|
|
(delwedd D7689) (tudalen 210)
|
(x210)
DYFFRYN
CYNON
Jenkin Howell
::1 (RHAN UCHAF DYFFRYN CYNON)
Cychwyna Dyffryn Cynon gerllaw pentref Pontprenllwyd, yn Mhlwyf Penderyn, Sir
Frycheiniog, a therfyna yn Abercynon, lle yr abera yr Afon Cynon i’r Tâf;
rhyw bedair milltir yn uwch na’r Pontprenllwyd, i le a elwir Blaencadlan, er,
fel y gwelir, dan enw gwahanol, dechreuaf fy sylwadau yno.
Mae Cwm Cadlan yn cychwyn rhwng mynyddau y Cadlan a’r Glôg, yn Sir
Frycheiniog, a hyny yng ngolwg rhanau uchaf y Tâf, braidd dan gysgod Bannau
Brycheiniog; a cherllaw y mae un o “Gadeiriau Arthur,” a’r llynnoedd dwfr
aruthrol ydynt yn cynnorthwyo i olchi tref Caerdydd, y tu fewn a’r tu allan,
yn ddynion a phobpeth arall ag y gellir eu golchi felly.
Cribin o fynydd lled uchel yw y “Gadair” hono, lle y “briga” y calchfaen, a’r
lle y buwyd am oesau amryw yn llosgi calch at wasanaeth tyddynwyr Brycheiniog
a lleoedd ereill. Tardda rhai ffynnonau o’r “Gadair” hefyd; ac y mae eu
dyfroedd yn rhyfeddol o oer, hyd yn od yn nghanol hâf. Gerllaw hefyd, ar y tu
gorllewinol, y mae darn o fynydd a elwir Pantywern, ar yr hwn y megir llawer
o ferlynod mynydd a elwir y “Real Pantywern breed”; ac y maent yn ddosparth o
greaduriaid bychain tra bywiog a chelyd. Gwerthir hwy yn ffeiriau Aberhonddu
am o chwech i wyth punt yr un, a gyrir hwy i Ogledd Lloegr a manau ereill i
weithio yn y pyllau glô, lle ni fedr ceffylau o faintioli mwy fyned.
Ail-werthir hwy hefyd yn ffeiriau Lloegr, i foneddigion i lusgo cerbydau
bychain, a gwasanaethant hefyd yn nysgeidiaeth plant i farchogaeth. Wedi eu
trwsio a’u tewychu ymddangosant yn dra phrydferth.
Gelwir y cwm yn Gwm Cadlan o barch i ryw hen ryfelwr o’r enw fu yn byw ynddo,
pan na fuasai “arffordd rhyfel,” yn lladd y Sacsoniaid. Ar ei enw hefyd y
gelwir y nant fechan red trwy y cwm o bant y Twlc i Lygad Cynon. Hen ryfelwr oedd Cynon hefyd. Yr oedd traddodiad yn mysg plant Plwyf
Penderyn, pan oedd yr ysgrifenydd yn blentyn – y tro cyntaf! – fod Cynon wedi
ei ladd ychydig islaw pentref Pontprenllwyd, ac wedi ei gladdu yn y fan lle
mae y tarddiant rhyfeddol a elwir Llygad Cynon, a bod y tarddiant hwnw yn
parhau i ddyfod allan o’i lygad byth oddiar hyny. Yr oedd felly, er yn farw, yn medru wylo
i bwrpas. Yr oed dyn y lle, mae yn debyg, dri rhyfelwr enwog, sef Cynon,
Cadlew, a Chadlan; ond nid oes yno na “llygad,” mynydd, na nant ar enw
Cadlew. Dywedir, ac y mae hyny yn debygol, mai y ffrwd fechan a ä i fewn i’r
Ogof Fawr, ryw dair milltir yn uwch i fyny ar Fynydd y Glôg, wedi ychwanegu
nerth ar ei hymdaith danddaearol – trwy y calch-fynydd hwnw – yw y dwfr a
dardda yn Llygad Cynon. Beth bynag, o’r tarddiant hwnw allan gelwir yr afon
yn Afon Cynon. Gerllaw Llygad Cynon y mae twmpath uchel ac eang, megis wedi
codi o’r gweundir yn y gymdogaeth, a eilw y trigolion yn “Tip Shindrys”
(cinder tip); a dywedir yn Hanes
Morganwg, gan Dafydd Morganwg, fod yno ffwrnes fechan i doddi haiarn wedi
ei chychwyn yn y flwyddyn 1666. Dyma yr oll a geir gan Dafydd ar y mater: -
“Nid ymddengys fod yno [Hirwaun] dŷ annedd o gwbl yn 1666, pan yr
adeiladodd un o’r enw Mayber ffwrnes fechan ger Llygad Cynon, yn Mhlwyf
Penderyn. Golosgoed arferid y pryd hwnnw i doddi haiarn, wrth gwrs; a rhaid
oedd cludo y mŵn o Forganwg at y ffwrnes, am nad oedd dim o hono i’w
gael yn Mhlwyf Penderyn yn y parth hwnw. Ymddengys i’r ffwrnes hono fod yn
gweithio am gryn dymhor. Tua thunnell yr wythnos o haiarn wnaed ynddi; a
dygid hwnw dros y mynyddau i Aberhonddu i’w orphen.”
Cyfeiria Theophilus Jones, yn hanes Brycheiniog, at deulu perchenog ffwrnes
Penderyn a Hirwaun, wedi hyny, fel y canlyn: -
“This family, who now write their name Maybery, settled first at Pipton, in
the latter end of the seventeenth or the beginning of the eighteenth century;
they were then, and afterwards until the present generation, in the iron
trade. From Pipton, when the iron works ceased, the elder branch came to
Brecon, and continued in the same business.”
Bu
un o honynt, y Parch. Charles Maybery, M.A., yn Offeiriad Penderyn am oddeutu
hanner can mlynedd.Sais oedd
efe, “o dyfiant ac o dafod;” yr oedd “llediaith Saesneg trwm arno,” ys dywedai yr hen bobl; ac ni
fuasai, yn ystod y rhan fwyaf o ddyddiau ei ymdaith yn y lle, ar y Sul, fwy
nâ rhyw hanner dwsin yn ei wrandaw. Yr oedd yn ŵr hollol ddiargyhoedd a
charedig yn y cylch bychan y tröai ynddo; ond mae y ffaith fod gan y
Bedyddwyr, yr Annibynwyr, a’r Methodistiaid, achosion llewyrchus, mewn lle
mor fychan o drigolion, yn profi yn ddigon eglur mai nid annuwioldeb y bobl
oedd yr achos na fuasai cynnulleidfa Eglwys y Plwyf yn blodeuo hefyd.
|
|
|
(delwedd D7690) (tudalen 211)
|
(x211) Mae rhai o
ddoethorion y lle - “dynon d’od” - am ein gosod i gredu fod y bardd o
Forganwg yn ffiloregu yn ei hanes am Ffwrnes Llygad Cynon, gan nad oes
“shindrys fel shindrys Hirwaun” yn y “tip” yn bresennol, heb gofio na gwybod,
o bosibl, mai â golosgoed (charcoal) y toddid haiarn y pryd hwnw, fel y
noda y bardd.
::2 (ENWOGION CWM CADLAN)
Mae amryw enwogion wedi eu geni, ac ereill wedi dyfod i “flodeuo,” yn Nyffryn
Cynon. Nodaf rai a enwogion y
rhanau uchaf yn y fan hon. Yn uchel yn Nghadlan, mewn ffermdy bychan iawn a
dinod, y ganwyd yr enwog “Jenkin Thomas Cheltenham.” Pan yn lled ieuanc
ymunodd âg eglwys y Bedyddwyr yn Ynysyfelin, Cwmtaf; ac yn fuan iawn
argyhoeddwyd ei frodyr yno ei fod yn meddu “dawn pregethwr.” Cymhellwyd ef i
arfer y dawn hwnw; ac yn mhen rhyw amser wedi hyny cafodd dderbyniad i
Athrofa y Bedyddwyr yn y Fenni. Ychydig iawn o Saesneg fedrai pan aeth yno;
ond yr oedd yn meddu gallu rhyfeddol i gnoi tybaco. Daeth
yr hen Athraw penderfynol a swrth, y Parch. Micah Thomas, i wybod hyny; a
galwodd y gwladwr i sefyll ei brawf yn y ddarllenfa. Ebe’r Athraw: “Young man, I am told
you are a great smoker!” “ No, sir,” ebe yntau, “me not smoking, me shew (chew).”
“I do not care whether you are a Jew or a Gentile,” ebe’r Athraw, “you must
not use tobacco in this house.” Cafodd y watwariaeth a’r banfa annymunol hono
y fath ddylanwad ar ei feddwl, fel y gwnaeth, yn ol yr hyn glywais gan rai
o’i gyfoedion, yn y lle benderfynu dysgu Geiriadur Johnson ar ei gôf! Beth
bynag am hyny, nid oes amheuaeth i fod na ddaeth efe yn un o’r siaradwyr a’r
ysgrifenwyr Saesneg goreu yn ei ddydd. Cafodd alwad gan eglwys y Bedyddwyr yn Cheltenham; ac yn fawr ei glod a
moethus ei fyd, yno y treuliodd y rhan fwyaf o weddill ei oes. Priododd
foneddiges gyfoethog iawn yn y lle, a bu yn gweithredol “yru yn ei goach and four!”
Yn y tyddyn nesaf at y Tŷ Fry, lle y ganwyd Jenkin Thomas, y ganwyd yr
hen fardd Gwilym Harri Benderyn: enw hwnw yw y Garw Dylan {sic}: dau fwthyn
diaddurn iawn gynt, ar ael mynydd pur uchel: erbyn heddyw gwisga Garw Dylan
well agwedd. Yr oedd Gwilym Harri yn ŵyr i’r hen fardd Sion Llewelyn, o
Gefn Coed y Cymmer, awdwr y gân adnabyddus yn y parthau hyn gynt a elwid “Y
Ddafad lâs a’i hoen.” Gwehydd oedd Gwilym, fel ereill o’i hynafiaid a’i
ddisgynyddion; ac er na chafodd ond ychydig, os dim, o fanteision addysg,
cyfansoddodd lawer o farddoniaeth, caeth a rhydd, o nodwedd dra derbyniol.
Ebe fe:
“O fewn i’r Garw Dyla’
Rhoes i'r anadliad cynta';
Nis gwn yn mh’le na pha ryw lun
Y chwythai'r un ddiwetha’.”
Yr oedd yn un o’r ymgeiswyr, yn hen Eisteddfod Aberhonddu, ar Gywydd y Môr
Coch ac Englyn yr Enfys. Cyhoeddwyd dau lyfr o’i waith - Yr Awen Resymol, a Nodd Awen. Claddwyd ef yn Mynwent Penderyn,
yn flwyddyn 1844; ac y mae ar garreg ei fedd yr englyn canlynol: -
“Dyma'r fan mewn oer annedd, - O! gwelwch,
.....Mae Gwilym yn gorwedd;
Enaid iaith a chynghanedd
Yn fud yn eigion ei fedd.”
Undodwr o ran barn greyfyddol oedd Gwilym ; a bu “gwaidd, adwaidd, a gwaidd
uwch adwaidd,” pan osodwyd y garreg fedd i fyny, gan i ryw ffwlcyn neu wag daeru fod yr englyn yn dweud fod
enaid yr hen fardd wedi ei osod yn y bedd gyda’i gorff! Yr oedd Iolo Morganwg
ac yntau yn gyfeillion mawr; a gall y darllenydd ddychmygu y fath ddifyrwch
gawsai y naill o honynt yn nghyfeillach y llall pan ddywedaf i Iolo alw yn nhŷ
Gwilym pan yn dychwelyd o Eisteddfod Aberhonddu; a phroffesai ei fod mewn
brys mawr i fyned adref. Gwrthodai eistedd am amryw funudau; ond wedi hir
“gipian,” daeth yn foddlon “eistedd am fynud neu ddau.” Y diwedd fu gweled
Iolo a’i wallet ar ei gefn yn gadael y lle yn mhen
tri niwrnod!
Yn yr un cwm – Cwm Cadlan – y ganwyd gŵr tra enwog arall, ond o
enwogrwydd hollol wahanol i eiddo y ddau a nodais ynbrod; ac yr wyf yn teimlo
ei bod yn llawn bryd rhoddi cyfiawnder hanesiol i hwnw hefyd. Ysgwaethyroedd,
dyna y cwbl ellir roddi iddo mwy. Yr wyf yn cyfeirio at Lewys Jenkyn Lewys
(“Lewys yr Hčlwr” – Lewis
the Haulier), un o ddau brif arweinyddion “Riots Merthyr,” 1831. Efe a Richard
Morgan (“Dic Benderyn”), yr hwn, wedi wedi hyny, grogwyd yn Nghaerdydd, - “ar
gam yn
|
|
|
(delwedd D7691) (tudalen 212)
|
(x212) ddiamheu”
- oeddynt yr “ysprydion llywyddol” yn yn ymgyrch ofidus hono. Yr oeddynt yn
ddau fachgen gwrol, ac yn siaradwyr cynhyrfus rhyfeddol. Nid oedd glowyr, mŵnwyr,
a gweithwyr haiarn Merthyr, yr adeg hono, yn ennill ond o 7s. 6ch. i 12s. yr
wythnos yn y man pellaf. Cigydd oedd tad Lewys; a thra yn Mhenderyn cawsai yr
Hčliwr ddigon o gig; ond wedi myned i Ferthyr i yru, cadw gwraig a theulu,
methai gael digon o fara. Pa ryfedd i Lewys fynu gosod ar faner y strikers y frawddeg a wnaeth, yn
anffortunus, gryn lawer o ddrwg i’w hachos – “Bara neu Waed?” Gwaed y gafwyd
y pryd hwnw; ond hanodd “Dic a Lewsyn,” fel y gelwid gan eu gelynion, hâd a
ddygodd fwy a gwell bara i weithwyr Morganwg a Mynwy byth wedi hyny! Trueni
oedd crogi Richard ac alltudio Lewys am ei oes. Gelwir Lewys gan Wilkins, yn Hanes Merthyr, yn Lewys yr
Heliwr -Lewis the Huntsman: camsyniad yw hyny.
A fyddai yn ormod gofyn i Mabon, Dafydd Morgan, a’r gweddill o arweinwyr
Cymreig y gweithwyr yn y Deheubarth, y dyddiau presenol, godi hanes eu brodyr
hyn “o’r pridd tew a’r clai tomlyd,” a’u gosod gerbron y byd yn eu
dysgleirdeb priodol? Feallai y gwna rhywun neu rywrai “dalu y pwyth” iddynt
wedi eu myned ac na b’ont mwy. Er nad wyf wedi gallu edrych “lygad yn llygad”
â’r arweinwyr presenol bob amser; eto, teimlaf y gallaf annghofio pob cernod
gefais ganddynt, er mwyn eu cynnorthwyo i roddi cyfiawnder i goffadwriaeth
“Lewsyn Sianco Lewys, a Dic Benderyn.” Feallai y maddeuir am ddweyd y medrwn
roddi cryn lawer o gynorthwy i bwy bynag a welo yn dda i ymgymeryd â’r
gorchwyl. Nid oedd Richard a Lewsyn heb eu diffygion, fel y goreu o honom;
ond rhaid edrych arnynt fel bechgyn “blaen llif” y diwygiadau gweithfaol.
Aberthasant bobpeth, hyd gorn gwddf, er mantais eu cydweithwyr. Pa le mae y
“cydweithwyr”? Ni chododd neb o honynt, can belled ag y
gwn, wawch dros gyfiawnder yr achos a attegai “Lewsyn a Dic!”
William Felice. Teulu William Felice oedd yr unig deulu welais
erioed yn meddu dau fab o’r un enw. Yr oedd y William adnabum i yn byw yn
Mlaen Cadlan, a chanddo frawd o’r un enw yn byw yn Nghlwyd y Fagwyr, ger Merthyr Tydfil. Dygwyddodd y
dygwyddiad o roddi iddynt yr un enw, yn ol a glywais, fel hyn: - Pan anwyd yr
hynaf dywedodd ei dad ei fod yn awyddus i’w ysbrygyn ddwyn yr un enw â’i
daid, sef William. Pan anwyd yr ail dywedodd y fam, yr hon oedd yn awyddus
iawn am gael ei ffordd ei hun, os nad yn rhyw gyfrwys iawn, gan i’r tad fynu
y fraint o roddi enw i’r cyntaf, y mynai hithau roddi enw i’r ail; a chan mai
William oedd enw ei thad hithau mynodd ei alw yn William! William yr II.,
wrth gwrs! Ffafrddyn y tad oedd William yr I., ac eiddo y fam oedd William yr
II. Am hyny, gelwid hwy weithiau yn “Wil ei dad”, a “Wil ei fam!” Bu William
yr I. fyw hyd nes yr oedd, o leiaf, yn gan
mlwydd oedd. Bűm yn siarad ag ef ar ei wely yn nhŷ ei wyres yn Aberdar,
ychydig fisoedd cyn ei farwolaeth; ac argyhoeddwyd fi yn llwyr gan ei atebion
am bethau a gymmerasant le yn niwedd y ganrif o’r blaen, ei fod, o leiaf, yn
gan mlwydd oed. Tua’r flwyddyn 1843 daeth “Robyn Ddu yr Eryr,” ys dywedai
Tegai, i bregethu Llwyrymattaliaeth trwy y Deheubarth, ac mewn dygwyddiad
“braidd-gyffwrdd” daeth i Benderyn. Dywedid gan y rhai fod a’i clywasant ei
fod yn siarad yn ardderchog iawn. Yn mysg ei wrandawyr yr oedd William Felice
yr I., wrth eu ffyn. Gofynwyd iddo gynnyg pleidlais o ddiolchgarwch i Robyn;
a dyma ddywedai un o feirdd y lle, mewn cân gyfansoddodd i ddarlunio y mudiad
newydd, yn yr hon y dangosai gryn lawer o amheuaeth am ddidwylledd yr
areithiwr, fel ereill yr adeg hono:
“Wil Felis, wrth ddau bolyn,
A ddaeth yn mlaen gan achwyn,
I ganmol araeth Robyn
Dros y dwr
Yn groew d---l fe grďai: -
Mae’r gout yn mhen fy nghliniau,
Ond sefyll a wnaf finau
Dros y dwr;”
Ond ni fedrai y “poor dab” sefyll heb ddwy ffon, na chael
rhyw lawer o ddim i’w yfed ond dwr!
Rhaid peidio anghofio yr hen ysgolfeistr enwog o Streatham, Reynallt Davies.
Ganwyd a magwyd ef mewn tyddyn – y tyddyn eangaf, o bosibl, yn Mhlwyf
Penderyn, a elwir gan y trigolion yn Bodicced; ond bernir mai Bod-y-Gâd oedd
ffurf wreiddiol yr enw. Y mae Theophilus Jones, yn ei Hanes, yn dweyd fod Davies ac
yntau yn gyd-ysgolheigion. Wedi pasio yn anrhydeddus “trwy Rydychain,” aeth i
gadw ysgol uwchraddol i Streatham, lle y llwyddodd i gasglu llawer o arian,
â’r rhai y prynodd ystad Arglwydd Vernon yn Mhenderyn; a phan fu farw
rhoddodd hi i blant ei chwaer, yn
|
|
|
(delwedd D7692) (tudalen 213)
|
(x213) meddiant
disgynyddion y rhai y mae yn bresennol. Dywedir ei fod yn cadw o bedwar i
gant o ysgolheigion bob amser, ei fod ef ei hun, trwy gynorthwy dwy neu dair
o ferched, yn darparu bwyd iddynt oll; ond fod hwnw yn aml o nodwedd bur
anfoddhaol. Y pwnc mawr gan Reynallt oedd gwneyd arian, er ei fod yn dra
llwyddianus i yru Groeg a Lladin i bengoglau {sic; = benglogau} ei
ysgolheigion. Mi a glywais hen wraig yn Mhenderyn yn dweyd mai y “bill of fare” gan Reynallt, fynychaf, oedd,
“Groeg, Lladin, a digon o gawl!” Un o gyfansoddiadau caethfydrol goreu Gwilym
Harri Benderyn oedd awdl goffadwriaethol i Reynallt Davies; ac yr oeddynt yn
gyfeillion mawr, a hyny er yn ieuanc. Un rhagoriaeth ynddo yn ngolwg y bardd
oedd iddo gadw ei Gymraeg yn lled ddilwgr hyd y diwedd.
Gwr enwog arall a anwyd, nid yn mhell o Lygad Cynon,
oedd y cerddor galluog William Morgan (Bili Sion Morgan) o Rymni, ac wedi hyny
o Aberdâr. Y mae tôn o’i waith yn Nghaniadau
Seion, gan R. Mills. Efe oedd arweinydd hen Gor Undebol Rhymni; yr hwn
ennillodd y wobr gyntaf ennillwyd am ganu corawl mewn eisteddfod yn Nghymru,
sef oedd hyny, yn un o eisteddfodau cyntaf y Fenni. Efe hefyd oedd arweinydd
cyntaf Côr Undebol Aberdâr; cor wedi hyny gyrhaeddodd y fath enwogrwydd dan
arweiniad Caradog, o annwyl goffadwriaeth. Cododd y cor
wyddfa ar ei fedd ar eu trael eu hunain. Meddai
ddawn anarferol iawn i wneyd i ereill ganu. Yr oedd efe hefyd yn gryn lawer o
fardd. Gwelais gân o'i waith i'w le genedigol ag na ddylasai fod cywilydd ar
awdwr "Ysgoldy Llanrwst” - Ieuan Glan Geirionydd – weled ei enw wrthi. Gwenllian Morgan,o’r Baili
Helyg, sydd hefyd yn un o enwogion Cwm Cadlan. Yn Hydref 1886, aeth allan wys
a gwahawdd at holl dyddyn-ferched y byd benbaladr i ddyfod i “Eisteddfod
Gorddi” a gwneyd ymenyn, yn yr Agricultural
Hall, Llundain. Gelwid yr eisteddfod hono yn "International Butter-making
Contest." Cyfieithiodd rhyw Gymro y geiriau hyn yn “gystadleuaeth
ymenyn-wneuthuriaeth rhyngwladwriaethol;” ac yr oedd “John Jones” y Gweithiur Cymreig yn cynghori y Llywodraeth i dynu
ei weithdy i lawr ar unwaith, fel na fuasai perygl iddo bechu yn y cyfeiriad
hwnw byth mwy! Yr oedd deunaw o foneddigesau wedi anfon i mewn en henwau; yr
eisteddfod nid oedd ond pedair ar ddeg yn foddlon dangos eu dawn a’u gallu.
Rhoddwyd ugain pwys o hufen i bob boneddiges, ac yr oedd yr ugain pwys i bob
boneddiges, ac yr oedd yr ugain pwys tua dau alwyn o fesur; a gosodai pob
boneddiges ei dogn yn ei byddeu ei hun. “Byddeu droi” oedd gan bob un o
honynt, wrth gwrs, yn poeni Huw ac Edward Morus gynt pan wnaethant yr
englynion -
·········································· “Trwst â gordd, trystio dugell;”
a
·········································· “Dip-dap, lip-lap, gip-gap gwpan,”
&c.
Y fath gyfnewidiadau rhyfeddol ydynt wedi eu dwyn i fewn i’r triniaethau
amaethyddol er adeg hono! peirianau i wneyd pobpeth braidd!
Mae yn debyg fod rhai o’r llaeth-ferched rhagsonedig yn Llundain yn troi eu
byddeuau yn chwyrn rhyfeddol ac ereill yn gwneyd hyny yn bur araf. Mae yn
bossibl fod cynhyrfiad y foment yn gwneyd i rai ohonynt ymwylltio. Ni ddywed
hanesiaeth pa fodd y gwnai Gwenllian; ond tybiaf, oddiwrth adnabyddiaeth bersonol
o honi, na fedrai amgylchiadau cyffredin ei chynhyrfu – meddai wynebwedd yr
arwres. Gwnaeth y lasbryf wylltaf o honynt ei hymenyn mewn deunaw mynud, a’r
hen ysgyfarnog fwyaf araf ei heiddo hithau mewn awr a dau fynaf ar bymtheg. Y
swm mwyaf o ymenyn a wnawd o’r ugain pwys hufen oedd 7Ľ pwys; a’r swm lleiaf
oedd 6˝ pwys. Y diwedd fu, i’r beirniaid ddyfarnu y wobr i Gwenllian Morgan,
merch hynaf Jenkin Morgan, o’r Beili Helyg, Penderyn, a hyny am “ragoroldeb
cyffredinol.” Cafodd Saesnes o’r enw Mrs. Holmes, o Bromley, yr ail wobr, a
Gwyddeles o’r enw Mary Conelly, y drydedd. Y dydd Gwener canlynol ceisiwyd
gan Gwen fyned ger bron Arglwydd Faer Llundain i wneud ymenyn, yr yn a wnaeth
i berffaith fodlonrwydd. Ni ddywedir iddi ddysgu y gelfyddyd i’r Maer; ond
cyn iddi ymadael â’r Brif Ddinas cafodd amryw geisiadau am ei gwasanaeth.
Cafodd gais neillduol o Ynys Jersey, i fyned yno i ddysgu merched yr ynys i
wneyd ymenyn; a bu yno yn fawr ei pharch a’i gwobr. Daeth yn ol i wlad ei
genedigaeth; priododd (â Sais, fel y clywais), ac aeth ymaith i America, lle
y mae hi a’i phriod yn amaethu eu tyddyn eu hunain.
|
|
|
(delwedd D7693) (tudalen 214)
|
(x214)
“O sweet Gweny Morgan, y “Ferch o Benderyn,”
··········Brenhines blith-ferched teleidwyn y byd;
O Lundain hi ddygodd ogoniant ac elw, -
··········Bydd ar gof a chadw ei henw o hyd;
Cynnullwyd i’r gad freninesau y Saeson,
··········A wyddent ddirgelion celfyddyd y llaeth,
A rhai Gwyddelesau o allu gawd allan,
··········Ond sweet Gweny Morgan dros Gymru a ddaeth.
“A Gweny, sweet Gweny, yn wylaidd a thawel,
··········I’r ornest a ddaeth fel angyles ddifrad;
Ond yn gwylio gerllaw yn ei rwysg amddiffynol
··········Y gwelid dewr angel gwarcheidiol ei gwlad:
Rho’dd duwies or-hael Buddugoliaeth ei choron
··········O flodau teleidion ar aeliau teg Gwen;
Prif ynad y ddinas a’r byd yn ddiderfyn
··········Gyhoeddent y ‘Ferch a Benderyn’ yn ben.”
Ychydig yn uwch na phentref Pontprenllwyd, ar du dwyreiniol yr afon, y ganwyd
Thomas Drew (Y Dryw), awdwr yr englyn buddugol i “Gynghor” yn Eisteddfod
Genedlaethol Pontypridd, a llawer englyn buddugol heblaw hwnw. Mae efe yn
enghraifft ddyddorol o’r hyn fedr penderfyniad a dyfalbarhad wneyd. Mi a
ddymunwn iddo bob llwydd. Medda allu i ymddysgleirio; ond y mae yr orfodaeth
i enill bywiolaeth iddo ei hun a theulu lluosog yn mherfeddion daiar yn
ddigon i yru yr awen fwyaf ystwyth a chariadus i gardotta o ddrws i ddrws.
Rhyw filltir is-law Llygad Cynon deuir hyd ranau isaf Nantyderyn, yr hon a
ffurfia ran o’r ffin rhwng Brycheiniog a Morganwg; y ffin hono hefyd ffurfia
ran o derfyn gogleddol Esgobaeth Llandaf yn y parthau hyn. Ceir desgrifiad
manwl iawn o’r ffin yn Llyfr
Llandaf; ond cyfeirir yno at leoedd na ŵyr y preswylwyr presennol yn
y byd pa le y maent; megys “Nant Gofanog,” “Deri Emrys,” “Cefen Clusti,”
&c. Gerllaw y lle y llyncir Nantyderyn gan yr Afon Cynon, y mae tyddyn y
Gelli Benuchel, lle y codwyd teulu o ddynion talentog a blaenllaw iawn yn y
wlad. Yno y ganwyd ac y magwyd tad yr “Ustus Dall o’r Llwydcoed.” Caf
achlysur i son am dano eto pan ddeuwn i Aberdar. Cafodd Llewelyn, ail fab y
Gelli Benuchel, ei gyflogi i fyned i Ddeheudir America, i fod yn arolygydd
gweithiau mŵn arian; ac aeth rhyw ugain o fwnwyr Llwydcoed, Aberdâr,
gydag ef. Un yn unig o honynt gafodd fyw i ddychwelyd i wlad ei enedigaeth.
Dygwyddodd ynostrike ofidus;
a lladdwyd y Cymry i gyd ond yr un hwnw. Dylynwyd yntau i fin yr afon fawr
redai trwy y lle. Yr oedd yn nofiwr campus. Neidiodd i’r afon, a nofiodd
drosodd, yr hyn ni fedrai ei elynion; ac felly y llwyddodd, trwy lawer o
drafferth, i ddychwelyd i wlad ei dadau.
Yn ffinio â thyddyn y Gelli Benuchel yr oedd tyddyn y Cefndon, yr hwn,
meddir, oedd gynt y tyddyn eangaf yn y plwyf: yr oedd felly yn ddiddadl pan
breswylid ef gan Morgan Prys William yn y flwyddyn 1674. Yr oedd efe, a’i
ddisgynyddion, hyd tua diwedd y ganrif o’r blaen, yn gauafu “oddeutu cant o
dda corniog” yno. Pan gychwynwyd “Ffwrnes Hirwaun” gan Mr. Mayber, ac, wedi
hyny, gan Anthony Bacon, yn 1763, &c., &c., cymerwyd rhan helaeth
iawn o dyddyn y Cefndon at ddybenion y gwaith. Cymmerwyd hefyd dyddyn
Maesyrhydiau yn gyfangwbl i’r un dyben. Ar un o gaeau y tyddyn hwnw y gwelodd
Henry Crawshay ei wraig y tro cyntaf, a hi yn ferch ifanc landeg, newydd ddod
o Frycheiniog yn forwyn dlawd i’r lle!
Ryw ddwy filltir o Lygad Cynon i gyfeiriad Merthyr Tydfil mae y rhan hono o’r
dyffryn a elwir “Naint” (hen Gymraeg am nentydd), lle mae Dwfrweithiau
Aberdâr; ac y maent yn eang a rhagorol. Pe bai Aberdâr yn gymaint arall o
faint, cawsai ddigonedd o ddwfr pur, llaith, a thra derbyniol o’r “Naint.”
Yn wynebu i’r Naint y mae tyddyn a elwir Llwynmoch, lle, yn niwedd y canrif
o’r blaen, ac hyd, o leiaf 1832, y trigai dau gerddor nodedig – “Thomas a
Shôn Llwynmoch.” Dysgent dônau trwy ffugyrau, 1, 2, 3, 4, 5, 6, 7, 8. Y cyweirnod
oedd y 1, ac nid yn ol yr hen drefn o doh, me, sol. Dangosent y gynghanedd trwy osod
y bass i ganu 1, 1, 1, 1, &c.; y bechgyn
o lais ysgafnach i ganu 3, 3, 3, 3; y merched i ganu 5, 5, 5, 5; a’r bechgyn
bychain i ganu 8, 8, 8, 8; yr un modd gyda’r cordiau ereill, 6/3, 6/4, cord y
7fed, &c. “Con-cord” y galwent y cord cyffredin. Eu camsynied mawr oedd gosod y bechgyn i ganu yr alaw a’r merched i
ganu y tenor! Cafodd
Rosser Beynon, o Ferthyr, ac ereill o olynwyr y ddau frawd, lawer iawn o
drafferth i argyhoeddi y cenedloedd eu bod yn gamsyniol. Ond, ag ystyried eu
hoes a’u manteision, yr oedd “Bechgyn Llwynmoch,” yn ddiamheuol, yn feddianol
ar dalentau o’r dosparth dysgleiriaf.
|
|
|
(delwedd D7694) (tudalen 265)
|
(x265)
::3 (HIRWAUN)
Yn y llythyr cyntaf gorphenais â rhanau
uchaf Dyffryn Cynon. Rhaid, yn awr, ddyfod i Hirwaun. Mae pentref, neu, os
mynner, dref Hirwaun, wedi cael ei hadeiladu – un rhan ar diroedd
Maesyrhydiau a’r Cefndon, yn Mhlwyf Penderyn, a’r rhan arall ar ddarn o
Hirwaun Wrgan. Gwrgan oedd dad “y brenin drwg Iestyn ab Gwrgan,” ys dywedai
Iolo Morganwg. Dyma ni yn awr yn Mhlwyf Aberdâr.
Fel y gwelir, oddiwrth y Waun Hir, ar ran o’r hon yr adeiladwyd hi, y
cafodd y dref ei henw, er fod y gwaith haiarn i gyd yn ochr Penderyn o’r
dref, ac erbyn hyn lawer iawn o annedd-dai; ac yn yr ochr hono y mae Gorsaf
Rheilffordd y Great Western.
Dyma geir yn Hanes Morganwg yn nghylch y lle: -
“Anthony Bacon, Ysw., agorodd ychydig gwaith haiarn yno yn 1763, neu ychydig
yn ddiweddarach. Wedi i Mr. Bacon ymneillduo oddiwrth fywyd
masnachol yn 1784, daeth ffwrnes Hirwaun yn eiddo Mr. Overton, tad George
Overton, Ysw., Trengholydd Merthyr. O’r flwyddyn 1818 hyd 1858, bu Gwaith
Hirwaun yn eiddo W. Crawshay, Ysw., Castell y Gyfarthfa, a’i blant; ac yn eu
hamser hwy y bu y llewyrch goreu ar Hirwaun. Yn 1858 safodd y gwaith a
gwywodd y lle. Yn 1830 y daeth agerdd-beiriant symmudol gyntaf i’r lle, o
waith Gurney: ei bwysau oedd 1˝ tunnell. Tua’r flwyddyn 1848 adeiladodd
Francis Crawshay, Ysw., Dŵr Castellog ar lechwedd y mynydd, tua milltir
a hanner i’r de-orllewin o Hirwaun, yr hwn sydd yn hollol hirgrwn, 30
troedfedd o uchder,12 troedfedd o dryfesur y tu fewn, a 58 o amgylchedd y tu
allan... Pan safodd y gwaith yn 1858 gadawyd y Tŵr heb breswylydd,
cymmerwyd y defnyddiau mewnol ymaith, fel nad oes yn aros ond y muriau yn
unig.”
Gwnaed llawer cynyg i gychwyn Gwaith Haiarn Hirwaun, wedi i’r Crawshays
adael yn 1858; ond ni fu rhyw lawer o lwyddiant yno. Cyflogir oddeutu 40 o
weithwyr yno yn bresenol gan Mr. Snape a’i Gyfeillion.
Ymddybyna y lle yn fwyaf neillduol ar y gweithiau glô; ac y mae glô lawer dan
holl fynyddau a dyffrynoedd plwyf Aberdâr. Pan gychwynwyd gweithio y glô hwnw
yr oedd yma ryw 20 o wythienau o wahanol drwch yn y ddaear, y rhai, pe
gosodid hwy y naill ar ben y llall, heb ddim tir na chraig rhyngddynt, a
wnelent fynydd du gwastad ac aruthrol o yn agos 100 troedfedd o uchder, 71
milltir o hyd wrth 6 milltir o led! Mae erwi, gannoedd o honynt, wedi eu codi
o'r dyfnder du, ac wedi eu gyru ymaith i yn agos bob parth o’r byd; ond ni
chodir y cwbl o honynt byth, gan na foddlona yr elw geir drwy eu gweithio y
perchenog na'r gweithwyr, a bod llawer o ddarnau mawrion wedi eu cuddio yn y
ddaear fel cocos yn y traeth.
Wrth son am Hirwaun, yn ychwanegol at yr hyn a ddyfynwyd yn barod, dywed
Dafydd Morganwg: - “Bu y waun hon yn gomin rhydd am oesoedd wedi y
Goresgyniad Normanaidd; ond bob yn ychydig honwyd hawl iddi gan ieirll
Penfro, arglwydd Morganwg; ac fel disgynydd o’r cyfryw honir hi gan Arglwydd
Bute. Y cyfnod cyntaf a welais o barthed yr hawl yw hanes cyfarfod barwnol a
gynnaliwyd yn mhentref Aberdâr, Mehefin 26, 1638, dros y Gwir Anrhydeddus
Phillip, pedwerydd Iarll Penfro ac Arglwydd Morganwg, yr hwn oedd yn honi
hawl i 4,000 o erwau o’r Waun Hir yn Nghantref Meisgun. Yr oedd yn bresennol
yn y cyfarfod hwnw William Herbert, Caerdydd; Thomas Mathews a William
Herbert, o'r Cogau; David Evans a Thomas Lewis, Ysweiniad, y rhai oeddynt
ddirprwywyr i’r Iarll. Dyben cyfarfod oedd cymmeryd i ystyriaeth waith
Thoimas Mathews, Ysw., yn cau i fewn tua chan’ erw o’r Waun Hir, ger
Aberaman, gan wneyd fferm o’r tir, yr hyn a ganiatawyd iddo gan dad yr Iarll
Phillip a enwyd.
“Canlynwyd esiampl T. Mathews gan ereill, gyda golwg ar gau i fewn y
comin, fel yr oedd 35 o ffermydd wedi eu cau i fewn erbyn y flwyddyn 1735. Yr
oedd Ardalydd cyntaf Bute tua 18 oed y pryd hwnw, a’i dad, John, Iarll Bute,
yn honi hawl i'r Waun, gan ei fod yn briod a a Charlotte Jane, merch Herbert,
Is-Iarll Windsor, Arglwydd Morganwg. Yn 1788, daeth Ardalydd cyntaf Bute i'w
oed, a distrywiwyd y rhan fwyaf o’r 35 ffarm a nodwyd.
(Mae yn amlwg fod rhagflaenoriaid yr Ardalydd wedi rhoddi prydles i
berchenogion y 35 tyddyn, o herwydd mi adnabűm hen wraig anwyd yn un o’r
cyfryw dyddyndai, yr hon oedd yn cael coron yr wythnos oddiwrth yr Ardalydd
cyhyd ag y bu fyw, fel iawn am y golled a gafodd ei rheni. Dywedai mai y
tyddynwyr cylchynol a dynodd i lawr y ffermdai; a'r rheswm am hyny oedd, fod
eidion wedi crwydro o dir Llwynmoch, yr ochr arall i'r Dyffryn, i un o’r 35
tyddyn, ac i fechgyn y tyddyn hwnw ei wyngalchu! yna gyrasant ef adref; ond
by hyny yn achos i ddwyn ei fywyd, yr hyn gynhyrfodd ddigofaint y
gymydogaeth. Y canlyniad fu difrodi y tyddynod, ac wedi hyny y gyfraith yn
Henffordd.)
Parodd hyn i’r Mri. Samuel Rees o’r Werfa, a Rees Phillip o'r Cwm, fyned i
gyfraith â’r Ardalydd, ar ran y plwyfolion, yn ngylch hawl i’r Waun. Dygwyd y
gyfraith yn mlaen yn Henffordd yn 1790,
a chollodd yr Ardalydd. O’r
flwyddyn hono hyd y flwyddyn 1869, bu y Waun yn gomin rhydd, o dref Aberdâr
hyd flaen Hirwaun. Yn y blynyddau 1848-1849 adeiladwyd ugeiniau o annedd-dai
bychain ar y comin, y rhai a fynai eu
|
|
|
(delwedd D7695) (tudalen 266)
|
(x266) perchenogion alw yn “Dai Unnos;”
a chauwyd gerddi helaeth i fewn atynt. Aeth rhai o’r preswylwyr, pa fodd
bynag, mor ddrwg â lladd ac ysbeilio defaid yr amaethwyr cylchynol; a’r
canlyniad fu i’r awrdurdodau, trwy orchymyn ail Ardalydd Bute, dynu yr
anedd-dai hyny i lawr yn 1850-1. Yn 1869, darfu i’r Dirprwywyr Tirol ranu y
Waun rhwng perchenogion tiroedd plwyf Aberdâr; ac y mae wedi ei chau i fewn
yn gaeau mawrion er y flwyddyn 1870. Cyn y dosparthiad hwn, pa fodd bynag,
cafodd 30 o erwi o’r Waun eu cau i fewn yn gladdfa gyhoeddus, yr hon a
agorwyd yn 1858. Rhoddodd y Dirprwywyr hefyd 39 o erwau o’r Waun hefyd i
warcheidwad y plwyf, y rhai a’u rhoddasant i’r Bwrdd Iechyd i wneyd parc
cyhoeddus, yr hwn a agorwyd yn 1869.”
Dyna derfyn bythol ar Hirwaun fel comin; a da hyny mewn rhyw ystyr; ond
amheua llawer gyfiawnder y dyfarniad o roddi y cwbl ond y Cemetery a’r Park i rydd-dalwyr (freeholders) y
plwyf. Rhoddodd y Gwrgan y Waun yn dir pori i amaethwyr saith plwyf rhanau uchaf
ei arglwyddiaeth; a thyma hi wedi dyfod yn feddiant uchelwyr un plwyf! rhai
o’r cyfryw yn Ysgotiaid, ac ereill yn Saeson. Meddianwyd llawer iawn o honi,
o bryd i bryd, yn flaenorol; canys yr oedd ar y cychwyniad - yn nyddiau
Gwrgan – tua deg milltir o hyd wrth ryw filltir neu ragor o led, mewn llawer
man. Pan feddianwyd hi yn llwyr nid oedd ond rhyw bum milltir o hyd.
::4 BRWYDR HIRWAUN WRGAN
Fod brwydr wedi bod rhwng Iestyn ab Gwrgan, yn cael ei gynorthwyo gan fyddin
o Normaniaid, a Rhys ab Tewdwr, ar Hirwaun, sydd, fel y tybiaf, yn dra
thebyg; ond y mae cynnifer o amgylchiadau dychmygol yn cael eu gosod i fyny
fel ffeithiau, nes y teimla y darllenydd ystyriol gryn lawer o amheuaeth am y
cwbl. Gosodir byddin Iestyn i drigo yn y Gadlys Isaf, a byddin Rhys yn y
Gadlys Uchaf, heb gofio nad oedd yn y plwyf ar y pryd ond y Gadlys Isaf yn
unig. Creadigaeth ddiweddarach yw y Gadlys Uchaf. Cychwynant y frwydr ar “Gae
Maesydref”: eir i fyny drwy y dyffryn yn mhell uwchlaw Hirwaun: cyfnewidir
“Gwaun Rhiw-fan” yn “Gwaun Rhwyfus,” – “Gwaun Gwingo,” &c.: daw
“Cwm-Nant-yr-Hwch” yn “Cwm-Nant-yr-Och!” “Nant-yr-Ychain” yn
“Nant-yr-Ochain;” “Bryn Gwyn” yn “Bryn y Banerau-Gwynion.” Pan ganfu Rhys ei
fod yn colli’r dydd; yn lle ceisio rhedeg yn ol i’w gartref yn Sir Gaerfyrddin,
try ei gefn ar y Dinefwyr, a rhed i fynyddau y “Gloven,” lle y daliwyd ef ac
y torodd gwyr Iestyn ymaith ei ben. Gelwir y lle byth wedi hyny yn
“Ben-Rhys.” Adeiladwyd yno fonachlog; a thyma lle y bu hyd nes y dinystriwyd
hi trwy orchymyn Harri’r Gwragedd – yr Wythfed.
(Wedi brwydr Hirwaun, ac, yn mhen ychydig, brwydr y Mynydd Bychan, daeth
Morganwg oll yn feddiant Robert Fitzhamon, ei ddeuddeg marchog, plant Iestyn
ab Gwgant, ac Einion ab Collwyn. Yn awr, a ydyw yn debyg y buasai un o’r rhai
hyny, y rhai oeddynt â llaw uniongyrchol yn nghorchfygiad Rhys ab Tewdwr, yn
adeiladu, neu yn caniatau i rywun arall adeiladu, mynachlog ar Fynydd
Penrhys, er cof parchus am ddienyddiad eu hen elyn, a hyny ganddynt hwy eu
hunain? Ymosodwr beiddgar oedd Rhys yn Nyfed ac yn Morganwg; ac nis gallasai fod gan Einion ab Collwyn,
yn arglwyddiaeth yr hwn yr oedd Pen-rhys, na chan ei ddisgynyddion, ddim
parch iddo. Dygodd etifeddiaeth Einion yn Nyfed trwy drais, a cheisiodd wneyd
yr un modd ag etifeddiaeth teulu ei wraig yn Morganwg.)
Ond yr hyn sydd yn tynu cryn lawer o’r dysgleirdeb oddiar yr hanes yw, fod un
o’r “Brutiau” yn dweud Mai “Ffreincwys Senni a laddodd Rys ab Tewdwr, ger
Aberhonddu!” Beth bynag, mae “Llyfr Aberpergwm” yn dweyd mai ar “Ben Rhys” y
gwnawd ef yn fyrach o’i ben. Er difyrwch i’r darllenydd, rhoddwn yma yr hanes
fel ei ceir yn y llyfr hwnw:
“Ynghylch yr un amser (1088) y bu farw Cadifor ab Collwyn, Arglwydd Dyfed;
a’i feibion ef, sef Llewelyn ac Einion, a’i frawd Einion ab Collwyn, a
anogasant Ruffydd ab Meredydd i ddodi cad ar faes yn erbyn Rhys ab Tewdwr. A
dyfod a’u lluoedd yn nghyd a wnaethant, a brwydr dost a fu; eithr gorfu Rhys
ab Tewdwr Llandudoch; a dalwyd Gruffydd ab Meredydd, ac a fyrhawyd o ben; a
lladdwyd Llewelyn ac Einion, meibion Cadifor. Ac Einion ab Collwyn, brawd
Cadifor a ffoes Iestyn ab Gwrgan, Tywysog Morganwg a Gwent, yr hwn oedd yn
rhyfela yn erbyn Rhys, ac adrawdd ei ansawdd iddaw. Einion a fuasai yn ŵr
swydd yn rhyfela gyda brenin Lloegr a’i farchogion yn Ffrainc, a gwledydd ereill,
a charedig mawr rhyngddo a’r brenin a’i farchogion. Ac Iestyn wedi gwybod
hyny, a addunedwys i Einion ei ferch yn briodwraig, os efe a ddygai iddaw o
Loegr yn erbyn Rhys ab Tewdwr, a chyda y ferch hono yn gyfoeth Arglwyddiaeth
Meisgun.
“Myned i Lundain a orug Einion, ac ammodi â Robert fab Amon, tywysawg y
Corbwyl yn Ffrainc, a chefnderw y Brenin Coch, i ddyfod yn gyfnerth i Iestyn
yn Morganwg. A Robert a weithiawdd ar ddeudddeg o Farchogion ereill o urddas
ddeiamheu nes ei hynill o’i blaid yn un ansawdd ag yntau. Dyfod a wnaethynt i
Forganwg ar frys ac unaw lluoedd ag Iestyn, a myned i wledydd Rhys ab Tewdwr
|
|
|
(delwedd D7696) (tudalen 267)
|
(x267) a lladd a llosgi cyfled â’r tir a
gerddynt. A phan glybu Rhys hyny, myned yn eu herbyn, a chyfarfod y ddau lű
gerllaw Brecheiniawc, yn y lle a elwir Hirwaun Wrgan, a brwydr waedlyd fawr a
fu rhyngddynt lle gorfu ar Rys ffoi. A’i ymlid a wnaeth Iestyn a’i ddal yn
Nglyn Rhodneu, a lladd ei ben. Ac enwyd y lle y bu hyny Pen Rhys.
”Gwedi hyny ymlid ei wyr a’u lladd yn greulon, a dal Gronwy mab Rhys, a lladd
ei ben yntau. A mab arall oedd i Rhys o’i ordderch a elwyd Cynan, yn ŵr
dewr a thrachalonog; ac efe ymchwelyd tuag Ystrad Tywi wedi lladd ei dad a’i
wŷr, ymlidiwyd ef mor galed a thost oni orfu arnaw amcanu dianc drwy
lynn a elwir Cremlyn (ger Abertawy) lle y boddes ef a llawer o’i wŷr; ac
am hyny Pwll Cynan y gelwir y lle fyth wedi hyny. Mab arall i Rys a elwid
Gruffydd, ac nid oedd ond plentyn pan las ei dad.”
”Gwedi hyny ymgynnull a wnaeth gwyr Robert ab Amon a’i farchogion a’u gwyr ar
Dwyn Colwyn, lle y talawdd Iestyn iddynt yn aur coeth, ac o hyny hyd heddyw
gelwir y lle yn “Filltir Aur.”
Nid
yw hanes Caradawc o Lancarfan mor fanwl ag eiddo “Llyfr Aberpergwm.” Nid yw
yn enwi Hirwaun o gwbl; a phe buasai ereill yn gadael allan rai o’r manylion dychymygol
o’u hysgrifau, buasai llai o fantais i ddynion ydynt yn amheu ein holl
hanesion hongian rhesymau gwrthwynebol ar yr helynt. Y
mae rhai wedi myned mor bell a dweud fod byddin Robert Fitzhamon a Iestyn yn
6000, tra nad oedd eiddo Rhys ond 300! Yr oedd Rhys yn hen ŵr, dros 90
mlwydd oed, mae yn wir; ond nid yw yn debyg ei fod mor ffol ag y myn y bobl i
ni gredu ei fod. Yn mysg “gwyr y tri chant” y mae Taliesin ab Iolo Morganwg;
ac y mae yn anhawdd deall pa fodd y gallasai ysgolor mor addfed ac hynafieithydd
mor ddiamheuol alluog ag efe annog dynion i gredu y fath ffwlbri. Yr oedd
yno, fel y dywedai Dafydd Gam wrth frenin Lloegr, ddigon o Normaniaid a
Chymry yn nyddiau Iestyn, “i’w lladd, digon i’w gwneyd yn garchararion, a
digon i redeg ymaith:” ond nas gallasai 300
aDdinefwyr (Gŵyr “Gwar Llandeilo”) eu curo. Yr eglurhad, yn ddiddadl,
debygaf fi, yw fod rhyw hen gopďwr wedi gadael allan un naught, ac mai 3000 oedd gan Rys. Beth
bynag, mae yn bur debyg i Rys golli y frwydr a cholli ei fywyd yn rhywle, pa
un ai ar fynydd y Rhondda ai ger Aberhonddu trwy frad Ffreincwys Senni. Y
canlyniad fu i’r Normaniaid ddyfod i Forganwg fel locustiaid Deheubarth
Affrica, a “lladdwyd penau” llawer mil o feibion “gwlad y menyg gwynion.”
Y mae un peth arall anesponiadwy i mi yn nghlŷn â’r helynt; sef, os
lladdwyd Rhys ac y gorchfygwyd ei fyddin mor llw˙r ag y mynir i ni gredu,
paham na chymerodd y Normaniaid feddiant o’i arglwyddiaeth yn Ninefwr, fel ag
y gwnaethant âg eiddo Iestyn ab Gwrgan yn mhen ychydig fisoedd wedi hyny yn
Morganwg?
Fel rheol, gesyd haneswyr yr holl fai am ddyfodiad y Normaniaid i Forganwg ar
ysgwyddau Iestyn; a chydymdeimlir yn fawr i Rhys: ond nid yw yn hawdd, fel y
tybiaf, benderfynu pa un a’i ar Rhys, Einion ab Collwyn, ai ynte ar Iestyn,
yr oedd y bai. Teimlaf fi mai Rhys oedd y pechadur mwyaf. Ymosododd Rhys ar
dreftadaeth Einion yn Nyfed, a lladdodd ei ddau nai yn mrwydr Llandudoch, fel
y nodwyd yn barod. Dyna fu achos i Einion ffoi at Iestyn. Dylanwad Einion,
fel hen “ŵr swydd” yn myddin y brenin, ddygodd y Normaniaid i Forganwg,
a ffolineb Iestyn fu yr esgus iddynt aros.
(Y ffolineb hwnw oedd gwrthod rhoddi Nest ei ferch yn wraig i Einion, yn
ol y cytundeb; ond pan orchfygwyd ef gan y Normaniaid cafodd Einion Nest, a
chyda hi Arglwyddiaeth Meisgun yn waddol.)
Cofier mai Rhys oedd yr ymosodydd!
Rhyfedd fel y diflanodd hiliogaeth Robert Fitzhamon a’i ddeuddeg Marchog o
Ddeheudir Cymru. Yn y flwyddyn 1572 y ysgrifenai Syr Edward Stradling fel y
canlyn:
“Of the heirs male of the aforesaid twelve knights that came with Sir Robert
Fitzhamon to the winning of Glamorgan, the lordship aforesaid. there is at
this day but the Stradling alive that dwelleth in Wales, and enjoyeth the
portion given in reward to his ancestors.”
Ni fu y Stradling yn hir cyn dylyn y gweddill. Dywedai ei fod ef wedi priodi
Saesnes o Sussex, ond nad oedd hi etto wedi ychwanegu dim at yr hiliogaeth!
Ni fu hyny yn golled i neb; a phe buaisai efe yn defnyddio y gair “stealing” yn lle “winning”
buasai yn agosach i’w le.
::5 RHAS TWM EMWNT
Ni fyddai hanes “Comin Hirwaun” yn werth dim yn ngolwg hen drigolion y lle
a’r cyffiniau pe na chynnwysai hanes Twm Emwnt a’i râs. Oni redodd ac oni
ennillodd Tomos râs o dair milltir ar Gomin Hirwaun mewn amser byr iawn? ac
oni sonir am y râs hona hyd y dydd hwn, gan i lwyddiant
|
|
|
(delwedd D7697) (tudalen 268)
|
(x268) Tom fod yn achos i wyr Dyffryn
Tâf ennill rhai dwsinau o foch, merlynod mynydd, ac ugeiniau o bunnau, oddiar
wyr Dyffryn Cynon?
Os bydd dyn yn rhyw dipyn o fardd rhaid iddo fynu ffugenw i ateb ei farn ei
hun; bryd arall, ceir holl ddawn yr “Orsedd” i wneyd hyny drosto; ac os na
fydd ofalus ca hyd coes rhacca o hono, megys “Negesydd o’r Ynys Werdd,” neu “
Fardd Coch Bach Cwmynysmintan!” Os cerddor fydd, rhaid i “Hwrdd” neu yn “Eos”
(“Ram” or “Nightingale”);
ond os rhedegwr, neu ryw wylltfilyn felly fydd, rhaid cael llysenw – “Sharkey,”
“Bendigo,” neu “Coffee Cooler!” Dyna fu tynghed Thomas Edmunds,
druan. Rhaid ei alw “Twm Emwnt;” ac ni adnabyddir ef ond wrth y enw. Cafodd
ei eni o deulu parchus o dyddynwyr yn rhanau uchaf Tâf, ger Merthyr Tydfil,
yn y flwyddyn 1751; a bu farw yng Nghefn Coed y Cymmer, yn y flwyddyn 1751.
Yr oedd tadcű (taid) yr ysgrifenydd yn ei gofio yn dda. Cafodd gorff
ardderchog iawn;.ond trwy ei ymdrechion rhyfeddol fel rhedegwr anmharodd ef,
a bu farw, fel y gwelir, yn 34 mlwydd oed. Pan ennillai, cenid ei glod trwy
yr holl gymdogaeth; ond pan gollai, caffai ei drin yn arw iawn. “Cilbwt” oedd hi pan gollai! Nis gwn pa un
a arferir y gair in y Gogledd ai peidio. Ei ystyr yw fod rhedegwr yn gwerthu
ei hawl, yn ddirgel, i ennill y râs i blaid ei wrthwynebydd, a thrwy hyny yn
bradychu ei blaid ei hun.
(Mae yn debyg mai o’r Ffrancaeg y deillia yr enw, a bod ei ystyr yn y ddwy
iaith yn gyffelyb.)
Ychydig, os dim, o yrfaoedd yr hen ffasiwn a geir yn y parthau hyn yn awr; ac
nid wyf yn credu fod hyny yn golled i neb. Bu Tomos yn aelod o hen eglwys
Arminaidd yr Ynysgau, Merthyr, am rai blynyddau cyn ei farwolaeth; a gellir
meddwl nad oedd yr hen eglwys hono yn rhyw ofalus iawn am ymarferion a barnau
ei haelodau, gan ei bod yn caniatau i Tom redeg gyrfaoedd tra yr oedd yn
aelod; ond mynai rhai ei ddiaelodi am eu bod yn credu ei fod yn parhau i redeg ambell “Râs Gilbwt”!
“Mae cynulleidfa’r Ynysgau,
Credwch chwi neu beidiwch!
Yn cwnsela bob yn ddau, -
Credwch chwi neu beidiwch!
Fe dorir Twm ’mhen mis i ma’s
Am wneyd “cilbwt” yn mhob rhyw râs, -
Mae hyn yn groes i lwybr grâs,
Credwch chwi neu beidiwch!”
(Vaynor Handbook, gan W. Morgan, Ysw., Y Pant.)
Hefyd, yr oedd yn caniatau i amryw Galfiniaid proffesedig ymaelodi ynddi a
gwyddis iddi droi yn Galfinaidd hollol dan weinidogaeth y Parch. T. B. Evans.
Cyn ei ddyddiau ef, Arminiaid oedd y nifer luosocaf o’i gweinidogion.
Rhyfedd fel y mae hanes y pencampwyr o ddosparth Twm Emwnt, a “Gutto Nyth
Bran,” rhedegwr mawr Llanwynno, yn byw yn mysg y werin. Tra nad oes ond rhyw
un yma ac acw yn gwybod am Dafydd Cadwgan, bardd rhagorol Llanwynno, a Sion
Llewelyn, Cefn Coed, mae y rhan luosocaf o honynt yn dra hyddysg yn hanes y
ddau redegwr!
Prif
gampwyr y bęl droed fydd y gwroniaid o hyn allan. Rhyfedd fel y mae y
drafodaeth arw ac aflednais hono wedi dylanwadu ar feddyliau ein gwyr
ieuainc. Lle na cheir ond dyrnaid o bobl yn aml i wrandaw cyngherdd neu
ddarlith uwchraddol, ceir miloedd i edrych ar y ffoliaid hyn yn cilgwthio,
ysgrabin, cicio a thori esgeiriau eu gilydd! Gwrthodir ei ganiatäu yn hollol
mewn rhai o wledydd Ewrop, a thrinir y Saeson yn arw am geisio ei ddwyn i’w
mysg. Mae yn llawn bryd i ninau geisio ei dwyn “dan drefn a dosparth” hefyd;
os amgen, deuir i edrych arnom, nid fel cenedl o foesolion a Christionogion
goleuedig, ond yn genedl o gicwyr peryglus ac anwybodus! yn dysgu ein plant i
fyny o’r cryd i fod yn Spartiaid ysgythrog a mileinig, y rhai na feddant fwy
o barch i esgeiriau dyn nag o gregin gocos!
::6 Y “BROCKS”
Am lawer iawn o oesau megid ar “Gomin
Hirwaun” ddosparth o ferlynod mynydd a elwid “Brocks Hirwaun.” Rhyw gymysgedd
oedd eu gwisg, agos cyfartal o wyn a du. Yr oeddynt yn fwy eu maint na
merlynod “Cadair Arthur” neu “Bantywern,” y soniais am danynt yn fy llythyr
cyntaf; ac yr oeddynt yn fwy o werth “ar ben ffair” o fwy nâ phunt yr un. Nid
wyf wedi gweled un o honynt ers blynyddau, ac nis gwn a ydynt yn cael eu magu
yn y gymdogaeth ai peidio. Yr oeddynt hwy hefyd yn greaduriaid bywiog a
“chelyd.” Gallesid eu dwyn, trwy ofal a thynerwch, yn greaduriaid defnyddiol
iawn. Gelwid y trigolion weithiau yn “Brocks Hirwaun:”
|
|
|
(delwedd D7698) (tudalen 269)
|
(x269) ac os buasai llygad du ar rywun
hanner can’ mlynedd yn ol, nid oedd raid iddo ond myned i un o dafarndai
Hirwaun ar “Nos Sadwrn Pay”;
a galw “Brock” ar un o’r gwreiddiolion, er ei gael! Fel y canlyn y canai
rhywun wedi gwneyd y prawf: -
“Ce’s lygad dű a daiar
Ar Hirwaun yn ddiweddar;
Fe ddylid gyru’r oll o’r Brocks
I’r Rocks of Gibralter.
A diolch am y ddaiar,
Ac am ryw gyfaill hawddgar
R’odd imi shawns i gilo ma’s
Rhag
ofn y gwas ymladdgar.
Mi wn fod dwrn y “Brocyn”
Fel darn o faen y felin,
Pan gwrddodd â fy llygad - wel!
Mi syrthais fel ’scadenyn!”
::7 MORGAN RHYS MEURIG A’R YSBRYD!
Yr oedd Morgan yn hoff iawn o redeg gyrfaoedd. Nid oedd rhâs byth yn cael
pasio, ac yr oedd llawer o honynt yn pasio, yr adeg hono, na fuasai Morgan yn
y dystiolaeth; a threuliai lawer iawn o’i amser a’i arian yn y tafarndai
cylchynol. Cafwyd ef un boreu ar ol un o ffeiriau Aberdâr, ar Gomin Hirwaun,
wedi rhynu i farwolaeth, yn agos “porcyn,” a’i ddillad yn gryno ar
ochr yr heol oddeutu can’ llath yn is i lawr. Dywedai y bobl yr adeg hono ei
fod wedi cyfarfod âg ysbryd a bod hwnw wedi ei herio i redeg gyrfa. Tynodd
ymaith ei ddillad, a rhedodd oddeutu can’ llath; yna gorweddodd a syrthiodd i
gysgu, yn yr hwn gwsg y bu farw, gan ei bod yn noson oer iawn. Oes yr
ysbrydion, y cyhyraeth a’r ganwyll gorff oedd hono, er mai yn ugain mlynedd y
canrif hwn y dygwyddodd. Ac er nad oedd hawl gan y cyhyraeth a’r cannwyll
corff – yn ol y chwedl – i fyned o Esgobaeth Llandaf i Esgobaeth Ty Ddewi – o
blwyf Aberdar i blwyf Penderyn, y ddau yn Nyffryn Cynon – credai y trigolion
ofergoelus fod y rheol yn cael ei thori yn aml! Clywodd yr ysgrifenydd hwn
gigydd o’r lle yn dweyd ei fod ef yn dyst byw
o droseddau felly. Dywedai ei fod wedi dilyn cyhyraeth o hirbell, bîd sicr,
“gan fod ei wallt,” (gwallt y cigydd), “yn sefyll ar ei ben, o un plwyf i’r
llall!” A gyrodd y modd aethus yn yr hwn yr adroddai y chwedl, wallt ieuanc
yr ysgrifenydd i “sefyll ar ei ben,” fel y tybiai y pryd hwnw, hefyd!
::8 TEISENAU HIRWAUN
Yn nyddiau gogoniant Gwaith Hirwaun, yr oedd yn lle enwog iawn am “deisienau
brau!” Y rhai enwocaf, 55 mlynedd yn ol, am wneyd y teisienau hyny, - yr oedd
yr ysgrifenydd yn eu hadnabod yn dda, - oedd “Mari Gi Tân,” “Mam Dai Dew,”
“Beti Crafn” (Craven), a “Mari Dwm Rhys.” Y deisien fwyaf boblogaidd i
ddathlu pen blwydd neu wyl briodasol ar Hirwaun, oedd un wedi ei gwlychu mewn
hufen llaeth. Yr oedd hono yn un gostus, gan fod yn rhaid talu crogbris i’r
tyddynwyr cyfagos am yr hufen. “Mam
Dai Dew” oedd “meistres yband” am wneyd “teisien wyliau.” Tri chwarter
pwys o lard mewn unpwys o a flawd oedd rheol yr
hen wraig hono! currants, raisins, a chroen lemon, &c., i ateb
archwaeth; ac yr oedd archwaeth yr hen awdures yn uchel iawn, fynuychaf. Yr
oedd “Mari Gi Tân” yn dra enwog ei dawn i wneyd “ffrois” (pancakes). Ryw dro
yr oedd Mari wedi gwahodd y tair hen chwaer arall i dreulio prydnawn “Gwyl y
Ffrois” gyda hi. Er dangos ei dawn a’i gallu gwlychodd y blawd mewn hufen a rum. Gosododd ddefnydd un yn
y “ffrimpan” ar y tân; a rhywfodd neu neu gilydd, cydiodd y tân yn y
“ffroisen,” ac, “O!’r mynyddoedd o blwm!” aeth yn ffluwch i fyny trwy y
simdde!
::9 CREFYDD AR HIRWAUN
(“Ar” Hirwaun ddywedir pan yn son am rywbeth yn pentref.)
Bu yr Eglwys Sefydledig yn esgeulus iawn o sefyllfa grefyddol gwyr Hirwaun o
ail-gychwyniad y gwaith haiarn yn y lle yn 1763, hyd y flwyddyn neu o gylch y
flwyddyn, 1869, pan oedd gogoniant y lle fel gwaith haiarn wedi ymadael. Yr
eglwysi agosaf i Hirwaun oeddynt Penderyn, yn agos dair milltir o bellder; ac
Aberdâr, yn llawn tair milltir. Gadewid achos eneidiol y trigolion yn hollol
dan ofal y “pedwar enwad breiniol” – y Methodistiaid, yr Annibynwyr, y
Bedyddwyr, a’r Wesleyaid; a da oedd fod yr enwadau hyny mewn bodolaeth yno,
onite buasai sefyllfa foesol y lle yn druenus iawn. Rhydd hanes crefyddol
Hirwaun enghraifft deg, a rheswm cyflawn, dros lwyddiant yr enwadau
crefyddol, ac aflwyddiant yr Eglwys Sefydledig, ar fynyddau Gwent a Morganwg,
yn nhair rhan gyntaf y ganrif hwn {sic, = hon}.
|
|
|
(delwedd D7699) (tudalen 270)
|
(x270) Ceisiodd
Mr. Overton, perchenog y Gwaith yn niwedd y canrif o’r blaen, uno y pedwar
enwad! ac i’r perwyl hyny unodd ddau dŷ gweithiwr; gwnaeth gapel bychan
o honynt, a cheisiai gan y bobl gadw eu cyfarfodydd oll yno. Buont yn
cydaddoli felly am flynyddau; ond methiant fu yr ymgais; ac yn 1823, adeiladwyd
capeli gan y Methodistiaid a’r Annibynwyr; y Wesleyaid a wnaethont yr un modd
y 1824, a’r Bedyddwyr yn 1825. Erbyn hyn y
mae y capeli wedi eu hail, a rhai o honynt wedu eu trydydd, adeiladau. Mae
gan yr Annibynwyr ddau gapel Cymreig yno, ac un Seisnig; y Bedyddwyr yn achos
Cymreig, ac achos Seisnig newydd gychwyn. Mae amryw weinidogion galluog ac
enwog wedi bod yn gwasanaethu ar Hirwaun; ac y mae y lle wedi bod yn enwog er
cyn cof yr ysgrifenydd am ei ysgolion Sabbethol trefnus a uwchraddol. Dengys
hyny fod egwyddorion y grefydd Gristionogol, gan nad pa beth fydd enw neu
sefyllfa y gŵr neu yrenwad a’u
dysgant, yn alluog i ddwyn trefn ar y byd, o’u dysgu yn briodol. Bu pentref
(pentref gweithfaol, yn cynnwys, fel y buasai sefyllfa y fasnach ar y pryd, i
o ychydig i bum mil bobl, heb ond un cwnstabl (Hywel Bryncarnau) ac wedi hyny
un heddgweidwad, ac heb gymaint ag un Eglwys Sefydledig o fewn tair milltir)
yn gallu dangos pedair cynnulleidfa lawn o addolwyr defosiynol a phedair o
Ysgolion Sabbothol mwyaf dysglaer a dysgedig yn Ngair y Bywyd ag a fedrid
ddangos mewn unrhyw rhan o’r Deyrnas. Nid oes ynof yr awydd leaf i siarad yn
anngharedig am yr Eglwys Sefydledig a’i gweinidogion parchus; ond honi yr
wyf, yn ngwyneb eu haeriadau hwy, nad yw dwylaw esgob na braint-lythyr
Llywodraeth yn angenrheidiol er gwneyd dyn nac enwad gymhwys i ddysgu
egwyddorion y Testament Newydd. Wedi i’r Crawshays brynu y gwaith yn 1818,
daeth llewyrch gwell ar y lle mewn ystyr fasnachol; ond gadawyd y materion
crefyddol yn hollol yn nwylaw y gweithwyr a’r ychydig fasnachwyr drigent yno.
Er mai ychydig iawn wnaeth neb o’r Crawshays dros grefydd yn nghmydogaeth eu
gweithiau eang yn Hirwaun, Merthyr, a’r Forest of Dean, rhaid dweyd, er eu
clod, can belled ag y gwn i, na wnaethant ddim rhwystr i’r achos da fyned yn
y blaen. Ychydig wyddai y cwbl a adnabűm o honynt am grefydd: pentyru cyfoeth
a mwynhau y byd hwn yn y dull y tybient hwy y dylid ei fwynhau, oedd eu prif
bwnc. Yr
oedd taid perchenogion presennol Gweithiau Merthyr yn byw yn Caversham Park,
ger Reading. Llosgodd ei balas yno i’r llawr, amryw flynyddau yn ol; ac aeth
ei oruchwiliwr i Lundain ar unwaith i hyspysu ei feistr o’r anffawd. “Paid
gofidio,” ebe’r meistr, “mi a adeiladaf dŷ na fedr un gallu mewn bodolaeth
ei losgi; gwnaf ef o haiarn” (ac felly y gwnaeth). “Ond fe ddaw amser,
meistr,” ebe’r goruchwyliwr, “pan fydd y defnyddiau gan wir wres yn toddi.”
“Taw ffwl,” ebe’r meistr, “ni fydd ei eisiau arnat ti na minau y pryd hwnw!”
Dichon y dylid nodi fod capel arall wedi bod gan yr Annibynwyr ar Hirwaun,
gerllaw Heolyfelin, yn mhlwyf Penderyn. “Capel Split” oedd hwnw, adeiladwyd
gan y diweddar Joseph Harrison, yr hwn hefyd a adeiladold Salem, Aberdâr. Ni
fu rhyw lawer o lwyddiant ar “split” Hirwaun, ac nid yw yn gapel mwy. Bu Henry Price, o Benderyn, yn
cadw ysgol ynddo am dymhor; a thyna lle dysgodd yr ysgrifenydd ei “A, b-ab!”
Yr oedd amryw feddau o gylch yr hen gapel hwnw. Nid ydynt i’w gweled heddyw.
|
|
|
(delwedd D7700) (tudalen 48)
|
(x48)
::10 ENWOGION HIRWAUN
Nid rhyw lawer o enwogion gyfodwyd ar Hirwaun. Nodaf rai o honynt. Er na
chafodd ei ddwyn i fyny yn y lle, treuliodd yr enwog Thomas Gabriel Jones lawer o’i amser boreuol ymsa. Bu yn cadw
ysgol yn y lle am flynyddau, ac yma y cyfnewidiodd ei farn, ac y trodd
oddiwrth yr Annibynwyr at y Bedyddwyr. Bu yn teithio, bob pythefnos, dros y
mynydd o Hirwaun i Benyrenglyn, Cwm Rhondda, i wasanaethu y praidd bychan a
gyfarfyddent yno. Yr oedd yn ysgolor gwych, a bu wedi hyny am flynyddau yn
Athraw Clasurol Coleg y Bedyddwyr yn Hwlffordd. Efe gymerodd ran y Bedyddwyr
yn y ddadl ffol hono ar Fedydd yn Rhymni, ac a elwir byth oddiar hyny yn
“Ffair Fedydd Rhymni.” Yr oedd yn ŵr o argyhoeddiadau dyfnion; ond nid
oedd yn rhyw gymhwys iawn at y gorchwyl yr ymgymerodd âg ef yn Rhymni.
Bu yr enwog Ddoctor Stirling un gwasanaethu fel meddyg ar Hirwaun; ac y mae
yn rhyfedd can lleied o wŷr y lle sydd yn gwybod dim am ei fodolaeth. Yn
y Medical Directory am y flwyddyn 1899 ceir, yn mysg
ereill, y manylion canlynol: -
“James Hutchison Stirling, 4, Lavernock Bank Road, Edinburgh, Ll. D.
Edin. 1867; F.R.C.S. Edin. 1860; L. 1842 (Univ. Glas.): First Gifford
Lecturer, 1888-90: formerly Surgeon, Hirwain Iron and Coal Works, S. Wales.
Author of Secrets of Hegel;
As regards Protoplasm; Text Book of Kant; Darwinism; Workmen and Work,
&c., &c.”
Rhaid ei fod erbyn hyn yn rhywle o’r 80 i’r 100 oed; ac yr wyf yn synu fod y
fath dalent ddysglaer wedi cael ei goddef i fyned trwy y lle mor ddisylw.
Bu Mrs. John (“Eliza, Carmarthen”), y brydyddes
Saesneg enwog, yn byw ar Hirwaun, tra yr oedd hi yn wraig i’r Parch. Thomas John, offeiriad
y lle. Dywed Mr. D. M. Richards: - “Ystyrid hi yn un o’r barddonesau Seisnig
goreu yn Nghymru, Hefyd, yr oedd yn hynod alluog fel cerddores ac arlunyddes.
Mae marwnad Seisnig dlos iawn o’i gwaith yn Cerddi
Cystudd, ar ol yr awdwr, John Oliver.”
Cododd Mr. Davis, o’r London Warehouse, Hirwaun, ddau fab a ddaethant yn dra enwog
fel masnachwyr a gwleidyddwyr yn Neheudir Cymru; sef David Davis, o Faesyffynon,
Aberdar, a Lewis Davis,
Ferndale. Trwy ddylanwad y cyntaf o’r ddau y cyrhaeddodd y diweddar Henry
Richard sedd Senedd Prydain Fawr. Gwr talentog, diymhongar iawn, oedd “Dafis
o Faesyffynnon.” Yr oedd efe hefyd yn hynod annibynol o ran barn. Wesleyaid
selog iawn oedd y teulu, a bu yntau yn aelod o’r un cyfundeb am flynyddau;
ond yr oedd yr enwad yn rhy unffurfiol, os nad ceidwadol, eu trefniadau i
foddloni meddwl rhyddfrydig Mr. Davis am allanolion crefydd. Yr oedd yn un
o’r rhai cyntaf yn Nghymru i goleddu syniadau y “Diwygwyr Wesleyaidd; “ ac
o’r diwedd ymunodd â’r Annibynnwyr, gyda’r rhai y treuliodd weddill ei oes.
Trwy ei benderfynolrwydd di-ildio i amddiffyn yr hyn gredai oedd yn iawn,
daeth ei weithwyr yn y glofeydd ac yntau, rai troion, i wrthdarawiad anhapus;
ond gwae y sawl feiddiai osod ei ben rhyngddynt yn y diwedd. Erys ei enw yn
barchus yn Neheudir Cymru am lawer oes. Ni chymmerodd ei frawd, Lewis, ran
mor gyhoeddus fel gwleidyddwr â David; ond yr oedd yntau yn ddyn rhagorol
iawn.
Bechgyn enwog ereill anwyd ac a fagwyd yma yw ThomasWilliams, Ysw., Y.H.,
Gwaelodygarth, Merthyr, a’i ddau frawd, John a William.
Nid oes gŵr lleyg yn perthyn i’r Annibynwyr mwy adnabyddus na mwy
defnyddiol nâ Thomas Williams. Mae ei enw yn air teuluaidd yn y wlad hon ac
yn mhob gwlad lle mae bechgyn Cymru yn preswylio. Mewn llawer yotyr, dyn
cenedl yw yr ynad o Ferthyr; a chydbnebydd pawb a’i hadwaen y bydd ein cenedl
yn dlotach pan elwir arno oddiwrth ei waith at ei wobr. Chwareuodd ei frawd
John “lawer rhan,” ac yr oedd yn aelod o holl fyrddau cyhoeddus Aberdar pan
fu farw. Mae William yn ynad heddwch dros Sir Frycheiniog, ac yn aelod
defnyddiol o Gynghor Sirol gwlad Brychan. Gŵr hirben, ac yn meddu ar
farn ddiwyro, yw efe.
Ar
Hirwaun y ganwyd y Parch. Evan
Bryant, un o genadon yr Annibynwyr yn China. Yr oedd efe pan yn ieuanc yn
ganwr perlais, a bu yn un o aelodau Côr Undebol Caradog pan drigai yn
Aberdar. Can belled ag yr wyf yn cofio, efe yw yr
unig genadwr godwyd yn y dyffryn.
Yma
y ganwyd ac y magwyd y diweddar Barch. John Thomas, gweinidog y Bedyddwyr yn
Nghaerfyrddin. Can belled ag yr aeth fy sylw, ni chlywais neb o fechgyn Cymru
yn siarad, wedi cyrhaedd safle uwch uwch yn y gelfyddyd
|
|
|
(delwedd D7701) (tudalen 49)
|
(x49) araethyddol nâ John Thomas. Yr
oedd, er yn fachgen, yn adroddwr campus iawn; ac oedd yn hawdd i’r sylwedydd
craffus weled olion amlwg yr addysg adroddiadol gafodd dan ofal ei dad yn ei
araethyddiaeth ragorol yn y pulpud. Ni fedraf, trwy wybodaeth, feio y
cynorthwyon ga gwyr ieuainc Cymru yn ein colegau; ond yr wyf wedi teimlo
lawer gwaith y buasai ychydig fisoedd “wrth draed” Henry Irving, neu rywun
cyffelyb, rhwng y dydd diweddaf yn y coleg a’r dydd cyntaf yn y Weinidogaeth,
yn fantais fawr iddynt.
Er na anwyd D. E. Williams,
Ysw., Y.H., ar Hirwaun, y mae wedi treulio y rhan fwyaf o’i oes yma. Yn Aberhonddu
y ganwyd ef; ac nid oedd ond gŵr ieuanc iawn pan adawodd ei dref
enedigol; ond y mae wedi llwyddo i godi ei hun o ris i ris, nes y mae heddyw
yn un o brif ddynion yr ardal. Y mae wedi cymeryd ran flaenllaw iawn yn holl
symudiadau gwladyddol a chrefyddol y lle am o leiaf hanner can’ mlynedd. Y
mae wedi siarad ac ysgrifenu llawer dros Royalties. Mi a obeithiaf fod etto ddyddiau
lawer o’i einioes heb eu treulio, ac y bydd iddo barhau hyd y diwedd yn
ngwasanaeth ei genedl.
Rhaid peidio annghofio y diweddar Barch. William
Williams, Nebo; y Dr. R
Evans, wedi hyny o Heolyfelin a Chastellnedd; y diweddar Barch. J. R. Williams, awdwr Llawlyfr yr Athraw, a’r
gweinidogion presennol, y rhai ydynt oll yn addas ddadleuwyr dirgelion Trefn
y Cadw.
Can belled ag yr wyf yn cofio, Dafydd
Morganwg yw yr unig fardd o
nod a safle a fu yn byw ar Hirwaun erioed. Iddo ef hefyd y perthyn yr hanes o
gadw yr argraffdy cyntaf, a diweddaf, hyd yn hyn, yn y lle. Un o wyr Merthyr
Tydfil yw efe; ond bu yn byw yn Aberdar a Hirwaun cyn symud o hono i
Gaerdydd.
Ar Hirwaun y cychwynodd Mr. J.
E. George, awdwr y Peleni enwog, ei yrfa fasnachol, ac yno y bu yntau yn
byw hyd nes y symudodd i Gaerdydd, ychydig flynyddoedd yn ol.
Yr oedd Hirwaun yn enwog un amser am herwhelwyr; na boed ond eu crybwyll; ac
nid atebid un amcan da wrth eu henwi. Clywais un o honynt yn dweyd na laddodd
efe erioed unrhyw greadur ag y gallasai neb ei hawlio yn deg fel ei eiddo.
Lladdodd gannoedd o ysgyfarnogod, cwningod, adar gwylltion, a physgod; ond na
ladodd pheasant erioed, gan fod y cyfryw adar yn
costio yn ddrud i’w perchnogion.
“Dyna,” ebe fe, “ddylai fod hyd coes y Game
Law.”
::11 MANION A CHASGLIADAU
Yr oedd y Royal mail
coach yn rhedeg o
Gastellnedd i Ferthyr trwy Hirwaun, a newidid y ceffylau yn y Cardiff Arms,
yr hwn dŷ a gadwyd am flynyddau gan Mr. Moor a’i wraig. Ysgottyn oedd
efe; ond Cymraes enedigol o’r lle oedd hi, ac ystyrid hi y wraig harddaf a
serchusaf yn y lle. Bu farw’n gyfoethog.
Yr oedd cadw shop grocer neu dafarndy ar Hirwaun, gynt, yn golygu ffortiwn.
Mae amryw o honynt wedi eu gwueyd yno. - Gonest, mi a obeithiaf!
Mae Peleni Meddygol (Pills) Hirwaun, wedi “anfon eu lleferydd hyd
derfynau eithaf y ddaear!”
Ar Hirwaun y cafodd David
Tudor Evans, ysgrifenydd Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, yr hon
gynnaliwyd, ys dywedai Clwydfardd, yn “Hosan” Cwmpeini Dyffryn Tâf, ei wraig.
“Pound Mawr” Hirwaun oedd gynt y llyn dwfr mwyaf yn Morganwg. Mae cronfeydd
Caerdydd bellach wedi eu gyru i’r cysgod.
Boneddwr wedi ei eni a’i fagu mewn tafarndy yw y dirwestwr mwyaf penderfynol
ar Hirwaum.
Yn nyddiau gogoniant Hirwaun dan y Crawshays, cedwid yno ddwy ysgol, un i
blant y glowyr a’u cysylltiadau a’r llall i blant y “Gwyr Tân” (Puddlers) a’u
cysylltiadau hwythau. Paham y cedwid dwy, ni ddeallais erioed; ond yr oedd un
amser elynaieth, megys gelynaieth Iuddewon a Philistiaid, rhwng plant y ddwy
ysgol. Yr wyf yn cofio rhai rhyfeloedd o’r herwydd; ac nid yw yn debyg yr ä y
rhyfeloedd hyny o gof yr ychydig sydd yn fyw o’r rhyfelwyr!
::12 ABERDAR
Wedi dweyd y cwbl deimlwn ag sydd yn angenrheidiol am Hirwaun, deuwn yn awr i
brif dref y dyffryn, Aberdâr. Y mae gwahanol farnau am ystyr
|
|
|
(delwedd D7702) (tudalen 50)
|
(x50) yr enw. Yr wyf fi wedi dweyd fy
marn ar y mater hwn mewn rhifyn blaenorol o’r GENINEN, sef yw hyny, yn fyr,
Aberdwrderwen . Y ffurf unigol ar deri yw dar, ac unigolderw yw derwen. Cymharer Derwent Water, Gogledd
Lloegr. Dwr Derwen, onide? Felly Aberdar.
“Na’r ddâr, hono yw’r dderwen.” L{ewis} Glyn Cothi.
Yr oedd llawer iawn o’r plwyf gynt yn orchuddiedig â deri. Y mae chwedl yn y
lle y gallasai gwiwer gerdded dros frigau deri - un ochr i’r cwm - o odreu i
ben uchaf y plwyf, heb unwaith osod ei throed ar dir. Yr oedd Cwmdâr yn
neillduol felly.
Y cyfeiriad argraffedig cyntaf welais i at Aberdâr a geir yn Ngweithiau Lewys
Glyn Cothi:
“Yn goetgae gwnaeth yr holl ddaear,
O wengaer Dwnster hyd Aber Dar.”
Yn ei nodiad ar y llinellau dywed Gwallter Mechain: -
“Aber Dâr, a village in Glamorganshire. Ieuan Ddu ab Dafydd ab Owain, an
eminent poet, was a native of Aber Dâr.”
Y gwr a wnaeth y gwrhydri hyny o Dwnster i Aberdâr oedd Syr William Herbert,
mab y “Marchog Glâs o Went;” a’i fam oedd ferch Syr Dafydd Gam o Agincourt.
Syr William oedd Iarll cyntaf Penfro, o’r enw Herbert. Yr oedd yn byw yn
Rhaglan, Mynwy; ac yr oedd ei fab yn briod â chwaer brenines Edward IV.
Cafodd efe a Richard ei frawd – Richard Herbert Hir, eu dienyddio ar ol
brwydr Danes Moor.
“Y gwart ragora’ o gred
Ond o wall a lwyr golled.”
Fel y noda Gwallter Mechain, nid oedd Aberdâr, yn 1837, pan gyhoeddwyd
Gweithiau Lewys Glyn Cothi, ond “ pentref,” neu, yn hytrach, nifer o bentrefi
bychain; ond, erbyn heddyw, y mae y plwyf yn cynwys o leiaf 40,000 o
drigolion; ac ystyrir hi y dref lanaf ac harddaf o holl drefi gweithfäol
Gwent a Morganwg. Byddai ein Gweryd (Cemetery), ein Park, a’n Coleg -
St. Michael’s - hen balasdy y Fothergills, yn addurn i unrhyw dref yn
Nghymru; ac am ei heolydd, nis gellir eu gwell. Gan mai yr un enw fedd y
plwyf a’r dref, bydd yn rhaid i mi yn aml gymeryd yr holl blwyf dan gesail yr
enw, - bryd arall, y dref yn unig; a rhaid i’r darllenydd arfer ei farn. - Pa
fodd bynag, ni ddaw Hirwaun i fewn ond yn anaml o hyn allan.
::13 SEFYLLFA
GREFYDDOL Y DYFFRYN
Yr wyf eisioes wedi crybwyll am sefyllfa grefyddol Hirwaun a Phenderyn, fel na
wnaf ond nodi fod o Benderyn i Abercynon fwy na 120 o eglwysi a chapelau o
wahanol faintioli, a bod yn eu mysg achosion gan oddeutu tri-ar-ddeg o
wahanol enwadau; ond, fel y gellir barnu, y mae yn mysg y tri-ar-ddeg hyny
fwy na thri-ar-ddeg-a-chant o wahanol nodweddion proffes! Ceir yma yr
“Uchel,” yr “Hen” a’r “Newydd,” y “Caeth” a’r ”Rhydd”, a’r “ Rhyddfrydwr,”
&c., &c.; a gellir ychwanegu hanner dwsin o “&c.” etto; fel nad
oes perygl na chai y gwr â’r farn grefyddol ryfeddaf yn y byd, rywun tebyg
iddo ar lanau y Cynon. Mae yma filoedd yn proffesu proffes eu tadau, am yr
unig reswm fod eu tadau wedi ei phroffesu, heb ymholi dim er mwyn eu
cydwybodau eu hunain. Fel y dywedodd rhywun, pe buasent wedi eu geni yn
Nghanolbarth Affrica, buasent yn ganibaliaid ffyddlon a defnyddiol iawn! Ond y syndod mawr i mi yw, fod
y rhan fwyaf o honom yn proffesu sylfaenu ein cred ar addysgiadau y Testament
Newydd! (Ai nid yr Esponiwr yw tad yr amryfusedd?)
Dywed Dafydd Morganwg yn ei Hanes,
-
“Sefydliad Pabyddol oedd yr hynaf y mae genym hanes am dano yn y plwyf hwn
[Aberdâr]. Math o fynachdy bychan oedd hwnw, dan ofal Abad Mynachlog Penrhys,
Ystrad-dyfodwg. Safai ar randir Cefnpennar, ger y Ty Draw, yn ymyl y ffordd
sydd yn arwain o Aberdar i’r Cwmbach. Yr oedd peth o’r adfeilion yn weledig
yn 1800; ond saif planigfa yn bresennol lle bu’r addoldy gynt. Yr oedd ffordd
gan y mynachod o’r addoldy hwnw, dros y mynyddau i Fynachlog Penrhys; ac y
mae rhan helaeth o honi i’w gweled yn awr; a gelwir hi Rhiw’r Mynach. * * * *
Yr oedd Mynachlog Penrhys yn ei bri yn 1400; a digon tebyg mai tua’r amser
hwnw y bu llewyrch ar y sefydliad yn Aberdâr.”
Wedi dadsefydliad y mynachlogydd gan “Harri’r Gwragedd,” ac yn eu mysg
Fynachlog Penrhys, ac y llosgwyd ei hen ddelw - “Y Wyry Fair o Benrhys,” yn
Smithfield, Llundain, y cafodd Mynachdy Bach y Tŷ Draw, Aberdâr, ei
esgeuluso, ac yr adeiladwyd yr hen eglwys blwyfol bresennol. Dyddiad ei
chloch yw 1633; ond y mae yn bosibl ei bod wedi ei hadeiladu rai blynyddau
cyn hyny; a “chapel anwes” i Lantrisant y bu am oesau.
|
|
|
(delwedd D7703) (tudalen 51)
|
(x51) Yr achos Ymneillduol cyntaf a gychwynwyd yn y dyffryn oedd
eiddo yr Undodiaid: ac y mae ganddynt hwy gapel yma er y flwyddyn 1751.
Dechreuodd yr Annibynwyr, y Bedyddwyr, a’r Methodistiaid, achosion yma yn
niwedd y ganrif o’r blaen; ond ar ol yr Undodiaid, i’r Methodistiaid y
perthyn yr hanes o adeiladu y capel cyntaf; ac, yn mhen ychydig dylynwyd hwy
gan y ddau enwad arall. Adeiladwyd capel cyntaf y
Methodistiaid yn 1806, a chapeli cyntaf y ddau enwad arall yn 1811. Erbyn
heddyw, yr Annibynwyr a’r Bedyddwyr yw y ddau enwad lluosocaf yn y dyffryn o
gryn lawer. Daeth yr achosion ereill, fel hwythau, i fodolaeth fel yr oedd
barn grefyddol y preswylwyr yn hawlio. Yn mlynyddau canol y ganrif bu yn y
plwyf lawer o Formoniaid; ond nid wyf yn credu fod yma nemawr o honynt
heddyw. Mae y Salvation Army yn parhau i ysgrechian ar hyd yr
heolydd, er eu bodlonrwydd eu hunain yn ddiau; a dywedir eu bod yn gwneyd
llawer iawn o ddaioni; mae yn eithaf possibl eu bod; ond mi a wn eu bod yn
gwneyd llawer o ddrwg mewn ystyr gerddorol i blant y lle, gan eu bod hwy â’u
cyrn bob amser yn canu “allan o diwn”, a bod y plant yn dysgu eu halawon yn y
seiniau oerllyd ac arswydus hyny! Nid oes ynof y duedd leiaf i geisio eu
rhwystro i wneyd yr hyn a alwant hwy yn “bregethu” ar hyd yr heolydd; ond y
mae yn rhaid i mi wrthdystio yn erbyn cael fy ngorfodi wrando ar yr hyn a
alwant yn “ganu,” ddwy a thair gwaith yr wythnos, o fewn ergyd careg i’r lle
y trigaf.
Mae eglwys Seisnig canol y dref, yr hon a adeiladwyd yn 1851, yn adeilad eang
a phrydferth. Dywedir y deil tua mil o wrandawyr. Mae iddi dŵr pigfain,
yn cyrhaedd rhyw 189 o droedfeddi i entrych nen: ac y mae ynddo awrlais
rhagorol, ac wyth o’r clychau pereiddiaf yn y Deheubarth beth bynag. Dyma yr
unig adeilad gwerth yr enw, pe cawsai Ruskin ddweyd ei farn am danynt, yn y
plwyf. Yr oedd yr eglwysi haiarn yn ei boeni ef yn dost! Mae adeiladwyr capelau
yr Anghydffurfwyr yn y plwyf, er eu bod yn codi tâl parchus am eu gwaith, fel pe buasent
wedi ymdynghedu i wneyd agwedd allanol eu castelli mor annghelfydd a salw yr
olwg ag y mae yn bosibl, hyd yn nod i ddynion cyfarwydd mewn lledchwithdod felly
wneyd! Mae “careg enwol” y capel wyf fi wedi fynychu am yn agos hanner can’
mlynedd, ryw chwe modfedd o’r fan y dylai fod, nes y mae, bob amser y gwelaf
hi, yn fy mhoeni yn fawr.
Mae unffurfiaeth trefn addoli yr Anghydffurfwyr yn cadw cannoedd o’r gwasaneath
Sabbothol ac wythnosol. Ar y Sul mae “ysgol am
naw, cyfarfod pregethu am unarddeg.” Yn hwnnw, cenir, darllenir, cenir,
gweddďir, pregethir, a rhenir y testyn i “yn gyntaf, yn ail, yn drydydd,” ac,
weithiau, “yn bedwerydd ac yn bumed.” Gweddďir, cenir, ac eir i giniaw. Felly
hefyd y prydnawn pan bregethir, a’r nos! ac yna eir i swper! Dyna, yn ddiau,
pa beth yw unffurfiaeth
Anghydffurfiol! Pa le mae’r
Diwygiwr? “Deffro! y mae yn ddydd!”
::14 “TOMOS Y CRYDD” A’R SABBOTH
Pe bai “fater o faw am hyny,” nid Tomos oedd ei enw; ond gan fod rhai o’i
wyrion yn byw yn Aberdâr heddyw, pe rhoddwn ei enw priodol dichon y doluriwn
eu teimladau; felly, Tomos y gelwir ef. Cofnodir y chwedl er mwyn dangos
amryfal farnau crefyddol ar y pwnc, ac nid er diystyrwch i goffadwriaeth y gŵr
da a enwir. Yr oedd yn ŵr neillduol o grefyddol; ond ai i bellafoedd
daear a nefoedd hefyd, ar y pwnc, am a wn i, ar rai pynciau o athrawiaeth. Yr
oedd ganddo wrthwynebiad llwyrdduwiol i’r brodyr dâ a alwai Brutus yn
“Jacks,” er fod ganddo frawd yn ol y cnawd yn hollol deilwng o’r enw; ond yn
ei gysylltiad â hwnw medrai “faddeu pechodau!” Ryw foreu “Dydd Sul,” yr oedd
ei weinidog yn pregethu ar y “Sabbath Iuddewig.” Fel arfer, bu y gŵr
parchedig yn “hir” iawn; a chan ei bod yn dra oer, methodd Tom wrthod y
demtasiwn, a llyncodd y Sabbath Iuddewig yn ei grynswth, heb saws, halen, na
dim o’r cyfryw. Aeth adref yn feichiog o’r “Hen Sabbath,” a gwrthododd fwyta
ciniaw, am fod ei wraig wedi ei “chwcan” (coginio) ar y Sabbath! Rhoddodd orchymyn “at wanst” nad oedd dim gwaith i gael ei gyflawni yn
y tŷ hwnw ar y Sabboth o hyny allan! Yr oed dyn rhaid darparu y ciniaw y
dydd blaenorol. “Ond beth am danu y gwelyau?” gofynai y wraig. “O,” ebe Tom,
“rhaid i bawb gysgu yn eu gwelyau fel y gadawsant hwy yn y boreu!” “Eithaf
da,” ebe’r wraig, “ysgafnha hyny waith Mari a minau.” Daliai Tom ran o werth cant punt yn
Nwfr-weithiau cyntaf Aberdâr, er y cychwyniad, cyn i’r Bwrdd Iechyd eu prynu.
Cawsai lôg da arnynt, a theimlai gryn ddiddordeb yn hanes y Dwfrweithiau.
|
|
|
(delwedd D7704) (tudalen 52)
|
(x52) Yr adeg y soniwn am dani cafwyd
gauaf oer a rhew trwchus. Cyn y gallasai Tom ganu gyda Huw Morus,
“Ar ol y gauaf garw,
A’r rhew yn hollti’r derw,
Mi welais ddail ar fedw
Yn arwydd hoew haf,”
drylliodd ei bibell ddwfr ger drws ei gegin, a hyny pan oedd y teulu yn
paratoi i fyned i’r cyfarfod chwech nos Sul. Rhuthrai y dwfr allan gyda’r
penderfynolrwydd mwyaf digywilydd! ar draws y celfi a phopeth arall feiddiai
ddyfod o “hyd cyrraedd iddo!” Galwyd yn nghyd “gynghor rhyfel;” a gofynwyd i
“Dafydd y Tŷ nesaf” gynorthwyo. Pan ddaeth Dafydd, gwelodd sefyllfa
pethau ar unwaith, dychwelodd i’w dŷ, a dygodd forthwyl i’r “cynghor,”
â’r hwn y dofodd ffyrnigrwydd y dyfroedd mewn ychydig eiliadau.
Yr oedd Tom a Dafydd wedi dadleu llawer iawn ar “bwnc y Sabboth;” ond o hyny
allan nid oedd eisiau i Dafydd ond son am ei forthwyl er mwyn cael taw ar
Tom! “Asyn neu ych,” &c. Dywedir, ond nid wyf yn sicr fod hyny yn wir,
mai ofn i lyn dwfr y Dwfr-weithiau redeg allan drwy ei dŷ ef, ac y
buasai yn colli llôg y cant pant y flwyddyn hono, berodd iddo ganiatau i
Dafydd ddefnyddio ei forthwyl! Ond dyn y morthwyl oedd meistr y sefyllfa o
hyny allan.
|
|
|
(delwedd D7705) (tudalen 270)
|
(x270)
::15 HELYNT GWLEIDYDDOL Y DYFFRYN
Yn y flwyddyn 1832 – blwyddyn y Diwygiad - y crewyd Bwrdeisdref Merthyr;
ac er y flwyddyn hono y mae Aberdâr wedi bod rhan o honi. Yr aelod seneddol
cyntaf dros y fwrdeisdref hono oedd Mr. (wedi hyny Syr) J. J. Guest, prif berchenog
Gweithiau Dowlais . Bu “Meurig y Cyfreithiwr,” ys dywedai gwyr
Merthyr, o’r haerllugrwydd i ddweyd y buasai yn ceisio dwyn y sedd oddiar Mr.
Guest yn 1835; ond, am y tro cyntaf yn ei oes, daeth Mr. Meurig i wybod barn
yr etholwyr am dano; a bu yn falch o gael cyfleusdra i ymneillduo o’r ornest,
ac, yn mhen ychydig, i farw! Nid oedd efe yn ŵr parchus gan y bobl. Yn y flwyddyn 1837 daeth yr henBruce Pryce, tad y sedd oddiar
Mr. Guest. Ni phleidleisiodd ond 443 yn yr etholiad hwnnw, a chafodd Mr.
Guest 308 o honynt. Yn niwedd 1852 bu farw Syr John Guest; ac etholwyd Mr.
Bruce, wedi hyny Arglwydd Aberdâr, i lanw ei le. Cadwodd efe i sedd hyd 1868,
pan y collodd hi. Meddai ar farn hynod annybynol, yr hyn yn y diwedd fu yn
achos iddo gael ei wrthod gan yr etholwyr. Aelod dros Henry Austin Bruce (efe ei hun) oedd efe, ac nid dros y
fwrdeisdref. Daeth ei ddiystyrwch o farn yr etholwyr yn annyoddefol iddynt
hwy, a dewisasant ŵr dinod fel gwleidyddwr yn ei le, sef Mr. R. Fothergill. Yr adeg hono y
rhoddwyd aelod ychwanegol i’r fwrdeisdref; a thyna yr adeg yr etholwyd y
diweddar Henry Richard fel aelod seneddol y tro cyntaf.
Cafodd eia 11,683 o bleidleisiau; Mr. Fothergill, 7,430; a Mr. Bruce, 5,776.
yn y flwyddyn 1874 cafwyd etholiad cyffredinol arall; a daeth Thomas Halliday, un o brif
arweinwyr y glowyr yn y parthau hyn y pryd hwnw, i geisio dwyn un o’r seddau;
a phe buasai y gweithwyr yn weddol unol gallasent ei rhoddi i’w blaenor yn
ddidrafferth iawn. Yn 1880 galwyd arnom i ethol un yn lle Mr. R. Fothergill.
Daeth yr hen aelod, Mr. Richard; Charles
W. Thomas, cyfreithiwr, o Ferthyr; a Syr
W. Thomas Lewis, Aberdâr, allan; a chipiodd Mr. Richard a’r twrnai y
seddau. Yn y flwyddyn 1888 rhoddodd Mr.
James i fyny ei sedd; ac,
yn ddiwrthwynebiad, etholwyd Mr. D.
A. Thomas, yr aelod “hynaf” presennol, yn ei le.
Yn Awst yr un flwyddyn -1888 - bu farw ein hen aelod parchus a bydenwog Henry
Richard, ar ol rhoddi i ni wasanaeth ardderchog a difwlch am y tymhor maith o
ugain mlynedd. Anerchai ei etholwyr yn eu hieithoedd eu hunain – Cymraeg a
Saesneg; a phob amser gofalent hwythau ei osod ar ben yr etholres. Daeth dau ŵr
dyeithr yn y fwrdeisdref i geisio ei sedd, sef R. Foulkes-Griffiths,
bar-gyfreithiwr o Lundain, ond yn wreiddiol a ardal Llangollen, a
chyn-bregethwr gyda’r Bedyddwyr; a W. P. Morgan, “aur-frenin Sir Feirionydd.”
Daeth yr “enwadau” i wybod mai Bedyddiwr oedd Griffiths; ac er nad oedd y
ddau yn meddu unrhyw liw gwleidyddol na chrefyddol y pryd hwnw, dewiswyd ef!
Yr wyf yn credu fod y rhan luosocaf o etholwyr y fwrdeisdref yn proffesi rhyw
fath o grefydd; a dyma y canlyniad! Bydd yn rhaid i “enwadaeth” y dyffryn
ateb am lawer o ysgelerderau cymdeithasol heblaw hyn. Pe edrychem yn ol dros
hanes ein byrddau cyhoeddus yn y dyffryn o’u cychwyniad hyd heddyw, y mae
“enwadaeth” yno bob amser yn rampant!
Y mae wedi cadw y Beibl yn llwyr o addysg ein hysgolion byrddol am lawer o
flynyddau; ac y mae miloedd o blant “wedi mynd trwy ein hysgolion yn
llwyddiannus,” na wyddant y peth nesaf i ddim am y Beibl! “Yn yr Eglwys ac yn
yr Ysgol Sul y mae dysgu y Beibl a chrefydd i’r bobl,” ebe y gwrthwynebydd.
Ië, fy nghyfaill; ond cofia fod yn “rhaid dal yr ysgyfarnog cyn cyn dechreu
coginio!” Mae y rhanau o’r Beibl a ddysgais i yn yr ychydig ysgol ddyddiol
gefais, ar fy nhof yn fwy perffaith heddyw na dim ddysgais wedi hyny. “Dogma,”
yn wir; ni chlywais i son am dogma yno o gwbl. Y pwnc mawr genym
oedd darllen a dysgu yn gywir y rhanau ofynid i ni; ac nid oedd son am
“esponio”. Daeth yr “esponio” i fy mhoeni i yn mhen blynyddau wedi hyny. Pe
dysgid i blant yn eu diniweidrwydd cynhenid, cyn i’r “penny horribles”
ddyfod i’w dwylaw, yr hanesion dihysbydd eu prydferthwch a geir yn yr
Ysgrythyr, byddai llai o inffideliaid yn y byd; a byddai y byd yn sicr o fod
yn well o hyny. Nis gellir profi fod yr anffyddiwr wedi ychwanegu y mymryn
lleiaf at ddedwyddwch yr hil ddynol.
Yr etholiad nesaf gawsom oedd yn Ngorphenaf, 1892, pan ddaeth B. F. Williams, y
bar-gyfreithiwr enwog, allan i geisio dwyn un o’r seddau. Arddangosfa wael
iawn wnaeth efe yn yr ymdrech. Cafodd D.
A. Thomas
|
|
|
(delwedd D7706) (tudalen 271)
|
(x271) 11,948 o bleidleisiau; a dyna y
nifer fwyaf gafodd unrhyw ymgeisydd yn y fwrdeisdref erioed. CafoddW. P.
Morgan 11,756 a B. F: Williams 2304.
Yn y flwyddyn 1895 y cafwyd yr etholiad nesaf. Daeth pedwar ymgeisydd allan y
tro hwn, sef y ddau hen aelod, a H.
C. Lewid, Ysw., mab hynaf Syr W.
T. Lewis; ac Allen
Upward, y Ffughanesydd; ac er i Mr. Lewis gael 6,525 o bleidleisiau
cadwyd eu seddau gan y ddau hen aelod – Thomas gyda 9,250 o bleidleisiau, a
Morgan gyda 8,854. Ni chafodd y ffughanesydd ond 659!
Yr etholiad diweddaf gawsom oedd ar yr ail dydd o Hydref, 1900, pan y
llwyddodd Ysgottyn a’i enw James
Keir Hardie i gipio yr ail
sedd, ac y taflwyd pleidleisiau fel y canlyn: - D. A. Thomas, 8,595; J. Keir Hardie, 5,745; W. P. Morgan, 4,004: Wele!
llwyddodd y Llafurwyr yn y fwrdeisdref o’r diwedd i gael dyn o’u dewisiad eu
hunain. Mae y ffaith ei bod wedi ei ddychwelyd yn hollol ddybynol ar eu
pleidleisiau eu hunain, yn eglur ddangos fod cyfnod newydd wedi gwawrio
arnynt. Dylasai fod wedi gwawrio flynyddau yn gynt; a syna llawer heddyw pa
fodd y llwyddodd yr hwn a daflwyd allan, i ddal y sedd am gynnifer o
flynyddoedd. Nid oes genyf fi ddim i’w ddweyd am yr aelod newydd, ond ei fod
yn ymddangos dipyn yn “gornelog.” Hefyd, dichon na wnaf un drwg wrth alw sylw
y cyfeillion at y ffaith fod genym ni yn neheubarth y Dywysogaeth ddynion ag
y mae darpar eu haddysg yn amlwg ar gyfer y Senedd: arweinyddion y gweithwyr
ydynt, ac y maent, gan mwyaf oll, yn gneyd hyny i fodlonrwydd. Na chaffed yr
hen ragfarn a gynnwysa y frawddeg, “Onid hwn yw mab y saer,” ddallu y
gweithwyr pan geir yr etholiad cyffredinol nesaf. Mae o leiaf “seithwyr da eu
gair” at ein gwasanaeth yn Mynwy a Morgannwg.
::16 GWEITHIAU HAIARN Y DYFFRYN
Mae o leiaf un-ar-ddeg o weithiau haiarn wedi bod yn Nyffryn Cynon, sef,
“Ffwrnes y Gam,” “Ffwrnes Cae Luce,” hen weithiau Cwmdâr, Cwmaman, y Dyffryn,
a. Llygad Cynon. Hen weithiau bloomaidd oedd y rhai hyn; a thoddid yr
haiarn â golosgoed. Yn ngweithiau Hirwaun, Llwydcoed, Abernant, Gadlys, ac
Aberaman, toddid ef â glo a cheryg calch. Nis gwyddys pa bryd y cychwynwyd
nac y terfynwyd nemawr o’r hen ffwrneisi bloomaidd;
ond y mae gweddillion y cwbl o honynt wedi bod yn amlwg, mewn rhyw fodd neu
arall, hyd yn ddiweddar. Bu y pump gwaith diweddaf a enwyd yn cyflogi
rhyngddynt, filoedd o weithwyr am flynyddau lawer; ac y mae genyf yr awdurdod
uchelaf dros ddweyd y buasai Gwaith Haiarn Abernant wedi ei droi yn waith dŵr,
ac yn cyflogi miloedd o weithwyr, heddyw, oni buasai strike ffol yr haiarnweithwyr, ugain
mlynedd yn ol! Heddyw, nid oes bwys o haiarn na dűr yn cael ei wneyd o fewn y
plwyf. Ceir pennod ddyddorol ar Haiarnfaoedd Aberdâr, gan Dafydd Morgannwg, yn ei Hanes
o’r sir. Tybiaf ei bod bellach yn llawn bryd gofyn i’r bardd am roddi i ni
ail-argraffiad o’i lyfr, gan nad oes modd cael copi o’r argraffiad cyntaf “am
gariad nac arian.” Pa beth ddywed y cyfaill am hyny?
::17 GWEITHIAU GLO Y DYFFRYN
Dywed Dafydd Morganwg:
- “Nid yw yn hyspys pa bryd na chan bwy y dechreuwyd cloddio am lo yn y plwyf
hwn; ond ceir hanes fod yma rai leflau tua’r flwyddyn 1750. Gallwn nodi
pedair:
1. Lefel Penrhiwllech, yr hon sydd ger amaethdy Penrhiwllwch, yn Nghwm Dar;
ac y mae ei genau i’w weled yn bresennol.
2. Lefel y Bryn Gwyn, neu ‘Lefel y Bechgyn,’ yr hon sydd ar lechwedd y mynydd
rhwng y Lluesttai Llwydion a Hirwaen. Mae genau hono wedi cau yn bresennol.
3. Lefel y Garn, heb fod yn mhell oddiwrth Ffwrnes y Garn, yn Rhandir
Llwydcoed (Nodyn gan Jenkin Howell: Y “Dyllas” y gelwir yr hen lefel, yr hyn, fel y tybiaf, yw yr enw
Cymraeg am lefel.)
4.
Lefel Penar, yn Rhandir Penar, ar lechwedd y mynydd uwchben y Cwmbach.”
Erbyn heddiw y mae yn y plwyf 30 o byllau glo mawrion, trwy y rhai y codir
miloedd lawer o dunelli o’r trysor du bob blwyddyn; a gyrir ef i bob rhan o’r
byd gwareiddiedig; ac y mae o leiaf dair rhan o bedair o’r deugain mil
trigolion breswyliant y plwyf yn byw yn uniongyrchol arno! Anfonir y dunnell
ddiweddaf o lo oddiyma rywbryd; ac os na ddaw rhyw ffordd newydd i wneyd
cyfoeth yn yr hen dref anwyl,
“Drych o dristwch fydd edrych drosti!”
::18 PRIF AFON Y DYFFRYN
Fel y nodwyd yn barod, o Benderyn hyd ei huniad ag Afon Tâf, Cynon yw ei henw; a llwnc hithau ar ei
thaith amryw nentydd, a dwy afon, sef
|
|
|
(delwedd D7707) (tudalen 272)
|
(x272) Nant
Cadlan, Nant y Deryn, Nant y Deri, Nant Hir, Nant yr Hwch, Nant y Wenallt,
Nant y Groes, Nant Penar; Afon Dâr ac Afon Aman. Ebe Michael Drayton: -
“That Rhymney, when she saw these gallant nymphs of Gwent
On this appointed match were all so hotly bent,
Where she of old had parted as a mound
The Monmouthian fields and Glamorgan ground
Intreats the Taff along as gray as any glass
With whom clear Cynon comes a lusty Cambr
ian lass,
A “lusty (gwyneb-ddysglaer) Cambrian lass” oedd hi hyd
nes llychwinwyd ei gwyneb glân gan lwyd-ddwr masnach y dyffryn. O’i cymharu â
rhai o afonydd ereill y Deheubarth, nid yw ond bechan; ond yr oedd gynt yn
dra enwog am ei brithyllod; a dywedir fod eogiaid yn dyfod i fyny i “gladdu”
ynddi. Gyda y gyfundrefn ardderchog o ddyfr-ffosydd feddwn dylai fod felly yn
awr. Paham na orfodai ein hawdurdodau trefol a phlwyfol ein glo-berchnogion
ac ereill i anfon ei drewddwr i’r dyfrffosydd, sydd anesponiadwy i mi. Nis
gall dim harddach basio trwy ddyffryn nag – afon glir, ddofn a gloew.
Rhaid i mi ddiolch yn galonog i fy hen gyfaill barddol a beirniadol Dafydd
Morgannwg am yr englynion canlynol, y rhai a roddant ddarlun rhyfeddol gywir
o’r hen afon: -
::19 AFON CYNON (ENGLYNION GAN DAFYDD MORGANWG)
I Afon Cynon canaf – a’i hylif
Grisialog
ddilynaf
O’i glân ffynonell bellaf,
Nes rhed hi’n hoenus i’r Taf
O’r Sychbant, yn nant fain hir, - i’w Hogof
Greigiog,
â ddwy filltir;
A’i “Llygad” alluogir
I groni hardd ddeifryn ir.
Cadlan ewyna’n heinif – i eigion
Y
“Llygad” yn grychlif;
Hynod o lân una’u dau lif
Yn eu hoff redle’n un ffrydlif.
O’r “Llygad” treigla, trwy eglur - weini
Ar
wyneb hoff Natur;
Ac iesin, er ein cysur,
Hi lifa’n bert elfen bur.
O’i bro iachus yn ngwlad Brychan – yn siongc
Nesâ i
wlad Forgan;
Ar hyn, halogir anian
Ei bywiog, wlyb wyneb glân.
Trwy Hirwaun try i waered – ar ei hynt,
Llyfa’r gro
wrth fyned;
Ac wele, dros lwybr caled,
I’w Haber hoff heibio rhed.
Afon Dâr a ŷf yn deg – a’r Aman
Rymus ŷf
yn chwaneg;
I grych hon egyr ei cheg –
Y Ffrwd a gaiff ar redeg.
Yna rhed yn llon a rhydd – yn ei chafn,
Drwy’i
chwm. rhwmg dau fynydd
Banog, gan frysio beunydd
I fynwes y Dâf nos a dydd.
Rhydd gân fwyn, Wanwyn a Haf, - rhaiadra
Yr
Hydref a’r Gauaf;
Ond taw ei halaw olaf
O fewn twrdd hen Afon Taf.
|
|
|
(delwedd D7708) (tudalen 270)
|
(x270)
::20 NEILLDUON IEITHYDDOL ABERDAR
Y mae rhai pethau rhyfedd yn perthyn i dafodiaith trigolion gwreiddiol
Aberdâr ag ydynt, fel y tybiaf, yn werth sylw. Rhoddant sain lled anhawdd ei
darlunio i’r a. Rhywbeth
rhwng y sain arferol ag ea ydyw; ond rhaid eu clywed hwy eu
hunain yn ei seinio cyn y gellir ffurfio meddylddrych cywir amdani. Ni seinir
y llythyren hono bob amser felly, chwaith. Clywir hi mewn geiriau unsill,
megys tân, mam, tad, cân, &c.; ac yn sill ddiweddaf rhai geiriau
lluossill yn unig, megys Aberdâr, santeiddhâd, mwynhâd,
&c. Rhoddir ei sain arferol i’r a gyntaf yn Aberdâr; ond seinir yr ail
fel y nodais.
Terfynir agos yr holl eiriau a derfynir âg e yn Sir Gaerfyrddin, âg a yn Aberdâr; gan yr hen drigolion,
fel y nodais yn barod, wrth gwrs. Ceir y terfyniad ws yn ei holl ogoniant yma; a dywedir
mai i wraig o Aberdâr a gurasai ei gŵr y cyfansoddwyd yr englyn
adnabyddus-
······························“Yn awr y cwnws i’r nen - ei phastwn
········································A ffustws ei gefen;
······························Cnocws, tolcws ei dalcen, -
······························Pan waeddws, baeddws ei ben.”
Nid yw yr englyn wedi cael ei fwriadau i ddynwared dim ond yr olddodyn ws, gan y seinir cefen yn “gefan”, a thalcen yn “dalcan,” yma.
Seinir y cydseiniaid yn galed iawn: “tepig,” “atarn bach,” “catw,” “pwtu,”
“cyscu,” “doti,” “tryplu,” &c. Seinir y terfyniad ion yn on, fynychaf: - “dynon,” “llwyton,”
“polon,” “gwynon.”
Ni seinir yr dd yn cerdda,
cerdded: “cera” (imperative,
go, - dos), “cerad” (to
walk).
Ni seinir yr w ar ôl yr ch yn y geiriau chwi, chwithau; “chi,”
“chithau,” ydynt bob amser.
Yn anaml iawn y seinir ch ar ddechrau geiriau, megys
chwant, chwerthin, chwareu, chwerw, chwaer, &c.
Troir y chw yn wh; a “wherthin,” “whara,”
“wherw,” “whant,” “whâr,” fyddant felly. “Mari’n whâr” fydd Mari fy chwaer.
“Wheigen” yw chweigen.
Maent yn hoff o arfer w ar derfyn eu brawddegau: “Own i’n
cretu dy fod ti yn well bachan, w!”. Tua chymdogaeth Brynaman a Chwmtwrch,
“w’r” fydd; ond “w” yn Aberdâr.
Yma
hefyd y ceir y gair “shaw” gyntaf yn rhanau uchaf y sir. Ei ystyr yma yw llawer.
Yr wyf wedi sylwi fod llawer o wyr ieuainc y lle yn troi i yn y mewn rhai geiriau, megis minau
yn “myna,” tithau yn “tytha!” Yn ddiweddar y daeth y clefyd hwn i’r lle; a
genedigol yw o rannau gorllewinol y sir, ac o Sir Gaerfyrddin. Un o
berthynasau “Ië’n y wir yne”
Dyffryn Tawy ydyw.
Try “bachgen” Dyffryn Tawy, “bachgan” Glynnedd, yn
“bachan” yn Aberdâr.
Mae yr Aberdâriaid yn hoff o arfer yr h mewn lleoedd na ddylent yn aml. Dyma
frawddeg glywais yn yn dylifo dros wefusau un o’r gwreiddiolion, dro yn ol: -
“Mae’n hanawdd iawn pido hufad y petha meddwol yma, os
byddwch wedi harfar
llawar a fa!”
Seiniant “ar ucha” yn “acha”: -
“Fi welas i ddyn yn myn’d i lan sha Byrdâr acha ceffyl y bora ‘ma!”
“Ma’n nhr’od i’n dost; w’ i wedi damshal acha h’arn po’th!”
Mae gan ieuenctyd y lle ffordd ryfedd iawn i ofyn cwestiynau yn naill i’r
llall. Pan ddysgwyliant ateb cadarnhaol, gofynant - “Nace fa chi nath hwna, Dafydd?” “Ia, ďa;” ond
pan ddysgwyliant ateb nacaol, gofynant, “Nace fa chi gnath a, ond nace fa, Dafydd?”
“Nâce.” Dywedir fod ffordd gyffelyb i ofyn cwestiynau o’r fath gan yr hen
Roegiaid.
Ant “i műwn i’r ty;” “i’r lan i’r mynydd;” “catw shop a chatw mwstwr;” “rhâs
gyffyla a rhâs mwlsod.”
“Shwd y’ch chi heddu?” yw y cyfarchiad yma.
“Stwro a mwstro” (to stir and to muster) sydd ddau air a arferir yn aml yma.
Arferant yr sh Seisnig, megys ag y gwneir bob amser
yn y Deheubarth, mewn geiriau megys shilling.
“Shon a Shani Shincyn,” a chwarddant wrth glywed rhai Gogleddwyr yn methu ei
seinio. “Dishgyn,” “plyshgyn,” “dishgloff,” “dewishwn,”
&c.
Ond un o’r llygriadau geiriol rhyfeddaf wn i am dano yw jofadd (dyoddef), a glywir yn Aberdâr a
rhanau ereill o Forganwg.
Nid yw trigolion y lle hwn yn alluog ond yn anfynych i wahanaiethu rhwng oll ac holl. Ceir ganddynt “y dynion holl,” a’r “oll wlad!”
Gair sathredig a glywir yn aml iawn yn Aberdâr, a rhanau ereill o Forganwg,
yw “shimpil” (simple), ond a olyga yma
gwael (mean).
“Dyn shimpil iawn yw a” - (he is a very mean man).
“’Does gen i gynnyg i ddyn shimpil, bachan: mae yn well gen’ i drafod clawd
o’r hannar.”
Dyna air rhyfedd arall - “clawd,” am tlawd!
|
|
|
(delwedd D7709) (tudalen 271)
|
(x271)
::21 “BYRDÂR” A’I “NEISHAD BOC”.
Aeth un o wyr Byrdâr i Eisteddfod Genedlaethol ddiweddaf Caernarfon, a
chollodd ei facin llogell, ei facin boced, ei gadach llogell, ei neisied
boced, ei neisied boc, ei gadach trwyn, ei hancishar boced, &c., &c.
Penderfynodd fyned i un o fasnachdai y dref i “speculatio,” ac yno aeth at y
brydferthaf o’r gweinyddesau. O, ďe; mae llygad a fedr fawrygu y y prydferth
gan Byrdâr – “No wine from a grim-looking menial,” ys dywedai Mendelsohn,
iddo ef! A bu yr ymgom ganlynol rhyngddynt: -
Byrdâr – “Isha nisha boc.”
Y Weinyddes – “Be
ddeydsoch chi?”
Byrdâr - “Isha nisha boc.”
(dipyn yn chwerw).
Y Weinyddes – “Dachi’u deall
Sasnag?”
Byrdâr – “Otw bűsűwr:” (yn
chwerwach!)
Y Weinyddes – “Gyfynwch
yn Sasnag.”
Byrdâr – “I wans a pocad
hankishar?” (yn chwerwch fyth!)
Ni ddeuai hyny â’r mater “i lawn deg oleuni dydd;” ond dygwyddai Hwntw arall fod
yn bresenol, yr hwn sydd yn “deall gwybodaeth,” a’r hwn hefyd fedr rai o
ddirgelion ieithyddol y ddwywlad. Trwy dewdra anarferol ei ddysg ef tynodd y
weinyddes garedig a “Byrdâr” allan o’u trybini! cafodd Byrdâr ei “nisha boc,”
a Mary Jane ei hanner coron! Mae “rhai angelion gwarcheidiol” felly yn
“croppo fyny” bron yn yr adeg y golygwyd iddyt ymddangos yn y byd! Bendith!
|
|
|
(delwedd D7710) (tudalen 174)
|
(x174)
::22 DARLLENFA GYHOEDDUS ABERDAR!
Bydd yn naturiol i’r darllenydd sydd yn gwybod rhywbeth am y dref, chwerthin
pan ddarllena y penawd, gan nad oes yma yn bresenol ddarllenfa gyhoeddus o
gwbl. Mae yma dri chlwb ag ynddynt amryw lyfrau; ond dim cyhoeddus ar lun
darllenfa. Pan agorwyd y Neuadd Ddirwestol - rhyw dair neu bedair blynedd a
deugain yn ol, mwy neu lai - ardrethwyd ynddi ystafell gyfleus yn y cornel
de-orllewinol, ac agorwyd ynddi ddarllenfa. Teimlai prif foneddigion yr ardal
ddyddordeb yn y mudiad. Yr oedd genym foneddigion yn Aberdar y dwthwn hwnw; ond,
ys gwaeth yr oedd, mae y limited
liability companies wedi
gyru y boneddigion o Aberdar. Mae perchenogion ein gweithiau glo ni yn awr yn
byw braidd yn mhob rhan o’r deyrnas. Heblaw Arglwydd Aberdar a Syr W. T. Lewis,
nid oes genym neb a fedr hňni hawl i’r enw. Anfonodd y boneddigion
crybwylledig bob un ei ddogn o lyfrau i’r ddarllenfa newydd, ac un o honynt
argraffiad cyflawn o’r“Encyclopcedia Britannica”. Telerau aelodaeth yn
y ddarllenfa hono oedd hanner coron y chwarter. Telais fy hanner coron, a
chefais y pleser mawr, i mi y pryd hwnw, o weled holl gyfrolau y gwaith
rhyfeddaf yn yr oes ei hargraffwyd, y tro cyntaf. Codais ddarllenfa newydd
Aberdar yn un o’m “castelli awyrol”, a phenderfynais fwyta (yn ystyr y
Datguddiad) bob llyfr yn yr adeilad. Darllenais yno holl draethodau Arglwydd
Bacon, “The wit and wisdom of Queen Elizabeth”, a rhai o nofelau Syr
W. Scott a Charles Dickens; ond yn hollol annysgwyliadwy i mi, beth bynag,
diflanodd y ddarllenfa fel cicaion Jonah, a “lle ni chafwyd iddi yn Aberdar
byth mwy.” Mae yn rhaid fod y ddaear wedi ei
llyncu! “Ond pa ddrwg?” Wn i ddim! Pa beth ddaeth o’r llyfrau? Wn i o hyny,
ychwaith!
Gwnawd ymgais yn mhen blynyddau i osod Cyfraith y Darllenfeydd Rhyddion mewn
grym ac ymarferiad yma; ond methwyd! Mae tref Aberdar, fel math neillduol o’r octopus (octupus vulgaris), yr hwn
sydd yn meddu breichiau nerthol rhyfeddol iawn: unwaith y llwydda, i osod ei
frechiau o amgylch unrhyw greadur byw, gall y creadur hwnw ffarwelio a’i
anadl einioes. Felly Aberdar! “Breichiau” Aberdar ydynt Hirwaun, Llwydcoed,
Cwmdar, Heolyfelin, Cwmbach, Abercwmboy, Aberaman, a Chwmaman; ac y mae digon
o nerth (pleidleisiol) yn y breichiau hyny i ladd holl amcanion y dref. Dyna
glod i’r breichiau yw cadw Aberdar heb ddarllenfa! Mor wahanol yr ymddyga
trigolion Caerdydd! Wrth bob ymddangosiad, bydd y dref fywiog a blaenllaw
hono yn fuan yn alluog i ddangos un o’r darllenfeydd mwyaf ardderchog yn y
deyrnas; ac y mae casglu llyfrau Cymreig, hen a diweddar, yn un o brif
amcanion awdurdodau Caerdydd. Mae yno eisoes rai ysgrifau a chyfrolau na
cheir mo’nynt mewn unrhyw le arall ar “wyneb tňn daear.” Pe buasai Aberdar
wedi dal yn y blaen o “ddydd pethau bychain” ddeugain mlynedd ol, gallasai
fod yn y cyfeiriad hwn heddyw “yn enwog yn mysg y llwythau:” yn lle hyny,
dim!
::23 CYMERIADAU HYNOD
Ceid, a cheir, yn Nyffryan Cynon, fel yn mhob lle arall o gyffelyb
faintioli ac o rifedi trigolion, amryw ddynion o iaith ac ymddygiadau
rhyfedd. Yr wyf yn cofio un, - druan o hono, - oedd yn eillio ei farf bob
dydd, am fod hyny yr unig feddyginiaeth ag y gwyddai efe am dani i gadw draw
y “rhiwmatics” (rheumatism)!
(1) Y mae chwedlau rhyfedd yn cael eu dweyd am William Bruce Pryce, taid
Arglwydd Aberdar. Nis gellir cofnodi amryw a honynt, megys stori’r tarw,
stori’r wraig fygythiai fyned i foddi ym mhwll ei fuarth, &c., &c.,
a’r ffordd y triniai efe droseddwyr oedd yn adnabod. “Blagard” oedd pob dyn wisgai “gap a siaccedround melfed, ac a gadwai gorgi i’w
ddylyn:” ac os buasai yn cyflawni trosedd bychan iawn, gallasai ddysgwyl
pedwar diwrnod ar ddeg yn Ngharchar Caerdydd. Ffraeodd dau fachgen unwaith; a
chafodd y ddau ddyfod gerbron Mr.Bruce. Cyhuddai un o honynt y llall o fod
wedi cnoi ei fys.
“Ho!” ebe’r ynad (Mr. Bruce) – “Wyt ti’n meddwl myn’d i byw ’nawr wrth byta
dynon, ďa fa? Hela i di lawr i Cardydd i byta skilly, a deui di i bido byta
dynon!”
Credai, a dywedai efe a’i fab ar ei ol, fel y clywais, mai ei dad blanodd y
gerdinen - pren criafol y Gogledd – cyntaf dyfodd yn Nghymru erioed! Dygodd
hi (ie, hi yw cerdinen y South!) o Ysgotland; a hi
oedd y gerdinen roddodd yr enw i Mountain Ash! heb gofio
|
|
|
(delwedd D7711) (tudalen 175)
|
(x175) fod tyddyn yn Mhlwyf Aberdar, er
ys mwy na thri chan mlynedd, a elwir “Pant y Gerdinen!”
Y mae genym delynwr dall cyfrwys ryfeddol yn y lle. Bu yn
Llundain yn ddiweddar, yn y Welsh
Industrial Exhibition, yn chwareu ei delyn. Aeth yno, a dychwelodd, heb
neb yn ei arwain. Efe yw telynwr teulu enwog Cefn Mabli, ger Caerdydd; ac â
yno a dychwela oddiyno, heb ond ychydig gynnorthwy mwy nag a roddir i
drafaelwyr yn gyffredin. Dyn cywir yn ei holl drafodaeth yw Thomas Lewis.
Yr oedd yma, ddeugain mlynedd yn ol, hen ysgolfeistr a elwid Deiws Dafydd Llewelyn, a
feddai lawysgrifen gampus iawn, yr hwn a ddyfyrai ei hun yn ei oriau
hamddenol i chwareu y chwibanogl ac efelychu nodau pum’- punt Ariandy Lloegr. Pe cawsai y papyr priodol,
gallasai dwyllo y llygad cyffredin yn bur hawdd. Ni wnai hyny gydag amcan i
dwyllo, ond er dyfyrwch iddo ef ei hun a’i gyfeillion. Bu yn cadw ysgol yn
Mhentis yr Eglwys! a dyna ysgol bwysicaf y lle yr adeg hono!
Morgan y Gwehydd oedd
gymeriad hynod iawn. Cafodd ei eni a’i fagu yn un o hen dai “to cawn” y dref:
yno hefyd y bu efe byw hyd o fewn ychydig amser i’w farwolaeth. Daeth, trwy
“quiet possession” o flynyddau lawer, i feddiant o’r hen dŷ, yr hwn oedd
yn achos i gulhau yr heol yn y rhan hono o’r dref, ac yn hynod beryglus i
yrwyr cerbydau. Rhoddodd y Bwrdd Iechyd rybudd y buasent yn ei dynu i lawr;
ond heriodd Morgan hwy i gyffwrdd â’i “gastell” am amryw flynyddau. Yr oedd
Morgan a’i “gastell” yn cael eu hystyried yn ddau o hynodion y dref. Buont yn
amddiffyn y naill y llall hyd nes y syrthiodd y rhan fwyaf o’r to ar ben
Morgan; a dyna y “most
unkindest cut” gafodd efe
erioed; ac am hvny gadawodd i “Wyr y Bwrdd” ddadgymalu ei hen amddiffynydd.
Twmi Parri oedd
hen gymeriad rhyfedd arall. Nid oes yr amheuaeth leiaf yn fy meddwl nad oedd
efe yn un o “weision y Duw Goruchaf.” Cerddor
a gof o’r hen ffasiwn oedd; a dysgodd filoedd o blant i ganu. Yn gorfforol,
nid oedd, er yn ieuanc, ond anmherffaith iawn - yn gloff, yn unllygeidiog; a
gwisgai gorn mawr, fel corn un o “hyrddod Nebaioth,” yn ei glust bob amser,
gan fod ei glyw yn ddrwg; ond bu yn ŵr tra defnyddiol - yn ei gylch - yn
ei ddydd. “Blodeuodd” yn nghanol
y ganrif ; ac “Aberdariad geni” oedd, dybygaf.
Gorchuddiwyd ef gan hin ystormus
Yn hir
cyn cyrhaedd glyn marwolaeth
Ac ymbalfalu bu’n ofidus
Mewn
d’ryswch blin, yn ddilywodraeth.
Yn iach, fy nghyfaill, - darfu’r ymdaith, -
Fe
drodd y storm yn haf tragwyddol;
Di weli’n glir, di glywi’n berffaith,
A’th gân
fydd mwy mewn nwyfiant nefol.
Yn hanner cyntaf y ganrif yr oedd hen
feddwr Gwyddel-ddigrif iawn
yn Aberdar. Efe, gydag ereill, fuasai yn tori beddau yn mynwent y plwyf. Un
tro, yr oedd plentyn un o fasnachwyr y dref wedi marw; a dymunai y tad
benderfynu lle beddrod y teulu. Dewisodd le ger mur
gorllewinol y fynwent. “Peidiwch bod yn ffol,” ebe’r beddwr, “nid oes ond y
mur rhyngddo â railway y Gadlys, lle y mae cymaint o
dwrw bob dydd: mae yn un o’r lleoedd mwyaf annghyffwrddus i fynu bedd yn y fynwent!”
Wil
Forris. – Gogleddwr oedd William; ond treuliodd, o leiaf, “oes
ceffyl,” mewn mwy nag un ystyr, yn y Deheubarth. Proffesai mai efe oedd y
“meddyg Twymyn Goch” (“Brech Goch” Morganwg) goreu yn y deyrnas; ac ni fuasai
yu hir mewn unrhyw gyfeillach heb gyfeirio at ei allu rhyfeddol fel y cyfryw.
Buasai yn aml yn ceisio darbwyllo rhieni fod eu plant yn dyoddef oddiwrth y
“dolur coch,” pan na fuasent, er mwyn cael yr anrhydedd o geisia eu gwella. Nid oedd am guddio cyfrwng ei lwyddiant rhag neb. Yr unig beth hawliai
oedd gallu rhagorach na phawb i ddarparu y feddyginiaeth hono. Nid oodd Peleni Holloway, Beecham,
&c., &c., ond megys dim at ei beleni ef. Nid oedd yr eiddo ef,
chwaith, mor ddrud. Yr oedd yn rhaid cael chwart o “laeth llefrith” (“llaeth
dan ei fam”) Morganwg, ac oddeutu tri chant o’r pethau tebycaf eu
hymddangosiad a’u gwerth meddygol i’r peleni poblogaidd, mewn bodolaeth. Ceir hwy ar y
tir lle y cedwir defaid! Berwai y rhai hyny yn y chwart “llaeth llefrith,”
hyd nes gellid gosod y llaeth mewn pint;
yna rhoddai i’r dyoddefydd oddeutu llonaid gwydr gwin bob pedair awr. “That’s me,” ebai William!
Er rhyfedded oedd cyffair William, ceir ugeiniau o rai ffolach fyth yn yr hen
lyfrau meddygol; megys, “Llyfr Meddygon Myddfai,” &c.: a cheir
|
|
|
(delwedd D7712) (tudalen 176)
|
(x176) mwy a ddynion yn y byd a lawer yn
barod i wrandaw ar y “cwac” anhyddysg nag ar y meddyg gwybodus a phrofedig. Mae
y cyfansoddiad dynol yn rhy ddyryslyd ei wneuthuriad a rhy lednais ei
ddefnydd i'w ymddiried i ofal anwybodusion haerllug felly. Telir ugeiniau a
filoedd o bunnau am gyffeiriau mwy diwerth nag hyd y nod eiddo Wil Forris.
Mae yn wir fod y cyfreithiau yn y cyfeiriad hwn wedi eu cyfyngu yn ystod yr
ugain mlynedd diweddaf; ond y mae etto gryn lawer o le i'w diwygio. Rhys Lewis, ond a elwid
fynychaf yn Rhys Lodwick, oedd un o hen gymeriadau rhyfeddaf Aberdar yn ei
ddydd. Ganwyd ef yn 1762; a bu farw yn 1842. Ceir ei hanes yn lled gyflawn yn
Ngardd Aberdar. Yr oedd yn ŵr ffraeth ac hynod barod ei ateb. Ceir yn yr
Ardd lawer iawn o chwedlau difyrus am dano. Tiler, neu dowr cerryg llwydion, oedd;
ac yr oedd efe a’i fab unwaith yn adgyweirio to hen “ysgubor ddegwm” y plwyf.
Yn ddamweiniol symudodd yr ysgol, a syrthiodd Rhys a hithau yn “garlibws” i’r
llawr: ond llwyddodd y mab i sefyll ar y to.
“Nhad,” ebe fe, “ffordd deuaf fi i lawr?”
“Wn i ddim, ond paid a dod yn y ffordd y daethum i; onide, ti gei dd—l {= diawl} o gwymp!”
“Morgans Bach y Pills.” Un o wyr Ystradfellte, Brycheiniog, oedd
Morgans. Yr oedd ganddo frawd yn fferyllydd yn Merthyr; a bu yntau yn
gynnorthwydd i hwnw am flynyddau, lle y dysgodd y ffordd i wneydpills.
Am ugain mlynedd olaf ei fywyd bu yn gyfrifydd yn swyddfeydd Abernant,
Aberdar. O’r adeg y gadawai y swyddfeydd yn echwydd hyd noswylio, ai o gylch
yr heolydd i werthu y peleni. Yr oeddynt, yn ol ei dystiolaeth ef, yn cynnwys
holl ddawn meddygol yr oesau. Pe rhoddid chwareu teg iddynt; hyny yw, pe
cymerai y claf nifer digonol a honynt - rhyw ddwsin o flychau - yr oeddynt yn
alluog i wrthsefyll pob clefyd, ac nid oedd dim ond “pladur angau” yn alluog
i'w trechu! Hňnai fod graddfa marwolaeth Aberdar yn is nag unrhyw dref yn
Nghymru, am y rheswm fod cynnifer o’i beleni ef yn cael eu llyncu yma. Pan fu
efe farw, collwyd y ffordd i’w gwneyd; ac erbyn heddyw yr ydym yn marw fel
pobl ereill!!
William Dafydd. “Un a wyr y clybiau” oedd William; a bu yn offerynol i
gychwyn, o leiaf, ddau ddwsin o gyfrinfaoedd i'r Odyddion a’r Alffrediaid yn
Aberdar. Yn hollol anfwriadol, yn ddiau, y gwnaeth efe lawer iawn o niwed
felly i'r urddau cymdeithasol hyny. Agorwyd llawer gormod o honynt, nes yr
oeddynt, ac y maent hyd heddiw, fel “cathod Cilceni,” y naill yn bwyta y
llall. Gŵr lled anllythyrenog oedd; ond yr oedd yn feddiannol ar gryn
lawer o dalent. Yr oedd un ochr i'w gefn yn anffurfiol; a gwnai ddifyrwch i'w
gyfeillion weithiau wrth gyfeirio at ei anffawd. Flynyddau yn ol yr oedd rhyw
ŵr ffraeth yn areithio yn y dref ar “Ryfeddodau Natur a Chelfyddyd”; ac
aeth William i'w wrandaw. Dywedodd yr areithiwr fod Natur, os cawsai chwareu
teg, yn cyflawni ei gweithredoedd yn berffaith. Wedi gorphen yr araeth aeth
William i fyny at yr areithiwr, ac, ebe fe,
“Yr oeddit yn dweyd fod Natur yn cyflawni ei gweithredoedd yn berffaith?”
“Oeddwn, siwr,” ebe'r areithiwr.
“Wel,” ebe William, gan godi ei grwmpyn dair modfedd yn uwch nag arfer, “beth
am danaf fi?”
“O!” ebe'r areithiwr, “o grwmpyn, yr wyt yn berffaith
grwmpyn!”
Codwyd
y chwedl i un o bapyrau Llundain, ac y mae wedi ymddangos yn y rhan fwyaf o
gyfnodolion y byd!
|
|
|
(delwedd D7713) (tudalen 141)
|
(x141)
::24 Y WELSH RABBIT (RAREBIT)
Yr oedd yma dafarnwr parchus iawn, amryw flynyddau yn ol, wedi penderfynu,
gydag adfywiad neillduol yn masnach y lle, troi ei dafarndy yn fwy cydweddol
â thrafnidiaeth yr oes. Felly, cyfnewidiodd ef fel ag i gaelcommercial
room yn y front, a mynodd linell yn
arwyddo hyny ar y ffenestr. Gan ei fod mewn sefyllfa gyfleus yn y rhan hono
o’r plwyf, aeth trafaeliwr i aros yno ryw noswaith; a chyn myned i orphwys
dywedodd wrth y forwyn y carasai gael “Welsh rabbit” i frecwast. Aeth y
forwyn at ei meistres a datguddiodd neillduolion archwaeth y “gwr dyeithr.”
“Welsh rabbit! Welsh rabbit! yn
wir! Dafydd, dere yma. Dyma hi yn deidi o’r diwedd! Mae’r trafaelwr yn ’mofyn
‘Welsh rabbit’ i frecwast! Mi ddywedais i ddigon wrthyt am yr hen drafaelwyr
yma. ’Does dim ond gofid gyda nhw. Welsh
rabbit yn wir! Byddai tipyn
o ‘gig moch Cymru,’ caws Caerffili, ’menyn y Werfa, a’r bara cŕn rhagorol sy
genym ni, yn ddigon da i’r humbug!
Ië, humbug, yn wir! Fe
daena hwn y son yn mhob man na chaiff e’ ddim cymaint â chwningen yma; a dyna
garitor i’r tŷ! Mae yn rhaid i ti gyfrwyo’r gaseg gyda, phip y dydd
boreu fory a myn’d i’r pentre i ’mofyn cwningen: mae yn rhy hwyr i wneyd dim
heno.”
“Mari, cera i ofyn iddo ffordd mae e’ yn ei ’mofyn hi, - wedi berwi, wedi
rhostio, wedi stewo, neu
wedi gwneyd pastai o honi?”
“Mae e’ wedi myn’d i’r gwely, meistres,” ebe Mari.
Bu cwestiwn “pa fodd” yn poeni Mrs. Dafydd trwy gydol y nos.
“Bydd yn ddigon da i’r humbug wedi ei berwi; ond beth am
garitor y tŷ?” ebe hi.
“Before Aurora tipp’d the morn,” ys dywedai’r Gwyddel, yr oedd Dafydd ar gefn
ei gaseg yn gyru tua’r tua’r “pentref” (Aberdar) i chwilio am gwningen. Ar y
ffordd cyfarfu âg amryw o lowyr yr ardal yn myned at eu gwaith; ac wrth ei
weled yn gyru mor ddidrugaredd, gofynai rhai o honynt iddo pa beth oedd y
“matter?” Yr unig ateb geid oedd, “Urgent!” ac ymaith yr ai! Cafwyd y
gwningen: a chyn wyth o’r gloch y boreu yr oedd yn ffwrn, yr hon oedd, fel
ffwrn Babilon, am y tro, wedi “ei phoethi yn saith poethach nag arferol!”
Cododd y trafaeliwr - achosydd yr holl drafferthion, - aeth i’r commercial room -, “canodd y gloch,” a gofynodd
am y “Welsh rabbit.” Aeth Mari â’r gofyniad at ei meistres.
“Dos â’r Amserau iddo i’w ddarllen, a dywed wrtho
y caiff e’ ei foreufwyd yn union.”
“Sais yw e’, meistres; all e’ ddim darllen yr Amserau.”
“Dos a’r “Enquire Within” a “Spelling Book” Dai bach iddo. ‘Welsh
rabbit,’ yn wir!”
Nid oedd y trafaeliwr wedi darllen rhyw lawer o’r “Enquire Within”, na
“Spelling Book” Dai bach, pan ddaeth Mari â’r gwningen ar ddysgl yn
gorwedd ar ei thňr, fel pe buasai yn “gorphwys oddiwrth ei llafur,” tafell
neu ddwy o gig bras “moch Cymru” ar ei chefn, a dysglaid o bytato yn anweddu
fel Mynydd Etna, wedi gwewyr, i’r bwrdd! Gwelodd y trafaeliwr yn awr fod ei joke yn debyg o gostio’n ddrud iddo; a
chafodd Mrs. Dafydd, wedi dadleniad y dirgelwch, y boddlonrwydd o ddeall ei
bod wedi “servo yr hen Sais yn ei ddwrn!”
::25 Y “SNAKES”, A “SWEET BYRDAR”!
“Gwyr y Mera,” ddaw o Gastellnedd; “Hen Blwyfolion,” o Langynwyd, “One
wanting,’ o Lanilltyd Fawr; “Gwyr y Gloren,” o Ystrad Rhondda; “Brocks,”
o Hirwaun; a “Snakes, o Aberdar!” Gellir rhoddi yr eglurhad poblogaidd
am godiad y pump llysenw cyntaf yn y rhestr; ond ni chefais eglurhad am
gychwyniad llysenw Aberdar erioed. Darn o dir yn nhref Castellnedd, lle y
trigai trigolion mwyaf anofalus y dref gynt, yw y “Mera.” Stonecutter twp (gafodd orchymyn i roddi yr
oedran y bu gŵr ieuanc farw, sef 28 mlwydd oed, ar gareg ei fedd) dybiai
y gwnai pedwar 7 y tro i ddynodi yr oed, gan fod pedwar 7 yn gwneyd 28, nes
yr ymddangosodd yn “7777;” ac efe a roddodd yr enw “Hen Blwyf” i Langynwyd,
ebe’r chwedl! Aeth deuddeg o fechgyn Llanilltyd Fawr i Ffair y Bontfaen. a
rhoddodd eu rhieni ofal y cwbl i’r henaf o honynt. Wedi treulio oriau yn y
ffair, galwodd hwnw ei ddeadell at eu gilydd er mwyn eu parotoi i gychwyn
adref, a rhifodd hwynt; ond ni fedrai rifo ond un ar ddeg. “There’s one wanting,”
ebe fe. Annghofiodd rifo ei hun! Dyna. mae yn debyg, roddodd y llysenw i wŷr
Llanilltyd! Eglurir tarddiad
|
|
|
(delwedd D7714) (tudalen 142)
|
(x142) llysenw gwŷr y “Gloren” mewn
amryw ffyrdd: un o’r cyfryw, a’r un fwyaf ddiamharch, yw hon: - Yr oedd tri
ohonynt yn myned fyny i un o fryniau serth y cwm wrth gynffon (cloren)
ceffyl: y blaenaf yn cydio y yn y gloren; yr ail wrth gynffon cot y blaenaf;
a’r trydydd wrth gynffo cot yr ail. “Aroswch,” ebe’r cyntaf, “aros, geffyl!
Gadewch i mi boeri ar fy nwylaw ac ail gymeryd gafael.” Tra yr oedd efe yn
gwneuthur hyny syrthiasant ill tri i lawr dros ochr serth y mynydd; ac aeth y
ceffyl yn ei flaen! Mae chwedl y tori clorenau yn rhy annhebyg i fod wedi
dygwydd yn yr Ystrad. Ceir ystyr y “Brocks” yn yr erthygl ar Hirwaun.
Beth bynag fu achos codiad y llysenw, “Snakes” a elwir ar hen drigolion plwyf
Aberdar. Brawddeg arall a arferir yn aml, yn enwedig gan wŷr Aberdar eu
hunain, pan font wedi gwneyd rhywbeth gwerth canmoliaeth, neu yn un o
orsafau’r rheilffyrdd, pan yn dychwelyd o daith o ychydig bellder, yw,
::26 “SWEET BYRDAR”!
Mae rhai “Doethorion dyfod,” “Moch Sir Benfro,” “Shirgars,” “Cardies” a
“Northmyn” am ein dysgu i ddweyd “Sweet ’Berdar;” ond, waeth iddynt hwy heb! “Byrdar” yw yr
enw! Mi a glywais Sais genedigol o Gasnewydd-ar-Wysg yn dweyd ei fod yn
Ngogledd Lloegr ryw dro, ac ar ryw brydnawn gwelai dorf o ddynion mewn cae
cyfagos, a dau wr ieuanc yn eu canol yn ymladd. Aeth i’w mysg; a chanfu ei
bod yn ymdrechfa galed - y bechgyn agos yn gyfartal mewn ffyrnigrwydd. O’r
diwedd tarawodd y lleiaf o honynt y mwyaf nes oedd yn rhondyn diymadferth ar
y glaswellt, ac yna gwaeddodd nerth cęg, “Sweet Byrdar, myn d—l!” {= diawl}. Wrth hyny deallodd y gŵr o Gasnewydd mai
Cymro oedd; a chydag ychydig gynghorion dwys iddo adael y ffyrdd celyd hyny,
rhoddodd iddo ychydig sylltau er mwyn ei gynnorthwyo i ddychwelyd i wlad ei
enedigaeth.
|
|
|
(delwedd D7715) (tudalen 286)
|
(x286)
::27 Y TAPLASWR
TAPLAS; a gambol, a dance,
ebe’r geiriadur; ond yr oedd iddo ystyr eangach o lawer yn Aberdar. Yr oedd y
“taplaswr iawn” yn golygu y gŵr fuasai yn alluog i gymmeryd rhan
flaenllaw yn chwareuon y fynwent ar y Sul a phrydnawniau hirddydd haf; yn
“Nhaplas-Haf Tonglwyd Fawr;” mabsantau Penderyn ac Ystradyfellte, &c.
Golygai hyny chwareu pęl dô, a phęl dalcen tŷ; pęl droed yr hen ddull;
neidio – “stone catch,”
a “herc-a-cham-a-naid;” “bull drag”; “clwttyn twymn{sic};” “pric yn
nh—n {= nhin} iolyn!” dawnsio a chanu tribanau gyda’r delyn,
canu caneuon serch, caneuon cŵn hela, ymladd ceiliogod, ymladd cŵn,
&c. “taplaswr iawn” oedd hwnw. Mae rhai yn fyw yn y dref heddyw yn cofio
y ffeiriau yu cael eu cynnal yn y fynwent, a’r bęl yn cael ei chwareu yno ar
y Sul. Gellid gweled yma, o fewn y deugain mlynedd diweddaf, greithiau gafwyd
yn rhyfeloedd y fynwent. Yr oedd y “giwdawd ormes” â’r “pastwn poced” heb
wneyd eu hymddangosiad yn y byd y pryd hwnw. Yr wyf wedi gweled rhai
gweithredoedd ysgeler yn cael eu cyflawni ganddynt hwy yn y lle. Gwelais
hwynt yn dyrladd nifer o addolwyr a ddeuent allan o un o gapelau y dref ar
nos etholiad, am fod hen fabi o ddyn a’u llywyddai wedi gorchymyn iddynt
glirio yr heolydd. Ni welais i erioed y fath gigydd-dra; etto, ni chododd neb
o ddylanwad wawch yn eu herbyn. Gofynwyd i’r twrnai, gafodd ei wneyd yn aelod
seneddol y diwrnod hwnw, ei gymmeryd i fyny; ond gwrthododd wneyd dim!
::28 HOI! SHONI, HOI!
O bob ymddygiad ffol o eiddo bechgyn y tri dyffryn hyn – Merthyr,
Aberdar, a’r Rhondda - gwaeddi y “Shoni, Hoi,” ar heolydd Caerdydd ac
Abertawy, yw yr un mwyaf stupid,
ac a arwydda y dygiad i fyny mwyaf esgeulus. Ant gyda y gwahanol excursions yn yr haf i’r trefi
rhagsoniedig; ac os dygwydd un cyfaill o honynt golli y llall, dyweder ar
heol St. Mair, Caerdydd, neu Heol Fawr, Abertawy; ac os gwęl y naill fab
colledig y llall yn rhywle o fewn 500 llathen iddo, gwaedda nerth ceg, - ac y
mae cegau campus gan y rhan fwyaf o honynt – “Hoi! Shoni,
Hoi !” neu, “Hoi! Dai, Hoi!” fel bo’r enw; ac etyb yr asyn cyfrgolledig
arall. os medra, ddau neu dri nodyn yn uwch, “Hoi! bachan, Wil, dyma fi, w!”
Yr oeddwn, ychydig amser yn ol, yn un o’r heolydd a enwais, pan ddygwyddodd
tro felly. Sefais;. a dywedais wrth yr ysgrechgi am dewi. Pan orphenais,
daeth boneddiges dra pharchus yr olwg yn mlaen, a gofynodd, yn garedig a
theimladwy iawn, yn Saesneg, “Pa beth yw’r matter ar y truan tlawd? a fedraf
i wneyd rhywbeth i’w gynnorthwyo?” “Medrwch,
madam,” ebe finau, “rhowch swllt i’r cerbydwr acw am ei yru i ben uchaf y
stryd at ei gyfaill.” Credodd “Wil” ei fod i gael ei yru i’r “lock up,” a
rhedodd ymaith fel milgi!
::29 MOCH GWYLLTION Y DYFFRYN
Yr oedd y Dyffryn, fel y nodais yn barod, yn un coediog iawn yn y dyddiau
gynt; a gwneid i fyny y coedwigoedd hyny, gan mwyaf, o goed deri. Yn ochr
ogleddol y dyffryn ac ar ei wastadedd yr oeddynt. Nid oedd ond ychydig ar yr
ochr ddeheuol, gan fod y Waun Hir yn cyrhaedd yn agos o un pen i’r llall i’r
plwyf. Rhaid eithrio Cwmdar, bid sicr, gan fod hwnw yn gwm bychan coediog -
llawn deri ar ei hyd, yn croesi y Waun. Yr oedd y gwastadedd, o bentref
Aberdar i’r Dyffryn, preswylfod Arglwydd Aberdar, y rhan fwyaf, yn
orchuddiedig gan goed, ac yn cynnwys llawer iawn o foch gwylltion. Mi a
glywais hen frodor yn dweyd fod ei daid yn cofio cynnorthwyo i ddal y moch: -
“Dywedai’r hen wr llwyd o’r cornel: -
Gan fy nhaid mi glywais chwedel,
Gan ei daid y clywodd yntau,
Ac ar ei ol mi gofiais inau.”
Arosid am rai wythnosau wedi amser syrthiad y męs oddiar y deri, er mwyn
rhoddi cyfleusdra i’r moch ymdewychu cyn ymosod arnynt: yna, yn y boreu, gyda
thoriad gwawr, aent i fyny i ochrau y bryniau cyfagos er mwyn cael gweled yr
anwedd yn cyfodi o orweddleoedd y moch. Wedi hvny tynent “lwybr llygad” at y
fan lle y gwelent fwyaf o’r anwedd yn cyfodi, gan y gwyddent, wrth gwrs, mai
yno yr oedd y nifer luosocaf o “blant Hob y Deri”. Pan ddeuent i’r lle
ffurfient gylch oddiamgylch y
|
|
|
(delwedd D7716) (tudalen 287)
|
(x287) “ddâr” (the lair) - ac,
wrth gwrs, ceisient ladd y moch ieuainc. Gwaith peryglus iawn oedd, gan y
buasai yr hen foch yn ymladd yn ffyrnig dros eu “plant.” Gorfodid y bobl i
ladd yr hen foch yn aml, yr hyn, yn y diwedd, fu yn achos i lwyr ddifa y moch
gwylltion o’r dyffryn. Yr oedd yn golled fawr i’r tlodion eu colli. Mae rhai
enwau yn y dyffryn yn eglur gofnodi y dyddiau hyny, megys Gwaun Deri,
Penderi, Nantyderi, Llwyn Moch, y Dderi Hir, Cwm Nant yr Hwch, Cwmdar,
Aberdar, Fforest Llwydcoed, &c. Digoedwyd a digaregwyd y dyffryn o
Heolyfelin i Mountain Ash, ac o odreu Mynydd yr Ystrad i odreu Mynydd
Merthyr, nes y daeth yn un o’r dyffrynoedd harddaf a gwastattaf yn y wlad.
Erbyn hyn y mae llawer o hono wedi cael ei anharddu gan olwynion masnach. Yr
ydys wedi dwyn llawer iawn o’r glo o’i grombil, a’r arwynebedd, mewn manau,
wedi suddo islaw gwely’r afon, nes y mae erwau o hono yn cael eu gorchuddio
gan ddwfr yn y gauaf. Dylid gorfodi y perchenogion i ddyfnhau gwely’r afon,
gan eu bod yn derbyn y fath olud oddiwrth y glo, yr hwn, mewn gwirionedd,
ddylai fyned i goffrau y Llywodraeth; a hyny yw barn y rhan luosocaf o ddiwygwyr
yr oes bresennol.
|
|
|
(delwedd D7717) (tudalen 252)
|
(x252)
::30 Y CYMHWYSDER I GLADDU Y MARW
Un o offeiriaid Aberdâr, tua dechreu y ganrif o’r blaen, oedd hen frawd pur
hoff o’r ddiod; a threuliai gryn lawer o’i amser, ar ol y gwasanaeth yn yr
Eglwys ar y Sul, yn y Black
Lion; yn yr hwn dŷ gynt, fel yn y dyddiau presennol, oedd yn un o’r
prif westtai yn y lle. Ryw dro, yr oedd angladd wedi dyfod i Aberdâr o
Gefncoedycymmer, yn Nyffryn Tâf. Annghofiodd yr offeiriad ei ddyletswyddau o
berthynas i’r angladd; a gorfu i’r clochydd fyned i’w gyrchu. Pan ddaeth, yr
oedd yn ymddangos yn lled ansefydlog ei gamrau; a theimlodd un o “wŷr yr
angladd” ei bod yn ddyledswydd arbenig arno ef, fel dyn pwysig o “blwyf
arall,” i alw sylw y gwr parchus parchedig at ei ddiffygion.
“Y dyn!” ebe fe, “nid ydych yn fit i gladdu’r marw!”
“Nad w’ i?
“Nad ydych!”
“Pa’m, a glywaist ti fod rhywun a gleddais i wedi pallu aros yn y bedd?”
Terfynodd hymy y ddadl ar unwaith, gan nad oedd y cyhuddwr yn barod i ddwyn y
prawf a hawliai yr offeiriad! Ni fu rhyw lawer iawn o lewyrch ar yr Eglwys
Sefydledig yn Aberdâr hyd ddyfodiad y Parch. John Griffith (wedi hyny o
Ferthyr) i’r lle. Dechreuodd hyny gyfnod newydd hollol yn hanes yr Eglwys yn
Nyffryn Cynon: ac er ei ddydd ef y mae wedi ac yn parhau i ennill tir yma
gyda chyflymdra neillduol iawn. Bellach, gellir ei hystyried yn un o’r prif
“enwadau” yn y lle.
::31 Y “SNAKES” A’R “NOTE OF HAND”
Yr oedd hen drigolion Abedâr, gynt, yn debyg i drigolion cymmoedd ereill y
Dywysogaeth, yn ddiau; ond myn “Byrdar”
eich gwneyd i gredu eu bod, fel rheol, yn onestach na phreswylwyr y ddau
ddyffryn cyfagos – Merthyr a’r Rhondda! Clywais lawer o honynt, hanner can’
mlynedd yn ol, yn dweyd mai peth cymharol newydd yn y lle oedd y “Note of Hand.” Ebe hen ŵr pedwar ugain oed
wrthyf, y pryd hwnw, “Dyfais ar gyfer lladron yw yNote of Hand. Yr wyf
yn cofio,” ebe fe, “fod fy
nhead yn bring o ddeg punt i dalu’r rhent, ac ebe fe wrthyf,
‘Cera’n gros i dŷ Twmi Dafydd, Abernantygros, a gwęd wrtho fa ffor y
mae.’
Fi etho, a cheso’r arian i ddod yn ol.
‘Gwed wrth dy dead,’ ebe Twmi, ‘y celsa fa ucian punt, tysa’u hisha nhw arno
fa,’
a hyny heb yr I.O.U. a’r Note of Hand, sy nawr. ’Rol
gwerthu’r nifal cynta ’rol hyny, ’rodd yr arian yn cial eu hela nol, weldi.”
Yr
oedd y rhan fwyaf o’r tyddynwyr yn rhydd-ddalwyr y pryd hwnw, ac felly yn
weddol esmwyth eu byd. Er fod Malkin yn siarad yn anmharchus am
danynt, tybiaf yn sicr mai credu yn yr hen ddiareb “Sais yw, syn” fu yr achos
iddynt droi yr “ysgwydd oer” tuag ato, a rhoddi iddo fara haidd i’w fwytta; o
herwydd mae y grynau - grynau gwenith – welir ar lethrau mynyddoedd y
Dyffryn, y dydd heddyw, yn profi fod y grawn hwnw yn cael ei godi yma er ys
rhai cannoedd o flynyddau. Gŵyr pawb fod y Sais bob amser yn orlwythog o
hunanoldeb a rhagfarn pan yn son am unrhyw genedl heblaw ei gymysgbeth o
genedl ei hun. Mae y Boeriaid wedi llwyddo i dynu cryn lawer o’r chwydd gwyn
hwn o hono; a bydd helynt Affrica yn ysmotyn du oesol ar ein cyfundrefn
filwrol ac ar ein swyddogion. Esgus tlawd iawn yw dweyd iddynt gael eu twyllo
yn nghyfrwystra a gallu y Boer! Nid oedd busnes ganddynt i gymeryd eu twyllo,
na myned yno o gwbl.
A’u cymmeryd yn y crynswth, deil hen breswylwyr y plwyf archwiliaeth fanwl; a
deuant o’r driniaeth yn dra llwyddiannus. O
ran barn grefyddol, Undodiaid ac Eglwyswyr ydynt, gan mwyaf. “Dynion dod” yw
corff mawr preswylwyr presennol y plwyf; a hwy hefyd yw corff mawr yr enwadau
ereill. Pan brioda un o’r “dynion dod” un o’r gwreiddiolion, bydd nerth
cymmeriad cymharol y partďon unedig yn amlwg yn eu hanes crefyddol yn y
dyfodol: bydd plant y teulu yn fynychwyr cysylltiadau crefyddol y blaid
gryfaf o ran cymmeriad!
Aberdâr. JENKIN HOWELL
|