2330k Gwefan Cymru-Catalonia. Erthyglau gan Emrys ap Iwan (Robert Ambrose Jones, Abergele, Conwy 1851-1906).

 

http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_078_ap_iwan_erthyglau_2330k.htm


0001z Yr Hafan / Home Page

..........
1864k Y Fynedfa yn Gymraeg / The Gateway in English

....................
0010e Y Gwegynllun / Siteplan

..............................
y tudalen hwn

 


..

 

 

 

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Gal”les i Catalunya


Cywaith Siôn Prys Aberhonddu
The “Siôn Prys Aberhonddu” Section
(Online Collection of Welsh Texts)

“Llond y We o Lên y Brython”
“(May) the web (be) full of the writings
of the Britons”

Erthyglau Emrys ap Iwan
Articles by Emryas ap Iwan
(
Robert Ambrose Jones, Abergele, Conwy 1851-1906)
 

(delwedd 7552)

Adolygiadau diweddaraf / Latest updates:
2005-09-21, Dÿdd Mawrth 24 07 2000

 
Mae’r sylwadau sydd wedi eu hychwanegu gennym mewn llythrennau oren.

Our comments are added in orange type

___________________________

 

Erthyglau Emrys ap Iwan / Cyfrol I / Clwb Llyfrau Cymreig / Hydref 1937. Y Rhagymadrodd gan D. Myrddin Lloyd heb ei gynnwys gan nad yw ef ym meddiant y cyhoedd.

 

Erthyglau Emrys ap Iwan / Cyfrol II / Clwb Llyfrau Cymreig / Hydref 1939. Y Rhagymadrodd gan D. Myrddin Lloyd heb ei gynnwys gan nad yw ef ym meddiant y cyhoedd.

 

(Fe brynwyd y ddwy gyfrol gennym yn Siop Lyfrau Ail Law Oxfam, ger Cofgolofn y Merthyron, Rhydychen, 15 Tachwedd 2005, am bedair punt a naw ceiniog a deugain. D. Ellis Evans oedd biau’r llyfrau - ceir ei lofnod ar y dudalen gyntaf)

 

CYNNWYS

 

CYFROL I

 

i Bully, Taffy, a Paddy x1

 

ii Pynciau i Blant x14

 

iii Paham y Gorfu’r Undebwyr x23

 

iv Wele dy Dduwiau, O Walia! x42

 

I’W HYCHWANEGU:

 

v Y Llo Arall x51

 

vi Paul mewn dillad newydd x62

 

vii Gair at rieni Cymreig x72

 

viii Sylwadau am y Rhyfel nad oedd yn Rhyfel x82

 

ix Y Wladfa x90

 

x Llythyr Alltud x92

 

xi Llythyr arall Alltud x106

 

xii O Elba i Waterloo x123

 

xiii Detholion x166

 

CYFROL II

xiv Y Clasuron Cymraeg x1-II

 

xv Cymraeg y Pregethwyr x45-II

 

xvi Llynyddiaeth Gymraeg y Cymry Gynt x75-II

 

xvii Gwersi i Sgrifenwyr a Siaradwyr Ieuainc x95-II

 

xviii Plicio Gwallt yr Hanner Cymry x103-II

 

xix Anerchiad ar Ganiadaeth x127-II

 

xx Paul-Louis Courier x135-II

 

xxi Dyfynion o’r “Pamphlet des Pamphlets” x149-II

 

xxii Nodiadau Darlith ar Nodweddion y Ffrancwyr x159-II

 

xxiii Detholion x171-II

 

______________________________________________________________

 

(x1)

I. BULLY, TAFFY, A PADDY

 

FONEDDIGION,

John Bully, Ywain Taffi (alias John Jones), a Daniel Paddy ydyw enwau llawn y tri phenteulu yr wyf ar fedr son amdanynt. Bygylu teuluoedd eraill ydyw gwaith pennaf y penteulu blaenaf; ac oblegid hynny y gelwir ef yn Bully; hynny ydyw, Bygylwr. Ond gwelodd Mr. Bully yn lled fuan mai gwaith costus oedd ceisio darostwng Taffi o dan ei draed trwy fygyliaeth; ac am hynny, penderfynodd gyrraedd ei amcan trwy ffordd ratach. Wedi deall ohono fod Ywain yn bur ddantfelys, dechreuodd ei borthi a chyflaeth; ac oherwydd hynny, fe’i gelwir yn Taffi hyd y dydd hwn. Bernir mai er mwyn cael eu gwala o gyflaeth y mae cynifer o blant ieuangaf Taffi yn cywain i fryn Everton. Beth bynnag am hynny, y mae yn sicr gennyf y pery Taffi, druan! yn gwbl ddiddig cyhyd ag y caffo dipyn o gyflaeth, pa beth bynnag arall a fyddo yn ôl.

 

Gŵyr pawb mai â chloron, neu aeron y ddaear, y bydd Mr. Bully yn bwydo ei was. Paddy; a chan (x2) fod cloron yn bethau pur anhreuliadwy, y mae’n rhaid i Paddy wrth Holman’s Pad yn dra mynych ar ei gnawd. O achos hynny, medd dysgedigion, y gelwir ef yn Paddy.

Preswylia Mr. Bully mewn palas mawr a gwych, a’i enw Anglestay. Ar godiad tir, y tu hwnt i wal orllcwinol pare Anglestay, fe saif preswylfod etifeddol Ywain Taffi. Nid yw’r tŷ, mwy na’r tir, yn helaeth; ac o’r braidd y gellir dweud ei fod yn hardd. Ond y mae’n hawddgar iawn yr olwg, serch hynny; pe amgen, ni ladratesid ef, mi a debygaf. Ni ellir ei weled o bell, gan faint y derw sydd o’i amgylch; cuddir ei furiau ymron i gyd gan eiddew, ac y mae’r rhannau moel ohonynt yn llwyd gan henaint.


 

Ni raid i ddyn ond cerdded rhagddo encyd tua machlud haul, ac yna rhwyfo tros lain o ddwfr, na chaiff ei hun yn Erin; sef, hen etifeddiaeth eang Daniel Paddy. Cymerwyd ei dreftadaeth yntau oddi arno gan yr Ahab gan Bully. Y mae ei dŷ yn awr yn furddyn, a’i dir fel dirfaethwch. Ni chaiff ddiwyllio ei dir ar ei delerau ei hun, ac ni fynn ei ddiwyllio ar delerau ei ysbeilwyr. Dyn gwlatgar ac annibynnol ei ysbryd yw Paddy, a dweud y gwir amdano. Er codi a machlud o’r haul laweroedd o weithiau er pan ysbeiliwyd ef, ni pheidiodd eto â (x3) thystio mai ef yw union berchen Erin; naddo, er cael ei alw yn gynhyrfwr, yn wrthryfelwr, ac yn fradwr am wneud hynny. Nid un a ddychrynir gan eiriau Disraelaidd ydyw ef. Ni chred ef fod dinoethi lladrad yn waeth peth na lladrata. Ni chred chwaith fod rhediad amser yn troi eiddo lladrad yn eiddo cyfreithlon. Prin y gellir disgwyl, gan hynny, i greadur gwirion fel ef deimlo grym un o ddeng air deddf llywodraethwyr y byd hwn; sef yw hwnnw, “Nac unioner cam er mwyn cyfiawnder yn unig.” Eddyf Mr. Bully ei hun ambell Sabath, am ryw achos neu’i gilydd, ac i ryw ddiben neu’i gilydd, ddarfod iddo, ers talm, wneuthur cam â Phaddy. Ond (ebe Paddy) os ydyw yn cyffesu, paham nad edifarha; os ydyw yn edifarhau, paham nad uniona’r cam a wnaeth? A ydyw ei Feibl yn cyfiawnhau ei ymddygiad tuag ataf? Nac ydyw, Paddy, nac ydyw; ond y mae Mr. Bully weithiau yn gweled yn dda esbonio ei Feibl yn ôl ei ewyllys ei hun.

 

Ond y mae’n ddiamau y byddai’n well gan y darllenydd glywed y tri phenteulu hyn yn ymddiddan â’i gilydd, na’m clywed i yn ymddiddan â hwynt. Er mwyn peri deall yr ymddiddan, dylwn yn gyntaf oil, pa fodd bynnag, fynegi ddarfod i Paddy, ryw ddiwrnod, yn ôl ei arfer, ddweud a (x4) gwneud pethau terfysglyd iawn. Go ddiog ydyw Paddy, rhaid addef; ond yr oedd yn hawdd iddo, a’i wely yn galed, a’i gylla yn wag, ddeffroi yn fore y diwrnod hwnnw; a chyn codi ohono, aeth i ystyried gymaint esmwythach oedd gwely moch Mr. Bully na’i wely ef; gymaint gwell oedd bwyd helgwn Mr. Bully na’i fwyd ef; a chymaint mwy cysurus oedd ystabl helfeirch Mr. Bully na’r twlc clai y llechai ef ynddo.


 

Dymunasai Paddy fod yn gi, pe gwybuasai fod modd perchenogi cynffon heb gynffonna. Dymun­asai fod yn geffyl, oni buasai fod arno ofn i Mr. Bully farchogaeth arno; ie, dymunasai fod yn fochyn, oni buasai iddo glywed bod y great beefeater weithiau yn bwyta bacon. Ond penderfynu aros yn ddyn, a mynnu hawliau dyn, a wnaeth Paddy. Cerddodd yn eon at balas Mr. Bully, a chan sefyll o flaen ffenestr agored y ddawnsfa, ef a lefodd, gan ddywedyd: —

 

“Hai, flaidd gwlanog, rhowch heibio lamsach, a gwrandewch ar fy nghwyn; canys mynnaf ei thraethu, cyfarthed eich cynffongwn, a rhythed eich clepgwn gymaint ag a fynnont. Twt, twt! ni waeth ich’ na heb fyned i ddangos gwyn eich llygaid, ac i droi eu canhwyllau hwynt tua’r nef. Gŵyr y nef o’r gorau eich bod chwi yn euog o (x5) bethau gwaeth o lawer na galw rheibiwr yn flaidd, a rhagrithiwr yn flaidd gwlanog. Nid wyf mwyach yn erfyn arnoch fy llywodraethu yn decach; ond yr wyf am ofyn ichwi eich llywodraethu eich hunan, a gadael i minnau fy lywodraethu fy hunan, fel y mynnwyf fy hun. Nid wyf mwyach am erfyn arnoch leihau’r rhent gorfawr sydd ar yr hen gors ddifraeth a osodasoch im; oblegid nid wyf yn barnu ei bod yn iawn i mi dalu dim rhent i chwi am ddernyn o’m hen etifeddiaeth, gan mai myfi a’i piau i gyd oll. Nid wyf chwaith am erfyn arnoch leihau’r lliaws trethi eraill — gofyn am eu dileu yr wyf i; canys paham, yn enw cyfiawnder, y dylwn i fy ngwasgu fy hun, yn y radd leiaf, er mwyn porthi eich moethau a’ch mympwyon annuwiol chwi? Dyma fy arwyddeiriau i: — Let everyone mind his own business. Caffed pob dyn ei eiddo ei hun. Erin i Paddy, a Gwalia i Taffy.”

 

MR. BULLY: Oh! ’eavens, what language! Sedi­tion, sedition, unmitigable sedition! Treason, the most barefaced treason! Do I dream? or must it be a fact that this himpudent clod-’opper has dared to hinsult the first gentleman in the huniverse. The hidea!

 

Dal ar hyn, Paddy; oni buasai ei bod yn well gennyf lywodraethu ar rywun nag ar neb, ac oni buasai fod arnaf dy eisiau i dalu trethi im, buaswn (x6) yn dy gicio i fyd arall heb ddim chwaneg o siarad; buaswn, myn Jingo.

 

TAFFI (gan edrych yn gall): Atolwg, fy arglwydd, gorffwyswch tra ceryddwyf i ef. Er ei fod yn gefnder im, ac yn debyg im mewn llawer o bethau, eto, ni bu nemor o gydnabyddiaeth rhyngof ag ef er pan gyhoeddasoch ei fod yn greadur peryglus. Ni byddaf i yn rhyfygu barnu neb, na dim, drosof fy hun, ond byddaf yn aros yn amyneddus hyd oni wypwyf pa beth fydd eich barn ddi-feth a diduedd chwi. Y mae arnaf ddiolch mawr ich, f’arglwydd, am y wybodaeth gywir sydd gennyf am bobl a phethau. Cyn ich, yn rasol, fy rhyddhau oddi wrth fy etifeddiaeth, a’m gwneuthur yn un o’ch gweision, meddyliwn yn fy ngwiriondeb fy mod i, ar y cyfan, cystal â rhyw ddyn arall, a bod Paddy yn gystal dyn â chwithau. Ond fe’m hargyhoeddwyd gan eich honiadau dibetrus a di-baid mai chwychwi ydyw’r dyn gorau a mwyaf yn yr holl fyd. Ni byddaf byth yn blino ar ddweud wrth fy mhlant gymaint rhagorach ydych chwi na mi, a byddaf yn achub pob cyfleustra i dyngu mai myfi ydyw’r mwyaf loyal o’ch holl weision. (Wrth Paddy.) Gyda syndod a dig y’th glywais yn cablu urddas, ac yn diystyru llywodraeth. Gyda syndod, oherwydd beiddio ohonot amau awdurdod Mr. Bully i wneuthur â thi (x7) yn ôl ei ewyllys ei hun; gyda dig, am dy fod wrth geisio bwrw ymaith yr iau yn taflu math o gondemniad arnaf i am ei dwyn yn dawel. Pa les it wingo yn erbyn yr anocheladwy? Cred ddarfod creu’r byd i wasanaethu Mr. Bully, a darfod creu Mr. Bully i lywodraethu’r byd. Tafl y syniad am ymlywodraeth i blith y pethau Utopaidd. Paham y chwenychi dy lywodraethu dy hunan, a’n meistr caredig yn dweud wrthyt yr ymgymer ef à’r drafferth i’th lywodraethu? Bydd foddlon; canys fy mhrofiad i ydyw hyn: bod gwasanaethu yn haws gwaith nag arglwyddiaethu. Peth arall, Paddy, nid wyt ti yn proffesu yr un grefydd, nac yn ufuddhau i’r un pab â Mr. Bully. Yr wyf fy hun yn barnu y dylai dyn gael rhyddid crefyddol — os bydd ei grefydd yn lled debyg i’r un a brofiesaf i; ond yr wyf, er hynny, yn barnu na fyddai yn ddiogel gadael i Babydd fod yn feistr arno ei hun. Ac yr wyf yn sicr fod y farn hon yn uniawn; oblegid o enau Mr. Bully y cefais hi.

 

MR. BULLY: Da was, Taffi. Lleferaist fel y dylai gwas lefaru; ac er mai garw o beth ydyw ei bod yn rhaid i feistr ganmol ei was am wneud ei ddyletswydd, eto, gan fy mod yn foneddwr par excellence, mi a ystyriaf rywbryd a ellir rhoddi rhywbeth it fel gwobr am dy ffyddlondeb; ond pa un bynnag a gaf egwyl i ystyried hynny ai peidio, parhâ di i ganu (x8) “Byw fyddo Bully” yr un fath ag arfer. “Virtue is its own reward.” Amdanat ti. Paddy, ni wn pa beth a wnaf à thi. Yr wyt yn anwareiddiadwy. Mi a’th driniais yn arw ac yn deg, ond aneffeithiol fu pob triniaeth. Mi a’th faeddais, ac a’th garcherais, ac a oddefais it hanner newynu; lleddais dy hoffaf feibion, a llathruddais dy ferched; ond nid ymostyngaist ddim. Yna, gan arfer mwynder, mi a ddanfonais geidwaid fy helwriaeth i’th droi’n Brotestant, ond ni fynnit; rhoddais hobaid o gloron it i’w plannu pan nad oedd gennyt arian i brynu rhai; rhoddais un o’m hen glosau it i guddio dy heglau; mi a’th ddysgais (ar dy draul dy hun yn wir) i regu yn yr iaith Bylaeg; ac a geisiais dy ddysgu i iawn seinio y llythyren R, ond nid oes gennyt ddiolch im am nebun o’r pethau hyn. Yr wyf yn coelio, bellach, na’th foddlonir byth, oddieithr cael ohonot yn ôl diriogaeth Erin; ond gwybydd na chei mohoni byth — na chei, cyn sicred â’m bod yn Gristion. Rhoes y Nefoedd di yn fy llaw, ac yr wyf yn penderfynu dal gafael ynot — ydwyf upon my honour. Yr oeddit yn sôn am dy hawliau etifeddol; ond oni wyddost fod gennyf i hawliau mwy cysegredig na’r rhai hynny, sef hawliau goresgyniad? Er gwaethaf dy anniolchgarwch a’th haerllugrwydd, yr wyf yn tystiolaethu yn awr eto, y filfed waith, fy mod yn ewyllysio (x9) gwneuthur pob cyfiawnder â thi, ond it addef fy awdurdod. Nid oes gennyt achos i gwyno hyd yn oed yn awr. Y mae rhai o’th feibion yn llenwi swyddau anrhydeddus yn fy nhŷ ac ar fy ystâd. Y mae un ohonynt yn ben cogydd, un arall yn ben cerbydwr, dau ohonynt yn geidwaid nid anenwog ar fy helwriaeth, ac nid oes dim ond dy gyndynrwydd ynfyd yn dy atal dithau rhag ymgymhwyso i fod yn hen goruchwyliwr ar fy holl feddiannau. What would’st thou have? My stars, pe rhoddid i Taffi hanner y ffafrau a roddir i ti, ai’n wallgof gan lawenydd!

 

TAFFI: O! fy meistr annwyl, ypa beth a ddywedaf, pa fodd y traethaf fy niolch am eich cyfeiriad caredig at eich poor Taffi? Atolwg, gwnewch â mi fel y gweloch yn orau, canys gwyddoch pa rai ydyw fy anghenion yn well nag y gwn fy hun. Ni wrthodaf ddyrchafiad, ond os bernwch y gwnai ddyrchafiad niwed im, yr wyf yn eithaf boddlon i barhau yn wastrodyn am byth. Na ato Bob Acres i mi frygawthan ynghylch fy “hawliau” priod, a dirwasgu ffafrau allan ohonot yn ôl dull Paddy.

 

PADDY: Och fi, Taffi, y mae’n chwith gennyf dy weled mor wasaidd. Mor wahanol wyt yn awr i’r hyn oeddit cyn llarpio o Mr. Bully dy fab, Llywelyn! Oni buasai fy mod yn gwan-obeithio y bydd yn dda (x10) gennyt cyn hir gael cydymdrech â mi o blaid iawnder yn erbyn cryfder, buaswn yn poeri ar dy wyneb o wir ddirmyg. Ond annoeth fyddai im wneuthur â thi yn ôl dy haeddiant a minnau’n awyddus i’th gael yn gyfaill ac yn gydweithiwr. Pwy a ŵyr na chei di a’th deulu olau newydd, a blas newydd ar y llinellau hynny na faidd ond meibion gwŷr eu canu:—

 

“Gwell ymladd hyd at waed na bod yn gaethion,

Gwell marw’n ddewr na byw’n wehilion.”

 

BULLY: Beth! ai amcanu yr wyt i beri i’m gwesyn ffyddlon gan Taffi ’laru ar ei wasanaeth, a chydweiddi â thi am ymlywodraeth — y cynhyrfwr digywilydd?

 

PADDY: Ie, canys hunangar iawn fyddwn pe gwarafunwn i Taffi gad yr un iawnderau â minnau, gan ei fod yn yr un cyflwr.

 

BULLY: Ond y mae Taffi yn foddlon ar ei gyflwr.

 

PADDY: Ydyw, ysywaeth, a hynny am yr un rheswm yn union ag y mae gweision Belial yn fodd­lon ar eu cyflwr hwy. Ond yr wyf i’n dal nad oes gan ddyn ddim hawl i fod yn foddlon yng ngwasanaeth Mr. Belial, na Mr. Bully, ’chwaith.

 

BULLY: Ped adferid i chwi eich rhyddid a’ch tiriogaeth, nid oes un ohonoch a fedrai gadw ei dŷ, na thrin ei dir. Meistr gwael a wneir o was.

 

PADDY: Eich bai chwi ydyw ein bod yn weision. (x11) Amdanaf i, nid wyf yn disgwyl, a minnau wedi bod cyhyd yn was, fedru gwneud trefn ar bethau mewn un dydd. Ond nid ydyw ddim i chwi pa un ai buan ai araf y dysg y gwas waith meistr. Hyn a wn — y byddai’n well gan fy nheulu, o’r ddau, gael eu llywodraethu’n wael gennyf i na chad eu llywodraethu’n dda gan estron. Heblaw hynny, y mae’r gair ar led nad ydych yn llywodraethu’ch teulu’ch hun yn rhy dda, ond a ydyw hynny, debygwch chwi, yn rhoi hawl gyfreithlon i Mr. Russikoff i gymryd y llywodraeth oddi arnoch, yn unig am ei fod yn ddigon hunanol i dybied y medr lywodraethu’n well na chwi?

 

BULLY: Yn boeth y bo Mr. Russikoff! Y mae fy nyrnau yn ysu wrth glywed ei enw. Paham na buasai’r llwfryn yn derbyn fy her?

 

PADDY: Nid ydyw’r sylw yna’n ateb i’m gofyniad i.

 

BULLY: A wyddost ti beth. Paddy, y mae’n well gennyf di, er mai troednoeth wyt, na’r hen Russikoff yna. Mi rof it bar o esgidiau, os medri ddychmygu rhyw gelwydd newydd amdano.

 

PADDY: Os ydyw’n dda gennych fi, cedwch eich esgidiau, a gadewch i mi fod yn feistr arnaf fy hun ac ar fy eiddo. (x12)

 

BULLY: Y mae gennyf ormod o gariad atat i’th ollwng yn rhydd, oes upon my honour.

 

PADDY: Gwarchod fi rhag y fath gariad. Rhy hunangar ydych, ac nid rhy ddyngar. Yr ydych yn proffesu bod yn garwr rhyddid, and yn wirioneddol yr ydych y mwyaf gormesol o feibion dynion. Gwn ddarfod i chwi ryddhau rhai gweision oddi tan lywodraeth eu caethfeistri, ond y mae gennyf achos i feddwl wneuthur ohonoch hynny yn hytrach o genfigen at y meistri nag o gariad at y gweision. Yr ydych yn pleidio rhyddid ar bob ystâd oddieithr eich ystâd eich hun. Os bydd gwas rhyw feistr arall yn deisyfu bod yn ŵr rhydd, yr ydych yn galw ei ddeisyfiadau yn “ddyheadau naturiol a chyfiawn,” ond “gorflysiau ynfyd ac afiachus” y gelwch fy neisyfiadau i. Os cyfyd gwas gorthrymedig yn erbyn gorthrymwr pell, chwi a’i gelwch yn noble patriot, ond “bradwr atgas” y’m gelwir i am arfer hyd yn oed fy nhafod yn eich erbyn chwi. Os daw gwrth-ryfelwr o bell i’ch tiriogaeth, caiff ei noddi a’i foethi gennych; ond pa fodd, atolwg, y triniasoch fy meibion gwrthryfelgar i — Tone, Orr, Sheares, Russell, Fitzgerald, Emmet. O! Emmet, fy mab, fy mab! pa fodd y’th anghofiaf, Emmet? O’r holl feibion a fegais ac a gollais ni bu nebun mor gu gennyf â thydi. Ni bu erioed wrthryfelwr mwy (x13) aflwyddiannus na thydi, ond erys cylch o oleuni disgleiriach ar dy aflwyddiant di nag ar lwyddiant eraill. Ni bu i’r gorthrymedig erioed amddiffynnydd mwy dihunangar, mwy hawddgar, a mwy huawdl. Ond dy garcharu a’th grogi a wnaeth yr Herod hwn, a thorri dy ben ar ôl hynny. Fe’th fagwyd yn rhy dyner i orwedd mewn daeardy; yr oedd dy waed yn rhy bur i’w leipio gan y cŵn. Cywilydd oedd anurddo corff mor hardd; gresyn oedd torri ymaith fywyd mor ieuanc. Merthyr, ac nid bradwr, y’th elwir ymhobman oddieithr yn Anglestay. Am hynny, cwsg mewn heddwch, Emmet, fy mab.

 

BULLY: Os wyt yn methu â deall paham yr wyf yn llethu gwrthryfelgarwch yn fy nhiriogaeth fy hun, ac yn ei feithrin yn nhiriogaethau rhai eraill, myfyria ar y wireb hon: — “Circumstances alter cases.” Exit.

 

TAFFY: Oio! Rhaid i mi geisio cofio’r rheswm yna. Dichon y bydd o mor gyfleus ac angenrheidiol i mi ag i Mr. Bully. Gwna hwnna’r tro yn gaead ar geg pob gwrthwynebwr. Ni fedraf gysoni fy holl ymddygiadau â’i gilydd, ond medraf gyfiawnhau pob un ohonynt yn wyneb y gwirionedd hwn — “Circum­stances alter . . . Circum— . . .” Exit Taffi.

 

ALLAN O’R Faner, EBRILL 21, 1880.


(x14)

II. PYNCIAU I BLANT (PUM SWLLT O WOBR)

 

FONEDDIGION,

Gan y bydd y nos ormesol, bellach, yn ymlid plant da yn gynharach-gynharach o’r heolydd i’r aelwydydd, nid anfuddiol fyddai rhoi pwnc dadleuol iddynt i ysgrifennu arno. Cânt ddewis yr un a fynnont o’r pynciau isod, a chânt gymryd yr ochr a fynnont wrth ymdrin ag unrhyw un ohonynt, oddieithr y blaenaf. Rhag i neb o’r plant ddweud na ŵyr pa fodd i ysgrifennu arnynt, mi a roddaf gyfarwyddyd bras iddynt o dan bob pwnc.

 

—Pa un ai mantais ai anfantais i Gymry yw’r Gymraeg?

Wrth ysgrifennu ar y pwnc hwn addefed y cystadleuydd yn gyntaf oll fod cariad dyn at iaith ei dadau yn un o’r “teimladau mwyaf cysegredig,” ond profed yn ddi-oed ar ôl gwneud hynny fod yn weddaidd iddo fygu’r teimladau hynny, er dyfned ydynt, er mwyn “llesoldeb bydol.” Dangosed y gwnelai Cymro yn gall pe newidiai ei iaith, ei grefydd, a’i Dduw hefyd, am dair punt yn yr wythnos yn lle dwy. (x15) Syniai’r werin gynt mai’r peth cyflawnaf oedd y peth buddiolaf hefyd yn y pen draw — eithr profed y cystadleuydd fod y syniad yna’n anghywir; neu profed o’r hyn lleiaf, fod budd uniongyrchol a theimladwy ar y budd na byddo felly. Haered (nid rhaid iddo ymdrafferthu i brofi), haered, meddaf, nad yw ymlyniad cenedl wrth ei hiaith briodol yn ddim angen na “rhagfarn” a clannishness. Er enghraifft, culni ysbryd sy’n peri i Gymro siarad Cymraeg yn hytrach na Saesneg; pe bai’n rhyddfrydig fe fwriai heibio ei iaith ei hun ac a fabwysiadai iaith y Saeson. Y mae ysbryd gwir ryddfrydig yn dysgu dyn i garu gwraig ddieithr yn fwy na’i wraig ei hun, i fawrygu cencdl elynol yn fwy na’i genedl ei hun, ac i ddewis iaith estronol yn lle ei iaith ei hun. Y mae’n wir na fynn y Saeson newid eu hiaith er dim, ie, ni fynn y rhan fwyaf ohonynt gymaint â chwanegu iaith estronol at eu hiaith eu hunain. Ond er mai hwy ydyw un o’r ddwy genedl fwyaf uniaith yn Ewrop, eto ni byddai’n foneddigaidd i Gymro eu galw hwynt yn clannish nac yn rhagfarnllyd: yn un peth am eu bod wedi achub y blaen arnom trwy fwrw’r geiriau yna i’n hwynebau’n gyntaf; a pheth arall, am mai hwynt-hwy yw ein harglwyddi — ein duwiau a ddylaswn ddweud. Y mae gennym ni’r Cymry bob hawl i’n gwaradwyddo ein hunain a phob rhyw enw (x16) drwg y gwelodd y Daily Telegraph yn dda ei roi arnom, gan fod hynny’n beth mor ddifyr gennym; ond nid oes gennym hawl i droi ar ein meistri gan ddywedyd, “Tinddu ddu ebe’r frân wrth yr wylan.”

 

Dyma beth arall hefyd y gall y cystadleuydd ei haeru heb ofni cael ei wrthddywedyd gan y rhai na wyddant nemor am y Cyfandir, sef, “na lwyddodd un genedl i siarad dwy iaith am dymor hir.” Y mae’r byd mor fawr, a phob rhan ohono, oddieithr Lloegr, mor ddieithr i’r rhan fwyaf o Gymry fel y mae’n ddiogel i Gymro cartrefol ddweud y peth a fynno amdano ac am ei drigolion.

 

Heblaw hynny, dyweded y cystadlydd mai cywilyddus o beth ydyw na ŵyr llawer o reithwyr a thystion Cymreig fawr fwy am iaith y Barwn Bramwell nag a ŵyr y Barwn Rramwell am eu hiaith hwythau. Yn sicr dylai’r Methodistiaid neu ryw gyfundeb cymwynasgar arall ddyfeisio rhyw gynllun i addysgu’r Cymry hyn i ddeall iaith y Barwn Bramwell a’i osgordd. Y mae anwybodaeth y barnwyr a’r dadleuwyr o’r iaith Gymraeg yn ennyn rhyw barchedigaeth dwfn yn cnaid pob Cymro “diragfarn,” ond gwrid a gyfyd i’w wyneb pan welo dyst neu garcharor heb fcdru nemor o Saesneg. Dylid edrych ar Sais uniaith fel prodigy; ond dylid edrych ar Gymro uniaith yn benbwl. Traethed y (x17) cystadlydd ychydig o hanesynnau i gadarnhau’r gwirionedd uchod. Cymered yr hanesyn hwn fel cynllun: — Aeth gŵr a gwraig uniaith o Loegr i Ffrainc. Gan nad “arweinid hwy’n bersonol” gan Gaze na Cook, bu raid i’r gŵr ofyn rhyw gwestiwn i un o’r fforddolion brodorol, a chan i hwnnw ei ateb mewn iaith farbaraidd (cofier mai iaith farbaraidd y geilw’r Sais bob iaith na ŵyr ef mohoni), gan i hwnnw, meddaf, ei ateb mewn iaith farbar­aidd, trodd y Sais uniaith at ei wraig a dywedodd gyda theimlad a gyfansoddid o dosturi, o syndod ac o ddigofaint, ’Gracious me! this fellow is as ignorant as Plato — he doesn’t know a word of English!’

 

Ac nid yn y llysoedd cyfreithiol yn unig y mae’r Gymraeg yn anfanteisiol, ond y mae felly hefyd yn y cynghorau plwyfol a threfol, ac addysgol ac iechydol a gedwir yng Nghymru. Bydd un neu ddau o aelodau’r cynghorau hyn yn Saeson, o ran iaith os nad o ran cenedl hefyd, ac nid peth hawdd i Gymry a llonaid eu pen o Gymraeg ydyw tynnu allan ohonynt eu hunain ddigon o ymadroddion Saesneg i ymddadlau â Saeson yn yr iaith Saesneg. Nid gwiw fyddai i bob aelod lefaru yn ei iaith ei hun fel y gwneir mewn un senedd ar y Cyfandir, ac fel y gwneir mewn amryw o gynghorau taleithiol yno, pan nad yw’r Saeson yn deall Cymraeg. Nid (x18) gweddaidd ’chwaith fyddai gosod anghenraid ar Sais i ddysgu Cymraeg neu fyned ynghylch ei helynt. Gan hynny, rhaid i bob Cymro “diragfarn” ac “unclannish” wybod mai’r peth gorau fyddai i ryw ddwsin o Gymry wneud ffyliaid ohonynt eu hunain er mwyn dangos eu parch i un Sais. Dangosed y cystadlydd na ddichon y Cymry eu parchu eu hunain heb fod yn euog o amharchu’r Saeson, ac na ddichon iddynt wneuthur tegwch â hwy eu hunain heb wneuthur cam â’u harglwyddi. Myneged ei alar hefyd oherwydd bod cynifer o Gymry mor rhyddfrydig i ddygymod ag iau caethiwed, ac yn ddiwethaf oll, cusaned ei gadwyni trwy gydganu â’r arglwyddi “God save our gracious Queen.”

 

2. —Pa un ai mantais ai anfantais yw’r Saesneg i’r Saeson?

Profer, os mynner, mai mantais ydyw iddynt; ond os dewisir profi mai anfantais ydyw, dyweder na ddichon un Sais deithio trwy’r byd ei hunan, ac na ddichon gael unrhyw swydd enillfawr ac anrhydeddus mewn gwledydd tramor dan y llywodraeth hon na than ryw lywodraeth arall heb wybod y Ffrangeg. Gan na ddichon pen bychan gynnwys dwy iaith, profer y byddai’n rhesymolach i’r Saeson ymwrthod â’r Saesneg, ac ymfoddloni ar yr iaith fwyaf manteisiol yn unig, sef, y Ffrangeg. Noder (x19) hefyd mor fawr oedd anfantais Beaconsfield, ac mor anwybodus yr ymddangosai yng Nghynhadledd Berlin oblegid na fedrai mo iaith gyffredin ei gyd-gynghorwyr. O! na buasai’r Ffrancwyr, yr Ellmyn, y Rwsiaid, a’r Tyrciaid, o’r un ysbryd â nyni’r Cymry. Pe baent felly, buasent oll yn unfryd yn troi i’w Saesneg o barch i’m Harglwydd Sais.

 

3. —Pa un ai mantais ai anfantais i ddynion fyddai bod heb iaith o gwbl?

Os dywedir mai mantais fyddai hynny, dangoser y medr dynion eisoes wneud y ddau beth pwysicaf, sef bwyta a chysgu, heb yr un iaith, ac y medrent garu ac ymbriodi, ac ymbaffio ac ymgymodi, a chladdu ei gilydd hefyd heb iaith, pe rhoddent eu bryd ar hynny. Profer y byddai mwy o naturioldeb ar eu hysgogiadau, a mwy o fynegiant ar eu gwep pe baent heb iaith; y ceid gwared llwyr o’r pregethau hirwyntog, yr areithiau llywyddol, y cylch-lythyrau, yr hysbysiadau, yr enllibiau, gweniaith, Warton, Bradlaugh, y Police News, a phob rhyw geriach, pe baem heb iaith. Ar air, ceid y fath ddistawrwydd ar wyneb y ddaear fel y byddai Thomas Carlyle farw o lawenydd.

 

4. —Pa un ai mantais ai anfantais i gerddorion ydyw bod mwy nag un dôn ar yr un bennill?

Os barna’r cystadleuydd mai anfantais ydyw, (x20) dyged resymau i brofi mai tystiolaeth yr oesau ydyw na chanodd un cerddor ddwy dôn ar yr un pennill am dymor hir. Boddlona’r werin, o’r hyn lleiaf, ar un. Wrth ddysgu tôn newydd, anghofiant yr hen. Pe ceisient gadw’r ddwy, anghofient y ddwy; neu ynteu, cymysgent y ddwy ynghyd, a byddai hynny’n waeth fyth.

 

5. —Pa un ai mantais neu anfantais i’r Swliaid yw eu bod yn groenddu?

Os dywedir mai anfantais, profer na feiddiasai’r Saeson eu trin mor annynol pe buasent yn bobl wynion. Yn wyneb hyn, dangosed y cystadlydd mai dyletswydd resymol y Swliaid yw troi’n wynion cyn gynted ag y gallont. Profer ei bod yn haws iddynt newid eu lliw na newid eu hiaith am nad ydyw eu lliw yn cyrraedd yn is na’r croen, ond bod iaith eu tadau wedi paratoi lle yn eu henaid, ac wedi gosod ei nod ar eu peiriannau tufewnol; ie, cyn medru ohonynt siarad gair ohoni.

 

Dyna bynciau’r gystadleuaeth; dyma’r rheolau eto:—

 

1. Ni chaniateir i neb a welodd lawer o’r byd, ac a ŵyr amryw ieithoedd gystadlu ar y pwnc blaenaf am fod perygl iddo fod yn fwy “clannish” a “rhagfarnllyd” na’r Cymry rhyddfrydig hynny a arhosodd ar hyd eu hoes tan ddylanwad y Saeson. (x21)

 

2. Ni chaniateir i neb manylaidd ei feddwl ’chwaith ymgystadlu arno rhag ofn iddo fyned i’w drin yn hanesyddol, yn athronyddol, ac yn anianyddol, yn ôl dull Marsh, Muller, Menzel, Carpenter, ac eraill.

 

3. Bydd yn rhydd i blant Cymreig brofi bod y Gymraeg yn anfanteisiol, cystal ag y gallont yn Gymraeg, ac ni chaeir hwynt allan o’r gystadleuaeth hyd yn oed os digwydd iddynt wybod tipyn o Saesneg.

 

4. Y mae’n rhydd i Saeson o bob oedran ymgystadlu os medrant brofi na wyddant up iaith heblaw’r Saesneg; eithr rhaid i’r ymgeiswyr Cymraeg fod naill ai yn eu plentyndod cyntaf, neu yn eu hail blentyndod.

 

5. Anfoner yr ysgrifeniadau trwy swyddfa’r Faner i ysgrifennydd “Cymdeithas yr Unieithogion,” erbyn dydd Nadolig y flwyddyn hon. Cyhoeddir y traethawd gorau yn y Boy’s Own Paper.

 

Y rhai hyn fydd y beirniaid:— Edward Levy Lawson, Esq., Daily Telegraph Office, London, author of “British Interests in the Moon,” “Russian Intrigue, Affghan Treachery and Irish Ungrateful­ness,” “Welsh clannishness,” &c. Richard Johnny David, Esq., author of “They Tuty of Welshmen (x22) to do ass they are towld,” “How iss to turn a Welshman into a Hinglisman,” &c.

...............................Ydwyf, &c.,

...........................................Y GWOBRWYWR.

..............ALLAN o’r Faner, MEDI 1, 1880.

 

 

 

III PAHAM Y GORFU’R UNDEBWYR

 llygaid Cymro Cymreig yr wyf i yn dewis edrych ar y cwestiwn y gofynnwyd imi ei ateb yn Y Geninen; a chan fod y cyfryw Gymro yn perthyn yn hytrach i ysgol nag i blaid y mae’n debygol na ŵyr y darllenydd gymaint amdano ag a ŵyr o am y Cymro Fydd. Boed hysbys ynteu mai Cymro Cymreig yw pob Cymro sy’n credu ac yn cyffesu mai cadw Cymru yn Gymreig o ran iaith ac ysbryd yw’r pwnc pwysicaf o bob pwnc gwleidyddol. Yn ei olwg ef, cadw’r Gymraeg yn fyw ac yn iach yw’r unig Geidwadaeth y mae’n weddus i’r Cymry ymegnïo i’w hamddifryn, a rhyddhau’r Dywysogaeth oddi wrth yr ormes Seisnig sy’n ei gwneud hi’n gadlas chwarae ac yn grochan golchi i bobl anghyfiaith ac anghyweithas ydyw’r unig Ryddfrydiaeth y mae’n wiw i’r Cymry ymladd drosti; canys y mae a wnelo’r Geidwadaeth â’r Rhyddfrydiaeth yma, nid yn unig â llwyddiant, ond hefyd a bywyd y genedl yr ydym yn perthyn iddi. Gan mai pobl anaml ydym, yn preswylio parth bychan o Ynys Brydain, ni allwn argyhoeddi estroniaid ein bod yn (x24) ddim amgen na Saeson heb eu llwyr wareiddio os na bydd gennym iaith wahanol. I ni, y Gymraeg yw’r unig wrthglawdd rhyngom a diddymdra, ac y mae’r sawl a dorro’r gwrthglawdd hwnnw, trwy barablu iaith ein gorchfygwyr heb raid nac achos yn euog o ddibrisdod sy’n dangos eu bod wedi colli pob parch iddynt eu hunain; a phan beidio dyn â pharchu ei hun y mae hwnnw i bob perwyl wedi peidio a bod.*

 

(*”Yn Ffrainc mi a fedraf Ffrangeg; ond paham y dylwn siarad estroniaith yn fy ngwlad fy hun?” —Lessing yn Minna von Barnhelm.)

 

Er bod y Cymro Cymreig yn rhy falch i’w ddiddymu ei hun, nid yw o’n gulfarn o gwbl, fel y tybia rhai. Y mae o’n ewyllysio i’w gydwladwyr nid yn unig ddysgu Saesneg a darllen llenoriaeth Saesneg, ond hefyd ddysgu pedair prifiaith y Cyfandir, er mwyn ymgydnabod â phobl a llenoriaeth sy’n llai ynysaidd na rhai Prydain. Trwy dreulio tair neu bedair blynedd ar y Cyfandir, gwelent nad yw’r Saeson ddim mor fawr o lawer yng ngolwg cenhedloedd eraill ag ydynt yn eu golwg eu hunain, ac yng ngolwg y Cymry plentynnaidd sy’n credu bod “I say” yn Saesneg yr un peth a “Fel hyn y dywed yr Arglwydd” yn y Gymraeg. Gwelent ei bod yn rhaid i estron o Sais dalu mwy deirgwaith am ei fwyd a’i lety na rhyw estron arall, nid yn unig am ei fod yn (x25) anifail mwy ariannog, ond hefyd am ei fod yn anifail mwy didoriad, a bod yn rhaid gan hynny wrth fwy o amynedd i’w oddef. Gwelent mai syniad isel sy gan yr Ellmyn a’r Yswisiaid a’r Yswediaid am y Côd Addysg a luniwyd gan fasnachwr uniaith ac annysgedig a’i enw Forster, ac a adluniwyd gan ddynion sydd agos mor annysgedig ag yntau. Trwy dreulio rhai blynyddoedd ar y Cyfandir, fe ddysgent synio’n uwch am eu hen lenoriaeth eu hunain, ac yn is am lenoriaeth ddiweddar y Saeson.*

 

(*”English science can now boast of but very few noted living names any more than can English literature.”—Daily Chronicle, September 12, 1895.)

 

Gwelent ohonynt eu hunain nad oes, ac na bu, cymaint ag un athronydd yn Lloegr, nad yw ei diwinyddion gorau yn yr oes hon ond corrod yn ymyl diwinyddion dwy o deyrnasoedd lleiaf Gogledd Ewrop, nad yw ei hesboniadau gorau ond lled-gyfieithiadau o esboniadau’r Almaen a’r Iseldir, nad yw ei geiriaduron helaethaf ond efelychiadau amherffaith o eiriaduron Ffrainc, ac nad yw ei dramodau mwyaf poblogaidd ond cyfaddasiadau o ddramodau gwaelaf Ffrainc a’r Eidal, yr Ysbaen a’r Yswèd. Y mae’r Saeson yn cyniwair ymhell ac yn agos; er hynny, nid oes ganddynt, yn ôl eu tystiolaeth eu hunain, ddim un map nac un fforddiadur y gellir dibynnu arno. Cymerwn (x26) gysur; er bod gan y Saeson lawer gŵr grymus, un cawr sydd ganddynt, ac y mae hwnnw wedi marw er y flwyddyn 1ôl6. Os nad oes gennym un Shakes­peare, y mae gennym iaith odidog, ac emynau ac alawon heb eu bath; ac os meithrinnwn ein hiaith, odid na fydd yfory’r Cymry cyn deced â doe’r Saeson.

 

Y Cymro Cymreig yn rhagfarnllyd! Nac ydyw, yn wir. Fe fyddai agos cyn chwithed ganddo weled Saeson Lloegr yn anghofio eu hiaith eu hunain er mwyn myned yn Gymry uniaith ag yw ganddo weled Cymry Cymru yn anghofio eu Cymraeg er mwyn myned yn Saeson uniaith. Dyma’r cwbl y mae o’n dadlau drosto, sef y dylai’r Cymry fod cyn ddysgediced ddwywaith o leiaf â Saeson cyffredin.

 

A ydyw’r Cymro Cymreig yn gulfarn wrth haeru y dylai’r Saeson yng Nghymru ymostwng i’r unrhyw amodau ag y mae’n rhaid i Gymry ymostwng iddynt yn Lloegr? Yn Lloegr y mae’n rhaid i Gymro ddysgu iaith y wlad cyn y rhoddir iddo un swydd gyhoeddus na swydd hyd yn oed fel gweithiwr ar un o’r ffyrdd haearn. Paham yr ydym ni’n goddef i Saeson uniaith gael pob rhyw swydd yng Nghymru, ac felly yn eu denu yma i heidio i’n gwlad? Ai am ein bod yn fwy haelfrydig, ai ynteu am ein bod yn ffolach na chenhedloedd eraill? Er (x27) mwyn gweld gwrthuni ein hymddygiad, dychmygwn fod y Saeson yn ymddwyn tuag atom ni fel yr ydym ni yn ymddwyn tuag atynt hwy. Dychmyger eu bod ynghanol Lloegr yn troi cyfarfod yn Gymraeg neu yn hanner Cymraeg o achos bod yno ddau neu dri o Gymry uniaith yn ddigon hy i weiddi “Cymraeg, Cymraeg.” Dychmygwn eu bod yn dewis Cymro uniaith i’w cynrychioli yng Nghaint neu yn Ynys Wyth, a’u bod yn llefain, Clewk, Clewk, wrth wrando ar y cyfryw gynrychiolydd yn traethu yng Nghymraeg llydan Sir Fôn ar y priodoldeb o roi ychydig o le i iaith a llenoriaeth Saesneg yn athrofeydd Caergrawnt a Rhydychen. Dych­mygwn fod barnwyr ac ynadon Lloegr gan mwyaf yn Gymry heb fedru dim Saesneg, a bod y rhai sydd yn medru Saesneg yr un ffunud yn mynnu siarad yn Gymraeg; fod y dadleuwyr, wrth erlyn ac amddiffyn, yn apelio at y barnwyr a’r rheithwyr yn Gymraeg, ac yn gwastraffu amser i holi’r tystion trwy gyfieithydd. Dychmygwn fod trigolion St. Albans neu Clackton-on-Sea yn codi eglwys a phedwar capel ar gyfer ymwelwyr Cymreig a theulu neu ddau o breswylwyr Cymreig, ynghyd â dwsin o Saeson sydd wedi colli eu Saesneg wrth werthu llefrith, cwrw, cennin neu bysgod i’r Cymry hynny. Dychmygwn fod athrawon ysgolion Lloegr yn (x28) gwialenodio, ie, yn ffonodio eu disgyblion am siarad Saesneg yn yr ysgol, ac yn eu rhybuddio na siaradont “that vulgar English” y tu allan i’r ysgol chwaith. Dychmyger bod miloedd o goegynnod a choegennod ar hyd a lled Lloegr yn clebran Cymraeg yn y siopau, yn y trenau, a hyd yn oed mewn dosbarth yn yr ysgolion Sul, a hynny am eu bod yn synio bod siarad hen iaith go bur fel y Gymraeg yn beth mwy gweddus na siarad rhyw glytwaith diweddar fel y Saesneg. Dychmygwn fod ar agos bob siopwr yn Lloegr gywilydd ei alw ei hun yn butcher, yn clothier, neu yn shoemaker, a bod Richard Cockburn, Cigydd; John Coldbottom, Dilledydd; ac Alfred Rawbottom, Crydd, yn serennu uwch ben y siopau. Dychmygwn fod Cwmni’r L. & N. W. R. yn dileu’r enw Runcorn Station, ac yn peri paentio ar yr ystyllen: Gorsaf yr Un-Corn; fod gweision Gorsaf Oxford yn gweiddi “Rhydychen” er mwyn boddio’r astudwyr Cymreig, a bod gweision gorsaf Caer er mwyn peri cyfleustra i farchnadwyr ffwdanllyd Cymru yn dywedyd wrthynt yn fwyn; “This way, gentlemen, to the Nerpwl train.”‘ Dychmyger (os gellir dychmygu peth mor anghredadwy) fod gweithwyr o Saeson ar rai o ffyrdd haearn Lloegr yn goddef i ddeuddyn uniaith a’u henw Huws a Dafis eu trin mor drahaus ag y mae (x29) gweithwyr o Gymry ar rai o ffyrdd haearn Cymru yn goddef i rai Saeson uniaith eu trin hwy.*

 

(*Y mae’n ymddangos fod gan y Saeson anhawddgar hyn ffordd newydd i gael gwared o’r gweithwyr Cymreig, sef eu gyrru i weithio, ymhell oddi cartref, a thrwy hynny beri iddynt deimlo bod eu cyflog yn rhy fach i’w cynnal hwy mewn llety.)

 

Yn sicr, ni byddai’n fwy anweddus i’r genedl ieuengaf ddynwared y genedl hynaf nag ydyw i’r genedl a orchfygwyd ei hamharchu ei hun er mwyn dangos parch i’r genedl a’i gorchfygodd. Os dywed rhywun mai cenedl gydraddol ydym â’r Saeson ac nid un ddarostyngedig iddynt, yna paham na bai gennym senedd Gymreig? Neu, yn niffyg senedd Dywysogaethol, paham na bai nifer ein cynrychiolwyr yn y Senedd Ymerodrol yn gyfartal â nifer cynrychiolwyr y Saeson? lle bynnag y bo “predominant partner,” nid oes yno gydraddoldeb. Nid yw “predominant partner” yn ddim amgen nag enw mwyn ar orthrechwr — tyrant.

 

“Yr hynaf a wasanaetha’r ieuengaf.” Dyna’r ffaith ar hyn o bryd, ond y mae’r Cymro Cymreig yn gobeithio na bydd hynny ddim yn ffaith byth; nid am ei fod yn ddigon plentynnaidd i roi coel ar broffwydoliaethau Myrddin a Thaliesin, eithr am fod ganddo gred yn Rhagluniaeth a chyfiawnder Duw. Fe demtid dyn i gredu nad oes Creawdwr a (x30) Llywodraethwr yn bod pe gorfyddai iddo gredu y goddefir i genedl mor waedlyd ac ysbeilgar â’r Saeson flino a llygru’r byd yn llawer hwy. Yn fuan neu yn hwyr, y mae traha cenedl yn dychwelyd ar ei phen ei hun, a pha genedl erioed a fu mor drahaus â’r Saeson? Y mae llawer cenedl o dan ei phawen er ys ugeiniau a channoedd o flynyddoedd; er hynny, nid oes odid un ohonynt wedi dygymod â’i’ chyflwr. Y mae miloedd ar filoedd o Gymry heddiw mor ffiaidd ganddynt fod yn ddarostyngedig iddi a phe buasent yn byw drannoeth ar ôl cwymp Llywelyn; ac fe godai Iwerddon, a’r Aifft, a’r India, mewn gwrthryfel yn ei herbyn yr wythnos nesaf, pe rhyngai bodd i Ffrainc neu Rwsia dorri asgwrn ei chefn. Os o’r braidd y mae hi’n gallu gorfod ar fân genhedloedd anarfog a hannernoethion, pa le yr ymddengys hi pan ddelo chwant arni i brofi ei gynnau newyddion mewn rhyfel yn erbyn cenedl gref? Gymry, nid yw ddoeth i chwi frysio i ymgolli ynghanol y Saeson — ni wyddoch beth a ddigwydd mewn deng mlynedd.

 

Ysywaeth, nid yw’r Cymry Cymreig eto wedi ymgyfuno’n blaid wieidyddol; ar wasgar y maent ar hyn o bryd ymblith y pleidiau eraill. Y mae llawer ohonynt wedi ymuno â’r Cymry Fydd, o achos eu bod yn tybied bod y blaid honno ychydig (x31) yn llai Seisnigaidd na’r hen blaid Chwigaidd. Y mae eraill ohonynt yn parhau’n aelodau o’r blaid Chwig­aidd am eu bod yn ofni bod swyddogion Cymru Fydd yn chwanocach i farchogaeth ar y teimlad Cymreig nag i’w fagu. Y mae nifer nid bychan o Gymry Cymreig yn Dorïaid, am eu bod yn credu y gall dyn fod yn Gymro da, beth bynnag fyddo’i syniadau am Fasnach Deg, am Iawn i Dafarnwyr, am Ynadon di-arian a di-ddysg, ac am y pwnc pitw pa un ai o lyfr ai yn syth o’r safn y gellir yn orau wenieithio i “enaid ein hannwyl frawd a ymadawodd o’r byd.” Y mae llawer o’r Cymry Cymreig yn.-ymgadw ymhell oddi wrth bob plaid wieidyddol a’r sydd yn awr yn y maes, am eu bod yn barnu nad yw dynionach sydd yn ddiofal am eu braint bennaf ddim yn haeddu cael breintiau llai. Y mae byw ar gawl yn fyw rhy dda o lawer i’r sawl a ddiystyro’u genedigaeth-fraint.

 

Un arwyddair, sef “Cymru Gyfan,” sydd gan y Cymro Fydd; ond y mae gan y Cymro Cymreig dri arwyddair, sef “Cymru Rydd, Cymru Gyfan, a Chymru Gymreig.” Canys, heb fod yn Gymru Gymreig, Cymru mewn enw yn unig fydd hi. Y mae’r Cymro Fydd yn gwawdio’r waedd “Cymru i’r Cymry,” ac yn ceisio boddhau’r Saeson heb lwyr (x32) anfoddhau’r Cymry trwy weiddi “Lloegr i’r Lloegrwys, a Chymru i’r Cymry ac i’r Saeson.” Hyd yn oed pan fydd y Cymro Fydd yn gweiddi “Cymru Gyfan,” nid yw’n hawdd deall beth y mae o’n ei feddwl; ond yng ngenau’r Cymro Cymreig y mae’r ymadrodd yn gwbl ddiamwys, ac yn arwyddocau: Cymry hyd at ei hen derfynau, sef Cymru hyd at Hafren.

 

Fe ŵyr y darllenydd bellach pa beth yw teimlad a pha beth yw credo’r Cymry Cymreig; ac fe eddyf eu bod yn ddosbarth cryf o ran nifer, ac y byddant yn gryf o ran dylanwad hefyd, ar ôl eu cyfuno’n blaid. Mewn gwirionedd, dwy blaid wleidyddol a ddylai fod yng Nghymru hyd oni chaffo hi ei hawliau cenhedlig, sef Plaid Gymreig a Phlaid Wrth-Gymreig, a gwneuthur y blaid olaf yn wannach wannach a ddylai fod ein hymgais pennaf. Peth plentynnaidd a gwaeth na phlentynnaidd yw inni ddynwared y Saeson trwy ymrannu yn Dorïaid “Duw a’n cadwo,” ac yn Dorïaid “Gafr a’u ’sgubo,” yn Chwigiaid Dofion (Liberals) ac yn Chwigiaid Gwylltion (Radicals), yn Bleidwyr Athrawiaeth yr Iawn (Compensationists), ac yn Bleidwyr Barn Ddidrugaredd (Anti-Compensationists), cyn penderfynu’r pwnc pwysig pa un ai’r Cymry ai’r Saeson sydd i gael eu ffordd yng (x33) Nghymru, a pha un ai’r Gymraeg ai’r Saesneg sydd i fod yn iaith ysgolion a chynghorau a swyddfeydd a llysoedd barn Cymru.

 

Ar ôl dangos pa fath un yw’r Cymro Cymreig, yr wyf o’r diwedd yn dyfod at y gofyniad a roddwyd imi, sef, Paham y gorfu’r Undebwyr yn yr Etholiad Cyffredinol diwethaf? Yr wyf yn ateb yn fyr ac yn bendant mai am eu bod yn Undebwyr. Y mae’n hawdd gennyf gredu bod a wnelo Deddf Gwaharddiad Lleol ychydig bach â’r gorchfygiad, a bod a wnelo anallu, annifrifwch, a chroesdynnu arweinyddion y Blaid Chwigaidd beth yn ychwaneg ag ef; ond bwriad y blaid honno i roddi Ymreolaeth i Iwerddon ac i ddadsefydlu’r Eglwys yng Nghymru a barodd i’r Saeson ymgynddeiriogi yn ei herbyn. Torïaid hyd i fêr eu hesgyrn ydyw corff mawr y genedl Seisnig mewn materion cenhedlig, ac y r mae’n ddiau fod y darllenydd wedi sylwi mai yn Lloegr ac yn y rhannau mwyaf Seisnig o’r gwledydd Celtig y cafodd yr Undebwyr fwyafrif mawr. Yr oedd Chamberlain yn Rhyddfrydol hyd at fod yn eithafol tra oedd ei blaid yn ymfoddloni ar ddeddfu i ddosbarthiadau trwy’r deyrnas, ond pan osiodd ei blaid ddeddfu i genhedloedd, sef i’r Gwyddelod a’r Cymry, ar wahân i’r Saeson, fe droes y gŵr o Birmingham yn Dori rhonc. Ac y mae Chamberlain (x34) yn hyn o beth yn deip neu yn ddangosiad teg o ryw naw o bob deg o’r genedl sy’n honni mai hyhi yw’r predominant partner. Gwybydd, ddarllenydd, mai brwydr rhwng y Celtiaid a’r Teutoniaid oedd y frwydr etholiadol a ymladdwyd y mis o’r blaen; ac ni all y Celtiaid byth mwy ddisgwyl am gymorth effeithiol gan y Saeson tuag at ei hennill hi. Pa beth gan hynny a wnant er mwyn dwyn barn i fuddugoliaeth? Ymuno â’i gilydd yng Nghymru, Iwerddon, ac Ucheldiroedd yr Alban, i ffurfio Cynghrair-Celtig, a chytuno i ymladd yn y modd mwyaf Parnelaidd am yr un â’r unrhyw beth, a hwnnw yn gyfryw beth ag a gynhyrfo wladgarwch y cenhedloedd darostyngedig hyd y gwaclodion. A pha beth amgen a all hynny fod na’r hawl ddwyfol i’w llywodraethu eu hunain fel y gwelont hwy yn dda? , Neu, yng ngeiriau Freeman yr hanesydd: “The right of every nation to govern, or, if so be, to mis­govern itself.” Gan fod y Teutoniaid wedi cyhoeddi rhyfel yn erbyn y Celtiaid, cyhoedded y Celtiaid ryfel yn eu herbyn hwythau; ac er ein bod yn wannach o lawer na’r Saeson, yr ydym ynghyd yn ddigon cryfion i orchfygu. Ni faidd Lloegr ddangos ei holl rym yn erbyn y gwledydd agosaf ati, rhag ofn lleihau ei dylanwad yn ei thiriogaethau pell. Fe fyddai’n well ganddi ildio llawer iawn na dangos (x35) i’w gelynion ymhob parth o’r byd fod ei chymdogion agosaf mor anfoddog a gwrthryfelgar fel na allai hi ddim ymddiried iddynt ar adegau enbyd. Ofn ac nid cariad a barodd iddi ryddfreinio’r Pabyddion a dadsefydlu’r Eglwys yn Iwerddon; ac ofn yn unig a bair iddi eto roddi ymlywodraeth i’r cenhedloedd sydd yn ddarostyngedig iddi. Os darfu iddi, trwy ofn, ildio cymaint i un genedl yn yr amser a fu, pa faint mwy, tybed, a ildia hi i dair yn yr amser a fydd? Lle da i Arglwydd Salsbri sefyll yn warsyth yn y fan y crymodd Duc Wellington.

 

Ysywaeth neu ysywell, y mae’r ymryson rhwng dosbarth a dosbarth wedi myned erbyn hyn yn ymryson rhwng cenedl a chenedl; a’r Saeson ynghyd â Cheltiaid Seisnigedig sydd wedi mynnu i hynny fod. Na sonier mwyach am Chwigiaid Cymru a Thorïaid Cymru; sonier yn unig am y Cymry a’r Gwrth-Gymry. Y mae’r Cymry yn lluosocach o lawer na’r Chwigiaid, ac fe ellir disgwyl i Gymry ymladd yn erbyn y gelyn cyffredin yn fwy calonnog o lawer nag y buont yn ymladd yn erbyn ei gilydd. Rhaid addef bod ymgeiswyr y Saeson a’r Cymry Seisnigedig yng Nghymru wedi cynhyrfu mwy o deimlad o blaid Undebaeth nag a gynhyrfodd ym­geiswyr y Cymry yn ei erbyn, ac y mae’n hawdd canfod yr achos. Nid oedd gan ymgeiswyr y Cymry (x36) ddim i’w gynnig i’r Cymry fel cenedl heblaw dadsefydliad yr Eglwys, ac y mae hwnnw, arno ei hun, yn hytrach yn bwnc sectol nag yn bwnc cenhedlig; o leiaf, y mae’n anodd dangos i’r cyffredin ei fod yn ddim amgen na hynny. Fel hyn y mae’r cyffredin yn ymresymu: “Pa beth a all fod yn cynhyrfu’r Ymneilltuwyr gwleidyddol i alw’r sect sefydledig yn ‘Estrones,’ ac yn ‘Eglwys Seisnig yng Nghymru’ — ai cariad at eu cenedl neu at eu hiaith? Nage’n ddiau, canys y maent hwy eu hunain yn llenwi’r wlad ag estronesi Seisnig, a thrwy hynny yn dangos nad gwaeth i Gymro addoli yn iaith ei orchfygwyr nag yn iaith Llywelyn. Yr ydym yn methu â gweled bod Eglwys Loegr yn gwneud cymaint i Seisnigo Cymru ag eglwysi Seisnig yr Ymneilltuwyr. Fel rheol, y mae ynddi hi un gwasanaeth Cymraeg bob Sul, ond yn eglwysi Seisnig yr Ymneilltuwyr ni cheir clywed un gair o Gymraeg. O’r ddau, yr ydym yn meddwl y byddai Cymro yn llai o fradwr wrth fyned i eglwys hanner Saesneg nag wrth fyned i gapeli hollol Saesneg. Os o wladgarwch y maent yn chwenychu dadsefydlu Eglwys Loegr, dadsefydlant eu heglwysi Lloegraidd eu hunain i ddechrau. Peidiant â chyfrannu arian tuag at godi a chynnal y cyfryw ‘eglwysi,’ a bwriant allan o’r Senedd ac o’r cynghorau bob cynrychiolwr sydd trwy eiriau (x37) neu drwy arian yn cefnogi’r fath glybiau anghymreig. Yn boeth y bo’r Eglwyswyr a’r Ymneilltuwyr: rhyngddynt â’i gilydd hwy a ddinistriant Gymru os cânt eu ffordd. Nid yw’r helynt sydd rhyngddynt ond ymgecraeth rhwng pechaduriaid a rhagrithwyr. Cenfigen sectol sydd wrth wraidd eu holl regfeydd. Awn i’n pebyll a gadawn iddynt, hyd oni chodo rhywun yng Nghymru a garo’i genedl yn fwy nag Eglwys Loegr ac ‘achos’ Saesneg.”

 

Fel hyn y mae llawer o Ymneilltuwyr Cymroaidd yn siarad; am hynny, braidd y gellir disgwyl iddynt ymladd yn egnïol dros yr ymgeiswyr a fydd yn gofyn am eu cefnogaeth. Y mae rhai o’r ymgeiswyr Chwigaidd yn dangos llai o gallineb, os nad llai o wladgarwch hefyd, hyd yn oed na’r ymgeiswyr Torïaidd. Cymerer yr ymgeiswyr dros fwrdeisdrefi Dinbych yn enghraifft. Gan fod gennyf hawl i bleidebu yn Rhuthyn, fe ddanfonwyd i mi fwrnel o bapurau argraffedig a sgrifenedig oddi wrth y ddau ymgeisydd, Gwallter Morgan a Thudur Hywel. Yr oedd holl bapurau’r ymgeisydd Torïaidd mewn Cymraeg pur dda, a holl bapurau’r ymgeisydd Chwigaidd mewn Saesneg gweddol. Yr oedd y Tori yn dweud “y dylid cefnogi iaith, llenoriaeth ac arferion y Cymry,” a’r Chwigiad yn dweud yr ymroddai fo i ofalu am “the affairs of this great (x38) nation.” Fe’m llanwyd â digofaint a chywilydd wrth ddarllen cylch-lythyr mor ynfyd ac mor sarhaus, a phenderfynais ar y pryd na rown byth bleideb i ymgeisydd oedd yn caru’r “great nation” yn fwy na’i genedl fach ei hun: ond rhag ofn nad oedd o’n medru sgrifennu Saesneg yn ddealladwy, mi a euthum i Ruthyn er mwyn c.ael eglurhad ganddo yn Gymraeg ar ei ymadrodd rhyfedd. Ysywaeth, nid oedd o yno, ond fe ddywedodd rhai o’i gyfeillion (y nefoedd a faddeuo iddynt os dywedasant gelwydd politicaidd wrthyf) mai’r ysgrifennydd a oedd yn gweithredu dros yr ymgeisydd a wnaeth y llythyr anffodus oedd yn fy mlino, ac na wyddai’r ym­geisydd ei hun ddim amdano, er bod ei enw wrtho; a chan fod yr ysgrifennydd hwnnw’n fwy o Sais nag o Gymro, ac yn byw y tu hwnt i Glawdd Offa, nad oedd yn hawdd iddo gofio bod y fath genedl â’r Cymry yn bod, ac am hynny y byddai’n resyn imi gosbi’r ymgeisydd o achos anwybodaeth ei ysgrifen­nydd. Er bod hyn yn eglurhad aneglur iawn, ei dderbyn a wneuthum am ei werth, a rhoi fy llais — nid o blaid y Great Nationist, eithr yn erbyn yr Unionist, a phan glywais beth oedd diwedd y chwarae, yr oedd yn dda gennyf fod Morgan wedi colli, ac yn ddrwg gennyf fod Hywel wedi ennill.

 

Nid oes gofod i sôn am Mr. Herbert Roberts, yr (x39) hwn sydd, fel Martha, yn ofalus ynghylch llawer o bethau, a heb fod yn ddiofal am ddim oddieithr yr un peth angenrheidiol; nac am yr estron diddrwg sydd yn cynrychioli capelau dyledog Sir Fflint, yr hwn sydd, fel Mair a Phersis, yn cymryd llawer o boen yn yr Arglwydd i ddeall beth a fynn ei etholwyr anghyfiaith iddo ei wneud erddynt. Y mae’n ddigon i mi ddweud fod y rhai hyn, ac amryw o ymgeiswyr pellach, wedi aflwyddo mewn rhan neu yn gwbl, am nad oedd yn eu hanerchiadau ddim i gyffroi’r galon Gymreig. Os oedd ymgeiswyr Torïaidd yn gallu tanio Saeson a Chymry Seisnigedig trwy frygawthan am Undod yr Ymerodraeth, fe allasai’r ymgeiswyr Chwigaidd yr un ffunud danio’r Cymry trwy sôn am hawlio priod y Dywysogaeth. Os mynn ymgeiswyr mewn etholiad sôn am bob rhyw beth oddieithr y peth mwyaf, gan osod hawddfyd person a dosbarth yn uwch na rhyddid cenhedlig, pa fodd y gellir beio ar rai o’r etholwyr am gyfrif y Chwigiaid a’r Torïaid yn ddau dy^ masnachol, ac am eu bod yn cymryd eu cennad i fyned i’y stop lle y cynigir iddynt y fargen orau?

 

Erbyn hyn y mae’r Blaid Chwigaidd yn Lloegr agos wedi diflannu, a hyd yn oed ped ymddangosai hi eilwaith yn ei nerth ymhen chwech neu ddeuddeng mlynedot, hi a fydd yn rhy ofnus i ail gynnig (x41) i’r Cymry a’r Gwyddelod y pethau y gorchfygwyd hi o’u plegyd. Am hynny, nid trwy ennill ei ffafr hi, eithr trwy flino’r Blaid Dorïaidd, sef yw hynny, trwy flino corff y genedl Seisnig y gall y cenhedloedd darostyngedig godi eu pennau. Y mae Rhyddfrydiaeth bellach yr un peth â rhoddi rhyddid i’r cenhedloedd Celtaidd, ac y mae Torïaeth yr un peth â’u rhwymo â chadwynau pres yn lle â chadwynau haearn. “Y Teutoniaid yn erbyn y Celtiaid” fydd gwaedd y Torïaid, a’r “Celtiaid yn erbyn y Teutoniaid” fydd gwaedd y Rhyddfrydwyr: ac yn wir, meddaf i chwi, ni cheir byth lawer o’r cyfryw Ryddfrydwyr yn Lloegr. Rhaid i’r Cymry, mewn undeb â’r Celtiaid eraill, ymddarparu i ymladd yn erbyn cenedl gyfan, ac nid mwyach yn erbyn plaid; canys y mae’r etholiad diwethaf wedi dangos yn amlwg fod y Saeson bron i gyd yn unfarn yn erbyn cydnabod y Cymry a’r Gwyddelod yn genhedloedd priodol. Y mae’r gwr bonheddig o Loegr yn addef bod y fath greaduriaid â lleidr Cymreig a llofrudd Gwyddelig, ond y mae o’n gwadu bod y fath bobloedd â chenedl Gymreig a chenedl Wyddelig. Un genedl sydd, os gwelwch yn dda, sef “y genedl fawr hon,” chwedl Gwallter Morgan; ac aelodau annheilwng yw pawb o’r Cymry a’r Gwyddelod (oddieithr y drwgweithredwyr) ohoni hi. Sais (x41) bendigedig oedd Wellington pan gynorthwyodd o Bülow a Blütcher i orchfygu Napoleon yn agos i Waterloo; ond “damned Irish traitor” oedd o pan bleidiodd o fesur yn Nhy^’r Arglwyddi i ddwyn ymwared i’r Pabyddion.

 

Nid yw ddrwg gennyf ddarfod dryllio’r gorsen Seisnig yr oedd Chwigiaid Cymru’n pwyso mor hyderus arni. Fe ellir disgwyl y byddwn bellach yn fwy o Gymry ac yn fwy o Geltiaid, ac fe argyhoeddir pob gwleidydd o gyfreithiwr mai ofer fydd iddo mwyach lefaru a gweithredu â’i lygad yn wastadol ar y sach wlân yn Nhy^’r Arglwyddi. Heblaw hynny, fe geir yn ystod teyrnasiad y Torïaid ddigon o amser i ddysgu’r Cymry i chwenychu ac i geisio’r un peth y mae’r Gwyddelod yn ei geisio. Canys oni chawn Ymreolaeth ar yr un pryd â’r Gwyddelod, byddwn yn rhy weinion i gael Ymreolaeth byth. Am fy mod yn Ymreolwr cywir a chyson, yr wyf yn parhau i lefain, er gwaethaf gwawd Saeson arglwyddaidd a Chymry gwasaidd: Cymru i’r Cymry; Lloegr i’r Saeson; yr Alban i’r Albaniaid; Iwerddon i’r Gwyddelod! Yr eiddo’r Cymro i’r Cymro, ac eiddo’r estron i’r estron! — Yn enw rheswm, pa beth sy decach?

 

............................EMRYS AP IWAN.

............ALLAN O’R Geninen, 1895.


(x42)

IV WELE DY DDUWIAU, O WALIA!

Cyfod dy galon a'th ael, ddarllenydd: nid ydyw dy wlad cyn waethed ag y dywedir ei bod. Y mae’n myned yn llai eilunaddolgar bob oes. Yn y dyddiau gynt, yr oedd rhifedi ei duwiau hi yn ôl ei dinasoedd; ond ni cheir ynddi bellach ond pump neu chwech, o'r mwyaf. Bu llawer ohonynt farw o wendid a hendid. Eraill, o eisiau amgenach croeso, a giliasant i wledydd dieithr, a'r lleill a alltudiwyd o achos y niwed a barent i'r wladwriaeth.

 

Gwelwyd bod Adramelcch yn rhy hoff o gig plant — am hynny rhoddwyd ef i genedl fwy epilgar. Ni allai Rimmon a Baalpeor gydweithio; am hynny gorchmynnwyd i Rimmon, druan, fyned i chwilio am genedl nad ofnai olau dydd. Gwrthryfelodd y Cymry'n fore yn erbyn Baalzebub, duw'r gwybed; a'u dadl oedd hyn — dywedent nad teg oedd eu gorfodi i gynnal brenin rhwysgfawr dros flynyddoedd crynion tra nad oedd raid wrtho ond am fisoedd yr haf; a haerent fod ganddynt ddigon o allu moesol a naturiol i ladd pob rhyw bryf a'u cosai hwynt yn ystod y misoedd oerion heb gymorth un (x43) duw. Yntau, gan ryfeddu'n aruthr wrth eu hanghrediniaeth, a gyflogodd i fyned i'r Eidal lle y mae'n cael ei wala o waith trwy gydol y flwyddyn. Cafwyd nad oedd y duwiesau Melpomene ac Urania yn gweddu yma, gan fod y naill yn ymdrin â phethau rhy uchel, a'r llall â phethau rhy ddyfnion; am hynny, gyrrwyd hwy'n anrheg i'r Germaniaid. Bellach, y mae'r rhan fwyaf o eilunaddoliaeth y genedl yn rhedeg mewn dwy sianel — Ariangarwch a Saisaddoliaeth! Yn lle rhannu eu calon fel cynt rhwng duwiau lawer, y mae'r Cymry yn awr wedi i crynhoi eu holl serch ar ddau lo — y llo aur a'r llo Seisnig. Rhaid addef na ddangosant fawr o ragfarn yn eu heilunaddoliaeth, canys y maent yn parchu'r hen a'r diweddar. Y mae'r llo aur wedi bod yn dduw llawer oes a llawer gwlad. Gwnaethpwyd ef ond odid yng ngefail Tubal Cain, ond, ac addef y gwir, corrach o dduw go ddiweddar ydyw'r llo Seisnig. Ni all hawlio dim parch ar gyfrif ei oedran.

 

Un ydyw na wybu Israel ddim amdano. Ni chafodd erioed yr anrhydedd o eistedd yn ystafell y duwiau yn Rhufain. Erioed ni chodwyd allor iddo yn Athen. Ond os nad ydyw ei ddyddiau'n ymestyn i’r cynfyd, os nad aeth y sôn amdano hyd eithafoedd daear, y mae er hynny yn dduw gwir genedlaethol. Y Cymro a’i dyfeisiodd, y Cymro a'i toddodd, y (x44) Cymro a'i lluniodd, a'r Cymry yw'r unig genedl ar y ddaear sydd yn ei theimlo'n fraint i gael ei addoli. Ond gadewch i ni aros y tro hwn gyda'r un aur. Duw yw hwn na ddiystyrir mono gan un genedl ar y ddaear, ond nid oes ond Cymry, y Saeson a'r Americaniaid yn ei garu ef a'u holl nerth ac a'u holl feddwl. Y dyn ariannog ydyw'r homme comme il faut ym Mhrydain. Nid yw felly mewn gwledydd mwy gwâr. Ped ymholai'r Swediad ynghylch rhywun, gofynnai "Pa fodd y mae'n ymddwyn?" Gofynnai'r Helvetiad, y Germaniad a'r Isdiriad, "Pa faint o wybodaeth sydd ganddo?" Gofynnai'r Ffrancwr, "Pa faint o ddawn — o esprit, sydd ganddo?" Ond y Sais a ofynnai, "Pa faint o arian sydd ganddo?" Yn fyr, Sut droed sydd ganddo, medd y Swediad. Sut dafod sydd ganddo, medd y Ffrancwr. Sut ben sydd ganddo, ebe'r lleill; ond sut logell sydd ganddo, medd y Sais!

 

Achwynir yn fynych ddarfod i gyndadau ein cyfoethogion etifeddol gael eu tir a'u golud trwy drais. Addefaf hynny, ond eto y mae'n well gennyf i'r cyfoethogion boneddol hyn na'r cyfoethogion difonedd; y maent yn fwy hynaws, yn fwy difalch ac yn fwy diddichell. Yn wir, caech eu bod yn fwy o ddynion na hwy ymhob modd, pe peidiech ag edrych arnynt trwy offeiriald. Geilw rhai'r dyn a (x45)

bentyrrodd olud mewn byr amser yn self-made man. Self-unmade man y galwaf i bob corrach. A welsoch chwi ddyn a roes ei fryd ar ennill cyfoeth yn ymboeni i ddatblygu ei ddynoliaeth ryw dro? Beth, atolwg, yw'ch syniad chwi am ddyn? Os mynnwch eich annynoli'ch hun, penderfynwch fyned yn gyfoethog. Dyma'r ffordd frenhinol i grebachu'r enaid. Ond tebygaf eich clywed yn dadlau y gall dyn fyned yn ariannog heb fod yn ariangar. Addefaf y gall, trwy ddirfawr ffawd, ond dal yr wyf fod yr amserau hyn y fath fel na all dyn, fel rheol, bentyrru arian yn gyflym heb garu arian, heb hefyd esgeuluso'i ddyletswyddau tuag ato'i hun, at ei gymydog, ac at ei Dduw. Nid wyf yn tybied bod y grediniaeth hon mor ddieithr i chwi, fel y bo'n rhaid colli amser i ddangos y rhesymau y mae'n gorffwys arnynt. Ofnaf mai ychydig sydd yn rhedeg yn chwyrn i El Dorado — i wlad yr aur — heb wneud yr hyn sydd yn annheilwng o Gristion, os nad o ddyn. Gynifer sy'n dyfod i olud trwy fath o hapchwarae. Y naill o wir ddamwain a lwydda yn ei anturiaeth, ac a ddaw felly i anrhydedd, a'r llall, druan, a fetha, ac yna a fwrir allan o'r synagog — a hynny, cofier, nid o achos ei gamwedd, ond o achos ei anffawd. Yng ngolwg rhai dynion, y mae llwyddiant yn gosod sêl o gyfreithlondeb ar bob camwri. Gwir yw'r gair (x46) sy'n dywedyd nad gloew mo'r afon honno y mae ei dyfroedd yn chwyddo'n sydyn. "Llaw y diwyd a gyfoethoga"; ond ymgyfoethogi'n arafaidd a naturiol y mae ef, ac os bydd yn dduwiol yn gystal ag yn ddiwyd, ni wna Duw byth ei felltithio â chymaint o gyfoeth ag a fo'n fagl iddo.

 

Mawr yw gallu'r llo aur! Trwy ei gymorth ef gall dyn gael bron unrhyw swydd a chwenycha, ond ysywaeth nid oes neb mor anghymwys â'r corrach i lenwi'r swyddau a gaffo; canys dyn yw ef na chymerodd hamdden erioed i drwsio'i ymennydd, ac i ysgubo'i galon.

 

Rhaid addef bod llawer, hyd yn oed o'r corachod hyn, yn rhoddi'n helaeth o'u gormodedd. Y mae eu rhoddion wrth eu barnu arnynt eu hunain yn werthfawr a chymeradwy; ond a ydynt hwy drwy'r cyfraniadau hyn yn gwneuthur iawn am y dyletswyddau a esgeulusant, am y dull a gymerasant, a'r amser a dreuliasant i gasglu corff eu cyfoeth. Atebed eu cydwybod!

 

Clywais rai eglwysi gweiniaid yn gwynfydu na buasai ganddynt deuluoedd cyfoethog yn perthyn iddynt. Diolchwch lawer, meddaf i, am eich bod hebddynt. Byddech yn wannach nag ydych pe cyflawnid eich dymuniad. Ni ellwch ddychmygu creaduriaid mor gostus ydynt i'w cadw. Os ydynt (x47) yn rhoi llawer, y maent yn gofyn mwy. Llusgant yr eglwysi i ddyled ddianghenraid gan na bydd gan y cyffredin na llais na llaw yn yr hyn a wneir ganddynt: y mae ysbryd gweithio ac ysbryd cyfrannu yn cael ei lethu. Pan fo llawer o gyfoethogion yn yr un eglwys y maent yn hollol ddiniwed, gan fod y naill yn disodli'r llall. Nid wyf yn meddwl eich bod chwi, Mr. Gol, wrth draethu ar ddirywiad yr eglwysi wedi gosod digon o bwys ar ddylanwad yr aelodau hynny a gamenwir yn bobl fawr. Y mae'r eglwysi, fel y gwyddoch, wedi dyfod i weled mai'r unig ffordd i gadw'r bobl hyn gyda'r Methodistiaid ydyw trwy eu gwneuthur yn flaenoriaid — nid yn ddiaconiaid, cofiwch — ond yn flaenoriaid yn ystyr lythrennol y gair. Wrth reswm, y mae diaconiaid yn bod, ond urdd o bobl gyfiredin ydyw honno a ordeiniwyd i wasanaethu'r blaenoriaid. Nid wyf yn awr yn bwriadu cyfrif grasau na mesur cyraeddiadau'r blaenoriaid hyn. Nid oes neb call mor ynfyd â disgwyl i ŵr mawr ddiwyno ei glos brethyn trwy ddringo'r rhiwiau serth hynny y sonia'r caniedydd amdanynt; ond y mae'r cyffredin, druain werin, yn meddwl y dylent wneud hynny, ac y mae'r meddwl yma'n peri poen nid bychan i bobl respectable. Ni faidd y diaconiaid argymell ond yn unig yr ychydig rinweddau hynny y tybir bod y gŵr mawr yn eu (x48) meddu, na chwaith gondemnio ond yr ychydig feiau hynny y digwyddo'r gŵr mawr fod yn lân oddi wrthynt. Hwyrach yr ymwrola un o'r diaconiaid weithiau, ac y dywed wrth y mawr: "Mr. Dives, y mae'n rhaid i ni osod rhyw gerydd ar Ismael Tip. Meddwdod, ac ymladd yn y ffair." "Ai e," medd Mr. Dives, "dyma'r hyn a wnewch chwi: ceryddwch ef yn dost am ymladd, ond na soniwch air am y meddwi. ‘Byddwch dyner wrth Absalom er fy mwyn i.’ " Anturia'r diacon ddweud ymhellach, "Meddwodd dyn arall, Mr. Dives, ac er na bu'n ymladd fel y llall, fe ddywedir iddo ei warthruddo'i hun gymaint ag yntau." Edrychodd Mr. Dives yn syn — ac ymhen ennyd, dywedodd, "Dyma'r achos mwyaf dyrys a glywais erioed! Oni ellwch chwi edrych heibio iddo?" "Na allwn, yn wir," ebe'r diacon dewr, "canys y mae'r troseddwr ei hun yn disgwyl cerydd." "Gwna hynyna'r achos yn fwy dyrys fyth," ebe Mr. Dives. Ond toc, chwanegodd, "Os oes raid ei geryddu, ceryddwch ef am ei ynfydrwydd yn meddwi'r dydd, yn lle meddwi'r nos," mewn dull boneddigaidd," a chyn rhoddi cwlwm ar ei araith, "cynghorwch y tlodion i fod yn fwy cyfrwys a gwyliadwrus wrth bechu, gan gofio bod yr heddgeidwaid â'u llygaid arnom ymhobman." Er mwyn bod yn fanwl, dylwn ddweud ddarfod i'r (x49) gŵr mawr guddio'i drwyn yn ei gadach pan gododd y diacon i lefaru wrth y meddwon.

 

Rhag i chwi, Mr. Gol., feddwl fy mod yn llai enwog am fy nhegwch nag am fy nghallineb, dymunaf gyhoeddi bod amryw fasnachwyr, etc., yn dywedyd mai dyn iawn yw Mr. Dives. Er enghraifft, bûm heddiw gyda'r eilliwr, ac fel yr oeddwn dan ei ddwylo, dechreuodd ddywedyd ohono ei hun amled a disgleiried oedd rhinweddau Mr. Dives. Cyn gynted ag y sychodd y sebon oddi ar fy ngenau, gofynnais iddo, "A yw Mr. Dives wedi cael tro?" "Tro," meddai yntau, "beth ydych yn ei feddwl?" "Wel," meddwn innau, "ei gablu fyddech chwi y troeon yr oeddwn yma o'r blaen." Troes yntau'r ymddiddan trwy ofyn "Oil, or Pomade, Mr. Trevethick?" Prin yr euthum dros y rhiniog na chlywn i ddweud bod Mr. Clipper newydd gael y gwaith o eillio Mr. Dives a'i feibion.

 

Wrth ddychwelyd adref, trois i ystordy gwin a gwirod Katch & Co., i brynu dwy botelald o rum. Ar ôl cyfarch gwell i'm cydgrefyddwyr a ddigwyddai fod yno, gofynnais i Mr. Katch pa lwydd oedd ar ei fasnach. "Eithaf gwael a fuasai arnaf i," meddai, "onibai am patronage Mr. Dives a Mr. Fast. Fe wyddoch chwi beth, Mr. Trevethick, Mr. Dives yw'r cwsmer gorau a fu gennym erioed. Os (x50) na aiff e i'r nefoedd, nid aiff neb yno. Gresyn ei fod yn ddiotwr mor yswil — rhaid i ni anfon yr holl farilau mewn orange boxes; ond y mae gan bob dyn ei wendid, meddai. Dichon y daw'n wrolach yn y man."

 

Y mae amryw fasnachwyr eraill hefyd yn arfer siarad yn uchel iawn am Mr. Dives, wrth ddieithriaid, a chyfeillion go dafodrydd fel myfi; ond dywedir eu bod hwythau'n siarad yn wahanol amdano wrth gyfeillion sy'n medru cadw cyfrinach.

 

Cofia, ddarllenydd, nad dyn arbennig ydyw Mr. Dives — ond dyn dosbarth. Cefais un aelod ohono yma, ac aelodau eraill acw, a thraw — a'r cwbl a wneuthum oedd eu casglu ynghyd, a gwneuthur ohonynt un corff. Os taera dy gydwybod ddarfod i'th lygaid ei weled ef yn gyfan ryw dro, yn sicr nid arnaf i y bydd y bai. Os digwydd i ti, wrth gribo dy wallt o flaen y drych, ganfod Mr. D. yn sefyll ger dy fron, gelli ei ddychrynu ymaith yn hawdd trwy ddywedyd, "Rhaid i mi un ai peidio â phechu, neu beidio â blaenori."

 

Rhaid yw gadael y llo Seisnig hyd dro arall.

......................Yr eiddoch yn hynaws,

...............................IWAN TREVETHICK.

........ALLAN O'R Faner, MAWRTH 21, 1877.

 

(x51)

“““““
 




DOLENNAU AR GYFER GWEDDILL Y GWEFAN HWN

0043c
Yr iaith Gymraeg
“““““
0005k
Mynegai yn nhrefn y wyddor i’r hyn a geir yn y gwefan; o’r tudalen hwn gellir hefyd
chwilio’r gwefan hwn â’r archwiliwr mewnol
“““““

0052c
Testunau Cymraeg â throsiad Catalaneg yn y gwefan hwn
(Textos en gal”lès amb traducció catalana en aquesta web)
“““““
1051e
Testunau Cymraeg â throsiad Saesneg yn y gwefan hwn
(Texts in Welsh with an English translation in this website)
 


Sumbolau arbennig: ŷ ŵ

Ble’r wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (= Gal”les-Catalunya)
Weø(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ø peij fròm dhø “CYMRU-CATALONIA” (= Weilz-Katølóuniø) Wéb-sait
Where am I?
You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website

CYMRU-CATALONIA

 

Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats