2615k Gweddi Gyntaf Jessica. Hesba Stretton.

http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_085_gweddi_gyntaf_jessica_ 1898_2615k.htm

Yr Hafan

..........
1863k Y Fynedfa yn Gymraeg

....................
0009k Y Barthlen

..
............................0960k Cywaith Siôn Prys (Testunau yn Gymraeg) - Mynegai

........................................y dudalen hon


(delw 0003)


Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Gal·les i Catalunya


Cywaith Siôn Prys (Casgliad o Destunau yn Gymraeg)
El projecte Siôn Prys (Col·lecció de textos en gal·lès)

_______________________________________


Gweddi Gyntaf Jessica
Hesba Stretton
1898?




(delw 0285)



Llyfr a brynais am bumpunt trwy arwerthiant arlein ebay oddi wrth werthwraig ym Mlaenauffestiniog (7 Ionawr 2007)

Cyfieithiad o “Jessica’s First Prayer”, gan Hesba Stretton, yw’r llyfr Cymraeg. Ymddangosodd y gwaith Saesneg gyntaf fel stori gyfres yn y cylchgrawn Sunday At Home yn 1867. Ni sonir yn y fersiwn Gymraeg nag am enw’r cyfieithydd na blwyddyn y’i cyhoeddwyd.  Rhoddwn 1898? dros dro fel y dyddiad cyhoeddi am mai, yn ôl tudalen agoriadol y copi o’r llyfr sydd gennyf, dyma’r flwyddyn y cyflwynwyd yn wobr Ysgol Sul i Lizzie J. Evans. Mae’r testun gwreiddiol yn Saesneg i’w weld yma


http://www3.shropshire-cc.gov.uk/intros/T000558.htm


ar wefan o eiddo Cyngor Swydd Amwythig.



Free Image Hosting at www.ImageShack.us
delw 6309 clawr

_______________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
delw 6310 (perchennog)

Rhagfyr 26ain 1898
Gwobr i Lizzie J. Evans am ddysgu allan y Tlws Dirwestol.


_______________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
delw 6311 tudalennau 4-5

(x5) GWEDDI GYNTAF JESSICA.

Llundain:
CYMDEITHAS Y TRAETHODAU CREFYDDOL,
56 PATERNOSTER ROW;
65 ST PAUL’S CHURCHYARD.

MANCHESTER CORPORATION STREET.
BRIGHTON: WESTERN ROAD

_______________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
delw 6312 tudalennau 6-7

(x6) LONDON;
PRINTED BY WILLIAM CLOWES AND SONS, LIMITED,
STAMFORD STREET AND CHARING CROSS.

(x7) CYNWYSIAD.

PENNOD I. Y BWRDD COFFI A’I BERCHEN. 9.
PENNOD II. PROFEDIGAETH JESSICA. 20.
PENNOD III. HEN GYFAILL MEWN GWISG NEWYDD. 30.
PENNOD IV. CIPOLWG AR WLAD Y TYLWYTH TEG. 44.
PENNOD V. BYD NEWYDD YN AGOS. 56.


_______________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
delw 6313 tudalennau 8-9

(x8) CYNWYSIAD.

PENNOD VI. Y WEDDI GYNTAF. 63.
PENNOD VII. CWESTIYNAU CALED. 69.
PENNOD VIII. YMWELYDD HEB El DDYSGWYL. 76
PENNOD IX. ATEBIAD GWEDDI GYNTAF JESSICA. 87.
PENNOD X. CYSGOD ANGAU. 100
.

(x9) GWEDDI GYNTAF JESSICA.
PENNOD I.
Y BWRDD COFFI A’I BERCHEN
Mewn congl gysgodol a neillduedig dan un o bynt y rheilffordd sydd yn croesi ystrydoedd Llundain, gallesid gweled, ychydig flynyddau yn ol, bob bore rhwng pump o’r gloch a haner awr wedi wyth, fwrdd coffi taclus wedi ei osod allan. Planc ydoedd wedi ei osod ar drestl i’w ddal, a dau lestr tin, gyda thân bychan o dan bob un, i gadw y coffi yn ferwedig ar yr oriau boreuol pan heidiai gweithwyr i’r ddinas ar gyfer llafur dydd.

_______________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us 
delw 6314 tudalennau 10-11

(x10) Yr oedd y bwrdd coffi yma yn un poblogaidd iawn, am fwy nag un rheswm. Yr oedd dan gysgod, yr hyn oedd yn beth tra dymunol ar foreuau gwlawog. Yr oedd hefyd mewn congl ddirgel lle nas gallai y bobl wrth basio weled y rhai a fynai gymeryd eu tamaid boreuol yno. Yr oedd perchen y bwrdd coffi hefyd yn ddyn dystaw, heb ewyllysio cyfeillachu dim â neb, ond yn unig weinyddu y coffi i’r rhai a fynai fod yn gwsmeriaid iddo, mewn dystawrwydd.

Yr oedd yn ddyn tal, teneu, oedranus, gyda gwyneb difrif-ddwys, a’i ddull yn bruddaidd, ac fel am gadw ei hun yn guddiedig. Nid oedd neb yn gwybod ei enw, na lle ei breswylfod; os nad oedd yr hedd-geidwad, oedd yn cerdded yn ol a blaen heibio iddo, ac weithiau yn ei gyfarch, yn gwybod. Nid oedd nemawr (x11) yn prisio holi dim yn ei gylch; a’r ychydig ydoedd, y cwbl a allent gael o’i hanes oedd ei fod yn symud ei fwrdd a’i lestri am haner awr “wedi wyth i dŷ coffi oedd gerllaw, ac wedi gosod yr holl daclau yno, ei fod yn myned ymaith yn chwim ac ysgafndroed, gan daflu arni drem wibiog yn ol dros ei ysgwyddau; ac felly collid ef yn fuan yn nhyrfa yr ystryd. Nid ymgymerodd neb erioed â’r cywreinrwydd amyneddgar o’i ddilyn i’w dŷ, nac i gael allan pa foddion eraill oedd ganddo tuagat enill ei fywioliaeth. Yr oedd ei fwrdd coffi, beth bynag, yn cael ei gylchynu â llawer o gwsmeraid, y rhai y gweinyddai arnynt gyda difrifoldeb mud, ac ni rwgnachent roddi iddo yr hyn a ofynai am y cwpaneidiau coffi rhagorol.

Yr oedd tyrfaoedd o weithwyr wedi

_______________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us 
delw 6315 tudalennau 12-13

(x12) bod yn pentyru o gwmpas ei fwrdd am flynyddoedd. Un bore, ar fynyd ag oedd ei fwrdd yn o wag o gwsmeriaid, gwelai y perchenog bâr o lygaid duon dysglaer fel wedi eu hoelio arno ef, ac ar y tafellau bara ac ymenyn oedd ar y bwrdd, gyda threm mor newynog a threm llygoden pan wedi ei gyru gan newyn i’r trap. Yr oedd y wyneb a berthynai i’r llygaid hyn yn deneu a gwanclyd, ac yn cael ei haner guddio gan gnwd o wallt annhrefhus yn hongian dros y talcen, ac i lawr ar y gwddf. Yr unig orchudd oedd gan y plentyn ydoedd ffroc fratiog, yn cael yn brin ei dal wrth ei gilydd gan linynau toredig, a’r wisg yn llithro i lawr dros ysgwyddau rhynedig yr eneth.

Wrth blygu at y fasged oedd ganddo tu cefn i’r bwrdd, canfyddai draed noethion y plentyn yn cyrlio i fyny oddiar y (x13) palmant gwlyb, fel yr oedd y druanes fach yn codi i fyny y naill ar ol y llall, ac yn eu gosod ar eu gilydd, er mwyn cael teimlo un cyffyrddiad o wres ar gefn y troed rhewedig. Pwy bynag oedd yr eneth druenus, ni ddywedai yr un gair; dysgleiriai ei llygaid duon yn newynog, bob tro y tywalltai y dyn gwpanaid o goffi cynes i’r cwsmeriaid, a chlywai yntau drwst ei gwefusau yn agor ac yn cau, fel pe yn dychymygu ei bod hi yn profi y coffi cynhes peraroglaidd.

“ ’Nawr, ’nawr!” ebai wrthi, o’r diwedd, pan nad oedd ond un bachgenyn wrth y bwrdd yn yfed coffi; estynai yntau dros y bwrdd, a dywedai yn ddystaw, “ ’Nawr, paham nad ewch chwi ymaith, eneth fach? ’Nawr, ’nawr; yr ydych yn aros yma yn rhy hir, gwyddoch hyny.”

_______________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
delw 6316 tudalennau 14-15

(x14) “ ’Rwy’n myn’d ’nawr, syr,” meddai, gan wthio ei hysgwyddau bychain i fyny i godi ei ffroc yn dynach am ei gwddf; “ond y mae yn bwrw cwn a chathod allan; ac y mae mam wedi bod ffwrdd trwy y nos, ac aeth â’r allwedd gyda hi; ac y mae mor hyfryd fan yma i arogli y corn, ac mae y polisman yn gadael llonydd i mi tra fyddaf yn llechu fan yma. Mae e ‘n meddwl mai un o’ch cwsmeriaid chwi ydwyf yn cymeryd fy mrecwast.” A chwarddodd yr eneth dipyn o chwerthin bychan oerllyd fel i wawdio ei hunan a’r polisman.

“Nid ydych wedi cael brecwast, mi debygwn,” meddai y gwerthwr coffi wrthi, mewn tôn isel, ddirgelaidd, gan blygu dros y bwrdd nes oedd ei enau bron cyffwrdd â’i gwyneb.

“Nac’wyf,” atebai yn oeraidd, “bydd (x15) eisiau fy nghinio arnaf yn ddychrynllyd cyn y caf fy mrecwast, mi wn o’r goreu. Ydych chwi ddim yn teimlo newyn dychrynllyd, ambell waith, ydych chwi, syr? Nid oes dim gwayw arnaf eto, y’ch chwi’n gwel’d; ond cyn y caf brofi fy nghinio, byddaf yn o ddrwg, gellwch fy nghoelio. Oh! yn ddrwg iawn, yn wir!”

Trodd ymaith gydag ysgogiad ei phen yn awgrymu fod ganddi hi un profiad mewn bywyd ag oedd yn gwbl ddyeithr iddo ef. Ond cyn ei bod wedi myned haner dwsin o gamrau, galwai gyda llais dipyn uwch ar ei hol, ac mewn haner mynyd yr oedd yn ol wrth y bwrdd.

“Gwanwch i mewn yma,” ebe’r perchenog, mewn sisial gochelgar; “dyma ddyferyn o goffi wedi ei adael, ac ychydig grystiau. Dyna, rhaid i chwi beidio dyfod yn agos yma byth mwy, deallwch. Nid

_______________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
delw 6317 tudalennau 16-17

(x16) wyf fi byth yn rhoddi i fegeriaid; a phe buasech chwi ond begian, buaswn yn galw y polisman. Dyna, rhoddwch eich traed oerion wrth y tân. Ydych chwi ddim yn gysurus yn awr?”

Edrychai y plentyn i fyny gyda gwyneb llawn o foddhad annesgrifiadwy. Eisteddai ar ben basged wag, a’i thraed yn agos at y badell fechan oedd yn dal y tân golosg (charcoal), a chwpanaid o goffi cynhes yn anweddu ar ei harffed; ond yr oedd ei genau yn rhy lawn i ateb, dim ond trwy ysgogiad ei phen, yr hyn ddangosai ei bod yn orlawn o fwynhad. Yr oedd y dyn yn brysur am ychydig yn gosod y llestri heibio; ond safai yn awr ac yn y man i edrych ar y plentyn, ac i ysgwyd ei ben yn ddifrif-ddwys.

“Beth yw eich enw!” gofynai iddi yn y man; “ond dyna, na hidiwch! Nid (x17) wyf yn prisio beth ydyw. Beth sydd a fyno eich enw â mi, wn i?”

“Jessica, yw fy enw,” ebe’r eneth; “ond Jess y mae fy mam a phob un arall yn fy ngalw. Chwi flinech ar gael eich galw yn Jess, pe byddech yn fy lle i. Jess yma, a Jess acw, ydyw; ac y mae pawb am i mi fyned ar negesau drostynt. Ac nid ydynt yn prisio dim am fy nghernodio, fy nghicio, a fy ngwasgu. Edrychwch yma!”

Pa un ai oddiwrth yr oerfel neu oblegyd camdriniaeth, yr oedd ei breichiau mor ddu, nis gallasai ef ddyweyd; ond ysgydwai ei ben yn ddifrifol eto, a theimlai y plentyn yn fwy calonog i fyned yn mlaen.

“Byddai yn dda genyf pe cawn aros yma byth bythoedd, fel yr wyf,” llefai yr eneth fechan. “Ond yr ydych chwi yn

_______________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us 
delw 6318 tudalennau 18-19

(x18) myn’d ffwrdd yn awr; ac nid wyf i gael dod yma eto, onide gosodwch y polisman ar fy ol!”

“Wel,” ebe’r dyn, yn dyner, gan edrych o gwmpas i weled os oedd plant carpiog eraill yn y golwg; “os addawch chwi i beidio dod yma am wythnos, a pheidio dyweyd wrth neb arall, gellwch ddyfod yma unwaith eto. Rhoddaf i chwi un pryd arall. Ond rhaid i chwi fyned ymaith yn awr.”

“Yr wyf yn myn’d, syr,” atebai yn fywiog; “ond os oes rhyw neges genych, mi gwnaf, ac mi gwnaf yn iawn hefyd. Gadewch i mi gario rhai o’ch pethau.”

“Na, na,” llefai y gŵr; “rhedwch ymaith, fel merch dda; a chofiwch, nad wyf i’ch gweled am wythnos gyfan.”

“O’r goreu,” ebai Jess, gan gychwyn rhedeg i lawr dros yr ystryd wlawog, i (x19) ddangos ei bod am sefyll yn ffyddlon at ei bargen. Prysurodd yntau i symud ei fwrdd a’i lestri i’r tŷ coffi oedd gerllaw, gan daflu trem ofnus yma a thraw wrth fyned, ac ni welid ef mwy yn y parth hwnw dros weddill y dydd.

_______________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us 
delw 6319 tudalennau 20-21

PENNOD II.
PROFEDIGAETH JESSICA.

(x20) Cadwodd Jessica ei rhan o’r fargen yn ffyddlon; ac er fod yr hen ŵr prudd a dystaw o dan gysgod tywyll y bont yn edrych allan am dani bob bore, wrth weini ar ei gwsmeriaid, ni chafodd yr un cipolwg ar yr eneth fach deneu wyneblwyd. Ond mor gynted ag y daeth yr amser apwyntiedig i ben, gwelid hi yn sefyll eto yn ymyl y bwrdd, a’i llygaid newynog wedi eu hoelio ar y pentwr teigenau a’r bara ymenyn, oedd yn prysur ddifa dan ddwylaw y cwsmeriaid. Yr oedd y bobl yn llawn wrth (x21) y bwrdd, a’r plentyn anghenog yn sefyll yn llonydd o’r naill du, yn aros i’r dyrfa doddi ymaith. Ond mor gynted ag y tarawodd y cloc cyfagos wyth o’r gloch, gwasgodd yn mlaen dipyn yn nes i’r bwrdd, ac ar arwydd y perchenog aeth dan y bwrdd, rhwng y trestlau oedd yn ei ddal, ac eisteddodd, fel o’r blaen, ar y fasged wâg. Yr oedd yn ymddangos i’w olwg ef, braidd yn deneuach, ac yn sicr yn fwy carpiog, nag o’r blaen; a gosododd deisen oedd wedi aros oddiar y dydd blaenorol ar ei harffed, tra yr oedd hi â’i dwylaw rhynedig yn codi y cwpan a’r coffi at ei geneu.

“Beth yw eich enw?” gofynai hi iddo, tra yn syllu i fyny i’w lygaid.

“Fy enw?” ebai, yn annhueddol i roddi cymaint o hysbysrwydd am dano; “fy enw bedydd yw Daniel.”

_______________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us 
delw 6320 tudalennau 22-23

(x22) “A bl’e’r ydych yn byw, Mr. Dan’el?”

“Oh, dyna, dyna,” ebai, “os ydych chwi yn myned yn rhy hyf, well i chwi fyned ffwrdd. Beth waeth i chwi pa le yr wyf fi yn byw? Nid wyf fi am wybod pa le yr ydych chwi yn byw, gellwch fod yn sicr.”

“ ’D oeddwn i’n meddwl dim drwg,” ebai Jess, yn ostyngedig, “dim ond fy mod yn meddwl y buasai yn dda genyf wybod pa le yr oedd dyn da fel chwi yn byw. Yr ydych yn ddyn da iawn, on’d ydych, Mr. Dan’el?”

“Nid wyt yn gwybod,” ebai, yn anesmwyth. “Yr wyf yn ofni nad wyf.”

“Ond, yr ydych, chwi wyddoch,” meddai Jess. “Yr ydych yn gwneyd coffi da; y goreu! a theisenau hefyd! Ac yr wyf wedi bod yn ’sbio arnoch ganoedd o weithiau cyn i chwi fy ngweled, ac y mae y polisman yn gadael chwi yn (x23) 1lonydd, a byth yn dyweyd wrthych am fyn’d ffwrdd. Oh, ydych! Yr ydych yn rhwym o fod yn ddyn da.”

Ocheneidiai Daniel, ac ymdroai o gwmpas ei ddodrefn, fel pe buasai yn dyfalu uwchben syniad y plentyn am ddaioni. Yr oedd yn gwneyd coffi da, a’r polisman yn ei adael yn llonydd! Yr oedd hyn yn ddigon gwir; ac eto, tra yn cyfrif yr ystor o geiniogau oedd wedi chwyddo ei bwrs cynfas cryf, ocheneidiai eto yn drymach fyth. Gadawodd o bwrpas i un o’i geiniogau syrthio ar y llawr lleidiog, ac aeth yn mlaen yn brysur gyda rhifo y lleill, eto yn gwylio symudiadau y ferch oedd yn eistedd wrth ei draed. Heb un cysgod o gyfnewidiad ar ei gwyneb, gosododd ei throed ar y geiniog, a thynodd hi ati ei hun yn ofalus, gan ddal i siarad o hyd â Daniel.

_______________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us 
delw 6321 tudalennau 24-25

(x24) Am foment saethodd pang trwy galon Daniel; yna llon-gyfarchodd ei hun am ei fod wedi cael y ladrones fechan i’r ddalfa. Yr oedd yn bryd ymadael yn awr; ond cyn myned gwnai iddi symud ei throed noeth, a dangos y geiniog a guddiai hi dani, ac yna rhoddi rhybudd iddi na ddelai byth yn agos i’w fwrdd ef mwy. Ai hyn oedd ei diolchgarwch, meddyliai. Yr oedd ef wedi rhoddi dau frecwast iddi, ac wedi dangos mwy o garedigrwydd iddi nag a ddangosodd i neb arall er ys llawer blwyddyn; a’r cyfle cyntaf, wele y feiden fach yn troi arno ac yn ei ysbeilio.

Yr oedd yn troi y syniadau hyn yn ofidus yn ei feddwl, pan yn sydyn y newidiodd gwyneb dyrchafedig Jessica, ac yr ymledodd gwrid tywyll dros ei gruddiau gwelw, ac y llanwodd ei llygaid

_______________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
delw 6322 tudalennau 26-27

(27) gan ddagrau. Plygodd i lawr, cododd y geiniog i fyny o’r llaid, rhwbiodd hi yn loyw ar ei charpiau, a gosododd hi ar y bwrdd yn ymyl llaw Daniel, heb ddyweyd yr un gair. Edrychodd Daniel i lawr arni yn ddifrifol a llym.

“Beth yw hon?” gofynai.

“Gyda’ch cenad, Mr. Dan’el,” meddai, “syrthiodd i lawr heb i chwi ei chlywed.”

“Jess,” ebai yn sarug, “dywedwch wrthyf y cwbl am dani.”

“Oh, gyda’ch cenad,” ebai, dan wylo, “ni fu genyf geiniog i mi fy hun yn gwbl erioed ond unwaith. Rholiodd hon i lawr at fy nhroed, ac ni welsoch chwi hi; a rhoddais fy nhroed arni mewn moment i’w chuddio. Yna, dechreuais feddwl mor dda oeddech wedi bod, ac mor dda oedd y coffi a’r teisenau, ac fel

_______________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
delw 6323 tudalennau 28-29

(x28) y gadawech i mi ymdwymno wrth eich tân; a, gyda’ch cenad, nis gallaswn gadw y geiniog fynyd yn hwy. Yr wyf yn ofni na adewch i mi ddod byth mwy.”

Trodd Daniel ymaith am fynyd, gan ddangos ei hun yn brysur gyda rhoddi y llestri yn y basged, tra y safai Jessica yn ei ymyl yn crynu, a dagrau mawrion yn treiglo lawr yn araf dros ei gruddiau. Yr oedd y gornel daclus hon, a’r tipyn tân cynes o’r golosg, a’r arogl coffi hyfryd, wedi bod yn baradwys iddi hi am ddau dymor byr; ond yr oedd wedi bod yn euog o bechod a’i gyrai oddiyno.

Y tu hwnt i fwa y bont yr oedd yr ystrydoedd yn arwain allan yn oer ac unig, heb un wyneb cyfeillgar i gyfarfod â hi, na dim coffi cynhes i’w hadfywio. Ac eto, nid oedd ond aros yn ofidus i (x29) wrando y geiriau yn cael en llefaru i’w gwahardd hi i ddyfod yn agos i’r lle byth mwy. O’r diwedd, trodd Mr. Daniel ei wyneb ati, ac edrychodd yn ei gwyneb galarus gyda theimlad cyffrous.

“Jess,” ebai, “nis gallaswn i byth ei wneyd. Ond gellweh ddod yma bob bore dydd Mercher, gan mai dydd Mercher ydyw heddyw, a bydd yma gwpanaid o goffi i chwi bob amser.”

Tybiodd hi mai dyweyd nas gallasai ef guddio y geiniog dan ei droed ydoedd, ac aeth ymaith yn brudd ac isel, er ei holl fwynhad wrth feddwl am gael y fath wledd bob wythnos. Yr oedd Daniel yn dyfalu ar yr ymgyrch a gymerodd le yn ei meddwl plentynaidd, ac aeth ymaith gan ysgwyd ei ben, a sisial wrtho ei hun, “Nis gallaswn i fy hun ei wneyd; nis gallaswn byth ei wneyd fy hunan.”

_______________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
delw 6324 tudalennau 30-31

(x30) PENNOD III.
HEN GYFAILL MEWN GWISG NEWYDD.

Wythnos ar ol wythnos am y tri mis olaf o’r flwyddyn, ymddangosai Jessica bob dydd Mercher wrth fwrdd coffi Daniel, ac ar ol aros yn amyneddgar i’r cwsmeriaid oll fyned ymaith, derbyniai hithau ei chyfran trwy garedigrwydd ei chyfaill newydd. Bob yn ychydig caniataodd Daniel iddi gael cludo cyfran o’i faich i’r coffee-house, ond ni adawodd iddi erioed i’w ddilyn yn mhellach, ac yr oedd yn ofalus yn wastad i’w gweled wedi myned ymaith o’r golwg cyn y troai ef ymaith i fyned trwy yr ystrydoedd mân (x31) dyryslyd tua chyfeiriad ei gartref ei hun. Gofalodd beidio ei thynu hefyd i holi ychwaneg o gwestiynau iddo; ac ychydig iawn o eiriau fyddai rhyngddynt yn ystod yr amser y byddai Jessica yn cymeryd ei brecwast.

Am gartref Jess, druan, nid oedd hi yn gwneyd un cel arno, a gallasai Daniel ei dilyn hi iddo unrhyw amser y gwelsai yn dda. Un ystafell ydoedd, wedi bod unwaith yn dawlod gwair ar ben ystabl hen dafarn, ond yn awr yn drigle dwy neu dair o asynod gan werthwyr ffrwythau oedd yn byw yn y cwrt yn yr ymyl. Y ffordd i fyned i mewn i gartref Jess ydoedd dringo ysgol, trwy hen ddrws gollwng (trap-door) yn y llawr, ac yr oedd ffyn yr ysgol yn ddrwg, ai rhai wedi tori.

Yr oedd yr ystafell o fewn mor dlawd

_______________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
delw 6325 tudalennau 32-33

(x32) a digysur a’r atabi oedd dani, heb ddim ynddi ond sypyn o wellt yn lle gwely, ac ychydig o briddfeini a phlanciau yn lle dodrefn. Yr oedd pob peth. allesid ei wystlo wedi ei ddwyn ymaith ys llawer dydd, ac yr oedd yn flin iawn gan fam Jessica yn fynych nad allasai wneyd yr un peth â’i phlentyn. Er mai prin y gellir dyweyd fod Jessica yn faich arni. Nid oedd byth yn gofalu dim am fwyd na dillad iddi, oblegyd yr oedd y plentyn yn enill neu yn cardota yr ychydig fwyd a dillad oedd ganddi i gadw ei hun, o’r braidd, yn fyw. Jess oedd caethforwyn fechan yr holl gwrt; a rhwng cael ei churo a’i baeddu gan ei mham, a’i gorweithio gan ei goruchwylwyr lliosog, yr oedd bywyd Jessica yn un caled. Ond yn awr yr oedd pob bore dydd Mercher yn ddiwrnod i edrych yn mlaen ato; ac (x33) yn y man torodd golygfa arall o lawenydd mawr ar y plentyn helbulus.

Ar brydnawn gwaith un o ddyddiau byr, tywyll y gauaf, yr oedd Jessica wedi crwydro yn mhell oddiwrth ei chartref. Yr oedd ei mam feddw wedi tori allan yn un o’i ffitiau nwydwyllt, ac yr oedd y plentyn eto heb adael tynu hir ocheneidiau dan ei phoen a’i blinder, pan welai, ychydig o’i blaen, ei chyfaill Mr. Daniel. Yr oedd wedi gwisgo yn wahanol i’r modd yr arferai hi ei weled, mewn dillad duon, a chadach gwyn am ei wddf, ac yn cerdded yn o hwylus ar hyd yr ystryd oleuedig. Ofnai Jessica fyned yn mlaen i siarad ag ef, ond dilynai ef o hirbell, nes ei weled yn dyfod at borth haiarn o flaen adeilad fawr, yn dadglo y portb, a chydag agoriad mawr arall yn agor drws dwbl yr adeilad, ac yn myned i mewn.

_______________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
delw 6326 tudalennau 34-35

(x34) Llithrodd y plentyn ar ei ol, yn ofnus a chrynedig, a gwthiodd ychydig ar ddrws bychan y tu fewn oedd wedi ei orchuddio â brethyn coch, fel y gallai ysbio i mewn drwyddo. Wedi edrych am dro, ymwrolodd, a gwthiodd ei hunan i mewn trwy y drws, gan ei gau yn ofalus ar ei hoi. Go dywyll oedd y lle y pryd hwn, ond yr oedd Daniel yn goleuo y naill lamp ar ol y llall, nes gwneyd y tŷ yn oleuach oleuach, a’r goleuni yn egluro fwyfwy ardderchowgrwydd y lle. Safai mewn rhodle oedd yn orchuddiedig â charped, gydag eisteddleoedd derw uchel o bob tu, can ddued agos ag ebenus (ebony}. Yr oedd oriel o’r unrhyw hen dderw tywyll o gylch yr adeilad, yn cael ei chynal gan golofnau mawrion. Haner guddiai hi ei hunan y tu cefn i un o’r colofnau hyn i syllu ar Daniel yn dringo grisiau y

_______________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
delw 6327 tudalennau 36-37

(x37) pwlpud, i’w oleuo, a gwelai yn amlwg bibellau yr organ yn dysgleirio o’r tu cefn. Yn y man aeth Daniel o’r golwg am fynyd neu ddwy i festri oedd y tu cefn. Cymerodd Jessica y fantais ar ei absenoldeb i lithro yn mlaen yn nghysgod yr eisteddleoedd, nes dyfod at risiau llofft yr organ, gyda’i gwychder euraidd. Ar hyn dyma Daniel yn dyfod eto, gyda gwn du a hir am dano; a thra y safai hi gan lygadrythu mewn syndod arno, canfu yntau hi, a tharawyd ef yn fûd am foment; yna, a’i wyneb yn llawn syndod a siomedigaeth, dywedodd yn sarug wrthi,—

“ ’Nawr, ’nawr! rhaid i chwi fyned allan oddiyma. Nid yw hwn yn lle i neb o’ch bath chwi. Lle ydyw i foneddigesau a boneddigion; felly rhedwch ymaith ar unwaith cyn y delo neb i mewn.

_______________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
delw 6328 tudalennau 38-39

(x38) Sut ar y ddaiar y darfu i chwi ffeindio eich ffordd yma?”

Yr oedd wedi dyfod yn mlaen i’w hymy], ac yn plygu i sisial y geiriau hyn yn ei chlust, gau ysbio yn ofnus at y drws yn barhaus. Cafodd Jessica ei thafod yn rhydd.

“Fy mam a’m curodd,” ebai, “ac a’m trodd allan i’r ystryd, ac wrth grwydro gwelais chwi, a dilynais chwi. Rhedaf ymaith mewn mynyd, Mr. Dan’el; ond y mae hwn yn le hyfryd. Beth mae y boneddigesau a’r boneddigion yn wneyd ar ol dod yma? Dywedwch wrthyf, a dyma fi yn rhedeg wedi’n.”

“Dyfod yma i weddio y maent,” sisialai Daniel.

“Beth yw gweddio?” gofynai Jessica.

“Bendith ar y plentyn!” ebe Daniel mewn dyryswch, “ond penlinio y maent (x39) yn yr eisteddleoedd yna; eistedd y mae y rhan fwyaf o honynt, yr un pryd; a’r gweinidog i fyny yn y pwlpud yn dyweyd wrth Dduw beth sydd eisiau arnynt.”

Syllai Jessica yn ei wyneb gyda’r fath drem o hurtwch fel yr ymrithiodd gwên ar wyneb difrif-ddwys Daniel ei hun.

“Beth yw gweinidog a Duw?” gofynai; “oes eisiau rhywbeth ar foneddigesau a boneddigion? Yr oeddwn i yn meddwl fod ganddynt bob peth a fynent, Mr. Dan’el.”

“Oh!” llefai Daniel, “rhaid i chwi fyned ymaith, ydych chwi’n clywed? Deuant yma yn union, a dychrynir hwy os gwelant bagan bach carpiog fel chwi yma. Dyma’r pwlpud, lle mae’r gweinidog yn sefyll i bregethu iddynt; a dyna’r eisteddleoedd lle maent yn

_______________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
delw 6329 tudalennau 40-41

(x40) eistedd i wrando arno, neu gysgu efallai; a dyna’r organ i chwareu miwsig iddynt. Dyna fi wedi dyweyd y cwbl wrthych, a rhaid i chwi beidio dyfod yma byth eto, cofiwch.”

“Mr. Dan’el,” ebai Jessica; “nid wyf fi yn gwybod dim am dano. Oes yma yr un gornel dywell lle y gallwn i ymguddio ynddi?”

“ Nac oes, nac oes,” llefai Daniel yn gyffrous, “nis gallwn adael pagan fel chwi yma heb esgidiau na bonet. Dewch yn awr, nid oes ond chwarter awr i amser dechreu, a bydd rhywun yma mewn mynyd. Ehedwch ymaith, ’nawr!”

Aeth Jessica yn ei blaen yn araf at y drws, gan daflu aml i drem hiraethlon yn ol, a Daniel yn sefyll ar ben y rhodle gan guchio arni bob tro yr edrychai ato. Aeth i’r cyntedd, yno gwelai rhai (x41) yn dyfod i mewn, ac o dan y lamp wrth y porth gwelai un o’i gelynion naturiol— y polisman — yn sefyll. Curai ei chalon fach yn gyflym. Mewn moment canfu loches guddiedig y tu cefn i’r drws, ac ymguddiodd yn y lloches hono hyd nes yr elai y rhai oedd yn dyfod, i mewn, a’r polisman symud yn ei flaen.

Dechreuodd y gynulleidfa ymgasglu yn dew. Clywai drwst y gwisgoedd sidanaidd yn symud, a gwelai y dynion trwy yr agen rhwng y post a’r drws. Unwaith anturiodd i estyn ei braich fain allan a chyffwrdd â’i bys a mantell felfed un o’r boneddigesau wrth basio, ond ni ddaliodd neb hi yn gwneyd hyny, ac ni ddrwgdybiwyd ei phresenoldeb yno. Gwelai Mr. Daniel yn brysur yn arwain y bobl i’r eisteddleoedd; ond edrychai ef yn wyllt a phryderus weithau

_______________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
delw 6330 tudalennau 42-43

(x42) allan i’r tywyllwch, ac unwaith galwodd ar y polisman i ofyn iddo a welodd ef blentyn carpiog yn ymdroi o gwmpas. Yn fuan dechreuodd yr organ chwareu;
ymgrymodd Jessica yn ei lloches, a theimlai yn swynol dan seiniau hyfryd y gerddoriaeth. Ni wyddai beth oedd yn peri iddi wylo, ond llifai y dagrau mor gyflym, fel nad gwiw iddi rwbio ei (x43) llygaid â’i chymalau celyd; felly gorweddodd yn ei hyd ar y llawr, cuddiodd ei gwyneb yn ei dwylaw, ac ymollyngodd i wylo yn ddiarbed. Wedi i’r canu fyned drosodd, clywai swn llais yn llefaru. Yr oedd y cyntedd yn awr yn wag, a’r drws a’r brethyn coch yn gauedig. Yr oedd y polisman hefyd wedi myned o’r golwg. Yn awr oedd yr adeg iddi ddianc. Cododd oddiar y llawr gyda theimlad blinedig a gofidus; a than fyfyrio yn brudd ar y goleuni, y cynesrwydd, a’r miwsig oedd y tu fewn i’r drysau cauedig, cerddodd allan i oerfel a thywyllwch yr ystrydoedd, a thynodd tua’i chartref digysur gyda chalon drom

_______________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us 
delw 6331 tudalennau 44-45

(x44) PENNOD IV.
CIPOLWG AR WLAD Y TYLWYTH TEG.

Nid hwn oedd y tro diweddaf i Jessica i ymguddio tu cefn i’r drws. Nis gallai orchfygu y dymuniad tanllyd o fwynhau eilwaith ac eilwaith y pleser dirgel a pheryglus; a gwyliai Sabboth ar ol Sabboth yn yr ystryd dywell am y foment y gallai wanu i mewn heb i neb ei gweled. Daeth yn fuan i wybod yr amser y byddai Daniel yn goleuo yr addoldy, cyn y delai y polisman i gymeryd ei safle o flaen y porth, ac i wybod hefyd yr adeg ddyogel iddi i ddianc allan. Weithiau chwarddai y plentyn yn ddystaw (x45) taw nes y byddai yn siglo, rhyngddi a hi ei hun, wrth weled Daniel yn sefyll yn anymwybodol gerllaw iddi yn y cyntedd, gyda’r wyneb prudd difrifol i dderbyn y gynulleidfa, yr un fath ag yr oedd yn derbyn ei gwsmeriaid wrth ei fwrdd coffi. Daeth i adnabod y gweinidog yn dda — boneddwr main, tal, gwelw, yr hwn a ddelai i mewn trwy ddrws yn yr ochr, gyda phen crymedig, fel pe buasai mewn myfyrdod dwys, a dwy ferch fach, oddeutu ei hoedran hi, gyda gwedd sobr, ond boddus, yn ei ganlyn. Meddyliai Jessica lawer iawn am ferched y gweinidog. Yr oedd yr ieuangaf yn un landeg’ iawn, a’r hynaf agos yr un hyd a hi, gyda llygaid a gwallt du; ond oh, y gofal oedd am danynt hwy, fel y gellid yn hawdd ddeall wrth eu golwg! “Weithiau, ar

_______________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us 
delw 6332 tudalennau 46-47

(x46) ol iddynt fyned heibio, cauai ei llygaid, a rhyfeddai beth allent fod yn ei wneyd o f’ewn i’r eisteddle tywyll uchel, y fan nad oedd yn lle i ferch fach garpiog a throednoeth fel hi; a byddai ei myfyrdod weithiau yn dybenu mewn ochenaid, yr hon y byddai raid iddi geisio ei mygu.

Yr oedd yn esmwythdra annhraethol i Daniel fod Jessica yn ymgadw rhag ei boeni ef a chwestiynau fel yr ofnai y buasai yn sicr o wneyd, pan ddelai ato i gael brecwast bob bore dydd Mercher; ond yr oedd hi yn rhy gall a chyfrwys i wneyd hyny. Dymunai hi iddo anghofio iddi fod yno o gwbl, ac yn y man gweleai fod ei dymuniad yn cael ei gyflawni; ac nid oedd Daniel mwyach yn anesmwyth, tra yn goleuo y lampau, gan ofn gweled y plentyn yn gwneyd ei hymddangosiad o’i flaen.

(x47) Ond yr oedd prydnawnau goleu yr haf yn dynesu, a gwelai Jessica, er ei gofid, y byddai ei gwleddoedd Sabbothol hi yn fuan yn darfod. Yr oedd y perygl o’i chael allan yn cynyddu bob wythnos, oblegyd yr oedd yr haul yn fwyfwy diweddar yn machlud, ac ni byddai yr un siawns am redeg i mewn ac allan heb ei gweled pan fyddai yn ddydd goleu. Yr oedd eisoes yn gofyn cryn lawer o fedr a gwyliadwriaeth i wneyd hyn, pan yn dechreu tywyllu; ond nis gallai feddwl am rhoddi i fyny. Oni bai ofn digio Mr. Daniel, buasai ar unwaith yn penderfynu myned nes y cawsai ei dal. Nis gallasent ei chosbi yn drwm am ddim ond sefyll mewn cyntedd capel.

Beth bynag, cafwyd Jessica allan, cyn i oleuni dydd ddyfod i’w blino. Un noswaith,

_______________________________________________
delw 6333 tudalennau 48-49

Free Image Hosting at www.ImageShack.us

(x48) dygwyddodd i ferched y gweinidog ddyfod yn gynt nag arfer, a gwelsant eneth fach garpiog, bennoeth, a throednoeth, yn rhedeg i fyny y grisiau, ac yn myned o’r golwg yn y cyntedd. Safasant am fynyd, gan edrych yn syn ar eu gilydd , yna, gan ymaflyd yn nwylaw en gilydd, a’u calon yn curo yn gyflym, aethant i fyny y grisiau ceryg i’r cyntedd ar ei hol. Nid oedd Daniel yn y golwg yn unlle; ond gwelent ol traed noethion yr eneth ar y palmant, a dilynasant hi ar unwaith i’w lloches, ac yno yr oedd Jessica yn sypyn bach oer yn ymgrymu tu cefn i’r drws.

“Gadewch i ni alw Daniel Staudring,” ebe Wini, y ferch ieuangaf, gan wasgu at ei chwaer. Dywedodd yn uchel, a chlywodd Jessica hi. Daeth allan o’i chuddfan, a safodd o flaen y ddau

_______________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
delw 6334 tudalennau 50-51

(x51) blentyn gyda’r gwyneb mwyaf difrifol ac erfyniol, a dywedodd,—

“Oh, peidiwch a fy ngyru ymaith; yr wyf yn eneth dlawd iawn, a dyma yr holl bleser sydd genyf yn y byd. Yr wyf wedi eich gweled chwi lawer gwaith, gyda’r gŵr boneddig sydd yn crymu, ac nid oeddwn yn meddwl y buasech chwi yn fy ngyru ymaith. Nid wyf yn gwneuthur dim drwg tu cefn i’r drws; ac os gwel Mr. Dan’el fi yma, ’chaf fi ddim coffi gydag ef byth mwy.”

“Yr eneth fach,” ebe’r ferch hynaf wrthi, mewn ton addfwyn, “nid ydym am fod yn angharedig i chwi; ond i ba beth yr ydych yn dyfod yma, a phaham yr ydych yn ymguddio tu cefn i’r drws?”

“Yr wyf yn hoffi clywed y miwsig,” atebai Jessica, “ac y mae arnaf eisiau

_______________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us 
delw 6335 tudalennau 52-53

(x52) gwybod beth yw gweddio, a’r gweinidog, a Duw. Yr wyf yn gwybod mai lle i foneddigesau a boneddigion ydyw, a phlant prydferth fel chwi; ond mi garwn i gael myned i mewn am unwaith, i weled beth ydych yn wneyd.”

“Cewch ddod gyda ni, i’n heisteddle ni,” ebai Wini, mewn llais awyddus, ond rhoddodd Jane ei llaw ar ei braich, gan daflu trem ar ddillad carpiog a gwallt annhrefnus Jessica. Yr oedd yn bwnc digon dyrus iddynt, hefyd. Yr oedd Jessica yn rhy fudr a charpiog iddynt ei gwahodd i eistedd gyda hwy ar y clustogau cochion dysglaer, ac nid oedd neb tlodion yn arfer mynychu y capel lle y gallai y plentyn gael eistedd gyda hwynt. Ond trodd Wini olwg ddigofus ar ei chwaer, a’i gwyneb bychan prydferth yn cochi gan wrid, dywedodd, gan (x53) agor ei Thestament a throi ei ddail yn gyflym:—

“Jane, dyma destyn fy nhad ychydig amser yn ol: ‘Oblegyd os daw i mewn i’ch cynulleidfa chwi ŵr a modrwy aur, mewn dillad gwychion, a dyfod hefyd un tlawd, mewn dillad gwael; ac edrych o honoch ar yr hwn sydd yn gwisgo dillad gwychion, a dywedyd wrtho, Eistedd di yma mewn lle da; a dywedyd wrth y tlawd, Saf di yna, neu eistedd yma islaw fy ystol-droed i; onid ydych chwi dueddol ynoch eich hunain? ac onid aethoch yn farnwyr meddyliau drwg?’ Os na chymerwn ni y ferch fach hon gyda ni i eistedd, ‘Y mae ffydd ein Harglwydd Iesu Grist, Arglwydd y gogoniant, genym gyda derbyn wyneb.’”

Nis gwn i, yn wir, beth i wneyd,” ebe Jane, gydag ochenaid; “mae’r Bibl

_______________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
delw 6336 tudalennau 54-55

(x54) yn ymddangos yn eglur; ond yr wyf yn sicr na fydd fy nhad yn ei hoffi. Gadewch i ni ofyn i geidwad y capel.”

“Oh, na, na, na!” ehe Jessica, “peidiwch gadael Mr. Dan’el i fy nal i yma. Ni ddeuaf yma eto, yn wir; ac addawaf beidio ceisio chwilio allan yn nghylch Duw a’r gweinidog, dim ond i chwi adael i mi fyned.”

“ Ond, eneth fach,” ebe Jane, mewn ton brudd, ond garedig, “dylem ni eich dysgu am Dduw, os nad ydych yn ei adnabod. Ein tad ni yw y gweinidog, ac os dewch gyda ni, gofynwn iddo beth sydd raid i ni wneyd.”

“A wel Mr. Dan’el fi ?” gofynai Jessica.

“Nid oes neb ond fy nhad yn y festri,” atebai Jane, “ac fe ddywed ef y cwbl wrthym, — wrthych chwi a ninau, beth

(x55) ddylem wneyd. Ni fydd ei ofn arnoch, a fydd?”

“Na fydd,” ebe Jessica, yn llon, gan ddilyn merched y gweinidog, ar hyd y naill ochr i’r capel tua’r festri.

“Nid yw yn ddyn mor ddychrynllyd,” ebe Wini, gan edrych ar Jessica i’w chalonogi, tra y curai Jane y drws yn esmwyth, ac y clywent y llais yn ateb, “Dewch i mewn.”

_______________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
delw 6337 tudalennau 56-57

(x56) PENNOD V.
BYD NEWYDD YN AGOR.

Eisteddai y gweinidog mewn cadair-esmwyth o flaen tan cysurus, a llyfr hymnau yn ei law, ond cauodd y llyfr pan ddaeth y plant i mewn. Yr oedd Jessica wedi gweled ei wyneb gwelw a myfyrgar lawer gwaith o’i chuddfan, ond ni fu erioed o’r blaen o dan edrychiad llym, difrifol, a threiddgar ei 1ygaid, yr hwn a ymddangosai fel yn trywanu trwy ei holl adfyd a’i thrueni, ac yn darllen ar unwaith holl hanes ei bywyd trallodus. Ond cyn iddi gael hamdden i ostwng ei hamrantau, na gwneyd ymgrymiad parchus iddo, (x57) cyneuodd gwyneb y gweinidog gyda’r fath belydr o dynerwch tosturiol, nes hoelio ei llygad arno, a gwroli ei holl yspryd. Rhedodd ei blant yn mlaen ato, gan adael Jessica ar y mat wrth y drws, a dywedasant wrtho, gyda geiriau ac ystumiau, y dyryswch oeddent ynddo.

“Dewch yma, eneth fach,” ebai; a cherddodd Jessica yn mlaen dros y carped, nes yr oedd yn sefyll yn ei ymyl, a’i dwylaw yn mhleth, a hithau yn syllu gyda gwyneb agored yn ei lygaid.

“Beth yw eich enw, fy merch i?” gofynai.

“Jessica,” oedd yr ateb.

“Jessica,” ebai yntau, gyda gwên; “enw hynod iawn.”

“Yr oedd fy mam yn arfer chwareu ‘Jessica’ yn y chwareudy, syr,” ebai, “ac yr oeddwn inau yn arfer bod yn un

_______________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
delw 6338 tudalennau 58-59

(x58) o’r tylwyth teg yn y chwareu, nea i mi ddod yn rhy fawr a hagr. Os byddaf yn landeg ar ol tyfu i fyny, mae fy mam yn dyweyd y caf finau chwareu hefyd; ond y mae genyf amser hir i aros. Ai chwi yw y gweinidog, syr?”

“Ïe,” atebai, dan wenu eto.

“Beth yw gweinidog?” gofynai.

“Gwas,” ebai, gan edrych yn fyfyriol i’r tân oedd o’i flaen.

“Fy nhad!” ebai Jane a Wini mewn syndod; ond edrychai Jessica yn ddiysgog ar y gweinidog, yr hwn oedd yn awr eto yn edrych i mewn i’w llygaid dysglaer hithau.

“Os gwelwch yn dda, syr, gwas pwy ydych chwi?” gofynai.

“Gwas Duw, a dyn hefyd,” meddai y gweinidog yn ddifrifol. “Jessica, yr wyf fi yn was i chwi.”

(x59) Ysgydwodd y plentyn ei phen, a chwarddodd yn wichlyd, gan edrych o gwmpas yr ystafell, ac ar ddillad prydferth merched y gweinidog. Gwasgai ei charpiai am dani, ac ysgytiai ychydig, fel pe buasai yn teimlo colyn gwynt y dwyrain oedd yn chwythu yn llym trwy yr ystrydoedd. Gwnaeth ei gwichlais plentynaidd wrth chwerthin loesi calon y gweinidog, a llosgai y dagrau dan ei amrantau.

“Pwy yw Duw?” gofynai y plentyn. “Pan mae fy mam mewn tymher dda, bydd weithiau yn dyweyd, ‘Bendith Duw arnaf!’ Os gwelwch yn dda, weinidog, a ydych chwi yn ei ’nabod?”

Ond cyn cael amser i ateb, agorodd y drws oedd yn arwain i’r capel, a safai Daniel ynddo. Ar y cyntaf syllai yn garedig o’i flaen, ond yn y fan troes ei

_______________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
delw 6339 tudalennau 60-61

(x60) wyneb yn brudd a gwelw angeuol, a chynaliodd ei hunan gerfydd y drws nes cael adferiad i’w dafod a’i synwyrau. Edrychai Jessica hefyd o’i chwmpas yn wyllt a dychrynedig, ac fel am redeg ymaith i ymguddio. Y gweinidog oedd y cyntaf i lefaru.

“Jessica,” ebai, “mae lle yn union o dan fy mhwlpud i, y cewch eistedd, a lle y gallaf fi eich gweled yr holl amser.
Byddwch yn ferch dda, ac ymroddwch i wrando, a chewch glywed rhywbeth am Dduw. Standring, rhoddwch y ferch fach yma o flaen yr eisteddleoedd wrth risiau y pwlpud.”

Ond cyn y gallai gredu geiriau y gweinidog caredig, yr oedd Jessica yn y capel, a’i gwyneb ar yr organ oedd yn gollwng allan ffrwd o fiwsig perseiniol. Yr oedd Jane a Wini yn eistedd heb fod (x61) yn mhell oddiwrthi, ac yn ysbio ami yn siriol dros ymyl yr eisteddle. Dangosai merch hynaf y gweinidog bryder yn nghylch ymddygiad Jessica, a gwnelai arwyddion egniol i geisio ei chyfarwyddo pa bryd i sefyll i fyny a pha bryd i benlinio; ond ni wnai Wini ond gwenu arni bob tro y gwelai hi dros ymyl yr eisteddle. Yr oedd Jessica yn teimlo yn ddedwydd, heb un gradd o gywilydd arm. Yr oedd y boneddigesau a’r boneddigion yn debyg iawn i’r rhai welai yn y chwareudy pan oedd hi yn cymeryd rhan yno fel un o’r tylwyth teg. Yn fuan yr oedd ei meddwl wedi ei lyncu i fyny gan yr hyn a ddywedai y gweinidog, yr hwn oedd yn troi ei olwg i lawr ati yn fynych, i weled ei llygaid wedi eu hoelio arno, a’i threm astud yn gwrando. Nis gallai hi ddeall nemawr ddim a ddywedai, ond yr oedd

_______________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
delw 6340 tudalennau 62-63

(x62) yn hoffi tôn ei lais, a thynerwch tosturiol ei wyneb wrth edrych i lawr arni. Yr oedd Daniel yn hofian cryn lawer o gwmpas, gan ddangos arwyddion amlwg o anesmwythder ac anfoddlonrwydd, ond yr oedd hi yn anymwybodol o’i bresenoldeb. Yr oedd Jessica wedi rhoddi ei bryd ar gael allan beth oedd gweinidog a Duw.

(x63) PENNOD VI.
Y WEDDI GYNTAF.

Mor gynted ag y gorphenodd y gwasanaeth, disgynodd y gweinidog o’r pwlpud ar y pryd yr oedd Daniel yn myned i hwylio Jessica ymaith, ymaflodd yn ei llaw yn ngwydd yr holl gynulleidfa, a dygodd hi gydag ef i’r festri, ac aeth ei ferched, Jane a Wini, yn frysiog ar eu hol. Yr oedd y gweinidog yn lluddedig ar ol gwasanaeth y dydd, a’i wyneb gwelw yn fwy gwelw nag erioed, tra y gosodai Jessica i sefyll o’i flaen, ac yr ymollyngai yntau, mewn gwendid, 1’w gadair. Plygodd ei ben i bwyso ar ei law, a dywedodd

_______________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
delw 6341 tudalennau 64-65

(x64) mewn llais isel, “Arglwydd, dyma ŵyn dy braidd; cynorthwya fi i borthi dy
ŵyn.”

“Blant,” ebai, a gwên ar ei wyneb blinedig, “nid peth hawdd ydyw adnabod Duw. Ond hyn a wyddom, ei fod yn Dad i ni — fy Nhad i, a’ch Tad chwithau, Jessica. Mae yn eich caru chwi, ac yn gofalu am danoch yn fwy nag ydwyf fi am fy merched bach hyn.”

Gwenodd arnynt hwy, a hwythau arno yntau, a deallai a theimlai Jessica, druan fach, ystyr ei edrychiad, er ei fod yn ei gwneyd yn brudd. Crynai ychydig, a chipiodd clust y gweinidog air a ddywedai yn ddystaw gydag ochenaid; meddai,

“Ni fu genyf dad erioed.”

“Mae Duw yn Dad i chwi,” ebai yntau wrthi yn addfwyn; “mae yn

_______________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
delw 6342 tudalennau 66-67

(x67) gwybod y cwbl am danoch, oblegyd y mae Ef yn bresenol gyda chwi yn mhob man. Nis gallwn ni ei weled, ond y mae Ef yn clywed pob gair a ddywedom, a gallwn ofyn iddo am bob peth sydd eisiau arnom.”

“A wna efe adael i mi siarad ag ef fel y plant bach hyn sydd yn lân a dillad prydferth ganddynt?” gofynai Jessica, gan daflu golwg i lawr at ei thraed lleidiog, a’i ffroc fudr garpiog.

“Gwna,” ebe’r gweinidog, dan wenu, ac ocheneidio hefyd yr un pryd; “gellwch ofyn iddo y fynyd hon, beth bynag sydd arnoch esiau.”

Syllai Jessica o gylch yr ystafell gyda llygaid mawrion llydain-agored, fel pe buasai yn ceisio gweled Duw; yn y man cauodd ei hamrantau yn dyn, a phlygodd ei phen ar ei dwylaw, fel yr oedd wedi

_______________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
delw 6343 tudalennau 68-69

(x68) gweled y gweinidog yn gwneyd, a dywedodd,—

“O Dduw! Yr wyf am wybod am danoch. Ac os gwelwch yn dda, talwch i Dan’el am y coffi cynhes roddodd i fi.”

Gwrandawai Jane a Wini arni a’u gwynebau yn orlawn o syndod; ond yr oedd llygaid y gweinidog yn llawn dagrau, a dywedodd yn uchel, “Amen,” ar ol gweddi gyntaf Jessica.

(x69) PENNOD VII.
CWESTIYNAU CALED.

Ni chafodd Daniel gyfleusdra i siarad â Jessica; oblegyd er iddo aros hyd nes i’r gweinidog adael y festri, cafodd ei bod hi wedi myned allan trwy ddrws oedd yn ochr y capel. Felly, yr oedd yn rhaid iddo aros hyd fore dydd Mercher cyn ei gweled. Pan ddaeth y diwrnod, yr oedd yn dda ganddo weled ei gwyneb bach teneu yn edrych yn fyfyrgar dros y bwrdd coffi. Ond yr oedd wedi gwneyd ei feddwl i fyny i’w gwhardd i ddyfod eto, ac i fygwth y polisman arni os daliai ef hi yn y capel yn ychwaneg, gan

_______________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
delw 6344 tudalennau 70-71

(x70) benderfynu cadw gwyliadwriaeth fanylach dros y lle a’i amgylchoedd. Ond cyn iddo allu dyweyd dim, yr oedd Jess wedi gwanu dan y bwrdd, ac wedi eistedd yn ei hen le ar y fasged.

