|
|
(delwedd
B0000)
|
|
|
|
(delwedd B0001)
|
(x001)
HANES UNWAITH AM SIENCYN DDWYWAITH;
SEF
Y PETHAU MWYAF HYNOD YN EI FYWYD,
YN NGHYDA RHAI TRAETHODAU,
A
THALFYRIADAU O’I BREGETHAU, &c., &c.;
HEFYD YCHYDIG
AWGRYMIADAU AM MINNESOTA,
A’R CYMRY
A WLADYCHANT YNO. GAN JENKIN JENKINS.
UTICA, N.Y.
T.
J. GRIFFITHS, ARGRAFFYDD, EXCHANGE BUILDINGS. 1872.
|
|
|
(delwedd B0002)
|
(x002)
AT DDARLLENYDD YR AIL
ARGRAFFIAD, AC ERAILL.
AT Y DARLLENYDD.
ANWYL GYFEILLION—
Mae argraffiad y ddwy fil gyntaf wedi gwerthu yn rhwyddach nag y dysgwyliais,
er ys agos i flwyddyn yn ol. Nid oeddwn yn meddwl argraffu ychwaneg; ond gan
na chafodd braidd haner y sefydliadau Cymreig gynyg ar y llyfr, penderfynais
roddi mil arall trwy y wasg.
Gwir mai difias yw cadw llyfrau ar law ar ol y draul o’u gwneyd; eto, er mai
nid hyn yw fy ngofid presenol i, mae arnaf ofid arall, sef methu ateb y gofyn
sydd am y llyfr, o herwydd nad ydyw genyf ar law. Mae y llwyddiant a gefais
yn rhoddi hyder na byddaf yn golledwr yn yr argraffiad hwn eto.
Dymunaf dalu fy niolchgarwch diffuant i’r rhai a’m cefuogasant yn barod, gan
ddysgwyl yn galonog hynawsedd y rhai y bwriadaf ymweled â hwythau yn fuan.
Yr eiddoch, &c.,
JENKIN JENKINS.
GWELLIANT GWALL.—Ar tudalen 185, a’r 19eg llinell, yn lle “Dafydd” Thomas,
darllener “ Griffith” Thomas.
|
|
|
(delwedd B0003)
|
(x003)
Yn gymaint a bod awydd cyffredinol yn ffynu yn mysg y Cymry yr ochr hon i’r
Werydd am weled Hanes Bywyd Siencyn Ddwywaith wedi ei gyflwyno i’r cyhoedd
ganddo ef ei hun, a bod yr awydd hwnw yn deilliaw oddiar y dywediadau a
adroddir am dano gan wahanol bersonau, barna ei hen adnabyddwyr mai teg a
phriodol fyddai iddo ef ei hun roddi desgrifiad cywir o’r hyn a gymerodd le
yn gysylltiadol âg ef yn nyddiau ei ymdaith trwy y byd yma.
Hefyd, pan ar ei daith yn Nhalaeth Pennsylvania, er ys yn agos i dair blynedd
yn ol, yn ei ymweliad â’i frawd, Evan Jenkins, Dundaff, cadwyd cyfarfod yn
Minersville, yn cael ei lywio gan y Parch. Mr. Walking (yn awr o Racine,
Wis.), ac ereill, yn dymuno i hyn gael ei wneyd gyda brys. Rhoddasant y
cefnogiad gwresocaf i’r fath anturiaeth, a chafodd yr ysgrifenydd yr
anogaethau cryfaf o amrywiol fanau eraill, nes o’r diwedd yr addawodd
gyflawni eu cais; ac ar ol addaw, rhaid bellach ymaflyd yn y gorchwyl, neu
fod yn euog o’r cymeriad gwrthun o fod yn anffyddlon. Mae llawer o rwystrau
ar ffordd yr awdwr, yn neillduol i roddi darluniad o rai o’r amgylchiadau yr
aeth drwyddynt, gan yr anhawsder sydd i beidio nodi enwau rhai personau a
fuont yn dwyllodrus a dichellgar tuag ato. Gan na wna cyfeiriadau personol fel hyn un lles, gwell eu gadael o’r
neilldu. Nid doeth i yrwr cerbyd yw ymdrybaeddu i daflu pob careg a boncyff
sydd ar ei ffordd; gwell iddo fyned goreu y gallo heibio iddynt, a’u gadael
o’r neilldu. Felly penderfynwyd gadael heibio y pethau isel, gwael, a
bawaidd, a ellid eu nodi, yn hytrach nag ymdroi o’u cwmpas yn yr ysgrif hon.
Gan fod cymaint o bethau dyddorol a buddiol, y carai y darllenydd eu gwybod,
wedi cyfarfod â Siencyn Ddwywaith, amcenir rhoddi crynodeb byr o honynt, heb
ychwanegu atynt, na thynu oddiwrthynt. Nid wyf erioed eto wedi amcanu
boddloni na thramgwyddo neb ar draul aberthu egwyddor. Bellach nid gwiw i mi,
yn niwedd fy oes, geisio cyfarwyddo fy hun mewn rhyw gastiau newyddion; gwell
genyf na defnyddio sebon meddal, a gwenieithio, pan y byddo amgylchiadau yn
galw, lefaru yn gadarn am y pethau yr wyf yn eu credu yn gryf — tramgwydded y
neb a dramgwyddo, a digied y neb a ddigio.
Ysgatfydd fod ambell un yn barod i ddyweyd wrth fyfyrio fy ysgrif, “Yn wir,
nid yw y peth, wrth ystyried mai gweinidog yr efengyl a’i gwnaeth; nid oes
ynddi fawr o ras. Yr
|
|
|
(delwedd B0004)
|
(x004)
wyf yn cyfaddef yn rhwydd nad oes ynddi yn agos gymaint ag a ddymunwn fod. Ar
yr un pryd, dywedaf wrth yr un hwnw, pwy bynag yw, nad oes ganddo ef ddim i’w
spario i mi. Os oes ganddo ef a minau ychydig o ras, dylem fod yn ddiolchgar
iawn. Dylai fod cywilydd arnom fod mor lleied genym ein dau; ond byddwn
galonog fod rhagor i’w gael, a bod modd i ddyfod yn feddianol arno, trwy
ddidwyll arfer moddion priodol; byddwn ddiwyd iawn.
Wrth bregethu i gynulleidfa o bersonau dieithr, y rhai na’m clywsant
yn flaenorol, barnant yn gyffredin fy mod yn odiach, neu yn rhyfeddach na
dynion eraill; ond yn mysg y rhai sydd yn fy adnabod, ac wedi cynefino a mi,
nid ydynt yn gweled nac yn clywed dim dieithriol ynwyf. Os cenfydd y
darllenydd ryw bethau dieithriol, mewn dull neu ymadrodd, yn y llyfr hwn, gallant
fod yn sicr nad amcanwyd dim ynddo felly genyf fi. Oddieithr fod rhyw wallau
wedi llithro trwy yr argraffwasg, mae y dull a’r pethau wedi eu malu yn melin
fy myfyrdod fy hun. Os dywedir nad oes hawl genyf i wneyd defnydd o
ddrychfeddyliau eraill, yr wyf yn barnu yn ostyngedig fod pwy bynag a ddywedo
felly yn saethu dros y nod. Eto, gan fod y Creawdwr doeth a da wedi rhoddi
dawn neillduol a phriodol i bob dyn, dylai ymlwybro yn ol y dawn a roddwyd
iddo, yn lle ceisio cerdded wedi ei wisgo ag arfau Saul; eto, ambell waith
gellir gwneyd defnydd o gledd y gelyn i dori ei ben ag ef. Mae gwell awch ar
y fath arf nag sydd ar geryg llyfnion, er rhai yn ein cod ni ein hunain y
byddant.
Gan mai yn mysg y Cymry yr wyf wedi bod yn llafurio agos fy holl oes, iddynt
hwy yr wyf yn cyflwyno yr anrheg fechan hon, cyn ymadael a’r byd, fel y
gallont weled fy nhaith trwy yr anial, pan y byddwyf wedi canu yn iach i bob
gwrthddrych
dan haul.
……………………………Pererin wy’n y byd,
.. …………………………….Ac alltud ar fy hynt,
……………………………Yn ceisio dilyn
ol y praidd,
………………………………A’r tadau
sanctaidd gynt.
Mae llawer iawn o’m hen gyfeillion inau, y rhai y bum yn pregethu am
flynyddau iddynt, wedi myned i ffordd yr holl ddaiar; maent heddyw uwch
gafaelion a thrafferthion y byd hwn, a byddaf finau yn fuan wedi eu canlyn,
gobeithiaf, i’r wlad well. Pwy a wyr na chaiff rhyw rai hyfrydwch oddiwrth y
llyfr hwn pan y bydd y bysedd sydd yn ysgrifenu y llinellau hyn wedi llonyddu
yn llwch y bedd?
Yr eiddoch yn y rhwymau goreu,
JENKIN JENKINS.
|
|
|
(delwedd B0005)
|
(x005)
..................................CYNWYSIAD.
Tu. dal. (= tu dalen)
At y Darllenydd …8
Hanes Bywyd y Parch. Jenkin Jenkins…7
..................................TRAETHODAU, &c.
Pregeth…45
Y Golygfeydd Diweddaf ar Fywyd Boneddiges Urddasol…57
Ysbryd Maddeu…71
Archesgobaeth yn mhlith yr Annibynwyr yn Nghymru...74
Sylwadau ar y Llythyr Blaenorol, gan “Carwr Crist a’i Weision”…79
Archesgobaeth yn Nghymru yn mhlith yr Annibynwyr...82
Iawn Crist…87
Rhagfarn Crefyddol…93
Gweddi y Ffydd…117
Taith drwy Dalaeth Ohio…155
Ymweliad a Chymru…163
Hanes Rowli a’i Deulu...171
Gwneyd rhan Tangnefeddwr…175
Y Convention...191
Dosran y Ceffyl “ Dic”...193
Moses Strong…195
Ffurfiad Eglwysi…197
Gair am Dalaeth Minnesota…199
|
|
|
(delwedd B0006)
|
(x006)
Y Parch. Morris Roberts, Remsen, a Mr. William Maxy, Carbondale…203
Pregethau…204—206
Capel y T. C. yn Cambria, Minn...207
Terfyniad yr Hanes, neu
Air yn Mhellach...270
Nodiadau ar Siencyn Ddwywaith, gan Iorthryn Gwynedd, 274
..................................LLAIS Y BEIRDD.
Llyfr y Parch. Jenkin Jenkins, gan Eos Glan Twrch…279
Y Parch. Jenkin Jenkins, gan
Ieuan Ddu…280
Englynion i Lyfr y Parch.
Jenkin Jenkins, gan Cefni…380
|
|
|
(delwedd B0007)
|
(x007)
HANES BYWYD Y PARCH. JENKIN JENKINS.
GANDDO EF EI HUN.
Ganwyd gwrthddrych y cofiant hwn nos Sadwrn, y 29ain o Orphenaf, 1803, yn
Tirfordfawr, plwyf Llangyfelach, swydd Forganwg, Deheudir Cymru. Yr oedd yn un o wyth o blant; efe oedd y trydydd. Mae y ddau hynaf eto
yn Nghymru; ei dad, ei fam, a’i dair chwaer, wedi marw. Bu farw brawd iddo
hefyd yn ninas Caerefrog Newydd; ac y mae brawd arall iddo yn awr yn fyw yn
Dundaff, swydd Susquehauna, Pa. Pan yn blentyn, tynai sylw cyffredin, am ei
fod yn un hynod fywiog, a’i ddau lygad du mor dreiddgar a chyflym yn ei edrychiad
craff. Y cof cyntaf sydd ganddo am ddim, braidd, yw ei fod yn myned ar y
Sabbothau tu ol i’w fam ar gefn y ceffyl i Mynydd Bach, lle yr oedd yr
hybarch David Davies yn gweinidogaethu, lle hefyd yr oedd ei rieni yn
aelodau; yr hwn weinidog a’i bedyddiodd yn ei fabandod. Cofus ganddo pan yn
angladd ei daid (tad cu), fod yr hen weinidog yn dyweyd ar y bregeth
angladdol hono, “fod yr hen frawd Jenkin Jenkins wedi bod yn ffyddlon iawn am
lawer o flynyddau gyda’r achos yn Mynydd Bach; ac er ei fod yn awr wedi ein
gadael, pwy a wyr,” meddai, gan gyfeirio ei fys, ac edrych at y man lle yr
oedd ei wyr yn eistedd, “ na ddaw yr un bach acw, yr hwn sydd yr un
|
|
|
(delwedd B0008)
|
(x008)
enw ag yntau, i lanw ei le ef mewn gronyn.” Cyrhaeddodd y dywediad, nid yn
unig y gynulleidfa, ond yr un bach hefyd, nes iddo wylo yn hidl.
Treuliodd Jenkin rai blynyddau, pan oedd o naw i ddeuddeg oed, yn lled
ddifater ac anystyriol. Er fod arno ofn ei dad yn aml, gwnai ddianc ar y
Sabboth i chwareu gyda’i gyfoedion ar hyd yr ardal. Gwelid hwy yn aml yn
mysgu nythod, yn dringo y coedydd, yn yspeilio perllanau, yn neidio am y
pellaf, a nofio am y goreu. Unwaith, ar hwyr Nadolig, yr oedd saith o honynt
yn Mhontlasau, yn nhy Mr. Thomas; penderfynasant gael gwydd i swper. Gan nad
oedd yr un gan y teulu, bwriwyd coelbren i ddau fyned i rywle am un.
Syrthiodd y coelbren ar Siencyn yn un o’r ddau. Yr oedd William, mab Gorslan,
yn ein cymdeithas, yr hwn a’n hanogai a’i holl egni i fyned, a’r lleill fel
yntau am i ni fyned, a dyfod yn ol gyda brys. Gan nad oeddym erioed, yr un o
honom, wedi bod yn lladrata gwyddau, yr oedd yn anhawdd iawn genym fyned;
beth bynag, myned a wnawd. Gan fod Gorslan yn agos, awd yno, a daliwyd gwydd
fawr, fras. Wedi i’r bwrdd gael ei hulio, a phawb eu lloni, gofynodd William
pa le y darfu i ni ei chael hi? Atebodd Siencyn ef gyda gwen, mai yn Gorslan.
Chwarddodd pawb yn iachus ond un, ac enw hwnw oedd William, Gorslan.
Tua’r amser hwn, yr oedd gwrthddrych y cofiant presenol yn yr ysgol ddyddiol
yn Llangyfelach. Yn aml iawn byddai yn cael ei osod i ymladd â bechgyn mwy
nag ef ei hun. Trwy ei fod yn llaw-chwith, fel rhai o’r Benjaminiaid gynt, yn
gyffredin deuai allan yn orchfygwr. Byddai ganddo rai cyfeillion gwresog bob
amser. Nid ei gryfder corfforol, ond ei ragwelediad o
.
|
|
|
(delwedd B0009)
|
(x009)
bethau a barodd iddo fod mor llwyddianus yn ei ymgyrchiadau. Er ei fod
weithiau yn cael ei ddal yn ei ystranciau, trefnai lwybr i ddyfod allan yn
rhwydd. Gwasanaetha yr hyn a ganlyn er dangos ei lwybr yn yr ysgol:— Rhyw
ddiwrnod yr oedd yn ymbleseru i daflu darnau bychain o galch a ddelai yn
rhydd oddiar y mur oedd tu cefn iddo, at y merched. Gwnai bachgen arall yr un
peth, a eisteddai agosaf ato. Ymhyfrydai y bechgyn wrth weled y merched yn
anesmwyth. Tynodd yr amgylchiad sylw y meistr, a gwelodd y ddau euog yn
parhau yn eu drygioni. Galwodd y ddau wrth eu henwau i ddyfod ato. Dywedodd
wrth yr hwn a enwodd gyntaf am ei ddrwg, a bygythiodd ef yn arw; ond mai y ddedfryd
bresenol oedd, fod yn rhaid iddo syrthio ar ei liniau, cusanu y wialen fedw,
a dyweyd na byddai iddo wneyd y fath weithred byth mwyach. Teimlai y bachgen
hwn yn annymunol iawn; y fath oedd ei ystyfnigrwydd, nes y gorfuwyd ei blygu
drwy ddefnyddio y wialen; amrai fflangellau a gafodd; llanwai ei ysgrechfeydd
yr holl ysgol. Cyn iddo ymostwng, cnoai y wialen ddwywaith neu dair, a bu
raid iddo ei chusanu yn y diwedd, ac addaw na byddai iddo byth mwy wneyd y
fath beth. Pan welodd yr ail y modd yr ymddygodd y cyntaf, a’r driniaeth a
gafodd, penderfynodd gymeryd llwybr gwahanol. Safodd yn syml o flaen ei
feistr. Pan geisiodd ganddo blygu ar ei liniau, gwnaeth hyny yn rhwydd.
Gorchymynwyd iddo roddi cusan i’r wialen; gwnaeth hyny. Hefyd, dywedodd wrtho
am addaw na byddai iddo wneyd y fath beth mwy. Addawodd yntau; cododd ac aeth
i’w le dan wenu. Gofynodd ei feistr iddo paham yr oedd yn gwenu? Yr atebiad a
gafodd oedd, “ Am fy
|
|
|
(delwedd B0010)
|
(x010)
mod wedi dysgu y wers mor rhwydd ar gost arall.” Unwaith arall, yr oedd ysgol
rad yn eglwys y plwyf, ac yn mhlith eraill yr oedd gwrthddrych y cofiant yma
yn un yn yr ysgol. Byddai offeiriad y plwyf ar rai amserau yn ymweled â ni, ac
yn ein holi yn Nghatecism yr Eglwys. Wedi iddo gael atebiad boddhaol gan
amrai, gofynodd i un arall, “Beth yw dy enw di?” Ateb. Jenkin. Gofyniad.
Pwy roddes yr enw hwnw arnat ti? Ateb. Fy nhad, pan y’m bedyddiwyd yn
enw y Tad, a’r Mab, a’r Ysbryd Glan. “Dywedwch,” meddai y person, “Fy nhadau
bedydd, a’m mamau bedydd, pan y’m gwnaethpwyd yn blentyn i Dduw, yn aelod i
Grist, ac yn etifedd teyrnas nefoedd.” “Na wnaf,” meddai y bachgen, “ddim
dyweyd y fath gelwydd wrthych chwi na neb arall.” Gofynodd wed’yn, “ Pwy a’th
fedyddiodd?” Atebwyd ef— “Mr. Davies, Mynydd Bach.”
Pan oedd Jenkin tua 14 mlwydd oed, yr oedd yn ddiwyd yn yr ysgol Sabbothol yn
Mynydd Bach, ac hefyd gyda’r Trefnyddion yn Llangyfelach. Dysgodd i ddyweyd
allan o lyfr, ac adrodd oddiar ei gof, Gatecism Mr. Charles, o’r Bala; ac un
mawr arall, o gasgliad Mr. Evans, Mynydd Bach; a’r byraf o eiddo y Gymanfa.
Efe, yn gyffredin, fyddai yn adrodd penod wrth ddechreu cyfarfodydd. Bum
gyda’r ysgolion yn y llafur hwn yn Mynydd Bach, Llangyfelach, Treforis,
Clydach, Nant-y-Moel, Llansamlet, Castellnedd, Glandwr, Cadle, y Felindref,
Crwys, Brynteg, Pen-y-clawdd, Llanelli, Llanedi, a Llangeinech.
Pan yn 14 ml. oed, derbyniwyd ef yn aelod cyflawn. yn Mynydd Bach, gan y Parch.
Daniel Evans, gweinidog y lle. Nid oedd hyn yn weithred fyrbwyll, oblegid
|
|
|
(delwedd B0011)
|
(x011)
yr oedd y bachgen dan argraffiadau crefyddol er ys rhai blyneddau cyn hyn; yr
oedd y penodau a adroddai, yr hymnau a ganai, y pregethau a wrandawai, a’r
gweddiau a anfonid at Dduw drosto, wedi gafaelyd yn ei galon yn ddwfn iawn.
Mynych yr ymneillduai i leoedd dirgel i weddio, yr wylai am ei bechodau, ac y
dilynai yr hen bobl i’r cyfarfodydd gweddio. O’r diwedd penderfynodd fyned
i’r gyfeillach; ond gan ei ofnau, wedi myned at ddrws.y capel, trodd yn ei
ol. Wedi myned i’r gyfeillach y tro cyntaf, yr oedd yn crynu, gan fraw y
buasent yn gofyn gormod iddo; ac yn wir, nid allai ateb ond ychydig y waith
hono.
Ar ryw nos gyfeillach, galwyd ef i weddio; ac er ei fod yn lled gyfarwydd a
gweddio pan wrtho ei hun, aeth yn hynod o dywyll arno y pryd hwn; a gofidiodd
wedi hyn wrth feddwl fod y fath ymddygiad yn dangos fod arno fwy o ofn dynion
nag o ofn Duw. Yn. mhen ychydig, daethum yn lled gyfarwydd a gweddio yn
gyhoeddus, a’r baich trwm oedd ar fy meddwl, bron a’m llethu dano o’r blaen,
a’m llwyr adawodd. Am flwyddyn neu ddwy wedi hyn, cartrefais gyda’m tad a’m
mam, ac yn gyffredin cymerwn ran yn y ddyledswydd deuluaidd, y cyfarfodydd
gweddio, a’r cyfeillachau.
Tua’r amser hyn aethym i’r ysgol i Abertawe. Yr oeddwn yn cael fy mwyd a’m
llety am ofalu am geffyl Mr. William Terry, meddyg parchus yn y dref uchod,
lle yr arosais am flwyddyn. Wedi ymadael, a myned adref, mynychwn fyned i’r
Mynydd Bach, fel gynt. Yn fuan, hysbyswyd fy mod i a bachgen arall i arfer
ein dawn i bregethu, a’n bod i ddechreu yn y gyfeillach nesaf. Beth bynag, y
gyfeillach nesaf a ddaeth. Dechreuodd Dafydd Jones (Deici oedd ei enw ef);
ond
|
|
|
(delwedd B0012)
|
(x012)
ni allai Siencyn gyffro; yr oedd yn rhy wan, er ei anog yn gryf. Gadawyd iddo
am y noson hono, gan ddyweyd y cai ail gynyg yn mhen pymthegnos wed’yn. Pan
ddaeth yr amser hyn i ben, nid oeddwn yn fwy parod nag o’r blaen; yn wir, yr
oedd fy ofnau yn fwy. Crefwyd yn daer arnaf y tro hwn, ond llwyr omeddais.
Dwrdiodd yr hen weinidog fi yn dost, gau ddyweyd fy mod yn cymeryd arnaf fod
yn gallach na’r holl eglwys, a bod yn rhaid magu bustych cyn cael ychain i’r
weinidogaeth. Wrth fyned adref, yr oedd mil o bethau yn gwau trwy fy meddwl.
Gan fy mod yn gwybod am fy anghymwysderau yn well nag y gwyddai eraill am
danynt, yr oeddwn wedi rhyw haner ddigio wrth yr holl frawdoliaeth. Gwyddwn
hefyd nad allasai fy rhieni fy nghynal yn yr ysgol. Penderfynais y buaswn yn
gadael ysgrif fechan mewn rhyw le arnlwg, fel y gallai fy nhad a’m mam ei
gweled, yn hysbysu fy mod yn myned i Merthyr Tydfil. Yn foreu dranoeth,
ffwrdd a mi, a sypyn bychan o ddillad dan fy nghesail, a dim ond chwe’
cheiniog yn fy llogell; a chyn yr hwyr, yr oeddwn wedi cyrhaeddyd Merthyr
Tydfil. Arosais yno, mewn gwahanol fanau, am ddwy flynedd. Pan yn gyru ceffyl
mewn un o’r ogofeydd yno, anfonais adref gân, yr hon a ddarllenwyd ar ddydd
medi gwenith, gyda hyfrydwch mawr. Mae darn o honi fel hyn:
………………..Fy anwyl fwyn rieni,
…………………..Clywch ar g’oedd, clywch ar g’oedd,
………………..Fy nhad, a’m mam, a’r teulu,
…………………..Clywch ar g’oedd;
………………..Clyw fab o
ffrwyth dy lwynau,
………………..Do, bum yn dy fru dithau,
………………..Ond ’nawr yn bell o gartreu,
…………………..Clywch ar g’oedd, clywch ar g’oedd,
………………..Yn gweithio yn y gweithiau,
…………………..Clywch ar g’oedd.
|
|
|
(delwedd B0013)
|
(x013)
………………..Bum bedwar mis yn gyfan,
... ………………..Clywch ar
g’oedd, clywch ar g’oedd,
………………..Dan nodded Dafydd Bevan,
.. …………………Clywch ar g’oedd;
………………..Yn gyru hen geffvlau,
………………..Ar hyd og’feydd a thyllau,
………………..’Gael gafael yn y perlau,
…………………..Clywch ar g’oedd.
Y fath oedd fy awydd i wneyd ychydig arian, er mwyn cael ychwaneg o addysg,
fel yr arferais lawer o gynildeb, yn gystal a diwydrwydd. Un haf sych, pan oedd y gwaith yn farwaidd, penderfynais fyned i weled
teulu Harry Jenkins, brawd fy nhad, yn Rhydri. Codais ar foreu dydd Llun yn
foreu iawn, a chyrhaeddais Caerphili cyn wyth o’r gloch. Cyflogais am wythnos
gydag un o’r enw Alexander Jones, yn ymyl Eglwys Llandaf, i fedi gwenith. Yr
oedd y gwr hwn yn byw ar ei dir ei hun, yn dda ei amgylchiadau tymorol. Nid
arferai weithio, yn ol ei gyfaddefiad. Un diwrnod, ar ol ciniaw da, a’r
medelwyr wedi bwyta yn helaeth o’r danteithfwyd, awd ati i fedi. Dywedai y
gwr, “ Torwch yn isel, er mwyn cael gwellt i’r anifeiliaid.” Cododd Siencyn i
fyny, a dywedodd wrtho:—
………….O Alexander ddigri’,
……….....Ni wyddoch sut i
fedi;
...…A d’weyd y gwir mewn geiriau llawn,
………….Gwaith anhawdd iawn yw plygu.
Mewn perthynas i’m
cysylltiad eglwysig, yr oeddwn wedi ymadael o’r Mynydd Bach heb lythyr. Nis
gallaswn beidio myned i gyfarfodydd crefyddol; nid yn unig ar y Sabboth, ond
i’r cyfeillachau neillduol hefyd. Yn fuan wedi dyfod i Ferthyr, aethym i’r
gyfeillach yn Zoar. Gofynwyd, fel y byddid yn arfer, o ba le yr oeddwn wedi
dyfod; a oedd fy llythyr gyda mi, &c.
|
|
|
(delwedd B0014)
|
(x014)
Wedi cael atebiad nad oedd genyf yr un, caniatawyd fy lle i mi ar yr amod i
mi yru am dano. Dywedais wrthynt na buaswn yn anfon byth am lythyr o’r Mynydd
Bach — fod yn rhy dda genyf am danynt yno. Yr wyf yn cofio pan y dywedais
hyn, fy mod yn wylo. Yr oeddwn yn glaf am gartref (home-sick) ar y pryd.
Ni siaradwyd a mi wed’yn am hyn.
Yn mhen tua blwyddyn, pan yn myned i Zoar, un prydnawn Sabboth, gwelwn y
Parch. Daniel Evans, Mynydd Bach, yn y pwlpud. Er fy mod gynt yn gallu
gwrando arno yn ddigon dideimlad lawer pryd, ond wrth glywed ei lais adnabyddus
y tro hwn, saethodd y dagrau o’m llygaid mor anwrthwynebol, fel nad allwn eu
hatal am beth amser. Yn gwbl anymwybodol ac anystyriol o’m sefyllfa, lle
gwelai y dyrfa, aethym ato i’r areithfa, gan ysgwyd llaw ag ef, a’i gyfarch,
er syndod i bawb a’m gwelsant. Aethym gydag ef ar ol yr oedfa i dy y Parch. Samuel Evans, gweinidog y lle. Ni raid dyweyd, yr oedd yr ymddiddan a
fu rhyngddynt yn ddigon o lythyr i mi; oblegid ar ol hyn, cyfnewidiodd
ymddygiadau mwyaf dylanwadol yr eglwys yn hollol tuag ataf. Nid oeddwn tra yn
Merthyr yn teimlo yn hollol dawel, yn gymaint ag nad oeddwn yn gallu llwyddo
i gyrhaedd yr amcan oedd genyf, sef cael modd i’m cynal yn yr ysgol.
Ymddygodd fy ewythr yn wael tuag ataf, trwy godi yn uchel am fy llety. Nid oedd fy enill ond bychan, a chollais fis o’m cyflog trwy weithio
gyda dyhiryn twyllodrus. Daeth eglwys Zoar i’r penderfyniad i’m hanog i
bregethu; cymhellasant fi yn daer iawn; ond nis gallaswn wneyd, am nad oeddwn
wedi cyrhaedd y cymhwysderau angenrheidiol at y fath orchwyl pwysig.
|
|
|
(delwedd B0015)
|
(x015)
Heb ddyweyd dim wrth neb, ffwrdd a mi oddiyno hyd Blaenafon, swydd Gwent. Gan
fod John Samuel, goruchwyliwr gwaith y glo a mwn, o Langyfelach, ac yn hen
gyfaill a’m tad, aethym ato, a chefais bob sirioldeb ganddo ef a’i deulu.
Dywedodd am i mi fyned i weithio lle y mynwn, a rhoddodd bapyr i mi i gael yr
offerynau (tools) at weithio. Gan fod Edward a Thomas Williams,
bechgyn Timothy, a Will, Dowlais Uchaf, yr hwn oedd berthynas i mi, yn
gweithio yno yn yr hen lo, River Row, aethym atynt hwy. Pan yn myned i mewn,
cyfarfyddais ag un a elwid Shon William, isoruchwyliwr (gaffer), yn
dyfod allan, a chymerodd yr ymddiddan a ganlyn le rhyngom:— “Holo! Pwy sydd
yna?” “Fi sydd yma.” “Mab i bwy wyt ti?” “Mab fy nhad.” “I ba le yr wyt ti yn
myned?” “I mewn yna at fechgyn Timothy.” “Nid oes yna ddim lle i ti.” “ Ffordd y daethoch chwi allan os nad oes yna le?” “Beth wyt ti yn myned i’w wneyd yna?” “Tori glo.” “B’le yr wyt ti yn
myned i’w ddodi ef?” “Yn y wagen.” “Ffordd yr wyt ti yn myned i’w gael ef i
maes?” “Trwy’r pwll.” Yna rhegodd fi, a ffwrdd ag ef. Pan ddaeth y gwr hwn
gyda John Samuel mewn ychydig o ddyddiau i fesur, yr oedd mor ddistaw a
llygoden dan bawen y gath.
Wrth ddyfod o’r gwaith un prydnawn, cyfarfyddasom â hen wr yn gyru mulod i
gario coed at y gwaith glo. Dywedodd Timothy Davies (yr hwn, yn mysg eraill,
oedd yn dyfod adref yr un ffordd a minau), wrthyf, “Siencyn, gofyn i’r hen wr
yna sydd yn dyfod i’n cyfarfod, beth all hi fod o’r gloch. Gofynais iddo,
“Beth y’ch chwi yn feddwl all hi fod o’r gloch?” Dechreuodd yr hen wr
gynhyrfu, rhegu, a lluchio ceryg
|
|
|
(delwedd B0016)
|
(x016)
ataf, fel y gorfu i mi gymeryd y traed a rhedeg, a’r bechgyn yn chwerthin
wrth weled yr hen wr ffol yn fy nilyn. Hwy a wyddent am ei arferiad, ond ni
wyddwn i ddim. Arosais yn y lle hwn a’r Farteg rai blynyddau. Meistr y level
y bum yn gweitbio fwyaf iddo oedd John Williams (Jaco, Ty Round). Cefais yma le cysurus. Yr oeddwn i yn un o’r rhai cyntaf yn ffurfiad
yr eglwys Annibynol yn y lle. Yr oedd eglwys Ebenezer, Pontypool, am iddi fod
yn gangen o honynt hwy, ac eglwys Cwmafon am yr un peth; ond nid felly y
penderfynwyd. Adeiladwyd yma gapel da,
a rhoddwyd galwad i’r Parch. Morris Jones, o ysgol Neuadd-lwyd, i fod yn weinidog. Cynyddodd yr
achos da yma yn gyflym yn rhif yr aelodau a’r gwrandawyr. Bellach, wrth weled yr amser yn myned heibio, meddyliais fy mod yn
debyg i Jonah, yn ffoi o wydd yr Arglwydd. Gweddiais ar yr Arglwydd, os oedd
efe am i mi bregethu, am iddo gynyddu y duedd hono ynof. Yn y lle hwn, ar
gais yr eglwys, y dechreuais bregethu yr efengyl. Gadewais y lle yma, ac
aethym i’r ysgol at y Parch. John Evans, Crwys. Yma yr oedd y Parchn. John Joseph, Llanedi, a John Davies, Mynydd, ar yr un amser. Maent hwy
wedi meirw, ond yr wyf fi yn fyw hyd yn hyn. Cawsom arfer ein doniau mewn tai
anedd ar hyd yr ardal, ac yn y cynulleidfaoedd cymydogaethol, am dymor, a
thaith trwy Sir Benfro, ac Aberteifi. Pan ddarfyddodd yr arian, aethym i gadw
ysgol yn Crwys, ac i bregethu yn fisol yno, ac yn Brynteg, Mynydd Bach, a
Siloh, Penybre, a Llanelli. Treuliais
beth amser yn ysgol y Parch. David Peters, yn Nghaerfyrddin. Teithiais trwy y
rhan fwyaf o eglwysi yr Annibynwyr yn Neheubarth Cymru. Pan ar daith o
Lanidloes
|
|
|
(delwedd B0017)
|
(x017)
i Rhaiadr-yr-wy, tua haner y ffordd, goddiweddwyd fi gan ddyn mawr ar gefn
ceflyl. Yr wyf yn cofio fod clog am ei gefn, a botasau am ei draed. Nid
oeddwn i y pryd hwnw ond chwech-ar-hugain oed, yn cerdded, ac umbrella yn
fy llaw. Wedi iddo fy ngoddiweddyd, bu yr ymddiddan canlynol rhyngom:—
“Pa fodd yr ydych chwi?”
“ ’Rw’y’n weddol, diolch i chwi; Shwt y’ch chwithau?”
“A ydych chwi yn arfer a chynghori y bobl yma?”
“Ydwyf, pan y caf ychydig yn nghyd.”
“A oeddych chwi yn arfer a gwneyd hyny gartref?”
“Oeddwn, yn ddiweddar, onide nid gwiw fyddai i mi gynyg gwneyd hyny
oddicartref.”
“Beth yw eich enw chwi?”
“Mae arnaf fi dri enw, Syr; yr un a fynoch ai Jenkin Jenkins, Siencyn i Gyd,
neu Siencyn Ddwywaith.”
“Felly.”
“Beth yw eich enw chwi?”
“Paham yr ydych chwi yn gofyn?”
“Yr oeddwn i yn meddwl y gallaswn fod mor eofn arnoch chwi ag y buoch
chwithau arnaf finau.”
“Thomas Jones, o Sir
Drefaldwyn y maent yn fy ngalw i yn y Deheudir.”
“O ba le o’r Deheudir yr ydych wedi dyfod?”
“O’r Mynydd Bach,
Morganwg; ond yn awr o’r ysgol, gyda y Parch. Mr. Evans, o’r Crwys.”
“A fuoch chwi’yn Llanbrynmair?”
“Naddo.”
“Paham hyny?”
“Ni fum i ddim mor belled oddicartref o’r blaen.
|
|
|
(delwedd B0018)
|
(x018)
Gan fod fy anadl yn fyr, bernais mai gwell oedd i mi gymeryd cylch fuasai
fyrach.”
“A ydych chwi yn adnabyddus â Mr. Roberts, o Lanbrynmair?”
“Mi a’i gwelais ef.”
“Beth yw barn y bobl gyda
chwi yn y Deheudir am olygiadau Mr. Roberts?”
“Yn mhob pen mae opiniwn
gyda ni, Syr. Rhai a olygant mai uchel Galfin yw ef; eraill, mai Armin tyner
yw; ac eraill, ei fod ar hyd canol llwybr barn; a phawb a’i hystyriant yn
ddyn duwiol iawn.”
“Gobeithio hyny.”
“Gobeithio hyny hefyd.”
“Ond dyna fel mae yr Independiaid wedi myned yn anniben, am nad oes gaaddynt
yr un Cyffes Ffydd, fel sydd genym ni.”
“Yr Independiaid wedi myned yn anniben, am nad oes ganddynt yr un fath Gyffes
Ffydd ag sydd genych chwi! Mae genym ni Gyffes Ffydd, sef y Beibl, yr unig
reol anffaeledig.”
“Ie, ie, nid fel yr un sydd genym ni, i gylymu ein golygiadau wrth eu gilydd,
yn lle gadael i bob hogyn fyned ar draws y wlad i ddweyd y peth a fyno.”
“Nac oes gyda ni ddim felly; ac os wyf fi yn deall eich Cyffes chwi, fel y
mae rhai o honoch chwi eich hunain yn ei hesbonio yn eich ymddygiadau, y mae
yn wahanol iawn i’r Beibl.”
“Gresyn! A ellwch chwi ddyweyd yn mha beth y mae y Cyffes Ffydd yn wahanol
i’r Beibl?”
“Gallaf yn rhwydd. Mae’r Beibl yn berffaith — Duw perffaith yw ei awdwr; ond
dynion anmherffaith yw
|
|
|
(delwedd B0019)
|
(x019)
awduron y Cyffes Ffydd, o ganlyniad nis gall lai na bod yn anmherffaith.”
“A wnewch chwi nodi un peth sydd yn y Gyffes yn wahanol i’r Beibl?”
“Gwnaf, ddau beth, yn ol fel y mai rhai o honoch yn pregethu, ac yn
dysgyblu.”
“De’wch a hwy.”
“ 1. Yr ydych chwi yn gosod allan mai gras yw sylfaen dyledswydd. Gwyddom nad
oes gras gan gythraul, ac am ba beth y mae yn cael ei gospi, ond am beidio
gwneyd ei ddyledswydd?”
“Dyledswydd lled dlawd yw hono nad oes ynddi ras.”
“Digon gwir, ond nid hyny yw ei sylfaen.”
“Beth yw y peth arall?”
“2. Mae eich dull o ddysgyblu yn wahanol i’r Beibl am yr athrawiaeth o
edifeirwch. Pan y bydd bachgen dibroffes yn myned i garu merch broffesedig,
gwyddoch, ar ol iddynt ddechreu ymdrythyllu, mai priodi a fynant. Diarddelwch
y ferch am briodi dyn digrefydd. Yn mhen ychydig amser, daw y ddynes yn ol
i’r gyfeillach, yn ofnus, gan gyfaddef ei phechod. Nid yw yn ei adael,
oblegid y mae yn cydfyw a’i gwr, yn gorwedd yn yr un gwely, o dan yr un
blanket ag yntau; eto caiff ei lle yn gyflawn yn yr eglwys genych; ond y mae
fy Meibl i yn dyweyd, ‘Yr hwn a gyfaddefo ei bechod, ac a’i gadawo, a gaiff
drugaredd.’
Ar hyn edrychai y gwr arnaf yn graff, a dywedodd: “Nid wyf yn caru gweled
hogiau o bregethwyr mor debyg i glerk cyfreithiwr, yn ddaudybrat a
balchaidd, ac yn gwisgo llodrau (trowsers).”
Ar hyn ymwrolais, a dywedais wrtho, “ Beth sydd genych chwi i’w ddyweyd yn
erbyn hyny? Yr ydych
|
|
|
(delwedd B0020)
|
(x020)
yn gweled fy mod inau yn gwisgo trowsers.”
Nid oedd yr arferiad hwn yn beth cyffredin y dyddiau hyny.
Dywedodd yntau: “Pe byddai yr holl arian sydd yn myned i brynu y brethyn sydd
gan grefyddwyr Cymru a Lloegr i guddio y goes, o’r penlin hyd wddwg y troed,
yn cael ei roddi at achos Iesu Grist, yn lle i borthi balchder, byddai
teyrnas y Gwaredwr lawer yn uwch a theyrnas Satan yn fwy gwywedig.”
Edrychais arno yn graff, gyda gradd o sarugrwydd, a dywedais: “Y mae genych
chwithau fotasau da am eich coesau. Pa un ai brethyn i guddio y goes, neu
ledr, sydd yn costio fwyaf?”
Edrychai arnaf yn chwerw.
“Yr wyf yn gofyn yn syml i chwi, Syr, yn ofn Duw, A ydych chwi yn gweled fod
y fath ymddygiad balchaidd a gwisgo llodrau, yn beth addas i un sydd yn
proffesu crefydd a duwioldeb?”
“Yr wyf yn eich ateb yn syml, ac yn ofn Duw, mor bell ag yr wyf yn gwybod
beth yw hyny, nad yw hyn yn perthyn i grefydd a duwioldeb neb; ac os nad oes
genych chwi a minau fwy o grefydd a duwioldeb nag sydd genym yn ein coesau,
nid oes genym fawr iawn.”
Ar hyn yspardynai y gwr ei geffyl, gan gyflymu o’m blaen. Nis gallaswn erbyn
hyn lai na gwenu, er fy mod yn ei ofni; fy nghalon hefyd oedd yn ergydio yn
gyflym. Yr oeddwn yn gyffroedig iawn, ac yn chwys mawr. Yn mhen ychydig,
gwelwn ef yn arafu, er mwyn i mi ddyfod yn mlaen. Wrth edrych arno, dywedais
ynof fy hun, Dere di, ni fuost ddim llawer ar dy enill hyd yn hyn, pa fodd
bynag y try pethau eto. Wedi myned hyd ato, gofynodd:— “A ydych chwi wedi
blino?”
|
|
|
(delwedd B0021)
|
(x021)
Atebais, “Ydwyf, ychydig.”
“A ddeuwch chwi am ychydig ar gefn y ceffyl?”
“Na ddeuaf fi, Syr.”
“A ydych chwi ddim yn dyweyd, Diolch i chwi?”
“Nac ydwyf.”
“Paham hyny?”
“Nid wyf yn meddwl mwynhau y fraint, am hyny nid wyf yn gweled fod achos
diolch am dani.”
“Hwyrach fod genych chwi reswm neu ddau am hyny eto; os oes, carwn yn fawr eu
clywed.”
“Oes, y mae genyf ddau,” er nad oeddwn ar y pryd yn gwybod beth a fyddent.
Dywedais wrtho, “Yr wyf yn meddwl fy mod yn fwy apostolaidd ar fy nhraed. Ni
bu Crist erioed ar gefn ceffyl; a dim ond unwaith y marchogodd ar ebol llwdn
asen, wrth fyned i Jerusalem.” Yna gwasgais fy nanedd wrth eu gilydd, a
dywedais, “ Mae pregethwyr yn awr yn myned ar gefn eu pedwar-carnoliaid
mawrion ar hyd a lled y wlad, gan lwyr fwyta tai gwragedd gweddwon, plant y
felldith.”
“Beth yw y rheswm arall sydd genych chwi dros beidio dyfod ar gefn y ceffyl?”
Ateb. “Yr wyf yn barnu yn gydwybodol fod yn well genych fod ar ei gefn
ef eich hunan.”
“Dydd da i chwi.”
“Felly i chwithau.”
Adroddais yr ymddiddan blaenorol yn nhy y Parch. David Williams,
Troedrhiwdalar. Gan fod Brutus yn bresenol, gwnaeth fawr ddefnydd o hono yn Lleuad
yr Oes. Adnabyddwyd fi wedi hyn, pa le bynag y byddwn, wrth yr enw,
Siencyn Ddwywaith, neu y bachgen a’r ddau reswm.
Cyn ymadael o’r Hen Wlad, a chael cyfarfod ymadawol
|
|
|
(delwedd B0022)
|
(x022)
yn y Crwys, priodais â Sarah, merch Christmas
Davies, Berth Lwyd, o ardal y Crwys. Cefais gasgliadau gan yr eglwysi yr
arferwn bregethu yn fisol iddynt, a chymerais daith heibio Llanbrynmair, a
Llan-y-mynach, a chymerais y cerbyd i Liverpool. Yna cymerais long i ddyfod i
New York, o’r enw Nimrod, ac mewn chwech wythnos i’r dydd y cychwynais,
glaniais yn Nghaerefrog Newydd. Wedi tirio, anfonais gân adref, am y daith
a’r llong. Er mwyn eich difyru, rhoddaf ger eich bron ddau o’r penillion:—
………..’Roedd dau-ddeg-tri o Gymry
…………..O fewn cilfachau llon,
………..A dau-ddeg-saith o forwyr,
…………..Yn myn’d o don i don;
………..Ac Ellmyn gyda hyny,
…………..A dau o’r Scotaidd ryw;
………..Rhwng Saeson a Gwyddelod,
…………..Dau gant a phump yn fyw.
………..O peidied neb ag ofni
…………..I deithio dros y don,
………..Er bod dros dro’n glafychlyd,
…………..Mewn cryd, O de’wch yn. hon;
………..Nid yw y tonau brigwyn,
…………..Yn wenwyn i ni’n awr;
………..’Wna’r saldra ond eich gwella,
…………...Pan ar eich teithfa fawr.
Gan fod brawd a dwy chwaer i mi wedi dyfod i’r ddinas flwyddyn o’m blaen,
arosais yno, gan bregethu i’r Eglwys Gynulleidfaol Gymreig hyd Gymanfa Utica
a Steuben. Mae rhyw bethau difyr iawn wedi bod yn fy hanes yn yr amser hwn,
sydd yn werth eu nodi. Yr oedd yr eglwys y pryd hwnw heb gapel, yn addoli
mewn ysgoldy yn Mulberry street.
Pan ddaeth y Sabboth, aethym i’r Ysgol Sabbothol at y Cynulleidfaolwyr
Cymreig. Mewn tipyn, gwelwn
Y PARCH. JENKIN” JKNKINS.
|
|
|
(delwedd B0023)
|
(x023)
amrai yn llygadu arnaf, a daeth Mr. John Davies ataf (yr hwn oedd yn
bregethwr cynorthwyol yno ar y pryd), gofynodd i mi beth oedd fy enw, a
oeddwn yn proffesu crefydd, a gyda pha enwad. Wedi cael ateb i’w ofyniadau,
ceisiwyd genyf derfynu yr ysgol, ac aethym gyda’r gwr hwnw i giniaw. Wedi
holi llawer arnaf heb ei fod fawr gwell, dangosais iddo fy mhapyrau
cymeradwyol. Synodd mewn llawenydd. Felly y daeth Siencyn Ddwywaith yn hysbys
pwy ydoedd i Gymry Caerefrog Newydd.
Yr oedd hyn yn mis Gorphenaf, 1832, yn amser y cholera, yr hwn oedd yn
ysgubo dros gant y dydd o’r trigolion i’w beddau. Pan y daeth amser y
Gymanfa, aethym tuag yno; pan yn gadael y train cyn cymeryd y gamlas
wrth Schenectady, gwelwn fwthyn bychan hardd a glanwedd, a’m cyd-deithwyr yn
cyrchu tuag ato. Wedi myned i mewn, gwelem bedair dynes yn magu pedwar baban
tua phedwar mis oed. Deallais mai gefeilliaid oedd y babanod, y pedwar o’r un
ddynes, a bod tad y babanod wedi twyllo mam y rhai bychain, a rhedeg i
ffwrdd. Gan ei bod hi yn dlawd a diymgeledd, tosturiodd dyngarwyr Albany a
Schenectady wrthi hi a’i rhai bychain. Adeiladasant y caban hwn iddi yn y man
hwnw, fel y gallai teithwyr ei gweled a rhoddi elusen iddi at fagu y plant.
Rhoddwyd yn helaeth, hyd nes yr oedd yn gallu cadw tair morwyn yn dda, a
dywedir iddi hi ddyfod yn gyfoethog. Gelwid enwau y babanod, gan mai bechgyn
oeddynt oll, Matthew, Mark, Luke, a John. G welais yn y papyrau wedi hyny,
fod tad y plant wedi dychwelyd a chynyg priodi y fam, pan ddeallodd ei bod
wedi dyfod yn gyfoethog, a’i bod
|
|
|
(delwedd B0024)
|
(x024)
hi wedi gomedd gwneyd. “She served him right at last, but wrong at first.”
Pan gyrhaeddodd y bad Utica,
yr oedd y nos wedi ein dal. Yr oedd Siencyn wedi gwneyd yn hysbys pwy ydoedd
i rai o’i gyd-deithwyr, mai Cymro ydoedd, ac na bu erioed o’r blaen yn Utica;
ac y buasai yn dda ganddo gael ty Cymro i aros dros y nos. Dangoswyd iddo dy
gweddw oedd yn ymyl y gamlas, a fyddai yn arfer lletya dieithriaid. Cefais lety cysurus yno, a thalais am dano boreu dranoeth. Yr oedd y
ddynes hon yn fy ngwrando y nos Sabboth canlynol; beiodd fi yn fawr na buaswn
yn dweyd mai pregethwr oeddwn, a gwnaeth i mi gymeryd y tal am fy llety yn
ol; nad oedd hi erioed wedi codi am lety pregethwr. Yr oedd yn aelod gyda’r
Bedyddwyr Cymreig, a dywedai mai ei bachgen hi oeddwn i, am mai gyda hi y
lletyais gyntaf yn Utica. Yr oeddynt yn New York wedi fy nghyfarwyddo i fyned
at Thomas Jones, Whitesboro Street. Wedi myned yno a dweyd pwy oeddwn, am
haner awr o amser yr oedd yr ystafell lle yr eisteddwn yn agos yn llawn, John
Jones a Grace, Dafydd Morris, William Vincent, John Rees, a Rowland Griffith,
ac amryw eraill. Yn mhen ychydig daeth y Parch. Robert Everett yno hefyd. Yr
oeddynt yn syllu arnaf yn fanwl o’m coryn i’m sawdl. Holent fi yn fanwl.
Pregethais iddynt y Sabboth dair gwaith, trwy’r Gymanfa, a’r Sabboth
canlynol, nid llai nag un waith ar bymtheg yn y cwbl. Rhai a ddywedent fy mod
yn bregethwr heb ei fath; ac yr oeddwn inau yn meddwl cryn dipyn am danaf fy
hun, y creadur tlawd dibrofiad. Gwna dynion ffurfio barn beth yw dyn pan
welant ef y waith gyntaf; nid yw y fath farn yn aml yn gywir, er
|
|
|
(delwedd B0025)
|
(x025)
hyny, mae rhywbeth ynddi hefyd. Dywedir mai nid wrth ei big mae adnabod
cyflylog; nid wrth yr ymddangosiad cyntaf mae adnabod dynion chwaith.
Cof genyf fy mod unwaith yn y gauaf yn teithio yn y stage; ar ddechreu
y nos, disgynais mewn inn orwych yn Cincinnati; yr oedd yr hin yn oer
iawn, yr ystafell (bar-room) lle yr oeddwn oedd hollol gysurus, tân
hyfryd ar lawr, llawer o bapyrau newyddion, a llawer o ddynion boneddigaidd
eu hymddangosiad yn darllen, yn ymdwymo, ac yn ymddiddan a’u gilydd. Yn fuan
clywais drwst stage arall yn dyfod ac yn aros wrth y drws, a phump neu
chwech o ddynion yn dyfod o honi i’r ystafell lle yr oeddwn. Sylwais fod tri
o’r boneddigion oeddynt yno yn flaenorol yn craffu yn neillduol ar un o’r
rhai a ddaeth ddiweddaf i mewn. Dywedai y naill wrth y llall, “ A ydych chwi
yn adnabod y gwr yna, mae yr olwg arno yn dweyd ei fod uwchlaw y cyffredin.”
Atebai ei gyfaill ef, “ Nid wyf fi wedi ei weled ef erioed o’r blaen am a wn
i.” Atebai y trydydd,
“ ’Rwyf yn meddwl wrth ei ymddangosiad ei fod yn ddyn lled wybodus. Beth all ei alwedigaeth fod?” Wedi siarad cryn dipyn am dano, dywedai,
“Beth ydych chwi yn tybied allai ef fod?” “Fy meddwl i yw,” medd un, “mai
pregethwr neu weinidog yr efengyl yw.” “ Na,” medd y llall, “mae yn fwy tebyg
i feddyg neu ddoctor.” “Pw,” medd y trydydd, “nid yw hwna na phregethwr na
meddyg, gwelwch ei wynebpryd a’i lygad craff ef, cyfreithiwr yn rhywle yw y
dyn, wyf sicr.” Wedi ymgomio a’u gilydd am ychydig amser, dywedai un o honynt
wrth y lleill, “Gan nas gallwn ni gydolygu, beth pe gofynem iddo ef ei hun?
rhoddai hyny ben ar y ddadl.” “ Boddlon,” meddai y ddau arall.
|
|
|
(delwedd B0026)
|
(x026)
At y gwr yr awd, anerchwyd ef gan un o’r tri yn enw y ddau arall, yn gystal a
throsto ei hun.
“Anwyl Syr, mae yn naturiol i greaduriaid fel ni, wrth ganfod gwr dieithr fel
chwi, yn neillduol os na byddwn wedi ei weled o’r blaen, na gwybod dim am
dano, i ffurfio rhyw ddrychfeddwl pwy all ef fod, a beth yw ei alwedigaeth.
Pan ddaethoch chwi i mewn, buom mor hyf ag edrych, a ffurfio ein meddyliau am
danoch. Nid ydym yn cydweled a’n gilydd. Mae un yn meddwl mai gweinidog yr
efengyl ydych, un arall a olyga mai meddyg ydych, a’r trydydd a farna mai
cyfreithiwr ydych. Nid oes gan yr un o honom un meddwl anmharchus am danoch.
Daethom atoch er mwyn boddlonrwydd i ni ein hunain, tyb pa un o honom sydd
fwyaf cywir. Os byddwch mor hynaws a’n dwyn o’r dryswch hwn, byddwn y dra
diolchgar i chwi.”
Atebodd y gwr dieithr hwynt gyda gwen siriol, a dywedodd,
“Foneddigion, fe’m ganwyd yn Hartford, Connecticut. Yr oedd fy nhad yn
ddiacon yn yr Eglwys Gynulleidfaol yn y lle. Cefais yn foreu fanteision
gwladol a chrefyddol. Magwyd fi yn dyner, a chefais y fraint yn ieuanc o
wneyd proffes o Grist. Yr wyf yn addef fy hun yn Gristion. Wedi fy ngraddio
yn Ngholeg Yale, a chael trwydded i bregethu, cefais alwad i sefydlu mewn
tref ieuanc, gynyddol. Neillduwyd fi i gyflawn waith y weinidogaeth. Am
ychydig yr oeddwn yn boblogaidd iawn yn eu plith. Tanysgrifiwyd tuag at fy
nghynaliaeth tu hwnt i’m disgwyliadiau. Peth naturiol hollol oedd i mi
bellach edrych am ymgeledd gymwys. Ymddiddenais ag un o’r merched glanaf,
callaf, a siriolaf yn y lle. Cynygiais fy hun iddi, ac
|
|
|
(delwedd B0027)
|
(x027)
mewn gronyn derbyniodd y cynygiad. Priodwyd, awd i gadw ty, ac ymdrechwyd i
fyw mor gymedrol a threfnus ag oedd modd, yn ol ein sefyllfa. Beth bynag, yn
mhen blwyddyn, yr oedd brwdfrydedd yr eglwys wedi oeri. Awd i wneyd subscription
am y flwyddyn ddyfodol; yr oedd hwn yn llai na’r flwyddyn oedd yn terfynu.
Trwy fod y teulu yn ychwanegu, peth o’r hen subscriptions heb eu talu,
ninau fel teulu yn methu dyfod a’r ddau ben yn nghyd, fel y dywedir, ni
wyddem beth i’w wneyd. O leiaf, penderfynasom aros am y flwyddyn hono wed’yn.
Wedi cydymgyngori, penderfynasom ymadael ar ben yr ail flwyddyn. Erbyn hyn,
yr oedd amrai bethau yn peri i ni fyned oddi yno. Er mwyn. cyfiawnhau eu
hunain, dywedent na ddylasem gadw morwyn; nad oeddym yn ymweled a’r cleifion
yn ddigon aml; ein bod yn rhy wastraffus — fod y wraig yn gwisgo yn rhy dda,
ac nad oeddwn ninau yn agos gystal pregethwr a phan y daethym atynt ar y
cyntaf.
“Gan fy mod pan yn y Coleg wedi cael myned trwy yr hyn a elwir y Medical
Department, symudasom i dref arall. Dywedais mai meddyg oeddwn. Wedi
gwneyd hyn yn hysbys, cefais lawer iawn o waith gyda chleifion yr ardal. Bum
yn lled lwyddianus hefyd. Dywedent yn gyffredin mai myfi oedd y Doctor goreu
yn y wlad — nad oedd y lleill yn werth dim mewn cyferbyniad a mi. Ond pan
anfonais atynt fy miliau am dal, gwarchod pawb! Er fy mod i yn meddwl eu bod
yn dra isel a chymedrol, eto yn eu golwg hwy yr oeddynt yn anferth — fod un
ran o bedair yn llawn ddigon, rhag cywilydd. Tua phen yr ail flwyddyn nid
oeddwn yn werth dim. Os tlawd oedd hi arnaf fel pregethwr, tlotach o lawer
fel meddygwr.
|
|
|
(delwedd B0028)
|
(x028)
“Yn awr, foneddigion, yr wyf yn agos a therfynu yr oll sydd genyf i’w ddyweyd
wrthych. Yr ydych eich tri wedi barnu yn lled agos i’ch lle.
“Pan oeddwn yn y sefyllfa a nodais, nid gwiw oedd digaloni, llwfrhau, a marw,
a’r teulu yn galw am foddion cynhaliaeth. Gan fy mod yn fwy hyddysg o
gyfreithiau fy ngwlad na’r cyffredin, troais i fod yn gyfreithiwr. Y deuddeg
mlynedd diweddaf, dyna yw fy ngalwedigaeth; ac yn wir, yr wyf bellach trwy
brofiad wedi dysgu y gwna dynion fwy er boddloni eu nwydau nag a roddant, neu
a wnant er llesâu eu cyrff na’u heneidiau.”
Ddarllenydd hoff, felly yr wyf finau wedi bod, o herwydd diffyg profiad, ac
adnabod fy hun ac eraill yn well, yn llawn trafferth a helbul yn y wlad
newydd hon. Yn y Gymanfa a nodwyd yn Utica a Steuben, yr oedd amryw o
weinidogion — y Parchedigion James Davies, gynt o New York; David Griffiths,
o Ffrainc, gynt o Gydweli; William Pierce, Robert Everett, Morris Roberts,
Benjamin Davies, John Stephens, David Michael, ac amryw eraill. Yr oeddwn i
wedi addaw wrth yr eglwys yn New York y deuwn yn ol. Pan ar ddychwelyd,
cyngorai Mr. Everett Mr. Griffiths yn fawr i aros yn nghylchoedd Utica a
Steuben. Yr oedd yntau wedi penderfyim dyfod gyda mi. Cyn ymadael, dywedodd wrth Everett, “ Meindia di dy fusiness dy hun, a
minau a dreiaf wneyd yr un peth.” Daeth Mr. Griffiths i lawr gyda mi i New
York, ac arosodd yno am yn agos i flwyddyn.
Yn mis Tachwedd, 1832, neillduwyd Siencyn Ddwywaith i gyflawn waith y
weinidogaeth ar yr Eglwys Gynulleidfaol Gymreig yn Mulberry street; er ei fod
|
|
|
(delwedd B0029)
|
(x029)
wedi cael ei neillduo o’r blaen yn yr Hen Wlad, cyn ei ymadawiad oddi yno,
eto nid ar un eglwys neillduol. Yn y gauaf hwn, a’r flwyddyn olynol, arddelodd
yr Arglwydd ei waith yn rhyfeddol yn yr eglwys a nodwyd. Derbyniwyd i’r
eglwys tua 40 o aelodau newyddion. Gwel y Dysgedydd am y fl. 1834. Yr
oedd pob peth yn myned yn mlaen yn hwylus iawn. Eto, er galar i Siencyn a’i
briod, bu farw eu hunig blentyn, a chladdwyd ef yn nhir claddu Williams, yn y
ddinas. Yn mhen blwyddyn wed’yn, bu farw ei briod, a chladdwyd hi yn yr un
bedd a’i mab, Thomas. Mae y penill canlynol wedi ei gerfio ar y gareg a osodwyd ar y bedd
uwch eu penau:—
......O! ’m bachgen glwys a’m priod
llon,
.........Sydd dan y don yn gorwedd,
......Mewn ardal bell ac estron wlad,
.......... Hyd ddydd y codiad rhyfedd!
Mae amgylchiadau newyddion yn dwyn teimladau newyddion. Dygodd yr
amgylchiadau yr aeth Siencyn drwyddynt ef i sefyllfa a theimlad tra gwahanol
i’r hyn oedd o’r blaen. Llwfrhaodd ei ysbryd, collodd ei archwaeth at fwyd, a
chiliodd ei gwsg i raddau pell; teimlai ei hun yn ddigalon, a’i feddwl yn
derfysglyd. Gellir meddwl mai nid gwaith hawdd oedd pregethu tua deuddeg gwaith
yn y mis yn yr amgylchiadau hyn. Yn yr amser hwn anfonodd y Parch. William
Morris, Llanfyllin, lythyr ataf, yn hysbysu ei fod yn benderfynol o ddyfod i
America, os buasai yn cael anogaeth i hyny. Gan fod Mr. Timothy Griffiths,
Steuben, yn fy anog i ddyfod atynt hwy yno, ac i Benymynydd, i weinidogaethu,
ac yn cario galwad oddiwrth y ddwy eglwys ar y pryd, dangosais lythyr Mr.
Morris i’r eglwys yn New
|
|
|
(delwedd B0030)
|
(x030)
York, a dywedais wrthynt, os oeddynt hwy yn ewyllysio, y buaswn yn ymadael,
ac yn anfon am Mr. Morris, Llanfyllin, i ddyfod yno yn fy lle, Beth bynag,
nid oeddynt am i mi ymadael, os nad oeddwn am fyned i Steuben; felly yr
arosodd pethau am tua mis. Yr amser hwn daeth y Parch. Llewelyn Powell (yn awr o Alliance, Ohio),
i’r ddinas, a phregethodd i ni am Sabboth. Deallais erbyn hyn fod rhai
persouau yn yr eglwys yn fawr am gael Mr. Morris, Llanfyllin, atynt. Ar ol
deall meddyliau ein gilydd, penderfynais y buaswn yn myned i Steuben, i anfon
dros yr eglwys am Mr. Morris; ac addawodd Mr. Powell y buasai ef yn eu
gwasanaethu hyd nes y deuai Mr. Morris atynt.
Yn mhen pedwar mis, yn, Ebrill, 1835, anfonodd blaenoriaid eglwys New York
dri llythyr ataf yr un wythnos, yn mysg pethau eraill cynwysent a ganlyn:
Nad oedd y Parch. William Morris, yn dyfod atynt, ei fod yn cymeradwyo iddynt y Parch.
James Davies, Llanfaircaereinion, y buasai Mr. Davies yn dyfod atynt os
buasent yn rhoddi galwad iddo, eu bod hwythau wedi gwneyd hyny, fod Mr.
Powell wedi anfoddloni wrthynt, eu trin, tynu ei dafod drostynt mor fanwl ac
y llyfodd buwch ei llo erioed, ei fod wedi eu gadael, fod yr eglwys wedi ei
chwalu, fod y merched yn pallu dyfod yn agos atynt, yn dymuno am i eglwys Steuben
ganiatau i mi gael dyfod atynt am fis neu chwech wythnos, ac yn dymuno arnaf
finau wneyd eu cais beth bynag a fyddai, a hyny yn uniongyrchol. Wedi myned
atynt yn ol eu cais, deallais nad oedd yr ymrafael ond am ryw bethau dibwys,
fod Mr. John Davies wedi dweyd fod y Parch. Shadrach Davies yn tynu ei
gymeriad ef i lawr. Dywedodd Mr. S. Davies wrtho nad oedd yn gwneyd
|
|
|
(delwedd B0031)
|
(x031)
hyny; “Tynu dy gymeriad i lawr, atolwg, pa bryd y bu ar lan?” Beth bynag, yn
y cyfarfod parotoad, dibenodd yr holl ymryson, a chafwyd yr holl eglwys yn
nghyd, a’r Sabboth canlynol cafwyd cymundeb yr eglwys mor llawn ac mor
ddymunol ag erioed.
Clywais y Parch. S. Davies ar ol hyn yn dywedyd am y Parch. LI. Powell, “Llewelyn
Powell, welwch chwi, fe ddaeth o Ty’nycoed, fe fu yn Neuaddlwyd, ac yn y
Drefnewydd, yn yr Academy; nid oedd dim yn dyfod o hono, yr oedd yn
methu cael gwraig nac eglwys; ond wedi iddo fyned trwy Academy Broome
Street, mae rhywbeth yn dyfod o hono yn awr; mae wedi cael eglwys a gwraig a
phobpeth.”
Nid oeddynt yn foddlon i mi fyned yn ol i Steuben ar un cyfrif yn awr,
addawsant fod yn well wrthyf a gwneyd mwy at fy nghynal os buaswn yn aros
gyda hwy flwyddyn arall, neu hyd nes y buasai Mr. Davies, Llanfair, yn dyfod.
O’r diwedd penderfynais wneyd hyny. Anfonodd Mr. Davies na buasai ef yn dyfod
heb i mi arwyddo fy nghydsyniad. Trwy fy mod yn gwybod meddyliau dau neu dri,
eu bod am gael pethau eu ffordd eu hunain, arwyddais i Mr. Davies ddyfod.
Rhoddais notice i’r eglwys y buaswn yn ymadael pan y deuai y flwyddyn
i ben. Oddiar gymhelliadau Samuel Cox, D. D., a Dr. Lansing, aethym i Auburn
Seminary, lle yr arosais am ychydig gyda blwyddyn. Mae llawer o amgylchiadau
a ellir nodi yn yr amserau hyn; ond gan nad ydynt o un budd i neb eu gwybod
bellach, gadawaf hwynt i gysgu mewn bedd o ebargofiant.
Eto, mae rhai pethau fe allai y carai y darllenydd eu gwybod, am ei fod wedi
cael rhyw adroddiad am danynt
|
|
|
(delwedd B0032)
|
(x032)
gan eraill, dichon mai gwell a fyddai iddo eu cael yn gywir fel y cymerasant
le.
Un waith pan oedd Siencyn Ddwywaith yn gweinidogaeth yn Steuben, bu cyfarfod
y Beibl Gymdeithas yn nghapel y Trefnyddion Calfinaidd, yn mhentref Remsen,
swydd Oneida. Yr oedd y capel yn orawn o wrandawwyr ac o bregethwyr, Robert
Everett, Morris Roberts, William Thomas, James Griffiths, David Michael,
Jesse Jones, Thomas Stephen, ac eraill. Disgwylid i’r pregethwyr i gyd i
areithio. Aeth rhai o honynt trwy’r gorchwyl hwn yn hynod ganmoladwy. O’r
diwedd galwyd ar Siencyn Ddwywaith i’w hanerch. Yr oeddwn mewn petrusder mawr
beth i’w ddweyd, gan fod areithio mor dda wedi bod yn flaenorol, y gwrandawyr
mor lluosog, ac yntau yn crynu mewn ofn y buasai yn myned i warth, anhawdd
darlunio ei deimladau yn y fath amgylchiad; o leiaf, cyfododd a llefarodd fel
y canlyn:—
Yr wyf yn deall wrth eich clywed yn dweyd mai hwn yw y cyfarfod cyntaf o
eiddo y Gymdeithas oddiar pan yr ymranasoch yn yr anghydfod a fu rhyngoch
a’ch gilydd, na wnaeth y ddwy Gymdeithas yn y flwyddyn ddiweddaf gymaint a’r
un o’r blaen, pan oeddych mewn undeb
yn flynyddol. Nid un diffyg yn eich amgylchiadau oedd yr achos o hyn, ond
diffyg cydweithrediad. Mae nychdod a gwendid yn canlyn anghydfodiadau. Ond
mewn undeb y mae grym. Mae yn llawenydd genyf eich bod wedi dechreu gweled
eich colled, a’ch bod heno eto yn gytun. Mae yr amgylchiad yr aethoch trwyddo
yn un hollol anghysurus i’w gofio, nac i ddweyd dim am dano; ond wrth
ystyried mai oddiwrth ein ffolineb y mae i ni ddysgu doethineb,
|
|
|
(delwedd B0033)
|
(x033)
ac mai oddiar ein gwendid blaenorol y mae i ni ddysgu cryfder mewn amser
dyfodol, gadewch i ni wneyd iawn ddefnydd o’r amgylchiad.
Fe ddichon y tafla yr hanesyn canlynol beth goleuni ar yr hyn sydd genym dan
sylw. Pan oeddwn i yn gweithio yn swydd Fynwy, er mwyn gwneyd ychydig arian
i’m cynal yn yr ysgol, daethym yn gydnabyddus a dyn ieuanc o saer, yr hwn
oedd mewn cyfrinach a merch ieuanc i dyddynwr o’r gymydogaeth. Yr oedd y ddau o gymeriad moesol da, a’r naill fel y llall yn barchus
yn yr ardal. Wedi iddynt ddechreu ag ymdrythyllu, priodi a fynent. Yr oeddynt yn
mhob ystyr yn hollol gyfaddas i’w gilydd. Gwnai ei fam ef ei gynghori i ofalu
cadw ei wraig dan law ar y dechreu, onide na fyddai iddo fod ddim gwell na
chaethwas dros ei fywyd. Dywedai ei mam hithau mai ar y cyntaf oedd iddi hi
edrych ati, a mynu ei ffordd ei hun. Nid oedd y naill yn gwybod dim am y
cynghorion dwys oedd y llall wedi ei gael; oblegyd y mae cynghorion o’r natur
yma, nid yn unig yn ocheliadol, ond hefyd yn dra dirgelaidd. Wedi iddynt
briodi, aethant i fyw i’r ty yr oedd y gwr ieuanc newydd ei adeiladu. Mae
trigolion swydd Fynwy, ar y llinell derfyn rhwng y Cymry a’r Saeson, yn aml
a’u hiaith yn lled gymysglyd; weithiau siaradant Gymraeg, bryd arall y
Saesonaeg, rhywbeth yn debyg fel ac yr ydych chwithau yma, fel y bydd hi yn
digwydd; anhawdd gwybod pa un a ddaw allan gyntaf. Yr oedd y ty hwn a nodais
a dau ddrws iddo yn gyferbyniol i’w gilydd yn y ddwy ochr. Yn amser y
lleuad-fêl, yr hyn a gymerodd le yn yr amgylchiad hwn, ddechreu mis
Gorphenaf, un prydnawn pan yn difyr yfed tê gyda rhai a ddaethant i
gyd-lawenhau
|
|
|
(delwedd B0034)
|
(x034)
gyda hwy yn eu hundeb, a’r drysau yn agored er mwyn cael anadlu mewn awel
dymerus, a’r par priodasol heb air croes wedi bod rhyngddynt a’u gilydd
erioed, yn sydyn daeth rhyw greadur bychan i fewn trwy un drws, ac aeth allan
trwy y drws cyferbyniol. Dywedodd y gwr ieuanc dan gynhyrfjad yr olygfa “That
is a mouse.” Atebai y wraig ieuanc ef yn gynhyrfus, “No, it was a rat.”
“Mary,” meddai yntau, “it was a mouse” “John,” meddai
hithau, “it was a rat.” Meddai yntau, “Mary, do you think that I
have no eyes to see, indeed it was a mouse.” Dywedai hithau, “John, do
you think that none have eyes but yourself? indeed it was a rat.” Bu y
fath annghydfod rhyngddynt nes iddynt ymadael. Aeth hi at ei rhieni, ac yntau
at ei dad a’i fam. Wedi adrodd ei helynt, cyngorai ei mam hi am iddi beidio
myned yn ei hol oddieithr iddo ef ddyfod i’w hymofyn. Dywedai ei fam yntau am
adael iddi, hyd nes y buasai yn dyfod yn ol o honi ei hun; ac felly safodd
pethau am tua dwy flynedd. Mae merched a gwragedd swydd Fynwy, gerllaw y
gweithfeydd, yn arfer myned i’r farchnad yn lled foreu ar y Sadwrn, er mwyn
dyfod adref yn weddol gynar. Y dynion hefyd a arferant weithio yn galetach ac
yn hwyrach ddydd Gwener, ac ant i’r gwaith ar foreu Sadwrn yn foreuach nag ar
un dydd arall, er mwyn cael y prydnawn iddynt eu hunain. Felly oedd arferiad y gwr ieuanc dan sylw. Yn gynar yn y prydnawn ryw
ddydd Sadwrn, pan ar dro yn yr heol ar y ffordd i’r Feni, yn hollol
annisgwyliadwy cyfarfu a’i wraig, a’i basged tan ei braich, yn dyfod o’r
farchnad. Nid dichonadwy oedd myned heibio heb ddweyd rhywbeth. Twymai ei serchiadau, aeth yn nes nes ati, a dywedodd yn siriol,
|
|
|
(delwedd B0035)
|
(x035)
“How do you do, Mary?’ Atebodd hithau ef, “I am middling well, how are
you getting along now-a-days?” Gwnaeth yntau ateb, “I wanted to see you
very much.” Atebodd hithau, “Indeed, I wanted to see you too.”
Ymaflodd yn y fasged, a chymerodd law y wraig yn ei fraich, a cherddasant yn
nghyd tua chartref, gan ymddiddan mor ffoled oeddynt wedi bod a syrthio allan
a’u gilydd am beth mor lleied a llygoden, na welsant hwy mo honi erioed o’r
blaen, na byth wedi hyny, ac nad oedd yn debyg y buasent yn ei gweled hi byth
eto. Yn fuan penderfynwyd ail ddechreu cydfyw; beth bynag, cyn iddynt gysgu y
noswaith gyntaf, dywedodd hi, “For all that, it was a rat.” Gwnaeth
hyn iddo yntau ail ddweyd, “No, it was a mouse.”
Yna cyfododd Siencyn megys ar flaenau ei draed, a dywedai mewn llais cryf ac
awdurdodol, “Wedi i chwithau weled eich ffolineb am beth mor lleied a fu
rhyngoch, a dyfod yn ol mor gariadus ag ydych yma heno, ar eich bywyd na
ddyweded neb o honoch byth mwyach, “For all that, it was a rat.”
Unwaith, pan yr oedd Siencyn Ddwywaith gyda y Parch. Morris Roberts yn
pregethu yn yr hwyr mewn ty anedd yn ardal Kemsen, gan bwysau y gynulleidfa,
o herwydd fod y ty mor llawn, plygodd yr holl lawr danynt, nes i’r pregethwyr
a’r gynulleidfa ddisgyn i waelod y seler. Dywedodd Siencyn, “Peidiwch a
dychrynu.” Ni ataliodd lefaru, ond efe a aeth trwy waith yr oedfa mor hwylus
ag erioed.
Yn amser y Gymanfa flynyddol yn Steuben, yn yr hwyr, yn amser y cyfarfod yn y
Gapel Uchaf, aeth rhyw greadur drwg, direidus, tua’r sheds, gan
ddyrysu harness, ac aflonyddu ceffylau yr hen wr Price, o’r
|
|
|
(delwedd B0036)
|
(x036)
Gate, yr hyn a barodd gryn gyffro ar y pryd. Dranoeth, yr oedd Siencyn yn
pregethu yn Penymynydd, ar “Ddydd y Farn.” Pan yr ydoedd wedi myned yn ei
flaen dros haner ei bregeth, wrth ymdrin am weithrediadau y dydd hwnw,
dywedodd y pregethwr mai dyna y pryd y bydd gweithredoedd y tywyllwch yn
dyfod i’r goleu; ïe, yn y dydd hwnw y ceir gwybod pwy fu yn ymyraeth â
cheffylau yr hen wr Price, wrth y Capel Uchaf, neithiwr. Gyda hyny, gwelodd
Siencyn ryw ddyn yn plygu ei ben yn sydyn yn y gynulleidfa, a dywedodd, gan
gyfeirio ei fys tuag ato, Dyna y dyn. Nid oedd neb yn ameu hyny, oblegid
gwyddent am ystranciau hwnw yn lled dda.
Wedi myned i Auburn Seminary, yn 1836-37, cefais rai manteision na chefais
o’r blaen mewn ymarfer â’r Saesonaeg, gweled amryw lyfrau duwinyddol, clywed
darlithiau, ac ymdrin â chyneddfau y meddwl, Cefais lawer o wersi buddiol gan
y Doctoriaid, Richards, Cox, a Lansing. Yno y dechreuais lefaru yn yr iaith
Saesonaeg gyntaf, yn ngwyneb anhawsderau mawrion, yn gyffredin. Cefais bob
tiriondeb, a chyfarwyddiadau a allasai fod yn lles i mi. Yn yr amser hwn
priodais Anne, merch Joseph Jenkins, Bradford, Pa., yr hon sydd wedi bod yn
ymgeledd gymwys i mi hyd yn bresenol.
Unwaith, wrth ddyfod adref o Auburn, ar hyd y ffordd haiarn, o Ithaca i
Oswego, bu cryn dipyn o ymddiddan ysmala a difyr rhyngof a rhai o’m
cyd-deithwyr yn y train. Yr wyf yn cofio fod un o honynt yn
gyfreithiwr, un arall yn feddyg, ac un neu ddau eraill yn rhyw beth arall. Yr
oeddynt wedi cael ar ddeall mai Cymro oeddwn, ac ymhyfrydent yn fawr yn fy
nghwestiyno am fy ngwlad a’m cenedl. Gwyddwn yr
|
|
|
(delwedd B0037)
|
(x037)
ystyrient fi yr hyn a alwent yn “green fellow.” Wedi myned i Oswego, i
dy Mannings, prif dafarndy y lle y pryd hwnw, yn fuan canodd y gloch giniaw.
Wrth weled y dynion yn myned i’r ystafell giniaw, aethym ar eu hol; ac er fy
syndod, erbyn i mi fyned yno, yr oedd yr eisteddleoedd wedi eu llanw oll ond
un, yr hon oedd wrth dalcen y bwrdd. Yn gwbl ddiystyr o’r canlyniad,
eisteddais yn hono. Gyda hyn, gwelwn y rhai yr oeddwn wedi bod yn ymddiddan â
hwynt yn y train yn syllu arnaf, ac yn gwenu ar eu gilydd. Wrth hyn,
deallais fy mod yn nôd i’w digrifwch. Yn union cyfodais ar fy nhraed, a
dywedais yn uchel ac eglur, “Now, gentlemen, in which way do you wish to be
served, according to the Old Country fashion, or according to the fashion of
this country?” Atebodd pawb mewn crechwen, “According to the Old Country
fashion.” Cymerais y carving-knife a’r fork fawr oedd wrth law,
a thorais ddarn lled dda o’r roast beef oedd o’m blaen — gosodais ef
ar fy mhlate fy hun, a chymerais ychydig o’r gravy, a’r pethau
angenrheidiol eraill, a dywedais wrthynt, “ Now, gentlemen, please help
yourselves.” Gyda hyn dechreuais fwyta, gan adael iddynt wneyd y goreu
drostynt eu hunain. Er fod y rhan fwyaf o honynt wedi cael eu siomi yn eu
hamcan, ni ddeallais fy mod wedi anfoddloni neb.
Wedi myned adref, aeth y wraig a minau i Pike, y Varsog, a Towanda, a
phregethais yn mhob un o’r lleoedd uchod yn dderbyniol. Y fath oedd awydd y
bobl am fy nghlywed, trwy fy mod newydd ddyfod o’r Seminary, ac hwyrach am
mai Cymro oeddwn, fel y cefais alwad gan yr Eglwys Gynulleidfaol yn Pike i
ddyfod yn weinidog iddynt; a thaer-gymellwyd arnaf ,
|
|
|
(delwedd B0038)
|
(x038)
gan y Methodistiaid Esgobawl i bregethu gyda hwy, yr hyn a wnaethym yn
rhwydd. Pan yn eu Camp Meeting, yr hwn oedd yn cael ei gynal ger ty fy
nhadyn-nghyfraith, dymunwyd arnaf bregethu. Cydsyniais a’u cais. Y testyn oedd Iago v. 20. Wrth fy mod yn sylwi ar ddiwedd yr adnod,
“Cadw enaid rhag angau, a chuddio lluaws o bechodau,” dywedais mai tri pheth
oedd Duw wedi eu cuddio — corff Moses, bywyd ei saint, a phechod ei bob). Cuddiwyd corff Moses er
atal Satan i demtio plant Israel i’w addoli; cuddiwyd bywyd y saint gyda
Christ yn Nuw — y maent mewn man diogel. Yr oeddwn y pryd hwnw yn yr hwyl
oreu, a hwythau yn gwaeddi, “ Glory to God,” “All right,”
&c. Yna dywedais, “Efe yw y pen, a chwithau yw yr aelodau. Mae y pen
uwchlaw y dwfr — ni wna y corf foddi.” Dywvedai y bobl, “ No, never,”
&c. Yna dywedais, “ Pe ddaw corff Moses i’r golwg eto yn moreu y farn
fawr, y dydd diweddaf, a bywyd y saint hefyd; ond ni ddaw pechod Seion byth
i’r golwg mwy — byddant wedi eu cuddio am byth. Pa nifer gaiff eu cuddio?
‘Lluaws,’ mewn môr o anghof,” &c. Yr wyf yn credu nad yw llawer o’r
brodyr Wesleyaidd mor dyn dros yr athrawiaeth o syrthiad oddiwrth ras, ag y
mae llawer yn meddwl eu bod.
Tua’r amser hwn bu farw fy nhad, a thair chwaer i mi, yn Dundaff, Pa., ac
amryw eraill yn y lle. Penderfynais gymeryd gofal yr Eglwys Gymreig yn
Clifford, a’r Eglwys Henaduriaethol yn mhentref Dundaff, ac ymunais a
Presbytery Montrose, Pa., ac arosais gyda hwynt am wyth mlynedd, oddigerth y
tymor yr ymwelais â Chymru. Yn yr eglwys Gymreig, bum, ar y cwbl, yn lled
lwyddianus. Derbyniwyd yno amryw at
|
|
|
(delwedd B0039)
|
(x039)
achos yr Arglwydd; adeiladwyd yno gapel, ac yr oedd yr Ysgol Sabbothol yn
flodeuog yn ein plith. Nid yn gyffredin y gwelais un eglwys yn cadw at ei
chydgynulliad gystal. Ond am yr Eglwys Bresbyteraidd yn y pentref, er fod yno
gapel da a helaeth, yr oedd fel tir wedi ei losgi a’i ddifwyno. Pregethais iddynt
am dros ddwy flynedd, heb dderbyn yr un, nac un arwydd am ddiwygiad. Er eu
bod yn dyner iawn o honof, ac yn cyfranu yn helaeth at fy amgylchiadau
naturiol, nid oedd fawr o lewyrch, a’r olwg ar bethau yn dra marwaidd; ond
tua dechreu y drydedd flwyddyn, torodd adfywiad allan yn lled rymus —
derbyniwyd ar yr un pryd i’r eglwys bymtheg-ar-hugain, y rhan fwyaf yn benau
teuluoedd o gryn ddylanwad. Er nad oeddynt yn cadw dim swn neillduol, eto
gwelid y dagrau yn syrthio yn ddiferion dros ruddiau y gynulleidfa yn aml.
Cawsom lawer o wrthwynebiadau oddi allan, ond er hyny yr oedd yr eglwys yn
hollol unol. Yn yspaid fy ngweinidogaeth yn y ddwy eglwys yma y teimlais
fwyaf o gysur o bob man. Byth nid anghofiaf y brodyr, Daniel Moses, Thomas
Watkins, Jerman Phelps, a Dilton Yarington. Mae y rhan fwyaf o honynt, ac ac
eraill a allaswn nodi, wedi myned i ffordd yr holl ddaiar, wrth bob tebyg, er
eu gwell.
Wedi ordeinio y Parch. Roderick Williams, yn Beaver Meadow, a myned i gyfarfod blynyddol i New
York, yn mis Mai, 1841, aethym i’r Hen Wlad. Arosais yn Liverpool un Sabboth,
ac aethym i Gymanfa Llanbryn-mair, a thrwy Lanidloes i Troedrhiwdalar,
Llanymddyfri, Llandeilo Fawr, a manau eraill, i Mynydd Bach, Abertawe. Wedi
teithio hyd Blaenafon, ac ar hyd rhai lleoedd, dychwelais yn ol i ardal
Mynydd Bach, a phregethais
|
|
|
(delwedd B0040)
|
(x040)
mewn amryw gapelau yn Abertawe. Aethym gyda’r Parch. John Evans, Crwys, i
gyfarfod tri misol a gynelid yn y Llwyni. Yr wyf yn cofio fod rhyw
annghydwelediad rhwng blaenor canu a gweinidog. Daethant a’u hachos i’r
gynadledd. Yr oedd y gweinidog am i’r blaenor ac eraill ganu ar y llawr, a
hwythau yn benderfynol i ganu ar y gallery. Codai eu tymerau i’w
gwynebau at eu gilydd; beth bynag, wedi ymdrin ychydig ar y mater, cododd
John Evans i fyny, a dywedodd, “Yr wyf yn rhyfeddu eich bod mor ffol ag
ymryson a’ch gilydd am beth mor lleied a hyn. Mae ein pobl ni yn y Crwys yn canu lle y mynont hwy. Yr wyf fi wedi
bod gyda hwynt yn Eglwys y Plwyf a manau eraill yn canu; gartref, maent yn
canu y rhan fwyaf o’r amser ar y Sabboth ar y gallery, a weithiau ar y
llawr. Yr wyf fi yn eu gadael i ganu lle y mynont, ac ni chlywais i ddim fod
neb yn anfoddlon iddynt. Dyn yw y creadur mwyaf sydd yn canu ar y ddaiar. Mae
yr adar yn gyffredin yn canu ar frigau’r coed, a’r ceiliog ar yr esgynbren (y
glwyd), ac y mae ein teulu ni i gyd yn dweyd mai o’r man hyny y mae hwnw yn
canu oreu, yn neillduol yn y boreuau. Cerddwch adref, a chanwch lle y mynoch.
Dibenodd yr ymrafael yn union, a phawb yn gwenu ar eu gilydd.
Bu Mr. Evans yn gweinidogaethu yn y Crwys am tua 40 mlynedd. Y dyn
dysgedicaf, callaf, mwyaf amyneddgar, cariadlonaf, a llwyddianus a wn i am
dano yn fy oes. Bydd cof parchus am dano dros oesau yn yr ardal lle y bu yn
llafurio, ac o bawb dynion efe oedd yr un a hoffais fwyaf erioed.
Wedi bod mewn gwahanol fanau am dri mis, troais fy nghefn ar wlad fy
ngenedigaeth, ac er bod eglwysi
|
|
|
(delwedd B0041)
|
(x041)
Pencader a Throedyrhiw am i mi aros gyda hwynt, yr oedd fy nheimladau yn
methu dal heb fyned yn ol at y wraig a’r plant.
Yr oedd amryw Gymry yn dyfod gyda mi yn ol, a buom dri mis ar y fordaith. Mawr oedd eu swn. Cawsom dywydd tymhestlog iawn, chwythwyd ni yn ol
i’r Bay of Biscay, a’r Azore Islands; do, ni fuom yn agos hefyd i Bermuda, ac
yn ol wedi hyny yn ngolwg New London, ac yn byw am wyth niwrnod ar un biscuit
y dydd gydag ychydig ddwfr. Claddwyd saith yn y môr, a gallwch feddwl fod golwg druenus arnom
erbyn ein bod yn New York. Yr oedd yn dda genyf mai yn y ddinas hono y
tiriasom, lle y cefais garedigrwydd nid bychan gan lawer o’m hen
gydnabyddion. Pregethais lawer yn ardal Dundaff, Carbondale, a Bradford, a
rhoddais aml dro trwy Beaver Meadow, Pottsville, a Minersville.
Un waith gwahoddwyd fi i agoriad capel newydd yn Minersville yn y gauaf; wedi
myned hyd Blakeley, ni allasai y Parch. Lewis Williams ddyfod; ffwrdd a mi
hyd Beaver Meadow, lle y bum yn cadw oedfa ar wlaw mawr, a’r eira yn toddi
trwy’r dydd dranoeth. Pregethais yn yr hwyr y noson ganlynol, ond yr oedd yn
parhau i wlawio. Rhwng naw a deg y noson hono daeth yn hindda. Penderfynais y
buaswn yn myned i Minersville erbyn y cyfarfod deg boreu dranoeth. Ceisiodd
amryw fy narbwyllo i beidio myned, trwy ddweyd fod y llifogydd yn rhy fawr,
nad allaswn fyned, fy mod yn rhyfygu i gynyg ar y fath anturiaeth, fod yr
eira wedi toddi, nad oedd genyf gyfrwy, &c. Er y gwrthwynebiadau hyn, yr
oedd mwy yr ochr arall am i mi fyned. Meddwl y buasai yn siomedigaeth fawr
gan
|
|
|
(delwedd B0042)
|
(x042)
Mr. Evans a’r eglwys yn Minersville, ein bod eiu dan yn methu dyfod, a ninau
wedi addaw, fod genyf geffyl da, a’i bod yn oleu lleuad fel y dydd, nad oedd
genyf ddim llawn 30 milldir o ffordd; plygais groen y buffalo gan ei osod ar
gefn y ceffyl, cymerais y cebyst gan ei drefnu yn lle gwartholion, a
chychwynais i’r daith am tua 10 o’r gloch y nos. Er swn rhyferthwy y
llifddyfroedd ac unigrwydd y nos, ni ddigalonais, croesais rai aberoedd
dyfnion, a phan aethym i’r pant hwnw sydd o fewn ychydig filldiroedd i
Tuscarora, yr oedd y llif yn fawr iawn. Tynais fy nghyfeiriad o’r ochr uchaf
i’r ffordd at y tu draw, a nofiodd y ceffyl a minau yn ddiogel i’r ochr
arall, ond fy mod wedi gwlychu hyd fy haner. Cyrhaeddais Five Points gyda’r
dydd. Cefais yno newid dillad, a bwyd yn gysurus, ac yr oeddwn, er syndod i’r
holl gynnlleidfa, wedi cyrhaeddyd yno yn brydlon i’r cyfarfod.
Er mai myfi gafodd y fraint o weinyddu Swper yr Arglwydd gyntaf i’r Cymry yn
Minersville i gynulleidfa gymysg, cyn eu bod wedi eu ffurfio yn wahanol
gymdeithasau; eto mae y Parch. E. B. Evans, a’r hen frawd anwyl Lewis
Williams, Carbondale, wedi bod yn hynod lafurus a llwyddianus yn mysg ein
cenedl o fewn cylchoedd y gweithfeydd glo o fewn Talaeth Pennsylvania am
lawer o flynyddau. Mae rhyw ymlyniad rhyngwyf a’r ddau hyn nad allodd ewinedd
y cythraul hyd yma ei ysgaru, ac nid tebyg, er mor gyfrwys yw, y gall
ddadgysylltu yr ymlyniad hwnw yr ochr hon i’r bedd, a’r ochr draw bydd wedi
myned yn all over arno.
Yn un o’r blynyddoedd hyn, cafodd yr hen frawd Lewis Williams a minau
wahoddiad i Gymanfa oedd yn cael ei chynal yn Pottsville a Minersville. Wedi
i
|
|
|
(delwedd B0043)
|
(x043)
ni gyrhaedd Beaver Meadow, cawsom gyfarfod hynod iawn — torodd diwygiad
allan. Yr oedd yno deimladau drylliog
a gwresog; daeth llawer iawn at yr achos, a pharhaodd y cyfarfod, rhwng
pregethu, gweddio, canu, a dyweyd ein profiad, yn agos hyd haner nos. Wedi cyrhaedd Pottsville, gwelais amryw
o’r brodyr, a deallais fod yno ddau am briodi — David Davies, aelod gyda y
Trefnyddion Calfinaidd, a Hannah, merch i’r hen wr Rees Price, unig ferch ei
thad a’i mam. Nid oedd Mr. Evans yn
ewyllysio eu priod, o herwydd fod yr hen wr, tad y ferch, wedi anfoddloni yn
fawr wrtho am briodi mab iddo ryw amser yn ol, gyda rhyw ddynes nad oedd ef
yn foddlawn i hyny. Nid oedd Mr. Williams, Carbondale, ychwaith, o
herwydd gwyddai am dymer yr hen wr yn
lled dda. Wedi iddynt ddyweyd yr amgylchiadau hyn wrthyf, gofynasant a
fuaswn i yn gwneyd hyn iddynt.
Mewn trefn i gyflawni eu cais,
aethym a hwy i dy adnabyddus, ac yn y llofft yno y priodais hwynt. Gan fod ar y wraig ieuanc ofn ei rhieni,
nid oedd yn ewyllysio i’w phriod ddyfod gyda hi y noson hono. Aethym i gyda hi i dy ei thad a’i mam.
Wedi eu cyfarch, ysgwyd dwylaw, a siarad am wahanol bethau, awd i gael
tê. Pan oedd pawb yn siriol wrth y
bwrdd, gofynais iddynt pa nifer o blant oedd ganddynt? Atebent, “Jonathan a
Dafydd,” &c. Gofynais iddynt pa
faint o honynt oedd yn briod?
Dywedent yr hyn a wyddent. Gofynais a oedd y ferch yn briod? “Nac ydyw,” meddai y fam. Dywedais, “Os nad yw hi, bydd yn debyg o
fyned yn fuan.” Erbyn hyn, gwelwn y ferch yn newid ei gwedd, ac
yn cochi yn ei gwynebpryd. Meddai ei
thad, “Os yw hi yn meddwl y gall wneyd yn well, eled pan y myno.” Dywedais, “Ni
|
|
|
(delwedd B0044)
|
(x044)
byddai neb mor anfoddlon a chwi pe b’ai hyny yn cymeryd lle.” Dywedai yntau,
“Na fyddwn i, yn wir. Os boddlona hi ei hun, byddaf finau yn eithaf boddlon.”
Dywedais, “Amser a brawf,” ac awd i siarad am ryw bethau eraill.
Dranoeth, aethym i Minersville erbyn ciniaw, lle yr oedd y Parchedigion
Morris Roberts, Jonathan Jones, Thomas Edwards, Evan B. Evans, Lewis
Williams, ac amryw eraill, yn nhy Jonathan, mab yr hen wr. Yr oedd yntau yno
hefyd. Erbyn hyn, yr oedd y si wedi myned allan drwy y pregethwyr, a dywedai
ei ferchyn-nghyfraith wrth yr hen wr Rees Price, fod Jenkins wedi priodi
David Davies a Hannah y nos o’r blaen. Gwelwn wawr gwynebpryd yr hen wr yn
newid. Codais, ac aethym allan trwy y drws cefn, ac yntau ar fy ol a ffon
fawr yn ei law. Yr oedd yn dda i mi fy mod yn gyflymach fy nhraed nag ef y
pryd hwnw. Beth bynag, cawsom gyfarfodydd hynod trwy y Gymanfa, a maddeuodd
yr hen wr am y cwbl cyn ei diwedd. Yn un o oedfaon y Gymanfa hon, dywedai
Jonathan Jones wrth ddechreu, na wyddai ef beth i’w bregethu i ni, ar ol
cymaint oeddym wedi ei glywed yn barod. Dywedodd Morris Roberts, “Pregetha Grist
iddynt; beth arall sydd genyt i’w ddyweyd wrthynt?”
Yr oedd rhyw weinidog Saesonig yn un o’r oedfaon, a rhoddwyd cyfleusdra iddo
yntau i’n hanerch, a dywedai, “O! how I like this Welsh fire.” Gwaeddai M.
R., “It is a heavenly fire.” Ateb. “Surely it must be.” Dywedai Morris
Roberts, “First-rate. Bendigedig. le, yn wir.”
|
|
|
(delwedd B0045)
|
(x045)
TRAETHODAU, &c.
PREGETH.
MWRDD-DRA WEINIDOG FFYDDLON, NEU YMDEITHIAD PECHOD AR EI ORIWAERED.
“A’r brenin yn drist iawn, ni chwenychai ei bwrw hi heibio, o herwydd y
llwon, a’r rhai oedd yn eistedd gydag ef. Ac yn y man y brenin a ddanfonodd
ddienyddwr, ac a orchymynodd ddwyn ei ben ef. Ac yntau a aeth, ac a dorodd ei
ben ef yn y carchar, ac a ddug ei ben ef ar ddysgl, ac a’i rhoddes i’r
llances; a’r llances a’i rhoddes i’w mam.” — MARC vi. 26-28.
Fel hyn y gorphenwyd llefaru am ddioddefiadau Ioan Fedyddiwr. Fe’i ganwyd tua
chwe’ mis o flaen ein Harglwydd bendigedig, a dienyddwyd tua blwyddyn o’i
flaen ef. Yr ydoedd yn ardderchog neillduol yn ei dduwioldeb, ei dalentau a’i
swydd; yn llawn o’r Ysbryd Glan, hyd yn nod o groth ei fam. Nid yfai win na
diod gadarn, ond treuliai ei fywyd yn y modd mwyaf manteisiol a llesol at
gyflawni ei ddyledswyddau. Codwyd ef i fyny gan Dduw i fod yn ddiwygiwr mawr
a chyhoeddus mewn oes falch ac ofer, a chynysgaeddwyd ef gan y ef a
chyneddfau addas at y gwaith. Gosodwyd ef gan Lywydd y bydoedd i fod yn
rhagredegwr i’r Messiah, i ddwyn sylw y bobloedd at ei ddyfodiad. Yr oedd ei
swydd yn y tymor hwn yn ei wneyd yn fwy nag un o’r prophwydi a fu o’i flaen
ef: - “Oblegid hwn yw efe, am yr hwn yr ysgrifenwyd, Wele fi yn anfon fy
nghenad o flaen dy wyneb, yr hwn
|
|
|
(delwedd B0046)
|
(x046)
a barotoa dy ffordd o’th flaen. Yn wir, meddaf i chwi, yn mhlith plant
gwragedd ni chododd neb mwy nag Ioan Fedyddiwr.”
Treuliai ei fywyd yn esiampl o ostyngeiddrwydd a hunan-ymwadiad yn ysbaid byr
ei Weinidogaeth, a bu farw yn ferthyr dros yr athrawiaeth a druethai.
Syrthiodd yn ysglyfaeth i’r dideimladrwydd annhrugarog a achlysurwyd trwy ei
gywirdeb diymdroiadol.
Mae ein testyn yn rhoi ar ddeall fod Ioan yn y carchar pan y
torwyd ei ben ef. Mewn adnod
flaenorol rhoddir ar ddeall i ni pa fodd yr aeth yno: — “Canys yr Herod hwn a
ddanfonasai ac a ddaliasai Ioan, ac a’i rhwymasai yn y carchar.” Er fod carcharau wedi eu trefnu i
gaethiwo drwg-weithredwyr, ac ataliad troseddau, mynych yr arferwyd hwynt yn
rhwymau caethiwed i rai rhagorol y ddaiar, yn drigfanau i’r rhai nad oedd y
byd yn deilwng o honynt.. Nid yw yn
sicr pa hyd y bu Ioan yn y carchar; yn ol y farn gyffredin mai tua blwyddyn a
haner. Ei gyfyngiad a ddybenodd ei
lafur cyhoeddus, a’i eang ddefnyddioldeb yn nghanol ei fywyd; ac felly
ataliwyd pelydrau hyfryd-liw y sereu ddysgleiriaf yn ffurfafen yr
oruchwyliaeth Ffoesenaidd gan archdeyrn, yr hwn a garai y tywyllwch yn fwy
na’r goleuni, o herwydd fod ei
weithredoedd ef yn ddrwg.
Ond pa beth oedd achos carchariad Ioan? A gafodd Herod ryw drosedd ynddo yn
haeddu y fath gosbedigaeth? Mae gwarediad braich wladol, pan yn ol
cyfiawnder, o ddefnydd i’r llywodraeth, ac arswyd i ddrwg-weithredwyr. Ond yn
yr achos o’n blaen yn awr, y mae yn mhell i’r gwrthwyneb. Gwyddai Herod fod
“Ioan yn wr cyfiawn a santaidd.” Yr oedd yn
|
|
|
(delwedd B0047)
|
(x047)
dyst o’i fywyd difrycheulyd a’i santeiddrwydd dilwgr. Efe a wyddai ei fod
gyda’r gwaith goreu, a’i fod wedi diwygio bucheddau ac ymddygiadau llawer. Mewn
gair, yr oedd wedi bod ei hunan yn ei wrando yn pregethu, ac am dymor yn ei
barchu, gan ymddangos yn ddiwygiedig dan ei weinidogaeth. Yr oedd llawer o
bethau yn ei ymddygiadau, ar amserau, yn dangos ei barch at Ioan: — “Ac wedi
iddo ei glywed ef,” medd yr hanesydd ysbrydoledig, “efe a wnai lawer o
bethau, ac a’i gwrandawai ef yn ewyllysgar.” Dyma ddyddiau goreu Herod. Y pryd yma yr oedd gobaith am dano. Pa
mor ddrwg bynag y byddo dyn, nis gallwn ei roddi i fyny yn hollol i
golledigaeth, cyhyd ag y byddo yn cyrchu i wrando y gair, o leiaf tra byddo y
gair a bregethir yn gadael ei effaith ar ei gydwybod, ac yntau yn gwellhau
rhyw faint yn ei fywyd. . Pe buasai Herod yn parhau i wrando Ioan, a pharchu
ei athrawiaeth, fe allasai gael ei arwain ganddo at “Oen Duw, yr hwn sydd yn
tynu ymaith bechodau y byd,” a bod yn ddedwydd ganlynwr i’r Gwaredwr
mawr. Ond Ow! ei sylw a drowyd, a’r
argraffiadau difrifol a gollwyd.
Beth a effeithiodd arno mor fuan?
Nid rhyw foddion annghyffredin;
cariad at feluswedd pechadurus a lywiodd ei galon, yn ol ei gydsyniad ei
hun. Cymerodd arno ei fod wedi tramgwyddo wrth wr Duw am ddyweyd y gwir
wrtho, yr hyn yn ddiau a ddylasai Ioan wneyd. Wele ef yn awr yn barod i’w
erlid, ei garcharu, a’i ladd, er iddo, cyn hyn, ei barchu, a’i wrando yn
ewyllysgar. Hen nodiad a gadarnheir yn fynych yw yr un a ganlyn: — Pan y
byddo y pechadur wedi dyfod dan y weinidogaeth, i wrando yn fanol yr hyn a
bregethir iddo, nid hir yr erys heb
ymryson âg ef ei hun, neu a’i
|
|
|
(delwedd B0048)
|
(x048)
gweinidog ffyddlon a ddywedodd wrtho am ei bechod. Dygwydd weithian, megys yn
yr engraifft bresenol — yn gyntaf gwna anfoddloni wrtho ei hun, yna wrth y
pregethwr; a phan y dygwydd hyn, y mae yr anfod-lonrwydd yn gwneyd ei drigfa
yn yr olaf, heb ymadawiad mwy. Mor ansicr, bum bron a dyweyd mor anobeithiol,
ydyw sefyllfa y rhai a fu yn gwrando y gair am dymor yn llawen, ac a
wnaethant lawer o bethau; y rhai y deffrowyd eu cydwybodau, y goleuwyd eu
meddyliau, y meddalhawyd eu calonau, y cynhyrfwyd eu teimladau, y plygwyd eu
heneidiau truenus i raddau at orsedd gras, ac a ddygwyd yn ddiwygiedig i
raddau ger bron Duw, ond a ymddangosant wedi hyny o’r newydd yn eu hen bleserau,
ac a gollasant eu budd crefyddol, gan fyned yn esgeuluswyr o’r gair, yn
gaseion i’r rhai y buont unwaith yn eu gwrando yn ewyllysgar, ac ydynt yn awr
mewn mwy o gwlwm a’r byd, ei wagedd, a’i oferedd, nag erioed o’r blaen. O mor
druenus, ac anhebygol yw adferiad a dyfodiad y cyfryw byth i’r iawn o fagl y
diafol. Arswydwch, y rhai y mae y cerydd hwn yn perthyn i chwi—ofnwch y
perygl hwn. Hwyrach eich bod ar eich llithrigfa olaf am byth. Mae cyflwr y
rhai hyn yn debyg i’r eiddo y rhai y mae yr apostol yn dyweyd am danynt,
“Diwedd y rhai yw eu llosgi.”
Arddengys bywyd Herod nodau amlwg o’i ddrygioni, ei fyrbwylldra, a’i
anlladrwydd, oddigerth y diwygiad hanerog a welwyd ynddo dros dymor dan
weinidogaeth Ioan. Y mae yn ddiddadl fod Ioan, gweinidog Duw, yn difrifol
ddymuno llesâd Herod; efallai ei fod wedi derbyn cefnogiad oddiwrth agwedd y
brenin yn gwrando arno; bu yn ffyddlon a hyf i’w
|
|
|
(delwedd B0049)
|
(x049)
geryddu am y bai a wnaeth. Gan nas gall gwir edifeirwch gymeryd lle heb
wybodaeth am y bai, y mae yn sicr y dylai gweinidog yr efengyl amcanu gosod
anwiredd pob dyn yn gyflawn o’i flaen, gyda’r un cymwysder ag y gwnaeth y
prophwyd i frenin Israel, “ “Ti yw y gwr.” Ysgatfydd y tramgwydda rhai, ond
nid oes achos i wr Duw fod yn anffyddlon, tramgwydded y neb a dramgwyddo.
Yr oedd un peth yn rhywyd Herod, ar bechadurusrwydd y cyfryw y sylwa Ioan yn
benaf, a dyma yr unig beth a dramgwyddodd Herod. Yn wir, yr oedd Herod wedi
ymlithro i bechod, yr hwn oedd yn anhawdd iddo ymadael ag ef. Fe ddichon i
ddyn gymeryd ei geryddu am bechod fo ynddo yn achlysurol, a dyoddef dyweyd yn
galed wrtho am y bai y mae efe yn gyflawni yn ddamweiniol, neu yn
ddigwyddiadol. Pe dywedwn, pechod nad yw yn naturiol iddo, neu nad yw yn
gymeriadol ynddo; ond os dywedwch wrtho arn ei Ddalila, ei bechod anwylaf, yr
hwn y mae yn ei feithrin, y pechod parotaf i’w amgylchu, ac y mae yn ddeiliad
iddo, gan ei fod yn was iddo, a than ei lywyddiaeth — efe a’ch barn yn euog o
gamymddygiad. Chwi a gyffyrddwch a’i glwyf ef. Bydd eich geiriau fel saethau
yn glynu yn ei glwyfau crawnllyd. Byddwch yn sicr o beri iddo wingo wrth
aflonyddu yr archoll hon. Felly yr oedd gyda Herod pan ddywedodd Ioan wrtho,
“Nid cyfreithlawn i ti gael gwraig dy frawd.” Efallai y buasai efe yn
ymfoddloni dyweyd yn galed am ei holl bechodau eraill, ac y buasai yn diwygio
oddiwrthynt, ac yn eu rhoddi heibio. Ond ni fynai roddi hwn heibio er dim.
Na, peth rhy galed ganddo ef oedd dyweyd am hwn yn ei wyneb, hyd yn nod gan
weinidog Duw. Dyma oedd
|
|
|
(delwedd B0050)
|
(x050)
y peth; Herod, er ei fod yn briod â merch Aretas, brenin Arabaidd, a
chwenychodd Herodias, gwraig Phylip ei frawd, ac yn ganlynol a ysgarodd ei
wraig ei hun, ac a’i priododd hi. Yr
oedd y cysylltiad hwn yn wrthwyneb i gyfraith Duw ar ddau olygiad; yr oedd
Phylip, gwr Herodias, yn fyw o hyd, ac yr oedd Herodias — trwy ei bod wedi
priodi Phylip — yn berthynas rhy agos i Herod. Y mae o fawr bwys, gyda golwg ar
ddedwyddwch a heddwch teuluaidd, a phurdeb cymdeithas, fod cyfreithiau Duw yn
rheoleiddio priodasau mewn parhad anniddymadwy; ac y mae cadw at y
cyfreithiau hyn, yn gystal a phob dwyfol osodiad, yn gorphwys yn fwy
neillduol ar y rhai sydd a’u swyddau yn ddylanwadol eu heffeithiau ar
eraill. Gan fod Herod yn meddianu
teyrngadair hiliogaeth Abraham, yr oedd yn fwy angenrheidiol ei geryddu am ei
drosedd; ac yr oedd glewder a ffyddlondeb Ioan, a phwysfawrogrwydd ei swydd,
yn ei rwymo i ddyweyd wrtho am ei drosedd yn ddidderbyn wyneb.
Yr oedd trosedd Herod yn ddeublyg yn ol y gyfraith ddwyfol—cynwysai odineb,
ac ymlosgiad; y blaenaf, yn gymaint a
bod gwr Herodias yn fyw; yn olaf, am ei bod hi — drwy ei phriodas a Phylip,
yn chwaer i Herod. Er fod yr ymddygiad yma o eiddo Ioan yn engraifft
ganmoladwy o’i ffyddlondeb, sef dyweyd wrth benllywydd ei bechodau, daeth ag
ef dan erledigaeth ddidosturi. Nid Herod yn unig a anfoddlonodd o herwydd
hyn, ond enynodd llid Herodias. Yr oedd hi yn ymddangos o nodweddiad mwy
halogedig na Herod. Perchenogai deimladau dialeddol, llwyr amddifad o’r
teimlad sydd yn hanfodol i wraig rinweddol a chariadlon. Ystyriai fod y
cerydd a weinyddwyd i Herod yn ei
|
|
|
(delwedd B0051)
|
(x051)
cheryddu hithau, gan ofni, efallai, y collasai hi briod ei hymlyniad beius; anelodd
ei llidiawgrwydd er dinystr buan i Ioan. Beth bynag, ei garcharu oedd yr oll
a allasai hi wneuthur ar y cyntaf; oblegid gwyddai Herod, trwy yr hwn yn unig
y gallasai hi ddwyn oddiamgylch ei hamcan, fod y bobl yn parchu Ioan fel
prophwyd, gan hyny ofnai y buasai yn gwneyd terfysg pe buasai yn ei roddi i
farwolaeth.
Daeth cyfleusdra i Herodias wledda ei llidiawgrwydd o’r diwedd. Herod, ar
ddydd ei enedigaeth, wedi iddo wneyd swper, daeth ei wahoddwyr i’w fwyta,
penaethiaid, blaenoriaid, a goreugwyr Galilea. Un o’r pleserau yn y wledd gyda’r brenin a’i lyswyr oedd
dawnsio. Ar y tymor hwn o’r wyl, daeth Salome, merch Phylip, a Herodias i
mewn, a dawnsiodd nes boddio Herod, a’r rhai oedd gydag ef yn eistedd. Mor benwan
oedd y brenin wrth symudiad ei chamrau, ac hefyd gan win, mae’n debygol, fel
y dywedodd wrth y llances, “Gofyn i mi y peth a fynoch, ac mi a’i rhoddaf i
ti. Ac efe a dyngodd iddi, Beth bynag a ofynech i mi, mi a’i rhoddaf i ti,
hyd haner fy nheyrnas.”
Ei addewid a’i lw oeddynt yn fyrbwyll, i’r graddau uchaf, fel y gwelir yn y
canlyniad. Gan fawredd y cynyg, ymfalchiodd y ferch, wrth y fath hoffder
twymgar a ddangosodd i’w chyflawniad diwerth. Salome a drodd i ymgynghon â’i
mam, pa beth a ofynai. Mae Awdwr natur wedi planu egwyddor mewn plentyn i’w
gyfarwyddo at ei rieni am gyngor ac hyfforddiant; a dedwydd yw y rhai sydd
a’u rhieni yn ofni Duw, ac yn eu cyfarwyddo yn ffordd doethineb. Ond
truenusach nag amddifad yw sefyllfa y rhai sydd a’u rhieni yn eu hanog i
ddrygioni. Agwedd frawychus fydd ar y rhai
|
|
|
(delwedd B0052)
|
(x052)
sydd yn dinystrio eu hiliogaeth trwy eu hesiamplau, pan yn rhoddi cyfrif i
Chwiliwr y calonau yn nydd brawd am eu hymddygiadau tuag atynt.
Ymddengys fod Herodias wedi rhoddi gwisg oedd yn ateb i’w merch i ddawnsio.
Yr hyn y mae hi yn ei hanog i ddewis yn awr a’n galluoga i farnu yn bellach
am ei dysgeidiaeth, mewn cyferbyniad i addewid y brenin. Lluaws o
wrthddrychau sydd o flaen ei dewisiad. Gellir gofyn beth bynag hyd haner y
freniniaeth. Ac wele, ar ol cydgyfrinach rhwng y fam a’r ferch, yr anwyl dlws
wedi ei ddewis—” Mi a fynwn i ti roi i mi allan o law, ar ddysgl, ben . Ioan
Fedyddiwr.” Dynoliaeth—nage ddim; bum bron a dyweyd fod barbariaeth ei nun.
wrth y fath echrys ddeisyfiad! O ba greulonder nad yw y natur ddynol yn alluog! Mae creulonder yr
olygfa yn ymddangos yn fwy oblegid ei fod hiewn dynes, a dynes yn mlodau ei
dyddiau, a harddwch ei hieuenc-tyd. Gyda’r fath gyflymdra cynyddfawr y mae yn
rhaid y dilynodd hi ffordd y faU,cyn esgyn at y fath dyciant! Tystiodd Salome mai merch ei mam oedd hi, wedi ei magu yn hollol ar ei
delw. Boddiwyd Herodias wrth gael cyfle fel hyn i orphen ei bwriad digllawn
ar y ffyddlawn weinidog.
Mae y darluniad a geir o’r ddynes hon a’i merch y fath ddarostyngiad i’w
rhyw, a’r fath ddarostyngiad i’r natur ddynol, nes y bum yn prydel’us
ddisgwyl am ryw beth yn yr amgylchiad a fuasai yn mwyneiddio golwg y lleni
duon sydd yn y drych; ond nid oes dim cyrfelyb i’w gael. Nid oes dim un
fantell i’w orchuddio yn yr holl amgylchiad. Pe buasai Ioan trwy ryw
greulondeb anghyfreithlon, neu anghallineb, yn rhoddi y ffug leiaf o’i
gyhuddiad, yna buasai rhyw esgus dros ei erlid.
Y PARCH. .TENKIN
JENTKtNS.
|
|
|
(delwedd B0053)
|
(x053)
Ond ni wnaeth ond dyweyd yn garuaidd a gohest, eto yn eglur ac amlwg, yr hyn
nad allasai gydymddwyn ag •ef, a bod yn ifyddlon wasanaethwr i’r Duw a’i
danfonodd ef; ond nid oedd yno ddim rhith gyhnddiad yn ei erbyn. Pe buasai y
gorchymyn i’w ddienyddio yn deilliaw oddiwrth gryd a chynddaredd
chwilboethlyd creulondeb darfodawl, buasai yn well. O na, y nwyd ellyllaidd a
ddeorodd dros gyniferofisoedd yn nghiliau tywyll mynwes euog, gan ddal
penderfyniad disigl ac ymofyniadol am waed., yn awr, pan gafodd gyfleusdra, a
ddaeth yn mlaen yn ddigywilydd i’w geisio i wledd o gyfeillgarwch achlysurol
yn ngwydd goreugwyr y deyrnas! Och! os oedd rhyw rinwe’dd, os oedd rhyw ddynoliaeth,
os oedd rhyw synwyr priodol ei alw felly yn llys Herod, nis gallwn eiddigeddu
am y bai a enillodd ei wraig anynad a’i merch ddawnslyd iddo ar yr achlysur
hwn. Yn aml y sylwyd fod .priodasau annghyfreithlawn yn aflwyddianus;, mynych
y canlynwyd hwynt & gwg y Nef. Bu yr hon a briododd Herod yn
anghyfreithlon, ac a gadwodd felly, yn fwy o niwed a gofid iddo na phe buasai
yn colli ei goron. Ond beth oedd llwyddiant cais Salome am ben Ioan
Fedyddiwr? A pha fodd yr efleithiodd ar Herod? Och! nis gallwn lai na synu pa
fodd na
|
|
|
(delwedd B0054)
|
(x054)
TRAETHODAU, &c.,
arus Herod a’i gymdeithion mewn d-rwg, ni chaniata amser yn bresenol i mi
ddywedyd dim. Cyn dibenu yr ymadroddion hyn, pa fodd bynag, caniatewch i mi
wneuthur rhai sylwadau ymarferol:—
1. Dysgwn oddiwrth sefyllfa Herod, y
mawr ddrwg o fyw ac ymlynu mewn unrhyw
bechod, pa un bynag ai o omeddiad neu droseddiad. Aml y cyfarfyddwn a phersonau sydd at
llawer o ddiwygiad wedi cymeryd lle ynddynt dan bregethiad y G-air, eto wrth
y rhai y mae rhwymau arnom i ddyweyd, fel y dywedodd ein Harglwydd wrth y gwr
ieuanc yn yr efengyl, “ Mae u’n peth eto yn ol i ti.” Y mae ganddynt ryw bechod anwyl na fynant
ymadael ag ef, neu ryw ddyledswydd anhebgorol angenrheidiol na fynant ei
chyflawni,—” Y mae teyrnas Dduw yn agos atynt.” Ond y mae un rhwystr yn eu ffordd hwy ag
sydd mor sicr o’u hatal a phe byddai y mynyddoedd mwyaf cribog yn eu herbyn. Maent yn barhaus yn nhiriogaeth y byd
hwn. Mae eu hanwiredd eto yn
llywodraethu drostynt. “ Pe
edrychaswn ar anwiredd yn fy nghalon, ni wrandawsai yr Arglwydd arnaf.” Ai doethineb yw ymadael, le, ymadael yn
wirfoddol a llawenydd annhraethol a thragywyddol y nef am hyfrydwch un pechod
megys dros fynyd awr? Onid rhyfyg
yw? Efallai eich
bod yn synu am ffol lueb Esau,
yr hwn am un saig o fwyd a werthodd ei enedigaeth fraint. Ond os ydych chwi yn gwerthu eich unig
eneidiau am felyswedd bawlyd pechod, neu yn esgeuluso eu lles, efallai o
herwydd ofn dyn, yr hwn sydd yn dwyn magi, pa le y mae rhagorjaeth eich
doethineb?
2. Mae y gyfran hon o’r hanesyddiaeth
ddwyfol yn addysg i rieni a phlant er atal tymer ddrwg yn ei chodiad
cyntaf. Nid yn unig y mae yn difa yn ddirgel y
Y PAECH. JEN-KIN JEKKINS. -
|
|
|
(delwedd B0055)
|
(x055)
fynwes lle y mae yn trigo, ond mynych yr arweinia i weithredoedd ysgeler. Dysgwn,
gan hyny, i fygu ar unwaith, yn llwyr, y chwythygrwydd teimlad cyntaf; i’c, y
cligter lleiaf. Darostyngwn yr anghenfil yn ei fab-anclod, onide efe a fydd
yn drech na ni ar ol iddo dyfu i’w faintioli. Cymerwn wersi o esiampl
oddiwrth fwyneidd-dra ein Ceidwad; a phan y byddom yn methu ei ddilyn, awn at
ei groes am laddeuant a nerth.
3. Dysged rhieni oddiwrth Salome i amddiffyn addysg grefyddol i’w plant, fel
peth annhraethol fwy pwysig nac ymarferiadau ac addurniadau gwageddus.
Difritbl ystyriant fod eneidiau gan eu plant; eu bod yn greaduriaid rhesymol,
cyfrifol, ac anfarwol; ac hy-fforddant hwy yn gyfatebol. Wrth sylwi ar ddull
llawer yn codi eu hiliogaeth, gellid meddwl eu bod wedi mabwysiadu
athrawiaeth y Saduceaid, h. y., nad ydynt yn credu fod adgyfodiad, nac angel,
nac ysbryd; fod angau yn terfynn bodolaeth dyn am byth; mai y rhai sydd yn
byw fwyaf anystyriol ydynt y rhai doethaf, gan ddywedyd, “Bwytawn ac yfwn,
canys yfory marw yr ydym.”
Hwyrach y bydd rhai yn barod i ateb yn surllyd, A wnawn ni atal ein plant
oddiwrth bob pleser diniwed! A wnewch chwi eu hanog i ymwrthod a difyrwch yr
oes, gan dreulio blodau gorwych eu hieuenctyd mewn penwandod penddarllyd? Nid
ydym yn gofyn dim. sydd afresymol. Ni fynwn eu hatal oddiwrth un hyfrydwch y
mae Duw yn ganiatau iddynt, ac nad yw yn anunol & phethau gwell. Ni fynwn
eu hatal oddiwrth un hyfrydwch nad yw yn eu gwrthwynebu at gyflawni eu
dyledswyddau tuag at Dduw, a’u daioni penaf. Eto, ni wnawn ganiatau iddynt
rodio yn ffyrdd eu calonau, ac yn ngolwg eu llygaid gwamal, i gydymffurfio
a’r
|
|
|
(delwedd B0056)
|
(x056)
TRAETHOBAU, &C.,
byd sydd yn gorwedd yn ei ddrygioni, a dilyn lluaws i wneuthur drwg, yn
gymaint mai am hyn oll y bydd i Dduw eu galw hwynt i farn. Yn hytrach, ni a’u
cynghorwn yn gyntaf i geisio teyrnas Dduw a’i gyfiawnder ef—i gofio yr hyn a
ddywed ein Ceidwad, “ Y sawl a’m carant i a garaf finau; a’r sawl a’m
ceisiant yn foreu, a’m cant.”
Gan mai creaduriaid Duw ydynt, oni ddylent ei wasauaethu? Pa ddyledswydd sydd
yn fwy rhesymol iddynt na chofio eu Creawdwr yn nyddiau eu hieuenc-tyd, a bod
yn barod i gyfarfod a Duw? Mae yn eithaf rhesymol iddynt ddianc rhag y llid a
fydd, a sicrhau iddynt eu hunain drysorau yn y nef. A all rhieni feddwl am eu
plant, y dichon Duw eu galw oddiwrth eu pleserau pan yn eu hieuenctyd ger
bron gorseddfainc Crist, heb fod eu cydwybodau yn eu cyhuddo,- neu yn eu
hesgusodi, yn ol eu hymddygiad tuag atynt? Paham, ynte, yr hyfforddwch hwynt
yn llwybrau y fall—ydysgwch hwynt i droseddu deddfau lor—y gadewch hwynt i
dori Sabbothau Duw, yn fwy na dysgu ei Air ef yn yr Ysgol Sul, ac yr
ymfoddlonwch iddynt gyrchu i olygfeydd a champau ofer? A ydynt fel hyn ddim
yn annghofio Duw? A ydynt ddim yn magu a meithrin teimladau anmliarod fel
deiliaid byd arall? Mae eich plant yn edrych atoch chwi am gyngor. Maent yn
dilyn eich esiampl, ac yn parchu eich awdurdod. Mor bwysig, gan hyny, yw eich
cyfrifoldeb a’ch rhwymedigaeth! Am hyny, O, bydded eich cyngor, eich esiampl,
a’ch awdurdod—mewn gair, effaith eich holl awdurdod tuag atynt y fath, fel,
pan y gweloch hwynt yn eich gadael yn nhagfa marw, neu i chwi eu gadael hwy
yn y cyfryw, na byddo iddynt eich condemnio ger bron Barnydd yr holl ddaiar. Amen.
|
|
|
(delwedd B0057)
|
(x057)
Y GOLYGFEYDD DIWEDDAE AR FYWYD PENDEFIGES URDDASOL.
Ryw amser yn ol cefais fy ngalw i ymweled a phendefiges obeithiol pan ar ei
hangeuol orweddle, ac i dystio golygfeydd sydd yn dwys ddwfnhau effaith
ystyriaethau y meddwl. Fe’m tueddwyd i ymweled a hi ar y cyntaf ar ddymuniad cyfaill.
Eisteddai ar esmwythfainc, gan bwyso ar obenydd. Ni allesid barnu wrth ei
hymddangosiad ei bod mor agos i’w hymddatodiad ag ydoedd. Yr oedd ei nith a’i
chwaer yn bresenol. Ar ol ymddiddan ychydig eiriau, gofynais iddi a oedd yn
ewyllysio fy ngweled yn fwy unigol. Dy-wedodd mai hyn ydoedd ei dymuniad.
Gyda hyn ei charenydd yn union a eneiliasant i ystafell arall.
Dechreuais y gyfeillach, gan ymholi paham y danfonodd am danaf, oblegid nid
oedd yn ymddangos ei bod mewn un perygl uniongyrchol. Dywedodd ei bod yn
dymuno ymddiddan a mi am bethau difrifol. Holais hi am natur ei hafiechyd.
Dywedodd wrthyf fod ei haflechyd o hen arosiad, ac ofuai ei fod hefyd yn
au-feddyginiaethol. Yr oedd ei hysgyfaint yn gwaethygu, a dwfr yn aros rhwng
ei dwyfron. Wrth i mi droi ati yn nghylch pethau ysbrydol, amlygai alar nid
bychan o barth idd ei hiechydwriaeth, gan ddyweyd fod yr ofnau mwyaf ar ei meddwl,
mai yn golledig y byddai hi yn y diwedd.
Pel yr oedd natur ei dolur yn gwneuthur ei had-feriad yn gwbl anobeithiol,
ystyriais mai fy swydd ddyledus oedd dywedyd wrthi, nad tebyg y byddai iddi
|
|
|
(delwedd B0058)
|
(x058)
TRAETHODA0, AC.,
wellau mwy; er y gallasai hi fod yn dihoeni am wythnosau, ac efallai fisoedd,
eto y byddai idd ei hafiechyd presenol ei dwyn i’r bedd, a hyny wrth bob
tebygolrwydd gyda buandra. Dywedais fod pob dyn, o ba sefyllfa bynag y
byddai, os oedd yn amddifad o wir edifeirwch, Sydd yn Nghrist, a chariad at
Dduw, ag achos mawr i ofni; eto fy mod i yn hytrach yn caru ei gweled hi yn
yr agwedd hon o ran ei meddwl na phe buasai mewn difaterwch ac anystyriaeth;
er y cwbl, ei bod yn hollol amddifad o wir obaith am wynfydedigrwydd
diddiwedd. Ni wnaethum un ymgais i ladd ei “ hofnau, ond amcenais fwyhau yr
argraffiadau difrifol oedd ar ei meddwl, trwy aros ar burdeb Duw,
santeiddrwydd ac eangder ei gyfraith, ei barhaus gasineb at bechod, a’i
benderfyniad idd ei gosbi yn ol rheolau diwyrni ei gyfraith burlan.
Grwrandawodct ar hyn oll gyda neillduol sylw, ymddangosai megys wedi ei
gorlanw gan argyhoeddiad o’i phechadurusrwydd, a’i hamddifadrwydd o un
gobaith am faddeuant.
Wrth’ ganfod ei meddwl mor barod i ddyrnod y gwirionedd, a’i chalon mor
dderbyniol o’i rym, adroddais iddi fy sefyllfa fy hun:—” Bu fy argyhoeddiad
i, efallai, mor ddwfn a’r eiddo chwithau. Mi a gefais mai, peth niweidiol a
chwerw iawn yw pechu yn erbyn Duw, ac oni buasai crediniaeth fod Iesu Grist
wedi dyfod i’r byd i gadw pechaduriaid, buaswn mor druenus fy sefyllfa ag
ydych chwi y fynyd hon.” Hysbysais iddi sylfeini fy ngobaith fy hun, a
phregethais yr efengyl iddi yn ei holl radlonrwydd. Beth bynag, nid oedd yn
derbyn dim diddanwch oddiwrth y gwirionedd, a dywedodd ei bod yn ofni y
byddai byth yn
T PARCH. JENKIN
JENKINS.
|
|
|
(delwedd B0059)
|
(x059)
golledig. Gelwais i mewn ei
pherthynasau, ac ar ol darllen a gweddio ymadewais.
Tua’r cyfnos cefais fy ngwysio i ymweled a hi drachefn, oblegid tybiwyd ei
bod yn marw. Gyfodais o’m gwely, ac ufuddheais i’w deiseb. Yr oedd y lleuad
felynwen yn ymddisgleirio yn ei thanbeidrwydd eangaf, y mor, ar hyd lanau pa
un y rhodiwn, ydoedd ddi-gyffro, a phelydrau y llu nefolaidd oeddynt yn
disglaerhavdd dywynu ar ei wynebpryd llydan. Nid oedd cwmwl crogedig i’w
weled yn yr awyrgylch. Nid oedd cyinaint ag awel yn mudo i ddeffroi
llonyddwch natur. Y cwbl oedd dawel a distaw. Nid oedd yn ddichonadwy fod yr
argraffiadau a ddygwyd ar y meddwl trwy yr olygfa hon, ddim amgen na syndod o
herwydd doethineb a gallu Duw, mewn diolchgarwch gwresog iddo am ei ddaioni
i’w greaduriaid. Ond yr oeddwn yn dynesu at olygfa lled wahanol i hon. Yr oedd un yn
profi fod Duw yn ddoeth, galluog a da; a’r llall yn fy nysgu fod gweithrediad
perffeithderau eraill moi rheidiol at ddiogelu heddwch a dedwyddwch byd
colledig. Tu allan, pob peth oedd dawel; ond tu fewn drysau y ty i ba un y
gwahoddasid fi, pawb oeddynt mewn gwae a chyffro. Yr oedd y • cyferbyniad ar
unwaith yn hynod, syml, ac addysgiadol.
Mi a gefais Mrs. H. yn pwyso ar fynwes ei nith. Ei hahadliadau oeddynt
gaethiwus, curiadau y galon yn ergydio y gwaed trwy ysgogiadau ei phabell
oeddynt annhrefnus yn eu rhediadau bwhwmanllyd, a’r ymwelydd meddygol a
athrist ddisgwyliai bob pum’ mynyd i’r marchogwr gwelwlas dychrynllyd orphen
ei hoedl. Yr oedd ei meddwl mewn dirfawr ing yn gystal a’i chorff. Mae y 38 Salm yn ddarluniad o’i sefyllfa. Yi
|
|
|
(delwedd B0060)
|
(x060)
TRAETHODAU, &C.,
oedd llaw Duw yn drom ami; ei chamweddau oeddyni yn faich mawr iddi, i’e, yr
oeddynt yn rhy dnvm iddi hi eu dwyn. Gofynais i’w pherthynasau paham y
dari-fonasent am danaf; nad allwn wneyd gwyrthiau, i ad-feryd ei hiechyd na
gweini un heddwch i’w chydwybod. Dywedasant wrthyf ei bod hi yn dymuno fy
ngweled, fel y bydd’ai i mi weddio drosti hi. Gofynais iddi pa beth oedd hi yn ddymuno. Yr oll a allasai hi ddyweyd
oedd, “Gweddiwch, gweddiwch.” Penliniasom i lawr, a gweddiais am drugaredd a
heddwch iddi; am iddi gael ei phuro, a’i gwneuthur yn addas i fyned i’r
nefoedd. Nid oeddwn yn heiddio gweddio am ei hadferiad, am fy mod yn ei
gweled yn ymylu i ymddangos ger bron Duw. Codasom oddiar ein- gluniau,
eisteddais yn union o’i blaen hi. Yr oedd mewn cyfyngderau mawrion.
Trywanllyd oedd y fath olygfa i’r galqn. Yr oedd gofidiau ei meddwl cythryblus
yn fwy o lawer na’r rhai corfforol. Yr oedd yr holl olygfa yn eithaf adfydus.
Yr oedd amrywiol bersonau yn yi ystafell. Rhai yn eistedd mewn dystaw alar. Y
meddyg yn gwneyd yr oll a allasai er cynorthwy iddi; ei nith yn ei chynal gan
wylo yn hidl; mewn gwirionedd, gormod gorchestwaith oedd i’r teimladau
dewraf, wrth weled chwerwon ddagrau a thorcalonus riddfanau hon, beidio
dryllio. Y dyoddefydd tlawd ei hunan yn syml feddwl am ei diwedd, ac ar rai
amserau, pan y byddai ffyrnigrwydd ei phoenau yn caniatau iddi, yn llefain am
drugaredd—”Cadw fi, cadw fi, Crist, arbedfi. • Maddeu, maddeu; er mwyn Iesu, maddeu.” Parhaai y geiriau hyn i gael
eu parablu ganddi aml dro mewn llais soniarus, i glyw y rhai oedd yn agos i
odre yr eisteddfainc lle yr oedd yn eistedd. Llefarais wrthi rai troion, gan
Y PAECH. JENKIN JENKINS.
|
|
|
(delwedd B0061)
|
(x061)
nodi rhai o’r manau mwyaf tueddol o’r Ysgrythyr i gyfarwyddo ei meddwl i
edrych ar Iesu yn unig. Dy-wedai nad oedd ganddi un gobaith arall, er yr
amlygai hyn mewn ofnau mawrion. Gadewais hi am bump yn y boreu, yn debyg yn
yr un sefyllfa ag yr oedd pan y daethum ati am haner nos.
Ymwelais a hi wedi hyn am naw o’r gloch boreu ddydd Mawrth. Bi chyfeillion
oeddynt yn parhaus feddwl ei bod ar drengu yn yr angau. Nid oedd yn awr yn
medru llefaru, ao ni allai amlygu ei dymuniadau amgen na thrwy amneidiau.
Gofynais, “A gaf fi weddio drosoch am eich adferiad?” Ysgydwodd ei. phen mewn
iaith ddystaw, gan droi ei llygaid a chodi ei llaw tua’r nef, i amlygu ei
hiraeth am fyned yno. “ Mae y nefoedd yn lle santaidd gystal ag yn lle dedwydd.” Edrychai yn gydsyniol. “A ydych chwi yn dymuno ei phurdeb fel ei
dedwyddwch?” Cydsyniodd trwy amnaid. Myfi a’i holais hi, a oedd yn gas ganddi
am bechod. Ei golwg oedd yn datguddio casineb. Am ei gobaith yn Nghrist,
rhoddai ei nagwedd ar ddeall fod ganddi obaith gwan yn gymysg ag ofnau
mawrion, yn nghyda dymuniadau annhraethadwy. Gweddiasom. Codais oddiar fy
ngliniau, a gadewais yr ystafell mewn ofn na buaswn yn ei gweled mwy ar y
ddaear.
Gelwais yn y prydnawn. Yr oedd hi yn well. Amrywiol o’i chyfeillion
oddiamgylch iddi mewn cyfyngdra mawr. Trodd un o honynt ataf can gynted ag y
daethum i’r ystafell, gan ddywedyd. “ Syr, dynes hynod a rhagorol yw hi,” neu
ymadrodd cyffelyb i hyn; “mae ei hymddygiad wedi bod yn ddianaf; nid oes
achos o’r holl wban hyn.” Nid oeddwn yn disgwyl
|
|
|
(delwedd B0062)
|
(x062)
TRAETHODAU, &C.,
gweled ymddygiad o’r natur yma, na chlywed y fath iaith. Yn uniongyrchol
dywedais, “Anwyl Syr, ni wna yr athrawiaeth hon y tro yn awr.” Bisteddais yn
ei hymyl, a dywedais, “A ydych chwi,
Mrs. II------,
wedi bod yn ddynes ragorol, fel y mae eich cyfaill yn tybied?” Dywedodd (gyda’r ymddangosiad o’r
hunan-ffieiddiad mwyaf,)—” Mae y cwbl a ddywedodd .yn gyfeiliornad am
dauaf.” “ Yr wyf yn gobeithio nad
ydych chwi ddim yn meddwl y medraf fi eich cadw chwi. Yr ydych yn danfon am
danaf yn aml; yr wyf yn ofni eich bod yn ymddibynu gormod arnaf fi.” “Arnoch chwi! Chwi i’m cadw!! Na, na!”
“ A ydych chwi yn meddwl cadw eich hun? neu a oes genych chwi ddim,
gobaith o un lle arall?” “ Nid oes
genyf un gobaith ond Crist,” oedd yr ateb.
“ Cedwch eich golwg arno.” “ Yr wyf yn galw arno beunydd. A ydych yn meddwl
y gwna fy ngwrando?” “ Yr wyf yn
hyderus y gwna. Nid yw yn bwrw ymaith neb a ddaw ato mewn un modd.” “ Och! yr wyf y
fath bechadur mawr.” “ Daeth ef i geisio ac i gadw y penaf. Bu farw dros bechaduriaid. Mae yn byw bob amser i eiriol drostynt—y
fynyd hon ger bron y Tad. A phaham nad
yw trosoch chwi? —’ Pel na choller pwy bynag a. gredo ynddo ef, ond caffael o hono fywyd tragywyddol.’ “
Ar ol ychydig o ddywediadau ychwanegol er cysur iddi, dywedais, “Y mae yr
Arglwydd wedi bod yn dirion iawn tuag atoch; ni ddisgwyliais eich gweled yn
fyw.” “ Y mae ef yn dyner iawn o honof, yn wir; efe a arbedodd fy mywyd
ychydig eto, er goleuo, yr wyf yn hyderu, yr enaid tywyll hwn.” Bum yn ei
chyfeillach VT ymweliad hwn am enyd o amser. Cefais ei bod dan argraffiudau
dyfnion am ei chyflwr, ac nid yr amser
Y PAECH. JBNKIN
JENKINS.
|
|
|
(delwedd B0063)
|
(x063)
hwn yn unig, ond gwyddwn ei bod wedi teimlo dwys argraffiadau er’s rhai
blynyddau yn ol. Synais i raddau ei bod mor wybodus yn yr Ysgrythyr, wrth ei
hymostyngiad i reolau y Nef, yn nghyda’i dymuniadau am feddianu gwir
edifeirwch, a theimladau grasol yr Ysbryd Glan; y melysder o’u meddu sydd
guddiedig i bawb ond y rhai sydd wedi eu gwir bron. Darllenais y 12fed benod
o Bsay, gweddiais, yna mi a ymadewais. Dydd Mercher, cet’ais hi yn wael iawn,
ac yn ymddangos ei bod ar fin marw. Gelwais yn yr hwyr, a chefais gryn dipyn
o’i chyfeillach, yr hon oedd felus, addysgiadol, a bendithiol iawn. Amlygai
ddymuniadau cryfach am deimlo bias maddeuant pechod nag erioed o’r blaen. Gan
fy mod yn hysbys o’i gwybodaeth yn yr efeugyl, dywedais, “ Madam, chwi a
wyddoch y gwirionedd gystal a minau. Gwyddoch nad oes un ceidwad ond Iesu;
nad oes yr un gwaed yn glanhau oddiwrth bechod ond yr eiddo ef yn unig; fod
iachawdwriaeth o ras yn gwbl,” &c. Yr oedd yn cydfyned a hyn oll. Yna
gwnaethym rai ymofyniadau yn nghylch yr amser y daeth gyntaf i adnabyddiaeth
o’r gwirionedd. Dywedodd wrthyf ei bod wedi clywed yr efengyl gan.y Parch.
S------1, yn nghapel---------, a b’od ei meddwl wedi ei, ddwys effeithio—«i
bod wedi cyflwyno ei hun i Dduw—ei bod wedi cyfranogi o swper yr Arglwydd,
a’i bod wedi teimlo heddwch ac hyfrydwch yn ffyrdd crefydd. Dywedodd ei bod
wedi teimlo pleser mawr mewn crefydd cyn iddi gael, y tro diweddaf, ei
chyfyngu mewn ffordd deuluaidd; ei bod wedi taer weddio ar Dduw am ymwared yn
awr ei thristwch; ond ei bod wedi talu i Dduw, ar ol ei holl ddaioni tuag
ati, yr anniolchgarwch mwyaf. Cafodd ei gogwyddo gau
|
|
|
(delwedd B0064)
|
(x064)
TEAETHODAU, &C.,
ei hanwylaf gyfaill daiarol yr un ffordd ag yntau; gadawodd y weinidogaeth
lle y derbyniodd gysur i’w henaid; ao wedi ei hudo gan dwyll pechod, buan y
symudwyd hi i lynclyn cyfeillgarwch hoewych, ond tra gwageddus, yr hon oedd
yn wastad yn gyrhaeddadwy iddynt, gan nad oedd en hamgylchiadau natnriol byth
yn eu lluddias. Tystiai ei dirfawr
ofid am ei gwrthgiliad oddiwrth achos
Duw, ac ofnai na wnai Duw byth faddeu iddi. Ni roddais un ceftiogrwydd iddi i feddwl
yn ysgafn am bechod, ond amcenais ei osod o’i blaen yn ei liwiau duaf. Beth bynag, nid oedd cymaint o eisiau
gwneyd hyn, oblegid yr oedd yn ffieiddio ei hun yn barod, gan edifarhau mewn
llwch a lludw. “A roddodd y byd a’ch
dencdd oddiwrth Dduw i chwi
foddlonrwydd a chysur?” “ Naddo,
fe’m gwnaeth yn • druenns iawn.” “ Pan ymunasoch chwi a’r fath gyfeillach
niweidiol, a ddarfu i chwi yn union roddi y ddyledswydd o weddio beibio, a’ch
dafodau crefyddol?” “ Na ddo, nid oedd fy nghydwybod yn caniatau i mi
wneuthur hyn, ond ymadawodd ysbryd gweddio a mi fel gwlith borenol.” “ Yn mha oleu yr ydych yn awr yn ystyried
y gyfeillach, y gau-bleserau a’ch niweidiasant i’r fath raddau?” “ Nid ydynt yn awr ddim i mi.” “ Pe byddai
i Dduw eich adferyd i iechyd eto, a wnaech chwi ymuno o’r newydd a’ch gwageddus rwysgfawr gyrndeithion?” “ Pe gwnawn, ni byddai eu cyfeillach i mi
ond gofld ac euogrwydd cydwybod.”
Ymddangosai yn ofidus am na
ddywedasai wrthyf o’r blaen am ei blaenorol deimladau crefyddol. “ Na feddyliwch fy mod am roddi i chwi un
drychfeddwl anghywir am fy nodweddiad, gan gnddio dim rhagoch.” Yr oedd ei nagwedd yn tystio ei
geirwiredd. “ Paham na ddywed-
T PARCH. JENKIH
JEHKINS.
|
|
|
(delwedd B0065)
|
(x065)
Y PARCH. JENKIN JENKINS.
asoch chwi hyn wrthyf yn rhai o fy ymweliadau blaenorol?” “ Ni allaf ddim dyweyd, ond nid oddiar un
dymuniad i dwyllo.” “ Yn eich
ymofyniadau difrifol am iachawdwriaeth, a ddarfu i chwi ddim anghofio pob peth ond eich pechod, eich
Ceidwad, a thragywyddoldeb?” “
Gwir, yr oedd fy holl eiiaid yn
gorphwys am faddeuant a bywyd yn nawdd Duw; a thaflodd y rhai hyn bob peth
arall o’r meddwl. Y mae yn dda iawn
genyf eich clywed yn yrnddiddan a mi
fel hyn, ond O, mor wael yr wyf yn teimlo fy hun.” Eisteddais o’i blaen, a darllenais ranau
o’r 51 Salm, y manau rhwyaf atebol i’w sefyllfa. Yr oedd eifaith ddwys ar ei meddwl o’r
oll a ddarllenais; sylwodd yn neill-duol ar y 9fed y 10fed, yr 11eg, a’r 17eg o adnodau. Wrth ddarllen yr
17eg, gwnaethym rai nodiadau ar y cefnogrwydd sydd ynddi i bob gwir edifeiriol. Meddai hi, “ Y mae arnaf ofn nad y w fy
nghalon ddim yn ddigon drylliog.” “ Gwaith Duw yw
meddalhau y galon.” “ O Arglwydd, dryllia fy nghalon yn fwy
nag erioed.” “ A gawn ni weddio am
faddeuant a heddwch — am
sancteiddrwydd a
bywyd tragywyddol?” Penliniwyd
a gweddiwyd, gan ddechreu mewn cyfaddefiad o’n llygredd moesol, gan briodoli
daioni a chariad i Dduw; gan gyffesu ein troseddau gweithredol, a’n
camddefnydd o’r bendithion goreu, gan dystio ei sefyllfa a’i nodweddiad fel
gwrthgilwraig; gan ddymuno ar Dduw
faddeu, adferyd, cymwyso, a’i derbyn ato ei hun. Wedi i ni gyfodi, gwasgodd fy lla^ gyda
gwresawgrwydd, a dywedodd, “ Dyma y peth
yr oeddwn yn ymofyn am dano.
Ond y mae arnaf ofn nad ydyw fy nghalon yn ddigon drylliog, a’m
hysbryd mor doddedig
|
|
|
(delwedd B0066)
|
(x066)
66 TRAETHODAU, &c.,
ag y dylai fod." Dywedais, " Duw yw y barnydd goreu am hyny."
Bu farw ei hunig blentyn pan ond deg oed, gan roddi y boddlonrwydd mwyaf yn ei thystiolaeth ei
bod yn feddianol ar galon newydd, ac
ysbryd parod i'r anfarwol ororau
gwynfydedig tu draw crafangau y bedd. Wrth siarad am y ferch hon, dywedai, "Y
plentyn anwyl hwn sydd yn awr yn y
nefoedd, a ddwfnhaodd ystyriaethau difrifol ei thad. Mae ei lythyrau yn
wahanol iawn yn awr i'r hyn oeddynt
arferol a bod. Mae ef yn dyweyd fod ei
holl obaith ef yn Nghrist." “A ydyw hyn ddim yn gysur mawr i chwi?” “Ydyw, yn
gysur cryf.” “A dderbyniasoch chwi
ddim llythyrau o'r natur hyn cyn i
chwi ddyfod i H-----?” "Do." “A ddarfu i hyn fel moddion eich dwyn i
weddio, ac i dalu diolchgarwch i Dduw
?" Dim atebiad. Yr oedd y gyfrinach
yn awr wedi bod ar yr hwyaf i'w phabell wael a chrynedig, a'i hysbryd yn dechreu
terfysgu. Cyfodais i ymadael. Mewn agwedd dremedig edrychai arnaf, trwy'r hon y tywynai nodweddiad o
hunan-ffieiddiad, wedi selio ei diragrithrwydd â dagrau edifeirwch am ei
phechodau. Mewn eiliad trodd ei golwg at yr eisteddfan Ile yr eisteddaswn. Dywedodd,
" Dyma'r fan y buoch am hir amser
gyda'r fath adynes." Dadguddiai ddymuniadau taerion am ddylanwadau yr Ysbryd
Glan, ac am raddau helaethach o gariad Crist, gan ddyweyd, ei bod yn ofni yn fawr nad oedd
yn ei garu fel y dylasai.
Y dydd canlynol, am bump yn y boreu, yr oedd yn wanaidd a gwael iawn. Rhai o'i geiriau
cyntaf oeddynt, “Yr ydych chwi yn wir gyfaill. Dywedasoch wrthyf yr holl wirionedd. Profwch fi eto; ni
(ddymunwn
|
|
|
(delwedd B0067)
|
(x067)
Y PARCH. JENKIN JENKINS.
67
dwyllo fy hun." Dywedais wrthi hi, Tyb-
iwn eich bod yn cael eich adferyd i'ch iechyd, yr hyn
sydd hollol annhebyg, a ydych chwi yn meddwl y par-
haech i anghofio Duw a'i achos eto ?"
Mae arnat
ofn y gwnawn ; ond fy nymuniad yw glynu wrth yr
Arglwydd, a thrigo dan gysgod ei adenydd." Yr oedd
ychydig draethodau yn fy llaw, a chyfrenais hwynt i'r
ymwelwyr oedd yn yr ystafell. Dywedodd hithau
wrthyf, " Rhoddwch un i mi." Rhoddodd orchymyn
yn ei hewyllys i roddi dau gant o ddoleri i Gymdeithas
y Traethodau. Yr oedd ei meddwl erbyn hYD yn dra
chysurus, a'i hofnau wedi cilio. Gadewais hi mewn
gobaith fod fy ymweliad heb fod yn ofer.
01 y gwasanaeth, yr hwyr Sabboth, yr oedd yn
llawer gwell, ac fe'm calonogwyd yn fawr trwy ei
thymer deimladwy a diolchgar. Ei phrif ddymuniad
oedd i'w hewylJys gael ei lyncu i fyny i ewyllys Duw.
Yr oedd ei hofnau agos wedi eu llwyr symud, ac ymos-
tyngiad a thawelwch ysbryd wedi cymeryd eu Ile. Gof-
ynodd i mi weddio am ychydig fynydau, gan ddyweyd
ei bod yn ofni fy mod yr; lluddedig ar 01 llafur y dydd.
Dydd Llun yr oedd yn sål iawn. Aethym i'w han-
edd am unarddeg yn yr hwyr, ac a arosais yno hyd
bedwar yn y boreu. Yr oedd yn dyoddef mewn gwasgfa
galed. Ei gwasgfeuon oeddynt dorcalonus; ond yr
oedd yn ymddiried yn Nghrist, ac am ddyfnach edifeir-
wch, a chynydd teimlad o hunan-ffeiddiad. Yr oedd
gair I)uw yn awr yn werthfawr yn ei golwg, a derbyn-
iai lawer o ddyddanwch a chysur oddiwrth rai rhanau
o hono.
Y dydd canlypol ymddangosai yn wael iawn. Yr
oedd ei hysgyfaint yn rhoddi ymaith, ac angau mewn
|
|
|
(delwedd B0068)
|
(x068)
TKAETHODAU, &C.,
sicrwydd yn dynesu, ond nid yn y fath agwedd ddychrynllyd ag y gwelwyd ef rai
amserau. Yr oedd arm lawer o ofnau, nad oedd ei hedifeirwch yn ddigon dwys,
nad oedd ei hunan-ffieiddiad am ei hanniolchgarwch i Ddnw y fath ag y dylasai
iddo fod. Beth bynag, wrt.h ymofyn a hi, cefais ei bod yn ymwadu & hi ei
hun—yn ymddiried yn Nghrist; ei hatebion a’i hysbryd oeddynt ddymunol a
boddlongar.
Y dydd canlynol (Mercher), yr oedd ei chorff mewn gloesion mawrion, ond ei
meddwl mewn dull ysbrydol a nefolaidd.
Yr oedd yn disgwyl am
ymddatodiad buan, ac yr oedd—nid yn unig yn ymddangos ei bod yn barod—ond yn
hiraethlawn am ei mawr gyfnewidiad.
Dywedodd, “ Yr wyf yn dyoddef llawer; ond beth yw y dyoddefiadau hyn
i’w cyferbynu i’r eiddo fy Arglwydd Iesu!
Yr wyf wedi bod yn meddwl am Gal-i’ariaj yr wyf yn cofio ei groes. O, pa fodd yr anghofiaf hi! ‘Mae arnaf chwant i’m datod, a bod gyda Christ; efe a dderbyn fy
ysbryd.” Dywedais, “ Nl wrthyd efe
neb a ddaw ato; mae yn achub hyd yr eithaf. ‘ Trowch eich gwynebau ataf fi
holl gyrau y ddaiar, fel y’ch
achuber.’” Dymuriodd arnaf adrodd y
23 Salm. Pan y daethym at y bedwaredd adnod, dywedodd,” Dyna yr ad-nod yr
oeddwn i yn meddwl am darii.”
Pan yr oedd dan un o’r pangfeydd echryslonaf, yr hon a dybiai a fuasai yr
olaf iddi hi, ao a achosodd yr ing mwyaf dychrynllyd iddi, dywedodd, pan y
caniataodd ei phoenau fynyd iddi lefaru, “Byddaf yn fuan mewn gogoniant.”
Ymuniawnodd, a dyoddefodd un-rhyw bangfeydd adnewyddol. Dywedius, “ Nid ydych
ddim yn myned i’n gadael ni eto.” Dywedodd, “ O, am amynedd i ddyoddef yr oll
a welo Duw yn dda!
Y PAKCH. JENKlN
JENKINS.
|
|
|
(delwedd B0069)
|
(x069)
Fydd hyn ddim yn hir. O na byddai yr ymgyrch hwn heibio! Ond mor bechadurus wyf nad ymostyngaf. Arglwydd, par i mi ymostwng.”
Yr oedd ei llais yn ddrylliog iawn pan yn dyweyd, “ Nid oes bwrw arfau yn y
rhyfel hwn. Gwr garw ydyw angau, er fod ei golyn wedi ei dynu. Dy ewyllys di,
O Arglwydd, a wneler.”
*’
Yr hwyr, rhwng chwech a saith, cefais hi lawer yn well. Dy\ved.odd, “ Yr wyf
wedi bod yn gweddio am ddylan waclau yr Ysbryd Glan, ond yn ofni na chefais
ddim o honynt.” Meddyliais ei bod yn meddwl am gael rhyw deimladau megys yn
wyrthiol ar ei meddwl. Dywedais wrthi, nad oedd ei hargyhoeddiad o bechod, ei
hu’ian-ffieiddiad, a’i hymorphwysiad ar gyfiawnder Crist, wedi dyfod oddiar
un argraffiadau naturiol, oud yn hytrach wedi deilliaw trwy ddylanwadau yr
Ysbryd hwnw yr oedd hi mor hiraethlawn am ei feddu; fod Duw yn fynych yn
rhoddi heddwch cydwybod cyn rhoddi llawenydd yn y galon; a’n bod yn feddianol
o’r cyntaf yn arwydd goleu am ddyfodiad yr ail. Nis gwelais hi o’r pryd hwn
hyd y Sabboth, yr 8fed o Hyd-ref. Y dydd hwn yr oedd wedi gwaethygu yn fawr.
• Yr oedd ei nerth yn cyflym ddibenu, ei llygaid yn torwynu, a’i lleferydd yn
gwanychu. Hi a’m hadnabu, ac yn serchog gwasgodd fy llaw, gan ddyweyd ei bod
yn caru Iesu; a chan fod Duw wedi ei gadael hi cyhyd, os oedd yn ol ei
ewyllys, na buasai hi ddim yn anfodd-lon i aros ychydig yn hwy, i fod yn fwy
cadarn yn ei rtydd.
Dydd Llun caulynol, gwelais hi; yroedd yn gysglyd, ei meddwl yn ansefydlog,
ac yn tynu yn gyflym at ei diwedd. Bu farw y prydnawn
canlynol. I!,
I
|
|
|
(delwedd B0070)
|
(x070)) , TRAEtHODAtr, 40.,
Gwnawn rai addysgiadau oddiwrth y ffeithiau hyn. Mor fawr y llanwyd yr
wrthgilwraig hon a’i ffyrdd ei hun! Mor
fawr yw amynedd a thrugaredd y Duw y darfu iddi hi ei dramgwyddol Megys yr edrychodd ar Pedr gyda golwg
dreiddiol, argyhoeddiadol a theimladol, i’w ddwyn yn ol o’i wibdaith
wrthgiliedig, ac megys yr wylodd Pedr yn chwerw-dost; felly hei’yd yr edrychodd
ar y gwrthddryc hhoff hwn o’i benarglwyddiaeth, gan dywallt y gras o_wir
edifeirwch i’w chalon, a hunan-ffieiddiad am ei hanniolchgarwch tuag ato, fel y byddai iddi gael ei
pharotoi i’r gwynfydedigrwydd pur yn yr annhraethol drigfaiiau dedwyddol sydd
yn nghadw i bawb a’i carant ef.
Cymered y dyn sydd yn beunyddiol esgeuluso ei argraffiadau crefyddol rybudd
oddiwrth yr hanes hwn. Cofled fod terfyn ar hirymaros Duw; ac os ar ol aml
geryddon y caledir y war, fod dryllio disymwth yn dyfod fel na byddo meddyginiaeth. Na wangaloned yr hwn sydd wedi blino
cloddio pydewan toredig, ond cofled nad oes achos iddo drengu. Dyma lef yr hwn sydd yn rhoddi y dwfr
bywiol, “ Od oes ar neb syched, dened ataf fi, ac yfed.” Yr hwn sydd yn gwroli ei hunan .yn ei galedwch aiiedifeiriol, a’i galon
fel yr adamant, yn dyweyd wrth Dduw,” Cilia oddiwrthyf; nid ydwyf yn
ewyllysio gwybod dy ffyrdd,” y mae ganddo reswm dros ofni ei gyflwr. Ond y troseddwr edifeiriol, y gwrthgiliwr
dychweledig, y mae ganddo sylfeini cedyrn i obeithio am
iachawdwriaeth,—nodweddiad Duw, gras eiu hanwyl Geidwad, a’r seigiau lluosog
sydd yn huliedig ar ei gyfer ar fwrdd yr efengyl.
YSBEYD MADDEU.
|
|
|
(delwedd B0071)
|
(x071)
\ Cymerwyd y gyfran a ganlyn genyf
allan o bregeth
draddodwyd yn Athrofa Dduwinyddol Andover, ar larwolaeth Lyman a Munson, y
cenhadon a laddwyd yn Ynys Sumatra. Gosodir yma ysbryd crefydd ein Harglwydd
yn amlwg iawn.
Mi a gaf gyffwrdd ag un nodiad yn rhagor; hyny yw, fewir ysbryd crefydd Iesu.
Mor eang ydyw, ac mor wahanol oddiwrth ysbryd. y byd. Bin hanwyl frodyr a
ladd-rtyd gan lwyth o wancwyr (cannibals), yn ddiddyn’ oliaeth. o fewn Ynys
Sumatra, pa rai, oddiar yr hael-frydedd mwyaf a’r dybenion penaf, a aethent
yno. Pa beth ynawr a gawn ni ei wneyd er dial gwaed diniwaid y cenhadon hyn?
A gawn ni ddanfon deiseb at ein Lly-wodraeth, i ddanfon llu o filwyr yno, a
dyfetha y fath anghenfilod ffyrnig a chiaidd,.gan ddangos iddynt na oddef
America y fath gyflafan i’w deiliaid heb gosbi y troseddwyr? Neu, a gawn ni
weddio am i Dduw wlawio tan o’r nefoedd arnynt i’w dyfetha, trwy en llosgi?
Nid felly, frodyr. Duw’r cariad yw y Duw yr ydym ni yn ei addoli. Ac anfeidrol drugarog yw ein hanwyl Geidwad. Mae yn gorchymyn i’w holl
ddysgyblion ddilyn ei esianipl, drwy feithrin tymer garuaidd, faddeuol, a
thosturiol, ‘ie, tuag at yr adyn gwaethaf. Wedi ei adgyfodiad oddiwrth y
meirw, efe a orchymoddl i’w apostolion fyned a phregethu y newyddion da o
lawenydd mawr i’r holl bobl. Gyfarwyddodd hwy i ddechreu yn Jerusalem, lle y
lladdwyd
|
|
|
(delwedd B0072)
|
(x072)
TRAETHODAU, *G., “
cymaint o brophwydi a chenadon Duw; le, gorchymynodd iddynt ddeehreu cyhoeddi
edifeirwch a maddeuant pechodau yn ei env/ ef, yn mhlith yr holl werin ag
oedd wedi ei gasau heb achos, ac a dywalltasent ei waed! Wele wir ysbryd ein
crefydd! Ysbryd boneddigaidd, mwynaidd, a maddeuol yw. Qwir ysbryd cariad yw. Cariad at elynion, erlidwyr, a llofruddion. Yn berchenog ar yr ysbryd
hwn y byddom. Na ddi-/ alwn ar y rhai a ddarniasant ein hanwyl frodyr, oixA
llafuriwn a gweddiwn am eu budd bythol. /
Bydded i’r Genhadaeth gymeryd gofal dwys i ddan/on bendithion gwerthfawr yr
efengyl i Sumatra, i Beta/ lle yn nhiriogaeth yr Ynys hono, y man y lladdwyd
Lyman a Munson. Dewiser y csjihadon i’r dyben, gan eu difrifol ddysgu i
bregethu yr efengyl yn iaith trigolion Sumatra, gan ddeehreu yn Beta. Mewn
llawn h^der yn eu Duw eled y cenhadon hyny yn mlaen, gan gynyg trugaredd i’r
fath adynod tylodion a thruenus./ Ghwil-- iant allan y dynion hyny a
laddasant ein brodyr, gofalant fod yn sicr o fynu hyd iddynt, a dechreu gyda
hwy. Gan mai hwynt-hwy ydynt y rhai cyntaf mewn oreulondeb ac euogrwydd,
ymdrechant am eu lles hwy yn gyntaf. Gyda chalonau tosturiol tuag atynt, a
hiraeth am eu hiachawdwriaeth, cyhoeddant iddynt yr efengyl ogoneddus. Wele,
yr ydym ni yn cyhoeddi i chwi newyddion da. Agorwch eich clustiau i genadwri
dwyfol gariad. Bu yr Iesu farw dros bechaduriaid, do, dros y penaf o
bechaduriaid; ac y mae yn alluog i achub hyd yr eithaf. Yr ydym yn cynyg i
chwi, yr euogion o waed, faddeuant o’ch holl bechodau yn ei enw ef. Nid yw y Cristionogion a’n danfonodd ni atoch am ymddial arnoch. Nid
ydynt yn ceiso dim
T PARCH. JENKIN JENKTNS.
|
|
|
(delwedd B0073)
|
(x073)
genych, ond i chwi droi at Iesu, a bod yn ddedwydd byth yn ei deyrnas. Felly
y dywedant wrth y paganiaid truenus a thywyll, am anchwiliadwy olud Crist. Ac
os cyffwrdd gras Duw a’u calonau, trwy eu dwyn i edifarhau, ac os gwelir hwy
yn y diwedd wrth draed Iesu yn galaru am e,u beiau, yn yr olwg ar ei fawr
gariad, gan gyflwyno eu heneidiau yn gwbl iddo, ac yna myned oddiajngylch, a
dywedyd wrth eu heuog gyfeillion, eu bod wedi cael y Ceidwad, ac i ddatgan
golud ei ras i bawb o amgylch iddynt, O, y fath olygfa fydd hon! Mewn
llesmair nefolaidd y gwna yr angylion syllu arni, a’r newydd a leinw galonau
deng mil o gredinwyr gyda llawenydd santaidd. Ac os clyw y ddau genhadwr, y
rhai sydd yn awr yn y nefoedd (wrth bob arwyddion a wyddorn ,ui am danynt), y
newydd bendigedig, am edifeirwch eu dienyddwyr, cymysgant eu llawenydd gyda’r
angylion ag sydd yno, ac mewn pur ysbryd Cristionogol byddent ewyllysgar yn
eu teimladau i fyned eto i wlad y ddaiar, a dyoddef cant o farwolaethau, am y
llawenydd o weled y fath werthfawr ffrwyth o eiddo Ysbryd Duw, a’r fath
ogoneddus fuddugoliaethau o’’ ras yn iechydwriaeth pechaduriaid. AHOHESGOBAETH YN MHLITII YE ANNI-BYNWYE YN NGHYMKU.
|
|
|
(delwedd B0074)
|
(x074)
Mae yn sicr fod crefydd Crist yn teilyngu ei pharchn gan bawb, ac nid yw fod
rhai yn ei hanmharchu yn un prawf nad ydyw yn teilyngu yr anrhydedd mwyaf
diledryw. Ystyriaeth syml o natur
crefydd Crist a’m tueddodd i gyfenwi
fy hun dan y nodweddiad Cristioni ogol.
Mor belled ag y byddwf fi ac eraill yn tebygoli i Grist, y gellir ein
galw yn Gristionogion. Gwahanol ydyw y tybiadau a goledda
dynolryw am natur llywodraeth crefydd y Messiah. Cyfaddefa pawb sydd yn cyfenwi eu Imnain
ar unrhyw enwad Cristionogol, mai y llywodraeth a’r ysbryd ag oedd gan Grist,
a’r apostolion ydyw yr hyn a ddylai fod mewn ymarferiad gan bawb o’i
ganlynwyr; pe amgen, pa reswm a fyddai ein galw yn ganlynwyr iddynt? Eto, gwahanol ydynt y tybiau sydd yn cael
eu coleddu gan y rhai sydd yn arddel enw ein Blaenor mawr am natur
llywodraeth eg
Iwysig.
Gellir dosbarthu golygiadau dynion am natur llyw-.odraeth eglwys Crist yn
ddau ddosbarth, a galw un yn archesgobaethol, a’r llall yn annibynol. Mae’r
Pabyddion, yr Eglwys Wladol, y Trefnyddion Calfinaidd, ac Arminiaid o’r
golygiad cyntaf; y Bedyddwyr, yr Annibynwyr, a’r Undodiaid o’r ail. Gwel y
darllenydd fod y gwahauol i’arnau hyn wedi, ac yn bod yn mhlith hil Gomer.
Mae dadleu poeth yn eu plith yn nghylch y barnau uchod; a diau pe byddai y
ddadleu-aeth yn cael ei dwyn yn mlaen yn fwy boneddigaidd a
T PARCH. .TENKIN
JENKINS.
|
|
|
(delwedd B0075)
|
(x075)
hynaws, y deuai pob meddwl diduedd i’r iawn yn fuan. Gan mai drosof fy hun y
bydd raid i mi roddi cyfrif i’m Barnydd yn nydd y farn, mynaf yr iawnder o
farnu drosof fy hun yn nydd gras. Gan nad oes uu dyn yn arglwyddiaethu ar yr
ysbryd, paham y mae neb yn cymeryd y fath swydd mewn llaw, trwy rwymo dynion
i gredu yr un peth ag yntau, a’u gorfodi i dalu yn groes i’w hewyllys i gynal
ei opiuiynau ef? Mewn rhyw ystyriaeth, gan fod gorsaf archesgobaethol mor
brydferth yn ngolwg calon hunanol, nid rhyfedd fod perehenog y gyfryw galon
mor awyddus i eistedd arni. Y mae’r etfeithiau a ddeilliasant mewn ystyr
grefyddol oddiar orsaf archesgobaethol wedi boddi mwy yn ei dyfroedd
gwenwynllyd nag a foddodd y môr erioed.
Ystyriaeth o drawsarglwyddiaeth y ffurf archesgobaethol a’m tueddodd er yn
foreu i ymwrthod &’r ffurf hono; ond er fy mod wedi ymwrthod a’r ffurf a
nodais, ac wedi rhoddi fy nghoelbren yn mhlith yr Anni-bynwyr, lle yr ydwyf
eto, nid wyf heb weled Rawer o drawsarglwyddiaeth, nid mewn Annibyniaeth, oud
yn y rhai a broffesant eu hunain yn Aunibynwyr. Yr wyf yn credu fod yr hwn
sydd yn archesgobaethu, os bydd ei olygiadau yn archesgobol, yn fwy cyson ag
ef ei hun na’r hwn sydd yn proffesu Auuibyniaeth, ac yn ymddwyn yn
archesgobawl. Mae ymddygiad archesgob-awl yn atgas yn mhawb, ond yn neillduol
yn y rhai hyny sydd yn dadleu yn ei erbyn. Gwybyddwn nad g.viw i ni feddwl y
llwyddwn a’n tafodau a’n hysgrifau mewn unrhyw beth os bydd ein hymddygiadau
yn an-Unol a’r cyfryw. Adwaenwn lawer o weinidogion parchedig, y rhai a
fuasent yn fwy parchedig o lawer oni buasai yr ymddygiad atgas, hunanol, a
bawaidd
|
|
|
(delwedd B0076)
|
(x076)
TRAETHODAU, AC.,
hwn. Yn ol yr hyn y mae’r Annibynwyr
yn ei amlygu i eraill am natur Eglwys Annibynol, y maent yn barnu fod gan bob
cynnlleidfa o bobl hawl i weithredu drostl ei hun, a’i bod yn gyflawn eglwys, heb fod yn ddarostyngedig i
roddi cyfrif i neb am ei hymddygiadau rhewn pethau moesol ond i Dduw yn
unig. Clywais bregethau rhagorol,
yn ol fy mam i, ar Natur Eglwys
Annibynol, wrth urddo gweinidogion i’r cyfryw; ac wrth arbwyllegu, cyfeirient
at y saith eglwys oedd yn Asia—Dat. i.
3, 3. Ymresyment yn gadarn mai saith
eglwys oeddynt, a bod gweinidog i bob uu o honynt, ac nid un gweinidog oedd
i’r saith, a rhyw rai eraill yn ei gynorthwyo fel y byddai ei arglwyddiaeth
yn gweled yn oreu; pe amgen, difudd fuasai i Fab y dyn roddi gorchymyn i Ioan
ysgrifenu at y saith angel. Buasai un llythyr yn gwneyd y tro i’r saith
eglwys, pe un angel fuasai yn eu llywodraethu oll.
Pe cyferbyniem ni eglwysi Cymru, hyd yn nod gan
yr Annibynwyr, d’r eglwysi uchod, gwelem fod annheb-
ygolrwydd mawr rhyngddynt
a’r hyn oedd eglwysi
Asia gynt. Profaf yr haeriad hwn fel
y canlyn:—Yr
oedd gweinidog yn perthyn i bob un o’r eglwysi uchod,
ond nid felly yn Nghymru. Gwelir amryw eglwysi
dan ofal yr un dyn. Yn awr, pa
gysondeb sydd rhwng
canmol y cynllun apostolaidd, ac eto yn ymlwybro yn
wrthwynebol iddo? O’m rhan fy hun, nid wyf yn
canfod dim ond gweniaith noethlymun yn y fath weith
red. Efallai fod rhyw rwystr ar
ffordd cael gweinidog
i bob eglwys. Pa beth ydyw? A oes dim bechgyn
glewion yn yr ysgolion, a manau eraill, a lanwent yr
eglwysi gweigion hyn? Oes, yn ddiameu. G-adewch
reswm ar fainc. A ydyw un dyn yn well
na thri neu
T PARCH. JENKIN
JENKIKS.
|
|
|
(delwedd B0077)
|
(x077)
bed war? Gwycldoch fod amrai o eglwysi yn awr a dim ond-un gweinidog
rhyngddynt. Gallwn i feddwl, yn syml. y byddai gweinidog yn mhob un o’r rhai
hyn yn fwy llesol, annibynol, ac ysgrythyrol; a bod amryw eglwysi yn cael eu
llywodraethu gan un dyn wedi tarddu oddiar yr un gwreiddyn melldigedig ag y
mae pob.drwg arall yn tarddu, hyny yw, ariangarwch. Mae amryw eglwysi yn
barnu fod yn hawddach iddynt gynal bugail rhyngddynt na chynal bugail bob un.
Trachwantwr yntau a ddywed yn ei feddwl, Mi a gaf fwy o lawer gan dair neu
bedair o eglwysi nag a allaf feddwl gael gan un. Nid anfuddiol y weithred pe
byddai y fath weinidogion ac eglwysi yn gofyn fel hyn: A allem ni ddim cael
mwy o fndd i’n heneidiau, ac oni fyddai yn fwy tebygol gweled llwyddiant yn
ein plith, pe gwnaem gadw a chynal bugail yn ein plith ein hunain? A fyddai
ddim yn fwy tebygol i mi fod a’m cydwybod yn dawel yn nydd y farn, ac yn
rhwyddach i mi roddi cyfrif i’m Barnwr yno am fy ymddygiad tuag at un eglwys,
na’r fath ddull auysgrythyvol?
Diau fod yr eglwysi hyny sydd yn cynal un gweinidog rhyngddynt yn llawer mwy
diog ac anffyddlon i gyfranu at gynal y weinidogaeth, yn ol eu galluoedd a’u
hamgylchiadau, na’r rhai sydd yn cynal eu gweinidogion eu hunain; ac yn
gyffredin, y mae’r eglwys hono sydd yn cynal ei phregethwr ei hun yn gwneyd
cymaint, os nad mwy, yn aml iddo, nag y mae yr holl eglwysi diog sydd yn
cydgyfranu yn ei wneyd i’w hesgob hwy.
Mae yn wir fod amryw gynulleidfaoedd yn weiniaid iawn i gynal pregethwr yn eu
plith; ond y mae mor wir a hyny fod llawer o eglwysi eraill a allent
gynorthwyo ychydig arnynt dros ben cynal yr eiddynt eu hun ‘Ill
|
|
|
(delwedd B0078)
|
(x078)
TBAETHODATT, &C.,
ain, ond nid felly y mae. Mae yr eglwysi yn yr TJnol Dalaethau yn cynal dros
fil o weinidogion mewn lleoedd sydd yn rhy weiniaid i gynal y weinidogaeth.
Heblaw yr hyn a fu dan sylw yn barod, y mae’r hyn a ganlyn yn teilyngu ein
hystyriaethau:—Yn inhlith yr eglwysi sydd dan ofal yr ai-chesgobion annibynol
a nodwyd y cafodd yr Henuriad y baich, am yr hwn yr achwynodd ar ddalenau y
Dysgedydd, ei fod yn cael ei wasgu ganddo mor druenus. Gwyr yr archesgobion
ymneillduedig yn eithaf, nas gallant bregethu arddydd yr Arglwydd ond mewn un
o’r capeli lle y maent yn arfer myned, ar yr un pryd; a chan fod y
cynulleidfaoedd yma yn cynal oedfaon yr un amser, y mae yn rhaid cael
pregethwr iddynt, neu gynal yr oedfaon yn gyfarfodydd gweddi; gan hyny,
cyfodir rhifedi o bregethwyr yn ol maintioli esgobaeth yr archesgob.
Nid ydyw y rhai hyn yn aml yn cael manteision dysg; ac mewn gwirionedd, y mae
llawer o’r cyfryw, fel y dywedir, wedi eu geni yn eu maintioli. Clywaia un
hen lefarwr enwog, yr hwn oedd a chwech o eglwysi dan ei ofal, yn dyweyd fod
ganddo wyth o’r tylwyth hyn yn pregethu gydag ef; ac meddai efe, “ Pe byddai
ond un yn ychwaneg, byddai hwnw yn deilwng i’i
offeiriad.”
Nid gweddus, yn ddiau, yw y t’ath drefn anniben i gario gwaith y cysegr yn
mlaen. Nid oedd un bwriad genyf wrth ysgrifenu y llinellau blaenorol, ond yn
unig iddynt fod o Ies. O’r pryd y dechreuais ar waith pwysig y weinidogaeth,
yr ydwyf wedi gweled mai byd llygredig iawn yw y byd hwn, a bod eglwys
weledig Crist ar y ddaiar yn dra annhebyg i’r hyn y dylai fod. Gwyliwn lawer
rhag digalondid gyda gwaith Duw pan yn ieu-anc, a gochelwn fod yn
archesgobawl un amser.
SYLW AD AU AE Y LLYTHYE BLAENOBOL.
|
|
|
(delwedd B0079)
|
(x079)
GAN “ CAKWR CKIST A’l WBISION.”
Gyda gwylder a pharch, dymunwn gynyg dangos anghysondeb a drwgduedd y llythyr
blaenorol, er ei fod o wlad bell.
Ymddengys i mi fod Mr. Jenkins yn dywedyd yn ddrwg am benaethiaid ei bobl; y
rhai uchelaf dan y nef ydynt; cenhadon y nefoedd at drigolion y ddaiar; ond y
mae efe yn dywedyd fod eu “ hymddygiadau yn atgas, ynfyd, a bawaidd.” Yr wyf
yn gwybod am yr hen arferiad o erlid a gwawdio gweision Crist, ond nid wyf yn
gwybod pwy sydd yn euog o’r hyn y mae efe yn ei roddi yn eu herbyn. Os ydoedd
efe yn gwybod am rywun, neu fwy, yn ateb i’r darluniad a hona, dylasai anfon
at y cyfryw, yn lle taro mor gyhoeddus o blaid gelynion ein crefydd santaidd.
Yr wyf yn dra gwybodus am weinidogion yr Anni-bynwyr mewn saith neu wyth o
swyddau Cymru. Wedi fy ngejii nid oedd ond chwech neu saith o weinidogion yn
holl Ogledd Cymry, ond yn awr y mae tua deg-a-thriugain; ac yr ydwyf yn
credu, ac yn beiddio dywedyd, nad oes yn yr holl fyd ddosborth o bobl mwy
di-hunangais a hunan-ymwadol, yn cyfarfod a chyrnaint o flinderau a
chyfyngderau yn eu hamgylchiadau bydol. Addefa pob Cristion, mai eu swydd hwy
. ydyw y swydd uchelaf a pharchedicaf dan y nef; ac y mae yn wirionedd eglur
ac anwadadwy fod eu cyflog yn llai na chyflog un dosbarth arall yn y wlad. Yn
awr, pa
|
|
|
(delwedd B0080)
|
(x080))
TRAETHODAU, &C.,
fodd y llenwir ac y cyflawnir swydd mor barchus gyda mor ychydig yn dyfod i
mewn? Tawed yr anwybodus, a barned y
Duw mawr sydd yn cynal ei weision megys yn wyrthiol, pan y mae math o Gristionogion
yn eu dibrisio ac yn en hesgeuluso.
Pwy yn mysg gweinidogion yr Annibynwyr sydd yn archesgobacthu? Maent oll yn esgobion, ond nid oes
archesgob yn eu plith; brodyr ydynt, bron yn gyfartal; un yn rhagori yn y
peth hyn, a;r llall yn y peth arall.
Mae Mr. Jenkins yn dywedyd fod gwahaniaeth rhwng eglwysi Gymrn ag
eglwysi Asia—bod gweinidog i bob un yno, &c.
Dylasai ddywedyd wrthym pa lath oedd y rhai hyny —pa beth yw eglwys? A ydyw
ychydig bobl heb weinidog, na modd i’w gael, yn eglwys? Oni ddylai y cyfryw fod dan ofal
gweinidog cymydogaethol nes y gallont gynal gweinidog, neu gael un galluog a
chy-mwys i’w gwasanaethn ar ei draul ei hun, yr hyn sydd anfynych iawn? A ydyw ychydg aelodau mewn ardal fechan,
ar ol cael ysgoldy Sabbothol, yn eglwys?
Yn ddiweddar nid oedd yn y gymydogaeth hon ond yn eglwys ac un
gweinidog, ond yn awr y maent yn naw o ganghenai\ bychain; tri gweinidog, a thri chapel bychan neu ysgoldy
gan bob un. .
Mae genym hefyd ddiaconiaid yn rhoddi pregeth yn awr ac yn y man. A ydyw hyn
ddim yn ysgrythyrol, buddiol, ac adeiladol? Y mae weithiau rai o’r pregethwyr
cynorthwyol yn cynyddu cymaint (y rhai sefydlog) fel ag y denant yn dra
chymwys i gymeryd gofal eglwys, os byddant wedi cael dysgeidiaeth foreuol.
Mae Mr. J. Jenkins yn dywedyd fod bechgyn glewion yn yr ysgolion, a manau
eraill, i lanw yr eglwysi gweigion hyn. Y mae genyf well mantais nag ef i
Y PAKCH. JENKIST
JENTKISTS.
|
|
|
(delwedd B0081)
|
(x081)
wybod am hyn. Y gwir ydyw, nad oes dynion ieuainc i’w cael, sef rhai cymwys i
gymeryd y swydd santaidd. Heb son am yr holl gangenau, nid oes modd bron a
chael rhai i lanw lle yr hen weinidogion a fuont feirw. Mae y dynion ieuainc
mwyaf addawol a doniol yn myned at y Saeson; ac nid rhyfedd, oblegid y mae yn
Lloegr fwy mewn ystyr o angen gweithwyr, a mwy at gynal gweithwyr.’
Y mae hefyd yn rhoddi ar ddeall i’r byd mai ariangarwch y gweinidogion yw y
gwreiddyn drwg. Druain tlodiou, rhaid iddynt garu a chynilo yr ychydig a
g&nt, neu hwy gollant eu swydd, ac a bechant yn erbyn Duw! Gymaint a
addefir ac a ddywedir gan bawb am y Curadiaid gweithgar am £70 y flwyddyn,
ond yr wyf yn ‘gwybod nad ydyw gweinidogion yr Anuibynwyr yn cael, gyda’u
gilydd, prin haner cymaint a’r curadiaid y dywedir eu bod ar farw o newyn.
> A chyda’u holl aberthu a’u hunan-ymwadu, er rhwyn yr efengyl santaidd, a
raid iddynt eto oddef eu eylmddo gan un o Gaerefrog Newydd! AEOHESGOBAETH YN NGHYMEU YN MHLITH YE ANNIBYNWYE.
|
|
|
(delwedd B0082)
|
(x82
Y sylwadau canlynol a wnaed ar ysgrif “ Carwr Crist a’i Weision.”
Mae Mr. O., gyda gwylder a pharch, wedi dymuno dangos anghysondeb a drwgduedd
fy llythyr, ie, yr oedd ei gariad a’i sel wedi enyn i’r fath raddau yn erbyn
y sylwadau sydd ynddo, nes y cyaliyrfwyd ei ysbryd i ddangos ei feirniadaeth
arno er ei fod wedi dyfod o wlad bell.
Ymddengys yn rhesymol i mi fod dynolryw yn c’ael eu nodweddu yn ol y gwaith
yr ymarferant ag ef, nen y gorchwylion a ddilynant. Mae torwr glo yn cael ei
alw yn lowr, hwyliwr llongau yn forwr, dygwr yn mlaen amaethyddiaeth yn
amaethwr, siaradwr y dafodiaith Saesonaeg yn Sais, cyflawnydd pechod yn
bechadur, yr hwn sydd yn gwneuthur cyfiawnder yn gyfiawn; ar yr un seiliau
ymddengys priodoldeb galw yr hwn sydd yn archesgobaethu yn archesgob, a’r
lleoedd y maent yn archesgobaethu yn archesgobaethau.
Dywed Mr. C. nad oes archesgob yn mhlith yr Annibynwyr yn Nghymru. Os nad oes
archesgob yn en plith, nid oes neb yn archesgobaethu yn eu plith ychwaith;
ond gan fod yn eu p’litn fi,f yn arehesgob-aethu, y mae yn eta, plith rai
archesgobion, os amgen nid yw archesgobaeth yn archesgobaeth mwyach. Mor wir
a bod Annibyniaeth yn Nghymru, y mae yno Annibynwyr hefyd; os amgen, nid
Annibyniaeth yw An
Y PARCH. JEXKIN
JBXKIKS.
|
|
|
(delwedd B0083)
|
(x083)
nibyniaeth mwyach. Mae efe gyda hyfder yn gofyn, “ Pwy yn mhlith gweinidogion
yr Annibynwyr yn Nghymru sydd yn archesgobaethu?” Ateb—Yr archesgobion. Pe yr
atebaswn ei ofyniad drwy nodi enwau naturiol y personau, a’r lleoedd y maent
yn byw, buaswn yn gwneyd peth na wnaeth ef ei hun. Nid wyf yn meddwl mai wrth
yr enw “ Carwr Crist a’i Weision “ y mae ei gymydogion yn ei adnabod ef
gartref. Nid wyf yn gweled tegwch yn y byd yn y weithred fod neb yn beirniadu
mewn enw ffugiol ar waith yn dyn mewn cyhoeddiad crefyddol, os bydd eiv enw
priodol a’r lle y byddo yn byw wrth ei ysgrif. O herwydd yr anuhegwch hwn,
nid dichonadwy ateb rhai gofyniadau sydd yn ysgrif Mr. C.
Mae yn dywedyd am y naw ysgoldy neu gapeldy sydd dan ofal y tri gweinidog,
(sef yr ychydig bobl sydd yn addoli ynddynt,) yn ei ardal ef, gan ofyn a yw
pob un o’r rhai hyn yn eglwys. Y mae yn dyweyd eu bod yn rhy wan i gynal
gweinidog. A fyddai ddim yn well eu bod tan ofal un cymydogaethol? Yr wyf yn
cydwybodol gredu y gwn am ardaloedd lle y mae llawer yn earn Crist a’i
weision yn Nghymru, eu bod yn alluog, ac y byddai yn well iddynt gadw
gweinidog eu hunain na bod tan ofal neb cymydogaethol. Mae, a wn i am danynt,
yn mhlith yr Annibynwyr yn Nghymru, naw o weinidogion a phedak eglwys dan
ofal pob un o honynt; amrai a thair, a degau a dwy. Yr wyf yn cyfaddef ar
unwaith fod gan Mr. C. well mantais i wybod an* Gymfu na mi. Y mae yn rhyfedd
genyf fod y gwr rhor anwybodus wrth ystyried ei oed. Y mae wedi ei eni pan
nad oedd ond chwech o weinid-ugion gan yr Annibynwyr yn y Gogledd; eto nid y
w
|
|
|
(delwedd B0084)
|
(x084)
TRAETHODAU, &C.,
yn gwybod fod neb yn archesgobaethu yn mhlith yr Annibynwyr, neu nad yw yn
gwybod pa beth yw eglwys yn ol iaith y Testament Newydd. Eglwys ydyw cynulleidfa
o bobl mewn cyfamod a’u gilydd i gario achos Duw yn mlaen. Nid yw o bwys pa
un ai mewn anedd-dy, ysgoldy, neu gapeldy, y byddont wedi ymgynull at eu
gilydd; Rhuf. xvi. 5. Col. i. 15. Dyna ydyw eglwys yn yr ystyr neillduol; yr
holl saint yn yr ystyr gyffredinolaf.
Nid rhy wan i gynal gweinidog yw nemawr un o’r eglwysi sydd yn’ cynal
gweinidog rhyngddynt, ond rhy gybyddlyd ac anewyllysgar ydynt. Mae y rhan
amlaf o’r eglwysi sydd yn cynal ond un pregethwr rhyngddynt, yn allnocach i
gynal gweinidog bob un na’r rhai sydd yn gwneuthur hyny. Pe yr ymddygai yr
eglwysi sydd yn cynal eu gweinidogion eu hunain mor ddiog a difater tuag at
eu bugeiliaid, ag y mae’r amledd eglwysi ag sydd yn cynal bugail rhyngddynt,
buan y lleiheid lluosawgrwydd bugeiliaid eglwysi Crist, y dybenai y ffurf
annibynol yn ei gweithrediad, ac yr ai y rhai sydd yn cael eu cynaliaeth yn
gysurus yn gartrefol yn awr yn grwydriaid ar hyd y dywysogaeth, nes crymu
llawer hentiriad eto dan ei faich. Sicr yw fod ofn dyn yn dwyn magi. Mae llawer
eglwys yn Nghymru yn dyoddef llawer anfantais i’w heneidiau o herwydd
ymddygiad archesgobawl eu gweinidog. ]STid ydynt yn cael y rhai a ddewisant
yn aml, ac o herwydd hyny dan yr angenrheidrwydd o ddyoddef llawer un tra
anghymwys i lanw’ y swydd oruchel. O’r tu arall, yr wyf yn cyfaddef o’m
calon, fod y rhai sydd a’r swyddau uchelaf a pharchedicaf dan y nef, sef
cenhadon dros Grist at ddynolryw, wedi dyoddef caledi
|
|
|
(delwedd B0085)
|
(x085) Y PARCH. JENKttf
JENKINS.
a gwasgfeuon, nad oes ond eu Crewr a hwy eu hunain yn eu difrifol ystyried.
Dywedaf eto, y gwreiddyn o’r drwg hwn yw ariangarwch. Mae ariangarwch wedi
gwreiddio yn nghalonau gweinidogion ac eglwysi mewn llawer lle cyn ynia.
Adnabyddir ei fod a’i wraidd yn nghalon gweinidog pan y byddo yn cymeryd
gofal eglwys gymydogaethol, ac ar yr un pryd yn cael ei gynal yn gysurus
hebddi lle yr oedd o’r blaen;. ac yn yr eglwys, pan na byddis yn cyfranu at y
weinidogaeth megys y mae Du’ff wedi ei llwyddo, gan ystyried cynaliad y
weinidogaeth yn weithred o elusen, yn lle dyledswydd a braint. Mae yr
anghenfll eilunaddolaidd hwn, sef gwreiddyn archesgobaeth, dan ei wahanol
fantelli twyllodrus, yn fwy goddefadwy nag un pechod arall yn eglwysi y saint
ar y ddaiar. Ceryddir yn galed, a diarddelir dynion am bob pechod arall
braidd; ond am hwn, nid wyf yn gwybod fod y fath ddysgyblaeth wedi ei gweini
er ys oesau!!
Mae Mr. C., wrth ddymuno dangos anghysondeb a drwgduedd fy llythyr, wedi
amlygu ffrwyth ei nwydau ei hun. Os oes tuedd da mewn archesgobaeth, y mae .
tuedd drwg yn fy llythyr; ac os oes cysondeb rhwng y rhai sydd yn proffesu
Annibyniaeth a’u hymddygiadau archesgobawl, .y mae fy ysgrif yn anghyson.
Gellir meddwl oddiwrth ysgrif Mr. C., na bu ef yn nihell iawn o olwg mwgdwll
ty ei dad, pan y mae yn barnu Cymru yn gyffredinol wrth linyn mesur ei
gulaidd ad-nabyddiaeth, a dyweyd nad oes yn yr holl fyd bobl mwy di-hunangais
a hunan-ymwadol na’i frodyr yn y Gogledd. Mae yn ofynol ei fod mor
adiiabyddus n’r holl fyd ag yw a’i frodyr yn y Gogledd cyn y gallo, ar
|
|
|
(delwedd B0086)
|
(x086)
TRAETHODAtT, AC.,’
dir teg, brofi ei haeriad. Mae adnabod ein hunain yn orchwyl o fawr bwys.
Dymunaf arno brofi anghysondeb fy llythyr drwy ryw beth amgen na haeriadau. Ni
feddyliodd fy enaid erioed trwy fy ysgrif i erlid, gwawdio, na chablu unrhyw
ddyn, na dychymygu fod gweinidogion yr Annibynwyr am lafurio yn ngwinllan
Crist yn cael gormod. Gwn y dylai y rhan amlaf gael rhagor, i’e, dylent gael
eu cynal wrth yr efengyl, a’u parchu er mwyn eu gwaith.
Gadawaf i’r darllenydd farnu pa fath “Garwr Crist a’i Weision “ yw hwn. A
ydyw wedi gwneyd cam a’i gymydog ai nad yw? Nid amddiffyn beiau neb pwy
bynag, pe byddent benaethiaid y bobl, ydyw yr olew penaf o eiddo y cyfiawn;
na llefaru yn arw wrth ei frawd sydd mewn gwlad bell, gan ddywedyd, “Tawed yr
anwybodus,” &c.
Mae bechgyn glewion yn y Colegau, a manau eraill, yn Nghymru eto, a lanwent y
lleoedd gweigion sydd yna; ond tra fyddo y fath archesgobaeth yn cael ei
hamddiffyn mewn rhith cariad at Grist a’i weisiou, nid rhyfedd fyddai gweled
y rhai mwyaf addawol eto o honynt yn myned at y Saeson, a manau eraill. Mae
llawer o bregethwyr wedi dyfod o Gymry i r wlad hon o bryd i bryd. Adwaen
amryw o honynt. Maeiit o fendith, ac yn anrhydedd i’w proffes. Nid rhyfedd,
na blin fyddai genyf, pe deuai llawer yma eto; os byddent yn fechgyn call,
doniol, ac addas i’r weinidogaeth, y mae pob calondid iddynt. Mae yr holl
feusydd eang trwy yr Unol Dalaethau yn gwynu i’r cynhauaf; a’r medelwyr sydd
yma yn barod, dyma eu hiaith, “ Denwch drosodd, a chynorthwywch ni!!
Terfynaf, gan dystio i bob Carwr Crist a’i Weision drwy’r byd, y dymunwn eu
llwydd yn mhob daioni.
|
|
|
(delwedd B0087)
|
(x087)
IAWN CKIST.
Gan fod y testyn hwn wedi ei benodi i mi, er rhoddi ysgrif arno, mewn
dymuniad i hono beidio bod yn faith, iawn, yr wyf yn anturio i wneyd hyn yn y
modd goreu ag y medraf. Anmhosibl cyffwrdd braidd a llawer o gangenau yr
athrawiaeth ogoneddus dan sylw mewn cylch mor gyfyng a gwyneb dalen neu ddwy
yn y Cenhadwr; am hyny crynoaf fy nrychfeddyliau, gan eu gosod yn dalfyredig
o flaen fy narllenwyr. A’r “ neb a ddarlleno, ystyi-ied.”
Wrth lawn yr ydym yn deall, rhyw beth sydd yn cael ei wneyd er heddychu
anfoddlonrwydd rhyw un; neu, foddlonrwydd am dramgwydd. Mae y gair yn
arwyddo, nid yn unig y llwybr trwy ba un yr heddychir, ond yr heddychiad yn
weithredol—fod y blaid a gafodd ei hanfoddloni yn gweithredol droi heibio yr
anfoddlonrwydd. Yn yr ystyr flaenaf, cynwysa foddion neu drefn y cymod; yn yr
olaf y meddylir y cymod ei hun, neu feddyginiaethiad gweithredol o’r rhwyg a
wnawd. Deisyfir am i’r darllenydd gadw y gwahaniaethiad hwn yn barhaus o
flaen ei feddwl. • Mae y gair Hebreaidd, cawphar, i orchuddio, dileu,
heddychu (fel gair cadarn), yn arwyddo astell neu glawr yr arch. Gellir
gweled yr yn drychfeddyliau trwy eiriau eraill yn yr Hen Destament a’r
Newydd—Dilead, Bodd-lonrwydd, Pridwerth, Prynedigaeth, Aberth, ein Hedd-wch
ni. Cynwysa y geiriau uchod, nid yn unig y bendithion yn dyfod i weithredol
feddiant, ond hefyd cyfrwng neu lwybr eu gweinyddiad.
|
|
|
(delwedd B0088)
|
(x088)
TRAETHODAtJ, AO.,
Amcan neu ddyben uniongyrohol (immediate design,) yr lawn ydyw egluro
cyfiawnder Duw, anrhydeddu y gyfraith, a chondemuio pecliod. Hyn hefyd oedd y prif ddyben, neu y dyben penaf. Yr oedd yr lawn i
effeithio yr un peth, er mewn ffordd wahanol, ag a fuasai yn cael ei
effeithio trwy gospi y troseddwr yn bersonol am ei drosedd, yn ol dedfryd y
gyfraith. Mewn geiriau eraill, yr oedd i ddal i fyny awdurdod Duw fel
Penllywydd cyfiawn—dangos ei gasineb at bechod, eg-Inrhau ei ymlyniad wrth ei
gyfraith, a’i benderfyniad i arnddififyn ei hawdurdod yn mhlith ei
greaduriaid rhesymol.
Dyben terfynol (ultimate end) yr lawn oedd cymodi dyn d Duw, a Duw a dyn, neu
wneyd heddwch rhwng y ddau—cadw dynion ag iachawdwriaeth dragywyddol, a
gwneyd arddangosiad gogoneddus o’i berffeithderau.
Os gofynir a fu Crist farw dros holl ddynolryw, neu dros rai yn unig, atebwn,
mor bell ag y mae dyben union gyrchol ei farwolaeth i’w ystyried, gellir yn
briodol ddyweyd iddo farw dros bawb. Symudodd y rhwystrau oedd ar ffordd achub,
y rhai a fuasent yn tragywyddol atal y p echadur i ddedwyddwch, oni buasai yr
lawn, Trwy angau Crist y cawd llwybr i ddianc rhag y llid a fydd, a’r
digofaint sydd ar ddyfod. Ar dir yr lawn y mae Duw yn cymodi y byd ag ef ei
hun, heb gyfrif iddynt eu pechodau. Dywedir fod Crist wedi “ marw dros bawb
“—wedi “ profi marwolaeth dros bob dyn “ •—yn “ lawn dros bechodau yr holl
fyd,” &c. Pan y byddom yn ystyried dyben terfynol yr lawn, ac nid ei
brif, neu ei ddyben penaf, dylem lefaru mewn modd cyfyngol, mai dros yr “
Eglwys,” y “ defaid, ei “ bobl,” neu ei’” gyfeillion,” y rhoddodd efe ei”
gefn i’r curwyr,
T PABCH. JENKIN
JENKINS.
|
|
|
(delwedd B0089)
|
(x089)
a’i gernau i’r rhai a dynent y blew,” y “ gogwyddodd ei ben,” ac y “ rhoddodd
i fyny yr ysbryd.”
Mae lawn wedi ei wneyd.—Heb hyn nid allasai Duw faddeu pechod; am hyny, mae y
ffaith fod Duw yn madden yn brawf fod lawn wedi ei gael. Tystiolaetha yr
Ysgrythyrau hyn mewn amryw ffyrdd. Yr aberthau o dan y gyfraith oeddynt yn gysgod o bethau gwell i
ddyfod. Dyoddefodd Iesu gospedigaeth ein heddwch ni. Yr hwn ni wnaeth bechod
a wnaethpwyd yn bechod (neu yn bech-aberthj drosom ni. Mae ei waed yn puro y
gydwybod, ac yn glanhau oddiwrth bob pechod. Do, fe fu farw dros ein pechodau
ni yn ol yr Ysgrythyriu.
Yr oedd Ia.wn Crist yn gynwysedig yn benaf yn ei ddyoddefladau, eto nid heb
ei ufudddod; oni buasai fod ei ddyoddefiadau yn wirfoddol, ni bnasent yn
rhinweddol. Mae rhinwedd, gwerth a gwiwdeb i’w priodoli i’w ddyoddefiadau am
ei fod yn Fab Duw. Oni buasai ei fod yn dyoddef yn wirfoddol yn ol ewyllys ei
Dad, ni buasai yn aberth ac yn offrwm i Dduw o arogl peraidd, nac yn tycio
dim er dileu pechod. Hefyd, iaith yr Ysgrythyrau yw, fod Crist wedi “ offrymu
ei hun “—ei fod yn marw fel aberth, ac nid fel merthyr yn unig. Felly mai
trwy ufudddod un y gwnaethpwyd llawer yn gyfiawn, yn gystal ag mai trwy
dywalltiad ei waed y gwelir llawer wedi eu puro.
Er fod Crist wedi cael ei wneyd yn felldith drosom ni, nid yw yn yrnddangos
iddo yn llythyrenol ddyoddef y gosp hono oedd y pechadur yn ei haeddu. Nid
oedd colynau cydwybod euog yn uu rhan o’i ddyoddefiadau ef. Mwy priodol yw
dyweyd, fod ei ddyoddefiadau yn gyflawn foddlo/irwydd ac anrhydedd i’r
gyfraith, na
|
|
|
(delwedd B0090)
|
(x090)
TKAETHODAtT, &C.,
dyweyd iddo ddyoddef yn hollol yr hyn yr oedd y gyfraith yn ei ofyn gan y
troseddwr. Er fod dyoddefiadan Crist mewn ystyr ddirprwyol, eto nid oeddynt
yr un yn eu natur ag oedd y pechadur yn en haeddu, nac yr un mewn graddau, na
pharhad. Nid oeddynt yn ddyoddefiadau haeddianol, ond anrhwymiadol, a
gwirfoddol; eto dyoddefodd “ er ein mwyn,” ac “ yn ein lle;” dyoddefodd fel
na byddai y pechadur a gredai ynddo dan rwymau i ddyoddef byth,
Mae dyoddefiadau Crist yn amlygu sancteiddrwydd Duw, ei fod yn elyn i bechod,
eto yn Dduw trugarog a graslawn, ac yn barod i faddeu. Dangosant fod holl
reolau y ddeddf yn uniawn, ac o bwys yn ngolwg Duw; fod yn anmhosibl i’r euog
ddianc rhag y gosp haeddianol yn ol dedfryd y gyfraith, ond trwy gyfryngdod
yr Arglwydd Iesu yn unig—trwy yr lawn bendigedig.
Mae angau Crist wedi boddloni cyfiawnder dwyfol, hyny yw, y cyfiawnder hwnw
sydd yn dal perthynas a gweinyddiadau cyhoeddus a chyffredinol y Duwdod.
Dengys hefyd awdurdod Duw yn nghynaliad anrhydedd ei gyfraith. Yr oedd yn ddyledus
i Dduw fel llywodraethwr cyfiawn amddiffyn iawnderau ei orsedd, a chadw coron
cyfiawnder heb syflyd ar ei ben, a theyrnwialen uniondeb yn ddi-gryn yn ei
law.
Pan y byddom yn son am gyfiawnder personol, sef rhoddi i bob un fel y byddo
ei waith ef—cospi yr euog, a gwobrwyo yr ufudd, neu gyfiawnder rhwng gwr a
gwr, nid yw yn ymddangos fod lawn Crist wedi ateb i hwn. Mae yn amlwg yn
nyoddefiadau ein Ceidwad mai y dieuog a ddyoddefodd ac a fu farw, a’r euog
trwy hyny sydd yn cael ei arbed.
“ Tr Oen dieuog yno ‘n marw, Minau ‘r euog yn cael byw.”
Y PARCH. JUKKIK
JENKINS.
|
|
|
(delwedd B0091)
|
(x091)
Yn nhrefn gras, nid y beius sydd yn marw, ond yr hwn ni wnaeth gam, ac ni chaed
twyll yn ei enau.
Mae yr lawn anfeidrol hwn yn gosod allan i holl fodau deallawl y bydysawd fod
sefyllfa dyn yn dra phechadurus a thruenus, er nad yw yn anfeddygin ,
iaethol—fod arbediad yn gyrhaeddadwy trwy aberth y .groes—a bod gwrthodwyr y
drefu rasol a giwysaidd hon a’u damnedigaeth yn sicr, a’u cosp wedi niawr
ychwanegu. Mae marwolaeth Iesu yn egluro i hall ddeiliaid llywodraeth foesol
Duw burdeb ei gyfraith, mawr ddrwg pechod, a chydgordiad perffeithderau lor
yn achubiaeth dyn.
Llawer gwaith y gofynwyd a oedd pechodau dynion yn gyfrifedig ar Grist pan
oedd yn dyoddef yn eu^ lle? Ymddygwyd tuag ato fel pe buasai yn bechadur pan
y bu farw yn lle pechaduriaid. Ond os wrth hyn y de-allir, fod eu pechodau
hwy yn cael eu symud oddiarnynt hwy arno ef, i fod yn eiddo iddo ef, nes yr
oedd Efe yn cyfreithlon haeddu cael ei ladd, neu ei fod yn gyfrifol yn ol
gofyniadau uniondeb am danynt, nid oes sail dda i’r fath haeriad. Ond os na
olygir dim mwy wrth gyfrifiad pechod arno na’i fod ef wedi dyoddef fel yn yn
sefyll yn lle y pechadur, nid oes genyf y gwrth
wynebiad lleiaf i’r fath olygiad. Os
mynir i ni
ddeall
wrth y gair cyfriflad, trosglwyddiad o bechod, neu ddrwg moesol, ac o
ganlyniad trosglwyddiad nodweddiad moesol, yn ol yr olwg hon yr oedd yn rhaid
fod ein pechodau ni wedi myned yn bechodau i Grist, ac felly yr oedd efe yn
marw am ei bechodau ei hun, neu bechodau wedi dyfod yn eiddo iddo ei hun, er
ei fod yn Oen difeius a difrycheulyd. Hefyd, ar yr un tir mae ei gyfiawnder
ef, neu ei weithredoedd moesol ef, yn dy
|
|
|
(delwedd B0092)
|
(x092)
TKAETHODATT, &C.,
fod yn gyfiawnder neu yn weithredoedd moesol i ni, ac felly yr ydym yn cael
ein hystyried yn gyfiawn ar sail cyfiawnder o’r eiddom ein hunain. Os fel
hynyna y mae pethau yn bod, nid yw iachawdwriaeth dyn mwyach o ras, neu nid
yw gras yn ras mwyach. Y gwir yw, ni ddylid ystyried egwyddorion llywodraeth
foesol Duw yn ol dull neu drefn masnach dynion, oblegid nid nwyfau yw
pechodau; ac nid yw, pechod a sancteiddrwydd yn newid dwylaw un amser, fel y
mae yr echwynwr a’r dyledwr yn aml yn gwneyd.
Mae rhad ras mewn maddeuant pechod mewn perffaith gymod 4 chyfiawnder ar dir
yr lawn. Nid yw yr lawn yn tain dyled y pechadur er ei ryddhau oddiwrth
afaelion^ gofyniadau y gyfraith. Nid yw yn gosod Duw dan rwymau i faddeu
pechodau neb. Mae darpariad trefn y cadw o ras, a’i dygiad oddiamgylch hefyd,
ac y mae yr addewid i faddeu i’r edifeiriol hefyd, a phob addewid arall o eiddo
y Nef, wedi deilliaw o’r un ffynonell. Mae trefn yr lawn, fel cyfrwng
maddeuant. yn gwbl o ras, a maddeuant pechod yn weithredol hefyd sydd o ras
penarglwyddiaethol yn unig. Mae y gras hwn yn enaid y credadyn yn teyrnasu i
fywyd tragywyddol. Gyda phriodoldeb y gellir dyweyd am dano fel egwyddor
fywiol, yn mha galon bynag y mae, Cariad Duw yw ei wreiddyn, yr lawn a
osododd Duw yw ei sylfaen, Gair Duw yw ei reol, Ysbryd Duw yw ei gyfarwyddwr,
gogoniant^Duw yw ei ddyben, a delw Duw yw ei berffeithrwydtJ
RHAGFARN CREFYDDOL.
|
|
|
(delwedd B0093)
|
(x093)
Dywed Syr William Jones, wrth ddechreu traethawd (pan y cyferbynia dduwiau’r
Indiaid a’r Ewrop-e’aid paganaidd), y rhag-sylw hynaws canlynol:—” Yn ein
hymofyniad am y gwirionedd, nid oes dim yn fwy o rwystr nag ysbryd
cyfundraethol,” fel y tystia ysgrifenydd Hindwaidd, “ Pwy bynag a ymlyn wrth
grug o dybiau, hwnw sydd wanaf ei resymau dros yr hyn a goledda.”
Bernir yn gyffredin fod yr hwn a ddyrcha uwchlaw rhagfarnau y werinos yn
meddu meddwl uchelo galon. Pe n.a olygid wrth hyn ddim rhwy na gwrthodiad
cyfeiliornadau, dylem goleddu y sylw er gwaethaf ein hymarferiadau blaenorol.
Ond os disgwylir gan ymwadwyr rhagfarn i ni ymddiosg o bob math o ragfarnau,
cyn y gallom wneyd ymofyniad teg am y gwir, a derbyniad o hono, yr ydym yn
gostyngedig farnu eu bod yn saethu dros y nM, trwy ofyn gan y natur ddynol yr
hyn nad all, ac na ddylai w eyd.
Mae gau bob dyn ei ragfarnau; derbyn hwynt yn anwybodol ac yn ddiamgyffred
iddo, oddiwrth y ffrydiau cyntaf a orlifant i’w ystyriaethau, a gadawant eu
hargraff ar ei fywyd dilynol. Rhagfarn ydyw barn wedi ei ffurfio heb
ymchwiliad am vdrionedd. Dy-chymyg yw am iawnder pethau heb brawf o’u
cywirdeb; o leiaf, cyn i’r deall erioed amgyffred rhesymau a’u hategant.
G-allwn alw y rhan fwyaf o olygiadau ac egwyddorion
|
|
|
(delwedd B0094)
|
(x094)
TEABTHODAU, &C..
Y PAECH. JENKIN
JENKINS.
94
TRAETHODAU,
pob dyn yn rhagfarnau. Derbynoidd hwynt oddiwrth
ei rieni, ei famaeth, ei athrawon, a'i gymydogion ; oddi-
wrth y sefyllfa a'r graddau y bodolai mewn cymdeithas ;
ie, derbyniodd hwynt oddiwrth ddull neillduol llyw-
odraeth a chrefydd ei wlad, darlleniad rhanog, ac oddi-
wrth y lluaws achosion a nodweddant amrywiaeth
bywyd, rhagredegwyr cymeriad a thynged pawb. Llaw-
er o ragfarnau a adeiladwyd ar sylfeini da, er na chy-
merasom ni erioed y drafferth o ffloddio i'r manau y
gorweddant. Llywodraethir dynion gan mwyaf yn
mhob gwlad gan eu rhagfarnau. Ni sylwant ac ni ym-
resymant drostynt eu hunain. Os digwydd i'w rhag-
farnau fod yn gywir, yn gyffredin byddant yn ddinas-
yddion (la a defnyddiol.
Y n awr, nid oes tuedd ynom i anesmwytho tawelwch
meddyliau diddrwg a rhinweddol y fath bersonau, na
thaflu y rhwystr Ileiaf ar ffordd eu llwyddiant. Gad-
awn iddynt fyw a marw dan achlesiad a dylanwad
rhagfarn. Gadewch i ynysydd yr iå hom ei eyra rhew-
llyd, a'r Affricaniad boethder ei haul Ilosgedig.
Rhagfarn hyfryd yw hono a'n tuedda i ddewis ein
gwlad enedigol o flaen pob gwlad arall. Oni b'ai hyn,
byddai mwy na haner y bellen ddaiarol yn ddi-drigolion.
Gan hyny, rhagfarn ddiniwed a defnyddiol yw. Hawdd
fyddai ychwanegu engrcifftiau i'r un perwyl. Dedwydd
fyddai y teulu dynol pe byddai eu holl ragfarnau mor
ddiniwed ; dedwydd ar destynau difrifol o dragywyddol
bwys, pe b'ai eu rhagfarnau o du y gwirionedd. Ond
ffaith ddiymwad yw, nid felly y mae. Deng mil o gyfun-
draethau anhebyg, ac anghyson, mewn gwlad ac eglwys,
a ffynant yn y byd. Golygir y rhai hyn i gymeradwy-
aeth dynion, a phrofant, tu draw i ddadl, fod rhagfarn-
B0094
|
|
|
(delwedd B0095)
|
(x095)
pob dyn yn rhagfarnau. Derbynoidd hwynt oddiwrth ei rieni, ei famaeth, ei
athrawon, a’i gymydogion; oddiwrth y sefyllfa a’r graddau y bodolai mewn
cymdeithas; ne, derbyniodd hwynt oddiwrth ddull neillduol llywodraeth a
chrefydd ei wlad, darlleriiad rhanog, ac oddiwrth y lluaws achosion a
nodweddant amrywiaeth bywyd, rhagredegwyr cymeriad a thynged pawb. Llaw-er o ragfarnau a adeiladwyd ar sylfeini da, er na chy-merasom ni
erioed y drafferth o gloddio i’r manau y gorweddant. Llywodraethir dynion gan mwyaf yn mhob gwlad gan eu rhagfarnau. Ni
sylwant ac ni ymresymant drostynt eu hunain. Os digwydd i’w rhagfarnau fod yn
gywir, yn gyffredin byddant yn ddinasyddion da a defnyddiol.
Yn awr, nid oes tuedd ynom i anesmwytho tawelwch meddyliau diddrwg a
rhinweddol y fath bersonau, na thaflu y rhwystr lleiaf ar ffordd eu
llwyddiant. Gad-awn iddynt fyw a marw dan achlesiad a .iyl&i,wad
rhagfarn. Gadewch i ynysydd yr ia hoffl ei «.ra rhew-llyd, a’r Affricaniad boethder
ei haul llosgedig.
Rhagfarn hyfryd yw hono a’n fuedda i ddewis ein gwlad enedigol oflaen pob
gwlad arall. Oni b’ai hyn, byddai mwy na haner y bellen ddaiarol yn
ddi-drigolion. Gan hyny, rhagfarn ddiniwed a defnyddiol yw. Hawdd fyddai
ychwanegu engrciiftiau i’r un perwyl. Dedwydd fyddai y teulu dynol pe byddai
eu holl ragfarnau mor ddiniwed; dedwydd ar destynau difrifol o dragywyddol
bwys, pe b’ai eu rhagfarnau o du y gwirionedd. Ond ffaith ddiymwad yw, nid
felly y mae. Deng mil o gyfundraethau anhebyg, ac anghyson, mewn gwlad ac
eglwys, a ffynant yn y byd. Golygir y rhai hyn i gymeradwy-aeth dynion, a
phrofant, tu draw i ddadl, fod rhagfarn
au y rhan amlaf, yn gyfeiliornus. Mewn un oes nis gellir chwynu y rhai hyn o
feddyliau ond ychydig. Peth peryglus yw ymosod mewn modd noeth a chy-hoeddus
ar ragfarnau dynion. Yn gyffredin, effeithia y fath ymosodiad er eu cylymu yn
gadarnach yn eu cyfeiliornadau; neu, os yn wahanol, gwylltir hwynt i
sugndraethoedd didduwiaeth, nes ybydd y canlyniadau yn fwy athrist ac
anobeittiiol i wneyd ail ymosodiad. Dyma fel y mae o
barth rhagfarnau crefyddol. Y meddyliau gwanaf ac anmherffeithiaf am grefydd
ydynt well na gwadiad o grefydd. Heb ofn Duw mewn rhyw fodd neu gilydd ar
gydwybodau a chalonau dynion, mae cymdeithas ar ei therfyn. oblegid ni wna
cyfreithiau dynol y tro hebddo.
Sylwn ar Ffrainc ar ol y chwildroad, pan ddarfu iddynt fathru Pabyddiaeth dan
draed, yr hon yn hir a chwareuodd ei llumanau traws-arglwyddaidd dros y
trigolion. Gelynion cudd y gwirionedd a argraffasant ar eu meddyliau dwyll
Bglwys Rhufain, nes y ffoisant yn lluoedd i dir anffyddiaeth. Pa ryfedd oedd
eu gweled yn llamu i’r lle y daethant. Ni chawsant gynyg newid eu barnau er
eu gwell. Llwyddodd Robert Dale Owen yn ei amcan gyda’r Ffrancod yn well na’r
llwynog hwnw yr adroddir ei hanes yn un o chwedlau JSsop, yr hwn a gyngorai
ei gyd-lwynogod i dori eu cynffonau. Os oedd y Ffrancod yn gweled crefydd eiu
Harglwydd ni yn anhardd, am eii bod m.or gynffonog o draddodiadau y tadau,
paham na buasent yn tori y traddodiadau ymaith a chyjlell y gwirionedd, yn
lle taro eu hymenydd allan er mwyn anffyddiaeth? Os ydym ni am dynu yr efrau
ymaith, gochelwn ddiwreiddio y gwenith hefyd. Os amcanwn
|
|
|
(delwedd B0096)
|
(x096)
TRAETHODAU, 40..
Y PAKCH. JENTKIST
JENKINS.
96
TRAETHODAU, &C.,
ni ladd rhagfarn dynion, byddwn ddoeth, trwy gynyg
rhyw beth gwell iddynt; ie, rhoddwn iddynt oleuni
am dywyllwch, doethineb yn Ile ffolineb, cariad am gas
onide gwell gadael rhagfarn heb ei haflonyddu ; gad
awn iddi deyrnasu yn ei thawelwch cyntefig.
Ein hamcan yn y sylwadau blaenorol oedd egluro
ein testyn mewn dull sathredig a chyffredinol. Beth
bynag, nid ydym yn proffesu pleidio rhagfarn yn
mhellach nag y mae ein sefyllfa bresenol, gwaeldra ein
natur, a Iles cymdeithas yn anocheladwy yn ein har-
wain. Tebyg yr erys y werinos dan ei llywodraeth.
Gadewch i ni, gan hyny, eu hesgusodi yn y ddarlith
hon yn ddigerydd, a chyfeiriwn ein sylwadau at ddos-
barth arall a gymerant arnynt fod yn gallach. Nis
gallwn esgusodi dynion a broffesant eu bod yn ddysg-
awdwyr, a rhydd-ymofynwyr am y gwirionedd, eto a
letyant braidd ar bob mater y sylwant arno olygiadau
cul a rhanog, na ddaliant eu profi ; gan eu bod ag am-
ser a chyfleusderau i dreiddio, manylu, a gwahaniaethu
y naill beth oddiwrth y llall, eu deall yn eu gwahanol
berthynasau a'u cysylltiadau ar sylfeini wrth ba rai y
profir hwynt, er gwneyd i eraill eu hadnabod. Onid
gwaith dysgeidiaeth yw egluro pethau oeddynt yn dy-
wyll, trwy daflu pelydr goleuni arnynt, a'u dwyn i
wybodaeth sicr? Os na wna hyn, pa ddefnydd yw ?
I ba beth y mae Duw wedi rhoddi synwyr yn ein penau,
os nad i chwilio a phrofi pethau drosom ein hunain ?
Da yw fod cangenau dysg wedi eu sefydlu er ein cy-
northwyo at ddeall y gvirionedd; eto rhaid chwilio
pob cangen ag y byddom yn ymwneyd a hwy, a phrofi
pethau wrth faen prayf y gwirionedd cyn y byddont o
un budd i ni. Nid ydym yn meddwl [y dylai dyn, i'l
B0096
|
|
|
(delwedd B0097)
|
(x097)
ni ladd rhagfarn dynion, byddwn ddoeth, trwy gynyg rhyw beth gwell iddynt;
ie, rhoddwn iddynt oleuni am dywyllwch, doethineb yn lle ffolineb, cariad am
gas onide gwell gadael rhagfarn heb ei hailonyddu; gad awn iddi deyrnasu yn
ei thawelwch cyntefig.
Ein hamcan yn y sylwadau blaenorol oedd egluro ein testyn mewn dull sathredig
a chyffredinol. Beth bynag, nid ydym yn
proffesu pleidio rhagfarn
yn mhellach nag y mae ein sefyllfa bresenol, gwaeldra ein natur, a
lles cymdeithas yn anocheladwy yn ein harwain. Tebyg yr erys y werinos dan ei
llywodraeth. Gadewch i ni, gan hyny, eu hesgusodi yn y ddarlith hon yn ddigerydd,
a chyfeiriwn ein sylwadau at ddosbarth arall a gymerant arnynt fod yn
gallach. Nis gallwn esgusodi dynion a
broffesant eu bod yn ddysgawdwyr, a rhydd-ymofynwyr am y gwirionedd, eto a
letyant braidd ar bob mater y sylwant arno olygiadau ciil a rhanog, na
ddaliant eu profi; gan eu bod ag amser a chyfleusderau i dreiddio, manylu, a
gwahaniaethu y naill beth oddiwrth y llall, eu deall yn eu gwahanol
berthynasau a’u cysylltiadau ar sylfeini wrth ba rai y profir hwynt, er
gwneyd i eraill eu hadnabod, Onid
gwaith dysgeidiaeth yw egluro pethau oeddynt yn dywyll, trwy daflu pelydr
goleuni arnynt, a’u dwyn i wybodaeth sicr?
Os na wna hyn, pa ddefnydd yw? I ba beth y mae Duw wedi rhoddi synwyr yn ein penau, os nad i chwilio
a phrofl pethau drosom ein hunain? Da yw fod cangenau dysg wedi eu sefydlu er
ein cynorthwyo at ddeall y gwirionedd; eto rhaid chwilio pob cangen ag y
byddom yn ymwneyd a hwy, a phrofi pethau wrth faen prawf y gwirionedd cyn y
byddont o un budd i ni. Nid ydym yn
meddwl’ y dylai dyn, i’t
dyben i ddyfod yn gall, a deall pethau, i roddi heibio ei holl
ddrychfeddyliau blaenorol. Md ydym am ei leihau ef yn hollol yn mhob ystyr, i
sefyllfa plentyn, i’r dyben i’w wneyd yn ddyn. Mae hyn yn annichonadwy. Yr
ydym yn gofyn rheswm dros yr hyn yr ydym yn ei ddyweyd neu ei wneyd. Nid fel
y mae y plant yn dyweyd—gofynant i’w rhieni, neu i’w hathraw, apeliant atynt
pan na chredir hwynt; nen, fel y pabydd yr hwn sydd yn credu yr un peth a’i
fam o Kufain; ond yn hytrach yr ydym am gael rheswm parod am y erobaith sydd
ynom; yr ydym yn gofyn fod ganddo ryw beth i brofi ei bwrc, heblaw fod y D.
D. yn dyweyd mai felly y mae pethau yn bod, neu fel hyn a’r fel y dywed llyfr
y gyffes ffydd; yr ydym yn gofyn ganddo i fod yn agored i argyhoeddiad, i
beidio ameu yn ngwyneb prawf, na chredu hebddo.
Os ceir dyn unwaith i ben y bryn hwn, bydd mewn man manteisiol i ganfod y
gwirionedd a’i dderbyn. Gellir dyweyd am dano ei fod wedi ei ddiarfogi o’i
ragfarn. Mae yn awr yn barod i redeg dros gyfundraethau ac opiniynau, pa rai
unwaith nas gallasai eu haros, nen y rhai oedd yn gas gan ei galon am danynt.
Nid ydyw enwau bellach yn ei ddychrynu. Pryna lyfrau enwadan eraill yn awr,
yn gystal a llyfrau a gyfansoddwyd gan ei blaid ei hun, os crefyddwr fydd. Ac
yn lle llyncu dim heb ei brofl, fel o’r blaen, rhaid iddo yn awr ei fain yn
melin rheswm, a’i brofl wrth Air y Gwirionedd. Os digrefydd a fydd, ac yn
ddyn rhesymol, daw cyn hir i werthfawrogi y maen prawf hwn o flaen pob llyfr
arall, yn gymaint a’ bod y gwirionedd yn bur yma, fel y ffynon. Ceir y
dyfroedd yn burach yn llygad y ffynon nag yn mhell oddiwrthi. Pa achos sydd
genym i yfed
G
|
|
|
(delwedd B0098)
|
(x098)
TKAETHODATJ, &G.,
dyfroedd a redant ar hyd cwterydd a chamlasau llygredig dynol gyffesau, a
thadol draddodiadau, pan y mae genym genad Duw i yfed y dyfroedd pur o’’r
Beibl; na dilyn goleuni canwyllau neb, pan y mae Haul y Cyfiawnder wedi ei
osod, er goleuo pob dyn sydd yn dyfod i’r byd.
Dichony gofyn rhyw un, Paham na fyddai Cristionogion o’r un farn a’r
un olwg? O leiaf, Paham na b’ai cariad a dyoddefgarwch yn eu rhwyrno inewn
undeb? Os cariad yw egwyddor fawr a hanfodol ein crefydd santaidd, oni ddylem
ddisgwyl fod ei phleidwyr yn caru a phleidio eu gilydd. Onid allem ddisgwyl
fod unoliaeth golygiaduu yn fwy amlwg i’w gweled oddi-wrth y rhai a dynant eu
tybiau o’r un Ffynonell Pdwyfol. Rhesymol, debygem, yw disgwyl pethau fel
yma. Oblegid yn sicr, nid byth y dychymygasera yn flaenorol i’r ffaith, fud
cymaint o opiniynau aughyd-unol yn cael eu derbyn gau y byd crefyddol, a bod
y rhai hyn yn honi cywirdeb eu barnau o’r Beibl, pan y mae hwn yn oruchel,
hael, a grasol yn ei natur a’l ddyben; nis gall fod yn rhoddi y cysgod lleiaf
i’r fath dybiau. Rhyfedd fod y Llyfr, yr hwn y cyffesir ei fod mor eglur a
chywir, mor llawn o anghysonderau. Rhyfedd fod yr Ysgrythyrau Santaidd, y
gyfrol ysbrydoledig, yr unig reol ddiwyrni i ddynion, i’w harwain trwy y byd
pechadurus, llygredig, a thywyll hwn; yr unig ddatguddiad a roddodd ein Duw
doeth a da i’w greaduriaid; rhyfedd, le, anamgyffredadwy ryfedd, fod gwaith y
fath Fod, a roddwyd at y fath ddybenion enwog a chymwynasgar, yn cael ei
ddirdynu i ymddangos mor d£g a golygus, er amddiffyn yr amrywiedig, wrth-
Y PABCH. JENKIN
JENKINS.
|
|
|
|
(x099)
un, niweidiol, a’r anghyson benderfyniadau, a briodolwyd iddo, neu yn hytrach
a dynwyd o honno.
Nid yw y dadguddiad sydd o Dduw yn cynwys y fath grugiau o ystyron a
briodolir iddo, onide yr ydym yn ei yspeilio o bob gwerth a sicrwydd. Mae yn rhaid fod rhyw beth neillduol ddibetrus a goleu yn ei amcan
goruchel. Os yw y Beibl, gan hyny, yn cynwys dadguddiad o’r ewyllys ddwyfol,
fel y mae, yn ol addefiadau pob un o’r pleidiau anghytuuus, o angeurheidrwydd
y canlyn, rhaid fod ei brif nod yn benderfynol ac amlwg, ac yn hollol uwchlaw
cam-dyb i unrhyw feddwl hynaws. Ond pe barnem yr efengyl yn hollol wrth
ysgrifau lluaws o Gristionogion a duwinyddion yr amseroedd, penderfynem yn
fuan ei bod yn gynwysedig o ryw hen
gasgliadau dirgeledig, ffigwraidd a dychymygol, wedi eu bwriadu neu eu
dygwyddol drefnu er rheibio a dyrysu y synwyr dynol, ac nas gellir rhoddi un
deongliad rhesymol o honi.
Trwy’r cwbl, yr ydym yn sicr mai goleuni yw yr efengyl, fel ei Hawdwr
Bendigaid, ac nad oes ynddi ddim tywyllwch. Ynddi y cawn gyfangorif o foesau,
a threfn fawr iachawdwriaeth. Er fod araithlithrwydd llygredig, ac
annuwioldeb disynwyr yn bradychus ymosod am ei hoedl, er hyny nis metha
orchymyn hybarchrwydd y bobloedd; dengys iddynt mai hi yw y trysor goreu mewn
llestri pridd, a bod godidawgrwydd gallu Duw yn
argraffedig arni hi.
Bellach, er mwyn cywreinrwydd, o leiaf, gallwn ofyn, O ba le y tarddodd y
fath heidiau amrywiog o dybiau o barth yr efengyl? a pha fodd y maent yn cael
eu dal gan y gonest a’r twyllodrus, y dysgedig a’r annysgedig, yn mhob gwlad
lle y mae ei goleuui pelydrog hi yn
|
(delwedd B0099)
|
|
|
|