
87
cael ei gamarwain; a gwaeth na'r cwbl, fod y peth wedi ei ddarostwng i afael
fflangellau Pegi.
Yr oedd bod menyw fel yna yn cael cyflen i'w drin yn arw, ac yntau yn arfer
arglwyddiaethu yn rhwydd, ac yn anwrthwynebol, yn ddarostyogiad iddo, ac nid
oedd yntau heb ei deimlo i'r pen draw. Nid oedd dim i ddyweyd ond derbyn y
fflangell goreu y gallesid, canys erbyn hyn yr oedd pob peth mewn perthynas
i'r amgylchiadau wedi dyfod i oleuni perffaith. Yr oedd Pegi yn teimlo yn
ofnadwy o ddigofus at Siencyn, a mwy felly wrth ei weled yn dra anmhlygedig a
difater am y peth. Yr oedd Siencyn yntau, er yn cydnabod byrbwylldra yn ei
feddwl, yn teimlo ei enaid wedi ei wenwyno yn ddyogel gan dafod y fenyw; yr
oedd yn meddwl ei bod yn cymeryd cyfleusdra i'w drin yn fwy nag oedd yn
angenrheidiol o dan yr amgylchiadau. Y mae yn ddigon
tebyg nad oedd ein hewythr wedi ei berffeithio, fod ychydig o falchder yn
llechu yn ei galon yntau, a'i fod wedi cael ei glwyfo ar hyn o bryd. Y mae yn
dychwelyd tuag adref yn glwyfus, yn bendrwm, ac yn swrth; mae y wraig yn
methu cael gair o'i ben braidd yn y tŷ: ond, y mae aml ochenaid i'w
chlywed. Y mae yn teimlo yn ddigofus wrth Pegi am ei thafod; ar yr un pryd yn
gorfod cydnabod ei fod wedi gwneyd cam cywilyddus à hi hefyd, ac mai purion
fyddai gwneyd esgusawd am hyny. Ond wed'yn yr oedd rhywbeth yn dyfod i mewn
i'r meddwl, ac yn dywedyd, 'mai darostyngiad go fawr ar hen bregethwr fel efe,
ïe, hen frenin hefyd, fyddai gorfod ymostwng am fai, a chrefu maddeuant gan
fenyw fel yna.' Fel hyn y bu am oriau yn cael ei dynu o'r naill ochr i'r
llall, rhwng balchder a dyledswydd, nes yn agos a bod yn hurt. Y mae yn myned
i'r gwely i edrych, ar ol hûn dawel, a fyddai hi ddim yn fwy dysglaer boreu
dranoeth. Och! y mae yn methu cysgu; caiff ddigon o ymdroi hyd y cyf-ddydd. Y
mae brwydr ofnadwy yn cael ei hymladd rhwng dyledswydd a theimlad o
anrhydedd; mae yr holl faes yn dan ac yn fwg o ben-bwy-gilydd. Y mae efe yn
clywed llais yn dywedyd, meddai, Shanco, y mae yn rhaid i ti fyned at Pegi y
fory, i gwympo ar dy fai, a gwneyd heddwch; canys yr wyt ti wedi bod yn
feius, ac wedi clwyfo ei theimladau.' Gyda hyny dyma floedd yn y glust arall,
Shanco, paid a bod yn ffwl, a darostwng dy hun yn y modd yna; dyn yn dy
sefyllfa di yn myned i ymostwng i globen o fenyw ddwl fel yna. Bydd yn warth
ar dy enw, ac yn ddinystr ar dy holl ddylanwadau. Edrych arni
|
|
|
(delwedd J7760) (tudalen 88)
|
88
yn sarug, a gwna iddi ddal ei thafod; y mae ynot ddigon o allu i wneyd hyny, os
ewyllysi. Tafl hi bendramwnwgl dros y drws, os na fydd esmwyth ac yn debyg i
Gristion.' Dros ychydig y mae cnawd yn ymborthi yn felus ar y ddysglaid hon;
mae yn taro yr archwaeth i'r dim, y mae yn agos cyn felused a'r mêl; ond,
hawyr anwyl! dacw lef eto yn dywedyd, nes chwerwi y cwbl, Dos, cymoder di
â'th frawd.' Y mae yn methu llyncu hon fel y llall; mae yn cordagu, yn ymdroi
yn y gwely, ac yn llesmeirio. Am oriau meithion y bu yn yr ymdrechiadau hyn,
megys yn cael ei ddirdynu rhwng cnawd ac ysbryd. Yn mhell cyn toriad y wawr,
mae cenadwri heddwch fel yn mynu lle yn y galon, ac ysbrsd ystyfnig ein
hewythr fel yn nawseiddio yn hyfryd, fel ag y mae yn ffurfio penderfyniad yn
ei feddwl i gymeryd y cyfleusdra yn blygeiniol iawn dranoeth i siarad a
gwneyd heddwch â Phegi. Cyn bod hyn wedi dyfod i addfedrwydd perffaith,
meddyliai y clywai lef awdurdodol yn ei glust yn dywedyd, 'Shanco, ti fyddi
yn llai na dyn os ti aiff at Pegi o'r Constant, i began ei phardwn hi; paid a
bod yn ffwl, pe na bai dim ond er mwyn dy dylwyth.' Y mae holl nwydau natur
yn cydio yn hyn eto, ac mae y frwydr fel pe bai yn dechreu o'r newydd. Mae
Siencyn yn cynhyrfu fel cawr, gan waeddi allan y pryd hyn, 'Taw, ddiafol,
taw, gnawd; gadewch lonydd i mi bellach.' Gyda hyny yr oedd yr ystyllen ag
oedd yn groes i draed y gwely yn ei chael hi, nes ydoedd yn ysgyrthion, ac
nes yr oedd yr holl le yn crynu. Mae y wraig, yr hon oedd yn cysgu wrth ei
ochr yn amser y frwydr galed, yn awr yn neidio i fynu rhwng cwsg a deffro, ac
yn gofyn mewn syndod, Siencyn, a oes rhyw beth y mater arnoch?' 'Oes,'
meddai, ddigon; mae y cythraul yn fy mhigo; yr wyf wedi cael swmbwl yn y
cnawd, a chenad satan i'm cernodio; ond dangosaf iddo boreu fory pwy sydd
feistr. Aeth yr ystorm hon heibio i fesur, gorfod i satan a chawd i dewi am
ychydig, a chafodd ein hewythr tua dwy awr i gysgu hûn. Yr oedd yn godwr
boreu yn gyffredin, a dihunodd y boreu hwn fel arfer, er holl aflonyddwch y
nos. Y mae yn dechreu meddwl, mor gynted ag y dihunodd, am fusnes yr heddwch,
a chychwyn tua'r Constant i ymweled a Phegi, pan y deallodd o'r newydd fod
satan a chnawd yn fyw eto, ac yn barod i ymrestru yr un ochr. Y mae ei feddwl
yn dechreu terfysgu o'r newydd; a chyda hyny wele ryw sibrwd yn ei glust,
Shanco, nid wyf yn credu y gall hen bregethwr parchus fel tydi fyned i
ymostwng i wraig dlawd; ed
|
|
|
(delwedd J7761) (tudalen 89)
|
89
rych, y dyn, ar urddas dy swydd.' Y mae ein hewythr yn cynhyrfu with hyn;
neidio o'r gwely, heb braidd gyffwrdd â'r erchwyn; yn taro y llofft ac yn
gwaeddi allan, 'Satan, dere gyda fi; ti gei weled yn awr y gallaf fyned i'r
Constant, ac y gallaf ymostwng hefyd i Pegi-dere gyda fi yn awr satan. Yn ei
frwdfrydedd bu yn agos ag ymddyrysu yn ei lodrau, ond unionwyd hyny cyn hir;
ac wedi cael gafael ar y llawffon a'r hen het, y mae yn dechreu cychwyn, fel
dyn o fusnes hefyd.
Y mae yn dyfod at y rhestr tai oedd yn gwneyd i fynu y Constant, ac yn
ceredded yn frysiog o hyd, nes ar gyfer tŷ Pegi, pryd y mae yn arafu
ychydig, ac yn troi ei lygaid at y drws; yr oedd y drws yn agored, a hithau
yn sefyll yn dal ar ganol y parth, fel yn ei ddysgwyl i fyned heibio. Er ei
fod yn myned yn araf, ac yn edrych fel yn gilwgus i mewn, ymddygodd yn union
fel boneddiges glwyfedig, yn oerllyd ac anmhlygedig, gan droi ymaith gydag
awgrym diystyrllyd. Ni safodd Siencyn gogyfer y drws, eithr rhodio yn araf,
ac edrych yn llechwraidd i mewn, ac yn y blaen ag ef tua'r pen hwnt i'r
rhestr. Yr oedd hunanoldeb erbyn hyn yn teimlo yn glwyfedig iawn; a phe
buasai yr hen het yn gaeadur teimladwy, byddai yn anhawdd iawn i ddesgrifio y
poenau; canys yr oedd yn ei gwasgu nes ydoedd fel teisen. Yn gymaint a bod
ein hewythr wedi myned yn araf i ben draw y rhestr, tybiodd Pegi fod rhyw
amcan ganddo i gael gafael ar Sian; ond yr oedd Sian wedi ymguddio, a'r drws
yn nghlo; ac mae yn debyg hefyd nad oedd hyn mewn amcan ar hyn o bryd. Wedi
cyrhaedd y tŷ pellaf, mae yn sefyll am dipyn, ac yn pwyso ar ben ei
lawffon ogoneddus mewn agwedd o fyfyrdod dwys. Mae yn troi yn ol eto, yn
cerdded yn araf iawn, yn gwasgu yr het megys heb yn wybod iddo ei hun, nes
oedd hono yn rhywbeth annhebyg i benguwch. Dan gerdded yn araf fel hyn, dyma
fe unwaith eto ar gyfer drws Pegi. Y pryd hwn y mae yn sefyll, ac yn troi ei
wyneb at y drws, ac yn edrych i mewn; yr oedd hithau y naill ochr wrth y tân,
yn hollol ddisylw. Nid oes llais i'w glywed i mewn nac allan; eithr gwelir
Siencyn yn gwneyd rhyw awgrymiadau o flaen y drws, ac o gwmpas pump llath
oddiwrtho. Mae yn ymaflyd yn yr het o dan ei gesail, ac yn ei lluchio hi i
mewn drwy y drws, ac yn nghyda dodrefn Pegi, nes oedd y cwbl yn crynu. Y mae
Pegi hithau yn derbyn ychydig o gynhyrfiad, yn codi yn chwyrn, ac yn dod
gogyfer y drwa i edrych beth oedd y mater. Y
|
|
|
(delwedd J7762) (tudalen 90)
|
90
peth cyntaf a welodd ydoedd gwallt gwyn ein hewythr yn wchan yn y gwynt, a'i
lawffon yn chwifian o gwmpas, gan waeddi ar yr un pryd, 'Pegi, Pegi, a oes
heddwch?' Ah! mae Pegi yn methu cadw ei chryfder-mae dagrau yn dechreu dod
i'w llygaid, ac yn gorfod dywedyd, yn ddrylliog a gwylaidd, 'Oes heddwch, fy
ewythr Siencyn; dewch i mewn.' Y pryd hyn mae yn gweled ei fod wedi cael
goruchafiaith, ac y gallai yn ddiberygl ddylyn yr het. Cadnaw o hen lanc
ydoedd hefyd; canys yr oedd wedi meddwl, mae yn ddigon tebyg, os na lwyddid i
gael heddwch, y buasai yr het yn cael troediad allan gan Pegi; ac yr oedd
hyny yn llai darostyngiad nag iddo gael troediad ei hun, a'i droi dros y
drws.Ond fe lwyddodd y moddion; fe dderbyniwyd Siencyn yn heddychol; ac ni fu
y fath wledd erioed o'r blaen yn y Constant ar heddwch a maddeuant a'r tro
hwn. Yr oedd ein hewythr yn un sypyn o edifeirwch, a Phegi wedi ei thoddi yn
ffrwd o faddeuant; a phan y daeth y ddau yn nghyd, ac ymgymysgu â'u gilydd,
mae yn hawdd i chwi feddwl y fath gyfarfod oedd hwnw.
Mae cynyg desgrifio cyfarfod fel hwn bron yn ynfydrwydd, canys mae tu hwnt i
dafodiaith dynion, beth bynag am angelion. Yr ydym o dan demtasiwn i feddwl
ei fod yn un o'r pethau hyny ag sydd yn annrhaethadwy. Yr oedd yr holl bobl
wedi dyfod yn nghyd o gwmpas y drws, a Siencyn i mewn yn gwaeddi concwest ar
y gelyn diafol; yn tro y ffon o gwmpas ei ben, ac yn ei thaflu y ffordd hon
a'r ffordd acw, nes yr oedd pob peth o'i gwmpas yn cry nu. Oni buasai rhyw
ofal, heblaw Siencyn a Phegi, am y tŷ a phob geth ag oedd ynddo y pryd
hwnw, mae yn fwy na thebyg y gallasai hi fod yn beryglus. Fel yr ydodd, yn
sicr nid oedd yn ddiberygl; canys bu yn agos iawn i'r drych fyned yn
ddrylliau fwy nag unwaith.
Mae y cynhyrfiad yn myned heibio yn mhen ychydig; ac wedi i bethau dawelu,
a'r teimladau ddyfod eilwaith o fewn terfynau cymedroldeb, maent yn ysgwyd
dwylaw, ac yn ymadael mewn tangnefedd hyfryd. Dacw ein hewythr yn ymadael yn
ddiddig; yn dechreu ei daith adref yn llon ac yn ysgafn ei ysbryd, wedi
cyrhaedd ei amcan i berffeithrwydd. Canfyddwyd ef yn myned i lawr i'r allt,
a'i het wedi ei gosod yn ei lle priodol, ac wedi dyfod i ffurf weddol, ar y
cwbl, ac ystyried pob peth. Ond er pob peth yr oedd y Patriarch wrth fyned i
lawr, fel pe buasai yn myned yn fwy cynhyrfus bob cam. Byddai yn troi yma ac
acw, yn sefyll yn sydyn,
|
|
|
(delwedd J7763) (tudalen 91)
|
91
ac yn taflu ei fraich ddehau fel pe na buasai hi yn perthyn iddo. Eithr yn fuan
dyma yr het, yn lle cuddio ac ymgeleddu y pen, yn cael ei gosod ar ben y
llawffon, a'i chwifio yn yr awyr, ac yntau yn bloeddio nes dadseinio y
wlad,Gwrthwynebwch ddiafol, ac efe a ffy oddiwrthych. Bendigedig! dyma
oruchafiaeth ar satan a chnawd unwaith eto.' Yr oedd satan a chnawd ar hyn o
bryd yn methu dyweyd un gair-yr oeddynt wedi gorfod encilio, a gadael yr holl
faes i'n hewythr, ac yntau yn gwneyd y goreu o honi drwy ysgwyd ei
deyrnwialen, a chwifio ei goron freiniol ar ei phen. Ond, dan gofio, beth
sydd wedi dod o Sian? Sian, yn wir, y mae hi o dan gwmwl yn awr; gwell iddi
gadw ei thŷ am rai misoedd, neu gwae hi.
Pan y meddyliwyd fod yr ystorm wedi myned heibio, dyma Sian hithau yn dechreu
dangos ei phig. Ar noson society yn y Dyffryn, pan oedd pob peth wedi myned
heibio tebygid, dyma y chwaer yn taro i mewn, ac i'r canol; nid fel un yn
dyfod o'r newydd, eithr (fel hen aelod a fyddai wedi myned trwy gryn dipyn o
rwystrau yn ddiweddar, ac wedi ei lluddias gan amgylchiadau cyfreithlon i
fynychu moddion gras. Bu yno gryn dipyn cyn i'n hewythr ei chanfod, ond o'r
diwedd dyma ei lygaid yn ymsefydlu ar Sian. Mae Sian yn dal ei lygaid yntau,
a theimla ei henaid yn llewygu ynddi. Sian o'r Constant, Sian o'r Constant,'
ebe ein hewythr; beth! a wyt ti yma?' 'Ydwyf yn siwr, fy ewythr Siencyn,' ebe
Sian. Wel, pa gythraul ddaeth â thi yma, Sian? Y pryd hwn, ow anwyl! dyma fe
yn ymysgwyd, yn codi ei lawffon, ac yn gwaeddi, Cerdda allan, Sian, y jack
lantern melldigedig; cerdda allan, a phaid di a dangos dy wyneb yma mwy, nes
dy fod wedi gadael dy gelwydd. Mae hono yn neidio i geisio cael gafael ar y
drws, a Siencyn yn neidio ar ei hol â'r ffon; ond o drugaredd hi gafodd y
drws cyn i'r ffon ddyfod i lawr, a diangodd fel hydd tua'r Constant.
Yr oedd balchder yn ei chael hi yn ddiarbed gan yr hen bobl. Byddai yr hen
chwiorydd yn mhob oedfa yn edrych ar yr holl ferched ieuainc o'r gwadn hyd y
coryn, rhag bod yno ysnoden ar y pen-rhywbeth na ddylai fod o gwmpas y traed,
neu unrhyw fai rhwng y nall a'r llall; ac os dygwyddai fod rhyw ferch wedi
gosod dolen ar ei phen, neu addurno ei hun â rhywbeth gwaharddedig arall,
buan y canfyddid yr amryfusedd gan un o'r hen chwiorydd llygadgraff, ymaflai
ynddo yn ddihafarch, a gwaeddai ‘Beth yw hwn sydd genyt
|
|
|
(delwedd J7764) (tudalen 92)
|
92
ti, ferch? tyn e', tyn e' yn y fynyd sydd oren i ti,' a'i dynu fyddai raid. A
charai ledr yr oedd yn rhaid cylymn esgidiau; ni oddefid gwneuthur hyny ag
ysnoden; a saemu esgidiau oedd y gyfraith; yr oedd eu glowi yn beth hollol
waharddedig. Yr oedd hosanau gwynion hefyd, a lluaws o bethau ereill, yn mysg
y pethau gwaharddedig. Ond y mae y dyddiau hyny drosodd, a'r ysbryd hwnw wedi
myned ymaith gyda hwy; ac nid oes golled yn y byd ar ei ol. Ond mae yn bosibl
i ninau gyfeiliorni ar yr ochr arall; ac yn mhob oes y mae gorwychder allanol
yn myned yn mhell i brofi gorwagder tumewnol, a gofal gormodol am addurniant
corff yn ddangoseg bur gywir o feddwl heb ei addurno â'r tlws godidocaf ol.
Gwell fyrdd o weithiau genym ni, a gwell fyrdd o weithiau i'r byd, na meddwl
gwag mewn corff wedi ei addurno â holl liwiau plu y côr asgellog, yw perl o
feddwl o dan wisg arw, ac ymddangosiad cartrefol y Patriarch o Benhydd.
Bellach, gyfeillion, yr ydym yn meddwl ein bod wedi dywedyd digon am ein
hewythr er egluro ei gymeriad hynod, yn nghyd a'i ddefnyddioldeb mawr yn ei
ddydd. Ac os ydych yn cydweled â ni, fod y dyben hwnw wedi ei gyrhaedd,
gallwn mewn brawdgarwch diragrith lawenychu yn nghyd.
Buom yn ddiweddar yn edrych ar
fedd y prophwyd, uwchben yr hwn ein llanwyd â choffadwriaeth am yr amserau
sydd wedi myned heibio. A chyn hir, wedi myned heibio a fydd y cwbl am danom
ninau yma. Wedi ei gerfio ar y cofadail llwydaidd, y mae yr ysgrifen
ganlynol: Er cof am Jenkin Thomas o'r Goetre, plwyf Margam, yr hwn a
ymadawodd â'r byd hwn Rhagfyr 26, 1807, yn 61 mlwydd oed.' Cymerwch atoch
holl arfogaeth Duw, fel y galloch wrthsefyll yn y dydd drwg, ac wedi gorphen
pob peth sefyll.'
'Mawr elw im' fu marwolaeth - fe nodwyd
Im' fynediad helaeth
I fuddiol etifeddiaeth
Fal y lli o fél a llaeth.'
ARGRAFFWYD GAN EVAN E. ROBERTS, UTICA, N. Y.
|
|
|
|
|