kimkat0255k Siencyn Ddwywaith. 1873. Remsen, Efrog Newydd. Hanes Unwaith Am Siencyn Ddwywaith;  Sef  Y Pethau Mwyaf Hynod Yn Ei Fywyd,  Yn Nghyda Rhai Traethodau, A Thalfyriadau O’i Bregethau, &C., &C.;  Hefyd Ychydig Awgrymiadau Am Minnesota, A’r Cymry A  Wladychant Yno.

 

17-07--2017
 
● kimkat0001 Yr Hafan www.kimkat.org
● ● kimkat2001k Y Fynedfa Gymraeg www.kimkat.org/amryw/1_gwefan/gwefan_arweinlen_2001k.htm
● ● ●
kimkat0960k Mynegai i’r testunau Cymraeg yn y wefan hon www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_mynegai_0960k.htm

● ● ● ● kimkat2557k Mynegai i Hanes Unwaith am Siencyn Ddwywaith www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_087_Siencyn Ddwywaith_1872_090106_2667k.htm

● ● ● ● ● kimkat0262k Y tudalen hwn

 

0003j_delw_baneri_cymru_catalonia_050111
(delw 0003)
..
 
 
 
 
 
 
 

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les
 
 
Cywaith Siôn Prys (Casgliad o Destunau yn Gymraeg)
El projecte Siôn Prys (Col·lecció de textos en gal·lès)

_______________________________________


Siencyn Ddwywaith
1873
Utica, New York State

 
RHAN 2 – tudalennau 100-199

 

 

0285_map_cymru_trefynwy_061117
(delw 0285)

 

 

 

 

 

Yn ôl rhan 1 (tudalennau 000-099):  kimkat0262k www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_087_Siencyn Ddwywaith_1872_090106_rhan-1_0262k.htm

 

 

SGANIAD AMRWD – TUDALENNAU WEDI EU CYWIRO: 120-133, 199

 

 

  

 

 

(delwedd B0100)

(x100)
TRAETHODAU,   40.,
Y  PAftOH.  JERKIN  JEN-KINS.
lot
ymddisgleirio? Pa fodd y mae crefydd heddychol, haelfrydig a thangnefeddus Iesu wedi, ac yn oael ei gwaradwyddo gan gynenau a dadleuon, gan y rhai a rybuddir gan ein Harglwydd i fod mewn undeb a chariad, megys plant yr un teulu, a gweision .yr un Arglwydd. Nid yw crefydd Crist yn ei natur, na’r gyfrol lle y mae yn argrafi’edig, yn dadrys yr anhawsder hwn. Nid oes yno na sail nac anogaeth i’r fath anghariadlawn anghydfodiadau.
Y gwirionedd yw, y mae yr holl wahaniaethau a’r ymddadleuon cynhyrfiedig yn yr eglwys Gristionogol yn * gyhuddedig ar ragfarn—ar y dull y mae dynion yn sefydlu eu cyfundraethau duwinyddawl—ymhoniadau i dybiau anmherffaith yn fwy na’r gwirionedd pur. Pa nifer sydd wedi, ac yn bod yn ein byd ni o wallgofiaid selog, penffoliaid gwylltiog, hunanolwyr ystyfnig. Y rhai hyn a ergydiant yn egniol, a chollfarnant bob peth na fyddo yn unol a’u mympwy hwy. Os ymddadleuwch a’r tylwyth hyn, cyfrifant reswm fel gwellt, a’r Ysgrythyrau egluraf fel pren pwdr. Br nad ymostyngant i farnau eraill, barnant y dylai eraill ymostwng i’r eiddynt hwy. Dywed y Ffrancwr, “Yr hwn na dderbyn ddysg gan neb ond ei hun, bydd yn sicr o gael ffol i fod yn athraw iddo.” “ Credais a gredaf, ydwyf a fyddaf.”
Rhyw gymysgedd o anghysonderau dynol ymglymedig wrth y Dwyfol Ddadguddiad a genedlodd yr ysbryd erledigaethus a halogodd yr eglwys am oesau. Braidd yr ymddangosodd yr efengyl yn ein byd cyn iddi gael ei llygru gan ddyfeisiau dynoL Yn mhlith yr Iuddewon cafoddeidifwyno’d seremoniau—y ddeddf Eoesenaidd a ddirdynwyd i sefydliadau traddodiadol,


 

 



(delwedd B0101)

(x101)
ac ystyfnig ymlynent wrthynt. Ac nid oddiwrth y rhai hyn yn unig y cafodd Cristionogrwydd niwed. Yr oedd gwahanol sectau yn mhlith yr Iuddewon, ,megys yr Herodianiaid, y Phariseaid, y Saduceaid, a’r Esseniaid. Y rhai hyn a lusgent eu traddodiadau gyda hwy, nes y trowyd yr efengyl, yr hon sydd gyfangortf gwaeedig o’r cwr uchaf trwyddi oll, i debygu i siaced Joseph, yn frith o draddodiadau a gwaed y merthyroii. Hefyd, yn fuan, y Groegiaid a’r Rhufeiniaid a ymdrechasant gysylltu eu philosophi Dalilaidd a’r efengyl. Ni fethodd dysgyblion Pythagoras, a Zeno, Epicurus, Plato, ac Aristotle, ganfod rhyw debygolrwydd rhwng eu gosodiadau hwy a”‘r eiddo y Messiah; a phryd nad oedd dim o hyny yn bod, mympwy a balchder a genedlent y nifer a atebent eu dybenion. Yr oeddynt wedi hir ymarfer rhoddi ymostyngiad ffyddiog i eiriau eu hathrawon, barnau y rhai a barchent fel gwirionedd anghyfnewidiol a thragywyddol. Gan hyny, amcanent blygu a nyddu yr efengyl er ateb eu hopiniynau blaenorol, yn lle profi y cyfryw opiniynau wrth oleu Dadguddiad ei hun. Ac yn mhob gwlad lle y pregethid yr efengyl, blodeuai cyfundraethoedd o dybiau wedi eu dwfn wreiddio yn meddyliau pob dosbarth o ddynion. Yr oedd y rhai hyn gan yr efengyl i’w darostwng, a llwyddodd tu hwnt i ddynol ddisgwyliad, ac yn wir, i raddau nad allasai moddion dynol ei effeithio. Banerau y groes a gyhwfanwyd trwy yr holl fyd adnabyddus, a miloedd a blygasant i’w thystiol-aethau nefolaidd. Eto llawer o’r rhai mwyaf dysgedig nid ufuddhaent ond mewn rhan; ffurfiasent gymysgo ddaliadau o wirionedd a chyfeiliornad, nes mewn
  



 

 



(delwedd B0102)

(x102)
TRAETHODAU,   &C.,

  
ychydig amser y gorchnddiwyd y gwirionedd gan ddygn dywyllwch Pabyddiaeth.
O’r amser hwn hyd y Diwygiad, teyrnasodd rhagfaru heb fawr aflonyddwch, a dynol awdurdodau a thraddodiadau a lithrasant ar eu goriwaered gyda llygredd yr amseroedd, nes.y llanwyd y byd o ysgelerderau—y daliwyd eneidiau filoedd yn maglau y diafol, ac y brasawyd ufferu trwy ei beunyddiol fwydo.
Dywedodd un duwinydd, “A ydyw dy galon yn uniawn gyda Duw? Os ydyw, estyn i mi dy law. Nid. wyf yn gofyn a ydwyt o’r un farn a mi. Nid yw yn hanfodol, ddim pellach na’n bod yn credu o’r galon gyfodi Iesu Grist o feirw, a chyffesu a’n genau i iachawdwriaeth. Nid tebyg ychwaith y byddaf finau o’r un farn a thithau yn mhob peth—nis gallaf. Os nad allwn gydunoj gad i ni gyduno i fethu cyduno—rho dy law—paid ag edrych yn wgus.”
Locke a ddywedodd, “ Yr ydwyf yn darllen G’air Duw yn ddiduedd er deall ei feddwl, gyda bwriad i’w fabwysiadu i fod yn feddwl i mi yn olynol.” A’r Parch. Eobert llall a ddywed, “ Nid oes gan un dyn, na neb dynion hawl i osod un rheol anhebgor yn amod cymundeb, nad yw y Testament Newydd wedi ei osod yn amod iachawdwriaeth.”
Ond er mor rhesymol y sylw-nodau uchod, lluaws a’u diystyrant trwy eu holl fywyd, trwy ergydio ymddygiadau surllyd, enllibaidd, goganus ac anghariadlawn at eu boneddigeiddiach, duwiolach, a doethach. Trowch ddalenau hanesyddiaeth, yno y gwelwch fod eu Hodium Theologicum wedi myned yn ddiareb a gwarthrudd sefydlog. Gellid meddwl fod eu rhagfarnau yn anorchfygol, a’u casineb yn ddiddaribd; o leiaf, nis

 

 


gallwn ni yn breseuol gaafod eu diwedd. Cadwodd yr

 




 

 



(delwedd B0103)

(x103) PARCH.  JEKKIN JENKINS.

 

 

 

 

 

ymrafaelion chwerwon a fnont rhwng Luther a Calvin hwy ill dau mor bell oddiwrth eu gilydd niewn teim]ad a chalon ag oeddynt oddiwrth y Pab o Eufain. Y Calfiniaid a’r Arminiaid ydynt yn mhellach oddiwrth eu gilydd yn nghylcli y “ pum’ pwnc “ wedi brwydro rai canoedd o flynyddoedd. Rhyfelgyrch’ grymus sydd yn parhau rhwng yr Esgobaethwyr a’r Henaduriaid o barth llywodraeth eglwysig, a rhwng y ddwy blaid a’r Annibynwyr. Ai diffyg synwyr, ynte bod y ddadl sydd rhyngddynt yn anchwiliadwy, yw yr achos na b’ai bellach wedi ei phenderfynu? Onid y gwir yw, mai rhagfarn sydd hyd yma yn cario’r maes? Daliwch sylw ar yr anghydfodau blinion rhwng uchel ac isel Galfiniaid, a’r cyfundraethau rhwygdyllog a bleidir yn ein hoes gan bob plaid o dristionogion; onid yw rhagfarnau America yn amlach na’i choedydd, yn fwy cribog na’i mynyddoedd, ac yn lletach na’i hafonydd? Prydain Fawr hefyd sydd fel crochan yn berwi gan ei fflamau enynawg. Pa.bryd y derfydd y poeth ddadl-euon am ddull a deiliaid bedydd? am natur ac hel-aethrwydd lawn Crist? am ewyllys rydd? ac am briodol waith a swydd yr Ysbryd Glan yn nhroedigaeth pechadur? Yn wir, y mae yr holl fyd Cristionogol yn profi yr un gosodiad, gan roddi gocheliad i bob perchen synwyr i ymddiried ac ymorphwys ar ddeall ac awdurdodau dynol, ac anogaeth i ymddiried mwy yn ni-gyfeiliorn Air Duw, yr hwn sydd abl i’n gwneuthur yn ddoeth i iachawdwriaeth.
Dywedodd un myfyriwr dwys a threiddgar ryw dro, “ Hawddach yw arwain can’ mil o wyr i frwydr na gorchfygu un rhagfarn.” Mae mwy o ddrwg wedi ei wneyd



 

 



(delwedd B0104)

(x104)
TKAETHODAU,   &O.,
i achos ein Harglwydd yn y byd gan benboethwyr cul-feddwl nag a allasai anffyddwyr wneyd iddo byth. Condemnia yr Ysgrythyrau mewn iaith rymus yr holl ddichellion cyfrwysgar a ddefnyddir gan y fath ddall-bleidwyr hocedus. Gwelir cariad mor amlwg a’r haul ganol dydd ar bob tu dalen o’r Gyfrol fendigaid. Yma ein cyngorir i “ochelyd cwestiynau ffol, ac achan, a chynhenau, ac ymrysonau yn nghylch y ddeddf, canys anfuddiol ydynt ac ofer. Ond chwantau ieuenctyd, ffo oddiwrthynt, a dilyn gyfiawnder, ffydd, cariad, tangnefedd, gyda’r rhai sydd yn galw ar yr Arglwydd 6 gaion bur. Bithr gochel ynfyd ac annysgedig gwestiynau, gan wybod eu bod yn magu ymrysonau. Ac ni ddylai gwas yr Arglwydd ymryson, ond bod yn dirion wrth bawb, yn athrawus, yn ddyoddefgar, mewn add-fwynder yn dysgu y rhai gwrthwynebus, i edrych a roddo Duw idd’ynt hwy ryw amser edifeirwch i gydnabod y gwirionedd. Od oes neb yn dysgu yn amgenach, ac heb gytuno ag iachus eiriau ein Harglwydd Iesu Grist, ac a’r athrawiaeth sydd yn ol duwioldeb, chwyddo y mae, heb wybod dim, eithr anmhwyllo yn nghylch geiriau, o’r rhai y mae cenfigen, ymryson, cableddau, drwgdybiau yn dyfod; cyndyn ddadleu dynion llygredig eu meddwl, heb fod y gwirionedd ganddynt; yn tybied mai elw yw duwioldeb; cilia oddiwrth y cyfryw.”
Rhydd gyngor yr apostol yw, “ Profwch bob peth, a deliwch yr hyn sydd dda.” Anadla y cyngor hwn iawnder a chymwysder dyn i farnu drosto ei hun, gwahaniaethu rhwng y da a’r drwg, a glynu yn ddiysgog wrth y da. Nid yw yn cynwys yr ysbryd cul, crebachlydj a phigog, yr hwn a wna i bob dyn tyner ei
Y PARCH. JEKKIK JENZINS.                



 

 



(delwedd B0105)

(x105)
galon i’w gasau a chilio oddiwrtho ar hyd y dydd, a chloi ei ddrysau rhagddo yn y nos. Mae llaweroedd wedi gwrthod yr efengyl, yn ddiddadl, a myned ar gyfrgoll, o herwydd fod ei phroffeswyr yn eu bradychu a sen ac erledigaeth. Maent yn syllu’ar fywyd ac ymarweddiad y rhai a enwir yn Gristionogion, ac wrth gaufod ysbryd llywodraethu, bygwth, a phleidgarwch mor uchel eu penau yn eu plith, yn lle gostyngeiddrwydd, hynawsedd, ac haelusrwydd, nid ydynt yn gofalu nac yn meddwl fawr am dani.
Mae yn wir nad yw dyn yn gyfrifol i un llys am gywirdeb a phurdeb ei addoliad, ond i Ohwiliwr y calonau yn unig. “Alltudio, (medd Jortin) carcharu, yspeilio, newyrni, crogi, a llosgi dynion am eu crefydd, nid efengyl Crist yw, ond efengyl y diafol. lle y mae erledigaeth yn dechreu, mae Cristionogaeth yn dybenu.” Ni ddefnyddiodd Crist erioed ddim te’byg i drais neu orthrech, oddigerth un waith, a hyny oedd, gyru dynion drwg allan o’r deml; ac nid trais oedd hyny mewn gwirionedd, ond amlygiad o’i awdurdod fel “ Mab ar ei dy ei hun.”
Gau mai oddiwrth ragfarn y mae erledigaeth yn wastad yn .deilliaw, mewn rhyw ddull neu gilydd, nid anfuddiol fyddai i ni wybod yn mha beth y mae yn gynwysedig. Yn yr oes oleu hon, addefir y dylai dynion gael llonydd i addoli Duw yn ol tystiolaeth eu cydwybodau; na ddylai un gyfraith gael ei gosod er peryglu rhyddid, bywyd, na meddianau neb, o herwydd ei gredo a’i broffes grefyddol. Ond a ellir colledu dynion mewn dim ond eu rhyddid, eu bywyd, a’u meddianau personol? Onid erledigaeth yw cellwair a theimladau dynion, cecru yn erbyn, condemnio a



 

 



(delwedd B0106)

(x106)
TRAETHODAU,   &C.,
goganu eu hegwyddorion, a’r ymarferiadau a ystyriant y mwyaf anwylaidd? Ai nid erledigaeth yw cyhoeddi en wad ymneillduedig, neu bersonau o’n hen wad ein Imnain, (pan na allom gydfyned a’u “Shiboleth “ hwy) yn wallgofiaid brwdfrydig, ysgeler gyfeiliornwyr, a bwriadol gyfrwysgall ragrjthwyr? i’e, yn wirfoddol, ddigywilydd lygrwyr athrawiaeth yr efengyl, ac yn gydffurfwyr a thraddodiadau a gwyddorion llygredig y byd; i’e, yn fleiddiaid rheibus mewn crwyn defaid? Gofynaf eto, ai nid erledigaeth yw gosod dynion yn wrthddrychau gwawd a dirmyg, yn llygrwyr moesau y bobloedd, gan eu hysgoi o bob cyfeillach ond yr eiddynt eu hunain? mewn gair, i glwyfo eu nodweddiadau yn y manau tyneraf, difa eu cysur mor bell ag y gellir yn y byd hwn, a’u trosi i golledigaeth yn y byd a ddaw. Os nad erledigaeth yw hyn, nid oes ystyr priodol i’r gair, nac esboniad cywir iddo.
Rhagrybuddiodd yr apostol y Cristionogion cyntefig, fod yn rhaid dyfod heresiau yn yr eglwys, fel y gwnelid y rhai cymeradwy yn eglur; ond nid yw y fflangellwyr dideimlad hyn yn ystyried fod erledigaeth yn waeth na’r cyfeiliornad duaf, gan ei fod ar un waith yn wadiad o wirionedd a chariad.
Gofiwn eiriau ein Harglwydd, a gwnawn hwynt:— “ Cerwch eich gelynion, bendithiwch y rhai a’ch mell-dithiant, gwnewch dda i’r sawl a’ch casant, a gweddi-wch dros y rhai a wnel niwed i chwi, ac a’ch erlidiant;” a chyngor yr apostol, “Na, orchfyger di gan ddrygioni, eithr gorchfyga di ddrygioni trwy ddabni.” Hwyrach mai nid anfuddiol fyddai rhoddi rhai engreifftiau o’r anhawsder y mae dynion ynddo i ddyfod yn rhydd o rwyd rhagfarn, a’r rhwymau sydd
Y  PARCH.  .TENKIK  .TENKENS.




 

 



(delwedd B0107)

(x107)
arnom i fod yn dirion tuag atynt yn y fath amgylchiad.    Medd Luther, pan yn dyweyd ei deimladau o barth y ddadl oedd rhyngddo ag Eckins, “Wrth syllu ar fy sefyllfa fy hun, yr wyf yn cael eiigraifffc hynod mor anhawdd yw i ddyn ymddadrus o’i hen dybiau cyfeiliornns.     ‘ Ymarferiad  sydd  ail   natnr.’     Os  na orchfygir hi, buan y daw yn angenrhaid.  Er fy niwydrwydd cyhoedd a  dirgel, dros saith   rhlynedd, lles y dysgais agos  bob gair o fy  mhregetiiau ar  gof, nid oeddwn ond megys ar drothwy y ffydd sydd yn Nghrist yn y diwedd.  Nid oeddwn oud newydd ddyfod i wybod mai trwy ffydd y cyfiawnheir pechadur ger bron Duw, ac nid trwy weithredoedd y ddeddf.    Yr oeddwn yn gweled ac yn haeru nas gallasai y Pab fod yn ben ar Eglwys Crist trwy un iawnder dwyfol; ar ol y cwbl, maen tramgwydd i mi, dros hir arnser, oedd galw yr holl gyfundraeth Babaidd yn gynllun satanaidd.  Trwy esiarnpl eraill, a fy ymarferiadau fy hun, yr oeddwn yn wageddus  iawn   ac   ansefydlog.     Gallaf   yn   awr  yn rhwydd gydymdeimlo a’r cul Babyddion, yn neillduol o’s na byddant yn gyfarwydd iawn mewn hanesyddiaeth eglwysig.”   Eto syrthiodd y Diwygiwr difiin, goleu, ac ymofyngar hwn, yn fyr iawn o gyraedd buddugoliaeth ar gyfe’iliornadati yr oes yr ydoedd yn byw ynddi. Er ei fod yn gwadu a gwrthwynebu yr athrawiaeth o draws-sylweddiad, amddiffynai a’i holl egni yr hyn a alwai yn gyd-sylweddiad.   Nid aml y gwelir y gwirionedd yn dyfod i’r golwg ar unwaith yn ei holl ranau priodol.    Aml y cenhedla argyhoeddiad grymus am bethau bychain fwy o ymrysonau yn mysg dynion nag am bethau o’r pwys inwyaf.
Bu Scott yn cydymu yn rhyfedd i’i ragfarn yn ei



 

 



(delwedd B0108)

(x108)
TRAETHODATJ,   AC.,
ymofyniadau am y gwirionedd. Am rai amserau byddai yn hynod aflwyddianus; gorchuddid ei feddwl gan gymylau duon, rhwystrid ei gynydd gan fynyddoedd cribog, ac amheuon parhaus; o’r diwedd. ymollyngai ei ragfarnau radd ar ol gradd, fodfedd ar ol modfedd, ac agorodd drws ei ddeall mor eaiig nes ydoedd yn sicr ei fod yn adnabod pethau wrth oleu’r dydd. Nid wyf yn gwybod i mi glywed gan, na gweled yn ngwaith neb, ei fod yn bleidgar i ragfarn, er fod hyn yn nes i’r rhan amlaf o drigolion y byd nag yw eu crysau iV crwyn. Y mae fel cysgod yn dilyn y goreu, ac nid gwiw i neb wadu yn hollol eu perthynas ag ef. Brith yw y puraf o honom, nid ydym yn gweled ond mewn rhan, nac yn ymddwyn ond mewn rhan, wrth yr hyn a ddylem. Mae lluaws yn twyllo eu hunain ar y mater hwn; pan yn proffesu haelfrydedd a rhinwedd, y maent eto yn gaethion yn nghadwynau rhagfarn.
Dynion hunanol, yn honi hawl i farnu dros eraill, gan osod deddfau unffurfiol, trwy eu rhagfarn a’u culni, eu melldith a’u cythreuligrwydd, a fuont offerynol i enyn y fflamau mwyaf erledigaethus a fu yn ein byd erioed. Nis goddef terfynau fy ysgrif i mi ond braidd gyffwrdd a “ Bwrdd y Cyngor,” “ yr Uchel Lys Eglwysig,” a’r “Star Chamber,” tri pheiriant caethder Lloegr, (gwaeth na’r Chwil-Lys Hysbaenaidd) a lywodraethwyd gan yr adyn LAUD, i’r hwn y cynygiai y Pab o Rufain gwcwll pen graddwr am ei ffyddlondeb drosto. Yn amser y treisiwr hwn y gwaeddid gan drigolion Prydaiu, ‘• Ymaith a ni o gaethder a thywyllwch yr Aipht, y mae goleuni a rhyddid yn Gosen.” Dyma y pryd y daeth miloedd o’r Anghydffurfwyr i Loegr Newydd. Kid llai na dwy-fil-ar-hugain a laniasant ar graig
Y  PABCH.  JBJTKIK  JENKINS.




 

 



(delwedd B0109)

(x109)
Plymouth, heblaw miloedd o bryd i bryd, cynt ac wedi hyn, a ddaethant dros for y Werydd o wlad y gorthrwm, i ba rai, yn llaw Duw, yr ydym yn ddyledus am y rhyddid yr ydym yn ei fwynhau yn bresenol. Nid. yw rhyddid crefyddol mor gyflawn yn Lloegr a Ohymru eto ag y dymunem. Gwir fod Dafydd Jones wedi marw, ond mor wir a hyny, ni chlywsom nad yw Ficar Llanelli yn fyw. Mae rhagfarn, culni, ac erledigaeth yn fyw yno hefyd, ac yma ar yr un pryd. Mae dwrn rhagfarn yn bwysig, ei ddanedd yn llymion, a’i ewinedd yn hirion; a thra y byddont felly, ni phaid a dyrnu yn ddidrugaredd, cnoi yn giaidd, ac ysgrabinio yn ffyrnig. O na wnai glafychu bellach, a marw yn fuan. Gwn yr hoffai lorwerth, Bos Glan Twrch, a Gwilym Fardd, anrhegu Golygyddion y Cenhadwr a’r Cyfaill &’i Farwnadau, a charwn inau, a chanoedd eraill eu darllen, a’u canu hefyd, nid mewn dagrau, ond mewn gorfoledd.
Ond Ow! tebyg yr 4 yr oes hon heibio cyn y derfydd yr ysbryd cul, rhagfarnllyd sydd yn mysg crefyddwyr o bob enw. Ni cheir ond ychydig a gydweithredant mewn daioni, er fod llaweroedd yn dilyn y lluaws i wneuthur drwg. Gwelais lawer o Gymry ag oeddynt yn proffesu crefydd yn yr Hen Wlad, wedi dyfod i Gaerefrog Newydd, nis gallent ymuno 4g un eglwys yn y ddinas; yr oedd ganddynt rywbeth yn erbyn pawb; ond ymunent yn eithaf yn y tafarndai, a llawer un hefyd a welid yn yr anniweirdai.
Ymddygir at genhadon Crist yn dra thebyg fel y gwnaed at eu Harglwydd. Nid yw prophwyd yn gymeradwy ond anaml yn mhlith ei genedl ei hun, ac yn ei dy ei hun. Pan oedd ein Harglwydd yn pregethu



 

 



(delwedd B0110)

(x110)
TKABTHODAU,   &G.,
yn ngwlad Judea, ac yn myned oddiamgylch gan wneuthur daioni, bloeddiai rhagfarn allan, “ A ddichon dim da ddyfod o Nazareth.” Medd penboethni, “ Croes-hoelier ef, croeshoelier ef.” Gofynai tegwch, “ Ond pa ddrwg a wnaeth efe?” eto ei groeshoelio ef a wnaed. Ac O! y lluaws sydd eto yn ei groeshoelio ef yn ei achos, ac yn ceisio llyfetheirio rhwydd-rediad ei deyrnas weledig ar y ddaiar.
Meithrinwn dymer rydd yn ein cylch crefyddol. Os gwnawn hyn, nid oes perygl na lwydda Cristionogaeth yn ein plith; oblegid dyma y tir y mae cariad brawdol yn tyfu, yr awyr y mae gwir grefydd yn anadlu, y llwybr y mae ein Duw yn ei hoffi, ac a gymeradwyir i holl ganlynwyr Iesu.
Medd un duwinydd medrus, “ Gadawn i’r wenynen fechan amddidyn ei hychydig fel a’i cholyn bychan; hwyrach fod ei bywyd bach yn ymddibynu am ychydig bach ar ei hychydig ymborth. le, rhoddwn lonydd i’r tarw gwrdd i droi ei ben, ac ysgwyd ei gorn a bygylu ei elyn, yr hwn sydd yn ymofyn ei gig i’w fwyta, ei groen i’w wisgo, a byw ar ei angau. Druan tlawd, mae ei fywyd mewn perygl. Yr wyf fi yn maddeu iddo ei holl ruadau a’i chwerwder. Oud crefydd Crist, a ydyw hono mewn perygl? Pa ymgais ddynol a all gywiro yr hyn sydd dwyllodrus, a gosod yn wrthyn yr hyn sydd hoffaidd a dymunol?” Nid yw Cristionogrwydd mewn perygl, am hyny rhydd i’w phroffeswyr fywyd ac ahadl, a phob peth oll, ond awdurdod a grym i ni-weidio eu gilydd. Y culdyn a erys gartref—ymlusgyn yw a ymlusgodd i fodolaeth, ac yno y llecha yn ei loches yn parhau i ymlusgo. Ond y Cristion hael-frydig a a allan o’i blaid ei hnn; ymgyfrinacha ag
T   PARCH.   JBNKIK




 

 



(delwedd B0111)

(x111)
oraill, ac enilla fudd oddiwrth bawb. Diarel rie. yw, “ Llaw hael sydd well na braich gref.” Cynhelir urddasrwydd Cristionogol yn well trwy weithredoedd haelionus na thrwy gy wreinrwydd ymresymiadol; ond pan y bydd y ddau hyn yn cyduno—pan fyddo synwyr dyn yn alluog i osod allan ac amddiffyn ei egwyddorion crefyddol, a phan fyddo ei galon mor hael ag yw ansawdd ddiwyrawl ei egwyddorion, perchenoga nerth a harddwch i raddau godidog.
Nid ydym yn gwrthwynebn cyffesau ffydd fel amlygiad amlwg o’n barnau crefyddol, ond pan y defnyddir hwynt yn glorianau i bwyso egwyddorion—yn feini prawf credoau crefyddol, ac yn rhwymynau cymdeithas, yr ydym yn llwyr ymwrthod a hwy. Hefyd, barnu yr ydym fod gan bob duwinydd gyflawn hawl i amlyguei olygiadan duwinyddol i’r graddau y byddo ei amgylchiadau yn caniatau iddo, eto nis gall golygiadan un dyn dan haul fod yn uniawn reol ddiwyriii i ddynion, gan mai y Beibl yn unig sydd felly, ac mai gwneyd dirfawr gam a’u heneidiau anfarwol y mae pawb a’u cymerant felly. Yr wyf yn hollol wybodus fod swm y traethawd hwn yn wrthwynebol i unol lais lluaws _o grefyddwyr, oblegid ystyrir yr hwn a ymlyno wrth gyfres o dybiau o’i ieuenctyd yn berchenOg ar sefydlogrwydd gwreiddiol—yn feddianol ar gyneddfau rhyfeddol, ac yn gynllun gwroldeb moesol. Ond pan yr ystyriom had yw y goreuoreolau dynol ond gwael mewn cyferbyniad i’r Dwyfol Air, a’u bod wedi deilliaw oddiar amgyffrediad.au anmherifaith a llygredig, nis gallwn lai na barriu fod yr hwn a ymlyno wrthynt yn ddiffygiol o uniondeb pen, yn faethrinwr cyfeiliornadau, ac yn agored i gaol ei ysu gan bryfed lluosog rhagfarn.
••-:



 

 



(delwedd B0112)

(x112)
TRAETHODAU,   &C.,
Hurtyn yw, wedi cysylltu ei hun wrth ewyllys eraill, ac a ddaeth i’w faintioli ar unwaith. Mae yn gwybod yr oll sydd yn ei erthyglau; nis gall ychwanegu dim atynt, ac nis beiddia dynu dim oddiwrthynt. Nis gwyr ddim am raddau mewn gwybodaeth—y mae uwchlaw tir arnheuaeth; nid yw ddim callach yr awr cyn ei farw na’r ail fynyd y tanysgrifiodd ei enw wrth ei gyffes.
Diehon y gofyna rhyw un, Pa fodd y mae ymofyn am y gwir, gan fod pob plaid yn haeru mai gyda hwy y mae ef? Atebaf, nid dan lywodraeth tymer—nid oes gan hon ddim i’w wneyd yn y mater hwn; yn hytrach, dylai pwyll, arafwch, a llarieidd-dra, fod ar orsedd yr enaid.
Dylem edrych, fel y dywedir, y ddau du i’r ddalen, a barnu y ddwy oohr. Nid fel y barnwr hwnw, yr hwn pan y daeth dwy blaid ato i benderfynu y ddadl oedd rhyngddynt, a ddywedai, “ Yn awr, foneddigion, gadewch i mi glywed un ochr i’r ddadl, a dim ond un; oblegid os clywaf y ddwy ochr, nis gallaf farnu heb betrusder; ond wrth glywed un ochr yn unig, barnaf yn eithaf; ond nid wyf yn cam eistedd yma wedi fy nyrysu genych chwi na neb arall.” Blin yw adrodd, llawer a wnant eu ‘meddyliau i fyny, mev/n pethati crefyddol, wrth glywed ond un ochr i’r ddadl yn unig. Y mae naw-deg-naw « bob cant yn glynu wrth yr ochr yr addysgwyd hwynt. Nid ydynt, fel y Bereaid gynt, yn chwilio beunydd yr Ysgrythyrau a ydyw y pethau hyn felly.
Rhaid cyfaddef mai niweidiol yw egwyddori meddyliau yr ieuenctyd mewn pleidgarwch rhagfarnllyd; neu, rhaid addef fod credoau y Papistiaid a’r Protestaniaid, y Sosiniaid a’r Athauasiaid, yn gydradd mewn daioni
Y  PARCH. 
JENKIST  JEWK1NS.

