http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_063_chwedlau_aesop_glan_alun_02_2787k

0001z Yr Hafan / Home Page

..........
1864k Y Fynedfa yn Gymraeg

.....................
0009k Y Barthlen

...............................0960k Y Gyfeirddalen i Gywaith Sin Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon)

............................................1729k Y Gyfeirddalen ir llyfr hwn (Chwedlau Aesop, Glan Alun)

...........................................................y tudalen hwn

baneri
..


Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Galles i Catalunya


Cywaith Sin Prys Aberhonddu
(Casgliad Arlein o destunau Cymraeg)
Llond y We o Ln y Brython


CHWEDLAU NEU DDAMMEGION AESOP.
LLYFR 2
(Tudalennau 0 - 144)

Awdur: Glan Alun (= Thomas Jones 1811-1866).
Gweinidog Mthodist Calfinaidd a Llenor

Blwyddyn:?




....

AR Y GWEILL GENNYM
1729k Y Gyfeirddalen ir llyfr hwn (Chwedlau Aesop, Glan Alun)

Maer sylwadau sydd wedi eu hychwanegu gennym mewn llythrennau oren.
Our comments are added in orange type

TUDALENNAU AR GOLL: 17, 18, 31, 32

 

For an overview of all the book see this film on youtube:

 

http://www.youtube.com/watch?v=Fk6hi4HghvQ

 

xxxxxx

 

Rough index:

 

Page 6 is at 02:05 on the time meter

Page 64 is at 04:08 on the time meter



________________________

(clawr blaen)

(Clawr Blaen) Chwedlau neu Ddammegion Aesop

________________________

(tudalen 1)

AIL GYFRES O CHWEDLAU NEU DDAMMEGION AESOP,
GYDA PHIGION O DDAMMEGlON DIWEDDARACH KRIOLF, LA FONTAINE, &c.;
WEDI EU CYFIEITHU OR ARGRAFFIADAU GOREU YN YR IAITH SEISONEG,
AU CAFADDASU IR GYMRAEG.
WREXHAM.
ARGRAFFWYD A CHYHOEDDWYD GAN HUGHES AND SON
_________________________
(tudalen 2)

tudalen weili
_________________________
(tudalen 3)

CYNNWYSIAD.
AT Y DARLLENYDD.
Chwedlau:
1. Y Tri Masnachwr.
2. Y Frn ar Alarch.
3. Y Bachgen ar Ffrwythau.
4. Yr Hen Wraig ai Morwynion.
5. Y Ffrwd.
6. Y Llwynog ar Gwyneb gosod.
7. Y Dyn Ieuangc ar Wenol.
8. Y Blaidd mewn croen Dafad.
9. Y Golomen sychedig.
10. Y Gŵr Moel.
11. Llongddrylliad Simonides.
12. Y Ci ar Ysgyfarnog.
13. Y Wenol ar Adar ereill.
14. Y Gwyddau.
15. Mawrth ar Cerfluniwr.
16. Y Blaidd ar Llew.
17. Yr Heliwr ar Coettiwr.
18. Y Gwr Cenfigenllyd ar Trachwantwr.
19. Y Blaidd ar March.
20. Yr Asyn mewn Swydd.
21. Yr Epa ar Llwynog.
22. Yr Asyn yn cario Halen.
23. Yr Ast ar Hwch.
24. Yr Heffer ar Ych.
25. Y Bechgyn ar Llyffaint.
26. Y Pysgod mawr ar rhai bychain.
27. Y Paun ar Bioden.
28. Y Llwynog ar Chwiban.
29. Y March ar Llew.
30. Yr Afr ar Bugail.
31. Y Gf ai Gi.
32. Y Dyn Ieuangc ar Gath.
33. Y Gwrych ar Winllan.
34. Cysgod yr Asyn.
35. Yr Asyn yn nghroen y Llew.
36. Y Seryddwr.
37. Y Mochyn ar Defaid.
38. Y Ceiliog ar Llwynog.
39. Y Bugail ar Mr.
40. Y Cŵn ar Crwyn.
41. Y Briodas Angeuol
42. Y Blaidd ar Afr.
43. Y Gwlaw ar Tir.
44. Y Carw wrth y Llyn.
45. Yr Amaethwr ai Geffyl.
46. Y Tarw ar Afr.
47. Y Llwynog yn y Ffynon.
48. Y Ddau Gi.
49. Yr Asyn yn bwytar Ysgall.
50. Y Ddafad ar Carw.
51. Y Ddafad, y Ci, ar Blaidd.
52. Yr Afanc ai Erlidwyr.
53. Y Wiwer ar Llew.
54. Y Bachgen ar Ci.
55. Y Bachgen yn Ymdrochi.
56. Y Morgrugyn Ymffrostgar.
57. Y Ci ar Ddafad.
58. Y Wiwer ffwdanus.
59. Y Tarw ar Llo.
60. Y Draenog ar Nadroedd.
61. Y Ceiliog Twrci ai blant.
62. Y Gigfran ar Ci.
63. Cymeryd yr Udganwr yn Garcharor.
64. Y Tad ai ddwy Ferch.
65. Y Ci ar Hwrdd.
66. Yr Arth ar Cychod Gwenyn.
67. Yr Afonydd ar Mor.
68. Y Crocodile ar Ci.
69. Y Dail ar Gwreiddiau.
70. Y Diamwnt ar Gareg.
71. Pen yr Epa.
72. Y Paun ar Crychydd.
73. Y Myn ar Blaidd.
74. Y Fronwen ar Dyn.
75. Y Llyffant yn Grachfeddyg.
76. Y Cŵd.
77. Y Dyn Du.
78. Y March ar Asyn..
79. Y Gareg ar Gwlaw.
80. Y Llyffant.
81. Yr Epa ar Llwynog.
82. Y Gwladwr a r Mr.
83. Y Golomen.
84. Yr Asyn mewn croen Llew.


_________________________
(tudalen 4)

85. Y Quartette.
86. Y Llwynog ar Frn.
87. Y Bachgen ar Ych.
88. Y Ceffyl ar Aderyn T.
89. Y Pysgodyn-hedegog ar Dolffyn.
90. Yr Amaethwr ar Fuwch.
91. Y Blaidd ar Bugeiliaid.
92. Y Morgrugyn ar Golomen.
93. Y Bachgen ar Afr.
94. Y Teithwyr ar fin y Mr.
95. Y Baedd Gwyllt ar Llwynog.
96. Yr Ewythr ai Nai.
97. Yr Eryr, y Frn, ar Crwban.
98. Y Barcud ar Ffermwr.
99. Yr Ewig ar Llwynogod.
100. Y Bychod Geifr ar Geifr.
101. Yr Hen Lew.
102. Yr Asyn, y Ceiliog, ar Llew.
103. Aesop ar Gŵr Sarhaus.
104. Y Ceiling Rhedyn ar Ddallhuan.
105. Y Llygoden ar Fronwen.
106. Y Ffermwr ai Gŵn.
107. Y Gwenyn ar Gwenyn Segur
108. Yr Asyn ar Eos.
109. Yr Epa ar Drychau.
110. Y Brawd ar Chwaer.
111. Y Ffermwr ar Llew.
112. Yr Asyn ar Gwybedyn.
113. Y Llewpard ar Bugeiliaid.
114. Y Cawrfil ar Corgi.
116. Y Teithwyr ar Corgwn.
116. Caesar ai Was.
117. Yr Ymsuddwyr.
118. Yr Eryr, y Gath, ar Baedd.
119. Yr Epa ar Pysgotwyr.
120. Socrates ai Dŷ.
121. Yr Ir ar Wenol.
122. Yr Yspeiliedig ai Gyfeillion.
123. Yr Asyn ar Baedd.
124. Y Llewpard ar Llwynog.
126. Y Ci ar Ceffyl.
126. Aesop yn Chwareu.
127. Yr Ast ai Chŵn.
128. Y Ddau Gi.
129. Y Blaidd, y Llwynog, ar Epa.
130. Yr Amaethwr Cybyddlyd.
131. Yr Hwch.
132. Y Gŵr ai Ddwy Wraig.
133. Yr Asynod ar Lladron.
134. Y Barcutan Papyr ar Adar
135. Aderyn y T ar Ysgyfarnog.
136. Y Gwladwr ai Hugan.
137. Yr Atheistiaid.
138. Y Llyffantod ar Haul.
139. Y Coed ar Duwiau.
140. Yr Asyn ai Berchenogion.
141. Y Gŵr Cyfoethog Tlawd.
142. Juno ar Paun.
143. Y Cardotyn ai Gŵd.
144. Y Siwg bridd ar Llestr coed.
145. Y Llwynog ar Llygoden.
146. Y Cawrfil mewn Swydd.
147. Y Fronwen ar Llygod.
148. Y Tri Brawd.
149. Y Crib ar Plentyn.
150. Y Ceffyl ar Asyn Llwythog.
151. Y Bleiddiaid ar Belaid.
152. Y Defaid ar Oen.
153. Yr Asyn a Jupiter.
154. Yr Arth ar Gwenyn.
155. Y Cadben ar Morwyr.
156. Y Fronfraith ar Ir.
157. Y Meddwon.
158. Y Teithwyr ar Ysbeiliwr.
159. Yr Heliwr ar Golomen.
160. Y Llafurwyr ar Afon.
161. Y Llwynog ar Ddraig.
162. Y Gath ar Llwynog.
163. Y Teithwyr.
164. Y Cybydd ai Drysor.
165. Y Gŵr Moel ar Gwibedyn.
166. Y Llew, yr Arth, ar Llwynog
167. Y Bugail ai Gi.
168. Y Gwyddau ar Garanod.
169. Yr Hydd ar Winwydden.
170. Y Neidr ar Gg.
171. Y Neidr ar Enllibiwr.
172. Yr Ehedydd ai Fab.
173. Y Ddallhuanod ar Haul.
174. Addysg y Llew Ieuangc.
175. Y Teithwyr au Cysgod.
176. Y Magnelau ar Hwyliau.
177. Y Llwynog fel Adeiladydd.
178. Y Cybydd ar Tylwyth Teg.
179. Y Melinydd ar Agen yn y Ffos.
180. Y Ddafad ar Barnwr.
181. Y Mochyn ar Palas.
182. Y Lleidr ar Dillad.
183. Y Llew ar Llwynog.
184. Y Morgrugyn ar Gwibedyn.
185. Y Melinydd, ei Fab, au Hasyn.

_________________________
(tudalen 5)

AT Y DARLLENYDD.
Parhad o Chwedlau neu Ddammegion Aesop a gynwysir gan mwyaf yn y llyfr hwn. Yn y Casgliad Cyntaf dodwyd saith ugain o Chwedlau y Doethwr o flaen y darllenydd Cymreig. Y mae y gwerthiad fu ar y llyfr hwnw yn myned yn mhell i brofi fod Gwyr y Bryniau yn gwerthfawrogi, ac yn cael blas ar y math yma o lenyddiaeth. .Yn y llyfr hwn fe geir wyth ugain a phump o Ddammegion; oddeutu cant o honynt yn eiddo yr hen Aesop; ychydig dros ddeugain wedi eu. dethol o waith Kriolf, y Chwedleuwr Rwssiaidd talentog; ar gweddill o blith cynyrchion La Fontaine, y Ffrangcwr enwog.

Yr ydym yn credu fod y tri wyr hyn, yn y tudalenau canlynol, yn dysgu llawer gwers bwysig, a hyny mewn dull difyrus a didramgwydd. Hyderwn y bydd y darllenydd Arglwydd y greadigaeth yn ddigon gostyngedig i wrando ar y creaduriaid direswm yn siarad doethineb ac yn rhoddi cynghorion buddiol, ac nad wrthodant berl er ei gael o enau llyffant.
Y CASGLYDD.
_________________________
(tudalen 7)
AIL GYFRES O CHWEDLAU NEU DDAMMEGION AESOP,
GYDA PHIGION O DDAMMEGION DIWEDDARACH KRIOLF, LA FONTAINE, &c. &c., &c.
_________________________
(tudalen 8)

CHWEDLAU AESOP, &c.

CHWEDL 1 - Y TRI MASNACHWR.
Yr oedd dinas yn ofni cael gwarchae arni, a chynhaliwyd cynghorfa i ystyried y ffordd oreu i ddiogelu ei hamddiffynfeydd. Rhoddodd Saer Maen ei farn, nad oedd dim defnyddiau cygystal a phriddfeini ir diben. Cynygiai Saer Coed y byddai coed yn llawer gwell. Ar hyn cododd Lledrwr i fyny, ac a ddywedodd, Syrs, wedi i chwi ddweyd gymaint oll ag a ellir ei ddweyd, nid oes dim yn y byd yn debyg i Ledr.

Pawb drosto ei hun, yw natur dyn.
_________________________
(tudalen 9)

CHWEDL 2 - Y FRN AR ALARCH.
Brn a genfigenai wrth Alarch, oblegyd fod ei phlu mor wyn; a chan feddwl fod ei harddwch iw briodoli ir dwfr yr oedd hi yn byw ynddo, efe a adawodd yr allorau lle yr arferai gael ei luniaeth, ac a gymerodd at y llynoedd ar afonydd. Yno fe ymchwyddodd ac a ymolchodd ac a lanhaodd ei wisg, ond yr oll yn ofer, canys parhaodd ei blu mor ddu ag erioed, ac efe ei hun yn fuan a drengodd o eisiau ei ymborth arferol.

Ni wna newid ymborth na lle ddim newid natur. Yr hyn sydd fywyd i un sydd farwolaeth ir llall.

CHWEDL 3 - Y BACHGEN AR FFRWYTHAU.
Rhoddodd Bachgen ei law mewn llestr yn yr hwn yr oedd llawer o Ffigys a Chnau wedi en cadw; fe afaelodd mewn cymaint fyth ag a allai ei ddwrn ei gynwys, ond pan geisiai ei dynu allan, yr oedd culni gwddf y llestr yn ei rwystro. Yn anfoddlon i golli dim o honynt, ond yn analluog i dynu ei law or llestr, fe dorodd allan i wylo, ac i gwyno yn chwerw am ei anffawd. Rhyw ŵr gonest yn sefyll gerllaw, a roddodd iddo y cynghor call hwn, Cydiwch yn yr haner fy machgen, a chwi a lwyddwch yn hawdd.

Ceisio gormod a chollir cyfan. Coflaid fechan ai gwasgu yn dyn.
_________________________
(tudalen 10)

CHWEDL 4 - YR HEN WRAIG AI MORWYNION.
Yr oedd gan Hen Wraig unwaith niter o Forwynion, y rhai a alwai at eu gwaith bob dydd ar ganiad y Ceiliog. Darfu ir merched, y rhai oeddynt yn teimlo ei bod yn galed arnynt i gael eu deffroi ou cwsg melus mor foreu, uno au gilydd a lladd y Ceiliog; gan feddwl, pan y byddai y rhybuddiwr wedi ei symud or ffordd, y byddai iddynt gael mwynhau eu gwelyau cynes ychydig yn hwy. Yr Hen Wraig, yn teimlo o herwydd colli ei Cheiliog, ac wedi cael allan, trwy ryw foddion neu gilydd, yr holl gydfwriad, a benderfynodd fod i fyny hwy; ac or adeg hono allan gorfododd hwy i godi yn gyson am haner ns.

Gochelwch syrthio o ddrwg i waeth; gwell y drwg a wyddis nar drwg na wyddis.
_________________________
(tudalen 11)

CHWEDL 5 - Y FFRWD.
Darfu i Fugail arllwys ei gwyn wrth Ffrwd yn erbyn yr Afon am gario ymaith yr Oen goreu yn ei ddiadell. Y mae y Ffrwd yn cydymdeimlo ag ef yn y dull tyneraf, a dwrdiai yr Afon yn yr iaith gryfaf. Pe buasai hi yn Afon, meddai, ni buasai yn cyfranu ond bendithiau ir maesydd oi chwmpas. Byddai ei holl gwrs yn un o fendith a chymwynasgarwch.
Felly y dywedodd y Ffrwd; ac felly y meddyliai. Ond pa beth a gymerodd le? O fewn yr wythnos torodd cwmwl uwchben un or bryniau cyfagos, ac y mae y Ffrwd ar unwaith yn chwyddo i faintioli afon fawr. Ond, Ah! pa beth sydd wedi dyfod o ddiniweidrwydd ac yspryd heddychol y Ffrwd? Berwa, trystia, chwyrna, a lluchia ei dyfroedd yn donau ewynog yn mhob cyfeiriad. Dadwreiddia hen dderw cedyrn; gellir clywed eu swn yn syrthio o bell ffordd. Ie, y mae y Bugail, ar hwn y cydymdeimlai ychydig ddyddiau yn ol, ac o herwydd yr hwn y dwrdiai yr Afon gydar fath hyawdledd, yn cael ei foddi ganddi gydai holl ddiadell, ac ysguba ei dŷ ai blant ymaith yn llwyr.

Gynifer o Ffrydiau a geir yn llifo yn araf ac esmwyth, gan ganu yn hyfryd wrth dreiglo dros eu gwelyau caregog yn unig am fod ychydig ddwfr ynddynt.


CHWEDL 6 - Y LLWYNOG AR GWYNEB GOSOD.
Yr oedd Llwynog.wedi tori i mewn i dŷ Chwareuwr, ac wrth droi ei holl eiddo drosodd, fe ddaeth o hyd i Wyneb gosod (mask) tra phrydferth. Gwyneb a phen gwych yn wir, ebai efe, ond y fath resyn nad oes dim ymenydd iddo.

Digon gwael ydyw gwyneb teg ac ychydig synwyr tu cefn iddo.

_________________________
(tudalen 12)

CHWEDL 7 - Y DYN IEUANGC AR WENOL.
Afradlon ieuangc, ag ydoedd wedi gwastraffu ei holl dda, a gerddai yn bruddglwyfus yn agos i ffrwd o ddwfr. Mis lonawr ydoedd, un or dyddiau clir hafaidd a wenant arnom weithiau hyd yn nod yn y tymor gauafol hwnw; ac iw gwneyd yn fwy tebyg ir haf, yr oedd Gwenol, a wnaeth ei hymddangosiad yn rhy fuan, yn ysgubo dros wyneb y ffrwd. Y Dyn ieuangc difeddwl yn gweled hyny, heb ychwaneg o ystyriaeth, a benderfynodd fod yr haf wedi dyfod, ac na byddai arno ond ychydig os dim achos am ei wisg uchaf; felly aeth ac ai gwerthodd, a gwariodd yr arian yn mhlith ei gymdeithion annuwiol. Ar ol ir arian yma ddarfod, aeth am rodfa arall i ymyl yr un ffrwd. Ond trwy fod y tywydd wedi newid, a dyfod yn oer a rhewllyd, yr oedd agwedd pethau wedi newid yn fawr or hyn ydoedd or blaen; yr oedd y ffrwd yrwan wedi rhewi drosti, ar Wenol dlawd yn gorwedd yn farw yn ei hymyl. Darfu ir olygfa ddwyn y Dyn Ieuangc ato ei hun; ac yn teimlo ei gyflwr gresynus, beiodd ei hun fel yr achos oi holl drueni.

_________________________
(tudalen 13)

Y fath adyn ffol ydwyf, ebai wrtho ei hun, am fod mor ddwl a chredu y gallasai un Wenol wneyd haf.

Mewn tywydd teg byddwch barod erbyn tywydd garw. Na fyddwch byw yn hollol yn y presenol heb feddwl dim am y dyfodol.

CHWEDL 8 - Y BLAIDD MEWN CROEN DAFAD.
Blaidd a wisgodd am dano Groen Safad, ac wedi cael dyfodiad i mewn i blith y praidd trwy hyny, fe ddifethodd lawer o honynt. Or diwedd y bugail ai canfu, ac wedi taflu cortyn am ei wddf, fei rhwymodd i fynu. wrth bren oedd gerllaw. Rhyw fugeiliaid ereill yn paaio y ffordd hono, ac yn sylwi arno, a ddaethant ac a draethasant eu syndod. Beth, ebai un o honynt, frawd, a ydych chwi yn crogi defaid? Nac ydwyf. ebai yntau, ond byddaf yn crogi Blaidd pryd bynag y daliwyf ef, hyd yn nod pan wedi ei wisgo mewn Croen Dafad. Wedi canfod eu camgymeriad, hwy ai canmolasant ef am gyfiawnder ei weithred.

Ni wna cochl sanctaidd ond chwanegu ysgelerder y twyllwr. Fe syrth y twyllwr ir fagl or diwedd er maint ei ragrith.

CHWEDL 9 - Y GOLOMEN SYCHEDIG.
Colomen yr hon oedd yn sychedig iawn, yn gweled llun gwydraid o ddwfr wedi ei baentio ar arwyddfwrdd, a dybiodd mai dwfr gwirioneddol ydoedd; felly gan ehedeg ato ai holl nerth, hi a darawodd yn erbyn y bwrdd, a chan dori ei hesgyll, hi a syrthiodd ir llawr, lle y daliwyd hi yn ebrwydd gan rywun yn pasio heibio.

Aeth llawer i brofedigaeth trwy gamgymeryd y cysgod an y sylwedd. Mae gormod ffrwst yn beryglus.

_________________________
(tudalen 14)

CHWEDL 10 - Y GŴR MOEL.
Rhyw Farchog wedi colli ei wallt oblegid henaint, i guddio y diffyg a wisgai berwig; ond fel yr oedd yn marchogaeth allan i hela gydai gyfeillion, daeth chwa o wynt, ac a chwythodd y berwig ymaith, gan ddynoethi ei ben moel. Nid allai ei gyfeillion lai na chwerthin ar y ddamwain; ac fe chwarddodd ef ei hun mor uchel a neb o honynt, gan ddyweyd, Pa sut y gellid disgwyl y gallwn gadw gwallt dieithr ar fy mhen, pan nad arosai fy ngwallt fy hun yno?

Os digwydd i un fynd yn ddiniwaid yn destun chwerthiniad i ereill, y ffordd oreu weithiau ydyw ymuno ar chwerthiniad.

CHWEDL 11 - LLONGDDRYLLIAD SIMONIDES.
Y mae dyn dysgedig yn cario cyfoeth iw ganlyn bob amser. Yr oedd Simonides yn ŵr enwog am ei wybodaeth ai dalent farddonol. Aeth i ymweled phrif drefydd Asia i adrodd ei ddarnau barddonol ac i draddodi ei areithiau penigamp, ac ar ol casglu llawer o gyfoeth a mwy o anrhydedd wrth y gorchwyl

_________________________
(tudalen 15)

hwn, y mae yn penderfynu dychwelyd gartref dros y mr. Mewn canlyniad y mae yn cymeryd llong, ond ar ganol y fordaith dryllir y llong gan ystorm ofnadwy. Y mae rhai yn casglu eu harian, ereill eu gemau au haddurniadau gwerthfawr. Gofyna un o honynt i Simonides, onid ydych yn cymeryd dim och cyfoeth ich canlyn?
Ac y mae yn ateb, Y mae fy holl eiddo gyda mi. Y mae rhai yn nofio ir lan, ond lluaws yn boddi cyn cyraedd o herwydd eu bod wedi gorlwytho eu hunain au meddianau. Y mae y mr-ladron yn dyfod ac yn lladrata yr oll a feddai y rhai a ddiangasant or mr gydau bywydau, gan eu gadael yn noethion. Yn ffodus yr oedd dinas henafol Clasomena yn ymyl, a darfu iddynt oll fyned yno. Preswyliai yn y ddinas hon ŵr urddasel ag ydoedd yn gyfarwydd a gweithiau Simonides, ond heb ei weled erioed, er wedi dymuno hyny lawer gwaith. Croesawodd ef iw dŷ, a rhoddodd iddo ddillad, arian, a gweision. Y mae y lleill yn gorfod cerdded oddiamgylch yn eu carpiau, gan gardota eu bara o ddrws i ddrws. Yn ddamweiniol cyfarfyddent a Simonides, yr hwn a ddywedodd wrthynt, Dywedais wrthych fod fy holl eiddo genyf, ond darfu i chwi golli yr oll oedd genych chwi.

Nis gall neb ein hysbeilio on gwybodaeth y trysor penaf.

CHWEDL 12 - Y CI AR YSGYFARNOG.
Ci, wedi hela yn hir ar ol ysgyfarnog, a ddaeth o hyd iddi or diwedd, ac a ddechreuodd ei chnoi ai llyfu bob yn ail. Yr Ysgyfarnog yn methu deall pa beth iw wneyd o hyny a ddywedodd, Os ydych yn gyfaill, paham yr ydych yn fy mrathu! Ond os gelyn, paham yr ydych yn fy llyfu?

Y mae cyfaill amheus yn waeth na gelyn agored; bydded dyn y naill beth neu y llall, ac yna ni a wyddom pa fodd iw gyfarfod.
_________________________
(tudalen 16)
CHWEDL 13 - Y WENOL AR ADAR EREILL.
Yr oedd Ffermwr yn hau ei faes lln. Canfyddodd y Wenol hyny, a dymunodd ar yr Adar ereill ei chynorthwyo iw ddinystrio, gan ddweyd wrthynt mai lln oedd y defnydd peryglus hwnw ag y gwnelid yr edafedd o hono a ddefnyddid i wneyd rhwydi yr aradwr, ac felly yn achosi marwolaeth cynifer o Adar diniwaid. Ond gan na wrandawyd ar rybudd y Wenol, eginodd y lln, a gorchuddiodd y maes. Siaradodd hwynt eilwaith am y perygl au bygythiau, a chrefodd arnynt ei dynu i fyny yn yr egin, cyn iddo fyned yn mhellach.
Parhasant i esgeuluso ei rhybudd, a thyfodd y lln yn uchel a chryf. Unwaith eto dymunodd arnynt ymosod arno, gan eu sicrhau nad ydoedd yn rhy ddiweddar. Ond yr oll a gafodd oedd cael ei dirmygu ai gwawdio fel prophwydes ymhongar. Y Wenol, wedi cael allan fod ei holl rybuddion yn aneffeithiol, a benderfynodd adael cymdeithas y fath greaduriaid difeddwl a diofal, cyn y byddai ir lln gael ei wneyd yn rhwydi iw dinystrio. Felly, ymadawodd ar coed, cefnodd ar yr Adar, a byth er hyny y mae wedi

_________________________
(tudalen 114c)

CHWEDL 14 - Y GWYDDAU.


TUDALEN 17 AR GOLL
_________________________
(tudalen 114c)
CHWEDL 15. MAWRTH AR CERFLUNIWR.


TUDALEN 18 AR GOLL
_________________________
(tudalen 19)

CHWEDL 16 - Y BLAIDD AR LLEW.

Rhyw ddiwrnod yr oedd Blaidd wedi cipio Dafad o gorlan, ac yr oedd yn ei chario adref iw ffau, pan y cyfarfu Llew, yr hwn yn ddioed a gydiodd yn y ddafad ac ai cymerodd oddiarno. Y Blaidd, yn sefyll o bell, a waeddodd allan ei fod yn gywilydd mawr iddo, ai fod wedi ei ysbeilio ef oi eiddo. Chwarddodd y Llew, a dywedodd, Y mae yn debyg yntau, fod eich cyfaill anwyl y bugail wedi ei roddi i chwi.

Rhaid cael genau gln i oganu.
Tinddu, ebai y fran wrth y gigfran.

CHWEDL 17 - YR HELIWR AR COETTIWR.

Aeth dyn allan i hela ir goedwig, a chan ddigwydd cyfarfod ar Coettiwr, gofynodd iddo a welodd efe ddim o olion y Llew, ac a wyddai efe pa le yr oedd ei ffau.
Gwn, ebai y dyn, ac os deuwch gyda mi, mi a ddangosaf i chwi y Llew ei hun. Ar hyny trodd yr Heliwr yn wyn ei wedd, a dechreuodd grynu drosto, a dywedodd, O! diolch i chwi; llwybr y Llew, ac nid y Llew ei hyn yr oeddwn yn chwilio am dano.

Gall cachgi fod yn wrol o bell; ond yn mhresenoldeb perygl y mae profi gwir wroldeb.

_________________________
(tudalen 20)

CHWEDL 18 - Y GWR CENFIGENLLYD AR TRACHWANTWR.
Digwyddodd un tro fod Gwr Cenfigenllyd yn offrymu i fyny ei weddiau i Iau yn yr un lle ac ar yr un adeg a dyn hynod am ei drachwant. Iau, heb deimlo tuedd i gael ei boeni gan eu ceisiadau ei hunan, a anfonodd Apollo i chwilio i mewn i deilyngdod eu dymuniadau, ac i roddi i bob un yn ol fel y barnai yn oreu. Apollo, o ganlyniad, ar ol cael allan eu gwendidau, a ddywedodd wrthynt pa beth bynag a ofynai un, y byddai ir llall ei gael yn ddwbl. Ar hyn, y Dyn Trachwantus, er fod ganddo fil o bethau y dymunai eu cael, a oedai ofyn yn gyntaf, gan obeithio derbyn rhan ddwbl; oblegid credai fod dymuniadau pob dyn yn debyg ir eiddo ef. Trwy y moddion yma cafodd y Dyn Cenfigenllyd y fantais o roddi yn mlaen ei gais yn gyntaf, yr hyn ydoedd yn hollol unol ai amcan; felly, heb lawer o betrusder, gweddiodd am gael y ffafr o gael tynu allan un oi lygaid; gan wybod, wrth gwrs, y byddai iw gydymaith gael ei amddifadu or ddau.

Anela Cenfigen at arall, a chlwyfa ei hun.

_________________________
(tudalen 21)

CHWEDL 19 - Y BLAIDD AR MARCH.

Fel yr oedd Blaidd yn crwydro ar draws rhyw fferm, fe ddaeth at gae o geirch, ond gan nad allai ei fwyta, fei gadawodd ac a aeth ymaith. Yn y man fe gyfarfu cheffyi, ac a archodd arno ddyfod gydag ef ir cae; Canys, meddai, cefais yno geirch rhagorol, ac ni phrofais yr un o honynt, ond mi au cedwais i gyd i chwi, canys y mae sŵn eich dannedd chwi yn beroriaeth yn fy nghlustiau. Ond y March ai hatebai, Un gwych ydych chwi! Pe gallai Bleiddiaid fwyta ceirch, rwyn tybied na wnaech chwi ddim siomi eich cylla er mwyn eich clustiau.

Nid oes ond ychydig ddiolch yn ddyledus ir hwn a rydd ymaith yn unig yr hyn nad all ei ddefnyddio el hun.

CHWEDL 20 - YR ASYN MEWN SWYDD.

Asyn yn cario Delw mewn gorymdaith grefyddol, a yrwyd trwy rhyw dref, ac yr oedd pawb a basient heibio yn ymgrymu yn isel. Wrth weled hyn, yr Asyn yn tybied mai iddo ef y telid yr addoliad hwn, a lanwyd balchder, ac a wrthodai symud gam yn mhellach. Ond gosodai y gyrwr y ffon ar ei gefn yn egniol, gan ddweyd, Yr ynfyttyn penwan! nid y chwi y maent yn ei barchu, ond y ddelw yr ydych yn chario.

Y mae ffyliaid yn priodoli iddynt eu hunain y parch a delir iw swyddau.

_________________________
(tudalen 22)

CHWEDL 21 - YR EPA AR LLWYNOG.

Digwyddodd unwaith ir bwystfilod fod mor ffol a dewis Epa yn frenin arnynt. Yr oedd ef wedi eu difyru hwynt i gastiau ac ai gampiau digrifol, ac ni fynent ddim llai nai eneinio yn frenin. Felly fu; coronwyd ef, ac yr oedd yn edrych yn dra doeth ac urddasol. Ond y Llwynog, yn ddig oblegid ynfydrwydd ei frodyr, ac yn ffieiddio rhyfyg hunandybus yr Epa, a benderfynodd ei ddarostwng ef y cyfle cyntaf. Felly, yn fuan wedin canfyddodd drap wedi ei osod mewn ffs, a darn o gig yn abwyd arno; aeth yn union at yr Epa, a hysbysodd ef mai trysor wedi ei gael ar y maes ydoedd, ac mai ir brenin yn unig y perthynai. Yr Epa, heb ddychmygu am ddim dichell, a aeth yn ddioed i gymeryd meddiant or trysor; ond nid cynt yr oedd ei bawen ar yr abwyd, nac yr oedd yn dyn yn y trap. Ar hyn, dechreuodd, mewn cywilydd a digter, ddwrdio y Llwynog, gan ei alw yn fradwr, &c. Chwarddai y Llwynog yn iawn, ac aeth ymaith, gan ddyweyd yn drahauslyd, Brenin gwych yn wir, ac heb ddeall trap!

_________________________
(tudalen 23)

Doethineb ac nid digrifwch sydd eisiau mewn llywodraethwr. Chwithig iawn yw os bydd y brenin yn ffolach nar deiliaid.

CHWEDL 22 - YR ASYN YN CARIO HALEN.
Rhyw ŵr, yr hwn oedd ganddo Asyn, yn clywed fod Halen yn rhad wrth fin y mr, a yrodd ei Asyn yno i brynu peth. Wedi llwytho yr anifail gymaint ag a allai, yr oedd yn ei yru gartref, pan wrth basio ymyl craig, darfu ir Asyn lithro, a syrthio ir afon oedd islaw iddo; yn y dwfr toddodd yr Halen, ar Asyn wedi colli ei faich a ddaeth allan yn hawdd, ac aeth yn mlaen tua chartref yn ysgafnach mewn corph ac yspryd. Yn fuan wedyn, cychwynodd y perchenog tuar mr eilwaith i gyrchu Halen a llwythodd yr Asyn, os oedd bosibl yn drymach nac or blaen. Ar ei ddychweliad, fel yr oeddynt yn croesi y ffrwd ir hon y syrthiasai or blaen, yr Asyn a syrthiodd i mewn o bwrpas, a thrwy doddiad yr Halen, fei rhyddhawyd oddiwrth ei faich drachefn. Y meistr yn ddig oblegid ei golled, ac yn dyfeisio pa fodd y gallai ei wella or cast, ar ei siwrnai nesaf at y mur a lwythodd yr anifail a baich o ysbwng. Pan y daethant at yr un ffrwd ag or blaen, aeth yr Asyn at ei hen gastiau drachefn, ac a roliodd ilawr ir afon; ond gan fod yr ysbwng wedi yfed y dwfr, fe gafodd, er ei ofid, fel yr ai yn mlaen tua chartref, ei fod yn lle ysgafnhau ei lwyth, wedi mwy na dyblu ei bwysau.

Ni wna yr un mesurau mor tro yn mhob amgylchiad. Gellir chwareu yr un cast unwaith yn rhy aml.

_________________________
(tudalen 24)

CHWEDL 23 - YR AST AR HWCH.
Cydrhwng Hwch a Gast a ddigwyddasant gyfarfod au gilydd, cyfododd dadl frwd yn nghylch eu ffrwythlonrwydd. Haerai yr Ast ei bod hi yn dwyn mwy o rai ieuaingc ar y tro, ac yn eu dwyn yn amlach, nag un creadur pedwar-troediog arall. Ydych, atebai yr Hwch. Yr ydych yn wir, ond yr ydych bob amser ar y fath frys gydar gwaith, fel yr ydych yn dwyn eich rhai bach ir byd yn ddeillion.

Gwell ychydig yn berfaith na llawer yn hanerog.

CHWEDL 24 - YR HEFFER AR YCH.
Heffer yr hon a redai yn rhydd yn y maesydd, ac ni theimlasai yr iau erioed, a wawdiai yr Ych wrth yr aradr am ymostwng ir fath lafur a chaledwaith. Ni ddywedodd yr Ych ddim, ond aeth yn mlaen gydai waith. Yn mhen ychydig amser wedi hyn digwyddodd

_________________________
(tudalen 25)

fod gwyl fawr. Cafodd yr Ych ei ddydd-gwyl i orphwys; ond dygwyd yr Heffer ymaith iw haberthu ar yr allor. Os hyn ydyw diwedd eich bywyd segur, ebair Ych, yr wyf fi yn meddwl fod fy llafur i yn well nach chwareu chwi. Gwell genyf im gwddf deimlo yr iau nar fwyall.

Y ffol a edrych ar yr amser presenol yn unig, ond y doeth a ystyria y diwedd.

CHWEDL 25 - Y BECHGYN AR LLYFFAINT.

Fel yr oedd nifer o fechgyn yn chwareu ar lan llyn, hwy a sylwasant ar luaws o Lyffaint yn y dwfr, ac a ddechreuasant daflu ceryg atynt. Yr oeddynt eisoes wedi lladd llawer o honynt, pan y darfu i un Llyffant mwy dewr nar lleill, roddi ei ben uwchlaw y dwfr, au ceryddu gan ddywedyd, Rhoddwch heibio eich difyrwch creulon, fy mhlant; ystyriwch, y mae yr hyn sydd yn chwareu i chwi yn angeu i ni.

Anynol ydyw difyru ein hunain ar gost dolurio ereill.

CHWEDL 26 - Y PYSGOD MAWR AR RHAI BYCHAIN.

Yr oedd Pysgotwr yn tynu yn ol rwyd a daflasai ir mr, yr hon oedd yn llawn o bob math o bysgod. Diangai y pysgad bychain trwy fesgau y rhwyd, ac aethant yn ol ir mr, ond yr holl bysgod mawr a ddaliwyd ac a ddygwyd ir llong.

Y mae distadledd weithiau yn achos o ddiogelwch.

_________________________
(tudalen 26)

CHWEDL 27 - Y PAUN AR BIODEN.

Cyfarfu yr adar i ddewis brenin. Daeth y Paun yn mlaen a chynygiodd ei hun fel ymgeisydd am yr orsedd, a dangosodd ei blyf hardd ac amliwiog gydar amcan o enill pleidleisiau y lliaws trwy brydferthwch ei wisg. Darfu ir nifer mwyaf bleidleisio drosto, a churasant eu hadenydd fel arwydd o gymeradwyaeth. Ond pan yr oeddynt ar ei gyhoeddi yn frenin, daeth y Bioden yn mlaen i ganol y dyrfa, a chyfarchodd y brenin newydd-etholedig fel hyn: Rhynged bodd ich Mawrhydi etholedig ganiatau i un och deiliaid anheilwng hysbysu i chwi ei amheuon ai ofnau yn mhresenoldeb y dyrfa ymgynulledig? Yr ydym wedi eich dewis chwi yn frenin arnom, yr ydym ar roddi ein bywydau an meddianau yn eich dwylaw, a bydd ein boll obaith an dibyniaeth arnoch; o ganlyniad, os bydd ir eryr, y fwltur, neu y barcut unrhyw adeg ymosod arnom, fel y mae yn debygol y gwnant, a fydd ich Mawrhydi fod mor dirion a chwalu ein hofnau a symud ein amheuon o berthynas i hyny trwy ein hysbysu pa fodd yr ydych yn bwriadu ein hamddiffyn

_________________________
(tudalen 27)

rhagddynt? Darfu ir cwestiwn priodol ac anatebadwy hwn ddwyn yr holl dorf i ystyried y pwngc gydar fath ddifrifoldeb, fel y darfu iddynt ddadwneyd eu penderfyniad, a gwrthod derbyn y Paun fel eu brenin.

Na ddilynwch y lliaws i wneuthur drwg.

CHWEDL 28 - Y LLWYNOG AR CHWIBAN.
Gwahoddodd Llwynog ryw dro Chwibon i giniawa gydag ef, a chan feddwl difyru ei hun ar gost ei ymwelydd, ni threfnodd ddim ir wledd ond ychydig botes teneu mewn dysgl fas. Lleibiai y Llwynog hwn i fyny yn hawdd, ond y Chwibon, o herwydd nad allai gydai phig hirfain godi prin ddim o hono, oedd mor newynog ar ddiwedd y ciniaw ag oedd yn y dechreu. Cymerai y Llwynog ar yr un pryd arno gwyno iddi oblegid ei bod wedi bwyta mor ychydig, ac ofnai nad oedd y ddysgl ddim wedi ei choginio at ei harchwaeth. Ni ddywedodd y Chwibon fawr, ond deisyfodd ar y Llwynog ei hanrhydeddu trwy ad-dalu yr ymweliad; ac felly fe gytunodd i giniawa gyda hi dranoeth. Cyrhaeddodd yn brydlon yn ol ei addewid, a dygwyd y ciniaw ger bron yn ddioed; ond gwelodd y Llwynog, er ei siomedigaeth, ei fod wedi ei ddodi mewn llestr gyda gwddf hir a chul, ir hwn y gallai y chwibon yn hawdd roddi ei gwddf ai phig hir, tra yr oedd yn rhaid iddo ef ymfoddloni ar lyfu genau y llestr yn unig. Yn analluog i dori ei newyn, fe aeth ymaith gan roddi y gwyneb goreu a allai arno ei hun, a sylwi nad allai ef ddim beio ar ei letywr, yr hwn ni wnaeth ddim ond talu yn ol iddo yn ei arian ei hun.

Ni ddylai y rhai a gellweiriant a theimladau ereill ddisgwyl cael arbed yr eiddynt hwy.

_________________________
(tudalen 28)

CHWEDL 29 - Y MARCH AR LLEW.

Llew, yn gweled March ieuangc graenus, a deimlodd duedd gref iw fwyta, ond ni wyddai pa fodd iw gael iw afael. Or diwedd meddyliodd am y cynllun yma: rhoddodd allan ei fod yn feddyg, ag ydoedd wedi teithio llawer mewn gwledydd tramor, ac felly yn alluog trwy ei hir ymarferiad i wella unrhyw ddolur neu afiechyd ar bob math o greadur; gan obeithio trwy y ddyfais hon i gael cyfleusdra i gario ei gynlllun i weithrediad. Y Ceffyl, yr hwn a amheuai ei amcan, a benderfynodd fod i fynu g ef; ac felly, yn cymeryd arno ei fod yn credu y peth yn llawn, a dalodd ymweliad r Llew, a dymunodd gael ei gyngor o berthas i ddraen oedd yn ei droed, yr hon oedd wedi ei gloffi yn hollol, ac yn peri poen mawr iddo. Cydsyniodd y Llew yn rhwydd, a dmunodd gael gweled ei droed. Ar hyn cododd y Ceffyl un oi draed pl, a thra yr oedd y Llew yn cymeryd arno ei archwilio, rhoddodd iddo y fath droediad yn ei wyneb ag ai llwyr syfrdanodd, a

_________________________
(tudalen 29)

gadawodd ef yn rholio ar y ddaear. Ar yr un pryd carlamodd y March ymaith, gan weryru a chwerthin yn braf o herwydd llwyddiant ei ddyfais, trwy ba un y dyrysodd amcan un ag oedd yn ceisio dwyn ei einioes ymaith.

Nid yn anaml y mae y drwg a fwriada y cyfrwys i arall yn disgyn ar ei ben ei hun.

CHWEDL 30 - YR AFR AR BUGAIL.
Yr oedd Gafr wedi crwydro oddiwrth y praidd, a threiai y Bugail yn mhob modd iw dwyn yn ol at ei chyfeillion. Or diwedd, wedi llwyr fethu cael ganddi ddychwelyd trwy alw a chwibanu arni, fe gododd gareg, ac ai tarawodd ar ei chorn gan ei dori. Wedi dychrynu wrth weled hyny, fe erfyniodd ar yr Afr i beidio dweyd wrth ei feistr, ond hi a atebodd, O? ffolaf o fugeiliaid! fe ddywed fy nghorn yr hanes, pe us ddywedwn i un gair.

Y mae ffeithiau yn llefaru yn eglurach na geriau.

CHWEDL 31 - Y GF AI GI.
Yr oedd gan rhyw Of Gi bychan. Pan y byddai y Gof yn curo ei haiarn, fe gysgai y Ci; ond y foment yr eisteddai i lawr i giniawa, fe ddeffroai y Ci. Y corgi diog! meddai y Gof, gan daflu asgwrn iddo; yr wyt yn cysgu trwy holl sŵn yr emion, ond yn deffro i fynu cyn gynted ag y clywi swn fy nanedd.

Y mae rhai dynion nad ydynt yn effro i ddim ond eu lles eu hunain.

_________________________
(tudalen 30)

CHWEDL 32 - Y DYN IEUANGC AR GATH.

Cath wedi syrthio mewn cariad dyn ieuangc, a erfyniodd ar Gwener ei chyfnewid i ferch, yn y gobaith o enill ei gariad. Trawsffurfiodd y Dduwies hi yn forwyn, a phriododd y dyn ieuangc hi. Fel yr oeddynt yn eistedd yn eu hystafell, Gwener, yn dymuno gwybod a ydoedd wrth newid ei ffurf wedi newid ei natur hefyd, a osododd lygoden oi blaen. Y Briodas-ferch, yn gwbl ddiystyr oi gŵr, a ruthrodd oi heisteddle, a erlidiodd y llygoden fel pe buasai am ei bwyta yn y fan; ar hyny y Dduwies, yn teimlo yn ddig o herwydd ei hymddygiad, ai trawsffurfiodd yn ol yn Gath eilwaith, fel y byddai iw hymarferion ai pherson fod yn gyson u gilydd.

Y mae natur yn drech na dysg.

_________________________
(tudalen 114c)

CHWEDL 33 - Y GWRYCH AR WINLLAN.
CHWEDL 34. CYSGOD YR ASYN.


TUDALEN 31 AR GOLL
_________________________
(tudalen 114c)

CHWEDL 35 - YR ASYN YN NGHROEN Y LLEW.

TUDALEN 32 AR GOLL

_________________________
(tudalen 33)

CHWEDL 36 - Y SERYDDWR.

Seryddwr a arferai gerdded allan bob nos i sylla ar y sr. Digwyddodd un noswaith, fel yr oedd efe yn crwydro or tu allan ir ddinas, gydai holl feddylfryd wedi ei gloi i fyny yn y nefoedd, iddo syrthio i mewn i ffynon. Ar ei waith yn gwaeddi allan am help, daeth rhywun a glywodd ei floeddiadau, at enau y ffynon, ac wedi clywed pa fodd y digwyddasai iddo, a sylwodd, Wrda, tra yr ydych yn ymdrechu chwilio i mewn i ddirgelion y nefoedd, yr ydych yn anghofio y pethau cyffredin sydd dan eich traed.

Gwaith doeth ydyw syllu ar bethau mawr y nefoedd; ond gwaith ffol yw esgeuluso pethau bychain y ddaear.

CHWEDL 37 - Y MOCHYN AR DEFAID.

Cymerodd Mochyn ieiuangc ei lety mewn corlan defaid. Rhyw ddiwrnod daeth y Bugail ac a gydiodd ynddo, pan y gwingodd ac y gwaeddodd yntau i holl egni. Y Defaid ai beient ef am waeddi allan, gan ddweyd Y mae y Bugail yn fynych yn gafael ynom ni, ac ni byddwn ni yn gwaeddi. I, ebai yntau, ond nid yw ein hamgylchiadau yr un; efe afaela ynoch chwi er mwyn eich gwlan, ond ynof fi er mwyn fy nghig.

Nid oes un golled iw chydmaru i golli bywyd .

_________________________
(tudalen 34)

CHWEDL 38 - Y CEILIOG AR LLWYNOG.
Llwynog, yn myned heibio i ffermdy un boreu yn yr haf, a ddaliwyd mewn magl, a osodwyd ir pwrpas hwnw. Canfyddodd y Ceiliog pa beth a ddigwyddodd; ac heb deimlo llawer o duedd i fyned yn rhy agos ir fath elyn peryglus, a nesaodd ato yn ochelgar, ac a edrychodd arno, ond nid heb deimlo peth arswyd a chyffro meddwl. Nid cynt y gwelodd Madyn ef, nag y cyfarchodd ef yn ei ddull mwyaf cyfrwys a llwynogaidd. Fy anwyl gefnder, meddai, yr ydych yn gweled y fath ddamwain anffortunus sydd wedi fy ngoddiweddyd i yma, a hyny i gyd och achos chwi: oblegid, fel yr oeddwn yn ymwthio trwy y gwrych draw, ar fy ffordd gartref, clywais eich llais, a phenderfynais droi i ofyn i chwi pa fodd yr oeddych, cyn myned yn mhellach: ond ar y ffordd, cyfarfyddais ar ddamwain yma; ac felly rhaid i mi yn ostyngedig ofyn i chwi am gyllell i dori y llinyn yma; neu, or hyn lleiaf, y bydd i chwi gelu fy anffawd hyd nes y caf amser i gnoi y llinyn m danedd. Y Ceiliog, yn gweled sut y safai pethau, ni ddywedodd ddim mewn atebiad, ond hedodd ymaith cygynted ag y gallai, a rhoddodd yr holl hanes o flaen y ffermwr;
_________________________
(tudalen 35)

yr hwn, gan gymeryd arf iw ganlyn, a ddaeth ac a laddodd y Llwynog cyn iddo gael amser i ddiangc.

Gwnewch wahaniaeth wrth estyn eich cymwynasau.
Y ffol a estyn gymwynas i bawb ai gofyno, ond y call a ofala ar fod y gwrthddrych yn deilwng.

CHWEDL 39 - Y BUGAIL AR MR.
Bugail a arweiniodd ei braidd i bori ar fin y traeth, ac wrth weled y Mr yn gorwedd mewn llonyddwch esmwyth a thawel, efe a feddianwyd a dymuniad cryf i hwylio drosto.
Felly fe werthodd ei holl Ddefaid ac a brynodd lwyth o Balmffrwyth, ac a lanwodd lestri, ac a aeth ymaith. Nid oedd wedi morio yn mhell pan y cyfododd tymhestl; aeth ei long yn ddrylliau, collwyd ei Balmffrwyth ar cwbl, ac ni chafodd efe ond diangfa fawr am ei fywyd. Ychydig amser wedin, yr oedd y Mr eto yn dawel, a daeth un oi gyfeillion i fynu ato a dechreuodd ganmol ei dawelwch prydferth. A! meddai, gwyliwch fy anwyl gyfaill, rhag y gwyneb tawel yna; nid ydyw ond edrych am eich Palmffrwyth.

Os oes dau wyneb yn bosibl, ni ddylid ymddiried dim nes gweled y ddau. Ni ddylid ymddiried llawer ir cyfnewidiol.

CHWEDL 40 - Y CŴN AR CRWYN.
Rhyw Gŵn newynog, yn gweled nifer o Grwyn r, y rhai yr oedd Crwynwr wedi eu gadael yn ngwaelod rhyw ffrwd, a hwythau yn analluog iw cyrhaedd, a benderfynasant i yfed yr afon i fynu i gael at yr ysglyfaeth. Felly hwy a aethant ati o ddifrif, ond hwy oll a ymholltasant cyn erioed ddod yn agos at y crwyn.

Y rhai a ymdrechant i gyrhaedd yr hyn sydd anmhosibl iddynt, a thrwy foddion croes i reswm, ydynt dueddol i andwyo eu hunain yn yr ymdrech.

_________________________
(tudalen 36)

CHWEDL 41 - Y BRIODAS ANGEUOL.
Llew, wedi derbyn cymwynas gan Lygoden, ac yn penderfynu ad-dalu ei charedigrwydd os gallai, a ddymunodd ar ei gymwynaswr i nodi ei thelerau ei hun, gan ei sicrhau y caffai ei dymuniad hyd eithaf ei allu. Y Llygoden, wedi ei thanio gan y cynyg haelfrydig, ni wnaeth ystyried yn gymaint pa beth fuasai yn briodol iddi ofyn, ond pa beth oedd yn ngallu y Tywysog iw roddi iddi; ac felly yn rhyfygus a ofynodd am y Llewes ieuangc yn wraig iddi. Cydsyniodd y Llew; ond pan yr oedd ar fedr rhoddi y Dywysoges ieuangc yn ei meddiant, darfu iddi hi, yn ei diofalwch yn cerdded, ddodi ei phawen ar ei phriod anffortunus, a gwasgodd hi i farwolaeth.

Pwngc pwysig bywyd yw dewis gwraig; ar y dewisiad y dibyna cysur neu anghysur yr oes.

_________________________
(tudalen 37)

CHWEDL 42 - Y BLAIDD AR AFR.
BIaidd yn gweled Gafr yn pori ar ddibyn craig uchel, ac mewn lle nad allai efe fyned ati, a ddeisyfodd arni ddod yn is i lawr, rhag iw throed lithro ac iddi syrthio or fath uchder mawr; ac heblaw hyny, meddai, y mae y borfa yn llawer melusach a helaethach i lawr yma. Ond atebai yr Afr, Esgusodwch fi; nid er mwyn fy nghiniaw i yr ydych yn fy ngwahodd, ond er mwyn yr eiddoch eich hun.

Os dechreua gelyn maleisddrwg siarad yn rhy deg, gellir amheu ei ddibenion.

CHWEDL 43 - Y GWLAW AR TIR.
Aeth Cwmwl mawr dros wlad ag ydoedd wedi ei sychu i fyny gan wres yr haf, ond ni ollyngodd gymaint ag un diferyn iw hadfywio. Yn fuan gollyngodd swm mawr o wlaw pan uwchben y mr, ac yna dechreuodd son am ei haelioni yn nglywedigaeth mynydd cyfagos. Pa ddaioni wnaeth dy haelioni? gofynai y mynydd. Pe buaset wedi gollwng dy gynwys ar y tir, buaset wedi achub cymydogaeth rhag newyn. Am y mr, fy nghyfaill, y mae ganddo ddigonedd o ddwfr, heb i ti ychwanegu dim ato.

Cyfranwn ein cymwynasau ir anghenus ac nid i rai a digonedd ganddynt.

_________________________
(tudalen 38)

CHWEDL 44 - Y CARW WRTH Y LLYN.

Carw yn yfed o lyn ag oedd yn adlewyrchu ei gysgod yn ei ddyfroedd grisialaidd, a ddechreuodd edrych arno ei hun gyda boddhad mawr. Wel yn wir! y fath bar arddechog o gyrn sydd yna!
Mor delaid yr addurnir fy ael gan y corngangau hyn! Gwyn fyd na byddai fy nhraed mor brydferth am hael addurnol! Tra yr ydoedd yn myfyrio fel hyn, brawychwyd ef gan swn helwyr a chŵn. Ymaith yr , a thrwy ddefnyddio ei draed chwim, a adawodd ei erlidwyr yn bell ar ei ol. Ond yn fuan wedin, wrth ymwthio i mewn i ddyryslwyn tewfrig, aeth ei gyrn yn dyn yn y cangau, goddiweddwyd ef gan y cŵn, a thynasant ef i law. Y fath greadur anffortunus ydwyf! gwaeddai; yr wyf yn cael mai y cyrn hyn, or rhai yr oeddwn mor falch, sydd wedi bod yn achos om dinystr; a gallasai yr aelodau a ddibrisiwn gymaint sicrhau fy niogelwch.

Y defnyddiol o flaen yr addurnol; rhinwedd sylweddol y meddwl o flaen swynion prydferthwch personol.

_________________________
(tudalen 39)

CHWEDL 45 - YR AMAETHWR AI GEFFYL.

Fel yr oedd Amaethwr yn hau Ceirch un diwrnod, darfu iw ymddygiad beri syndod mawr i geffyl ag ydoedd heb gyraedd oedran a synwyr, a ddigwyddai sefyll gerllaw. Y fath ffolineb, meddyliai y Ceffyl, ydyw taflu y ceirch ir pridd fel yna. Gymaint mwy o les wnelsai pe cawswn i ef! Edrychai ar yr holl drafodaeth or dechreu ir diwedd fel ynfydrwydd. Ond tyfodd y ceirch i fyny, a phan ddaeth yr haf, medwyd ac ystoriwyd ef gan yr Amaethwr, a chafodd y ceffyl ai gwawdiai fyd da wrth ymborthi arnynt ar hyd y gauaf.

Yr ydym, fel y Ceffyl ynfyd, yn rhy barod i feio gweithrediadau Rhagluniaeth, er heb allu gweled y diwedd nar amcan mewn golwg.

CHWEDL 46 - Y TARW AR AFR.

Tarw yn cael ei ymlid gan Lew, a ffodd i ogof yn yr hon yr oedd Gafr wyllt wedi gwneyd ei chartref. Ar hyny dechreuai yr Afr ymosod arno, gan ei bwtian ai chyrn. Na thybiwch, meddai y Tarw, os goddefaf hyn yn awr mai y chwi yr wyf yn ei ofni. Gadewch ir Llew unwaith fyned or golwg, a mi a ddangosaf yn fuan i chwi y rhagor rhwng Tarw a Gafr.

Dynion gwael a gymerant fantais ar brofedigaethau eu cymydogion iw poeni; ond gall yr amser ddod pan yr edifarhant eu traha.

_________________________
(tudalen 40)

CHWEDL 47 - Y LLWYNOG YN Y FFYNON.


Llwynog, ar ol syrthio i Ffynon, a lwyddodd, trwy wthio ei ewinedd ir ochrau, i gadw ei ben uwchlaw y dwfr. Yn fuan wedin, daeth Blaidd ac a edrychodd dros yr yrnyl, ir hwn y gofynodd y Llwynog, gyda thaerineb, am gynorthwy, gan ofyn iddo estyn rhaff iddo fel y gallai ddianc or lle peryglus. Y Blaidd, yn teimlo drosto yn ei anhapus gyflwr, ai cyfarchodd fel hyn: Ah! Rinallt druan! meddai; y mae yn ddrwg genyf drosot yn fy nghalon. Pa fodd y daethost ir fath sefyllfa beryglus? Aros, gyfaill, atebai y Llwynog, os wyt ti yn dymuno yn dda i mi, paid a sefyll i ofidio drosof, ond estyn rhyw gymorth i mi mor fuan ag y gelli; oblegid cysur oer yw cydymdeimlad pan y mae un at ai n yn yn y dwfr, ac o fewn trwch blewyn i newynu neu foddi.

Profir cyfaill mewn adfyd. Mae geiriau teg yn dda, ond gweithredoedd da yn well.

_________________________
(tudalen 41)

CHWEDL 48 - Y DDAU GI.
Un diwrnod y mae Carlo yr hen gi gwylio gweithgar a ffyddlon yn gweled ei hen gydymaith, y moethus ar chwareus Tango, yn gorwedd ar glustog esmwyth wrth ffenestr. Bron a chael ei orchfygu gan deimlad, cyfarcha ei hen gydymaith, Pa fodd y mae pethau, Tango, ar ol ir meistr eich cymeryd iw balas? Yr ydych yn cofio, yn ddiameu, ein bod yn aml bron a chael ein newynu i farwolaeth. Pa beth ydych yn wneyd yn awr? Byddai yn anheg pe bawn yn cwyno ar fy sefyllfa, atebai Tango, y mae fy meistr yn bobpeth ag y dymunwn iddo fod. Yr wyf yn byw yn ddedwydd a moethus. Yr wyf yn bwyta fy mwyd o lestri arian, a phan yn flinedig y mae genyf le esmwyth i gysgu arno. Ond dywed di pa fodd yr wyt yn dyfod yn mlaen? O berthynas i mi, ebai Carlo, gyda phen gogwyddedig a chynffon lipa, y mae fy mywyd yn debyg ir hyn yr arferai fod. Yr wyf yn dyoddef oddiwrth oerni a newyn, a thra yn gwylio dros eiddo fy meistr gwlychir fi yn aml at fy nghroen, byddaf yn cysgu yn nghysgod y clawdd neu rywle y gallaf gael lie, ac os digwydd i mi gyfarth ar adeg anmhriodol fflangellir fi. Ond dywed wrthyf, Tango, pa fodd y buost mor ffodus, a thithau mor fychan a gwan tra yr wyf fi yn gweithio fy hun i farwolaeth heb gael yr uu wobr. Pa beth wyt yn wneyd? Pa beth ydwyf yn wneyd? atebai Tango; cwestiwn braf iw ofyn! gwneyd! Wel, yr wyf yn cerdded o amgylch ar fy nhraed l.

Y mae y diwerth ar diog yn aml yn cael mwy o barch nar gweithiwr ffyddlon.
_________________________
(tudalen 42)

CHWEDL 49 - YR ASYN YN BWYTAR YSGALL.

Yr oedd Asyn wedi ei lwytho a bwydydd rhagurol o wahanol fathau, y rhai, yn amser cynhauaf, a gariai ir maes iw feistr ar medelwyr i giniawa arnynt. Ar y flordd cyfarfyddodd thwmpath o ysgall braf, a thrwy ei fod yn dra newynog, dechreuodd ei fwyta yn awchus; a thra wrth y gorchwyl, meddyliai fel hyn: Pa sawl glwth fuasai yn teimlo ei hun yn ddedwydd pe cawsai afael yn y danteithion amrywiol sydd yn awr ar fy nghefn! Ond i mi y mae yr Ysgall chwerw a phigog hyn yn fwy blasus a hyfryd nar wledd fwyaf cyfoethog a danteithiol.

Yr hyn sydd yn fwyd i un sydd yn wenwyn ir llall. Pob un yn ol ei chwaeth.

_________________________
(tudalen 43)

CHWEDL 50 - Y DDAFAD AR CARW.

Dymunodd Carw am gael benthyg bwsial o wenith gan y Ddafad, gan gynyg y Llwynog fel meichiau. Y Ddafad yn ofni yn mlaen llaw ei dwyll, a ddywedodd, Y mae y Llwynog yn byw ar dwyllo a lladrata, a chwithau i ddiangc ymaith pan y ceisir eich dal.
Pa le y gallaf gael gafael arnoch pan ddaw dydd y talu?

Gochelwch ddyn cyfrwys yn feichiau.

CHWEDL 51 - Y DDAFAD, Y CI, AR BLAIDD.

Camgyhuddid Dafad gan Gi o fenthyca torth o fara oddiarno, a hawliai ei chael yn ol. Pan ddaeth yr achos i gael ei brofi, galwyd ar y Llwynog yn dyst o du y Ci, yr hwn a sicrhaodd y llys fod yr oll a ddywedai y Ci yn wirionedd. Felly trodd yr achos yn erbyn y Ddafad, a gorfodwyd hi i dalu yr hyn nad ydoedd yn ddyledus arni. Yn mhen ychydig ddyddiau gwelodd y Ddafad y Llwynog yn gorwedd mewn ffau ddofn, yn ymyl marw, a dywedodd, Y mae y duwiau yn dwyn arnat y gospedigaeth yna am dy dwyll.

Y mae cosbedigaeth yn aros y camgyhuddwr.

_________________________
(tudalen 44)

CHWEDL 52 - YR AFANC AI ERLIDWYR.

Dywedir fod gan yr Afanc (creadur ag sydd yn byw gan mwyaf yn y dwfr) ryw ran berthynol iddo ag a ystyrir yn dda fel meddyginiaeth, ac ar y cyfrif hwn erlidir a lleddir ef yn aml. Un tro, fel yr oedd un or creaduriaid hyn yn cael ei erlid yn dst gan y cŵn, ac heb wybod pa fodd i ddianc, a feddyliodd ynddo ei hun am y rheswm oedd gan yr erlidwyr dros geisio ei ddal, a chyda phenderfyniad a phresenoldeb meddwl mawr, torodd allan i ddanedd y dernyn ag a geisiai ei erlidwyr, a thaflodd ef tuag atynt, ac felly achubodd ei fywyd.

Pob peth ddyry dyn am ei einioes.
Y mae y croen yn nes nar wisg.

_________________________


(tudalen 45)
CHWEDL 53 - Y WIWER AR LLEW.

Gwasanaethwyd Llew mor ffyddlon gan Wiwer fel y cafodd addewid o lonaid trol o gnau yn wobr. Mae amser yn myned heibio, ond nid yw y cnau yn cael eu rhoddi, ac y mae y Wiwer yn aml mor newynog fel y mae yn cael trafferth i edrych mor siriol ag y dylai yn mhresenoldeb ei meistr breiniol. Ambell waith wrth fyned heibio trwy y goedwig gwela ei chymdeithion yn y dyrysni, a chlywa hwy yn tori cnau, ac yn ymddangos wrth eu bodd. Y mae yn aml ar fin ailymuno hwy, ond pan yn symud tuar coed gelwir arno yn ol at rhyw orchwyl pwysig. Or diwedd y mae y Wiwer yn myned yn hen, a theimla y Llew ei fod braidd ar y ffordd. Y mae yr amser wedi dyfod iddo ymneillduo oddiwrth orchwylion ei swydd. Felly dodir y Wiwer or neilldu, a derbynia y gertiad gnau or diwedd. Cnau braf mewn gwirionedd, y fath ag na welir yn aml; ffrwyth dewisedig, pob cneuen yn berffaith. Y mae un peth, pa fodd bynag, yn anffortunus. Y mae y Wiwer wedi colli ei ddanedd ers tro.

Na adawer teilyngdod heb ei wobr nes yr elo yn analluog iw mwynhau.

CHWEDL 54 - Y BACHGEN AR CI
Keeper, yr ydwyf yn myned am dro ir wlad, a ddeui di gyda fi, ebai John wrth yr hen gi ffyddlon. Caraswn ddyfod ich canlyn, ebai y ci, ond nis gallaf. Paham, Keeper? Y mae gofal y tŷ arnaf, a rhaid i mi aros yma rhag ofn y daw lladron i geisio tori i mewn iddo, a lladrata eiddo fy meistr.

Dyledswydd o flaen pleser.

_________________________



(tudalen 46)

CHWEDL 55 - Y BACHGEN YN YMDROCHI.

Bachgen yn ymdrochi mewn afon, a aeth i le rhy ddwfn iddo, ac yr oedd ar suddo pan y gwelodd ŵr yn pasio heibio, ac fe waeddodd ar hwnw ai holl egni am ymwared. Dechreuodd y gŵr roddi gwers ir bachgen am ei ryfyg; ond gwaeddodd yr hogyn allan, O! Syr, achubwch fi yrwan, a rhowch y wers i mi wedin.

Mae llawer yn barotach i roi cynghor nag i roi help.

_________________________


(tudalen 47)

CHWEDL 56 - Y MORGRUGYN YMFFROSTGAR.

Yr oedd Morgrugyn penodol yn hynod o gryf. Dywed tystion credadwy ei fod yn gallu codi dau ronyn o haidd ar unwaith. Heblaw hyny yr oedd yn enwog am ei wroldeb. Byddai yn ymosod ar bob pryf a welai, a llawer gwaith y mentrodd ymladd phryf copyn. Yn ei gartref ni siariadid am ddim ond ei alluoedd anghyffredin, ac mor uchel a chyffredin y daeth y ganmoliaeth a dderbyniai fel y trodd yn ei ben or diwedd. Yn awyddus am ogoniant newydd, penderfynodd ddangos ei hun yn y dref gyfagos, ac yno o ganlyniad y trodd ei wyneb, gan sefyll yn syth ar ben llwyth o wair. Ar ei ddyfodiad disgwyliai greu cyffro, ond er ei syndod nid oedd neb yn cymeryd y sylw lleiaf o hono. Yn ofer y cymer ddeilen ai throi o amgylch ei ben. Y mae hyny a gorchestion ereill yn pasio yn ddisylw. Nid oes neb yn ei gydnabod mewn modd yn y byd. Wedi blino or diwedd wrth geisio dangos allan ei alluoedd, sylwa, gyda gradd o siomedigaeth yn ei lais, wrth y ci a orweddai yn ymyl y drol, Wel, yn wir, rhaid i ti gyfaddef nad oes gan bobl dy dref di na llygaid na synwyr cyffredin. Pwy byth fuasai yn breuddwydio na buasai neb yn gwneyd y sylw lleiaf o honof, er fy mod wedi ymdrechu am holl egni am awr gyfan? Ac ar yr un pryd y mae holl forgrug ein pentwr ni yn unllais yn fy nghlodfori ac yn cydnabod fy ngalluoedd. Ac y mae yn myned gartref yn ddigalon iawn.

Y mae dyn bychan yn mhlith rhai llai nag ef ei hun yn meddwl ei hun yn fwy na phawb, ond ar ol myned allan ir byd yn darganfod ei gamgymeriad.

_________________________


(tudalen 48)

CHWEDL 57 - Y CI AR DDAFAD.
Darfu i Gi roddi cyfraith ar Ddafad am ddyled, a phenodwyd y Barcud ar Llwynog i fod yn farnwyr. Darfu iddynt hwy, heb siarad llawer ar y mater, na sylwi fawr ar wendid y dystiolaeth, roddi dedfryd o blaid y Ci; yr hwn yn uniongyrchol a rwygodd y Ddafad druan, ac a ranodd yr ysgerbwd gydar barnwyr anghyfiawn.

Dylai barnwyr fod yn ddiduedd.
_________________________


(tudalen 49)

CHWEDL 58 - Y WIWER FFWDANUS.

Ar ddiwrnod gwyl ymgasglodd holl drigolion pentref at dŷ eu meistr, i edrych gyda syndod ar Wiwer ag ydoedd mewn cage y tu allan ir drws. Yr oedd y cage wedi ei wneyd i gael ei droi o amgylch trwy lafur y Wiwer. Yr oedd yn gosod ei bawenau bychain ar risiau yr olwyn, ac yn troi y cage gyda chyflymder mawr. Anwyl gymydog, ebai Bronfraith a safai gerllaw, a fyddwch chwi cygystal a dweyd wrthyf pa beth ydych yn wneyd yn y fan yna? Ah, anwyl gyfaill, atebai y Wiwer, y mae genyf i weithio yn ddiymaros trwyr dydd. Mawn gwirionedd yr wyf yn negesydd i foneddwr urddasol. Nis gallaf byth aros am funud i fwyta nac yfed, na chymeryd fy anadl, ac yn mlaen yn brysur gydai orchwyl o droi y cage. Felly yn wir, ebai y Fronfraith fel yr eheda ymaith, Yr wyf yn gweled yn amlwg dy fod yn rhedeg yn gyflym, ond eto yr wyt ith gael yn wastad yn yr un man.

Aml i ddyn prysur ac ymyrgar yn dychmygu fod ei weithredoedd o bwys mawr, pan na bydd neb arall yn edrych arnynt felly.

CHWEDL 59 - Y TARW AR LLO.
Yr oedd Tarw yn ceisio gwthio yn mlaen trwy fynedfa gul i fyned ir beudy, a darfu i Lo a safai gerllaw anturio ceisio dangos iddo pa fodd i gyraedd yr amcan, pan yr atebodd y Tarw, Dal dy dafod, yr wyf yn gwybod hyny cyn dy eni di.

Na fydded i chwi byth anturio dysgu rhai doethach na chwi eich hunain.

_________________________


(tudalen 50)

CHWEDL 60 - Y DRAENOG AR NADROEDD.

Draenog yn chwilio am le i gysgodi, a ofynodd ganiatad i ryw Nadroedd am gael myned iw twll. Gallodd eu perswadio, a chafodd, o ganlyniad, fyned i mewn; ond poenwyd hwy mor fawr gan ei bigau blaenllym, fel yr edifarhasant am fod mor barod i roddi caniatad iddo, a dymunasant arno fyned ymaith, a gadael y twll iddynt hwy. Na wnaf, ebe ynte, gall y sawl nad ydynt yn hoffi y twll ei adael; am danaf fi, yr wyf yn eithaf dedwydd yn fy lle.

Byddwch ochelgar wrth ddewis eich cyfeillion, rhag y byddwch yn edifarhau pan y bydd yn rhy ddiweddar. Gwell bod eich hunan nac mewn cwmni drwg.

_________________________


(tudalen 51)

CHWEDL 61 - Y CEILIOG TWRCI AI BLANT.

Gwrandewch fy mhlant, ebai Ceiliog Twrci, yr ydwyf am i chwi bob amser fod yn foesgar a gostyngedig; er dim peidiwch a chweryla a myned i dymherau drwg; gadewch ymladd i blant drwg. Os na thalwch sylw ir cynghorion hyn bydd i mi eich ceryddu yn llym. Ar hyny, dyma fachgen yn dyfod ir buarth yn gwisgo cap coch, ac mewn munud yr oedd yr hen geiliog Twrci yn berwi mewn tymher ddrwg, a rhedodd ar ol y bachgen gan fygwth ei ddifetha.

Gwell esiampl na chynghor.

CHWEDL 62 - Y GIGFRAN AR CI,
Trwy gyfrwysdra cafodd Cigfran gyfle i gipio tamaid o gig oedd gan Gi. Rhedodd y Ci ar ei hol, a dywedodd wrthi, Yr hen Ladrones! A wyt ti am gymeryd fy nhamaid cig ymaith. Aros, ebai y Gigfran, a wyddost ti fy mod yn perthyn ir Heddgeidwaid, ac mai fy ngwaith yw edrych ar ol lladron. Ar hyny gostyngodd y Ci ei glustiau, a rhedodd ymaith, oblegid gwyddai mai wedi lladrata y cig yr oedd.

Yr euog a ffy heb neb yn ei erlid.

_________________________


(tudalen 52)

CHWEDL 63 - CYMERYD YR UDGANWR YN GARCHAROR.

Udganwr a gymerwyd yn garcharor mewn rhyfel, a erfyniodd yn daer am arbediad, gan dystio ei ddiniweidrwydd, a sicrhau na laddodd ac nad allai ladd yr un dyn; nad oedd ganddo arfogaeth, ond ei udgorn yn unig, yr hwn yr oedd yn rhaid iddo ei chwythu pan orchymynid iddo. Am y rheswm yna, ebai ei elynion, yr ydym wedi penderfynu na bydd i ni dy arbed; oblegid er nad wyt ti byth yn ymladd dy hunan, eto gydar offeryn gwael yna yr wyt yn chwythu i fyny elyniaeth rhwng pobl ereill, ac felly yn dyfod yn achlysur tywallt llawer o waed.

Maer cynorthwywr mor euog ar gweithredwr.

_________________________


(tudalen 53)
CHWEDL 64 - Y TAD AI DDWY FERCH.

Yr oedd gan ŵr ddwy ferch, un o ba rai a briododd Arddwr, ar llall Grochenydd. Yn mhen amser fe aeth i dalu ymweliad r Garddwr, a gofynodd iw ferch pa fodd yr oedd arni. Da iawn, atebai hithau, y mae genym bob peth sydd arnom eu heisiau; nid oes genyf ond un dymuniad, sef ini gael cyflawnder o wlaw i ddyfrhau ein llysiau. Wedi hyn aeth y Tad i ymweled r Crochenydd, a gofynodd ir ferch arall pa fodd yr oedd pethau gyda hithau. Nid oes arnom eisiau dim, meddai hi, ond yn unig gobeithiaf y bydd ir hn deg ar haul poeth yma barhau i grasu ein priddfeini. Wel, wel! meddai y Tad, os ydych chwi yn deisyfu hn sych, ach chwaer hn wlawog, am ba un y rhaid i mi weddo fy hun?

Os nad ellir pleidio un cyfaill heb ddigio y llall, gwell bod yn ddistaw.

CHWEDL 65 - Y CI AR HWRDD.
CI. Cymer ofal, Hwrdd bach, oblegid yr wyf am dy frathu.

HWRDD. Cymer di ofal, Gi bach, neu mi ath gorniaf.

CI. Y mae genyf ddannedd miniog, cymer ofal!

HWRDD. Y mae genyf finau ddau gorn. Edrych atat dy hun!

CI. Na, paid Hwrdd bach, nid oeddwn ond cellwair; gad i ni fod yn gyfeillion, a chwareu yn ddedwydd an gilydd.

Llawer un yn rhoddi ei arfau i lawr, ac yn cynyg amodau heddwch, pan y gwel nas gall goncro ei wrthwynebydd.

_________________________


(tudalen 54)

CHWEDL 66 - YR ARTH AR CYCHOD GWENYN,

Arth, ar ol dringo dros glawdd i fan lle y cedwid Gwenyn, a ddechreuodd ysbeilio y Cychod, a lladrata y ml o honynt. Ond darfu ir Gwenyn, i ddial am y niwaid, ymosod arno yn un haid ar unwaith; ac er nad oeddynt yn alluog i drywanu trwy ei groen garw, eto, gydau colynau bychain darfu iddynt ei boeni ir fath raddau yn ei lygaid ai ffroenau, fel, yn methu dyoddef y boen lymdost yn hwy, y darfu iddo yn ei wylltmeb rwygo y croen dros ei glustiau ai bawenau ei hun, a dyoddefodd ddigonedd o gospedigaeth am y niwaid a wnaeth ir Gwenyn wrth ddryllio eu tai a lladrata eu heiddo.

Na ddiystyrer gelynion bychain a chlwyfau bychain.

_________________________


(tudalen 55)

CHWEDL 67 - YR AFONYDD AR MOR.

Digwyddodd ar dro ir Afonydd gydfwriadu yn erbyn y Mor, a chan fyned gydau gilydd ato, hwy au cyhuddasant, gan ddweyd, Paham, pan yr ydym ni yr Afonydd yn tywallt ein dyfroedd i chwi mor beraidd a melus, yr ydych chwi yn union yn eu gwneyd mor hallt a diflas? Y Mr, yn gweled y dymher yr oeddynt ynddi, a atebodd yn gwta, Os nad ydych yn dymuno myned yn hallt, gwelwch yn dda gadw draw oddiwrthyf yn hollol.

Nid oes fawr o gwyn ir rhai a redant yn wirfoddol i brofedigaeth. Os mynwn ymgadw yn bur, ymgadwn oddiwrth bob peth croes i hyny.

CHWEDL 68 - Y CROCODILE AR CI
Dywedir fod y Cŵn cyfrwys yn yfed tan redeg yn afon y Nile, rhag iddynt gael eu cipio au lladd gan y Crocodiles. Fel yr oedd un or Cŵn yn gwneyd felly, dywedodd un Crocodile fel hyn wrtho: Cymer bwyll fy nghyfaill; bydded i ti yn ddiofn yfed faint fynot ti o ddwfr. Dywedodd y Ci, Gwnelswn hyny yn wir, oni bai fy mod yn gwybod am dy awydd im cig.

Ofer ceisio dodi magl i ddal y cyfrwys
.


_________________________


(tudalen 56)

CHWEDL 69 - Y DAIL AR GWREIDDIAU.

Ar ddiwrnod neillduol, yr oedd Dail Coeden Fawr yn canu eu canmoliaeth eu hunain, gan alw sylw at eu prydferthwch au gwyrdd-der, ar cysgod a roddent ir Eos ac ir Bugail. Gallech fforddio dweyd gair am danom ninau hefyd, ebai llais mwyn or ddaear. Pwy sydd yn meiddio ein hanerch yn y dull trahaus yna? Pwy ydych chwi, ag sydd yn rhyfygu ein galw i gyfrif? ebai y Dail, gan daflu eu hunain yn ol ac yn mlaen ar y Cangau. Nyni yw y rhai sydd yn y gwaelodion tywyll yma yn cyfranu maeth i chwi. Onid ydych yn ein hadnabod? Gwreiddiau y Goeden ar yr hon yr ydych yn tyfu ydym ni. LIawenychwch yn eich gogoniant tra y parhao eich dydd. Ond cofiwch ein bod yn gwahaniaethu oddiwrth ein gilydd yn hyn y mae y pren yn cael ei wisgo Dail newyddion bob gwanwyn; ond os bydd ir gwreiddiau farw, nis gallwch chwi nar Goeden fyw am foment awr.

Pob dosparth yn y Wladwriaeth yn angenrheidiol; ac ni ddylai yr uchel ddirmygu yr isel, nar isel sarhau yr uchel.

_________________________


(tudalen 57)
CHWEDL 70 - Y DIAMWNT AR GAREG.

Diamwnt wedi syrthio ar y ffordd a adawyd yno am beth amser. Or diwedd pigwyd ef i fynu gan fasnachwr, a chymerwyd ef ir farchnad i gael ei werthu.
Mewn canlyniad daeth yn un o emau y goron frenhinol. Careg a ddigwyddai orwedd yn ei ymyl pan yr oedd ar y ffordd, yn clywed am ei ddyrchafiad, a grefodd ar un oedd yn myned heibio iw chymeryd ir dref gyfagos, gan ddweyd, Paham y dylwn aros yma i ddyoddef oddiwrth wlaw, ac eira, ac ystormydd, tra y mae y Diamwnt yn mwynhau y fath anrhydedd? Pa fodd y mae wedi cyrhaedd y fath enwogrwydd nis gallaf ddyfalu. Am lawer o flwyddi bu yma yn gorwedd wrth fy ochr. Nid ydyw ond Careg wedir cwbl, yr un fath yn gywir a minau. Yr wyf yn dymuno arnoch fy nghymeryd! Pwy all ddweyd? Mor fuan ag ym gwelir yno, bydd i minau, efallai, gael fy ystyried o rhyw werth neu gilydd. Felly y mae y teithiwr yn ei chymeryd i fynu ac yn ei dodi yn ei gert. Y mae y Gareg yn rolio i mewn gyda chryn fawredd, a meddylia y ca ei dodi ar unwaith wrth ochr y Diamwnt. Y mae tynged hollol wahanol yn ei haros. Gwir ei bod yn cael ei gwneyd yn ddefnyddiol, ond ni wasanaetha ond i wella twll yn y ffordd.

Pob un ei le ei hun.

CHWEDL 71 - PEN YR EPA.

Darfu i ddyn, yn mhlith nwyddau ereill, weled Pen Epa ar fwrdd y Cigydd, a gofynodd iddo pa flas oedd arno, pan yr atebodd y Cigydd, Y mae ei flas yn dda, er fod golwg anymunol arno.

Na fernwch ddyn wrth ei olwg ond wrth ei gyrhaeddiadau.

_________________________


(tudalen 58)

CHWEDL 72 - Y PAUN AR CRYCHYDD.

Yn ddigwyddiadol cyfarfu y Paun ar Crychydd au gilydd. Y Paun, gan drefnu ei gynffon, a wnaeth arddangosiad oi blyf prydferth, ac edrychodd gyda dirmyg ar y Crychydd, fel rhyw berson dinod a chyffredin. Y Crychydd, yn penderfynu ei dalu am ei drahausder, a sylwodd fod y Paunod yn adar rhagorol, os gallai plyf hardd eu gwneyd hwy felly; ond yr oedd ef yn meddwl ei fod yn beth mwy urddasol bod yn alluog i godi uwchlaw y cymylau na hopian ar byd y ddaear, i gael llygadrythu arno gan blant.

Y mae ymddangosiadau yn dwyllodrus.

Y mae llawer calon dda a breiniol yn curo a dan hugan digon llwyd.

_________________________


(tudalen 59)

CHWEDL 73 - Y MYN AR BLAIDD.
Mỳn, yr hwn a grwydrasai oddiwrth y praidd, a ymlidiwyd gan Flaidd. Pan y gwelodd fod pob gobaith i ddiangc wedi darfod, fe drodd at y Blaidd ac a ddywedodd, Rhaid i mi addef fy mod yn eich gafael yn ddiffael, ond gan nad yw fy mywyd yn awr ond o fyr barhad, gadewch iddo fod yn llawen.
Gwnewch chwi ganu tipyn i mi, a minau a ddawnsiaf. Tra yr oedd y Blaidd yn canu ar Mỳn yn dawnsio, y cŵn yn clywed y swyn a ddaethant i edrych pa beth oedd yn myned yn mlaen; ac yr oedd yn dda gan y Blaidd ddiangc ymaith gan gynted ag y medrai ei draed ei gario.

Yr hwn a oi ffordd i chwareu cyn cyrhaedd ei nod, na ryfedded os cyll yr yspail.

CHWEDL 74 - Y FRONWEN AR DYN.
Bronwen a ddaliwyd gan Ddyn, mewn trefn i geisio osgoi marwolaeth a ddywedodd, Yr wyf yn dymuno arnoch fy arbed, gan fy mod yn clirio y llygod och ty, y rhai sydd yn hynod boenus i chwi. Atebodd y Dyn, Pe gwnaethet hyny er fy mwyn i, buaswn yn ddiolchgar i ti am y gymwynas, a buaswn yn gwrando ar dy gais am faddeuant. Ond gan dy fod nid yn unig yn gorphen bwyta y bwydydd ag nad yw y llygod ond yn eu crafu, ac yn ychwanegol at hyny yn bwyta y llygod eu hunain, paid a son am faddeuant.
Ar hyny lladdodd hi.

Ni ddylai yr hwn a wasanaethodd arall er ei fwyn ei hun ddisgwyl cael dim am ei drafferth.

_________________________


(tudalen 60)

CHWEDL 75 - Y LLYFFANT YN GRACHFEDDYG.

Llyffant yn dyfod or IIaid rhyw ddiwrnod, a ddringodd i ben rhyw dorlan, ac a gyhoeddodd ir holl fyd ei fod wedi dyfod i iachau pob math o glefydau. Deuwch, meddai, a gwelwch feddyg yr hwn y mae ganddo y fath feddyginiaethau ag na chlybu dyn am eu cyffelyb erioed; naddo, hyd yn nod Esculepius, meddyg personol lau ei hun. A pha fodd, sylwai y Llwynog, y meiddiwch chwi osod eich hun i fynu i iachau ereill, yr hwn nid ellwch wellhau eich cerddediad anystwyth eich hun, nach croen brych a chrebachlyd?

Profir honiadau dyn wrth ei weithredoedd.
Y meddyg iacha dy hun.

_________________________


(tudalen 61)

CHWEDL 76 - Y CŴD.
Yr oedd Cŵd yn cael ei adael yn ddisylw mewn congi, ar unig ddefnydd wnelid o hono oedd gan y gwas i sychu ei draed arno. Ond un diwrnod cafodd ei hun wedi ei lanw a darnau aur, a chyfnewidiwyd ei sefyllfa yn hollol ar unwaith. Telid y sylw manylaf iddo. Cyn hir ymfalchiodd y Cŵd yn fawr. Daeth yn dra siaradus ac yn hoff o weled beiau, a rhoddai ei farn gydag awdurdod ar bob peth, gan ddweyd, Ni ddylid gwneyd hyn fel yma, neu, Dyn ynfyd yw hwn-a-hwn, neu, Y mae y peth ar peth yn sicr o droi allan yn ddrwg. Gwrandawai pawb arno gydar astudrwydd mwyaf, er ei fod yn siarad dylni perffaith. Yn anffortunus, y mae y nifer luosocaf o ddynion yn ystyried pobpeth a ddywedir gan gydaid o arian yn bwysig. Parhaodd y Cŵd am hir amser i gael ei foli, ei barchu, ai ganmol. Ond ar ol ir dernyn olaf o aur gael ei gymeryd o hono, taflwyd ef ymaith, ac ni chlywodd neb byth son am dano mwy.

Molir aml i un yn unig am fod ganddo arian.

CHWEDL 77 - Y DYN DU.
Rhyw ŵr wedi prynu Gaethwas du, gan feddwl mai yr achos o liw ei groen oedd diofalwch ei feistr blaenorol, cyn gynted ag y dygwyd ef gartref, ai rhoddodd mewn twb o ddwfr poeth, ac a gymerodd sebon, a brwsiau, a thywod, ac aeth ef ai weision ati iw ysgwrio yn wyn yn ol. Hwy ai golchasant ac ai rhwbiasant am oriau lawer, ond yr oll yn ofer; arosodd ei groen gan ddued ag erioed; a bu y truan yn bur agos i farw gan anwyd oblegid y driniaeth a gafodd.

Nis gall dim moddion dynol newid natur sydd yn wreiddiol ddrwg.
_________________________


(tudalen 62)

CHWEDL 78 - Y MARCH AR ASYN.

Rhyfel-farch wedi ei wisgo yn orwych, a ddaeth gan garlamu ar hyd y ffordd nes dyfod o hyd i Asyn yn llafurio yn mlaen gyda baich trwm iawn ar ei gefn. Dos allan o fy ffordd, ebe y Ceffyl balch, neu mi ath sathraf dan fy nhraed. Ni ddywedodd yr Asyn ddim, ond ciliodd or neilldu gael ir March fyned heibio. Heb fod yn hir wedin, digwyddodd ir March gael ei glwyfo mor dost mewn brwydr, fel nad oedd mwyach ddim yn gymhwys ir gwasanaeth hwnw. Felly cymerwyd ei addurniadau ymaith, a gwerthwyd ef i gariwr. Yr Asyn, yn ei gyfarfod ef yn tynu llwyth mawr mewn gwagen, a feddyliodd mai ei dro ef oedd bod yn sarhaus yn awr, ac a ddywedodd, Halo! gyfaill! Ai y chwi sydd yma? Wel, yr oeddwn i bob amser yn credu y caffai eich balchder chwi gwymp.

Ni cha y rhai ffroen-uchel a thrahaus-falch mewn llwyddiant nemawr gwyn a chydymdeimlad mewn adfyd. Nid oes neb yn ddigon distadl iu ddiystyru gyda diogelwch.

_________________________


(tudalen 63)

CHWEDL 79 - Y GAREG AR GWLAW.

Y fath dwrw y mae pawb yn wneyd! Y fath ffyliaid! dywedai Careg a orweddai mewn cae ar ol disgyniad cawod o Wlaw un diwrnod. Byddwch cystal a sylwi mor falch yr ymddengys pawb o herwydd y gwlaw yma. Y maent wedi bod yn dymuno am dano fel pe buasai y goraf o gyfeillion, ac yn awr pa beth sydd yn rhyfeddol yn yr hyn a wnaeth? Parhaodd am oddeutu dwy awr, a dim yn hwy. Ond byddwch mor fwyn a gwneyd ychydig ymofyniadau am danaf fi. Wel, yr wyf wedi bod yn gorwedd yma ers canrifoedd; yn ostyngedig a gwylaidd yr wyf wedi aros yn dawel yn y lle y dodwyd fi yn y dechreu. Ac eto nid wyf wedi clywed gan neb gymaint a Diolch i chwi! Nid heb reswm y mae y byd wedi cael gair drwg. Nid wyf yn gallu gweled gronyn o gyfiawnder yn un man oi fewn. Dal dy dafod! ebai pryfyn oedd yn agos iddi. Y mae y gawod wlaw, er o fyr barhad, wedi mwydo y ddaear, ag oedd wedi myned yn ddiffrwyth o herwydd y sychder, ac wedi adfywio gobaith yr amaethwr. Ond nid wyt ti wedi cyfranu dim erioed ir llesiant cyffredin ond pwysau diwerth.

Fel hyn y mae llawer dyn yn ymffrostio ei fod wedi gwasanaethu ei wlad am ddeugain mlynedd; ond heb fed erioed o fwy o ddefnyddioldeb nar gareg.

CHWEDL 80 - Y LLYFFANT.
Y mae y dwfr yma yn oer iawn, ebai Llyffant un diwrnod, yr wyf wedi cael digon arno. Y mae yr haul yn tywynu yn braf ar y ceryg sydd ar lan yr afon, ac amgylchir hwy gan flodeu prydferth. Af i orwedd ar un o honynt i fwynhau fy hun. Ond prin yr oedd wedi cyraedd y gareg, a dechreu mwynhau ei hun, nag y dechreuodd Bachgen a safai ar y bont luchio ceryg ato, a bu raid iddo ymsuddo yn ei ol ar frys.

Rhyw anghyfleusdra yn mhob man.

_________________________


(tudalen 64)

CHWEDL 81 - YR EPA AR LLWYNOG.
Epa yn cyfarfod Llwynog un diwrnod, a ofynodd iddo yn ostyngedig am ychydig flew oi gynffon hir i wneyd gorchudd iw daflu drosto, gan ei fod yn agored i holl oerni a gerwindeb y tywydd. Oblegid Mr. Cadnaw, ebe efe, y mae genych chwi fwy o gynffon nag sydd arnoch angen am dani, ac y mae rhan fawr o honi hyd yn nod yn llusgo yn y baw. Atebodd y Llwynog, O berthynas ir cwestiwn o fod genyf ormod o gynffon, y mae hyny yn fwy nag a wyddost ti; ond sut bynag am hyny, byddai yn well genyf ysgubo y llawr am cynffon holl ddyddiau fy mywyd, nac amddifadu fy hun o un blewyn i foddhau Epa.

Y mae yr hwn a eto i chwilio am fenthyg yn lled debyg o gael ei siomi, ac yn aml ei sarhau yn y fargen.

_________________________


(tudalen 65)

CHWEDL 82 - Y GWLADWR AR MR.
Gwladwr yn gweled llong lawn o forwyr yn cael ei lluchio gan y tonau, a waeddodd allan, O! fr twyllodrus a didrugaredd, yr hwn sydd yn difetha pawb a anturiant ar dy wyneb. Y Mr ai clybu, a chan lefaru mewn llais tyner, a atebodd, Na feia fi, nid myfi yw yr achos or cyffro hwn, ond y Gwyntoedd, pa rai pan syrthiant arnaf ni oddefant ddim tawelwch. Ond os digwydd i chwi hwylio droswyf pan y byddant hwy ymaith, chwi a ddywedwch fy mod I yn fwy tawel a haws fy nhrin nar tir sych ei hun.

Chwareu teg ir gwaetha! Ni ddylid rhoddi ar neb fwy nag y mae yn ei haedda. Mae yr achos gwreiddiol yn aml or golwg.

CHWEDL 83 - Y GOLOMEN.
Yr oedd Colomen ar ben tŷ un diwrnod yn ymddangos wrth ei bodd yn yr haul melyn cynnes a dywynai arni. Yr oedd ei cŵ, cŵ, cŵ yn aml ac uchel. O dani yr oedd Bachgen bychan yn neidio ac yn campio o herwydd fod y gwlaw wedi mynd drosodd ar haul yn tywynu arno, ac yn llanw ei galon llawenydd. Gofynodd y Bachgen ir Golomen paham yr oedd yn ymddangos mor ddedwydd, Am yr un rheswm a tithau, fy nghyfaill caredig, ebair Golomen; y Duw da sydd yn peri iw Haul dywynu arnat ti a minau nes llanw ein calon llawenydd ac a diolchgarwch.

Daionus yw yr Arglwydd i bawb.

_________________________


(tudalen 66)

CHWEDL 84 - YR ASYN MEWN CROEN LLEW.
Asyn wedi ymwisgo mewn croen Llew, a aeth oddiamgylch, gan ddychrynu yr holl greaduriaid gwirion a gyfarfyddai, a chan weled Llwynog, fe geisiodd ei ddychrynu. yntau hefyd. Ond y Llwynog, wedi clywed ei lais, a ddywedodd, Wel, yn wir! Buaswn inau wedi dychrynu. hefyd, oni buasai i mi dy glywed yn brefu.

Gall dyn trwy gymeryd arno gymeriad nad yw yn perthyn iddo, dwyllo ffyliaid am dymhor; and y call a welant drwyddo ac ai ffieiddiant.
_________________________


(tudalen 67)

CHWEDL 85 - Y QUARTETTE.

Asyn, Gafr, Epa, ac Arth a benderfynasant berfformio Quartette, felly ceisiasant lyfrau ac offerynau, a pharotoisant i swyno clustiau eu gwrandawyr. Tarawant y dn yn eofn, a chynyrchant ddigonedd o swn, ond yn anffortunus y mae yn bobpeth ond cyd-gordiol. Aroswch, gyfeillion, aroswch! ebai yr Epa. Y mae yn amlwg y rhaid ein gosod yn wahanol. Eistedd i lawr fy nghyfaill, Mr. Asyn, gyferbyn ar alto; bydd i minau symud yma gyferbyn ar ail grwth. Bydd in canu wedyn fod yn dra gwahanol. Sicr y gyrwn y mynyddoedd yma i ddawnsio. Felly newidiant eu lleoedd ac ail ddechreuant, ond y mae y canu lawn mor anghydgordiol ag or blaen. Aroswch ychydig, ebai yr Asyn; Yr wyf wedi cael allan y dirgelwch. Byddwn yn siwr o ganu yn iawn ond i ni eistedd yn rhes. Dilynant ei gyngor, ac eisteddant yn rhes daclus. Ond y mae y canu mor aflafar ag erioed. Ar hyn dechreuant ymddadleu yn uchel o barth y drefn y dylent fod ynddi. Y mae yr Eos, yn ddamweiniol, yn hedfan heibio iddynt, a dymunasant arni eu tynu ou dyryswch. Byddwch fwyned, meddant, a rhoddi i ni ychydig och amser mewn trefn i ni allu dyfod yn llwyddianus trwy ein gorchwyl. Y mae genym y gerddoriaeth, y mae genym offerynau. Yr oIl sydd arnom eisiau ydyw i chwi ein gosod ni yn ein lleoedd priodol. Ond y mae yr Eos yn ateb

I fod yn gerddor, rhaid i un feddu deall cyflymach a chlust dra gwahanol ir eiddo chwi; gellwch chwi, fy nghyfeillion, osod eich hunain yn y drefn a fynoch, ond ni ddeuwch byth yn gerddorion.

_________________________


(tudalen 68)

CHWEDL 86 - Y LLWYNOG AR FRN.

Brn, wedi dwyn darn o gaws o ffenestr tŷ, a ehedodd i bren uchel, i fwynhau ei hysbail. Gwelodd Llwynog y darn blasus ganddi, a dechreuodd gynllunio pa fodd i gael gafael ynddo. Felly fe ddechreuodd ganmol prydferthwch y Frn. O Frn, ebe fe, mor hardd yw dy adenydd! mor luniaidd dy gorph! mor gryfion yw dy ewinedd! mor ddisglaer dy lygaid! Os yw dy lais yn cyfateb, nid oes un aderyn iw gystadlu a thydi. Y Frn wedi ei boddhau gan y gweniaeth, ac yn dymuno synu y Llwynog ai llais, a agorodd ei phig i ganu, pan i lawr y syrthiodd y caws, a chipiodd y Llwynog ef i fynu, ac a gerddodd ymaith gan sylwi, Pa beth bynag a ddywedais am dy harddwch, ni ddywedais I ddim eto am dy synwyr.

_________________________


(tudalen 69)

Nid yw dynion yn gwenieithio yn gyffredin heb fod rhyw ddiben ganddynt mewn golwg; a rhaid ir neb sydd yn ddigon gwan i wrando y fath beroriaeth dalu yn ddrud am dano.

CHWEDL 87 - Y BACHGEN AR YCH.
Gorweddai Ych boddlon ar ganol y cae, yn cnoi ei
gl yn ddedwydd, pryd yr aeth Bachgen bychan ato, a gofynodd iddo, Am ba beth yr wyt yn myfyrio, wrth orwedd yma yr hen Ych diniwed?
Rhaid i mi adael y meddwl ar dysgu i ti, fy nghyfaill, ebair Ych; fy ngwaith yma yw cnoi fy mwyd ac nid meddwl. Ar ol iddo gael amser i gnoi ei gl am beth amser, dodwyd ef i dynu y fn, a gwnaeth hyny yn rhwydd a didrafferth, ond buasai meddwl tuhwnt i w allu.

Pob un ei le ei hun ai waith ei hun.

CHWEDL 88 - Y CEFFYL AR ADERYN T.
Yr oedd Ceffyl un diwrnod yn mwynhau ei hun uwchben ei geirch, pryd y daeth Aderyn T ato, ac a ofyuodd yn ostyngedig am geirchen neu ddwy i dori ei newyn. Cei, fy nghyfaill, ebai y Ceffyl, faint a fynot. Tyrd yn mlaen a helpa dy hun, y mae yma ddigon i ti a minau. Fel hyn buont yn byw yn gytun u gilydd am amser maith: y Ceffyl yn rhoddi rhan oi ymborth ir Aderyn, ac yntau yn gwasanaethu y Ceffyl trwy gadwy pryfaid rhag disgyn ar ei gefn ai frathu.

Un gymwynas yn teilyngu un arall.

_________________________


(tudalen 70)

CHWEDL 89 - Y PYSGODYN-HEDEGOG AR DOLFFYN.

Pysgodyn-hedegog yn cael ei ymlid gan y Dolffyn, yn ei awyddfryd i ddiangc, a ehedodd yn rhy bell, ac a syrthiodd ar graig, lle yr oedd ei farwolaeth yn anocheladwy. Y Dolffyn, yn ei awyddfryd i ddal ei ysglyfaeth, a redodd ei hun i dir sych yn ymyl yr un graig, a gadawyd ef gan y tonau i wingo am ei anadl ac yn agored ir un dynged. Wel, ebai y Pysgodyn-hedegog, rhaid i mi farw, y mae yn wir; ond yr wyf yn marw yn ddedwydd wrth weled yr un a geisiodd fy mywyd yn ngafael yr un dynged.

Melus yw dial.

_________________________


(tudalen 71)

CHWEDL 90 - YR AMAETHWR AR FUWCH.
Darfu i Amaethwr bychan brynu Buwch a llestr godro yn y ffair, ac yr ydoedd yn myned gartref yn hamddenol ar hyd llwybr unig a arweiniai trwy y goedwig, pan y syrthiodd yn ddisymwth i ddwylaw lleidr. Cymerodd y lleidr oddiarno bobpeth a feddai. Cymerwch drugaredd! gwaeddai yr Amaethwr, Yr wyf wedi fy llwyr ddifetha: yr ydych wedi fy ngwneyd yn gardotyn! yr wyf wedi gweithio yn galed am flwyddyn i allu prynu y Fuwch fechan hon. Or goreu, atebai y lleidr, wedi ei gyffwrdd gan dosturi; ni bydd genych achos i gwyno om plegid i. Hwdiwch; ni bydd arnaf eisiau godro eich Buwch, felly dyma i chwi eich llestr godro yn ol.

Y mae trugaredd yr annuwiol yn greulon.


CHWEDL 91 - Y BLAIDD AR BUGEILIAID.

Blaidd yn digwydd edrych i mewn i gaban, a gweled cwmni o Fugeiliaid yn gwledda yn gysurus ar gig dafad, a ddywedodd, Wel! y fath helynt fawr y buasai y dynion hyn yn ei godi pe gwelent fi yn mwynhau y fath swper.

Y mae dynion yn rhy dueddol i gondemnio mewn ereill yr hyn y maent yn euog oi wneyd eu hunain.

_________________________


(tudalen 72)

CHWEDL 92 - Y MORGRUGYN AR GOLOMEN.

Aeth Morgrugyn at ffynon o ddwfr i dori ei syched, a chan syrthio i mewn, yr oedd yn mron boddi. Ond Colomen oedd yn eistedd ar bren gerllaw a welodd berygl y Morgrugyn, a chan dynu deilen or pren, fei gollyngodd ir dwfr oi flaen, ar Morgrugyn a ddringodd arni, ac a ddaeth yn fuan ir lan yn ddiogel. Yn fuan wedi hyn, Heliwr yn taenu ei rwyd, oedd wrth y weithred o gymeryd y Golomen, pan y darfu ir Morgrugyn wrth weled ei amcan, ei frathu yn ei sawdl. Neidiodd yr Heliwr i fyny yn ddisymwth gan y boen, a gollyngodd y rhwyd oi law, ar Golomen wedi ei chynhyrfu gan y sŵn i weled ei pherygl, a ehedodd ymaith yn ddiogel.

Y mae un gymwynas yn teilyngu y llall.

_________________________


(tudalen 73)

CHWEDL 93 - Y BACHGEN AR AFR.
Wel, dywed wrthyf yr hen Afr, ebai bachgenyn bychan direidus, i ba beth y mae dy farf ath gym da? Y mae fy marf yn dda i ti chwareu hi pan y byddi yn teimlo tuedd, am cyrn yn ddefnyddiol ith wthio draw os digwyddi gario dy chwareu yn rhy bell. Bu yr Afr ar Bachgen am ddarn o foreu tesog yn chwareu u gilydd yn hyfryd odiaeth, ond or diwedd aeth y bachgen braidd yn hyf ar ei gydymaith, pryd y cododd yr hen Afr ar ei thraed l, a dechreuodd ei gornio, a da oedd ganddo gael cyfle i ddiangc am ei fywyd.

Y chwareu yn troi yn chwerw.

CHWEDL 94 - Y TEITHWYR AR FIN Y MOR.

Fel yr oedd rhyw deithwyr yn ymlwybro yn mlaen ar hyd y Traeth, hwy a ddaethant at graig uchel, ac wrth edrych allan tuar Mr hwy a welsant ffagoden o goed yn nofio ar y wyneb o bell, a thybiasant yn y dechreu mai llong fawr ydoedd; felly fe arosasant, gan ddisgwyl ei gweled yn dod ir hafan. Fel y deuai y ffagoden yn nes ir lan, hwy a dybiasant nad llong oedd, ond cwch. Ond pan or diwedd y taflwyd hi ir lan, hwy a welsant nad oedd yn ddim ond ffagoden ddiwerth.

Mae llawer peth sydd yn ymddangos yn fawr in dymuniad neu in hofnau, o bell, yn myned yn llai, ac weithiau yn ddim, pan ddel in hymyl.

_________________________


(tudalen 74)

CHWEDL 95 - Y BAEDD GWYLLT AR LLWYNOG.

Yr oedd Baedd gwyllt yn hogi ei ddanedd ar ryw goeden, pan y daeth Llwynog heibio, ac a ofynodd iddo paham yr oedd yn gwneyd hyny; Canys, meddai, nid wyf fi yn gweled un achos i hyny; nid oes na heliwr na chi, nag un perygl arall ar a allaf ei weled yn y golwg. Gwir, atebai y Baedd, ond pan y cyfyd y perygl, bydd genyf fi rywbeth arall iw wneyd heblaw hogi fy arfau.

Y mae yn rhy hwyr i hogi y cleddyf, pan seinio yr udgorn ir frwydr.

_________________________


(tudalen 75)

CHWEDL 96 - YR EWYTHR AI NAI.

Tyrd yma fy Nai: yn mha le yr wyt wedi bod yn ymguddio? Tyrd yma cygynted ag y gelli, a rhyfedda at gyfrwysder dy Ewythr. Gwna fel yr wyf fi yn gwneyd, ac ni bydd i ti byth ddioddef colled. Fel hyn, yn y siop, y siaradai Ewythr wrth ei Nai. Yr wyt yn gwybod am y darn brethyn glas hwnw: yr un ag oedd wedi bod ar ein dwylaw am gyhyd o amser, am ei fod yn hen, yn wael, a phydredig? Wel, yr wyf newydd ei werthu am bris brethyn da. Dyma sofran felan a gefais am dano. Rhaid fod y prynwr wedi colli ei synwyr, a ffawd wedi ei anfon in siop. Felly yn wir, Fewythr, felly yn wir, atebai y Nai, ond nid wyf yn eithaf siwr pwy oedd y ffwl. Edrychwch dipyn yn nes, a chewch mai sofran ddrwg a gawsoch.

A dwyllo a dwyllir.

CHWEDL 97 - YR ERYR, Y FRN, AR CRWBAN.

Chwedl 97.YB EKYE, Y FKAN, AE CBWBAN.
Cafodd Eryr afael ar Grwban (Tortoise), a chymerodd ef i fyny ir awyr; ond nid allai ei niweidio trwy ei fod yn llechu yn ddiogel yn ei dŷ corniog. Daeth Bran heibio y ffordd hono, a dywedodd, Yr ydych wedi sicrhau tamaid da o ymborth, ond os na bydd i mi ddangos i chwi pa fodd i gael gafael ynddo, bydd i chwi flino eich hun yn ofer wrth geisio tori ei dŷ. Ar ol cael addewid am ran or danteithfwyd, dywedodd y Frn am ir Eryr ei ollwng i lawr o uchder mawr ar graig; gwnaeth felly; a drylliwyd y Crwban yn erbyn y graig galed, a bu y ddau yn gwledda yn ddifyr ar y blasus-fwyd.

Pwy all wrthsefyll nerth wedi ei uno chyfrwysdra?

_________________________


(tudalen 76)
CHWEDL 98 - Y BARCUD AR FFERMWR.

Barcut, yn ymlid Colomen ar draws cae gwenith gyda phrysurdeb mawr, a ddaliwyd ei hunan mewn magl. Ffermwr ag oedd yn gweithio heb fod nepell or lle, yn gweled y Barcud yn y magl, a ddaeth ato ac ai cymerodd yn garcharor; ond fel yr oedd ar fedr ei ladd, dymunodd y Barcud yn daer arno ei ollwng yn rhydd, gan ei sicrhau nad ydoedd ond yn erlid Colomen, ac heb fwriadu na gwneuthur unrhyw niwaid iddo ef. Atebodd y Ffermwr: A pha niwaid a wnaeth y Golomen i chwi? Ar hyn rhoddodd dro ar ei wddf heb ychwaneg o siarad.

Gwnewch i ereill fel yr ewyllysiech i ereill wneuthur i chwithau.

_________________________


(tudalen 77)

CHWEDL 99 - YR EWIG AR LLWYNOGOD.

Ewig ieuangc, wedi ei hamddifadu oi llydnod, ond yn para i feddu digonedd o laeth, a gafodd afael mewn dau Lwynog ieuaingc wedi eu gadael yn y goedwig, ac ymgymerodd ar unwaith a cheisio llanw lle mam iddynt, gan eu porthi i llaeth. Meudwy, yn byw yn yr un goedwig, yn synedig at ei hymddygiad, a waeddodd allan, Y fath greadur difeddwl wyt! i ba fath greadur yr wyt yn rhoddi dy laeth; ar bwy yr wyt yn gwastraffu dy serch ath ofal?
A wyt ti yn disgwyl cael diolch gan y creaduriaid yna? Efallai mai dy waed di a yfir ganddynt ryw ddiwrnod. Efallai hyny, yn wir, atebai yr Ewig, ond ni feddyliais, ac nid wyf yn hoffi meddwl, am hyny. Nid wyf yn gofalu am deimlo ond fel mam ar hyn o bryd, a buasai fy llaeth yn faich i mi pe na buaswn wedi ei roddi ir rhai hyn.

Nid yw y gair haelionus yn meddwl am dl; ir haelionus byddai eu digonolrwydd yn faich pe na baent yn cael rhoddi o hono ir anghenus.

CHWEDL 100 - Y BYCHOD GEIFR AR GEIFR.

Pan y cafodd y Geifr farf gan Jupiter, teimlodd y Bychod Geifr yn dra digofus ac anfoddlon am fod y Geifr wedi cael yr un anrhydedd a hwythau. Dywedodd Jupiter, Gadewch iddynt i fwynhau gwag-ogoniant, a gwneyd defnydd o arwyddion parch, gan nad ydynt yn gyfatebol i chwi mewn nerth.

Nid eu tebygolrwydd allanol ond eu rhinwedd sydd yn gwneyd dynion yn gyffelyb.

_________________________


(tudalen 78)

CHWEDL 101 - YR HEN LEW.

Hen Lew wedi ei lwyr lethu gan henaint, a orweddai ar ei hyd ar y ddaear, yn hollol ddigynorthwy, ac ar dynu ei anadl olaf. Daeth Baedd yn mlaen, ac i ddial arno am ryw hen gweryl, ai brathodd i ysgythr-ddannedd mawrion. Yna daeth Tarw yn mlaen, ac i dalu iw hen elyn fei rhwygodd i gyrn. Ar hyn, Asyn, yn gweled y gellid trin yr hen Lew fel hyny yn ddiberygl, a fynai ddangos ei atgasedd yntau, ac a giciodd ei draed yn ei wyneb. Ar hyn gruddfanai yr hen ormesdeyrn. Yr oedd sarhad y bwystfilod galluog yn ddigon drwg, ond gallaswn ddioddef hyny; ond i gael fy sarhau gan y fath greadur distadi a thydi gwarthnod y greadigaeth, y mae yn waeth na marw ddengwaith.

Gall yr uchelfrydig ddioddef pobpeth yn well nag ergyd iw falchder.

_________________________


(tudalen 79)

CHWEDL 102 - YR ASYN, Y CEILIOG, AR LLEW.

Yr oedd Asyn a Cheiliog yn digwydd bod yn cyd-fyw ar yr un fferm. Rhyw ddiwrnod digwyddodd i Lew newynog basio heibio, ac wrth sylwi fod yr Asyn yn bur raenus, fe benderfynodd wneyd pryd o hono. Ond, fe ddywedir nad oes dim ag y mae y Llew yn ei gasau yn fwy na chaniad y Ceiliog; ac yn y foment hono fe ddigwyddodd ir Ceiliog ganu, a chyn gynted ag y clywodd y Llew ef fe redodd ymaith cyn gynted fyth ag y gallai. Yr Asyn, yn malchder ei galon a dybiodd mai diangc rhag ei ofn ef yr ydoedd, ac a ganlynodd ar ei ol, yn chwyddedig iawn wrth feddwl ei fod yn gyru brenin y goedwig oi flaen. Nid cynt yr aethant allan o gyraedd sŵn y Ceiliog, nag y trodd y llew arno ar unwaith, ac ai llyngcodd bron yn gyfan.

Y mae balchder yn dechreu mewn anwybodaeth ac yn dibenu mewn dinystr.

CHWEDL 103 - AESOP AR GŴR SARHAUS.

Darfu i ddyn sarhaus daflu creg at Aesop un diwrnod. Dywedodd y Doethwr wrtho, Yr wyt yn ddyn gwrol yn wir; hwda, dyma i ti ddernyn o arian, nid oes genyf ychwaneg, ond dangosaf i ti y ffordd i gael swm mawr. Edrych, dacw foneddwr cyfoethog yn dyfod, tafl gareg ato ef, a digon tebyg y bydd i ti gael gwobr. Gwnaeth y dyn y cyngor; ond siomwyd ef am ei wobr, oblegid cymerwyd ef i fyny, a thaflwyd ef i garchar.

Y mae dynion sarhaus yn gorfod talu yn ddrud am en rhyfyg.




.

_________________________


(tudalen 80)

CHWEDL 104 - Y CEILING RHEDYN AR DDALLHUAN.

Yr oedd Ceiliog Rhedyn yn gwneyd sŵn ag ydoedd yn aflonyddu y Ddallhuan, yr hon a chwiliai am ei hymborth yn y nos, a chysgu y dydd yn ei cheubren. Pan ofynwyd ir Ceiliog Rhedyn fod yn ddistaw, gwnaeth fwy o sŵn nag erioed. Gwnaeth y Ddallhuan gais drachefn, ond aeth y Ceiliog Rhedyn i dymer ddrwg iawn. Ar ol ir Ddallhuan gael allan nad oedd siarad o un dyben, a benderfynodd roddi terfyn ar ei sŵn trwy ddyfais, a dywedodd, Gan nas gallaf gysgu yn sŵn dy ganu melodaidd yr ydwyf wedi penderfynu yfed y neithdar a roddwyd i mi gan Pollas, mewn trefn i allu cadw yn effro i wrando ar dy lais ath gan hyfrydol, ac os nad ydwyt ti yn rhy falch, tyred, gad i ni ei yfed yn nghyd. Y Ceiliog Rhedyn yn dioddef oddiwrth syched mawr, ac yn hoffi clywed ei lais yn cael ei ganmol, a neidiodd ati. Cygynted ag y daeth yn agos ati, rhuthrodd y Ddallhuan arno, a lladdodd ef yn y fan.

Mae bod yn foesgar yn ddiogel a chymwynasgar.





_________________________


(tudalen 81)

CHWEDL 105 - Y LLYGODEN AR FRONWEN.
Llygoden fechan salw a weithiodd ei ffordd trwy ymdrech i mewn i lestraid o ŷd, ac yno, yn nghanol y fath gyflawnder o ddanteithfwyd, hi a fwytaodd ac a ymlenwodd ir fath raddau, fel pan y mynasai fyned allan yn ol, y cafodd fod y twll yn rhy fychan i ollwng ei chorff chwyddedig allan. Fel yr eisteddai wrth y twll yn gruddfan oblegid ei thynged, Bronwen, yr hon a ddygwyd yno gan ei llefain, a ddywedodd wrthi, Aroswch yna, gyfaill, ac ymprydiwch nes dod yn deneu yn ol; canys ni ddeuwch byth allan nes y deloch ir un cyflwr ag yr oeddych ynddo pan yr aethoch i mewn.

Yr unig feddyginiaeth i effeithiau glythineb a meddw-dod, ydyw cymedroldeb a llwyrymwrthodiad

CHWEDL 106 - Y FFERMWR AI GŴN.
Ffermwr, ar ryw auaf pur galed, oedd wedi ei gau i fynu yn ei dŷ gan yr eira; a chan ei fod yn newynog, ac heb allu myned allan i gyrchu bwyd, fe ddechreuodd fwyta ei ddefaid ei hun. Gan fod yr hn galed yn parhau, efe yn nesaf a fwytaodd ei eifr; ac or diwedd, gan nad oedd yr hn yn gwella, fe ddechreuodd fwyta ei ychain. Ar hyny, meddai y naill Gi wrth y llall, Gadewch i ni ddiangc; canys gan nad oes gan y Meistr, fel y gwelwn, ddim trugaredd ar yr ychain sydd yn llafurio, pa sut y mae yn debyg yr arbed efe ni?

Pan y byddo tŷ ein cymydog ar dn, y mae yn bryd i ni edrych at yr eiddom ein hunain. Y mae y call yn cymeryd rhybudd oddiwrth anffodion rhai ereill.

_________________________


(tudalen 82)

CHWEDL 107 - Y GWENYN AR GWENYN SEGUR
Yr oedd y Gwenyn wedi llanw eu cychod mel, a daeth y Gwenyn Segur gan ei hawlio fel yr eiddo hwynt.
Dygwyd y peth ir llys, a gosodwyd y Gacynen ar y gadair farnol. Ar ol ystyried yr holl achos dywedodd y barnwr, Nid yw eich cyrph yn anhebyg, ac y mae eich lliw yn gyffelyb, gan hyny y mae penderfynu y pwngc yn orchwyl anhawdd; felly, rhag i mi wneuthur anghyfiawnder, yr ydwyf yn gorchymyn i chwi dywallt y ml ir cwyr, fel y byddo i ni gael allan pwy a wnaeth y ml oddiwrth ei arogl a ffurf y cribau. Gwrthoda y Gwenyn Segur hyny, ond y mae y Gwenyn Gweithgar yn falch or penderfyniad. Ar ol gwneyd fel y gorchymynodd y barnwr, cyhoeddodd y rheithfarn ganlynol, Y mae yn amlwg pwy nad allant wneyd y cribau yma, ac mor amlwg a hyny, pwy au gwnaeth; felly yr wyf yn adfer y Ml ir Gwenyn.

Hawdd adnabod y gweithiwr wrth ei waith


_________________________


(tudalen 83)

CHWEDL 108 - YR ASYN AR EOS.

Y mae Asyn un diwrnod yn dymuno ar yr Eos fod mor fwyn ai ffafrio chn. Cydsynia yr Eos, ac arllwysa y fath ffrwd o seiniau melusion nes y distawa yr adar i wrando arni, a pheidia pob creadur i sŵn mewn trefn i glywed ei chn. Or diwedd y mae y gn yn peidio, a rhodda yr Asyn ei farn ar ei galluoedd. Y mae yn lled dda, meddai; gall un wrando arnoch heb ddiflasu; ond gresyn na baech yn adnabod y ceiliog sydd yn ein buarth ni.
Byddai ychydig wersi ganddo ef o anrhaethol werth i chwi. Y mae yr Eos yn diystyru ei sylwadau, ac eheda ymaith yn sydyn.

Gwareder ni rhag beirniaid anghymwys.

CHWEDL 109 - YR EPA AR DRYCHAU.

Epa yn teimlo ei olygon yn pallu a geisiodd br o Ddrychau (Spectacles) iw gynorthwyo i weled, ond yn anffortunus nid ydoedd yn gwybod pa fodd iw defnyddio. Doda hwy ar ei ben, a cheisia brofi eu heffeithiau trwy eu dodi ar flaen ei gynffon; anadla arnynt a gwlycha hwy i dafod; ond gan nad ydyw yn gweled yn well trwy hyn oll, y mae yn gyntaf yn eu difrio fel pethau twyllodrus, ac yna yn eu taro yn erbyn y llawr.

Diystyra yr ynfyd wybodaeth
_________________________


(tudalen 84)

CHWEDL 110 - Y BRAWD AR CHWAER.

Yr oedd gan Foneddwr Ferch hagr neillduol, a mab hynod o luniaidd a phrydferth. Darfu iddynt yn ddamweiniol wrth chwareu edrych mewn drych, ag oedd yn crogi uwchben cadair eu tad. Y mae y Brawd yn ymffrostio yn ei brydferthwch, yr hyn a barodd iw Chwaer chwerwi ac ymddigo wrtho; cymerai ei holl eiriau fel sarhad arni hi. Rheda at ei thad i gwyno o herwydd geiriau ei Brawd, gan obeithio y buasai yn cael ei geryddu. Y mae y Tad yn cofleidio ill dau, ac ar ol eu cusanu yn dyner, dyweda, Yr ydwyf am i chwi ddefnyddio y drych bob dydd, fel na byddo i ti, fy Mab, ddinystrio dy brydferthwch gyda moesau drwg, ac fel byddo i tithau, fy Merch, wneyd i fyny am dy hagrwch gyda moesau da.

Y mae prydferthwch cymeriad yn harddach na llunieidd-dra corphorol.
_________________________


(tudalen 85)

CHWEDL 111 - Y FFERMWR AR LLEW.
Aeth Llew unwaith i mewn i fuarth fferm, ar Ffermwr yn dymuno ei ddl ef, a gauodd y llidiart. Pan ddeallodd y Llew nad allai ddim myned allan, fe ddechreuodd ar unwaith ymosod ar y defaid, ac ar ol hynny fe ddifaodd yr ychain. Ar hyny y Ffermwr, yn dechreu dychrynu drosto ei hun, a agorodd y llidiart, ac aeth y Llew ymaith cyn gyflymed ag y gallai. Gwraig y Ffermwr, yr hon a welsai y cwbl, pan welodd ei gŵr mewn tristwch mawr oblegid colli ei dda, a ddywedodd, - Chwi a gawsoch yr hyn a haeddech; canys pa beth a allai eich gwneyd mor ynfyd ag i ddymuno dl creadur, yr hwn pe gwelsech ef o bell, y dymunech ef yn mhellach fyth.

Mae ambell i leidr y byddai yn well ei ddychrynu ymaith nai ddl.

CHWEDL 112 - YR ASYN AR GWYBEDYN.
Yr oedd Gwybedyn yn eistedd ar un o lorpiau cerbyd, a dechreuodd geryddu yr Asyn ai tynai, Mor araf yr wyt yn myned yn mlaen? onid elli fyned yn gyflymach? gofala rhag i mi dy golynu yn dy ochr gydam cleddyf. Nid yw dy eiriau di, ebai yr Asyn, yn werth fy sylw; ond yr wyf yn ofni yr hwn sydd yn eistedd yn y cerbyd, yn fy arwain gydar awenau, ac yn dl y chwip flaenfain yn ei law. Yn ol ei ewyllys ef yr wyf i gerdded neu i redeg. Felly taw di ath siarad gwael.

Poenus clywed dynion bychain yn ymffrostio pethau mawrion.
_________________________


(tudalen 86)

CHWEDL 113 - Y LLEWPARD AR BUGEILIAID.
Yn ddamweiniol syrthiodd Llewpard i ffynon ddofn. Gwelwyd ef gan y Bugeiliaid, a lluchiodd rhai geryg ato, ereill ffyn; ond darfu i ereill deimlo tosturi tuag ato, a thaflu bara iddo. Trwy fod y nos yn dynesu, maent yn myned gartref yn hyderus y byddai iddynt ei gael boreu dranoeth wedi marw. Ond y Llewpard, wedi iddo adfeddianu ei nerth ar ol bwyta y bara, a roddodd naid or ffynon, a rheda yn gyflym tuai ffau. Yn mhen ychydig ddyddiau y mae yn myned allan, gan ladd y defaid ar bugeiliaid hefyd, a distrywia bob peth yn ei gynddaredd. Y mae y trigolion, gan faint eu dychryn, yn boddloni colli eu defaid, ni cheisiant ond eu bywydau en hunain yn unig. Y mae y Llewpard yn ateb, Yr wyf yn cofio am y rhai hyny a daflasant geryg ataf, ar rhai a roddasant fwyd i mi; na fydded im cymwynaswyr ofal, ni chospaf ond y rhai a fwriadasant ddrwg i mi.

Gwneyd cymwynas yw y ffordd i gael un.

_________________________


(tudalen 87)
CHWEDL 114 - Y CAWRFIL AR CORGI.

Yr oedd Cawrfil yn cael ei ddangos un diwrnod yn y ffair, a pha le bynag yr elai dilynid ef gan Gorgi, yr hwn a gyfarthai ac a geisiai frathu ei sodlau. Darfu i un o gyfeillion y Gorgi alw ei sylw at y ffaith nad oedd y Cawrfil yn cymeryd yr un sylw oi ymosodiadau eiddil, ond yn myned yn mlaen mor dawel a phe na buasai ei elyn yn meddu bodolaeth. Dynar uuig reswm paham yr wyf yn cyfarth, atebai y Corgi. Y mae arnaf eisiau ir cŵn mawr ddweyd, Rhaid fod y Corgi yna yn anferthol gryf, neu ni fuasai yn meddu yr haerllugrwydd o gyfarth ar Gawrfil.

Y mae aml i ddyn bach yn difrio dyn mawr yn unig er mwyn tynu sylw.
CJiwedl 113.

CHWEDL 116 - Y TEITHWYR AR CORGWN.
Yr oedd dau Deithiwr un tro yn myned trwy bentref, a dilynwyd hwy gan nifer o Gorgwn, y rhai a gyfarthent yn uchel. Yr oedd un or ddau yn myned i godi careg i fyny, pan yr ataliwyd ef gan y llall; gan ddweyd wrtho i adael ir Gorgwn gyfarth faint a fynont, gan y byddai iddynt beidio yn fuan os gadewid hwynt yn llonydd. Yn mhen ychydig funudau peidiodd y cyfarth.

Y ffordd effeithiolaf i ddistewi crachfeirniaid yw peidio gwneyd sylw o honynt.

_________________________


(tudalen 88)

CHWEDL 116 - CAESAR AI WAS.

Yr oedd gan Caesar, yn ei balasdy, Was yn edrych ar ol ei rodfeydd. Pan yr elai Caesar allan i rodio, byddai y gwas hwn yn gofalu am fod yn agos ato yn barhaus, ac ymddangosai yn neillduol weithgar: rhodai o flaen ei feistr, gan luchio dwfr ar y rhodfa, gan deimlo ei fod yn cyflawni gwasanaeth pwysig. Os symudai Caesar i rodfa arall, byddai ei Was prysur yno oi flaen, yn lluchio dwfr er caisio goatwng y llwch a thynu sylw ei feistr ato. Y mae Caesar yn deall ei ddyn, ac yn gwybod mai ei amcan ydyw cael ei ryddhad (oblegid caethwas ydoedd) a dywododd, Yr wyt yn rhedeg o amgylch yn barhaus ac yn ymddangos fel yn gwneyd gwaith mawr, ond nid yw yr oll yn ateb yr un pwrpas da. Nis gall neb brynu ei ryddhad heb gynawni rhyw weithred bwysig a gwir lesiol.

Y mae llawer, heblaw gwas Caesar, yn brysur yn gwneyd dim.

_________________________


(tudalen 89)

CHWEDL 117 - YR YMSUDDWYR.

Darfu i frenin yn yr hen amser goleddu amheuon cryf o berthynas i Wyddoniaeth, a pha un a ydoedd yn gwneyd da ynte drwg ir rhai ai proffesai, a pha un a ydoedd gwybodaeth yn cryfhau calonau a dwylaw y rhai ai ceisient ai peidio. Galwodd yn nghyd holl ddoethion oi deyrnas i ystyried y pwngc, ond ni ddarfu iddynt ond ymddadleu au gilydd, gan adael y brenin mor amheus ag erioed. Or diwedd digwyddodd iddo gyfarfod Doethwr parchedig, ir hwn yr adroddodd ei ddyryswch, ar hwn a adroddodd iddo yr hyn a ganlyn: Yr oedd yn byw unwaith yn yr India, meddai, bysgotwr a thri o feibion ganddo. Dygodd hwy i fyny yn y fath dlodi fel pan fu farw penderfynasant ddilyn rhyw orchwyl arall er enill eu cynhaliaeth. Trwy eu bod oll yn nofiedwyr da, penderfynasant fyned i bysgota perlau, ac felly prysurasant i gario allan eu hamcanion. Ond ymddygodd Ffawd yn dra gwahanol tuag at bob un o honynt. Y cyntaf, yr hwn oedd y diocaf or tri, a arfarai gerdded ar hyd gln y mr, gan obeithio y buasai ir tonau gario perlau at ei draed. Ond ni ddigwyddodd iddo erioed y fath ffawd dda, a chafodd drafferth fawr i gadw ei hun rhag newynu. Nid oedd yr ail yn ofni caledwaith, ond cymerai ofal rhag suddo i leoedd rhy ddwfn, ac felly gwobrwywyd ef am ei lafur a daeth yn gyfoethog. Ond diystyrai y trydydd y fath ffordd araf i gasglu cyfoeth, a phenderfynodd suddo ir lleoedd dyfnaf a mwyaf anadnabyddus, gan obeithio cael yno drysorau anmhrisiadwy. Gydar syniad yma aeth allan ir mr agored, a suddodd ir lle dyfnaf allai weled ond ni ddaeth byth i fyny.

O Frenin, ebai y Doethwr, er y gallwn ganfod mewn dysgeidiaeth ffynhonell llawer o gysuron, eto y mae yr yspryd gorfeiddgar yn cyfarfod, a dinystr yn ei waelodion, ac, yn fwy anfortunus nar ymsuddwr, yn amil yn tynu ereill iw ganlyn i ddinystr.

_________________________


(tudalen 90)

CHWEDL 118 - YR ERYR, Y GATH, AR BAEDD.

Yr oedd Eryr wedi adeiladu ei nyth ar gangen mewn derwen fawr; Cath hefyd wedi cael twll yn nghanol y pren oedd wedi ymddwyn ei rhai bach yno; ac wrth waelod y pren yr oedd y Baedd wedi cael lle pwrpasol iw dorllwyth. Y mae y Gath trwy ei chyfrwystra ai dichell yn gallu creu anghydfod a diffyg ymddiried rhwng ei chymydogion. Dringa i fynu i nyth yr Eryr, a dywed, Yr ydych chwi, a minau hefyd, mewn perygl o gael ein goddiweddyd gan ddinystr; oblegid yr ydych yn gweled fel y mae y Baedd yn tyrchio o dan y dderwen yn barhaus gydar amcan oi chael i lawr mewn trefn i gael ein rhai bach yn ysglyfaeth. Ar ol dychrynu yr Eryr, ai wneyd yn anesmwyth am ddiogolwch ei gywion, ymlithra i lawr at y Baedd, a dyweda, Y mae ein rhai bach mewn perygl mawr; oblegid mor fuan ag yr ewch allan i chwilio am ymborth, y mae yr Eryr yn barod i gymeryd ymaith eich moch. Ar ol eu llanw fel hyn a dychryn, y mae mewn modd cyfrwys yn myned i ymguddio iw nyth.

_________________________


(tudalen 91)

Yna cerdda allan y nos yn ddistaw i gael bwyd ei hun ac iw rhai bach, gwylia trwyr dydd, gan ffugio dychryn mawr. Y mae yr Eryr, er osgoi trychineb, yn eistedd o hyd ar ei nyth; ar Baedd, er osgoi ysbeiliad, ni symuda gam or lle. Beth fu y canlyniad? Bu y naill ar llall o honynt feirw o herwydd newyn, a chafodd y Gath ai rhai bach wleddoedd blasus ar yr yspail.

Rhagrith sydd gyfuniad o bob drwg.

CHWEDL 119 - YR EPA AR PYSGOTWYR.
Fel yr oedd Epa yn eistedd mewn pren uchel, fe welai Bysgotwyr yn gosod eu rhwydau mewn afon, ac a sylwodd arnynt yn fanwl. Cygynted ag yr oedd y dynion wedi gosod eu rhwydau, ac wedi myned ymaith iw ciniaw, daeth yr Epa i lawr or pren, gan feddwl y gwnelai yntau dreio ei law yn yr un modd. Ond wrth geisio gosod y rhwydau, fe faglodd ynddynt ir fath raddau, fel yr oedd yn mron tagu, ac yna gwaeddai allan, Wel! wel! dyma hi! ond pa beth allwn ddisgwyl? Pa achos oedd i mi, yr hwn ni wn ddim am bysgota, i ymyryd rhyw gelfi fel hyn?

Y mae y rhai a ymaflant mewn peth nad ydynt yn ei ddeall, yn lled sicr o fyned i brofedigaeth a magl.

CHWEDL 120 - SOCRATES AI DŶ.
Adeiladodd Socrates Dŷ hynod fychan i fyw ynddo; a phan y gofynwyd iddo paham y darfu i ddyn mor fawr a phwysig ag ef adeiladu y fath Dŷ bychan, a atebodd, Byddai yn dda genyf allu llanw hwn gwir gyfeillion.

Yn mha le y ceir gafael ar wir gyfaill?

_________________________


(tudalen 92)

CHWEDL 121 - YR IR AR WENOL.

Ir wedi cael o hyd i wyau neidr mewn tomen, a eisteddodd arnynt, ir dyben ou deor. Gwenol, yn gweled hyny, a ehedodd ati, ac yn dra chyffrous a ddywedodd, A ydych chwi yn orphwyllog, i geisio eistedd ar, a deor y fath haid o greaduriaid peryglus a hynyna? Gallwch fod yn siwr, y foment y dygwch hwynt allan i oleuni, mai chwi fydd y cyntaf y troant ac y tywalltant eu malais au gwenwyn arni.

Rhaid lladd egwyddorion drwg yn yr eginyn. Os maethir hwynt yn en cychwyniad, bydd yn anhawdd osgei eu heffeithiau chwerw, wedi iddynt dyfu i addfedrwydd.

_________________________


(tudalen 93)

CHWEDL 122 - YR YSPEILIEDIG AI GYFEILLION.

Un noswaith yn yr Hydref aeth lleidr i dŷ Amaethydd bychan, ac ar ol cyraedd yr ystafell y cedwid y meddianau ynddi, a ladrataodd yr oll y gallodd ddodi ei ddwylaw arno. Felly, darfu ir Amaethydd druan, yr hwn a aeth i gysgu y noson hono yn lled dda arno, ddeffroi boreu dranoeth wedi colli y cwbl, heb ddim yn ei aros ond cŵd y cardotyn. Y Nef an gwaredo rhag byth ddefroi yn yr un fath gyflwr! Y mae yr Amaethwr yn wylo ac yn ochain, ac yn galw yn nghyd ei holl gyfeillion ai gymydogion. Onid ellwch chwi gynorthwyo ychydig arnaf yn fy nghyfyngder presenol? gofynai. Yna y mae pob un yn dechreu ei anerch, gan fod yn hael odiaethol ou cynghorion. Ebai Brown, Ah! fy nghyfaill, ni ddylasech chwi ymffrostio yn eich cyfoeth wrth bawb. Ebai Jones, Rhaid i chwi o hyn allan gysgu yn yr ystafell nesaf ir un y byddwch yn cadw eich eiddo ynddi. Wel, gyfeillion, ebai Robinson. Nid yn mhellder yr ystafell yr oedd y diffyg. Y peth raid i chwi wneyd ydyw cadw cŵn daneddog a chyflyrn oddeutu eich tŷ. Cymerwch a fynoch or cŵn bychain sydd gan fy ngst Juno. Byddai lawer yn well genyf eu rhoddi yn anrheg i gyfaill nau boddi. Ac fel hyn, cynbelled ag yr oedd geiriau yn myned, rhoddodd ei gyfeillion ai gymydogion gynghorion buddiol iddo, ond pan y deuwyd at weithredoedd, ni wnelai un o honynt gynorthwyo dim ar y truan.

Llawer yn barod i roddi cynghorion i gymydog mewn helbul, ond ychydig fydd yn barod i estyn cynorthwy gwirwneddol.

_________________________


(tudalen 94)

CHWEDL 123 - YR ASYN AR BAEDD.

Asyn gwirion yn cyfarfod Baedd un diwrnod, a ddechreuodd chwerthin am ei ben, gan ei gyfarch, Eich gostyngedig was, fy mrawd. Cythruddodd hyny y Baedd yn fawr, a gofynodd paham y dywedai y fath gelwydd, gan nad oedd yr un berthynas rhyngddynt. Dywedodd yr Asyn, gyda gwn wawdlyd, Onid ydym yn frodyr? Edrychwch, mor debyg ydym in gilydd! Cynhyrfodd hyny y Baedd ir fath raddau, fel y rhuthrodd arno ac ai lladdodd yn y fan.

Y mae llawer yn talu yn ddrud am eu cellwair.

CHWEDL 124 - Y LLEWPARD AR LLWYNOG.
Bu dadl rhwng y Llewpard a Llwynog, pa un or ddau oedd y creadur harddaf. Cyfeiriai y Llewpard at brydferthwch yr ysmotiau lluosog ar ei groen; ond

_________________________


(tudalen 95)

atebai y Llwynog, Y mae meddwl galluog yn well na chorph tlws.

Y meddwl yw safon y dyn.

CHWEDL 126 - Y CI AR CEFFYL.
Un diwrnod yr oedd Ci a cheffyl rhyw Amaethwr yn dadleu eu gwahanol ragoriaethau. Fel yr wyt yn siarad yn wir, Mr. Ceffyi! Ni byddai yn ddrwg genyf pe baent yn dy droi di allan or buarth yma. Tynu yr aradr a llusgo y drol yn wasanaeth anrhydeddus, ai e! Nid wyf erioed wedi clywed dim iw gydmaru ath haerllugrwydd. Pa fodd y meiddi gydmaru dy hun a mi? Nid wyf fi yn gorphwys ddydd na nos. Yn y dydd yr wyf yn gwylied y gwartheg yn y weirglodd; yn y nos yr wyf yn gwylio y tŷ.
Eithaf gwir, atebai y Ceffyl; y mae yr hyn a ddywedi yn hollol wir. Ond cofia hyn, fy Nghyfaill, oni bai fy aredig i, ni byddai genyt ddim iw wylio.

Pob un yn bwysig yn ei le ei hun.

CHWEDL 126 - AESOP YN CHWAREU.
Fel yr oedd Aesop un diwrnod yn chwareu a nifer o blant, daeth un or Atheniaid heibio, a phan yi gwelodd, a chwarddodd am ei ben, gan dybied ei fod wedi colli ei synwyr. Wrth weled hyny, cymerodd Aesop ei fwa a phlygodd ef gymaint ag a allai, a daliodd ef yn ngwyneb y dyn. Methai a deall beth a olygai Aesop wrth hyny; safodd yn synedig am beth amser gan geisio dyfalu, ond yn gwbl ofer; or diwedd dywedodd Aesop, Bydd ir bwa dori os delir ef yn rhy dyn; ond os llaciwch ef, bydd yn ddefnyddiol i chwi pan fo arnoch angen am dano.

Gweithio o hyd heb ddim chwareu a wna Jack yn fachgen dwl.

_________________________


(tudalen 96)

CHWEDL 127 - YR AST AI CHŴN.

Gst, yn ymyl dyfod a Chŵn bach, a ofynodd i Ast arall a fuaaai hi mor garedig a chaniatau iddi fenthyg ei thŷ hyd nes y rhoddai enedigaeth iw thorllwyth, a, chafodd ganiatad uniongyrohol. Bu yno am hir amser yn magu ei chŵn; or diwedd daeth yr Ast a berchenogai y lle yn mlaen i geisio cael ei thŷ yn l, pan yr atebwyd hi gan yr un y gwnaethai gymwynas hi yn awr ei chaledi, Os gellwch fy ngyru i am cŵn allan, gellwch gael eich tŷ yn l.

Cadwch dwyllwr yn ddigon pell oddlwrthych.

CHWEDL 128 - Y DDAU GI.

Un diwrnod yr oedd dau Gi yn gorwedd yn yr haul, tu allan i gegin eu meistr, ac mewn ffordd o dreulio yr amser yn ddedwydd, aethant i ymddiddan am

_________________________


(tudalen 97)

ffaeleddau a rhagoriaethau eu cydgreaduriaid. Or diwedd aethant ar draws y pwngc o gyfeillgarwch. Pa beth all fod mor ddymunol, ebai Carlo, na byw mewn heddwch chyfaill hoff? Paham nad allem ni fod yn gyfeillion? Ac ateba Tango, Yr wyf wedi sylwi a gofidio ers llawer dydd o herwydd na allwn ni, er ein bod yn aelodau or un teulu, dreulio cymaint a diwrnod heb gweryla n gilydd. A phaham y mae felly? Diolch in meistr, nid ydym heb ddigonedd o Ie, a chyflawnder o fwyd. Y mae yn warthus yn wir. Y mae y Ci ers oesoedd wedi ei ddefnyddio yn arwyddlun cyfeillgarwch, ac eto ni chewch yn mhlith cŵn gymaint o gyfeillgarwch ag a geir yn mhlith dynion. Bydd i ni roddi esiampl dda yn hyn ir oes, ebai Carlo. Eich pawen! Dyma hi. Ar hyny y mae y cyfeillion yn myned i gofleidio a chusanu eu gilydd; maent yn methu gwybod, yn eu llawenydd, pa beth i ddweyd wrth eu gilydd.
Fy Ngharlo anwyl, ebai un. Tango hoff! ebai y llall. Ymaith phob cwerylon, pob eiddigedd, pob malais! meddant gydau gilydd. Ar yr adeg yma, yn anffortnnus, y mae y gogyddes yn taflu asgwrn allan trwy ffenestr y gegin. Rhuthra ein cyfeillion iddo, gan gnoi a chwyrnu. Pa beth sydd wedi dyfod ou cytundeb au cyfeillgaiwch? Rhuthrant i yddfau eu gilydd, a gafaelant mor dỳn fel y bu raid eu taflu ir llyn cyn y gollyngasant eu gafaelion.

Llawer o gyfeillion fel y Ddau Ci. Os gwrandewch ar eu siarad, tueddir chwi i gredu fod eu mynnesau yn llawn serch y naill tuag at y llall. Ond taflwch asgwrn iddynt, ac ymddygant yn gymwys fel y cŵn.

_________________________


(tudalen 98)

CHWEDL 129 - Y BLAIDD, Y LLWYNOG, AR EPA.
Cyhuddodd y BIaidd y Llwynog o ladrad, yr hwn a wadai bob cysylltiad r hyn y cyhuddid ef oi blegid. Gelwir ar yr Epa i eistedd yn farnwr ar yr achos, ac ar ol i bob un or ddau adrodd yr hanes, dywedodd, Nid ymddengys eich bod chwi, Mr. Blaidd, wedi colli yr hyn y gofynwch am dano; ac yr wyf yn credu eich bod chwi, Mr. Llwynog, wedi lladrata yr hyn wadwch mor benderfynol.

Ni chredir y Celwyddog pan fyddo yn dweyd y gwir.

_________________________


(tudalen 99)

CHWEDL 130 - YR AMAETHWR CYBYDDLYD.

Chwedl 130. YB AMAETHWK CTBYDDLYD.
Darfu i Amaethwr Cybyddlyd gymeryd yn ei ben i orchymyn iw gi i gyflawni tair o ddyledswyddau tra gwahauol gwylio y tŷ, pobi y bara, a chario dwfr ir ardd. Ni wnaeth y ci wrthwynebiad, gan ei fod yn cael addewid o drebliad ei gyflog, ac felly yr oedd y fargen yn foddhaol ir ddau. Pan y daeth yr Amaethwr gartref or ffair dranoeth, cafodd nad oedd yr ardd wedi ei dyfrhau, y bara wedi ei bobi, nar tŷ wedi ei wylio, oblegid yr oedd lladron wedi bod yno a lladrata y pethau goreu. Wrth gwrs, ceryddodd y ci, ond profodd, er ei foddhad, nad allai fod yn yr ardd tra yn myned o amgylch y tŷ, a thra yn cario dwfr nad allai hefyd bobi y bara.

Y neb a ddisgwylio iw was wneyd dau waith ar unwaith a gaiff golled.

CHWEDL 131 - YR HWCH.
Un boreu braf galwodd yr Hwch ei thorllwyth ati, a rhoddodd iddynt y cynghor priodol a ganlyn, Fy anwyl blant, yr wyf yn dymuno arnoch fod yn foesgar bob amser, a gofalu am gadw eich hunain yn ln, a pheidio ymdreiglo yn y ffosydd ar pyllau. Ond fel yr oedd yr Hwch yn gwneyd ac nid fel yr oedd yn dweyd y gwnelai ei phlant.

Ofer dweyd, Gwnewch yr wyf yn DWEYD ac nid fel yr wyf yn GWNEYD.

_________________________


(tudalen 100)

CHWEDL 132 - Y GŴR AI DDWY WRAIG.

Yn y dyddiau pan yr oedd yn rhydd i ddyn briodi mwy o wragedd nag un, darfu i ddyn canol oed, gwallt yr hwn oedd yn dechreu troi yn llwyd, syrthio mewn cariad a dwy ferch ar unwaith, a phriododd y ddwy. Yr oedd un o honynt yn ieuangc ac iraidd, a dymunai iw gwr ymddangos mor ieuangc a hi ei hun; yr oedd y llall mewn gwth o oedran, a dymunai fod ei gŵr rywbeth yn agos i w hoed hithau. Felly cymerai y Wraig ieuangc bob cyfle i dynu pob gwelltyn gwyn e ben y gŵr da, ar Hen Wraig oedd lawn mor ddiwyd yn ceisio tynu pob gwelltyn du i ffordd. Am dymhor teimlai y gŵr yn dra dedwydd oblegid eu gofal au serch, hyd nes ar ryw foreu y cafodd nad oedd ganddo, rhwng y naill a r llall, un blewyn o fath yn y byd wedi ei adael ar ei ben.

Anwyl y mae priodasau, lle mae anghyfartaledd mawr mewn oedran, yn ddedwydd. Yr hwn a ildia ei egwyddorion i ddylanwad a mympwyon pleidiau gwrthwynebol a ddiwedda mewn bod heb egwyddorion oll.

_________________________


(tudalen 101)

CHWEDL 133 - YR ASYNOD AR LLADRON.

Yr oedd dau Asyn llwythog ar y ffordd; un yn cario basgedi llawn o arian, y llall sachau o haidd. Yr oedd yr Asyn a gariai yr arian yn myned yn hynod benuchel gan ysgwyd y gloch a grogai wrth ei wddf nes y tinciai yn uchel; y mae yr Asyn arall yn ei ddilyn yn araf a phen isel. Rhuthra ysbeilwyr yn sydyn or gwrych, ac y maent wrth ymosod ar yr Asynod, yn gwthio cleddyf trwy yr Asyn a gariai yr anan. Maent yn cymeryd yr arian ond yn gadael yr haidd fel peth diwerth. Pan yr oedd yr Asyn clwyfedig yn gruddfan wrth farw, dywedodd y llall, Y mae yn dda i mi fy mod wedi fy esgeuluso, oblegid nid ydwyf wedi colli dim, na derbyn yr un niwaid.

Mwyaf o gyfoeth mwyaf o ofal a pherygl

CHWEDL 134 - Y BARCUTAN PAPYR AR ADAR.

Dychrynwyd yr Adar yn anghyffredin un diwrnod wrth weled rhywbeth a dybient hwy yn aderyn anferth o faint yn hedfan yn yr awyr. Yr oedd yr olwg arno yn ofnadwy! Credent yn sicr y byddai iddo en difetha oll. Ond wedi ir Barcutan Papyr fod i fyny am ychydig amser, peidiodd y gwynt, a syrthiodd yntau i lawr ir baw.

Gall dyn ymgodi yn sydyn trwy rhyw nerth estronol, ond y mae yn sicr o ddyfod i lawr, yr unig ddyrchafiad gwirioneddol yw pan fyddo dyn yn graddol godi yn ei nerth ei hun a chyd ai adenydd ei hun.

_________________________



(tudalen 102)

CHWEDL 135 - ADERYN Y T AR YSGYFARNOG.
Aderyn y T a edliwiai i Ysgyfarnog a ddaliwyd gan Eryr, am fod mor ffol a chymeryd ei dl a gwneyd y fath leisiau anfwyn, Beth am y cyflymder yr ymffrosti ynddo? ebai. Sut y bu dy gerddediad mor arafaidd? Tra yr oedd yn siarad, y mae Barcud yn disgyn arno, ac yn ei ddl yn ddiarwybod, ac yn ei ladd er gwaethaf ei ysgrechfeydd. Yr Ysgyfarnog, er ei bod yn haner marw, a ddywedodd mewn ffordd o gysur wrth farw, Yr wyt ti, ag oeddit ychydig funudau yn ol yn ddiogel, ac yn gwneyd gwawd or trychineb am goddiweddodd, wedi cael dy ddal dy hunan gan anffawd gyflelyb.

Na fydded i chwi sarhau personau mewn blinfyd.

_________________________


(tudalen 103)

CHWEDL 136 - Y GWLADWR AI HUGAN.

Yr oedd penelin Dafydd trwy ei hugan. Paham y dylai sefyll yn hir uwchben y ffaith? Cymerodd ei nodwydd; torodd ddarn o flaen y llewis, a thrwsiodd y ddan benelin. Yr oedd yr hugan yn gyfan eto, ond yr oedd ei freichiau yn noethion am chwarter eu hyd. Pa beth a wneir? Y mae pawb yn chwerthin am ben Dafydd. Dywed yntau, Gan nad ydwyf yn ffwl, bydd i mi wneyd y diffyg yma i fyny fel y gwnaethum y llall. Nid dyn cyffredin yw Dafydd. Felly torodd gynffonau ei hugan i helaethu y llewis. Yna yr oedd Dafydd yn ddedwydd, er nad oedd ei hugan ond ychydig iawn yn hwy nai wasgod.

Felly y mae llawer mewn amgylchiadau dyryslyd yn ceisio eu gwella trwy fenthyca mewn un man i dalu eu dyled mewn man arall.

CHWEDL 137 - YR ATHEISTIAID.

Yr oedd llwyth anystyriol unwaith wedi codi mewn gwrthryfel yn erbyn y duwiau. Darfu ir terfysgwyr arfogi eu hunain ffyn tafl, a saethau, a dechreuasant ymosod ar Olympus. Darfu i nifer or duwiau brysuro i geisio gan Jupiter i hyrddio ei daranfolltau yn erbyn eu gelynion, neu iw dihanfodi trwy rhyw foddion goruwch-naturiol. Gadewch i ni aros ychydig, ebai Jupiter. Os na fyddant yn llonydd, heb ofn y duwiau, bydd iddynt gael eu cospi trwy eu dwylaw eu hunain. Yr adeg hono, gyda bloedd, dyma gawod o geryg ac ystorm o saethau, yn cael eu gollwng gan y terfysgwyr ond dychwelodd y ceryg ar saethau, yn cael eu gyru gan nerth goruwch-naturiol, ar benau y terfysgwyr, gan eu lladd bob un.

Pob saeth a anelir at Dduw, a ddychwela, yn cael ei dilyn gan farwolaeth, ar ben yr hwn ar gollynga.

_________________________


(tudalen 104)

CHWEDL 138 - Y LLYFFANTOD AR HAUL.

Yn y dechreu, pan y soniodd yr Haul am briodi, cododd y Llyffantod eu llef hyd yn nod ir sr. Trwy fod Jupiter yn cael ei aflonyddu gan eu crawcian, gofynodd iddynt yr achos ou cwynfan. Ac atebwyd ef gan Lyffant a safai ar ymyl ffynon o ddwfr: Er nad yw yr Haul yn awr ond un, y mae yn sychu i fyny y ffynonau ar llynoedd, ac yn ein gorfodi ninau, greaduriaid truenus, i farw o herwydd prinder dwfr; ond pa beth ddaw o honom os prioda a chael plant?
Hyny yw, mwy o Heuliau.

Fel y tad felly y mab.

_________________________


(tudalen 105)

CHWEDL 139 - Y COED AR DUWIAU.

Yn yr hen amser darfu ir Duwiau ddewis y coed a gymerent o dan eu nawdd. Boddheid Jupiter gan y dderwen, Venus gan y myrtwydd, Phoebus gan y lawrwydden, Cybele gan y binwydden, a Hercules gan y boplysen uchel. Minerva yn synu eu bod oll wedi dewis coed diffrwyth, a ofynodd iddynt am reswm dros eu hymddygiad. Dywedodd Jupiter, Yr ydym wedi gwneyd fel hyn rhag i ddynion feddwl ein bod wedi eu dewis er mwyn y ffrwyth ac nid er mwyn anrhydedd. Ond ateba Minerva, Bydded i bawb wneyd fel y myno, y mae yr Olew-wydden yn fwy gwerthfawr genyf fi, a hyny e herwydd ei ffrwyth. Yna, dywedodd tad y Duwiau, O ferch! tydi yw y doethaf om holl blant. Os na fydd ir hyn a wnawn ddwyn elw, y mae gogoniaint yn beth diwerth iawn.

Gwerthfawroger pren er mwyn ei ffrwyth ac nid mwyn ei ddail.

CHWEDL 140 - YR ASYN AI BERCHENOGION.

Yr oedd cwmni o Fasnachwyr yn arfer arwain Asyn oddiamgylch i gario eu nwyddau. Ar ol iddo arwain bywyd o galedi ac arni gernodiau, bu farw; tynasant ei groen oddiam dano, a gwnaethant dabyrddau o hono. Yn mhen ychydig amser, pan ofynwyd iddynt pa beth oedd wedi dyfod ou Hasyn, a atebasant, Meddyliodd y buasai yn ddiogel ar ol marw, ond gwelwch, gwnaethom dabyrddau oi croen, a churir mwy arno nag erioed.

Y mwyaf anedwydd yw yr hwn fydd yn anedwydd tra fyddo byw ac yn fwy anedwydd ar ol marw.

_________________________


(tudalen 106)

CHWEDL 141 - Y GŴR CYFOETHOG TLAWD.
Y mae Ffawd yn clywed Cardotyn yn myfyrio ar y pleserau sydd o fewn cyraedd y cyfoethog, ac yn eu beio am beidio mwynhau eu hunain. Meddyllai yr ymddygai ef yn dra gwahanol pe caffai gyfleusdra. Ar hyny y mae Ffawd yn ei anrhegu phwrs. Dywed wrtho pa bryd bynag y byddai iddo ddodi ei law ynddo y caffai ddarn a aur. Mor fuan ag y tyno un allan, bydd arall yn cael ei ollwng i fewn, ac felly y gallai y Cardotyn lanw ei goffrau ag aur. Ond nid ydyw i wario cymaint ag un or darnau aur hyd nes y bydd iddo daflu y pwrs hynod ir afon a redai gerllaw. Diflana Ffawd, a dechreus y Cardotyn dynu darn ar ol darn allan or Pwrs. Wrth gwrs, nid ydyw yn meddwl ei daflu ymaith yn fuan. Bydd i mi gymeryd allan bentwr o aur, meddai, ac yfory dechreuaf fyw mewn llawnder. Ond erbyn dranoeth, y mae wedi cyfnewid ei feddwl. Y mae yn wir, meddai, fy mod yn awr yn gyfoethog. Ond pwy sydd heb ymhyfrydu mewn cyfoeth! A phaham na fyddai i mi ddyblu fy nghyfoeth? Nid gwaith ofer fydd i mi dreulio un diwrnod eto gydam Pwrs.
_________________________


(tudalen 107)

Dyma ddigon i brynu tŷ, cerbydau a meirch. Ond os gallaf gael digon i brynu etifeddiaeth, onid ffolineb fyddai i mi daflu ymaith y cyfleusdra? Wrth gwrs, cadwaf y Pwrs. Bydd i mi ymprydio un diwrnod yn ychwaneg.
Bydd genyf ddigon o amser i fwynhau fy hunan wedi hyny. Felly y meddylia, ond y mae dyddiau, wythnosau, misoedd, a blynyddoedd yn myned heibio, ac eto y mae y Cardotyn yn para i ychwanegu ei drysor. Unwaith cychwyna tuar afon, gan fwriadu taflu y Pwrs iddi, a dechreu lawenhau ei hun. Ond y mae yn methu cael ar ei galon i wneyd hyny, a dychwela eilwaith at ei hoff orchwyl. Dechreua yn foreu. bob dydd ar ei orchwyl o bentyru. arian; ac ni rodda heibio iw waith hyd nes y bydd yn hwyr or nos. Y mae yn myned i edrych yn hen cyn ei amser, diflana ei gnawd oddiam ei esgyrn, a gwyna ei ben yn anamserol. A yn fwy egwan y naill ddydd ar ol y llall. Y mae iechyd ei gorff a i heddwch yn cael eu dinystrio. Ond parha, gyda dwylaw crynedig, i gymeryd dernyn ar ol dernyn allan or pwrs. Cyrnera a chymera, a pha fodd y diwedda y cwbl? Ar y faingc lle yr arferai eistedd, y ceir ef or diwedd wedi marw, yn y weithred o gyfrif ei nawfed miliwn.

A gaffo arian ni ddigonir g arian.

CHWEDL 142 - JUNO AR PAUN.
Daeth Paun at Juno i gwyno am nad ydoedd wedi rhoddi iddo lais yr Eos; a dywedai ei fod yn cael ei edmygu gan yr holl adar, ond yn cael ei ddiystyru cygynted ag y rhoddai allan ei lais. Yna dywedodd y dduwies, mewn trefn i geisio ei foddloni, Yr wyt yn rhagori arnynt mewn prydferthwch, ac mewn maintioli, y mae dy wddf yn hardd, a phlyf dy gynffon yn ogoneddus. Dywedodd y Paun, Paham ym gwisgir yn y plyf hardd hyn os ydwyf i gael fy narostwng yn fy llais? Ateba Juno, Y mae rhanau wedi eu rhoddi i chwi yr adar trwy ewyllys y duwiau: i chwi brydferthwch, ir eryr nerth, ir eos cn, ac y mae pob un yn foddlon ar yr hyn sydd ganddo.

Byddwch foddlon ar yr hyn sydd genych, ac na chwenychwch yr hyn a berthyn i ereill.

_________________________


(tudalen 108)

CHWEDL 143 - Y CARDOTYN AI GŴD.
Y mae Ffawd yn diwmod yn clywed Cardotyn yn siarad wrtho ei hun. Y mae yn gwawdio ffolineb y rhai nad ydynt byth yn foddlon ar yr hyn sydd ganddynt, y rhai nad ydynt byth yn gweled eu digon, ac yn y diwedd a andwyant en hunain wrth geisio ychwaneg. Yn nghanol ei fyfyrdod y mae yn cael ei aflonyddu gan y dduwies Ffawd, yr hon ai hysbysa ei bod ers amser wedi meddwl ei gynorthwyo, ac y byddai iddi ollwng iw Gŵd y darnau aur oedd ganddi yn ei meddiant ar y pryd. Ond ni wna hyny ond ar delerau neillduol, sef, Fod yr oll a ddaliai y Cŵd i fod yn aur; ond fod y cwbl a syrthiai ir llawr i gael ei droi yn llwch. Ac y mae yn ei rybuddia fod ei Gŵd yn hen a braenllyd, a byddai yn well iddo beidio rhoddi gormod o bwysau arno.
Y mae y Cardotyn yn methu anadlu bron gan lawenydd. Prin y mae yn teimlo y llawr o dan ei draed. Agora ei Gŵd, ac y mae y dduwies gyda llaw agored yn gollwng
_________________________


(tudalen 109)

cawod o ddarnau aur iddo. Mae y Cŵd yn fuan yn myned braidd yn drwm. A yw hynyna yn ddigon? Nag ydyw yn hollol. Onid yw y Cŵd yn cracio? Dim perygl. Ystyria yr wyt mor gyfoethog a Croesus. Ychydig bach eto un dymaid yn ychwaneg. Dyna y mae yn llawn! Cymer ofal y mae y Cŵd ar rwygo. Dim ond ychydig bach eto. Ond ar hyny y mae y Gŵd yn ymagor, a syrthia y trysor ir llawr a throa yn llwch, a diflana Ffawd. Nid oedd gan y Cardotyn ond ei Gŵd gwag, ac aeth ymaith mor dlawd ag erioed.

A gaffo arian ni ddigonir ag arian. A grafango am ormod, a golla yr hyn fo ganddo.


CHWEDL 144 - Y SIWG BRIDD AR LLESTR COED. Siwg bridd hardd yn sefyll yn fawreddog ar y bwrdd, a edrychai gyda dirmyg ar y Llestr coed a ddefnyddid i olchi y llawr, a dywedodd, Yr wyf lawer yn brydferthach na thydi yr hen Lestr coed hyll. Dos allan trwy y drws yna, neu mi a ddeuaf i law ac ath fwriaf ir ffordd. Aros funud, ebair Llestr coed, paid ag ymffrostio gormod. Cofia fod Llestri pridd yn hawdd iawn eu tori. Chwarddai y Siwg hardd yn braf am ben rhybudd y Llestr coed, a sythai yn fwy nag erioed, ond och! rhyw ddiwrnod torwyd y Siwg falch, a thaflwyd hi allan ir domen, ond parhaodd y Llestr pridd i wneyd gwasanaeth am flynyddoedd wedi hyny.

Defnyddioldeb yn para yn hwy na phrydferthwch.

_________________________


(tudalen 110)

CHWEDL 145 - Y LLWYNOG AR LLYGODEN.

Cafodd Llwynog ei benodi yn Farnwr ar fuarth lle y cedwid llawer o ieir a gwyddau, a chyflawna ei waith gyda sel a phenderfyniad. Ond y mae yna rhyw si yn y gwynt ag sydd yn anffafriol iw anrhydedd, ac y mae yn cael ei ddiswyddo ar yr amheuaeth o ladd rhai or adar ddodwyd dan ei ofal. A welsoch chwi fi erioed yn cyflawni trosedd o unrhyw fath? gofynai iw gymydoges y Llygoden. Naddo, oedd yr ateb; ond gwelais fn-blu o amgylch eich geneu. Dyma y Cymhwysiad

Ceir gweled aml i swyddog bychan, yn derbyn cyflog gweddol, yn byw yn dda; ac yn araf deg adeilada dŷ, a thŷ wedi hyny, ac yna pryna etifeddiaeth. Ond pa fodd y gellir cysoni ei dreulion gydai dderbyniadau? Er nas gellir profi dim yn ei erbyn mewn llys cyfreithiol, eto ni byddwch yn cyfiawni pechod os dywedwch, Y mae mn-blu o amgylch geneu y dyn yna.

CHWEDL 146 - Y CAWRFIL MEWN SWYDD.
Apwyntiwyd Cawrfil yn llywodraethwr coedwig fawr. Ni fynai er dim niweidio gymaint a gwibedyn

_________________________


(tudalen 111)

CHWEDL 147 - Y FRONWEN AR LLYGOD.

Bronwen wedi ei llwyr weithio allan gan flynyddoedd a henaint, gan nad allai yn hwy ddilyn y Llygod cyflymdroed fel yr arferai, a guddiodd ei hun yn y blawd, mewn congl dywyll. Daeth Llygoden ddibrofiad ir lle, a chan dybied mai rhywbeth iw fwyta oedd y Fronwen, a nesaodd ati, ac nid hir y bu cyn mynd yn aberth iw ffolineb; nesaodd un arall, ac un arall ar ol hono, ac amryw wedyn, a chyfarfyddasant r un dynged chwerw. Or diwedd nesaodd hen Lygoden gall, ddifrifol, a gochelgar yn mlaen, ag oedd lawer gwaith wedi diangc o beryglon y trap ai gyffelyb, a gwelodd y perygl o bell, a dywedodd, gyda gradd o wawdiaith yn ei llais, Felly yn siwr! A oes genych wely esmwyth yn y blawd yna, Meistres Bronwen? Boreu da.

Nid ag us y mae dal hen Adar.

_________________________


(tudalen 112)

CHWEDL 148 - Y TRI BRAWD.

Un adeg yr oedd Tri Brawd yn arwain bywyd tlodaidd, ac yn byw mewn tŷ truenus, ac yn cael trafferth i gael digon o fwyd. Yn ol eu barn hwy, ar Ffawd yr oedd y bai i gyd. Or diwedd y mae Ffawd yn cymeryd trugaredd arnynt, yn dyfod iw plith heb yn wybod iddynt, yn gwneyd yr oll a allai iw cynorthwyo, ac yn aros gyda hwynt am flwyddyn. Yr oedd pob peth yn myned yn mlaen yn hwylus. Un o honynt, a ystyrid yn fasnachwr diamcan, a gafodd ei hunan yn gwneyd elw o bob peth a brynai ac a werthai, a daeth yn fuan yn farsiandwr cyfoethog. Aeth un i wasanaeth y Uywodraeth, a chododd yn fuan i fri, anrhydedd, a chyfoeth. Mewn ychydig amser yr oedd ganddo dŷ yn y dref a thŷ yn y wlad, a darn helaeth o dir ffrwythlon. Ond pa beth ddaeth or trydydd brawd. Gellwch fod yn sicr fod Ffawd wedi ei gynorthwyo yntau hefyd. Gwir iddi ei wneyd yn weithgar ar hyd y flwyddyn;
ond treuliodd yr holl amser i ddal pryfaid, ac yr

_________________________


(tudalen 113)

oedd yn llwyddianus iawn gydar gorchwyl hwnw. Nid wyf yn gwybod a oedd ganddo dalent naturiol at hyny ai peidio; pa un bynag am hyny nid oedd yn awr byth yn methu ei nod, diolch iw Ffawd dda. Or diwedd darfu ir ymwelydd, a arosodd cyhyd gydar brodyr, eu gadael. Yr oedd dau or brodyr wedi enill yn fawr ar ei hymweliad. Yr oedd un o honynt yn gyfoethog, ar llall mewn swydd uchel. Ond bu gorfod ir trydydd, a dreuliodd ei holl amser i ddal pryfaid, fyned oddiamgylch i gardota ei fara.

Y neb na chymer fantais ar gyfleustra a raid ddioddef tlodi.

CHWEDL 149 - Y CRIB AR PLENTYN.
Rhoddodd boneddiges Grib prydferth iw mhab, yr hwn ai boddhaodd mor fawr fel nad ollyngai ef byth oi ddwylaw. Pa un bynag ai yn chwareu ai ynte yn dysgu ei wers yr oedd yn parhaus wthio y Crib trwy ei wallt melyn modrwyog. Y fath Grib ydoedd! Nid oedd byth yn cydio yn y gwallt, nac yn tynu dim o hono ymaith, ond bob amser yn myned trwyddo yn esmwyth a diboen. Ond un diwrnod dododd y Crib yn rhywle oi law, a methodd gael gafael ynddo pan aeth i chwilio am dano. Aeth y bachgen i redeg a chwareu nes yr oedd ei gwallt yn ddyryswch i gyd. Nid cynt y cyffyrddwyd ef gan y forwyn nag y dechreuodd gwyno a gwaeddi, Pa le y mae fy Nghrib i? Cafwyd ef or diwedd; ond pan y ceisiodd y bachgen ei wthio trwy ei wallt ni symudai yn mlaen nac yn ol. Y bachgen, yn teimlo ei wallt yn cael ei dynu or gwraidd, a dorodd allan i wylo a gwaeddi, Y fath Grib drwg wyt ti! Ond y mae y grib yn ateb, Fy nghyfaill, yr wyf yr hyn oeddwn bob amser; y mae y bai yn eich gwallt chwi, yr hwn sydd wedi dyrysu. Ar hyny y mae y plentyn yn myned i dymer ddrwg, ac yn taflu y Crib ir afon.

Cyhyd ag y byddo y gydwybod yn ddirwystr, y mae gwirionedd yn foddhaol ir dyn, ystyir ef fel rhywbeth cysegredig, gwrandewir arno ac ufuddheir iddo; ond y foment y dechreua weithredu yn groes iw gydwybod, edrychir ar y gwirionedd fel gelyn.
_________________________


(tudalen 114)

CHWEDL 150 - Y CEFFYL AR ASYN LLWYTHOG.

Dyn yr hwn a gadwai Geffyl ac Asyn, a arferai yn ei deithiau i arbed y Ceffyl, a rhoi yr holl faich ar gefn yr Asyn. Yr Asyn, yr hwn oedd wedi bod yn wael ei iechyd am dymhor, a erfyniodd ar y Ceffyl iw ysgafnhau o ran oi lwyth. Canys, ebe efe, os symudwch ran om llwyth, mi a ddeuaf yn iach yn fuan eto; ond os gwrthodwch fy helpa, y llwyth hwn am lladd I. Ond y Ceffyl, yn ddideimlad, a barai ir Asyn fynd yn mIaen, a pheidio ei flino ef ai gwynion. Aeth yr Asyn yn mlaen yn ddistaw, ond yn fuan, wedi ei lethu gan ei faich, fe syrthiodd i lawr yn farw, fel y rhagddywedasai. Ar hyn daeth y meistr i fynu, a chan ryddhau y baich oddiar gefn yr Asyn marw, ai osod ar gefn y Ceffyl, fe wnaeth iddo gario ysgerbwd yr Asyn yn ychwanegol at hyny. Och fi! am fy angharedigrwydd.! ebe y Ceffyl; am wthod dwyn fy rhan deg or baich, rhaid i mi yn

_________________________


(tudalen 115)

awr ddwyn y cwbl o hono, gyda baich marw yn y fargen.

Y mae tymher anghymwynasgar yn fynych yn dwyn ei gosb arno ei hun.

CHWEDL 151 - Y BLEIDDIAID AR BELAID.

Darfu i Gynghorfa gyffredinol yr anifeiliaid apwyntio dirprwyaeth ir dyben o roddi atalfa ar anrheithiadau y Bleiddiaid yn mhlith y Defaid. Y mae y dirprwywyr yn cyfarfod, ac yn pasio deddf ragorol, ir dyben fod i unrhyw Flaidd a aflonyddo ar Ddafad, i gael ei ddwyn ger eu bron ir goedwig i gael ei gospi. Yn anffortunus, pa fodd bynag, y mae y Bleiddiaid yn ffurfio mwyafrif yn y pwyllgor. Y mae y gyfraith yn ddifai, ond nid felly y rhai ai gweinyddant. Y canlyniad yw, pa un bynag ai achwynydd ynte amddinynydd fyddo y Ddafad, y mae y ddedfryd yr mi fath yn mhob achos. Y mae y Bieiddiaid yn sicr o afael yn y Ddafad ai llusgo ir goedwig.
A sut bynag byddo y tystiolaethau, y mae y Ddafad yn siwr o ddioddef.

Er cael cyfraith dda, gwae ir gwan, os personau cyfranog fyddant yn ei gweinyddu.


CHWEDL 152 - Y DEFAID AR OEN.

Mewn diadell neillduol penderfynwyd ychwanegu rhifedi y Cŵn, mewn trefn i gadw y Bleiddiaid draw. Beth ddigwyddodd? Wel, cynyddodd eu rhifedi mor gyflym fel or diwedd, yr oeddynt yn alluog i gadw y Bleiddiaid draw, mae yn wir. Ond y mae yn rhaid i Gŵn, hefyd, fyw. Felly, yn gyntaf, cymerasant gnuoedd y Defaid, yna rhwygasant eu crwyn oddiam en hasenau. Or diwedd nid oedd ond pump neu chwech or Defaid yn aros, a darfu ir Gŵn gwancus fwyta y rhai hyny i fyny yn gorfforol.

Waeth gormod o Fleiddiaid na gormod o Gwn.

_________________________


(tudalen 116)

CHWEDL 153 - YR ASYN A JUPITER.

Dywedir nad oedd yr Asyn ar y cyntaf yn fwy o faintioli nar Wiwer. Yr oedd yn awyddus i dynu sylw ac enill parch, oblegid yr oedd ei enaid yn fawr, er fod ei gorph yn fychan; ond yr oedd ei fychander yn peri iddo fyned yn ddisylw o hyd. Or diwedd aeth at Jupiter, ac erfyniodd arno ei wneyd yn fwy, gan ddweyd fod y dirmyg a dderbyniai yn ddyledus hollol iw fychander; ac os gwnelid ef gymaint o faint ar llo y byddai yr holl fyd yn fuan yn siarad am dano. Yr oedd yr Asyn bob dydd yn poeni Jupiter gydar erfyniad yma; ac or diwedd gwrandawodd y daw ar ei weddi, a daeth yn anifail mawr. Ond ar yr un pryd daeth ei lais mor gryf fel yr oedd y cawr hir-glustiog yn dychrynu yr holl goedwig. Pa greadur yw hwn-yna? oedd y cwestiwn a ofynid yn aml. I ba deulu y perthyna? Y mae ganddo ddannedd hirion, pa fodd bynag; a chyrn heb rifedi arnynt! Yr oedd digon o siarad or diwedd am yr Asyn. Ond beth oedd diwedd y cwbl. Cyn bod blwyddyn wedi myned heibio cafodd pawb allan pa beth ydoedd mewn gwirionedd; aeth ei ddylni yn ddihareb; a byth er hyny y mae wedi ei ddefnyddio i gario neu lusgo.

Os bydd dyn o feddwl bach nis gall neb na dim ei wneyd yn wirfawr.

_________________________


(tudalen 117)

CHWEDL 154 - YR ARTH AR GWENYN.
Cyfarfyddodd y bwystfilod mewn pwyllgor un gwanwyn i ddewis Arolygydd ar y Cychod Gwenyn. Y .mae yno lawer o ymgeiswyr am y swydd, ond yr Arth, trwy fod ganddi ddylanwad mawr, a ddewisir iw llanw, er fod pawb yn ddigon hysbys ei bod yn dra hoff o fl. Yn mhen ychydig amser y mae swn mawr yn codi. Darganfyddir fod yr Arth yn arfer cario iw ffau yr holl fl y gall ddodi ei phawenau arno. Ar hyny, gwneir ymchwiliad manwl ir achos, ac or diwedd y mae y llys yn dedfrydu yr Arth i gael ei diswyddo, al hanfon i dreulio y gauaf yn ei ffau. Chwiliasant, profasant, arwyddasant, a chondemniasant, ond ni ddarfu iddynt adfer y Ml. Am yr Arth nid ydoedd hi yn gofalu dim. Ffarweliodd ar byd, ac ymneillduodd iw ffau gynes. Yno y sugna ei phawen felus, ac arosa hyd nes y ca adeg i fyned allan i chwilio am lwc newydd.

Waeth gan swyddog anonest gael ei droi oi swydd na pheidio, os caiff fyned gartref i fwynhau y Ml a gasglodd.

CHWEDL 155 - Y CADBEN AR MORWYR.
Llong ar y mr a oddiweddwyd gan ystorm ofnadwy; lluchid hi fel pluen gan y tonau cynhyrfus, ac ofnai yr holl ddwylaw mai yn y gwaelod y byddent mewn ychydig amser.
Yr oedd eu calonau yn curo, ar dagrau yn llifo dros eu gruddiau. Gellid darllen anobaith yn mhob gwyneb. Yn sydyn, pa fodd bynag, gostegodd y gwynt a llonyddodd y tonau, a dechreuodd y morwyr fyned o eithafion tristwch i eithafion llawenydd. Dawnsient, bloeddent, crechwenent gan faint eu balchder. Galwodd y Cadben hwy ato, a dywedodd, Gweddus yw ich llawenydd fod yn gynil, ach tristwch yn gymedrol, oblegid y mae llawenydd a thristwch yn gymysgedig n holl fywyd.

Mewn llwyddiant ofnwch y gwaethaf, mewn trallod gobeithiwch y goreu.

_________________________


(tudalen 118)

CHWEDL 156 - Y FRONFRAITH AR IAR.

Y FRONFRAITH. Yr hen Ir lwyd y mae dy lais yn aflafar a chras, nid wyf yn gwybod sut y mae y meistr yn dy ddioddef.

YR IAR.Cyfaddefaf nad oes genyf dalent at ganu, a gall fod y sŵn yn ddigon aflafar, ond y mae fy wyau yn dda, ac yn cael en gwerthfawrogi gan dlawd a chyfoethog.

Wyau gan un can gan y llaIl; pob un yn ol ei allu ei hun, a phob un yn dda yn ei Ie.

CHWEDL 157 - Y MEDDWON.

Cyfarfyddodd dau gymydog au gilydd, pob un or ddau mewn trafferthion at eu clustiau, ac y maent yn dodi eu penau yn nghyd i adolygu eu hanffodion. Dywed un o honynt: Y mae Rhagluniaeth wedi ymddwyn yn galed tuag ataf fi. Y Nadolig diweddaf cawsom dipyn o wledd. Aethum allan i roddi ymborth ir ceffylau, gan gario canwyll yn fy llaw. Rhaid i mi gyfaddef fod rhywbeth yn gwneyd rhyw sŵn yn fy mhen, a rhaid fy mod wedi gadael gwreichionen i fyned ir gwellt. Llwyddais i ddiangc fy hunan,

_________________________


(tudalen 119)

ond llosgwyd pob gwerth ceiniog oedd genyf gan y tn. Y mae Rhagluniaeth wedi bod yn ddig wrthyf finau, ebai y llall, yr hwn oedd wrth ei ffyn baglau; Y mae yn syndod fy mod i yn fyw. Aethum ir seler i ymofyn ychydig gwrw. Yr oeddwn inau hefyd yn cadw y Nadolig, a rhaid i mi gyfaddef fy mod wedi yfed ar y mwyaf o frandi gydam cyfeillion. Felly i osgoi y perygl o roddi y tŷ ar dan, aethum heb ganwyll. Ond syrthiais i lawr y grisiau yn y tywyllwch, torais rai om hesgyrn, a dyma fi, byddaf yn gloff tra byddaf byw.

Maer Meddwyn mewn perygl gwastadol; mae mewn perygl os caria ganwyll iw ganlyn, ac mewn mwy o berygl os a heb yr un.

CHWEDL 158 - Y TEITHWYR AR YSBEILIWR.

Aeth dau ddyn ar daith gydau gilydd, un yn ŵr llwfr ar llall yn wrol fel llew. Y mae ysbeilydd yn eu cyfarfod, ac yn hawlio eu haur neu eu bywyd. Y mae y gwrolddyn yn rhuthro arno ac yn ei daflu i lawr, ac yn ei ladd i gleddyf. Yr oedd ei gydymaith ofnus wedi rhedeg ymaith ar adeg y perygl, ond y mae yn awr yn dychwelyd yn ol, ac ar ol dadweinio ei gleddyf, y mae yn dweyd, mewn llais gwrol, Rhoddwch ef i mi, fy nghyfaill, cymeraf ei ofal, a gwnaf iddo deimlo o herwydd ei haerllugrwydd yn ymosod ar y fath ddynion a ni. Ond dywed y gw^r a ymladdodd ac a goncrodd, Buasai yn dda genyf pe buasech wedi fy nghynorthwyo ychydig amser yn ol hyd yn nod r geiriau yna, oblegid buasent yn codi fy nghalon ac yn fy nerthu; ond yn awr rhoddwch eich cleddyf yn y wain, a pheidiwch ch siarad gwag. Gellwch eu defnyddio i dwyllo ereill, ond yr wyf fi wedi cael prawf arnoch, ac yn gwybod nad oes ynoch nerth i ddim ond i ddiangc ymaith.

Arfau y llwfr ydynt ei dafod a draed.

_________________________


(tudalen 120)

CHWEDL 159 - YR HELIWR AR GOLOMEN.

Aeth Heliwr ir coed i saethu. Gwelodd Golomen yn mhlith cangau derwen, a chynygiodd ei saethu hi. Rhoddodd saeth ar ei fwa, ac yr oedd ar ei ollwng ef ymaith, pan y darfu i neidr, a sathrodd dan ei droed yn y gwellt, ei golynu yn ei goes, fel y gorfodwyd ef i roddi i fyny ei fwriad. Darfu ir gwenwyn yn uniongyrchol gydio yn y gwaed, a dechreuodd ei gorff chwyddo yn ofnadwy; pan y canfyddodd hyny, nid allai lai na chydnabod cyfiawnder y gospedigaeth. Daeth Ffawd, meddai, a dinystr ar fy ngwarthaf tra yr oeddwn yn cynllunio dinystr un arall.

Mae yr hwn a gynllunia ddinystr arall yn cyflawn haeddu cael ei ddinystrio ei hun.

CHWEDL 160 - Y LLAFURWYR AR AFON.
Cymerodd gorlifiad le mewn dyffryn; chwyddodd a chynhyrfodd y ffrydiau, anrheithiasant y maesydd, gan gario ymaith holl feddianau y Llafurwyr, a boddi eu deadelloedd. Penderfyus y Llafurwyr apelio at yr Afon, ir hon y mae y Ffrydiau yn ddarostyngedig.

_________________________


(tudalen 121)

Dywedant fod yr Afon fawr yn llifo yn dawel yn ei blaen, heb wneyd niwaid i neb. Bydd iddi roddi iawn iddynt am eu colled. Ond beth oedd y canlyniad? Ar ol iddynt ddyfod yn agos i lan yr afon, ac edrych ar ei gwyneb, gwelsant ei bod yn cario ymaith eu meddianau. Nid yw y Llafurwyr yn symud gam yn mhellach, ond edrychant am beth amser ar yr afon. Yna, ar ol edrych yn ngwynebau eu gilydd, ac ysgwyd eu penau, maent yn cychwyn gartef; ac ar y ffordd maent yn dweyd

Paham y treuliwn ein hamser yn ofer! Ni bydd i ni byth gael iawn am yr hyn a ladratawyd gan y plant tra y byddo y rhieni yn gyfranog hwy am yr yspail.

CHWEDL 161 - Y LLWYNOG AR DDRAIG.

Darfu i Lwynog wrth wneyd ogof iddo ei hun ddyfod ar draws ymguddfan hen ddraig dorchog ddaneddog, gan yr hon yr oedd llawer o drysor yn cael ei gadw. Cygynted ag y gwelodd y Ddraig, dywedodd, Erfyniaf arnoch yn y lle cyntaf am faddeu i mi am fy mod yn fy anwybodaeth wedi aflonyddu ar eich heddwch, ac yn yr ail Ie, ddweyd wrthyf pa lesad sydd i Chwi or trysor yma sydd yn eich meddiant, yr hwn sydd yn eich amddifadu och cwsg ac och rhyddid, ac yn eich gorfodi i arwain bywyd trallodus yma yn y tywyllwch? Nid wyf yn cael yr un wobr, ebai y Ddraig; ond rhoddwyd hwn i mi gan Jupiter. Onid ydych yn gwneyd defnydd o hono eich hun, nac yn ei roddi i ereill? Nag ydwyf; dyna ewyllys y duwiau, ebai y Ddraig. Na ddigiwch wrthyf, ebai y Llwynog, am siarad fy meddwl a dweyd y rhaid fod un yn eich cyflwr chwi wedi ei eni pan oedd y duwiau mewn tymherau drwg a digofus. Dyma chwi, er fod genych gyfoeth lawer, nid ydych yn mwynhau bywyd nai bleserau; a byddwch yn fuan wedi myned, gan adael yr oll ar eich ol.

Nid yw y Cybydd ond ceidwad ei arian, ac nid meistr arnynt.

_________________________


(tudalen 122)
CHWEDL 162 - Y GATH AR LLWYNOG.
Fel yr oedd y Gath ar Llwynog yn siarad an gilyddrun diwrnod, yn nghanol coedwig, dywedodd Rinallt, Bydded i bethau droi allan mor ddrwg ag y mynent, nid oedd ef yn gofalu, oblegid yr oedd ganddo ef fil o driciau y gallai eu hymarferyd, cyn y byddai i neb ei niweidio. Ac atolwg Meistres Pws, meddai, a chaniatau y gallech chwi fod mewn perygl oddiwrth eich gelynion, pa gwrs a gymerech chwi? Wel,ebai y Gath, Nid allwn i ond gwneyd un peth, os ffaelai hyny ni byddai gobaith am danaf. Y mae yn ddrwg genyf drosoch, atebai Rinallt; ydyw yn wir, a byddai yn hyfrydwch genyf ddysgu rhai om triciau I i chwi; ond yn siwr, gymydoges, fel y mae pethau yn bod, nid da ydyw ymddiried dirgelion i ereill; rhaid i bob un fod drosto ei hun, fel y dywed yr hen air. ac felly eich gostyngeiddiaf was. Prin yr oedd y geiriau hyn dros ei wefusau, nag y dychrynwyd hwy gan lais nifer o gwa^n, ag oeddynt yn dyfod tuag atynt yn gyflym. Y Gath, trwy gymhorth yr un ddyfais ag oedd yn ei meddiant, a ddringodd i fyny i ben coeden, ac eisteddodd yn ddiogel yn mhlith ei changau, or lle y gwelodd Rinallt, yr hwn nad allodd ddiangc or golwg, yn cael ei oddiweddyd er gwaethaf y mil o

_________________________


(tudalen 123)

CHWEDL 163 - Y TEITHWYR.

Daeth tri o Deithwyr i bentref i dreulio noswaith. Yr oeddynt wedi bod yn gweithio am dymor yn y ddinas, ac yn awr yn dychwelyd gartref at eu teuluoedd. Gan nad oeddynt yn teimlo tuedd i fyned iw gwelyau heb fwyd, y maent yn galw am swper. Ond ychydig o fwyd oedd yn y tŷ. Rhoddwyd yr ychydig weddill swper ar y bwrdd o flaen y teithwyr newynog. Nid oedd, wrth gwrs, yn deilwng oi gyffelybu ar ymborth a arferent gael yn y ddinas ond dim dyben siarad am hyny. Gwell rhywbeth na myned ir gwely yn newynog. Felly y maent yn eistedd wrth y bwrdd. Yna, y mae un o honynt, y cyfrwysaf or tri, yn gweled nad oedd yno haner digon iddynt oll,yn dechreu meddwl pa fodd y gallasai sicrhau digon iddo ei hun. Gyfeillion, meddai, yr ydych yn adnabod Thomas; wel, y mae yn debygol o gael ei gymeryd yn filwr. Ei gymeryd yn filwr! Pa beth sydd yn bod yn bresenol, ebai y ddau ar unwaith. A glywsoch chwi ddim fod rhyfel yn debyg o dori allan rhyngom a China. Y mae ein hymerawdwr wedi gorchymyn iddynt dalu treth ar de. Ar hyny y mae y ddau yn myned yn selog at y gorchwyl o ddadleu y pwngc, ac i geisio dyfalu pa fodd y cerid y rhyfel yn mlaen, a phwy a gaffai lywyddu. Poethasant gydar pwngc, ac aethant mor bell i yspryd y rhyfel nes bron fyned i ymladd eu hunain. Dyna yn union a garai ac a ddymunai eu cydymaith cyfrwys. Tra buont hwy yn dadleu ac yn croesdynu, bwytaodd yntau y bwyd yn dawel, a gadawodd lestri gweigion iddynt hwythau.

Os na byddi gryf bydd gyfrwys.

_________________________


(tudalen 124)
CHWEDL 164 - Y CYBYDD AI DRYSOR.

Cybydd, er mwyn diogelu ei gyfoeth, a werthodd
yr oll oi eiddo, ac au trdd yn un darn o aur, yr hwn a guddiodd mewn twll yn y ddaear, ac a elai yn barhaus i ymweled ag ef, ac i edrych arno. Sylwodd un oi lafurwyr ar hyn, a chan ammeu fod yno drysor, pan oedd ei Feistr wedi troi ei gefn, fe aeth ir lle, ac ai dygodd. Pan ddaeth y Cybydd yno drachefn, a chael y twll yn wag, efe a wylodd, ac a rwygodd ei wallt. Ond cymmydog, yr hwn ai gwelodd yn ei dristwch truenus hwn, wedi deall yr achos o hono, a ddywedodd, Na ofidia ddim yn hwy; ond cymmer greg, a dod hi yn yr un lle, a dychymyga mai dy ddarn aur ydyw; canys gan nad oeddyt byth yn bwriadu ei ddefnyddio, gwna y naill gymmaint o ls i ti ar llall.

Nid yw gwerth arian yn gynnwysedig yn y meddiant, ond yn y defnyddiad o hono.

_________________________


(tudalen 125)

CHWEDL 165 - Y GŴR MOEL AR GWIBEDYN.

DaethPryf ar ei hynt, ac o herwydd ei fod yn
llawn dichell ac awyddus am waed, a bigodd ben Gŵr Moel oedd yn eistedd yn ei dŷ; yr hwn, wrth geisio cael gafael ynddo iw wasgu i farwolaeth, a roddodd ddyrnod iddo ei hun ag a barai boen fawr iddo. Ar hyny chwarddodd y Pryf a dywedodd, Gan eich bod wedi amcanumcospi pigiad Pryf bach marwolaeth, pa gospedigaeth roddwch arnoch eich hun am y fath ddyrnod a roddasoch ich llaw? Atebodd y Gŵr Moel: Hawdd genyf gymodi mi fy hun gan mai yn anfwriadol y rhoddais y dyrnod im llaw, ond ymdrechaf dy ladd di, y Gwibedyn iselwael a gwaedlyd, am dy fod wedi fy mhigo yn fwriadol.

Nid oes maddeuant ir troseddwr gwirfoddol.

CHWEDL 166 - Y LLEW, YR ARTH, AR LLWYNOG

Digwyddodd i Lew ac Arth ddod ar draws ysgerbwd carw, a bu brwydr hir rhyngddynt am dano: yr oedd yr ymdrechfa mor galed, nes or diwedd fod y ddau yn hanner dall, a hanner marw, wedi gorwedd ar y ddaear, heb nerth i ymladd mwy, nac i wneuthur dim r ysglyfaeth oedd yn gorwedd rhyngddynt. Llwynog, yn digwydd dyfod heibio, ac yn gweled eu cyflwr llethedig, a lithrodd i mewn rhwng yr ymdrechwyr, ac a gariodd y carw ymaith. Druain oeddem ni, meddynt hwythau, wedi bod yn gwastraffu ein nerth, ac yn llarpio ein gilydd, yn unig i roi ciniaw ir chwiwgi yna.

Y ffol a ymgyfreithiant nes dyfetha eu gilydd, ar cyfrwys a gnt yr ysglyfaeth.

_________________________


(tudalen 126)

CHWEDL 167 - Y BUGAIL AI GI.

Yr oedd Bugail wedi digio yn fawr wrth ei Gi am ryw drosedd dibwys a gyflawnodd, a phenderfynodd ei grogi; ond yr oedd ei gymydogion yn ei feio yn fawr am fwriadu lladd Ci mor werthfawr am drosedd mor fychan, os gellid galw y peth yn drosedd o gwbl. Nid oedd y Bugail yn hoffi iw gymydogion feddwl yn galed am dano, ac ar yr un pryd yr oedd wedi penderfyuu mynd a bywyd y Ci. Felly, er gallu cyraedd ei amcan, taenodd Chwedl ar hyd y wlad fod ei Gi yn gynddeiriog; ac erbyn ir Chwedl gyraedd clustiau ei gymydogion, yr oeddynt oll mewn cyffro, a daethant at y Bugail i grefu arno er mwyn pob peth i roddi y fath aelod peryglus o gymdeithas allan or ffordd. Felly cafodd esgus, a chrogodd y Gi.

Os bydd dyn drwg wedi penderfynu aflwydd yn erbyn ei gymiydog, ceisia godi rhyw Chwedl arno er cyfreithloni ei ymddygiad. Cyn y croga ei gi, dyweda ei fod yn gynddeiriog.

_________________________


(tudalen 127)

CHWEDL 168 - Y GWYDDAU AR GARANOD.

Yr oedd nifer o Wyddau a Garanod yn ymborthi yn yr un maes. Rhyw ddiwrnod, daeth yr helwyr yn ddisymwth arnynt. Y Garanod, gan eu bod yn ysgeifn o gorph, a ehedasant ymaith, ac a ddiangasant; ond y Gwyddau, gan eu bod yn fras a thrwm, a gymerwyd yn garcharorion.

Mewn amser heddychlawn y mae cyfoeth yn gyfleusdra; ond mewn amser o helynt gwladol, neu ryfel, gall fod yn fagl.

CHWEDL 169 - YR HYDD AR WINWYDDEN.

Hydd, yn cael ei ymlid gan yr helwyr, a ymguddiodd yn mhlith canghenau Gwinwydden. Aeth y dynion heibio heb sylwi arno; ac yntau, gan feddwl fod y perygl drosodd, a ddechreuodd gnoi a bwyta y dail oedd yn ei orchuddio. Ond un or helwyr, yn clywed ysgydwad y dail, a drodd, a chan ammeu fod yr Hydd yno, a saethodd ir berth, ac ai lladdodd. Fel yr oedd yn marw, efe a ruddfanodd allan y geiriau canlynol: Yr wyf yn dyoddef yn gyfiawn am fy anniolchgarwch, gan nad allwn ymgadw rhag niweidio y Winwydden, yr hon am cysgododd yn amser perygl.

Nid yw annolchgarwch yn llwyddo. Y gwaelaf yn
unig a anghofia gymwynas.

_________________________


(tudalen 128)

CHWEDL 170 - Y NEIDR AR GG.

Ffarwel, gymydoges, ebai Neidr wrth y Gog. Yr wyf yn ofer wedi ceisio cael heddwch yn y fan yma. Mae dynion ac anifeiliaid yn fy erbyn. Anmhosibi byw yma. A ydyw fy nghymydoges yn myned yn mhell? gofynai y Gog; ac yn mha Ie y disgwyli gael gafael yn y bobl rinweddol hyny a fyddant byw meyn heddwch a thi? Yr wyf yn myned yn syth i goedwigoedd dedwydd Arcadia. Ah! gymydoges, dyna i ti wlad! Dywedir fod rhyfeloedd yn anadnabyddus yno; mae y dynion mor ddiniwed a defaid, a rheda llaeth yn lle dwfr yn yr afonydd yno. Yn wir, y mae yr oes euraidd heb ddarfod yno eto. Yrnddyga y trigolion at eu gilydd yn y modd mwyaf caredig, fel pe byddent oll yn frodyr, a dywedir nad yw y cŵn byth yn cyfarth yno: ac nid ydynt byth yn meddwl am frathu. Yno yr wyf yn meddwl treulio fy oes yn nghanol llawnder, heddwch, a chariad; yn lle fel yma yn gorfod bod ar fy ngwyliadwriaeth o hyd rhag i rywun fy lladd. Yr wyf yn dymuno i ti daith bleserus, fy nghymydoges, ebai y Gog. Ond a wyt ti yn meddwl gadael dy golyn ath wenwyn ath gymeriad ar ol, ynte eu

_________________________


(tudalen 129)

cymeryd gyda thi? Eu gadael ar ol? Y fath fiolineb! ebai y Neidr. Wel, os felly, cofia nad arbedi dy groen yno mwy nag yma.

Waeth yn y byd i ba Ie yr elo y dyn drwg ei gymeriad, y mae yn sicr oi gael allan ai gospi. Mae natur ryfelgar a gwenwynllyd yn sicr o fagu gelynion yn mhob man.

CHWEDL 171 - Y NEIDR AR ENLLIBIWR.

Un tro ba cryn ddadl yn uffern cydrhwng y Neidr ar Enllibiwr am y flaenoriaeth mewn gorymdaith a ffurfid. O radd i radd daeth y ddadl i wisgo agweddion difrifol a phoethlyd.
Dangosa yr Enllibiwr ei dafod, a hawlia fod ar y blaen. Ymffrostia y Neidr yn ei cholyn, ac ymlusga i flaenori yr orymdaith. Yr oedd yr Enllibiwr yn ymyl cael ei adael ar ol, pan yr ymyra penaeth y cythreuliaid, ac anfona y Neidr yn ol gydar geiriau hyn Er fy mod yn rhwydd gyfaddef dy rinweddau Lluosog di, eto rhaid i mi ddweyd mai efe bia y flaenoriaeth. Y mae yn wir dy fod yn llawn gelyniaeth, fod dy golyn yn angeuol, ac fod perygl i neb agosau atat, ath fod yn colynu heb i neb dy gyffroi, yr hyn a ystyriwyf yn rhinwedd canmoladwy. Ond a elli di wenwyno a cholynu o bell fel y gall yr enllibiwr, oddiwrth yr hwn y mae yn anmhosibi diangc, hyd yn nod pe yn cael ei wahanu gan fynyddoedd a moroedd? Amlwg ei fod yn fwy gwenwynig na thydi, gad iddo fyned yn gyntaf yn yr orymdaith, a cheisiwch fyw o hyn allan yn fwy heddychol ach gilydd.

Nid oes dim mor wenwynig a thafod yr Enllibiwr.

_________________________


(tudalen 130)

CHWEDL 172 - YR EHEDYDD AI FAB.

Nhad! nhad! ebai Rhedydd ieuangc wrth ei Dad, yr ydwyf wedi gweled dyn yn y fan draw yn taflu dyrneidiau o ŷd braf ir llawr, ac yr oeddwn ar fyned iw fwyta, ond meddyliais y buaswn yn dyfod ich gwahodd chwi yn gyntaf ir wledd. Dewch ar unwaith, rhag i rywun arall fyned yno on blaenau. Gwelais inau ef hefyd, fy mab, a gwelais fod ganddo rwyd adar hefyd wedi ei gosod i fyny. Nid af yn agos ato, oblegid ei amcan yw ein dl. Rhwyd yn wir! Perygl! na choelia i. Gawn y bwyd yn rhwydd, ac nid oes perygl iddo ein dal ond i ni fod yn ofalus. Dewch fy nhad. Na ddeuaf yn wir; ac yr wyf yn dy gynghori yn ddifrifol i beidio myned. Os bydd i ti fynd, yr wyt yn siwr o golli dy fywyd neu dy ryddid. Ond mynd a wnaeth yr Ehedydd ieuangc, er gwaethaf pob cyngor, a chyn iddo bigo ond ychydig or grawn yr oedd yn y rhwyd, a chadwyd ef yn garcharor hyd ddiwedd ei oes. .1

Yr hen a wyr, ar ieuangc a dybia. Diystyra y dibrofiad bob cyngor a rhybudd, a rhed i brofedigaeth.

_________________________


(tudalen 131)

CHWEDL 173 - Y DDALLHUANOD AR HAUL.

Yn yr hen amser yn bell bell yn ol darfu i rai Dallhuanod a ystyrient eu hunain yn gallach nar cyffredin, gyhoeddi cynadledd ou brodyr au chwiorydd drwyr holl fyd, i gyfarfod mewn cwm cul a thywyll, ir dyben o ymgynghori pa lwybr a fuasai oreu iw gymeryd er diffoddi eu gelyn yr Haul. Erbyn yr amser apwyntiedig yr oedd cwmni lluosog o honynt wedi dyfod yn nghyd; a wedi ethol un ou nifer i lywyddu

Cytunair Dylluanod o un fryd
Fod goleur Haul yn ormes arnynt hwy,
Yn dallu eu llygaid, ac mai gwell heb ddydd;
Mai nefoedd Dylluauod oedd y ns,
Ac main twllwch carent hwy gael byw;
Na chaffent byth na rhyddid na mwynhad
Tra byddai Haul yn twnu yn y nef;
Cynygiai un Ddylluan, eiliair llall,
Na byddai Haul o hyny allan byth!
Mai nos dragwyddol bellach oedd i fod,
Er gwaredigaeth lawn a llwyr ryddhad
Ir Dylluanod deulu yn mhob oes.
Cytuno wnaethant oll i basior act;
A chredair Dylluanod yn ddiau
Bod gallu ac awdurdod fawr eu deddf
Ar unwaith wedi llwyr ddiffoddir haul,
Crechwenent mewn gorfoledd a mwynhad.
Tw hw! Tw hw! adseiniai dros y fro
Trwy gydol faith y nos Tw hw! Tw hw!
Dychrynair adar eraill gan y sŵn,
Gan amheu beth allasai hyny fod
Pa beth a barair cynhwrf dirfawr hwn
Trwyr gwersyll Dylluanaidd ar y pryd.
Yn nghanol sŵn Tw hw! eu crechwen oer,
Cyfodair Haul!

Mae Anfyddwyr fel y Dallhuanod yn ceisio difodi Duw, ac fel hwythau yn methu. Yr Arglwydd syn teyrnasu!

_________________________


(tudalen 132)

CHWEDL 174 - ADDYSG Y LLEW IEUANGC.

Yr oedd brenin y goedwig yn bryderus hynod yn nghylch addysgiad ei fab ai etifedd; a bu am hir amser yn methu penderfynu pwy a ddewisid yn athraw iddo. Un adeg meddylia am y Llwynog, mor hynod am ei gyfrwysdra. Ond na, meddyliai y Brenin; y mae yn hynod am ddweyd celwyddau, ac y mae celwyddwr yn siwr o ddwyn pawb fon agos ato i ddyryswch, Ni ddylai tywysog ddysgu y gelfyddyd o ddweyd celwydd. Meddylia nesaf am y Twrch. Y mae iddo enw da am reoleiddiwch a threfn, ac yn cael ei gydnabod fel un enwog am feistroli manylion pethau; ond yn anffortunus y mae mor fyr ei olwg fel ag i fod yn agos a bod yn ddall. Mae cyrhaeddiadau Tyrchaidd yn rhagorol yn nyth y Twrch, meddyliai y Llew, ond i ymerodraeth eang ei therfynau, ni wna y tro mewn modd yn y byd. Yn nesaf meddylia am y Dywalgi. Mae y bwystfil hwnw yn gryf a gwrol, ac heblaw hyny, medda chwaeth at symudiadau milwrol. Ond y mae er hyny yn hollol amddifad o wybodaeth wieidyddol, ac ni wyr ddim am faterion cyfreithiol a gwladol. Felly, pa fodd y gall ddysgu ei ddyledswydd ir brenin dyfodol? Rhaid i frenin fod yn farnwr a gweinidog yn ogystal a chadfridog. Nis gall y Dywalgi ddysgu dim ond pa fodd i ddyfetha gelyn. I fod yn fyr, yr oedd y brenin or farn fod pob un oi ddeiliaid, y bwystfilod, yn ddẁl ac anwybodus,

_________________________


(tudalen 133)

heb wneyd eithriad or Cawrfil, yr hwn yr edrychid arno yn gyffredin yn fath o Plato y Goedwig. Or diwedd cynygia yr Eryr ymgymeryd ag addysgu y brenin ieuangc. Derbynia y brenin gynygiad Brenin yr Adar gyda diolchgarwch, a gosoda ei fab o dan ei addysg a chysgod ei aden. Nis gall Athraw breiniol, meddylia, lai na gwneyd chwareu teg ag ysgolor breiniol. Blynyddoedd a nt heibio, a phob tro y gofyna y tad am helynt ei fab, hysbysir ef ei fod yn dyfod yn mlaen yn rhagorol. Nid oes yr un aderyn nad ydyw yn son am ei gyrhaeddiadau fel rhywbeth hynod iawn maent oll yn rhyfeddu ato. Or diwedd, pa fodd bynag, pan y meddylir fod ei addysg wedi ei gwblhau, gelwir am ir Tywysog ieuangc ymddangos yn llys ei dad, ac y mae mawrion y llywodraeth yn ymgasgledig yn y lle, er cael gwybod pa beth fo ganddo iw ddweyd drosto ei hun. Mae yr hen frenin yn gwneyd araeth deimladwy, gan ddweyd ei fod yn teimlo ei hun yn myned yn hen, ac y byddai yn dda ganddo ymneillduo or frenhiniaeth yn ffafr ei fab anwyl, a diwedda trwy alw ar ei fab iw hysbysu pa beth a ddysgodd pan oddicartref, ac i ddangos pa mor bell mae addysg wedi ei gyfaddasu i wneyd ei ddoiliaid yn ddedwydd. Fy nhad, ebai y Tywysog, yr wyf yn gwybod yr hyn na wyr neb ond y fi yn yr holl gynulleidfa yma yr wyf yn hysbys o holl gartrefleoedd yr adar or Eryr at y Dryw; nid yw dull o fyw pob un o honynt yn ddirgelwch i mi; gwn hefyd pa nifer o wyau a ddodwyant, a pha ymborth neillduol a garant, a mil o bethau ereill am arferion ac anghenion adar. Dyma y llythyr canmoliaeth a gefais gan fy athraw. A gallaf ddweyd fod yr adar oll yn tystio na welsant well dysgwr na mi yn eu bywydau. Mor fuan ag y rhoddwch y deyrnwialen yn fy llaw, byddaf yn barod i ymgymeryd r gorchwl o ddysgu y bwystfilod pa fodd i wneyd nythod adar. Wrth glywed y geiriau hyn, gruddfanodd yr hen frenin ar holl lys yn uchel. Gostyngodd pawb eu penau, a darganfyddodd y Brenin, ychydig yn rhy ddiweddar, fod ei fab heb ddysgu dim or hyn oedd yn wir angenrheidiol, gan nad oedd yn gyfarwydd ond ag adar yn unig, heb wybod dim am neillduolion ac anghenion bwystfilod, er ei fod wedi ei fwriadu i lywodraethu drostynt.

Dylai yr addysg a gyfrenir i bob ysgolor fod yn gyfaddasol at y cylchoedd neillduol y bwriedir iddynt droi ynddynt mewn bywyd. Dylai pob llywodraethwr wybod anghenion eu pobl eu hunain, ar hyn fydd er llesiant eu gwlad eu hunain.
_________________________


(tudalen 134)

CHWEDL 175 - Y TEITHWYR AU CYSGOD.
Yr oedd dau gymydog un noswaith oleu leuad yn dychwelyd or farchnad yn lled hwyr a dywedir en bod wedi yfed ar y mwyaf o ffrwyth Syr John Heidden. Pa fodd bynag am hyny, dychrynwyd hwy yn fawr wrth weled dau ddyn ou blaenau: dechreuasant gilio yn ol yn wisg en cefnau mewn braw, ac er eu dychryn erlidid hwy gan y gwyr. Dechreuasant waeddi yn uchel, a chlywwyd hwy gan ddyn a ddigwyddai gerdded y ffordd hono, yr hwn pan gyrhaeddodd atynt, a gweled sut yr oedd pethau yn sefyll, a ddywedodd, Y ffyliaid gwmon, aroswch! Gwnaethant hyny, a safodd eu herlidwyr tybiedig. Ewch rhagoch, ebai eu cymwynaswr eilwaith, dan wenu. Gwnaethant hyny, ac er syndod gwelsant eu. herlidwyr yn diangc on blaenau, ac yn fuan, wedi sobri tipyn wrth redeg, deallasaat nad oedd yr achos ou holl ofn yn ddim amgen nar cysgod hwy eu hunain.

Llawer gelyn yn erlyn yn ffyrnig tra y cilir or ffordd, ond yn diangc yn ebrwydd y troir arno

_________________________


(tudalen 135)

CHWEDL 176 - Y MAGNELAU AR HWYLIAU.

Un adeg aeth Magnelau llong ryfel i deimlo cenfigen cryf yn erbyn Hwyliau y llong, a dymunasant yn daer am ir gwyntoedd ddyfod au rhwygo yn gareiai. Gwrandawyd eu gweddi cyfododd ystorm ofnadwy a rhwygwyd hwy mor llwyr fel nad oedd dim o honynt yn ngweddill, a gadawyd y llong i ymdaro goreu gallai yn y mr. Ar y foment hono y mae llong elyniaethus yn tanio ar y llong ddigymorth, a thrwy nad oedd yn ateb ir llyw, a yn fuan ir gwaelod y Magnelau ar cwbl.

Mae pob gwlad yn gryf cyhyd ag y byddo ei holl ranau yn cael eu cybwyso yn gyfiawn. Trwy ei Magnelau y mae yn ofnadwy iw gelynion; ond ei Chyfreithiau yw yr hyn yw Hwyliau ir Llong.

CHWEDL 177 - Y LLWYNOG FEL ADEILADYDD.

Darfu i Lew, yr hwn oedd yn dra hoff o Wyddau, gael ei boeni yn fawr trwy golli amryw o honynt, a phenododd Lwynog i adeiladu lle a fuasai yn eu diogelu rhag ymosodiadau lladron. Pan y gorphenwyd yr adeilad, yr oedd pawb yn ei ganmol o ran ei gynlluniad ai gryfder. Rhoddir gorchymyn i symud y gwyddau iw preswylfod newydd. Ond a ydyw y cyfnewidiad o unrhyw ddefnydd? Dim mewn un modd. Gwir fod yr adeilad yn ymddangos yn gryf ar muriau yn uchel. Ond y mae y gwyddau yn myned yn llai o rifedi o hyd. Nid oes neb yn gallu dirnad yr achos o hyny.
Felly gosoda y Llew wyliadwriaeth ar y lle; a phwy feddyliech chwi a ddaliwyd? Y Llwynog ei hun. Yr oedd wedi adeiladu y tŷ yn y fath fodd nad allasai neb arall dori i mewn a lladrata, ond wedi gofalu gadael twll bychan trwy yr hwn yr oedd yn myned i mewn ei hunan.

Nid oes terfyn ar ddichell a chyfrwysdra dyn drwg.

_________________________


(tudalen 136)
CHWEDL 178 - Y CYBYDD AR TYLWYTH TEG.

Yr oedd Tylwyth Teg yn arfer gwylio dros drysor oedd yn guddiedig o dan goeden. Yn sydyn y mae Brenin y Tylwyth Teg yn gorchymyn iddo fyned ar neges yr ochr arall ir byd. Rhaid oedd myned, hoffi neu beidio. Mewn canlyniad yr oedd y Tylwyth Teg mewn petrusder yn nghylch pa beth a wnelai i drysor. Buasai adeiladu trysordy a gosod gwyliwr i edrych ar ei ol, yn gostus iawn; buasai ei adael yno yn beryglus, gan y gwyddai yr Ysbryd fod dynion yn llwyddianus neillduol i gael gafael mewn pethau felly. Or diwedd y mae drychfeddwl hapus iawn yn croesi ei feddwi. Yr oedd yn adnabod Cybydd anniwall yn y gymydogaeth. A tuag ato ar unwaith, a dyweda wrtho, Syr, y mae genyf i ffoi ymaith; ond trwy fy mod yn teimlo serch tuag atoch, na fydded i chwi wrthod y trysor sydd genyf yn nghadw o dan goeden a ddangosaf i chwi. Bwytewch, yfwch, a byddwch lawen; a gwariwch y trysor fel y byddwch yn dewis. Ond yn unig gadewch i mi fod eich etifedd pan y

_________________________


(tudalen 137)

byddoch farw. Nid wyf yn gofyn ychwaneg. Byddwch wych, a gwylied Tynged drosoch. Yna diflanodd y Tylwyth Teg. Aeth ugain mlynedd heibio. Ar ol cwblhau ei amser gwasanaeth yn y wlad bell, heda yr Ysbryd yn ol iw wlad enedigol. Pa beth a wela. O! olygfa ddymunol iddo ef. Y Cybydd wrth y goeden, wedi marw o newyn, ac agoriad y blwch gwerthfawr yn ei law. Mae y trysor i gyd yno, a cha y Tylwyth Teg ef yn ol heb fod yn ddim llai; a llawenycha yn fawr o herwydd iddo gael ceidwad iw wylio, yr hwn ni chostiodd yr un ddimeu iddo.

Nid yw arian o un gwerth yn nwylaw y Cybydd.

CHWEDL 179 - Y MELINYDD AR AGEN YN Y FFOS.

Collai llawer o ddwfr trwy Agen oedd yn y Ffos a gariai y dwfr at olwyn y felin; ond trwy ddiogi y Melinydd cafodd ei esgeuluso, ac or diwedd y mae y felin yn sefyll yn segur. Ar hyny, y Melinydd i dymer nwydwyllt iawn, a lluchiodd a lladdodd ei ieir ai hwyaid am ei fod wedi eu dal yn yfed ychydig ddiferion or dwfr.

Mae llawer gŵr gwastraffus yn treulio ei dda ar bob math o ffolineb, ac yn ceisio gwneyd ei golled i fyny trwy newynu ei deulu.

_________________________


(tudalen 138)

CHWEDL 180 - Y DDAFAD AR BARNWR.

Darfu i ŵr o gymeriad amheus gyhuddo Dafad o ladrata ei ieir. Dygwyd yr achos o flaen Llwynog, yr hwn a alwodd ar yr Achwynydd i osod i lawr ei achos. Ar y diwrnod ar diwrnod, ebai yr achwynydd, collais ddwy om Ieir yn bur foreu.
Ni ellais weled dim o honynt ond ychydig esgyrn a phlyf. Ac nid oedd yr un creadur yn y buarth y noson hono ond y Ddafad. Ar y llaw arall tystia y Ddafad ei bod wedi cysgu trwy y nos, a geilw ei holl gymydogion i ddwyn tystiolaeth nad amheuwyd hi erioed o ladrata a gweithredu yn anghyfiawn; ac heblaw hyny na ddarfu iddi erioed brofi tamaid o gig yn ei bywyd. Ar ol clywed y ddwy ochr, y mae y Llwynog yn cyhoeddi y ddedfryd ganlynol: Ni ddylid byth coelio tystiolaethau Defaid, gan eu bod yn dueddol iawn o gelu eu gwir amcanion. Ymddengys, ar ol ymchwilio ir mater, fod yr Ieir ar y

_________________________


(tudalen 139)

noson ddywedoedig yn clwydo yn agos ir Ddafad, ac y mae Ieir yn flasusfwyd dymunol, ac yr oedd y cyfleusdra yn fanteisiol i gyraedd yr amcan. Felly yr wyf yn penderfynu, ar fy nghydwybod, fod yn anmhosibi ir Ddafad fod yn ddieuog o fwyta yr Ieir; felly, yr wyf yn ei chondemnio i farwolaeth, ei hysgerbwd i gael ei roddi ir llys, ai chroen ir Achwynydd.

Gwae y diniwaid pan fo y barnwr yn gyfrwys a Llwynogaidd.

CHWEDL 181 - Y MOCHYN AR PALAS.

Gwnaeth Mochyn unwaith ei ffordd i balas arglwyddaidd, a cherddodd wrth ei bwys trwy y gegin ar ystablau, ymdreiglodd yn y dom, ac ymlenwodd g ysgarthion, a dychwelodd yn ol oi daith yn Fochyn or fath mwyaf mochynaidd. Wel, Mr. Mochyn, pa beth a welaist, ebai ei berchenog. Maent yn dweyd fod tai boneddigion yn llawn gemau a pherlau, ac fod pob peth ynddynt yn ardderchog iawn. Y fath ffolineb yn wir! ebai y Mochyn; ni welais i ddim prydferth, dim ond baw ac ysgarthion.

Mae llawer na allent weled ond beiau a diffygion

_________________________


(tudalen 140)

CHWEDL 182 - Y LLEIDR AR DILLAD.

Fel yr oedd Gŵr Ieuangc yn ymdrochi mewn ffynon, daeth Lleidr heibio ac a ladrataodd ei ddillad ag oeddynt gerllaw, a diangodd ymaith. Pan yn myned trwy goedwig, daeth mintau o ladron iw gyfarfod, a dechreuasant gymeryd yr eiddo oddiarno, pan y gwaeddodd allan ai oll egni, Lladron! Lladron! Ond yr oedd ei lefain yn gwbl ofer; cymerwyd yr oll oddiam dano, a gadawyd ef yn haner marw.

Lleidr a ddywed, Lleidr! gyntaf. Darfu i Leidr ladrata oriawr Climich, y barnwr anghyfiawn, a dechreuodd waeddi, Stop thief Daliwch y Lleidr.

_________________________


(tudalen 141)

CHWEDL 183 - Y LLEW AR LLWYNOG.

Yr oedd Llew yn ymlid Hydd ar hyd dyffryn. Yr oedd bron ai ddl, a disglaeriai ei lygaid a llawenychai ei galon wrth feddwl am y tamaid blasus ag yr oedd yn sicr o hono. Ymddangosai fel yn anmhosibi iw ysglyfaeth i allu diangc, oblegid yr oedd ceunant dwfn ar ffordd yr erlidiedig ar erlidiwr. Ond darfu ir Hydd, trwy gasglu yn nghyd ei holl nerth, neidio a hedfan fel saeth dros y ceunant, a chyraedd yr ochr arall yn ddiogel. Safodd y Llew yn sydyn. Ond y foment hono digwyddodd cyfaill iddo fod gerllaw. Y cyfaill hwnw oedd y Llwynog. Tybed! meddai, y bydd i ti, gydath holl nerth ath gyflymder roddi fyny i Hydd egwan? Nid oes angen ond i ti ewyllysio, a byddi yn alluog i wneyd rhyfeddodau. Er fod y ceunant yn ddwfn, eto ond i ti fod o ddifrif, yr wyf yn sicr y neidi drosto yn rhwydd. Yn sicr gelli ymddiried yn fy nghyfeillgarwch diduedd. Ni byddai i mi dy gymell i ymgymeryd ar fath anturiaeth oni bai fy mod yn hollol wybyddus oth alluoedd anghyffredin. Dechreuodd gwaed y Llew a thwymo, ac yn fuan daeth i ferwi yn ei wythienau. Taflodd ei hun gydai holl nerth dros y dibyn. Ond ni allai fyned drosodd; felly i lawr yr aeth ar ei ben, a lladdwyd ef yn y fan. A pha beth a wnaeth ei gyfaill wedi hyny? Dechreuodd weithio ei ffordd yn araf a gwyliadwrus i lawr ir ceunant, ac wedi cyraedd yno, a gweled nad oedd ar y Llew angen am ufudd-dod na gweniaeth, darfu iddo yn garedig ddechreu ymosod ar y gorchwyl o dalu y gymwynas olaf i w gyfaill marw, a chyn pen mis yr oedd wedi crafu ei esgyrn yn lan.

Gwareder fi rhag fy ngliyfelllion.

_________________________


(tudalen 142)

CHWEDL 184 - Y MORGRUGYN AR GWIBEDYN.

Un diwrnod cymerodd dadl lled frwd cydrhwng y Morgrugyn ar Gwibedyn yn nghylch pa un o honynt oedd yn arwain y bywyd mwyaf anrhydeddus a pharchus.
Dadleuwyd y pwngc gyda sel ac yni gan y ddwy ochr. Ebai y gwibedyn, Y mae fy nghyrhaeddiadau yn eithaf adnabyddus, ac yn cael eu cydnabod yn gyffredinol: nid oes byth yr un aberth na byddaf fi yn cael profi y cig o flaen allorau y duwiau eu hunain. Byddaf yn ymweled ar temlau gwychaf, a cheir fi yn aml ar yr allorau. Y mae i mi rydd fynedfa ir llys; ac ni byddaf byth yn methu cael clust y brenin, oblegid byddaf weithiau yn eistedd ar ei ysgwydd. Nid oes yr un foneddiges urddasol na morwyn brydweddol nad allaf ddisgyn ar ei gwefus, os byddaf yn ei hoffi. Gyda hyny, yr wyf yn bwyta ac yn yfed y goraf o bob peth, heb fod genyf i weithio am fy nghynaliaeth. Pa beth a fwynheir genych chwi ag sydd yn deilwng iw gystadlu bywyd fel yma? Y Morgrugyn, erbyn hyn wedi meddianu ei hun, a atebodd, gyda chryn chwerwder yn ei eiriau: Y mae

_________________________


(tudalen 143)

yn wir fod cael cyfranogi o wleddoedd y duwiau yn anrhydedd fawr, os bydd un wedi ei wahodd; ond ni hoffwn fyned i un man os na wahoddid fi. Yr ydych yn siarad am y brenin, y llys, ar boneddigesau prydweddol yno, gyda hyfdra mawr; ond fel yr oeddwn yn casglu i mewn fy nghynauaf, yr wyf wedi gweled person neillduol o dan fur y dref yn gwneyd pryd rhagorol oddiar hen ysgerbwd drewllyd. Dywedwch nad ydych yn gweithio am eich cynaliaeth; gwir: o ganlyniad, ar ol i chwi chwareu ymaith eich haf, ac ir gauaf ddyfod i mewn, ni fydd genych ddim i fyw arno; a thra y byddwch chwi yn newynu o herwydd yr oerder a diffyg ymborth, bydd genyf fi dy cynes uwch fy mhen, a digon o fwyd i mi am plant.

Melus yw y bara a enillir trwy lafur.

CHWEDL 185 Y MELINYDD, EI FAB, AU HASYN.
Yr oedd Melinydd ai fab yn gyru Asyn ir ffair iw werthu. Nid aethant yn mhell cyn cyfarfod nifer o lodesi yn dychwelyd or dref, gan siarad a chwerthin. Edrychwch yna, meddai un o honynt, a welsoch chwi erioed y fath ffyliaid, i lafurio yn mlaen fel yna ar eu traed pan y gallent. farchogaeth. Yr hen ŵr yn clywed hyny, a barodd iw fab fyned ar gefn yr Asyn, ac a gerddodd ei hun yn siriol wrth ei ochr.
Yn fuan daethant i fynu at nifer o hen wyr mewn dadl ddifnfol. Dyna i chwi, ebai un o honynt, y mae yn profi yr hyn yr oeddwn yn ei ddweyd! Pa barch a ddaogosir i henaint yn y dyddiau hyn? A welwch chwi y llabwst ieuangc diog yna yn marchogaeth, tra y mae yn rhaid iw hen dad gerdded? Dowch i lawr oddiyaa, y gwalch! a gadewch ir hen w`r orphwys ei aelodau blinedig. Ar hyny gwnaeth y Tad iw fab ddisgyn, ac aeth yntau ar gefn yr Asyn yn ei Ie. Aethant yn mlaen fel hyn am dipyn, pan y cyfarfyddasant chwmni o wragedd a phlant. Wel!

_________________________


(tudalen 144)

yr hen greadur diog! meddai amryw o honynt ar unwaith; pa foddy medrwch farchogaeth yr anifail yna; ar bachgen bach druan prin yn medru eich canlyn chwi fel yna. Cydnabyddodd y Melinydd ei fai a chymerodd ei fab i fynu yn ddioed wrth ei ysgl. Yr oeddynt erbyn hyn wedi cyrhaedd yn bur agos ir dref. Atolwg, hen gyfaill, meddai un or trigolion wrtho, ai y chwi biau yr Asyn yna? Ie, ebai yr hen ŵr. O! ni buasai neb yn meddwl hyny, atebai y llall, wrth y dull yr ydych yn ei lwytho. Wele! yr ydych chwi eich dau yn ablach i gario y creadur druan, nag efe chwi. Pob peth ich boddhau, meddai yr hen ŵr, nis gallwn ond treio. Felly gan ddisgyn, efe ai fab, hwy a rwymasant goesau yr Asyn yn nghyd, a chyda help polyn hwy a geisiasant ei gario ar eu hysgwyddau dros bont oedd yn arwain ir dref. Yr oedd hyn yn olwg mor ddigrifol fel y rhedodd y bobl allan yn lluoedd i edrych arno ai fwynhau; ar hyny, yr Asyn yn anesmwyth oblegid cynhwrf y bobl, ai sefyllfa ei hun, a giciodd nes tori y cortynau ai rhwyment, a chan syrthio oddiar y pawl, a ddisgynodd ir afon ac a foddodd. Yna yr hen ŵr, yn ofidus ac yn gywilyddgar, a wnaeth y goreu oi ffordd adref, gan deimlo ei fod, wrth geisio boddio pawb, wedi boddio neb, ac wedi colli ei Asyn yn y fargen.

WREXHAM;
ARGRAFFWYD A CHYHOEDDWYD GAN R. HUGHES AND SON.

_________________________

(delw 1268a) (tudalen 146)

Sumbolau arbennig: ŷ ŵ

Adolygiadau diweddaraf: Ddd Mawrth 2005-11-20, 2006-11-03

Bler wyf i? Yr ych chin ymwld ag un o dudalennaur Gwefan CYMRU-CATALONIA
On sc? Esteu visitant una pgina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Galles-Catalunya)
We(r) m ai? Yu a(r) vzting peij frm dh CYMRU-CATALONIA (= Weilz-Katluni) Wb-sait
Where am I? You are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website


CYMRU-CATALONIA

hit counter script
Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu les estadstiques / View My Stats