|
|
(delwedd 4513b) (tudalen 60)
|
CADAIR AP MWYDYN
Golygfa - YSTAFELL DAU GYD-FYFYRIWR
NED FFAGWR: (yn dysgu Groeg) Twpto, twpteis, twptei; twpteton, twpt—
AP MWYDYN: (yn cyfansoddi ar gyfer Eisteddfod Bwch-y-cyrn): Twptithe
hefyd, Ffagwr. Pwy sy'n mynd i farddoni, a tithe a dy
"dwpto," byth a hefyd, fel dyn yn swddanu? (= swrddanu, syfrdanu:
drysu, mwydro) I ti bron mynd mor dwp a “twpto."
NED FFAGWR: Cera oddna, Ap Mwydyn. Pwy farddoni alli di neyd? I ti'n cynnyg
ac yn cynnyg am ryw hen "gader a thwll" fach, os blwyddyn; ond
wela' i ddim argol daw hi byth. Pryd ma dy dro di, bachan? Ond
dyna, di ti ddim yn dod yn ddigon agos i weyd dy fod ti'n ail ore; ac
iti'n gwbod fod pob un o'r chwech cynte yn cleimo cymint â hynny. Jaca'i làn,
jaca'i làn. Fe dâl y ffordd yn well o lwer i ti i stico at beth mor sych a
"twpto" nâ mynd i gystadlu gyda Gwilym Meudwy, a beirdd o
safon!
AP MWYDYN: Mae o'r gore i ti, Ffagwr, weyd tho i am bido barddoni. I ti wedi
treio dy ore - shwd ore ag ôdd e: — ac, yn wir, rôdd yn flin gen i dy weld
ti’n cownto dy fysedd i gâl dy fesur wyth a saith a gròt yn iawn, ac yn poeni
am orie i wilo am eire fel “cawl” a “mawl”, a "phanasen" ac “asen”
i odli. Mi glywes rywun yn gweyd wrth stiwdent unwaith i fod e wedi spwylo
colier da wrth fynd yn bregethwr; a fe fydde'n well i tithe, Ned Ffagwr, bido
gneyd bardd gwâl o Ffagwr mor ardderchog. Ond rwy i wedi sylwi ar y rheiny sy
wedi ffili gneyd beirdd, ac wedi credu'u bod nhw'n dipyn o scolers, 'u bod
nhw'n cisho perswado'u hunen a phawb erill ma rhyw hâff-cracs anwybodus yw'r
beirdd i gyd.
NED FFAGWR: Dwy i ddim yn meddwl, ta beth, ma rhai anwybodus yw’r beirdd. Wy
i 'n gweld ffugenwe cyd â mraich i gyd â nhw, a phishis o Latin, a Greek, a
German uwchben 'u pryddeste nhw. Ma'n rhaid ’u bod nhw'n wybodus, achos 'dôs
dim geiriaduron i weyd popeth i gâl.
AP MWYDYN: A pheth arall i ti: os na fydd y'n beirdd ni wedi câl llawer o
ddiwylliant, ma nhw'n mynnu gweld tipyn o’r byd i neyd fyny am hynny,
NED FFAGWR: Eitha gwir, Ap: eitha gwir. A ma gyda ni hanes'u tithienhw, sy
wedi dod yn llyfre safonol.
AP MWYDYN.: Os, ôs. A ma beirdd yn gallu gweld pethe na wêl pobol erill.
NED FFAGWR: Eitha gwir. Ond Ap, os iti'n mynd i gwpla'r pishin yna sy gent ti
nawr, a'i neyd e gyd dy hunan, iti'n ffwl, a gweyd stori blaen tho ti. Nid
felna ma cystadlu'r dyddie hyn. Gofyn i Watcyn Wyn am dy helpu di iddi gwpla
fe, a gofyn i ryw frawd yn yr un winidogeth iddi ysgrifennu fe mas iti. Dyna
fel ma nhw'n ennill cadire a chorone, y dyddie hyn, medde nhw.
AP MWYDYN: Fe gewn weld, Ned, os joint companies yw hi; ond de fe: a
pheth da yw rhoi "help llaw" i frawd, onte? A ma'r apostol yn gweyd
tho ni am ddwyn beichie'n gilydd, os wy'n cofio adnod y gyfillach yn iawn.
|
|
|
(delwedd 4513c) (tudalen 60)
|
NED FFAGWR: Odi, odi: ma e'n gweyd rhywbeth felna yn yr hen gyfieithad, a wy
inne yn i gefnogi fe.
AP MWYDYN: Wel, os wyt ti'n i gefnogi fe, wy’n shiwr fod Paul yn falch — yn
enwedig heddy, pan ma nhw’n gweyd nag odd a ddim mor shiwr o'i fater, wedi'r
cyfan. Ond gad i ni fyad ati ddi eto Nawr, os ôs rhaid i ti weyd y "twpto"
na, gwêd e'n ddishtaw. Mi â inne ’mlân mor ddishtaw a galla'i â'r gân o glod
ma, hefyd. (Yn ddistaw): Ble 'rown i, hefyd, O ie —
... "Dyn uwchnaturiol, gwyrth i'r oesoedd oedd,
.....Dyn llawn o'r nef "...
NED FFAGWR: Etwpsa, Etwpsas, Etwpse. Ma'n rhaid i fi'u dysgu nhw i
gyd, er y mod i'n gwbod na ddwa'i ddim yn gamster arnyn nhw byth, a finne
nawr yn — wel, dros bump-ar-hugen. Pam na fydde'n haddysg ni ar
linelle gwell? Am yr help roith y tipyn Greek nâf fi i fi, mi allai heddy gâl
y cwbl, a mwy o lawer, wedi 'i weyd mewn llyfre Sisneg gan specialists.
Ond yw peth fel hyn yn ofnadw?
AP MWYDYN: (yn ail-adrodd, gan fethu gorphen y llinell):
.... “Dyn llawn o'r nef, o’r nef"...
Gad dy stwr, bachan; gad i fi gâl gweld os galla'i gwpla'r lein ’ma—
.... “Dyn llawn o'r nef"...
NED FFAGWR: Bachan, bachan, dyna gòp i gwpla honna! Alle ti ddim i gweyd hi
fel hyn?
..."Dyn llawn o'r nef, ac uffern, yn eu tro."
Etwptomen, etwptou, etwpte.
[Curo wrth y ffenestr.
Pwy sy na nawr, fachan? Wy'n ffili’n deg a diall fel ma'n ffenest ni'n dala.
Ma'n câl i thapo a'i thapo, o wech o'r gloch soi’n ddiddeg, bob nos yn
regilar! Cer i'r drws, Ap.
[Wedi iddo fynd]
Harri Gneyd Dim sy ’na nawr, wy'n shiwr. Pam na rosiff e gatre i neyd dim, yn
lle dod ar hyd dai bechgyn erill, iddi helpu nhwate i neyd dim. Ond dyna —
ini gyd am argyhoeddi rhywrai ma’n ffordd ni o fyw sy ore.
[Harri yn dod i fewn.
Wel, Harri, shwd ma'r gwaith yn dod yn mlân, fachan? Weles i di 'riôd yn
cwyno. I ti'n well na'r rhan fwya ohonnon ni fanna. Ma'n rhaid dy fod ti’n
gallu gwitho'n gloi anghyffredin. Shwd i ti'n gneyd, Harri?
HARRI GNEYD DIM: Dim o dy snaps di, Ffagwr. Dyna lle i ti â dy Greek,
a dy Greek yn ddigon i droi ar stymog dyn, byth a hefyd.
NED FFAGWR: Pam na rosi di gartre, ynte, bachan? ne fynd i le sy'n taro dy
stymog di'n well?
HARRI GNEYD DIM: 'Wel, mi weda’i tho ti, Ffagwr: ma gen i genhadaeth bwysig
yn y lle ma. Wy i'n teimlo ma 'gwaith i yn y lle ma yw cadw bechgyn o dy short
|
|
|
(delwedd 4514b) (tudalen 61)
|
di rhag cyflawni hunan-laddiad. A dyna lle wy i’n mynd bob nos yn rownd i'r
bechgyn wy'n weld welwa yn yr ysgol yn y dydd; — ag wyt ti ddim yn credu fod
gen i waith pwysig? Ap, ma llwer o sôn y dyddie hyn am ddynon â neges gyda
nhw, ag wy i'n credu fod dynon call y'n dyddie ni wedi ffindio neges i lwer
dyn ar ol iddo fe farw; ag wrth gwrs, am bethe fel hyn ma'r dynon mwya'n câl
’u talu. Wel, w i'n teimlo cyn i fi farw fod neges gen i; ag os byddi di am
neyd papyr i Gymmrodorion Llunden arna' i, dyna'r penawd i ti: "Neges
Dyn Segur." Ond dyma rywrai'n dod i boeni'r Ffagwr eto.
[Wil Pregethwr a Dai Gwitho'n Gynnar yn dod i fewn
AP MWYDYN: Wel, boys, ddethoch chi o'r gymanfa'? Shwd gymanfa gesoch chi?
WIL PREGETHWR: Ardderchog, bachan.
DAI GWITHO’N GYNNAR: Strokes ofnadwy, boys. Ma Wil ma yn i chapso ’i y
nawr. Stim shwd beth i neb sefyll làn ar i ol e. Fe nath iddi nhw i gydsefyll
ar ’u trâd, y ddo — do obrysur [sic; o brysur = yn wir].
NED FFAGWR: [O'r neilldu]: Pan rois e'r emyn mas, sposo.
DAI GWITHO’N GYNNAR: Fe bregethodd am dri chwarter awr solid.
AP MWYDYN: Do fe, Wil? Os do fe, rôdd ishe clymu dy ben di’n dost. Pwy reswm
'sy miwn peth felna? A phwy waretêg ôdd i'r bachan ôdd ar dy ol di? A pheth
arall, os credi di fi, ’dyw pobol ddim yn moin mwy nâ haner awr o bregeth man
pella gan stiwdent.
DAI GWITHO’N GYNNAR: Sêt ti'n clywed pregeth Wil, nid dyna beth wedet ti,
wy'n shiwr. Wil, gwêd gwpwl o dy strokes tho fe.
AP MWYDYN: Well iti bido, Wil, ne fe gai di clywed nhw am y mish nesa yn eco
yn yr ysgol bob dydd. I ti ddim yn cofio am y ferch ifanc wedi dod i'r
cyfeillach “achos fod Mary wedi dod," — fel ôdd y stori yn tyfu o ddydd
i ddydd, nes iddi ddod yn “fechgyn ifenc ar y galeri, pam i chwi wedi dôd ’ma
heno — achos fod Mari yma?” Well i ti bido, Wil; stim sy’n well ne'n wâth nâ strokes
i neyd sport ohonynw.
WIL PREGETHWR: Weda’i ddim ohonni nhw, te. Ond nid y pregethu ôdd y peth, y
ddô, boys. Y sport
geson ni yn y lle ôn ni’n aros ôdd y peth. Provoco'n gilydd, a thynnu’n
pregethe'n gate, lle clywe'r hen ddyn a'r hen fenyw; a gweyd hen scetshis
doniol am hen bregethwyr, heb ddim ond lliw’r gwir arny nhw. Dôdd yr hen ddynon ddim wedi meddwl yriod fod stiwdents mor ddoniol.
AP MWYDYN: Dyna hi! ôn i'n meddwl ma pethe felna fydde gyda chi i adrodd, y
sèt. Ma'r chwara ŷch ch'n [sic; = chi’n] neyd â phregethe'ch gilydd yn
gneyd mwy o ddrwg i chi nag ych chi'n feddwl. A ma'r sport i ni'n neyd yn y
trêns wrth roi hanes y Sul, lle clywo pob short o ddynon, ac wrth dynnu
pregethwyr da i lawr, yn gwneyd mwy o ddrwg o lwer nag itha fŵs yn y
Cross Inn, alla ’i weyd tho chi. Boys, ma'n rhaid i ni fod yn fwy gofalus.
|
|
|
(delwedd 4514c) (tudalen 61)
|
DAI GWITHO’N GYNNAR: O! ’r sant ag e! Beth yw cymint ag i ti wedi glywed?
Beth se ti gyda ni'n cysgu? Weda ’i ddim o'r cwbl tho ti, rhag ofon i fi
shoco bachan bach mor sanctaidd. Ond mi weda 'i tho ti na cheson ni ddim
cymint o rali yriôd o'r blân. Ac ar y bore, dyma'r hen fenyw yn dod làn i
gnoco, a dyma Wil yn nido lawr, fel ôdd e, i'r drws; a dyma'r hen fenyw yn
câl ofon, ac yn nido 'n ol, ac i lawr dros y stire; a se hi ddim ond câl ei
lladd, fe fydde'n ddigon am i bywyd hi. A wedi i ni ymolch, dyma ni 'n gadel y dwr yn y basin, ac yn
dodi 'r jwg yn i genol e! Fe fydd yna le gyda'r hen fenyw pan wel
hi bopeth netho’n [sic; = nethon] ni!
AP MWYDYN: Wel, boys, boys! Fanna i chi to? I chi ddim yn dyall y'ch
dyledswydde i gymdeithas yn well nâ yna yto? Dyna drueni na fydde'n [sic; =
fydden] ni'n câl dysgu’r pethe bach mwya pwysig i ni ar y start. Pan weles i
napcins, y tro cynta, ôn i ddim yn gwbod yn y byd beth ôn nhw. On i 'n meddwl
ma dols ôn nhw. A dyna debyg i ddynon wedi câl 'u codi dan stwc yw'r rhan
fwya ohonon ni pan y'n [sic; = yn] ni 'n mynd ar hyd dai dynon. Fe fydde
cwpwl o lesyns ar y ffordd i fita bwyd, neu ar y ffordd i fihavio mewn tai
dierth, yn llwer mwy o werth i ni nâ chant o lesyns miwn Greek.
WIL PREGETHWR: Gwell i ti; Ap, starto class i ni, te.
AP MWYDYN: Cymer di 'e fel mynni di, gei di weld faint o wir sy ynddo fe, mas
law.
NED FFAGWR: Gwedwch chi beth fynnoch chi, boys, ma ’n rhaid i fi [sic; =
fynd] mynd mlân a'n gwaith.
DAI GWITHO’N GYNNAR: Cera ona, Ffagwr: paid a bod yn gymint o hen gonin. Paid
a lladd dy hunan cyn pryd. Dewch, boys, beth se 'n ni 'n câl cân.
"Ni bydd Euclid" ynte.
[Dai Gwitho’n Gynnar yn canu, a’r lleill yn uno, âg withrio Ned Ffagwr, yr
hwn a gamdrinir gan y lleill pan yn ceisio gweithio.
“Ni bydd Euclid yn y nefoedd,
Ni bydd Groeg yn Nhy ein Tad;
Ni ddaw Lladin nac Aigebra
Byth o fewn i'r Ganan wlad.
O! na wawriai, &c.,
Bore llosgi'r rhain i gyd."
NED FFAGWR: Wyt ti wedi gneyd dy waith erbyn fory, Dai?
DAI GWITHO’N GYNNAR: O, odw i! Mi gnês i e, bore heddy, ar ol dod 'n ol, i
gâl e o'r ffordd.
NED FFAGWR: O, wy' i 'n gweld! Gwitho 'n gyanar wyt ti o hyd. Fe fues yn yr
ysgol y bore ma. Wy yn mynd, bob bore dydd Llun, achos wy i ’n meddwl ma miwn
ysgrifennu Gymrâg wy 'i fwya ar ol; a wy i bron credu, wrth gâl pip dros rai
o’ch papyre chithe, ma dyna sy fwya ar ol gan bedwar o bob pump o chithe
hefyd.
DAI GWITHO’N GYNNAR: Pam na wedet ti bump o bob pedwar, gan dy fod ti mor
wybodus yn y'n [sic; = yn] cylch ni?
NED FFAGWR: Wel, mi weda tho ti, ôn i bron gweyd pump o bob pump: achos wy i
'n gwbod nag ôs dim naw o bob deg o'n pregethwyr ni, ar ol bod trwy 'r coleg,
yn
|
|
|
(delwedd
4515b) (tudalen 62)
|
gallu ala gair i'r Wasg yn Gymrâg, a ma nhw'n dysgu lot o rywbeth yn y
coleg hefyd, medde'n [sic; = medden] nhw!
D.G.G: Pwy ots am allu scrifenu Cymrâg, os galli di i chanu ddi? I ti'n gwbod
fod deg gair o Latin yn ffortiwn i ddoctor, a mae'n llawer mwy o
arwydd dy fod ti'n scoler dy fod ti'n gallu dodi ambell i air o Greek miwn
yn dy bregeth na dy fod ti'n gallu dodi Cymrâg pert at i gilydd.
NED FFAGWR: Wel, dyna ddigon ar beth felna nawr. I ti, Dai, wedi gneyd dy
waith ; a dyma ti'n dod yma i'n storo i pan wy i'n câl siawns i ddechre ryw
dipyn. Bachan, ble ma dy gydwybod di? A tithe, Wil, cer gatre i neyd dy waith
cyn tri o'r gloch y bore, yn lle dodi adrodd dy drics ar hyd y lle, fel hyn.
A pheth arall, pwy sy'n mynd i witho ma ar ol i chi fod yn llanw'r rw^m â mwg
dybaco, fel hyn? Wy am ddodi notis làn yma: "No smoking allowed. Fifteen
minutes here for good-for-nothings." Ma'n bryd i ni ddiwygio os i ni am
neyd rhywbeth, boys.
HARRI GNEYD DIM: Ap, odi hwn fel hyn yn fynych? Cofia di, Ffagwr, ma peth
ofnadwy yw bod yn Greek-mad. A ma'n rhaid i ti gofio hefyd mai nid ar
ddysgu Greek y bydd byw stiwdent: ma’n rhaid i ti ddysgu byw dyda
dynon. Ap, ’rhen Fardd, shwd ma'r awen?
AP MWYDYN: Wedi rhewi, fachan.
HARRI GNEYD DIM: On i’n meddwl dy fod ti’n mynd i gâl cader am gân o glod i
ryw hen lidir neu gilydd, ddiwedd y flwyddyn ma.
AP MWYDYN: Wy i wedi danto ta. Dwy
ddim yr un enwad â'r beirniad.
HARRI GNEYD DIM: Twt, myn "help llaw" rhywun.
AP MWYDYN: Ie, se'n i'n câl "help llaw" rhywun ma'i dro fe bron
dod, fe fydde shiawns 'da fi. Heb hynny, ma arna'i ofon bydd gen i fwy o
"wallgofrwydd" nâ barddoniaeth.
HARRI GNEYD DIM: Ma llaw arall, yn wir, yn dofi syniadau gwylltion. Tria, a
thria gâl bardd cryf âg ysgrifen dda gyda fe. Falle galle ti gâl i help e
hefyd i berffeithio tipyn.
AP MWYDYN: Na, wy i'n credu ’rarhosa i nes bydda'i mas o'r coleg. Falle, ar
ol i fi gâ1 y'n [sic; = yn] ordeinio ca'i ddod i faes cymanfa i bregethu
gyda'r beirniad.
HARRI GNEYD DIM: Twt, paid aros heb gader gymint a hynny. Os 'da ti ddim
cyfell yn mynd i faes cymanfa ’nawr, neu gyfell i'r cyfell, ne rywbeth. I ti
ddim gwell o fynd i Steddfod heb wbod pwy sy'n cal y gader fish ymlân o lia.
AP MWYDYN: Na, dwy i ddim ond stiwdent bach, a dos da fi ddim cyfell pwysig i
gâl yto. A pheth arall, dwy i ddim yn gwbod i sicrwydd beth i weyd am yr hen
scoler sy gen i yn yr eisteddfod yma.
WIL PREGETHWR: O, mi ro i boints i ti, Ap. Clywest ti ddim o'r stori am
Charles, Penallte?
AP MWYDYN: Naddo i'n wir. Beth oedd am dano fe, bachan?
WIL PREGETHWR: Wel, 'rôdd steddfod gyda'r Methodistiaid ym rhywle yn Shir
Fynwe,
|
|
|
(delwedd
4515c) (tudalen 62)
|
a dyma'r pwyllgor yn mynd at hen scweiar ôdd yn y cylch (nid cylch yr Orsedd,
wrth gwrs — ond yn y gymdogeth), ac yn gofyn os dele fe i lywyddu'r steddfod.
A dyma Charles, Penallte, yn gweyd dele fe: "a mi roi ddwy gini o wobor
i chi," medde fe, "os ca i ddewis testyn, amodau, a beirniad."
Hynny fu. Y testyn ddewisodd e ôdd, "Charles, Penallte: Cân o Glod;"
yr amodau odd "nag ôdd dim da na dim drwg yn càl 'u gweyd am dano
fe;" a'r beirniad, "Islwyn." A dyma'r steddfod yn dod, ac
Islwyn yn dod mlân i ddarllen ’i feirniadaeth. "Ma wyth wedi eu
derbyn," medde fe; "ond y mae saith wedi methu cydymffurfio â'r amodau,
ac oherwydd hynny allan o'r gystadleuaeth. Un sydd wedi dàl at yr amodau, ac
y mae hwn yn llwyr deilyngu'r wobr." A dyma alw am y buddugwr; ac wedi
iddo ddod i'r staj, fe welwyd taw hen grydd y pentre ôdd y bardd buddugol!
Rôdd pawb wedi synnu, a dyma alw am y gân.
“Alreit," medde ’rhen grydd; "ac os ych chi am, mi cana hi i
chi nawr. Ar fesur 'Harlech' ma hi." A dyma fe'n ’i chanu ddi bant.
DAI GWITHO’N GYNNAR: Mas a hi te, Wil, fel 'r hen grydd. Ry'n ni gyd yn gwbod
dy fod ti’n lico clywed dy laish.
WIL PREGETHWR: Na, 'n wir; wy i, 'r un peth a’r cantwyr mawr i gyd, âg anwyd
arna' i.
DAI
GWITHO’N GYNNAR: Twt, y baw ! Starta di ddi, a mi joinwn ni yn y diwn, ta
beth. Wy i'n gwbod tiwn "Harlech" pan o'n i'n ware whistl din.
WIL PREGETHWR: Mi tria hi ddi, te, a fe allwch chithe joinio yn y gire gyda'r
diwn, achos dim ond doi air sydd'u dysgu. Ond cofiwch chi bido troi i ganu "Ar hyd y nos." Dyma
ma pawb sy'n canu heb nôts yn neyd, medde Dr. Jones.
HARRI GNEYD DIM: O 'rhen Jones! Fe fues i'n meddwl dechre dysgu canu gydag e.
A dyma fi'n mynd ato fe i ofyn am i derms e. "Gini'r cwarter
cynta; haner gini'r ail gwarter." "O,"
meddwn i, "ddechreua i'r ail gwarter;" a ddechreuais i byth. Ond
dere, Wil, i ni gâl cân y crydd ar fesur "Harlech."
WIL PREGETHWR: [Yn canu'r ddau air drosodd hyd derfyn y dôn, a'r lleill yn
uno]:
“Charles Penallte, Charles Penallte,
Charles Penallte, Charles Penallte, &c."
Os i tithe, Ap, am ennill ar y gân o glod yna, gna dithe rywbeth tebyg.
AP MWYDYN: Ma arna i ofon mai dim ond Islwyn fydde'n debyg o roi'r wobor am
gân fel honna. Os na ganmoli di’r cythriled gwitha mas, y dyddie hyn, i ti
ddim gwell o gynnyg. A ma cymint o ochor, bachan. Rôdd hyd yn oed Herber yn
gweyd i fod e'n hoff o "ddangos ’i ochor;" “ac ochor dda sy gen i
hefyd," medde fe, gan roi i ddwy law arni.
DAI GWITHO’N GYNNAR: Twt, boys, wela i ddim argôl caiff Ap gader eisteddfod
am dipyn bach. Nes penelin na garddwrn, a phwy sens sy miwn rhoi bara'r plant
i'r cwn. Yn wir i chi, wy i'n credu y gallwn ni, sy'n nabod Ap ore, roi mwy anrhydedd
arno fe yma
|
|
|
(delwedd 4516b) (tudalen 63)
|
wrth roi cader iddo fe nag a all parsel o anwybodusion partiol fel sydd
yn yr eisteddfodau ma. Darllen y feirniadaeth, Myrddin.
H.G.D. Wel, rhag i mi eich blino â meithder, oblegid y mae cystadleuaethau
pwysig a dyddorol y cerddorion yn galw am gael dod ymlaen, ni wnaf ond
darllen yr ychydig frawddegau diweddol yn y feirniadaeth. Caiff y beirdd sydd
wedi bod yn hir ymdrafferthu i gael eu cyfansoddiadau yn deilwng o'r
gystadleuaeth bwysig hon gyfle eto i ddarllen y feirniadaeth gyfiawn yng
nghyfansoddiadau'r Eisteddfod, y rhai yn sicr a gyhoeddir cyn y cyll y
pwyllgor hawl arnynt,—o leiaf, cyhoeddir dwsin uwchlaw y nifer gofynnol i’r
tanysgrifwyr gael copi! O'r tri-ar-hugain, y tri sy'n rhagori ar y testyn
clodwiw hwn ydynt "Gelwch fi Mara," “Con Dolore," a "Dan
yr Helyg.” Mae y cyfansoddiadau hyn, fel y sylwyd eisoes [wrth gwrs, mae
hynny yn y rhan flaenaf o'r feirrniadaeth] yn adlewyrchu clod bythol ar y
pwyllgor [foneddigion, cofiwch am danaf y flwyddyn nesaf eto] ac ar yr
ymgeiswyr. Yn wir, gwobrwywyd eu salach, lawer tro, yn yr Eisteddfod
Genedlaethol [ta ddim ond pryd cês i'r gader']. Mae y dorch yn dyn rhwng “Con
Dolore" a "Dan yr Helyg,'' ond oherwydd rhesyrnau neillduol, rhaid
i'r wobr a'r gadair fynd, y tro hwn, i “Gelwch fi Mara,'' ar air
cyfeillgarwch a chydwybod India rubber.
WIL PREGETHWR: (yn gwaeddi): A yw "Gelwch fi Mara" yn
bresennol? Os yw, safed ar i’ drâd, a daw dau brif-fardd i'w hercyd i’r
llwyfan.
[Ap Mwydyn, wedi dianc yn ddistaw o'r llwyfan, yn sefyll i fyny yn y dorf.
LLAIS O’R DORF: Ishte lawr, ishte lawr! Beth ma'r hen ioncyn coch bach yna yn
sefyll làn? Ishte lawr, bachan bach, i mi gâl gweld pwy yw e.
WIL PREGETHWR: O, dacw fe! Ned Myrddin
a Dewi Llwchwr i'w hercyd i'r llwyfan,
[Harri Gneyd Dim, a Dai Gwitho’n Gynnar, yn mynd i gyrchu'r bardd.
Yn awr, yn absenoldeb y band i ganu “See, the Conquering Hero Comes'' ni gawn
uno i ganu yr hen alaw genedlgarol, "Y Sospan Fach; " Yr ydych i
gyd yn cofio'r
geiriau.
|
|
|
(delwedd 4516c) (tudalen 63)
|
Byddwch cystal ag uno yn y cydgan.
LLINOS NANT MELIN:
m, l, l, t, d, l, t
Y cyn - taf dydd o'r gwyl - ie
t, d, d, r, r, m
Fy nghar - iad roes i mi
Cyd.
m, m, m, r, d, t
Y par - ot a'r pren pêr.
W. P.: Yn awr, fe geir anerchiad gan y beirdd. Wy i, fel —— , er mwyn
bod yn deilwng o'r amgylchiad, wedi cael prifardd i neyd englyn i mi: —
Dyma'r bardd hardd ei awen — a godwyd
I gader Ceridwen;
O, mae e'n berchen aden — eill hedeg
I ben stac gwaith Pantyffynnon a ’n ol,
miwn eiliad a hanner.
[Myrddin yn nesa.
HARRI GNEYD DIM: Dyma'r bardd am ganu clod,
Dyma'r sebonwr gore'r iôd;
Dim ond coron rows e i'r beirniad,
A dyma'r cewri dan ’i drôd.
[Meudwy Pont y Bettws.
NED FFAGWR: Hwre, clywch, clywch!
Dyma gawr fel ceiliog gwair
Yn codi i ben cadair,
A dim yn uwch.
[Dewi Llwchwr yn ola.
DAI GWITHO’N GYNNAR:
Dyma brif fardd yr oesoedd—a godir
I gadair y nefoedd;
Fe gurodd hwn rai cannoedd—a ma lot
o honynw yn treio
Canu iddo fe'n awr ar y staj âg asgwrn
yn ’u gwddwg nhw.
DIWEDD:—"Hen Wlad fy Nhadau."
HEN FYFYRIWR
|