|
|
(delwedd 4782) (clawr blaen: tu allan)
|
Rhif. 11.]
TACHWEDD, 1875.
[Cyf. IV.
BLODAU YR OES
A’R YSGOL
CYHOEDDIAD MISOL
AT WASANAETH
IEUENCTYD CYMREIG AMERICA
CYHOEDDEDIG GAN
Y PARCH. M. A. ELLIS, M. A., BANGOR, PA.,
A’R
PARCH T. C. EDWARDS, (Cynonfardd),
WILKESBARRE, PA:
CYNWYSIAD
Tu dal.
Fy Nhad 329
Y Dosbarth Gramadegol 331
Help i’r Tlawd 332
The Ruined Castle 334
Dyfenon Diliau Mêl — Adnodau y Mis 335
Merched Hynotaf y BeibI, a’u Nodweddiadau 336
Paham y dylid bod yn fwy gofalus o Blant yr oes hon, &c 339
Gair o Gymru at Blant America 340
Dosbarth y Beirdd 343
Ysgol yr Aelwyd 343
Perygl yr Awr Segur 344
Tachwedd 344
Y Gongl Gerddorol 345
Mae’r Gauaf yn Dod 347
Bod yn Ddyn 347
lesu’n Marw 348
CONGL YR ADDRODDYDD —- Pethau Rhyfedd America 349
Y Llew 350
Dwyn Rhagrith i’r Golwg 351
Pa fodd i Gredu yn Iesu Grist 352
Y Llwyddiant mawr fydd ar Grefydd 353
lesu Grist a’r Plant 354
Henry M Stanley 355
Adolygiad y Wasg — Cofiant y Parch. James Davies 357
Cor y Plant 358
Anerchiad y Trysorydd 358
Tôn — Suffer Little Children, &c. 359
Y Fasged Sglodion 360
UTICA, N.Y.
T.J. GRIFFITHS, ARGRAFFYDD, EXCHANGE BUILDINGS.
1875
|
|
|
(delwedd 4783) (clawr blaen: tu mewn)
|
At ein Gohebwyr.
CAREDIGRWYDD â ni fyddai i bob un na chaffo y BLODAU yn brydlon, anfon gair
atom yn ddioed. Gwneir y diffyg i fyny ar
fyrder.
POST OFFICE ORDER fyddai oreu am bob arian i’r BLODAU. Ac er mwyn
trefn business y BLODAU, anfoner yn
ddieithriad i’r Parch T, C. Edwards (Cynonfardd),
Wilkesbarre, Luzerne Co., Pa. Efe yw y Trysorydd.
CYDNABOD ARIAN. Cydnabyddir derbyniad pob arian yn ddioed trwy ddychwelyd Postal Card.
Anfoner pob arian ac orders i’r Parch. T. C. EDWARDS (Cynonfardd), Wiikes
Barre, Luzerne Co., Pa.,
a phob gohebiaeth i’r Parch M. A. ELLIS, A. M., .Bangor, Northampton Co., Pa.
Anfonir Cylchlythyrau — cymerer sylw o honynt. Dyma’r cynygiad goreu a gafodd
plant Cymreig America
erioed. Codwch ati o ddifrif.
COR Y PLANT. Mae’n hy-fryd cyf-ar-fod yn nghydgor y plant.
Yr Ail Argraffiad, wedi ei ychwanegu a’i ddiwygio; sef HYMNAU A THONAU
GWREIDDIOL A DETHOLEDIG, at wasanaeth yr YSGOLION SABBOTHOL A’R BAND OF HOPE.
Gan y Pencerdd W. AUBREY POWELL
PRIS...50 CENTS Y COPI, Neu $2.25 Y DWSIN
Y mae yn cynwys 96 o dudalenau, wedi ei rwymo yn hardd. Anfonir specimen copy yn ddidraul trwy y post ar dderbyniad y pris.
Address
J. W. TAYLOR. 15
Vandewater St.. New York,
Neu at yr Awdwr, W. AUBREY POWELL, SCRANTON,
PA.
Y PERRY ORGAN
Mae y PERRY ORGAN, a wneir yn Wilkesbarre, Pa, wedi cyfarfod â llwyddlant
anarferol yn holl gylchoedd cerddorlaeth, o herwydd
RHAGORIAETH Y GELFYDDYDWAITH.
PRYDFERTHWCH Y CYNLLUNIAU, A
PHEREIDD-DRA A NERTH Y SAIN;
Tra y mae y prisiau yn cyfateb i sefyllfa isel bresenol masnach. Wrth ddwyn
yr ORGANS i bris isel, nid yw y gwneuthurwyr yn arbed unrhyw draul er sicrhau
y rhanau gweithredol, a’i donyddiaeth, o”r Defnyddiau Goreu, gan gynilo yn yr
allanolion diangenrhaid. Mae y cases wedi
eu cynllunio yn dra chwaethus, ac o ddefnydd prydferth a hir-barhaol — yn
gyfartal mewn addurn i unrhyw Organ sydd yn awr ger bron y wlad.
Mae genym Agents yn agos yr holl brif ddinasoedd yn yr Unol Dalaethau,
Lloegr,a Chymru. Ymrwymwn i bob SICRWYDD a ddyry ein Goruchwylwyr; a
disgwyliwn iddynt hwy beidio dweyd dim dros y PERRY ORGAN nad ydynt yn gredu
yn gyflawn. Yr ydym am gael trafodaeth onest ac eglur.
Gwahoddwn gerddorion yr YSGOL SUL GYMREIG yn America i feirniadu ein
hofferynau, a’u cydmaru ag eraill, a barnu drostynt eu hunain. Byddwn barod i
ateb pob gofyniad yn nghylch prisiau, cynlluniau, &c.
Cyfeiriwch, PERRY ORGAN CO., Wilkesbarre, Pa. Mae un o’r PERRY ORGANS yn ein capel ni er ys dwy flynedd. Chwareuir
ef i’r Band of Hope, yr Ysgol Sul, a’r gwasanaeth eglwysig. Dyry foddlondeb perffaith.
CYNONFARDD.
|
|
|
(delwedd 4784) (tudalen 329)
|
BLODAU YR OES A’R YSGOL.
RHIF 11. TACHWEDD, 1875. CYF. IV.
FY NHAD.
Mae yn bryd i ’nhad ddod adre. Mae yr haul wedi myn’d i lawr; bydd
yr awyr yn dywyll iawn yn fuan. Byddai yn dda gen’ i tai e yn dod yn awr.
Carwn ei wel’d yn fawr. Wel, fe ddaw yn y man.
Mae ’nhad yn hoff o’i blant bach. Wrth ei waith y mae yn awr. Ac y mae yn
meddwl am ei ferch fach y mynyd hwn. Pan y daw i’r ty, cymer fi ar ei lin, a
thyn ei law dros fy mhen, a rhydd gusan ar fy moch.
Mi wn i ei fod yn fy ngharu. A gwn, hefyd beth a ddywed pan ddaw i mewn. Fe
ddywed: “A fuost ti yn ferch dda heddyw, ’mhlentyn i?” Mae yn rhaid i mi
dreio bod yn dda, i mi gael dyweyd, “Do, nhad,” wrtho. Mor falch fydd i
glywed hyny! Mae ’nhad yn teimlo yn ddrwg bob amser y ca ddeall nad wyf fi
wedi bod yn dda. Rhaid i mi fod yn ufudd iddo, a gwneyd pobpeth a baro i mi.”
O, dyna fe! “ ’Nhad, y mae
yn dda iawn gen’ i eich gwel’d yn dod yn ol. Dowch i’r ty, nhad. Mae mam yn
dysgwyl am danoch. Mae y swper ar y bwrdd, yn barod. Dyma y te, a’r sugr; y
cig a’r ‘menyn; y bara a’r llaeth — pob peth yn barod, ’nhad. Dowch at y
bwrdd, ’nhad, i’r gadair hon. ’Does neb byth i gael eiste’ yn hon ond y ch’i.
Gaf fi eiste’ yn eich ymyl, ’nhad?”
“Wrth gwrs, fy mhlentyn,” ebe y tad.
|
|
|
(delwedd 4785) (tudalen 330)
|
Dyna y swper
drosodd, a phawb yn eistedd mewn ystafell arall, o’r neilldu, fel pe yn
dysgwyl wrth y tad ddechreu siarad.
“Yn awr, ’nhad,” ebe y ferch fach, “a ’newch ch’i siarad a fi?”
“Gwnaf, fy ngeneth fach: yr wyf yn leicio siarad â thi, bob amser. A
wyddost ti pwy a’th wnaeth di?”
“Gwn, Duw a’m gwnaeth.”
“A wyddost ti pwy ddaeth i gadw pechaduriaid?”
“Gwn, IESU GRIST. Efe ddaeth i’r byd i gadw pechaduriaid.
“Da iawn, ’merch i; ond
pwy o honynt a gedwir ganddo?”
“ Wel, pob un a.gredo ynddo.”
“A ydyw yr IESU yn abl
i’th gadw di?”
“O, ydyw; waith y mae yn
DDUW; a gall DUW wneyd pob peth. Gall IESU GRIST fy nghadw i, a ch’i’, a mam,
a Robert, a Mary, a phawb.”
“Ie, fy mhlentyn, ond a
ydyw efe yn barod i wneyd hyny?”
“Mae yn siwr ei fod, nhad;
mae wedi marw ar y groes i hyny. Ni fuasai yn marw ar y groes
drosom os nad oedd yn leicio ein cadw.”
“Da iawn, fy merch fach; ond y mae yn
bryd i ti fyn’d i dy wely yn awr. A oes rhywbeth wyt ti yn arfer wneyd cyn
myn’d i gysgu?”
“Oes; y mae yn rhaid i mi fyn’d ar fy ngliniau, a gweddio ar IESU
GRIST cyn hyny.
“Am ba beth y gweddii di?”
“Mi weddiaf am iddo faddeu pob peth a wnes o Ie heddyw, a phob amser.”
“Dim arall?”
“Mi weddiaf am iddo fod yn dda wrth fy nhad, a mam, a Robert a Mary,
a’n gwneyd ni oll yn dda, ac am iddo ein cymeryd ni oll i’r nefoedd yn y
diwedd.”
“A all yr ARGLWYDD dy
glywed yn gofyn pethau iddo?”
“O, gall; y mae DUW yn mhob man ar yr un waith. Y mae yn y nefoedd. Y
mae ar y ddaear. Y mae yn gwel’d ac yn clywed pob peth. Yr wyf yn siwr ei fod
yn clywed pob gair a ddywedaf wrtho. Nos dawch, ’nhad!”
“Nos da, ’mhlentyn anwyl.”
—Doethineb grwca ydyw cyfrwysdra; nid
oes dim yn fwy niweidiol na bod dynion cyfrwys yn cael eu cyfrif yn ddoeth.
|
|
|
(delwedd 4786) (tudalen 331)
|
Y DOSBARTH GRAMADEGOL, {GRAMMAR CLASS}.
LLYTHYRAU ODDIWRTH YR EFRYDWYR.
I.
Syr — Ni chefais erioed y fath bleser wrth geisio dysgu ysgrifenu yn yr
laith Gymreig, ag ydwyf yn gael er pan yn aelod o Ddosbarth Gramadegol y
BLODAU. Mae y gwersi mor hawdd, mor eglur, ac mor ddifyr, fel na flinais o
gwbl yn ceisio eu. dysgu. Yr wyf yn credu fy mod yn eich deall gyda golwg ar
ddyblu llythyrenau. Ac yr wyf yn meddwl nas gallaf anghofio y wers, nac annobeithio dysgu y rhai a gawn eto.
Goreu po fwyaf gawn o honynt, canys nis gallwn fod yn annedwydd tra yn y Dosbarth Gramadegol. Diolch yn fawr i chwi am eich llafur ar ein rhan. Eich ysgolor,
Brynglas, Medi 14, 1875.
MORGAN.
II.
ANWYL ATHRAW: Yr oeddwn bob amser yn meddwl nas gallai merched wneyd fawr o
honi gyda Gramadeg Cymreig; ond, yn wir yr wyf fi wrth fy modd gyda’r gwersi
a gawn genych. Yn Saesonaeg yr oeddwn i yn ysgrifenu y cwbl dan yn awr; ond,
bellach, y mae yn well genyf y Gymraeg. Y llythyrenau dwbl oedd yn fy nrysu
bob amser; ond bellach nid oes arnaf eu hofn o gwbl. Mae gwell sense yn eich addysg chwi yn eu cylch
nag a gefais erioed. Gallaf yn rhwydd ddeall fod dwy n yn annheg ac annuwiol. Mi wnaf fi yn lled dda
bellach, waith ni cha “eto,” a “hyny,” a “Chymry,” &c., lythyrenau dwbl
genyf fi byth; ond fe ga “annoeth”
ac annysgedig” ac annghyfiawn ddwbl n genyf fi hyd byth. Nid annghofiaf
byth eich caredigrwydd yn ein dysgu fel hyn. Yr wyf yn cofio atoch yn gynes.
Eich plentyn ufudd, ELLEN.
Penycaerau, ger Remsen, N. Y., Medi 11,
1875.
III.
ATHRAW HOFF: Caled oedd meddwl dysgu
gramadeg; ond, hyfryd yw y gwaith yn awr; ac am y llythyrenau dwbl yma, yr
oeddwn yn meddwl nas gallwn wneyd dim o honynt byth. Ond mae eich system chwi yn eu tori i lawr yn lled
dda; a gallaf yn hawdd ddeall pryd bydd eu hangen. Y Prif Lythyrenau, hefyd,
sydd wedl gofidio tipyn
|
|
|
(delwedd 4787) (tudalen 332)
|
arnaf; ond gwn, o hyn allan, yn mha eiriau i’w rhoddi. Ond y mae yr y a’r u yn pen gofid i mi: canys nid yw yr y yn cadw ei sain ei hun yn mhob gair. Cawn hi yn aml yn cymeryd
sain u. A ellwch chwi helpu ychydig
arnaf o’r drafferth hon? Drwg genyf eich poeni, ond gallwn feddwl taw goreu
po fwyaf genych y poenwn chwi. Diolch i chwi ana eich gwersi pleserus. Eich student,
Hafod Rufydd, Medi 77, 1875.
ROBERT.
IV.
ANWYL SYR: Yr wyf yn dysgu â fy holl egni. Mae arnaf eisieu curo y
bechgyn, os gallaf. Ni cha y llythyrenau dwbl fy atal ar fy nhaith yn awr;
ond mae i ac u yn poeni fy ysbryd yn aml iawn. A oes dim modd fy nghael i
allan o’r drafferth gyda y ddwy lythyren fach hyn? Os gellwch roi gair o
gyfarwyddyd, derbyniaf ef yn ddiolchgar iawn. Ewch yn mlaen gyda y gwersi
hyn. Yn wir y maent y pethau goreu gawsom ni, yr ieuenctyd yma, erioed.
Diolch byth am danynt. Byddwch wych. Ni cha y “dwbl” yma fy mlino mwy.
Eich serchog RACHEL.
Bryn Haul, Wis., Medi 7, 1875.
HELP I’R
TLAWD.
Mam, yr wyf fi wedi cael digon o swper da heno — bara da, a llaeth da, a
’menyn da, a phobpeth da; ond, cyn myn’d i’r gwely, a gaf fi dwymno fy nwylaw
a’m traed o flaen y tân siriol yma?”
“Cei, fy mhlentyn anwyl; ond boed i ti feddwl mor dda yw DUW i ti, yn rhoi
pob peth sydd arnat eisieu — swper da, a thân cysurus, a gwely cynes, ar
noson oer fel heno. Yr wyt wedi blino, a bydd yn hyfryd i ti gael rhoi dy ben
ar obenydd esmwyth i orphwys. Rhydd dy fam ddillad cynes arnat, a. digon o
honynt, hefyd. Mae y gwynt yn rhuo rhwng cangau y coed, a’r gwlaw yn curo ar
y ffenestri; ond ni cha fy mhlentyn niwed oddiwrth ddim tra yn cysgu yn dawel
yn ei wely bach, twt.”
Ebe y fam yn mhellach: “Yr wyf yn meddwl yn awr am y bachgen bach hwnw ddaeth
at y drws heddyw i ofyn am damaid o fara. Yr oedd ei ddillad yn hen a
charpiog; ac yntau, druan, yn flin iawn, wedi bod ar yr heol drwy y dydd: yr
oedd hefyd yn wlyb ac oer. Mae yn
|
|
|
(delwedd 4788) (tudalen 333)
|
byw mewn ty gwael
a thiawd; ac nid oes tân, ychwaith, yn yr ystafell lle yr erys ei fam! Yr wyf
yn deall i’r un bach fyn’d i fyny at ei fam, ac estyn allan ei ddwylaw oer
idd eu gwasgu rhwng ei dwylaw hi i’w cynesu: waith nid oedd tân ar yr aelwyd,
na modd ganddi i brynu dim i’w wneyd.”
“Mam,” meddai y bachgen bach, “ y mae
arnaf eisieu bwyd yn wir; pa Ie y mae fy swper?” Edrychai ei fam yn brudd, ac
isel iawn, a dywedai: “Fy mhlentyn anwyl, y mae pob tamaid o fara sydd yn y
ty ar y plate yna; a chefaist y
daten olaf i giniaw heddyw! Bwyta y bara yna, fy anwylyd; da iawn
fuasai genyf allu rhoddi mwy i ti.”
“Druan bach, tlawd! dyna’r dagrau yn rhedeg dros ei ruddiau; nis
gallai ymatal. Buan y mae yn gorphen ei damaid swper; ac wed’yn i’r gwely oer
i’r hen lofft. Prin, fy machgen i, y
gwnelet ti alw y lle yn wely. Yn y gongl draw y mae cywlaid o wellt — dyna’i
wely! Rhyw hen ddarnau o garped sydd ganddo i’w guddio — nid blancedi. Ar y
fath wely a hyn y rhaid i’r bachgen bach tlawd hwnw gysgu heno — y noson
wyntog, wlawog hon. Yr wyf fi yn caru, o ’nghalon, i ddyfod i fyny i wasgu y
dillad yn gynes o amgylch fy mhlentyn anwyl i; ac y mae fy mynwes yn gwaedu
wrth feddwl am fam dyner hwnw yn ei glywed yn cwyno ei fod yn oer a newynog,
pan yn myned i’w wely gwellt, a hithau heb allu ei helpu. Mae y gwynt yn
chwythu drwy yr hen ffenestr dyllog, a’l gwlaw yn curo ar yr hen dô; ond ar y
dyrnaid gwellt oddi dano y rhaid i’r tlawd bychan orphwys, a chysgu, os
gall!”
“O, mam, mam! a wnewch chwi ddanfon
rhywbeth iddo i’w fwyta, ac i’w roddi drosto i’w gynesu?”
“Gwnaf, fy anwylyd; mae Mary newydd fyn’d a bwyd cynes iddo ef, ac i’w fam, a
chyfferi hefyd; nid yw yn agos i iach.”
“Dillad gwely, hefyd, mam?”
“Ie, dillad, hefyd.”
“O, y mae yn dda genyf hyny. Yr wyf yn gobeithio y ca y bachgen tlawd hwnw swper da, fel y cefais
inau heno. A dyna falch fydd o.”
“Bydd yn ddiau; ond nac anghofiwn ni
ddiolch i DDUW am ein ty a’n gwely cynes ar noson oer fel heno; a boed i ni
wneyd a allom i helpu y tlawd a’r anghenus. Ac yn awr, nos da, fy mhlentyn i
— gwn fod arnat eisieu cysgu.”
“Nos dawch, mam.”
|
|
|
(delwedd 4789) (tudalen 334)
|
THE RUINED CASTLE.
BY MISS SALLIE LEWIS, CINCINNATI, O.
Faded flowers lie at my feet,
Garlands torn, yet emblems sweet,
Crumbling walls that wear the ivy,
Tarnished spires, quaint and rusty,
Sturdy oaks surround this castle,
Monarchs of the forest dell;
Loving voices linger round them,
Valued like the ocean’s gem.
These ruins tell how years have fled,
How frosts have chilled childhood’s bed,
How the tree of life fades away,
Leave the boughs leafless and gray.
’Tis sunset hour — I kneel alone,
Eyes fixed on memory’s stone,
Tears trickle down that time-worn face,
Drops the pearls in youth’s gold vase.
The sky hangs out her jeweled lamps,
The hunter bounds from war-whoop tramps,
The vesper bell peals soft and long.
Chants an old forgotten song.
Its echoes kindle blazing fires,
Warms the heart with sweet desires,
Tells of happier days gone by,
Speaks of boyhood’s sunny sky.
Though man possess the keys of truth,
Holds them not like days of youth,
How dear to the heart are those hours,
Tiny feet trod thornless flowers.
Time has furrowed my brow with care,
Woven locks of silver hair;
Soon Death’s Angel will close my hand,
Take me to a better land.
These torn old walls depict my form,
Once were strong, could bear each storm,
Now tremble with the summer’s gale,
Sounding like the sea-bird’s wail.
What is life, with strength of years flown,
The world a drear, frigid zone? —
God has a home for old and young,
Gives to each a silver tongue.
|
|
|
(delwedd 4790) (tudalen 335)
|
DYFERION DILIAU MEL. — ADNODAU Y MIS.
TACHWEDD, 1875..
LLUN. Hola fi, ARGLWYDD, a phrawf fi. — Ps. 26:2.
2. Mawrth. Gwared fi, a
thrugarha wrthyf. — Ps.26:11.
3. Mercher.
Gwyn ei fyd a ystyria wrth y tlawd. — Ps. 41:1.
4. lau. Cyfod yn gynorthwy i ni, a gwared ni er mwyn dy drugaredd. — Ps.
44:26
5. Gwener. A gosod gyllell ar dy
geg, os byddi yn ddyn blysig. — Diar. 23:2.
6. Sadwrn. Nac ofna; canys yr wyf fi gyda thi. — Es. 43:5.
7. SABBOTH. ARGLWYDD, hoffaist drigfan dy dŷ, a lle preswylfa dy
ogoniant. — Ps. 26:8.
8. Llun. Dy eisteddiad hefyd, a’th
fynediad allan, a’th ddyfodiad i mewn, a adnabum. — Es. 37:28.
9. Mawrth. Caned preswylwyr y graig, a bloeddiant o ben y mynyddoedd. — Es. 42:8.
10. Mercher. O fyddariaid,
gwrandewch; a’r deillion, edrychwch i weled. Es.42:13.
11. lau. Ie, cyn bod dydd yr ydwyf fi, ac nid oes a wared o’m
llaw. — Es.43:13
12. Gwener. Myfi, myfi yw yr
ARGLWYDD: ac riid oes geidwad ond myfi. - Es. 43:11.
13. Sadwrn. A hwy a fyddant yn bobl
i mi, a minau a fyddaf yn DDUW iddynt hwythau. — Jer. 32:38
14. SABBOTH. Ni ddryllia gorsen ysig,
ac ni ddiffydd lin yn mygu. — Es.42:3
15. Llun. A mi a roddaf
iddynt un galon, ac un ffordd, i’m hofni byth er lles iddynt, ac i’w meibion
ar eu hol. —
Jer. 32:39.
16. Mawrth. Ti, ARGLWYDD, a barhêi
byth; dy orseddfainc yn oes-oesoedd. — Galarnad, 5:19.
17. Mercher. O Israel, tydi a’th ddinistriaist dy hun; ond ynof fi y mae dy
gymorth. — Hosea, 13:9.
18. lau. Meddyginiaethaf eu
hymchweliad hwynt, caraf hwynt yn rhad; canys trôdd fy nig oddiwrthynt. —
Hosea, 14:4.
19. Gwener. Nac ofna di,
ddaear, gorfoledda a llawenycha; canys yr . ARGLWYDD a wna fawredd. — Joel,
2:21.
20. Sadwrn. A rodia dau yn
nghyd heb fod yn gytun? —Amos, 3:3.
21. SABBOTH. Dirmygaist fy mhethau sanctaidd, a halogaist fy Sabbothau.
—Ezeciel, 22:8.
22. Llun. Ceisiwch ddaioni,
ac nid drygioni, fel y byddoch fyw. — Amos, 5:14.
|
|
|
(delwedd 4791) (tudalen 336)
|
23.
Mawrth. Y neb a gadwant oferedd
celwydd, a wrthodant en trugaredd eu hun. — Jonah, 2:8.
24. Mercher.
A thi a defli eu holl bechodau i ddyfnderoedd y môr. — Micah, 7:19.
25. lau. Daionus yw yr ARGLWYDD;
ymddiffynfa yn nydd blinder. — Nahum, 1:7.
26. Gwener. Wele yr hwn a
ymchwydda, nid yw uniawn ei enaid ynddo: ond y cyfiawn a fydd byw trwy ei
ffydd.— Hab. 2:4.
27. Sadwrn. Gwae a roddo ddiod i’w
gymydog. — Hab. 2:15.
28. SABBOTH. Dychwel ni, O ARGLWYDD, atat ti, a ni addychwelir. — Galar. 5:21.
29. Llun. Y dydd hwn y
dywedir wrth Jerusalem, Nac ofna; wrth Seion, Na laesed dy ddwylaw. — Seph.
3:16.
30. Mawrth. Fel hyn, gan
hyny yn awr y dywed ARGLWYDD y lluoedd: Ystyriwch eich ffyrdd. — Haggai, 1:5.
O Cincinnati, O., yr ysgrifenwyd at blant Cymreig America, darllenwyr BLODAU
yr OES A’R YSGOL.
MERCHED
HYNOTAF Y BEIBL, A’U NODWEDDIADAU.
[Parhad.] JOCHEBED, gwraig
Amram, a mam Moses, Aaron, a Miriam. Dyma un o gymeriad dysglaer ger ein
bron. Yr oedd yn byw mewn amseroedd enbyd; ond yr oedd cadernid ei ffydd yn
NUW yn cynal ei hysbryd dan bob croes. Ganwyd Moses iddi yn yr adeg yr oedd
swyddwyr Pharaoh yn lladd plant bach yr Hebreaid. “Trwy ffydd (sef ffydd rhieni Moses), Moses pan anwyd, a guddiwyd.”
Cuddiodd ef dri mis yn rhywle yn y ty; a chan nad allai ei guddio yn fwy rhag
y lleiddiaid, y mae yn ei roddi mewn cawell, ac yn ei osod yn mysg yr hesg ar
lan y Nilus. Yr oedd yn byw drwy ffydd; a dywedir yn Heb. xi. iddi farw mewn
ffydd. Gwelir yr hanes hynod am dani yn Exod. ii. 1 - 11. Y mae yr hyn ydoedd
ei phlant yn ngwasanaeth yr ARGLWYDD, yn myned yn mhell i brofi ei bod wedi
eu dysgu am ARGLWYDD DDUW eu tadau. Cafodd yr hyfrydwch o fagu Moses ei
hunan, a thâl da am hyny gan ferch Pharaoh.
MERCH PHARAOH. Crybwyllir am dani yn y Beibl am iddi dosturio wrth y plentyn
oedd yn y cawell yn wylo. Y mae tosturi yn gymeradwy iawn gan yr ARGLWYDD. Ni
chawsem wybod dim am dani oni buasai hyn.
|
|
|
(delwedd 4792) (tudalen 337)
|
SEPHORA {galar), merch
Jethro, offeiriad Midian, a gwraig Moses. Y mae yr hanes am dani yn fyr iawn.
(Exod. ii. 16.) Y mae lle da i gasglu ei bod
yn wraig dduwiol. Nis gallwn feddwl y cymerasai Moses ddynes annuwiol.
MIRIAM {dyrchafedig), merch Amram a
Jochebed, a chwaer Moses ac Aaron. Yr oedd yn eneth ufudd i’w rhieni, ac yn
serchus at ei brodyr. Gosodir hi i wylio pa beth a ddeuai o Moses, ar fin yr
afon. Y mae yn dangos callineb riodedig, wrth ofyn i ferch Pharaoh am genad i
alw mamaeth iddo o’r Hebreesau. Yr oedd yn gantores nodedig iawn. Y mae golwg
anwyl arni ar lan y Môr Coch, yn galw y gwragedd yn nghyd, yn cymeryd tympan
yn ei llaw, ac yn canu yn wresog, “Cenwch i’r ARGLWYDD, canys gwnaeth yn
ardderchog; bwriodd y march a’r marchog i’r môr.” Exod. xv. 21. Miriam y
brophwydes y gelwir hi yma. Drwg genym gael golwg arni wedi hyn yn cynhenu â
Moses, ac yn edliw ei fod wedi cymeryd Ethiopes yn wraig. Dengys yr ARGLWYDD
ei anfoddlonrwydd i’w hymddygiad. Tarewir hi â gwahanglwyf, a chauwyd arni
saith niwrnod o’r tu allan i’r gwersyll. Num. xii. 1-16. Bu farw yn Cades, ac
yno y claddwyd hi. Cafodd y cantoresau golled fawr am dani. Num. xx. i. 6-8.
COSBI (celwyddwr). Midianes ydoedd.
Dygodd Simri hi i’w babell i odinebi â hi. Pan wybu Phinees am yr
erchyllwaith, cymer waewffon yn ei law, ac a’u trywanodd hwy ill dau. Bu pedair mil ar hugain o feibion Israel feirw o’r pla o’u hachos. Y
fath ganlyniadau ofnadwy sydd i bechod. Dyma genedl gyfan yn dyoddef o
herwydd dau berson. Fel ei henw, felly yr oedd hithau. Num. xxv. 6-8.
MOLA, NOA, HOGLA, MILA, a THIRZA, pum’ merch Salphaad, o Iwyth Manasseh. Cawn
olwg ar y pump ar unwaith, a gellid casglu eu bod yn ferched bucheddol a da
eu moes. Num. xvii. 1-12.
RAHAB (eang). Dyma wraig hynod iawn. Yr oedd yn byw yn Jericho. Gelwir hi
“Rahab y butain.” Nid fel y cyfryw yr ydym yn ei gweled yn croesawu, yn
ymgeleddu, ac yn amddiffyn yr ysbïwyr a anfonodd Moses i chwilio y wlad. Os bu hi felly unwaith, nid oedd felly yn awr. “Trwy ffydd ni
ddyfethwyd Rahab gyda y rhai ni chredent, pan dderbyniodd hi yr ysbïwyr yn
heddychol.” Heb.xi.3l. Gwelir ei hanes yn Jos. ii. 1-24. i.
ACSA (trwsiadus). Merch Caleb. Tebyg ei bod yn ferch brydweddol a rhinweddol,
gan yr anturiai Othniel ei fywyd wrth ymosod ar Ciriath Sepher er mwyn ei
chael hi. Jos. xv. 16-20.
|
|
|
(delwedd 4793) (tudalen 338)
|
DEBORA (gwenynen). Dyma wraig
rinweddol, ac enwog iawn. Trigai dan balmwydden rhwng Rama a Bethel. Yr oedd
yn broffwydes, ac yn barnu Israel. Pan oedd Jabin yn gorthrymu Israel,
gorchymyna i Barac gasglu byddin o 10,000 o wyr, a myned i fynydd Tabor, y
man lle y rhoddai yr ARGLWYDD Sisera a’i lu yn eu llaw. Cyfansoddodd Debora
gân ardderchog o ddiolchgarwch i’r ARGLWYDD am y fath fuddugoliaeth Iwyr a
gogoneddus. Gwraig Lapidoth ydoedd; ond ymddengys mai hi ydoedd yr enwocaf o
lawer. Darllener a dysger ei chân, ac yfer yn helaeth o’i hysbryd diolchgar.
Barn. iv. 5.
JAEL (iyrches), gwraig Heber. Pan
oedd Sisera yn ffoi, y mae Jael yn myned i’w gyfarfod, ac yn ei wahodd i’w
thy i orphwyso. Gan ei fod yn lluddedig iawn, y mae yn cysgu yn fuan, ar ol
yfed y llaeth. Yna y mae Jael yn cymeryd hoel a morthwyl, ac yn ei churo drwy
ei arlais i’r ddaear, nes y bu farw. Rhaid ei bod yn ddynes wrol a phenderfynol iawn. Gwel Barn. iv. 18-24.
MERCH JEPHTHA. Y mae yr hanes hynod am y ferch hon yn peri i ni synu.
Nis gwyddom pa beth i’w ddyweyd am dani. Barn. xi. 18-24.
GWRAIG MANOAH, a mam Samson. Pan y mae Israel yn llaw y Philistiaid, y
mae angel yr ARGLWYDD yn ymddangos iddynt, gan eu hysbysu y caent fab, ac y
byddai yn Nazaread i DDUW o’r groth. Pan ddeallodd Manoah mai angel yr
ARGLWYDD ydoedd, dychryna yn i ddirfawr, a dywed, “Gan farw y byddwn feirw,
canys gwelsom DDUW.” “Pe mynai yr ARGLWYDD ein lladd ni, ni dderbyniasai efe;
boeth-offrwm a bwyd-offrwm o’n llaw ni,” meddai ei wraig. Y hi oedd yn barnu
gywiraf y tro hwn. Yr oedd yn ymddiried yn yr ARGLWYDD am ei bod yn adnabod
ei enw.— Barn. xiii. 2-25.
GWRAIG SAMSON. Un o ferched y Philistiaid ydoedd. Trigai yn Timnath. — Barn.
xiv.
BYDDWCH yn BRYDLAWN.
|
|
|
(delwedd 4794) (tudalen 339)
|
PAHAM Y DYLID BOD YN FWY GOFALUS O
BLANT YR OES HON NAG O DRYSORAU PENAF Y BYD.
PENOD V.
Am eu bod hwy i barhau, tra y mae trysorau y ddaear yn darfod. Pa fwyaf
parhaol a fyddo trysorau, mwyaf y gwerth a roddir arnynt; a gellir dywedyd am
holl drysorau y ddaear, “Hwy a heneiddiant, ac a ddarfyddant.” Edrychwn ar yr
ardd nodau. Yno y mae prydferthwch a harddwch, onide? Ond mae eu holl degwch
yn gwywo megys mewn un dydd; ac felly y gwywa pob gogoniant daearol. Edrychwn
ar brydferthion anian a chelfyddyd; nid ydynt yn parhau. Yr aur a’r arian,
a’r perlau, a’r tai a’r tiroedd; y rhai hyn oll a dreuliant, ac a gollir. “Y
ddaear a heneiddia fel dilledyn, a’r defnyddiau a’r gwaith a fyddo ynddo a
losgir.” Ond nid felly am y plant. Ond gwir yw y gwnant hwythau heneiddio, ac
yr hunant yn llwch y ddaear dros amser, o ran eu cyrff; ond adgyfodant
drachefn i sefyllfa o anfarwoldeb, ar ol bod am ganrifoedd yn nystawrwydd y
bedd; ac wrth alwadeu Creawdwr, deffroant i beidio marw mwy. Ond y mae rhai
dynion. yn ddigon anffyddol i wadu anfarwoldeb dyn, ac nad oes DUW a all ei
adgyfodi! Nis gallant wadu fod y gronyn gwenith yn syrthio i’r ddaear yn
marw, a bod tywysen o wenith pur yn deilliaw o lygredigaeth un gronyn marwol.
Ac yn mhellach, y mae athronwyr yn profi iddynt y gwna gronynau llysieuawl,
ar ol syrthio i’r ddaear a’u craigeiddio dan sylfaeni y mynyddoedd am filoedd
o flynyddoedd, pan ddygir hwynt i wyneb y ddaear i dderbyn effeithiau y gwynt
a’r gwlaw, a gwres yr haul, drachefn gynyrchu eu rhyw, fel yr hadau a hauir
yn flynyddol gan yr hauwr. Gan hyny, onid yw y ffeithiau uchod yn profi gallu
DUW i adgyfodi y meirw, ac yn gwneyd anffyddwyr yn ddiesgus yn wyneb
athrawiaethau y Beibl am anfarwoldeb dyn, ac anghyfnewidioldeb ei gyflwr yn y
byd a ddaw?
Pan y mae y cerfluniwr yn cael ei gyflogi i wneyd cofgolofn ardderchog o
farmor gwyn, i’w gosod mewn lle cyhoeddus er coffadwriaeth am rinweddau rhyw
dywysog; oni wna ei waith gyda y gofal a’r manylwch mwyaf, er portreadu
rhagoriaethau ei wrthddrych, a thrwy hyny sicrhau clod iddo ei hun fel
efrydwr, gan y bydd ei waith yn cael ei feirniadu mewn canrifoedd i ddyfod?
Ac os felly y gwna y cerfluniwr gyda ei gofadail ag sydd i ddarfod, pa faint
mwy y dylai y tad a’r fam fod yn ofalus ac ymegnïol, wrth naddu cofgolofn
barhaus a
|
|
|
(delwedd 4795) (tudalen 340)
|
thragywyddol, o
farmor gwyn y ddynoliaeth, yn nghymeriad annherfynol ac anghyfnewidiol eu
plentyn? canys y mae Duw wedi eu cyflogi at y gwaith cysegredig, a bydd eu
gwaith i’w weled heb ei niweidio yn mhen oesau rif y dail, yn y byd
anghyfnewidiol. Am hyny, pwy a ddiystyra y plant trwy esgeuluso eu hiawn
feithrin a’u haddysga? “Canys yn ein iawn bryd y medwn, oni ddiffygiwn.”
Y ddaear a dderfydd,
Yr haul a dywyllir,
A’r nefoedd a blygir yn nghyd;
Ond plant a ddadblygir
Mewn gwae neu mewn.gwynfyd,
Gan ddechreu yn niwedd y hyd.
GAIR O GYMRU AT Y PLANT CYMREIG YN AMERICA.
GAN Y PARCH. I. MORGANS, CWMBACH, ABERDARE, D. C.
ANWYL BLANT — Wedi i mi weled fy anerchiad atoch wedi cael ymddangos yn rhifyn
Awst, a’i fod yn beth dymunol gan Olygwyr BLODAU YR OES fy mod yn anfon atoch
yn awr ac eilwaith dros y Werydd o hen wlad eich rhieni, wele i chwi lythyr
bychan eto. Yr wyf yn meddwl y gwnawn adnabod llawer un o honoch wrth wynebau
eich tadau a’ch mamau, a ffurf corffolaeth, lliw llygaid, a cherddediad eich
tylwyth yn Nghymru.
Chwi ellwch chwi ddyfod yn dra gwybodus wrth ddechreu yn ieuanc. Yr oedd Dr.
Doddridge, yr esboniwr manwl ar y Testament Newydd, yn gwybod hanesion y
Beibl cyn ei fod yn gallu darllen, am fod ei fam wedi eu dysgu iddo pryd nad
oedd ond plentyn bychan. Yr oedd Timotheus wedi dysgu yr Ysgrythyr pan ond
bachgenyn ar yr aelwyd, gan ei fam-gu Yr oedd Dr. Dwight, yr athraw Coleg a’r
duwinydd mawr, yn gallu darllen ei Feibl yn bedair blwydd oed. Yr oeddwn i,
a’m brodyr a’m chwiorydd, pan yn blant, yn adrodd am y mwyaf o hymnau.
Yr wyf yn cofio y rhai hyny yn awr; ac y mae plant yn adrodd hymnau genyf yn
y gyfeillach grefyddol yn y Cwmbach y dyddiau presenol. Fe fydd yn dda i chwi
wybod hymnau da; efallai y byddwch yn eu canu wrth farw; dichon mai canu “Yn
y
|
|
|
(delwedd 4796) (tudalen 341)
|
dyfroedd mawr a’r
tonau” y byddwch pan yn ymadael â’r byd hwn.
A ydych chwi yn cadw eich hunain yn lân, yn ymolchi eich wynebau, eich
dwylaw, a’ch traed? A wnaethoch sylw ar y gath? Mor lân y myn hi fod; nid yw
yn arbed ei thafod i lanhau ei hun. A wnaethoch sylw o’r aderyn bach a elwir
Robin Goch; dyna lân y mae efe yn cadw ei hun, a’i waistcoat goch, fach, can laned! Mae yr adar bach yn myned i
gysgu yn gynar, ac yn cyfodi yn fore, ac yn canu clod i DDUW am eu cadw.
Gwnewch chwithau yr un modd.
A ydych chwi yn blant cariadus, ac yn hoff o’ch gilydd? Mi welais blant drwg
yn Nghymru, yn ffraeo a thynu gwalltau eu gilydd. O, dyna beth ofnadwy o gas
— plant yn myned fel cwn! Byddwch yn garedig wrth blant ardal arall pan
ddelont i’ch cymydogaeth chwi. Nid ydyw adar bach un ardal yn myned yn mhen
adar ardal arall, pan ddelont i roddi tro am danynt, gan eu pigo a’u curo; ac
nid ydyw brain un Dalaeth yn cyfodi yn erbyn brain a ddaw i roddi tro yno o
Dalaeth arall. Mae brain New York yn
barchus i frain Pennsylvania a Ohio. Byddwch chwithau yn dangnefeddus, a
chariadlawn i’ch gilydd.
A ydych chwi, fy mhlant i, yn arfer bod yn onest? Mae rhai plant yn arfer bod
yn rhy eofn ar bethau plant eraill, megys un yn myned a chyllell y llall.
Collodd un o blant teulu Iluosog a chrefyddol iawn ei gyllell unwaith. Yr
oedd pob un o’r plant yn gwadu nad aeth efe a hi. Yna galwodd y tad a’r fam y
plant i’r un ystafell, a phob un i eistedd i lawr; a cheisiodd y tad gan bob
un o’r plant oedd yn onest a dieuog i ddyfod yn mlaen a rhoddi cusan iddo ef.
Daeth John, David, Rees, Elias, Joseph, a Herbert; ond torodd yr un na ddaeth
allan i lefain, a dywedodd, “O, fy nhad, genyf fi mae’r gyllell;” a thynodd
hi allan o rywle, gan erfyn am faddeuant ei dad a’i fam, a’r bachgen arall
oddiar yr hwn ydoedd wedi myned a’r gyllell. Ceisodd y tad a’r fam, a’r
dagrau ar eu gruddiau, gan y plant oll blygu ar eu gliniau, a’r i bachgen
drwg yn ymyl ei dad, ac iddynt oll weddio drosto; a gweddi daer a ddanfonwyd
gan ei dad at DDUW drosto ef; a diau fod y fam yn ocheneidio o’i chalon yn y
weddi, a’r plant eraill yn cyd-deimlo; a llwyddwyd byth mwy i gael yr ysbryd
lladronaidd allan o galon y plentyn drwg. Mae yn llawn cynddrwg i ladrata
cyllell ar frawd, a phe y lladratech rywbeth o siop, neu ladrata ceffyl.
Dywedir fod un dyn ar yr arteithglwyd, wrth gael colli ei fywyd, yn dywedyd
mai lladrata
|
|
|
(delwedd 4797) (tudalen 342)
|
wy oedd y drwg
cyntaf a wnaeth, yna iddo ladrata y iar, ac yn y diwedd iddo orfod myned i’r
grogbren.
Os byddwch chwi yn blant da, fe fydd DUW yn dda i chwithau, ac a rydd y
nefoedd i chwi yn y diwedd. “Deuwch chwi fendigedigion blant fy Nhad,” fydd
geiriau Crist wrthych ar foreu y farn ddiweddaf.
DOSBARTH Y
BEIRDD.
PENOD XI.
ATHRAW. “Mae yn dda iawn genyf eich cyfarfod ar ol i chwi fod yn mwynhau eich
hunain yn yr wyl lenyddol. A ydych wedi dysgu rhywbeth yno? Ni ddylai adeg
mor bwysig gael myned heibio heb i ni ddysgu rhywbeth.
CAD. Do, Sir; myfi a ddysgais fod englyn yn cynwys deg sill ar hugain, o
herwydd clywais y beirniad yn cyhuddo rhywun am osod sill yn ormod.
ATHRAW. Eithaf da. Rhaid i englyn “unodi union” gynwys 30 sill, oddieithr i
chwi fethu gosod eich syniadau allan heb 32 sill. Fel hyn:—
Y llinell gyntaf—yn nghyda’r cyrch, .....10 sill.
Yr ail linell yn ..... 6 sill.
Y drydedd i fod, os gellir, yn ..... 7 sill.
A’r ddiweddaf yr un fath, ..... 7 sill.
Os bydd y drydedd yn 8 sill, rhaid i’r bedwaredd fod felly hefyd. Hefyd,
rhaid i un o’r ddwy fod yn unsill, a’r llall yn Iluos-sill. Nid yw o un pwys pa un fydd. Er engraffau:
“E geisia’r ffol gasau’r ffydd, . .
(unsill)
Hagr wawdia y Gwaredydd.” . (Iluos-sill)
Eto, fel arall:
“Twrw ar dwrw yw’r daran — a chynhwrf
Ochenaid drom anian;
Du hyllig ydyw allan,
A llef Duw mewn Ilif o dân.”
MORGAN. A oes rhif penodol o sillau i’r cyrch?
ATHRAW. Gall y cyrch fod yn unsill, dausill, trisill, neu bedwarsill, a
chymaint o sillau ag a fynir, dim ond gofalu am ddau beth:
1. Na fydd y llinell oll dros 10 sill.
2. Fod rhyw gynghanedd yn y
llinell, heb y cyrch.
Eto, y mae yr hyn elwir gwant a rhagwant. Egluraf hwn yn sort.
JOHN. Byddai yn well gen’ i, Syr, geisio arfer y cyrch yma yn gynta, efo’r
amrywiol sillau — a’r ddwy linell olaf efo’u hynodion.
ATHRAW. Eitha da; ewch yn mlaen.
|
|
|
(delwedd 4798) (tudalen 343)
|
YSGOL YR AELWYD.
Ysgol dda yw hon. Dyma’r oreu yn y byd.
O hon y daw y plant goreu allan. Y plant sydd yn dysgu yn dda ynddi, sydd yn
gwneyd y dynion mwyaf defnyddiol o bawb. Anaml iawn y ceir plentyn drwg yn
hon yn troi allan yn ddyn da pan y tyfo i oed. Plant drwg yn hon sydd yn troi
allan yn feddwon, lladron, a llofruddion.
Yn Ysgol yr Aelwyd y mae plentyn yn cael ei hyfforddi yn “mhen ei ffordd.” Dyma lle ei cychwynir
yn iawn. Peth mawr yw cychwyn yn iawn gydag unrhyw beth. Os na cheir y ffordd
yn ei dechreu, ofnir y byddis yn crwydro yn hir, ac hwyrach am byth. Dyna’r
rheswm fod Solomon yn cyngori i hyfforddi plentyn yn mhen ei ffordd, iddo
gael bod yn siwr o honi. Nis gall
neb gadw y ffordd heb iddo yn
gyntaf ei chael hi. Cael yw y peth cyntaf, ac wedi hyny ei
chadw. Ac fe ddywed yr un gwr, fod
yr hwn a’i caffo yn foreu yn bur debyg o’i dilyn hyd ei fedd: “A phan
heneiddio nid ymedy efe â hi.”
Chwi wyddoch, blant, mai gwr doeth oedd Solomon; y peth a ddywedai ef, yr
oedd hwnw yn iawn yn y cyffredin; ie, bob amser, pan o dan ddylanwad YSBRYD
DUW. Ac yr oedd felly pan yn siarad am hyfforddi plentyn yn mhen ei ffordd;
gan hyny yr oedd yn sicr o fod yn dweyd y gwir.
|
|
|
(delwedd 4799) (tudalen 344)
|
Blant, cofiwch
ddysgu eich gwersi yn dda bob dydd. Mynwch wella a chynyddu yn wastadol. Y
mae genych athrawon yn eich caru â’u
holl galon. Y maent yn meddwl yn fawr am danoch ddydd a nos. Yr ydych yn
wastad ar eu meddyliau. Y maent yn barod i wneyd pobpeth drosoch. Byddwch yn
ufudd iddynt. Cofiwch pwy ydynt — EICH RHIENI
PERYGL YR AWR
SEGUR.
Peryglus iawn i bawb ydyw yr awr segur.
Plentyn segur a dyn segur sydd yn rhodio ymyl dibyn eu cwymp. O’r awr segur y
gall canoedd ddyddio eu dinystr. Pe heb yr awr segur gallesid dweyd amdanynt,
“Gwyn eu byd.” Yr wyf yn cofio darllen cân yn gosod Satan allan yn pysgota
dynion, yn gosod yr
abwyd (bait) ar y bach i daro
chwaeth gwahanol plant dynion; “ond am y gwr segur,” meddai, “nid oes
drafferth yn y byd gydag ef, waith cydia efe yn y bach yn noeth.”
Yn yr awr segur y syrthiodd Dafydd, ac felly miloedd ar ei ol. Gocheled
rhieni godi eu plant i fyny yn segurwyr. Os felly, bywyd truenus fydd yr
eiddynt hyd eu bedd, a mwy felly tu hwnt iddo.
Ceid llawer o bobl ieuainc, ac eraill, yn work-house
Hamburg, mewn canlyniad i’w cwymp yn yr awr segur. Aeth yr awr segur yn fywyd segur; ond yn y work-house
uchod cosbid y dosbarth hwn trwy eu hongian mewn basged uwchben y bwrdd
ciniaw, fel y gallent weled ac , arogli y bwyda barotoid i’r diwyd a’r
gweithgar; ond ni chaent hwy brofi o hono. “Os byddai neb ni fynai weithio,
ni chai fwyta chwaith.”
ADDYSG: Myned ein darllenwyr ieuainc ryw orchwyl buddiol i fod gydag ef bob
amser, fel na byddo awr segur yn eu
bywyd.
M.
TACHWEDD.
Mis Tachwedd, tuchan merydd,
Bras llydnod, llednoeth coedydd; Awr a ddaw drwy lawenydd,
Awr drist drosti a dderfydd. ANEURIN.
|
|
|
(delwedd 4800) (tudalen 345)
|
Y GONGL
GERDDOROL.
ANWYL GYD-DDARLLENWYR IEUAINC — Y mae yn hynod dda genyf ddeall, trwy gyfrwng
y gweinidogion a’r llyfrwerthwyr, fod Iluaws o honoch yn ymroddi at y Gwersi,
ac yn benderfynol i fynu dod i ddarllen cerddoriaeth. Hyderwyf y gwnewch oll
wrando ar gyngorion ac anogaethau Mr. R. T. Daniels i chwi yn y BLODAU
diweddaf; hefyd eich bod oll wedi meddianu yr Exercises a’r
llytrau y darfu i ni eu henwi, yn nghyd ag eraill, fel ag y byddo gwersi y
Gongl yn rhyw help i chwi.
Yr ydym y tro hwn yn gadael heibio weddill ARWYDDION YR AMSER, gan fod yn
ofynol i chwi, cyn y gellwch feistroli sain ac amser,
i allu cael allan y Tonydd; ac er eich galluogi at hyny, dyma
o’ch blaen
Daflen y Tonydd (Key Tone Scale)
Doh D, Doh E♭, Doh E, Doh F, Doh C, Doh
B, Doh B♭, Doh A, Doh A♭, Doh G
♯
|
|
|
(delwedd 4801) (tudalen 346)
|
Bellach cymerwch
eich Tuning Fork, (bydded hono yn C1,)
a seiniwch y Doh1 uchaf — yr un sain a’r fork; ac os mai Doh C fydd y dôn neu yr exercise, cymerwch y prif seiniau i lawr, fel hyn: — d1, s, m, d. Ac at y
gweddill, seiniwch y Doh1 uchaf, gan ddilyn y nodau bychain. yn nghyweirnod y fork, hyd nes y dowch (fel y gwelwch ar y daflen) hyd at y Doh
newydd. Yna gelwch neu seiniwch hono Doh, gan ddilyn y prif seiniau yn y cywair newydd. Ond y rhai sydd islaw C1 —
Doh1, megys B, A, G, &c., yn unig cymerwch y pumed, sef Soh islaw, a’r trydydd, neu Me uwchlaw, ac yna bydd
eich cyweirnod newydd yn sicr genych. Nid oes pob cyweirnod arferedig ar y
daflen uchod, eto cewch y rhai ag y mae mwyaf o ganu ynddynt arni.
Gobeithiwyf y gellwch eu deall oll a’u meistroli yn dda; yna gallaf sicrhau i
chwi y gellwch bitchio yn gampus.
Hefyd, dyma i chwi ychydig o nodau i’w harfer, y rhai y maent yn eu galw yn
Nodau Trawsgyweiriol a Damweiniol, &c., y rhai, (os pob peth yn dda,) y
cawn alw eich sylw atynt eto; ond yn awr fel rhai anhawdd eu seinio, heb
lawer o ymarferiad; ac y mae pob Solffawr da yn mynu eu llwyr feistroli, a
hyny yn benaf trwy gyfrwng y Modulator. Enwaf rai “nodau eraill ‘ cyfystyr a
chydsain â hwy, fel y galloch yn hawddach eu seinio} fel y canlyn:
Cyfrwng o Ddwy Dôn. (Trydydd Mwyaf.)
t se f m d
l ba ma r ta
s m de s la
Ton a Haner. (Trydydd Lleiaf.)
d re f s r
t r m f d
l d r m t
Dwy Haner Ton. (Trydydd Lleiedig.)
s l r t d
fe se de ta t
f s d l ta
Gwnewch seinio y nodau bychain newydd yna fel hyn I’r e rhoddwch sain i Gymreig, sei fe — ffi.; i’r a rhoddwch
y sain o: ta — to; ond i’r bah, ba, ac felly am bob lle y
cyfarfyddwch à hwy.
Hyd y tro nesaf, byddwch wych, B. G. SENNEY.
O.Y. — MR. GOL.: Caniatewch i mi ddywedyd tri gair ychwanegol yn nghornel y
Gongl.
1. Bravo i
athrawon Church Hill a Weathersfield, Ohio, am eu llafur gyda’r Sol-ffa.
2. Mae y ffaith fod oddeutu 38 o certificates wedi eu henill yno, yn glod i’r
Sol-ffawyr genuine yno.
3. Bydd clywed y newydd yn sicr o foddloni a chalonogi Sol-ffawyr y Gongl. —
B. G. S.
|
|
|
(delwedd 4802) (tudalen 347)
|
MAE’R GAUAF YN DOD.
Wele i blant y BLODAU gwpl o reolau. Cedwch hwynt, blant:
1. Peidiwch byth myned i’ch gwely gyda thraed oerion a gwlybion.
2. Peidiwch a myned
i skatio heb fod yn sicr fod y rhew
yn ddigon cryf i’ch dal. Torodd dan bedwar o blant o’r un teulu y gauaf
diweddaf, yn New Jersey, a boddasant oll. Sobr iawn!
3.’Wrth deithio trwy awyr oer, cauwch
eich cegau yn dyn, fel y byddo i’r awyr oer, wrth fyned trwy y ffroenau a’r
pen, gynesu ychydig cyn cyrhaedd y lungs.
Gall hyn eich cadw rhag anwyd (cold)
ac angau. Cofiwch y rheol hon.
4. Peidiwch cysgu lle y byddo awyr oer
yn myned dros eich wyneb; os bydd raid cael awyr i’r ystafell, cofier y rhaid, hefyd, iddo basio, drwy
gyfeiriad arall — byth ar draws eich gwely.
5. Peidiwch byth a sefyll ar y conglau
i siarad a’ch gilydd, a chwithau, hwyrach, yn chwys ar ol chwareu; nac yn
wir, mewn man arall oer, rhag i chwi gael afiechyd nas gellir, efallai, byth
eich gwaredu o hono.
6. Peidiwch a ridio yn agos
i ffenestr agored mewn cerbyd ar ddiwrnod oer; os bydd yno ffenestr, i lawr a
hi, a chadwer hi felly.
R.
BOD YN DDYN.
Dyna gais pob bachgen — bod yn ddyn. Ond, sut y mae llawer bachgen yn meddwl
dangos ei hun yn ddyn? Os gall gerdded: yn uchel ar hyd yr heol, heb sylwi
braidd ar neb, teimla ei fod yn ddyn; os gall watwar yr oedranus a’r tlawd,
teimla ei fod yn ddyn; os gall droi cyngor ei rieni i ffwrdd gyda gwawd,
teimla ei fod yn ddyn; os gall smocio a chnoi tobaco, teimla ei fod yn ddyn;
os gall yfed a meddwi, teimla ei fod yn ddyn; ac os gall dori’r Sabboth, a
gwawdio pobl DDUW, teimla ei fod yn ddyn.
Fel yna y gwelwn agwedd miloedd o bobl ieuainc y dyddiau hyn; a diau mai
teimlo eu bod yn esgyn i safle y dyn yw y grym sydd yn eu cymell yn y llwybr
hwn. Ond cofied yr ieuenctyd mai myn’d lawr beunydd y maent — i lawr i ofid,
gwae, a thrueni — i lawr yn ngolwg y cywir, y da, a’r rhinweddol — i lawr yn
ngolwg Duw bob cam a ro’nt yn y cyfeiriad hwn.
|
|
|
(delwedd 4803) (tudalen 348)
|
Bod yn ddyn yw bod yn greadur
ardderchog, gogoniant y ddaear a rhyfeddod y nef. BOD YN DDYN sydd amcan
teilwng a nod uchel i’r bachgen ieuanc ymestyn ato, a’r modd i’w gyrhaedd
ydyw, “Cofio ei GREAWDWR yn nyddiau ei ieuenctyd.”
ATHRAW.
IESU’N MARW
Pwy a welaf. yn ei waed,
Yn ddolurus, ben a thraed?
Mae arwyddion dwyfol wedd
Arno, fel ar Frenin Hedd.
Dyna Brynwr mawr y byd,
Fu yn faban yn ei gryd;
Nef a daear sydd yn awr
Fel yn teimlo ’i angau mawr.
Bu yn gvvisgo coron nef,
Ar ei orsedd gadarn gref,
Clywid myrdd o engyl glân’
Yn rhoi iddo fythol gân.
Coron ddrain a gafodd ‘n awr,
Yn ei ddarostyngiad mawr;
Gwg a gwawd gelynion lu
Ydoedd ran ein lesu cu.
Llawn o fywyd, llawn o waith,
Ydoedd gwyr y fagddu faith;
Holl ellyllon anwn oedd
Yn cydloni gyda bloedd.
Ond ni wyddent hwy pryd hyn
Fod y marw ar y “bryn”
I fywhau marwolion llawr,
A dymchwelyd Babel fawr.
Haul a dduodd yn y nen,
Pan ogwyddodd ef ei ben;
Natur fel mewn cyffro blin,
Rhai o’r meirw ar ddi-hun.
Pa’m yr wyli, enaid trist,
Os bu farw lesu Grist?
Daeth yn fyw y trydydd dydd —
Bywyd yn ei angau sydd.
Kingston.
J.R. PRICE.
|
|
|
(delwedd 4804) (tudalen 349)
|
CONGL YR ADRODDYDD.
PETHAU RHYFEDD
AMERICA.
Beth ddywed plant y BLODAU am bethau rhyfedd eu gwlad?
JOHN. Syr, dacw y Niagara Falls, efe yw y rhyfeddaf, a’r mwyaf o ran
cyflawnder y dwfr sydd yn syrthio dros ei greigiau serth, o’r un ar y ddaear.
Mae holl ddwfr y llynoedd mawrion yna, yn dyfod at eu gilydd yn afon o ddwfr
dri chwarter milltir o led, ac yna yn ymollwng yn ddwy golofn fawr wen dros
greigiau serth tua 180 troedfedd o ddyfnder.
DAFYDD. Wrth gwrs; ond nid oes ogof (cave)
ar y ddaear yn debyg i’r Mammoth Cave,
yn Kentucky. Mae yn hono afon fawr o dan y ddaear, a gellir ei mordwyo mewn
badau, a dal pysgod deillion; a ——
EDWARD. Aros Dafydd; gad i mi ddyweyd taw yr afon hwyaf yny byd yw y
Mississippi fawr — tad y dyfroedd — dros bedair mil o filldiroedd o hyd; a steamboats mawrion yn chwareu i fyny
ac i lawr ar hyd-ddi am tua thair mil o filltiroedd.
MARY. Fechgyn! gadewch i’r merched gael eu pig i mewn i’r ymddyddan yma ar Ryfeddodau America, onide bydd diffyg
pwysig yn y cwbl. Wele y dyffryn eangaf ar wyneb y ddaear — dyffryn mawr y
Mississippi — Dear me! y mae yn
cynwys dros bedwar can’ mil o filltiroedd ysgwar; ac yn dir o’r fath mwyaf
ffrwythlon, yn ——.
KATIE. Cofia am y Fairmount Park,
yn Philadelphia, beth bynag; nid oes ei fath yn agos i
un ddinas yn y byd; cynwysa dros 2,000 o erwau o dir; a ——.
LIZZIE. A’r Centennial Buildings,ef
mwyn popeth. Bobl anwyl! y mae y rhai
hyny yn fawr! Bum yn eu gweled yn ddiweddar; ac y mae mam yn dyweyd y caf
fyn’d i’w gweled eto yr haf nesaf, os
byddaf byw. A dyna——.
ANNIE. Iê, dyna fydd yn rhyfeddod holl ryfeddodau y byd mewn celfyddyd a phob
peth rhyfedd creadur a CHREAWDWR.
MORRIS. Un o blant y West wyf fi. Yma y cewch y farchnad ŷd fwyaf yn y
byd — Chicago; a’r gweindiroedd (Prairies)
eangaf yn y byd; a’r mynyddoedd cyfoethocaf yn y byd; a’r——.
LILLY. Taw, Morris, rhag i ti ddyweyd “a’r humbugs mwyaf yn y byd,” hefyd. ‘
STEPHEN. Ceir yn America y Ilyn mwyaf yn y byd — Llyn Superior. Y mae hwn yn
fôr go lew, yn 430 milltir o hyd, a thua 1,000 o droedfeddi o ddyfnder; a
mordwyir ef gan longau bach a mawr.
JOHN. Nid oes ychwaith yn y byd ffordd haiarn mor hir ar Pacific Railroad, yr hon sydd tua
3,000 o filltiroedd; a ——.
LILLY. Iê, a gwelaf finau yn y Geography
mai y bont naturiol fwyaf ar y ddaear ydyw y Natural Bridge dros y Cedar Creek, yn Virginia. Estyna dros
hafn o 80 troedfedd o led, a 250 troedfedd o ddyfnder.
EDWARD. “Rhag i chwi anghofio, codaf finau i fyny i ddyweyd mai
|
|
|
(delwedd 4805) (tudalen 350)
|
yn America y ceir
y telpyn mwyaf o haiarn yn y byd—yr Iron
Mountain yn Missouri, wyddoch. Mae hwn yn 350 troedfedd o uchder, ac yn
ddwy filltir o amgylch.
JENNIE. Cofiwch am gafn dw’r mawr New York — y Cretan Aqueduct — yr hwn sydd yn cludo dw’r i’r ddinas hono o 45
milltir o bellder, ac wedi costio i’w wneyd ddeuddeng miliwn a haner o
ddoleri.
EVAN. O glôd i Dalaeth Pa. — hen Dalaeth William Penn — dywedaf finau mai yno
y ceir y maes mwyaf o’i glo caled (Anthracite
Coal) yn y byd. Oddi yma codir miliynau o dunelli bob blwyddyn.
JOHN. Wel, blant, gan mai myfi ddechreuodd yr ymddyddan hon, yr wyf yn cynyg,
ein bod ni yn ei gohirio hyd y cwrdd nesaf.
MARY. A chan mai finau a ddechreuodd dros y merched, yr wyf finau yn codi i eilio y cynygiad.
EVAN. A chan mai finau sydd wedi siarad ddiweddaf, rhoddaf y cynygiad
a’r eiliad i arwydd. Pawb sydd dros ohirio
dyweded ie,
PLANT OLL. “Ie.”
HATTIE.
Y LLEW
ANWYL BLANT.—Yr wyf yn awyddus i chwi wybod hanes y llew, ‘fel y
darlunir ef gan frawd sydd wedi byw yn Affrica, am lawer o flynyddau, sefy
Parch. T. M. Thomas, y Cenhadwr. Fel hyn y dywed:—
Am y llew, fel y gellir dysgwyl, adrodda y brodorion coelgrefyddol bethau
rhyfedd. Un peth yw, fod y creadur cyfrwys hwn yn arfer neidio gyda’r fath
gywirdeb, fel y mae yn sicr o’i ysglyfaeth pan y byddo amryw latheni
oddiwrtho.
Nid wyf wedi dywed y rhuadau arswydus, taranllyd, a byd-ysgydwol hyny o eiddo
y llew ag y sonir cymaint am danynt gan rai, ond os bydd yn agos iawn,
ysgydwa ei ruad y gewynau mwyaf gwrol; ac er nad yw yn uchel iawn, clywir ef
o gryn bellder. Yn ystod deuddeg mlynedd o fyw, a theithio yn y wlad, ni
ymosododd y llew arnaf fi na’m hychain, er eu bod yn aml yn agos iawn i’n
gwersyll, yn y dydd ac yn y nos. Un eithriad, beth bynag, oedd hen ych a
grwydrodd un noson — yr hwn, pan gyfarfyddodd a’i fawrhydi, a syrthiodd yn
fuan. Hen ych teneu, esgyrniog oedd, a rhoddodd y llew ergyd iddo a’i bawen,
nes oedd yn farw, ac aeth i’w ffordd yn fawreddog, heb adael nemawr o’i ol ar
yr esgyrn di-gig.
Teimlwn awydd cryf am weled y boneddwr yn ei wlad ei hun, ond rhoddodd un
anturiaeth a nifer o’r anifeiliaid arswydus, ond mawreddog hyn, ddigon i mi.
Wedi cyrhaedd glan afon, ugain milldir i’r De o Inyati, tua machlud haul,
gwelem nifer o’r amadube (sebras)
yn pori o’r tu arall. Gofynwyd i mi gan y bobl oedd yn canlyn y wagen, y rhai
oeddynt yn hoffo gig ceffyl, i saethu un. Pan welodd y creaduriaid gochelgar
y ddryll, rhedasant i’r llwyni oedd yn ymyl. Wedi
|
|
|
(delwedd 4806) (tudalen 351)
|
dilyn am amryw ganoedd o latheni, daethum yn sydyn ar draws rhai o
honynt, a diangasant nerth eu carnau. Cloffais ddau o honynt, a chan fod yr
haul yn machludo, bernais yn well ddychwelyd at y wagen cyn nos. Cymerais yr
un llwybr tuag yn ol drwy y llwyni drain. Nid oeddwn wedi myned yn mhell cyn
cael fy nychryn gan ryw greaduriaid yn codi eu penau ychydig yn uwch na’r
llwyni, er deall pwy oedd yn dyfod. Dygodd edrychiad agosach hwynt yn
eglurach i’m golwg, ac ymddangosent wedi ffurfio llinell haner-cylchog, ac yn
barod i’r ymosodiad. Sefais oddeutu dwsin o latheni oddiwrthynt, yr oeddynt
braidd o’r golwg yn y llwyni, a’r haul wedi machlud. Yr argraff cyntaf a
dderbyniais oedd, mai cŵn gwylltion oeddynt, ond ymddangosent yn fwy
gwrol, ac o liw gwahanol. Fel y dangosai y naill ar ol y llall, eu llygaid tanllyd,
eu penau hirflewog uwch y llwyni oedd rhyngom, edrychais at bob un yn
benderfynol, gan orchymyn iddo fyned i ffwrdd. Cadarnhawyd fi yn fy
meiddgarwch gan wybodaeth o fy mherygl. Pa fodd bynag, wedi i mi eu gwylied,
fel y neidiai y naill ar ol y llall yn fawreddog dros y man agored bychan
oedd gerllaw, i’r llwyn yr ochr draw, deallais fy mod wedi bod yn agos i
safnau tua phymtheg neu ugain o lewod, hen ac ieuanc;
a phe cawsent genad, buasai mymrun o amser yn ddigon iddynt fy rhwygo yn
ddarnau. Teimlais yn ddiolchgar i’r ARGLWYDD am y waredigaeth, a
phenderfynais nad ewyllysiwn gyfarfod a’r bwystfilod arswydus ac ofnadwy hyn
mwy. Ar ben boreu, pan safwn o flaen y ty, daeth dyn ataf gan waeddi allan, “Zi ya pela,” gan feddwl fod y llewod
yn bwyta y da. Y prydnawn blaenorol, yr oedd buwch wedi myned ar goll yn y
goedwig, a’r boreu hwn, yr oedd bachgen wedi ei chael yn farw, ac wedi ei
rhanol fwyta gan lew. Gan hyny, cyhoeddiad rhyfedd oedd hwn yn erbyn y llew.
Nid cynt y gwnaed y ffaith yn hysbys nag y cychwynodd yr holl dref allan dan
arfau ar ol y gelyn, gan ei ddilyn i’w loches, ac ymosod arno, a pheri iddo
gwympo yn gelain yn ei waed ei hun. Yr hwn a lwydda i’w ladd a wobrwyir gan y
Brenin ag ych tew, a gorphenir y rhyfel mewn gwledd.
DWYN
RHAGRITH I’R GOLWG.
Rhagrith yw ceisio bod yn rhywbeth nad ydym. Gallwn dwyllo dynion â rhagrith;
ond ofer yw meddwl twyllo DUW felly. Arwydd dda yn mhawb ydyw bod yn
wyneb-agored: os drwg a wnaethom, peidio a’i wadu — ei guddio. Byddai ei
guddio yn ychwanegu drwg at ddrwg: drwg oedd y coll, ond drwg arall oedd yr
anwiredd i’w guddio.
Da yw y gobaith am y plentyn hwnw sydd yn ddigon gwrol i beido bod yn
rhagrithiwr. Llwfr (coward) yw y
rhagrithiwr. Pan haciodd y plentyn George Washington y goeden yn ngardd ei
dad,
|
|
|
(delwedd 4807) (tudalen 352)
|
cafodd gyfleusdra
i ddangos beth fyddai George Washington y dyn. “Gwyddoch, fy nhad, nas gall
eich plentyn ddweyd anwiredd; myfi a’i haciodd â’r fwyell,” meddai. Dyna wawr
dydd y Cadfridog gwrol.
Ond i’r golwg y daw y rhagrithiwr wedi’r cwbl, ryw dro. Ceisiodd Saul y brenin
ragrithio o flaen Samuel y prophwyd. Ond, meddai Samuel, “Beth, ynte, yw
brefiad y defaid hyn yn fy nghlustiau, a beichiad y gwartheg yr hwn yr ydwyf
yn ei glywed?” Dyna ei ragrith i’r golwg. Gehazi.
Onid aeth fy nghalon gyda thi, pan
drodd y gwr oddiar ei gerbyd i’th gyfarfod di?” Judas: “Y cyfaill, i ba beth y daethost?” Magus: “ Bydded dy arian gyda thi i ddystryw; nid oes i ti ran na
chyfran yn y gorchwyt hwn canys nid yw dy galon di yn uniawn ger bron DUW.”
Dyna ragrith y pedwar dyn drwg uchod i’r golwg. Gwyr DUW beth sydd mewn dyn.
“Rhith duwioldeb!” — wfft iddo.
MAM.
PA FODD I GREDU YN IESU GRIST?
Gofynai geneth fach anwyl i’w thad un diwrnod,
“Pa fodd y mae i mi gredu yn IESU GRIST?”
“Onid ydych wedi clywed,” meddai y tad, “fod IESU GRIST wedi dyfod i’r byd, a
marw yn ein lle, a’i fod yn cadw pawb a gredant ynddo i fywyd tragywyddol?”
“Ydwyf,” meddai hithau, “wedi clywed a darllen yr hanes amdano; ond nid wyf
yn gwybod pa fodd i gredu ynddo.”
Cymerodd y tad hi i’w freichiau, a chofleidiodd hi yn garuaidd. Yna dywedodd,
“A ydych chwi yn credu fod y breichiau hyn yn ddigon cryf i’ch cynal chwi?”
“O, ydwyf,” meddai.
Yn y man aeth y tad i ystafell odditanodd, i’r hon yr oedd drws gollwng (trap-door) iddi. Yr oedd yr ystafell
isaf yn hollol dywell. Galwodd y tad ar y plentyn mewn llais clir,
“Fy merch anwyl, ymdeflwch i lawr, ac mi a’ch daliaf yn ddiogel yn fy
mreichiau.”
“Pa fodd y gallaf?” meddai hithau.
“Nid wyf yn eich gweled.”
“Ond, oni wyddoch chwi pwy sydd yn sairad â chwi?” meddai y tad.
|
|
|
(delwedd 4808) (tudalen 353)
|
“Fy nhad sydd yn siarad a mi, yr wyf yn gwybod.”
“Wel, paham na theflwch eich hunan i lawr i fy mreichiau?”
“Am nad wyf yn eich gweled.”
“Ond gwyddoch nad wyf am eich twyllo, a’ch arwain i afael perygl; a gwyddoch
fy mod yn ddigon cryf i’ch dal yn ddiogel. Ac os nad ellwch ufuddhau i’r hyn
a geisiaf, er nad ydych yn fy ngweled, nid ydych yn credu ynof.”
“Yr wyf yn credu ynoch, fy nhad,” meddai y ferch, a thaflodd ei i hunan i
lawr i’r twll du. Yr un foment yr oedd yn disgyn yn mynwes ei thad.
Dyma yw credu yn IESU GRIST, ufuddhau i’w eiriau, er nad ydym yn ei weled, ac
ymdaflu i’w freichiau, oblegid “ni chollir pwy bynag a gredo ynddo.” Mae efyn
ddigon cryf i’n cynal; ac y mae yn rhy dda ganddo am danom i’n twyllo. “Crêd
yn yr ARGLWYDD IESU GRIST, a chadwedig fyddi.” — Trysorfa y Plant.
Y LLWYDDIANT
MAWR FYDD AR GREFYDD.
Pwy yw y rhai hyn a ehedant fel cwmwl, ac fel colomenod i’w ffenestri?”
Esa.6o:8. DUW sydd wedi datguddio i’w was yma y dylifiad a fydd yn y dyddiau
diweddaf i’w eglwys. Dysgir colomenod gan reddf i chwillo am gysgod o flaen
tymestl. Mae YSBRYD Duw, trwy argyhoeddiad, yn tueddu pechaduriaid i ffoi at
GRIST am nodded rhag y llid a fydd. “0 na byddai i mi adenydd fel colomen!
yna yr ehedwn ymaith, ac y gorphwyswn.” Brysiwn i ddianc rhag y gwynt
ystormus a’r dymestl.
Pa fodd y deuant? “Fel cwmwl.” Mae
llawer o fân ronynau mewn cwmwl. Pobloedd lawer, a chenedloedd cryfion a
ddeuant i geisio ARGLWYDD y lluoedd yn Jerusalem, ac i weddio ger bron yr
ARGLWYDD. Ond er mor lluosog, byddant oll yn un, fel cwmwl - neb yn tynu yn
groes, neb yn eiddigeddu wrth nac yn athrodi arall. Ephraim wedi peidio a
chenfigenu wrth Judah, a Judah wedi peidio a gorthrymu ar Ephraim. Partïol
farn a rhagfarn tan draed, ac ysbryd hedd ar yr orsedd.
“Ac fel colomenod i’w ffenestri.” —
Aderyn bach cwynfanus yw y golomen; mae beunydd yn trydar. Felly yr
edifeiriol. Hefyd maent yn ddiniwed fel y golomen. Cyflymdra ei hedyn yw
diogelwch y
|
|
|
(delwedd 4809) (tudalen 354)
|
golomen. Ar edyn
ffydd y mae y duwiolion yn gallu ymgodi uwchlaw temtasiynau a pheryglon.
Ond i ba ffenestri yr ehedant? Ffenestr myfyrdodau sanctaidd. Ffenestr gweddi
daer, ddyfal a hyderus. “Minau nesâu at DDUW sydd dda i mi.” “Bendigedig
fyddo DUW, yr hwn ni throdd fy • ngweddi oddiwrtho, na’i drugaredd ef
oddiwrthyf finau,” Ffenestr ordinhadau ty yr ARGLWYDD. “Pa bryd y deuaf ac yr
ymddangosaf ger bron Duw? Fy enaid a hiraetha, ie, ac a flysia am gynteddau
yr ARGLWYDD.” — Allan o Gofiant y Parch. James Davies, Radnor, O.
IESU GRIST A’R
PLANT.
Gair byr, yna fe’i cofir. Rhaid i’r rhai sydd a phlant dan eu
gofal ddysgu eu rheoli — eu llywodraethu. Sut y gwnant hyny yn effeithiol? yw
y cwestiwn mawr. Amlwg yw nas gallant lwyddo oni allant roddi syniad iddynt
am ddrwg a da. Y ffordd oreu i
wneyd hyny ydyw mewn cysylltiad â pherson teilwng — un y byddo pob rhinwedd
ynddo, ac yn cael ei ddymuno a’i gymeradwyo ganddo. Rhaid gosod yn meddwl y
plentyn rywbeth fyddo yn ei gymell at y da, ac i gasâu y drwg, bob amser, ac
yn mhob man. Dim eithriad i fod i hyn. Felly, rhaid cael model perffaith, a
holl-bresenol o rinwedd, neu ddaioni i’r plant. Rhaid eu cael i gredu fod y model hono yn fyw — yn sylwi arnynt bob amser — yn eu caru — ac
yn rhoddi pob peth da iddynt yn wastadol; yn eu gwobrwyo am eu daioni, ac yn
eu ceryddu am eu drygioni. Rhaid, hefyd, iddynt gael syniad uchel a pharchus
am y cyfryw, ac y cânt wneyd eu cartref gydag ef ar ol marw. Mae y plant yn
gweled eraill yn marw, hen ac ieuainc; mae hyn yn cael lle dwys ar eu meddwl
— lawer mwy felly nag a feddyliwn i, ofnir. Mae yn eu meddyliau hwy fil o
gwestiynau yn nghylch hyn, a phob un o honynt yn ormod o faich i ni, sydd
mewn oed, yn fynych i’w ateb. Ond, os gellir enill eu meddwl i deimlo fod un
yn byw gyda hwy yn awr, a hwnw yn rhoddi pob peth iddynt yn bresenol — yn eu
caru â’i holl galon; ac mai at Hwnw y byddant yn myn’d ar ol marw, i fyw mewn
lle uwch o ddedwyddwch; ac na fydd Hwnw byth yn eu gadael, yn eu marw mwy nac
yn eu byw, byddis wedi enill tir uchel iddynt sefyll arno, ac actio bywyd
oddiwrtho.
Yn awr, IESU GRIST yn unig a wna hyny i fyny. Rhodder IESU GRIST i’r plant
fel ei gosodir Ef allan yn y Beibl, yn Un
galluog i
|
|
|
(delwedd 4810) (tudalen 355)
|
ofalu am danynt —
yn eu caru, ac yn eu cadw rhag pob drwg — yn Un yn cymeradwyo pob da ac yn cosbi pob drwg — yn Un yn gafael yn eu llaw, ac yn eu
harwain yn safe trwy bob perygl, er
nas gwelant Ef — yn Un a’u cymerant
oll, os yn blant da, i’r nef i fyw gydag Ef, neu os yn blant drwg, a’u cosba
yn y lle poenus hwnw; ie, meddaf, rhodder syniad fel yna iddynt o IESU GRIST,
a bydd genym afael a rheolaeth ar
ein plant fel creaduriaid moesol ac anfarwol. Gellir fel hyn eu llywodraethu
ag egwyddorion sefydlog a thragywyddol.
HENRY M.
STANLEY.
Mae llawer o swn wedi bod yn ddiweddar am Mr. Stanley yr hwn a
aeth allan i Affrica ar ol y teithiwr colledig, Dr. Livingstone, ac a’i
cafodd. Mynai rhai mai Americaniad ydoedd, ac eraill mai Cymro. Ond er iddo
ef unwaith wadu y gwirionedd mewn effaith, y mae bellach yn ddiamheuol mai
John Rowlands, neu Rolant o Ddinbych yw y gŵr. Y mae un Cadr. Rowland
wedi ysgrifenu cyfrol Seisonig ddyddorol o holl hanes ei fywyd ef a’i deulu;
ac y mae ystori hynod ei fywyd bellach wedi ei dwyn i wyneb haul a llygad
goleuni.
Yr oedd taid a thad John o’r un enw ag yntau, John Rollant, ac yn dra
adnabyddus yn Ninbych a’r cylchoedd. Priododd yr ail John Rowlant â merch
Moses Parry, cigydd, yr hwn oedd yn byw meiwn ty o’r enw “Castell,” ac yn y
ty hwnw y ganed John Rolland y trydydd, yr hwn a elwir yn awr Stanley.
Bedyddiwyd ef dan yr enw “John Rowlands” yn Eglwys Tremeirchion.
Pan yn ddwy flwydd oed bu ei dad farw, a’i daid hefyd, Moses Parry, a thrwy y
wasgarfa ar y teulu gyrwyd John allan i’w fagu at un Mrs. Price, oedd yn byw
o fewn caerau hen gastell Dinbych, ac ymddygid ato fel un o’r teulu. Anfonwyd John am beth amser i’r Ysgol Rydd, a gedwid gan Mr. John
Jones. Wedi hyny symudwyd ef i Ysgol Gyhoeddus Llanelwy, ac yr oedd hiraeth
mawr yn nheulu Price wrth orfod ymadael â’r llanc ieuanc cyflym, llygad-ddu.
Mab i Mrs. Price, o’r enw Richard, yr hwn oedd tuag i6eg oed, a’i cariodd ar
ei gefn y rhan fwyaf o’r ffordd tua Llanelwy.
Daeth yn ei flaen yn rhagorol gyda’i addysg yn yr ysgol hon, yn gymaint fel y
daeth yn fuan i gynorthwyo yn nghadwraeth cyfrifon yr ysgol. Rhifyddiaeth a
daearyddiaeth oedd ei hoff astudiaeth. Yr oedd hefyd yn hoff o gerddoriaeth.
Yr oedd, fel y tystia ei athrawon yn yr ysgol hon, wedi gwneyd argraff ar eu
meddyliau y pryd hwnw, y delai yn ddyn nodedig os ca’i fyw. Pan oedd yr esgob
un tro ar ymweliad â’r ysgol, yr oedd cyflymdra ac addfedrwydd John wedi ei
daro. Gosododd ei law ar ei ben, a dywedodd wrtho,
|
|
|
(delwedd 4811) (tudalen 356)
|
“Wel, fy machgen i, i ba
alwedigaeth y carech chwi gael eich pretisio iddi?”
“I fod yn esgob,” oedd atebiad cyflym y bacbgen. Rhoddodd yr esgob Feibl yn
anrheg iddo wedi hyny, a darn o arian, a dywedodd, “Mae John Rowlands yn
fachgen clyfar, ac os caiff iechyd bydd yn sicr o wneyd ei ol.” Yr oedd y
Beibl hwn ganddo pan dalodd ymweliad â Dinbych, ar ol y rhyfel yn America.
John oedd arweinydd ei gymdeithion yn mhob chwareu a digrifwch yn ystod ei
arosiad yn ysgol Llanelwy. ‘Yr oedd hefyd yn o enwog am ymladd, a dywedir
iddo adael yr ysgol ar ol ymladdfa enbyd ag un o’i gyd-ysgolheigion, gan
gywilydd dangos y marciau ydoedd wedi eu gadael ar ei wyneb. Mae llyfr yr
ysgol yn dangos iddo ymadael yn 185-6. Bu ar ol hyn yn gynorthwywr (pupil teacher) mewn ysgolion a gedwid
gan ei gefnder yn Brynford a’r Wyddgrug.
Yr oedd John yn rhy uchel ei ysbryd i blygu i awdurdod ei gefnder; ac un tro,
pan geisid ganddo lanhau ei esgidiau, taflodd ei esgidiau o’r neilldu, ac
aeth i’w ffordd, er ei fod yn dlawd a digeiniog. Yr oedd yn awr oddeutu 16
oed. Aeth yn ei flaen i Liverpool. Cysgodd y noson gyntaf yno, gan eistedd ar
y gareg yn nghysgod drws anedd-dy. Llwyddodd i gael lle fel cabin boy ar fwrdd llong oedd yn myned
i New Orleans.
Wedi cyrhaedd yno, cafodd John
Ie mewn swyddfa masnachwr o’r enw Stanley. Enillodd yn fuan ffafr ei feistr;
ac yn mhen tymor, gan nad oedd ganddo blant o’i eiddo ei hun, addawodd
ddarparu yn dda ar gyfer bywoliaeth John Rowland ieuanc. Hyn a barodd i John
newid ei enw; ac y mae, gydag un eithriad, wedi dal wrth yr enw Henry M.
Stanley hyd heddyw. Ond bu ei feistr farw yn sydyn, heb ewyllys, a duodd hyn
ffurfafen y Cymro ieuanc unwaith eto.
Yr oedd rhai o’i berthynasau yn Dinbych, yn enwedig ei fodryb, Mrs. Parry, yn
anfoddlon iawn iddo newid ei enw. A phan ddaeth ar ymweliad a Dinbych,
dywedodd eiriau go chwerw wrtho am ei ffolineb. Ond digiodd yn fwy fyth wrth
i Emma, haner chwaer i John, fynu canlyn ei esiampl, a galw ei hunan, fel ei
brawd, Emma Stanley. Nis gallwn ddilyn yn fanwl hanes anturiaethus y llanc.
Pan dorodd y rhyfel allan, ymunodd a byddin y De, “am,” meddai wedi hyny,
“nad oedd yn gwybod gwell.” Bu yn yr holl frwydrau a ymladdwyd gan y
Cadfridog Johnston, hyd nes y lladdwyd hwnw, yn 1862; a chymerwyd Stanley yn
garcharor yn mrwydr Pittsburgh Land ing. Tra yn cael ei ddwyn ymaith,
rhuthrodd o ganol ei warchodwyr i’r afon, a nofiodd ar ei thraws yn ddiangol,
er i fwy na dwsin o ergydion gael eu saethu ato.
Daeth drosodd i’r wlad hon yn ddioed, ac aeth yn ei flaen at ei fam, yr hon
oedd y pryd hwnw yn byw yn Bodelwydden. Gan nad oedd yr un ffordd o
fywoliaeth yn agor o’i flaen yma, wedi aros rai misoedd yn nhy ewythr yn
Liverpool, aeth yn ei ol i America eto. Glaniodd yn New York, ac ymunodd â’r
llynges yn myddin y Gogledd, yn 1863. Cododd ei wroldeb ef i sylw buan. Mewn
un frwydr, nofiodd bum’ cant o latheni o dan dân y gelyn, a chydiodd raff
wrth long y gelynion,
|
|
|
(delwedd 4812) (tudalen 357)
|
a llwyddwyd i’w
chymeryd. Codwyd ef am y weithred hon yn fanerwr, gyda chyflog o 350 y
flwyddyn.
Wedi gorphen y rhyfel, aeth y llong yr oedd o arni ar wibdaith i
Constantinople, sef yn haf 1866. Cafodd Stanley yno genad i dalu ymweliad â
chartref, a bu yn aros eto am dymor yn Bodelwydden gyda’i fam. Bu yn talu
ymweliad ag amryw o’i hen gyfeillion. Er y gwyddent ei fod wedi mabwysiadu yr
enw Stanley, eto galwent hwy ef ar ei hen enw, Rowlands, ac yn yr adeg hono,
ymgymerodd yntau a’r hen enw hefyd, oblegid ysgrifenodd yn llyfr yr ymwelwyr,
wrth dalu ymweliad a. Chastell Dinbych, yr hyn a ganlyn:—
“Rhag. 4eg, 1866.
John Rowland, gynt o’r Castell hwn (yr oedd y ty y ganed ef o fewn cylch y
Castell), yn awr Banerwr yn Llyngas yr Unol Dalaethau, yn Ngogledd America,
yn perthyn i’r llong ‘Ticonderoga,’ yn awr yn Constantinople, yn absenol trwy
ganiatad.” Talodd ymweliad. hefyd â’r ysgol yn Llanelwy, anrhegwyd yr
ysgolheigion a the a theisenau, a rhoddodd yntau anerchiad iddynt wrth ei hen
enw, gan roddi iddynt fraslun o’i hanes er pan ymadawodd.
Y mae hanes ei anturiaeth ef a dau gyfaill ar ol hyn yn Asia Leiaf, yn
arddangos yr ysbryd mwyaf dewr a diofn, a’r dyoddefiadau mwyaf truenus. Yr
oedd y wibdaith ffôl yr un pryd yn ei gwymhwyso ar gyfer ei daith enwog i
ddarganfod Livingstone. Mae hono bellach yn hysbys i’r holl fyd. Y mae yn awr
eto wedi myned allan ar daith ymchwiliadol i Affrica, ac os y caiff fywyd, y
mae yn debyg iawn o wneyd gwrhydri. Pa faint bynag o fai a roddir yn ei erbyn
am newid ei enw, ac am, ar un amgylchiad, wadu ei genedl, y mae mor eglur a
haul canol dydd, fod John Rowlands, Dinbych, a Henry M. Stanley, yr un
a’r unrhyw berson.
ADOLYGIAD Y WASG.
COFIANT Y DlWEDDAR BARCH. JAMES DAVIES, RADNOR, O.
Gan y Parch. G. GRIFFITHS, Cincinnati,
O.
Utica, N. Y; T. J. GRIFFITHS, Argraffydd, Exchange Buildings. 1875.
Cynwysa y gyfrol hon 222 o dadalenau, ac arni waith argraffyddol tlws, am y
pris isel iawn o 80 cents. Dylasai
fod yn ddolar o leiaf. Ceir defnydd y gyfrol yn y pethau hyn: “At y
darllenydd; rhaglith; cofiant; englynion coffadwriaethol; pregethau;
amlinelliad o’i brif weddnodau; adgofion personal am dano; adgofion brodyr
eraill am dano; ysgubau o loffion difyrus am dano; penillion coffadwriaethol;
English Department; cawellaid o fân-saethau ei fwa; pynciau ysgol.
Ystyriwn ysgrifenu cofiant yn un o’r pethau mwyaf anhawdd i’w gyflawnu yn
deilwng; ac i’n tyb ni ychydig o gofiantau teilwng sydd yn
|
|
|
(delwedd 4813) (tudalen 358)
|
ein iaith. Dyry
awdwr y cofiant hwn ei olygiad am beth
ddylai cofiant fod, yn ei Raglith; â’r hyn y cydunwn, gan ystyried y
rhan yma o’r gyfrol yn stand-point iddi
oll. Darllener y Rhaglith yn fanwl a diduedd, a cheir boddhad mawr. Teimlwn
fod y Parch. G. Griffiths, o Cincinnati, O., yn haeddu clod am ei lafur i
osod allan gymeriad ein brawd ymadawedig mor gryno, eglur, ac effeithiol.
Edrychwn ar y Cofiant yn un o’r rhai mwyaf teilwng, mewn chwaeth, cynwys, a
chywirdeb, a gyhoeddwyd yn ein iaith yn America. Ni ddylai copi o hono aros
ar law yr awdwr, ond am ychydig amser. Gwnaeth y Parch. Mr. Griffiths
wasanaeth i Gristionogaeth yn gyffredinol, ac i’r enwad parchus y perthynai
yr ymadawedig iddo. Bydded i bawb werthfawrogi hyn.
M.
COR Y PLANT.
Gwelir ar amlen y BLODAU hysbysiad am Lyfr Tônau at wasanaeth yr Ysgol Sul;
ac fel y cyfryw gelwir arnom i sylwi arno.
Yr ydym wedi edrych drosto yn fanwl, a chanu rhai o’r tonau a beirniadu rhai
o’r penillion, ac yn cael yr oll yn wir deilwng o gefnogaeth yr Ysgol Sul.
Gellir magu mwy o deimlad Cymreig yn y plant drwy ddysgu iddynt dônau ar
eiriau Cymreig, nag unrhyw ffordd arall. Mae yr Ysgol Sul Gymreig dros yr
holl wlad yn galw am lyfr o fath hwn; ac yn awr wele gyfle i bawb ei gael am
50 cents yr un, neu $5.25 y dwsin. Defnyddiwch ef, a gwna les i’r plant ac i’r
oes.
GOL.
ANERCHIAD Y
TRYSOYDD.
Anwyl Dderbynwyr, — Mae y rhan luosocaf o honoch yn rhai ieuainc; felly mae
yn bwysig iawn i chwi ddechreu byw yn drefnus. Pan dderbymwch bapyr newydd,
neu pan brynoch lyfr, cofiwch dalu am
dano, ac os yn bosibl, talwch yn
mlaen.
Mae llawer o honoch heb dalu am Y BLODAU eleni, a rhai o honoch yn alluog i
wneyd oddiar ddechreu y flwyddyn. Yn awr, os ydych am arfer eich hunain i fod
yn drefnus, ac i gael eich hystyried yn FONEDDIGION, taliach eich dyled — nid
yn unig am BLODAU YR OES, ond am bob cyhoeddiad a dderbyniwch; eich dyled yw
talu am bob peth, yn neillduol am BLODAU YR OES A’R YSGOL am 1876.
CYNONFARDD.
|
|
|
(delwedd 4814) (tudalen 359)
|
SUFFER LITTLE CHILDREN TO COME UNTO ME.
Words by Rev. JONATHAN NICHOLAS.
Music by Mr. GOMER THOMAS.
1. Jesus said, how sweet the story. Let the children come unto me,
For of such in all its glory. Shall my heavenly kingdom be.
2 O! how grand, and yet how simply, Jesus calls the “lit - tle child;
His words are never harsh, nor angry. But are loving - ly and mild.
3. Children, yes, but not forsaken, We are welcomed by his love;
Hark! he calls, and bids us hasten To his home of joy a - bove.
Suf - fer the chil - dren to come unto me,.
Suffer the children, Suffer the children, Suffer the children to come unto
me.
Suf - fer the chil - dren to come un - to me
Suffer the children, Suffer the children to come un - to me.
A specimen page of our forthcoming Sunday School Singing Book. — GOMER
THOMAS,
|
|
|
(delwedd 4815) (tudalen 360)
|
Y FASGED ’SGLODION.
LLOERIG. — Daeth wyres fach Ned Puw at ei thaid un tro, a gofid mawr arni:
“ ’Nhaid, mae Shon Rhys yn d’eyd fod y lleuad wedi ei g’neyd o gaws newydd.”
“Onid wyt yn ei gredu?” ebai y taid.
“Yr wyf yn gwybod nac ydyw.”
“Pa fodd y gwyddost?”
“A ydyw hi felly, ’te, ’nhaid?”
“Rhaid i ti chwilio drosot dy hun.”
Aeth yr eneth i chwilio; nid oedd ganddi un llyfr ond y Beibl. Dychwelodd yn
mhen ychydig, gan waeddi, “Mi cefais hi allan; nid yw y lleuad wedi ei g’neyd
o gaws, oherwydd gwnaed y lleuad cyn gwneyd buwch.”
— Y llinellau canlynol ydynt gyfieithiad o rai a briodolir i’r Dywysoges
Amelia, merch Sior III., ar ei chlaf wely:
Yn wamal, a gwawr ie’nctyd ar fy ngrudd,
Y chwarddais, dawnsiais, cenais, cefais glod,
Yn falch o iechyd, hoff o bleser rhydd,
Ni thybiais unwaith fod gofidiau i ddod,
Gan farnu, yn nghanol ffôl bleserus swyn,
I’r ddaear gael ei gwneuthur er fy mwyn.
Ond pan ddaeth awr y brofedigaeth erch,
A siglo’r babell gan angeuol glwy’,
At bleser gwag pan oerodd bryd a serch,
Nad allwn droi’n y ddawns, a chanu mwy;
Meddyliais yna, drymed fuasai ’nghwyn,
Pe’r byd yn unig wneithid er fy mwyn.
— Dywed ffraethebwr Danbury, “Lle mae deg o ddynion yn foddIon rhoi ei fywyd
dros fenyw, nid oes ond un o honynt yn foddlon dwyn bwcedaid o lo i’r ty
drosti. Felly mae yn mhob cysylltiad.
— Hawdd yw dweyd — anhawdd yw gwneyd.
— Mae un wraig dda yn y wlad, ac y mae pob gwr yn credu mai gydag ef y mae
hi.
— Y neb a ddalio ddig yn erbyd ei elyn, a geidw ei glwyfau ei hun yn agored.
— Bacon.
|
|
|
(delwedd 4816) (clawr ôl: tu mewn)
|
TANYSGRIFIWCH!
TANYSGRIFIWCH AM
Y DRYCH (THE MIRROR)
Y Newyddiadur Cumreig
HARDDAF, GORAF, A RHATAF,
A GYHOEDDIR YN WYTHNOSOL; At Wasanaeth. y Cymry yn America.
T. J. GRIFFITHS. Cyhoeddwr,
No. 131 GENESEE STREET, UTICA, N.Y..
Cynwysa o Bump i Wyth Colofn mwy o Newyddion na’r un Papyr Cymreig
arall yn y wlad. A chan fod ei gylchrediad yn llawer mwy na’r eiddo un
newyddiadur Cymreig arall, efe yw y CYFRWNG HYSBYSIADOL GOREU yn mhlith Cymry
America.
____________
DILLADAU RHAD
YN UTICA, N. Y.,
YN MASNACHDY
T. SOLOMON GRIFFITHS,
Rhif 64 Genesee Street.
Dymuna T. SOLOMON GRIFFITHS gyflwyno ei ddiolchgarwch i Gymry y cylchoedd hyn
am eu cefnogeth iddo er pan agorodd ei store; ac erfynia am barhad yr unrhyw
yn y dyfodol.
POB MATH O FURNISHING GOODS.
____________
LLYFRAU YSGOL SABBOTHOL
Y DIWEDDAR BARCH. W. ROWL.ANDS, D.D.,
CYHOEDDEDIG GAN MRS. CATHERINE ROWLANDS.
Arweinydd Esmwyth No. 1. 5c. yr un; 50c. y dwsin.
No. 2. 8c yr un; 80c. y dwsin.
Rhodd Mam, 5c. yr un; 50c. y dwsin.
Rhodd Tad, 11c. yr un; $1.20 y dwsin.
Welsh Calvinistic Methodists, l2c. yr un.
Catecism Colquhoun; 15c. yr un.
Dammeg y Mab Afradlon, $1.25.
COFIANT Y PARCH. WM. ROWLANDS, D. D., gan y Parch. H. Powell, New York,
$1.60.
Danfonir y llyfrau uchod gyda’r mail,
a thelir y draul ar dderbyniad pris y llyfrau. Cyfeirier, W. H. ROWLANDS, 68 Blandina St., Utica., N.Y.
|
|
|
(delwedd 4817) (clawr ôl: tu allan)
|
OFFERYNAU CERDD!!
W. APMADOC, Goruchwyliwr.
PIANOS! ORGANS!
AM Y PRISIAU RHATAF.
.
DIGON O LE I DDEWIS:
STEINWAY PIANO,
WEBER PIANO,
CHICKERING PIANO,
HAINES BRO. PIANO
DECKER BRO. PIANO,
EMERSON PIANO,
BRADBURY PIANO,
GABLER PIANO,
“LITTLE BEAUTY” PIANO.
Yn awr yw yr adeg i sicrhau bargen ar bob un o’r offerynau uchod.
MASON & HAMLIN ORGAN,
SMITH ORGAN,
GEO. WOOD ORGAN,
AMERICAN ORGAN, TAYLOR FARLEY ORGAN,
N. ENGLAND ORGAN
BURDETT ORGAN, (dlew
ESTEY ORGAN
Yr offerynau uchod ydynt oreuon y Talaethau Unedig
DEUWCH A PHRYNWCH hwynt i’r “Genedl leuanc.” Gofala APMADOC na werthir yr un
offeryn heb yn gyntaf ei archwillo a’i brofi i foddlonrwydd.
Am bob manylion yn nghylch prisoedd, &c, anfoner at
W. APMADOC, 6 Lansing St., Utica, N.Y.
____________
MEDDYG CYMREIG
YN FLOYD AC UTICA, N.Y.
Bydd yn fanteisiol i bobl Utica sylwi y bydd y meddyg profiadol, Mr. RICHARD
KNEIL. JONES, yn awr o Floyd, yn ymweled a’r ddinas bob yn ail ddydd Gwener.
Gellir ymgyngori ag ef yn nhy Mr. Baxter, Washington Street. Y mae Dr. Jones
wedi enill iddo ei hun enw da fel meddyg medrus yn yr Hen Wlad.
|
|
|
(delwedd 4818) (taflen y tonydd
= tudalen 345)
|
|
|
|
|
|
.....