“Mr. Dan’el,” ebai, “ydyw Duw wedi talu i chwi am y cwpaneidiau coffi wyf fi wedi gael genych?”

“Talu i mi?” ebai; “Duw? Nac ydyw.”

“Wel, fe wna,” ebai’r plentyn, gan roddi tafliad ystyriol i’w phen; “peidiwch chwi ofni dim am eich arian, Mr. Dan’el; yr wyf wedi gofyn ganddo lawer gwaith, a dywedodd y gweinidog y bydd yn sicr o wneyd.”

“Jess,” ebe Daniel, “a fuoch chwi yn dyweyd wrth, y gweinidog am fy mwrdd coffi i?”

“Naddo,” ebai, gyda gwên, “ond yr (x71) wyf wedi dyweyd wrth Dduw laweroedd a llaweroedd o weithiau oddiar y Sabboth, a bydd yn sicr o dalu i chwi yn mhen diwrnod neu ddau.”

“Jess,” ebe Daniel, yn awr mewn tôn dipyn mwy addfwyn, “yr ydych chwi yn ferch fach gyflym, yr wyf yn gweled, ac yn awr, yr wyf yn myned i ymddiried ynoch, cofiwch chwi. Rhaid i chwi beidio dyweyd yr un gair am danaf fi a fy mwrdd coffi; achos mae y gynulleidfa yn ein capel ni yn bobl uchel iawn, a byddent yn debyg o’i ystyried yn beth isel ynof fi i fyned i gadw bwrdd coffi. Mae yn bosibl y dywedent na chawn gadw y capel wedi ’n, ac felly, collwn i lawer iawn o arian.”

“Paham yr ydych yn cadw y bwrdd coffi, ynte?” gofynai Jessica.

“Ydych chwi ddim yn gweled gynifer

_______________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
delw 6345 tudalennau 72-73

(x72) o geiniogau wyf yn gael bob bore?” meddai Daniel, gan gydio yn ei bwrs mawr cynfas a’i ysgwyd. “Yr wyf yn cael llawer o arian mewn blwyddyn fan yma.”

“Pa beth ydych yn wneyd â chymaint o arian, Mr. Dan’el; ydych chwi yn eu rhoddi i Dduw?”

Nid atebodd Daniel ddim, ond aeth y cwestiwn i’w galou fel cleddyf. Beth oedd yn ei wneyd â chymaint o arian? Meddyliai am ei ystafell wael, dlodaidd, lle y preswyliai wrtho ei hun, mewn unigedd digysur, yn mhell oddiwrth bont y rheilffordd, gan arwain bywyd caled a llafurus; meddyliai hefyd am y desc cadarn oedd ganddo yn ei ystafell, ac am y nodau arianol oedd ganddo yno; am yr arian oedd allan ar lôg, ac am filiau y banc, a’r cydaid aur oedd wedi eu casglu (x73) trwy galedwaith Sabboth ac wythnos. Nis gallai gofio am ddim oedd wedi ei gyfranu i gynorthwyo neb, ond yr ychydig waddodion coffi a’r teisenau caled, yr oedd Jessica wedi bod yn gofyn gan Dduw i dalu iddo am danynt. Pesychai, cliriai ei wddf, rhwbiai ei lygaid; ac yna, gyda phetrusder crynedig yn ei fysedd, cydiai mewn ceiniog o’r cwd cynfas, a gosododd hi yn llaw Jessica.

“Na, na, Mr. Danel,” ebai, “nid wyf am i chwi roddi dim o’ch ceiniogau i mi. Eisiau i Dduw eich talu sydd arnaf.”

“ïe, fe wna efe fy nhalu” ebai Daniel dan ei ddanedd; “bydd dydd cyfrif heb fod yn hir.”

“Oes dyddiau cyfrif gan Dduw?” gofynai Jessica. “Yr oeddwn i yn hoffi

_______________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
delw 6346 tudalennau 74-75

(x74) dydd cyfrif, pan oeddwn yn un o’r tylwyth teg.”

“Ïe, ïe,” ebe Daniel, “ond ychydig iawn sydd yn hoffi dyddiau cyfrif Duw.”

“Ond chwi fyddwch chwi yn llawen eu gweled, oni fyddwch?” meddai y plentyn.

Ceisiai Daniel ganddi fyned yn mlaen â’i brecwast, ac yna trodd yn ei feddwl y syniadau oedd ei chwestiynau wedi eu codi. Yr oedd ei gydwybod yn dyweyd na fuasai ef ddim yn llawen i gyfarfod â dydd cyfrif Duw.

“ Mr. Dan’el,” ebai Jessica, pan oeddent ar ymadael, ac yntau yn gwrthod cymeryd y geiniog yn ol, “Os ydych chwi yn foddlon, mi garwn ddyfod i brynu cwpanaid o goffi genych bore fory, fel cwsmer, chwi wyddoch; ac ni (x75) ddywedaf air wrth y gweinidog am y bwrdd coffi y Sabboth nesaf peidiwch chwi ag ofni!”

Cylymodd y geiniog yn ofalus mewn congl yn ei charpiau, a chyda gwên siriol ar ei gwyneb teneu, llithrodd ymaith odditan gysgod y bont, a chollodd Daniel ei olwg arni.

_______________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
delw 6347 tudalennau 76-77

(x76) PENNOD VIII.
YMWELYDD HEB El DDYSGWYL.

Pan ddaeth Jessica i’r ystryd yr oedd y cwrt yr oedd hi yn byw yn agor iddi, gwelai gyffro anarferol yn mysg y preswylwyr, a nifer o honynt wedi ymgasglu o amgylch gŵr boneddig tal, yr hwn y canfu hi ar unwaith mai y gweinidog oedd. Gwthiodd ei hun trwy eu cano1, a siriolodd gwyneb y gweinidog pan welodd hi. Dilynodd hi trwy y fynedfa isel, ar draws y cwrt aflan, trwy yr ystabl, yr hon oedd ar y pryd heb yr asynod, i fyny dros yr ysgol ddrylliog, sigledig, ac i’r hen lofft druenus, lle yr

_______________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
delw 6348 tudalennau 78-79

(x79) oedd y llechi yn syrthio i mewn, a’r ffenestri candryll wedi eu hystwffio â charpiau a phapyr. Yn ymyl y stove, lle y cyneuid tân pan fyddai tân yno, yr oedd astell fechan wedi ei gosod ar draws ychydig o briddfeini, a hono oedd yn gwasanaethu yn lle ystol i’r gweinidog, tra yr eisteddai Jessica ar y llawr o’i flaen.

“Jessica,” gofynai y gweinidog yn bruddaidd; “ai yma yr ydych yn byw?”

“Ïe,” atebai’r plentyn; “ond yr oedd genym well ystafell na hon pan oeddwn i yn un o’r tylwyth teg, a fy mam yn chwareu yn y chwareudy; daw pethau yn well eto ar ol i mi dyfu i fyny, os byddaf yn ddigon glandeg i chwareu fel hi.”

“Fy ngeneth i,” ebai, “yr wyf wedi. dyfod i ofyn i’ch mam i’ch gadael chwi i

_______________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
delw 6349 tudalennau 80-81

(x80) fyned i’r ysgol mewn lle hyfryd i lawr yn y wlad. A wna hi adael i chwi fyned?”

“Na wna,” atebai Jessica; “mae fy mam yn dyweyd na wna byth fy ngadael i ddysgu darllen, na myned i’r eglwys; dywed y gwnelai hyny fi yn hollol ddiwerth. Ond, os gwelwch yn dda, syr, nid yw yn gwybod dim am eich eglwys chwi, y mae mor bell, ac nid yw wedi fy nghael allan eto. Mae yn yfed nes bod yn feddw iawn bob Sabboth.”

Siaradai y plentyn mor syml a phe buasai yr hyn a ddywedai yn gwrs hollol naturiol: ond dychrynai y gweinidog, ac edrychai allan trwy y ffenestr ddrylliedig ar yr wybren dywell bruddaidd uwchben.

“Beth allaf wneyd?” gofynai yn alarus, fel pe buasai yn siarad ag ef ei hun.

(x81) “Dim, os gwelwch yn dda, syr,” meddai Jessica, “dim ond fy ngadael i ddod i’ch gwrando chwi ar y Sabboth, a dyweyd wrthyf am Dduw. Pe rhoddech ddillad prydferth i mi fel eich merched bach chwi, gwnelai fy mam eu gwystlo am gin yn union. Nis gellwch wneyd dim yn ychwaneg i mi.”

“Pa le mae eich mam?” gofynai.

“ Mae allan ar y ‘spree,’” ebe Jessica, “ac ni ddaw adref am ddiwrnod neu ddau. “Wrandawai ddim arnoch chwi, syr. Daeth y cenadwr yma, a gwthiodd ef i lawr dros yr ysgol, fel y bu agos a’i ladd. Arferent alw fy mam yn genawes yn y chwareudy, ac ni feiddiai neb ddyweyd gair wrthi.”

Myfyriai y gweinidog yn fud am rai mynydau, a’i feddyliau ynddo wedi myned yn faich trwm. Tybiai fod ei o

_______________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
delw 6350 tudalennau 82-83

(x82) lygaid yn dallu wrth edrych o gwmpaa ar yr ystafell ddilewyrch a thruenus; ac yr oedd ei wedd yn llawn gofid a siomedigaeth. O’r diwedd dywedodd,—

“Pwy yw Mr. Daniel, Jessica?”

“Oh,” meddai yn gyfrwys, “cyfaill i mi, sydd yn rhoddi cwpaneidiau o goffi i mi. Nid ydych chwi yn adnabod holl bobl Llundain, syr.”

“Nac ydwyf,” atebai, dan wenu; “ond a yw yn cadw bwrdd coifi?”

Gwnaeth Jessica ysgogiad cadarnhaol â’i phen, ond nid ymddiriedai iddi ei hun i siarad.

“Pa faint mae cwpanaid o goffi yn gostio?” gofynai y gweinidog.

“Mae cwpanaid llawn yn geiniog; ond gellwch gael haner cwpanaid, ac y mae teisenau dimeiau a cheiniogau.”

(x83) “A ydynt yn goffi a theisenau da?” gofynai, gyda haner gwên.

“O’r fath oreu,” atebai Jessica, gan lyfu ei mhin.

“Wel,” ychwanegai y gweinidog, dywedwch wrth eich cylaill am roddi cwpanaid llawn o goffi a theisen geiniog i chwi bob bore, a thalaf fi iddo mor fynych ag yr ewyllysia alw gyda mi am yr arian.”

Siriolodd wyneb Jessica gan lawenydd; ond y foment nesaf, pruddhaodd drachefn, wrth adgofio cyfrinach Daniel, a chrynai ei gwefusau tra y dywedai yn siomedig,—

“Os gwelwch yn dda, syr, yr wyf yn sicr nas gall ddyfod; oh, na, nis gall hefyd. Mae y ffordd mor bell, ac y mae ganddo ddigon o gwsmeriaid. Na, ni ddelai byth atoch chwi am yr arian.”

_______________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
delw 6351 tudalennau 84-85

(x84) “Jessica,” ebai, “mi wn beth a wnaf. Ymddiriedaf swllt i’ch llaw chwi bob Sabboth, os gwnewch chwi addaw ei roddi i’ch cyfaill y tro cyntaf y gwelwch ef. Byddaf yn sicr o ddod i wybod os twyllwch fi.” Edrychai llygad treiddgar y gweinidog i mewn i lygad Jessica, a dychwelodd y wên dyner dosturiol yn y fan i’w wyneb.

Nis gallaf wneyd dim arall drosoch,” ebai, mewn cymysg-dôn o ofid ac ymholiad.

“Na ellwch, weinidog,” ebai Jessica, “dim ond dyweyd wrthyf am Dduw.”

“Dywedaf un peth wrthych am dano yn awr,” ebai. “Pe buaswn i yn eich cymeryd i fyw yn fy nhŷ, gyda fy merched bach, buasai yn rhaid eich golchi a’ch dilladu i’ch cymhwyso i’r lle. Yr oedd Duw ag eisiau i ni i fyned i fyw (x85) gartref gydag Ef yn y nefoedd, ond yr oeddem ni mor bechadurus, fel nad allem byth fod yn gymhwys i fyned. Am hyny fe anfonodd ei Fab i fyw gyda ni, a marw drosom ni, i’n golchi oddiwrth ein pechodau, a rhoi gwisgoedd newydd i ni, a’n gwneyd yn gymhwys i fyw yn nhŷ Dduw. Pan fyddwch yn gofyn rhywbeth gan Dduw, rhaid i chwi ddyweyd ‘Er mwyn Iesu Grist.’ Mae Iesu Grist yn Fab Duw.”

Ar ol dyweyd hyn, disgynodd y gweinidog yn ofalus dros yr ysgol, yn cael ei ddilyn gan droed cyflym Jessica. Arweiniodd ef allan trwy y ffordd fyraf i’r brif ystryd, lle y dywedodd “ffarwel” wrthi, gan ychwanegu, “Duw a’ch bendithio, fy mhlentyn i,” mewn tôn suddodd i ddyfnder calon Jessica. Gosododd ddarn chwe’cheiniog yn ei llaw i gael brecwast

_______________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
delw 6352 tudalennau 86-87

(x86) am y tri bore dylynol, a chyda theimlad ei bod yn gyfoethog, dychwelodd i’w chartref truennus.

Y bore nesaf aeth Jessica, yn bur benuchel, fel cwsmer, at fwrdd Daniel, a rhoddodd iddo y chwe’cheiniog, i dalu yn mlaen am y tri bore. Blinai beth wrth glywed ei stori, rhag i’r gweinidog ei gael ef allan: ond nis gallai wrthod gadael i’r plentyn ddyfod bob dydd am ei brecwast. Os ceid ef allan, buasai yn rhoddi i fyny werthu coffi, yn hytrach na thramgwyddo pobl fawr y capel; ond os na cheid ef allan, buasai yn ffolineb iddo aberthu y swm arian a enillai o wythnos i wythnos trwy y bwrdd coffi.

(x87) PENNOD IX.
ATEBIAD GWEDDI GYNTAF JESSICA.

Bob hwyr Sabboth, gallesid gweled y plentyn troednoeth, pennoeth yn gwneyd ei ffordd yn hyderus tua’r capel lle yr oedd pobl gyfoethog a moeswych yn ymgynull i addoli Duw; ond cyn cymeryd ei lle yn y capel, rhoddai fantell am dani, a bonet ar ei phen, y rhai a berthynent Unwaith i ferch hynaf y gweinidog, ac a gedwid gyda chochl brethyn Daniel; felly yr oedd ei golwg dipyn mwy gweddus i lygaid y gynulleidfa. Nid oedd gan y gweinidog yr un gwrandawr mwy astud, a buasai yn teimlo yn chwith pe collasai

_______________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
delw 6353 tudalennau 88-89

(x88) y wyneb teneu difrifol oedd o’i flaen wrth risiau y pwlpnd. Ar ddiwedd yr odfeuon, siaradai â hi am fynyd neu ddwy yn y festri, ond ni ddywedai weithiau ond brawddeg neu ddwy, am y byddai yn lluddedig ar ol llafur y dydd. Byddai y swllt bob nos Sabboth yn gorwedd ar y mantelpiece yn y fesferi, yn cael ei roddi yno gan Jane a Wini, bob yn ail, a Jessica bob amser yn ei gyflwyno drosodd i Daniel wrth adael y capel; fel hyn yr oedd brecwast yr eneth dlawd yn cael ei ddarparu bob bore, o wythnos i wythnos.

Ond un hwyr Sabboth, collodd y gweinidog ei wrandawydd ieuanc, a gadawyd y swllt yn y festri heb neb yn ei geisio. Edrychai Daniel am Jessica i ddyfod am ei choffi dan gysgod pont y rheilffordd bob bore, ac i’w holi a (x89) nifer o’r cwestiynau mwyaf dyeithr wrth eistedd ar yr hen fasged yn ymyl ei fwrdd, ond nid oedd son am dani. Teimlai yn fwy chwith oblegyd ei habsenoldeb nag y buasai byth yn dychymygu. Dywedai wrtho ei hun, nad oedd y plentyn yn ddim iddo ef; ac eto, teimlai ei bod yn rhywbeth, ac nis gallai lai na bod yn anesmwyth a phryderus yn ei chylch. Paham na buasai wedi holi pa le yr oedd yn byw? Gwyddai y gweinidog, ac am foment penderfynai fyned ato i ofyn; ond ofnai eilwaith y codai hyny ddrwgdybiaeth. Pa fodd y gallai gyfrif am gymaint o bryder yn ei chylch, pan nad oedd wedi ei cholli ond am un Sabboth o’r capel? Buasai yn anturiaeth beryglus, ac, wedi’r cwbl, nid oedd Jessica yn ddim iddo ef. Felly aeth adref, ac edrychodd dros

_______________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
delw 6354 tudalennau 90-91

(x90) lyfr ei gyfrifon arianol, a chafodd fod ganddo yn awr agos pedwar cant o bunau wedi eu cynilo, a’i fod yn ychwanegu y swm bob wythnos.

Ond pan gafodd Jessica yn eisiau y Sabboth canlynol, drachefn, gorchfygwyd callineb ac ofnau Daniel yn lan gan ei bryder yn achos y plentyn. Yr oedd y gweinidog wedi myned i mewn i’r festri, ac yn sefyll gan bwyso ei benelin ar fantell y simnai, a’i lygad yn syllu ar y swllt oedd Wini wedi ei osod yno cyn y gwasanaeth, heb neb yno yn ei geisio, pan gurodd Daniel yn esmwyth ar y drws ac y daeth i mewn a gwedd aflonydd.

“Wel, Standring?” ebai y gweinidog yn ymofyngar.

“Yr wyf yn anesmwyth yn nghylch y ferch fach yna, syr,” ebai, “ac yr wyf
(x91) yn gwybod i chwi fod uwaith yn edrych am dani; dywedodd wrthyf am hyny:
felly yr wyf yn gwneyd yn eofn arnoch i ofyn pa le mae yn byw, ac af i weled beth sydd wedi dyfod o honi.”

“Purion, Standring,” ebai’r gweinidog; “yr wyf yn blino am y plentyn fy hunan, ac felly mae fy ngenethod. Yr oeddwn yn meddwl myned fy hunan, ond mae fy amser yn brin iawn ar hyn o bryd.”

“Mi af fi, syr,” ebe Daniel yn ewyllysgar; ac wedi derbyn yr hysbysrwydd anghenrheidiol am gartref Jessica, diffoddodd y lampau, cauodd ddrysau y capel, ac aeth ymaith tua’i lety unig.

Ond, er ei bod yn myned yn hwyr ar nos Sabboth, a bod cartref Jessica yn o bell, nis gallai Daniel berswadio ei hun i fyned adref i’w lety. Nid oedd o un

_______________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
delw 6355 tudalennau 92-93

(x92) pwrpas iddo ymresymu ag ef ei hun, tra yn sefyll ar gongl yr ystryd, yn petruso, ac yn addaw i’w gydwybod fyned dranoeth, mor fuan ag y byddai yn troi y bwrdd coffi heibio. Yn nhywyllweh hwyrol hirddydd haf, dychymygai weled delw deneu eiddil Jessica yn llithro o’i flaen, ac yn troi ei golwg yn ol yn awr ac eilwaith i weled a oedd ef yn ei chanlyn. Nid oedd ond dychymyg, a chwarddodd unwaith ato ei hun: ond chwerthiniad cryglyd ydoedd, ac yr oedd rhyw dagu yn ei wddf, felly bytymodd ei got dros ei fynwes, i guddio cadwen ei oriawr, ac ymaith ag ef ar ffrwst tua chanol y ddinas.

Nid oedd yn hollol dywyll pan ddaeth i’r cwrt, ac yr ymlusgodd i fyny trwy y fynedfa gul iddo; ond petrusodd Daniel pan agorodd ddrws yr ystabl, ac edrych (x93) i mewn i dywyllwch dudew, nad allai ganfod dim. Tybiai fod yn well iddo droi yn ol tra gallai wneyd hyny yn ddyogel; ond tra y safai fan hono, a’i law ar y clicied rhydlyd, tybiai iddo glywed llais eiddil oddi rhwng agenau y lofft dyllog nwchben.

“Ein Tad,” meddai y llais gwan, “gwel yn dda i anfon rhywun ataf, er mwyn Iesu Grist, Amen.”

“Yr wyf fi yma, Jess,” llefai Daniel, a’i galon yn dychlamu mewn teimlad na phrofodd ei fath er ys llawer blwyddyn, a’r hwn fu agos a’i fygu tra yn ysbio yn y tywyllwch, nes o’ r diwedd iddo weled yn aneglur yr ysgol oedd yn arwain i fyny i’r llofft.

Dringodd i fyny dros yr hen ysgol beryglus gyda buandra oedd yn ei synu ef ei hunan, ac aeth i’r ystafell druenus lle yr

_______________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
delw 6356 tudalennau 94-95

(x94) oedd y plentyn yn gorwedd mewn tywyllwch hollol. Yn ffortunus, yr oedd wedi gosod y matches yn ei boced, a’r darn canwyll â pha un oedd yn goleuo y lampau; ac yn mhen mynyd yr oedd pelydr o oleuni yn llewyrchu ar wyneb gwelw Jessica. Gorweddai ar dusw bychan o wellt, o dan y gronglwyd lethrog, lle nad oedd y llechi wedi syrthio i mewn, heb ddim ond ei charpiau tlodion i’w chynhesu. Ond gyda bod ei (x95) llygaid yn edrych i fyny i wyneb Daniel oedd yn ymgrymu nwch iei phen, llewyrchai gwên ddysglaer o lawenydd ynddynt.

“Oh” meddai, mewn llais llon, ond gwanaidd, “Mr. Dan’el ydyw! A ddywedodd Duw wrthych am ddodd yma, Mr. Dan el?”

“Do,” ebai Daniel, gan benlinio yn ei hymyl, cymeryd ei llaw fain dreuliedig yn ei law, a rhanu ei gwallt dyryslyd ar ei thalcen llaith.

“Beth ddywedodd ef wrthych, Mr. Dan’el?” gofynai Jessica.

“Dywedodd fy mod yn bechadur mawr,” atebai Daniel. “Dywedodd fy mod yn caru ychydig o arian budron yn fwy na phlentyn tlawd, digyfaill, a diymgeledd, yr oedd ef wedi ei hanfon ataf i weled a wnaethwn dipyn o ddaioni

_______________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
delw 6357 tudalennau 96-97

(x96) iddi, er ei fwyn Ef. Edrychodd arnaf, neu edrychodd y gweinidog arnaf, do, drwyddof, a dywedodd, ‘O ynfyd, y nos hon y gofynant dy enaid oddiwrthyt, ac eiddo pwy fydd y pethau a barotoaist?’ Ac nis gallaswn roddi un ateb iddo, Jess. Yr oedd wedi dyfod i gyfrif â mi, ac nis gallwn ddyweyd yr un gair wrtho.”

“Ydych chwi ddim yn ddyn da, Mr. Dan’el?” sibrydai Jessica.

“Na, pechadur drwg ydwyf,” meddai, a dagrau mawrion yn treiglo dros ei wyneb pruddaidd. “Yr wyf wedi bod yn nhŷ yr Arglwydd yn gyson, ond i ddim pwrpas, ond enill arian; yr wyf wedi arwain bywyd gwastad a llafurus, ond dim ond er mwyn enill arian; ac y mae Duw yn edrych arnaf yn awr, ac yn dyweyd, ‘O ynfyd!’ Oh, Jess, Jess! yr ydych chwi yn fwy cymhwys (x97) i’r nefoedd nag y bum i erioed yn fy mywyd.”

“Paham na byddech yn gofyn ganddo ef i’ch gwneyd yn dda, er mwyn Iesu Grist?” gofynai y plentyn.

Nis gallaf,” ebai. “Yr wyf fi wedi bod yn rhoddi fy ngliniau i lawr Sabboth ar ol Sabboth pan fyddai y gweinidog yn gweddio, ond yr oeddwn i yr holl amser yn meddwl am bobl y cerbydau, mor gyfoethog oeddynt. Yr wyf wedi bod yn caru arian, ac yn addoli arian yr holl amser, a bum agos a gadael i chwi drengu yn hytracb na pheryglu colli cyfran o’m henillion. Yr wyf yn ddyn pechadurus iawn!”

“Ond gwyddoch beth mae y gweinidog yn ddyweyd yn fynych,” sisialai Jessica; “Yn hyn y mae cariad, nid am i ni garu Duw, ond am iddo ef ein caru ni, ac

_______________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us 
delw 6358 tudalennau 98-99

(x98) anfon ei Fab i fod yn iawn dros ein pechodau ni!”

“Yr wyf wedi ei glywed mor fynych, fel nad wyf yn gallu ei deimlo,” meddai Daniel. “Yr oeddwn yn arfer caru clywed y gweinidog yn dyweyd hyn, ond yn awr y mae yn myned i mewn trwy un clust ac allan trwy y llall. Mae fy nghalon yn galed iawn, Jessica.”

Yn ngoleuni gwanaidd y ganwyll, gwelai Daniel lygad myfyrgar y plentyn yn syllu arno gyda threm brudd a chariadus; yna cododd ei llaw wanaidd i fyny, a gosododd hi dros ei llygaid cauedig, a gwelai ei gwefusau poethion yn symud yn araf.

“Duw,” ebai, “Os gwelwch yn dda, gwnewch galon Mr. Dan’el yn dyner, er mwyn Iesu Grist, Amen.”

Ni ddywedodd ddim yn ychwaneg, na (x99) Daniel, am gryn amser. Tynodd ei gôt Sabboth ymaith, a lledodd hi dros ei chorph teneu crynedig, yr hwn oedd yn ysgwyd gan oerfel, er mai hwyrddydd haf ydoedd; ac wrth wneyd hyn cofiodd y geiriau hyny y dywed yr Arglwydd y bydd yn eu llefaru yn nydd y cyfrif diweddaf, “Yn gymaint â’i wneuthur o honoch i un o’r rhai hyn fy mrodyr lleiaf, i mi y gwnaethoch.” Teimlai Daniel Standring ei galon yn troi gan gariad at y Gwaredwr, a phlygodd ei ben ar ei ddwylaw, a llefodd o ddyfnder ei yspryd cystuddiedig, “O Dduw bydd drugarog wrthyf, bechadur!”

_______________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
delw 6359 tudalennau 100-101

(x100) PENNOD X.
CYSGOD ANGAU.

Nid oedd yr un bwrdd coffi wedi ei osod dan fwa pont y rheilffordd bore dranoeth, a safai cwsmeriaid Daniel yn syn wrth weled yr hen gongl yr arferent gael eu brecwast yno yn wâg. Buasent yn synu llawer mwy fyth pe buasent yn gweled yr hen lofft yr oedd Daniel ynddi, a’r gorchwyl oedd ganddo mewn llaw yno. Ymddiriedodd i ddynes gyfeillgar oedd yn y cwrt hwnw i brynu ymborth a glô, ac arosodd ei hunan trwy y nos i wylio yn ymyl Jessica, yr hon oedd yn fynych dan syfrdandod, ond hyd y nod yn ei (x101) dyryswch ni siaradai ond am Dduw ac am ei Mr. Dan’el. Hysbysodd cymydoges fod y fam wedi myned ymaith er ys dyddiau, gan ofn fod twymyn heintus ar y plentyn, ac mai hi oedd wedi bod yn gwneyd yr ychydig allai i Jessica yn ystod yr amser.

Pan ddaeth y bore, gyrodd Daniel am feddyg; ac wedi cael caniatad hwnw, lapiodd y ferch fach i fyny yn ei got ei hun, a chludodd hi ymaith yn ei fraich i lawr dros yr ysgol, gosododd hi mewn cab, a dygodd hi yn garedig adref i’w lety ei hun. Pan welodd y wraig y lletyai gyda hi y fath un oedd y plentyn, cododd ei dwylaw i fyny gan dynghedu na chai ddyfod i mewn yno; ond gwnaeth yr haner sofrin estynodd Daniel i gil ei dwrn caled iddi dewi yn y fan.

_______________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
delw 6360 tudalennau 102-103

(x102) Y prydnawn hwnw cludodd y post llythyr canlynol i’r gweinidog:—

“BARCHEDIG SYR,

“Os gwnewch ymostwng i ddyfod i mewn dan fy nghronglwyd i, cewch y pleser o weled Jessica fach, yr hon sydd yn ymyl angau, os na wna Duw o’i drugaredd ei hadferu. Gan obeithio yr esgusodwch fy hyfdra, gan nas gallaf adael y plentyn. Yr eiddoch yn rhwymedig,

“Eich ufudd was,

“D. STANDRING.

“O.Y. Dymuna Jessica gyflwyno ei chariad a’i diolchgarwch i Miss Jane a Wini.”

Dododd y gweinidog y llyfr oedd yn ei ddarllen o’r neilldu, a chychwynodd yn (x103) ddioedi tua llety ceidwad y capel. Yno yr oedd Jessica yn gorwedd yn dawel ar wely Daniel, ond yr oedd ei gwyneb gwasgedig yn welw angeuol, a llewyrch ei llygaid suddedig yn myned wanach wanach. Yr oedd yn rhy wan i droi ei phen pan glywodd y drws yn agor. Safodd am fynyd gan edrych arni hi, ac ar Daniel, yr hwn a eisteddai wrth ben y gwely, yn troi y papyrau oedd yn y ddesc, ac unwaith eto yn rhifo swm enillion ei fywyd. Ond pan nesaodd y gweinidog yn mlaen, cododd y gwrîd coch i fochau gwelw Jessica.

“Oh, y gweinidog!” ebai, “mae Duw wedi rhoddi i mi bobpeth oeddwn yn geisio, ond talu Mr. Dan’el am y coffi roddodd i mi.”

“Ah! Ond y mae Duw wedi talu i mi drosodd a throsodd drachefn,” ebe Daniel,

_______________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
delw 6361 tudalennau 104-105

(x104) gan godi i dderbyn y gweinidog. “Mae wedi rhoddi fy enaid i mi yn gyfnewid am dano. Goddefwch i mi, syr, wneyd yn hyf arnoch, i siarad â chwi y tro hwn. Yr ydych yn ddyn dysgedig iawn, ac yn bregethwr mawr, ac y mae y fath dorf o bobl yn tyru i’ch gwrando, fel yr wyf yn fynych mewn caledi i ffeindio eisteddleoedd iddynt; ond yn ystod yr holl amser, er gwrando arnoch bob Sabboth, yr oeddwn yn colli fy enaid, ac ni ddywedasoch erioed wrthyf, er fy ngweled ugeiniau ac ugeiniau o Weithiau, “Standring, a ydych chwi wedi eich achub?’“

“Standring!” ebe’r gweinidog mewn llais cyffrous a gofidus, “Yr oeddwn i bob amser yn ei gymeryd yn ganiataol eich bod chwi yn Gristion.”

“Ah!” ychwanegai Daniel yn fyfyrgar, “ond yr oedd ar Dduw eisiau rhywun (x105) i ofyn y cwestiwn i mi, a chan na chai neb yn y gynulleidfa, anfonodd y ferch fach yma ataf. Wel, waeth genyf ddyweyd bellach, hyd y nod pe collwn fy lle; yr wyf am hir amser, tua deng mlynedd bellach, wedi bod yn cadw bwrdd coffi ar foreuau yr wythnos yn y ddinas, ac yr oeddwn yn enill wrth hyny, at eu gilydd, tua deg swllt yr wythnos. Ond ofnwn i swyddogion y capel ddyfod i wybod fy mod yn gwneyd gorchwyl mor isel, ac felly cadwn y peth yn ddirgel, ac yr oeddwn yn troi y bwrdd heibio yn fore bob dydd. Myfi oedd yn gwerthu y cwpanaid coffi i Jessica, yr hwn yr oeddech chwi, syr, yn talu am dano.”

“Nid oes dim drwg yn hyny, fy anwyl gyfaill,” ebe’r gweinidog yn garedig; “ni raid i chwi gadw peth felly yn ddirgelaidd.”

_______________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
delw 6362 tudalennau 106-107

(x106) “Wel,” ebe Daniel, “mae y cwestiynau mae y ferch fach hon wedi en gofyn i mi wedi myned yn llymach a dyfnach i’m calon na’ch holl bregethau chwi, os goddefwch i mi fod mor hyf arnoch a’i ddyweyd. Llawer bore y delai ataf, a chan edrych i fyny i fy wyneb gyda’i llygaid bach siriol ac anwyl, gofynai, ‘Ydych chwi ddim yn caru Iesu Grist, Mr. Dan’el?’ ‘Ydyw fod Duw yn Dad i chwi ddim yn eich gwneyd yn llawen, Mr. Dan’el?’ ‘Ydym ni yn myned nes nes i’r nefoedd, bob dydd, Mr. Dan’el?’ Ac un bore gofynai, ‘Ydych chwi yn myned i roddi eich holl arian i Dduw, Mr. Dan’el?’ Oh, fe wnaeth y cwestiwn hwnw i mi feddwl yn wir, ac nid yw wedi ei atteb hyd y dydd heddyw. Tra yn eistedd yn ymyl y gwely yma, yy wyf wedi bod yn cyfrif yr arian wyf wedi (x107) enill; tri chant o phedwar ugain a dwy ar bumtheg o bunau, a dau swllt ar bumtheg; ac yr wyf wedi dyweyd, ‘Arglwydd, ti biau yr oll; ac mi roddwn bob ceiniog o honynt yn hytrach na cholli y plentyn, os yw yn ol dy ewyllys fendigedig i arbed ei bywyd.’”

Yr oedd llais Daniel yn crynu wrth ddyweyd y geiriau olaf, a’i wyneb wedi ei guddio yn y glustog y pwysai pen eiddil a diysgog Jessica arni. Yr oedd gwen hyfryd a synedig ar ei gwyneb, a chododd ei bysedd bychain meinion, a dododd hwy i orphwys ar y pen gogwyddedig oedd yn ei hymyl, tra y cysgodai ei llygaid a’i llaw wan arall, ac y dywedai mewn llais isel, gwanaidd, ond eto a gyrhaeddodd glustiau Daniel a’r gwenidog,—

“Ein Tad, yr oeddwn wedi gofyn i

_______________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
delw 6363 tudalennau 108-109

(x108) chwi am gael dod adref i’r nefoedd; ond os yw Mr. Dan’el a fy eisiau, os gwelwch yn dda fy ngadael i aros dipyn yn hwy, er mwyn Iesu Grist, Amen.”

Ar ol gweddi Jessica, am rai mynydau bu dystawrwydd perffaith yn yr ystafell, a Daniel o hyd a’i wyneb yn guddiedig yn y glustog, a’r gweinidog yn sefyll yn (x109) eu hymyl a’i ben yn ogwyddedig, a’i lygaid yn gauedig, fel pe buasai yntau hefyd yn gweddio.

Pan gododd y gweinidog ei olygon i fyny ar y plentyn tlawd digyfaill, gwelai ei llaw deneu wedi syrthio oddiar ei gwyneb, a’i gwedd yn ddrych o orphwysfa a heddwch, tra yr anadlai yn “wanaidd rhwng ei gwefusau gwahanedig. Cydiodd yn ei llaw mewn cyffro o ofn a gofid; ond yn lle oerder marwolaeth, teimlai leithder a gwres bywyd. Cyffyrddodd ag ysgwydd Daniel, ac ar waith hwnw yn codi ei ben mewn dychryn, dywedodd yn isel wrtho, “Nid yw wedi marw, ond cysgu y mae.”

Cyn bod Jessica wedi cwbl wella cymerodd Daniel dŷ iddo ei hun a’i blentyn mabwysiedig i fyw ynddo. Bu yn ymholi llawer am ei mham, ond ni wnaeth

_______________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
delw 6364 tudalennau 110-111

(x110) ei hymddangosiad byth mwy yn ei hen drigfan, ac yr oedd ef yn falch iawn nad oedd neb i ymyryd â’i ofal ef am Jessica. Pan ddaeth Jessica yn ddigon cryf, cymerent dro mynych allan yn nghyd yn y boreuau, wrth wneyd eu ffordd tua phont y rheilffordd, lle y daeth Jessica i gymeryd gofal y bwrdd coffi, ac i weini ar y cwsmeriaid. Treuliwyd llawer diwrnod hapus hefyd i gynorthwyo ysgubo y capel yr arferai redeg yn llechwraidd iddo, ac yn enwedig glanhau y llwch o’r pwlpud a’r festri, a’r eisteddle yr oedd plant y gweinidog yn eistedd, tra byddai Daniel, a’r ddynes oedd ef yn gyflogi, yn glanhau y rhanau eraill o’r addoldy. Llawer Sabboth hefyd yr adgofiai y gweinidog yn y pwlpud, a’i ferched bach yn eu heisteddle, a Daniel wrth symud yn ddystaw o fan (x111) i fan, pan edrychent ar wyneb astud, difrifol, a dedwydd y plentyn, am y tro cyntaf y gwelsant hi yn eistedd yn mysg y gynulleidfa, ac am weddi gyntaf Jessica.

_______________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
delw 6365 tudalennau 112-113

(x112) LONDON.
PRINTED BY WILLIAM CLOWES AND SONS, LIMITED,
STAFFORD STREET AND CHARING CROSS.

(x113) LLYFRAU A THRAETHODAU GYMRAEG.

PUBLICATIONS
OF THE RELIGIOUS TRACT SOCIETY
IN THE
WELSH LANGUAGE.

LONDON:
THE RELIGIOUS TRACT SOCIETY,
56, PATERNOSTER ROW, AND 65, ST. PAUL’S CHURCHYARD.
MANCHESTER: CORPORATION STREET. BRIGHTON; WESTERN ROAD.

_______________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
delw 6366 tudalennau 114-115

(x115) TRAETHODAU.
NEW SERIES OF TRACTS.

1. Damwain y Rheilffordd Gerllaw Abergele
(The Railway Accident at Abergele). 2s. per 100.

2. Ystori’r Pysgotwr (The Fisherman’s Story).
2s. per 100.

3. Yr Hen, Hen Stori (The Old, Old Story).
2s. per 100.

4. Nos Sadwrn y Gweithiwr (Saturday Night).
2s. per 100.

5. Yn Debyg i fod yn Ol (Coming short of God’s Rest). 2s. per 100.

6. Yr Argraphydd Cymreig; neu, Gadw y Sabboth (the Welsh Punter; or, the Sabbath kept). 2s. per 100.

7. Yn fy Lle I (Instead of Me), 2s. per 100.

8. Y Sarph Bres (The Brazen Serpent), 2s. per 100.

9. Nac ofna, Cred yn unig (Fear not, only believe), 2s. per 100.

10. Cydymddyddan rhwng y Gweinidog, y Meddyg a’r Tafarnwr (Dialogue between a Minister, a Doctor, and a Publican), 2s. per 100.

11. Aros am Argyhoeddiad (Waiting for Conversion). 2s. per 100.

12. Theomemphus; Golwg ar Golledigaeth a Chadwedigaeth Dyn (Theomemphus; or, Man Lost and Saved). 2s. per per 100.

_______________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
delw 6367 tudalennau 116-117

(x116) WELSH PUBLICATIONS OF THE RELIGIOUS TRACT SOCIETY.

13. Adferiad Torwr Sabboth (The Sabbath-breaker Reclaimed). 2s. per l00.

14. A ddarfu i chwi Weddio Heddyw (Have you Prayed To-day?). 1s. per l00.

15. Na Chaledwch eich Calonau (Harden not your Hearts). 2s. per l00.

16. Y Glowr Bach a’i Flwch Canwyllau (The Collier Boy and his Candle-box). 2s. per 100.

17. Hanesyn Gwirioneddol am Lucknow (The True Story of Lucknow). 2s. per 100.

18. Töwch y Ty (Roof the House). 2s. per 100.

19. Pethau Mawr wrth y Drysau (Great Things at the Doors). 2s, per 100.

20. Y Gwr Ieuanc Siomedig (The Disappointed Young Man). 2s. per 100.

21. Cyfarfod Gweddio Jerusalem (The Jerusalem Prayer Meeting). 2s. per 100.

22. Y Gweithiwr a’r Diogyn (The Diligent and the Sluggard). 2s. per 100.

23. Y Ffordd i ddod yn Gristion (How to become a Christian). 2s. per 100.

24. Marw noson y Wledd (The Writing on the Wall). 1s. per 100.

25. Duwioldeb gyda Boddlonrwydd (Godliness with Contentment). 2s. per 100.

26. Ceiniogau Ffyliaid (The Fools’ Pence). 2s. per 100.

(x117) 27. Deng Niwrnod yn y Pwll Glo (Ten Days in a Mine). 2s. per 100.

28. Dysgu Fflôtio (Learning to Float, or, Saved by Faith). 3s. per 100.

29. Feddyliais I Ddim (I didn’t Think). 2s. per 100.

30. Hen Ann Ddu a Dyn y Bibl (Black Ann and the Bible Man). 2s. per 100.

31. Pa Le yr wyt Ti? (Where Art Thou). 2s. per 100.

32. Yr Addoliad Cyhoeddus (Public Worship). 2s. per 100.

33. Ffeirau Cymru (Welsh Fairs). 2s. per 100.

34. Cadben y Cyprian (Captain of the Cyprian}. 2s. per 100.

35. Y Dyn oedd yn Lladd ei Gymydogion (The Man that Killed his Neighbours). 2s. per 100.

36. Dydd yr Arglwydd (The Lord’s Day). 2s. per 100.

37. Y Cwestiwn heb Ateb iddo (The Question without an Answer). 2s. per 100.

38. Yr Awr Ginio (The Dinner Hour). 3s. per 100.

39. Myned heibio i’r Tafarnau (Passing the Public-houses). 1s. per 100.

40. Meddwl am dano Ef, a myned heibio (I think of Him, and go by). 1s. per 100.

_______________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
delw 6368 tudalennau 118-119

(x118) WELSH PUBLICATIONS OF THE RELIGIOUS TRACT SOCIETY.

41. Yma (Here). 1s. per 100.

42. Y mae gennyf Gyfaill yno (I have a Friend there). 1s. per 100.

43. Myfyrdod yr Afradlon. Gan Alun (The Prodigal’s Decision). 2s. per 100.

44. Dysgwyl wedi Derbyn (Expecting after Receiving). 2s. per 100.

45. Thomas Burns a’r Doctor (Thomas Burns and the Doctor). 2s. per 100.

46. Y Weddi Gyntaf (The First Prayer). 3s. per 100.

47. Fy Meichiau (My Substitute). 2s. per 100.

48. A wyt ti yn Credu? (Dost thou Believe?) 2s. per 100.

49. Bibl Mary Jones (Mary Jones’s Bible). 2s. per 100.

50. Yr wyf yn methu Teimlo (I cannot Feel). 2s. per 100.

51. Teulu Cyfan yn y Nefoedd (A. Whole Family in Heaven). 2s per 100.

52. Stori Capten Sutton (The Story of Captain Sutton). 2s. per 100.

53. I Mi y Gwnaethoch (Ye have done it unto Me). 2s. per 100.

Sypyn o Draethodau Cymraeg yn cynwys
Pedwar ar Ugain o Nifer (A Packet of Welsh Tracts).
Price 6d.

(x119) TRAETHODAU BYWGRAPHYDDOL.
(BIOGRAPHICAL TRACTS.)

2 Geiniog yr un — 12 swllt y cant.
{2d. each in cover, 12s. per l00.)

1. Syr Hugh Owen.

2. Rhys Prichard, Ficer Llanymddyfri.

3. Griffith Jones, Llanddowror.

4. Daniel Rowlands, Llangeitho.

5. Howel Harris.

6. William Williams, Pantycelyn.

7. Thomas Charles o’r Bala.

8. Christmas Evans.

9. David Jones, Llangan.

10. John Penry, y Merthyr Cymreig.

Dalenau Spurgeon, Cyfres Newydd (Passages from Spurgeon’s Sermons). 6d. per l00.

Duwinyddiaeth a’r Bibl (Theology and the Bible). Gan JOSEPH ANGUS, M.A., D.D. Gyda Rhagarweiniad gan y Parch. T. CHARLES EDWARDS, D.D., Prifathraw Coleg Duwinyddol y Bala. Wedi ei gyfieithu gan T. L., Aberystwyth. Welsh Present Day Tract. No. I. 4d. in cover.

_______________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
delw 6369 tudalennau 120-121

(x120) WELSH PUBLICATIONS OF THE RELIGIOUS TRACT SOCIETY.

LLYFRAU-BOOKS.

GWEDDI GYNTAF JESSICA.
(Jessica’s First Prayer.)

CYNWYSIAD.

I. — Y BWRDD COFFI A’I BERCHEN.

II. — PROFEDIGAETH JESSICA.

III. — HEN GYFAILL MEWN GWISG NEWYDD.

IV. — CIPOLWG AR WLAD Y TYLWYTH TEG.

V. — BYD NEWYDD YN AGOR.

VI. — Y WEDDI GYNTAF.

VII. — CWESTIYNAU CALED.

VIII. — YMWELYDD HEB El DDYSGWYL.

IX. — ATEBIAD GWEDDI GYNTAF JESSICA.

X. — CYSGOD ANGAU.

Pris Swllt (1s., cloth boards).
RELIGIOUS TRACT SOCIETY.

(x121) HANES Y BIBL CYMRAEG.
(The History of the Welsh Bible.)
EI GYFIEITHWYR A’I LEDAENWYR.
GAN THOMAS LEVI.

CYNWYSIAD.

I. — LLYFR DUW.

II. — CASGLIAD LLYFRAU Y BIBL.

III. — CYMRU CYN CAEL BIBL ARGRAPHEDIG.

IV. — Y TESTAMENT CYMRAEG PRINTIEDIG CYNTAF - TESTAMENT SALESBURY.

V. — BlBL DR. MORGAN.

VI. — Y BIBL CYMRAEG PRESENOL.

VII. — YMDRECHION I GYFLENWI CYMRU A BIBLAU.

VIII. — HANES PRIF GYFIETHWYR Y BIBL.
I. William Salesbury. — II. Richard Davies, D.D. — III. Thomas
Huet. —IV. Dr William Morgan. —V. Dr Richard Parry. — VI Di. John Davies. — VII. Edmund Prys. — VIII. Rees Pritchard.

Pennod IX. — LLEDAENWYR Y BIBL YN MYSG Y CYMRY.
I. Rowland Heilyn. — II. Thomas Middleton. — III. Cradoc, Powell, ac Edwards — IV. Stephen Hughes. — V. Thomas Gouge — VI. Griffith Jones. — VII. Peter Williams. — VIII. Thomas Charles.

Pennod X. — GWERTH A DYLANWAD Y BIBL.

Pris Swllt (1s., cloth boards).

_______________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
delw 6370 tudalennau 122-123

(x122) WELSH PUBLICATIONS OF THE RELIGIOUS TRACT SOCIETY.

DINASOEDD COLLEDIG WEDI EU DWYN I OLEUNI.
(Lost Cities Brought to Light.)

CYNWYSIAD.
Pennod I.—DINASOEDD YR AIPHT.
Tywod yr Anialwch — Cerfluniau Cawraidd — Dinas y Can Porth. Y Bobl yn gweithio, yn ol Darluniau y Cofadeiliau — Palas y Brenin Rameses. — Dymchweliad Thebes. — Teml y Duw Apis. — Dinas yr Haul.

Pennod II. — DINASOEDD ANGHYFANEDD Y CEWRI.

Pennod III. — DINAS TYRUS.

Pennod IV. — NINIFEH.
Ninifeh yn ei gogoniant. — Gweddillion Ninifeh. — Yn nghylch Hanes Ninifeh.

Pennod V.—BABILON FAWR.
Doethion Babilon a’u Heilunod. — Cwymp Babilon.

Pris Swllt (1s., cloth boards).

(x123) Taith y Pererin o’r Byd hwn i’r hwn o ddaw (The Pilgrim’s Progress). By JOHN BUNYAN. In Two Parts. 2s, cloth.

Yr Ymofynydd Pryderus am Iachawdwriaeth
(James’s Anxious Inquirer directed and encouraged). 1s. 6d. cloth.

Crist a Gwroniaid y Byd Paganaidd (Christ and the Heroes of Heathendom), 3s.

Cedyrn Cymru (Biographies of Sir Hugh Owen, Rhys Pntchard, Griffith Jones, Daniel Rowlands, and Howel Harris). With Portrait, 1s. 6d.

Galwedigaethau a Chrefftau y Bibl (Trades and Occupations of the Bible), 1s. 6d.

Cristionog’aeth yng Nghymru (Christianity in Wales). 1s. 6d.

Gwreichion o Ganwyll y Cymry (Welsh Birthday Book). 1s. 6d.

Sisidonia; neu drem ar Gristionogaeth yn yr ail Ganrif (The Church in the Second Century). Illustrated. 1s, 6d.

Plant Meg Fach (Little Meg’s Children), 1s. 6d.

Hen Organ Christie; neu Cartref, Dedwydd Gartref (Christie’s Old Organ. Illustrated), 1s.

Beth wyf yn Gredu. Gan Dr. S. G. Green
(What do I Believe? By Dr. S. G. GREEN). 1s.

Canmlwyddiant Ysgol Sabbothol Cymru.
Gan THOMAS LEVI, Aberystwyth (History of Welsh Sunday Schools). New Edition. With Illustrations, 1s.

_______________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
delw 6371 tudalennau 124-125

(x124) WELSH PUBLICATIONS OF THE RELIGIOUS TRACT SOCIETY.

Nadolig Angel (Angel’s Christmas). Illustrated. 6d.

Drws y Bwthyn (The Cottage Door). Illustrated. 6d.

Bywyd Iesu Grist. Arweinydd i Astudiaeth, Amseryddiaeth, Cysondeb, ac Amcan yr Efengylau.
Gan EUSTACE R. CONDER, M.A., D D. (Outlines of the Life of Christ. By EUSTACE R. CONDER, D.D.).
Translated by THOMAS LEVI. 4d. paper. 8d.

Ystori Ada (The Story of Ada). By FRANCES BEVAN. Illustrated. 3d.

Yr Adroddiadur Barddonol. Gan R. Parry
(Gwalchmai). (Poetical Readings, on Various Subjects).

Llyfrau Darluniau i Blant Bach. Yn cynwys deuddeg o lyfrau yn llawn dailuniau prydferth, 10c. y sypyn (Picture Books for Little Childien, 10d. per packet).

Ystoriau i’r Ieuenctyd. Chwech Llyfr, Dwy geiniog yr un, mewn sypyn, 1s. (Stones for the Young, 1s. per packet).

Llyfrau Bach a Darluniau (Picture Books for Children), 6d. per packet.

Dalenau Darluniadol (Illustrated Handbills), &c.
Nos. 1 to 16.
Translated from Spurgeon’s Sermons. Printed in 8vo., with Wood Engravings, 10d. per 100.

(x125) SYPYN CHWE’ CHEIN10G LLYFRAU DARLUNIADOL LLIWIEDIG.
(PENNY COLOURED PICTURE BOOKS.)

Each book contains Seven brightly Coloured Pictures, with Descriptive Letterpress.

In Two Packets, Sixpence each Packet.

SYPYN Y SABBOTH.

Y Gaethes Fach (The Little Captive Maid).

A B C y Bibl (Bible Alphabet).

Daniel a’r Llewod (Daniel and the Lions).

Y Mab Afradlon (The Prodigal Son).

Gweddi yr Arglwydd (The Lord’s Prayer).

Geiriau Solomon (Solomon’s Sayings).

_______________________________________________

Free Image Hosting at www.ImageShack.us 
delw 6372 tudalennau 126-127

(x126) WELSH PUBLICATIONS OF THE RELIGIOUS TRACT SOCIETY.

SYPYNAU O GARD1AU PRYDFERTH LLIWIEDIG.
(PACKETS OF COLOURED CARDS.)

Blwyddyn Newydd. (New Year Cards). With
Texts and Mottoes. Packets A and B, each containing 6 Cards. 1s. each packet.

Crist sydd Bob Peth. 1s. y sypyn. (Christ is All. Packet of Coloured Cards. 1s. per packet.)

Duw yn Geidwad. Cardiau darluniedig prydferth.
1s. y sypyn. (God our Keeper. Packet of Coloured Cards, 1s. per packet.)

Yr Arweinydd Dwyfol. 1s. y sypyn. (The Divine Leader. Packet of Coloured Cards, 1s. per packet.)

Enwau a Theitlau ein Harglwydd Iesu Grist.
Gydag adnodau a phenillion. 8 o Gardiau mewn lliwiau prydferth. 1s. y sypyn. (The Names and Titles of our Lord Jesus Christ. 8 Coloured Cards, with Letterpress. 1s. per packet.)

Yr Arglwydd ein Cyfiawnder. 6c. y sypyn.(The Lord our Righteousness. Packet of 12 Coloured Cards. 6d. per packet.)

Efengyl y Tangnefedd. (6c. y sypyn. (The Gospel of Peace. Packet of 12 Coloured Cards. (6d. per packet.)

(x127)
TOCYNAU GWOBRWYON
YR YSGOL SABBOTHOL.
(SUNDAY SCHOOL REWARD TICKETS.)

Beautifully printed in Gold and Colours.
The Texts in Welsh.
Pedair Ceiniog y Sypyn {4d. per packet).
Sypyn VIII. yn Cynwys 24.
Sypyn IX. yn Cynwys 100.

DARLUNIAU LLIWIEDIG.
(COLOURED PICTURES FOR COTTAGE WALLS.
Beautifully printed in Oil Colours by Kronheim.
Size 15 by 20 inches.
3d. each.

Daniel yn Ffau y Llewod (Daniel in the Lions
Den).

Y Bwch Diangol (The Scapegoat).

Troedigaeth St. Paul (Conversion of St. Paul).

Ffyrling y Weddw (The Widow’s Mite).

LONDON: THE RELIGIOUS TRACT. SOCIETY, 56, PATERNOSTER ROW.

_______________________________________________

DIWEDD


__________________________________________________________________

Sumbolau arbennig: ŷ ŵ

Diweddariad diwethaf 2007-01-30

Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Gwefan "CYMRU-CATALONIA"
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web "CYMRU-CATALONIA" (= Gal·les-Catalunya)
Weər äm ai? Yuu äär vízïting ə peij fröm dhə "CYMRU-CATALONIA" (= Weilz-Katəlóuniə) Wéb-sait
Where am I?
You are visiting a page from the "CYMRU-CATALONIA" (= Wales-Catalonia) Website

CYMRU-CATALONIA

DIWEDD / FI / END 

hit counter script

Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats