1413k Gwefan Cymru-Catalonia. Amrywieithoedd Y Gymraeg. Y Traethodydd, Ionawr 1847. Gwyr Dyfed ynt haeddiannol o glod am gadw ar arfer yr hen air Cymraeg anner (buwch ieuanc) am yr hwn ni fedd y Gogleddwyr un gair, namyn heiffer, sef llygriad o’r Saesoneg heifer.

 

 

25-02-2022 



 

 

 

 

0159g_baner_cymru_uwchben_catalonia_ffram
(
delwedd 0159g)

 

 

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Gal
·les i Catalunya
The Wales-Catalonia Website

AMRYWIEITHOEDD Y GYMRAEG.
Y Traethodydd, Ionawr 1847
Awdur: dienw
Tudalennau 1-16


Y Llyfr Ymwelwyr / El Llibre de Visitants / The Guestbook:

http://pub5.bravenet.com/guestbook/391211408/

6665_map_cymru_catalonia_llanffynhonwen_chirbury_070404
(delwedd 4665) Llanffynhonwen / Chirbury. Amwythig / Shrewsbury. Caergybi. Pwllheli. Tyddewi. Caer-dydd.

…..

Ein sylwadau mewn teip oren.

Nodir rhifau’r tudalennau gwreiddiol o’u blaen felly : x42

Nodyn: (x2), (x13) ayyb = man cychwyn tudalen 2, tudalen 13, ayyb yn y cyhoeddiad gwreiddiol

 

 

.....

 

 

 

A picture containing text, newspaper, screenshot

Description automatically generated
(delwedd G3928) (tudalen 1)

 

(x1) AMRYWIEITHOEDD Y GYMRAEG.

 

Nid oes un iaith, yn y byd, mae yn debyg, yn cael ei siarad yn hollol yr un modd yn mhob ardal lle ei harferir: mae gwahaniaeth, mwy neu lai, rhwng pob talaeth, a rhwng pob cymydogaeth. Mae amryw helyntion a dygwyddiadau yn tueddu i achlysuro hyn. Lle y byddo y gwahaniaeth yn fawr, gellir tybied fod didoliad o bwys wedi cymeryd lle rhwng llwythau yr un genedl i randiroedd pell oddiwrth eu gilydd, a bod pob ymgyfathrach wedi peidio rhyngddynt, a hyny er ys llawer o oesoedd. Mae y llwythau didoledig hefyd yn agored i ymgymysgu â chenedloedd eraill cymydogaethol, a thebygu mwy neu lai i'r rhai hyny yn ol fel y byddo grym eu dylanwad. Os cânt eu darostwng gan eu cymydogion, a'u dwyn dan yr un cyfreithiau a llywodraeth, gwna hyny mewn amser gyfnewidiadau mawrion : a thrafnidiaeth a chydgymysgu mewn priodasau a barant, gynnydd ar y cyfryw gyfnewidiadau. Mae manteision dysgeidiaeth mewn un iaith rhagor y llall yn effeithio i beri fod dylanwad mwy gan y naill ar y llall, fel y mae cenedl amddifad o fanteision dysg a gwybodaeth yn dueddol i efelychu cymdogion a fyddont yn fwy cyfoethog o'r manteision hyny. A lle byddo dysgeidiaeth yn ffynnu, mae yr iaith yn yr hon ei cyfrenir yn cael ei choethi a'i diwyllio. Yn ol y gradd o wareiddiad y byddo unrhyw genedl wedi ei gyrhaeddyd, eu dull o fyw, anghenion, tueddiadau, ac arferion, y ceir yn gyffredin fod tlodi ac annillynder neu helaethrwydd a thlysni eu hiaith. Mal hyn, tybygem, y mae fod cynnifer o gangen-ieithoedd perthynol i bob gwlad a chenedl yn y byd; yr un iaith yn y dechreuad wedi ymranu yn llawer o wahanol gangenau, yn gwahanaethu rywfaint oddiwrth eu gilydd, ac efallai y fam-iaith wedi llwyr golli o ran y siarad o honi yn ei phurdeb. Felly y cawn fod yr hen Geltaeg, iaith trigolion cyntaf Ewrop, wedi, ymranu un amrywieithoedd lawer, megys, y Gymraeg, y Gerniweg, y Lydaweg neu Vrezonec, y Wendaeg, y Wyddelaeg, a’r Gaeleg; y rhai ydynt oll yn dangos arwyddion amlwg eu bod wedi deilliaw oddiwrth yr un fam-iaith ddechreuol; etto, drwy effeithiau amgylchiadau cyffelyb ag a nodwyd, maent oll yn gwahaniaethu oddiwrth eu gilydd yn fawr. Ymddengys fod y Gymraeg a'r Lydaweg yn dwyn mwy o debygolrwydd i'w gilydd nag i’r Wyddelaeg a'r Gaeleg, a bod llawer mwy o berthynas rhwng y

 

 

A black and white document

Description automatically generated with low confidence
(delwedd G3929) (tudalen 2)

 

(x2) ddwy olaf â'u gilydd nag sydd rhyngddynt... ...wyr oddiwrth hyn fod y Cymry ar Gwyddyl wedi ymddeoli oesoedd lawer o flaen ymddidoliad y Cymry oddiwrth y Llydawiaid a’r llwythau eraill. Dywedir y gall y Cymry ar Llydawiaid ddeall peth o siarad eu gilydd, ond nis gall Cymro a Gwyddel gynnal ymddyddan â'u gilydd am un peth yn y byd.

 

[Gwel Dr. Pughe's “Outline of the Characteristics of the Welsh.” - tudal. 17.]

Mae hefyd amrywiaethau lawer yn perthynu i bob un o'r cangen-ieithoedd hyn. Gallem enwi y Lydaweg, i'r hon y perthyna tair neu bedair o amrywieithoedd, yn gwahaniaethu mwy neu lai oddiwrth eu gilydd o ran cynaniad ac o barth eu purdeb; megys cangen-ieithoedd Vannes, Leon, Treguier, a Quimper.

[Gwel lythyr y Parch. D. Jones, yn y “Drysorfa” am 1838: - tudal, 110, 111, &c.]

 

A thybygid fod y cenadon Protestanaidd Cymreig, gan nad ydynt yn enedigion o'r wlad hono, yn teimlo y cyfryw amrywiaeth yn yr iaith yn radd o rwystr yn eu hymdrech i bregethu yr efengyl i’r werin yn y modd mwyaf dealladwy yn ngwahanol barthau y wlad. Effeithia yr amrywiaeth hyn yn fwy drwy fod can lleied o ysgrifenu yu yr iaith, ac o goledd arni, fel ag i ddwyn yr amrywiol briod-ddulliau hyny yn nes at eu gilydd, a’u cyfuno fel rhanau hanfodol yr un dafodiaeth.


 Yr un modd am ein hiaith ninnau, y Gymraeg; perthyna iddi ei hamrywieithoedd. Efallai y gellir cynnwys yr amrywiaeth i gyd dan ddwy brif gangen, sef y Wyneddaeg a’r Ddeheubartheg “Yn y Deheu,” medd Theophilus Evans,

 
[“Drych y Prif Oesoedd:”- tudal. 18; y chweched argraffiad.]

 

“nid oes odid gwmwd na chantref, na wahaniaetha ryw ychydig yn yr iaith, nid yn unig wrth fod y werin yn rhoddi amryw seiniau i’r un geiriau, ond hefyd wrth alw ac enwi llawer o bethau ar wahan.' Felly cawn fod Dyfed, Gwent, a Morganwg, yn amrywio, oddiwrth eu gilydd fel y maent hefyd oddiwrthym ninnau yn y Gogledd. Yr un modd hefyd y gwahaniaethai Gwynedd a Phowys. Adnabyddir brodorion Llëyn a gwladyddion Cyfeiliog wrth eu lleferydd; er y sonir am “ynfydion” y naill

 

[Cyfeiriad at hen chwedl ddisail am ynfydion Cyfeiliog yn golchi eu traed mewn llyn, ac yn methu adnabod eu traed eu hunain, nes yr hapiodd i wr synwyrol ddyfod heibio a chymeryd gwialen, yr hen yn fuan a'u dygodd i ymgydnabod bob un â’r eiddo ei hun. Felly, os oedd ynfydion yn Nghyfeiliog, yr oedd yno bobl gall hefyd yn medru taraw yn union ar fodd effeithiol i ddwyn y lleill i'w hiawn bwyll, heb eu hanfon i'r gwallgof-dy.]

 

a “gwirioniaid” y llall,
 

[Sef “gwirioniaid Aberdaron.” Mae tarddiad y ddiareb lëol hen yn fwy o anrhydedd i'r trigolion na dim arall. Llong o Ddyfed, rywbryd yn yr hen amser gynt, a chwythwyd i'r làn gan dymhestl yn Aberdaron; a’r trigolion, hwyntau, a wnaethant ymdrechion tra dyngarol a gorchestol er achub y dwylaw a diogelu eu heiddo, ac, fel y Melitiaid, a’u lletyasant yn rhywiogaidd. Y Dyfedwys, pan yn myned trwy Bwllheli ar eu taith tua thre, a ganmolent yn fawr y caredigrwydd a dderbyniasent, ac wedent yn iaith eu gwlad, “Pobl fach wirion iawn yw pobl Aberdaron,” gan feddwl, yn ystyr gymhwys y gair, mai pobl dirion a diniweid oeddynt. Hyn, ac nid eu hanwybodaeth, fel y gwag-dybia rhai, oedd dechreuad ac yw gwir ystyr y ddiareb.]

 

etto, mae y gwahaniaeth rhyngddynt mor amlwg a rhwng Mon a Mynwy.

Y Saeson hefyd yn gystal a ninnau sydd ganddynt eu dialects, twangs, a brogues. Heblaw fod tafodiaeth Lloegr Goch yn gwahaniaethu oddiwrth eiddo yr Alban, mae pob sir yn amrywio yn nodedig mewn tòn ac aceniad, fel y mae brodorion y naill ar llall o honynt yn hawdd i'w hadnabod wrth eu llediaith, i'r sawl sydd yn hysbys o hyny.

 

 

A black and white document

Description automatically generated with low confidence
(delwedd G3930) (tudalen 3)

(x3) Mae genym anghreifftiau ysgrythyrol o beth cyffelyb i hyn. Yr oedd lleferydd Pedr yn ei gyhuddo, er maint a wadai, mai Galilead oedd efe. Yr oedd gwahaniaeth tafodiaeth rhwng y Galileaid ar Ephraimiaid, ac fe gostiodd yn ddrud i'r rhai olaf, yn nyddiau Jephthah, wrth rydau yr Iorddonen, pan gollodd llawer o honynt eu bywydau, am na fedrent swnio yr sh yn nechreu y gair “Shibboleth,” eithr ei swnio yn s, er llithriced a fuasai eu tafodau i alw enwau drwg i gyffroi eu brodyr. Cymerwyd mantais ar y neillduol rwydd hwn yn eu tafodiaeth, i'w hadnabod. Pe buasai y Cymry yno, syrthiasent dan yr un trychineb, gan nad yw sain sh i'w gael yn ein hiaith, ac nis gall Cymro uniaith ei swnio heb anhawsdra, oddigerth dan un amgylchiad, sef pan fo y deuseiniaid ia, ie, io, iw, iy, yn dilyn s, megys yn y geiriau siarad, sieryd, sionc, siwr, ffasiynau, llysiau, gweision, &c., orid nid pawb a allant ei swnio mewn geiriau fel hyn. Un o'r anhawsderau mwyaf ar ffordd y Cymro i ddysgu Saesoneg yw sŵn yr sh ac y mae ambell un wedi methu ei gyrhaeddyd, ac heb allu i'w wahaniaethu oddiwrth sain yr s, er y gallant siarad yr iaith yn lled dda yn mhob ystyr arall: ond yn lle ffish, dywedant ffis; yn lle shilling, silling. Yr ieuanc er hyny a ddaw iddo un fuan.

 Yn awr, tybygid fod ymholiad yn cyfodi yn naturiol, Beth yw yr achos gwreiddiol o amrywieithoedd y byd? Oddiwrth ba beth y mae yn deilliaw? Beth sydd yn peri y fath dueddiad mewn ieithoedd yn gyffredin? Ofer i ni grwydo yn anialwch dychymygon; nid yw athroniaeth yn alluog i gael allan y dirgewlwch; awn ynte at ffynnon gwybodaeth yn uniongyrchol. Y Bibl, y Bibl yn unig, a rydd oleuni boddlonawl ar hyn. Amlwg yw yn ngoleuni hwn, mai effaith y cymysgiad gwyrthiol ar iaith y byd yn Babel ydyw, yn cyrhaeddyd trwy yr oesoedd, yn parhau i weithredu yn rymus, er yn arafaidd, ar holl ieithoedd y ddaear. Deillia holl amrywiaeth ieithoedd a thafodiaethau y byd oddiwrth y cymysgiad a'r wasgarfa hynod a fu yno. “Canys,” fel y dywed Charles Edwards,

 
[“Y Ffydd Ddiffuant, neu Hanes a Rhinwedd y Ffydd Gristionogol,” gan Charles Edwards: - tudal. 330 &c; y chweched argraffiad.]

“gan fod yn awr gymaint o'r un geiriau, ac o'r unrhyw sain gan y llythyrenau yn mysg cenedloedd ac ieithoedd dyeithrol i'w gilydd, y mae yn hygoel mai yr un iaith oedd ar y cyntaf gan bawb, megys y dadgan Moses; - nad yw yr amrafael ieithoedd ag sydd amlaf yn y parthau hynotaf o’r byd, ond yr un iaith wedi ei chymysgu, a’i thaflu wyneb a gwrthwyneb, allan o'r dreth gyntaf, gan ddynion wedi annihwyllo, a ddechreuent ambell air yn ei ddiwedd, ac a'i diweddent yn ei ddechreu. Dechreuent hefyd rai geiriau yn eu canol, a tharawent eu deupen ynghyd, a thaflent sillafau geiriau eraill y naill ar draws y llall, fel na wyddid mai yr un geiriau oeddent.” Felly gall ein llygaid, ein clustiau glywed, a’n meddyliau deimlo, effeithiau y farn ddwyfol hono, a ddisgynodd ar ddynolryw gwrthryfelgar er ys miloedd o flyneddau sydd yn ein hiaith ein hunain, yn y gwahanol ddulliau yn ysgrifeniad a llafariad yr iaith, ac yn yr anhoffder a deimlwn yn ein meddyliau wrth ymadroddion a seiniai i anghynnefin i ni, yn enwedig os bydd eu hystyr yn anhysbys, heb sôn am yr anghyfleusdra o drigo ynghanol cenedloedd o ieithoedd hollol wahanol i'r eiddom ni.

 

 

A picture containing text, newspaper

Description automatically generated
(delwedd G3931) (tudalen 4)

(x4) Ymddengys wrth ysgrifeniadau mor hen ar ddeuddegfed a'r drydedd-ganrif-ar-ddeg, fod yr amrywiol briod-ddulliau perthynol i wahanol barthau Cymru yn hanfodi yn yr oesoedd hyny yr un modd ag y maent yn awr. Dichon i'r amrywiaethau hyny ar y cyntaf gyfodi, mewn rhan, oddiwrth fod y wlad wedi ei rhanu yn yr hen oesoedd yn llawer o fân dywysogaethau, a’r rhai hyny yn fynych yn elynol i'w gilydd, ac heb nemawr ymgyfathrach rhyngddynt. Dyfodiad dyeithriaid i fysg y naill lwyth neu y llall a effeithiai mewn amser radd o wahaniaeth yn llafariad yr iaith. Dylid cofio fod y bobl gyffredin yn y cynoesoedd yn ymddibynu bron yn hollol ar eu harglwyddi, ac wrth eu galwad ar bob achlysur, a llawer fel anifeiliaid yn feddiant iddynt; yr oedd yn naturiol i'r rhai hyn efelychu eu harglwyddi yn eu dull o siarad fel mewn pethau eraill. Efallai fod peth o'r gwahaniaeth a ganfyddir rhwng parabl trigolion Dinbych a Fflint a phreswylwyr y rhan arall o Wynedd wedi tarddu oddiwrth ymfudiad Gwyr y Gogledd, sef Cymry Ystrad Clwyd yn yr Alban (wedi eu gorchfygu gan eu gelynion, a cholli o honynt eu brenin), a’u hymsefydliad yn yr ardaloedd rhwng Conwy a Dyfrdwy, yn y nawfed ganrif, drwy ganiatâd Anarawd, brenin Gwynedd, ar yr ammod. o fod iddynt ymlid ymaith y Saeson oeddynt wedi trawsfeddiannu y wlad, yr hyn “a wnaethant yn ddihafarch;” a diammhau fod hiliogaeth y bobl ddewrion hyny yn parhau yno hyd heddyw.

 

[“Hanes Cymru,” gan y Parch. Thomas Price, (Carnhuanawc): - tudal. 325, 326, 398. “Warrington's History of Wales:”- pp. 229-231. Vol.1. Fourth edition.]

 

Amlwg yw fod tuedd yn yr amrywiaethau ieithyddol hyn i barhau, os nad i gynnyddu, hyd oni cheir rhyw safon, wrth ba un y gellir profi priodoldeb neu anmhriodoldeb unrhyw ddull neu arferiad o lefaru. Er nad yw ddichonadwy cael un safon perffaith a digyfnewid, gan fod pob peth îs- loerawl yn agored i gyfnewidiadau, etto, mae cael un da yn fuddiol tuag at gadw purdeb iaith, ac i attal, rheoleiddio, a lleihau yr amrywiaethau o dafodiaeth daleithiol a llygriadau llëol. Yn Lloegr, ymddengys mai y llŷs a’r senedd yn y brifddinas, yn benaf, sydd yn rheoleiddio yr iaith; a thebygol yw y bydd i ymdaeniad addysg gyffredinol trwy y deyrnas, yn raddol wisgo ymaith yr amrywiaethau taleithiol yn lled lwyr. Gyda ni, cyfieithiad awdurdodedig y Bibl yw safon purdeb y Gymraeg, neu o leiaf a gydnabyddir felly yn awr. A pho agosaf y trefnir ymadroddion, y seinir, ac yr ysgrifenir, i ddull y Bibl, goreu oll, a mwyaf cymeradwy fydd gan bawb o berchen ddëall i farnu; er y gellir defnyddio llawer o eiriau a dywediadau sathredig yn y wlad, a rhai ymadroddion godidawg, nad ydynt idd eu cael yn y cyfieithiad, am nad oedd achos am danynt, ond a gyttunant yn dda â’r geirweddiad a ddilynwyd ydddo.

Pan fyddo y gwahaniaeth yn llygriad ar yr iaith, mae yn swnio yn ddrwg yn nghlustiau trigolion ardaloedd lle nad yw y cyfryw lygriad yn arferedig, er y gall y rhai hyny fod yn feius mewn dulliau eraill o ymadroddi. Buddiol fyddai i areithwyr cyhoeddus fedru cynanu yr iaith yn gywir a pharabl-bêr, ac nid yn null llygredig eu gwahanol ardaloedd; a thra manteisiol hefyd i athrawon yr Ysgolion Sabbothol, fel y gallont addysgu ieuenctyd y wlad i seinio yn briodol a syml wrth ddarllen yr ysgrythyrau. Tuag at fod o ryw gynnorthwy yn hyn, amcanwn nodi allan y prif amrywiaethau

 

 

A close-up of a document

Description automatically generated with medium confidence
(delwedd G3932) (tudalen 5)

(x5) yn nhafodiaeth gwahanol barthau Cymru benbaladr, mor belled ag y daethant dan ein sylw: lle byddo y gwahaniaeth yn Gymreigaidd, ymdrechwn i’w esgusodi; ond os yn feius, rhoddwn y cyfarwyddyd goreu a fedrwn er ei ddiwygio.

1. Y gwahaniaeth cyntaf y sylwn arno sydd yn nghynaniad rhai or llafariaid.

1. Mae y lafariad a, mewn geiriau unsill hirsain, a rhai geiriau lliossill pan y byddo dan aceniad, megys,

cân,
câs,
glân,
mab,
tad,
tân,
sâl,
mwynhad,
parha, &c.,

yn cael ei swnio mewn rhai ardaloedd yn gyffelyb i’r a fain Seisonig yn cane, case, sale, tale, &c., yr hon sydd yr un ar e Gymreig. Hefyd tröir y deuseiniad ae yn ei, yn

mae,
gwaed,
gwael, &c.,

megys ped ysgrifenid,

mêi,
gwêid,
gwêil, &c
.

Amlwg yw mai yr un sŵn yn hollol sydd i’r a yn tân ac yn tàn, ond ei fod yn y blaenaf yn hir ac yn yr olaf yn fyr: ac wrth chwanegu at y gair mae yn amlycach fyth; fel hyn,

tàn, tanodd;
tân, tanau, tanio;
màn, manau;
mân, manaf;
bàr, bàrau;
bâr, barau.

Bro Trefaldwyn, a rhanau o Feirion, yn y Gogledd, sydd fwyaf yn y bai hwn; ac yno ystyrir yn brydferthwch siarad yn fain, fel y dywedir, ac nid yn llydan fel yn y rhanau eraill o Wynedd a Phowys. Etto dilys yw mai yr a lydan, agored, yw y wir sain Gymreig, ac nad yw y gwahaniaeth o hir a ber, neu leddf a thalgron, ond mewn hyd yn unig, fel y dangoswyd uchod, ac nid mewn sain; a hyderwn na ddilynir maldod y Baldwyniaid

[Cymerwn yma gyfleusdra i unioni camwri sydd wedi llithro yn ddiweddar i arferiad yn rhai cylchgronau Cymreig, yn ysgrifeniad yr enw Trefaldwyn, gan ei dalfyru yn “Maldwyn.” Y gwraidd-eiriau ynt Tref-Baldwyn (oddiwrth enw rhaglaw Normanaidd y cyffiniau, yr hwn a adeiladodd y castell yno, yn amser Gwilym y Goresgynydd), ac nid Tre-Malwyn, yr hyn nud yw air yn y byd, am a wyddom ni. Mewn cyfansoddiad, ymnewidia b yn m ar ol yr arddodiad yn; “Arosasom wythnos yn Maldwyn.” Yn y sefyllfa hon y mae yn gywir, ond ei fod yn dalfyredig. Nid oes, hyd y gwyddom, un sail i dadogi yr enw wrth Tre.Moeldwyn. Oddiwrth Roger de Montgomery, un arall o’r arglwyddi Normanaidd yr hwn a adeiladodd y castell, y deillia yr enw Seisoneg Montgomery a Montgomeryshire.]

yn y llygriad masw hwn, oblegid y mae yn gwanychu yr iaith yn fawr, ac yn ei hysbeilio o un o’i seiniau cysefin a godidog. Byddai yn werth myned ar bererindod o gyffiniau Pumlumon a Chader ldris, i ororau y Wyddfa a Moel Famau, i glywed rhianod llednais y parthau hyny yn swnio y lythyren a yn ei sain bur ei hun. Ond rhag na cheir adeg i hyny, hawdd yw dyfod idd ei sain gywir wrth ei swnio o flaen i, a, neu w, fel yn y geiriau

rhaid, cais;
aur, haul;
awr, bawl, haws, &c.

Mewn rhai ardaloedd, swnir y lafarog hon gyda rhyw fath o leddfiad, megys ea, mewn geiriau o’r fath a ganlyn,

tad, tead;
mab, meab;
tân, tean; &c.

Y rhai ydynt yn cofio yr hen bererin duwiol Edward Goslet yn pregethu, a wyddant am y dull digrifol y swniai efe y geiriau hyn a’u cyffelyb, canys yn llediaith ei fro ei hun (Gwent) yn hollawl y llefarai efe.

2. Yn rhai parthau o Wynedd, troir o yn a, mewn geiriau lliossill, pan na fyddo dan aceniad; megys,

aber, abar;
adeg, adag;
cangen, cangan;
hanes, hanas;
yfed, yfad;
rhywbeth, rhywbath;
penbleth, penblath; &c.

ac yn y gwrthwyneb, troir a yn e, yn yr un sefyllfa; megys,
allan, allen;
ardal, ardel;
attal, attel;
dinas, dines;
teyrnas, teyrnes, &c.

Mae y gwall hwn yn arwain i gymysgu amserau y perwyddiaid, megys rhoddi y dyfodol am y gorphenedig, a’r gorphenedig am y tragorphenedig; fel hyn,

gwnaethant
yn lle gwnaethent,
daethant
yn lle daethent,
dywedasant
yn lle dywedasent,&c.

 

 

 

A close-up of a document

Description automatically generated with medium confidence
(delwedd G3933) (tudalen 6)

(x6) Clywsom ŵr dëallus unwaith yn darllen Act.ii.44: “A’r rhai a gredent oll oeddynt yn yr un man;” gan swnio gredent yn gredant, yn ol arfer y cwmwd yr oedd yn byw ynddo; ac er fod ei glust yn ei hybu, nad oedd dim synwyr yn y darlleniad felly, etto nis gallai ddirnad yn mha le yr oedd y gwall. Ychydig o wybodaeth ramadegol, ac o gywir gynaniad a fuasai yn ei gadw rhag yr amryfusedd. Diwygir y bai hwn wrth sylwi ar lythyreniad geiriau, at’u cynanu yn ol hyny.

3. Gwall cyffredinol yn Nyfed a rhanau o Bowys yw esgeuluso gwahaniaethu rhwng y llafariaid i, u, ac y. Dan rai amgylchiadau, gwnai i y tro iddynt yno am y tair, megys yn y geiriau canlynol,

du, di;
cu, ci;
drud, drid;
pur, pir;
hun, hîn;
lludded, llidded;
mynyd, minid;
cŷn, cin;
dyn, din;
hyn, hìn;
llyn, llìn;
yw, iw;
byw, biw;
ŵy, wi (ll. wïe);
hyny, hyni;
cyfiawn, kifiawn;
cybydd, kebidd, neu cebydd; &c.

Dylid sylwi fod gwahaniaeth hanfodol rhwng i ac u, amlwg i bawb sy wedi ymgynnefino â’u seiniau priodol, ond anhawdd ei roddi ar ddëall i eraill, wrth fod y glust o ddiffyg ymarfer yn analluog i wahaniaethu. Mae yn llwyr annëlladwy i Saeson, gan nad yw u idd ei chael yn eu hiaith.

Am y lafariad y, dylid cofio fod iddi ddau sain, y rhai er mwyn dynodiant a alwn yn gysefin a dirprwyol. Ei sain gysefin a glywir mewn geiriau unsill, yn y rhai canlynol yn unig, sef,

my, fy, dy, (lleddf);
ydd,
ym,
yn,
yr,
ys,
dyd,
dyt,
myn,
syr, (talgron):

ac yn nesaf yn mhob sefyllfa mewn geiriau lliossill ond y sill olaf; megys,

cyflyrau,
prydyddion,
ynysoedd,
cynnyddu, &c.

oddieithr fod y rhagddod cyd, pan yn gofyn pwyslais, yn amrywio oddiwrth y drefn hon, megys yn

cydymgymysgu,
cydymgysylltu,
cydymlynu, &c.

a’r deuseiniaid ey ac wy, megys yn

teyrn,
teyrnas,
rhwymau,
bwydydd,
ffrwytho, &c.

Ei sain ddirprwyol sydd yr un yn gymhwys a’r lafariad u, yr hyn a gymer yn mhob geiriau unsill, oddieithr y rhai a nodwyd uchod, ac yn y sill olaf i bob gair lliossill; megys,

byd,
bys,
dyn,
hŷn,
gwŷn,
cŵyn,
gwŷr,
gŵyr, (lleddf);

gwyn,
hyn,
llym,
myn,
syn, (talgron) ;

canlyn,
ennyn,
eryr,
telyn, &c.

megys ped ysgrifeinid
bud,
bus,
dun,
gwun,
llùm,
sùn,
ennun,
telun, &c.


Mae ei dau sain yn glywedig yn hyny,

llythyr,
myfyr,
pybyr,
ystyr, &c.

Yn y frawddeg ganlynol, ceir addysg i seinio yn briodol yr u a’r y
“Dyt! du yw dy dŷ di, y dyn, ac nid gwyn.”

Yn awr, y mae rhywun yn barod i ofyn, Paham nad ysgrifenid u yn lle y yn y cyfryw amgylchiadau ag y maent o’r un sŵn, fel na byddo dim ond un sain i bob llythyren yn yr iaith?. Yr ateb yw fod teithi yr iaith yn gwahardd hyny, yr hyn a ymddengys yn amlwg wrth yr hyn a anlyn. Nid yw u byth yn newid i y pan estyner gair; megys,

du, duaf;
cur, curo, curio;
llun, lluniau;
mur, muriau;
sur, surion;
awdur, awduron, &c.

ond yn ddirprwyol yr y a ddychwela idd ei sain gysefin bob amser, oddigerth yn y deuseiniaid cy, oy, wy, pan chwaneger at air; fel hyn,

dyn, dynion;
byr, byraf;
syn, synu;
ynfyd, ynfydu;
ystyr, ystyried;

eithriad
,
teyrn, teyrnas;
gloyw, gloywon;
cŵys, cwysau.

Gwir y buasai dodi u yn lle y yn y geiriau hyn un cyffelyb yn symud yr anghyfleusdra o fod dau sain i’r un lythyren, yr hyn nid oes i un lythyren arall yn ein hiaith; a gwelsom gynnygiad neu ddau am y fath gyfnewidiad yn ein horgraff, y rhai a fuant aflwyddiannus; canys, fel y mae yn amlwg, gorbwysid y fantais gan y tywyllwch a daflai ar dadogaeth geiriau. Chwithig ac anghelfydd iawn fyddai ysgrifenu, “dun gwun llum a ofun am ud,” yn unigol; a “dynion gwynion llymion a ofynant am ydau” yn llïosog gan fod perthynas y geiriau drwy y fath

 

 

A close-up of a document

Description automatically generated with medium confidence
(delwedd G3934) (tudalen 7)

(x7) lythyreniad yn cael ei lwyr orchuddio. Hefyd, dyddymai y gwahaniaeth rhwng geiriau o’r un sain ond o wahanol ystyr; megys,

 

brud (oes-lyfr),

bryd (meddwl);

clod (mèn, càr),

clyd (cynhes);

hun (cwsg),

hŷn (henach);

llun (delw),

llyn (o ddwfr), &c.

 

Gwelir oddiwrth hyn mai gwall yw swnio u yn y; megys, cyro yn lle curo, pyrwr yn lle purwr, syrion yn lle surion, rhaglyniaeth yn lle rhaglun- iaeth. Mae y bai hwn o ran cynaniad yn un o’r rhai mwyaf rhodresgar mewn coeg-areithyddiaeth, fel pan ddywedir

creadyried pechadyrus, du enw
, du ogoniant, du wyneb, &c.


mewn dynwarediad o ryw Ddeheuwyr hyawdl; yn lle crëaduriaid pechadurus, dy enw, dy ogoniant, dy wyneb.

Ond yr ydym yn cofio y ffoledd hyn yn fwy cyffredin nag yw yn awr; mae cenedl yr Hwyntwys gogleddol yn diflanu, dybygem, o dipyn i beth.

4. Sylwn yn nesaf ar rai gwallau eraill yn seiniad y llafariaid, a ffynant mewn gwahanol ardaloedd, ac yn benaf yn y Deheudir; megys, troi ae ac e;

bl’an, lla’s, ma’s, gwa’d,

yn lle blaen, llaes, maes, gwaed:

ai yn ae ac e;
bauch, brauch, byddau, rhodie,

yn lle baich, braich, byddai, rhodiai:

au
yn ou;
dou, clou, gou, houl,

yn lle dau, clau, gau, haul:

i
ac y yn ei;
rhagreithiwr, weineb,

yn lle rhagrithiwr, wyneb:

o
yn w; trwed yn lle troed:

oe
yn o;
cro’s, llo’r, o’n, po’n
,
yn lle croes, lloer, oed, poen:

oe
yn oi;
coid, oin, poith,

yn fin-fain ryfeddol, yn lle coed, oen, poeth:

oe
yn ou;
oud, ffroun, pour
,
yn lle oed, ffroen, poer:

wy
yn w;
cwmmws, cwmpo, rhwmo
,

yn lle cymhwys, cwympo, rhwymo.

Talfyrir ae ac oe yn a ac o, yn fynych gan brydyddion er mwyn odli; megys,

bla’n
i odli â glân,
ma’s
â gras,
erio’d
â boc, clod, &c.

 

Efallai fod hyn yn oddefol mewn prydyddiaeth rydd,
oherwydd prinder geiriau cyfodlaidd, fel yr arforir rhai deuseiniaid eraill, megys ac, ai ,ao au, i gydodli yn gwae a bai, maes, parhaus, &c. yr hyn sy lawn gystal ag i ac u yn tir a pur, rhin ac un. Etto, barna rhai mai gwell a harddach i’r golwg fyddai ysgrifenu y deuseiniaid yn llawn, hyd yn nod pan eu arferir fel hyn;

maes, oen, erioed, ac nid ma’s, on, erio’d.


[‘Gwel yn helaethach ar hyn yn “Y Traethodydd:”- tudal, 378, Llyfr ii.]

5. Cyn gadael y llafariaid, sylwn ar un peth ag sydd yn nôd o wahaniaeth hanfodol rhwng y Wyneddaeg ar Ddeheubartheg; sef, fod amryw eiriau unsill, a gyfrifir yn fyrion yn y Gogledd, yn cael eu swnio yn hirsain yn y Deheubarth; ac, yngwrthwyneb, fod amryw eiriau a gyfrifir yn fyr yn y Deheubarth, yn hirsain yn y Gogledd. Gosodwn yma restr o honynt. Y rhai hyn a swnir yn gyffredin yn fyrion yn y Gogledd, ac yn hirion yn y Deheudir:

eb, heb, cwb, twb; bid, nid; sef; rhag, nag (gorair a chysylltiad); dil; call, dall, gwall,
llall, pall, gwell, pell, gwill, mill, pill, a coll, moll, toll, gwyll;
nas, nes, nis.

Y rhai canlynol ydynt hirion yn y Gogledd, a byrion yn gyffredin yn y Deheudir;
gallt, gwant, ballt, allt, dellt, gwellt, mellt, bollt, hollt, mollt, swllt, gwynt, myllt;
hesb, gwasg, pasg, tasg, hesg, llesg, pesg, gwisg, plisg, rhisg, llosg, cwsg, dysg, gwrysg, gwysg, mysg;
gast, cest, crest, ffest, cist, Crist, clist, trist, bost, cost, rhost, test, clust, ffust, crwst, gwst, ffrwst, trwst, cyst, pyst, tyst;

at y rhai efallai gellir chwanegu oll, holl, a byth, a swnir weithiau gan rai yn fyrion.
Yn awr, pwy a feiddia benderfynu rhwng y Wyneddaeg ai Ddeheubartheg, pa un sydd gywir yn hyn? Hawdd yw hòni cywirdeb un, a beio anghywirdeb y llall, ond profi y naill neu y llall felly yw y pwnc. Hyn nis meiddiwn ni anturio arno. Barnwn yn hytrach mai gwell yw i’r ddwy chwaer uchelryw, y ddwy efelles unoed, ymostwng i gydoddef a chyd-ddwyn

 

 

A black and white document

Description automatically generated with low confidence
(delwedd G3935) (tudalen 8)

 

 

(x8) â’u gilydd yn gariadus; hyny yw, “cyttuno i wahaniaethu” yn y mater yma. Gan nad oes un ac acèn-nod yn cael ei arferyd gyda’r cyfryw eiriau, ymddengys fod hyn, o fwriad, wedi ei adael yn anmhenodol; gan nad yw eu swnio yn hir neu yn fyr yn arwain i ddim amwysedd. Eisieu iawn olygu y gwahaniaeth hwn a barodd dipyn o fethu cydweled rhwng ysgrifenwyr dysgedig yn y “Gwladgarwr,” rai blyneddau yn ol; sef “Cymro Llwyr,” (Deheuwr, fel yr ymddengys) o un tu; “Tydecho,” a’r Golygydd, (Gogleddwyr) o’r tu arall.

[Gwel y “Gwladgarwr.” Cyfrol v. am 1837 - tudal. 67, 239, 294.]

Ond iawn i ni gydnabod i ni dderbyn gradd o gymhorth ar y pen hwn oddiwrth en llafur hwy.

II. Mae amrywiaethau llëol yn nhafodiaeth y wlad yn tarddu hefyd -

1. Oddiwrth gynaniad anghywir y ddwy gydsain c ac g, o flaen y llafariaid a, e, i, ac u; swnir c yn fynych fel ci neu k, ac g yn gi.

Yn lle canys, dywedir cianys (kanys);
caws, ciaws;
cenedl, cienedl.;
tad cu, tad ci;
cŷn, cin;
gair, giair;
gem, giem.

Clywir ambell un yn darllen dywediad fel hwn,

“A’r cadarn fydd fel carth,” megys pe ei hysgrifenid,
“A’r kadarn fydd fel karth”


yn llusgenaidd ddigon felly. Nis gwyddom am un gair yn cael ei lurgunio i gynnifer o ffurfiau yn fwy nag enw y grawn cyffredin, ceirch, fel arall,

keirch, cerch, kerch, cyrch, circh
, a pha beth etto?

Dyma chwe’ dull am yr un gair, ond y cyntaf yn unig sy gywir.

Dylai c ac g gael yr un sain o flaen yr holl lafariaid ag sydd iddynt o flaen o, w, y, l, n, ac r.

2. Peth arall a wna wahaniaeth yw gadael allan rai llythyrenau heb en swnio, neu chwanegu ambell lythyren heb ei heisieu; megys y gwelir wrth y cyferbyniad canlynol rhwng tafodiaeth y ddwy dalaeth:-

GWYNEDD.

DEHEUBARTH.

boddlon (boddlawn)

bo’lon

cyhoeddiad

cyhoeddad

cymdeithas

cymdeithias

misol

misiol

chwech

hwech

chwe’-llath

hwech-llath

chwedleua

hwedleua

ei mab (hi)

ei mhab

ei nai (hi)

ei nhai

ein natur

ein nhatur

newydd

newy’

tywydd

tywy’

i fyny

i fynydd

oeddwn

o’wn

oeddem

o’em

rhoddes

rho’ws

tra fyddech

tr’ech

tra fyddo

tr’o

yr iaith

y iaith

 

“Tafarn hwdlyd,” yw “ tafarn chwydlyd.”

Yr hen ddiarebion hyn o eiddo y Deheuwyr:
“Hwibon i faban, arad i ŵr;”
“Hwareuid mab noeth, ni hwery mab newynog:”

yn y Gogledd a barablid fel hyn
“Chwibon i faban, arad i ŵr,” a
“Chwareued mab noeth, ni chwery mab newynog.”

Yn y gwrthwyneb etto,
“Gieir a chwied “ a wedant yn y Deheudir,
ond yn Ngwynedd, “ieir a hwyaid;”

unigol, giâr, iar;
chwiaden
, hwyaden.

Tra beius y dywed rhai Gogleddwyr,

difot
am diffodd, diffoddyd;
rhoid
am roi neu roddi.

3. Y gwahaniaeth nesaf a ddaw oddiwrth gamgyflëad llythyrenau mewn geiriau:

dd-f
, tangneddyf, yn lle tangnefedd;
dd-l
, cywiddyl yn lle cywilydd; giddyl, yn lle gilydd;
n-f
, onfi, yn lle ofni; cenfi, cefnu; llynfi,llyfnu.

Yn rhai manau clywir wmed a gwymed, yn lle wyneb a gwyneb.

Nid yw hyn amgen na “rhoddi y càr o flaen y ceffyl;” ond efallai mai eithriad barddonol yw uddyf yn lle ufudd neu ufydd: -

 

 

 

A black and white document

Description automatically generated with medium confidence
(delwedd G3936) (tudalen 9)

 

(x9) “Yn eiddil blentyn uddyf.” Dewi Wyn.

4. Achos arall o wahaniaeth yw estyn geiriau yn afreidiol: megys,


cefn

cefen

drachefn

drachefan

llyfr

llyfyr, llyfur

ofn

ofan

ochr

ochor

teml

temel

llestr

llester

trefn

trefen

syml

symyl

ystorm

ystorom

 

III. Mae gwahaniaeth hefyd yn yr arferiad o enwau a rhagenwau; megys,

1. Yn nherfyniadau llïosog enwau:

(au) penau, pena, pene:
(iau) dyddiau, dyddia, dyddie:
(aid) defaid, defed; llygaid, llyged; offeiriaid, ofeiried:
(ion) “dynon ceimon, byron, bach,” yn lle “dynion ceimion, byrion, bach:”
(ed) merched, merchaid; pryfed, pryfaid:
(oedd) dyfroedd, dyfrodd; moroedd, morodd.

Hefyd, lloi, lloia; adar, drynod (h. y.) aderynod, &e.

Llygriad enbyd yw dodi s at derfyniad lllosog geiriau;

boneddigion, nid boneddigions;
gweithwyr, nid gweithiwrs;
cregin, nid cregins,

a ddylid.ddywedyd.

2. Yn nherfyniad a threigliad rhai enwau gweidiaid; megys,

(aidd) mwynaidd, mwynedd; peraidd, peredd;
(ain) llydain, llyden; bychain, bychin.

Dywedir yn Ngwynedd, “dynes bach,” “geneth bach,” “eglwys bach” ond yn Mhowys a Deheubarth, “dynes fach,” geneth fach,” “eglwys fach.”

Y cydseiniaid cyfnewidiol, mewn ansodd-eiriau, a gymerant y sain ysgafn i gyttuno ag enwau benywaidd o’r rhif unigol; megys,

gwraig ddoeth,
merch lân,
gwisg wen;

felly cywirach y “dynes fach” na “dynes bach.”

Etto, y Deheuwyr a wedant,

“dau gau dyst,”
“yn gau dystion,’
“yn go dda:”

mwy rheolaidd yw
“dau au dyst,”
“yn au dystion,”
“yn o dda.”

Hefyd, hwy wedant,

“lled na’r ddaear.’
“lled na’r môr:”

ond dywed Gwyneddigion,

“lletach na’r ddaear,”
“lletach na’r môr.”

3. Mae cymysgu rhywiau yn achos arall o wahaniaeth. Trwsgl ddigon y dywedai un,

“Y drydydd adnod o’r bedwerydd bennod o Ail Lyfr Samuel.”

Mae cyfnewidiad y cydseiniaid dechreuol t, p, ll, idd eu sain ysgafn d, b, l, yn arwyddo y rhyw fenywaidd, ond mae y terfyniad ydd, a’r gair llyfr, yn eu gwrthdaraw, gan eu bod o’r genedl wrywaidd. Cywirach gan hyny fyddai dywedyd (yn ol canon Arfonwyson)

[“Trysorfa yr Athrawon:” - tudal. 309.]

“Ail Llyfr Samuel, y bedwaredd bennod, a’r drydedd adnod.”

Tybia rhai er hyny fod ail yn eithriad i’r rhifiadau trefniadol eraill, yn cael ei ddilyn gan y sain ysgafn heb wahaniaeth rhyw; megys,

ail ddyn, ail wr, ail ben, fel ail ddynes, ail wraig, ail law:


ond eraill a farnant y gellir dywedyd,

ail dyn, ail gwr, ail pen


a bod hyny yn fwy rheolaidd.

“Dwy droed sy ganddo, ac nid pedair,” ebai Martha Pseudogam am ei gŵr: prin y mae holl helbulon Mrs. P. yn ddigon o esgus dros ei llediaith, oni b’ai i ni goflo mai yn fenywaidd y treiglir y gair troed yn nhafodiaeth ei gwlad hi. Gan nad oes yn y Gymraeg ffurf benodol i’r ganolryw, mae enwau pethau difywyd, a geiriau dansoddawl, yn cael eu troi yn wrywaidd neu fenywaidd, fel y byddo eu teithi yn gogwyddo. Ond y mae yn anhawdd penderfynu am rai geiriau

[“Cyfarwyddwr Priodas,” gan William Williams Pant-y-Celyn: - tudal.4. Mae yn waeth fyth yn yr argraffiad cyntaf, “Dwy troed,” &c.]

 

 

 

A picture containing text, newspaper, screenshot, document

Description automatically generated
(delwedd G3937) (tudalen 10)

 

(x10) i ba ryw y perthynant; ar un golygiad, cymerir hwy yn wrywaidd, golygiad arall a’u deugys yn fenywaidd. Y gair cwpan a dreiglir yn fenywaidd yn gyffredin yn Ngwynedd; fel hyn, y gwpan, tair cwpan, cwpan fawr, ac y mae y priodolder o gynnwys, dybygid, yn arwain i hyn; ond y mae y lafarog w yn ei ddynodi yn wrywaidd, a’r terfyniad an sy gyffredin i’r ddau ryw, megys yn capan, carfan, y naill yn wrywaidd a’rr llall yn fenywaidd: felly yn y rhyw wrywaidd y ceir y gair cwpan yn mhob man yn y Bibl; megys “y cwpan hwn,” “y cwpan a’r ddysgl.” Mae amryw eiriau a gyfrifir yn wrywaidd yn nhafodiaeth y Gogledd, yn y Dehau yn cael eu treiglo yn fenywaidd, ac yn y gwrthwyneb.

[“Dr Pughe’s Grammar of the Welsh Language:” - pp. 30, 31. “Hanes Cymru:” - tudal. 157, nodiad.]

Gellir ystyried rhai yn anmhenodol, a’u rhyw i’w benderfynu yn ol rhediad yr ymadrodd, fel y cawn anghreifftiau aml yn Bibl; megys, “y doethineb hwn,” “y ddoethineb,” “doethineb a adeiladodd ei thŷ;” “y duwiol anian;” “a’r bla a attaliwyd,” &c. Etto gwrywaidd y cyfrifir doethineb, a benywaidd yw anian, ac y mae y gair pla wedi ei ddodi yn unffurf yn wrywaidd yn argraffiadau diweddaf Cymdeithas y Biblau.

4. Gwahaniaeth arall sydd yn arferiad y rhagenwau, yn enwedig y trydydd dynsawd unig, gwrywaidd, ar llïosog.

Deheubarth.- Ef, efe, e, unig; hwy, hwynt, hwyntwy, llïosog.
Gwynedd. - O, fo, efo, neu y fo, unig; nhw, nhwy, nhwythau, llïosog

Oddiwrth y gwahaniaeth hwn y tarddodd yr arfer ffôl o alw gwŷr y Deheubarth yn “Hwyntwys,” a “Hwntwy bach yn awr.” Ond na fydded gwaeth gan y Deheuwyr o herwydd hyn, oblegid mae y rhagenwau yn llawer mwy destlus ganddynt hwy na chan y Gogleddwr yn gyffredin, megys y tystia y dywediadau anghryno a ganlyn;

gydag efo,
efo fo,
efo ag efo,
efo ag o,
gydag o,
efo ag ethi hi,
gydag ethyn nhw,
efo nhwthau, &c.


Yn Ngwynedd, anfynych yr arferir y rhagenwau dangosiadol canolryw yn y rhif unigol, def hyn, a hyny ond arferir y gwrywaidd a benywaidd, hwn, hwnw, hon, hon, yn eu lle; ond

yn y Deheubarth, arferir hwynt yn rhëolaidd, fel hyn,

“y llwybr hyn,”
“y ffordd hyn,”
“yr hiraeth hyn,”
“y drefn hyny,”


er y dilyniant y dull ffugrol hefyd yr un modd ag yn y Gogledd, megys, “y bud hwn,” “y deyrnas hòno.”

IV. Sylwn yn nesaf ar yr amrywiaeth a gyfarfyddwn yn y perwyddiaid.

1. Yn y modd annherfynadwy:

dringo, pwnio, swnio, costio, rhostio, barnu, damsang, meithrin, &c.

a gymerant olddodiad tra gwahanol yn nhafodiaeth Dyfed; megys,

dringad, pwno, swno, costi, rhosti, barni, damsiad, meithrynu.

Yr arddodiad i, pan fyddo yn arwydd o’r modd hwn, a ellir ei hebgor yn fynych, heb niweidio yr ystyr, megys yn y brawddegau canlynol: -

“A raid i groesau fyth yn
llyn
[I] ganlyn f’enaid bant a bryn?”

“Dichon fod yn gymhwys [i] amlygu beth yw ein meddwl wrth y geiriau.”
“Mae y dyn yn cymeryd arno [i] fod yn ddoeth.”
“Gwelodd fod yn dda [i] gyhoeddi y celai y rhai a alwyd eu dysgu.”
“Fe welodd Duw fod yn dda [i] ddyfod ag ef i dref yn iach-lawen,”

ebai y Ficer Prichard am Siarl I.: ond Gogleddwr a ddywedasai,

“Gwelodd Duw fod yn dda

 

 

A black and white document

Description automatically generated with low confidence
(delwedd G3938) (tudalen 11)

 

(x11) ddyfod ag ef adref yn iach a llawen,” neu, “yn iach-lawen,” gan adael heibio yr i o flaen y perwyddiad.

2. Mae y trydydd dynsawd unig o’r amser gorphenedig, modd mynegol, yn terfynu yn dra amrywiol. Y terfyniad mwyaf cyffredin yw odd (gynt, awdd) megys, carodd, dysgodd: arferir hefyd es, ac weithiau is; megys, rhoddes, gweles, gelwis, &c.

 

 

“Ni weles da yn nhŷ ei dad, a hoffes da yn nhŷ ei chwegrwn.”

 

“Ni sengis yr ŷch ar dy droed.”

 

Ond heblaw y terfyniaid hyn, ceir yn y Ddeheubartheg as, ws, ac wys; megys cafas, rhanws, prynwys;

 

“A ranwys nef a gafas.”

 

Mae yr englyn canlynol “i wraig o Went a gurasai ei gŵr,” yn gynllun campus o’r terfyniad ws: -

“Yn awr y cwnws i’r nen - ei phastwn,
  A ffustws ei gefen;
Cnòcws, tolcws ei dalcen,
Pan waeddws, baeddws ei ben.”     W. Phylip.

Wel, meddwn, un dost oedd hi, beth bynag, a thost oedd y bardd a’i darluniai mor orchestol ar gan lleied o eiriau. Ystyrir fod gallu iaith yn cael ei arddangos yn odidog pan fyddo sain y geiriau yn ateb i’r synwyr. O herwydd hyn, golygir y llinellau canlynol yn dra chywrain a grymus: -

“Tân a dwr yn ymwriaw
Yw’r taranau, dreigiau draw.”     D. ab Gwilym.

“Uchel-gadr raiadr, dwr ewyn, - hydrwyllt,
      Edrych arno’n disgyn;
Crochwaedd y rhedlif crychwyn,
Synu, pensyfrdanu dyn.”       Dewi Wyn.

Mae y bardd uchod, ysgatfydd, yn gwbl mor llwyddiannus. Drwy fynychu y terfyniad ws, darlunia mor fywiog y ffrwst, y trwst, yr ymwrwst, a’r ymosod, naturiol i’r fath ymgyrch, nes yw yn sylweddoli o flaen ein llygaid yr hyn a hanfodai yn unig yn nychymyg y prydydd. Ond i adael i’r beirdd farnu, awn rhagom.

Yn y parwyddiaid goddefol o’r amser hwn, arferir ed yn fynych yn lle wyd; megys, rhodded, tyned, am rhoddwyd, tynwyd. “A aned tydi yn gyntaf dyn? a lunied dydi o flaen y bryniau?”
Job v. 7. Oddiwrth hyn, ymddengys fod

 

aed, caed, gwnaed, cloed, rhoed,

yn gywirach nag aw’d, caw’d, gwnaw’d, clow’d, rhow’d.

3. Yn iaith sathredig y wlad, terfyna y trydydd dynsawd unig o’r amser dyfodol yn iff, yn lle a, megys aiff, rhoddiff, dysgiff, am äa, rhodda, dysga, neu â, rhydd, dysg. Llygriad mawr yw hyn, meddai y Dr. Davies, ag oedd, yn ei amser ef, wedi bod mewn hir arferiad, yn llefariad ac ysgrifeniad yr iaith; ond y Dr. Pughe yn ei “Ramadeg,” a’i cyfreithlona; a thybiai awdur “Y Brud a Sylwydd,” (tudal. 40, nodiad) “mai olddodiad rhagenwol” ydyw, er y “gall fod yn llygriad o f (megys yn o ef) i iff:’ etto dichon fod “y ddwy lythyren yn arwyddo y rhagenw hwn.” Fel hyn, gallai i beth, a ystyrid yn llygriad a gwall ar y cyntaf, ddyfod mewn amser, drwy arferiad cyffredin, yn rhan hanfodol o iaith. Pa fodd bynag, mae rhai ysgrifenwyr da, megys Charles Edwards ac eraill, wedi defnyddio y terfyniad iff yn ith. Ond llygriad neu beidio, y mae erbyn ein dyddiau ni ddirywiad llawer gwaeth wedi cymeryd lle, sef troi yr iff yn ith; megys,

 

gwneith, dywedith, corddith,

yn lle gwna, dyweda, cordda, neu gwnaiff, &c.

 

Dylai areithwyr cyhoedd ochelyd y gwall hwn yn bendifaddeu.

 

 

 

A picture containing text, newspaper

Description automatically generated
(delwedd G3939) (tudalen 12)

 

4. (x12) Cyfyd amrywiaeth arall o dreiglo yn rheolaidd rai perwyddiaid a ystyrir gan y gramadegwyr yn gyffredin yn afreolaidd neu ddiffygiol; byw a marw yn Ngwynedd, cael a dawed yn y Deheubarth, ydynt anghreifftiau o hyn. Dywedir yn Eifionydd,

“Gwlad uchel yw Penllyn; ni fywiwn i ddim yno pe y cawn lawer am hyny.’
“Aeth Madawg i America, ac yno y marwodd o.”
“Pa hyd y bywiodd o, nis gŵyr neb.”
“Os bywi di, neu os marwi” - h.y. “Os byddi fyw, neu os marw a wnai.”

Yn Ngwent, dywedant,
“Pe celai
caelai e fyned,” yn lle “Pe cai efe fyned.”
“Fel y celent
caelent ddaioni,” yn lle, “ Fel y caent ddaioni.”

Yn gyffredin, treiglir y barwyddiad hon oddiwrth y trydydd dynsawd unig o’r awer dyfodol, modd mynegadwy, ac nid oddiwrth ei ffurf yn y modd annhirfynadwy, sef ca, ac nid cael. Yn lle

dawed, dawaf, dawant, dere, dewch, dawer, dewir,
&c., y Deheuwyr - arferir
dyfod, deuaf, deuant, tyred,
(dyred) dowch, deuer, doir, &c., yn y Gogledd.
Mae buo yn lle bu, ac eutho yn lle aethum, yn anghywir.

V. Annymunol iawn i glust fanol yw clywed geiriau yn cael eu harfer yn anmhriodol, er fod rhai dywediadau o’r fath yn ddigrif eu gwala. Nodwn ychydig o lawer a ellid goffau: -

“Dynes lân arw;”
“benyw lân fudr yw hi;”
“dyma beth clws ofnadwy;”
“gwych aflawen;”
“da gynddeiriog;”
“cryf anafus.”

“Nid oes un o’r rhai’n yn cysgu
Ddydd na nos, ond golchi canu.”

Felly y dywedodd ficer Llanymddyfri

 

[“Canwyll y Cymry:” – tudal. 288]

 

am y saint yn y nef, gan feddwl eu bod yn “canu yn egniol a didor.” Yr un modd dywedir, “golchi pregethu,” a “golchi arni hi,” am bregethu, neu wneuthur rhywbeth yn egniol. Mae y llygriadau gwrthun o’r geiriau uchod, a’u cyffelyb, sydd yn ffynu ymhlith y gwerinos anwybodus, yn anoddefol dros ben: megys

 

“rhad gynddeirus,”

“ofnaswy,”

“afnadsan,”

“shoe o dda,”

 

ynghyd â llawer o eiriau hyllion a disynwr a arferir yn lle tyngu amlwg halogedig, ac heb fod dim gwell a hynny. Dywedir yn Ardudwy, mai cynnyrch sir Fon yw afnadsan; os gwir hyny, gresyn oedd adeiladu Pont ar Fenai i drosglwyddo oddiyno y fath newydd diwerth, neu na chadwasid yn toll-borth yn fwy manwl. O ba le bynag yr hanodd, dylasai yn mhob modd gael ei gadw gartref.

VI. Mae bod gwahanol eiriau yn arwyddo yr un pethau yn peri gwahaniaeth, ond ar yr un pryd mae yn brawf o helaethrwydd yr iaith. Enwau gwrthddrychau, crëaduriaid, coed, llysiau, offerynau gwaith a chelfyddyd, nwyddau, &c. ydynt amrywiol iawn mewn gwahanol ardaloedd. Nis gellir yma ond dodi ychydig o anghreifftiau; megys,

 

ammodau, telerau;

ardreth, rhent;

arenau, llefnau, elwl;

bagad, llu, torf, tyrfa;

claddedigaeth, cynhebrwng;

deffol, dethol, ethol, dewis;

dôr, drws;

edliw, ymliw, lliwied, dannod;

ffêr, migwrn, bigwrn;

ffwrn, pobtŷ;

tŷ ffwrn (pobtŷ), tŷ-pobty;

gwrych, cae, perthgae;

haidd, barlys (h.y. bara-lys);

iwin, ffyrnig, gorwyllt;

lloer, lleuad;

llawn lloer, llawn lleuad, llawn lluned, llawn lloned;

lloergan, lloergan lleuad, goleu-leuad, goleu belydr, “mae hi yn oleu belyd’ heno;” mellt, lluched, dreigiau (mellt dystaw);

niwl, nifwl, nudd, caddug, ysmwcan;

porfa, porfel;

cenllysg, cesair;

arad,

 

 

A black and white document

Description automatically generated with low confidence
(delwedd G3940) (tudalen 13)

(x13) aradr, (a elwir yn Ngwynedd) gwŷdd, gwŷdd-arad, gwŷdd aredig.

 

Y gyfarwydd (glow-worm), goleuen, ll. goleuod, y fagien, a elwir yn Eifionydd, “y tân bach diniwed.”

 

Enwau cyfathrach ydynt dra amrywiol; megys –

 

GWYNEDD

POWYS

DEHEUBARTH

 

taid

tad da

tad cu

 

nain

mam dda

mam gu

 

tad yn nghyfraith

chwegrwn

chwegrwn

Felly yn y Bibl. Saes. Father, &c. in-law. Mae Powys a Deheubarth yr un modd am yr enwau blaenaf.

mam yn nghyfraith

chwegr

chwegr

mab yn nghyfraith

dau

dau

merch yn nghyfraith

gwaudd

gwaudd

tad yn nghyfraith

tad gwyn

llysdad (step-father)

 

mam yn nghyfraith

mam wen

llys-fam (step-mother)

 

mab yn nghyfraith

mab gwyn

llys-fab (step-son)

 

merch yn nghyfraith

merch wen

llys-frech (step-daughter0)

 

plant yn nghyfraith

plant gwynion

llys-blant (step-children)

 

 

Wrth hyn, gwelwn nad oes yr un gair sathredig yn Ngwynedd i wahaniaethu rhwng chwegrwn a llysdad, &c., er fod y berthynas yn wahanol; yr hyn sydd yn fyrdra y byddai da ei ddiwygio, drwy ddwyn geiriau y Bibl i arferiad cyffredin.

 

Yn Neheubarth a Phowys, arferir y gair ysgadan (oddiwrth câd, yn arwyddo llïosogrwydd y pysg hyny), ond yn Ngwynedd, penwag a phenweig, a ddywedir; ond pa briodoldeb sydd yn yr enw nis gallwn ddirnad, os nad yw yn llygriad o penaig (unig, peneigyn) gair tra chymwys am y pysg lliosocaf eu heigiad yn y moroedd hyn, un o ba rai a ddwg y nifer mawr 68,606 o silod; ac felly mae y ddau air yn gyfystyr.

 

2. mae yr un geiriau hefyd yn fynych yn arwyddo gwahanol bethau; y naill ardal yn eu cymeryd mewn un ystyr, a’r llall mewn ystry arall. Gwirion yn y Gogledd a arwydda ffol; ond yn y Deheu, yn fwy priodol, arwydda diniwed; yn yr un modd yn y Bibl a’r Llyfr Gweddi, “gwaed gwirion,” “gŵyl y gwirioniaid,” sef bachgen bach Bethlehem.

 

Cwt, cut. Pan alwodd ein hybarch gyfaill Erfyl gyda’r enwog Dewi Wyn, yn Mhwllheli, ebai Dewi, “Gwell genyf fod gyda bardd, pe b’ai ond mewn cut mochyn, na chyda llawer boneddwr yn ei balas.”

 

[“Blodau Arfon:” tudal.31]

 

Mae yn dra thebyg mai cwt mochyn a ddywedodd y bardd; oblegid felly yn gyffredin y dywedir yn Llëyn ac Eifionydd; oddieithr i Ddewi arferyd y gair a ddëallir yn ngororau Caereinion. Wrth y gair cwt yno y meddylir godre neu losgwrn.

 

GWYNEDD.   

DEHEUBARTH.     

allan

i maes, i faes

allan o law

maes o law

o hyd, trwy gydol yr amser

awr ac orig

byth a hefyd

awr ac enyd

yrwan (yr awron)

yn awr

yr hawg

enyd o amser (i ddyfod)

yr hawg iawn

am hir amser (i ddyfod)

bod ag un

bob un, bob yr un

bod y pen

bob pen, bob copa

da iawn

iawn-dda

da i’r pen draw

da buwr

canu yn iach, canu ffarwel

ffarwelo

 

 

 

 

A black and white photo of a document

Description automatically generated with low confidence

(delwedd G3940b) (tudalen 14)

(x14) câd ynghudyn   

pen yn erfid   

am, achos, oblegid

o waith    

ynghylch, oddeutu 

obeutu

i lawr, isod  

obry, i waered

i mi

i fi

acw      

oco, onco

i lawr, ymaith  

i bant, i bant ag e' 

i'w (i ei, i eu)  

iddei, iddeu, (beius yw “i’w ei,” “i’w eu”) 

O bobl! O wyr!  

hawyr!     

bobl anwyl!   

hawyr bach!    

mai - “clywsom mai ef oedd o”

taw, tai – “clywsom taw e oedd”

fel hyn (mal hyn)

yn llyn

i fyny, uchod  

fry, “fry ar y lan”

hyn acw    

onco

codi

cwnu

tipyn - “tipyn o ffordd”

cetyn - “cetyn o ffordd”

“cryn dipyn o ffordd”

“cetyn diogel o ffordd”

    

Hela, hala. – “Hala hi i’r làn;” h.y. danfon hi i fynu.

 

“Wedi hela triugain mlwydd,” sef wedi treulio, neu fyw gynnifer o flyneddau.

 

Mae hala yn air o ddefnydd mawr gan y Deheuwyr.

 

Hô1, nôl. – “Dos i hôl ddŵr” (Gwent); “dos i nôl dŵr,” (Gwynedd); “dos i geisio dŵr,” “dos i ymofyn dw’r.”

 

“O led y pen,” (De); h.y. yn llydan agored, neu yn lledfan agored.”

 

“ Mae drws yr ysgubor yn lledfan agored.”

 

“Nid oes dim o hano i yn ei nabod e; nid oes dim o hano fe yno yn awr;”

 

h.y. “Nid wyf fi yn ei nabod; nid yw efe yno yn awr.”

 

Pan ddaeth hymnau y Parch. W. Williams, Pant-y-Celyn, gyntaf allan, yr oedd rhai ymadroddion ynddynt, o briod-ddull y Ddeheubartheg, yn swnio yn dra dyeithr yn nghlustiau pobl y Gogledd, am nad oeddynt yn eu dëall. Hyn a barodd i rai yn Ngwynedd, megys y Parch. Robert Jones, yn y “Grawn-sypiau,” newid ychydig arnynt tuag at eu gwneyd yn fwy dëalladwy, fel y byddent yn fwy derbyniol gan y gwerin bobl. Y Deheuwyr oeddynt anfoddlawn i hyny. Clywsom am henafgwr parchus o Geredigin, oedd yn byw yn Llundain, ag oedd mewn petrusder mawr pa un a bechodd fwyaf, ai Peter Williams, drwy newid cyfieithiad awdurdodedig y Bibl, ai Robert Jones, wrth newid hymnau W. Williams. Mab yr anfarwol fardd, y Parch. John Williams, pan ddangoswyd y “Grawn-sypiau” iddo gyntaf, a daflodd y llyfr o’i law gyda diystyrwch; ac wrth ymddyddan â dau weinidog o Wynedd, oeddynt ar eu taith ryw dro yn swydd Gaerfyrddin, dywedodd, “Mae pobl y Gogledd oco yn newid hymnau fy nhad; maent yn tynu y gair ‘maes’ i maes o honynt.” Yna chwanegai yn lled oganllyd, “Nid oes o hona i yn gwybod beth a roddant yn ei le yn yr hymn hono -

 

‘O’r graig y mae’n dylifo, ma’s

Yn afon ddysglaer loyw lâs:’

 

rhywbeth tebyg i hyn ond odid -

 

‘O’r graig y mae’n dylifo allan,

Yn afon fawr hyd ben draw’r berllan.”‘

 

Ond beth a ddywedasai efe yn awr, pe buasai yn fyw, wrth weled y Deheuwyr eu hunain wedi cymeryd mewn llaw eu newid? Mae pobl y Gogledd erbyn hyn, pa fodd bynag, wedi ymgynnefino â’r dywediadau, yn awr, i bant, i maes, i dre, &c. fel nad ydynt mwyach yn dramgwyddus iddynt.’

 

VII. Cymreigio Saesoneg sydd wedi bod yn achos o lawer o gymysgedd, llygriad, ac anurddiad, ar yr iaith: megys, Suppose, dowto, repento, belongo; bilyngied, leicio, loitran, lwlan; begeriaid, yn lle cardotwyr; drachtio, yn lle yfed, traflyncu; landio, yn lle glanio, tirio; ledio, yn lle

 

 

 

 

 

A black and white photo of a document

Description automatically generated with low confidence

(delwedd G3940c) (tudalen 15)

 

(x15) arwain, tywyso; siort (sort), yn lle math, &e. Gresyn oedd i eiriau mor anffurfiol ag yw sassiwn, seiat, cwrdd preifat, &c. ddyfod i arferiad mor gyffredin ymhlith crefyddwyr, yn lle geiriau Cymreig dilediaith a allesid eu defnyddio; megys, cymanfa, cymdeithasfa, cymdeithas eglwysig, cyfarfod neillduol, &e. Mae britho pregethau a geiriau Seisonig dysgedig, megys, inference, instance, idea, proposition, &c. yn eu gwneyd i ryw raddau yn annëalladwy i’r gwerinos uniaith; a gwell, dybygem, fyddai rhoddi y dull hyny heibio, ac ymostwng i lefaru yn nes at eu hamgyffrediadau.

 

Gwŷr Dyfed ynt haeddiannol o glod am gadw ar arfer yr hen air Cymraeg anner (buwch ieuanc) am yr hwn ni fedd y Gogleddwyr un gair, namyn heiffer, sef llygriad o’r Saesoneg heifer. Ond y maent hwythau heb un addewid; promais a promeiso sydd ganddynt am y cwbl, ac i hyny y maent yn trusto. Gallai y Cymry droi y naill hanner o'r Saesoneg yn gyfryw Gymraeg a hyn; ond, hawyr! pa les fyddai?

 

VIII. Yn olaf, nodwn un peth etto sydd yn gwahaniaethu trigolion gwahanol barthau y wlad yn eu dull o siarad; sef yw hyny, yr amrywiol enwau bychanigion a roddant ar eu gilydd yn lle eu henwau priodol. Am John, dywedir Jack, Jacky, Jacko, Sion, Sionyn, Siac, Siacci: yn lle Jane, gelwir Jenny, Jinny, Jinno, Jinten, Siân, Siani, Sieni, Sianten. Gwilym neu William, a lysenwir yn Wil, Bil, Bilo, Bilws, Bili; ac am Catherine neu Katherina, Catrin, Kate, Kit, Kitty, Catti, Cadi, Cadan, Cadws, Cadsan, Cadsen, Kitsen. Mae yr amrywiaethau rhyfedd ac anghysain hyn i'w clywed mewn gwahanol ardaloedd, a chyffelyb lysenwau ymron ar yr holl enwau mwyaf arferedig, er mawr waradwydd i'r trigolion, a diystyrwch ar eu benwau bedydd. Ymdrechiadau diwyd gyda’r genedl ieuanc a’i dygai i fynu yn ddyeithr i'r arfer ddrwg hon.

Weithian, y Cymry mwynlan cariadus, wele ni wedi gweithio ein ffordd trwy y dasg ddyrysaf ac annybenaf a gymerasom erioed mewn llaw. Cydnabyddwn mai yn ddigon anmherffaith ei cyflawnasom, ond nid ydym yn gwybod ddarfod i ni adael dim o bwys a berthynai i’r testun heb ei grybwyll; er y gallasem ymhelaethu llawer ar amryw bethau pe buasai ein terfynau yn caniatau. Mae y maes yn ehelaeth, ac nis gwyddom am neb wedi ei anturio yn y dull hwn o’r blaen; yr ydym yn meddwl ei fod yn teilyngu sylw llëenyddion ein gwlad. Gwnaethom ein goreu i wahaniaethu rhwng y gwych a’r gwael, gan ganmawl yr hyn sy ganmoladwy; a lle y bu gorfod arnom feio, gwnaethom hyny, nid i’r dyben o waradwyddo, ond yn hytrach er mwyn hylwybro tuag at ddiwygiad. Fe ganfyddir yn hawdd, wrth yr hyn a draethasom, leied sy gan y naill dalaeth, neu y naill ardal, i edliw i'r llall, o ran yr iaith: mae rhyw neillduolrwydd gwallus yn perthynu i dafodiaeth pob cymydogaeth, er nad yr un peth yn mhob lle. Yn gyffredin, ystyrir pobl y Deheubarth at eu gilydd yn fywiocach eu tymherau na brodorion y Gogledd, ac o herwydd hyn bod eu Cymraeg yn fèrach, yn siarad yn gyflymach na’r eiddynt hwy. Ond nid yw hyn yn yr helaethrwydd o hono idd ei gymeryd yn ganmoliaeth: mae y Wyneddaeg ar amryw ystyriaethau yn fwy cryno a destlus, a chynaniad y llafariaid ynddi yn fwy cyflawn a chywir; ac y mae yn llai cymysgedig â llygriadau Seis’nigaidd. Yn ei phurdeb cynwynawl, wedi bwrw ymaith yr hyn sy feius, mae ei hiaith ei hun yn hardd iawn yn ngenau y Deheuwr parabl-bêr;

 

 

A black and white document

Description automatically generated with medium confidence

(delwedd G3940d) (tudalen 16)

(x16) a’r un modd yn ngenau y Gogleddwr y mae yr eiddo yntau; ac yna leied yw y gwahaniaeth rhyngddynt.

 

“CYMRU, CYMRO, CYMRAEG!”

 

 

.....

 

 

(Y testun eto, heb y tudaelennau gwreiddol ochr yn ochr ag ef).

 

(x1) AMRYWIEITHOEDD Y GYMRAEG.

 

Nid oes un iaith, yn y byd, mae yn debyg, yn cael ei siarad yn hollol yr un modd yn mhob ardal lle ei harferir: mae gwahaniaeth, mwy neu lai, rhwng pob talaeth, a rhwng pob cymydogaeth. Mae amryw helyntion a dygwyddiadau yn tueddu i achlysuro hyn. Lle y byddo y gwahaniaeth yn fawr, gellir tybied fod didoliad o bwys wedi cymeryd lle rhwng llwythau yr un genedl i randiroedd pell oddiwrth eu gilydd, a bod pob ymgyfathrach wedi peidio rhyngddynt, a hyny er ys llawer o oesoedd. Mae y llwythau didoledig hefyd yn agored i ymgymysgu â chenedloedd eraill cymydogaethol, a thebygu mwy neu lai i'r rhai hyny yn ol fel y byddo grym eu dylanwad. Os cânt eu darostwng gan eu cymydogion, a'u dwyn dan yr un cyfreithiau a llywodraeth, gwna hyny mewn amser gyfnewidiadau mawrion : a thrafnidiaeth a chydgymysgu mewn priodasau a barant, gynnydd ar y cyfryw gyfnewidiadau. Mae manteision dysgeidiaeth mewn un iaith rhagor y llall yn effeithio i beri fod dylanwad mwy gan y naill ar y llall, fel y mae cenedl amddifad o fanteision dysg a gwybodaeth yn dueddol i efelychu cymdogion a fyddont yn fwy cyfoethog o'r manteision hyny. A lle byddo dysgeidiaeth yn ffynnu, mae yr iaith yn yr hon ei cyfrenir yn cael ei choethi a'i diwyllio. Yn ol y gradd o wareiddiad y byddo unrhyw genedl wedi ei gyrhaeddyd, eu dull o fyw, anghenion, tueddiadau, ac arferion, y ceir yn gyffredin fod tlodi ac annillynder neu helaethrwydd a thlysni eu hiaith. Mal hyn, tybygem, y mae fod cynnifer o gangen-ieithoedd perthynol i bob gwlad a chenedl yn y byd; yr un iaith yn y dechreuad wedi ymranu yn llawer o wahanol gangenau, yn gwahanaethu rywfaint oddiwrth eu gilydd, ac efallai y fam-iaith wedi llwyr golli o ran y siarad o honi yn ei phurdeb. Felly y cawn fod yr hen Geltaeg, iaith trigolion cyntaf Ewrop, wedi, ymranu un amrywieithoedd lawer, megys, y Gymraeg, y Gerniweg, y Lydaweg neu Vrezonec, y Wendaeg, y Wyddelaeg, a’r Gaeleg; y rhai ydynt oll yn dangos arwyddion amlwg eu bod wedi deilliaw oddiwrth yr un fam-iaith ddechreuol; etto, drwy effeithiau amgylchiadau cyffelyb ag a nodwyd, maent oll yn gwahaniaethu oddiwrth eu gilydd yn fawr. Ymddengys fod y Gymraeg a'r Lydaweg yn dwyn mwy o debygolrwydd i'w gilydd nag i’r Wyddelaeg a'r Gaeleg, a bod llawer mwy o berthynas rhwng y (x2) ddwy olaf â'u gilydd nag sydd rhyngddynt... ...wyr oddiwrth hyn fod y Cymry ar Gwyddyl wedi ymddeoli oesoedd lawer o flaen ymddidoliad y Cymry oddiwrth y Llydawiaid a’r llwythau eraill. Dywedir y gall y Cymry ar Llydawiaid ddeall peth o siarad eu gilydd, ond nis gall Cymro a Gwyddel gynnal ymddyddan â'u gilydd am un peth yn y byd.

 

[Gwel Dr. Pughe's “Outline of the Characteristics of the Welsh.” - tudal. 17.]

Mae hefyd amrywiaethau lawer yn perthynu i bob un o'r cangen-ieithoedd hyn. Gallem enwi y Lydaweg, i'r hon y perthyna tair neu bedair o amrywieithoedd, yn gwahaniaethu mwy neu lai oddiwrth eu gilydd o ran cynaniad ac o barth eu purdeb; megys cangen-ieithoedd Vannes, Leon, Treguier, a Quimper.

[Gwel lythyr y Parch. D. Jones, yn y “Drysorfa” am 1838: - tudal, 110, 111, &c.]


A thybygid fod y cenadon Protestanaidd Cymreig, gan nad ydynt yn enedigion o'r wlad hono, yn teimlo y cyfryw amrywiaeth yn yr iaith yn radd o rwystr yn eu hymdrech i bregethu yr efengyl i’r werin yn y modd mwyaf dealladwy yn ngwahanol barthau y wlad. Effeithia yr amrywiaeth hyn yn fwy drwy fod can lleied o ysgrifenu yu yr iaith, ac o goledd arni, fel ag i ddwyn yr amrywiol briod-ddulliau hyny yn nes at eu gilydd, a’u cyfuno fel rhanau hanfodol yr un dafodiaeth.
 Yr un modd am ein hiaith ninnau, y Gymraeg; perthyna iddi ei hamrywieithoedd. Efallai y gellir cynnwys yr amrywiaeth i gyd dan ddwy brif gangen, sef y Wyneddaeg a’r Ddeheubartheg “Yn y Deheu,” medd Theophilus Evans,

 
[“Drych y Prif Oesoedd:”- tudal. 18; y chweched argraffiad.]

 

“nid oes odid gwmwd na chantref, na wahaniaetha ryw ychydig yn yr iaith, nid yn unig wrth fod y werin yn rhoddi amryw seiniau i’r un geiriau, ond hefyd wrth alw ac enwi llawer o bethau ar wahan.' Felly cawn fod Dyfed, Gwent, a Morganwg, yn amrywio, oddiwrth eu gilydd fel y maent hefyd oddiwrthym ninnau yn y Gogledd. Yr un modd hefyd y gwahaniaethai Gwynedd a Phowys. Adnabyddir brodorion Llëyn a gwladyddion Cyfeiliog wrth eu lleferydd; er y sonir am “ynfydion” y naill


[Cyfeiriad at hen chwedl ddisail am ynfydion Cyfeiliog yn golchi eu traed mewn llyn, ac yn methu adnabod eu traed eu hunain, nes yr hapiodd i wr synwyrol ddyfod heibio a chymeryd gwialen, yr hen yn fuan a'u dygodd i ymgydnabod bob un â’r eiddo ei hun. Felly, os oedd ynfydion yn Nghyfeiliog, yr oedd yno bobl gall hefyd yn medru taraw yn union ar fodd effeithiol i ddwyn y lleill i'w hiawn bwyll, heb eu hanfon i'r gwallgof-dy.]


a “gwirioniaid” y llall,
 

[Sef “gwirioniaid Aberdaron.” Mae tarddiad y ddiareb lëol hen yn fwy o anrhydedd i'r trigolion na dim arall. Llong o Ddyfed, rywbryd yn yr hen amser gynt, a chwythwyd i'r làn gan dymhestl yn Aberdaron; a’r trigolion, hwyntau, a wnaethant ymdrechion tra dyngarol a gorchestol er achub y dwylaw a diogelu eu heiddo, ac, fel y Melitiaid, a’u lletyasant yn rhywiogaidd. Y Dyfedwys, pan yn myned trwy Bwllheli ar eu taith tua thre, a ganmolent yn fawr y caredigrwydd a dderbyniasent, ac wedent yn iaith eu gwlad, “Pobl fach wirion iawn yw pobl Aberdaron,” gan feddwl, yn ystyr gymhwys y gair, mai pobl dirion a diniweid oeddynt. Hyn, ac nid eu hanwybodaeth, fel y gwag-dybia rhai, oedd dechreuad ac yw gwir ystyr y ddiareb.]

 

etto, mae y gwahaniaeth rhyngddynt mor amlwg a rhwng Mon a Mynwy.

Y Saeson hefyd yn gystal a ninnau sydd ganddynt eu dialects, twangs, a brogues. Heblaw fod tafodiaeth Lloegr Goch yn gwahaniaethu oddiwrth eiddo yr Alban, mae pob sir yn amrywio yn nodedig mewn tòn ac aceniad, fel y mae brodorion y naill ar llall o honynt yn hawdd i'w hadnabod wrth eu llediaith, i'r sawl sydd yn hysbys o hyny.

(x3) Mae genym anghreifftiau ysgrythyrol o beth cyffelyb i hyn. Yr oedd lleferydd Pedr yn ei gyhuddo, er maint a wadai, mai Galilead oedd efe. Yr oedd gwahaniaeth tafodiaeth rhwng y Galileaid ar Ephraimiaid, ac fe gostiodd yn ddrud i'r rhai olaf, yn nyddiau Jephthah, wrth rydau yr Iorddonen, pan gollodd llawer o honynt eu bywydau, am na fedrent swnio yr sh yn nechreu y gair “Shibboleth,” eithr ei swnio yn s, er llithriced a fuasai eu tafodau i alw enwau drwg i gyffroi eu brodyr. Cymerwyd mantais ar y neillduol rwydd hwn yn eu tafodiaeth, i'w hadnabod. Pe buasai y Cymry yno, syrthiasent dan yr un trychineb, gan nad yw sain sh i'w gael yn ein hiaith, ac nis gall Cymro uniaith ei swnio heb anhawsdra, oddigerth dan un amgylchiad, sef pan fo y deuseiniaid ia, ie, io, iw, iy, yn dilyn s, megys yn y geiriau siarad, sieryd, sionc, siwr, ffasiynau, llysiau, gweision, &c., orid nid pawb a allant ei swnio mewn geiriau fel hyn. Un o'r anhawsderau mwyaf ar ffordd y Cymro i ddysgu Saesoneg yw sŵn yr sh ac y mae ambell un wedi methu ei gyrhaeddyd, ac heb allu i'w wahaniaethu oddiwrth sain yr s, er y gallant siarad yr iaith yn lled dda yn mhob ystyr arall: ond yn lle ffish, dywedant ffis; yn lle shilling, silling. Yr ieuanc er hyny a ddaw iddo un fuan.

 Yn awr, tybygid fod ymholiad yn cyfodi yn naturiol, Beth yw yr achos gwreiddiol o amrywieithoedd y byd? Oddiwrth ba beth y mae yn deilliaw? Beth sydd yn peri y fath dueddiad mewn ieithoedd yn gyffredin? Ofer i ni grwydo yn anialwch dychymygon; nid yw athroniaeth yn alluog i gael allan y dirgewlwch; awn ynte at ffynnon gwybodaeth yn uniongyrchol. Y Bibl, y Bibl yn unig, a rydd oleuni boddlonawl ar hyn. Amlwg yw yn ngoleuni hwn, mai effaith y cymysgiad gwyrthiol ar iaith y byd yn Babel ydyw, yn cyrhaeddyd trwy yr oesoedd, yn parhau i weithredu yn rymus, er yn arafaidd, ar holl ieithoedd y ddaear. Deillia holl amrywiaeth ieithoedd a thafodiaethau y byd oddiwrth y cymysgiad a'r wasgarfa hynod a fu yno. “Canys,” fel y dywed Charles Edwards,

 
[“Y Ffydd Ddiffuant, neu Hanes a Rhinwedd y Ffydd Gristionogol,” gan Charles Edwards: - tudal. 330 &c; y chweched argraffiad.]

“gan fod yn awr gymaint o'r un geiriau, ac o'r unrhyw sain gan y llythyrenau yn mysg cenedloedd ac ieithoedd dyeithrol i'w gilydd, y mae yn hygoel mai yr un iaith oedd ar y cyntaf gan bawb, megys y dadgan Moses; - nad yw yr amrafael ieithoedd ag sydd amlaf yn y parthau hynotaf o’r byd, ond yr un iaith wedi ei chymysgu, a’i thaflu wyneb a gwrthwyneb, allan o'r dreth gyntaf, gan ddynion wedi annihwyllo, a ddechreuent ambell air yn ei ddiwedd, ac a'i diweddent yn ei ddechreu. Dechreuent hefyd rai geiriau yn eu canol, a tharawent eu deupen ynghyd, a thaflent sillafau geiriau eraill y naill ar draws y llall, fel na wyddid mai yr un geiriau oeddent.” Felly gall ein llygaid, ein clustiau glywed, a’n meddyliau deimlo, effeithiau y farn ddwyfol hono, a ddisgynodd ar ddynolryw gwrthryfelgar er ys miloedd o flyneddau sydd yn ein hiaith ein hunain, yn y gwahanol ddulliau yn ysgrifeniad a llafariad yr iaith, ac yn yr anhoffder a deimlwn yn ein meddyliau wrth ymadroddion a seiniai i anghynnefin i ni, yn enwedig os bydd eu hystyr yn anhysbys, heb sôn am yr anghyfleusdra o drigo ynghanol cenedloedd o ieithoedd hollol wahanol i'r eiddom ni.

(x4) Ymddengys wrth ysgrifeniadau mor hen ar ddeuddegfed a'r drydedd-ganrif-ar-ddeg, fod yr amrywiol briod-ddulliau perthynol i wahanol barthau Cymru yn hanfodi yn yr oesoedd hyny yr un modd ag y maent yn awr. Dichon i'r amrywiaethau hyny ar y cyntaf gyfodi, mewn rhan, oddiwrth fod y wlad wedi ei rhanu yn yr hen oesoedd yn llawer o fân dywysogaethau, a’r rhai hyny yn fynych yn elynol i'w gilydd, ac heb nemawr ymgyfathrach rhyngddynt. Dyfodiad dyeithriaid i fysg y naill lwyth neu y llall a effeithiai mewn amser radd o wahaniaeth yn llafariad yr iaith. Dylid cofio fod y bobl gyffredin yn y cynoesoedd yn ymddibynu bron yn hollol ar eu harglwyddi, ac wrth eu galwad ar bob achlysur, a llawer fel anifeiliaid yn feddiant iddynt; yr oedd yn naturiol i'r rhai hyn efelychu eu harglwyddi yn eu dull o siarad fel mewn pethau eraill. Efallai fod peth o'r gwahaniaeth a ganfyddir rhwng parabl trigolion Dinbych a Fflint a phreswylwyr y rhan arall o Wynedd wedi tarddu oddiwrth ymfudiad Gwyr y Gogledd, sef Cymry Ystrad Clwyd yn yr Alban (wedi eu gorchfygu gan eu gelynion, a cholli o honynt eu brenin), a’u hymsefydliad yn yr ardaloedd rhwng Conwy a Dyfrdwy, yn y nawfed ganrif, drwy ganiatâd Anarawd, brenin Gwynedd, ar yr ammod. o fod iddynt ymlid ymaith y Saeson oeddynt wedi trawsfeddiannu y wlad, yr hyn “a wnaethant yn ddihafarch;” a diammhau fod hiliogaeth y bobl ddewrion hyny yn parhau yno hyd heddyw.

 

[“Hanes Cymru,” gan y Parch. Thomas Price, (Carnhuanawc): - tudal. 325, 326, 398. “Warrington's History of Wales:”- pp. 229-231. Vol.1. Fourth edition.]

 

Amlwg yw fod tuedd yn yr amrywiaethau ieithyddol hyn i barhau, os nad i gynnyddu, hyd oni cheir rhyw safon, wrth ba un y gellir profi priodoldeb neu anmhriodoldeb unrhyw ddull neu arferiad o lefaru. Er nad yw ddichonadwy cael un safon perffaith a digyfnewid, gan fod pob peth îs- loerawl yn agored i gyfnewidiadau, etto, mae cael un da yn fuddiol tuag at gadw purdeb iaith, ac i attal, rheoleiddio, a lleihau yr amrywiaethau o dafodiaeth daleithiol a llygriadau llëol. Yn Lloegr, ymddengys mai y llŷs a’r senedd yn y brifddinas, yn benaf, sydd yn rheoleiddio yr iaith; a thebygol yw y bydd i ymdaeniad addysg gyffredinol trwy y deyrnas, yn raddol wisgo ymaith yr amrywiaethau taleithiol yn lled lwyr. Gyda ni, cyfieithiad awdurdodedig y Bibl yw safon purdeb y Gymraeg, neu o leiaf a gydnabyddir felly yn awr. A pho agosaf y trefnir ymadroddion, y seinir, ac yr ysgrifenir, i ddull y Bibl, goreu oll, a mwyaf cymeradwy fydd gan bawb o berchen ddëall i farnu; er y gellir defnyddio llawer o eiriau a dywediadau sathredig yn y wlad, a rhai ymadroddion godidawg, nad ydynt idd eu cael yn y cyfieithiad, am nad oedd achos am danynt, ond a gyttunant yn dda â’r geirweddiad a ddilynwyd ydddo.

Pan fyddo y gwahaniaeth yn llygriad ar yr iaith, mae yn swnio yn ddrwg yn nghlustiau trigolion ardaloedd lle nad yw y cyfryw lygriad yn arferedig, er y gall y rhai hyny fod yn feius mewn dulliau eraill o ymadroddi. Buddiol fyddai i areithwyr cyhoeddus fedru cynanu yr iaith yn gywir a pharabl-bêr, ac nid yn null llygredig eu gwahanol ardaloedd; a thra manteisiol hefyd i athrawon yr Ysgolion Sabbothol, fel y gallont addysgu ieuenctyd y wlad i seinio yn briodol a syml wrth ddarllen yr ysgrythyrau. Tuag at fod o ryw gynnorthwy yn hyn, amcanwn nodi allan y prif amrywiaethau
(x5) yn nhafodiaeth gwahanol barthau Cymru benbaladr, mor belled ag y daethant dan ein sylw: lle byddo y gwahaniaeth yn Gymreigaidd, ymdrechwn i’w esgusodi; ond os yn feius, rhoddwn y cyfarwyddyd goreu a fedrwn er ei ddiwygio.

1. Y gwahaniaeth cyntaf y sylwn arno sydd yn nghynaniad rhai or llafariaid.

1. Mae y lafariad a, mewn geiriau unsill hirsain, a rhai geiriau lliossill pan y byddo dan aceniad, megys,

cân,
câs,
glân,
mab,
tad,
tân,
sâl,
mwynhad,
parha, &c.,

yn cael ei swnio mewn rhai ardaloedd yn gyffelyb i’r a fain Seisonig yn cane, case, sale, tale, &c., yr hon sydd yr un ar e Gymreig. Hefyd tröir y deuseiniad ae yn ei, yn

mae,
gwaed,
gwael, &c.,

megys ped ysgrifenid,

mêi,
gwêid,
gwêil, &c
.

Amlwg yw mai yr un sŵn yn hollol sydd i’r a yn tân ac yn tàn, ond ei fod yn y blaenaf yn hir ac yn yr olaf yn fyr: ac wrth chwanegu at y gair mae yn amlycach fyth; fel hyn,

tàn, tanodd;
tân, tanau, tanio;
màn, manau;
mân, manaf;
bàr, bàrau;
bâr, barau.

Bro Trefaldwyn, a rhanau o Feirion, yn y Gogledd, sydd fwyaf yn y bai hwn; ac yno ystyrir yn brydferthwch siarad yn fain, fel y dywedir, ac nid yn llydan fel yn y rhanau eraill o Wynedd a Phowys. Etto dilys yw mai yr a lydan, agored, yw y wir sain Gymreig, ac nad yw y gwahaniaeth o hir a ber, neu leddf a thalgron, ond mewn hyd yn unig, fel y dangoswyd uchod, ac nid mewn sain; a hyderwn na ddilynir maldod y Baldwyniaid

[Cymerwn yma gyfleusdra i unioni camwri sydd wedi llithro yn ddiweddar i arferiad yn rhai cylchgronau Cymreig, yn ysgrifeniad yr enw Trefaldwyn, gan ei dalfyru yn “Maldwyn.” Y gwraidd-eiriau ynt Tref-Baldwyn (oddiwrth enw rhaglaw Normanaidd y cyffiniau, yr hwn a adeiladodd y castell yno, yn amser Gwilym y Goresgynydd), ac nid Tre-Malwyn, yr hyn nud yw air yn y byd, am a wyddom ni. Mewn cyfansoddiad, ymnewidia b yn m ar ol yr arddodiad yn; “Arosasom wythnos yn Maldwyn.” Yn y sefyllfa hon y mae yn gywir, ond ei fod yn dalfyredig. Nid oes, hyd y gwyddom, un sail i dadogi yr enw wrth Tre.Moeldwyn. Oddiwrth Roger de Montgomery, un arall o’r arglwyddi Normanaidd yr hwn a adeiladodd y castell, y deillia yr enw Seisoneg Montgomery a Montgomeryshire.]

yn y llygriad masw hwn, oblegid y mae yn gwanychu yr iaith yn fawr, ac yn ei hysbeilio o un o’i seiniau cysefin a godidog. Byddai yn werth myned ar bererindod o gyffiniau Pumlumon a Chader ldris, i ororau y Wyddfa a Moel Famau, i glywed rhianod llednais y parthau hyny yn swnio y lythyren a yn ei sain bur ei hun. Ond rhag na cheir adeg i hyny, hawdd yw dyfod idd ei sain gywir wrth ei swnio o flaen i, a, neu w, fel yn y geiriau

rhaid, cais;
aur, haul;
awr, bawl, haws, &c.

Mewn rhai ardaloedd, swnir y lafarog hon gyda rhyw fath o leddfiad, megys ea, mewn geiriau o’r fath a ganlyn,

tad, tead;
mab, meab;
tân, tean; &c.

Y rhai ydynt yn cofio yr hen bererin duwiol Edward Goslet yn pregethu, a wyddant am y dull digrifol y swniai efe y geiriau hyn a’u cyffelyb, canys yn llediaith ei fro ei hun (Gwent) yn hollawl y llefarai efe.

2. Yn rhai parthau o Wynedd, troir o yn a, mewn geiriau lliossill, pan na fyddo dan aceniad; megys,

aber, abar;
adeg, adag;
cangen, cangan;
hanes, hanas;
yfed, yfad;
rhywbeth, rhywbath;
penbleth, penblath; &c.

ac yn y gwrthwyneb, troir a yn e, yn yr un sefyllfa; megys,
allan, allen;
ardal, ardel;
attal, attel;
dinas, dines;
teyrnas, teyrnes, &c.

Mae y gwall hwn yn arwain i gymysgu amserau y perwyddiaid, megys rhoddi y dyfodol am y gorphenedig, a’r gorphenedig am y tragorphenedig; fel hyn,

gwnaethant
yn lle gwnaethent,
daethant
yn lle daethent,
dywedasant
yn lle dywedasent,&c.

 

(x6) Clywsom ŵr dëallus unwaith yn darllen Act.ii.44: “A’r rhai a gredent oll oeddynt yn yr un man;” gan swnio gredent yn gredant, yn ol arfer y cwmwd yr oedd yn byw ynddo; ac er fod ei glust yn ei hybu, nad oedd dim synwyr yn y darlleniad felly, etto nis gallai ddirnad yn mha le yr oedd y gwall. Ychydig o wybodaeth ramadegol, ac o gywir gynaniad a fuasai yn ei gadw rhag yr amryfusedd. Diwygir y bai hwn wrth sylwi ar lythyreniad geiriau, at’u cynanu yn ol hyny.

3. Gwall cyffredinol yn Nyfed a rhanau o Bowys yw esgeuluso gwahaniaethu rhwng y llafariaid i, u, ac y. Dan rai amgylchiadau, gwnai i y tro iddynt yno am y tair, megys yn y geiriau canlynol,

du, di;
cu, ci;
drud, drid;
pur, pir;
hun, hîn;
lludded, llidded;
mynyd, minid;
cŷn, cin;
dyn, din;
hyn, hìn;
llyn, llìn;
yw, iw;
byw, biw;
ŵy, wi (ll. wïe);
hyny, hyni;
cyfiawn, kifiawn;
cybydd, kebidd, neu cebydd; &c.

Dylid sylwi fod gwahaniaeth hanfodol rhwng i ac u, amlwg i bawb sy wedi ymgynnefino â’u seiniau priodol, ond anhawdd ei roddi ar ddëall i eraill, wrth fod y glust o ddiffyg ymarfer yn analluog i wahaniaethu. Mae yn llwyr annëlladwy i Saeson, gan nad yw u idd ei chael yn eu hiaith.

Am y lafariad y, dylid cofio fod iddi ddau sain, y rhai er mwyn dynodiant a alwn yn gysefin a dirprwyol. Ei sain gysefin a glywir mewn geiriau unsill, yn y rhai canlynol yn unig, sef,

my, fy, dy, (lleddf);
ydd,
ym,
yn,
yr,
ys,
dyd,
dyt,
myn,
syr, (talgron):

ac yn nesaf yn mhob sefyllfa mewn geiriau lliossill ond y sill olaf; megys,

cyflyrau,
prydyddion,
ynysoedd,
cynnyddu, &c.

oddieithr fod y rhagddod cyd, pan yn gofyn pwyslais, yn amrywio oddiwrth y drefn hon, megys yn

cydymgymysgu,
cydymgysylltu,
cydymlynu, &c.

a’r deuseiniaid ey ac wy, megys yn

teyrn,
teyrnas,
rhwymau,
bwydydd,
ffrwytho, &c.

Ei sain ddirprwyol sydd yr un yn gymhwys a’r lafariad u, yr hyn a gymer yn mhob geiriau unsill, oddieithr y rhai a nodwyd uchod, ac yn y sill olaf i bob gair lliossill; megys,

byd,
bys,
dyn,
hŷn,
gwŷn,
cŵyn,
gwŷr,
gŵyr, (lleddf);

gwyn,
hyn,
llym,
myn,
syn, (talgron) ;

canlyn,
ennyn,
eryr,
telyn, &c.

megys ped ysgrifeinid
bud,
bus,
dun,
gwun,
llùm,
sùn,
ennun,
telun, &c.


Mae ei dau sain yn glywedig yn hyny,

llythyr,
myfyr,
pybyr,
ystyr, &c.

Yn y frawddeg ganlynol, ceir addysg i seinio yn briodol yr u a’r y
“Dyt! du yw dy dŷ di, y dyn, ac nid gwyn.”

Yn awr, y mae rhywun yn barod i ofyn, Paham nad ysgrifenid u yn lle y yn y cyfryw amgylchiadau ag y maent o’r un sŵn, fel na byddo dim ond un sain i bob llythyren yn yr iaith?. Yr ateb yw fod teithi yr iaith yn gwahardd hyny, yr hyn a ymddengys yn amlwg wrth yr hyn a anlyn. Nid yw u byth yn newid i y pan estyner gair; megys,

du, duaf;
cur, curo, curio;
llun, lluniau;
mur, muriau;
sur, surion;
awdur, awduron, &c.

ond yn ddirprwyol yr y a ddychwela idd ei sain gysefin bob amser, oddigerth yn y deuseiniaid cy, oy, wy, pan chwaneger at air; fel hyn,

dyn, dynion;
byr, byraf;
syn, synu;
ynfyd, ynfydu;
ystyr, ystyried;

eithriad
,
teyrn, teyrnas;
gloyw, gloywon;
cŵys, cwysau.

Gwir y buasai dodi u yn lle y yn y geiriau hyn un cyffelyb yn symud yr anghyfleusdra o fod dau sain i’r un lythyren, yr hyn nid oes i un lythyren arall yn ein hiaith; a gwelsom gynnygiad neu ddau am y fath gyfnewidiad yn ein horgraff, y rhai a fuant aflwyddiannus; canys, fel y mae yn amlwg, gorbwysid y fantais gan y tywyllwch a daflai ar dadogaeth geiriau. Chwithig ac anghelfydd iawn fyddai ysgrifenu, “dun gwun llum a ofun am ud,” yn unigol; a “dynion gwynion llymion a ofynant am ydau” yn llïosog gan fod perthynas y geiriau drwy y fath
(x7) lythyreniad yn cael ei lwyr orchuddio. Hefyd, dyddymai y gwahaniaeth

rhwng geiriau o’r un sain ond o wahanol ystyr; megys,

 

brud (oes-lyfr),

bryd (meddwl);

clod (mèn, càr),

clyd (cynhes);

hun (cwsg),

hŷn (henach);

llun
(delw),

llyn (o ddwfr), &c.


Gwelir oddiwrth hyn mai gwall yw swnio u yn y; megys, cyro yn lle curo, pyrwr yn lle purwr, syrion yn lle surion, rhaglyniaeth yn lle rhaglun- iaeth. Mae y bai hwn o ran cynaniad yn un o’r rhai mwyaf rhodresgar mewn coeg-areithyddiaeth, fel pan ddywedir

creadyried pechadyrus, du enw
, du ogoniant, du wyneb, &c.
mewn dynwarediad o ryw Ddeheuwyr hyawdl; yn lle crëaduriaid pechadurus, dy enw, dy ogoniant, dy wyneb.

Ond yr ydym yn cofio y ffoledd hyn yn fwy cyffredin nag yw yn awr; mae cenedl yr Hwyntwys gogleddol yn diflanu, dybygem, o dipyn i beth.

4. Sylwn yn nesaf ar rai gwallau eraill yn seiniad y llafariaid, a ffynant mewn gwahanol ardaloedd, ac yn benaf yn y Deheudir; megys, troi ae ac e;

bl’an, lla’s, ma’s, gwa’d,

yn lle blaen, llaes, maes, gwaed:

ai yn ae ac e;
bauch, brauch, byddau, rhodie,

yn lle baich, braich, byddai, rhodiai:

au
yn ou;
dou, clou, gou, houl,

yn lle dau, clau, gau, haul:

i
ac y yn ei;
rhagreithiwr, weineb,

yn lle rhagrithiwr, wyneb:

o
yn w; trwed yn lle troed:

oe
yn o;
cro’s, llo’r, o’n, po’n
,
yn lle croes, lloer, oed, poen:

oe
yn oi;
coid, oin, poith,

yn fin-fain ryfeddol, yn lle coed, oen, poeth:

oe
yn ou;
oud, ffroun, pour
,
yn lle oed, ffroen, poer:

wy
yn w;
cwmmws, cwmpo, rhwmo
,

yn lle cymhwys, cwympo, rhwymo.

Talfyrir ae ac oe yn a ac o, yn fynych gan brydyddion er mwyn odli; megys,

bla’n
i odli â glân,
ma’s
â gras,
erio’d
â boc, clod, &c. Efallai fod hyn yn oddefol mewn prydyddiaeth rydd,
oherwydd prinder geiriau cyfodlaidd, fel yr arforir rhai deuseiniaid eraill, megys ac, ai ,ao au, i gydodli yn gwae a bai, maes, parhaus, &c. yr hyn sy lawn gystal ag i ac u yn tir a pur, rhin ac un. Etto, barna rhai mai gwell a harddach i’r golwg fyddai ysgrifenu y deuseiniaid yn llawn, hyd yn nod pan eu arferir fel hyn;

maes, oen, erioed, ac nid ma’s, on, erio’d.


[‘Gwel yn helaethach ar hyn yn “Y Traethodydd:”- tudal, 378, Llyfr ii.]

5. Cyn gadael y llafariaid, sylwn ar un peth ag sydd yn nôd o wahaniaeth hanfodol rhwng y Wyneddaeg ar Ddeheubartheg; sef, fod amryw eiriau unsill, a gyfrifir yn fyrion yn y Gogledd, yn cael eu swnio yn hirsain yn y Deheubarth; ac, yngwrthwyneb, fod amryw eiriau a gyfrifir yn fyr yn y Deheubarth, yn hirsain yn y Gogledd. Gosodwn yma restr o honynt. Y rhai hyn a swnir yn gyffredin yn fyrion yn y Gogledd, ac yn hirion yn y Deheudir:

eb, heb, cwb, twb; bid, nid; sef; rhag, nag (gorair a chysylltiad); dil; call, dall, gwall,
llall, pall, gwell, pell, gwill, mill, pill, a coll, moll, toll, gwyll;
nas, nes, nis.

Y rhai canlynol ydynt hirion yn y Gogledd, a byrion yn gyffredin yn y Deheudir;
gallt, gwant, ballt, allt, dellt, gwellt, mellt, bollt, hollt, mollt, swllt, gwynt, myllt;
hesb, gwasg, pasg, tasg, hesg, llesg, pesg, gwisg, plisg, rhisg, llosg, cwsg, dysg, gwrysg, gwysg, mysg;
gast, cest, crest, ffest, cist, Crist, clist, trist, bost, cost, rhost, test, clust, ffust, crwst, gwst, ffrwst, trwst, cyst, pyst, tyst;

at y rhai efallai gellir chwanegu oll, holl, a byth, a swnir weithiau gan rai yn fyrion.
Yn awr, pwy a feiddia benderfynu rhwng y Wyneddaeg ai Ddeheubartheg, pa un sydd gywir yn hyn? Hawdd yw hòni cywirdeb un, a beio anghywirdeb y llall, ond profi y naill neu y llall felly yw y pwnc. Hyn nis meiddiwn ni anturio arno. Barnwn yn hytrach mai gwell yw i’r ddwy chwaer uchelryw, y ddwy efelles unoed, ymostwng i gydoddef a chyd-ddwyn
(x8) â’u gilydd yn gariadus; hyny yw, “cyttuno i wahaniaethu” yn y mater yma. Gan nad oes un ac acèn-nod yn cael ei arferyd gyda’r cyfryw eiriau, ymddengys fod hyn, o fwriad, wedi ei adael yn anmhenodol; gan nad yw eu swnio yn hir neu yn fyr yn arwain i ddim amwysedd. Eisieu iawn olygu y gwahaniaeth hwn a barodd dipyn o fethu cydweled rhwng ysgrifenwyr dysgedig yn y “Gwladgarwr,” rai blyneddau yn ol; sef “Cymro Llwyr,” (Deheuwr, fel yr ymddengys) o un tu; “Tydecho,” a’r Golygydd, (Gogleddwyr) o’r tu arall.

[Gwel y “Gwladgarwr.” Cyfrol v. am 1837 - tudal. 67, 239, 294.]

Ond iawn i ni gydnabod i ni dderbyn gradd o gymhorth ar y pen hwn oddiwrth en llafur hwy.

II. Mae amrywiaethau llëol yn nhafodiaeth y wlad yn tarddu hefyd -

1. Oddiwrth gynaniad anghywir y ddwy gydsain c ac g, o flaen y llafariaid a, e, i, ac u;

swnir c yn fynych fel ci neu k, ac g yn gi.

Yn lle canys, dywedir cianys (kanys);
caws, ciaws;
cenedl, cienedl.;
tad cu, tad ci;
cŷn, cin;
gair, giair;
gem, giem.

Clywir ambell un yn darllen dywediad fel hwn,

“A’r cadarn fydd fel carth,” megys pe ei hysgrifenid,
“A’r kadarn fydd fel karth”


yn llusgenaidd ddigon felly. Nis gwyddom am un gair yn cael ei lurgunio i gynnifer o ffurfiau yn fwy nag enw y grawn cyffredin, ceirch, fel arall,

keirch, cerch, kerch, cyrch, circh
, a pha beth etto?

Dyma chwe’ dull am yr un gair, ond y cyntaf yn unig sy gywir.

Dylai c ac g gael yr un sain o flaen yr holl lafariaid ag sydd iddynt o flaen o, w, y, l, n, ac r.

2. Peth arall a wna wahaniaeth yw gadael allan rai llythyrenau heb en swnio, neu chwanegu ambell lythyren heb ei heisieu; megys y gwelir wrth y cyferbyniad canlynol rhwng tafodiaeth y ddwy dalaeth:-

GWYNEDD.

DEHEUBARTH.

boddlon (boddlawn)

bo’lon

cyhoeddiad

cyhoeddad

cymdeithas

cymdeithias

misol

misiol

chwech

hwech

chwe’-llath

hwech-llath

chwedleua

hwedleua

ei mab (hi)

ei mhab

ei nai (hi)

ei nhai

ein natur

ein nhatur

newydd

newy’

tywydd

tywy’

i fyny

i fynydd

oeddwn

o’wn

oeddem

o’em

rhoddes

rho’ws

tra fyddech

tr’ech

tra fyddo

tr’o

yr iaith

y iaith

 

 “Tafarn hwdlyd,” yw “ tafarn chwydlyd.”

Yr hen ddiarebion hyn o eiddo y Deheuwyr:
“Hwibon i faban, arad i ŵr;”
“Hwareuid mab noeth, ni hwery mab newynog:”

yn y Gogledd a barablid fel hyn
“Chwibon i faban, arad i ŵr,” a
“Chwareued mab noeth, ni chwery mab newynog.”

Yn y gwrthwyneb etto,
“Gieir a chwied “ a wedant yn y Deheudir,
ond yn Ngwynedd, “ieir a hwyaid;”

unigol, giâr, iar;
chwiaden
, hwyaden.

Tra beius y dywed rhai Gogleddwyr,

difot
am diffodd, diffoddyd;
rhoid
am roi neu roddi.

3. Y gwahaniaeth nesaf a ddaw oddiwrth gamgyflëad llythyrenau mewn geiriau:

dd-f
, tangneddyf, yn lle tangnefedd;
dd-l
, cywiddyl yn lle cywilydd; giddyl, yn lle gilydd;
n-f
, onfi, yn lle ofni; cenfi, cefnu; llynfi,llyfnu.

Yn rhai manau clywir wmed a gwymed, yn lle wyneb a gwyneb.

Nid yw hyn amgen na “rhoddi y càr o flaen y ceffyl;” ond efallai mai eithriad barddonol yw uddyf yn lle ufudd neu ufydd: -

 

(x9) “Yn eiddil blentyn uddyf.” Dewi Wyn.

4. Achos arall o wahaniaeth yw estyn geiriau yn afreidiol: megys,


cefn

cefen

drachefn

drachefan

llyfr

llyfyr, llyfur

ofn

ofan

ochr

ochor

teml

temel

llestr

llester

trefn

trefen

syml

symyl

ystorm

ystorom

 

III. Mae gwahaniaeth hefyd yn yr arferiad o enwau a rhagenwau; megys,

1. Yn nherfyniadau llïosog enwau:

(au) penau, pena, pene:
(iau) dyddiau, dyddia, dyddie:
(aid) defaid, defed; llygaid, llyged; offeiriaid, ofeiried:
(ion) “dynon ceimon, byron, bach,” yn lle “dynion ceimion, byrion, bach:”
(ed) merched, merchaid; pryfed, pryfaid:
(oedd) dyfroedd, dyfrodd; moroedd, morodd.

Hefyd, lloi, lloia; adar, drynod (h. y.) aderynod, &e.

Llygriad enbyd yw dodi s at derfyniad lllosog geiriau;

boneddigion, nid boneddigions;
gweithwyr, nid gweithiwrs;
cregin, nid cregins,

a ddylid.ddywedyd.

2. Yn nherfyniad a threigliad rhai enwau gweidiaid; megys,

(aidd) mwynaidd, mwynedd; peraidd, peredd;
(ain) llydain, llyden; bychain, bychin.

Dywedir yn Ngwynedd, “dynes bach,” “geneth bach,” “eglwys bach” ond yn Mhowys a Deheubarth, “dynes fach,” geneth fach,” “eglwys fach.”

Y cydseiniaid cyfnewidiol, mewn ansodd-eiriau, a gymerant y sain ysgafn i gyttuno ag enwau benywaidd o’r rhif unigol; megys,

gwraig ddoeth,
merch lân,
gwisg wen;

felly cywirach y “dynes fach” na “dynes bach.”

Etto, y Deheuwyr a wedant,

“dau gau dyst,”
“yn gau dystion,’
“yn go dda:”

mwy rheolaidd yw
“dau au dyst,”
“yn au dystion,”
“yn o dda.”

Hefyd, hwy wedant,

“lled na’r ddaear.’
“lled na’r môr:”

ond dywed Gwyneddigion,

“lletach na’r ddaear,”
“lletach na’r môr.”

3. Mae cymysgu rhywiau yn achos arall o wahaniaeth. Trwsgl ddigon y dywedai un,

“Y drydydd adnod o’r bedwerydd bennod o Ail Lyfr Samuel.”

Mae cyfnewidiad y cydseiniaid dechreuol t, p, ll, idd eu sain ysgafn d, b, l, yn arwyddo y rhyw fenywaidd, ond mae y terfyniad ydd, a’r gair llyfr, yn eu gwrthdaraw, gan eu bod o’r genedl wrywaidd. Cywirach gan hyny fyddai dywedyd (yn ol canon Arfonwyson)

[“Trysorfa yr Athrawon:” - tudal. 309.]

“Ail Llyfr Samuel, y bedwaredd bennod, a’r drydedd adnod.”

Tybia rhai er hyny fod ail yn eithriad i’r rhifiadau trefniadol eraill, yn cael ei ddilyn gan y sain ysgafn heb wahaniaeth rhyw; megys,

ail ddyn, ail wr, ail ben, fel ail ddynes, ail wraig, ail law:


ond eraill a farnant y gellir dywedyd,

ail dyn, ail gwr, ail pen


a bod hyny yn fwy rheolaidd.

“Dwy droed sy ganddo, ac nid pedair,” ebai Martha Pseudogam am ei gŵr: prin y mae holl helbulon Mrs. P. yn ddigon o esgus dros ei llediaith, oni b’ai i ni goflo mai yn fenywaidd y treiglir y gair troed yn nhafodiaeth ei gwlad hi. Gan nad oes yn y Gymraeg ffurf benodol i’r ganolryw, mae enwau pethau difywyd, a geiriau dansoddawl, yn cael eu troi yn wrywaidd neu fenywaidd, fel y byddo eu teithi yn gogwyddo. Ond y mae yn anhawdd penderfynu am rai geiriau

[“Cyfarwyddwr Priodas,” gan William Williams Pant-y-Celyn: - tudal.4. Mae yn waeth fyth yn yr argraffiad cyntaf, “Dwy troed,” &c.]

 

(x10) i ba ryw y perthynant; ar un golygiad, cymerir hwy yn wrywaidd, golygiad arall a’u deugys yn fenywaidd. Y gair cwpan a dreiglir yn fenywaidd yn gyffredin yn Ngwynedd; fel hyn, y gwpan, tair cwpan, cwpan fawr, ac y mae y priodolder o gynnwys, dybygid, yn arwain i hyn; ond y mae y lafarog w yn ei ddynodi yn wrywaidd, a’r terfyniad an sy gyffredin i’r ddau ryw, megys yn capan, carfan, y naill yn wrywaidd a’rr llall yn fenywaidd: felly yn y rhyw wrywaidd y ceir y gair cwpan yn mhob man yn y Bibl; megys “y cwpan hwn,” “y cwpan a’r ddysgl.” Mae amryw eiriau a gyfrifir yn wrywaidd yn nhafodiaeth y Gogledd, yn y Dehau yn cael eu treiglo yn fenywaidd, ac yn y gwrthwyneb.

[“Dr Pughe’s Grammar of the Welsh Language:” - pp. 30, 31. “Hanes Cymru:” - tudal. 157, nodiad.]

Gellir ystyried rhai yn anmhenodol, a’u rhyw i’w benderfynu yn ol rhediad yr ymadrodd, fel y cawn anghreifftiau aml yn Bibl; megys, “y doethineb hwn,” “y ddoethineb,” “doethineb a adeiladodd ei thŷ;” “y duwiol anian;” “a’r bla a attaliwyd,” &c. Etto gwrywaidd y cyfrifir doethineb, a benywaidd yw anian, ac y mae y gair pla wedi ei ddodi yn unffurf yn wrywaidd yn argraffiadau diweddaf Cymdeithas y Biblau.

4. Gwahaniaeth arall sydd yn arferiad y rhagenwau, yn enwedig y trydydd dynsawd unig, gwrywaidd, ar llïosog.

Deheubarth.- Ef, efe, e, unig; hwy, hwynt, hwyntwy, llïosog.
Gwynedd. - O, fo, efo, neu y fo, unig; nhw, nhwy, nhwythau, llïosog

Oddiwrth y gwahaniaeth hwn y tarddodd yr arfer ffôl o alw gwŷr y Deheubarth yn “Hwyntwys,” a “Hwntwy bach yn awr.” Ond na fydded gwaeth gan y Deheuwyr o herwydd hyn, oblegid mae y rhagenwau yn llawer mwy destlus ganddynt hwy na chan y Gogleddwr yn gyffredin, megys y tystia y dywediadau anghryno a ganlyn;

gydag efo,
efo fo,
efo ag efo,
efo ag o,
gydag o,
efo ag ethi hi,
gydag ethyn nhw,
efo nhwthau, &c.


Yn Ngwynedd, anfynych yr arferir y rhagenwau dangosiadol canolryw yn y rhif unigol, def hyn, a hyny ond arferir y gwrywaidd a benywaidd, hwn, hwnw, hon, hon, yn eu lle; ond

yn y Deheubarth, arferir hwynt yn rhëolaidd, fel hyn,

“y llwybr hyn,”
“y ffordd hyn,”
“yr hiraeth hyn,”
“y drefn hyny,”


er y dilyniant y dull ffugrol hefyd yr un modd ag yn y Gogledd, megys, “y bud hwn,” “y deyrnas hòno.”

IV. Sylwn yn nesaf ar yr amrywiaeth a gyfarfyddwn yn y perwyddiaid.

1. Yn y modd annherfynadwy:

dringo, pwnio, swnio, costio, rhostio, barnu, damsang, meithrin, &c.

a gymerant olddodiad tra gwahanol yn nhafodiaeth Dyfed; megys,

dringad, pwno, swno, costi, rhosti, barni, damsiad, meithrynu.

Yr arddodiad i, pan fyddo yn arwydd o’r modd hwn, a ellir ei hebgor yn fynych, heb niweidio yr ystyr, megys yn y brawddegau canlynol: -

“A raid i groesau fyth yn
llyn
[I] ganlyn f’enaid bant a bryn?”

“Dichon fod yn gymhwys [i] amlygu beth yw ein meddwl wrth y geiriau.”
“Mae y dyn yn cymeryd arno [i] fod yn ddoeth.”
“Gwelodd fod yn dda [i] gyhoeddi y celai y rhai a alwyd eu dysgu.”
“Fe welodd Duw fod yn dda [i] ddyfod ag ef i dref yn iach-lawen,”

ebai y Ficer Prichard am Siarl I.: ond Gogleddwr a ddywedasai,

“Gwelodd Duw fod yn dda
(x11) ddyfod ag ef adref yn iach a llawen,” neu, “yn iach-lawen,” gan adael heibio yr i o flaen y perwyddiad.

2. Mae y trydydd dynsawd unig o’r amser gorphenedig, modd mynegol, yn terfynu yn dra amrywiol. Y terfyniad mwyaf cyffredin yw odd (gynt, awdd) megys, carodd, dysgodd: arferir hefyd es, ac weithiau is; megys, rhoddes, gweles, gelwis, &c.

 

“Ni weles da yn nhŷ ei dad, a hoffes da yn nhŷ ei chwegrwn.”

“Ni sengis yr ŷch ar dy droed.”

 

Ond heblaw y terfyniaid hyn, ceir yn y Ddeheubartheg as, ws, ac wys; megys cafas, rhanws, prynwys;

 

“A ranwys nef a gafas.”

 

Mae yr englyn canlynol “i wraig o Went a gurasai ei gŵr,” yn gynllun campus o’r terfyniad ws: -

“Yn awr y cwnws i’r nen - ei phastwn,
  A ffustws ei gefen;
Cnòcws, tolcws ei dalcen,
Pan waeddws, baeddws ei ben.”     W. Phylip.

Wel, meddwn, un dost oedd hi, beth bynag, a thost oedd y bardd a’i darluniai mor orchestol ar gan lleied o eiriau. Ystyrir fod gallu iaith yn cael ei arddangos yn odidog pan fyddo sain y geiriau yn ateb i’r synwyr. O herwydd hyn, golygir y llinellau canlynol yn dra chywrain a grymus: -

“Tân a dwr yn ymwriaw
Yw’r taranau, dreigiau draw.”     D. ab Gwilym.

“Uchel-gadr raiadr, dwr ewyn, - hydrwyllt,
      Edrych arno’n disgyn;
Crochwaedd y rhedlif crychwyn,
Synu, pensyfrdanu dyn.”       Dewi Wyn.

Mae y bardd uchod, ysgatfydd, yn gwbl mor llwyddiannus. Drwy fynychu y terfyniad ws, darlunia mor fywiog y ffrwst, y trwst, yr ymwrwst, a’r ymosod, naturiol i’r fath ymgyrch, nes yw yn sylweddoli o flaen ein llygaid yr hyn a hanfodai yn unig yn nychymyg y prydydd. Ond i adael i’r beirdd farnu, awn rhagom.

Yn y parwyddiaid goddefol o’r amser hwn, arferir ed yn fynych yn lle wyd; megys, rhodded, tyned, am rhoddwyd, tynwyd. “A aned tydi yn gyntaf dyn? a lunied dydi o flaen y bryniau?”
Job v. 7. Oddiwrth hyn, ymddengys fod

 

aed, caed, gwnaed, cloed, rhoed,

yn gywirach nag aw’d, caw’d, gwnaw’d, clow’d, rhow’d.

3. Yn iaith sathredig y wlad, terfyna y trydydd dynsawd unig o’r amser dyfodol yn iff, yn lle a, megys aiff, rhoddiff, dysgiff, am äa, rhodda, dysga, neu â, rhydd, dysg. Llygriad mawr yw hyn, meddai y Dr. Davies, ag oedd, yn ei amser ef, wedi bod mewn hir arferiad, yn llefariad ac ysgrifeniad yr iaith; ond y Dr. Pughe yn ei “Ramadeg,” a’i cyfreithlona; a thybiai awdur “Y Brud a Sylwydd,” (tudal. 40, nodiad) “mai olddodiad rhagenwol” ydyw, er y “gall fod yn llygriad o f (megys yn o ef) i iff:’ etto dichon fod “y ddwy lythyren yn arwyddo y rhagenw hwn.” Fel hyn, gallai i beth, a ystyrid yn llygriad a gwall ar y cyntaf, ddyfod mewn amser, drwy arferiad cyffredin, yn rhan hanfodol o iaith. Pa fodd bynag, mae rhai ysgrifenwyr da, megys Charles Edwards ac eraill, wedi defnyddio y terfyniad iff yn ith. Ond llygriad neu beidio, y mae erbyn ein dyddiau ni ddirywiad llawer gwaeth wedi cymeryd lle, sef troi yr iff yn ith; megys,

 

gwneith, dywedith, corddith,

yn lle gwna, dyweda, cordda, neu gwnaiff, &c.

 

Dylai areithwyr cyhoedd ochelyd y gwall hwn yn bendifaddeu.

 

4. (x12) Cyfyd amrywiaeth arall o dreiglo yn rheolaidd rai perwyddiaid a ystyrir gan y gramadegwyr yn gyffredin yn afreolaidd neu ddiffygiol; byw a marw yn Ngwynedd, cael a dawed yn y Deheubarth, ydynt anghreifftiau o hyn. Dywedir yn Eifionydd,

“Gwlad uchel yw Penllyn; ni fywiwn i ddim yno pe y cawn lawer am hyny.’
“Aeth Madawg i America, ac yno y marwodd o.”
“Pa hyd y bywiodd o, nis gŵyr neb.”
“Os bywi di, neu os marwi” - h.y. “Os byddi fyw, neu os marw a wnai.”

Yn Ngwent, dywedant,
“Pe celai
caelai e fyned,” yn lle “Pe cai efe fyned.”
“Fel y celent
caelent ddaioni,” yn lle, “ Fel y caent ddaioni.”

Yn gyffredin, treiglir y barwyddiad hon oddiwrth y trydydd dynsawd unig o’r awer dyfodol, modd mynegadwy, ac nid oddiwrth ei ffurf yn y modd annhirfynadwy, sef ca, ac nid cael. Yn lle

dawed, dawaf, dawant, dere, dewch, dawer, dewir,
&c., y Deheuwyr - arferir
dyfod, deuaf, deuant, tyred,
(dyred) dowch, deuer, doir, &c., yn y Gogledd.
Mae buo yn lle bu, ac eutho yn lle aethum, yn anghywir.

V. Annymunol iawn i glust fanol yw clywed geiriau yn cael eu harfer yn anmhriodol, er fod rhai dywediadau o’r fath yn ddigrif eu gwala. Nodwn ychydig o lawer a ellid goffau: -

“Dynes lân arw;”
“benyw lân fudr yw hi;”
“dyma beth clws ofnadwy;”
“gwych aflawen;”
“da gynddeiriog;”
“cryf anafus.”

“Nid oes un o’r rhai’n yn cysgu
Ddydd na nos, ond golchi canu.”

Felly y dywedodd ficer Llanymddyfri

 

[“Canwyll y Cymry:” – tudal. 288]

 

am y saint yn y nef, gan feddwl eu bod yn “canu yn egniol a didor.” Yr un modd dywedir, “golchi pregethu,” a “golchi arni hi,” am bregethu, neu wneuthur rhywbeth yn egniol. Mae y llygriadau gwrthun o’r geiriau uchod, a’u cyffelyb, sydd yn ffynu ymhlith y gwerinos anwybodus, yn anoddefol dros ben: megys

 

“rhad gynddeirus,”

“ofnaswy,”

“afnadsan,”

“shoe o dda,”

 

ynghyd â llawer o eiriau hyllion a disynwr a arferir yn lle tyngu amlwg halogedig, ac heb fod dim gwell a hynny. Dywedir yn Ardudwy, mai cynnyrch sir Fon yw afnadsan; os gwir hyny, gresyn oedd adeiladu Pont ar Fenai i drosglwyddo oddiyno y fath newydd diwerth, neu na chadwasid yn toll-borth yn fwy manwl. O ba le bynag yr hanodd, dylasai yn mhob modd gael ei gadw gartref.

VI. Mae bod gwahanol eiriau yn arwyddo yr un pethau yn peri gwahaniaeth, ond ar yr un pryd mae yn brawf o helaethrwydd yr iaith. Enwau gwrthddrychau, crëaduriaid, coed, llysiau, offerynau gwaith a chelfyddyd, nwyddau, &c. ydynt amrywiol iawn mewn gwahanol ardaloedd. Nis gellir yma ond dodi ychydig o anghreifftiau; megys,

 

ammodau, telerau;

ardreth, rhent;

arenau, llefnau, elwl;

bagad, llu, torf, tyrfa;

claddedigaeth, cynhebrwng;

deffol, dethol, ethol, dewis;

dôr, drws;

edliw, ymliw, lliwied, dannod;

ffêr, migwrn, bigwrn;

ffwrn, pobtŷ;

tŷ ffwrn (pobtŷ), tŷ-pobty;

gwrych, cae, perthgae;

haidd, barlys (h.y. bara-lys);

iwin, ffyrnig, gorwyllt;

lloer, lleuad;

llawn lloer, llawn lleuad, llawn lluned, llawn lloned;

lloergan, lloergan lleuad, goleu-leuad, goleu belydr, “mae hi yn oleu belyd’ heno;” mellt, lluched, dreigiau (mellt dystaw);

niwl, nifwl, nudd, caddug, ysmwcan;

porfa, porfel;

cenllysg, cesair;

arad, (x13) aradr, (a elwir yn Ngwynedd) gwŷdd, gwŷdd-arad, gwŷdd aredig.

Y gyfarwydd (glow-worm), goleuen, ll. goleuod, y fagien, a elwir yn Eifionydd, “y tân bach diniwed.”

 

Enwau cyfathrach ydynt dra amrywiol; megys –

 

GWYNEDD

POWYS

DEHEUBARTH

 

taid

tad da

tad cu

 

nain

mam dda

mam gu

 

tad yn nghyfraith

chwegrwn

chwegrwn

Felly yn y Bibl. Saes. Father, &c. in-law. Mae Powys a Deheubarth yr un modd am yr enwau blaenaf.

mam yn nghyfraith

chwegr

chwegr

mab yn nghyfraith

dau

dau

merch yn nghyfraith

gwaudd

gwaudd

tad yn nghyfraith

tad gwyn

llysdad (step-father)

 

mam yn nghyfraith

mam wen

llys-fam (step-mother)

 

mab yn nghyfraith

mab gwyn

llys-fab (step-son)

 

merch yn nghyfraith

merch wen

llys-frech (step-daughter0)

 

plant yn nghyfraith

plant gwynion

llys-blant (step-children)

 

 

Wrth hyn, gwelwn nad oes yr un gair sathredig yn Ngwynedd i wahaniaethu rhwng chwegrwn a llysdad, &c., er fod y berthynas yn wahanol; yr hyn sydd yn fyrdra y byddai da ei ddiwygio, drwy ddwyn geiriau y Bibl i arferiad cyffredin.

 

Yn Neheubarth a Phowys, arferir y gair ysgadan (oddiwrth câd, yn arwyddo llïosogrwydd y pysg hyny), ond yn Ngwynedd, penwag a phenweig, a ddywedir; ond pa briodoldeb sydd yn yr enw nis gallwn ddirnad, os nad yw yn llygriad o penaig (unig, peneigyn) gair tra chymwys am y pysg lliosocaf eu heigiad yn y moroedd hyn, un o ba rai a ddwg y nifer mawr 68,606 o silod; ac felly mae y ddau air yn gyfystyr.

 

2. mae yr un geiriau hefyd yn fynych yn arwyddo gwahanol bethau; y naill ardal yn eu cymeryd mewn un ystyr, a’r llall mewn ystry arall. Gwirion yn y Gogledd a arwydda ffol; ond yn y Deheu, yn fwy priodol, arwydda diniwed; yn yr un modd yn y Bibl a’r Llyfr Gweddi, “gwaed gwirion,” “gŵyl y gwirioniaid,” sef bachgen bach Bethlehem.

 

Cwt, cut. Pan alwodd ein hybarch gyfaill Erfyl gyda’r enwog Dewi Wyn, yn Mhwllheli, ebai Dewi, “Gwell genyf fod gyda bardd, pe b’ai ond mewn cut mochyn, na chyda llawer boneddwr yn ei balas.”

 

[“Blodau Arfon:” tudal.31]

 

Mae yn dra thebyg mai cwt mochyn a ddywedodd y bardd; oblegid felly yn gyffredin y dywedir yn Llëyn ac Eifionydd; oddieithr i Ddewi arferyd y gair a ddëallir yn ngororau Caereinion. Wrth y gair cwt yno y meddylir godre neu losgwrn.

 

GWYNEDD.   

DEHEUBARTH.     

allan

i maes, i faes

allan o law

maes o law

o hyd, trwy gydol yr amser

awr ac orig

byth a hefyd

awr ac enyd

yrwan (yr awron)

yn awr

yr hawg

enyd o amser (i ddyfod)

yr hawg iawn

am hir amser (i ddyfod)

bod ag un

bob un, bob yr un

bod y pen

bob pen, bob copa

da iawn

iawn-dda

da i’r pen draw

da buwr

canu yn iach, canu ffarwel

ffarwelo

(x14) câd ynghudyn   

pen yn erfid   

am, achos, oblegid

o waith    

ynghylch, oddeutu 

obeutu

i lawr, isod  

obry, i waered

i mi

i fi

acw     

oco, onco

i lawr, ymaith  

i bant, i bant ag e' 

i'w (i ei, i eu)  

iddei, iddeu, (beius yw “i’w ei,” “i’w eu”) 

O bobl! O wyr!  

hawyr!     

bobl anwyl!   

hawyr bach!    

mai - “clywsom mai ef oedd o”

taw, tai – “clywsom taw e oedd”

fel hyn (mal hyn)

yn llyn

i fyny, uchod  

fry, “fry ar y lan”

hyn acw    

onco

codi

cwnu

tipyn - “tipyn o ffordd”

cetyn - “cetyn o ffordd”

“cryn dipyn o ffordd”

“cetyn diogel o ffordd”

    

Hela, hala. – “Hala hi i’r làn;” h.y. danfon hi i fynu.

“Wedi hela triugain mlwydd,” sef wedi treulio, neu fyw gynnifer o flyneddau.

Mae hala yn air o ddefnydd mawr gan y Deheuwyr.

 

Hô1, nôl. – “Dos i hôl ddŵr” (Gwent); “dos i nôl dŵr,” (Gwynedd); “dos i geisio dŵr,” “dos i ymofyn dw’r.”

 

“O led y pen,” (De); h.y. yn llydan agored, neu yn lledfan agored.”

“ Mae drws yr ysgubor yn lledfan agored.”

“Nid oes dim o hano i yn ei nabod e; nid oes dim o hano fe yno yn awr;”

h.y. “Nid wyf fi yn ei nabod; nid yw efe yno yn awr.”

 

Pan ddaeth hymnau y Parch. W. Williams, Pant-y-Celyn, gyntaf allan, yr oedd rhai ymadroddion ynddynt, o briod-ddull y Ddeheubartheg, yn swnio yn dra dyeithr yn nghlustiau pobl y Gogledd, am nad oeddynt yn eu dëall. Hyn a barodd i rai yn Ngwynedd, megys y Parch. Robert Jones, yn y “Grawn-sypiau,” newid ychydig arnynt tuag at eu gwneyd yn fwy dëalladwy, fel y byddent yn fwy derbyniol gan y gwerin bobl. Y Deheuwyr oeddynt anfoddlawn i hyny. Clywsom am henafgwr parchus o Geredigin, oedd yn byw yn Llundain, ag oedd mewn petrusder mawr pa

un a bechodd fwyaf, ai Peter Williams, drwy newid cyfieithiad awdurdodedig y Bibl, ai Robert Jones, wrth newid hymnau W. Williams. Mab yr anfarwol fardd, y Parch. John Williams, pan ddangoswyd y “Grawn-sypiau” iddo gyntaf, a daflodd y llyfr o’i law gyda diystyrwch; ac wrth ymddyddan â dau weinidog o Wynedd, oeddynt ar eu taith ryw dro yn swydd Gaerfyrddin, dywedodd, “Mae pobl y Gogledd oco yn newid

hymnau fy nhad; maent yn tynu y gair ‘maes’ i maes o honynt.” Yna chwanegai yn lled oganllyd, “Nid oes o hona i yn gwybod beth a roddant yn ei le yn yr hymn hono -

 

‘O’r graig y mae’n dylifo, ma’s

Yn afon ddysglaer loyw lâs:’

 

rhywbeth tebyg i hyn ond odid -

 

‘O’r graig y mae’n dylifo allan,

Yn afon fawr hyd ben draw’r berllan.”‘

 

Ond beth a ddywedasai efe yn awr, pe buasai yn fyw, wrth weled y Deheuwyr eu hunain wedi cymeryd mewn llaw eu newid? Mae pobl y Gogledd erbyn hyn, pa fodd bynag, wedi ymgynnefino â’r dywediadau, yn awr, i bant, i maes, i dre, &c. fel nad ydynt mwyach yn dramgwyddus iddynt.’

 

VII. Cymreigio Saesoneg sydd wedi bod yn achos o lawer o gymysgedd, llygriad, ac anurddiad, ar yr iaith: megys, Suppose, dowto, repento, belongo; bilyngied, leicio, loitran, lwlan; begeriaid, yn lle cardotwyr; drachtio, yn lle yfed, traflyncu; landio, yn lle glanio, tirio; ledio, yn lle (x15) arwain, tywyso; siort (sort), yn lle math, &e. Gresyn oedd i eiriau mor anffurfiol ag yw sassiwn, seiat, cwrdd preifat, &c. ddyfod i arferiad mor gyffredin ymhlith crefyddwyr, yn lle geiriau Cymreig dilediaith a allesid eu defnyddio; megys, cymanfa, cymdeithasfa, cymdeithas eglwysig, cyfarfod neillduol, &e. Mae britho pregethau a geiriau Seisonig dysgedig, megys, inference, instance, idea, proposition, &c. yn eu gwneyd i ryw raddau yn annëalladwy i’r gwerinos uniaith; a gwell, dybygem, fyddai rhoddi y dull hyny heibio, ac ymostwng i lefaru yn nes at eu hamgyffrediadau.

 

Gwŷr Dyfed ynt haeddiannol o glod am gadw ar arfer yr hen air Cymraeg anner (buwch ieuanc) am yr hwn ni fedd y Gogleddwyr un gair, namyn heiffer, sef llygriad o’r Saesoneg heifer. Ond y maent hwythau heb un addewid; promais a promeiso sydd ganddynt am y cwbl, ac i hyny y maent yn trusto. Gallai y Cymry droi y naill hanner o'r Saesoneg yn gyfryw Gymraeg a hyn; ond, hawyr! pa les fyddai?

 

VIII. Yn olaf, nodwn un peth etto sydd yn gwahaniaethu trigolion gwahanol barthau y wlad yn eu dull o siarad; sef yw hyny, yr amrywiol enwau bychanigion a roddant ar eu gilydd yn lle eu henwau priodol. Am John, dywedir Jack, Jacky, Jacko, Sion, Sionyn, Siac, Siacci: yn lle Jane, gelwir Jenny, Jinny, Jinno, Jinten, Siân, Siani, Sieni, Sianten. Gwilym neu William, a lysenwir yn Wil, Bil, Bilo, Bilws, Bili; ac am Catherine neu Katherina, Catrin, Kate, Kit, Kitty, Catti, Cadi, Cadan, Cadws, Cadsan, Cadsen, Kitsen. Mae yr amrywiaethau rhyfedd ac anghysain hyn i'w clywed mewn gwahanol ardaloedd, a chyffelyb lysenwau ymron ar yr holl enwau mwyaf arferedig, er mawr waradwydd i'r trigolion, a diystyrwch ar eu benwau bedydd. Ymdrechiadau diwyd gyda’r genedl ieuanc a’i dygai i fynu yn ddyeithr i'r arfer ddrwg hon.

Weithian, y Cymry mwynlan cariadus, wele ni wedi gweithio ein ffordd trwy y dasg ddyrysaf ac annybenaf a gymerasom erioed mewn llaw. Cydnabyddwn mai yn ddigon anmherffaith ei cyflawnasom, ond nid ydym yn gwybod ddarfod i ni adael dim o bwys a berthynai i’r testun heb ei grybwyll; er y gallasem ymhelaethu llawer ar amryw bethau pe buasai ein terfynau yn caniatau. Mae y maes yn ehelaeth, ac nis gwyddom am neb wedi ei anturio yn y dull hwn o’r blaen; yr ydym yn meddwl ei fod yn teilyngu sylw llëenyddion ein gwlad. Gwnaethom ein goreu i wahaniaethu rhwng y gwych a’r gwael, gan ganmawl yr hyn sy ganmoladwy; a lle y bu gorfod arnom feio, gwnaethom hyny, nid i’r dyben o waradwyddo, ond yn hytrach er mwyn hylwybro tuag at ddiwygiad. Fe ganfyddir yn hawdd, wrth yr hyn a draethasom, leied sy gan y naill dalaeth, neu y naill ardal, i edliw i'r llall, o ran yr iaith: mae rhyw neillduolrwydd gwallus yn perthynu i dafodiaeth pob cymydogaeth, er nad yr un peth yn mhob lle. Yn gyffredin, ystyrir pobl y Deheubarth at eu gilydd yn fywiocach eu tymherau na brodorion y Gogledd, ac o herwydd hyn bod eu Cymraeg yn fèrach, yn siarad yn gyflymach na’r eiddynt hwy. Ond nid yw hyn yn yr helaethrwydd o hono idd ei gymeryd yn ganmoliaeth: mae y Wyneddaeg ar amryw ystyriaethau yn fwy cryno a destlus, a chynaniad y llafariaid ynddi yn fwy cyflawn a chywir; ac y mae yn llai cymysgedig â llygriadau Seis’nigaidd. Yn ei phurdeb cynwynawl, wedi bwrw ymaith yr hyn sy feius, mae ei hiaith ei hun yn hardd iawn yn ngenau y Deheuwr parabl-bêr;
(x16) a’r un modd yn ngenau y Gogleddwr y mae yr eiddo yntau; ac yna leied yw y gwahaniaeth rhyngddynt.

 

“CYMRU, CYMRO, CYMRAEG!”

 

(Diwedd)

 

 

http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_054_amrywieithoedd_y_gymraeg_1847_1413k.htm
 

__________________________

Adolygiadau diweddaraf:  17-06-2022, 17-11-2021, 02-12-2009

 

 

Sumbolau arbennig: ŷ ŵ 
Enw’r parth: kimkat (o’r geiriau yn Esperanto kimrío / Cymru + katalúnaj lándoj / Països Catalans)


Ble’r wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc?
Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (= Gal·les-Catalunya)
Weə(r) äm ai? Yüu äa(r) vízïting ə peij fröm dhə “CYMRU-CATALONIA” (= Weilz-Katəlóuniə) Wéb-sait
Where am I?
You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website

CYMRU-CATALONIA
 

hit counter script
Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats