....
|
|
(delwedd
1006) (clawr blaen)
|
(Clawr
Blaen) Chwedlau neu Ddammegion Aesop
|
|
|
(delwedd 1126) (tudalen 001) (teitl)
|
(tudalen 1)
AIL GYFRES O CHWEDLAU NEU DDAMMEGION AESOP,
GYDA PHIGION O DDAMMEGION DIWEDDARACH KRIOLF, LA FONTAINE, &c.;
WEDI EU CYFIEITHU O’R ARGRAFFIADAU GOREU YN YR IAITH SEISONEG,
A’U CAFADDASU I’R GYMRAEG.
WREXHAM.
ARGRAFFWYD A CHYHOEDDWYD GAN HUGHES AND SON
|
|
|
(delwedd 1128) (tudalen 003) (cynnwysiad-1)
|
(tudalen 3)
CYNNWYSIAD.
AT Y DARLLENYDD.
Chwedlau: —
1. Y Tri Masnachwr.
2. Y Frân a’r Alarch.
3. Y Bachgen a’r Ffrwythau.
4. Yr Hen Wraig a’i Morwynion.
5. Y Ffrwd.
6. Y Llwynog a’r Gwyneb gosod.
7. Y Dyn Ieuangc a’r Wenol.
8. Y Blaidd mewn croen Dafad.
9. Y Golomen sychedig.
10. Y Gŵr Moel.
11. Llongddrylliad Simonides.
12. Y Ci a’r Ysgyfarnog.
13. Y Wenol a’r Adar ereill.
14. Y Gwyddau.
15. Mawrth a’r Cerfluniwr.
16. Y Blaidd a’r Llew.
17. Yr Heliwr a’r Coettiwr.
18. Y Gwr Cenfigenllyd a’r Trachwantwr.
19. Y Blaidd a’r March.
20. Yr Asyn mewn Swydd.
21. Yr Epa a’r Llwynog.
22. Yr Asyn yn cario Halen.
23. Yr Ast a’r Hwch.
24. Yr Heffer a’r Ych.
25. Y Bechgyn a’r Llyffaint.
26. Y Pysgod mawr a’r rhai bychain.
27. Y Paun a’r Bioden.
28. Y Llwynog a’r Chwiban.
29. Y March a’r Llew.
30. Yr Afr a’r Bugail.
31. Y Gôf a’i Gi.
32. Y Dyn Ieuangc a’r Gath.
33. Y Gwrych a’r Winllan.
34. Cysgod yr Asyn.
35. Yr Asyn yn nghroen y Llew.
36. Y Seryddwr.
37. Y Mochyn a’r Defaid.
38. Y Ceiliog a’r Llwynog.
39. Y Bugail a’r Môr.
40. Y Cŵn a’r Crwyn.
41. Y Briodas Angeuol
42. Y Blaidd a’r Afr.
43. Y Gwlaw a’r Tir.
44. Y Carw wrth y Llyn.
45. Yr Amaethwr a’i Geffyl.
46. Y Tarw a’r Afr.
47. Y Llwynog yn y Ffynon.
48. Y Ddau Gi.
49. Yr Asyn yn bwyta’r Ysgall.
50. Y Ddafad a’r Carw.
51. Y Ddafad, y Ci, a’r Blaidd.
52. Yr Afanc a’i Erlidwyr.
53. Y Wiwer a’r Llew.
54. Y Bachgen a’r Ci.
55. Y Bachgen yn Ymdrochi.
56. Y Morgrugyn Ymffrostgar.
57. Y Ci a’r Ddafad.
58. Y Wiwer ffwdanus.
59. Y Tarw a’r Llo.
60. Y Draenog a’r Nadroedd.
61. Y Ceiliog Twrci a’i blant.
62. Y Gigfran a’r Ci.
63. Cymeryd yr Udganwr yn Garcharor.
64. Y Tad a’i ddwy Ferch.
65. Y Ci a’r Hwrdd.
66. Yr Arth a’r Cychod Gwenyn.
67. Yr Afonydd a’r Mor.
68. Y Crocodile a’r Ci.
69. Y Dail a’r Gwreiddiau.
70. Y Diamwnt a’r Gareg.
71. Pen yr Epa.
72. Y Paun a’r Crychydd.
73. Y Myn a’r Blaidd.
74. Y Fronwen a’r Dyn.
75. Y Llyffant yn Grachfeddyg.
76. Y Cŵd.
77. Y Dyn Du.
78. Y March a’r Asyn..
79. Y Gareg a’r Gwlaw.
80. Y Llyffant.
81. Yr Epa a’r Llwynog.
82. Y Gwladwr a r Môr.
83. Y Golomen.
84. Yr Asyn mewn croen Llew.
|
|
|
(delwedd 1129) (tudalen 004) (cynnwysiad-2)
|
(tudalen 4)
85. Y Quartette.
86. Y Llwynog a’r Frân.
87. Y Bachgen a’r Ych.
88. Y Ceffyl a’r Aderyn Tô.
89. Y Pysgodyn-hedegog a’r Dolffyn.
90. Yr Amaethwr a’r Fuwch.
91. Y Blaidd a’r Bugeiliaid.
92. Y Morgrugyn a’r Golomen.
93. Y Bachgen a’r Afr.
94. Y Teithwyr ar fin y Môr.
95. Y Baedd Gwyllt a’r Llwynog.
96. Yr Ewythr a’i Nai.
97. Yr Eryr, y Frân, a’r Crwban.
98. Y Barcud a’r Ffermwr.
99. Yr Ewig a’r Llwynogod.
100. Y Bychod Geifr a’r Geifr.
101. Yr Hen Lew.
102. Yr Asyn, y Ceiliog, a’r Llew.
103. Aesop a’r Gŵr Sarhaus.
104. Y Ceiling Rhedyn a’r Ddallhuan.
105. Y Llygoden a’r Fronwen.
106. Y Ffermwr a’i Gŵn.
107. Y Gwenyn a’r Gwenyn Segur
108. Yr Asyn a’r Eos.
109. Yr Epa a’r Drychau.
110. Y Brawd a’r Chwaer.
111. Y Ffermwr a’r Llew.
112. Yr Asyn a’r Gwybedyn.
113. Y Llewpard a’r Bugeiliaid.
114. Y Cawrfil a’r Corgi.
116. Y Teithwyr a’r Corgwn.
116. Caesar a’i Was.
117. Yr Ymsuddwyr.
118. Yr Eryr, y Gath, a’r Baedd.
119. Yr Epa a’r Pysgotwyr.
120. Socrates a’i Dŷ.
121. Yr Iâr a’r Wenol.
122. Yr Yspeiliedig a’i Gyfeillion.
123. Yr Asyn a’r Baedd.
124. Y Llewpard a’r Llwynog.
126. Y Ci a’r Ceffyl.
126. Aesop yn Chwareu.
127. Yr Ast a’i Chŵn.
128. Y Ddau Gi.
129. Y Blaidd, y Llwynog, a’r Epa.
130. Yr Amaethwr Cybyddlyd.
131. Yr Hwch.
132. Y Gŵr a’i Ddwy Wraig.
133. Yr Asynod a’r Lladron.
134. Y Barcutan Papyr a’r Adar
135. Aderyn y Tô a’r Ysgyfarnog.
136. Y Gwladwr a’i Hugan.
137. Yr Atheistiaid.
138. Y Llyffantod a’r Haul.
139. Y Coed a’r Duwiau.
140. Yr Asyn a’i Berchenogion.
141. Y Gŵr Cyfoethog Tlawd.
142. Juno a’r Paun.
143. Y Cardotyn a’i Gŵd.
144. Y Siwg bridd a’r Llestr coed.
145. Y Llwynog a’r Llygoden.
146. Y Cawrfil mewn Swydd.
147. Y Fronwen a’r Llygod.
148. Y Tri Brawd.
149. Y Crib a’r Plentyn.
150. Y Ceffyl a’r Asyn Llwythog.
151. Y Bleiddiaid a’r Belaid.
152. Y Defaid a’r Oen.
153. Yr Asyn a Jupiter.
154. Yr Arth a’r Gwenyn.
155. Y Cadben a’r Morwyr.
156. Y Fronfraith a’r Iâr.
157. Y Meddwon.
158. Y Teithwyr a’r Ysbeiliwr.
159. Yr Heliwr a’r Golomen.
160. Y Llafurwyr a’r Afon.
161. Y Llwynog a’r Ddraig.
162. Y Gath a’r Llwynog.
163. Y Teithwyr.
164. Y Cybydd a’i Drysor.
165. Y Gŵr Moel a’r Gwibedyn.
166. Y Llew, yr Arth, a’r Llwynog
167. Y Bugail a’i Gi.
168. Y Gwyddau a’r Garanod.
169. Yr Hydd a’r Winwydden.
170. Y Neidr a’r Gôg.
171. Y Neidr a’r Enllibiwr.
172. Yr Ehedydd a’i Fab.
173. Y Ddallhuanod a’r Haul.
174. Addysg y Llew Ieuangc.
175. Y Teithwyr a’u Cysgod.
176. Y Magnelau a’r Hwyliau.
177. Y Llwynog fel Adeiladydd.
178. Y Cybydd a’r Tylwyth Teg.
179. Y Melinydd a’r Agen yn y Ffos.
180. Y Ddafad a’r Barnwr.
181. Y Mochyn a’r Palas.
182. Y Lleidr a’r Dillad.
183. Y Llew a’r Llwynog.
184. Y Morgrugyn a’r Gwibedyn.
185. Y Melinydd, ei Fab, a’u Hasyn.
|
|
|
(delwedd 1130) (tudalen 00) (at-y-darllenydd)
|
(tudalen 5)
AT Y DARLLENYDD.
Parhad o Chwedlau neu Ddammegion Aesop a gynwysir gan mwyaf yn y llyfr hwn.
Yn y Casgliad Cyntaf dodwyd saith ugain o Chwedlau y Doethwr o flaen y
darllenydd Cymreig. Y mae y gwerthiad fu ar y llyfr hwnw yn myned yn mhell i
brofi fod “Gwyr y Bryniau” yn gwerthfawrogi, ac yn cael blas ar y math yma o
lenyddiaeth. .Yn y llyfr hwn fe geir wyth ugain a phump o Ddammegion; oddeutu
cant o honynt yn eiddo yr hen Aesop; ychydig dros ddeugain wedi eu. dethol o
waith Kriolf, y Chwedleuwr Rwssiaidd talentog; a’r gweddill o blith cynyrchion
La Fontaine, y Ffrangcwr enwog.
Yr ydym yn credu fod y “tri wyr” hyn, yn y tudalenau canlynol, yn dysgu
llawer gwers bwysig, a hyny mewn dull difyrus a didramgwydd. Hyderwn y bydd y
darllenydd — “Arglwydd y greadigaeth” — yn ddigon gostyngedig i wrando ar y
creaduriaid direswm yn siarad doethineb ac yn rhoddi cynghorion buddiol, ac
nad wrthodant “berl” er ei gael “o enau llyffant.”
Y CASGLYDD.
|
|
|
(delwedd 1132) (tudalen 007) (teitl)
|
(tudalen 7)
AIL GYFRES O CHWEDLAU NEU DDAMMEGION AESOP,
GYDA PHIGION O DDAMMEGION DIWEDDARACH KRIOLF, LA FONTAINE, &c. &c.,
&c.
|
|
|
(delwedd 1133) (tudalen 008) (chwedl 1)
|
(tudalen 8)
CHWEDLAU AESOP, &c.
CHWEDL 1 - Y TRI MASNACHWR.
Yr oedd dinas yn ofni cael gwarchae arni, a chynhaliwyd cynghorfa i ystyried
y ffordd oreu i ddiogelu ei hamddiffynfeydd. Rhoddodd Saer Maen ei farn, nad
oedd dim defnyddiau cygystal a phriddfeini i’r diben. Cynygiai Saer Coed y
byddai coed yn llawer gwell. Ar hyn cododd Lledrwr i fyny, ac a ddywedodd,
“Syrs, wedi i chwi ddweyd gymaint oll ag a ellir ei ddweyd, nid oes dim yn y
byd yn debyg i Ledr.”
Pawb drosto ei hun, yw natur dyn.
|
|
|
(delwedd 1134) (tudalen 009) (chwedlau 2-3)
|
(tudalen 9)
CHWEDL 2 - Y FRÂN A’R ALARCH.
Brân a genfigenai wrth Alarch, oblegyd fod ei phlu mor wyn; a chan feddwl fod
ei harddwch i’w briodoli i’r dwfr yr oedd hi yn byw ynddo, efe a adawodd yr
allorau lle yr arferai gael ei luniaeth, ac a gymerodd at y llynoedd a’r
afonydd. Yno fe ymchwyddodd ac a ymolchodd ac a lanhaodd ei wisg, ond yr oll
yn ofer, canys parhaodd ei blu mor ddu ag erioed, ac efe ei hun yn fuan a
drengodd o eisiau ei ymborth arferol.
Ni wna newid ymborth na lle ddim newid natur. Yr hyn sydd fywyd i un sydd
farwolaeth i’r llall.
CHWEDL 3 - Y BACHGEN A’R FFRWYTHAU.
Rhoddodd Bachgen ei law mewn llestr yn yr hwn yr oedd llawer o Ffigys a Chnau
wedi en cadw; fe afaelodd mewn cymaint fyth ag a allai ei ddwrn ei gynwys,
ond pan geisiai ei dynu allan, yr oedd culni gwddf y llestr yn ei rwystro. Yn
anfoddlon i golli dim o honynt, ond yn analluog i dynu ei law o’r llestr, fe
dorodd allan i wylo, ac i gwyno yn chwerw am ei anffawd. Rhyw ŵr gonest
yn sefyll gerllaw, a roddodd iddo y cynghor call hwn, “Cydiwch yn yr haner fy
machgen, a chwi a lwyddwch yn hawdd.”
Ceisio gormod a cholli’r cyfan. “Coflaid fechan a’i gwasgu yn dyn.”
|
|
|
(delwedd 1135) (tudalen 010) (chwedl 4)
|
(tudalen 10)
CHWEDL 4 - YR HEN WRAIG A’I MORWYNION.
Yr oedd gan Hen Wraig unwaith niter o Forwynion, y rhai a alwai at eu gwaith
bob dydd ar ganiad y Ceiliog. Darfu i’r merched, y rhai oeddynt yn teimlo ei
bod yn galed arnynt i gael eu deffroi o’u cwsg melus mor foreu, uno a’u
gilydd a lladd y Ceiliog; gan feddwl, pan y byddai y rhybuddiwr wedi ei symud
o’r ffordd, y byddai iddynt gael mwynhau eu gwelyau cynes ychydig yn hwy. Yr
Hen Wraig, yn teimlo o herwydd colli ei Cheiliog, ac wedi cael allan, trwy
ryw foddion neu gilydd, yr holl gydfwriad, a benderfynodd fod i fyny â hwy;
ac o’r adeg hono allan gorfododd hwy i godi yn gyson am haner nôs.
Gochelwch syrthio o ddrwg i waeth; gwell y drwg a wyddis na’r drwg na wyddis.
|
|
|
(delwedd 1136) (tudalen 011) (chwedlau 5-6)
|
(tudalen 11)
CHWEDL 5 - Y FFRWD.
Darfu i Fugail arllwys ei gwyn wrth Ffrwd yn erbyn yr Afon am gario ymaith yr
Oen goreu yn ei ddiadell. Y mae y Ffrwd yn cydymdeimlo ag ef yn y dull
tyneraf, a dwrdiai yr Afon yn yr iaith gryfaf. Pe buasai hi yn Afon, meddai,
ni buasai yn cyfranu ond bendithiau i’r maesydd o’i chwmpas. Byddai ei holl
gwrs yn un o fendith a chymwynasgarwch. Felly y dywedodd y Ffrwd; ac felly y
meddyliai. Ond pa beth a gymerodd le? O fewn yr wythnos torodd cwmwl uwchben
un o’r bryniau cyfagos, ac y mae y Ffrwd ar unwaith yn chwyddo i faintioli
afon fawr. Ond, Ah! pa beth sydd wedi dyfod o ddiniweidrwydd ac yspryd
heddychol y Ffrwd? Berwa, trystia, chwyrna, a lluchia ei dyfroedd yn donau
ewynog yn mhob cyfeiriad. Dadwreiddia hen dderw cedyrn; gellir clywed eu swn
yn syrthio o bell ffordd. Ie, y mae y Bugail, a’r hwn y cydymdeimlai ychydig
ddyddiau yn ol, ac o herwydd yr hwn y dwrdiai yr Afon gyda’r fath hyawdledd,
yn cael ei foddi ganddi gyda’i holl ddiadell, ac ysguba ei dŷ a’i blant
ymaith yn llwyr.
Gynifer o Ffrydiau a geir yn llifo yn araf ac esmwyth, gan ganu yn hyfryd
wrth dreiglo dros eu gwelyau caregog — yn unig am fod ychydig ddwfr ynddynt.
CHWEDL 6 - Y LLWYNOG A’R GWYNEB GOSOD.
Yr oedd Llwynog.wedi tori i mewn i dŷ Chwareuwr, ac wrth droi ei holl
eiddo drosodd, fe ddaeth o hyd i Wyneb gosod (mask) tra phrydferth. “Gwyneb a
phen gwych yn wir,” ebai efe, “ond y fath resyn nad oes dim ymenydd iddo.”
Digon gwael ydyw gwyneb teg ac ychydig synwyr tu cefn iddo.
|
|
|
(delwedd 1137) (tudalen 012) (chwedl 7)
|
(tudalen 12)
CHWEDL 7 - Y DYN IEUANGC A’R WENOL.
Afradlon ieuangc, ag ydoedd wedi gwastraffu ei holl dda, a gerddai yn
bruddglwyfus yn agos i ffrwd o ddwfr. Mis lonawr ydoedd, un o’r dyddiau clir
hafaidd a wenant arnom weithiau hyd yn nod yn y tymor gauafol hwnw; ac i’w
gwneyd yn fwy tebyg i’r haf, yr oedd Gwenol, a wnaeth ei hymddangosiad yn rhy
fuan, yn ysgubo dros wyneb y ffrwd. Y Dyn ieuangc difeddwl yn gweled hyny,
heb ychwaneg o ystyriaeth, a benderfynodd fod yr haf wedi dyfod, ac na byddai
arno ond ychydig os dim achos am ei wisg uchaf; felly aeth ac a’i gwerthodd,
a gwariodd yr arian yn mhlith ei gymdeithion annuwiol. Ar ol i’r arian yma
ddarfod, aeth am rodfa arall i ymyl yr un ffrwd. Ond trwy fod y tywydd wedi
newid, a dy¬fod yn oer a rhewllyd, yr oedd agwedd pethau wedi newid yn fawr
o’r hyn ydoedd o’r blaen; yr oedd y ffrwd yrwan wedi rhewi drosti, a’r Wenol
dlawd yn gorwedd yn farw yn ei hymyl. Darfu i’r olygfa ddwyn y Dyn Ieuangc
ato ei hun; ac yn teimlo ei gyflwr gresynus, beiodd ei hun fel yr achos o’i
holl drueni.
|
|
|
(delwedd 1138) (tudalen 013) (chwedlau 7-8-9)
|
(tudalen 13)
“Y fath adyn ffol ydwyf,” ebai wrtho ei hun, “am fod mor ddwl a chredu y
gallasai un Wenol wneyd haf.”
Mewn tywydd teg byddwch barod erbyn tywydd garw. Na fyddwch byw yn hollol yn
y presenol heb feddwl dim am y dyfodol.
CHWEDL 8 - Y BLAIDD MEWN CROEN DAFAD.
Blaidd a wisgodd am dano Groen Safad, ac wedi cael dyfodiad i mewn i blith y
praidd trwy hyny, fe ddifethodd lawer o honynt. O’r diwedd y bugail a’i
canfu, ac wedi taflu cortyn am ei wddf, fe’i rhwymodd i fynu. wrth bren oedd
gerllaw. Rhyw fugeiliaid ereill yn paaio y ffordd hono, ac yn sylwi arno, a
ddaethant ac a draethasant eu syndod. “Beth,” ebai un o honynt, “frawd, a
ydych chwi yn crogi defaid?” “Nac ydwyf.” ebai yntau, “ond byddaf yn crogi
Blaidd pryd bynag y daliwyf ef, hyd yn nod pan wedi ei wisgo mewn Croen
Dafad.” Wedi canfod eu camgymeriad, hwy a’i canmolasant ef am gyfiawnder ei
weithred.
Ni wna cochl sanctaidd ond chwanegu ysgelerder y twyllwr. Fe syrth y twyllwr
i’r fagl o’r diwedd er maint ei ragrith.
CHWEDL 9 - Y GOLOMEN SYCHEDIG.
Colomen yr hon oed’d yn sychedig iawn, yn gweled llun gwydraid o ddwfr wedi
ei baentio ar arwyddfwrdd, a dybiodd mai dwfr gwirioneddol ydoedd; felly gan
ehedeg ato a’i holl nerth, hi a darawodd yn erbyn y bwrdd, a chan dori ei
hesgyll, hi a syrthiodd i’r llawr, lle y daliwyd hi yn ebrwydd gan rywun yn
pasio heibio.
Aeth llawer i brofedigaeth trwy gamgymeryd y cysgod an y sylwedd. Mae gormod
ffrwst yn beryglus.
|
|
|
(delwedd 1139) (tudalen 014) (chwedlau 10-11)
|
(tudalen 14)
CHWEDL 10 - Y GŴR MOEL.
Rhyw Farchog wedi colli ei wallt oblegid henaint, i guddio y diffyg a wisgai
berwig; ond fel yr oedd yn marchogaeth allan i hela gyda’i gyfeillion, daeth
chwa o wynt, ac a chwythodd y berwig ymaith, gan ddynoethi ei ben moel. Nid
allai ei gyfeillion lai na chwerthin ar y ddamwain; ac fe chwarddodd ef ei
hun mor uchel a neb o honynt, gan ddyweyd, “Pa sut y gellid disgwyl y gallwn
gadw gwallt dieithr ar fy mhen, pan nad arosai fy ngwallt fy hun yno?”
Os digwydd i un fynd yn ddiniwaid yn destun chwerthiniad i ereill, y ffordd
oreu weithiau ydyw ymuno a’r chwerthiniad.
CHWEDL 11 - LLONGDDRYLLIAD SIMONIDES.
Y mae dyn dysgedig yn cario cyfoeth i’w ganlyn bob amser. Yr oedd Simonides
yn ŵr enwog am ei wybodaeth a’i dalent farddonol. Aeth i ymweled â phrif
drefydd Asia i adrodd ei ddarnau barddonol ac i draddodi ei areithiau
penigamp, ac ar ol casglu llawer o gyfoeth a mwy o anrhydedd wrth y gorchwyl
|
|
|
(delwedd 1140) (tudalen 015) (chwedlau 11-12)
|
(tudalen 15)
hwn, y mae yn penderfynu dychwelyd gartref dros y môr. Mewn canlyniad y mae
yn cymeryd llong, ond ar ganol y fordaith dryllir y llong gan ystorm ofnadwy.
Y mae rhai yn casglu eu harian, ereill eu gemau a’u haddurniadau gwerthfawr. Gofyna
un o honynt i Simonides, “onid ydych yn cy¬meryd dim o’ch cyfoeth i’ch
canlyn?” Ac y mae yn ateb, “Y mae fy holl eiddo gyda mi.” Y mae rhai yn nofio
i’r lan, ond lluaws yn boddi cyn cyraedd o herwydd eu bod wedi gorlwytho eu
hunain a’u meddianau. Y mae y môr-ladron yn dyfod ac yn lladrata yr oll a
feddai y rhai a ddiangasant o’r môr gyda’u bywydau, gan eu gadael yn
noethion. Yn ffodus yr oedd dinas henafol Clasomena yn ymyl, a darfu iddynt
oll fyned yno. Preswyliai yn y ddinas hon ŵr urddasel ag ydoedd yn
gyfarwydd a gweithiau Simonides, ond heb ei weled erioed, er wedi dymuno hyny
lawer gwaith. Croesawodd ef i’w dŷ, a rhoddodd iddo ddillad, arian, a
gweision. Y mae y lleill yn gorfod cerdded oddiamgylch yn eu carpiau, gan
gardota eu bara o ddrws i ddrws. Yn ddamweiniol cyfarfyddent a Simonides, yr
hwn a ddywedodd wrthynt, “Dywedais wrthych fod fy holl eiddo genyf, ond darfu
i chwi golli yr oll oedd genych chwi.”
Nis gall neb ein hysbeilio o’n gwybodaeth – y trysor penaf.
CHWEDL 12 - Y CI A’R YSGYFARNOG.
Ci, wedi hela yn hir ar ol ysgyfarnog, a ddaeth o hyd iddi o’r diwedd, ac a
ddechreuodd ei chnoi a’i llyfu bob yn ail. Yr Ysgyfarnog yn methu deall pa
beth i’w wneyd o hyny a ddywedodd, “Os ydych yn gyfaill, paham yr ydych yn fy
mrathu! Ond os gelyn, paham yr ydych yn fy llyfu?”
Y mae cyfaill amheus yn waeth na gelyn agored; bydded dyn y naill beth neu y
llall, ac yna ni a wyddom pa fodd i’w gyfarfod.
|
|
|
(delwedd 1141) (tudalen 016) (chwedl 13)
|
(tudalen 16)
CHWEDL 13 - Y WENOL A’R ADAR EREILL.
Yr oedd Ffermwr yn hau ei faes â llîn. Canfyddodd y Wenol hyny, a dymunodd ar
yr Adar ereill ei chynorthwyo i’w ddinystrio, gan ddweyd wrthynt mai llîn
oedd y defnydd peryglus hwnw ag y gwnelid yr edafedd o hono a ddefnyddid i
wneyd rhwydi yr aradwr, ac felly yn achosi marwolaeth cynifer o Adar
diniwaid. Ond gan na wrandawyd ar rybudd y Wenol, eginodd y llîn, a
gorchuddiodd y maes. Siaradodd â hwynt eilwaith am y perygl a’u bygythiau, a chrefodd
arnynt ei dynu i fyny yn yr egin, cyn iddo fyned yn mhellach. Parhasant i
esgeuluso ei rhybudd, a thyfodd y llîn yn uchel a chryf. Unwaith eto dymunodd
arnynt ymosod arno, gan eu sicrhau nad ydoedd yn rhy ddiweddar. Ond yr oll a
gafodd oedd cael ei dirmygu a’i gwawdio fel prophwydes ymhongar. Y Wenol,
wedi cael allan fod ei holl rybuddion yn aneffeithiol, a benderfynodd adael
cymdeithas y fath greaduriaid difeddwl a diofal, cyn y byddai i’r llîn gael
ei wneyd yn rhwydi i’w dinystrio. Felly, ymadawodd a’r coed, cefnodd ar yr
Adar, a byth er hyny y mae wedi
|
|
|
(delwedd 1142) (tudalen 017) (chwedl 14)
|
(tudalen 17)
CHWEDLAU AESOP.
gwneyd ei phreswylfa yn mhlith aneddau dynion.
Nis gellir cynorthwyo yr hwn ni dderbyn gyngor.
Chwedl 14.—Y GWYDDAU.
Yr oedd Amaethwr, gyda ffon hir yn ei law, yn gyru
ei Wyddau i dref Ile y bwriadau eu gwerthu, ac i ddweyd y gwir, nid ydoedd yn
rhyw ry foesgar yn ei ymddygiad tuag atynt. Mewn gobaith o gael pris da am
danynt y mae yn prysuro yn mlaen rhag ofn colli y farchnad (a phan y mae elw
yn y cwestiwn, y mae Gwyddau a dynion yn sefyll mewn perygl o gael dioddef).
Nid ydwyf yn beio yr Amaethwr, ond yr oedd y Gwyddau yn ei farnu yn wahanol,
a phryd bynag y cyfarfyddent a theithiwr yn dyfod i'w cyfarfod, trinient ef
yn y fath ymadroddion a hyn: “A ydyw yn bosibl cyfarfod Gwyddau mwy
anffortunus na ni? Y mae yr Amaethwr yma yn ein poeni yn fawr, a gyra ni yn ein
blaenau fel pe byddem ond Gwyddau cyffredin. Nid yw y creadur yn meddwl ein
bod yn ddisgynyddion urddasol o'r Gwyddau enwog hyny i'r rhai y mae Rhufain
yn ddyledus am ei gwaredigaeth, ac er parch i goffadwriaeth y rhai y cynhelir
gwyliau a gwleddoedd." "Ac a oes arnoch eisiau cael eich parchu ar
y cyfrif hyny?" gofynai teithiwr a elai heibio. “Wel, yr oedd ein
hynafiaid ---.” “Yr wyf yn gwybod hyny, yr wyf wedi darllen yr oll am yr
amgylchiad; ond y mae arnaf eisiau gwybod o ba ddefnydd fuoch chwi? " “Ond
darfu ein hynafiaid achub Rhufain!" “Ethaf gwir; ond pa beth wnaethoch
chwi yn y fordd hono?” "Ni! Dim!” "Yna pa rinwedd sydd yn perthyn i
chwi? gadewch i'ch hynafiaid orphwys mewn heddwch. Derbyniasant hwy wobr
gyfiawn; ond nid ydych chwi, fy nghyfeillion, yn dda i ddim ond i gael eich
rhostio!" Llawer yn hawlio parch o herwydd gwrhydri eu hynfijaid, pan yn
amddifad o bob rhinwedd personol.
|
|
|
(delwedd 1143) (tudalen 018) (chwedl 15)
|
(tudalen 18)
Chwedl 15.—MAWRTH A'R CERFLUNIWR. Mawrth, yn dymuno gwybod pa faint o barch
oedd iddo yn mhlith dynion, a wisgodd ei hun fel teithiwr, a chan fyned i
mewn i weithdy Cerfluniwr, a ddechreuoedd ofyn prisiau y gwahanol ddelwau
oedd yno. Gan gyfeirio at gerfddelw o lau, gofynodd pa faint oedd pris hwnw.
"Drachma" ebe y Cerfiedydd. Chwarddai Mawrth o'r neilldu, a
gofynai, “A pha faint ydyw pris y ddelw hon o Juno?" Gofynodd y dyn bris
uwch am hono. Yna canfyddai Mawrth gerfddelw o hono ef ei hun. “Yn awr,"
meddbi ynddo ei hun, "fe wna y gŵr yma ofyn deng waith gymaint am
hon, canys myfi ydwyf brif negesydd y nef, a ffynonell ei holl elw
yntau." Felly fe ofynodd iddo pa faint oedd pris y ddelw yna o Fawrth. "Wel,"
meddai y Cerfiwr, “os rhowch i mi fy mhris am y ddau arall, mi a daflaf hwn
yna i mewn i chwi yn y fargen."
Y rhai ydynt ry bryderus i wybod pa beth y mae y
byd yn ei feddwl am danynt, a gant yn gyrredin eu bod yn cad eu prisio yn
llawer is nag y maent yn tybied.
|
|
|
(delwedd 1144) (tudalen 019) (chwedlau 16-17)
|
(tudalen 19)
CHWEDL 16 - Y BLAIDD A’R LLEW.
Rhyw ddiwrnod yr oedd Blaidd wedi cipio Dafad o gorlan, ac yr oedd yn ei
chario adref i’w ffau, pan y cyfarfu â Llew, yr hwn yn ddioed a gydiodd yn y
ddafad ac a’i cymerodd oddiarno. Y Blaidd, yn sefyll o bell, a waeddodd allan
ei fod yn gywilydd mawr iddo, a’i fod wedi ei ysbeilio ef o’i eiddo.
Chwarddodd y Llew, a dywedodd, “Y mae yn debyg yntau, fod eich cyfaill anwyl
y bugail wedi ei roddi i chwi.”
Rhaid cael genau glân i oganu.
“Tinddu,” ebai y fran wrth y gigfran.
CHWEDL 17 - YR HELIWR A’R COETTIWR.
Aeth dyn allan i hela i’r goedwig, a chan ddigwydd cyfarfod a’r Coettiwr,
gofynodd iddo a welodd efe ddim o olion y Llew, ac a wyddai efe pa le yr oedd
ei ffau. “Gwn,” ebai y dyn, “ac os deuwch gyda mi, mi a ddangosaf i chwi y
Llew ei hun.” Ar hyny trodd yr Heliwr yn wyn ei wedd, a dechreuodd grynu
drosto, a dywedodd, “O! diolch i chwi; llwybr y Llew, ac nid y Llew ei hyn yr
oeddwn yn chwilio am dano.”
Gall cachgi fod yn wrol o bell; ond yn mhresenoldeb perygl y mae profi gwir
wroldeb.
|
|
|
(delwedd 1145) (tudalen 020) (chwedl 18)
|
(tudalen 20)
CHWEDL 18 - Y GWR CENFIGENLLYD A’R TRACHWANTWR.
Digwyddodd un tro fod Gwr Cenfigenllyd yn offrymu i fyny ei weddiau i Iau yn
yr un lle ac ar yr un adeg a dyn hynod am ei drachwant. Iau, heb deimlo tuedd
i gael ei boeni gan eu ceisiadau ei hunan, a anfonodd Apollo i chwilio i mewn
i deilyngdod eu dymuniadau, ac i roddi i bob un yn ol fel y barnai yn oreu.
Apollo, o ganlyniad, ar ol cael allan eu gwendidau, a ddywedodd wrthynt pa
beth bynag a ofynai un, y byddai i’r llall ei gael yn ddwbl. Ar hyn, y Dyn
Trachwantus, er fod ganddo fil o bethau y dymunai eu cael, a oedai ofyn yn
gyntaf, gan obeithio derbyn rhan ddwbl; oblegid credai fod dymuniadau pob dyn
yn debyg i’r eiddo ef. Trwy y moddion yma cafodd y Dyn Cenfigenllyd y fantais
o roddi yn mlaen ei gais yn gyntaf, yr hyn ydoedd yn hollol unol a’i amcan;
felly, heb lawer o betrusder, gweddiodd am gael y ffafr o gael tynu allan un
o’i lygaid; gan wybod, wrth gwrs, y byddai i’w gydymaith gael ei amddifadu
o’r ddau.
Anela Cenfigen at arall, a chlwyfa ei hun.
|
|
|
(delwedd 1146) (tudalen 021) (chwedl 19-20)
|
(tudalen 21)
CHWEDL 19 - Y BLAIDD A’R MARCH.
Fel yr oedd Blaidd yn crwydro ar draws rhyw fferm, fe ddaeth at gae o geirch,
ond gan nad allai ei fwyta, fe’i gadawodd ac a aeth ymaith. Yn y man fe
gyfarfu â cheffyi, ac a archodd arno ddyfod gydag ef i’r cae; “Canys”,
meddai, “cefais yno geirch rhagorol, ac ni phrofais yr un o honynt, ond mi
a’u cedwais i gyd i chwi, canys y mae sŵn eich dannedd chwi yn
beroriaeth yn fy nghlustiau.” Ond y March a’i hatebai, “Un gwych ydych chwi!
Pe gallai Bleiddiaid fwyta ceirch, rwy’n tybied na wnaech chwi ddim siomi
eich cylla er mwyn eich clustiau.”
Nid oes ond ychydig ddiolch yn ddyledus i’r hwn a rydd ymaith yn unig yr hyn
nad all ei ddefnyddio el hun.
CHWEDL 20 - YR ASYN MEWN SWYDD.
Asyn yn cario Delw mewn gorymdaith grefyddol, a yrwyd trwy rhyw dref, ac yr
oedd pawb a basient heibio yn ymgrymu yn isel. Wrth weled hyn, yr Asyn yn
tybied mai iddo ef y telid yr addoliad hwn, a lanwyd â balchder, ac a
wrthodai symud gam yn mhellach. Ond gosodai y gyrwr y ffon ar ei gefn yn egniol,
gan ddweyd, “Yr ynfyttyn penwan! nid y chwi y maent yn ei barchu, ond y ddelw
yr ydych yn chario.”
Y mae ffyliaid yn priodoli iddynt eu hunain y parch a delir i’w swyddau.
|
|
|
(delwedd 1147) (tudalen 022) (chwedl 21)
|
(tudalen 22)
CHWEDL 21 - YR EPA A’R LLWYNOG.
Digwyddodd unwaith i’r bwystfilod fod mor ffol a dewis Epa yn frenin arnynt.
Yr oedd ef wedi eu difyru hwynt â’i gastiau ac a’i gampiau digrifol, ac ni
fynent ddim llai na’i eneinio yn frenin. Felly fu; coronwyd ef, ac yr oedd yn
edrych yn dra doeth ac urddasol. Ond y Llwynog, yn ddig oblegid ynfydrwydd ei
frodyr, ac yn ffieiddio rhyfyg hunandybus yr Epa, a benderfynodd ei
ddarostwng ef y cyfle cyntaf. Felly, yn fuan wedi’n canfyddodd drap wedi ei
osod mewn ffôs, a darn o gig yn abwyd arno; aeth yn union at yr Epa, a
hysbysodd ef mai trysor wedi ei gael ar y maes ydoedd, ac mai i’r brenin yn
unig y perthynai. Yr Epa, heb ddych’mygu am ddim dichell, a aeth yn ddioed i
gymeryd meddiant o’r try¬sor; ond nid cynt yr oedd ei bawen ar yr abwyd, nac
yr oedd yn dyn yn y trap. Ar hyn, dechreuodd, mewn cywilydd a digter, ddwrdio
y Llwynog, gan ei alw yn fradwr, &c. Chwarddai y Llwynog yn iawn, ac aeth
ymaith, gan ddyweyd yn drahauslyd, “Bren¬in gwych yn wir, ac heb ddeall
trap!”
|
|
|
(delwedd 1148) (tudalen 021) (chwedlau 21-22)
|
(tudalen 23)
Doethineb ac nid digrifwch sydd eisiau mewn llywodraethwr. Chwithig iawn yw
os bydd y brenin yn ffolach na’r deiliaid.
CHWEDL 22 - YR ASYN YN CARIO HALEN.
Rhyw ŵr, yr hwn oedd ganddo Asyn, yn clywed fod Halen yn rhad wrth fin y
môr, a yrodd ei Asyn yno i brynu peth. Wedi llwytho yr anifail gymaint ag a
allai, yr oedd yn ei yru gartref, pan wrth basio ymyl craig, darfu i’r Asyn
lithro, a syrthio i’r afon oedd islaw iddo; yn y dwfr toddodd yr Halen, a’r
Asyn wedi colli ei faich a ddaeth allan yn hawdd, ac aeth yn mlaen tua
chartref yn ysgafnach mewn corph ac yspryd. Yn fuan wedy’n, cychwynodd y
perchenog tua’r môr eilwaith i gyrchu Halen a llwythodd yr Asyn, os oedd
bosibl yn drymach nac o’r blaen. Ar ei ddychweliad, fel yr oeddynt yn croesi
y ffrwd i’r hon y syrthiasai o’r blaen, yr Asyn a syrthiodd i mewn o bwrpas,
a thrwy doddiad yr Halen, fe’i rhyddhawyd oddiwrth ei faich drachefn. Y
meistr yn ddig oblegid ei golled, ac yn dyfeisio pa fodd y gallai ei wella
o’r cast, ar ei siwrnai nesaf at y mur a lwythodd yr anifail a baich o
ysbwng. Pan y daethant at yr un ffrwd ag o’r blaen, aeth yr Asyn at ei hen
gastiau drachefn, ac a roliodd i’lawr i’r afon; ond gan fod yr ysbwng wedi
yfed y dwfr, fe gafodd, er ei ofid, fel yr a’i yn mlaen tua chartref, ei fod
yn lle ysgafnhau ei lwyth, wedi mwy na dyblu ei bwysau.
Ni wna yr un mesurau mo’r tro yn mhob amgylchiad. Gellir chwareu yr un cast
unwaith yn rhy aml.
|
|
|
(delwedd 1149) (tudalen 024) (chwedlau 23-24)
|
(tudalen 24)
CHWEDL 23 - YR AST A’R HWCH.
Cydrhwng Hwch a Gast a ddigwyddasant gyfarfod a’u gilydd, cyfododd dadl frwd
yn nghylch eu ffrwythlonrwydd. Haerai yr Ast ei bod hi yn dwyn mwy o rai
ieuaingc ar y tro, ac yn eu dwyn yn amlach, nag un creadur pedwar-troediog
arall. “Ydych,” atebai yr Hwch. “Yr ydych yn wir, ond yr ydych bob amser ar y
fath frys gyda’r gwaith, fel yr ydych yn dwyn eich rhai bach i’r byd yn
ddeillion.”
Gwell ychydig yn berfaith na llawer yn hanerog.
CHWEDL 24 - YR HEFFER A’R YCH.
Heffer yr hon a redai yn rhydd yn y maesydd, ac ni theimlasai yr iau erioed,
a wawdiai yr Ych wrth yr aradr am ymostwng i’r fath lafur a chaledwaith. Ni
ddywedodd yr Ych ddim, ond aeth yn mlaen gyda’i waith. Yn mhen ychydig amser
wedi hyn digwyddodd
|
|
|
(delwedd 1150) (tudalen 025) (chwedlau 24-25-26)
|
(tudalen 25)
fod gwyl fawr. Cafodd yr Ych ei ddydd-gwyl i orphwys; ond dygwyd yr Heffer
ymaith i’w haberthu ar yr allor. “Os hyn ydyw diwedd eich bywyd segur,”
ebai’r Ych, “yr wyf fi yn meddwl fod fy llafur i yn well na’ch chwareu chwi.
Gwell genyf i’m gwddf deimlo yr iau na’r fwyall.”
Y ffol a edrych ar yr amser presenol yn unig, ond y doeth a ystyria y diwedd.
CHWEDL 25 - Y BECHGYN A’R LLYFFAINT.
Fel yr oedd nifer o fechgyn yn chwareu ar lan llyn, hwy a sylwasant ar luaws
o Lyffaint yn y dwfr, ac a ddechreuasant daflu ceryg atynt. Yr oeddynt eisoes
wedi lladd llawer o honynt, pan y darfu i un Llyffant mwy dewr na’r lleill,
roddi ei ben uwchlaw y dwfr, a’u ceryddu gan ddywedyd, “Rhoddwch heibio eich
difyrwch creulon, fy mhlant; ystyriwch, y mae yr hyn sydd yn chwareu i chwi
yn angeu i ni.”
Anynol ydyw difyru ein hunain ar gost dolurio ereill.
CHWEDL 26 - Y PYSGOD MAWR A’R RHAI BYCHAIN.
Yr oedd Pysgotwr yn tynu yn ol rwyd a daflasai i’r môr, yr hon oedd yn llawn
o bob math o bysgod. Diangai y pysgad bychain trwy fesgau y rhwyd, ac aethant
yn ol i’r môr, ond yr holl bysgod mawr a ddaliwyd ac a ddygwyd i’r llong.
Y mae distadledd weithiau yn achos o ddiogelwch.
|
|
|
(delwedd 1151) (tudalen 026) (chwedl 27)
|
(tudalen 26)
CHWEDL 27 - Y PAUN A’R BIODEN.
Cyfarfu yr adar i ddewis brenin. Daeth y Paun yn mlaen a chynygiodd ei hun
fel ymgeisydd am yr orsedd, a dangosodd ei blyf hardd ac amliwiog gyda’r
amcan o enill pleidleisiau y lliaws trwy brydferthwch ei wisg. Darfu i’r
nifer mwyaf bleidleisio drosto, a churasant eu hadenydd fel arwydd o
gymeradwyaeth. Ond pan yr oeddynt ar ei gyhoeddi yn frenin, daeth y Bioden yn
mlaen i ganol y dyrfa, a chyfarchodd y brenin newydd-etholedig fel hyn:
“Rhynged bodd i’ch Mawrhydi etholedig ganiatau i un o’ch deiliaid anheilwng
hysbysu i chwi ei amheuon a’i ofnau yn mhresenoldeb y dyrfa ymgynulledig? Yr
ydym wedi eich dewis chwi yn frenin arnom, yr ydym ar roddi ein bywydau a’n
meddianau yn eich dwylaw, a bydd ein boll obaith a’n dibyniaeth arnoch; o
ganlyniad, os bydd i’r eryr, y fwltur, neu y barcut unrhyw adeg ymosod arnom,
fel y mae yn debygol y gwnant, a fydd i’ch Mawrhydi fod mor dirion a chwalu
ein hofnau a symud ein amheuon o berthynas i hyny trwy ein hysbysu pa fodd yr
ydych yn bwriadu ein hamddiffyn
|
|
|
(delwedd 1152) (tudalen 027) (chwedl 27-28)
|
(tudalen 27)
rhagddynt?” Darfu i’r cwestiwn priodol ac anatebadwy hwn ddwyn yr holl dorf i
ystyried y pwngc gyda’r fath ddifrifoldeb, fel y darfu iddynt ddadwneyd eu
penderfyniad, a gwrthod derbyn y Paun fel eu brenin.
Na ddilynwch y lliaws i wneuthur drwg.
CHWEDL 28 - Y LLWYNOG A’R CHWIBAN.
Gwahoddodd Llwynog ryw dro Chwibon i giniawa gydag ef, a chan feddwl difyru
ei hun ar gost ei ymwelydd, ni threfnodd ddim i’r wledd ond ychydig botes
teneu mewn dysgl fas. Lleibiai y Llwynog hwn i fyny yn hawdd, ond y Chwibon,
o herwydd nad allai gyda’i phig hirfain godi prin ddim o hono, oedd mor
newynog ar ddiwedd y ciniaw ag oedd yn y dechreu. Cymerai y Llwynog ar yr un
pryd arno gwyno iddi oblegid ei bod wedi bwyta mor ychydig, ac ofnai nad oedd
y ddysgl ddim wedi ei choginio at ei harchwaeth. Ni ddywedodd y Chwibon fawr,
ond deisyfodd ar y Llwynog ei hanrhydeddu trwy ad-dalu yr ymweliad; ac felly
fe gytunodd i giniawa gyda hi dranoeth. Cyrhaeddodd yn brydlon yn ol ei
addewid, a dygwyd y ciniaw ger bron yn ddioed; ond gwelodd y Llwynog, er ei
siomedigaeth, ei fod wedi ei ddodi mewn llestr gyda gwddf hir a chul, i’r hwn
y gallai y chwibon yn hawdd roddi ei gwddf a’i phig hir, tra yr oedd yn rhaid
iddo ef ymfoddloni ar lyfu genau y llestr yn unig. Yn analluog i dori ei
newyn, fe aeth ymaith gan roddi y gwyneb goreu a allai arno ei hun, a sylwi
nad allai ef ddim beio ar ei letywr, yr hwn ni wnaeth ddim ond talu yn ol
iddo yn ei arian ei hun.
Ni ddylai y rhai a gellweiriant a theimladau ereill ddisgwyl cael arbed yr
eiddynt hwy.
|
|
|
(delwedd 1153) (tudalen 028) (chwedl 29)
|
(tudalen 28)
CHWEDL 29 - Y MARCH A’R LLEW.
Llew, yn gweled March ieuangc graenus, a deimlodd duedd gref i’w fwyta, ond
ni wyddai pa fodd i’w gael i’w afael. O’r diwedd meddyliodd am y cynllun yma:
rhoddodd allan ei fod yn feddyg, ag ydoedd wedi teithio llawer mewn gwledydd
tramor, ac felly yn alluog trwy ei hir ymarferiad i wella unrhyw ddolur neu
afiechyd ar bob math o greadur; gan obeithio trwy y ddyfais hon i gael
cyfleusdra i gario ei gynlllun i weithrediad. Y Ceffyl, yr hwn a amheuai ei
amcan, a benderfynodd fod i fynu âg ef; ac felly, yn cymeryd arno ei fod yn
credu y peth yn llawn, a dalodd ymweliad â’r Llew, a dymunodd gael ei gyngor
o berthas i ddraen oedd yn ei droed, yr hon oedd wedi ei gloffi yn hollol, ac
yn peri poen mawr iddo. Cydsyniodd y Llew yn rhwydd, a dmunodd gael gweled ei
droed. Ar hyn cododd y Ceffyl un o’i draed ôpl, a thra yr oedd y Llew yn
cymeryd arno ei archwilio, rhoddodd iddo y fath droediad yn ei wyneb ag a’i
llwyr syfrdanodd, a
|
|
|
(delwedd 1154) (tudalen 029) (chwedlau 29-30-31)
|
(tudalen 29)
gadawodd ef yn rholio ar y ddaear. Ar yr un pryd carlamodd y March ymaith,
gan weryru a chwerthin yn braf o herwydd llwyddiant ei ddyfais, trwy ba un y dyrysodd
amcan un ag oedd yn ceisio dwyn ei einioes ymaith.
Nid yn anaml y mae y drwg a fwriada y cyfrwys i arall yn disgyn ar ei ben ei
hun.
CHWEDL 30 - YR AFR A’R BUGAIL.
Yr oedd Gafr wedi crwydro oddiwrth y praidd, a threiai y Bugail yn mhob modd
i’w dwyn yn ol at ei chyfeillion. O’r diwedd, wedi llwyr fethu cael ganddi
ddychwelyd trwy alw a chwibanu arni, fe gododd gareg, ac a’i tarawodd ar ei
chorn gan ei dori. Wedi dychrynu wrth weled hyny, fe erfyniodd ar yr Afr i
beidio dweyd wrth ei feistr, ond hi a atebodd, “O? ffolaf o fugeiliaid! fe
ddywed fy nghorn yr hanes, pe us ddywedwn i un gair.”
Y mae ffeithiau yn llefaru yn eglurach na geriau.
CHWEDL 31 - Y GÔF A’I GI.
Yr oedd gan rhyw Of Gi bychan. Pan y byddai y Gof yn curo ei haiarn, fe
gysgai y Ci; ond y foment yr eisteddai i lawr i giniawa, fe ddeffroai y Ci.
“Y corgi diog!” meddai y Gof, gan daflu asgwrn iddo; “yr wyt yn cysgu trwy
holl sŵn yr emion, ond yn deffro i fynu cyn gynted ag y clywi swn fy
nanedd.”
Y mae rhai dynion nad ydynt yn effro i ddim ond eu lles eu hunain.
|
|
|
(delwedd 1155) (tudalen 030) (chwedl 32)
|
(tudalen 30)
CHWEDL 32 - Y DYN IEUANGC A’R GATH.
Cath wedi syrthio mewn cariad â dyn ieuangc, a erfyniodd ar Gwener ei
chyfnewid i ferch, yn y gobaith o enill ei gariad. Trawsffurfiodd y Dduwies
hi yn forwyn, a phriododd y dyn ieuangc hi. Fel yr oeddynt yn eistedd yn eu
hystafell, Gwener, yn dymuno gwybod a ydoedd wrth newid ei ffurf wedi newid
ei natur hefyd, a osododd lygoden o’i blaen. Y Briodas-ferch, yn gwbl
ddiystyr o’i gŵr, a ruthrodd o’i heisteddle, a erlidiodd y llygoden fel
pe buasai am ei bwyta yn y fan; ar hyny y Dduwies, yn teimlo yn ddig o
herwydd ei hymddygiad, a’i trawsffurfiodd yn ol yn Gath eilwaith, fel y
byddai i’w hymarferion a’i pherson fod yn gyson â’u gilydd.
Y mae natur yn drech na dysg.
|
|
|
(delwedd 1155b) (tudalen 031) (chwedlau 33-34)
|
(tudalen 31)
CHWEDLAU ÆSOP.
Chwedl 38.
— Y GWRYCH A'R WINLLAN. Etifedd ieuangc ffol newydd ddod i feddiant o Winllan
ei dad doeth, a barodd godi i fynu yr holl wrych oedd oddiamgylch i'w
Winllan, oblegid nad oeddynt yn dwyn dim grawnwin. Darfu dinystriad yr holl wrychoedd
hyn osod ei dir yn agored i ddyn ac anifail, ac yn bur fuan dinystriwyd ei
holl winwydd. Felly fe ddysgodd y creadur gwirion, pan yn rhy ddiweddar, na
ddylasai ddisgwyl grawnwin oddiar ddrain, a'i fod o gymaint pwys iddo i
amddiffyn ei Winllan a’i meddianu.
Camp fawr ydyw cadw eiddo wedi eu cael. Y mae rhai
yn trachwantu gormod a cholii y cwbl, neu yn arbed y geiniog a cholli y bunt.
Chwedl 34. — CYSGOD YR ASYN.
Darfu i ddyn ieuangc, ar ddiwrnod tesog yn yr haf,
hurio Asyn i'w gario ef o Athen i Megara. Ganol dydd yr oedd y gwres mor
fawr, fel y disgynodd oddiar gefn yr Asyn, ac a fynai eistedd i lawr i orphwys
yn nghysgod yr Asyn. Ond perchenog yr Asyn a'i gwrthsafodd, gan hawlio y Ile
hwnw iddo ei hun. "Beth," ebai y gŵr ieuangc, "oni ddarfu
i mi logi yr Asyn am yr holl daith?" "Do," ebai y llall, “chwi
a logasoch yr Asyn, ond nid cysgod yr Asyn."' Tra yr oeddent fel hyn yn
ffraeo ac yn ymladd am y Ile, cymerodd yr Asyn y coesau a diangodd ymaith.
Mae llawer yn ymdrechu am y cysgod nes colli y sylwedd.
|
|
|
(delwedd 1155c) (tudalen 032) (chwedl 35)
|
(tudalen 32) CHWEDLAU AESOP.
CHWEDL 35 - YR ASYN YN NGHROEN Y LLEW.
.
Asyn yn canfod croen Llew, a'i dododd am dano; ac
yn myned yn y dwyllwisg yma i'r coed a'r caeau, a barodd ddychryn mawr i'r
deadelloedd a'r anifeiliaid. O'r diwedd, cyfarfydda â'i berchenog, ceisiai ei
ddychrynu yntau hefyd; ond y gŵr da, yn gweled ei glustiau hirion yn
ymwthio allan, a'i hadnabu ar unwaith, a chyda'i fon gref a'i gwnaeth yn ymwybodol
nad ydoedd, er wedi ei wisgo mewn croen Llew, ond - Asyn.
Dylai dynion fod yr hyn yr ymddangosant eu bod. Y
mae y rhai a geisiant ymddangos mewn cymeriadau na pherthyna iddynt yn sefyll
mewn perygl o gad eu darganfod.
|
|
|
(delwedd 1156) (tudalen 033) (chwedlau 36-37)
|
(tudalen 33)
CHWEDL 36 - Y SERYDDWR.
Seryddwr a arferai gerdded allan bob nos i sylla ar y sêr. Digwyddodd un
noswaith, fel yr oedd efe yn crwydro o’r tu allan i’r ddinas, gyda’i holl
feddylfryd wedi ei gloi i fyny yn y nefoedd, iddo syrthio i mewn i ffynon. Ar
ei waith yn gwaeddi allan am help, daeth rhywun a glywodd ei floeddiadau, at
enau y ffynon, ac wedi clywed pa fodd y digwyddasai iddo, a sylwodd, “Wrda,
tra yr ydych yn ymdrechu chwilio i mewn i ddirgelion y nefoedd, yr ydych yn
anghofio y pethau cyffredin sydd dan eich traed.”
Gwaith doeth ydyw syllu ar bethau mawr y nefoedd; ond gwaith ffol yw
esgeuluso pethau bychain y ddaear.
CHWEDL 37 - Y MOCHYN A’R DEFAID.
Cymerodd Mochyn ieiuangc ei lety mewn corlan defaid. Rhyw ddiwrnod daeth y
Bugail ac a gydiodd ynddo, pan y gwingodd ac y gwaeddodd yntau â’i holl egni.
Y Defaid a’i beient ef am waeddi allan, gan ddweyd “Y mae y Bugail yn fynych
yn gafael ynom ni, ac ni byddwn ni yn gwaeddi.” “Ië,” ebai yntau, “ond nid yw
ein hamgylchiadau yr un; efe afaela ynoch chwi er mwyn eich gwlan, ond ynof
fi er mwyn fy nghig.”
Nid oes un golled i’w chydmaru i golli bywyd .
|
|
|
(delwedd 1157) (tudalen 034) (chwedl 38)
|
(tudalen 34)
CHWEDL 38 - Y CEILIOG A’R LLWYNOG.
Llwynog, yn myned heibio i ffermdy un boreu yn yr haf, a ddaliwyd mewn magl, a
osodwyd i’r pwrpas hwnw. Canfyddodd y Ceiliog pa beth a ddigwyddodd; ac heb
deimlo llawer o duedd i fyned yn rhy agos i’r fath elyn peryglus, a nesaodd
ato yn ochelgar, ac a edrychodd arno, ond nid heb deimlo peth arswyd a
chyffro meddwl. Nid cynt y gwelodd Madyn ef, nag y cyfarchodd ef yn ei ddull
mwyaf cyfrwys a llwynogaidd. “Fy anwyl gefnder,” meddai, “yr ydych yn gweled
y fath ddamwain anffortunus sydd wedi fy ngoddiweddyd i yma, a hyny i gyd
o’ch achos chwi: oblegid, fel yr oeddwn yn ymwthio trwy y gwrych draw, ar fy
ffordd gartref, clywais eich llais, a phenderfynais droi i ofyn i chwi pa
fodd yr oeddych, cyn myned yn mhellach: ond ar y ffordd, cyfarfyddais a’r
ddamwain yma; ac felly rhaid i mi yn ostyngedig ofyn i chwi am gyllell i dori
y llinyn yma; neu, o’r hyn lleiaf, y bydd i chwi gelu fy anffawd hyd nes y
caf amser i gnoi y llinyn â’m danedd.” Y Ceiliog, yn gweled sut y safai
pethau, ni ddywedodd ddim mewn atebiad, ond hedodd ymaith cygynted ag y
gallai, a rhoddodd yr holl hanes o flaen y ffermwr;
|
|
|
(delwedd 1158) (tudalen 035) (chwedlau 38-39-40)
|
(tudalen 35)
yr hwn, gan gymeryd arf i’w ganlyn, a ddaeth ac a laddodd y Llwynog cyn iddo
gael amser i ddiangc.
Gwnewch wahaniaeth wrth estyn eich cymwynasau.
Y ffol a estyn gymwynas i bawb a’i gofyno, ond y call a ofala ar fod y
gwrthddrych yn deilwng.
CHWEDL 39 - Y BUGAIL A’R MÔR.
Bugail a arweiniodd ei braidd i bori ar fin y traeth, ac wrth weled y Môr yn
gorwedd mewn llonyddwch esmwyth a thawel, efe a feddianwyd a dymuniad cryf i
hwylio drosto. Felly fe werthodd ei holl Ddefaid ac a brynodd lwyth o
Balmffrwyth, ac a lanwodd lestri, ac a aeth ymaith. Nid oedd wedi morio yn
mhell pan y cyfododd tymhestl; aeth ei long yn ddrylliau, collwyd ei
Balmffrwyth a’r cwbl, ac ni chafodd efe ond diangfa fawr am ei fywyd. Ychydig
amser wedi’n, yr oedd y Môr eto yn dawel, a daeth un o’i gyfeillion i fynu
ato a dechreuodd ganmol ei dawelwch prydferth. “A!” meddai, “gwyliwch fy
anwyl gyfaill, rhag y gwyneb tawel yna; nid ydyw ond edrych am eich
Palmffrwyth.”
Os oes dau wyneb yn bosibl, ni ddylid ymddiried dim nes gweled y ddau. Ni
ddylid ymddiried llawer i’r cyfnewidiol.
CHWEDL 40 - Y CŴN A’R CRWYN.
Rhyw Gŵn newynog, yn gweled nifer o Grwyn îr, y rhai yr oedd Crwynwr
wedi eu gadael yn ngwaelod rhyw ffrwd, a hwythau yn analluog i’w cyrhaedd, a
benderfynasant i yfed yr afon i fynu i gael at yr ysglyfaeth. Felly hwy a
aethant ati o ddifrif, ond hwy oll a ymholltasant cyn erioed ddod yn agos at
y crwyn.
Y rhai a ymdrechant i gyrhaedd yr hyn sydd anmhosibl iddynt, a thrwy foddion
croes i reswm, ydynt dueddol i andwyo eu hunain yn yr ymdrech.
|
|
|
(delwedd 1159) (tudalen 036) (chwedl 41)
|
(tudalen 36)
CHWEDL 41 - Y BRIODAS ANGEUOL.
Llew, wedi derbyn cymwynas gan Lygoden, ac yn penderfynu ad-dalu ei
charedigrwydd os gallai, a ddymunodd ar ei gymwynaswr i nodi ei thelerau ei
hun, gan ei sicrhau y caffai ei dymuniad hyd eithaf ei allu. Y Llygoden, wedi
ei thanio gan y cynyg haelfrydig, ni wnaeth ystyried yn gymaint pa beth
fuasai yn briodol iddi ofyn, ond pa beth oedd yn ngallu y Tywysog i’w roddi
iddi; ac felly yn rhyfygus a ofynodd am y Llewes ieuangc yn wraig iddi. Cydsyniodd
y Llew; ond pan yr oedd ar fedr rhoddi y Dywysoges ieuangc yn ei meddiant,
darfu iddi hi, yn ei diofalwch yn cerdded, ddodi ei phawen ar ei phriod
anffortunus, a gwasgodd hi i farwolaeth.
Pwngc pwysig bywyd yw dewis gwraig; ar y dewisiad y dibyna cysur neu anghysur
yr oes.
|
|
|
(delwedd 1160) (tudalen 037) (chwedlau 42-43)
|
(tudalen 37)
CHWEDL 42 - Y BLAIDD A’R AFR.
BIaidd yn gweled Gafr yn pori ar ddibyn craig uchel, ac mewn lle nad allai
efe fyned ati, a ddeisyfodd arni ddod yn is i lawr, rhag i’w throed lithro ac
iddi syrthio o’r fath uchder mawr; “ac heblaw hyny,” meddai, “y mae y borfa
yn llawer melusach a helaethach i lawr yma.” Ond atebai yr Afr, “Esgusodwch
fi; nid er mwyn fy nghiniaw i yr ydych yn fy ngwahodd, ond er mwyn yr eiddoch
eich hun.”
Os dechreua gelyn maleisddrwg siarad yn rhy deg, gellir amheu ei ddibenion.
CHWEDL 43 - Y GWLAW A’R TIR.
Aeth Cwmwl mawr dros wlad ag ydoedd wedi ei sychu i fyny gan wres yr haf, ond
ni ollyngodd gymaint ag un diferyn i’w hadfywio. Yn fuan gollyngodd swm mawr
o wlaw pan uwchben y môr, ac yna dechreuodd son am ei haelioni yn
nglywedigaeth mynydd cyfagos. “Pa ddaioni wnaeth dy hael¬ioni?” gofynai y
mynydd. “Pe buaset wedi gollwng dy gynwys ar y tir, buaset wedi achub
cymydogaeth rhag newyn. Am y môr, fy nghyfaill, y mae ganddo ddigonedd o
ddwfr, heb i ti ychwanegu dim ato.”
Cyfranwn ein cymwynasau i’r anghenus ac nid i rai a digonedd ganddynt.
|
|
|
(delwedd 1161) (tudalen 038) (chwedl 44)
|
(tudalen 38)
CHWEDL 44 - Y CARW WRTH Y LLYN.
Carw yn yfed o lyn ag oedd yn adlewyrchu ei gysgod yn ei ddyfroedd
grisialaidd, a ddechreuodd edrych arno ei hun gyda boddhad mawr. “Wel yn wir!
y fath bar arddechog o gyrn sydd yna! Mor delaid yr addurnir fy ael gan y
corngangau hyn! Gwyn fyd na byddai fy nhraed mor brydferth a’m hael
addurnol!” Tra yr ydoedd yn myfyrio fel hyn, brawychwyd ef gan swn helwyr a
chŵn. Ymaith yr â, a thrwy ddefnyddio ei draed chwim, a adawodd ei
erlidwyr yn bell ar ei ol. Ond yn fuan wedin, wrth ymwthio i mewn i
ddyryslwyn tewfrig, aeth ei gyrn yn dyn yn y cangau, goddiweddwyd ef gan y cŵn,
a thynasant ef i law. “Y fath greadur anffortunus ydwyf!” gwaeddai; “yr wyf
yn cael mai y cyrn hyn, o’r rhai yr oeddwn mor falch, sydd wedi bod yn achos
o’m dinystr; a gallasai yr aelodau a ddibrisiwn gymaint sicrhau fy
niogelwch.”
Y defnyddiol o flaen yr addurnol; rhinwedd sylweddol y meddwl o flaen swynion
prydferthwch personol.
|
|
|
(delwedd 1162) (tudalen 039) (chwedlau 45-46)
|
(tudalen 39)
CHWEDL 45 - YR AMAETHWR A’I GEFFYL.
Fel yr oedd Amaethwr yn hau Ceirch un diwrnod, darfu i’w ymddygiad beri syndod
mawr i geffyl ag ydoedd heb gyraedd oedran a synwyr, a ddigwyddai sefyll
gerllaw. “Y fath ffolineb,” meddyliai y Ceffyl, “ydyw taflu y ceirch i’r
pridd fel yna. Gymaint mwy o les wnelsai pe cawswn i ef!” Edrychai ar yr holl
drafodaeth o’r dechreu i’r diwedd fel ynfydrwydd. Ond tyfodd y ceirch i fyny,
a phan ddaeth yr haf, medwyd ac ystoriwyd ef gan yr Amaethwr, a chafodd y
ceffyl a’i gwawdiai fyd da wrth ymborthi arnynt ar hyd y gauaf.
Yr ydym, fel y Ceffyl ynfyd, yn rhy barod i feio gweithrediadau Rhagluniaeth,
er heb allu gweled y diwedd na’r amcan mewn golwg.
CHWEDL 46 - Y TARW A’R AFR.
Tarw yn cael ei ymlid gan Lew, a ffodd i ogof yn yr hon yr oedd Gafr wyllt
wedi gwneyd ei chartref. Ar hyny dechreuai yr Afr ymosod arno, gan ei bwtian
a’i chyrn. “Na thybiwch,” meddai y Tarw, “os goddefaf hyn yn awr mai y chwi
yr wyf yn ei ofni. Gadewch i’r Llew unwaith fyned o’r golwg, a mi a ddangosaf
yn fuan i chwi y rhagor rhwng Tarw a Gafr.”
Dynion gwael a gymerant fantais ar brofedigaethau eu cymydogion i’w poeni;
ond gall yr amser ddod pan yr edifarhant eu traha.
|
|
|
(delwedd 1163) (tudalen 040) (chwedl 47)
|
(tudalen 40)
CHWEDL 47 - Y LLWYNOG YN Y FFYNON.
Llwynog, ar ol syrthio i Ffynon, a lwyddodd, trwy wthio ei ewinedd i’r
ochrau, i gadw ei ben uwchlaw y dwfr. Yn fuan wedi’n, daeth Blaidd ac a
edrychodd dros yr yrnyl, i’r hwn y gofynodd y Llwynog, gyda thaerineb, am
gynorthwy, gan ofyn iddo estyn rhaff iddo fel y gallai ddianc o’r lle
peryglus. Y Blaidd, yn teimlo drosto yn ei anhapus gyflwr, a’i cyfarchodd fel
hyn: “Ah! Rinallt druan!” meddai; “y mae yn ddrwg genyf drosot yn fy nghalon.
Pa fodd y daethost i’r fath sefyllfa beryglus?” — “Aros, gyfaill,” atebai y
Llwynog, “os wyt ti yn dymuno yn dda i mi, paid a sefyll i ofidio drosof, ond
estyn rhyw gymorth i mi mor fuan ag y gelli; oblegid cysur oer yw
cydymdeimlad pan y mae un at ai ên yn yn y dwfr, ac o fewn trwch blewyn i
newynu neu foddi.”
Profir cyfaill mewn adfyd. Mae geiriau teg yn dda, ond gweithredoedd da yn
well.
|
|
|
(delwedd 1164) (tudalen 041) (chwedl 48)
|
(tudalen 41)
CHWEDL 48 - Y DDAU GI.
Un diwrnod y mae Carlo yr hen gi gwylio gweithgar a ffyddlon yn gweled ei hen
gydymaith, y moethus a’r chwareus Tango, yn gorwedd ar glustog esmwyth wrth
ffenestr. Bron a chael ei orchfygu gan deimlad, cyfarcha ei hen gydymaith,
“Pa fodd y mae pethau, Tango, ar ol i’r meistr eich cymeryd i’w balas? Yr
ydych yn cofio, yn ddiameu, ein bod yn aml bron a chael ein newynu i farwolaeth.
Pa beth ydych yn wneyd yn awr?” “Byddai yn anheg pe bawn yn cwyno ar fy
sefyllfa,” atebai Tango, “y mae fy meistr yn bobpeth ag y dymunwn iddo fod.
Yr wyf yn byw yn ddedwydd a moethus. Yr wyf yn bwyta fy mwyd o lestri arian,
a phan yn flinedig y mae genyf le esmwyth i gysgu arno. Ond dywed di pa fodd
yr wyt yn dyfod yn mlaen?” “O berthynas i mi,” ebai Carlo, gyda phen
gogwyddedig a chynffon lipa, “y mae fy mywyd yn debyg i’r hyn yr arferai fod.
Yr wyf yn dyoddef oddiwrth oerni a newyn, a thra yn gwylio dros eiddo fy
meistr gwlychir fi yn aml at fy nghroen, byddaf yn cysgu yn nghysgod y clawdd
neu rywle y gallaf gael lie, ac os digwydd i mi gyfarth ar adeg anmhriodol
fflangellir fi. Ond dywed wrthyf, Tango, pa fodd y buost mor ffodus, a
thithau mor fychan a gwan tra yr wyf fi yn gweithio fy hun i farwolaeth heb
gael yr uu wobr. Pa beth wyt yn wneyd?” “Pa beth ydwyf yn wneyd?” atebai
Tango; “cwestiwn braf i’w ofyn! gwneyd! Wel, yr wyf yn cerdded o amgylch ar
fy nhraed ôl.”
Y mae y diwerth a’r diog yn aml yn cael mwy o barch na’r gweithiwr ffyddlon.
|
|
|
(delwedd 1165) (tudalen 042) (chwedl 49)
|
(tudalen 42)
CHWEDL 49 - YR ASYN YN BWYTA’R YSGALL.
Yr oedd Asyn wedi ei lwytho a bwydydd rhagurol o wahanol fathau, y rhai, yn
amser cynhauaf, a gariai i’r maes i’w feistr a’r medelwyr i giniawa arnynt.
Ar y flordd cyfarfyddodd â thwmpath o ysgall braf, a thrwy ei fod yn dra
newynog, dechreuodd ei fwyta yn awchus; a thra wrth y gorchwyl, meddyliai fel
hyn: “Pa sawl glwth fuasai yn teimlo ei hun yn ddedwydd pe cawsai afael yn y
danteithion amrywiol sydd yn awr ar fy nghefn! Ond i mi y mae yr Ys¬gall
chwerw a phigog hyn yn fwy blasus a hyfryd na’r wledd fwyaf cyfoethog a
danteithiol.”
Yr hyn sydd yn fwyd i un sydd yn wenwyn i’r llall. Pob un yn ol ei chwaeth.
|
|
|
(delwedd 1166) (tudalen 043) (chwedlau 50-51)
|
(tudalen 43)
CHWEDL 50 - Y DDAFAD A’R CARW.
Dymunodd Carw am gael benthyg bwsial o wenith gan y Ddafad, gan gynyg y
Llwynog fel meichiau. Y Ddafad yn ofni yn mlaen llaw ei dwyll, a ddywedodd,
“Y mae y Llwynog yn byw ar dwyllo a lladrata, a chwithau i ddiangc ymaith pan
y ceisir eich dal. Pa le y gallaf gael gafael arnoch pan ddaw dydd y talu?”
Gochelwch ddyn cyfrwys yn feichiau.
CHWEDL 51 - Y DDAFAD, Y CI, A’R BLAIDD.
Camgyhuddid Dafad gan Gi o fenthyca torth o fara oddiarno, a hawliai ei chael
yn ol. Pan ddaeth yr achos i gael ei brofi, galwyd ar y Llwynog yn dyst o du
y Ci, yr hwn a sicrhaodd y llys fod yr oll a ddywedai y Ci yn wirionedd.
Felly trodd yr achos yn erbyn y Ddafad, a gorfodwyd hi i dalu yr hyn nad
ydoedd yn ddyledus arni. Yn mhen ychydig ddyddiau gwelodd y Ddafad y Llwynog
yn gorwedd mewn ffau ddofn, yn ymyl marw, a dywedodd, “Y mae y duwiau yn dwyn
arnat y gospedigaeth yna am dy dwyll.”
Y mae cosbedigaeth yn aros y camgyhuddwr.
|
|
|
(delwedd 1167) (tudalen 044) (chwedl 52)
|
(tudalen 44)
CHWEDL 52 - YR AFANC A’I ERLIDWYR.
Dywedir fod gan yr Afanc (creadur ag sydd yn byw gan mwyaf yn y dwfr) ryw ran
berthynol iddo ag a ystyrir yn dda fel meddyginiaeth, ac ar y cyfrif hwn
erlidir a lleddir ef yn aml. Un tro, fel yr oedd un o’r creaduriaid hyn yn
cael ei erlid yn dôst gan y cŵn, ac heb wybod pa fodd i ddianc, a
feddyliodd ynddo ei hun am y rheswm oedd gan yr erlidwyr dros geisio ei ddal,
a chyda phenderfyniad a phresenoldeb meddwl mawr, torodd allan â’i ddanedd y
dernyn ag a geisiai ei erlidwyr, a thaflodd ef tuag atynt, ac felly achubodd
ei fywyd.
Pob peth ddyry dyn am ei einioes.
Y mae y croen yn nes na’r wisg.
|
|
|
(delwedd 1168) (tudalen 045) (chwedlau 53-54)
|
(tudalen 45)
CHWEDL 53 - Y WIWER A’R LLEW.
Gwasanaethwyd Llew mor ffyddlon gan Wiwer fel y cafodd addewid o lonaid trol
o gnau yn wobr. Mae amser yn myned heibio, ond nid yw y cnau yn cael eu
rhoddi, ac y mae y Wiwer yn aml mor newynog fel y mae yn cael trafferth i
edrych mor siriol ag y dylai yn mhresenoldeb ei meistr breiniol. Ambell waith
wrth fyned heibio trwy y goedwig gwela ei chymdeithion yn y dyrysni, a chlywa
hwy yn tori cnau, ac yn ymddangos wrth eu bodd. Y mae yn aml ar fin ailymuno
â hwy, ond pan yn symud tua’r coed gelwir arno yn ol at rhyw orchwyl pwysig.
O’r diwedd y mae y Wiwer yn myned yn hen, a theimla y Llew ei fod braidd ar y
ffordd. Y mae yr amser wedi dyfod iddo ymneillduo oddiwrth orchwylion ei
swydd. Felly dodir y Wiwer o’r neilldu, a derbynia y gertiad gnau o’r diwedd.
Cnau braf mewn gwirionedd, y fath ag na welir yn aml; ffrwyth dewisedig, pob
cneuen yn berffaith. Y mae un peth, pa fodd bynag, yn anffortunus. Y mae y
Wiwer wedi colli ei ddanedd er’s tro.
Na adawer teilyngdod heb ei wobr nes yr elo yn analluog i’w mwynhau.
CHWEDL 54 - Y BACHGEN A’R CI
“Keeper, yr ydwyf yn myned am dro i’r wlad, a ddeui di gyda fi,” ebai John
wrth yr hen gi ffyddlon. “Caraswn ddyfod i’ch canlyn,” ebai y ci, “ond nis
gallaf.” “Paham, Keeper?” “Y mae gofal y tŷ arnaf, a rhaid i mi aros yma
rhag ofn y daw lladron i geisio tori i mewn iddo, a lladrata eiddo fy
meistr.”
Dyledswydd o flaen pleser.
_
|
|
|
(delwedd 1169) (tudalen 046) (chwedl 55)
|
(tudalen 46)
CHWEDL 55 - Y BACHGEN YN YMDROCHI.
Bachgen yn ymdrochi mewn afon, a aeth i le rhy ddwfn iddo, ac yr oedd ar
suddo pan y gwelodd ŵr yn pasio heibio, ac fe waeddodd ar hwnw a’i holl
egni am ymwared. Dechreuodd y gŵr roddi gwers i’r bachgen am ei ryfyg;
ond gwaeddodd yr hogyn allan, “O! Syr, achubwch fi yrwan, a rhowch y wers i
mi wedi’n.”
Mae llawer yn barotach i roi cynghor nag i roi help.
|
|
|
(delwedd 1170) (tudalen 047) (chwedl 56)
|
(tudalen 47)
CHWEDL 56 - Y MORGRUGYN YMFFROSTGAR.
Yr oedd Morgrugyn penodol yn hynod o gryf. Dywed tystion credadwy ei fod yn
gallu codi dau ronyn o haidd ar unwaith. Heblaw hyny yr oedd yn enwog am ei
wroldeb. Byddai yn ymosod ar bob pryf a welai, a llawer gwaith y mentrodd
ymladd â phryf copyn. Yn ei gartref ni siariadid am ddim ond ei alluoedd
anghyffredin, ac mor uchel a chyffredin y daeth y ganmoliaeth a dderbyniai
fel y trodd yn ei ben o’r diwedd. Yn awyddus am ogoniant newydd, penderfynodd
ddangos ei hun yn y dref gyfagos, ac yno o ganlyniad y trodd ei wyneb, gan
sefyll yn syth ar ben llwyth o wair. Ar ei ddyfodiad disgwyliai greu cyffro,
ond er ei syndod nid oedd neb yn cymeryd y sylw lleiaf o hono. Yn ofer y
cymer ddeilen a’i throi o amgylch ei ben. Y mae hyny a gorchestion ereill yn
pasio yn ddisylw. Nid oes neb yn ei gydnabod mewn modd yn y byd. Wedi blino
o’r diwedd wrth geisio dangos allan ei alluoedd, sylwa, gyda gradd o
siomedigaeth yn ei lais, wrth y ci a orweddai yn ymyl y drol, “Wel, yn wir,
rhaid i ti gyfaddef nad oes gan bobl dy dref di na llygaid na synwyr
cyffredin. Pwy byth fuasai yn breuddwydio na buasai neb yn gwneyd y sylw
lleiaf o honof, er fy mod wedi ymdrechu a’m holl egni am awr gyfan? Ac ar yr
un pryd y mae holl forgrug ein pentwr ni yn unllais yn fy nghlodfori ac yn
cydnabod fy ngalluoedd.” Ac y mae yn myned gartref yn ddigalon iawn.
Y mae dyn bychan yn mhlith rhai llai nag ef ei hun yn meddwl ei hun yn fwy na
phawb, ond ar ol myned allan i’r byd yn darganfod ei gamgymeriad.
|
|
|
(delwedd 1171) (tudalen 048) (chwedl 57)
|
(tudalen 48)
CHWEDL 57 - Y CI A’R DDAFAD.
Darfu i Gi roddi cyfraith ar Ddafad am ddyled, a phenodwyd y Barcud a’r
Llwynog i fod yn farnwyr. Darfu iddynt hwy, heb siarad llawer ar y mater, na
sylwi fawr ar wendid y dystiolaeth, roddi dedfryd o blaid y Ci; yr hwn yn
uniongyrchol a rwygodd y Ddafad druan, ac a ranodd yr ysgerbwd gyda’r barnwyr
anghyfiawn.
Dylai barnwyr fod yn ddiduedd.
|
|
|
(delwedd 1172) (tudalen 049) (chwedlau 58-59)
|
(tudalen 49)
CHWEDL 58 - Y WIWER FFWDANUS.
Ar ddiwrnod gwyl ymgasglodd holl drigolion pentref at dŷ eu meistr, i
edrych gyda syndod ar Wiwer ag ydoedd mewn cage y tu allan i’r drws. Yr oedd
y cage wedi ei wneyd i gael ei droi o amgylch trwy lafur y Wiwer. Yr oedd yn
gosod ei bawenau bychain ar risiau yr olwyn, ac yn troi y cage gyda
chyflymder mawr. “Anwyl gymydog,” ebai Bronfraith a safai gerllaw, “a fyddwch
chwi cygystal a dweyd wrthyf pa beth ydych yn wneyd yn y fan yna?” “Ah, anwyl
gyfaill,” atebai y Wiwer, “y mae genyf i weithio yn ddiymaros trwy’r dydd.
Mawn gwirionedd yr wyf yn negesydd i foneddwr urddasol. Nis gallaf byth aros
am funud i fwyta nac yfed, na chymeryd fy anadl,” ac â yn mlaen yn brysur
gyda’i orchwyl o droi y cage. “Felly yn wir,” ebai y Fronfraith fel yr eheda
ymaith, “Yr wyf yn gweled yn amlwg dy fod yn rhedeg yn gyflym, ond eto yr wyt
i’th gael yn wastad yn yr un man.”
Aml i ddyn prysur ac ymyrgar yn dychmygu fod ei weithredoedd o bwys mawr, pan
na bydd neb arall yn edrych arnynt felly.
CHWEDL 59 - Y TARW A’R LLO.
Yr oedd Tarw yn ceisio gwthio yn mlaen trwy fynedfa gul i fyned i’r beudy, a
darfu i Lo a safai gerllaw anturio ceisio dangos iddo pa fodd i gyraedd yr
amcan, pan yr atebodd y Tarw, — “Dal dy dafod, yr wyf yn gwybod hyny cyn dy
eni di.”
Na fydded i chwi byth anturio dysgu rhai doethach na chwi eich hunain.
|
|
|
(delwedd 1173) (tudalen 050) (chwedl 60)
|
(tudalen 50)
CHWEDL 60 - Y DRAENOG A’R NADROEDD.
Draenog yn chwilio am le i gysgodi, a ofynodd ganiatad i ryw Nadroedd am gael
myned i’w twll. Gallodd eu perswadio, a chafodd, o ganlyniad, fyned i mewn;
ond poenwyd hwy mor fawr gan ei bigau blaenllym, fel yr edifarhasant am fod
mor barod i roddi caniatad iddo, a dymunasant arno fyned ymaith, a gadael y
twll iddynt hwy. “Na wnaf,” ebe ynte, “gall y sawl nad ydynt yn hoffi y twll
ei adael; am danaf fi, yr wyf yn eithaf dedwydd yn fy lle.”
Byddwch ochelgar wrth ddewis eich cyfeillion, rhag y byddwch yn edifarhau pan
y bydd yn rhy ddiweddar. Gwell bod eich hunan nac mewn cwmni drwg.
|
|
|
(delwedd 1174) (tudalen 051) (chwedl 61-62)
|
(tudalen 51)
CHWEDL 61 - Y CEILIOG TWRCI A’I BLANT.
“Gwrandewch fy mhlant,” ebai Ceiliog Twrci, “yr ydwyf am i chwi bob amser fod
yn foesgar a gostyngedig; er dim peidiwch a chweryla a myned i dymherau drwg;
gadewch ymladd i blant drwg. Os na thalwch sylw i’r cynghorion hyn bydd i mi
eich ceryddu yn llym.” Ar hyny, dyma fachgen yn dyfod i’r buarth yn gwisgo
cap coch, ac mewn munud yr oedd yr hen geiliog Twrci yn berwi mewn tymher
ddrwg, a rhedodd ar ol y bachgen gan fygwth ei ddifetha.
Gwell esiampl na chynghor.
CHWEDL 62 - Y GIGFRAN A’R CI,
Trwy gyfrwysdra cafodd Cigfran gyfle i gipio tamaid o gig oedd gan Gi.
Rhedodd y Ci ar ei hol, a dywedodd wrthi, “Yr hen Ladrones! A wyt ti am
gymeryd fy nhamaid cig ymaith.” “Aros,” ebai y Gigfran, “a wyddost ti fy mod
yn perthyn i’r Heddgeidwaid, ac mai fy ngwaith yw edrych ar ol lladron.” Ar
hyny gostyngodd y Ci ei glustiau, a rhedodd ymaith, oblegid gwyddai mai wedi
lladrata y cig yr oedd.
Yr euog a ffy heb neb yn ei erlid.
|
|
|
(delwedd 1175) (tudalen 052) (chwedl 63)
|
(tudalen 52)
CHWEDL 63 - CYMERYD YR UDGANWR YN GARCHAROR.
Udganwr a gymerwyd yn garcharor mewn rhyfel, a erfyniodd yn daer am arbediad,
gan dystio ei ddiniweidrwydd, a sicrhau na laddodd ac nad allai ladd yr un
dyn; nad oedd ganddo arfogaeth, ond ei udgorn yn unig, yr hwn yr oedd yn
rhaid iddo ei chwythu pan orchymynid iddo. “Am y rheswm yna,” ebai ei
elynion, “yr ydym wedi penderfynu na bydd i ni dy arbed; oblegid er nad wyt
ti byth yn ymladd dy hunan, eto gyda’r offeryn gwael yna yr wyt yn chwythu i
fyny elyniaeth rhwng pobl ereill, ac felly yn dyfod yn achlysur tywallt
llawer o waed.”
Mae’r cynorthwywr mor euog a’r gweithredwr.
|
|
|
(delwedd 1176) (tudalen 053) (chwedlau 64-65)
|
(tudalen 53)
CHWEDL 64 - Y TAD A’I DDWY FERCH.
Yr oedd gan ŵr ddwy ferch, un o ba rai a briododd Arddwr, a’r llall
Grochenydd. Yn mhen amser fe aeth i dalu ymweliad â’r Garddwr, a gofynodd i’w
ferch pa fodd yr oedd arni. “Da iawn,” atebai hithau, “y mae genym bob peth
sydd arnom eu heisiau; nid oes genyf ond un dymuniad, sef ini gael cyflawnder
o wlaw i ddyfrhau ein llysiau.” Wedi hyn aeth y Tad i ymweled â’r Crochenydd,
a gofyn¬odd i’r ferch arall pa fodd yr oedd pethau gyda hithau. “Nid oes
arnom eisiau dim,” meddai hi, “ond yn unig gobeithiaf y bydd i’r hîn deg a’r
haul poeth yma barhau i grasu ein priddfeini.” “Wel, wel!” meddai y Tad, “os
ydych chwi yn deisyfu hîn sych, a’ch chwaer hîn wlawog, am ba un y rhaid i mi
weddïo fy hun?”
Os nad ellir pleidio un cyfaill heb ddigio y llall, gwell bod yn ddistaw.
CHWEDL 65 - Y CI A’R HWRDD.
CI. — Cymer ofal, Hwrdd bach, oblegid yr wyf am dy frathu.
HWRDD. — Cymer di ofal, Gi bach, neu mi a’th gorniaf.
CI. — Y mae genyf ddannedd miniog, cymer ofal!
HWRDD. — Y mae genyf finau ddau gorn. Edrych atat dy hun!
CI. — Na, paid Hwrdd bach, nid oeddwn ond cellwair; gad i ni fod yn
gyfeillion, a chwareu yn ddedwydd a’n gilydd.
Llawer un yn rhoddi ei arfau i lawr, ac yn cynyg amodau heddwch, pan y gwel
nas gall goncro ei wrthwynebydd.
|
|
|
(delwedd 1177) (tudalen 054) (chwedl 66)
|
(tudalen 54)
CHWEDL 66 - YR ARTH A’R CYCHOD GWENYN,
Arth, ar ol dringo dros glawdd i fan lle y cedwid Gwenyn, a ddechreuodd
ysbeilio y Cychod, a lladrata y mêl o honynt. Ond darfu i’r Gwenyn, i ddial
am y niwaid, ymosod arno yn un haid ar unwaith; ac er nad oeddynt yn alluog i
drywanu trwy ei groen garw, eto, gyda’u colynau bychain darfu iddynt ei boeni
i’r fath raddau yn ei lygaid a’i ffroenau, fel, yn methu dyoddef y boen
lymdost yn hwy, y darfu iddo yn ei wylltmeb rwygo y croen dros ei glustiau
a’i bawenau ei hun, a dyoddefodd ddigonedd o gospedigaeth am y niwaid a
wnaeth i’r Gwenyn wrth ddryllio eu tai a lladrata eu heiddo.
Na ddiystyrer gelynion bychain a chlwyfau bychain.
|
|
|
(delwedd 1178) (tudalen 055) (chwedlau 67-68)
|
(tudalen 55)
CHWEDL 67 - YR AFONYDD A’R MOR.
Digwyddodd ar dro i’r Afonydd gydfwriadu yn erbyn y Mor, a chan fyned gyda’u
gilydd ato, hwy a’u cyhuddasant, gan ddweyd, “Paham, pan yr ydym ni yr
Afonydd yn tywallt ein dyfroedd i chwi mor beraidd a melus, yr ydych chwi yn
union yn eu gwneyd mor hallt a diflas?” Y Môr, yn gweled y dymher yr oeddynt
ynddi, a atebodd yn gwta, “Os nad ydych yn dymuno myned yn hallt, gwelwch yn
dda gadw draw oddiwrthyf yn hollol.”
Nid oes fawr o gwyn i’r rhai a redant yn wirfoddol i brofedigaeth. Os mynwn
ymgadw yn bur, ymgadwn oddiwrth bob peth croes i hyny.
CHWEDL 68 - Y CROCODILE A’R CI
Dywedir fod y Cŵn cyfrwys yn yfed tan redeg yn afon y Nile, rhag iddynt
gael eu cipio a’u lladd gan y Crocodiles. Fel yr oedd un o’r Cŵn yn
gwneyd felly, dywedodd un Crocodile fel hyn wrtho: “Cymer bwyll fy nghyfaill;
bydded i ti yn ddiofn yfed faint fynot ti o ddwfr. “Dywedodd y Ci, “Gwnelswn
hyny yn wir, oni bai fy mod yn gwybod am dy awydd i’m cig.”
Ofer ceisio dodi magl i ddal y cyfrwys
.
|
|
|
(delwedd 1179) (tudalen 056) (chwedl 69)
|
(tudalen 56)
CHWEDL 69 - Y DAIL A’R GWREIDDIAU.
Ar ddiwrnod neillduol, yr oedd Dail Coeden Fawr yn canu eu canmoliaeth eu
hunain, gan alw sylw at eu prydferthwch a’u gwyrdd-der, a’r cysgod a roddent
i’r Eos ac i’r Bugail. “Gallech fforddio dweyd gair am danom ninau hefyd,”
ebai llais mwyn o’r ddaear. “Pwy sydd yn meiddio ein hanerch yn y dull
trahaus yna? Pwy ydych chwi, ag sydd yn rhyfygu ein galw i gyfrif?” ebai y
Dail, gan daflu eu hunain yn ol ac yn mlaen ar y Cangau. “Nyni yw y rhai sydd
yn y gwaelodion tywyll yma yn cyfranu maeth i chwi. Onid ydych yn ein
hadnabod? Gwreiddiau y Goeden ar yr hon yr ydych yn tyfu ydym ni.
LIawenychwch yn eich gogoniant tra y parhao eich dydd. Ond cofiwch ein bod yn
gwahaniaethu oddiwrth ein gilydd yn hyn — y mae y pren yn cael ei wisgo â
Dail newyddion bob gwanwyn; ond os bydd i’r gwreiddiau farw, nis gallwch chwi
na’r Goeden fyw am foment awr.”
Pob dosparth yn y Wladwriaeth yn angenrheidiol; ac ni ddylai yr uchel
ddirmygu yr isel, na’r isel sarhau yr uchel.
|
|
|
(delwedd 1180) (tudalen 057) (chwedlau 70-71)
|
(tudalen 57)
CHWEDL 70 - Y DIAMWNT A’R GAREG.
Diamwnt wedi syrthio ar y ffordd a adawyd yno am beth amser. O’r diwedd
pigwyd ef i fynu gan fasnachwr, a chymerwyd ef i’r farchnad i gael ei werthu.
Mewn canlyniad daeth yn un o emau y goron frenhinol. Careg a ddigwyddai
orwedd yn ei ymyl pan yr oedd ar y ffordd, yn clywed am ei ddyrchafiad, a
grefodd ar un oedd yn myned heibio i’w chymeryd i’r dref gyfagos, gan ddweyd,
“Paham y dylwn aros yma i ddyoddef oddiwrth wlaw, ac eira, ac ystormydd, tra
y mae y Diamwnt yn mwynhau y fath anrhydedd? Pa fodd y mae wedi cyrhaedd y
fath enwogrwydd nis gallaf ddyfalu. Am lawer o flwyddi bu yma yn gorwedd wrth
fy ochr. Nid ydyw ond Careg wedi’r cwbl, yr un fath yn gywir a minau. Yr wyf
yn dymuno arnoch fy nghymeryd! Pwy all ddweyd? Mor fuan ag y’m gwelir yno,
bydd i minau, efallai, gael fy ystyried o rhyw werth neu gilydd.” Felly y mae
y teithiwr yn ei chymeryd i fynu ac yn ei dodi yn ei gert. Y mae y Gareg yn
rolio i mewn gyda chryn fawredd, a meddylia y ca ei dodi ar unwaith wrth ochr
y Diamwnt. Y mae tynged hollol wahanol yn ei haros. Gwir ei bod yn cael ei
gwneyd yn ddefnyddiol, ond ni wasanaetha ond i wella twll yn y ffordd.
Pob un ei le ei hun.
CHWEDL 71 - PEN YR EPA.
Darfu i ddyn, yn mhlith nwyddau ereill, weled Pen Epa ar fwrdd y Cigydd, a
gofynodd iddo pa flas oedd arno, pan yr atebodd y Cigydd, “Y mae ei flas yn
dda, er fod golwg anymunol arno.”
Na fernwch ddyn wrth ei olwg ond wrth ei gyrhaeddiadau.
|
|
|
(delwedd 1181) (tudalen 058) (chwedl 72)
|
(tudalen 58)
CHWEDL 72 - Y PAUN A’R CRYCHYDD.
Yn ddigwyddiadol cyfarfu y Paun a’r Crychydd a’u gilydd. Y Paun, gan drefnu
ei gynffon, a wnaeth arddangosiad o’i blyf prydferth, ac edrychodd gyda
dirmyg ar y Crychydd, fel rhyw berson dinod a chyffredin. Y Crychydd, yn
penderfynu ei dalu am ei drahausder, a sylwodd fod y Paunod yn adar rhagorol,
os gallai plyf hardd eu gwneyd hwy felly; ond yr oedd ef yn meddwl ei fod yn
beth mwy urddasol bod yn alluog i godi uwchlaw y cymylau na hopian ar byd y
ddaear, i gael llygadrythu arno gan blant.
Y mae ymddangosiadau yn dwyllodrus.
Y mae llawer calon dda a breiniol yn curo a dan hugan digon llwyd.
|
|
|
(delwedd 1182) (tudalen 059) (chwedlau 73-74)
|
(tudalen 59)
CHWEDL 73 - Y MYN A’R BLAIDD.
Mỳn, yr hwn a grwydrasai oddiwrth y praidd, a ymlidiwyd gan Flaidd. Pan
y gwelodd fod pob gobaith i ddiangc wedi darfod, fe drodd at y Blaidd ac a
ddywedodd, “Rhaid i mi addef fy mod yn eich gafael yn ddiffael, ond gan nad
yw fy mywyd yn awr ond o fyr barhad, gadewch iddo fod yn llawen. Gwnewch chwi
ganu tipyn i mi, a minau a ddawnsiaf.” Tra yr oedd y Blaidd yn canu a’r Mỳn
yn dawnsio, y cŵn yn clywed y swyn a ddaethant i edrych pa beth oedd yn
myned yn mlaen; ac yr oedd yn dda gan y Blaidd ddiangc ymaith gan gynted ag y
medrai ei draed ei gario.
Yr hwn a â o’i ffordd i chwareu cyn cyrhaedd ei nod, na ryfedded os cyll yr
yspail.
CHWEDL 74 - Y FRONWEN A’R DYN.
Bronwen a ddaliwyd gan Ddyn, mewn trefn i geisio osgoi marwolaeth a
ddywedodd, “Yr wyf yn dymuno arnoch fy arbed, gan fy mod yn clirio y llygod
o’ch tyˆ, y rhai sydd yn hynod boenus i chwi.” Atebodd y Dyn, “Pe gwnaethet
hyny er fy mwyn i, buaswn yn ddiolchgar i ti am y gymwynas, a buaswn yn
gwrando ar dy gais am faddeuant. Ond gan dy fod nid yn unig yn gorphen bwyta
y bwydydd ag nad yw y llygod ond yn eu crafu, ac yn ychwanegol at hyny yn
bwyta y llygod eu hunain, paid a son am faddeuant.” Ar hyny lladdodd hi.
Ni ddylai yr hwn a wasanaethodd arall er ei fwyn ei hun ddisgwyl cael dim am
ei drafferth.
|
|
|
(delwedd 1183) (tudalen 060) (chwedl 75)
|
(tudalen 60)
CHWEDL 75 - Y LLYFFANT YN GRACHFEDDYG.
Llyffant yn dyfod o’r IIaid rhyw ddiwrnod, a ddringodd i ben rhyw dorlan, ac
a gyhoeddodd i’r holl fyd ei fod wedi dyfod i iachau pob math o glefydau.
“Deuwch,” meddai, “a gwelwch feddyg yr hwn y mae ganddo y fath
feddyginiaethau ag na chlybu dyn am eu cyffelyb erioed; naddo, hyd yn nod
Esculepius, meddyg personol lau ei hun.” “A pha fodd,” sylwai y Llwynog, “y
meiddiwch chwi osod eich hun i fynu i iachau ereill, yr hwn nid ellwch
wellhau eich cerddediad anystwyth eich hun, na’ch croen brych a chrebachlyd?”
Profir honiadau dyn wrth ei weithredoedd.”
“Y meddyg iacha dy hun.”
|
|
|
(delwedd 1184) (tudalen 061) (chwedlau 76-77)
|
(tudalen 61)
CHWEDL 76 - Y CŴD.
Yr oedd Cŵd yn cael ei adael yn ddisylw mewn congi, a’r unig ddefnydd
wnelid o hono oedd gan y gwas i sychu ei draed arno. Ond un diwrnod cafodd ei
hun wedi ei lanw a darnau aur, a chyfnewidiwyd ei sefyllfa yn hollol ar
unwaith. Telid y sylw manylaf iddo. Cyn hir ymfalchiodd y Cŵd yn fawr.
Daeth yn dra siaradus ac yn hoff o weled beiau, a rhoddai ei farn gydag awdurdod
ar bob peth, gan ddweyd, “Ni ddylid gwneyd hyn fel yma,” neu, “Dyn ynfyd yw
hwn-a-hwn,” neu, “Y mae y peth a’r peth yn sicr o droi allan yn ddrwg.”
Gwrandawai pawb arno gyda’r astudrwydd mwyaf, er ei fod yn siarad dylni
perffaith. Yn anffortunus, y mae y nifer luosocaf o ddynion yn ystyried
pobpeth a ddywedir gan gydaid o arian yn bwysig. Parhaodd y Cŵd am hir
amser i gael ei foli, ei barchu, a’i ganmol. Ond ar ol i’r dernyn olaf o aur
gael ei gymeryd o hono, taflwyd ef ymaith, ac ni chlywodd neb byth son am
dano mwy.
Molir aml i un yn unig am fod ganddo arian.
CHWEDL 77 - Y DYN DU.
Rhyw ŵr wedi prynu Gaethwas du, gan feddwl mai yr achos o liw ei groen
oedd diofalwch ei feistr blaenorol, cyn gynted ag y dygwyd ef gartref, a’i
rhoddodd mewn twb o ddwfr poeth, ac a gymerodd sebon, a brwsiau, a thywod, ac
aeth ef a’i weision ati i’w ysgwrio yn wyn yn ol. Hwy a’i golchasant ac a’i
rhwbiasant am oriau lawer, ond yr oll yn ofer; arosodd ei groen gan ddued ag
erioed; a bu y truan yn bur agos i farw gan anwyd oblegid y driniaeth a
gafodd.
Nis gall dim moddion dynol newid natur sydd yn wreiddiol ddrwg.
|
|
|
(delwedd 1185) (tudalen 062) (chwedl 78)
|
(tudalen 62)
CHWEDL 78 - Y MARCH A’R ASYN.
Rhyfel-farch wedi ei wisgo yn orwych, a ddaeth gan garlamu ar hyd y ffordd
nes dyfod o hyd i Asyn yn llafurio yn mlaen gyda baich trwm iawn ar ei gefn.
“Dos allan o fy ffordd,” ebe y Ceffyl balch, “neu mi a’th sathraf dan fy
nhraed.” Ni ddywedodd yr Asyn ddim, ond ciliodd o’r neilldu gael i’r March
fyned heibio. Heb fod yn hir wedi’n, digwyddodd i’r March gael ei glwyfo mor
dost mewn brwydr, fel nad oedd mwyach ddim yn gymhwys i’r gwasanaeth hwnw.
Felly cymerwyd ei addurniadau ymaith, a gwerthwyd ef i gariwr. Yr Asyn, yn ei
gyfarfod ef yn tynu llwyth mawr mewn gwagen, a feddyliodd mai ei dro ef oedd
bod yn sarhaus yn awr, ac a ddywedodd, “Halo! gyfaill! Ai y chwi sydd yma?
Wel, yr oeddwn i bob amser yn credu y caffai eich balchder chwi gwymp.”
Ni cha y rhai ffroen-uchel a thrahaus-falch mewn llwyddiant nemawr gwyn a
chydymdeimlad mewn adfyd. Nid oes neb yn ddigon distadl i’u ddiystyru gyda
diogelwch.
|
|
|
(delwedd 1186) (tudalen 063) (chwedlau 79-80)
|
(tudalen 63)
CHWEDL 79 - Y GAREG A’R GWLAW.
“Y fath dwrw y mae pawb yn wneyd! Y fath ffyliaid!” dywedai Careg a orweddai
mewn cae ar ol disgyniad cawod o Wlaw un diwrnod. “Byddwch cystal a sylwi mor
falch yr ymddengys pawb o herwydd y gwlaw yma. Y maent wedi bod yn dymuno am
dano fel pe buasai y goraf o gyfeillion, ac yn awr pa beth sydd yn rhyfeddol
yn yr hyn a wnaeth? Parhaodd am oddeutu dwy awr, a dim yn hwy. Ond byddwch
mor fwyn a gwneyd ychydig ymofyniadau am danaf fi. Wel, yr wyf wedi bod yn
gorwedd yma er’s canrifoedd; yn ostyngedig a gwylaidd yr wyf wedi aros yn
dawel yn y lle y dodwyd fi yn y dechreu. Ac eto nid wyf wedi clywed gan neb
gymaint a “Diolch i chwi!” Nid heb reswm y mae y byd wedi cael gair drwg. Nid
wyf yn gallu gweled gronyn o gyfiawnder yn un man o’i fewn.” “Dal dy dafod!”
ebai pryfyn oedd yn agos iddi. “Y mae y gawod wlaw, er o fyr barhad, wedi
mwydo y ddaear, ag oedd wedi myned yn ddiffrwyth o herwydd y sychder, ac wedi
adfywio gobaith yr amaethwr. Ond nid wyt ti wedi cyfranu dim erioed i’r
llesiant cyffredin ond pwysau diwerth.”
Fel hyn y mae llawer dyn yn ymffrostio ei fod wedi gwasanaethu ei wlad am
ddeugain mlynedd; ond heb fed erioed o fwy o ddefnyddioldeb na’r gareg.
CHWEDL 80 - Y LLYFFANT.
“Y mae y dwfr yma yn oer iawn,” ebai Llyffant un diwrnod, “yr wyf wedi cael
digon arno. Y mae yr haul yn tywynu yn braf ar y ceryg sydd ar lan yr afon,
ac amgylchir hwy gan flodeu prydferth. Af i orwedd ar un o honynt i fwynhau
fy hun.” Ond prin yr oedd wedi cyraedd y gareg, a dechreu mwynhau ei hun, nag
y dechreuodd Bachgen a safai ar y bont luchio ceryg ato, a bu raid iddo
ymsuddo yn ei ol ar frys.
Rhyw anghyfleusdra yn mhob man.
|
|
|
(delwedd 1187) (tudalen 064) (chwedl 81)
|
(tudalen 64)
CHWEDL 81 - YR EPA A’R LLWYNOG.
Epa yn cyfarfod Llwynog un diwrnod, a ofynodd iddo yn ostyngedig am ychydig flew
o’i gynffon hir i wneyd gorchudd i’w daflu drosto, gan ei fod yn agored i
holl oerni a gerwindeb y tywydd. “Oblegid Mr. Cadnaw,” ebe efe, “y mae genych
chwi fwy o gynffon nag sydd arnoch angen am dani, ac y mae rhan fawr o honi
hyd yn nod yn llusgo yn y baw.” Atebodd y Llwynog, “O berthynas i’r cwestiwn
o fod genyf ormod o gynffon, y mae hyny yn fwy nag a wyddost ti; ond sut
bynag am hyny, byddai yn well genyf ysgubo y llawr a’m cynffon holl ddyddiau
fy mywyd, nac amddifadu fy hun o un blewyn i foddhau Epa.’”
Y mae yr hwn a eto i chwilio am fenthyg yn lled debyg o gael ei siomi, ac yn
aml ei sarhau yn y fargen.
|
|
|
(delwedd 1188) (tudalen 065) (chwedlau 82-83)
|
(tudalen 65)
CHWEDL 82 - Y GWLADWR A’R MÔR.
Gwladwr yn gweled llong lawn o forwyr yn cael ei lluchio gan y tonau, a
waeddodd allan, “O! fôr twyllodrus a didrugaredd, yr hwn sydd yn difetha pawb
a anturiant ar dy wyneb.” Y Môr a’i clybu, a chan lefaru mewn llais tyner, a
atebodd, “Na feia fi, nid myfi yw yr achos o’r cyffro hwn, ond y Gwyntoedd,
pa rai pan syrthiant arnaf ni oddefant ddim tawelwch. Ond os digwydd i chwi
hwylio droswyf pan y byddant hwy ymaith, chwi a ddywedwch fy mod I yn fwy
tawel a haws fy nhrin na’r tir sych ei hun.”
Chwareu teg i’r gwaetha! Ni ddylid rhoddi ar neb fwy nag y mae yn ei haedda.
Mae yr achos gwreiddiol yn aml o’r golwg.
CHWEDL 83 - Y GOLOMEN.
Yr oedd Colomen ar ben tŷ un diwrnod yn ymddangos wrth ei bodd yn yr
haul melyn cynnes a dywynai arni. Yr oedd ei cŵ, cŵ, cŵ yn aml
ac uchel. O dani yr oedd Bachgen bychan yn neidio ac yn campio o herwydd fod
y gwlaw wedi myn’d drosodd a’r haul yn tywynu arno, ac yn llanw ei galon â
llawenydd. Gofynodd y Bachgen i’r Golomen paham yr oedd yn ymddangos mor
ddedwydd, “Am yr un rheswm a tithau, fy nghyfaill caredig,” ebai’r Golomen;
“y Duw da sydd yn peri i’w Haul dywynu arnat ti a minau nes llanw ein calon â
llawenydd ac a diolchgarwch.”
Daionus yw yr Arglwydd i bawb.
|
|
|
(delwedd 1189) (tudalen 066) (chwedl 84)
|
(tudalen 66)
CHWEDL 84 - YR ASYN MEWN CROEN LLEW.
Asyn wedi ymwisgo mewn croen Llew, a aeth oddiamgylch, gan ddychrynu yr holl
greaduriaid gwirion a gyfarfyddai, a chan weled Llwynog, fe geisiodd ei
ddychrynu. yntau hefyd. Ond y Llwynog, wedi clywed ei lais, a ddywedodd,
“Wel, yn wir! Buaswn inau wedi dychrynu. hefyd, oni buasai i mi dy glywed yn
brefu.”
Gall dyn trwy gymeryd arno gymeriad nad yw yn perthyn iddo, dwyllo ffyliaid
am dymhor; and y call a welant drwyddo ac a’i ffieiddiant.
|
|
|
(delwedd 1190) (tudalen 067) (chwedl 85)
|
(tudalen 67)
CHWEDL 85 - Y QUARTETTE.
Asyn, Gafr, Epa, ac Arth a benderfynasant berfformio Quartette, felly
ceisiasant lyfrau ac offerynau, a pharotoisant i swyno clustiau eu
gwrandawyr. Tarawant y dôn yn eofn, a chynyrchant ddigonedd o swn, ond yn
anffortunus y mae yn bobpeth ond cyd-gordiol. “Aroswch, gyfeillion, aroswch!”
ebai yr Epa. “Y mae yn amlwg y rhaid ein gosod yn wahanol. Eistedd i lawr fy
nghyfaill, Mr. Asyn, gyferbyn a’r alto; bydd i minau symud yma gyferbyn a’r
ail grwth. Bydd i’n canu wedy’n fod yn dra gwahanol. Sicr y gyrwn y
mynyddoedd yma i ddawnsio.” Felly newidiant eu lleoedd ac ail ddechreuant,
ond y mae y canu lawn mor anghydgordiol ag o’r blaen. “Aroswch ychydig,” ebai
yr Asyn; “Yr wyf wedi cael allan y dirgelwch. Byddwn yn siwr o ganu yn iawn
ond i ni eistedd yn rhes.” Dilynant ei gyngor, ac eisteddant yn rhes daclus.
Ond y mae y canu mor aflafar ag erioed. Ar hyn dechreuant ymddadleu yn uchel
o barth y drefn y dylent fod ynddi. Y mae yr Eos, yn ddamweiniol, yn hedfan
heibio iddynt, a dymunasant arni eu tynu o’u dyryswch. “Byddwch fwyned,”
meddant, “a rhoddi i ni ychydig o’ch amser mewn trefn i ni allu dyfod yn
llwyddianus trwy ein gorchwyl. Y mae genym y gerddoriaeth, y mae genym
offerynau. Yr oIl sydd arnom eisiau ydyw i chwi ein gosod ni yn ein lleoedd
priodol.” Ond y mae yr Eos yn ateb —
“I fod yn gerddor, rhaid i un feddu deall cyflymach a chlust dra gwahanol i’r
eiddo chwi; gellwch chwi, fy nghyfeillion, osod eich hunain yn y drefn a
fynoch, ond ni ddeuwch byth yn gerddorion.”
|
|
|
(delwedd 1191) (tudalen 068) (chwedl 86)
|
(tudalen 68)
CHWEDL 86 - Y LLWYNOG A’R FRÂN.
Brân, wedi dwyn darn o gaws o ffenestr tŷ, a ehedodd i bren uchel, i
fwynhau ei hysbail. Gwelodd Llwynog y darn blasus ganddi, a dechreuodd
gynllunio pa fodd i gael gafael ynddo. Felly fe ddechreuodd ganmol
prydferthwch y Frân. “O Frân,” ebe fe, “mor hardd yw dy adenydd! mor luniaidd
dy gorph! mor gryfion yw dy ewinedd! mor ddisglaer dy lygaid! Os yw dy lais
yn cyfateb, nid oes un aderyn i’w gystadlu a thydi.” Y Frân wedi ei boddhau
gan y gweniaeth, ac yn dymuno synu y Llwynog a’i llais, a agorodd ei phig i
ganu, pan — i lawr y syrthiodd y caws, a chipiodd y Llwynog ef i fynu, ac a
gerddodd ymaith gan sylwi, “Pa beth bynag a ddywedais am dy harddwch, ni
ddywedais I ddim eto am dy synwyr.”
|
|
|
(delwedd 1192) (tudalen 069) (chwedlau 86-87-88)
|
(tudalen 69)
Nid yw dynion yn gwenieithio yn gyffredin heb fod rhyw ddiben ganddynt mewn
golwg; a rhaid i’r neb sydd yn ddigon gwan i wrando y fath beroriaeth dalu yn
ddrud am dano.
CHWEDL 87 - Y BACHGEN A’R YCH.
Gorweddai Ych boddlon ar ganol y cae, yn cnoi ei
gîl yn ddedwydd, pryd yr aeth Bachgen bychan ato, a gofynodd iddo, “Am ba
beth yr wyt yn myfyrio, wrth orwedd yma yr hen Ych diniwed?”
“Rhaid i mi adael y meddwl a’r dysgu i ti, fy nghyfaill,” ebai’r Ych; “fy
ngwaith yma yw cnoi fy mwyd ac nid meddwl.” Ar ol iddo gael amser i gnoi ei
gîl am beth amser, dodwyd ef i dynu y fèn, a gwnaeth hyny yn rhwydd a
didrafferth, ond buasai meddwl tuhwnt i ‘w allu.
Pob un ei le ei hun a’i waith ei hun.
CHWEDL 88 - Y CEFFYL A’R ADERYN TÔ.
Yr oedd Ceffyl un diwrnod yn mwynhau ei hun uwchben ei geirch, pryd y daeth
Aderyn Tô ato, ac a ofyuodd yn ostyngedig am geirchen neu ddwy i dori ei
newyn. “Cei, fy nghyfaill,” ebai y Ceffyl, “faint a fynot. Tyr’d yn mlaen a
helpa dy hun, y mae yma ddigon i ti a minau.” Fel hyn buont yn byw yn gytun
â’u gilydd am amser maith: y Ceffyl yn rhoddi rhan o’i ymborth i’r Aderyn, ac
yntau yn gwasanaethu y Ceffyl trwy gadwy pryfaid rhag disgyn ar ei gefn a’i
frathu.
Un gymwynas yn teilyngu un arall.
|
|
|
(delwedd 1193) (tudalen 070) (chwedl 89)
|
(tudalen 70)
CHWEDL 89 - Y PYSGODYN-HEDEGOG A’R DOLFFYN.
Pysgodyn-hedegog yn cael ei ymlid gan y Dolffyn, yn ei awyddfryd i ddiangc, a
ehedodd yn rhy bell, ac a syrthiodd ar graig, lle yr oedd ei farwolaeth yn
anocheladwy. Y Dolffyn, yn ei awyddfryd i ddal ei ysglyfaeth, a redodd ei hun
i dir sych yn ymyl yr un graig, a gadawyd ef gan y tonau i wingo am ei anadl
ac yn agored i’r un dynged. “Wel,” ebai y Pysgodyn-hedegog, “rhaid i mi farw,
y mae yn wir; ond yr wyf yn marw yn ddedwydd wrth weled yr un a geisiodd fy
mywyd yn ngafael yr un dynged.”
Melus yw dial.
|
|
|
(delwedd 1194) (tudalen 071) (chwedlau 90-91)
|
(tudalen 71)
CHWEDL 90 - YR AMAETHWR A’R FUWCH.
Darfu i Amaethwr bychan brynu Buwch a llestr godro yn y ffair, ac yr ydoedd
yn myned gartref yn hamddenol ar hyd llwybr unig a arweiniai trwy y goedwig,
pan y syrthiodd yn ddisymwth i ddwylaw lleidr. Cymerodd y lleidr oddiarno
bobpeth a feddai. “Cymerwch drugaredd!” gwaeddai yr Amaethwr, “Yr wyf wedi fy
llwyr ddifetha: yr ydych wedi fy ngwneyd yn gardotyn! yr wyf wedi gweithio yn
galed am flwyddyn i allu prynu y Fuwch fechan hon.” “O’r goreu,” atebai y
lleidr, wedi ei gyffwrdd gan dosturi; “ni bydd genych achos i gwyno o’m
plegid i. Hwdiwch; ni bydd arnaf eisiau godro eich Buwch, felly dyma i chwi
eich llestr godro yn ol.”
Y mae trugaredd yr annuwiol yn greulon.
CHWEDL 91 - Y BLAIDD A’R BUGEILIAID.
Blaidd yn digwydd edrych i mewn i gaban, a gweled cwmni o Fugeiliaid yn
gwledda yn gysurus ar gig dafad, a ddywedodd, “Wel! y fath helynt fawr y
buasai y dynion hyn yn ei godi pe gwelent fi yn mwynhau y fath swper.”
Y mae dynion yn rhy dueddol i gondemnio mewn ereill yr hyn y maent yn euog
o’i wneyd eu hunain.
|
|
|
(delwedd 1195) (tudalen 072) (chwedl 92)
|
(tudalen 72)
CHWEDL 92 - Y MORGRUGYN A’R GOLOMEN.
Aeth Morgrugyn at ffynon o ddwfr i dori ei syched, a chan syrthio i mewn, yr
oedd yn mron boddi. Ond Colomen oedd yn eistedd ar bren gerllaw a welodd
berygl y Morgrugyn, a chan dynu deilen o’r pren, fe’i gollyngodd i’r dwfr o’i
flaen, a’r Morgrugyn a ddringodd arni, ac a ddaeth yn fuan i’r lan yn
ddiogel. Yn fuan wedi hyn, Heliwr yn taenu ei rwyd, oedd wrth y weithred o
gymeryd y Golomen, pan y darfu i’r Morgrugyn wrth weled ei amcan, ei frathu
yn ei sawdl. Neidiodd yr Heliwr i fyny yn ddisymwth gan y boen, a gollyngodd
y rhwyd o’i law, a’r Golomen wedi ei chynhyrfu gan y sŵn i weled ei
pherygl, a ehedodd ymaith yn ddiogel.
Y mae un gymwynas yn teilyngu y llall.
|
|
|
(delwedd 1196) (tudalen 073) (chwedlau 93-94)
|
(tudalen 73)
CHWEDL 93 - Y BACHGEN A’R AFR.
“Wel, dywed wrthyf yr hen Afr,” ebai bachgenyn bychan direidus, “i ba beth y
mae dy farf a’th gym da?” “Y mae fy marf yn dda i ti chwareu â hi pan y byddi
yn teimlo tuedd, a’m cyrn yn ddefnyddiol i’th wthio draw os digwyddi gario dy
chwareu yn rhy bell.” Bu yr Afr a’r Bachgen am ddarn o foreu tesog yn chwareu
â’u gilydd yn hyfryd odiaeth, ond o’r diwedd aeth y bachgen braidd yn hyf ar
ei gydymaith, pryd y cododd yr hen Afr ar ei thraed ôl, a dechreuodd ei
gornio, a da oedd ganddo gael cyfle i ddiangc am ei fywyd.
Y chwareu yn troi yn chwerw.
CHWEDL 94 - Y TEITHWYR AR FIN Y MOR.
Fel yr oedd rhyw deithwyr yn ymlwybro yn mlaen ar hyd y Traeth, hwy a
ddaethant at graig uchel, ac wrth edrych allan tua’r Môr hwy a welsant
ffagoden o goed yn nofio ar y wyneb o bell, a thybiasant yn y dechreu mai
llong fawr ydoedd; felly fe arosasant, gan ddisgwyl ei gweled yn dod i’r
hafan. Fel y deuai y ffagoden yn nes i’r lan, hwy a dybiasant nad llong oedd,
ond cwch. Ond pan o’r diwedd y taflwyd hi i’r lan, hwy a welsant nad oedd yn
ddim ond ffagoden ddiwerth.
Mae llawer peth sydd yn ymddangos yn fawr i’n dymuniad neu i’n hofnau, o
bell, yn myned yn llai, ac weithiau yn ddim, pan ddel i’n hymyl.
|
|
|
(delwedd 1197) (tudalen 074) (chwedl 95)
|
(tudalen 74)
CHWEDL 95 - Y BAEDD GWYLLT A’R LLWYNOG.
Yr oedd Baedd gwyllt yn hogi ei ddanedd ar ryw goeden, pan y daeth Llwynog
heibio, ac a ofynodd iddo paham yr oedd yn gwneyd hyny; “Canys,” meddai, “nid
wyf fi yn gweled un achos i hyny; nid oes na heliwr na chi, nag un perygl
arall ar a allaf ei weled yn y golwg.” “Gwir,” atebai y Baedd, “ond pan y
cyfyd y perygl, bydd genyf fi rywbeth arall i’w wneyd heblaw hogi fy arfau.”
Y mae yn rhy hwyr i hogi y cleddyf, pan seinio yr udgorn i’r frwydr.
|
|
|
(delwedd 1198) (tudalen 075) (chwedlau 96-97)
|
(tudalen 75)
CHWEDL 96 - YR EWYTHR A’I NAI.
“Tyr’d yma fy Nai: yn mha le yr wyt wedi bod yn ymguddio? Tyr’d yma cygynted
ag y gelli, a rhyfedda at gyfrwysder dy Ewythr. Gwna fel yr wyf fi yn gwneyd,
ac ni bydd i ti byth ddioddef colled.” Fel hyn, yn y siop, y siaradai Ewythr
wrth ei Nai. “Yr wyt yn gwybod am y darn brethyn glas hwnw: yr un ag oedd
wedi bod ar ein dwylaw am gyhyd o amser, am ei fod yn hen, yn wael, a
phydredig? Wel, yr wyf newydd ei werthu am bris brethyn da. Dyma sofran felan
a gefais am dano. Rhaid fod y prynwr wedi colli ei synwyr, a ffawd wedi ei
anfon i’n siop.” “Felly yn wir, F’ewythr, felly yn wir,” atebai y Nai, “ond
nid wyf yn eithaf siwr pwy oedd y ffwl. Edrychwch dipyn yn nes, a chewch mai
sofran ddrwg a gawsoch.”
A dwyllo a dwyllir.
CHWEDL 97 - YR ERYR, Y FRÂN, A’R CRWBAN.
Chwedl 97.—YB EKYE, Y FKAN, A’E CBWBAN.
Cafodd Eryr afael ar Grwban (Tortoise), a chymerodd ef i fyny i’r awyr; ond
nid allai ei niweidio trwy ei fod yn llechu yn ddiogel yn ei dŷ corniog.
Daeth Bran heibio y ffordd hono, a dywedodd, “Yr ydych wedi sicrhau tamaid da
o ymborth, ond os na bydd i mi ddangos i chwi pa fodd i gael gafael ynddo,
bydd i chwi flino eich hun yn ofer wrth geisio tori ei dŷ.” Ar ol cael
addewid am ran o’r danteithfwyd, dywedodd y Frân am i’r Eryr ei ollwng i lawr
o uchder mawr ar graig; gwnaeth felly; a drylliwyd y Crwban yn erbyn y graig
galed, a bu y ddau yn gwledda yn ddifyr ar y blasus-fwyd.
Pwy all wrthsefyll nerth wedi ei uno â chyfrwysdra?
|
|
|
(delwedd 1199) (tudalen 076) (chwedl 98)
|
(tudalen 76)
CHWEDL 98 - Y BARCUD A’R FFERMWR.
Barcut, yn ymlid Colomen ar draws cae gwenith gyda phrysurdeb mawr, a
ddaliwyd ei hunan mewn magl. Ffermwr ag oedd yn gweithio heb fod nepell o’r
lle, yn gweled y Barcud yn y magl, a ddaeth ato ac a’i cymerodd yn garcharor;
ond fel yr oedd ar fedr ei ladd, dymunodd y Barcud yn daer arno ei ollwng yn
rhydd, gan ei sicrhau nad ydoedd ond yn erlid Colomen, ac heb fwriadu na
gwneuthur unrhyw niwaid iddo ef. Atebodd y Ffermwr: “A pha niwaid a wnaeth y
Golomen i chwi? “Ar hyn rhoddodd dro ar ei wddf heb ychwaneg o siarad.
Gwnewch i ereill fel yr ewyllysiech i ereill wneuthur i chwithau.
|
|
|
(delwedd 1200) (tudalen 077) (chwedlau 99-100)
|
(tudalen 77)
CHWEDL 99 - YR EWIG A’R LLWYNOGOD.
Ewig ieuangc, wedi ei hamddifadu o’i llydnod, ond yn para i feddu digonedd o
laeth, a gafodd afael mewn dau Lwynog ieuaingc wedi eu gadael yn y goedwig,
ac ymgymerodd ar unwaith a cheisio llanw lle mam iddynt, gan eu porthi â’i
llaeth. Meudwy, yn byw yn yr un goedwig, yn synedig at ei hymddygiad, a
waeddodd allan, “Y fath greadur difeddwl wyt! i ba fath greadur yr wyt yn
rhoddi dy laeth; ar bwy yr wyt yn gwastraffu dy serch a’th ofal? A wyt ti yn
disgwyl cael diolch gan y creaduriaid yna? Efallai mai dy waed di a yfir
ganddynt ryw ddiwrnod.” “Efallai hyny, yn wir,” atebai yr Ewig, “ond ni feddyliais,
ac nid wyf yn hoffi meddwl, am hyny. Nid wyf yn gofalu am deimlo ond fel mam
ar hyn o bryd, a buasai fy llaeth yn faich i mi pe na buaswn wedi ei roddi
i’r rhai hyn.”
Nid yw y gair haelionus yn meddwl am dâl; i’r haelionus byddai eu
digonolrwydd yn faich pe na baent yn cael rhoddi o hono i’r anghenus.
CHWEDL 100 - Y BYCHOD GEIFR A’R GEIFR.
Pan y cafodd y Geifr farf gan Jupiter, teimlodd y Bychod Geifr yn dra digofus
ac anfoddlon am fod y Geifr wedi cael yr un anrhydedd a hwythau. Dywedodd
Jupiter, “Gadewch iddynt i fwynhau gwag-ogoniant, a gwneyd defnydd o
arwyddion parch, gan nad ydynt yn gyfatebol i chwi mewn nerth.”
Nid eu tebygolrwydd allanol ond eu rhinwedd sydd yn gwneyd dynion yn
gyffelyb.
|
|
|
(delwedd 1201) (tudalen 078) (chwedl 101)
|
(tudalen 78)
CHWEDL 101 - YR HEN LEW.
Hen Lew wedi ei lwyr lethu gan henaint, a orweddai ar ei hyd ar y ddaear, yn
hollol ddigynorthwy, ac ar dynu ei anadl olaf. Daeth Baedd yn mlaen, ac i
ddial arno am ryw hen gweryl, a’i brathodd â’i ysgythr-ddannedd mawrion. Yna
daeth Tarw yn mlaen, ac i dalu i’w hen elyn fe’i rhwygodd â’i gyrn. Ar hyn,
Asyn, yn gweled y gellid trin yr hen Lew fel hyny yn ddiberygl, a fynai
ddangos ei atgasedd yntau, ac a giciodd ei draed yn ei wyneb. Ar hyn
gruddfanai yr hen ormesdeyrn. “Yr oedd sarhad y bwystfilod galluog yn ddigon
drwg, ond gallaswn ddioddef hyny; ond i gael fy sarhau gan y fath greadur
distadi a thydi — gwarthnod y greadigaeth, y mae yn waeth na marw
ddengwaith.”
Gall yr uchelfrydig ddioddef pobpeth yn well nag ergyd i’w falchder.
|
|
|
(delwedd 1202) (tudalen 079) (chwedlau 102-103)
|
(tudalen 79)
CHWEDL 102 - YR ASYN, Y CEILIOG, A’R LLEW.
Yr oedd Asyn a Cheiliog yn digwydd bod yn cyd-fyw ar yr un fferm. Rhyw
ddiwrnod digwyddodd i Lew newynog basio heibio, ac wrth sylwi fod yr Asyn yn
bur raenus, fe benderfynodd wneyd pryd o hono. Ond, fe ddywedir nad oes dim
ag y mae y Llew yn ei gasau yn fwy na chaniad y Ceiliog; ac yn y foment hono
fe ddigwyddodd i’r Ceiliog ganu, a chyn gynted ag y clywodd y Llew ef fe
redodd ymaith cyn gynted fyth ag y gallai. Yr Asyn, yn malchder ei galon a
dybiodd mai diangc rhag ei ofn ef yr ydoedd, ac a ganlynodd ar ei ol, yn
chwyddedig iawn wrth feddwl ei fod yn gyru brenin y goedwig o’i flaen. Nid
cynt yr aethant allan o gyraedd sŵn y Ceiliog, nag y trodd y llew arno
ar unwaith, ac a’i llyngcodd bron yn gyfan.
Y mae balchder yn dechreu mewn anwybodaeth ac yn dibenu mewn dinystr.
CHWEDL 103 - AESOP A’R GŴR SARHAUS.
Darfu i ddyn sarhaus daflu càreg at Aesop un diwrnod. Dywedodd y Doethwr
wrtho, “Yr wyt yn ddyn gwrol yn wir; hwda, dyma i ti ddernyn o arian, nid oes
genyf ychwaneg, ond dangosaf i ti y ffordd i gael swm mawr. Edrych, dacw
foneddwr cyfoethog yn dyfod, tafl gareg ato ef, a digon tebyg y bydd i ti
gael gwobr.” Gwnaeth y dyn y cyngor; ond siomwyd ef am ei wobr, oblegid
cymerwyd ef i fyny, a thaflwyd ef i garchar.
Y mae dynion sarhaus yn gorfod talu yn ddrud am en rhyfyg.
.
|
|
|
(delwedd 1203) (tudalen 080) (chwedl 104)
|
(tudalen 80)
CHWEDL 104 - Y CEILING RHEDYN A’R DDALLHUAN.
Yr oedd Ceiliog Rhedyn yn gwneyd sŵn ag ydoedd yn aflonyddu y Ddallhuan,
yr hon a chwiliai am ei hymborth yn y nos, a chysgu y dydd yn ei cheubren.
Pan ofynwyd i’r Ceiliog Rhedyn fod yn ddistaw, gwnaeth fwy o sŵn nag
erioed. Gwnaeth y Ddall¬huan gais drachefn, ond aeth y Ceiliog Rhedyn i dymer
ddrwg iawn. Ar ol i’r Ddallhuan gael allan nad oedd siarad o un dyben, a
benderfynodd roddi terfyn ar ei sŵn trwy ddyfais, a dywedodd, “Gan nas
gallaf gysgu yn sŵn dy ganu melodaidd yr ydwyf wedi penderfynu yfed y
neithdar a roddwyd i mi gan Pollas, mewn trefn i allu cadw yn effro i wrando
ar dy lais a’th gan hyfrydol, ac os nad ydwyt ti yn rhy falch, tyred, gad i
ni ei yfed yn nghyd.” Y Ceiliog Rhedyn yn dioddef oddiwrth syched mawr, ac yn
hoffi clywed ei lais yn cael ei ganmol, a neidiodd ati. Cygynted ag y daeth
yn agos ati, rhuthrodd y Ddall¬huan arno, a lladdodd ef yn y fan.
Mae bod yn foesgar yn ddiogel a chymwynasgar.
|
|
|
(delwedd 1204) (tudalen 081) (chwedlau 105-106)
|
(tudalen 81)
CHWEDL 105 - Y LLYGODEN A’R FRONWEN.
Llygoden fechan salw a weithiodd ei ffordd trwy ymdrech i mewn i lestraid o ŷd,
ac yno, yn nghanol y fath gyflawnder o ddanteithfwyd, hi a fwytaodd ac a
ymlenwodd i’r fath raddau, fel pan y mynasai fyned allan yn ol, y cafodd fod
y twll yn rhy fychan i ollwng ei chorff chwyddedig allan. Fel yr eisteddai
wrth y twll yn gruddfan oblegid ei thynged, Bronwen, yr hon a ddygwyd yno gan
ei llefain, a ddywedodd wrthi, “Aroswch yna, gyfaill, ac ymprydiwch nes dod
yn deneu yn ol; canys ni ddeuwch byth allan nes y deloch i’r un cyflwr ag yr
oeddych ynddo pan yr aethoch i mewn.”
Yr unig feddyginiaeth i effeithiau glythineb a meddw-dod, ydyw cymedroldeb a
llwyrymwrthodiad
CHWEDL 106 - Y FFERMWR A’I GŴN.
Ffermwr, ar ryw auaf pur galed, oedd wedi ei gau i fynu yn ei dŷ gan yr
eira; a chan ei fod yn newynog, ac heb allu myned allan i gyrchu bwyd, fe
ddechreuodd fwyta ei ddefaid ei hun. Gan fod yr hîn galed yn parhau, efe yn
nesaf a fwytaodd ei eifr; ac o’r diwedd, gan nad oedd yr hîn yn gwella, fe
ddechreuodd fwyta ei ychain. Ar hyny, meddai y naill Gi wrth y llall,
“Gadewch i ni ddiangc; canys gan nad oes gan y Meistr, fel y gwelwn, ddim
trugaredd ar yr ychain sydd yn llafurio, pa sut y mae yn debyg yr arbed efe
ni?”
Pan y byddo tŷ ein cymydog ar dân, y mae yn bryd i ni edrych at yr
eiddom ein hunain. Y mae y call yn cymeryd rhybudd oddiwrth anffodion rhai
ereill.
|
|
|
(delwedd 1205) (tudalen 082) (chwedl 107)
|
(tudalen 82)
CHWEDL 107 - Y GWENYN A’R GWENYN SEGUR
Yr oedd y Gwenyn wedi llanw eu cychod â mel, a daeth y Gwenyn Segur gan ei
hawlio fel yr eiddo hwynt. Dygwyd y peth i’r llys, a gosodwyd y Gacynen ar y
gadair farnol. Ar ol ystyried yr holl achos dywedodd y barnwr, “Nid yw eich
cyrph yn anhebyg, ac y mae eich lliw yn gyffelyb, gan hyny y mae penderfynu y
pwngc yn orchwyl anhawdd; felly, rhag i mi wneuthur anghyfiawnder, yr ydwyf
yn gorchymyn i chwi dywallt y mêl i’r cwyr, fel y byddo i ni gael allan pwy a
wnaeth y mêl oddiwrth ei arogl a ffurf y cribau.” Gwrthoda y Gwenyn Segur
hyny, ond y mae y Gwenyn Gweithgar yn falch o’r penderfyniad. Ar ol gwneyd
fel y gorchymynodd y barnwr, cyhoeddodd y rheithfarn ganlynol, “Y mae yn
amlwg pwy nad allant wneyd y cribau yma, ac mor amlwg a hyny, pwy a’u
gwnaeth; felly yr wyf yn adfer y Mêl i’r Gwenyn.”
Hawdd adnabod y gweithiwr wrth ei waith
|
|
|
(delwedd 1206) (tudalen 083) (chwedlau 108-109)
|
(tudalen 83)
CHWEDL 108 - YR ASYN A’R EOS.
Y mae Asyn un diwrnod yn dymuno ar yr Eos fod mor fwyn a’i ffafrio â chân.
Cydsynia yr Eos, ac arllwysa y fath ffrwd o seiniau melusion nes y distawa yr
adar i wrando arni, a pheidia pob creadur â’i sŵn mewn trefn i glywed ei
chân. O’r diwedd y mae y gân yn peidio, a rhodda yr Asyn ei farn ar ei
galluoedd. “Y mae yn lled dda,” meddai; “gall un wrando arnoch heb ddiflasu;
ond gresyn na baech yn adnabod y ceiliog sydd yn ein buarth ni. Byddai
ychydig wersi ganddo ef o anrhaethol werth i chwi.” Y mae yr Eos yn diystyru
ei sylwadau, ac eheda ymaith yn sydyn.
Gwareder ni rhag beirniaid anghymwys.
CHWEDL 109 - YR EPA A’R DRYCHAU.
Epa yn teimlo ei olygon yn pallu a geisiodd bâr o Ddrychau (Spectacles) i’w
gynorthwyo i weled, ond yn anffortunus nid ydoedd yn gwybod pa fodd i’w
defnyddio. Doda hwy ar ei ben, a cheisia brofi eu heffeithiau trwy eu dodi ar
flaen ei gynffon; anadla arnynt a gwlycha hwy â’i dafod; ond gan nad ydyw yn
gweled yn well trwy hyn oll, y mae yn gyntaf yn eu difrio fel pethau
twyllodrus, ac yna yn eu taro yn erbyn y llawr.
Diystyra yr ynfyd wybodaeth
|
|
|
(delwedd 1207) (tudalen 084) (chwedl 110)
|
(tudalen 84)
CHWEDL 110 - Y BRAWD A’R CHWAER.
Yr oedd gan Foneddwr Ferch hagr neillduol, a mab hynod o luniaidd a phrydferth.
Darfu iddynt yn ddamweiniol wrth chwareu edrych mewn drych, ag oedd yn crogi
uwchben cadair eu tad. Y mae y Brawd yn ymffrostio yn ei brydferthwch, yr hyn
a barodd i’w Chwaer chwerwi ac ymddigo wrtho; cymerai ei holl eiriau fel
sarhad arni hi. Rheda at ei thad i gwyno o herwydd geiriau ei Brawd, gan
obeithio y buasai yn cael ei geryddu. Y mae y Tad yn cofleidio ill dau, ac ar
ol eu cusanu yn dyner, dyweda, “Yr ydwyf am i chwi ddefnyddio y drych bob
dydd, fel na byddo i ti, fy Mab, ddinystrio dy brydferthwch gyda moesau drwg,
ac fel byddo i tithau, fy Merch, wneyd i fyny am dy hagrwch gyda moesau da.”
Y mae prydferthwch cymeriad yn harddach na llunieidd-dra corphorol.
|
|
|
(delwedd 1208) (tudalen 085) (chwedlau 111-112)
|
(tudalen 85)
CHWEDL 111 - Y FFERMWR A’R LLEW.
Aeth Llew unwaith i mewn i fuarth fferm, a’r Ffermwr yn dymuno ei ddàl ef, a
gauodd y llidiart. Pan ddeallodd y Llew nad allai ddim myned allan, fe
ddechreuodd ar unwaith ymosod ar y defaid, ac ar ol hynny fe ddifaodd yr
ychain. Ar hyny y Ffermwr, yn dechreu dychrynu drosto ei hun, a agorodd y
llidiart, ac aeth y Llew ymaith cyn gyflymed ag y gallai. Gwraig y Ffermwr,
yr hon a welsai y cwbl, pan welodd ei gŵr mewn tristwch mawr oblegid
colli ei dda, a ddywedodd, - “Chwi a gawsoch yr hyn a haeddech; canys pa beth
a allai eich gwneyd mor ynfyd ag i ddymuno dàl creadur, yr hwn pe gwelsech ef
o bell, y dymunech ef yn mhellach fyth.”
Mae ambell i leidr y byddai yn well ei ddychrynu ymaith na’i ddàl.
CHWEDL 112 - YR ASYN A’R GWYBEDYN.
Yr oedd Gwybedyn yn eistedd ar un o lorpiau cerbyd, a dechreuodd geryddu yr
Asyn a’i tynai, “Mor araf yr wyt yn myned yn mlaen? onid elli fyned yn
gyflymach? gofala rhag i mi dy golynu yn dy ochr gyda’m cleddyf.” “Nid yw dy
eiriau di,” ebai yr Asyn, “yn werth fy sylw; ond yr wyf yn ofni yr hwn sydd
yn eistedd yn y cerbyd, yn fy arwain gyda’r awenau, ac yn dàl y chwip
flaenfain yn ei law. Yn ol ei ewyllys ef yr wyf i gerdded neu i redeg. Felly
taw di a’th siarad gwael.”
Poenus clywed dynion bychain yn ymffrostio pethau mawrion.
|
|
|
(delwedd 1209) (tudalen 086) (chwedl 113)
|
(tudalen 86)
CHWEDL 113 - Y LLEWPARD A’R BUGEILIAID.
Yn ddamweiniol syrthiodd Llewpard i ffynon ddofn. Gwelwyd ef gan y
Bugeiliaid, a lluchiodd rhai geryg ato, ereill ffyn; ond darfu i ereill
deimlo tosturi tuag ato, a thaflu bara iddo. Trwy fod y nos yn dynesu, maent
yn myned gartref yn hyderus y byddai iddynt ei gael boreu dranoeth wedi marw.
Ond y Llewpard, wedi iddo adfeddianu ei nerth ar ol bwyta y bara, a roddodd
naid o’r ffynon, a rheda yn gyflym tua’i ffau. Yn mhen ychydig ddyddiau y mae
yn myned allan, gan ladd y defaid a’r bugeiliaid hefyd, a distrywia bob peth
yn ei gynddaredd. Y mae y trigolion, gan faint eu dychryn, yn boddloni colli
eu defaid, ni cheisiant ond eu bywydau en hunain yn unig. Y mae y Llewpard yn
ateb, “Yr wyf yn cofio am y rhai hyny a daflasant geryg ataf, a’r rhai a roddasant
fwyd i mi; na fydded i’m cymwynaswyr ofal, ni chospaf ond y rhai a
fwriadasant ddrwg i mi.”
Gwneyd cymwynas yw y ffordd i gael un.
|
|
|
(delwedd 1210) (tudalen 087) (chwedlau 114-115)
|
(tudalen 87)
CHWEDL 114 - Y CAWRFIL A’R CORGI.
Yr oedd Cawrfil yn cael ei ddangos un diwrnod yn y ffair, a pha le bynag yr
elai dilynid ef gan Gorgi, yr hwn a gyfarthai ac a geisiai frathu ei sodlau.
Darfu i un o gyfeillion y Gorgi alw ei sylw at y ffaith nad oedd y Cawrfil yn
cymeryd yr un sylw o’i ymosodiadau eiddil, ond yn myned yn mlaen mor dawel a
phe na buasai ei elyn yn meddu bodolaeth. “Dyna’r uuig reswm paham yr wyf yn
cyfarth,” atebai y Corgi. “Y mae arnaf eisiau i’r cŵn mawr ddweyd,
‘Rhaid fod y Corgi yna yn anferthol gryf, neu ni fuasai yn meddu yr
haerllugrwydd o gyfarth ar Gawrfil.”
Y mae aml i ddyn bach yn difrio dyn mawr yn unig er mwyn tynu sylw.
CJiwedl 113.
CHWEDL 116 - Y TEITHWYR A’R CORGWN.
Yr oedd dau Deithiwr un tro yn myned trwy bentref, a dilynwyd hwy gan nifer o
Gorgwn, y rhai a gyfarthent yn uchel. Yr oedd un o’r ddau yn myned i godi
careg i fyny, pan yr ataliwyd ef gan y llall; gan ddweyd wrtho i adael i’r
Gorgwn gyfarth faint a fynont, gan y byddai iddynt beidio yn fuan os gadewid
hwynt yn llonydd. Yn mhen ychydig funudau peidiodd y cyfarth.
Y ffordd effeithiolaf i ddistewi crachfeirniaid yw peidio gwneyd sylw o
honynt.
|
|
|
(delwedd 1211) (tudalen 088) (chwedl 116)
|
(tudalen 88)
CHWEDL 116 - CAESAR A’I WAS.
Yr oedd gan Caesar, yn ei balasdy, Was yn edrych ar ol ei rodfeydd. Pan yr
elai Caesar allan i rodio, byddai y gwas hwn yn gofalu am fod yn agos ato yn
barhaus, ac ymddangosai yn neillduol weithgar: rhodai o flaen ei feistr, gan
luchio dwfr ar y rhodfa, gan deimlo ei fod yn cyflawni gwasanaeth pwysig. Os
symudai Caesar i rodfa arall, byddai ei Was prysur yno o’i flaen, yn lluchio
dwfr er caisio goatwng y llwch a thynu sylw ei feistr ato. Y mae Caesar yn
deall ei ddyn, ac yn gwybod mai ei amcan ydyw cael ei ryddhad (oblegid
caethwas ydoedd) a dywododd, “Yr wyt yn rhedeg o amgylch yn barhaus ac yn
ymddangos fel yn gwneyd gwaith mawr, ond nid yw yr oll yn ateb yr un pwrpas
da. Nis gall neb brynu ei ryddhad heb gynawni rhyw weithred bwysig a gwir
lesiol.”
Y mae llawer, heblaw gwas Caesar, yn brysur yn gwneyd dim.
|
|
|
(delwedd 1212) (tudalen 089) (chwedl 117)
|
(tudalen 89)
CHWEDL 117 - YR YMSUDDWYR.
Darfu i frenin yn yr hen amser goleddu amheuon cryf o berthynas i Wyddoniaeth,
a pha un a ydoedd yn gwneyd da ynte drwg i’r rhai a’i proffesai, a pha un a
ydoedd gwybodaeth yn cryfhau calonau a dwylaw y rhai a’i ceisient ai peidio.
Galwodd yn nghyd holl ddoethion o’i deyrnas i ystyried y pwngc, ond ni ddarfu
iddynt ond ymddadleu a’u gilydd, gan adael y brenin mor amheus ag erioed. O’r
diwedd digwyddodd iddo gyfarfod â Doethwr parchedig, i’r hwn yr adroddodd ei
ddyryswch, a’r hwn a adroddodd iddo yr hyn a ganlyn: — “Yr oedd yn byw
unwaith yn yr India, meddai, bysgotwr a thri o feibion ganddo. Dygodd hwy i
fyny yn y fath dlodi fel pan fu farw penderfynasant ddilyn rhyw orchwyl arall
er enill eu cynhaliaeth. Trwy eu bod oll yn nofiedwyr da, penderfynasant
fyned i bysgota perlau, ac felly prysurasant i gario allan eu hamcanion. Ond
ymddygodd Ffawd yn dra gwahanol tuag at bob un o honynt. Y cyntaf, yr hwn
oedd y diocaf o’r tri, a arfarai gerdded ar hyd glàn y môr, gan obeithio y
buasai i’r tonau gario perlau at ei draed. Ond ni ddigwyddodd iddo erioed y
fath ffawd dda, a chafodd drafferth fawr i gadw ei hun rhag newynu. Nid oedd
yr ail yn ofni caledwaith, ond cymerai ofal rhag suddo i leoedd rhy ddwfn, ac
felly gwobrwywyd ef am ei lafur a daeth yn gyfoethog. Ond diystyrai y trydydd
y fath ffordd araf i gasglu cyfoeth, a phenderfynodd suddo i’r lleoedd dyfnaf
a mwyaf anadnabyddus, gan obeithio cael yno drysorau anmhrisiadwy. Gyda’r
syniad yma aeth allan i’r môr agored, a suddodd i’r lle dyfnaf allai weled —
ond ni ddaeth byth i fyny.”
“O Frenin,” ebai y Doethwr, “er y gallwn ganfod mewn dysgeidiaeth ffynhonell
llawer o gysuron, eto y mae yr yspryd gorfeiddgar yn cyfarfod, a dinystr yn
ei waelodion, ac, yn fwy anfortunus na’r ymsuddwr, yn amil yn tynu ereill i’w
ganlyn i ddinystr.”
|
|
|
(delwedd 1213) (tudalen 090) (chwedl 118)
|
(tudalen 90)
CHWEDL 118 - YR ERYR, Y GATH, A’R BAEDD.
Yr oedd Eryr wedi adeiladu ei nyth ar gangen mewn derwen fawr; Cath hefyd
wedi cael twll yn nghanol y pren oedd wedi ymddwyn ei rhai bach yno; ac wrth
waelod y pren yr oedd y Baedd wedi cael lle pwrpasol i’w dorllwyth. Y mae y
Gath trwy ei chyfrwystra a’i dichell yn gallu creu anghydfod a diffyg
ymddiried rhwng ei chymydogion. Dringa i fynu i nyth yr Eryr, a dywed, “Yr
ydych chwi, a minau hefyd, mewn perygl o gael ein goddiweddyd gan ddinystr;
oblegid yr ydych yn gweled fel y mae y Baedd yn tyrchio o dan y dderwen yn
barhaus gyda’r amcan o’i chael i lawr mewn trefn i gael ein rhai bach yn ysglyfaeth.”
Ar ol dychrynu yr Eryr, a’i wneyd yn anesmwyth am ddiogolwch ei gywion,
ymlithra i lawr at y Baedd, a dyweda, “Y mae ein rhai bach mewn perygl mawr;
oblegid mor fuan ag yr ewch allan i chwilio am ymborth, y mae yr Eryr yn
barod i gymeryd ymaith eich moch.” Ar ol eu llanw fel hyn a dychryn, y mae
mewn modd cyfrwys yn myned i ymguddio i’w nyth.
|
|
|
(delwedd 1214) (tudalen 091) (chwedlau 118-119-120)
|
(tudalen 91)
Yna cerdda allan y nos yn ddistaw i gael bwyd ei hun ac i’w rhai bach, gwylia
trwy’r dydd, gan ffugio dy¬chryn mawr. Y mae yr Eryr, er osgoi trychineb, yn
eistedd o hyd ar ei nyth; a’r Baedd, er osgoi ysbeiliad, ni symuda gam o’r
lle. Beth fu y canlyniad? Bu y naill a’r llall o honynt feirw o herwydd
newyn, a chafodd y Gath a’i rhai bach wleddoedd blasus ar yr yspail.
Rhagrith sydd gyfuniad o bob drwg.
CHWEDL 119 - YR EPA A’R PYSGOTWYR.
Fel yr oedd Epa yn eistedd mewn pren uchel, fe welai Bysgotwyr yn gosod eu rhwydau
mewn afon, ac a sylwodd arnynt yn fanwl. Cygynted ag yr oedd y dynion wedi
gosod eu rhwydau, ac wedi myned ym¬aith i’w ciniaw, daeth yr Epa i lawr o’r
pren, gan feddwl y gwnelai yntau dreio ei law yn yr un modd. Ond wrth geisio
gosod y rhwydau, fe faglodd ynddynt i’r fath raddau, fel yr oedd yn mron
tagu, ac yna gwaeddai allan, “Wel! wel! dyma hi! ond pa beth allwn ddisgwyl?
Pa achos oedd i mi, yr hwn ni wn ddim am bysgota, i ymyryd â rhyw gelfi fel
hyn?”
Y mae y rhai a ymaflant mewn peth nad ydynt yn ei ddeall, yn lled sicr o
fyned i brofedigaeth a magl.
CHWEDL 120 - SOCRATES A’I DŶ.
Adeiladodd Socrates Dŷ hynod fychan i fyw ynddo; a phan y gofynwyd iddo
paham y darfu i ddyn mor fawr a phwysig ag ef adeiladu y fath Dŷ bychan,
a atebodd, “Byddai yn dda genyf allu llanw hwn â gwir gyfeillion.”
Yn mha le y ceir gafael ar wir gyfaill?
|
|
|
(delwedd 1215) (tudalen 092) (chwedl 121)
|
(tudalen 92)
CHWEDL 121 - YR IÂR A’R WENOL.
Iâr wedi cael o hyd i wyau neidr mewn tomen, a eisteddodd arnynt, i’r dyben
o’u deor. Gwenol, yn gweled hyny, a ehedodd ati, ac yn dra chyffrous a
ddywedodd, “A ydych chwi yn orphwyllog, i geisio eistedd ar, a deor y fath
haid o greaduriaid peryglus a hynyna? Gallwch fod yn siwr, y foment y dygwch
hwynt allan i oleuni, mai chwi fydd y cyntaf y troant ac y tywalltant eu
malais a’u gwenwyn arni.”
Rhaid lladd egwyddorion drwg yn yr eginyn. Os maethir hwynt yn en cychwyniad,
bydd yn anhawdd osgei eu heffeithiau chwerw, wedi iddynt dyfu i addfedrwydd.
|
|
|
(delwedd 1216) (tudalen 093) (chwedl 122)
|
(tudalen 93)
CHWEDL 122 - YR YSPEILIEDIG A’I GYFEILLION.
Un noswaith yn yr Hydref aeth lleidr i dŷ Amaethydd bychan, ac ar ol
cyraedd yr ystafell y cedwid y meddianau ynddi, a ladrataodd yr oll y gallodd
ddodi ei ddwylaw arno. Felly, darfu i’r Amaethydd druan, yr hwn a aeth i
gysgu y noson hono yn lled dda arno, ddeffroi boreu dranoeth wedi colli y
cwbl, heb ddim yn ei aros ond cŵd y cardotyn. Y Nef a’n gwaredo rhag
byth ddefroi yn yr un fath gyflwr! Y mae yr Amaethwr yn wylo ac yn ochain, ac
yn galw yn nghyd ei holl gyfeillion a’i gymydogion. “Onid ellwch chwi
gynorthwyo ychydig arnaf yn fy nghyfyngder presenol?” gofynai. Yna y mae pob
un yn dechreu ei anerch, gan fod yn hael odiaethol o’u cynghorion. Ebai
Brown, “Ah! fy nghyfaill, ni ddylasech chwi ymffrostio yn eich cyfoeth wrth
bawb.” Ebai Jones, “Rhaid i chwi o hyn allan gysgu yn yr ystafell nesaf i’r
un y byddwch yn cadw eich eiddo ynddi.” “Wel, gyfeillion,” ebai Robinson.
“Nid yn mhellder yr ystafell yr oedd y diffyg. Y peth raid i chwi wneyd ydyw
cadw cŵn daneddog a chyflyrn oddeutu eich tŷ”. Cymerwch a fynoch
o’r cŵn bychain sydd gan fy ngâst Juno. Byddai lawer yn well genyf eu
rhoddi yn anrheg i gyfaill na’u boddi.” Ac fel hyn, cynbelled ag yr oedd
geiriau yn myned, rhoddodd ei gyfeillion a’i gymydogion gynghorion buddiol
iddo, ond pan y deuwyd at weithredoedd, ni wnelai un o honynt gynorthwyo dim
ar y truan.
Llawer yn barod i roddi cynghorion i gymydog mewn helbul, ond ychydig fydd yn
barod i estyn cynorthwy gwirwneddol.
|
|
|
(delwedd 1217) (tudalen 094) (chwedlau 123-124)
|
(tudalen 94)
CHWEDL 123 - YR ASYN A’R BAEDD.
Asyn gwirion yn cyfarfod Baedd un diwrnod, a ddechreuodd chwerthin am ei ben,
gan ei gyfarch, “Eich gostyngedig was, fy mrawd.” Cythruddodd hyny y Baedd yn
fawr, a gofynodd paham y dywedai y fath gelwydd, gan nad oedd yr un berthynas
rhyngddynt. Dywedodd yr Asyn, gyda gwên wawdlyd, “Onid ydym yn frodyr?
Edrychwch, mor debyg ydym i’n gilydd!” Cynhyrfodd hyny y Baedd i’r fath
raddau, fel y rhuthrodd arno ac a’i lladdodd yn y fan.
Y mae llawer yn talu yn ddrud am eu cellwair.
CHWEDL 124 - Y LLEWPARD A’R LLWYNOG.
Bu dadl rhwng y Llewpard a Llwynog, pa un o’r ddau oedd y creadur harddaf.
Cyfeiriai y Llewpard at brydferthwch yr ysmotiau lluosog ar ei groen; ond
|
|
|
(delwedd 1218) (tudalen 095) (chwedlau 124-125-126)
|
(tudalen 95)
atebai y Llwynog, “Y mae meddwl galluog yn well na chorph tlws.”
Y meddwl yw safon y dyn.
CHWEDL 126 - Y CI A’R CEFFYL.
Un diwrnod yr oedd Ci a cheffyl rhyw Amaethwr yn dadleu eu gwahanol
ragoriaethau. “Fel yr wyt yn siarad yn wir, Mr. Ceffyi! Ni byddai yn ddrwg
genyf pe baent yn dy droi di allan o’r buarth yma. Tynu yr aradr a llusgo y
drol yn wasanaeth anrhydeddus, ai e! Nid wyf erioed wedi clywed dim i’w
gydmaru a’th haerllugrwydd. Pa fodd y meiddi gydmaru dy hun a mi? Nid wyf fi
yn gorphwys ddydd na nos. Yn y dydd yr wyf yn gwylied y gwartheg yn y
weirglodd; yn y nos yr wyf yn gwylio y tŷ.” “Eithaf gwir,” atebai y
Ceffyl; “y mae yr hyn a ddywedi yn hollol wir. Ond cofia hyn, fy Nghyfaill,
oni bai fy aredig i, ni byddai genyt ddim i’w wylio.”
Pob un yn bwysig yn ei le ei hun.
CHWEDL 126 - AESOP YN CHWAREU.
Fel yr oedd Aesop un diwrnod yn chwareu a nifer o blant, daeth un o’r
Atheniaid heibio, a phan y’i gwelodd, a chwarddodd am ei ben, gan dybied ei
fod wedi colli ei synwyr. Wrth weled hyny, cymerodd Aesop ei fwa a phlygodd
ef gymaint ag a allai, a daliodd ef yn ngwyneb y dyn. Methai a deall beth a
olygai Aesop wrth hyny; safodd yn synedig am beth amser gan geisio dyfalu, ond
yn gwbl ofer; o’r diwedd dywedodd Aesop, “Bydd i’r bwa dori os delir ef yn
rhy dyn; ond os llaciwch ef, bydd yn ddefnyddiol i chwi pan fo arnoch angen
am dano.”
Gweithio o hyd heb ddim chwareu a wna Jack yn fachgen dwl.
|
|
|
(delwedd 1219) (tudalen 096) (chwedlau 127-128)
|
(tudalen 96)
CHWEDL 127 - YR AST A’I CHŴN.
Gâst, yn ymyl dyfod a Chŵn bach, a ofynodd i Ast arall a fuaaai hi mor
garedig a chaniatau iddi fenthyg ei thŷ hyd nes y rhoddai enedigaeth i’w
thorllwyth, a, chafodd ganiatad uniongyrohol. Bu yno am hir amser yn magu ei
chŵn; o’r diwedd daeth yr Ast a berchenogai y lle yn mlaen i geisio cael
ei thŷ yn ôl, pan yr atebwyd hi gan yr un y gwnaethai gymwynas â hi yn
awr ei chaledi, “Os gellwch fy ngyru i a’m cŵn allan, gellwch gael eich
tŷ yn ôl.”
Cadwch dwyllwr yn ddigon pell oddlwrthych.
CHWEDL 128 - Y DDAU GI.
Un diwrnod yr oedd dau Gi yn gorwedd yn yr haul, tu allan i gegin eu meistr,
ac mewn ffordd o dreulio yr amser yn ddedwydd, aethant i ymddiddan am
|
|
|
(delwedd 1220) (tudalen 097) (chwedl_128)
|
(tudalen 97)
ffaeleddau a rhagoriaethau eu cydgreaduriaid. O’r diwedd aethant ar draws y
pwngc o gyfeillgarwch. “Pa beth all fod mor ddymunol,” ebai Carlo, “na byw
mewn heddwch â chyfaill hoff? Paham nad allem ni fod yn gyfeillion?” Ac ateba
Tango, “Yr wyf wedi sylwi a gofidio er’s llawer dydd o herwydd na allwn ni,
er ein bod yn aelodau o’r un teulu, dreulio cymaint a diwrnod heb gweryla â’n
gilydd. A phaham y mae felly? Diolch i’n meistr, nid ydym heb ddigonedd o Ie,
a chyflawnder o fwyd. Y mae yn warthus yn wir. Y mae y Ci er’s oesoedd wedi
ei ddefnyddio yn arwyddlun cyfeillgarwch, ac eto ni chewch yn mhlith cŵn
gymaint o gyfeillgarwch ag a geir yn mhlith dynion.” “Bydd i ni roddi esiampl
dda yn hyn i’r oes,” ebai Carlo. “Eich pawen!” “Dyma hi.” Ar hyny y mae y
cyfeillion yn myned i gofleidio a chusanu eu gilydd; maent yn methu gwybod,
yn eu llawenydd, pa beth i ddweyd wrth eu gilydd. “Fy Ngharlo anwyl,” ebai
un. “Tango hoff!” ebai y llall. “Ymaith â phob cwerylon, pob eiddigedd, pob
malais!” meddant gyda’u gilydd. Ar yr adeg yma, yn anffortnnus, y mae y
gogyddes yn taflu asgwrn allan trwy ffenestr y gegin. Rhuthra ein cyfeillion
iddo, gan gnoi a chwyrnu. Pa beth sydd wedi dyfod o’u cytundeb a’u
cyfeillgaiwch? Rhuthrant i yddfau eu gilydd, a gafaelant mor dỳn fel y
bu raid eu taflu i’r llyn cyn y gollyngasant eu gafaelion.
Llawer o gyfeillion fel y Ddau Ci. Os gwrandewch ar eu siarad, tueddir chwi i
gredu fod eu mynnesau yn llawn serch y naill tuag at y llall. Ond taflwch
asgwrn iddynt, ac ymddygant yn gymwys fel y cŵn.
|
|
|
(delwedd 1221) (tudalen 098) (chwedl 129)
|
(tudalen 98)
CHWEDL 129 - Y BLAIDD, Y LLWYNOG, A’R EPA.
Cyhuddodd y BIaidd y Llwynog o ladrad, yr hwn a wadai bob cysylltiad â’r hyn
y cyhuddid ef o’i blegid. Gelwir ar yr Epa i eistedd yn farnwr ar yr achos, —
ac ar ol i bob un o’r ddau adrodd yr hanes, dywedodd, “Nid ymddengys eich bod
chwi, Mr. Blaidd, wedi colli yr hyn y gofynwch am dano; ac yr wyf yn credu
eich bod chwi, Mr. Llwynog, wedi lladrata yr hyn wadwch mor benderfynol.”
Ni chredir y Celwyddog pan fyddo yn dweyd y gwir.
|
|
|
(delwedd 1222) (tudalen 099) (chwedl 130-131)
|
(tudalen 99)
CHWEDL 130 - YR AMAETHWR CYBYDDLYD.
Chwedl 130. YB AMAETHWK CTBYDDLYD.
Darfu i Amaethwr Cybyddlyd gymeryd yn ei ben i orchymyn i’w gi i gyflawni
tair o ddyledswyddau tra gwahauol — gwylio y tŷ, pobi y bara, a chario
dwfr i’r ardd. Ni wnaeth y ci wrthwynebiad, gan ei fod yn cael addewid o
drebliad ei gyflog, ac felly yr oedd y fargen yn foddhaol i’r ddau. Pan y
daeth yr Amaethwr gartref o’r ffair dranoeth, cafodd nad oedd yr ardd wedi ei
dyfrhau, y bara wedi ei bobi, na’r tŷ wedi ei wylio, oblegid yr oedd
lladron wedi bod yno a lladrata y pethau goreu. Wrth gwrs, ceryddodd y ci,
ond profodd, er ei foddhad, nad allai fod yn yr ardd tra yn myned o amgylch y
tŷ, a thra yn cario dwfr nad allai hefyd bobi y bara.
Y neb a ddisgwylio i’w was wneyd dau waith ar unwaith a gaiff golled.
CHWEDL 131 - YR HWCH.
Un boreu braf galwodd yr Hwch ei thorllwyth ati, a rhoddodd iddynt y cynghor
priodol a ganlyn, “Fy anwyl blant, yr wyf yn dymuno arnoch fod yn foesgar bob
amser, a gofalu am gadw eich hunain yn lân, a pheidio ymdreiglo yn y ffosydd
a’r pyllau.” Ond fel yr oedd yr Hwch yn gwneyd ac nid fel yr oedd yn dweyd y
gwnelai ei phlant.
Ofer dweyd, Gwnewch yr wyf yn DWEYD ac nid fel yr wyf yn GWNEYD.
|
|
|
(delwedd 1223) (tudalen 100) (chwedl 132)
|
(tudalen 100)
CHWEDL 132 - Y GŴR A’I DDWY WRAIG.
Yn y dyddiau pan yr oedd yn rhydd i ddyn briodi mwy o wragedd nag un, darfu i
ddyn canol oed, gwallt yr hwn oedd yn dechreu troi yn llwyd, syrthio mewn
cariad a dwy ferch ar unwaith, a phriododd y ddwy. Yr oedd un o honynt yn
ieuangc ac iraidd, a dymunai i’w gwr ymddangos mor ieuangc a hi ei hun; yr
oedd y llall mewn gwth o oedran, a dymunai fod ei gŵr rywbeth yn agos i
w hoed hithau. Felly cymerai y Wraig ieuangc bob cyfle i dynu pob gwelltyn
gwyn e ben y gŵr da, a’r Hen Wraig oedd lawn mor ddiwyd yn ceisio tynu
pob gwelltyn du i ffordd. Am dymhor teimlai y gŵr yn dra dedwydd oblegid
eu gofal a’u serch, hyd nes ar ryw foreu y cafodd nad oedd ganddo, rhwng y
naill a r llall, un blewyn o fath yn y byd wedi ei adael ar ei ben.
Anwyl y mae priodasau, lle mae anghyfartaledd mawr mewn oedran, yn ddedwydd.
Yr hwn a ildia ei egwyddorion i ddylanwad a mympwyon pleidiau gwrthwynebol a
ddiwedda mewn bod heb egwyddorion oll.
|
|
|
(delwedd 1224) (tudalen 101) (chwedlau 133-134)
|
(tudalen 101)
CHWEDL 133 - YR ASYNOD A’R LLADRON.
Yr oedd dau Asyn llwythog ar y ffordd; un yn cario basgedi llawn o arian, y
llall sachau o haidd. Yr oedd yr Asyn a gariai yr arian yn myned yn hynod
benuchel gan ysgwyd y gloch a grogai wrth ei wddf nes y tinciai yn uchel; y
mae yr Asyn arall yn ei ddilyn yn araf a phen isel. Rhuthra ysbeilwyr yn
sydyn o’r gwrych, ac y maent wrth ymosod ar yr Asynod, yn gwthio cleddyf trwy
yr Asyn a gariai yr anan. Maent yn cymeryd yr arian ond yn gadael yr haidd
fel peth diwerth. Pan yr oedd yr Asyn clwyfedig yn gruddfan wrth farw,
dywedodd y llall, “Y mae yn dda i mi fy mod wedi fy esgeuluso, oblegid nid
ydwyf wedi colli dim, na derbyn yr un niwaid.”
Mwyaf o gyfoeth mwyaf o ofal a pherygl
CHWEDL 134 - Y BARCUTAN PAPYR A’R ADAR.
Dychrynwyd yr Adar yn anghyffredin un diwrnod wrth weled rhywbeth a dybient
hwy yn aderyn anferth o faint yn hedfan yn yr awyr. Yr oedd yr olwg arno yn
ofnadwy! Credent yn sicr y byddai iddo en difetha oll. Ond wedi i’r Barcutan
Papyr fod i fyny am ychydig amser, peidiodd y gwynt, a syrthiodd yntau i lawr
i’r baw.
Gall dyn ymgodi yn sydyn trwy rhyw nerth estronol, ond y mae yn sicr o ddyfod
i lawr, yr unig ddyrchafiad gwirioneddol yw pan fyddo dyn yn graddol godi yn
ei nerth ei hun a chyd a’i adenydd ei hun.
_
|
|
|
(delwedd 1225) (tudalen 102) (chwedl 135)
|
(tudalen 102)
CHWEDL 135 - ADERYN Y TÔ A’R YSGYFARNOG.
Aderyn y Tô a edliwiai i Ysgyfarnog a ddaliwyd gan Eryr, am fod mor ffol a
chymeryd ei dàl a gwneyd y fath leisiau anfwyn, “Beth am y cyflymder yr
ymffrosti ynddo?” ebai. “Sut y bu dy gerddediad mor arafaidd?” Tra yr oedd yn
siarad, y mae Barcud yn disgyn arno, ac yn ei ddàl yn ddiarwybod, ac yn ei
ladd er gwaethaf ei ysgrechfeydd. Yr Ysgyfarnog, er ei bod yn haner marw, a
ddywedodd mewn ffordd o gysur wrth farw, “Yr wyt ti, ag oeddit ychydig
funudau yn ol yn ddiogel, ac yn gwneyd gwawd o’r trychineb a’m goddiweddodd,
wedi cael dy ddal dy hunan gan anffawd gyflelyb.”
Na fydded i chwi sarhau personau mewn blinfyd.
|
|
|
(delwedd 1226) (tudalen 103) (chwedlau 136-137)
|
(tudalen 103)
CHWEDL 136 - Y GWLADWR A’I HUGAN.
Yr oedd penelin Dafydd trwy ei hugan. Paham y dylai sefyll yn hir uwchben y
ffaith? Cymerodd ei nodwydd; torodd ddarn o flaen y llewis, a thrwsiodd y
ddan benelin. Yr oedd yr hugan yn gyfan eto, ond yr oedd ei freichiau yn
noethion am chwarter eu hyd. Pa beth a wneir? Y mae pawb yn chwerthin am ben
Dafydd. Dywed yntau, “Gan nad ydwyf yn ffwl, bydd i mi wneyd y diffyg yma i
fyny fel y gwnaethum y llall. Nid dyn cyffredin yw Dafydd.” Felly torodd
gynffonau ei hugan i helaethu y llewis. Yna yr oedd Dafydd yn ddedwydd, er
nad oedd ei hugan ond ychydig iawn yn hwy na’i wasgod.
Felly y mae llawer mewn amgylchiadau dyryslyd yn ceisio eu gwella trwy
fenthyca mewn un man i dalu eu dyled mewn man arall.
CHWEDL 137 - YR ATHEISTIAID.
Yr oedd llwyth anystyriol unwaith wedi codi mewn gwrthryfel yn erbyn y
duwiau. Darfu i’r terfysgwyr arfogi eu hunain â ffyn tafl, a saethau, a
dechreuasant ymosod ar Olympus. Darfu i nifer o’r duwiau brysuro i geisio gan
Jupiter i hyrddio ei daranfolltau yn erbyn eu gelynion, neu i’w dihanfodi
trwy rhyw foddion goruwch-naturiol. “Gadewch i ni aros ychydig,” ebai Jupiter.
“Os na fyddant yn llonydd, heb ofn y duwiau, bydd iddynt gael eu cospi trwy
eu dwylaw eu hunain.” Yr adeg hono, gyda bloedd, dyma gawod o geryg ac ystorm
o saethau, yn cael eu gollwng gan y terfysgwyr — ond dychwelodd y ceryg a’r
saethau, yn cael eu gyru gan nerth goruwch-naturiol, ar benau y terfysgwyr,
gan eu lladd bob un.”
Pob saeth a anelir at Dduw, a ddychwela, yn cael ei dilyn gan farwolaeth, ar
ben yr hwn a’r gollynga.
|
|
|
(delwedd 1227) (tudalen 104) (chwedl 138)
|
(tudalen 104)
CHWEDL 138 - Y LLYFFANTOD A’R HAUL.
Yn y dechreu, pan y soniodd yr Haul am briodi, cododd y Llyffantod eu llef
hyd yn nod i’r sêr. Trwy fod Jupiter yn cael ei aflonyddu gan eu crawcian,
gofynodd iddynt yr achos o’u cwynfan. Ac atebwyd ef gan Lyffant a safai ar
ymyl ffynon o ddwfr: “Er nad yw yr Haul yn awr ond un, y mae yn sychu i fyny
y ffynonau a’r llynoedd, ac yn ein gorfodi ninau, greaduriaid truenus, i farw
o herwydd prinder dwfr; ond pa beth ddaw o honom os prioda a chael plant?”
Hyny yw, mwy o Heuliau.
Fel y tad felly y mab.
|
|
|
(delwedd 1228) (tudalen 105) (chwedlau 139-140)
|
(tudalen 105)
CHWEDL 139 - Y COED A’R DUWIAU.
Yn yr hen amser darfu i’r Duwiau ddewis y coed a gymerent o dan eu nawdd.
Boddheid Jupiter gan y dderwen, Venus gan y myrtwydd, Phoebus gan y
lawrwydden, Cybele gan y binwydden, a Hercules gan y boplysen uchel. Minerva
yn synu eu bod oll wedi dewis coed diffrwyth, a ofynodd iddynt am reswm dros
eu hymddygiad. Dywedodd Jupiter, “Yr ydym wedi gwneyd fel hyn rhag i ddynion
feddwl ein bod wedi eu dewis er mwyn y ffrwyth ac nid er mwyn anrhydedd.” Ond
ateba Minerva, “Bydded i bawb wneyd fel y myno, y mae yr Olew-wydden yn fwy
gwerthfawr genyf fi, a hyny e herwydd ei ffrwyth.” Yna, dywedodd tad y
Duwiau, “O ferch! tydi yw y doethaf o’m holl blant. Os na fydd i’r hyn a
wnawn ddwyn elw, y mae gogoniaint yn beth diwerth iawn.”
Gwerthfawroger pren er mwyn ei ffrwyth ac nid mwyn ei ddail.
CHWEDL 140 - YR ASYN A’I BERCHENOGION.
Yr oedd cwmni o Fasnachwyr yn arfer arwain Asyn oddiamgylch i gario eu
nwyddau. Ar ol iddo arwain bywyd o galedi ac arni gernodiau, bu farw;
tynasant ei groen oddiam dano, a gwnaethant dabyrddau o hono. Yn mhen ychydig
amser, pan ofynwyd iddynt pa beth oedd wedi dyfod o’u Hasyn, a atebasant,
“Meddyliodd y buasai yn ddiogel ar ol marw, ond gwelwch, gwnaethom dabyrddau
o’i croen, a churir mwy arno nag erioed.”
Y mwyaf anedwydd yw yr hwn fydd yn anedwydd tra fyddo byw ac yn fwy anedwydd
ar ol marw.
|
|
|
(delwedd 1229) (tudalen 106) (chwedl 141)
|
(tudalen 106)
CHWEDL 141 - Y GŴR CYFOETHOG TLAWD.
Y mae Ffawd yn clywed Cardotyn yn myfyrio ar y pleserau sydd o fewn cyraedd y
cyfoethog, ac yn eu beio am beidio mwynhau eu hunain. Meddyllai yr ymddygai
ef yn dra gwahanol pe caffai gyfleusdra. Ar hyny y mae Ffawd yn ei anrhegu â
phwrs. Dywed wrtho pa bryd bynag y byddai iddo ddodi ei law ynddo y caffai
ddarn a aur. Mor fuan ag y tyno un allan, bydd arall yn cael ei ollwng i
fewn, ac felly y gallai y Cardotyn lanw ei goffrau ag aur. Ond nid ydyw i
wario cymaint ag un o’r darnau aur hyd nes y bydd iddo daflu y pwrs hynod i’r
afon a redai gerllaw. Diflana Ffawd, a dechreus y Cardotyn dynu darn ar ol
darn allan o’r Pwrs. Wrth gwrs, nid ydyw yn meddwl ei daflu ymaith yn fuan.
“Bydd i mi gymeryd allan bentwr o aur,” meddai, “ac yfory dechreuaf fyw mewn
llawnder.” Ond erbyn dranoeth, y mae wedi cyfnewid ei feddwl. “Y mae yn wir,”
meddai, “fy mod yn awr yn gyfoethog. Ond pwy sydd heb ymhyfrydu mewn cyfoeth!
A phaham na fyddai i mi ddyblu fy nghyfoeth? Nid gwaith ofer fydd i mi
dreulio un diwrnod eto gyda’m Pwrs.
|
|
|
(delwedd 1230) (tudalen 107) (chwedlau 141-142)
|
(tudalen 107)
Dyma ddigon i brynu tŷ, cerbydau a meirch. Ond os gallaf gael digon i
brynu etifeddiaeth, onid ffolineb fyddai i mi daflu ymaith y cyfleusdra? Wrth
gwrs, cadwaf y Pwrs. Bydd i mi ymprydio un diwrnod yn ychwaneg. Bydd genyf
ddigon o amser i fwynhau fy hunan wedi hyny.” Felly y meddylia, ond y mae
dyddiau, wythnosau, misoedd, a blynyddoedd yn myned heibio, ac eto y mae y Cardotyn
yn para i ychwanegu ei drysor. Unwaith cychwyna tua’r afon, gan fwriadu taflu
y Pwrs iddi, a dechreu lawenhau ei hun. Ond y mae yn methu cael ar ei galon i
wneyd hyny, a dychwela eilwaith at ei hoff orchwyl. Dechreua yn foreu. bob
dydd ar ei orchwyl o bentyru. arian; ac ni rodda heibio i’w waith hyd nes y
bydd yn hwyr o’r nos. Y mae yn myned i edrych yn hen cyn ei amser, diflana ei
gnawd oddiam ei esgyrn, a gwyna ei ben yn anamserol. A yn fwy egwan y naill
ddydd ar ol y llall. Y mae iechyd ei gorff a ‘i heddwch yn cael eu dinystrio.
Ond parha, gyda dwylaw crynedig, i gymeryd dernyn ar ol dernyn allan o’r
pwrs. Cyrnera a chymera, — a pha fodd y diwedda y cwbl? Ar y faingc lle yr
arferai eistedd, y ceir ef o’r diwedd wedi marw, yn y weithred o gyfrif ei nawfed
miliwn.
A gaffo arian ni ddigonir àg arian.
CHWEDL 142 - JUNO A’R PAUN.
Daeth Paun at Juno i gwyno am nad ydoedd wedi rhoddi iddo lais yr Eos; a
dywedai ei fod yn cael ei edmygu gan yr holl adar, ond yn cael ei ddiystyru
cygynted ag y rhoddai allan ei lais. Yna dywedodd y dduwies, mewn trefn i
geisio ei foddloni, “Yr wyt yn rhagori arnynt mewn prydferthwch, ac mewn
maintioli, y mae dy wddf yn hardd, a phlyf dy gynffon yn ogoneddus.” Dywedodd
y Paun, “Paham y’m gwisgir yn y plyf hardd hyn os ydwyf i gael fy narostwng
yn fy llais?” Ateba Juno, “Y mae rhanau wedi eu rhoddi i chwi yr adar trwy
ewyllys y duwiau: i chwi brydferthwch, i’r eryr nerth, i’r eos cân, ac y mae
pob un yn foddlon ar yr hyn sydd ganddo.”
Byddwch foddlon ar yr hyn sydd genych, ac na chwenychwch yr hyn a berthyn i
ereill.
|
|
|
(delwedd 1231) (tudalen 108) (chwedl 143)
|
(tudalen 108)
CHWEDL 143 - Y CARDOTYN A’I GŴD.
Y mae Ffawd yn diwmod yn clywed Cardotyn yn siarad wrtho ei hun. Y mae yn
gwawdio ffolineb y rhai nad ydynt byth yn foddlon ar yr hyn sydd ganddynt, y
rhai nad ydynt byth yn gweled eu digon, ac yn y diwedd a andwyant en hunain
wrth geisio ychwaneg. Yn nghanol ei fyfyrdod y mae yn cael ei aflonyddu gan y
dduwies Ffawd, yr hon a’i hysbysa ei bod er’s amser wedi meddwl ei
gynorthwyo, ac y byddai iddi ollwng i’w Gŵd y darnau aur oedd ganddi yn
ei meddiant ar y pryd. Ond ni wna hyny ond ar delerau neillduol, sef, “Fod yr
oll a ddaliai y Cŵd i fod yn aur; ond fod y cwbl a syrthiai i’r llawr i
gael ei droi yn llwch.” Ac y mae yn ei rybuddia fod ei Gŵd yn hen a
braenllyd, a byddai yn well iddo beidio rhoddi gormod o bwysau arno. Y mae y
Car-dotyn yn methu anadlu bron gan lawenydd. Prin y mae yn teimlo y llawr o
dan ei draed. Agora ei Gŵd, ac y mae y dduwies gyda llaw agored yn
gollwng
|
|
|
(delwedd 1232) (tudalen 109) (chwedlau 143-144)
|
(tudalen 109)
cawod o ddarnau aur iddo. Mae y Cŵd yn fuan yn myned braidd yn drwm. “A
yw hynyna yn ddigon?” “Nag ydyw yn hollol.” “Onid yw y Cŵd yn cracio?”
“Dim perygl.” “Ystyria yr wyt mor gyfoethog a Croesus.” “Ychydig bach eto —
un dymaid yn ychwaneg.” “Dyna y mae yn llawn! Cymer ofal y mae y Cŵd ar
rwygo.” “Dim ond ychydig bach eto.” Ond ar hyny y mae y Gŵd yn ymagor, a
syrthia y trysor i’r llawr a throa yn llwch, a diflana Ffawd. Nid oedd gan y
Cardotyn ond ei Gŵd gwag, ac aeth ymaith mor dlawd ag erioed.
A gaffo arian ni ddigonir ag arian. A grafango am ormod, a golla yr hyn fo
ganddo.
CHWEDL 144 - Y SIWG BRIDD A’R LLESTR COED. Siwg bridd hardd yn sefyll yn
fawreddog ar y bwrdd, a edrychai gyda dirmyg ar y Llestr coed a ddefnyddid i
olchi y llawr, a dywedodd, “Yr wyf lawer yn brydferthach na thydi yr hen
Lestr coed hyll. Dos allan trwy y drws yna, neu mi a ddeuaf i law ac a’th
fwriaf i’r ffordd.” “Aros funud,” ebai’r Llestr coed, “paid ag ymffrostio
gormod. Cofia fod Llestri pridd yn hawdd iawn eu tori.” Chwarddai y Siwg
hardd yn braf am ben rhybudd y Llestr coed, a sythai yn fwy nag erioed, ond
och! rhyw ddiwrnod torwyd y Siwg falch, a thaflwyd hi allan i’r domen, ond
parhaodd y Llestr pridd i wneyd gwasanaeth am flynyddoedd wedi hyny.
Defnyddioldeb yn para yn hwy na phrydferthwch.
|
|
|
(delwedd 1233) (tudalen 110) (chwedlau 145-146)
|
(tudalen 110)
CHWEDL 145 - Y LLWYNOG A’R LLYGODEN.
Cafodd Llwynog ei benodi yn Farnwr ar fuarth lle y cedwid llawer o ieir a
gwyddau, a chyflawna ei waith gyda sel a phenderfyniad. Ond y mae yna rhyw si
yn y gwynt ag sydd yn anffafriol i’w anrhydedd, ac y mae yn cael ei ddiswyddo
ar yr amheuaeth o ladd rhai o’r adar ddodwyd dan ei ofal. “A welsoch chwi fi
erioed yn cyflawni trosedd o unrhyw fath?” gofynai i’w gymydoges y Llygoden.
“Naddo,” oedd yr ateb; “ond gwelais fân-blu o amgylch eich geneu.” Dyma y
Cymhwysiad—
Ceir gweled aml i swyddog bychan, yn derbyn cyflog gweddol, yn byw yn dda; ac
yn araf deg adeilada dŷ, a thŷ wedi hyny, ac yna pryna
etifeddiaeth. Ond pa fodd y gellir cysoni ei dreulion gydai dderbyniadau? Er
nas gellir profi dim yn ei erbyn mewn llys cyfreithiol, eto ni byddwch yn
cyfiawni pechod os dywedwch, “Y mae mân-blu o amgylch geneu y dyn yna.”
CHWEDL 146 - Y CAWRFIL MEWN SWYDD.
Apwyntiwyd Cawrfil yn llywodraethwr coedwig fawr. Ni fynai er dim niweidio
gymaint a gwibedyn
|
|
|
(delwedd 1234) (tudalen 111) (chwedl 146-147)
|
(tudalen 111)
CHWEDL 147 - Y FRONWEN A’R LLYGOD.
Bronwen wedi ei llwyr weithio allan gan flynyddoedd a henaint, gan nad allai
yn hwy ddilyn y Llygod cyflymdroed fel yr arferai, a guddiodd ei hun yn y
blawd, mewn congl dywyll. Daeth Llygoden ddibrofiad i’r lle, a chan dybied mai
rhywbeth i’w fwyta oedd y Fronwen, a nesaodd ati, ac nid hir y bu cyn myn’d
yn aberth i’w ffolineb; nesaodd un arall, ac un arall ar ol hono, ac amryw
wed’yn, a chyfarfyddasant â’r un dynged chwerw. O’r diwedd nesaodd hen
Lygoden gall, ddifrifol, a gochelgar yn mlaen, ag oedd lawer gwaith wedi
diangc o beryglon y trap a’i gyffelyb, a gwelodd y perygl o bell, a dywedodd,
gyda gradd o wawdiaith yn ei llais, “Felly yn siwr! A oes genych wely esmwyth
yn y blawd yna, Meistres Bronwen? Boreu da.”
Nid ag us y mae dal hen Adar.
|
|
|
(delwedd 1235) (tudalen 112) (chwedl 148)
|
(tudalen 112)
CHWEDL 148 - Y TRI BRAWD.
Un adeg yr oedd Tri Brawd yn arwain bywyd tlodaidd, ac yn byw mewn tŷ
truenus, ac yn cael trafferth i gael digon o fwyd. Yn ol eu barn hwy, ar
Ffawd yr oedd y bai i gyd. O’r diwedd y mae Ffawd yn cymeryd trugaredd
arnynt, yn dyfod i’w plith heb yn wybod iddynt, yn gwneyd yr oll a allai i’w
cynorthwyo, ac yn aros gyda hwynt am flwyddyn. Yr oedd pob peth yn myned yn
mlaen yn hwylus. Un o honynt, a ystyrid yn fasnachwr diamcan, a gafodd ei
hunan yn gwneyd elw o bob peth a brynai ac a werthai, a daeth yn fuan yn
farsiandwr cyfoethog. Aeth un i wasanaeth y Uywodraeth, a chododd yn fuan i
fri, anrhydedd, a chyfoeth. Mewn ychydig amser yr oedd ganddo dŷ yn y
dref a thŷ yn y wlad, a darn helaeth o dir ffrwythlon. Ond pa beth
ddaeth o’r trydydd brawd. Gellwch fod yn sicr fod Ffawd wedi ei gynorthwyo
yntau hefyd. Gwir iddi ei wneyd yn weithgar ar hyd y flwyddyn;
ond treuliodd yr holl amser i ddal pryfaid, ac yr
|
|
|
(delwedd 1236) (tudalen 113) (chwedlau 148-149)
|
(tudalen 113)
oedd yn llwyddianus iawn gyda’r gorchwyl hwnw. Nid wyf yn gwybod a oedd
ganddo dalent naturiol at hyny ai peidio; pa un bynag am hyny nid oedd yn awr
byth yn methu ei nod, diolch i’w Ffawd dda. O’r diwedd darfu i’r ymwelydd, a
arosodd cyhyd gyda’r brodyr, eu gadael. Yr oedd dau o’r brodyr wedi enill yn
fawr ar ei hymweliad. Yr oedd un o honynt yn gyfoethog, a’r llall mewn swydd
uchel. Ond bu gorfod i’r trydydd, a dreuliodd ei holl amser i ddal pryfaid,
fyned oddiamgylch i gardota ei fara.
Y neb na chymer fantais ar gyfleustra a raid ddioddef tlodi.
CHWEDL 149 - Y CRIB A’R PLENTYN.
Rhoddodd boneddiges Grib prydferth i’w mhab, yr hwn a’i boddhaodd mor fawr
fel nad ollyngai ef byth o’i ddwylaw. Pa un bynag ai yn chwareu ai ynte yn
dysgu ei wers yr oedd yn parhaus wthio y Crib trwy ei wallt melyn modrwyog.
“Y fath Grib ydoedd! Nid oedd byth yn cydio yn y gwallt, nac yn tynu dim o
hono ymaith, ond bob amser yn myned trwyddo yn esmwyth a diboen. “ Ond un
diwrnod dododd y Crib yn rhywle o’i law, a methodd gael gafael ynddo pan aeth
i chwilio am dano. Aeth y bachgen i redeg a chwareu nes yr oedd ei gwallt yn
ddyryswch i gyd. Nid cynt y cyffyrddwyd ef gan y forwyn nag y dechreuodd
gwyno a gwaeddi, “Pa le y mae fy Nghrib i?” Cafwyd ef o’r diwedd; ond pan y
ceisiodd y bachgen ei wthio trwy ei wallt ni symudai yn mlaen nac yn ol. Y
bachgen, yn teimlo ei wallt yn cael ei dynu o’r gwraidd, a dorodd allan i
wylo a gwaeddi, “Y fath Grib drwg wyt ti!” Ond y mae y grib yn ateb, “Fy
nghyfaill, yr wyf yr hyn oeddwn bob amser; y mae y bai yn eich gwallt chwi,
yr hwn sydd wedi dyrysu.” Ar hyny y mae y plentyn yn myned i dymer ddrwg, ac
yn taflu y Crib i’r afon.
Cyhyd ag y byddo y gydwybod yn ddirwystr, y mae gwirionedd yn foddhaol i’r
dyn, ystyir ef fel rhywbeth cysegredig, gwrandewir arno ac ufuddheir iddo;
ond y foment y dechreua weithredu yn groes i’w gydwybod, edrychir ar y
gwirionedd fel gelyn.
|
|
|
(delwedd 1237) (tudalen 114) (chwedl 150)
|
(tudalen 114)
CHWEDL 150 - Y CEFFYL A’R ASYN LLWYTHOG.
Dyn yr hwn a gadwai Geffyl ac Asyn, a arferai yn ei deithiau i arbed y Ceffyl,
a rhoi yr holl faich ar gefn yr Asyn. Yr Asyn, yr hwn oedd wedi bod yn wael
ei iechyd am dymhor, a erfyniodd ar y Ceffyl i’w ysgafnhau o ran o’i lwyth.
“Canys,” ebe efe, “os symudwch ran o’m llwyth, mi a ddeuaf yn iach yn fuan
eto; ond os gwrthodwch fy helpa, y llwyth hwn a’m lladd I.” Ond y Ceffyl, yn
ddideimlad, a barai i’r Asyn fyn’d yn mIaen, a pheidio ei flino ef a’i
gwynion. Aeth yr Asyn yn mlaen yn ddistaw, ond yn fuan, wedi ei lethu gan ei
faich, fe syrthiodd i lawr yn farw, fel y rhagddywedasai. Ar hyn daeth y
meistr i fynu, a chan ryddhau y baich oddiar gefn yr Asyn marw, a’i osod ar
gefn y Ceffyl, fe wnaeth iddo gario ysgerbwd yr Asyn yn ychwanegol at hyny.
“Och fi! am fy angharedigrwydd.!” ebe y Ceffyl;” am wthod dwyn fy rhan deg
o’r baich, rhaid i mi yn
|
|
|
(delwedd 1238) (tudalen 115) (chwedlau 150-151-153)
|
(tudalen 115)
awr ddwyn y cwbl o hono, gyda baich marw yn y fargen.”
Y mae tymher anghymwynasgar yn fynych yn dwyn ei gosb arno ei hun.
CHWEDL 151 - Y BLEIDDIAID A’R BELAID.
Darfu i Gynghorfa gyffredinol yr anifeiliaid apwyntio dirprwyaeth i’r dyben o
roddi atalfa ar anrheithiadau y Bleiddiaid yn mhlith y Defaid. Y mae y
dirprwywyr yn cyfarfod, ac yn pasio deddf ragorol, i’r dyben fod i unrhyw
Flaidd a aflonyddo ar Ddafad, i gael ei ddwyn ger eu bron i’r goedwig i gael
ei gospi. Yn anffortunus, pa fodd bynag, y mae y Bleiddiaid yn ffurfio
mwyafrif yn y pwyllgor. Y mae y gyfraith yn ddifai, ond nid felly y rhai a’i
gweinyddant. Y canlyniad yw, pa un bynag ai achwynydd ynte amddinynydd fyddo
y Ddafad, y mae y ddedfryd yr mi fath yn mhob achos. Y mae y Bieiddiaid yn
sicr o afael yn y Ddafad a’i llusgo i’r goedwig. A sut bynag byddo y
tystiolaethau, y mae y Ddafad yn siwr o ddioddef.
Er cael cyfraith dda, gwae i’r gwan, os personau cyfranog fyddant yn ei
gweinyddu.
CHWEDL 152 - Y DEFAID A’R OEN.
Mewn diadell neillduol penderfynwyd ychwanegu rhifedi y Cŵn, mewn trefn
i gadw y Bleiddiaid draw. Beth ddigwyddodd? Wel, cynyddodd eu rhifedi mor
gyflym fel o’r diwedd, yr oeddynt yn alluog i gadw y Bleiddiaid draw, mae yn
wir. Ond y mae yn rhaid i Gŵn, hefyd, fyw. Felly, yn gyntaf, cymerasant
gnuoedd y Defaid, yna rhwygasant eu crwyn oddiam en hasenau. O’r diwedd nid
oedd ond pump neu chwech o’r Defaid yn aros, a darfu i’r Gŵn gwancus
fwyta y rhai hyny i fyny yn gorfforol.
Waeth gormod o Fleiddiaid na gormod o Gwn.
|
|
|
(delwedd 1239) (tudalen 116) (chwedl 153)
|
(tudalen 116)
CHWEDL 153 - YR ASYN A JUPITER.
Dywedir nad oedd yr Asyn ar y cyntaf yn fwy o faintioli na’r Wiwer. Yr oedd
yn awyddus i dynu sylw ac enill parch, oblegid yr oedd ei enaid yn fawr, er
fod ei gorph yn fychan; ond yr oedd ei fychander yn peri iddo fyned yn
ddisylw o hyd. O’r diwedd aeth at Jupiter, ac erfyniodd arno ei wneyd yn fwy,
gan ddweyd fod y dirmyg a dderbyniai yn ddyledus hollol i’w fychander; ac os
gwnelid ef gymaint o faint a’r llo y byddai yr holl fyd yn fuan yn siarad am
dano. Yr oedd yr Asyn bob dydd yn poeni Jupiter gyda’r erfyniad yma; ac o’r
diwedd gwrandawodd y daw ar ei weddi, a daeth yn anifail mawr. Ond ar yr un
pryd daeth ei lais mor gryf fel yr oedd y cawr hir-glustiog yn dychrynu yr
holl goedwig. “Pa greadur yw hwn-yna?” oedd y cwestiwn a ofynid yn aml. “I ba
deulu y perthyna? Y mae ganddo ddannedd hirion, pa fodd bynag; a chyrn heb
rifedi arnynt!” Yr oedd digon o siarad o’r diwedd am yr Asyn. Ond beth oedd
diwedd y cwbl. Cyn bod blwyddyn wedi myned heibio cafodd pawb allan pa beth
ydoedd mewn gwirionedd; aeth ei ddylni yn ddihareb; a byth er hyny y mae wedi
ei ddefnyddio i gario neu lusgo.
Os bydd dyn o feddwl bach nis gall neb na dim ei wneyd yn wirfawr.
|
|
|
(delwedd 1240) (tudalen 117) (chwedlau 154-155)
|
(tudalen 117)
CHWEDL 154 - YR ARTH A’R GWENYN.
Cyfarfyddodd y bwystfilod mewn pwyllgor un gwanwyn i ddewis Arolygydd ar y
Cychod Gwenyn. Y .mae yno lawer o ymgeiswyr am y swydd, ond yr Arth, trwy fod
ganddi ddylanwad mawr, a ddewisir i’w llanw, er fod pawb yn ddigon hysbys ei
bod yn dra hoff o fêl. Yn mhen ychydig amser y mae swn mawr yn codi.
Darganfyddir fod yr Arth yn arfer cario i’w ffau yr holl fêl y gall ddodi ei
phawenau arno. Ar hyny, gwneir ymchwiliad manwl i’r achos, ac o’r diwedd y
mae y llys yn dedfrydu yr Arth i gael ei diswyddo, a’l hanfon i dreulio y
gauaf yn ei ffau. Chwiliasant, profasant, arwyddasant, a chondemniasant, ond
ni ddarfu iddynt adfer y Mêl. Am yr Arth nid ydoedd hi yn gofalu dim.
Ffarweliodd a’r byd, ac ymneillduodd i’w ffau gynes. Yno y sugna ei phawen
felus, ac arosa hyd nes y ca adeg i fyned allan i chwilio am lwc newydd.
Waeth gan swyddog anonest gael ei droi o’i swydd na pheidio, os caiff fyned
gartref i fwynhau y Mêl a gasglodd.
CHWEDL 155 - Y CADBEN A’R MORWYR.
Llong ar y môr a oddiweddwyd gan ystorm ofnadwy; lluchid hi fel pluen gan y
tonau cynhyrfus, ac ofnai yr holl ddwylaw mai yn y gwaelod y byddent mewn
ychydig amser. Yr oedd eu calonau yn curo, a’r dagrau yn llifo dros eu
gruddiau. Gellid darllen anobaith yn mhob gwyneb. Yn sydyn, pa fodd bynag,
gostegodd y gwynt a llonyddodd y tonau, a dechreuodd y morwyr fyned o
eithafion tristwch i eithafion llawenydd. Dawnsient, bloeddent, crechwenent
gan faint eu balchder. Galwodd y Cadben hwy ato, a dywedodd, “Gweddus yw i’ch
llawenydd fod yn gynil, a’ch tristwch yn gymedrol, oblegid y mae llawenydd a
thristwch yn gymysgedig â’n holl fywyd.”
Mewn llwyddiant ofnwch y gwaethaf, mewn trallod gobeithiwch y goreu.
|
|
|
(delwedd 1241) (tudalen 118) (chwedlau 156-157)
|
(tudalen 118)
CHWEDL 156 - Y FRONFRAITH A’R IAR.
Y FRONFRAITH. — Yr hen Iâr lwyd y mae dy lais yn aflafar a chras, nid wyf yn
gwybod sut y mae y meistr yn dy ddioddef.
YR IAR.—Cyfaddefaf nad oes genyf dalent at ganu, a gall fod y sŵn yn
ddigon aflafar, ond y mae fy wyau yn dda, ac yn cael en gwerthfawrogi gan
dlawd a chyfoethog.
Wyau gan un can gan y llaIl; pob un yn ol ei allu ei hun, a phob un yn dda yn
ei Ie.
CHWEDL 157 - Y MEDDWON.
Cyfarfyddodd dau gymydog a’u gilydd, pob un o’r ddau mewn trafferthion at eu
clustiau, ac y maent yn dodi eu penau yn nghyd i adolygu eu hanffodion. Dywed
un o honynt: “Y mae Rhagluniaeth wedi ymddwyn yn galed tuag ataf fi. Y
Nadolig diweddaf cawsom dipyn o wledd. Aethum allan i roddi ymborth i’r
ceffylau, gan gario canwyll yn fy llaw. Rhaid i mi gyfaddef fod rhywbeth yn
gwneyd rhyw sŵn yn fy mhen, a rhaid fy mod wedi gadael gwreichionen i
fyned i’r gwellt. Llwyddais i ddiangc fy hunan,
|
|
|
(delwedd 1242) (tudalen 119) (chwedl 157-158)
|
(tudalen 119)
ond llosgwyd pob gwerth ceiniog oedd genyf gan y tàn.” “Y mae Rhagluniaeth
wedi bod yn ddig wrthyf finau,” ebai y llall, yr hwn oedd wrth ei ffyn
baglau; “Y mae yn syndod fy mod i yn fyw. Aethum i’r seler i ymofyn ychydig
gwrw. Yr oeddwn inau hefyd yn cadw y Nadolig, a rhaid i mi gyfaddef fy mod
wedi yfed ar y mwyaf o frandi gyda’m cyfeillion. Felly i osgoi y perygl o
roddi y tŷ ar dan, aethum heb ganwyll. Ond syrthiais i lawr y grisiau yn
y tywyllwch, torais rai o’m hesgyrn, a dyma fi, byddaf yn gloff tra byddaf
byw.”
Mae’r Meddwyn mewn perygl gwastadol; mae mewn perygl os caria ganwyll i’w
ganlyn, ac mewn mwy o berygl os a heb yr un.
CHWEDL 158 - Y TEITHWYR A’R YSBEILIWR.
Aeth dau ddyn ar daith gyda’u gilydd, un yn ŵr llwfr a’r llall yn wrol
fel llew. Y mae ysbeilydd yn eu cyfarfod, ac yn hawlio eu haur neu eu bywyd.
Y mae y gwrolddyn yn rhuthro arno ac yn ei daflu i lawr, ac yn ei ladd â’i
gleddyf. Yr oedd ei gydymaith ofnus wedi rhedeg ymaith ar adeg y perygl, ond
y mae yn awr yn dychwelyd yn ol, ac ar ol dadweinio ei gleddyf, y mae yn
dweyd, mewn llais gwrol, “Rhoddwch ef i mi, fy nghyfaill, cymeraf ei ofal, a
gwnaf iddo deimlo o herwydd ei haerllugrwydd yn ymosod ar y fath ddynion a
ni.” Ond dywed y gŵr a ymladdodd ac a goncrodd, “Buasai yn dda genyf pe
buasech wedi fy nghynorthwyo ychydig amser yn ol hyd yn nod â’r geiriau yna,
oblegid buasent yn codi fy nghalon ac yn fy nerthu; ond yn awr rhoddwch eich
cleddyf yn y wain, a pheidiwch â’ch siarad gwag. Gellwch eu defnyddio i
dwyllo ereill, ond yr wyf fi wedi cael prawf arnoch, ac yn gwybod nad oes
ynoch nerth i ddim ond i ddiangc ymaith.”
Arfau y llwfr ydynt ei dafod a’í draed.
|
|
|
(delwedd 1243) (tudalen 120) (chwedlau 159-160)
|
(tudalen 120)
CHWEDL 159 - YR HELIWR A’R GOLOMEN.
Aeth Heliwr i’r coed i saethu. Gwelodd Golomen yn mhlith cangau derwen, a
chynygiodd ei saethu hi. Rhoddodd saeth ar ei fwa, ac yr oedd ar ei ollwng ef
ymaith, pan y darfu i neidr, a sathrodd dan ei droed yn y gwellt, ei golynu
yn ei goes, fel y gorfodwyd ef i roddi i fyny ei fwriad. Darfu i’r gwenwyn yn
uniongyrchol gydio yn y gwaed, a dechreuodd ei gorff chwyddo yn ofnadwy; pan
y canfyddodd hyny, nid allai lai na chydnabod cyfiawnder y gospedigaeth.
“Daeth Ffawd,” meddai, “a dinystr ar fy ngwarthaf tra yr oeddwn yn cynllunio
dinystr un arall.”
Mae yr hwn a gynllunia ddinystr arall yn cyflawn haeddu cael ei ddinystrio ei
hun.
CHWEDL 160 - Y LLAFURWYR A’R AFON.
Cymerodd gorlifiad le mewn dyffryn; chwyddodd a chynhyrfodd y ffrydiau,
anrheithiasant y maesydd, gan gario ymaith holl feddianau y Llafurwyr, a
boddi eu deadelloedd. Penderfyus y Llafurwyr apelio at yr Afon, i’r hon y mae
y Ffrydiau yn ddarostyngedig.
|
|
|
(delwedd 1244) (tudalen 121) (chwedlau 160-161)
|
(tudalen 121)
Dywedant fod yr Afon fawr yn llifo yn dawel yn ei blaen, heb wneyd niwaid i
neb. Bydd iddi roddi iawn iddynt am eu colled. Ond beth oedd y canlyniad? Ar
ol iddynt ddyfod yn agos i lan yr afon, ac edrych ar ei gwyneb, gwelsant ei
bod yn cario ymaith eu meddianau. Nid yw y Llafurwyr yn symud gam yn
mhellach, ond edrychant am beth amser ar yr afon. Yna, ar ol edrych yn
ngwynebau eu gilydd, ac ysgwyd eu penau, maent yn cychwyn gartef; ac ar y
ffordd maent yn dweyd—
“Paham y treuliwn ein hamser yn ofer! Ni bydd i ni byth gael iawn am yr hyn a
ladratawyd gan y plant tra y byddo y rhieni yn gyfranog â hwy am yr yspail.”
CHWEDL 161 - Y LLWYNOG A’R DDRAIG.
Darfu i Lwynog wrth wneyd ogof iddo ei hun ddyfod ar draws ymguddfan hen
ddraig dorchog ddaneddog, gan yr hon yr oedd llawer o drysor yn cael ei gadw.
Cygynted ag y gwelodd y Ddraig, dywedodd, “Erfyniaf arnoch yn y lle cyntaf am
faddeu i mi am fy mod yn fy anwybodaeth wedi aflonyddu ar eich heddwch, ac yn
yr ail Ie, ddweyd wrthyf pa lesad sydd i Chwi o’r trysor yma sydd yn eich
meddiant, yr hwn sydd yn eich amddifadu o’ch cwsg ac o’ch rhyddid, ac yn eich
gorfodi i arwain bywyd trallodus yma yn y tywyllwch?” “Nid wyf yn cael yr un
wobr,” ebai y Ddraig; “ond rhoddwyd hwn i mi gan Jupiter.” “Onid ydych yn
gwneyd defnydd o hono eich hun, nac yn ei roddi i ereill?” “Nag ydwyf; dyna
ewyllys y duwiau,” ebai y Ddraig. “Na ddigiwch wrthyf,” ebai y Llwynog, “am
siarad fy meddwl a dweyd y rhaid fod un yn eich cyflwr chwi wedi ei eni pan
oedd y duwiau mewn tymherau drwg a digofus. Dyma chwi, er fod genych gyfoeth lawer,
nid ydych yn mwynhau bywyd na’i bleserau; a byddwch yn fuan wedi myned, gan
adael yr oll ar eich ol.”
Nid yw y Cybydd ond ceidwad ei arian, ac nid meistr arnynt.
|
|
|
(delwedd 1245) (tudalen 122) (chwedl 162)
|
(tudalen 122)
CHWEDL 162 - Y GATH A’R LLWYNOG.
Fel yr oedd y Gath a’r Llwynog yn siarad a’n gilyddrun diwrnod, yn nghanol
coedwig, dywedodd Rinallt, — “Bydded i bethau droi allan mor ddrwg ag y
mynent, nid oedd ef yn gofalu, oblegid yr oedd ganddo ef fil o driciau y
gallai eu hymarferyd, cyn y byddai i neb ei niweidio. Ac atolwg Meistres
Pws,” meddai, “a chaniatau y gallech chwi fod mewn perygl oddiwrth eich
gelynion, pa gwrs a gymerech chwi?” “Wel,”ebai y Gath, “Nid allwn i ond
gwneyd un peth, os ffaelai hyny ni byddai gobaith am danaf.” “Y mae yn ddrwg
genyf drosoch,” atebai Rinallt; “ydyw yn wir, a byddai yn hyfrydwch genyf
ddysgu rhai o’m triciau I i chwi; ond yn siwr, gymydoges, fel y mae pethau yn
bod, nid da ydyw ymddiried dirgelion i ereill; rhaid i bob un fod drosto ei
hun, fel y dywed yr hen air. — ac felly eich gostyngeiddiaf was.” Prin yr
oedd y geiriau hyn dros ei wefusau, nag y dychrynwyd hwy gan lais nifer o
gwa^n, ag oeddynt yn dyfod tuag atynt yn gyflym. Y Gath, trwy gymhorth yr un
ddyfais ag oedd yn ei meddiant, a ddringodd i fyny i ben coeden, ac
eisteddodd yn ddiogel yn mhlith ei changau, o’r lle y gwelodd Rinallt, yr hwn
nad allodd ddiangc o’r golwg, yn cael ei oddiweddyd er gwaethaf y mil o
|
|
|
(delwedd 1246) (tudalen 123) (chwedlau 162-163)
|
(tudalen 123)
CHWEDL 163 - Y TEITHWYR.
Daeth tri o Deithwyr i bentref i dreulio noswaith. Yr oeddynt wedi bod yn
gweithio am dymor yn y ddinas, ac yn awr yn dychwelyd gartref at eu
teuluoedd. Gan nad oeddynt yn teimlo tuedd i fyned iw gwelyau heb fwyd, y
maent yn galw am swper. Ond ychydig o fwyd oedd yn y tŷ. Rhoddwyd yr
ychydig weddill swper ar y bwrdd o flaen y teithwyr newynog. Nid oedd, wrth
gwrs, yn deilwng o’i gyffelybu a’r ymborth a arferent gael yn y ddinas — ond
dim dyben siarad am hyny. Gwell rhywbeth na myned i’r gwely yn newynog. Felly
y maent yn eistedd wrth y bwrdd. Yna, y mae un o honynt, y cyfrwysaf o’r tri,
yn gweled nad oedd yno haner digon iddynt oll,yn dechreu meddwl pa fodd y
gallasai sicrhau digon iddo ei hun. “Gyfeillion,” meddai, “yr ydych yn
adnabod Thomas; wel, y mae yn debygol o gael ei gymeryd yn filwr.” “Ei
gymeryd yn filwr! Pa beth sydd yn bod yn bresenol,” ebai y ddau ar unwaith.
“A glywsoch chwi ddim fod rhyfel yn debyg o dori allan rhyngom a China. Y mae
ein hymerawdwr wedi gorchymyn iddynt dalu treth ar de.” Ar hyny y mae y ddau
yn myned yn selog at y gorchwyl o ddadleu y pwngc, ac i geisio dyfalu pa fodd
y cerid y rhyfel yn mlaen, a phwy a gaffai lywyddu. Poethasant gyda’r pwngc,
ac aethant mor bell i yspryd y rhyfel nes bron fyned i ymladd eu hunain. Dyna
yn union a garai ac a ddymunai eu cydymaith cyfrwys. Tra buont hwy yn dadleu
ac yn croesdynu, bwytaodd yntau y bwyd yn dawel, a gadawodd lestri gweigion
iddynt hwythau.
Os na byddi gryf bydd gyfrwys.
|
|
|
(delwedd 1247) (tudalen 124) (chwedl 164)
|
(tudalen 124)
CHWEDL 164 - Y CYBYDD A’I DRYSOR.
Cybydd, er mwyn diogelu ei gyfoeth, a werthodd
yr oll o’i eiddo, ac a’u trôdd yn un darn o aur, yr hwn a guddiodd mewn twll
yn y ddaear, ac a elai yn barhaus i ymweled ag ef, ac i edrych arno. Sylwodd
un o’i lafurwyr ar hyn, a chan ammeu fod yno drysor, pan oedd ei Feistr wedi
troi ei gefn, fe aeth i’r lle, ac a’i dygodd. Pan ddaeth y Cybydd yno
drachefn, a chael y twll yn wag, efe a wylodd, ac a rwygodd ei wallt. Ond
cymmydog, yr hwn a’i gwelodd yn ei dristwch truenus hwn, wedi deall yr achos
o hono, a ddywedodd, “Na ofidia ddim yn hwy; ond cymmer gàreg, a dod hi yn yr
un lle, a dychymyga mai dy ddarn aur ydyw; canys gan nad oeddyt byth yn
bwriadu ei ddefnyddio, gwna y naill gymmaint o lês i ti a’r llall.”
Nid yw gwerth arian yn gynnwysedig yn y meddiant, ond yn y defnyddiad o hono.
|
|
|
(delwedd 1248) (tudalen 125) (chwedlau 165-166)
|
(tudalen 125)
CHWEDL 165 - Y GŴR MOEL A’R GWIBEDYN.
DaethPryf ar ei hynt, ac o herwydd ei fod yn
llawn dichell ac awyddus am waed, a bigodd ben Gŵr Moel oedd yn eistedd
yn ei dŷ; yr hwn, wrth geisio cael gafael ynddo i’w wasgu i farwolaeth,
a roddodd ddyrnod iddo ei hun ag a barai boen fawr iddo. Ar hyny chwarddodd y
Pryf a dywedodd, “Gan eich bod wedi amcanumcospi pigiad Pryf bach â
marwolaeth, pa gospedigaeth roddwch arnoch eich hun am y fath ddyrnod a
roddasoch i’ch llaw?” Atebodd y Gŵr Moel: “Hawdd genyf gymodi â mi fy
hun gan mai yn anfwriadol y rhoddais y dyrnod i’m llaw, ond ymdrechaf dy ladd
di, y Gwibedyn iselwael a gwaedlyd, am dy fod wedi fy mhigo yn fwriadol.”
Nid oes maddeuant i’r troseddwr gwirfoddol.
CHWEDL 166 - Y LLEW, YR ARTH, A’R LLWYNOG
Digwyddodd i Lew ac Arth ddod ar draws ysgerbwd carw, a bu brwydr hir
rhyngddynt am dano: yr oedd yr ymdrechfa mor galed, nes o’r diwedd fod y ddau
yn hanner dall, a hanner marw, wedi gorwedd ar y ddaear, heb nerth i ymladd
mwy, nac i wneuthur dim â’r ysglyfaeth oedd yn gorwedd rhyngddynt. Llwynog,
yn digwydd dyfod heibio, ac yn gweled eu cyflwr llethedig, a lithrodd i mewn
rhwng yr ymdrechwyr, ac a gariodd y carw ymaith. “Druain oeddem ni,” meddynt
hwythau, “wedi bod yn gwastraffu ein nerth, ac yn llarpio ein gilydd, yn unig
i roi ciniaw i’r chwiwgi yna.”
Y ffol a ymgyfreithiant nes dyfetha eu gilydd, a’r cyfrwys a gânt yr
ysglyfaeth.
|
|
|
(delwedd 1249) (tudalen 126) (chwedl 167)
|
(tudalen 126)
CHWEDL 167 - Y BUGAIL A’I GI.
Yr oedd Bugail wedi digio yn fawr wrth ei Gi am ryw drosedd dibwys a
gyflawnodd, a phenderfynodd ei grogi; ond yr oedd ei gymydogion yn ei feio yn
fawr am fwriadu lladd Ci mor werthfawr am drosedd mor fychan, os gellid galw
y peth yn drosedd o gwbl. Nid oedd y Bugail yn hoffi i’w gymydogion feddwl yn
galed am dano, ac ar yr un pryd yr oedd wedi penderfyuu myn’d a bywyd y Ci.
Felly, er gallu cyraedd ei amcan, taenodd Chwedl ar hyd y wlad fod ei Gi yn
gynddeiriog; ac erbyn i’r Chwedl gyraedd clustiau ei gymydogion, yr oeddynt
oll mewn cyffro, a daethant at y Bugail i grefu arno er mwyn pob peth i roddi
y fath aelod peryglus o gymdeithas allan o’r ffordd. Felly cafodd esgus, a
chrogodd y Gi.
Os bydd dyn drwg wedi penderfynu aflwydd yn erbyn ei gymiydog, ceisia godi
rhyw Chwedl arno er cyfreithloni ei ymddygiad. Cyn y croga ei gi, dyweda ei
fod yn gynddeiriog.
|
|
|
(delwedd 1250) (tudalen 127) (chwedlau 168-169)
|
(tudalen 127)
CHWEDL 168 - Y GWYDDAU A’R GARANOD.
Yr oedd nifer o Wyddau a Garanod yn ymborthi yn yr un maes. Rhyw ddiwrnod,
daeth yr helwyr yn ddisymwth arnynt. Y Garanod, gan eu bod yn ysgeifn o
gorph, a ehedasant ymaith, ac a ddiangasant; ond y Gwyddau, gan eu bod yn
fras a thrwm, a gymerwyd yn garcharorion.
Mewn amser heddychlawn y mae cyfoeth yn gyfleusdra; ond mewn amser o helynt
gwladol, neu ryfel, gall fod yn fagl.
CHWEDL 169 - YR HYDD A’R WINWYDDEN.
Hydd, yn cael ei ymlid gan yr helwyr, a ymguddiodd yn mhlith canghenau
Gwinwydden. Aeth y dynion heibio heb sylwi arno; ac yntau, gan fedd¬wl fod y
perygl drosodd, a ddechreuodd gnoi a bwyta y dail oedd yn ei orchuddio. Ond
un o’r helwyr, yn clywed ysgydwad y dail, a drodd, a chan ammeu fod yr Hydd
yno, a saethodd i’r berth, ac a’i lladdodd. Fel yr oedd yn marw, efe a
ruddfanodd allan y geiriau canlynol: — “Yr wyf yn dyoddef yn gyfiawn am fy
anniolchgarwch, gan nad allwn ymgadw rhag niweidio y Winwydden, yr hon a’m
cysgododd yn amser perygl.”
Nid yw annolchgarwch yn llwyddo. Y gwaelaf yn
unig a anghofia gymwynas.
|
|
|
(delwedd 1251) (tudalen 128) (chwedl 170)
|
(tudalen 128)
CHWEDL 170 - Y NEIDR A’R GÔG.
“Ffarwel, gymydoges,” ebai Neidr wrth y Gog. “Yr wyf yn ofer wedi ceisio cael
heddwch yn y fan yma. Mae dynion ac anifeiliaid yn fy erbyn. Anmhosibi byw yma.”
“A ydyw fy nghymydoges yn myned yn mhell?” gofynai y Gog; “ac yn mha Ie y
disgwyli gael gafael yn y bobl rinweddol hyny a fyddant byw meyn heddwch a
thi?” “Yr wyf yn myned yn syth i goedwigoedd dedwydd Ar¬cadia. Ah! gymydoges,
dyna i ti wlad! Dywedir fod rhyfeloedd yn anadnabyddus yno; mae y dynion mor
ddiniwed a defaid, a rheda llaeth yn lle dwfr yn yr afonydd yno. Yn wir, y
mae yr oes euraidd heb ddarfod yno eto. Yrnddyga y trigolion at eu gilydd yn
y modd mwyaf caredig, fel pe byddent oll yn frodyr, a dywedir nad yw y cŵn
byth yn cyfarth yno: ac nid ydynt byth yn meddwl am frathu. Yno yr wyf yn
meddwl treulio fy oes yn nghanol llawnder, heddwch, a chariad; yn lle fel yma
yn gorfod bod ar fy ngwyliadwriaeth o hyd rhag i rywun fy lladd.” “Yr wyf yn
dymuno i ti daith bleserus, fy nghymydoges,” ebai y Gog. “Ond a wyt ti yn
meddwl gadael dy golyn a’th wenwyn a’th gymeriad ar ol, ynte eu
|
|
|
(delwedd 1252) (tudalen 129) (chwedlau 170-171)
|
(tudalen 129)
cymeryd gyda thi?” “Eu gadael ar ol? Y fath fiolineb!” ebai y Neidr. “Wel, os
felly, cofia nad arbedi dy groen yno mwy nag yma.”
Waeth yn y byd i ba Ie yr elo y dyn drwg ei gymeriad, y mae yn sicr o’i gael
allan a’i gospi. Mae natur ryfelgar a gwenwynllyd yn sicr o fagu gelynion yn
mhob man.
CHWEDL 171 - Y NEIDR A’R ENLLIBIWR.
Un tro ba cryn ddadl yn uffern cydrhwng y Neidr a’r Enllibiwr am y
flaenoriaeth mewn gorymdaith a ffurfid. O radd i radd daeth y ddadl i wisgo
agweddion difrifol a phoethlyd. Dangosa yr Enllibiwr ei dafod, a hawlia fod
ar y blaen. Ymffrostia y Neidr yn ei cholyn, ac ymlusga i flaenori yr
orymdaith. Yr oedd yr Enllibiwr yn ymyl cael ei adael ar ol, pan yr ymyra
penaeth y cythreuliaid, ac anfona y Neidr yn ol gyda’r geiriau hyn — “Er fy
mod yn rhwydd gyfaddef dy rinweddau Lluosog di, eto rhaid i mi ddweyd mai efe
bia y flaenoriaeth. Y mae yn wir dy fod yn llawn gelyniaeth, fod dy golyn yn
angeuol, ac fod perygl i neb agosau atat, a’th fod yn colynu heb i neb dy
gyffroi, yr hyn a ystyriwyf yn rhinwedd canmoladwy. Ond a elli di wenwyno a
cholynu o bell fel y gall yr enllibiwr, oddiwrth yr hwn y mae yn anmhosibi
diangc, hyd yn nod pe yn cael ei wahanu gan fynyddoedd a moroedd? Amlwg ei
fod yn fwy gwenwynig na thydi, gad iddo fyned yn gyntaf yn yr orymdaith, a
cheisiwch fyw o hyn allan yn fwy heddychol a’ch gilydd.”
Nid oes dim mor wenwynig a thafod yr Enllibiwr.
|
|
|
(delwedd 1253) (tudalen 130) (chwedl 172)
|
(tudalen 130)
CHWEDL 172 - YR EHEDYDD A’I FAB.
“Nhad! nhad!” ebai Rhedydd ieuangc wrth ei Dad, “yr ydwyf wedi gweled dyn yn
y fan draw yn taflu dyrneidiau o ŷd braf i’r llawr, ac yr oeddwn ar
fyned i’w fwyta, ond meddyliais y buaswn yn dyfod i’ch gwahodd chwi yn gyntaf
i’r wledd. Dewch ar unwaith, rhag i rywun arall fyned yno o’n blaenau.”
“Gwelais inau ef hefyd, fy mab, a gwelais fod ganddo rwyd adar hefyd wedi ei
gosod i fyny. Nid af yn agos ato, oblegid ei amcan yw ein dàl.” “Rhwyd yn
wir! Perygl! na choelia i. Gawn y bwyd yn rhwydd, ac nid oes perygl iddo ein
dal ond i ni fod yn ofalus. Dewch fy nhad.” “Na ddeuaf yn wir; ac yr wyf yn
dy gynghori yn ddifrifol i beidio myned. Os bydd i ti fyn’d, yr wyt yn siwr o
golli dy fywyd neu dy ryddid.” Ond myn’d a wnaeth yr Ehedydd ieuangc, er
gwaethaf pob cyngor, a chyn iddo bigo ond ychydig o’r grawn yr oedd yn y
rhwyd, a chadwyd ef yn garcharor hyd ddiwedd ei oes. .1
Yr hen a wyr, a’r ieuangc a dybia. Diystyra y dibrofiad bob cyngor a rhybudd,
a rhed i brofedigaeth.
|
|
|
(delwedd 1254) (tudalen 131) (chwedl 173)
|
(tudalen 131)
CHWEDL 173 - Y DDALLHUANOD A’R HAUL.
Yn yr hen amser — yn bell bell yn ol — darfu i rai Dallhuanod a ystyrient eu
hunain yn gallach na’r cyffredin, gyhoeddi cynadledd o’u brodyr a’u chwiorydd
drwy’r holl fyd, i gyfarfod mewn cwm cul a thywyll, i’r dyben o ymgynghori pa
lwybr a fuasai oreu i’w gymeryd er diffoddi eu gelyn yr Haul. Erbyn yr amser
apwyntiedig yr oedd cwmni lluosog o honynt wedi dyfod yn nghyd; a wedi ethol
un o’u nifer i lywyddu —
“Cytunai’r Dylluanod o un fryd
Fod goleu’r Haul yn ormes arnynt hwy,
Yn dallu eu llygaid, ac mai gwell heb ddydd;
Mai nefoedd Dylluauod oedd y nôs,
Ac mai’n t’w’llwch carent hwy gael byw;
Na chaffent byth na rhyddid na mwynhad
Tra byddai Haul yn t’w’nu yn y nef;
Cynygiai un Ddylluan, eiliai’r llall,
Na byddai Haul o hyny allan byth!
Mai nos dragwyddol bellach oedd i fod,
Er gwaredigaeth lawn a llwyr ryddhad
I’r Dylluanod deulu yn mhob oes.
Cytuno wnaethant oll i basio’r act;
A chredai’r Dylluanod yn ddiau
Bod gallu ac awdurdod fawr eu deddf
Ar unwaith wedi llwyr ddiffoddi’r haul,
Crechwenent mewn gorfoledd a mwynhad.
‘Tw hw!’ ‘Tw hw!’ adseiniai dros y fro
Trwy gydol faith y nos — ‘Tw hw!’ ‘Tw hw!’
Dychrynai’r adar eraill gan y sŵn,
Gan amheu beth allasai hyny fod —
Pa beth a barai’r cynhwrf dirfawr hwn
Trwy’r gwersyll Dylluanaidd ar y pryd.
Yn nghanol sŵn ‘Tw hw!’ eu crechwen oer,
Cyfodai’r Haul!
Mae Anfyddwyr fel y Dallhuanod yn ceisio difodi Duw, ac fel hwythau yn methu.
“Yr Arglwydd sy’n teyrnasu!”
|
|
|
(delwedd 1255) (tudalen 132) (chwedl 174)
|
(tudalen 132)
CHWEDL 174 - ADDYSG Y LLEW IEUANGC.
Yr oedd brenin y goedwig yn bryderus hynod yn nghylch addysgiad ei fab a’i
etifedd; a bu am hir amser yn methu penderfynu pwy a ddewisid yn athraw iddo.
Un adeg meddylia am y Llwynog, mor hynod am ei gyfrwysdra. “Ond na,”
meddyliai y Brenin; “y mae yn hynod am ddweyd celwyddau, ac y mae celwyddwr
yn siwr o ddwyn pawb fo’n agos ato i ddyryswch, Ni ddylai tywysog ddysgu y
gelfyddyd o ddweyd celwydd.” Meddylia nesaf am y Twrch. Y mae iddo enw da am
reoleiddiwch a threfn, ac yn cael ei gydnabod fel un enwog am feistroli
manylion pethau; ond yn anffortunus y mae mor fyr ei ‘ olwg fel ag i fod yn
agos a bod yn ddall. “Mae cyrhaeddiadau Tyrchaidd yn rhagorol yn nyth y
Twrch,” meddyliai y Llew, “ond i ymerodraeth eang ei therfynau, ni wna y tro
mewn modd yn y byd.” Yn nesaf meddylia am y Dywalgi. “Mae y bwystfil hwnw yn
gryf a gwrol, ac heblaw hyny, medda chwaeth at symudiadau milwrol. Ond y mae
er hyny yn hollol amddifad o wybodaeth wieidyddol, ac ni wyr ddim am faterion
cyfreithiol a gwladol. Felly, pa fodd y gall ddysgu ei ddyledswydd i’r brenin
dyfodol? Rhaid i frenin fod yn farnwr a gweinidog yn ogystal a chadfridog.
Nis gall y Dywalgi ddysgu dim ond pa fodd i ddyfetha gelyn.” I fod yn fyr, yr
oedd y brenin o’r farn fod pob un o’i ddeiliaid, y bwystfilod, yn ddẁl
ac anwybodus,
|
|
|
(delwedd 1256) (tudalen 133) (chwedl 174)
|
(tudalen 133)
heb wneyd eithriad o’r Cawrfil, yr hwn yr edrychid arno yn gyffredin yn fath
o “Plato y Goedwig.” O’r diwedd cynygia yr Eryr ymgymeryd ag addysgu y brenin
ieuangc. Derbynia y brenin gynygiad Brenin yr Adar gyda diolchgarwch, a
gosoda ei fab o dan ei addysg a chysgod ei aden. Nis gall Athraw breiniol,
meddylia, lai na gwneyd chwareu teg ag ysgolor breiniol. Blynyddoedd a ânt
heibio, a phob tro y gofyna y tad am helynt ei fab, hysbysir ef ei fod yn
dyfod yn mlaen yn rhagorol. Nid oes yr un aderyn nad ydyw yn son am ei
gyrhaeddiadau fel rhywbeth hynod iawn — maent oll yn rhyfeddu ato. O’r
diwedd, pa fodd bynag, pan y meddylir fod ei addysg wedi ei gwblhau, gelwir
am i’r Tywysog ieuangc ymddangos yn llys ei dad, ac y mae mawrion y
llywodraeth yn ymgasgledig yn y lle, er cael gwybod pa beth fo ganddo i’w
ddweyd drosto ei hun. Mae yr hen frenin yn gwneyd araeth deimladwy, gan
ddweyd ei fod yn teimlo ei hun yn myned yn hen, ac y byddai yn dda ganddo
ymneillduo o’r frenhiniaeth yn ffafr ei fab anwyl, a diwedda trwy alw ar ei
fab i’w hysbysu pa beth a ddysgodd pan oddicartref, ac i ddangos pa mor bell
mae addysg wedi ei gyfaddasu i wneyd ei ddoiliaid yn ddedwydd. “Fy nhad,”
ebai y Tywysog, “yr wyf yn gwybod yr hyn na wyr neb ond y fi yn yr holl
gynulleidfa yma — yr wyf yn hysbys o holl gartrefleoedd yr adar o’r Eryr at y
Dryw; nid yw dull o fyw pob un o honynt yn ddirgelwch i mi; gwn hefyd pa
nifer o wyau a ddodwyant, a pha ymborth neillduol a garant, a mil o bethau
ereill am arferion ac anghenion adar. Dyma y llythyr canmoliaeth a gefais gan
fy athraw. A gallaf ddweyd fod yr adar oll yn tystio na welsant well dysgwr
na mi yn eu bywydau. Mor fuan ag y rhoddwch y deyrnwialen yn fy llaw, byddaf
yn barod i ymgymeryd â’r gorchwl o ddysgu y bwystfilod pa fodd i wneyd nythod
adar.” Wrth glywed y geiriau hyn, gruddfanodd yr hen frenin a’r holl lys yn
uchel. Gostyngodd pawb eu penau, a darganfyddodd y Brenin, ychydig yn rhy
ddiweddar, fod ei fab heb ddysgu dim o’r hyn oedd yn wir angenrheidiol, gan
nad oedd yn gyfarwydd ond ag adar yn unig, heb wybod dim am neillduolion ac
anghenion bwystfilod, er ei fod wedi ei fwriadu i lywodraethu drostynt.
Dylai yr addysg a gyfrenir i bob ysgolor fod yn gyfaddasol at y cylchoedd
neillduol y bwriedir iddynt droi ynddynt mewn bywyd. Dylai pob llywodraethwr
wybod anghenion eu pobl eu hunain, a’r hyn fydd er llesiant eu gwlad eu
hunain.
|
|
|
(delwedd 1257) (tudalen 134) (chwedl 175)
|
(tudalen 134)
CHWEDL 175 - Y TEITHWYR A’U CYSGOD.
Yr oedd dau gymydog un noswaith oleu leuad yn dychwelyd o’r farchnad yn lled hwyr
— a dywedir en bod wedi yfed ar y mwyaf o ffrwyth Syr John Heidden. Pa fodd
bynag am hyny, dychrynwyd hwy yn fawr wrth weled dau ddyn o’u blaenau:
dechreuasant gilio yn ol yn wisg en cefnau mewn braw, ac er eu dychryn
erlidid hwy gan y gwyr. Dechreuasant waeddi yn uchel, a chlywwyd hwy gan ddyn
a ddigwyddai gerdded y ffordd hono, yr hwn pan gyrhaeddodd atynt, a gweled
sut yr oedd pethau yn sefyll, a ddywedodd, “Y ffyliaid gwmon, aroswch!”
Gwnaethant hyny, a safodd eu herlidwyr tybiedig. “Ewch rhagoch,” ebai eu
cymwynaswr eilwaith, dan wenu. Gwnaethant hyny, ac er syndod gwelsant eu.
herlidwyr yn diangc o’n blaenau, ac yn fuan, wedi sobri tipyn wrth redeg,
deallasaat nad oedd yr achos o’u holl ofn yn ddim amgen na’r cysgod hwy eu
hunain.
Llawer gelyn yn erlyn yn ffyrnig tra y cilir o’r ffordd, ond yn diangc yn
ebrwydd y troir arno
|
|
|
(delwedd 1258) (tudalen 135) (chwedlau 176-177)
|
(tudalen 135)
CHWEDL 176 - Y MAGNELAU A’R HWYLIAU.
Un adeg aeth Magnelau llong ryfel i deimlo cenfigen cryf yn erbyn Hwyliau y
llong, a dymunasant yn daer am i’r gwyntoedd ddyfod a’u rhwygo yn gareiai.
Gwrandawyd eu gweddi — cyfododd ystorm ofnadwy — a rhwygwyd hwy mor llwyr fel
nad oedd dim o honynt yn ngweddill, a gadawyd y llong i ymdaro goreu gallai
yn y môr. Ar y foment hono y mae llong elyniaethus yn tanio ar y llong
ddigymorth, a thrwy nad oedd yn ateb i’r llyw, a yn fuan i’r gwaelod — y
Magnelau a’r cwbl.
Mae pob gwlad yn gryf cyhyd ag y byddo ei holl ranau yn cael eu cybwyso yn
gyfiawn. Trwy ei Magnelau y mae yn ofnadwy i’w gelynion; ond ei Chyfreithiau
yw yr hyn yw Hwyliau i’r Llong.
CHWEDL 177 - Y LLWYNOG FEL ADEILADYDD.
Darfu i Lew, yr hwn oedd yn dra hoff o Wyddau, gael ei boeni yn fawr trwy
golli amryw o honynt, a phenododd Lwynog i adeiladu lle a fuasai yn eu
diogelu rhag ymosodiadau lladron. Pan y gorphenwyd yr adeilad, yr oedd pawb
yn ei ganmol o ran ei gynlluniad a’i gryfder. Rhoddir gorchymyn i symud y
gwyddau i’w preswylfod newydd. Ond a ydyw y cyfnewidiad o unrhyw ddefnydd?
Dim mewn un modd. Gwir fod yr adeilad yn ymddangos yn gryf a’r muriau yn
uchel. Ond y mae y gwyddau yn myned yn llai o rifedi o hyd. Nid oes neb yn
gallu dirnad yr achos o hyny. Felly gosoda y Llew wyliadwriaeth ar y lle; a
phwy feddyliech chwi a ddaliwyd? Y Llwynog ei hun. Yr oedd wedi adeil¬adu y tŷ
yn y fath fodd nad allasai neb arall dori i mewn a lladrata, ond wedi gofalu
gadael twll bychan trwy yr hwn yr oedd yn myned i mewn ei hunan.
Nid oes terfyn ar ddichell a chyfrwysdra dyn drwg.
|
|
|
(delwedd 1259) (tudalen 136) (chwedl 178)
|
(tudalen 136)
CHWEDL 178 - Y CYBYDD A’R TYLWYTH TEG.
Yr oedd Tylwyth Teg yn arfer gwylio dros drysor oedd yn guddiedig o dan
goeden. Yn sydyn y mae Brenin y Tylwyth Teg yn gorchymyn iddo fyned ar neges
yr ochr arall i’r byd. Rhaid oedd myned, hoffi neu beidio. Mewn canlyniad yr
oedd y Tylwyth Teg mewn petrusder yn nghylch pa beth a wnelai â’i drysor. Buasai
adeiladu trysordy a gosod gwyliwr i edrych ar ei ol, yn gostus iawn; buasai
ei adael yno yn beryglus, gan y gwyddai yr Ysbryd fod dynion yn llwyddianus
neillduol i gael gafael mewn pethau felly. O’r diwedd y mae drychfeddwl hapus
iawn yn croesi ei feddwi. Yr oedd yn adnabod Cybydd anniwall yn y
gymydogaeth. A tuag ato ar unwaith, a dyweda wrtho, “Syr, y mae genyf i ffoi
ymaith; ond trwy fy mod yn teimlo serch tuag atoch, na fydded i chwi wrthod y
trysor sydd genyf yn nghadw o dan goeden a ddangosaf i chwi. Bwytewch, yfwch,
a byddwch lawen; a gwariwch y trysor fel y byddwch yn dewis. Ond yn unig
gadewch i mi fod eich etifedd pan y
|
|
|
(delwedd 1260) (tudalen 137) (chwedlau 178-179)
|
(tudalen 137)
byddoch farw. Nid wyf yn gofyn ychwaneg. Byddwch wych, a gwylied Tynged
drosoch.” Yna diflanodd y Tylwyth Teg. Aeth ugain mlynedd heibio. Ar ol
cwblhau ei amser gwasanaeth yn y wlad bell, heda yr Ysbryd yn ol i’w wlad
enedigol. Pa beth a wela. O! olygfa ddymunol iddo ef. Y Cybydd wrth y goeden,
wedi marw o newyn, ac agoriad y blwch gwerthfawr yn ei law. Mae y trysor i
gyd yno, a cha y Tylwyth Teg ef yn ol heb fod yn ddim llai; a llawenycha yn
fawr o herwydd iddo gael ceidwad i’w wylio, yr hwn ni chostiodd yr un ddimeu
iddo.
Nid yw arian o un gwerth yn nwylaw y Cybydd.
CHWEDL 179 - Y MELINYDD A’R AGEN YN Y FFOS.
Collai llawer o ddwfr trwy Agen oedd yn y Ffos a gariai y dwfr at olwyn y
felin; ond trwy ddiogi y Melinydd cafodd ei esgeuluso, ac o’r diwedd y mae y
felin yn sefyll yn segur. Ar hyny, ä y Melinydd i dymer nwydwyllt iawn, a
lluchiodd a lladdodd ei ieir a’i hwyaid am ei fod wedi eu dal yn yfed ychydig
ddiferion o’r dwfr.
Mae llawer gŵr gwastraffus yn treulio ei dda ar bob math o ffolineb, ac
yn ceisio gwneyd ei golled i fyny trwy newynu ei deulu.
|
|
|
(delwedd 1261) (tudalen 138) (chwedl 180)
|
(tudalen 138)
CHWEDL 180 - Y DDAFAD A’R BARNWR.
Darfu i ŵr o gymeriad amheus gyhuddo Dafad o ladrata ei ieir. Dygwyd yr
achos o flaen Llwynog, yr hwn a alwodd ar yr Achwynydd i osod i lawr ei
achos. “Ar y diwrnod a’r diwrnod,” ebai yr achwynydd, “collais ddwy o’m Ieir
yn bur foreu. Ni ellais weled dim o honynt ond ychydig esgyrn a phlyf. Ac nid
oedd yr un creadur yn y buarth y noson hono ond y Ddafad.” Ar y llaw arall
tystia y Ddafad ei bod wedi cysgu trwy y nos, a geilw ei holl gymydogion i
ddwyn tystiolaeth nad amheuwyd hi erioed o ladrata a gweithredu yn
anghyfiawn; ac heblaw hyny na ddarfu iddi erioed brofi tamaid o gig yn ei
bywyd. Ar ol clywed y ddwy ochr, y mae y Llwynog yn cyhoeddi y ddedfryd ganlynol:
— “Ni ddylid byth coelio tystiolaethau Defaid, gan eu bod yn dueddol iawn o
gelu eu gwir amcanion. Ymddengys, ar ol ymchwilio i’r mater, fod yr Ieir ar y
|
|
|
(delwedd 1262) (tudalen 139) (chwedlau 180-181)
|
(tudalen 139)
noson ddywedoedig yn clwydo yn agos i’r Ddafad, ac y mae Ieir yn flasusfwyd
dymunol, ac yr oedd y cyfleusdra yn fanteisiol i gyraedd yr amcan. Felly yr
wyf yn penderfynu, ar fy nghydwybod, fod yn anmhosibi i’r Ddafad fod yn
ddieuog o fwyta yr Ieir; felly, yr wyf yn ei chondemnio i farwolaeth, ei
hysgerbwd i gael ei roddi i’r llys, a’i chroen i’r Achwynydd.”
Gwae y diniwaid pan fo y barnwr yn gyfrwys a Llwynogaidd.
CHWEDL 181 - Y MOCHYN A’R PALAS.
Gwnaeth Mochyn unwaith ei ffordd i balas arglwyddaidd, a cherddodd wrth ei
bwys trwy y gegin a’r ystablau, ymdreiglodd yn y dom, ac ymlenwodd âg
ysgarthion, a dychwelodd yn ol o’i daith yn Fochyn o’r fath mwyaf mochynaidd.
“Wel, Mr. Mochyn, pa beth a welaist,” ebai ei berchenog. “Maent yn dweyd fod
tai boneddigion yn llawn gemau a pherlau, ac fod pob peth ynddynt yn
ardderchog iawn.” “Y fath ffolineb yn wir!” ebai y Mochyn; “ni welais i ddim
prydferth, dim ond baw ac ysgarthion.”
Mae llawer na allent weled ond beiau a diffygion
|
|
|
(delwedd 1263) (tudalen 140) (chwedl 182)
|
(tudalen 140)
CHWEDL 182 - Y LLEIDR A’R DILLAD.
Fel yr oedd Gŵr Ieuangc yn ymdrochi mewn ffynon, daeth Lleidr heibio ac
a ladrataodd ei ddillad ag oeddynt gerllaw, a diangodd ymaith. Pan yn myned
trwy goedwig, daeth mintau o ladron i’w gyfarfod, a dechreuasant gymeryd yr
eiddo oddiarno, pan y gwaeddodd allan a’i oll egni, “Lladron! Lladron!” Ond
yr oedd ei lefain yn gwbl ofer; cymerwyd yr oll oddiam dano, a gadawyd ef yn
haner marw.
Lleidr a ddywed, “Lleidr!” gyntaf. Darfu i Leidr ladrata oriawr Climich, y
barnwr anghyfiawn, a dechreuodd waeddi, “Stop thief” — “Daliwch y Lleidr.”
|
|
|
(delwedd 1264) (tudalen 141) (chwedl 183)
|
(tudalen 141)
CHWEDL 183 - Y LLEW A’R LLWYNOG.
Yr oedd Llew yn ymlid Hydd ar hyd dyffryn. Yr oedd bron a’i ddàl, a
disglaeriai ei lygaid a llawenychai ei galon wrth feddwl am y tamaid blasus
ag yr oedd yn sicr o hono. Ymddangosai fel yn anmhosibi i’w ysglyfaeth i allu
diangc, oblegid yr oedd ceunant dwfn ar ffordd yr erlidiedig a’r erlidiwr.
Ond darfu i’r Hydd, trwy gasglu yn nghyd ei holl nerth, neidio a hedfan fel
saeth dros y ceunant, a chyraedd yr ochr arall yn ddiogel. Safodd y Llew yn
sydyn. Ond y foment hono digwyddodd cyfaill iddo fod ger¬llaw. Y cyfaill hwnw
oedd y Llwynog. “Tybed!” meddai, “y bydd i ti, gyda’th holl nerth a’th
gyflymder roddi fyny i Hydd egwan? Nid oes angen ond i ti ewyllysio, a byddi
yn alluog i wneyd rhyfeddodau. Er fod y ceunant yn ddwfn, eto ond i ti fod o
ddifrif, yr wyf yn sicr y neidi drosto yn rhwydd. Yn sicr gelli ymddiried yn
fy nghyfeillgarwch diduedd. Ni byddai i mi dy gymell i ymgymeryd a’r fath
anturiaeth oni bai fy mod yn hollol wybyddus o’th alluoedd anghyffredin.”
Dechreuodd gwaed y Llew a thwymo, ac yn fuan daeth i ferwi yn ei wythienau.
Taflodd ei hun gyda’i holl nerth dros y dibyn. Ond ni allai fyned drosodd;
felly i lawr yr aeth ar ei ben, a lladdwyd ef yn y fan. A pha beth a wnaeth
ei gyfaill wedi hyny? Dechreuodd weithio ei ffordd yn araf a gwyliadwrus i
lawr i’r ceunant, ac wedi cyraedd yno, a gweled nad oedd ar y Llew angen am
ufudd-dod na gweniaeth, darfu iddo yn garedig ddechreu ymosod ar y gorchwyl o
dalu y gymwynas olaf i w gyfaill marw, a chyn pen mis yr oedd wedi crafu ei
esgyrn yn lan.
Gwareder fi rhag fy ngliyfelllion.
|
|
|
(delwedd 1265) (tudalen 142) (chwedl 184)
|
(tudalen 142)
CHWEDL 184 - Y MORGRUGYN A’R GWIBEDYN.
Un diwrnod cymerodd dadl lled frwd cydrhwng y Morgrugyn a’r Gwibedyn yn
nghylch pa un o honynt oedd yn arwain y bywyd mwyaf anrhydeddus a pharchus.
Dadleuwyd y pwngc gyda sel ac yni gan y ddwy ochr. Ebai y gwibedyn, “Y mae fy
nghyrhaeddiadau yn eithaf adnabyddus, ac yn cael eu cydnabod yn gyffredinol:
nid oes byth yr un aberth na byddaf fi yn cael profi y cig o flaen allorau y
duwiau eu hunain. Byddaf yn ymweled a’r temlau gwychaf, a cheir fi yn aml ar
yr allorau. Y mae i mi rydd fynedfa i’r llys; ac ni byddaf byth yn methu cael
clust y brenin, oblegid byddaf weithiau yn eistedd ar ei ysgwydd. Nid oes yr
un foneddiges urddasol na morwyn brydweddol nad allaf ddisgyn ar ei gwefus,
os byddaf yn ei hoffi. Gyda hyny, yr wyf yn bwyta ac yn yfed y goraf o bob
peth, heb fod genyf i weithio am fy nghynaliaeth. Pa beth a fwynheir genych
chwi ag sydd yn deilwng i’w gystadlu â bywyd fel yma?” Y Morgrugyn, erbyn hyn
wedi meddianu ei hun, a atebodd, gyda chryn chwerwder yn ei eiriau: “Y mae
|
|
|
(delwedd 1266) (tudalen 143) (chwedlau 184-185)
|
(tudalen 143)
yn wir fod cael cyfranogi o wleddoedd y duwiau yn anrhydedd fawr, os bydd un
wedi ei wahodd; ond ni hoffwn fyned i un man os na wahoddid fi. Yr ydych yn
siarad am y brenin, y llys, a’r boneddigesau prydweddol yno, gyda hyfdra
mawr; ond fel yr oeddwn yn casglu i mewn fy nghynauaf, yr wyf wedi gweled
person neillduol o dan fur y dref yn gwneyd pryd rhagorol oddiar hen ysgerbwd
drewllyd. Dywedwch nad ydych yn gweithio am eich cynaliaeth; gwir: o
ganlyniad, ar ol i chwi chwareu ymaith eich haf, ac i’r gauaf ddyfod i mewn,
ni fydd genych ddim i fyw arno; a thra y byddwch chwi yn newynu o herwydd yr
oerder a diffyg ymborth, bydd genyf fi dy cynes uwch fy mhen, a digon o fwyd
i mi a’m plant.”
Melus yw y bara a enillir trwy lafur.
CHWEDL 185 Y MELINYDD, EI FAB, A’U HASYN.
Yr oedd Melinydd a’i fab yn gyru Asyn i’r ffair i’w werthu. Nid aethant yn
mhell cyn cyfarfod â nifer o lodesi yn dychwelyd o’r dref, gan siarad a
chwerthin. “Edrychwch yna,” meddai un o honynt, “a welsoch chwi erioed y fath
ffyliaid, i lafurio yn mlaen fel yna ar eu traed pan y gallent. farchogaeth.”
Yr hen ŵr yn clywed hyny, a barodd i’w fab fyned ar gefn yr Asyn, ac a
gerddodd ei hun yn siriol wrth ei ochr. Yn fuan daethant i fynu at nifer o
hen wyr mewn dadl ddifnfol. “Dyna i chwi,” ebai un o honynt, “y mae yn profi
yr hyn yr oeddwn yn ei ddweyd! Pa barch a ddaogosir i henaint yn y dyddiau
hyn? A welwch chwi y llabwst ieuangc diog yna yn marchogaeth, tra y mae yn
rhaid i’w hen dad gerdded? Dowch i lawr oddiyaa, y gwalch! a gadewch i’r hen
w`r orphwys ei aelodau blinedig.” Ar hyny gwnaeth y Tad i’w fab ddisgyn, ac
aeth yntau ar gefn yr Asyn yn ei Ie. Aethant yn mlaen fel hyn am dipyn, pan y
cyfarfyddasant â chwmni o wragedd a phlant. “Wel!
|
|
|
(delwedd 1267) (tudalen 144) (chwedl 185)
|
(tudalen 144)
yr hen greadur diog!” meddai amryw o honynt ar unwaith; “pa foddy medrwch
farchogaeth yr anifail yna; a’r bachgen bach druan prin yn medru eich canlyn
chwi fel yna.” Cydnabyddodd y Melinydd ei fai a chymerodd ei fab i fynu yn
ddioed wrth ei ysgîl. Yr oeddynt erbyn hyn wedi cyrhaedd yn bur agos i’r
dref. “Atolwg, hen gyfaill,” meddai un o’r trigolion wrtho, ai y chwi biau yr
Asyn yna?” “Ie,” ebai yr hen ŵr. “O! ni buasai neb yn meddwl hyny,”
atebai y llall, “wrth y dull yr ydych yn ei lwytho. Wele! yr ydych chwi eich
dau yn ablach i gario y creadur druan, nag efe chwi.” “Pob peth i’ch
boddhau,” meddai yr hen ŵr, “nis gallwn ond treio.” Felly gan ddisgyn,
efe a’i fab, hwy a rwymasant goesau yr Asyn yn nghyd, a chyda help polyn hwy
a geisiasant ei gario ar eu hysgwyddau dros bont oedd yn arwain i’r dref. Yr
oedd hyn yn olwg mor ddigrifol fel y rhedodd y bobl allan yn lluoedd i edrych
arno a’i fwynhau; ar hyny, yr Asyn yn anesmwyth oblegid cynhwrf y bobl, a’i
sefyllfa ei hun, a giciodd nes tori y cortynau a’i rhwyment, a chan syrthio
oddiar y pawl, a ddisgynodd i’r afon ac a foddodd. Yna yr hen ŵr, yn
ofidus ac yn gywilyddgar, a wnaeth y goreu o’i ffordd adref, gan deimlo ei
fod, wrth geisio boddio pawb, wedi boddio neb, ac wedi colli ei Asyn yn y
fargen.
WREXHAM;
ARGRAFFWYD A CHYHOEDDWYD GAN R. HUGHES AND SON.
|
|
|
(delwedd 1268) (tudalen 146) (ex-libris)
|
|
|
|
(delwedd 1268b) (tudalen 146) (ex-libris_teipiedig)
|
William
Pritchard
Glandwr
Rhiw
Bryfdir
Blaenau
Ffestiniog
Merionethshire
North
Wales
|