http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_063_chwedlau_aesop_glan_alun_01_2392k.htm

0001z Yr Hafan / Home Page

..........
1864k Y Fynedfa yn Gymraeg

.....................0009k Y Barthlen

...............................0960k Y Gyfeirddalen i Gywaith Sin Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon)

............................................1729k Y Gyfeirddalen ir llyfr hwn (Chwedlau Aesop, Glan Alun)

...........................................................y dudalen hon


baneri
..


Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Galles i Catalunya


Cywaith Sin Prys Aberhonddu
(Casgliad Arlein o destunau Cymraeg)
Llond y We o Ln y Brython

CHWEDLAU NEU DDAMMEGION AESOP.
LLYFR 1
(Tudalennau 0 - 120)

Glan Alun (= Thomas Jones 1811-1866).
Gweinidog Mthodist Calfinaidd a Llenor

Blwyddyn:?

(Mae rhai tudalennau ar goll / Some pages are missing)



(delw 0365)



Maer sylwadau sydd wedi eu hychwanegu gennym mewn llythrennau oren.
Our comments are added in orange type

_________________________________________

Ar ffurf delwau ac hefyd mewn teip printietedig y maer llyfr hwn.

Mae rhai tudalennau ar goll or gyfrol sydd gennym:
CHWEDL 79 - YR EPA AR MORHWCH.
CHWEDL 80 - Y MARCH AR CARW.
CHWEDL 87 - Y GANWYLL FFYRLING.
CHWEDL 88 - Y BUGAIL AR TARW COLLEDIG.
CHWEDL 131 - Y BARCUD CLAF.
CHWEDL 132 - YR ERYR AR FRAN.
CHWEDL 133 - YR ASYN AI YRWR.
CHWEDL 134 - YR HEN WR AC ANGAU.

_________________________________________


(delw 1006) (clawr blaen)

(Clawr)
Chwedlau neu Ddammegion Aesop

_________________________________________


Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1007) (tudalen 0)

William Pritchard
Glandwr
Rhiw Bryfdir
Blaenau Ffestiniog
Merionethshire
North Wales 1887
year

_________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1008) (tudalen 1)

William P

_________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1009) (tudalen 2)

Gwynebarlun

_________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1010) (tudalen 3)

CHWEDLAU NEU DDAMMEGION AESOP
WEDI EU CYFIEITHU OR ARGRAFFIADAU GOREU
YN YR IAITH SEISONIG
AU CYFADDASU IR GYMRAEG,

GAN GLAN ALUN.

WREXHAM:
ARGRAFFWYD A CHYHOEDDWYD GAN HUGHES AND SON,
56 HOPE STREET

_________________________________________

(tudalen 4)
Tudalen weili

_________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1011) (tudalen 5)

RHAGDRAITH AR FYWYD A DAMMEGION AESOP

Mor bell ag y gellir casglu oddiwrth yr hanesion sydd yn aros am amseroedd mor foreuol, bu yr enwog Aesop fyw yn nyddiau Croesus, brenin Lydia. Yr oedd hyny oddeutu pum cant a hanner o flwyddi o flaen dechreuad y cyfnod Cristionogol, neu dros ddwy fil a thri chant o flynyddoedd yn ol. Felly y mae y cyfansoddiadau a briodolir iddo gyda yr hynaf sydd ar gael, (o rai anysbrydoledig,) oddieithr yr eiddo Homer, yr hwn y tybir iddo oesi oddeutu tri chant o flynyddoedd yn gynt nag yntau.

Dywedir iddo gael ei eni yn gaethwas; ac heb ddim amgylchiadau allanol iw ddwyn i sylw y mawrion, fe weithiodd ei ffordd drwy ei athrylith ai ddoethineb i lysoedd tywysogion; a gyrhaeddodd i ddylanwad mawr ar ei oes; ac a osododd sylfaen i enwogrwydd mwy eang, ac fe allai mwy parhaus, nar eiddo y saith doethwyr Groeg, pa rai a gyd oesent gydag ef.

Y mae hanes a gweithiau Aesop yn esboniad ar ansawdd ac ysgogiad ei oes mewn ystyr ddeallol a chymdeithasol. Hyd y cyfnod hwnnw yr oedd hyny o wybodaeth ag oedd ya cynniwair yn mhlith

_________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1012) (tudalen 6)

arweinwyr y bobl, yn wladol a chrefyddol, yn gynnwysedig mewn traddodiadau hanesyddol, ac mewn pennillion barddonol treigledig ar dafod leferydd o oes i oes. Nid oedd y gelfydddyd o ysgrifennu eto yn hysbys neu arferedig ond mewn cerffiadau ar gof-golofnau cyhoeddus neu deuluaidd. Gyda dechreuad y chweched ganrif o flaen Crist y dechreua cyfnod o lenyddiaeth glasurol ac ysgrifenedig. Yr oedd symudiadau mawrion yn mhlith y cenhedloedd dwyreiniol tuar pryd hwn, pa rai a dueddent yn nerthol i ddwyn allan holl alluoedd dynion. Gellir ystyried yr oes honno, ai chydmaru ar oesoedd a aethant heibio, yn oes y Doethion, ac yn oes Rhyddiaith. Yn mhlith brenhinoedd eraill, gwelodd y goludog Croesus fod gwybodaeth yn ALLU, a chasglodd oi amgylch o bob cenedl, y rhai a ennillasant enwogrwydd iddynt eu hunain am eu rhagoroldeb mewn gwybodaeth a doethineb.

Yn mhlith eraill cyrchwyd Aesop i lŷs Croesus, wedi yn gyntaf ei ryddhau o gaethwasanaeth ei feistr ladmon. Yr oedd ei glod wedi ei ragflaenu, fe allai yn fwy am ei arabedd nac am ei wybodaeth. Dygwyd ef o bossibi ir llys yn benaf i ddifyru, ond cafwyd fod doethineb mawr yn gorwedd dan ei ffraethineb, a daeth yn fuan i ffafr mawr gydar brenhin, ac i ddylanwad mawr ar y bobl. Daeth i gael ei anfon ar negeseuau ac i eistedd mewn cynnadleddau gwladwriaethol. Dywedir iddo fyned ar ryw achos cyhoeddus or fath, i ymweled ar Delphiaid, ac iddo yn nghyflawniad yr ymddiried hwnnw, ddwyn amo ei hun ddigofaint y bobl hyny, fel y bu

_________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1013) (tudalen 7)

iddynt godi iw erbyn ai daflu i ddinystr dros clogwyn craig. Dywedir yn mhellach, fod plau parhaus wedi disgyn ar y fro lle y llofruddiwyd ef, a bod y Delphiaid, lawer o flynyddoedd ar ol hyny, dan boen eu profedigaethau, a chan gyhuddiadau cydwybod enog, er mwyn dyhuddo eu duwiau, wedi cyhoeddi drachefn a thrachefn, eu parodrwydd i dalu iawn am ei farwolaeth i bwy bynag a allent brofi ei hawl ir cyfryw daliad; a chan nad oedd neb arall wedi ei gleimio, eu bod wedi ei dalu i ladmon, ŵyr ir ladmon hwnw, ir hwn y bu Aesop gynt yn gaethwas. Aeth y geiriau Gwaed Aesop, yn ddiareb am oesau dyfodol, i rybuddio na wna gwaed y llofruddiedig ddim gwaeddi am ddialedd yn ofer.

Nid oes dim hanesion y gellir ymddibynu arnynt yn mhellach am fywyd Aesop, ond y mae digon o brawf fod ei eiriau yn cael eu cadw mewn bri mawr yn mhlith yr Atheniaid am oesoedd lawer; ac oddeutu dau can mlynedd ar ol ei farwolaeth cyfodwyd cf-adail iddo gan yr enwog Lysippus, yn Athen, gyda chof-adail y Saithwyr doethion.

Nid ydys i ystyried mae Aesop oedd y cyntaf oll a arferodd y dull o gyfansoddi ac addysgu a elwir yn Chwedl neu Ddammeg. Yn y dull hwn, i fesur mwy neu lai, y trosglwyddwyd i lawr wybodaeth foreuol pob cenedl or bron, or hyn lleiaf, pob cenedl Ddwyreiniol. Yr oedd tlodi iaith, fe allai, yn y dechreu cyntaf, yn gwneuthur y defnyddiad o gydmariaethau yn angenrheidiol; ac yr oedd y dull hwn o lefaru, yn taro yn gryfach ar feddyliau syml y cenedloedd boreu, ac yn gadael argraff mwy arhosol


_________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1014) (tudalen 8)

ar eu cf. Yr oedd yn naturiol hefyd i bobl anwareiddiedig dynu eu cydmariaethau oddiwrth fwystfilod y maes, coed a llysiau, a golygfeydd natur: a daeth y dull hwn yn brif lwybr addysgiad y werin, yn debyg fel y bn Barddas a Thrioedd, &c., wedi hynny yn mhlith yr hen Gymry.

Yr ydym yn cael amryw ddammegion yn yr Hen Destament. Fe allai mai y chwedl neu y ddammeg hynaf oll ydyw yr hon a geir yn Llyfr Barnwyr ix. 7; am y Prenau ar Olewydden. Nid llai hynod ac effeithiol oedd dammeg Nathan yn yr 2il Samuel, 12fed bennod am Oenig fechan y gŵr tlawd, gydai chymmwysiad ofnadwy at y brenhin Dafydd, Tydi yw y gŵr!. Nid ydynt y dysgedigion yn credu fod yr holl chwedlau a gyssylltir i enw, yn gyfansoddiadau Aesop ei hun, nac ychwaith eu bod oll yn berffaith fel eu traddodwyd ganddo ef.
Tybiwn, mae gwir hanes Dammegion Aesop ydyw yn debyg i hyn. Aesop oedd un or cyntaf ar mwyaf llwyddiannus yn nefnyddiad y dull hwn o gyflwyno moes wersi. Gan en bod mor darawiadol ac mor hawdd eu cofio, yr oedd ei chwedlau yn cael eu treiglo o enau i enau, au trosglwyddo i lawr o oes i oes, gydar fath gyfnewidiadau ag sydd bob amser yn sicr o gydfyned a throsglwyddiad yr anysgrifenedig. Mewn amseroedd diweddarach, ysgrifenwyr ac areithwyr a ddefnyddient y traddodiad prif-linellol or chwedl, gan ei wisgo yn eu geiriau eu hunain. Yr un pryd, yr oedd pob chwedl dda oedd yn troi i fynu mewn ymddiddan, ac heb wybod ei hawdwr, yn cael, yn bur naturiol,

_________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1015) (tudalen 9)

ei phriodoli ir meistr mawr yn y dull hwn o addysgu.

Daeth poblogrwydd Chwedlau Aesop i fod yn ddiderfyn yn mhlith y Groegiaid; defnyddiai eu prif areithwyr hwynt yn eu hareithiau gwladwriaethol; trdd eu beirdd hwynt ar gn; a chyfeirir attynt yn fynych gan eu hawdwyr enwoccaf. O wahanol weithiau y rhai hyn y casglwyd y rhan fwyaf or chwedlau sydd ar gael; ac er nad ydys i gredu eu bod air yn air fel eu traddodwyd gyntaf gan eu hawdwr, eto y maent o ran ysbryd a sylwedd, or hyn lleiaf fel yr adnabyddid hwynt yn nghyfnod goreu llenyddiaeth Groeg.

Y mae amryw gasgliadau or Chwedlau hyn wedi eu cyhoeddi mewn gwahanol ieithoedd, ac y mae y cyfieithiad Cymraeg hwn wedi ei wneuthur or casgliadau diweddaraf a gorau a ymddangosodd yn yr iaith Saesonig.

Am y cymhwysiadau, gellir meddwl fod rhai or Chwedlau wedi eu llefaru ar ryw achosion neillduol, ac oherwydd hyny, y mae dyben eu traddodiad yn aneglur, ac nis gellir tynu cymhwysiad cyffredinol oddiwrthynt. Y mae llawer or cymhwysiadau a roddir yn yr argraffiad hwn wedi eu hattodi gan wahanol gasglwyr a chyhoeddwyr y Dammegion, tra y mae llawer iawn o honynt wedi eu gadael heb ddim cymhwysiad oll. Yn yr amgylchiad olaf, y mae y cyfieithydd Cymreig wedi rhoddi cymhwysiad mewn byr eiriau, gan feddwl y gwnai hyny y gwaith yn fwy cymhwys a chymmeradwy ir archwaeth Gymraeg.


_________________________________________

(tudalen 10) tudalen weili

_________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1016) (tudalen 11)

CYNNWYSIAD.
Rhagdraith ar Fywyd a Dammegion Aesop.

CHWEDLAU:
1 Llew ar Bwystfilod yn Hela.
2 Y Saethwr ar Llew.
3 Y Barcut ar Colomenod.
4 Y Llwynog ar Afr.
5 Y Blaidd ar Cryr Glas.
6 Y Frn Goeg-falch.
7 Y Morgrugyn ar Ceiliog Rhedyn.
8 Y Blaidd ar Myn.
9 Y Bachgen ar Asp.
10 Y Mynydd mewn Trafael.
11 Y Ceiliog ar Perl.
12 Yr Eryr ar Llwynog.
13 Yr Hydd ai Mam.
14 Y Weddw ar Ir.
15 Y Llwynog ar Llew
16 Y March ar Marchwas.
17 Yr Hen Gi.
18 Y Dyn ar Neidr.
19 Y Llygoden ar Llyffant
20 Y Pysgottwr yn canur Bibell.
21 Y Dyn ar Gwyddan..
22 Y Ci ar Cysgod.
23 Y Lleuad ai Mam.
24 Y Blaidd ar Oen.
25 Y Gwybed ar Pot Ml.
26 Yr Olwynion yn Gwichian.
27 Yr Arth ar Llwynog.
28 Y Ddwy Waled.
29 Llygoden y Wlad a Llygoden y Dref.
30 Yr Eryr ar Ceiliogod.

_________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1017) (tudalen 12)

CYNNWYSIAD.
31 Y Llew ar Llygoden.
32 Y Ci, y Ceiliog ar Llwynog.
33 Yr Hen Wraig ar Gwin-lestr.
34 Y Ci ar Blaidd.
35 Y Llyffant ar Ych.
36 Y Carw claf.
37 Y Wylan ar Barcud.
38 Yr Ysgyfarnog ar Crwban.
39 Y Crwban ar Eryr.
40 Y Bachgen ar Blaidd.
41 Yr Oen ar Blaidd.
42 Yr Ir ar Gath.
43 Y Llew ar Teirw.
44 Y Llwynog ar Coediwr.
43 Y Fran ar Piser.
46 Yr Ewig Unllygeidiog.
47 Y Bol ar Aelodau.
48 Y Grangc ai Mam.
49 Y Teithiwr ar Arth.
50 Y Llew, yr Asyn, ar Llwynog.
51 Y Carw yn Ystol yr Ych.
52 Y Bachgen a Thynged.
53 Y Morhwch ar Penwygyn.
54 Y Ffinidwydden ar Fieren.
55 Y Glowr ar Panwr.
56 Y Llew mewn Cariad.
57 Y Gwynt ar Haul.
58 Y Ffermwr ai Feibion.
59 Y Preniau ar Fwyall.
60 Yr Asyn ar Ci Bach.
61 Y Golomen ar Fran.
62 Y Llew ar Llwynog.
63 Iau ar Camel.
64 Y Dyn dall ar Cenaw.
65 Y Twrch daear ai fam.
66 Yr Asyn ar Ceiliog Rhedyn.
67 Erclwff ar Gwagenwr.
68 Y Llwynog a gollodd ei Gynffon.
69 Yr hen Wraig ar Meddyg.
70 Yr Ysgyfarnogod ar Llyffaint.
71 Y Pysgottwr ar Pysgodyn bychan.
72 Y Ffermwr ar Chwibon.
73 Yr Epa ar Camel.


_________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1018) (tudalen 13)

(x13)
CYNNWYSIAD.
74 Y Mul.
75 Y Llewes.
76 Y Bwrniad o Ffyn.
77 Y Dyn ar Llew.
78 Y Fammaeth ar Blaidd.
79 Yr Epa ar Morhwch.
80 Y March ar Carw.
81 Y Blaidd ar Defaid.
82 Y Weddw ar Ddafad.
83 Y Ci ai Feistr.
84 Y Ci Sarug.
85 Yr Adalwr ar Ehedydd.
86 Y Wenol ar Gigfran.
87 Y Ganwyll Ffyrling.
88 Y Bugail ar Tarw colledig.
89 Y Dyn a frathwyd gan Gi.
90 Y Teithwyr ar Blanwydden.
91 Y Dderwen ar Gorsen.
92 Y Wiber ar Ddurlif.
93 Mercher ar Coediwr.
94 Y Bleiddiaid ar Defaid.
95 Y Llwynog ar Grawnin.
96 Yr Eryr ar Saeth.
97 Y Ci yn y Preseb.
98 Y Gwybedyn ar Ych.
99 Iau, Neptune, Minerva, a Momus.
100 Y Lleidr ai Fam.
101 Priodas yr Haul.
102 Y Gath ar Llygod.
103 Y Llew ai dri Chynghorwr.
104 Y Forwyn ai Phiser Llaeth.
105 Yr Ychain ar Cigyddion.
106 Y Ffermwr ar Garanod.
107 Y Meddyg ar Claf.
108 Y Llygod mewn ymgynghorfa.
109 Y Llew ar Afr.
110 Yr Wydd ar Wyau Aur.
111 Y Pomgranad, yr Afal, ar Fieren.
112 Y Ci a Wahoddwyd i Swper.
113 Y Bugail ar Geifr.
114 Y Pysgottwr.
115 Y Llyffaint yn deisyf am Frenin.
116 Yr Asyn ai Feistriaid.


_________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1019) (tudalen 14)

CYNNWYSIAD.
117 Y Lleidr ar Ci.
118 Yr Ysgyfarnog ar Bytheuad.
119 Yr Heliwr ar Pysgottwr.
120 Iau ar Wenynen.
121. Yr Ehedydd ai rhai bychain.
122 Y Teithiwr ymffrostgar.
123 Y Llyffant ar Teirw.
124 Y Llew ar Asyn yn Hela.
125 Yr Adar, y Bwystfilod, ar Ystlum.
126 Y Llwynog ar Draenog.
127 Y Blaidd ar Bugail.
128 Y Teithwyr ar Fwyall.
129 y Llygod ar Bronwenod.
130 Y Bachgen ar Danadl.
131 Y Barcud Claf.
132 Yr Eryr ar Fran.
133 Yr Asyn ai Yrwr.
134 Yr hen Wr ac Angau.
135 Yr Adarwr ar Betrusen.
136 Yr Asyn Synwyrol.
137 Y ddau Ddwfr-lestr.
138 Y Llew ar Morhwch.
139 Yr Udganwr yn Garcharor.
140 Y Chwareuwr ar Gwladwr.

_________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1020) (tudalen 15)

CHWEDLAU AESOP

CHWEDL l. - Y LLEW AR BWYSTFILOD YN HELA.
Gwnaeth Llew ar Bwystfilod gytundeb i fyned allan i Hela. Wedi dal carw tew, gwnaeth y Llew ei hun yn farnwr; ac wedi rhanu yr ysglyfaeth yn dair rhan, dywedodd, Y rhan gyntaf, sydd eiddof fi yn swyddol, fel barnwr; yr ail ran, yr wyf yn ei chymmeryd fel fy rhan bersonol or ysglyfaeth; ac am y drydedd ran cymmered y neb a feiddia ef.

Gobaith gwan sydd ir gwan am gyfiawnder mewn cytundeb gydar cryf, yn enwedig os na bydd o egwyddor dda.



_________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1021) (tudalen 16)

CHWEDL 2.Y SAETHWR AR LLEW.
Aeth gŵr, yr hwn oedd yn dra medrus gydai fwa ai saeth i fynu ir mynyddoedd i hela. Pan ganfyddwyd ef yn agoshau, ffdd yr holl fwystfilod ymaith mewn braw ac arswyd. Y Llew yn unig a ddangosodd duedd iw wrthsefyll. Arhoswch, ebe , y Saethwr wrtho, a derbyniwch genadwr oddiwrthyf, y mae ganddo rywbeth iw ddywedyd wrthych. Gyda hyny, fe ollyngodd ei saeth at y Llew, ac ai harchollodd yn ei ystlys. Y Llew yna, yn arteithiedig gan boen, a ddiangodd i ganol y goedwig. Rhyw Lwynog, wrth ei weled yn ffoi, a archodd arno ymwroli, a gwynebu y gelyn. Na, atebai y Llew, nid ellwch fy mherswadio I i hyny; oblegid os yw y genad a anfona mor llym, pa beth a raid fod gallu yr hwn ai hanfonodd?

Nid yw gwroldeb heb bwyll ond rhyfyg. Nid yw nerth corph ddim wrth wrth meddwl.

_________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1022) (tudalen 17)

CHWEDL 3 - Y BARCUD AR COLOMENOD.
Yr oedd haid o Golomenod wedi byw yn hir mewn arswyd parhaus rhag Barcud, ond wrth fod bob amser ar eu gwiliadwriaeth, a chadw yn agos at y Colomendy, llwyddasant am dymhor maith i ddiangc rhag ymosodiadau y gelyn. Wrth weled fod ei ymdrechion yn aflwyddiannus, trodd y Barcud i ddefnyddio dichell. Paham, meddai, yr ydych yn dewis byw fel hyn mewn ofn parhaus, pan, os gwnewch ond yn unig fy nghymmeryd I yn frenin arnoch, gwnawn I eich cadw yn ddiogel rhag pob ymosodiad a ellid ei wneuthur arnoch? Y Colomenod, gan ymddired yn ei addewidion, ai galwasant ir orsedd; ond nid cynt yr oedd wedi ei sefydlu ynddi, nag y dechreuodd ddefnyddio ei allu i ysglyfaethu Colomen bob dydd. Ar hyny, ebe un Golomen oedd yn disgwyl ei thynged hithau, Nid yw hyn ond yr hyn a haeddasom am ein ffolineb.

Pwy bynag a roddant allu yn wirfoddol yn llaw gormeswr neu elyn, ni ddylent ryfeddu os troir ef yn y diwedd yn eu herbyn hwy eu hunain.

_________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1023) (tudalen 18)

CHWEDL 4. Y LLWYNOG AR AFR.
Yr oedd Llwynog wedi syrthio i mewn i ffynnon ddofn, ac er ymdrechu yn mhob modd, yn methu dringo allan o honi. Dygwyddodd i Afr ddyfod ir fan, a chan ei bod yn sychedig, gofynodd ir Llwynog, A oedd y dwfr yn dda, ac a oedd yno ddigon o hono? Y Llwynog, heb gymmeryd arno ei fod mewn helbul, a atebodd, Dowch i lawr, gyfaill, mae y dwfr mor dda fel na allaf roi heibio ei yfed, ac y mae cyflawnder dihysbydd o hono. Ar hyn neidiodd yr Afr i mewn heb ychwaneg o ystyriaeth; ar Llwynog gan gymmeryd mantais o gyrn ei gyfaill, a neidiodd allan yn y fan; a dywedai yn bur bwyllog wrth yr Afr druan, Pe buasai genych banner gymmaint o ymenydd ag sydd genych o farf, buasech wedi edrych och blaen cyn neidio.

Y mae cynghor y dichellgar yn beryglus.

_________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1024) (tudalen 19)

CHWEDL 5. - Y BLAIDD AR CRYR GLAS.
Fel yr oedd Blaidd yn rheibus ymborthi ar ei ysglyfaeth, digwyddodd yn ei wangc, i asgwrn lynu yn ei wddf. Parai hyn y fath boen iddo, fel y rhedai gan udo at bawb oi amgylch, gan addaw gwobr dda i bwy bynag ai gwaredai oi ofid. Y Cryr Gls, wrth glywed am y wobr, a anturiodd ei wddf hir-fain i enau y Blaidd, ac a dynnodd yr asgwrn ymaith. Yna gofynai yn wylaidd am y wobr addawedig am y gymmwynas; ir hyn yr atebai y Blaidd, gan wenu, a dangos ei ddannedd, Greadur anfoddog, onid yw yn ddigon o wobr i ti, fod dy ben wedi bod rhwng fy nannedd, ath fod wedi ei gael allan yn ddiogel?

Y rhai a wnant gymmwynas yn unig er mwyn y wobr, yn enwedig i ddynion drwg, ni dddylent ryfeddu os cant weithiau eu siomi, a derbyn mwy o sarhad nac o ddiolch am eu trafferth.


_________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1025) (tudalen 20)

CHWEDL 6. Y FRAN GOEG-FALCH.
Yr oedd rhyw Fran mor falch a chwyddedig fel yr anfoddlonai iw chylch ai gwisg naturiol; felly fe gasglodd y plu a syrthient oddiwrth y Paunod, ac au gosododd yn mhlith ei phlu ei hunan; ac yna, gan ddiystyru ei hen gymdeithion, hi a gynnigiodd ei hun yn dra hyderus i gyfeillach yr adar prydferth hyny. Y Paunod, gan ganfod ar unwaith y twyll hunanol, ai diosgasant yn y fan or plu benthyciedig, a, chan ymosod arni u pigau, ai gyrasant yn ddigllawn ou plith. Y Frn benffol, mewn poen a gofid. a ddychwelodd at ei thylwyth ei hun, ac a fynai gymdeithasu gyda hwynt drachefn, fel pe na buasai dim wedi digwydd. Ond y rhai hyny, wrth gofio am ei dirmyg o honynt gynt, ni fynent ei derbyn yn ol, eithr hwy au curasant ymaith ou plith, gan ddywedyd wrthi, Pe buaset wedi boddloni ir hyn yth wnaethpwyd gan natur, buasit wedi diangc rhag ceryddon dy well, a rhag dirmyg dy gydradd, ond yn awr ti a ddygaist arnat dy hun atgasedd pawb.

Pwy bynag a geisia ymddyrchafu trwy dwyll, ac ar draul rhagoriaethau benthyciedig, a syrth yn is yn y pen draw.


_________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1026) (tudalen 21)

CHWEDL 7. Y MORGRUGYN AR CEILIOG RHEDYN.
Ar ddiwrnod rhewllyd yn y gauaf yr oedd Morgrugyn yn lluisgo allan ychydig ŷd a drysorasai yn yr hf, iw sychu yn yr awyr agored. Ceiliog Rhedyn, a ddigwyddasai oroesi yr hf, ac oedd yn awr bron marw o newyn, a daer erfyniai ar y Morgrugyn i roddi iddo un gronyn iw gadw yn fyw. Atolwg, meddai y Morgrugyn wrtho, pa beth a fuoch chwi yn ei wneyd trwy yr hf diweddaf? O! atebai y Ceiliog Rhedyn, nid oeddwn yn segura, bum yn canu ar hyd yr hf. Ai, ebe y Morgrugyn, gan chwerthin a chau ei ystordy, os gallasoch ganu ar hyd yr hf, galiwch ddawnsio ar hyd y gauaf

Y gauaf ddwg allan yr hyn y mae yr hf wedi ei hebgor. Mewn ieuengctyd ac iechyd y mae darparu ar gyfer henaint ac afiechyd.

_________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1027) (tudalen 22)

CHWEDL 8.Y BLAIDD AR MYN.
Myn Gafr yn sefyll ar ben tŷ uchel, a ganfu Flaidd yn pasio heibio isod, ac a ddechreuodd ei senu. Ni wnaeth y Blaidd ond edrych arno, a dyweyd, Y cachgi gwael! nid tydi sydd yn fy nifrio, ond y lle yr ydwyt yn sefyll arno.

Y rhai a ymosodant ar gymmeriadau, pan y gallant wneyd hyny yn ddigerydd, y distadlaf o ddynion ydynt.

CHWEDL 9. Y BACHGEN AR ASP.
Yr oedd bachgen yn chwilio am Lindŷs ar fur, ac wedi dal llawer iawn o honynt; pan y gwelodd Asp, ac ai cam gymmerodd am Lindysen. Yr oedd yn agor ei law iw dal, pan y dywedai yr Asp, gan estyn allan ei cholyn, gwynfyd na buasech wedi cydio ynof, canys buaswn yn fuan yn peri i chwi fy ngollwng I yn rhydd, ar Lindys hefyd.

Trwy fentro gormod yn ei anwyhodaeth, y mae aml un un wedi colli yr hyn oedd ganddo, a chael mawr ofid yn y fargen.

_________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1028) (tudalen 23)

CHWEDL 10. Y MYNYDD MEWN TRAFAEL.
Yn yr hen amser gynt fe glywyd rhyw dwrw dirfawr oddifewn i Fynydd. Aeth y gair ar led ei fod mewn. trafael; ac ymgynnullodd Iluaws mawr o bobi o bell ac agos, i gael gweled ar ba beth yr esgorai y mynydd. Ar ol maith ddisgwyliad, a llawer o dybiau doethion gan yr edrychwyr, daeth allan o grombil y Mynydd. LYGODEN!

Addewidion a honiadau mawrion yn dibenu mewn cyflawniadau b
ychain.

CHWEDL 11. Y CEILIOG AR PERL.

Fel yr oedd Ceiliog yn crafu ar domen, mewn buarth ffarm, i chwilio am ymborth ir ieir, digwyddodd iddo droi i fynu Berl disglaer a syrthiasai yno trwy ryw ddamwain. Hollo, ebe fe, yr ydych chwi yn rhywbeth gwych iawn, maen ddiau, ir rhai a allant eich prisio; ond rhowch i mi ronyn o haidd o flaen holl berlau y byd.

Nid oes dim yn wir werthfawr i un, oni all ei ddefnyddio; ond gwaith ffol ydyw diystyru dim, yn unig am nad ydym yn eu ddeall.

_________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1029) (tudalen 24)

CHWEDL 12. YR ERYR AR LLWYNOG.
Yr oedd Eryr a Llwynog wedi byw am dymhor maith yn gymmydogion agos a heddychlawn; yr Eryr ar ben uchaf pren mawr, ar Llwynog mewn twll wrth ei wraidd ef. Er hyny, un diwrnod, pan oedd y Llwynog oddicartref, gwnaeth yr Eryr ymosodiad ar genaw y Llwynog, ac ai cipiodd i fyny iw nyth, gan feddwl fod ei thrigfan mor uchel, fel nad allai y Llwynog byth ei niweidio. Y Llwynog, ar ei ddychweliad adref, a gwynodd yn fawr oblegyd angharedigrwydd yr Eryr; ac a daer erfyniodd am ddychweliad y bychan; ond wrth weled nad oedd ei erfyniadau yn tycio, fe gipiodd bentewyn oddiar allor a gynneuasid gerllaw, ac yn fuan yr oedd y pren oll mewn mwg a thn. Dychwelodd yr Eryr yn ddioed, er mwyn ei bywyd ei hun ai phlant, y cenaw, a wrthodasai ei ildio i erfyniadau a daerau y
Llwynog.

Y mae bygythion, yn gyffredin, yn fwy effeithiol gyda gormeswyr neu erfyniadau a dagrau.

_________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1030) (tudalen 25)

CHWEDL 13. YR HYDD AI FAM.
Dywedai Hydd ieuangc ryw ddydd wrth ei mam, Fy mam, yr ydych yn fwy nar ci, yn gyflymach, ac yn well eich gwynt, ac y mae genych gyrn ich hamddiffyn eich hun; pa beth yw yr achos, gan hynny, fod arnoch gymmaint o ofn y cwn? Gwenai yr hen fam, ac atebai, Mi a wn hyn i gyd yn bur dda, fy mhlentyn, ond eto, nid cynt y clywaf gyfarthiad ci, na bydd fy nhraed rywfodd yn fy nghipio i ffordd yn gynted ag y gallant.

Nis gellir ymresymu yr ofnus i wrolder.

CHWEDL 14 Y WEDDW AR IAR.
Yr oedd gan wraig weddw Ir, yr hon a ddodwyai iddi un wy bob boreu. Dywedai y weddw ynddi ei hin - Os rhoddaf ddwywaith gymmaint o haidd iddi, hi a ddodwya ddwywaith yn y dydd. Hi a dreiodd y plan, ac aeth yr Ir mor dew a graenus fel na ddodwyodd ddim oll!

Nid yw ffeithiau bob amser yn ateb i ffigyrau.


_________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us

(delw 1031) (tudalen 26)

CHWEDL 15.Y LLWYNOG AR LLEW.
Y tro cyntaf y gwelodd Llwynog Lew, fe syrthiodd wrth ei draed, ac yr oedd yn mron marw gan arswyd. Yr ail dro, er ei fod eto yn lled ofnus, eto fe a ymwrolodd gymmaint fel y mentrodd edrych arno. Y trydydd tro, fe aeth mor hyf, fel yr aeth ac ai cyfarchodd ef, gan ofyn iddo, Pa sut yr oedd ef?

Y mae cynnefino pheryglon yn gwneyd dynion yn rhyfygus. Gorchest ydyw ymddwyn tuag at ein huchafiaid, heb fod yn wasaidd ar y naill law, nac yn or-hyf ar y llaw arall.

CHWEDL 16. Y MARCH AR MARCHWAS.
Arferai rhyw Farchwas ddwyn a gwerthu ceirch y ceffyl, ond yr oedd yn dra diwyd yn ei lanhau ai ysgrafellu ar hyd y dydd. Os mynech i mi, mewn gwirionedd, edrych yn dda, meddai y March, rhoddwch i mi lai och ysgrafell, a mwy och ŷd.

Ceir gan rai fwy o foesgarwch nac o gymmwynasgarwch a chyfiawnder.

_________________________________________


(delw 1032) (tudalen 27)

CHWEDL 17. YR HEN GI.
Ci, yr hwn a fuasai yn un da iawn yn ei amser, ac a wnaethasai-wasanaeth mawr iw feistr yn ei helw-iaeth, oedd or diwedd yn pallu gan bwysau blynyddoedd meithion, a llafur caled. Rhyw ddiwrnod, pan yn hela y baedd gwyllt, efe a gydiodd.yn y bwystfil gerfydd ei glust, ond ymollyngodd ei ddannedd, a gorfu iddo ollwng ei afael, a diangodd y baedd. Ar hyn, daeth yr heliwr i fynu, ac ai dwrdiodd yn llym, Ond atebai yr hen Gi egwan iddo, Arbedwch eich hen was! Cofiwch mai fy ngallu, ac nid fy ewyllys a ballodd. Byddai yn harddach i chwi ystyried yr hyn a fum, na fy ngheryddu am yr hyn ydwyf.

Dylid gwneyd gwahaniaeth rhwng difyg ewyllys a diffyg gallu. Ni ddylid anghofio hen gymmwynasau.

_________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us

(delw 1033) (tudalen 28)

CHWEDL 18. - Y DYN AR NEIDR.
Gwr gwladaidd yn dychwelyd adref ryw ddiwrnod rhewllyd yn y gauaf, a ganfyddodd Neidr yn y clawdd bron marw gan yr oerfel. Gan gymmeryd trugaredd ar y creadur, fe ai cododd iw fynwes, ac ai dygodd iw dy^, ac ai gosododd ar yr aelwyd iw ddadebru. Nid cynt yr oedd y Neidr wedi ei llwyr adferu gan wres y tn, na ddechreuodd ymosod ar y plant a theulu y ty^. Ar hyn cymmerodd y gwladwr fatog ac ai lladdodd yn y fan, gan ddyweyd, Ai hyn, filain ysgeler yw y wobr a deli i ini am achub dy fywyd?

Dylid bod yn ddoeth wrth wneyd cymmwynasau. Y [rhai] a dalant ddrwg am dda, a flinant amynedd pawb syrthiant ir fagl yn y diwedd.

_________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us

(delw 1034) (tudalen 29)

CHWEDL 19 - Y LLYGODEN AR LLYFFANT
Digwyddodd i Lygoden ar ddiwrnod anffortunus ddyfod i gydnabyddiaeth gyda Llyffant, ac aethant i gyd-drafaelio. Y Llyffant, dan esgus o fawr serch, ac o awyddfryd i gadw ei gyfaill allan o bob perygl, a rwymodd draed blaen y Llygoden wrth ei draed ol ef, ac fel hyny teithiasant yn mlaen, am dymhor, ar y tir; or diwedd, daethant at ffrwd o ddwfr, ar Llyffant, gan beri ir Llygoden beidio dychrynu, a ddechreuodd nofio drosodd, ond gyda eu bod hanner y ffordd drosodd, darfu y Llyffant ymsuddo yn ddisymwth ir gwaelod, gan lusgo y Lygoden anlwcus gydag ef. Ond wrth ir Lygoden ymdrechu a gwingo yn y dwfr, canfyddodd Barcud hi, a chan ddisgyn arni, fe gipiodd y Llygoden ymaith, gan gario y Llyffant oedd ynglyn a hi yr unffordd.

Y mae yr hwn a lunio ddinystr ei gymmydog, yn fynych yn cael ei ddal yn ei fagl ei hun. Nid hapus un undeb rhwng dau o wahanol anian.

_________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us

(delw 1035) (tudalen 30)

CHWEDL 20 - Y PYSGOTTWR YN CANUR BIBELL.
Pysgottwr, yr hwn a feddyliai fwy am ei ganiadau nac am ei rwydau, pan y gwelodd haid o bysgod yn y mr, a ddechreuodd ganu ei Bibell, gan feddwl y buasent yn neidio ar y tir. Ond wrth weled nad oeddent yn sylwi dim ar ei ganu, fe gymerodd rwyd fawr, a chan amgylchu lluaws or pysgod, fe an tynodd hwynt i dir. Yna pan welodd y pysgod yn gwingo ac yn neidio ar bob llaw, fe wenodd, ac a ddywedodd, Gan na wnaech ddawnsio pan genais i chwi, ni fynaf fl ddim och dawnsio chwi yn awr.

Dyna ddialedd y gormeswr creulon; os na phlyga pob ewyllys iw fympwy ef, fe rwyda ac a ddila eu rhyddid.

_________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us

(delw 1036) (tudalen 31)

CHWEDL 21 - Y DYN AR GWYDDAN.
Dyn a Gwyddan wedi cyfarfod yn ddamweiniol, a aethant yn gyfeillion, ac a eisteddasant i lawr i gyd-fwyta. Yr oedd yn ddiwrnod gauafaidd ac oer, am hynny rhoddodd y dyn ei fysedd yn ei enau, ac a anadlodd arnynt. I ba beth y gwnewch fel yna? gofynai y Gwyddan. I gynhesu fy nwylaw oerion, ebe y Dyn. Yn mhen ychydig, daeth dysglaid o fwyd, yn boeth, ar y bwrdd, ar Dyn, gan ei rhoddi at ei enau, a chwythodd arno. I ba beth y mae hynyna dda eto? gofynai y Gwyddan. O, atebai y Dyn, y mae y potes yma yn boeth iawn, yr wyf yn chwythu arno iw oeri dipyn. O, felly, ai, meddai y Gwyddan, ewch ymaith yn union, yr ydwyf yn ymwrthod ach cyfeillach yn hollol, ni fynwn ddim yn y byd iw wneyd ag un sydd yn chwythu yn oer ac yn boeth ar un genau.

Dyn iw osgoi ydyw y tymherog, ar hwn a fedr wenieithio ac enllibio r un genau.

_________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us

(delw 1037) (tudalen 32)

CHWEDL 22 - Y CI AR CYSGOD.
Fel yr oedd C yn croesi pont-bron dros afon, a chanddo ddarn o gig yn ei safn, fe welai ei gysgod ei hun yn y dwfr islaw iddo. Meddyliodd mai C arall ydoedd, a darn arall o gig yn ei safn, a phenderfynodd y mynai y darn hwnw hefyd; ond wrth geisio am yr asgwrn tybiedig, fe ollyngodd yr un oedd yn ei afael, ac felly fe gollodd y ddau.

Mae llawer wrth ymdrechu am gysgod, yn colli y sylwedd; trwy beryglu daioni sylweddol, am bleser dychymygol; neu anturio eu heiddo ei hun, i reibio am eiddo ereill.

CHWEDL 23 - Y LLEUAD AI MAM.
Gofynodd y Lleuad unwaith iw Mham wneuthur mantell ai ffitiai hi yn berffaith. Pa fodd, meddai y fam, y gallaf wneyd mantell ich ffitio chwi, sydd weithiau yn Lleuad newydd, ac weithiau yn llawn llonaid, ac weithiau nar naill nar llall?

Gwaith anhawdd iawn ydyw boddio rhai pur gyfnewidiol eu meddwl.


_________________________________________


Free Image Hosting at www.ImageShack.us

(delw 1038) (tudalen 33)

CHWEDL 24 - Y BLAIDD AR OEN.
Fel yr oedd Blaidd yn tori ei syched wrth fin ffrwd redegog, fe ganfyddodd Oen unigol ychydig islaw iddo yn yfed or un dwfr. Gwnaeth i fynu ei feddwl i ymosod arno, a cheisiai ddyfeisio rhyw esgus i gyflawnhau ei drais. Filain, ebe ef, gan redeg at yr Oenig, pa sut yr ydych chwi yn meiddio llwydo y dwfr yr wyf fi yn ei yfed? Yn wir, atebai yr Oce yn dra dychrynedig a gwylaidd, nid wyf fi yn gweled pa fodd y gallaf fi lwydo y dwfr, canys y mae yn rhedeg oddiwrthych chwi ataf fi, ac nid oddiwrthyf fi atoch chwi. Par un bynag am hyny, meddai y Blaidd, nid oes ond biwyddyn er pan y clywais chwi yn fi ngalw I yn bob math o enwau drwg. O! syr, ebe yr Oen gan grynu, nid oeddwn ni ddim wedi fy ngeni flwyddyn yn o? Wel, meddai y Blaidd, os nid y chwi oedd, eich tad oedd e, ac y mae hyny yr un peth; ond nid yw o ddefnydd yn y byd treio fy ymresymu I allan o fy swper. Ac heb ychwaneg o eiriau, fe syrthiodd ar yr Oenig druan, ac ai llarpiodd yn y fan.

Lle y byddo nerth, creulondeb, a malais, yn cyd-gyfarfod

_________________________________________


Free Image Hosting at www.ImageShack.us

(delw 1039) (tudalen 34)

ni byddis byth yn fyr o esgus i ormesu. Ychydig obaith i wrthsefyll gormes ac anghyfiawnder sydd ir rhai na feddant ddim arfau ond cyfiawnder a diniweidrwydd.

CHWEDL 25 - Y GWYBED AR POT ML.
Yr oedd Llestriad o Fl wedi syrthio a thori mewn masnachdŷ. Daeth y gwybed yn heidiau llusog o bob man, iw fwyta i fynu, ac ni symmudent or fan tra yr oedd un diferyn yn aros. Or diwedd, yr oedd eu traed wedi eu maglu gymmaint gan y y Ml yn glynu wrthynt, fel na allent ehedeg ymaith; ac wedi eu dal yn gaeth yn nghanol y seigiau melus, hwy a waeddent allan, Pa fath greaduriaid truenus ydym, y rhai am un awr o bleser, a daflasom ein bywydau ymaith.

Pa sawl un o blant dynion am un saig o fwyd, a werthasant eu genedigaeth fraint? Ac am bleserau diflanedig amser, a aberthant eu dedwyddwch tragywyddol?

CHWEDL 26 - YR OLWYNION YN GWICHIAN.
Fel yr oedd gwdd o Ychain yn llusgo Gwagen llwythog ar hyd ffordd drom, dechreuodd yr Olwynion wichian yn rhyfedd. Adyn, ebe y Gyrwr wrth y Wagen, paham yr wyt ti yn gruddfan cymmaint, pan y mae y rhai sydd yn llusgo yr holl bwysau yn berffaith ddistaw?

Nid y rhai sydd yn gwaeddi allan uwchaf, sydd bob amser yn cael mwyaf o gam.

_________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us

(delw 1040) (tudalen 35)

CHWEDL 27 - YR ARTH AR LLWYNOG.
Yr oedd Arth yn arfer ymffrostio o gariad mawr at Ddyn, gan ddyweyd na ddarfu iddo fe erioed larpio neu ddarnio Dyn wedi iddo farw. Sylwai y Llwynog, gyda gwn, Buaswn yn meddwl mwy och proffes o gariad, pe na rwygech ef byth pan yn fyw.

Gwell cadw dyn rhag marw, nai enneinio ef wedi iddo farw.

CHWEDL 28 - Y DDWY WALED.

Y mae pob un yn cario Dwy Waled, un oi flaen, ar llall oi ol, ar ddwy yn llawn o feiau; ond y mae yr un oi flaen yn llawn o feiau ei gymmydogion, ar un tu ol iddo oi feiau ei hun.

Felly mae yn digwydd fod dynion heb weled eu beiau eu hunain, tra nad ydynt byth yn colli golwg ar yr eiddo eu cymmydogion.

_________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us

(delw 1041) (tudalen 36)

CHWEDL 29 - LLYGODEN Y WLAD A LLYGODEN Y DREF.
Gwahoddodd Llygoden wladaidd hn Gyfeilles iddi, oedd yn byw yn y ddinas, i dalu ymweliad hi. Derbyniwyd y gwahoddiad yn foesgar; ar Lygoden wladaidd, er yn ddigon plaen ac anghoethedig, ac yn lled gynnil ei natur, a agorodd ei chalon ai hystr, er croesaw iw hn Gyfeilles. Nid oedd un gronyn cynniliedig na ddygwyd allan or fwyd-gell, pŷs, haidd, briwsion caws, a chnau, &c.; a gobeithiai y Lygoden lettygar wneyd i fynu mewn cyflawnder, yr hyn yr ofnai oedd yn fyr mewn danteithioldeb, i gyfarfod ag archwaeth goethedig ei Chyfeilles ddinasol. Llygoden y dref, yn bur fursenaidd, a bigai dammaid yma, a thammaid draw; tra yr oedd yr hon ai llettyai, rhag ofn lleihau dim ar yr arlwy, yn eistedd gerllaw ac yn pigo gwelltyn haidd yn bur ddedwydd. Or diwedd, torodd Llygoden y ddinas allan, a dywedodd, Pa sut yn y byd, fy hn Gyfeilles, y gellwch oddef y bywyd llonydd, dwl, ac anghoethedig yma? Yr ydych yn byw fel llyffant mewn twll. Does bossibl, eich bod

_________________________________________



Free Image Hosting at www.ImageShack.us

(delw 1042) (tudalen 37)

mewn gwirionedd, yn caru yr hen greigiau unigol hyn, ar coedwigoedd, ar maesydd distaw yma, yn fwy na heolydd yn fyw gan gerbydau a dynion! Ar fy ngair, yr ydych yn gwastraffu eich amser yn druenus yma: rhaid i ni wneyd y goreu on bywyd tra y parhao; nid yw Llygoden, fel y gwyddoch, ddim yn byw byth. Felly, deuwch gyda fi yn union ir ddinas, a mi a ddangosaf i chwi fywyd. Wedi ei gorchfygu gan y fath eiriau gwych, ar fath foesgarwch urddasol, cydunodd y Lygoden wladaidd ar cynnygiad, a hwy a gychwynasant, gydar hwyr, ar eu taith ir dref. Yr oedd hi yn mhell yn y nos pan yr ymlithrent yn ddistaw ir heolydd, ac yn hanner y nos erbyn iddynt gyrhaedd y tŷ mawr, yn yr hwn yr oedd Llygoden y dref yn gwneyd ei chartref. Yma yr oedd cadeiriau esmwyth, a gorweddfau o velvet ysgarlad, dodrefn wedi eu gweithio ag ifori, a phob peth arall yn arwyddo cyfoeth a moethusrwydd. Ar y bwrdd yr oedd gweddillion gwledd ardderchog, ar gyfer yr hon yr oedd holl fasnachdai y ddinas wedi cyfrannu eu danteithion y dydd or blaen. Yma yr oedd tro y Lygoden ddinasol i ddangos ei llettygarwch; gosododd ei hymwelydd gwladaidd i orphwys ar borphor, rhedai yma a thraw yn awyddus i weini ar ei holl anghenion, cymhellai ddysgl ar ddysgl, a dantaith ar ddantaith; ac, fel pe yn gweini ar frenin, profai bob peth ei hun, cyn ei osod o flaen ei Chares ddysyml. Yr oedd Llygoden y wlad, erbyn hyn, yn dechreu teimlo a gwneyd ei hun yn hollol gartref; ac yn barod i fendithio yr hap dda oedd wedi gweithio y fath gyfnewidiad dymunol yn ei dull o fyw. Ond, pan yn nghanol ei mwyniant, ac yn dechreu meddwl gyda dirmyg am y fywioliaeth dlawd yr oedd wedi cefnu arni; yn ddisymwth, dyma ddrws yn cael ei daflu yn agored, a chwmni o loddestwyr yn dychwelyd o wledd hwyrol, yn rhuthro i

_________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us

(delw 1043) (tudalen 38)

mewn ir ystafell. Y ddwy Gyfeilles ddychrynedig a neidiasant oddiar y bwrdd yn y braw mwyaf, ac a ffoisant i ymguddio yn y gornel gyntaf a allasant ei gyrhaedd. Yn mhen tipyn, hwy a anturiasant gribo allan drachefn; ond yn ddioed dyma gyfarthiad llu o gŵn, yn eu gyru yn ol mewn braw a dychryn mwy fyth. Or diwedd, pan yr oedd pethau wedi tawelu ychydig, fe lithrodd llygoden y Wlad allan oi hymguddfan, a chan ffarwelio i Chyfeilles, hi a sisialodd yn ei chlust, O! fy anwyl Gares, gall y dull gwych hwn o fyw wneyd y tro ir rhai ai carant; ond rhoddwch i mi fy mara haidd mewn heddwch a diogelwch, o flaen y wledd fwyaf ddanteithiol gyda gofal ac ofn parhaus.

Gwell yw pryd o ddail gyda llonyddwch, nag ŷch pasgedig a chs gydag ef.

CHWEDL 30 - YR ERYR AR CEILIOGOD.
Dau Geiliog ieuaincgca ymladdent gyda ffyrnigrwydd mawr. Or diwedd gorchfygwyd un o honynt, ac fe giliodd i gongl y cut yn llawn o boen a briwiau. Y buddugoliaethwr a ehedodd yn union i ben y tŷ, ac a ddechreuodd guro ei adenydd a chanu i hysbysu ei gongcwest. Y funud hono, Eryr, wrth ehedeg heibio, ai cipiodd yn ei ewinedd, ac ai dygodd ymaith. Pan welodd y Ccillog gorchfygedig liynny, daeth allan oi ymguddfan, ac a gymmerodd feddiant or domen am ba un yr ymrafaelasant.

Gwaith peryglus ydyw dringo yn rhy uchel,ac ymffrostio gormod yn amser llwyddiant

_________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1044) (tudalen 39)

CHWEDL 31 - Y LLEW AR LLYGODEN.
Yr oedd Llew yn cysgu yn ei ffau, pan y digwyddodd i Lygoden, yn ddifeddwl, redeg ar draws trwyn y bwystfil mawr, ai ddeffroi. Tarawodd y Llew ei bawen ar y creadur bach dychrynedig, ac yr oedd ar ei ddibenu yn y fan, pan y darfu ir Lygoden, mewn llais cwynfanus, erfyn arno drugarhau wrth un oedd wedi troseddu mor anfwriadol, ac i beidio dianrhydeddu ei bawenod mawreddig trwy ladd ysglyfaeth mor ddistadl. Y Llew, gan wenu ar fraw ei garcharores fechan, gyda ei fawrfrydigrwydd arferol, ai gollyngodd yn rhydd. Fe ddigwyddodd ychydig amser wedin, fel yr oedd y Llew yn hela ei ysglyfaeth yn yr anialwch, iddo syrthio i rwydau yr helwyr: ac wrth gael ei hun wedi ei ddal yn ddiogel yn y fagl, fe ddechreuodd ruo nes oedd yr holl goedwig yn adsain gan ei sŵn. Y Lygoden, yn adnabod llais ei harbedwr mawreddig, a redodd ir fan, ac a ddywedodd wrtho am beidio ofni dim, y byddai hi yn Gyfeilles iddo; ac yna, yn ddioed, dechreuodd gnoi y cwlwm oedd yn rhwymo y llew ai dannedd bychain, ac mewn ychydig amser gosododd yr anifail mawreddog yn rhydd.

Anfynych y mae tiriondeb yn myned yn ofer. Nid oes un creadur mor bell islaw un arall, fel nad all ddyfod iw allu i ad-dalu cymwynas.

_________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1045) (tudalen 40)

CHWEDL 32 - Y CI, Y CEILIOG AR LLWYNOG.
C a Cheiliog wedi digwydd dyfod i gydnabyddiaeth u gllydd, a aethant ar eu taith ynghyd. Goddiweddwyd hwynt gan y nos mewn coedwig, ar Ceiliog a ehedodd i bran, ac a aeth i glwydo yn mhlith y canghenau, tra yr aeth y C i gysgu wrth ei wraidd. Fel yr oedd y nos yn pasio, ar dydd yn gwawrio, y Ceiliog, yn ol ei arfer, a ddechreuodd ganu yn soniarus: Llwynog, yn ei glywcd, ac yn chwenychu gwneyd brecwest o hono, a ddaeth, ac a safodd o dan y pren, ac ai cyfarchodd, gan ddywedyd, Yr wyt ti yn aderyn bychan, d, a thra defnyddiol ith gydgreaduriaid. Tyred i lawr yn awr, fel y gallom ni ganu ein boreuol hymnau, a llawenhau ynghyd. Atebodd y Ceiliog, Ewch, fy nghyfaill cu, at fn y pren, a gelwch ar y clochydd i ganu y gloch. Ond cyn gynted ag yr aeth y Llwynog iw alw, fe neidiodd y C arno yn y fan, ac a afaelodd ynddo, ac ai lladdodd.

Y mae y rhai a osodant faglau i ereill, yn fynych yn syrthio iddynt eu hunain.

_________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1046) (tudalen 41)

CHWEDL 33
- YR HEN WRAIG AR GWIN-LESTR.
Gwelai Hen Wraig Gostrel wag yn gorwedd ar lawr. Er nad. oedd un diferyn or Gwin puredig, yr hyn a gynnwysasai gynt, yn aros ynddi; eto, yr oedd yr arogl mwyaf dymunol yn cyfodi o honi. Rhoddodd yr Hen Wraig ei thrwyn yn ngheg y Gostrel, ac aroglodd ai holl allu yn egnol, gan sylwi, Greadur melus, mor ragorol y rhaid fod eich cynnwys unwaith, pan y mae y gwaddod mor beraidd.

Coffadwriaeth y cyfiawn sydd fendigedig

CHWEDL 34 - Y CI AR BLAIDD.
Ar noswaith oer, leuad-olau, digwyddodd i Flaidd teneu, newynllyd, gyfarfod Ch tew, cysurus iawn yr olwg arno. Ar ol y cyfarchiadau cyntaf rhyngddynt, Pa fodd y mae yn digwydd, gofynai y Blaidd, eich bod yn edrych mor dda? Mor dda y mae eich bwyd yn cytuno chwi! Rhaid eich bod yn cael digon o hono. A dyma fi yn ymdrechu am fy mywyd ddydd a nos, ac nid allaf ond prin gadw fy hun rhag newynu. Wel, meddai y C, os mynech

_________________________________________


Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1047) (tudalen 42)

gael yr un fywioliaeth mi, nid oes i chwi ond gwneyd yr un fath a minau. Ai, eber llall, a pha beth yw hyny? O, ebe y C, dim ond gwylio tŷ fy meistr, a chadw lladron ymaith y nos. Gwnaf hyny yn llawen; canys nid oes genyf yn awr ond bywyd blin iawn. Byddai newid fy lletty yn y coedwigoedd, yn y gwlaw, ar eira, ar rhew, am d cynhes uwch fy mhen, a llond fy nghylla o fwyd da, yn burion bargen. Gwir, meddai y C, ac felly nid oes i chwi ddim iw wneyd ond fy nghanlyn I. Fel yr oeddent yn trotian yn mlaen ynghyd, canfyddodd y Blaidd ryw farc ar wddf y Ci, ac i borthi rhyw gywreinrwydd hynod oedd ynddo, nis gallai ond gofyn, pa beth oedd hwnw yn ei arwyddocau. Pŵ, dim byd, meddai y C. Na, nid felly, meddai y Blaidd. Wel, wel, dim byd o bwys: l y goler, feallai, wrth ba un y mae fy nghadwen yn cydio. Cadwen! meddai y Blaidd mewn syndod; nid ydych ddim yn meddwl dyweyd nad ydych ddim yn rhydd i fynd a dyfod ir fan a fynoch, a phan y mynoch? Wel, nag ydwyf, yn hollol, efallai; welwch chwi, mae nhw yn gwybod fy mod I yn o groes, weithiau; ac hefyd, ond i mi gysgu y dydd, y medraf wylio yn well y nos, felly, y maent yn fy rhwymo i fynu, weithiau, yn y dydd, ond yr wyf yn sicrhau i chwi, fy mod yn cael rhyddid perffaith y nos. Ac fe fyddai fy meistr yn fy mhorthi oddiar ei fwrdd ei hun, ar gweinidogion yn taflu i mi lawer tamaid blasus, canys yr wyf yn cael fy hoffi ganddynt oll, ac Ond pa beth ywr mater? I ba le yr ydych chwi yn myned? O, nos da i chwi, meddai y Blaidd, mae i chwi groesaw och danteithion; am danaf fi, y fywioliaeth galetaf gyda rhyddid, yn erbyn moethau breninol gyda chadwen.

Ni fyn y rhai sydd wedi eu darostwng dan iau ddim cydnabod eu caethiwed.
Nid all y neb a gafodd flas ar ryddid, ddim ei werthu er dim.

_________________________________________


Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1048) (tudalen 43)

CHWEDL 35
- Y LLYFFANT AR YCH.
Ych, yn pori mewn gweirglodd, a ddigwyddodd osod ei droed yn nghanol haid o Lyffaint ieuaingc, ac a sathrodd bron yr oll o honynt i farwolaeth. Un o honynt a ddiangodd, a fynegodd iw fam y newydd alaethus; ac O! mam, meddai, yr oedd y bwystfil yn fawr, anifail mawr pedwar troediog; ni welais erioed greadur mor fawr. Mawr, meddai yr Hen Lyffant, pa mor fawr? A oedd ef mor fawr, gan ymchwyddo allan gymmaint ag y gallai, mor fawr a hyn? O! meddai y fechan, llawer iawn mwy na hynyna. Wel, a oedd ef gymmaint a hyn, ynte? ac ymchwyddai allan eto fwy.
Yn wir, Mam, yr oedd o; a phe byddai i chwi ymhollti, ni chyrhaeddech i hanner ei faint. Yn eiddigeddus oblegyd y fath ammheuaeth oi galluoedd ai mawredd, fe ymndrechodd yr Hen Lyffant drachefn, ac a ymdorodd, neu a ymrwygodd, mewn gwirionedd.

Mae llawer yn andwyo eu hunain, wrth ymdrechu am fawredd nad oes ganddynt ddim hawl na gallu iddo.


_________________________________________


Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1049) (tudalen 44)

CHWEDL 36 - Y CARW CLAF.

Carw a gymmerasid yn glaf, a orweddodd i lawr yn nghanol porfa fras, gerllaw i goedwig, fel y gallai gael digon o ymborth o fewn ei gyrhaedd. Ond daeth llawer o fwystfilod i ymweled ag ef, oblegyd yr oedd yn gariadus, a chan fod pob un yn pori ychydig or borfa, fc fwyttasant y cwbl i fynu yn fuan. Felly, er fod y Carw yn gwella oi afiechyd; eto, yr oedd yn dihoeni gan newyn, ac yn y diwedd a gollodd ei fywyd.

Y mae ymweled or gwan yn waglaw, yn ddrwg; ond y mae ymweled ag ef iw ysbeilio yn waeth.


CHWEDL 37 - Y WYLAN AR BARCUD.
Gwylan a gipiodd i fynu bysgodyn, ac wrth geisio ei lyncu fe dagodd, ac a orweddodd ar fwrdd fel yn farw. Barcud yn pasio heibio ai gwelodd, ar unig gysur a roddodd iddo oedd, Nid oes fater; pa reswm sydd i adar yr awyr i aflonyddu ar bysgod y mr.

Anrhydedd yn mhlith lladron!

_________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1050) (tudalen 45)

CHWEDL 38 - YR YSGYFARNOG AR CRWBAN.
Ysgyfarnog a wawdiodd y Crwban oblegyd arafwch ei symudiadau. Y Crwban a wenodd, ac a ddywedodd y rhedai yrfa diwrnod a hi pan y mynai, ac y curai hi hefyd. Cytunodd yr Ysgyfarnog; a chychwynasant ar unwaith. Yr Ysgyfarnog, oblegyd ei chyflymder mawr, a redodd mor bell o flaen y Crwban, fel y chwarddodd am ei ben; ond yn teimlo dipyn yn flinderus, fe orweddodd i lawr i gysgu tipyn, gan deimlo yn eithaf hyderus y medrai orddiwes y Crwban yn hawdd wedi deffroi. Cadwodd y Crwban i drotian yn mlaen yn araf, ond yn ddygn, heb aros na throi oi ffordd unwaith. Cysgodd yr Ysgyfarnog yn hwy nag y bwriadai, ac erbyn cyrhaedd pen yr yrfa yr oedd y Crwban yno oi blaen hi.

Araf a dygn a ennill y gamp.


_________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1051) (tudalen 46)

CHWEDL 39 - Y CRWBAN AR ERYR.
Crwban, yr hwn oedd anfoddlawn, am ei fod yn gorfod cribo ar hyd y ddaear, tra y gwelai gymmaint or adar, ei gymmydogion, yn chwareu yn mhlith y cymmylau; a chan feddwl os gallai unwaith gyrhaedd i fynu ir awyr, y gallai ehedcg cystal ag un o honynt, a alwodd ryw ddiwrnod ar eryr, ac a gynnygiodd holl drysorau yr eigion iddo os gwnai efe ei ddysgu i ehedeg. Mynai yr Eryr ymesgusodi, gan sicrhau iddo fod y peth yn anmhossibl; ond oblegyd taerni ac addewidion mawrion y Crwban, efe a gytunodd or diwedd, i wneyd y goreu a allai iddo. Felly, fe ai cymmerodd i fynu yn uchel iawn ir awyr, ac yna, gan ollwng ei afael o hono, Yrŵan, meddai yr Eryr; ond y Crwban, cyn ateb iddo air, a syrthiodd yn union ar graig, ac a ddrylliwyd yn chwilfriw.

Rhaid i falchder gael cwymp.

_________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1052) (tudalen 47)

CHWEDL 40
- Y BACHGEN AR BLAIDD.
Bachgen o fugail, yn gwilio ei braidd yn agos i bentref, a ddifyrodd ei hun amryw weithiau, trwy redeg yno, a gwaeddi, Y Blaidd! Y Blaidd! Deuai yr holl bentref allan ar redeg iw gynnorthwyo; ac ar ol eu myned yno, chwarddai y Bachgen ar en penau. Or diwedd, ryw ddiwrnod, daeth y Blaidd mewn gwirionedd. Gwaeddodd y Bachgen allan 6 ddifrif; ond ei gymmydogion, gan feddwl mai wrth ei hn ddifyrwch yr oedd, ni choelient ef, ar Blaidd a reibiodd y defaid.
Ni choelir y celwyddog, hyd yn nod pan y dywedant
y gwirionedd.

CHWEDL 41
- YR OEN AR BLAIDD.
Oen yn cael ei ymlid gan Flaidd a redodd am ei fywyd i ryw deml. Ar hyn gwaeddai y Blaidd allan, gan ddywedyd, y byddai ir offeiriad ei ladd os daliai ef, Bydded felly, eber Oen, gwell yw cael fy aberthu i Dduw, na fy ysglyfaethu genych chwi.

Gwell marw yn ngwasanaeth y cyssegr, na syrthio yn aberth i drais a chreulondeb.


_________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1053) (tudalen 48)

CHWEDL 42
- YR IR AR GATH.
Cth, yn clywed fod Giar yn gorwedd yn glaf yn ei nyth, a dalodd ymweliad hi, a chyn nesu atti, dywedodd, Pa sut yr ydych chwi, fy Nghyfeilles anwyl? Pa beth a allaf fi ei wneuthur i chwi? Pa beth ydych fwyaf mewn angen am dano? Nid rhaid i chwi ddim ond dywcyd y gair, os oes rhywbeth yn y byd a allaf ei ddwyn i chwi; ond cedwch eich calon i fynu, a pheidiwch a dychrynu, a gollwng eich meddwl i lawr. Diolch i chwi, meddai yr Iar; byddwch chwi cystal ani gadael, ac nid oes genyf ddim ofn na byddaf yn fuan yn iach.

Mae gormod o garedigrwydd yn beth iw ddrwgdybio, yn enwedig oddiwrth ryw fath o ymwelwyr; y caredigrwydd mwyaf a all y cyfryw wneyd yw ymadael.


_________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1054) (tudalen 49)

CHWEDL 43
- Y LLEW AR TEIRW.
Yr oedd pedwar Tarw yn pori ynghyd mewn cae mewn heddwch a chariad mawr. Digwyddodd fod Llew wedi sylwi arnynt, ac yn eu gwilio yn barhaus, yn y gobaith o allu gwneuthur ysglyfaeth o honynt, ond cafodd nad oedd fawr olwg iddo lwyddo tra y cadwent hwy mor unol u gilydd. Fe ddechreuodd, gan hyny, yn ddirgelaidd, daenu. chwedlau maleisddrwg am y naill, wrth y llall o honynt; nes, or diwedd, iddo greu drwgdybiaeth ac atgasedd rhyngddynt u gilydd. Cyn gynted ag y gwelodd y Llew eu bod yn ysgoi eu gilydd, ac yn ymwahanu, gan bori bob un ar ei ben ei hun, fe syrthiodd arnynt, y naill ar ol y llall, ac ai hysglyfaethodd oll yn hwylus.

Y mae ymrafaelion cyfeillion, yn fanteisiol iw gelynion.

_________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1055) (tudalen 50)

CHWEDL 44
- Y LLWYNOG AR COEDIWR.
Llwynog, bron cael ei ddal gan y cŵn, ar ol rhedegfa faith, a ddaeth i fynu at ddyn yr hwn oedd yn tori coed, ac a erfyniodd arno ddangos iddo ryw le yn mha un i ymguddio. Dangosodd y dyn iddo ei gaban ei hun, ar Llwynog a lithrodd i mewn ac a ymguddiodd mewn cornel. Daeth yr Helwyr i fynu gyda hyny, a gofynasant ir dyn, A welsai ef y Llwynog, ai peidio. Naddo, meddai; ond ar yr un pryd, pwyntiai i fys tuar gornel. Eithr hwy, heb ddeall yr amnaid, a aethaut ymaith yn union. Pan ddeallodd y Llwynog eu bod wedi myned allan or golwg, fe geisiodd redeg ymaith, heb ddyweyd gair; ond y Coediwr ai ceryddai ef, gan ddywedyd, Ai dyma y dull yr ydych yn ymadael ch llettywr tirion, heb gymmaint a dychwelyd un gair o ddiolch am roi nodded i chwi? Llettywr gwych, yn wir! ebe y Llwynog, gan droi atto, pe buasech wedi bod mor onest gydach bysedd, ac y buoch gydach tafod, ni buaswn wedl gadael eich tŷ heb ffarwelio chwi.

Mae amnaid maleisus, cyn waethed a gair drwg.



_________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1056) (tudalen 51)

CHWEDL 43 - Y FRAN AR PISER.
Bran, yn barod i farw o syched, a ehedodd yn awyddus at ddyfr-lestr, yr hwn a welai o bell; ond pan y daeth ato, fe gafodd fod y dwfr mor isel ynddo, fel nad allai, er pob ymdrech, ddim cyrhaedd at ddim o hono. Ar hyny, fe geisiodd dori y Piser; yna, ei daflu drosodd, ond nid oedd ei nerth yn ddigon i wneyd y naill nar llall. Or diwedd, canfyddai nifer o geryg bychain gerllaw, feu gollyngodd i lawr bob yn un i mewn ir Piser, ac felly, yn raddol, fe gyfododd y dwfr i fynu at yr ymyl, ac fe dorodd ei syched.

Mae medr ac amynedd yn llwyddo, lle y byddo nerth yn unig yn methu. Angenrhaid yw mam dyfais.


_________________________________________


Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1057) (tudalen 52)

CHWEDL 46
- YR EWIG UNLLYGEIDIOG.
Ewig, ir hon nid oedd ond un llygad, a arferai bori ar fin y mr, ac er mwyn bod yn fwy parod yn ngwyneb ymosodiad, hi a gadwai ei llygad tuar tir i wilied rhag agoshd yr hclwyr, ar ochr dywyll iddi tuar mr, o ba le nid ofnai ddim perygl. Ond rhyw longwyr yn rhwyfo mewn cwch, ac yn ei gweled, a annelasant atti oddiar y dŵr, ac ai saethasant. Pan yn tynu yr anadliad olaf, hi a ruddfanai ynddi ei hun, Greadur anffodus ydwyf! Yr oeddwn yn ddiogel tuar tir, o ba le y disgwyliwn ymosodiad; ond cefais ergyd marwol or mr, or hwn ni ddisgwyliais am ddim niwcd.

Y mae ein blinderau yn fynych yn tarddu or fan y disgwyliem leiaf am danynt.


_________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1058) (tudalen 53)

CHWEDL 47
- Y BOL AR AELODAU.
Yn y dyddiau gynt, pan nad oedd holl Aelodau dyn yn cydweithio u gilydd mor unfrydol ag y maent yn awr, ond pob un yn hawlio ewyllys a ffordd oi eiddo ei hun, dechreuodd yr Aelodau, un ac oll, fwrw bai ar y Bol am dreulio bywyd segur, diofal, a moethus, tra yr oeddent hwy oll yn llafurio yn ddi-baid er ei gynnaliaeth, ac i weini ar ei anghenion ai bleserau; felly, fe gyttunasant mewn cyngrair i attal pob cyflenwadau iddo o hyny allan. Nid oedd y dwylaw i gario dim ymborth yn hwy ir genau, na^r penau iw dderbyn, nar dannedd iw gnoi, &c. Ni buont fawr iawn o amser yn dilyn y cynllun hwn o newynu y Bol ai ddarostwng, cyn y dechreuasant, y naill ar ol y llall, i ballu a gwanhau, ar holl gorph i adfeilio. Yna, fe ddeallodd yr Aelodau, fod y Bol hefyd, er mor lwfr a diddefnydd yr ymddangosai, yn cyflawni gwasanaeth priodol; na fedrent hwy ddim gwneyd hebddo ef, mwy nag y medrai ef hebddynt hwy: ac os mynent gael cyfansoddiad y corph mewn cyflwr iachus, fod yn rhaid iddynt oll gydweithio, hob un yn ei le ei hun, er lles cyffrdin yr oll o honynt.

Mae pob dosparth mewn cymdeithas yn dibynu i fesur ar eu gilydd, a pherffeithrwydd cymdeithas ydyw, fod pob dosparth yn llafurio yn ei gylch, er cysur y cyfan.

CHWEDL 48 - Y GRANGC AI MAM.
Meddai hn Grangc wrth un ieuangc, Pam y cerddwch chwi mor wyrgam, fy mhlentyn? Cerddwch yn union! Mam, ebe y Grangc bychan, dangoswch i mi pa fodd, os gwelwch yn dda, a phan y gwelaf chwi yn cymmeryd llwybr unionsyth, mi dreiaf finau eich dilyn.

Y mae esiampl yn well na chyngor.

_________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1059) (tudalen 54)

CHWEDL 49 - Y TEITHIWR AR ARTH.
Dau Deithiwr oeddynt yn trafaelu yr un ffordd anial ynghyd, a gyttunasnt i sefyll ynghyd yn ngwyneb pob perygl a ddigwyddai iddynt. Nid aethant yn mhell ymlaen, cyn i Arth ruthro tuag atynt or goedwig Un o honynt, mewn ofn, gan anghoflo ei gyfaill, a gribodd i fynu i bren gerllaw, ac a ymguddiodd. Y llall, yn gweled nad oedd dim gobaith iddo yn unigol i wrthsefyll yr Arth, a daflodd ei hun ar y ddaear, ac a ffugiodd ei fod yn farw; oblegyd yr oedd wedi clywed na wnai yr Arth byth gyffwrdd chorph marw. Fel yr oedd yn gorwedd fel hyn, daeth yr Arth at ei hun, gan ffroeni ac arogli oddeutu ei drwyn, ai glustiau, ai galon; ond gan fod y Dyn yn dal ei anadl yn ddi-ildio, y bwystfil a dybiodd ei fod wedi marw, ac a giliodd ymaith. Pan oedd yr Arth yn deg allan or golwg, daeth y Teithiwr arall i lawr or pren, ac a ofynodd iddo, pa beth a ddywedodd yr Arth wrtho, Canys mi ai gwelais, roeddai, yn sibrwd yn eich dust. Wel, ebe y llall, nid rhyw ddirgelwch mawr ydoedd, yn unig cynghorodd fi i

Beidio cymdeithasu gyda dynion distadl, y rhai os daw perygl, a adawant eu cyfeillion yn y brofedigaeth.

_________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1060) (tudalen 55)

CHWEDL 50
- Y LLEW, YR ASYN, AR LLWYNOG
Y Llew, yr Asyn, ar Llwynog, a aethant allan i hela. Cymmerasant ysglyfaeth fawr, ac wedi darfod y difyrwch, meddyliasant am gael gwledd iawn, Archodd y Llew ar yr Asyn i ranu yr ysbail: felly, yr Asyn ai rhanodd yn dair rhan gyfartal, ac a ddymunodd iw gyfeillion gymeryd eu dewis; ond y Llew, wrth weled nad oedd yr Asyn yn gwneyd dim gwahaniaeth rhyngddo ef ar lleill, a syrthiodd arno mewn digofaint, ac ai rhwygodd i farwolaeth yn y fan. Yna, efe a barai ir Llwynog ranu y cyfan yn ddwy ran; ac yntau a grynhodd y cwbl yn un swp mawr, gan gadw y tammeidyn lleiaf erioed iddo ei hun. A! fy nghyfaill, ebe y Llew, pwy ddysgodd i chwi ranu mor union ac mor foesgar? Nid oedd arnaf fi eisiau un wers arall, atebai y Llwynog, ond tynged yr Asyn.

Gwell dod yn ddoeth trwy anffodion eraill, na thrwy yr eiddom ein hunain.


_________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1061) (tudalen 56)

CHWEDL 51 -
Y CARW YN YSTOL YR YCH.
Carw yn cael ei hela, a bron cael ei ddal, a wnaeth am y ffarm-dŷ cyntaf a welodd, ac a ymguddiodd mewn Ystl Ych, a ddigwyddodd fod yn agored. Fel yr oedd yn ceisio cuddio ei hun yn y gwellt Pa beth ydych yn feddwl, meddai yr Ych, wrth redeg ir fath ddinystr anocheladwy, trwy ymddiried eich hun yn ngafael dynion? Os peidiwch chwi am bradychu, ebe y Carw, byddaf ddiogel; canys mi f ymaith y cyfle cyntaf. Yr hwyr a ddaeth, daeth y porthmon ac y fwydodd y Gwartheg, ac ni sylwodd ar ddim: daeth y fferm weision ereill i mewn ac allan; e, daeth yr ystiward ei him i mewn, ond ni welodd neb ddim mwy nag arfer. Yr oedd y Carw eto yn ddiogel. Yn mhen tipyn, fe gyfododd i fyned ymaith, gan ddiolch ir Ychain am eu tiriondeb. Arhoswch dipyn, meddai un o honynt, yr ydym yn wir yn ewyllysio yn dda i chwi; ond y mae un person eto, a chanddo gant o lygaid, os digwydd iddo ef ddyfod heibio, ofnaf y bydd eich bywyd eto mewn perygl. Gyda hyn, y meistr, wedi gorphen ei swper, a ddaeth o gwmpas i edrych a oedd pob peth yn iawn am y nos; ac oblegid ei fod wedi meddwl nad oedd yr Ychain, yn ddiweddar, yn edrych cystal ag y dylasent, yr oedd y bur fanwl: gan fyned i fynu at y rhesel, Y mae yma rhy fach o wair, meddai, A phaham na roddwch fwy o wellt o dan yr Ychain ? A pha sawl gwaith y rhaid i mi ddangos y gwoedd pryf copyn yma i chwi ? Wrth edrych a chwilio yma ac acw, ac yn mhob man, fe ganfyddai gyrn y Carw, yn sefyll allan or gwellt, a chan alw mwy o weision, fei daliodd yn y fan.

Nid oes un llygad fel llygad y meistr.

_________________________________________


Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1062) (tudalen 57)

CHWEDL 52 - Y BACHGEN A THYNGED.
Yr oedd Bachgen yn cysgu ar ymyl ffynnon ddofn. Tynged ai gwelodd, ac a ddaeth ac ai deffrdd ef, gan ddywedyd, D thi, fy mhlentyn, paid gorwedd yn cysgu yna, canys pe digwyddai i ti syrthio i mewn, ni wnai neb dy feio di, ond rhoddid yr holl fai arnaf fi TYNGHED.

Y mae Tynghed neu Ragluniaeth druan yn cael taflu llawer iawn wrth ei drws, ac yn fynych iawn yn anghyfiawn hefyd.

_________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1063) (tudalen 58)

CHWEDL 53
- Y MORHWCH AR PENWYGYN.
Yr oedd y Mrhychod ar Mrfilod yn ymladd u gilydd, a phan oedd y frwydr boethaf, daeth Penwygyn i mewn, ac a geisiodd eu gwahanu. Ond un or Mrhychod a waeddodd allan, Gadewch lonydd i ni, gyfaill, gwell i ni farw yn yr ymdrech, na chael ein heddychu genych chwi.

Ni chaiff yr isel fawr o ddiolch am ymyryd rhwng y mawrion.

CHWEDL 54
- Y FFINIDWYDDEN AR FIEREN.
Ffynidwydden, un diwrnod, a ymffrostiai wrth y Fieren, Nid ydych chwi o ddim defnydd yn y byd; ond pa fodd y gallai ysguboriai a thai gael eu hadeiladu hebof fi?
Anwyl syr, atebai y Fieren, pan ddl y coedwyr yma gydau bwyeill au llifau, pa beth a roich am fod yn Fieren, ac nid yn Ffynidwydden?

Y mae cyflwr isel gyda diogelwch, yn well na sefyllfa uchel gyda pheryglon.


_________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1064) (tudalen 59)

CHWEDL 55
- Y GLOWR AR PANWR.
Glowr, gan yr hwn yr oedd mwy o le yn ei dŷ
nag oedd eisiau iddo ef ei hun, a gynnygiodd i Banwr ddod i gydfyw ag ef. Diolch i chwi, atebai y Panwr, ond y mae yn well genyf beidio, oblegid yr wyf yn ofni, mor gynted ag y bydd i mi banu fy nwyddau, y bydd i chwithau eu duo hwynt.

Y mae ymddiddanion drwg yn llygru moesau da. Nis gall ieuad anghyson lwyddo.

_________________________________________


Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1065) (tudalen 60)

CHWEDL 56 - Y LLEW MEWN CARIAD.
Digwyddodd yn yr hen amser gynt i Lew syrthio mewn cariad Merch i Goediwr. Nid oedd y Coediwr yn caru y cynnygiad, ac a fynai wrthod yr anrhydedd o gyfathrach mor beryglus. Ond y Llew ai bygythiai i ddigofaint breninol; ar Dyn, druan, yn gweled nad oedd creadur mor ofnadwy ddim iw nacau, a feddyliodd or diwedd am ei ddyrysu trwy y ddichell ganlynol: Yr wyf yn ystyried eich cynnygiad yn anrhydedd mawr arnaf, meddai, ond urddasol syr, pa fath ddannedd mawrion sydd genych! ar fath ewinedd llymion! Pa le y mae y ferch na orchfygid gan ofn y fath arfau ar rhai hyn? Rhaid i chwi gael tynu eich dannedd, a thori eich ewinedd, cyn bod yn gymhwys briod i fy Merch. Y Llew a foddlonodd yn ddioed (canys pa beth na wna un er mwyn cariad), ac wedi dyoddef y driniaeth, gofynai ir Tad ei dderbyn fel ei fab ynghyfraith. Ond y Coediwr, heb achos ofni mwyach rhag bygythiadau y Carwr diarfog a dofedig, a gymerodd bastwn cryf, ac a gurodd y Carwr afresymol oddiwrth ei ddrws.

Y mae llawer yn galaru yn eu pwyll am yr hyn a wnaethant mewn nwyd. Y mae chwant yn troi y cawr yn gorach.

_________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1066) (tudalen 61)

CHWEDL 57
- Y GWYNT AR HAUL.
Cododd dadl unwaith rhwng y Gwynt ar Haul pa un or ddau oedd y cryfaf, ac ir diben iw phenderfynu, hwy a gytunasant fod i pa un bynag o honynt a allai wneuthur i deithiwr dynu ei fantell gyntaf, gael ei ystyried yn gryfaf. Dechreuodd y Gwynt, ac fe chwythodd i holl nerth chwa oerllyd a threiddiol, ac a gododd ystorm auafaidd erwinog; ond po cryfaf y chwythai, mwyaf yn y byd y tynai y teithiwr ei fantell oi amgylch, a thynaf yn y byd y gafaelai ynddi ai ddwylaw. Yna torodd yr Haul oddi dan y cymylau, ei belydrau hyfryd yn fuan a wasgarent y tarth ar oerni; teimlai y teithiwr y gwres yn ei gynhesu, ac fel yr oedd yr Haul yn tywynu ddisgleiriach, ddisgleiriach, ai danbeidrwydd yn cynnyddu, or diwedd, eisteddodd i lawr, wedi ei lethu gan y gwres, ac a daflodd ei fantell ar y ddaear. Felly, yr Haul a gyhoeddwyd yn fuddugwr.

Y mae tiriondeb yn fwy nerthol na haerllugrwydd; a pherswadio na bygwth.


_________________________________________


Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1067) (tudalen 62)

CHWEDL 58
- Y FFERMWR AI FEIBION.
Yr oedd Ffermwr ar ei wely angau, ac yn dymuno dangos iw Feibion y ffordd i lwyddo mewn amaethyddiaeth feu galwodd atto, ac a ddywedodd, Fy mhlant, yr wyf yn awr yn ymadael ar bywyd hwn. Y cwbl sydd genyf iw adael i chwi, chwi ai cewch yn y winllan. Y Meibion, yn meddwl ei fod yn cyfeirio at ryw drysor cuddiedig , a ddechreuasant yn ddioed, ar ol claddu yr hn ŵr, i lafurio gydau rhawiau au herydr, ac a droisant holl bridd y winllan drosodd drachefn a thrachefn. Mi ddaethant o hyd ir trysor disgwyliedig, y mae yn wir; ond y gwinwydd, wedi eu cryfhau au gwellhau gan y driniaeth drwyadl hon, a ddygasant fwy o ffrwyth nag a roisant erioed or blaen, ac a dalasant yn dda iawn ir Amaethwyr ieuaingc am eu trafferth.
A hwy a ddeallasant fod

Diwidrwydd ei hun yn drysor gwerthfawr.


_________________________________________


Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1068) (tudalen 63)

CHWEDL 59
- Y PRENIAU AR FWYALL.
Daeth coediwr ir goedwig i ofyn ir coed roddi iddo goes iw Fwyall. Ymddangosai yr erfyniad mor resymol, fel y cydunodd y prif goed ar unwaith iw ganiatu; a phenderfynasant yn eu plith, fod ir Onen gref gyfranu yr hyn oedd eisiau. Nid cynt y cafodd y coediwr ffon gymhwys, ac y gwnaeth hi yn barod, nag y dechreuodd ymosod ar, a thori i lawr y coed ardderchoccaf yn y goedwig. Y Dderwen, yn gweled y peth drwyddo yn rhy ddiweddar, a sylwai wrth y Gedrwydden, Y mae y tynerwch cyntaf wedi dinystrio y cyfan: pe gwrthodasem aberthu ein cymmydog tlawd, gallasem sefyll am oesau ein hunain.

Pan abertha y mawrion iawnderau yr iselradd, rhoddant esgus i ymosod ar eu hawliau eu hunain. Dylid gwilio rhag yr ymostyngiad cyntaf i ormes.


_________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1069) (tudalen 64)

CHWEDL 60
- YR ASYN AR CI BACH.
Yr oedd Asyn a Ch Bach yn perthyn ir un meistr. Yr oedd yr Asyn yn yr ystabl yn cael digon o ŷd a gwair, ac yn byw cystal ag un Asyn yn y byd. Yr oedd y C Bach bob amser yn chwareu ac yn prangcio o gwmpas ei feistr, yn ei ddifyru yn mhob modd, nes dod mor uchel iw ffafr, fel yr oedd yn cael gorwedd ar ei liniau. Yr Asyn a sylwodd ar fywyd segur a moethus y C Bach, a chan gyferbynu hyny ai lafur parhaus ef, cenfigenodd wrtho; ac a feddyliodd ond iddo ef weithredu yn yr un modd tuag at y meistr, y cai yntau yr un driniaeth. Felly, ryw ddiwrnod, fel yr oedd ei feistr yn eistedd i fwytta, fe ruthrodd, gan frefu a phrangcio, tuag atto; fe ysgydwodd ei gynffon, ac a efelychodd gampiau y C Bach, nes taflu i lawr y bwrdd ciniaw a thori y llestri; ac or diwedd, ceisiodd neidio ar ei liniau, gan ei gyfarch ef ai draed pedoledig. Y gweision a chwarddent yn y dechreu, ond wrth weled ei meistr dan y fath driniaeth beryglus, a ddaethant yn mlaen iw amddiffyn; ac wedi ei ryddhau oddiwrth gofleidiau yr Asyn, hwy a gurasant y creadur ffol ffyn a fflangellau, nes yr oedd yn mron inarw. Och! fi, meddai yr Asyn, na buaswn foddlawn yn fy lle fy hun, yn lle ceisio dynwared a munudiau ffol un nad oedd ond clepgi ar ol y cwbl.

Mae pob un a elo allan oi lwybr naturiol yn agored i wawd a dirmyg.


_________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1070) (tudalen 65)

CHWEDL 61
- Y GOLOMEN AR FRAN.
Colomen a gedwid i fynu mewn cwt, oedd yn ymlawenhau oblegid lluosogrwydd ei theulu. Rhoddwch heibio, druan, eber Fran, ymffrostio ar y pen yna; canys po mwyaf o rai ieuaingc a fydd genych, mwyaf yn y byd fydd genych o gaethion i alaru am danynt.

Y mae pethau ydynt drugareddau mewn rhyddid, yn brofedigaethau mewn caethwasanaeth.

_________________________________________


Free Image Hosting at www.ImageShack.us

(delw 1070a)
(tudalen 65a)

CHWEDL 62 - Y LLEW AR LLWYNOG.

Llwynog a gytunodd i aros gyda Llew, fel gwas iddo. Am dymhor, yr oedd pob un or ddau yn cyflawni yr hyn oedd yn briodol iddo;arferai y Llwynog yspo yr ysglyfaeth, ar Llew ymosod arno ai ddal. Ond y Llwynog, yn dechreu meddwl ei hun cygystal i Feistr, a erfyniodd ganiatad i hela yr ysglyfauth, yn gystal ai yspo. Caniatawyd ei ddymuniad: ond fel yr oedd yn y weithred o ymosod ar braidd, daeth yr helwyr i fynu atto, a chymerwyd ef ei hun yn gaeth.

Cadwed pob un ei Ile ei hun, ac fei ceidw ei le ef.

_________________________________________


Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1070b) (tudalen 65b)

CHWEDL 63 - IAU AR CAMEL.
Pan y gofynodd y Camel, ar ryw dro, i Iau ganiatau cyrn iddo, oblegid ei fod yn ofid iddo weled anifeiliaid ereill wedi eu cynnysgaeddu hwynt, ac yntau hebddynt; Iau, nid yn unig a wrthododd roddi iddo y cyrn a ddeisyfai, ond a gwtogodd ei glustiau iddo am ei drachwant.

Wrth ofyn yn afresymol, gallwn golli yn lle ennill.

CHWEDL 64
- Y DYN DALL AR CENAW.
Dyn Dall, a arferai, pan roddid rhyw greadur yn ei law, i ddweyd pa beth ydoedd. Ar ryw achlysur, dygwyd Cenaw blaidd atto. Teimlodd ef i gyd drosto; a chan fod yn ammheus, fe ddywedodd, Nis gwn pa un ai ci, ai blaidd oedd dy dad: ond hyn a wn,Ni wnawn dy ymddiried yn mhlith deadell o ddefaid.

Y mae tueddiadau drwg, yn ymddangos yn foreu. Ni ddylid ymddiried y nyr hyn sydd debyg i ddrwg.

_________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1071) (tudalen 66)

CHWEDL 65 - Y TWRCH DAEAR AI FAM.
Mam, ebe Twrch Daear ieuangc wrth el Fam, mi fedraf fi weled. Ir dyben oi dreio, rhoddodd y Fam ddarn o Thus oi flaen, ac a ofynodd iddo, pa beth ydoedd. Careg, meddai y yntau. O! fy rnhlentyn, atebai y Fam, nid yn unig nid ydych yn gweled, ond nid ydych yn gallu arogli chwaith.

Wrth wadu un diffyg, y mae rhai yn amlygu un arall.

CHWEDL 66
- YR ASYN AR CEILIOG RHEDYN.
Asyn, wrth glywed y Ceiliogod Rhedyn yn chwibanu, a fawr foddhawyd gan eu peroriaeth; a chan benderfynu, os gallai, gyrhaedd yr un dawn a hwythau, a ofynodd iddynt, ar ba beth yr ymborthent, fel ag i ganu mor fwyn. Atebasant hwythau, na swperent ar ddim ond y gwlith: ar Asyn, wrth ymroi i fyw ar yr un lluniaeth, a fu farw o newyn.

Ni wna newid ymborth newid natur. Y mae yr hyn sydd faeth i un, yn wenwyn ir llall.

CHWEDL 67
- ERCLWFF AR GWAGENWR.
Fel yr oedd Gwladwr yn gyru ei wagen yn ddiofal mewn ffordd gul, glynodd yr olwynion mor ddwfn. yn y clai, fel nad allai ci geffylau eu tynu oddiyno. Ar hyn, y Gyrwr, heb wneyd un ymdrech ei hun, a ddechreuodd waeddi ar y duw Ercwiff i ddyfod iw waredu oi brofedigaeth. Ond parai Ercwlff iddo osod ei ysgwydd at yr olwyn, a sicrhai ef, na wnai y nefoedd ddim helpu y rhai na ymdrechent i helpu eu hunain.

Ofer yw i ni ddisgwyl y caiff ein gweddiau eu gwrando, oni bydd i ni ymdrechu yn gystal a gweddio.

_________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1072) (tudalen 67)

CHWEDL 68 - Y LLWYNOG A GOLLODD EI GYNFFON.
Llwynog, wedi ei ddal mewn trap, a achubodd ei fywyd, trwy adael ei Gynffon ar ei ol; ond wedi dyfod i blith ei gyfeillion, teimlai y fath gywilydd oblegid hynodrwydd yr anaf oedd arno, nes or bron y buasai yn well ganddo fod wedi marw, na dyfod yn rhydd heb ei Gynffon. Ond beth bynag, i wneyd y goreu or gwaethaf, efe a alwodd ynghyd gyfarfod o Lwynogod, ac a gynnygiodd, fod iddynt oll ddilyn ei esiampl ef, Nis gellwch ddirnad, ebe efe, gydar fath gysur, a rhyddid, yr wyf yn awr yn gallu symud oddiamgylch; nis gallaswn gredu y fath beth, oni bai i mi wneuthur y prawf arnaf fy hun: ond yn wir, erbyn i ni ystyried, y mae Cynffon yn beth mor hyll, anhwylus, a dianghenrhaid, fel mai yr unig syndod yw, ein bod ni, Lwynogod, wedi ei dyoddef cyhyd. Yr wyf fi yn cynnyg, gan hyny, fy anwyl frodyr, fod i chwi oll gymmeryd addysg oddiwrth fy mhrofiad I, a bod i bob Llwynog dori ymaith ei Gynffon, or dydd hwn allan. Ar hyn, daeth un or Llwynogod hynaf yn mlaen, a dywedodd, Yr wyf fi braidd yn meddwl, gyfaill, na


_________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1073) (tudalen 68)

buasech chwi ddim yn ein hannog ni i ymadael n Cynffonau, pe buasai rhyw obaith i chwi ennill eich Cynffon eich hun yn ol.

Os nad all dynion o natur basaidd gyrhaedd at ragoroldeb rhai ereill, hwy a ymdrehant dynu pawb ereill i lawr iw distadledd en hunain.

CHWEDL 69
- YR HEN WRAIG AR MEDDYG.
Hen Wraig, yr hon, wedi colli ei golwg, a alwodd Feddyg i mewn, ac a addawodd iddo, o flaen tystion, os byddai iddo adferu ei golwg, y gwnai hi ei wobrwyo yn hardd; ond os na iachai efe hi, na thalai hi ddim iddo. Wedi gwneuthur y cytundeb, esgeulusodd y Meddyg lygaid yr Hn Wraig, er ei fod yn galw, o dro i dro; ac ar yr un pryd, fe gariodd ymaith, yn raddol ei holl ddodrefn, ai d. Or diwedd, fe ymosododd atti o ddifrif, ac a adferodd ei golwg; ac yna, fe ofynodd am y wobr addawedig. Ond yr Hn Wraig, wedi cael el golwg, a ganfu fod ei holl dd wedi diflannu, gan hyny, yr oedd y Meddyg yn gwasgu arni am daliad, hi ai rhoddai ymaith yn barhaus gydag esgusodion, nes or diwedd iddo ei gwasgu hi o flaen y barnwr. Wedi galw arni am ei hamddiffyniad, hi a ddywedodd, Y mae yr hyn a ddywed y Dyn hwn yn bur wir; mi a gyttinais iw wobrwyo, os adferai fy ngolwg; ond na thalwn iddo, os parhai fy llygaid yn ddrwg. Yn awr, y mae efe yn dyweyd, fy mod I wedi fy iachau; ond yr wyf fi yn haeru yn hollol ir gwrthwyneb, canys pan ddechreuodd fy anhwylder ddyfod arnaf, yr oeddwn yn gweled pob math o ddodrefn, a d, yn fy nhŷ; ond yn awr, pan y mae efe yn hni ei fod wedi adferu fy ngolwg, nid wyf yn gweled dim or naill nar llall.

Rhaid ir neb a wna gast anonest, ddisgwyl cael goganiad oi herwydd, or hyn lleiaf.

_________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1074) (tudalen 69)

CHWEDL 70
- YR YSGYFARNOGOD AR LLYFFAINT.
Digwyddodd ar ddiwrnod ystormus, fod llu o Ysgyfarnogod wedi eu hamgylchynu gan elynion ar bob tu; yn eu braw, daethant ir penderfyniad alaethus, nad oedd dim diangfa iddynt, ac na waeth iddynt wneuthur pen arnynt eu hunain, un ac oll. Ymaith a hwynt at lyn o ddŵr gerllaw, gan fwriadu rhoddi terfyn ar eu trueni mawr trwy hunanfoddiad. Haid o Lyffaint, yn chwareu ar lan y llyn, wedi eu dychrynu gan agoshd yr Ysgyfarnogod, a neidiasant yn y braw ar dyryswch mwyaf ir dwfr, ac a ymguddiasant yn y gwaelod. Aroswch, fy nghyfeillion, ebe un or Ysgyfarnogod blaenaf, nid yw ein hamgylchiadau ni cynddrwg eto; dyma greaduriaid truenus ereill, mwy diamddiffyn, ac mewn mwy o fraw a thristwch na ninnau.

Gellid casglu gwroldeb, os nid cysur, oddiwrth brofedigaethau ereill. Canys pa faint bynag ein trueni, ni a gawn fod llawer a pha rai ni fynem er dim gyfnewid amgylchiadau.


_________________________________________


Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1075) (tudalen 70)

CHWEDL 71 - Y PYSGOTTWR AR PYSGODYN BYCHAN.
Gŵr, yr hwn a ennillai ei fywioliaeth wrth Bysgotta, ar ol diwrnod hir, ni ddaliodd and un Pysgodyn bychan. Arbedwch fi, ebe y creadur bychan, yr wyf yn deisyf arnoch; canys yr wyf mor fychan fel nid wyf yn ddigon i wneyd pryd i chwi. Nid wyf wedi dyfod im llawn dŵf eto; teflwch fi yn ol ir afon an ditpyn, ac yna, pan ddelwyf yn fawr, ac yn werth eich sylw, gallwch ddyfod yma am dal I eto. Na, na, atebai y Dyn, yr ydych yn fy ngafael yn awr; ond os unwaith y cewch y dwfr yn ol, eich cn a fydd, Daliwch fi, os medrwch.

Y mae aderyn mewn llaw yn werth dau mewn llwyn. Ynfydrwydd yw gollwng gafael ar y sicr, er mwyn yr ansicr.


CHWEDL 72
- Y FFERMWR AR CHWIBON.
Gosododd Amaethydd rwyd yn ei faes i ddal y garanydd oeddent yn dyfod i ymborthi ar yr yd, newydd ei hau. Pan aeth i chwilio y rhwyd, a gweled pa faint or adar oedd wedi eu dal, fe gafodd Chwibon yn eu plith. Arbedwch fi, meddai y Chwibon, a gadewch i mi fyned yn rhydd.
Nid garan ydwyf fi. Ni fwyteais I ddim och ŷd. Chwibon, druan, ddiniwed ydwyf ti, fel y gwelwch: un or moesolaf a ffyddlonaf o adar; yr wyf yn anrhydeddu ac yn gofalu am fy rhieni, yr wyf Ond torodd y Ffermwr ei stori yn fyr, gan ddywedyd, Gall hyn yna oll fod yn ddigon gwir, am a wn I; ond hyn a wn, mi ach deliais chwi gyda y rhai oedd yn dyfetha fy nghnydau, a rhaid i chwi ddyoddef gydar cymdeithion gyda pha rai ych cymmerwyd.

Y mae cymdeithas ddrwg yn llefaru yn uwch na phroffes dda.



_________________________________________


Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1076) (tudalen 71)

CHWEDL 73
- YR EPA AR CAMEL.
Mewn cynnulliad mawr or bwystfilod, safodd yr Epa i fynn i ddawnsio, a chan ei fod wedi dangos rhagoriaeth mawr yn hyny, cafodd ganmoliaeth mawr gan bawb oedd yn bresenol. Darfu i hyny ennyn cenfigen yn meddwl y Camel, ac efe a ddaeth yn mlaen i ddawnsio hefyd; ond fe wnaeth ei hun mor wrthun yn ei ymdrechiadau afrosgo, fel yr ymosododd yr holl fwystfilod arno u ffyn, ac ai troisant or gymdeithas.

Pob un ei ddawn ei hun. Na estynwch y fraich, yn mhellach nag y cyrhaedd eich llewis.

CHWEDL 74 - Y MUL.
Mul, neu fel y gelwir ef yn gyffredin Bastardd-ful, yr hwn oedd wedi myned yn dra chalonog, trwy seguryd a gormod o ŷd, oedd un diwrnod yn neidio ac yn prangcio oddiamgylch; ac yn ei afiaeth, fe waeddodd, gan godi ei gynffon, Yr oedd fy mam I yn gaseg o waed, ac ennillodd lawer rhedegfa, ac yr wyf fi cygystal ag y bu hi erioed. Ond wedi blino yn fuan yn carlamu ac yn chwareu, fe gofiodd ai unwaith mai Asyn oedd ei dad.

Y mae dwy ochr i bob pwngc; doeth yw edrych ar y ddwy, cyn siarad na gweithredu nemawr.

CHWEDL 75 - Y LLEWES.
Bu dadleuaeth fawr yn mhlith yr holl fwystfilod, pa un a allai ymffrostio or teulu lluosocaf.
Or diwedd, daethant at y Llewes, A pha faint, meddent, sydd genych chwi o rai bychain ar y tro? Un, meddai hithau, gyda mawreddigrwydd, ond y mae yr un hwnw yn Llew.

Ardderchogrwydd o flaen lluosogrwydd.



_________________________________________


Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1077) (tudalen 72)

CHWEDL 76 - Y BWRNIAD O FFYN.
Llafurwr, plant yr hwn oeddynt yn dueddol iawn i anghytuno, wedi treio pob moddion trwy eiriau iw heddychu, a feddyliodd y gallai lwyddo yn well trwy esiampl. Felly, fe alwodd ei feibion ynghyd, ac a barodd iddynt ddwyn Bwrnaid o Ffyn oi flaen: yna, wedi eu rhwymo yn un sypyn, fe barodd ir bechgyn, y naill ar ol y llall, ei gymmeryd i fynu ai don; treiodd pob un ei oreu, ond yr oedd eu hymdrech yn ofer. Yna, fe ddatododd yr hen ŵr y Ffagoden, ac a roddodd y Ffyn iddynt iw tori bob yn un ac un; gwnaethant hyny yn eithaf hawdd. Fel yna, meddai y Tad, y byddwch chwi, fy Meibion, os aroswch yn un, yn ddigon i wrthsefyll eich holl eiynion; ond os bydd i chwi anghytuno ac ymranu chwi a ddinystrir.

Mewn undeb mae nerth.


_________________________________________


Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1078) (tudalen 73)

CHWEDL 77 - Y DYN AR LLEW.
Digwyddodd fod Dyn a Llew yn cyd deithio; a chyfododd dadl boeth rhyngddynt, pa un ai Dyn ai Llew oedd y creadur dewraf a chryfaf; fel yr oeddent yn cyndyn ddadleu, daethant heibio i gerfddelw, ar ymyl y ffordd, o Ddyn yn llindagu Llew. Edrychwch yna, ebe y Dyn, pa brawf ychwaneg a fynech na hwnyna o uwchafiaeth y Ddynoliaeth? Dyna, atebai y Llew, eich adroddiad chwi or mater: ond gadewch i ni fod yn gerfwyr, ac am un Llew o dan draed Dyn, chwi a gewch ugain o Ddynion o dan balf y Llew.

Nid oes fawr o ymddiried i ŵr pan yn dyst, neu farnwr yn ei achos ei hun. Diboen i ddyn dybio yn dda.

_________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1079) (tudalen 74)

CHWEDL 78 - Y FAMMAETH AR BLAIDD.
Blaidd, yn crwydro oddi amgylch, gan geisio ei ysglyfaeth, a ddigwyddodd fyned heibio i ddrws, lle yr oedd plentyn yn cro, ar Fammaeth yn ei ddwrdio. Safai i wrando, a chlybu y Wraig yn dweyd, Rho heibio gro, y funud yma, neu mi ath daflaf allan ir Blaidd. Y Blaidd, a ddaliodd ar y gair, ac a arosodd yn llonydd wrth y tŷ hyd yr hwyr, gan ddisgwyl cael swper rhagorol. Ond fel yr oedd yn hwyru, fe aeth y plentyn yn ddistaw, ac fe glywodd y Fammaeth, drachefn, yn anwylo y plentyn, ac yn dywedyd, Dyna blentyn da; os daw y Blaidd drwg yna i ymofyn fy mhlentyn, mi ai curwn ef i farwolaeth, mi wnawn. Troes y blaidd tuag adref, yn siomedig a digllawn: ar y ffordd, cyfarfu Llwynog, yr hwn ai gwawdiodd, gan ddywedyd, Dyna ddysgu i chwi ymddiried mewn gair benyw. Ond ein cymhwysiad ni ydyw,

Nac ymddiriedwch yn ngair y neb a ddywedant un (peth), gan feddwl peth arall.

_________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1080) (tudalen 75) TUDALEN AR GOLL

CHWEDL 79 - YR EPA AR MORHWCH.

_________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1081) (tudalen 76) TUDALEN AR GOLL

CHWEDL 80 - Y MARCH AR CARW.


_________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1082) (tudalen 77)

CHWEDL 81 - Y BLAIDD AR DEFAID.
Blaidd, wedi ei frathu gan G, fel yr oedd mewn mawr boen, ac yn analluog i symud, a alwodd ar Ddafad, yr hon oedd yn pasio heibio, ac a ddeisyfodd arni gyrchu ychydig ddwfr iddo, o ffrŵd oedd gerllaw, Canys, meddai, os dygwch chwi ddiod i mi, mi a chwiliaf am fwyd fy hun. O, gwnewch, yn ddiammeu, atebai y Ddafad, canys os deuaf i ddigon agos i ddwyn diod i chwi, chwi a wnewch fwyd o honof fi.

Os na byddi gryf, bydd gyfrwys.

CHWEDL 82 - Y WEDDW AR DDAFAD.

Yr oedd gan ryw Wraig Weddw un Ddafad, chan ddymuno gwneyd y goreu oi gwlan, fei cneifiodd mor llwyr, fel ag i dori y croen yn gystal ar cnu. Y Ddafad, yn boenus gan y driniaeth, a waeddodd allan, Pahan yr ydych yn fy nolurio fel hyn?
Pa faint a chwanega fy ngwaed I at bwysau y gwlan? Os mynech fy nghnawd, meistres, anfonwch am y cigydd, yr hwn am rhyddh allan o fy mhoen ar unwaith; ond os fy ngwlan a fynech, anionwch am dy cneifiwr, yr hwn a gneifia fy ngwlan heb dynu fy nghwaed.

Pob un at ei alwedigaeth ei hun sydd oreu.

CHWEDL 83 - Y CI AI FEISTR.
Fel yr oedd rhyw Wr ar gychwyn i daith, fe sylwodd ar ei Gi, yn sefyll wrth y drws, ac a ddywedodd wrtho, Paham yr ydych yn ystwyrian yna? Ceisiwch eich hun yn barod i fyned gyda mi. Y Ci, gan ysgwyd ei gynffon, a atebodd, Yr wyf fi yn hollol barod, Meistr; y chwi sydd raid hwylio a thaclu.

Mae baich y tlawd yn hawdd ei drefnu.


_________________________________________


Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1083) (tudalen 78)

CHWEDL 84 - Y CI SARUG.
Yr oedd C mor flin a pheryglus, fel yr oedd ei feistr yn gorfod rhoi cadwen am ei wddf a phwysau wrth ei phen, iw attal i ruthro i, a brathu y cymmydogion. Y C, yn lle cywilyddio, a ymffrostiodd yn ei lyffethair, ac a gerddodd trwyr heol, gan ysgwyd ei gadwen i alw sylw pawb atto. Ond rhyw gyfaill cyfrwys a ddywedodd wrtho, Goreu po lleiaf o sŵn a wneloch; canys nid gwobr am deilyngdod yw eich cadwen, ond arwydd o warth.


Mae rhai mor hoff o hynodrwydd, fel mai gwell ganddynt fod yn hynod am eu beiau au ffoleddau, na bod yn hollol ddisylw o honynt.


_________________________________________


Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1084) (tudalen 79)

CHWEDL 85 - YR ADALWR AR EHEDYDD.
Fel yr oedd Adarwr yn gosod ei rwydi ar faes; Ehedydd, wrth sylwi arno o bell, a ofynodd iddo, pa beth yr oedd yn ei wneuthur. Yr wyf yn sefydlu. trefedigaeth, ebe yntau, ac yn gosod sylfaeni fy ninas gyntaf. Ar hyny, ciliodd y Dyn or naill du, ac a ymguddiodd: yr Ehedydd, gan goelio ei ymadrodd, a ehedodd i lawr ir fan, a chan lyngcu yr abwyd, a gafodd ei hun yn y fagl. Gyda hyny, daeth yr Adarwr i fynu, ac ai cymmerodd yn garcharor. Wel, gwalch rhyfedd ydych chwi, ebe yr Ehedydd, os dyma y trefedigaethau yr yr ydych yn eu sefydlu, ni chewch fawr o ymfudwyr.

Y mae y diniwed yn, rhy barod i gredu pob chwedl; ar ffol ni egyr ei lygaid nes yn y rhwyd.


_________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1085) (tudalen 80)

CHWEDL 86 - Y WENOL AR GIGFRAN.
Bu dadl rhwng y Wenol ar Gigfran, pa un or ddau oedd yr aderyn ardderchoccaf; diweddodd y Gigfran y ddadl, trwy ddywedyd, Nid yw eich harddwch chwi ond am yr haf, tra y pery yr eiddof fi trwy lawer gauaf.

Dynar harddwch goreu, yr hwn a saif bob tywydd. Mae parhd yn well na gwychder.

_________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1086) (tudalen 81) TUDALEN AR GOLL

CHWEDL 87 - Y GANWYLL FFYRLING.

_________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1087) (tudalen 82) TUDALEN AR GOLL

CHWEDL 88 - Y BUGAIL AR TARW COLLEDIG.


_________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1088) (tudalen 83)

CHWEDL 89 - Y DYN A FRATHWYD GAN GI.
Dyn wedi ei Frathu gan G, a aeth oddi amgylch, gan ofyn pwy ai hiachai. Rhyw ŵr ai cyfarfu, a ddywedodd wrtho, Syr, os mynech gael eich hiachau, cymmerwch damaid o fara, a gwlychwch ef yn y .gwaed or briw, a rhoddwch ef ir ei ach brathodd. Chwarddai y Dyn ar hyn, ac atebai, Pe dilynwn eich cyngor chwi mi gawn fy mrathu gan holl Gŵn y ddinas.

Pwy bynag a amlyga barodrwydd i brynu i fynu neu lwgrwobrwyo ei elynion, ni bydd byth heb ddigon o honynt.

_________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1088a) (tudalen 83a)

CHWEDL 90 - Y TEITHWYR AR BLANWYDDEN.

Teithwyr, ar ddiwrnod poeth yn yr haf, wedi eu llethu gan wres yr haul ganol dydd, yn canfod Planwydden gcrllaw, a aethant atti, a chan ymdaflu ar y ddaear, a orphwysasant dan ei chysgod. Gan edrych i fynu, fel y gorweddent, tuar pren, dywedent wrth eu gilydd, Y fath bren difudd i Ddyn yw y Blanwydden ddiffrwyth hon! Ond atebai y Blanwydden hwynt, Greaduriaid anniolchgar! Yn yr un funud ag yr ydych yn derbyn lles oddiwrthyf, yr ydych yn fy nifro, gan ddywedyd nad ydwyf yn dda i ddim.

Y mae anniolchgarwch yn fynych mor ddall ac ydyw o ffiaidd.

_________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1088b) (tudalen 83b)

CHWEDL 91 - Y DDERWEN AR GORSEN.
Derwen, wedi eu diwreiddio gan y gwyntoedd, a gariwyd i lawr ffrwd yr afon, ar ymyl yr hon yr oedd llawer o Gyrs yn tyfu. Synai y Dderwen fod pethau mor wael a gwan wedi gallu sefyll yr ystorm, pan yr oedd pren mawr a chryf, fel efe, wedi ei ddiwreiddio. uNa ryfeddwch ddim, ebe y Gorsen, dymchwelwyd chwi trwy wrthsefyll y dymhestl; ond achubwyd ni, trwy ein bod yn ildio ac yn plygu o flaen pob awel.

Mewn amgylchiadau, pan y mae yn anmhossibl gorchfygu, y mae plygu ac ymostwng yn amyneddgar yn un o wersi goreu bywyd.

_________________________________________


Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1089) (tudalen 84)

CHWEDL 92 - Y WIBER AR DDURLIF.
Gwiber, wedi myned i mewni i siop gf, a ddechreuodd edrych oddi amgylch am rywbeth iw fwyta , or diwedd, gwelodd Ddurlif, ac aeth atti, a dechreuodd el chnoi. Ond y Ddurlif ai cynghorodd iw gadael yn llonydd, gan ddywedyd, Nid ydych yn debyg o gael ond ychydig genyf fi, gwaith yr hon yw brathu ereill.

Cenfigen a malais, yn hytrach na phieidio brathu oil, yn fynych a ymesyd lle neb all niweidio neb ond ei hunan.


_________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1090) (tudalen 85)

CHWEDL 93 - MERCHER AR COEDIWR.
Coediwr, yn taflu coed ar lan afon, yn ddamweiniol a ollyngodd ei fwyall i lawr ir dwfr, lle y suddodd yn union ir gwaelod. Mewn gofid mawr am ei golled, eisteddodd y Dyn ar ln yr afon, yn wylo yn chwerw oblegid ei golled. Ond y duw Mercher, perchenog yr afon, gan gymmeryd trugaredd arno, a ymddangosodd yn ddioed oi flaen, ac wedi clywed ganddo yr achos oi ofid, efe a ymsuddodd i waelod yr afon, a chan ddwyn i fynu fwyall aur, efe a ofynodd ir Coediwr, ai dyna ei fwyall ef; ar waith y Dyn yn dyweyd mai nad, ymsuddodd Mercher yr ail waith, a dygodd i fynu fwyall o arian; drachefn, dywedodd y Dyn mai nid honyna oedd ei fwyall ef, felly, wedi ymsuddo y drydedd waith, fe ddygodd i fynu y fwyall a gollodd y Dyn ei hun. Dyna yr eiddof fi, meddai y Coediwr, mewn mawr lawenydd oblegid cael ei fwyall yn ol; ac yr oedd Mercher wedi ei foddhau gymmaint yn ngonestrwydd a di-dwylldra y Dyn, fel yr anrhegodd ef ar ddwy fwyall arall hefyd. Aeth y Dyn, ac a fynegodd iw gyfeillion

_________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1091) (tudalen 86)
yr hyn a ddigwyddasai; ac un o honynt a benderfynodd dreio pa un a allai yntau gael yr un ffawd dda. Felly, fe aeth ir un fan, a chan gymmeryd arno dori coed, fe ollyngodd ei fwyall, yn fwriadol, ir afon, ac yna a eisteddodd ar y ln, ac a wnaeth ymddangosiad o alar a wylo mawr. Ymddangosodd Mercher, fel or blaen, ac wedi cael rhoi ar ddeall iddo, mai oblegid colli ei fwyall yr oedd yn wylo, fe ymsuddodd unwaith eto ir ffrwd, a chan ddwyn i fynu fwyall aur, gofynodd ir Dyn ai hono a gollodd, I, yn wir, eber Dyn yn awyddus; ac yr oedd ar afaelyd yn y trysor, pan y darfu i Mercher, i gospi ei wynebgaledwch ai dwyll, nid yn unig wrthod rhoi hono iddo, ond gommedd hefyd estyn ei fwyall ef ei hun.

Gonestrwydd a dl oreu yn y pen draw.


CHWEDL 94 - Y BLEIDDIAID AR DEFAID.
Anfonodd y Bleiddiaid genad at y Defaid, yn cynnyg ar fod i heddwch gad ei sefydlu rhyngddynt o hyny allan, Paham, meddynt, y byddwn fel hyn bob amser mewn gelyniaeth marwol? Y cŵn yna sydd gyda chwi yw yr achos or cwbl; y maent yn barhaus yn ein cyfarth, ac yn ein cyffroi. Anfonwch hwynt ymaith, ac yna ni bydd un rhwystr i ni fod mewn heddwch a chyfelllgarwch bythol. Cydunodd y Defaid gwirion; anfonasant y cŵn ymaith: ar praidd, wedi colli cu hamddiffynwyr ffyddlon, a syrthiasant yn ysglyfaeth hawdd ir gelyn twyllodrus.

Gwaith ffol iw [sic] rhoi i fynu ein holl amddiffyn er mwyn heddwch, yn enwedig a rhai o garactar drwg; neu aberthu cyfeillion, i ddyhuddo gelynion.

_________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1092) (tudalen 87)

CHWEDL 95 - Y LLWYNOG AR GRAWNIN.
Digwyddodd i Lwynog grwydro ar ei raib, yn amser cynhauaf y Grawnwin, i mewn i winllan lle yr oedd y sypiau Grawnwin aeddfed yn hongian ar y cangau. Yr oedd yr olwg arnynt mor ddanteithol nes yr oedd y Llwynog yn llawn o flys angerddol am eu mwynhau; ond yr oeddynt yn crogi mor uchel fel nad allai, er ei holl ymdrechiadau, ddim cyrhaedd gafael ar un o honynt. Wedi ymdrechu, a neidio, a neidio i fynu drachefn a thrachefn, nes llwyr flino, a gweled nas gallai lwyddo i gael eu profi, torodd ei galon, a chiliodd ymaith gan ymson ynddo ei hun, Pw! ni waeth pwy au caffo, Grawnwin surion ydynt.

cymhwYsiad. Mor ffol ydyw i neb i ddibrisio cyrhaeddiadau a thrugareddau gwir werthfawr, yn unig oblegid eu bod hwy wedi methu cael gafael arnynt.

_________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1093) (tudalen 88)

CHWEDL 96 - YR ERYR AR SAETH.
Annelodd Saethwr at Eryr, ac ai tarawodd yn ei galon. Fel y trodd yr Eryr ei ben, fe ganfyddodd fod y Saeth wedi ei gwisgo ai bin ef ei hun. Cymmaint llymach, ebe fe, ydynt y briwiau a wneir gan arfau a barotowyd genym ni ein hunain.

Hunangondemniad yw y chwerwaf o bob condemniad

CHWEDL 97 - Y CI YN Y PRESEB.
Yr oedd C wedi gwneyd ei wely mewn Preseb, a chwyrnai a dangosai ei ddannedd, gan gadw y Ceffylau oddiwrth eu hymborth. Wele, meddai un o honynt, y fath adyn truenus! nad all ef ddim bwyta ŷd ei hun, ac ni d ir neb a all, ei fwyta ychwaith.

Nid oes dim mor afresymol chenfigen y diddawn.



CHWEDL 98 - Y GWYBEDYN AR YCH.
Gwybedyn, wedi bod yn ehedeg oddi amgylch i ben Tarw, or diwedd a ddisgynodd ar ei gorn, ond ar yr un pryd, a erfyniodd ei faddeuant am ei flino; ond, meddai, os yw fy mhwysau yn eich poeni, yn y gradd lleiaf, dywedwch y gair, a mi a f ymaith yn y fan. O, na flinwch eich pen am hyny, atebai y Tarw, ucanys nid yw ond yr un peth i mi pa un ai a aroswch, neur ehedwch ymaith; ac i ddyweyd y gwir, ni wyddwn I ddim eich bod chwi yna.

Po lleiaf y meddwl, mwyaf yr hunan.

_________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1094) (tudalen 89)

CHWEDL 99 - IAU, NEPTUNE, MINERVA, A MOMUS.
Y duwiau uchod (medd y chwedl), unwaith a aethant i ddadl, pa un o honynt a allai wneuthur y peth mwyaf perffaith. Gwnaeth Iau, Ddyn; gwnaeth Pallas, Dŷ; a gwnaeth Neptune, Darw; a dewiswyd Momus i farnu pa un oedd y mwyaf perffaith. Dechreuodd, trwy feio ar y Tarw, oblegid nad oedd ei gyrn yn s nai lygaid, fel y gallai weled pan yn cornio hwynt. Yn nesaf, beiai ar y Dyn, oblegid nad oedd ffenestr yn ei fynwes, fel y gallai pawb weled ei feddyliau, ai deimladau dirgel. Yn olaf, beiai ar y Tŷ, am nad oedd olwynion o dano, i alluogi y trigolion i symud ymaith oddi wrth gymmydogion drwg. Ar hyn, troes Iau y Beirniad ar unwaith allan or nefoedd, gan ddyweyd wrtho, nad allai y neb oedd yn chwilio am feiau byth gael ei foddhau: a bod yn

Ddigon buan iddo feuo ar ereill, pan y gwnai rhyw waith perffaith ei hunan.


_________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1095) (tudalen 90)

CHWEDL 100 - Y LLEIDR AI FAM.
Dygodd Bachgen Bach lyfr corn oddiar un oi gyd-ysgoleigion, a dygodd ef adref iw Fam. Yn lle ei geryddu, hi, yn hytrach, ai canmolodd oblegid y weithred. Yn mhen blynyddau y Bachgen, wedi tyfu yn Ddyn, a ddeuhreuodd ddwyn pethau o fwy gwerth; ac or diwedd, wedi ei ddal yn y weithred, a gymmerwyd yn rhwym, ac ai bwriwyd iw ddienyddio. Canfyddodd ei Fam yn dilyn yn y dyrfa, yn wylo, ac yn curo ei dwyfron; gofynodd ir swyddogion am ganiatd i siarad un gair yn ei chlust. Pan y daeth yn agos atto, a rhoddi ei chlust at enau ei Mab, efe a gydiodd ynddi yn dyn ai ddannedd, ac ai brathodd ymaith. Ar hyn, y Fam a waeddodd allan; ar dyrfa a unasant a hi i gondemnio y Mab annaturiol, fel na buasai ei weithredoedd drwg blaenorol yn ddigon, ond rhaid iw weithred olaf fod yn weithred o greulondeb anfad tuag at ei Fam ei hun. Ond efe a ddywedodd, Hi yw yr achos om dinystr: canys os, pan ddygais I y llyfr corn oddiar fy nghyd-ysgolhaig, ac y dygais iddi hi, y curasai hi fi yn dda, ni


_________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1096) (tudalen 91)

buaswn byth wedi cynnyddu mewn drygioni, nes dyfod ir diwedd anamserol hwn.

Rhaid lladd drwg yn yr eginyn. Arbed y wialen yw andwyo y plentyn.


CHWEDL 101 - PRIODAS YR HAUL.
Digwyddodd unwaith, mewn hf pur boeth, ir chwedl fyned allan fod yr Haul yn myned iw Briodi. Yr oedd yr holl adar ar bwystfilod yn llawenhau yn fawr am hyn; ar llyffaint yn enwedigol, a benderfynent gael gwyl, a gwledd iawn ar yr achlysur. Ond rhoddodd rhyw hen lyffant du daw ar eu. llawenydd, trwy sylwi, mai achos o alar, yn hytrach nag o lawenydd ydoedd, Canys, meddai, os ydyw yr un Haul yn awr yn sychu y corsydd i fynu, fel nas gallwn ond prin ei ddyoddef; pa beth ddaw o honom os daw iddo hanner dwsin o Heuliau. bach yn ychwanegol?

Cyn llawenhau llawer oblegid unrhyw ddigwyddiad, doeth yw ystyried pa beth fydd y canlyniadau.

_________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1097) (tudalen 92)

CHWEDL 102 - Y GATH AR LLYGOD.
Cth, wedi myned yn wan, trwy henaint, ac yn analluog i ddal Llygod fel y byddai yn arfer, a fyfyriodd pa fodd y gallai eu hudo o fewn cyrhaedd ei phalfau. Gan feddwl y gallai basio ei hun am gŵd, neu Gath farw, beth bynag, hi a grogodd ei him wrth ei thraed l oddiar fach, gan feddwl na phetrusai y Llygod ddyfod yn ddigon agos atti. Hn Lygoden, oedd yn ddigon call i gadw oi chyrhaedd, a ddywedai wrth gyfaill, Mi a welais lawer cŵd yn fy oes, ond erioed un a phen Cth, or blaen. Crogwch yna, Meistres bach, meddai y llall, cyhyd ag y mynoch; ond ni ymddiriedwn i fy hun yn eich cyrhaedd, pe baech wedi eich hystwffio gwellt.

Ni ymddyried y call yn fuan ir neb ai twyllodd unwaith. Ni ddelir hn adar manus.

_________________________________________


Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1098) (tudalen 93)

CHWEDL 103 - Y LLEW AI DRI CHYNGHORWR.
Galwodd y Llew ar y Ddafad, a gofynodd iddi, a oedd ei anadl yn drewi; atebodd hithau, ydyw, ac efe a frathodd ei phen ymaith, am ffwl. Yna, galwodd y Blaidd, a gofynodd iddo ef, ac efe a ddywedodd, uNac ydyw, ac efe ai llarpiodd ef yn ddarnau, am wenieithio. Or diwedd, galwodd ar y Llwynog, a gofynodd iddo yntau, Yn wir, meddai, yr oedd anwyd mawr arno, ac nis gallai ddywedyd.

Tw pau hi mewn amseroedd enbyd.

CHWEDL 104 - Y FORWYN AI PHISER LLAETH.

Fel yr oedd Llangces yn cerdded gyda Phiser Llaeth ar ei phen, hi a ddechreuodd fyfyrio fel y canlyn: Gwna yr arian a dderbyniaf am y llaeth hwn fy ngalluogi i chwanegu fy ystr o wyau i dri chant, gwna yr wyau, ar ol pob colled, roddi or hyn lleiaf ddau cant a hanner o gywion. Bydd y cywion yn barod iw cario ir farchnad yn gymhwys yn yr amser pan y bydd cywion bob amser yn ddrudion, felly, erbyn dydd Calan, nis gall na bydd genyf ddigon o arian i brynu gŵn newydd. Gadewch weled, gwyrdd sydd yn gweddu i mi oreu, e, gwyrdd, a dyna gaiff y gŵn newydd fod; yn y gŵn hon mi f ir ffair, a bydd yr holl langciau ieuaingc yn ymryson am fy nghyfeillach; ond, na, mi wrthodaf bob un o honynt, a chydag amnaid gwawdus om pen mi a droaf oddi wrthynt. Yn llawn or meddwl hwn, nid allai lai na chrymu ei phen yn unol ar meddwl oedd yn pasio oi mewn; pan, och! i lawr y daeth y Piser Llaeth! a diflanodd ei holl ragolygon dedwydd yn y funud!

Gwaith ofer a pheryglus ydyw cyfrif y cywion yn cibau neu adeiladu cestyll yn yr awyr.

_________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1099) (tudalen 94)

CHWEDL 105 - YR YCHAIN AR CIGYDDION.
Yr Ychain, ar ryw dro, a benderfynasant wneuthur pen ar y Cigyddion, pa ryw yr oedd eu holl fedr wedi ei gyflwyno iw dyfetha hwy. Felly fe ymgynnullasant yn nghyd, ac yr oeddent eisioes yn parottoi eu cyrn ir ymladdfa, pan y dywedodd Hen Ych oedd wedi gweithio am dymhor maith wrth yr aradr wrthynt, Cymerwch bwyll, fy nghyfeillion, ac ystyriwch pa beth yr ydych ar fedr ei wneyd. Y mae y dynion hyn, or hyn lieiaf, yn ein lladd gyda medrusrwydd, ac yn daclus; ond os disgynwn i ddwylaw bonglerwyr, yn lle Cigyddion, ni a oddefwn farwolaeth ddwbl: canys gellwch fod yn sicr, nid dynioa ddim yn mlaen heb gig, hyd yn nod pe byddai raid iddynt fyned heb Gigyddion.

Gwell ydyw dyoddef y drwg a wyddom, nac anturio y drwg nas gwyddom.

CHWEDL 106 - Y FFERMWR AR GARANOD.
Haid o Aranod a ddisgynasant ar faes, yr hwn yr oedd Ffermwr newydd ei hau. Am beth amser, dychrynodd y Ffermwr hwynt ymaith trwy ysgwyd ffon-dafl wg arnynt; ond pan ddeallodd yr Adar mai curor gwynt ffon-dafl wg yr oedd, ni ddychrynent mwy, ac ni ehedent ymaith: ar hyn, fe daflodd y Ffermwr gerig mewn gwirionedd attynt, ac a laddodd lawer o honynt. Gadewch i ni fyned, ebe y gweddill, i ryw faes arall, canys nid yw y gŵr hwn am ein bygwth yn hwy, ond y mae am ein difetha mewn gwirionedd.

Pan ddiystyrir rhybudd, y mae yn rhaid taro.

_________________________________________


Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1100) (tudalen 95)

CHWEDL 107 - Y MEDDYG AR CLAF.
Yr oedd Meddyg wedi bod am gryn amser yn edrych ar l Dyn Claf, yr hwn, or diwedd, a fu farw dan ei ddwylaw. Yn yr angladd, aeth y Meddyg at y naill ar llall or perthynasau, gan ddywedyd, Druan on Cyfaill yma; pe buasai wedi ymgadw oddiwrth ddiodydd, ac edrych at ei gyfansoddiad, a defnyddio gofal priodol, ni buasai yn gorwedd yna. Atebai un or galarwyr, Anwyl Syr, gwaith ofer yw i chwi ddyweyd peth fel yna yn awr; dylasech roddi y cynghorion yna pan yr oedd y Claf yn fyw iw derbyn.

Gall y cynghorion goreu ddyfod yn rhy ddiweddar. Gwaith ofer yw cau yr ystabl, ar ol ir march gael ei ddwyn.

_________________________________________


Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1101) (tudalen 96)

CHWEDL 108 - Y LLYGOD MEWN YMGYNGHORFA.
Digwyddodd fod y Llygod mewn blinder mawr o
herwydd erledigaeth y Gth; a hwy a benderfynasant alw Cyfarfod i lunio y moddion tebyccaf i gael gwaredigaeth or brofedigaeth barhaus. Cynnygiwyd a gwrthodwyd llawer o fesurau: or diwedd, cododd Llygoden ieuiangc, ac a gynnygiodd, Fod cloch i gael ei chrogi am wddf y Gth, fel y gallent, o hyny allan, gael rhybudd prydlawn oi dynesiad, ac felly, gael amser i ddiangc. Derbyniwyd y cynnygiad hwn gydar cymmeradwyaeth mwyaf, a phasiwyd ef yn unfrydol. Ar hyn, cododd hn Lygoden i fynu, oedd wedi bod yn ddistaw hyd yn hyn, a sylwodd fod y cynllun yna yn dra chywrain, ac y byddai yn ddiau yn hollol effeithiol; ond nid oedd ganddo ond un cwestiwn bychan iw ofyn, sef, Pa un o honynt oedd i grogi y gloch am wddf y Gth?

Un peth yw cynllunio, peth arall yw cyflawni. Mae doethineb cynllun yn ymddibynu ar ei fod yn alluadwy.


_________________________________________


Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1102) (tudalen 97)

CHWEDL 109 - Y LLEW AR AFR.
Ar ddiwrnod tesog o hf, pan yr oedd pob peth yn dyoddef gan y gwrs mawr, daeth Llew a Gafr ar unwaith i dori eu syched at ffynnon fechan o ddwfi. Dechreuasant yn ddioed ymrafaelio, pa un a gai yfed gyntaf, nes or diwedd yr ymddangosent fel yn barod i ymdrech hyd at farw am y flaenoriaeth. Ond wrth iddynt orphwys am foment i gael anadl, gwelsant haid o fwlturiaid yn hofran uwch ben iddynt, yn barod i ddisgyn yn union ar pa un bynag o honynt a leddid. Ar hyny, gwnaethant eu cweryl i fynu yn ddioed, gan farnu mai gwell iddynt ill dau ddyfod yn gyfeillion, na myned yn ysglyfaeth i frain a fwlturiaid.

Byddai llai o ryfela, pe iawn ystyrid y canlyniadau.

_________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1103) (tudalen 98)

CHWEDL 110 - YR WYDD AR WYAU AUR.
Digwyddodd fod gan rhyw ŵr ffodus Wydd, yr hon a ddodwyai iddo Wy Aur bob dydd. Ond, gan anfoddloni i dderbyn cyfoeth mor araf, a chan feddwl meddiannu yr holl drysor ar unwaith, fe laddodd yr Wydd; ac wedi ei hagor, fei cafodd oddifewn yn union yr un fath rhyw Wydd arall.

Llawer a fyn fwy, ac a gyll y cwbl. Na fydd ry brysur i ymgyfoethogi.


CHWEDL 111 - Y POMGRANAD, YR AFAL, AR FIEREN.
Yr oedd y Pomgranad ar Afal yn ymrafaelio, pa un o honynt oedd y prydferthaf Pan aeth eu geiriau yn bur uchel, ar cweryl yn myned yn boeth, Mieren a estynai ei phen allan o dwmpath gerllaw, ac a ddywedodd, Yr ydym wedi dadleu digon o hyd: na fydded dim eiddigedd rhyngom ni mwy.

Y mwyaf distadl ydynt yn fynych y mwyaf hunandybus.

_________________________________________


Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1104) (tudalen 99)

CHWEDL 112 - Y CI A WAHODDWYD I SWPER.
Gwr bonheddig, wedi parottoi gwledd fawr, a wahoddodd ei gyfaill i Swper; a Ch y gwr bonheddig, yn digwydd cyfarfod a Ch y Cyfaill, ai gwahoddai yntau. Dowch, fy nghyfaill, eb efe, a swperwch gyda ni heno. Derbyniodd y C y gwahoddiad gydar llawenydd mwyaf; ac fel y safai gerllaw, gan sylwi ar y parottoadau ir wledd, efe a ddywedodd ynddo ei hun, Rhagorol! yn wir; yn sicr, dyma hap dda i mi. Mi a wnaf gyfiawnder ar danteithion hyn: mi a gymmeraf ofal i fwyta digon heno, rhag ofn na chaf ddim bwyd yforu. Fel yr aeth y pethau hyn trwy ei feddwl, ysgydwai ei gynffon, a thaflai edrychiad cyfrwysgu at ei gyfaill, yr hwn ai gwahoddasai. Ond darfu i ysgydwad ei gynffon alw sylw y cogydd atto; a hwnw, wrth ganfod ei fod yn G dieithr, ai cymmerodd gerfydd ei goesau yn ddioed, ac ai taflodd trwyr ffenestr allan. Pan gyrhaeddodd y ddaear, rhedodd ymaith gan udo lawr yr heol. Ar hyny, rhedai rhai o Gŵn y cymmydogion atto, a gofynasant iddo, Pa fodd yr oedd wedi mwynhau ei Swper?

_________________________________________


Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1105) (tudalen 100)

Yn wir, ebe yntau, gyda gwn ammheus, nis gallaf. prin ddyweyd, canys ni a yfasom mor drwm, fel mai prin y gallaf fi ddyweyd pa fodd y daethum allan or tŷ!

Rhaid ir rhai a lechiant i mewn trwyr drws cefn, ddisgwyl cael eu taflu, allan trwyr ffenestr. Ysbryd caidd yw gwawdio yr anffortunus.


CHWEDL 113 - Y BUGAIL AR GEIFR.
Ar ddiwrnod dryghinog, ar eira yn disgyn yn drwm, gyrai Bugail ei Eifr, yn wyn gan eira, i gysgodle yn yr anialwch; ond cafodd fod yno ddeadell o Eifr gwylltion, mwy lluosog, a chryfach nar eiddo ef, eisoes wedi cymmeryd meddiant or lle. Felly, gan feddwl sicrhau y cwbl iddo ei hun, fe adawodd ei Eifr ei hun i ymdarawo goreu y gallent, ac a daflodd yr ymborth a ddygasai ar eu cyfer hwy, o flaen y Geifr gwylltion. Ond pan aeth yr hn galed heibio, fe gafodd fod ei Eifr ef oll wedi trengu o newyn, tra yr oedd y Geifr gwylltion wedi diangc ymaith ir bryniau ar coedydd. Dychwelodd y Bugail adref yn destyn gwawd ei gymmydogion, wedi methu dal y Geifr gwylltion, ac wedi colli yr eiddo ei hun.

Y rhai a esgeulusant hn gyfeillion er mwyn rhoi newyddion, ni theilyngant gydymdeimlad os collant yr hn r newydd.


_________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1106)
(tudalen 101)

CHWEDL 114 - Y PYSGOTTWR.
Aeth Pysgottwr at yr afon i bysgotta, ac wedi taenu ei rwydau ar draws y ffrwd, rhwymodd garreg wrth ben cortyn htr, a dechreuodd guro y dwfr o bob tu y rhwyd, i yru y pysgod i mewn iddi. Un or cymmydogion oedd yn byw gerllaw, wrth weled hyn, a aeth atto, ac ai beiodd yn fawr am gynhyrfu y dwfr, ai wneyd mor llwyd fel nad oedd yn gymhwys iw yfed. Y mae yn ddrwg genyf, meddai y Pysgottwr, fod fy ngwaith yn eich anfoddloni, ond trwy gynhyrfu y dyfroedd fel hyn yr wyf fi yn ennill fy mywioliaeth.

Nid yw y trachwantus yn meddwl am golled neb, ond iddo ef ennill.


CHWEDL 115 - Y LLYFFAINT YN DEISYF AM FRENIN.
Yn y dyddiau gynt, yr oedd y Llyffaint oll yn mwynhau eu rhyddid yn y llynoedd, ond blinasant ar eu hannibyniaeth, gan feddwl ei fod yn arwain i benrhyddid; felly, ymgynnullasant ynghyd ryw ddiwrnod, a chyd-erfyniasant yn daer ar Iau, i roddi

_________________________________________


Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1107)
(tudalen 102)

iddynt Frenin, iw cadw mewn gwell trefn, ac i beri iddynt fyw yn fwy gonest. Iau, yn canfod balchder eu calonau, a wenodd ar eu deisyfiad, ac a danodd ddarn o bren i ganol y llyn, gan ddywedyd, Dyna i chwi Frenin. Darfu i ddisgyniad y pren yn ddisymwth ir dwfr, gan y cynhwrf ar sŵn a wnaeth, daflu yr holl gyfundeb o Lyffaint ir braw ar syndod mwyaf, - ffoisant i waelod y Ilyn, gan ymguddio yn y llaid, ac ni feiddient ddyfod o fewn hŷd deg naid ir fan yr oedd y pren yn gorwedd. Or diwedd, un Llyffant, mwy dewr nar lleill, a fentrodd godi ei ben uwchlaw y dŵr, a chymmeryd golwg o bell ar y Brenin newydd. Bob yn ychydig, wrth weled fod y pren yn gorwedd mor llonydd, dechreuodd ereill nofio atto, ac oi amgylch; a chan ddod yn hyfach, hyfach, hwy, or diwedd, a neidiasant arno, ac ai trin-ient gydar dirmyg mwyaf. Yn anfoddlawn ar Lywodraethwr mor ddiniweid, hwy a erfyniasant yn unfrydol eilwaith ar Iau, i roddi iddynt Frenin arall, a mwy galluog. Ar hyn, fe anfonodd Iau yr aderyn ysglyfaethus hwnw, y Chwibon, iddynt; yr hwn, mor fuan ac y daeth attynt, a ddechreuodd afael ynddynt au llyncu, y naill ar ol y llall, mor fuan ac y gallai, ac yn ofer yr ymdrechent ddiangc rhagddo. Erbyn hyn, hwy a anfonasant Mawrth gyda chenadwri ddirgelaidd at Iau, i ddeisyf arno dosturio wrthynt un waith yn rhagor; ond Iau au hatebodd nad oeddynt ond yn dyoddef y gospedigaeth gyfiawn am eu ffolineb, ac y dysgai ereill oddiwrthynt i fod yn llonydd pan yn gysurus, ac i beidio anfoddloni iw sefyllfa naturiol.

Ni waeth heb frenin na chael brenin mewn enw yn unig, ac y mae yn well bod heb frenin na chael unbenaeth gormesol.

_________________________________________


Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1108) (tudalen 103)

CHWEDL 116 - YR ASYN AI FEISTRIAID.
Asyn, yn perthyn i Lafurwr, ac yn cael ond ychydig iw fwyta, a llawer iw wneyd, a ddeisyfodd ar Iau ei waredu o wasanaeth y Llafurwr, a rhoddi iddo feistr arall. Iau, yn ddig oblegyd ei anfoddlonrwydd, ai trodd ef drosodd i Grochenydd; yr oedd ganddo yn awr lwythau trymach nag or blaen, ac fe apeliodd eilwaith at Iau iw waredu, yr hwn a drefnodd, gan hyny, iddo gael ei werthu i Farcer. Yr Asyn erbyn hyn wedi syrthio i waeth dwylaw nac erioed, ac yn sylwi bob dydd ar orchwyl ei feistr a waeddodd allan, gydag ochenaid, Och! fi, y fath Greadur truenus ydwyf! Buasai yn llawer gwell i mi aros gyda fy meistriaid blaenorol, canys yr wyf yn gweled fod fy meistr presennol, nid yn unig am fy ngweithio yn galettach tra y byddaf byw, ond na arbeda fy nghroen wedi i mi farw.

Gwell yw y drwg a wyddom, nar drwg nas gwyddom. Anfynych y gwna newidiad amgylchiadau, dawelu y dymer anfoddog
__________________________________________


Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1109) (tudalen 104)

CHWEDL 117
- Y LLEIDR AR CI.
Lleidr yn dyfod i dori tŷ, a fynai dawelu y C rhag cyfarth trwy daflu tammaid iddo. Ymaith chwi, ebe y C, yr oeddwn yn eich ammheu or blaen, ond y mae y tiriondeb mawr yma ynoch, yn fy sicrhau mai Lleidr ydych.

Y mae llwgr-wobr yn y llaw, yn arwyddo drwg yn y galon.

CHWEDL 118
- YR YSGYFARNOG AR BYTHEUAD.
Bytheuad, wedi codi Ysgyfamog o dwmpath, a redodd ar ei hoi am yspaid; ond yr oedd yr Ysgyfamog yn ei guro, ac fe ddiangodd. Bugail yn pasio heibio, a wawdiodd y C, gan ddywedyd fod y pryf yn gyflymach nag ef. Yr ydych yn anghofio, ebe y C, mai un peth ydyw rhedeg am eich ciniaw, ond peth arall ydyw rhedeg am eich bywyd.

Eto, y mae llaver yn ymdrechu mwy am y bwyd a dderfydd, nag am fywyd tragywyddol.


_________________________________________


Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1110) (tudalen 105)

CHWEDL 119
- YR HELIWR AR PYSGOTTWR.

Yr oedd Heliwr yn dychwelyd or mynyddoedd, yn llwythog o helwriaeth, ac yr oedd Pysgottwr yn dychwelyd yr un amser, gydai fasged yn llawn o bysgod, pan y digwyddasant gyfarfod ar y ffordd. Dymunai yr Heliwr gael dysglaid o bysgod, ar Pysgottwr a hiraethai am swper o helwriaeth ; felly, rhoddodd pob un ir llall gynnwys ei fasged ei hun. Parhasant i newid eu hystr au gilydd bob dydd, fel y sylwodd rhywun or diwedd, Yn awr, trwy y cyfnewidiad parhaus hwn, fe ddinystriant eu blas at y bwyd, a bydd pob un or ddau yn fuan yn dymuno dychwelyd at ei hen fwyd yn ol.

Nid d rhŷ o ddim


CHWEDL 120 - IAU AR WENYNEN.
Oesoedd yn ol, pan oedd y byd yn ieuangc, darfu i Wenynen, yr hon oedd wedi llenwi ei chrwybr chynhauaf toreithiog, ehedeg i fynu tuar nefoedd i gyflwyno offrwm diolchgarwch o fl. Yr oedd lau wedi ei foddhau gymmaint gan y rhdd, fel yr addawodd roddi iddi pa beth bynag a ddymunai. Y Wenynen ar hyny ai cyfarchodd, gan ddywedyd, O! lau ardderchog, fy ngwneuthurwr, am meistr, dyro i mi, dy law-forwyn dlawd, golyn, fel pan ddelo rhywun at fy nghwch i gymmeryd y ml, y gallwyf ei ladd ef yn y fan. lau, o gariad at ddyn, a ddigiodd wrth ei deisyfiad, ac ai hatebodd fel hyn: Ni chaniatteir eich deisyfiad yn y modd yr ydych yn dymuno; ond y colyn y gofynwch am dano, chwi ai cewch, a phan y dl rhywun i gymmeryd eich ml, ac yr ymosodwch arno, bydd y clwyf a roddwch yn farwol, nid iddo ef, ond i chwi,canys fe g eich bywyd fyned ymaith gydach colyn.

Yr hwn, a ddeisyfa niwed iw gymmydog, a ddeisyfa felldith arno ei hun.


_________________________________________


Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1111) (tudalen 106)

CHWEDL 121 - YR EHEDYDD AI RHAI BYCHAIN.
Yr oedd nythaid o rai bychain gan Ehedydd mewn cae o ŷd, yr hwn oedd bron yn aeddfed; ar Fam, gan ddisgwyl bob dydd am y medelwyr, a adawai air bob tro yr ai hi allan i chwilio am ymborth, am ir rhai bychain wrando, a hysbysu iddi hi, bob newydd a glywent. Un diwrnod, pan yr oedd hi yn absennol, daeth y perchennog i edrych ansawdd y cnwd.
Y mae yn hen amser, ebe fe, i alw i mewn fy nghymmydogion, a medi yr ŷd. Pan ddaeth yr hen Ehedydd adref, adroddai y rhai ieuaingc iw Mam yr hyn a glywsent, ac erfynient arni eu symud ymaith yn ddioed. Mae yn ddigon buan, ebe hithau, os ymddirieda iw gymmydogion, cŷst iddo aros dipyn eto cyn cael ei gynhauaf. Dranoeth, daeth y gŵr drachefn, ac wrth weled yr haul yn boethach eto, ar ŷd yn fwy aeddfed, a dim wedi ei wneyd, Nid oes un munud iw golli, meddai, nis gallwn ymddiried yn ein cymmydogion; rhaid i ni alw i mewn ein perthynasau, a chan droi at ei fab, dywedai, Dos, galw ar dy ewythr , siarad th gefnder: a gwl eu

__________________________________________


Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1112) (tudalen 107)

bod yn dechreu yforu. Mewn braw mwy fyth, adroddai yr Adar Bach eiriau y ffermwr wrth eu Mam. Os dyna y cwbl, meddai hithau, nac ofnwch, canys y mae gan y perthynasau gynhauaf eu hunain iw gael i mewn; ond cymmerwch sylw manwl or hyn a glywch y tro nesaf, a byddwch siwr o adael i mi wybod. Aeth allan dranoeth drachefn, ar ffermwr yn dyfod, fel or blaen, ac yn cael fod y grawn yn syrthio ir ddaear, oblegyd ei fod yn r-aeddfed, a neb heb ddechreu arno eto, a alwodd ei fab atto, gan ddywedyd, Ni wiw i ni ddisgwyl wrth ein cymmydogion an perthynasau ddim yn hwy; ewch chwi a chyflogwch lafurwyr heno, a ni a ddechreuwn arno ein hunain yforu. Pan adroddodd y rhai ieuaingc hyn wrth y Fam, Yna, atebai hi, y mae yn bryd i ni gychwyn yn wir; canys pan ymgymmero gŵr rhyw orchwyl ei hun, yn lle ymddiried mewn ereill, gellwch benderfynu ei fod am ymosod atto o ddifrif.

Haws i lawer un ymffrostio na chyflawni.


CHWEDL 122 - Y TEITHIWR YMFFROSTGAR.
Dyn, yr hwn oedd wedi bod yn teithio mewn gwledydd tramor, a arferai, wedi ei ddychweliad adref, ymffrostio, a brolio, yn barhaus, or holl, orchestion mawrion a gyflawnodd mewn gwahanol fanau. Er engraifft, Dywedai iddo, pan yn Rhodes, roi naid mor fawr, nad allai un dyn arall ddyfod yn agos atto; ac yr oedd ganddo dystion yno, i brofi y peth, Fe allai, yn wir, ebe un or gwrandawyr, ond os ydyw hyn yn wir, tybiwch am funud mai Rhodes ydyw y fan hon, a threiwch y naid eto.

Haws i lawer un ymffrostio na chyflawni.


__________________________________________


Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1113) (tudalen 108)

CHWEDL 123 - Y LLYFFANT AR TEIRW.
Llyffant, ryw ddiwrnod, a gododd ei ben or Ilyn, a chan edrych oi amgylch, fe welai ddau Darw yn ymladd yn y weirglodd gerllaw. Galwodd ar un oi frodyr, a dywedodd, Gwelwch y fath waith ofnadwy sydd yn myned yn mlaen acw! Och! fi, pa beth a ddaw o honom? Pw, ebe y llall, paham yr ydych yn dychrynu am ddim?
Pa fodd y gall eu hymrafaelion hwy ein niweidio ni? Y maent yn greaduriaid o ryw hollol wahanol i ni, ac nid ydynt yn awr ond yn ymdrechu pa un gaiff fod yn ben ar y fuches. Gwir iawn, atebai y cyntaf, ond, er eu bod o rywogaeth gwahanol i ni, eto, gan fod un o honynt yn sicr o gael ei orchfygu, bydd hwnw, wedi ei yru allan or weirglodd, yn debyg iawn o ffoi ir siglenydd hyn, ac fe fydd yn bur debyg o sathru rhai o honom i farwolaeth, felly, y mae mwy a wnelom ni au hymdrech hwynt nag y gellwch feddwl ar y cyntaf.

Pan y byddo galluoedd mawrlon yn mymd i ryfel, y mae y werin, ddiniwed yn gyffredin yn gorfod dyoddef.

__________________________________________


Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1114) (tudalen 109)

CHWEDL 124
- Y LLEW AR ASYN YN HELA.
Aeth Llew ag Asyn i gytundeb i fyned allan i Hela ynghyd. Yn fuan daethant at ogof, yn yr hon yr oedd llawer o Eifr gwylltion yn llechu. Safodd y Llew wrth enau yr ogof; ar Asyn, gan fyned i mewn, a giciodd ac a frefodd, ac a wnaeth gynhwrf mawr, nes dychrynu y Geifr allan. Wedi ir Llew ddal llawer iawn o honynt, daeth yr Asyn allan, a gofynodd iddo, Onid oedd ef wedi brwydro yn wych; ac wedi ymlid y Geifr yn iawn? Do, yn wir, ebe y Llew, ac yn sicr, buasech wedi fy nychrynu innau hefyd, ,oni bai fy mod yn gwybod mai Asyn oeddech.

Pan oddefir brolwyr ymffrostgar yn nghwmni eu gwell, nid yw hyny ond er mwyn gwneyd rhyw ddefnydd isel o honynt, a chwerthin am eu penau.

__________________________________________


Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1115) (tudalen 110)

CHWEDL 125 - YR ADAR, Y BWYSTFILOD, AR YSTLUM.
Digwyddodd ar dro, fod rhyfel ffyrnig wedi tori allan rhwng y Bwystfilod ar Adar; am dymhor, yr oedd yn ammheus pa ffordd y troai y frwydr allan, ar Ystlum, yn cymmeryd mantais oi natur ddyblyg, fel hanner Aderyn a hanner y Lygoden, a safai draw ac nid ymunai ag un or ddwy blaid. Or diwedd, ymddangosai fel pe buasai y Bwystfilod yn gorchfygu, ac yn y fan ymunodd yr Ystlum hwy, a chymmerai ran fywiog yn yr ymdrech; ond gyda hyny, ymadnewyddodd yr Adar, ac ymddangosai fod y frwydr yn troi ou hochr hwy, ac yna aeth yr Ystlum drosodd attynt hwy, a chafwyd ef ar derfyn y dydd yn mhlith rhengau y blaid fuddugoliaethus. Wedi i heddwch gael ei gyhoeddi, condemniwyd ymddygiad yr Ystlum gan y ddwy blaid yr un modd ; a chan na fynai yr un o honynt ei gydnabod, gorfu iddo ddiflannu or golwg; a byth wedin y mae yn byw mewn tyllau a chornelau, ac ni faidd byth ddangos ei wyneb ond yn ngwyll y nos.

Y mae y diegwyddor yn ffiaidd gan bob plaid.


__________________________________________


Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1116) (tudalen 111)

CHWEDL 126 - Y LLWYNOG AR DRAENOG.
Llwynog, pan yn croesi afon, a gariwyd gan y ffrwd i ryw agen gul, ao a orweddodd yno yn hir, yn analluog i ddyfod allan, ac a orchuddiwyd gan haid o wybed mawrion a ddisgynasant arno. Draenog, yn digwydd pasio y ffordd hono, ai gwelodd, a chan dosturio wrtho, a ofynodd a gai ef yru ymaith y gwybed oedd yn ei flino felly; ond y Llwynog a ddeisyfodd arno beidio gwneyd dim or fath beth. Paham? gofynai y Draenog. Oblegyd, meddai y Llwynog, y mae y gwybed sydd arnaf yn awr, mor llawn eisoes, fel nad allant sugno llawer mwy om gwaed; ond os gyrwch chwi hwynt ymaith, daw haid o rai newydd a newynog yn eu lle, ac ni adawany ddyferyn o waed yn fy nghorph.

O
ddau ddrwg dewiser y lleiaf.

_________________________________________


Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1117) (tudalen 112)

CHWEDL 127
- Y BLAIDD AR BUGAIL.

Yr oedd Blaidd wedi bod am dymhor maith yn ystelcian yn agos i ddeadell o ddefaid, ond heb wneyd dim niwed iddynt. Yr oedd y Bugail, er hyny, yn ddrwgdybus o hono, ac am amser, a gadwodd wyliadwriaeth ofalus rhagddo, fel rhag gelyn naturiol; ond wrth weled y Blaidd yn parhau am dymhor maith yn dilyn ar ol y praidd, heb yr ymgais lleiaf iw haflonyddu, dechreuodd edrych arno yn hytrach fel cyfaill, nag fel gely ; ac un diwrnod, gan fod ganddo achos i fyned 1r ddinas, fe ymddiriedodd ei ddefaid iw ofal. Nid cynt y gwelodd y Blaidd ei gyfle, nag y syrthiodd yn ddioed ar y defaid, ac au llarpiodd hwynt; ar Bugail, ar ei ddychweliad, yn gweled ei braidd wedi eu hanrheithio, a ddywedodd, Y fath ynfytyn ydwyf ! eto, ni chefais ond yr hyn a haeddais, am ymddiried fy nefaid i ofal y Blaidd.

Y mae mwy o berygl oddiwrth gyfaill twyllodrus, nag oddiwrth elyn proffesedig.

_________________________________________


Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1118) (tudalen 113)

CHWEDL 128 - Y TEITHWYR AR FWYALL.

Yr oedd dau Wr yn cyd-deithio ar y ffordd, pan y darfu i un o honynt godi Bwyall oddiar y ddaear, a dywedodd, Gwelwch pa beth yr ydwyf fi wedi ei gael. Na ddywedwch, y fi, meddai ei gydymaith, ond, y ni, wedi ei gael. Yn mhen enyd, daeth y Dyn a gollodd y Fwyall i fynu, ac a gyhuddodd y Dyn ai cafodd o ladrad. Och! fi, meddai , yntau wrth y llall, yr ydym wedi ein andwyo! Na ddywedwch, y ni, atebai hwnw, ond yr wyf fi wedi fy andwyo ; canys yr hwn ni fỳn iw Gyfaill gyfrannu or anrhaith, ni ddylai ddisgwyl iddo gyfrannu or perygl.

Os mynem gyfeillion mewn aflwyddiant, dylem eu hennill mewn llwyddiant.

_________________________________________


Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1119) (tudalen 114)

CHWEDL 129
- Y LLYGOD AR BRONWENOD.
Yr oedd y Llygod ar Bronwenod wedi bod mewn rhyfel maith u gilydd, a chan fod y Llygod bob amser yn colli y frwydr, hwy a gytunasant or diwedd, mewn cyfarfod mawr, wedi ei alw i ystyried y mater, mae yr unig achos ou haflwyddiant oedd, eu diffyg dysgyblaeth; a hwy a benderfynasant, gan hyny, i ddewis cadflaenoriaid rheolaidd, o hyny allan. Felly, fe ddewisasant y rhai yr oedd eu gwroldeb au medr yn eu cymhwyso fwyaf ir swydd bwysig; darfu ir cadflaenoriaid newydd, yn falch ou swyddau, ac yn dymuno cael gwneuthur eu hurddau mor amlwg ag oedd bossibl, rwymo cyrn ar eu talcenau, fel math o nd ac arwydd ou derchafiad. Yn fuan ar ol hyn cymmerodd brwydr le; y Llygod, fel arfer, a orchfygwyd yn fuan, a diangodd y Llygod cyffredin iw tyllau; ond y cadflaenoriaid, yn methu myned i mewn ir tyllau, o herwydd maint eu cyrn, a ddaliwyd, ac a laddwyd, bob un yn ddieithriad.

Nid oes nemawr dderchafiad heb ei berygl priodol yn gysylltiedig ag ef. Y mae balchder yn dwyn aml un i brofedigaeth a magl.

CHWEDL 130 - Y BACHGEN AR DANADL.
Bachgen yn chwareu mewn cae, a afaelodd mewn Danadl ac a ddoluriwyd. Rhedodd adref at ei fam a dywedodd wrthi, Ei fod wedi cyffwrdd ar Llysieuyn cas hwnw, ai fod wedi ei ddolurio. Dy fod yn unig wedi cyffwrdd ag ef, fy Machgen, meddai y fain, a wnaeth iddo dy ddolurio, y tro nesaf yr ymafli mewn Danadi, gafael yn egniol, ac ni wna i ti ddim niwed.

Ymdrecher yn iawn, neu na ymdrecher oll.

_________________________________________

tudalennau ar goll

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1080) (tudalen 114a) TUDALEN AR GOLL

CHWEDL 131
- Y BARCUD CLAF.

_________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1080) (tudalen 114b) TUDALEN AR GOLL

CHWEDL 132 - YR ERYR AR FRAN.

_________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1080) (tudalen 114c) TUDALEN AR GOLL

CHWEDL 133 - YR ASYN AI YRWR.

_________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1080) (tudalen 114d) TUDALEN AR GOLL

CHWEDL 134 - YR HEN WR AC ANGAU.

__________________________________________


Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1120) (tudalen 115)

CHWEDL 135 - YR ADARWR AR BETRUSEN.

Pan yr oedd Adarwr wedi cymmeryd Petrusen yn ei rwyd, yr aderyn a waeddodd allan yn wylofus, Gad i mi fyned, Adarwr mwyn, a mi a addawaf hudo Petris ereill ich rhwyd. Na, meddai y Dyn, pa beth bynag a allaswn ei wneyd or blaen, yr wyf yn benderfynol na arbedaf chwi yn awr;
canys nid oes un farwolaeth yn rhy greulon ir hwn sydd yn barod i fradychu ei gyfeillion.

Y casaf o ddynion yw yr hwn a abertha ei gyfeillwn iw waredu ei hun.
__________________________________________


Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1121) (tudalen 116)

CHWEDL 136 - YR ASYN SYNWYROL.
Yr oedd hen wr yn gwilio ei Asyn fel yr oedd yn pori mewn gweirglawdd fras. Yn ddisymwth, canfyddodd y gelynion yn nesau atto, ac a fynai ir Asyn ffoi gydag ef mor ffastied ag y medrai. Ond gofynai yr Asyn iddo, a wnai y gelyn roi dau br o gewyll ar ei gefn? Na, atebai y dyn, nid oes dim perygl o hyny. Wel, os felly, meddai yr Asyn; , ni redaf fi gam; canys pa wahaniaeth yw i mi pwy fydd fy meistr, os yr un faint fydd fy maich dan bob un.

Y mae rhyfel yn gyffredin o fwy o bwys ir llywodraethwyr nag ir deiliaid. Ni waeth y naill ormes nar llall.

__________________________________________


Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1122) (tudalen 117)

CHWEDL 137 - Y DDAU DDWFR-LESTR.
Dau Lestr, un o Brs ar llall o Bridd, a gariwyd i lawr afon ar lifeiriant. Cynghorai y Llestr Prs ei gydymaith i gadw yn ei ochr ef, ac y gwnai efe ei amddiffyn. Diolch i chwi am eich cynnyg, ebe y Llestr Pridd, ond dynar peth sydd arnaf fi fwyaf iw ofn; os cedwch chwi yn mhell oddi wrthyf, gallaf nofio i lawr yn ddiogel, ond os tarawn yn ein gilydd, myfi sydd yn sicr o ddyoddef.

Nid da ymwthio at gyfeillion galluoccach na ni, canys os digwydd ymrafael, y gwanaf a ir wal.
__________________________________________


Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1123) (tudalen 118)

CHWEDL 138 - Y LLEW AR MORHWCH.
Fel yr oedd y Llew yn rhodio ar fin y mor, fe welai Frhwch yn ymheulo ar wyneb y dwr, fei gwahoddodd i ffurfio cynghrair ag ef, Canys, meddai, gan fy mod i yn Frenin y bwystfilod, a chwithau yn Frenin y pysgod, fe ddylem fod y cyfeillion mwyaf, ar cynghreiriaid ffyddlonaf. Cydunodd y Mrhwch ar cais hwn gydar parodrwydd mwyaf; ar Llew, ychydig wedin, yn digwydd bod mewn brwydr gyda Tharw gwyllt, a alwodd ar y Morhwch am y cynnorthwy cyfammodol. Ond pan nad allai, er yn awyddus i wneyd hyny, ddim dyfod allan or mr iw helpu, cyhuddai y Llew ef o fod wedi ei fradychu ef. Na feiwch fi, ebe y Mrhwch, ond beiwch fy natur, yr hon, pa mor alluog bynag yn y mr, sydd yn hollol ddinrth ar y tir.

Doethineb wrth ddewis cyfeillion, ydyw ystyried a oes ganddynt allu, yn gystal ag ewyllys in cynnorthwyo mewn amngen.

CHWEDL 139 - YR UDGANWR YN GARCHAROR.

Udganwr, wedi ei gymmeryd yn Garcharor mewn rhyfel, a erfyniai yn daer am gael ei fywyd. Arbedwch fi, anwyl ddynion, ebe fe, ac na roddwch fi i farwolaeth heb achos, canys ni leddais I neb, ac nid oes genyf ddim arfau, ond yr Udgorn hwn yn unig. Oblegyd hyny, yn bendifaddeu, atebai y gorchfygwyr, y cewch chwi farw; canys heb fod genych wroldeb i ymladd eich hun, yr ydych yn cyffroi ereill i ymladd a chreulondeb.

Y mae yr hwn sydd yn cyffroi i amrafael, yn waeth nar hwn sydd yn cymmeryd rhan ynddo.


__________________________________________


Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1124) (tudalen 119)

CHWEDL 140 - Y CHWAREUWR AR GWLADWR.

Rhyw Dywysog cyfoethog a fwriadai ddifyru y Rhufeiniaid ag arddangosfa chwareuyddol, ac a gynnygiodd wobr i bwy bynag a ddygai rywbeth newydd allan yn y dull hwnw. Er mwyn y wobr ar clod, daeth Chwareuwyr yn mlaen o bob parth or wlad i ymdrechu am yr oruchafiaeth, ac yn eu plith daeth un ffraethwr enwog, ac a hysbysodd fod ganddo ef fath newydd o ddifyrwch, na welwyd erioed ar un chwareufwrdd or blaen. Ar ledaeniad yr hysbysiad hwn, daeth yr holl ddinas yn nghyd; nid allai y chwareudŷ ond prin gynnwys y lluaws edrychwyr, a phan ymddangosodd y Chwareuwr o flaen y dyrfa, heb fod ganddo ddim offerynau, na dim cynnorthwy-wyr, yr oedd yr edrychwyr oll yn berffaith ddistaw gan chwilfrydedd a phryder. Yn ddisymwth fe wthiodd ei ben iw fynwes, ac a ddynwaredodd fochyn bychan yn gwichian, mor naturiol, fel y mynai y bobi fod ganddo un o dan ei fantell, ac a orchymynent iddo gael ei chwilio; ond wedi gwneuthur hyny, a chael dim, hwy i llwythasant ef ar ganmoliaeth

__________________________________________


Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 1125) (tudalen 120)

uwchaf. Rhyw Wladwr yn y dorf, wrth sylwi ar yr hyn oedd yn myned yn mlaen, a ddywedodd, O, fe allaf fi wneuthur yn well na hynyna, ac a hysbysodd y byddai iddo yntau ymddangos ou blaenau dranoeth. Felly, dranoeth, fe ymgynnullodd tyrfa fwy fyth. Gan fod y bobl, er hyny, wedi eu boddhau gymmaint gan y Chwareuwr, yr oeddynt yn rhagfarnllyd yn erbyn y Gwladwr, a daethant yno, yn hytrach, iw wawdio ef, nac i roddi barn deg arno. Daeth y ddau allan ar y chwareufwrdd: darfu ir Chwareuwr wichian yn gyntaf, a derbyniwyd ef a churo dwylaw ar cymmeradwyaeth mwyaf. Yna, y Gwladwr, gan gymmeryd arno ei fod wedi cuddio mochyn bychan o dan ei wisgoedd, (ac yr oedd ganddo un hefyd, mewn gwirionedd,) a binsiodd ei glust ef, nes y gwichiodd yn iawn. Yr edrychwyr a waeddasant allan, fod y Chwareuwr wedi dynwared y mochyn yn llawer mwy naturiol, ac a hwtiasant y Gwladwr oddiar y chwareufwrdd: ond efe, iw hargyhoeddi yn eu hwyneb, a dynodd allan y mochyn byw oi fynwes, gan ddywedyd, Ac yn awr, foneddigion, gellwch weled pa fath feirniaid cywrain a galluog ydych chwi.

Y mae yn haws argyhoeddi dyn yn groes iw synwyr, nag yn groes iw ewyllys. Y mae enw mawr yn fwy dylanwadol ar lawer na gwir deilyngdod.

GWRECSAM: CYHOEDDWYD GAN HUGHES AI FAB.

_______________________________________________

2393k Ymlaen at Lyfr 2


DOLENNAU AR GYFER GWEDDILL Y GWEFAN HWN

0043c kimkat0043c
Yr iaith Gymraeg

0005k kimkat0005k
Mynegai yn nhrefn y wyddor ir hyn a geir yn y gwefan; or tudalen hwn gellir hefyd chwilior gwefan hwn r archwiliwr mewnol

0052c kimkat0052c
Testunau Cymraeg throsiad Catalaneg yn y gwefan hwn
(Textos en gal.ls amb traducci catalana en aquesta web)

1051e kimkat1051e
Testunau Cymraeg throsiad Saesneg yn y gwefan hwn
(Texts in Welsh with an English translation in this website)


Adolygiadau diweddaraf: 18 01 2003, 2006-03-18, 2006-11-08

Sumbolau arbennig: ŷ ŵ

Bler wyf i? Yr ych chin ymwld ag un o dudalennaur Gwefan CYMRU-CATALONIA
On sc? Esteu visitant una pgina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Galles-Catalunya)
We(r) m ai? Yu a(r) vzting peij frm dh CYMRU-CATALONIA (= Weilz-Katluni) Wb-sait
Where am I?
You are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website

CYMRU-CATALONIA

hit counter script
Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu les estadstiques / View My Stats