http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_063_chwedlau_aesop_glan_alun_01_2392k.htm

 

 

0001z Yr Hafan / Home Page

..........
1864k Y Fynedfa yn Gymraeg

.....................
0009k Y Gwegynllun

...............................0960k Y Gyfeirddalen i Gywaith Sin Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon)

 

............................................1729k Y Gyfeirddalen ir llyfr hwn (Chwedlau Aesop, Glan Alun)

...........................................................y tudalen hwn

 

 

baneri
..

 

 

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Galles i Catalunya


Cywaith Sin Prys Aberhonddu (Casgliad Arlein o destunau Cymraeg)
Llond y We o Ln y Brython


CHWEDLAU NEU DDAMMEGION AESOP.
Glan Alun (= Thomas Jones 1811-1866).
Gweinidog Mthodist Calfinaidd a Llenor
Blwyddyn:?

 

Tudalennau 0 - 59

 

Adolygiadau diweddaraf:
18 01 2003


Maer sylwadau sydd wedi eu hychwanegu gennym mewn llythrennau oren.

Our comments are added in orange type

_______________________________________________________________

Maer llyfr ar gael ar ffurf delwau jpeg. Yr ydym ni wedi ei rannu yn bedair.

 

 

(Clawr) Chwedlau neu Ddammegion Aesop

 

CLAWR Y LLYFR Chwedlau neu Ddamegion Aesop

 

 

 

(x0) William Pritchard

Glandwr

Rhiw Bryfdir

Blaenau Ffestiniog

Merionethshire

North Wales 1887

year

 

CEFN CLAWR BLAEN Y LLYFR Chwedlau neu Ddamegion Aesop

 

 

(x1) William P

 

Tudalen 1 / Chwedlau neu Ddamegion Aesop

 

 

 

(x2) Gwynebarlun

 

Tudalen 2 / Gwynebarlun / Chwedlau neu Ddamegion Aesop

 

 

(x3)

CHWEDLAU NEU DDAMMEGION AESOP

WEDI EU

CYFIEITHU OR ARGRAFFIADAU GOREU

YN YR IAITH SEISONIG

AU CYFADDASU IR GYMRAEG,

GAN GLAN ALUN.

WREXHAM:

ARGRAFFWYD A CHYHOEDDWYD GAN HUGHES AND SON,

56 HOPE STREET

 

Tudalen 3 / Tudalen y Teitl / Chwedlau neu Ddamegion Aesop

 

(x)4 Tudalen weili

 

(x5)

RHAGDRAITH
AR FYWYD A DAMMEGION AESOP

Mor bell ag y gellir casglu oddiwrth yr hanesion sydd yn aros am amseroedd mor foreuol, bu yr enwog Aesop fyw yn nyddiau Croesus, brenin Lydia. Yr oedd hyny oddeutu pum cant a hanner o flwyddi o flaen dechreuad y cyfnod Cristionogol, neu dros ddwy fil a thri chant o flynyddoedd yn ol. Felly y mae y cyfansoddiadau a briodolir iddo gyda yr hynaf sydd ar gael, (o rai anysbrydoledig,) oddieithr yr eiddo Homer, yr hwn y tybir iddo oesi oddeutu tri chant o flynyddoedd yn gynt nag yntau.

Dywedir iddo gael ei eni yn gaethwas; ac heb ddim amgylchiadau allanol iw ddwyn i sylw y mawrion, fe weithiodd ei ffordd drwy ei athrylith ai ddoethineb i lysoedd tywysogion; a gyrhaeddodd i ddylanwad mawr ar ei oes ; ac a osododd sylfaen i enwogrwydd mwy eang, ac fe allai mwy parhaus, nar eiddo y saith doethwyr Groeg, pa rai a gyd oesent gydag ef.

Y mae hanes a gweithiau Aesop yn esboniad ar ansawdd ac ysgogiad ei oes mewn ystyr ddeallol a chymdeithasol. Hyd y cyfnod hwnnw yr oedd hyny o wybodaeth ag oedd ya cynniwair yn mhlith

 

Tudalen 5 / Rhagdraith / Chwedlau neu Ddamegion Aesop

 

 

 

(x6) arweinwyr y bobl, yn wladol a chrefyddol, yn gynnwysedig mewn traddodiadau hanesyddol, ac mewn pennillion barddonol treigledig ar dafod leferydd o oes i oes. Nid oedd y gelfydddyd o ysgrifennu eto yn hysbys neu arferedig ond mewn cerffiadau ar gof-golofnau cyhoeddus neu deuluaidd. Gyda dechreuad y chweched ganrif o flaen Crist y dechreua cyfnod o lenyddiaeth glasurol ac ysgrifenedig. Yr oedd symudiadau mawrion yn mhlith y cenhedloedd dwyreiniol tuar pryd hwn, pa rai a dueddent yn nerthol i ddwyn allan holl alluoedd dynion. Gellir ystyried yr oes honno, ai chydmaru ar oesoedd a aethant heibio, yn oes y Doethion, ac yn oes Rhyddiaith. Yn mhlith brenhinoedd eraill, gwelodd y goludog Croesus fod gwybodaeth yn ALLU, a chasglodd oi amgylch o bob cenedl, y rhai a ennillasant enwogrwydd iddynt eu hunain am eu rhagoroldeb mewn gwybodaeth a doethineb.

Yn mhlith eraill cyrchwyd Aesop i lŷs Croesus, wedi yn gyntaf ei ryddhau o gaethwasanaeth ei feistr ladmon. Yr oedd ei glod wedi ei ragflaenu, fe allai yn fwy am ei arabedd nac am ei wybodaeth. Dygwyd ef o bossibi ir llys yn benaf i ddifyru, ond cafwyd fod doethineb mawr yn gorwedd dan ei ffraethineb, a daeth yn fuan i ffafr mawr gydar brenhin, ac i ddylanwad mawr ar y bobl. Daeth i gael ei anfon ar negeseuau ac i eistedd mewn cynnadleddau gwladwriaethol. Dywedir iddo fyned ar ryw achos cyhoeddus or fath, i ymweled ar Delphiaid, ac iddo yn nghyflawniad yr ymddiried hwnnw, ddwyn amo ei hun ddigofaint y bobl hyny, fel y bu

 

Tudalen 6 / Rhagdraith / Chwedlau neu Ddamegion Aesop

 

 

(x7) iddynt godi iw erbyn ai daflu i ddinystr dros clogwyn craig. Dywedir yn mhellach, fod plau parhaus wedi disgyn ar y fro lle y llofruddiwyd ef, a bod y Delphiaid, lawer o flynyddoedd ar ol hyny, dan boen eu profedigaethau, a chan gyhuddiadau cydwybod enog, er mwyn dyhuddo eu duwiau, wedi cyhoeddi drachefn a thrachefn, eu parodrwydd i dalu iawn am ei farwolaeth i bwy bynag a allent brofi ei hawl ir cyfryw daliad; a chan nad oedd neb arall wedi ei gleimio, eu bod wedi ei dalu i ladmon, ŵyr ir ladmon hwnw, ir hwn y bu Aesop gynt yn gaethwas. Aeth y geiriau Gwaed Aesop, yn ddiareb am oesau dyfodol, i rybuddio na wna gwaed y llofruddiedig ddim gwaeddi am ddialedd yn ofer.

Nid oes dim hanesion y gellir ymddibynu arnynt yn mhellach am fywyd Aesop, ond y mae digon o brawf fod ei eiriau yn cael eu cadw mewn bri mawr yn mhlith yr Atheniaid am oesoedd lawer; ac oddeutu dau can mlynedd ar ol ei farwolaeth cyfodwyd cf-adail iddo gan yr enwog Lysippus, yn Athen, gyda chof-adail y Saithwyr doethion.

Nid ydys i ystyried mae Aesop oedd y cyntaf oll a arferodd y dull o gyfansoddi ac addysgu a elwir yn Chwedl neu Ddammeg. Yn y dull hwn, i fesur mwy neu lai, y trosglwyddwyd i lawr wybodaeth foreuol pob cenedl or bron, or hyn lleiaf, pob cenedl Ddwyreiniol. Yr oedd tlodi iaith, fe allai, yn y dechreu cyntaf, yn gwneuthur y defnyddiad o gydmariaethau yn angenrheidiol; ac yr oedd y dull hwn o lefaru, yn taro yn gryfach ar feddyliau syml y cenedloedd boreu, ac yn gadael argraff mwy arhosol

 

Tudalen 7 / Rhagdraith / Chwedlau neu Ddamegion Aesop

 

 

(x8) ar eu cf. Yr oedd yn naturiol hefyd i bobl anwareiddiedig dynu eu cydmariaethau oddiwrth fwystfilod y maes, coed a llysiau, a golygfeydd natur: a daeth y dull hwn yn brif lwybr addysgiad y werin, yn debyg fel y bn Barddas a Thrioedd, &c., wedi hynny yn mhlith yr hen Gymry.

Yr ydym yn cael amryw ddammegion yn yr Hen Destament. Fe allai mai y chwedl neu y ddammeg hynaf oll ydyw yr hon a geir yn Llyfr Barnwyr ix. 7; am y Prenau ar Olewydden. Nid llai hynod ac effeithiol oedd dammeg Nathan yn yr 2il Samuel, 12fed bennod am Oenig fechan y gŵr tlawd, gydai chymmwysiad ofnadwy at y brenhin Dafydd, Tydi yw y gŵr!. Nid ydynt y dysgedigion yn credu fod yr holl chwedlau a gyssylltir i enw, yn gyfansoddiadau Aesop ei hun, nac ychwaith eu bod oll yn berffaith fel eu traddodwyd ganddo ef. Tybiwn, mae gwir hanes Dammegion Aesop ydyw yn debyg i hyn. Aesop oedd un or cyntaf ar mwyaf llwyddiannus yn nefnyddiad y dull hwn o gyflwyno moes wersi. Gan en bod mor darawiadol ac mor hawdd eu cofio, yr oedd ei chwedlau yn cael eu treiglo o enau i enau, au trosglwyddo i lawr o oes i oes, gydar fath gyfnewidiadau ag sydd bob amser yn sicr o gydfyned a throsglwyddiad yr anysgrifenedig. Mewn amseroedd diweddarach, ysgrifenwyr ac areithwyr a ddefnyddient y traddodiad prif-linellol or chwedl, gan ei wisgo yn eu geiriau eu hunain. Yr un pryd, yr oedd pob chwedl dda oedd yn troi i fynu mewn ymddiddan, ac heb wybod ei hawdwr, yn cael, yn bur naturiol,

 

 

Tudalen 8 / Rhagdraith / Chwedlau neu Ddamegion Aesop

 

(x9) ei phriodoli ir meistr mawr yn y dull hwn o addysgu.

Daeth poblogrwydd Chwedlau Aesop i fod yn ddiderfyn yn mhlith y Groegiaid; defnyddiai eu prif areithwyr hwynt yn eu hareithiau gwladwriaethol; trdd eu beirdd hwynt ar gn; a chyfeirir attynt yn fynych gan eu hawdwyr enwoccaf. O wahanol weithiau y rhai hyn y casglwyd y rhan fwyaf or chwedlau sydd ar gael; ac er nad ydys i gredu eu bod air yn air fel eu traddodwyd gyntaf gan eu hawdwr, eto y maent o ran ysbryd a sylwedd, or hyn lleiaf fel yr adnabyddid hwynt yn nghyfnod goreu llenyddiaeth Groeg.

Y mae amryw gasgliadau or Chwedlau hyn wedi eu cyhoeddi mewn gwahanol ieithoedd, ac y mae y cyfieithiad Cymraeg hwn wedi ei wneuthur or casgliadau diweddaraf a gorau a ymddangosodd yn yr iaith Saesonig.

Am y cymhwysiadau, gellir meddwl fod rhai or Chwedlau wedi eu llefaru ar ryw achosion neillduol, ac oherwydd hyny, y mae dyben eu traddodiad yn aneglur, ac nis gellir tynu cymhwysiad cyffredinol oddiwrthynt. Y mae llawer or cymhwysiadau a roddir yn yr argraffiad hwn wedi eu hattodi gan wahanol gasglwyr a chyhoeddwyr y Dammegion, tra y mae llawer iawn o honynt wedi eu gadael heb ddim cymhwysiad oll. Yn yr amgylchiad olaf, y mae y cyfieithydd Cymreig wedi rhoddi cymhwysiad mewn byr eiriau, gan feddwl y gwnai hyny y gwaith yn fwy cymhwys a chymmeradwy ir archwaeth Gymraeg.

 

Tudalen 9 / Rhagdraith / Chwedlau neu Ddamegion Aesop

 

(x10 tudalen weili)

 

(x11)

CYNNWYSIAD.

Rhagdraith ar Fywyd a Dammegion Aesop.

 

CHWEDLAU:

1 Llew ar Bwystfilod yn Hela.

2 Y Saethwr ar Llew.

3 Y Barcut ar Colomenod.

4 Y Llwynog ar Afr.

5 Y Blaidd ar Cryr Glas.

6 Y Frn Goeg-falch.

7 Y Morgrugyn ar Ceiliog Rhedyn.

8 Y Blaidd ar Myn.

9 Y Bachgen ar Asp.

10 Y Mynydd mewn Trafael.

11 Y Ceiliog ar Perl.

12 Yr Eryr ar Llwynog.

13 Yr Hydd ai Mam.

14 Y Weddw ar Ir.

15 Y Llwynog ar Llew

16 Y March ar Marchwas.

17 Yr Hen Gi.

18 Y Dyn ar Neidr.

19 Y Llygoden ar Llyffant

20 Y Pysgottwr yn canur Bibell.

21 Y Dyn ar Gwyddau.

22 Y Ci ar Cysgod.

23 Y Lleuad ai Mam.

24 Y Blaidd ar Oen.

25 Y Gwybed ar Pot Ml.

26 Yr Olwynion yn Gwichian.

27 Yr Arth ar Llwynog.

28 Y Ddwy Waled.

29 Llygoden y Wlad a Llygoden y Dref.

30 Yr Eryr ar Ceiliogod.

 

Tudalen 11 / Cynnwysiad / Chwedlau neu Ddamegion Aesop

 

 

(x12)

CYNNWYSIAD.

31 Y Llew ar Llygoden.

32 Y Ci, y Ceiliog ar Llwynog.

33 Yr Hen Wraig ar Gwin-lestr.

34 Y Ci ar Blaidd.

35 Y Llyffant ar Ych.

36 Y Carw claf.

37 Y Wylan ar Barcud.

38 Yr Ysgyfarnog ar Crwban.

39 Y Crwban ar Eryr.

40 Y Bachgen ar Blaidd.

41 Yr Oen ar Blaidd.

42 Yr Ir ar Gath.

43 Y Llew ar Teirw.

44 Y Llwynog ar Coediwr.

43 Y Fran ar Piser.

46 Yr Ewig Unllygeidiog.

47 Y Bol ar Aelodau.

48 Y Grangc ai Mam.

49 Y Teithiwr ar Arth.

50 Y Llew, yr Asyn, ar Llwynog.

51 Y Carw yn Ystol yr Ych.

52 Y Bachgen a Thynged.

53 Y Morhwch ar Penwygyn.

54 Y Ffinidwydden ar Fieren.

55 Y Glowr ar Panwr.

56 Y Llew mewn Cariad.

57 Y Gwynt ar Haul.

58 Y Ffermwr ai Feibion.

59 Y Preniau ar Fwyall.

60 Yr Asyn ar Ci Bach.

61 Y Golomen ar Fran.

62 Y Llew ar Llwynog.

63 Iau ar Camel.

64 Y Dyn dall ar Cenaw.

65 Y Twrch daear ai fam.

66 Yr Asyn ar Ceiliog Rhedyn.

67 Erclwff ar Gwagenwr.

68 Y Llwynog a gollodd ei Gynffon.

69 Yr hen Wraig ar Meddyg.

70 Yr Ysgyfarnogod ar Llyffaint.

71 Y Pysgottwr ar Pysgodyn bychan.

72 Y Ffermwr ar Chwibon.

73 Yr Epa ar Carmel.

 

Tudalen 12 / Cynnwysiad / Chwedlau neu Ddamegion Aesop

 

 

 

(x13)

CYNNWYSIAD.

74 Y Mul.

75 Y Llewes.

76 Y Bwrniad o Ffyn.

77 Y Dyn ar Llew.

78 Y Fammaeth ar Blaidd.

79 Yr Epa ar Morhwch.

80 Y March ar Carw.

81 Y Blaidd ar Defaid.

82 Y Weddw ar Ddafad.

83 Y Ci ai Feistr.

84 Y Ci Sarug.

85 Yr Adalwr ar Ehedydd.

86 Y Wenol ar Gigfran.

87 Y Ganwyll Ffyrling.

88 Y Bugail ar Tarw colledig.

89 Y Dyn a frathwyd gan Gi.

90 Y Teithwyr ar Blanwydden.

91 Y Dderwen ar Gorsen.

92 Y Wiber ar Ddurlif.

93 Mercher ar Coediwr.

94 Y Bleiddiaid ar Defaid.

95 Y Llwynog ar Grawnin.

96 Yr Eryr ar Saeth.

97 Y Ci yn y Preseb.

98 Y Gwybedyn ar Ych.

99 Iau, Neptune, Minerva, a Momua.

100 Y Lleidr ai Fam.

101 Priodas yr Haul.

102 Y Gath ar Llygod.

103 Y Llew ai dri Chynghorwr.

104 Y Forwyn ai Phiser Llaeth.

105 Yr Ychain ar Cigyddion.

106 Y Ffermwr ar Garanod.

107 Y Meddyg ar Claf.

108 Y Llygod mewn ymgynghorfa.

109 Y Llew ar Afr.

110 Yr Wydd ar Wyau Aur.

111 Y Pomgranad, yr Afal, ar Fieren.

112 Y Ci a Wahoddwyd i Swper.

113 Y Bugail ar Geifr.

114 Y Pysgottwr.

115 Y Llyffaint yn deisyf am Frenin.

116 Yr Asyn ai Feistriaid.

 

Tudalen 13 / Cynnwysiad / Chwedlau neu Ddamegion Aesop

 

 

 

(x14)

CYNNWYSIAD.

117 Y Lleidr ar Ci.

118 Yr Ysgyfarnog ar Bytheuad.

119 Yr Heliwr ar Pysgottwr.

120 Iau ar Wenynen.

121. Yr Ehedydd ai rhai bychain.

122 Y Teithiwr ymffrostgar.

123 Y Llyffant ar Teirw.

124 Y Llew ar Asyn yn Hela.

125 Yr Adar, y Bwystfilod, ar Ystlum.

126 Y Llwynog ar Draenog.

127 Y Blaidd ar Bugail.

128 Y Teithwyr ar Fwyall.

129 y Llygod ar Bronwenod.

130 Y Bachgen ar Danadl.

131 Y Barcud Claf.

132 Yr Eryr ar Fran.

133 Yr Asyn ai Yrwr.

134 Yr hen Wr ac Angau.

135 Yr Adarwr ar Betrusen.

136 Yr Asyn Synwyrol.

137 Y ddau Ddwfr-lestr.

138 Y Llew ar Morhwch.

189 Yr Udganwr yn Garcharor.

140 Y Chwareuwr ar Gwladwr.

 

Tudalen 14 / Cynnwysiad / Chwedlau neu Ddamegion Aesop

 

 

(x15)

CHWEDLAU AESOP

 

CHWEDL l. - Y LLEW AR BWYSTFILOD YN HELA.

Gwnaeth Llew ar Bwystfilod gytundeb i fyned allan i Hela. Wedi dal carw tew, gwnaeth y Llew ei hun yn farnwr; ac wedi rhanu yr ysglyfaeth yn dair rhan, dywedodd, Y rhan gyntaf, sydd eiddof fi yn swyddol, fel barnwr ; yr ail ran, yr wyf yn ei chymmeryd fel fy rhan bersonol or ysglyfaeth; ac am y drydedd ran cymmered y neb a feiddia ef.

 

Gobaith gwan sydd ir gwan am gyfiawnder mewn cytundeb gydar cryf, yn enwedig os na bydd o egwyddor dda.

 

Tudalen 15 / Y Llew a'r Bwystfilod yn hela / Chwedlau neu Ddamegion Aesop

 

(x16)

CHWEDL 2.Y SAETHWR AR LLEW.

Aeth gŵr, yr hwn oedd yn dra medrus gydai fwa ai saeth i fynu ir mynyddoedd i hela. Pan ganfyddwyd ef yn agoshau, ffdd yr holl fwystfilod ymaith mewn braw ac arswyd. Y Llew yn unig a ddangosodd duedd iw wrthsefyll. Arhoswch, ebe , y Saethwr wrtho, a derbyniwch genadwr oddiwrthyf, y mae ganddo rywbeth iw ddywedyd wrthych. Gyda hyny, fe ollyngodd ei saeth at y Llew, ac ai harchollodd yn ei ystlys. Y Llew yna, yn arteithiedig gan boen, a ddiangodd i ganol y goedwig. Rhyw Lwynog, wrth ei weled yn ffoi, a archodd arno ymwroli, a gwynebu y gelyn. Na, atebai y Llew, nid ellwch fy mherswadio I i hyny; oblegid os yw y genad a anfona mor llym, pa beth a raid fod gallu yr hwn ai hanfonodd?

 

Nid yw gwroldeb heb bwyll ond rhyfyg. Nid yw nerth corph ddim wrth wrth meddwl.

 

 

Tudalen 16 / Y Saethwr a'r Llew  / Chwedlau neu Ddamegion Aesop

 

(x17)

CHWEDL 3 - Y BARCUD AR COLOMENOD.

Yr oedd haid o Golomenod wedi byw yn hir mewn arswyd parhaus rhag Barcud, ond wrth fod bob amser ar eu gwiliadwriaeth, a chadw yn agos at y Colomendy, llwyddasant am dymhor maith i ddiangc rhag ymosodiadau y gelyn. Wrth weled fod ei ymdrechion yn aflwyddiannus, trodd y Barcud i ddefnyddio dichell. Paham, meddai, yr ydych yn dewis byw fel hyn mewn ofn parhaus, pan, os gwnewch ond yn unig fy nghymmeryd I yn frenm arnoch, gwnawn I eich cadw yn ddiogel rhag pob ymosodiad a ellid ei wneuthur arnoch? Y Colomenod, gan ymddired yn ei addewidion, ai galwasant ir orsedd; ond nid cynt yr oedd wedi ei sefydlu ynddi, nag y dechreuodd ddefnyddio ei allu i ysglyfaethu Colomen bob dydd. Ar hyny, ebe un Golomen oedd yn disgwyl ei thynged hithau, Nid yw hyn ond yr hyn a haeddasom am ein ffolineb.

 

Pwy bynag a roddant allu yn wirfoddol yn llaw gormeswr neu elyn, ni ddylent ryfeddu os trow ef (yn y) diwedd yn eu herbyn hwy eu hunain.

 

 

Tudalen 17 / Y Barcus a'r Colomenod / Chwedlau neu Ddamegion Aesop

 

(x18)

CHWEDL 4. Y LLWYNOG AR AFR.

Yr oedd Llwynog wedi syrthio i mewn i ffynnon ddofn, ac er ymdrechu yn mhob modd, yn methu dringo allan o honi. Dygwyddodd i Afr ddyfod ir fan, a chan ei bod yn sychedig, gofynodd ir Llwynog, A oedd y dwfr yn dda, ac a oedd yno ddigon o hono? Y Llwynog, heb gymmeryd arno ei fod mewn helbul, a atebodd, Dowch i lawr, gyfaill, mae y dwfr mor dda fel na allaf roi heibio ei yfed, ac y mae cyflawnder dihysbydd o hono. Ar hyn neidiodd yr Afr i mewn heb ychwaneg o ystyriaeth; ar Llwynog gan gymmeryd mantais o gyrn ei gyfaill, a neidiodd allan yn y fan; a dywedai yn bur bwyllog wrth yr Afr druan, Pe buasai genych banner gymmaint o ymenydd ag sydd genych o farf, buasech wedi edrych och blaen cyn neidio.

 

Y mae cynghor y dichellgar yn beryglus.

 

 

Tudalen 18 / Y Llwynog a'r Afr / Chwedlau neu Ddamegion Aesop

 

 

(x19)

CHWEDL 5. - Y BLAIDD AR CRYR GLAS.

Fel yr oedd Blaidd yn rheibus ymborthi ar ei ysglyfaeth, digwyddodd yn ei wangc, i asgwrn lynu yn ei wddf. Parai hyn y fath boen iddo, fel y rhedai gan udo at bawb oi amgylch, gan addaw gwobr dda i bwy bynag ai gwaredai oi ofid. Y Cryr Gls, wrth glywed am y wobr, a anturiodd ei wddf hir-fain i enau y Blaidd, ac a dynnodd yr asgwrn ymaith. Yna gofynai yn wylaidd am y wobr addawedig am y gymmwynas; ir hyn yr atebai y Blaidd, gan wenu, a dangos ei ddannedd, Greadur anfoddog, onid yw yn ddigon o wobr i ti, fod dy ben wedi bod rhwng fy nannedd, ath fod wedi ei gael allan yn ddiogel?

 

Y rhai a wnant gymmwynas yn unig er mwyn y wobr, yn enwedig i ddynion drwg, ni dddylent ryfeddu os cant weithiau eu siomi, a derbyn mwy o sarhad nac o ddiolch am eu trafferth.

 

Tudalen 19 / Y Blaidd a'r Cryr Glas / Chwedlau neu Ddamegion Aesop

 

 

 

(x20)

CHWEDL 6. Y FRAN GOEG-FALCH.

Yr oedd rhyw Fran mor falch a chwyddedig fel yr anfoddlonai iw chylch ai gwisg naturiol; felly fe gasglodd y plu a syrthient oddiwrth y Paunod, ac au gosododd yn mhlith ei phlu ei hunan ; ac yna, gan ddiystyru ei hen gymdeithion, hi a gynnigiodd ei hun yn dra hyderus i gyfeillach yr adar prydferth hyny. Y Paunod, gan ganfod ar unwaith y twyll hunanol, ai diosgasant yn y fan or plu benthyciedig, a, chan ymosod arni u pigau, ai gyrasant yn ddigllawn ou plith. Y Frn benffol, mewn poen a gofid. a ddychwelodd at ei thylwyth ei hun, ac a fynai gymdeithasu gyda hwynt drachefn, fel pe na buasai dim wedi digwydd. Ond y rhai hyny, wrth gofio am ei dirmyg o honynt gynt, ni fynent ei derbyn yn ol, eithr hwy au curasant ymaith ou plith, gan ddywedyd wrthi, Pe buaset wedi boddloni ir hyn yth wnaethpwyd gan natur, buasit wedi diangc rhag ceryddon dy well, a rhag dirmyg dy gydradd, ond yn awr ti a ddygaist arnat dy hun atgasedd pawb.

 

Pwy bynag a geisia ymddyrchafu trwy dwyll, ac ar draul rhagoriaethau benthyciedig, a syrth yn is yn y pen draw.

 

Tudalen 20 / Y Fran Goeg-falch / Chwedlau neu Ddamegion Aesop

 

 

(x21)

 

CHWEDL 7. Y MORGRUGYN AR CEILIOG RHEDYN.

Ar ddiwrnod rhewllyd yn y gauaf yr oedd Morgrugyn yn lluisgo allan ychydig ŷd a drysorasai yn yr hf, iw sychu yn yr awyr agored. Ceiliog Rhedyn, a ddigwyddasai oroesi yr hf, ac oedd yn awr bron marw o newyn, a daer erfyniai ar y Morgrugyn i roddi iddo un gronyn iw gadw yn fyw. Atolwg, meddai y Morgrugyn wrtho, pa beth a fuoch chwi yn ei wneyd trwy yr hf diweddaf? O! atebai y Ceiliog Rhedyn, nid oeddwn yn segura, bum yn canu ar hyd yr hf. Ai, ebe y Morgrugyn, gan chwerthin a chau ei ystordy, os gallasoch ganu ar hyd yr hf, galiwch ddawnsio ar hyd y gauaf

 

Y gauaf ddwg allan yr hyn y mae yr hf wedi ei hebgor. Mewn ieuengctyd ac iechyd y mae darparu ar gyfer henaint ac afiechyd.

 

Tudalen 21 / Y Morgrugyn a'r Ceiliog Rhedyn / Chwedlau neu Ddamegion Aesop

 

(x22) CHWEDL 8.Y BLAIDD AR MYN.

Myn Gafr yn sefyll ar ben tŷ uchel, a ganfu Flaidd yn pasio heibio isod, ac a ddechreuodd ei senu. Ni wnaeth y Blaidd ond edrych arno, a dyweyd, Y cachgi gwael! nid tydi sydd yn fy nifrio, ond y lle yr ydwyt yn sefyll arno.

 

Y rhai a ymosodant ar gymmeriadau, pan y gallant wneyd hyny yn ddigerydd, y distadlaf o ddynion ydynt.

 

CHWEDL 9. Y BACHGEN AR ASP.

Yr oedd bachgen yn chwilio am Lindŷs ar fur, ac wedi dal llawer iawn o honynt; pan y gwelodd Asp, ac ai cam gymmerodd am Lindysen. Yr oedd yn agor ei law iw dal, pan y dywedai yr Asp, gan estyn allan ei cholyn, gwynfyd na buasech wedi cydio ynof, canys buaswn yn fuan yn peri i chwi fy ngollwng I yn rhydd, ar Lindys hefyd.

 

Trwy fentro gormod yn ei anwyhodaeth, y mae aml un un wedi colli yr hyn oedd ganddo, a chael mawr ofid yn y fargen.

 

Tudalen 22 / Y Blaidd a'r Myn / Chwedlau neu Ddamegion Aesop

 

 

(x23) CHWEDL 10. Y MYNYDD MEWN TRAFAEL.

Yn yr hen amser gynt fe glywyd rhyw dwrw dirfawr oddifewn i Fynydd. Aeth y gair ar led ei fod mewn. trafael; ac ymgynnullodd Iluaws mawr o bobi o bell ac agos, i gael gweled ar ba beth yr esgorai y mynydd. Ar ol maith ddisgwyliad, a llawer o dybiau doethion gan yr edrychwyr, daeth allan o grombil y Mynydd. LYGODEN!

 

Addewidion a honiadau mawrion yn dibenu mewn cyflawniadau bychain.

 

CHWEDL 11. Y CEILIOG AR PERL.

Fel yr oedd Ceitiog yn crafu ar domeri, mewn buarth ffarm, i chwilio am ymborth ir ieir, digwyddodd iddo droi i fynu Berl disglaer a syrthiasai yno trwy ryw ddamwain. Hollo, ebe fe, yr ydych chwi yn rhywbeth gwych iawn, maen ddiau, ir rhai a allant eich prisio; ond rhowch i mi ronyn o haidd o flaen holl berlau y byd.

 

Nid oes dim yn wir werthfawr i un, oni all ei ddefnyddio; ond gwaith ffol ydyw diystyru dim, yn unig am nad ydym yn eu ddeall.

 

Tudalen 23 / Y Mynydd mewn Trafael / Chwedlau neu Ddamegion Aesop

 

(x24)

CHWEDL 13. YR ERYR AR LLWYNOG.

Yr oedd Eryr a Llwynog wedi byw am dymhor maith yn gymmydogion agos a heddychlawn; yr Eryr ar ben uchaf pren mawr, ar Llwynog mewn twll wrth ei wraidd ef. Er hyny, un diwrnod, pan oedd y Llwynog oddicartref, gwnaeth yr Eryr ymosodiad ar genaw y Llwynog, ac ai cipiodd i fyny iw nyth, gan feddwl fod ei thrigfan mor uchel, fel nad allai y Llwynog byth ei niweidio. Y Llwynog, ar ei ddychweliad adref, a gwynodd yn fawr oblegyd angharedigrwydd yr Eryr; ac a daer erfyniodd am ddychweliad y bychan; ond wrth weled nad oedd ei erfyniadau yn tycio, fe gipiodd bentewyn oddiar allor a gynneuasid gerllaw, ac yn fuan yr oedd y pren oll mewn mwg a thn. Dychwelodd yr Eryr yn ddioed, er mwyn ei bywyd ei hun ai phlant, y cenaw, a wrthodasai ei ildio i erfyniadau a daerau y

Llwynog.

 

Y mae bygythion, yn gyffredin, yn fwy effeithiol gyda gormeswyr neu erfyniadau a dagrau.

 

Tudalen 23 / Yr Eryr a'r Llwynog / Chwedlau neu Ddamegion Aesop

(x25) CHWEDL 13. YR HYDD AI FAM.

 

Dywedai Hydd ieuangc ryw ddydd wrth ei mam, Fy mam, yr ydych yn fwy nar ci, yn gyflymach, ac yn well eich gwynt, ac y mae genych gyrn ich hamddlffyn eich hun; pa beth yw yr achos, gan hynny, fod arnoch gymmaint o ofn y cwn? Gwenai yr hen fam, ac atebai, Mi a wn hyn i gyd yn bur dda, fy mhlentyn, ond eto, nid cynt y clywaf gyfarthiad ci, na bydd fy nhraed rywfodd yn fy nghipio i ffordd yn gynted ag y gallant.

 

Nis gellir ymresymu yr ofnus i wrolder.

 

CHWEDL 14 Y WEDDW AR IAR.

Yr oedd gan wraig weddw Ir, yr hon a ddodwyai iddi un wy bob boreu. Dywedai y weddw ynddi ei hin - Os rhoddaf ddwywaith gymmaint o haidd iddi, hi a ddodwya ddwywaith yn y dydd. Hi a dreiodd y plan, ac aeth yr Ir mor dew a graenus fel na ddodwyodd ddim oll!

 

Nid yw ffeithiau bob amser yn ateb i ffigyrau.

 

Tudalen 25 / Yr Hydd a'i Mam / Chwedlau neu Ddamegion Aesop

 

(x26)

CHWEDL 15.Y LLWYNOG AR LLEW.

Y tro cyntaf y gwelodd Llwynog Lew, fe syrthiodd wrth ei draed, ac yr oedd yn mron marw gan arswyd. Yr ail dro, er ei fod eto yn lled ofnus, eto fe a ymwrolodd gymmaint fel y mentrodd edrych arno. Y trydydd tro, fe aeth mor hyf, fel yr aeth ac ai cyfarchodd ef, gan ofyn iddo, Pa sut yr oedd ef?

 

Y mae cynnefino pheryglon yn gwneyd dynion yn rhyfygus. Gorchest ydyw ymddwyn tuag at ein huchafiaid, heb fod yn wasaidd ar y naill law, nac yn or-hyf ar y llaw arall.

 

CHWEDL 16. Y MARCH AB MARCHWAS.

Arferai rhyw Farchwas ddwyn a gwerthu ceirch y ceffyl, ond yr oedd yn dra diwyd yn ei lanhau ai ysgrafellu ar hyd y dydd. Os mynech i mi, mewn gwirionedd, edrych yn dda, meddai y March, rhoddwch i mi lai och ysgrafell, a mwy och ŷd.

 

Ceir gan rai fwy o foesgarwch nac o gymmwynasgarwch a chyfiawnder.

 

Tudalen 26 / Y Llwynog a'r Llew / Chwedlau neu Ddamegion Aesop

 

(x27)

CHWEDL 17. YR HEN GI.

Ci, yr hwn a fuasai yn un da iawn yn ei amser, ac a wnaethasai-wasanaeth mawr iw feistr yn ei helw-iaeth, oedd or diwedd yn pallu gan bwysau blynyddoedd meithion, a llafur caled. Rhyw ddiwrnod, pan yn hela y baedd gwyllt, efe a gydiodd.yn y bwystfil gerfydd ei glust, ond ymollyngodd ei ddannedd, a gorfu iddo ollwng ei afael, a diangodd y baedd. Ar hyn, daeth yr heliwr i fynu, ac ai dwrdiodd yn llym, Ond atebai yr hen Gi egwan iddo, Arbedwch eich hen was! Cofiwch mai fy ngallu, ac nid fy ewyllys a ballodd. Byddai yn harddach i chwi ystyried yr hyn a fum, na fy ngheryddu am yr hyn ydwyf.

 

Dylid gwneyd gwahaniaeth rhwng difyg ewyllys a diffyg gallu. Ni ddylid anghofio hen gymmwynasau.

 

Tudalen 23 / Yr Hen Gi / Chwedlau neu Ddamegion Aesop

 

 

 

.......................

29

 

.......................

30

 

.......................

31

 

.......................

32

 

.......................

33

 

.......................

34

 

.......................

35

 

.......................

36

 

.......................

37

 

.......................

38

 

.......................

39

 

.......................

40 - 1045

 

.......................

41

 

.......................

42

 

.......................

43

 

.......................

44

 

.......................

45

 

.......................

46

 

.......................

47

 

.......................

48

 

.......................

49

 

.......................

50

 

.......................

51

 

.......................

52

 

.......................

53

 

.......................

54

 

.......................

55

 

.......................

56

 

.......................

57

 

.......................

58

 

.......................

59

 

.......................

 

Gweler rhan 2 2393k

 



DOLENNAU AR GYFER GWEDDILL Y GWEFAN HWN

0043c kimkat0043c
Yr iaith Gymraeg

0005k kimkat0005k
Mynegai yn nhrefn y wyddor ir hyn a geir yn y gwefan; or tudalen hwn gellir hefyd chwilior gwefan hwn r archwiliwr mewnol

0052c kimkat0052c
Testunau Cymraeg throsiad Catalaneg yn y gwefan hwn
(Textos en gal.ls amb traducci catalana en aquesta web)

1051e kimkat1051e
Testunau Cymraeg throsiad Saesneg yn y gwefan hwn
(Texts in Welsh with an English translation in this website)

 

Sumbolau arbennig: ŷ ŵ

Bler wyf i? Yr ych chin ymwld ag un o dudalennaur Gwefan CYMRU-CATALONIA
On sc?
Esteu visitant una pgina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Galles-Catalunya)
We(r) m ai? Yu a(r) vzting peij frm dh CYMRU-CATALONIA (= Weilz-Katluni) Wb-sait
Where am I?
You are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website

CYMRU-CATALONIA

 

Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu les estadstiques / View My Stats