 

 



(delwedd B0113)

(x113)
a gwirionedd. Wrth yr un rheol dylem esgusodi yr Iuddew, y Mahomed, a’r Pagan; oblegid y inae y rhai hyn hefyd yn credu fel yr addysgwyd hwynt. Nid galluadwy yw dirnad y nifer sydd yn’ bloeddio, Biddo fi yw Paul, ac eiddo finau yw Apolos, &c. Pa beth sydd yn enw Calvin, Armiuius, Wesley, Hopkins, na neb ond Crist, yn ‘werth i ymlynu wrthynt. “At y Gair ac at y dystiolaeth.” •” Chwiliwch yr Ysgrythyrau,” os f’ynddynt hwy.yr ydych yn meddwl cael bywyd. tragywyddol.” “Yr Ysgrythyr nis gellir ei thori.” “ Dyma’r ffordd, rhodiwch ynddi.’ “ Ei ffyrdd hi sydd ffyrdd hyfrydwch, a’i holl lwybrau hi ydynt heddwch.”
Dylai synwyr naturiol ein dysgu mai ein dyledswydd yw cofleidio y gwir, pa le bynag y caifoin afael arno; er na fydd ein hymchwiliadau yn eu pen draw, fe allai, ddim yn gwbl yr un a’r enwogion sydd wedi ehr rhagflaenu—diau fod llawer o wirionedd yn gynwysedig yn ngwaith y rhan amlaf o honynt. Lloifwn ef ar ei faesydd ei hun, ac ymborthwn yn ddiflino arno.
Nid wyf yn cyhuddo fy nghenedl yn fwy nag eraill o rugfarn, er y gwn fwy am danynt hwy nag am un genedl arall. Gadewais heibio amryw bethau a allaswn eu _ nodi, er profi y pwnc hwn; ond gan fod amryw ffeithiau yn anelu at bersonau neillduol, ac y buasai nodi y cyfryw bethau yn fwy tebyg o gynroi teimladau nag o ddaioni, gadewais hwynt allan. Gwell genyf gadw ar yr ochr dyneraf nag ar y llall, oblegid y mae teimladau gan bawb, er fod llawer yn dra amddifaid o fara ddi-duedd a diragfarn. Er mwyn tangnefedd a heddwch, ni chyfiyrddais ag un amgylchiad er niweidio cysui un crefyddwr gwan na chryf. Py nyben yw i fod o Ies,



 

 



(delwedd B0114)

(x114)
TRAETHODAU,   &O.,
er   meithrin   gwybodaeth   fuddiol, er cynydd   ysbryd Cristionogol, a phurdeb cymdeithasol.
Anwyl ddarllenwyr, os byth y buddugoliaethwn ar ragfarn, rhaid i ni arferyd addfwynder mawr at ein gwrthwynebwyr, gwrando eu rhesyman yn amyneddgar, darllen eu hysgrifau yn bwyllog, llet’aru yn barchus am danynt, mor belled ag y byddo uniondeb yn caniatau—gwylio am gyfleusderau addas IV hargyhoeddi ‘o’u beiau mewn modd tawel, gau ddwys ystyried ein ffaeleddau ein hunain.    Ar yr’un pryd, nac arswydwn enllibau  neb, pwy bynag;   cymerwn   ddynlon   fel  y maent, am nas cawn hwynt fel y dylent fod; ac yn yr aflwyddiant a gyfarfyddwn  i’n hymdrechion  diflino, trown ein golwg at Dduw, a diolchwn yn barcbus iddo ei fod ef yn gall u dyoddef rhai cyndyn, gan gyfranu ei roddion  iddynt, pan y byddom ni yn metbu gwneyd dim a hwy.    Ystyriwn wrth farau eraill o ragfarn, na byddom ar yr un pryd yn  ein condemnio ein hunain. “ Mewn llawer o bethau yr ydym ni bawb yn llithro.” TSTac  amcanwn   dynu  y  brycbau o lygaid eraill, nes llwyddo i gael y trawstiau o’n llygaid ein hunain. . Na chaffed neb le cyfreithlon i ddyweydam danom ein bod yn dyhidlo gwybodyn, ac yn llyncu camel.    Pan yn baruu, barnwn farn gyfiawn, wrth reol y Gair Dwyfol; a’r sawl a rodiant yn  ol y rhcol hon, tangnefedd a thrugaredd arnynt, ac iddynt hefyd.
Gochelwn chwyddiaith ganmoliaethus; eithafoedd mewn unrhyw beth a genedla ei gyferbynydd. Clywais rai yn dywedyd, “ Dyma ddernyn gwerth ei ddarllen.” “ Dyna bregethwr gwerth ei wrando,” heb un rheswm dros hyny ond eu bod yn taro eu harchwaeth hwy, neu gyda bwriad o ddiystyru eraill.
Rhoddaf un
Y  PABOH. 
JENKIN  JENKINS. I




 

 



(delwedd B0115)

(x115)
engraiift o hyn mewn( hanesyn bychan. Yn fy ardal enedigol yr oedd dau dyddynwr crefyddol. Nid oedd y ddau hyn yn perthyn i’r un enwad, eto carent a pharchent eu gilydd. Arferai y ddau dderbyn pregethwyr i’w tai. Digwydddodd fod cyhoeddiad dau wr dieithr, un gyda phob un o’r penau teuluoedd a nodwyd, ar yr un amser. Gan eu bod yn y ddau dy nesaf at eu gilydd, penderfynodd y penau teuluoedd i gael y ddwy odfa yn un, yr hyn a ryngodd fodd y dieithriaid a’r ardalwyr yn fawr. Wedi i’r dyrfa ymgasglu, dechreuwyd yr odfa, a chwblhawyd y rhanau arweinyddol o’r gwaith. Yn mhlith y gwrandawyr yr oedd hen grefyddwr o’r enw Evan (yr hwn er ys deunaw rhlynedd bellach sydd wedi myned i dy ei hir gartref.) Cadwai hwn, rai amserau, lawer o swn yn y cyrddau. Dechreuai Evan sisial wrth y rhai oedd nesaf ato, “ Pa un o’r ddau bregethwr sydd yn perthyn i ni?” Dywedodd rhyw un anwybodus o’r peth rhai y llefarwrr olaf ydoedd.
Pregethodd y gwr cyntaf yn synwyrol, bywiog, ac efengylaidd iawn. Trwy yr holl bregeth ni chlywid llais Evan; eisteddai dan bendrymu gerllaw y tan yno. Ond y fynyd y dechreuodd yr ail lefaru, gwelid Evan yn dechren ysgwyddo, carthu peirianau llafar, anesmwytho, ac agor ei lygaid led y pen. Yn mhen ychydig clywid ef yn dywedyd, “ Da iawn, da iawn;” “ i’e, yn wir, i’e, yn wir;” “ da fy machgen,” &c., neu eiriau o’r cyffelyb. Dechreuai ei dymerau godi tua haner y bregeth, nes oeddynt yn eu llawn hwyl yn hir cyn y diwedd. Gwaeddai allan, “ Amen, Amen;” “ Gogoniant iddo byth;” “Diolch yn oes oesoedd;” “ Halelnia yn barchus,” &c. Wrth fyned adref o’r odfa, dywedai wrth ei



 

 



(delwedd B0116)

(x116)
TKAETHODAU,   AC.,
gyd-deithwyr, “ A welsoch chwi fel yr oedd y pregethwr bach yn cydio gafael wrth gael tipyn o lift gen’ i? Yr oedd yn gwella bob ergyd; oni ffystws e’r nail ei wala?” Pan amlygwyd mai perthyn i’l* blaid arall yr oedd y pregethwr y bu yn gwaeddi cymaint gydag ef, yr oedd yn flin iawn ganddo ei fod wedi gwneyd y fath beth. Llawer gwaith y blinwyd Evan am y tro hwn wedi hyny. Llawer un sydd eto yn rhy debyg i’r hen grefyddwr hwn; a phe difrifol ystyrient, gwelent fod eu dylanwadau yn fwy niweidiol o lawer nag ydynt o Ies; er meddwl eu bod o blaid yr Oen, y maent yn cryfhau teyrnas y tywyllwch. Rhagfarn yw un o’r colofnau cryfaf er cynal hon i fyny.
Yn nghanol y byd rhagfarnllyd hwn, gwelwn oddi-wrth yr hyn a fu dan ein sylw:—
1.  Mai peth o fawr bwys yw ein bod yn feddianol ar y gwir.    Hwyrach fod llawer o hoiiom yn teimlo ein hunain yn lled wrol yn y byd hwn; ond ystyriwn a ydyw gwreiddyn y mater wedi ei gael ynom ai nad yw.
2.  Y mawr angenrheidrwydd o fyned at Dduw i ymofyn doethineb, ne, y ddoethineb sydd oddi uchod, yr hon sydd “ bur,  heddychol, boneddigaidd, hawdd  ei thrin, llawn trugaredd a ffrwythau da, diduedd a diragrith.”
3.  Yn ugwyneb rhagfarnau y byd i gyd, gallwn sicrhau mai “ dedwydd yr ydym yn gadael y rhai sydd ddyoddefus.”    “Trwy amynedd meddianwn ein heneidiau.”   “Gwyn eu byd y tangnefeddwyr, canys hwy a elwir yn blant i Dduw.”
GWEDDI Y FFYDD.



 

 



(delwedd B0117)

(x117)
“O bydd ar neb o honoch eisiau doethineb, gofyned gan Dduw, yr hwn sydd yn rhoi yn haelionus i bawb, ac neb ddan
,od, a hi a roddir iddo ef. Eithr gofyned mewn ff’ydd, beb ameu dim; canys yr hwn sydd yn ameu, sydd gyffelyb i don y mor, a chwelir ac a deflir gan y gwynt.’ Canys na feddylied y dyn hwnw y derbyn efe ddim gari yr Arglwydd.”—lago i.
*5, 6, 7.
Dyma un addewid o lawer a wneir i weddi; a phe iawn ddeallem hi,gwnai ein haddysgu pafodd i weddio, a pha beth a allem ddisgwyl trwy weddi. Dengys y geiriau hyn fod gweddi o’r pwys mwyaf. “ O bydd ar neb o honoch eisiau doethineb, gofyned gan Dduw, yr hwn sydd yn rhoi yn haelionus i bawb,- ac heb ddanod, a hi a roddir iddo ef.” Gan fod Duw yn rhoddi doethineb i’r hwn sydd yn gofyn, a hyny o herwydd ei fod. yn haelionus, ac heb ddanod, nis gellir rhoddi un rheswm paham na rydd ef bob bendith angenrheidiol arall i’r rhai sydd yn eu hiawn ofyn. Hefyd, dysg y gyfrari hon o’r dwyfol wirionedd yr agwedd meddwl y mae yn gweddu i ni fod wrth weddio, fel’y byddo ein deisyfiadau yn gymeradwy. “ Gofyned mewn ffydd, heb ameu dim; canys yr hwn sydd yn ameu sydd gyffelyb i don y mor, yr hon a chwelir ac a deflir gan y gwynt; canys na feddylied y dyn hwnw y derbyn efe ddim gan yr .Arglwydd.” Nid pob math o weddi sydd lwyddianus, ond gweddi’r xx ffydd yn unig. Nid oes gan yr amheus a’r anifyddiog un sail i ddisgwyl derbyn dim oddi-wrth yr Arglwydd mewn atebiad i’w gweddiau. Os derbyniant ddim oll, mae yn rhaid i hyn gymeryd lle



 

 



(delwedd B0118)

(x118)
TRAETHODAU,   AC.,
,Y   PAKOH.  JENKiN  JENKINS. TBAETHODAU, &C,

 

 

 

ycliydig amser y gorehuddiwyd y gwirionedd gan ddygn

TEAETHODAU, &C,

 

 

 

mewn ffordd benarglwyddiaetnol yn unig, ac nid ar

liyd llwybr yr addewid; oblegid nid oes addewid iddi.

Y gweddiwr mewn.ffydd lieb ameu yn unig sydd ar dir

yr addewid, a gweddi'r ffydd yw y weddi gymeradwy.

 

Fr dyben o osod' y mater hwn yn fwy amlwg, mi a

gaf yn bresenol gyfarwyddo eich sylw at yr ymofyniad-

au canlynol: —

 

I. Pa beth yw prif amcan neu ddyben gweddi?

 

II. Pa le yr ymddengys pwysfawrogrwydd y ddyled-

swydd hon?

 

III. Pa betli yw rhai o gymeriadau gweddi dder-

byniol?

 

IV. Pa beth sydd i'w ddeall wrth weddi'r ffydd, a

plia mor bell y mae Duw wedi addaw gwrando y fath

weddi?

 

I. Pa betli yw prif amcan neu ddyben gweddi?

 

Mae yn ofynol fod hyn yn y goleu cyn y gallwnfarnu

gydag un cywirdeb betli yr ydym yn geisio gan Dduw,

a pba un gwell ydyw ceisio neu beidio ger bron gorsedd

gras.

 

1. Md ei dyben, yn sicr, yw gwneyd y Goruchaf yn

fwy bysbys o'n sef} T llfa a'n hangenion. Mae ef yn

cylcliynu ein llwybr a'n gorweddfa — yn gweled trwom

— yn adwaen ein heisteddiad a'n cyfodiad — 3 r n deall ein

meddwl o bell— yn gwybod pob gair sydd ar ein tafod.

Nid oes greadur anamlwg yn ei olwg ef Yr oedd, y

mae, ac efe a fydd felly by th; am hyny, nid fr dyben i

wneyd Duw yn fwy gwybodus am danoin yr ydym yn

gweddio arno.

 

2. Nid dyben gweddi yw cyffroi Duw mewn tosturi

a haelusrwydd tuag atom, nac er peri fod ein sefyllfa yn

ymddangos yn fwy gwycliaidd yn ei olwg ef nag oedd




 

 



(delwedd B0119)

(x119)
mewn ffordd benarglwyddiaethol yn unig, ac nid ar hyd llwybr yr addewid; oblegid nid oes addewid iddi. Y gweddiwr mewn ffydd lleb ameu yn unig sydd ai\dir yr addewid, a gweddi’r ffydd yw y weddi gymeradwy. I’r dyben o osod y mater hwn yn fwy amlwg, mi a gaf yn bresenol gyfarwyddo eich sylw at yr ymofyniadau canlynol:—
I.  Pa beth yw prif amcan neu ddyben gweddi?
II.  Pa le yr ymddengys pwysfawrogrwydd y ddyled-swydd hon?
III.   Pa beth yw rhai o gymeriadau gweddi dderbyniol?
IV.  Pa beth sydd i’w ddeall wrth weddi’r ffydd, a pha mor bell y mae Duw wedi addaw gwrando ,y fath weddi?
1.  Pa beth yw prif amcan neu ddyben gweddi? Mae yn ofynol fod hyn yn y goleu cyn y gallwn farnn
gydag un cywirdeb beth yr ydym yn geisio gan Dduw, a pha un gWell ydyw ceisio nen beidio ger bron gorsedd gras.
• 1. Nid ei dyben, yn sicr, yw gwneyd y Goruchaf yn fwy hysbys o’n sefyllfa a’n hangenion. Mae ef yn cylchynu ein llwybr a’n gorweddfa—yn gweled trwom —yn adwaen ein heisteddiad a’n cyfodiad—yn deall ein meddwl o bell—yn gwybod pob gair sydd ar ein tafod. Nid oes greadur anamlwg yn ei olwg ef. Yr oedd, y mae, ac efe a fydd felly byth; am hyny, nid i’r dyben i wneyd Duw yn fwy gwybodus am danom yr ydym yn gweddio arno.
2.   Nid dyben gweddi yw cyffroi Duw mewn tostnri a haelusrwydd tuag atom, nac er peri fod ein sefyllfa yn ymddangos yn fwy gwychaidd yn ei olwg ef nag oedd
o’r blaen. Mae ef yn wastadol yn anfeidrol roesawtis:i hael, ac o dragywyddoldeb i dragywyddoldeb gyda’r un diysgogrwydd tosturiaethol yn canfod diifygion ei gre-aduriaid. Ei gymeriad digyfnewid a’i berffeithderau a brofant hyn.
3. Nid dyben gweddi yw effeithio y cyfnewidiad lleiaf yn mwriadau Duw. Hyn sydd anmhosibl. A fwriadodd efe, ac oni chyflawna? A ddywedodd efe, ac oni ddaw i ben? Y mae efe yn un, a phwy ai try ef? a’r hyn y mae $i enaid ef yn ei chwenychu, efe ai gwna, yn y nefoedd uchod, ac yn y ddaiar isod. A phaham lai? ei fwriadau ef ydynt anfeidrol ddoeth a da, wedi eu cynllunio mewn cyflawn olwg o drefn pethau dichouadwy ac annichonadwy. Na fynwesed neb oblegid hyn fod gweddi yn waith ofer. Na chaffed y fath dyb y croesaw lleiaf gan neb. Er nad yw gweddi yn cyfuewid dim ar Dduw, na meddyliau ei galon, eto y mae yn cyflawni dybenion pwysig yn ei pherthynas a ni ein hunain.
(1.) Bwriadwyd gweddi i fod o Ies effeithiol i’n parotoi yogyfer a derlyn tendithion ysbrydol. Rhydd ddifrifol ystyriaeth o’n hymddibyniad ar Dduw. Bendith nid o ychydig werth yw hon i greaduriaid fel nyni, sydd mor agored i anghofio ein hymddibyniad. Gwna beri cynydd ar ysbryd o ymostyngiad, trwy ein plygu i’r llwch o flaen gorsedd gras. Yma y gwelwn ein bychanrwydd a’n gwaelder ger bron anfeidroldeb, mawredd, a phurdeb lor. Gwna i ni roddi ein hymddibyniad ar Dduw am bob peth sydd arnom eisiau, yn gystal a bod • yn ddiolchgar iddo am bob peth a dderbyniwn. . (2.) Trefnwyd gweddi i fod yn weithred o’n parch a’n hymostyngiad i’n Crewr; parch gweddus i’w berffeithderau



 

 



(delwedd B0120)

(x120)
 
 anfeidrol a gogoneddus oddiwrth greaduriaid cymwys i’w hystyried, y rhai sydd yn dderbynwyr dyddiol o’i gyfraniadau. Gweddi yn yr ystyr hyn sydd ddyledus i Dduw ei chael, a gweddus i ddyn ei rhoi. Ac onid gwrthun yw dyweyd  mai po fwyaf yw iawnder Duw o’n gweddi, lleiaf yw ein rhwyman i’w hymarferyd. Eto pa iaith arall sydd gan y rhai a wrthodant weddio. Aml y mae dynion yn meddwl mai lles iddo ef y maent yn wneyd wrth gyflawni ei orchymynion, yn lle eu lles eu hunain.

(3.) Bwriadwyd gweddi fel moddion i dderbyn y da, a gwrthod y drwg. Diau fod Duw yn nghyson drefn rhagluniaeth wedi cysylltu bendithion pwysig â gweddiau ei bobl. Gwyddom ei fod wedi cysylltu moddion a dybenion a’u gilydd, yn gystal a bod cysylltiad rhwng achosion ac effeithiau. Penderfynodd feudithion neillduol mewn atebiad i weddiau arbenig mewn perffaith gydgordiad â’i anghyfnewidiol gyngorion a’i dragywyddol fwriadau. Priodol yw dyweyd mai gyda golwg ar weddiau arbenig, deilliedig o wefusau a chalonau ei blant, y lluniodd ei fwriadau tragywyddol. Os dywed neb—”Yn gymaint a bod bwriadau Duw yn anghyfnewidiol sefydlog, nid gwiw gweddio; nis gall gweddi wneyd un gwahaniaeth yn fy rhan yn y byd h wn, nac yn yr hwn a ddaw;” gallai y cyfryw ychwanegu gyda’r un priodoldeb, “Ni wnaf fi ddim gweithio pwyth, na defnyddio un moddion at estyn fy mywyd.” Mae y bwriadau dwyfol mor ddisigl a diysgog, a’r canlyniadau hefyd, yn y naill ag yw yn y llall. Gallwn fod. yn sicr fod Duw wedi sefydlu cysylltiad rhwng gofyn a derbyn, ceisio a chael, curo a chael agoryd, edifeirwch a maddeuant, rhyfela a gorchfygu, bod yn ffyddlawn
 


 

 



(delwedd B0121)

(x121)

hyd angau a chael coron y bywyd, &c., &c. Mae y cysylltiad hwn wedi ei wneyd gan anfeidrol ddoethineb yn berffaith gyson a’r holl berffeithderau dwyfol ac amgylchiadau pethau, er adfywio ein gobeithion, ac er cryfder ein ffydd. .Mae yr holl addewidion a roddir i weddi yn golygu hyn, yn gystal a’r engreifftiau sydd genym fod Duw yn gwrando gweddi.

II. Pa le yr ymddengys pwysfawrogrwydd gweddi? Ni chawn wneyd ond ychydig yn rhagor yma nag enwi y prif erthyglau a olygwn yn atebiad i’r ymofyniad.

1.  Sylwn ar y ffaith fod Duw yn cael ei alw yn Wrandawr gweddi.    Dyma iaith Dafydd dan gynhyrfiad yr Ysbryd Glan — “Ti, yr hwn a wrandewi weddi, atat ti y daw pob cnawd.”    Dyma enw Duw mewn coffadwriaeth i bob cenedlaeth; onid yw yn dwyn gydag ef reswm   cryf i  anerch   ei   orsedd?     Yma   y   mae yr Arglwydd yn rhinweddol gyhoeddi ei fod ef ar orsedd trugaredd — gorsedd i ni lwyddo o’i blaen  bob amser —  at hon gallwn ddyfod a’n diffygion, ein gofid, a’n holl drueni, mewn llawn hyder ffydd na thry ef ei glust rhag gwrando ein griddfanau.    Nid anfuddiol yw gweddi, ond dyledswydd bwysig yn llawn budd i ni ydyw.

2.  Y mae y gwirionedd hwn i’w ganfod yn fwy amlwg yn yr amrywiol orchymynion a roddir i ni i weddio. Nid ydyw gweddi wedi ei gadael i ni fel gweithred o hyfrydwch yn unig, i’w rhoddi heibio neu i’w chymeryd i fyny yn ol ein teimladau a’n tueddiadau.  
Y mae yn dal  cysylltiad a ni yn mhob amgylchiad; y mae yn perthyn i ni ei harfer.    Gorchymynir i ni weddio “yn ddibaid,” gweddio “yn wastadol,” gweddio mewn pob rhyw weddi a deisyfiad yn yr Ysbryd Glân, gan wylied



 

 



(delwedd B0122)

(x122)
 
yn hyn yma, .mewn pob dyfal bara a deisyfiadau dros yr holl saint. Gorchymynir i ni weddio yn ein hystafelloedd, ein haneddau cartrefol, ein cynulleidfaoedd cyhoeddus yn mhob lle, gan ddyrchafu dwylaw santaidd, heb na digter na dadl, dros bob dyn.
Gan hyny, rhaid mai dyledswydd a braint bwysig yw gweddio. Dwys ystyriwn hyn, ac aml weddiwn.

3.  Tynir yr un casgliad oddiwrth yr addewidion a wnaeth Duw i weddi.    Cawn luaws o’r rhai hyn yn y Gyfrol Ddwyfol; ac er eu bod yn dal gwahanol gymeriadau,  y maent oll yn  cadarnhau y  cysylltiad sydd rhwng gofyn a derbyn y bendithion a ddeisyfwn.    Yr Arglwydd a wrendy pan alwyf arno, efe a gyflawna ddymuniad y rhai a’i hofnant ef, efe a wrendy eu llefain hwynt.”    “Ni ddywedodd efe wrth had Jacob, ceiswch fy wyneb yn ofer.”    “ Cyn galw o honynt yr atebaf.”     Gofynwch a derbyniwch, fel y byddo eich llawenydd yn gyflawn.   Dyma unol iaith y Beibl.   Nid ein bwriad presenol yw  chwilio pa mor bell y mae Duw wedi addaw gwrando ac ateb gweddiau ei blant ar bob achlysur.   Digon i ni ddeall fod cysylltiad yn bod, i raddau mwy neu lai, oblegid y mae hyn yn cyflawn sicrhau pwysfawrogrwydd gweddi.

4.   Argreffir y gwirionedd hwn yn  ddyfnach ar y meddwl, os ystyriwn yr hyn y mae gweddi wedi ei wneyd yn barod.    Bu gweddiau Abraham yn effeithiol i symud barnau dwyfol, a diogelu bendithion anmhrisiadwy iddo ei hun a’i hiliogaeth;  a phe  buasai ond deg cyfiawn yn Sodoma, buasai  ei weddiau taerion yn arbed y ddinas euog hono.    Ataliodd gweddiau Moses bläau yr Aipht, ac arbedodd Israel wrth y Môr Coch; a mynych y trodd ei weddiau farnau dwyfol oddiwrth
 


 

 



(delwedd B0123)

(x123)

y genedl euog hono yn yr anialwch, ac ar eu taith tua Gwlad yr Addewid. Gwelwch ef yn eiriol â Duw drostynt, pan oeddent wedi gwneyd llo aur, ac yn ei addoli, a phan y gwrthryfelasant ar ddychweliad yr ysbiwyr. Erioed ni bu gweddiau dyn yn daerach, na chyda mwy o gryndod a pharch dwyfol; ac fe allai na atebodd Duw erioed weddi neb gyda mwy o raslonrwydd ac ymostyngiad. “Mi a’th wrandewais,” meddai Duw, “ac a faddeuais gamwedd dy bobl, yn ol dy air.”
(Ex. xxxii. Num. xix.) Rhwydd fyddai cyfeirio at weddiau Joshua, Gedeon, Barac, Samson, Dafydd, ac eraill, pa rai a rasol gymeradwywyd ac a atebwyd. Aml yr atebodd Duw ei bobl yn y peth yr oeddent yn ei ofyn. Gweddiodd Elias “na byddai wlaw, ac ni bu gwlaw ar y ddaiar dair blynedd a chwe’ mis; ac efe a weddiodd drachefn, a’r nef a roddes wlaw, a’r ddaiar a ddug ei ffrwyth.” Profodd gweddiau Eliseus yn gryfach diogelwch i Israel na miloedd o  gerbydau a marchogion. A pha beth a ddywedwn am Esaiah, Jeremiah, a Daniel; cafodd y rhai hyn oll nerth i orchfygu gyda Duw. Do, fe aeth eu llefain hwynt i glustiau Arglwydd y lluoedd, ac anrhydeddwyd hwynt ag arwyddion helaeth o gyfryngau dwyfol ras. Gweddi i a gadwodd yr Iuddewon rhag difrod Haman yn nyddiau Esther a Mordecai. Gweddi a achubodd Pedr o’r carchar, ac o law Herod, yr hwn a sychedai am ei waed ef. Gweddi a waredodd Paul a Silas pan oeddynt dan gyffion nerthol yn ngharchar Philippi; ac onid mewn atebiad i weddi y tywalltwyd yr Ysbryd Glân ar y miloedd hyny ar ddydd y Pentecost? Nid oes dyn duwiol ar y ddaiar nad yw Duw wedi ateb ei weddi lawer gwaith. Ond prysurwn at y sylw nesaf.



 

 



(delwedd B0124)

(x124)


5. Mae Duw yn aml yn atal ei roddion am nad ydym yn eu ceisio mewn agwedd addas. Dywed yr Arglwydd wrth y prophwyd Ezeciel, (xxxvi. 37.) “Ymofynir â mi eto gan dy Israel i wneuthur hyn iddynt.” Yr oedd efe yn son am eu dychwelyd o gaethiwed Babilon, eu hail sefydlu yn eu gwlad eu hunain, i roddi calon newydd ac ysbryd newydd o’u mewn; ond nid oedd i wneyd hyn ond mewn atebiad i weddi. Am hyny yr hysbysa mewn lle arall, “Yna chwi a’m cewch, pan y’m ceisioch a’ch holl galon ac a’ch holl enaid.” Gan hyny yr oedd yn rhoi ar ddeall iddynt, na buasai iddynt ei gael hyd nes y byddai iddynt ei geisio yn yr agwedd hon. Yn debyg i hyn yr addysgir ni yn ateb Duw i Solomon yn nghysegriad y deml. A gellir golygu hon yn rheol gyffredin am ymddygiadau Duw, o leiaf at y genedl hono. “Os cauaf y nefoedd fel n’a byddo wlaw, neu os gorchymynaf i’r locustiaid ddifa’r wlad, neu os danfonaf haint i blith fy mhobl; os fy mhobl, pa rai y gelwir fy enw arnynt, a ymostyngant a gweddio gan geisio fy wyneb, a dychwelyd oddiwrth eu ffyrdd drygionus, yna mi a wrandawaf o’r nefoedd ac a faddeuaf iddynt eu pechod, ac a iachaf eu gwlad.” Neu fel pe dywedasai, ‘Os nad ymostyngant dan fy marnau dwyfol, gan alw arnaf, nid ymedy fy marnedigaethau a hwynt—ni symudaf hwynt ymaith.’ Dengys yr apostol ei fod wedi penderfynu y gofyniad hwn am byth, pan y dywed, “Nid ydych yn cael, am nad ydych yn gofyn; gofyn yr ydych, ac nid ydych yn derbyn, am eich bod yn gofyn ar gam.” Arwydda fod y fendith yn aml yn cael ei hatal o eisiau ei gofyn mewn gweddi,’ ac o eisiau gweddi o’r iawn ryw. Nis gallwn gadarnhau, gydag un priodoldeb oddiwrth hyn, nad yw Duw yn cyfranu
 




 

 



(delwedd B0125)

(x125)

ei roddion ar rai amserau heb weddio arno, neu yn annibynol o’n gweddiau. Penadur yw ef, gall wneyd yr hyn na addawodd ei wneyd; fe ddichon ef droi o drefn gysefin ei lywodraeth, ac anrhydeddu golud ei drugaredd yn wahanol i’n disgwyliadau a’n gobeithion ni. Rhaid i ni beidio ei gyfyngu ef lle nad yw wedi cyfyngu ei hun. Eto, gan mai gwir yw ei fod yn aml yn atal ei fendithion am nad ydym yn eu gofyn, a’u gofyn yn iawn, rhaid fod hyn yn rheswm cryf dros weddi ddiragrith, ostyngedig, a thaer.

6. Ni chaf enwi ond un sylw yn rhagor er egluro angenrheidrwydd a  phwys y ddyledswydd hon, a hono fydd ESIAMPL CRIST. Aml y gweddiai ef, nid yn unig gyda’i ddysgyblion, ond hefyd wrtho ei hun yn y dirgel. Yr oedd ef yn offrymu ei weddiau i Dduw “ trwy lefain cryf a dagrau.” Nid oedd ef ddim yn blino nac yn esgeuluso y ddyledswydd hon. Am ba beth yr oedd ef yn gweddio? Nid oedd ganddo un pechod i gael ei faddeu, na chydwybod i’w phuro; nac oedd, ond yr oedd ganddo satan a byd llidiog i’w gwrthsefyll, llafur lawer i’w gyflawni, a dyoddefiadau i’w dwyn. Un o amgylchiadau ei ddarostyngiad oedd, ei fod ef, yr hwn oedd a phob peth yn ei feddiant, yn ymddibynu am bob cynorthwyon oddi fry. Ond ni ddylem dybied fod ei eirchion yn terfynu yn hollol arno ei hun. Mewn teimlad haelfrydig yr edrychai o’i amgylch pan yn gweddio dros ei gyfeillion, a’i elynion hefyd. Oddiar y dymer hon y gwaeddodd pan ar y groes, “O Dad maddeu iddynt, canys ni wyddant pa beth y maent yn ei wneuthur.” Nis gallasai ef eu gadael heibio ar yr amgylchiad cyfyng hwn, er cymaint a gerddodd oddiamgylch gan wneuthur daioni iddynt o’r blaen. Na,


 

 



(delwedd B0126)

(x126)


 
y fath oedd ei esiampl yn hyn fel y parhaodd gyda’r gwaith hyd ei farw!

III. Ni a gawn yn awr wneyd rhai ymofyniadau beth yw rhai o gymeriadau gweddi gymeradwy.

Os yw yn ddyledswydd o’r fath annhraethol bwys, mae yn ofynol ein bod yn gwybod y pryd a’r modd y mae i ni ei chyflawni, er sicrhau cymeradwyaeth yr hwn yr ydym yn galw arno.

1. Mae yn rhaid ei bod yn weddi y gwir Gristion, neu yn weddi y “cyflawn.” Nid ymddengys pa fodd y mae yn ddichonadwy i Dduw gymeradwyo gweddi y drygionus, gan nas gall ddeilliaw oddiar ysbryd uniawn. Heblaw hyn, dywed y gwr doeth, “Aberth yr annuwiol sydd ffiaidd gan yr Arglwydd, ond gweddi yr uniawn sydd hoff ganddo ef.” Nid wyf yn dyweyd nad yw Duw byth yn gwrando gweddi y drygionus, oblegid gwrendy ar gwynion y cigfrain pan lefant.
Fel Bod llawn tosturi, fe ddichon eu gwaredu o drallod mor bell ag y gwelo hyny yn addas. At hyn y cyfeiria y Salmydd yn Salm cvii. — “Y rhai a ddisgynant mewn llongau i’r môr, gan wneuthur eu gorchwyl mewn dyfroedd mawrion. Hwy a welant weithredoedd yr Arglwydd, a’i ryfeddodau yn y dyfnder. Canys efe a orchymyn, a chyfyd tymhestlwynt, yr hwn a ddyrchafa ei donau ef. Hwy a esgynant i’r nefoedd, disgynant i’r dyfnder, tawdd eu henaid gan flinder. Yna y gwaeddant ar yr Arglwydd yn eu cyfyngder, ac efe a’u dwg allan o’u gorthrymderau.” Dyma ymadrodd rhyfedd am drugaredd Duw, ond nid yw yn un prawf ei fod yn cymeradwyo eu gweddiau, er ei fod fel hyn yn eu gwaredu o’u bedd dyfrllyd. Sanctaidd yw Duw, a byddai yn anghyson a’r briodoledd hon iddo gymeradwyo


 

 



(delwedd B0127)

(x127) dim oddiwrth ei greaduriaid, ond yr hyn sydd yn foesol dda. Fe ddichon dosturio wrth bechadur, a’i waredu o’i adfyd pan lefo. Ond nis gall edrych ar ei gymeriad na’i waith mewn modd cymeradwyol. Bu hyn yn faen tramgwydd i amryw, ac aml y defnyddiwyd hyn gan yr annuwiol er ei atal i weddio yn gyfan-gwbl. Nid yw y gwir, er hyn, i gael ei gelu, pa driniaeth bynag a wnel dynion o hono. Duw a ddywedodd, “Y neb a dry ei glust ymaith rhag gwrando’r gyfraith, sydd ffiaidd ei weddi hefyd.” Ac y mae Dafydd yn addef, “Pe edrychaswn ar anwiredd yn fy nghalon, ni wrandawsai yr Arglwydd.” A wna efe wrando ar eraill sydd yn edrych, neu yn hoffi anwiredd yn eu calonau, a meddylfryd eu calonau yn gwrthwynebu Duw a’i gyfraith? Mae gweddiau y fath bersonau, yn gystal a’u hymarferiadau, yn hollol amddifad o gywir gariad at Dduw a dynion. Nis gall yr hwn sydd yn edrych ar egwyddorion cynhyrfawl yr enaid gymeradwyo dim nad yw mewn cydgordiad a’i gyfraith. Mae yn ofynol, gan hyny, i weddi ddeilliaw oddiwrth wefusau ffydd, cyn y bydd yn gymeradwy ger bron Duw.

2. Rhaid ei bod yn wirioneddol, yn egluro ein dymuniad diwamal yn y peth yr ydym yn ei ofyn. Mewn gair, rhaid ei bod yn iaith y galon — nid y deall  a’r gydwybod yn unig. Mae gormod o weddiau pobl Dduw yn ddiffygiol iawn o ddiledrithrwydd. Maent yn gofyn am fod yn rhaid iddynt ofyn, ac nid oddiar eirwiredd, neu wir ddymuniad. Mae yr Arglwydd yn caru gwirionedd oddi mewn; a’r rhai nad ydynt yn dyfod at ei orsedd felly, nis gall eu hymddygiadau ddiogelu ei gymeradwyaeth




 

 



(delwedd B0128)

(x128)


ef, ond y maent yn bytrach yn cellwair yn ei olwg.
 
3.  I’r dyben i’n gweddiau fod yn gymeradwy a llwyddianus gyda Duw, rhaid eu bod yn daer, yn gystal a gwirioneddol. “Nid oes neb yn ameu nad yw hyn yn angenrheidiol er cyflawni y ddyledswydd bwysfawr hon. Mor daer oedd gweddiau Abraham pan yn dadleu ar ran Sodoma, a phan yn deisyfu dros Ismael. Rhyfedd mor daer yr oedd Jacob yn ymdrechu a’r Angel, pan yr eiriolai dros y gwragedd a’r plant.    Gwelai hwynt yn agored i gael eu dinystrio gan gleddyf miniog Esau, yr hwn oedd yn dyfod i’w cyfarfod a phedwar cant o wyr arfog.  Dywedodd wrth yr Angel, le,  Angel mawr y cyfamod, “Ni’th ollyngaf oni’m bendithi.”  Darllenwch weddiau Dafydd, Moses, Daniel, Nehemiah, ac Ezra; gyda pha fath wresogrwydd yr oeddynt hwy yn tywallt eu deisyfiadau ger bron Duw.     Gyda theimladau  bywiog a chynes yr ymaflent yn ei nerth.    Yr oedd diledrithrwydd eu heirehion yn profi taerineb a chyflawnder eu disgwyliadau.

Crist hefyd a ddengys yn nameg y weddw, a’r barnwr anghyfiawn, a’r gwr a fenthycodd dair torth yn echwyn am haner nos, nid yn unig yr angenrheidrwydd mewn taerineb, ond hefyd ddifrifoldeb ein gweddiau. “Llawer a ddichon taer weddi y cyfiawn;” megys pe dywedasai, os na bydd ein gweddiau yn daer, nid oes i ni ddisgwyl ond ychydig neu ddim.

4.   Ni ddylem un amser fod yn ddoctoraidd, neu mewn hyfdra rhyfygus, eithr mewn gwylder, gostyngeiddrwydd, a chryndod duwiol.   Mae hyn yn angenrheidiol mewn pob  gweddi dderbyniol.     Ar y Duw mawr, Bod ac Arswydydd y bydysawd, yr ydym yn


 

 



(delwedd B0129)

(x129)

galw — o’i flaen ef nid yw yr holl genedloedd ond megys defnyn o gelwrn, neu fân lwch y clorianau; yr hwn nad yw y nefoedd yn lân yn ei olwg; y cerubiaid a’r seraphiaid sydd yn cuddio eu hwynebau gan fawredd ei ogoniant. Beth ydym ni i siarad â’r Bod arswydlawn hwn! Yn y llwch y mae ein lle ni i fod, mewn braw sanctaidd, ofn mabaidd wedi ein meddianu. Yn y dymer hon yn hollol yr oedd Abraham wrth nesau at Dduw yn ngwastadedd Mamre. Braidd yr adnabyddwn pa un ai ysbryd eiriolaeth a thaerineb, neu arafwch ac ystyriaeth parch us o wrthddrych ei weddi a’i meddianai fwyaf. “Wele, yn awr y dechreuais lefaru wrth yr Arglwydd, a mi yn llwch ac yn lludw,” fel pe dywedasai, O, y fath fraint fawr yw hon i’r fath bryfyn annheilwng. “O, na ddigied fy Arglwydd a llefaraf y waith hon yn unig.” Y fath hefyd oedd teimlad y Publican, yr hwn, gan sefyll o hirbell oddiwrth y drugareddfa, ni fynai gymaint a chodi ei olygon tua’r nef, ond gan guro ei ddwyfron, efe a ddywedodd, “O Dduw, bydd drugarog wrthyf fi bechadur.” Dyma dymer pob addolwr cymeradwy, mewn modd mwy neu lai; ei weddi yw gweddi y truan a’r isel o ysbryd. Nid yw Duw yn ei dirmygu; O na, ar hwn yr edrychaf! Arglwydd, mae genyt ti fyrddiynau dirif o angelion heb lychwino eu gwisgoedd; cai burach addoliad gan y teuluoedd fry. Ar hwn yr edrychaf!

……………………………“Frodyr, de’wch, llawenhewch,
……………………………Diolchwch iddo, byth na thewch.”

Heb ryw gymaint o’r ysbryd hwn yn ein gweddiau, mae yn anmhosibl iddynt gael eu cymeradwyo gyda Duw.    Y rhai sydd a mwyaf o hono sydd yn sefyll 



 

 



(delwedd B0130)

(x130)

 
uchaf yn nghymeradwyaeth y Nef, ac yn derbyn y bendithion mwyaf toraethog. Er ei fod ef yn gyru y rhai llawnion ymaith yn waglaw, cyfyd y tlawd o’r llwch, yr anghenus o’r domen, lleinw y llestri gweigion, a phortha yr enaid newynog sydd ar ddarfod am dano.

5. Rhaid i weddi dderbyniol ddyfod oddiar ddybenion uniawn. Medd yr apostol, “Gofyn yr ydych, ond nid ydych yn derbyn, am eich bod yn gofyn ar gam, er mwyn eu treulio ar eich melus chwantau.” Yr oedd y pethau yr oeddynt yn eu ceisio yn addas i’w sefyllfaoedd a’u hanghenion, ond yr oedd y dyben yn ddrwg; rhyw ddyben daiarol oedd ganddynt mewn golwg. Fe allai eu bod yn dymuno cael eu cadw rhag poethder erledigaeth, nid fel y byddai iddynt wasanaethu Duw gyda llai o enbydrwydd, ac eangu terfynau teyrnas eu Ceidwad; ond fel y byddai iddynt fwy o esmwythder yn eu galwedigaetb.au, a suddo yn fwy didaro i fwynderau y bywyd hwn. Pe allai eu bod yn ymbleidio, a’w bod yn dymuno rhyw oruchafiaeth ar eu gwrthwynebwyr. Beth bynag oedd eu cais, nid oedd eu dyben yn gywir, am mai rhywbeth islaw dyben penaf dyn oedd, sef gogoniant Duw. Pa un ai bendithion tymhorol neu ysbrydol yr oeddynt yn eu ceisio, yr oedd rhyw ddybenion daiarol yn llechu danynt. Dyrna yr achos fod eu gweddiau yn aflwyddianus, fel y bydd yr eiddom ninau hefyd, pan y byddont o’r fath nas gall llygaid craff y Duwdod eu cymeradwyo. Pan y byddo ein gweddiau yn ffrydio o galon wedi ei nhawseiddio, ac oddiar ysbryd efengylaidd, mewn gwir ddymuniad am gynydd a phurdeb ei deyrnas, byddant yn sicr y pryd yma o esgyn i glustiau Duw, yr hwn a dderbyn ein gwasanaelh ac a gyfrana i ni ei fendithion.
 


 

 



(delwedd B0131)

(x131)

6. Ac yn olaf, gallwn ddyweyd gyda’r apostol yn ein testyn, y dylem ofyn mewn ffydd, heb ameu dim; oblegid y mae ffydd, yn ddiddadl, yn un o gymeriadau gweddi dderbyniol.

IV. Pa beth sydd i’w ddeall wrth weddi’r ffydd, a pha mor belled y mae Duw wedi rhwymo ei hun i wrando ac ateb y fath weddi?

Wedi ateb, Beth yw dyben gweddi, lle mae pwysfawrogrwydd gweddi yn ymddangos, a rhai o gymeriadau gweddi dderbyniol; ni a frysiwn yn bresenol at y pedwerydd gofyniad.

Pa beth sydd i ni ddeall wrth weddi’r ffydd?

Gellir deall yr ymadrodd hwn mewn dwy ystyr, a rhaid i ni ei ystyried felly cyn y gallom ddyfod i oleuni ar y pen hwn. Mae genym sail i gredu fod dwy fath o ffydd yn cael eu defnyddio gan y prif Gristionogion; un anghyffredinol, yr hon oedd yn perthyn i bersonau neillduol, y rhai oedd yn berchenog ar ddawn i wneyd gwyrthiau; ac un arall yr hon a ellir alw yn gyffredinol. Perchenogid yr olaf gan holl ganlynwyr yr Oen yn ddiwahaniaeth. Deilliai y ddwy oddiwrth addysg ddwyfol, er fe allai nad yn yr un ffordd; yr oedd y ddwy hefyd yn  sylfaenedig ar dystiolaeth Duw; eto mewn rhai pethau yr oeddent yn gwahaniaethu; y gyntaf, yr hon a enwasom yn anghyffredinol, yr hon oedd yn dal perthynas â gweithredoedd gwyrthiol, rai troion a berchenogid gan ddynion annuwiol. Sicr i lawer gyflawni gwyrthiau yn enw Crist, nad arddelir yn y diwedd. Pa un ai trwy ffydd neu hebddi yr oeddent yn eu gwneyd ni ddywedir yn bendant, ond gan mai yn enw Crist yr oeddynt yn gweinyddu, tybiaeth deg yw, mai trwy ffydd yn ei enw ef yr oeddynt



 

 



(delwedd B0132)

(x132)


yn gweithredu. Mae y dybiaeth hon yn gryfach fyth pan yr ystyriom ddarluniad yr apostol o weithredoedd gwyrthiol yn gyffredinol. 1 Cor. xiii. “Pe llefarwn a thafodau dynion ac angylion, ac heb fod genyf gariad, yr wyf fel efydd yn seinio, neu symbal yn tincian. A phe byddai genyf brophwydoliaeth, a gwybod o honof y dirgelion oll, a phob gwybodaeth, a phe byddai genyf yr holl ffydd, fel y gallwn symudo mynyddoedd, ac heb genyf gariad, nid wyf fi ddim.” Yma y meddylir, nid yn unig fod yn ddichonadwy i ddynion wneyd gwyrthiau heb fod yn Gristionogion, ond hefyd y gallent eu gwneyd mewn ffydd yn ngeirwiredd a gallu Duw. Ie, fod yn bosibl eu bod yn berchenogion ar yr holl ffydd, ddigon i symud mynyddoedd, neu y gradd uchaf o ffydd cysylltiedig â  gwneyd gwyrthiau, ao eto fod yn amddifad o gariad. Nid felly y ffydd gyffredinol; mae gweithrediadau hon yn wastad yn rasol, a santaidd. Y mae cariad yn hanfodol angenrheidiol i fodolaeth hon. Nid yn unig rhydd goel i’r dystiolaeth ddwyfol, yn mha ddull bynag y byddo yn ganfyddedig, ond gwresog fynwesa y dystiolaeth hono. Y mae a fyno ei gweithrediadau â’r deall ac â’r galon hefyd; gwna buro yr enaid a gorchfygu y byd. Dichon ffydd wyrthiol gael ei meddu gan ddyn na wyr ddim am adnewyddiad calon; ond y ffydd hon a feddianir yn unig gan y rhai a aned o Dduw, ac sydd yn caru Duw; gosodir hi gan hyny yn un o ffrwythau yr Ysbryd.
“Yr hwn sydd yn caru, o Dduw y ganwyd ef.” “Enwaediad nid yw ddim, a dienwaediad nid yw ddim, ond ffydd yn gweithio trwy gariad.” Nid ein bwriad yn awr yw dangos y gwahaniaeth rhwng y ddwy ffydd yma, nac ymofyn pa mor fynych y maent yn bodoli yn
 




 

 



(delwedd B0133)

(x133)

yr un personau. Yn ein dyben presenol, digon yw i ni eglur ddeall eu bod yn gwahaniaethu mewn rhyw bethau o bwys, fel na byddom, wrth ymresymu, yn agored i gymeryd y naill yn lle y llall, fel pe byddent yr un peth.

Ymddengys fod yr hon a enwasom yn ffydd wyrthiol, yr hon a gyfyngid i’r rhai a gyflawnent wyrthiau, ac yn angenrheidiol er arddangos y fath hynod ddwyfol allu, nid yn unig yn grediniaeth ddiysgog yn ngallu Duw, trwy ba un y mae pob peth yn bosibl a hawdd iddo ef, ond hsfyd bod y wyrth fwriadedig yn sicr o gymeryd lle. Ni a welwn fod hyn yn fwy na chrediniaeth mai ewyllys Duw oedd i wyrthiau gymeryd lle mewn rhifedi mwy neu lai, yn enw ei Fab, ar achlysuron neillduol mewn atebiad i weddi, ac i ddybenion addas a phwysig, trwy y rhai yr oedd y ddawn o wneyd gwyrthiau yn perthynu; oblegid gallasai hyn all gael ei gredu, a’i gredu yn gadarn, heb gyraedd y nôd y byddai i wyrth neillduol ar amser penodol i ddyfod i ben.

Yn awr, yr hyn yr ydym yn ei gredu a’i amddiffyn yw hyn, fod y ffydd wyrthiol, beth bynag arall a olygir, yn cynwys crediniaeth y buasai i’r wyrth mewn disgwyliad bob amser gymeryd lle. Nid oedd yn aros ar y ffaith fod Duw yn alluog i’w chyflawni, neu ei fod wedi addaw ei dwyn i ben ar unrhyw amodau tybiol, neu mai Duw gwirionedd yw, ac na wnai dori ei Air; ond yr oedd yn myned i’r fan lle y buasai y wyrth hono a ofynid yn sicr o gael ei gwneyd. Y modd yr oedd hyn yn gyraeddadwy a gaiff fod eto dan ein hystyriaeth; ond fod y ffydd dan sylw yn sicr o fod yn ei gyraedd, sydd hollol eglur oddiwrth y dull y mae Crist yn desgrifio yn Marc xi. Pan y rhyfeddai ei ddysgyblion 



 

 



(delwedd B0134)

(x134)
 

wrth weled y ffigysbren wedi gwywo o’r gwraidd, yr hon a felldithiasai efe y dydd o’r blaen, dywedodd yr Iesu wrthynt, “Bydded genych ffydd yn Nuw, canys yn wir yr wyf yn dywedyd i chwi, pwy bynag a ddywedo wrth y mynydd hwn, tyner di ymaith a bwrier di i’r môr, ac nid amheuo yn ei galon, beth bynag a ddywedo a fydd iddo.” Prin y gellid ffurfio geiriau er gosod allan gyda mwy o eglurdeb, mai wrth ffydd yn y fan yma y golygir crediniaeth y buasai y wyrth dan sylw heb feth yn dyfod i gwblhad.

Mae ef yn darlunio y ffydd hon yn nacaol, ac yn gadarnhaol — “Pwy bynag a ddywedo wrth y mynydd hwn, tyner di ymaith, a bwrier di i’r môr, ac nid amheuo yn ei galon, ond credu.” Credu pa beth? Y peth a ddywedo efe y daw i ben; mewn geiriau eraill, y buasai i’r wyrth amcanedig gael ei chyflawni, sef y symudid y mynydd oddiar ei wadn a’i daflu i’r môr. Diameu fod y fath ffydd yn gosod allan grediniaeth ddisigl yn ngallu Duw, trwy yr hwn yr oedd y wyrth i gael ei gwneyd; ond ymddengys ei fod yn golygu rhagor, sef mai ewyllys Ior oedd i’r wyrth ddysgwyliedig gymeryd lle! Yr oedd ein Harglwydd, wrth gadw y rhyw hyn o ffydd mewn golwg, a’r gweithrediadau gwyrthiol cysylltiedig a’r adnod nesaf, yn ychwanegu, “Am hyny meddaf i chwi, beth bynag oll a geisioch wrth weddio, credwch y derbyniwch, ac fe fydd i chwi.” “Credwch y derbyniwch,” sydd ddesgrifiad mor gymwys a neillduol ag a roddwyd yn yr adnod flaenorol; y mae yn eglur osod allan y byddai iddynt gael y pethau a ddymunent mewn gweddi.
Nis gellir yn briodol amen nad yw “ beth bynag oll a geis-
Y PAKCH. JEWKIN JENKINS.




 

 



(delwedd B0135)

(x135)
lent” yn dal cysylltiad neillduol a’r testyn dan sylw, sef gweithrediadan gwyrthiol.
Mae yn eglur, nid yn unig oddiwrth eiriau Crist yn y fan yma, fod cred am sicrwydd y dynged, neu gyflawniad y wyrth, yn hanfodol i natur y ffydd anghyffredinol hon, ond hefyd oddiwrth y ffaith, fod y rhai a gyflawnent wyrthiau yn amneidio y fath dyb yn flaenorol i weithrediad y wyrth. Yn gyffredin, os nad yn wastad, eglur ddaroganent y pethau oeddynt yn bwriadu eu gwneyd, a thrwy hyn byddent yn rhinweddol osod allan y pethau oedd yn canlyn i’r gwyddfodolion. Felly yr oedd Pedr pan y gwellaodd efe y dyn cloff, yr hwn oedd wrth. borth prydferth y deml, dywedodd wrtho, “ Arian ac aur nid oes genyf; eithr yr hyn sydd genyf, hyny yr wyf yn ei roddi i ti,” (gan arwyddo ei fod ef yn myned i wneyd rhyw beth iddo.) “ Yn enw Iesu Grist o Nazareth, cyfod a rhodia.” A phan y gwellaodd efe Aeneas, yr hwn er ys wyth mlynedd oedd yn gorwedd ar wely, ac yn glaf o’r parlys—wrth hwn hefyd y dywedodd, “ Aeneas, y mae Iesu Grist yn dy iachau di” (neu yn myned i wneyd hyny), “ cyfod a chyweiria dy wely. Ac efe a gyfododd yn ebrwydd.” Oddiwrth y ddau hanes uchod, ymddengys yn amlwg fod Pedr yn bwriadn, ac yn disgwyl gweithio gwyrth yn flaenorol i’r wyrth ddyfod i ben; a phe na buasai y wyrth yn canlyn, rhaid cyfaddef y buasai yr apostol yn cael ei siomi, neu( na ddaeth y peth yr oedd ef yn ei ddisgwyl yn ol ei gred a’i ddisgwyliad.
Ffaith arall a ddengys fod cred yn sicrwydd y wyrth yn haufodol i’r ffydd trwy ba un yr oedd yn cael ei gwneyd yw, nad oedd y rhai a ddonid a gallu gwyrthiol rai amserau yn dangos y gallu hwnw; neu os oedd-



 

 



(delwedd B0136)

(x136)
TKAETHODAU,   &C.,
ynt, methent trwy anghrediniaeth. Dywedir i Paul adael Trophimus yn Miletus yn glaf. Nis gallwn feddwl paham y gwnaeth felly, ond ar un o ddwy dybiaeth; naill ai na wnaeth efe un cynygiad i’w wella ef, neu iddo wneyd hyn ac iddo fethu. Pa un o’r ddau sylw hyn sydd wir, gadawaf i’r darllenydd farnu; ond hyn sydd sicr, nad oedd ganddo sylfaen dda i gredu y llwyddasai, onide buasai y peth yn dyfod i gwblhad, gan fod Duw wedi rhwymo ei hun i gyflawni pa beth bynag a gredai ei bobl ar dir da a digonol. Dywedasom, “ tir da a digonol,” oblegid ni ddylem ystyried y ffydd wyrthiol, nac un ffydd wirioneddol arall, megys dychymyg disail — neu farn heb achos na rheswm. O’r tu arall, yr oedd y ffydd hon yn grediniaeth ddiysgog a rhesymol y buasai i’r gallu dwyfol gyfryngu i ddybenion neillduol. Os rhesymol, rhaid bod ei had-eilad ar dystiolaeth; nid yn unig fod gallu i wneyd gwyrthiau wedi ei gyfranu i ddynion i’w ddefnyddio ar achlysuron neillduol a phriodol, ac i ddybenion gogoneddus ac uchel, ond mai boddlonrwydd a bwriad Duw oedd i wyrth neillduol gymeryd lle ar y pryd, ac yn yr amser bwriadol. Yr oedd hyn yn beth o bwys i’w gredu, am nad dim yn fyr o hyn fuasai yn gwneyd y tro er cadarnhau crediniaeth yn sicrwydd y weithred; yr oedd hyn yma yn hanfodol i gyrneriad y ffydd wyrthiol.
Dichon y gofynir, pa fodd y gallesid gwybod mai bwriad a hyfrydwch Duw oedd i wyrth gael ei gwneyd mewn un amgylchiad? Pa un a ellir ateb y gofyniad hwn neu beidio, rhaid cofio fod yn rhaid gwybod ewyllys a phenderfyniad Duw yn y peth, onide nad oedd sicrwydd y buasai i’r weithred fodoli. Nid oes
PAKCIl.  JENKIff JBNKIKS.




 

 



(delwedd B0137)

(x137)
un annhebygolrwydd yn y dybiaeth fod y rhai a weithredent wyrthiau trwy yr Ysbryd Glan yn derbyn hysbysiad uniongyrchol a goruwchnaturiol oddiwrth yr Ysbryd hwnw, trwy ba un yr oeddynt yn cyflawni y gweithredoedd nerthol hyn. Onid oedd ef yn llywodraethu eu meddyliau a’u geiriau bryd bynag yr agorent eu gwefusau i ddatgan y genadwri nefolaidd? Ac a ellir meddwl mai afresymol ei fod ef yn cyfeirio iddynt trwy awgrymiad neu amuaid, y pryd, y modd, a’r pefch a gyflawnent er cadarnhau eu hysbrydoedd yn eu gwaith bendigaid? Nid yw yn ymddangos yn bosibl pa fodd y bodolai un gred gadarn mewn gweithrediadau gwyrthiol heb ryw arwydd goruwchnaturiol o’r natur hyn. Oblegid pa fodd y dichon dyn gredu heb dystiolaeth? Neu, o ba le arall yr oedd yn alluadwy i dystiolaeth ddyfod er gwybod am wyrth ddyfodol? Os addefwn fod yr Ysbryd Glan, yr hwn oedd yn wastad yn bresenol, yn rhoddi yr arwydd uchod i’r prif Gristionogion yn ei addysgiadau gwyrthiol, yna mae pob rhwystr wedi ei ddiddymu. Mae yr hyn a ymddangosai fel arall yn wrthun, gwan, a disail, yn dyfod ar yr olwg hon yn rhesymol ac eglur. Yn yr ystyr hwn, mae gan y ffydd wyrthiol sail i orphwys arno, gan nad yw ddim arall ond rhoddi coel i’r dystiolaeth ddwyfol. Cynwysa “grediniaeth y byddai i wyrth gymeryd lle ar achosion addas, pa mor ryfedd bynag y dichon y wyrth hono fod i reswm dynol, yn hollol gyson ag awgrymiad yr Ysbryd Glan, trwy gyfrwng yr hwn yr oedd yn dyfod i ben.
Yn awr, mewn perthynas i’r gweddiau a offrymid yn y ffydd yma, dywedwn unwaith am y cwbl, diameu fod yr hyn a ofynid yn wastad yn cael ei ganiatau, gan fod



 

 



(delwedd B0138)

(x138)
TKAETHOWATT,   &0.,
hyn yn hollol gyson a’r addewid a wnaed yn yr achos, a boil natur gweithrediadau y ffydd hon yn rhagdybied gwybodaeth am fwriad lor o barth y caulyniad. “ Elias a weddiodd na byddai wlaw, ac ni bu wlaw ar y ddaiar am dair blynedd a chwe’ mis; ac efe a weddiodd drachefu, a’r nef a roddes wlaw.” Ond a ellir meddwl iddo weddio y gweddiau hyn heb iddo yn gyntaf gael hysbysiad oddi uchod fod ei ddeisebion yn gyson ac unol dg ewyllys Duw? Yn yr yn modd yr ydym yn deall y geiriau hyny sydd yn dy weyd, “ Gweddi y ffydd a iacha’r claf.” Yr oedd Duw wedi addaw y byddai i effeithian gwyrthiol ddilyn y weddi a offrymid yn yr ymarferiad o’r ffydd anghyffredinol a gwyrthiol hou.
Y mae ffydd arall yn cael ei defnyddio yn mhob oes gan dduwiolion mewn gwcddi; ffydd sydd yn cymeryd gafael yn y perffeithderau a’r addewidion dwyfol. Nid oes gan hon un hysbysrwydd gwyrthiol am atebiad, ond ymorphwysa yn hollol a chyfangwbl ar- Air Duw, gan wneyd hwn yn rheol a therfyn en disgwyliadau. Beth bynag a ddywed y gyfrol gysegredig, mae yn sefyll yn barod i’w dderbyn, gan ei ddefnyddio yn ddadl mewn gweddi. Nid a un amser tu draw i hyn. Hefyd, gallwn sylwi fod y ffydd hon yn ffrwyth ac addysg ddwyfol. Gweithredir hi yn yr euaid trwy ddylanwad yr hwn sydd yn goleuo’r deall, ac yn santeiddio y galon; cynwysa y fath fywiog grediniaeth beth yw Duw, a’r hyn y mae yn barod wedi ei wneyd i’r rhai sydd yn ei wir geisio, na wyr y byd am dano. Nid dyma y cwbl, cynwysa wresog gymeradwyaeth o Dduw yn yr hyn oll ag ydyw.
Mae eisiau egluro pa fodd y mae y ffydd hon i’w defnyddio yn y ddyledswydd o
Y PARCH.
JENKIN JEKKIWS.




 

 



(delwedd B0139)

(x139)
weddio. Nis gallaf osod allan fy ngolygiadan yn well yn hyn na thrwy ddyweyd fod ffydd yn cael ei chyfeirio yn benaf at ddau beth—perffeithderau Duw, a’r addewidion a wnaeth Duw yn a thrwy ei anwyl Fab.
1. Cyfeiria ffydd mewn gweddi at berffeitihderau Duw. Heb. xi. 6. “ Rhaid yw i’r neb sydd yn dyfod at Dduw gredu ei fod ef, a’i fod yn wobrwywr i’r rhai sydd yn ei geisio ef.” Nid yw yn bosibl i neb roddi addoliad cymeradwy i Dduw heb y grediniaeth hon. Yn y man yma, maecredu ei fod ef yn cynwys mwy na chredu ei fodolaeth. Cynwysa ei fod ef y fath Pod ag y mae ef yn ei Air yn ei egluro ei hun. Mewn geiriau eraill, ein bod yn cydnabod ei briodoliaethau fel sylfaen calondid i weddio arno. Yn y rhan amlaf o’r gweddiau argraffedig yn y Beibl, gwelir fod ffydd yn ymwneyd ag un neu fwy o’r dwyfol berffeithderau bob amser. Er mwyn manylu, sylwn:—
Y mae ffydd yn aml, os nid bob amser, yn ymaflyd yn y dwyfol allu. Mae yn dyfod at Dduw fel Tad Hollalluog y bydysawd, yr hwn sydd yn llywio holl weithrediadau ei deyrnas eang. Gwel holl awenau natur yn ei law, nad yw creaduriaid ond offerynau ei allu. Hefyd, meddiana sicrwydd mai yr hyn a fyno a wna efe, ac mai yr hyn a ewyllysio a gyflawna efe. Bydded y dydd mor dywyll ag y byddo, a pha mor anhawdd bynag cyflawni’r gwaith, gwna ffydd ei noddfa yn ngallu Duw. Rai troion, gwna gysylltu ei ddoethineb a’i ddaloni anchwiliadwy. Mewn gair, ymwna ffydd yn fwy a gallu Duw nag ydym ni yn ei feddwl, a rhydd yr Ysgrythyr ddesgriflad mwy eang o’i gweithrediadau yn ei pherthynas a’r briodoledd hon nag un arall o’r priodoliaethau. Fel hyn y dywedir am Abraham,




 

 



(delwedd B0140)

(x140)
TRAETHODAU,  AC.,

wedi iddo dderbyn addewid am fab o Sarah —  "Nid amheuodd efe addewiid Duw trwy anghrediniaeth.  Ac yn gwbl sicr ganddo am yr hyn a addawsai efe, ei  fod ef abl i'w wneuthur hefyd." Drachefn, pan y  profwyd ef i offrymu ei unig-anedig fab, yr hwn a  dderbyniasai yr addewidion, — “Gan gyfrif fod DUW yn ABL i'w gyfodi o feirw." Gwelir yr un peth yn eglur yn ffydd y ddau ddeillion hyny a ganlynasant yr  lesu, gan lefain a dywedyd, "Mab Dafydd, trugarha  wrthym. Ac wedi iddo ddyfod i'r ty, y deillion a  ddaethant ato, a'r lesu a ddywedodd wrthynt, A ydych  chwi yn credu y gallaf fi wneuthur hyn?" Ni ddywedodd, a ydych chwi yn credu y gwnaf fi hyn. Na,  yr oedd ef yn cadw hyn yn ddirgel iddynt hwy; cuddiai hyn yn ei fynwes ei hun. A ydych chwi yn credu  y gallaf fi wneuthur Jiyn? Atebasant, "Ydym, Arglwydd." Yna y cyffyrddodd efe â'u llygaid hwynt,  gan ddywedyd, "Yn ol eich ffydd bydded i chwi;"  a'u llygaid a agorwyd. Nid oes dadl nad oeddynt yn  gobeithio yn nhrugaredd Crist; yr oedd eu ffydd wedi  ei hadeiladu yn benaf ar ei allu; ac mor belled ag yr  ymddengys, hyn oedd yr oll ag oedd yn angenrheidiol  er sicrhau y fendith.   

 

Rhyw beth tebyg i hyn oedd sefyllfa y gwahanglwyfus a'r canwriad, yr hwn a ddymunodd ar Grist iachau  ei was. Mat. viii. laith y gwahanglwyfus oedd, " Arglwydd, os myni, ti a elli fy nglanhau i." Nid oedd  un amheuaeth ganddo am allu Crist. Yma yr oedd ei  ffydd yn gadarn a sefydlog; eto yr oedd yn amheus pa  beth a allasai meddwl Mab Duw fod yn yr achos hwn.  "Arglwydd, os myni, ti a elli" oedd ei weddi. Hollol  gydnabyddai ei allu, er ei fod yn gadael y canlyniad i'w




 

 



(delwedd B0141)

(x141)

 

 

 


benarglwyddiaeth. Yr oedd ffydd y canwriad mor hynod nes y rhyfeddodd em Ceidwad mawr, gan ddywedyd, “ Yn wir, meddaf i chwi, ni chefais gymaint ffydd, naddo yn yr Israel.” Ymorphwysai ffydd hwn hefyd yn gwbl ar allu Crist, oblegid pan amlygodd yr Iesu y buasai efe yn myned gydag ef, a gwella ei was, atebodd, “ Arglwydd, nid wyf fi deilwng i ddyfod o honot dan fy nghronglwyd; eithr yn unig dywed y gair, a’m gwas a iacheir. A dywedodd yr Iesu, Dos ymaith; ac megys y credaist, bydded i ti; a’i was a iachawyd yn yr awr hono.”  
Nid awn i ddilyn y sylw hwn, er mai llawer o bethau a ellid dynu o’r Ysgrythyrau i ddaugos fod ffydd a’i llygad yn graff ar allu Duw, a bod ei chryfder yn cael ei fesur wrth yr olwg sydd ganddi ar y biiodoledd hon. Felly gyda golwg ar y p’riodoliaethau eraill, gwna ffydd edrych arriynt oll fel y rhaent yn amrywio, ac yn gogoneddus gydgordio yn Ngair a gwaith yr Arglwydd. Os gwna Duw lefaru, bydded y lle a’r peth a fyddo, gwna ffydd roi clust o ymwrandawiad astud, gan gycl-synio a phob gair. Dywedir yn y Beibl fod Duw yn ddoeth; mae ffydd yn credu’r dystiolaeth; a gwnai hyny hefyd pe na byddai ei ddoethineb i’w weled mor amlwg yn ei waith a threfn ei ragluniaeth ag ydyw.
Gwirionedd cysurus iawn yw hwn i ffydd orphwys arno, yn neillduol rhewn tymorau tywyll ac adfydus, pan fyddo olwynion rhagluniaeth yn troi yn ddwfn ac araf. Gofynwyd i un ryw dro, “ Paham yr ydych yn cerdded cymaint? Paham na fyddai genych geffyl bellach?” Ei atebiad oedd, “Mae llawer iawn o geffylau gan fy Nhad; mae ef yn gyfoethog iawn. Gwn ei fod ef hefyd yn fy ngharu i yn fawr, a’i fod yn sicr o
TKAETHODAU,   &C.,



 

 



(delwedd B0142)

(x142)
roddi i mi yr hyn sydd oreu er fy lles. Hwyrach ei fod yn gweled tuedd mawr ynwyf i ymfalchio, ac mai doethach, a gwell, yw fy nghadw i ar lawr n;.t fy ngliodi yn rhy uchel i’r gwynt,”
Dywedir fod Duw yn drugarog a graslawn, yn barod i faddeu i’r edifeinol. Gwna ffydd dderbyn y genadwri hon gyda llawenydd; chwareua ei hadenydd, ac mewn cyflymdra eheda i fynwes trugaredd, fel ei hunig noddfa. I’r fynwes gynes hon dymuna gario gofidiau a phechodau rhai eraill, ac mewn taerineb gostyngedig crefa am iddynt hwythau hefyd gael eu disychedu a’r dyfroedd byw o’r un ffynon risialaidd. Hawdd hefyd gweled t’od ffydd yn edrych yn graff ar burdeb a chyfiawnder, ar anghyfnewidioldeb a fFyddlondeb Duw. Yn wir, ei wirionedd yw y briodoledd ogoneddus hono, yn mha un yr ymafla ffydd o angenrheidrwydd, ac ar hon y salt’ fel ei sail gadarn ac ansymudadwy. Fe ddichon na welir gweithrediad ffydd yn fwy mewn dim na chymeryd Duw ar ei Air, ac ymorphwys yn hyderus ar ei addewidion. Yn fwy neillduol,
2. Cydia ffydd yn addewidion Duw.
Mae y rhai hyn oll yn Nghrist “ yn le, ac yn Amen.” Gwna eu golygu fel y maent, yn ol eu gwir amcan a’u priodol ddybenion. Mewn geiriau eraill, gwna iddynt let’aru y fath iaith ag a fwriadodd yr Ysbryd Glan iddynt lefaru, heb eu cyfyngu ar y naill law, na’u hestyn yn anmhriodol ar y llaw arall. Gwahaniaetha yr addewidion hyn yn eu cymeriad, a gwyr ffydd beth yw y gwahaniaeth. Mae rhai yn anamodol, heb ddibynu ar gyflawniad un amod, na dim ansicr. Eraill ydynt amodol, am fod y fendith addawedig yn ddibynol ar bethau a allai gymeryd lle, neu beidio cymeryd lle.
f   PARCH.  JERKIN  JENKINS.




 

 



(delwedd B0143)

(x143)
Addewidion eraill ydynt achlysurol neu leawl; nid ydynt o bwys i gredinwyr yn gyffredinol, rhagor na rhoddi engreifftiau. o hynawsedd a ffyddlondeb Duw.
Gelwir eraill yn gyffredinol, am eu bod yn sefyll yn gywir i gredinwyr bob amser, yn mhob lle, megys yr addewidion am faddeuant pechod—na wna Duw au-nghofio ei bobl, na’u gadael yn amddifaid, &c.
Gellir galw eraill yn bendant. Cynwysant sicr gyflawniad o’r hyn sydd addawedig o fewn cylch eu terfyniad bob amser. Felly yr oedd yr addewid a wnaed i’r ffydd wyrthiol. Yn ol rhediad yr addewid, y mae geirwiredd Duw yn wystl y bydd i’r peth a ofynir gael ei roddi ar bob achos lle y mae y ffydd hon yn bod.
Ond y mae addewidion o gymeriad gwahanol, nas gallwn eu golygu yn y dull penderfynol hwn; mae rhyw eithriadan yn perthyn iddynt. Rhoddir addewidion i gredinwyr am gynaliaeth dymorol, ac am fendith ar waith eu dwylaw.. Yr ydym yn galw yr addewidion hyn yn angliyfyngawl, am eu bod mor aumhenderfynol ac eang; yr ydym yn gadael eu cymwysiad yn hollol i lor yr holl ddaiar, neu i benarglwyddiaeth Duw. Pan ddywedodd Crist wrth ei ddyggyblion, “ Ceisiwch yn gyntaf deyrnas Dduw a’i gyfiawnder ef, a’r holl bethau hyn a roddir i chwi yn ychwaneg;” hyny yw, bwyd a dillad, a phob angenrheidiau naturiol eraill er eu cynaliaeth; buasent yn camgymeryd meddwl yr addewid yn fawr pe buasent yn ei chymeryd yn y fath ystyr na buasai iddynt oddef angen, newyn a noethni. Gwyddom fod gan dduwioldeb addewid o’r bywyd sydd yr awr hon, ac o’r hwn a fydd; ond pwy a dyn y casgliad oddiwrth hyn, na fydd i un dyn duwiol ddyoddef newyn a syched, noethni a chal-



 

 



(delwedd B0144)

(x144)
TRAETHODAU,   AC.,
edi; i’e, ar rai amgylchiadau, fod y cyfryw mewn angen am bob bendith berthynol i’r bywyd hwn. Edrychwn ar yr apostolion a’r enwogion en ffydd, er nad oedd y byd yn deilwng o honynt, oni chawsant hwy en dirdynu yn ddiymwared, eu profi trwy watwar, en fflangellu, eu rhwymo a’u carcharn? Mewn-gair, poenydiwyd hwynt mor bell ag y gallasai deddfau natnr gyrhaedd, a llid eu gelynion ymddial arnynt. “ Hwynt-hwy a labyddiwyd, a dorwyd .4 llif, a demtiwyd, a laddwyd yn feirw a’r cleddyf; a grwydrasant mewn crwyn defaid a chrwyn geifr—yn ddyddim, yn gystuddiol, yn ddr’wg eu cyflwr.” Buont dan yr angenrheidrwydd, pan yn ffoedig o ffaen eu gelynion, i grwydro mewn anialwch, ac ar hyd y mynyddoedd, a da oedd ganddynt gael frwll yn. y ddaiar i ymguddio, neu ogof i’w diogelu rhag y rhai a syohedent am eu gwaed.
]SJi ddeuwn ni bytb. i ddeall yr addewidion hyn yn iawn, hyd nes y gosodwn Air a Rhagiuniaeth Duw i esbonio eu gilydd. Os bydd i ni wneyd hyn yn ddi-hoced, gan ddal y cyferbyniad o flaen ein meddwl, ni chyfarfyddwn a’r rhwystr lleiaf er deall yr addewidio* a wneir i blant Duw am angenrheidiau y bywyd hwn. Mae y bwa yn y cwmwl yn brawf na phalla amserau hau na medi holl ddyddiau’r ddaiar. Yr oedd deddi’au natur, er codi moddion cynhaliaeth dyn, yr un ag yw, a bydd eto yr un, a bendith Duw yr un mor sicr o’u dilyn, lle y defnyddir hwynt at y gorchwyl yma. Mae ochr Duw yn cael ei chyflawni yn wastadol; hyny yw, ni bu y byd erioed, lle y byddai dynion yn iawn ddefnyddio moddion cynhaliaeth, ac yn cydgyfranu a’xi gilydd yn ol eu dyledswydd, nad oedd ynddo ddigon er diwalliad ei holl drigolion. Pan yi ydym yn galw yr
ST  PARCH.  JBNKIN  JEKKINS.




 

 



(delwedd B0145)

(x145)
addewidion hyn yn ANGHYFYNGAWL, ein meddwl yw, nad yw Duw yn cyfyngu ei addewidion tymorol o fewn cylch sicrwydd er mwyniant ei blant bob amser. Yr ydym yn awr wedi myned i ddyfroedd dyfnion, amcanwn ddyfod allan yn ngrym y sylwnodan canlynol.
1.  Diau fod dyn yn rhydd-weithredydd, onide nis gallai yn unol a chyfiawnder fod yn gyfrifol, a bod yr annuwiol yn fynych yn caniddefnyddio ei ryddid, trwy weithredu   mewn   modd   gorthrymus   tuag   at   bobl Dduw;   mae dyn yn llywodraethu ar ddyn er drwg iddo.
2.  Nid yw Duw, yn neillduol dan yr efengyl, yn ei weinyddiadau cyffredinol, yn cau llifddorau nwydau yr anuuwiol fel na lifa ei  ddyfroedd yinddialgar er anghysur y duwiol.
3.  Mae hyn yn hollol gyson a gweinyddiadau amynedd a rhagluniaeth Duw, sefyllfa prawf a chyfrifoldeb dyn, a chosb yr annuwiol mewn byd i ddyfod.
4.  Mae Duw felly yn ymddifadu ei blant o gysuron a bendithion daiarol, fel Pen Llywydd doeth, er peri i’w grasusau belydru yn fwy amlwg, er gwywo a lladd eu pechodau, dadrus eu gafaelion o’r pethau a welir, a melysu y nefoedd iddynt yn y diwedd.
Yr ydym yn llwyr gredu y rhydd Duw bob da yn ol ei addewid, ag y mae ei anfeidrol ddoethineb yn olygu a fydd er lles i’w bobl, ac na wna atal dim oddi-wrthynt ond yr hyn, ar y cwbl, a fyddai er niwed iddynt. Yn yr ystyr yma yr ydym yn deall y gwna yr Arglwydd mewn atebiad i’n gweddiau, ac felly yr ydym yn deongli yr addewidion hyny yn gyffredin a wneir i weddi’r ffydd.
Nis gallwn ganfod un anghysondeb yn y gweiaydd-



 

 



(delwedd B0146)

(x146)
TBAETHODATJ,   &C.,
iad hwn o eiddo Duw, ond yn y manau hyny y mae ei ewyllys neu ei fwriad yn benderfynol ac amlwg yn ei Air.   lle y mae hyn yn bod dylai yr addewid gael ei deongli yn wahanol, yn gaeth fel y mae yn llefaru. Yn yr ystyr yma yr ydym yn deall yr addewid a wnaed i’r ffydd wyrthiol, yr addewid am faddeuant a bywyd tragywyddol i’r edifeiriol,  a’r addewidion   hyny am lwyddiant cyffredinol yr efengyl, a theyrnasiad heddychol Crist.   Mae ewyllys Dmr yn amlwg yn y pethau hyn oll, a gweddus yw credu y daw yr addewidion yma i gyflawniad i’r llythyren.   Ond lle nad yw ewyllys lor yn amlwg, ymddengys yn rhesymol ac angenrheidiol y dylid golygu yr addewid yn anghyfyngawl, a’i bod yn dal allan gefnogrwydd i obeithio ac i weddio, er nad yw yn rhoddi un sylfaen sicr, megys i drwch y blewyn, beth fydd y pen draw.   Yn y dull hwn, debygid, y dylid deongli yr addewidion cynwysfawr a chyffredinol hyny a wneir i’r gweddiwr crediniol; nid yw o un gwahaniaeth pa un ai i bethau tymorol neu ysbrydol y perthynant; bwriadwyd hwynt i gynwys beth bynag a ellir ystyried yn fater addas a theilwng mewn gweddi. Nid tebyg yw yr amheuir bodolaeth addewidion o’r natur uchod, ac nad ydynt yn dal perthynas agos a phob credadyn.  
Y mae ganddo hawl i’w dadleu rhor f’ynyched bynag y dynesa at orsedd gras am bob bendith gyfreithlon.
Crist yn ei bregeth ar y mynydd a rydd yr addewidion canlynol.
“Gofynwch a rhoddir i chwi, ceisiwch a chwi a gewch, curwch ac fe a agorir i chwi.” Diau fod yr adnod hon yn rhoddi hawl i bob dyn, ac yn neillduol i bob Cristion, i ofyn beth bynag iddo ei hun, neu arall,
T
Y  PAKCH.   JEKKIST  JENKIWS.




 

 



(delwedd B0147)

(x147)
perthynol i’r bywyd hwn, neu yr hwn a ddaw, a’i ofyn mewn gobaith y bydd iddo ei dderbyn, os bydd ei gais yn gyfreithlon, a’i agwedd yn addas.
Br rhoddi anogaeth mwy, y mae ein Harglwydd yn ychwanegu, “Neu a oes un dyn o honoch, yr hwn, os gofyn ei fab iddo fara, a rydd iddo gareg? Neu os gofyn efe bysgodyn, a ddyry efe sarph iddo? Os chwy-chwi gan hyny, a chwi yn ddrwg, a fedrwch roddi rhoddion da i’ch plant, pa faint mwy y rhydd eich Tad, yr hwn sydd yn y nefoedd, bethau da i’r rhai a ofynant iddo?”
Dyma addewid, os gwnawn ofyn y i cawn dderbyn, os ceisiwn y cawn, ac os curwn yr agorir i ni. Nid yw yn ein cyfyngu at unrhyw fendith neillduol, ond y mae ei hiaith yn llydan ddigon i lanw ein holl anghenion a’n holl ddymuniadau, bryd bynag y gwnawn ei dadleu ger bron y drugareddfa.
Pa *bdd y dylem ni ddeongli yr addewid hon, ac addewidion eraill perthynasol iddi o’r un cymeriad cynwysfawr, sydd yn bresenol yn dyfod i’n sylw yn ofyn iad difrifol. Nid wyf yn gwybod ond am ddan fedd-wl yn cael eu lletya ar y mater yma yn werth sylwi arnynt. Yr un y sylwasom yn barod arno, y dylid cyrneryd addewidion o’r natur hyn mewn ystyr anghyfyngol, o leiaf, mor belled ag y maent yn dal perthynas a’r pethan hyny lle nad yw ewyllys Duw yn wybodus, a’n bod yn dal yn gywir mewn achosion digonol er cefnogrwydd mewn gweddi. Ond nid ydym i ddeall eu bod yn rhwymo geirwiredd Duw i roddi beth bynag a ofynom, yn ol y ffydd gyffredinol neu anghyfyngawl hon. Y meddwl arall yw, fod Duw yn yr addewidion hyn yn rhwymo ei hun i roddi i’w blant beth bynag a ofynant, gan gredu yn ddinam, a bod yr add-



 

 



(delwedd B0148)

(x148)
TBAETHODATT,   &C.,
ewid yn dal yn gywir i drwch y blewyn, ar bob achos y gofynir mewn modd addas. Yn ol y golygiad hwn, pe byddai i ddyn ofyn am ei fara beunyddiol, a’i ofyn mewn ffydd, fod geirwiredd Duw yn yr addewid yn ernes iddo y byddai yn sicr o’i gael; neu pe gofynai Unrhyw fendith dymorol neu ysbrydol iddo ei hun, nen i arall, y gallai ofyn mewn sicrwydd diameuol y derbyniai, ac y byddai yn sicr o dderbyn y fendith hono yn hollol yn ol ei ddisgwyliad. Pa un o’r golygiadau hyn sydd wir?
Br eich cyfarwyddo i benderfynu hyn, crefaf eich sylw at y nodiadau canlynol:—•
1. Mae yn fwy dymunol ynddo ei hun, ac yn llawer mwy o fraint i’r credadyn, i gymeryd yr addewid yn ol y golygiad a dybiasom flaenaf, na meddwl fod Duw yn rhwymo ei hun i roddi beth bynag a ofynom, pa un ai doeth ai anoeth  fyddo, er ei ogoniant ei hun, neu i’r gwrthwyneb.    Barnwch fod tad a dau fab ganddo, a’i fod yn dyweyd wrth un, “ Myfi a roddaf i ti beth bynag a ofyni, os gwnai ofyn mewn ysbryd addas a chrediniol, bydd i dy ddeisebion oll gael eu hateb yn ddiball yn ol dy gais.”   Ac wrth y llall, “ Beth bynag a wnai ei ofyn mewn tymer addas i mi, ti a’i cai; oddigerth y pethau hyny y byddwyf fi yn barnu mai gwell i ti fod hebddynt.”    I ba un o’r ddau hyn y perthyn y rhagorfraint?    Ein hateb yw, mai yr hwn sydd yn derbyn atebiad i’w ddeisyfiadau, yn  ol fel y mae ei dad yn barnu fyddai oreu iddo.   Mewn geiriau eraill, yr hwn sydd yn cael yn ol doethineb ei dad, ac nid yn ol yr eiddo ei hun.   Mae yr hyn sydd dan ein sylw yn hollol gyfateb i’r gydmariaeth uchod.   Deonglwch yr addewid yn gaeth, bydd y credadyn yn sior o gael yr oll y fiiae yn ei ofyn; ond nid yw yn sicr y caiff yr hyn
Y PAROH.
.TEKKISTS.




 

 



(delwedd B0149)

(x149)
fyddo er gogoniant Duw, na’i Ies penaf ei hun. Cy-merwch yr addewid yn anghyfyngawl, yna y mae holl berffeithderau Daw yn ernes y bydd i’w ddeisyfiadau gael eu hateb er ei ddaioni penaf; caiff dderbyn yr oll sydd er ei Ies, ac ni atelir dim ond yr hyn y mae tragywyddol ddoethineb yn ei weled yn ei holl gysylltiadau, a fyddai er niwed iddo.
2.  Heblaw hyn, mae yr hwn sydd yn ystyried ei wendid a’i ffaeledigrwydd ei hun yn rhwym o gydnabod na wyr ef ddim beth sydd oreu er ei Ies.   Pe ddiohon ei eirchion fod yn ddifrifol, cyfeiriad ei ddymuniadau yn gyfreithlon, a bod ei gais yn agos at ei galon; eto, wrth ystyried pob amgylchiad, nis gall ef ddyweyd pa un gwell fyddai iddo gael yn ol fel y mae yn gofyn, neu gael yn wahanol.   Paham na wna yntau roddi ei achos i un a all ddyweyd? Oni ddylem wneyd hyn fel gweithred ddyledus i’n Llywydd doeth?    Paham y cydgamwn fyned i dir tu draw ein terfynau priodol mewn deisyfiadau anamodol ac anghymwys, a rhoddi cyfeiriad i ganlyniadau nas gallwn wybod heb ddadguddiad newydd oddiwrth Dduw, pa un a fyddant neu beidio er ein lles, a chynydd y deyrnas gyfryngol.    Os oes un peth yn sicr, ymddengys, lle mae ein hanwybodaeth yn addefedig, mai ein dyledswydd yw gadael ar Dduw beth a gawn, ac nid ei gyfarwyddo beth a ddylai ef gyfranu.
Eto, y farn gyffredin yw, y dylern. offrymu ein gweddiau (o leiaf am lawer o bethau), mewn ymostyngiad. Ond rhy anhawdd canfod pa wedd y gellir gwneyd hyn, lle nad yw ewyllys Duw yn wybodus, heb adael arno ef benderfynu  beth a gawn  o’i  haelfrydedd ei hunan.   Nid ydym yn gofyn gan Dduw, os da ganddo, i godi’r meirw, a barnu’r byd mewn cyfiawnder, &c.,





 

 



(delwedd B0150)

(x150)
TRAKIHODAtJ,   &C.,
oblegid yr ydym yn gwybod ei ewyllys ar y materiop hyny. Ond os gwnawn ni ddeall yr holl addewidion yn y fath ddull, a bod Duw dan rwymau i gyfranu pob peth a ofynom ger bron ei orsedd, pa fodd y mae yn ddyled arnom ofyn mewn ymostyngiad? Dylai ein deisyfiadau fod yn llawn mor rydd ac eang ag yw yr addewid.. Y prif bwnc y mae ffydd yn sefyll yn gad-arn arno yw, y gwna yr Arglwydd ein hateb yn ol yr hyn sydd oreu er ein lles.
4. Cymwys yw sylwi, lle nad yw ewyllys Duw yn wybodus, fod yr apostol wedi esbonio yr addewidion a wneir i weddi’r ffydd yn ol y golygiad a gefnogasom yn barod. 1 Ioan v. 14, 15. “ A hyn yw yr hyder sydd genym tuag ato ef, ei fod ef yn ein gwrando ni, os gofynwn ddim yn ol ei ewyllys ef.” Hyny yw, os wyf yn deall y geiriau yn iawn, efe a rydd gltist o ymwrandawiad, ac a rydd i ni ein deisyfiadau, “ os gofynwn ddim yn ol ei ewyllys ef.”
Pa bryd y gellir dyweyd hyn am danom? Os wrth ewyllys Duw yma y meddylir ei gyngor dirgeledig, yn gystal a’i orchymynion cyhoeddedig, yr hyn a ddoeth fwriadodd efe o barth canlyniadau gweithredoedd ag sydd lawn mor bwysig a deddfau ein dyledswyddau (ac nis gallwn roddi un rheswm paham nad addas yw rhoddi y fath feddwl llawn a hyn), yna mae yn eglur nad ydym yn gofyn yn ol ei ewyllys ef, yn ol meddwl yr apostol, os na bydd ein gweddiau a’r tri pheth canlynol ynddynt:—
(1.) Eu bod yn cynwys materion priodol, unol agor-chymynion Duw.
(2.) Eu bod yn cael eu hoffrymu yn yr Ysbryd Glan.
(3.) Rhaid eu bod yn unol a’i fwriad, neu foddlonrw/dd ei ewyllys ef; neu mewn geirjau eraill, eu bod y
PAKCH. JEHKHSr




 

 



(delwedd B0151)

(x151)
fath eirchion ag y mae anfeidrol ddoethineb yn weled yn addas eu hateb.
Pan fyddo yr holl bethau hyn yn cydfodoli, nid oes dadl na wna Duw wrando, ac ateb ein gweddiau yn gyfangwbl yn ol ein cais. Hyn yw mabwysiadu yr egwyddorion a gefnogwyd yn ein sylw-nodau blaenorol, nad yw Duw ddim yn rhwym i ateb gweddiau ei blant, pan y byddont yn dadleu ei addewidion anghyfyngol, ddim pellach na rhoddi iddynt y pethan hyny y mae ei ddoethineb ei hun yn farnu fyddo fwyaf cymwys i’w sefyllfaoedd. Nid ychydig yw rhif yr esbonwyr sydd yn golygu mai hyn yw meddwl yr apostol; ac y mae un o honynt yn sylwi mai y meddwl hwn yw allwedd gweddi’r ffydd i ddadgloi yr addewidion.
Ee allai y gofyn rhyw un, onid yw dechreu y 15fed ad-nod yn anunol &’r meddwl uchod? “ Ac os gwyddom ei fod ef yn ein gwrando ni, beth bynag a ddeisyfom, ni a wyddom ein bod yn cael y deisyfiadau a ddeisyfasom ganddo.” Mae’r geiriau heb derfyniad—” beth bynag a ddeisyfom” Gwir, ond dylem gofio mai beth bynag a ddeisyfom yn ol ei ewyllys ef. Os cymerwn ewyllys Duw yma yn golygu ei reolau penarglwyddiaethol, yn gystal a’i reolau gorchymynol, mae yr un golygiad yn dal yn gywir yn barhaus.
Ar ol y cwbl a ddywedwyd, fe allai y gofynir eto, pwy sydd i benderfynu y ddadl hon? Hwyrach nad yw yr iaith yn golygu dim mwy nag ewyllys orchymynol Duw, ac yna mae yn gyhoeddiad heb furiau iddo, y gwna lor roddi i ni beth bynag a ofynom, os gwnawn ni eu gofyn yn gyfreithlon mewn ysbryd uniawn. Gad-ewch i ni gan hyny wneyd ein apeliad at y ffeithiau. A ydyw Duw yn caniatau i’w blant yr oll y maent yn ofyn




 

 



(delwedd B0152)

(x152)
TRAKTHODAU,   AC.,
ganddo, hyd yn nod y pethau y mae ef yn orchymyn iddynt ofyn, pan y byddont yn gweddio yn ol ei gyfarwyddiadau? Cyngorir hwy i ymbil, gweddio, a deisyf dros bob dyn—i fod yn wresog yn yr ysbryd, a bod yn daer; ac onid yw yn beth rhyfedd na ddarfu i neb o’i blant—prophwyd, apostol, neu ryw un, wneyd y cyngor uchod mewn modd cymeradwy ger bron Duw? Beth bynag, a pha faint bynag oedd eu gweddiau, un peth sydd sicr, fod y byd heddyw yn “ gorwedd mewn drygioni.”
Dymunodd Moses fyned tu draw i’r lorddoueu i wlad Canaan, a diau yr hoffai gael gwladychu yn nhii yr addewid. Yr oedd y dymuniad hwn yn naturiol ynddo ei hun, eto ni wnai Duw roddi iddo ei gais. Nid am nad oedd yn ostyngedig yn ei ddeisyfiad, yn daer yn ei weddi, ac nid am nad oedd yn ymddiried yn nhrugaredd a gallu Duw, ond gan fod Duw wedi bwriadu yn wahanol. Pechodd y gwr llariaidd hwn wrth ddyfroedd cynen Cades, yn anialwch Sin; oblegid na wnaeth ef, ac Aaron ei frawd, santeiddio yr Arglwydd yn mhlith meibion Israel. Cafodd weled y wlad a’i lygaid, er prawf o’i dderbyniad gyda Duw, eto ni chafodd yn hollol yr hyn a ddymunasai mewn gweddi.
Edrychwch ar Dafydd, brenin Israel, pan yn gweddio am adferiad ei blentyn—”Dafydd a ymbiliodd a Duw dros y bachgen; a Dafydd a ymprydiodd ympryd, ac a aeth ac a orweddodd ar y ddaiar ar hyd y nos.” Nid yw yn ymddangos i Dafydd erioed fod yn fwy gostyngedig a thaer na’r pryd hwn, a diau ei fod yn dal yn graff ar raslonrwydd Duw, y buasai yr Arglwydd yn anadlu yn rasol amo, ac yn ateb ei gais y tro yma yn gystal a llawer gwaith cyn hyn yr ymbiliasai o flaen ei orsedd.
Y  PARCH.  JEWKIN  JBKKINS.




 

 



(delwedd B0153)

(x153)
Er i Ddinr gymeradwyo ei weddi fel gweithred o addoliad, eto barnodd Llywydd y bydoedd mai gwell oedd. gweithredu yn wahanol i ddymuniad y dymimwr yn yr amgylchiad presenol. Fe allai y codir gwrthddadl, na ddylasai Dafydd weddio dros ei blentyn, gan i Dduw, trwy’r prophwyd, ddyweyd y buasai “ farw yn ddiau.” Yr oedd ganddo yr un hawl ag oedd gaa Hezecian i weddio drosto ei hun wedi i’r prophwyd ddyweyd, “Trefna dy dy, canys marw fyddi, ac ni byddi byw.” Y gwir yw, nid oedd Dafydd na Hezecian yn golygu y bygythiad yn ddiamheuol, neu heb eithriad iddo. Yr oeddynt ill dau yn barnu fod ysgatfydd yn yr amgylchiad, neu yn ol iaith Joel, “ Pwy a wyr a dry Duw ac edifarhau.” Yn mhen ychydig ddyddiau bu mab Dafydd farw, ond estynwyd amser Hezecian bymtheg mlynedd. A ellir rhoddi rhyw reswm arall am y gwahaniaeth hwn, na bod gweddi y naill yn anunol a’r bwriad Dwyfol, a gweddi y llall yn gydunol? Pa wedd yr oedd gyda Phaul, yr hwn a ddeisyfodd dair gwaith ar i Dduw dynu y swmbwl o’i gnawd? Hyn oedd yr ateb, “Digon i ti fy ngras i.” Nis gellir byth brofi iddo gael yr hyn oedd yn ei ddymuno; eto, y mae yr atebiad a gafodd yn dangos fod ei weddi, fel gweithred o ddyledswydd, yn gymeradwyol gyda Duw. Beth a ddywedwn am. ei ymdrechiadau a’i ymbiliau dros ei genedl yn ol y cnawd, onid oedd ef yn gwir ddymuno eu hiachawdwriaeth? eto, fel cenedl, y maent yn ysgymunedig trwy eu hanghrediniaeth. Mae un peth eto yn hanes yr apostol hwn yn cadarnhau yr un golygiad, hyny yw, sefyllfa y rhai a fwynhasant ei weinidogaeth ef. A wnaeth ef ei ddyledswydd tuag atynt, neu naddo? Mae yn sicr na wnaeth os na



 

 



(delwedd B0154)

(x154)
TRAETHODATJ,   &C.,
ddygodd efe eu hachos mewn modd syml a difrifol ger bron Duw, a’u hiachawdwriaeth yn destyn ei weddiau. Os gwnaeth ef ei ddyledswydd tuag atynt, pa fodd na chadwyd hwynt oll? gan fod Duw wedi addaw rhoddi beth bynag a geisio ei blant mewn gweddi. Mae un o ddau beth yn wir, yn rhwym o fod, eu bod yn gyfr-golledig trwy ei anffyddloudeb ef, neu, er ei fod ef yn fEyddlon, ar ol y cwbl, iddynt gael eu colli. Pa un o’r ddwy ochr hyn a goleddwn? Os y cyntaf, yr ydym yn cyhuddo yr apostol o fod yn euog o’u gwaed, yn groes i’w dystiolaeth ei hun, ei fod “yn Ian oddiwrth waed pawb oll;” os yr ail, yr ydym yn rhoddi heibio y meddwl, fod Duw bob amsor yn rhoddi i ni yn gyfangwbl yr hyn yr ydym yn ei ddymuno yn ein gweddiau.
TAITH TRWY DALAETH OHIO.



 

 



(delwedd B0155)

(x155)
Dydd Llun, y 15fed o lonawr, 1844,  gadewais fy anwyl deulu, a phobl Dundaff yn  gyffredinol, gan gychwyn i’r daith fwriadedig trwy dalaeth Ohio.   Yr oedd Daniel Moses, diacon o’n heglwys ni, gyda mi, yr hwn hefyd a adawodd ei deulu fel fiuau, mewn gobaith y byddai a ni eu gweled mewn amser dyfodol.    Gan nad allasem ymddibynu am eira i lithro ar hyd-ddo, cymerais y cerbyd bach (spring wagon), a hwyliasom i’n taith hirbeil, a daethom hyd Carbondale.   Ar ol y cyfarfod yn nghapel yr Annibynwyr, hyd haner y dydd dranoeth,   agwedd   hiraethlon   ein   cyfeillion   yno a eflfeithiai ddwysder pruddaidd ar ein teimladau, gan ein dwyn i daer grefu am nawdd ac ymweliad ein doeth a’n hynaws Lywydd, i gyfarwyddo ein ifordd, i’n bendithio, a’n gwneyd yn fendith.   Gallaf, yn llwyr rydd oddiwrth   ddichellrwydd  ysbryd,   dystio, wrth feddwl ar y pryd symud i’r Gorllewin (os yr Arglwydd a fynai i hyny gymeryd lle), fy mod yn teimlo anwylder nld bychan at y Parch. L. Williams, a’r gynulleidfa oll, wrth feddwl ysgatfydd, er ein bod wedi cael llawer cyfeillach felus cyn hyn, fod yr amser ar noswylio pan yr ymddifadid ni mwy o gymdeithas ein gilydd.
Dranoeth aethom hyd Hyde Park. Wrth y gwaith haiarn a elwir Slocum Hollow, pregethais i nifer o Gymry, lle y mae y Parch.
T. Pugh yn llafurio. Cawsom oedfa dda iawn yn y lle hwn, a llawn cymaint sirioldeb a’r llall. Synai y cyfeillion yn fawr wrth ein gwroldeb yn yr amser hwnw o’r flwyddyn.



 

 



(delwedd B0156)

(x156)
TRAETHODAU,   &C.,
Yr oedd y ffyrdd yn galed gan rew, ac mewn rhai manau, yr oedd yn ofynol ein bod yn hynod ofalns rhag i’n cerbyd bychan lithro nes ein dymchwelyd. Wedi cyraedd . Wilkesbarre, gan fod yr bin yn anny-munol, arosasom yno ddeuddydd, ac ymgynullwyd i dy anedd, a man arall, er addoli Duw ein tadau. Nid ydyw y bobl hyn wedi ymgorffoli yn eglwys, gan eu bod yn perthyn i wahanol enwadau, ac nad oes fawr o sicrwydd pa hyd y pery y gwaith.-
Diclion mai gwell fyddai iddynt barhau i addoli fel y maent am ycbydig eto. Daethom yn mlaen i le a elwir Shickshinny, a chyraeddasom Danville erbyn y Sabboth, Ion. 21ain. Nid oes yn bresenol, o herwydd y marweidd-dra fu ar y fasnach haiarn, fawr o’n cenedl yn y lle hwn. Wedi llafurio yn eu plith, gweinyddu y Swper Santaidd, (yr bon fraint nis cawsent er’s misoedd lawer cyn hyn,) a lletya yn nhy fy nghyfaill Wm. Cook, boreu Llun canlynol cychwynasom, ac ar ol pedwar diwrnod o deithio caled, cyraeddasom Ebensburgh. Y dydd olaf o’r daith bon yr oedd yn hynod o oer; pan oecldym wedi dringo i ben yr Alleghanies, ac os yw y nefoedd, fel y mae rhai yn tybied, <iu y dywedir ei bod, uwdi ein penau, dyma y man nesaf y bu JLMiiiel Moses a minau yno erioed. Yn ysbaid y deg diwrnod yr oedasbm yn y lle hwn, pregethais bymtheg o weithiau mewn gwahanol fanau; cefais eu haelionus gyfraniadau er fy nghynorthwyo ar fy nhaith, yr hyn a fu yn galondid mawr i ni wrth fyned i lawr ar hyd afon hirgul a Thalaeth eangfaith, wastad Ohio:
Er fod y bobl hyn, am flynyddau, wedi bod yn dra amddifad o ysbryd Cristionogol, undeb a chariad brawdol, a chydweithrediad er ymeangiad egwyddorion
Y   PARCH.  JEKKIN  JBKKIKS.                 



 

 



(delwedd B0157)

(x157)
yr efengyl yn eu plith, gellwch feddwl mai llawen iawn oedd genym eu gweled mewn tangnefedd, yn cydfwynhau bendithion toreithiog yr iachawdwriaeth, yr hen ymrafaelion a’r felldith wedi eu claddu yn niynwent cariad, a dylanwadau helaethion yr Ysbryd Glan yn dywalltedig arnynt yn gyffredinol. Yn ysbaid y flwyddyn, neu y deuddeg mis a aethant heibio, derbyniwyd dros 120 ar broffes o’u ffydd yn y G-waredwr mawr; ac O! mor hyfryd oedd gweled y Parch. Mr. Howes yn llafurio’n ddiflin yn eu mysg, a’r hen bererin Mr. Eoberts yn tywallt dagrau o orfoledd, wrth feddwl fod achos y bendigedig Iesu yn myned rhag ei flaen yn y lle’y treuliodd ef ei oes i hau yr had da.
Wrth gychwyn oddiyma tua Pittsburgh, ar ol ciniaw, yr oedd o droedfedd i 15 modfedd o eira ar y ffordd, fel nad allasem fyned ond ychydig yn y blaen y prydnawn hwnw; eto erbyn y nos yr oeddym wedi rhyned tua 15 milltir. Anhawdd oedd myned heibio i’r golygfeydd a welsom y dydd hwn heb wneyd rhai nodiadau. Ar ben y Laurel Hill, lle hynod o uchel, yr oedd niwl tew, a’r coed o’n hamgylch yn orchuddedig gan rew, y crwybr yn ychwanegu ato, a’r perlau prydferthaf yn grogedig wrth gangau pob pren, ag a welsom erioed. Hefyd, yr’wyf yn cofio fy mod heb fenyg am fy nwylaw y pryd hwn, ond nid oeddym yn teimlo ein hunain yn oer nac yn ddigalon. Yr oedd golygfeydd o’r natur yma yn ein dwyn i ryfeddu doethineb, gallu, ac ardderchawgrwydd Duw, yn un o uchel fanau y byd. Ond pa faint mwy ardderchog a godidog >ydyw y drefn gyfryngol seiliedig yn ngwaed Ceidwad pechaduriaid, ar yr hon y mae yr angylion yn chwenychu edrych.



 

 



(delwedd B0158)

(x158)
TKAETHODAU,    AC.,
Yr ail Sabboth yn Chwefror yr oeddym yn Pittsburgh, lle y cefais fwynhau cyfrinach siriol lorwerth, David O. Jones, ac amrai eraill, ac y derbyriiais yr angenrheidiau hyny ag yr oedd eu hamgylchiadau yn ganiatau, er fy ngalluogi i fyned yn mhellach. Mae y lle hwn wedi adfywio yn fawr yn ddiweddar mewn masnach, a’r bobl yn dechreu dyfod unwaith eto yn fwy calonog. Arosais gyda hwy am wythnos. Wedi i mi ddyweyd ar fedydd yn ngapel yr Annibynwyr, bu gweinidog y Bedyddwyr yn traethn ei olygiadau yntau ar fedydd yr ail Sabboth. Nid wyf wedi canfod erioed eto nad oes genym hawl i farnu drosom ein hunain; os yw neb o’m brodyr yn barnu yn wahaiiol am bethau, hwyrach mai gwell fyddai i ni gyduno i fethu cyduno.
Methais gyrhaeddyd Cincinnati yn ol cytundeb llywydd y bad a mi; yr oedd yn godiad haul boreu y 3ydd Sabboth o Ohwefror arnom wrth Gallipolis. Gan nad oeddwn yn gallu barnu fod fy Nuw wedi fy ngosod i deithio ar y Sabboth, tiriais yno, a phregethais gyda’r .Henaduriaethwyr (lle yr oedd y Parch. Mr. Gould yn weinidog), ddwywaith, a lletyais gyda y pregethwr. Yr oedd ganddo bump o ferched wedi tyfu i’w maintioli, ac un bachgen; yr oeddynt yn canu mor soniarus, ac yn eu hymddygiadau yn deimladwy, serchog a doeth, fel y gwnaethant argraffiadau parchus ar fy meddwl am dauynt ar ol ein hymadawiad.
O’r lle hwn, tuag o 15 i 20 milldir, y mae sefydlfa helaeth o Gymry, Ty’n y Bhos, Centreville, Moriah, ac Cakhill. Y ffyrdd oeddynt fudr iawn yr amser yma o’r flwyddyn; nid wyf yn • cofio i mi yn fy oes weled na thramwyo eu cynddrwg.
Pregethais yn y sefydlfa hwn tua deuddeg o weithiau. Y mae o’r lle cyntaf, Ty’n y Bhos, i Cakhill tua
PABCH. 
JENKIN  JENKINS.




 

 



(delwedd B0159)

(x159)
15 milldir. Gan mai yn y canolbwynt y mae Centre-ville, wedi pregethu ddwywaith yn y lle cyntaf, ponderfynais anfon dau gyhoeddiad at y Trefnyddion Cal-finaidd—un i Centreville, a’r llall i Moriah.
Yr oedd y Parch. J. Davies, gweinidog Annibynol y sefydlfa, wedi ffurfio, eglwys Annibynol yn y lle rhag-grybwylledig, sef Centreville, mewn ty anedd. Addewais fod yno am 3 yn y prydnawn, a’r lle arall yn yr hwyr. Aethym i’r .ty anedd a nodwyd erbyn ciniaw, am tuag un o’r gloch. Hysbysodd y teulu i mi fod cyfarfod yn eglwys y plwyf, a chan mai hon oedd y gyntaf ag y daethym o hyd iddi yn mhlith ei» cenedl yn America, teimlais awyddfryd i fyned hyd ati. Wedi myned yno, yr oedd y bobl mewn cyfarfod neillduol; deisyfasant arnaf ddyweyd ychydig wrthynt, yr hyn a gyflawnwyd. Cyhoeddwyd y buaswn mewn ty anedd am 3, a chyda y Trefnyddion yn yr hwyr. Daeth yr offeiriad Cymreig, y Parch. Mr. Edwards, gyda mi i’r ty a enwyd, a dechreuodd yr oedfa yn ddymunol iawn. Cyn ymwasgaru, hysbysodd gwraig blaenor y Trefnyddion fod ei gwr wedi ei danfon hi yno i ddyweyd, er y byddai yn dda ganddynt hwy i mi ddyfod i bregethu yn eu capel hwy y noson hono, eto nad allasent hwy fy ngadael i ddyfod nes y byddai iddynt siarad a’r ymddiriedolwyr (trustees). Gofynais a oeddynt dan yr angenrheidrwydd o siarad a’r trustees bob tro yr, oeddynt yn myned i gadw cyfarfod crefyddol? Dim atebiad. Yna hysbysodd yr offeiriad y byddai Mr. Jenkins yn yr eglwys yn yr hwyr. Yna nodais mai y rheswm a’m gogwyddodd i anfon cyhoeddiad at y Trefuyddion yn y lle hwnw y noson hono



 

 



(delwedd B0160)

(x160)
TRAETHODAU,   AC.,
oedd, am mai hwy oeddynt y rhan luosocaf o’r ardalwyr—fod teimlad ynwyf i fod o ryw Ies i’m cenedl, a bod fy nghomisiwn i yn cynwys yr “ holl genedloedd “ —fod Duw yn ddoeth iawn yn ei drefn anfeidrol—pan y byddai un drws yn gauedig, fod un arall yn agored led y pen. Ni buaswn yn adrodd yr amgylchiad hwn oni buasai fod rhai yn priodoli y weithred hon i’r enwad hwnw, ac nid i berson unigol; oblegid nid yn unig cyflfrodd hyn y bobl nes y cefais dyrfa anghyffredin i’m gwrando yn yr hwyr, a’r Sabboth canlynol, am fod y fath swn wedi myned am danaf, ond amlygwyd anfodd-lonrwydd mawr at y blaenor gan y Trefayddion eu hnnain, a deisyfwyd am i mi, os oedd yn ddichonadwy, ddyfod atynt ryw dro cyn ymadael a’r ardal.
Yn y sefydlfa hwn y mae tua 1,500 o drigolion Cymreig, y rhan amlaf o gylchoedd Llangeitho. Yn ol fy marn i, trwy fod y tir yn gynwysedig o bridd melyn, gwanclyd, tlawd, y trigolion yn gyffredin ag.ond ychydig neu ddim pan yn dechreu byw yno—fod cymaint o honynt mor ddiweddar wedi dyfod i’r un lle, a’u bod ar y cyntaf mor aughyfarwydd a threfn y wlad newydd hon o fasnachu, mai hwy oeddynt y bobl lymaf en hamgylchiadau naturiol a welais erioed. Bto, wrth ystyried fod yr amser yn adfywio, hwythau yn dyfod yn fwy cyfarwydd a threfn y wlad, a bod gweithfeydd haiarn ar eu cynydd yn en hardaloedd, dichon na welir ein cenedl byth mwy yn y eylchoedd hyn mewn cyflwr mor isel ag ydynt yn bresenol.
Gadewais Cakhill, ac aethym hyd Portsmouth, 20 milldir o ffordd; cymerais agerddlong, a chyrhaeddais Cincinnati cyn y laf o Fawrth.
Yr oedd Mr. Jones,
T  PAKCH.  JBKKIN   JENKINS.




 

 



(delwedd B0161)

(x161)
gweinidog yr Annibymvyr Cymreig, yn glaf iawn, er ei fod yn gwellau yn dda cyn i ni ymadael o’r ddinas. Mae hon yn ddinas braf, ac yn cynyddu yn gyflym. Y Sabboth olaf 6 Chwefror, yn Cincinnati, torodd tarw allan o yard, a chorniodd Gymro o’r enw Thomas Thomas, puddler, 30 ml. oed, gynt o Ferthyr Tydfil, mor ddrwg, fel y bu farw ar y 4ydd o Fawrth. Dywedir ei fod yn wr priod, a bod ei weddw yn bresenol tua Thre-degar, Mynwy. Pregethodd yr ysgrifenydd mewn ty tafarn, cyn myned a’r corff i dy ei hir gartref.
Yn Cincinnati a Paddy’s Kun, pregethais tua 15 o weithiau. Gwelais yn yr holl fanau yr ymwelais a hwy rai a’m hadwaenent o’r blaen, a chefais, mor bell ag yr wyf yn gwybod, serchawgrwydd pawb yn gyffredinol.
Mae gan y Parch. B. W. Chidlaw ddau ddyn ieuainc yn yr ysgol, er eu parotoi at waith pwysig y weinidogaeth—Morgan ac Evans. “Wrth ystyried sefyllfa ein cenedl yn y wlad eang hon, a’r amddifedrwydd o ddysgeidiaeth ag y mae llawer o honom yn llafurio dano, sydd yn preg’ethu yr efengyl yn eu plith, mae yn hofl iawn genyf fod Mr. Chidlaw wedi cymeryd y gorchwyl canmoladwy hwn mewn llaw. Dymunwn iddo hir oes, a hyderaf y bydd iddo ymeangu yn ei derfynau, ac y gwna yr eglwysi ymdrech er cynorthwyo bechgyn o alluoedd da, a gwir dduwiol, er eu cynysgaeddu a manteision dysgeidiaeth, er budd yr achos goreu. Os ydym am weled llwydd yn em plith, ffolineb yw i ni bellach ed-rych yn unig am gynorthwy o Gymru; rhaid i ni1 ymdrechu gartref, yn ngwlad ein mabwysiad.
Yr wyf wedi bod yn Columbns, Eadnor, Newark, a Granville, abwriadwyf symudfy nheulu yr haf hwn, gan I
4*




 

 



(delwedd B0162)

(x162)
TKAETHODAU    AC.,
fy mod wedi penderfynu, os yr Arglwydd a’i myn, ac os Jiyddwn byw, i lafurio yn ngwinllan Crist yn y lleoedd A nodwyd, sef y ddau olaf, Newark a Granville. Hoff fyddai genyf ysgrifenu yn helaethach. Amser a brawf pa un a wnawn ai peidio. Mae y brodyr a’r chwiorydd yn earn gweled ychydig o fy hanes, ac wele ef iddynt, wedi ei ysgrifenu dan radd o anfantais yn y boat rhwng Newark a Cleveland, wrth ddychwelyd at fy eiddo.
YMWELIAD A OHYMEU.



 

 



(delwedd B0163)

(x163)
Pell wyf o’r meddwl y gwna pawb a welant yr hanes hwn gymeradwyo rhai pethau a gynwysir ynddo, ac y bydd eu golygiadau hwy yn hollol unol a’r eiddof fi; ond gan fod genyf hawlfraint oddiwrth fy Nghrewr i farnu droswyf fy hun, ni phetrusaf ei danfon i’r argraff-wasg; ac os bydd i ryw un wneyd ad-sylwnodau ar yr hyn a allai ymddangos iddo ef yn feius, neu yn anghyson mewn ysbryd ac iaith frawdol, yr wyf yn cymeryd yr adeg hon er hysbysu i’r cyfryw un, fy mod yn agored i argyhoeddiad, ac yn ddiolchgar am fy ngoleuo.
Mai 25, 1841, cymerodd Thomas ac Owen Baxter (Evans a’i wraig—pobl o Lanbrynmair), a minau, long, dan yr enw “ Sheridan,” yn rhwym o Gaerefrog Newydd i Lynlleifiad, a thiriasom yn y lle olaf yn mhen fcair wythnos i’r awr. Nid oedd dros tua 80 o deith wyr yn y llong, y rhan fwyaf yn enedigojj>|r Iwerddon, Lloegr, yr Alban, a Chymru. Yr oedd y: rhai hyn yn myned i aros yn yr Hen Wlad, neu yn yniofyn arian oddi yno, neu er gweled eu hen gymydogion a’u perthynasau, neu farsianda, a phethau o’r fath.
Yr oedd rhai pethau annymunol yn y llestr hon, megys tymerau afrywiog yr is-lywydd, a rhegfeydd dychrynllyd y morwyr; eto ni welais neb yn ymladd a’u gilydd, neb yn feddw, nac ond ychydig yn cymeryd diodydd meddwol, ar ol eu saldra ar y dyddiau cyntaf, Yr oll a allasem wneyd, mewn ystyr grefyddol, oedd



 

 



(delwedd B0164)

(x164)
TRAETHODATT,   &C.,
cyfranu y traethodau a gefais yn y ddinas, ac ymddyddaniad personol ag amrai o’r mordeithwyr ar amserau neillduol. Cawsom daith hynod gysurus, ond fod yr Mn yn oer iawn tua’r diwedd, wrth ystyried mai mis Mehefin ydoedd. Bu Thomas Baxter yn glaf y rhan fwyaf o’r amser, ac Owen ei frawd a minau yji chwareu arno, gan mai melinydd ydoedd, ei fod wedi bod yn tolli ar y trymaf tuag Ebensbiirgh, a bod rhagluniaeth yn ei geryddu am y fath bechod. Tystiai yn aml ei ddiniweidrwydd, gan ddyweyd mai cysurwyr galarus oeddyni ni oll iddo ef. “Wedi myned i Liverpool, yr oedd hiraeth arnom o herwydd ein bod yn ymadael a’n gilydd. Daeth pilot o Beaumaris i’n tywys ar hyd yr afon; hen Cymro iachus yr olwg arno oedd hwn; dywedai ei fod yn adnabyddus a’r Parch. Morris Eoberts. Gofynodd pa fodd yr oedd pethau gydag ef yn awr, gada’i blaid newydd? Dywedais wrtho fy mod wedi ei weled er’s llai na mis yn ol, a’i fod yn iach a chalonog, er ei fod y tro diweddaf y clywais i ef yn pregethu, yn gofyn, “Ys truan o ddyn ydwyf fi, pwy a’m gwared oddiwrth gorff y farwolaeth hon.”
Arosais yn Liverpool dros y Sabboth canlynol, a phregethais yno bedair gwaith.
Bu y Parch. Mr. Pierce yn serchog iawn i mi. Soniodd yn fynych yn dra thyner am y Parch. E. Everett, a dywedodd ei fod bob amser yn ei olygu fel tad iddo ef. Cymerais fy nghenad yn y Tabernacl, dros ferched Gaerefrog ISTewydd, ar yr hwyr Sabboth, i ddychwelyd en diolchgarwch i ferched crefyddol Llynlleifiad, am eu hanerchiad rhagorol iddynt. Yr oedd hyn yn effeithiol iawn iddynt, ac yn achos llawenydd mawr ganddynt. Wedi i’r moddion cyhoedd fyned heibio, yr oedd cwrdd
Y  PARCH.  JBNKIIT  JENKINS.




 

 



(delwedd B0165)

(x165)
gweddi dan y capel gan y merched ieuainc; cefais gymelliad i fyned i’r cwrdd gweddi hwn. Bn naw neu ddeg ar weddi. Yr oeddynt oll yn hynod ddrylliog; cyfeirient eu deisyfladau mewn dwfn ystyriaeth o santeiddrwydd a chyfiawnder Duw; erfynient drugaredd, gan gwbl gredu ei fod yn alluog i gyflawni cu holl angenrhaid, a chyflwynent eu hunain, a’u gilydd, a holl blant y goleuni, dan aden waedlyd unig Geidwad pechaduriaid. Yn wir, yr oedd eu taerineb am yr Ysbryd Glan i achub pechaduriaid, ac eangiad teyrnas Crist, yn ddigon i ddryllio y galon galctaf, ac adnewyddu teimladau crefyddol o’r newydd hyd yn nod mewn hen grefyddwyr. Cymerai un, megys prif destyn gweddi, ferched Cymreig America, a’u sefyllfa rhyngddynt 4 Duw; y llall, eglwys Salem (rhan o gynull-eidfa sydd yn y cwr arall i’r ddinas, a ymadawsant yn ddiweddar o eisiau lle); y trydydd, eu rhieni a’u perthynasau annuwiol, &c., &c.
Cymerais y cerbyd o Lirerpool i Lanymynach; yr oedd y bobl yn edrych yn iachus, ond y rhan amlaf yn dlawd eu hamgylchiadau naturiol, y pladuriau yn chwareu ar y gweirgloddiau, lluaws yn arcs i weled Syr Watkin Williams Wynne yn dyfod adref o Lundain, a chanoedd o’r adeiladau a brofent, ar yr ardrem gyntaf, eu bod yno er’s oesau. Cyn yr hwyr, y tai clychau, a’r llanau, yr heolydd a’r pontydd, y perthi a’r deisi, y gwartheg duon, ac enwau y trigolion, a brofent fy mod unwaith eto o fewn cyrau gwlad fy ngenedigaeth. Yr oedd ei mynyddau, ei chaeau, ei dolydd a’i gweinydd. yn ymddangos yn naturiol iawn i mi. Gallaswn fedd-wl, ar frig yr hwyr, fod yr awelon nosol, swn crych yr afon drSedig, peraidd sain teulu y goedwig, gweryr-



 

 



(delwedd B0166)

(x166)
TRAETHODAU,   &C.,
iadau y ceffylau, brefiadau y gwartheg, a chaniadau y rhianod wrth odro, yn hollti yr awyr deneu tua’r twr s6r, yn oydgordio i fy nghroesawn adref, gan ddyblu’r gan, “ Welcome home, welcome home.”
Arosais y noson hono gyda y Parch. John Evans, yn y Sarnau, mab i’r Parch. John Evans o’r Crwys, Morganwg, hen gyfaill hoff i mi; a gellwch feddwl mai llawen iawn oedd genym weled ein gilydd. Dranoeth daeth y gwr hwn i’m hebrwng hyd Meifod, a cherddais oddiyno hyd Lanfair, gan fy mod wedi addaw wrth fy nau gyfaill, Mri. Baxter, i ddyfod heibio; ond gan fod pump o bregethwyr i fod yno y Sabboth dilynol, nid arosais yno ond un noswaith yn nhy rhyw farcer yn y dref, a thranoeth aethum hyd Bwlch-y-ffrydd. Gan fod yr hin mor wlyb, llechais yn y lle hwn dros y Sabboth. Pregethais cyn ymadael yn y ddwy iaith chwech o weithiau, gan wneyd fy llety gyda’r gweinidog, y Parch. Mr. Davies. Yr oedd yno, ar y Sabboth, wr ieuanc gyda mi o’r Wern, ar ei daith i Gymanfa Llanbryn-mair. Cawsom amser hyfryd yn y lle hwn, a gellwch feddwl mai llawenydd oedd gweled 13 heb eu derbyn, yn y gyfeillach.
Boreu dydd Mawrth aethum i Lanbrynmair. Wedi cymeryd ychydig luniaeth, aethom i’r hen gapel, lle yr oedd cynadledd ar y pryd, ac euwau y gweinidogion yn cael eu cofrestru. Anhawdd fyddai i mi roddi un desgriflad cymwys o’m teimladau y pryd hyn. Er fy mod yn adnabyddus a holl weinidogion yr Anuibynwyr, yn mron drwy y Dywysogaeth, cyn fy nyfodiad i America, nid oeddwn yn bresenol yn adiiabod ond y Parchedigion canlynol — D. Williams, Llanwrtyd; S. Griffiths, Horeb; D. Morgans, Machynlleth; H. Morgans, Sama;
Y  PAKCH.
JENKINS.




 

 



(delwedd B0167)

(x167)
J. Davies, Llanfair; C. Jones, Dolgellau; S. a J. Eob-erts, Llanbrynmair; W. Rees, a Jones, Trawsfynydd; y lleill oll oeddynt wynebau dieithr i mi, a rhai a adwaenwn a ymddangosent wedi heneiddio llawer. Yr oedd yr olygfa hon, a’i chyffelyb a gefais lawer gwaith wedi hyn, yn gwir dystio fod amser yn cyflym drosglwyddo hil Adda o’r byd hwn i fyd arall, ac y dylem oll, gan fod y ty ar y ddaiar yn ymddatod, fod a thy tragywyddol genym yn y nef i fyned iddo.
Bu amrai bethau dan ystyriaeth y brodyr, megys trefnu rhyw gynllun i gael ysgol ramadegol yn y Gogledd, (gan fod yr un gynt wedi ei symud i Aberhonddu,) ac amcanu dwyn yr eglwysi i fod yn ymdrechgar at gynal y ddwy—a lleihau dyledion capeli swydd Drefaldwyn. Hefyd, dygwyd dan ystyriaeth y gynadledd sefyllfa amddifad conglau tywyll y swydd hono, a’r cylchoedd oddiamgylch; ac yn mhlith pethau eraill, ymofynwyd, oni ddylesid defnyddio moddion cyffroadau diwygiadol yn eu plith? ‘ Y moddion cyhoeddus oedd yn ol yr hen drefn, tri ar y tro yn pregethu, ac un yn dechreu yr oedfa. Er fod yno lawer o bysgota dynion, ni wnaed cymaint, ar ddiwedd y Gymanfa, ag edrych a oedd pysgod yn y rhwyd ai nad oedd. Aeth-nm oddiyno i gwrdd Dirwestol a gynelid yn Llanidloes. Er fod llawer o Ies yn cael ei amcanu ato yn yr oedfaon, ni chefais hollol foddlonrwydd yn nygiad rhai rhanau o’r cyfarfodydd yn y blaen, megys codi chwe’ cheiniog yr un am bob trwydded (ticket) dirwestol, i gael bara a chaws i’r bobl, a dethol gweinidogion nad oeddynt o’r un golygiadau a hwy ar ddirwest fel gwrth -ddrychau gwawd, gan ddwyn y gwrandawyr i gellwair.
Gan fy mod ar fwriad myned i Troedrhiwdalar er-



 

 



(delwedd B0168)

(x168)
TEAETHODATT,   AC.,
byn y Sabboth, Gorph, 3ydd, cychwynais tuag yno.
Daeth y Parch. D. Evans, Llanidloes, gyda mi hyd Raiadr-yr-wy. Yr oeddwn wedi addaw cyfarfod a’r Parch. Thomas Edwards, Swydd Gaernarfon, cyn myned dros y mynydd, mewn ty anedd, tua thair mill-dir o’r Rhaiadr. Pan aethym yno, yr oedd Edwards yn fy aros, a’r tyddynwr bach, un o’r rhai siriolaf a welais erioed, wedi cyfrwyo ei gaseg wen i fy hebrwng, yr hwn o’i serchawgrwydd a’i ewyllysgarwch a fa yn gy-sur mawr i ni ein dan. Lletyasom y noson hono gyda y Parch. David “Williams, yn Tanyrallt, yr hwn a’n llonodd yn fawr. Wrth ymddiddan a’n gilydd, hysbysodd y pethau canlynol—ei fod ef wedi derbyn i gyfundeb yr eglwysi dan ei ofal y flwyddyn a aeth heibio 323; ei fod ef a’r Parch. Mr. Jones, Llanuwchllyn, yn benderfynol i roi tro i weled y Cymry yn America heb fod yn hir, os yr Arglwydd a’i myn, ac os byddant byw. Yr oedd yr oedfaon yn lluosog; ac er llawned oedd capel Troedrhiwdalar, nid oedd dros bump neu chwech yno heb fod yn proifesu crefydd Crist. Ar ddiwedd yr oedfa yn yr hwyr, canwyd yr emyn canlynol gan yr holl gynulleidfa, gyda hwyl felus, a bias da, dros awr gyflawn wrth yr awrlais:—
“ “Wei dyma’r hen addewid,
A gadwodd rif y gwlith, O ddynion wedi eu colli,
Bydd canu am dani bytb.; Er cael ein mynycb. glwyfo,
Gan bechod is y nen, lacheir ein dyfnion glwyfau,
A dail y bywiol bren,”
Gan mai genedigol o’r lle hwn yw fy mhriod, gwaith anhawdd oedd ymadael yn fuan; pregethais yno bump
T  PARCH.  JENKIK JENKIKS.




 

 



(delwedd B0169)

(x169)
o weithiau, ac ymadewais i Lanymddyfri. “Wedi cyrhaeddyd yno, yr oeddwn yn adnabod degau o’r trigolion. Y Parch. William Davies a’m hadwaenai inau, a rhai ugeiniau o’r gynulleidfa oeddynt mor llygadgraff ag yntau. Cawsom gyfarfodydd neillduol yno, yn enwedig yr hwyr, a rhai o’r newydd dan deimlad o’u cyfIwr colledig a ofynent beth i wneyd i fod yn gadwedig. Yr oedd agwedd doddedig y gynulleidfa yn effeithio ar fy ysbryd yn fawr. Byth nid anghofiaf eu serchawgrwydd tuag ataf, yn weinidog a phobl. Pan y bu Eobin Ddu yn y lle hwn yn areithio ar Ddirwest, wedi iddo ddeall fod dan o ddiaconiaid yr eglwys Annibynol yn fragwyr, dywedodd mewn amryw fanau yn gy-hoeddus mai dwy sach o frag sydd yn dal capel Llanymddyfri i fyny.
Yma hefyd y mae Brutus yn golygu yr “ Haul.” Priodol, hwyrach, fyddai cydmaru y misolyn hwn i chwyddwydr, “bblegid yn hwn y gwelir holl frychau yr Ymneillduwyr fel mynyddau cribog, a rhinweddau yr Eglwyswyr yn llawn cyhyd a chyflM a holl ddyffryn y Mississippi.
Geilw holl bregethwyr y Dywysogaeth, os na fyddant yn weinidogion urddedig, neu ar y pryd yn y col-egau, yn “Jacks;” a’r hen bererin hwnw, Mr. Rees Davies, Glyn Bren, yn apostol y Jacks. Rhyfedd y gwahaniaeth sydd rhwng Brutus a’i “ Haul” a’r hen Vicar gynt a’i “ Ganwyll Cymru.” Pwy a wyr na fydd yn dda gan lawer eto gael goleu “ Canwyll” yr hen Vicar Pritehard pan y byddo “Haul” Brutus wedi machludo, heb gyfodi mwy.
Aethym trwy Langadog, Llandeilofawr, a  Cross Inn, Llandybie, a phregethais yn y tri.   Wedi myned i







 

 



(delwedd B0170)

(x170)
TBAETHODATT,   AC.,
Gwaelod-y-maes, ger Llangenech, nid oedd fy modryb, chwaer fy mam, na neb o’r teulu yn fy adnabod, nes hysbysu iddynt pwy oeddwn. Pan aethym i fy ardal enedigol, a’r tai addoliad, Mynydd Bach, Siloh, Tre-forris, Llangyfelach, y Felindre, Cors-hirion, y Crwys, a Chaslwchwr, yr oedd y bobl yn rhyfeddu cymaint yn mron a phe bua»“T*” wedi cyfodi o feirw.
*
HANBS ROWLI A’l DEtJLTT.



 

 



(delwedd B0171)

(x171)
Tua’r ail flwyddyn wedi i mi ddyfod i New York, aethym i weled fy rhieni yn Dundaff.
Pan yn teithio ar draed o Carbondale, gyda y Parch. Thomas Edwards, yr oedd genym dair milldir ar i fyny hyd y gate, lle y gorphwysasom am ychydig mewn ty bychan, er diluddedu natur. Daeth dyn i mewn o olwg hollol wlad-aidd, o’r enw Eowli.’ Deallais wedi hyn mai Rowlands oedd ei iawn enw, a’i fod yn byw yn y gymydogaeth. Edrychai ar yr awrlais, a dywedai yn Saesonaeg, “ D—n the clock, is it as much as that?” Gan fy mod yn barnu fod y fath iaith yn gableddus, dywedais wrtho,
“ You have no business to d-----n the clock.    If there
is any fault about it, it must be the clock-maker’s.” Dwrdiodd fi yn haerllug am ddyweyd dim wrtho, gan fy-gwth, a gosod ei ddyrnau wrth fy nanedd. Enciliodd Edwards mewn braw oddiwrthym, ond nid o’n golwg. Dilynodd y gwr gwaedwyllt fi o’r ty i’r heol, gan ddyweyd, “ I will lick you, by G-----d,” a geiriau cyffelyb.
Tynai ei got, gan feddwl fod arnaf ei ofn. Pan welais hyn, tynais inau fy nghdt, a theflais hi ar foncyfl’ oedd gerllaw, a dywedais mewn gwaed oer, os oedd ef wa.fattle am iddo daro yn gyntaf, ond fod yn lled amheus genyf y byddai iddo gael yr ei’gyd olaf,—os oedd yn barod, am iddo ddechreu ar ei orchwyl. Mewn gronyn daeth ato ei hun—daeth yn fwy tawel a chlaiar. Gadawodd fi, gan gnoi ei ddanedd, a dyweyd rhyw beth na wn i beth; ac nid gwaeth genyf hefyd. Ymeflais









 

 



(delwedd B0172)

(x172)
HAJfES B1WTD
yn fy ngh6t, gwisgais hi am danaf, ac aethym ar ol Edwards yn dawel.
Yn mhen blynyddau wedi hy’n, aethym i weinidogaethu at y Saeson a’r Cymry i Dundaff. Yr oeddwn yn adnabod y Rowli hwn byth, ond nid oedd ef yn fy adnabod i, hyny yw, ni wyddai mai yr un oeddwn ag a fu yn cystadlu ag ef gynt wrth y gate. Deuai ei deulu yn aml i’r capel Seisonig i fy ngwrando, ac yntau hefyd ambell waith. Yn y stor, ryw ddiwrnod, wrth ymddi-ddan, dywedodd, “ You, preachers, receive your six or seven hundred dollars a year, and we, poor folks, keep you too.” Dywedais, “ You never give anything to us, I know, because you see that we have too much; those who give us, think that they ought to give.” Dywedodd, “ Yes, I do. When will you come and preach in our school-house?” “What will you give me if I come?” “I will give you some potatoes or something.” Cydunais ag ef y buaswn yn myned, os buasai iddo ef fy nghyhoeddi. Addawodd wneyd. Cefais lon’d yr ysgoldy, ac aethym gydag ef adref i’w dy, ac arosais yno dros y nos. Dangosodd i mi y caeau, y berllan, ac amryw bethau eraill. Cyn ymadael, gofynais iddo a oedd efe yn coflo am y dyn wrth y gate, y bu ef yn bygwth ymladd ag ef? Dywedodd, “ Ydwyf yn eithaf; pa fodd y daethoch chwi i wybod am hyny?” Dywedais, “ Myfi yw hwnw.” Synodd wrth glywed hyn, a daeth yn gyfaill gwresog i mi. Derbyniais ei wraig a thri o’r plant yn aelodau eglwysig, a pharhaodd yn siriol tuag ataf tra bum yn y lle.
Wrth fyned i’r oedfa Seisonig o’r sefydliad Cymreig, ar foreu Sabboth, gwelwn ddyn o’r enw Eansom yn ail
T   PARCH.  JENKIN  JENKINS.




 

 



(delwedd B0173)

(x173)
grynhoi hen goed at eu gilydd, er mwyn gorphen eu llosgi. Wedi ei gyfarch, gofynais iddo a oedd dim cywilydd arno fod yn y fan hono, fel rhy w sweep, ar foreu Sabboth, fel rhyw bagan ar ochr y ffordd, pan oedd dynion eraill yn myned i’r cwrdd? Dywedodd, “ No. not much.” Gofynais a oedd ef ddim yn ewyllysio yn hytrach fod yn rhywle yn mhell o’r golffg, na bod dynion yn ei weled? Dywedodd, “ I think myself it would look a little better.” Dywedais, “ There is one who sees you all along.” Gofynodd, “ Who is he?” Dywedais, gan gyfeirio tuag i fyny, “ He is above you,” a gadewais ef heb ddyweyd dim yn rhagor. Tua’r ail Sabboth ar ol hyny, yr oeddwn yn pregethu yn Saesonaeg mewn school-house gerllaw ei dy ef, ac yntau yn breseiiol. Ar ddiwedd yr oedfa, cyfododd i fyny, a dywedodd, “ That word rings in my ears, that there is one above who sees me all along.” Daeth hwn hefyd at achos Crist.
Wrth gychwyn o Dundaff, pan yn ymadael i fyned i Ohio, yr oedd genyf rywbeth i’w benderfynu cyn ymadael a Montrose. Gadewais y wraig a’r plant i fyned o’m blaen, ac yn mhen tua haner awr aethym ar eu holau. Wedi myned filldir neu ddwy, gwelwn gi du yn gorwedd ar gauol y ffordd, yn edrych arnaf, fel pe buasai am neidio ataf. Edrychais tua’r llawr? a chefais gareg lled dda. Gan mai llaw-chwith ydwyf, tanais hi ato, a tharewais ef yn ei dalcen, a gwnaeth y creadur ryw ysgrech aethus. Yr oeddwn wedi ei ladd, a’i ymenydd ef allan. Gyda hyn, neidiodd dyn ataf dros y fence, gan fygwth fy lladd i, am i mi ladd y ci. Dywedais wrtho fod y ci ar y ffordd fawr—nad oeddwn yn prisio am



 

 



(delwedd B0174)

(x174)
HAKES  BYWYD,   &C.
dano ef na’i gi, ac os na buasai ef yn fy ngadael yn llonydd, y buaswn yn gwneyd yr un peth ag yntau ag a wnaethym a’r ci. Wedi hyn aeth yn ol at y corn i’r cae yn ddiddyg, ond ei fod yn grwgnach peth, ac yn bygwth y gyfraith arnaf. Aethym i’m ffordd yn dawel, ac ni welais y ci na’r dyn hwnw, am wn i, byth wedi
GWNEYD KHAN TANGNEFEDDWR.



 

 



(delwedd B0175)

(x175)
Pan oeddwn yn Dundaff yn weinidog, tua 1845, dechreuodd yr Odyddion enill tir, a myned yn lluosog iawn yn Carbondale. Cyffrodd hyny^ ysbryd rhai dynion da, ac yn neillduol un Daniel Price, diacon gyda’r Annibynwyr, yn eu herbyn.
Yr oedd pobl Dundaff yn agor eu capel newydd, ac anfonwyd am y Parch. Evan B. Evans, Pottsville, i’r agoriad. Wrth ddychwelyd, aeth i Carbondale i dreulio Sabboth. Yr oedd yn gymundeb yno, a chan fod Mr. Evans yn Odydd, dywedodd Daniel Price na wnai efe gario y bara a’r gwin o gwmpas, os oedd Mr. Evans i bregethu. Penderfynodd y mwyafrif i gael Mr. Evans i bregethu, a chael cymundeb; felly ymadawodd Daniel Price, a rhyw ddeuddeg-ar-hugain gydag ef, i ddechreu achos newydd; ac arosodd tua phedwar ugain ar ol. Tua phen wythnos, daeth y Parch. Lewis Williams i Dundaff, i erfyn arnaf ddyfod i Carbondale, i gynyg gwneyd trefn. Aethym yno erbyn yr amser, rhoddais y ceffyl yn ystabl yr hotel, ac i’r capel ar fy union, hels weled neb. Yr oedd y capel yn orlawn—y ddwy blaid, yn gystal a’r holl enwadau eraill, yno yn gryno. Dechreuais y cyfarfod trwy ddarllen a gweddio fy nun, yna cymerais fel testyn eiriau Paul, “ Mi a glywais fod ymrysonau yn eich mysg, ac o ran yr wyf fi yn credu.” Syllai pawb arnaf, a gwrandawent yn astud. Teulu Chloe oeddynt wedi hysbysu Paul am Corinth, a’ r Parch. Lewis Williams sydd wedi fy hysbysu inau am danoch



 

 



(delwedd B0176)

(x176)
HANES  BYWYn
chwi. Hwyrach nad oedd pethau yn gywir fel yr oedd Paul wedi cly wed, ac nad yw pob peth yma fel y clywais inau. Br hyny mae rhyw beth allan o le. M ddaeth Mr. Williams ataf fel unyn dwyn chwedlau, ond fel un yn teimlo -gofid, oblegid yr oedd yn wylo wrth ddyweyd, ac yn gofyn am gydymdeimlad. Clywais fod ymryson rhyngoch chwi a Daniel Price, yr hwn oedd yma yn ddiacon. Dyn da yw Daniel Price—hen grefyddwr ffyddlon—yn grefyddwr cyn gadael Cymru, ac yn grefyddwr yma dros flynyddoedd lawer. Yr oeddych chwithau yn meddwl yn uchel am dano, onide ni “buasech yn ei osod yn ddiacon, oblegid nid ydyw dynion yn gosod pob ffwl yn ddiacon. Yr wyf fi yn credu inai dyn da yw Daniel Price, ac y bydd yn canu y delyn aur gydag Abraham. Yr ydych wedi gwneyd cam & Daniel Price, hwyrach yn anfwriadol, eithr mewn byrbwylldra. Dylasech ystyried mai Daniel Price yw Daniel Price; mai manteision Daniel Price a gafodd, ac mai synwyr Daniel Price sydd ganddo. Yr ydych yn disgwyl cael dynion fel y dyleat fod, yn lle y peth ydynt. Gan nad ydych chwi eich hunain y peth y dylech fod, pa fodd y dysgwyliwch i eraill fod?
Mae Daniel Price yn dyweyd mai dynion ofnadwy yw yr Odyddion, ac mai rhyw beth drwg iawn yw y secret sydd ganddynt. Pa fodd y gwyr ef pa un ai drwg ai da ydyw tra y byddo yn secret f Quid yw yn ofynol ein bod yn gwybod am beth cyn ei farnu? Os yw Daniel yn gwybod beth ydyw, nis gall fod yn secret mwyach. Newidiai gwedd Daniel Price wrth glywed hyn; gwridai ei wyneb gan ddigofaint, tra y gwenai eraill. Aethym yn mlaen, gan ddyweyd, Ar yr ur pryd, nid yw rhagoriaethau Odyddiaeth fel crefydd yi

Y  PARCH.  JENKIN   JENKINS.                  



 

 



(delwedd B0177)

(x177)
well na’r grefydd Phariseaidd, pa rai a garent y sawl a’u carai hwythau. Mae cystal crefydd a hyna gyda cheffylau.
Casa di fi, medd un hen geflyl, minau a dy gojsaf dithau. Gwir yw eich bod yn amddinyn ac yn gwylio eich gilydd, yn claddu eich meirw yn barchus; ond nid ydych yn gofalu am neb eraill. Eithr am grefydd Crist, mae yn porthi a disychedu y gelyn. M byddai angen cymdeithasau eraill pe gweithid allan egwyddor ei grefydd Ef. Dywedais wrthynt am ochelyd cyd-doriad, ac am iddynt gofio eu cyfamod eglwysig, yn nghyd ag amryw anogaethau i fod yn heddychol. Ar ddiwedd y cyfarfod, deallais fod y rhan fwyaf wedi tawelu llawer, ond yr oedd Daniel Price wedi digio yn fawr, ac yn llefaru geiriau caledion am Siencyn wrth bawb o’i gydnabod.
Yn mhen ychydig ar ol hyn, daeth y Parch. John Cook i Dundaif, a chan oi fod ar ei draed, ac i bregethu yn Carbondale a Blakeley wrth ddychwelyd, aethym i’w hebrwng gyda cheffyl ‘a luggy. Cawsom fod pob peth wedi tawelu yn Carbondale, a phawb oeddynt yn cwyno wedi cyfod i’w lle. Aethom yn mlaen i Blakeley, lle yr oedd Daniel Price yn byw, a’r hwn oedd eto yn parhau yn ddrwg ei dymer. Pregethasom ein dau, ac ar ddiwedd y cyfarfod daeth amryw yn mlaen i ofyn i mi ddyfod gyda hwynt i letya; ond atebais, Na, yr wyf yn myned heno at Daniel Price. “ Nid oes neb acw eisiau ei weled,” meddai yntau, a ffwrdd ag ef, a Cook gydag ef. Dilynais hwy, ac at y drws. Curais, ond dim ateb. Curais drachefn, ond methu peri i neb glywed. Aethym i mewn, a dywedais, Beth yw y fath bobl a chwi? nid ydych yn agor y drws er euro, ac nid ydych yn rhoddi lle i mi eistedd ar ol dyfod i mewn.




 

 



(delwedd B0178)

(x178)
HAKES BTWYD.
Yna edrychais ar Daniel, a dywedais, Daniel, ni ddaethym yma er mwyn eich bwyd na’ch gwely, ond am fy mod yn gwybod eich bod wedi tramgwyddo. Beth bynag a ddywedais am danoch allan o le, yr wyf yn cydnahod fy mai. Chwi a ddvlasech ddyfod ataf fl; ond gan na ddaethocb, dyma fi atoch chwi. Rhaid i ni faddeu i’n gilydd, Daniel, onide ni chawn faddeuant. Mae yn beth echrys ein bod ni ein dau wedi crefydda cyhyd, a’u cael yn golledig yn y diwedd.
Ni faddena Duw i ni os na faddeuwn i’n gilydd. Am hyny, rhoddwch i mi eich llaw.
G\dahyn dnng’osHi Daniel deimlad dwfn, llanwai y d;igr;tu ei lygmtj. Hvwedodd, “ Os rhoddaf fy llaw, rhoddafiy ngh;il”i, hetyd.”.
le, Daniel, nid y wiw bod yn rhagritbiol. Estynodd ei law, a tborodd yr holl deulu allan i wylo. Trodd pawb i deiirilo yn siriol, ac aed atii barotoi swper yn gysurus. I Yu y boreu, dywedais, Daniel, nid wyf wedi darfod& cbwi eto, rhaid i chv>d ddyfod gydami heno i’r gyfeillach i Carbondale. Dywedodd yn benderfynol na ddeuai byth, er hyny llwyddais i’w ddarbwyllo ef i dyfod.
Aethom i’r gyfeillach ein dau. Dywedais wrth y bobl fod Daniel wedi dyfod yno, ac os oeddent yn barod i’w dderbyn, am iddynt roddi arwydd trwy godi llaw.; Cododd pawb en dwylaw yn unfrydol. Yna gofynais i Daniel,wneyd arwydd drosto yntau, yr hyn a •wnaeth yn bur arat. Ar hyny cododd rhyw hen chwaer ar ei thraed, a dechreuodd ganu:—
“ Yn awr mae’r llaeth a’r bara can, A Iesu Grist yn ffrynd i’r gwan; A chael maddeuant Daniel Price ISydd gan’ mil gwell na pliwdin rice.”
Y PARCH.  JEKKIST JENKINS.




 

 



(delwedd B0179)

(x179)
Aeth pawb i hwyl, a chefais inau ad-daliad cyflawn am aberth mawr i’m teimlad.
Wedi myned i Ohio, aethum i fyw i Granville. Yr oedd y ddwy eglwys Gynulleidfaol, Granville a Newark, dan fy ngofal. Yn yr amser hwn bu amrai ysgrifau rhyngwyf a’r Parch. William Morgans, PottSTille, Pa., am fedydd. Tebyg na orphenir yr hen ddadl hono yn yr oes hon, ac mai y fFordd fwyaf heddychol yw, i bob un fod yn sicr yn ei feddwl ei hun.
Yn yr amser yma hefyd, dymunwyd arnaf i dreulio dau Sabboth gyda’r eglwys Gynulleidfaol yn Cincinnati; ar y pryd yr oedd cynadledd flynyddol y Methodistiaid Esgobawl yn y lle, a’r hen frawd Dafydd Cad-waladr, aelod o’r cyfundeb hwnw, yn y ddinas.   O garedigrwydd ato, ceisiodd rhai o’r Annibynwyr ganddo roi pregeth iddynt hwy y Sabboth, er eu bod yn disgwyl y byddai Mr. Jenkins, Newark, yno hefyd, beth bynag eu bod am iddo ef ddyfod, pa uu a fuaswn i yn’ dyfod ai peidio.   Y Sabboth a ddaeth, y gynulleidfa a’r pregethwyr hefyd.   M chawswn bregethu yn gyntaf, mynai ei ffordd ei hun.    Tynodd ei destyn—”Gan edrych yn ddyfal na bo i neb ballu oddiwrth ras Duw.” Swm ei bregeth oedd, ceisio profi yr athrawiaeth o syrthiad oddiwrth ras.     Nodai lawer o bersonau y gwyddai ef am danynt,  oedd wedi bod unwaith yn ddtawiol, ond wedi hyny a aethant yn hollol annuwiol; ac am dano ei hun, dywedai ei fod yn gwybod yn sicr ei fod yn dduwiol yn awr, ond nid oedd yn gwybod y byddai felly y flwyddyn ddyfodol, nac hyd yn nod yr . wythnos nesaf.   Yr oedd yr hen frawd wedi bod wrthi am agos i awr, yn ymdrechu yn galed i brof) ei bwnc. Yna tynais inau fy nhestyn.    “ Yu wir meddaf i chwi,



 

 



(delwedd B0180)

(x180)
HANES   BTWYD

y mae llawenydd yn y nef am un pechadur a edifarhao, mwy nag am namyn un cant o rai cyfiawn, y rhai nid rhaid iddynt wrth edifeirwch.” Ar ol gwneyd rhai eylwnodau ar edifeirwch, dywedais am farn yr angylion a’u llawenydd; fod en golygiadau hwy (eu sentiments) yn gywir, beth bynag yw golygiadau dynion yma, Yna gofynais, A ydych chwi yn meddwl fod yr angylion wedi myned mor ffol a llawentuvu am un hen bechadur fel Dafydd Cadwaladr, neu ryw un arall a edifarhao yma ar y ddaiar, na wyddus beth a ddaw o hono cyn pen blwyddyn, i’e, hyd yn nod yr wythnos nesaf, . yn fwy nag am bedwar-ar-bymtheg a phedwar ugain o rai y gwyddant y cant eu cwmpeini am byth? Yna dyw. dais, Fe ddichon mai y ffordd oreu fyddai i ni dori pen yr hen frawd tra y mae yn dduwiol, rhag ofn iddo farw ryw bryd eto yn annuwiol, a myned i uffern; oblegid y mae yn gwybod ei fod yn dduwiol yn awr, yna caiff fyned i’r nef, oblegid y maent hwy yno wedi penderfynu hyn, “Yr hwn sydd gyfiawn, bydded gyfiawn eto.” Bydd dyn am byth y peth fydd pan fyddo

marw.
Wrth feddwl am beth fel hyn, cof genyf am chwedl a glywais unwaith. Syrthiodd llongwr oddiar yr hwyl-bren i’r mor, ac estynodd Gwyddel o forwr y rhaff iddo; wedi i’r creadur tlawd oedd yn y dwfr gael gafael ynddi, gofynodd y Gwyddel iddo, a oedd yn Gatholic? nac ydwyf, medai y llall. I lawr tan y dwfr y cafodd fyned am ychydig wedi hyny. Wedi ei godi i’r ymyl, gofynodd iddo drachefn, a wyt ti yn Gatholic yn awr? a’r llall yn ateb yn barhaus nad ydoedd. Ond o’r diwedd, pan welodd nad oedd yn cael ei dynu i’r Ian, dywedodd, yr wyf yn Gatholic.
Wei, meddai y Gwyddel,
Y  PAECH. 
JENKIN  JBSKINS.




 

 



(delwedd B0181)

(x181)
“ It is better to let you die in the faith.”  
A gadawodd iddo fyned dan y dyfroedd.
Yr oeddwn wedi dyfod i Newark a Granville ar fy nhraul fy hun, yn ol yr alwad a roisant i mi. Ar ben. y fhvyddyn nid oeddynt wedi talu yr haner o’r hyn a addunedasant. Wrth ystyried fy mod dan yr angenrheidrwydd o gadw ceifyl, talu am dy i fyw, a’m teulu yn lluosog, siaredais yn bwyllog a’r blaenoriaid am fy amgylchiadau. Yr oeddent yn addef fy mod wedi bod yn llwyddianus, fod amrai wedi eu derbyn at yr achos, ond nad allasent hwy wneyd rhagor. Er siarad llawer a hwy nid oedd dim yn tycio. Nid oeddwn yn priodoli yr ystyfnigrwydd hwn ond i ychydig o honynt, eto, yr oedd y rhai hyny yn ddigon er atal y gwersyll i gychwyn. Dywedais nad oedd dim ond yr ysbryd drwg yn eu hatal rhag gwneyd eu haddewidion; nad oedd eu haddewidion ond dau cant a haner yn y ddwy eglwys, a’u bod hwy yn llawer gwell eu hamgylchiadau nag oedd eglwys Granville, a chan mai gwrando ar yr ysbryd drwg yr oeddynt, y buaswn i yn gwneyd gwaith a hwy na fuasai hwnw yn ei wneyd (sef yr ysbryd drwg), y buaswn yn eu gadael hwy.
Rhoddais yr alwad oeddynt wedi ei rhoi i mi yn y Court, yn erbyn y capel, rhoddais eglwys Granville yn rhydd, gwerthais y ceifyl a’r wagen fach, talais fy nyled, a gadewais hwynt. Yn ol dim o hanes a gefais am rai o honynt, nid yw yr ysbryd drwg hwnw wedi eu gadael hyd heddyw.
Yr oeddwn. wedi bod yn Brady’s Bend (Sugar Creek) rai misoedd yn ol, ar gais yr eglwys hono, gyda y Parch. T. Edwards, ac eraill, er ceisio terfynu rhyw ymryson oedd rhyngddynt. Caed ar ddeall mai ar un
 



 

 



(delwedd B0182)

(x182)
HASTES  BYWYD
o’r diaeoniaid yr oeddynt yn bwrw y bai. ISTid oedd y diacon yn foddlon i roddi ei swydd i fyny, a’r rh.an fwyaf o’r eglwys am iddo wneyd. Wedi ei gynghori ef, a’r rhai oedd yn ei bleidio, mai gwell er lles yr achos, a heddwch, oedd iddo roddi ei swydd heibio, yn neillduol y pryd hwnw, a chael arwyddion pawb ond ef ei hun, dywedais, Mae yn well i chwi, Mr. Jones, i roi eich swydd i fyny. Atebodd, “M wnaf fi ddim o hyny.” Yna dywedais wrtho, chwi welwch, John bach, fod yr eglwys i gyd wedi gwneyd arwydd i hyny; ni ellwch chwi fod yn ddiacon mwy, oddieithr i chwi fod yn ddiacon i’r llygod.
Felly dybenodd y cwrdd hwnw, a diacon y llygod y cafodd ei alw o hyny allan.
Pan yn cychwyn o Newark, gyda’r teulu, nid oeddem yn benderfynol i ba le i fyned. Nid oeddwn wedi gweithio nemawr o ddim oddiar y daethum o’r mynyddau yn Nghymru hyd yn hyn; nid oedd yn ddi-chonadwy i gael gwerthu yr ychydig dir oedd genyf yn Dundaff am ei gyflawn werth; nid oeddwn yn ewyllysio myned yn ol at fy hen gydnabyddiaethau yn llwm fel yr oeidwn, penderfynais y buaswn yn myned a’r teulu, am ychydig amser, i Brady’s Bend (Sugar Creek), ac yno yr awd. Cefais waith yn y foundry, ty i fyw ynddo, a rhoddais fy llythyr i’r eglwys Gynulleiclfaol. Cyn pen mis, deallais fod surdoes yno yn y blawd; amrai a sisialent fy mod am fyned a lle y gweinidog, ac eraill, fod eisiau rhyw gyfnewidiad yno ar bethau, beth bynag fuasai yn cymeryd lle. Wrth wybod hyn, codais fy llythyr, a rhoddais ef i’r eglwys Bresbyteraidd. Am dymor, pregethais ar hyd y wlad mewn ysguboriau, yn Black Fox,’ a manau eraill, a chefaia luaws i fy ngwrando yn aml. Ar gais y Bedyddwyr
T  PARCH.  JEKKIK JENKINS.




 

 



(delwedd B0183)

(x183)
pregethais iddynt hwy amrai weithiau, a’r Annibynwyr yn dyfod i’m gwrando, nes oedd eu capel hwy yn agos a bod yn wag. Wrth weled hyn, aeth gweinidog yr Annibynwyr, a rhyw hen bregethwr diegwyddor arall gydag ef, at weinidog y Presbyteriaid, a’r cwyn fy mod yn rhwygo eglwysi, ac. nis gwn pa faint o bethau eraill. Cefais wys i ymddangos o flaen y Saeson yn mhen deng niwrnod. Y cyhuddwr oedd Mr. Common Fame. Yno yr awd, ac amddiffynais fy hun yn ngwydd tyrfa fawr. Eto, barn odd Mr. Common Fame fi yn euog, pwy bynag ydyw. Apeliais i’r Presbytery; enillais y dydd yno, a gwelais fod gwyr y Common Fame o’m tu, yn lle bod yn fy erbyn. Gorfu i weinidog y Presbyteriaid yn fuan ymadael o’i eglwys. Ymddygai y Bedyddwyr yn garedig iawn ataf; ceisient yn siriol iawn genyf ddyfod i’w cyfeillach hwy. Aethym ryw noswaith, a’r gair cyntaf a ofynwyd i mi yn y gyfeillach hono oedd, a oeddwn wedi newid fy marn, ac am fwrw fy nghoelbren yn eu plith hwy? Dywedais ei bod yn myned dipyn yn hwyr i mi ddyweyd llawer wrthynt y noson hono—os oeddynt yn foddlon i mi ddyfod atynt i’r gyfeillach, y cawsent glywed mwy y tro nesaf,—y noswaith gyntaf y bum yn siarad a fy ngwraig, na bu dim son am briodi y noson hono; felly y terfynodd y gyfeillach. Yr amser yma yr oedd y telegraph Cymreig yn cerdded yn gyflymrhwng Brady’s Bend a Pittsburgh, a rhai lleoedd eraill, eisiau gwybod yn fawr beth a fuasai yn dyfod o Siencyn, druan. Yn yr wythnos hon hefyd daeth amryw o’r Independiaid ataf i’m ty, gan ddyweyd nad oedd achos am i mi fyned at y Bedyddwyr, y buasent hwy yn adeiladu capel i mi.yn ymyl y railroad, a llawer o addewidion eraill.
Dywed-



 

 



(delwedd B0184)

(x184)
HANES B7WYD
ais fod yn y lle dri capel Cymreig yn barod, y gallasai un capel eu cynwys oll ag oedd yn y lle hwnw.
Hwyr cyfeillach y Bedyddwyr a ddaeth. Trwy y dydd blaenorol, dywedai amryw o’r Bedyddwyr wrthyf nad oedd y caredigrwydd a ddangosasant ataf ddim, niewn cyferbyniad i’r hyn a fuasent yn ei wneuthur yn ol llaw. NM oedd fy ngwraig fy hun yn hollol foddlawn i mi fyned i gyfeillach y Bedyddwyr y noson hono, trwy fy mod wedi dyweyd wrthi hi y modd y pa’siodd y gyfeillacb. o’r blaen; eto, gwyddwn fod gau-ddi hi gryn ymddiried ynwyf, er ei bod yn sigledig i raddau yn ei theimladau, wrth glywed cymaint gan wahanol bersonau. Llawer un a edrychent gyda chraflfder pa le y buasai y glorian yn troi. Gwefreiddiai teimladau amryw mewn pryder am fy sefydlogrwydd. Penderfynai rhai o’r Bedyddwyr y fan lle y buaswn i gael fy nhrochi. Yr Independiaid a laesent eu gafael ynwyf, ac hyd yn nod y Parch. Howell Powell a ofynai, a oeddwn yn myned i fod yn Fedyddiwr? “ le,” meddai efe, “ a ydych yn rhyned i gael eich trochi? Dyna y son sydd yn mhob man.” Dywedais nad oeddwn erioed heb fod yn Fedyddiwr; am gael fy nhrochi, fy mod yn ddigon bawlyd yn barod, &c.
Trwy ein bod ni yn castio yn y foundry y noson y y cadwai y Bedyddwyr eu cyfeillach nesaf, o’r pryd y bum yn ymddiddan a hwynt, nid aethym atynt. Mae hyn yn hollol hysbys, fod yn rhaid i’r moulder fod. gyda ei waith yn amser castio. Yn ysbaid yr wythnos hono, teimlai y Parch. David Thomas, gweinidog y Bedyddwyr, yn lled ddigalon, am fy mod yn debyg o fyned a’i le ef, a’i fod ar y traed olaf yn mhlith ei hen frodyr. Poor fellow, nis gwn yn y byd beth sydd wedi dyfod o
Y   PAECH.  JENKIN  JENKINS.




 

 



(delwedd B0185)

(x185)
hono ef. Beth bynag, i’r gyfeillach yr aethym. Wedi i’r rhanau arweihyddol o’r gwaith fyned heibio, cododd Richard Wooly ar ei draed, a dywedodd, “ Yr wyf yn gweled fod Mr. Jenkins wedi dyfod atom, heno eto. Mae ef yn ddyn call, ac eisiau dynion call sydd arnom ni.
(Dyn da yw W.ooly). Yna gofynodd a oeddwn wedi cyfnewid yn fy meddwl yn ddiweddar—fy mod wedi addaw y buaswn yn dyweyd rhyw beth’ mewn perthynas i hyny, pan oeddwn yn eu plith y gyfeillach o’r blaen. Dywedais fod dyn yn greadur cyfnewidiol, a’i fod yn cyfnewid yn barhaus.
Gofyniad. le, ond fy meddwl i yw, os gallaf ei ddyweyd ef, A wnaech chwi eto, pe byddech yn ysgrifenn ar fedydd, ysgrifenu yr un fath ag y gwnaethoch o’r blaen?
Ateb. Ni byddai hyny o un dyben, trwy ei fod wedi cael ei ysgrifenu yn barod.
Gof. Yr wyf wedi clywed eich bod yn ddiweddar wedi taenellu plentyn i Dafydd Thomas. A ydyw hyny yn wir?

GWELLIANT GWALL.—Ar tudalen  185, a’r 19eg llinell, yn lle “Dafydd” Thomas, darllener “ Griffith” Thomas.


Ateb. Ydyw, mae yn wirionedd.    , Gof. Yr wyf yn gofyn i chwi yn ddifrifol, ac yn disgwyl cael ateb difrifol, A wnaech chwi daenellu baban eto mewn amser dyfodol, os bydd amgylchiadau yn galw, a dynion am i chwi wneyd?
Ateb. Yr wyf yn ddifrifol. Yr wyfyngwybod yrhyn a wnaethym, ond nid wyf yn gwybod llawer o’r pethau a wnaf; bydd hyny yn ymddibynu ar yr amgylchiadau y bf ddaf ynddynt ar y pryd.
Gof. Ni wn i ddim beth i’w ddyweyd yn awr; ond gofynaf fel hyn, A ydych chwi yn credu fod trochiad yn fedydd?



 

 



(delwedd B0186)

(x186)
HANES  BYWYD
Y   PARCH. 
JEKKIK JENKINS.




 

 



(delwedd B0187)

(x187)
Ateb. Ydwyf; nid wyf wedi ameu hyny erioed.
Gof. A ydych chwi yn credu y dylech fedyddio bab-anod?
Ateb. Nid oeddwn am eu cadw yn hwy mewn dyryswch. Yr wyf yn credu mai eiddo plant yw teyrnas nefoedd, ac mai un o freintiau y deyrnas hono yw bedydd. Felly y dybenodd yr ymddiddan am hyny.
Yna dywedasant yn gyffredinol, er fod ganddynt bob parch i mi, eto fod digon rhyngom i’n cadw ar wahan; mai myfi oedd y cyntaf a ddarfu iddynt gyfarfod erioed fel hyn.
Gofynais gyngor iddynt fel hyn: Yr ydwyf wedi arfer a moddion crefyddol erioed, ac nid wyf yn teimlo yn hollol gysurus fel hyn. Pe buaswn yn dyweyd fy mod yn credh am fedydd fel chwithau, cawswn fy lle yn gyflawn yn eich plith; ond gan fy mod wedi ymddwyn yn gwbl ddifrifol a diragrith, nid oes yma le i mi. Os af at y Methodistiaid, gofynant a wyf yn credu eu Cyffes Ffydd hwy? Br dyweyd fy mod yn credu y rhan fwyaf o hono, os nad allaf ei lyncu i gyd, a hyny ar unwaith, dywedant nad oes le i mi yno. Os af eto at yr Independiaid yn y lle hwn (ac nid yw yn gyfleus yn bresenol i mi fyned oddi yma), dywedant fy mod am ranu yr eglwys. Os af at y Saeson, galwch fi yn Die Sion Dafydd, neu ryw beth. Rhoddwch gyngor i mi; hwyrach y caf ryw oleuni er gwybod fy nyled-swydd yn well nag yr wyf yn ei gwybod yn bresenol. Dywedasant yn onest, na wyddent hwy beth i’w ddyweyd wrthyf. Gan ei bod yn myned yn hwyr, dywedais, Efallai mai gwell fyddai gofyn i Ddnw, yna gweddiais yn ddifrifol, os oeddwn yn gyfeiliornus, am iddo ef fy ngoleuo; ac ysgatfyd-d fod y bobl hyn yn gyfeiliorn
us hefyd, a dymunais yn syml am iddo ein goleuo i gyd—mai efe oedd y gwir oleuni, am iddo beidio ein gadael yn y tywyllwch, er mwyn ei enw, &c. Yna ymadawsom yn frawdol, a’r dagrau yn llanw ein llygaid. Yn fuan wedi hyn, aeth bachgen bychan, pedair oed, i ni, a’i droed dan y car, a bu farw mewn canlyniad. Torais inau dri o’m bysedd, drwy iddynt fyned rhwng cogs j crane yn y foundry; a phan ddywedodd rhyw ddynes hir ei thafod, anystyriol, nad oedd fater am danaf, ein bod yn y foundry yn aml yn rhy lawn, ifromodd y moulders wrthi i’r fath raddau; ac oni buasai ei bod mewn ffordd deuluaidd, buasent yn ei chicio hi hefyd; oblegid pan oeddym yn gwneyd y peth cyntaf yn y boreu y cymerodd yr anffawd le. Fel hyn daethym yn wrthddrych tosturi cyffredinol; gwnawd i mi gasgliad da o arian. Nid oes o fath gwyr y gweithfeydd am hyn, rhewnangen.
Wedi i mi dori fy llaw, cefais fyned yn wiliedydd (watchman) ar y forge. Mae yn debyg eu bod yn disgwyl i mi wylio yno ar y Sabboth, ond ni wnaethym hyny. Yn mhen tua pymthegnos, daeth prif arolygydd y gwaith ataf, gan ofyn pa le yr oeddwn wedi bod y Sabboth diweddaf? Dywedais mai yn y cyfarfodydd crefyddol. Dywedodd fod yn rhaid iddo ef gael un a fnasai yn gwilio y/on/eary Sabboth. Dywedais mai ei waith ef oedd edrych i mewn am hyny, ond na fuaswn i ddim yn gwneyd y fath beth. Dywedodd fy mod yn ei foddhau ef gyda’r goreu; ond os na wnawn y gwaith hwnw ar y Sabboth, fod yn rhaid iddo ef gael un arall yn fy lle, gan ofyn, pwy oeddwn i yn feddwl a fuasai ( yn gwneyd y tro? Dywedais, fe allai mai gwell oedd iddo osod un o’r Gwyddelod—fod y rhai hyny oeddwn



 

 



(delwedd B0188)

(x188)
HAKES   BTWTD
i yn adnabod o honynt yn myned tuag uffern eisoes. Yna gofynais os oedd ganddo wrthwynebiad i mi wneyd rhyw beth arall yn ei waith ef a allaswn wneyd?
Dy-wedodd nad oedd mewn un inesur. Yna aethym i’r gwaith glo am rai misoedd, gyda’r boddlonrwydd mwyaf. Yn yr adeg yma, aethym ryw ddiwrnod i dy gwraig o Sir Forganwg. Gan fod hon yn gwybod fy mod yn enedigol o’r un sir, ymddiddanai am bersonau a phethau yn hollol anochelgar. Dywedai nad allasai hi aros mo’r Cardis, mai dynion drwg, twyllodrus, a dichellgar oeddynt oll. Dywedais, Mrs. Rees, nid wyf wedi eu cael hwynt oll felly. Yr oedd Daniel Moses gyda ni yn Dundaff, ac nid wy’f fi yn gwybod am well dyn na hwnw. “ le’,” meddai hi, “ nid wyf fi yn gwybod dim am hwnw.” Yr ydych yn adnabyddus ag Evan Morgan, sydd yma gyda ni yn Sugar Creek—mae ef yn un o’r dynion goreu sydd yn y lle. . “ le, Siencyn bach,” meddai hithau, “ Evan Morgan, Cardi duwiol yw Evan. Mae gystal gen’ i am y Cardis a neb, os byddant yn Gardis duwiol.” Yn y dyddiau dilynol, ac i raddau hyd y dydd heddyw, mae y gair Cardi duwiol yn aml ar fy meddwl. Mae gwir dduwioldeb yn y fuchedd yiv lladd rhagfarnau dynion. Gwir fod dynion yn cael eu galw gan y byd yn ol y lleoedd y daethant o honynt. Mae trigolion y Talaethan yn cael eu galw yn Pumpkins, Pennyites, Buckeyes, Badgers, Hoosiers, a Goffers, &c. Felly dywedwn ninau y geiriau, Northyn, Moch Mon, Hwntw, Sir Gaer, a Cardi, heblaw llawer o enwau gwael eraill. Rhaid i ni ddyoddef diystyrwch gan ddynion, neu fyned yn gymaint ffyliaid a hwythau. Os caf y fraint o fod yn dduwiol, nid ydyw o fawr bwys beth y caf fy ngalw gan ddynion.
Y PABOH. JENKIN JENKINS.




 

 



(delwedd B0189)

(x189)
Cyn ymadae: o Brady’s Bend, aethym yn ol i gapel yr Independiaid, heb fawr wrthwynebiad. Nid oeddwn yn dyweyd nemawr wrth neb, na neb yn dyweyd ond ychydig wrthyf finau. Beth bynag, ryw foreu Sabboth, ataliodd un o’r ymddiriedolwyr y gweinidog i fyned i’r pwlpud, a chadwyd yr oedfa yn gyfarfod gweddi, a chadwyd cyfeillach neillduol ar ol, cyn ymadael. Cofus genyf fod un o’r rhai a weddient, yr hwn a berchenogai lawer mwy o sel a hyfdra nag o wybod-aeth, yn dyweyd, “ Arglwydd mawr, y maent am ladd dy was; mae yma ryw beth yn atal, ac y mae yn rhaid iddo atal hyd oni thyner ef ymaith. O Arglwydd, tyn hwnw ymaith, i ni gael clywed dy was eto,” &c. Wedi atal y gweinidog, buwyd am ychydig heb bregethu. Pallais a phregethu iddynt, nes y buasent yn adfsr eu gweinidog i’w le. Dybenodd yr holl ddyryswch drwy i ni fyned ein dau i Gymanfa Palmyra gyda’n gilydd, er dangos i eraill ein bod mewn heddwch. Pan welais fod ,y gwaith yn myned yn fwy marwaidd, ac nad oedd un rhwystr bellach ar fy ffordd, meddyliais mai gwell fuasai i mi barotoi i ymadael o’r lle, ac edrych pa le y gallaswn oreu fyned. Yv oeddwn bellach, trwy lafur a diwydrwydd, wedi diogelu ychydig arian gogyfer ag amgylchiadau dyfodol.
Cymerais daith trwy Pittsburgh, Mount Savage, Baltimore, Pottsville, Beaver Meadow, Carbondale, Dundaif, Bradford, Blossburgh, ac yn ol at fy nheulu i Brady’s Bend, gan bregethu ynddynt oll. Awd oddi yno trwy Pittsburgh, i lawr ar hyd yr afon hyd Cincinnati, Cairo, ac i’r Ian ar hyd afon fawr y Mississippi, hyd Galena, ac mewn wagen oddi yno hyd Dodgeville, Wis. Yr oedd amryw Gymry yn myned gyda ni yr



 

 



(delwedd B0190)

(x190)
HAKES  BYWYD
holl ffordd.   Darfu i ni fel teulu arcs yno yn Welsh
Hollow am dri mis, yn nghaban J-----~, yr hwn o’i hael-
frydedd a’i rhoddodd yn ddidreth tra yn aros yn y lle. Ddechreu y flwyddyn 1849, aethoni i fyw i Welsh Prairie, gan gymeryd gofal yr Bglwys Gynnlleidfaol yno, lle yr arosasom am yn agos i wyth mlynedd. Yn yr amser hwn, cymerodd y pethau canlynol le. Nodaf rai o’r.pethau mwyaf neillduol: Yny flwyddyn gyntaf wedi i ni sefydlu yn y lle hwn, yr oedd Cymanfa y Methodistiaid Calfinaidd yn mis Mehefln. Anfonodd y wraig fi i Fox Lake i brynu rhyw angenrheidiau bywyd, gan ein bod yn disgwyl y buasai pobl ddieithr yn dyfod i ymweled a ni yn amser y cyfarfod. Pan yn dyfod allan, wedi cylymu yr hyn a brynais yn y stor mewn napcyn, gofynodd gwr lled dew, yr hwn oedd un o bedwar, i mi yn Saesonaeg, “ Is this the way to Welsh Prairie?” Dywedais, “ Go ahead.” “Is there any road turning from this?” “ O yes, many.” “ Which of them’ shall we take?” “ Not any of them, take the straight one.” “ Can you direct us on that?” Gan fy mod ar fy nhraed, dywedais, “ If yon will carry me, I am ready to go there.”‘ Dywedodd, “ Jump up.” Gwyddwn yn eithaf mai Cymry oeddynt wrth yr olwg arnynt, ac wrth eu siarad hefyd. Gofynasant a oeddwn yn adnabod William Jones, y pregethwr; Ellis Williams, Dafydd Owen, ac amryw eraill; a bod pregethwr Dissenters yno hefyd, o’r enw Jenkin Jenkins, a oeddwn yn adnabod hwnw? Atebais hwynt yn gad-arnhaol. Yr oeddwn yn ceisio bod yn lanciaidd yn fy iaith, yn siarad o hyd yn Saesonaeg. “ A glywsoch ehwi Jenkins yma yn pregethu?” “ Do, amryw weithiau.” “Beth ydych chwi yn feddwl am dauo’ef?”
Y PARCH.  JENKIN JENKINS.




 

 



(delwedd B0191)

(x191)
“ Os nad oes rhyw rai yn meddwl mwy am dano nag yr
wyf fi yn ei feddwl, nid ydynt yn meddwl ond ychydig iawn am dano.” “ IS, dyna hi.” Yn mheu ychydig, gofynodd, “ Ai nid chwi yw Jenkins?” “ Dyna mae dynion yn fy ngalw i.” “Paham na buasech yn dyweyd?” “ Paham na buasech ch wi yngofyn?” Pwy oeddynt ond yr hen wr Jehu, Racine, a’r Parch. John Evans, Prairieville. Daethant yn gyfeillion gwiesog i mi ar ol hyn.
Y CONVENTION.
Mae rhan fawr o eglwysi Cynulleidfaol a Phresbyteraidd Wisconsin, wedi ymuiio i fod yn un yn yr hyn a elwir Convention, ac i’r Convention hwn y perthyn chwech o’r hyn a elwir District Conventions. Gan nad .oeddwn eto wedi ymuno mewn un cysylltiad gweinidogaethol yn Wisconsin, wedi i mi gael fy llythyrau o Bresbytery Montr’ose, a Ghymana Gynulleidfaol Ohio, aethym i Ddistrict Convention Madison, yr hwn a ymgyfarfyddai yn Lake Mills. Yr oedd ganddynt fath o gyffes athrawiaethol, a rheolau er dyfod i’w hundeb, a’u bod i holi y rhai a fyddai yri dyfod atynt, er mwyn cael boddlonrwydd am eu golygiadau crefyddol. Holasant fi yn lled fanwl, ac yn mysg pethau eraill, pa un ai trwy y Gair, neu yn ddigyfrwng y mae yr Ysbryd Glan yn gweithredu yn gadwedigol ar yr enaid? Dywedais ei fod yn gwneyd fel yr oedd yn dewis—mai Pen Arglwydd yw efe—fod yn rhaid i ni addef ei weithrediadau penarglwyddiaethol ar blant heb gyfrwng y Gair, neu ein bod yn gwadu pechod gwreiddiol, &c< Yr oeddynt yn ymddangos yn siriol iawn, ac yn y diwedd yn cymeradwyo fy marn yn fawr iawn. Cefais hwynt yn



 

 



(delwedd B0192)

(x192)
HANES BYWYD
bobl hynod ymdrechgar, ac awyddus i wneyd daioni gyda’r aclios goreu.
Tua’r flwyddyn 1853, gwnaeth yr enwad Cynulleidfaol anrheg i’w brodyr yn Wisconsin at ddileu dyled eu capeli, ac er adeiladu rhai newydd. Cadwyd cyfarfod yn Wafcertown er mwyn rhanu yr arian yn y dull goreu er cynydd a lles yr achos. Yn mhlith pethau eraill a fu dan sylw, cynygiodd rhyw un, ac eiliwyd ef, nad oedd dim o’r arian i fyned at ddileu dyled y capeli ag oedd ar waith, neu y rhai a adeiladwyd yn barod, ond eu bod i gael eu rhoddi at adeiladu capeli newyddion, yn hollol yn y lleoedd newyddion, lle nad oedd capeli o’r blaen. Wedi dadleu am beth arnser ar y cynygiad hwn, ac arwyddion tebygol y buasai yn cael ei gymeradwyo, cododd Siencyn ar ei draed, a dywedodd. Yr ydym ni ar Welsh Prairie wedi adeiladu capel, ond yn methu ei orphen, ac yr ydym mewn tipyn o ddyled. Os pasia y penderfyniad yna, yr wyf fi yn meddwl mai gwell fyddai i ni losgi y capel sydd genym heb ei orphen, er mwyn dyfod, yn ol y penderfyniad yna, i’r hawl o gael rhan o’r arian i adeiladu capel newydd. Mewn canlyniad.i’r fath ddywediad, methodd y penderfyniad basio.
Pan yr ystyriom nad oedd yr eglwys oedd dan fy ngofal ond gwan, ac analluog i wneyd ond ychydig at fy nghynaliaeth, rhesymol yw meddwl mai fy nyled-swydd oedd, dan yr amgylchiadau, i wneyd rhywbeth arall. Trwy fy mod yn adnabyddus a goruchwylwyr y Gymdeithas Draethodol yn New York, a bod arnynt cisiau colporteurs, rhoddais ran o’m hamser at y gwaith hwnw. Prynais geffyl a gwagen.
Mae hanes y ceffyl hwn fel y canlyn.
Y  PAKCH.  JENKIN JENKINS. DOSKAN Y CEEFYL “ DIG.”




 

 



(delwedd B0193)

(x193)
Ceffyl hynod iawn oedd Die—prynwyd ef yn y fi. 1849—o liw gwineu, o faint  cyffredin, yn gryf yn fewnol, ond nid yn yr olwg allanol; gallesid meddwl ar yr olwg gyntaf arno ei fod yn un diog, eto yr oedd yn fywiog iawn.    Yr oedd yn nodedig o gall, ac yn hynod o gyfrwys.   Tra yn yr harness safai bob amser heb achos i’w gylymu, ac ni ddangosai un awydd, pan ar ei daith, i gyraedd cyflymdra, ond teithiai yn rhwydd o chwech i saith  milldir yr awr, gan  lusgo yn aml lwythi trymion; a phan ddeallai fod ei berchenog am. fyned heibio i’r wageni fyddent o’i flaen ef, byddai Die yn sicr, nid yn unig o wneyd ymdrech, ond hefyd o lwyddo i fyned o’u blaen.    Pan yn rhydd yn y cae ni fedrai neb ei ddal, os byddai newydd gael ceirch.   Ymddangosai wedi hir drafaelio, ar ben ei daith, yn berffaith ddiflino, ac yn  aml teithiai haner can’ milldir y dydd.    Os buasai porfa Die yn llwm, er yr ymddangosai yn dra llonydd ar hyd y dydd ar y maes, gyda’r tywyllnos neidiai yn rhwydd dros y fence uchaf, ac mor fuan ag y llanwai ei fol, dychwelai gyda’r un rhwyddineb.    Yr oedd yn caru yn fawr gael ei lanhau, ti phlethu ei fwng, gan ymddangos yn llawen dan y driniaeth.   Yr oedd, fel llawer eraill, yn caru cael ei ganmol, ac yn deall pan ddywedid ei fod yn geffyl da. Pan ar ei daith, ac wedi chwysu, nid yfai ond ychydig neu ddim dwfr, ond os dygwyddai i’r ostler ei dwyllo, drwy beidio ei ddisychedu yn y boreu, elai at y pump ei hunan, ac yfai hyd ei ddigoni.   Perthynai iddo gryfder dihafal; yr oedd yn  ddigon  galluog i  aredig ei hunan, ac i lyfnu eilwaith; cariai y gwair a’r yd i’r ysgubor ei hunan, y coed tdn, a’r cydau o’r felin; ao 





 

 



(delwedd B0194)

(x194)
HANBS BYWTD,  &C.
yr oedd gyda’r goreu wrth y machine dyrnu.   Cariodd yn llawen In o bregethwyr o bryd i bryd.   Bu yn wasanaethgar iawn i grefydd ar y pen yma, yn ogystal a chario llyfrau ei feistr dros y Gymdeithas Draethodol. Nl wnai wahaniaeth rhwng y gweinidogion, byddai yr ‘ un mor barod i gario Methodist, neu Fedyddiwr, ag oedd i gario Cynulleidfawr, ae ni syrthiai oddiwrth ei ras tra yn cario Wesley.    Er fod gan Die ras parhaol, eto cafodd lawer iawn o gam.   Unwaith, pan oedd ei berchenog ar ei ol, yn nghyd a dyn pwysig arall, a boxied rhawr o lyfrau, wedi teithio o Welsh Prairie hyd Berlin, yn Wisconsin, a dwy fiilldir yn mhellach, gofynwyd.i’r lletywr, a oedd wedi rhoddi ceirch i Die? “ Ydwyf yn wir (ebai efe) rhoddais iddo ddwy gornen.”
Gofynaf i bob rheswm, os oedd hyny nemawr gwell na dim,  wedi teithio y  fath bellder?   eto, nid ymddialai, ond parhaai ei nerth yn ddiysgog.
Yn ysbaid yr wyth  mlynedd y bn yn meddiant Siencyn, aeth ei glod yn fawr, canmolid ef gan bawb a’i hadwaen’ai, ac nid heb ei haeddu.   Gwerth ei bryniad ef, a’r wagen, a’r harness, yn Beaver Dam, Wisconsin, oedd $80; a gwerthwyd. ef a’i gebystr, i Fethodist Calfinaidd, am $120.   Bto parhaodd yn ei ffyddlondeb. Trwy y cysylltiad newydd hwn trodd Die o fod yn Annibynwr i fod yn Fethodist.   Yn aml y dywedai ei berchenog newydd wrth yr hen, mewn cellwair, “ Fod Die wedi troi yn Fethodist, am ei fod yn awr yn arfer cyrchu at gapel y Corff, ac wedi gadael yr hen lwybrau.”   Yr atebiad a gafodd oedd, gan fod ei gariad yn parhau yn gryf at yr hen geffyl, nad oedd neb yn eu plith mor ddiragfarn a Die.   Os ydyw ceffylau yn anfarwol, fel y tybia rhai, dylai Die gael ei ddigonedd o’r gwair a’r ceirch goreu yn y byd a ddaw.
MOSES STKONG.



 

 



(delwedd B0195)

(x195)
Yr oedd y dyn hwn yn gyfreithiwr talentog o Mineral Point, Wisconsin, pan yr oeddwn yn cario llyfrau y Gymdeithas Draethodol. Digwyddodd ei fod ef a minau yn aros am noswaith mewn ty tafarn yn Pardyville, swydd Columbia. Yr oedd yn ddyn cryf, tew, gwrol, hunanol, a hynod o ffraeth, ac yn ysgolhaig tu hwnt i’r cyffredin. Gosodwyd ni i gysgu yn yr un ystafell, ond nid yn yr un gwely. Cyn cysgu gofynodd i mi yr hyn a ganlyn, “ What is your name r” dywedais, Jenkin Jenkins. “My name “is Moses Strong. Of what nation are you?” I am a Welshman. “And I am a Yankee. What is your occupation?” I am a Minister of the Gospel. “And I am a Lawyer. To what denomination do you belong?” To the Congre-gationalists. “And I am an Episcopalian. What is your politics?;’ I am a Eepublican. “ And I am a Democrat.” Yr oeddem yn hollol groes i’n gilydd yn mhob peth.
Dranoeth yr oedd y Court yn eistedd yn Wiosenia, ddwy filldir o’r lle yr oeddem y nos o’r blaen. Troais i’r bar-room i gael talu am le y ceffyl, pwy oedd yno ond chwech neu saith o gyfreithwyr, ac yn eu mysg Mr. Moses Strong. Cynygiwyd i mi beth brandy i’w yfed, yr hyn yr oeddynt hwy yn ei wneyd. Dywedais nad oeddwn yn arfer gwneyd, a buasai yn llawn cystal iddynt hwythau i roddi heibio y fath arfeiad. Yna cododd Moses Strong i fyny, a dywedodd rywbeth tebyg i hyn. “ Dyma y gwr y bum yn eysgu yn yr un



 

 



(delwedd B0196)

(x196)
HANES  B1WTD
ystafell ag ef neithiwr.   Mae yn myned a’i lyfrau oddi-amgylch i wneyd dynion yn ddtiwiol, ac na wn i beth hefyd—os oes gydag ef air o gyngor i ni, fe allai y byddai o fawr Ies i ni.”   Dywedodd y pethau hyn, a llawer yn rhagor, mewn cellwair a rhith boneddigeiddrwydd.    Anerchais hwynt, gan ddywedyd, Foneddigion, yr wyf yn  teimlo   yn ofidns drosoch.     Dynion gwybodus, a’u dyledswyddau mewn swyddi gwladol, i weinyddu cyfiawnder tuag at eraill, ond yn hollol annghyftawn tuag atynt eu hunain, yn dinystrio eu cyrff a’u hereidiau, eu nodweddiadau inoesol a’u hamgylchiadau naturiol; yn lle gwneyd daioni i gynideithas, y maent, trwy eu hesiamplau annuwiol, yn bla drewedig yn mysg eu cydgreaduriaid.   Dyma Moses Strong, o Mineral Point, dyn o alluoedd meddylgar, o graffder yr eryr,  a’i  gymwysderau  hynodwiw  yn  ei  hollol  gyfaddasu i fod yn Llywydd yr Uuol Dalaethau.    Gwel-wch ei lygaid treiddgar, ei dalcen uchel a llydan!   O y fath drueni ei fod yn camddefnyddio ei dalentau ysblenydd, nes llithio y fath nifer o gyfreithwyr i gael trwynau coohion fel ef ei hunan, ac arwain eraill fel defaid i’r lladdfa trwy ei swynion dieflig.
Diolchodd y gwr i mi am fy araeth hynod, a dywedodd nad oedd am i mi wneyd hyn heb dal, a rhoddwyd wyth dolar o gasgliad i mi am fy mod mor ddidderbyn wyneb. Diolchais iddynt, a dywedais y buaswn yn rhoddi hysbysiad am dano yn yr American Messenger. Br nad oeddynt yn foddlon i hyny, felly y bu, a rhoddais y Temperance Manual yn rhodd iddynt, ac ymad-ewais a hwynt.
PARCH.  .TEKKIN  JENKINS.
FFOEFIAD  EGLWYSI.




 

 



(delwedd B0197)

(x197)
Yn yr amser hwn ffurfiais dair o eglwysi Cynulleidfaol, un yn Montdello, un arall yn Eosendale, a’r dry-dedd yn Ixonia, ger Watertown. Hefyd, ffurfiwyd yr Eglwys Gynulleidfaol yn Big Eock, ac ordeiniwyd y Parch. John Daniels, yn awr o’r Mynydd Bach, Morganwg, Cymru, gan y Parch. Richard Morris, Prairie-ville, a minau.
Hefyd, aeth y Parchn. David Jones, a Lochlin, a minau, i ffurfio Eglwys Gynulleidfaol yn Illinois, ac i ordeinio y Parch Griffith Samuel; ac ordeiniwyd y Parch. Evan Owens yn Berlin, gan y Parch. David Lewis a minau. Aeth y Parch. Evan Owens a minau i sefydlu y diweddar Barch. John “Parry yn weinidog ar Eglwys Gynulleidfaol Racine.. Digwyddodd i’r coelbren syrthio arnaf fi i ddyweyd ar ddyledswydd yr eglwys tuag at en gweinidog. Cymerais yn destyn 2 Bren iv. 10. “Gwnawn, atolwg, ystafell fechan ar y mur, a gosodwn iddo yno wely, a bwrdd, ac yst61, a chanwyllbren, fel y tro efe yno, pan ddelo efe atom ni.”
Sylwais, I. Pod gweinidog yr efengyl yn wr Duw.
1.  Duw a’i cododd i’r adwy.
2.  Duw sydd wedi ei ddonio at ei waith.
3. Cenadwri oddiwrth Dduw sydd ganddo i’w thraethu.
4.  Rhaid iddo yn y diwedd roddi cyfrif i Dduw am yr hyn a ymddiriedwyd iddo.
II. Dyledswydd yr eglwys tuag ato. Nid yn unig i’w wrando, gweddio drosto, a dweyd yn dda am dano, ond hefyd gyfranu at ei angenrheidiau tymorol, a chy-sur ei deulu.
1. Y mae. y rhai sydd ganddynt barch i weision Crist, yn chwilio yn ymofyngar am gael gwneyd rhyw beth er eu cysur.



 

 



(delwedd B0198)

(x198)
HASTES  BTWYD
2.  Ni bydd y rhai sydd yn chwilio am le i wneyd daioni yn hir cyn cael gwybod beth i’w wneyd.
3.  Mae y rhai sydd am wneyd rhyw beth at yr achos yn   awyddus   hefyd   am  gael  cydweithrediad  eraill. “ Gwnawn, atolwg.”
4.  Mae gwir ysbryd gweithgarwch yn dechreu gartref. Adnod 9fed. “ A hi a ddywedodd wrth ei gwr,” &c.
III. 
Y penderfyniad — gwneyd ystafell fechan ar y mur,
1. 
Mae eisiau ty ar bregethwr.    Gwna ty bychan y tro, os na bydd ei deulu yn fawr; ty cyfleus a hardd yn ei gynllun, yn ddidwyll, clyd, a gweddus ei wneuthuriad.
2.  Ar y mur.    Ty y gwyliedydd yw, fel y gallo weled y rhai sydd tu fewn, a’r rhai sydd o’r ty allan.    Mae talu rhent yn difa ei gynog, ac yn ei gadw yn llwm.
3.  Yr eglwys bia’r ty, ond ei fod yn hollol at wasanaeth y gweinidog.
IV.  Dodrefn y ty.
1.
G-wely iddo gysgu, a lle i ddieithr hefyd.   “ Nac anghoflwch letygarwch.”   “Yn lletygar.” 3. A bwrdd iddo fwyta. Rhaid iddo gael bwyd, cyllell &c.
3.  Ac yst&l.   Nid all ef ddim bod yn ei sefyll o hyd. Rhoddwch ryw beth iddo heblaw ei drwnc i eistedd i lawr.
4.  Canwyllbren, a chanwyll ynddo, i ddarllen, ac ysgrifenu.   Rhaid cael llyfrau i ddarllen, papyr ac ink i ysgrifenu.
5.  Gwnewch bethau fel y dylech eu gwneyd, fel y byddo ganddo gartref i fyw yn gysurus, fel na byddo arnoch gywilydd pwy fydd yn ymweled ag ef.
6.  Gwna Duw eich gweinidog, ac eraill, eich. bendithio.   “ Yn gwneuthur daioni na ddiogwn, canys yn ei iawn bryd y medwn, oni ddiffygiwn.” Amen.
 



 

 



(delwedd B0199)

(x199)

GAIR AM DALAETH MINNESOTA.

 Trwy fod y Parch. Robert D. Thomas (Iorthryn Giwynedd), newydd ddyfod a llyfr hardd allan o’r wasg, ni ddywedaf ond ychydig am y Dalaeth, gan y gall y sawl a ewyllysio weled yr oll sydd angenrheidiol yn y llyfr hwnw. Eto, rhesymol yw disgwyl gan un sydd wedi byw yn y Dalaeth lawn un-mlynedd-ar-bymtheg ryw nodiadau a allent fod yn llesol i’r rhai sydd am wybod mwy am dani.

Mae Minnesota yn agos gymaint arall ag yw Talaeth New York, yn cynwys 88,000 o filldiroedd pedaironglog (square miles); tua deuddeg o weithiau gymaint a Chymru. Yn ogleddol iddi mae y rhandir Prydeinig; yn ddwyreiniol, terfynir hi gan Wisconsin, afon fawr y Mississippi, a Llyn Superior; i’r de gan Dalaeth Iowa, ac i’r gorllewin gan Randir mawr Dakota. Mae ei lledred gogleddol yn cyrhaeddyd o’r gradd 43 hyd y gradd 49, ac afon fawr.

Am y ddwy flynedd ddiweddaf yr arosais yn Welsh Prairie, bum yn General Agent dros y Missionary Association yn mhlith y Cymry. Trwy fy mod wedi gwerthu fy lle, penderfynais y buaswn yn myned i Big Bock, Illinois, am un flwyddyn, er mwyn myned i Minnesota. Yn mis Mai, 1856, cychwynais gyda’r teulu i’r lle dywededig a sefydlasom mewn lle a elwir Butternut Valley, lle yr ydym yn aros hyd yn bresenol. Ffurfiais yno ddwy eglwys fechan Gynulleidfaol, a gweinyddais iddynt hyd oddeutu dwy flynedd yn ol.





Ymlaen i rhan3 (tudalennau 200-282):  kimkat0256k www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_087_Siencyn Ddwywaith_1872_090106_rhan-3_0256k.htm

 


 

 

------------------------------

Sumbolau: Æːæːā ē ī ō ū W̄ w̄ ȳ/ ˡ ɑ æ æːɛ ɪ ɔ ʊ ə ɑˑ eˑ iˑ oˑ uˑ ɑː æː eː iː oː uː / ɥ / ˡ ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ əɪ uɪ ɪʊ aʊ ɛʊ əʊ /

ә ʌ ẃ ă ĕ ĭ ŏ ŭ ẅ ẃ ẁ Ẁ ŵ ŷ ỳ Ỳ [ә gæ:r]
---------------------------------------
Y TUDALEN HWN: www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_087_Siencyn Ddwywaith_1872_090106_rhan-2_0255k.htm
---------------------------------------
Creuwyd: 26-07-2017
Adolygiad diweddaraf: 26-07-2017
Delweddau: 
Ffynhonnell: -
---------------------------------------

Freefind:

Archwiliwch y wefan hon
SEARCH THIS WEBSITE
...
Adeiladwaith y wefan
SITE STRUCTURE
...
Beth sydd yn newydd?
WHAT’S NEW?


Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Gal·les-Catalunya)
Where am I? You are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website
Weə-r äm ai? Yüu äa-r víziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA (= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait

 

 



CYMRU-CATALONIA

DIWEDD / FI / END 

hit counter script

Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats