kimkat2786k Chwedlau Neu Ddammegion Aesop. Glan Alun (= Thomas Jones 1811-1866). Gweinidog Méthodist Calfinaidd a Llenor.

 
07-10-2018

 

● kimkat0001 Yr Hafan www.kimkat.org
● ● kimkat2001k Y Fynedfa Gymraeg www.kimkat.org/amryw/1_gwefan/gwefan_arweinlen_2001k.htm
● ● ● kimkat0960k Mynegai i’r testunau Cymraeg yn y wefan hon www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_mynegai_0960k.htm

● ● ● ● kimkat1725k Y Gyfeirddalen i Chwedlau Neu Ddammegion Aesop www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_063) (chwedlau_aesop_glan_alun_cyfeirddalen_1729k.htm

● ● ● ● ● kimkat2786k Y tudalen hwn

 

 

baneri
..

 

 

 

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Gal·les i Catalunya


Cywaith Siôn Prys Aberhonddu (Casgliad Arlein o destunau Cymraeg) “Llond y We o Lên y Brython”

CHWEDLAU NEU DDAMMEGION AESOP.


Glan Alun (= Thomas Jones 1811-1866).
Gweinidog Méthodist Calfinaidd a Llenor

Blwyddyn: 1850

 

Tudalennau 0-126

 

6665_map_cymru_catalonia_llanffynhonwen_chirbury_070404


(delwedd 6665)

 

 
.....

 

 


(delwedd 1006) (clawr_lliw)

(Clawr) Chwedlau neu Ddammegion Aesop


 

 


(delwedd 1007) (tudalen 000_william-pritchard)

(x0) William Pritchard
Glandwr
Rhiw Bryfdir
Blaenau Ffestiniog
Merionethshire
North Wales 1887
year


 

 


(delwedd 1008) (tudalen 001_william-p)

(x1) William P


 

 


(delwedd 1009) (tudalen 002_gwynebarlun)

(x2) Gwynebarlun


 

 


(delwedd 1010) (tudalen 003_teitl)

(x3)
CHWEDLAU NEU DDAMMEGION AESOP
WEDI EU
CYFIEITHU O’R ARGRAFFIADAU GOREU
YN YR IAITH SEISONIG
A’U CYFADDASU I’R GYMRAEG,
GAN GLAN ALUN.
WREXHAM:
ARGRAFFWYD A CHYHOEDDWYD GAN HUGHES AND SON,
56 HOPE STREET


 

 


(delwedd 1011) (tudalen 005_rhagdraith-1)

(x5)
RHAGDRAITH
AR FYWYD A DAMMEGION AESOP

Mor bell ag y gellir casglu oddiwrth yr hanesion sydd yn aros am amseroedd mor foreuol, bu yr enwog Aesop fyw yn nyddiau Croesus, brenin Lydia. Yr oedd hyny oddeutu pum cant a hanner o flwyddi o flaen dechreuad y cyfnod Cristionogol, neu dros ddwy fil a thri chant o flynyddoedd yn ol. Felly y mae y cyfansoddiadau a briodolir iddo gyda yr hynaf sydd ar gael, (o rai anysbrydoledig,) oddieithr yr eiddo Homer, yr hwn y tybir iddo oesi oddeutu tri chant o flynyddoedd yn gynt nag yntau.

Dywedir iddo gael ei eni yn gaethwas; ac heb ddim amgylchiadau allanol i’w ddwyn i sylw y mawrion, fe weithiodd ei ffordd drwy ei athrylith a’i ddoethineb i lysoedd tywysogion; a gyrhaeddodd i ddylanwad mawr ar ei oes ; ac a osododd sylfaen i enwogrwydd mwy eang, ac fe allai mwy parhaus, na’r eiddo y saith doethwyr Groeg, pa rai a gyd oesent gydag ef.

Y mae hanes a gweithiau Aesop yn esboniad ar ansawdd ac ysgogiad ei oes mewn ystyr ddeallol a chymdeithasol. Hyd y cyfnod hwnnw yr oedd hyny o wybodaeth ag oedd ya cynniwair yn mhlith


 

 


(delwedd 1012) (tudalen 006_rhagdraith-2)

(x6) arweinwyr y bobl, yn wladol a chrefyddol, yn gynnwysedig mewn traddodiadau hanesyddol, ac mewn pennillion barddonol treigledig ar dafod leferydd o oes i oes. Nid oedd y gelfydddyd o ysgrifennu eto yn hysbys neu arferedig ond mewn cerffiadau ar gof-golofnau cyhoeddus neu deuluaidd. Gyda dechreuad y chweched ganrif o flaen Crist y dechreua cyfnod o lenyddiaeth glasurol ac ysgrifenedig. Yr oedd symudiadau mawrion yn mhlith y cenhedloedd dwyreiniol tua’r pryd hwn, pa rai a dueddent yn nerthol i ddwyn allan holl alluoedd dynion. Gellir ystyried yr oes honno, a’i chydmaru a’r oesoedd a aethant heibio, yn oes y Doethion, ac yn oes Rhyddiaith. Yn mhlith brenhinoedd eraill, gwelodd y goludog Croesus fod gwybodaeth yn ALLU, a chasglodd o’i amgylch o bob cenedl, y rhai a ennillasant enwogrwydd iddynt eu hunain am eu rhagoroldeb mewn gwybodaeth a doethineb.

Yn mhlith eraill cyrchwyd Aesop i lŷs Croesus, wedi yn gyntaf ei ryddhau o gaethwasanaeth ei feistr ladmon. Yr oedd ei glod wedi ei ragflaenu, fe allai yn fwy am ei arabedd nac am ei wybodaeth. Dygwyd ef o bossibi i’r llys yn benaf i ddifyru, ond cafwyd fod doethineb mawr yn gorwedd dan ei ffraethineb, a daeth yn fuan i ffafr mawr gyda’r brenhin, ac i ddylanwad mawr ar y bobl. Daeth i gael ei anfon ar negeseuau ac i eistedd mewn cynnadleddau gwladwriaethol. Dywedir iddo fyned ar ryw achos cyhoeddus o’r fath, i ymweled a’r Delphiaid, ac iddo yn nghyflawniad yr ymddiried hwnnw, ddwyn amo ei hun ddigofaint y bobl hyny, fel y bu


 

 


(delwedd 1013) (tudalen 007_rhagdraith-3)

(x7) iddynt godi i’w erbyn a’i daflu i ddinystr dros clogwyn craig. Dywedir yn mhellach, fod pläau parhaus wedi disgyn ar y fro lle y llofruddiwyd ef, a bod y Delphiaid, lawer o flynyddoedd ar ol hyny, dan boen eu profedigaethau, a chan gyhuddiadau cydwybod enog, er mwyn dyhuddo eu duwiau, wedi cyhoeddi drachefn a thrachefn, eu parodrwydd i dalu iawn am ei farwolaeth i bwy bynag a allent brofi ei hawl i’r cyfryw daliad; a chan nad oedd neb arall wedi ei gleimio, eu bod wedi ei dalu i ladmon, ŵyr i’r ladmon hwnw, i’r hwn y bu Aesop gynt yn gaethwas. Aeth y geiriau “Gwaed Aesop,” yn ddiareb am oesau dyfodol, i rybuddio na wna gwaed y llofruddiedig ddim gwaeddi am ddialedd yn ofer.

Nid oes dim hanesion y gellir ymddibynu arnynt yn mhellach am fywyd Aesop, ond y mae digon o brawf fod ei eiriau yn cael eu cadw mewn bri mawr yn mhlith yr Atheniaid am oesoedd lawer; ac oddeutu dau can mlynedd ar ol ei farwolaeth cyfodwyd côf-adail iddo gan yr enwog Lysippus, yn Athen, gyda chof-adail y Saithwyr doethion.

Nid ydys i ystyried mae Aesop oedd y cyntaf oll a arferodd y dull o gyfansoddi ac addysgu a elwir yn “Chwedl” neu “Ddammeg.”‘ Yn y dull hwn, i fesur mwy neu lai, y trosglwyddwyd i lawr wybodaeth foreuol pob cenedl o’r bron, o’r hyn lleiaf, pob cenedl Ddwyreiniol. Yr oedd tlodi iaith, fe allai, yn y dechreu cyntaf, yn gwneuthur y defnyddiad o gydmariaethau yn angenrheidiol; ac yr oedd y dull hwn o lefaru, yn taro yn gryfach ar feddyliau syml y cenedloedd boreu, ac yn gadael argraff mwy arhosol


 

 


(delwedd 1014) (tudalen 008_rhagdraith-4)

(x8) ar eu côf. Yr oedd yn naturiol hefyd i bobl anwareiddiedig dynu eu cydmariaethau oddiwrth fwystfilod y maes, coed a llysiau, a golygfeydd natur: a daeth y dull hwn yn brif lwybr addysgiad y werin, yn debyg fel y bn Barddas a Thrioedd, &c., wedi hynny yn mhlith yr hen Gymry.

Yr ydym yn cael amryw ddammegion yn yr Hen Destament. — Fe allai mai y chwedl neu y ddammeg hynaf oll ydyw yr hon a geir yn Llyfr Barnwyr ix. 7; am y “Prenau a’r Olewydden.” Nid llai hynod ac effeithiol oedd dammeg Nathan yn yr 2il Samuel, 12fed bennod am “Oenig fechan y gŵr tlawd,” gyda’i chymmwysiad ofnadwy at y brenhin Dafydd, “Tydi yw y gŵr!”. Nid ydynt y dysgedigion yn credu fod yr holl chwedlau a gyssylltir â’i enw, yn gyfansoddiadau Aesop ei hun, nac ychwaith eu bod oll yn berffaith fel eu traddodwyd ganddo ef.
Tybiwn, mae gwir hanes Dammegion Aesop ydyw yn debyg i hyn. Aesop oedd un o’r cyntaf a’r mwyaf llwyddiannus yn nefnyddiad y dull hwn o gyflwyno moes wersi. Gan en bod mor darawiadol ac mor hawdd eu cofio, yr oedd ei chwedlau yn cael eu treiglo o enau i enau, a’u trosglwyddo i lawr o oes i oes, gyda’r fath gyfnewidiadau ag sydd bob amser yn sicr o gydfyned a throsglwyddiad yr anysgrifenedig. Mewn amseroedd diweddarach, ysgrifenwyr ac areithwyr a ddefnyddient y traddodiad prif-linellol o’r chwedl, gan ei wisgo yn eu geiriau eu hunain. Yr un pryd, yr oedd pob chwedl dda oedd yn troi i fynu mewn ymddiddan, ac heb wybod ei hawdwr, yn cael, yn bur naturiol,


 

 


(delwedd 1015) (tudalen 009_rhagdraith-5)

(x9) ei phriodoli i’r meistr mawr yn y dull hwn o addysgu.

Daeth poblogrwydd Chwedlau Aesop i fod yn ddiderfyn yn mhlith y Groegiaid; defnyddiai eu prif areithwyr hwynt yn eu hareithiau gwladwriaethol; trôdd eu beirdd hwynt ar gân; a chyfeirir attynt yn fynych gan eu hawdwyr enwoccaf. O wahanol weithiau y rhai hyn y casglwyd y rhan fwyaf o’r chwedlau sydd ar gael; ac er nad ydys i gredu eu bod air yn air fel eu traddodwyd gyntaf gan eu hawdwr, eto y maent o ran ysbryd a sylwedd, o’r hyn lleiaf fel yr adnabyddid hwynt yn nghyfnod goreu llenyddiaeth Groeg.

Y mae amryw gasgliadau o’r Chwedlau hyn wedi eu cyhoeddi mewn gwahanol ieithoedd, ac y mae y cyfieithiad Cymraeg hwn wedi ei wneuthur o’r casgliadau diweddaraf a gorau a ymddangosodd yn yr iaith Saesonig.

Am y cymhwysiadau, gellir meddwl fod rhai o’r Chwedlau wedi eu llefaru ar ryw achosion neillduol, ac oherwydd hyny, y mae dyben eu traddodiad yn aneglur, ac nis gellir tynu cymhwysiad cyffredinol oddiwrthynt. Y mae llawer o’r cymhwysiadau a roddir yn yr argraffiad hwn wedi eu hattodi gan wahanol gasglwyr a chyhoeddwyr y Dammegion, tra y mae llawer iawn o honynt wedi eu gadael heb ddim cymhwysiad oll. Yn yr amgylchiad olaf, y mae y cyfieithydd Cymreig wedi rhoddi cymhwysiad mewn byr eiriau, gan feddwl y gwnai hyny y gwaith yn fwy cymhwys a chymmeradwy i’r archwaeth Gymraeg.


 

 


(delwedd 1016) (tudalen 011_cynnwysiad-1)

(x11)
CYNNWYSIAD.
Rhagdraith ar Fywyd a Dammegion Aesop.

CHWEDLAU:—
1 Llew a’r Bwystfilod yn Hela.
2 Y Saethwr a’r Llew.
3 Y Barcut a’r Colomenod.
4 Y Llwynog a’r Afr.
5 Y Blaidd a’r Cryr Glas.
6 Y Frân Goeg-falch.
7 Y Morgrugyn a’r Ceiliog Rhedyn.
8 Y Blaidd a’r Myn.
9 Y Bachgen a’r Asp.
10 Y Mynydd mewn Trafael.
11 Y Ceiliog a’r Perl.
12 Yr Eryr a’r Llwynog.
13 Yr Hydd a’i Mam.
14 Y Weddw a’r Iâr.
15 Y Llwynog a’r Llew
16 Y March a’r Marchwas.
17 Yr Hen Gi.
18 Y Dyn a’r Neidr.
19 Y Llygoden a’r Llyffant
20 Y Pysgottwr yn canu’r Bibell.
21 Y Dyn a’r Gwyddau.
22 Y Ci a’r Cysgod.
23 Y Lleuad a’i Mam.
24 Y Blaidd a’r Oen.
25 Y Gwybed a’r Pot Mêl.
26 Yr Olwynion yn Gwichian.
27 Yr Arth a’r Llwynog.
28 Y Ddwy Waled.
29 Llygoden y Wlad a Llygoden y Dref.
30 Yr Eryr a’r Ceiliogod.


 

 


(delwedd 1017) (tudalen 012_cynnwysiad-2)

(x12)
CYNNWYSIAD.
31 Y Llew a’r Llygoden.
32 Y Ci, y Ceiliog a’r Llwynog.
33 Yr Hen Wraig a’r Gwin-lestr.
34 Y Ci a’r Blaidd.
35 Y Llyffant a’r Ych.
36 Y Carw claf.
37 Y Wylan a’r Barcud.
38 Yr Ysgyfarnog a’r Crwban.
39 Y Crwban a’r Eryr.
40 Y Bachgen a’r Blaidd.
41 Yr Oen a’r Blaidd.
42 Yr Iâr a’r Gath.
43 Y Llew a’r Teirw.
44 Y Llwynog a’r Coediwr.
43 Y Fran a’r Piser.
46 Yr Ewig Unllygeidiog.
47 Y Bol a’r Aelodau.
48 Y Grangc a’i Mam.
49 Y Teithiwr a’r Arth.
50 Y Llew, yr Asyn, a’r Llwynog.
51 Y Carw yn Ystol yr Ych.
52 Y Bachgen a Thynged.
53 Y Morhwch a’r Penwygyn.
54 Y Ffinidwydden a’r Fieren.
55 Y Glowr a’r Panwr.
56 Y Llew mewn Cariad.
57 Y Gwynt a’r Haul.
58 Y Ffermwr a’i Feibion.
59 Y Preniau a’r Fwyall.
60 Yr Asyn a’r Ci Bach.
61 Y Golomen a’r Fran.
62 Y Llew a’r Llwynog.
63 Iau a’r Camel.
64 Y Dyn dall a’r Cenaw.
65 Y Twrch daear a’i fam.
66 Yr Asyn a’r Ceiliog Rhedyn.
67 Erclwff a’r Gwagenwr.
68 Y Llwynog a gollodd ei Gynffon.
69 Yr hen Wraig a’r Meddyg.
70 Yr Ysgyfarnogod a’r Llyffaint.
71 Y Pysgottwr a’r Pysgodyn bychan.
72 Y Ffermwr a’r Chwibon.
73 Yr Epa a’r Carmel.


 

 


(delwedd 1018) (tudalen 013_cynnwysiad-3)

(x13)
CYNNWYSIAD.
74 Y Mul.
75 Y Llewes.
76 Y Bwrniad o Ffyn.
77 Y Dyn a’r Llew.
78 Y Fammaeth a’r Blaidd.
79 Yr Epa a’r Morhwch.
80 Y March a’r Carw.
81 Y Blaidd a’r Defaid.
82 Y Weddw a’r Ddafad.
83 Y Ci a’i Feistr.
84 Y Ci Sarug.
85 Yr Adalwr a’r Ehedydd.
86 Y Wenol a’r Gigfran.
87 Y Ganwyll Ffyrling.
88 Y Bugail a’r Tarw colledig.
89 Y Dyn a frathwyd gan Gi.
90 Y Teithwyr a’r Blanwydden.
91 Y Dderwen a’r Gorsen.
92 Y Wiber a’r Ddurlif.
93 Mercher a’r Coediwr.
94 Y Bleiddiaid a’r Defaid.
95 Y Llwynog a’r Grawnin.
96 Yr Eryr a’r Saeth.
97 Y Ci yn y Preseb.
98 Y Gwybedyn a’r Ych.
99 Iau, Neptune, Minerva, a Momua.
100 Y Lleidr a’i Fam.
101 Priodas yr Haul.
102 Y Gath a’r Llygod.
103 Y Llew a’i dri Chynghorwr.
104 Y Forwyn a’i Phiser Llaeth.
105 Yr Ychain a’r Cigyddion.
106 Y Ffermwr a’r Garanod.
107 Y Meddyg a’r Claf.
108 Y Llygod mewn ymgynghorfa.
109 Y Llew a’r Afr.
110 Yr Wydd a’r Wyau Aur.
111 Y Pomgranad, yr Afal, a’r Fieren.
112 Y Ci a Wahoddwyd i Swper.
113 Y Bugail a’r Geifr.
114 Y Pysgottwr.
115 Y Llyffaint yn deisyf am Frenin.
116 Yr Asyn a’i Feistriaid.


 

 


(delwedd 1019) (tudalen 014_cynnwysiad-4)

(x14)
CYNNWYSIAD.
117 Y Lleidr a’r Ci.
118 Yr Ysgyfarnog a’r Bytheuad.
119 Yr Heliwr a’r Pysgottwr.
120 Iau a’r Wenynen.
121. Yr Ehedydd a’i rhai bychain.
122 Y Teithiwr ymffrostgar.
123 Y Llyffant a’r Teirw.
124 Y Llew a’r Asyn yn Hela.
125 Yr Adar, y Bwystfilod, a’r Ystlum.
126 Y Llwynog a’r Draenog.
127 Y Blaidd a’r Bugail.
128 Y Teithwyr a’r Fwyall.
129 y Llygod a’r Bronwenod.
130 Y Bachgen a’r Danadl.
131 Y Barcud Claf.
132 Yr Eryr a’r Fran.
133 Yr Asyn a’i Yrwr.
134 Yr hen Wr ac Angau.
135 Yr Adarwr a’r Betrusen.
136 Yr Asyn Synwyrol.
137 Y ddau Ddwfr-lestr.
138 Y Llew a’r Morhwch.
189 Yr Udganwr yn Garcharor.
140 Y Chwareuwr a’r Gwladwr.


 

 


(delwedd 1020) (tudalen 015) (chwedl 1)

(x15)
CHWEDLAU AESOP

CHWEDL l. - Y LLEW A’R BWYSTFILOD YN HELA.
Gwnaeth Llew a’r Bwystfilod gytundeb i fyned allan i Hela. Wedi dal carw tew, gwnaeth y Llew ei hun yn farnwr; ac wedi rhanu yr ysglyfaeth yn dair rhan, dywedodd, “Y rhan gyntaf, sydd eiddof fi yn swyddol, fel barnwr ; yr ail ran, yr wyf yn ei chymmeryd fel fy rhan bersonol o’r ysglyfaeth; ac am y drydedd ran cymmered y neb a feiddia ef.”

Gobaith gwan sydd i’r gwan am gyfiawnder mewn cytundeb gyda’r cryf, yn enwedig os na bydd o egwyddor dda.



 

 


(delwedd 1021) (tudalen 016) (chwedl 2)

(x16)
CHWEDL 2.—Y SAETHWR A’R LLEW.
Aeth gŵr, yr hwn oedd yn dra medrus gyda’i fwa a’i saeth i fynu i’r mynyddoedd i hela. Pan ganfyddwyd ef yn agoshau, ffôdd yr holl fwystfilod ymaith mewn braw ac arswyd.
Y Llew yn unig a ddangosodd duedd i’w wrthsefyll. “Arhoswch,” ebe , y Saethwr wrtho, “a derbyniwch genadwr oddiwrthyf, y mae ganddo rywbeth i’w ddywedyd wrthych.” Gyda hyny, fe ollyngodd ei saeth at y Llew, ac a’i harchollodd yn ei ystlys. Y Llew yna, yn arteithiedig gan boen, a ddiangodd i ganol y goedwig. Rhyw Lwynog, wrth ei weled yn ffoi, a archodd arno ymwroli, a gwynebu y gelyn. “Na,” atebai y Llew, “nid ellwch fy mherswadio I i hyny; oblegid os yw y genad a anfona mor llym, pa beth a raid fod gallu yr hwn a’i hanfonodd?”

Nid yw gwroldeb heb bwyll ond rhyfyg. — Nid yw nerth corph ddim wrth wrth meddwl.


 

 


(delwedd 1022) (tudalen 017) (chwedl 3)

(x17)
CHWEDL 3 - Y BARCUD A’R COLOMENOD.
Yr oedd haid o Golomenod wedi byw yn hir mewn arswyd parhaus rhag Barcud, ond wrth fod bob amser ar eu gwiliadwriaeth, a chadw yn agos at y Colomendy, llwyddasant am dymhor maith i ddiangc rhag ymosodiadau y gelyn.
Wrth weled fod ei ymdrechion yn aflwyddiannus, trodd y Barcud i ddefnyddio dichell. “Paham,” meddai, “yr ydych yn dewis byw fel hyn mewn ofn parhaus, pan, os gwnewch ond yn unig fy nghymmeryd I yn frenm arnoch, gwnawn I eich cadw yn ddiogel rhag pob ymosodiad a ellid ei wneuthur arnoch?” Y Colomenod, gan ymddired yn ei addewidion, a’i galwasant i’r orsedd; ond nid cynt yr oedd wedi ei sefydlu ynddi, nag y dechreuodd ddefnyddio ei allu i ysglyfaethu Colomen bob dydd. Ar hyny, ebe un Golomen oedd yn disgwyl ei thynged hithau, “Nid yw hyn ond yr hyn a haeddasom am ein ffolineb.”

Pwy bynag a roddant allu yn wirfoddol yn llaw gormeswr neu elyn, ni ddylent ryfeddu os trow ef (yn y) diwedd yn eu herbyn hwy eu hunain.


 

 


(delwedd 1023) (tudalen 018) (chwedl 4)

(x18)
CHWEDL 4.— Y LLWYNOG A’R AFR.
Yr oedd Llwynog wedi syrthio i mewn i ffynnon ddofn, ac er ymdrechu yn mhob modd, yn methu dringo allan o honi. Dygwyddodd i Afr ddyfod i’r fan, a chan ei bod yn sychedig, gofynodd i’r Llwynog, A oedd y dwfr yn dda, ac a oedd yno ddigon o hono? Y Llwynog, heb gymmeryd arno ei fod mewn helbul, a atebodd, “Dowch i lawr, gyfaill, mae y dwfr mor dda fel na allaf roi heibio ei yfed, ac y mae cyflawnder dihysbydd o hono.” Ar hyn neidiodd yr Afr i mewn heb ychwaneg o ystyriaeth; a’r Llwynog gan gymmeryd mantais o gyrn “ei gyfaill,” a neidiodd allan yn y fan; a dywedai yn bur bwyllog wrth yr Afr druan, — “Pe buasai genych banner gymmaint o ymenydd ag sydd genych o farf, buasech wedi edrych o’ch blaen cyn neidio.”

Y mae cynghor y dichellgar yn beryglus.


 

 


(delwedd 1024) (tudalen 019) (chwedl 5)

(x19)
CHWEDL 5. - Y BLAIDD A’R CRYR GLAS.
Fel yr oedd Blaidd yn rheibus ymborthi ar ei ysglyfaeth, digwyddodd yn ei wangc, i asgwrn lynu yn ei wddf. Parai hyn y fath boen iddo, fel y rhedai gan udo at bawb o’i amgylch, gan addaw gwobr dda i bwy bynag a’i gwaredai o’i ofid. Y Cryr Glâs, wrth glywed am y wobr, a anturiodd ei wddf hir-fain i enau y Blaidd, ac a dynnodd yr asgwrn ymaith. Yna gofynai yn wylaidd am y wobr addawedig am y gymmwynas; i’r hyn yr atebai y Blaidd, gan wenu, a dangos ei ddannedd, “Greadur anfoddog, onid yw yn ddigon o wobr i ti, fod dy ben wedi bod rhwng fy nannedd, a’th fod wedi ei gael allan yn ddiogel?”

Y rhai a wnant gymmwynas yn unig er mwyn y wobr, yn enwedig i ddynion drwg, ni dddylent ryfeddu os cant weithiau eu siomi, a derbyn mwy o sarhad nac o ddiolch am eu trafferth.



 

 


(delwedd 1025) (tudalen 020) (chwedl 6)

(x20)
CHWEDL 6. —— Y FRAN GOEG-FALCH.
Yr oedd rhyw Fran mor falch a chwyddedig fel yr anfoddlonai i’w chylch a’i gwisg naturiol; felly fe gasglodd y plu a syrthient oddiwrth y Paunod, ac a’u gosododd yn mhlith ei phlu ei hunan ; ac yna, gan ddiystyru ei hen gymdeithion, hi a gynnigiodd ei hun yn dra hyderus i gyfeillach yr adar prydferth hyny. Y Paunod, gan ganfod ar unwaith y twyll hunanol, a’i diosgasant yn y fan o’r plu benthyciedig, a, chan ymosod arni â’u pigau, a’i gyrasant yn ddigllawn o’u plith. Y Frân benffol, mewn poen a gofid. a ddychwelodd at ei thylwyth ei hun, ac a fynai gymdeithasu gyda hwynt drachefn, fel pe na buasai dim wedi digwydd. Ond y rhai hyny, wrth gofio am ei dirmyg o honynt gynt, ni fynent ei derbyn yn ol, eithr hwy a’u curasant ymaith o’u plith, gan ddywedyd wrthi, — “Pe buaset wedi boddloni i’r hyn y’th wnaethpwyd gan natur, buasit wedi diangc rhag ceryddon dy well, a rhag dirmyg dy gydradd, ond yn awr ti a ddygaist arnat dy hun atgasedd pawb.”

Pwy bynag a geisia ymddyrchafu trwy dwyll, ac ar draul rhagoriaethau benthyciedig, a syrth yn is yn y pen draw.



 

 


(delwedd 1026) (tudalen 021) (chwedl 7)

(x21)

CHWEDL 7. —— Y MORGRUGYN A’R CEILIOG RHEDYN.
Ar ddiwrnod rhewllyd yn y gauaf yr oedd Mor­grugyn yn lluisgo allan ychydig ŷd a drysorasai yn yr hâf, i’w sychu yn yr awyr agored. Ceiliog Rhedyn, a ddigwyddasai oroesi yr hâf, ac oedd yn awr bron marw o newyn, a daer erfyniai ar y Morgrugyn i roddi iddo un gronyn i’w gadw yn fyw. “Atolwg,” meddai y Morgrugyn wrtho, “pa beth a fuoch chwi yn ei wneyd trwy yr hâf diweddaf?” “O!” atebai y Ceiliog Rhedyn, “ nid oeddwn yn segura, bum yn canu ar hyd yr hâf.” “Aië,” ebe y Morgrugyn, gan chwerthin a chau ei ystordy, os gallasoch ganu ar hyd yr hâf, galiwch ddawnsio ar hyd y gauaf’’

Y gauaf ddwg allan yr hyn y mae yr hâf wedi ei hebgor. Mewn ieuengctyd ac iechyd y mae darparu ar gyfer henaint ac afiechyd.


 

 


(delwedd 1027) (tudalen 022) (chwedlau 8-9)

(x22) CHWEDL 8.—Y BLAIDD A’R MYN.
Myn Gafr yn sefyll ar ben tŷ uchel, a ganfu Flaidd yn pasio heibio isod, ac a ddechreuodd ei senu. Ni wnaeth y Blaidd ond edrych arno, a dyweyd, “Y cachgi gwael! nid tydi sydd yn fy nifrio, ond y lle yr ydwyt yn sefyll arno.”

Y rhai a ymosodant ar gymmeriadau, pan y gall­ant wneyd hyny yn ddigerydd, y distadlaf o ddynion ydynt.

CHWEDL 9. — Y BACHGEN A’R ASP.
Yr oedd bachgen yn chwilio am Lindŷs ar fur, ac wedi dal llawer iawn o honynt; pan y gwelodd Asp, ac a’i cam gymmerodd am Lindysen. Yr oedd yn agor ei law i’w dal, pan y dywedai yr Asp, gan estyn allan ei cholyn, “gwynfyd na buasech wedi cydio ynof, canys buaswn yn fuan yn peri i chwi fy ngollwng I yn rhydd, a’r Lindys hefyd.”

Trwy fentro gormod yn ei anwyhodaeth, y mae aml un un wedi colli yr hyn oedd ganddo, a chael mawr ofid yn y fargen.

 

 

 


(delwedd 1028) (tudalen 023) (chwedlau 10-11)

(x23) CHWEDL 10. Y MYNYDD MEWN TRAFAEL.
Yn yr hen amser gynt fe glywyd rhyw dwrw dirfawr oddifewn i Fynydd. Aeth y gair ar led ei fod mewn. trafael; ac ymgynnullodd Iluaws mawr o bobi o bell ac agos, i gael gweled ar ba beth yr esgorai y mynydd. Ar ol maith ddisgwyliad, a llawer o dybiau doethion gan yr edrychwyr, daeth allan o grombil y Mynydd. ——— LYGODEN!

Addewidion a honiadau mawrion yn dibenu mewn cyflawniadau b
ychain.

CHWEDL 11. — Y CEILIOG A’R PERL.

Fel yr oedd Ceitiog yn crafu ar domeri, mewn buarth ffarm, i chwilio am ymborth i’r ieir, digwyddodd iddo droi i fynu Berl disglaer a syrthiasai yno trwy ryw ddamwain. “Hollo,” ebe fe, “ yr ydych chwi yn rhywbeth gwych iawn, mae’n ddiau, i’r rhai a allant eich prisio; ond rhowch i mi ronyn o haidd o flaen holl berlau y byd.”

Nid oes dim yn wir werthfawr i un, oni all ei ddefnyddio; ond gwaith ffol ydyw diystyru dim, yn unig am nad ydym yn eu ddeall.


 

 


(delwedd 1029) (tudalen 024) (chwedl 12)

(x24)
CHWEDL 13. — YR ERYR A’R LLWYNOG.
Yr oedd Eryr a Llwynog wedi byw am dymhor maith yn gymmydogion agos a heddychlawn; yr Eryr ar ben uchaf pren mawr, a’r Llwynog mewn twll wrth ei wraidd ef. Er hyny, un diwrnod, pan oedd y Llwynog oddicartref, gwnaeth yr Eryr ymosodiad ar genaw y Llwynog, ac ai cipiodd i fyny i’w nyth, —gan feddwl fod ei thrigfan mor uchel, fel nad allai y Llwynog byth ei niweidio. Y Llwynog, ar ei ddychweliad adref, a gwynodd yn fawr oblegyd angharedigrwydd yr Eryr; ac a daer erfyniodd am ddychweliad y bychan; ond wrth weled nad oedd ei erfyniadau yn tycio, fe gipiodd bentewyn oddiar allor a gynneuasid gerllaw, ac yn fuan yr oedd y pren oll mewn mwg a thân. Dychwelodd yr Eryr yn ddioed, er mwyn ei bywyd ei hun a’i phlant, y cenaw, a wrthodasai ei ildio i erfyniadau a daerau y
 Llwynog.

Y mae bygythion, yn gyffredin, yn fwy effeithiol gyda gormeswyr neu erfyniadau a dagrau.

 

 

 


(delwedd 1030) (tudalen 025) (chwedlau 13-14)

(x25) CHWEDL 13. – YR HYDD A’I FAM.

Dywedai Hydd ieuangc ryw ddydd wrth ei mam, ‘Fy mam, yr ydych yn fwy na’r ci, yn gyflymach, ac yn well eich gwynt, ac y mae genych gyrn i’ch hamddlffyn eich hun; pa beth yw yr achos, gan hynny, fod arnoch gymmaint o ofn y cwn?” Gwenai yr hen fam, ac atebai, “Mi a wn hyn i gyd yn bur dda, fy mhlentyn, ond eto, nid cynt y clywaf gyfarthiad ci, na bydd fy nhraed rywfodd yn fy nghipio i ffordd yn gynted ag y gallant.”

Nis gellir ymresymu yr ofnus i wrolder.

CHWEDL 14 – Y WEDDW A’R IAR.
Yr oedd gan wraig weddw Iâr, yr hon a ddodwyai iddi un wy bob boreu. Dywedai y weddw ynddi ei hin - “Os rhoddaf ddwywaith gymmaint o haidd iddi, hi a ddodwya ddwywaith yn y dydd.” Hi a dreiodd y plan, ac aeth yr Iâr mor dew a graenus fel na ddodwyodd ddim oll!

Nid yw ffeithiau bob amser yn ateb i ffigyrau.


 

 


(delwedd 1031) (tudalen 026) (chwedlau 15-16)



CHWEDL 15.—Y LLWYNOG A’R LLEW.
Y tro cyntaf y gwelodd Llwynog Lew, fe syrthiodd wrth ei draed, ac yr oedd yn mron marw gan arswyd.
Yr ail dro, er ei fod eto yn lled ofnus, eto fe a ymwrolodd gymmaint fel y mentrodd edrych arno. Y trydydd tro, fe aeth mor hyf, fel yr aeth ac a’i cyfarchodd ef, gan ofyn iddo, “Pa sut yr oedd ef?”

Y mae cynnefino â pheryglon yn gwneyd dynion yn rhyfygus. Gorchest ydyw ymddwyn tuag at ein huchafiaid, heb fod yn wasaidd ar y naill law, nac yn or-hyf ar y llaw arall.

CHWEDL 16. — Y MARCH A’R MARCHWAS.
Arferai rhyw Farchwas ddwyn a gwerthu ceirch y ceffyl, ond yr oedd yn dra diwyd yn ei lanhau a’i ysgrafellu ar hyd y dydd. “Os mynech i mi, mewn gwirionedd, edrych yn dda,” meddai y March, “rhoddwch i mi lai o’ch ysgrafell, a mwy o’ch ŷd.”

Ceir gan rai fwy o foesgarwch nac o gymmwynasgarwch a chyfiawnder.


 

 


(delwedd 1032) (tudalen 027) (chwedl 17)



CHWEDL 17. — YR HEN GI.
Ci, yr hwn a fuasai yn un da iawn yn ei amser, ac a wnaethasai-wasanaeth mawr i’w feistr yn ei helw-iaeth, oedd o’r diwedd yn pallu gan bwysau blynyddoedd meithion, a llafur caled. Rhyw ddiwrnod, pan yn hela y baedd gwyllt, efe a gydiodd.yn y bwystfil gerfydd ei glust, ond ymollyngodd ei ddannedd, a gorfu iddo ollwng ei afael, a diangodd y baedd. Ar hyn, daeth yr heliwr i fynu, ac a’i dwrdiodd yn llym, Ond atebai yr hen Gi egwan iddo, “Arbedwch eich hen was! Cofiwch mai fy ngallu, ac nid fy ewyllys a ballodd. Byddai yn harddach i chwi ystyried yr hyn a fum, na fy ngheryddu am yr hyn ydwyf.”

Dylid gwneyd gwahaniaeth rhwng difyg ewyllys a diffyg gallu. Ni ddylid anghofio hen gymmwynasau.


 

 


(delwedd 1033) (tudalen 028) (chwedl 18)

 

CHWEDL 18. - Y DYN A’R NEIDR.
Gwr gwladaidd yn dychwelyd adref ryw ddiwrnod rhewllyd yn y gauaf, a ganfyddodd Neidr yn y clawdd bron marw gan yr oerfel. Gan gymmeryd trugaredd ar y creadur, fe a’i cododd i’w fynwes, ac a’i dygodd i’w dŷ, ac a’i gosododd ar yr aelwyd i’w ddadebru. Nid cynt yr oedd y Neidr wedi ei llwyr adferu gan wres y tân, na ddechreuodd ymosod ar y plant a theulu y tŷ. Ar hyn cymmerodd y gwladwr fatog ac a’i lladdodd yn y fan, gan ddyweyd, “Ai hyn, filain ysgeler yw y wobr a deli i ini am achub dy fywyd?”

Dylid bod yn ddoeth wrth wneyd cymmwynasau. Y [rhai] a dalant ddrwg am dda, a flinant amynedd pawb syrthiant i’r fagl yn y diwedd.



 

 


(delwedd 1034) (tudalen 029) (chwedl 19)

 

CHWEDL 19 - Y LLYGODEN A’R LLYFFANT
Digwyddodd i Lygoden ar ddiwrnod anffortunus ddyfod i gydnabyddiaeth gyda Llyffant, ac aethant i gyd-drafaelio. Y Llyffant, dan esgus o fawr serch, ac o awyddfryd i gadw ei gyfaill allan o bob perygl, a rwymodd draed blaen y Llygoden wrth ei draed ol ef, ac fel hyny teithiasant yn mlaen, am dymhor, ar y tir; o’r diwedd, daethant at ffrwd o ddwfr, a’r Llyffant, gan beri i’r Llygoden beidio dychrynu, a ddechreuodd nofio drosodd, ond gyda eu bod hanner y ffordd drosodd, darfu y Llyffant ymsuddo yn ddisymwth i’r gwaelod, gan lusgo y Lygoden anlwcus gydag ef. Ond wrth i’r Lygoden ymdrechu a gwingo yn y dwfr, canfyddodd Barcud hi, a chan ddisgyn arni, fe gipiodd y Llygoden ymaith, gan gario y Llyffant oedd y’nglyn a hi yr unffordd.

Y mae yr hwn a lunio ddinystr ei gymmydog, yn fynych yn cael ei ddal yn ei fagl ei hun. Nid hapus un undeb rhwng dau o wahanol anian.


 

 


(delwedd 1035) (tudalen 030) (chwedl 20)



CHWEDL 20 - Y PYSGOTTWR YN CANU’R BIBELL.
Pysgottwr, yr hwn a feddyliai fwy am ei ganiadau nac am ei rwydau, pan y gwelodd haid o bysgod yn y môr, a ddechreuodd ganu ei Bibell, gan feddwl y buasent yn neidio ar y tir. Ond wrth weled nad oeddent yn sylwi dim ar ei ganu, fe gymerodd rwyd fawr, a chan amgylchu lluaws o’r pysgod, fe a’n tynodd hwynt i dir. Yna pan welodd y pysgod yn gwingo ac yn neidio ar bob llaw, fe wenodd, ac a ddywedodd, “Gan na wnaech ddawnsio pan genais i chwi, ni fynaf fl ddim o’ch dawnsio chwi yn awr.”

Dyna ddialedd y gormeswr creulon; os na phlyga pob ewyllys i’w fympwy ef, fe rwyda ac a ddilëa eu rhyddid.


 

 


(delwedd 1036) (tudalen 031) (chwedl 21)



CHWEDL 21 - Y DYN A’R GWYDDAN.
Dyn a Gwyddan wedi cyfarfod yn ddamweiniol, a aethant yn gyfeillion, ac a eisteddasant i lawr i gyd-fwyta. Yr oedd yn ddiwrnod gauafaidd ac oer, am hynny rhoddodd y dyn ei fysedd yn ei enau, ac a anadlodd arnynt. “I ba beth y gwnewch fel yna?” gofynai y Gwyddan. “I gynhesu fy nwylaw oerion,” ebe y Dyn. Yn mhen ychydig, daeth dysglaid o fwyd, yn boeth, ar y bwrdd, a’r Dyn, gan ei rhoddi at ei enau, a chwythodd arno.
“I ba beth y mae hynyna dda eto?” gofynai y Gwyddan. “O,” atebai y Dyn, “y mae y potes yma yn boeth iawn, yr wyf yn chwythu arno i’w oeri dipyn.” “O, felly, aië,” meddai y Gwyddan, “ewch ymaith yn union, yr ydwyf yn ymwrthod a’ch cyfeillach yn hollol, ni fynwn ddim yn y byd i’w wneyd ag un sydd yn chwythu yn oer ac yn boeth a’r un genau.”

Dyn i’w osgoi ydyw y tymherog, a’r hwn a fedr wenieithio ac enllibio â’r un genau.


 

 


(delwedd 1037) (tudalen 032) (chwedlau 22-23)



CHWEDL 22 - Y CI A’R CYSGOD.
Fel yr oedd Cî yn croesi pont-bron dros afon, a chanddo ddarn o gig yn ei safn, fe welai ei gysgod ei hun yn y dwfr islaw iddo. Meddyliodd mai Cî arall ydoedd, a darn arall o gig yn ei safn, a phenderfynodd y mynai y darn hwnw hefyd; ond wrth geisio am yr asgwrn tybiedig, fe ollyngodd yr un oedd yn ei afael, ac felly fe gollodd y ddau.

Mae llawer wrth ymdrechu am gysgod, yn colli y sylwedd; trwy beryglu daioni sylweddol, am bleser dychymygol; neu anturio eu heiddo ei hun, i reibio am eiddo ereill.

CHWEDL 23 - Y LLEUAD A’I MAM.
Gofynodd y Lleuad unwaith i’w Mham wneuthur mantell a’i ffitiai hi yn berffaith. “Pa fodd,” meddai y fam, “y gallaf wneyd mantell i’ch ffitio chwi, sydd weithiau yn Lleuad newydd, ac weithiau yn llawn llonaid, ac weithiau na’r naill na’r llall?”

Gwaith anhawdd iawn ydyw boddio rhai pur gyfnewidiol eu meddwl.



 

 


(delwedd 1038) (tudalen 033) (chwedl 24)



CHWEDL 24 - Y BLAIDD A’R OEN.
Fel yr oedd Blaidd yn tori ei syched wrth fin ffrwd redegog, fe ganfyddodd Oen unigol ychydig islaw iddo yn yfed o’r un dwfr. Gwnaeth i fynu ei feddwl i ymosod arno, a cheisiai ddyfeisio rhyw esgus i gyflawnhau ei drais. Filain,” ebe ef, gan redeg at yr Oenig, “pa sut yr ydych chwi yn meiddio llwydo y dwfr yr wyf fi yn ei yfed?” “Yn wir,” atebai yr Oce yn dra dychrynedig a gwylaidd, “nid wyf fi yn gweled pa fodd y gallaf fi lwydo y dwfr, canys y mae yn rhedeg oddiwrthych chwi ataf fi, ac nid oddiwrthyf fi atoch chwi.” “Pa’r un bynag am hyny,” meddai y Blaidd, “nid oes ond biwyddyn er pan y clywais chwi yn fi ngalw I yn bob math o enwau drwg.” “O! syr,” ebe yr Oen gan grynu, “nid oeddwn ni ddim wedi fy ngeni flwyddyn yn o? “Wel,” meddai y Blaidd, “ os nid y chwi oedd, eich tad oedd e, ac y mae hyny yr un peth; ond nid yw o ddefnydd yn y byd treio fy ymresymu I allan o fy swper.” Ac heb ychwaneg o eiriau, fe syrthiodd ar yr Oenig druan, ac a’i llarpiodd yn y fan.

Lle y byddo nerth, creulondeb, a malais, yn cyd-gyfarfod


 

 


(delwedd 1039_aesop_glan_alun_1_034) (chwedlau 25-26)



ni byddis byth yn fyr o esgus i ormesu. — Ychydig obaith i wrthsefyll gormes ac anghyfiawnder sydd i’r rhai na feddant ddim arfau ond cyfiawnder a diniweidrwydd.

CHWEDL 25 - Y GWYBED A’R POT MÊL.
Yr oedd Llestriad o Fêl wedi syrthio a thori mewn masnachdŷ. Daeth y gwybed yn heidiau lluösog o bob man, i’w fwyta i fynu, ac ni symmudent o’r fan tra yr oedd un diferyn yn aros. O’r diwedd, yr oedd eu traed wedi eu maglu gymmaint gan y y Mêl yn glynu wrthynt, fel na allent ehedeg ymaith; ac wedi eu dal yn gaeth yn nghanol y seigiau melus, hwy a waeddent allan, “Pa fath greaduriaid truenus ydym, y rhai am un awr o bleser, a daflasom ein bywydau ymaith.”

Pa sawl un o blant dynion “am un saig o fwyd, a werthasant eu genedigaeth fraint?” Ac am bleserau diflanedig amser, a aberthant eu dedwyddwch tragywyddol?

CHWEDL 26 - YR OLWYNION YN GWICHIAN.
Fel yr oedd gwêdd o Ychain yn llusgo Gwagen llwythog ar hyd ffordd drom, dechreuodd yr Olwynion wichian yn rhyfedd. “Adyn,” ebe y Gyrwr wrth y Wagen, “paham yr wyt ti yn gruddfan cymmaint, pan y mae y rhai sydd yn llusgo yr holl bwysau yn berffaith ddistaw?”

Nid y rhai sydd yn gwaeddi allan uwchaf, sydd bob amser yn cael mwyaf o gam.


 

 


(delwedd 1040) (tudalen 035) (chwedlau 27-28)



CHWEDL 27 - YR ARTH A’R LLWYNOG.
Yr oedd Arth yn arfer ymffrostio o gariad mawr at Ddyn, gan ddyweyd na ddarfu iddo fe erioed larpio neu ddarnio Dyn wedi iddo farw. Sylwai y Llwynog, gyda gwên, “Buaswn yn meddwl mwy o’ch proffes o gariad, pe na rwygech ef byth pan yn fyw.”

Gwell cadw dyn rhag marw, na’i enneinio ef wedi iddo farw.

CHWEDL 28 - Y DDWY WALED.
Y mae pob un yn cario Dwy Waled, un o’i flaen, a’r llall o’i ol, a’r ddwy yn llawn o feiau; ond y mae yr un o’i flaen yn llawn o feiau ei gymmydogion, a’r un tu ol iddo o’i feiau ei hun.

Felly mae yn digwydd fod dynion heb weled eu beiau eu hunain, tra nad ydynt byth yn colli golwg ar yr eiddo eu cymmydogion.


 

 


(delwedd 1041) (tudalen 036) (chwedl 29)



CHWEDL 29 - LLYGODEN Y WLAD A LLYGODEN Y DREF.
Gwahoddodd Llygoden wladaidd hên Gyfeilles iddi, oedd yn byw yn y ddinas, i dalu ymweliad â hi. Derbyniwyd y gwahoddiad yn foesgar; a’r Lygoden wladaidd, er yn ddigon plaen ac anghoethedig, ac yn lled gynnil ei natur, a agorodd ei chalon a’i hystôr, er croesaw i’w hên Gyfeilles. Nid oedd un gronyn cynniliedig na ddygwyd allan o’r fwyd-gell, — pŷs, haidd, briwsion caws, a chnau, &c.; a gobeithiai y Lygoden lettygar wneyd i fynu mewn cyflawnder, yr hyn yr ofnai oedd yn fyr mewn danteithioldeb, i gyfarfod ag archwaeth goethedig ei Chyfeilles ddinasol. Llygoden y dref, yn bur fursenaidd, a bigai dammaid yma, a thammaid draw; tra yr oedd yr hon a’i llettyai, rhag ofn lleihau dim ar yr arlwy, yn eistedd gerllaw ac yn pigo gwelltyn haidd yn bur ddedwydd. O’r diwedd, torodd Llygoden y ddinas allan, a dywedodd, “Pa sut yn y byd, fy hên Gyfeilles, y gellwch oddef y bywyd llonydd, dwl, ac anghoethedig yma? Yr ydych yn byw fel llyffant mewn twll. Does bossibl, eich bod


 

 


(delwedd 1042) (tudalen 037) (chwedl 29)



mewn gwirionedd, yn caru yr hen greigiau unigol hyn, a’r coedwigoedd, a’r maesydd distaw yma, yn fwy na heolydd yn fyw gan gerbydau a dynion! Ar fy ngair, yr ydych yn gwastraffu eich amser yn druenus yma: rhaid i ni wneyd y goreu o’n bywyd tra y parhao; nid yw Llygoden, fel y gwyddoch, ddim yn byw byth. Felly, deuwch gyda fi yn union i’r ddinas, a mi a ddangosaf i chwi fywyd.” Wedi ei gorchfygu gan y fath eiriau gwych, a’r fath foesgarwch urddasol, cydunodd y Lygoden wladaidd a’r cynnygiad, a hwy a gychwynasant, gyda’r hwyr, ar eu taith i’r dref. Yr oedd hi yn mhell yn y nos pan yr ymlithrent yn ddistaw i’r heolydd, ac yn hanner y nos erbyn iddynt gyrhaedd y tŷ mawr, yn yr hwn yr oedd Llygoden y dref yn gwneyd ei chartref. — Yma yr oedd cadeiriau esmwyth, a gorweddfâau o velvet ysgarlad, dodrefn wedi eu gweithio ag ifori, a phob peth arall yn arwyddo cyfoeth a moethusrwydd. Ar y bwrdd yr oedd gweddillion gwledd ardderchog, ar gyfer yr hon yr oedd holl fasnachdai y ddinas wedi cyfrannu eu danteithion y dydd o’r blaen. Yma yr oedd tro y Lygoden ddinasol i ddangos ei llettygarwch; gosododd ei hymwelydd gwladaidd i orphwys ar borphor, rhedai yma a thraw yn awyddus i weini ar ei holl anghenion, cymhellai ddysgl ar ddysgl, a dantaith ar ddantaith; ac, fel pe yn gweini ar frenin, profai bob peth ei hun, cyn ei osod o flaen ei Chares ddysyml. Yr oedd Llygoden y wlad, erbyn hyn, yn dechreu teimlo a gwneyd ei hun yn hollol gartref; ac yn barod i fendithio yr hap dda oedd wedi gweithio y fath gyfnewidiad dymunol yn ei dull o fyw. Ond, pan yn nghanol ei mwyniant, ac yn dechreu meddwl gyda dirmyg am y fywioliaeth dlawd yr oedd wedi cefnu arni; yn ddisymwth, dyma ddrws yn cael ei daflu yn agored, a chwmni o loddestwyr yn dychwelyd o wledd hwyrol, yn rhuthro i


 

 


(delwedd 1043) (tudalen 038) (chwedlau 30-31)



mewn i’r ystafell. Y ddwy Gyfeilles ddychrynedig a neidiasant oddiar y bwrdd yn y braw mwyaf, ac a ffoisant i ymguddio yn y gornel gyntaf a allasant ei gyrhaedd. Yn mhen tipyn, hwy a anturiasant gribo allan drachefn; ond yn ddioed dyma gyfarthiad llu o gŵn, yn eu gyru yn ol mewn braw a dychryn mwy fyth. O’r diwedd, pan yr oedd pethau wedi tawelu ychydig, fe lithrodd llygoden y Wlad allan o’i hymguddfan, a chan ffarwelio â’i Chyfeilles, hi a sisialodd yn ei chlust, “O! fy anwyl Gares, gall y dull gwych hwn o fyw wneyd y tro i’r rhai a’i carant; ond rhoddwch i mi fy mara haidd mewn heddwch a diogelwch, o flaen y wledd fwyaf ddanteithiol gyda gofal ac ofn parhaus.”

Gwell yw pryd o ddail gyda llonyddwch, nag ŷch pasgedig a châs gydag ef.”

CHWEDL 30 - YR ERYR A’R CEILIOGOD.
Dau Geiliog ieuaincgca ymladdent gyda ffyrnigrwydd mawr. O’r diwedd gorchfygwyd un o honynt, ac fe giliodd i gongl y cut yn llawn o boen a briwiau. Y buddugoliaethwr a ehedodd yn union i ben y tŷ, ac a ddechreuodd guro ei adenydd a chanu i hysbysu ei gongcwest. Y funud hono, Eryr, wrth ehedeg heibio, a’i cipiodd yn ei ewinedd, ac a’i dygodd ymaith. Pan welodd y Ccillog gorchfygedig liynny, daeth allan o’i ymguddfan, ac a gymmerodd feddiant o’r domen am ba un yr ymrafaelasant.

Gwaith peryglus ydyw dringo yn rhy uchel,ac ymffrostio gormod yn amser llwyddiant


 

 


(delwedd 1044) (tudalen 039) (chwedl 31)



CHWEDL 31 - Y LLEW A’R LLYGODEN.
Yr oedd Llew yn cysgu yn ei ffau, pan y digwyddodd i Lygoden, yn ddifeddwl, redeg ar draws trwyn y bwystfil mawr, a’i ddeffroi. Tarawodd y Llew ei bawen ar y creadur bach dychrynedig, ac yr oedd ar ei ddibenu yn y fan, pan y darfu i’r Lygoden, mewn llais cwynfanus, erfyn arno drugarhau wrth un oedd wedi troseddu mor anfwriadol, ac i beidio dianrhydeddu ei bawenod mawreddig trwy ladd ysglyfaeth mor ddistadl. Y Llew, gan wenu ar fraw ei garcharores fechan, gyda ei fawrfrydigrwydd arferol, a’i gollyngodd yn rhydd. Fe ddigwyddodd ychydig amser wedi’n, fel yr oedd y Llew yn hela ei ysglyfaeth yn yr anialwch, iddo syrthio i rwydau yr helwyr: ac wrth gael ei hun wedi ei ddal yn ddiogel yn y fagl, fe ddechreuodd ruo nes oedd yr holl goedwig yn adsain gan ei sŵn. Y Lygoden, yn adnabod llais ei harbedwr mawreddig, a redodd i’r fan, ac a ddywedodd wrtho am beidio ofni dim, y byddai hi yn Gyfeilles iddo; ac yna, yn ddioed, dechreuodd gnoi y cwlwm oedd yn rhwymo y llew a’i dannedd bychain, ac mewn ychydig amser gosododd yr anifail mawreddog yn rhydd.

Anfynych y mae tiriondeb yn myned yn ofer. Nid oes un creadur mor bell islaw un arall, fel nad all ddyfod i’w allu i ad-dalu cymwynas.


 

 


(delwedd 1045) (tudalen 040) (chwedl 32)



CHWEDL 32 - Y CI, Y CEILIOG A’R LLWYNOG.
Cî a Cheiliog wedi digwydd dyfod i gydnabyddiaeth â’u gllydd, a aethant ar eu taith ynghyd. Goddiweddwyd hwynt gan y nos mewn coedwig, a’r Ceiliog a ehedodd i bran, ac a aeth i glwydo yn mhlith y canghenau, tra yr aeth y Cî i gysgu wrth ei wraidd. Fel yr oedd y nos yn pasio, a’r dydd yn gwawrio, y Ceiliog, yn ol ei arfer, a ddechreuodd ganu yn soniarus: Llwynog, yn ei glywcd, ac yn chwenychu gwneyd brecwest o hono, a ddaeth, ac a safodd o dan y pren, ac a’i cyfarchodd, gan ddywedyd, “Yr wyt ti yn aderyn bychan, dâ, a thra defnyddiol i’th gydgreaduriaid. Tyred i lawr yn awr, fel y gallom ni ganu ein boreuol hymnau, a llawenhau ynghyd.” Atebodd y Ceiliog, “Ewch, fy nghyfaill cu, at fôn y pren, a gelwch ar y clochydd i ganu y gloch.” Ond cyn gynted ag yr aeth y Llwynog i’w alw, fe neidiodd y Cî arno yn y fan, ac a afaelodd ynddo, ac a’i lladdodd.

Y mae y rhai a osodant faglau i ereill, yn fynych yn syrthio iddynt eu hunain.


 

 


(delwedd 1046) (tudalen 041) (chwedlau 33-34)



CHWEDL 33 - YR HEN WRAIG A’R GWIN-LESTR.
Gwelai Hen Wraig Gostrel wag yn gorwedd ar lawr. Er nad. oedd un diferyn o’r Gwin puredig, yr hyn a gynnwysasai gynt, yn aros ynddi; eto, yr oedd yr arogl mwyaf dymunol yn cyfodi o honi. Rhoddodd yr Hen Wraig ei thrwyn yn ngheg y Gostrel, ac aroglodd a’i holl allu yn egnïol, gan sylwi, “Greadur melus, mor ragorol y rhaid fod eich cynnwys unwaith, pan y mae y gwaddod mor beraidd.”

Coffadwriaeth y cyfiawn sydd fendigedig”

CHWEDL 34 - Y CI A’R BLAIDD.
Ar noswaith oer, leuad-olau, digwyddodd i Flaidd teneu, newynllyd, gyfarfod â Chî tew, cysurus iawn yr olwg arno. Ar ol y cyfarchiadau cyntaf rhyngddynt, Pa fodd y mae yn digwydd,” gofynai y Blaidd, eich bod yn edrych mor dda? Mor dda y mae eich bwyd yn cytuno â chwi! Rhaid eich bod yn cael digon o hono. A dyma fi yn ymdrechu am fy mywyd ddydd a nos, ac nid allaf ond prin gadw fy hun rhag newynu.”
“Wel,” meddai y Cî, “os mynech


 

 


(delwedd 1047) (tudalen 042) (chwedl 34)



gael yr un fywioliaeth â mi, nid oes i chwi ond gwneyd yr un fath a minau.” “Aië,” ebe’r llall, a pha beth yw hyny?” “O,” ebe y Cî, “dim ond gwylio tŷ fy meistr, a chadw lladron ymaith y nos.” Gwnaf hyny yn llawen; canys nid oes genyf yn awr ond bywyd blin iawn. Byddai newid fy lletty yn y coedwigoedd, yn y gwlaw, a’r eira, a’r rhew, am dô cynhes uwch fy mhen, a llon’d fy nghylla o fwyd da, yn burion bargen.” “Gwir,” meddai y Cî, “ac felly nid oes i chwi ddim i’w wneyd ond fy nghanlyn I.” Fel yr oeddent yn trotian yn mlaen ynghyd, canfyddodd y Blaidd ryw farc ar wddf y Ci, ac i borthi rhyw gywreinrwydd hynod oedd ynddo, nis gallai ond gofyn, pa beth oedd hwnw yn ei arwyddocau. “Pŵ, dim byd,” meddai y Cî. “Na, nid felly,” meddai y Blaidd. “Wel, wel, dim byd o bwys: ôl y goler, feallai, wrth ba un y mae fy nghadwen yn cydio.’’ “Cadwen!” meddai y Blaidd mewn syndod; “nid ydych ddim yn meddwl dyweyd nad ydych ddim yn rhydd i fyn’d a dyfod i’r fan a fynoch, a phan y mynoch?” “Wel, nag ydwyf, yn hollol, efallai; welwch chwi, mae nhw yn gwybod fy mod I yn o groes, weithiau; ac hefyd, ond i mi gysgu y dydd, y medraf wylio yn well y nos, — felly, y maent yn fy rhwymo i fynu, weithiau, yn y dydd, ond yr wyf yn sicrhau i chwi, fy mod yn cael rhyddid perffaith y nos. Ac fe fyddai fy meistr yn fy mhorthi oddiar ei fwrdd ei hun, a’r gweinidogion yn taflu i mi lawer tamaid blasus, canys yr wyf yn cael fy hoffi ganddynt oll, ac ——— Ond pa beth yw’r mater? I ba le yr ydych chwi yn myned?” “O, nos da i chwi,” meddai y Blaidd, “mae i chwi groesaw o’ch danteithion; am danaf fi, y fywioliaeth galetaf gyda rhyddid, yn erbyn moethau breninol gyda chadwen.”

Ni fyn y rhai sydd wedi eu darostwng dan iau ddim cydnabod eu caethiwed. Nid all y neb a gafodd flas ar ryddid, ddim ei werthu er dim.


 

 


(delwedd 1048) (tudalen 043) (chwedl 35)



CHWEDL 35 - Y LLYFFANT A’R YCH.
Ych, yn pori mewn gweirglodd, a ddigwyddodd osod ei droed yn nghanol haid o Lyffaint ieuaingc, ac a sathrodd bron yr oll o honynt i farwolaeth. Un o honynt a ddiangodd, a fynegodd i’w fam y newydd alaethus; “ac O! mam,” meddai, “yr oedd y bwystfil yn fawr, — anifail mawr pedwar troediog; ni welais erioed greadur mor fawr.” “Mawr,” meddai yr Hen Lyffant, “pa mor fawr? A oedd ef mor fawr,” gan ymchwyddo allan gymmaint ag y gallai, “mor fawr a hyn?”
“O!” meddai y fechan, “llawer iawn mwy na hynyna.” “ Wel, a oedd ef gymmaint a hyn, ynte?” ac ymchwyddai all­an eto fwy. “Yn wir, Mam, yr oedd o; a phe byddai i chwi ymhollti, ni chyrhaeddech i hanner ei faint.” Yn eiddigeddus oblegyd y fath ammheuaeth o’i galluoedd a’i mawredd, fe ymndrechodd yr Hen Lyffant drachefn, ac a ymdorodd, neu a ymrwygodd, mewn gwirionedd.

Mae llawer yn andwyo eu hunain, wrth ymdrechu am fawredd nad oes ganddynt ddim hawl na gallu iddo.


 

 


(delwedd 1049) (tudalen 044) (chwedlau 36-37)


CHWEDL 36 - Y CARW CLAF.

Carw a gymmerasid yn glaf, a orweddodd i lawr yn nghanol porfa fras, gerllaw i goedwig, fel y gallai gael digon o ymborth o fewn ei gyrhaedd. Ond daeth llawer o fwystfilod i ymweled ag ef, oblegyd yr oedd yn gariadus, a chan fod pob un yn pori ychydig o’r borfa, fc fwyttasant y cwbl i fynu yn fuan. Felly, er fod y Carw yn gwella o’i afiechyd; eto, yr oedd yn dihoeni gan newyn, ac yn y diwedd a gollodd ei fywyd.

Y mae ymweled o’r gwan yn waglaw, yn ddrwg; ond y mae ymweled ag ef i’w ysbeilio yn waeth.

CHWEDL 37 - Y WYLAN A’R BARCUD.
Gwylan a gipiodd i fynu bysgodyn, ac wrth geisio ei lyncu fe dagodd, ac a orweddodd ar fwrdd fel yn farw. Barcud yn pasio heibio a’i gwelodd, a’r unig gysur a roddodd iddo oedd, “Nid oes fater; pa reswm sydd i adar yr awyr i aflonyddu ar bysgod y môr.”

Anrhydedd yn mhlith lladron!


 

 


(delwedd 1050) (tudalen 045) (chwedl 38)

 

CHWEDL 38 - YR YSGYFARNOG A’R CRWBAN.
Ysgyfarnog a wawdiodd y Crwban oblegyd arafwch ei symudiadau. Y Crwban a wenodd, ac a ddywedodd y rhedai yrfa diwrnod a hi pan y mynai, ac y curai hi hefyd. Cytunodd yr Ysgyfarnog; a chychwynasant ar unwaith. Yr Ysgyfarnog, oblegyd ei chyflymder mawr, a redodd mor bell o flaen y Crwban, fel y chwarddodd am ei ben; ond yn teimlo dipyn yn flinderus, fe orweddodd i lawr i gysgu tipyn, gan deimlo yn eithaf hyderus y medrai orddiwes y Crwban yn hawdd wedi deffroi. Cadwodd y Crwban i drotian yn mlaen yn araf, ond yn ddygn, heb aros na throi o’i ffordd unwaith. Cysgodd yr Ysgyfarnog yn hwy nag y bwriadai, ac erbyn cyrhaedd pen yr yrfa yr oedd y Crwban yno o’i blaen hi.

Araf a dygn a ennill y gamp.


 

 


(delwedd 1051) (tudalen 046) (chwedl 39)

 

CHWEDL 39 - Y CRWBAN A’R ERYR.
Crwban, yr hwn oedd anfoddlawn, am ei fod yn gorfod cribo ar hyd y ddaear, tra y gwelai gymmaint o’r adar, ei gymmydogion, yn chwareu yn mhlith y cymmylau; a chan feddwl os gallai unwaith gyrhaedd i fynu i’r awyr, y gallai ehedcg cystal ag un o honynt, a alwodd ryw ddiwrnod ar eryr, ac a gynnygiodd holl drysorau yr eigion iddo os gwnai efe ei ddysgu i ehedeg. Mynai yr Eryr ymesgusodi, gan sicrhau iddo fod y peth yn anmhossibl; ond oblegyd taerni ac addewidion mawrion y Crwban, efe a gytunodd o’r diwedd, i wneyd y goreu a allai iddo. Felly, fe a’i cymmerodd i fynu yn uchel iawn i’r awyr, ac yna, gan ollwng ei afael o hono, “Yrŵan,” meddai yr Eryr; ond y Crwban, cyn ateb iddo air, a syrthiodd yn union ar graig, ac a ddrylliwyd yn chwilfriw.

Rhaid i falchder gael cwymp.


 

 


(delwedd 1052) (tudalen 047) (chwedlau 40-41)



CHWEDL 40 - Y BACHGEN A’R BLAIDD.
Bachgen o fugail, yn gwilio ei braidd yn agos i bentref, a ddifyrodd ei hun amryw weithiau, trwy redeg yno, a gwaeddi, “Y Blaidd! Y Blaidd!” Deuai yr holl bentref allan ar redeg i’w gynnorthwyo; ac ar ol eu myned yno, chwarddai y Bachgen ar en penau. O’r diwedd, ryw ddiwrnod, daeth y Blaidd mewn gwirionedd. Gwaeddodd y Bachgen allan 6 ddifrif; ond ei gymmydogion, gan feddwl mai wrth ei hên ddifyrwch yr oedd, ni choelient ef, a’r Blaidd a reibiodd y defaid.
Ni choelir y celwyddog, hyd yn nod pan y dywedant
y gwirionedd.


CHWEDL 41 - YR OEN A’R BLAIDD.
Oen yn cael ei ymlid gan Flaidd a redodd am ei fywyd i ryw deml. Ar hyn gwaeddai y Blaidd allan, gan ddywedyd, y byddai i’r offeiriad ei ladd os daliai ef, “Bydded felly,” ebe’r Oen, “gwell yw cael fy aberthu i Dduw, na fy ysglyfaethu genych chwi.”

Gwell marw yn ngwasanaeth y cyssegr, na syrthio yn aberth i drais a chreulondeb.


 

 


(delwedd 1053) (tudalen 048) (chwedl 42)



CHWEDL 42 - YR IÂR A’R GATH.
Câth, yn clywed fod Giar yn gorwedd yn glaf yn ei nyth, a dalodd ymweliad â hi, a chyn nesu atti, dywedodd, “Pa sut yr ydych chwi, fy Nghyfeilles anwyl?
Pa beth a allaf fi ei wneuthur i chwi? Pa beth ydych fwyaf mewn angen am dano? Nid rhaid i chwi ddim ond dywcyd y gair, os oes rhywbeth yn y byd a allaf ei ddwyn i chwi; ond cedwch eich calon i fynu, a pheidiwch a dychrynu, a gollwng eich meddwl i lawr.” “Diolch i chwi,” meddai yr Iar; “byddwch chwi cystal a’ni gadael, ac nid oes genyf ddim ofn na byddaf yn fuan yn iach.”

Mae gormod o garedigrwydd yn beth i’w ddrwgdybio, yn enwedig oddiwrth ryw fath o ymwelwyr; y caredigrwydd mwyaf a all y cyfryw wneyd yw ymadael.


 

 


(delwedd 1054) (tudalen 049) (chwedl 43)



CHWEDL 43 - Y LLEW A’R TEIRW.
Yr oedd pedwar Tarw yn pori y’nghyd mewn cae mewn heddwch a chariad mawr. Digwyddodd fod Llew wedi sylwi arnynt, ac yn eu gwilio yn barhaus, yn y gobaith o allu gwneuthur ysglyfaeth o honynt, ond cafodd nad oedd fawr olwg iddo lwyddo tra y cadwent hwy mor unol â’u gilydd. Fe ddechreuodd, gan hyny, yn ddirgelaidd, daenu. chwedlau maleisddrwg am y naill, wrth y llall o honynt; nes, o’r diwedd, iddo greu drwgdybiaeth ac atgasedd rhyngddynt â’u gilydd. Cyn gynted ag y gwelodd y Llew eu bod yn ysgoi eu gilydd, ac yn ymwahanu, gan bori bob un ar ei ben ei hun, fe syrthiodd arnynt, y naill ar ol y llall, ac a’i hysglyfaethodd oll yn hwylus.

Y mae ymrafaelion cyfeillion, yn fanteisiol i’w gelynion.


 

 


(delwedd 1055) (tudalen 050) (chwedl 44)



CHWEDL 44 - Y LLWYNOG A’R COEDIWR.
Llwynog, bron cael ei ddal gan y cŵn, ar ol rhedegfa faith, a ddaeth i fynu at ddyn yr hwn oedd yn tori coed, ac a erfyniodd arno ddangos iddo ryw le yn mha un i ymguddio.
Dangosodd y dyn iddo ei gaban ei hun, a’r Llwynog a lithrodd i mewn ac a ymguddiodd mewn cornel. Daeth yr Helwyr i fynu gyda hyny, a gofynasant i’r dyn, A welsai ef y Llwynog, ai peidio. “Naddo,” meddai; ond ar yr un pryd, pwyntiai â’i fys tua’r gornel. Eithr hwy, heb ddeall yr amnaid, a aethaut ymaith yn union. Pan ddeallodd y Llwynog eu bod wedi myned allan o’r golwg, fe geisiodd redeg ymaith, heb ddyweyd gair; ond y Coediwr a’i ceryddai ef, gan ddywedyd, “Ai dyma y dull yr ydych yn ymadael â’ch llettywr tirion, heb gymmaint a dychwelyd un gair o ddiolch am roi nodd­ed i chwi?” “Llettywr gwych, yn wir!” ebe y Llwyn­og, gan droi atto, “pe buasech wedi bod mor onest gyda’ch bysedd, ac y buoch gyda’ch tafod, ni buaswn wedl gadael eich tŷ heb ffarwelio â chwi.”

Mae amnaid maleisus, cyn waethed a gair drwg.



 

 


(delwedd 1056) (tudalen 051) (chwedl 45)



CHWEDL 43 - Y FRAN A’R PISER.
Bran, yn barod i farw o syched, a ehedodd yn awyddus at ddyfr-lestr, yr hwn a welai o bell; ond pan y daeth ato, fe gafodd fod y dwfr mor isel ynddo, fel nad allai, er pob ymdrech, ddim cyrhaedd at ddim o hono. Ar hyny, fe geisiodd dori y Piser; yna, ei daflu drosodd, ond nid oedd ei nerth yn ddigon i wneyd y naill na’r llall. O’r diwedd, canfyddai nifer o geryg bychain gerllaw, — fe’u gollyngodd i lawr bob yn un i mewn i’r Piser, ac felly, yn raddol, fe gyfododd y dwfr i fynu at yr ymyl, ac fe dorodd ei syched.

Mae medr ac amynedd yn llwyddo, lle y byddo nerth yn unig yn methu.
Angenrhaid yw mam dyfais.


 

 


(delwedd 1057) (tudalen 052) (chwedl 46)

 

CHWEDL 46 - YR EWIG UNLLYGEIDIOG.
Ewig, i’r hon nid oedd ond un llygad, a arferai bori ar fin y môr, ac er mwyn bod yn fwy parod yn ngwyneb ymosodiad, hi a gadwai ei llygad tua’r tir i wilied rhag agoshâd yr hclwyr, a’r ochr dywyll iddi tua’r môr, o ba le nid ofnai ddim perygl. Ond rhyw longwyr yn rhwyfo mewn cwch, ac yn ei gweled, a annelasant atti oddiar y dŵr, ac a’i saethasant. Pan yn tynu yr anadliad olaf, hi a ruddfanai ynddi ei hun, “Greadur anffodus ydwyf! Yr oeddwn yn ddiogel tua’r tir, o ba le y disgwyliwn ymosodiad; ond cefais ergyd marwol o’r môr, o’r hwn ni ddisgwyliais am ddim niwcd.”

Y mae ein blinderau yn fynych yn tarddu o’r fan y disgwyliem leiaf am danynt.


 

 


(delwedd 1058) (tudalen 053) (chwedlau 47-48)



CHWEDL 47 - Y BOL A’R AELODAU.
Yn y dyddiau gynt, pan nad oedd holl Aelodau dyn yn cydweithio â’u gilydd mor unfrydol ag y maent yn awr, ond pob un yn hawlio ewyllys a ffordd o’i eiddo ei hun, dechreuodd yr Aelodau, un ac oll, fwrw bai ar y Bol am dreulio bywyd segur, diofal, a moethus, tra yr oeddent hwy oll yn llafurio yn ddi-baid er ei gynnaliaeth, ac i weini ar ei anghenion a’i bleserau; felly, fe gyttunasant mewn cyngrair i attal pob cyflenwadau iddo o hyny allan. Nid oedd y dwylaw i gario dim ymborth yn hwy i’r genau, na^r penau i’w dderbyn, na’r dannedd i’w gnoi, &c. Ni buont fawr iawn o amser yn dilyn y cynllun hwn o newynu y Bol a’i ddarostwng, cyn y dechreuasant, y naill ar ol y llall, i ballu a gwanhau, a’r holl gorph i adfeilio. Yna, fe ddeallodd yr Aelodau, fod y Bol hefyd, er mor lwfr a diddefnydd yr ymddangosai, yn cyflawni gwasanaeth priodol; na fedrent hwy ddim gwneyd hebddo ef, mwy nag y medrai ef hebddynt hwy: ac os mynent gael cyfansoddiad y corph mewn cyflwr iachus, fod yn rhaid iddynt oll gydweithio, hob un yn ei le ei hun, er lles cyffrdin yr oll o honynt.

Mae pob dosparth mewn cymdeithas yn dibynu i fesur ar eu gilydd, a pherffeithrwydd cymdeithas ydyw, fod pob dosparth yn llafurio yn ei gylch, er cysur y cyfan.

CHWEDL 48 - Y GRANGC A’I MAM.
Meddai hên Grangc wrth un ieuangc, “Pa’m y cerddwch chwi mor wyrgam, fy mhlentyn?
Cerddwch yn union!” “Mam,” ebe y Grangc bychan, “dangoswch i mi pa fodd, os gwelwch yn dda, a phan y gwelaf chwi yn cymmeryd llwybr unionsyth, mi dreiaf finau eich dilyn.”

Y mae esiampl yn well na chyngor.


 

 


(delwedd 1059) (tudalen 054) (chwedl 49)



CHWEDL 49 - Y TEITHIWR A’R ARTH.
Dau Deithiwr oeddynt yn trafaelu yr un ffordd anial ynghyd, a gyttunasnt i sefyll ynghyd yn ngwyneb pob perygl a ddigwyddai iddynt. Nid aethant yn mhell ymlaen, cyn i Arth ruthro tuag atynt o’r goedwig Un o honynt, mewn ofn, gan anghoflo ei gyfaill, a gribodd i fynu i bren gerllaw, ac a ymguddiodd. Y llall, yn gweled nad oedd dim gobaith iddo yn unigol i wrthsefyll yr Arth, a daflodd ei hun ar y ddaear, ac a ffugiodd ei fod yn farw; oblegyd yr oedd wedi clywed na wnai yr Arth byth gyffwrdd â chorph marw. Fel yr oedd yn gorwedd fel hyn, daeth yr Arth at ei hun, gan ffroeni ac arogli oddeutu ei drwyn, a’i glustiau, a’i galon; ond gan fod y Dyn yn dal ei anadl yn ddi-ildio, y bwystfil a dybiodd ei fod wedi marw, ac a giliodd ymaith. Pan oedd yr Arth yn deg allan o’r golwg, daeth y Teithiwr arall i lawr o’r pren, ac a ofynodd iddo, pa beth a ddywedodd yr Arth wrtho, “Canys mi a’i gwelais,” roeddai, “yn sibrwd yn eich dust.” “Wel,” ebe y llall, “nid rhyw ddirgelwch mawr ydoedd, — yn unig cynghorodd fi i

Beidio cymdeithasu gyda dynion distadl, y rhai os daw perygl, a adawant eu cyfeillion yn y brofedigaeth.”


 

 


(delwedd 1060) (tudalen 055) (chwedl 50)



CHWEDL 50 - Y LLEW, YR ASYN, A’R LLWYNOG
Y Llew, yr Asyn, a’r Llwynog, a aethant allan i hela. Cymmerasant ysglyfaeth fawr, ac wedi darfod y difyrwch, meddyliasant am gael gwledd iawn, Archodd y Llew ar yr Asyn i ranu yr ysbail: felly, yr Asyn a’i rhanodd yn dair rhan gyfartal, ac a ddymunodd i’w gyfeillion gymeryd eu dewis; ond y Llew, wrth weled nad oedd yr Asyn yn gwneyd dim gwahaniaeth rhyngddo ef a’r lleill, a syrthiodd arno mewn digofaint, ac a’i rhwygodd i farwolaeth yn y fan. Yna, efe a barai i’r Llwynog ranu y cyfan yn ddwy ran; ac yntau a grynhodd y cwbl yn un swp mawr, gan gadw y tammeidyn lleiaf erioed iddo ei hun. “A! fy nghyfaill,” ebe y Llew, “pwy ddysgodd i chwi ranu mor union ac mor foesgar?” “Nid oedd arnaf fi eisiau un wers arall,” atebai y Llwynog, “ond tynged yr Asyn.”

Gwell dod yn ddoeth trwy anffodion eraill, na thrwy yr eiddom ein hunain.


 

 


(delwedd 1061) (tudalen 056) (chwedl 51)

 

CHWEDL 51 - Y CARW YN YSTOL YR YCH.
Carw yn cael ei hela, a bron cael ei ddal, a wnaeth am y ffarm-dŷ cyntaf a welodd, ac a ymguddiodd mewn Ystôl Ych, a ddigwyddodd fod yn agored. Fel yr oedd yn ceisio cuddio ei hun yn y gwellt “Pa beth ydych yn feddwl,” meddai yr Ych, “wrth redeg i’r fath ddinystr anocheladwy, trwy ymddiried eich hun yn ngafael dynion?” “Os peidiwch chwi a’m bradychu,” ebe y Carw, “byddaf ddiogel; canys mi âf ymaith y cyfle cyntaf.” Yr hwyr a ddaeth, daeth y porthmon ac y fwydodd y Gwartheg, ac ni sylwodd ar ddim: daeth y fferm weision ereill i mewn ac allan; ïe, daeth yr ystiward ei him i mewn, ond ni welodd neb ddim mwy nag arfer.
Yr oedd y Carw eto yn ddiogel. Yn mhen tipyn, fe gyfododd i fyned ymaith, gan ddiolch i’r Ychain am eu tiriondeb. “Arhoswch dipyn,” meddai un o honynt, “yr ydym yn wir yn ewyllysio yn dda i chwi; ond y mae un person eto, a chanddo gant o lygaid, os digwydd iddo ef ddyfod heibio, ofnaf y bydd eich bywyd eto mewn perygl.” Gyda hyn, y meistr, wedi gorphen ei swper, a ddaeth o gwmpas i edrych a oedd pob peth yn iawn am y nos; ac oblegid ei fod wedi meddwl nad oedd yr Ychain, yn ddiweddar, yn edrych cystal ag y dylasent, yr oedd y bur fanwl: gan fyned i fynu at y rhesel, “Y mae yma rhy fach o wair,” meddai, “A phaham na roddwch fwy o wellt o dan yr Ychain ?” “A pha sawl gwaith y rhaid i mi ddangos y gwëoedd pryf copyn yma i chwi ?” Wrth edrych a chwilio yma ac acw, ac yn mhob man, fe ganfyddai gyrn y Carw, yn sefyll allan o’r gwellt, a chan alw mwy o weision, fe’i daliodd yn y fan.

Nid oes un llygad fel llygad y meistr.


 

 


(delwedd 1062) (tudalen 057) (chwedl 52)



CHWEDL 52 - Y BACHGEN A THYNGED.
Yr oedd Bachgen yn cysgu ar ymyl ffynnon ddofn. Tynged a’i gwelodd, ac a ddaeth ac a’i deffrôdd ef, gan ddywedyd, “Dâ thi, fy mhlentyn, paid gorwedd yn cysgu yna, canys pe digwyddai i ti syrthio i mewn, ni wnai neb dy feio di, ond rhoddid yr holl fai arnaf fi — TYNGHED.”

Y mae Tynghed neu Ragluniaeth druan yn cael taflu llawer iawn wrth ei drws, ac yn fynych iawn yn anghyfiawn hefyd.


 

 


(delwedd 1063) (tudalen 058) (chwedl 53-54)

 

CHWEDL 53 - Y MORHWCH A’R PENWYGYN.
Yr oedd y Môrhychod a’r Môrfilod yn ymladd â’u gilydd, a phan oedd y frwydr boethaf, daeth Penwygyn i mewn, ac a geisiodd eu gwahanu. Ond un o’r Môrhychod a waeddodd allan, “ Gadewch lonydd i ni, gyfaill, gwell i ni farw yn yr ymdrech, na chael ein heddychu genych chwi.”

Ni chaiff yr isel fawr o ddiolch am ymyryd rhwng y mawrion.

CHWEDL 54 - Y FFINIDWYDDEN A’R FIEREN.
Ffynidwydden, un diwrnod, a ymffrostiai wrth y Fieren, — “Nid ydych chwi o ddim defnydd yn y byd; ond pa fodd y gallai ysguboriai a thai gael eu hadeiladu hebof fi? “
“Anwyl syr,” atebai y Fieren, “pan ddêl y coedwyr yma gyda’u bwyeill a’u llifau, pa beth a roi’ch am fod yn Fieren, ac nid yn Ffynidwydden?”

Y mae cyflwr isel gyda diogelwch, yn well na sefyllfa uchel gyda pheryglon.


 

 


(delwedd 1064) (tudalen 059) (chwedl 55)

 

CHWEDL 55 - Y GLOWR A’R PANWR.
Glowr, gan yr hwn yr oedd mwy o le yn ei dŷ
nag oedd eisiau iddo ef ei hun, a gynnygiodd i Banwr ddod i gydfyw ag ef. “Diolch i chwi,” atebai y Panwr, “ond y mae yn well genyf beidio, oblegid yr wyf yn ofni, mor gynted ag y bydd i mi banu fy nwyddau, y bydd i chwithau eu duo hwynt.”

Y mae ymddiddanion drwg yn llygru moesau da.— Nis gall ieuad anghyson lwyddo.


 

 


(delwedd 1065) (tudalen 060) (chwedl 56)

 

CHWEDL 56 - Y LLEW MEWN CARIAD.
Digwyddodd yn yr hen amser gynt i Lew syrthio mewn cariad â Merch i Goediwr. Nid oedd y Coediwr yn caru y cynnygiad, ac a fynai wrthod yr anrhydedd o gyfathrach mor beryglus. Ond y Llew a’i bygythiai â’i ddigofaint breninol; a’r Dyn, druan, yn gweled nad oedd creadur mor ofnadwy ddim i’w nacau, a feddyliodd o’r diwedd am ei ddyrysu trwy y ddichell ganlynol: — “Yr wyf yn ystyried eich cynnygiad yn anrhydedd mawr arnaf,” meddai, “ond urddasol syr, pa fath ddannedd mawrion sydd genych! a’r fath ewinedd llymion! Pa le y mae y ferch na orchfygid gan ofn y fath arfau a’r rhai hyn? Rhaid i chwi gael tynu eich dannedd, a thori eich ewinedd, cyn bod yn gymhwys briod i fy Merch.” Y Llew a foddlonodd yn ddioed (canys pa beth na wna un er mwyn cariad), ac wedi dyoddef y driniaeth, gofynai i’r Tad ei dderbyn fel ei fab y’nghyfraith. Ond y Coediwr, heb achos ofni mwyach rhag bygythiadau y Carwr diarfog a dofedig, a gymerodd bastwn cryf, ac a gurodd y Carwr afresymol oddiwrth ei ddrws.

Y mae llawer yn galaru yn eu pwyll am yr hyn a wnaethant mewn nwyd.
Y mae chwant yn troi y cawr yn gorach.


 

 


(delwedd 1066) (tudalen 061) (chwedl 57)

 

CHWEDL 57 - Y GWYNT A’R HAUL.
Cododd dadl unwaith rhwng y Gwynt a’r Haul pa un o’r ddau oedd y cryfaf, ac i’r diben i’w phenderfynu, hwy a gytunasant fod i pa un bynag o honynt a allai wneuthur i deithiwr dynu ei fantell gyntaf, gael ei ystyried yn gryfaf. Dechreuodd y Gwynt, ac fe chwythodd â’i holl nerth chwa oerllyd a threiddiol, ac a gododd ystorm auafaidd erwinog; ond po cryfaf y chwythai, mwyaf yn y byd y tynai y teithiwr ei fantell o’i amgylch, a thynaf yn y byd y gafaelai ynddi a’i ddwylaw. Yna torodd yr Haul oddi dan y cymylau, ei belydrau hyfryd yn fuan a wasgarent y tarth a’r oerni; teimlai y teithiwr y gwres yn ei gynhesu, ac fel yr oedd yr Haul yn tywynu ddisgleiriach, ddisgleiriach, a’i danbeidrwydd yn cynnyddu, o’r diwedd, eisteddodd i lawr, wedi ei lethu gan y gwres, ac a daflodd ei fantell ar y ddaear. Felly, yr Haul a gyhoeddwyd yn fuddugwr.

Y mae tiriondeb yn fwy nerthol na haerllugrwydd; a pherswadio na bygwth.


 

 


(delwedd 1067) (tudalen 062) (chwedl 58)



CHWEDL 58 - Y FFERMWR A’I FEIBION.
Yr oedd Ffermwr ar ei wely angau, ac yn dymuno dangos i’w Feibion y ffordd i lwyddo mewn amaethyddiaeth fe’u galwodd atto, ac a ddywedodd, “Fy mhlant, yr wyf yn awr yn ymadael a’r bywyd hwn. Y cwbl sydd genyf i’w adael i chwi, chwi a’i cewch yn y winllan.” Y Meibion, yn meddwl ei fod yn cyfeirio at ryw drysor cuddiedig , a ddechreuasant yn ddioed, ar ol claddu yr hên ŵr, i lafurio gyda’u rhawiau a’u herydr, ac a droisant holl bridd y win¬llan drosodd drachefn a thrachefn. Mi ddaethant o hyd i’r trysor disgwyliedig, y mae yn wir; ond y gwinwydd, wedi eu cryfhau a’u gwellhau gan y driniaeth drwyadl hon, a ddygasant fwy o ffrwyth nag a roisant erioed o’r blaen, ac a dalasant yn dda iawn i’r Amaethwyr ieuaingc am eu trafferth. A hwy a ddeallasant fod

Diwidrwydd ei hun yn drysor gwerthfawr.


 

 


(delwedd 1068) (tudalen 063) (chwedl 59)



CHWEDL 59 - Y PRENIAU A’R FWYALL.
Daeth coediwr i’r goedwig i ofyn i’r coed roddi iddo goes i’w Fwyall. Ymddangosai yr erfyniad mor resymol, fel y cydunodd y prif goed ar unwaith i’w ganiatâu; a phenderfynasant yn eu plith, fod i’r Onen gref gyfranu yr hyn oedd eisiau. Nid cynt y cafodd y coediwr ffon gymhwys, ac y gwnaeth hi yn barod, nag y dechreuodd ymosod ar, a thori i lawr y coed ardderchoccaf yn y goedwig. Y Dderwen, yn gweled y peth drwyddo yn rhy ddiweddar, a sylwai wrth y Gedrwydden, “Y mae y tynerwch cyntaf wedi dinystrio y cyfan: pe gwrthodasem aberthu ein cymmydog tlawd, gallasem sefyll am oesau ein hunain.”

Pan abertha y mawrion iawnderau yr iselradd, rhoddant esgus i ymosod ar eu hawliau eu hunain. Dylid gwilio rhag yr ymostyngiad cyntaf i ormes.


 

 


(delwedd 1069a) (tudalen 064) (chwedl 60)



CHWEDL 60 - YR ASYN A’R CI BACH.
Yr oedd Asyn a Chî Bach yn perthyn i’r un meistr. Yr oedd yr Asyn yn yr ystabl yn cael digon o ŷd a gwair, ac yn byw cystal ag un Asyn yn y byd. Yr oedd y Cî Bach bob amser yn chwareu ac yn prangcio o gwmpas ei feistr, yn ei ddifyru yn mhob modd, nes dod mor uchel i’w ffafr, fel yr oedd yn cael gorwedd ar ei liniau. Yr Asyn a sylwodd ar fywyd segur a moethus y Cî Bach, a chan gyferbynu hyny a’i lafur parhaus ef, cenfigenodd wrtho; ac a feddyliodd ond iddo ef weithredu yn yr un modd tuag at y meistr, y cai yntau yr un driniaeth. Felly, ryw ddiwrnod, fel yr oedd ei feistr yn eistedd i fwytta, fe ruthrodd, gan frefu a phrangcio, tuag atto; fe ysgydwodd ei gynffon, ac a efelychodd gampiau y Cî Bach, nes taflu i lawr y bwrdd ciniaw a thori y llestri; ac o’r diwedd, ceisiodd neidio ar ei liniau, gan ei gyfarch ef a’i draed pedoledig. Y gweision a chwarddent yn y dechreu, ond wrth weled ei meistr dan y fath driniaeth beryglus, a ddaethant yn mlaen i’w amddiffyn; ac wedi ei ryddhau oddiwrth gofleidiau yr Asyn, hwy a gurasant y creadur ffol â ffyn a fflangellau, nes yr oedd yn mron inarw. “Och! fi,” meddai yr Asyn, “na buaswn foddlawn yn fy lle fy hun, yn lle ceisio dynwared a munudiau ffol un nad oedd ond clepgi ar ol y cwbl.”

Mae pob un a elo allan o’i lwybr naturiol yn agored i wawd a dirmyg.


 

 


(delwedd 1069b) (tudalen 065) (chwedl 61)



CHWEDL 61 - Y GOLOMEN A’R FRAN.
Colomen a gedwid i fynu mewn cwt, oedd yn ymlawenhau oblegid lluosogrwydd ei theulu. “Rhoddwch heibio, druan,” ebe’r Fran, “ymffrostio ar y pen yna; canys po mwyaf o rai ieuaingc a fydd genych, mwyaf yn y byd fydd genych o gaethion i alaru am danynt.”

Y mae pethau ydynt drugareddau mewn rhyddid, yn brofedigaethau mewn caethwasanaeth.


 

 


(delwedd 1070a) (tudalen 066) (chwedl 62)

(tudalen 65a)

CHWEDL 62 - Y LLEW A’R LLWYNOG.

Llwynog a gytunodd i aros gyda Llew, fel gwas iddo. Am dymhor, yr oedd pob un o’r ddau yn cyflawni yr hyn oedd yn briodol iddo;—arferai y Llwynog yspïo yr ysglyfaeth, a’r Llew ymosod arno a’i ddal. Ond y Llwynog, yn dechreu meddwl ei hun cygystal â’i Feistr, a erfyniodd ganiatad i hela yr ysglyfauth, yn gystal a’i yspïo. Caniatawyd ei ddymuniad: ond fel yr oedd yn y weithred o ymosod ar braidd, daeth yr helwyr i fynu atto, a chymerwyd ef ei hun yn gaeth.

Cadwed pob un ei Ile ei hun, ac fei ceidw ei le ef.


 

 


(delwedd 1070b) (tudalen 067) (chwedlau 63-64)

(tudalen 65b)

CHWEDL 63 - IAU A’R CAMEL.
Pan y gofynodd y Camel, ar ryw dro, i Iau ganiatau cyrn iddo, oblegid ei fod yn ofid iddo weled anifeiliaid ereill wedi eu cynnysgaeddu â hwynt, ac yntau hebddynt; Iau, nid yn unig a wrthododd roddi iddo y cyrn a ddeisyfai, ond a gwtogodd ei glustiau iddo am ei drachwant.

Wrth ofyn yn afresymol, gallwn golli yn lle ennill.

CHWEDL 64 - Y DYN DALL A’R CENAW.
Dyn Dall, a arferai, pan roddid rhyw greadur yn ei law, i ddweyd pa beth ydoedd. Ar ryw achlysur, dygwyd Cenaw blaidd atto. Teimlodd ef i gyd drosto; a chan fod yn ammheus, fe ddywedodd, “Nis gwn pa un ai ci, ai blaidd oedd dy dad: ond hyn a wn,—Ni wnawn dy ymddiried yn mhlith deadell o ddefaid.”

Y mae tueddiadau drwg, yn ymddangos yn foreu. Ni ddylid ymddiried y nyr hyn sydd debyg i ddrwg.


 

 


(delwedd 1071) (tudalen 068) (chwedlau 65-66-67)

 

CHWEDL 65 - Y TWRCH DAEAR A’I FAM.
“Mam,” ebe Twrch Daear ieuangc wrth el Fam, “mi fedraf fi weled.” I’r dyben o’i dreio, rhoddodd y Fam ddarn o Thus o’i flaen, ac a ofynodd iddo, pa beth ydoedd.
“Careg,” meddai y yntau. “O! fy rnhlentyn,” atebai y Fam, “ nid yn unig nid ydych yn gweled, ond nid ydych yn gallu arogli chwaith.”

Wrth wadu un diffyg, y mae rhai yn amlygu un arall.

CHWEDL 66 - YR ASYN A’R CEILIOG RHEDYN.
Asyn, wrth glywed y Ceiliogod Rhedyn yn chwibanu, a fawr foddhawyd gan eu peroriaeth; a chan benderfynu, os gallai, gyrhaedd yr un dawn a hwythau, a ofynodd iddynt, ar ba beth yr ymborthent, fel ag i ganu mor fwyn. Atebasant hwythau, na swperent ar ddim ond y gwlith: a’r Asyn, wrth ymroi i fyw ar yr un lluniaeth, a fu farw o newyn.

Ni wna newid ymborth newid natur. “Y mae yr hyn sydd faeth i un, yn wenwyn i’r llall.”

CHWEDL 67 - ERCLWFF A’R GWAGENWR.
Fel yr oedd Gwladwr yn gyru ei wagen yn ddiofal mewn ffordd gul, glynodd yr olwynion mor ddwfn. yn y clai, fel nad allai ci geffylau eu tynu oddiyno. Ar hyn, y Gyrwr, heb wneyd un ymdrech ei hun, a ddechreuodd waeddi ar y duw Ercwiff i ddyfod i’w waredu o’i brofedigaeth. Ond parai Ercwlff iddo osod ei ysgwydd at yr olwyn, a sicrhai ef, na wnai y nefoedd ddim helpu y rhai na ymdrechent i helpu eu hunain.

Ofer yw i ni ddisgwyl y caiff ein gweddiau eu gwrando, oni bydd i ni ymdrechu yn gystal a gweddio.


 

 


(delwedd 1072) (tudalen 069) (chwedl 68)

 

CHWEDL 68 - Y LLWYNOG A GOLLODD EI GYNFFON.
Llwynog, wedi ei ddal mewn trap, a achubodd ei fywyd, trwy adael ei Gynffon ar ei ol; ond wedi dyfod i blith ei gyfeillion, teimlai y fath gywilydd oblegid hynodrwydd yr anaf oedd arno, nes o’r bron y buasai yn well ganddo fod wedi marw, na dyfod yn rhydd heb ei Gynffon. Ond beth bynag, i wneyd y goreu o’r gwaethaf, efe a alwodd y’nghyd gyfarfod o Lwynogod, ac a gynnygiodd, fod iddynt oll ddilyn ei esiampl ef, “Nis gellwch ddirnad,” ebe efe, “gyda’r fath gysur, a rhyddid, yr wyf yn awr yn gallu symud oddiamgylch; nis gallaswn gredu y fath beth, oni bai i mi wneuthur y prawf arnaf fy hun: ond yn wir, erbyn i ni ystyried, y mae Cynffon yn beth mor hyll, anhwylus, a dianghenrhaid, fel mai yr unig syndod yw, ein bod ni, Lwynogod, wedi ei dyoddef cyhyd. Yr wyf fi yn cynnyg, gan hyny, fy anwyl frodyr, fod i chwi oll gymmeryd addysg oddiwrth fy mhrofiad I, a bod i bob Llwynog dori ymaith ei Gynffon, o’r dydd hwn allan.” Ar hyn, daeth un o’r Llwynogod hynaf yn mlaen, a dywedodd, “Yr wyf fi braidd yn meddwl, gyfaill, na


 

 


(delwedd 1073) (tudalen 070) (chwedlau 68-69)

 

buasech chwi ddim yn ein hannog ni i ymadael â’n Cynffonau, pe buasai rhyw obaith i chwi ennill eich Cynffon eich hun yn ol.”

Os nad all dynion o natur basaidd gyrhaedd at ragoroldeb rhai ereill, hwy a ymdrehant dynu pawb ereill i lawr i’w distadledd en hunain.

CHWEDL 69 - YR HEN WRAIG A’R MEDDYG.
Hen Wraig, yr hon, wedi colli ei golwg, a alwodd Feddyg i mewn, ac a addawodd iddo, o flaen tystion, os byddai iddo adferu ei golwg, y gwnai hi ei wobrwyo yn hardd; ond os na iachai efe hi, na thalai hi ddim iddo. Wedi gwneuthur y cytundeb, esgeulusodd y Meddyg lygaid yr Hên Wraig, er ei fod yn galw, o dro i dro; ac ar yr un pryd, fe gariodd ymaith, yn raddol ei holl ddodrefn, a’i dâ. O’r diwedd, fe ymosododd atti o ddifrif, ac a adferodd ei golwg; ac yna, fe ofynodd am y wobr addawedig. Ond yr Hên Wraig, wedi cael el golwg, a ganfu fod ei holl ddâ wedi diflannu, gan hyny, yr oedd y Meddyg yn gwasgu arni am daliad, hi a’i rhoddai ymaith yn barhaus gydag esgusodion, nes o’r diwedd iddo ei gwasgu hi o flaen y barnwr. Wedi galw arni am ei hamddiffyniad, hi a ddywedodd, “Y mae yr hyn a ddywed y Dyn hwn yn bur wir; — mi a gyttinais i’w wobrwyo, os adferai fy ngolwg; ond na thalwn iddo, os parhai fy llygaid yn ddrwg. Yn awr, y mae efe yn dyweyd, fy mod I wedi fy iachau; ond yr wyf fi yn haeru yn hollol i’r gwrthwyneb, — canys pan ddechreuodd fy anhwylder ddyfod arnaf, yr oeddwn yn gweled pob math o ddodrefn, a dâ, yn fy nhŷ; ond yn awr, pan y mae efe yn hòni ei fod wedi adferu fy ngolwg, nid wyf yn gweled dim o’r naill na’r llall.”

Rhaid i’r neb a wna gast anonest, ddisgwyl cael goganiad o’i herwydd, o’r hyn lleiaf.


 

 


(delwedd 1074) (tudalen 071) (chwedl 70)

 

CHWEDL 70 - YR YSGYFARNOGOD A’R LLYFFAINT.
Digwyddodd ar ddiwrnod ystormus, fod llu o Ysgyfarnogod wedi eu hamgylchynu gan elynion ar bob tu; yn eu braw, daethant i’r penderfyniad alaethus, nad oedd dim diangfa iddynt, ac na waeth iddynt wneuthur pen arnynt eu hunain, un ac oll. Ymaith a hwynt at lyn o ddŵr gerllaw, gan fwriadu rhoddi terfyn ar eu trueni mawr trwy hunanfoddiad. Haid o Lyffaint, yn chwareu ar lan y llyn, wedi eu dychrynu gan agoshâd yr Ysgyfarnogod, a neidiasant yn y braw a’r dyryswch mwyaf i’r dwfr, ac a ymguddiasant yn y gwaelod. “Aroswch, fy nghyfeillion,” ebe un o’r Ysgyfarnogod blaenaf, “nid yw ein hamgylchiadau ni cynddrwg eto; dyma greaduriaid truenus ereill, mwy diamddiffyn, ac mewn mwy o fraw a thristwch na ninnau.”

Gellid casglu gwroldeb, os nid cysur, oddiwrth brofedigaethau ereill. Canys pa faint bynag ein trueni, ni a gawn fod llawer a pha rai ni fynem er dim gyfnewid amgylchiadau.


 

 


(delwedd 1075) (tudalen 072) (chwedlau 71-72)

 

CHWEDL 71 - Y PYSGOTTWR A’R PYSGODYN BYCHAN.
Gŵr, yr hwn a ennillai ei fywioliaeth wrth Bysgotta, ar ol diwrnod hir, ni ddaliodd and un Pysgodyn bychan. “Arbedwch fi,” ebe y creadur bychan, “yr wyf yn deisyf arnoch; canys yr wyf mor fychan fel nid wyf yn ddigon i wneyd pryd i chwi. Nid wyf wedi dyfod i’m llawn dŵf eto; teflwch fi yn ol i’r afon an ditpyn, ac yna, pan ddelwyf yn fawr, ac yn werth eich sylw, gallwch ddyfod yma a’m dal I eto.” “Na, na,” atebai y Dyn, “yr ydych yn fy ngafael yn awr; ond os unwaith y cewch y dwfr yn ol, eich cân a fydd, ‘Daliwch fi, os medrwch.’”

Y mae aderyn mewn llaw yn werth dau mewn llwyn. Ynfydrwydd yw gollwng gafael ar y sicr, er mwyn yr ansicr.

CHWEDL 72 - Y FFERMWR A’R CHWIBON.
Gosododd Amaethydd rwyd yn ei faes i ddal y garanydd oeddent yn dyfod i ymborthi ar yr yd, newydd ei hau. Pan aeth i chwilio y rhwyd, a gweled pa faint o’r adar oedd wedi eu dal, fe gafodd Chwibon yn eu plith. “Arbedwch fi,” meddai y Chwibon, “a gadewch i mi fyned yn rhydd. Nid garan ydwyf fi. Ni fwyteais I ddim o’ch ŷd. Chwi¬bon, druan, ddiniwed ydwyf ti, fel y gwelwch: — un o’r moesolaf a ffyddlonaf o adar; yr wyf yn anrhydeddu ac yn gofalu am fy rhieni, yr wyf ———” Ond torodd y Ffermwr ei stori yn fyr, gan ddywedyd, “Gall hyn yna oll fod yn ddigon gwir, am a wn I; ond hyn a wn, mi a’ch deliais chwi gyda y rhai oedd yn dyfetha fy nghnydau, a rhaid i chwi ddyoddef gyda’r cymdeithion gyda pha rai y’ch cymmerwyd.”

Y mae cymdeithas ddrwg yn llefaru yn uwch na phroffes dda.


 

 


(delwedd 1076) (tudalen 073) (chwedlau 73-74-75)

 

CHWEDL 73 - YR EPA A’R CAMEL.
Mewn cynnulliad mawr o’r bwystfilod, safodd yr Epa i fynn i ddawnsio, a chan ei fod wedi dangos rhagoriaeth mawr yn hyny, cafodd ganmoliaeth mawr gan bawb oedd yn bresenol. Darfu i hyny ennyn cenfigen yn meddwl y Camel, ac efe a ddaeth yn mlaen i ddawnsio hefyd; ond fe wnaeth ei hun mor wrthun yn ei ymdrechiadau afrosgo, fel yr ymosododd yr holl fwystfilod arno â’u ffyn, ac a’i troisant o’r gymdeithas.

Pob un ei ddawn ei hun. “Na estynwch y fraich, yn mhellach nag y cyrhaedd eich llewis.”

CHWEDL 74 - Y MUL.
Mul, neu fel y gelwir ef yn gyffredin Bastardd-ful, yr hwn oedd wedi myned yn dra chalonog, trwy seguryd a gormod o ŷd, oedd un diwrnod yn neidio ac yn prangcio oddiamgylch; ac yn ei afiaeth, fe waeddodd, gan godi ei gynffon, “Yr oedd fy mam I yn gaseg o waed, ac ennillodd lawer rhedegfa, ac yr wyf fi cygystal ag y bu hi erioed.” Ond wedi blino yn fuan yn carlamu ac yn chwareu, fe gofiodd ai unwaith mai Asyn oedd ei dad.

Y mae dwy ochr i bob pwngc; doeth yw edrych ar y ddwy, cyn siarad na gweithredu nemawr.

CHWEDL 75 - Y LLEWES.
Bu dadleuaeth fawr yn mhlith yr holl fwystfilod, pa un a allai ymffrostio o’r teulu lluosocaf.
O’r diwedd, daethant at y Llewes, “A pha faint,” meddent, “sydd genych chwi o rai bychain ar y tro?” “Un,” meddai hithau, gyda mawreddigrwydd, “ond y mae yr un hwnw yn Llew.”

Ardderchogrwydd o flaen lluosogrwydd.


 

 


(delwedd 1077) (tudalen 074) (chwedl 76)

 

CHWEDL 76 - Y BWRNIAD O FFYN.
Llafurwr, plant yr hwn oeddynt yn dueddol iawn i anghytuno, wedi treio pob moddion trwy eiriau i’w heddychu, a feddyliodd y gallai lwyddo yn well trwy esiampl. Felly, fe alwodd ei feibion ynghyd, ac a barodd iddynt ddwyn Bwrnaid o Ffyn o’i flaen: yna, wedi eu rhwymo yn un sypyn, fe barodd i’r bechgyn, y naill ar ol y llall, ei gymmeryd i fynu a’i don; treiodd pob un ei oreu, ond yr oedd eu hymdrech yn ofer. Yna, fe ddatododd yr hen ŵr y Ffagoden, ac a roddodd y Ffyn iddynt i’w tori bob yn un ac un; gwnaethant hyny yn eithaf hawdd. “Fel yna,” meddai y Tad, “y byddwch chwi, fy Meibion, os aroswch yn un, yn ddigon i wrthsefyll eich holl eiynion; ond os bydd i chwi anghytuno ac ymranu chwi a ddinystrir.”

Mewn undeb mae nerth.


 

 


(delwedd 1078) (tudalen 075) (chwedl 77)

 

CHWEDL 77 - Y DYN A’R LLEW.
Digwyddodd fod Dyn a Llew yn cyd deithio; a chyfododd dadl boeth rhyngddynt, pa un ai Dyn ai Llew oedd y creadur dewraf a chryfaf; fel yr oeddent yn cyndyn ddadleu, daethant heibio i gerfddelw, ar ymyl y ffordd, o Ddyn yn llindagu Llew. “Edrychwch yna,” ebe y Dyn, “pa brawf ychwaneg a fynech na hwnyna o uwchafiaeth y Ddynoliaeth?” “Dyna,” atebai y Llew, “ eich adroddiad chwi o’r mater: ond gadewch i ni fod yn gerfwyr, ac am un Llew o dan draed Dyn, chwi a gewch ugain o Ddynion o dan balf y Llew.”

Nid oes fawr o ymddiried i ŵr pan yn dyst, neu farnwr yn ei achos ei hun. “Diboen i ddyn dybio yn dda.”


 

 


(delwedd 1079) (tudalen 076) (chwedl 78)

 

CHWEDL 78 - Y FAMMAETH A’R BLAIDD.
Blaidd, yn crwydro oddi amgylch, gan geisio ei ysglyfaeth, a ddigwyddodd fyned heibio i ddrws, lle yr oedd plentyn yn crïo, a’r Fammaeth yn ei ddwrdio. Safai i wrando, a chlybu y Wraig yn dweyd, “Rho heibio grïo, y funud yma, neu mi a’th daflaf allan i’r Blaidd.” Y Blaidd, a ddaliodd ar y gair, ac a arosodd yn llonydd wrth y tŷ hyd yr hwyr, gan ddisgwyl cael swper rhagorol. Ond fel yr oedd yn hwyrâu, fe aeth y plentyn yn ddistaw, ac fe glywodd y Fammaeth, drachefn, yn anwylo y plentyn, ac yn dywedyd, “Dyna blentyn da; os daw y Blaidd drwg yna i ymofyn fy mhlentyn, mi a’i curwn ef i farwolaeth, mi wnawn.” Troes y blaidd tuag adref, yn siomedig a digllawn: ar y ffordd, cyfarfu â Llwynog, yr hwn a’i gwawdiodd, gan ddywedyd, “Dyna ddysgu i chwi ymddiried mewn gair benyw.” —Ond ein cymhwysiad ni ydyw,

Nac ymddiriedwch yn ngair y neb a ddywedant un (peth), gan feddwl peth arall.


 

 


(delwedd 1080) (tudalen 077) (chwedl 79_AR-GOLL)

CHWEDLAU AESOP. 

CHWEDL 79 - YR EPA A’R MORHWCH.


Yr oedd yn hen arfer y'mhlith Ilongwyr, i ddwyn

gyda hwynt Gŵn bach, neu Epaod, i'w difyru ar eu

mordaith ; felly, digwyddodd, ar ryw dro, i forwr

gymmeryd Epa gydag ef ar fwrdd y Ilong. Pan

gerllaw Sunicim, pentref enwog Attica, daliwyd

y Ilestr gan ystorm fawr, dymchwelwyd hi, a

thaflwyd pawb oddiar y bwrdd i'r mar, ac ymdrechent am y tir goreu y gallent: yn eu plith, yr

oedd yr Epa. Môrhwch a'i gwelodd yn yr ymdrech, a chan feddwl mai dyn ydoedd, aeth i'w

gynnorthwyo, ac a'i dygodd ar ei gefn yn union

tua'r Iån. Pan gyferbyn Poracus, porthladd Athen,

gofynai y Môrhwch iddo, ai Atheniad oedd ef.

“O, ïe,” ebe yr Epa, yn ddiau, ac yr wyf o'r

teuluoedd parchusaf yn y ddinas."  “Felly, chwi a

wyddoch yn dda am Poracus, wrth gwrs," meddai

y Môrhwch. “O, gwn," atebai yr Epa, gan feddwl

mai enw rhyw ddinesydd anrhydeddus ydoedd,

y mae efe yn un o'm cyfeillion penaf." Yn ffeiddio y fath dwyll a chelwydd, nofiodd y Môrhwch i'r

gwaelod yn y fan, gan adael yr Epa celwyddog i'w

dynged.

 

Y mae balchder ffol yn arwain Ilawer un i benbleth ;

ac y mae celwydd yn dir tra pheryglus.

 

 


(delwedd 1081) (tudalen 078) (chwedl 80_AR-GOLL)

 

CHWEDL 80 - Y MARCH A’R CARW.

 

Yr oedd Ceffyl mewn gweirglodd, ac yn dymuno

ei chael oll iddo ei hun, yn cael ei flino gan Garw,

ac nis gallai ei gyru ymaith, oblegid yr oedd y Carw

a'i gyrn geirwon yn gallu ei herio. Yn ei gyfyngder,

erfyniodd y March ar ryw ddyn i'w gynnorthwyo i

ymlid y Carw ymaith. “O'r goreu," ebe y dyn,

“gadewch i mi roddi ffrwyn yn eich genau, a chyfrwy ar eich cefn, ac ni a wnawn yn burion ag ef."

Cytunodd y March, ae aeth y dyn ar ei gefn, ac ymlidiwyd y Carw ymaith. Ond siomwyd y March yn

fawr, pan aeth i ddiolch i'r dyn, a ffarwelio ag ef, y

dywedodd yr Olaf, “Na, ni wyddwn I o'rblaen eich bod yn greadur mor ddefnyddiol; gan fy mod wedi deali hyny, bellach, mi å'ch cadwaf at fy ngwasanaeth."

 

Mae yn bossibl prynu dial yn rhy ddrud. Gwell yw

ychydig dlodi gyda rhyddid ac annibyniaeth, na llawnder gyda chaethiwed.


 

 


(delwedd 1082) (tudalen 079) (chwedlau 81-82-83)

 

CHWEDL 81 - Y BLAIDD A’R DEFAID.
Blaidd, wedi ei frathu gan Gî, fel yr oedd mewn mawr boen, ac yn analluog i symud, a alwodd ar Ddafad, yr hon oedd yn pasio heibio, ac a ddeisyfodd arni gyrchu ychydig ddwfr iddo, o ffrŵd oedd gerllaw, “Canys,” meddai, “os dygwch chwi ddiod i mi, mi a chwiliaf am fwyd fy hun.” “O, gwnewch, yn ddiammeu,” atebai y Ddafad, “canys os deuaf i ddigon agos i ddwyn diod i chwi, chwi a wnewch fwyd o honof fi.”

“Os na byddi gryf, bydd gyfrwys.”

CHWEDL 82 - Y WEDDW A’R DDAFAD.
Yr oedd gan ryw Wraig Weddw un Ddafad, chan ddymuno gwneyd y goreu o’i gwlan, fe’i cneifiodd mor llwyr, fel ag i dori y croen yn gystal a’r cnu. Y Ddafad, yn boenus gan y driniaeth, a waeddodd allan, “Pahan yr ydych yn fy nolurio fel hyn? Pa faint a chwanega fy ngwaed I at bwysau y gwlan? Os mynech fy nghnawd, meistres, anfonwch am y cigydd, yr hwn a’m rhyddhâ allan o fy mhoen ar unwaith; ond os fy ngwlan a fynech, anionwch am dy cneifiwr, yr hwn a gneifia fy ngwlan heb dynu fy nghwaed.”

Pob un at ei alwedigaeth ei hun sydd oreu.

CHWEDL 83 - Y CI A’I FEISTR.
Fel yr oedd rhyw Wr ar gychwyn i daith, fe sylwodd ar ei Gi, yn sefyll wrth y drws, ac a ddywedodd wrtho, “Paham yr ydych yn ystwyrian yna?
Ceisiwch eich hun yn barod i fyned gyda mi.” Y Ci, gan ysgwyd ei gynffon, a atebodd, “Yr wyf fi yn hollol barod, Meistr; y chwi sydd raid hwylio a thaclu.”

Mae baich y tlawd yn hawdd ei drefnu.


 

 


(delwedd 1083) (tudalen 080) (chwedl 84)



CHWEDL 84 - Y CI SARUG.
Yr oedd Cî mor flin a pheryglus, fel yr oedd ei feistr yn gorfod rhoi cadwen am ei wddf a phwysau wrth ei phen, i’w attal i ruthro i, a brathu y cymmydogion. Y Cî, yn lle cywilyddio, a ymffrostiodd yn ei lyffethair, ac a gerddodd trwy’r heol, gan ysgwyd ei gadwen i alw sylw pawb atto. Ond rhyw gyfaill cyfrwys a ddywedodd wrtho, — “Goreu po lleiaf o sŵn a wneloch; canys nid gwobr am deilyngdod yw eich cadwen, ond arwydd o warth.”

Mae rhai mor hoff o hynodrwydd, fel mai gwell ganddynt fod yn hynod am eu beiau a’u ffoleddau, na bod yn hollol ddisylw o honynt.


 

 


(delwedd 1084) (tudalen 081) (chwedl 85)

 

CHWEDL 85 - YR ADALWR A’R EHEDYDD.
Fel yr oedd Adarwr yn gosod ei rwydi ar faes; Ehedydd, wrth sylwi arno o bell, a ofynodd iddo, pa beth yr oedd yn ei wneuthur. “Yr wyf yn sefydlu. trefedigaeth,” ebe yntau, “ac yn gosod sylfaeni fy ninas gyntaf.” Ar hyny, ciliodd y Dyn o’r naill du, ac a ymguddiodd: yr Ehedydd, gan goelio ei ymadrodd, a ehedodd i lawr i’r fan, a chan lyngcu yr abwyd, a gafodd ei hun yn y fagl. Gyda hyny, daeth yr Adar¬wr i fynu, ac a’i cymmerodd yn garcharor. “Wel, gwalch rhyfedd ydych chwi,” ebe yr Ehedydd, “os dyma y trefedigaethau yr yr ydych yn eu sefydlu, ni chewch fawr o ymfudwyr.”

Y mae y diniwed yn, rhy barod i gredu pob chwedl; a’r ffol ni egyr ei lygaid nes yn y rhwyd.


 

 


(delwedd 1085) (tudalen 082) (chwedl 86)



CHWEDL 86 - Y WENOL A’R GIGFRAN.
Bu dadl rhwng y Wenol a’r Gigfran, pa un o’r ddau oedd yr aderyn ardderchoccaf; diweddodd y Gigfran y ddadl, trwy ddywedyd, “Nid yw eich harddwch chwi ond am yr haf, tra y pery yr eiddof fi trwy lawer gauaf.”

Dyna’r harddwch goreu, yr hwn a saif bob tywydd. Mae parhâd yn well na gwychder.


 

 


(delwedd 1086) (tudalen 083) (chwedl 87_AR-GOLL)

 CHWEDL 87 - Y GANWYLL FFYRLING.

 

Canwyll Ffyrling, yr hon oedd wedi tyfu yn dew

ac yn drahaus-falch gan ormod o frasder, a ymfrostiodd un noswaith, o flaen cwmni mawr, ei bod hi yn goleuo mwy na'r haul, a'r Ileuad, a'r holl sér i gyd: yn y funud hono, daeth pwff o wynt ac a'i diffoddodd. Rhywun gerllaw, a’i goleuodd drachefn, gan ddywedyd, Disgleiria y'mlaen, Ganwyll fechan; ond attal dy dafod, — nid yw goleuadau y nefoedd

byth yn cael eu diffoddi."

 

Mae methiant y ffrostgar yn ddirmygus. Caiff y

Ileiaf ei ddawn barch a chydymdeimlad, os bydd yn

ostyngedig.


 

 


(delwedd 1087) (tudalen 084) (chwedl 88_AR-GOLL)

 

CHWEDL 88 - Y BUGAIL A’R TARW COLLEDIG.

 

Bugail Gwartheg, wedi colli Tarw, a aeth ar grwydr

trwy yr anialwch, gan chwilio am dano. Wedi methu

llwyddo, fe ddechreuodd addunedu i holl dduwiesau y goedwig a'r mynydd, ac hefyd i Ercwlff a lau, yr offrymai oen iddynt, os dangosent iddo y Ileidr. Gyda hyny, wrth groesi codiad yn y tir, fe ganfu lew gerllaw, yn sefyll uwch ben celain ei Darw prydferth. Erbyn hyn, dechreuodd y Dyn brawychedig addunedu yr offrymai y Tarw hefyd, os cai ef ond ei waredu o balfau y Ileidr."

 

Pe caniateid ein gweddiau annoeth ni bob amser, fe

ddygid llawer i ddinystr trwy eu dymuniad eu hunain.

 

 


(delwedd 1088a) (tudalen 085) (chwedl 89)



CHWEDL 89 - Y DYN A FRATHWYD GAN GI.
Dyn wedi ei Frathu gan Gî, a aeth oddi amgylch, gan ofyn pwy ai hiachâai. Rhyw ŵr a’i cyfarfu, a ddywedodd wrtho, “Syr, os mynech gael eich hiachau, cymmerwch damaid o fara, a gwlychwch ef yn y .gwaed o’r briw, a rhoddwch ef i’r ei a’ch brathodd.’ Chwarddai y Dyn ar hyn, ac atebai, “Pe dilynwn eich cyngor chwi mi gawn fy mrathu gan holl Gŵn y ddinas.”

Pwy bynag a amlyga barodrwydd i brynu i fynu neu lwgrwobrwyo ei elynion, ni bydd byth heb ddigon o honynt.


 

 


(delwedd 1088b) (tudalen 086) (chwedl 90)

(tudalen 83a)

CHWEDL 90 - Y TEITHWYR A’R BLANWYDDEN.
Teithwyr, ar ddiwrnod poeth yn yr haf, wedi eu llethu gan wres yr haul ganol dydd, yn canfod Planwydden gcrllaw, a aethant atti, a chan ymdaflu ar y ddaear, a orphwysasant dan ei chysgod. Gan edrych i fynu, fel y gorweddent, tua’r pren, dywedent wrth eu gilydd, “Y fath bren difudd i Ddyn yw y Blanwydden ddiffrwyth hon!“ Ond atebai y Blanwydden hwynt, “Greaduriaid anniolchgar! Yn yr un funud ag yr ydych yn derbyn lles oddiwrthyf, yr ydych yn fy nifrïo, gan ddywedyd nad ydwyf yn dda i ddim.”

Y mae anniolchgarwch yn fynych mor ddall ac ydyw o ffiaidd.


 

 


(delwedd 1089a) (tudalen 087) (chwedl 91)

(tudalen 83b)

CHWEDL 91 - Y DDERWEN A’R GORSEN.
Derwen, wedi eu diwreiddio gan y gwyntoedd, a gariwyd i lawr ffrwd yr afon, ar ymyl yr hon yr oedd llawer o Gyrs yn tyfu. Synai y Dderwen fod pethau mor wael a gwan wedi gallu sefyll yr ystorm, pan yr oedd pren mawr a chryf, fel efe, wedi ei ddiwreiddio. uNa ryfeddwch ddim,” ebe y Gorsen, “dymchwelwyd chwi trwy wrthsefyll y dymhestl; ond achubwyd ni, trwy ein bod yn ildio ac yn plygu o flaen pob awel.”

Mewn amgylchiadau, pan y mae yn anmhossibl gorchfygu, y mae plygu ac ymostwng yn amyneddgar yn un o wersi goreu bywyd.


 

 


(delwedd 1089b) (tudalen 088) (chwedl 92)



CHWEDL 92 - Y WIBER A’R DDURLIF.
Gwiber, wedi myned i mewni i siop gôf, a ddechreuodd edrych oddi amgylch am rywbeth i’w fwyta , o’r diwedd, gwelodd Ddurlif, ac aeth atti, a dechreuodd el chnoi. Ond y Ddurlif a’i cynghorodd i’w gadael yn llonydd, gan ddywedyd, “Nid ydych yn debyg o gael ond ychydig genyf fi, gwaith yr hon yw brathu ereill.”

Cenfigen a malais, yn hytrach na phieidio brathu oil, yn fynych a ymesyd lle neb all niweidio neb ond ei hunan.


 

 


(delwedd 1090) (tudalen 089) (chwedlau 93-94)



CHWEDL 93 - MERCHER A’R COEDIWR.
Coediwr, yn taflu coed ar lan afon, yn ddamweiniol a ollyngodd ei fwyall i lawr i’r dwfr, lle y suddodd yn union i’r gwaelod. Mewn gofid mawr am ei golled, eisteddodd y Dyn ar làn yr afon, yn wylo yn chwerw oblegid ei golled. Ond y duw Mercher, perchenog yr afon, gan gymmeryd trugaredd arno, a ymddangosodd yn ddioed o’i flaen, ac wedi clywed ganddo yr achos o’i ofid, efe a ymsuddodd i waelod yr afon, a chan ddwyn i fynu fwyall aur, efe a ofynodd i’r Coediwr, ai dyna ei fwyall ef; ar waith y Dyn yn dyweyd mai nadê, ymsuddodd Mercher yr ail waith, a dygodd i fynu fwyall o arian; drachefn, dywedodd y Dyn mai nid honyna oedd ei fwyall ef, felly, wedi ymsuddo y drydedd waith, fe ddygodd i fynu y fwyall a gollodd y Dyn ei hun. “Dyna yr eiddof fi,” meddai y Coediwr, mewn mawr lawenydd oblegid cael ei fwyall yn ol; ac yr oedd Mercher wedi ei foddhau gymmaint yn ngonestrwydd a di-dwylldra y Dyn, fel yr anrhegodd ef a’r ddwy fwyall arall hefyd. Aeth y Dyn, ac a fynegodd i’w gyfeillion


 

 


(delwedd 1091) (tudalen 090) (chwedl 94)

 
yr hyn a ddigwyddasai; ac un o honynt a benderfynodd dreio pa un a allai yntau gael yr un ffawd dda. Felly, fe aeth i’r un fan, a chan gymmeryd arno dori coed, fe ollyngodd ei fwyall, yn fwriadol, i’r afon, ac yna a eisteddodd ar y làn, ac a wnaeth ymddangosiad o alar a wylo mawr. Ymddangosodd Mercher, fel o’r blaen, ac wedi cael rhoi ar ddeall iddo, mai oblegid colli ei fwyall yr oedd yn wylo, fe ymsuddodd unwaith eto i’r ffrwd, a chan ddwyn i fynu fwyall aur, gofynodd i’r Dyn ai hono a gollodd, “Ië, yn wir,” ebe’r Dyn yn awyddus; ac yr oedd ar afaelyd yn y trysor, pan y darfu i Mercher, i gospi ei wynebgaledwch a’i dwyll, nid yn unig wrthod rhoi hono iddo, ond gommedd hefyd estyn ei fwyall ef ei hun.

Gonestrwydd a dâl oreu yn y pen draw.

CHWEDL 94 - Y BLEIDDIAID A’R DEFAID.
Anfonodd y Bleiddiaid genad at y Defaid, yn cynnyg ar fod i heddwch gad ei sefydlu rhyngddynt o hyny allan, ‘Paham,” meddynt, “y byddwn fel hyn bob amser mewn gelyniaeth marwol? Y cŵn yna sydd gyda chwi yw yr achos o’r cwbl; y maent yn barhaus yn ein cyfarth, ac yn ein cyffroi. Anfonwch hwynt ymaith, ac yna ni bydd un rhwystr i ni fod mewn heddwch a chyfelllgarwch bythol.” Cydunodd y Defaid gwirion; anfonasant y cŵn ymaith: a’r praidd, wedi colli cu hamddiffynwyr ffyddlon, a syrthiasant yn ysglyfaeth hawdd i’r gelyn twyllodrus.

Gwaith ffol i’w [sic] rhoi i fynu ein holl amddiffyn er mwyn heddwch, yn enwedig a rhai o garactar drwg; neu aberthu cyfeillion, i ddyhuddo gelynion. 


 

 


(delwedd 1092) (tudalen 091) (chwedl 95)

 

CHWEDL 95 - Y LLWYNOG A’R GRAWNIN.
Digwyddodd i Lwynog grwydro ar ei raib, yn amser cynhauaf y Grawnwin, i mewn i winllan lle yr oedd y sypiau Grawnwin aeddfed yn hongian ar y cangau. Yr oedd yr olwg arnynt mor ddanteithol nes yr oedd y Llwynog yn llawn o flys angerddol am eu mwynhau; ond yr oeddynt yn crogi mor uchel fel nad allai, er ei holl ymdrechiadau, ddim cyrhaedd gafael ar un o honynt. Wedi ymdrechu, a neidio, a neidio i fynu drachefn a thrachefn, nes llwyr flino, a gweled nas gallai lwyddo i gael eu profi, torodd ei galon, a chiliodd ymaith gan ymson ynddo ei hun, “Pw! ni waeth pwy a’u caffo, Grawnwin surion ydynt.”

CYMHWYSIAD. Mor ffol ydyw i neb i ddibrisio cyrhaeddiadau a thrugareddau gwir werthfawr, yn unig oblegid eu bod hwy wedi methu cael gafael arnynt.


 

 


(delwedd 1093) (tudalen 092) (chwedlau 96-97-98)



CHWEDL 96 - YR ERYR A’R SAETH.
Annelodd Saethwr at Eryr, ac a’i tarawodd yn ei galon. Fel y trodd yr Eryr ei ben, fe ganfyddodd fod y Saeth wedi ei gwisgo a’i bin ef ei hun. “Cymmaint llymach,” ebe fe, “ydynt y briwiau a wneir gan arfau a barotowyd genym ni ein hunain.”

Hunangondemniad yw y chwerwaf o bob condemniad

CHWEDL 97 - Y CI YN Y PRESEB.
Yr oedd Cî wedi gwneyd ei wely mewn Preseb, a chwyrnai a dangosai ei ddannedd, gan gadw y Ceffylau oddiwrth eu hymborth. “Wele,” meddai un o honynt, “y fath adyn truenus! nad all ef ddim bwyta ŷd ei hun, ac ni âd i’r neb a all, ei fwyta ychwaith.

Nid oes dim mor afresymol â chenfigen y diddawn.

CHWEDL 98 - Y GWYBEDYN A’R YCH.
Gwybedyn, wedi bod yn ehedeg oddi amgylch i ben Tarw, o’r diwedd a ddisgynodd ar ei gorn, ond ar yr un pryd, a erfyniodd ei faddeuant am ei flino; “ond,” meddai, “os yw fy mhwysau yn eich poeni, yn y gradd lleiaf, dywedwch y gair, a mi a âf ymaith yn y fan.” “O, na flinwch eich pen am hyny,” atebai y Tarw, ucanys nid yw ond yr un peth i mi pa un ai a aroswch, neu’r ehedwch ymaith; ac i ddyweyd y gwir, ni wyddwn I ddim eich bod chwi yna.”

Po lleiaf y meddwl, mwyaf yr hunan.


 

 


(delwedd 1094) (tudalen 093) (chwedl 99)



CHWEDL 99 - IAU, NEPTUNE, MINERVA, A MOMUS.
Y duwiau uchod (medd y chwedl), unwaith a aethant i ddadl, pa un o honynt a allai wneuthur y peth mwyaf perffaith. Gwnaeth Iau, Ddyn; gwnaeth Pallas, Dŷ; a gwnaeth Neptune, Darw; a dewiswyd Momus i farnu pa un oedd y mwyaf perffaith. Dechreuodd, trwy feio ar y Tarw, oblegid nad oedd ei gyrn yn îs na’i lygaid, fel y gallai weled pan yn cornio â hwynt. Yn nesaf, beiai ar y Dyn, oblegid nad oedd ffenestr yn ei fynwes, fel y gallai pawb weled ei feddyliau, a’i deimladau dirgel. Yn olaf, beiai ar y Tŷ, am nad oedd olwynion o dano, i alluogi y trigolion i symud ymaith oddi wrth gymmydogion drwg. Ar hyn, troes Iau y Beirniad ar unwaith allan o’r nefoedd, gan ddyweyd wrtho, nad allai y neb oedd yn chwilio am feiau byth gael ei foddhau: a bod yn

Ddigon buan iddo feuo ar ereill, pan y gwnai rhyw waith perffaith ei hunan.


 

 


(delwedd 1095) (tudalen 094) (chwedl 100)



CHWEDL 100 - Y LLEIDR A’I FAM.
Dygodd Bachgen Bach lyfr corn oddiar un o’i gyd-ysgoleigion, a dygodd ef adref i’w Fam. Yn lle ei geryddu, hi, yn hytrach, a’i canmolodd oblegid y weithred. Yn mhen blynyddau y Bachgen, wedi tyfu yn Ddyn, a ddeuhreuodd ddwyn pethau o fwy gwerth; ac o’r diwedd, wedi ei ddal yn y weithred, a gymmerwyd yn rhwym, ac a’i bwriwyd i’w ddienyddio. Canfyddodd ei Fam yn dilyn yn y dyrfa, yn wylo, ac yn curo ei dwyfron; gofynodd i’r swyddogion am ganiatâd i siarad un gair yn ei chlust.
Pan y daeth yn agos atto, a rhoddi ei chlust at enau ei Mab, efe a gydiodd ynddi yn dyn a’i ddannedd, ac a’i brathodd ymaith. Ar hyn, y Fam a waeddodd allan; a’r dyrfa a unasant a hi i gondemnio y Mab annaturiol, fel na buasai ei weithredoedd drwg blaenorol yn ddigon, ond rhaid i’w weithred olaf fod yn weithred o greulondeb anfad tuag at ei Fam ei hun. Ond efe a ddywedodd, “Hi yw yr achos o’m dinystr: canys os, pan ddygais I y llyfr corn oddiar fy nghyd-ysgolhaig, ac y dygais iddi hi, y curasai hi fi yn dda, ni


 

 


(delwedd 1096) (tudalen 095) (chwedlau 100-101)



buaswn byth wedi cynnyddu mewn drygioni, nes dyfod i’r diwedd anamserol hwn.”

Rhaid lladd drwg yn yr eginyn. Arbed y wialen yw andwyo y plentyn.

CHWEDL 101 - PRIODAS YR HAUL.
Digwyddodd unwaith, mewn hâf pur boeth, i’r chwedl fyned allan fod yr Haul yn myned i’w Briodi. Yr oedd yr holl adar a’r bwystfilod yn llawenhau yn fawr am hyn; a’r llyffaint yn enwedigol, a benderfynent gael gwyl, a gwledd iawn ar yr achlysur. Ond rhoddodd rhyw hen lyffant du daw ar eu. llawenydd, trwy sylwi, mai achos o alar, yn hytrach nag o lawenydd ydoedd, “Canys,” meddai, “os ydyw yr un Haul yn awr yn sychu y corsydd i fynu, fel nas gallwn ond prin ei ddyoddef; pa beth ddaw o honom os daw iddo hanner dwsin o Heuliau. bach yn ychwanegol?”

Cyn llawenhau llawer oblegid unrhyw ddigwyddiad, doeth yw ystyried pa beth fydd y canlyniadau.


 

 


(delwedd 1097) (tudalen 096) (chwedl 102)



CHWEDL 102 - Y GATH A’R LLYGOD.
Câth, wedi myned yn wan, trwy henaint, ac yn analluog i ddal Llygod fel y byddai yn arfer, a fyfyriodd pa fodd y gallai eu hudo o fewn cyrhaedd ei phalfau. Gan feddwl y gallai basio ei hun am gŵd, neu Gath farw, beth bynag, hi a grogodd ei him wrth ei thraed ôl oddiar fach, gan feddwl na phetrusai y Llygod ddyfod yn ddigon agos atti. Hên Lygoden, oedd yn ddigon call i gadw o’i chyrhaedd, a ddywedai wrth gyfaill, “Mi a welais lawer cŵd yn fy oes, ond erioed un a phen Câth, o’r blaen.” “Crogwch yna, Meistres bach,” meddai y llall, “cyhyd ag y mynoch; ond ni ymddiriedwn i fy hun yn eich cyr-haedd, pe baech wedi eich hystwffio â gwellt.”

Ni ymddyried y call yn fuan i’r neb a’i twyllodd unwaith.
Ni ddelir hên adar â manus.


 

 


(delwedd 1098) (tudalen 097) (chwedl 103-104)

 

CHWEDL 103 - Y LLEW A’I DRI CHYNGHORWR.
Galwodd y Llew ar y Ddafad, a gofynodd iddi, a oedd ei anadl yn drewi; atebodd hithau, “ydyw,” ac efe a frathodd ei phen ymaith, am ffwl. Yna, galwodd y Blaidd, a gofynodd iddo ef, ac efe a ddywedodd, uNac ydyw,” ac efe a’i llarpiodd ef yn ddarnau, am wenieithio. O’r diwedd, galwodd ar y Llwynog, a gofynodd iddo yntau, “Yn wir,” meddai, “yr oedd anwyd mawr arno, ac nis gallai ddywedyd.”

Tâw pïau hi mewn amseroedd enbyd.

CHWEDL 104 - Y FORWYN A’I PHISER LLAETH.
Fel yr oedd Llangces yn cerdded gyda Phiser Llaeth ar ei phen, hi a ddechreuodd fyfyrio fel y canlyn:— “Gwna yr arian a dderbyniaf am y llaeth hwn fy ngalluogi i chwanegu fy ystôr o wyau i dri chant, — gwna yr wyau, ar ol pob colled, roddi o’r hyn lleiaf ddau cant a hanner o gywion. Bydd y cywion yn barod i’w cario i’r farchnad yn gymhwys yn yr amser pan y bydd cywion bob amser yn ddrudion, felly, erbyn dydd Calan, nis gall na bydd genyf ddigon o arian i brynu gŵn newydd. Gadewch weled, gwyrdd sydd yn gweddu i mi oreu, ïe, gwyrdd, a dyna gaiff y gŵn newydd fod; yn y gŵn hon mi âf i’r ffair, a bydd yr holl langciau ieuaingc yn ymryson am fy nghyfeillach; ond, na, mi wrthodaf bob un o honynt, a chydag amnaid gwawdus o’m pen mi a droaf oddi wrthynt.” Yn llawn o’r meddwl hwn, nid allai lai na chrymu ei phen yn unol a’r meddwl oedd yn pasio o’i mewn; pan, och! i lawr y daeth y Piser Llaeth! a diflanodd ei holl ragolygon dedwydd yn y funud!

Gwaith ofer a pheryglus ydyw cyfrif y cywion yn cibau neu adeiladu cestyll yn yr awyr.


 

 


(delwedd 1099) (tudalen 098) (chwedl 105-106)



CHWEDL 105 - YR YCHAIN A’R CIGYDDION.
Yr Ychain, ar ryw dro, a benderfynasant wneuthur pen ar y Cigyddion, pa ryw yr oedd eu holl fedr wedi ei gyflwyno i’w dyfetha hwy. Felly fe ymgynnullasant yn nghyd, ac yr oeddent eisioes yn parottoi eu cyrn i’r ymladdfa, pan y dywedodd Hen Ych oedd wedi gweithio am dymhor maith wrth yr aradr wrthynt, “Cymerwch bwyll, fy nghyfeillion, ac ystyriwch pa beth yr ydych ar fedr ei wneyd. Y mae y dynion hyn, o’r hyn lieiaf, yn ein lladd gyda medrusrwydd, ac yn daclus; ond os disgynwn i ddwylaw bonglerwyr, yn lle Cigyddion, ni a oddefwn farwolaeth ddwbl: canys gellwch fod yn sicr, nid â dynioa ddim yn mlaen heb gig, hyd yn nod pe byddai raid iddynt fyned heb Gigyddion.”

Gwell ydyw dyoddef y drwg a wyddom, nac anturio y drwg nas gwyddom.

CHWEDL 106 - Y FFERMWR A’R GARANOD.
Haid o Aranod a ddisgynasant ar faes, yr hwn yr oedd Ffermwr newydd ei hau. Am beth amser, dychrynodd y Ffermwr hwynt ymaith trwy ysgwyd ffon-dafl wâg arnynt; ond pan ddeallodd yr Adar mai curo’r gwynt â ffon-dafl wâg yr oedd, ni ddychrynent mwy, ac ni ehedent ymaith: — ar hyn, fe daflodd y Ffermwr gerig mewn gwirionedd attynt, ac a laddodd lawer o honynt. “Gadewch i ni fyned,” ebe y gweddill, “i ryw faes arall, canys nid yw y gŵr hwn am ein bygwth yn hwy, ond y mae am ein difetha mewn gwirionedd.”

Pan ddiystyrir rhybudd, y mae yn rhaid taro.


 

 


(delwedd 1100) (tudalen 099) (chwedl 107)



CHWEDL 107 - Y MEDDYG A’R CLAF.
Yr oedd Meddyg wedi bod am gryn amser yn edrych ar ôl Dyn Claf, yr hwn, o’r diwedd, a fu farw dan ei ddwylaw. Yn yr angladd, aeth y Meddyg at y naill a’r llall o’r perthynasau, gan ddywedyd, “Druan o’n Cyfaill yma; pe buasai wedi ymgadw oddiwrth ddiodydd, ac edrych at ei gyfansoddiad, a defnyddio gofal priodol, ni buasai yn gorwedd yna.” Atebai un o’r galarwyr, “Anwyl Syr, gwaith ofer yw i chwi ddyweyd peth fel yna yn awr; dylasech roddi y cynghorion yna pan yr oedd y Claf yn fyw i’w derbyn.”

Gall y cynghorion goreu ddyfod yn rhy ddiweddar. Gwaith ofer yw cau yr ystabl, ar ol i’r march gael ei ddwyn.


 

 


(delwedd 1101) (tudalen 100) (chwedl 108)



CHWEDL 108 - Y LLYGOD MEWN YMGYNGHORFA.
Digwyddodd fod y Llygod mewn blinder mawr o
herwydd erledigaeth y Gâth; a hwy a benderfynasant alw Cyfarfod i lunio y moddion tebyccaf i gael gwaredigaeth o’r brofedigaeth barhaus. Cynnygiwyd a gwrthodwyd llawer o fesurau: o’r diwedd, cododd Llygoden ieuiangc, ac a gynnygiodd, Fod cloch i gael ei chrogi am wddf y Gâth, fel y gallent, o hyny allan, gael rhybudd prydlawn o’i dynesiad, ac felly, gael amser i ddiangc. Derbyniwyd y cynnygiad hwn gyda’r cymmeradwyaeth mwyaf, a phasiwyd ef yn unfrydol. Ar hyn, cododd hên Lygoden i fynu, oedd wedi bod yn ddistaw hyd yn hyn, a sylwodd fod y cynllun yna yn dra chywrain, ac y byddai yn ddiau yn hollol effeithiol; ond nid oedd ganddo ond un cwestiwn bychan i’w ofyn, sef, Pa un o honynt oedd i grogi y gloch am wddf y Gâth?

Un peth yw cynllunio, peth arall yw cyflawni. Mae doethineb cynllun yn ymddibynu ar ei fod yn alluadwy.


 1102_aesop_glan_alun_1-101_chwedl-109

(delwedd 1102) (tudalen 101) (chwedl 109)

 CHWEDL 109. – Y LLEW A’R AFR.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Ar ddiwrnod tèsog o haf, pan yr oedd pob peth yn dygan y gwrês mawr, daeth Llew a Gafr a unwaith i dori eu syched at ffynnon fechan o ddwfr. Dechreusant yn ddioed ymrafaelio, pa un a gai yfed gyntaf, nes o’r diwedd yr ymddangosent fel yn bardo i ymdrech hyd at farw am y flaenoriaeth. Ond wrth iddynt orphwys am foment i gael anadl, gwelsant haid o fwlturiaid yn hofran uwch ben iddynt, yn barod i ddisgyn yn union ar pa un bynag o honynt a leddid. Ar hyny, gwnaethant eu cweryl i fynu yn ddioed, gan farnu mai gwell iddynt ill dau ddyfod yn gyfeillion, na myned yn ysglyfaeth I frain a fwlturiaid.

 

Byddai llai o rífela, pe iawn ystyrid y canlyniadau.

 

 

1103_aesop_glan_alun_1-102_chwedlau-110-111
(delwedd 1103) (tudalen 102) (chwedlau 110-111)



CHWEDL 110 - YR WYDD A’R WYAU AUR.
Digwyddodd fod gan rhyw ŵr ffodus Wydd, yr hon a ddodwyai iddo Wy Aur bob dydd. Ond, gan anfoddloni i dderbyn cyfoeth mor araf, a chan feddwl  meddiannu  yr holl drysor ar unwaith, fe laddodd yr Wydd; ac wedi ei hagor, fe’i cafodd oddifewn yn union yr un fath â rhyw Wydd arall.

Llawer a fyn fwy, ac a gyll y cwbl. Na fydd ry brysur i ymgyfoethogi.

CHWEDL 111 - Y POMGRANAD, YR AFAL, A’R FIEREN.
Yr oedd y Pomgranad a’r Afal yn ymrafaelio, pa un o honynt oedd y prydferthaf   Pan aeth eu geiriau yn bur uchel, a’r cweryl yn myned yn boeth, Mieren a estynai ei phen allan o dwmpath gerllaw, ac a ddywedodd, “Yr ydym wedi dadleu digon o hyd: na fydded dim eiddigedd rhyngom ni mwy.”

Y mwyaf distadl ydynt yn fynych y mwyaf hunandybus.


 

 


(delwedd 1104) (tudalen 103) (chwedl 112)



CHWEDL 112 - Y CI A WAHODDWYD I SWPER.
 Gwr bonheddig, wedi parottoi gwledd fawr, a wahoddodd ei gyfaill i Swper; a Chî y gwr bonheddig, yn digwydd cyfarfod a Chî y Cyfaill, a’i gwahoddai yntau. “Dowch, fy nghyfaill,” eb efe, “a swperwch gyda ni heno.” Derbyniodd y Cî y gwahoddiad gyda’r llawenydd mwyaf; ac fel y safai gerllaw, gan sylwi ar y parottoadau i’r wledd, efe a ddywedodd ynddo ei hun, “Rhagorol! yn wir; yn sicr, dyma hap dda i mi. Mi a wnaf gyfiawnder a’r danteithion hyn: mi a gymmeraf ofal i fwyta digon heno, rhag ofn na chaf ddim bwyd yforu.” Fel yr aeth y pethau hyn trwy ei feddwl, ysgydwai ei gynffon, a thaflai edrychiad cyfrwysgu at ei gyfaill, yr hwn a’i gwahoddasai. Ond darfu i ysgydwad ei gynffon alw sylw y cogydd atto; a hwnw, wrth ganfod ei fod yn Gî dieithr, a’i cymmerodd gerfydd ei goesau yn ddioed, ac a’i taflodd trwy’r ffenestr allan. Pan gyrhaeddodd y ddaear, rhedodd ymaith gan udo lawr yr heol. Ar hyny, rhedai rhai o Gŵn y cymmydogion atto, a gofynasant iddo, Pa fodd yr oedd wedi mwynhau ei Swper?


 

 


(delwedd 1105) (tudalen 104) (chwedlau 112-113)



“Yn wir,” ebe yntau, gyda gwên ammheus, “nis gallaf. prin ddyweyd, canys ni a yfasom mor drwm, fel mai prin y gallaf fi ddyweyd pa fodd y daethum allan o’r tŷ!”

Rhaid i’r rhai a lechiant i mewn trwy’r drws cefn, ddisgwyl cael eu taflu, allan trwy’r ffenestr. — Ysbryd cîaidd yw gwawdio yr anffortunus.

CHWEDL 113 - Y BUGAIL A’R GEIFR.
Ar ddiwrnod dryghinog, a’r eira yn disgyn yn drwm, gyrai Bugail ei Eifr, yn wyn gan eira, i gysgodle yn yr anialwch; ond cafodd fod yno ddeadell o Eifr gwylltion, mwy lluosog, a chryfach na’r eiddo ef, eisoes wedi cymmeryd meddiant o’r lle. Felly, gan feddwl sicrhau y cwbl iddo ei hun, fe adawodd ei Eifr ei hun i ymdarawo goreu y gallent, ac a  daflodd yr ymborth a ddygasai ar eu cyfer hwy, o flaen y Geifr gwylltion. Ond pan aeth yr hîn galed heibio, fe gafodd fod ei Eifr ef oll wedi trengu o newyn, tra yr oedd y Geifr gwylltion wedi diangc ymaith i’r bryniau a’r coedydd. Dychwelodd y Bugail adref yn destyn gwawd ei gymmydogion, — wedi methu dal y Geifr gwylltion, ac wedi colli yr eiddo ei hun.

Y rhai a esgeulusant hên gyfeillion er mwyn rhoi  newyddion, ni theilyngant gydymdeimlad os collant yr hên â’r newydd.


 

 


(delwedd 1106) (tudalen 105) (chwedlau 114-115)



CHWEDL 114 - Y PYSGOTTWR.
Aeth Pysgottwr at yr afon i bysgotta, ac wedi taenu ei rwydau ar draws y ffrwd, rhwymodd garreg wrth ben cortyn htr, a dechreuodd guro y dwfr o bob tu y rhwyd, i yru y pysgod i mewn iddi. Un o’r cymmydogion oedd yn byw gerllaw, wrth weled hyn, a aeth atto, ac a’i beiodd yn fawr am gynhyrfu y dwfr, a’i wneyd mor llwyd fel nad oedd yn gymhwys i’w yfed. “Y mae yn ddrwg genyf,” meddai y Pysg¬ottwr, “fod fy ngwaith yn eich anfoddloni, ond trwy gynhyrfu y dyfroedd fel hyn yr wyf fi yn  ennill fy mywioliaeth.”

Nid yw y trachwantus yn meddwl am golled neb, ond iddo ef ennill.

CHWEDL 115 - Y LLYFFAINT YN DEISYF AM FRENIN.
 Yn y dyddiau gynt, yr oedd y Llyffaint oll yn mwynhau eu rhyddid yn y llynoedd, ond blinasant ar eu hannibyniaeth, gan feddwl ei fod yn arwain i benrhyddid; felly, ymgynnullasant ynghyd ryw ddiwrnod, a chyd-erfyniasant yn daer ar Iau, i roddi


 

 


(delwedd 1107) (tudalen 106) (chwedl 115)



iddynt Frenin, i’w cadw mewn gwell trefn, ac i beri iddynt fyw yn fwy gonest. Iau, yn canfod balchder eu calonau, a wenodd ar eu deisyfiad, ac a danodd ddarn o bren i ganol y llyn, gan ddywedyd, “Dyna i chwi Frenin.” Darfu i ddisgyniad y pren yn ddisymwth i’r dwfr, gan y cynhwrf a’r sŵn a wnaeth, daflu yr holl gyfundeb o Lyffaint i’r braw a’r syndod mwyaf, - ffoisant i waelod y Ilyn, gan ymguddio yn y llaid, ac ni feiddient ddyfod o fewn hŷd deg naid i’r fan yr oedd y pren yn gorwedd. O’r diwedd, un Llyffant, mwy dewr na’r lleill, a fentrodd godi ei ben uwchlaw y dŵr, a chymmeryd golwg o bell ar y Brenin newydd. Bob yn ychydig, wrth weled fod y pren yn gorwedd mor llonydd, dechreuodd ereill nofio atto, ac o’i amgylch; a chan dd’od yn hyfach, hyfach, hwy, o’r diwedd, a neidiasant arno, ac a’i trin-ient gyda’r dirmyg mwyaf. Yn anfoddlawn ar Lywodraethwr mor ddiniweid, hwy a erfyniasant yn unfrydol eilwaith ar Iau, i roddi iddynt Frenin arall, a mwy galluog. Ar hyn, fe anfonodd Iau yr aderyn ysglyfaethus hwnw, y Chwibon, iddynt; yr hwn, mor fuan ac y daeth attynt, a ddechreuodd afael ynddynt a’u llyncu, y naill ar ol y llall, mor fuan ac y gallai, ac yn ofer yr ymdrechent ddiangc rhagddo. Erbyn hyn, hwy a anfonasant Mawrth gyda chenadwri ddirgelaidd at Iau, i ddeisyf arno dosturio wrthynt un waith yn rhagor; ond Iau a’u hatebodd nad oeddynt ond yn dyoddef y gospedigaeth gyfiawn am eu ffolineb, ac y dysgai ereill oddiwrthynt i fod yn llonydd pan yn gysurus, ac i beidio anfoddloni i’w sefyllfa naturiol.

Ni waeth heb frenin na chael brenin mewn enw yn unig, ac y mae yn well bod heb frenin na chael unbenaeth gormesol.


 

 


(delwedd 1108) (tudalen 107) (chwedl 116)



CHWEDL 116 - YR ASYN A’I FEISTRIAID.
Asyn, yn perthyn i Lafurwr, ac yn cael ond ychydig i’w fwyta, a llawer i’w wneyd, a ddeisyfodd ar Iau ei waredu o wasanaeth y Llafurwr, a rhoddi iddo feistr arall. Iau, yn ddig oblegyd ei anfoddlonrwydd, a’i trodd ef drosodd i Grochenydd; yr oedd ganddo yn awr lwythau trymach nag o’r blaen, ac fe apeliodd eilwaith at Iau i’w waredu, yr hwn a drefnodd, gan hyny, iddo gael ei werthu i Farcer. Yr Asyn erbyn hyn wedi syrthio i waeth dwylaw nac erioed, ac yn sylwi bob dydd ar orchwyl ei feistr a waeddodd allan, gydag ochenaid, “Och! fi, y fath Greadur truenus ydwyf! Buasai yn llawer gwell i mi aros gyda fy meistriaid blaenorol, canys yr wyf yn gweled fod fy meistr presennol, nid yn unig am fy ngweithio yn galettach tra y byddaf byw, ond na arbeda fy nghroen wedi i mi farw.”

Gwell yw y drwg a wyddom, na’r drwg nas gwyddom. Anfynych y gwna newidiad amgylchiadau, dawelu y dymer anfoddog
_


 

 


(delwedd 1109) (tudalen 108) (chwedlau 117-118)



CHWEDL 117 - Y LLEIDR A’R CI.
Lleidr yn dyfod i dori tŷ, a fynai dawelu y Cî rhag cyfarth trwy daflu tammaid iddo. “Ymaith â chwi,” ebe y Cî, “yr oeddwn yn eich ammheu o’r blaen, ond y mae y tiriondeb mawr yma ynoch, yn fy sicrhau mai Lleidr ydych.”

Y mae llwgr-wobr yn y llaw, yn arwyddo drwg yn y galon.

CHWEDL 118 - YR YSGYFARNOG A’R BYTHEUAD.
Bytheuad, wedi codi Ysgyfamog o dwmpath, a redodd ar ei hoi am yspaid; ond yr oedd yr Ysgyf¬amog yn ei guro, ac fe ddiangodd. Bugail yn pasio heibio, a wawdiodd y Cî, gan ddywedyd fod y pryf yn gyflymach nag ef. “Yr ydych yn anghofio,” ebe y Cî, “mai un peth ydyw rhedeg am eich ciniaw, ond peth arall ydyw rhedeg am eich bywyd.”

Eto, y mae llaver yn ymdrechu mwy am y bwyd a dderfydd, nag am fywyd tragywyddol.


 

 


(delwedd 1110) (tudalen 109) (chwedlau 119-120)



CHWEDL 119 - YR HELIWR A’R PYSGOTTWR.
Yr oedd Heliwr yn dychwelyd o’r mynyddoedd, yn llwythog o helwriaeth, ac yr oedd Pysgottwr yn dychwelyd yr un amser, gyda’i fasged yn llawn o bysgod, pan y digwyddasant gyfarfod ar y ffordd. Dymunai yr Heliwr gael dysglaid o bysgod, a’r Pysgottwr a hiraethai am swper o helwriaeth ; felly, rhoddodd pob un i’r llall gynnwys ei fasged ei hun. Parhasant i newid eu hystôr a’u gilydd bob dydd, fel y sylwodd rhywun o’r diwedd, “Yn awr, trwy y cyfnewidiad parhaus hwn, fe ddinystriant eu blas at y bwyd, a bydd pob un o’r ddau yn fuan yn dymuno dychwelyd at ei hen fwyd yn ol.”

“Nid dâ rhŷ o ddim”

CHWEDL 120 - IAU A’R WENYNEN.
Oesoedd yn ol, pan oedd y byd yn ieuangc, darfu i Wenynen, yr hon oedd wedi llenwi ei chrwybr â chynhauaf toreithiog, ehedeg i fynu tua’r nefoedd i gyflwyno offrwm diolchgarwch o fêl. Yr oedd lau wedi ei foddhau gymmaint gan y rhôdd, fel yr addawodd roddi iddi pa beth bynag a ddymunai. Y Wenynen ar hyny a’i cyfarchodd, gan ddywedyd, — “O! lau ardderchog, — fy ngwneuthurwr, a’m meistr, ‘ dyro i mi, dy law-forwyn dlawd, golyn, fel pan ddelo rhywun at fy nghwch i gymmeryd y mêl, y gallwyf ei ladd ef yn y fan.” lau, o gariad at ddyn, a ddigiodd wrth ei deisyfiad, ac a’i hatebodd fel hyn: — “Ni chaniatteir eich deisyfiad yn y modd yr ydych yn dymuno; ond y colyn y gofynwch am dano, chwi a’i cewch, a phan y dêl rhywun i gymmeryd eich mêl, ac yr ymosodwch arno, bydd y clwyf a roddwch yn farwol, nid iddo ef, ond i chwi,—canys fe gâ eich bywyd fyned ymaith gyda’ch colyn.”

Yr hwn, a ddeisyfa niwed i’w gymmydog, a ddeisyfa felldith arno ei hun.


 

 


(delwedd 1111) (tudalen 110) (chwedl 121)



CHWEDL 121 - YR EHEDYDD A’I RHAI BYCHAIN.
Yr oedd nythaid o rai bychain gan Ehedydd mewn cae o ŷd, yr hwn oedd bron yn aeddfed; a’r Fam, gan ddisgwyl bob dydd am y medelwyr, a adawai air bob tro yr ai hi allan i chwilio am ymborth, am i’r rhai bychain wrando, a hysbysu iddi hi, bob newydd a glywent. Un diwrnod, pan yr oedd hi yn absennol, daeth y perchennog i edrych ansawdd y cnwd. “Y mae yn hen amser,” ebe fe, “i alw i mewn fy nghymmydogion, a medi yr ŷd.” Pan ddaeth yr hen Ehedydd adref, adroddai y rhai ieuaingc i’w Mam yr hyn a glywsent, ac erfynient arni eu symud ymaith yn ddioed. “Mae yn ddigon buan,” ebe hithau, “os ymddirieda i’w gymmydogion, cŷst iddo aros dipyn eto cyn cael ei gynhauaf.” Dranoeth, daeth y gŵr drachefn, ac wrth weled yr haul yn boethach eto, a’r ŷd yn fwy aeddfed, a dim wedi ei wneyd, “Nid oes un munud i’w golli,” meddai, “nis gallwn ymddiried yn ein cymmydogion; rhaid i ni alw i mewn ein perthynasau,” a chan droi at ei fab, dywedai, “Dos, galw ar dy ewythr , siarad â’th gefnder: — a gwêl eu

_


 

 


(delwedd 1112) (tudalen 111) (chwedl 122)



bod yn dechreu yforu.” Mewn braw mwy fyth, adroddai yr Adar Bach eiriau y ffermwr wrth eu Mam. “Os dyna y cwbl,” meddai hithau, “nac ofnwch, canys y mae gan y perthynasau gynhauaf eu hunain i’w gael i mewn; ond cymmerwch sylw manwl o’r hyn a glywch y tro nesaf, — a byddwch siwr o adael i mi wybod.” Aeth allan dranoeth drachefn, a’r ffermwr yn dyfod, fel o’r blaen, ac yn cael fod y grawn yn syrthio i’r ddaear, oblegyd ei fod yn ór-aeddfed, a neb heb ddechreu arno eto, a alwodd ei fab atto, gan ddywedyd, “Ni wiw i ni ddisgwyl wrth ein cymmydogion a’n perthynasau ddim yn hwy; ewch chwi a chyflogwch lafurwyr heno, a ni a ddechreuwn arno ein hunain yforu.” Pan adroddodd y rhai ieuaingc hyn wrth y Fam, — “Yna,” atebai hi, “y mae yn bryd i ni gychwyn yn wir; canys pan ymgymmero gŵr â rhyw orchwyl ei hun, yn lle ymddir¬ied mewn ereill, gellwch benderfynu ei fod am ymosod atto o ddifrif.”

Haws i lawer un ymffrostio na chyflawni.

CHWEDL 122 - Y TEITHIWR YMFFROSTGAR.
Dyn, yr hwn oedd wedi bod yn teithio mewn gwledydd tramor, a arferai, wedi ei ddychweliad adref, ymffrostio, a brolio, yn barhaus, o’r holl, orchestion mawrion a gyflawnodd mewn gwahanol fanau. Er engraifft, — Dywedai iddo, pan yn Rhodes, roi naid mor fawr, nad allai un dyn arall ddyfod yn agos atto; ac yr oedd ganddo dystion yno, i brofi y peth, “Fe allai, yn wir,” ebe un o’r gwrandawyr, “‘ ond os ydyw hyn yn wir, tybiwch am funud mai Rhodes ydyw y fan hon, a threiwch y naid eto.”

 
Haws i lawer un ymffrostio na chyflawni.

_


 

 


(delwedd 1113) (tudalen 112) (chwedl 123)



CHWEDL 123 - Y LLYFFANT A’R TEIRW.
Llyffant, ryw ddiwrnod, a gododd ei ben o’r Ilyn, a chan edrych o’i amgylch, fe welai ddau Darw yn ymladd yn y weirglodd gerllaw. Galwodd ar un o’i frodyr, a dywedodd, “Gwelwch y fath waith ofnadwy sydd yn myned yn mlaen acw! Och! fi, pa beth a ddaw o honom?” “Pw,” ebe y llall, “paham yr ydych yn dychrynu am ddim?
Pa fodd y gall eu hymrafaelion hwy ein niweidio ni? Y maent yn greaduriaid o ryw hollol wahanol i ni, ac nid ydynt yn awr ond yn ymdrechu pa un gaiff fod yn ben ar y fuches.” “Gwir iawn,” atebai y cyntaf, “ond, er eu bod o rywogaeth gwahanol i ni, eto, gan fod un o honynt yn sicr o gael ei orchfygu, bydd hwnw, wedi ei yru allan o’r weirglodd, yn debyg iawn o ffoi i’r siglenydd hyn, ac fe fydd yn bur debyg o sathru rhai o honom i farwolaeth, felly, y mae mwy a wnelom ni a’u hymdrech hwynt nag y gellwch feddwl ar y cyntaf.”

Pan y byddo galluoedd mawrlon yn mymd i ryfel, y mae y werin, ddiniwed yn gyffredin yn gorfod dyoddef.
_


 

 


(delwedd 1114) (tudalen 113) (chwedl 124)



CHWEDL 124 - Y LLEW A’R ASYN YN HELA.
Aeth Llew ag Asyn i gytundeb i fyned allan i Hela y’nghyd. Yn fuan daethant at ogof, yn yr hon yr oedd llawer o Eifr gwylltion yn llechu. Safodd y Llew wrth enau yr ogof; a’r Asyn, gan fyned i mewn, a giciodd ac a frefodd, ac a wnaeth gynhwrf mawr, nes dychrynu y Geifr allan. Wedi i’r Llew ddal llawer iawn o honynt, daeth yr Asyn allan, a gofynodd iddo, Onid oedd ef wedi brwydro yn wych; ac wedi ymlid y Geifr yn iawn?” “Do, yn wir,” ebe y Llew, “ac yn sicr, buasech wedi fy nychrynu innau hefyd, ,oni bai fy mod yn gwybod mai Asyn oeddech.”

Pan oddefir brolwyr ymffrostgar yn nghwmni eu gwell, nid yw hyny ond er mwyn gwneyd rhyw ddefnydd isel o honynt, a chwerthin am eu penau.

_


 

 


(delwedd 1115) (tudalen 114) (chwedl 125)



CHWEDL 125 - YR ADAR, Y BWYSTFILOD, A’R YSTLUM.
Digwyddodd ar dro, fod rhyfel ffyrnig wedi tori allan rhwng y Bwystfilod a’r Adar; am dymhor, yr oedd yn ammheus pa ffordd y troai y frwydr allan, a’r Ystlum, yn cymmeryd mantais o’i natur ddyblyg, fel hanner Aderyn a hanner y Lygoden, a safai draw ac nid ymunai ag un o’r ddwy blaid. O’r diwedd, ymddangosai fel pe buasai y Bwystfilod yn gorchfygu, ac yn y fan ymunodd yr Ystlum â hwy, a chymmerai ran fywiog yn yr ymdrech; ond gyda hyny, ymadnewyddodd yr Adar, ac ymddangosai fod y frwydr yn troi o’u hochr hwy, ac yna aeth yr Ystlum drosodd attynt hwy, a chafwyd ef ar derfyn y dydd yn mhlith rhengau y blaid fuddugoliaethus. Wedi i heddwch gael ei gyhoeddi, condemniwyd ymddygiad yr Ystlum gan y ddwy blaid yr un modd ; a chan na fynai yr un o honynt ei gydnabod, gorfu iddo ddiflannu o’r golwg; a byth wedi’n y mae yn byw mewn tyllau a chornelau, ac ni faidd byth ddangos ei wyneb ond yn ngwyll y nos.

Y mae y diegwyddor yn ffiaidd gan bob plaid.

_


 

 


(delwedd 1116) (tudalen 115) (chwedl 126)



CHWEDL 126 - Y LLWYNOG A’R DRAENOG.
Llwynog, pan yn croesi afon, a gariwyd gan y ffrwd i ryw agen gul, ao a orweddodd yno yn hir, yn analluog i ddyfod allan, ac a orchuddiwyd gan haid o wybed mawrion a ddisgynasant arno. Draenog, yn digwydd pasio y ffordd hono, a’i gwelodd, a chan dosturio wrtho, a ofynodd a gai ef yru ymaith y gwybed oedd yn ei flino felly; ond y Llwynog a ddeisyfodd arno beidio gwneyd dim o’r fath beth.
“Paham?” gofynai y Draenog. “Oblegyd,” meddai y Llwynog, “y mae y gwybed sydd arnaf yn awr, mor llawn eisoes, fel nad allant sugno llawer mwy o’m gwaed; ond os gyrwch chwi hwynt ymaith, daw haid o rai newydd a newynog yn eu lle, ac ni adawany ddyferyn o waed yn fy nghorph.”

O ddau ddrwg dewiser y lleiaf.


 

 


(delwedd 1117) (tudalen 116) (chwedl 127)



CHWEDL 127 - Y BLAIDD A’R BUGAIL.

Yr oedd Blaidd wedi bod am dymhor maith yn ystelcian yn agos i ddeadell o ddefaid, ond heb wneyd dim niwed iddynt. Yr oedd y Bugail, er hyny, yn ddrwgdybus o hono, ac am amser, a gadwodd wyliadwriaeth ofalus rhagddo, fel rhag gelyn naturiol; ond wrth weled y Blaidd yn parhau am dymhor maith yn dilyn ar ol y praidd, heb yr ymgais lleiaf i’w haflonyddu, dechreuodd edrych arno yn hytrach fel cyfaill, nag fel gely ; ac un diwrnod, gan fod ganddo achos i fyned 1’r ddinas, fe ymddiriedodd ei ddefaid i’w ofal. Nid cynt y gwelodd y Blaidd ei gyfle, nag y syrthiodd yn ddioed ar y defaid, ac a’u llarpiodd hwynt; a’r Bugail, ar ei ddychweliad, yn gweled ei braidd wedi eu hanrheithio, a ddywedodd, “Y fath ynfytyn ydwyf ! eto, ni chefais ond yr hyn a haeddais, am ymddiried fy nefaid i ofal y Blaidd.”

Y mae mwy o berygl oddiwrth gyfaill twyllodrus, nag oddiwrth elyn proffesedig.


 

 


(delwedd 1118) (tudalen 117) (chwedl 128)



CHWEDL 128 - Y TEITHWYR A’R FWYALL.

Yr oedd dau Wr yn cyd-deithio ar y ffordd, pan y darfu i un o honynt godi Bwyall oddiar y ddaear, a dywedodd, “Gwelwch pa beth yr ydwyf fi wedi ei gael.” “Na ddywedwch, y fi,” meddai ei gydymaith,” ond, y ni, wedi ei gael.” Yn mhen enyd, daeth y Dyn a gollodd y Fwyall i fynu, ac a gyhuddodd y Dyn a’i cafodd o ladrad. “Och! fi,” meddai , yntau wrth y llall, “ yr ydym wedi ein andwyo! “ “Na ddywedwch, y ni,” atebai hwnw, “ ond yr wyf fi wedi fy andwyo ; canys yr hwn ni fỳn i’w Gyfaill gyfrannu o’r anrhaith, ni ddylai ddisgwyl iddo gyfrannu o’r perygl.”

Os mynem gyfeillion mewn aflwyddiant, dylem eu hennill mewn llwyddiant.


 

 


(delwedd 1119a) (tudalen 118) (chwedlau 129-130)



CHWEDL 129 - Y LLYGOD A’R BRONWENOD.
Yr oedd y Llygod a’r Bronwenod wedi bod mewn rhyfel maith â’u gilydd, a chan fod y Llygod bob amser yn colli y frwydr, hwy a gytunasant o’r diwedd, mewn cyfarfod mawr, wedi ei alw i ystyried y mater, mae yr unig achos o’u haflwyddiant oedd, eu diffyg dysgyblaeth; a hwy a benderfynasant, gan hyny, i ddewis cadflaenoriaid rheolaidd, o hyny allan. Felly, fe ddewisasant y rhai yr oedd eu gwroldeb a’u medr yn eu cymhwyso fwyaf i’r swydd bwysig; — darfu i’r cadflaenoriaid newydd, yn falch o’u swyddau, ac yn dymuno cael gwneuthur eu hurddau mor amlwg ag oedd bossibl, rwymo cyrn ar eu talcenau, fel math o nôd ac arwydd o’u derchafiad. Yn fuan ar ol hyn cymmerodd brwydr le; y Llygod, fel arfer, a orchfygwyd yn fuan, a diangodd y Llygod cyffredin i’w tyllau; ond y cadflaenoriaid, yn methu myned i mewn i’r tyllau, o herwydd maint eu cyrn, a ddaliwyd, ac a laddwyd, bob un yn ddieithriad.

Nid oes nemawr dderchafiad heb ei berygl priodol yn gysylltiedig ag ef. — Y mae balchder yn dwyn aml un i brofedigaeth a magl.

CHWEDL 130 - Y BACHGEN A’R DANADL.
Bachgen yn chwareu mewn cae, a afaelodd mewn Danadl ac a ddoluriwyd. Rhedodd adref at ei fam a dywedodd wrthi, Ei fod wedi cyffwrdd a’r Llysieuyn cas hwnw, a’i fod wedi ei ddolurio. “Dy fod yn unig wedi cyffwrdd ag ef, fy Machgen,” meddai y fain, “a wnaeth iddo dy ddolurio, y tro nesaf yr ymafli mewn Danadi, gafael yn egniol, ac ni wna i ti ddim niwed.”

Ymdrecher yn iawn, neu na ymdrecher oll.


 

 


(delwedd 1119b) (tudalen 119) (chwedl 131)

CHWEDL 131. - Y BARCUD CLAF.

 

Barcud, wedi bod yn hir yn glaf, ag oedd yn agos

i farw, a ddywedodd wrth ei fam, “Na wylwch, fy

mam, ond ewch a gweddïwch ar y duwiau, ar i mi

gael fy iachau o'r afiechyd a'r poen ofnadwy hwn."

“Och! fi, fy mhlentyn," atebai y fam, ar ba un o'r

duwiau y gallaf fi weddïo dros un sydd wedi bod yn

Ileidr ar hyd ei oes, ac wedi anrheithio eu holl

allorau?”

 

Ni wna edifeirwch gwely angeu iawn am gamweddau bywyd. - Y mae gweddïau yr anedifeiriol yn ffiaidd.



 

 


(delwedd 1119c) (tudalen 120) (chwedl 132)

CHWEDL 132. - YR ERYR A'R FRAN.

 

Disgynodd Eryr oddiar graig uchel ar gefn Oen.

ac ati cariodd ymaith yn ei grafangau. Coegfran

yn digwydd gweled yr orchest, a feddyliodd y medrai yntau wneyd yr un petb, ac a ddisgynodd å'i holl nerth ar gefn Myharen, gan feddwl ei gario ymaith yn ysglyfaeth; ond glynodd ei ewinedd yn y gwlan,  ac fe wnaeth y fath ystŵr wrth ymdrechu diangc, fel y darfui'r bugail, yr hwn a welodd trwy y mater, dd'od yno a’i ddal ef; wedi tori ei adenydd,  fe'i dygodd adref i'w blant. "Pa aderyn yw hwn, ein tad a ddygasoch i ni?” gofynai y plant. “Wel," meddai yntau, “os gofynwch iddo ef, fe ddywed i chwi mai Eryr ydyw, ond os cymmenvch fy ngair I ar y mater miwn nad yw ef ond Coegfran."

 

Daw aml un i waradwydd a gwarth, trwy gamfarnu ei alluoedd ei hun.

 

 

(delwedd 1119d) (tudalen 120a) (chwedl 133)

CHWEDL 133. – YR ASYN A'I YRWR.

 

Asyn, yn cael ei yru ar hyd y ffordd gan ei Feistr,

a redodd yn mlaen, a chan adael y llwybr sathredig, 

fe garlammodd yn mlaen hyd at ddibyn craig; pan

ar syrthio drosodd, daeth ei Feistr i fynu, a chan

afael yn ei gynffon, a ymdrechodd ei dynu yn ol, ond yr Asyn a barhaodd i ymgyndynu, a thynu y'mlaen, a'r Dyn a ollyngodd ei afael, gan ddyweyd, “Wel, Jack, os myni fod yn feistr, nid allaf fi mo'i helpio. Rhaid i fwystfil cyndyn fyned ei ffordd ei hun."

 

Yr ynfyd a ymgyndyna i’w ddinystr ei hun.

 

 

 

(delwedd 1119e) (tudalen 120b) (chwedl 134)

CHWEDL 134. - YR HEN WR AC ANGAU.

 

Hên Wr wedi teithio ffordd bell gyda bwrned

mawr o goed, a gafodd ei hunan mor lluddedig, fel y

gorweddodd i lawr, ac y galwodd am Angau i'w

waredu allan o'i fywyd truenus. Daeth Angau, yn

ddioed, ar ei alwad, a gofynodd iddo pa beth oedd

arno eisieu. “Attolwg, anwyl syr," ebe yntau, “a

welwch chwi fod yn dda fy helpu i roddi y bwrned

ar fy nghefn eto."

 

Un peth ydyw galw am angau, a pheth arall ydyw ei

weled.

 

 


(delwedd 1120) (tudalen 121) (chwedl 135)



CHWEDL 135 - YR ADARWR A’R BETRUSEN.
Pan yr oedd Adarwr wedi cymmeryd Petrusen yn ei rwyd, yr aderyn a waeddodd allan yn wylofus, “Gad i mi fyned, Adarwr mwyn, a mi a addawaf hudo Petris ereill i’ch rhwyd.” “Na,” meddai y Dyn, “pa beth bynag a allaswn ei wneyd o’r blaen, yr wyf yn benderfynol na arbedaf chwi yn awr;
canys nid oes un farwolaeth yn rhy greulon i’r hwn sydd yn barod i fradychu ei gyfeillion.”

Y casaf o ddynion yw yr hwn a abertha ei gyfeillwn i’w waredu ei hun.
_


 

 


(delwedd 1121) (tudalen 122) (chwedl 136)



CHWEDL 136 - YR ASYN SYNWYROL.
Yr oedd hen wr yn gwilio ei Asyn fel yr oedd yn pori mewn gweirglawdd fras. Yn ddisymwth, canfyddodd y gelynion yn nesau atto, ac a fynai i’r Asyn ffoi gydag ef mor ffastied ag y medrai. Ond gofynai yr Asyn iddo, “a wnai y gelyn roi dau bâr o gewyll ar ei gefn?”
“Na,” atebai y dyn, “nid oes dim perygl o hyny.” “Wel, os felly,” meddai yr Asyn; , “ni redaf fi gam; canys pa wahaniaeth yw i mi pwy fydd fy meistr, os yr un faint fydd fy maich dan bob un.”

Y mae rhyfel yn gyffredin o fwy o bwys i’r llywodraethwyr nag i’r deiliaid. — Ni waeth y naill ormes na’r llall.
_


 

 


(delwedd 1122) (tudalen 123) (chwedl 137)



CHWEDL 137 - Y DDAU DDWFR-LESTR.
Dau Lestr, un o Brês a’r llall o Bridd, a gariwyd i lawr afon ar lifeiriant. Cynghorai y Llestr Prês ei gydymaith i gadw yn ei ochr ef, ac y gwnai efe ei amddiffyn. “Diolch i chwi am eich cynnyg,” ebe y Llestr Pridd, “ ond dyna’r peth sydd arnaf fi fwyaf i’w ofn; os cedwch chwi yn mhell oddi wrthyf, gallaf nofio i lawr yn ddiogel, ond os tarawn yn ein gilydd, myfi sydd yn sicr o ddyoddef.”

Nid da ymwthio at gyfeillion galluoccach na ni, canys os digwydd ymrafael, y gwanaf a â i’r wal.
_


 

 


(delwedd 1123) (tudalen 124) (chwedlau 138-139)



CHWEDL 138 - Y LLEW A’R MORHWCH.
Fel yr oedd y Llew yn rhodio ar fin y mor, fe welai Fôrhwch yn ymheulo ar wyneb y dwr, — fe’i gwahoddodd i ffurfio cynghrair ag ef, “Canys,” meddai, “gan fy mod i yn Frenin y bwystfilod, a chwithau yn Frenin y pysgod, fe ddylem fod y cyfeillion mwyaf, a’r cynghreiriaid ffyddlonaf.” Cydunodd y Môrhwch a’r cais hwn gyda’r parodrwydd mwyaf; — a’r Llew, ychydig wedi’n, yn digwydd bod mewn brwydr gyda Tharw gwyllt, a alwodd ar y Morhwch am y cynnorthwy cyfammodol. Ond pan nad allai, er yn awyddus i wneyd hyny, ddim dyfod allan o’r môr i’w helpu, cyhuddai y Llew ef o fod wedi ei fradychu ef. “Na feiwch fi,” ebe y Môrhwch, “ond beiwch fy natur, yr hon, pa mor alluog bynag yn y môr, sydd yn hollol ddinrth ar y tir.”

Doethineb wrth ddewis cyfeillion, ydyw ystyried a oes ganddynt allu, yn gystal ag ewyllys i’n cynnorthwyo mewn amngen.

CHWEDL 139 - YR UDGANWR YN GARCHAROR.
Udganwr, wedi ei gymmeryd yn Garcharor mewn rhyfel, a erfyniai yn daer am gael ei fywyd. “Arbedwch fi, anwyl ddynion,” ebe fe, “ac na roddwch fi i farwolaeth heb achos, canys ni leddais I neb, ac nid oes genyf ddim arfau, ond yr Udgorn hwn yn unig.” “Oblegyd hyny, yn bendifaddeu,” atebai y gorchfygwyr, “y cewch chwi farw; canys heb fod genych wroldeb i ymladd eich hun, yr ydych yn cyffroi ereill i ymladd a chreulondeb.”

Y mae yr hwn sydd yn cyffroi i amrafael, yn waeth na’r hwn sydd yn cymmeryd rhan ynddo.

_


 

 


(delwedd 1124) (tudalen 125) (chwedl 140)



CHWEDL 140 - Y CHWAREUWR A’R GWLADWR.
Rhyw Dywysog cyfoethog a fwriadai ddifyru y Rhufeiniaid ag arddangosfa chwareuyddol, ac a gynnygiodd wobr i bwy bynag a ddygai rywbeth newydd allan yn y dull hwnw. Er mwyn y wobr a’r clod, daeth Chwareuwyr yn mlaen o bob parth o’r wlad i ymdrechu am yr oruchafiaeth, ac yn eu plith daeth un ffraethwr enwog, ac a hysbysodd fod ganddo ef fath newydd o ddifyrwch, na welwyd erioed ar un chwareufwrdd o’r blaen. Ar ledaeniad yr hysbysiad hwn, daeth yr holl ddinas yn nghyd; nid allai y chwareudŷ ond prin gynnwys y lluaws edrychwyr, a phan ymddangosodd y Chwareuwr o flaen y dyrfa, heb fod ganddo ddim offerynau, na dim cynnorthwy-wyr, yr oedd yr edrychwyr oll yn berffaith ddistaw gan chwilfrydedd a phryder. Yn ddisymwth fe wthiodd ei ben i’w fynwes, ac a ddynwaredodd fochyn bychan yn gwichian, mor naturiol, fel y mynai y bobi fod ganddo un o dan ei fantell, ac a orchymynent iddo gael ei chwilio; ond wedi gwneuthur hyny, a chael dim, hwy â’i llwythasant ef a’r ganmoliaeth

_


 

 


(delwedd 1125) (tudalen 126) (chwedl 140)



uwchaf. — Rhyw Wladwr yn y dorf, wrth sylwi ar yr hyn oedd yn myned yn mlaen, a ddywedodd, “O, fe allaf fi wneuthur yn well na hynyna,” ac a hysbysodd y byddai iddo yntau ymddangos o’u blaenau dranoeth. Felly, dranoeth, fe ymgynnullodd tyrfa fwy fyth. Gan fod y bobl, er hyny, wedi eu boddhau gymmaint gan y Chwareuwr, yr oeddynt yn rhagfarnllyd yn erbyn y Gwladwr, a daethant yno, yn hytrach, i’w wawdio ef, nac i roddi barn deg arno. Daeth y ddau allan ar y chwareufwrdd: darfu i’r Chwareuwr wichian yn gyntaf, a derbyniwyd ef a churo dwylaw a’r cymmeradwyaeth mwyaf. Yna, y Gwladwr, gan gymmeryd arno ei fod wedi cuddio mochyn bychan o dan ei wisgoedd, (ac yr oedd ganddo un hefyd, mewn gwirionedd,) a binsiodd ei glust ef, nes y gwichiodd yn iawn. Yr edrychwyr a waeddasant allan, fod y Chwareuwr wedi dynwared y mochyn yn llawer mwy naturiol, ac a hwtiasant y Gwladwr oddiar y chwareufwrdd: ond efe, i’w hargyhoeddi yn eu hwyneb, a dynodd allan y mochyn byw o’i fynwes, gan ddywedyd, “Ac yn awr, foneddigion, gellwch weled pa fath feirniaid cywrain a galluog ydych chwi.”

Y mae yn haws argyhoeddi dyn yn groes i’w synwyr, nag yn groes i’w ewyllys. — Y mae enw mawr yn fwy dylanwadol ar lawer na gwir deilyngdod.

GWRECSAM: CYHOEDDWYD GAN HUGHES A’I FAB.

 

Sumbolau:

a A / æ Æ / e E / ɛ Ɛ / i I / o O / u U / w W / y Y /
MACRON: ā Ā / ǣ Ǣ / ē Ē / ɛ̄ Ɛ̄ / ī Ī / ō Ō / ū Ū / w̄ W̄ / ȳ Ȳ /
BREF: ă Ă / ĕ Ĕ / ĭ Ĭ / ŏ Ŏ / ŭ Ŭ / B5236:  B5237: B5237_ash-a-bref
ˡ ɑ ɑˑ aˑ a: / æ æ: / e eˑe: / ɛ ɛ: / ɪ iˑ i: / ɔ oˑ o: / ʊ uˑ u: / ə / ʌ /
ẅ Ẅ / ẃ Ẃ / ẁ Ẁ / ŵ Ŵ /
ŷ Ŷ / ỳ Ỳ / ý Ý / ɥ
ˡ ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ əɪ uɪ ɪʊ aʊ ɛʊ əʊ /
£

ә ʌ ẃ ă ĕ ĭ ŏ ŭ ẅ ẁ Ẁ ŵ ŷ ỳ Ỳ
wikipedia, scriptsource. org

https://en.wiktionary.org/wiki/ǣ

 

Y TUDALEN HWN / AQUESTA PÀGINA:
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_063) (chwedlau_aesop_glan_alun_01_2786k.htm


Ffynhonnell / Font:  archive.org
Creuwyd / Creada: ??
Adolygiadau diweddaraf / Darreres actualitzacions:
06-10-2018, 28-09-2018, 18 01 2003
Delweddau / Imatges:

 

Freefind:

Archwiliwch y wefan hon
CERQUEU AQUEST WEB
...
Adeiladwaith y wefan
ESTRUCTURA DEL WEB
...
Beth sydd yn newydd?
Novetats


Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Gal·les-Catalunya)
Where am I? You are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website
Weə-r äm ai? Yüu äa-r víziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA (= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait

 

 

hit counter script


Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats